Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/09/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni gychwyn, dwi eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7(v), fod y Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 18 Medi.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma, felly, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Carolyn Thomas.

Cyllideb 2026-27

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â phwysau chwyddiant yn ei chyllideb ar gyfer 2026-27? OQ63115

Ar 14 Hydref, byddwn yn gosod cyllideb blwyddyn. Bydd yn cynyddu gyda chwyddiant, gan roi'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar bobl sy'n gweithio yn y GIG, mewn ysgolion ac yn ein cynghorau. Fe wnaeth pedair blynedd ar ddeg o gyni cyllidol Torïaidd greu bwlch yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dal i ailadeiladu'r difrod. Nawr, bydd pleidiau eraill yn dweud nad yw'n ddigon uchelgeisiol, ond os ydyn nhw eisiau cefnogi cyllideb sy'n defnyddio pob punt sydd gennym ni, mae fy nrws i ar agor.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel aelod cabinet blaenorol i gyngor, rwy'n gwybod pa mor anodd y mae wedi bod i geisio darparu cyllidebau flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod 14 mlynedd o gyni cyllidol Torïaidd. Mae Reform, sy'n Dorïaid mewn croen dafad, yn camarwain trigolion. Nid oes mwy o doriadau mawr i'w gwneud heb effeithio ymhellach ar fywydau bob dydd, ar wasanaethau sy'n bwysig i bobl. Mae angen gobaith ar bobl. Maen angen bywyd gwerth chweil arnyn nhw. Mae angen cymunedau cryf arnom ni, nid rhaniadau. Mae Llafur Cymru bob amser wedi diogelu gwasanaethau cyhoeddus gymaint â phosibl. Felly, a allwch chi gadarnhau i mi y byddwch chi'n defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ymateb i bwysau chwyddiant, i amddiffyn gwasanaethau lleol sy'n bwysig i bobl, fel addysg, tai, trafnidiaeth a gofal plant?

Rydyn ni'n mynd i fabwysiadu agwedd gyfrifol at y gyllideb hon. Dyna rydym ni wedi ei wneud dros y 26 mlynedd diwethaf. Byddwn ni'n darparu'r sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus ac i bobl Cymru gan ein bod ni'n gwybod bod pasio'r gyllideb yn flaenoriaeth. Mae rhwymedigaeth arnom ni, fel Senedd, i basio'r gyllideb gan fod canlyniadau peidio â phasio cyllideb yn hynod ddifrifol i'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Rwy'n credu y bydd hwn yn brawf o ba mor fyrbwyll y gall pleidiau eraill fod. Rwy'n credu bod bygythiad gwirioneddol—gwirioneddol—os byddwn ni'n methu â phasio'r gyllideb hon, y bydd toriad o 25 y cant i'r gyllideb honno. Mae angen i bobl wir ganolbwyntio ar yr hyn y gallai hynny ei olygu. Bydd Llafur yn chwarae ei rhan yn synhwyrol ac yn rhesymol iawn, a bydd yn gweithredu yn y ffordd aeddfed, brofiadol yr ydym ni wedi ei wneud dros y 26 mlynedd diwethaf.

Wrth gwrs, y gwir reswm pam mae gwasanaethau cyhoeddus mewn trafferthion o dan bwysau chwyddiant yw oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd a Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Pan gymerodd Llafur yr awenau yn San Steffan y llynedd—. Mae chwyddiant bron wedi dyblu yn ystod eu cyfnod mewn grym, gan erydu'n barhaus gwerth pob un punt a fyddai fel rheol yn cael ei gwario ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Un o'r penderfyniadau polisi y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi ei wneud sy'n cael effaith sylweddol yw'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol, nid yn unig yn effeithio ar sefydliadau sector cyhoeddus yma yng Nghymru, gan eu bod nhw wedi cael eu siomi gan Lywodraeth Lafur nad yw'n trosglwyddo'r cyllid y gwnaethon nhw addo y bydden nhw'n ei wneud, ond hefyd yn effeithio ar ein busnesau ar hyd a lled Cymru, a chyrff cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus hefyd, fel ein hosbisau. Felly, Prif Weinidog, pryd wnewch chi gyfaddef nad oes gan Lafur reolaeth dros yr economi yma a bod Llafur yn methu pobl yma yng Nghymru?

Alla' i ddim credu fy mod i wedi cael y cwestiwn yna gan Dori—Tori. Nid dim ond peidio â thrwsio'r to wnaeth y Blaid Dorïaidd, fe wnaethon nhw chwalu'r to, fe wnaethon nhw werthu'r hyn a oedd yn weddill ohono. Rydyn ni'n trwsio'r to hwnnw, fesul llechen, yn gwneud iawn am y llanast a adawyd gan eich plaid. Gadewch i mi ddweud wrthych chi fod £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol wedi dod i'r gyllideb eleni, dim diolch i chi. Mae hwnnw'n arian sy'n mynd i'r rheng flaen, gan gefnogi a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus.

Ond, Brif Weinidog, rydych chi wedi sôn yn eich ymateb fan yna ynglŷn â bod y gyllideb ddrafft yn rhoi sefydlogrwydd i gynghorau. Yn sicr, nid dyna'r neges sy'n dod yn glir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydyn ni'n gwybod, onid ydym—ac rydyn ni wedi trafod droeon fan hyn—o ran yswiriant gwladol, nad ydy Cymru'n cael ei digolledu'n llawn gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig. Mi wnaethoch chi ddweud bod eich drws chi ar agor, ond beth dwi eisiau gwybod ydy ar ba ddrysau rydych chi'n curo a beth rydych chi'n gofyn i Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ei roddi i Gymru yn y gyllideb fydd yn dod ar 23 Tachwedd, oherwydd mae'n glir i bawb yma nad ydy'r gyllideb rydyn ni'n ei chael yn ddigonol gan Lywodraeth Lafur San Steffan.

13:35

Rydym ni'n cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif. Rydym ni wedi gwneud hynny dros y 26 mlynedd diwethaf. Rydych chi'n gobeithio bod yn blaid Lywodraeth. Gadewch i mi ddweud wrthych chi fod yn rhaid i chi wneud rhai penderfyniadau difrifol, ac mae rhai o'r penderfyniadau hynny yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl yn ein cymunedau. Os byddwn ni'n methu â phasio'r gyllideb hon, bydd toriad o 25 y cant i arian sy'n mynd i'n gwasanaethau rheng flaen—[Torri ar draws.] O wir: 'Amdani'? Ai dyna lle'r ydym ni? Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cymryd sylw o hynna ac yn gwneud yn siŵr bod dealltwriaeth. Byddwn ni'n gyfrifol. Rydym ni'n gwneud ein gwaith yma. Rydych chi'n parhau i geisio ein cael ni i gyflawni swyddogaeth y mae San Steffan yn gyfrifol amdani. Rydym ni'n cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif. Wnaethoch chi ddim cymryd eich cyfrifoldeb o ddifrif y llynedd. Roeddech chi'n barod i weld y gyllideb honno, y llynedd, yn methu. Gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae'n rhy beryglus, mae'n rhy ddifrifol i ni chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobl.

Tipio Anghyfreithlon

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag achosion o dipio anghyfreithlon yn Nwyrain De Cymru? OQ63103

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd. Dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi £400,000 arall tuag at fynd i'r afael ag ef, gan ariannu camerâu, hap-archwiliadau gyda'r heddlu, a chymorth cyfreithiol arbenigol i gynghorau. Ac mae'n gweithio. Mae erlyniadau bron wedi dyblu, ac mae cynghorau yng Nghasnewydd, Caerffili a sir Fynwy yn defnyddio offer gwyliadwriaeth newydd yr ydym ni wedi helpu i dalu amdano.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, mae tipio anghyfreithlon yn broblem fawr yng Nghasnewydd, gyda'r ddinas yn cadw ei theitl o fod yn brifddinas tipio anghyfreithlon Cymru. Adroddwyd mwy na 7,000 o ddigwyddiadau yn 2024-25. Er bod y nifer honno wedi gostwng o'r 8,139 a gofnodwyd y flwyddyn gynt, mae'n dal i fod yn annerbyniol o uchel. Mae tipio anghyfreithlon yn broblem y mae mwy a mwy o etholwyr yn cysylltu â mi amdano, ac ar hyn o bryd rwy'n ymdrin â saga hirsefydlog yn ardal George Street y ddinas. Mae preswylwyr mewn un eiddo yn dympio llwythi echrydus o sbwriel mewn lôn gyfagos bron yn feunyddiol, ac mae cymdogion cyfagos wedi cael digon. Nid yn unig y mae'n niwsans i drigolion, ond yn aml mae'n rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd anfon timau allan i gael gwared â'r gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon, sydd wedyn yn ddi-os yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllid ac adnoddau. Nid beirniadaeth o gyngor y ddinas yw hon, gan eu bod nhw wedi bod yn gweithio'n galed dros ben gyda fy swyddfa ar y mater hwn, ac, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, wedi gosod camerâu teledu cylch cyfyng yn yr ardal. Ond, yn anffodus, mae'r broblem yn dal i barhau. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weld pa gamau ychwanegol y gall y Llywodraeth hon eu cymryd i helpu Cyngor Dinas Casnewydd i roi terfyn ar y broblem benodol hon, ond hefyd i gael gafael ar y broblem ledled y ddinas? Diolch.

Diolch, Natasha. Rwy'n siŵr y gwnewch chi groesawu gyda mi y newyddion yr wythnos diwethaf mai Cymru sydd â'r cyfraddau ailgylchu ail orau yn y byd, ddim yn bell ar ôl Awstria, y cyntaf, ar 0.4 y cant. Felly, hoffwn longyfarch holl bobl Cymru am ein helpu i gyflawni dull ailgylchu sy'n hynod lwyddiannus. Dyna pam, pan ddaw i dipio anghyfreithlon, y mae mor siomedig. Mae'n felltith ar ein cymdeithas ac yn ein cymunedau. Dyna pam rydym ni fel Llywodraeth wedi bod yn cynorthwyo cynghorau fel Casnewydd. Mae'n wych eu bod nhw'n cymryd y pwerau hynny o ddifrif. Maen nhw wedi cyflwyno 313 o gosbau, sy'n gynnydd sylweddol o flynyddoedd blaenorol. Ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd wedi mynd ar drywydd arian o dipio anghyfreithlon cyfundrefnol graddfa fawr a'i adennill, drwy ein Awdurdod Cyllid Cymru. Yr hydref hwn, rydym ni'n mynd i gynnal ymgyrch hap-archwiliadau fawr gyda Heddlu De Cymru a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym ni'n rhoi sylw difrifol iawn i hyn. Mae pobl yn casáu tipio anghyfreithlon. Mae'n bwysig bod pobl yn ein cymunedau yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac nad ydyn nhw'n tipio'n anghyfreithlon, sy'n achosi pob math o anhrefn ac aflonyddwch yn ein cymunedau.

Rwy'n falch bod Natasha wedi codi'r mater hwn. Mae'n rhywbeth sy'n effeithio ar drefi a phentrefi ledled ein rhanbarth. Mae tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn dod yn fwy o broblem. Mae'r sbwriel sydd i'w weld ar leiniau ymyl ffordd, ar strydoedd cefn, mewn parciau, nid yn unig yn ddolur llygad, gall ddod yn broblem i iechyd y cyhoedd. Rwyf i wedi cael etholwyr yn galw'r swyddfa i ddweud eu bod nhw wedi gweld llygod mawr mewn rhai mannau lle mae sbwriel wedi bod yn casglu. Mae llawer o grwpiau lleol yn gwirfoddoli yn eu pentrefi. Dros y misoedd diwethaf, rwyf i wedi bod yn mynd allan gyda'r Penpedairheol Pickers, sy'n cael eu harwain gan y Cynghorydd Haydn Pritchard. Mae'r grwpiau hyn yn gwneud gwahaniaeth, ond allan nhw ddim ei wneud ar eu pennau eu hunain. Yn aml, gyda tipio anghyfreithlon, mae'r pethau sy'n cael eu dympio yn llawer rhy fawr i wirfoddolwyr symud eu hunain. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r grwpiau lleol gwych hynny am yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ond a wnewch chi hefyd amlinellu beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn yn genedlaethol?

13:40

Wel, diolch yn fawr iawn. A hoffwn ddiolch i'r grwpiau lleol, oherwydd mae byddin wych o bobl ledled Cymru sy'n treulio eu hamser yn glanhau'r cymunedau, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n talu teyrnged iddyn nhw. Ond ni ddylai fod angen iddyn nhw ei wneud, oherwydd pe bai pawb yn ymddwyn yn gyfrifol ni fyddai ganddyn nhw'r gwaith hwnnw i'w wneud. O ran Taclo Tipio Cymru, rydym ni, fel Llywodraeth, wedi rhoi gwerth £1.6 miliwn o arian iddyn nhw, ac mae hyn yn canolbwyntio ar gamau atal a gorfodi. Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod y mater o fagiau gwastraff cartref yn cael eu gadael wrth ymyl biniau sbwriel yn broblem gynyddol. Mae hynny'n dipio anghyfreithlon. Mae angen i bobl ddeall nad yw hynny'n dderbyniol. Mae rhoi bag wrth ymyl bin sbwriel yn dipio anghyfreithlon. Felly, mae angen i ni i gyd ddeall yr hyn y mae'n ei olygu a beth yw ein cyfrifoldeb fel dinasyddion yn ein cymunedau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn parhau i wastraffu arian trethdalwyr ar faterion nad oes ganddi unrhyw gyfrifoldeb amdanyn nhw? Rydych chi'n gwario miliynau ar lysgenadaethau bach mewn lleoliadau egsotig ledled y byd, cychod solar ar gyfer y llwyth Wampis ym Mheriw, plannu coed cydraddoldeb rhywedd yn Uganda, beth bynnag y mae hynny'n ei olygu. Sut ar y ddaear allwch chi achwyn am gael eich tanariannu gan San Steffan a pheidio â chael digon o arian gan San Steffan pan ydych chi'n gwastraffu miliynau dramor y gellid ac y dylid eu gwario ar bobl yng Nghymru?

Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth nodi, o dan y blynyddoedd o gyni cyllidol o dan y Torïaid, ein bod ni wedi wynebu sefyllfa lle bu'n rhaid i ni wneud iawn am y diffyg cyllid, y diffyg gweithredu, a oedd yn dod gan Lywodraeth y DU ar gyfer meysydd yr oedden nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Gadewch i mi roi enghraifft i chi: band eang a chyflwyno band eang. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd hynny, ond bu'n rhaid i ni wneud iawn am y ffaith nad oedd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gwneud ei gwaith. Pe bai wedi cael ei adael i'r Torïaid, byddai cannoedd o filoedd o gartrefi yng Nghymru heddiw heb eu cysylltu â band eang. Felly, peidiwch â dweud wrthym ni am beidio â chamu i mewn ar adegau pan nad yw'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gwneud ei gwaith yn iawn. Eich Llywodraeth chi na wnaeth hynny, ac mae'n rhaid i ni wneud iawn am y colledion a'r ffaith nad oeddech chi'n gwneud y gwaith yn iawn.

Mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog, ond wnaethoch chi ddim ateb y cwestiwn. Rydych chi'n gwario miliynau dramor pan allech chi fod yn gwario'r arian hwnnw yma ac rydych chi'n achwyn am y ffaith nad ydych chi'n cael digon o arian gan San Steffan. Fe wnaethoch chi anfon tua £150 miliwn yn ôl gan nad oeddech chi'n gallu ei wario ac ni chawsoch unrhyw gyngor ar sut i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, nid dramor yn unig yr ydych chi'n gwastraffu arian trethdalwyr Cymru. Rydych chi hefyd wedi gwario miliynau ar gomisiwn cyfansoddiadol a chomisiwn cyfiawnder, gan wthio, ynghyd â Phlaid Cymru, am fwy o bwerau i Lywodraeth Cymru, pan ydych chi'n gwneud llanast o'r defnydd o'r pwerau sydd gennych chi eisoes, a £24 miliwn ar gynllun incwm sylfaenol cyffredinol, gan roi £1,600 y mis i rai pobl ifanc hyd yn oed os ydyn nhw'n treulio drwy'r dydd yn eistedd ar eu pen ôl yn gwneud dim byd o gwbl. Prif Weinidog, pryd ydych chi'n mynd i gael gafael ar y gwariant afradlon a gwastraffus hwn a chanolbwyntio yn hytrach ar flaenoriaethau pobl Cymru?

Rwy'n canolbwyntio'n llwyr ar flaenoriaethau pobl Cymru. Dyna pam, pan gefais fy mhenodi, y gwnes i wrando ar yr hyn oedd ganddyn nhw i'w ddweud ac rwyf i wedi cyflwyno'r blaenoriaethau hynny—pedair blaenoriaeth—ac rydym ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith. Rydym ni'n gwneud yn siŵr bod rhestrau aros yn lleihau, ein bod ni'n gweld gwelliannau yn y GIG, ein bod ni'n adeiladu mwy o gartrefi, ein bod ni'n gweld gwelliannau i'n rheilffyrdd ac rydym ni'n gwneud yn siŵr bod ein heconomi yn ehangu. Mae hynny mewn cyferbyniad â chi: 14 mlynedd o gyni cyllidol Torïaidd. A ydych chi'n mynd i ymddiheuro i'r bobl hynny sy'n talu'r pris? Dywedwch wrthyf i nawr, Darren, pa un o Brif Weinidogion y DU oedd eich ffefryn? Ai Boris Johnson, a dorrodd y gyfraith oedd ef? Ai Liz Truss, a chwalodd yr economi? Neu ai Rishi Sunak, a fethodd â thrwsio'r to, ond na allai hyd yn oed ddod o hyd i ymbarél? Mae'n bwysig, rwy'n credu, eich bod chi'n meddwl am fethiannau eich Llywodraeth chi cyn ein beirniadu ni.

Rwy'n credu y dylem ni fod yn eglur am fethiannau eich Llywodraeth chi sydd mewn grym yma yng Nghymru, gyda'r GIG gwaethaf ym Mhrydain, y pecynnau cyflog gwaethaf yn y Deyrnas Unedig a'r safonau addysgol gwaethaf hefyd. Ac nid materion tramor yn unig yr ydych chi'n gwario arian arnyn nhw, nid yw'n fater o wastraffu arian ar gomisiynau cyfansoddiadol yn unig—rydych chi hefyd yn gwario arian, wrth gwrs, ar fater nad yw'n ddatganoledig o gwbl, sef mewnfudo. Mae pobl Cymru yn eglur bod mewnfudiad yn rhy uchel, ac mae hyn yn arwain at ganlyniadau i bob un peth. Nid oes gennym ni ddigon o gartrefi, nid oes gennym ni ddigon o ysbytai ac nid oes gennym ni ddigon o leoedd ysgol ar gyfer poblogaeth sy'n cynyddu o fwy na maint Abertawe, Casnewydd a Wrecsam gyda'i gilydd bob blwyddyn. A gadewch i ni fod yn eglur: mae arian sy'n cael ei wario ar fudd-daliadau, arian sy'n cael ei wario ar dai ac arian sy'n cael ei wario ar ofal iechyd, gan gynnwys ar gyfer mewnfudwyr anghyfreithlon, yn arian na allwn ni ei wario ar ddinasyddion Cymru. Ac eto mae eich cynllun cenedl noddfa, sy'n cael ei gefnogi, wrth gwrs, gan Blaid Cymru, yn ariannu cymorth a gwasanaethau, gan gynnwys ar gyfer mewnfudwyr anghyfreithlon. Mae hynny'n ddegau o filiynau o bunnoedd y gellid ac y dylid eu gwario ar bobl yng Nghymru ac ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwbl eglur: dylid diddymu'r cynllun cenedl noddfa, a dylid ei ddiddymu ar unwaith. Felly, a wnewch chi nawr ddiddymu'r polisi gwastraffus hwn ar fater nad oes yn rhaid i chi wario arian arno ac yn hytrach rhoi pobl Cymru a'n gwasanaethau cyhoeddus yn gyntaf?

13:45

Mae hon yn—. Mae hon yn ffordd ofnadwy i ni ymddwyn. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol bwysig i ni ganolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. A gadewch i mi ddweud wrthych chi: gwrandewch, nid yw'r wleidyddiaeth chwiban ci hon o geisio cystadlu â Reform yn mynd i'ch cael chi i unman, Darren, ac rydych chi'n gwybod hynny. Rydych chi'n gwybod hynny. A gadewch i mi ddweud wrthych chi: roeddech chi ar y rheng flaen o bobl yn dweud wrthym ni fod yn rhaid i ni estyn ein llaw allan a helpu pobl Wcráin. Chi oedd y person cyntaf yn yr achos hwnnw. Dyna lle mae'r arian cenedl noddfa yn mynd. Gwariwyd y mwyafrif llethol iawn ohono ar gynorthwyo pobl o Wcráin am flynyddoedd ar flynyddoedd. Fe wnaethoch chi gefnogi hynny, Darren. Allwch chi ddim newid eich meddwl oherwydd bod gennym ni etholiad ar y gorwel a'ch bod chi'n canfod Reform yn sathru ar eich sodlau. Dydych chi ddim wir yn credu'r pethau hyn, Darren. Dydych chi ddim wir yn credu'r pethau hyn. Y peth pwysig i ni ei ddeall yw nad yw rhannu ein cymunedau yn mynd i helpu unrhyw un ohonom ni. Mae'r tymheredd gwleidyddol yn y wlad hon yn ddigon uchel eisoes; nid oes angen i chi ychwanegu tân at y fflamau.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n union flwyddyn, Brif Weinidog, ers i Lywodraethau Llafur y Deyrnas Unedig a Chymru gyhoeddi beth roedden nhw'n ei alw'n gynllun iechyd trawsffiniol a fyddai, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, yn arwain at fwy o driniaethau llawfeddygol, neu surgical procedures. A all y Prif Weinidog roi diweddariad i ni ar y cynllun yma a faint yn rhagor o gleifion o Gymru sydd wedi cael triniaeth yn Lloegr dros y 12 mis diwethaf?

Wel, gallaf ddweud wrthych chi fod y grŵp cynghori'r gweinidog, a sefydlwyd i wneud yn siŵr ein bod yn gallu dysgu gan weddill y Deyrnas Unedig yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud yn dda, beth efallai y gallem ni ei addysgu iddyn nhw, wedi adrodd ac wedi gwneud yn siŵr ei fod yn rhoi syniadau i ni o sut y gallem ni weld gwelliannau yn y GIG yng Nghymru. Felly, roedd hwnnw'n gam pwysig. Gallaf roi'r niferoedd i chi o ran nifer y bobl sy'n cael eu trin yn Lloegr o Gymru—nid yw hyn yn rhywbeth newydd; mae hyn wedi digwydd erioed—os ydych chi eisiau i mi ddod o hyd i'r rhifau hynny i chi. Ond rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth nodi hefyd bod nifer y bobl o Loegr sy'n dewis cael eu meddygon teulu yng Nghymru yn sylweddol uwch nag i'r gwrthwyneb.

Roedd hynna hyd yn oed yn fwy amwys nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl. Rwy'n sylweddoli efallai nad oes gan y Prif Weinidog ffigurau manwl gywir wrth law, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai ysgrifennu ataf i gyda'r wybodaeth honno am y cynnydd, os bu cynnydd, i nifer y cleifion a gafodd eu trin yn Lloegr ers y cyhoeddiad hwnnw union flwyddyn yn ôl. Ond rydym ni wedi darganfod, ers hynny, am broblemau biwrocrataidd wrth wneud atgyfeiriadau trawsffiniol. Dyna'r hyn y mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi ei ddweud. Hefyd, gofynnodd bwrdd iechyd Powys, wrth gwrs, i arafu faint o gleifion sy'n cael eu hanfon am driniaeth oherwydd cyfyngiadau ariannol, sy'n ymddangos yn gwbl groes i'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog flwyddyn yn ôl.

Nawr, ym mis Mawrth, gofynnodd y Pwyllgor Materion Cymreig i'r ddwy Lywodraeth am fwy o fanylion am eu cynlluniau iechyd trawsffiniol, ond, yn ei ymateb ym mis Mai, ni chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd o gwbl at fwy o driniaethau llawfeddygol. Onid yw'n wir mewn gwirionedd, fel yr oeddem ni'n amau ar y pryd, nad oedd y cyhoeddiad hwn yn ddim mwy na rhywbeth i'w gyhoeddi yn y gynhadledd, gyda llawer o ffanffer, ond ychydig iawn o sylwedd?

13:50

Mae gormod o bobl yn aros am rhy hir ar restrau aros yng Nghymru, ac mae'n iawn ein bod ni'n rhoi pob cyfle i geisio clirio'r rheini, ac os yw hynny'n golygu anfon rhai pobl i Loegr, yna boed felly. Mae hynny'n arbennig o wir ym Mhowys, sydd ar y ffin. Nid wyf i'n gwneud unrhyw ymddiheuriadau am hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n manteisio ar hynny. A'r gwir amdani yw bod yr amseroedd aros hiraf wedi gostwng 85 y cant o'u brig ym mis Mawrth. Mae'n un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth nodi ein bod ni wedi cael newyddion o lefelau uchaf erioed yn yr ystadegau diwethaf a gyhoeddwyd: 5,000 o gleifion allanol bob un dydd yn cael eu gweld yn y GIG—dyna'r nifer uchaf erioed; dechreuodd 2,300 o bobl eu triniaeth canser—eto, y nifer uchaf erioed; a rhoddwyd y newyddion da i 15,000 o bobl nad oes ganddyn nhw ganser. Dyna'r ail nifer uchaf erioed. Mae nifer y bobl sy'n defnyddio ac yn cael gwasanaeth da gan ein GIG yn rhywbeth y dylem ni fod yn falch ohono. Mae'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi gweld cynnydd o 45 y cant i nifer y staff meddygol a deintyddol yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Ie, ac mae'n debyg bod hynny'n dangos pa mor wael y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn perfformio o ran iechyd ataliol. Gwrandewch, i'r rhai ohonom ni yn y gogledd ac sy'n cynrychioli'r canolbarth, rydym ni'n gwybod bod cleifion o Gymru wedi mynd dros y ffin erioed. Dyna sut mae'n gweithio. Ac rydych chi'n iawn bod cleifion yn croesi'r ffordd arall hefyd, yn enwedig mewn gofal sylfaenol, ond rwy'n dechrau dod i'r casgliad o'r sesiwn hon yma nad oes unrhyw beth wedi digwydd o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwnnw flwyddyn yn ôl, a oedd, mae'n ymddangos, yn ymwneud yn gyfan gwbl â ffanffer.

Gadewch i ni edrych ar beth arall a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'i chyfres o fesurau i leihau'r amseroedd aros hiraf. Gosododd darged i'w hun ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin eleni o—ac rwy'n dyfynnu yma—'cynnal a gwella'r gostyngiad i arosiadau dros dwy flynedd o sefyllfa Mawrth 2025.' Roedd hynny i fod i barhau trwy fis Ebrill ac ymlaen i fis Mehefin. Ymrwymodd £20 miliwn tuag at yr ymdrech benodol honno, ond llai na 1,000 yn unig y gostyngodd arosiadau dwy flynedd yn y cyfnod hwnnw, ac erbyn hyn mae'r gostyngiad net ers mis Mawrth yn llai na 400. Ai dyna'r canlyniad yr oedd y Prif Weinidog wedi gobeithio amdano yn ystod y cyfnod hwnnw, sy'n golygu gwariant o £20,000 fesul claf, neu a oedd yn disgwyl i'r niferoedd ostwng dros gyfnod hirach o amser? Os felly, pam maen nhw bellach yn mynd yn ôl i fyny eto?

Nid yw'r ffigurau hynny'n gywir. Gadewch i mi ddweud wrthych chi fod y GIG wedi cael ei eni o'r Blaid Lafur ac mae ganddo werthoedd y Blaid Lafur. Byddwn yn cadw at y gwerthoedd hynny. Byddwn yn cynnal presgripsiynau am ddim, yn cynnal lleoedd parcio am ddim, a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i roi 2.7 miliwn o apwyntiadau bob mis, mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl.

Gadewch i mi ddweud wrthych chi eich bod chi'n mynd i weld mwy dros y tri i chwe mis nesaf. Rydych chi'n mynd i weld mwy o restrau llawdriniaeth ar benwythnosau. Rydych chi'n mynd i weld mwy o ddiagnosteg gymunedol. Rydych chi'n mynd i weld canolfan orthopedig newydd yn agor yn y gogledd ag atgyfeiriadau cyflymach. Mae pymtheg mil o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu darparu yng Nghymru ym mis Medi yn unig; 20,000 o lawdriniaethau cataract rhwng nawr a diwedd mis Mawrth. Mae'n bwysig i ni gydnabod bod yr holl arian hwnnw yno oherwydd ein bod ni wedi cael £1.6 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU—arian y gwnaethoch chi geisio ei rwystro.

Datblygu Economaidd ym Mlaenau Gwent

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygu economaidd ym Mlaenau Gwent? OQ63120

Mae Llafur Cymru yn cyflawni pethau ym Mlaenau Gwent. Mae gennym ni ganolfan sgiliau peirianneg gwerth uchel newydd, cynllun peilot swyddi gwerth £10 miliwn, 10 mlynedd o brentisiaethau Anelu'n Uchel. Felly, mae hynny'n gannoedd o bobl ifanc yn cael cyfleoedd gwirioneddol, sgiliau gwirioneddol a swyddi gwirioneddol. Ar ben hynny, rydym ni wedi gweld £44 miliwn o fuddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg, gan greu lle ar gyfer diwydiannau newydd a chreu swyddi ar gyfer y dyfodol.

Diolch i'r Prif Weinidog am hynna. Ddydd Iau diwethaf, treuliais y noson gyda grŵp o bobl ifanc a oedd newydd gwblhau rhaglen rhannu prentisiaeth Anelu'n Uchel. Mae hon yn rhaglen sy'n cael ei harwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a'i darparu gan golegau a chyflogwyr lleol. Mae'n rhoi'r dechrau gorau posibl i bobl ifanc mewn bywyd. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod angen i ni fod yn buddsoddi yn y bobl ifanc hynny i sicrhau bod gennym ni'r sgiliau ar gael i ddatblygu'r economi ym Mlaenau'r Cymoedd ac, ochr yn ochr â'r buddsoddiad mewn seilwaith caled yr ydym ni wedi bod yn ei wneud trwy ddeuoli'r A465—a wrthwynebwyd, wrth gwrs, gan y Ceidwadwyr ac a oedwyd gan Blaid Cymru—bod angen i ni fod yn buddsoddi mewn sgiliau, yn y bobl, i sicrhau bod gan ddyfodol Blaenau Gwent sylfaen gadarn, y gallwn ni sicrhau bod pobl yn cael y cyfleoedd yn y fwrdeistref ac ar draws Blaenau'r Cymoedd?

13:55

Wel, diolch yn fawr iawn, ac mae'n rhaglen sy'n cynnig ysbrydoliaeth aruthrol, cynllun prentisiaeth Anelu'n Uchel Blaenau Gwent. Rwy'n gwybod bod tua 200 o brentisiaid wedi bod drwyddo. Mae wedi ennill gwobr gydweithredu Enginuity Alliance, mae wedi ennill cyflogwr mawr y flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, ac mae'n ddull gwych, lle mae'r hyn sydd gennych chi yw rhaglen lle mae prentisiaid yn cael eu cyflogi gan Anelu'n Uchel Blaenau Gwent, ac yna maen nhw'n cael eu lleoli gyda chwmni gweithgynhyrchu lletyol. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wella sgiliau mewn lleoedd fel Blaenau Gwent, ac mae'n hyfryd gweld y sgiliau sydd gennym ni yno, a'r sgiliau a ddefnyddiwyd gan rai pobl wrth ddatblygu'r gwaith o uwchraddio'r A465. Mae hynny'n newid bywydau, mae'n gwneud gwahaniaeth, ac mae'n ehangu'r cyfleoedd i bobl yn eich ardal.

Prif Weinidog, mae'r don gyntaf o fyfyrwyr wedi dechrau astudio ar y campws peirianneg gwerth uchel newydd ym Mlaenau Gwent. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn cynnig hyfforddiant ac addysg uwch-dechnoleg i bobl ifanc mewn busnes, roboteg a gweithgynhyrchu uwch mewn meysydd fel moduron, awyrofod a thechnoleg gwybodaeth. Heb amheuaeth, bydd hyn yn datgloi manteision mawr i Flaenau Gwent a'r cyffiniau, gan greu llif o beirianwyr hynod fedrus a rhoi hwb i ddatblygiad economaidd yn yr ardal. Nid yn unig y mae hyn yn newyddion gwych i'r rhanbarth, ond mae hefyd yn newyddion da i'r wlad yn ei chyfanrwydd, ac edrychaf ymlaen at weld y cyfleuster yn mynd o nerth i nerth. Byddwn yn dadlau bod hon yn enghraifft wych o addysg uwch ac addysg bellach yn gweithio gyda'i gilydd mewn model o arfer gorau. Dylid annog colegau a phrifysgolion i weithio ar y cyd i ddarparu'r sgiliau lefel uwch y mae unigolion, cyflogwyr a'r gymuned ehangach yng Nghymru eu hangen mor ddirfawr. Mae buddsoddi mewn sgiliau ac addysg yn gam pwysig i roi hwb i'n datblygiad economaidd. Felly, Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn eu cymryd i ategu datblygiad HiVE i gynyddu'r manteision economaidd i Flaenau Gwent a fy rhanbarth, de-ddwyrain Cymru, ymhellach? Diolch.

Wel, mae gwaith aruthrol yn cael ei wneud yn y maes hwnnw, gan gynnwys un o'r tri arloeswr economaidd a gweithgarwch. Mae yna gynllun peilot ym Mlaenau Gwent, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, os gallwn, i wneud yn siŵr ein bod ni wir yn ceisio annog pobl, ac yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a phobl anabl a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, i ymuno â'r farchnad swyddi. Felly, y gobaith yw y bydd y prosiect arloesi hwnnw yn arwain wedyn at bobl yn manteisio ar y cyfleoedd hynny yn y colegau hynny a awgrymwyd gennych chi.

James—. Ymddiheuriadau, James, mae angen i mi alw'r cwestiwn yn gyntaf. Mae hynna wedi'ch rhybuddio chi nawr—rydych chi ar fin cael eich galw.

Cwestiwn 4, Jane Dodds.

Cartrefi Gofal

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y gwelyau mewn cartrefi gofal? OQ63138

Wel, rwy'n falch bod Cymru'n caniatáu i bobl sydd angen symud i mewn i gartref gofal gadw mwy o'u harian eu hunain, mwy nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni hefyd yn falch iawn o'r ffaith bod ein gweithlu yn cael ei werthfawrogi'n iawn a'n bod ni'n darparu cyllid i wneud yn siŵr bod pob gweithiwr gofal yng Nghymru yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol o leiaf. Ac, ar ben hynny, rydym ni wedi buddsoddi £18 miliwn i ddarparu gwelyau cartref gofal newydd ledled Cymru i blant ac oedolion.

Diolch am yr ymateb.

Dim ond rhan o'r ateb yw gwelyau mewn cartrefi gofal yn y sefyllfa benodol hon. Ar hyn o bryd, mae tua un o bob saith gwely ysbyty wedi'i lenwi gan rywun sy'n barod i fynd adref, ond yn sownd oherwydd na allan nhw gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Yn ysbytai Powys, ar 2 Medi, roedd 52 y cant o gleifion yn barod i gael eu rhyddhau, ond eto'n aros yn yr ysbyty yn disgwyl am asesiadau gofal neu gymorth wedi'i gytuno. Fel y mae pob un ohonom ni'n ei wybod, bob dydd y maen nhw'n aros, maen nhw'n colli cryfder, annibyniaeth a hyder. Ac rydym ni'n gwybod bod capasiti bod capasiti wedi'i ymestyn ledled Cymru. Mae gennym ni lai na 700 o gartrefi gofal, ac mae llai na 100 yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol. Mae gofal cymdeithasol mewn argyfwng. Felly, byddai gen i ddiddordeb, Prif Weinidog: sut ydym ni wir yn ariannu ein gwasanaethau gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod ysbytai ar gyfer iechyd ac nid ar gyfer gofal cymdeithasol? Diolch yn fawr iawn.

14:00

Diolch yn fawr iawn, Jane. Mae hwn yn un o faterion mawr, wirioneddol gymhleth ein hoes, ac rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad i ofal cymdeithasol yn arbennig, a gofal plant. Rydym ni'n ymwybodol bod angen gwneud mwy o ran gwella nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, a dyna pam y gwnaethom ni gyfrannu mwy o arian ato, a diolch i chi am eich cefnogaeth i hynny yng nghyllideb y llynedd, oherwydd roedd gennym ni £30 miliwn yn ychwanegol o ganlyniad i'ch cefnogaeth. Mae hynny wedi ein helpu i ddod â'r ffigurau hynny i lawr. Mae ffigur mis Awst yn dangos ein bod ni wedi cael 257 yn fwy o bobl allan o'r ysbyty yn brydlon o'i gymharu â'r mis Awst blaenorol. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni ei gydnabod, bod gwelliant. Mae ffordd bell i fynd.

Ond cafodd hyn hwb hefyd gan yr her 50 diwrnod a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd iechyd y llynedd. Ym Mhowys ei hun, rydym ni'n gwybod bod rhoi hwb i ofal cartref yn hanfodol, gan ddenu pobl i wneud y gwaith hwnnw. Yr hyn y maen nhw wedi bod yn ei wneud yno yw bod swyddog prosiect wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd i hwyluso'r broses ryddhau trwy ddefnyddio aseswyr dibynadwy. Mae hynny'n cyflymu'r broses. Weithiau, y cwbl y maen nhw'n aros amdano yw asesiad. Mae angen mwy o aseswyr dibynadwy arnoch chi. Mae'n cael ei wneud yn dda iawn mewn rhai byrddau iechyd, ddim cystal mewn eraill, ond mae pethau'n gwella nawr o ganlyniad i hynny.

Prif Weinidog, fel y mae pob un ohonom ni'n ei wybod yn y Siambr hon, mae'n rhaid i ni drwsio gofal cymdeithasol i drwsio'r GIG. Rydym ni wedi clywed am achosion o oedi cyn rhyddhau a'r problemau rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn dadlau ynghylch pwy sy'n talu am ofal yr unigolyn hwnnw ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty. Mae hyn wedi mynd ymlaen yn ddigon hir ac mae wedi troi, rwy'n credu, yn ormod o bêl-droed wleidyddol yn cael ei chicio yn ôl ac ymlaen. Mae angen ei ddatrys unwaith ac am byth. Rwy'n credu'n gryf bod angen comisiwn brenhinol arnom ni i edrych ar sut mae gofal cymdeithasol wedi'i strwythuro a sut mae'n gweithio, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Gallaf weld yr Ysgrifennydd Cabinet yn ysgwyd ei ben, ond dydw i ddim yn credu ei fod wedi meddwl am unrhyw syniadau eto ynghylch sut rydym ni'n datrys gofal cymdeithasol ar draws ein gwlad. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud mewn gwirionedd yw cael y comisiwn brenhinol hwnnw sy'n symud y lleisiau annibynnol hynny gam yn ôl, oddi wrth wleidyddiaeth, i gyflwyno argymhellion o ran sut y gallwn ni ddatrys gofal cymdeithasol unwaith ac am byth, oherwydd, yn anffodus, nid yw'r ffordd yr ydym ni'n ei wneud nawr yn gweithio?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod grŵp yn gweithio ar lefel y DU ar hyn eisoes ac a dweud y gwir rydym ni'n siarad â nhw am beth yn union sy'n digwydd o ran hynny.

Diolch yn fawr iawn i Jane Dodds am y cwestiwn yma. Wrth gwrs, mae hi wedi rhestru'r problemau difrifol sydd gennym ni yng ngofal yn ein cartrefi a'r angen am fwy o welyau. Ond yr hyn rydyn ni i gyd yn ei wybod ydy mai'r peth gorau i gleifion ydy cael y gofal yna mor agos i gartref â phosib.

Felly, mae gennym ni yn y gogledd enghraifft arbennig o dda. Mae Betsi Cadwaladr yn cael eu beirniadu am nifer o bethau, ond maen nhw wedi datblygu rhaglen arloesol, Tuag Adref, sydd wedi profi i fod yn arbennig o lwyddiannus yn sicrhau darparu gofal yn y cartref i bobl sydd ei angen o. Pa wersi ydych chi wedi eu dysgu o raglen Tuag Adref, ac a fedrwn ni weld y rhaglen yna yn cael ei rholio allan ar draws Cymru cyn hir?

Diolch yn fawr. Dwi wedi gweld pobl sy'n gweithio ar y rhaglen Tuag Adref. Mae hi'n gweithio yn dda mewn rhai llefydd; nid ar draws Betsi i gyd, ond mewn rhai ardaloedd, yn arbennig ardal Porthmadog a'r ardal yna. Mae gan bob bwrdd iechyd eu Tuag Adref eu hunain. Maen nhw'n eu galw nhw'n bethau gwahanol, a dwi yn meddwl ei fod yn bwysig ein bod ni'n cydnabod bod angen addasu i beth sy'n briodol ar gyfer y cymunedau hynny. Felly, mae beth sy'n briodol ar gyfer cefn gwlad efallai ddim yn briodol ar gyfer llefydd eraill. Felly, mae e'n bwysig bod y byrddau iechyd yma yn cael y flexibility i ymateb yn y ffordd sy'n gweithio iddyn nhw.

Rydym ni'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r galw, ei fod cymaint y bydd angen i ni gynyddu nifer y gwelyau yn ein cartrefi gofal ledled Cymru gyfan. I wneud hyn, mae'n amlwg bod angen i ni, law yn llaw, gynyddu'r gweithlu yn gynaliadwy. Mae nifer sylweddol o'r gweithwyr gofal cymdeithasol presennol yn weithwyr mudol, sy'n cael eu hedmygu, eu parchu a'u gwerthfawrogi am eu gwaith caled iawn. Prif Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr aelodau hynny o'n gweithlu sector gofal hirsefydlog, ymroddedig yn gallu aros yng Nghymru, ac y gallwn hefyd barhau i ddenu gweithwyr tramor er mwyn datblygu a chynyddu'r capasiti yn ein cartrefi gofal?

14:05

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod llawer o'n cartrefi gofal yn gwbl ddibynnol ar bobl yn gwneud cyfraniad nad ydyn nhw wedi cael eu geni yng Nghymru. Roedd yn ddiddorol gweld Mario Kreft, o'ch ardal chi, yn gwneud yr union bwynt hwnnw ddoe, ac yn cydnabod y byddai rhai o'r cynigion sy'n cael eu gwneud gan Nigel Farage a'i blaid Reform yn creu problem enfawr iawn i'n sector gofal. Felly, rydych chi'n gwbl gywir: yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n pwysleisio'r cyfraniad y mae'r bobl hyn yn ei wneud at ein cymunedau ac yn cydnabod, un diwrnod, efallai y bydd ein rhieni ni yn hen, efallai y byddwn ni'n hen, a byddwn ni'n gobeithio y bydd rhywun yno i ofalu amdanom ni. Os byddwn ni'n parhau fel hyn, bydd yn werth i bobl gymryd anadl ddwfn a sylweddoli na fydd neb yno i'n helpu ni.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Mae'n bryder gwirioneddol bod llawer yn sownd yn yr ysbyty ac yn methu â chael lle mewn cartref gofal am lawer o'r rhesymau a amlinellwyd, ac mae wedi creu loteri cod post lle mae hynny'n well mewn rhai ardaloedd o Gymru nag eraill. Rydym ni mewn angen taer o fwy o leoedd cartrefi gofal, ond maen nhw'n brin a chyda chartrefi gofal preifat yn cau bob dydd, a'r rhai sydd ar agor yn brwydro i oroesi, mae'r broblem yn cael ei gwaethygu. Os byddwn ni'n cynyddu nifer y gwelyau gofal mewn cartrefi gofal, a fydd gennym ni'r nifer ddigonol o staff neu ofalwyr ar gyfer y cleifion yn y gwelyau hyn mewn gwirionedd?

Fel y dywedwyd, rydym ni mewn angen taer o ofalwyr o Gymru, ond gan fod y cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy academaidd nag ymarferol bellach, a bod pobl yn gallu cael mwy o dâl mewn archfarchnadoedd nag mewn cartrefi gofal, mae gennym ni'r broblem recriwtio honno, a hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud am hynny, ond hefyd sut rydych chi'n mynd i gadw cartrefi gofal ar agor oherwydd y costau ynni a bwyd cynyddol, cyllidebau gofal cymdeithasol yn cael eu torri ledled Cymru a'r problemau yswiriant gwladol ac isafswm cyflog. Mae'r cwbl yn creu storm berffaith yn erbyn cadw cartrefi gofal ar agor, felly byddwn yn gwerthfawrogi eich safbwyntiau ar hynny. Diolch.

Dyma'r ymyriad cyntaf yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog gan y ffoadur newydd sbon o'r Torïaid, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n werth nodi ei bod yn un o restr faith o Dorïaid; pan fyddan nhw'n gweld yr ysgrifen ar y mur, maen nhw'n neidio oddi ar y llong. Y blaid Dorïaidd wedi'i lapio mewn baner wyrddlas yw plaid Reform yng Nghymru—rydym ni i gyd yn gwybod hynny—diffynwyr Thatcheraidd sydd eisiau rhannu ein cymunedau. Nid yw gwerthoedd Reform yn cyd-fynd â gwerthoedd ein cenedl, ac rwyf i'n un sy'n gwrthod y math o iaith a chasineb a rhaniad yr ydym ni'n ei weld gan y blaid honno.

Gadewch i mi ddweud wrthych chi, o ran y cwestiwn penodol hwn, byddai'r datganiad a wnaed gan arweinydd ei phlaid neithiwr yn ymwneud â gofal yn dinistrio'r sector gofal yng Nghymru. Nid yw hon yn blaid ddifrifol. Byddai arweinydd eich plaid yn gwneud pethau'n llawer gwaeth ac ni fyddech chi yno i lanhau'r llanast yr ydych chi wedi ei wneud, fel y gwnaethoch chi gyda Brexit. Rydym ni'n dal i lanhau ar ôl canlyniadau ofnadwy'r bleidlais Brexit yng Nghymru. Mae pobl yn cydnabod bellach bod hwnnw'n gamgymeriad, ei fod yn broblem, eu bod nhw'n gweld arian yn gadael eu cymunedau yn hytrach na chael ei wario ynddyn nhw.

Busnesau Bach a Chanolig eu Maint

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ragolygon economaidd busnesau bach a chanolig yng Nghymru? OQ63126

Busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi, gan ddarparu 60 y cant o swyddi yng Nghymru, a dyna pam mae Llafur Cymru yn eu cefnogi trwy gymorth Busnes Cymru, cymorth Banc Datblygu Cymru a benthyciadau gwyrdd i ostwng biliau.

Diolch, Prif Weinidog. Gallaf roi ar gofnod bod un Ceidwadwr yma na fydd yn mynd i Reform. [Torri ar draws.]

Ydy, mae hynna wedi cymryd llawer o fy amser. Mae'n ddrwg gen i.

Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, mae chwyddiant wedi aros ar y lefel uchaf mewn dwy flynedd o 3.8 y cant, ymhell o darged Banc Lloegr o 2.5 y cant, y gwnaethom ni ei adael mewn grym. I wneud pethau'n waeth, mae diweithdra wedi cynyddu'n barhaus, diolch i bolisïau amlwg y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol, sydd ddim ond yn ei gwneud hi'n anoddach i fusnesau bach a chanolig gyflogi staff, sydd, yn ei dro, yn mygu twf.

Mae'n amlwg nad yw eich cydweithwyr yn San Steffan yn gallu mantoli'r cyfrifon, ac ar ôl gwario hyd derfyn cerdyn credyd y wlad, yn paratoi'r ffordd ar gyfer mwy o godiadau treth i ddod ym mis Tachwedd. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cydweithwyr yn San Steffan am yr angen i amddiffyn busnesau bach a chanolig yng Nghymru rhag effaith rownd arall o godiadau treth sy'n atal twf, gan gydnabod mai nhw yw enaid ein heconomi yng Nghymru? Rwy'n gwybod mai'r ateb stoc fydd nad yw'n faes ar gyfer Llywodraeth ddatganoledig, ond nid oedd Gweinidogion Llafur yma yn poeni dim am sefyll yn erbyn Llywodraeth San Steffan pan oeddem ni mewn grym.

14:10

Edrychwch, rydym ni'n cydnabod yn llwyr bod tyfu'r sector preifat yn allweddol i ffyniant economaidd, ac mae busnesau bach a chanolig yn hanfodol i hynny. Maen nhw'n gyfrifol am y mwyafrif o swyddi yn ein gwlad: 62 y cant o'r holl gyflogaeth busnes. Roedd yn wych bod yng ngŵyl fwyd y Fenni dros y penwythnos, i weld y cannoedd o wahanol gwmnïau bach yno yn masnachu eu nwyddau. 

O safbwynt Cymru, rydym ni'n gwneud yr hyn a allwn i gynorthwyo mentrau bach a chanolig. Fe wnaeth Busnes Cymru, er enghraifft, gefnogi creu dros 37,000 o swyddi a dros 8,500 o fusnesau newydd sbon, felly mae busnesau bach a chanolig yn ganolog i'n cenhadaeth economaidd. Rydym ni'n eu helpu nhw gyda chefnogaeth i allforio ac rydym ni wedi gweld datblygiadau enfawr o ran hynny hefyd.

Nid yw busnesau bach a chanolig i gyd yr un fath. Mae glanhawr ffenestri fy swyddfa i yn fusnes bach a chanolig, mae'r cigydd rwy'n ei ddefnyddio yn fusnes bach a chanolig, mae masnachwyr marchnad yn Abertawe yn fusnesau bach a chanolig. Yna mae gennym ni fusnesau bach a chanolig â photensial twf uchel mewn meysydd fel TGCh, gwyddorau bywyd a gemau cyfrifiadur. Enghreifftiau o gwmnïau sy'n dechrau fel busnesau bach a chanolig ac yna'n tyfu i fod yn gwmnïau mawr yw Hewlett-Packard, a ffurfiwyd gan Bill Hewlett a David Packard, mewn garej un car; Google, a ddechreuodd fel prosiect ymchwil gan Larry Page a Sergey Brin, a oedd yn fyfyrwyr doethuriaeth; dechreuodd Grand Theft Auto o wreiddiau diymhongar datblygwr DMA Designs yn yr Alban. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen busnesau bach a chanolig twf uchel a gwerth uchel arnom ni mewn sectorau sy'n ehangu, a sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi eu twf?

Diolch yn fawr iawn, ac mae'n dda cael y cwestiwn yna gan ein bod ni'n cefnogi busnesau bach a chanolig. Mae gennym ni ein rhestr ein hunain o fusnesau bach a chanolig sydd wedi mynd o fod yn gwmnïau bach i dyfu a gwneud cyfraniad mawr. Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi o gwmnïau yng Nghymru sydd wedi gwneud yr union beth hwnnw: Redrow, fe wnaethon nhw ddechrau fel busnes bach a chanolig; Moneypenny; PHS; MoneySuperMarket; Veezu. Dechreuodd pob un o'r cwmnïau hyn fel busnesau bach a chanolig a thyfu. Felly, mae gennym ni ein henghreifftiau ein hunain. Yr hyn sy'n bwysig, rwy'n credu, yw, er gwaethaf ein holl ddatblygiad economaidd, a hyd yn oed yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n gweld gwell cynhyrchiant. Mae angen i ni ddefnyddio technoleg newydd i ysgogi cynhyrchiant. Mae'n dda gweld bod cyfraddau cynhyrchiant yng Nghymru yn tyfu yn llawer cyflymach nag y maen nhw yn Lloegr, ar 1.3 y cant o'i gymharu â 0.2 y cant yn y Deyrnas Unedig.

Amrywiaeth yn yr Heddlu

6. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod heddluoedd Cymru yn adlewyrchu cymunedau Cymru? OQ63105

Diolch yn fawr. Mae’n bwysig iawn bod y bobl yn ein cymunedau’n gweld yr heddlu fel adlewyrchiad ohonyn nhw eu hunain. Dyna’r unig ffordd y gallwn ni gynnal ein ffordd unigryw o weithio yn y Deyrnas Unedig, sef plismona trwy gydsyniad. Cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydy plismona, ond mae Llywodraeth Cymru’n sicrhau deialog rheolaidd gyda’r heddlu.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am eich ateb. Wrth gwrs, mae heddluo yng Nghymru yn wahanol i heddluo yn Lloegr, ond yn anffodus, dyw hwnna ddim yn cael ei adlewyrchu yn y broses recriwtio ar hyn o bryd. Trwy'r Coleg Plismona, mae'n rhaid i ymgeiswyr nawr wneud cais, wedyn maen nhw'n gorfod gwneud asesiad ar-lein, ac wedi hynny prawf seicometrig ar-lein. Yn anffodus, oni bai bod lluoedd heddlu Cymru yn rhoi arian ychwanegol, mae'r Coleg Plismona yn gwrthod gwneud yr asesiad ar-lein a'r prawf seicometrig trwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw'n dweud bod yn rhaid i bobl brofi trwy dystiolaeth gref fod siaradwyr Cymraeg o dan anfantais trwy wneud y profion yma trwy gyfrwng y Saesneg. Mae hon yn hen ddadl sydd wedi cael ei gwrthbrofi ddegawdau yn ôl. Y trueni mawr, wrth gwrs, yw bod heddluoedd yn gorfod cydymffurfio â rheoliadau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, felly mae hyn wedi digwydd o dan y sefyllfa yma. Brif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud i sicrhau bod y prosesau recriwtio ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly nad yw siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg yn cael eu gwahaniaethu? Diolch yn fawr. 

14:15

Diolch yn fawr iti. Fel dwi'n ei ddweud, cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw plismona, ond mae'r Coleg Plismona yn gweithredu cynllun iaith Gymraeg gwirfoddol. Maen nhw'n deall bod angen gwella'r ffordd y maen nhw'n ymdrin â dwyieithrwydd pan maen nhw'n recriwtio. Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n gweithio tuag at gynnig dewis iaith yn y ganolfan asesu genedlaethol, sydd, fel rŷch chi'n ei ddweud, ar hyn o bryd yn broses ar-lein. Felly, mae'r broses yn un cychwynnol. Mae'n debygol o newid, o beth rwy'n deall, ond, yn y cyfamser, bydd cyfarwyddiadau i ymgeiswyr ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bydd cyfle ganddyn nhw i wneud rhannau o'r prawf yn ddwyieithog.

Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? OQ63136

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi trawsnewid ysgolion ledled Cymru, ac fe gafodd £3.7 biliwn ei fuddsoddi a 330 o brosiectau eu hadeiladu. Erbyn hyn, mae miloedd o ddisgyblion yn cael eu dysgu mewn ystafelloedd dosbarth cyfoes, sy'n barod ar gyfer addysg ddigidol. Rydym ni'n cyflwyno 329 o brosiectau arall, sydd yn werth dros £5.54 biliwn—ysgolion sero net, ysgolion cymunedol ac ysgolion a adeiladwyd ar gyfer y dyfodol.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Yn Rhondda Cynon Taf, mae'r Gweinidog addysg a minnau, bob yn ail fis bron â bod, wedi bod yn bresennol ar gyfer agor ysgolion newydd, ac mae hi'n ardderchog gweld yr effaith a gaiff hynny ar ysbryd y myfyrwyr hyn. Mae'r ffigurau sydd gennyf i'n dangos y cafodd £2.8 biliwn ei fuddsoddi yng Nghymru yn unol â'r rhaglen hon dros y degawd diwethaf. Nid oes unrhyw raglen arall yn y Deyrnas Unedig fel yr un arbennig hon; nid oes unrhyw beth tebyg i hon yn Lloegr. Pe byddem ni'n tynnu cymhariaeth â Lloegr, fe fyddai honno'n rhaglen fuddsoddi gwerth £55 biliwn mewn symiau canlyniadol.

Roeddwn i wedi bwriadu darllen enwau'r ysgolion yn Rhondda Cynon Taf, ond mae gormod ohonyn nhw i wneud felly. Yr hyn sy'n wir bwysig yn fy marn i yw sicrhau y bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn parhau, wrth i ni fynd ymlaen i'r Senedd nesaf. Mae gennym ni waith i'w wneud eto o ran datblygu'r ysgolion. Tybed beth sydd ar eich meddwl chi a pha warantau a wnewch chi eu rhoi i ni y byddwn ni'n parhau â'r rhaglen honno ac y byddwn ni'n parhau i gynnig ysgolion o safon yr unfed ganrif ar hugain y mae ein disgyblion yn eu haeddu.

Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n credu mai hwn yw un o'n cyflawniadau mwyaf clodwiw ni yn y Llywodraeth. Bu hwn yn ymrwymiad hirdymor, difrifol; fe barodd am flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fe welwn ni ffrwyth hynny ledled ein cenedl, ac mae wedi trawsnewid y ffordd y mae plant yn dysgu yng Nghymru—mewn ystafelloedd dosbarth modern, parod i ddefnyddio technoleg, ac sy'n ysbrydoli. Mae hynny'n trawsnewid yr awyrgylch a'r amodau yn wirioneddol er mwyn i ddisgyblion ffynnu yng Nghymru. Fe ddaeth hynny i'r amlwg, rwy'n credu, mewn ffordd wirioneddol iawn pan gafwyd y broblem gyda choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth gan achosi llawer o ysgolion i gau yn Lloegr. Yng Nghymru, dim ond dwy neu dair enghraifft a gawsom ni o hynny, ac felly roedd hi'n wahanol iawn yma, oherwydd y buddsoddiad hirdymor hwnnw. Felly, ydym, rydym ni'n falch o'r hyn a wnaethom ni ac, yn amlwg, fe fyddwn ni'n ceisio parhau â hyn yn y dyfodol.

Rheoleiddio Bwyd nad yw'n Iach

8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â rheoleiddio bwyd nad yw'n iach? OQ63135

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â gordewdra a gwarchod y genhedlaeth nesaf. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond ni fyddwn ni'n aros amdanyn nhw. Rydym ni'n gweithredu i wneud dewisiadau iachach yn haws, gan wahardd hyrwyddiadau bwyd sothach mewn siopau ac annog ailfformiwleiddio yn y diwydiant bwyd, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun cyflawni newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn fuan iawn. 

Rwy'n cydnabod y gwaith gwych a wnaed gan Lynne Neagle yn ei swydd flaenorol yn Ddirprwy Weinidog iechyd, yn ogystal â'i swydd bresennol yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Fe wyddom ni mai deietau afiach yw prif achos marwolaeth gynnar erbyn hyn a phrif ysgogyddion y galw am driniaeth ar gyfer clefyd y galon, canser a diabetes. Gan fod Llywodraeth y DU i bob golwg yn dal i fod yn amharod i drethu'r bwydydd wedi eu prosesu'n helaeth sy'n goruchafu ar ein diwydiant bwyd, sut allwn ni, yng Nghymru, sicrhau y bydd gan bawb fwyd sy'n iach, gan wybod bod rhai cymunedau yn ddiffeithdiroedd o ran bwyd ffres? Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i ddiwygio caffael bwyd cyhoeddus, fel ein bod ni'n cefnogi cwmnïau o Gymru i fwydo ein plant, yn hytrach na mewnforio cyw iâr o Wlad Thai a bwyd a gafodd ei brosesu a'i lwytho ag olew palmwydd sy'n dod o'r Aifft yn bennaf?

14:20

Diolch yn fawr. Mae angen gwneud llawer mwy o waith yn y maes hwn, ac rwy'n diolch i chi am eich brwdfrydedd o ran ysgogi newid, oherwydd mae hwn yn fater hanfodol, rwy'n credu, sef sut y byddwn ni'n sicrhau y bydd gennym ni genedl iach yn y dyfodol. Mae safonau bwyd gorfodol i'w cael eisoes ar gyfer lleoliadau gofal iechyd ac addysg, ac mae angen iddyn nhw gydymffurfio â safonau maeth gorfodol ar gyfer eu dysgwyr a'u cleifion. Yn amlwg, rydym ni'n diweddaru Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013 ar hyn o bryd.

Mae hi'n bwysig, yn fy marn i, ein bod ni'n cydnabod bod yna bethau eraill hefyd—ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael ei nodi pan gaiff ein cynllun cyflawni 'Pwysau Iach: Cymru Iach' ei gyhoeddi yn fuan. Ond fe hoffwn i groesawu'r cyhoeddiadau diweddar gan Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Caerdydd ynglŷn â chyfyngu ar hysbysebu bwyd a diod sy'n cynnwys cyfraddau uchel o fraster, siwgr a halen. Fe fydd hynny'n gwneud gwahaniaeth, rwy'n credu, yn ein cymunedau ni, ac ar gyfer pobl ifanc yn arbennig felly.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes fydd nesaf, felly, ac mae'r datganiad yma'n cael ei gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 14:21:53
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd. Ar yr agenda heddiw, mae dau ddatganiad llafar ychwanegol. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd llai o amser ar gyfer y cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chynllunio mewn ardaloedd cadwraeth arbennig. Fel gwyddoch chi, fe godais i'r mater hwn cyn yr haf, yn dilyn pryderon gan fusnesau lleol yn fy etholaeth i. Ers hynny, fe ddaeth cadarnhad y bydd hi'n rhaid i bob cais cynllunio yn ardal cyrff dŵr mewnol Aberdaugleddau, sef y mwyafrif helaeth o sir Benfro, arddangos niwtraliaeth maethynnau, ac eto nid oes canllawiau ffurfiol i'w cael oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfarwyddo'r rhai sy'n cyflwyno ceisiadau. Fe allai'r rhwystr hwn rwystro datblygiadau mewn ardal fawr o sir Benfro a hynny ar gost enfawr i'r economi leol. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi nad yw hyn yn dderbyniol, ac felly fe fyddwn ni'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru, er mwyn i'r awdurdodau cynllunio a busnesau fod yn hyderus y gall datblygiadau yn sir Benfro barhau i fynd rhagddynt.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Mae'r rhain yn faterion pwysig. Maen nhw'n faterion y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â nhw, ond hefyd, yn amlwg iawn, mae hynny'n digwydd mewn partneriaeth â chyfrifoldebau cyrff cyhoeddus a chyda llywodraeth leol hefyd. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n diweddaru cynllunio. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn chwilio am gyfleoedd i roi diweddariadau. Fel rydych chi'n dweud, mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n diogelu ardaloedd cadwraeth arbennig, ond yn ystyried anghenion o ran datblygu hefyd.

A gaf i ofyn am ddadl yn ystod amser y Llywodraeth ar hawliau rhentwyr—hynny yw, hawliau pobl sy'n rhentu yn y sector preifat? Cyn hir, fe fydd gan rentwyr yng Nghymru lai o hawliau na rhentwyr dros y ffin. Efo pasio'r Bil Hawliau Rhentwyr yn San Steffan yn fuan iawn, mae disgwyl i hynny ddigwydd. Fe fydd, er enghraifft, sail meddiant heb fai, neu droi allan heb fai, yn dod i ben yn Lloegr, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond fe fydd hyn yn parhau i fodoli yng Nghymru. Mi fydd yna wahaniaethau eraill hefyd, nifer ohonyn nhw, a fydd yn golygu y bydd hawliau rhentwyr yn llai yma yng Nghymru o'u cymharu â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Felly, a gaf i ofyn, oherwydd pwysigrwydd y mater yma, am ddadl yn ystod amser y Llywodraeth, os gwelwch yn dda?

14:25

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian, am eich cwestiwn pwysig iawn.

Wrth gwrs, rydym ni wedi rhoi mesurau cadarn ar waith eisoes ar gyfer cynorthwyo i ddiogelu tenantiaid drwy Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac wrth gwrs fe gefnogwyd hynny gan y Senedd fel dull polisi priodol i ni yng Nghymru. Mae honno'n system sy'n sicrhau bod tenantiaid yn cael digon o amser i gynllunio a dod o hyd i gartref newydd ar yr achlysuron hynny pan all landlordiaid gyflwyno rhybudd i adfeddiannu eu heiddo. Mae hi'n hanfodol ein bod ni â'r cyfle hwnnw i roi  amser i denantiaid gynllunio. Felly, fe ymestynnodd y diwygiadau hynny'r cyfnod rhybudd o ddau fis hyd at chwe mis er mwyn rhoi'r amser ychwanegol hwnnw i denantiaid, ac mae'n nodi hefyd na ellir cyflwyno hysbysiad yn ystod chwe mis cyntaf tenantiaeth. Yn amlwg mae  deddfwriaeth gennym ni nawr sydd ar ddod oddi wrth Lywodraeth y DU. Yn amlwg, fe fydd cyfle i ystyried hon o ran ein sefyllfa bresennol gyda'n cyfrifoldeb ynglŷn â deddfwriaeth a'n cydnabyddiaeth o hawliau rhai sy'n rhentu hefyd.

Trefnydd, nos Wener yn Arberth, fe gafodd un o'u chwaraewyr rygbi nhw anaf i'w wddf am 8 p.m. Fe ddywedodd y cysylltwr ffôn 999 wrthyn nhw am beidio â symud yr unigolyn ac aros am ambiwlans. Yn y glaw trwm, fe adawyd y chwaraewr anafedig a'r rhai a oedd yn gofalu amdano yn gorwedd ar y ddaear oer, wlyb nes i'r ambiwlans gyrraedd o'r diwedd am 2.20 a.m., dros chwe awr yn ddiweddarach. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'n rhaid i amseroedd ymateb ambiwlans wella yng nghefn gwlad Cymru, ac felly rwy'n galw yn daer am ddatganiad i nodi yn glir sut y bydd y Llywodraeth hon yn atal y fath oediadau gofidus yn y dyfodol.

Yn ail, rwy'n gofyn am eich cyngor os gwelwch chi'n dda, Trefnydd. Fe ysgrifennais i at yr Ysgrifennydd dros yr economi ar 4 Mawrth ynglŷn â mater etholaethol difrifol. Er gwaethaf mynd ar drywydd hynny ym mis Mehefin, ym mis Awst ac unwaith eto ym mis Medi, ni chefais i ateb fyth. A wnewch chi'n dweud wrthyf i sut y dylwn i symud ymlaen a pha beth a ddylwn ei ddweud wrth fy etholwyr i?

Diolch yn fawr iawn i chi am y ddau gwestiwn yna, Sam Kurtz. Mae hi'n bryderus iawn clywed am y chwaraewr rygbi a gafodd ei anafu yn Arberth. Yn amlwg, o ran amseroedd ymateb ambiwlans, maen nhw'n ymateb bob munud o bob dydd mewn modd priodol ac amserol i'r galwadau hynny. Yn wir, mae hi'n bwysig eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r ystadegau o ran amseroedd ymateb ambiwlans a chyflawni'r amcanion hynny. Rydych chi wedi codi'r mater hwn o ran un digwyddiad anffodus iawn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi hynny'n uniongyrchol gyda'r gwasanaeth ambiwlans i gael diweddariad ac esboniad.

Rwy'n hapus iawn i chi rannu'r llythyr hwnnw at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio er mwyn i mi allu sicrhau y byddwch chi'n cael ymateb i'ch etholwr.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau yn ymwneud â chludiant a gwella'r seilwaith ar gyfer cludo nwyddau yng Nghymru. Yn ddiweddar, fe gefais i'r fraint o gyfarfod ag RF Bellis ar ystad ddiwydiannol Wrecsam, ynghyd â'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, ac roedden nhw'n esbonio'r broblem barhaus i mi o ganlyniad i ddiffyg seilwaith priodol ar gyfer cludo nwyddau yma yng Nghymru. Mae'r cynnydd o ran lladrata llwythi, yn enwedig o arosfannau lorïau a mannau gorffwys sydd heb ddiogelwch digonol, yn rhoi pwysau gwirioneddol ar eu busnesau nhw a busnesau tebyg ledled Cymru. Mae hwn yn sector yr ydym ni'n dibynnu arno'n feunyddiol i gludo'r nwyddau hynny y mae eu hangen nhw ar bawb ohonom ni. Er gwaethaf galwadau dro ar ôl tro oddi wrth weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, nid oes parcio diogel digonol yng Nghymru na buddsoddiad digonol yn y llwybrau allweddol hynny ar gyfer cludo nwyddau. A gaf i ofyn am i ni gael datganiad sy'n amlinellu sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithio gyda'r diwydiant, a chryfhau'r seilwaith, a gweithio gyda phartneriaid i atal troseddau ynglŷn â chludiant nwyddau? Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna, Sam Rowlands. Mae hwn yn gwestiwn pwysig y gwn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ymgysylltu ag ef o ran lladrata nwyddau a gludir. Mae hwn yn fater enfawr, ac fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn ei drafod gyda'r sector. Mae'n debyg eich bod chi'n ymwybodol o hynny. Fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud datganiad ar nwyddau a logisteg ar ôl cyfarfod olaf gweithgor logisteg Caergybi.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad oddi wrthych chi'n bersonol, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cyntaf ar ddiogelwch pobl mewn llety i ffoaduriaid. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe welsom ni brotestiadau trwblus ledled y wlad, pryd yr aflonyddwyd ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches a'u dychryn nhw. Mae rhai sefydliadau cymorth wedi gorfod cau gwasanaethau neu sefydlu ystafelloedd diogel, hyd yn oed. Ond fe wyddom ni fod yr amgylchedd y tu mewn i lety yn gallu bod yn anniogel hefyd, gydag ymchwil gan Sefydliad Helen Bamber yn datgelu bod dieithriaid yn cael eu gorfodi i rannu ystafelloedd heb gloeon, eiddo yn cael ei ladrata a phlant yn cael eu gadael heb fwyd neu'n cysgu ar loriau. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar frys i gadw pobl yn ddiogel ac atal digartrefedd yma yng Nghymru.

Cais yw fy ail ddatganiad, i chi unwaith eto, o ran llythyr trawsbleidiol a anfonwyd gennym ni oddi wrth y Senedd o ran y sefyllfa yn Gaza, a anfonwyd at Brif Weinidog Cymru ar 1 Awst. Rwy'n ddiolchgar fod fy swyddfa i wedi cael ymateb rhyw awr yn ôl. Diolch i chi am hynny. Yn y llythyr hwnnw, serch hynny, rydych chi'n dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag unrhyw allforio arfau, ac nad yw wedi bod â rhan yn hynny ers mis Hydref 2023. Eto i gyd, roedd Amnest Rhyngwladol yn adrodd, ar 23 Gorffennaf 2025, fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu arian cyhoeddus i wneuthurwr arfau sy'n allforio offer milwrol i Israel, a'i bod wedi dyfarnu £0.5 miliwn mewn cyllid grant i Senior, sy'n allforio offer milwrol yn uniongyrchol i Israel. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gaf i ofyn am eich ymateb chi, naill ai yn y fan hon neu mewn ysgrifen, yn benodol i'r mater nad yw Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag allforio arfau i Israel, neu efallai, os ydyw hi, i amlinellu'r sefyllfa, os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn.

14:30

Diolch i chi, Jane Dodds, am y ddau gwestiwn pwysig yna. Fel gwyddoch chi, wrth gwrs, o ran gwestai, yn arbennig felly, sy'n cael eu defnyddio i letya ceiswyr noddfa, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddarparu'r llety hwnnw. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, o ran Cymru, yw cyfranogi yn y gefnogaeth i'r cynllun gwasgaru, ac rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai sydd mewn angen. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd—ac yn amlwg fe fyddaf i'n gwneud sylwadau ar eich pwyntiau chi heddiw—ein dau gydweithiwr yn Llywodraeth y DU. Ond fe fyddwn i'n dweud heddiw fy mod i'n falch iawn fod gan Lywodraeth Cymru weledigaeth genedl noddfa. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n dal i geisio cael fy nghefn ataf wedi'r sioc o glywed nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi Cymru i fod yn genedl noddfa mwyach. Ni allaf i gredu bod pob aelod o'r grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gytûn â hynny. Os ydych chi, rwyf i'n hynod siomedig. Oherwydd gweledigaeth yw hi ei bod hi'n rhaid i ni alluogi unrhyw un sy'n cael ei leoli yng Nghymru i ddechrau integreiddio o'r diwrnod cyntaf.

Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fy mod i wedi ymweld â gwesty yn fy etholaeth i ar ddydd Gwener sy'n darparu llety noddfa dros dro i bobl o Affganistan, sydd wedi bod mewn gwersylloedd am y pedair blynedd diwethaf oherwydd eu bod nhw wedi cefnogi ein lluoedd arfog Prydeinig yn Affganistan. A phob wythnos maen nhw'n gorfod dioddef protestiadau'r dde eithafol ar garreg y drws yn crochlefain arnyn nhw, yn gweiddi ar bobl sydd wedi dianc rhag ymladd o ganlyniad i'r ffaith eu bod nhw wedi cefnogi ein lluoedd arfog Prydeinig. Dyma'r bobl yr ydym ni'n eu cefnogi, a dyma'r bobl sy'n awyddus i wneud cyfraniad i Gymru, i'n heconomi ni, i'n cymunedau ni a'n cymdeithas ni. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu—yn sicr, fe fydd y rhai ohonom ni ar yr ochr hon i'r Siambr, yn sicr—gwneud yr un sylwadau ag y gwnaethoch chi heddiw, o ran ein cefnogaeth ni i'r weledigaeth o genedl noddfa.

Fe fyddaf i'n edrych, yn amlwg, o ran y materion hynny yr ydych chi'n eu codi ynglŷn â'r cyfrifoldeb hwnnw sydd ar Lywodraeth y DU i roi llety i geiswyr noddfa. Rwy'n gobeithio y byddech chi'n cydnabod ac yn parchu'r hyn a ddywedais i am y bobl hynny yr ydym ni'n eu cefnogi, a gefnogodd ein lluoedd arfog Prydeinig, sydd yn ein cymdeithas ni yng Nghymru erbyn hyn, yr es i'w croesawu nhw, gyda'r person lleol o'r pentref nesaf, sy'n helpu'r trigolion hyn, y dinasyddion hyn o Affganistan. Bydd y plant yn mynychu ein hysgolion lleol, ac fe fydd hynny'n atgyfnerthu'r ysgolion, yn ogystal â'u cyfle hwythau i ddysgu Saesneg.

Mae eich ail bwynt chi, Jane, yn un pwysig iawn, ac rwy'n ymddiheuro mai heddiw yn unig y cawsoch chi lythyr at y grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Senedd a arwyddodd y llythyr hwnnw at y Prif Weinidog. Fe ddaeth mewn gwirionedd ar ôl moment rymus iawn pan wnaethom ni sefyll gyda'n gilydd mewn digwyddiad trawsbleidiol ar ddiwrnod olaf y tymor. Fe allaf i eich sicrhau chi unwaith eto nad ydym ni Llywodraeth Cymru ag ymgysylltiad o gwbl â chwmnïau sy'n darparu arfau i Israel. Mewn gwirionedd, unwaith eto yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n gallu cywiro'r amheuon ynglŷn â chwmni sy'n gwneud gwaith modurol, a godwyd yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Rwyf i am ysgrifennu atoch chi unwaith eto i'ch sicrhau chi nad oes gennym ni—. Roeddwn i'n eglur iawn yn fy natganiad.

Hefyd, dim ond i ddweud, fe soniais i am y genedl noddfa, fe soniais i am eich llythyr—. Rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau ar draws y Senedd yn dod yfory i ymuno â Chymorth Cristnogol, a fydd y tu allan i'r Senedd yn gwahodd pobl o bob ffydd a chefndir i uno yn yr alwad i weddïo a thystio dros heddwch. Mae hyn yn dilyn Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, oedd ar ddydd Sul 21 Medi—diwrnod heddwch y byd. Fe fyddan nhw'n ymgasglu y tu allan, ac rwy'n gobeithio y byddwn ninnau'n tystio i hynny.

14:35

A gaf i ddatganiad, os gwelwch yn dda? Fel gŵyr llawer ohonom ni'r Aelodau, ym mwrdd iechyd Betsi, mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi bod yn drychinebus i'm hetholwyr i yn Aberconwy. Rydym ni yn y sefyllfa nawr lle mae 2,648 yn aros dros 36 wythnos, a hynny er gwaethaf y ffaith fod cydweithrediad hirsefydlog nawr gydag Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke. Fe ddaeth dau o'r bobl hynny ar y rhestr aros i mewn i'm swyddfa i ddydd Gwener. A bod yn onest, roeddwn i wedi ypsetio wir ar ôl iddyn nhw adael. Roedd gan un dyn wlserau a briwiau ar ei goes, ac mae wedi bod yn y cyflwr hwnnw ers sawl mis. Mewn gwirionedd, mae ef yn honni y gallai hi fod ymhell dros flwyddyn. Beth yn union sy'n digwydd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ynglŷn â gwasanaethau fasgwlaidd? Fe gefais i achos arall ar y dydd Gwener, ac i ddweud ei bod hi'n warthus na chafodd yr unigolyn hwn ei weld ers ymhell dros flwyddyn—nid yw hynny'n ddigon da. Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn wasanaethau sy'n peryglu bywyd. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â beth yn hollol sy'n digwydd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o ran y gwasanaethau fasgwlaidd?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi, Janet Finch-Saunders. Rwy'n ddiolchgar eich bod wedi dod â hyn i'n sylw heddiw. Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn bwysig iawn. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi codi hyn gyda bwrdd Betsi Cadwaladr—

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am y gwasanaethau fasgwlaidd, ond rydych chi wedi codi'r mater ar lawr y Senedd heddiw, sy'n amlwg yn ychwanegu pwys at yr enghreifftiau y gwnaethoch chi eu rhoi. Mae angen i chi roi'r enghreifftiau hynny i'r bwrdd iechyd yn uniongyrchol—

—ac fe wnaethoch chi roi hynny ar y cofnod heddiw.

Mae hi yn ymateb. Efallai nad ydych chi'n hoffi'r ymateb, ond mae hi yn ymateb, felly gadewch lonydd iddi hi ymateb, os gwelwch yn dda. Laura Anne Jones.

Diolch. Trefnydd, yng Nghasnewydd mae yna 2,872 o dai amlfeddiannaeth y gwyddom ni amdanyn nhw. Mae cannoedd mewn crynodiad uchel mewn ardaloedd erbyn hyn fel fy ninas leol i. Mae hyn yn rhoi pwysau mawr ar gymunedau, yn gwneud i drigolion deimlo yn anniogel a phryderus. Mae trigolion wedi sôn wrthyf i hefyd am gynnydd mewn troseddu erbyn hyn yn yr ardaloedd hynny lle mae tai amlfeddiannaeth yn cynyddu. Yng Nghaerffili mae swyddogion cynllunio yn cyfaddef nad ydyn nhw'n gwybod faint yn union o dai amlfeddiannaeth sy'n bodoli yn y fwrdeistref hyd yn oed, ond maen nhw'n amcangyfrif bod dros 200 o dai amlfeddiannaeth annhrwyddedig sy'n cartrefu ceiswyr lloches. Nid digwyddiadau neu enghreifftiau ynysig mo'r rhain, mae sefyllfa debyg yn bodoli mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad llafar gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu ystadegau cyfredol ar leoliadau tai amlfeddiannaeth ledled Cymru, a pha gynlluniau sydd ar waith i sicrhau diogelwch fy nhrigolion i a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd o grynodiad uchel o dai amlfeddiannaeth ledled Cymru. Diolch.

14:40

Yn amlwg, mae'r tai hyn—tai amlfeddiannaeth—yn cael eu rheoleiddio a'u trwyddedu yn amlwg iawn. Ac, wrth gwrs, mae cyngor Casnewydd yn cymryd ei gyfrifoldebau, o ran y ddarpariaeth o dai, a mynd i'r afael â'r angen am dai, yn ddifrifol iawn. Ac, yn wir, fe fyddwch chi'n ymwybodol wrth gwrs o'n rhaglen dai uchelgeisiol ni ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru. Fe wnaeth y ffordd y gwnaethoch chi ofyn y cwestiwn hwnnw fy nigalonni i oherwydd, unwaith eto, mae hynny'n dychwelyd at sawl gwaith y byddwn ni'n mynegi heddiw fod Cymru yn sefyll yn gadarn gyda'n cenedl noddfa, yn sefyll yn gadarn gyda'r bobl hynny sy'n ceisio noddfa yma yng Nghymru, sy'n ceisio integreiddio, yn arbennig felly, fel yn yr enghraifft eglur iawn a roddais i chi heddiw, y ceiswyr noddfa hynny sy'n ffoi rhag ymladd, ond sydd yma oherwydd eu bod wedi rhoi gwasanaeth i'r lluoedd arfog hefyd. Os gwelwch yn dda, fe fyddaf i'n ailadrodd bod gennym ni ymrwymiad pendant i gydlyniad cymunedol, rydym ni'n ariannu cydgysylltwyr cydlyniad cymunedol ledled Cymru. Pan fyddaf i'n ymweld â Chasnewydd, fe fyddaf i'n gwerthfawrogi pob agwedd sydd ar amrywiaeth a bywiogrwydd y ddinas honno.

Fe hoffwn i gael datganiad gan gynrychiolydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am yr economi, am ei bod hi'n ddiwrnod trist i'm hetholwyr i heddiw, gan mai heddiw fydd y diwrnod olaf y bydd cangen Halifax yn y Rhyl ar agor wedi degawdau lawer, lawer o'r banc hwnnw, a oedd yn gymdeithas adeiladu gynt, yn agored ar Ffordd Russell yn y dref. Fe welsom ni doreth o fanciau yn cau ar hyd yr arfordir yn sir Ddinbych, yn y Rhyl ac ym Mhrestatyn, sy'n cynnig gwasanaeth i'r boblogaeth oedrannus yn gyntaf ac yn ail mewn ardaloedd difreintiedig, sydd, yn ystadegol, yn fwy dibynnol ar arian parod. Roeddwn i'n llwyddiannus o ran sicrhau canolfan ar gyfer cael gafael ar arian parod yn Ninbych, sydd ymhellach ym mherfedd gwlad o'r arfordir, ond mae gwir angen i ni weld cynnal presenoldeb banciau ar yr arfordir yn sir Ddinbych er mwyn i'r bobl hynny allu cael gafael ar arian parod. Rwy'n ceisio datganiad gan Lywodraeth Cymru, ynglŷn â pha sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gydag arweinwyr y diwydiant bancio ac unrhyw randdeiliaid perthnasol eraill ynghylch sut y byddwn ni'n cynnal argaeledd arian parod ar gyfer pobl mewn ardaloedd difreintiedig ac, yn wir, ar gyfer yr henoed hefyd.

Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth Davies. Mae hwn yn ymateb ar y cyd gan Lywodraeth Cymru i raddau helaeth iawn—. Wel, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwn yn bennaf, ond o ran y ffyrdd yr ydym ni'n ymgysylltu yn Llywodraeth Cymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a minnau fel gwna Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn ymgysylltu â'r banciau a'r cymdeithasau adeiladu blaenllaw. Fe gawsom ni ein dihysbyddu ledled Cymru, oni chawsom ni, wrth golli'r canghennau hynny. Rwy'n eich llongyfarch chi am gyfranogi wrth sicrhau canolfan ar gyfer cael gafael ar arian parod. Rwy'n falch iawn o'r cyllid yr ydym ni'n ei roi i undebau credyd. Felly, rwy'n derbyn y cais am ddatganiad, a rhyngom ni, fe wnawn ni sicrhau y byddwn ni'n darparu datganiad ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion pwysig hyn yr ydych chi'n eu codi.

Diolch. Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i bobl â meigryn yn y gweithle. Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn. Mae meigryn yn cael ei gamddeall yn eang fel dim ond cur pen, ond cyflwr niwrolegol difrifol ydyw sy'n achosi poen gwanychol, anhwylderau gweledol ac sy'n codi cyfog, sy'n effeithio ar un ym mhob saith o bobl yng Nghymru—bron i 0.5 miliwn o unigolion.

Mae ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Ymddiriedolaeth Meigryn, 'Herio gwarthnod: yr angen taer i wella cymorth yn y gweithle i bobl â meigryn', yn tynnu sylw at yr anfanteision syfrdanol sy'n wynebu pobl â meigryn yn y gweithle. Mae canfyddiadau yn dangos y byddai 60 y cant o gyflogwyr yn oedi cyn llogi ymgeisydd cymwys sy'n dioddef â meigryn. Yn ogystal â hynny, mae 15 y cant o ddioddefwyr wedi gorfod gadael gwaith amser-llawn i weithio yn rhan-amser, ac mae 19 y cant wedi cael eu gorfodi i adael cyflogaeth yn gyfan gwbl, ar gost sylweddol i'r economi, sy'n sefyllfa yr wyf i'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi sy'n ddigalon ac yn ddiangen, fel ei gilydd.

Fe all addasiadau syml, ar gost isel ar y cyd â newid yn niwylliant y gweithle fod yn drawsnewidiol i lawer o bobl â meigryn a'u gallu nhw i weithio. Rwy'n annog Aelodau'r Senedd i gyd i gefnogi Ymddiriedolaeth Meigryn i godi ymwybyddiaeth a gwella'r ddealltwriaeth o'r mater pwysig hwn, ac rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

Diolch yn fawr iawn i chi Mark Isherwood. Fel rydych chi'n ei wneud mor aml, rydych chi wedi cyflwyno pwnc pwysig iawn heddiw yn y datganiad busnes, ac rwy'n diolch i chi am hynny. Rwyf i am ddweud ein bod ni'n cydnabod effeithiau gwanychol meigryn. Rydym ni'n parhau i weithio gyda'r GIG i wella gwasanaethau gofal a mynediad at wasanaethau. Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn, ac mae honno'n bwysig, ac fe glywsom ni i gyd sut y dylem ni geisio mynd i'r afael â'r mater hwn yn y gweithle hefyd. Mae'n gyflwr cronig. Mae gennym becyn cymorth cur pen Cymru gyfan, sy'n cefnogi timau clinigol rheng flaen i roi diagnosis a chynllunio gofal i bobl sy'n dioddef gwahanol fathau o gur pen, gan gynnwys meigryn. Ond hefyd, wrth i chi dynnu sylw at y gweithle yn arbennig, rwyf i am gyfeirio eich cwestiwn a'ch pwynt chi at y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol o ran ein hymgysylltiad ni â phartneriaid cymdeithasol.

14:45
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y Cynnydd o ran Cyflwyno’r Cwricwlwm

Eitem 3 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y cynnydd o ran cyflwyno’r cwricwlwm. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle. 

Diolch i chi. Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd parhaus gyda'r Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm sy'n arddangos ein hymrwymiad i uchelgais, tegwch a chynhwysiant, a'r gred bod pob plentyn yng Nghymru yn haeddu'r dechrau gorau yn ei fywyd. Wrth i ni ddod at ddiwedd cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, fe hoffwn i gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad yr ysgolion sydd wedi dod â ni i'r fan hon, ac fe welwn ni ganlyniadau'r ymroddiad hwnnw. Mae data asesiadau a gafodd eu personoli yn dangos gwelliannau o ran darllen a rhifedd, ac fe welwn ni ysgolion yn ymgorffori'r arddull newydd hwn o ddysgu mewn niferoedd cynyddol. Mae adolygiad diweddaraf Estyn yn dangos bod yr ysgolion yn datblygu cwricwlwm pwrpasol i'w plant, yn buddsoddi mewn addysgu ac asesu o ansawdd uchel, ac yn canolbwyntio ar addysg sy'n berthnasol i'r byd go iawn.

Yn fy ymweliadau i ag ysgolion a lleoliadau addysgol eraill, fe welais i effaith drawsnewidiol y cwricwlwm—sut mae addysgu da yn newid bywydau. Pan fo addysgwyr yn gwneud hyn yn iawn, fe fyddan nhw'n codi'r safon ar gyfer dysgwyr. Fe wn i fod llawer ohonom ni ar draws y Siambr yn cael y fraint o weld ymarferiad addysg ysbrydoledig, ac fe hoffwn i ddiolch i'n gweithlu addysg am eu hymdrechion parhaus. Mae'r ysgolion yn parhau i weithio mewn amgylchiadau heriol iawn. Fe hoffwn i gydnabod eu gwaith rhagorol ac arddangos fy ymrwymiad unwaith eto i sicrhau ein bod ni'n eu cefnogi nhw.

Yn ystod y mis hwn, mae'r garfan gyntaf o blant i'w dysgu yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru yn dechrau ar flwyddyn 10, lle byddan nhw'n dechrau gweithio tuag at eu cymwysterau yn unol â'n hawl newydd i ddysgwyr 14-16. Cyn hynny, fe wnaethom ni gymryd camau i sicrhau bod yr ysgolion wedi cael eu paratoi yn briodol. Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, fe gyflwynodd CBAC sioe deithiol dysgu proffesiynol Cymru gyfan, a aeth at 6,500 o addysgwyr yn ystod y gwanwyn. Ar yr un pryd â hynny, fe gyflwynodd ein tîm gwella addysg newydd gyfres o gynadleddau arweinyddiaeth 14-16 i gefnogi timau arweinyddiaeth uwchradd gyda'r newidiadau i addysg 14-16, ac fe ddaeth dros 580 o uwch arweinwyr ledled Cymru i'r cynadleddau. Mae hyn i gyd wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau bod yr offer a'r canllawiau angenrheidiol gan yr ysgolion i ddarparu addysg rhwng 14-16 oed. Yn dilyn llwyddiant y dull hwn, fe gytunais i'n ddiweddar y byddem ni'n rhoi cyllid pellach i Adnodd a CBAC i sicrhau bod y gefnogaeth hon yn parhau am y flwyddyn academaidd hon ar gyfer TGAU a gaiff eu cyflwyno yng ngham 2.

Cyn yr haf, fe gyhoeddais i gyfres o astudiaethau ansoddol sy'n rhoi darlun i ni o sut mae'r diwygiadau yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Fe hoffwn i ddiolch i'r arweinwyr a'r ymarferwyr sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn. Mae'r adroddiadau hyn o ymchwil yn dangos bod yr ysgolion yn cymryd rhan mewn dylunio cwricwlwm systematig, ond rydym ni'n parhau i ganolbwyntio ar welliant. Trwy'r hyn a ddysgwyd oddi wrthyn nhw, fe wnes i'r broses hon yn fwy syml trwy ddarparu offer ychwanegol, templedi a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Mae'r dysgu proffesiynol hwn wedi cyrraedd dros 200 o ysgolion eisoes, ac fe fydd 600 arall yn elwa ar hynny yn y flwyddyn i ddod. O'r adborth gan y rhai sydd wedi cymryd rhan, fe wyddom ni fod hyn wedi helpu ysgolion i ddylunio dysgu mwy diddorol eisoes, sy'n herio ac yn ymestyn eu dysgwyr nhw. Mae ein buddsoddiad ychwanegol ni'n sicrhau y bydd mwy o ysgolion yn elwa ar hynny. Mae ein hastudiaethau ansoddol ni'n tynnu sylw hefyd at feysydd lle mae angen cymorth pellach ar yr ysgolion dan sylw. Er enghraifft, mae rhai ysgolion wedi bod yn arafach i newid eu dulliau o roi addysg llythrennedd a rhifedd, gan danlinellu pwysigrwydd ein cefnogaeth genedlaethol ni.

Mae'r canfyddiadau hyn yn cadarnhau ein bod ni'n cymryd y camau cywir i gefnogi'r ysgolion. Y llynedd, yn y Siambr hon, fe dynnais i sylw at yr heriau y mae'r ysgolion yn eu hwynebu wrth iddyn nhw ddatblygu ac addysgu eu cwricwlwm. Roeddwn i'n eglur ynglŷn â'r angen am gymorth ychwanegol ar rai ysgolion ar gyfer dylunio, cynnydd ac asesu'r cwricwlwm, ac o ran codi safonau llythrennedd a rhifedd. Rwyf i wedi parhau i siarad ag ysgolion ledled Cymru ynglŷn â'r materion hyn, gan gynnwys trwy fy nghynadleddau â phenaethiaid yn gynharach eleni. Yn y Llywodraeth, rydym ni wedi cymryd camau pendant i fynd i'r afael â nhw.

Yn fy natganiad ysgrifenedig yn yr haf, fe dynnais i sylw at y pecyn £44 miliwn o gymorth ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a roddais yn ei le i sicrhau cefnogaeth genedlaethol ar draws meysydd blaenoriaeth. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer fy mlaenoriaethau i sef llythrennedd a rhifedd—sgiliau sy'n rhoi mynediad i'r cwricwlwm cyfan. Mae'r grantiau cwricwlwm a ddyfarnais yn y gwanwyn yn darparu cymorth y gellir ei gael yn genedlaethol, sy'n rhoi'r eglurder a'r hyder sy'n angenrheidiol i ymarferwyr ar gyfer symud ymlaen, dan arweiniad arbenigedd a thystiolaeth.

Mae ein cymorth cenedlaethol ar gyfer llythrennedd, mathemateg a rhifedd yn cynnwys adnoddau dysgu proffesiynol, sy'n nodi manylion mwy eang o ran cynnydd gyda'r sgiliau hyn. Bydd y manylion hyn yn cael eu hategu gan ymchwil gyfredol ym maes datblygiad plant, gan ddarparu disgwyliadau o ran oedran sy'n fwy eglur ac sy'n gysylltiedig ag asesiadau a gafodd eu personoli, a fydd yn rhoi dealltwriaeth well i ysgolion o gynnydd y dysgwyr. Mae hi'n hanfodol i bob ymarferwr fod yn deall datblygiad ei ddysgwyr i alluogi i ddarparu'r gefnogaeth briodol yn yr amser cymwys i helpu pob plentyn i ddod yn ei flaen. Bydd rhan gyntaf y manylion ar gyfer mathemateg a rhifedd yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr hanner tymor hwn, tra bydd y manylion ar gyfer llythrennedd yn cael eu profi.

Yn rhan o hyn, rwy'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â dyfarnu'r grantiau newydd i wella canlyniadau llythrennedd a datblygu cynnydd gyda mathemateg yn yr ysgolion cynradd, gan ganolbwyntio ar flociau adeiladu allweddol y ddau fater. O ran llythrennedd, fe fydd hyn yn cynnwys dysgu ac adnoddau proffesiynol dwyieithog y gellir eu cael yn genedlaethol, yn enwedig ynglŷn ag addysgu ffoneg yn systematig, a chymorth i helpu'r ysgolion i ddewis dull cadarn o addysgu ffoneg a'i roi ar waith. Mae hynny'n cynnwys cymorth o ran dosbarthiadau cyfan yn ogystal ag ymyriadau penodol i ddysgwyr sydd ag angen cymorth ychwanegol. O ran mathemateg, mae hyn yn adeiladu ar gefnogaeth a gyhoeddais i yn y gwanwyn ar gyfer cynnwys dysgu proffesiynol cenedlaethol i helpu ysgolion cynradd wrth ddefnyddio'r hyfedredd mathemategol sy'n allweddol o ran addysg fathemateg ragorol. Mae ein tîm gwella addysg ni wedi bod yn gweithio yn uniongyrchol gyda'r awdurdodau lleol i ddeall anghenion yr ysgolion yn fanwl a sicrhau bod ein cefnogaeth ni'n diwallu'r anghenion hyn. Bydd yr ymgysylltiad parhaus hwn yn ein helpu ni i barhau i fod yn ystwyth ein hymagwedd ac yn barod i ymateb i'r negeseuon allweddol a ddaw o'r sector.

Hefyd, rwy'n ddiolchgar o hyd am y cyngor a'r gefnogaeth oddi wrth Estyn i'r sector, gyda galwad am ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, cydweithredu mwy cadarn rhwng y cyfnodau cynradd ac uwchradd, a chyfleoedd mwy pwrpasol i ddatblygu sgiliau darllen uwch. Mae Estyn wedi nodi'r angen i'r ysgolion ganolbwyntio yn fwy ar ddatblygiad graddol sgiliau darllen, ac rwy'n croesawu eu bwriad nhw i wneud darllen yn ganolbwynt allweddol yn y blynyddoedd i ddod. Fe fydd hyn yn anfon y neges yn bendant fod llythrennedd yn fater i bawb a'n bod ni'n unfrydol o ran ein hymdrechion i godi safonau ar gyfer pob dysgwr.

Mae fy null grantiau hefyd yn darparu cefnogaeth sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer addysg gwyddoniaeth, perthnasoedd a rhywioldeb, ieithoedd rhyngwladol, cerddoriaeth a dysgu sylfaen. Fe fyddaf i'n dyfarnu grant cwricwlwm o £1.4 miliwn hefyd i gefnogi dealltwriaeth broffesiynol o sgiliau cyfrifiadurol a digidol yn genedlaethol, a fydd yn helpu ymarferwyr i ddeall technolegau sy'n dod i'r amlwg fel deallusrwydd artiffisial, a sut i roi'r paratoad gorau i ddysgwyr yn y maes pwysig hwn. Mae'r gefnogaeth genedlaethol hon yn ymwneud â bod â disgwyliadau mawr o'n dysgwyr a rhoi'r offer, y gefnogaeth a'r hyder i ymarferwyr allu cynorthwyo ein plant a'n pobl ifanc wrth gyflawni eu huchelgeisiau.

Rwy'n parhau i ganolbwyntio ar sicrhau y bydd y data a'r wybodaeth gywir gennym ni ar gyfer deall a dangos y cynnydd yn ein system, a rhoi sicrwydd yn genedlaethol. Fe nodais i'r ystod o dystiolaeth yr ydym ni'n ei defnyddio yn fy natganiad ysgrifenedig cyn yr haf. Mae hynny'n hanfodol i roi gwybodaeth ddofn, fanwl i ni, ac fe fydd yn llywio'r gefnogaeth yr ydym ni'n ei darparu i ysgolion a lleoliadau addysgol eraill mewn ffordd uniongyrchol. Mae ein data ni'n ein galluogi ni i fonitro'r cynnydd tuag at wireddu potensial llawn y Cwricwlwm i Gymru. Fe fyddaf i'n parhau i wneud popeth sydd yn fy ngallu i gefnogi addysgwyr i ddarparu'r addysg orau bosibl i bob plentyn yng Nghymru. Rydym ni'n rhannu'r cyfrifoldeb am wneud hyn yn iawn. Ynghyd â'r ysgolion, yr athrawon a'r partneriaid, rydym ni'n gweithio er mwyn sicrhau y bydd pob plentyn yn gallu cyflawni ei bosibiliadau. Diolch yn fawr.

14:55

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am ddatganiad y prynhawn yma. Fe gafodd y cwricwlwm newydd ei hyrwyddo gydag addewid o arloesedd a hyblygrwydd, ond, rwy'n ofni ei fod, mewn gwirionedd, mewn perygl o siomi ein plant a'n pobl ifanc ni. Trwy symud oddi wrth ddysgu pynciau pendant, mae'r cwricwlwm yn achosi anghysondeb amlwg ar draws ysgolion ac yn gadael myfyrwyr yn agored i fylchau yn eu gwybodaeth. Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n gallu sefyll yn y fan hon heddiw a rhoi cymeradwyaeth i chi eich hun, gan ddweud pa mor wych mewn gwirionedd yw'r cwricwlwm, ond mae adroddiad diweddar gan Estyn yn tynnu sylw at y ffaith mai agweddau gwael ar addysgu yw'r rheswm am gynnydd cyfyngedig y disgyblion ac yn tynnu sylw at amrywiaeth eang ledled y genedl o ran addysgu mathemateg. Mae'r cwricwlwm, yn anffodus, yn dilyn model tebyg i newidiadau a gafodd eu gwneud yn yr Alban, ond mae tystiolaeth o'r Alban yn dangos tuedd o ostyngiad mewn safonau academaidd, sy'n peri pryder. Felly, rwy'n methu yn lân â deall pam mae'r Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen heb ddysgu dim o'r gwersi hyn.

Mae'r athrawon eu hunain wedi codi pryderon ynglŷn â'r diffygion o ran adnoddau, hyfforddiant ac eglurder. Mae gweithredu ystyrlon wedi bod yn ddarniog ac mae pwysau'r gwaith yn feichus i staff a orlethwyd eisoes. Wrth gwrs, mae yna rai ysgolion lle mae'r cwricwlwm newydd wedi mynd i lawr yn dda, ac maen nhw'n ffynnu mewn gwirionedd. Nid yw popeth yn ddigalon, ond mae cysondeb yn allweddol iawn yn hyn o beth, Ysgrifennydd Cabinet. Fy mhryder mwyaf i gyda'r cwricwlwm yw bod addysg ein plant yn mynd yn ddibynnol ar god post a dehongliad, yn hytrach na safon genedlaethol gyffredin, ac mae'r pryder hwnnw'n parhau. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, fe hoffwn i wybod beth rydych chi am ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n wir, a bod yr ysgolion yn cael eu cefnogi gyda chysondeb yn y maes hwn, i'r dyfodol. Ac yn fwy pwysig fyth, efallai, sut allwch chi warantu y bydd cwricwlwm yn cau'r bwlch i blant difreintiedig, pan adewir yr ysgolion i'w ddehongli mewn ffyrdd mor wahanol?

Ysgrifennydd Cabinet, mae rhai ysgolion wedi rhybuddio yn flaenorol mai un her a gyflwynodd y cwricwlwm newydd yw'r her o ran asesu cynnydd plant yn gywir. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau yr ymdrinnir â 'r pryderon hyn i'r dyfodol? Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn allweddol yn hyn o beth, Ysgrifennydd Cabinet, ac mae rhybuddion wedi bod yn y gorffennol nad yw un diwrnod o hyfforddiant mewn swydd yn ddigonol ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm. A fydd y Llywodraeth yn archwilio cael diwrnod INSET ychwanegol, neu fwy o ddiwrnodau INSET, mewn gwirionedd, er mwyn cefnogi ein hathrawon?

Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn gwneud tro pedol wrth benderfynu cadw pynciau TGAU ar wahân ar gyfer cemeg, ffiseg a bioleg—rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn ymgyrchu drosto ers amser maith. Ysgrifennydd Cabinet, fe fyddai cynlluniau gwreiddiol y Llywodraeth i greu gwyddoniaeth ddwbl TGAU yn lle hynny wedi diddymu traean yr oriau addysgu ar gyfer pynciau gwyddoniaeth ac wedi peryglu rhoi disgyblion Cymru dan anfantais o gymharu â'u cyfoedion nhw yn Lloegr a'r Alban. Serch hynny, gohiriad dros dro yw hwnnw, am y gwyddom ni fod ymgynghoriad am gynlluniau'r dyfodol yn parhau. Gyda'r farchnad swyddi yn gofyn fwyfwy am sgiliau a gwybodaeth sy'n deillio o bynciau cemeg, ffiseg a bioleg, fe hoffwn i gael gwybod a fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn terfynu'r ymgynghoriad ac yn cadw'r pynciau gwyddoniaeth yn llwyr ar wahân wrth fynd ymlaen. Mae ein myfyrwyr ni'n haeddu sicrwydd.

Roedd un gweithiwr addysg proffesiynol yn dweud wrthyf i, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n ffafrio cwricwlwm pwrpasol ac, mewn egwyddor, mae cwricwlwm newydd Cymru yn rhywbeth da, ond nid yw hi'n ymddangos ei fod wedi ei ystyried na'i gynllunio gyda gofal mawr. Fe geir dryswch ynglŷn ag asesu, ac mae pawb yn gwneud eu pethau eu hunain, a llawer o droeon pedol. Wythnos diwethaf, fe gyhoeddwyd y byddwn ni'n cael parhau nawr â gwyddoniaeth driphlyg, sy'n ardderchog, ond mae hyn ar ôl cael gwybod y bydd yn rhaid i bawb gyflwyno gwyddoniaeth ddwbl. Mae hi'n ymddangos bod cymysgedd fawr o bynciau yn parhau gyda'r hen fanylion, ac eraill gyda manylion newydd; bod rhai grwpiau blwyddyn yn gwneud un peth, ac eraill yn gwneud rhywbeth arall. Y pryder mawr, yn barhaus, yw y bydd pobl ifanc Cymru yn cael eu torri i ffwrdd oddi wrth Loegr a gweddill y byd.' Felly, Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n ymateb i'r pryderon dilys hyn?

Fe hoffwn i dynnu ein sylw at y Rhaglen ar gyfer Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol hefyd ac, Ysgrifennydd Cabinet, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n croesawu eich cadarnhad chi y byddwn ni'n ymuno ag astudiaethau Progress in International Reading Literacy a Trends in International Mathematics and Science. Serch hynny, mae ein canlyniadau PISA yn dal i beri pryder mawr i mi, yn enwedig gan fod adroddiad diweddar wedi rhybuddio bod safonau addysg mewn ysgolion yng Nghymru yn parhau i ostwng, a bod disgwyl i'n canlyniadau PISA ni gwympo yn is na rhai Rwmania erbyn 2040 os bydd y tueddiadau cyfredol yn parhau. Yn bryderus iawn, mae'r disgybl cyfartalog yng Nghymru yn perfformio ar yr un lefel â disgyblion mwyaf difreintiedig Lloegr, sy'n rhywbeth na allaf i ddweud fy mod i'n ymfalchïo ynddo. Felly, pa mor hyderus ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, y bydd y cwricwlwm yn gwella'r sefyllfa?

Yn natganiad y prynhawn yma, roeddech chi'n datgan bod llythrennedd a rhifedd yn un o'ch blaenoriaethau. Mae llythrennedd wedi bod yn bwnc llosg yma yng Nghymru, gyda nifer syfrdanol o uchel o blant yn gadael ysgolion yn weithredol anllythrennog. Mae hyn, fe fyddwn i'n dadlau, yn rhannol am fod Llywodraeth Cymru yn gwthio'r dull hwn o giwiau cyfathrebu mewn ysgolion yng Nghymru, er bod hwnnw wedi cael ei ddiystyru yn eang fel dull o addysgu. Felly, a gaf i ymrwymiad cadarn oddi wrthych chi heddiw na fydd y dull ciwiau hwn yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion yng Nghymru? Fe wyddom ni, ers i Loegr symud i ffwrdd oddi wrth ddull ciwiau yn 2005, fod cyfraddau darllen wedi cynyddu. Mae angen cysondeb a strwythur ar ein pobl ifanc ni, nid arbrawf sy'n peryglu y byddan nhw'n cael eu gadael heb eu paratoi i'r dyfodol. Mae angen cwricwlwm sy'n codi uchelgeisiau, nid un sy'n chwarae mig gyda dyfodol myfyrwyr. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae fy nghwestiwn olaf i'n un syml iawn: a yw'r Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â chodi'r safonau, neu ddim ond gostwng y disgwyliadau? Diolch i chi.

15:00

Diolch, Natasha. Os gallaf ddechrau trwy ddweud nad wyf yn credu bod unrhyw un yn y Siambr hon wedi fy nghlywed i'n llongyfarch fy hun. Rwy'n hapus iawn i longyfarch ein sector addysg am y gwaith caled y mae'n ei wneud. Byddwn i'n fwy parod, mewn gwirionedd, i'ch llongyfarch chi pe baech chi wedi gwrando ar rai o'r pethau a ddywedais yn fy natganiad. Mae'n wirioneddol siomedig eich clywed chi'n rhaffu'r un hen chwedlau yr wyf i wedi'u chwalu dro ar ôl tro yn y Siambr hon.

Felly, rydych chi'n honni eto nad yw'r cwricwlwm newydd yn gwricwlwm sy'n canolbwyntio ar wybodaeth. Hollol anghywir. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar wybodaeth yn ogystal â datblygu sgiliau, ond mae'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r wybodaeth honno mewn ffordd bwrpasol fel bod dysgu yn berthnasol ac ystyrlon i blant a phobl ifanc.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at fathemateg a rhifedd. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb  bod rhifedd yn ogystal â llythrennedd yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth hon, ac, fel rhan o'r grantiau yr wyf eisoes wedi'u cyhoeddi yn y gwanwyn, rydym wedi dyrannu dros £6.6 miliwn o gyllid newydd ar gyfer prosiectau mathemateg a rhifedd i ddarparu cymorth ac arbenigedd mwy cyson ar gyfer addysgu mathemateg ledled Cymru. Mae hynny ynghyd â'r manylion mân y mae athrawon wedi dweud wrthym eu bod nhw'n dymuno eu cael, y dywedais yn fy natganiad y byddwn yn eu hanfon allan i'r sector dros yr hanner tymor.

Rydym yn buddsoddi miliynau a miliynau o bunnoedd ar ddysgu proffesiynol i'n hymarferwyr. Tynnodd darn mawr o fy natganiad sylw at faint o arian yr ydym yn ei fuddsoddi ynddo. Fe wnes i gydnabod y llynedd fod angen mwy o gefnogaeth ar rai ysgolion wrth gyflwyno'r cwricwlwm, gan gynnwys ar faterion asesu a chynnydd. Rwyf newydd ddweud yn fy natganiad bod 200 o ysgolion wedi elwa ar gefnogaeth genedlaethol dylunio cwricwlwm. Rydym yn disgwyl i fwy o ysgolion elwa eleni, a bydd hynny'n parhau i gael ei gyflwyno. Felly, sicrhau bod pob ysgol yn gweithredu'r cwricwlwm yn effeithiol yw'r hyn rydym yn ei wneud trwy'r gwaith hwnnw. Rydym hefyd wedi rhoi grant i'r Drindod Dewi Sant i sicrhau bod arfer da ym maes dylunio cwricwlwm yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Felly, mae rhoi'r dysgu proffesiynol sydd ei angen ar ysgolion ac athrawon i gyflawni'r cwricwlwm yn flaenoriaeth i ni.

Fe wnaethoch chi godi'r mater o ddiwrnodau HMS. Rydych chi'n gywir ein bod ni, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cael un diwrnod HMS ychwanegol i ymdrin â diwygiadau addysgol. Ond mae hynny'n rhan o ystod o ddiwrnodau HMS. Mae diwrnodau HMS eu hunain yn gallu bod yn ddadleuol gyda theuluoedd, ond roeddem eisiau gwneud yn siŵr bod ysgolion yn cael yr amser hwnnw i weithio ar yr hyn yr oedd angen iddyn nhw ei wneud. Ac fel y dywedais i wrth y pwyllgor yr wythnos diwethaf, byddwn yn gwerthuso'r defnydd o HMS. Ond, fel rhan o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud ar y cynllun gweithlu strategol, rydym eisiau edrych ar sut y gallwn roi mwy o le i'n gweithlu ysgol i sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddatblygu.

Os gallaf droi at yr hyn a ddisgrifiwyd gennych fel fy 'nhro pedol' o ran gwyddoniaeth driphlyg, a dim ond atgoffa'r Aelod bod penderfyniadau ar gymwysterau yn cael eu gwneud gan Cymwysterau Cymru fel ein rheoleiddiwr annibynnol—er fy mod yn cefnogi'n fawr y penderfyniad y maen nhw wedi'i wneud i edrych eto ar y mater hwn ymhen tair blynedd. Mae llawer o ysgolion eisoes yn cynnig gwobr ddwbl mewn gwyddoniaeth. Bydd y dyfarniad hwnnw'n parhau i gael ei symud ymlaen, ond bydd gan ysgolion hefyd yr opsiwn i barhau i gymryd gwyddoniaeth unigol nes bod gennym y cymhwyster pellach hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn iawn fod Cymwysterau Cymru wedi gwrando ar y pryderon sydd wedi'u codi gan y sector ar hyn, ond os gallaf ddweud hefyd fod gan y dyfarniad gwyddoniaeth ddwbl gynnwys a fydd yn cefnogi yn rhwydd cynnydd i Safon Uwch. Ac, fel y dywedais i, mae llawer o ysgolion eisoes yn cynnig y dyfarniad dwbl, yn hytrach na gwyddoniaeth sengl.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at PISA, ac mae ysgolion yn gwneud PISA ar hyn o bryd. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael mwy o ysgolion yn cofrestru eleni, sy'n gadarnhaol iawn, a diolch am eich croeso i'n cyfranogiad yn TIMMS a PIRLS. Yna aethoch ymlaen i gysylltu canlyniadau PISA â'r adroddiad—'Devolved to Fail', rwy'n credu eich bod chi'n sôn amdano—a ysgrifennwyd gan Onward, sy'n felin drafod de-canol ar ei haddefiad ei hun sydd wedi'i chynllunio i hyrwyddo ceidwadaeth, ac mae'r rhagair i'r adroddiad hwnnw wedi'i ysgrifennu gan yr arbenigwr addysgol adnabyddus hwnnw, Mims Davies AS. [Chwerthin.] Felly, rwy'n credu y gallwn ni weld o hynny pa mor gadarn yw'r awdurdod hwnnw ar addysg Cymru. Ac nid oedd y myfyrwyr a wnaeth PISA y tro diwethaf, sef yr hyn maen nhw'n seilio eu data arno, erioed wedi cael eu haddysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru, felly nid yw'n bosibl cysylltu hynny â'r Cwricwlwm i Gymru.

Rwy'n siomedig eich bod chi'n rhaffu'r un hen chwedlau am anllythrennedd gweithredol, oherwydd mae hynny'n seiliedig ar hen adroddiadau Estyn, dros nifer o flynyddoedd, gyda sampl fach iawn. Rydym wedi bod yn glir, fel Llywodraeth, bod gwella safonau llythrennedd yn brif flaenoriaeth i ni. Rydym yn gwneud cynnydd gyda hynny, fel y gwelsom yn y canlyniadau asesu personol eleni.

O ran ffoneg a chiwiau, rydw i eisoes wedi dweud ein bod yn disgwyl i ffoneg gael ei addysgu mewn ysgolion. Mae ein canllawiau yn glir: rhaid dysgu dysgwyr i ddatgodio geiriau anhysbys trwy addysgu ffoneg systematig. Rydw i wedi cymryd camau i atgyfnerthu hynny gyda'r sector. Mae hynny wedi cynnwys diwygio'r canllawiau statudol i wneud hyn yn glir, datblygu pecyn cymorth newydd ar Hwb, gydag astudiaethau achos. Mae ein grant llythrennedd newydd yn canolbwyntio'n benodol ar ddysgu proffesiynol ar gyfer dewis a defnyddio pecynnau ffoneg. Ac, wrth gwrs, mae Estyn hefyd wedi bod yn glir eu bod yn disgwyl gweld ffoneg yn cael ei dysgu, ac y byddent yn dweud wrthym os nad oeddent yn gwneud hynny. Mae Estyn hefyd wedi dweud nad yw eu pryderon yn ymwneud ag addysgu llythrennedd cynnar yn yr ystyr hwnnw; mae'n ymwneud â datblygu sgiliau darllen lefel uwch. Eu prif bryderon yw datblygu sgiliau darllen lefel uwch a'r trawsnewidiad hwnnw o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Ac i fod yn glir unwaith eto i chi, Natasha, nid yw'r Cwricwlwm i Gymru yn annog addysgu ciwiau lluniau er mwyn datgodio geiriau.

Ac rwy'n hapus iawn i roi fy sicrwydd i chi—nid wyf yn siŵr beth arall fyddai'r Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud ag ef heblaw am godi safonau a sicrhau y gallwn gyflawni'r gorau i'n plant a'n pobl ifanc. Rydym yn bwriadu gwneud hynny drwy'r Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb ein holl bobl ifanc ac yn sicrhau y gallant i gyd symud ymlaen i fod y gorau y gallant fod.

15:05

Diolch ichi am y datganiad. Mae Plaid Cymru wedi cefnogi cwricwlwm sydd wedi'i wneud yng Nghymru ar gyfer Cymru ers amser maith. Efallai ei bod hi'n briodol, wrth i'r cwricwlwm barhau i gael ei gyflwyno, ein bod ni'n myfyrio, yn gynnar yn ei oes, ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a lle mae angen gwelliannau. Fel rŷn ni wedi clywed yn barod, mae'r canlyniadau PISA isaf erioed wedi tanlinellu'r angen brys i godi safonau addysg, ac rwyf wedi gwrando yn ofalus ar yr atebion rŷch chi wedi eu rhoi i gwestiynau Natasha Asghar. Er y gall fod yn rhy gynnar i asesu effaith lawn y cwricwlwm newydd ar ganlyniadau'r dyfodol, ni ddylai hynny fod yn esgus dros oedi neu fod yn hunanfodlon.

Y llynedd, fe ymrwymoch chi i ymgynghori ar fframwaith llythrennedd a rhifedd diwygiedig. Oes modd cadarnhau a yw'r ymgynghoriad hwnnw wedi dod i ben, a beth oedd y canlyniadau? Nawr, fe glywais i chi yn dweud yn y datganiad bod rhannau o'r manylion am fathemateg a rhifedd yn cael eu cyhoeddi hanner tymor. Beth sydd wedi digwydd i'r manylion eraill? Pryd mae'r rheini'n dod? A does yna ddim sôn am ganlyniadau llythrennedd yn eich datganiad chi ar y pwynt yna.

Felly, rŷn ni'n gwybod bod gwella llythrennedd yn ganolog i ddiwygio'r cwricwlwm. Rŷch chi wedi cyfeirio at hynny yn barod. Mae ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol, y National Literacy Trust, yn dangos does gan un o bob pedwar ysgol gynradd yng Nghymru ddim llyfrgell. Felly, mae Plaid Cymru wedi addo gwarantu y bydd pob ysgol gynradd â gofod llyfrgell erbyn 2030, wrth inni gydnabod rôl hanfodol llyfrgelloedd i feithrin darllen, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig. Mae'r addewid hwn yn ymateb yn uniongyrchol i'r sgôr darllen isaf erioed yn asesiad PISA yn 2022, a chanfyddiad Estyn bod angen i dros 30 y cant o ysgolion cynradd wella sut maen nhw'n cynllunio datblygiad llythrennedd. Felly, rhaid i fynediad at fannau darllen o ansawdd uchel fod yn ganolog i'r cwricwlwm newydd.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n cytuno y dylai sicrhau bod gan bob ysgol gynradd lyfrgell fod yn rhan greiddiol o wella canlyniadau llythrennedd? Ac a fyddwch chi'n ymrwymo, fel mae Plaid Cymru wedi gwneud, i ymgorffori hyn wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd?

Wrth i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno, mae'n rhaid i ddiwygio cymwysterau ddatblygu ar yr un cyflymder. Mae'r penderfyniad i gadw gwyddoniaeth driphlyg TGAU tan 2028, gyda diwygio'n llawn wedi'i ohirio tan 2031, wedi ysgogi pryderon gan y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Nawr, mae hyn yn peryglu creu annhegwch rhwng ysgolion sy'n cynnig gwahanol lwybrau gwyddoniaeth, ac yn golygu y gall carfannau lluosog, o bosibl yn rhychwantu dros ddegawd, fod ar eu colled o ran addysg wyddoniaeth fwy cynhwysol a modern. Felly, pa effaith ydych chi'n disgwyl y bydd yr oedi hwn yn ei chael ar gyfle teg rhwng dysgwyr mewn ysgolion, a pha neges y mae hyn yn ei anfon am werth y cymhwyster newydd?

Nawr, mae adroddiad blynyddol Estyn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod ysgolion yn cael trafferth datblygu dealltwriaeth a rennir o gynnydd—fe gyfeirioch chi at hyn yn eich datganiad—ond mae arweinwyr wedi galw am ganllawiau cenedlaethol cliriach ar sut olwg sydd ar y cynnydd disgwyliedig ar wahanol gamau. Er bod y fframwaith presennol yn cynnwys camau cynnydd, mae llawer o athrawon yn eu gweld yn rhy eang i gefnogi asesiad cyson. Felly, a ydych chi'n derbyn yr angen i ailedrych ar sut mae cynnydd disgyblion yn cael ei feincnodi, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd, er mwyn sicrhau eglurder cenedlaethol, cydlyniant a safonau uchel?

Ac yn olaf, tybed a ydych chi'n ymwybodol, cyn yr haf, bod Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi ei adolygiad cwricwlwm strategol, gan bwysleisio pwysigrwydd dull sy'n llawn gwybodaeth. Unwaith eto, rwy'n credu eich bod wedi crybwyll hyn. Mae awdur yr adroddiad, Lucy Crehan, wedi annog myfyrio yma hefyd. Mae hi'n argymell ailedrych ar rôl gwybodaeth, a mapio cynnydd disgyblaethol ochr yn ochr â disgrifiadau o ddysgu i gefnogi datblygiad proffesiynol penodol i bwnc. Felly, yng ngoleuni'r ailasesiadau sy'n cael eu gwneud yn yr Alban a Seland Newydd, dwy genedl fel Cymru, a fyddwch chi'n ystyried ailwerthuso rôl gwybodaeth i wella safonau? Diolch.

15:15

Diolch yn fawr iawn, Cefin, am y pwyntiau yna. Mae'n wych clywed eich cefnogaeth barhaus i'r Cwricwlwm i Gymru, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi na ddylai hynny ein rhwystro rhag edrych ar yr hyn y gallem ei wneud yn well, ac nid wyf mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon ynghylch hynny. Fel y dywedais i wrth Natasha, mae ysgolion yn gwneud PISA ar hyn o bryd. Bydd gennym y set newydd o ganlyniadau PISA, a fydd yn ein galluogi i weld sut mae pethau'n mynd i'r grŵp oedran hwnnw, ond rydym hefyd wedi cymryd ystod o gamau i wneud yn siŵr y gallwn wirio cynnydd ar draws meysydd eraill.

Mae pob plentyn ym mlynyddoedd 4 i 9 yn cael asesiadau personol mewn rhifedd, llythrennedd a'u Cymraeg, os ydynt yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y dywedais i yn y datganiad, dangosodd y canlyniadau diweddaraf a gawsom, a gyhoeddwyd yn y gwanwyn, rywfaint o welliant. Rydym ni'n bwriadu gneud mwy o waith ar y rheini, fodd bynnag, oherwydd ar hyn o bryd, mae'r canlyniadau hynny yn cael eu dal gan ysgolion. Mae rhai o'r ysgolion yn rhannu'r rheini gydag awdurdodau lleol. Rydym ni'n cael darlun cenedlaethol fel Llywodraeth, ond yr hyn rydw i'n awyddus i'w wneud yw cael mwy o wybodaeth fel y gallwn olrhain cynnydd disgyblion. Felly, un o'r pethau rydw i wedi dweud ein bod yn edrych arno—sy'n mynd ymlaen i'r pwynt a wnaethoch yn nes ymlaen—yw cysylltu'r asesiadau hynny, sy'n asesiadau ffurfiannol, i gysylltu â disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran, fel y gallwn gael darlun llawer mwy trylwyr o sut mae plant yn llwyddo.

O ran cynnydd ar draws y cwricwlwm, rydym hefyd yn datblygu ein dull o samplu cenedlaethol. Roedd hynny'n rhywbeth rydym ni wedi bod yn gweithio arno ers tro, ond oherwydd ein bod wedi gwneud y penderfyniad i fynd i mewn i TIMSS a PIRLS, a fydd hefyd yn rhoi ffynhonnell gyfoethog o ddata i ni, rydym yn edrych ar sut mae angen i ni addasu hynny nawr.

Rwy'n cydnabod yr heriau gyda dylunio, cynnydd ac asesu'r cwricwlwm, a dyna pam rydym wedi buddsoddi cymaint yn y rhaglen gymorth genedlaethol i helpu ysgolion gyda'r meysydd hynny. Mae'r athrawon sydd wedi ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw wedi ei werthfawrogi'n fawr ac rydym yn parhau i gyflwyno hynny yn barhaus.

Fe wnaethoch chi sôn am y fframwaith llythrennedd a rhifedd. Fel y dywedais i yn y datganiad—rwy'n credu ei fod yn y datganiad a wnes i yn yr haf beth bynnag—gwnaethom benderfyniad i ohirio mynd i ymgynghoriad ar y fframwaith llythrennedd a rhifedd, oherwydd dywedodd ymarferwyr wrthym yr hyn yr oeddent ei eisiau mewn gwirionedd oedd mwy o fanylion ar gyfer dysgu proffesiynol ar gyfer y ddau faes hynny. Felly, rydym wedi blaenoriaethu datblygiad hynny. Rydym wedi gweithio'n agos gydag Estyn arno, ac fel y dywedais i, byddwn yn mynd allan at y gwaith rhifedd tua hanner tymor, a byddwn yn mynd ymlaen yn ddiweddarach wedyn at y fframwaith llythrennedd. Rwy'n gobeithio y bydd gennym fframwaith llythrennedd a rhifedd statudol newydd ar waith yn y gwanwyn, y flwyddyn nesaf. Ond roedd yn bwysig gwrando ar weithwyr proffesiynol a darparu'r gefnogaeth y dywedon nhw wrthym ni eu bod ei hangen.

Diolch am eich sylwadau am lyfrgelloedd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gan yr holl ysgolion rydw i wedi bod ynddyn nhw lyfrgelloedd. Mae'n debyg, gyda'n hadeiladau newydd, bod llawer mwy o hyblygrwydd; nid oes angen i lyfrgell fod yn un ystafell sengl yn unig y mae plant yn mynd i mewn iddi nac oes? Y dyddiau hyn, rydym yn dylunio ysgolion gyda choridorau eang iawn a mannau cyffredin, ac rydw i wedi gweld llawer o ddarpariaeth llyfrgell yn y mannau hynny. Rwy'n credu mai'r peth pwysig yma yw bod gan bob plentyn yn yr ysgol fynediad at lyfrau, a bod y llyfrau hynny'n ddiddorol ac yn berthnasol i blant â diddordebau gwahanol. Mae plant yn unigolion ac mae angen iddynt gael mynediad at bethau sy'n mynd i danio eu dychymyg.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r adolygiad cwricwlwm yng Ngogledd Iwerddon, ac rydw i wedi cwrdd â Lucy Crehan sawl gwaith, ac fe wnes i gwrdd â hi ychydig ar ôl iddi gwblhau'r gwaith ar adolygiad cwricwlwm Gogledd Iwerddon. Fe wnes i hefyd gyfarfod â Gweinidog Addysg Seland Newydd pan oeddwn yn nigwyddiad Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yng Ngwlad yr Iâ. Dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i Natasha, a soniodd am gwricwlwm yr Alban, ein bod yn awyddus iawn fel Llywodraeth i osgoi gwneud y camgymeriadau y gallen nhw fod wedi'u gwneud mewn mannau eraill, ac mae hynny'n golygu cael y cyswllt hwnnw â gwledydd eraill. Rydym ni hefyd mewn cysylltiad â'r Albanwyr. Fel y dywedais i, rydyn ni wedi cymryd rhywfaint o gyngor gan Lywodraeth Seland Newydd. Nawr, maen nhw wedi troi i'r cyfeiriad arall yn llwyr, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y byddai peryglon gyda hynny, ond rydym ni'n cael y sgyrsiau hynny.

Byddwn yn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Natasha: mae gwybodaeth yn rhan allweddol. Gallwch weld hynny. Rydym ni'n disgwyl i blant a phobl ifanc ddysgu trwy'r cwricwlwm, ond rydym eisiau iddyn nhw wneud y dysgu hwnnw mewn ffordd sy'n bwrpasol ac yn berthnasol i'w bywydau nhw.

Yna fe wnaethoch chi ddweud rhywbeth am degwch mewn rhywbeth, ond rwy'n cael trafferth gyda fy llawysgrifen, byddaf yn onest ynghylch hynny. Ond gobeithio bod hyn yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud ynghylch cynnydd. Rydym eisiau i bawb gael cynnig o ansawdd uchel iawn drwy'r Cwricwlwm i Gymru, a dyna pam rydym yn rhoi cymaint o wiriadau ar waith, yr wyf wedi sôn amdanynt. Rydym hefyd yn datblygu fframwaith gwybodaeth hawliau dysgu newydd a fydd yn ein galluogi i weld ar olwg sut mae ysgolion yn gwneud. Nid yw hynny'n ymwneud ag atebolrwydd llawn risgiau; mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod gennym yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i ysgogi cynnydd.

15:20

Diolch am eich datganiad. Mae ein plant yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd ac mae angen ystod eang o ysgolion, ac rwy'n credu bod hyn yn helpu i ddatblygu. Rydw i wedi clywed, os nad yw plentyn yn cysylltu â natur cyn 12 oed, efallai na fydd yn gwneud hynny fel oedolyn. Ar ben hynny, siaradais yn ddiweddar â seiciatrydd clinigol a ddywedodd wrthyf, yn 13 oed, y gall pobl ifanc ddatgysylltu wrth iddynt gael eu perswadio gan atyniadau a difyrion eraill. Mae natur yn dda i iechyd corfforol a meddyliol a llesiant, ac mae bodau dynol yn rhan o'r ecosystem naturiol. Mae'r cysylltiad hwnnw wedi torri mewn llawer o fywyd modern.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r cymhwyster astudiaethau natur yn cael ei gyflwyno yn Lloegr ym mis Medi. Mae wedi'i gynllunio i feithrin dealltwriaeth ddyfnach a chysylltiad â byd natur trwy arsylwi a gwaith maes. Rwy'n falch bod y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn pwysleisio cysylltu â natur trwy integreiddio dysgu yn yr awyr agored, gan feithrin empathi tuag at yr amgylchedd. Ond a yw hyn yn cael ei gynnal trwy addysg yn yr arddegau? A oes posibilrwydd o gyflwyno'r cymhwyster astudiaethau natur yng Nghymru? Ond clywais yr hyn a ddywedoch yn gynharach am sut y byddai'n rhaid i Cymwysterau Cymru gyflwyno hyn. Diolch.

Diolch, Carolyn. Rwy'n gwybod bod hwn yn rhywbeth rydych chi'n angerddol iawn amdano, oherwydd rydych chi wedi codi dysgu yn yr awyr agored gyda mi o'r blaen, ac mae'n hollol hanfodol i'n plant a'n pobl ifanc. Dyna pam mae'r cwricwlwm yn glir y dylid ei ymgorffori drwy gydol taith dysgwr mewn ystod eang o brofiadau dilys ar y ffordd drwy'r ysgol. Mae wedi'i gynnwys ym meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau, iechyd a llesiant, gwyddoniaeth a thechnoleg yn y Cwricwlwm i Gymru, y mae'n rhaid i bob ysgol ei ystyried.

O ran y cymhwyster yn Lloegr, rwy'n deall bod hynny'n cael ei ddatblygu gan fwrdd addysg prifysgol Caergrawnt. Yn amlwg, ymgynghorodd Cymwysterau Cymru yn eang iawn ar y gyfres newydd o gymwysterau, ac maen nhw'n dweud wrthyf nad oedd neb wedi codi'r cymhwyster newydd hwnnw yn Lloegr. Ond rwy'n hapus iawn i gadw llygad ar sut mae pethau'n mynd. Rydym yn edrych dros y ffin i weld beth yw'r cyfleoedd. Ond dim ond i'ch sicrhau bod cael eich cyflwyno i natur a dysgu yn yr awyr agored yn rhan hollol hanfodol o'r Cwricwlwm i Gymru.

Diolch am y datganiad. Dwi eisiau holi'n benodol am un mater, sef hanes Cymru. Mi oeddwn i yn falch iawn fod y Llywodraeth o'r diwedd wedi gwneud dysgu hanes ein gwlad yn fater statudol o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Ond, mae hanesydd uchel ei barch, Dr Huw Griffiths, yn credu bod y TGAU hanes newydd wedi colli cyfle, gan fod diffyg ffocws ynddo fo ar hanes Cymru. O edrych ar y fanyleb, un uned yn unig sy'n ymwneud â hanes Cymru. Felly, beth ydy'ch asesiad chi o'r TGAU hanes sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Gymwysterau Cymru, a fydd yn cael ei addysgu o 2026 a'i ddyfarnu yn 2028? A fyddwch chi'n cymryd unrhyw gamau i sicrhau bod hanes toreithiog, amrywiol ein gwlad ni yn cael lle teilwng ar draws holl unedau'r TGAU hanes newydd?

15:25

Diolch, Siân. Mae gan hanes Cymru le unigryw yn y cwricwlwm, ac mae'n hanfodol cefnogi dealltwriaeth wirioneddol o berthyn, hunaniaeth a lle dysgwyr yng Nghymru a'r byd. Yn hanes newydd TGAU, mae uned benodol o hanes Cymru sy'n cynrychioli 30 y cant o'r cymhwyster, lle mae dysgwyr yn cael cyfle i archwilio pwnc hanes Cymru yn fanwl, naill ai'r cyfnod canoloesol, modern cynnar neu fodern. Ar hyn o bryd mae Adnodd yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu adnoddau addysgu diddorol, hygyrch a dwyieithog ar gyfer hanes Cymru, gyda chefnogaeth dysgu proffesiynol. Byddwch yn ymwybodol eu bod nhw, fel rhan o'r gwaith hwnnw, yn edrych ar linell amser hanes Cymru, a oedd yn rhywbeth a gafodd ei ddatblygu o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio. Ond byddwch hefyd yn ymwybodol bod y cysyniad o gynefin yn rhan hanfodol o'r Cwricwlwm i Gymru, a bod angen i bob dysgwr brofi a dysgu am y cynefin hwnnw, o ble maen nhw wedi dod. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd straeon lleol a chenedlaethol, a'r rôl y maen nhw yn eu chwarae yn ein hunaniaeth.

Mae cynefin yn bwysig iawn ar yr adeg anodd iawn hon. Rwyf am eich llongyfarch chi, Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd rwy'n credu bod eich arweinyddiaeth wedi bod yn wych, yn ogystal ag arweinyddiaeth yr holl athrawon ac uwch dimau arweinyddiaeth sydd wedi llwyddo i ymgorffori'r cwricwlwm newydd yn yr hyn sy'n ddatblygiad cyffrous iawn, oherwydd mae'n galluogi athrawon i ddefnyddio eu sgiliau addysgegol i addasu'r cynlluniau gwersi ar gyfer y plant sydd o'u blaenau, nid rhyw ddisgybl cyffredin chwedlonol sydd mewn rhyw sefydliad yn rhywle. Mae'n ddatblygiad mor bwysig.

Rwyf eisiau dweud bod llythrennedd bwyd yn hanfodol i helpu pobl ifanc i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol; mae hefyd yn offeryn pwerus iawn ar gyfer addysgu mathemateg, yn ogystal â gwyddoniaeth. Mae angen i ni wybod o ble mae bwyd yn dod, beth yw'r gost amgylcheddol, a sut y gallwn ddatblygu prydau blasus heb orfod gwario ffortiwn. Felly, ymchwiliodd plant sir Fynwy i ddewisiadau amgen yn lle cyri cyw iâr Thai, ac erbyn hyn mae ganddyn nhw gyri ffacbys ar y fwydlen yn sir Fynwy. Clwb Cookalong yn sir Fynwy a datblygiadau Simon Wright yn sir Gaerfyrddin—

—yn hynod o bwysig. Mae ysgolion Springwood a Bryn Celyn yn Llanedern a Phentwyn wedi datblygu eu gerddi i fod yn adnoddau ar gyfer dysgu a helpu plant i dyfu bwyd, ac i'w hannog i flasu bwydydd newydd na fyddent yn gwybod amdanynt fel arall. Ond nid pob un—

Nid yw athrawon gwych o reidrwydd yn gwybod am arddio na choginio. Felly, rhai o'r mentrau rhagorol sy'n digwydd mewn rhai ysgolion, sut allwn ni gyflwyno hynny i bob ysgol, o ystyried bod hwn yn angen cyffredinol?

Diolch yn fawr iawn, Jenny, am y geiriau caredig yna. Rydych chi'n iawn pan fyddwch chi'n dweud mai cryfder y cwricwlwm yw ei fod yn canolbwyntio ar ddysgwr, ynte, a dyna sy'n dod â photensial y cwricwlwm ymlaen mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod pa mor angerddol ydych chi am fwyd a maeth, felly diolch am godi hynny. Fel y gwyddoch chi, mae hon yn rhan allweddol o'r maes dysgu iechyd a llesiant, ac mae hynny'n cynnwys dysgu am ymddygiadau sy'n hyrwyddo iechyd, fel maeth, deiet cytbwys a chynllunio a pharatoi prydau maethlon sylfaenol. Mae'n wych clywed yr enghreifftiau hynny rydych chi wedi'u rhoi o arfer cadarnhaol iawn, ond rwy'n cydnabod nad yw hynny'n digwydd ym mhobman. Un o'r pethau rydym ni wedi'u gwneud yw gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar becyn cymorth bwyd a maeth. Cyhoeddwyd hwnnw yn gynharach eleni. Mae hwnnw'n rhan o gyfres o adnoddau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi ysgolion a lleoliadau gyda'r cwricwlwm iechyd a llesiant, a gobeithio y bydd yn helpu gyda'r pryderon hynny rydych chi wedi'u codi.

15:30
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diwygio'r Contract Deintyddol: Y Camau Nesaf

Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddiwygio'r contract deintyddol, y camau nesaf. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n chwe mis ers inni osod ein cynigion gerbron Aelodau i wneud diwygiadau radical i'r contract deintyddol presennol. Mae'r cynigion hyn, a gafodd eu negodi'n ofalus gyda'r proffesiwn deintyddol a'r NHS, yn rhan sylfaenol o'n huchelgais ni i wella iechyd y geg a sicrhau bod mwy o bobl yn cael mynediad haws a rheolaidd at ofal deintyddol fforddiadwy.

Nid yw'r contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol fel y mae e ar hyn o bryd yn cefnogi'r lefel o fynediad, tegwch a chynaliadwyedd y mae'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn gofyn amdani. Nid yw angen ac atal yn cael blaenoriaeth. Yn hytrach, mae deintyddion yn cael eu talu i aros mewn cylch di-ben-draw o weithgarwch, yn galw pobl bob chwe mis beth bynnag yw eu sefyllfa o ran arwyddion o glefyd neu broblemau iechyd y geg. Canlyniad hyn yw nad oes digon o apwyntiadau i bobl ag anghenion gwirioneddol, sy'n golygu bod gormod o bobl yn wynebu her wrth geisio cael apwyntiad NHS. Ar ben hyn, mae'n gyrru deintyddion i ffwrdd oddi wrth yr NHS. Rwy'n clywed ac yn cydnabod y rhwystredigaeth wirioneddol o du'r cyhoedd a'r proffesiwn. Mae gwir angen newid, a hynny ar fyrder.

Rydym ni wedi bod yn gweithio ar ddiwygio'r contract deintyddol ers 2018. Ar ôl blynyddoedd o fuddsoddi yn y gwaith paratoi, gan gynnwys amrywiad i'r contract ar ôl y pandemig, dyma'r amser i gyflwyno newid arwyddocaol—y newid mwyaf arwyddocaol mewn dau ddegawd. Bydd y contract newydd, a fydd yn dod i rym fis Ebrill nesaf, yn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau deintyddol yn cael eu darparu ar draws Cymru. Bydd yn rhoi terfyn ar adalw awtomatig bob chwe mis, ac, yn lle hynny, bydd pobl yn cael eu gweld yn unol â'u hanghenion a'u risgiau o ran iechyd y geg. Bydd mwy o bwyslais ar atal. Bydd y contract newydd yn creu system dalu newydd sydd yn decach i ddeintyddion. I fod yn glir, nid arbed arian yw'r nod, ond buddsoddi yn neintyddiaeth yr NHS.

Bydd system newydd, decach o ffioedd cleifion i'r rhai sy'n talu am driniaeth y GIG. Byddwn yn cadw'r system bresennol o eithriadau, sy'n golygu y bydd tua hanner y bobl yn derbyn gofal deintyddol y GIG i gyd am ddim.

Dirprwy Lywydd, gofynnon ni i'r cyhoedd a'r proffesiwn beth oedden nhw'n ei feddwl o'r cynigion hyn, mewn ymgynghoriad rhwng mis Mawrth a Mehefin. Cawsom fwy na 6,400 o ymatebion, sy'n dangos pa mor bwysig yw deintyddiaeth y GIG. Rwy'n cyhoeddi canfyddiadau'r ymgynghoriad heddiw. Roedd yr ymatebion yn cefnogi'r angen am ddiwygio, yn enwedig ymhlith gweithwyr deintyddol proffesiynol. Ond roedd pryder am rai elfennau o'r cynigion, yn enwedig mewn perthynas â pharhad gofal.

Rydym wedi clywed faint mae pobl yn gwerthfawrogi'r ymddiriedaeth a'r sicrwydd sy'n dod o weld yr un gweithiwr deintyddol proffesiynol dros amser, ac rydym wedi gwneud newidiadau i adlewyrchu hyn. Mae hyn yn golygu na fydd pobl sydd ag iechyd y geg da yn cael eu cyfeirio yn ôl i'r porth mynediad deintyddol. Yn lle hynny, byddwn yn cyflwyno taliad sefydlog fesul claf newydd i ganiatáu i bractisau barhau i weld y cleifion hyn, er y byddant ar gyfnodau adalw hirach. Mae hyn yn rhoi diogelwch i bobl y byddant yn cynnal eu perthynas â'u deintydd, ac yn rhoi rhyddid i ddeintyddion fonitro eu hiechyd y geg yn seiliedig ar risg ac angen.

Bydd y contract newydd hefyd yn gwneud taliadau deintyddol yn symlach ac yn decach. I'r rhai sy'n talu—dyna tua hanner y cleifion—bydd cyfraniad clir, cyson tuag at gost gofal deintyddol, gydag uchafswm cyfraniad wedi'i gapio, ni waeth faint o driniaeth sydd ei angen arnynt. Mae'r ffioedd cleifion wedi cael eu gostwng o'r 55 y cant yn y cynigion ymgynghori i 50 y cant o werth y pecyn gofal. Rydym hefyd yn gohirio cyflwyno system dalu ar-lein tan Ebrill 2027, yn seiliedig ar yr adborth o'r ymgynghoriad.

Byddwn yn cynyddu'r taliadau a wneir gan y GIG i ddeintyddion. Bydd y gyfradd ffioedd gyffredinol yn cael ei gosod ar £150 yr awr, o'i gymharu â'r £135 yr awr arfaethedig. Mae hyn yn adlewyrchu ein nod o sicrhau bod y tîm deintyddol yn cael ei dalu'n deg am y gwaith maen nhw'n ei wneud, gan wneud deintyddiaeth y GIG yn yrfa fwy deniadol a chynaliadwy. Ni fyddwn yn bwrw ymlaen â chynigion i gapio taliadau absenoldeb rhiant na chael gwared ar daliadau hynafedd ar hyn o bryd.

Mae'n hanfodol bwysig bod gweithwyr deintyddol proffesiynol yn ymwneud â chynllunio lleol ac integreiddio gwasanaethau, a dyna pam mae'r contract newydd yn cefnogi ffocws o'r newydd ar gynnwys deintyddion mewn datblygu clystyrau cyflym. Ar hyn o bryd, mae deintyddiaeth yn teimlo fel ei bod yn cael ei darparu heb ymwneud ag eraill ac yn ynysig, ond, trwy ariannu cydweithredu proffesiynol ar draws practisau a phroffesiynau, gallwn gynnwys timau deintyddol wrth i ni ddiwygio'r GIG yn ehangach. Byddwn yn cynyddu gwerth haenen uchaf y contract blynyddol i £1,200 i gefnogi cyfranogiad mewn datblygiad clwstwr cyflym. Mae hyn yn alinio deintyddiaeth yn agosach â chontractwyr gofal sylfaenol eraill.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau i ddeintyddiaeth y GIG ddarparu mynediad cyfartal i bob claf, gan gynnwys y rhai a allai fod angen cymorth ychwanegol. Byddwn yn datblygu llwybr anghenion sylweddol a byddwn yn gweithio gyda'r GIG a'r proffesiwn deintyddol dros y misoedd nesaf i ddiffinio pwy sy'n gymwys a sut a ble y bydd gofal yn cael ei ddarparu. Byddwn hefyd yn datblygu model comisiynu sy'n ymarferol ac yn effeithiol.

Mae'r diwygiadau hyn yn ymwneud â phobl, nid dim ond contractau a systemau. Mae'r contract deintyddol newydd yn ymwneud â sicrhau bod pob person yng Nghymru, ni waeth beth fo'i gefndir neu ei god post, yn gallu cael y gofal y mae ei angen arno, pan fydd ei angen. Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad, oherwydd eu bod wedi helpu i lunio'r contract newydd ac, felly, dyfodol deintyddiaeth y GIG. Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen i wella ein hiechyd y geg ac i sicrhau bod pawb sydd eisiau deintyddiaeth y GIG yn gallu cael mynediad ato.

15:35

Mae 10 o Aelodau eisiau gofyn cwestiynau ar y datganiad hwn. Cawn ni weld sut mae amser yn mynd. James Evans. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym wedi cael dros 6,500 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae hynny'n nifer enfawr ar gyfer gwasanaeth technegol fel deintyddiaeth, ac mae'n dangos pa mor ddwfn mae pobl yn poeni am y gwasanaeth hwnnw. Mae cleifion eisiau parhad ac mae deintyddion eisiau i atal gael ei brisio'n iawn, ac mae pawb eisiau contract sy'n gweithio yn ymarferol, nid dim ond ar bapur. Ond mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn ymestyn cyfnodau adalw i 24 mis ac yn gadael bylchau mawr mewn eglurder ynghylch cyllid, mynediad ac atebolrwydd.

Parhad gofal yw fy mhryder cyntaf. Yn wreiddiol, roedd y Llywodraeth eisiau tynnu cleifion gwyrdd oddi ar restrau practis a'u gwthio i system ganolog. Mae'r cynllun hwnnw wedi cael ei ollwng, ac yn iawn felly, oherwydd dyna beth roedd pobl yn ei ddweud wrthym ar draws Cymru. Ond beth yw'r sicrwydd yn y contract y bydd pobl yn dal i allu gweld yr un deintydd? Pa fesurau diogelu fydd ar gyfer cleifion hŷn, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, a'r rhai heb drafnidiaeth a gyda rhwystrau digidol a allai fel arall lithro trwy'r rhwyd yn y polisi hwn?

Yna mae'r mater o brisio cymhlethdod. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi bod yn glir bod gwaith adferol, dannedd gosod ac endodonteg yn parhau i gael eu tanbrisio. O dan y model newydd, os yw'r Llywodraeth yn hyderus y bydd hyn yn gweithio, oni fyddwch yn awr yn cyhoeddi'r atodlen lawn o ffioedd fel y gallwn weld yn union sut y bydd deintyddion yn cael eu talu'n deg am ofal syml, cymedrol a chymhleth? Oherwydd os nad yw cymhlethdod yn cael ei wobrwyo, bydd mwy o ddeintyddion yn cerdded i ffwrdd o gontractau'r GIG a bydd cleifion yn talu'r pris gyda'u hiechyd y geg.

Mae atal i fod wrth wraidd y diwygiad hwn, ond sut bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei fesur? A fyddwn ni'n cyfrif nifer yr apwyntiadau, neu a fydd Gweinidogion yn ymrwymo i olrhain canlyniadau fel y cyfraddau pydru, nifer yr achosion o dynnu dannedd a phresenoldeb brys, ac, yn hollbwysig, canfod canser y geg? A fydd y Senedd yn derbyn adroddiadau rheolaidd gan yr Ysgrifennydd Cabinet er mwyn i ni allu barnu a yw atal yn gweithio mewn gwirionedd, neu ai elfen arall lle rydych chi'n dweud, 'Rydym yn mynd i gyflawni', ond nid yw byth yn cael ei wireddu yn y diwedd?

Mae mynediad yn bryder arall. Dywedwyd wrthym y byddai porth digidol newydd i reoli mynediad i ddeintyddiaeth y GIG. Ond beth am y miloedd hynny o bobl ledled Cymru sydd wedi'u heithrio'n ddigidol? Beth am y bobl hŷn nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau ar-lein neu gymunedau lle mae cysylltedd yn wael? Mae'r comisiynydd pobl hŷn eisoes wedi codi pryderon yma. Felly, a fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwarantu bod llwybr nad yw'n ddigidol i ofal yno—un sy'n cael ei ariannu, ei hyrwyddo a'i fonitro yn briodol?

Yn olaf, y gweithlu. Mae deintyddion eisoes wedi'u gorymestyn ac wedi blino'n lân. Rydym ni i gyd yn gwybod hynny, oherwydd maen nhw i gyd yn dod atom yn rheolaidd. Mae arolygon yn dangos nad oedd 42 y cant o ddeintyddion yn fodlon gweithio o dan yr hen gontract deintyddol, ac mae 72 y cant yn dweud na fyddant yn llofnodi'r diwygiadau arfaethedig newydd fel y maent yn sefyll. Rwy'n credu y dylai hynny fod yn ddigon o rybudd i bawb yn y Siambr hon. Iawn, dywedir wrthym fod y gyfradd fesul claf yn codi o £135 i £150, ond mae hynny mewn gwirionedd ar bris cadair y GIG fesul awr. Nid yw hynny'n ystyried popeth arall: rhedeg y practis, y derbynwyr. Felly, hoffwn wybod o ble ddaeth y ffigur hwnnw, ac a allai'r Ysgrifennydd Cabinet roi rhai sicrwydd ynghylch a yw'n credu y bydd y gost honno yn cwmpasu'r pris cyfan.

Dirprwy Lywydd, rydym yn symud i le newydd. Rwy'n credu bod yna rai pethau da sydd wedi'u cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw. Rydych chi wedi symud ymlaen, ond rwy'n credu bod llawer mwy o waith y mae angen ei wneud, ac os gallwn gael rhai atebion i'r cwestiynau a ofynnais i, byddwn yn ddiolchgar. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

15:40

Nid wyf yn siŵr beth mae'r Aelod yn ei ystyried yw'r gwaith y mae angen gwneud mwy ohono. Mae'r holl gwestiynau y mae wedi'u gofyn wedi'u hateb yn y contract. Gadewch i mi ei helpu gyda'r manylion canlynol.

Mewn perthynas â pharhad gofal, gwnes yn glir yn fy natganiad y bydd hynny'n nodwedd o'r contract newydd a'n bod yn darparu taliad sefydlog fesul claf i bractisau er mwyn cyflawni hynny.

Mewn perthynas â chymhlethdod gwahanol driniaethau a sut maen nhw'n cael eu prisio, bydd yr Aelod yn cofio nid yn unig y cynigion a gyhoeddwyd heddiw, ond y rhai a gyhoeddwyd sawl mis yn ôl. Maen nhw'n nodi'r cyfraddau ar gyfer gwahanol driniaethau. Bydd wedi gweld o hynny bod cymhlethdod yn cael ei adlewyrchu yn y gwahanol gyfraddau ar gyfer y gwahanol waith. Un o'r pethau a ddywedodd deintyddion wrthym yn gyson iawn oedd eu bod am symud i ffwrdd o'r hyn a ddisgrifiwyd ganddynt fel 'melin draed' o gyfradd unffurf ar gyfer gweithgarwch, nad oedd, yn eu barn nhw a hefyd yn fy marn i, yn adlewyrchu'r cymhlethdod a'r gwaith proffesiynol ychwanegol sydd ei angen ar weithdrefnau penodol ac ymyriadau penodol. Felly, mae hynny wedi'i wella yn y contract newydd ac mae hynny wrth wraidd gwneud y contract yn fwy deniadol i ymarferwyr.

Mewn perthynas ag atal, rydym eisoes yn cyhoeddi ac yn olrhain yr wybodaeth y mae'r Aelod wedi gofyn amdani. Yn wir, rwy'n falch o weld ei ymrwymiad newydd i'r agenda tryloywder yr wyf wedi bod yn eiriol drosti mewn perthynas â phob agwedd ar y GIG, gan gynnwys amseroedd aros y GIG. Ond mae'n gwneud pwynt pwysig am bwysigrwydd atal. Mae deintyddion wedi dweud wrthym ers amser maith, er gwaethaf y newidiadau yr ydym wedi'u cyflwyno'n raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ei bod wedi bod yn anodd rhoi gwerth priodol yn y contract presennol i'r cyngor a'r arweiniad y gall deintyddion eu darparu i gleifion er mwyn gwella eu hiechyd y geg ac i gefnogi'r agenda ataliol bwysig honno. Mae'r contract newydd yn darparu cymorth ychwanegol i ddeintyddion i wneud hynny, y byddem i gyd yn dymuno ei weld.

Mae'r porth digidol y mae'n cyfeirio ato bellach wedi bod ar waith ers sawl mis. Yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw darparu un pwynt mynediad i'r rhai sy'n dewis ei ddefnyddio, fel nad oes rhaid iddynt dreulio eu hamser yn ffonio nifer o bractisau i geisio apwyntiad yn y GIG. Gallant gofrestru ar y porth, ac yna gellir dweud wrthynt ble mae'r apwyntiad nesaf yn y GIG sy'n agos atynt. Mae hynny eisoes ar waith. Mae wedi bod ar waith ers sawl mis. Nid dyma'r unig ffordd o gael mynediad at apwyntiad yn y GIG, ond i'r bobl hynny sy'n gallu bod ar-lein, mae'n darparu'r hyblygrwydd ychwanegol hwnnw.

Nid wyf yn cydnabod y niferoedd y cyfeiriodd yr Aelod atynt ar ddiwedd ei gwestiynau mewn perthynas ag ymarferwyr sy'n dweud na fyddant yn gweithio o dan y contract newydd. Yn wir, sut y gallent fod wedi dweud hynny, oherwydd dim ond heddiw y mae'r manylion wedi'u cyhoeddi. Felly, ni all hynny fod yn wir, mae gen i ofn. Yn wir, mae 80 y cant o bractisau eisoes yn ymarfer o dan y contract diwygiedig sy'n bodoli eisoes, sy'n awgrymu i mi, mewn gwirionedd, bod y rhan fwyaf o ddeintyddion yn ystyried y ffordd flaengar yr ydym wedi gwella deintyddiaeth yn well na'r hyn sydd wedi digwydd o'r blaen. Ond mae'n dal i fod yn hollol wir ein bod wedi cydnabod trwy'r amser bod angen cyflwyno diwygiadau mwy sylweddol i wirioneddol fynd i'r afael â rhai o'r heriau yr ydym yn eu trafod yn rheolaidd yn y Siambr hon. Rwy'n hyderus y bydd y cynigion y byddwn yn eu cyflwyno o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ar ffurf contract newydd yn gwneud hynny.

Mae'r egwyddor o sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd heb fod rhywun yn ddibynnnol ar incwm, cefndir neu leoliad yn egwyddor greiddiol i ni yma. Ni ddylai iechyd a deintyddiaeth, rhan bwysig o'r ddarpariaeth iechyd, fod yn foethusrwydd i unrhyw un, mi ddylai fod yn hawl. Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd yn egwyddor graidd. Dim ond os bydd newid yn ein gwasanaethau iechyd yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad gwirioneddol gyda'r rheini sy'n darparu gofal ar y rheng flaen y gall fod yn llwyddiannus. Ac yn olaf, dwi'n credu mewn atebolrwydd. Mae gan y Llywodraeth ddyletswydd i fod yn dryloyw am y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud. Felly, gan osod y cyd-destun yma, dwi am droi at y newidiadau deintyddol arfaethedig. 

Mae yna bethau i'w croesawu. Mae'r ffaith na fydd pobl ag iechyd ceg da yn cael eu gyrru yn ôl i'r DAP yn beth da. Mae'r ffi uwch hefyd i'w groesawu, er bod costau deintyddion wedi cynyddu'n sylweddol yn sgil cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol y mae'r Llywodraeth Lafur yn Lloegr wedi eu cyflwyno. Felly, dwi'n croesawu bod yna symud wedi bod ar y safle cychwynnol. Ac, wrth gwrs, mae yna gydnabyddiaeth bod y fframwaith presennol yn fethedig. 

Rŵan, flwyddyn yn union yn ôl i heddiw, fe ddywedodd Jo Stevens y byddai Llywodraeth Lafur San Steffan, a dwi'n dyfynnu, yn cymryd ysbrydoliaeth o ddeintyddiaeth yng Nghymru. Ond heddiw dŷn ni'n clywed yr Ysgrifennydd Cabinet yma yn dweud nad ydy'r cytundebau deintyddol yma yn addas i bwrpas. Dwi'n croesawu'r gydnabyddiaeth yma, ond fe rybuddiwyd y Llywodraeth o hyn o leiaf chwe blynedd yn ôl. Mi ydyn ni felly wedi colli chwe blynedd, a chanlyniad hynny ydy bod dwsinau o ddeintyddion wedi rhoi eu cytundebau NHS yn ôl, fod cleifion wedi dioddef a bod mwy o bwysau ar ein deintyddion cymunedol ac adrannau brys yn sgil hyn. 

Mae diwygio'r contract deintyddol yn angenrheidiol i wneud gwasanaethau yn gynaliadwy. Ychydig fyddai'n dadlau gyda'r angen am newid. Mae'r system o unedau o weithgarwch deintyddol wedi cael ei beirniadu ers amser maith fel un anaddas i'r diben, ond mae'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon wedi ymdrin â diwygio ymhell o fod yn foddhaol. Yn hytrach na setliad wedi'i drafod, rwy'n pryderu bod y telerau a luniwyd yma wedi bod yn unochrog, gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn cael ei gau allan o drafodaethau ystyrlon am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Nid partneriaeth yw hynny. Mae'n tanseilio ymddiriedaeth ac yn niweidio morâl ymhellach. Felly, pam y cafodd cynrychiolwyr y proffesiwn eu heithrio o'r trafodaethau am gymaint o amser?

Un cynnig sy'n sefyll allan yw ymestyn cyfnodau adalw i 24 mis. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Bydd yn rhoi terfyn ar adalw awtomatig bob chwe mis, ac, yn lle hynny, bydd pobl yn cael eu gweld yn unol â'u hanghenion a'u risgiau o ran iechyd y geg.'

Ond a all y Llywodraeth ddweud yn hyderus y bydd y canllawiau hyn yn sicrhau bod problemau yn cael eu dal yn ddigon cynnar? Pa asesiad risg sydd wedi'i gynnal o'r goblygiadau i iechyd y geg cleifion? Hefyd, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cyfiawnhau'r newid hwn trwy honni bod gormod o bobl sydd angen gweld deintydd yn methu â chael apwyntiad oherwydd bod eraill ag iechyd y geg da yn cymryd yr apwyntiadau hynny. Rwy'n anghytuno â hynny. Ni all pobl gael apwyntiad i weld deintydd y GIG oherwydd nad oes digon o apwyntiadau ar gael oherwydd bod cymaint o ddeintyddion wedi rhoi eu contractau GIG yn ôl.

Mae'r datganiad yn dweud wrthym fod hyn

'yn adlewyrchu ein nod o sicrhau bod y tîm deintyddol yn cael ei dalu'n deg am y gwaith maen nhw'n ei wneud gan wneud deintyddiaeth y GIG yn yrfa fwy deniadol a chynaliadwy.'

Mae hwn yn dda. Felly, byddwn i'n gofyn, os yw'r Ysgrifennydd Cabinet mor sicr bod hyn yn darparu dyfodol diogel i ddeintyddiaeth y GIG, a fydd yn ymrwymo i gasglu a chyhoeddi data dibynadwy a rheolaidd ar waith deintyddol a wneir yn lleoliadau'r GIG?

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn siarad am sut y bydd y trefniant newydd hwn yn blaenoriaethu'r agenda ataliol, ond mae'r ychydig fanylion rydw i wedi'u gweld yn darparu rhai mesurau symbolaidd i ehangu'r gwaith o roi farnais fflworid ond dim llawer o ddim byd arall. Gall broblemau godi yn y manylion, ac edrychaf ymlaen at weld y manylion hynny'n llawn. Efallai y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet eisiau ymhelaethu ar ychydig o fanylion y prynhawn yma. 

Yn olaf, mae'r gweithlu o dan straen enfawr. Canfu arolwg gan y BDA fod 42 y cant o ddeintyddion Cymru wedi disgrifio eu swydd fel un yn peri straen mawr neu straen enbyd, a bod bron i hanner yn adrodd am forâl isel. O ystyried y gwangalonni eang ymhlith y sector, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod yr achos dros ymestyn cymorth iechyd galwedigaethol i ymarferwyr deintyddol, yn unol â'r amodau a ddarperir eisoes i staff eraill y GIG? Diolch. 

15:45

Diolch am yr ystod yna o gwestiynau ac am y croeso, rwy'n credu imi ei glywed, yr oedd yr Aelod yn ei roi i'r diwygiadau arfaethedig. Rwy'n credu bod llawer o'r feirniadaeth a amlinellodd yn ei gwestiynau yn rhai sy'n ymwneud â'r contract rydym ni'n ei ddisodli, yn hytrach na'r contract newydd, felly rwy'n cymryd hynny fel mesur o gefnogaeth i'r newidiadau rydym ni'n eu cyflwyno, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hynny. Soniodd am y pwyntiau yr oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'u gwneud flwyddyn yn ôl mewn perthynas â Lloegr gan gymryd rhywfaint o ysbrydoliaeth o'r diwygiadau rydym ni wedi'u cyflwyno yng Nghymru. Dydw i ddim eisiau rhoi geiriau yn ei cheg, ond rwy'n dychmygu mai'r 468,000 o gleifion newydd sydd wedi cwblhau triniaeth a'r 178,000 o gleifion newydd eraill sy'n derbyn gofal brys a allai fod wedi ei hysbrydoli i wneud y sylw hwnnw. Mae hynny o fewn yr ystod o ddiwygiadau rydym ni wedi'u gwneud hyd yn hyn, ac rwy'n credu, gyda'r contract rydym ni'n ei gyflwyno o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn y niferoedd hynny. Un o rinweddau datganoli yw y gallwn ni i gyd ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Gwnaeth bwynt am rôl y BDA. Rwyf am ddweud 'diolch' i'r BDA am weithio gyda ni am gymaint o amser ar y contract hwn. Rwy'n credu ei fod dros 13 mis o drafodaethau y gwnaethom ymgymryd â nhw. Edrychwch, roeddwn i'n glir iawn, gan ymateb yn uniongyrchol i'r hyn yr oeddem yn ei glywed gan y proffesiwn, gan gynnwys y BDA, ei bod yn hanfodol nad ydym yn oedi y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf cyn cyflwyno contract newydd. Rydym ni i gyd yn deall ein bod eisiau cyflwyno'r newidiadau o'r math yr ydym yn siarad amdanynt yn y contract hwn, ac felly daw pwynt lle, hyd yn oed os nad yw popeth yn cael ei gytuno yn y contract, mae angen i chi allu ymgynghori ar hynny, i gael barn y cyhoedd yn y ffordd a wnaethom, ymateb i'r rheini, a hefyd safbwyntiau'r proffesiwn ehangach. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny, ond rwyf eisiau diolch i'r BDA am y gwaith maen nhw wedi'i wneud gyda ni. Ni fydd contract wedi'i negodi byth yn arwain at sefyllfa lle mae pob parti yn cael yr union beth maen nhw'n ei ddymuno. Mae'n broses o drafod wedi'r cyfan. Ond rwy'n gwbl hyderus, yn enwedig gyda'r newidiadau rydw i'n eu hamlinellu heddiw, yn seiliedig ar yr ymgynghoriad, bod gennym gontract y bydd ymarferwyr yn gweld ei fod yn gwneud gwaith y GIG yn ddeniadol iddyn nhw.

Gwnaeth bwynt pwysig, un sydd, yn fy marn i, yn aml yn cael ei gam-gynrychioli, er nad ganddo ef, mewn perthynas â'r ysbeidiau y mae pobl yn cael eu galw yn ôl. Nid yw hwn yn benderfyniad y mae'r Llywodraeth wedi'i ddewis ar hap, yn seiliedig ar ein barn ni am beth yw economeg y contract. Mae hon yn farn glinigol. Y dystiolaeth yr ydym yn tynnu arni a'r cyngor yr ydym yn tynnu arno yw canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n dweud wrthym fod yn rhaid i blant, yn amlwg, gael eu galw'n ôl ar gyfnodau o chwe mis, oherwydd bod eu dannedd yn datblygu, ond ar gyfer oedolion, dylai hynny adlewyrchu angen y claf, yn hytrach na dim ond adalw awtomatig. Bydd rhai oedolion yn cael eu galw'n ôl yn amlach na thri mis, a bydd rhai yn cael eu galw yn ôl yn llai aml, a bydd hynny'n dibynnu ar eu hanghenion penodol.

Mae'n bwysig, ochr yn ochr â hynny—a gwnaeth bwynt pwysig yn ei gwestiwn—i wneud yn siŵr, felly, fod yr elfen ataliol yn y gwaith y mae deintyddion yn ei wneud yn cael ei thrin yn glir ac yn briodol yn y contract, ac rwy'n hyderus bod y newidiadau y byddwn yn eu cyflwyno yn gwneud hynny. Mewn gwirionedd, roeddwn i'n siarad â deintyddion y bore yma a oedd yn dweud wrthyf, eu bod nhw'n hapus y bydd atal yn cael mwy o sylw yn y trefniadau newydd, yn y ffordd yr wyf yn siŵr y byddai'r Aelod yn ei chroesawu.

Gwnaeth gyfres bwysig o bwyntiau mewn perthynas â chasglu a chyhoeddi data. Rydym eisoes yn gwneud hynny, wrth gwrs, a gallaf ymrwymo y byddwn yn parhau i wneud hynny ar ôl i'r trefniadau newydd gael eu cyflwyno.

15:50

Rydw i wedi clywed gan drigolion sydd wedi gallu cael apwyntiad GIG trwy'r porth deintyddol. Fodd bynnag, yn ddiweddar rydw i wedi cael sylwadau gan bobl sydd wedi cael trafferth. Yr adborth yw bod angen iddyn nhw fod heb weld deintydd am bedair blynedd cyn y byddant yn cael apwyntiad. Mae pryder hefyd ynglŷn â chostau a chyngor amrywiol deintyddion preifat a'r meddiant gan fusnesau mawr sy'n gyrru cystadleuwyr i ffwrdd. Mae'r un peth wedi bod yn digwydd gyda milfeddygon a meddygon teulu.

Mae un trigolyn wedi dweud bod un deintydd wedi dweud wrtho fod angen pedwar llenwad ar gost o £850, felly aeth i rywle arall ac, wrth archwilio, dywedwyd wrtho nad oedd angen ymyrraeth ar ei ddannedd. A fyddech chi'n diwygio'r amser aros ar-lein cyn i bobl gael eu gweld trwy'r porth? Ac a oes ffordd o gael prisiau a lefel gwasanaeth cyson i'r rhai sy'n gorfod talu'n breifat, oherwydd na allant gael gafael ar ddeintydd y GIG?

Yn gyntaf, rwy'n falch o glywed bod pobl yn cael mynediad at ofal deintyddol y GIG drwy'r porth. Mae honno'n ffordd lawer tecach i bobl ddod o hyd i ddeintydd. Mae'n iawn dweud, pan wnaethom lansio'r porth rai misoedd yn ôl, yn wreiddiol, roedd gofyniad o bedair blynedd. Mae hynny oherwydd, o dan y cytundeb amrywio presennol—rydym wedi bod yn amrywio'r contract presennol bob blwyddyn, fel y bydd yr Aelod yn gwybod—roedd cleifion a oedd wedi derbyn gofal neu driniaeth gan bractis o fewn y pedair blynedd diwethaf yn cael eu hystyried yn 'gleifion hanesyddol', ac felly bod ganddynt hawl i barhau i dderbyn gofal gan y practis hwnnw. Dyna oedd y rhesymeg dros gael toriad pedair blynedd, oherwydd byddai unrhyw un o fewn y cyfnod hwnnw yn parhau gyda'r ymarfer y maent eisoes gydag ef. Fodd bynnag, fe wnaethom gydnabod yn gyflym iawn, mewn gwirionedd, bod yna rai senarios lle efallai na fydd hynny'n bosibl—os yw rhywun wedi symud cartref, er enghraifft. Rydym bellach wedi dileu'r cyfnod cymhwyso pedair blynedd o ddechrau mis Mehefin eleni, felly rwy'n gobeithio y bydd ei hetholwr yn falch o glywed hynny.

Mewn perthynas â'r prisio cyson, fel mewn unrhyw fenter breifat, mae'r tâl am ofal deintyddol preifat yn gwestiwn sy'n cael ei ysgogi gan rym y farchnad, onid yw, fel y byddwn yn amlwg yn deall. Felly, nid yw'n bosibl i'r GIG gyfateb i'r hyn a fyddai fel arall yn ystod o brisiau. Ond y peth allweddol yw bod costau deintyddiaeth y GIG i'r rhai sy'n gorfod gwneud cyfraniad, wrth gwrs, yn sylweddol is nag y byddai'n rhaid i gleifion ei dalu pe baent yn gorfod mynd i'r sector preifat.

15:55

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddiwygio deintyddiaeth. Mae'n hir ddisgwyliedig, fel y gwyddom, ac mae deintyddiaeth wedi wynebu heriau difrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae angen gweithredu. Rwy'n croesawu'r mwy o bwyslais ar atal a'r symud i ffwrdd o ofal sy'n seiliedig ar weithgarwch, a'i fod yn cynnal parhad gofal i'r cleifion risg isel hynny. Rwyf hefyd yn croesawu'r eglurhad ar y porth mynediad deintyddol yn genedlaethol, oherwydd mae hynny'n bryder hefyd. Felly, diolch am egluro hynny.

Rwyf eisiau codi dau fater, os caf i. Mae un yn ymwneud â mynediad at ddeintyddiaeth mewn ardaloedd gwledig. Ym Mhowys rydym wedi gweld cau'r practis deintyddol yn Nhrefyclo ar 30 Medi, ac fe gaeodd un yng Nghrucywel ddiwedd mis Gorffennaf. Felly, mae'r rhain yn anialwch deintyddol, mewn gwirionedd, o ran gallu dod o hyd i ddeintydd, heb sôn am allu cael triniaeth. Felly, tybed a allech chi amlinellu beth yw eich cynlluniau i wneud yn siŵr ein bod yn recriwtio a chynnal deintyddion mewn ardaloedd gwledig. Byddai gen i ddiddordeb mawr i glywed eich barn ar gyfranogiad parhaus y BDA, a godwyd gan fy nghyd-Aelod Mabon. Rwy'n teimlo bod hynny'n bwysig iawn. Felly, a allech chi egluro sut y byddwch chi'n parhau i weithio gyda nhw yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.

Rydym yn parhau i drafod gyda'r BDA, felly bydd hynny'n parhau yn llwyr. Mewn perthynas â'r pwynt pwysig a wnaeth yr Aelod ynglŷn â mynediad at wasanaethau deintyddol mewn ardaloedd gwledig arbennig, mae'r diwygio contract yr ydym yn ei drafod heddiw yn gyfraniad sylweddol at ehangu deintyddiaeth y GIG o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, ond nid dyma'r cyfan o'r hyn yr ydym yn ei wneud, fel y bydd yr Aelod yn ei ddeall. Bydd hi, rwy'n credu, yn ymwybodol, mewn perthynas â recriwtio deintyddion i ardaloedd gwledig Cymru, bod gennym eisoes gynnig recriwtio gwell, sy'n darparu pecyn cymorth uwch i hyfforddeion sy'n cwblhau hyfforddiant deintyddol sylfaenol mewn practisau deintyddol gwledig penodol, ac sydd bellach wedi'i danysgrifio'n llawn. Felly, rydym yn gweld lefelau da o bobl sy'n manteisio ar hyn, ond rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud yn siŵr, hyd yn oed lle mae dwysedd poblogaeth weithiau'n her o safbwynt practis, ein bod yn darparu'r gefnogaeth ychwanegol honno.

Fe wnaf ddweud, lle mae practisau GIG yn rhoi eu contractau yn ôl—yn amlwg nid oes unrhyw un ohonom eisiau gweld hynny—nad yw'r bwrdd iechyd yn colli'r cyllid hwnnw. Bod y cyllid hwnnw'n parhau i fod ar gael i gomisiynu gwaith newydd y GIG. Yn amlwg, mae rhywfaint o oedi pan fydd hynny'n digwydd, yn ddealladwy, oherwydd mae'n broses gaffael, ond mae'r cyllid hwnnw'n cael ei ail-leoli yn gyffredinol. Mae enghraifft dda iawn yn y canolbarth, rwy'n credu ym Mhowys, lle mae rhywfaint o'r cyllid sydd wedi'i ddychwelyd i'r bwrdd iechyd, oherwydd y math o senario y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato, wedi cael ei adleoli'n gyda llawer o ddychymyg. Er enghraifft, mae ymarferydd deintyddol wedi cael ei gyflogi'n benodol i weithio gyda phlant ar y rhestr aros i gyflymu mynediad at ofal deintyddol plant. Felly, rwy'n credu hyd yn oed yn yr amgylchiadau hynny, nad oes unrhyw un ohonom eisiau eu gweld, mae yna ffyrdd o ailddosbarthu'r cyllid hwnnw mewn ffordd sy'n sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt.

Ysgrifennydd Cabinet, dros yr haf, roedd fy mewnflwch yn gorlifo â negeseuon gan drigolion a oedd yn pryderu am y cynnig gwreiddiol, felly diolch i chi am wrando a dileu'r rheini. Ond ar y pryd dywedoch chi, ac rwy'n dyfynnu,

'Bydd yn gwneud deintyddiaeth y GIG yn fwy deniadol i ddeintyddion ac mae hynny'n dda i gleifion', 

ond, yn amlwg, nid oedd hynny'n wir. Ysgrifennydd Cabinet, mae'n rhaid meddwl tybed sut y bu i'r cyfeiriad gwreiddiol hwn fod mor anghywir, ac mae'n gofyn rhai cwestiynau ynghylch beth arall sydd mor anghywir ar draws y system iechyd ehangach. Fodd bynnag, yr hyn yr oeddwn yn bryderus iawn amdano oedd gwrando ar Dr Bassett y bore yma ar Radio Wales, pan oedd hi'n dweud y bydd yn rhaid i ddeintyddion yng Nghymru barhau i ddarparu gwasanaethau GIG ar golled. Felly, tybed, Ysgrifennydd Cabinet: a ydych wir yn credu bod y contract newydd hwn yn ffordd ymlaen gynaliadwy i gadw mynediad at ddarpariaeth y GIG i bobl ledled Cymru, oherwydd, os nad yw deintyddion yn gallu talu eu costau sylfaenol, sut allwn ni gadw practisau lleol?

16:00

Diolch i'r Aelod am y croeso y mae wedi'i roi i'r newidiadau rydw i'n eu cyhoeddi heddiw. Treuliais i'r bore mewn practis deintyddol yn siarad â deintyddion yno am eu barn ar y contract newydd cyn i mi gyhoeddi rhai o'r newidiadau heddiw, gan esbonio'r newidiadau iddyn nhw. A'r neges roeddwn i'n ei chael ganddyn nhw oedd eu bod nhw'n ei ystyried yn gam sylweddol iawn ymlaen, ac roedden nhw'n teimlo y byddai'n ymestyn cyrhaeddiad deintyddiaeth y GIG yn eithaf sylweddol, gan sicrhau y byddai llawer iawn mwy o apwyntiadau ar gael. Oherwydd ei fod yn gwneud dau beth. Yn gyntaf, mae'n gwneud cyflawni'r contract yn fwy deniadol i ddeintyddion. Mae'n adlewyrchu yn y strwythur ffioedd gymhlethdod y gwaith sy'n cael ei wneud. Fe wnaethon nhw godi bwynt bod y gyfradd ffioedd fesul awr yn llai na'r hyn yr oedden nhw'n gobeithio y byddai. Fe wnaethon ni glywed hynny yn yr ymgynghoriad hefyd. Heb os, bydd ef wedi clywed hynny gan rai o'r ymarferwyr yn ei ardal hefyd. Felly, rydym ni'n cyhoeddi heddiw gynnydd yn y lefel ffioedd honno, a bydd premiwm ar ben hynny am weld plant, fel y gallwn ni wneud yn siŵr nad oes unrhyw anghymhelliad i ymarferwyr weld plant hefyd. Felly, rwy'n hyderus y bydd hyn yn ymestyn deintyddiaeth y GIG, yn ei gwneud yn fwy deniadol i ddeintyddion ei darparu, ac, yn seiliedig ar y trafodaethau roeddwn i'n eu cael y bore 'ma, yn sicr nid oedd yn ymddangos bod yr ymarferwyr hynny'n teimlo bod y mathau o senarios yr oedd yr Aelod yn eu disgrifio'n realistig.

Does dim dwywaith fod deintyddiaeth NHS mewn argyfwng, ac mae'r sefyllfa ar ei gwaethaf drwy Gymru yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn Arfon, lle mae'n anodd i blant hyd yn oed gael mynediad at ddeintydd NHS. Mae hwn yn rhywbeth rydym ni wedi ei drafod o'r blaen yn y fan hyn, ond mae'r sefyllfa yn hollol annerbyniol. 

Felly, hoffwn i ofyn: sut bydd y cytundeb newydd yn ein symud ni at sefyllfa lle bydd gan bawb hawl i gael mynediad at ddeintydd NHS, gan gynnwys trigolion yn Arfon? A sut bydd y cytundeb newydd yn denu mwy o ddeintyddion yn ôl i roi triniaeth ar yr NHS? Ac i arwain ymlaen o rai o'r cwestiynau blaenorol, beth ydy'r cynllun ar gyfer denu deintyddion yn ôl i roi triniaeth ar yr NHS? A ydych chi'n ystyried hynny? Oes angen, rŵan bod gennym ni'r newidiadau yma i'r cytundeb, cam pwysig arall i geisio denu deintyddion yn ôl i roi'r gwasanaeth pwysig yma mae ein pobl ni ei angen ar yr NHS?  

O ran triniaethau i blant yn ardal Betsi Cadwaladr, mae'n werth cadw mewn cof, ers i ni gychwyn diwygio'r cytundeb presennol, mae 38,000 o bobl ifanc wedi cael cwrs llawn o driniaeth ar y gwasanaeth iechyd, a rhyw 4,000 wedi cael mynediad at driniaeth mewn argyfwng. Mae'r ffigurau hynny ymhlith y mwyaf yng Nghymru, felly mae hynny i'w groesawu. Ond, wrth gwrs, beth rŷm ni eisiau ei weld yw cytundeb sydd yn dodi'r gwasanaeth ar sail fwy sefydlog ar gyfer y dyfodol.

Roedd yr Aelod yn sôn am yr her yn Arfon yn benodol. Gwnaeth y bwrdd iechyd lwyddo i ailgontractio mewn pum lleoliad rhyw flwyddyn yn ôl, ac un o'r lleoliadau hynny yng Nghaernarfon. Felly, rŷm ni yn gweld, er bod cytundebau yn cael eu rhoi nôl, ei bod yn bosibl hefyd drwy'r system gaffael i weld fod practisau eraill gydag awydd i gymryd gwaith NHS pellach ymlaen. 

Yr hyn sydd wrth wraidd y diwygiadau yma yw sicrhau bod model newydd gyda ni sydd yn darparu bargen decach o ran deintyddion, ac felly yn arwain at fwy o apwyntiadau ar yr NHS. Dyna'r syniad sydd wrth gefn i'r hyn rŷn ni'n ei gyhoeddi heddiw, ac felly mae'n bwysig ein bod ni yn sicrhau bod bargen decach, os hoffwch chi, i ddeintyddion yn hynny o beth. Felly, mae'r broses o gynyddu'r raddfa bob awr yn gwneud y cytundeb yn fwy atyniadol, ond hefyd—ac rwy'n credu mai dyma'r prif beth—sicrhau bod y ffioedd sydd yn cael eu talu gan yr NHS i ddeintyddion yn adlewyrchu'n agosach cymhlethdod y gwaith sydd yn cael ei wneud. Mae deintyddion yn galw'r system bresennol—er rŷn ni wedi bod yn ei diwygio hi; mae rhyw 80 y cant o bobl ar y cytundeb sydd wedi'i ddiwygio'n barod—mae pobl yn ei alw'n 'treadmill', sydd ddim yn swnio'n atyniadol iawn o'm safbwynt i nac o safbwynt y proffesiwn. Felly, mae gwahaniaethu rhwng y cymhlethdod yn y ffioedd wrth wraidd sut i wneud y cytundeb yn fwy atyniadol ac felly sut bydd mwy o apwyntiadau NHS yn dod ar gael.

16:05

Mae'r contract deintyddol newydd hwn i'w groesawu ar ôl 20 mlynedd ers yr un diwethaf. Yr hyn nad oes croeso iddo, fodd bynnag, yw nifer y deintyddion sydd, yn anffodus, yn tynnu'n ôl o ddarparu gofal y GIG ac o'r contract GIG hwnnw a dim ond yn darparu gofal deintyddol preifat, fel y mae rhai cyd-Aelodau eisoes wedi sôn amdano heddiw. Rydw i wedi cael sylwadau gan sawl etholwr, dros y misoedd diwethaf, sydd wedi methu â chael mynediad at ddeintydd y GIG yn Wrecsam, gyda'r practisau hynny sy'n dal i ddarparu gofal y GIG yn anffodus yn cau eu rhestrau aros ar hyn o bryd. Mae deintyddiaeth yn rhan o'r GIG sydd â rôl ataliol go iawn, yn fy marn i. Felly, er fy mod i'n gwerthfawrogi nad oes angen apwyntiadau ar rai unigolion ag iechyd y geg da bob chwe mis, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud i sicrhau y bydd y contract newydd yn rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol ond, yn bwysicach byth, y gefnogaeth briodol i'n gweithwyr deintyddol proffesiynol i ganiatáu i'n hetholwyr gael gofal deintyddol pan fydd ei angen arnyn nhw?

Wel, byddwn i'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud—nid oes yr un ohonon ni eisiau gweld contractau'r GIG yn cael eu dychwelyd. Ac rwy'n credu, hyd yn oed gyda'r diwygiadau rydyn ni wedi'u cyflwyno, nid yw wedi bod yn ddigon deniadol ar gyfer pob practis o hyd. Rydw i wedi amlinellu'r ffigurau o ran y niferoedd newydd o gleifion, felly rwy'n credu ein bod ni wedi gweld cynnydd da. Ond mae'r diwygiadau rydw i'n eu trafod heddiw yn sylweddol ehangach, ac rwy'n credu y bydd yn newid sylweddol.

Mae'r Aelod wedi sôn wrthyf am nifer o bractisau yn ei hetholaeth hi—ac yn agos at lle mae hi'n byw rwy'n meddwl am Dant y Coed, ond practisau eraill hefyd—sydd wedi lleihau'r gwaith GIG maen nhw'n ei wneud, ac nid oes yr un ohonon ni eisiau gweld hynny. Fel y soniais yn fy ateb i Siân Gwenllian, nid yw'r bwrdd iechyd yn colli'r cyllid hwnnw, ac maen nhw'n gwneud gwaith da yn aildendro, ond nid yw hynny bob amser yn yr un lleoliad. Felly, rydw i wir yn cydnabod yr her y mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Dyna pam mae cael contract sy'n decach i ddeintyddion, yn ogystal â bod yn decach i gleifion, gan roi'r mynediad ychwanegol hwnnw, mor bwysig.

Mae hi'n gwneud pwynt pwysig am ba mor aml y mae pobl yn cael eu galw'n ôl. Felly, mae cael ffocws yn y contract ar atal, fel bod deintyddion yn cael eu cefnogi i roi'r cyngor a'r arweiniad ataliol hwnnw yn bwysig iawn. Fel y dywedais i'n gynharach, nid yw hyn yn set o ddyfarniadau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud yn annibynnol; mae hyn yn seiliedig ar ganllawiau clinigol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal ynghylch pa mor aml y dylai pobl gael eu galw nôl ar gyfer archwiliadau. Y peth hanfodol yma yw ein bod ni'n rhoi taliad y pen i bractisau, sy'n rhoi'r dyfarniadau clinigol yn nwylo'r gweithwyr proffesiynol. Felly, byddan nhw'n ffurfio barn ynghylch pryd mae angen galw claf penodol yn ôl, yn seiliedig ar broffil ei iechyd deintyddol, a bydd ganddyn nhw'r hyblygrwydd o fewn y contract i allu gwneud hynny. Felly, rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw i ddefnyddio eu barn glinigol ac i ddefnyddio'r cyllid yn y contract i wneud hynny.

Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd iechyd. Mae angen diwygio yn sicr. Rydyn ni, wrth gwrs, wedi gweld deintyddion y GIG yn dychwelyd eu contractau. Mae hynny wedi digwydd yn y Drenewydd a'r Trallwng yn fy etholaeth fy hun. Ar adegau, nid oes unrhyw ddeintyddion llawn amser wedi bod yn gweithredu yn y ddwy dref fawr hynny. Pan fyddaf i wedyn yn ymyrryd, neu pan fo'r bwrdd iechyd yn ymyrryd, yn aml y cyngor a roddir i'r claf yw y bydd yn rhaid iddo deithio milltiroedd lawer o'i gartref, weithiau taith gron o ddwy awr a hanner, er mwyn cael mynediad at ddeintydd y GIG. Y cwestiwn hoffwn i wir ei wybod heddiw, ac mae llawer o drafodaeth wedi bod ynghylch hyn, yw: pryd ydych chi'n credu, yn eich tyb chi, y bydd pawb ledled Cymru, ble bynnag y maen nhw'n byw, yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG, naill ai yn eu tref neu mewn ardal gyfagos? Allwch chi roi amserlen ar hynny, oherwydd dyna'r cwestiwn y bydd pobl wir eisiau ei wybod?

16:10

Wel, yr hyn sydd yn nwylo'r Llywodraeth yw ei gwneud hi mor debygol â phosibl bod deintyddion eisiau darparu deintyddiaeth y GIG, a hefyd sicrhau bod gennym ni'r gweithlu deintyddol i gyflawni hynny a chymell deintyddion i weithio yn yr ardaloedd hynny na fyddent yn gallu cynnal practisau neu recriwtio mor hawdd fel arall. Dyna'r ysgogiadau sydd yn nwylo'r Llywodraeth i gyflawni'r amcan y mae'r Aelod yn ei nodi, yn gwbl briodol, fel un y dylen ni fod yn gweithio tuag ato.

Bydd y contract hwn yn sicrhau bod deintyddiaeth y GIG yn fwy deniadol. Rwy'n hyderus, ynghyd â'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i gymell pobl i weithio mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, ac, fel y soniais yn fy ateb ychydig yn gynharach, bod y cynllun hwnnw wedi'i danysgrifio'n llawn, sy'n dda—. Dyna'r mathau o ymyriadau rydyn ni'n eu rhoi ar waith. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr nad oes rhaid i neb gael deintyddiaeth GIG breifat, oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny o'u hewyllys eu hunain. Rwyf eisiau sicrhau bod deintyddiaeth y GIG ar gael i bobl ledled Cymru, ac mewn ffordd lle, hyd yn oed os oes rhaid iddyn nhw wneud cyfraniad, mae hwnnw'n gwbl fforddiadwy.

Rwy'n hyderus bod y contract hwn yn mynd â ni dipyn o ffordd ymlaen o lle rydyn ni heddiw, ac rwy'n hyderus, pan fyddwn ni'n dechrau gweld yr effaith o fis Ebrill ymlaen, pan fydd y data'n cael ei gyhoeddi, y byddwn ni'n gallu gweld mwy a mwy o fynediad at ddeintyddiaeth ar y GIG ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y rhannau mwyaf gwledig.

Diolch. Yn dilyn yr ymgynghoriad yn yr haf, a oedd yn negyddol i raddau helaeth, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen nawr â'r newid mwyaf y mae erioed wedi'i wneud i ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru, yn annibynnol ar yr arbenigwyr, oherwydd methiant y negodiadau â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain. Byddai hyn yn dangos ei fod yn groes i'r hyn rydych chi newydd ei ddweud, bod pawb yn hapus am yr hyn sy'n digwydd. Mewn gwirionedd, mae yna rai pryderon gwirioneddol ymhlith ymarferwyr am yr hyn rydych chi'n ei gynnig.

Mae'n ymddangos nad oes sylw wedi'i roi o hyd i'r problemau a amlygwyd ar y dechrau, ac yn ystod yr haf. Er enghraifft, mae parhad gofal ond yn gweithio os oes digon o arian yn weddill ar ôl gweld pob claf newydd. Mae angen i ddeintyddiaeth yng Nghymru fod yn ataliol, mae angen iddi fod yn fforddiadwy, ac mae angen iddi fod ar gael. Fodd bynnag, nid yw'r newidiadau hyn rydych chi wedi'u gwneud yn ymdrin â hyn, ac nid yw'n cymell y deintyddion hynny i aros gyda'r GIG.

Ysgrifennydd Cabinet, bydd eich cynlluniau i sicrhau bod hyd at ddwy flynedd rhwng archwiliadau arferol yn sicr yn golygu y bydd materion deintyddol bach yn datblygu'n rhai mawr, costus ac, wrth gwrs, na fydd materion fel canser y geg a phydredd dannedd yn cael eu nodi.

Ond, Ysgrifennydd Cabinet, fy nghwestiwn i chi yw, mae'n amlwg yn mynd i greu rhaniad cymdeithasol, lle bydd gan bobl sy'n gallu fforddio cadw eu dannedd yn iach yn rheolaidd ddannedd da, a bydd gan bobl nad ydyn nhw'n gallu fforddio gwneud hynny iechyd y geg gwaeth ac iechyd gwael yn gyffredinol o ganlyniad. Ac mae hyn yn dod gan blaid sy'n ymfalchïo, wrth gwrs—

Dydy hynny ddim yn gwestiwn. A wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda?

—ar—[Anghlywadwy.]—pobl sy'n gweithio. A wnewch chi weithredu ar yr ymgynghoriad negyddol a gynhaliwyd yn yr haf a chydnabod bod atal yn hollol allweddol i sicrhau llwyddiant ac iechyd y geg da ledled ein cenedl? Ac allwch chi esbonio'n fanylach sut rydych chi'n mynd i gadw deintyddion yn y GIG? Diolch.

Gyda pharch, Dirprwy Lywydd, mae'r aelod yn ddigywilydd. Os yw hi'n credu fy mod i'n mynd i dderbyn cyngor, gwersi neu gwestiynau am ddeintyddiaeth y GIG gan blaid sydd eisiau diddymu'r GIG, mae hi'n hollol anghywir. Ac i ofyn cwestiwn i mi yn seiliedig ar raniad cymdeithasol, pan mai dyna yw rhesymeg gyfan ei phlaid hi, mae'n anghredadwy. Diolch, Dirprwy Lywydd.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Cymru sy'n falch o'r mislif

Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: Cymru sy'n falch o'r mislif. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 16:13:56
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddwyd 'Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif', cynllun pum mlynedd—yr ymrwymiad yw dileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif erbyn 2027.

Mae dileu tlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, absenoldeb o'r gwaith neu dynnu'n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd diffyg mynediad at gynhyrchion mislif. Wrth i ni nodi pwynt hanner ffordd y cynllun hwn, roeddwn i eisiau achub ar y cyfle i adrodd ar rywfaint o'r cynnydd sydd wedi'i wneud.

Mae gwella argaeledd a hygyrchedd cynhyrchion mislif yn un o gonglfeini'r cynllun. Mae'r grant urddas mislif yn cael ei ddyrannu i bob awdurdod lleol yng Nghymru a chaiff ei reoli gan arweinwyr urddas mislif i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn ddeinamig i ddiwallu anghenion lleol.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, rydyn ni wedi buddsoddi £3.45 miliwn i awdurdodau lleol i ddarparu cynhyrchion mislif am ddim mewn ysgolion ac ar draws amrywiaeth o leoliadau cymunedol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i fanciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau i deuluoedd, hybiau cymunedol, gwasanaethau ieuenctid a cholegau addysg bellach. Mae prifysgolion yn cefnogi myfyrwyr i ddarparu cynhyrchion am ddim trwy'r grant lles. Mae gwaith gwych wedi'i wneud ledled Cymru, a hoffwn ddathlu eu llwyddiannau heddiw. Er enghraifft, mae gan lawer o awdurdodau lleol stondinau dewis a dethol mewn amrywiaeth o leoliadau, lle y gall pobl ddewis o amrywiaeth o gynnyrch mislif, ac mae hyn yn dod yn fwy cyffredin ledled Cymru.

Mae dros 1,000 o leoliadau cymunedol ledled Cymru yn darparu mynediad at gynhyrchion mislif am ddim, ac mewn llawer o achosion, cymorth cyfeillgar hefyd. Yn ystod cyfarfod bord gron diwethaf urddas mislif, fe glywais i am brosiect gwych sy'n cael ei gynnal gan Family Action yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed yng Nghaerdydd. Maen nhw'n darparu cynhyrchion mislif ecogyfeillgar am ddim ac adnoddau addysgol ar iechyd mislif i deuluoedd sy'n mynychu eu clwb bwyd. Mae'r prosiect hwn wedi meithrin sgyrsiau agored a chefnogol. Mae wedi cael adborth cadarnhaol gan rieni a gofalwyr, sy'n teimlo'n hyderus nawr yn siarad â'u plant am y mislif mewn ffordd nad oedd eu rhieni nhw wedi'i wneud.

Mewn ysgolion, mae'r grant yn cael ei ddefnyddio i roi hyfforddiant ac adnoddau i athrawon ac, mewn rhai ardaloedd, i rieni a gofalwyr hefyd, gyda sesiynau sy'n targedu tadau yn benodol yn dod yn fwy poblogaidd. Mae swyddogion addysg yn gweithio ar adnoddau newydd i gefnogi dysgu ar les mislif a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau sydd i ddod. Bydd yr adnoddau hyn yn cefnogi athrawon mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd.

Ym mis Mehefin, roeddwn i'n falch iawn o ymweld ag Ysgol Bro Pedr yng Ngheredigion a chwrdd â myfyrwyr o Gyngor Ieuenctid Ceredigion. Fe wnaethon nhw siarad am fanteision cael gwersi am y mislif a'r hyn yr hoffen nhw ei weld yn cael ei gynnwys yn y dyfodol. Gwnaeth eu hyder, eu brwdfrydedd a'r gwaith roedden nhw wedi'i wneud yn cynhyrchu canllawiau cadarnhaol ar gyfer eu hysgolion argraff arnaf.

Ym mis Medi 2024, fe wnaethon ni gynhyrchu templed astudiaeth achos i gasglu enghreifftiau o arfer gorau a dull gweithredu cyson o rannu gwybodaeth fwy ystyrlon rhwng arweinwyr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 14 o astudiaethau achos wedi'u hysgrifennu a'u rhannu, ac mae'r rhain wedi tynnu sylw at brosiectau llwyddiannus ac wedi arwain at brosiectau mwy arloesol ledled Cymru. Enghraifft wych o hyn yw sir y Fflint, lle y gwnaeth arweinwyr urddas mislif weithio mewn partneriaeth â'r tîm datblygu chwaraeon cymunedol i greu'r hyn y maen nhw wedi'i alw'n 'becynnau cymorth cyntaf mislif'. Dechreuodd y rhain gyda chynhyrchion mislif yn cael eu cynnwys mewn pecynnau cymorth cyntaf generig, ond maen nhw wedi cael eu mireinio'n becynnau annibynnol sy'n cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion i ddiwallu pob angen. Ers hynny, mae'r prosiect hwn wedi cael ei ailadrodd ledled Cymru, gan gynnwys yn Nhorfaen, lle mae'r gynghrair pêl-rwyd wedi cael cefnogaeth i roi pecynnau cymorth cyntaf mislif i bob tîm. Ni ellir gorbwysleisio effaith y newid bach hwn. Mae'n sicrhau nad yw'r mislif yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae'r gwaith gyda Chwaraeon Cymru yn parhau. Mae'r cyfarfodydd bord gron yn parhau i fod yn llwyddiannus iawn ac mae presenoldeb da gan gyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru. Mae'n gyfle gwych i rannu arfer gorau a gwella cefnogaeth i'w haelodau. Mae gwaith ar y gweill i gasglu adborth gan bobl ifanc ar y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu i gymryd rhan mewn chwaraeon oherwydd y mislif.

Yn galonogol, rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, roedd 94 y cant o'r cynhyrchion a gafodd eu prynu eisoes yn ecogyfeillgar, ac rydyn ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r un peth ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gan sicrhau bod gan bobl fynediad at gynhyrchion tafladwy di-blastig ac amrywiaeth o ddewisiadau y mae'n bosibl eu hailddefnyddio. Mae hyn yn rhagori ar ein targedau amgylcheddol, a oedd yn anelu at gyrraedd 90 y cant erbyn 2027, ac yn cyfrannu at nodau ehangach Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer Cymru fwy llewyrchus sy'n cydnabod terfynau'r amgylchedd byd-eang. Mae hyn oherwydd tuedd gynyddol ledled Cymru o bobl ifanc yn dewis cynhyrchion y mae'n bosibl eu hailddefnyddio yn hytrach na dewisiadau untro. I lawer o fyfyrwyr, mae nicers mislif yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw i fynychu'r ysgol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn Ynys Môn, lle maen nhw wedi gweld y nifer uchaf erioed o ferched yn dewis nicers mislif yn hytrach na chynhyrchion eraill.

Rwy'n falch iawn o dynnu sylw at y ffaith bod gwaith ar y gweill gyda'r sector preifat; bydd swyddogion yn mynychu gweithgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y fforwm manwerthu y mis hwn, ac mae cydweithio cadarnhaol yn mynd rhagddo â sefydliadau'r trydydd sector, fel yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Felly, dim ond blas ar y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru yw hwn ac, ym mis Ionawr 2025, fe wnaethon ni gyhoeddi diweddariad ar gynnydd 'Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif'. Mae'r traciwr ar-lein hwn, sydd wedi'i ddiweddaru'n ddiweddar, yn dangos y cynnydd rydyn ni'n ei wneud ar bob cam gweithredu.

16:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni urddas mislif yn parhau gyda'r blynyddoedd sydd ar ôl yn y cynllun. Rwyf mor falch ein bod yn darparu ar y gweithredoedd pendant hyn ar ddiweddu tlodi mislif.

Heddiw, rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r arweinwyr urddas mislif ledled Cymru am eu gwaith parhaus, ac i ddiolch i'r athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymunedol a busnesau sydd, drwy gynnig cynnyrch yn sensitif i'r rhai mewn angen a normaleiddio sgyrsiau am y mislif, yn ein helpu ni i gyflawni Cymru sy'n falch o'r mislif.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad y prynhawn yma. Mae dod â thlodi mislif i ben yn hollol hanfodol, ac mae'n sicr yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn cyd-fynd ag ef, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r mislif yn rhan naturiol o fywyd, ac ni ddylai unrhyw ferch neu fenyw wynebu rhwystrau neu fod o dan anfantais o'i herwydd. Yn anffodus, rydyn ni'n gwybod nad yw hyn bob amser yn wir ar hyn o bryd.

Rydyn ni'n clywed am fenywod yn cael eu gorfodi i golli gwaith neu ferched ifanc yn colli diwrnodau ysgol oherwydd eu mislif, a'r gwirionedd trist yw nad yw llawer yn gallu fforddio'r cynhyrchion mislif hyn. Mae'r rhai sy'n cael poen mislif difrifol yn adrodd eu bod yn colli un i ddau ddiwrnod o waith neu ysgol bob mis, ac mae hynny, i fod yn onest, yn nifer syfrdanol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi cynnyrch mislif am ddim i ferched mewn ysgolion yng Nghymru. Mae'n sicr yn gam i'w groesawu, Ysgrifennydd Cabinet, ond yn anffodus, yn seiliedig ar sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda menywod ifanc ar draws fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain, a hefyd yn rhinwedd fy rôl fel Ysgrifennydd Cabinet dros addysg yr wrthblaid, nid yw pob merch yn cael mynediad at y cynhyrchion hyn.

Esboniodd un ferch ifanc y siaradais â hi yn ddiweddar fod y cynhyrchion mislif am ddim yn cael eu cadw gyda derbynnydd yr ysgol. Mae'r myfyriwr—ac rwy'n siŵr bod eraill hefyd—yn naturiol yn teimlo gormod o embaras i fynd at y derbynnydd i gael y cynhyrchion mislif, sy'n golygu eu bod nhw'n mynd hebddyn nhw. Mewn achosion eraill, mae hi mor syml â'r ffaith nad yw rhai myfyrwyr yn gwybod lle yn yr ysgol maen nhw'n cael eu cadw. Felly, mae'n amlwg bod darn o waith i'r Llywodraeth ei wneud yn y fan yna o ran cyfeirio at gynhyrchion mislif am ddim a chael mynediad atynt.

Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r sefyllfa hon i sicrhau bod y cynhyrchion mislif hyn yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen fwyaf yn ein hysgolion. Os ystyrir bod craciau yn y broses, a fydd y Llywodraeth yn ymrwymo i gynnal adolygiad i sicrhau bod y fenter hon yn effeithiol, cyn gynted â phosibl?

Gan gadw at thema'r ysgol, mae ymchwil gan yr elusen Freedom4Girls wedi datgelu bod caniatâd wedi'i wrthod i rai myfyrwyr adael y dosbarth a mynd i'r toiled pan fyddan nhw ar eu mislif. Nid yn unig hynny, ond yn ôl data gan PHS Group, mae un o bob chwech o athrawon yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wedi atal myfyrwraig ar ei mislif rhag defnyddio'r toiled, gydag un o bob pedair o'r merched hynny'n dweud ei fod wedi achosi problemau difrifol, gan gynnwys gwaedu trwy eu gwisgoedd ysgol. Mae merched yn teimlo cywilydd, embaras ac yn methu â chanolbwyntio yn y foment honno. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i atal hyn a sicrhau nad yw merched ysgol yng Nghymru yn wynebu'r math yma o rwystrau yn y dyfodol?

Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o ddileu tlodi mislif erbyn 2027? Oherwydd, yn anffodus, o ble rydw i'n sefyll, cymaint ag yr wyf eisiau gweld y targed hwn yn cael ei gyrraedd, nid wyf yn argyhoeddedig, yn anffodus, ei fod yn mynd i fod yn gyflawnadwy. A wnewch chi hefyd amlinellu rhai o'r camau rhagweithiol y gallwn ni ddisgwyl eu gweld a fydd yn chwarae rhan ganolog wrth helpu i gyrraedd y targed hwn erbyn 2027? Ysgrifennydd Cabinet, dyrannodd Llywodraeth Cymru £90,000 yn 2024 i brosiect yn Zimbabwe gyda'r nod o gyrraedd cydraddoldeb rhywedd, gan gynnwys urddas mislif. Allwch chi esbonio pam fod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu'r wlad arall hon dros ein gwlad ni? Yn sicr, byddai hi wedi bod yn well rhoi'r arian hwn i Gymru yn lle hynny. 

Yn amlwg, rydw i wedi cymryd ymagwedd sy'n canolbwyntio ar addysg heddiw, ond mae ymdrin â thlodi mislif yn ymestyn ar draws llawer o wahanol agweddau ar gymdeithas. Hoffwn hefyd wybod a yw ymdrin â thlodi mislif, mater sy'n cael ei drafod ar lefel y Llywodraeth, yn wir gyda'ch Cabinet chi hefyd. A pha gamau y mae eich cyd-Aelodau eraill wrthi'n eu cymryd yn eu priod feysydd i helpu i ddileu tlodi mislif? Oherwydd, yn fy marn i, er mwyn rhoi terfyn ar dlodi mislif mewn gwirionedd, mae angen dull gweithredu cyfunol.

Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod eich barn chi am y ffaith bod tamponau a phadiau am ddim yn cael eu rhoi yn nhoiledau'r Senedd, gan gynnwys toiledau'r dynion hefyd. Rwy'n deall y rhesymeg dros eu rhoi nhw yn nhoiledau'r menywod, ond mae eu rhoi nhw yn nhoiledau'r dynion yn fy nrysu i'n llwyr, a dydy hynny'n bendant ddim yn ddefnydd da o adnoddau yn fy marn i. Onid ydych chi'n credu y byddai'n well cyfeirio ymdrechion i ymdrin â thlodi mislif at roi'r cynhyrchion hyn mewn ysgolion a cholegau i ferched ifanc eu defnyddio, yn hytrach na'u rhoi nhw yn nhoiledau'r dynion yma yn y Senedd? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am eich ymateb. Roedd yn gefnogol iawn i raddau helaeth, rwy'n credu, Natasha, o ran yr hyn rydyn ni'n ei gyflawni gyda'r 'Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif'. Mae hyn yn bwysig iawn, y pwynt cyntaf y gwnaethoch chi, ynglŷn â sicrhau nad yw menywod a merched ifanc yn yr ysgol yn colli addysg, ac rwy'n credu bod hynny hefyd yn berthnasol i waith, y gweithle a chyflogaeth, a'r rhai nad ydyn nhw'n gallu cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd diffyg mynediad at gynhyrchion mislif. Dylai pawb gael mynediad at gynhyrchion mislif yn ôl yr angen, i'w defnyddio mewn man preifat sy'n ddiogel ac yn urddasol. Mae'r mislif yn effeithio ar unigolion mewn cymaint o ffyrdd, fel y dywedoch, ac mae'r effaith hon yn mynd y tu hwnt i'r adeg pan maen nhw'n gwaedu. Yn wir, mae'r cylch mislif cyfan yn cael effaith ddofn ar iechyd meddwl a chorfforol pobl a'r ffyrdd y gallan nhw fyw eu bywydau.

Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae unrhyw fath o weledigaeth ar gyfer cyflawni urddas mislif yn amlwg yn cynnwys rhoi terfyn ar unrhyw ymdeimlad o stigma neu gywilydd sy'n gysylltiedig â'r mislif, cynyddu dealltwriaeth o'r mislif, hyder i'w drafod p'un a ydych chi'n cael mislif ai peidio, ac ystyried effaith y mislif ar draws cwrs bywyd person, a'i ffordd o fyw hefyd. Felly, mae'n normaleiddio cael mislif ac yn dileu unrhyw ymdeimlad o gywilydd neu stigma ynghylch y mislif. Dyna brif flaenoriaeth y cynllun.

Rwy'n credu bod yr ymgysylltu pwysig â phobl ifanc o ran sut allwn ni chwalu'r rhwystrau hynny a gwneud yn siŵr bod cynhyrchion mislif yn hygyrch yn hanfodol. Pan wnaethon ni ddatblygu'r cynllun, fe wnaethon ni siarad â phobl ifanc drwy Plant yng Nghymru. Fe wnaethon nhw ymgysylltu'n benodol â phlant a phobl ifanc ac, wrth gwrs, rwyf wedi sôn am y cyfarfod y cefais i â phobl ifanc yng Ngheredigion—yn wir, yn etholaeth y Llywydd. Cafodd y bobl ifanc y siaradais i â nhw yn Ysgol Bro Pedr yng Ngheredigion gymaint o ddylanwad, fe aethon nhw ati i ddatblygu canllawiau cadarnhaol nid yn unig ar gyfer eu hysgol nhw, ond ar gyfer pob ysgol yng Ngheredigion. Mae hynny'n gymaint o enghraifft dda, a chafodd ddylanwad trwy'r cyngor ieuenctid hefyd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n ystyried y mater hwn o ran mynediad at gynhyrchion mislif a'r ffaith ein bod ni wedi buddsoddi £18.8 miliwn mewn gwella mynediad at gynhyrchion mislif am ddim i blant a phobl ifanc a'r rhai ar incwm isel yng Nghymru, ac eleni, £3.4 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Os edrychwch chi ar ein traciwr ar-lein o ran cynnydd, rydyn ni yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hon ar fynediad at gynhyrchion mewn ysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau cymunedol.

Mae'r ford gron urddas mislif yn cynnwys cynrychiolwyr o'n holl awdurdodau lleol—yn eich etholaeth chi hefyd, Natasha—sydd mor gadarnhaol am y gwaith maen nhw'n ei wneud yn yr ysgolion. Maen nhw hefyd yn rhannu gwybodaeth yn eang trwy weminarau, cylchlythyrau a rhwydweithiau, ond rydyn ni hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am werthuso'r grant urddas mislif, gan fod angen i ni ddysgu o'r hyn rydyn ni wedi'i wneud eisoes a'r effaith mae'n ei gael.

Rwy'n credu bod y rhaglen cyfoedion mislif yn bwysig. Fe wnaethoch chi roi enghraifft o'r person ifanc nad oedd yn teimlo ei bod hi'n gwybod sut i gael mynediad at gynnyrch mislif am ddim, sy'n anffodus iawn. Dydw i ddim wedi clywed am hynny, ond yn amlwg mae hyn yn rhywbeth lle mae pob darn o adborth yn cyfrif. Ond mae rhaglen cyfoedion mislif Plan UK, rwy'n credu, yn ffordd y gall pobl ifanc fod yn gyfoedion mislif i'w gilydd, gan arwain y rhai sydd efallai yn amharod neu dal yn ansicr am y materion a'r anghenion.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd ein bod ni'n ystyried hyn o ran y cwricwlwm, y ffaith mai'r cwricwlwm newydd yw'r hyn rydyn ni newydd fod yn ei drafod y prynhawn yma. Mae'r maes dysgu iechyd a lles gorfodol yn cefnogi dysgwyr—pob dysgwr—i ddeall a thrafod materion sy'n effeithio ar eu hiechyd, ac mae dysgu am les mislif, sy'n briodol yn ddatblygiadol, yn rhan orfodol o'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb.

A gaf i dalu teyrnged i gyn-Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies? Hi oedd yr un a sicrhaodd fod lles mislif, y gwnaethon ni ei gefnogi fel Llywodraeth ac ar draws y Siambr hon, yn rhan o'n cwricwlwm. Felly, mae'n treiddio mewn gwirionedd, ac rydych chi wedi gwneud y pwynt hwn am ar draws y Llywodraeth gyfan, llywodraeth leol, ein holl bartneriaid, y trydydd sector a busnesau.

Rwy'n siomedig iawn eich bod chi wedi codi mater ein cefnogaeth. Trwy nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, mae gennym ni ymrwymiad cryf i gydraddoldeb rhywedd. Nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yw'r rhain. Mae hyn yn ymwneud â dinasyddiaeth fyd-eang, yr ydyn ni'n dysgu ein plant amdani yn ein hysgolion, yn ogystal ag urddas mislif. Mae sawl sefydliad yng Nghymru wedi cael cyllid grant gan ein rhaglen Cymru ac Affrica yn benodol i gyflawni prosiectau grymuso menywod yn Affrica Is-Sahara, gan gydweithio'n agos â'n partneriaid yn Affrica. Rwyf eisiau dweud a'i roi ar y cofnod y prynhawn yma bod y prosiectau hyn wedi cyflawni effeithiau sy'n newid bywydau, gan roi bywoliaeth well i fenywod, hyrwyddo integreiddio rhywedd i frwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, herio arferion anffurfio organau cenhedlu menywod, trais ar sail rhywedd a rhwystrau i urddas mislif, a helpu merched i gwblhau eu haddysg. Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o geisiadau ar gyfer prosiectau grymuso menywod effeithiol o'r math hwn yn y dyfodol.

16:30

Diolch am y datganiad. Mae Plaid Cymru yn cefnogi'n llwyr mynd i'r afael â thlodi mislif ac mae cynlluniau fel Balch o'r Mislif mor bwysig yn hyn o beth. Mae angen sicrhau cysondeb o ran darpariaeth a mynediad at gefnogaeth drwy'r cynllun ar draws ein cymunedau, ac mae anghenion ac ystyriaeth o ddewisiadau o ran cynhyrchion yn bwysig hefyd.

Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r holl ymgyrchwyr diflino a gwych ar draws Cymru sydd wedi sicrhau bod tlodi mislif yn cael ei gydnabod a bod gweithredu yn digwydd ar hyn, fel Elyn Stephens, wrth gwrs, cyn-gynghorydd Plaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf. Hoffwn hefyd ddiolch i gyn-Aelod Plaid o'r Senedd dros y Rhondda, Leanne Wood, a gododd yn y Siambr yma lawer tro i dynnu sylw at y ffaith bod tlodi yn fater ffeministaidd. 

Mae Chwarae Teg, Oxfam Cymru a WEN Wales oll wedi tynnu sylw at effeithiau penodol tlodi ar fywydau menywod dros y blynyddoedd. Mae ymchwil diweddaraf Trussell, er enghraifft, yn canfod bod menywod yng Nghymru mewn mwy o berygl o ansicrwydd bwyd na dynion, gydag un o bob chwech menyw yn profi ansicrwydd bwyd y llynedd, o'i gymharu ag un o bob 10 dyn, a menywod hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio darparwr bwyd elusennol. Ac wrth gwrs wedyn, cyfradd uwch fyth o fenywod sydd â nodweddion croestoriadol yn profi tlodi—menywod sy'n ofalwyr di-dâl, sydd wedi profi gofal, sy'n rhan o'r gymuned LHDTC+, neu o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, neu yn anabl. Felly, wrth i'r argyfwng costau byw barhau, felly hefyd yr angen a'r galw am raglenni fel hyn i atal tlodi mislif.

Un agwedd yr hoffwn i ei godi yn benodol heddiw yw natur y canllawiau sy'n cael eu rhoi i awdurdodau lleol o dan y cynllun. Mae cyllid yn cael ei ddyrannu, fel y sonioch chi, i awdurdodau lleol i weithredu'r rhaglen, ond a yw'r Llywodraeth yn rhoi canllawiau digon clir iddyn nhw, ydych chi'n credu, ar sut y dylid gwario'r cyllid hwnnw? Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau nad oes yna unrhyw fath o loteri cod post, lle mae math neu ansawdd y ddarpariaeth y mae rhywun yn ei derbyn yn dibynnu ar ble maen nhw'n byw, a bod yr arfer da yna y gwnaethoch chi roi enghreifftiau ohono fe yn eich datganiad yn cael ei ledu ar draws Cymru mewn modd cyson?

Pwynt pwysig arall, felly, wrth gwrs, yw monitro ac adborth, ac rŷch chi wedi sôn tipyn am hynny. Ydych chi fel Llywodraeth yn cynnal asesiadau rheolaidd o ran sicrhau nid yn unig cyrraedd y pwyntiau gweithredu o fewn y cynllun, ond hefyd sicrhau, er enghraifft, fod y cynhyrchion a'r gefnogaeth sy'n cael eu darparu mewn gwirionedd yn diwallu anghenion y rhai sy'n cael mislif? Sut ŷch chi'n casglu'r adborth gan y rhai sy'n defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau Balch o'r Mislif, a pha mor aml caiff y data hwn ei adolygu i wella'r ddarpariaeth?

Er enghraifft, mae'n well gan rai pobl, a gwnaethoch chi gyffwrdd ar hyn, ddefnyddio mathau gwahanol o gynhyrchion. Felly, sut mae'r dewisiadau hyn yn cael eu hystyried, fel nad oes neb yn cael eu gadael heb fynediad at y cynhyrchion sydd eu hangen arnyn nhw, sydd yn diwallu eu hanghenion nhw orau, ac felly nad ydyn ni ddim yn gweld cypyrddau neu ddroriau yn llawn eitemau sydd ddim yn ddefnyddiol i ferched Cymru? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch hefyd am groesawu effaith ein cynllun gweithredu, 'Balch o'r Mislif', ledled Cymru, i gynnal urddas yn ystod y mislif. Fe hoffwn i hefyd gofio'r dylanwad a gafodd Leanne Wood yn y Siambr hon yn y dyddiau cynnar hynny, pan wnaethom ni drafod tlodi mislif ac urddas yn ystod y mislif am y tro cyntaf—dyma'r tro cyntaf y cynhaliwyd y dadleuon hyn. Bu hon yn sgwrs rhwng bob plaid i raddau helaeth, yn ogystal â'n holl bartneriaid llywodraeth leol, sydd wedi bod â rhan bwysig a swyddogaeth bwysig.

Rydych chi yn crybwyll mater allweddol ynglŷn â chysondeb: a yw hyn yn gyffredinol, ydym ni'n gwneud yn siŵr—? Rydym ni eisoes wedi cael yr enghraifft o, efallai, pobl ifanc nad ydyn nhw'n ymwybodol o'u—. Mae'r rhain yn hawliau, cyn belled ag y gwela i nhw—hawliau yw'r rhain. Mae'n wahanol, fodd bynnag, onid yw, pan welwn ni gynhyrchion mislif yn ymddangos bron ym mhob man mewn mannau cyhoeddus, busnesau ac yn ein cyfleusterau ein hunain. Rwyf wedi sôn am y gwerthusiad, sydd, mewn gwirionedd, yn bwysig o ran sicrhau ein bod yn adolygu adroddiad a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Hydref 2023, ac yn edrych ar yr argymhellion hynny eto i weld a ydym ni'n ymateb yn llawn iddyn nhw.

Ond hefyd, dim ond o ran y camau gweithredu rydym ni nawr yn cyfrif amdanyn nhw, rwy'n credu bod olrhain cynnydd fel hyn yn bwysig i'r cyhoedd ei weld. Er enghraifft, ym mis Chwefror y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau a gweithdrefnau adnoddau dynol ynghylch mislif a'r menopos ar gyfer ein staff ein hunain yn Llywodraeth Cymru. Dyma lle hefyd, o ran busnesau, mae Busnes Cymru yn hyrwyddo'r safon menopos newydd a 'The Little Book of Menstruation, Menstrual Health and Menopause', cyflwyniad addysgiadol i safonau'r Sefydliad Safonau Prydeinig ynghylch y menopos. Rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn cydnabod bod hyn i gyd yn gysylltiedig iawn â'r cynllun iechyd menywod, felly mae gennym ni hynny ar gyfer y dyfodol hefyd.

Rwyf wedi sôn am y dolenni i'r cwricwlwm. Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethom ni ddyfarnu contract i gynhyrchu ystod o adnoddau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm iechyd a lles, ac mae hynny'n bwysig i'n hathrawon yn ogystal â'n dysgwyr. Mae'n cefnogi dysgu ynghylch lles a'r mislif. O ran ymgysylltu â phobl ifanc, bydd rhai ohonoch chi'n cofio gwaith ysbrydoledig Molly, a weithiodd gyda ni o ran helpu i ddatblygu hefyd, er enghraifft, yr adnodd gwe y Mislif Mawreddog, os cofiwch chi. Mae gwaith traws-lywodraethol ar addysg ac iechyd yn digwydd.

Cam gweithredu 8 y cynllun yw sicrhau bod modd cael mynediad at gynhyrchion a bod canllawiau yn cael eu creu gyda chydraddoldeb a chynhwysiant yn gonglfaen iddyn nhw—felly, mae hynny'n golygu cyfarfodydd monitro rheolaidd, gwelliannau i'r ffurflen monitro grantiau sy'n cael ei defnyddio, casglu data a chefnogi trafodaethau gyda phob awdurdod lleol. Mae gennym ni'r astudiaethau achos da hyn ar y gweill, ac rwyf eisoes wedi sôn yn fy natganiad ynghylch y cynnydd gyda'r astudiaethau achos da hynny nawr, felly mae un awdurdod yn dilyn un arall. Ym mis Mehefin eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau cymunedol ar gyfer lleoliadau cymunedol sy'n cynnig urddas a chynhyrchion mislif am ddim.

Rydyn ni hefyd yn edrych ar faterion o ran dewisiadau. Rydym yn edrych ar gynyddu'r ddarpariaeth o gynhyrchion di-blastig, cynhyrchion gyda llai o gynnwys plastig, llai o ddeunydd pacio plastig a chynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio. Mae'n ddiddorol, rhwng Ebrill y llynedd a Mawrth eleni, bod 94 y cant o'r cynhyrchion a brynwyd yn gyfeillgar i'r amgylchedd. Mewn gwirionedd, rydym yn cynyddu'r gofyniad lleiaf i wario'r grant urddas mislif ar gynhyrchion mislif sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd i 80 y cant. Mae gan lawer o bobl ifanc ddiddordeb mawr mewn cael mynediad at gynhyrchion mislif eco-gyfeillgar. Unwaith eto, mae'n rhaid i hynny fod yn ymwneud â bod yn sensitif ynglŷn â dweud mai dyma ein dewisiadau.

Rwy'n credu ein bod yn gwneud cynnydd i sicrhau bod cysondeb a'n bod yn dyrannu ein cyllid mewn ffordd y gall ddod yn rhan gyffredinol o gymdeithas Cymru. Rydym yn Gymru  Balch o'r Mislif, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y datganiad hwn heddiw.  

16:35

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gobeithio ein bod ni i gyd yn cofleidio Cymru Balch o'r Mislif, ac mae'n wych gweld yr enghreifftiau o arferion da yn eich datganiad.

Gwnaeth y clwb bwyd yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed wneud argraff benodol arnaf i, yn cyflwyno oedolion i'r plant cymorth cyntaf y mislif, oherwydd fe wyddom ni nad oedd traean o'r plant a ddechreuodd eu mislif yn yr ysgol gynradd wedi cael gwybod ymlaen llaw bod hyn yn rhan naturiol o'u datblygiad wrth ddod yn fenyw. Gall hynny fod yn frawychus iawn, iawn i unrhyw blentyn—ddechrau gwaedu yn sydyn heb sylweddoli beth sy'n digwydd. 

Crybwyllodd Natasha Asghar y ffaith y gallai rhai merched fod yn colli'r ysgol un neu ddau ddiwrnod y mis oherwydd poen mislif. Mae'n rhaid i ni sylweddoli, os yw mor ddrwg, y gallai hyn fod yn arwydd o endometriosis cynnar, ac felly mae'n bwysig bod ysgolion yn cefnogi menywod ifanc i gael cyngor meddygol os oes ganddyn nhw fislif trwm iawn bryd hynny.

Roedd arnaf i eisiau gofyn i chi sut rydym ni'n sicrhau bod pawb yn deall beth yw swm a sylwedd cynhyrchion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Oherwydd yn amlwg, mae arnom ni eisiau i ferched ifanc fod yn defnyddio'r dillad isaf arbennig unwaith y byddant wedi ymgynefino â'r cylch misol hwnnw. Mae angen iddyn nhw wybod pethau syml, fel y ffaith bod angen i chi socian eich dillad isaf mewn dŵr oer, nid dŵr poeth, cyn i chi eu rhoi yn y peiriant golchi, fel arall ni allwch chi gael gwared â'r staen.

Roeddwn i'n meddwl tybed faint o wybodaeth sydd ar gael ar-lein neu drwy ysgolion i sicrhau bod pawb, ar yr adeg iawn, yn gwybod sut i ddefnyddio'r cwpanau mislif, nad ydyn nhw ar gyfer plant naw neu 10 oed. Ond yn ddiweddarach, bydd pobl yn dod yn gyfforddus gyda'u cyrff eu hunain, a dyna'r peth hollol iawn i'w ddefnyddio.

16:40

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Diolch am sôn eto—rwy'n credu ei fod wir angen hynny—ein canmoliaeth o brosiect gweithredu teuluol Ysgol Gynradd y Tyllgoed, sy'n gysylltiedig â'r clwb bwyd. Hefyd, fe wnes i'r sylw yn fy natganiad am yr ymgysylltiad a'r diddordeb cynyddol gan dadau hefyd. Mae'n gyfrifoldeb rhieni, ac mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â'r stigma a chodi ymwybyddiaeth.

Roedd arnaf i hefyd eisiau cydnabod y ffaith bod hyn, fel y dywedaf, yn ymwneud â lles mislif. Mae Diwrnod Hylendid y Mislif ar 28 Mai. Efallai y dylech chi ei gydnabod y flwyddyn nesaf fel rhywbeth mae arnom ni wir eisiau ei gyhoeddi, er mwyn sicrhau bod rheoli hylendid mislif yn rhan o'n polisïau lleol a chenedlaethol. Eu barn nhw o ran diddordeb byd-eang yw 'Gyda'n gilydd dros fyd sy'n gyfeillgar i'r mislif', gyda phwyslais ar 'gyda'n gilydd' yn hynny o beth.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod cyfleoedd i chwalu'r chwedlau hefyd. Unwaith eto, gan gadw gydag addysg, mae Eco-sgolion Cadwch Gymru'n Daclus yn awyddus i ymgysylltu â hyn. Maen nhw'n hyrwyddo trafodaeth gyda phobl ifanc i chwalu chwedlau ynghylch y mislif a chynhyrchion mislif. Bydd pob un ohonom ni sydd wedi bod mewn ysgolion yn gwybod bod y disgyblion yn eiddgar iawn yn y clybiau eco hynny. Maen nhw mewn gwirionedd yn rhad ac am ddim—chwalu'r chwedlau. Mae'n rhan o'r hwb addysg, ac mae rhaglenni lleol yn cael eu datblygu hefyd i edrych ar hyn.

Rydych chi wedi sôn am y materion, ac mae mynediad at doiledau a chynhyrchion mislif yn allweddol. Nid ydym ni wedi sôn am gyrff llywodraethu ysgolion. Mae edrych ar hyn mewn perthynas â pholisi toiledau ysgol yn allweddol hefyd. Rydym ni yn nodi ein dull o sicrhau urddas mislif yn ein hysgolion o ran sut mae toiledau ar agor ac yn hygyrch i bob dysgwr. Mae gan bob awdurdod lleol, yn ôl i gysondeb, y canllawiau hynny i ysgolion ynghylch sut y dylid gwneud cynhyrchion mislif yn hygyrch.

Yn olaf, o ran y materion ynghylch sicrhau eu bod yn gyfeillgar i'r amgylchedd, rwyf eisoes wedi rhoi'r ystadegau am y cynnydd mewn diddordeb a defnydd o gynhyrchion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, a hefyd cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio. Fe wnaethoch chi sôn am y dillad isaf arbennig; fe allwn ni ddysgu sut mae Ynys Môn wedi cyflawni'r gyfradd uchaf ac yna lledaenu'r arfer gorau hwnnw ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi sôn am waith ysbrydoledig pobl ifanc, ac roedd arnaf i eisiau rhoi cydnabyddiaeth lawn i'r ymgyrch 'Love Your Period'. Rwyf eisoes wedi sôn am waith gwych Molly Fenton o Gaerdydd. 'Love Your Period' oedd ei hymgyrch—rwy'n cofio iddi ddod i'r trafodaethau bord gron—a lansiodd yr ymgyrch yn 17 oed, yn ôl yn 2018, wedi'i ysgogi gan y diffyg arweiniad a gafodd hithau pan oedd yn tyfu i fyny. Roedd hi eisiau sicrhau bod ei chyfoedion yn yr ysgol yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim a sylweddolodd ei bod hi eisiau gwneud mwy i leihau stigma. Unwaith eto, rydym ni'n gweld Molly yn eithaf aml yn ein cyfarfodydd urddas mislif, ac mae hi wedi cael effaith fawr, fel cymaint o ymgyrchwyr eraill yn y maes gwaith hwn.

16:45

Prynhawn da eto, Ysgrifennydd Cabinet. Rydym yn gwybod, fel y clywsom ni, fod tlodi yn parhau i fod yn broblem i fenywod. Mae hwn eto yn faes arall lle mae menywod a merched yn cael trafferth mewn gwirionedd. Nid yw cynhyrchion mislif yn foethusrwydd, maen nhw'n hollol hanfodol. Rhaid i ni gael gwared ar y stigma yn y maes hwn a chwalu'r rhwystrau o siarad am y mislif.

Felly, rwy'n croesawu eich datganiad a'r cynllun gweithredu. Roeddwn yn arbennig o falch o glywed y cynnydd y mae Powys wedi'i wneud yn y maes hwn, gan dynnu sylw yn arbennig at eu gwaith gyda gofalwyr ifanc hefyd. Mae'n dangos y gwahaniaeth y gall cyllid ei wneud. Ond mae heriau sylweddol, fel y clywsom ni, yn parhau, yn enwedig yn ein hysgolion. Soniodd ActionAid bod oedolion ifanc rhwng 18 a 24 oed yn cael eu heffeithio'n anghymesur, gyda bron i hanner yn colli gweithgareddau cymdeithasol neu chwaraeon yn ystod eu mislif.

Mae'r Alban wedi cyflwyno deddf. Yn 2021 fe wnaethon nhw gyflwyno'r Ddeddf Cynhyrchion Mislif (Darpariaeth Am Ddim) (Yr Alban). Rwy'n gwybod nad ydym ni'n gallu gwneud hynny yma yng Nghymru oherwydd bod amser yn gyfyngedig inni, ond byddwn yn croesawu eich barn ar a oes cyfle yn y dyfodol ac a ydych chi'n teimlo ei bod hi'n werth cyflwyno Deddf o'r fath, o ystyried bod llawer o'r ddarpariaeth hon yn wirfoddol. Mae'n ymwneud â phobl yn yr ysgolion a phobl sy'n frwd dros wneud hynny. Felly, fyddai modd ichi ein goleuo ni o ran y dyfodol ac a allwn ni ystyried Deddf, os gallwn ni, yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch eto am ailadrodd y pwynt hollbwysig hwnnw nad yw cynhyrchion mislif yn foethusrwydd, maen nhw'n hanfodol. Dyna pam y dylem ni fod yn eu gwneud mor gyffredin a rhad ac am ddim a hygyrch â phosibl. Unwaith eto, a gaf i ganmol Powys am eu gwaith fel awdurdod lleol ac, yn wir, gyda'r trydydd sector ac ysgolion a sefydliadau sy'n cefnogi gofalwyr ifanc, ond hefyd oedolion ifanc? Mae'n bwysig bod colegau addysg bellach hefyd yn sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael.

Nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau cyfredol i gyflwyno deddfwriaeth fel y ddeddf Period Products (Free Provision) (Scotland) Act. Mae ganddyn nhw ddeddfau yn yr Alban ac, mewn gwirionedd, yng Ngogledd Iwerddon. Heddiw mae wedi bod yn bwysig craffu arnaf o ran sut rydym ni'n cyflawni ein grant urddas mislif a'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Balch o'r Mislif', ac i mi allu rhannu'r cynnydd mawr sy'n cael ei wneud ledled Cymru mewn cymaint o awdurdodau lleol yr wyf wedi sôn amdanyn nhw heddiw. Mae gennym ni uchelgais fawr i fynd ymhellach. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael mewn ystod ehangach o leoliadau. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn dileu stigma. Nid ydym wedi sôn am chwaraeon mewn gwirionedd. Soniais am chwaraeon yn fy natganiad, ond mae yna waith gwych sy'n cael ei wneud o ran sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hyn o ran polisi mynediad at chwaraeon. Rwy'n credu bod y sylw ynglŷn â ble rydyn ni'n mynd nesaf yn un ar gyfer Senedd yn y dyfodol o ran deddfwriaeth.

Un pwynt arall nad ydym ni wedi'i wneud yw bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim i gleifion mewnol ysbyty, ond y pwynt hanfodol yw ein bod yn dysgu oddi wrth ein gilydd ar draws ein pedair gwlad. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd; mae ein swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â'r cenhedloedd eraill. Mae ganddyn nhw i gyd ddiddordeb mawr yn yr hyn rydym ni'n ei wneud hefyd, ond rwy'n falch o'r gwaith rydym ni'n ei wneud yng Nghymru i ddileu tlodi mislif a chyflawni, yn bwysicaf oll, symud tuag at urddas mislif. Rwy'n credu ein bod ni ar y ffordd i ddod yn genedl sy'n falch o'r mislif.

16:50

Diolch, Llywydd. Rwy'n gefnogol iawn o 'Cymru Balch o'r Mislif'. Rwyf hefyd wedi eirioli ers amser maith dros ymgorffori hyn mewn deddfwriaeth. Ar adeg pan fo hawliau menywod dan fygythiad yn fyd-eang, rwy'n credu y byddwn i'n hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gallwn ni ymgorffori hyn fel hawl. Fe wnaethoch chi sôn ei fod yn hawl, ond mae'n rhywbeth y gellid ei ddileu gan Lywodraeth nad oedd mor ymrwymedig i hyn. Felly, fe hoffwn i ddeall pa asesiad rydych chi wedi'i wneud am yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a pham rydych chi wedi penderfynu peidio â'i ymgorffori fel hawl. A yw hyn yn rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried fel argymhelliad i Lywodraeth nesaf Cymru?

Rwy'n poeni mewn gwirionedd, oherwydd mae tlodi mislif yn dal i fod yn rhywbeth sy'n broblem fawr yn ein cymunedau. Mae pobl yn cysylltu â mi yn dal ddim yn gwybod ble i'w cael nhw. Mae aelodau o fy nhîm wedi gorfod mynd â chynhyrchion mislif i gartrefi pobl. Rwy'n gwybod ei fod yn dal i fod yn broblem mewn llawer o ysgolion. Yn aml, gall pethau fynd yn wych, yna mae'r hyrwyddwr hwnnw'n gadael yr ysgol ac yna mae'r holl gynnydd hwnnw'n diflannu dros nos, neu nid oes athro cefnogol yno i gefnogi'r grŵp hwnnw o fenywod ifanc, brwdfrydig sy'n datblygu hyn. Felly, rwy'n credu y gallwn ni, ie, ddathlu'r cynnydd, yn bendant, ond mae'n dal i fod yn hynod ansicr. Os ydym ni am normaleiddio a distigmateiddio hyn, yn sicr ymgorffori hyn fel hawl mewn deddfwriaeth yw'r cam nesaf naturiol.

Diolch yn fawr iawn, Heledd. Roeddwn i'n disgwyl cwestiynau am ddeddfwriaeth y prynhawn yma—a oedd adeg pan allai'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ystyried y gallai deddfwriaeth fod yn hanfodol i ategu ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Balch o'r Mislif'. Rwyf bob amser wedi mynd i'r afael â newid a'r posibilrwydd o newid polisi o ran cael y polisi yn iawn, gwneud yn siŵr bod gennych y cyllid, ac yna a oes angen deddfwriaeth, ac fe allwch chi wneud hynny y naill ffordd neu'r llall. Mae'n rhaid i chi gael y cyllid a'r hawl polisi i ystyried deddfwriaeth hyd yn oed, ond rwy'n siŵr y caiff hyn ei ystyried.

Rwy'n credu y byddwn am weld gan Ogledd Iwerddon a'r Alban beth yw effaith deddfwriaeth. Fel y dywedais i, rydym ni'n cyfarfod yn rheolaidd ac yn rhannu cynnydd gyda'n gilydd, felly rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno. Y peth cyntaf i ni, Lywodraeth Cymru nawr, yw sicrhau bod gennym ni'r cysondeb hwnnw, bod gennym ni'r gefnogaeth honno gan ein holl 22 awdurdod lleol, yr holl sefydliadau, busnesau—ymrwymiad traws-sector i ddod yn Gymru falch o'r mislif. Ochr yn ochr â hyn, fe allwn ni edrych ar effaith deddfwriaeth mewn cenhedloedd eraill a'r dyfodol hefyd.

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio)

Yr eitem nesaf yw eitem 6, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) yw hwn, a'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gwneud y cynnig yma—Huw Irranca-Davies. 

Cynnig NDM8975 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 16:53:27
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i esbonio'r cefndir i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio), ac i amlinellu'r rhesymau pam y dylai gael cefnogaeth y Senedd. 

Mae'r Bil hir-ddisgwyliedig a phwysig hwn yn mynd i'r afael â'r mater difrifol o ymosodiadau cŵn ar dda byw. Mae'r ymosodiadau hyn yn aml yn ddinistriol yn falltod ar ein cymunedau gwledig, gan achosi dinistr corfforol, emosiynol ac ariannol. Mae'r Bil yn cynnig diwygiadau hanfodol i Ddeddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953, gan foderneiddio cyfraith sydd bellach dros 70 mlwydd oed ac nad yw bellach yn addas i'r diben.

Yn gynharach eleni adroddodd NFU Mutual fod amcan gost ymosodiadau cŵn ar dda byw yng Nghymru wedi gostwng 64 y cant yn 2024. Mae hyn yn galonogol ac mae'n adlewyrchu llwyddiant ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ac ymdrechion cydweithredol ledled y sector, gan gynnwys cwrs perchnogaeth gyfrifol enwog Blue Cross. Ym mis Medi 2024, mewn partneriaeth â'r heddluoedd ledled Cymru, fe wnaethon nhw gyflwyno modiwl diogelwch da byw fel dewis arall i achosion llys ac erlyniad posibl i berchnogion cŵn sydd wedi bod yn ymwneud â mân droseddau sy'n gysylltiedig â chŵn.

Fodd bynnag, ni allwn ni fforddio bod yn hunanfodlon ac mae'n rhaid i ni adeiladu ar y momentwm hwn gyda fframwaith deddfwriaethol cadarn. Mae data diweddar yn awgrymu bod Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn dros 80 o adroddiadau am ddigwyddiadau yn 2024 yn unig. Nawr, mae ymosodiadau o'r fath yn arwain at ddioddefaint emosiynol a chorfforol, marwolaethau da byw, erthylu a thrawma hirdymor i ffermwyr. Felly, mae'r Bil hwn yn gam hanfodol i helpu diogelu da byw yn well, i gefnogi ffermwyr, ac i alluogi gorfodi mwy effeithiol.

Mae'r Bil yn gwneud hynny drwy ymestyn y pwerau sydd ar gael i'r heddlu i gael tystiolaeth o drosedd o dan adran 1 o Ddeddf 1953. Mae'r Bil yn ymestyn y drosedd yn adran 1 o Ddeddf 1953 i gynnwys ffyrdd a llwybrau, ac mae'n ehangu cwmpas da byw a ddiogelir ar hyn o bryd i gynnwys camelidau. Mae'r Bil hefyd yn cynyddu'r gosb uchaf o darfu ar dda byw o ddirwy o £1,000 i ddirwy ddiderfyn, gan adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn a chan weithredu fel ataliad difrifol. Mae'n grymuso heddlu i atafaelu a chadw cŵn dan amheuaeth o ymosod ar dda byw ac i gasglu tystiolaeth yn fwy effeithiol, gan gynnwys samplau DNA. Mae'r rhain yn gamau ymarferol, cymesur a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.

Mae iechyd a lles anifeiliaid yn faterion datganoledig, ac rwy'n dal bod darpariaethau'r Bil hwn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac felly mae angen ein cydsyniad arnyn nhw. Er bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig farn wahanol o ran ystyried y mater fel un sydd wedi'i gadw'n ôl, mae ein swyddogion wedi gweithio'n agos iawn yn ystod pob iteriad o'r Bil, o'i gynnwys yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) a ddiddymwyd, i'w ffurf bresennol fel Bil Aelod preifat. Felly, fy mlaenoriaeth yw gweld y gwaith pwysig hwn yn cael ei wireddu o'r diwedd, a bydd ein cydweithrediad yn darparu manteision sylweddol i Gymru, gan gynnwys cymhwyso'r gyfraith yn gyson.

Felly, fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn, Llywydd, i ddiolch i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar ac ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Rwyf wedi nodi casgliadau ac argymhellion adroddiad y ddau bwyllgor, ac rwy'n croesawu casgliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig nad oes unrhyw reswm i wrthwynebu i'r Senedd yn rhoi cydsyniad i'r Bil. Felly, Llywydd, cynigiaf y cynnig.

16:55

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Cyflwynodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ddydd Gwener diwethaf. Yn yr adroddiad hwnnw, dywedodd y pwyllgor ei fod yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio), fel y nodir yn y memorandwm, mae angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer. Fodd bynnag, mynegodd y pwyllgor syndod at gyfiawnhad yr Ysgrifennydd Cabinet dros gefnogi'r Bil. Safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw bod darpariaethau yn y Bil yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl ac nad oes angen cydsyniad y Senedd ar ei gyfer. Fodd bynnag, nododd adroddiad y pwyllgor yn benodol absenoldeb cyfeiriad at faterion a gedwir yn ôl ym mharagraffau'r memorandwm a oedd yn esbonio safbwynt Llywodraeth Cymru a'r rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn ar gyfer Cymru yn y Bil. O ganlyniad, nid yw'r pwyllgor yn glir a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn ystyried bod materion a gedwir yn ôl yn cael eu trin i raddau sy’n atal y Senedd rhag gwneud y ddeddfwriaeth hon. Ar ben hynny, nid oedd y pwyllgor o'r farn bod y datganiad,

'Gall cŵn a'u perchnogion yng Nghymru a Lloegr symud yn rhydd ar draws y ffiniau',

wedi'i gynnwys yn y memorandwm i gyfiawnhau'r dull yn fater perthnasol wrth ystyried a ddylid deddfu ar sail Cymru a Lloegr. A gaf i ddweud mai ychydig iawn o bethau sydd ddim yn hawdd eu symud o Gymru a Lloegr neu yn ôl eto?

Yn ogystal, nododd y pwyllgor fod y memorandwm yn dweud bod y Bil yn sicrhau cyfundrefn weithio gymharol ledled Cymru a Lloegr ac yn sicrhau eglurder llwyr i asiantaethau gorfodi. Nid yw'r pwyllgor o'r farn bod 'trefn ddedfrydu gyson' yn gofyn am ddull deddfwriaethol ar y cyd neu fod dull o'r fath yn angenrheidiol i sicrhau eglurder ar gyfer asiantaethau gorfodi. Am y rhesymau hyn gwnaeth y pwyllgor ddau argymhelliad: yn gyntaf, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn datgan a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â safbwynt Llywodraeth y DU a bod materion a gedwir yn ôl yn cael eu trin i raddau sy’n atal y Senedd rhag gwneud y ddeddfwriaeth hon; ac, yn ail, dylai'r Ysgrifennydd Cabinet datgan y materion a gedwir yn ôl y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu bod yn atal y Senedd rhag gwneud y ddeddfwriaeth hon. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn mynd i'r afael â'r argymhellion hyn yn ei sylwadau clo.

Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi yr LCM yma oherwydd, wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am weithredu yn y maes yma ers 10 mlynedd a mwy, ac mae'n warth o beth ei bod hi wedi cymryd tan nawr inni gyrraedd y pwynt yma. Nôl yn 2019, mi wnes i a Ben Lake ysgrifennu at Michael Gove, dwi'n meddwl, oedd Ysgrifennydd DEFRA ar y pryd, yn gofyn naill ai, 'Cyflwynwch ddeddfwriaeth ar hyn yn San Steffan', neu, 'Rhowch y pwerau i ni yng Nghymru i'w wneud e drosom ni ein hunain.' Ac mi addawyd bryd hynny, 'O, na, na, mae San Steffan yn llawn fwriadu delio â hyn yn fuan.' Wel, dyma ni—beth—chwech neu saith mlynedd yn ddiweddarach. Wrth gwrs, yn y cyfamser, mae'r Alban, sydd â'r pwerau i ddeddfu yn y maes yma, wedi hen basio Deddf ers 2021 er mwyn cryfhau pwerau'r heddlu ac, wrth gwrs, i gynyddu'r cosbau sydd yn y maes yma. Felly, mae'n enghraifft ymarferol yn fan hyn, onid yw e, o sut mae'r setliad datganoli presennol wedi dal Cymru yn ôl yn y maes yma, a sut mae pwerau gan yr Alban wedi caniatáu iddyn nhw weithredu—pwerau dylai fod gyda ni fan hyn yng Nghymru, ond, wrth gwrs, San Steffan yn ein dal ni nôl.

Felly, gobeithio, y tro yma, y gwelwn ni ddeddfwriaeth er mwyn taclo'r felltith yma sydd wedi taflu ei gysgod dros y diwydiant cyhyd, a fydd gobeithio wedyn yn taclo'r issue sy'n codi o ran lles yr anifeiliaid, wrth gwrs, sy'n cael eu hymosod arnyn nhw. Mae yna broblemau economaidd yn codi allan o golli stoc i ffermwyr, heb sôn, wrth gwrs, am y baich mae'n rhoi ar iechyd meddwl nifer o'r teuluoedd yma sydd wedi dioddef ymosodiadau. Gobeithio nawr fydd gwleidyddion yn Llundain ddim yn parhau i lusgo eu traed ar y mater yma.

17:00
Member
Huw Irranca-Davies 17:01:17
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn gyntaf—

Yn gyntaf, a gaf i ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a diolch i chi am ystyried y Bil hwn? Fel y dywedais i yn y sylwadau agoriadol, ond byddaf yn mynd ychydig ymhellach, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig o'r farn nad oes angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gan Senedd Cymru ar gyfer y Bil ar y sail bod darpariaethau'r Bil yn ymwneud â mater cŵn peryglus a chŵn sydd allan o reolaeth ac yn peryglus, sydd, yn eu barn nhw, yn fater a gedwir yn ôl yn unol â pharagraff 44, adran B6 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Fodd bynnag, ein barn glir ni yw bod angen cydsyniad ar gyfer darpariaethau'r Bil. Fel yr ydym ni wedi dadlau yn ein hymateb, maen nhw'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â materion datganoledig i'r graddau y maen nhw'n berthnasol i Gymru, yn enwedig lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth, a phwrpas y darpariaethau yw diogelu da byw rhag niwed. Felly, mae gennym ni wahaniaeth barn, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni wedi ymgysylltu'n ddwys ers cyflwyno hyn mewn ysbryd cydweithredol i wneud yn siŵr bod hyn yn iawn i Loegr ac i Gymru.

Llyr, rwy'n nodi eich sylwadau ar ba mor hir y mae hyn wedi cymryd i'w gyflwyno. Rydym ni wedi gwneud yn glir ein cefnogaeth i'r angen am y ddeddfwriaeth hon yn gyson. Roeddem yn siomedig, mewn gwirionedd, pan syrthiodd ar wahanol rwystrau, ond rydym yn dal i fod yn gyson nawr yn ein cefnogaeth i gyflwyno hyn. Dyna pam rydym ni wedi ymgysylltu mor ddwys. Rwyf wedi codi hyn mewn materion mewn cyfarfodydd dwyochrog ers i mi gychwyn yn y swydd gyda Gweinidogion, gan ddweud, 'Os daw'r cyfle, a allwn ni gael hyn yn ôl ar y llyfr statud? Rhowch eich cefnogaeth iddo fel Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn yn sicr yn ei gefnogi yma hefyd.' Ac mae'n dda gweld nawr ei fod yn symud ymlaen ac nid yw'n ymddangos bod rhwystr. Mae cefnogaeth eang, gobeithio, yma yn y Senedd, ond hefyd ar lefel Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd.

Felly, gyda hynny, Llywydd, ac ar ôl cynnig y cynnig o'r blaen, rwy'n parhau i fod yn gadarn iawn o'r farn y dylem ni gydsynio i'r Bil hwn a gofyn i'r Aelodau gefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2)

Eitem 7 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2). Yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth sy'n cyflwyno'r Bil—Ken Skates.

Cynnig NDM8980 Ken Skates

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac yn argymell i'r Senedd gydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) fel y'u nodir yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd mewn perthynas ag ef. Rwy'n credu mai Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd wnaeth y jôc eich bod yn aros am un Bil bws ac yna mae dau yn dod ar yr un pryd. Mae wedi bod yn eithaf heriol, ond mae hefyd wedi rhoi cyfleoedd i ni sicrhau bod y modelau sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru ac yn Lloegr yn ategu ei gilydd ac yn cefnogi'r rhai sy'n wirioneddol bwysig—y cyhoedd sy'n teithio.

Rwy'n croesawu'r cyfle i esbonio cefndir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil ac i amlinellu'r rhesymau pam rwy'n credu ei fod yn haeddu cefnogaeth y Senedd. Trwy'r Bil hwn, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio symleiddio ac ymestyn pwerau presennol i alluogi awdurdodau lleol yn Lloegr i sefydlu eu modelau gweithredu bysiau eu hunain a darparu pwerau i gefnogi'r modelau hynny. Eu nod, yn debyg i'n un ni, yw helpu i wella gwasanaethau bysiau a chael mwy o gwsmeriaid. Mae Bil y Deyrnas Unedig hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch diogelu gwasanaethau ysgol a hyfforddi gyrwyr bysiau ac eraill i fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mewn perthynas ag ymwybyddiaeth a chymorth anabledd.

Nid yw'r rhan fwyaf o'r Bil yn ymwneud â gwasanaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, mae yna ddarpariaethau sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel yr amlinellir yn y memoranda. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn canolbwyntio ar oblygiadau rhai o'r darpariaethau hyn ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys o dan y Bil gwasanaethau bysiau, ac rwy'n falch o ddweud bod y trafodaethau hyn wedi dod i ben gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno nifer o welliannau i leihau'r effaith ar ddarparu gwasanaethau bysiau lleol o dan ein Bil Cymru a chydnabyddiaeth o fanteision cefnogi darpariaeth perthynas â gwasanaethau trawsffiniol. Mae'r diwygiadau i gymalau sy'n ymwneud â chwmnïau bysiau trefol, diogelu gwasanaethau ysgolion, a hyfforddiant gyrwyr ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sicrhau nad oes tresmasu i diriogaeth ddatganoledig. Byddwn yn cymryd y camau a'r canllawiau angenrheidiol i sicrhau y cyflwynir darpariaeth briodol yng Nghymru.

O ran cymalau 35 a 36, byddaf, wrth gwrs, yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol diweddaraf, a gefais ddoe. Fodd bynnag, fe hoffwn i egluro fy rhesymau dros gefnogi cydsynio i gymalau 35 a 36. Er ein bod o'r farn y gallem ni gyflawni'r un effaith bron trwy ddeddfu yng Nghymru, nid ydym yn credu y dylai ei gymhwyso yng Nghymru o reidrwydd gael effaith sylweddol ar neu rwystro darparu gwasanaethau bysiau o dan ein model newydd arfaethedig. Rwy'n cytuno â bwriad cyffredinol y cymalau hyn, a fydd o fudd i ddefnyddwyr a darpar ddefnyddwyr gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru. Rwy'n credu y bydd cyflwyno'r dyletswyddau hyn ar gwmnïau yn helpu i wella hygyrchedd bysiau trwy ymgorffori ymwybyddiaeth o faterion anabledd.

Llywydd, i gloi, fe hoffwn i ddiolch i'r pwyllgorau am ystyried y memoranda hyn ac, i gydnabod effeithiau cadarnhaol y Bil hwn, yn enwedig ar wasanaethau trawsffiniol, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn cydsynio. Diolch.

17:05

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Lywydd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adrodd ar bob un o'r pedwar memoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2). Bydd aelodau'r Senedd yn nodi o adroddiad y pwyllgor fod y pwyllgor wedi holi'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag asesiad Llywodraeth Cymru o ba gymalau yn y Bil sy'n sbarduno gofynion Rheol Sefydlog 29 gan eu bod yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â mater datganoledig. Ar y pwynt hwn, mae'r pwyllgor yn parhau i fod heb ei argyhoeddi gan ddadl Llywodraeth Cymru ynglŷn â chymal 26, ac, er ei fod yn cydnabod barn yr Ysgrifennydd Cabinet ar hyn, mae'r pwyllgor yn parhau i fod o'r farn y dylid ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymal hwn.

Mae'r pwyllgor wedi cydnabod, ar ôl cyfnod o drafod rhwng y Llywodraethau, fod rhai cymalau a oedd yn gymwys yn wreiddiol mewn perthynas â gwasanaethau yng Nghymru bellach wedi'u diwygio fel eu bod bellach wedi'u datgwymhwyso i raddau helaeth. Fodd bynnag, ar yr adeg y bu i Lywodraeth Cymru gyflwyno memorandwm Rhif 4, parhaodd cymalau 35 a 36 o'r Bil i fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru, er bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn iddynt gael eu datgymhwyso, ac nid yw'r Ysgrifennydd Cabinet wedi darparu unrhyw argymhelliad clir ynghylch a ddylai'r Senedd gydsynio i'r Bil beth bynnag. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet fynd i'r afael â'r cymalau hyn yn ei sylwadau clo.

Nesaf, byddaf yn troi at y digwyddiadau sy'n arwain at y ddadl cydsyniad deddfwriaethol y prynhawn yma. Cyflwynwyd Bil Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Senedd y Deyrnas Unedig ym mis Rhagfyr 2024, ond ni chyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet y memorandwm gwreiddiol tan 11 Mawrth 2025. Roedd y memorandwm hwnnw'n ymwneud â dim ond un cymal yn y Bil, er bod darpariaethau eraill yn y Bil a oedd yn effeithio ar wahanol faterion datganoledig. Arweiniodd hyn i ni, Llywydd, ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, gan bwysleisio y dylai'r memorandwm gynnwys yr holl ddarpariaethau perthnasol, hyd yn oed os bydd rhai yn cael eu datgymhwyso mewn perthynas â Chymru yn ystod hynt y Bil trwy Senedd y Deyrnas Unedig. Yn ei lythyr, Llywydd, ar 25 Mawrth, ymrwymodd yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn rhestru'r cymalau yn y Bil, fel y'u cyflwynwyd yn Senedd y Deyrnas Unedig, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru ac nad oeddent wedi'u cynnwys yn y memorandwm gwreiddiol. Fel y nodwyd yn ail adroddiad y pwyllgor, nid yw'n glir pam na chyflwynwyd memorandwm Rhif 2 tan 23 Mai. Daeth y pwyllgor i'r casgliad yn ei ail adroddiad nad yw'r dull hwn o ymdrin â'r broses gydsynio deddfwriaethol yn dangos y lefel o barch at y Senedd yr hoffem ei weld. Yn adroddiad terfynol y pwyllgor, a gyflwynwyd brynhawn ddoe, croesawodd y pwyllgor sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet nad oedd y dull gweithredu wedi'i fwriadu i fod yn amharchus ac y bydd y Llywodraeth yn ceisio sicrhau nad yw'r oedi yn cael ei ailadrodd.

Yn olaf, fe hoffwn i nodi diddordeb y pwyllgor yn y gorgyffwrdd rhwng Bil Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Bil gwasanaethau bysiau Llywodraeth Cymru, y cytunodd y Senedd yr wythnos diwethaf y gallai symud ymlaen i'r cyfnodau diwygio. Tynnodd y pwyllgor sylw at ei adroddiad cyntaf nad yw'n glir pryd y dechreuodd Llywodraeth Cymru a'r Deyrnas Unedig drafod meysydd o orgyffwrdd a gwahaniaethau yn y ddau gynnig deddfwriaethol. Roedd adroddiad cyntaf ac ail adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw nad oedd effaith bosibl y Bil ar Fil gwasanaethau bysiau Llywodraeth Cymru wedi'i esbonio'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae'n anffodus, yn yr olaf o'n hadroddiadau a gyflwynwyd brynhawn ddoe, bod y pwyllgor yn dod i'r casgliad ei fod yn siomedig nad yw effaith bosibl Bil Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) wedi'i gwneud yn glir i'r Senedd cyn gofyn iddi ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil.

17:10

Mae Plaid Cymru yn siomedig gyda'r modd y mae'r broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hon wedi'i thrin, ac, yn hyn o beth, rydym ni'n cytuno â chasgliadau adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Fe welsom ni ddehongliadau cyferbyniol o ran graddfa rhyngweithio'r Bil hwn â chymwyseddau datganoledig, sydd wedi arwain at oedi anffodus wrth gyflwyno memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yr oedi, mae'r sefyllfa yn tynnu sylw at yr angen i adolygu'r trefniadau cydsynio presennol ac i bwysleisio i Lywodraeth y Deyrnas Unedig bod yn rhaid i'r Senedd gael y parch y mae'n ei haeddu fel deddfwrfa ar wahân, yn hytrach na chael ei thrin fel ôl-ystyriaeth. Byddwn yn gobeithio bod gwersi yn cael eu dysgu o'r bennod hon fel bod gennym ni wybodaeth llawer mwy amserol a chywir ynghylch rhyngwyneb deddfwriaeth y Deyrnas Unedig ar feysydd cymhwysedd datganoledig. Fel rydym ni wedi clywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae cwestiynau pellach hefyd ynghylch perthynas y darn hwn o ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Deyrnas Unedig  â'n Bil Bysiau ein hunain wrth iddo symud ymlaen drwy'r Senedd a datblygu. Ar y sail honno, bydd Plaid Cymru yn ymatal ar hyn. Diolch.

Diolch, Llywydd. Wrth gloi'r ddadl hon, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma. O ran materion sy'n ymwneud â chymalau 35 a 36, rwy'n credu fy mod wedi mynd i'r afael â nhw yn fy natganiad agoriadol a byddaf yn gwneud hynny eto yn ysgrifenedig mewn ymateb i'r pwyllgor.

O ran prosesau ac amseroedd memoranda cydsyniad deddfwriaethol, do, fe wnaed dadansoddiad o'r Bil hwn ochr yn ochr â'n Bil ein hunain yn ystod camau diweddarach ei ddatblygiad, a oedd yn golygu ei fod yn cymryd amser, yn amlwg, a chafodd fy swyddogion weld y Bil am y tro cyntaf pan gafodd ei gyflwyno ar y diwrnod olaf cyn egwyl y Nadolig, ar 17 Rhagfyr 2024. Rwy'n sylweddoli y bydd y Senedd yn siomedig gyda'r oedi wrth gyflwyno'r ddau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyntaf, ac, er bod ymgysylltiad rheolaidd a defnyddiol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae natur ac amseriad Bil y Deyrnas Unedig mewn perthynas â datblygu a chraffu ar ein Bil ein hunain wedi bod yn heriol iawn, ac rwy'n sylweddoli bod gallu'r Senedd i graffu ar Fil y Deyrnas Unedig wedi cael ei effeithio. Ond mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nodau cyffredinol y Bil a'r darpariaethau hynny sy'n berthnasol i Gymru, ac felly byddwn yn gofyn i'r Aelodau ymuno â mi i gydsynio iddo.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni gymryd pleidlais ar y cynnig yma.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais gyntaf—dim ond un pleidlais y prynhawn yma—ar yr eitem rŷn ni newydd ei thrafod, eitem 7, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil gwasanaethau bysiau. Felly, dwi'n galw am bleidlais—

Llywydd, mae Aelod yn teithio, ac nid wyf yn credu bod hynny'n cael ei ganiatáu pan fyddwn ni'n pleidleisio.

Iawn, bydd yr holl bleidleisiau a fideos a welaf o'm blaen yn cael eu caniatáu ar gyfer y prynhawn yma, a byddaf yn adolygu'r canllawiau gan fod Aelod yn amlwg yn teithio mewn car wrth iddo bleidleisio.

Fe wnaf i agor y bleidlais, felly, ac mae'r bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Ken Skates. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2): O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ni ddiwedd ar y pleidleisiau, a diwedd ar ein gwaith ni am y prynhawn yma.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:15.