Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

29/04/2020

Cyfarfu’r Cynulliad drwy gynhadledd fideo am 13:41 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. A chyn i ni ddechrau'n ffurfiol, gaf i ofyn ichi nodi ychydig o bwyntiau? Mae hwn yn Gyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma a hefyd am y cyfyngiadau amser ar hyd cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno ar gyfer y cyfarfod heddiw, fel yr hysbyswyd yr Aelodau amdanynt ddoe.

Cyn cychwyn ar yr agenda, dwi eisiau delio gyda dau bwynt o drefn. Y cyntaf ar iaith anseneddol. Codwyd pwynt o drefn ar ddiwedd y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher diwethaf ynghylch sylwadau a gafodd eu gwneud oddi ar y camera gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dwi eisiau galw ar y Gweinidog i gyfrannu ar y pwynt yma—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Yn amlwg, ni fwriadwyd i'r sylwadau dan sylw ar ôl i'm datganiad ddod i ben gael eu darlledu na'u cofnodi. Fe wnes i siarad  â'r Aelod dros Ganol Caerdydd ar y diwrnod dan sylw i ymddiheuro, ac rwy'n ddiolchgar iddi am dderbyn fy ymddiheuriad. Rwyf i, wrth gwrs, yn fodlon tynnu'r sylwadau yn ôl a darparu'r ymddiheuriad i'r Cynulliad ac i Swyddfa'r Llywydd y mae'n amlwg sydd ei angen, ac rwy'n gobeithio y bydd yn helpu pob un ohonom ni i symud ymlaen ac ymdrin â materion mewn modd mwy priodol yn y dyfodol, gan gynnwys fi fy hun, wrth gwrs.

Diolch, Gweinidog.

Y pwynt o drefn nesaf yw'r pwynt o drefn ynghylch amserlennu cwestiynau llafar a Rheol Sefydlog 34.18. Ymatebodd y Dirprwy Lywydd ar y pryd yr wythnos diwethaf, ond dwi eisiau rhoi ychydig o wybodaeth fwy diweddar i'r Aelodau yn dilyn cyfarfod o'r Pwyllgor Busnes ddydd Llun. Cytunodd y rheolwyr busnes fy mod yn parhau â'r arfer o ddatgymhwyso gofynion Rheol Sefydlog 12.56. Ni chaiff cwestiynau llafar eu hamserlennu, ond fel y gŵyr Aelodau, caiff cwestiynau amserol eu hailgyflwyno o'r wythnos nesaf ymlaen.

Mae'r Pwyllgor Busnes yn parhau i adolygu'r drefn busnes yn wythnosol. Rwy'n ddiolchgar am ddealltwriaeth yr Aelodau wrth inni barhau i alluogi'r Cynulliad yma i ymgymryd â'n swyddogaethau yn ystod yr amseroedd digynsail yma.

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Gyda hynny, dwi'n symud ymlaen i'r eitem gyntaf ar ein busnes y prynhawn yma, sef y datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hynny.

Diolch, Llywydd. Yr unig newid i agenda heddiw yw cynyddu hyd pob datganiad llafar i 60 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.

Llywydd, unwaith eto, byddaf yn rhoi gwybodaeth i Aelodau am ymateb y Llywodraeth i'r argyfwng coronafirws. Rydym yn dal ati i weithio ar frys i ddatrys y pethau mwyaf pwysig, yn cynnwys offer amddiffynnol ar gyfer gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gweithio i gryfhau'r strwythur iechyd cyhoeddus er mwyn bod yn barod ar gyfer y cam nesaf, pan fyddwn yn barod i ddechrau llacio'r rheolau presennol. 

Rydym wedi cyhoeddi ein fframwaith er mwyn rhannu â'r cyhoedd sut y byddwn yn mynd ati i benderfynu ar y camau nesaf. Yn y cyfamser, mae'n bwysig iawn fod pawb yn dal i barchu'r rheolau er mwyn diogelu eu hunain, amddiffyn y gwasanaeth iechyd a gwarchod pobl fregus.

Llywydd, unwaith eto y prynhawn yma, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau allweddol yn ein hymateb i argyfwng y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Fel ag yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn canolbwyntio ar y materion hynny nad ydyn nhw'n cael eu trafod yn y datganiadau a fydd yn dilyn gan Weinidogion eraill.  

Llywydd, ddoe, cyrhaeddodd cyflenwad pwysig o gyfarpar diogelu personol ym Maes Awyr Caerdydd o Gambodia. Fe'i sicrhawyd drwy ymdrechion Llywodraeth Cymru. Byddwn yn rhannu'r cyflenwad hwnnw gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig os oes angen, yn rhan o'r system cyd-gymorth.

Nawr, Llywydd, rwy'n credu bod yr ymateb i argyfwng y coronafeirws yn dangos cryfderau Teyrnas Unedig ddatganoledig. Rydym ni yng Nghymru yn aelodau o gydgefnogaeth ehangach, yn cyfrannu at adnoddau a rennir ac yn eu defnyddio, ond rydym ni hefyd yn gweithredu ar ein liwt ein hunain lle mae ein pwerau datganoledig yn caniatáu i ni hybu buddiannau Cymru. Dyna pam, yn ogystal â sicrhau cyflenwadau mewn mannau eraill, yr ydym ni wedi canolbwyntio ar gryfhau ein cadwyn gyflenwi ddomestig er mwyn helpu i fodloni'r galw uniongyrchol a datblygu cydnerthedd ar gyfer y dyfodol. Mae Transcend Packaging yn Ystrad Mynach, er enghraifft, wedi ymateb i'r alwad i weithredu ac wedi newid ei brosesau i wneud miliwn o warchodwyr wyneb yr wythnos i'r GIG yng Nghymru. Mae ganddo'r gallu i ddyblu'r nifer honno os bydd angen.

Ac am y tro cyntaf, rydym ni'n agos at fod yn hunangynhaliol o ran dillad glanweithiol yng Nghymru. Erbyn diwedd yr wythnos nesaf, byddwn yn gwneud 5,000 yr wythnos, gan ddod â swyddi'n ôl o wledydd tramor a'u hangori yn ein heconomi yng Nghymru. Rydym ni wedi gweithio gyda chwmni yn y DU sy'n cyflenwi dillad glanweithiol i'r GIG, ac yn bennaf gyda thri busnes a mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae dau o'r rhain yn y gogledd ac mae'r trydydd mewn ffatri yr ydym ni wedi ei chreu o'r newydd yng Nglynebwy, mewn partneriaeth â menter gymdeithasol, gan greu swyddi i 50 o beirianwyr a oedd wedi bod yn ddi-waith yn hirdymor fel arall.  

Ond, Llywydd, mae angen i mi esbonio i'r Aelodau nad yw pob cynnig o gymorth yn un dilys yn y pen draw. Mae'n ymddangos yn y pen draw bod bron i un o bob pump o gynigion sy'n cael eu hymchwilio wedyn gan yr arbenigwyr yn ein labordy profi deunyddiau llawfeddygol ein hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dibynnu ar ardystiad anghywir neu'n gwbl dwyllodrus. Mae pob un o'r cynigion hynny'n cymryd amser ac ymdrech i'w hymchwilio ac mae'n anochel bod hynny'n tynnu sylw oddi wrth ymateb i'r nifer lawer mwy o bosibiliadau hael â bwriadau da.

Yn anffodus, mae rhai wedi manteisio ar y feirws hwn i dargedu pobl agored i niwed. Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd gyngor yr wythnos diwethaf ar osgoi peryglon sgamiau ar-lein a bod yn wyliadwrus o'r peryglon difrifol y mae'r rhain yn eu hachosi i aelodau agored i niwed o'n cymunedau.

Llywydd, wrth i ni roi sylw i natur frys yr argyfwng, mae'n rhaid i ni ddal i ddod o hyd i amser i gydnabod a diogelu diwylliant ac amrywiaeth Cymru. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi parhau i ddarparu canllawiau a chefnogaeth i helpu i ymdrin â goblygiadau'r feirws, gan gynnwys £800,000 i'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf i wedi ysgrifennu at bawb yng Nghymru sy'n cadw gorchymyn Ramadan, gan nodi sut y gellir dathlu'r ŵyl yn ddiogel ac mewn ffyrdd sy'n parchu traddodiadau maith Islam. Ac mewn datganiad ysgrifenedig pwysig a gyhoeddwyd heddiw i nodi blwyddyn ers i'r Senedd hon ddatgan argyfwng hinsawdd, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn nodi'r camau yr ydym ni'n parhau i'w cymryd i adfer colled bioamrywiaeth ac i ymateb i'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

Ddoe, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cyrhaeddwyd carreg filltir brudd arall wrth i nifer y marwolaethau a gofnodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fynd heibio 800. Mae pob un o'r marwolaethau hynny yn unigolyn ac yn berson sydd wedi gadael teulu a ffrindiau sy'n galaru ar ei ôl. I gydnabod anawsterau'r profiad hwnnw, cyhoeddwyd cyllid ychwanegol gennym ni yr wythnos hon i gefnogi gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru i'w helpu i ymateb i'r galwadau ychwanegol am eu cymorth.

O ran yr economi, bydd busnesau ledled Cymru yn dechrau derbyn taliadau grant o gronfa cadernid economaidd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd yr wythnos hon. Ers iddi agor wythnos yn ôl, mae'r gronfa wedi cael bron i 9,000 o geisiadau am gymorth. Cafodd y cynllun ei oedi ddydd Llun er mwyn caniatáu i ni ystyried pa newidiadau y gellir eu gwneud o'r profiad hwnnw cyn i ni symud ymlaen at y gyfran nesaf.

Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cwblhawyd yr adolygiad tair wythnos cyntaf o reoliadau coronafeirws gennym a gwnaethom rai newidiadau cymedrol ond arwyddocaol—rhai i dynhau'r rheolau ac eraill i'w llacio mewn ymateb i bryderon a godwyd. Yn y categori cyntaf, rydym ni'n eglur na ddylai gadael eich cartref am un rheswm olygu ychwanegu gweithgareddau eraill hefyd. Cadarnhawyd gennym ni hefyd bod gofynion cadw pellter corfforol yn berthnasol i'r gweithle, caffis a ffreuturau. Yn yr ail gategori, rydym ni wedi ehangu'r diffiniad o bobl agored i niwed i 'mae darparu cyflenwadau yn esgus rhesymol i adael eich cartref', ac rydym ni wedi llacio'r rheolau i ganiatáu i bobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu, er enghraifft, adael eu cartrefi i ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd. Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur y caiff busnesau sy'n gallu gweithredu ar sail clicio a chasglu wneud hynny, cyn belled ag y cedwir pellter corfforol.

Llywydd, rydym ni'n cymryd y broses adolygu yn hynod o ddifrif a byddwn yn parhau i wneud hynny mewn ymgynghoriad â phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu ac awdurdodau lleol. Rydym ni'n defnyddio'r cyfnod adolygu hwn i gynllunio ar gyfer y cam nesaf, fel y nodais yn y fframwaith a gyhoeddwyd ddydd Gwener. Dyma ddechrau sgwrs gyda phobl yng Nghymru am ein taith allan o gyfyngiadau symud, a cheir tair elfen allweddol i'r dull a nodir yn y fframwaith: rydym ni'n esbonio sut y byddwn ni'n penderfynu pryd y bydd yn ddiogel i ddechrau llacio'r cyfyngiadau presennol; rydym ni wedi nodi sut y byddwn ni'n gwerthuso dewisiadau ar gyfer y mesurau llacio cychwynnol pan fydd yr amser yn iawn; rydym ni eisiau nodi'r mesurau hynny sydd â'r risg isaf a'r effaith gadarnhaol fwyaf ar fywydau pobl a'r economi yng Nghymru. Ac rydym ni wedi cyflwyno ymateb iechyd cyhoeddus a fydd yn cyd-fynd â'r cam o lacio cyfyngiadau. Bydd hyn yn cynnwys gwyliadwriaeth, olrhain cyswllt a phrofi, yn gyflym i nodi ac ymateb i unrhyw fannau lle bydd y coronafeirws yn dod i'r amlwg, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweithio i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan harneisio'r syniadau gorau o Gymru a chyngor arbenigol o'r tu hwnt i Gymru. Bydd Cymru ar ôl y pandemig yn Gymru wahanol iawn ac mae angen i ni ymateb gyda syniadau newydd sydd wedi eu gwreiddio yn ein gwerthoedd a bydd y Cwnsler Cyffredinol yn arwain y gwaith hwnnw.

Llywydd, byddwn yn cymryd camau gofalus a phwyllog wrth i ni ystyried llacio'r cyfyngiadau presennol. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i geisio sicrhau dull gweithredu cyffredin. Byddwn yn gweithio gyda phobl ledled Cymru wrth i ni wynebu'r penderfyniadau anodd sydd o'n blaenau, a byddaf yn parhau i adrodd ar yr holl faterion hyn i'r Senedd bob wythnos. Diolch yn fawr.

13:50

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a allaf ddiolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma? Nawr, wrth wraidd y Llywodraeth, mae angen ymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn y modd hwnnw hoffwn eich holi'n benodol am danadrodd am farwolaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gymerodd dros fis i gael ei gyhoeddi, a'r tangyadrodd dilynol am farwolaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Brif Weinidog, mae'n destun embaras cenedlaethol na all Llywodraeth Cymru hyd yn oed gyhoeddi gwybodaeth gywir am nifer y marwolaethau COVID-19, ac, er fy mod yn derbyn eich bod wedi cyhoeddi adolygiad o'r sefyllfa, mae cwestiynau y mae angen eu hateb o hyd. Rhaid i bobl Cymru fod yn hyderus bod unrhyw wybodaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a chan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gywir ac yn gyfoes. Felly, o ystyried bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, pam yr oedd system wahanol i weddill GIG Cymru yn cael ei defnyddio o gwbl, a pham y cymerodd gymaint o amser cyn i Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sylweddoli bod rhywbeth o'i le?

Mae eich adolygiad yn dweud eich bod wedi cael sicrwydd gan y rhan fwyaf o fyrddau iechyd eu bod o'r farn bod eu prosesau wedi bod ac y byddant yn parhau i fod yn gadarn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi bod yn rhaid i'r prosesau ym mhob bwrdd iechyd fod yn gadarn, ac felly beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gweithgaredd hwn yn digwydd? Ac, o ystyried nad yw dau fwrdd iechyd bellach wedi cynhyrchu gwybodaeth gywir yn gywir, pa fecanwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei weithredu'n awr i sicrhau bod sicrwydd ansawdd lleol yn digwydd wrth symud ymlaen?

13:55

Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y pwyntiau yna, a hoffwn gytuno ag ef: mae'n bwysig iawn yn wir bod Gweinidogion a phobl Cymru yn gallu bod yn ffyddiog bod y wybodaeth a gyhoeddir gan ein system yn gywir ac yn ddibynadwy. Dyna pam, cyn gynted ag y tynnwyd fy sylw at y ffaith y bu tangofnodi marwolaethau gan Betsi Cadwaladr, y gwnes i sefydlu'r adolygiad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd ddoe.

Mi ydw i'n awyddus i gywiro rhai o'r manylion yng nghwestiwn arweinydd yr wrthblaid, gan mai fel hyn yr oedd trefn y digwyddiadau: roedd Betsi Cadwaladr wedi bod yn cofnodi gwybodaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Tan 18 Ebrill, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ffigur Cymru gyfan cyffredinol o farwolaethau yn unig, a thybiodd Betsi Cadwaladr—fel yr oedd ganddyn nhw hawl i'w wneud yn fy marn i—bod eu ffigurau'n cael eu hadlewyrchu yn y ffigur cyffredinol hwnnw ar gyfer Cymru. Ar 18 Ebrill, symudodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyhoeddi marwolaethau ar lefel byrddau iechyd wedi'u dadgyfuno, a thynnodd Betsi Cadwaladr sylw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn syth at y ffaith nad oedd yn ymddangos bod y ffigurau yr oedden nhw wedi bod yn eu cyflwyno yn cael eu hadlewyrchu yn y ffigur a gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y lefel ddatgyfunedig. Nawr, fe wnaeth hi gymryd o 18 Ebrill i 23 Ebrill wedyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i drafod yr hyn oedd wedi digwydd ac i gynnal proses dilysu data, a chawsom wybod ar 24 Ebrill beth oedd canlyniadau'r drafodaeth honno. Dyna'r pwynt y dywedais fy mod i eisiau cael sicrwydd pellach yn ei gylch gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y manylion yr oedden nhw'n eu cyhoeddi yn gwrthsefyll craffu. Ac yna—. Felly, hoffwn fod yn eglur gyda'r Aelod na aeth mis heibio pan oedd pobl yn gwybod am hyn a ddim yn gwneud dim am y peth. Rhybuddiodd Betsi Cadwaladr Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y diwrnod y cyhoeddwyd y data datgyfunedig hynny, pan roedden nhw'n gallu gweld bod rhywbeth wedi mynd o'i le, ac yna cymerodd hyd at 23/24 Ebrill i hynny ddod i sylw Llywodraeth Cymru.

Gofynnodd Paul Davies i mi wedyn, Llywydd, beth sydd wedi cael ei wneud i wneud yn siŵr bod y ffigurau o hyn ymlaen yn cael eu hadrodd yn gywir. Bydd yn gweld bod wyth cam gweithredu wedi'u nodi yn yr adroddiad a gyhoeddwyd. Dyma rai o'r rhai mwyaf arwyddocaol: galwadau ffôn wythnosol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a phob bwrdd iechyd lleol i wneud yn siŵr nad oes dim yn mynd ar gyfeiliorn; cadarnhad gan y prif swyddog meddygol i bob bwrdd iechyd y dylen nhw ddefnyddio'r system adrodd electronig newydd; mwy o sicrhau ansawdd lleol; archwiliad sicrhau ansawdd pellach gan Iechyd Cyhoeddus Cymru; a nawr, am y tro cyntaf, bydd y system gyfan yn cael ei goruchwylio gan y prif ystadegydd, unigolyn sy'n annibynnol ar y gwasanaeth iechyd ei hun ac sydd bellach yn rhan o'r gwaith o wneud yn siŵr bod y ffigurau a gyhoeddir yn rhai y gallwn ni i gyd fod â ffydd ynddyn nhw.

14:00

Wel, rwy'n gobeithio y bydd y mesurau yr ydych chi wedi'u cyflwyno nawr yn ddigon cadarn, oherwydd mae'n bwysig bod gwybodaeth gywir yn cael ei chyhoeddi er mwyn cynnal ffydd y cyhoedd.

Nawr, yr wythnos diwethaf, fel y dywedasoch yn eich datganiad heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ymadael ar gyfer COVID-19, 'Fframwaith ar gyfer adferiad', sy'n ei gwneud yn eglur bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chapasiti a'i gallu i brofi, er mwyn deall lefel yr haint sy'n bresennol yng Nghymru ymhellach. Fodd bynnag, rydym ni'n gwybod y bu nifer o broblemau sylweddol gyda'r rhaglen brofi yng Nghymru ac eto nid yw fframwaith adfer Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw fanylion am sut y mae capasiti a gallu yn cael eu cyflymu mewn gwirionedd.

Mae'r fframwaith hefyd yn nodi bod angen i Lywodraeth Cymru allu olrhain a dilyn achosion yn y dyfodol, nawr, yn yr haf, a phan fydd y pwysau gwirioneddol yn dod yn ystod misoedd y gaeaf, fel na fydd rhaid i ni ailgyflwyno cyfyngiadau ar ôl i benderfyniad gael ei wneud i'w codi. Mae'n gwbl hanfodol bod gennym ni brofion cymunedol cynhwysfawr yn cael eu cynnal ledled Cymru i drechu'r feirws hwn, ac felly mae'n siomedig clywed bod Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â phrofi holl breswylwyr a staff cartrefi gofal.

Felly, Prif Weinidog, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni yn eich ymateb sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chapasiti a'i gallu i brofi, yn ogystal â dweud ychydig mwy wrthym ni am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu olrhain a dilyn unrhyw achosion yn y dyfodol. Siawns bod Llywodraeth Cymru, trwy beidio â dewis profi holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru, yn cyfleu'r neges nad yw profi cymunedol mor bwysig â hynny yn y lle cyntaf.

Nawr, mae'r fframwaith ar gyfer adferiad hefyd yn nodi mai un o'r ffactorau i'w hystyried wrth godi cyfyngiadau yw bod angen tystiolaeth y gall GIG Cymru ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig i anghenion gofal iechyd am o leiaf 14 diwrnod os bydd y gyfradd heintio yn mynd uwchlaw 1. Felly, yng ngoleuni fframwaith y Llywodraeth ar gyfer adferiad, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu dangos mewn gwirionedd y gallai'r gwasanaeth iechyd ymdopi ag unrhyw gynnydd i'r gyfradd heintio yn y dyfodol?

Llywydd, hoffwn ddiolch i Paul Davies unwaith eto am y cwestiynau yna. O ran profion, mae'r cynllun profi presennol sydd ar waith yn cynnwys profi cleifion, perthnasau, aelodau staff, gweithwyr allweddol—pobl sydd ar reng flaen yr argyfwng presennol. Bydd angen trefn brofi wahanol arnom ni wrth i gyfyngiadau gael eu codi, oherwydd, ar yr adeg honno, waeth pa mor ofalus yr awn ni ati, bydd y perygl o coronafeirws yn lledaenu yn y gymuned yn fwy bryd hynny nag y mae nawr, o dan amodau cyfyngiadau symud.

Ar yr adeg honno—rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies—dyna pryd y mae angen i chi gael gallu cymunedol i 'brofi, olrhain ac ynysu'. Mae nifer y profion sydd ar gael yng Nghymru yn cynyddu—2,100 yw'r nifer heddiw; 1,800 oedd y nifer ddiwedd yr wythnos diwethaf—ac rydym ni wedi gwneud cynnydd da, dros yr wythnos diwethaf, i wneud yn siŵr bod preswylwyr cartrefi gofal a staff cartrefi gofal yn gallu cael gafael ar y profion sydd ar gael.

Rydym ni'n cynyddu ein gallu i gynnal profion ymhellach yr wythnos hon—heddiw, drwy agor cyfleusterau yn Llandudno, sy'n rhai drwy ffenest y car a symudol. Bydd cyfleusterau ar gael yn Nant-y-ci yng Nghaerfyrddin o yfory ymlaen. A byddwn yn parhau i gynyddu'r capasiti profi hwnnw.

Y rheswm pam nad ydym ni'n cynnig profion i bawb mewn cartrefi gofal, sy'n symptomatig ac yn asymptomatig, yw oherwydd bod y dystiolaeth glinigol yn dweud wrthym ni nad oes gwerth mewn gwneud hynny. Oherwydd hynny, nid ydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n cynnig y profion pan mai'r cyngor i ni yw ei bod hi'n clinigol briodol i wneud hynny. Profi pobl nad oes ganddyn nhw symptomau heddiw—er mwyn i honno fod yn neges ddibynadwy iddyn nhw, byddai'n rhaid i chi eu profi eto yfory, oherwydd gallwch chi fynd o fod heb symptomau i fod â'r symptomau mewn 24 awr. Byddai defnyddio'r capasiti sydd gennym ni yn y ffordd honno yn dargyfeirio'r capasiti oddi wrth lle mae'n werth gwneud pethau o safbwynt clinigol pan nad yw'r achos clinigol dros wneud hynny yn un a gynghorwyd i ni, a dyna pam nad ydym ni'n ei wneud.

Rydym ni'n gweithio gyda'r sector cartrefi gofal i ystyried cylch gwaith profi ehangach yn y cartrefi gofal hynny lle mae'n amlwg bod achosion o coronafeirws. Gallai'r ddadl dros brofion ehangach yn y fan honno fod yn gryfach yn glinigol. Mae hynny'n cael ei archwilio gan ein clinigwyr gyda'r sector cartrefi gofal. Ac, wrth gwrs, os byddwn ni'n cymryd camau pellach i'r cyfeiriad hwnnw, byddwn yn hysbysu'r Cynulliad am hynny.

Pwynt olaf Paul Davies, Llywydd, oedd yr un pwysig ynglŷn â'r GIG yn meddu ar y capasiti i ymdopi â chynnydd i'r coronafeirws wrth i ni lacio'r cyfyngiadau symud. Mae hynny'n rhan o'n fframwaith a'n cynllun. Mae'n rhan o'r rheswm pam yr ydym ni'n parhau i weithio ar gapasiti ysbytai maes yng Nghymru. O heddiw ymlaen, mae gennym ni filoedd o welyau ar gael yn y prif GIG, gan gynnwys 3,000 o welyau gofal acíwt, ac mae gennym ni lai o welyau gofal critigol sy'n llawn heddiw nag oedd gennym ni yr adeg hon yr wythnos diwethaf. Ond nid ydym ni'n dibynnu ar hynny'n parhau i fod yn wir wrth i ni symud y tu hwnt i gyfyngiadau symud, a byddwn yn monitro a, lle bo angen, yn cynyddu'r capasiti sydd gan y gwasanaeth iechyd i wneud yn siŵr, wrth wneud y peth iawn—ac rwyf i yn credu mai dod o hyd i'r ffordd iawn o lacio cyfyngiadau symud yw'r peth iawn—nad ydym ni'n rhoi ein hunain yn ôl yn y sefyllfa yr ydym ni i gyd wedi gweithio mor galed i geisio dod allan ohoni.

14:05

Prif Weinidog, mae arweinydd eich plaid wedi dweud ein bod o bosibl ar y trywydd i fod ag un o'r cyfraddau marwolaeth gwaethaf yn Ewrop. Nawr, roedd e'n cyfeirio at y DU wrth gwrs, ond mae'r un peth yn wir am Gymru, gwaetha'r modd. Pam ydym ni wedi gwneud mor wael mewn cymhariaeth â chynifer o wledydd eraill?

Nid wyf i'n credu mai fi yw'r person gorau o reidrwydd i gynnig ateb cynhwysfawr i'r cwestiwn yna, oherwydd bydd yr ateb yn dibynnu ar bobl sydd ag arbenigedd mewn sawl gwahanol ddimensiwn. Hoffwn atgoffa'r Aelod ein bod ni'n wynebu'r sefyllfa yma yng Nghymru, chwe wythnos yn ôl, pan oedd gennym ni ofn gwirioneddol y byddai coronafeirws yn cynyddu i'r graddau y byddai'n mynd yn drech na'n GIG—na fyddai gennym ni welyau mewn gofal critigol nac awyryddion a oedd yn angenrheidiol.

Rwy'n cofio sgwrs ddifrifol iawn gydag arweinydd Plaid Cymru ar un penwythnos, pan soniasom am y sefyllfa annymunol y gallai clinigwyr ei hwynebu lle byddai'n rhaid iddyn nhw ddewis rhwng pobl a fyddai'n cael cynnig triniaeth a'r rhai efallai na fydden nhw. Mae'r holl ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud—yn y GIG, ym maes gofal cymdeithasol, a chan ddinasyddion Cymru—yn golygu nad ydym ni yn y sefyllfa honno ac nad ydym ni wedi bod yn y sefyllfa honno.

Felly, mae'r cyfraddau marwolaeth yn peri pryder mawr, wrth gwrs, a bydd cymariaethau'n cael eu gwneud o'r hyn sydd wedi digwydd yma a'r hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill, ond wrth wneud hynny gadewch i ni beidio â gwthio i'r neilltu yr ymdrechion aruthrol y mae pobl wedi eu gwneud i osgoi'r sefyllfaoedd anodd a phoenus iawn hynny a oedd, ar un adeg, yn bosibilrwydd realistig yma yng Nghymru.

A gaf i ofyn am gyfarpar diogelu personol? A wnewch chi gyhoeddi cyngor meddygol ffurfiol gan y prif swyddog meddygol ar y defnydd o gyfarpar diogelu, cyfarpar diogelu'r wyneb, gan y cyhoedd? Ac a wnaethoch chi weithredu ar argymhellion y Grŵp Cynghori ar Fygythiadau Feirws Anadlol Newydd a Datblygol, is-bwyllgor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau, pan gynigiodd y dylid ychwanegu feisorau wyneb a gogls llygaid at y stoc pandemig yn 2016, a phan wnaeth yr un peth o ran gynau llawfeddygol ym mis Mehefin y llynedd?

Fe wnaf fy ngorau i ateb cwestiynau'r Aelod am gyngor is-bwyllgor yn 2016—nid wyf i'n credu y bydd yr Aelodau yn disgwyl i mi fod â'r atebion i hynny ar flaenau fy mysedd.

O ran y mater o orchuddion wyneb anfeddygol gan aelodau'r cyhoedd, rydym ni'n parhau i drafod gyda'n prif swyddog meddygol ein hunain y cyngor y byddai'n ei roi ar hynny. Mae gennym ni ddiddordeb, wrth gwrs, yn y canllawiau a gyhoeddwyd yn yr Alban ddoe. Ceir manteision ac anfanteision i unrhyw gamau gweithredu. Mae llawer o aelodau'r cyhoedd eisoes yn gwisgo gorchuddion o'r math hwnnw, ac mae'n amlwg yn rhoi hyder i'r bobl hynny ailafael mewn rhannau o fywyd bob dydd. Mae ein prif swyddog meddygol ein hunain, yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gydag ef eisoes, yn cyfeirio at y perygl y gall pobl gymryd sicrwydd ffug o wisgo gorchuddion wyneb o'r math hwnnw. Yn gwbl sicr, pe byddai unrhyw un yn meddwl, â chanddo beswch symptomatig, bod gwisgo mwgwd wyneb yn ei gwneud yn ddiogel i chi fynd allan, ni fyddai'n dilyn cyngor da. Felly, rydym ni'n parhau i drafod gyda'r prif swyddog meddygol. Bydd yn ffurfioli ei gyngor, yn ddi-au, ar ryw adeg, a phan fydd ei gyngor yn ffurfiol, yna wrth gwrs byddaf yn hapus i'w gyhoeddi.

14:10

Beth yw pwynt chwarae gyda'r fframwaith cyfreithiol y mae Llywodraeth a Senedd y DU yn ei bennu ar gyfer Lloegr dim ond i'w wneud ychydig yn wahanol yng Nghymru? Pam mae'n bwysig dilyn rheolau ychydig yn wahanol yng Nghymru nag yn Lloegr? Gwelsom lawer o fusnesau'n cau nad oedd yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny'n gyfreithiol, ac mae llawer o'r rheini'n gweithio'n galed gyda chwsmeriaid, gweithwyr—weithiau gyda'r Llywodraeth—i geisio dod o hyd i ffyrdd o ailagor yn ddiogel, ac maen nhw'n defnyddio eu synnwyr cyffredin eu hunain a'u gwybodaeth eu hunain am eu busnes unigol i wneud hynny. Ac eto yng Nghymru, bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd neidio drwy, cydymffurfio, â rheoliadau cyfreithiol a bennir gan Lywodraeth Cymru, gan Weinidogion a gweision sifil, na fyddant yn deall y busnesau unigol hynny, ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau nid ydyn nhw wedi gweithio mewn busnes eu hunain. Faint o swyddi ydym ni'n mynd i'w colli oherwydd bod cwmnïau'n penderfynu bod ganddyn nhw 20 gwaith yn fwy o fusnes yn Lloegr nag sydd ganddyn nhw yng Nghymru ac nad ydyn nhw eisiau cymryd y risg honno o ran cydymffurfiad â'r rheoliadau cyfreithiol hynny yr ydych chi wedi eu cyflwyno'n benodol i Gymru?

Pam mae pobl yng Nghymru ddim ond yn cael gadael y tŷ i ymarfer unwaith y dydd, ond nad oes gofyniad cyfatebol yn Lloegr? Pam mae'r un geiriau mewn rheoliadau yn ymddangos i olygu rhywbeth gwahanol yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru, na'r hyn y mae'r heddlu yn ei ddweud wrth bobl yn Lloegr y maen nhw'n ei olygu yno? Er enghraifft, pam mae hi'n iawn mynd mewn car i le priodol i ymarfer corff yn Lloegr, ond nid yng Nghymru mae'n debyg? Pam ddylai fod cyfyngiad ar feicio yng Nghymru ond nid yn Lloegr, ei bod hi rywsut yn dderbyniol gwneud hynny fel ymarfer corff dim ond os yw o fewn pellter rhesymol i gartref rhywun?

Ac roedd y gofynion cyfreithiol yn y rheoliadau yr un fath, rwy'n credu, yng Nghymru ar gyfer codi'r gofynion a'r cyfyngiadau eithriadol hyn a roddwyd ar bobl, bod yn rhaid eu codi cyn gynted nad ydyn nhw'n angenrheidiol neu'n gymesur mwyach ar gyfer y risg o ddal haint coronafeirws, ac mae'n rhaid i Weinidogion Cymru wneud hynny. Mae gan Lywodraeth y DU bum prawf, ond maen nhw'n benodol i'r rheini, yn mynd i'r afael â'r materion hynny. Rydych chi wedi cyhoeddi cyfres lawer ehangach o ddulliau yr ydych chi'n dweud sydd wedi'u gwreiddio yng ngwerthoedd Cymru, ond nid yw'n ymddangos eu bod nhw wedi'u gwreiddio yn y gyfraith y mae'n ofynnol i chi ei chymhwyso. Maen nhw'n cynnwys: a yw'r mesur yn cael effaith gadarnhaol uchel ar gydraddoldeb? A yw'r mesurau'n gyson â'ch cynlluniau ar gyfer Cymru fwy cyfartal a gwyrdd a'u hasesiad gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Ac a ydyn nhw'n cynnig cyfleoedd i ehangu cyfranogiad mewn cymdeithas fwy cynhwysol? Heddiw, rydym ni'n credu, beth mae Gordon Brown yn ei feddwl? Pam mae'r pethau hynny yn cael eu cymhwyso yma, ond nid yn Lloegr, i gael allan o'r rheoliadau llym hyn sy'n dinistrio ein heconomi a'n lles?

Wel, Llywydd, mae fel llithro'n ôl nid 20 mlynedd, ond 120 mlynedd. Mae fel pe byddai'r Aelod wedi ysgrifennu'r cofnod enwog hwnnw yn Encyclopaedia Britannica, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr', oherwydd yr ateb i'w gwestiwn yw: pe byddwn i'n cytuno ag ef, beth fyddai pwynt Cynulliad Cenedlaethol Cymru? Beth fyddai pwynt Cymru o gwbl? Oherwydd ei ddadl yn llwyr yw y dylem ni wneud yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud mewn mannau eraill.

Roedd yn anghywir pan ddywedodd, ar y cychwyn, bod Senedd y DU wedi pennu cyfres o reolau yr oeddem ni'n gwyro oddi wrthyn nhw rywsut. Yr hyn a wnaeth Senedd y DU oedd rhoi'r grym i Gymru, i'r Alban, i Ogledd Iwerddon, ac ar wahân i Loegr, wneud rheolau a rheoliadau ar gyfer gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud. A lle mae gennym ni ofynion sy'n wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig—ac rwy'n anghytuno'n llwyr â'r Aelod pan fydd yn cyflwyno Lloegr yn gyson fel y maen prawf y dylid barnu popeth yr ydym ni'n ei wneud yn ei erbyn—pan fyddwn ni'n gwneud pethau'n wahanol i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, rydym ni'n gwneud hynny oherwydd anghenion ac amgylchiadau Cymru.

Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gyflwyno rheolau yn ymwneud â meysydd carafanau a gwersylla. Pam wnaethom ni hynny? Oherwydd ein bod ni'n clywed y neges mor uchel ac eglur o dde-orllewin a gogledd-orllewin Cymru o bobl yn teithio i'r rhannau hynny o Gymru ac yn achosi perygl i iechyd y cyhoedd iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill. Pam yr ydym ni'n dweud, 'Dylech ymarfer corff unwaith y dydd'? Oherwydd bod Gweinidogion ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys, bydd yn falch o glywed rwy'n siŵr, Gweinidogion Lloegr, yn dweud yn gyson wrth bobl, 'Gadewch eich cartref unwaith y dydd ar gyfer ymarfer corff. ' 'Unwaith y dydd' yw'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud; 'unwaith y dydd' yr ydym ni'n ei olygu; 'unwaith y dydd' yw'r hyn y mae ein rheoliadau yn ei ddweud.

O ran y rheol dau fetr, yr wyf i'n credu yr oedd yn cyfeirio ati, yna rwy'n credu y bydd honno'n ased i fusnesau yng Nghymru, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei weld yng ngweddill y byd yw nad yw gwrthdroi rheoliadau, agor pethau a oedd wedi cau yn ystod cyfyngiadau symud, yn rhoi dim sicrwydd y bydd pobl yn dod i ymgymryd â'r gweithgareddau hynny. Gallwch agor canolfan siopa, ac os nad yw pobl yn credu ei bod hi'n ddiogel i fynd yno, ni fydd neb yn dod. Gallwch agor gweithleoedd eto, ac os yw pobl sy'n gorfod gweithio yno yn credu nad yw eu hiechyd a'u llesiant wedi eu hystyried a'u diogelu, byddan nhw'n amharod i fynd i'r fan honno hefyd. Mae ein rheol dau fetr, y mae busnesau cyfrifol yng Nghymru wedi bod yn glynu ati yn fodlon iawn, yn anfon neges at weithwyr yng Nghymru y bydd eu hiechyd a'u llesiant wedi eu hystyried, eu cynllunio a'u rhoi ar waith pan ddaw'n amser i ddychwelyd i'r gweithle, ac y bydd hynny'n gwneud y busnesau hynny'n fwy tebygol o lwyddo na phe na byddem ni wedi gweithredu yn y modd hwnnw.

14:15

Prif Weinidog, mae'n Ddiwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Post heddiw, a tybed a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r holl bostmyn hynny a'u hundeb llafur, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, sy'n gwneud gwaith mor ardderchog drwy gydol y flwyddyn ac sydd, fel gweithwyr allweddol dynodedig yn ystod argyfwng y coronafeirws, wedi gweithio bob awr o'r dydd i wneud yn siŵr bod pob cymuned yn cael ei phost.

Prif Weinidog, mae gen i un pwynt ychwanegol yr hoffwn ei ofyn, ac mae hwnnw'n ymwneud â chyllid llywodraeth leol. Mae'r argyfwng hwn wedi cael effaith ariannol drom ar lywodraeth leol, ac rwy'n deall bod fy awdurdod lleol i, Rhondda Cynon Taf, yn colli tua £2.5 miliwn o incwm y mis. Felly, mae hyn yn deillio o'r amrywiaeth fwy o wasanaethau y mae'r cyngor yn eu darparu a'r incwm llai, er enghraifft, o ganlyniad i gau canolfannau hamdden. Mae llywodraeth leol yn wasanaeth rheng flaen hanfodol sydd, unwaith eto, wedi camu i'r adwy. Mae ymateb Rhondda Cynon Taf, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond yn ystod y llifogydd yn gynharach eleni, wedi bod yn ardderchog, a hoffwn longyfarch y cyngor a'i arweinydd, Andrew Morgan, a'r holl weithwyr yn Rhondda Cynon Taf am yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni a'r hyn y maen nhw'n parhau i'w wneud. Felly, mae'n iawn ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd hanfodol llywodraeth leol, ond mae angen i ni gydnabod hefyd mai dim ond am ryw gyfnod y gellir cynnal y pwysau ariannol presennol ar lywodraeth leol. Hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog: pa sylwadau sy'n cael eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd cynghorau yng Nghymru ac, yn wir, ledled y Deyrnas Unedig, yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnyn nhw i oroesi yn ystod y misoedd nesaf?

Lywydd, diolchaf i Mick Antoniw am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn yn wir o gysylltu fy hun â'r hyn y mae wedi ei ddweud am y gwaith ardderchog y mae gweithwyr post yn ei wneud bob dydd ac y maen nhw wedi ei gynnal yn ystod argyfwng y coronafeirws. Maen nhw'n weithwyr ar y rheng flaen, fel y dywedodd Mick Antoniw, ac rydym ni'n wirioneddol ddiolchgar iddyn nhw am y ffordd y maen nhw wedi cadw'r rhan honno o fywyd arferol i barhau drwy'r argyfwng cyfan.

Mae Mick Antoniw yn llygad ei le, wrth gwrs, am y pwysau ar lywodraeth leol, a gadewch i mi ddweud hefyd fy mod i'n credu bod llywodraeth leol yng Nghymru wedi dangos ei chryfder yn ystod yr wythnosau diwethaf yn darparu gwasanaethau ar y lefel leol honno i bobl lle mae mwyaf o angen. Rydym ni wedi bod yn ffodus iawn, rwy'n credu, i gael llywodraeth leol yng Nghymru dan arweinyddiaeth y Cynghorydd Andrew Morgan, a hynny fel arweinydd Rhondda Cynon Taf, ond hefyd fel arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £110 miliwn yn uniongyrchol ac yn ychwanegol i lywodraeth leol yng Nghymru, gan ragori ar y £95 miliwn yr ydym ni wedi ei gael mewn symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU at yr un dibenion yn Lloegr. Rydym ni'n gweithio gyda CLlLC sydd, ynghyd â'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn cyflwyno sylwadau ar y cyd i Lywodraeth y DU am ragor o gyllid i gymryd y mater o incwm coll i ystyriaeth—mater difrifol iawn i awdurdodau lleol—ac rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan wrth wneud y pwyntiau hynny i gydweithwyr ar lefel y DU hefyd.

14:20

Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar 11 Ebrill ei bod yn gweithio gydag elusennau yn Lloegr i ddarparu £2 filiwn ychwanegol ar gyfer llinellau cymorth a chymorth ar-lein ar gyfer cam-drin domestig. Bron i bythefnos yn ddiweddarach, ysgrifennodd Cymorth i Ferched Cymru at eich Dirprwy Weinidog yn datgan bod gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru wedi mynegi dryswch, rhwystredigaeth a phryder ynghylch pa gyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu mewn ymateb i COVID-19. Felly, ar wahân i'r £1.2 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, pa arian newydd sydd wedi ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru felly ar gyfer y gwasanaethau arbenigol hyn yng Nghymru?

Cyhoeddodd Llywodraeth ei Mawrhydi £200 miliwn o arian newydd ar gyfer hosbisau yn Lloegr, deallir y byddai'r dyraniad canlyniadol i Lywodraeth Cymru yn sylweddol fwy na'r cymorth ychwanegol o hyd at £6.3 miliwn a gyhoeddwyd gennych chi ar gyfer hosbisau yng Nghymru. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd gan hosbisau ledled Cymru na fydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo a chynnal gwasanaethau hosbis hanfodol yng Nghymru?

Lywydd, unwaith eto, rwy'n gwrthod y dybiaeth gyson hon mai ein gwaith ni yng Nghymru yw barnu ein hunain yn erbyn yr hyn y mae rhywun arall yn ei wneud yn rhywle arall. Nid yw'r hyn sy'n digwydd mewn gwahanol ran o'r Deyrnas Unedig yn dempled i Gymru, ac ni ddylem ni gael ein barnu yn erbyn camau y mae pobl eraill yn dewis eu cymryd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n diwallu anghenion Cymru, ac yn cyd-fynd ag amgylchiadau Cymru a'n gallu i ymateb iddyn nhw.

Mae'r mater o drais domestig yn un difrifol iawn. Rydym ni'n gwybod o dystiolaeth ledled y byd bod cynnydd i drais domestig yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud, fel yr ydym ni wedi ei weld. Nid oes neb mewn sefyllfa well na'r Dirprwy Weinidog Jane Hutt, sylfaenydd Cymorth i Ferched Cymru ei hun 30 mlynedd a mwy yn ôl, i fod mewn sgyrsiau gyda'r sector hwnnw i ddeall eu hanghenion ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ymateb iddyn nhw.

Yn wir, rydym ni wedi cyhoeddi £6.3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer hosbisau yng Nghymru. Mae hosbisau yng Nghymru yn cael eu hariannu mewn ffordd wahanol i'r ffordd y maen nhw yn Lloegr. Mae'n rhan bwysig iawn o'n tirwedd yma yng Nghymru, gydag ymdrech wirfoddol enfawr sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr ac sydd wedi cael cefnogaeth dda iawn gan Lywodraeth Cymru drwy'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud, a thrwy'r gwaith y mae'r Farwnes Ilora Finlay wedi ei wneud ar ein rhan. Unwaith eto, rydym ni'n cael trafodaethau cyson, agos a chynhyrchiol, rwy'n credu, gyda'r sector hwnnw yma yng Nghymru, ac rydym ni'n dyfeisio atebion sy'n iawn iddyn nhw ac yn iawn i ni yng Nghymru.

Prif Weinidog, mi fyddwch chi yn ymwybodol iawn fod nifer o ffermydd yng Nghymru, wrth gwrs, yn wynebu trafferthion dybryd yn sgil effaith y coronafeirws ar y sector fwyd. Mae ffermwyr bîff a ffermwyr llaeth yn enwedig yn wynebu colledion eithriadol o hyd at £10,000 y mis mewn nifer o achosion.

Dyw'r busnesau yma ddim yn mynd i allu cario'r lefel yna o golledion a'r lefel yna o ddyledion am yn hir iawn, felly mae gweithredu ar frys ar y mater yma yn rhywbeth allweddol. A dyw'r busnesau yma ychwaith, wrth gwrs, ddim ar y cyfan yn gymwys i gael mynediad at nifer o'r cynlluniau busnes mae'ch Llywodraeth chi eisoes wedi'u cyhoeddi. Felly, fy nghwestiwn i yn syml iawn yw: a wnewch chi fel Prif Weinidog, ac a wnaiff eich Llywodraeth chi, gyflwyno cynllun cefnogi bespoke i ffermwyr Cymru sydd yn ffeindio eu hunain mewn trybini yn sgil y creisis yma? Ac os ŷch chi yn bwriadu gwneud hynny, yna a allwch chi ddweud wrthym ni pryd, oherwydd fel dwi'n dweud, mae amser yn ffactor allweddol yn hyn o beth? Ond os nad ŷch chi yn bwriadu cyflwyno cynllun o'r fath, efallai y gallwch chi esbonio pam.

14:25

Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiynau yna. Jest i ddweud i ddechrau, dwi’n cydnabod y problemau mae’r maes yma yn eu hwynebu yng nghyd-destun coronafeirws. Rydym ni wedi gweithio’n barod, ac rydym wedi bod yn gweithio trwy’r cyfnod, gyda ffermwyr yn y maes llaeth, er enghraifft, i drio ffeindio mwy o ffyrdd iddyn nhw ddefnyddio’r llaeth maen nhw’n ei gynhyrchu bob dydd yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod, lle roedden nhw’n gwerthu llaeth cyn y coronafeirws, dydy’r alwad am laeth ddim yna fel yr oedd hi, ond rydym ni eisiau trio gweithio gyda ffermwyr yng Nghymru i greu cyfleon eraill iddyn nhw ddefnyddio'r llaeth trwy wneud fwy o gaws neu fenyn, neu beth bynnag maen nhw’n gallu ei wneud. Dwi’n gwybod bod y trafodaethau yna’n mynd ymlaen gyda’n swyddogion ni a gydag arweinwyr ffermwyr yma yng Nghymru.

Dwi’n cydnabod yr hyn roedd Llyr Gruffydd yn ei ddweud am ddyledion. Dwi’n siŵr bod lot o bobl yn y maes yn becso am y dyfodol. Dwi’n fodlon siarad, wrth gwrs, gyda Lesley Griffiths am gynllun penodol, fel roedd Llyr Gruffydd yn ei awgrymu, i weld os byddai hwnna’n rhywbeth a allai helpu pobl yn y maes. Os ydyn ni’n gallu tynnu at ei gilydd bopeth rydym ni’n trio ei wneud gyda'n gilydd i helpu pobl yn y maes, dwi’n hollol fodlon i gymryd y cyfle i siarad â’r Gweinidog gyda’r cyfrifoldebau hyn i weld os byddai cynllun o’r fath yna yn help i ddangos beth rydym ni’n ei wneud yn barod a beth rydym ni eisiau ei wneud yn y dyfodol i roi help i bobl yng nghefn gwlad.

A gaf i gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed hyd yma am lywodraeth leol?

Prif Weinidog, roeddwn i eisiau eich holi chi am fusnesau. Mae'r cymorth i fusnesau wedi ei groesawu'n fawr, ond fel y gwyddoch, cynigir y bydd 178 o swyddi'n cael eu colli yn Safran yng Nghwmbrân, ac mae'r diwydiant awyrofod, yn fy marn i, mewn perygl unigryw oherwydd y pandemig hwn, felly hoffwn ofyn i chi am y wybodaeth ddiweddaraf am ba drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Safran ac am eich sicrwydd y byddwch chi'n gweithio gyda Gweinidog yr economi i wneud popeth posibl i geisio achub y swyddi hynny.

Roeddwn i hefyd eisiau holi am gymorth i siopwyr agored i niwed. Mae pethau'n well o lawer gyda'r grŵp a warchodir a siopa ar-lein, ond mae pobl anabl yn dal i gysylltu â mi sydd wedi siopa ar-lein erioed ac nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar slotiau siopa ar-lein erbyn hyn. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud, Prif Weinidog, o ran agor mwy o slotiau i'r siopwyr penodol hynny sydd, er nad ydyn nhw wedi eu gwarchod, angen y cymorth hwnnw? Diolch yn fawr.

Llywydd, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am y ddau bwynt yna. Mae coronafeirws yn argyfwng busnes yn ogystal ag argyfwng iechyd, ac mae hynny'n cael ei deimlo ymhlith rhai cyflogwyr mawr iawn yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod sicrwydd ynglŷn â'r cynllun ffyrlo, fel bod cwmnïau'n gwybod nad yw'n mynd i ddod i ben yn ddisymwth, y gallan nhw barhau i ddal eu gafael ar eu gweithluoedd ac nad oes angen iddyn nhw symud i ddiswyddo, yn allweddol i ymdrin â'r mathau o broblemau y mae Lynne Neagle yn eu nodi yn ei hetholaeth ei hun ond sydd yno mewn sawl rhan arall o Gymru hefyd. Mae'r rheini'n gwmnïau nad ydyn nhw eisiau gadael i'w staff fynd gan eu bod nhw'n colli'r sgiliau y maen nhw eu hunain, mewn llawer o achosion, wedi buddsoddi yn eu tyfu dros flynyddoedd lawer. Ond mae'r cynllun ffyrlo yn dod i ben nid gymaint â hynny o wythnosau o nawr. Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi un estyniad byr iddo; mae angen iddo gyhoeddi estyniadau pellach, yn enwedig i'r sectorau mwyaf agored i niwed, o'r math y mae Lynne wedi eu nodi. Ac rydym ni'n parhau i ddadlau'r achos hwnnw yn eglur iawn iddo. Ond y cwbl y bydd diwedd cyflym a sydyn i'r cynllun ffyrlo yn ei wneud fydd arwain at gostau i Lywodraeth y DU, gan symud o'r cynllun ffyrlo i gostau diswyddo a chostau budd-daliadau. Felly, byddai'n llawer gwell parhau i fuddsoddi i helpu'r cwmnïau hynny i gael dyfodol llwyddiannus, ac, wrth gwrs, byddwn ni'n gwneud yr hyn a allwn ni trwy Weinidog yr economi a'i dîm i helpu mewn achosion penodol.

Cyn belled ag y mae siopwyr yn y cwestiwn, diolch i Lynne am yr hyn a ddywedodd am y gwelliant i'r sefyllfa. Rwy'n credu eu bod nhw'n llawer mwy ffyddiog nawr bod y rhai yn y grŵp a warchodir yn gallu cael mynediad at siopa ar-lein. I bobl y tu allan i'r grŵp hwnnw sy'n canfod nad ydyn nhw bellach yn gallu cael mynediad fel yr oedden nhw, rwy'n credu mai eu canolfan awdurdod lleol yw'r lle cyntaf iddyn nhw gysylltu ag ef. Ac efallai y bydd trefniadau eraill y gellir eu rhoi ar waith lle gall pobl ddal i gael y bwyd sydd ei angen arnyn nhw, a gall pobl anabl ac eraill nad oes ganddyn nhw rwydweithiau cymorth ddibynnu ar y cymorth y gall awdurdodau lleol ei roi iddyn nhw. Efallai na fydd hyn yn digwydd trwy drefniant siopa ar-lein, ond gwirfoddolwr yn mynd i'r siop, yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ac yn ei ddanfon iddyn nhw. Ac yn unol â'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle ac y mae eraill wedi ei ddweud, mae awdurdodau lleol yng Nghymru, rwy'n credu, yn dangos yn llwyddiannus eu bod nhw'n gallu camu i'r adwy lle mae gennym ni bobl agored i niwed nad oes ganddyn nhw rwydweithiau eraill y gallan nhw fanteisio arnyn nhw.

14:30

Prif Weinidog, ers i chi newid y meini prawf ar gyfer y diwydiant hunanarlwyo o ran y grantiau sy'n berthnasol, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi—ffermwyr, asiantaethau gosod—lle mae ganddyn nhw rai unedau hunanarlwyo a dyma eu hunig incwm. Roedd rhai eisoes wedi ei gael, wrth gwrs, cyn i chi gyflwyno'r canllawiau newydd hynny, ac felly fy nghwestiwn i yw: sut gallwch chi gysoni hyn nawr gyda'r rhai nad oes ganddyn nhw incwm yn dod i mewn oherwydd y canllawiau a roddwyd ar waith erbyn hyn? Mae'r safleoedd hynny wedi cau a does ganddyn nhw ddim incwm yn dod i mewn.

Yn gyntaf oll, Llywydd, i sicrhau'r Aelod y bydd unigolion sydd eisoes wedi cael cymorth yn gallu cadw'r cymorth y maen nhw wedi ei gael; nid ydym ni'n ceisio ei adfachu oddi wrthyn nhw. Rydym ni wedi newid y cyngor i lywodraeth leol ynghylch llety hunanarlwyo oherwydd y sylwadau a dderbyniwyd gennym ni gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys ei hawdurdod hi ei hun yng Nghonwy dan arweiniad y Ceidwadwyr, nad oedd y system yn gweithredu yn y ffordd a oedd yn gwneud yn siŵr bod cymorth yn mynd i'r bobl iawn. Felly, y cwbl yr ydym ni'n ei ddweud yw bod pobl sy'n dibynnu ar osod llety hunanarlwyo, lle mae'r incwm y maen nhw'n ei gael o hynny yn amlwg yn rhan sylweddol o'u hincwm, yna os gallan nhw ddangos hynny, gall awdurdodau lleol barhau i roi cymorth iddyn nhw. Ond roeddem ni'n talu miliynau o bunnoedd—dyma a ddywedodd yr awdurdodau lleol wrthym ni—i bobl yr oedd eu hincwm hunanarlwyo yn ychwanegiad ymylol at yr incwm yr oedd ganddyn nhw eisoes; roedd ar ymyl eu hincwm, nid yn ganolog iddo.

Rydym ni wedi ymateb i'r sylwadau hynny. Mae gennym ni gyfres o reolau ar waith yr wyf i'n credu sy'n caniatáu i ni wahaniaethu rhwng pobl a oedd yn dibynnu ar hyn fel eu prif incwm a'u prif fusnes, a phobl nad oedd hyn mor ganolog â hynny i'w hincwm, ac a fydd yn caniatáu i ni ddefnyddio'r arian hwnnw a fyddai fel arall yn mynd i bobl o fantais ymylol i eraill sydd ei angen yn llawer fwy taer. Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn, felly os bydd awdurdodau lleol yn dod o hyd i achosion, yna bydd yr Aelod yn gallu siarad â'i hawdurdod lleol, ac os ydyn nhw o'r farn ei bod hi'n iawn i arfer y disgresiwn hwnnw, maen nhw'n gallu gwneud hynny o dan y rheolau yr ydym ni wedi eu llunio gyda nhw.

Prif Weinidog, ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd eich Llywodraeth newid polisi yn ymwneud â phrofi pobl yn symud o'r ysbyty yn ôl i gartrefi gofal. Tan ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd preswylwyr cartrefi gofal yn symud yn rheolaidd rhwng ysbytai a chartrefi gofal heb gael eu profi, ond mae hynny wedi ei ddatrys erbyn hyn. Ond rwyf i wedi siarad ag un rheolwr cartref gofal sy'n credu ei bod hi'n debygol iawn bod y feirws wedi dod i mewn i'r cartref gofal yn y modd hwnnw, a gwrthodwyd cais i breswylydd gael ei brofi cyn gadael yr ysbyty. Ers hynny mae'r cartref gofal hwnnw wedi dioddef nifer o farwolaethau y maen nhw'n amau eu bod nhw'n gysylltiedig â COVID-19. Ond, Prif Weinidog, o ystyried hyn i gyd a'r ffaith bod data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod marwolaethau o COVID-19 mewn cartrefi gofal yn llawer uwch na'r hyn a feddyliwyd yn wreiddiol, pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni nad yw methiant Llywodraeth Cymru i brofi preswylwyr cartrefi gofal wedi arwain at nifer o achosion a marwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru?

Llywydd, roedd llawer iawn o 'amau', 'efallai' a 'gallai fod' yn y cwestiwn yna. Yr hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru oedd dilyn y cyngor clinigol a gawsom nad oedd profi rhywun sy'n gadael ysbyty heb unrhyw symptomau o coronafeirws, yn mynd i gartref gofal, yn rhywbeth a oedd yn cynnig unrhyw sicrwydd clinigol i chi. Profwyd unrhyw un â symptomau o'r cychwyn. Dim ond pobl nad oedd ganddyn nhw unrhyw arwyddion o gwbl o coronafeirws na chawsant eu profi, a'r cyngor clinigol i ni oedd na fyddai prawf i'r unigolyn hwnnw yn cynnig unrhyw sicrwydd dibynadwy i chi a fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i'r penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud am y person hwnnw.

Y rheswm pam y newidiwyd y canllawiau gennym ni oedd nid oherwydd bod y cyngor clinigol wedi newid, ond oherwydd ein bod ni'n cydnabod yr angen i roi ffydd i bobl yn y sector, bod pryderon am bobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb brawf hyd yn oed pan nad oedd gan yr unigolyn hwnnw unrhyw arwyddion o coronafeirws o gwbl, a chan ein bod ni'n cydnabod y pryderon hynny a'r angen i roi ffydd i bobl yn y sector hwnnw, newidiwyd ein trefniadau fel y bydd pobl sy'n gadael ysbytai, pa un a oes ganddyn nhw unrhyw symptomau o coronafeirws ai peidio, yn cael eu profi cyn iddyn nhw adael erbyn hyn, ac, yn wir, rydym ni'n ymestyn hynny i unrhyw leoliad y mae rhywun yn mynd i gartref gofal ohono—nid o ysbytai'n unig, ond unrhyw le mae rhywun sy'n mynd i gartref gofal yn symud ohono yng Nghymru, y bydd y person hwnnw'n cael ei brofi ar gyfer coronafeirws erbyn hyn. 

Ond i fod yn eglur gyda'r Aelod, mae'r cyngor meddygol a chlinigol yn parhau yr un fath drwy gydol y broses: sef nad yw profi rhywun nad oes ganddo symptomau yn cynnig unrhyw beth defnyddiol i chi wrth wneud y penderfyniadau iawn ar gyfer y person hwnnw. Rydym ni wedi ei wneud oherwydd ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr, i'r bobl hynny sy'n darparu gwasanaeth mor hanfodol i bobl, ac sydd â phryderon, ein bod ni'n gwneud pethau y gallwn ni eu gwneud i roi'r hyder iddyn nhw sydd ei angen i barhau i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol y maen nhw'n ei ddarparu.

14:35

Mae canlyniadau'r cyfyngiadau syfrdanol ar weithgarwch economaidd yn ystod yr wythnosau diwethaf yn debygol o fod yn fwy hyd yn oed na dirwasgiad mawr 1929-31. Mae hynny'n golygu y bydd y sylfaen drethu yn mynd i fod yn sylweddol llai a bydd llai o arian i'w wario ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol. Felly, mae'n hanfodol bwysig bod cyfyngiadau'n cael eu llacio cyn gynted â phosibl. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gymryd i ystyriaeth yr effaith ar y coronafeirws ei hun, ond serch hynny, dylai'r Llywodraeth fynd i gyfeiriad rhyddid economaidd er budd pob un ohonom ni.

Yn hyn o beth, tybed a wnaiff y Prif Weinidog ystyried y gwahaniaeth rhwng Cymru wledig a Chymru drefol. Mae llawer mwy o siawns o ddal y feirws mewn ardaloedd trefol poblog nag mewn ardaloedd gwledig, ac, felly, a allem ni lunio cynllun lle gallwn ni lacio'r cyfyngiadau hyn yn gyflymach mewn ardaloedd gwledig gwasgarog eu poblogaeth nag mewn ardaloedd trefol poblog iawn?

Wel, gadewch i mi ddechrau, Llywydd, drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Neil Hamilton am arwyddocâd y cyfyngiadau yr ydym ni'n gofyn i bawb gadw atyn nhw. Nid wyf yn bychanu o gwbl yr hyn yr ydym ni'n ei ofyn gan bobl. Yr hyn yr wyf i'n anghytuno ag ef yw fy mod i'n credu ei fod eisiau gwrthbwyso'r hyn yr ydym ni'n ei wneud dros iechyd pobl a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud dros yr economi, ac eisiau i ni roi'r economi o flaen iechyd fel pe byddai'r pethau hyn yn cystadlu â'i gilydd. Nid wyf i'n credu bod dim byd gwaeth y gallem ni ei wneud dros yr economi na dileu cyfyngiadau gan arwain at uchafbwynt sylweddol arall o coronafeirws yn ddiweddarach yn y flwyddyn, lle y gallai fod yn rhaid ailgyflwyno'r mesurau llym presennol. Rwy'n credu y byddai hynny'n fwy niweidiol yn economaidd nag ystyried mesurau iechyd ac economi fel rhai law yn llaw yn hytrach na mewn gwrthwynebiad i'w gilydd, a gwneud y peth iawn ar gyfer iechyd pobl yw gwneud y peth iawn ar gyfer yr economi. Ac mae hynny'n golygu gwneud y pethau hyn mewn ffordd sy'n rhoi lens iechyd y cyhoedd yn gyntaf, sy'n ofalus, sy'n bwyllog, sy'n edrych bob amser ar y dystiolaeth o effaith unrhyw gamau yr ydym ni'n eu cymryd, ac sy'n gwneud yn siŵr, wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud—ac rwyf i eisiau symud allan o'r cyfyngiadau symud; rwy'n cytuno ag ef yn hynny o beth bod yn rhaid i ni ddod o hyd i lwybr allan o hyn—ein bod ni'n gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n niweidio ein heconomi ymhellach drwy ganiatáu i'r feirws gylchredeg yn gyflym o amgylch y gymuned eto.  

Rwy'n deall y pwynt y mae Mr Hamilton yn ei wneud ynghylch bod pethau'n wahanol yn y Gymru wledig a threfol, ond mae'r holl negeseuon yr wyf i'n eu cael o gefn gwlad Cymru yn negeseuon o bryder am wneud pethau'n rhy gyflym yno, gan gynnwys caniatáu i lawer o ymwelwyr o rannau eraill o'r wlad lle mae'r feirws wedi bod mewn cylchrediad cyflymach, ddod i'r rhannau hynny o Gymru. Ac os ydym ni'n sôn am agor economi'r Gymru wledig, yna mae'n anochel y byddai twristiaeth ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn gystadleuydd difrifol iawn yn hynny o beth, ac rwy'n credu bod lefel y pryder lleol a allai gael ei greu o wneud hynny yn drech yn fy marn i na rhai o'r dadleuon y gellir eu gwneud dros wahaniaethu rhwng cyd-destunau trefol a gwledig. Byddai pobl yn ofni bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn tanseilio'r union amodau y cyfeiriodd Mr Hamilton atyn nhw, lle nad yw'r feirws yn cylchredeg mewn cymunedau gwledig. Ac er nad wyf i'n diystyru'r ddadl—rwy'n credu ei fod yn cyfeirio at ddadl briodol—mae'n debyg fy mod i'n dod i wahanol gasgliad ynglŷn â sut y dylem ni ymateb iddi.

14:40

Prif Weinidog, rwyf wedi cael llawer iawn o adborth cadarnhaol gan fusnesau yng Nghwm Cynon ynghylch y gronfa cadernid economaidd a sut mae'n cau'r bylchau yn y ddarpariaeth gan Lywodraeth y DU. Ond mae sawl busnes wedi cysylltu â mi hefyd sy'n methu â chael yr arian ar hyn o bryd gan eu bod o dan y trothwy TAW o £85,000. A gaf i ofyn pa waith sy'n cael ei wneud ynglŷn â'r bwlch hwn fel y gall busnesau gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i oroesi?

Ac ar nodyn hollol wahanol, roeddwn i'n falch iawn o weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fwydo disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol drwy gydol cyfnod y coronafeirws. Os dangosir bod y ddarpariaeth hon wedi cyrraedd ei nod, sef sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd, pa ystyriaeth y gellid ei rhoi i weld a ellid darparu gwasanaeth o'r fath 365 diwrnod y flwyddyn, gan adeiladu ar y rhaglen cyfoethogi gwyliau'r ysgol?

Diolch i Vikki Howells am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu bod cymorth i fusnesau yng Nghymru yn fwy eang nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Ac mae'r ffordd yr ydym ni'n defnyddio ein cronfa cadernid economaidd mewn gwirionedd yn llenwi rhai o'r bylchau a oedd yn bodoli ar ôl i Lywodraeth y DU weithredu—ac rwyf bob amser yn dweud wrth grybwyll hynny ein bod yn cydnabod y camau sylweddol y maen nhw wedi eu cymryd i ddarparu cymorth i fusnesau.

Rydym ni wedi oedi'r cynllun o ddydd Llun ymlaen, ac un o'r rhesymau am hynny yw ein bod eisiau edrych i weld a allwn ni ei fireinio. Roedd rheswm da dros ddefnyddio'r mecanwaith trothwy TAW, gan ei fod yn fodd o gael mynediad i'r system sy'n golygu ei bod yn llawer haws i fusnesau gael ein cymorth. Ac un o'r pethau yr oeddem ni'n pryderu amdanyn nhw gyda'n cronfa oedd cael y cymorth hwnnw i fusnesau cyn gynted â phosibl. Un o anfanteision cymorth y DU—sydd, rwy'n cydnabod, yn elfen o'r raddfa y mae'n rhaid iddi weithredu arni—yw bod rhywfaint o'r cymorth hwnnw wedi cymryd amser maith i gyrraedd lle mae ei angen, ac rydym ni yn gwneud ein gorau i gael ein cymorth i ddwylo'r busnesau hynny cyn gynted â phosibl. Mae bod wedi eich cofrestru at ddibenion TAW yn ein galluogi i hepgor llawer o bethau eraill y byddai wedi bod angen i ni ofyn i fusnesau eu gwneud, er mwyn sefydlu eu bod yn fusnes dilys ac felly'n gymwys i gael arian cyhoeddus. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei weld, yn rhan o'r adolygiad, yw a oes unrhyw beth y gallem ni ei wneud i fynd i'r afael â'r mater y mae Vikki Howells wedi ei godi.

Ac unwaith eto, diolch am yr hyn a ddywedodd am brydau ysgol am ddim. Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig—nid wyf yn amau o gwbl y bydd Mr Reckless eisiau gwybod pam y gwnaethom ni unrhyw beth o flaen Lloegr, ond ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i ariannu a gwarantu y byddwn yn darparu prydau ysgol am ddim i blant yng Nghymru yn ystod gweddill yr argyfwng, hyd at fis Medi, gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen cyfoethogi gwyliau'r ysgol.

Ar y cyfan, mae'r coronafeirws yn brofiad eithaf annymunol, ac yn brofiad trist iawn, iawn i lawer o deuluoedd yng Nghymru. Ond bydd rhai pethau y byddwn yn eu dysgu o'r holl brofiad hwn yn wersi cadarnhaol. A'r ffordd yr ydym ni wedi gallu ymateb i blant sy'n agored i niwed, a pharhau i gynnig cymorth iddyn nhw, fydd un o'r agweddau y byddwn ni eisiau edrych arnyn nhw i weld a oes pethau y gallwn ni eu gwneud yn wahanol ac yn well yn y dyfodol.

Brif Weinidog, mi gefais i gyfarfod buddiol iawn efo Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn yr wythnos diwethaf. Ac mi fuaswn i'n licio diolch yn fawr iawn i'r sector am ymateb mor dda i'r sefyllfa anodd y maen nhw ynddi hi, a chymaint o'u haelodau nhw yn wynebu colledion difrifol. Buaswn i wrth fy modd yn eu gweld nhw yn gallu ail-gydio yn eu busnes, ond, wrth gwrs, allwn ni ddim ar hyn o bryd. 

Mae yna ŵyl y banc ar y ffordd y penwythnos ar ôl nesaf. Gallwn ni ddim fforddio agor y llifddorau ar y penwythnos hwnnw, felly, gaf i wahodd y Prif Weinidog i wneud datganiad clir na fyddwn ni, mewn unrhyw ffordd, yn llacio rheoliadau a allai wneud i bobl feddwl bod yna groeso iddyn nhw ddod yn ôl i Gymru i dreulio amser mewn ardaloedd hardd fel sydd gennym ni yma? At eto mae hynny. Felly, a gawn ni'r datganiad yna os gwelwch yn dda?

14:45

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y pwynt pwysig yna. Fel y dywedais i wrth Neil Hamilton: wrth gwrs ein bod ni'n meddwl am fusnesau twristiaeth ledled Cymru a dwi'n gwybod, achos rwy wedi clywed oddi wrth nifer o bobl yn y sefyllfa yna a'r problemau maen nhw'n eu hwynebu, ond i mi, dyw'r ateb ddim jest i agor pethau heb gael popeth yn ei le cyn rŷn ni'n gallu bod yn hyderus bod gwneud hynny ddim yn mynd i greu problemau yn y maes iechyd, wrth gwrs.

Dwi wedi clywed beth ddywedodd y comisiynydd heddlu yn y gogledd am wŷl y banc, a dwi'n siarad gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig am y pwynt yna. Achos, fel yr oedd Rhun yn ei ddweud, rŷn ni'n gallu dweud a gwneud rhywbeth yma yng Nghymru, ond mae'n bwysig i gael y neges yna i bobl eraill. Dydyn ni ddim eisiau gweld pobl yn teithio i mewn i Gymru dros ŵyl y banc a chreu'r problemau rŷn ni'n gwybod y bydd hwnna'n eu creu. A mae'n bwysig i gael y neges yna allan, nid jest yma yng Nghymru ond y tu allan i Gymru hefyd. Dyna pam rŷn ni'n siarad gyda Llywodraethau eraill—i ddweud yr un peth wrth ein gilydd.

Ymddiheuraf am y mater technegol a'm rhwystrodd rhag ymuno pan ddylwn i fod wedi gwneud. Mae hynny wedi'i ddatrys nawr, fel y gallwch chi weld. Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy anobaith weithiau bod yn dal i fod rhai pobl sy'n credu y dylem ni, yng Nghymru, ein cymharu ein hunain â Lloegr bob amser? Tua 20 mlynedd yn ôl, gwelais ohebiaeth gan y prif swyddog meddygol ar y pryd yn rhybuddio am beryglon y cysylltiad rhwng enseffalopathi sbyngffurf buchol—BSE—a chlefyd Creutzfeldt-Jakob—CJD—a'r ymateb gan ei swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU yn y bôn oedd, 'rydych chi yng Nghymru; gwnewch fel yr ydym ni'n dweud'—geiriau i'r perwyl hwnnw. Pa mor drist yw hi bod yr hyn sydd yn deillio o gymhleth israddoldeb—mae'n rhaid bod Lloegr rywsut yn well—yn dal i fod gyda ni. Gallem ni ddadlau, wrth gwrs, mae'r hyn y mae Lloegr wedi ei wneud mewn gwirionedd yw ymwahanu oddi wrth Gymru ac nid y ffordd arall.

A gaf i droi eich sylw at y profi? O'r hyn yr wyf yn ei ddeall, felly, rydych chi'n dweud mai prin yw gwerth clinigol profion oni bai bod pobl yn cael eu profi yn ddyddiol. Felly, nid yw cynnig prawf i rywun am ei fod mewn grŵp agored i niwed o unrhyw werth o gwbl oni bai bod yr un unigolyn yn cael ei brofi bob dydd er mwyn gweld a oes ganddo'r feirws, os nad oes ganddo symptomau pan gynhelir y prawf cyntaf.

Yr ail bwynt yw hyn: fe ddaw amser pan fydd hyn i gyd wedi dod i ben ac rydym yn gobeithio, wrth gwrs, y daw'r amser hwnnw ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach, ond i'r rhai ohonom ni sy'n cofio cwymp y banciau yn 2008, pryd y cymerodd bancwyr gynilion yr oedd pobl wedi llafurio i'w hel a mynd â nhw, i bob pwrpas, i gasino bancio a'u taflu i ffwrdd, cawsant eu hachub gan bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus—y bobl hynny sydd nawr yn gweithio'n galed iawn ar gyflogau pitw; y bobl hynny sydd wedi rhoi eu holl amser—oriau lawer iawn, bob un dydd—i achub bywydau a gofalu am bobl. Nhw oedd y bobl drwy rewi eu cyflogau a thrwy gyni cyllidol a orfodwyd i dalu am yr hyn yr oedd pobl eraill wedi ei wneud. A allwch chi roi sicrwydd i mi, Prif Weinidog, pan fo hyn ar ben, na fydd y bil ar gyfer yr arian a fenthycir gan Lywodraeth y DU yn syrthio'n anghymesur ar ysgwyddau gweithwyr yn y sector cyhoeddus sy'n gweithio mor galed, ond yn hytrach, y byddwn yn edrych ar bêl-droedwyr â chyflogau breision; y byddwn yn edrych ar fusnesau mawr, y mae llawer ohonyn nhw—mae rhai ohonyn nhw yn gwneud—ond mae llawer ohonyn nhw nad ydynt yn talu eu cyfran deg o dreth, ac y byddwn yn cymryd y mater o osgoi trethi o ddifrif er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r cefn mwyaf llydan yn gallu talu yn y dyfodol a hefyd nad yw'r rhai sy'n rhoi cymaint ar hyn o bryd yn cael eu cosbi, o gofio'r ffaith eu bod yn achub cymaint o fywydau?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Carwyn am y tri phwynt yna? Rwyf innau yn rhannu ei anobaith am yr agwedd 'gwnewch fel yr ydym ni'n dweud' at ddatganoli. Ond, yn bersonol, dydw i erioed wedi bodloni ar y syniad bod datganoli yn ymwneud â chymariaethau cystadleuol gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae yn ymwneud yn llawer, llawer mwy â phob un ohonom ni yn gwneud y pethau sydd yn ein tyb ni yn iawn yn ein lleoedd ein hunain a dysgu oddi wrth ein gilydd yn yr arbrawf y mae hynny yn naturiol yn ei greu.

Mae Carwyn yn gwneud sylw pwysig iawn am brofi. Os nad oes gennych chi symptomau heddiw, nid yw hynny'n golygu na fyddwch chi wedi cael y feirws erbyn yfory. Os ydych chi'n mynd i geisio â chael unrhyw werth mewn profi pobl nad oes ganddyn nhw symptomau, byddai'n rhaid i chi ei wneud bob dydd, ac mae'r rheini yn brofion sy'n cael eu tynnu i ffwrdd wedyn oddi wrth y bobl y mae gwir angen eu profi pryd y gellir dod i gasgliadau priodol. Felly, rwy'n deall bod pobl rywsut yn credu bod cael prawf yn rhoi ateb i chi ac yn creu cyfres o bethau pendant, ond nid yw hynny'n wir os nad ydych chi'n defnyddio'r profion yn y ffordd gywir, ac rydym ni'n ceisio eu defnyddio yn y ffordd gywir yma yng Nghymru.  

Ac a gaf i gloi, Llywydd, drwy adleisio popeth a ddywedodd Carwyn Jones yn ei sylwadau olaf? Mae'n adleisio dadl a wnaeth yn ystod 10 mlynedd o gyni na ddylai pris argyfwng y banciau gael ei lwytho ar ysgwyddau'r rhai sy'n lleiaf abl i'w oddef. Ac eto, dyna'n union a welsom ni: pobl na chynyddwyd eu budd-daliadau flwyddyn ar ôl blwyddyn; pobl y cadwyd eu cyflogau i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn; yr holl bobl hynny sy'n gwneud yr holl bethau y bu'n rhaid i ni eu gwerthfawrogi yn ystod yr argyfwng hwn nad oedden nhw yn cael eu gwerthfawrogi o gwbl. Ac ni allwn ni ac ni ddylem ni ganiatáu i Lywodraeth y DU gredu mai'r ateb i'r gwario, angenrheidiol a phriodol, a wnaed er mwyn ymdrin â'r coronafeirws, yw ei adfachu drwy ailgyflwyno cyni, lle mae'r holl gostau'n disgyn ar yr holl bobl hynny sydd wedi gwneud y mwyaf i'n helpu ni i ddod drwy hyn gyda'n gilydd.  

14:50
3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar coronafeirws eto, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. 

Diolch, Llywydd. Bydd Aelodau, wrth gwrs, yn gwybod fy mod wedi ymrwymo i roi gwybod ichi am y datblygiadau o ran COVID-19, a dyma fy natganiad diweddaraf i wneud hynny.

Mae her y coronafeirws ymhell o fod ar ben. Rydym ni wedi llwyddo i sicrhau nad yw ein GIG wedi cael ei lethu, ond rydym yn parhau i weithredu mewn amgylchedd ansicr, a bydd hynny'n parhau am beth amser. Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r GIG a'n systemau gofal cymdeithasol weithredu gyda COVID-19 fel her fythol-barhaus hyd y gellir rhagweld. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus a pharhau i ddefnyddio'r dystiolaeth a'r cyngor gwyddonol gorau wrth i ni gynllunio gwasanaethau ar y dyfodol. Heddiw, fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am nifer o ddatblygiadau pwysig.

Mae'n rhaid i ni fynd ati mewn modd na welwyd erioed o'r blaen i gynyddu pob agwedd ar weithgarwch y GIG i ymdopi â dyfodiad COVID-19. Mae hynny'n golygu staff, gwelyau, meddyginiaethau, cyfarpar a mwy i gynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf bosibl er mwyn darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y rhai y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Roedd hynny, wrth gwrs, yn golygu y bu'n rhaid i mi wneud y penderfyniad cyntaf yn y DU i ohirio ystod eang o weithgareddau dewisol eraill y mae'r GIG ynghlwm â nhw.

Rydym wedi gorfod ystyried yn ofalus sut y gellir darparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfnod hwn. Heb hynny, mae peryg sylweddol y gallai marwolaethau anuniongyrchol a niwed difrifol gynyddu'n sylweddol. Bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i gydbwyso'r gofynion hynny, ac unwaith eto, bydd hynny'n parhau am beth amser. Bydd ein fframwaith moesegol, fodd bynnag, yn ganllaw i'n helpu gyda phenderfyniadau.

Ar ddiwedd mis Mawrth, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd ganllawiau gweithredol dros dro ar gyfer cynnal gwasanaethau iechyd hanfodol yn ystod yr haint. Mae'r canllawiau hynny'n sail i sut yr ydym ni ein hunain yn mynd ati i gynnal gwasanaethau nawr ac wrth ystyried unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud yn y dyfodol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn awgrymu, wrth ddewis blaenoriaethau o'r fath, y dylai ganolbwyntio i ddechrau ar atal clefydau trosglwyddadwy, yn enwedig drwy frechu; gwasanaethau sy'n gysylltiedig â gofal yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth, iechyd atgenhedlol a gofalu am bobl sy'n agored i niwed, fel babanod ifanc ac oedolion hŷn; darparu meddyginiaethau a chyflenwadau i reoli clefydau cronig yn barhaus, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl; a pharhad therapi cleifion mewnol hanfodol a rheoli'r niferoedd hynny sy'n cyrraedd unedau brys ac aciwt y mae angen ymyrraeth heb oedi arnynt; a'r un mor bwysig, gwasanaethau fel delweddu diagnostig, gwasanaethau labordy a gwasanaethau banc gwaed.

Mae hyn yn amlwg yn gymhleth, ond y prif flaenoriaethau yw lleihau niwed a phennu lle mae angen gofal mewn hyn a hyn o amser. Ceir atebion arloesol a byddant yn parhau i gael eu canfod, gan gynnwys darparu'r atebion hynny yn ddigidol a chyda TG, yn ogystal ag ystyried atebion rhanbarthol, er enghraifft ar gyfer trin canser. Fodd bynnag, mae angen o hyd i gydbwyso risg a manteision cael triniaeth ar hyn o bryd, gan gynnwys, fel y dywedais, er enghraifft, pobl â chanser. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei benderfynu i raddau helaeth yn unigol rhwng y claf a'r clinigwr sy'n ei drin.

Rydym yn ymwybodol iawn, ac yn pryderu, fel yr wyf wedi mynegi o'r blaen, ynghylch gostyngiad yn y defnydd o wasanaethau gofal brys a gwasanaethau brys. Mae yna berygl gwirioneddol o niwed i bobl a allai fod â salwch difrifol ond nad ydynt yn ffonio 999 nac yn dod i adrannau achosion brys fel y dylent, neu yn wir yn cael gofal brys wedi'i drefnu.

Hyd yn hyn, ym mis Ebrill 2020, rydym ni wedi gweld gostyngiad o 29 y cant mewn ambiwlansys yn cludo cleifion i'r ysbyty o gymharu â'r un cyfnod ym mis Ebrill 2019. Mae nifer cyfartalog beunyddiol y cleifion sy'n dod i'n hadrannau achosion brys wedi gostwng 50 y cant, a'r derbyniadau brys i'r ysbyty 35 y cant yn llai ym mis Ebrill o gymharu â mis Chwefror eleni, cyn i COVID-19 daro Cymru. Mae clinigwyr yn ein hadrannau achosion brys yn dweud bod cynnydd yn nifer y bobl sy'n bryderus neu yn drallodus eu hysbryd ar ôl cyrraedd yr ysbytai, a phobl a ddaw yn hwyrach nag y dylent yn dangos cymhlethdodau iechyd ychwanegol.

Felly, rwy'n annog pobl sy'n ddifrifol wael ac y mae arnyn nhw angen cyngor neu driniaeth frys i ddefnyddio gwasanaethau GIG Cymru, oherwydd mae ein clinigwyr a'n gweithwyr iechyd proffesiynol yn dal yno i chi. Dylai pobl sy'n pryderu ynghylch mynd i adrannau achosion brys fod yn dawel eu meddwl y cânt eu sgrinio wrth gyrraedd, ac y cânt hefyd eu gwahanu oddi wrth unrhyw gleifion sydd â symptomau COVID-19. Erbyn hyn mae protocolau a llwybrau sefydledig ar draws y system gofal brys ac argyfwng i sicrhau'r diogelwch mwyaf a chyfyngu lledaeniad y feirws.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi bod angen datblygu trefn ar gyfer ailgyflwyno gwasanaethau yn raddol a fesul cam. Bydd hyn yn ystyriaeth bwysig arall er mwyn llywio cynlluniau adfer lleol a chenedlaethol. Bydd angen i unrhyw gynlluniau o'r fath sicrhau y gallwn ni ailgyflwyno capasiti ymchwydd yn hyblyg ac yn gyflym, yn ogystal â chynnal gwasanaethau hanfodol os ceir uchafbwynt pellach yn nhrosglwyddiad y feirws. Yn ddealladwy, mae'r rhain yn sefyllfaoedd anodd i gynllunio ar eu cyfer, ac rwyf eisiau diolch eto i staff y GIG a'r rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau partner sy'n parhau i ymateb i her eithriadol y digwyddiad hwn na welwyd ei debyg ers canrif.

Mae cyfarpar diogelu personol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i mi er mwyn cadw ein staff yn ddiogel ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gallaf gadarnhau ein bod wedi dosbarthu dros 60 miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol o 9 Mawrth tan 26 Ebrill at ddefnydd staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, gyda dros 12 miliwn o eitemau wedi'u darparu at ddefnydd staff rheng flaen yn benodol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Y penwythnos diwethaf, cawsom fygydau o Tsieina i storfeydd cydwasanaethau'r GIG. Mae cyfarpar diogelu personol sydd i'w ddefnyddio mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal cymdeithasol yn cael eu rheoli gan y gwasanaethau cymdeithasol lleol sy'n adnabod eu hardal ddaearyddol eu hunain ac sy'n gallu cydlynu'r broses o flaenoriaethu dosbarthu. Ddoe, fel y gwyddom ni ac o'r lluniau a welsom ni, cyrhaeddodd cyflenwadau hanfodol o gyfarpar diogelu personol ar gyfer ein gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yng Nghymru Faes Awyr Caerdydd. Roedd yr awyren i Gymru yn cario 200,000 o ynau atal hylif o Cambodia. Yn gyfan gwbl, yr wythnos hon, rydym yn disgwyl y bydd 660,000 o ynau yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd, o Phnom Penh yn Cambodia ddoe, ac ar ehediad diweddarach yr ydym yn disgwyl yn ddiweddarach yr wythnos hon o Hangzhou yn Tsieina.

Yn ogystal â chymryd y mentrau hyn o ran caffael cyfarpar diogelu personol i Gymru, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda gwledydd eraill y DU drwy drefniadau cymorth ar y cyd ac i sicrhau y gellir cael cyfran deg o gyfarpar diogelu personol i'r DU gyfan.

O ran profi, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod profion ar gael yn awr hefyd i weithwyr hanfodol ac aelodau o'u teulu os oes amheuaeth bod ganddyn nhw COVID-19. Mae modd cynnal mwy na 2,000 o brofion y dydd erbyn hyn, ond rydym yn gweithio'n galed i gynyddu'r nifer hwnnw ac i sicrhau y manteisir ar yr holl brofion sydd ar gael cyn belled â phosib.

Er mwyn parhau i ehangu ein rhaglen brofi, rydym yn agor canolfannau profi lle gellir cynnal profion lluosog ar bobl yn eu cerbydau, yn ogystal â chanolfannau Caerdydd a Chasnewydd a'r canolfannau profi cymunedol sydd eisoes ar waith. Felly, yr wythnos hon, o heddiw ymlaen, mae mwy o ganolfannau profi yn Llandudno, ac o yfory ymlaen rydym ni'n disgwyl i ganolfan Caerfyrddin fod ar agor. Bydd canolfan arall ar agor yn fuan, ac mae hynny'n debygol o fod yn ardal Merthyr, ac rydym ni hefyd yn ystyried sut y gallwn ni gynyddu capasiti yng Ngheredigion, Sir Benfro a Phowys. Mae ein dull yn cynnwys model prif ganolfan a lloerennau gydag unedau symudol ar waith i roi mwy o hyblygrwydd a gwasanaethu mwy o ardaloedd.

Nawr, fel yr wyf wedi'i wneud yn glir ar sawl achlysur, mae staff cartrefi gofal a thrigolion wedi bod yn flaenoriaeth i ni erioed, ac rydym ni eisoes wedi ehangu'r profion yn y sector cartrefi gofal. Rwyf eisiau bod yn siŵr ein bod yn gwneud popeth sydd angen ei wneud i gadw staff a phreswylwyr yn ddiogel. Felly, i'r perwyl hwnnw, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi y byddwn yn profi'r rheini sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartrefi gofal, p'un a oes ganddyn nhw symptomau ai peidio, gan amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed ymhellach, ac, yn hollbwysig, gan roi ffydd i'r sector cartrefi gofal i ganiatáu rhyddhau pobl o ysbytai pan nad dyna'r lle priodol bellach i roi gofal a thriniaeth i bobl. 

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i fonitro ac ymateb i nifer yr achosion o'r coronafeirws mewn cartrefi gofal a byddwn yn adolygu'r canllawiau i gartrefi gofal ymhellach yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Nawr, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o gynlluniau'r DU a gyhoeddwyd neithiwr i ehangu'r profion mewn amrywiaeth o feysydd. Fel yr wyf wedi dweud ar sawl achlysur, byddwn yn parhau i ehangu nifer y profion sydd ar gael ac i gadw golwg ar ein strategaeth brofion yn seiliedig ar y dystiolaeth. Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o ddiweddariadau yn rheolaidd.

Yn anffodus, rydym yn dal i weld marwolaethau bob dydd. Mae pob un yn golled drist i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau y mae hyn yn effeithio arnynt. Mae deall a chydnabod niferoedd y bobl sy'n marw yn bwysig i bob un ohonom ni, gan gynnwys Gweinidogion. Ddoe, cyhoeddwyd adroddiad gennym ni yn dilyn canfod nifer sylweddol o farwolaethau ar 23 Ebrill na roddwyd gwybod i Iechyd Cyhoeddus Cymru amdanynt. Mae'r camau gweithredu a grybwyllwyd yn yr adroddiad a gyhoeddais ddoe eisoes wedi'u rhoi ar waith, ac, wrth gwrs, cawsant eu trafod yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach.

Ddoe, safodd llawer ohonom mewn tawelwch am funud i gofio am weithwyr sydd wedi colli eu bywydau i'r coronafeirws neu ddamweiniau neu afiechyd yn gysylltiedig â'u gwaith. Ddydd Llun, cyhoeddais y bydd gan deuluoedd GIG Cymru a gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n marw wrth eu gwaith o ganlyniad i COVID-19 yr hawl i gael cymorth ariannol gyda thaliad o £60,000. Mae hynny'n ychwanegol at unrhyw drefniadau pensiwn eraill sy'n bodoli eisoes. Rwy'n gwybod fod ein gweithwyr rheng flaen yn mynd uwchlaw a thu hwnt i ofalu am gleifion sy'n agored i niwed bob dydd, ac mae'r cynllun hwn yn rhoi cydnabyddiaeth gyfartal i staff ar draws y maes iechyd, gofal cymdeithasol a fferylliaeth gymunedol. Mae'n darparu rhwyd achub ar gyfer staff cymwys sydd wedi darparu gwasanaethau rheng flaen ac na fyddant efallai, o bosib, wedi bod yn gymwys i ymuno â'r cynllun pensiwn neu wedi penderfynu peidio â gwneud oherwydd fforddiadwyedd, ond hefyd i'r rhai sydd eisoes mewn cynllun pensiwn. Gobeithio y bydd hyn o ryw gymorth yn ystod cyfnod anodd, er fy mod, wrth gwrs, yn cydnabod nad yw cyfandaliad yn cydnabod colli bywyd.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn rheolaidd er mwyn rhoi sicrwydd i aelodau am y mesurau a weithredir ledled y system iechyd a gofal i fynd i'r afael â COVID-19, felly yn ogystal â'r craffu gan y pwyllgor, sy'n ailgychwyn, bydd cyfle rheolaidd, nid yn unig i gael gwybodaeth, ond i fy holi. Rwy'n parhau i annog pobl ym mhobman i ddilyn y canllawiau, i aros gartref, i aros yn ddiogel, i helpu i warchod ein GIG, ac i achub bywydau.  

15:00

Diolch am eich datganiad. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi pryderon ers canol mis Mawrth ynglŷn â nifer y marwolaethau yn ein cartrefi gofal yma yng Nghymru, ac yn arbennig yn fy etholaeth i, sef Aberconwy. Rwyf yn cofio i'r farwolaeth gyntaf gael ei chofnodi yma yn Aberconwy ar 13 Mawrth.

Nawr, o'r 302 o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru, mae 109 wedi'u cofrestru fel rhai sydd wedi digwydd, yn drist iawn, oherwydd COVID-19. Gwyddom am sefyllfa'r cartref gofal yng Nghasnewydd a gollodd 15 o drigolion mewn un mis yn unig, er bod gan 14 ohonyn nhw beswch symptomatig a thymheredd uchel, dim ond dau ohonyn nhw a gofnodwyd ar y tystysgrifau marwolaeth fel rhai a oedd â COVID-19.

Croesawaf eich datganiad a'r sôn y byddech ar ryw adeg yn hoffi gweld pob preswylydd mewn cartrefi gofal—profion ar gael i bawb, ond a wnewch chi ddweud pryd yr ydych yn disgwyl i brofion gael eu darparu i bob preswylydd cartref gofal heb symptomau? Ers imi fod yn y cyfarfod yma heddiw, rwyf wedi cael nifer o negeseuon e-bost gan berthnasau pryderus, gweithwyr gofal pryderus, oherwydd rwy'n ofni bod dim ond profi pobl sy'n dod o'r ysbyty—sy'n gynnydd gwych, mae'n rhaid imi ddweud; rwyf wedi codi pryderon ynghylch hyn—mae'n rhaid profi mwy o breswylwyr a chartrefi gofal. Mae'n rhaid gwneud hynny, ac os ydych yn siarad ag unrhyw un yn y sector gofal cymdeithasol, mae amgylchedd cartref gofal yn wahanol iawn i leoliad ysbyty, felly mae'r preswylwyr yno yn eithaf agored i niwed. Hefyd, hoffwn wybod—o gais gan gartref gofal, nawr—ar hyn o bryd am brofion COVID-19, pa mor hir a gymer hi i wneud y prawf hwnnw ac i'r canlyniadau gael eu danfon yn ôl?

Mae rhai cartrefi gofal wedi colli cynifer â 60 y cant o'u preswylwyr am ryw reswm neu'i gilydd ac mae defnydd gwelyau mor isel ag 20 y cant. Roedd angen i'r ffigurau fod yn hyfyw ac yn gynaliadwy—mae'n rhaid bod ganddynt ddeiliadaeth o 90 y cant. Mae rhai yn troi at—

15:05

Janet Finch-Saunders, mae angen ichi ddod at eich cwestiwn olaf.

Iawn, o'r gorau. Mewn datganiad ysgrifenedig ar y £40 miliwn o gymorth ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, fe wnaethoch chi ddweud y gellid o bosib gwneud dyraniadau pellach. A wnewch chi weithredu ar hyn fel y gall cartrefi sydd mewn peryg o gau gael gafael ar fwy o gyllid?

Diolch am y gyfres o gwestiynau. O ran y sylw am gymorth ariannol, mae'r sefyllfa fel y nodwyd yn fy natganiad cychwynnol: wrth ddarparu gwerth £40 miliwn o gymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, byddwn yn parhau i adolygu'r ddarpariaeth. Rydym ni eisoes yn cael sgyrsiau uniongyrchol rhwng fy swyddogion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac aelodau o'r sector cartrefi gofal annibynnol ynghylch y math o gymorth y gellid ei ddarparu ac ar ba sail. Nid yw'n fater syml mewn gwirionedd, ond yn amlwg mae'n bwysig i mi fod cartrefi gofal yn parhau mewn busnes. Nid mater o gynnal rhan o'r sector busnes yn unig yw hynny—maen nhw mewn sefyllfa wahanol i fusnesau eraill, gan fod y rhain yn fusnesau sy'n gofalu am rai o'n pobl fwyaf agored i niwed.

O ran gweddill eich ystod o gwestiynau am y sector cartrefi gofal yn bennaf, rydym ni eisoes yn adrodd yn rheolaidd, mae gennym ni ymrwymiad i adrodd yn rheolaidd, ac rwyf wedi cadarnhau hyn yn gynharach yr wythnos hon. Dyna'r gwaith yr ydym yn ei wneud o fewn Llywodraeth Cymru, gyda'n prif ystadegydd a chyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Bydd adroddiadau cyhoeddus rheolaidd bob wythnos am yr hyn yr ydym yn ei ddeall yw'r sefyllfa, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig o ran sicrwydd a sicrhau ein bod yn agored a thryloyw. 

O ran profi pobl heb symptomau, gwyntyllwyd hyn yn bur drwyadl yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn ei ddatganiad, felly rwyf yn ailadrodd eto, os ydych yn profi pawb yn y sector cartrefi gofal, nid yw'n rhoi'r sicrwydd y gall pobl fod yn ei geisio, oherwydd gallai'r un bobl fod â symptomau neu heb symptomau ond fod â'r cyflwr arnyn nhw drannoeth ar ôl cael prawf negyddol, ac mae angen i ni ddeall defnyddioldeb a diben y gyfundrefn brofi yr ydym yn ei gweithredu.

Fodd bynnag, ceir cwestiwn—ac rwyf wedi trafod hyn heddiw gyda'r prif swyddog meddygol—ynghylch a ddylem ni adolygu ein strategaeth brofi ai peidio, yn seiliedig nid yn unig ar sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu, ond ar y dystiolaeth ynghylch defnyddioldeb prawf os canfyddir fod COVID-19 ar rywun mewn cartref gofal wedi iddo gael ei brofi, ac a oes angen inni wedyn brofi staff neu breswylwyr eraill, ac os felly, ar ba sail? O ran yr amser y mae'n ei gymryd o'r atgyfeirio i'r prawf, rwy'n falch iawn o ddweud mai'r dystiolaeth yr ydym ni wedi'i chael gan lywodraeth leol ac yn wir y dystiolaeth sy'n gwella'n barhaus o'r sector cartrefi gofal annibynnol yw eu bod yn llawer cyflymach a bod pobl yn cael eu hatgyfeirio ac yna eu profi ar yr un diwrnod fel mater o drefn. Ac rwy'n gobeithio bod hynny'n ddefnyddiol iawn o ran rhoi'r sicrwydd y mae angen i'r sector a'r cyhoedd ehangach ei glywed, oherwydd, fel y dywedais, mae hwn yn fater o wir flaenoriaeth i'r Llywodraeth a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Roedd hwnna mewn gwirionedd yn gysur mawr. Mae a wnelo fy ail gwestiwn yn fwy ag iechyd. Mae gennyf nifer o etholwyr yn cysylltu â mi mewn angen dybryd am wasanaethau deintyddol, rhai mewn poen eithaf difrifol. Mae'r deintyddion yn dymuno gwneud y driniaeth, ond nid oes ganddyn nhw'r cyfarpar diogelu personol angenrheidiol i wneud hyn. Felly, pa ganllawiau—sut ydych chi'n helpu'r rhai hynny yn ein proffesiwn deintyddiaeth i allu parhau i gynnal gwasanaethau deintyddol?

15:10

Wel, o ran deintyddiaeth, gwyddom eu bod wedi gorfod cau, ar wahân i driniaethau brys, ond os ydynt yn ymgymryd â gwaith contract gyda'r GIG yna dylai'r cyfarwyddyd ynglŷn â chyfarpar diogelu personol fod yn berthnasol. Os oes yna enghreifftiau penodol i mi fynd i'r afael â nhw, byddwn yn gwerthfawrogi pe bai'r Aelod, neu eraill, yn gallu rhoi'r manylion hynny i mi, oherwydd ni ddygwyd mater sy'n effeithio ar yr holl sector deintyddiaeth i fy sylw yn y gorffennol. Ond, fel erioed, rwyf bob amser yn fodlon i edrych ar y dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad a hyd yn oed ar achosion unigol i weld beth y gallem ni ac y dylem ni ei wneud i ddatrys hynny. Ond, yn amlwg, roeddwn i'n disgwyl y byddai Aelodau, wrth gynrychioli etholwyr, wedi cysylltu'n gyntaf â'u bwrdd iechyd lleol i ddeall sut y caiff cyflenwadau cyfarpar diogelu personol eu rheoli ym mhob rhan o'r sector iechyd.

Fe wnaf i ddechrau gyda dau gwestiwn byr ynglŷn â pheiriannau anadlu ac ocsigen. Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau, o'r 461 o beiriannau anadlu mewnwthiol a oedd fod i ddod i Gymru o dan drefniadau'r DU, fod 46 wedi'u danfon. Ar 9 Ebrill, codais bryder gyda'r Gweinidog a'r Prif Weinidog—a ddygwyd i'm sylw gan feddygon, dylwn ddweud—fod peiriannau anadlu a glustnodwyd ar gyfer Cymru wedi mynd i ysbytai maes yn Lloegr. Nawr, dywedwyd wrthyf nad yw hynny'n wir o gwbl. Rwy'n gwybod nawr y dywedir wrthym ni nawr nad oes angen y peiriannau anadlu hynny arnom ni, ond a all y Gweinidog ddweud wrthym ni i ble'r aeth yr holl beiriannau anadlu hynny a oedd fod i ddod i Gymru? Yn ail, ysgrifennais yn gyntaf at y Gweinidog ar 28 Mawrth yn dadlau o blaid rhoi ocsigen yn gynharach i gleifion oedd â COVID-19 arnyn nhw, yn hytrach na dilyn y protocolau sy'n dal i fod ar waith, sydd yn y bôn yn gofyn i bobl aros nes eu bod yn sâl iawn cyn mynd i ysbyty, ac i lawer mae eisoes yn rhy hwyr bryd hynny, ac mae tystiolaeth ryngwladol yn eithaf cadarn y gall ymyrryd yn gynnar achub bywyd. A wnaiff y Gweinidog ofyn am adolygiad brys o faint o gleifion, yn anffodus, a gollodd eu bywydau hyd yma yng Nghymru, a gafodd gynnig ymyrraeth gynnar, fel y gallwn ni geisio dysgu oddi wrth hynny a helpu cleifion yn y dyfodol?

O ran y sylw olaf a wnaethpwyd yn y fan yna, ynglŷn â darparu triniaeth ocsigen yn gynharach i gleifion, mae'n fater yr ydym ni wedi'i drafod. Mae'n fater yr ydym ni wedi cael gohebiaeth glinigol yn ei gylch—nid llythyrau gan Mr ap Iorwerth yn unig—ac mae'n fater y mae ein clinigwyr yn mynd ati i'w ystyried. Felly, byddaf yn trafod y mater eto gyda'n prif swyddog meddygol, ynghylch a oes angen cynnal adolygiad, ond dylai fod angen a phwrpas a diben gwneud hynny. Y dysgu hwnnw a'r ddealltwriaeth honno o sut yr ydym yn trin pobl yn effeithiol sy'n bwysig i mi, ac mae'n siŵr gennyf i mai dyna'n union pam mae Rhun ap Iorwerth yn gofyn ei gwestiynau.

O ran y sylw am beiriannau anadlu, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig heddiw, a oedd yn rhoi rhywfaint o eglurder ffeithiol ynghylch lle'r ydym ni arni. Dim ond i ailadrodd, does dim peiriannau anadlu coll. Nid yw peiriannau anadlu wedi cael eu gwarafun i GIG Cymru i'w darparu mewn rhannau eraill o'r DU. Byddwn yn cael y rheini yn ystod yr ymarfer caffael, ond, os cofiwch chi, pan gawsom ni beiriannau anadlu ychwanegol yn wreiddiol i'w defnyddio yn GIG Cymru, roeddem yn disgwyl i'r salwch gyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin, yn hytrach na'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Rydym yn dal i ddisgwyl y bydd defnydd i'r peiriannau anadlu hynny y contractiwyd ar eu cyfer yn wreiddiol. Fodd bynnag, rydym ni bellach yn y sefyllfa gadarnhaol iawn nad oes arnom ni angen y capasiti hwnnw o ran peiriannau anadlu, a rhan o'r amcanion polisi yr ydym yn ceisio mynd ar eu trywydd yw sut yr ydym ni, nid yn unig yn edrych ar yr hyn fydd yn digwydd ar ôl codi'r cyfyngiadau symud, ond ein bod yn parhau i ymddwyn mewn ffordd lle nad oes angen i ni ddefnyddio'r capasiti hwnnw ar yr un pryd. Mae hynny oherwydd y buom ni fel gwlad yn llwyddiannus mewn mesurau cadw pellter cymdeithasol ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i ledaeniad y feirws a nifer y bobl sâl iawn a welsom ni yn cyrraedd ein hunedau gofal critigol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n ddefnyddiol wrth roi rhyw sicrwydd nad oes peiriannau anadlu ar goll cyn belled ag y bo Cymru yn y cwestiwn.

Diolch am yr ateb yna. Symudaf ymlaen at dri chwestiwn byr a phenodol ynghylch maes profi. Mae dogfen y Llywodraeth, 'Arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad', yn galw'n briodol am ganfod achosion yn effeithiol ac olrhain cyswllt pan ddechreuwn ni lacio cyfyngiadau symud, ond nid oes gennym ni gynllun clir o hyd ar gyfer cyflawni'r effeithiolrwydd hwnnw. Yn fras, faint o brofion y dydd y bydd angen i ni eu cynnal yng Nghymru er mwyn bod yn effeithiol yn yr elfen allweddol hon o frwydro yn erbyn y coronafeirws? Gall y Llywodraeth, wrth gwrs, fod â chynllun nad ydyn nhw wedi dweud wrthym ni amdano; mae briffiau'n ddefnyddiol iawn yn hynny o beth. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n wir fod Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gofyn am gael briffio arweinwyr y gwrthbleidiau, ond ei bod wedi cael ar ddeall nad oedd modd iddi wneud hynny? Ac, yn olaf, mae cwestiynau wedi'u codi eisoes yn y sesiwn heddiw ynglŷn â'r penderfyniad i beidio ag ehangu'r profion i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal. Rydym ni wedi cael gwybod sawl gwaith y prynhawn yma nad ydych chi, y Llywodraeth, yn credu bod hyn yn ddefnydd da o adnoddau, ond gadewch i mi eich atgoffa: erbyn hyn, roeddem i fod yn profi 9,000 y dydd. Mae gennym ni'r gallu nawr, y dywedir wrthym ni gan y Prif Weinidog, i brofi 2,100 y dydd; ddoe, fe wnaethon ni brofi 734. Felly, onid y gwir amdani yw (a) nad oes gennym ni'r gallu o hyd a (b) nad ydym yn dal i nodi digon o bobl i'w profi yn y rhyfel hwn yn erbyn y coronafeirws?

15:15

Rwy'n fodlon ymdrin â'r tri maes yna. Mae'n debyg mai'r cyntaf yw'r hawsaf. Nid oes unrhyw gyfarwyddyd o gwbl i gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud na all friffio arweinwyr y gwrthbleidiau. Rydym yn darparu llawer iawn o wybodaeth bob dydd ac, yn wir, mae yna friffiau rheolaidd yr wyf yn eu darparu i lefarydd swyddogol yr wrthblaid a Rhun ap Iorwerth yn ei swyddogaeth ar ran Plaid Cymru. Felly, rydym ni wedi bod yn agored iawn o'r cychwyn cyntaf am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth, gan gynnwys lle mae anghytundeb ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Felly, byddwn yn siomedig pe bai unrhyw un yn ceisio awgrymu y bu ymgais i geisio atal darparu gwybodaeth i gynrychiolwyr etholedig, pan fo hynny'n groes i'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud.

O ran profi mewn cartrefi gofal, rydym yn mynd drwy'r materion a godwyd o'r blaen. Ynghylch ein cynllun ar gyfer y dyfodol, mae'n rhan o gynllun ehangach ynglŷn â bod y strategaeth brofi yn rhan o'r sylfaen ar gyfer yr hyn a wnawn am adferiad, pan gaiff y cyfyngiadau symud eu codi. Sut mae cyrraedd y fan honno? Sut beth fydd system briodol ar gyfer arolygu iechyd y cyhoedd? Rydym yn gweithio drwy hynny, ac, wrth gwrs, pan fyddaf mewn sefyllfa i wneud hynny, byddwn yn hapus i drafod hynny gydag aelodau'r Cynulliad.

O ran ble yr ydym ni arni o ran profi, yn dilyn yr adolygiad a orchmynnais, rwyf wedi bod yn onest iawn ynglŷn â'r ffeithiau; rwy'n darparu diweddariad wythnosol o ran lle yr ydym ni arni yn ein gallu i brofi. Disgwyliaf i hynny gynyddu bob wythnos, ac wedyn mae angen inni ddeall beth y mae hynny'n ei olygu o ran yr hyn y gallem ni ei wneud o bosib i godi'r cyfyngiadau symud a'r capasiti y credwn ni y bydd ei angen arnom ni o bosib. Mae'n bwysig gweld hynny yn rhan o'r darlun cyfan, yn hytrach na chael cynllun ar gyfer profi nad yw'n gysylltiedig â pham yr ydym ni mewn gwirionedd eisiau profi, gan fod ein capasiti presennol yn ddigon ar gyfer diben presennol y profion—ar gyfer gweithwyr allweddol tra bod y cyfyngiadau symud mewn grym.

Ond, fel y dywedais lawer gwaith, bydd angen seilwaith profi ehangach arnom ni, o ran pa mor hwylus yw hi i bobl ddefnyddio'r seilwaith profi hwnnw, wrth inni nesáu at ddiwedd y cyfyngiadau symud, hyd yn oed os ydym yn troedio'n ofalus fel yr ydym ni wedi ei argymell, yn y modd yr ydym ni wedi dweud ein bod ni eisiau ei wneud, a dyna'r sefyllfa o hyd. Byddaf yn parhau i ddarparu'r datganiad wythnosol hwnnw, y diweddariad wythnosol hwnnw, a byddaf yn parhau i fod yn fodlon ymdrin â chwestiynau'r Aelodau ynghylch lle'r ydym ni arni, a phan fyddwn ni mewn sefyllfa i gael y cynllun ehangach hwnnw, yna, wrth gwrs, byddwch yn clywed amdano.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Ddoe, fe gawsom ni funud o dawelwch i'n harwyr yn y meysydd gofal cymdeithasol ac iechyd a gollodd eu bywydau i felltith COVID-19, a hoffwn ddiolch ar goedd unwaith eto i'n gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig, sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel, a chydymdeimlo â'r rheini sydd wedi colli anwyliaid.

Nid ydym yn gwybod digon o hyd am y feirws yma, ac, wrth inni barhau i lefelu'r gromlin, rhaid i ni ymdrechu'n galetach i ddeall y gelyn hwn. Gweinidog, mae'n ymddangos mai De-ddwyrain Cymru, ar sail y pen, yw'r rhan o'r DU sy'n cael ei tharo galetaf. Mae achosion fesul 100,000 o bobl yn 441 yng Nghasnewydd a 436 yng Nghaerdydd, ond dim ond 396 o achosion fesul 100,000 sydd gan Brent, sef y rhan o Loegr a drawyd galetaf—yr un fath ag Abertawe. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch pam mae gennym ni gymaint o achosion o'r haint?

Wrth gwrs, dim ond y cyfraddau a gadarnhawyd yn yr ysbytai yw'r rhain, ac os ydym ni eisiau deall y cyfraddau heintio mewn gwirionedd, mae angen inni gynnal llawer mwy o brofion serolegol. Gweinidog, pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran datblygu cynlluniau i gynnal profion gwrthgyrff ar hap ledled Cymru?

Mae'r pandemig hwn wedi cael effaith aruthrol ar afiechyd meddwl, ac rydym ni wedi gweld cynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad. Gweinidog, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i sicrhau bod mwy o therapïau siarad o bell ar gael? A allwch chi amlinellu beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag effaith y feirws ar iechyd meddwl?

Un o'r peryglon mwyaf sy'n ein hwynebu yw ail argyfwng sy'n cyd-daro â'r tymor ffliw. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r rhaglen frechu rhag y ffliw yn sylweddol, ac a wnewch chi ystyried rhoi brechlynnau am ddim i bawb yng Nghymru?

Mae wedi hen sefydlu bod y frech goch yn dileu cof imiwnedd y corff. Gweinidog, a wnewch chi sicrhau bod yr holl raglenni brechu yn parhau a gwneud popeth a allwch chi i sicrhau bod pawb sy'n gymwys i gael brechiad yn ei gael? Diolch unwaith eto am eich ymdrechion parhaus. Diolch yn fawr.

15:20

Diolch am y gyfres o gwestiynau. O ran eich sylw cyntaf, ynglŷn â chyfraddau gwirioneddol haint y coronafeirws, wrth gwrs, dyma'r enghreifftiau a gofnodwyd, ac mae gennym ni rybudd iechyd bob amser nid yn unig ym mhob rhan o Gymru, ond gweddill y DU, fod y ffigurau gwirioneddol yn debygol o fod yn uwch. Felly, nid wyf am gael fy nhynnu i wneud cymariaethau pendant o wahanol rannau o'r DU, ond gwyddom fod rhan dde-ddwyreiniol Cymru wedi cael yr effaith fwyaf sylweddol. Gallwch weld hynny nid yn unig yn nifer yr achosion a gadarnhawyd, ond mewn gwirionedd yn y ffordd y mae ein hysbytai wedi gweld pobl yn dod i mewn iddynt sydd angen gofal, ac yn enwedig y ffordd y mae capasiti gofal dwys wedi cael ei ddefnyddio. Mae hynny'n arwydd cystal, os mynnwch chi, o gylchrediad y feirws mewn gwahanol rannau o Gymru.

Felly, wrth gwrs, rydym ni'n cymryd o ddifrif ac eisiau deall yn union sut y mae'r feirws yn ymddwyn wrth i'w ymddygiad newid yn ystod y pandemig. Felly, mae gwersi o rannau eraill o'r DU, ac mae angen dysgu gwersi o fewn ac ar draws Cymru, ac mae hynny'n nodwedd reolaidd o'r gwaith a'r trafodaethau yr ydym yn eu cael o fewn y Llywodraeth ac yn wir o fewn y gwasanaeth.

O ran eich sylw am brawf gwrthgyrff, nid ydym ni mewn sefyllfa eto lle mae gennym ni brawf gwrthgyrff dibynadwy y gallwn ei gyflwyno ledled y wlad. Mae amrywiaeth o waith ar hynny. Mae yna brofion ar amrywiaeth o brofion posib sydd yn y farchnad, a bob hyn a hyn, efallai y gwelwch chi ar y cyfryngau cymdeithasol rhywun yn hawlio bod ganddyn nhw brawf gwrthgyrff effeithiol y gellir ei ddefnyddio. Wel, mae angen i ni brofi a yw'r honiadau hynny'n ddilys ai peidio, ac a allwn ni ddarparu prawf gwrthgyrff a fyddai'n amlwg mor ddefnyddiol ag y gallai fod. Dyna pam y mae'n cael lle yn ein strategaeth, oherwydd ein bod yn deall pa mor ddefnyddiol y gallai hynny fod o ran deall lledaeniad y coronafeirws a sut yr ydym yn mynd ati mewn gwirionedd yn y dyfodol i ddiogelu'r cyhoedd yn ehangach.

O ran therapïau siarad ac iechyd meddwl yn gyffredinol, mae'n rhan o'm pryder ac yn rhan o'm pryder yr wyf wedi ei grybwyll o'r blaen ynghylch y defnydd o'n gwasanaethau. Nid wyf yn poeni am iechyd corfforol yn unig, rwyf yr un mor bryderus am iechyd meddwl, y cyhoedd ond hefyd ein staff, sy'n—. Er gwaethaf y ffaith nad yw effaith y coronafeirws hyd yn hyn wedi bod mor arwyddocaol ag yr oeddem yn meddwl y gallasai fod mewn gwirionedd ychydig wythnosau yn ôl, mae ein staff yn dal i ymdrin â chyfnod o ddigwyddiadau eithriadol ac mae straen gwirioneddol ar ein staff wrth wneud hynny. Dyna pam yr wyf wedi ei gwneud hi'n haws i staff ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol gael cymorth wrth wneud eu gwaith. Mae angen i ni eu cadw'n iach fel y gallan nhw helpu i'n gwarchod ni. 

O ran y brechlyn ffliw, credaf mai'r neges gyson yw'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn ffliw. Felly, pobl sydd wedi cael eu cynghori i gymryd gofal pellach ac i roi sylw'n arbennig i gadw pellter cymdeithasol—mae'r grŵp cychwynnol ar gyfer pobl sy'n cael brechlyn y ffliw ar sail eu cyflyrau meddygol. Ac mae'n frwydr gyson bob blwyddyn—er gwaethaf ymgyrch gyhoeddus amlwg iawn iawn, mae llawer o bobl yn dal i beidio â manteisio ar y dewis sydd ganddyn nhw i gael pigiad ffliw'r GIG am ddim. Rwy'n sicr yn gobeithio eleni y bydd pobl hyd yn oed yn fwy o ddifrif nid yn unig o ran y cyfle ond y gwir werth o gael y pigiad ffliw hwnnw gan y GIG i'w cadw eu hunain a'u teulu'n ddiogel.

A dyna'r sylw ehangach am raglenni brechu. Mae'n un o'r sylwadau allweddol a wneuthum nid yn unig yn fy natganiad ond mewn datganiadau blaenorol, ynglŷn â dymuno cadw gwahanol rannau o'n pensaernïaeth iechyd y cyhoedd, ac mae rhaglenni brechu yn amlwg yn rhan hanfodol o hynny. Felly, yn enwedig i rieni plant ifanc, gwnewch yn siŵr bod eich plant yn parhau i fynd i gael y brechlynnau hynny, oherwydd mae'n bwysig nid yn unig i'w cadw nhw'n iach rhag y coronafeirws, ond mewn gwirionedd o ran eu hiechyd cyffredinol. Y peth olaf y byddwn eisiau ei weld yw'r afiechydon cyffredin hynny y gwyddom sy'n achosi niwed gwirioneddol yn ailymddangos oherwydd nad ydym ni fel cenedl yn gwneud yn siŵr bod ein pobl yn cael eu brechu pan allent ac y dylent fod yn gwneud hynny. 

Gweinidog, mae gennym ni rai achosion o arwriaeth ryfeddol yn y sector gofal ar hyn o bryd—mae rheolwyr cartrefi gofal a staff rheng flaen ym maes gofal cartref a phreswyl yn mynd ymhell y tu hwnt i gyflawni dyletswydd yn unig. Nid dim ond gofalu am ein hanwyliaid sydd dan gyfyngiadau symud ac ar eu pen eu hunain, ond maen nhw'n ceisio glynu wrth reolau cadw pellter corfforol wrth weithio gyda phreswylwyr â dementia a'r rhai fydd yn crwydro. Maen nhw'n ymdrin â phrofedigaethau'n amlach, ac mae hwn wedi effeithio'n arbennig ar rai cartrefi gofal, ac mae'r anhawster y mae teuluoedd a ffrindiau yn ei deimlo wrth gael eu hynysu oddi wrth y preswylwyr yn ystod eu bywyd ac yn ystod eu marwolaeth yn gwaethygu'r sefyllfa. Mae ein gweithwyr gofal yn wir arwyr. Maen nhw wastad wedi bod, wrth gwrs, ond erbyn hyn mae'n amlwg i bawb nad ydyn nhw wedi gweld hyn o'r blaen. Felly, Gweinidog, sut olwg fydd ar y dyfodol i'r arwyr hyn? Pan enillir y frwydr iechyd cyhoeddus yn erbyn COVID-19, a fydd gwerthfawrogiad gwirioneddol well iddyn nhw mewn cymdeithas? Ac yn hollbwysig, Gweinidog, a gânt eu talu'n wirioneddol well a chael gwell telerau ac amodau a llwybr gyrfa broffesiynol?

Ac i droi at agwedd gysylltiedig, Gweinidog, beth yn union yw ymdrech llawer mwy integredig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn cyfnodau o dawelwch a thawelwch cymharol yn y dyfodol, ar ôl dysgu'r gwersi ynghylch pa mor hanfodol yw gweithio integredig yng ngwres y frwydr yn erbyn pandemig?

15:25

Unwaith eto, rwy'n credu bod y sylw y mae Huw Irranca-Davies yn ei wneud am bobl sydd wedi cael eu hynysu mewn bywyd a marwolaeth yn un pwysig iawn; mae hynny'n anodd iawn, iawn i bobl sy'n gwybod eu bod yn nesáu at ddiwedd eu hoes, ond hefyd i'w teuluoedd na allan nhw o bosib eu gweld a chael rhyw fath o gysur a thawelwch meddwl y byddai'r rheini ohonom ni sydd wedi dioddef colled yn ein teulu ac o blith ein ffrindiau yn deall sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn o ran gallu symud ymlaen.

O ran y dyfodol i staff gofal cymdeithasol, boed mewn gofal preswyl neu fel arall, yn sicr nid wyf wedi anghofio fy ymrwymiad na'r sefyllfa yr hoffem ni fod ynddi fel cenedl. Rwy'n gobeithio bod yr argyfwng presennol, y cyfnod eithriadol yr ydym yn byw drwyddo, yn golygu na fydd pobl yn crwydro allan bob dydd Iau i gymeradwyo gweithwyr allweddol, nid yn unig yn ein gwasanaeth iechyd gwladol ond ym maes gofal cymdeithasol ac yn ehangach, ac yna yn anghofio am yr amodau y maen nhw'n gweithio ynddynt a'r tâl a gânt y mis ar ôl i argyfwng COVID-19 orffen. Oherwydd mae'r sefyllfa yn codi cwestiynau y mae angen i bob un ohonom ni eu gofyn am y math o wlad yr ydym yn byw ynddi a sut ydym ni'n gwerthfawrogi ein gilydd, gan ein bod wedi gweld y gwerth aruthrol y mae nifer o bobl, sydd â chyflog isel, yn ei roi i'r ffordd y mae pob un ohonom ni yn disgwyl byw ein bywydau ac, a dweud y gwir, y ffordd yr ydym yn disgwyl i'n perthnasau dderbyn gofal mewn ffordd y mae gwledydd eraill, er enghraifft, yn cael llawer mwy o ofal a darpariaeth deuluol. Dyna'r hyn nad oes gennym ni yn y fan yma. Felly, rwy'n sicr eisiau gweld datblygiadau breision o ran cyflogau, dilyniant gyrfa, a thelerau ac amodau. Felly, mae'r gwaith a gafodd ei ohirio gan y grŵp gweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol yr oeddech chi, ar un adeg, yn gadeirydd arno yn ystod eich cyfnod mewn Llywodraeth, wedi parhau. Fe'i gohiriwyd am ein bod ar fin cyhoeddi cyfres o adroddiadau i ddechrau trafodaeth genedlaethol ychydig cyn i'r coronafeirws ddod yn fater llawer mwy. Dydw i ddim eisiau anghofio am y gwaith hwnnw, ond rwy'n sicr yn gobeithio bod hynny'n fwy nag ymrwymiad gan y pleidiau sydd mewn Llywodraeth, ond yn llawer ehangach ar draws pob plaid o ran sut yr ydym yn gwobrwyo pobl yn briodol ac yn eu cydnabod. Ac mae'r gydnabyddiaeth honno yn ein system integredig; rydym ni mewn lle gwell oherwydd ein bod wedi dechrau mynd ati i integreiddio yma yng Nghymru. Rwy'n credu, ymhell o danseilio'r cynllun yn 'Cymru Iachach' ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n atgyfnerthu'r angen i barhau gyda hynny ac yn wir i brysuro, oherwydd maen nhw'n rhoi gwell budd, nid yn unig i'n staff, ond i'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.

Gweinidog, mae'r gyfradd heintio sy'n cael ei hadnabod fel 'R' yn is nag 1 oherwydd y cyfyngiadau symud a'r rheolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol. Mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y mae'n aros yn is nag 1—ac yn yr Almaen rydym ni eisoes yn gweld hynny'n her enfawr—yw os gallwn ni brofi ac olrhain yn helaeth. Ond rydym ni'n dal yn eithaf amwys ynglŷn â sut beth fydd y system honno. Rwy'n gwybod yn Lloegr eu bod yn bwriadu recriwtio 18,000 o olrheinwyr cyswllt; byddai hynny'n rhoi tua 900 i ni yng Nghymru, pe bai arnom ni angen capasiti tebyg. Ond mae llawer o gwestiynau am ba dechnoleg fydd yn cael ei defnyddio a lle caiff y bobl hyn eu recriwtio. A gânt eu lleoli mewn awdurdodau lleol neu mewn awdurdodau iechyd? Sut beth fydd hynny? A sut ydym ni'n mynd i ymdrin â heriau penodol tai dwysedd uchel, tyrrau uchel o fflatiau ac ati, lle nad yw llawer o bobl yn adnabod eu cymdogion, ac eto mae'r wybodaeth a throsglwyddo'r wybodaeth am bwy fu mewn cysylltiad â phwy a sut, yn bwysig iawn mewn gwirionedd? Heb y darlun hwnnw, mae'n ymddangos i mi na allwn ni godi'r cyfyngiadau symud yn sylweddol. Ac a wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion inni ynghylch beth fydd y sefyllfa debygol yng Nghymru?

Rwy'n disgwyl y gallaf ddarparu hynny o fewn amserlen weddol fer. Dyna pam, rwy'n credu, nad yw cael targed profi nad yw'n gysylltiedig â'r hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni mewn gwirionedd yn gwneud unrhyw synnwyr. Dyma hefyd y pwynt a wneuthum o'r blaen ynglŷn â chael targed profi ar ei ben ei hun, pryd nad ydym yn rheoli'r holl elfennau ohono. Nid yw'r ymrwymiad i ehangu ein gallu i brofi wedi diflannu. Yn sicr, nid wyf yn ceisio awgrymu i neb, naill ai yma nac i unrhyw aelod o'r cyhoedd, nad ydym yn poeni am ehangu ein gallu i brofi, oherwydd, fel yr wyf wedi dweud droeon, bydd angen hynny arnom ni ar gyfer yr union elfen profi ac olrhain o adferiad. Oherwydd rydych chi'n iawn i gyfeirio at yr Almaen, ynglŷn â chyfradd gynyddol y coronafeirws. Y cyfyngiadau a'r cadw pellter cymdeithasol sydd wedi golygu nad ydym ni wedi gweld lledaeniad pellach y coronafeirws. Dyna beth sydd wedi golygu nad yw ein system ysbytai wedi cael ei llethu; dyna pam nad oes gennym ein capasiti ysbyty maes yn llawn. Ond mae hefyd yn atgyfnerthu pam na ddylem ni roi pwysau affwysol ar y GIG ac eisiau ei redeg â chapasiti llawn ac yna codi'r cyfyngiadau symud, oherwydd mae'r Almaen yn enghraifft dda iawn o hynny, am yr heriau y gallwch chi eu cael. Wrth i bobl gymysgu mwy, bydd y coronafeirws yn parhau i fod yn broblem.

Felly, rwyf eisiau dweud mwy am hynny pan fydd yna gynllun i siarad â chi amdano, yn hytrach na'r sgyrsiau amlinellol yr ydym ni wedi'u cael, ond os wnewch chi fod yn amyneddgar â ni a'n system, yna bydd gennym ni lawer mwy o fanylion i'w darparu. Ac, unwaith eto, rwy'n cydnabod pan fydd hynny ar gael, y bydd craffu dealladwy, nid yn unig gan y wasg a'r cyhoedd, ond rwy'n disgwyl gallu ateb y cwestiynau hynny gerbron Aelodau hefyd.

15:30

Rwy'n falch o glywed, Gweinidog, eich bod yn siarad o blaid amodau gwaith a chyflogau gwell i nyrsys a gweithwyr gofal, gan fod hynny'n gywair gwahanol iawn i'r un yr oeddech yn siarad ynddo wrth ateb fy nghwestiynau ychydig fisoedd yn ôl, pan oeddwn yn codi pryderon am newidiadau arfaethedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i rotâu nyrsio yn y gogledd, a fuasai, wrth gwrs, ar draul amodau gwaith nyrsys y fan yna. Felly, a ydych chi'n dweud nawr y byddwch yn cefnogi'r nyrsys a'r undebau, a ddim yn dweud wrthyf mai mater i'r bwrdd ydyw, ac nid mater i Lywodraeth Cymru?

Wel, rwy'n credu ei fod yn gryn naid i gysylltu'r heriau dros rotâu nyrsys, lle mewn gwirionedd, roeddwn yn rhannol gyfrifol am gael y cyflogwr a'r undebau llafur yn ôl yn yr ystafell i drafod materion a'u datrys, ac i gysylltu'r sefyllfa yn awr â'r cwestiwn ar dalu rhai o'n gweithwyr sy'n cael eu talu waethaf—gweithlu sy'n fenywaidd i raddau helaeth—ym maes gofal cartref a gofal preswyl. Rwy'n credu fod hynny yn naid yn rhy bell.

Rwyf wastad wedi bod yn ymroddedig i ddymuno gwneud y gorau glas i'n gweithlu ym mhob rhan o'r economi. Ni ddylai fod yn syndod i chi, nid yn unig fel gwleidydd Llafur, ond fel cyn-stiward llawr gwaith fy hun sydd wedi bod yn ymwneud â negodi cyflogau, fy mod eisiau gweld pobl yn cael cyflogau da. Dyna pam mae'r GIG yn parhau i fod yn gyflogwr cyflog byw go iawn; dyna pam y gwnes y newidiadau a wnes ar dâl a thelerau ac amodau lle yr wyf yn gyfrifol am awdurdodi a chytuno ar gyfraddau cyflog yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae gennym ni ymrwymiad fel Llywodraeth i fod eisiau gweld bargeinio sectoraidd mewn rhannau eraill o'n heconomi, a chredaf y byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol: byddai'n rhoi rhywfaint o sicrwydd.

Mae angen inni edrych ar sut y mae hynny'n cysylltu â chomisiynu yn genedlaethol ac yn lleol, ac mae angen inni wneud rhywbeth hefyd ynghylch cael yr incwm i wneud hynny, oherwydd gwyddoch gystal â mi fod ein gallu i dalu ein staff yn iawn yn gysylltiedig â'r incwm sy'n dod i'n system. Rwy'n credu ei bod yn eithaf anodd cael cynnydd llawer mwy cyson yn y cyflog i staff gofal cymdeithasol heb fod mwy o incwm yn dod i mewn i wneud hynny, a dyna pam y mae'n ystyriaeth wirioneddol i ni ddefnyddio'r pwerau sydd gan y Senedd genedlaethol hon, i ddefnyddio'r rheini mewn ffordd a fyddai'n darparu nid yn unig mwy o arian i ofal cymdeithasol yn gyffredinol, ond beth mae hynny'n ei olygu i'n staff hefyd.

Fel y dywedais, roeddem ar fin cael y sgwrs genedlaethol honno pan darodd y pandemig coronafeirws, a bu'n rhaid i bob ffurf arall arferol ar lunio polisïau gael eu rhoi o'r neilltu. Felly, mae'r ateb a roddais i Huw Irranca-Davies yn parhau, ac mae fy ymrwymiad drwy fy holl ymwneud gwleidyddol yn parhau i wella telerau ac amodau i weithwyr ar draws yr economi.

A gaf i bwyso arnoch chi eto, Gweinidog, ynghylch nifer y canolfannau profi? Ddoe, crybwyllodd y Daily Telegraph ffigurau gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a ddywedodd mai dim ond un lleoliad profi sydd yng Nghymru. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac maen nhw yn dweud bod 21 o ganolfannau profi. A wnewch chi ddweud wrthyf faint yn union o ganolfannau profi sydd ar waith ar hyn o bryd?

A allwch chi hefyd roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y brechlyn niwmococol yn y GIG y gaeaf hwn ac y bydd ar gael yn eang, gan ei fod o gymorth, fe gredaf, ar gyfer trin heintiadau anadlol eilaidd?

Yn olaf, o ran clinigau ffrwythlondeb, pryd y gallwn ni ddisgwyl iddyn nhw ailagor? A fydd Cymru'n gwneud rhywbeth gwahanol i Loegr ac a all y rhai sy'n cael triniaeth o leiaf gael y dewis o fynd ar drywydd triniaeth mewn clinigau preifat, ar yr amod ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny?

O ran eich cwestiwn olaf am driniaethau ffrwythlondeb, byddai angen imi graffu ar ragor o'r manylion. Os ydych chi'n fodlon anfon nodyn ataf, byddaf yn fwy na pharod i roi rhagor o fanylion ichi am y sylwadau yr ydych chi'n eu crybwyll.

O ran pobl yn ymgymryd ag amrywiaeth o raglenni brechu, mae'r sylw a wneuthum yn gynharach yn awgrymu nad ydym yn rhagweld, ar hyn o bryd, y bydd her o ran y cyflenwad o frechlynnau yng nghyswllt brechlynnau eraill. Yr her wirioneddol yw cael y cyhoedd i gymryd y brechiadau sydd ar gael, ac i gydnabod y diogelwch gwirioneddol y maen nhw'n eu darparu iddyn nhw a phobl eraill os byddant yn gwneud hynny.

O ran eich sylw am ganolfannau profi, nid yw'n syndod, ond mae'n ffynhonnell gyson o rwystredigaeth a siom i mi fod gennym ni adroddiadau mewn sefydliadau eraill yn honni eu bod yn edrych ar y darlun ledled y DU nad ydynt yn adlewyrchu'n gywir y sefyllfa yng Nghymru. Wrth gwrs, mae gennym ni fwy nag un ganolfan brofi—mae gennym ni fwy nag un ganolfan profi drwy ffenest y car—ac mae'r ffigur o 21 y mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi ei roi i chi yn adlewyrchu nid yn unig nifer y lleoliadau, ond wedyn mae rhywbeth am ledaeniad y rheini hefyd, oherwydd mae profi cymunedol yn golygu bod pobl yn mynd allan i gartrefi pobl. Rwyf eisoes wedi dweud y byddwn yn cyrraedd y man lle byddwn yn profi pobl yn eu cartrefi hefyd, a bod unedau symudol ar gael i fynd allan a darparu profion hefyd. Felly nid mater o gael pobl i ganolfan brawf yn unig yw hyn; mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â chael y profion i bobl mewn ffordd fwy cyfleus. Nid mater i Gymru wledig yn unig yw hynny; mae'n fater i rannau helaeth o ardaloedd trefol Cymru hefyd, i wneud y rhaglen brofi mor hawdd ei defnyddio â phosib. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r broses o lenwi ffurflenni, ond wedyn pa mor ymarferol yw gallu cael y prawf ei hun, a dylem mewn gwirionedd fod mewn byd lle gallwn ni symud i sefyllfa lle caiff canlyniadau'r profion eu hunain eu hanfon yn uniongyrchol at bobl drwy neges destun os yw hynny'n bosib. Credaf y bydd hysbysu drwy negeseuon testun yn dileu rhan arall o'r her o ran effeithlonrwydd y system. Felly, ydynt, mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gywir gyda'u 21, ond mae angen i chi weld sut mae'r 21 o raglenni a lleoliadau gwahanol hynny'n gweithio o ran darparu profion i bobl, ac nid dim ond cael pobl i leoliad gwahanol.

15:35

Gweinidog, hoffwn gyfeirio at y cwestiwn a ofynnodd David Melding i chi am brofi a sut yr ydym yn codi'r cyfyngiadau symud. Deallaf nad ydych chi wedi llunio'ch cynlluniau i gyd eto a bod angen i chi weithio arnynt, a'ch bod eisiau rhoi mwy o gig ar yr esgyrn, ond rwyf yn bryderus ynghylch profion gwyliadwriaeth. Gwyddoch fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi pwyso am gael tîm adrannol clir iawn yn gyfrifol am sicrhau bod profion yn digwydd heddiw, a gwyddom nad ydynt: gellir profi 2,100 mewn ysbytai bob dydd, ac rydym yn profi tua 700, ac nid yw'n agos at yr uchelgais o 9,000. Ac rydym ni hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod gan y tîm hwnnw syniad da iawn wrth symud ymlaen o sut yr ydym yn ystyried yr holl fater o wyliadwriaeth.

Nawr, yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Dethol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg yn San Steffan yr wythnos diwethaf, gofynnwyd i'r prif swyddog meddygol am y cynllun ar gyfer profi yng Nghymru, a dywedodd yn y bôn fod grŵp cynghori technegol yn cael manylion gan y grŵp cynghori gwyddonol ar argyfyngau ac yn eu haddasu i'r cyd-destun Cymreig. Tybed a allech chi roi ychydig mwy o fanylion inni am hynny? Pwy yw'r bobl hyn? Oes ganddyn nhw gefndir gwyddonol, cefndir yn y GIG? A ydyn nhw mewn gwirionedd yn fodelwyr? Pa ddata, o ystyried nad yw ein data yn wych mewn rhai meysydd, maen nhw'n eu defnyddio i'w haddasu ar gyfer y cyd-destun Cymreig hwnnw?

Ydy, mae'r grŵp cynghori technegol yn cael ei gadeirio gan ein prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd. Mae'n ei gyd-gadeirio. Mae'n cynnwys ystod o arbenigedd gwyddonol; mae'n cynnwys modelwyr; mae'n cynnwys pobl o gefndiroedd iechyd y cyhoedd ac eraill hefyd. Felly, mae'n cynnwys amrywiaeth o bobl i geisio deall y wyddoniaeth ac yna i droi hynny'n gyngor sy'n ddefnyddiol i'n system ac i Weinidogion. Felly, oes, mae gennym ni'r arbenigedd hwnnw, fel sydd gan Lywodraethau eraill o fewn y DU hefyd. Byddwch yn gweld bod trefniadau tebyg, er y gallai fod ganddyn nhw enwau gwahanol, yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

O ran eich sylw ehangach ar y dechrau ynglŷn â chael cynllun arolygu iechyd y cyhoedd yn un o'r elfennau hanfodol y bydd eu hangen arnom ni i godi'r cyfyngiadau symud, a fydd yn cynnwys profi yn rhan ohono, gwaith yw hwnnw lle bu ail-ganolbwyntio yn ei gylch. Fi yw'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb o hyd, fel y byddech yn disgwyl, ond roedd gennym ni gynlluniwr milwrol sydd wedi gwneud adolygiad i ni weld ble yr ydym ni arni, ac felly rydym ni wedi edrych ar ad-drefnu mewnol i roi rhywfaint o arweiniad mewnol i hynny, fel bod y system sydd gennym ni, nid yn unig o fewn y Llywodraeth, ond gyda'n partneriaid, yn gallu gweld yn gliriach sut a ble y caiff penderfyniadau eu gwneud. Nawr, nid yw hynny'n ddatganiad i'r wasg sy'n arbennig o ddiddorol, ac yn sicr ni allwn ei droi'n ddatganiad bachog ar Twitter, ond mewn gwirionedd o ran cael y system yn iawn, mae'n wirioneddol bwysig. Felly rwy'n disgwyl gwell gafael a phwyslais ar hynny, a dylai hynny ein helpu i gyrraedd y man lle yr ydym ni i gyd yn dymuno bod, nid yn unig gyda rhaglen fwy sydd â mwy o allu ynddi i gynnal profion, nid dim ond bod yn rhan o'r cyfan ehangach, ond sicrhau y gallwn ni ddefnyddio hynny mewn gwirionedd yn y ffordd y dymunwn, gyda rhwyddineb mynediad, rhwyddineb defnydd, ac y dylai hynny yn wir ein helpu gyda'r gwaith gwyliadwriaeth y bydd angen i ni ei wneud wrth i ni godi'r cyfyngiadau symud, oherwydd fel y cydnabu eich cyd-Aelod, David Melding, nid yw hwn yn fater syml nac yn rhwydd, ac mae gwledydd eraill sydd wedi gwneud hyn yn gyntaf yn gorfod ymdopi â'r her eithaf anodd hon. Mae hi wedi bod yn llawer haws gosod cyfyngiadau symud na llwyddo i'w codi'n llwyddiannus.

15:40

Mae'r argyfwng yma wedi dod â phroblem sylfaenol i'r amlwg yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn fy etholaeth i. Ers rhai wythnosau, dwi wedi bod yn ymwybodol bod problem wedi codi efo capasiti llif yr ocsigen yn Ysbyty Gwynedd, ac mi allai hynny, yn ei dro, gyfyngu ar allu'r ysbyty i ymdopi â'r argyfwng COVID. Mae datrys hyn yn cael blaenoriaeth gan y British Oxygen Company, a dwi'n ddiolchgar am ymdrechion y rheolwyr lleol i sicrhau hynny. Ond, a wnewch chi gytuno â fi y dylid fod wedi buddsoddi yn y gwaith yma ers tro? Mae hi'n cymryd argyfwng i hyn ddigwydd. Ac a ydych chi'n cytuno bod hyn yn arwydd clir bod Ysbyty Gwynedd, Bangor yn cael ei israddio yn dawel fach a thrwy'r drws cefn?

Wel, rwy'n falch o glywed bod materion llif ocsigen yn cael sylw ac yn cael eu hamlygu, ac mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig. Mae'n rhannol, serch hynny, oherwydd y cynnydd yn y capasiti gofal critigol a'r defnydd llawer helaethach o ocsigen, ac felly mae'r llif sydd ei angen yn amlwg wedi cynyddu. Nid yw hynny'n syndod pan ystyriwn yr hyn sy'n digwydd.

O ran buddsoddi yn y gwaith hwnnw dros gyfnod o amser, wel, wrth inni ddysgu gwersi, nid ar ddiwedd hyn yn unig ond drwy hyn i gyd, wrth gwrs bydd cwestiynau i'w gofyn am yr hyn a wnaethom ni ond yn bwysicach na hynny, yr hyn y dewiswn ei wneud yn y dyfodol i baratoi, nid dim ond ar gyfer pandemig posibl yn y dyfodol, ond mewn gwirionedd ar gyfer yr hyn a ystyriwn yn fusnes fel arfer a faint o gydnerthedd sydd ei hangen arnom. Ac mae honno'n ddadl eithaf anodd, mewn gwirionedd, oherwydd mae a wnelo hi â sut yr ydym yn defnyddio adnoddau a sut yr ydym yn gwario arian yn rhagolygol a ninnau, mewn gwirionedd, wedi mynd drwy gyfnod o fwy na degawd pryd, mewn gwirionedd, mae wedi bod yn ymwneud â pholisi bwriadol i gymryd arian allan o wasanaethau cyhoeddus, a bu rhaid i bob un ohonom ni ymdopi â gostyngiad sylweddol i gyflawni hynny.

O ran eich pwynt olaf ynghylch a yw hyn yn golygu bod Ysbyty Gwynedd yn cael ei israddio, nid wyf yn cytuno â chi. Does dim cynllun cyfrinachol i israddio Ysbyty Gwynedd ac i wneud hynny'n gyfrinachol ac yn dawel drwy'r drws cefn, felly rwy'n hapus i dawelu eich meddwl nad yw hyn yn gynllun gennyf i nac ychwaith gan unrhyw un arall. Mae'r broses o ad-drefnu gwasanaethau iechyd ledled y wlad yn ymwneud â'r ffordd yr ydym yn cynllunio'r hyn sy'n gweithio orau o fewn ein system iechyd a gofal a sut yr ydym yn ateb yr her a osodwyd inni gan yr adolygiad Seneddol a nododd, mewn rhai gwasanaethau, y gallem ac y dylem weld gwasanaeth gwell gyda chanlyniadau gwell i bobl os canolbwyntiwn ar y meysydd arbenigol iawn hynny, ond yn yr un modd ar eraill, dylent symud allan o ganolfannau arbenigol naill ai i ddarpariaeth leol neu, yn wir, i ofal sylfaenol a chymunedol. Dyna'r cynllun sylfaenol sydd gennym ni ledled y wlad, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn nodi mai dyna'r ffordd orau o ddarparu'r gofal gorau posib i bob un ohonom a dyna sut y gallem ac y dylem drefnu ein system.    

[Anhyglyw.]—yn cael eu rhyddhau bob dydd. Beth allwch chi ei wneud fel Gweinidog i sicrhau y caiff y methiant yr adroddwyd amdano yr wythnos diwethaf i gadw data Gogledd Cymru yn gywir ei gywiro'n briodol ac na chaiff ei ailadrodd?

Wel, fel y dywedais, mae'r Prif Weinidog wedi ymdrin â hyn yn fanwl, ond gobeithio bod yr adroddiad a gyhoeddais ddoe yn rhoi'r math o sicrwydd y mae Jack Sargeant, yn ddealladwy, yn chwilio amdano. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ystyried nad oedd hyn yn fater o bobl yn dweud mai Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru oedd yn gyfrifol am wneud traed moch o bethau. Nid dyna a ddigwyddodd. Daeth y mater a nodwyd i'r amlwg pan gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddata ardal y Bwrdd Iechyd, a, bryd hynny, cysylltodd Betsi Cadwaladr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu bod yn cydnabod bod problem o ran y ffigurau a oedd yn cael eu cyhoeddi. Bellach, mae gennym ni system lle mae argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu, mae pawb yn defnyddio'r un system, a cheir cyswllt wythnosol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r byrddau iechyd i roi'r sicrwydd y mae pob un ohonom yn dymuno ei gael, ac mae hynny'n sicr yn cynnwys Gweinidogion yn ogystal ag Aelodau lleol yn ardaloedd y byrddau iechyd gwahanol, oherwydd mae arnaf eisiau data y gallaf ddibynnu arno wrth imi wneud dewisiadau ar gyfer y wlad gyfan.

Gweinidog, gofynnais gwestiwn ysgrifenedig i chi, a'ch ymateb yn syml oedd,

'Byddaf yn ysgrifennu atoch a bydd copi o'r llythyr yn cael ei roi ar y rhyngrwyd.'

Dyna oedd yr ateb. Codaf y pwynt hwnnw gyda chi.

Yn ail, hoffwn ofyn cwestiwn ar ran Colin Brain a llawer o rai eraill yn yr un sefyllfa yn fy rhanbarth i, oherwydd, yng ngoleuni'r datganiad a wnaethpwyd gennych chi am beidio â phrofi pobl heb symptomau mewn cartrefi gofal, mae'n gofyn, yn syml, pe bai ei fam neu bobl eraill yn y cartref gofal yn marw oherwydd diffyg profion, yn rhannol, a wnewch chi, y Gweinidog Iechyd, gymryd cyfrifoldeb llawn am hynny ac am bopeth y mae hynny'n ei olygu?

Wel, fel mae'r Aelod wedi clywed yn rheolaidd drwy gydol y prynhawn yma ac ar nifer o achlysuron eraill, nid yw'r dystiolaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd yn cefnogi profi pobl heb symptomau yn gyffredinol. Os bydd y sail dystiolaeth honno'n newid ac o dan amgylchiadau penodol neu'n gyffredinol, yna byddaf yn fodlon newid fy safbwynt a safbwynt y Llywodraeth. Ac mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n ceisio dweud bod yna gyngor delfrydol sydd ar gael mewn un rhan o'n system neu un arall, oherwydd byddwn ni'n parhau i ddysgu; byddwn yn gwybod mwy am y coronafeirws yr wythnos nesaf nag a wyddom ni'r wythnos hon. Bydd gennym ni fwy o dystiolaeth i seilio ein dewisiadau arni, ac efallai y bydd angen i ni newid y ffordd yr ydym yn darparu gwahanol wasanaethau. Rwy'n credu pe bai Gweinidogion fel ni yn cael ein hunain mewn sefyllfa pryd y byddem yn gwrthod cydsynio, yn gwrthod cydnabod y gallai fod tystiolaeth wahanol, arall, ar gael yn y dyfodol ac efallai y byddem yn gwneud dewisiadau gwahanol, wel, byddai hynny'n beth hollol anghywir i'w wneud i'r cyhoedd.

Felly, byddaf yn parhau i gymryd cyfrifoldeb am y system gyfan, am y dewisiadau a wnaf, am y ffordd yr wyf yn rhoi cyfarwyddyd a'r arweiniad a roddaf i'r holl faes iechyd a gofal cymdeithasol. Os newidiwn ni'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud, yna fe fyddaf nid yn unig yn cydnabod hynny ond yn egluro hynny, ac yn egluro'r hyn yr ydym ni'n ei wneud a beth yw sail y dewis nesaf hwnnw. A dyna, rwy'n credu, yw'r math o arweiniad cyfrifol y mae gan bob un ohonom yr hawl i'w ddisgwyl nid yn unig gennyf fi, ond gan bobl eraill yn eu swyddogaethau arwain eu hunain ym mhob rhan o'n sector iechyd a gofal cymdeithasol.

15:45

Gweinidog, byddwch yn ymwybodol y bu Prifysgol De Cymru, sydd wedi'i lleoli yn Nhrefforest, ar flaen y gad o ran ymchwilio i ffyrdd newydd o brofi ar gyfer y coronafeirws a'u bod wedi cynhyrchu prawf ymateb cyflym a allai o bosib newid pethau'n chwyldroadol. Mae'n rhan o gynnydd mewn menter ac arloesedd lleol i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol, ac i ddatblygu ffyrdd newydd o brofi yr ydym wedi eu gweld yng Nghymru y gwnaeth y Prif Weinidog eu crybwyll yn gynharach. Nawr, rwy'n deall bod yr arbrofion ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi mynd yn dda, a bod Prifysgol De Cymru bellach yn ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith pwysig hwn. Tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi am y sefyllfa bresennol, pa un a fu trafodaethau rhyngoch chi a Phrifysgol De Cymru, ac am unrhyw gynnydd a wnaed wrth hyrwyddo'r prosiect pwysig hwn.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig a chadarnhaol yn ein tystiolaeth gynyddol a'n sail ymchwil ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud. Mae'r prawf y mae Prifysgol De Cymru wedi bod yn rhan o'r gwaith o'i ddatblygu yn darparu canlyniad prawf cyflym, ac felly rydym yn bwriadu cyflwyno hwn. Gallai fod yn ddefnyddiol iawn yn y man lle rhoddir gofal, a hefyd wrth brofi gartref, ac rwy'n falch o gadarnhau ein bod wedi cymeradwyo cyllid o'n systemau cymorth COVID-19 i alluogi hynny i barhau a symud ymlaen i'r cam nesaf. A byddaf yn parhau i gymryd diddordeb yng nghanlyniadau hynny. Rydym hefyd yn gwneud rhywfaint o waith gyda busnes i ddatblygu'r dechnoleg sy'n ymwneud â hyn hefyd.

Felly, mae'r cynigion hynny, yr wyf yn deall, wedi eu cyflwyno a byddant yn ymwybodol bod y cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu, a dylai'r cymorth ariannol ein harwain at sefyllfa pryd y byddwn yn deall a yw hon yn dechnoleg i'w datblygu ac yna ei chyflwyno i ddarparu'r math o brofion cyflym a fydd yn newid ein gallu i weithredu math gwahanol o gyfundrefn brofi yn sylweddol a rhoi sicrwydd gwirioneddol i bobl un ai yn eu gweithleoedd neu yn wir, yn eu cartrefi.

Gweinidog, mae data SYG yn awgrymu bod nifer y marwolaethau yn sgil COVID-19 mewn cartrefi gofal gryn dipyn yn uwch na'r hyn a gofnodir, ac rwyf wedi edrych ar ddata Aneurin Bevan ac mae'n dangos bod cynnydd yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i farwolaethau nad ydynt yn farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal eleni. Nawr, nid dyna'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl wrth symud o'r gaeaf i'r gwanwyn. Mae'n rhaid mai'r unig esboniad rhesymol am hynny yw na chofnodir pob marwolaeth fel rhai COVID-19 ar dystysgrifau marwolaeth.

Nawr, yn ogystal â hyn, rwyf wedi siarad â nifer o reolwyr cartrefi gofal sydd wedi dweud wrthyf fod diffyg profion yn arwain at achosion y gellir eu hosgoi mewn cartrefi gofal, a hyn ar adeg pan fydd profion ar gael i breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Wrth edrych ar hyn i gyd, Gweinidog, a oes gennych gywilydd eich bod wedi dweud y bore yma nad darparu profion i breswylwyr a staff cartrefi gofal fyddai'r ffordd orau o ddefnyddio adnoddau?

O ran y pwynt am farwolaethau nad ydynt yn rhai COVID—19 yn cynyddu, mae angen inni ddeall beth yn union yw hynny, a oes problem ynghylch methu cofnodi COVID-19—oherwydd, mewn gwirionedd, adolygiad tystysgrif marwolaeth yw'r adolygiad mwyaf cywir—pa un a oes bwlch amser ac a yw'r ffigurau hynny'n cael eu darparu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Hefyd, dyma'r pwynt rwyf wedi'i wneud yn fy natganiad ac o'r blaen sef bod rhai pobl yn gwrthod mynd i ysbyty pan fydd ganddyn nhw anghenion gofal brys, ac rwy'n pryderu'n fawr am niwed y gellir ei osgoi a marwolaethau y gellir eu hosgoi. Ac yn hytrach na neidio i un casgliad, rwyf eisiau deall beth yw'r darlun llawn hwnnw.

Ac ynghylch y pwynt yr ydych yn ei godi am ddefnyddio adnoddau, rwy'n credu ei bod yn bwysig dyfynnu pobl o fewn cyd-destun ac yn llawn fel nad ydych yn rhoi camddehongliad camarweiniol o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud mewn gwirionedd. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r dystiolaeth a'r cyngor sydd gennym ar hyn o bryd, ynghylch a yw cael rhaglen brofi gyffredinol mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n symptomatig y peth iawn i'w wneud. Rwyf hefyd wedi dweud, os bydd y cyngor yn newid, yna gallem neu y dylem newid ein safbwynt, ar sail y dystiolaeth a'r cyngor ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio'n hadnoddau. Rwy'n credu ei bod yn anffodus y defnyddiwyd iaith emosiynol o'r fath ac mae'r postiad ar y cyfryngau cymdeithasol a wnaed, gyda chi a'ch enw arno, sy'n cynnwys camddehongliad uniongyrchol o'r hyn a ddywedais, yn ffuglen, ac, os bydd rhywun yn mynd i deimlo cywilydd, credaf y dylech edrych ar yr hyn sy'n cael ei ddweud yn eich enw chi gan nad yw'n wir o gwbl.

15:50

Diolch yn fawr, Gweinidog. Daw hynny â ni at ddiwedd y datganiad a nawr byddaf yn atal y trafodion dros dro am 10 munud.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:51.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:07, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

16:05
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19)

Felly fe wnawn ni ailgynnull y cyfarfod llawn—y rhith-gyfarfod llawn. Ac fe symudwn ymlaen nawr at y datganiad nesaf ar ein hagenda, sef datganiad gan y Gweinidog Busnes—mae'n ddrwg gennyf, gan y Gweinidog Addysg, ynglŷn â'r coronafeirws. Felly draw at y Gweinidog, Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddechrau heddiw drwy ddiolch i'n hathrawon, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr gofal plant, darlithwyr, a'r holl staff sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Rwy'n hynod ddiolchgar am y ffordd y mae pawb wedi ymateb i her y pandemig hwn. Diolch o galon. Rydych chi wir wedi bod yn arwyr cenedlaethol.

Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i bob un ohonom ni, ond rwy'n falch o'r hyn y mae ein gweithwyr addysg proffesiynol wedi gallu ei gyflawni hyd yn hyn. Drwy Hwb, ein platfform dysgu ar-lein, gellir defnyddio ystod eang o adnoddau a chynnwys digidol dwyieithog mewn modd na ellid gwneud hynny erioed o'r blaen. Ac mae hyn yn golygu bod gan Gymru'r cyfrwng perffaith i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, ond hefyd i'w galluogi i barhau i ddysgu, yn ystod y cyfyngiadau symud. Drwy gydol mis Mawrth 2020, cynyddodd y defnydd o Hwb yn sylweddol, a chofnodwyd mwy na 2.8 miliwn o achosoion o fewngofnodi. Ac mae ein ffigurau diweddaraf yn dangos, ar gyfartaledd, bod 150,000 yn mewngofnodi bob dydd. Ni oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i sicrhau cytundeb trwyddedu cenedlaethol gyda Microsoft. A diolch i'r cytundeb hwnnw, gall bob un disgybl ac athro yn ein hysgolion gwladol ddefnyddio'r offerynnau Microsoft Office diweddaraf, gan gynnwys Minecraft Education Edition, ar eu dyfeisiau personol gartref.

Ac enghraifft arall o Gymru yn arwain y ffordd yw'r ffaith ein bod wedi cyflwyno Adobe Spark yn genedlaethol—y wlad gyntaf yn y byd i wneud hynny—sy'n golygu y bydd mwy na 500,000 o athrawon a dysgwyr yn gallu defnyddio Adobe Spark for Education. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda chewri maes technoleg fel Google, gan sicrhau bod offer fel Google Classroom ac amrywiaeth o offerynnau G Suite for Education ar gael yn y Gymraeg. Nawr, ni ddylem ni danbrisio'r cyflawniad hwn; y Gymraeg yw'r ail iaith leiaf—o ran siaradwyr—y mae G Suite ar gael ynddi.

Yn nes adref, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i warantu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim hyd nes bydd ysgolion yn ailagor, neu hyd at ddiwedd mis Awst. Gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r Llywodraeth hon wedi darparu £33 miliwn i helpu awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais 'Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu: datganiad polisi parhad dysgu'. Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo pawb sy'n ymwneud ag addysg i ymdrin ag effaith y coronafeirws. Elfen bwysig o hyn yw gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr heb gyfleoedd i ddefnyddio cyfryngau digidol, a gobeithiaf allu gwneud mwy o gyhoeddiadau yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran hyn. Rwy'n ffyddiog y byddwn ni, felly, yn gallu cadarnhau mwy o gynlluniau i ailgylchu cyfarpar presennol o ysgolion a'i ddyrannu i ddysgwyr sydd ei angen, gan ddefnyddio ein cyllid Technoleg Addysg.

Wrth gwrs, un cwestiwn mawr i bob un ohonom ni yw: pryd y bydd ysgolion yn mynd yn ôl i'r drefn arferol? Rhaid imi ddweud na fu'n fawr o gymorth i neb glywed sïon niferus o gyfeiriad San Steffan yn dweud pethau anghyson yn y cyswllt hwn. Nid yw hynny'n ffordd o ennyn hyder.

Mewn cyferbyniad, yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethom ni gyhoeddi yr egwyddorion arweiniol y byddwn yn eu defnyddio i benderfynu pryd a sut y bydd ysgolion yn dychwelyd i ddarparu addysg ar gyfer mwy o ddisgyblion. Rwyf wedi'i gwneud yn glir y bydd hwn yn ddull graddol. Ac wrth wneud hyn, rwyf wedi rhoi sicrwydd y byddwn yn cyfleu unrhyw gyfarwyddiadau a phenderfyniadau mewn da bryd cyn unrhyw gamau gofynnol, gan sicrhau bod ysgolion a theuluoedd yn gallu cynllunio at y dyfodol.

Os gallaf nawr droi at addysg bellach, mae colegau ledled Cymru wedi cyflwyno mesurau i ymdrin â'r pandemig mewn lleoliadau addysg bellach. Ym mis Mawrth, fe wnaethon nhw ddechrau ar ddull graddol o ddysgu o bell a dysgu digidol. Mae dysgwyr yn cael cymorth i barhau â'u hastudiaethau ac i weithio tuag at gwblhau aseiniadau a chyrsiau, lle bo hynny'n bosib, gyda phwyslais penodol ar ddysgwyr agored i niwed y bydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i wneud hynny. Mae colegau addysg bellach yn ganolog i'w heconomïau lleol, ac rwyf wedi rhoi sicrwydd ynghylch cyllid i GolegauCymru i gefnogi'r sector a sicrhau sefydlogrwydd i sefydliadau a'u dysgwyr yn y cyfnod hwn. Drwy Prifysgolion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'n prifysgolion ac rwyf eisoes wedi cadarnhau bod y moratoriwm ar gynigion diamod yn parhau i fod ar waith yng Nghymru tan 1 Mai.

Ar ôl rhoi syniad dros dro i CCAUC o'r lefelau o gyllid a allai fod ar gael i'r sector eleni, rwyf eisiau symud ymlaen ar yr adeg iawn gyda phecyn o fesurau sy'n rhoi sicrwydd i fyfyrwyr, i brifysgolion ac i'r gymuned addysg uwch ehangach. Yn y cyfamser, rydym ni wedi datblygu adnoddau ar gyfer disgyblion blwyddyn 13, sy'n gobeithio mynd i'r Brifysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd yn yr hydref. Mae'r adnoddau hynny yno i helpu adeiladu sgiliau a hyder ac i'w helpu i gysylltu â phrifysgolion ledled Cymru.

Rwy'n cydnabod, hefyd, bwynt Universities UK sef y dylai pob un o'r pedair Llywodraeth barhau i weithio gyda'i gilydd ar faterion sy'n ymwneud â'r sector addysg uwch a bod maint yr her a wynebir gan y sector yn mynd ymhell y tu hwnt i'r adnoddau sydd ar gael o fewn cyllidebau llywodraethau datganoledig. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau dull cyson o ymdrin â materion megis gofynion fisa, asesiadau wrth gefn, gofynion cyrff proffesiynol a derbyniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. A byddwn yn parhau i weithio'n gyflym o fewn Llywodraeth Cymru a chyda'r sector ehangach yng Nghymru ar y materion hyn. Ond byddwn hefyd yn parhau i weithio ar sail pedair gwlad ar faterion megis cyllid ymchwil a chyllid gan Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. A gobeithiaf symud ymlaen o ran y materion hynny yn fuan.

Fel y bydd fy nghyd-Aelodau yn gwybod yn iawn, gall sefyllfaoedd newid yn gyflym yn ystod pandemig. Gallaf eich sicrhau, fodd bynnag, y byddwn yn parhau i weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth a chyda'n partneriaid i ddarparu arweiniad a chyngor ac i sicrhau diogelwch pob un o'n staff a'n plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.  

16:10

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am y diweddariad yna a'r dystiolaeth a roesoch inni yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y diwrnod o'r blaen. A gaf i ategu eich sylwadau agoriadol am yr holl bobl y mae angen diolch iddyn nhw, ac ychwanegu rhai o'r swyddogion cyngor hynny, gan ei fod yn fy nharo i, bob tro y ceir cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, mae'n ymddangos i mi mai swyddogion a gweithwyr cyngor sy'n gwneud y gwaith caib a rhaw? Rwy'n gobeithio eich bod yn annog pawb sy'n gysylltiedig i gofnodi data am eu gweithgareddau, gan y bydd angen hynny arnom ni, nid yn unig i graffu arnoch chi a pherfformiad rhai o'r cyrff hyn, ond hefyd i ganfod a manteisio ar y syniadau da hynny ar gyfer ffyrdd mwy ystwyth, effeithlon ac effeithiol o weithio a fydd yn deillio o hyn.-

Rwy'n deall, wrth gwrs, bod pwyslais cryf wedi bod ar ysgolion, ond amharwyd ar fywydau dysgwyr achlysurol, fel pawb arall, ac roeddwn yn falch o'ch clywed yn dweud bod y cyfraniad ariannol i sefydliadau addysg bellach yn cael ei gynnal. Ond am hynny yr hoffwn i ofyn cwestiynau i chi, os caf i.

Rydym ni wedi cael eich diweddariad ar gymwysterau'r DU a gymerwyd yng Nghymru, a gaiff eu hasesu ledled y DU—y rhai sydd ag elfen ymarferol gref—ac edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hynny. Ond, am y tro, a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae'r gwaith o asesu prentisiaethau a chynlluniau eraill dysgu seiliedig ar waith yn datblygu, a beth yw rhan cyflogwyr yn hynny o beth, o gofio bod digon iddyn nhw boeni amdano ar hyn o bryd? A yw Hwb a rhai o'r llwyfannau ar-lein eraill a grybwyllwyd gennych yn awr ar gael i fyfyrwyr coleg neu brentisiaid? Pa adborth ydych chi wedi'i gael gan golegau ynghylch defnyddio'r £2 miliwn yr ydych chi wedi'i roi iddyn nhw ar gyfer cymorth iechyd meddwl, ac unrhyw wybodaeth am y rhwystrau rhag ymgysylltu â myfyrwyr y maen nhw'n eu profi?

Os wnewch chi roi unrhyw wybodaeth i ni ynghylch yr hyn sy'n digwydd o ran cynlluniau eraill dysgu seiliedig ar waith Llywodraeth Cymru, sy'n aml yn seiliedig, wrth gwrs, ar sgiliau hanfodol ac sy'n cynnwys unigolion nad ydyn nhw efallai yn gallu defnyddio llawer o offerynnau TG yn rhwydd—beth yw'r sefyllfa. Ac, os oes gennym ni amser, eich syniadau ehangach ynghylch y Bil AHO sydd ar ei hynt yn y pumed Cynulliad.  

16:15

Diolch, Suzy, am y cwestiynau yna. Rydych chi'n hollol iawn: ni ddylai ymdrechion staff llywodraeth leol gael eu hanwybyddu. Rwy'n cyfarfod yn wythnosol ag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr arweinydd a'r pennaeth addysg, ac rydym yn cadw mewn cysylltiad agos i sicrhau ein bod yn gweithio mewn cytgord agos â'n gilydd. Felly, mae gennyf sicrwydd ynghylch perfformiad awdurdodau lleol ac mae ganddyn nhw gyfle i roi adborth o lawr gwlad am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n amlygu eu hunain yn y cyfnod anodd hwn. Ac rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y ffordd y maen nhw wedi ymateb i'r argyfwng hwn mor gyflym ac ystwyth.

Dychmygwch os gallwch chi, dywedwyd wrthyn nhw ar brynhawn dydd Mercher y byddai ysgolion yn cau oherwydd diben statudol ddeuddydd yn ddiweddarach. Ond roedden nhw i gyd yn gallu sicrhau y gallai plant gweithwyr critigol a phlant sy'n agored i niwed gael gofal mewn ysgolion a addaswyd at ddibenion gwahanol erbyn y dydd Llun. Ac mae hynny'n dangos yr ymdrechion aruthrol a fu ar lawr gwlad i ymateb i'r argyfwng.

O ran addysg bellach, rydych chi'n gywir: rydym ni wedi bod mewn sefyllfa i allu rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch cyllid. Er, wrth gwrs, mae rhai o elfennau a gofynion y cyllid hwnnw yn anodd iawn eu cyflawni ar hyn o bryd. Ond, unwaith eto, mae colegau addysg bellach wedi gweithredu'n gyflym i barhau i ddarparu cymorth i fyfyrwyr ar-lein lle bo hynny'n briodol. Ac maen nhw wedi bod yn arbennig o awyddus i edrych ar elfennau gofal bugeiliol eu gwaith, gan gadw mewn cysylltiad agos â'r myfyrwyr hynny y mae astudio o bell efallai'n her wirioneddol, ac rwy'n ddiolchgar am eu hymdrechion yn hynny o beth.

O ran cymorth iechyd meddwl, byddwch yn ymwybodol, yn y dyraniad cyllideb ar gyfer eleni, ein bod wedi gallu dyfarnu £2 miliwn i gefnogi colegau addysg bellach a mentrau iechyd meddwl. Mae'r arian hwnnw ar gael o hyd i golegau ac maen nhw'n awyddus i ddarparu cymorth ar gyfer iechyd meddwl mewn amrywiaeth o ffyrdd, er nad yw sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb mewn colegau yn addas mwyach, ond maen nhw'n edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio'r adnodd hwnnw sydd ar gael iddyn nhw.

O ran cymwysterau galwedigaethol, rwy'n cydnabod ei bod wedi cymryd peth amser i allu rhoi eglurder i ddysgwyr galwedigaethol, nid yn y ffordd yr oeddem yn gallu gwneud hynny ar gyfer ein myfyrwyr TGAU ac A2 efallai. Mae hyn yn rhannol gan nad yw'r cyrff dyfarnu yng Nghymru yn unig; rydym yn ymwneud â chyrff dyfarnu sy'n gweithio ar sail y DU gyfan ac mae angen i ni weithio ar y cyd â nhw i sicrhau nad yw myfyrwyr o Gymru o dan anfantais.

Fel y dywedais wrth y pwyllgor ddoe, y myfyrwyr hynny sydd, fel rhan o'u prentisiaeth neu eu dysgu seiliedig ar waith, yn ymgymryd â chymwysterau sgiliau hanfodol, sy'n rhan o fwyafrif helaeth, y rhaglenni prentisiaethau, bydd y myfyrwyr hynny'n ennill gradd. I'r myfyrwyr hynny sy'n dilyn y cymwysterau galwedigaethol o ran gofal plant, sy'n gymwysterau i Gymru'n unig, byddant hwythau hefyd yn ennill gradd.

Gwn fod rhai o'n cyrsiau mynediad wedi achosi straen arbennig. Mae'r rhain fel arfer yn fyfyrwyr mwy aeddfed, rhieni eu hunain yn aml, sy'n dilyn cyrsiau gofal iechyd fel rhagflaenydd cyn mynd ymlaen i astudio ar lefel gradd, fel arfer ar gyfer cyrsiau sy'n ymwneud â nyrsio a bydwreigiaeth. A gwn y bu hynny yn her arbennig, a chytunwyd bellach nad oes rhaid i'r myfyrwyr hynny gwblhau eu holl aseiniadau—byddant hwythau hefyd yn cael eu trin yn yr un modd, a byddant yn cael gradd, gan eu galluogi nhw i symud ymlaen, gobeithio, i'r cyrsiau yr oedden nhw'n gobeithio eu gwneud ym mis Medi, heb unrhyw straen pellach.

Mae prentisiaethau yn her, yn enwedig i'r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi gallu cwblhau'r elfen seiliedig ar waith o'u cwrs, oherwydd efallai eu bod wedi cael eu rhoi ar ffyrlo neu efallai am nad yw eu cwmni neu eu cyflogwr yn gweithredu mwyach, ac rydym yn parhau i weithio drwy'r agweddau ymarferol ar sut y gallwn ni gefnogi'r myfyrwyr hynny. A byddwch yn ymwybodol ein bod wedi sôn ddoe am y myfyrwyr penodol hynny y mae cymhwysedd technegol yn rhan bwysig iawn o'u cwrs. Felly, os ystyriwn ni blymio a gosod nwy—yn amlwg, er mwyn cofrestru fel ymarferwr cymwys ceir arholiadau ymarferol ac asesiadau y mae angen eu cynnal. Unwaith eto, rydym yn gweithio gyda ColegauCymru i weld—a allwn ni lacio rhai o'r cyfyngiadau symud ar unrhyw adeg fel y gall rhai myfyrwyr ddychwelyd i ddysgu, mae'n debyg mai'r myfyrwyr penodol hynny fyddai un o'r cyfresi cyntaf o fyfyrwyr yn y sector addysg bellach y byddem yn dymuno darparu ar eu cyfer er mwyn iddyn nhw allu cwblhau eu cymhwyster, fel arall, efallai y byddwn mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid iddyn nhw ohirio'r elfen honno o'r cymhwyster hwnnw, ac rydym yn cynnal trafodaethau cynnar gyda cholegau ynghylch sut y gallent roi sylw i'r myfyrwyr hynny petai'r myfyrwyr yn methu gwneud hynny tan yn ddiweddarach, a hynny efallai yn mynd i'r flwyddyn academaidd nesaf.

16:20

[Anhyglyw.]—yr atebion yna. Mewn ymateb i ail ran fy nghwestiynau, efallai y gallech chi roi sylw i'r pwyntiau am AHO a mynediad i Hwb na wnaethoch lwyddo i'w cyrraedd.

Ond gan droi at sefydliadau addysg uwch, mae prifysgolion, wrth gwrs, yn sefydliadau preifat—statws y maen nhw'n ei warchod yn ffyrnig—ond maen nhw'n allweddol o ran gwella dyfodol ein hetholwyr a'n heconomi, felly mae gan lywodraethau, y ddwy ohonyn nhw, ran i'w chwarae i sicrhau'r cydnerthedd hwnnw. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni a ydych yn credu a oedd modd i brifysgolion yng Nghymru gael eu heffeithio yn anghymesur gan rai o'r anawsterau ariannol difrifol y mae prifysgolion y DU wedi sôn amdanyn nhw o ganlyniad i effeithiau'r feirws—fe gofiwch fod y mater ynghylch ymrwymiadau rhai o'n prifysgolion o ran cyllid wedi dod i'r Siambr hon o'r blaen, felly mae'n fater sy'n peri pryder difrifol—ac, yn sgil hynny, a ydych wedi cael unrhyw fanylion ganddyn nhw ynghylch y camau y maen nhw yn eu cymryd i sicrhau eu bod yn manteisio ar yr holl gynlluniau cymorth ariannol y mae'r ddwy Lywodraeth yn eu cynnig, megis ffyrlo, ond efallai fod enghreifftiau eraill hefyd.

Diogelu ein sail ymchwil—mae hynny'n eithriadol o bwysig yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig o ran cadw'r rhai mwyaf peniog o bob cwr o'r byd a helpu i fanteisio ar yr ystwythder a'r syniadau arloesol sydd wedi deillio o'r argyfwng hwn, os mynnwch chi. Felly, beth allwch chi ei ddweud wrthym ynghylch sut y mae ymchwil o ansawdd yn cael ei ddiogelu, ac eto a oes modd inni gael ein heffeithio yn anghymesur o ran fisâu?

Ac yna, yn olaf, gan y bydd yn debygol y gwelir colli miloedd o fyfyrwyr tramor a myfyrwyr cartref yn gohirio eu cyrsiau, bydd cystadleuaeth ffyrnig i'r rhai sydd am ddechrau cyrsiau yn yr Hydref, gan fod incwm myfyrwyr, wrth gwrs, yn hanfodol i hyfywdra cyrsiau, adrannau a hyd yn oed sefydliadau. Clywais yr hyn a ddywedsoch chi am reoli cynigion diamod sy'n dod i ben mewn ychydig ddyddiau, ond pa gamau eraill sydd eu hangen i sicrhau chwarae teg i bob sefydliad, ac a ydyn nhw, fel y banciau, yn rhy bwysig i fethu?  

Mae'n ddrwg gennyf, maddeuwch i mi, Suzy. O ran Hwb, mae'n cael ei gyflwyno i ddysgwyr AB. Credaf fod y broses honno bron wedi'i chwblhau, ac felly mae'r adnoddau hynny ar gael i'r dysgwyr hynny.

O ran y Bil AHO, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, Suzy, bydd cyfraniad addysg bellach ac addysg uwch a dysgu seiliedig ar waith i ddyfodol economi Cymru wrth i ni ddod allan o hyn—sydd nid dim ond yn argyfwng iechyd cyhoeddus ond yn argyfwng economaidd—yn bwysicach nag erioed ac, felly, mae diwygiadau yn y sector hwnnw, rwy'n credu, yn bwysicach nag erioed. Byddwch yn ymwybodol bod y Bil wedi'i gyflwyno i Swyddfa'r Llywydd cyn i'r pandemig ddechrau, a'm bwriad oedd dod â hynny i'r pwyllgor ar ddechrau'r tymor hwn. Mae'r prosesau hynny, wrth gwrs, yn parhau. Mae'r Bil hwnnw'n barod i graffu arno, a byddaf yn parhau i drafod gyda'r Comisiwn y cyfleoedd a all fod ar gael wrth i'r Cynulliad ganfod ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni ei waith yn yr argyfwng hwn er mwyn gallu cyflwyno'r Bil hwnnw. Rwy'n sicr yn barod i wneud hynny. Efallai fod ystyriaethau ymarferol y bydd yn rhaid inni ymgodymu â nhw.

O ran y sector addysg uwch, byddwch yn ymwybodol o waith Universities UK sydd wedi ceisio mesur effeithiau'r argyfwng ar y sector addysg uwch. Mae rhai o'r rheini'n ddisyfyd o ran colli incwm ar hyn o bryd, boed hynny o gynadleddau, arlwyo, llety, ond, wrth gwrs, wrth inni edrych ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, gallai'r effeithiau hynny fod hyd yn oed yn fwy. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod yn edrych ar ostyngiad sylweddol mewn myfyrwyr tramor yn ofrgystal ag amharu ar farchnad y DU o bosibl os bydd rhai myfyrwyr yn penderfynu gohirio am flwyddyn a dewis peidio â mynd i'r brifysgol ar hyn o bryd, er bod yn rhaid i ni ddweud nad oes tystiolaeth o hynny ar hyn o bryd. A dweud y gwir, i'r gwrthwyneb: mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod llawer o bobl ifanc 18 oed sy'n daer am fynd i ffwrdd ym mis Medi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ac efallai eu bod yn fwy penderfynol fyth o adael y nyth ar ôl profi'r cyfnod hwn o gyfyngiadau nag yr oeddent o'r blaen. Ond maen nhw'n gwestiynau dilys yr ydym ni'n ymgodymu â nhw.

Rwy'n falch iawn bod prifysgolion wedi ufuddhau i'r moratoriwm ar drosi cynigion amodol i gynigion nad oes ganddyn nhw unrhyw amodau. Rwy'n ddiolchgar am eu cydweithrediad yn hynny o beth. Ond bydd y moratoriwm hwnnw, fel y gwyddoch, yn dod i ben, ac rydym yn trafod, ar sail y DU gyfan, cyflwyno—yn sicr, ar sail Cymru a Lloegr—rheolaethau ar niferoedd myfyrwyr dros dro. Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n digwydd fel arfer yn systemau Cymru a Lloegr. Mae ganddyn nhw reolaethau ar niferoedd yn yr Alban oherwydd y gwahanol ffyrdd y maen nhw'n ariannu eu system, ond yng Nghymru a Lloegr nid oes gennym ni reolaethau ar niferoedd. Ond fel y byddwch chi'n gwybod o bapur Universities UK, mae hwn yn awgrym gan y sector ei hun ein bod yn cyflwyno rheolaethau rhif myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, a fyddai'n caniatáu i sefydliadau recriwtio eu niferoedd rhagamcanol ynghyd â 5 y cant, a gobeithio y gallwn wneud cyhoeddiad yng Nghymru yn fuan ar reolaethau niferoedd myfyrwyr, a fydd yn ychwanegu sefydlogrwydd ychwanegol ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd.

Mae cyllid ymchwil yn gwbl hanfodol ac mae mewn perygl arbennig gan fod hyn yn aml yn cael ei ariannu gan arian cyfatebol o'r ffioedd a gyflwynir i'r sector gan fyfyrwyr rhyngwladol, ac mae'r dyfodol a graddfa cyllid ymchwil yn parhau i fod yn bwnc sy'n cael ei drafod ar sail pedair gwlad oherwydd bod y graddfeydd—. Yn gyntaf oll, nid yw llawer o elfennau o gyllid ymchwil ac arloesi ar gyfer y sector wedi'u datganoli ac oherwydd maint rhai o'r ymyriadau yr ydym ni'n edrych arnyn nhw dylid eu gwneud mewn gwirionedd ar sail pedair gwlad. Cefais ragor o drafodaethau gyda'm Gweinidog cyfatebol yn San Steffan ynghylch hyn heddiw ac rydym ni—minnau, Gweinidog Gogledd Iwerddon a Gweinidog yr Alban—yn parhau i annog Llywodraeth San Steffan i ddod o hyd i arian newydd o'r Trysorlys i gefnogi'r sector addysg uwch ar yr adeg hon. Ond yn union fel y mae pob plaid yn gofyn i'r Gweinidog Cyllid yng Nghymru am adnoddau ychwanegol, nid wyf yn amau nad yw'r un peth yn wir am Ganghellor y Trysorlys, ac rydym yn cefnogi Gavin Williamson a Michelle Donelan yn eu galwadau i'r Trysorlys a'u hachos i'r Trysorlys i gefnogi'r sector.  

16:25

Diolch. Petaem ni yn y Siambr, fe fyddwn wedi bod yn syllu'n galed iawn ar y Gweinidog. Rydym yn ceisio cael atebion byrrach i gwestiynau, ac roeddwn yn syllu'n galed arnoch chi, ond, wrth gwrs, ni allwch fy ngweld yn gwneud hynny. Felly, gallwn ni feddwl am atebion byrrach, os gwelwch yn dda? Siân Gwenllian.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn innau gymryd y cyfle i ddiolch o galon i holl staff ein sefydliadau addysg, i rieni a disgyblion a myfyrwyr am ymateb mewn ffordd mor gyfrifol i'r argyfwng yma ac am fod mor hyblyg wrth ddelio efo ffordd newydd o ddysgu ac addysgu.

Un o'r heriau mwyaf ydy ceisio sicrhau nad oes yr un plentyn yn dioddef yn sgil yr argyfwng yma, ac mae'n peri pryder i mi cyn lleied o blant yn y categori bregus sydd yn mynychu'r ysgolion: dim ond tua 600 ar draws Cymru. Hoffwn wybod, felly, mwy am y canllawiau cenedlaethol sydd ar waith er mwyn sicrhau bod cysylltiad cyson yn digwydd efo'r cohort yma o blant.

Hoffwn i wybod hefyd pa drefniadau ydych chi yn rhoi ar waith, neu'n disgwyl i gael eu gweld yn rhoi ar waith, i sicrhau bod pob plentyn yn cynnal cysylltiad efo'u hysgol, a pha drefniadau sydd ar waith i sicrhau bod pob plentyn yn gallu parhau i ddysgu? Heb ganllawiau clir, fy mhryder i ydy bod y bwlch cyrhaeddiad yn lledu yn gyflym gan adael miloedd o blant dan anfantais enfawr.

Mae'r bwlch digidol yn gadael plant ar ôl hefyd, am resymau tlodi neu ddaearyddiaeth, neu gyfuniad o'r ddau. Does gan rai miloedd o blant ddim ffordd o gael mynediad at ddysgu ar-lein. Does ganddyn nhw ddim dyfais a does ganddyn nhw ddim cysylltiad efo'r band eang, neu gyfuniad o'r ddau beth yna. Onid ydy hi'n sgandal ei bod hi wedi cymryd argyfwng i hyn gael sylw, ac onid ydy ymdrechion eich Llywodraeth chi i sicrhau bod gan bob plentyn ddyfais briodol wedi bod yn dila iawn hyd yn hyn? A gaf i ofyn jest un peth arall yn y darn yma? Ydy cynnal fideo byw rhwng athro a disgybl yn awr wedi cael ei wahardd?

16:30

Mae nifer y plant agored i niwed sy'n gymwys i fynychu ein canolfannau wedi bod yn isel, ond rwy'n falch o adrodd, ers diwedd yr hyn a fuasai'n doriad traddodiadol y Pasg, ein bod wedi gweld cynnydd yn y niferoedd hynny, a byddwn yn parhau i weithio gyda phob rhan o'r Llywodraeth a chyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod pob rhiant yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Rydym wedi cael sicrwydd gan awdurdodau lleol bod y plant hynny sydd â gweithiwr cymdeithasol wedi cael asesiad risg, a bod cyswllt yn cael ei gadw gyda'r plant hynny, naill ai gan eu gweithiwr cymdeithasol neu yn wir gan eu hathrawon. Gwyddom fod rhai plant yn agored i niwed ond nad oes ganddyn nhw weithiwr cymdeithasol, neu nad oes ganddyn nhw ddatganiad ar gyfer anghenion addysgol arbennig, a gwyddom fod ysgolion mewn sawl ardal wedi bod yn ddiwyd iawn yn gwneud archwiliadau lles ar blant y mae ganddyn nhw bryderon yn eu cylch, a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y plant cywir yn derbyn gwasanaeth yn y ffordd gywir. Ond gadewch i ni fod yn glir: rydym wedi dweud wrth rieni'n gyson mai'r cartref yw'r lle mwyaf diogel i'w plentyn, ac ni ddylai fod yn syndod i ni pan fydd rhieni wedi cymryd y cyngor hwnnw o ddifrif ac wedi cadw eu plant gartref.

Bydd y cynllun parhad dysgu yn parhau i addasu. Fe wnaethom ni gyhoeddi'r datganiad polisi yr wythnos diwethaf. Cam nesaf y gwaith hwnnw yw datblygu a chael cytundeb ledled Cymru ar yr hyn y dylai penaethiaid ac athrawon unigol ei ddisgwyl o ran y math newydd hwn o addysg yng Nghymru, ac yn wir byddwn eisiau olrhain gwireddiad y disgwyliadau hynny sydd gennym ni mewn gwirionedd ar lawr gwlad.

O ran y rhaniad digidol, nid wyf yn ei hystyried hi'n beth pitw mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd wedi sicrhau bod Microsoft Office ar gael i'w holl ddisgyblion a'i myfyrwyr. Ni yw'r cyntaf yn y byd, fel y dywedais, i sicrhau bod meddalwedd Adobe ar gael i bob myfyriwr. Rwy'n ymwybodol iawn, fodd bynnag, y bydd rhai myfyrwyr nad oes ganddyn nhw'r caledwedd na'r cysylltedd gartref i fanteisio ar ein hadnodd Hwb, ond, fel y dywedais, mae dros 150,000 o blant y dydd yn mewngofnodi i'r adnodd hwnnw. Dyna pam, fel y gwnaethom ni drafod yn gynharach yr wythnos hon, Siân, ac fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn gwneud datganiad yfory ar sut y byddwn yn defnyddio buddsoddiad Llywodraeth Cymru i ddarparu caledwedd ychwanegol i fyfyrwyr nad oes ganddyn nhw'r caledwedd hwnnw ar hyn o bryd, a chysylltiadau MiFi er mwyn iddyn nhw gael y cysylltiadau data y bydd eu hangen arnyn nhw i allu defnyddio adnoddau eraill yn y dyfodol. A bydd hynny i bob plentyn—nid i grŵp dethol o blant, sydd yn ôl pob golwg yn wir dros y ffin, lle mae'r pwyslais ar y plant hynny'n sy'n cymryd dosbarthiadau arholiad yn unig. Ond bydd angen i ni weithio gyda'n hawdurdodau lleol a'n hathrawon i adnabod y teuluoedd hynny sydd angen y cymorth hwnnw. Mae'n dipyn o gamp, ond rydym ni'n gwneud y gwaith hwnnw.

O ran ffrydio dosbarthiadau ar-lein yn fyw, ar hyn o bryd, rydym yn argymell nad yw ysgolion yn gwneud hynny, ac rydym wedi argymell ar hyn o bryd nad ydynt yn gwneud hynny oherwydd materion pwysig o ran amddiffyn a diogelu plant—er mwyn y plant eu hunain a'r staff. Mae Hwb yn galluogi athrawon i recordio eu gwersi a myfyrwyr i lawrlwytho ar adeg sy'n gyfleus i'r plant hynny. Mae hynny oherwydd, fel y gallwch chi ddychmygu, mae'n bosibl bod gennym ni rai plant ifanc iawn, ac athrawon yn gweithio o'u cartrefi, pryd efallai y byddai'n amhriodol i blant weld athrawon yn eu cartrefi eu hunain. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi gweld mwy o ystafelloedd gwely fy nghyd-Aelodau nag y byddwn wedi gobeithio yn ystod y broses hon o gyfarfodydd Zoom a Skype diddiwedd—nid yw hynny mewn gwirionedd yn briodol mewn amgylchedd addysgol.

Felly, rydym yn cymryd safiad gwrth-risg ar hyn o bryd, wrth i ni werthuso'r hyn sy'n ddiogel a beth yw'r peth priodol i'w wneud yn yr amgylchiadau newydd, heriol hyn. Felly, mae'n ddigon posib y gallwn ni newid y cyngor hwnnw, ond, ar hyn o bryd, ni argymhellir ffrydio gwersi'n fyw gan athrawon yn eu cartrefi i gartrefi plant—gan gydnabod hefyd y gall athrawon weld rhywbeth ar y sgrin honno y gellid ei gamddeall, ond y byddai dyletswydd broffesiynol arnyn nhw i adrodd am yr hyn a welsant. Felly, nid yw hi mor rhwydd â dweud y gallwn ni ganiatáu i athrawon ffrydio gwersi byw mewn amser real. Byddwn yn myfyrio ar hyn, byddwn yn parhau i gael trafodaethau gydag ymarferwyr addysgol a'r undebau, ac efallai y bydd y polisi hwnnw'n esblygu dros amser, ond, ar hyn o bryd, nid ydym yn ei argymell.

16:35

Diolch yn fawr iawn am yr eglurder yna ar y pwynt olaf. Gaf i eich holi chi am y cyflwr iechyd sy’n codi ymhlith rhai plant o ganlyniad i adwaith prin, ond hynod beryglus, sy'n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â coronafeirws? Allwch chi gadarnhau a oes yna unrhyw achosion o'r cyflwr yng Nghymru, ac, os oes yna, neu os daw rhai i'r amlwg, beth fyddai goblygiadau hynny ar eich cynlluniau i ailagor ysgolion? Jest ychydig o gwestiynau i gloi am brofi gweithwyr addysg: ddoe, fe ddaeth hi i'r amlwg mai dim ond 15 o athrawon ar draws Cymru sydd wedi cael profion COVID. Rŵan, mae gweithwyr addysg i fod yn cael eu cynnwys o fewn y categori 'gweithwyr critigol' ac felly i fod i gael eu blaenoriaethu ar gyfer profion. Ond ydych chi'n cytuno efo fi bod y cyhoedd wedi colli ffydd yn strategaeth profi y Llywodraeth, ac, wrth ichi gynllunio ymlaen ar gyfer y cyfnod nesaf, sut ydych chi am sicrhau y bydd athrawon a gweithwyr addysg yn cael profion, ac a wnewch chi warantu y bydd pob gweithiwr addysg a gofal plant sy'n dangos symptomau COVID yn gallu cael prawf?

Yn sicr. Yr wybodaeth sydd gennyf oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol yw bod gennym ni un achos o glefyd Kawasaki mewn plentyn yng Nghymru. Mae'n bwysig cydnabod bod y cyflwr llidiol sylweddol a difrifol hwn yn eithriadol o brin, ond mae angen inni ystyried hynny. Dyna pam y rhoddwyd cyngor i bob un o'r bobl sy'n ateb galwadau 111, os yw rhiant yn ffonio ynghylch plentyn—. Y wybodaeth sydd ganddyn nhw yw y dylent ystyried a yw plentyn yn dangos symptomau o glefyd Kawasaki.

Y gwir yw ein bod yn dal i ddysgu llawer am y feirws hwn, ac nid oes gennym ni ddarlun llawn o hyd o ran i ba raddau y mae'r feirws yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Felly, yr wythnos hon, rydym ni wedi gweld datblygiad pryderus clefyd Kawasaki mewn nifer fach iawn o blant. Ar yr un pryd, bydd Aelodau wedi gweld y cyngor o'r Swistir heddiw y gall plant o dan 10 oed nawr ymweld â'u neiniau a'u teidiau, oherwydd, yng ngolwg Llywodraeth y Swistir, nid yw plant dan 10 oed yn peri risg epidemiolegol. Mae achosion, papurau, yn Ffrainc yn awgrymu y gall plant ysgol uwchradd gludo'r clefyd, ond mae rhai papurau yn Tsieina yn dweud rhywbeth gwahanol. Mae gennym ni lawer i'w ddysgu o hyd am y ffordd y mae'r clefyd yn effeithio ar blant a'r rhan y mae plant yn ei chwarae o ran trosglwyddo'r clefyd, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid i hynny fod yn un o'r prif ystyriaethau wrth inni ystyried beth fydd y cam nesaf mewn addysg.

Fel y dywedais wrth y pwyllgor ddoe, y ffigurau sydd gennyf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw bod 15 o athrawon wedi'u profi, a dau ohonyn nhw'n gadarnhaol. Ond ailadroddaf eto—fel y gwneuthum ddoe ac fel yr wyf wedi gwneud ar fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol—mae gan unrhyw athro sydd â symptomau'r clefyd, neu, yn wir, os yw aelod o'r teulu â symptomau'r clefyd, yr hawl i gael ei brofi, dylai gael ei brofi, a dylai ofyn am brawf.  

16:40

Diolch, Gweinidog, am yr holl waith yr ydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud ar hyn o bryd. Mae penaethiaid, staff addysgu ac wrth gwrs rhieni a phobl ifanc wedi gallu addasu'n rhyfeddol yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n gwybod bod llawer o athrawon a staff yn gwneud llawer mwy nag y gofynnir ganddynt i wneud yn siŵr bod eu disgyblion yn parhau i ddysgu ac yn cadw'n ddiogel, ac ni ellir tanbrisio hyn.

Pan fyddwn ni o'r diwedd yn gallu anfon disgyblion yn ôl yn raddol ac yn ddiogel i'r ysgol, bydd cyfathrebu clir a phendant yn hanfodol. Rhaid i rieni a staff fod yn dawel eu meddwl ynghylch eu diogelwch, a rhaid i bawb ddeall y rhesymeg y tu ôl i'r ffaith y bydd rhai plant yn dychwelyd cyn eraill. Rydych chi wedi sôn yn eich datganiad bod cyfathrebu'n allweddol er mwyn i'r cyfnod trosi fod mor esmwyth â phosibl. Pa weithdrefnau a roddir ar waith i sicrhau y bydd y bobl ifanc hynny sy'n gweld ysgol yn lloches, a'r gweithlu addysgu sydd wedi bod drwy gymaint, yn cael cymorth yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol?

Diolch, Jayne. Byddwch yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi ddoe y pum egwyddor a fyddai'n fy helpu i feddwl am sut olwg fydd ar gam nesaf addysg yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn, gan gydnabod bod dros 500 o ysgolion a lleoliadau ar agor bob dydd eisoes.

Y cyntaf o'r egwyddorion hynny yw diogelwch, lles meddyliol, emosiynol a chorfforol y staff yn yr ysgolion hynny, a'r plant a'r bobl ifanc sy'n eu mynychu, a dyna'r brif flaenoriaeth. Ond rydych chi'n iawn: soniodd egwyddor Rhif 3 am ffydd rhieni a staff a myfyrwyr, ac mae hynny'n ymwneud â rhannu'r dystiolaeth sy'n sail i'r penderfyniadau hyn â nhw, rhoi gwybodaeth iddyn nhw, a hefyd caniatáu amser iddyn nhw gynllunio fel y gallant wneud y trefniadau a'r addasiadau angenrheidiol.

Ac, wrth gwrs, mynd yn ôl i'r ysgol, bydd rhaid i ni gydnabod, ar gyfer staff a myfyrwyr fel ei gilydd, y bydd yn rhaid cael cyfnod o ailaddasu, pryd y byddwn yn canolbwyntio o ddifrif ar iechyd meddwl a lles y plant hynny cyn y gallwn ni ddechrau eu dysgu drachefn. Yr hyn yr ydym yn ei wybod am addysgeg dda yw mai cael lles yn iawn yw'r cam cyntaf tuag at sicrhau bod plant yn gallu dysgu, a bydd angen inni adlewyrchu hynny pan fydd myfyrwyr yn dechrau dychwelyd i'r ysgol.

Diolch. Mohammad Asghar. Mae'n ddrwg gennyf, nid ydym yn clywed Mohammad Asghar. Eiliad os gwelwch yn dda. A wnaiff rhywun helpu, os gwelwch yn dda? Na. A allaf—? Byddaf yn dychwelyd—. A all rhywun gynorthwyo gyda meicroffon Mr Asghar, a dof yn ôl ato? Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cwestiwn sydd gennyf i ynglŷn ag athrawon llanw, athrawon sydd yn gwneud gwaith allweddol iawn mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru, ond mae llawer ohonyn nhw wedi canfod eu hunain yn syrthio rhwng sawl stôl ar hyn o bryd, fel mae'r Gweinidog yn ei wybod, ac yn methu â chael cefnogaeth ar ôl iddyn nhw golli eu cyflogaeth yn ystod y cyfnod yma.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog i gyhoeddi canllawiau cwbl eglur, fel nad oes yna unrhyw amryfusedd yn y fan hyn, fel ein bod ni'n gwybod yn union cyfrifoldeb pwy ydy cynnig cefnogaeth i athrawon llanw, a bydd ysgolion ac asiantau athrawon llanw ac awdurdodau lleol yn gwybod yn union beth ydy'r cyfrifoldebau sydd arnyn nhw a beth ydy'r sgôp sydd ganddyn nhw i sicrhau bod yr athrawon llanw gwerthfawr yma yn cael eu cefnogi drwy'r cyfnod hwn?

Diolch. Cyhoeddais lythyr agored i'r gweithlu athrawon cyflenwi ar 1 Ebrill, ac mae cynnwys y llythyr hwnnw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae Rhun yn llygad ei le: mae ein gweithlu athrawon cyflenwi yn rhan bwysig o'r teulu addysg, ac mae ein cyngor i awdurdodau lleol ac ysgolion unigol yn glir—os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd staffio eu canolfannau ar hyn o bryd, gwn fod athrawon cyflenwi yn barod, yn barod ac yn gallu helpu yn yr ymdrech honno i ofalu am blant ein gweithwyr hanfodol a'n plant agored i niwed. Ond, er bod polisi addysg wedi'i ddatganoli i Gymru, nid felly cyfraith cyflogaeth.

O ran—. Rydym wedi darparu cyngor i awdurdodau lleol: pan fo athro mewn contract cyflenwi hirdymor, yna nid yw'n ofynnol i'r awdurdodau lleol gadw at hynny, ond ein cyngor ni yw y dylen nhw wneud hynny. O ran yr asiantaethau cyflenwi sydd o fewn ein fframwaith cenedlaethol, mae Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru, ar fy nghais i, wedi cysylltu â'r holl asiantaethau o fewn y fframwaith hwnnw i roi cyngor iddyn nhw ar allu'r asiantaeth honno i roi'r gweithwyr hynny ar ffyrlo. Os yw gweithwyr yn cael eu talu ar gynllun talu wrth ennill, mae ganddyn nhw'r hawl i fod yn rhan o gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU. Rydym wedi dweud wrth yr asiantaethau hynny y dylen nhw wneud hynny, ac mae'r mwyafrif helaeth o'r asiantaethau hynny wedi cytuno i wneud hynny.

Rydym ni hefyd—. Mae'r GCC hefyd wedi cyhoeddi cyngor caffael Swyddfa'r Cabinet i asiantaethau ac i awdurdodau lleol, sy'n nodi disgwyliadau pob un o'r sefydliadau hynny o ran yr hyn y dylen nhw ei wneud a sut y dylen nhw wneud hynny. Rwy'n ymwybodol y bu pryderon parhaus, ac, oherwydd natur gymhleth iawn rhai o'r problemau cyflenwi o ran cyflogaeth, pan nad yw rhywun yn cael ei gyflogi gan awdurdod lleol neu pan nad yw rhywun yn gweithio i un o'n hasiantaethau fframwaith cymeradwy, efallai y bydd bylchau. Ond, unwaith eto, byddwn i'n dweud, yn y lle cyntaf, y dylai'r holl athrawon cyflenwi gysylltu â'u cyflogwr i drafod eu sefyllfa nhw.

16:45

[Anhyglyw.]—dylai ysgolion yng Nghymru gau mewn ymateb i COVID-19, ac eithrio gwneud darpariaeth ar gyfer plant sy'n agored i niwed neu blant y mae eu rhieni yn rhan hanfodol o'r ymateb i COVID-19. Fe ddywedsoch fod plant sy'n agored i niwed yn cynnwys y rhai sydd â chynlluniau gofal a chymorth a datganiadau o anghenion addysgol arbennig, ac rwy'n cymeradwyo'r holl staff ar y rotâu ar gyfer hyn, gan gynnwys fy mab ieuengaf.

Sut ydych yn ymateb, felly, i'r swyddog prawf sy'n byw yn Wrecsam a gysylltodd â mi y bore yma, sydd â mab awtistig sy'n bodloni'r meini prawf ond nad yw wedi cael unrhyw ddarpariaeth addysgol ers dechrau'r argyfwng oherwydd, yng ngeiriau'r rhiant, bod y pennaeth yn gwrthod agor darpariaeth arbennig ar gyfer plant anabl? Neu'r fam o Sir y Fflint a gysylltodd â mi neithiwr, y mae gan ei merch awtistiaeth ddifrifol, anabledd dysgu difrifol ac ADHD ac sydd hefyd yn bodloni'r meini prawf, a ddywedodd wrthyf, er ein bod yn ein chweched wythnos o gyfyngiadau symud, nid oes newyddion o hyd ynghylch pryd y bydd canolfan yn agor?

Rydym yn annog pob awdurdod lleol i sicrhau bod ganddyn nhw ddarpariaeth arbenigol ar gael, ac mae'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw yn gwneud hynny. Rydym yn glir iawn y dylai fod darpariaeth arbenigol ar gael i ddiwallu anghenion rhieni, ac fe wnaed hynny yn llwyddiannus mewn llawer lle. Ond hefyd, gadewch i ni fod yn glir, hyd yn oed pan fydd gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a chynllun gofal a chymorth, efallai mai dewis y rhieni yw i'r plant beidio â mynychu lleoliad. Ac, oherwydd ein bod ni'n gweithio allan o ganolfannau, weithiau nid yw model y ganolfan honno'n briodol ar gyfer plentyn, oherwydd byddai'n rhaid iddyn nhw, efallai, wynebu rota o athrawon mewn lleoliad anghyfarwydd, a allai, mewn gwirionedd, fod yn niweidiol i'w lles. Ond y disgwyl yw i bob awdurdod lleol gynnig darpariaeth arbenigol. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, Mark, yw, os oes gennych y cyfryw achosion hynny, yna dylech eu trosglwyddo i mi a byddaf yn eu codi gyda'r cynghorau sir a'r awdurdodau addysg lleol dan sylw.

Gweinidog, roeddwn wrth fy modd yn clywed mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyhoeddi y byddwn yn darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys drwy gydol yr haf, drwy ddarparu'r £33 miliwn hwnnw i'n hawdurdodau lleol, ac y bydd gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i ddarparu gwerth tua £20 y plentyn yr wythnos yn fras yn y ffordd sy'n gweithio orau'n lleol. Ac rydych chi wedi amlinellu tri phosibilrwydd, sef talebau a delir i'r teuluoedd, trosglwyddo arian i'r cyfrifon banc drwy gyfrifon BACS, neu ddanfon bwyd i deuluoedd disgyblion cymwys. A gaf i ofyn, Gweinidog, a ydych yn cydnabod gwerth ychwanegol ysgolion sy'n cadw mewn cysylltiad â rhai disgyblion drwy ddarparu bwyd yn uniongyrchol, nid yn unig ar gyfer gwerth maethol, wrth gwrs, ond oherwydd y bydd rhai disgyblion a rhai teuluoedd yn arbennig yn elwa o'r cyswllt parhaus, er bod hynny mewn cyd-destun gwahanol iawn, gyda'r union bobl hynny sydd bellach yn cyflenwi i rai o'n teuluoedd a phlant mwyaf agored i niwed, sef y penaethiaid, y staff addysgu, a staff ysgolion rhai o'n hysgolion sydd bellach wedi ymgymryd â'r swyddogaeth hon? Ac a wnaiff hi ymuno â mi i ddiolch i'r Aelodau hynny o staff ysgol sydd wedi cytuno i wneud hyn? Mae'r rhain yn ei weld fel estyniad o'u swyddogaeth fugeiliol arferol. Mae'r argyfwng hwn wedi amlygu'r gorau mewn llawer ohonom ni, a rhai o'r arwyr cudd yw staff yr ysgol a'r penaethiaid sy'n ymdrechu i roi cymorth i'r teuluoedd hynny sydd ei angen fwyaf nawr. Maen nhw'n haeddu ein canmoliaeth a'n diolch.

16:50

Diolch, Huw, a hoffwn ategu'r sylwadau hynny. Fe wnaethom ni lwyddo i sicrhau bod £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i sicrhau bod plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn cael cymorth dros wyliau'r Pasg, ac rydym wedi darparu £33 miliwn ychwanegol i'n cario naill ai i'r adeg pan fydd ysgolion yn agor neu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd. Mae'n £19.50, sy'n uwch na'r swm sydd ar gael yn yr awdurdodaeth y drws nesaf i ni.

Rydych chi'n iawn: mae awdurdodau lleol yn defnyddio nifer o ddulliau. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae ganddyn nhw fwy nag un dull, gan eu bod yn ceisio diwallu anghenion teuluoedd unigol, felly rydym ni eisiau rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol wneud yr hyn sydd orau i'r boblogaeth y maen nhw'n ei gwasanaethu. I rai, taleb archfarchnad yw hynny, ond fel y cefais fy atgoffa ac fel yr wyf yn gyfarwydd iawn â lle'r wyf yn byw, efallai na fydd hynny'n berthnasol ac, felly, mae taliad BACS i deuluoedd yn llawer mwy defnyddiol. Ond mae'n ddewis cyfreithlon i awdurdodau lleol ddarparu parseli bwyd neu i ddosbarthu bwyd, ac mae hynny'n darparu pwynt cyswllt pwysig lle gallan nhw holi'r plentyn hwnnw a'r teulu hwnnw i weld sut mae pethau'n mynd.

Yr hyn sy'n ddiddorol iawn, a'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu eisoes, yw bod dros hanner yr awdurdodau lleol yn adrodd ar hyn o bryd bod y nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim naill ai'n gyfartal neu'n fwy mewn gwirionedd nag y bydden nhw fel arfer yn ystod amser ysgol, oherwydd, wrth gwrs, yn ystod amser ysgol, rhaid i chi fod yn yr ysgol i gael y bwyd. Mae'r ffaith ein bod yn symud i system wahanol yn golygu, mewn gwirionedd, fel y dywedais, fod hanner yr awdurdodau lleol wedi gweld eu derbyn naill ai ar y lefel ddisgwyliedig neu eu bod mewn gwirionedd yn rhoi mwy o gymorth i fwy o blant.

Gweinidog, rwyf fi eisiau gofyn rhywbeth am y sector addysg uwch, plîs. Mae'r prif sylw wedi bod ar sicrhau parhad mewn addysg yn y sector ysgolion, yn enwedig bod angen blaenoriaethu beth mae disgyblion blwyddyn 12 yn ei wneud ar gyfer lefel A, ond gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd, wrth gynllunio'r dyfodol, ar sicrhau amharu cyn lleied â phosibl ar ddilyniant dysgu yn y meysydd dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau a cholegau?

Ac a throi at gefnogaeth iechyd meddwl, allwch chi plîs sicrhau y bydd addysg bellach yn cael yr un mynediad at wasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl i ddelio ag effaith yr argyfwng presennol yn yr un modd ag ysgolion?

Yn olaf, beth yw eich asesiad o effaith mwy eang y coronafeirws ar niferoedd myfyrwyr addysg uwch, a beth fydd goblygiadau hynny yng nghyd-destun sefyllfa ariannol bregus prifysgolion Cymru yn y flwyddyn i ddod?

Fel y dywedais yn gynharach, rydym wedi sicrhau bod £2 miliwn ar gael i'r sector addysg bellach i gefnogi mentrau iechyd meddwl i fyfyrwyr. Yn amlwg, mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r rheini mewn ffyrdd gwahanol i'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol, ond mae'r arian hwnnw'n ddiogel ac yn sicr, ac mae ar gael iddyn nhw ei ddefnyddio.

O ran cynllunio ar gyfer beth yn union yw'r cyfnod nesaf mewn addysg, yna gallaf eich sicrhau bod gennym ni gynrychiolydd o ColegauCymru sy'n rhan o weithgor Llywodraeth Cymru ac mae gennym ni bennaeth coleg sy'n rhan o'r grŵp hwnnw hefyd, oherwydd, yn amlwg, bydd yr hyn yr ydym yn cynghori ysgolion i'w wneud yn uniongyrchol berthnasol i golegau addysg bellach ac, mewn rhai ffyrdd, yn berthnasol i addysg uwch hefyd. Felly, rydym ni'n cadw mewn cysylltiad agos ag addysg uwch o ran y gwaith hwnnw.

A gaf i ddweud ein bod, ar gyfer myfyrwyr sy'n agored i niwed yn y sector addysg bellach, yn cynnal yr holl daliadau lwfans cynhaliaeth addysg ar hyn o bryd? Er bod elfen o bresenoldeb ynghlwm wrth dderbyn yr arian hwnnw, mae'n amlwg nad yw hynny'n briodol, ond nid ydym ni eisiau amddifadu myfyrwyr o'r adnoddau ariannol gwerthfawr hynny a'r taliadau hynny, yn ogystal â grantiau dysgu'r Cynulliad, a fydd yn parhau i gael eu talu. O ran myfyrwyr addysg uwch, gwn eu bod yn pryderu, ar ôl gadael y brifysgol, efallai, a dychwelyd i'w cyfeiriad cartref, y gallai hynny effeithio ar eu taliad benthyciad i fyfyrwyr am yr haf, gan fod cyfradd gostyngol ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n byw gartref. Ni fydd hynny'n digwydd. Byddant yn dal i allu hawlio'n llawn, p'un a ydyn nhw wedi aros yn eu prifysgol neu wedi dychwelyd adref.

Fel y dywedais yn gynharach wrth Suzy Davies, mae'r effaith bosibl ar y sector addysg uwch yn enfawr. Ein blaenoriaeth uniongyrchol yw gallu helpu gydag anawsterau llif arian uniongyrchol, ac rydym yn gwneud hynny drwy gadw mewn cysylltiad agos â CCAUC a'r sector. Rydym yn edrych wedyn i ddod â chymaint o sefydlogrwydd â phosib i'r dechrau newydd i'r flwyddyn academaidd newydd, ac yn amlwg bydd angen cefnogaeth barhaus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, o bosib, oherwydd yr effaith—yn bennaf oherwydd colli incwm o fyfyrwyr tramor, ond nid dyna'r unig her sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd.

16:55

Byddaf yn awr yn ceisio galw eto, Mohammad Asghar. Mohammad, os gallwch chi ein clywed ni.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Hoffwn i ofyn am effaith cyfyngiadau symud ar ddarparu hyfforddiant sgiliau yn y sector addysg bellach. Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi y bydd camau'n cael eu cymryd i ddyfarnu cymwysterau galwedigaethol yr haf hwn i ddysgwyr y mae argyfwng y feirws wedi effeithio arnyn nhw. A wnaiff y Gweinidog roi mwy o fanylion i mi am y broses a'r amserlenni ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau hyn a gyfrifir er budd gorau prentisiaid a'r rhai sy'n ymgymryd â hyfforddeiaethau yng Nghymru?

Yn ychwanegol at y pwynt hwn, a wnewch chi roi rhywfaint o syniad o ran pryd y gellid cyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb yn raddol, a phryd y gallwn ddisgwyl i asesiadau cymhwysedd galwedigaethol gael eu hailgyflwyno, yn enwedig mewn sectorau sgiliau allweddol? Mae rhai staff addysg bellach wedi gweld cynnydd yn eu llwyth gwaith oherwydd bod angen cymorth ac arweiniad ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl y dysgwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gweinidog, mae cynnal yr un nifer o staff yn hanfodol i gefnogi dysgwyr i barhau â'u hastudiaethau a'u cadw'n brysur, er bod faint y mae staff ar gael a diogelwch staff yn hollbwysig hefyd ar yr adeg dyngedfennol hon.

A gaf i ofyn i chi gloi, os gwelwch yn dda? Rwy'n gwybod eich bod wedi cael anhawster i ddod i mewn. Gorffennwch, os gwelwch yn dda.

A fyddech cystal, Gweinidog, â chytuno i fynd i'r afael â'r cylch cyllid nesaf, gan y byddai methu â gwneud hynny yn golygu bod gweithgarwch a ariennir sydd eisoes wedi digwydd yn wastraff ac y bydd effaith niweidiol yn sgil hynny ar y bwlch sgiliau yng Nghymru?

Dirprwy Lywydd, rwy'n credu fy mod i, mewn atebion blaenorol i fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma, wedi mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau y mae Mr Asghar wedi eu codi. Byddaf yn ailadrodd: o ran cymwysterau, mae Cymwysterau Cymru yn glir iawn ar ei wefan am y ffordd y byddan nhw'n dyfarnu cymwysterau galwedigaethol. Pan fo modd cyfrifo gradd, bydd hynny'n digwydd. Pan nad oes modd cyfrifo, dylid ystyried addasu asesiadau presennol, a bydd hynny yn digwydd hefyd. Ond i rai—a soniodd Mr Asghar am gymwyseddau proffesiynol—mae'n bosibl y bydd yn rhaid gohirio hynny, ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector i ganfod ffyrdd o amgylch hyn. Mae'n wir dweud na fydd yn bosibl, efallai, i rai o'r asesiadau technegol hynny gael eu cynnal o dan yr amodau presennol, ond byddwn yn parhau i adolygu hynny.

Fel y dywedais yn gynharach, rydym wedi rhoi sicrwydd i golegau ynghylch natur eu cyllid wrth symud ymlaen, ac rydym wedi sicrhau bod £2 miliwn ar gael i gefnogi mentrau iechyd meddwl ym maes addysg bellach. Hoffwn i ganmol y sector am y gwaith rhagorol y mae wedi bod yn ei wneud i gadw mewn cysylltiad â'r dysgwyr, yn arbennig y dysgwyr mwyaf agored i niwed. Maen nhw wedi bod yn gwneud hynny yn dda iawn.

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19)

Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y coronafeirws, felly galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

17:00

Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, nid oeddwn yn gallu cael y sain yn ôl ar fy meicroffon. Rwy'n gobeithio ei fod yn gweithio nawr.

Mae pandemig y coronafeirws yn effeithio ar fywydau pob un ohonom. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru ac o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod byr iawn i ymateb i'r pandemig. Fy nod i y prynhawn yma yw rhoi adroddiad i'r Aelodau am y datblygiadau diweddar a mwyaf sylweddol yn y portffolio tai a llywodraeth leol.

Yn gyntaf, hoffwn i fynegi fy niolch diffuant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac i awdurdodau lleol ledled Cymru sydd wedi gweithio mor ddiwyd ac wedi ymateb mor gyflym wrth geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa. Soniodd arweinwyr llywodraeth leol wrthyf i ar y dechrau am yr angen i gefnogi llif arian awdurdodau lleol fel na fyddai unrhyw oedi o ran gwneud penderfyniadau a gwario ar frys. Felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dwyn ymlaen daliadau setliad mis Mai a mis Mehefin i fis Ebrill i'w cefnogi. Darparodd hyn flaendal o £526 miliwn ar draws llywodraeth leol. Rwyf hefyd yn ystyried gwaith a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fesur y costau ychwanegol a'r golled incwm yn sgil y pandemig. Fe wnaethom ni ddarparu cyllid i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw allu defnyddio'r rhyddhad ardrethi a dyrannu'r grantiau cymorth busnes a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth. Maen nhw wedi gweithio'n eithriadol o ddiwyd i'w dosbarthu mewn modd mor effeithlon—diolch yn fawr iawn iddyn nhw am hynny i gyd.

Mae un ffrwd cyllid frys wedi'i sefydlu ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn helpu i ymdrin â'r pwysau sy'n deillio o COVID-19. Darparodd Llywodraeth Cymru £30 miliwn ar gyfer hyn yn y lle cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys hyd at £7 miliwn i ddarparu cymorth ariannol ar frys i deuluoedd disgyblion sy'n dibynnu ar brydau ysgol am ddim ond nad oedden nhw'n gallu eu derbyn oherwydd bod ysgolion wedi cau. Yr oedd hefyd yn cynnwys £10 miliwn i sicrhau, gyda'u partneriaid yn y trydydd sector, y gall awdurdodau lleol roi trefniadau brys ac angenrheidiol ar waith i ddiogelu'r rhai sy'n cysgu ar y stryd. Mae hyn wedi ei ategu ers hynny i ddarparu £40 miliwn arall i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol a £33 miliwn arall i ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. 

Mae'r pandemig COVID-19 wedi cyflwyno her sylweddol i ailgylchu, casglu a phrosesu gwastraff yng Nghymru. Rwy'n falch iawn bod ein hawdurdodau lleol, yn ystod y cyfnod anodd hwn, wedi parhau i weithredu eu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu ac mai mân newidiadau dros dro yn unig y mae'r mwyafrif helaeth wedi eu gwneud. Mae hyn yn adlewyrchu ein gwaith dros yr 20 mlynedd diwethaf i ddatblygu cyfundrefnau casglu cadarn o ansawdd uchel. Mae gennym ni nod ar gyfer Cymru gydnerth ac mae gennym ni gyfle i ddysgu gwersi a gweithio i gefnogi gwell cydnerthedd yn y dyfodol.

Un o'n prif flaenoriaethau yn y Llywodraeth erioed fu gweithio i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math. Yn gywir ddigon, mae pa mor agored i niwed y mae'r rhai sy'n cysgu ar y stryd wedi gorfod bod yn bwyslais ar gyfer gweithredu yn ystod yr argyfwng hwn. Hoffwn ddiolch i dimau tai a digartrefedd awdurdodau lleol, ynghyd â Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a phartneriaid eraill yn y trydydd sector sydd wedi bod yn canolbwyntio ar helpu pobl i gael llety. Mae hyn yn golygu eu bod wedi gallu hunanynysu, cael mynediad at gyfleusterau golchi dwylo a hylendid, a chadw at reolau cadw pellter cymdeithasol.

Rwyf wedi fy nghalonogi gan yr arfer cydweithredol ac arloesol sy'n mynd rhagddo er gwaethaf yr amgylchedd heriol y mae pobl yn gweithio ynddo. Roeddwn yn glir o'r cychwyn fod hyn yn ymwneud â mwy na lleoli pobl mewn llety a'u gadael i ofalu amdanynt eu hunain. Mae'n rhaid i ddarparu llety'n gynnwys cymorth cynhwysfawr i alluogi pobl i'w gynnal. Fe wnaethom ni gyflwyno canllawiau clir ar y dull gweithredu y dylai awdurdodau lleol ei ddilyn, gan ddarparu £10 miliwn ychwanegol i'w galluogi i wneud hynny.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae 500 o bobl wedi cael cymorth i gael llety, ac mae'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd mewn digidau sengl ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol a'u partneriaid yn parhau i gefnogi'r ychydig o bobl hynny sy'n dal i gysgu ar y stryd. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio i weld sut y gall ein prosiectau Tai yn Gyntaf gynorthwyo'r unigolion hyn.

Ni ddylai neb fod heb lety a chefnogaeth yn ystod yr argyfwng hwn. Mae hyn yn cynnwys y rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at arian cyhoeddus a'r rhai sy'n gadael sefydliadau, fel carchardai. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a chydweithwyr ym maes iechyd i sicrhau bod y carcharorion a allai gael eu rhyddhau yn gynnar neu eu rhyddhau yn safonol o'r carchar, yn cael eu cynorthwyo i gael llety.

Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n uniongyrchol gyda nifer o awdurdodau lleol i helpu i sicrhau mwy o lety. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach i ystyried y strategaeth ymadael o'r argyfwng presennol hwn. Mae'r gwaith a wnaed yn ddiweddar gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn rhoi glasbrint i ni ar gyfer sut i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, a bydd hyn yn hanfodol o ran llywio'r dull gweithredu ar gyfer ein strategaeth ymadael. Gadewch i mi fod yn glir: ni allwn ni fynd yn ôl. Mae gennym ni gyfle i ymgysylltu ag unigolion nad ydyn nhw erioed wedi bod mewn gwasanaethau o'r blaen. Gall y cymorth sy'n cael ei gynnig yn awr ddarparu'r sylfaen i ailadeiladu bywydau ar ôl i'r argyfwng hwn ddod i ben.

Er bod ymdrechion wedi eu canolbwyntio yn y meysydd hyn, a hynny'n gwbl briodol, mae fy swyddogion yn ymwneud yn helaeth â nifer o faterion. Er enghraifft, rydym eisoes wedi cymryd camau i sicrhau na ellir troi tenantiaid sy'n dioddef caledi ariannol o ganlyniad i COVID-19 allan o'u llety. Hoffwn i ddiolch i'r holl landlordiaid ac asiantau gosod tai am eu hymagwedd bragmatig a chefnogol at helpu tenantiaid drwy'r argyfwng hwn. Rydym yn cydnabod bod llawer i'w wneud o hyd i atal cynnydd mewn achosion o droi allan, ac rydym yn croesawu'r gwaith cydweithredol sy'n mynd rhagddo ar draws y sectorau cymdeithasol a phreifat i sicrhau mai'r dewis olaf yn wirioneddol yw troi allan.

Rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid adeiladu a'r gymdeithas sy'n cynrychioli masnachwyr cyflenwi adeiladau i sefydlu pa allfeydd sydd ar agor, beth y gallan nhw ei gyflenwi ac i bwy. Mae hyn yn hollbwysig o ran caniatáu i asiantaethau fel Gofal a Thrwsio barhau â'u gwaith amhrisiadwy. Rydym wedi gweithredu'n gyflym i wneud newidiadau i'n systemau cynllunio a rheoli adeiladu fel y gall awdurdodau lleol a'r GIG ddarparu capasiti gofal iechyd ychwanegol. Mae hyn wedi galluogi adeiladu'r ysbytai Nightingale ledled Cymru yn gyflym iawn.

Hoffwn i hefyd estyn fy niolch i'r gwasanaethau tân ac achub, sydd wedi bod yn hynod gadarn yn ystod y pandemig hwn. Nid yw lefelau absenoldeb yn sgil COVID-19 yn ddim mwy na 4 y cant, ac mae'r gwasanaeth wedi cynnal gallu gweithredu llawn ledled Cymru. Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog at holl staff y gwasanaethau tân i'w hannog i helpu'r GIG lle bo modd, ac mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol. Mae dros 450 o staff wedi gwirfoddoli i yrru ambiwlansys ac maen nhw ar gael i'w defnyddio yn ôl yr angen. Mae eraill wedi helpu i sefydlu corffdai dros dro a darparu cyflenwadau hanfodol. Rydym ni hefyd wedi sefydlu pump o unedau diheintio torfol y gwasanaeth mewn ysbytai ledled Cymru, lle maen nhw'n gwasanaethu fel cyfleusterau brysbennu dros dro ar gyfer cleifion y ceir amheuaeth eu bod wedi eu heintio gan COVID-19.

Fodd bynnag, mae'n destun siom mawr gweld achosion helaeth o danau gwair sydd wedi eu cynnau'n fwriadol. Hyd yn oed mewn blwyddyn arferol mae hyn yn dra anghyfrifol. Mae'n dinistrio'r amgylchedd ac yn codi ofn gwirioneddol ar gymunedau. Eleni mae hyn ddwywaith mor wir. Mae gan ein diffoddwyr tân a'n swyddogion heddlu bethau gwell o lawer i'w gwneud yn ystod yr argyfwng nag ymateb i danau gwair. Mae'r mwg y mae tanau o'r fath yn ei achosi hefyd yn berygl difrifol i iechyd llawer o'r rhai hynny sydd yn y grŵp a warchodir ac i ddioddefwyr COVID-19 eu hunain. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn ymuno â mi i gondemnio'r ymddygiad disynnwyr hwn yn gryf.

Ac yn olaf, mae'r grŵp trawslywodraethol ar bobl agored i niwed wedi bod yn canolbwyntio ar gymorth ymarferol i'r bobl hynny sy'n agored iawn i niwed y gofynnwyd iddyn nhw warchod eu hunain am 12 wythnos. Mae hyn yn cynnwys bwyd a chyflenwadau meddygol, trafnidiaeth, cymorth emosiynol a chymdeithasol fel llinellau cyngor, cyfeillio dros y ffôn a thechnoleg. Mae data ar y rhai a gynghorwyd i warchod eu hunain bellach wedi'u rhannu â'r holl archfarchnadoedd yng Nghymru, a chafodd cynllun peilot i ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer darparu meddyginiaethau o fferyllfeydd cymunedol ei lansio yr wythnos diwethaf.

Bydd y camau yr ydym yn eu cymryd i ymateb i bandemig COVID-19 yn achub bywydau. Fodd bynnag, yn anffodus, fel y dywedwyd eisoes, bydd pobl yn colli anwyliaid o ganlyniad i'r clefyd hwn. Mae marwolaeth aelod o'r teulu neu ffrind yn ddigwyddiad hynod drallodus, ac rydym wedi diwygio ein rheoliadau i egluro'r trefniadau ar gyfer angladdau mewn amlosgfeydd. Mae'n gyfnod anodd iawn, sy'n gofyn am ymatebion cyflym a hyblyg gan bawb yn y Llywodraeth ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu arweiniad a chefnogaeth wrth i ni ymdrin â'r argyfwng hwn, a diolch i'n holl bartneriaid am weithio gyda ni. Rwy'n glir iawn y bydd y cydweithio hwn, pan fydd normalrwydd yn dechrau dychwelyd, yn darparu gwersi clir a llawer o arferion da y gallwn ac y dylem eu mabwysiadu, wrth symud ymlaen. Diolch.

17:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a hefyd am y dull gweithredu agored iawn y mae wedi ei ddefnyddio i graffu a threfnu cyfarfodydd â llefarwyr, a oedd yn werthfawr iawn i mi? Rwy'n credu y dylid llongyfarch y Llywodraeth am weithredu yn gyflym ar y mater o bobl sy'n cysgu ar y stryd, ac nid oes unrhyw amheuaeth bod llawer o adnoddau ac arbenigedd technegol, yn fy marn i, gan Lywodraeth Cymru wedi eu defnyddio i helpu'r awdurdodau lleol hynny. Tybed a yw unrhyw un ohonyn nhw yn dal i gael rhywfaint o anhawster o ran her a chynaliadwyedd eu hymagweddau, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych yn cefnogi'r rhai hynny sydd efallai'n ei chael ychydig yn anoddach nag eraill?

Ac er bod ffigurau sengl yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd yn gyflawniad gwirioneddol, mae'n amlwg bod gennym ni 22 o awdurdodau lleol, a phe bai pump o bobl yn cysgu ar y stryd ym mhob un, byddai gennym ni ryw 100 o bobl sy'n cysgu ar y stryd o hyd, o'i gymharu â'r amcangyfrif blynyddol o 340 i 350 a oedd gennym. Felly, a oes gennych unrhyw syniad o beth yw'r ffigur cyffredinol? Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol. Ac, wrth i ni symud ymlaen, pa mor hyderus ydych chi fod gennym ni'r cam nesaf, gan fod llawer o hyn yn llety brys gwell?

Gwn fod dulliau gweithredu llawer mwy sylfaenol wedi eu defnyddio o ran cymorth, ond nid yw llawer o'r bobl hyn yn y llety y bydd angen iddyn nhw fod ynddo yn yr amser sydd o'u blaenau, yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Felly, beth ydym ni am ei wneud i sicrhau nad yw'r garfan hon o bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ac sydd bellach wedi cael llety yn llithro'n ôl i'r strydoedd? Ac a oes gennym ni unrhyw syniad o'r bobl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref ar hyn o bryd oherwydd yr anawsterau y mae COVID yn eu cyflwyno? Mae llawer o bobl mewn llety eithaf bregus yn canfod nad yw ffrindiau eisiau rhoi llety iddyn nhw ac mae syrffio soffa yn anoddach, ac, felly, mae'n llithro i'r ffurf fwy eithafol o ddigartrefedd a chysgu ar y stryd.

A—

17:10

Bydd angen i mi ofyn i chi ddirwyn eich cwestiwn cyntaf i ben.

Diolch, David. Do, bu'n her ddifrifol i gael pobl oddi ar y strydoedd, ac mae gen i barch mawr iawn tuag at y bobl niferus sy'n gweithio ledled Cymru er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd mor gyflym. Mae her yn parhau o hyd, ac rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gweithio'n agos at gapasiti, neu at gapasiti llawn, ym mhob ardal. Nid oes gen i ffigur cyffredinol fel y cyfryw, ond gallaf ddweud wrthych ei fod yn ddim yn y rhan fwyaf o awdurdodau, ac mewn ffigurau sengl isel yn y prif ddinasoedd. Mae'n newid yn ddyddiol wrth i bobl gyflwyno'u hunain, felly mae'n anodd iawn nodi amser a dweud, 'Mae saith' neu beth bynnag, ond mae'n isel iawn. Ond, yn amlwg, rydym ni wedi gorfod darparu ar gyfer llawer iawn o bobl a fyddai fel arall wedi bod yn un o'r rhai digartref cudd. Byddwch chi'n cofio yr oeddem yn cynnal ymgyrch cyn i hyn ddigwydd i gael pobl i nodi eu bod yn ddigartref os oedden nhw'n syrffio soffa neu'n cysgu mewn ystafelloedd sbâr, ac yn y blaen, ac, wrth gwrs, mae pobl wedi bod yn amharod i barhau â'r trefniadau hynny, ac felly rydym ni wedi cael llawer mwy o bobl i ddod o hyd i lety ar eu cyfer. Mae hynny wedi ei wneud, ac rwy'n ddiolchgar i bob un o'n partneriaid ledled Cymru sydd wedi gweithio mor galed i wneud hynny.

Mae gennym ni broblem gynyddol hefyd lle mae'r Swyddfa Gartref wedi bod yn defnyddio capasiti llety prin i gartrefu ceiswyr lloches, ac mae hynny'n rhoi straen ar y system, ac rydym ni wedi gorfod gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn siarad â'n gilydd yn iawn i sicrhau nad ydym ill dau yn ceisio sicrhau'r un llety ar yr un pryd mewn rhai ardaloedd, ac rydym ni wedi cael y sgyrsiau hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth bod hynny'n rhoi mwy o straen ar y system.

Ac yna, y peth olaf yr ydym yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd yw'r angen i ddarparu llety ar gyfer carcharorion sy'n cael eu rhyddhau. Felly, mae gennym ni'r achosion arferol o ryddhau o'r carchar. I fod yn glir, maen nhw'n parhau; os ydych chi wedi dod i ddiwedd eich amser, rydych chi wedi dod i ddiwedd eich amser yn y carchar, rydych chi'n cael eich rhyddhau beth bynnag. Ni fyddai gan unrhyw garcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn gynnar y feirws, ond mae gennym adegau pan fydd carcharor sydd ar fin cael ei ryddhau yn ôl y drefn arferol yn dangos symptomau. Mae llwybr ar waith bellach i sicrhau bod y carcharorion hynny yn cael eu lletya'n briodol, eu cludo'n briodol, a bod yr holl gamau diogelwch ar gyfer y carcharor sy'n cael ei ryddhau a'r staff sy'n ymdrin â nhw, a'r llety maen nhw'n dychwelyd iddo yn cael eu cymryd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r partneriaid sydd wedi gweithio gyda ni mor ddiwyd i sicrhau bod darpariaeth ar gyfer y pethau hynny yn y system hefyd.

Ac, yn ail, hoffwn i wybod pa gyngor a chymorth sy'n cael eu rhoi i ganiatáu i adeiladwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig, weithredu gyda phellterau cymdeithasol priodol, er mwyn gallu ymgymryd â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol yn arbennig? Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn cynnal pobl gartref, ac mae'n amlwg bod llawer o waith adeiladu hanfodol wedi ei ohirio.

A pha fesurau sydd ar waith i sicrhau diogelwch rhag tân mewn adeiladau uchel gan fod pobl yn aros gartref bron trwy'r dydd, ac felly, oherwydd nifer yr oriau maen nhw yno, eu bod nhw mewn mwy o berygl? Bydd y Gweinidog yn gwybod po fwyaf o brofion sy'n cael eu cynnal ar ddeunyddiau cladin, y mwyaf o broblemau sy'n codi i bob golwg. Felly, beth ydym ni'n ei wneud i sicrhau iechyd a lles y preswylwyr hynny sy'n byw mewn tyrau a'u tebyg?

Diolch, David, am y rheini. Rydym ni wedi parhau â'r diwydiant adeiladu ar gyfer gwaith hanfodol, ac rydym ni wedi parhau â'r system gofal a thrwsio, er enghraifft. Maen nhw'n derbyn tua 270 o atgyfeiriadau ar gyfer addasiadau cyflym bob wythnos ar hyn o bryd—gwaith brys i gefnogi trefniadau rhyddhau cleifion o'r ysbyty, neu waith atal hanfodol i atal rhywun rhag cael ei dderbyn pan nad oes angen. Fe wnes i sôn am addasu'r ysbytai Nightingale, sydd yn amlwg wedi parhau. Mewn gwirionedd, nid yr adeiladu sy'n rhan o hynny sydd wedi bod yn broblem; ond cadw masnachwyr adeiladu ar agor er mwyn i bobl allu cadw cyflenwadau digonol, ac rydym ni wedi cael sgyrsiau â masnachwyr adeiladu ynghylch sut y mae hynny'n gweithio.

Byddwch chi'n gwybod nad mynd i siopa yn eich masnachwyr adeiladu lleol yw un o'r prif resymau y dylech chi adael eich cartref ar hyn o bryd. Ond, yn amlwg, os ydych chi'n mynd yno yn rhan o fasnach, yn gwneud gwaith hanfodol—gwaith adeiladu ac atgyweiriadau—yna mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni eu bod nhw wedi aros ar agor. Wrth i ni ddechrau edrych ar y—wel, mae'n derm newydd i'r gair 'hawddfraint', sy'n boenus i mi fel cyfreithiwr—hawddfraint y cyfyngiadau, byddwn yn edrych i weld a allwn ni gael mwy o waith adeiladu cyn gynted â phosibl.

O ran cefnogi'r system busnesau bach a chanolig, gan nad yw'r farchnad dai, er fawr o syndod, yn fywiog iawn ar hyn o bryd, byddwn yn edrych i weld a allwn gyflwyno rheoliadau i lacio'r gofynion ansawdd datblygu—y rheolau safonau tai cymdeithasol—er mwyn gallu prynu oddi ar gynllun oddi wrth gwmnïau adeiladu bach a chanolig, er mwyn gallu cynyddu'r cyflenwad yn y ffordd honno. Gwnaed hyn o'r blaen; cafodd ei wneud ar ôl argyfwng 2008. Mewn gwirionedd, mae'r safonau adeiladu yng Nghymru yn uwch o lawer erbyn hyn, felly nid yw'r llacio mor fawr, ond rydym yn ceisio cefnogi'r sector yn y ffordd honno. Ac, wrth gwrs, mae ganddo'r fantais ychwanegol o gael mwy o bobl allan o lety dros dro a allai fod yn anaddas. Felly, rydym ni'n gwneud nifer o bethau i gefnogi cwmnïau adeiladu bach a chanolig a pharhau â'r atgyweiriadau hanfodol.

A'r peth olaf yw ein bod yn annog pob landlord cymdeithasol cofrestredig a chynghorau ledled Cymru i weithio ar eu heiddo gwag, er mwyn sicrhau eu bod yn mynd cyn gynted â phosibl er mwyn i'r holl dai cymdeithasol sydd ar gael fod wedi eu defnyddio unwaith eto mor fuan ag sy'n bosibl, er mwyn i ni allu symud pobl o'r hyn a allai fod yn llety dros dro fel arall i'r llety parhaol, diogel hwnnw. Ac rwy'n sicr yn benderfynol na fydd pobl yn mynd yn ôl allan i'r stryd o'r fan honno.

17:15

Rwyf i hefyd yn diolch i chi, Gweinidog, am fod mor adeiladol ac am groesawu sylwadau craffu yn yr argyfwng hwn. Hoffwn i ategu'r hyn a ddywedodd David Melding am ddigartrefedd. Rwy'n credu bod yr argyfwng hwn yn dangos nad yw llawer o'r anghyfiawnderau beunyddiol yr ydym mor gyfarwydd â nhw yn anochel. Felly, o ran y pwynt yr ydych newydd ei wneud ar ddiwedd ateb David Melding, a wnewch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ymrwymo i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau na fydd unrhyw un sydd wedi cael llety i gael ei achub rhag digartrefedd yn ystod yr argyfwng hwn yn dychwelyd i fyw ar y strydoedd ar ddiwedd yr argyfwng?

A'r mater arall yr hoffwn ei godi mewn cysylltiad â thai yw cymorth i denantiaid. O ddechrau'r cyfyngiad symud, cafodd morgeisi eu rhewi ond ni chafodd rhenti. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ba gymorth yr ydych yn ei roi ar waith i helpu tenantiaid sy'n cael trafferthion gwirioneddol o ran ôl-ddyledion rhent?

Ac yn olaf, o ran tai, rydym yn gwybod am grwpiau o bobl y mae risg yn cynyddu iddyn nhw drwy aros gartref yn hytrach na lleihau. Wrth edrych yn arbennig ar blant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, a menywod a dynion sydd mewn perygl o drais domestig, pa waith y gall awdurdodau lleol ei wneud, gan weithio gyda'r heddlu, gyda'r trydydd sector, i sicrhau y gall pobl gael gafael ar gymorth a lloches ar adeg pan allai'r cyflawnwr glywed y dioddefwr yn adrodd am hyn dros y ffôn?

Yn sicr. Felly, o ran y pwynt ynghylch cysgu ar y stryd, rydych chi newydd fy nghlywed yn dweud ein bod yn benderfynol iawn na fydd pobl yn dychwelyd i'r strydoedd. Mae'n bosibl y bydd un neu ddau na fyddwn yn gallu eu hatal, ac yn amlwg nid ydym mewn sefyllfa i atal pobl rhag gwneud hynny, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod pawb yn cael y gwasanaethau cynhwysfawr sydd eu hangen arnyn nhw i allu cynnal eu llety ac y gallwn eu symud yn gyflym i lety addas. Ond nid oes dim amheuaeth y bydd atyniad i rai pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau difrifol, ac yn y blaen, fynd yn ôl i'r strydoedd os na allwn ni wneud hynny, ond rydym ni'n benderfynol iawn o'i wneud.

Rwy'n pryderu'n fawr am y grŵp o bobl nad oes ganddyn nhw fynediad at arian cyhoeddus. Rydym ni wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU yn helaeth na ddylai'r bobl hynny gael eu rhyddhau yn ôl ar y stryd cyn gynted ag y bydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus wedi dod i ben. Ac rydym yn parhau i lobïo am hynny. Byddwn i'n gwerthfawrogi unrhyw un, unrhyw Aelod, sy'n dymuno ein helpu i wneud hynny hefyd. Rwyf i yn credu ei bod yn bwysig iawn nad yw hynny'n digwydd.

O ran cymorth tenantiaeth, ni allwch gael eich troi allan ar hyn o bryd gan fod cyfarwyddyd ymarfer ar waith gyda'r llysoedd, felly nid oes unrhyw achos o droi allan yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Felly, rydych chi wedi eich diogelu ar hyn o bryd. Rydym yn meddwl o ddifrif am ymestyn y ddarpariaeth tri mis yn y rheoliadau brys i chwech, ac rwy'n gobeithio gallu gwneud hynny yn fuan iawn. Rydym yn lobïo Llywodraeth y DU ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd os bydd y cyfyngiad symud yn parhau ar ôl mis Mai, oherwydd eich bod yn llygad eich lle mai gwyliau yw hynny; nid yw'n dileu'r angen i chi dalu eich rhent. Ac ar ôl i bobl fynd i fwy na deufis o ôl-daliadau, rydym yn gwybod y byddan nhw'n ei chael yn anodd dal i fyny eto. Yn y sector cymdeithasol yng Nghymru, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed gyda'n cynghorau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau bod gennym ni brotocolau cyn gweithredu sy'n gorfodi'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r cynghorau—er nad oes angen y gair 'gorfodi', gan eu bod yn dymuno ei wneud hefyd, ond bydd yn rhaid iddyn nhw ei wneud—i gychwyn trafodaethau gyda'r tenant ynghylch ad-daliadau a dileu pan fo angen hynny o dan rai amgylchiadau. Yn anffodus, nid oes gennym ni'r pŵer hynny yn y sector rhentu preifat. Rydym yn annog ein holl landlordiaid, y mae gennym ni berthynas waith resymol â nhw, a'r cyrff sy'n eu cynrychioli, y mae gennym ni berthynas waith resymol â nhw—bob un ohonyn nhw; nid oes dim problem gydag unrhyw un ohonyn nhw—i ymrwymo i'r protocol cyn gweithredu hwnnw hefyd er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr bod y cyfryngu hwnnw wedi digwydd. A byddwn yn lobïo'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i weld a allwn ni ei gwneud yn gyfarwyddyd ymarfer y byddai'n rhaid i brotocol cyn gweithredu o'r fath fod wedi ei wneud cyn y gallech ddechrau camau troi allan ar gyfer ôl-ddyledion rhent. Felly, rydym ni'n gweithio ar hynny hefyd.

Roedd y pwynt olaf yr oeddech yn ei wneud yn ymwneud â ffoi rhag trais domestig a'r risg gynyddol o gam-drin, ac rwy'n credu bod David Melding, a bod yn deg, wedi codi hynny hefyd, ac ni roddais i sylw iddo. Dyna pam rydym ni'n cael pobl yn cyflwyno'u hunain ar y strydoedd bob dydd erbyn hyn—dyna pam mae'r ffigur yn symud. Rydym ni'n ceisio rhoi cyhoeddusrwydd i'r drefn o ddeialu 999 ac yna gwthio 55, a fydd yn nodi ar unwaith nad ydych mewn sefyllfa i siarad a bydd cymorth yn cael ei anfon atoch. Felly, os gallwn ni rannu'r wybodaeth honno mor eang ag sy'n bosibl, mae hynny'n dda.

Bydd Jane Hutt, fy nghyd-Aelod, yn cynnal yr ymgyrch 'Paid Cadw'n Dawel' unwaith eto i wneud yn siŵr bod pobl yn ei adnabod yn eu cymdogion ac nad ydyn nhw'n cadw'n dawel, ac yn adrodd amdano eu hunain. Rydym ni hefyd yn croesawu unrhyw syniadau gan unrhyw Aelod neu unrhyw aelod o'r cyhoedd a fyddai'n ein helpu i ganfod ffyrdd eraill o gyrraedd pobl sydd mewn perygl fel y gallwn ni sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

17:20

Diolch i chi am hynny, Gweinidog. Gan droi at lywodraeth leol, mae awdurdodau lleol wedi dweud ei bod yn anodd iddyn nhw gynllunio sut y byddan nhw'n dosbarthu cyfarpar diogelu personol oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod ymlaen llaw faint y byddan nhw'n ei gael, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni pryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddweud wrthyn nhw ymlaen llaw faint o stoc y byddan nhw'n gallu ei ddosbarthu i gartrefi gofal ac yn y blaen?

Ac, ar bwynt cysylltiedig, mae awdurdodau lleol yn cofnodi colledion incwm sylweddol o ganlyniad i'r argyfwng digynsail hwn. A wnewch chi—a gwn eich bod wedi cyfeirio at hyn yn eich datganiad—roi sicrwydd i'r arweinwyr hynny y byddan nhw'n derbyn unrhyw arian yn ymwneud â COVID-19 y byddai ei angen arnyn nhw i ddarparu gwasanaethau hanfodol? Ac a ydych mewn sefyllfa i allu dweud y byddech yn ysgwyddo'r holl gostau sy'n ymwneud â COVID-19? A beth fyddech chi'n ei ddweud wrth arweinwyr cynghorau sydd wedi dweud eu bod wedi gorfod trefnu benthyciadau i fynd i'r afael â'r argyfwng?

Yn olaf, Gweinidog, gan droi at adferiad, awdurdodau lleol, wrth gwrs, yw'r cyrff sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol, yn ogystal â chanol trefi ac adfywio, felly maen nhw'n amlwg yn mynd i fod â rhan bwysig i'w chwarae yn yr adferiad. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gydag awdurdodau lleol ynghylch hynny? Rwy'n sylweddoli'n llwyr eich bod yn ymdrin â'r argyfwng ar hyn o bryd, ond pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i hynny ar hyn o bryd, yn enwedig o ran olrhain cysylltiadau a'r swyddogaeth a fydd gan awdurdodau lleol wrth ymdrin â hynny? Diolch.

Wrth gwrs. Ynghylch cyfarpar diogelu personol, rydym wedi bod yn gweithio'n ddiwyd iawn gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol i wneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o ble mae'r stoc ledled Cymru. A byddwch yn gwybod ein bod ni wedi cael pobl â logisteg filwrol yn gweithio ar hynny gyda ni. Maen nhw wedi bod yn gweithio yn ardderchog i weithio allan i ni lle mae'r stoc a sut i'w dosbarthu i'r bobl y mae ei hangen arnyn nhw, ac i roi rhywfaint o sicrwydd yn hynny o beth, felly, wrth edrych yn ôl ar y cofnodion o'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn i ni allu rhagweld y galw yn fwy effeithiol, a gwybod wedyn ble mae'r stoc er mwyn i ni allu ei rhoi i'r bobl iawn, ac yn y blaen. Rydym ni'n awyddus iawn i awdurdodau lleol gael y sicrwydd hwnnw a, cyn belled ag y gallwn ni ei roi, byddwn yn gwneud hynny, ac rydym yn falch iawn o fod wedi cael cyflenwad diweddar y byddwch chi i gyd yn ymwybodol ohono, ond yn amlwg rydym ni yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang hefyd. Felly, rydym yn sicr yn y busnes o sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwybod yr hyn yr ydym ni'n ei wybod ac yn gwybod ble mae'r cyflenwad yn y gadwyn.

O ran colled incwm y cartrefi gofal, lle byddai awdurdod lleol fel arfer yn comisiynu gwasanaethau oddi wrth gartref gofal ac na all cartref gofal lenwi ei leoedd ar hyn o bryd oherwydd yr argyfwng ac yn y blaen, yna rydym yn hapus iawn i'r £40 miliwn y soniais amdano yn fy natganiad gael ei ddefnyddio i helpu i ariannu'r cartref gofal hwnnw i'w gadw'n hyfyw. Y rheol gyffredinol i ni fu y dylai awdurdodau lleol geisio cadw'r busnesau hynny y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw am eu gwasanaeth fel eu bod yn dal i fod yno ar ddiwedd yr achos. Ni fydd hynny'n cynnwys pob cartref gofal unigol yn y sector annibynnol. Os ydych chi'n cael eich ariannu'n breifat yn llwyr ac nad oeddech chi'n derbyn pobl wedi eu hatgyfeirio gan yr awdurdod lleol i'ch cartref gofal, yna ni fyddwch chi'n gallu cael gafael ar hyn. Dylai'r cartrefi gofal hynny fod yn defnyddio'r system grantiau cymorth i fusnesau ac yn cael cymorth drwy gymorth colli incwm a thrwy'r cymorth busnes arferol. Ond o safbwynt yr awdurdod lleol, dylen nhw fod yn defnyddio'r arian i wneud yn siŵr bod darpariaeth y gwasanaeth yn parhau ac yn gweithio gyda'r cartrefi i ddeall sut beth yw hynny. Yn amlwg, nid ydym ni'n dymuno bod yn rhoi arian am ddim rheswm, felly, mae'n ymwneud â deall beth yw'r sefyllfa o ran y llif arian a pha mor gyflym y gallan nhw ddechrau comisiynu lleoedd yno. Felly, rydym ni'n disgwyl i hynny fod yn digwydd ledled Cymru.

O ran awdurdodau lleol yn trefnu benthyciadau, ni ddylen nhw fod wedi gorfod gwneud hynny hyd yn hyn. Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd ar ben arall y flwyddyn. Rydym ni'n dibynnu'n fawr ar Lywodraeth y DU yn gorfod parhau â'r cyllid i ni sicrhau bod hyn yn digwydd. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad, rydym ni wedi rhoi cyfrannau o'r grant cynnal refeniw lawer yn gyflymach nag y byddem ni wedi ei wneud fel arall, felly ni ddylai unrhyw awdurdod, ar hyn o bryd, fod â'r math hwnnw o broblem. Ac mae gen i gyfarfod yfory ag is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth i fynd trwy'r gwaith y mae pob awdurdod lleol wedi bod yn ei wneud i gyfrifo'r golled incwm, ffioedd a thaliadau, er mwyn i ni allu gweld yr hyn yr ydym yn ei wneud yno.

Rwy'n annog awdurdodau lleol nad ydyn nhw eto wedi eu taro gan uchafbwynt y feirws i beidio â chynhyrfu. Rydym yn dweud, 'Daliwch ati fel arfer, gwnewch yr hyn y mae angen i chi ei wneud a byddwn ni yn eich cefnogi'. Nid sefyllfa y cyntaf i'r felin yw hi. Felly, ni ddylai neb deimlo rheidrwydd i geisio cyflwyno hawliadau gan nad oes arnyn nhw eu hangen mewn gwirionedd er mwyn sicrhau'r cyllid. Rydym yn awyddus iawn bod hyn yn cael ei wneud ar sail 'fel y mae ei angen arnoch' ac y byddwn yn cael y cymorth cywir i'r awdurdodau hynny sy'n ysgwyddo'r gwariant hwnnw.

Ac o ran yr adferiad, fe wnes i ddechrau y sgwrs â'r arweinyddion yr wythnos diwethaf am y pethau cyntaf yr ydym yn credu y gallen nhw fod yn dymuno dechrau eu hailagor. A byddaf yn parhau â'r sgwrs honno â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r cyngor partneriaeth er mwyn i ni gael sylwadau gan awdurdodau lleol ynghylch y gwasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, er enghraifft, canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a llyfrgelloedd yw'r rhai y mae pawb yn sôn amdanyn nhw—yr hyn y byddai'n rhaid i ni ei roi ar waith o ran arweiniad neu ganllawiau cadw pellter cymdeithasol neu staff er mwyn caniatáu i'r mathau hynny o bethau ddigwydd. Felly, mae'r sgwrs honno wedi dechrau.  

17:25

[Anhyglyw.]—datganiad, Gweinidog. Hoffwn i ddiolch i'r miloedd o weithwyr llywodraeth leol sydd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfyngiad symud hwn. Mae wedi bod yn her enfawr ac mae ein hawdurdodau lleol wedi ymateb iddi, ond mae meysydd lle mae angen gwneud mwy. Rydym ni wedi gweld cynnydd enfawr mewn tipio anghyfreithlon; beth all awdurdodau lleol ei wneud i sicrhau bod cyfleusterau gwastraff yn ailagor cyn gynted â phosibl?

Ac, er fy mod i'n croesawu'r ymdrechion i gael ein pobl sy'n cysgu ar y stryd oddi ar y stryd ac i mewn i lety lle gallan nhw gymryd camau i leihau'r risg o COVID-19, rwyf i wedi fy siomi y bu'n rhaid i ni gael pandemig byd-eang i ddod o hyd i lety ar gyfer ein pobl ddigartref. Gweinidog, beth sy'n digwydd, fel yr ydych chi eisoes wedi ei ddweud, pan fydd mesurau cyfyngu symud yn dod i ben a bydd twristiaeth yn ailddechrau? Ble fydd ein pobl ddigartref yn mynd? A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ddatblygiadau o ran sicrhau llety hirdymor addas i boblogaeth ddigartref Cymru? Mae rhai gwestai wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr o ganlyniad i'r cyfyngiad symud. A fydd Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i brynu eiddo o'r fath i'w ddefnyddio fel llety dros dro yn y dyfodol, yn ogystal â darparu cymorth cynhwysfawr, yn enwedig i'r rhai hynny sydd â phroblemau sy'n cyd-ddigwydd?

Felly, o dan gynlluniau'r Llywodraeth, bydd swyddogion llywodraeth leol, yn enwedig y rhai hynny sy'n gweithio ym maes iechyd yr amgylchedd, yn chwarae rhan enfawr o ran ein tynnu ni allan o'r cyfyngiadau symud. Gweinidog, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r cyhoedd na fydd mesurau diogelu iechyd yn cael ei esgeuluso wrth i ni symud i'r cam nesaf yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws?

Yn olaf, Gweinidog, mae awdurdodau lleol yn arwain yr ymdrechion i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed, sydd wedi eu gwarchod. Sut y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn sicrhau y bydd holl anghenion y grŵp hwn yn cael eu diwallu yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys pethau fel gwaith cynnal a chadw ar gartrefi ac asesiadau diogelwch?

A diolch i chi am eich ymdrechion i liniaru effeithiau'r clefyd ofnadwy hwn ac am eich sicrwydd ynglŷn â sut yr ydych yn ymdrin â cham-drin domestig, sydd, unwaith eto, yn broblem enfawr. Diolch i chi am eich ymdrechion. Diolch yn fawr, Llywydd.  

Diolch am y cwestiynau hynny, Caroline. O ran tipio anghyfreithlon, mae'n amlwg yn dal i fod yn drosedd gwneud hynny ac mae'r heddlu'n awyddus iawn i erlyn ac mae awdurdodau lleol yn ceisio erlyn unrhyw un sy'n gwneud hynny. Mewn gwirionedd, er ein bod ni'n amlwg wedi cael rhai enghreifftiau o hynny nid yw'n ormodol ledled Cymru. Mae pobl wedi bod yn eithaf cyfrifol, mewn gwirionedd. Byddem ni'n awyddus iawn i agor ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, ond mae problemau staffio mawr yn sgil hynny. Mae problemau mawr o ran faint o bobl y gallech roi mynediad iddyn nhw ar un adeg; pa mor bell y bydden nhw'n teithio i'w wneud—pob math o faterion, fel y gallwch chi ddychmygu rwy'n siŵr. Ond rydym ni'n gweithio'n galed gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau ffordd synhwyrol o fwrw ymlaen â hynny pan fydd yn ddiogel gwneud hynny—yn ddiogel i'r staff yn ogystal ag i'r bobl sy'n cyrraedd y canolfannau ailgylchu gwastraff cartref.

O ran y terfyn ar bobl sy'n cysgu ar y stryd, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud, rydym ni'n benderfynol iawn na fydd neb yn mynd yn ôl ar y strydoedd. Bydd llawer o'r llety yr ydym ni wedi dod o hyd iddo yn iawn yn y tymor hirach, am wahanol resymau, mae pob awdurdod yn wahanol; mae rhai ohonyn nhw yn wir yn rhai dros dro, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau. Mae'r ateb i'r cwestiwn, 'Pam nad ydym ni wedi gallu gwneud hyn o'r blaen?' yn syml iawn: nid ydym ni wedi cael yr arian i'w wneud o'r blaen. Ni allaf bwysleisio digon ein bod ni wedi gwybod erioed ei bod yn bosibl rhoi terfyn ar ddigartrefedd pe byddai gennym ni ddigon o arian i wireddu hynny. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod y Llywodraeth wedi rhyddhau'r arian er mwyn caniatáu i ni wneud hynny, ac rwy'n benderfynol iawn y gallwn ni ddatblygu hynny gan ei fod wedi digwydd a gwneud yn siŵr nad ydym ni'n mynd yn ôl.

O ran pobl sydd wedi'u gwarchod, mae awdurdodau lleol wedi symud yn anhygoel o gyflym, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl staff sydd wedi ymdrechu'n ddiwyd iawn i wneud hyn, fel bod gennym ni'r parseli bwyd yn cael eu dosbarthu. Ond rydych chi'n llygad eich lle: nid bwyd yw'r unig beth. Felly, mae gennym ni wirfoddolwyr yn cysylltu â phobl sydd wedi eu gwarchod er mwyn sicrhau eu bod yn gallu trefnu bod eu presgripsiynau wedi eu llenwi. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, mae gennym ni bobl yn rhoi cymorth dros y ffôn ar gyfer sgwrs, unigrwydd, a'r holl anghenion eraill, gan gynnwys gwaith atgyweirio. Felly, pan gysylltir â Gofal a Thrwsio, mae hynny'n aml oherwydd bod rhywun yn y grŵp sydd wedi ei warchod wedi cysylltu trwy ei awdurdod lleol. Felly, mae'r pethau hynny i gyd yn dal i ddigwydd; dyfynnais ffigurau Gofal a Thrwsio yn fy natganiad i ddangos bod hynny'n dal i ddigwydd. Ac rydym ni'n falch iawn o allu'r awdurdodau lleol a chryfder a hyblygrwydd eu staff i sicrhau bod y pethau hynny yn digwydd. Mae pobl o bob rhan o'r proffesiynau awdurdod lleol wedi eu hailhyfforddi yn eu canolfannau cyswllt ac i drefnu gwirfoddolwyr i wneud hyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn eu bod nhw wedi dangos y cryfder a'r dewrder i wneud hynny.

17:30

Fe wnaethom ni ddechrau heddiw trwy sôn am lywodraeth leol, a hoffwn i gofnodi fy niolch diffuant iawn i gyngor Torfaen—yn gynghorwyr ac yn swyddogion—oherwydd maen nhw wedi bod yn gwbl anhygoel yn ystod y pandemig hwn ac rwyf i'n sicr yn llawn edmygedd ohonyn nhw.

Roeddwn i wedi eisiau codi'r mater o adferiad y cyfeiriodd Delyth Jewell ato, yn benodol mewn cysylltiad â'r swyddogaeth sydd wedi ei gosod ar gyfer llywodraeth leol i olrhain cysylltiadau ac ati. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn i chi am sicrwydd pendant iawn y byddwch chi'n cynnwys llywodraeth leol yn yr holl drafodaethau hynny yn awr ar y cam cynharaf posibl. Rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd wedi bod arnyn nhw, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod yr hyn sy'n cael ei ddatblygu yn cael ei gyd-gynhyrchu â nhw. Felly, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn i chi am y sicrwydd hwnnw eto. Diolch.

Byddaf, ac rwy'n hapus iawn i'w roi, Lynne. Rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau, pan fyddwn yn rhoi'r darpariaethau adfer ar waith, y byddan nhw'n weithredol bosibl a dichonadwy, ac y bydd awdurdodau lleol yn gallu ymdopi â hynny o ran capasiti, a bod yr hyn yr ydym yn ei ofyn yn ymarferol ac yn realistig, gan nad yw'n gweithio fel arall.

Rwy'n cael sgwrs reolaidd iawn dros y ffôn â phob un o'r 22 o arweinwyr pan fyddwn yn trafod yr holl faterion hyn sy'n codi, ac rwyf i wedi bod yn sicrhau yn llwyr fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i swyddogion yn cyfrannu at gyd-gynhyrchu unrhyw beth sy'n digwydd. Rydym ni wedi cael nam achlysurol pan fo rhywbeth wedi digwydd sydd wedi tarfu arnom ni, oherwydd bod hwn yn amgylchedd sy'n symud yn gyflym iawn, ond rydym ni bob amser wedi gallu cywiro hynny a gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf, a bod yr hyn yr ydym yn ei gynllunio yn ymarferol ac yn gyflawnadwy. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n rhoi'r sicrwydd hwnnw i chi yn llwyr eu bod yn awr, ac y byddan nhw yn y dyfodol, yn rhan lawn o gynllunio unrhyw beth yr ydym yn ei gynnig.

Mae eich cyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, wedi cadarnhau wrthyf i y bydd y £95 miliwn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gyllid ychwanegol i lywodraeth leol yn Lloegr yn mynd i mewn i gronfa ganolog Llywodraeth Cymru. O ystyried y sylwadau yr ydych wedi eu gwneud, sut y byddwch chi'n mynd i'r afael ag effeithiau COVID-19 ar gyllid awdurdodau lleol pan fydd yr arolwg y gofynnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i awdurdodau lleol ei gwblhau erbyn diwedd y mis hwn yn datgelu beth allai'r sefyllfa fod o ran colled incwm, yr amcangyfrifir ei bod yn £33.2 miliwn y mis ar hyn o bryd, er bod rhywfaint o bosibilrwydd y bydd arbedion i liniaru costau; cost refeniw ychwanegol dioed yn sgil ymateb i'r argyfwng, er fy mod i'n cydnabod eich bod chi wedi anfon ffurflen hawlio at awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw allu hawlio'r rhain yn ôl; costau refeniw ychwanegol tymor hirach a chostau cyfalaf ychwanegol, lle bydd pob awdurdod lleol, fel y byddwch yn cydnabod, rwy'n siŵr, mewn sefyllfa wahanol o ran ei gadernid ariannol a'i gronfeydd wrth gefn ei hun, ac y bydd rhai yn fwy agored nag eraill?

17:35

Felly, rydym ni'n amlwg yn ddiolchgar iawn am gael y swm canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Rydym ni eisoes wedi rhoi £110 miliwn i awdurdodau lleol, ac roeddem ni ymhell ar y blaen cyn cyrraedd y swm canlyniadol, ond, ydym, rydym ni'n gweithio'n ddiwyd iawn, fel y dywedais i mewn ymateb i gwestiynau cynharach—. Rydym ni'n gweithio'n ddiwyd iawn gydag awdurdodau lleol i ddeall y sefyllfa wirioneddol ar lawr gwlad. Nid yw hyn yn ymwneud â fformiwla neu geisio gweithio ar ateb sy'n addas i bawb. Mae hyn yn ymwneud â cheisio gweithio allan gyda phob awdurdod beth yw eu problemau mewn gwirionedd a cheisio eu datrys.

Fel y gwnaethoch chi ddweud, a hynny'n gwbl gywir, Mark, rydym ni'n gwneud darn o waith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol ar hyn o bryd i ddeall sut olwg sydd ar eu hincwm coll. Hynny yw incwm coll o ffioedd a thaliadau ac yn y blaen. Hynny yw incwm ar wahân i'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Rydym ni'n gwneud darn gwahanol o waith i ddeall beth yw effaith y golled i'r dreth gyngor, y cynnydd yn y nifer sy'n hawlio rhyddhad treth gyngor a cholled ardrethi annomestig arnyn nhw, felly mae darnau eraill o waith yn cael eu gwneud ar gyfer hynny. Mae gen i gyfarfod ag is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth yfory pan fyddwn yn ystyried sefyllfa gyntaf hynny ac yn trafod yr hyn yr ydym yn ei wneud, ac rydym yn awyddus iawn i weithio gyda nhw.

Fodd bynnag, hoffwn i ei gwneud yn glir, yn dibynnu ar ba mor hir y bydd hyn yn parhau, felly os bydd y cyfyngiad symud yn parhau am ddau fis arall—damcaniaeth yw hyn, rwy'n prysuro i ddweud; nid wyf i'n dweud y bydd hynny'n digwydd, ond pe byddai'n digwydd—yna, yn amlwg, ar ben arall y flwyddyn, byddai gennym ni broblem. Felly, nid oes gen i adnoddau diderfyn, byddai gan Lywodraeth y DU y broblem honno hefyd, a bydd yn rhaid i ni weithio yn agos iawn gyda nhw i weld beth fyddai'n digwydd yn y pen draw. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw ei flaenlwytho, dweud wrth bobl am wneud y peth iawn, 'Peidiwch â phoeni amdano ar hyn o bryd. Byddwn ni'n eich helpu chi ac yna byddwn yn gweithio gyda'n gilydd wrth i ni ddeall sut olwg fydd ar hyn i ddeall beth fydd yr effaith tymor hirach.' Ac rydych chi'n llygad eich lle, bydd gan awdurdodau lleol sefyllfa wahanol ac rydym ni'n wir yn ymateb yn y ffordd honno. Felly, nid yw'n un ateb sy'n addas i bawb; nid ydym ni'n defnyddio'r dull fformiwla. Rydym ni'n gweithio gyda phob awdurdod unigol.

Gweinidog, mae rhai carcharorion o Garchar Ei Mawrhydi Berwyn a charchardai eraill yng Nghymru, wrth gwrs, yn cael eu rhyddhau yn gynnar o ganlyniad i COVID-19. Nawr, nid yw hynny'n fater sydd wedi ei ddatganoli, yn anffodus, ond mae'r effaith ar awdurdodau lleol o ganlyniad i'r bobl sy'n cael eu rhyddhau yn gynnar yn cyflwyno'u hunain yn ddigartref yn fater sydd wedi ei ddatganoli, wrth gwrs, a gwn eich bod chi wedi cyfeirio at hynny yn fyr yn eich datganiad ac mewn rhai o'r atebion dilynol.

Rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod ystadegau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod carcharorion yng Nghymru neu mewn carchardai yng Nghymru yn ffurfio 25 y cant o'r holl achosion a gadarnhawyd yng Nghymru a Lloegr, sy'n ystadegyn sy'n peri pryder mawr, yn enwedig pan mai dim ond 6 y cant o'r ystad yw carcharorion yng Nghymru. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y lefel hon o haint yng ngharchardai Cymru sy'n peri pryder? Ac, wrth gwrs, er bod cynlluniau ar droed yn y gogledd mewn cysylltiad â Berwyn i ymdrin â'r pwysau ychwanegol hwn ar wasanaethau digartrefedd y cyngor, hoffwn i gael sicrwydd gennych chi fod yr holl garcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn cael eu profi am COVID-19 ac, wrth gwrs, yn gallu ynysu os canfyddir eu bod nhw'n bositif.

Diolch, Llyr. Felly, fel yr wyf i wedi ei ddweud yn fyr iawn eisoes, mae gennym ni lwybr ar waith erbyn hyn ar gyfer pob carcharor sy'n cael ei ryddhau. Felly, mae gennym ni wahanol gategorïau o garcharorion sy'n cael eu rhyddhau, ond mae gan bob un ohonyn nhw lwybr. Pan fo rhywun ar fin cael ei ryddhau yn gynnar—a hyd yn hyn, ni fu llawer ohonyn nhw, ond rydym yn disgwyl i hynny gynyddu wrth i amser fynd heibio—os ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau o'r feirws, yna ni fyddan nhw'n cael eu rhyddhau. Yn syml, nid ydyn nhw'n cael eu hystyried ar gyfer eu rhyddhau yn gynnar mwyach. Pan fydd rhywun yn dod i ddiwedd cyfnod ei ddedfryd, yna, yn amlwg, mae'n rhaid iddo gael ei ryddhau beth bynnag, ac yna mae system ar waith i wneud yn siŵr ein bod ni'n deall beth yw rheoli eu symptomau, eu bod nhw'n mynd i rywle sy'n gallu caniatáu iddyn nhw hunanynysu, os yw hynny'n briodol, neu gael y driniaeth gywir ac yn y blaen. Felly, mae gennym ni'r llwybr hwnnw ar waith.

Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r gwasanaeth carchardai a phrawf i roi'r llwybr hwnnw ar waith. Rwy'n ymwybodol o un nam a ddigwyddodd yn gynharach yn y cyfnod, ond rydym ni wedi datrys hynny erbyn hyn, rwyf wedi cael sicrwydd. Rwyf i fy hun wedi codi hyn yn y grŵp is-COBRA yr wyf i'n ei mynychu bron bob dydd, sef y grŵp gwybodaeth gweinidogol canolog ar wasanaethau cyhoeddus, yn ôl ei enw cryno, ac fe wnes i grybwyll hynny yn uniongyrchol â'r Gweinidog ac fe wnaeth ei ystyried, a bod yn deg, ac maen nhw wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda ni. Felly, rwy'n hapus ar hyn o bryd ei fod ar waith, ond rydym ni'n cadw golwg gofalus er mwyn i ni gael yr wybodaeth iawn ar yr adeg iawn er mwyn i ni allu rhoi'r pethau hynny ar waith.

Y peth olaf i'w ddweud am hynny yw: rydych chi'n iawn, mae yn mynd yn gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol i'w ddatrys, ond rydym ni'n gweithio mewn hybiau rhanbarthol hefyd, felly os bydd cynnydd aruthrol yn nifer y carcharorion a gaiff eu rhyddhau o ganlyniad i'r angen i bobl fod mewn celloedd unigol ac yn y blaen, byddwn yn barod i allu ymdopi â hynny, ond nid dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd. Blaengynllunio yn unig yw hynny rhag ofn.

17:40

Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio ac wedi arwain mewn llywodraeth leol i helpu pobl yn eu hardaloedd.

Rwyf i'n dymuno symud ymlaen, mewn gwirionedd, at bobl sy'n denantiaid yn y sector rhentu preifat. Rwyf i yn dymuno croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau nad yw tenantiaid yn wynebu caledi ariannol ar hyn o bryd, ac nad ydyn nhw'n cael eu troi allan. Ond rwy'n credu bod angen i ni gydnabod gwerth Rhentu Doeth Cymru yn arbennig yn awr, sydd wedi codi safonau ac ymwreiddio arfer da yn y sector rhentu preifat yn ystod y pedair blynedd diwethaf, ac mae'n hanfodol, wrth gwrs, nad ydym ni'n llithro'n ôl yn awr ac yn colli landlordiaid da. Felly, hoffwn i chi, os gallwch chi, egluro sefyllfa landlordiaid preifat a'u statws fel busnesau hunangyflogedig ac a ydyn nhw'n gymwys i gael cymorth ariannol gan y Llywodraeth neu unrhyw gymorth arall i'r rhai sydd ei angen, gan ei bod yn eithaf amlwg na fydd landlordiaid preifat sydd wedi talu eu morgais mewn gwirionedd yn cael gwyliau morgais, ac ni allan nhw gael unrhyw fudd o hynny, ond serch hynny, maen nhw'n dibynnu ar yr incwm gan eu tenantiaid i oroesi. Felly, rwy'n pryderu, os byddwn ni'n gweld gwasgfa yn y sector rhentu preifat, yn y pen draw, y bydd hynny'n argyfwng yn y cymunedau hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wrth symud ymlaen.

Diolch am hynny, Joyce, ac rydych chi'n hollol gywir: rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda Rhentu Doeth Cymru, ac, mewn gwirionedd, fel rwy'n ei ddweud yn aml, mae mwyafrif helaeth ein landlordiaid yn landlordiaid da ac rydym yn falch iawn o'u cael yn gweithio gyda ni yn y sector, ac a bod yn deg, fel y dywedais i'n gynharach, mewn ymateb i Delyth rwy'n credu oedd hi, rydym ni'n gweithio'n dda iawn gyda nhw a gyda'r cyrff sy'n eu cynrychioli hefyd, ac maen nhw wedi bod o gymorth mawr i ni.

Rydym ni'n ystyried ffyrdd—rydym ni newydd gyhoeddi canllawiau sy'n effeithio ar landlordiaid, cyrff cynrychioli asiantau, a gwasanaethau rheoli tenantiaethau i geisio'u cynorthwyo i ddod o hyd i'r cymorth iawn, ac rydym yn gweithio gyda'r sector i sicrhau ei fod ar gael. Maen nhw'n dibynnu ar y cymorth busnes sydd ar gael, ac ni fydd llawer ohonyn nhw'n cyrraedd y trothwyon i gael rhywfaint o hynny, felly nid ydyn nhw'n talu TAW, er enghraifft, ac yn y blaen. Felly, rydym ni'n gweithio gyda'r sector i ddeall beth yw'r risg i'r sector ac i weld beth y gallwn ni ei roi ar waith i sicrhau bod unrhyw un sydd mewn perygl o galedi ariannol yn cael cymorth mewn rhyw ffordd.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ar gyfer tenantiaid, oherwydd bod yr effaith yn waeth arnyn nhw, ond rydych chi'n llygad eich lle i dynnu sylw at y ffaith bod rhai landlordiaid yn dibynnu ar eu rhent, ac os nad yw eu tenant yn gallu ei dalu, maen nhw eu hunain yn cael trafferthion difrifol. Rydym ni'n gweithio'n galed i weld beth y gallwn ni ei roi ar waith i amddiffyn y sector, oherwydd fel yr ydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud mewn nifer o ymddangosiadau blaenorol yn y Cyfarfod Llawn, rydym ni'n gwerthfawrogi ein sector rhentu preifat ac rydym yn awyddus iawn i weithio gyda nhw i'w wneud yn sector y mae tenantiaid yng Nghymru yn ei ddewis.

Diolch yn fawr iawn i chi. Wrth i awdurdodau lleol gynllunio eu gwasanaethau, maen nhw angen data, ac maen nhw'n dibynnu ar y Llywodraeth i rannu efo nhw mor amserol â phosib beth mae'r gwaith modelu diweddaraf yn ei ddweud. Yma ym Môn, mae'r awdurdod lleol yn teimlo bod y gwaith surge planning, os liciwch chi, yn edrych ymlaen dros yr wythnosau nesaf—mae'r gwaith yna maen nhw'n gorfod ei wneud yn cael ei ddal yn ôl gan arafwch yn rhannu'r modelu diweddaraf gan y Llywodraeth. A gaf i ofyn, felly, i'r Gweinidog am sicrwydd bod gan bob awdurdod lleol y wybodaeth maen nhw ei angen o ran modelu y pandemig, ac y bydd diweddariadau yn cael eu rhannu efo awdurdodau lleol fel Ynys Môn mor fuan â phosib, mor amserol â phosib, er mwyn iddyn nhw allu cynllunio ymlaen mor effeithiol ag y gallan nhw?

Rwy'n synnu o glywed hynny, Rhun, ac mae'n ddrwg gen i glywed hynny, oherwydd fel y dywedais, rwy'n cyfarfod â'r arweinwyr yn rheolaidd iawn ac mae Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ymuno â'r alwad honno yn rheolaidd iawn. Nid allaf gofio bod hynny wedi ei godi gyda mi. Ni allaf ddweud y gallaf i gofio pob un peth y maen nhw'n codi gyda mi oherwydd eu bod nhw'n niferus iawn ac yn amrywiol yn aml. Ond nid wyf i'n cofio hynny; yn sicr, byddaf yn gwirio hyn, ond rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw. Rydym ni'n awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth, mewn cytgord â'r awdurdodau lleol. Mae'n amlwg bod angen iddyn nhw allu cynllunio'n briodol ar gyfer yr hyn sydd i ddod, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y data yn eu cyrraedd. Nid yw wedi bod yn berffaith bob amser oherwydd bod hon wedi bod yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym. Rydym ni i gyd mor gyfarwydd erbyn hyn â'r drefn arferol newydd hwn, rydym ni wedi anghofio pa mor gyflym yr ydym ni wedi rhoi'r prosesau hyn ar waith, ac nid ydyn nhw'n berffaith eto. Ond byddaf yn sicr yn mynd â hynny yn ôl ac yn edrych arno. Nid dyna'r bwriad. Y bwriad yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau bosibl i roi'r cynlluniau ar waith sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaethau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw.

17:45

[Anhyglyw.]—am weinyddu'r £10,000 o grant rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a oedd wedi ei fwriadu ar gyfer pob busnes sy'n talu ardrethi busnes. Rwyf i wedi cael llawer o gŵynion gan bobl ynglŷn â busnesau gosod eiddo gwyliau wedi'u dodrefnu yn Nwyfor Meirionydd fod cyngor sir Gwynedd yn atal taliadau oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gosod meini prawf newydd nad ydyn nhw'n gymwys i unrhyw fath arall o fusnes, y mae'n rhaid i'r busnesau hyn eu bodloni er mwyn cael y grant. Rwy'n deall mai'r broblem yw atal pobl rhag defnyddio'r hyn sydd mewn gwirionedd yn ail gartrefi, ac nid yn fusnesau, a'u galw nhw'n fusnesau gosod eiddo gwyliau wedi'u dodrefnu, ac felly'n gymwys i gael y grant, ond mae'n ymddangos i mi fod Llywodraeth Cymru yma yn edrych ar y targed anghywir. Mae'r diffiniad o fusnes at ddibenion treth yn un cynhwysfawr iawn a ddarparwyd gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, ac os ydy rhywun mewn gwirionedd yn defnyddio ail gartref fel ail gartref a dim ond am leiafrif bach iawn o'r amser at ddibenion gosod eiddo, ni ddylen nhw fod yn talu ardrethi busnes o gwbl. Felly, dylai cynghorau sir fod yn gweinyddu'r cynllun ardrethi busnes yn iawn yn hytrach nag amddifadu busnesau gwirioneddol o'r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo o dan y cynllun cenedlaethol hwn. Felly, tybed a fyddai'r Gweinidog yn edrych eto ar y meini prawf hyn ac yn edrych i weld a oes modd eu haddasu mewn rhyw ffordd. Er enghraifft, pam y dylai busnes bach yn y sector hwn orfod bod yn fwy na 50 y cant o incwm y perchennog?

Diolch am hynny. Rydym ni newydd addasu'r system mewn gwirionedd o ganlyniad i gael cais i wneud hynny gan nifer mawr o awdurdodau lleol yn y gogledd a'r gorllewin sydd â—ac mae nifer mawr iawn o'r rhain yng Ngwynedd yn arbennig. Fe wnaethom ni edrych unwaith eto ar y meini prawf yr oeddem ni'n eu gosod, ac rydym ni wedi newid y meini prawf fel bod yn rhaid i chi fod wedi rhentu eich cartref am 140 diwrnod erbyn hyn, nid 70 fel yr oedd yn flaenorol, a'i bod yn gorfod bod yn rhan sylweddol o'ch incwm—mae'n debyg 50 y cant fel rheol. Fodd bynnag, mae'n ddisgresiwn yr awdurdodau lleol. Felly, os nad yw busnes cyfreithlon, am ba bynnag reswm, wedi gallu bodloni'r meini prawf, mae gan yr awdurdod lleol ddisgresiwn o hyd i dalu'r grant. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw newid y rhagdybiaeth i'r gwrthwyneb. Felly, yn wreiddiol y rhagdybiaeth oedd y byddai pawb yn ei gael oni bai y gallech chi brofi nad oedden nhw'n fusnes cyfreithlon; rydym ni wedi ei newid, felly nawr, nad ydyn nhw'n ei gael oni bai eu bod yn gallu profi eu bod nhw. Os gallan nhw brofi eu bod nhw, yna mae gan yr awdurdod y gallu i ddefnyddio ei ddisgresiwn i dalu'r grant. Rwyf i wedi ymateb i gais awdurdodau lleol i wneud hynny, ac rwy'n hapus iawn ein bod ni wedi gwneud hynny. Rwyf i, fy hun—. Rwy'n ymwybodol o un neu ddau o bobl sy'n cwyno amdano, ond, wyddoch chi, mae'r disgresiwn yn bodoli i'r awdurdod lleol, ac rydym wedi eu cyfeirio i'r awdurdod lleol i ofyn iddyn nhw ei arfer yn y ffordd honno.

Gweinidog, rwy'n siŵr na fyddwch chi'n synnu o glywed fy mod i wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan fusnesau Cwm Cynon am gyflymder ac effeithlonrwydd defnydd Rhondda Cynon Taf o'r elfen rhyddhad ardrethi o gymorth busnes Llywodraeth Cymru. Ond wedi dweud hynny, rwy'n poeni bod rhai busnesau yn cael—[Anhyglyw.]—cael gafael ar y cymorth hwnnw. Pa ddeialog sydd wedi digwydd gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol ynghylch defnyddio eu pwerau i roi rhyddhad ardrethi caledi neu ddewisol ar waith yn fwy cyffredinol? Ac, yn ail, er bod argyfwng y coronafeirws wedi arwain at atal bywyd normal mewn llawer iawn o ffyrdd, mae'r bag llythyrau fy etholaeth i yn parhau i gynnwys elfen sylweddol o waith achos gan denantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn union fel yr oedd bob amser cyn y pandemig. Rwy'n nodi eich sylwadau cynharach ynghylch gofal a thrwsio, ond ar wahân i hynny, a gyda llawer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig naill ai'n rhoi staff ar ffyrlo neu'n eu secondio i hybiau awdurdodau lleol, pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y gallu a'r capasiti i ddiwallu anghenion hanfodol eu tenantiaid o hyd?

17:50

Diolch, Vikki. Felly, gan fynd am yn ôl, rydym ni yn disgwyl i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig barhau i ddiwallu holl anghenion eu tenantiaid. Rydym ni wedi bod yn glir iawn mai dim ond mewn sefyllfaoedd eithriadol y dylai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fod yn rhoi staff ar ffyrlo, er enghraifft, ac rydym ni wedi bod yn glir iawn ynghylch hynny, ac, a bod yn deg, mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi bod yn glir iawn ynghylch hynny hefyd. Felly, dylai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fod yn parhau i gyflawni'r holl atgyweiriadau ac ati y maen nhw'n ei wneud. Yr unig eithriadau i hynny fyddai pan nad yw'n ddiogel gwneud hynny—felly, pan fo rhywun yn y tŷ y maen nhw'n ceisio ei drwsio yn hunanynysu neu beth bynnag a bod hynny'n ei gwneud yn amhosibl. Ond, ar wahân i'r mathau hynny o eithriadau, dylen nhw fod yn parhau â gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol. Ac, fel y dywedais, rydym ni hefyd yn eu hannog i roi defnydd i unedau gwag unwaith eto mor gyflym â phosibl, fel y gallwn ni gael pobl allan o lety anaddas. Os hoffech chi dynnu sylw fy at unrhyw rai o'r achosion hynny er mwyn i mi allu eu codi gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig penodol, rwy'n hapus iawn i wneud hynny.

O ran y cronfeydd caledi a'r cronfeydd rhyddhad ardrethi dewisol, nid oes unrhyw un wedi tynnu fy sylw at broblem benodol, felly, unwaith eto, os hoffech chi dynnu sylw at unrhyw faterion penodol, rwy'n hapus iawn i godi hynny gyda'r awdurdod lleol penodol a gweld a ydym ni'n gallu eu cynorthwyo yn y ffordd y maen nhw'n defnyddio eu disgresiwn. Ac, os yw'n rhywbeth nad yw'n cael sylw ar hyn o bryd, yna—. Yn amlwg, rydym ni wedi rhoi'r holl bethau hyn yn ar waith yn gyflym iawn; rwy'n hapus iawn gyda'r awdurdodau lleol ac yn ddiolchgar iawn i'w staff am y gwaith caled y maen nhw wedi ei wneud, ond mae eisoes yn drefn arferol newydd, ac mae'n bwysig cofio bob amser pa mor gyflym yr ydym ni wedi mynd o'r fan lle'r oeddem ni ychydig wythnosau yn ôl i'r fan hon. Felly, nid yw'n berffaith ac rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw enghreifftiau gan bob Aelod i weld sut y gallwn ni ei mireinio a'i gwella wrth i ni symud ymlaen.

Diolch yn fawr, Gweinidog.

Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y cynigion ar gyfer Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 eu grwpio i'w trafod ac i bleidleisio arnyn nhw. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.

6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

Felly, symudwn at eitemau 6 a 7 ar y rheoliadau hynny. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynigion—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7319 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2020.   

Cynnig NDM7320 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2020.   

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Rwyf yn cynnig yn ffurfiol y ddwy set o reoliadau sydd ger ein bron heddiw. Hoffwn i fynd i'r afael ar y dechrau â mater drafftio byr o ran y cynigion oherwydd, Llywydd, yn fuan cyn y ddadl hon tynnwyd fy sylw at y ffaith bod y cynigion sydd ger ein bron yn cynnwys camgymeriad. Mae'r cynigion yn cyfeirio at reoliadau drafft, ond mae'r rheoliadau hyn eisoes wedi eu gwneud yn eithaf clir, a chymeradwyaeth y Senedd i barhau â nhw ar waith yw'r hyn sy'n cael ei geisio. Hoffwn i sicrhau yr Aelodau nad yw hyn yn newid cynnwys y rheoliadau, ac nid yw ychwaith yn newid bwriad y cynnig y mae gofyn i'r Senedd ei gymeradwyo heddiw. Bydd y Llywodraeth, wrth gwrs, yn sicrhau y bydd cynigion am offerynnau cadarnhaol a wneir yn y dyfodol yn cael eu cywiro.

Hoffwn i wrando ar y ddadl gan yr Aelodau, gan fod y pwerau yn y rheoliadau wedi eu trafod ac rwy'n credu bod dealltwriaeth dda ohonyn nhw. Byddaf i'n fwy na pharod i annerch yr Aelodau am gynnwys y rhain, neu am eu parhad a'r defnydd cymesur ohonyn nhw yn y dyfodol, ar ôl gwrando ar yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud heddiw.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Cafodd y set gyntaf o reoliadau y byddwn yn eu hystyried heddiw, y brif set o reoliadau ar gyfer cyfyngiadau coronafeirws, eu gosod gerbron y Cynulliad yn ystod y cyfnod pan nad oedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cwrdd fel arfer, o ganlyniad i'r pandemig COVID-19 parhaus hwn. Fel y cyfryw, ac yn unol â'r broses dros dro a sefydlwyd gan y Pwyllgor Busnes, cafodd nodyn cyngor wedi ei baratoi gan gyfreithwyr Comisiwn y Cynulliad ei osod gerbron y Cynulliad gan y Llywydd. Roedd y nodyn yn cynnwys yr un cyngor a fyddai wedi ei roi i'n pwyllgor. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ymateb i'r pwyntiau a godwyd yn y nodyn cyngor hwnnw, ac mae'r ddwy ddogfen wedi eu cyflwyno i'r holl Aelodau ac maen nhw ar gael iddyn nhw ar yr agenda heddiw.

Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau diwygio yn ein cyfarfod pwyllgor fore ddoe ac fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar y rheoliadau yn syth ar ôl ein cyfarfod. Mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt adrodd technegol o dan Reol Sefydlog 21.2, a thri phwynt rhinwedd o dan Reol Sefydlog 21.3. Unwaith eto, mae ein hadroddiad ar gael fel dogfen ategol ar agenda'r Cyfarfod Llawn, ac ni fyddaf yn rhoi sylwadau ar bob un o'r pwyntiau adrodd y prynhawn yma. Bydd fy nghyfraniad yn canolbwyntio ar ein hail bwynt adrodd technegol a'n pwynt rhinwedd cyntaf.

Mae ein hail bwynt adrodd technegol yn ymwneud â'r pwerau y mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu arnyn nhw i wneud y rheoliadau. Wrth wneud y rheoliadau hyn, nid yw Gweinidogion Cymru wedi dibynnu ar y pŵer galluogi sydd wedi ei gynnwys yn adran 45C(4)(d) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae adran 45C(4)(d) o Ddeddf 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gynnwys mewn rheoliadau, gyfyngiad neu ofyniad arbennig.

Mae rheoliadau 2 a 4 o'r rheoliadau hyn, yn y drefn honno, yn diwygio rheoliadau 5 a 7 o'r prif reoliadau, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gau llety gwyliau a mannau addoli yn ystod cyfnod yr argyfwng. Mae rheoliad 7 o'r rheoliadau diwygio hyn hefyd yn diwygio amryw o ddarpariaethau'r prif reoliadau ynghylch cau adeiladau.

Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni ddweud ei bod yn ymddangos y dylai Gweinidogion Cymru ddibynnu ar bwerau galluogi o dan adran 45C(4)(d) o Ddeddf 1984 i wneud rheoliadau 2, 4 a 7. Rwy'n nodi bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod y rheoliadau hyn wedi eu gwneud trwy arfer y pwerau sy'n adlewyrchu eu cynnwys yn gywir. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y pŵer i wneud rheoliadau yn canolbwyntio ar adran 45C(1) o Ddeddf 1984 ac y byddai cyfeirio at adran 45C(4) o Ddeddf 1984 yn annefnyddiol ac yn anghywir.

Felly, gan symud ymlaen at ein pwynt adrodd cyntaf ar rinweddau, sy'n ymwneud â hawliau dynol, mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau diwygio yn nodi asesiad Llywodraeth Cymru o'r ymyrraeth ag erthyglau penodol yn y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae'r memorandwm esboniadol yn enwi erthyglau 1, 8 ac 11. Yn ein barn ni, nid yw'n ymddangos bod yr asesiad wedi ei gwblhau, oherwydd ein bod ni'n credu bod erthygl 9 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol—rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd—yn gysylltiedig â rheoliadau 4 a 6 o'r rheoliadau hyn. Hawl gymwysedig yw'r hawl hon, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau yn yr un modd â gydag erthyglau 8 ac 11 o'r confensiwn Ewropeaidd. Ac, yn ogystal â hyn, tan ddiwedd cyfnod pontio ymadael yr UE, bydd Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd yn berthnasol i'r Deyrnas Unedig.

Mae amddiffyniadau cyfatebol i'r rhai yn y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol wedi eu cynnwys yn siarter hawliau sylfaenol yr UE: yn amodol ar yr egwyddor o gymesuredd, gellir cyflwyno cyfyngiadau sy'n effeithio ar yr hawliau o dan y siarter os ydyn nhw'n angenrheidiol ac yn diwallu yn wirioneddol amcanion o fuddiant cyffredinol sy'n cael eu cydnabod gan yr Undeb Ewropeaidd neu'r angen i amddiffyn hawliau a rhyddid pobl eraill.

Yn ei hanfod, yn ein barn ni, mae'r cyfiawnhad a roddir gan Lywodraeth Cymru ynghylch erthyglau 8 ac 11 o'r Confensiwn Ewropeaidd yr un mor berthnasol i ymyrraeth â'r hawliau o dan erthygl 9 a siarter hawliau'r UE. Diolch, Llywydd.

17:55

Diolch am ddod â'r rheoliadau hyn ger ein bron; fel yr ydych chi wedi ei ddweud, maen nhw eisoes ar waith. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn eu cefnogi nhw, ond mae gen i gwestiwn neu ddau, Gweinidog, yr hoffwn eu gofyn i chi amdanyn nhw wrth i ni symud ymlaen.

Rydym ni yn croesawu'r rhan o'r rheoliadau sy'n dweud bod yn rhaid i bobl beidio â gadael eu cartref am unrhyw gyfnod o amser. Mewn geiriau eraill, mae hyn yn ffordd o atal pobl rhag mynd i ail gartrefi a phenderfynu preswylio yno. Ond mae nifer o sefydliadau wedi gofyn i mi am eglurder ynghylch hyn. A yw'r rheoliadau hyn mewn gwirionedd yn rhoi'r grym i'r heddlu guro ar y drws a dweud wrth y deiliaid, 'Mae'n rhaid i chi fynd yn eich car a gadael nawr' neu a yw dal yn wir mai dim ond eu cynghori  y dylen nhw ddychwelyd y gall yr heddlu ei wneud?

Mae'n galonogol iawn bod y rheoliadau hyn wedi cyflwyno'r gallu i bobl fynd allan ac ymgymryd â phob math o ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd os ydyn nhw'n perthyn i fath penodol o gategori, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Ac rwy'n gwybod bod hynny mewn gwirionedd wedi rhoi llawer o lawenydd i rai teuluoedd sydd o dan straen aruthrol oherwydd bod ganddyn nhw blant ag anableddau dysgu ac y mae angen iddyn nhw fod â'r gallu hwnnw i fynd allan a gwneud mwy o ymarfer corff.

A fyddech cystal â dweud wrthyf i sut yr ydych chi wedi asesu risg y mesurau cyfyngiadau symud hyn, neu'r rheoliadau sy'n arwain at hyn—felly, y set wreiddiol o reoliadau a'r rhain? Rwy'n tybio bod proses ymwybodol yn ei gylch sy'n ystyried pa risgiau sydd ar waith pan fo gennym ni'r rheoliadau hyn. Felly, rwy'n tybio y byddai asesiadau risg wedi ystyried materion iechyd meddwl, sut y bydd pobl yn ymateb i hyn—gallai fod wedi ystyried materion unigedd cymdeithasol—a byddai gen i ddiddordeb mawr gwybod a allwch chi roi rhywfaint o ddirnadaeth i ni o hyn, yn enwedig os yw'r rheoliadau hyn yn mynd i orfod parhau am gyfnod penodol o amser, wrth symud ymlaen.

Ac mae hynny'n fy arwain i at fy mhwynt olaf, sef: ai drwy'r rheoliadau hyn neu ddiwygiad arall iddyn nhw y byddech chi'n dechrau ceisio codi'r cyfyngiadau symud? Oherwydd fy mod i wedi tybio, ac mae'n bosibl iawn fy mod i'n anghywir, felly byddwn i'n ddiolchgar am eich arweiniad, wrth i ni symud ymlaen ac os ydym yn gallu codi rhywfaint o'r cyfyngiadau symud, yna bydd angen newid a ffurfio'r rheoliadau hyn yn gyson. A fyddwch chi'n parhau i wneud hynny ac a fydd y rheoliadau hyn y rhai a fydd yn dal i ddweud wrth bobl, 'Mae'n rhaid i chi gadw 2 fetr ar wahân', neu a fyddech chi'n ceisio cyflwyno deddfwriaeth tymor hirach?

Rydym ni mewn sefyllfa anodd iawn, ac, yn amlwg, rwyf i wedi cael llawer iawn o negeseuon e-bost, fel eraill rwy'n siŵr, gan bobl sy'n dechrau teimlo efallai fod hyn yn amharu ar eu hawliau dynol. Rwy'n gwybod bod Cadeirydd y pwyllgor wedi codi'r pwynt hwnnw a'i fod newydd wneud sylw. Rydym ni mewn cyfnod digynsail. Rwy'n credu bod y rheoliadau hyn mor ysgafn ag y gallan nhw fod, ond rwyf i yn credu y byddai'n dda iawn pe gallem ni roi gwybod i bobl am ba hyd y byddech yn gweld y rhain yn parhau wrth i ni symud ymlaen. Diolch, Gweinidog.

18:00

[Anhyglyw.]—y rheoliadau yma, ond mae hi'n bwysig iawn ein bod ni wir yn gwerthfawrogi difrifoldeb beth rydyn ni'n ei drafod. Rydyn ni'n siarad yn fan hyn am rai o'r penderfyniadau mwyaf mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u wynebu yn ei hanes, mewn ffordd. Y cwestiwn sydd yn ein hwynebu ni mewn gwirionedd ydy: ydyn ni wedi ein hargyhoeddi, ydyn ni'n rhoi cefnogaeth i reoliadau Llywodraeth Cymru sydd yn rhoi'r mecanwaith cyfreithiol yna i orfodi y newidiadau pellgyrhaeddol a digynsail i'r ffordd o fyw rydyn ni wedi eu gweld dros yr wythnosau diwethaf?

Mae'r prif reoliadau a'r rheoliadau diwygio yn cael eu gwneud dan y weithdrefn gadarnhaol, ond mewn ffordd ôl-weithredol—retrospective, os liciwch chi—fel y gwnaeth y Gweinidog ato fo yn ei sylwadau agoriadol. Mae hynny, dwi'n meddwl, yn adlewyrchu mor anghyffredin ydy'r sefyllfa rydyn ni'n canfod ein hunain ynddi hi. Felly, maen nhw eisoes mewn grym, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau cefnogaeth y Cynulliad yma o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y rheolau treuliadau er mwyn iddyn nhw barhau i fod yn gyfraith yng Nghymru.

Rŵan, nid ar chwarae  bach mae cyfyngiadau ar ein rhyddid ni o'r math yma wedi eu cyflwyno. Rydyn ni yn gweld cydnabyddiaeth bellach o fewn corff y rheoliadau o ba mor bellgyrhaeddol ydyn nhw yn y gofyniad sydd ar Weinidogion i 

'adolygu’r angen am gyfyngiadau a gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn bob 21 o ddiwrnodau'.

Dwi'n dyfynnu. Mae hynny, wrth gwrs, yn briodol iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i'r mesurau a sicrhau ein bod ni'n gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf. Ac ydy, mae'r dystiolaeth yn newid; rydyn ni'n dysgu'n gyson.

Y dyddiad adolygu nesaf, fel sydd wedi cael ei adrodd yn eang, wrth gwrs, fydd wythnos i fory, dydd Iau 7 Mai. Rydyn ni wedi gweld impact mor ddwfn mae'r rheoliadau a'r cyfyngiadau wedi eu cael, ond mae yna gyd-destun, wrth gwrs, sef yr effaith ddiamheuol o gadarnhaol mae'r mesurau wedi eu cael o ran cyfrannu at atal neu gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws hyd yma. Dechrau ydym ni, mewn gwirionedd, ar y drafodaeth am yr hyn fyddai angen bod mewn lle cyn y gallen ni hyd yn oed ystyried llacio'r cyfyngiadau mewn unrhyw ffordd—yr angen, sydd wedi cael ei drafod yn gynharach yn y sesiwn yma, am gynlluniau cadarn o ran profi cymunedol ac yn y blaen, cynllunio’r isadeiledd i gefnogi symud i'r cam nesaf. 

Mi orffennaf i'r sylwadau yma drwy ofyn cwestiwn, mewn difrif, i ofyn am sicrwydd. Dydy'r pegwn ddim wedi dod mewn llawer o ardaloedd, yn sicr yn cynnwys yma yn Ynys Môn, ac mae'n rhaid i ni fod yn gochel rhag symud yn rhy gynnar i lacio. Mi fyddem ni, wrth gwrs, yn disgwyl i Lywodraeth wneud yr hyn sy'n iawn i bob rhan o Gymru. Felly, fel dwi'n dweud, tra'n bod ni'n cefnogi hwn, mi fuaswn i yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn ei ymateb yn cadarnhau y byddai hi yn gwbl gynamserol i weld unrhyw lacio neu leihau yn y rheoliadau cyn penwythnos gŵyl y banc, wythnos i ddydd Gwener nesaf. Fe gefnogwn ni'r rheoliadau, ond dŷn ni ddim yn barod i adael iddyn nhw fynd eto, er lles ein hiechyd.

18:05

Fe wnaethom ni gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Deddf Coronafeirws y DU 2020, ac mae'n bosibl y byddem ni wedi bod â safbwynt gwahanol ar y rheoliadau hyn pe bydden nhw wedi eu hystyried gan y Cynulliad tua'r adeg y cawson nhw eu rhoi ar waith ar 26 Mawrth. Ond, bryd hynny, roeddem ni'n wynebu posibilrwydd gwirioneddol y byddai ein GIG yn cael ei lethu'n llwyr, ac na fyddai ein hadrannau gofal critigol a dwys yn gallu ymdopi yn yr un modd ag yr oeddem ni wedi ei weld yng ngogledd yr Eidal. Credwyd ei bod yn angenrheidiol gwastadu uchafbwynt hwnnw y pandemig er mwyn sicrhau y byddai'r GIG yn gallu ymdopi. Rydym ni wedi gwneud hynny, a hoffwn i ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig, yn enwedig staff GIG y gwasanaeth cyhoeddus, ond hefyd i Lywodraeth Cymru am y gwaith y mae wedi ei wneud.

Fodd bynnag, mae'n 29 Ebrill erbyn hyn, ac mae nifer yr achosion, nifer y marwolaethau—wrth gwrs, dangosydd oediog—a nifer yr heintiau wedi bod yn gostwng, o leiaf ar lefel y DU a Chymru gyfan, ers peth amser erbyn hyn, yn enwedig yn fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain lle gwelsom ni rai o'r cyfraddau heintio uchaf ar y dechrau. Mae'r rhifau hynny, rwy'n falch o ddweud, yn dod i lawr. Mae'r cyfyngiad ar ryddid, y niwed i'r economi a'r niwed, a dweud y gwir, i lesiant pobl y gallwn ei gyfiawnhau yn llai pan fydd yr achosion hynny ar drywydd sy'n sicr yn gostwng o'i gymharu â phan oedden nhw ar drywydd oedd yn cynyddu'n sylweddol gyda'r tebygolrwydd gwirioneddol y byddai'r GIG yn cael ei lethu. Felly, am y rhesymau hynny, rydym ni'n cynnig gwrthwynebu'r rheoliadau hyn mewn pleidlais heddiw.

Mae gennym ni ddwy broblem allweddol arall ynglŷn â'r rhain. Yn gyntaf, rydym yn anhapus bod Llywodraeth Cymru yn deddfu'n wahanol drwy reoliadau i Loegr dim ond er mwyn gwneud hynny. Dywedodd y Prif Weinidog wrthyf i yn gynharach sut yr wyf i'n meiddio awgrymu ein bod ni'n gweithredu neu y dylem ni o gymharu â thempled a bennwyd gan Loegr. Ond dyna yn union yr ydym ni'n ei wneud. Mae'r rheoliadau coronafeirws hyn wedi eu copïo a'u gludo i raddau helaeth o'r fersiynau Lloegr hyn, ac os edrychwch chi ar y dudalen gyntaf, yr unig newidiadau ar ôl i ni eu pasio ychydig oriau yn ddiweddarach—ni wnaeth y Llywodraeth eu gosod gerbron y Cynulliad tan y diwrnod wedyn—yw lle mae'n dweud 'Ysgrifennydd Gwladol' y mae wedi ei ddileu ac mae'n dweud 'Gweinidogion Cymru', a lle mae'n dweud 'Lloegr' y mae wedi ei newid i ddweud 'Cymru'. Felly, ar gyfer Cymru, gweler Lloegr. A phan fo rhai newidiadau wedi eu gwneud, newidiadau penodol nad ydym ni'n cytuno â nhw. Mae'r cyfyngiad hwn ar ymarfer corff, lle mae'r gyfraith yn dweud mai dim ond unwaith y dydd y dylai fod yng Nghymru, ond nid yn Lloegr, nid ydym yn gweld cyfiawnhad dros hynny, yn enwedig gan ei bod yn anoddach dal y feirws yn yr awyr agored nag ydyw mewn gofod caeedig dan do. Rydym ni'n pryderu bod y gorfanylder hyn, y microreoli hwn o beth yn union y mae pobl yn ei wneud o ran ymarfer corff awyr agored yn rhoi amheuaeth i weddill y cyfyngiadau, neu weddill yr anogaeth o ran yr hyn y dylai pobl ei wneud. Rwy'n falch o ddweud bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi rhoi rhywfaint o gyfarwyddyd coronafeirws i Gymru, ac maen nhw wedi dweud

y gall staff a heddweision Cymru ddefnyddio'r briff ar gyfer Lloegr.

Mae yn dweud wrthyn nhw wedyn y dylen nhw fod yn ymwybodol bod ymarfer unwaith y dydd yn y gyfraith yng Nghymru, ond mae'n dweud nad oes angen iddyn nhw boeni am arweiniad y Llywodraeth ynghylch ymarfer corff, a'r holl bethau hyn am beidio â gyrru i ymarfer corff, neu feicio o fewn pellter cerdded rhesymol i'ch cartref yn unig, oherwydd dim ond arweiniad yw hynny ac nid yw'n gyfraith, felly gall heddweision a staff ddefnyddio'r rheoliadau a wneir ar gyfer Lloegr lle nad yw hyn wedi ei gynnwys, a pheidio â rhwystro pobl rhag gyrru pelllter rhesymol er mwyn gwneud ymarfer corff.

Rydym ni hefyd yn pryderu'n fawr ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n rhoi terfyn ar y rheoliadau hyn. Mae'r gyfraith yn nodi sut y dylen nhw roi terfyn arnyn nhw. Mae'n dweud yn y rheoliadau, pan nad ydyn nhw'n angenrheidiol i atal lledaeniad heintiau sy'n gymesur â hynny, y dylid cael gwared arnyn nhw, ac mae Llywodraeth y DU wedi gosod pum prawf sy'n mynd i'r pwynt hwnnw. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr lawer hirach o saith maes ac yna cryn dipyn o bethau ategol. Yn ôl y sôn, byddan nhw'n ystyried a ydyn nhw'n cael effaith gadarnhaol uchel ar gydraddoldeb neu beth maen nhw'n ei wneud am Gymru sy'n gyfartal neu'n wyrddach, neu Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, neu a ydyn nhw'n ehangu cyfranogiad ac yn darparu cymdeithas fwy cynhwysol. Mae'n ddrwg gen i, os byddwch chi'n rhoi'r rheoliadau hyn â'r lefel hon o gyfyngiad, nad yw'n bell iawn o fod dan arestiad tŷ, mae angen y gofyniad cryfaf posibl arnoch er mwyn eu cadw. Ni allwch chi gael eich egwyddorion ideolegol a dweud, 'O rydym ni'n mynd i'w cadw nhw'n hirach, am yr holl resymau hyn o bosib', pan nad oes gennych unrhyw sail mewn cyfraith i ddweud hynny. Felly, am y rhesymau hynny, byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn.

18:10

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Efallai ei bod yn werth nodi ein bod wedi cymryd camau digynsail i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag perygl coronafeirws, ac er ein bod ni wedi llwyddo i atal lledaeniad llawer ehangach a mwy trychinebus o coronafeirws, nid yw hyn drosodd eto ac yn sicr nid yw'n ddinod, gyda mwy na 1,000 o farwolaethau wedi'u cadarnhau ledled Cymru. A gwyddom y bydd mwy i ddod. Ond mae'r dull a ddilynwyd gennym gyda'r rheolau yr ydym wedi eu llunio ac ymddygiad y cyhoedd yn sicr wedi helpu i achub bywydau, ac rwyf yn hynod ddiolchgar o hyd nid yn unig i'n staff rheng flaen, ond i aelodau o'r cyhoedd sydd wedi dilyn y rheolau ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Fel y gwyddom, cyflwynwyd y ddwy gyfres o reoliadau a drafodwyd heddiw o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, o dan weithdrefnau argyfwng. Yn hytrach na'r feirniadaeth a wnaed gan Blaid Brexit rwy'n credu ei bod yn beth da bod Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, y pedair Llywodraeth, wedi rhannu gwybodaeth ac yna wedi gwneud penderfyniadau ar ran y wlad a'r bobl yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw o fewn pob un o'r pedair Llywodraeth unigol. Nid wyf yn derbyn safbwynt gwahanol ac, yn fy marn i, camarweiniol  Plaid Brexit y dylem ni wneud yr hyn y mae Lloegr wedi'i wneud, ac yn sicr nid ydym yn ymdrin â mater o egwyddorion ideolegol. Rydyn ni'n edrych ar ddiben a chymesuredd y rheoliadau sydd gennym ni a'u diben.

Daeth y prif reoliadau i rym ar 26 Mawrth, a daeth y rheini â'r farn i mewn am bobl ddim ond yn gadael cartref at ddibenion penodol, gan gynnwys siopa hanfodol, ymarfer corff unwaith y dydd, unrhyw angen meddygol neu i ddarparu gofal neu gymorth i berson sy'n agored i niwed, a theithio i'r gwaith ac oddi yno os yw hynny'n angenrheidiol. I ymdrin â phwynt Angela Burns, ni all yr heddlu fynnu bod pobl yn gadael eu cartrefi pan eu bod nhw'n preswylio yno. Mae'n fater yr ydym yn dal i'w drafod â'r heddlu a llywodraeth leol yn ei gylch, ac nid wyf am ei fychanu, am bobl mewn ail gartrefi. Mae hwnnw'n fater yr ydym yn dal i'w drafod oherwydd yr adolygiad parhaus o'r rheoliadau. Ond prif ddiben y prif reoliadau yw lleihau i ba raddau y mae pobl yn gadael eu cartrefi yn ystod y cyfnod argyfwng parhaus hwn i helpu i atal y coronafeirws, er mwyn lleihau'r baich ar wasanaethau iechyd ac achub mwy o fywydau. Felly, gwaherddir siwrneiau diangen a heb gyfiawnhad.  

Fe wnaeth y rheoliadau diwygio a ddaeth i rym ar 7 Ebrill nifer o newidiadau pwysig, gan gynnwys y mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn mannau gwaith. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni wedi cael ein dilyn gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ar ôl cyflwyno'r rheolau hynny. Fe'u gwnaed i ddiogelu iechyd unigolion a lleihau'r risg o drosglwyddo yn y gweithle. Fe'i gwnaed yn glir hefyd yn y rheoliadau hynny y gall busnesau barhau i ddarparu gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn neu drwy'r post.

Llywydd, fy marn i a barn y Llywodraeth o hyd yw bod y rhain yn gyfyngiadau synhwyrol a gyflwynwyd i ymdrin ag argyfwng iechyd cenedlaethol. Digwyddiad unwaith mewn canrif yw hwn o hyd, a bydd llawer mwy o ddyddiau anodd o'n blaenau. Rydym yn adolygu'r gofynion yn gyson ac yn siarad â rhanddeiliaid i weld pa newidiadau y mae angen eu gwneud. Ac, mewn rhai meysydd, mae'n bosibl iawn y bydd hynny'n golygu cryfhau neu newid gofynion deddfwriaethol, ac mae'n ddigon posibl y bydd hynny'n golygu bod Cymru'n mynd gyntaf neu mewn cyfeiriad gwahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, oherwydd mae'n rhaid i ni ymateb i'r cyfrifoldebau sy'n dal i fod gennym, ac ni allwn gontractio allan ohonyn nhw ar ran pobl Cymru. Mewn meysydd eraill, efallai y byddan nhw'n cael eu lliniaru, pan ei bod yn ddiogel i wneud hynny. 

Nawr, fel y bydd Aelodau yn gwybod, fe wnaethom ddiwygio'r prif reoliadau ymhellach ddydd Gwener diwethaf, yn rhan o'r broses adolygu barhaus. Mae'r rheoliadau hynny yn gwneud nifer o ddiwygiadau, gan gynnwys caniatáu ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol, ac mae'n amlwg bod ymweld â mynwent neu dir claddu arall i dalu teyrnged i berson sydd wedi marw yn esgus rhesymol dros adael y lle yr ydych yn byw ynddo. A bydd y rheoliadau diwygio hynny yn dod gerbron y Senedd yn fuan iawn.

Rwyf eisiau ymdrin â pheth o'r her ynghylch y dull cyfunol sydd gennym, ac mae'r negeseuon canolog yn aros yr un fath: gall unrhyw un gael y firws, gall unrhyw un ei ledaenu, ac mae angen o hyd i ni barhau i aros gartref, amddiffyn y GIG ac achub bywydau. Rwy'n credu nad oedd tôn peth o gyfraniad Mr Reckless mor ddefnyddiol ag y byddwn i wedi dymuno iddo fod wrth atgyfnerthu'r neges honno, oherwydd rydym ni yn gweld effeithiau'r mesurau hynny ac yn cymryd y camau angenrheidiol i helpu ein GIG i ymdopi, i gadw gwasanaethau hanfodol i barhau ac i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, ond mae ffordd bell i fynd eto. Felly, rydym yn adolygu'r mesurau ac yn gwneud newidiadau i ymateb i'r heriau a wynebir mewn rhannau o'r wlad a gan deuluoedd ledled Cymru.

Mae'r rheoliadau a weithredir yng Nghymru yn hanfodol ar sail y cyngor clinigol a gwyddonol i ymateb i'r sefyllfa hon. Mae'r mesurau'n rhai dros dro ac yn gymesur â'r bygythiad a wynebwn, a dim ond am gyhyd ag y bydd eu hangen y byddan nhw'n cael eu rhoi ar waith. Maen nhw'n cael eu hadolygu'n barhaus, gyda chyngor ar gydbwysedd y risg yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, ac mae cyfnod adolygu ffurfiol o 21 diwrnod yn edrych ar y saith prawf a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf i benderfynu ar yr angenrheidrwydd i'r rheoliadau barhau. Ac yn fy marn i, rydym ni mewn gwell sefyllfa yng Nghymru oherwydd ein bod ni wedi bod yn fwy agored ac wedi darparu mwy o fanylion am y profion hynny ar gyfer parhad y rheoliadau hyn, a'r llwybrau posibl drwy'r cyfyngiadau symud. Ni ddylai unrhyw un ddisgwyl y bydd y cyfyngiadau'n dod i ben ar gyfer penwythnos gŵyl y banc; fyddan nhw ddim. Bydd y llwybr allan o'r cyfyngiadau symud yn cael ei gyflwyno'n raddol ac yn bwyllog.

Felly, gofynnaf i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn a chytuno eu bod yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw. Fel y dywedais, byddan nhw'n cael eu hadolygu'n barhaus a'u dileu neu eu diwygio cyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel i ni wneud hynny.  

18:15

Y cynnig yw derbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, rwyf yn gweld gwrthwynebiad ac felly symudwn i bleidleisio ar y cynigion.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Fel y nodwyd ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod o'r grŵp i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau o'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â swyddogaeth weithredol, gall yr enwebai gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau o'r grŵp hwnnw, ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydyn nhw'n perthyn i grŵp yn pleidleisio ar eu rhan eu hunain. Byddaf yn cynnal y bleidlais drwy alw'r gofrestr, ac felly, gan fod y Cynulliad wedi cytuno i grwpio'r cynigion ar y ddau reoliad o dan eitemau 6 a 7 ar yr agenda, un bleidlais yn unig a fydd. Galwaf felly am bleidlais ar y cynigion a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, ac ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth gofynnaf i Vikki Howells: sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru, Angela Burns, sut ydych chi'n bwrw eich 11 pleidlais?

Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw eich naw pleidlais?

Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?

Gareth Bennett, sut ydych chi'n bwrw eich pleidlais? Rwy'n credu mai yn erbyn oedd hynna, er na chlywyd hynny'n glir.

Ie, yn erbyn. Diolch, Gareth Bennett. Neil Hamilton, sut ydych chi'n bwrw eich pleidlais? Eto rwyf yn meddwl mai yn erbyn oedd hynna.

Yn erbyn. A Neil McEvoy, sut ydych chi'n bwrw eich pleidlais?

Rwy'n credu mai o blaid oedd hynna, roeddwn i'n darllen gwefusau yn y fan yna am eiliad.

O blaid. Canlyniad y bleidlais, felly, yw—fe edrychaf ar fy ngrŵp WhatsApp yn gyflym—o blaid 51, neb yn ymatal a chwech yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y cynigion.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7319 a NDM7320 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Vikki Howells ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Angela Burns ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Neil McEvoy – Welsh National Party: O blaid

Derbyniwyd y cynigion.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Efallai yr hoffai'r Aelodau fod yn ymwybodol mai dyma cyfarfod rhif un fil tri chant a saith deg wyth a chyfarfod olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn unol â Deddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, byddwn yn ailymgynnull yr wythnos nesaf fel y Senedd, Senedd Cymru, the Welsh Parliament.

Prynhawn da i chi gyd. 

18:20

Daeth y cyfarfod i ben am 18:20.