Y Cyfarfod Llawn

Plenary

22/10/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae'r rhain heddiw i'w hateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet, Rebecca Evans, ar ran Ken Skates. Cwestiwn 1, felly, Carolyn Thomas.

Rhwydwaith Gogledd Cymru

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau ar gyfer gwasanaeth newydd rhwydwaith gogledd Cymru rhwng Llandudno a Lerpwl? OQ63301

Gwnaf. Rydym wedi ymrwymo i wella trafnidiaeth rheilffyrdd yng ngogledd Cymru drwy gyflawni gweledigaeth rhwydwaith gogledd Cymru. Wrth wraidd hynny, bydd gwasanaethau tebyg i'r metro. Bydd 50 y cant yn rhagor o wasanaethau'n gweithredu ar brif linell reilffordd y gogledd o fis Mai 2026, gyda gwasanaeth bob awr rhwng Llandudno a Lerpwl.

Diolch am y diweddariad. Mae'n newyddion da iawn i drigolion yn fy rhanbarth, a fydd yn gallu defnyddio'r gwasanaeth i gael mynediad at gyfleoedd ar ddwy ochr y ffin, boed hynny'n wasanaethau cyflogaeth neu adloniant. Cysylltodd etholwr â mi i ofyn a allwn ddisgwyl gweld y gwasanaeth Lerpwl-Llandudno yn rhedeg ar y Sul, gan na all patrymau gwasanaeth presennol ddal i fyny â'r galw cynyddol ar benwythnosau.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Bydd y gwasanaeth Lerpwl i Landudno a fydd yn cael ei gyflwyno ddechrau'r flwyddyn nesaf yn cael ei gyflwyno fel gwasanaeth bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae'r gwasanaethau hynny wedi'u cynllunio i gael eu gweithredu gan drenau newydd sbon, diolch i'n buddsoddiad o £800 miliwn yn y fflyd newydd. Ond mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod y galw cynyddol am fwy o wasanaethau rheilffyrdd ar y Sul, ac maent yn ceisio cynyddu nifer y gwasanaethau ar y Sul i weithredu ar draws y rhwydwaith, lle mae'n bosib iddynt wneud hynny. Felly, ni fydd yn bosib i'r gwasanaeth Lerpwl i Landudno redeg ar y Sul yn syth. Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail fel rhan o weledigaeth rhwydwaith gogledd Cymru i ddeall pryd y gallai fod yn bosib darparu gwasanaeth ar y llwybr hwnnw ar y Sul, gan gydnabod y cyfle a'r galw tebygol yr ydych chi newydd ei nodi ar gyfer y gwasanaeth.

Daliwch yn dynn, gallai'r hyn rwy'n mynd i'w ddweud eich chwythu oddi ar y cledrau: 'diolch' a 'da iawn'. Rydym wedi ymgyrchu ers peth amser bellach am y newid cadarnhaol hwn—ers mis Mai—ac rwyf wedi bod yn falch o roi diweddariad i fy etholwyr yn Aberconwy dros sawl mis. Mae Llandudno—brenhines cyrchfannau Cymru—yn un o brif gyrchfannau twristaidd y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweld oddeutu 10 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol, gyda llawer ohonynt yn dod o ogledd-orllewin Lloegr. Felly, ar ôl ymgyrchu dros wasanaeth rheilffordd uniongyrchol rhwng Llandudno a Lerpwl, mae'n braf gwybod, fel Llywodraeth, eich bod wedi gwrando. Rwy'n adnabod pobl ar ddau ben y llwybr sy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwasanaeth yn dechrau fis Mai nesaf, ac mae'r ffaith y bydd modd ei ddefnyddio ar y Sul yn newyddion hyd yn oed yn well. Ond a allwch chi egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych chi'n eu cymryd gyda Trafnidiaeth Cymru a Croeso Cymru i ddefnyddio'r datblygiad cyffrous hwn fel cyfle i annog rhagor o bobl eto i ymweld ag Aberconwy o Lerpwl y flwyddyn nesaf?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn ac am y croeso cynnes i'r gwelliannau a gaiff eu gwneud ar y cysylltedd rhwng Llandudno a Lerpwl. Cytunaf yn llwyr fod hwn yn gyfle gwych i wella a chynyddu'r dwristiaeth sydd gennym yn y rhanbarth. Rydym wedi bod yn gwneud gwaith gwych ar draws y ffin, ac rwyf eisiau talu teyrnged i'r maer Steve Rotheram am y gwaith a wnaeth i sicrhau bod gweledigaeth rhwydwaith gogledd Cymru yn dod yn realiti. Mynychodd gyfarfod cabinet gogledd Cymru yn ddiweddar, lle cawsom ddiweddariad ar y mater. Mae llawer o gyffro am y gwasanaeth newydd. Siaradais ag ef eto ddoe am y gwasanaeth newydd a'r cyfleoedd y bydd yn eu rhyddhau, yn uwchgynhadledd fuddsoddi rhanbarthol gyntaf Llywodraeth y DU, a gynhaliwyd yn Birmingham. Felly, mae llawer o ddiddordeb mewn dod i Gymru fel twristiaid o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, ac rydym yn sicr yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr o Lerpwl wrth i'r gwasanaeth newydd gael ei sefydlu a'i weithredu.

Diogelwch a Thagfeydd ar yr A55

2. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd a lleddfu tagfeydd ar yr A55? OQ63277

Rydym yn cynnal astudiaeth o anghenion trafnidiaeth a gwydnwch yr A55/A494. Bydd hyn yn datblygu dealltwriaeth gadarn ac aml-ddull wedi'i harwain gan dystiolaeth o heriau a chyfleoedd trafnidiaeth ar hyd y coridor hwn, ynghyd ag ymyriadau posib i fynd i'r afael â nhw. Bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ddiogelwch, cysylltedd, gwydnwch, hygyrchedd, perfformiad gweithredol, gwydnwch hinsawdd a chefnogi twf economaidd.

13:35

Anfonais lythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar 12 Awst eleni ynghylch mesurau diogelwch ffyrdd ar yr A55, a chefais ymateb llawn ganddo ar waith Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn. Er fy mod yn derbyn na all fod gyda ni heddiw i ymhelaethu ymhellach ar ei ymateb, hoffwn glywed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud ar ran ganol yr A55, sydd, yn fy marn i, wedi cael ei hanwybyddu. Ers fy llythyr ym mis Awst, yn anffodus, bu dwy ddamwain angheuol ar yr A55 ar y darn penodol o ffordd rwy'n pryderu amdano—yn fras, y darn peryglus o ffordd i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd 33 a chyffordd 32 yn Helygain yn sir y Fflint. Yn aml, mae tagfeydd yn yr ardal hon oherwydd gwrthdrawiadau traffig, ac roedd hyn yn absennol i raddau helaeth o ymateb ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru yn ystyried cysylltedd i ac o Ynys Môn, ac mae'r cynllun rheoli traffig ar waith pan fo'r ffordd ar gau rhwng Bangor a Chyffordd Llandudno, ond nid oes cynllun tebyg ar waith ar gyfer rhan ganol yr A55. Felly, hoffwn wybod sut y bydd astudiaeth Llywodraeth Cymru ar anghenion trafnidiaeth a gwydnwch yr A55 a'r A494 yn edrych ar y rhan benodol o'r A55 a nodais yma heddiw, ac a ellir ystyried mesurau i leihau gwrthdrawiadau a marwolaethau ar y rhan benodol hon o'r A55.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn ac am y gwaith y buoch chi'n ei wneud ers peth amser bellach ar ddiogelwch ffyrdd ar yr A55. Gwn eich bod wedi gohebu ag Ysgrifennydd y Cabinet ar ystod o faterion yn y cyswllt hwn. Er mwyn lleihau'r oedi a achosir gan ddigwyddiadau a cherbydau'n torri lawr ar hyd coridor yr A55, rydym yn gweithredu gwasanaeth swyddog traffig. Mae'r gwasanaeth hwnnw'n gweithredu am 365 diwrnod y flwyddyn, a gallant gael gwared â cherbydau neu rwystrau'n gyflym oddi ar ymyl y ffordd i wella llif y traffig. Mae gwasanaeth cyfathrebu Traffig Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth fyw i deithwyr ynghylch amseroedd teithio, ac oedi a digwyddiadau, i gynorthwyo gyda'u cynlluniau teithio. Ond rwy'n sylweddoli bod eich prif bryder, mewn gwirionedd, yn ymwneud â diogelwch ffyrdd ar y darn canol hwnnw, ac fe geisiaf siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet a rhoi ateb llawnach i chi am yr hyn sy'n digwydd ar y darn penodol hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies. 

Diolch, Lywydd. Fi eto. [Chwerthin.]

Hoffwn godi mater sy'n peri pryder cynyddol i gymunedau a busnesau ledled y gogledd, sef y sector lletygarwch. A dweud y gwir, mae ein tafarndai, bwytai, caffis, gwestai ac atyniadau ymwelwyr ar eu gliniau. Dywedodd David Chapman, cyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru, wrth bwyllgor economi'r Senedd y mis diwethaf fod ei ddiwydiant yn wynebu pwysau enfawr, a'u bod ar hyn o bryd yn wynebu cyfnodau economaidd hollol ddieflig—ei eiriau ef, nid fy rhai i. Mae oddeutu 89,000 o swyddi yn y maes lletygarwch wedi'u colli yn y 10 mis diwethaf ledled y DU, ac mae Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain yn rhagweld y bydd un dafarn yn cau bob dydd. Mae proffidioldeb wedi gwasgu'r rhan fwyaf o fusnesau lletygarwch allan yn llwyr, ac rwyf wedi cyfarfod â thafarndai, fel tafarn y North Star yng Nghaerdydd, i drafod eu sefyllfa anodd. A chyda chyfraniadau yswiriant gwladol cynyddol, costau ynni cynyddol, ardrethi busnes, mae'r rhan fwyaf yn dweud na allant barhau. Felly, mae llawer o fusnesau'n cwestiynu pam eu bod wedi'u hepgor o gynlluniau Llywodraeth Cymru i dorri ardrethi busnesau manwerthu'r stryd fawr yng nghanol trefi a dinasoedd. O fis Ebrill, byddwn yn gweld ardrethi busnes o bron i £7,000 ar gyfer tafarn, £15,000 ar gyfer bwyty mawr ac oddeutu £50,000 ar gyfer gwesty. Mae hyn yn anghynaliadwy, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwelsom Lywodraeth Cymru, yn gywir ddigon, yn rhoi sylw difrifol i'r colli swyddi yn Tata Steel, ond gallwn ddisgwyl gweld llawer mwy o swyddi'n cael eu colli yn y diwydiant lletygarwch yn y blynyddoedd i ddod, ac ymddengys nad oes unrhyw gydnabyddiaeth i faint y broblem. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu arbed swyddi a lleoliadau lletygarwch yn y gogledd, gan gynnwys gostyngiad mwy hael i ardrethi busnes, neu becyn wedi'i dargedu ar gyfer y busnesau annibynnol lleiaf yn ein sector?

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, a'r gydnabyddiaeth i bwysigrwydd lletygarwch i'n heconomi yma yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cael cyfarfodydd adeiladol iawn gyda David Chapman, ar ran UKHospitality, yn edrych ar ystod o faterion.

Credaf fod y mater penodol sy'n cael ei godi y prynhawn yma yn ymwneud â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi annomestig yn y dyfodol, a sut y gallwn fynd ati i ddarparu rhyddhad ychwanegol, neu o bosib, rhyddhad mwy priodol i rai busnesau llai ar ein strydoedd mawr. Felly, fel y nododd yr Aelod, mae'r cynlluniau cychwynnol yn ystyried safleoedd manwerthu llai, er enghraifft. Mae rhan o'r meddwl y tu ôl i hynny, y gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn arwain arno, yn adlewyrchu'r gystadleuaeth y mae'r busnesau hynny'n enwedig yn ei hwynebu gan fusnesau ar-lein a digidol, a siopa ar-lein, sy'n effeithio'n arbennig ar y busnesau manwerthu hynny. Rwy'n credu y bydd y gwaith a wnaethom drwy edrych eto ar y ddeddfwriaeth mewn perthynas ag ardrethi annomestig a chaniatáu inni osod lluosyddion amrywiol yn y dyfodol yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth i ganiatáu inni ddarparu pecyn cymorth wedi'i dargedu'n well, o bosib, i wahanol fathau o fusnesau. Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth honno'n newydd iawn; nid yw ond newydd ddod i mewn Felly, gwn y bydd llywodraethau'r dyfodol eisiau edrych ar y gwahanol ddulliau gweithredu y gallant eu defnyddio i gefnogi gwahanol sectorau.

O fy mhortffolio fy hun, rwy'n awyddus iawn i gefnogi lletygarwch drwy annog mwy o dwristiaeth o weddill y DU i Gymru, gan y gwyddom fod busnesau lletygarwch yn elwa'n fawr o hynny. Rydym newydd gael cwestiwn trafnidiaeth am gysylltedd â Lerpwl, ac rydym yn gwneud gwaith gwych gyda Croeso Cymru i hyrwyddo ein sector lletygarwch a'n diwydiant bwyd a diod yn enwedig.

13:40

Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, ac fe gyfeirioch chi'n benodol at fanwerthu, ond rwy'n falch eich bod wedi sôn am letygarwch hefyd. Ond mae fy mhryder ynghylch cyflwr difrifol y diwydiant lletygarwch yn amlweddog. Mae perygl y gallem golli miloedd o swyddi. Rydym hefyd yn gweld ergyd enfawr i economi'r gogledd, ac yn bwysig iawn, rydym yn gweld y perygl o ergyd enfawr i dreftadaeth Cymru a'r traddodiad tafarn.

Mae economi'r gogledd hefyd yn ddibynnol iawn ar dwristiaeth, sef sector arall y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddewis ar gyfer trethiant cosbol. Ac mae'r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr yn cael effaith niweidiol iawn ar y diwydiant lletygarwch a'n heconomi ranbarthol. Mae Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU, PASC, wedi mynegi pryder difrifol ynghylch methiant parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi twristiaeth a'r diwydiant lletygarwch, gyda baromedr twristiaeth Cymru ar gyfer ton mis Mehefin 2025 yn datgelu dirywiad sylweddol yn nifer yr ymwelwyr, pesimistiaeth gynyddol ymhlith gweithredwyr, a sector dan bwysau cynyddol. Rwy'n siarad â busnesau yn y sector hwn, a gallaf eich sicrhau bod 'pesimistiaeth gynyddol' yn danosodiad. Felly, gofynnaf eto a wnaiff Llywodraeth Cymru ailasesu ardrethi busnes os bydd amodau yn y sector lletygarwch a hamdden yn parhau i ddirywio, gan achosi ergyd i'r economi a cholli llawer iawn o swyddi? A sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cysoni ei huchelgais i dyfu economi Cymru â gosod rhwystrau parhaus o flaen diwydiannau Cymru a gwrthod newid cyfeiriad pan fo'r economi'n parhau i ddirywio?

Rwyf wedi bod yn hynod o hael ac mae'r brawddegau hyn yn parhau i dyfu wrth imi aros iddynt orffen. Credaf eu bod wedi gorffen nawr, felly yr Ysgrifennydd i ymateb.

Iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â PASC yn ddiweddar i archwilio eu pryderon, yn enwedig ynghylch y terfyn 182 noson, y mae'r Gweinidog Cyllid, sydd â chyfrifoldeb am y materion hynny, yn edrych arnynt drwy ymgynghoriad, gyda ffyrdd posib wedi'u cynnig ar gyfer ymateb i rai o bryderon y sector yn y maes penodol hwnnw.

Unwaith eto, cyfeiriaf yr Aelod at y gwaith a wnaethom drwy'r ddeddfwriaeth flaenorol i sicrhau ein bod yn gallu cael lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer busnesau o ran ardrethi busnes, a hefyd i edrych yn wahanol ar ryddhad ardrethi busnes yn y dyfodol. Er hynny, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y cyfraniad y mae ardrethi annomestig yn ei wneud i'n gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, os oes cynigion i newid ardrethi annomestig yn sylweddol, credaf fod yn rhaid rhoi enghraifft i gyd-fynd â hynny o sut y byddech yn darparu ar gyfer yr o leiaf £1 biliwn o refeniw sy'n dod i wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i ardrethi annomestig.

Diolch. Yn olaf, hoffwn sôn am ddigwyddiad a gynhaliwyd dros y penwythnos—gorymdaith Yes Cymru dros annibyniaeth, a gynhaliwyd yn y gogledd-ddwyrain. Dewisodd y trefnwyr orymdeithio drwy rannau o'r ward dlotaf yn y Rhyl, sy'n cynnwys rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Er enghraifft, mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru ar gyfer 2019 yn nodi Gorllewin y Rhyl 2 fel un o'r ardaloedd cynnyrch ehangach is mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Credaf fod angen swyddi, buddsoddiadau ac adfywio ymarferol ar y gymuned honno, nid rhaniad ymwahanol a tharfwyr o'r tu allan. Y pwynt economaidd sylfaenol yw hwn: mae gan Gymru ddiffyg cyllidol mawr ar hyn o bryd—bwlch strwythurol rhwng gwariant cyhoeddus yma a'r refeniw treth a godir yng Nghymru. Gwyddom y byddai ymwahanwyr yn hoffi ceisio rhannu'r cysylltiadau economaidd sy'n rhwymo gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ac atal ymwelwyr â'n rhanbarth gan achosi niwed anfesuradwy. Amcangyfrifwyd dro ar ôl tro fod y bwlch hwnnw'n biliynau o bunnoedd. Pan gaiff ei fynegi ar sail y pen, amcangyfrifir yn gyffredin ei fod oddeutu £7,000 y pen. Felly, a yw'r Cabinet—

13:45

Fel y dywedais, rwyf wedi bod yn hael gyda'r ddau gwestiwn blaenorol. Bydd angen i chi ddod at eich cwestiwn.

Rwyf ar fy nghwestiwn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw rhaniad ymwahanol yn ddefnyddiol, ei bod yn anghyfrifol gwthio hyn ar gymunedau'r gogledd-ddwyrain, ac mewn gwirionedd, y byddai'n gwbl ddinistriol i economi Cymru?

Nid oes llawer y buaswn yn anghytuno â'r Aelod yn ei gylch o ran ei asesiad o effeithiau annibyniaeth ar Gymru.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi roedd pobl yn wirioneddol rwystredig a blin pan ddaeth y newyddion fod pont y Borth yn gorfod cau eto, bron tair blynedd ar ôl ei chau hi yn ddirybudd yn 2022. Mae yna lawer o atebion rydyn ni eu hangen gan y Llywodraeth, ond mae yna weithredu rydyn ni ei angen gan y Llywodraeth hefyd i helpu'r bobl sy'n talu'r pris am hyn. Dwi wedi siarad efo llawer o fusnesau sydd eto yn teimlo effaith y cau rhannol yma. 

Yn ôl yn 2022, fe wnaeth y busnesau rwy'n siarad â nhw eto nawr nodi gostyngiad o 40 y cant yn nifer yr ymwelwyr pan gaeodd y bont. Ceisiodd llawer ohonynt gymorth gan Busnes Cymru. Yn anffodus, canfu rhai na allent barhau, ac fe wnaethant gau eu drysau. Ni all busnesau ddioddef gostyngiad arall mewn masnach, ac ni ddylent orfod gwneud hynny. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cymorth brys i fusnesau yr effeithir arnynt?

Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn. Gwn fod Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid i sicrhau bod y bont yn gallu agor cyn gynted â phosib. Byddwn yn sicr eisiau archwilio pa gymorth y gellir ei ddarparu drwy Busnes Cymru, ac rwy'n annog busnesau sydd ag unrhyw bryderon i gysylltu â Busnes Cymru. Gallwn ddarparu ystod eang o wybodaeth, cymorth a chyngor drwy'r gwasanaeth hwnnw. Ond rydym hefyd yn awyddus i archwilio gyda'r awdurdod lleol beth yw eu hasesiad o'r effaith ar fusnesau lleol hefyd.

Mae arnaf ofn nad yw hyn ddim yn ddigon da ac mae'r ymateb yn rhy araf. Un o'r rhwystredigaethau mwyaf, nid yn unig i fusnesau ond i drigion lleol, ydy peidio â gwybod pa bryd fydd y tarfu yma yn dod i ben. Dwi a'm tîm wedi bod i'r cyfarfodydd rheolaidd efo swyddogion y Llywodraeth a chwmni UK Highways A55, lle rydyn ni'n clywed lle rydyn ni arni efo'r rhaglen waith, ond rydyn ni'n cael ein gadael i lawr dro ar ôl tro.

A dweud y gwir wrthych, nid wyf yn credu gair a ddywedir wrthyf yn y sesiynau briffio rheolaidd mwyach. Dro ar ôl tro, mae'r amserlen yn llithro, ac mae'n llithro'n wael. Rwy'n eich atgoffa mai'r amserlen wreiddiol oedd gorffen popeth ar y bont erbyn mis Awst eleni. Trodd hynny'n fis Rhagfyr, yna'n haf 2026, gan fethu deucanmlwyddiant y bont, y dywedwyd wrthym mai dyna oedd y terfyn amser olaf un, a nawr, mae hyd yn oed mwy o oedi. A oes unrhyw beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y gall ei ddweud a all adfer ymddiriedaeth pobl o ran pryd fydd y gwaith hwn yn cael ei wneud?

Rwyf eisiau pwysleisio wrth fy nghyd-Aelodau fod Llywodraeth Cymru, ac Ysgrifennydd y Cabinet yn arbennig, o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn, a sut rydym yn gweithio mor agos gyda phartneriaid i sicrhau bod y bont yn cael ei hagor yn llawn cyn gynted â phosib. Mae pawb yn gweithio mor galed â phosib i'r perwyl hwnnw. Mae’n ddrwg gennyf nad yw'r sesiynau briffio wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Efallai y gallwn gael trafodaeth bellach ynghylch pa wybodaeth bellach a allai fod yn ddefnyddiol yn hynny o beth, ac unrhyw wybodaeth fanwl y mae angen i chi ei rhannu gyda'ch etholwyr hefyd o bosib.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith bod y sesiynau briffio'n cael eu cynnal, ac ar y pryd, maent yn ddefnyddiol iawn. Ond pan roddir dyddiad i chi yr ydych chi bron yn sicr y bydd yn llithro eto, mae hynny'n tanseilio'r ffydd sydd gennyf i a fy etholwyr wrth symud ymlaen.

Wrth gwrs, beth mae hyn i gyd yn ei ddweud wrthym ni ydy pa mor fregus ydy'r cysylltiad ar draws y Fenai, a does yna ddim byd i'w weld yn cael ei wneud i drio ffeindio ateb i hynny. Mae yna ymhell dros ddegawd ers i fi ofyn am gyflwyno system tair lôn ar bont Britannia; mi wrthodwyd hynny. Saith mlynedd ers i ni ennill y frwydr i gael pont newydd, mi gafodd hynny ei chanslo. Mae yna ddwy flynedd ers adroddiad Burns yn edrych am atebion amgen. Dwi wedi bod yn gwthio eto ers hynny am system tair lôn, a'r ateb rŵan ydy ei bod hi o bosib yn rhywbeth all ddigwydd. Ond ar wahân i symud ambell i arwydd, peintio ambell i streip newydd ar y ffordd, does yna ddim byd yn digwydd. All y Gweinidog ddim beio pobl Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru am deimlo eu bod nhw'n cael eu hanghofio gan y Llywodraeth yma a bod eu hanghenion nhw yn cael eu hanwybyddu, neu ar y gorau yn cael eu gwthio i lawr y rhestr o flaenoriaethau. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu y camau sydd yn cael eu cymryd i gyflwyno mesurau yn y tymor byr a fydd yn gwella gwytnwch croesiad y Fenai? Hefyd, pa waith sy'n cael ei wneud i gynllunio ar gyfer y tymor hirach, yn cynnwys pont newydd?

13:50

Gwn fod astudiaeth wedi'i chynnal yn 2018 a edrychodd ar opsiynau ar gyfer trydedd bont y Fenai. Mater i'r Llywodraeth newydd y flwyddyn nesaf fydd penderfynu a ddylid mynd ar drywydd yr opsiwn penodol hwnnw o ran trydedd bont ai peidio. Ond credaf fod yn rhaid cydnabod hefyd, o ystyried yr holl ofynion statudol, y byddai'n annhebygol y gallai'r gwaith adeiladu ddechrau o fewn pedair blynedd. Felly, mae'n bwysig fod y systemau sydd eisoes ar waith gennym yn gweithio. Erbyn diwedd heddiw, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda briff cyfredol gyda'r diweddaraf sydd gennym gan ein swyddogion a'n partneriaid ar lawr gwlad. Ac rwy'n llwyr gydnabod rhwystredigaeth eich etholwyr a'r hyn y maent wedi bod yn ei rannu gyda chi. Mae'n gwbl ddealladwy. Ond rwyf hefyd eisiau rhoi sicrwydd fod hyn yn flaenoriaeth, a bod gwaith yn mynd rhagddo bob dydd i fynd i'r afael â'r mater.

Ailagor Rheilffyrdd

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynlluniau i ailagor hen reilffyrdd yng Nghymru? OQ63272

Mae gennym hanes balch o ailagor llinellau rheilffordd sydd wedi cau, gan gynnwys llinell Glynebwy ac ailgyflwyno gwasanaethau i deithwyr ar linell Bro Morgannwg. Mae angen i waith dichonoldeb ar y posibilrwydd o ailagor llinellau rheilffordd ystyried masnachfreinio bysiau, ac mae'n rhaid iddo gydnabod nad yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli.

A gaf i ddiolch i chi am eich ateb? Fe fyddwch yn ymwybodol mai un o'r ardaloedd lle mae datblygu tai ar ei drymaf yw ardal Taf-Elái. Rwyf wedi bod yn gweithio dros y 10 mlynedd diwethaf neu fwy i ailagor y rheilffordd a fyddai'n rhan o goridor y gogledd-orllewin fel rhan o'r metro, a fyddai'n cysylltu â Phont-y-clun a Beddau. Mae oddeutu £1 filiwn o fuddsoddiad wedi'i wneud yn yr achos busnes. Mae'r llinell reilffordd yn ddiogel. Y cwestiwn go iawn nawr yw mai dyma'r unig opsiwn mewn gwirionedd ar gyfer datblygu pellach a system drafnidiaeth briodol. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pha ymgysylltiad sydd gennych â Trafnidiaeth Cymru nawr i symud hyn gam ymlaen o ran datblygu a buddsoddiad, gyda'r bwriad o geisio ymestyn coridor y gogledd-orllewin ac ailagor y rheilffordd a'r cysylltiad â'r cymunedau hynny?

Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu y byddai'r cynllun angen oddeutu £1 biliwn o gyllid, felly byddai angen ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i'r cynnig ac i'w gyllido. Fodd bynnag, mae'r cynllun wedi'i gynnwys ym mhapur gwyn diweddar Cyngor Caerdydd ar drafnidiaeth fel rhan o'u gweledigaeth i greu Cledrau Caerdydd llawn, yn rhedeg o ogledd-orllewin Caerdydd drwy ganol y ddinas, y bae, ac yna allan i ddwyrain y ddinas. Rwy'n falch iawn ein bod eisoes wedi ymrwymo £50 miliwn o arian cyfatebol, ynghyd ag ymrwymiadau Llywodraeth y DU drwy'r hen gronfa ffyniant bro, i'w gwneud hi'n bosib cyflawni'r cymal cychwynnol o gynllun Cledrau Caerdydd. Bydd hwnnw'n cysylltu gorsaf Canol Caerdydd yn uniongyrchol â Bae Caerdydd, a'r cynllun yw ei gwblhau yn 2028. Byddai datblygu a chyflawni cynlluniau yn y dyfodol fel coridor gogledd-orllewin Caerdydd yn amodol ar gytundeb bwrdd rheilffyrdd Cymru sy'n cael ei redeg ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a byddai'n rhaid ystyried unrhyw ystyriaeth o'r cynnig a'i fforddiadwyedd yn rhan o'r cynnig Cledrau Caerdydd llawn a blaenoriaethau rhanbarthol y cyd-bwyllgor corfforedig. Ond fel y dywedais, mae wedi'i gynnwys ym mhapur gwyn Cyngor Caerdydd ar drafnidiaeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb, ac i'r Aelod dros Bontypridd am ei gwestiwn, gan ei fod yn faes gwaith pwysig iawn. Credaf fod opsiwn yr un mor bwysig a llai costus hefyd ar gyfer ailagor gorsafoedd ar linellau rheilffordd presennol yma yng Nghymru, yn enwedig yn y cymunedau yng ngogledd Cymru sy'n tyfu'n gyflym ac sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol gan reilffyrdd ar hyn o bryd. Yn ardal Wrecsam a'r Fflint, er enghraifft, nodwyd trefi fel yr Orsedd, Marford, Johnstown a Chefn-mawr mewn prosiect 'rhwydwaith gogledd Cymru' diweddar fel ardaloedd sy'n werth eu harchwilio ar gyfer naill ai gorsafoedd newydd neu ailagor gorsafoedd, sy'n ddau opsiwn llawer llai costus nag adeiladu llinell reilffordd newydd sbon. Drwy ailagor gorsafoedd, gallwn sicrhau manteision pendant, gan leddfu'r pwysau ar ein ffyrdd, gwella mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau, a chefnogi twf economaidd ein rhanbarthau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda swyddogion cyfatebol ar lefel y DU i weld pa gyfleoedd y gellir manteisio arnynt i ailagor y gorsafoedd hyn?

13:55

Mae'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo drwy raglen 'rhwydwaith gogledd Cymru' yn bwysig iawn. Mae'n gynllun gwirioneddol uchelgeisiol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus amlder uchel integredig ar gyfer y gogledd, ac mae nifer o elfennau iddo. Rwy'n fwy na pharod, drwy Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, i hyrwyddo trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn y maes penodol hwnnw.

Roeddwn i'n falch iawn o weld, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, yr ymrwymiad i gael astudiaeth ddichonoldeb i mewn i ailagor y rheilffordd o Afon Wen i Fangor, ac mae'r astudiaeth yna bellach wedi cael ei chyhoeddi. Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol mai un o'r argymhellion oedd edrych i gynnal cynllun busnes, WelTAG 2 a 3, i mewn i'r posibilrwydd o ailagor y rheilffordd yna. Felly, beth ydy'r amserlen gan y Llywodraeth ar gyfer yr astudiaeth fusnes yna, os gwelwch yn dda?

Fy nealltwriaeth i yw bod yr astudiaeth ddichonoldeb ddiweddaraf i ailagor rheilffordd Afon Wen i Gaernarfon, ac ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth mewn gwirionedd, i greu cyswllt rheilffordd amgen o'r gogledd i'r de, wedi dangos costau adeiladu o oddeutu £2 biliwn. Mae angen i unrhyw gynllun i ailagor rheilffyrdd ystyried costau gweithredu'r gwasanaethau arfaethedig. Mae angen cymhorthdal ar bob gwasanaeth rheilffordd yng Nghymru i weithredu, felly mae angen inni ystyried hynny'n ofalus cyn inni gytuno i unrhyw wasanaethau newydd. Mewn perthynas ag argymhellion penodol yr astudiaeth ddichonoldeb, unwaith eto, bydd yn rhaid imi archwilio'r argymhellion penodol mewn perthynas â'r achos busnes, ac fe welaf ble rydym arni ar y llwybr penodol hwnnw.

Cau Pont y Borth

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gau Pont y Borth? OQ63270

Caewyd pont Menai ar 4 Hydref, ac fe'i hailagorwyd, gyda therfyn o 3 tunnell ar sail unffordd, ar 10 Hydref. Yr wythnos diwethaf, dechreuodd y gwaith o osod trawst pontio dros dro o dan y bont, a disgwylir i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau erbyn diwedd y mis.

Rwyf eisoes wedi siarad am hyn, y ffaith ei fod yn eithaf syfrdanol. Mae'n rhaid imi ddweud, oherwydd y sefyllfa a ddigwyddodd ddydd Llun, gyda'r holl lorïau hynny'n ceisio mynd ar hyd yr A55—roedd y tagfeydd yn ddisymud—ac yna'r problemau ar bont Menai, nid yw'n ddigon da o gwbl. Mae cymunedau a busnesau ar y ddwy ochr i'r Fenai, ac ar draws y gogledd, yn parhau i fod yn brin o atebion a hyder yng ngallu'r Llywodraeth hon yng Nghymru i fynd i'r afael yn briodol â'r anhrefn ar y pontydd. Ni allech fod wedi cael sylwadau cryfach na chan yr Aelod lleol, ac mae pobl bellach yn dechrau teimlo'n fwy na dim ond rhwystredig neu ddig; maent yn colli arian yn gyflym. Felly, rwy'n awyddus i weld pa iawndal sy'n cael ei gynnig, gan fod rhai o'r busnesau hynny'n eiddo i bobl yn Aberconwy.

Yn y tymor hir, mae llawer yn gwybod bod hyn yn golygu ymrwymo, rhywbeth rydych chi eisoes wedi'i wneud yn y gorffennol, i drydedd bont. Yn y tymor byr, a chyflawni'r argymhelliad yn yr astudiaeth o wydnwch cysylltiadau ar draws afon Menai, a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2023, mae angen ichi fwrw ymlaen ag astudiaeth ac asesiad risg manwl i gadarnhau addasrwydd ac ymarferoldeb system llif llanw a thrai tair lôn ar bont Britannia, a awgrymwyd hefyd gan Rhun, yr Aelod. Nododd eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, yr wythnos diwethaf, yn ei hymateb i mi, y bydd astudiaeth o wydnwch yr A55 yn cael ei chynnal eleni ac y bydd y pontydd ar draws afon Menai yn rhan o hynny. Mae trigolion y gogledd-orllewin wedi cael llond bol ar astudiaethau. Maent angen—

Rwyf wedi bod yn hael eto, ac mae angen ichi ddod at gwestiwn.

Mae angen pont arnom, nid mwy o waith papur. Pa ddiweddariad y gallwch chi ei roi ar yr opsiwn nawr o greu trydedd lôn ar bont Britannia?

Hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau fod pob opsiwn posib wedi'i archwilio i gadw'r bont ar agor yn ddiogel, ond nid oedd cyngor peirianwyr, a'r pryderon gorfodi a godwyd gan UK Highways A55, yn gadael unrhyw ddewis arall i ni ond cau'r bont yn gyfan gwbl dros dro ar yr adeg honno. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wedi cydnabod yn llawn y tarfu a achoswyd yn sgil cau'r bont ar gymunedau lleol ac ar bobl yr effeithiwyd arnynt. Mewn ateb blaenorol, addewais ysgrifennu at arweinydd Plaid Cymru erbyn diwedd y dydd. Byddaf yn ceisio ysgrifennu at yr holl Aelodau yr effeithir arnynt yn yr ardal honno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.

14:00
Diogelu Teithwyr Anabl

5. Sut y mae teithwyr anabl yn cael eu diogelu wrth ddefnyddio gwasanaethau rheilffyrdd? OQ63307

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y rheilffordd yng Nghymru yn ddiogel, yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Mae hyn wedi'i ategu gan ein buddsoddiad sylweddol mewn pobl, seilwaith a cherbydau i sicrhau bod anghenion yr holl deithwyr yn cael eu diwallu.

Diolch. Mae gan un o fy etholwyr, unigolyn ifanc gydag anawsterau dysgu cymedrol, awtistiaeth a dyspracsia difrifol, uchelgais i fod yn actor. Er mwyn cyflawni eu huchelgais, mae angen iddynt deithio'n rheolaidd o Abertawe i Gaerdydd ac yn ôl eto ar y trên ac mae angen cymorth cynorthwyydd teithwyr arnynt. Mewn sawl achos, ni ddaeth cynorthwywyr teithwyr i helpu fy etholwr yng Nghaerdydd ac er na ddarparwyd cymorth, nodwyd bod y teithiau hyn 'wedi eu cynorthwyo'n llwyddiannus'. Mae hynny nid yn unig yn anghywir, gallai fod yn beryglus.

Mae cynorthwywyr teithwyr yn wasanaeth hanfodol i lawer a phan fo'n gweithio, mae'n achubiaeth sy'n helpu i feithrin hyder, annibyniaeth ac urddas. Pan fo'n methu, gall adael teithwyr yn ddiymgeledd, yn ofnus ac yn teimlo cywilydd. Er gwaethaf misoedd o gwynion cynyddol ynglŷn â'r methiannau parhaus hyn, mae teulu fy etholwr yn teimlo fwyfwy nad mater staffio yw hwn o reidrwydd, ond diffyg dealltwriaeth o fewn Trafnidiaeth Cymru o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl wrth deithio, ac yn enwedig anableddau anweledig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y gallwch chi eu cymryd i sicrhau bod pob teithiwr anabl yn gallu teithio'n hyderus?

Mae hwn yn fater pwysig iawn ac rwy'n credu bod y pwyntiau sydd wedi'u cydnabod am bwysigrwydd cynorthwywyr teithwyr i hyder, annibyniaeth ac urddas yn hollol allweddol.

Rydym yn rhannu'r un etholwr, ac rwy'n gwybod bod mam yr etholwr wedi siarad â'r grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf ac wedi gallu rhoi neges ar ran ei phlentyn, a oedd yn dangos yr effaith a gafodd peidio â gallu gwireddu'r cyfleoedd hynny i actio ac yn y blaen ar eu bywyd.

Rwy'n falch ein bod, drwy sgwrsio â Trafnidiaeth Cymru, wedi llwyddo i ddod o hyd i ateb, o leiaf hyd at ddiwedd y flwyddyn, i allu cefnogi'r unigolyn dan sylw i fynychu'r rhaglenni sydd mor ddefnyddiol iddynt. Rwy'n credu, fodd bynnag, fod yn rhaid inni edrych ar faterion ehangach hyfforddiant anabledd ar draws y sector cyhoeddus, ac yn enwedig mewn perthynas ag anableddau anweledig a niwroamrywiaeth ac yn y blaen. Ac rwy'n gwybod bod trafodaethau wedi bod gyda Trafnidiaeth Cymru ar y pwynt hwnnw'n benodol. Rwy'n ddiolchgar hefyd i fam ein hetholwr am fod mor barod i ymgysylltu â Trafnidiaeth Cymru, ac rwyf am dalu teyrnged i Theatr Hijinx, sydd wedi bod yn wych gan iddynt gysylltu â Trafnidiaeth Cymru gyda chynigion o gymorth. Felly, rwy'n gwybod bod ateb tymor byr wedi'i gael, ond rwy'n cytuno bod yr achos penodol hwn wedi dwyn materion mwy hirdymor i'r amlwg a bod angen inni wneud yn siŵr fod Trafnidiaeth Cymru yn gallu mynd i'r afael â nhw.

Rhaid imi ddweud bod ein hetholwr wedi cael gwasanaeth da iawn yng ngorsaf Abertawe, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos beth y gellir ei wneud. Felly, nid ydym yn gofyn am yr amhosib, ond mae gennym fodel da iawn o ble mae wedi gweithio'n dda iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n destun gwarth cenedlaethol nad yw teithwyr anabl yn gallu mwynhau'r un mynediad at drafnidiaeth rheilffordd ag y mae'r gweddill ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Mae llawer o bobl anabl—bron un o bob pump yn ôl yr arolwg teithio cenedlaethol—yn gwrthod defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd oherwydd pryderon diogelwch, megis cymhorthion symudedd yn mynd yn sownd yn y bwlch rhwng y trên a'r platfform, cael eu hanafu mewn torfeydd neu gwympo'n ôl ar rampiau byrddio serth. Mae pobl anabl hefyd yn codi pryderon am ddiogelwch ar y trên a wynebu camdriniaeth a rhagfarn, yn enwedig ar adegau prysur. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau penodol rydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon pobl anabl am eu diogelwch wrth iddynt geisio teithio ar y trên yng Nghymru?

Mae diogelwch ar y trên hefyd yn hollol hanfodol i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fyw mor annibynnol â phosib drwy gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae teledu cylch cyfyng ar waith ar drenau Trafnidiaeth Cymru. Mae yno i ddiogelu teithwyr a hefyd i roi lefel o sicrwydd a hyder i deithwyr wrth iddynt ddefnyddio'r gwasanaethau hynny, ac wrth gwrs, mae cynorthwywyr sy'n gwisgo camerâu ar holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn uwchraddio'r gorsafoedd ar linellau craidd y Cymoedd i ddarparu goleuadau gwell a theledu cylch cyfyng, ac maent hefyd yn gweithio gyda Network Rail i gyflawni gwelliannau mewn gorsafoedd y tu allan i linellau craidd y Cymoedd. Mae gwaith hefyd yn digwydd yn Llywodraeth Cymru i helpu i ariannu Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i gyflawni eu gwaith hanfodol ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae ganddynt batrolau ar y cyd, ac maent yn gwneud hynny, mewn gwirionedd, i ddarparu presenoldeb gweladwy, i roi tawelwch meddwl i bobl wrth iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ond yn hollol, dylem wrando ar bobl anabl a'u profiadau, fel y gallwn weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, yr heddlu, Network Rail a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â'r pryderon hynny a'u lleddfu lle bynnag y bo modd.

14:05

Nesaf—

Fe'ch cadwaf i gyd i ddyfalu.

Cwestiwn 6, Heledd Fychan.

Hygyrchedd Gorsafoedd Trên

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gorsafoedd trên yn hygyrch i bawb? OQ63288

Rydym wedi buddsoddi dros £1 biliwn i uwchraddio rhwydwaith llinellau craidd y Cymoedd. Mae pontydd hygyrch newydd wedi'u cyflwyno, palmentydd botymog wedi'u gosod a phlatfformau'n cael eu haddasu i ddarparu ar gyfer mynediad gwastad lle bo modd. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd nad ydynt wedi'u datganoli yng Nghymru.

Diolch am yr ateb hwnnw. Y rheswm pam rwy'n codi'r mater heddiw yw ar ran etholwyr sy'n defnyddio'r orsaf ym Mhontypridd sydd wedi wynebu problemau parhaus gyda mynediad drwy lifft. Er gwaethaf sicrwydd gan Trafnidiaeth Cymru y byddai'r gwaith atgyweirio'n cael ei gwblhau'n brydlon ers dechrau mis Medi, ni fu modd defnyddio'r lifft tan ddoe. Mae'r oedi a achoswyd gan yr angen i ddod o hyd i gydrannau ar gyfer lifft sy'n heneiddio wedi achosi aflonyddwch sylweddol, yn enwedig i deithwyr anabl a rhai sydd â phroblemau symudedd, a gafodd eu cynghori i gerdded i fyny bryn serth o amgylch yr orsaf i gael mynediad at y gwahanol blatfformau os na allant ddefnyddio'r grisiau serth.

Felly, fel y nodoch chi, mae cymaint o fuddsoddiad wedi bod, yn enwedig ar y llinell hon, i gael trenau di-risiau, ond mae'n ymddangos na chafwyd buddsoddiad i gynnal mynediad di-risiau i'n holl orsafoedd. Felly, a wnewch chi amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod seilwaith hygyrchedd, fel lifftiau, yn cael ei gynnal yn rhagweithiol a'i adnewyddu pan fydd wedi dyddio, fel nad yw defnyddwyr rheilffyrdd, fel y rhai ym Mhontypridd, yn cael eu gadael i aros am fisoedd i atgyweiriadau ddigwydd pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le, fel sy'n anochel o ddigwydd?

Rwyf am gydnabod pa mor hanfodol bwysig yw hygyrchedd i deithwyr, ac rwy'n deall y rhwystredigaeth pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Rwy'n ymwybodol o'r problemau a nodwyd gyda chyfleusterau lifft mewn gorsafoedd, sy'n cynnwys Pontypridd, er fy mod yn falch o glywed nawr fod hynny wedi'i ddatrys, ond hefyd yn Llandaf a Chwmbrân. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda phartneriaid diwydiant, gan gynnwys Network Rail, i ddatrys y materion hynny cyn gynted â phosib. Ond yn bwysig, ochr yn ochr â'r gwaith atgyweirio, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n rhagweithiol i wella dibynadwyedd lifftiau ar draws eu rhwydwaith i sicrhau bod teithwyr yn gallu elwa'n llawn o'r uwchraddiadau sylweddol, a sicrhau bod y gwaith cynnal a chadw yn gyfredol ac yn cael ei wneud cyn i broblemau godi.

Mae gorsaf reilffordd Cas-gwent, yn fy etholaeth i, angen gwelliannau hygyrchedd hefyd. Ar hyn o bryd, byddai angen i deithwyr anabl sydd eisiau mynd i'r platfform tua'r gorllewin deithio ar hyd y llinell i Loegr cyn teithio'n ôl tua'r gorllewin. Rwy'n credu y byddem i gyd yn deall bod hynny'n hurt yn yr oes hon. Rwy'n ddiolchgar i'r ddau gynghorydd Ceidwadol lleol, y cynghorwyr Pavia ac Edwards, am eu hymdrechion i godi hyn gyda Chyngor Sir Fynwy. Rwyf wedi'i godi fy hun gyda Network Rail, a byddaf yn cyfarfod â nhw yr wythnos nesaf i drafod ymhellach. Felly, mae'n sicr ar eu radar nawr. Fodd bynnag, hoffwn wybod a yw'r mater ar radar Llywodraeth Cymru, ac os nad ydyw, rwy'n gobeithio y bydd o hyn ymlaen. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella hygyrchedd yng ngorsaf drenau Cas-gwent fel nad oes unrhyw deithiwr yn cael ei adael dan anfantais?

Fel y dywedais mewn ymatebion blaenorol, mae hygyrchedd yn hollol hanfodol. Dyna pam ein bod wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yna bontydd hygyrch newydd ar gael. Maent eisoes wedi'u hagor mewn rhai gorsafoedd allweddol ar draws y rhwydwaith, ac mae hynny wedi trawsnewid teithio i'r teithwyr hynny ac wedi agor y rheilffordd i fwy o bobl allu defnyddio'r gwasanaethau yn y cymunedau hynny. Mae gwelliannau pellach i ddilyn. Mae gwaith eisoes ar y gweill i baratoi ar gyfer cyflwyno pont hygyrch newydd yng ngorsaf Dinbych-y-pysgod, ac mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei hymrwymiad i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb ar gyfer rhagor o gynlluniau Mynediad i Bawb yng Nghymru, fel rhan o'i hadolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae hynny'n cynnwys gorsaf Castell-nedd. Nawr, rwy'n gwybod nad yw'r un o'r rhain yn mynd i helpu eich etholwyr chi, ond mae'n dangos bod gwaith yn mynd rhagddo, drwy Lywodraeth Cymru ac yn hollbwysig, drwy raglen Mynediad i Bawb Llywodraeth y DU, i sicrhau bod pontydd hygyrch yn cael eu cynnwys ar draws y rhwydwaith. Rwy'n falch iawn eich bod wedi tynnu sylw Llywodraeth y DU at y mater penodol hwn, oherwydd rwy'n gwybod y byddant yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer eu rhaglen Mynediad i Bawb.

14:10
Cyfiawnder i'r Gwarchodlu Cymreig

7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chymuned y lluoedd arfog ynglŷn â'r potensial i'r Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) sicrhau cyfiawnder i'r Gwarchodlu Cymreig a oedd yn gwasanaethu ar y Syr Galahad yn ystod Rhyfel y Falklands? OQ63279

Mae'n bwysig cydnabod dewrder ac aberth y bobl yr effeithiwyd arnynt gan suddo'r Sir Galahad yn ystod rhyfel y Falklands yn 1982, yn enwedig wrth inni agosáu at y digwyddiadau coffa cenedlaethol. Byddwn yn trafod y mater gyda Llywodraeth y DU.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch. Rhaid inni atgoffa ein hunain fod uwch arweinwyr milwrol sy'n gyfrifol am anfon y Gwarchodlu Cymreig ac eraill ymlaen i'r rheng flaen wedi gwneud hynny heb fodd o'u tynnu oddi ar y llong am chwe awr, yng ngolau dydd, yn y golwg i fyddin yr Ariannin. Dim ond drwy ddweud celwydd wrth y bwrdd a ymchwiliai i golli'r llong yn 1982 y llwyddasant i osgoi llys milwrol.

Nid yw'r Gwarchodlu Cymreig a'u teuluoedd wedi cael cyfiawnder na'r gwir llawn am bwy oedd yn gyfrifol am hyn—y trychineb milwrol gwaethaf ar un diwrnod ers yr ail ryfel byd—ac mae dogfennau allweddol yn dal i gael eu cadw'n ôl rhag eu cyhoeddi. Mae llawer o berthnasau eisoes wedi marw heb gael enwau eu meibion, eu brodyr a'u neiaint wedi'u clirio o unrhyw fai am y drasiedi ofnadwy hon.

Felly, tybed a allech chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl iddo ddychwelyd a oes unrhyw drafodaethau wedi bod gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn neu bobl eraill yn Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen i gael cyfiawnder i ddioddefwyr a goroeswyr trychineb Sir Galahad heb orfod aros i'r Bil atebolrwydd pwysig hwn ddod yn gyfraith.

Roedd y digwyddiad a arweiniodd at golli cymaint o fywydau yn drasig iawn, a 43 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r goroeswyr a'r rhai mewn profedigaeth yn haeddu ein gofal a'n cefnogaeth. Ac rwyf eisiau talu teyrnged i eiriolaeth Jenny Rathbone ar y mater hwn. Rwy'n gwybod ei fod yn fater hirsefydlog a'ch bod wedi'i godi o'r blaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth. Rwy'n gwybod ei fod yntau'n edrych ymlaen at gyfarfod â'r Gweinidog dros Gyn-filwyr a Phobl yn Llywodraeth y DU, a bydd yn ymdrechu i sicrhau bod hyn ar yr agenda pan gaiff y cyfarfod cyntaf hwnnw. Pan ryddhawyd ffeiliau newydd y llynedd, fe ddywedodd Llywodraeth flaenorol y DU yn glir drwy'r Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedd y Gwarchodlu Cymreig ar fai mewn unrhyw ffordd. Wrth gwrs, rydym yn deall sut y byddai'r goroeswyr a'r teuluoedd oll eisiau gweld yr holl ffeiliau sy'n weddill yn cael eu rhyddhau cyn gynted â phosib. Rydym yn cydnabod hynny'n llwyr.

Roedd y cyfeiriad at y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) yn bwysig. Mae'n Fil sy'n edrych tua'r dyfodol, felly ni fydd yn ymateb yn ôl-weithredol. Fodd bynnag, fe fydd yn berthnasol i unrhyw ymholiadau newydd i ddigwyddiadau yn y gorffennol. Felly, rwy'n credu y bydd hynny eto yn fater y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei archwilio yn y cyfarfod cyntaf hwnnw.

Diogelwch ar yr A40

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith arfaethedig i wella diogelwch ar yr A40 ger Rhaglan? OQ63306

Gwnaf. Mae swyddogion yn gweithio gyda phriffyrdd Cyngor Sir Fynwy i alluogi gwelliannau ar y gyffordd rhwng Heol Trefynwy a'r A40. Yn ogystal â hyn, mae cyfyngu ar symudiadau troi i'r dde oddi ar yr A40 yn cael eu hymchwilio o ran dichonoldeb. Mae'r dull cynyddrannol hwn yn cydymffurfio â strategaeth drafnidiaeth Cymru.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl blynyddoedd o adolygiadau, ymgynghoriadau ac addewid o gamau cyflym ymlaen, mae cyffyrdd yr A40 ger Rhaglan yn dal i fod yn beryglus. Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â'r cyffyrdd anniogel hyn ddechrau'r haf, ac mae wedi gweld y troadau dall a'r uniadau ar y dde sydd, yn onest, yn gwneud i chi wingo, Ysgrifennydd y Cabinet. Eto, ers ei ymweliad ym mis Mehefin, yr unig beth a welsom yw gorchymyn 50 mya arall a mwy o addewidion o'r camau cyflym ymlaen y soniwyd amdanynt, ond dim gweithredu ar ôl cael addewid y byddai'n digwydd o fewn wythnosau. Gadewch inni fod yn glir: nid yw arwydd 50 mya yn gynllun digonol ar gyfer y darn hwn o'r ffordd ddeuol. Mae cydymffurfiaeth yn dameidiog. Collodd beiciwr modur ei fywyd yno yn yr haf. Mae angen atebion priodol ar y gyffordd hon i sicrhau diogelwch trigolion ac ymwelwyr, ac addawodd Ken Skates ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, a oedd yno, y byddai'r camau cyflym ymlaen hyn yn achub y blaen ar gamau pellach yn y dyfodol tra bo'r gwaith adolygu diogelwch ar y gweill. A chafodd pawb ohonom ein cysuro rywfaint—cyngor cymuned Rhaglan, Aelodau eraill a minnau—gan y ffaith bod Ken Skates wedi deall. Roedd yn deall beth oedd y pryderon a pham ein bod mor bendant fod angen datrys hyn. Ond rydym yn drist iawn nad oes unrhyw beth wedi digwydd ers hynny. Addawyd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n dal i ddigwydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, na ddylem orfod aros i drasiedi ddigwydd cyn y gwelir gweithredu go iawn ar hyn. Diolch.

14:15

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn ac yn cytuno'n llwyr ynglŷn â phwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd, sydd wedi bod yn thema drwy rai o'r cwestiynau y prynhawn yma. Rwy'n gwybod bod y mesur a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2024 y cyfeiriodd yr Aelod ato—sef gostwng y terfyn cyflymder i 50 mya o 70 mya, ac rwy'n credu bod hynny wedi'i nodi fel un o'r tri cham cyflym ymlaen yn yr astudiaeth, ac mae yn y broses o gael ei wneud yn barhaol drwy orchymyn traffig ac arwyddion parhaol. Yn dilyn yr ymchwiliad cam 1 diweddar i groesfan yn y lleoliad rhwng y dref a'r gyffordd i gyfeiriad castell Rhaglan dros yr A40, mae swyddogion wedi sicrhau cyllid ar gyfer cam 2 ac wedi comisiynu'r gadwyn gyflenwi i'w gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ac mae swyddogion hefyd wedi ymgynghori â phartneriaeth camerâu diogelwch GoSafe i adolygu cyfleoedd i orfodi'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau mwy o gydymffurfiaeth yn yr ardal honno.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Nesaf yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd, ac, yn gyntaf, Lesley Griffiths.

Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cyfiawnder ieuenctid? OQ63292

Member
Jane Hutt 14:17:27
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Lesley Griffiths. Rydym yn cael trafodaethau gweithredol gyda Llywodraeth y DU i symud ymlaen â'r gwaith o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, gan ddechrau gyda throsolwg strategol, trefniadau partneriaeth a llywodraethu, a chyllido gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Byddaf yn cyfarfod â Gweinidog cyfiawnder ieuenctid y DU, Jake Richards AS, yn y dyfodol agos iawn.

Diolch am y diweddariad, ac mae'n dda clywed bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond nid wyf yn credu ei fod yn ddigon. Yn y cyfamser, gwelwn lawer o broblemau o fewn y system cyfiawnder ieuenctid. Mae gennym ôl-groniad o achosion. Mae gennym bryderon ynghylch mynediad at gyfiawnder, er enghraifft.

Yma yng Nghymru, fel y gwyddoch yn dda iawn, rydym wedi mabwysiadu ymagwedd ragweithiol wahanol iawn i Loegr, a dros y degawd diwethaf rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y rhai sy'n dod i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Felly, i mi, mae'n ymwneud â chyflawni nawr, a rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ddatganoli i Gymru. Felly, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi sicrhau eich bod chi'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud hyn?

Diolch yn fawr, Lesley Griffiths. Rydych chi'n hollol iawn. O ganlyniad i'r gwaith a wnaethom—gwaith arloesol a wnaethom, gwaith sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf—yng Nghymru gyda'n glasbrint cyfiawnder ieuenctid, rydym wedi gweld gostyngiad sydyn a pharhaus dros y degawd diwethaf yn nifer y rhai sy'n dod i mewn i'r system am y tro cyntaf. Mae hynny'n adlewyrchiad pwerus o ymrwymiad, gwydnwch a thosturi ein gweithwyr proffesiynol cyfiawnder ieuenctid, sy'n gweithio'n ddiflino ledled Cymru i wella canlyniadau i blant sy'n torri'r gyfraith.

O ganlyniad i hyn, mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid bellach yn ymgysylltu â llawer llai o blant sy'n ddarostyngedig i orchmynion llys statudol, gyda'r rhan fwyaf o'u hymdrechion yn canolbwyntio ar ymyriadau atal a dargyfeirio, sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Unwaith eto, mae wedi'i wreiddio mewn sylfaen dystiolaeth sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud, a rhannu hyn gyda Llywodraeth y DU, ein bod wedi cyflwyno fframwaith atal unedig i lywio gweithgarwch cyfiawnder ieuenctid. Felly, rydym yn hollol barod ar gyfer datganoli. Gall ddod â mwy o sefydlogrwydd i wasanaethau cyfiawnder, ac mae'r gwasanaethau datganoledig presennol yn allweddol i wella canlyniadau i bobl ifanc yn y system gyfiawnder.

Ar hyn o bryd, fe welwn—yn sicr yn etholaeth Aberconwy—adroddiadau aml yn y wasg am bobl ifanc sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Yn gynharach eleni, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus. Cawsom sefyllfa lle cafodd 17 o ffenestri mewn cysgodfannau newydd sbon ar y promenâd eu torri, cafwyd tân yn ein hysbyty lleol, lladradau o westai—oll wedi'u cyflawni gan bobl ifanc. Profwyd bod 35,600 o droseddau wedi'u cyflawni gan blant yn 2023-24, gyda chyfartaledd o 430 o blant yn y ddalfa ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Nid yw'n dderbyniol. Rwyf wedi siarad â gwasanaethau atal troseddau ieuenctid, rwyf wedi siarad â Gwasanaeth Erlyn y Goron. Nid wyf yn cefnogi unrhyw ddatganoli pellach i Gymru o'r pwerau hyn nac unrhyw beth arall, ond rwy'n teimlo y dylem fod yn gweithio'n fwy adeiladol gyda Llywodraeth y DU a'n heddlu i fynd i'r afael â'r problemau hyn, yn enwedig yr achosion sylfaenol. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n unig ar ddatganoli mwy o bwerau yn hytrach na rheoli'r rhai yr ydych yn gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r ymddygiad hwn yw drwy gydweithio, gweithio'n well gyda'r holl asiantaethau—y dywedir wrthyf ei fod yn digwydd, ond ni welwn hynny ar lawr gwlad—yn hytrach na gwthio am ddatganoli pellach er ei fwyn ei hun? Diolch.

14:20

Wel, rwy'n siŵr, Janet Finch-Saunders, y byddech chi'n cytuno—ac rwy'n credu eich bod wedi sôn am y gair 'atal'—mai'r ffordd i fynd i'r afael â'r materion hyn yw drwy atal. Mae atal yn allweddol—ymyrraeth gynnar, ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau bod pobl ifanc yn cael bywydau boddhaol, di-drosedd. Ac rwy'n credu, am y tro cyntaf, fod gennym fframwaith atal—yr edrychir arno, rhaid imi ddweud, gyda llawer o eiddigedd a pharch, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y ffin—sy'n dwyn ynghyd mewn un man yr holl dystiolaeth ar yr hyn sy'n gweithio i atal troseddu. Mae ganddo un olwg cydgysylltiedig ar sut yr awn ati i atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol a'r lefel isel honno—er fy mod yn derbyn ei fod yn cael effaith ar fywydau pobl a chymunedau—yr ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel, lefel is, cyn iddo ddod yn ymddygiad troseddol. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym yn falch inni fod yn gweithio arno dros y pum mlynedd diwethaf gyda Llywodraeth y DU, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Mae plismona yng Nghymru wedi ysgogi ein glasbrint cyfiawnder ieuenctid sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i'n gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. A dyna'r ffordd ymlaen o ran pwysigrwydd y ffordd y gall datganoli gynnig sefydlogrwydd i wasanaethau cyfiawnder yng Nghymru.

Cydlyniant Cymunedol

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith rhaglen cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru yn Nwyrain De Cymru? OQ63281

Diolch yn fawr, Peredur Owen Griffiths. Mae ein timau cydlyniant rhanbarthol yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn Nwyrain De Cymru i feithrin perthynas dda, hyrwyddo cyfle cyfartal a mynd i'r afael â thensiynau cymunedol ac erledigaeth. Mae hyn yn cynnwys gweithredu fel cyfrwng rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus a sicrhau bod cydlyniant yn cael ei ystyried yng nghynlluniau a pholisïau awdurdodau lleol.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. 

Fel y gwyddoch, yn Nwyrain De Cymru, rwy'n cynrychioli rhai o'r cymunedau mwyaf amrywiol yn y wlad, lleoedd lle mae teuluoedd lleiafrifol ethnig wedi byw ers cenedlaethau ac wedi gwneud cyfraniad mor enfawr i'n cymunedau. Ond yn ddiweddar, mae pobl o liw wedi bod yn dweud wrthyf eu bod yn wynebu mwy a mwy o gam-drin hiliol. Mae'n anodd anwybyddu'r ffaith bod y cynnydd yn cyd-fynd ag amlygrwydd cynyddol Reform, sy'n bachu ar bob cyfle i ledaenu rhaniadau a chasineb. Gwelsom ddewrder y fam a'r mab yn y ddadl isetholiadol yng Nghaerffili yn herio ymgeisydd Reform, ac maent bellach yn cefnogi Lindsay Whittle a Phlaid Cymru i'w hatal. Felly, a gaf i ofyn: beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn cam-drin hiliol, a sut y mae'n gwneud ein cymunedau yn fwy diogel ac yn fwy croesawgar i bawb, yn enwedig rhai o gefndiroedd lleiafrifol ethnig?

Diolch am y cwestiwn atodol, rwy'n ei groesawu. Rwy'n croesawu'r cwestiwn, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni hefyd wedi—. Yr wythnos diwethaf, fe wneuthum ddatganiad ar Mae Casineb yn Brifo Cymru, ac fe wyddom fod polareiddio cynyddol, ac mae hynny'n cynnwys hiliaeth, cynnydd hiliaeth yn ein cymunedau, yn cael effaith mor niweidiol. Rwyf mor falch eich bod chi'n cydnabod cryfderau a chyfraniadau'r bobl yn eich cymuned amrywiol. A rhaid imi ddweud bod rhai ohonom, o dair plaid wleidyddol yn y Siambr, wedi mynychu digwyddiad pwerus iawn ddydd Gwener, yng Nghaerffili, a drefnwyd gan y gymuned Wcreinaidd. Ac rwy'n credu ei bod yn drawiadol iawn fod Yuliia Bond wedi dweud, 'Nid ydym yma i gymryd, rydym yma i roi', ar ôl ffoi rhag Putin, erchyllterau Putin, a dinistrio ei chartref a'i chymuned. Felly, dyma lle mae'n rhaid inni ddod â'n holl ymdrechion at ei gilydd, ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ein rhaglen cydlyniant cymunedol gwerth £1.6 miliwn, ac ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol trawsbleidiol ar gydlyniant cymdeithasol. Fel y dywedais, rwy'n falch o ddweud eto fod Gaynor Legall CBE wedi cytuno i gadeirio grŵp arbenigol ag iddo gynrychiolaeth eang i fynd i'r afael â'r materion hyn. 

14:25

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn dda eich gweld yn nigwyddiad y noddfa sy'n gweithio i Gymru yn gynharach, wedi'i drefnu gan Sanctuary Coalition Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, ac maent, yn briodol ddigon, yn bryderus iawn am ledaeniad camwybodaeth a chasineb a pha mor wenwynig ac ymrannol yw hynny i'n cymunedau. Rwy'n siŵr y byddech chi'n fy nghefnogi, Ysgrifennydd y Cabinet, i'w cefnogi nhw a'i galwadau i Aelodau o'r Senedd ac arweinwyr gwleidyddol am sgyrsiau gonest yn seiliedig ar dystiolaeth, ein bod yn ymrwymo i ddefnyddio iaith gywir, barchus a chyfrifol, a'n bod yn hyrwyddo'r gwerthoedd Cymreig sy'n hybu gwedduster a pharch, gan fframio noddfa fel cryfder sy'n cyfoethogi ein cymunedau.

Diolch yn fawr, John Griffiths. Roeddwn yn falch o ymuno â'r digwyddiad heddiw. Roedd yn agored i bob Aelod, a gwn eu bod yn cael digwyddiad dilynol. Ni allwn rannu digon ar gryfder y neges. Rwy'n credu mai'r hyn a oedd yn wirioneddol bwysig am eu digwyddiad—ac fe wnaethoch ailadrodd y pwyntiau a wnaethant—yw eu bod yn dweud 'noddfa sy'n gweithio i Gymru'. Mae'n hollol gywir fod noddfa yn gweithio i Gymru o ran y cyfraniad a gwerthoedd Cymru. Rwy'n meddwl hefyd, o ran Cyngor Ffoaduriaid Cymru, yr ydym yn falch iawn o'i ariannu i helpu i integreiddio, sydd mor bwysig fel y dywedais, y rhai sy'n dod ac wedi ffoi rhag gwrthdaro a rhyfel, ac sydd eisiau cyfrannu hefyd, ac rwy'n credu eu bod wedi gwneud pwynt da iawn am eu gwaith: mae'n ymwneud â sefydlogrwydd i bobl a chryfder i Gymru, a dyna beth y mae'r genedl noddfa yn ceisio ei gyflawni wrth gwrs, ond mae'n noddfa sy'n gweithio i Gymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau, ac, yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Altaf Hussain.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu y dylai dyn allu cael mynediad at grwpiau a gofodau i fenywod yn unig?

Wel, rwy'n cydnabod bod dadl yn ddiweddarach am y mater hwn. Nid wyf yn gwybod o ble y daw eich cwestiwn. Rwy'n ofni bod rhywun wedi rhoi'r cwestiwn hwn i chi, Altaf Hussain. Nid yw'n rhywbeth gan eich plaid. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod yn aros nawr i Lywodraeth y DU ystyried cod ymarfer drafft y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mai'r hyn a wnawn yw mynd i'r afael â hyn gyda thosturi a pharch ac ystyried, o ganlyniad i ystyriaeth o'r cod ymarfer drafft hwnnw, beth y mae'n ei olygu i ni yng Nghymru. Ond rwy'n hapus iawn ar hyn o bryd i sefyll wrth y datganiad a wneuthum yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn gynharach eleni.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch byth, mae cyfraith y wlad yn anghytuno. Ym mis Ebrill, fe wnaeth y Goruchaf Lys yn glir fod Llywodraethau'n camddehongli Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn eu dyfarniad, daeth barnwyr y Goruchaf Lys i'r casgliad, o'u darllen yn deg ac yn eu cyd-destun, mai'r unig ffordd o ddehongli'r darpariaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau un rhyw yw drwy eu cyfeiriad at ryw biolegol. Mae hyn yn golygu na ellir caniatáu i ddyn, pa un a oes ganddo dystysgrif cydnabod rhywedd ai peidio, gael mynediad i ofodau menywod yn unig. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r gyfraith yn glir, yn wahanol i'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn hytrach na chuddio y tu ôl i'r esgusodion eich bod yn aros am ganllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, nad yw'n wir, gan fod y canllawiau hynny ar gyfer sefydliadau a busnesau llai, a wnewch chi ymrwymo nawr i gyhoeddi canllawiau i bob corff cyhoeddus yng Nghymru, gan ei gwneud yn glir na all aelodau o'r rhyw arall ddefnyddio gofodau un rhyw, pa un a ydynt yn meddu ar dystysgrif cydnabod rhywedd ai peidio?

14:30

Wel, yn amlwg, ni wnaethoch wrando ar fy ateb i'ch cwestiwn cyntaf. Rwy'n sefyll wrth fy natganiad. Rwy'n sefyll wrth y datganiad a wneuthum yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys. Fel y dywedais, rwy'n sefyll wrth y datganiad hwnnw gan ein bod yn aros nawr am god ymarfer drafft, sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, rydym yn sefyll wrth y gyfraith a byddwn yn ystyried ei heffaith, ond ar hyn o bryd, rwy'n sefyll wrth fy natganiad.

Ac a gaf i ddweud, unwaith eto, fod hyn yn ymwneud â pharchu pobl, onid yw? Mae a wnelo â pharchu pawb yr effeithir arnynt gan ddyfarniad y Goruchaf Lys—eu parchu. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl yr effeithiwyd arnynt gan hyn. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o grwpiau o'r gymuned draws, sy'n bryderus iawn yn ei gylch. A ydych chi wedi gweld—? A weloch chi'r ystadegau troseddau casineb yr wythnos diwethaf? A edrychoch chi arnynt, a'r cynnydd mewn troseddau casineb yn erbyn pobl draws? Ond hefyd, rwy'n sefyll wrth y ffaith fy mod yn sefyll yma fel rhywun sydd wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod. Rwy'n gobeithio mai dyna fydd blaenoriaeth eich agenda ym Mis y Rhuban Gwyn, gan mai dyna ble mae'r cam-drin a'r trais erchyll sy'n endemig yn ein cymdeithas yn effeithio cymaint ar fenywod yn y gymdeithas hon.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae eich cynllun gweithredu LHDTC+ hefyd yn cymhlethu pethau. Fel y'i drafftiwyd yn gyfredol, mae'r cynllun yn nodi bod menywod traws yn fenywod, ond mae'r gyfraith yn anghytuno. Mae grwpiau lesbiaidd yn teimlo bod y cynllun yn blaenoriaethu anghenion y gymuned draws uwchlaw eu hanghenion a'u hawliau nhw. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd yn nodi na all dyn fod yn lesbiaidd. Fodd bynnag, mae cyllid a mynediad at ddigwyddiadau Pride yn cael ei wrthod i sefydliadau lesbiaidd am eu bod yn dymuno eithrio menywod traws. Pam y mae hawliau un grŵp yn cael disodli hawliau grŵp arall? A ydych chi'n derbyn ei bod yn anghywir cynnwys dau fater digyswllt, sef cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, yn yr un fasged? A ydych chi'n cytuno ei bod yn bryd rhoi'r gorau i'r cynllun gweithredu LHDTC+? Nid oes unrhyw un yn awgrymu na all dynion uniaethu fel menywod neu'r gwrthwyneb. Ond onid ydych chi'n cytuno â'r gyfraith na ddylai hyn fod yn caniatáu mynediad awtomatig iddynt at ofodau un rhyw? Diolch.

Rwy'n credu fy mod wedi ateb pob pwynt yn eich cwestiynau, Altaf Hussain. Fel y dywedais, cyfarfûm â phawb yr effeithiwyd arnynt neu sydd â barn am benderfyniad y Goruchaf Lys. Credaf ei bod yn bwysig fy mod wedi cyfarfod â phobl a oedd yn bryderus. Rwyf wedi sôn am y gymuned draws, ond rwyf wedi cyfarfod â grwpiau eraill sydd hefyd wedi ysgrifennu ataf i ofyn am gyfarfod â mi, ac sydd hefyd yn bryderus ynghylch y materion a godwyd gennych. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, fy nyletswydd i yw cyfarfod â phawb a gwrando ar eu holl safbwyntiau. Ond a gaf i ddweud fy mod yn falch iawn ein bod wedi ymrwymo i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth inni agosáu at gyllideb arall, mae pobl anabl yng Nghymru yn teimlo'n bryderus, yn ddigon dealladwy, ynghylch cynlluniau'r Canghellor, o ystyried y ffordd y mae'r cymorth y maent yn dibynnu arno wedi'i dargedu ar gyfer toriadau dros y flwyddyn ddiwethaf gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod pobl anabl yng Nghymru yn haeddu cael eu lleisiau wedi'u clywed mewn unrhyw newid polisi arfaethedig a fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau. Dyna pam ei bod yn destun cryn bryder nad yw Anabledd Cymru wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn adolygiad Timms, yr adolygiad dan arweiniad Llywodraeth y DU o'r asesiad taliad annibyniaeth personol.

Mae Anabledd Cymru, fel y corff ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau pobl anabl yng Nghymru, wedi ymdrechu dro ar ôl tro i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf, ond maent yn dal i fod wedi'u hepgor o'r broses. Hyd yn oed ar ôl i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, yr wyf yn aelod ohono, godi hyn yn uniongyrchol gyda Stephen Timms, ni chynigiwyd sedd wrth y bwrdd iddynt. Mae'r ymateb a gawsant gan Lywodraeth y DU yn ddiystyriol ac yn amharchus. Rwy'n credu bod eu hepgor yn amlygu patrwm ehangach, lle caiff penderfyniadau am Gymru eu gwneud heb Gymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod sefydliadau pobl anabl Cymru yn cael eu cynrychioli'n briodol mewn penderfyniadau a wneir am eu bywydau yn San Steffan, nawr ac yn y dyfodol?

14:35

Wel, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Sioned Williams. Ac wrth gwrs, rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli'n briodol yn yr adolygiad annibynnol, yr adolygiad a gynhaliwyd gan y Gweinidog, Syr Stephen Timms, o daliadau annibyniaeth personol. Ac mewn gwirionedd, roeddwn yn falch iawn o annerch cyfarfod cyffredinol blynyddol Anabledd Cymru, a gynhaliwyd y bore yma. Thema'r cyfarfod cyffredinol blynyddol hwnnw oedd 'Dychmygu cymdeithas gynhwysol, deg a di-rwystr yng Nghymru'. Fe wnaethom rannu cynnydd ein gwaith, drwy'r tasglu hawliau pobl anabl, gan arwain at ein cynllun hawliau pobl anabl, y byddaf yn ei gyhoeddi, yn sicr cyn y Nadolig. A byddaf yn gwneud datganiad llafar gerbron y Senedd hefyd, ynglŷn â diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.

Roeddwn yn falch iawn o fynychu un o gyfarfodydd pwyllgor y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl ddechrau mis Medi, ac fe wahoddais Syr Stephen Timms. Daeth i'r cyfarfod, a galwodd pobl anabl, a minnau, yn gryf iawn am gynrychiolaeth i Gymru yn yr adolygiad annibynnol, yn yr adolygiad o daliadau annibyniaeth personol, a hefyd y dylai'r ffordd y mae'n bwrw ymlaen â'r adolygiad gynnwys cydgynhyrchu. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu ato i ofyn iddo ymgysylltu ag Anabledd Cymru, yn dilyn y fforwm hwnnw. Ac wrth gwrs, Anabledd Cymru yw ein sefydliad arweiniol—sefydliad ambarél—sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n bwrw ymlaen â'r gwaith hollbwysig hwn.

Diolch. Mae Disabled People Against Cuts Cymru wedi galw am adolygiad cwbl annibynnol o daliadau annibyniaeth personol, dan arweiniad democrataidd pobl anabl a'u sefydliadau. Ac mae eu galwad yn arbennig o berthnasol yng Nghymru, o ystyried methiannau mynych proses ymgynghori 'Llwybrau i Waith' Llywodraeth y DU, sy'n dal heb eu cydnabod. Mae DPAC Cymru hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i'r adolygiad fod yn gynhwysol ac yn hygyrch, gydag ymgynghori eang ledled Cymru, ac am fesurau ymarferol, megis cymorth hygyrchedd, ad-daliadau trafnidiaeth, a chynnwys sefydliadau pobl anabl Cymru.

Felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl a'u sefydliadau yn cael rhan ystyrlon yn y gwaith o lunio polisi? A pha wersi sydd wedi'u dysgu o fethiannau mynych ymgynghoriadau Llywodraeth y DU? Beth yw eich ymateb i alwadau Disabled People Against Cuts Cymru am adolygiad democrataidd a gwirioneddol annibynnol o daliadau annibyniaeth personol yng Nghymru?

Rwy'n credu fy mod wedi ateb y pwyntiau, gan fy mod wedi gwneud sylwadau gyda phobl anabl mewn cyfarfod gyda'r Gweinidog Timms, sy'n arwain yr adolygiad o'r taliad annibyniaeth personol. Rwy'n credu mai'r pwynt a wnaethom iddo yn y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl hwnnw oedd y gallwch ddysgu gan Gymru. Drwy'r tasglu hawliau pobl anabl, rydym wedi datblygu ffordd o weithio, cydgynhyrchu ac ymgysylltu â phobl anabl sydd â phrofiad bywyd o sut beth yw cael eich anablu gan gymdeithas. Dyna'r model cymdeithasol o anabledd yr ydym wedi ymrwymo iddo. Ac rwy'n pwysleisio, os ydynt yn dilyn—Llywodraeth y DU, a'r Gweinidog Timms—ac yn deall y profiad sydd gennym, bydd hynny'n helpu gyda'r adolygiad a wneir. Felly, rwy'n falch iawn fod pobl yn galw am gynnwys mwy o brofiad bywyd pobl anabl i ddylanwadu ar yr adolygiad hwn.

Hefyd, rydym yn gweithio i sicrhau bod ein rhaglenni cyflogadwyedd yng Nghymru, lle mae gennym gyfrifoldeb, yn adlewyrchu anghenion a hawliau pobl anabl yn llawn. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar eu mentrau arloesol ym Mlaenau Gwent, sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot. A hefyd, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn ddiwygio'r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i adolygu'r cynllun.

Soniais am hyn heddiw yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Anabledd Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â'n hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl, ychydig ddyddiau'n ôl, sydd eu hunain yn gweithio ledled Cymru, gyda chyflogwyr—ac maent yn bobl anabl sy'n arwain—i sicrhau y gallwn alluogi ein pobl anabl i gael mynediad at waith a dychwelyd i'r gwaith, nid yn unig gyda chymorth Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ond Llywodraeth y DU hefyd.

14:40

Diolch. Mae creu y cyfleon yna o ran gwaith, wrth gwrs, yn hanfodol, gan ein bod yn gwybod bod y bwlch cyflogaeth o ran pobl anabl yn fwy yng Nghymru nag yw e yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Gyfunol. Ac mae'n rhaid i bobl fedru cyrraedd y cyfleon hynny, onid oes?

Mae pobl anabl yn aml yn cael eu heffeithio yn anghymesur gan newidiadau i drafnidiaeth gyhoeddus, ond yn aml dyw eu lleisiau nhw ddim yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn ymgynghoriadau. Mae trafnidiaeth yn gwbl hanfodol i gymaint o bobl anabl er mwyn eu galluogi nhw i gael mynediad at waith neu addysg neu ofal iechyd, a gweithgareddau cymdeithasol. Ond pan fydd gwasanaethau'n cael eu torri, pan nad yw staff yn cael eu hyfforddi, neu fod mynediad yn anghyson, mae'n cael effaith uniongyrchol ar les ac annibyniaeth pobl anabl.

Yn y grŵp trawsbleidiol ar anabledd dysgu yr wythnos diwethaf, clywon ni'n uniongyrchol gan bobl ag anableddau dysgu sut yr oedd eu bywydau nhw'n cael eu heffeithio gan doriadau i wasanaethau bysiau a diffyg dealltwriaeth. Ac mae Mencap wedi codi pryderon penodol ynglŷn â'r ymgynghoriad bysiau diweddar a ddaeth i ben ganol mis yma. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw'n benodol gan bobl yn anabl, a pha gamau lliniarol a fydd yn cael eu rhoi ar waith os oedd eu cyfranogiad yn isel? 

Wel, diolch yn fawr, mae hwnnw'n gwestiwn atodol pwysig iawn hefyd. Ac yn wir, roeddwn yn falch iawn o wrando ar y cwestiynau a ofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, yn hytrach nag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, gan fod llawer o gwestiynau rhagorol am hygyrchedd trafnidiaeth i bobl anabl, a ategodd y pwyntiau a wnaed gennych chi, Sioned. A chofiwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wedi gwneud datganiad llafar ar 'Teithio i bawb', sy'n ymwneud â sicrhau bod mynediad a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn, i wneud i bawb deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu croesawu wrth deithio yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i hynny gynnwys mynediad i bobl anabl, a mynediad at waith yn enwedig.

Gwnaed llawer o bwyntiau y prynhawn yma yn y sesiwn gwestiynau yn gynharach. Ond mae'n bwysig, a dywedais hyn y bore yma wrth gyfarfod cyffredinol blynyddol Anabledd Cymru: adroddais fod Trafnidiaeth Cymru a'r camau y maent yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o gyflawni 'Teithio i bawb' yn cynnwys gofynion hygyrchedd clir ar gyfer fflydoedd bysiau newydd, canllawiau hygyrchedd technegol ar gyfer seilwaith bysiau, ac adolygu a datblygu hyfforddiant staff sy'n gweithio gyda'r cyhoedd, yn seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd. Rhaid inni newid agweddau'n gyfan gwbl, onid oes, newid diwylliannol, a newid ffisegol, gweithredol hefyd, o ran hygyrchedd teithio i bawb yng Nghymru?

Ac yn olaf, ar y cwestiynau pwysig a ofynnoch chi i mi: ein nod, fel y dywedais heddiw, yw herio ableddiaeth er mwyn sicrhau gwell mynediad at ofal iechyd, trafnidiaeth ac addysg. Ac wrth gwrs, fe gyfeirioch chi at y cyfarfod pwysig a gefais gyda chi a Mark Isherwood, fel cadeiryddion y grwpiau trawsbleidiol, ynglŷn â phobl ag anableddau dysgu, a'r ffaith bod hyn oll yn cael sylw. Roedd gennym ffrwd waith â thema ar deithio, fel y gwyddoch, yn ein cynllun hawliau pobl anabl, a byddaf yn gallu adrodd ar hynny a'r hyn y mae hynny'n ei olygu cyn bo hir.

Bathodynnau Glas Gydol Oes

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch cyflwyno bathodynnau glas gydol oes ar gyfer unigolion â chyflyrau gydol oes? OQ63302

Diolch, Carolyn Thomas. Rwy'n cael trafodaethau parhaus gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y pwnc hwn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall pobl anabl sydd â'r angen mwyaf gael mynediad at gonsesiynau parcio ar y stryd a bod y broses o gael bathodyn mor deg ac effeithlon â phosib.

Diolch am eich ymateb. Dau o'r rhesymau y cyfeirir atynt yn aml dros wrthwynebu bathodynnau glas gydol oes yw pryderon ynghylch twyll a chostau. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio bod ei gwneud hi'n ofynnol i bobl anabl ailymgeisio bob tair blynedd yn aneffeithlon ac yn annheg, ac yn aml yn achosi straen diangen i ymgeiswyr a'u gofalwyr. Gall gofyn i unigolion â chyflwr parhaol wneud hyn dro ar ôl tro a darparu'r un dystiolaeth gael ei ystyried yn wahaniaethu anuniongyrchol ac yn fethiant i wneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gyda hyn mewn golwg, sut y caiff Ddeddf Cydraddoldeb a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus eu rhoi ar waith o fewn system bresennol y bathodyn glas, o ystyried bod y broses ei hun a chanfyddiadau arolwg bathodyn glas Stronger Together for Additional Needs and Disabilities North Wales yn tynnu sylw at bryderon sylweddol ynghylch tegwch, urddas a chyfiawnder cymdeithasol?

14:45

Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i chi am eich eiriolaeth a'ch cefnogaeth i grwpiau bathodyn glas, yn enwedig, fel rydych chi wedi tynnu fy sylw ar sawl achlysur, ac yn y Senedd hon, grwpiau bathodyn glas, fel y grŵp rydych chi'n ei gefnogi yng ngogledd Cymru—STAND North Wales? O ganlyniad i hyn, rydych chi wedi helpu i roi ffocws i waith Llywodraeth Cymru i barhau i annog awdurdodau lleol a CLlLC i symleiddio'r broses o ailymgeisio am fathodyn glas, gan godi ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd a rennir a gwaith pellach ar gefnogi ymgeiswyr. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig. Golyga fod modd rhoi bathodyn i ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn barhaol heb orfod cael eu hailasesu. A golyga hyn, pan fyddant yn ailymgeisio ar ôl tair blynedd, na fydd angen iddynt ddarparu unrhyw dystiolaeth ychwanegol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gefnogi eu cais; yr unig dystiolaeth sydd ei hangen yw prawf o hunaniaeth, prawf preswylio a ffotograff. Rydym yn ystyried y rhain yn ofynion rhesymol a chymesur i warchod uniondeb a chadernid y cynllun bathodyn glas, ond hefyd i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael mynediad at gynllun y bathodyn glas heb ormod o fiwrocratiaeth yn eu ffordd.

Yn gynharach y mis hwn, yn ei ymateb diweddaraf i fy ngohebiaeth ar ran etholwr ynghylch y cynllun bathodyn glas, eglurodd yr Ysgrifennydd trafnidiaeth, unwaith eto, fod awdurdodau lleol yn gweinyddu'r cynllun gan ddefnyddio canllawiau a phecyn cymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dehongliad anghyson o'r brig i lawr gan awdurdodau lleol o'r canllawiau hyn sy'n arwain dro ar ôl tro at wrthod neu wrthod adnewyddu bathodyn glas i ymgeiswyr anabl. Mae gwrthodiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu bathodyn gydol oes i'r rheini â chyflyrau gydol oes nad ydynt yn gwella yn groes i resymeg ac yn gwrthbrofi honiad Llywodraeth Cymru eu bod yn hyrwyddo'r model cymdeithasol o anabledd. Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd, felly, i sicrhau y rhoddir sylw priodol i ganfyddiadau'r arolwg rhanddeiliaid a gynhaliwyd yr haf hwn gan gwmni buddiant cymunedol STAND North Wales, a gafodd 636 o ymatebion o 20 sir yng Nghymru mewn dim ond 25 diwrnod, ac a ganfu:

'Mae’r system Bathodyn Glas bresennol yng Nghymru yn creu rhwystrau yn hytrach na'u dileu, gan weithio’n groes i amcanion y ddeddfwriaeth hawliau pobl anabl'?

Argymhellodd newidiadau, gan gynnwys bathodyn gydol oes, i wasanaethu unigolion anabl a gofalwyr ledled Cymru yn well a chyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol a moesol Llywodraeth Cymru. Hoffwn glywed a fyddwch chi'n rhoi sylw i hynny.

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Yn sicr, fe fyddaf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn rhoi sylw i hyn. Fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion o adolygiad y rhaglen ymchwil fewnol o gynllun y bathodyn glas yng Nghymru. Fe'i cyhoeddwyd ar 21 Mai. Nod yr adolygiad oedd asesu cryfder y cynllun ac archwilio a ellid ymestyn meini prawf cymhwysedd, yn enwedig ar gyfer unigolion â chyflyrau gydol oes. Credaf mai'r pwynt hollbwysig, fel y gwyddoch, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnull grŵp arbenigol, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i archwilio pob opsiwn i rannu data'n well ac i leihau'r baich sy'n wynebu pobl ag angen gwirioneddol am y lleoedd parcio hygyrch y gall y bathodyn glas eu cynnig.

Ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu

4. Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau y bydd yr ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu sy'n dod o fewn ei phortffolio yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y Senedd hon? OQ63304

Diolch am eich cwestiwn. Mae cynnydd rhagorol wedi'i wneud ar gyflawni'r ymrwymiadau yn fy mhortffolio. Rwy'n arbennig o falch o'r canlyniadau cadarnhaol rydym yn eu cyflawni gyda'n prosiectau gweithredu pwyslais ar incwm yng Nghymru, gyda gwasanaethau ein cronfa gynghori sengl yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf mewn angen, a dyheadau siarter budd-daliadau Cymru yn cael eu cyflawni.

14:50

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ar incwm, un o'r blaenoriaethau allweddol y mae'r Llywodraeth wedi dewis ei chyflawni yn nhymor y Senedd hon yw'r cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal. A gawn ni ddadansoddiad manwl o effeithiolrwydd y cynllun hwnnw cyn diwedd tymor y Senedd hon, fel y gallwn weld a fu'r buddsoddiad y dewisodd y Llywodraeth ei wneud mor effeithiol â'r hyn a addefwyd gan y Llywodraeth ar y pryd?

Diolch am eich cwestiwn, gan fod y cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru yn brosiect hynod gyffrous, ac wedi rhoi sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc sy'n gadael gofal ac sy'n wynebu heriau unigryw iawn. Fe wnaethom ddewis pobl ifanc â phrofiad o ofal fel y garfan ar gyfer y cynllun peilot oherwydd hyn. Daeth y cynllun incwm sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru, fel y gofynnoch chi yn eich cwestiwn—ac rwy'n diolch i chi am hynny—i ben yn ffurfiol ar 20 Mehefin eleni, gyda dros 600 o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn elwa o'r buddsoddiad uniongyrchol hwn ynddynt hwy a'u dyfodol. Bydd rhai unigolion yn parhau i dderbyn eu taliadau olaf tan y mis nesaf gan iddynt gofrestru'n ddiweddarach ar gyfer y cynllun. Roedd y nifer a gymerodd ran yn y cynllun peilot, sef 97 y cant, ymhell y tu hwnt i'n disgwyliadau gwreiddiol, yn sylweddol uwch nag unrhyw un o'r cynlluniau incwm sylfaenol eraill ledled y byd. Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'n partneriaid i helpu i gefnogi pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru i bontio'n llwyddiannus i fyw'n annibynnol. Byddwn yn defnyddio canfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol—wrth gwrs, dyna sy'n bwysig, onid e—o'r cynllun peilot, sydd wedi'i gynnal gan ymchwilwyr blaenllaw ledled y DU, ac sydd ar hyn o bryd yng nghanol y broses, i lywio ein darpariaeth o gymorth i bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru, a bydd y gwerthusiad yn parhau tan 2027. Felly, diolch am roi cyfle imi adrodd ar y cynllun peilot hynod bwysig hwn yng Nghymru.

Tlodi Tanwydd

5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith costau ynni cynyddol ar lefelau tlodi tanwydd cyn y gaeaf sydd i ddod? OQ63309

Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Y gaeaf hwn, rydym yn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ac yn darparu cymorth ar gyfer yr argyfwng gwresogi a chyllid ar gyfer mannau cymunedol cynnes a chroesawgar. Byddaf hefyd yn parhau i annog Ofgem a darparwyr ynni i gefnogi cwsmeriaid agored i niwed.

Diolch am eich ymateb. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd mwy o bobl o oedran pensiwn yn derbyn rhai taliadau tanwydd y gaeaf y gaeaf hwn, ond mae maint y broblem yn enfawr, onid yw, ac mae'n effeithio ar bob grŵp oedran, nid pensiynwyr yn unig? Mae'r cyhoeddiad am y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes i'w groesawu hefyd, ond unwaith eto, ni fydd llawer o aelwydydd yn gymwys ar ei gyfer. Yn y cyfamser, mae 340,000 o aelwydydd yng Nghymru, neu un o bob pedwar, yn byw mewn tlodi tanwydd, yn cynnwys dros 60,000 mewn tlodi tanwydd difrifol. O ystyried bod costau ynni yng ngogledd Cymru ymhlith yr uchaf ym Mhrydain, a bod eu stoc dai ymhlith yr hynaf a mwyaf aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni yng Nghymru, a gaf i ofyn pa fesurau ychwanegol penodol y gallech fod yn eu hystyried i ddiogelu aelwydydd, yn enwedig yn y gogledd, rhag effeithiau mwyaf difrifol tlodi tanwydd? A wnewch chi ymrwymo i gryfhau cymorth gwresogi ac inswleiddio sy'n targedu ardaloedd anghysbell a gwledig yn arbennig, ardaloedd sy'n aml iawn yn teimlo mai nhw sy'n ei chael hi anoddaf?

Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Mae'r rhain yn gwestiynau pwysig iawn, yn dilyn y datganiad a wneuthum ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf, oherwydd wrth inni gyrraedd y dyddiau a'r wythnosau oerach hynny, mae angen inni gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn. Mae'n wir, fel y dywedoch chi, fod ein hamcangyfrifon diweddaraf o dlodi tanwydd yn dangos bod 25 y cant o gartrefi mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2024—ffigurau sy'n peri cryn bryder, ac sy'n adlewyrchu'r cynnydd digynsail yng nghostau ynni a'r argyfwng costau byw dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd hyn yn peri pryder o ran biliau ynni i gartrefi ledled Cymru, ond rwy'n cyfeirio'n benodol at y gogledd o ran yr amgylchiadau hynny. Fe wyddoch fod ein gwasanaethau cynghori rhad ac am ddim Nyth a'n rhwydwaith 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' yno i bobl sy'n ei chael hi'n anodd cadw eu cartrefi'n gynnes. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â phrif weithredwr y Sefydliad Banc Tanwydd, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr o ran estyn allan at bobl yng Nghymru. Menter ar gyfer Cymru'n unig yw hon. Fel y gwyddoch, rydym yn rhoi £6.9 miliwn i'r Sefydliad Banc Tanwydd. Yr hyn sy'n bwysig yw nad mater o ddarparu talebau tanwydd ar gyfer cartrefi â mesuryddion rhagdalu yn unig yw hyn, sy'n bwysig i bawb ledled Cymru gyfan, ond mae'n ymwneud hefyd â chyflenwadau olew neu nwy i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy, sydd, wrth gwrs, yn wirioneddol bwysig i bobl mewn ardaloedd gwledig. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gennym y gronfa cymorth dewisol, sydd hefyd yn darparu cymorth i bobl nad ydynt ar y grid. Felly, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl, ac wrth gwrs, rwy'n codi'r materion hyn yn barhaus gydag Ofgem, gyda Llywodraeth y DU, wrth alw am dariff cymdeithasol, wrth geisio galw am ddiwygio'r ffordd y mae'n rhaid i aelwydydd ymateb i'r costau ynni hyn.

14:55

Ar yr un nodyn, mewn gwirionedd—ac rydych chi wedi ateb llawer o'r pwyntiau—credaf ei bod yn allweddol, mewn ardal wledig fel fy un i, fod llawer o bobl hŷn sydd â mwy o asedau nag arian yn byw mewn cartrefi mawr neu hen â waliau solet y maent wedi byw ynddynt ers blynyddoedd lawer. Ni allant fforddio inswleiddiad; maent angen inswleiddiad, ond eto ni allant gael mynediad at yr holl gynlluniau sydd ar gael ar hyn o bryd, neu nid ydynt yn bodloni'r meini prawf i gael mynediad atynt. Felly, unwaith eto, carwn annog y Llywodraeth i edrych ar y grŵp hwnnw o bobl nad ydynt bob amser yn gwybod beth sydd ar gael iddynt er mwyn egluro hynny iddynt fel nad oes rhaid iddynt ddewis rhwng bwyta a gwresogi y gaeaf hwn.

Diolch yn fawr, Peter Fox. Ni wneuthum ymateb i gyfeiriad Llyr Gruffydd at bwysigrwydd taliadau tanwydd y gaeaf. Wrth gwrs, mae'n mynd i gyrraedd llawer o'ch aelwydydd, ailgyflwyno'r taliad hwnnw, ond hefyd, ymestyn y gostyngiad Cartrefi Clyd, a fydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i lawer o aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau yng Nghymru. Ac ar ymestyn y disgownt Cartrefi Clyd, mae hwnnw'n sicrhau bod pob talwr biliau sy'n derbyn budd-daliadau sy'n ddibynnol ar brawf modd bellach yn gymwys ar gyfer yr ad-daliad bil trydan o £150, a bydd 110,000 o aelwydydd Cymru yn derbyn y taliad hwn am y tro cyntaf.

Yr Argyfwng Costau Byw

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw? OQ63313

Diolch yn fawr, Rhun. Rydym yn parhau i gefnogi teuluoedd yng Nghymru, gan dargedu cymorth at y rhai sydd ei angen fwyaf er mwyn lliniaru pwysau'r cynnydd mewn costau byw drwy gyflawni siarter budd-daliadau Cymru, gan helpu pobl i gael mynediad at yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, a buddsoddi dros £7 biliwn er mwyn lleihau costau a helpu i gadw arian ym mhocedi pobl.

Diolch am yr ymateb yna. Rydyn ni'n cael ein hatgoffa heddiw, onid ydym, o'r pwysau sydd yn cynyddu ar yr arian ym mhocedi pobl wrth i'r ONS gyhoeddi'r gyfradd chwyddiant ar gyfer mis Medi—yn well na'r disgwyl, a dweud y gwir, ond dal bron iawn i ddwbl y targed. Beth mae teuluoedd yn dweud wrthyf i yn aml iawn yn Ynys Môn ydy mai un o'r pwysau mwyaf arnyn nhw ydy gofal plant a'r costau sydd ynghlwm â hynny. Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r cynlluniau y mae Plaid Cymru wedi'u cyhoeddi, sef y byddem ni'n bwriadu, mewn Llywodraeth, cyflwyno'r cynllun gofal plant mwayf hael yn unrhyw le, ac erioed i ni ei gael yng Nghymru, a fyddai'n gallu bod yn werth cymaint â £30,000 i deuluoedd ar gyfer bob plentyn ym mlynyddoedd cyntaf y plant hynny. Mae eisiau gwneud hyn am nifer o resymau: mae e'n arf yn erbyn tlodi, mae e'n fodd i roi'r cychwyn gorau i blentyn mewn bywyd, ac mae'n galluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith. Ond ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi fod hwn yn gallu bod yn arf pwysig iawn hefyd wrth geisio taclo'r argyfwng costau byw y mae cymaint o deuluoedd yn ei wynebu?

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Oes, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r teuluoedd yn eich etholaeth a ledled Cymru o ran y pwysau ar gyllid aelwydydd. Yn amlwg, mae a wnelo hyn â darparu cymorth ariannol uniongyrchol i blant drwy brydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgol a'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn ogystal â budd-daliadau i deuluoedd. Ond mae hefyd yn bwysig fod gofal plant yn darparu'r cymorth hwnnw. Ar gynnig gofal plant Cymru, elwodd dros 21,200 o blant o gynnig gofal plant Cymru yn 2023-24, a chyda'r pwysau y mae teuluoedd yn ei wynebu, mae'n bwysig ein bod yn buddsoddi dros £150 miliwn y flwyddyn tuag at ariannu gofal plant i rieni. Dylai fod yn fforddiadwy, ar gael ac yn hygyrch i rieni sy'n gweithio. Ond hefyd, wrth gwrs, rydym yn buddsoddi, drwy ein menter Dechrau'n Deg, mewn gofal plant am ddim, sy'n ymestyn i gynnwys pob plentyn dwy oed ledled Cymru.

Canolfan Breswyl i Fenywod yn Abertawe

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran agor y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod yn Abertawe? OQ63287

15:00

Diolch, Jenny Rathbone. Mae'r ganolfan breswyl i fenywod yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru gan y bydd yn gwella bywydau menywod yng Nghymru. Bydd y ganolfan yn ased gwirioneddol i fenywod yng Nghymru, gan ddarparu gwasanaethau therapiwtig ac adsefydlu yn rhan o ddull sy'n ystyriol o drawma. Mae'r caniatâd adeiladu a chynllunio wedi'i gadarnhau.

Diolch. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen at y cynnydd sydd ar fin cael ei wneud. Gwelodd Julie Morgan a minnau ddrama wych o'r enw A Visit yn Theatr y Sherman ychydig wythnosau yn ôl, ac mae'r tocynnau i gyd wedi'u gwerthu yn Abertawe ac ym Merthyr hefyd; mae'r perfformiad olaf yn Aberystwyth ddydd Gwener yma. Mae'n ddrama bwerus iawn sy'n cyfleu'r effaith ar blant yn sgil anfon eu mamau i'r carchar. Gobeithio y gwnewch chi longyfarch Papertrail, mewn cydweithrediad â Clean Break, a Siân Owen am greu rheswm mor gryf dros roi'r gorau i anfon menywod i'r carchar am droseddau di-drais. I wneud hyn, mae angen inni gael dedfrydau amgen i fenywod sy'n torri'r gyfraith. Pam y mae Llywodraeth y DU yn llusgo'i thraed ar ddatblygu canolfan breswyl Abertawe, a gafodd ganiatâd cynllunio ym mis Awst 2023?  

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone, ac rwy'n difaru na lwyddais i weld y ddrama honno, A Visit—drama bwerus iawn Siân Owen. Rwy'n gobeithio y gall fynd y tu hwnt i Aberystwyth, gan na allaf gyrraedd y perfformiad olaf. Rwy'n credu ei fod yn atgoffa'n ingol, fel y gwyddom, pam y dylai dedfrydau nad ydynt yn garchariadau fod ar gael i fenywod Cymru er mwyn cynnal cysylltiadau teuluol. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn ariannu'r rhaglen ymweld fel y gall plant gadw mewn cysylltiad â'u rhieni—eu mamau. Ond mae'n ffordd mor bwerus o wneud yr achos clir dros ein canolfan breswyl i fenywod ar gyfer Cymru a Lloegr. Byddwn yn ei threialu ar gyfer Cymru a Lloegr, ac mae angen inni symud hyn yn ei flaen.

Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn heddiw am ein bod yn deall pa mor bwysig yw hi i fenywod gael cyswllt â'u teuluoedd ac aros gyda'u teuluoedd, ac mae yna lawer o fenywod yn y system gyfiawnder dros y ffin yn Lloegr. Mae yna fwrdd cyfiawnder menywod ar gyfer Cymru gyfan—mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu bwrdd cyfiawnder menywod cenedlaethol. Edrychaf ymlaen at y cyfarfod nesaf, a bydd yn rhoi cyfle i mi bwysleisio eto pa mor bwysig yw agor y ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru. Mae'r cynlluniau gennym ac mae'r adeilad gennym, a rhaid bwrw ymlaen ag ef. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi codi hyn eto, oherwydd mae'n cyflymu'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau i fenywod yng Nghymru sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol.

Data Carchardai Cymru yn Unig

8. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyhoeddi data carchardai Cymru yn unig? OQ63294

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Luke Fletcher. Rwy'n falch fod cydweithrediad Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU wedi arwain yn ddiweddar at ryddhau data penodol ar garchardai ar gyfer Cymru gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae swyddogion yn parhau i ymdrechu i nodi a sicrhau rhagor o ddata Cymru yn unig ar y system gyfiawnder.

Diolch am yr ateb. Rwy'n credu y dylid rhoi llawer o'r clod hwnnw i'r blynyddoedd o waith gan Dr Rob Jones a Chanolfan Llywodraethiant Cymru. Fel y nodwyd gennych, o ganlyniad i'r gwaith hwnnw, am y tro cyntaf, mae gennym ddata carchardai Cymru yn unig yn cael ei gyhoeddi'n rheolaidd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'n garreg filltir bwysig, ond nid yw ond yn gyflawniad rhannol o un o'r argymhellion allweddol a wnaed gan gomisiwn Thomas. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi hepgor gwybodaeth hanfodol, yn cynnwys data am garcharu rhieni, marwolaethau yn y ddalfa a nifer y carcharorion sy'n siarad Cymraeg. Heb hyn, ni allwn ddeall yn llawn effaith carcharu ar deuluoedd a diogelwch ac urddas pobl yn y ddalfa, sy'n arbennig o bwysig gan ein bod wedi gweld marwolaeth arall eto yn CEF Parc. Felly, fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yw hwn: beth nawr? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu ar y data newydd hwn, a pha gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod y data sy'n weddill ac wedi'i hepgor yn cael ei gyhoeddi fel y gallwn adeiladu darlun mwy cyflawn o'r system garchardai yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr am y cwestiwn, Luke Fletcher. A gaf i ddechrau drwy ddweud ein bod yn bryderus iawn o glywed am farwolaeth carcharor yng ngharchar y Parc yn ddiweddar? Diolch am dynnu sylw at hyn heddiw, ac rydym yn anfon ein cydymdeimlad i'r rhai yr effeithir arnynt. Wrth gwrs, fe wyddom fod gweithredu carchardai yn waith a gadwyd yn ôl, ond rydym yn cysylltu â Llywodraeth y DU a phartneriaid i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd ar ôl y farwolaeth. Bydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth yn ymchwilio, er nad yw'n ymddangos ar hyn o bryd fod unrhyw amgylchiadau amheus ynglŷn â'r farwolaeth, ac mae'r crwner wedi'i hysbysu.

Ond mae'n bwysig ein bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ar y meysydd y mae gennym gyfrifoldeb amdanynt—iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg—mewn perthynas â'n hystad garchardai. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, yn enwedig mewn ymateb i'r farwolaeth ddiweddaraf hon. Mae'n cysylltu'n agos iawn â'r hyn y gallwn ei wneud o ran ein dealltwriaeth, ein gwybodaeth a'n cyfrifoldebau mewn perthynas â chyfiawnder.

Fel y dywedais, rwyf hefyd yn croesawu cyhoeddiad blynyddol cyntaf y data cyfiawnder ar gyfer Cymru. Mae'n ein helpu i ddeall yr effaith a gawn ar yr hyn sydd bellach yn flaenoriaethau allweddol a rennir yn y system gyfiawnder. Rwy'n ddiolchgar eich bod wedi tynnu sylw at gomisiwn Thomas, gan ei fod yn dangos bylchau sylweddol yn y data cyfiawnder ar gyfer Cymru. Rydym wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi data wedi'i ddadgyfuno ar gyfer Cymru, sy'n ein helpu i ddeall y data penodol hwnnw—ac fe nodoch chi feysydd eraill y mae angen inni fwrw ymlaen â nhw—i weld sut y mae gwasanaethau cyfiawnder yn gweithio yng Nghymru a'r effaith a gaiff ar wasanaethau datganoledig.

Diolch hefyd i Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Maent wedi chwarae rhan ganolog—Dr Rob Jones, wrth gwrs—yn helpu i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth a chefnogi mwy o dryloywder ynghylch data cyfiawnder yng Nghymru. Rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi eu cyhoeddiadau ffeil ffeithiau. Maent wedi dangos pwysigrwydd data Cymru'n unig a'r gwerth y gall hyn ei gynnig i fywyd cyhoeddus. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i nodi data arall y gellid ei ddadgyfuno ar gyfer Cymru. Rwy'n gobeithio cyfarfod â Dr Rob Jones cyn bo hir i drafod y datblygiadau pellach a all ddigwydd, gan fod gennym y cam cyntaf wedi'i wneud bellach o ran y ddarpariaeth hollbwysig o ddata cyfiawnder—y man cychwyn. Ond mae i'w groesawu'n fawr.

15:05
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 ar ein hagenda ni yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd cwestiynau 1 a 2 yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, James Evans.

Offer TGCh

1. Beth yw polisi Comisiwn ar waredu hen offer TGCh neu offer TGCh sydd dros ben? OQ63276

Mae Comisiwn y Senedd wedi sefydlu contract gyda chyflenwyr lleol Cymreig i waredu unrhyw offer trydanol yn gynaliadwy os na ellir ei ddefnyddio mwyach yn y Senedd. 

Diolch am yr ateb hwnnw, Lywydd. Ar ôl diwedd tymor y Senedd hon, rydym yn mynd i weld llawer o offer TGCh dros ben, ffonau, camerâu, petheuach, llawer o'r offer dros ben y talwyd amdano gan arian trethdalwyr drwy'r Comisiwn. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw bod hwnnw'n cael ei gynnig i Aelodau newydd o'r Senedd, fel nad oes rhaid inni barhau i brynu pethau newydd dro ar ôl tro. Rwy'n credu y byddai hynny'n llawer gwell defnydd o arian trethdalwyr, ac rwy'n credu y byddai'n dangos ein bod ni'n fwy gwyrdd ac nad ydym yn parhau i brynu pethau newydd drwy'r amser.

Gallaf eich sicrhau nad ydym yn parhau i brynu pethau newydd drwy'r amser oni bai eu bod yn angenrheidiol. Ar ddiwedd y chweched Senedd, bydd asesiad o'r offer nad oes ei angen ar Aelodau mwyach. Bydd rhywfaint ohono ar ddiwedd ei oes ddefnyddiol beth bynnag, a bydd hwnnw'n cael ei waredu, fel y dywedais, gyda chontractwr lleol a'i ailgylchu a'i ddadelfennu'n gydrannau a'r rheini'n cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu.

Mae'n debyg y bydd yr asesiad hefyd yn dangos bod yna offer y gellir ei ailddefnyddio. Bydd angen ei sychu'n lân o'r holl ddata sydd arno, ond fe ellir ei ailddefnyddio. Bydd yr asesiad hwnnw'n digwydd. Nid yw'r cyfan yn bethau newydd i bob Aelod newydd, gallaf eich sicrhau o hynny. Rydym yn mynd drwy broses o graffu ar ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gallaf eich sicrhau ein bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr fod gwerth i'r trethdalwr ym mhopeth a wnawn wrth baratoi ar gyfer ein seithfed Senedd.

Y Gwasanaeth Addysg a Chymorthdaliadau Teithio

2. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ar eu hadolygiad o wasanaeth addysg y Senedd, yn benodol ar gymorthdaliadau teithio? OQ63291

Yn dilyn adolygiad y llynedd, mi benderfynodd y Comisiwn yn gynharach eleni yn gyntaf i gynyddu o 50 y cant y gyllideb cymhorthdal teithio fydd ar gael i ysgolion sy’n cymryd rhan mewn ymweliadau addysg llawn â’r Senedd o £1 y filltir i £1.50 y filltir. Hefyd, bydd pob grŵp yn gallu hawlio’r cymhorthdal milltiroedd, gan gynnwys y rhai sydd o fewn radiws o 10 milltir, sy'n wahanol i'r sefyllfa ar hyn o bryd. Hefyd, bydd proses archebu yn rhoi blaenoriaeth ar gyfer grwpiau â chyfran uwch o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Bydd y gyfundrefn newydd yma yn dod i rym yn y flwyddyn academaidd nesaf. 

15:10

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, Llywydd, a da gweld bod yna newidiadau yn mynd i fod. Roeddwn i wedi codi pryderon yn gynharach eleni oherwydd fy mod i ar ddeall bod yna rai ysgolion yn dewis rŵan mynd i San Steffan yn hytrach na'r Senedd gan fod y cymhorthdal yn llawer mwy hael o ran hynny. Oedd yr adolygiad wedi dangos bod cost yn ffactor, ac ydych chi'n hyderus bod y newid hwn yn mynd i olygu nad ydy ysgolion ddim yn dewis San Steffan yn hytrach na'r Senedd? Yn amlwg, byddai'n dda eu bod nhw'n gallu cael cyfle i weld cymaint o lefydd â phosibl, ond yn sicr, roeddwn i'n pryderu o ran hynny. Rydyn ni'n gwybod bod costau bws yn eithriadol o uchel. Oes yna hefyd drafodaethau wedi bod efo Trafnidiaeth Cymru i edrych ar sut ydyn ni'n sicrhau bod yna ffyrdd amgen i gymaint o ddysgwyr â phosibl ddod i'r Senedd? Fel rydyn ni'n gwybod i gyd, mae'r sesiynau gan ein tîm addysg ni o safon eithriadol o uchel, ac eithriadol o bwysig, hefyd, o ran sicrhau bod pobl ifanc yn dod i ddeall eu democratiaeth nhw a'u hawliau nhw fel ein bosys ni i gyd sydd yma yn y Senedd?

Mae'r cynnig i ysgolion i ymweld â'r Senedd yn ddefnyddiol iawn i ysgolion, ac yn boblogaidd iawn gan ysgolion. Wrth i ni adolygu'r gyfundrefn taliadau ar gyfer costau teithio, fe wnaethom ni gymhariaeth gyda Senedd yr Alban a San Steffan, fel rŷch chi wedi sôn. Dyw Senedd yr Alban ddim yn talu o gwbl i ysgolion i'w cefnogi nhw i ddod i ymweld â Senedd yr Alban. Mae'r cynnig yn hael gan Senedd San Steffan. Mae'n £3.50 y filltir i'w gymharu â £1.50 y filltir fel byddwn ni'n ei godi y flwyddyn nesaf. Mae'r cynnydd yna yn ei hun yn codi'r gyllideb o £20,000 i £30,000. Dyna'r gost i'r Comisiwn y flwyddyn nesaf. Penderfyniad y Comisiwn oedd y byddai treblu'r gyllideb ar gyfer hyn, a fyddai'n cymharu wedyn gyda'r cymhorthdal ar gael gan San Steffan, yn ormod o gam ar hyn o bryd, ac felly'r hyn rŷn ni'n ei wneud yw ei gynyddu, ie, a derbyn y ffaith bod y costau sy'n wynebu ysgolion yn heriol i nifer ohonyn nhw, a hefyd derbyn y ffaith bod hyd yn oed y costau hynny'n anodd i'r ysgolion sydd o fewn 10 milltir i ardal y Senedd. Felly, rŷn ni wedi cymryd cam yn y cyfeiriad cywir, o bosibl ddim cweit mor bell â beth rŷch chi'n ein hannog ni i'w wneud, Heledd Fychan, ond dwi'n gobeithio y bydd e'n cael ei ddefnyddio'n helaeth gan ysgolion sydd wedi ymweld â'r Senedd yma yn flynyddol, fel mae rhai yn gwneud, a rhai o'r ysgolion yng Nghymru, wrth gwrs, sydd ddim wedi ymweld o gwbl, o bosibl. Felly, mae eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl ysgolion yn ymwybodol o'r cyfle sydd ar gael iddyn nhw, a'r cymhorthdal hefyd.

Bydd cwestiwn 3 yn cael ei ateb gan Joyce Watson. Cwestiwn 3, Jenny Rathbone. 

Dehongliad BSL o Drafodion y Cyfarfod Llawn

3. Pa ddadansoddiad y mae Comisiwn wedi'i wneud o gostau darparu dehongliad BSL o drafodion y Cyfarfod Llawn? OQ63280

Diolch am y cwestiwn, Jenny. Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog bob dydd Mawrth, ac fe'i darperir i'r Senedd drwy'r contract gwasanaethau darlledu am gost flynyddol sefydlog. Mae'r gwasanaeth hefyd ar gael ar gais ar gyfer eitemau eraill yn y Cyfarfod Llawn, gyda phob cais yn ddarostyngedig i dâl ychwanegol. Cost flynyddol bresennol darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog yw oddeutu £19,000.

Diolch. Rwy'n siŵr y byddwch chi fel Comisiynwyr yn ymwybodol fod Cam 1 Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn cwblhau ei broses yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Roeddwn eisiau archwilio gyda chi a yw—. Un o'r prif faterion a nodwyd gennym gan dystion yw prinder dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain. Drwy gyd-ddigwyddiad, roedd dau ohonynt yn actio fel swyddogion carchar yn A Visit. Roedd ganddynt rannau nad oeddent yn rhannau llafar ond roeddent yn darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain i unrhyw un a oedd yn gwylio'r ddrama—anhygoel. Ond gallwch weld sut y mae'n mynd i godi disgwyliadau, os ydym yn pasio'r Bil hwn yn y Senedd, y bydd angen dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar lawer mwy o sesiynau'r Cyfarfod Llawn, neu'n fwyaf arbennig, sesiynau pwyllgor fel y rhai yng Ngham 1 yr ydym newydd fod yn eu cynnal. O ystyried prinder y bobl hyn, pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i roi i noddi hyfforddiant dehonglwyr, yn hytrach na chystadlu â'r rhai sy'n darparu dehonglwyr ar gyfer apwyntiadau GIG?

15:15

Diolch am hynny. Fel y dywedwch, mae dehongli Iaith Arwyddion Prydain yn heriol iawn a bydd angen seibiannau rheolaidd ar ddehonglwyr yn ystod sesiynau. Felly, ar gyfer sesiwn o'r Cyfarfod Llawn o bump i chwe awr, byddai angen i o leiaf ddau ddehonglydd ddarparu dehongliad di-dor heb unrhyw seibiant yn y trafodion. Byddai angen uwchraddio ein stiwdio lle caiff dehonglwyr eu ffilmio i ddarparu trosglwyddiad di-dor o ddehonglwyr, ac rydym yn y broses o lunio'r gost benodol honno. Byddai costau manwl gywir yn amodol ar ddyfynbrisiau ffurfiol, trafodaethau gyda dehonglwyr a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar a thrafodaethau cytundebol gyda'n contractwr darlledu.

Ond ar eich cwestiwn mwy cyffredinol am y prinder dehonglwyr, rydych chi'n hollol gywir. Fel corff sy'n hyrwyddo ac o sydd ddifrif ynghylch cyfle cyfartal i bawb, rydym yn bendant yn fyw i'r mater ac yn gweithio arno. O ran y Senedd yn hyfforddi eu dehonglwyr eu hunain, byddai'n rhaid imi ddod yn ôl atoch chi ar hynny, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ydym yn gwneud hynny. Pan fyddwch chi'n ychwanegu dwyieithrwydd, bydd gennych her bellach.

Yn amlwg, mater i'r Senedd nesaf fydd comisiynu gwasanaethau, ond mae'r Senedd hon yn gwbl ymroddedig i ddarparu mynediad cyfartal, ac mae'n ymwneud â mynediad. Mae hon yn iaith ddewisol i unigolion. Dyma eu porth i'n byd, felly rydym eisiau ei gyflawni. Rhaid meddwl drwy'r mecanweithiau nawr.

4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 eiliad

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Chwedl, eicon, seren, eilun—dyma rai o'r geiriau sydd wedi'u defnyddio i ddisgrifio Jess Fishlock, ar ôl iddi gyhoeddi yn ddiweddar y bydd yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ddydd Sadwrn nesaf, ar ôl iddi chwarae ei gêm olaf yng nghrys Cymru yn erbyn Awstralia. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn y tîm dan-19 yn 16 oed, cyn gwneud ei hymddangosiad cyntaf ar y lefel uwch yn 2006, ac yn amlwg, mae wedi bod yn aelod annatod o'r tîm, gan ennill y nifer digynsail o 165 o gapiau rhyngwladol—166 ar ôl dydd Sadwrn—a sgorio'r nifer uchaf o goliau erioed, 48 gôl, dros Gymru, a gallai'r ffigur hwnnw fod yn uwch ar ôl dydd Sadwrn wrth gwrs.

Hi oedd y chwaraewr cyntaf o Gymru, gwryw neu fenyw, i gyrraedd 100 cap yn 2017 a 150 cap yn 2024. Hi hefyd oedd y chwaraewr benywaidd cyntaf erioed i sgorio gôl mewn pencampwriaeth fawr yn Ewros Menywod UEFA yn gynharach eleni, y sgoriwr gôl hynaf yn hanes pencampwriaeth Ewrop. Mae yna lu o orchestion eraill, gan gynnwys cael ei henwi'n chwaraewr y flwyddyn Cymru bum gwaith, chwarae pêl-droed ar lefel clwb mewn naw gwlad, ennill nifer o deitlau, cael yr MBE am wasanaethau i bêl-droed a'r gymuned LHDTC+ yn 2018.

Ers ei hymddangosiad cyntaf, mae hi wedi gweld newid anfesuradwy, gan ddweud ei hun fod y gwahaniaeth fel 'nos a dydd', gan ychwanegu:

'Dyna oedd pwynt fy nhaith, gwneud yn siŵr y byddem mewn lle gwell erbyn i mi adael.'

Wel, nid oes unrhyw amheuaeth ei bod hi wedi llwyddo. Mae Jess Fishlock nid yn unig yn ysbrydoliaeth i fenywod a merched, ond i'n cenedl gyfan. Y gorau erioed, heb amheuaeth, ac mae hi wedi ennill ei lle yn bendant yn y llyfrau hanes.

Diolch, Jess, am bopeth.

15:20
6. Dadl ar ddeiseb P-06-1538, 'Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo'

Eitem 6 sydd nesaf, a chyn inni gychwyn ar y ddadl yma, dwi jest eisiau nodi wrth Aelodau fod gyda fi ddiddordeb arbennig yn y ddeiseb yma, sy'n destun i'r ddadl, gan ei bod hi'n sôn am uned strôc Bronglais, sydd yn fy etholaeth i, ac mi rydw i wedi rhannu fy marn am hyn gyda'r bwrdd iechyd. Ond mi wnaf gadeirio'r sesiwn yma yn ddiduedd a gwrando yn eiddgar ar yr hyn sydd gan bawb i'w ddweud. Diolch hefyd i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb i'r Senedd, sy'n caniatáu i'r ddadl yma ddigwydd heddiw.

Ar hynny, felly, gwnaf ofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ddod i gyflwyno'r cynnig ar 'Ddiogelu gwasanaethau strôc llawn yn ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo'. Y Cadeirydd, felly, Carolyn Thomas.

Cynnig NDM9020 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1538 'Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo’, a gasglodd 17,883 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon.

Agorodd y ddeiseb hon ym mis Mehefin a denodd dros 10,000 o lofnodion yn gyflym. Roedd yr ymgyrchwyr, Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, yn awyddus i'w gweld yn cael ei rhoi ar y llwybr cyflym i'w thrafod, yn enwedig gan fod disgwyl penderfyniadau terfynol gan y bwrdd iechyd yr hydref hwn. Felly, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb amserol a'r Pwyllgor Busnes am gytuno i'w rhoi ar yr agenda heddiw.

Pan gaewyd y ddeiseb ar ôl pedwar mis, gyda bron i 18,000 o lofnodion o bob rhan o ganolbarth Cymru, noda'r pwyllgor mai dim ond deisebau ar 20 mya, sgrinio canser ceg y groth, gwasanaethau meddygon teulu a gwahardd rasio milgwn sydd wedi casglu mwy o lofnodion yn y Senedd hon. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Bryony Davies ac mae'n dweud: 'Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo'.

'Mae ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig cael gwared ar wasanaethau strôc llawn o Ysbyty Bronglais, gan orfodi cleifion o Geredigion, Powys, a De Meirionnydd i wynebu trosglwyddiadau peryglus a phell i ysbytai yn Llanelli neu Hwlffordd. Rydym yn annog y Senedd a Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith, gan fynnu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn asesu'r effeithiau hyn yn llawn ac yn ymrwymo i gynnal Bronglais fel uned adsefydlu strôc, gan amddiffyn gwasanaethau iechyd hanfodol yng Nghanolbarth Cymru.

'Mae'r ymgynghoriad yn cynnig israddio uned strôc Bronglais i fodel 'Trin a Throsglwyddo', a fyddai’n gorfodi cleifion ar daith anniogel o 90 munud hyd at ddwy awr i Lanelli neu Hwlffordd.

'Nid oes tystiolaeth sy’n rhoi sylw i risgiau'r trosglwyddiadau hyn o ystyried daearyddiaeth wledig, poblogaethau sy'n heneiddio a thrafnidiaeth wael.

'Bydd cefnogaeth deuluol, sy'n hanfodol ar gyfer adferiad, yn amhosibl oherwydd pellteroedd, gan niweidio canlyniadau.

'Mae Bronglais yn gyson yn sgorio'n uwch mewn archwiliadau strôc na'i gymheiriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

'Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn derbyn bod prinder staff sylweddol a chyllid ansicr, sy’n golygu bod y newidiadau hyn yn anniogel ac yn afrealistig.

'Bronglais yw'r unig Ysbyty Cyffredinol Dosbarth mewn radiws o 60–100 milltir (ar ffyrdd nad ydynt yn draffyrdd) sy'n gwasanaethu ardaloedd ymhell y tu hwnt i ffiniau ffurfiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i Dde Meirionnydd a Phowys.

'Mae'r cynlluniau yn yr ymgynghoriad yn tanseilio egwyddorion mynediad teg at ofal iechyd, gan roi trigolion Canolbarth Cymru o dan anfantais anghymesur.

'Rydym am i'r Senedd sicrhau gwasanaethau strôc teg a lleol yng Nghanolbarth Cymru.'

Mae cynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd yn cyflwyno dau opsiwn i Fronglais ddod yn gyfleuster trin a throsglwyddo, gyda chleifion strôc yn symud ymlaen naill ai i Ysbyty'r Tywysog Philip neu Lwynhelyg ar gyfer gofal arbenigol parhaus. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynllun rhwng mis Mai a mis Awst, ac mae'r bwrdd ar hyn o bryd yn adolygu ymatebion. Ar 6 Hydref ystyriodd y pwyllgor ddwy ddeiseb arall am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ar godi ymwybyddiaeth o argyfwng yng Nglangwili ac agor uned mân anafiadau yn Aberteifi ar benwythnosau'n unig. O ran y ddeiseb yr ydym yn ei thrafod heddiw, nododd y pwyllgor fod Bronglais yn sgorio'n gymharol dda mewn asesiad o wasanaethau gofal strôc ledled y DU. Cafodd sgôr 'B' ochr yn ochr â Llwynhelyg, a chafodd Ysbyty'r Tywysog Philip a Glangwili sgôr 'C'. Mae'r deisebwyr yn gofyn pam, felly, nad yw'n cael ei gefnogi i wella hyd yn oed ymhellach?

Nodwyd pryderon y deisebwyr fod rôl teulu a ffrindiau mewn prosesau adsefydlu strôc yn cael ei hanwybyddu, gyda phellteroedd a seilwaith trafnidiaeth cyfyngedig yn gwneud ymweliadau rheolaidd yn anymarferol. Beirniadir defnyddio llwyfannau ar-lein yn lle hynny ar gyfer cyfathrebu â chleifion fel rhywbeth afrealistig, o ystyried amhariadau sy'n gysylltiedig â strôc a chysylltedd digidol gwael yn y rhanbarth.

Mae pryderon wedi'u codi hefyd ynghylch sut y byddai cleifion yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty'r Tywysog Philip a Llwynhelyg a'u danfon adref wedyn, ac a fydd angen mwy o adnoddau ar Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru os yw am chwarae rhan yn y trosglwyddiadau.

Dywed deisebwyr fod gan y pellteroedd dan sylw oblygiadau i ofal lliniarol. Bydd un o bob saith claf strôc yn marw, a hynny'n bell iawn oddi wrth eu teuluoedd o bosib. Maent yn pryderu am gyflyrau sy'n rhannu'r un symptomau â strôc, gan arwain at orfod symud cleifion eto i adran ddamweiniau ac achosion brys, ac maent yn gofyn sut y bydd argyfyngau meddygol ar ôl llawdriniaeth yn cael eu trin.

Mae Hywel Dda yn dweud bod angen newidiadau i ddiogelu gwasanaethau strôc, sydd ar hyn o bryd yn syrthio'n fyr o safonau clinigol a heb eu staffio'n ddigonol. Mae'n tynnu sylw at dystiolaeth fod canlyniadau a safonau'n uwch pan gaiff gwasanaethau eu cyfuno a'u darparu o lai o ysbytai, ac y byddai canoli gwasanaethau yn gwella lefelau recriwtio a chadw staff, gan wneud gwasanaethau'n fwy cynaliadwy.

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod y rhain yn faterion gweithredol i'r bwrdd iechyd lleol, ond bod cyngor arbenigol yn cefnogi symud o'r model presennol o ofal strôc tuag at ganolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr, ac y bydd hyn yn angenrheidiol i gyflawni nodau'r datganiad ansawdd ar gyfer strôc. Dywedodd wrthym fod yn rhaid i gynigion y bwrdd gyd-fynd â'r dull hwn o weithredu, gan ystyried effaith lawn unrhyw newidiadau ar yr un pryd.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn pwysleisio'r angen am ddull cydweithredol o weithredu newid i wasanaethau, gyda disgwyl i Hywel Dda weithio'n agos gyda chlinigwyr, cymunedau, byrddau iechyd cyfagos a phartneriaid cyflawni fel y Gymdeithas Strôc, Llais a Chyngor Sir Ceredigion.

Mae'r deisebwyr yn siomedig ac yn bryderus ynglŷn ag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac yn dweud bod yr opsiynau yr ymgynghorwyd arnynt yn ddewis naill ai/neu a ddisgrifir ganddynt fel un eithriadol o brin o fanylion. Maent hefyd yn dweud nad oes asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal ar symud yr uned adsefydlu strôc ym Mronglais, ac eisiau i Hywel Dda fynd yn ôl i'r dechrau a chynnal proses sy'n wirioneddol ymgynghorol.

Rwy'n gwybod bod gan lawer o Aelodau ddiddordeb cryf yn y mater hwn ac eisoes wedi gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau pawb heddiw. Diolch.

15:25

Dwi'n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Er fy mod yn gwerthfawrogi nad yw ysbyty Bronglais yn fy etholaeth i, bydd cynigion y bwrdd iechyd yn cael effaith enfawr ar gymunedau ledled gorllewin Cymru, ac felly dwi am ddangos fy nghefnogaeth i'r ymgyrch i amddiffyn gwasanaethau yn ysbyty Bronglais, ac i sefyll gyda'r ymgyrchwyr yn erbyn canoli gwasanaethau. Dwi'n gwybod o brofiad chwerw am y mudo obsesiynol o wasanaethau i Gaerfyrddin a thu hwnt.

Adeiladwyd ysbyty Bronglais ac, yn wir, ysbyty Llwynhelyg yn fy etholaeth fy hun oherwydd daearyddiaeth eu hardaloedd priodol, fel y gellid darparu gwasanaethau yn agosach at eu poblogaethau. Ac nid yw'r ddaearyddiaeth yna wedi newid, a dyna pam y dylid parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol o ysbyty Bronglais.

Lywydd, rydym i gyd yn derbyn wrth gwrs fod yn rhaid inni deithio ymhellach weithiau am wasanaethau arbenigol iawn, ond mae ein gorfodi i deithio ymhellach am wasanaethau hanfodol yn gwbl annerbyniol, ac mae'n amlwg fod y gwasanaethau strôc hyn yn gwbl hanfodol i les pobl yn yr ardal. Mae gorfodi cleifion i deithio pellteroedd enfawr i Hwlffordd a Llanelli, sy'n daith o 200 milltir neu fwy yno ac yn ôl, yn enwedig ar seilwaith trafnidiaeth gwael, yn gwbl annerbyniol.

Nawr, yn ôl yn 2014, argymhellodd astudiaeth o ofal iechyd yng nghanolbarth Cymru gan yr Athro Marcus Longley ac eraill y dylid dileu teithiau diangen i gael mynediad at ofal, gydag archwiliad cydgysylltiedig a chynhwysfawr o lwybrau perthnasol i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn agosach at adref. Yn wir, rwy'n gwybod o brofiad chwerw, pan fo gwasanaethau wedi'u symud o ysbyty Llwynhelyg, pa mor anodd yw hi i gleifion gael mynediad at wasanaethau mewn mannau eraill. Nid yw canoli'r gwasanaethau strôc i ffwrdd o ysbyty Bronglais, a'r uned wedi'i datgan fel y gorau o holl unedau strôc ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Os caiff cleifion eu trosglwyddo i Hwlffordd a Llanelli, mae'n amhosib i deulu a ffrindiau ymweld, ac fel y gwyddom, mae teulu a ffrindiau'n chwarae rhan allweddol ym mhroses adsefydlu cleifion strôc. Yn allweddol, nid yw cynigion y bwrdd iechyd yn cael eu cefnogi gan y Gymdeithas Strôc, sef llais cleifion strôc. Maent wedi dweud yn glir iawn fod cynigion presennol y bwrdd iechyd yn creu perygl o danseilio triniaeth dan arweiniad arbenigol, o ddarnio gwasanaethau ac o gynyddu anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.

Nawr, mae'r bwrdd iechyd yn dweud wrthym fod y gwasanaethau hyn yn fregus. Rwy'n derbyn bod staff weithiau'n gorfod gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn, ac rydym yn ddiolchgar iawn am bopeth a wnânt. Ond pe baem wedi gweld gwell cynllunio a buddsoddiad priodol efallai na fyddai'r gwasanaethau hyn yn wynebu'r pwysau y maent yn ei wynebu. A gadewch inni fod yn glir: mae darparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig fel hyn yn wahanol i ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd mwy trefol. Dyna pam fy mod i bob amser wedi dadlau dros bremiwm gwledig ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd. Dylai Llywodraeth Cymru dderbyn bod darparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig yn wahanol. Dyna pam y mae angen inni weld fframwaith cynllunio priodol sy'n cydnabod bod gwasanaethau cleifion yn seiliedig ar ledaeniad daearyddol, nid wedi'i bennu gan faint y boblogaeth yn unig.

Nawr, rwy'n falch fod llawer o gonsensws trawsbleidiol i wrthwynebu cynigion y bwrdd iechyd ac i ymladd yn erbyn canoli gwasanaethau. Mae mor bwysig ein bod ni, fel gwleidyddion, yn gweithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol, a'n bod yn gweithio gyda'r ymgyrchwyr, ac yn gwneud popeth yn ein gallu i wrthwynebu canoli'r gwasanaethau strôc hyn. Felly, i gloi, Lywydd, yr hyn sydd angen inni ei weld nawr yw gweithredu, fel bod y gwasanaethau strôc hyn yn aros yn ysbyty Bronglais. Rwyf am roi sicrwydd i'r ymgyrchwyr a'r bobl sydd wedi teithio yma heddiw i wrando ar y ddadl y byddaf yn parhau i wneud yr hyn a allaf i gefnogi'r ymgyrch bwysig hon. Diolch yn fawr.

15:30

Mae'n rhaid i fi ddatgan buddiant personol ar y dechrau fan hyn, gan fod ymgynghoriad ehangach Hywel Dda yn edrych ar wasanaethau strôc yng Nglangwili hefyd, ac mae fy nhad i ei hun yn glaf strôc o dan eu gofal.

Strôc ydy un o'r argyfyngau meddygol mwyaf difrifol sydd yn ein hwynebu ni. Nid yn unig fod pob munud yn cyfrif wrth drin strôc, ond mae'r adferiad wedyn yr un mor bwysig, er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'r claf wella. Dyna pam mae gen i bryderon mawr am y cynigion presennol ar gyfer gwasanaethau strôc, a fyddai, dwi'n ofni, yn arwain at niwed go iawn, nid yn unig i gleifion yn ardal Hywel Dda, ond hefyd i'm hetholwyr i yn Nwyfor Meirionnydd, a hefyd ymhellach lawr yn sir Drefaldwyn. Mae cynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd yn awgrymu gwneud ysbyty Bronglais yn safle trin a throsglwyddo, gan ddarparu'r driniaeth gychwynnol yn lleol, cyn trosglwyddo cleifion i ysbytai eraill, o bosib i Lanelli neu Hwlffordd, ar gyfer eu hadsefydlu mewnol. I bobl o Dywyn, Llanymawddwy neu Fachynlleth, gallai hynny olygu taith o hyd at dair awr un ffordd, heb drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy, a phwysau ariannol ac emosiynol enfawr ar deuluoedd sy'n ceisio ymweld â'u hanwyliaid. Mae symud gwasanaethau adsefydlu i ffwrdd o ardal y claf yn debyg o arwain at ganlyniadau gwaeth ac yn torri egwyddor Llywodraeth Cymru yn 'Fframwaith Adsefydlu Cymru Gyfan', sy'n nodi'n glir y dylid darparu gofal mor agos at adref â phosibl. Rhaid i wasanaeth adsefydlu hefyd fod yn un amserol ac yn ddwys, ond dim ond pan fydd gwasanaethau o fewn cyrraedd y mae'n bosib gwneud hynny.

Nid oes sicrwydd chwaith mai arbenigwyr strôc a fydd yn arwain diagnosis a thriniaeth strôc. Heb oruchwyliaeth arbenigol, rydym mewn perygl o gael asesiadau arafach, diagnosis anghywir ac oedi o ran triniaeth—yr union broblemau y bwriedir eu datrys gyda'r diwygiadau. Nid oes cynllun clir o hyd ar gyfer mynediad at thrombectomi. Ar hyn o bryd, dim ond yng Nghaerdydd y mae thrombectomi mecanyddol—triniaeth sy'n gallu achub bywydau pobl sydd wedi cael strôc ddifrifol—ar gael. Heb gynllun ehangu rhanbarthol, mae cleifion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn wynebu loteri cod post am driniaeth, a all olygu'r gwahaniaeth rhwng cerdded, siarad ac anabledd parhaol. Nid manylion bach yw'r rhain; dyma sylfeini gofal strôc diogel ac effeithiol.

Pan fydd byrddau iechyd yn cynllunio ar eu pen eu hunain, gallant lunio systemau sy'n edrych yn dda ar bapur, ond sy'n methu yn ymarferol. Mae dwy ffordd o edrych ar ysbyty Bronglais. Un ffordd yw o safbwynt swyddog cyllid. Ar bapur, mae ysbyty Bronglais yn niwsans, a gallai lleoli gwasanaethau strôc yn ne'r rhanbarth edrych yn effeithlon. Ond gyda gwasanaeth arbenigol sefydledig eisoes gerllaw yn Nhreforys, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr ymarferol. Y ffordd arall o edrych ar ysbyty Bronglais yw o safbwynt y claf, nid y swyddog cyllid. O'r pen hwn i'r prism, mae ysbyty Bronglais yn ateb i lawer o'n problemau iechyd. Yn wir, mae'n achubiaeth. Pe bai byrddau'n cydweithio ar draws byrddau Hywel Dda, bae Abertawe, Betsi Cadwaladr a Phowys, byddent yn gweld mai Bronglais yw'r ysbyty sydd yn y sefyllfa orau i wasanaethu fel canolfan ragoriaeth ranbarthol. Dylid meddwl am ysbyty Bronglais fel ateb, nid fel problem.

Mae pob un ohonom yn derbyn yr angen i foderneiddio, ond ni all cynaliadwyedd ddod ar draul mynediad, ansawdd na rhagoriaeth glinigol. Rhaid ailystyried y cynllun hwn, gyda chydweithredu rhanbarthol gwirioneddol, ffocws ar y claf, arweinyddiaeth arbenigol, ac ymrwymiad i ofal sy'n agos at adref. Mae cytundeb trawsbleidiol ar y ddadl hon yma heddiw, a gwrthwynebiad i'r cynigion. A hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau am eu cydweithrediad, yn enwedig Elin Jones, sydd, fel yr Aelod lleol, wedi ymgyrchu mor ddiwyd dros ysbyty Bronglais ers blynyddoedd lawer. Diolch hefyd i'r ymgyrchwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon.

15:35

Nid wyf wedi gallu dod i unrhyw un o'r cyfarfodydd, ond nid yw hynny'n golygu nad wyf wedi bod yn gwrando ac nad wyf yn cefnogi hyn, gan fy mod yn sicr yn ei gefnogi. Mae gennym hanes o strôc yn fy nheulu; rwyf wedi colli dau aelod i strôc, felly gwn yn iawn beth yw'r anghenion hynny. Ac roeddwn yn arfer bod, pan oedd gennyf fwy o amser, yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc. Ac rwyf wedi gweithio gyda'r Gymdeithas Strôc, a gwn fod eu cyfranogiad yma'n dod o le gwybodus, lle maent yn gwybod beth sydd ei angen ar y claf, gan eu bod yn cefnogi pobl bob dydd.

Rwy'n annog bwrdd iechyd lleol Hywel Dda i wrando ar gryfder y teimlad, gan ei fod yn aruthrol. A chan fy mod wedi gweithio yn yr ardal ers 18 mlynedd, gwn ei bod yn ardal wledig enfawr, helaeth. Ac mae'r perygl i unigolion gael eu hynysu oddi wrth eu teuluoedd ar yr adeg pan fyddant eu hangen fwyaf yn peri gofid a dweud y lleiaf. Nid yw cynnig dewisiadau eraill yn lle'r cyswllt personol hwnnw yn opsiwn yn fy marn i. Dim ond y cyswllt personol sy'n gymorth i wella. Ac os yw unigolyn wedi dioddef strôc, hyd yn oed os yw'r strôc honno'n strôc fach, bydd eu gallu i ddefnyddio mecanweithiau ar-lein amgen ar gyfer cyfathrebu yn gyfyngedig, neu mewn rhai achosion, ni fyddant yn gallu gwneud hynny o gwbl, a bydd llawer iawn—ond nid pob un—o gleifion strôc yn oedrannus, ac ni fydd rhai o'r unigolion hynny'n gallu defnyddio'r mecanwaith hwnnw. Mae hefyd yn dibynnu ar rwydwaith da, sydd hefyd yn rhywbeth nad yw ar gael yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Felly, mae goroeswyr strôc yn dibynnu'n fawr iawn ar y gefnogaeth a ddaw yn bennaf gan eu teuluoedd. Eu teuluoedd a fydd yn llenwi'r gofal coll hwnnw na all gwasanaeth GIG dan ormod o bwysau ei ddarparu. Ac wrth siarad â theuluoedd, a hefyd yn fy mhrofiad fy hun, y teulu a fydd yn eich perswadio i wneud ychydig bach mwy, gan fod ganddynt amser i wneud hynny.

Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet gael trafodaethau brys gyda bwrdd iechyd lleol Hywel Dda ynglŷn â'r cynigion hyn. Mae newid o wasanaeth llwyddiannus, sy'n sgorio'n uchel, i ddarpariaeth wahanol nad yw'n sgorio'n uchel yn swnio braidd yn rhyfedd i mi. Yr amseroedd teithio—rwy'n gyfarwydd iawn â nhw—ar ddiwrnod da, efallai y cyrhaeddwch chi mewn awr a hanner, ar ddiwrnod gwael, ni lwyddwch i wneud hynny. Os bydd hi'n bwrw glaw'n drwm, os oes gennych eira, os oes gennych rew, neu os bydd damwain neu waith ffordd, mae arnaf ofn y gallwch ddyblu'r amser hwnnw, ac rwyf wedi llwyddo i wneud hynny sawl gwaith. Felly, mae angen inni edrych ar beth yw'r ddarpariaeth orau i bawb a wasanaethir yn yr ardal hon.

A chyda phob parch, fe all ac fe ddylai Bronglais gael yr hyn sydd ei angen arno i ddarparu gwasanaeth y mae ei angen yn daer yn yr ardal honno gan y staff sydd eisoes wedi dangos ymroddiad sylweddol ac wedi meithrin arbenigedd. Rhaid imi gwestiynu—. A gwn fod problemau ynghylch dod â phobl i ardal wledig, ond rwy'n credu efallai y dylid bod wedi gwneud rhywfaint o gynllunio lefel gwasanaeth yn gynt na'r hyn a ddigwyddodd, a ganiataodd i'r sefyllfa waethygu i'r argyfwng y mae ynddo yn ôl pob golwg.

Rwy'n canmol penderfyniad y deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon, ac rwyf am iddynt wybod fy mod yn sefyll gyda nhw a phawb a fydd angen y gwasanaeth hwn, nawr ac yn y dyfodol.

15:40

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r ymgyrchwyr? Mae eu dycnwch, eu negeseuon a dargedwyd a'u trefniadaeth wedi bod yn rhagorol ac yn fodel gwych ar gyfer ymgyrchu ar fater cymunedol. Anaml iawn hefyd, fel y dywedwyd, y caiff dadl yn y Siambr hon gefnogaeth drawsbleidiol, ac mae hon yn sicr o'i chael.

Strôc yw pedwerydd lladdwr mwyaf Cymru o hyd, ac mae'n un o brif achosion anabledd hirdymor. Mae pob munud ar ôl strôc yn bwysig. Ac i bobl yng nghefn gwlad Cymru, gall y munudau hynny olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, a bywyd gwerth ei fyw a bywyd o ansawdd da.

Mae ysbyty Bronglais wedi gwasanaethu canolbarth Cymru ers 1821, fwy na chanrif cyn sefydlu'r GIG. Fe'i hadeiladwyd i ddiwallu anghenion poblogaeth wledig wasgaredig, ac mae'n dal i wneud hynny heddiw. I lawer o gymunedau, dyma'r unig ysbyty cyffredinol dosbarth o fewn 100 milltir. Mae ysbyty Bronglais yn perfformio'n gryf, fel y clywsom, gan ennill gradd B mewn archwiliadau strôc cenedlaethol—gwell, mewn gwirionedd, na sawl un o'r ysbytai y gallai cleifion gael eu hanfon iddynt. Ac eto, o dan y cynigion presennol, gallai pobl o Geredigion, Powys a de Meirionnydd wynebu teithiau o hyd at ddwy awr i gyrraedd gofal arbenigol, yn aml, fel y gwyddom, ar ffyrdd cul a throellog, heb fawr o ffyrdd amgen diogel pan fydd ffyrdd ar gau neu pan fydd damweiniau'n digwydd.

Mae pobl yng nghanolbarth Cymru yn hen gyfarwydd â'r stori hon. Rydym wedi gweld gwasanaethau'n cael eu torri'n raddol—marwolaeth lechwraidd. Bob tro y mae gwasanaeth yn symud i rywle arall, mae'r achos dros gadw eraill yn gwanhau, gan danseilio'n araf, yn yr achos hwn, hyfywedd ysbyty Bronglais. A phan gaiff gwasanaethau eu diddymu, fe wyddom nad ydynt byth yn dychwelyd. Ac mewn ardal wledig fel ein hardal ni, nid un ysbyty'n unig y mae hynny'n ei wanhau, mae'n gwanhau'r rhwydwaith gofal cyfan y mae pobl yn dibynnu arno. Wrth i bobl golli hyder, fe wyddom yn yr achos hwn y gallai gwasanaethau symud o ysbyty Bronglais, a daw'n broffwydoliaeth hunangyflawnol. Po leiaf o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, y mwyaf y caiff y gwasanaeth ei leihau, ac felly daw'n anhyfyw. Nid ydym am i hynny ddigwydd gyda gwasanaethau strôc ysbyty Bronglais nac unrhyw un o'r gwasanaethau eraill yn ysbyty Bronglais.

Fel y clywsom, o dan y cynigion hyn, gallai teuluoedd wynebu taith gron o 200 milltir i ymweld yn unig. Gwyddom fod trafnidiaeth gyhoeddus yng nghanolbarth Cymru yn wael—mae 'gwael' yn air cwrtais i'w ddefnyddio. Mae lle i opsiynau digidol fel galwadau fideo, ond fel y clywsom gan Joyce, ni fyddant byth cystal ag anwylyd wrth ochr eich gwely, yn enwedig i gleifion sy'n cael trafferth gyda lleferydd, cof neu symudiadau. Mae angen yr anogaeth emosiynol uniongyrchol ar bobl i wella.

Gwn fod bwrdd Hywel Dda yn ceisio cydbwyso adnoddau ar draws rhanbarth mawr ac amrywiol, ac rwy'n cydnabod eu hymrwymiad ac ymrwymiad eu staff i ofal diogel ac effeithiol. Ond mae angen hyder ar gymunedau fod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn dryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth a chydag ystyriaeth lawn i'r effeithiau yn y byd go iawn. Rydym wedi clywed bod pryderon wedi'u codi gan sefydliadau eraill. Ni allai gwasanaeth ambiwlans Cymru gadarnhau y gellid darparu ambiwlansys ychwanegol neu hebryngwyr arbenigol, a gwyddom, yn fwy diweddar, fod y Gymdeithas Strôc wedi rhybuddio bod perygl y gallai'r cynlluniau presennol ehangu anghydraddoldebau iechyd. Mae Dr Phil Jones, y cyn arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yng Nghymru, wedi'u galw'n sylfaenol ddiffygiol, gan dynnu sylw at gyfleoedd a gollwyd ar gyfer arloesi, cydweithio a defnyddio telefeddygaeth i gryfhau gofal gwledig. Mae gofal iechyd gwledig yn unigryw, ac mae angen dull o weithredu sy'n wahanol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi clywed mai ymgynghoriad yw hwn, ond gadewch imi orffen drwy ddweud y dylai ymgynghoriad gynnig yr holl opsiynau. Ni fu unrhyw opsiwn yn yr ymgynghoriad hwn i gadw'r gwasanaeth strôc yn ysbyty Bronglais a'i gryfhau. Nid yw'n ddewis o gwbl mewn gwirionedd. Rhaid i ymgynghoriad go iawn gynnwys yr holl opsiynau gan fod angen hyder ar gymunedau. Rwyf am gloi drwy ddweud na ddylem orfod derbyn dewis ffug rhwng canoli a cholli gwasanaeth. Dylai hon fod yn foment i lunio gwasanaeth strôc sy'n addas ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru, un sy'n adlewyrchu ein daearyddiaeth unigryw ac sy'n ein cadw wedi ein gwreiddio yn ein cymunedau. Diolch yn fawr iawn.

15:45

Pan gyfarfûm i, a llawer ohonom yn y Siambr hon, â deisebwyr yn gynharach heddiw o ymgyrch Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, fe wnaethom nodi eu bod i gyd yn dal placardiau. Roedd mapiau o Gymru ar y placardiau hynny, yn dangos ysbytai cyffredinol dosbarth ledled Cymru a ble maent wedi'u lleoli: tri yn y gogledd, llawer iawn yn y de, a dim ond un, dim ond un yn y canolbarth, wedi'i leoli'n strategol, i wasanaethu pedair sir, gan gynnwys llawer o fy etholwyr innau hefyd. Mae angen i wasanaethau yn Ysbyty Bronglais gael eu hamddiffyn a'u cryfhau ac nid eu hisraddio.

Mae'r cynigion i gael gwared ar wasanaethau adfer ar ôl strôc yn gwbl annerbyniol, a chynigion ydynt. Ysgrifennydd y Cabinet, cynigion ydynt. Pan godais hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach y mis hwn, fe ddywedodd, 'Nid yw'r rhain yn gynigion.' Cynigion ydynt. Fe wyddom eu bod yn gynigion. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, mewn gwirionedd, bythefnos ynghynt, at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a wyddoch chi sut y cyfeiriodd atynt? Fel cynigion. Awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet fy mod i, drwy eu galw'n 'gynigion', yn achosi pryder i bobl. Nid y ffaith fy mod i'n galw'r cynigion hyn yn 'gynigion' sy'n achosi'r pryder; y cynigion eu hunain sy'n achosi pryder i bobl ar draws ardaloedd helaeth o ganolbarth Cymru.

Fe wyddom hefyd fod cefnogaeth deuluol mor hanfodol wrth gefnogi aelodau o'r teulu sy'n gwella o strôc. Fel Joyce, roedd gennyf i aelod o'r teulu—fy mam-gu—a fu'n gwella o strôc am flynyddoedd lawer. Mae'r syniad y byddai'n rhaid imi fynd ar daith gron o chwe awr i ymweld â fy mam-gu yn swnio'n chwerthinllyd, ar adeg pan oedd hi angen cefnogaeth. Fe wyddom hefyd, wrth gwrs, y bydd llawer o berthnasau'n hŷn, ni fyddant yn gallu gyrru neu ni fydd ganddynt gar, ac yn y sefyllfaoedd hynny, bydd gofyn iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Byddai'n daith gron o naw awr i aelod o'r teulu ymweld ag anwylyd yn yr ysbyty. A yw hynny'n dderbyniol? Nac ydy, nid yw'n dderbyniol o gwbl.

Mae angen i fwrdd Hywel Dda a Llywodraeth Cymru gydnabod bod darparu gwasanaethau strôc yng nghefn gwlad Cymru yn wahanol iawn i ddarparu gwasanaethau strôc yn y Gymru drefol. Am atebion, mae angen i'r Ysgrifennydd iechyd a bwrdd Hywel Dda, fel y soniodd Paul Davies, edrych eto ar adroddiad Longley: mae'r atebion yno. Yn bwysig, mae'r Gymdeithas Strôc, sef y llais ar ran strôc, wedi annog bwrdd Hywel Dda i ailystyried y cynigion a gweithio i ddarparu gwasanaethau strôc diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf. Rwy'n annog y Senedd hon heddiw a Llywodraeth Cymru i wrando ar y deisebwyr, gwrando ar y gefnogaeth drawsbleidiol lawn yn y Siambr hon heddiw, cydnabod synnwyr cyffredin, ac rwy'n annog yr Ysgrifennydd iechyd i ymyrryd yn unol â hynny. Diolch, Lywydd.

15:50

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl ar y ddeiseb hon. Rydym wedi clywed Aelodau'n siarad yn eithaf huawdl ar draws y Siambr, ac ar draws y rhaniad gwleidyddol, am y mater go iawn sydd o dan sylw yma, ac maent wedi llunio dadl gymhellol pam y mae angen i wasanaethau strôc aros yn ysbyty Bronglais, ac rwy'n cytuno'n llwyr.

Ond hoffwn edrych ar hyn o safbwynt ehangach. Mae fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi'i gwasgu rhwng lle gallai'r gwasanaethau fod yn symud iddo yn Llwynhelyg, yn etholaeth Paul Davies, a Llanelli, yn etholaeth Lee Waters. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro oedd lleoliad yr ysbyty newydd arfaethedig i orllewin Cymru. Roedd hwnnw wedi'i glustnodi am nifer o flynyddoedd, a gorymdeithiodd cymunedau dros ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru a gorfod rhoi'r gorau i orymdeithio wedyn am nad oedd cyllid ar gael byth am mai dyna fyddai'r peth anghywir i'w wneud. Gallwn sefyll fel AS etholaeth a dweud, 'Edrychwch, am syniad gwych yw cael ysbyty newydd sbon yn fy etholaeth', gan ddweud fy mod yn cyflawni ar ran fy etholwyr. Dyna'r peth gwleidyddol hawdd i'w wneud. Y peth iawn i'w wneud yw eirioli dros y gwasanaethau iechyd sy'n bodoli ar hyn o bryd a'r rhesymau pam y mae'n rhaid iddynt aros yn y lleoliadau hynny. Oherwydd nid yw'r ddaearyddiaeth, fel y nododd Paul Davies, yn newid. Aberystwyth yw lle mae Aberystwyth ar fap. Llwynhelyg yw lle mae Llwynhelyg ar fap. Nid ydynt yn symud.

Felly, gadewch inni sôn am y materion sylfaenol sydd yn y fantol. Pan siaradasom yn y cyfarfod agored a drefnwyd gan Lisa Francis a'r ymgyrchwyr sydd wedi gweithio'n ddiflino ar hyn yn Aberystwyth, rwy'n credu bod y pwyntiau a wneuthum yno'n berthnasol o hyd. Mae'r bwrdd iechyd wedi'i rannu'n ddau, gan fod gennym rannau cyfansoddol gorllewinol bwrdd iechyd Hywel Dda, ac mae gennym rannau cyfansoddol dwyreiniol y bwrdd iechyd. Gall fy etholwyr yn sir Gaerfyrddin a'r rhai sy'n byw yn sir Gaerfyrddin gael mynediad at wasanaethau iechyd yn Abertawe, ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn llawer cyflymach nag y gallant gyrraedd Llwynhelyg yn sir Benfro hyd yn oed. Felly, mae i'r bwrdd iechyd beidio â chyfeirio at yr angen i edrych ar fae Abertawe am wasanaethau perthnasol yn fethiant yn y ffordd y mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i gyflwyno. Mae deall daearyddiaeth ardal bwrdd Hywel Dda yn hollbwysig.

Yn fwy cyffredinol, felly, y gorllewin, Ceredigion a sir Benfro, pam mai'r gorllewin sy'n colli ei wasanaethau bob amser? Pam mai gorllewin Cymru sy'n gorfod gweld ei wasanaethau'n symud tua'r dwyrain bob amser? Pryd oedd y tro diwethaf i wasanaethau symud i Lwynhelyg neu i fyny i Fronglais? Pryd oedd y tro diwethaf i'r cymunedau a gynrychiolir gennym, y mae'r Llywydd yn eu cynrychioli, y mae Paul yn eu cynrychioli, ddweud, 'Wyddoch chi beth? Mae gwasanaethau wedi dod yn ôl atom, ar ôl blynyddoedd o wasanaethau'n cael eu torri fesul darn a'u canoli mewn un lleoliad'? Credaf fod hynny'n dro gwael â'r etholwyr yr ydym yn eu cynrychioli, gan eu bod yn talu eu trethi fel pawb arall, maent yn haeddu gwasanaethau cystal â'r rhai a gaiff pawb arall, ac nid ydynt yn eu cael. Credaf fod hynny'n annheg. Dyna bwynt mawr y ddadl hon: tegwch. Tegwch o ran mynediad.

Mae'r pwynt ynghylch trafnidiaeth wedi'i wneud yn dda y prynhawn yma hefyd. Rwyf wedi codi materion ar lawr y Siambr hon o'r blaen ynghylch y gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, lle mae etholwyr yn dibynnu ar drafnidiaeth y GIG i gyrraedd apwyntiadau rheolaidd. Ond pan fo'n rhaid canslo'r apwyntiad rheolaidd hwnnw am fod y cyswllt trafnidiaeth wedi'i ddiddymu am fod yn rhaid iddynt gludo rhywun arall sydd wedi dod yn bwysicach, mae hynny'n golled enfawr i effeithlonrwydd y system. Credaf fod hynny'n gwbl anghywir. Mae'n rhywbeth y gallwn geisio'i wella gan nad yw'r ddaearyddiaeth yn newid, nid yw'r drafnidiaeth yn newid. Dyma realiti'r sefyllfa rydym ynddi. Felly, mae'r rhesymau pam y mae Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, y rhesymau pam y mae'r gwasanaethau strôc, sydd mor ardderchog, yn ysbyty Bronglais, yn gwbl berthnasol, ac mae angen iddynt aros yno.

Felly, dyma pam y credaf fod y ddadl hon wedi bod yn bwysig iawn yma heddiw. Dyma pam y credaf fod natur drawsbleidiol hyn yn bwysig iawn heddiw, ac rwy'n canmol Lisa, Bryony a'r tîm cyfan o ymgyrchwyr sydd wedi arwain ar y ddeiseb hon, gan gyrraedd 17,000 o lofnodion. Rydym wedi cael llawer o ddadleuon ar ddeisebau yn y Siambr, deisebau sydd wedi cael mwy o lofnodion, ond llai o lofnodion hefyd. Ond mae hon yn ddeiseb bywyd a marwolaeth i'r rhai sy'n dibynnu ar y gwasanaethau yn ysbyty Bronglais, a chredaf fod angen i ni fel gwleidyddion gofio mai'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am ofal iechyd yn y pen draw—nid y bwrdd iechyd; y bwrdd iechyd sy'n rhoi polisi'r Llywodraeth ar waith—felly, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn, ac edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r ddadl ar y ddeiseb hon gan mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yw gosod y cyfeiriad, a gallant roi naratif clir ar y bwrdd heddiw eu bod nhw fel Llywodraeth hefyd yn cytuno â ni, yn drawsbleidiol, nad dyma'r ffordd gywir ymlaen. Diolch, Lywydd.

15:55

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar iawn, fel pawb arall, i'r deisebwyr am gasglu 17,000 o enwau mewn cyfnod cymharol fyr, sydd yn dangos lefel eu consýrn nhw am golli'r gwasanaethau strôc yma yn Ysbyty Bronglais, a minnau'n rhannu eu gofidion nhw yn yr un ffordd. Mae yn hyfryd, fel mae nifer wedi dweud, fod yna gefnogaeth drawsbleidiol i yrru neges glir i fwrdd iechyd Hywel Dda i ailystyried.

Nawr, fel y gwyddom, mae dau gynnig ar y bwrdd, ac rwy'n siomedig iawn nad oes opsiwn arall wedi'i gynnwys, a fyddai'n cynnwys datblygu a buddsoddi mewn uned strôc arbenigol yn Ysbyty Bronglais i wasanaethu ardal canolbarth Cymru, sydd â phoblogaeth o oddeutu 1 filiwn o bobl. Yn fy marn i, mae peidio â chynnwys yr opsiwn o gadw uned strôc ag iddi enw da yn ysbyty Bronglais ar agor yn fethiant i gydnabod anghenion poblogaeth canolbarth Cymru, nad ydynt wedi'u diffinio gan ffiniau byrddau iechyd artiffisial ac y mae'n rhaid eu cefnogi yn yr un modd â chymunedau trefol, neu fel arall cawn loteri cod post o safonau clinigol gwahanol, sy'n annheg ac yn anfoesol. Fel y dywedodd Sam Kurtz, mae a wnelo hyn â mynediad cyfartal i bawb, ble bynnag yr ydych chi'n byw yng Nghymru.

Fel y clywsom sawl gwaith, mae'r pellter y byddai'n rhaid i bobl deithio fel cleifion ac ymwelwyr yn gwbl annerbyniol, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oes cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy. Mae hyn yn gwneud y broses ymweld yn gostus, yn hir ac yn hynod heriol i rai heb adnoddau i wneud hynny. Gwn fod Elin Jones, yr Aelod lleol dros Geredigion, wedi codi'r pwyntiau hyn ar sawl achlysur.

Rŷn ni wedi clywed hefyd yn barod, onid ŷn ni, am rôl teuluoedd yn y broses yna o adfer. Mae e mor bwysig, achos maen nhw yno yn rhoi anogaeth i'w hanwyliaid, i'w helpu nhw i wisgo ac i ymolch ac yn y blaen, ond hefyd rhoi'r gefnogaeth emosiynol iddyn nhw i ddelio ag effaith seicolegol cael strôc.

Mae hefyd y mater o anghenion siaradwyr Cymraeg yn bwysig iawn fan hyn, achos fe ddigwyddodd e i wncwl i fi: cafodd ei asesu ar ôl cael strôc yn yr iaith Saesneg, ac roedd e'n cael trafferth mynegi ei hunan yn ei ail iaith, ac fe gafodd e asesiad annibynadwy. Felly, meddyliwch am anfon siaradwyr Cymraeg i ysbytai lle efallai byddai'r gwasanaeth yna ddim ar gael yn y Gymraeg, ond yn sicr byddai'n ei wneud e'n anodd i'w teuluoedd sy'n siaradwyr Cymraeg i helpu gyda'r adferiad yna, i fod gyda nhw bob dydd. Felly, mae hyn hefyd yn elfen eithriadol o bwysig. 

Yn olaf, Lywydd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb i'r deisebwyr:

'Os bydd rhywun yn dioddef strôc, neu os amheuir bod rhywun yn dioddef strôc, ble bynnag y maent yn byw, dylent gael eu gweld a'u trin cyn gynted â phosib yn y lleoliad mwyaf priodol a all ddarparu'r driniaeth fwyaf effeithiol y maent ei hangen.'

Rwy'n cytuno'n llwyr â'i farn, a dyna pam y gofynnaf i fwrdd iechyd Hywel Dda ailystyried eu safbwynt a rhoi'r gorau i'w cynigion er mwyn caniatáu trafodaeth fwy ystyrlon ar sut i ddatblygu cynllun pwrpasol ar gyfer gwasanaethau strôc yng nghanolbarth Cymru, a ddylai fod yn gyfartal â'r hyn sydd ar gael yn Llanelli neu Lwynhelyg, gan arwain at sicrhau bod cleifion strôc, a dyfynnaf Ysgrifennydd y Cabinet unwaith eto, yn cael eu trin cyn gynted â phosib yn y lleoliad mwyaf priodol. Diolch.

16:00

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd nawr i gyfrannu—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw drwy gydnabod pa mor angerddol mae pobl yn teimlo am eu gwasanaethau iechyd a'u hysbytai lleol. Mae'r gwasanaethau hyn yn cyffwrdd gyda bywydau yn y ffordd mwyaf dwys. Rwy'n deall cryfder y teimladau mewn cymunedau ar draws Cymru, ond rwyf hefyd eisiau dweud, yn glir, dŷn ni ddim yn darparu'r gofal gorau posibl i bobl sy'n cael strôc, a'r rheswm am hynny yw'r ffordd mae gwasanaethau strôc yn cael eu trefnu ledled Cymru.

Bob blwyddyn, mae strôc yn newid bywydau miloedd o bobl. Mae disgwyl i nifer y bobl sy'n cael strôc gynyddu 33 y cant erbyn 2035, ond, gwaetha'r modd, dyw'r canlyniadau yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig ddim fel y dylen nhw fod. Mae'r gyfradd thrombectomi yng Nghymru tua 3 y cant, o'i gymharu â tharged o 10 y cant. Mae'r bwlch hwnnw'n cynrychioli bywydau y byddai modd eu hachub neu eu gwella gyda mynediad cyflymach at ofal mwy arbenigol.

Ein nod ni yw lleihau'r risg o strôc a, phan fydd e'n digwydd, rhoi'r cyfle gorau i bobl oroesi ac i adfer. I wneud hynny, mae'n rhaid i ni edrych ar sut rŷn ni'n darparu'r gofal arbenigol sy'n cael ei roi i bobl ar ôl iddyn nhw ddioddef strôc. Y consensws clinigol sy'n dod i'r amlwg yw y dylai gofal strôc acíwt gael ei ddarparu fel gwasanaeth arbenigol ar sail ranbarthol.

Er mwyn gwneud y gorau o ofal strôc arbenigol, rhaid inni weithredu'n gyflym. Mae gallu'r ymennydd i ailweirio'i hun yn rhyfeddol, ac mae'n fwyaf ymatebol yn y 72 awr gyntaf ar ôl strôc. Mae adsefydlu ar ôl strôc yn hollol hanfodol i helpu goroeswyr i adfer gweithrediadau hanfodol, a gall adsefydlu dwys cynnar yn ystod y cyfnod hwn wella adferiad ac ansawdd bywyd hirdymor yn sylweddol. Gall canolfannau rhagoriaeth ddarparu'r gofal hwn yn gyson, gan osod y sylfaen ar gyfer adferiad parhaus drwy wasanaethau lleol a chymunedol yn agosach at adref. Mae'r model hwn yn cynnig cyfle gwirioneddol i fynd i'r afael â gwendidau yn y system, adeiladu gweithlu mwy cynaliadwy ac yn bwysicaf oll, gwella cyfraddau goroesi ac ansawdd bywyd.

Ar ôl y ddadl fer yr wythnos diwethaf, dyma'r ail wythnos yn olynol y mae'r Siambr hon wedi canolbwyntio ar strôc—arwydd clir o ba mor bwysig yw hyn. Mae'n tanlinellu'r brys a'r angen hanfodol i wneud hyn yn iawn, i drawsnewid gwasanaethau, ac i ddarparu canlyniadau gwell i gleifion ledled Cymru, canlyniadau y maent yn eu haeddu.

Lywydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno cyfres o gynigion i ymgynghori arnynt ar gyfer newid y ffordd y caiff gwasanaethau strôc eu darparu ledled gorllewin Cymru. Dyma'r bwrdd iechyd diweddaraf i ystyried sut y gall wella gwasanaethau strôc ac yn hollbwysig, sut y gall wella canlyniadau. Wrth gyhoeddi'r cynigion ar gyfer ymgynghori, mae wedi cydnabod bod ei wasanaethau presennol yn syrthio'n fyr o safonau clinigol, yn methu darparu gwasanaeth arbenigol saith diwrnod yr wythnos, ac yn wynebu heriau staffio. Mae hyn yn arwain at fynediad anghyson ac amrywio yn ansawdd y gwasanaeth ac yn hollbwysig, yn y canlyniadau. Nid yw'r gwasanaethau ar eu ffurf bresennol yn darparu'r canlyniadau gorau i gleifion, er gwaethaf ymdrechion staff y GIG, ac nid ydynt yn gynaliadwy. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd i wneud y cynigion a'r penderfyniadau yn y pen draw. Y bwrdd hwnnw sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gofal yng ngorllewin Cymru, yn seiliedig ar anghenion pobl gorllewin Cymru. [Torri ar draws.]

16:05

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gyfrannu.

Fe siaradoch chi am y cynigion a gyflwynwyd gan Hywel Dda, ond un o'r pethau sydd wedi codi yw mai dim ond dau opsiwn sydd yna. Nid wyf yn gwybod a fyddech chi'n cytuno â rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd fod ymgynghori'n cynnwys edrych ar yr ystod ehangach o gyfleoedd. Nid wyf yn gwybod a fyddech chi'n cytuno ag opsiwn yn y ddogfen ymgynghori i gael trydydd cynnig—hynny yw, derbyn tystiolaeth a safbwyntiau ar y cynnig bod y gwasanaeth strôc yn ei gyfanrwydd yn aros ym Mronglais, ac yn dod yn adnodd arbenigol hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Fel y nodais nawr—mewn ffordd y bydd yr Aelodau wedi'i deall, gobeithio—gofynnir i'r bwrdd iechyd sicrhau bod cynigion yn cael eu harwain yn glinigol ac yn dilyn y consensws clinigol lle bynnag y bo modd. Mater i'r bwrdd iechyd yw penderfynu sut i ddehongli hynny yng nghyd-destun anghenion ei boblogaeth leol. Rwy'n eithaf siŵr, o ystyried gwaith y grŵp ym Mronglais ac eraill, gan gynnwys rhai o'r Aelodau yn y Siambr hon, y bydd neges glir iawn i'r bwrdd iechyd ynglŷn â barn pobl am yr ystod o opsiynau. Ond mater i'r bwrdd iechyd yw nodi ei farn ar y ffordd orau o gymhwyso'r cyngor clinigol y mae'n ei gael yng nghyd-destun y boblogaeth leol yng ngorllewin Cymru. Fodd bynnag, rhaid iddo hefyd fodloni'r disgwyliadau yr ydym ni fel Llywodraeth wedi'u nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer strôc, sy'n glir fod strôc yn argyfwng meddygol a bod rhaid i unrhyw un sy'n cael strôc, ble bynnag y maent yn byw, gael eu gweld a'u trin cyn gynted â phosib, yn y lleoliad mwyaf priodol, gan y gweithwyr proffesiynol mwyaf medrus. Mae'r datganiad ansawdd yn sylfaen ar gyfer cynllunio sut y caiff gwasanaethau eu datblygu a sut y cânt eu darparu. Rhaid i'r safonau a nodir yn y datganiad ansawdd gael eu hymgorffori yng nghynlluniau gwasanaeth byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn gyson ac i sicrhau ansawdd a thegwch o ran mynediad, gofal a chanlyniadau.

A ydych chi'n derbyn nad yw'r Gymdeithas Strôc yn cefnogi'r cynigion hyn? A yw'n gwneud synnwyr i chi, yn gyntaf oll hefyd, fod Hywel Dda yn bwriadu datblygu canolfan ragoriaeth ychydig filltiroedd yn unig o ganolfan ragoriaeth arall yn Nhreforys, ond ymhell oddi wrth bobl canolbarth a gorllewin Cymru? Ac a ydych chi'n fodlon, fel Llywodraeth, mai'r cynnig hwn yw'r gorau i wasanaethu pobl canolbarth a gorllewin Cymru?

Fe ddyfynnaf o'r llythyr gan y Gymdeithas Strôc at yr holl Aelodau, lle mae'n dweud bod y Gymdeithas Strôc yn cefnogi ad-drefnu gwasanaethau brys a strôc acíwt yn ganolfannau rhagoriaeth, gan fod tystiolaeth yn dangos y gall y rhain ddarparu gwell gofal, gwella canlyniadau clinigol a gwneud gwasanaethau'n fwy costeffeithiol. Fel y credaf imi ddweud yn glir, rwy'n credu mai mater i'r bwrdd iechyd wedyn yw dehongli polisi'r Llywodraeth, gyda chefnogaeth glir gan y Gymdeithas Strôc, o ran y ffordd y caiff ei gymhwyso orau yng nghyd-destun gorllewin Cymru. Rwy'n derbyn nad yw'r Gymdeithas Strôc yn cefnogi'r cynigion yr ymgynghorir arnynt ar hyn o bryd, ond rwy'n credu fy mod wedi nodi beth yw barn y Llywodraeth ynglŷn â sut y dylid bwrw ymlaen â hynny.

Lywydd, i gloi, rwyf am ddweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fel y gŵyr yr Aelodau yn amlwg, fe gynhaliodd ymgynghoriad cyhoeddus 13 wythnos o hyd a chafodd fwy na 4,000 o ymatebion a thua 200 o awgrymiadau amgen. Oherwydd maint a chymhlethdod yr adborth, mae'r bwrdd wedi penderfynu gohirio ei benderfyniad i'w alluogi i ddadansoddi'r ymatebion yn briodol ac yn llawn. Mae'n adolygu'r opsiynau yng ngoleuni'r adborth a ddaeth i law, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol, fel y credaf fod yr Aelodau'n gwybod, yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ystyried yr holl adborth ac opsiynau'n ofalus a'u hasesu'n drylwyr i ddeall eu heffaith lawn.

Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno, Lywydd, fod hyn yn ymwneud â sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posib i bobl sy'n dioddef strôc. Mae'n benderfyniad i'r bwrdd iechyd, ond ni allwn barhau i dderbyn y status quo o ganlyniadau gwael ar gyfer strôc. Rhaid inni newid y ffordd y darparwn ofal strôc acíwt i achub mwy o fywydau a gwella ansawdd bywyd ar ôl strôc.

Carolyn Thomas, Cadeirydd y pwyllgor, nawr, i ymateb i'r ddadl.

16:10

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n credu ei bod yn ddadl dda iawn, ac rwy'n mynd i geisio mynd ar drywydd ychydig o bethau. Fe geisiaf fod yn gyflym. Awgrymwyd y dylid gosod premiwm gwledig, gan gynnwys lledaeniad daearyddol, nad yw'n seiliedig ar nifer y bobl yn unig. Mae amser yn hanfodol ar gyfer diagnosis o strôc ond hefyd ar gyfer adsefydlu. Gallai Bronglais fod yn ganolfan ragoriaeth. Gallai hwnnw fod yn drydydd opsiwn, a ddylai fod ar y bwrdd mewn gwirionedd.

Mae atal cleifion rhag cael eu hynysu oddi wrth eu teuluoedd a allai eu helpu i wella a rhoi cymorth yn hanfodol. Strôc yw pedwerydd lladdwr mwyaf Cymru. Mae pob munud yn cyfrif i ansawdd yr adferiad. Gall ymennydd ailweirio'i hun, meddai Ysgrifennydd y Cabinet, yn y 72 awr gyntaf ar ôl strôc. Clywais hefyd am gysylltedd, pa mor wael ydyw, yn yr ardal honno—band eang a mynediad ar hyd ffyrdd—ac nad yw opsiynau digidol yn cymryd lle cyffyrddiad a chymorth aelod cariadus o deulu. Mae'r Gymdeithas Strôc wedi annog Hywel Dda i ailystyried, ac mae siaradwyr Cymraeg yn bwysig iawn yn y maes adsefydlu i helpu pobl i wella. Hoffwn ddweud hefyd fod y bwrdd iechyd wedi nodi bod yna heriau staffio ac nad yw'r gwasanaeth yn gynaliadwy. Mae'n broblem fawr iawn gyda llawer o'n gwasanaethau, gwasanaethau iechyd, ac mae angen inni edrych ar annog pobl i ddilyn y llwybrau i mewn i'n gwasanaethau iechyd a cheisio recriwtio a chadw staff—mae mor bwysig—a pheidio â lladd ar ein gwasanaeth iechyd. Mae mor bwysig i'n trigolion yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ei ymateb, a diolch i'r Pwyllgor Busnes am ganiatáu amser ar gyfer y ddadl bwysig hon. Diolch i'r holl ddeisebwyr ac ymgyrchwyr am godi eu pryderon ynglŷn â gofal strôc yn y rhanbarth—18,000 o lofnodion, mae hynny'n anhygoel mewn cyfnod mor fyr o amser. Ac rwy'n gwybod eich bod wedi cau'r ddeiseb yn gynnar. Rwy'n credu bod hyn yn anfon neges glir i'r bwrdd iechyd, a bydd popeth a godwyd yma heddiw yn y ddadl hon yn cael ei anfon at y bwrdd iechyd i'w ystyried. Hoffwn ddiolch i chi, Lywydd, am ganiatáu i hyn ddigwydd. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan yr eitem yna wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Codi tâl am arddangosfeydd'

Eitem 7 fydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Codi tâl am arddangosfeydd'. Felly, Cadeirydd y pwyllgor hynny i wneud y cynnig. Delyth Jewell. 

Cynnig NDM9021 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Codi tâl am arddangosfeydd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n falch o allu agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar godi tâl am arddangosfeydd. Buaswn i’n hoffi diolch i dîm y pwyllgor, yr Aelodau ac i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni. Gwnaeth ein hadroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, bump o argymhellion. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i argymhellion y pwyllgor, gan dderbyn pedwar ohonynt a gwrthod un.

Hoffwn atgoffa’r Aelodau o’r cyd-destun y gwnaeth y pwyllgor y gwaith hwn ynddo. Roedd Dawn Bowden, y Gweinidog diwylliant ar y pryd, wedi dweud bod y mater o roi terfyn ar fynediad am ddim i Amgueddfa Cymru, sydd wedi bod yn bolisi’r Llywodraeth ers bron y cyfnod cyfan o ddatganoli, dan ystyriaeth. Roedd hyn yn dilyn gostyngiadau i ddiwylliant yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Daeth y gyllideb ddrafft honno ei hun yn dilyn degawd o doriadau a adawodd gyllid ar gyfer diwylliant yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop.

Ar yr adeg honno, yn ôl cyfrifiadau y Llywodraeth ei hun, roedd Llywodraeth Cymru wedi lleihau cyllidebau refeniw yn y meysydd hyn tua 17 y cant mewn termau real dros gyfnod o ddegawd. Yn wir, datgelodd dadansoddiad Ymchwil y Senedd, o ganlyniad i'r gostyngiadau estynedig hyn mewn termau real, fod cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop. Cymharodd y dadansoddiad hwn wariant cyhoeddus ar ddiwylliant a chwaraeon gyda 24 o wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig gyfan. Mae'r gwariant cyfartalog ar wasanaethau diwylliannol yn y gwledydd hyn yn fwy na £200 y pen. Yng Nghymru, mae'r ffigur ychydig dros £70 y pen yn unig. Golyga hyn fod Cymru yn y safle olaf ond un o blith y grŵp o 25 o wledydd. Ym mis Ionawr 2024, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd wrth y pwyllgor diwylliant fod codi tâl am fynediad i Amgueddfa Cymru dan ystyriaeth, felly, oherwydd y sefyllfa argyfyngus ynglŷn â'r gyllideb, trwy ddweud, ac rydw i'n dyfynnu:

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

16:15

'Dydw i ddim yn dweud mai dyma fydd ein sefyllfa yn y pen draw, ond ni fyddai'n gyfrifol imi ddiystyried hynny ar hyn o bryd, nac awgrymu i'r amgueddfa na ddylen nhw fod yn archwilio hynny.'

Nawr, yn y cyd-destun hwn, roedd yn briodol bod y pwyllgor wedi penderfynu ymchwilio i'r polisi mynediad am ddim, yn ogystal ag effaith codi tâl am fynediad i arddangosfeydd. Roeddem ni eisiau ystyried materion fel y cyfraniad y gall codi tâl ei wneud at gynhyrchu incwm, effaith codi tâl ar amrywiaeth cynulleidfaoedd, effaith codi tâl ar brofiadau ymwelwyr, a ddylai codi tâl gael ei anelu at grwpiau penodol a sut gellid gwneud hynny, a hefyd cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer arddangosfeydd dros dro.

Yng Nghymru a ledled yr ynysoedd hyn, mae mynediad i amgueddfeydd cenedlaethol wedi bod am ddim ers 2001, pan roddodd amgueddfeydd y gorau i godi tâl am fynediad yn gyfnewid am gyllid gan Lywodraethau. Yn argymhelliad 1, mae'r pwyllgor yn cymeradwyo’r safbwynt hwnnw. Dŷn ni'n dweud:

'Rydym yn argymell bod polisi Llywodraeth Cymru o fynediad am ddim i'r amgueddfeydd cenedlaethol yn cael ei gadw.'

Ond yr un mor bwysig, rydym yn argymell y canlynol:

'Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid digonol i Amgueddfa Cymru i hwyluso hyn.'

Os yw'r ymrwymiad i olygu unrhyw beth, rhaid i'r arian ddilyn. Rydym yn dweud yn yr adroddiad, ac rwy'n ailadrodd yn awr:

'Mae'n dditiad o'r lefelau ariannu hanesyddol isel hyn bod Dirprwy Weinidog blaenorol y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi dweud wrth y Pwyllgor hwn fod codi tâl am fynediad yn opsiwn "dan ystyriaeth".

'Er bod Cyllideb Derfynol 2025-26 Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynnydd i'w groesawu mewn cyllid ar gyfer diwylliant, nid yw hyn yn cuddio'r gostyngiadau sylweddol mewn termau real mewn cyllid y mae'r sector wedi'i ddioddef dros y degawd diwethaf.'

Yn anffodus,

'Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ariannu diwylliant mewn ffordd sy'n cydnabod ei werth cynhenid i'r genedl eto.'

Yn y pen draw, gwrthododd y Llywodraeth i ddiystyru'r opsiwn o gael gwared ar fynediad am ddim, ond roeddem ni eisiau ystyried hefyd a yw codi tâl am arddangosfeydd unigol yn llenwi’r bylchau a achosir gan ostyngiadau mewn cyllid mewn termau real.

Er y gallai rhai dybio bod codi tâl yn ffynhonnell dda o arian i amgueddfeydd, clywsom dystiolaeth bwysig bod yr incwm a godir yn gymharol fach, ac mai ychydig iawn o sioeau dros dro sy'n gwneud elw yn llwyr. Clywsom y gall arddangosfeydd ddod â manteision ychwanegol, gan gynnwys gwell amrywiaeth y ddarpariaeth ac amrywiaeth cynulleidfaoedd, yn ogystal â chynyddu gwariant eilaidd, er enghraifft mewn siopau a chaffis. Mae'n ymddangos nad yw'r brif fantais o gael arddangosfeydd dros dro a chodi tâl amdanynt yn un fasnachol.

Daethom i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru fod yn wyliadwrus rhag cyfeirio at arddangosfeydd fel ateb i'r problemau a achosir yn sgil tangyllido Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru, ac felly ein hail argymhelliad yw

'na ddylai unrhyw incwm o arddangosfeydd ddisodli'r angen i Lywodraeth Cymru ariannu Amgueddfa Cymru yn ddigonol.'

Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod y safbwynt hwn yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb ddrafft y byddwn yn ei thrafod yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Bydd Aelodau'n ymwybodol, tua diwedd 2014, fod Amgueddfa Cymru wedi treialu codi tâl am deithiau o dan y ddaear yn Big Pit. Roedd hyn yn dilyn argymhelliad gan yr adolygiad wedi ei deilwra yn 2013 o'r amgueddfa ei bod wedi cynyddu ei hincwm masnachol, gan gynnwys o arddangosfeydd arbennig a'r elfennau sy'n ymwneud â phrofiad ymwelwyr, megis mynd o dan y ddaear yn Big Pit. Nawr, rwy'n cydnabod y safbwyntiau a glywsom gan yr amgueddfa fod yr adborth ar y daith o dan y ddaear sy'n codi tâl yn Big Bit yn gadarnhaol iawn. Clywsom fod 98 y cant o’r bobl a ymatebodd wedi dweud y byddent yn hapus i dalu hynny neu dalu mwy. Ond roeddem yn teimlo fel pwyllgor y dylai penderfyniad i godi tâl am y teithiau o dan y ddaear gael ei yrru gan egwyddorion, nid data yn unig.

Gadewch imi fod yn glir ynglŷn â barn y pwyllgor: nid ydym yn credu y dylai Amgueddfa Cymru godi tâl am deithiau o dan y ddaear yn Big Pit. Credwn fod y teithiau o dan y ddaear yn rhan unigryw ac annatod o Big Pit, sy'n rhoi cipolwg amhrisiadwy ar rôl ganolog cloddio glo yn hanes Cymru. Ni ddylai pobl orfod talu i gael y mewnwelediad hwn i'w gorffennol nhw eu hunain. Dyna pam mai ein trydydd argymhelliad oedd

'y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn glir bod yr egwyddor o fynediad am ddim i safleoedd yr amgueddfeydd cenedlaethol yn ymestyn i'r daith o dan y ddaear yn Big Pit.'

Mae'r pwyllgor yn ystyried bod gweithrediadau o dan y ddaear yn Big Pit yn elfen hanfodol o'r casgliad cenedlaethol, yn ased cenedlaethol y dylai pawb fod yn gallu cael mynediad ato am ddim. 

Mae natur Big Pit yn golygu bod yn rhaid i ymwelwyr gael eu tywys i gael mynediad. Nid yw hwn yn dâl ychwanegol dewisol i'w godi amdano. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod ein hargymhelliad ar godi tâl am Big Pit. Wrth wneud hynny, dŷn ni fel pwyllgor yn teimlo bod hyn yn mynd yn groes i'w pholisi mynediad am ddim ei hun. Mae bod yn geidwad hanes ein cenedl yn gyfrifoldeb pwysig. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i ariannu ein sefydliadau diwylliant cenedlaethol yn ddigonol fel y gallant fforddio darparu mynediad am ddim. Yn anffodus, daeth y pwyllgor i'r casgliad nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni'r cyfrifoldeb hwn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill yn y ddadl. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

16:20

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar yr adroddiad gan y pwyllgor diwylliant i godi tâl am arddangosfeydd. Rwyf am ddechrau drwy dalu teyrnged i'r Cadeirydd, Delyth Jewell, i Aelodau o bob rhan o'r pwyllgor a'n timau clercio ac ymchwil y cynhyrchodd eu gwaith gofalus yr hyn y credaf ei fod yn adroddiad trylwyr iawn. Rwyf hefyd am ddiolch i Amgueddfa Cymru am y dystiolaeth a ddarparwyd ganddynt; mae'r mewnwelediad wedi bod yn amhrisiadwy yn ein helpu i ddeall y sefyllfa ariannol anodd y mae ein hamgueddfeydd ynddi erbyn hyn.

Mae'r adroddiad yn nodi'n glir y realiti sy'n wynebu ein sefydliadau diwylliannol. Ar ôl degawd o ostyngiadau mewn termau real, mae cyllid cyhoeddus i ddiwylliant yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop—dim ond £73 y pen, tua thraean o'r cyfartaledd Ewropeaidd. Disgrifiwyd toriadau cyllidebol 2024-25 gan yr amgueddfa fel y rhai mwyaf erioed, ac rydym wedi gweld effaith ddynol hynny, gyda diswyddiadau staff a llai o oriau agor. Eto, drwy hyn i gyd, mae ein hamgueddfeydd cenedlaethol wedi parhau i gyflawni dros Gymru, gan warchod ein hanes cyffredin a'i wneud yn hygyrch i bawb.

Mynediad am ddim yw sylfaen yr hygyrchedd hwnnw ers dros ddau ddegawd, ac mae'r adroddiad hwn yn ei warchod, a hynny'n briodol. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi datgan eu bod wedi ymrwymo i gynnal mynediad am ddim i amgueddfeydd, a dyna yw safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig hefyd. Pan gyflwynwyd mynediad am ddim yn 2001, dyblodd nifer yr ymwelwyr, ond rhaid i fynediad am ddim gyd-fynd â chyllid digonol i'w wneud yn ystyrlon, oherwydd ynddo'i hun, nid yw mynediad am ddim yn arwain at bresenoldeb economaidd-gymdeithasol cyfartal mewn amgueddfeydd, a dyma'r pwynt a wnaed gan gyn-bennaeth amgueddfeydd Glasgow, Dr Mark O'Neill.

Er bod yna amgueddfeydd mwyngloddio ledled Lloegr sy'n codi tâl am deithiau, Amgueddfa Cymru yw'r unig sefydliad cenedlaethol sy'n codi tâl am fynediad i rai arddangosfeydd, ond nid yw'r amgueddfa ond yn gwneud penderfyniadau ar sail yr adnoddau a ddarperir iddi. Bûm o dan y ddaear yn Big Pit fy hun, fel y bu'r pwyllgor cyfan yn gynharach eleni, ac rwyf wedi cerdded y twneli hynny a gwrando ar straeon cyn-lowyr sy'n tywys ymwelwyr drwy'r hyn a oedd unwaith yn galon hanes mwyngloddio yng Nghymru, ac mae'n brofiad anhygoel. Dyma gof byw cymunedau ledled Cymru. Felly, o ran codi tâl ar ymwelwyr ym Mlaenafon, rhaid inni gydnabod nad profiad atodol i'r amgueddfa yw mynd o dan y ddaear, ond yn hytrach, dyna yw'r prif atyniad ar y safle, a'r prif reswm pam y bydd pobl yn ymweld. Felly, bydd codi tâl mynediad yn anochel yn rhwystr i ymwelwyr tro cyntaf. Byddai'n fwy dealladwy codi tâl am weithdai a gynhelir yn yr amgueddfa, ond dylai'r brif arddangosfa barhau'n rhad ac am ddim. Rwy'n deall y pwysau ariannol y mae Amgueddfa Cymru yn ei wynebu, ond nid yw hynny'n rhyddhau Llywodraeth Cymru o gyfrifoldeb. Gweinidogion sy'n gosod y cyfeiriad, yn darparu mwy nag 80 y cant o'r cyllid ac yn cyhoeddi ymrwymiad i fynediad am ddim. Rhaid cefnogi'r ymrwymiad hwnnw ag adnoddau i'w wneud yn real.

Ar bedwerydd argymhelliad yr adroddiad, sy'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gall helpu sefydliadau i gynnal arddangosfeydd dros dro, ymateb y Gweinidog i argymhelliad 4 yw y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gall helpu sefydliadau i gynnal arddangosfeydd dros dro, ac mae'n tynnu sylw at fuddsoddiadau mewn mentrau fel CELF ac ailddatblygiad yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol fel enghreifftiau o gefnogi arddangosfeydd dros dro. Ond o ystyried bod llawer o amgueddfeydd lleol a chenedlaethol yn parhau i wynebu toriadau mewn termau real i'w cyllidebau craidd, yr union gyllidebau sy'n eu galluogi i guradu a chynnal yr arddangosfeydd hynny yn y lle cyntaf, a all ddweud wrthyf pa mor hyderus ydyw y bydd y buddsoddiad hwn yn trosi'n ehangiad gwirioneddol i raglenni arddangosfeydd dros dro?

Ddirprwy Lywydd, ni allwn barhau i ofyn i'n hamgueddfeydd wneud mwy gyda llai. Dylai mynediad am ddim barhau i fod yn gonglfaen i bolisi diwylliannol Cymru, ond ni all oroesi heb iddo gael ei gefnogi'n briodol, ac nid wyf yn cytuno ag ymateb Llywodraeth Cymru mai gyda'r cyllidebau presennol yn unig y gellir cynnal mynediad am ddim. Pan gaiff cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi, rwy'n gobeithio y bydd yn adlewyrchu hynny, ac mai'r hyn a welwn o'r diwedd yw setliad ar gyfer diwylliant yng Nghymru sy'n cydnabod ei wir bwysigrwydd i'n bywyd cenedlaethol. Diolch. 

16:25

Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Mi oedd hi'n ddifyr dros ben bod yn rhan o'r ymchwiliad yma. Fel y gwŷr nifer ohonoch chi, mi oeddwn i'n gweithio i Amgueddfa Cymru am 12 mlynedd cyn cael fy ethol i'r Senedd hon, felly mae'n rhaid ichi faddau i mi, mae gen i ragfarnau fan hyn. Dwi yn grediniwr cryf ym mhwysigrwydd mynediad am ddim, a dwi yn credu, pan fo pobl yn gofyn i ni, 'Wel, beth y mae'r Cynulliad, neu'r Senedd erbyn hyn, wedi'i wneud i ni?', fod mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd ni wedi bod yn un o'r llwyddiannau mawr hynny, ac yn rhywbeth y dylem ni gyd fod yn falch ohono fo.

Mi fuaswn i'n hoffi cymryd y cyfle yma i dalu teyrnged i Jenny Randerson, y Gweinidog diwylliant ar y pryd a gyflwynodd mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol ni. Mi oedd hi'n angerddol ynglŷn â sicrhau bod pawb yn cael mynediad at ddiwylliant, beth bynnag fo'u cefndir nhw, rhywbeth dwi'n gwybod y mae'r Gweinidog presennol hefyd wedi'i gyfleu, a rhywbeth, wrth gwrs, y mae nifer ohonon ni yn ei gredu hefyd. 

Mae'n ffaith, fel dŷn ni wedi clywed eisoes, o fewn blwyddyn i'r polisi yma gael ei gyflwyno yn 2001, y gwnaeth ymwelwyr ddyblu—llwyddiant dros nos, felly, a rhywbeth oedd yn gweithio. Yn amlwg, ers COVID, dŷn ni wedi gweld niferoedd yn gostwng. Y niferoedd cyn COVID oedd 1.8 miliwn. Mi oedd yr amgueddfa genedlaethol yn mynd i fod yn cyrraedd 2 filiwn, pe bai COVID heb ddigwydd. Dŷn ni rŵan yn gweld cynnydd, efo'r ffigurau diweddaraf yn dangos, yn 2024-25, y cynnydd i 1.47 miliwn. Ond dwi yn credu y byddai o'n gam gwag inni fynd yn ôl ar y polisi yma. Dwi'n falch o weld ymrwymiad y Llywodraeth bresennol i gadw'r polisi mynediad am ddim, a dwi'n gobeithio gweld hyn ym maniffesto pob plaid wleidyddol ar gyfer y Senedd nesaf.

Un o'r pethau oedd yn bryderus dros ben i ni fel pwyllgor, ac fel sydd wedi'i fynegi, oedd y teithiau tanddaearol yn Big Pit—rhywbeth cyfan gwbl unigryw a rhywbeth cyfan gwbl gyfareddol a rhywbeth sydd yn dod â hanes yn fyw i chi. Mae o'n hanes mor bwysig i ni, fel cenedl, onid ydy? Mae o'n hanes sy'n amhrisiadwy o ran sut dŷn ni wedi ffurfio Cymru heddiw, ac yn rhywbeth dwi'n credu y dylai pob disgybl ysgol gael y cyfle i'w brofi. Mi oeddwn i'n gofyn cwestiwn yn gynharach i Gomisiwn y Senedd o ran y grant sydd ar gael i ysgolion ddod i'r Senedd hon, a dwi'n gwybod yr oedd nifer o ysgolion yn cyfuno ymweliadau â'n Senedd ni ac yn mynd i Big Pit, a dyna un o'r pethau sydd ddim yn digwydd gymaint â hynny erbyn hyn oherwydd y straen sydd ar gyllidebau ysgolion.

Dwi'n bryderus ein bod ni'n gweld y treial yma yn Big Pit. Dwi'n deall y dadleuon sydd wedi'u rhoi gan Amgueddfa Cymru—dyw y rhai hynny sydd yn cael eu holi sydd yn mynychu Big Pit ddim yn poeni am dalu, a'u bod nhw'n hapus i dalu—ond nid dyna'r pwynt. Dydyn ni ddim yn holi'r bobl sydd ddim yn mynd i Big Pit gan fod yna ffi erbyn hyn, a dwi'n credu bod hwn yn greiddiol o ran mynediad am ddim. Dwi'n bryderus bod yr amgueddfa wedi cyrraedd sefyllfa lle mae pethau mor, mor dynn eu bod nhw wedi gorfod cymryd y cam hwn.

Felly, drwy waith y pwyllgor, dwi'n gobeithio clywed gan y Llywodraeth am ba waith pellach sydd wedi'i wneud o ran edrych yn fwy manwl efo'r amgueddfa i ddeall beth ydy effaith codi tâl ar bobl o gefndiroedd amrywiol yn dod i Big Pit, oherwydd mae'n gwestiwn gwahanol iawn gofyn i'r rheini sydd eisoes yn ymweld a ydyn nhw'n hapus neu beidio. Mae'n rhaid inni ffeindio ffordd i sicrhau bod ein hamgueddfeydd cenedlaethol ni'n gynaliadwy, ond mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod pawb â mynediad i'w casgliadau cenedlaethol nhw eu hunain. Nid Amgueddfa Cymru sy'n piau'n casgliadau ni, ond pobl Cymru, felly mi ddylai mynediad fod am ddim, ac mae dan ddaear yn Big Pit yn gorfod bod yn rhan o hynny.

16:30

Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i aelodau o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am yr adroddiad ar godi tâl am arddangosfeydd, i'r Cadeirydd am agor y ddadl heddiw a'r ddau Aelod a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma? Gadewch imi fod yn glir: rwy'n benderfynol na fydd neb yn cael ei eithrio rhag cael mynediad at y manteision y mae diwylliant yn eu cynnig. 

Rwyf hefyd yn falch fod Cymru wedi arwain ar fynediad am ddim i'r casgliad cenedlaethol, gan gyflwyno'r polisi o flaen gweddill y DU. Mae'r polisi pwysig hwn yn helpu i sicrhau bod y casgliad cenedlaethol yn hygyrch i bawb, ac yn annog ystod amrywiol o ymwelwyr. Diolch i'n cyllid parhaus, gall ymwelwyr barhau i fynd i mewn am ddim i bob un o saith safle Amgueddfa Cymru. Mae'r profiadau anhygoel y mae'r amgueddfeydd yn eu cynnig ledled Cymru yn parhau i gael eu cydnabod, ac yn ddiweddar cyrhaeddodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau restr fer yr amgueddfeydd mwyaf cyfeillgar i deuluoedd. Rydym wedi ymestyn hyn ymhellach drwy rannu'r casgliad cenedlaethol o gelfyddyd gyfoes yn fwy eang drwy rwydwaith orielau CELF.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i'r polisi mynediad am ddim. Adlewyrchir hyn yn fwyaf diweddar yn 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', sy'n cynnwys yr uchelgais fod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol. Er bod mynediad i'r casgliad parhaol yn rhad ac am ddim, gall amgueddfeydd cenedlaethol ledled y DU godi tâl am y profiadau wedi'u curadu, sy'n galw am adnoddau ac arbenigedd ychwanegol, yn ogystal â'r gwasanaethau a'r profiadau ychwanegol, ac maent yn gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys rhai arddangosfeydd dros dro a digwyddiadau arbennig. Fel corff hyd braich, mater i Amgueddfa Cymru yw gwneud penderfyniadau ynglŷn â gofyn am roddion, codi tâl am brofiadau a chynnwys arbenigol neu wedi'i guradu, yn ogystal â beth i'w gynnwys mewn cynnig aelodaeth. Enghraifft ddiweddar o hynny oedd bod Amgueddfa Cymru wedi gofyn i ymwelwyr dalu ffi fach i weld hunanbortread byd-enwog Van Gogh a oedd yn rhan o arddangosfa Drych ar yr Hunlun yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Heb y cyfraniadau, efallai na fydd cynnwys ychwanegol a gweithgareddau arbenigol o'r fath yn bosib.

Fel y nododd y Cadeirydd, yn adroddiad terfynol ei adolygiad teilwredig, tynnwyd sylw at yr angen i Amgueddfa Cymru ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol. Gan weithredu ar ganfyddiadau'r adroddiad, mae Amgueddfa Cymru yn parhau i archwilio a threialu gwahanol ddulliau o godi tâl i'w helpu i godi incwm ychwanegol y gall ei ailfuddsoddi yn ei safleoedd a'i gasgliadau. Ym mis Ebrill, dechreuodd Amgueddfa Cymru ei threial codi tâl diweddaraf ar gyfer y daith danddaearol yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.

Rydym yn gweithredu dull partneriaeth o weithio gydag Amgueddfa Cymru. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd. Gan weithio mewn partneriaeth, mae'r amgueddfa wedi ymateb yn gadarnhaol drwy gasglu data pellach, fel yr awgrymwyd gennym, yn ystod y treial estynedig. Ystyrir effaith codi tâl ar y rhai sy'n ymweld, ac rwy'n credu bod hynny'n cysylltu â'r pwyntiau a wnaeth Heledd yn gynharach. Ar yr un pryd, mae Amgueddfa Cymru yn cynnig tocynnau am ddim i aelodau o grwpiau ysgolion, consesiynau agored a phenwythnosau lle mae'r daith danddaearol yn rhad ac am ddim i bawb.

Darparwyd llawer o gyd-destun yn y cyfraniadau heddiw, felly roeddwn eisiau neilltuo eiliad i edrych ar rywfaint o gyd-destun Amgueddfa Cymru fy hun, yn enwedig yn sgil eu hymddangosiad gerbron y pwyllgor yn ddiweddar. Yn eu hymddangosiad, Ddirprwy Lywydd, gwelais wahaniaeth amlwg rhwng y flwyddyn hon a'r llynedd, yn enwedig yn yr ôl-ddadansoddiad o'r sesiwn bwyllgor gan rai o'r Aelodau. Gwelsom lawer y llynedd, ychydig eleni, ac rwy'n meddwl, Ddirprwy Lywydd, fod yr hyn a ddywedodd Amgueddfa Cymru yn deilwng o sylw yn y sesiwn honno, ac rwyf am fynd ar drywydd dau bwynt os caf, yn yr amser sydd gennyf. Ar gyllid cyfalaf, fe wnaethant ddefnyddio'r gair—ac rwy'n dyfynnu—'gwych' i ddisgrifio dyraniadau diweddar, gan ddweud y gellid gosod gwaith ar drywydd cyflym o'u herwydd. Aethant rhagddynt i ddweud faint gwell yw pethau heddiw, gan gynnwys diwylliant y sefydliad, lle dywedodd y prif weithredwr ei bod yn 'wrth ei bodd' ynglŷn â chynnydd. Ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod eisiau croesawu'r pwyntiau hynny.

Ond Ddirprwy Lywydd, i ddychwelyd at yr adroddiad hwn a'r ddadl—ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor amdanynt—mae'n bwysig nad ydym yn achub y blaen ar ganlyniad y treial estynedig hwnnw. Mae angen i bawb ohonom yn y lle hwn ganiatáu i Amgueddfa Cymru gasglu rhagor o ddata er mwyn iddi allu gwneud penderfyniad sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn caniatáu iddi ddangos sut y bydd unrhyw gynlluniau sydd ganddi ar gyfer codi tâl yn cyfrannu at ei chynaliadwyedd ariannol ac yn diogelu mynediad cyfartal. Wrth wneud hynny, rwy'n siŵr y bydd y tîm yn Amgueddfa Cymru hefyd yn ystyried adroddiad defnyddiol y pwyllgor, fel y gwneuthum innau. Diolch.

16:35

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl prynhawn yma. Soniodd Gareth am y sefyllfa anodd eithriadol mae Amgueddfa Cymru yn dal i wynebu. Rydyn ni i gyd yn cydnabod hynny, wrth gwrs. Soniodd am fel mae Amgueddfa Cymru yn gwarchod ein hanes, rhywbeth sy'n ein huno ni fel cenedl. Ac ie, mae llefydd fel Big Pit, wrth gwrs, maen nhw'n dangos taw nid rhywbeth segur, a gedwir mewn llyfrau yn unig, ydy hanes. Mae'n gallu bod yn rhywbeth sy'n fyw. Mae clywed straeon cyn-lowyr, fel roedd Gareth wedi sôn amdanynt, mae hynny'n rhywbeth sy'n rhan annatod o'n treftadaeth ni. Mae fe'n rhoi mewnwelediad heb ei ail i mewn i'n hanes coll.

Soniodd Heledd am bwysigrwydd mynediad am ddim iddi hi yn bersonol, wrth gwrs, oherwydd ei chefndir hi gyda'r amgueddfa. Ond mae fe hefyd, fel roedd Heledd yn dweud, yn rhywbeth pwysig mae ein Senedd wedi'i sicrhau. Buaswn i'n hoffi ategu a diolch i Heledd am dalu teyrnged i Jenny Randerson am beth roedd hi wedi'i wneud i sicrhau hyn, wrth gwrs. Stori o lwyddiant ydy'r polisi mynediad am ddim. Gwnaeth Heledd hefyd ffocysu ar deithiau dan ddaear Big Pit fel rhywbeth unigryw, amhrisiadwy, yn enwedig ar gyfer plant. Mae hynny'n bwynt pwysig oedd wedi cael ei wneud gan Heledd—dydyn ni yn holi'r bobl sydd ddim yn mynd i Big Pit erbyn hyn oherwydd y codi tâl. Mae hynny'n rhywbeth creiddiol. Wrth gwrs, roedd Heledd hefyd wedi sôn am yr angen i fynd i'r afael ag effaith ar y rhai o gefndiroedd amrywiol y newid hwn.

Buaswn i'n diolch i'r Gweinidog am ei eiriau, a hefyd am ei benderfyniad, fel roedd e'n dweud, i sicrhau na fydd pobl yn cael eu hamddifadu neu eu cau mas o'u treftadaeth. Dyna, wrth gwrs, ydy ein dyhead ni fel pwyllgor hefyd. Hoffwn i ategu unwaith eto ein barn fel pwyllgor fod mynd dan ddaear yn Big Pit yn rhan annatod o'n casgliadau cenedlaethol. Eto, nid trysorau mewn cabinet yn unig ydy'r casgliadau yma. Maen nhw hefyd yn gallu bod yn bethau, yn brofiadau, rydych chi'n gallu ymdreiddio i mewn iddyn nhw. Efallai fod y profiad hwn o fynd dan ddaear, o gamu i mewn i'n hanes ni, o gamu i mewn i'n casgliadau ni, efallai fod hynny ymysg y darnau mwyaf hygyrch o'r casgliadau, sydd y mwyaf pwysig i'w gwarchod. Mae'n siomedig felly bod barn y pwyllgor ar hyn yn wahanol i farn y Llywodraeth. Wrth gwrs, dŷn ni'n croesawu'r ffaith bod sefyllfa'r amgueddfa mewn lle llai argyfyngus nag yr oedd hi, ond roedd yr amgueddfa wedi sôn am y straen parhaus sydd ar staff. Felly, mae hynny'n rhywbeth dŷn ni, fel y Llywodraeth, dwi'n siŵr, eisiau sicrhau ein bod ni'n cadw edrych arno. 

Byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i fod yn bencampwyr ar gyfer ein treftadaeth, ar gyfer ein diwylliant. Rwy'n diolch unwaith eto i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl prynhawn yma, a diolch i chi, Dirprwy Lywydd.  

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deilliannau addysgol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 8 heddiw, dadl y Ceidwadwyr Cymreig, deilliannau addysgol, a galwaf ar Natasha Asghar i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9022 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu:

a) bod canlyniadau diweddaraf y Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA) yn dangos bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'r lefel isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl genhedloedd y DU am y pumed tro yn olynol; a

b) bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau cyllyll mewn ysgolion yng Nghymru ar eu lefelau uchaf erioed.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella deilliannau addysgol a chywirdeb academaidd drwy:

a) gwella atebolrwydd drwy gyflwyno arolygiadau ysgolion mwy trylwyr;

b) datblygu cronfa ddata hygyrch, newydd o berfformiad ysgolion Cymru i hyrwyddo dewis dysgwyr a rhieni;

c) galluogi sefydlu ysgolion academi yng Nghymru i annog arloesedd;

d) adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion drwy fynd i'r afael ag ymddygiad gwael, gan gynnwys gwahardd dysgwyr sy'n dod â chyllyll ac arfau eraill i mewn i ysgol;

e) gwella'r nifer o athrawon a gedwir, ac awdurdod athrawon drwy ddileu heriau disgyblion;

f) grymuso ysgolion i wahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru, ac annog plant i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg yn ddiogel;

g) trwytho cywirdeb yn ein system addysg drwy ei gwneud yn ofynnol i addysgu ffoneg; a

h) sicrhau cwricwlwm pwrpasol sy'n cefnogi'r gwaith o ffurfio sgiliau hanfodol bywyd, gan gynnwys economeg y cartref yn orfodol a phwysigrwydd cyfrifoldeb personol, bwyta'n iach, cyllidebu a byw'n annibynnol. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. Am lawer gormod o amser, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cam â'n plant a'u dyfodol. Mae ystafelloedd dosbarth yn orlawn, mae athrawon o dan bwysau cynyddol, mae lefelau trais mewn ysgolion drwy'r to ac mae safonau'n llithro, tra bod Gweinidogion yn gwneud esgusodion. Mae gormod o ddisgyblion yn cael eu gadael ar ôl. Rydym yn gweld cyfraddau llythrennedd yn gostwng, gydag 20 y cant o blant yn gadael yr ysgol gynradd yn ymarferol anllythrennog, safonau mathemateg ar lefel bryderus o isel, a chwricwlwm sy'n ddryslyd i fyfyrwyr, rhieni ac athrawon fel ei gilydd. Nid yn unig hynny, ond mae gennym fwy na 2 filiwn o ddiwrnodau ysgol wedi'u colli mewn blwyddyn yn unig oherwydd absenoldebau anawdurdodedig.

Mae ein canlyniadau PISA ar eu hisaf erioed, gyda rhybuddion fod Romania ar fin perfformio'n well na ni mewn cyn lleied â 15 mlynedd. Mae ein cyfradd o lwyddiannau ar y graddau uchaf mewn arholiadau TGAU yn parhau i fod yn sylweddol is na Lloegr, nifer y rhai sy'n dechrau prentisiaethau'n gostwng, argyfwng recriwtio a chadw athrawon, dull darllen anghymeradwy yn cael ei wthio yn ein hysgolion, ac eleni, Cymru oedd yr unig genedl lle gostyngodd cyfran y graddau Safon Uwch uchaf, a hyn oll tra bo llwyth gwaith a lefelau straen athrawon yn codi'n gyflym. Yn anffodus, ciplun yn unig yw hwn o'r problemau cyfredol sy'n wynebu ein system addysg yma yng Nghymru. Mae diwygiadau'r Llywodraeth yn darparu mwy o fiwrocratiaeth a straen, yn hytrach na chanlyniadau, ac nid yw'n ddigon da.

Yn ddiweddar penderfynodd Llywodraeth Cymru ddileu cyllid ar gyfer Technocamps, rhaglen sgiliau digidol flaenllaw. Yn hytrach, fel y clywsom ddoe, mae'r Llywodraeth wedi penderfynu rhoi grant o £1.4 miliwn i raglen ddysgu STEM Prifysgol Efrog. O'r hyn a ddeallaf, Ddirprwy Lywydd, mae Technocamps yn gynllun hynod lwyddiannus, sydd wedi darparu mwy na 5,000 o weithdai ledled Cymru, gan ymgysylltu â mwy na 90,000 o ddysgwyr. Mae llwyddiant y fenter i'w weld mewn arolwg cenedlaethol o athrawon a ganfu fod 94 y cant ohonynt yn graddio Technocamps fel rhywbeth hanfodol neu bwysig.

Y penderfyniad i ddileu cyllid ar gyfer Technocamps yw'r diweddaraf mewn rhestr hir o gamgymeriadau gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n rhaid ei wrthdroi. Mewn ymateb i'r ddadl, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sylw i'r pwynt hwn. Ein myfyrwyr a'n hathrawon sy'n talu'r pris am fethiannau diddiwedd Llywodraethau Llafur olynol yma yng Nghymru. Mae ein pobl ifanc yn haeddu gwell. Rydym angen gweld gweithredu ystyrlon yn hytrach na geiriau cynnes ac atebion tymor byr sydd ond yn papuro dros y craciau. Mae'n amlwg fod ffynnon syniadau Llywodraeth Lafur Cymru wedi sychu a'i bod ond yn aros tan yr etholiad fis Mai nesaf, pan na fyddant mewn grym mwyach a heb unrhyw gyfrifoldebau.

Pe bawn i'n athro yn edrych ar gyflawniad Llywodraeth Cymru yn y maes addysg, rwy'n ofni y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei gadw ar ôl ysgol, gyda cherdyn adroddiad yn dweud 'rhaid gwneud yn well'. A beth yw'r dewisiadau amgen? Rwy'n eich gweld yn edrych arnaf nawr, Ddirprwy Lywydd. Oherwydd nid oes gan Blaid Cymru gynllun credadwy i drwsio ein system addysg. A gadewch i ni fod yn hollol onest, nid ydynt yn ddim mwy na chopi carbon o Lafur, ar wahân i'r ffaith bod y cenedlaetholwyr yn benderfynol o wthio ymlaen â chynlluniau peryglus i rwygo'r Deyrnas Unedig. Yn syml, ni ellir ymddiried ym Mhlaid Cymru. Maent yn cyd-fynd â Llafur, yn neidio i'r gwely gyda nhw drwy'r amser i'w helpu i gael eu hagenda drwodd. Pleidleisiwch i Blaid Cymru ac fe gewch ragor o'r un peth.

Wedyn, dyna Reform. Gorau po leiaf a ddywedaf amdanynt hwy yn fy marn i. Ni allai Reform boeni llai am y materion sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru, fel addysg. Maent yn portreadu eu hunain fel plaid ddifrifol, ond yr hyn ydynt yw cwmni cyfyngedig heb lyw, heb arweinydd, heb syniadau a heb atebion. A Ddirprwy Lywydd, mae'n dweud y cyfan fod unig Aelod Reform o Senedd Cymru wedi gwrthod lle yn ein Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'r pwyllgor hwnnw—ac nid oherwydd fy mod i'n aelod ohono rwy'n ei ddweud—yn hynod o bwysig. Ac rwy'n credu bod gwrthodiad yr Aelod Reform i gymryd rhan yn dweud popeth sydd angen inni ei wybod am Reform, ochr yn ochr â'r diffyg presenoldeb a welir yn rheolaidd.

Wedyn, mae gennym Blaid Geidwadol Cymru, yr unig blaid sydd â chynllun clir, credadwy, beiddgar a chyflawnadwy i drwsio ein gwlad ar ôl 26 mlynedd o fethiant Llafur. Mae ein plaid ni, o dan arweinyddiaeth Darren Millar, yn barod i wynebu'r heriau'n uniongyrchol a chyflawni canlyniadau ystyrlon, cadarnhaol, oherwydd fe wyddom nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn gallu gwneud y gwaith.

Mae'r cynnig sydd ger ein bron yn dweud bod angen inni wneud y canlynol: gwella atebolrwydd drwy gyflwyno arolygiadau ysgolion mwy trylwyr; datblygu cronfa ddata hygyrch, newydd ar berfformiad ysgolion i hyrwyddo dewis dysgwyr a rhieni; creu ysgolion academi yng Nghymru i hybu arloesedd; adfer disgyblaeth a pharch yn ein hystafelloedd dosbarth drwy drechu ymddygiad gwael, gan gynnwys gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion a gwaharddiad awtomatig i unrhyw fyfyriwr sy'n cario cyllell. Rydym hefyd wedi galw am wella lefelau cadw athrawon ac awdurdod athrawon drwy roi diwedd ar herio gan ddisgyblion. Rydym hefyd wedi galw am sicrhau ei bod yn orfodol addysgu ffoneg i gymryd lle'r dull ciwiau sy'n destun anghymeradwyaeth eang, ac sydd wedi'i wthio mewn ysgolion yng Nghymru fel ffordd o ddysgu plant sut i ddarllen. Hefyd, rydym wedi gofyn am sicrhau cwricwlwm pwrpasol, sy'n cefnogi datblygu sgiliau bywyd hanfodol, oherwydd fe wyddom fod gormod o fyfyrwyr yn gadael yr ysgol heb eu paratoi'n ddigonol ar gyfer y dyfodol. Mae'n amlwg mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig rai sy'n barod i weithredu er mwyn gwella canlyniadau.

Ddirprwy Lywydd, fe welsom pa mor llwyddiannus y mae academïau wedi bod yn Lloegr. Gallwn gael yr un lefel o lwyddiant ac arloesedd yma yng Nghymru, ond mae Llafur wedi gwrthod gwneud hynny dro ar ôl tro. Byddai academïau'n helpu i roi hwb i gyflawniad ac yn mynd i'r afael â phroblemau ymddygiad am eu bod yn rhoi mwy o ryddid a dewis i benaethiaid ar sut i fynd i'r afael â'r heriau. Ac fe wyddom fod ymddygiad mewn ysgolion yn un o'r prif broblemau sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd. Mae ymddygiad gwael yn mynd â sylw ac amser athrawon oddi wrth addysgu, ac yn cael effaith fawr ar addysg disgyblion eraill hefyd.

Mae defnyddio ffonau symudol yn yr ystafell ddosbarth yn cael effaith negyddol iawn ar fyfyrwyr, gydag arolwg cenedlaethol Llywodraeth y DU o ymddygiad yn canfod bod 57 y cant o ddisgyblion wedi dweud bod ffonau symudol wedi tarfu ar rai, y rhan fwyaf neu bob gwers yn yr wythnos flaenorol. Er bod Llywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd yn troi llygad dall at hyn, ni wnawn ni, oherwydd mae ein pobl ifanc yn haeddu gwell.

Nid oes ar fy nghyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig a minnau ofn gweithredu, a dyna pam y byddwn yn cyflwyno gwaharddiad cyffredinol ac yn cyflwyno mesurau fel cydau clo. Byddwn hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr diwydiant a gweithwyr proffesiynol i helpu i ddod â disgyblaeth yn ôl i'n hysgolion, ac rydym yn ddigon ffodus i gael arweinwyr ysgol fel Alun Ebenezer yn helpu i lunio ein polisïau o safbwynt athro. A byddwn yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer y dyfodol drwy gyflwyno gwersi sgiliau bywyd hanfodol a fydd yn cynnwys pethau fel cyllidebu, rheoli ariannol, cyfrifoldeb personol, bwyta'n iach a byw'n annibynnol, i restru rhai'n unig o'r pethau y byddwn yn eu cynnwys. Byddant yn gwneud gwahaniaeth enfawr, a chawsant dderbyniad eithriadol o dda pan fûm yn eu trafod gydag athrawon yn ogystal â dysgwyr.

Rhaid inni fabwysiadu dull dim goddefgarwch wrth ymdrin â thrais yn yr ystafell ddosbarth drwy sicrhau bod unrhyw un sy'n cael eu dal yn cario cyllell yn yr ysgol yn cael eu gwahardd yn awtomatig. Dylai ysgolion fod yn llefydd diogel i fyfyrwyr a staff, ond fe wyddom fod cynnydd dramatig wedi bod mewn trais, gyda bron i 6,500 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi rhwng 2023 a 2024, naid sylweddol o 4,700 yn y flwyddyn flaenorol. Yn ôl ymchwil gan NASUWT, roedd 35 y cant o athrawon wedi profi cam-drin corfforol neu drais gan ddisgyblion yn y flwyddyn flaenorol, gyda 92 y cant wedi profi cam-drin geiriol.

Ddirprwy Lywydd, nid oes ateb cyflym i'r problemau a'r heriau yn ein system addysg, ond ni all pethau barhau fel y maent. Mae'n bryd rhoi ein plant a'u dyfodol yn gyntaf a rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth gadarn y maent eu hangen i athrawon. A dyna'n union y bydd Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn ei wneud pan ddônt i rym yma ym mis Mai 2026. Diolch.

16:45

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Cefin Campbell i gynnig gwelliant 1, yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, sy'n tynnu sylw at heriau parhaus mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol ar draws ysgolion Cymru, ochr yn ochr â materion recriwtio a chadw athrawon difrifol yn y proffesiwn addysg.

2. Yn gresynu tuag at fethiannau dan Lywodraeth Llafur Cymru, ble mae:

a) safonau addysg wedi gostwng, gan gofnodi’r canlyniadau PISA isaf erioed i Gymru mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2022;

b) targedau recriwtio athrawon wedi eu methu ers bron i ddegawd; a

c) un o bob pedair ysgol gynradd heb fynediad at ofod llyfrgell pwrpasol.

3. Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i wneud codi safonau addysg yn genhadaeth genedlaethol mewn Llywodraeth, drwy sefydlu:

a) cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol, gan gynnwys:

i) meincnodau cenedlaethol ar gyfer sgiliau craidd;

ii) ymyrraeth gynnar i ddisgyblion sy'n disgyn yn ôl;

iii) datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athrawon; a

iv) olrhain ac adrodd cynnydd tryloyw;

b) gofod llyfrgell ym mhob ysgol gynradd;

c) menter darllen ar draws y cwricwlwm i ymgorffori llythrennedd ym mhob pwnc ar lefel uwchradd; a

d) strategaeth recriwtio a chadw athrawon teg a chystadleuol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i i gyflwyno'r gwelliant yma yn enw Heledd Fychan.

Os mai Plaid Cymru fydd yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf yng Nghymru, bydd ein cenhadaeth genedlaethol yn glir: codi safonau addysg a rhoi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. Ond mae'n rhaid inni wynebu gwirionedd anghyfforddus, oherwydd mae methiant Llywodraeth bresennol Cymru i gael hyd yn oed y pethau sylfaenol yn iawn mewn llythrennedd a rhifedd yn golygu nad yw ein disgyblion yn cyflawni eu potensial. Gadewch imi ddyfynnu Jane Davidson, Gweinidog addysg cyntaf Llafur yng Nghymru, yn ysgrifennu bron i 25 mlynedd yn ôl:

'Rydym ar drobwynt i addysg yng Nghymru.'

'Mae llawer o'n cymunedau yn agored i niwed a than anfantais. Mae ein sylfaen sgiliau yn gymharol isel.... Mae'r heriau hyn o arwyddocâd hanesyddol.... Ni all methiant i'w goresgyn fod yn opsiwn.'

Felly, rwy'n gofyn: sut y gall geiriau a ysgrifennwyd chwarter canrif yn ôl barhau i fod yn wir heddiw? Mae'r pris a dalwch am dros 25 mlynedd o fethiannau Llafur yn boenus o glir: o dan reolaeth Lafur, cafodd Cymru ei sgoriau isaf erioed yn y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2022. Mae un o bob tri o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Nid oes gan un o bob pedair ysgol gynradd fynediad at ofod llyfrgell pwrpasol. Mae disgyblion difreintiedig yn Lloegr yn perfformio oddeutu 30 pwynt yn well na'u cyfoedion yng Nghymru, a hyd yn oed yn perfformio'n well na'r disgybl Cymraeg o allu cyffredin. Ac mae Estyn yn nodi bod angen i 32 y cant o ysgolion cynradd wella llythrennedd a rhifedd, a bod llawer yn methu cynllunio'n effeithiol ar gyfer sgiliau darllen uwch. Ac mewn addysg cyfrwng Cymraeg, mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau darllen uwch yn aml yn gyfyngedig, ac mae cydgysylltiad ar draws ysgolion uwchradd yn wan, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio allweddol o flwyddyn 6 i flwyddyn 7. Ac mae'r un gwendidau'n amlwg yn y lefelau darllen Saesneg. Ac mae mathemateg wedi dioddef hefyd, gydag Estyn yn nodi bod ansawdd yr addysgu'n amrywiol iawn a safonau disgyblion yn annerbyniol o isel.

Dyna pam y mae Plaid Cymru'n cynnig cyfres o atebion arloesol sy'n gorgyffwrdd i gael y pethau sylfaenol yn iawn a chodi safonau yn ein hysgolion. Nawr, rhag ofn fod Natasha wedi methu'r pwyntiau a wneuthum yn ein cynhadledd genedlaethol ychydig wythnosau yn ôl ar sut i wella safonau mewn addysg, fe'u hailadroddaf eto, rhag ofn i chi feddwl nad oes gennym gynllun.

Byddwn yn cyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol, strategaeth genedlaethol gydlynol, fesuradwy gyda meincnodau clir i olrhain cynnydd disgyblion, ymyrraeth gynnar i'r rhai sy'n syrthio ar ôl a datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athrawon. Ond nid yw sgiliau sylfaenol yn datblygu'n annibynnol ar bob dim arall; maent angen amgylchedd meithringar, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob ysgol gynradd yng Nghymru fynediad at ofod llyfrgell pwrpasol erbyn diwedd ein tymor cyntaf mewn Llywodraeth. Mae'r cynllun llythrennedd—

16:50

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad, Cefin. Fe wnaethoch chi nodi eiliadau'n ôl fod safonau addysgol cymaint uwch yn Lloegr a bod Cymru ar ei hôl hi. Wel, yn amlwg, digwyddodd llawer o hynny o dan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Pam y gwrthwynebodd Plaid Cymru bron bob mesur a roddodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar waith? Os oedd mor llwyddiannus, dylech fod wedi galw am weld yr un peth yn digwydd yma.

Wel, am y rheswm syml fod addysg wedi'i datganoli. [Torri ar draws.] Felly, rydym yn penderfynu yma yng Nghymru, yn y Siambr hon, beth sydd orau i addysg yng Nghymru. Nid ydym yn cymryd gorchmynion gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny'n ddigon syml. 

Ac mae cael gofod pwrpasol ar gyfer llyfrgelloedd wedi'i gefnogi gan yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol, gan Estyn a Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon; ac maent i gyd wedi gwneud y cysylltiad uniongyrchol rhwng mynediad at lyfrgelloedd a gwell canlyniadau llythrennedd. Mae angen inni ymgorffori darllen ar draws y cwricwlwm hefyd, gan gefnogi'r pontio o flwyddyn 6 i flwyddyn 7; arfogi athrawon â strategaethau darllen ar bynciau penodol a gweithio gyda theuluoedd i feithrin cariad at ddarllen gartref ac ar draws y cenedlaethau.

Ac fe awn benben â'r argyfwng recriwtio athrawon. Mae Llafur wedi methu targedau recriwtio athrawon uwchradd ers bron i ddegawd. Mae Estyn yn glir na allwn godi safonau heb ddatrys hyn. Felly, bydd Plaid Cymru yn cyflwyno strategaeth recriwtio a chadw athrawon sy'n deg a chystadleuol—nawr, dyna un i chi ei nodi, Natasha—gyda chymhellion sy'n cyfateb i'r rhai yn Lloegr a gofyniad i'r rhai sy'n eu derbyn barhau i ddysgu yng Nghymru am gyfnod penodol. Mae hwnnw'n ddisgwyliad sylfaenol a rhesymol, ac un y mae'r Llywodraeth bresennol wedi methu ei weithredu. Ac fe awn i'r afael hefyd ag ymddygiad disgyblion, absenoldeb a phwysau llwyth gwaith—materion sy'n gyrru gormod o athrawon allan o'r proffesiwn.

Fe dderbyniais ymyriad. Byddwn yn gweithredu ar argymhellion yr uwchgynhadledd ar ymddygiad ac yn rhannu arferion gorau gan ysgolion sy'n mynd i'r afael â'r heriau hyn yn llwyddiannus. Mwy o athrawon, llai o bwysau, gwell lefelau cadw staff. Mae ein plant yn haeddu hynny, a dim llai.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol welliant 2 yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod yr adroddiad asesiadau personol cenedlaethol diweddaraf yn dangos gwelliant mewn darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg a bod rhifedd yn gwella i'n dysgwyr ieuengaf; a

b) bod presenoldeb yn yr ysgol wedi gwella yn 2024-25, gan godi i 89.1 y cant o 88 y cant yn y flwyddyn flaenorol sy’n rhan o drywydd cadarnhaol sy'n gwrthdroi'r dirywiad a welwyd yn ystod blynyddoedd y pandemig.

2. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i:

a) sicrhau dull systematig o addysgu ffoneg yn y Cwricwlwm i Gymru, a gefnogir drwy sefydlu set o raglenni dysgu proffesiynol ar lythrennedd, ffoneg a rhifedd sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, i'w cyflwyno gan Dysgu, ein sefydliad dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol newydd;

b) darparu set gliriach o ddisgwyliadau a gwybodaeth am ysgolion trwy gymryd rhan yn PIRLS (Progress in International Reading Literacy Study) a TIMSS (Trends in International Mathematics and Science Study), a datblygu disgwyliadau mwy manwl o ran llythrennedd a rhifedd ar gyfer ysgolion;

c) bwrw ymlaen â chamau gweithredu ar y cyd yn dilyn yr Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad mewn Ysgolion a Cholegau yng Nghymru, gan gynnwys fforymau newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion a gwahardd a chadw ar ôl ysgol, gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau llafur;

d) ariannu ystod o raglenni i gefnogi ysgolion i ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau, gan gynnwys buddsoddi £9.5 miliwn mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a £2 filiwn mewn gweithgareddau cyfoethogi i fynd i'r afael â dadrithiad;

e) buddsoddi dros £13 miliwn bob blwyddyn yn ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant emosiynol a meddyliol, gan gynnwys cyllid i gefnogi llesiant staff ysgolion;

f) ddatblygu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg i ystyried yr ystod o faterion gwahanol sy’n wynebu’r gweithlu yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio a chadw, llesiant a materion yn ymwneud â chynorthwywyr addysgu a chyflenwi ar gyfer absenoldeb; a

g) adeiladu system gwella ysgolion cydlynol newydd sy'n rhoi lle canolog i ysgolion, ac yn cyd-fynd â chylch arolygu mwy rheolaidd Estyn.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Mae hwn yn fater allweddol i'r ddadl hon heddiw. Rwy'n aml yn meddwl nad oes llawer yn bwysicach nag addysg ein plant a'n pobl ifanc. Fe wyddom fod Cymru'n gwneud cam â'i disgyblion. Rydym eisoes wedi clywed sawl gwaith, ac fe fyddwch yn ei glywed eto, fod rhieni ac athrawon yn cael cam a bod rhaid newid pethau. Ein sgoriau PISA yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig. Nid digwyddiad untro yw pum cylch yn olynol ar waelod y tabl; mae'n arwydd o fethiant systemig. Sut y mae hyn yn arddangos Cymru ar y llwyfan byd-eang a'n gweithlu yn y dyfodol? Mae ein plant yn cael cam mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, ac rydym yn gwybod bod prinder disgyblion gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg—mwy o dystiolaeth o fethiant Llafur. Mae ein hysgolion i fod yn fannau dysgu, ond yn rhy aml clywn straeon arswyd am gyllyll ac arfau eraill yn cael eu cario i mewn i'r ysgol, a dirywiad cyffredinol mewn disgyblaeth, nes bod athrawon yn gadael y proffesiwn neu'n mynd ar streic.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw heddiw am adfer disgyblaeth a pharch yn ein hysgolion, ac yn briodol felly. Rhaid inni weld ymddygiad gwael yn cael ei herio. Ceir cysylltiad clir rhwng disgyblaeth a chanlyniadau dysgu. Felly, drwy fynd i'r afael ag un, rydych chi'n gwella'r llall. Mae angen i athrawon deimlo eu bod mewn rheolaeth, yn hytrach na bod arnynt ofn eu disgyblion, a'u hawdurdod yn cael ei erydu. Mae'r mesurau a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr heddiw yn cynnwys gwaharddiad awtomatig, fel y clywsom, ar gyfer cyllyll. Nid yw'r rhain yn llym; polisïau synnwyr cyffredin ydynt. Os caiff athrawon yn colli awdurdod, byddant yn gadael y proffesiwn, a bydd disgyblion yn colli mwy o sefydlogrwydd yn eu bywydau ysgol, a bydd hynny unwaith eto yn llesteirio eu cynnydd a'u canlyniadau.

Rydym wedi siarad am sgoriau PISA, ond gadewch inni gloddio ychydig yn ddyfnach. Yn 2024, cynyddodd y galw am leoedd a derbyniadau i brifysgolion ledled y DU, gyda nifer y derbyniadau ymhlith pobl ifanc 18 oed difreintiedig yn Lloegr yn codi, ond yn gostwng yng Nghymru. Wrth edrych ar gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, mae Lloegr yn uwch na'r cyfartaledd, ond mae Cymru yn is yn y tri, ac wedi gweld y dirywiad mwyaf o bob un o wledydd y DU ers 2018—mwy o dystiolaeth o'r methiant systemig a grybwyllais.

Un peth y mae'n rhaid inni ei weld yng Nghymru yw'r gallu i sefydlu academïau. Byddai hyn nid yn unig yn cynyddu arloesedd, fel y dywed ein cynnig, byddai hefyd yn darparu newid gwirioneddol i'n disgyblion. Mae academïau noddedig yn Lloegr wedi cyflawni gwelliannau, ond y rheswm am hyn yw eu capasiti, eu ffocws addysgol, ac yn allweddol, eu hatebolrwydd, ac nid eu statws cyfreithiol yn unig. Mae'n amlwg fod academïau yn Lloegr wedi gwella canlyniadau yn y wlad, felly pam gwrthod yr un cyfle i ddisgyblion Cymru? Drwy ei gwneud hi'n bosib sefydlu academïau, gall Cymru elwa ar y manteision, gyda gwelliannau i strwythurau, systemau presenoldeb, a dysgu pynciau penodol. Gellir cyflawni'r holl bethau hyn yng Nghymru pa un a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn y syniad o academïau ai peidio; y cyfan sydd ei angen yw inni roi ein plant a'u haddysg yn gyntaf.

Ddirprwy Lywydd, y Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid sydd â chynllun i drwsio Cymru, a heddiw rydym wedi cyflwyno nifer o fesurau i Lywodraeth Cymru eu gweithredu i wella canlyniadau addysgol ac ymddygiad yn ein hysgolion. Rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau wrando ar ein hargymhellion, cefnogi ein cynnig, a dechrau rhoi ein disgyblion yn gyntaf. Diolch.

16:55

Rwyf am ganolbwyntio ar fechgyn mewn addysg, Ddirprwy Lywydd. Daeth y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol i'r Senedd ychydig wythnosau yn ôl i siarad am eu hadroddiad cyflwr y genedl 2025, yn rhan o'u gwaith ar fechgyn coll, gan edrych ar yr hyn sy'n digwydd ledled Prydain a chan gyfeirio at Gymru wedyn wrth gwrs. Rhan o'r gwaith hwnnw yw addysg. Mae addysg yn un o'r chwe thema y mae'r gwaith hwn yn eu harchwilio. Yn y bôn, mae'n ceisio edrych ar yr agwedd ryweddol ar anfantais a thangyflawniad yn ein system addysg.

Fe wnaethant ddarganfod, o'r oedran cynharaf, o ran parodrwydd ar gyfer yr ysgol er enghraifft, fod merched yn y dosbarth derbyn yn tueddu i fod yn llawer mwy parod ar gyfer yr ysgol na bechgyn, ac mae'r bwlch perfformiad ar sail rhywedd yn rhedeg drwy'r holl brofiad addysgol. Maent yn dweud bod rhywedd bron mor ddylanwadol â datblygiad ac amddifadedd mewn canlyniadau addysgol cynnar. Wrth gwrs, roedd hanner y plant a fethodd gyrraedd y safonau disgwyliedig yn 16 oed ar ei hôl hi yn bump oed. O ran darllen er pleser, mae'n dirywio'n llawer mwy amlwg ymhlith bechgyn o'i gymharu â merched. Wrth gwrs, mae llai o amser darllen yn cydberthyn i gyflawniad academaidd is, ac mae llai o ddarllen er pleser yn cydberthyn i fwy o ddefnydd o ffonau clyfar, sy'n broblemus mewn sawl ffordd yn fy marn i.

Gwelwn dangyflawniad bechgyn o'i gymharu â merched ledled y system addysg. Ar lefel TGAU, mae merched yn cyflawni tua hanner gradd yn uwch fesul pwnc. Rhwng 16 a 19, roedd merched yn cyflawni dros radd a hanner yn well na bechgyn yn eu tri chymhwyster uchaf. Mae bechgyn yn cael trafferth symud ymlaen heb TGAU Saesneg a mathemateg, sydd wedyn yn cyfyngu ar fynediad at lwybrau galwedigaethol. Ar lefel prifysgol, gwelwyd cymhareb o 3:2 yn fwy o ferched nag o fechgyn yn dechrau addysg brifysgol yn 2022-23. 

O fy ymweliadau fy hun ag ysgolion yn Nwyrain Casnewydd, rwy'n gwybod bod yna broblemau penodol yn gysylltiedig â bechgyn gwyn dosbarth gweithiol, a chafodd hynny ei ddwyn i fy sylw yn un o'r ysgolion uwchradd yng Nghasnewydd, lle dywedodd y pennaeth wrthyf fod y rhan honno o'r boblogaeth ysgol yn arbennig yn tangyflawni. Teimlai fod angen cydnabod hynny a chanolbwyntio ymdrechion yn y system addysg i fynd i'r afael â'r agwedd benodol honno ar dangyflawniad. O ran gwaharddiadau, mae bechgyn ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o'r ysgol na merched, gyda'r holl broblemau a ddaw yn sgil hynny—canlyniadau negyddol lluosog, gan gynnwys cysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.

Ceir cymaint o wahanol agweddau ar dangyflawniad addysgol ymhlith bechgyn yn ein system ysgolion, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, yn gallu dweud ychydig bach ynglŷn â sut yr aiff Llywodraeth Cymru i'r afael â thangyflawniad bechgyn yn ein system addysg.

17:00

Gadewch i mi ddechrau lle gorffennodd John Griffiths a chydnabod y materion a godwyd yn adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol ar fechgyn, yn enwedig cyrhaeddiad addysgol. Roeddwn yn falch o allu cefnogi'r digwyddiad y cyfeiriodd John Griffiths ato. Cafwyd anerchiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn y digwyddiad hwnnw hefyd, yn cydnabod yr heriau y mae bechgyn yn eu hwynebu'n fwy cyffredinol, ond yn enwedig mewn addysg, ac rwy'n cytuno â phopeth y mae John Griffiths yn ei nodi. Dyna ran o'r rheswm pam fy mod, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi cyflwyno cynigion deddfwriaethol yma i gefnogi ein pobl ifanc drwy bethau fel addysg awyr agored, a pham y mae'r math hwnnw o brofiad yn bwysig iawn i fechgyn yn arbennig, ac i'w canlyniadau addysgol.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n siarad heddiw nid yn unig fel Ceidwadwr Cymreig, ond fel rhiant sydd â thri o blant yn system ysgolion Cymru ar hyn o bryd. Fel rhiant, mae yna bethau rwy'n wirioneddol bryderus yn eu cylch. Mae un o'r materion yr wyf yn arbennig o bryderus amdano eisoes wedi'i godi yn y ddadl heddiw, sef y cynnydd a welsom yn y trais a'r aflonyddwch yn ein hysgolion, sydd i'w weld ar lefel uwch nag erioed. Ni ddylai'r pethau hyn ddigwydd mewn unrhyw ysgol, ar unrhyw adeg, yn unman yng Nghymru, ond hyd yn oed heddiw, mae aelodau o NEU Cymru yn Ysgol Uwchradd y Fflint, yn fy ardal i yng ngogledd Cymru, yn parhau â'u streic ynghylch bwlio yn y gweithle a methiannau i fynd i'r afael ag ymddygiad disgyblion. Maent bellach ar eu hwythfed diwrnod o weithredu diwydiannol oherwydd y mater hwn. Maent yn credu bod Llafur wedi colli rheolaeth yn ein hysgolion, ac mae'r sefyllfa hon yn dangos yn union pam y mae angen strategaeth ymddygiad gadarn arnom i adfer disgyblaeth a threfn yn ein hysgolion. Ni ddylai unrhyw athro deimlo'n anniogel neu wedi'u tanseilio yn eu gweithle, ac ni ddylai addysg unrhyw blentyn ddioddef oherwydd ymddygiad gwael sy'n mynd heb ei herio. Mae angen inni godi safonau ac mae angen i ni roi diwedd ar ymddygiad gwael.

Y pwynt pwysig arall sy'n fy mhoeni i fel rhiant, fodd bynnag, yw bod angen inni roi dewis i rieni dros addysg eu plant. Mae dewis yn werth sylfaenol yr ydym yn ei barchu fel Ceidwadwyr. Dyna un gwahaniaeth mawr rhyngom ni fel Ceidwadwyr a phleidiau eraill yn y Siambr. Rydym ni'n ymddiried mewn rhieni i wneud y penderfyniadau cywir gyda'u plant, ond yn llawer rhy aml, nid yw rhieni'n cael opsiynau i ddewis. Yng Nghymru dan reolaeth Llafur, mae'n ddull un maint i bawb. Gadewch imi roi enghraifft fyw o'r hyn sydd wedi digwydd yn sir y Fflint, sy'n dangos hyn yn glir iawn.

Yn sir y Fflint, mae teuluoedd lleol yn wynebu cau pedair ysgol gatholig—tair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd—a chael un uwch-ysgol enfawr ar gyfer plant tair i 18 oed yn eu lle. Fe fyddech chi'n meddwl y byddai newid mor fawr wedi'i gefnogi gan dystiolaeth a chefnogaeth sylweddol gan y cyhoedd. Nid yw hyn yn wir. Roedd 95 y cant o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn gwrthwynebu'r cynllun—95 y cant. Mae rhieni'n gynddeiriog, ac yn ddigon teg. Mae rhai'n mynd i orfod wynebu teithiau o 14 milltir nawr i gael eu plentyn pedair oed i'r ysgol ac yn ôl, ac mae'r awdurdod lleol yn awgrymu y dylai'r plant pedair oed hyn neidio ar y bws i allu cyrraedd yr addysg honno. Nid yw'n ymarferol, nid yw'n deg, ac nid yw'n rhoi plant yn gyntaf. 

Dywedir wrthym fod hyn yn ymwneud â gwella canlyniadau. Ni chafwyd esboniad clir sut y bydd dadwreiddio'r cymunedau hyn yn gwneud hynny. Yr hyn sy'n arbennig o rhwystredig yw bod ysgolion fel ysgol Sant Anthony yn Saltney ac ysgol Dewi Sant yn yr Wyddgrug yn galonnau eu cymuned, ac maent yn cael eu cau, gan ddileu'r dewis—y gair pwysig, 'dewis'—o addysg Gatholig y mae cymaint yn ei thrysori. Felly, pa fath o neges a roddwn i rieni? Pa neges a roddwn i athrawon, sydd eisoes yn teimlo eu bod wedi'u llethu a heb eu gwerthfawrogi? Rydym yn siarad am gadw staff pwysig, ond wedyn rydym yn cau'r ysgolion lle maent yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Dyna pam y mae'r cynnig hwn yn bwysig, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na thargedau neu sgoriau profion yn unig. Mae'n ymwneud ag ymddiried mewn rhieni, athrawon a phobl leol. Mae'n ymwneud â bod yn onest pan nad yw pethau'n gweithio a bod yn ddigon dewr i roi cynnig ar rywbeth newydd. Ond yn bennaf oll, Ddirprwy Lywydd, mae hyn i gyd yn ymwneud â gwrando: gwrando ar rieni yn y Fflint pan fyddant yn teimlo'u bod yn cael eu hanwybyddu; gwrando ar yr athrawon yn y Fflint sy'n teimlo eu bod wedi'u gwthio i'r cyrion ac yn gorfod streicio o ganlyniad i ymddygiad yn yr ystafelloedd dosbarth; gwrando ar ddisgyblion sydd eisiau bod yn ddiogel mewn ysgolion lle gallant ddysgu a thyfu. Ni all y sefyllfa bresennol barhau. Ar ôl 26 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur flinedig hon, mae Cymru'n haeddu gwell, ac felly hefyd ein plant. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig, i sefyll dros gywirdeb, parch a dewis yn ein system addysg. Nid yw'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn ddigon da, ac mae'n bryd newid. Diolch yn fawr iawn.

17:05

Er mwyn inni allu parhau â dadl aeddfed, rwyf am egluro i'r Siambr pam na chymerais y lle yn y pwyllgor addysg, plant a phobl ifanc, oherwydd mae'r clerc a Chadeirydd y pwyllgor, i fod yn deg, eisoes yn gwybod yr ateb. Y  rheswm oedd bod gennyf apwyntiadau iechyd a drefnwyd ymlaen llaw am nifer o wythnosau, felly ni allaf fanteisio ar y cyfle hwnnw ar hyn o bryd, ond buaswn wrth fy modd yn gwneud hynny yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y gofynnir imi wneud hynny eto.

Ond gyda hynny wedi'i egluro, rwyf am groesawu'r ddadl hon, oherwydd mae Reform Cymru yn credu bod angen i ddiwygio addysg yng Nghymru fod yn brif flaenoriaeth genedlaethol. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd, ac ar hyn o bryd rydym yn gwneud cam â nhw. Gadewch inni fod yn onest: mae system addysg Cymru mewn argyfwng. Rydym ar waelod pob tabl addysg pwysig. Ein canlyniadau mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth yw'r isaf o holl wledydd y DU, ar yr un lefel â gwladwriaethau Baltig, tra bo Lloegr yn parhau i ddringo. Pam? Oherwydd bod gan Loegr gwricwlwm seiliedig ar wybodaeth sy'n blaenoriaethu darllen, ysgrifennu, rhifedd, cyflogadwyedd ac sydd wedi rhoi rhyddid i ysgolion gyda'r ysgolion rhydd a'r academïau y byddem ninnau hefyd yn cytuno â nhw.

Mewn cyferbyniad, fe aethom ni y ffordd arall, at fodel sy'n seiliedig ar sgiliau, gan anwybyddu rhybuddion o'r Alban. Wrth edrych ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig, mae llawer ohono'n gwneud synnwyr. Mae atebolrwydd cryfach, disgyblaeth, ffoneg, cyfranogiad rhieni a chynnwys sgiliau bywyd ymarferol, fel cyllidebu ac economeg y cartref, i gyd yn bethau y byddem yn eu cefnogi.

Wrth edrych ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig, mae yna nodau ynddo yr ydym yn cytuno â nhw, ond yr hyn sy'n fwyaf pwysig yw ei gyflawniad, nid ei gynllun. Rydym wedi clywed llawer o addewidion gan Lafur a'r Ceidwadwyr dros y blynyddoedd am godi safonau. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw cysondeb a'r cyllid priodol sydd ei angen ar ein hysgolion i gyflawni hynny, a ffocws ar yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio yn ein hystafelloedd dosbarth.

Ac anghenion dysgu ychwanegol, y siaradais amdanynt ddoe yn y lle hwn. Rwy'n cydnabod mai dyma lle mae'r niwed go iawn yn cael ei wneud i bawb—Reform, athrawon, rhieni, y comisiynydd plant, a phlant a phobl ifanc eu hunain—ac maent hwy'n cydnabod hynny. Dylem i gyd gydnabod hynny, oherwydd mae'n effeithio ar ganlyniadau addysgol. Rydym i gyd yn iawn i groesawu'r Ddeddf ADY, ond y gwir amdani yw ei bod yn sylfaenol ddiffygiol, a hynny am ei bod wedi golygu bod disgyblion â lefelau is o anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hanghofio'n llwyr ac nad ydynt yn cael yr help a'r gefnogaeth y mae cymaint o'u hangen arnynt; yn ddiffygiol oherwydd bod y Ddeddf yn cael ei dehongli 22 ffordd wahanol gan 22 awdurdod lleol, gan greu loteri cod post sy'n golygu bod rhieni'n brwydro am y cymorth y mae eu plentyn yn ei haeddu. A gadewch imi bwysleisio hynny, yn brwydro am beth bynnag y mae eu plant ei angen ac yn ei haeddu, ac mae hynny'n warthus. Nid yn unig hynny, mae diffyg cynorthwywyr addysgu a staff wedi'u hyfforddi i ymdrin ag ADY, a diffyg hyfforddiant i athrawon ar ADY, yn achosi aflonyddwch diangen yn ein hystafelloedd dosbarth, gwaharddiadau diangen i ddisgyblion, tarfu diangen ar bob disgybl wrth i ffocws athrawon gael ei dynnu'n ddiangen oddi ar eu holl anghenion yn yr ystafell ddosbarth.

Mae ysgolion arbennig hefyd yn llawn i'r ymyl, gan arwain at athrawon prif ffrwd yn cael eu gadael i ymdopi â lefelau uwch o angen mewn ystafelloedd dosbarth, heb y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt na'r hyfforddiant. Mae hyn i gyd yn effeithio ar amser addysgu a chanlyniadau addysgol i'n plant. Mae angen mwy o gynorthwywyr addysgu arnom. Mae angen inni sicrhau bod gan bob plentyn bopeth sydd ei angen arnynt mewn addysg brif ffrwd, y rhai sydd wedi colli eu clyw neu sydd â phroblemau clyw, y rhai sydd wedi colli eu golwg neu sydd â phroblemau gyda'u golwg, y rhai sydd ag anableddau corfforol, dylent gael mynediad cyfartal at addysg fel y mae pob plentyn yn ei fwynhau. Mae hyn yn rhywbeth y gwthiais amdano pan oeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac fe gawsom adolygiad arno, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r awgrymiadau ohono yn dwyn ffrwyth.

Gan droi at welliant Plaid Cymru, unwaith eto gwelwn batrwm cyfarwydd o gynlluniau, cenadaethau cenedlaethol, fframweithiau, ond yr hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu, ac er mwyn i hynny ddigwydd rydym angen athrawon. Mae angen inni ddenu mwy o athrawon i'r proffesiwn i addysgu pynciau craidd, yn enwedig yn y Gymraeg. Nid siaradwyr Cymraeg sydd eu hangen yn yr ystafelloedd dosbarth, rydym angen athrawon sydd â chymwysterau uchel yn eu pynciau ac sy'n gallu addysgu i'r safonau uchaf yn y Gymraeg. Ond mae angen inni gadw athrawon yn hirach hefyd fel nad ydynt yn gadael ar ôl pedair blynedd, sef y duedd bresennol.

17:10

A wnaiff yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru dderbyn ymyriad?

Rydym i gyd yn cytuno bod angen mwy o athrawon, ond nid wyf wedi clywed polisi gennych chi ynglŷn â sut rydych chi'n bwriadu cael mwy o athrawon i'r ystafelloedd dosbarth. Rydych chi wedi bod yn siarad am bedwar munud a hanner ac nid wyf wedi clywed unrhyw bolisi gan Reform i nodi sut y gallwch chi wella addysg. Felly, hoffwn pe gallech ymhelaethu ar sut y byddwch chi'n gwneud y pethau hyn.

Fel llawer o bobl, rwy'n siŵr eich bod chi'n llawn cyffro i wybod pryd y byddwn yn rhyddhau ein maniffesto, ond fe ddaw yn fuan. Rydym yn gwrando ar athrawon a phenaethiaid a phawb ar hyn o bryd wrth baratoi ein maniffesto. Byddwn yn ei ryddhau pan fo angen.

Mae parodrwydd ar gyfer yr ysgol yn flaenoriaeth bendant ar hyn o bryd. Oherwydd bod mwy o ymddygiad treisgar a llwyth gwaith, mae athrawon yn gadael ein proffesiwn. Mae angen inni ganolbwyntio ein sylw ar hyn, oherwydd heb athrawon, sut y gallwn gael yr addysg y mae ein plant yn ei haeddu ym mhob man? Mae Reform yn dweud 'Digon yw digon'. Mae'n bryd codi dyheadau, adfer atebolrwydd a rhoi'r dyfodol y maent yn ei haeddu i bobl ifanc. Diolch.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Dylai addysg fod yn ysgol wych o gyfle yn ein cymdeithas, y ffordd fwyaf sicr i blentyn, beth bynnag y bo'u cefndir, allu adeiladu dyfodol gwell, ond yng Nghymru mae'r ysgol honno'n anos ei dringo nag unrhyw le arall. Yn yr holl feysydd amrywiol lle mae Llywodraeth Cymru yn tangyflawni, efallai mai addysg yw'r mwyaf ofnadwy a'r mwyaf gofidus, oherwydd nid ydynt yn gwneud penderfyniadau synhwyrol a fydd yn gwella'r problemau, am fod eu blaenoriaethau yn y lle anghywir yn llwyr.

Er mor hurt yw hyn i'w ddweud, prin eu bod yn cydnabod bod problem gyda'r ffordd y mae pethau ar hyn o bryd. Ond mae pethau'n ddrwg, yn ddrwg iawn, a'r gwir amdani yw bod egalitariaid wedi dinistrio'r system addysg, sydd, yn eironig, wedi gwneud y system addysg yn llawer mwy anghyfartal. Roedd gan Brydain rai o'r ysgolion gwladol gorau yn y byd, ond heddiw, ar ôl degawdau o newidiadau blaengar fel y'u gelwir, rydym bellach yn agos at y gwaelod yng ngorllewin Ewrop, gyda Chymru'n perfformio waethaf yn y garfan honno. Rwy'n credu y gallwn ragweld ymateb Ysgrifennydd y Cabinet eisoes, sef cyhuddo'r Ceidwadwyr Cymreig o ladd ar ein hysgolion. Ond rwy'n dweud yn glir, yr arweinyddiaeth yn y Llywodraeth sy'n llwyr gyfrifol am y cam y mae ein plant yn ei ddioddef.

Mae plant heddiw'n tyfu i fyny mewn Cymru lle maent yn debygol o gyflawni canlyniadau addysgol gwaeth na'u rhieni, ac mae hynny'n anfaddeuol. Mae'r canlyniadau PISA diweddaraf yn adrodd stori warthus. Cymru bellach sy'n sgorio waethaf o bob gwlad yn y DU mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, am y pumed tro yn olynol. Y perfformiad isaf a gofnodwyd erioed. Mae hynny nid yn unig yn siomedig, mae'n gondemniad o chwarter canrif o reolaeth Llafur ar ein system addysg. Ni allwn barhau i esgus bod hyn yn ymwneud â chyllid neu amgylchiadau'n unig. Mae'n ymwneud â dewisiadau, dewisiadau gwleidyddol, sydd wedi gosod gwerth ar ideoleg dros dystiolaeth a hunanfodlonrwydd dros atebolrwydd. Mae'n ymwneud â llywodraethu datganoledig sydd wedi datgymalu gwybodaeth draddodiadol mewn llenyddiaeth, hanes ac arholiadau, sydd wedi ceisio ailddyfeisio'r olwyn o ran addysgu plant i ddarllen ac ysgrifennu, gan droi cefn ar ddulliau addysgu traddodiadol ac achosi niwed anadferadwy. Mae'n Llywodraeth ddatganoledig sydd wedi brwydro yn erbyn meritocratiaeth ac nad yw'n mesur llwyddiant yn ôl canlyniadau arholiadau, Llywodraeth sydd wedi methu'n llwyr ag ymateb i drais cynyddol ac aflonyddwch yn ein hysgolion.

Canlyniad y math hwn o arweinyddiaeth yw bod 20 y cant o ddisgyblion yn gadael ysgolion cynradd yn ymarferol anllythrennog, a llawer mwy yn anrhifog. Mae'r niwed a achoswyd gan y tarfu ar ddysgu yn ystod y pandemig hefyd wedi gadael miloedd o bobl ifanc ag anfantais gydol oes. Mae'r rhain yn broblemau sy'n galw am ddiwygio cyffredinol ac ailasesiad llwyr o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Nid yw'n rhywbeth y bydd cyflogi ychydig mwy o athrawon yn ei ddatrys, ond nid bai ein hathrawon gweithgar yw'r hyn a welwn yn ein hystafelloedd dosbarth heddiw; maent wedi cael cam gan system nad yw'n eu cefnogi nac yn eu diogelu mwyach. Mae ymddygiad wedi gwaethygu, mae trais yn cynyddu a pharch at awdurdod wedi diflannu, ac fel y soniodd Sam Rowlands eisoes, mae hyn i'w weld yn glir iawn yn Ysgol Uwchradd y Fflint, lle mae athrawon bellach wedi dechrau eu seithfed a'u hwythfed diwrnod o streic, nid dros gyflog, ond oherwydd bwlio ac ymddygiad disgyblion. Dychmygwch pa mor ddiobaith y mae'n rhaid i sefyllfa fod er mwyn i addysgwyr ymroddedig gerdded allan, a hynny am nad ydynt yn teimlo'n ddiogel yn eu man gwaith mwyach.

Fel y soniodd fy nghyd-Aelod Natasha Asghar yn gynharach heddiw, mae pob athro yn haeddu gallu mynd i'r gwaith yn rhydd o ofn ac yn rhydd o fygythiad. Mae'r argyfwng ymddygiad hwn yn symptom o fethiant dyfnach, methiant disgyblaeth, safonau ac arweinyddiaeth. Felly, mae ein cynnig heddiw yn cynnig cynllun go iawn i unioni pethau, cynllun sy'n rhoi disgyblion, rhieni ac athrawon yn ôl wrth wraidd addysg yng Nghymru. Rydym yn galw am arolygiadau mwy trylwyr i adfer disgyblaeth, felly mae dod â chyllell neu arf i'r ysgol yn golygu gwaharddiad awtomatig, nid esgusodion ac ymddiheuriadau diddiwedd. Ac rydym eisiau gwahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth, rhywbeth y bûm yn galw amdano yn y Siambr hon ers blynyddoedd, ac a gafodd ei ddiystyru dro ar ôl tro gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rydym hefyd yn credu mewn addysgu ffoneg, oherwydd dylai darllen gael ei addysgu gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gweithio go iawn. Os yw addysgu traddodiadol yn gweithio, nid oes unrhyw reswm dros ei newid.

Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn golygu mwy na rhoi hwb i ystadegau, mae'n ymwneud ag adfer gobaith, y gred y gall pob plentyn yng Nghymru gyflawni rhywbeth gwych os caiff yr offer cywir i wneud hynny. Mae'n ymwneud â darparu addysg well i'r genhedlaeth nesaf nag a gafodd yr un flaenorol, ac mae'n ymwneud â rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bobl ifanc, a rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r strwythur a'r ddisgyblaeth iddynt. Mae'r status quo yn methu, mae pobl iau Cymru yn haeddu gwell na'r hyn y maent yn ei gael, felly rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio dros ein cynnig heno a dechrau ailadeiladu system addysg y gallwn i gyd fod yn falch ohoni.

17:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad am addysg yng Nghymru a'n hymrwymiad cyffredin i wneud yr hyn sydd orau i'n dysgwyr a'n hysgolion. Cefais fy synnu pan welais fod y cynnig ar gyfer y ddadl hon yn seiliedig ar ganlyniadau PISA Cymru yn 2022. Bydd yr Aelodau'n cofio mai dyma'r cyfnod pan oedd ein dysgwyr a'n hathrawon yn cefnu ar ddwy flynedd o'r pandemig a'r holl heriau a achosodd, a chyfnod pan oedd ond ychydig o ddysgwyr yn sefyll arholiadau strwythuredig yn yr un modd â charfannau PISA blaenorol.

Rwy'n derbyn yn llwyr fod hynny'n wir pan oedd y profion PISA hynny'n cael eu cynnal, ond roedd hynny'n wir hefyd am y plant yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a wnaeth y prawf ar yr un pryd, ac eto roedd eu perfformiad yn sylweddol well nag a welwyd yng Nghymru, oherwydd methiant eich Llywodraeth Lafur i allu cyflawni'r gwelliannau ac addysg o'r ansawdd sydd ei angen.

Wel, Darren, rwy'n credu fy mod wedi bod yn agored iawn gyda'r Siambr, fod angen inni wneud yn well yn y profion PISA. Mae plant yn sefyll eu profion PISA ar hyn o bryd. Y pwynt rwy'n ei wneud yw ein bod edrych yn ôl ar rywbeth o 2022. Mae'n bryd symud ymlaen. Felly, yn hytrach nag edrych yn ôl ar un o'r cyfnodau mwyaf—

—heriol i ddysgu ac addysg mewn hanes diweddar, dylem ganolbwyntio ar y gwelliannau mewn darllen Cymraeg a Saesneg a rhifedd a wnaed gan ein dysgwyr ysgol gynradd yn 2024, fel sydd i'w weld yn ein hasesiadau personol. Dylem ganolbwyntio ar y gwelliant parhaus yn ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch, sydd bellach yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Ac rwy'n siomedig ynghylch y ffocws di-baid ar heriau o fewn y system, yn hytrach na manteisio ar y cyfle i ddathlu cyflawniadau. Mae ein hathrawon a'n staff mewn ysgolion yn gweithio'n galed i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, mae ein dysgwyr yn gweithio'n galed yn eu gwersi—maent yn haeddu gwell na hyn.

Gwyddom nad yw'r heriau sy'n eu hwynebu yn unigryw i Gymru. Mae gwledydd ledled y byd wedi profi problemau presenoldeb ac ymddygiad yn ystod ac ers y pandemig. Rwy'n falch fod presenoldeb ein pobl ifanc yma yng Nghymru bellach wedi gwella i 89.1 y cant. Mae hwn yn welliant cadarnhaol ar ôl dirywiad yn ystod ac ar ôl y pandemig, ac mae'n adlewyrchu tuedd o bresenoldeb cynyddol a welwyd gennym dros y blynyddoedd diwethaf a'n buddsoddiad yn y gwaith hwn fel Llywodraeth. Dylid canmol ein hysgolion a'n dysgwyr am yr ymdrechion a wnaethant i gyflawni hyn, oherwydd gwyddom fod y rhesymau dros bresenoldeb gwael yn gymhleth.

Roedd ein huwchgynhadledd ar ymddygiad yn yr haf hefyd yn gam pwysig tuag at adeiladu dull cydweithredol o fynd i'r afael â heriau ymddygiad, ac ym mis Gorffennaf cyhoeddais adroddiad yn amlinellu'r camau nesaf. Rydym yn gwneud cynnydd ar y camau hynny, yn cynnwys bwrw ymlaen â gwaith ar ffonau symudol, gwaharddiadau a chadw ar ôl ysgol. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, gan fynd ar drywydd materion a godwyd yn ein bord gron ar ddiogelwch a thrais. Roedd y trafodaethau yno yn adeiladol, gan ddangos ymrwymiad ar ran y sector cyfan a'n partneriaid i herio ymddygiad gwael.

Nid wyf yn hunanfodlon ac rwy'n gwybod bod mwy i'w wneud. Mae ein hysgolion a'n hathrawon wedi gofyn i ni ganolbwyntio ar nifer llai o flaenoriaethau, ac rwyf wedi cadarnhau mai llythrennedd, rhifedd, llesiant a chynhwysiant yw'r rhain. Rwyf wedi sefydlu sefydliad dysgu proffesiynol newydd yn genedlaethol, Dysgu, a fydd yn darparu dysgu proffesiynol cenedlaethol o ansawdd uchel ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn meysydd blaenoriaeth i bob ysgol yng Nghymru—dull unwaith i Gymru. Rwyf wedi ymrwymo dros £44 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu cymorth cwricwlwm, yn cynnwys ar gyfer llythrennedd a rhifedd—sgiliau sy'n datgloi'r cwricwlwm ehangach. Rydym hefyd yn parhau i gefnogi addysgu ffoneg yn systematig drwy ein prosiect CAL:ON newydd, gyda chefnogaeth £8 miliwn dros dair blynedd. A thrwy hyn, rydym yn sicrhau bod gan bob addysgwr offer a hyder i addysgu ffoneg yn effeithiol, gan helpu pob plentyn i ddod o hyd i'w llais mewn darllen ac ysgrifennu. Bydd y rhaglenni hyn yn symud draw at Dysgu dros y misoedd nesaf.

Ac os caf ymateb i Natasha ar Technocamps a bod yn berffaith glir gyda'r Siambr nad ydym wedi dileu cyllid i Technocamps; mae'r holl gyllid o dan ein trefniant grant i Technocamps wedi'i dalu. Cawsant ddau gyfle i wneud cais am gyllid newydd o dan flaenoriaeth cyfrifiadura a sgiliau digidol ein rhaglen grantiau, ond roeddent yn aflwyddiannus ar y ddau achlysur. Y rheswm am hynny yw ein bod, yn rhan o'r grantiau hyn, yn blaenoriaethu dysgu proffesiynol cydlynol yn genedlaethol i sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol ledled Cymru fynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Gwnaethpwyd hyn yn glir i Technocamps, ond ar y ddau achlysur, nid oedd eu ceisiadau'n adlewyrchu'r blaenoriaethau hyn yn ddigonol fel y gellid cynnig cyllid newydd. Roedd y broses yn drylwyr, yn gystadleuol ac yn drwyadl, ac wedi'i hategu gan system gadarn ar gyfer gwerthuso a chymedroli. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe roesom £100,000 o gyllid ychwanegol i Technocamps i ymestyn eu grant tan ddiwedd y flwyddyn academaidd er mwyn caniatáu iddynt gyflawni archebion gan ysgolion. Fe wnaethpwyd yn glir bob amser i Technocamps nad oedd unrhyw warant o gyllid yn y dyfodol y tu hwnt i hyn. A bydd STEM Learning, derbynnydd y grant, yn gweithio'n agos gyda phartneriaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, yn cynnwys Gweld Gwyddoniaeth yng Nghaerdydd, a bydd yn cyflogi cynghorwyr yng Nghymru. Bydd yr holl raglenni grant cwricwlwm hyn yn symud draw at Dysgu yn y pen draw.

Rwy'n gwybod bod angen mwy o ddata arnom i ddeall ein system yn iawn ar lefel genedlaethol. Rwyf wedi ymrwymo i gymryd rhan yn PIRLS—yr astudiaeth cynnydd mewn llythrennedd darllen rhyngwladol—2026 a TIMSS—tueddiadau mewn astudiaethau mathemategol a gwyddoniaeth—2027. Bydd yr astudiaethau rhyngwladol hyn sydd ag enw da iddynt yn rhoi mewnwelediad hanfodol i ni ar y ffordd y mae dysgwyr blwyddyn 5 yn camu ymlaen mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae astudiaeth PIRLS fach eisoes yn cael ei chynnal gyda phum ysgol, gan gynnwys lleoliadau cyfrwng Saesneg a Chymraeg; mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol ac yn helpu i siapio'r brif astudiaeth. Ar gyfer TIMSS, cynhelir treial yn y maes yng ngwanwyn 2026, a'r astudiaeth lawn i ddilyn hynny yng ngwanwyn 2027.

Ochr yn ochr â hyn, bydd fy ymrwymiad i ddarparu disgwyliadau mwy manwl, sy'n gysylltiedig ag oedran ar gyfer llythrennedd a rhifedd yn darparu ffordd arall i ysgolion allu deall sut y mae eu dysgwyr yn datblygu, ochr yn ochr â'r ystod o ddulliau eraill y maent yn eu defnyddio. Bydd y disgwyliadau hyn yn gyson ledled Cymru ac yn darparu dull a rennir ar draws ysgolion i siarad am gynnydd dysgwyr. 

Rwy'n ymrwymedig i adeiladu system fwy strwythuredig sy'n hunanwella. Mae ein newidiadau gwella ysgolion yn golygu mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am faterion cwricwlwm, ADY a thegwch bellach ac mae eu cyfrifoldebau'n gliriach. Mae ein tîm gwella addysg newydd yn gweithio i helpu awdurdodau lleol i weithio gyda'u hysgolion. Rwy'n ymrwymedig i ddod â'r holl bartneriaid yn y system at ei gilydd i weithio ar y cyd ar heriau a rennir er budd ein plant a'n pobl ifanc. Yn rhan o'r gwaith hwnnw, rwyf hefyd yn croesawu'r arolygiadau a'r ymweliadau interim mwy rheolaidd y mae Estyn yn eu cynnal. Maent wedi symud oddi wrth ddyfarniadau un gair, a thuag at gefnogaeth ag iddi lawer mwy o ffocws i helpu ysgolion i wella. Dyma beth sydd ei angen arnom, ac rwy'n falch o weld ymatebion cadarnhaol ysgolion i ddull newydd Estyn o weithredu.

Heddiw mae Estyn wedi cyhoeddi eu hadroddiad blynyddol interim, sy'n rhoi mwy o wybodaeth a thryloywder i bawb ynglŷn â chyflawniad y system ysgolion. Rwy'n falch o'r negeseuon cadarnhaol sy'n dod yn amlwg ynghylch llesiant, ennyn diddordeb dysgwyr a sut y mae ysgolion yn cefnogi eu dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae arloesedd y cwricwlwm hefyd yn cael sylw fel cryfder, yn cynnwys cynnydd, ymgysylltiad, addysgu o ansawdd uchel ac addysgeg ragorol. 

Ond nid wyf yn hunanfodlon. Rwyf am gefnogi ein dysgwyr, ein hathrawon, ein hysgolion a'n systemau. Rydym yn gweld gwelliannau, ac rwyf am ddiolch o galon i'n gweithlu addysg am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb. Diolch yn fawr.

17:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i glywed yr holl gyfraniadau hynny, oherwydd roeddwn i'n meddwl bod y cyfraniadau'n ddadlennol iawn am gyflwr addysg yng Nghymru. Mae'n amlwg fod problem wirioneddol gan addysg yng Nghymru. Rydym yn edrych ar y canlyniadau PISA gwaethaf yn y Deyrnas Unedig—rydym yn edrych ar y canlyniadau hynny, ond mae gennym Weinidog sy'n dweud, 'Mae'n bryd symud ymlaen.'

Yn ei chyfraniad, roedd hi'n anghytuno â'r ffaith bod y canlyniadau PISA y cyfeiriem atynt yn dod o 2022, ond ni allai enwi unrhyw enghraifft, unrhyw flwyddyn, pan gymerwyd y canlyniadau PISA hynny lle roedd ein canlyniadau'n well nag unrhyw wlad arall, ar unrhyw bwnc, o'i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gennym ni y mae'r canlyniadau PISA isaf yn unrhyw le yn y DU, yn is na llawer o'n cystadleuwyr Ewropeaidd. Mae un o bob pump o blant, fel y dywedodd Natasha Asghar, yn gadael yr ysgol yn ymarferol anllythrennog. Mae'n system sydd wedi torri'n sylfaenol, gyda Gweinidog sy'n gwbl hunanfodlon ynglŷn â hynny, ac sy'n edrych ar y system ac yn dweud, 'Dim byd i'w weld yma—mae'n bryd symud ymlaen.'

Mae gennym argyfwng gwirioneddol yn ein system addysg, ac mae'r gwelliant, fel y'i gosodwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, yn cadarnhau hynny. Mae'n sôn am wella rhifedd a darllen yng Nghymru. Wel, mae'n dal i fod yn waeth nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Mae'n sôn am wella presenoldeb; rwy'n croesawu hynny, ond mae'n dal i fod yn waeth nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Mae'n sôn am addysgu ffoneg yn systematig. Am ormod o amser, roedd Llywodraeth Cymru yn dilyn dull anghymeradwy, a dim ond pan dynnwyd sylw at ffoneg gan y Ceidwadwyr Cymreig a'r cyfryngau y newidiodd Llywodraeth Cymru eu trywydd.

Clywsom y Gweinidog yn siarad am ymrwymo i PIRLS a TIMSS. Unwaith eto, mae'r rhain yn bethau y gwnaethom alw ar y Gweinidog i'w wneud, ac yn y pen draw mae hi wedi eu gwneud, ond yn anffodus, mae llawer o'r niwed wedi'i wneud. Fe glywn hefyd am yr uwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru—unwaith eto, nid ydym wedi gweld llawer iawn o weithredu yn sgil hynny. Ac mae'r ysgolion y cyfeiriodd Gareth Davies a Sam Rowlands atynt, sy'n gweithredu'n ddiwydiannol oherwydd diffyg gweithredu gan Lafur ar drais a disgyblaeth mewn ysgolion, yn dystiolaeth o hynny.

Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon. Er mwyn gwella aflonyddwch ac ymddygiad yn ein hystafelloedd dosbarth, rydym yn credu'n sylfaenol fod angen inni wahardd ffonau o'r ystafelloedd dosbarth. A dylem gael polisi dim goddefgarwch a dim esgusodion o gwbl i'r rhai sy'n dod â chyllyll ac arfau eraill i'n hysgolion yng Nghymru. Mae'n gwbl annerbyniol, a dylai fod gwaharddiad awtomatig—heb os nac oni bai.

Ond rwy'n credu y bydd eraill sy'n gwrando ar y ddadl hon heddiw yn edrych o gwmpas y Siambr ac yn meddwl tybed a yw'r atebion gan y pleidiau eraill i wella ein system addysg yng Nghymru, ac roeddwn i'n meddwl bod cyfraniad Cefin Campbell yn dweud llawer am safbwynt Plaid Cymru. A yw'r atebion gan Blaid Cymru? [Torri ar draws.] Wel, cawn weld. Oherwydd mae'n glir, o'r hyn a ddywedodd Cefin—

17:30

Mae'n ddisylwedd, fel y dywed Darren Millar. Ond mae'n amlwg o'r hyn a ddywedodd Cefin Campbell, lle gwelwyd llwyddiannau dros y ffin yn Lloegr—. Fel y nododd, yn gywir ddigon, fe welsom lwyddiannau yn ysgolion Lloegr. A pham na wnaeth Plaid Cymru eu mabwysiadu yma? Rwy'n dyfynnu: am fod addysg wedi'i datganoli. Felly, rydym yn gweld llwyddiannau dros y bont, ac eto nid ydym am ddod â nhw yma, am eu bod yn digwydd yn Lloegr. Dyna ideoleg wyrdroëdig Plaid Cymru. Nid ydynt yn hoffi gweld llwyddiant sy'n tarddu o rywle arall. Ond nid oes gennym gywilydd ohono. Nid oes gennym gywilydd o gyflawniad ein Llywodraeth ar addysg. Ar ddarllen, daeth disgyblion Lloegr yn ddarllenwyr gorau'r byd gorllewinol oherwydd diwygiadau'r Ceidwadwyr. Nid oes gennym gywilydd o hynny. Nid ydym yn ei ddiystyru, fel y mae Plaid Cymru yn ei wneud, am mai yn Lloegr y digwyddodd. Mae hynny'n sicr yn llwyddiant Ceidwadol, a dyma'r pethau y mae angen i ni eu gweld yn digwydd yng Nghymru.

Ond peidiwch ag ofni—peidiwch ag ofni—mae Reform yma, mae Reform yma, ac mae ganddynt gynllun. Fe'i nodais. Mae’n ddrwg gennyf os gwnaeth unrhyw un ei fethu, ond fe'i nodais. Y cynllun oedd: 'gweithredu', a 'digon yw digon'. Dyna oedd y ddau bolisi Reform mawr yn eu cyfraniad heddiw. Rwy'n hapus i ildio i'r Aelod os methais unrhyw un ohonynt. Na, ni chredaf imi wneud hynny.

Os yw'r Aelod eisiau ildio, iawn, wrth gwrs, fe welwch ein holl bolisïau cyn bo hir, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n hapus iawn â nhw, fel y bydd pobl Cymru.

Diolch. Wel, rhwng nawr a hynny, bydd yn rhaid inni fodloni ar 'weithredu' a 'digon yw digon' fel polisïau Reform ar addysg, gan fod Reform, wrth gwrs, wedi cynnal cynhadledd yn ddiweddar, lle byddech chi'n credu y byddai rhai o'r polisïau hyn yn cael eu llunio, oni fyddech? Fe fyddech chi'n credu y byddai rhai o bolisïau Reform, pe bai ganddynt rywbeth i'w ddweud am addysg, yn cael eu llunio yn eu cynhadledd, ond dywedodd newyddiadurwyr a fynychodd gynhadledd Reform, a dyfynnaf, nad oedd eu cynhadledd 'yn cynnwys unrhyw ddigwyddiad'—dim un digwyddiad—'a oedd yn canolbwyntio'n llwyr ar addysg.' Mae Reform yng Nghymru a Reform ledled y Deyrnas Unedig yn gwbl ddigyfeiriad. Yng Nghymru, nid oes ganddynt gynllun, nid oes ganddynt unrhyw bolisïau, nid oes ganddynt unrhyw ymgeiswyr, yn sicr nid oes ganddynt arweinydd, ac nid oes ganddynt unrhyw syniad o gwbl sut y maent eisiau rhedeg Cymru.

Wel, mae hynny'n ein gadael gyda, roeddwn yn mynd i ddweud y Democratiaid Rhyddfrydol, ond mae hon yn ddadl arall nad ydynt wedi trafferthu ei mynychu. Felly, mae hyn yn ein gadael ni, mae hyn yn gadael y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae gennym gynllun clir, fel y clywsoch o'r cyfraniadau heddiw. Byddwn yn cefnogi dewis rhieni, gan fod rhieni a disgyblion yn gwybod beth yw'r penderfyniadau gorau y gallant eu gwneud dros eu plant. Dyna pam, drwy gydol ein polisïau, drwy gydol y cyfraniadau heddiw, y clywsoch y gair hwnnw, 'dewis': dewis ynghylch yr ysgolion y gall ein pobl ifanc fynychu, dewis ynghylch yr iaith y maent am i'w plant gael eu haddysgu ynddi. Siaradasom am fwy, am arloesedd yn ein hysgolion, sefydlu ysgolion academi i annog yr arloesedd hwnnw. Rwy'n siŵr, Jenny, eich bod ar fin rhestru llawer mwy o bolisïau'r Ceidwadwyr Cymreig i mi.

Hoffwn ddeall beth a olygwch wrth ddweud 'dewis'. A yw hyn yn golygu y bydd pobl yn gallu teithio ar draws ein prifddinas, gan achosi llawer mwy o lygredd aer? Rydym am i bobl fynd i ysgolion lleol a gallu cerdded neu feicio i gyrraedd yno.

Rydym eisiau i'n holl ysgolion fod yn ysgolion gorau, nid—[Anghlywadwy.]

Yn eich system addysg ddwy haen ddychmygol, sut y byddech chi'n sicrhau bod y rhai nad ydynt mewn ysgolion academi yn derbyn addysg o'r un safon, darpariaeth gyfartal ac ystod o gyfleoedd â'r rhai mewn ysgolion academi y byddai llawer yn eu hystyried yn ysgolion academi elitaidd?

Drwy godi'r safon ar draws ein system addysg, Cefin, ac yn anffodus, nid wyf am wrando ar wersi gan Blaid Cymru ar hyn. Pan fyddant yn edrych ar lwyddiannau mewn mannau eraill ac yn penderfynu peidio â'u rhoi ar waith, pan fyddant wedi treulio 26 mlynedd gyda'r gallu i gael trefn ar ein system addysg a heb lwyddo i wneud hynny o gwbl am eu bod wedi bod yn rhy brysur yn cynnal Llywodraeth Lafur Cymru.

Felly, edrychwch, mae'n amlwg: nid yw'r atebion gan Blaid Cymru, Llafur yw'r hunanfodlonrwydd sydd wrth wraidd y system, nid yw'r Democratiaid Rhyddfrydol yn trafferthu dod yma hyd yn oed, prin fod Reform yn effro. Y Ceidwadwyr Cymreig sy'n mynd i drwsio addysg yng Nghymru, yn union fel y byddwn yn trwsio Cymru cyn yr etholiad nesaf. Dyna'r dewis o ran addysg: plaid sydd o ddifrif gyda chynllun o ddifrif i wella ein system addysg, neu griw o ffyliaid heb unrhyw ddiddordeb. Diolch yn fawr.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebid.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni symud i'r cyfnod pleidleisio oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Fe wnawn ni gynnal y bleidlais gyntaf. Mae'r pleidleisiau prynhawn yma ar eitem 8, sef y ddadl rŷn ni newydd ei chlywed gan y Ceidwadwyr ar ddeilliannau addysgol. Dwi'n galw yn gyntaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, un yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - deilliannau addysgol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 35, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Bydd y bleidlais nesaf ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Pleidlais ar welliant 1, felly, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - deilliannau addysgol. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.] Byddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, sydd yn golygu bod—. O blaid y gwelliant 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn y gwelliant. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - deilliannau addysgol. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae hynny'n golygu bod y cynnig a'r gwelliannau i gyd wedi'u gwrthod. Dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni am heddiw.

10. Dadl Fer: Diogelwch, tegwch a chydymffurfio â'r gyfraith: Dyfarniad y Goruchaf Lys ar ystyr 'rhyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a'i bwysigrwydd i Gymru

Felly, byddwn ni'n symud ymlaen at y ddadl fer, sef yr eitem nesaf.

Eitem 10, felly, yw'r ddadl fer yn enw Laura Anne Jones, diogelwch, tegwch a chydymffurfio â'r gyfraith, dyfarniad y Goruchaf Lys ar ystyr 'rhyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a'i bwysigrwydd i Gymru. Felly, i symud y ddadl fer, Laura Anne Jones. 

Diolch, Lywydd, a diolch am ganiatáu imi gyflwyno'r ddadl hon ar ddiogelwch, tegwch a chydymffurfio â'r gyfraith, dyfarniad y Goruchaf Lys ar ystyr rhyw yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a pham ei fod yn bwysig i Gymru. Rwyf wedi caniatáu munud o fy amser i James Evans.

Ar 16 Ebrill, fe wnaeth Goruchaf Lys y DU rywbeth rhyfeddol yn y byd dryslyd sydd ohoni: fe eglurodd y gwir. Fe ddywedodd, yn glir ac yn ddiedifar, fod y geiriau 'dyn', 'menyw' a 'rhyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu rhyw biolegol: nid hunaniaeth, nid hunan-gred, nid ideoleg—realiti biolegol.

Mae'r gwir yn bwysig, nid yn unig yn Llundain a Chaeredin, ond yma yng Nghymru hefyd, gan na all ein hysgolion, ein hysbytai, ein heddlu, ein cynghorau roi'r gyfraith ar waith yn iawn os na allant hyd yn oed ddiffinio beth yw menyw.

Ers blynyddoedd, rydym wedi gweld dryswch yn lledu drwy ein sector cyhoeddus, canllawiau ar ôl canllawiau, ffurflen ar ôl ffurflen, diffiniadau'n newid, geiriau meddal yn disodli ffeithiau caled. Mae grwpiau fel Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru a Merched Cymru wedi bod yn seinio'r larwm yma yng Nghymru, gan geisio cael y Llywodraeth i ddeall pa mor bwysig yw llunio polisi yn seiliedig ar realiti ac ar ryw.

Rwyf innau hefyd wedi holi'r Llywodraeth sawl tro ynghylch hawliau sylfaenol menywod a merched, ynghylch diogelu menywod a merched a sicrhau tegwch—yn sicr, nid wyf wedi siarad yn erbyn unrhyw un arall. Mae gan bawb hawl i fod yn beth bynnag y maent eisiau bod, ond ni ddylai hynny byth fod ar draul menywod a merched. Fe gefais i, fel y grwpiau hynny, Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru a Merched Cymru, fy ngwawdio a fy mygwth ar gam, pan oeddem ond eisiau diogelu hanner y boblogaeth a sefyll dros yr hawliau yr ymladdwyd yn galed drostynt. Mae gan fenywod hawliau hefyd, ac mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn gyfiawnhad o hynny. Ond nawr, mae'r llys uchaf yn y wlad wedi siarad. Mae rhyw yn golygu rhyw, ac mae'n bryd i bob corff cyhoeddus yng Nghymru dderbyn y neges a gweithredu ar frys i gywiro unrhyw bolisïau, mesurau neu gyfarwyddebau sy'n wahanol i'r diffiniad cyfreithiol hwn.

Nid yw hyn yn ymwneud â thanio rhyfeloedd diwylliannol. Mae'n ymwneud â synnwyr cyffredin, tegwch a diogelwch. Mae'n ymwneud ag urddas menywod a merched mewn wardiau ysbytai, ystafelloedd newid, llochesi a charchardai. Mae'n ymwneud â chystadleuaeth deg mewn chwaraeon menywod, lle mae bioleg yn penderfynu pwy yw'r cyflymaf a'r cryfaf, nid ideoleg. Mae'n ymwneud ag adfer ymddiriedaeth, ymddiriedaeth fod y gyfraith yn dal i olygu'r hyn y mae'n ei ddweud a bod y Llywodraeth yn gwasanaethu'r bobl, nid grwpiau ymgyrchu, ac yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Fodd bynnag, beth a welsom gan Lywodraeth Cymru? Datganiad ysgrifenedig byr, rhai geiriau amwys o sicrwydd yn dweud eich bod yn aros am ganllawiau, ac yna distawrwydd. Mae 190 diwrnod wedi bod ers dyfarniad y Goruchaf Lys, ac eto nid oes unrhyw gynllun, archwiliad na chanllawiau clir i Gymru. Yn y cyfamser, mae staff y rheng flaen yn ofni dweud y peth anghywir, ac mae menywod a merched yn teimlo bod y Llywodraeth Lafur hon wedi gwneud tro gwael â nhw, ac yn meddwl tybed a oes unrhyw un yn dal i amddiffyn eu hawliau yma yng Nghymru.

Mae Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru yn cynrychioli dwsinau o sefydliadau rheng flaen. Maent wedi cyhoeddi maniffesto yn galw am gamau pendant ar hawliau menywod yng Nghymru. Mae'r amser i aros bellach ar ben, felly rwy'n galw heddiw am saith cam clir, ymarferol—dim pwyllgorau, dim ymgynghoriadau, dim ond gweithredu. Yn gyntaf, cyhoeddi cynllun cydymffurfio clir ledled Cymru o fewn wythnosau, yn dangos sut yn union y bydd GIG Cymru, cynghorau, ysgolion a phrifysgolion yn rhoi eu polisïau ar waith yn unol â dyfarniad y Goruchaf Lys. Mae angen i bobl wybod ble maent yn sefyll.

Yn ail, archwilio pob polisi sy'n trin hunaniaeth rhywedd yn anghywir fel rhyw mewn wardiau ysbytai, carchardai, ystafelloedd newid, mesurau diogelu a chwiliadau, a'i gywiro. Peidiwch â chuddio'r canlyniadau—cyhoeddwch nhw.

Yn drydydd, rhoi canllawiau priodol i ysgolion. Ni ddylai plant gael eu heffeithio gan wrthdaro ideolegol. Dylid dysgu ffeithiau iddynt. Rhaid i ysgolion ddarparu toiledau ac ystafelloedd newid ar wahân i fechgyn a merched, fel y mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei wneud, a thoiledau i bawb.

Yn bedwerydd, rhoi'r hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i staff rheng flaen. Os yw nyrs, athro neu swyddog carchar yn dilyn y gyfraith, ni ddylent gael eu cosbi am hynny. Dylai pob un ohonom gael wardiau sy'n seiliedig ar ryw hefyd.

Yn bumed, diogelu chwaraeon menywod yng Nghymru. Dylai Chwaraeon Cymru a phob corff llywodraethu sy'n derbyn arian cyhoeddus orfodi categorïau sy'n seiliedig ar ryw lle mae diogelwch a thegwch yn mynnu hynny. Ni allwch honni eich bod yn cefnogi chwaraeon menywod gan adael i ddynion biolegol ennill y medalau.

Chwech, cywiro data a chofnodion. Ni allwn lunio polisi teg os nad ydym hyd yn oed yn cofnodi rhyw yn gywir. Mae data da yn golygu polisi da. Mae dyfalu yn golygu anhrefn.

Yn seithfed, rhoi amddiffyniad cyfreithiol clir i ddarparwyr y trydydd sector, yn enwedig llochesi menywod a gwasanaethau digartrefedd, pan fyddant yn rhedeg mannau cyfreithlon un rhyw. Ni ddylent gael eu bwlio, eu dadariannu na'u difrïo am eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Lywydd, mae hyn yn ymwneud â mwy na sefyll dros fenywod, diogelu menywod ac amddiffyn y gwirionedd; mae'n ymwneud â dod â rhywfaint o synnwyr cyffredin yn ôl i fywyd cyhoeddus. Gadewch imi fod yn glir iawn. Nid oes unrhyw un yma'n galw am wahaniaethu na chreulondeb. Mae pobl draws yn dal i gael eu diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 drwy nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd. Dylid eu trin â charedigrwydd a pharch, a phawb arall yn yr un modd. Ond nid yw caredigrwydd yn golygu ildio realiti na sathru ar hawliau menywod i gyflawni hynny. Nid yw parch yn golygu ailysgrifennu'r gyfraith. Mae'r gwir yn syml. Ni allwch gael cydraddoldeb i fenywod os na allwch ddiffinio beth yw menyw.

I'r rhai ar y chwith yn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru sy'n glynu wrth bolisïau hunanddiffinio, mae'r gyfraith wedi symud yn ei blaen. Mae'r llys wedi siarad. Felly, mae'n bryd dewis. A ydych chi'n sefyll gyda'r gyfraith neu gydag ideoleg? A ydych chi'n cefnogi hawliau menywod neu a ydych chi'n eu bradychu? Oherwydd mae Cymru'n haeddu gwybod ble rydych chi'n sefyll.

Mae Reform UK yn sefyll yn falch dros realiti biolegol, rhyddid i lefaru a thegwch. Rydym yn credu mewn diogelu mannau un rhyw. Rydym yn credu mewn amddiffyn plant rhag dryswch ideolegol mewn ysgolion. Ac ydym, rydym yn credu ei bod yn bryd adfer rheolaeth oddi wrth gyrff anetholedig, anatebol sy'n credu y gallant ailysgrifennu cyfraith Prydain y tu ôl i ddrysau caeedig. Nid oes arnom angen biwrocratiaid diwyneb sy'n ailysgrifennu realiti; mae angen arweinwyr arnom sy'n ddigon dewr i ddweud y gwir. Felly, wrth y Llywodraeth, dywedaf hyn: rhowch y gorau i guddio, a dechreuwch arwain. Mae menywod a merched Cymru yn haeddu diogelwch a thegwch. Mae pobl draws yn haeddu eglurder ac urddas, ac mae'r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu Llywodraeth sy'n dweud y gwir. Mae'r Goruchaf Lys wedi darparu'r eglurder, rhaid i'r Llywodraeth ddarparu'r dewrder nawr i ddilyn y gyfraith. Diolch yn fawr.

17:45

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Siambr heddiw. Mae fy nghyfraniad i'n fwy o gwestiwn i'r Gweinidog. Mae rhieni wedi dweud wrthyf fod rhai ysgolion yn fy etholaeth, ac yng Nghymru, yn dal i weithredu toiledau niwtral o ran rhywedd yn hytrach na darparu toiledau un rhyw mewn ysgolion. Mae hynny'n peri cryn bryder i mi ac yn peri cryn bryder, rwy'n siŵr, i'r rhieni a gysylltodd â mi. Felly, hoffwn glywed, gan y Gweinidog yn ei hymateb mae'n debyg, beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym y toiledau un rhyw hynny ar gael yn ein hysgolion, gan fod y gyfraith wedi dweud yn glir iawn: mae'n rhaid eu darparu, i sicrhau ein bod yn diogelu nid yn unig merched, ond dynion hefyd. Diolch.

Member
Jane Hutt 17:46:38
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn ar ddyfarniad y Goruchaf Lys i'r Siambr, ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw.

Dyfarnodd y Goruchaf Lys fod cyfeiriadau at 'ryw', 'dyn' a 'menyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at ryw biolegol. Fel rydych chi wedi'i amlygu heddiw, craidd y mater yw gwneud yr hyn sy'n iawn a sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ei gael yn iawn. Rydym bob amser wedi dweud yn glir y dylai unrhyw weithredu oherwydd y dyfarniad gydymffurfio â'r gyfraith ac y dylid gwneud hynny gyda pharch, tosturi a charedigrwydd tuag at bawb a allai gael eu heffeithio ganddo.

Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu'n llawn yn y broses hon mewn modd trylwyr a meddylgar, ac mae hyn yn golygu glynu wrth ein gwerthoedd dwfn yng Nghymru o gynhwysiant a chynnal hawliau dynol i bob dinesydd, yn ogystal â chydymffurfio'n llawn â'r gyfraith. Amlinellais hyn yn fy llythyr at gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn perthynas ag ymgynghoriad y comisiwn ar y cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyflwyno'r cod ymarfer wedi'i ddiweddaru i'r Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ym mis Medi. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n ystyried y cod.

Fodd bynnag, mae camau eraill y mae angen eu cymryd cyn bod y cod ymarfer ar waith. Ysgrifennodd y Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ataf ar 12 Hydref. O dan adran 14 yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn cymeradwyo cod ymarfer drafft. Bydd y cod ymarfer yn diweddaru'r gofynion ar gyfer cydymffurfio o fewn swyddogaethau a gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae hynny'n ddiweddariad pwysig i'r Aelod sy'n cyflwyno'r ddadl hon, ac i'r Siambr heddiw. Cawsom y cod drafft ar 16 Hydref, a byddwn yn darparu'r ymateb priodol i gais Llywodraeth y DU.

Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol i gynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wrth ddatblygu polisïau neu ymyriadau. Gofynnodd Llywodraeth y DU i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am asesiad o effaith y cod ymarfer drafft ar gydraddoldeb ym mis Hydref, a bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu a ddylid cymeradwyo'r cod a'i gyflwyno gerbron Senedd y DU am 40 diwrnod. Bydd yr amserlen yn cael ei phennu gan Lywodraeth y DU. Felly, Lywydd, nid yw'r broses hon mor gyflym na mor syml ag y mae'n swnio, ac fel rwyf newydd ei amlinellu, ni all Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r cod ymarfer drafft cyn i'r broses briodol gael ei chwblhau yn Senedd y DU.

Wrth aros i hyn ddod i rym, o ran y cod ymarfer terfynol, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau ein bod yn rhoi camau ar waith yn rhagweithiol. Rydym yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i ddeall yr effaith ar feysydd polisi trawslywodraethol, ac i adolygu polisïau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Rydym am wneud hyn yn iawn, a byddwn yn cydymffurfio'n llawn â'r gyfraith. Ac rwy'n falch o weithio mewn Llywodraeth lle mae cydraddoldeb a hawliau dynol pawb yn gwbl sylfaenol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn meysydd polisi ar draws y Llywodraeth i droi geiriau'n weithredoedd cadarnhaol. Mae hawliau dynol wedi'u hymgorffori yn neddfwriaeth sylfaenol datganoli yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i greu cymdeithas decach, lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu, lle nad yw pobl yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn a lle gall pawb gymryd rhan, ffynnu a chael cyfle i wireddu eu potensial. Mae'r nodau hyn wedi'u hadlewyrchu yn ein hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol, a adnewyddwyd y llynedd. Maent hefyd wedi'u nodi yn ein 'Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029' a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ac rydym eisiau diogelu urddas a hawliau dynol pawb yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio bod y dyhead hwn wedi'i rannu ar draws y Siambr hon.

Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr ofn a'r ansicrwydd y mae pobl draws ledled Cymru yn ei wynebu. Datgelodd canlyniadau ein cyfrifiad yn 2021, yma yng Nghymru, mai dim ond 0.4 y cant o'n poblogaeth yw ein cymuned draws, gydag ychydig dros 10,000 o unigolion yn nodi bod eu rhyw yn wahanol i'r hyn a gofrestrwyd adeg eu geni. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru wedi nodi cynnydd o 12 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau i'w canolfan o'r gymuned drawsryweddol a chynnydd o 32 y cant o'r gymuned LHDTC+. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y troseddau casineb y rhoddwyd gwybod amdanynt dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda 282 o droseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol a 1,103 o droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol wedi'u hadrodd yng Nghymru y llynedd. Dyna pam y mae ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru mor bwysig a pham y gwneuthum fy natganiad llafar ar hyn yr wythnos diwethaf.

Nod y Llywodraeth yw creu'r amodau ar gyfer cydraddoldeb o ran canlyniadau i bawb. Ac fel rhan o'r weledigaeth honno, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir bob amser ein bod am roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod a merched. A dyna pam y mae ein rhaglen lywodraethu wedi ymrwymo i gryfhau'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod yn y stryd a'r gweithle, yn ogystal â'r cartref. Ac yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym wedi dyrannu cynnydd o £1.2 miliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol, i roi cymorth a chyngor i ddioddefwyr drwy gyllid grant rhanbarthol. Rydym o'r farn nad yw ein gallu i gyflawni'r uchelgais i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw yn cystadlu â chynnal hawliau dynol i bawb.

Felly, mae hyn yn bwysig o ran y ddadl hon heddiw, a chredaf fod hyn—. O ran y pwynt yn y cwestiwn a gododd James Evans, rwy'n credu y gallwn gytuno ar bwysigrwydd mynediad cyfartal at addysg mewn ysgolion i'n holl ddisgyblion. Ac rydym wedi bod yn trafod addysg, wrth gwrs—yn cael dadl ar addysg—y prynhawn yma. I helpu i gyflawni hynny, mae'n hanfodol fod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn gallu cael mynediad at doiled y maent yn teimlo'n gyfforddus yn ei ddefnyddio yn yr ysgol. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi cau, ac yn wir, rydym yn ystyried yr holl ymatebion yn llawn mewn perthynas â'r materion hyn.

17:50

Rwyf bron â gorffen. Roeddwn eisiau gwneud y pwynt olaf, o ran yr hyn rydym ei eisiau ar gyfer menywod yng Nghymru—a gobeithio y gall pob un ohonom gytuno ar hyn heddiw—rydym eisiau Cymru lle gall pob menyw gael annibyniaeth economaidd, a lle mae gwaith am dâl a gwaith di-dâl yn cael ei werthfawrogi; lle mae menywod amrywiol yn cael eu cynrychioli'n deg mewn swyddi dylanwadol ac yn cael eu grymuso i chwarae rhan ystyrlon yn y gymdeithas; lle mae pob menyw yn rhydd rhag gwahaniaethu ac yn rhydd i fyw eu bywydau fel y mynnant; lle nad oes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; lle mae strwythurau grym presennol sy'n rhoi menywod o dan anfantais yn cael eu herio; a lle mae pob menyw, dyn ac unigolyn anneuaidd yn mwynhau hawliau ac amddiffyniadau cyfartal a chydraddoldeb o ran canlyniadau.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn cytuno heddiw fod yn rhaid inni gymryd rhan mewn dadl barchus sy'n cydnabod safbwyntiau pawb. A dywedaf hyn i gloi, wrth imi gofio fy natganiad ysgrifenedig ar hyn ar ôl dyfarniad y Goruchaf Lys: dywedodd yr Arglwydd Hodge—fe gynghorodd—fe roddodd y dyfarniad a chynghorodd

'yn erbyn darllen y dyfarniad hwn fel buddugoliaeth i un neu fwy o grwpiau yn ein cymdeithas ar draul un arall, nid dyna ydyw.'

Ac rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen gyda'r parch a'r tosturi hwnnw, a pharch at ein gilydd, yn y ddadl hon. Diolch yn fawr.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. A dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:55.