Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
04/03/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb.
Dechreuwn ar ein Cyfarfod Llawn y prynhawn yma gyda'r eitem gyntaf ar yr agenda—cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Cwestiwn 1, Jack Sargeant.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant bwyd a diod yng ngogledd Cymru? OAQ55170
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf y diwydiant bwyd a diod ledled Cymru gyfan. Rydym bellach wedi cyflawni trosiant o £7.473 biliwn i’r diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru. Mae hyn yn llawer uwch na'r targed heriol o £7 biliwn a osodwyd gennym i ni ein hunain a'r sector yn ôl yn 2014.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai yng Nghymru, bûm yn ymweld yn ddiweddar â nifer o fragdai annibynnol gydag Aelodau o bob rhan o’r Siambr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda llawer mwy o ACau i hyrwyddo cwrw a seidr Cymru yn eu hetholaethau. Weinidog, mae'r materion a gafodd eu dwyn i fy sylw yn cynnwys cymorth i fanteisio'n llawn ar gyfleoedd unigryw i hyrwyddo cwrw Cymru ledled y byd—cyfleoedd fel Cwpan Rygbi'r Byd a'r chwe gwlad, sy'n cyd-daro ag wythnos gwrw Cymru. Ac mae nifer o fragdai a bragwyr wedi dwyn cynllun dychwelyd blaendal yn y dyfodol i fy sylw, cynllun y gwn ei fod yn gyfrifoldeb i’r Dirprwy Weinidog. Fodd bynnag, mae eich adran yn gweithio'n uniongyrchol gyda chynhyrchwyr drwy glwstwr bwyd a diod Cymru. Felly, Weinidog, a allwch fy sicrhau bod eich adran yn gweithio'n agos ag adran y dirprwy Weinidog, a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, i gefnogi a hyrwyddo diwydiant bragu Cymru yn y dyfodol?
Diolch i chi, ac roeddwn yn falch iawn o ymweld â Wrexham Lager gyda chi yn rhinwedd eich swydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai. Ac rwy'n credu bod Wrexham Lager yn enghraifft glasurol, mae’n debyg, o gwmni sy’n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd, a phan oedd Cwpan Rygbi'r Byd yn mynd rhagddo yn Japan, rwy'n credu eu bod wedi gorfod anfon cyflenwadau ychwanegol ar dri achlysur oherwydd ei fod mor boblogaidd allan yno. Gallaf eich sicrhau bod fy adran yn gweithio'n agos gydag adrannau eraill o’r Llywodraeth. Rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Fe sonioch chi am y cynllun dychwelyd blaendal. Mae gwaith yn datblygu ar hynny. Mae'n cael ei ddatblygu fel prosiect ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth Gogledd Iwerddon.
Yn ôl ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi'r ymatebion i ymgynghoriad cychwynnol ar y cynigion ar gyfer cynllun i Gymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ac unwaith eto, roedd yr ymatebion a ddaeth i law i’r ymgynghoriad hwnnw yn gadarnhaol dros ben. Rwyf hefyd yn rhoi cyllid tuag at y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn eich etholaeth ar gyfer datgarboneiddio mewn perthynas â'r sector bwyd a diod yn ei gyfanrwydd, ac yn amlwg, mae llai o ddeunydd pacio yn un maes rydym yn edrych arno’n benodol.
Gallem i gyd gael gwledd wych gyda'r cynnyrch bwyd a diod da sy'n dod o Aberconwy. Mae gennym jin, gwin, cig, bwyd môr, caws, siocled a chymaint mwy i'w gynnig, cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau, felly mae'n dangos y potensial anhygoel sydd i dwristiaeth bwyd yn Aberconwy, a ledled gogledd Cymru yn wir. Nawr, yn ôl y 'Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd i Gymru 2015-20', mae twristiaeth bwyd yn ymwneud â helpu ymwelwyr i ddatgelu ein trysorau coginio lleol, nid gadael i ymwelwyr ddod ar eu traws ar hap. Nodwyd pum peth allweddol, a chyflwynwyd syniadau diddorol, megis datblygu gwefan twristiaeth bwyd i gwsmeriaid. Weinidog, a ydych chi wedi meddwl am adeiladu ar hyn trwy greu llwybrau bwyd, a hynny ar sail etholaethau ledled Cymru o bosibl? Diolch.
Rydym yn sicr wedi edrych ar lwybrau bwyd, ac rydym wedi edrych hefyd ar lwybr gwin, oherwydd, unwaith eto, mae'r diwydiant gwin yng Nghymru yn ffynnu o ddifrif, buaswn yn dweud; rwy'n credu bod gennym oddeutu 15 o winllannoedd ym mhob cwr o Gymru erbyn hyn. Felly, rydym yn sicr wedi edrych ar lwybr gwin. Nid wyf yn siŵr a ydym wedi edrych ar lwybrau bwyd fesul etholaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud serch hynny, mewn perthynas â thwristiaeth bwyd—ac fe sonioch chi am jin, a thybiaf eich bod yn cyfeirio at Aber Falls—roeddwn yn Aber Falls tua phythefnos yn ôl, ac maent yn adeiladu canolfan ymwelwyr wych, lle maent yn gobeithio dod â busnesau eraill i mewn, nid yn unig busnesau bwyd a diod, ond busnesau eraill hefyd i weithio oddi yno. Felly, rwy’n credu bod twristiaeth bwyd yn cynnig llawer o gyfleoedd, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru gyfan.
2. A wnaiff y Gweinidog ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal i ystyried y difrod i'r amgylchedd naturiol ar hyd morlin de Cymru o'r mwd y bwriedir ei ddadlwytho o adweithydd niwclear Hinkley Point i mewn i aber afon Hafren? OAQ55151
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod a'r corff rheoleiddio priodol, o dan y Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007. Mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw penderfynu a oes angen asesiad effaith amgylcheddol. Mae pob cais am drwydded forol yn cael ei asesu'n drwyadl er mwyn sicrhau nad yw gwaith arfaethedig yn effeithio ar yr amgylchedd morol nac ar iechyd pobl.
Rwy'n credu mai'r hyn sydd gennym yma yw methiant llywodraethu. A tybed pam—rydym yn eistedd yma—tybed pam y mae gennym Lywodraeth, mewn enw beth bynnag, os mai'r cyfan a wnawn yw rhoi'r cyfrifoldeb i Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent am gloddio a dympio 780,000 tunnell o fwd o'r tu allan i adweithydd niwclear—yn llythrennol—ar Gymru, ychydig y tu allan i Gaerdydd, yn y môr. Gwyddom bellach fod damweiniau wedi bod yn y 1950au a'r 1960au, pan aeth ymbelydredd i mewn i'r aber. Ac mae gwyddonwyr yn dweud wrthyf ei bod hi’n bosibl fod yr ymbelydredd hwn yn dal i fod yno. Ac eto—. [Torri ar draws.] Mae heclo o’r ochr draw, a phobl yn gofyn, 'Pa wyddonwyr?' Wel, efallai y dylech chi siarad â'r gwyddonwyr hyn, oherwydd dywedir wrthym fod tri math o brawf y dylid bod wedi'u gwneud ar y mwd hwn. Mewn unrhyw ran o'r byd, byddai tri math o brawf wedi’u gwneud—màs, alffa, sbectrometreg gama. Pam eich bod chi wedi caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru beidio â gwneud asesiad effaith amgylcheddol hyd yn oed y tro diwethaf? Nid ydych yn mynd i fynnu un y tro hwn. Rwy’n syfrdan, yn sefyll yma'n dweud hyn. Sut ar y ddaear y gallwch chi alw'ch hun yn Weinidog, sut y gallwch chi alw'ch hunain yn Llywodraeth, a chaniatáu i hyn ddigwydd, a gadael iddynt, yn llythrennol, ddympio deunydd a allai’n hawdd fod yn ymbelydrol ar Gymru? Anhygoel.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn pwysleisio nad oes cais wedi'i gyflwyno. Ac os derbynnir cais, bydd CNC yn ymgynghori â'r arbenigwyr—wrth gwrs y byddant—i ystyried a oes ei angen i lywio ei benderfyniad, ac a oes angen asesiad effaith amgylcheddol. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, nad yw hepgor asesiad effaith amgylcheddol yn golygu na wneir asesiad llawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddeall hynny. A chyn inni benderfynu ar unrhyw gais am drwydded forol, mae CNC yn cynnal asesiad trylwyr o'r gweithgaredd arfaethedig, ac fel y dywedais, mae hynny'n cynnwys ystyried yr angen i ddiogelu'r amgylchedd morol ac iechyd pobl, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Ac rwy’n ailadrodd: ni chyflwynwyd cais am drwydded forol i CNC ar hyn o bryd. Gweinidogion Cymru yw'r corff apelio ar gyfer trwyddedau morol, felly nid yw'n briodol rhoi sylwadau ar brosiectau sy'n ddarostyngedig i'r broses ymgeisio honno.
Weinidog, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael ein harwain gan y wyddoniaeth, a bod gwyddoniaeth yn cyd-fynd â'r safonau rhyngwladol derbyniol. Ac nid oes gennym unrhyw ffordd o fesur a ddylem symud oddi wrth hynny, a dim ond caniatáu penderfyniad ar sail ffactorau eraill. Rwy'n credu bod angen inni gael gwared ar unrhyw fath o frwydrau cenedlaethol yma. Mae aber yr Hafren yn cael ei rheoli fel aber. Ceir meysydd dympio ar bob ochr, o ran y ffin sy'n rhedeg i lawr canol yr aber, ac fe'i rheolir yn unol â hynny. Fodd bynnag, hoffwn ddweud hyn: nid wyf yn credu bod EDF Energy a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud yn arbennig o dda yng ngham 1 o ran cyfathrebu â'r cyhoedd, oherwydd mae hynny'n bwysig tu hwnt. A phan fydd y cyrff hyn yn disgwyl i wleidyddion fod yn gyfrifol, a gwrando ar eu tystiolaeth, dylent gofio bod angen iddynt gyfathrebu â'r cyhoedd hefyd. Oherwydd os ydym yn eu cefnogi hwy a'u gwyddoniaeth, mae angen iddynt fod allan yno, fel y bobl sydd yn y sefyllfa orau i gael trafodaeth gyhoeddus. Oherwydd mae angen trafodaeth gyhoeddus arnoch ar rywbeth fel hyn—mae'n rhwym o fod yn ddadleuol.
Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywed David Melding. Ac rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu cynllun cyfathrebu. Rwy'n credu eich bod yn iawn, yn sicr roedd gwersi i'w dysgu o'r tro diwethaf, ac rwy'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dysgu'r gwersi hynny, ac maent wedi manylu ar y camau y byddant yn eu cymryd i ymgynghori ac ymgysylltu'n eang ar brosiectau. Felly, yn amlwg, dylai pawb—ac mae hynny'n cynnwys pawb yn y Siambr hon—gyflwyno eu safbwyntiau i CNC.
Diolch. Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. A galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe ddywedoch chi wrth y Cynulliad yma, yn sgil y llifogydd a ddigwyddodd ychydig wythnosau yn ôl, eich bod chi wedi trefnu cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, ac y byddai'r adnoddau sydd ar gael—boed yn adnoddau dynol neu'n adnoddau ariannol—ar frig agenda'r cyfarfod hwnnw. Allwch chi roi diweddariad i ni o'r trafodaethau yr ŷch chi wedi'u cael a'r hyn a gytunwyd yn y cyfarfod?
Gallaf. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe ac rwy'n meddwl fod hwn yn gyfle arall, Ddirprwy Lywydd, i dalu teyrnged i staff CNC a weithiodd yn ddiflino, ac sy'n dal i weithio'n ddiflino yn awr, ers yn agos i fis bellach, mae'n debyg, ers storm Ciara. Yn amlwg, fe fuom yn trafod y llifogydd yn drylwyr iawn. Rwy'n credu inni dreulio tri chwarter y cyfarfod yn gwneud hynny. Mae'n amlwg fod rhai materion yn codi ynghylch adnoddau dynol. Felly, rwy'n credu bod ychydig dros 300 o staff yn gweithio yn CNC ar lifogydd. Ceir rhai swyddi gwag o hyd, ac er ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y swyddi gwag, maent yn dal i geisio llenwi rhai swyddi. O ran cyllid, cynigiwyd cyllid pellach pe bai ei angen arnynt yn yr ymateb cyntaf i'r gwaith glanhau. Ar hyn o bryd, nid oes angen y cyllid hwnnw arnynt, ond yn amlwg mae'r cynnig ar y bwrdd o hyd.
Wel, mae'n siomedig bod yna swyddi gwag yn bodoli oherwydd, wrth gwrs, maen nhw wedi cael eu dangos lan i fod, ar foment lle oedd angen yr holl weithwyr yna—a dwi innau'n ymuno â chi i dalu teyrnged i'r rhai a fuodd wrthi—ond ar y foment lle oedd angen iddyn nhw fod ar eu gorau, yn anffodus doedd yna ddim complement llawn o staff. Wrth gwrs, dwi wedi codi'n gyson gyda chi—rydych chi'n gwybod hyn—yr angen i sicrhau bod yr adnoddau craidd sydd ar gael i Gyfoeth Naturiol Cymru yn ddigonol, ac mai mater o godi pais yw hi'n aml iawn os oes rhywbeth yn digwydd ac wedyn mae'r arian yn dod. Mi ddylai fod yr arian yna o flwyddyn i flwyddyn i sicrhau bod y capasiti yn bodoli yn barhaol.
Mae nifer o ddioddefwyr y llifogydd nawr yn wynebu siwrne faith pan mae'n dod i adfer eu heiddo, a'r cam cyntaf mae'n debyg, ar ôl clirio y mès cychwynnol, fydd y sychu allan, ac mi fydd angen dadleithyddion a gwresogyddion diwydiannol er mwyn gwneud y gwaith yna. Ac, wrth gwrs, mi fydd yna gostau ynni a chostau gwresogi sylweddol yn dod yn sgil hynny. Dwi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod y Llywodraeth ei hun yn cynnig elfen o gefnogaeth, ond dwi eisiau dod yn ôl at bwynt rwyf wedi codi gyda chi yn flaenorol, sef y ffaith ein bod ni yn gweld lefelau o gefnogaeth ar hap ar draws Cymru, lle mae dioddefwyr Cymru yn gweld gwahaniaethau sylweddol yn y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw o wahanol gyfeiriadau, ac nid yn unig rhwng Cymru a Lloegr, sydd yn wir wrth gwrs, ond hyd yn oed oddi fewn i Gymru, lle rŷn ni'n gweld gwahaniaethau rhwng y gefnogaeth sydd ar gael yn ne Cymru o gymharu â gogledd Cymru.
Gaf i ofyn i chi a ydych chi'n gyfforddus mewn egwyddor â'r sefyllfa lle mae yna wahanol lefel o gefnogaeth ar gael i ddioddefwyr yn ddibynnol ar le maen nhw'n byw? Hynny yw, mae e'n rhyw fath o loteri cod post. Ac os nad ydych chi'n gyfforddus â'r egwyddor honno, yna beth ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pawb, lle bynnag maen nhw yng Nghymru, yn cael yr un gefnogaeth y mae pawb yn ei haeddu?
Felly, i fynd yn ôl at eich sylwadau cychwynnol ynghylch CNC, fel y dywedais wrthych, dywedais yn glir iawn ddoe fod arian ychwanegol, nid yn unig o—mewn gwirionedd, ychydig iawn ohono a ddaw o fy mhortffolio i; mae'r rhan fwyaf o'r cyllid rydym yn ei gyflwyno'n dod o bortffolio fy nghyd-Aelod Julie James. Rwyf wedi sicrhau bod cyllid o fy mhortffolio mewn perthynas â'r gwaith glanhau a'r hyn sydd ei angen ar unwaith, a phwysleisiodd CNC nad oedd angen arian ychwanegol arnynt ar hyn o bryd. Ac yn sicr maent yn ymdrechu'n galed iawn i lenwi'r swyddi gwag hynny, ond fe fyddwch yn sylweddoli nad yw peirianwyr llifogydd, er enghraifft, yn bobl y gallwch eu caffael yn hawdd iawn, ond maent wedi bod yn gweithio'n galed ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y swyddi gwag a oedd ganddynt, yn sicr ers yn ôl yn yr hydref, pan grybwyllais y pryder hwnnw wrthynt gyntaf.
Mewn perthynas â lefel y cymorth, fe fyddwch yn gwybod nad oes ots ble rydych chi'n byw yng Nghymru, mae lefel y cyllid a'r gefnogaeth a roddwn i aelwydydd, heb yswiriant neu fel arall, yn hollol yr un fath. Rwy'n tybio eich bod yn cyfeirio at y ffaith bod cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn rhoi £500 i bob aelwyd sydd wedi dioddef llifogydd. Mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu a ydynt am roi'r arian ychwanegol hwnnw ai peidio. Rwy'n gwybod mai eich cwestiwn nesaf fydd, 'Wel, gall rhai cynghorau ei fforddio'n haws nag eraill.' Nid wyf yn credu y gall unrhyw gyngor ei fforddio'n hawdd. Rwy'n credu eu bod wedi edrych ar eu cronfeydd wrth gefn, faint o arian wrth gefn a gadwyd ganddynt ar gyfer diwrnod glawog, os maddeuwch yr ymadrodd, ac yn amlwg maent wedi dewis gwneud hynny.
Wel, nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn oherwydd fe ofynnais a oeddech chi'n gyfforddus â'r egwyddor fod pobl yn cael gwahanol lefelau o gymorth yn seiliedig ar ble roeddent yng Nghymru, a beth oeddech chi'n ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol i weld a allech godi lefel eu hymrwymiad i ble dylai fod. Ni wnaethoch ateb hynny, ond dyna ni, efallai y gwnewch hynny mewn munud.
Mi fues i ddoe mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar goetiroedd, coedwigaeth a phren ac mi dynnwyd sylw at y ffaith mai un o'r coed sydd â rôl fwyaf allweddol i'w chwarae pam fo'n dod i daclo llifogydd yw coed ynn, oherwydd y lefelau uchel o ddŵr sy'n cael eu dal gan wreiddiau y math arbennig yna o goeden.
Nawr, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod bod yna lawer o goed ynn yn marw ar hyn o bryd oherwydd clefyd coed ynn. Ond, ar yr un pryd, rwy hefyd yn deall nad yw'r grŵp strategol ar glefyd coed ynn wedi cwrdd ers mis Gorffennaf y llynedd. Felly, mae yna bron i naw mis ers i'r grŵp yna ddod at ei gilydd. Nawr, o gofio pwysigrwydd coed ynn o ran mynd i'r afael â phroblemau llifogydd ond hefyd, yn bwysig iawn, y risg i ddiogelwch y cyhoedd o fod yn gweld coed ynn yn dymchwel ac yn marw ac yn disgyn, pam nad yw'r grŵp yna wedi cwrdd ers cyhyd? Pa mor o ddifrif mae'r Llywodraeth yn cymryd y sefyllfa clefyd coed ynn, a beth, yn wir, yw'r camau nesaf rŷch chi am eu cymryd o ran mynd i'r afael â'r clefyd hwnnw?
Bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diwethaf y grŵp clefyd coed ynn, gan nad yw'r ffigurau hynny gennyf wrth law.
Mewn perthynas ag 'a ydw i'n gyfforddus?', nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n fater i mi mewn gwirionedd. Os yw awdurdod lleol am roi cymorth ychwanegol i aelwyd sydd wedi dioddef yn sgil llifogydd, pwy wyf fi i ddweud na ddylai'r awdurdod lleol wneud hynny? Yn sicr yn yr uwchgynhadledd ar lifogydd a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y toriad—roeddwn i a fy nghyd-Aelod Julie James yno—roedd cryn nifer o gynrychiolwyr o amryw o awdurdodau lleol o bob cwr o Gymru yn bresennol; yn sicr, roedd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan, yno, ac ef wrth gwrs yw arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Roeddent yn ddiolchgar iawn am yr arian a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, ond rwy'n credu mai mater i bob awdurdod lleol ydyw. Os ydynt yn dewis cefnogi eu trigolion yn y ffordd honno, wel, mater iddynt hwy yw hynny, nid i mi.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod yr holl newyddion yn ymwneud â'r coronafeirws, a hynny'n briodol, a'r pryderon y mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â hwy drwy eu hamrywiol uwchgynadleddau a chyfarfodydd. Mae gan eich adran ran hanfodol i'w chwarae, yn enwedig yn y system gymorth i ffermydd, ac mae hwn yn gyfnod tyngedfennol, gyda'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y taliad sengl bellach ar agor ac yn cau ar 15 Mai. Mae llawer o geisiadau am basbortau lloi, er enghraifft, yn sensitif iawn i amser—yn gorfod bod i mewn erbyn dyddiad penodol, fel y mae ceisiadau am grantiau.
Pa drafodaethau a gawsoch yn yr adran ynglŷn â'r sefyllfa pe bai'r gyfradd absenoldeb gymaint ag 20 y cant, fel a ragwelir, oherwydd salwch mewn adrannau a gweithleoedd? A ydych chi wedi modelu hynny mewn perthynas â'r ffordd y byddwch yn ymdrin â cheisiadau cyfnod talu'r taliad sengl, a cheisiadau grantiau pwysig eraill, yn ogystal ag archwiliadau, oherwydd, fel arall, os nad yw force majeure yn ystyriaeth, gallai llawer o fusnesau—busnesau gwledig—sy'n dibynnu ar y cyfnodau ymgeisio hyn fethu cydymffurfio â'r drefn?
Wel, yn amlwg, mae hwn yn waith sy'n cael ei wneud ar draws y Llywodraeth. Cawsom gyfarfod Cabinet ychwanegol y bore yma ar y coronafeirws yn benodol, ac yn amlwg, mae pob adran yn edrych ar effaith y clefyd, ac fel y dywedwch, mae fy adran i—rydych yn cyfeirio, wrth gwrs, at weithrediadau mewnol fy adran, ond rydym yn edrych arno ar draws y Llywodraeth. Yn amlwg, gall llawer o'n staff weithio o gartref, sy'n ddefnyddiol os oes angen iddynt hunanynysu ac ati, ond bydd yn rhaid inni edrych ar y rhai na allant wneud eu gwaith o gartref, ac mae archwiliadau'n un ohonynt, wrth gwrs.
Bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn dechrau gweithio arno'n barhaus gan ein bod bellach wedi gweld rhai o'r ffigurau rhagamcanol a'r sefyllfa waethaf yn gymharol. Felly, mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo. Bydd yn rhaid inni fod yn hyblyg iawn. Mae'r un fath ag ar gyfer y Siambr hon, onid yw? Os bydd 20 y cant neu fwy ohonom yn methu mynychu sesiynau'r Senedd, mae'n amlwg yr effeithir ar ein gwaith. Felly, mae hyn yn rhywbeth rydym yn edrych arno ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n siŵr bod y Comisiwn yn gwneud hynny hefyd.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, ac rwy'n derbyn mai megis dechrau y mae hyn, oherwydd mae'r sefyllfa'n amlwg yn datblygu ger ein bron, ond i lawer o fusnesau gwledig, mae cosbau llym iawn os na fyddwch yn cydymffurfio â'r dyddiadau, yn enwedig gyda'ch cais am gymorth y taliad sengl. Rwy'n defnyddio enghraifft syml iawn yn ymwneud â phasbortau lloi—os nad yw wedi'i gofrestru o fewn 28 diwrnod a'i brosesu, ni ellir defnyddio'r anifail i'w fwyta gan bobl. Ac felly, buaswn yn ddiolchgar, pan fydd gennych wybodaeth well—gwybodaeth o ansawdd gwell, os mynnwch, a allai roi syniad o ba fesurau rydych yn eu rhoi ar waith i ymdopi â methiant i ymgeisio o fewn yr amser a senarios gwaethaf fel y gall pobl gael hyder na chânt eu cosbi am nad yw'n fai arnynt hwy—. Hefyd, a wnewch chi ddweud wrthyf, Weinidog, sut y mae eich adran yn rhyngweithio â'r gadwyn cyflenwi bwyd? Oherwydd, unwaith eto, os edrychwch ar y rhagolygon, gyda chyfradd o 20 y cant yn absennol oherwydd salwch a'r sefyllfa sy'n datblygu—a'r misoedd brig yw mis Mai a mis Mehefin, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym gan y gweithwyr meddygol proffesiynol—pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chynhyrchwyr bwyd—a phroseswyr, yn bwysig—i sicrhau bod y gadwyn cyflenwi bwyd yma yng Nghymru yn ddiogel, ac y gall, yn y pen draw, gyflenwi i siopau ac i sefydliadau arlwyo fel y bydd pobl ei angen o ddydd i ddydd?
Os caf gymryd eich pwynt cyntaf yn gyntaf, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael yr hyblygrwydd hwnnw ac rwy'n credu bod portffolio Julie James yn enghraifft glasurol o sut y mae'n rhaid i chi gael yr hyblygrwydd, a rhywbeth rydym wedi'i wneud ym maes llifogydd ac rwy'n meddwl—. Mae'n debyg y caf gwestiwn ar hyn yn nes ymlaen, ond cododd Rhianon Passmore hyn gyda'r Prif Weinidog ddoe a gofynnodd, os yw awdurdod lleol yn casglu dodrefn a ddifrodwyd, er enghraifft, o gartrefi pobl, a fyddai hynny'n cyfrif yn erbyn eu targedau ailgylchu? A dywedodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn glir iawn y bydd hyblygrwydd ynglŷn â hynny, ac rwy'n credu y bydd hi'r un fath yn awr. Wrth i hyn barhau i ddatblygu, bydd yn rhaid inni gael yr hyblygrwydd hwnnw, ac unwaith eto, drwy weithio â phroseswyr bwyd, cynhyrchwyr bwyd, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni weithio arno. Mae hefyd—. Gofynnwyd i mi yn awr a yw anifeiliaid anwes, er enghraifft, yn cario coronafeirws a'r ateb byr yw: ar hyn o bryd, nid oes gennym dystiolaeth o hynny, ond mae'n amlwg fod angen inni gadw llygad ar hynny. Felly, mae cymaint o waith cynnar sy'n rhaid ei wneud yn gyflymach yn awr, rwy'n meddwl, yng ngoleuni'r cynllun gweithredu a ddaeth allan ar gyfer y pedair gwlad ddoe, ac ati.
O ystyried, yn amlwg, ein bod wedi siarad yn helaeth yn y Siambr hon am barthau perygl nitradau, a rheoliadau'r Llywodraeth ynghylch parthau perygl nitradau, a ydych mewn sefyllfa i ddweud a fydd y rheoliadau, fel rydych yn eu rhagweld, yn cael eu cyflwyno cyn diwedd y tymor hwn—cyn y Pasg? Oherwydd, unwaith eto, nid wyf am godi bwganod, ond gyda'r fath newid mawr yn y rheolau a'r rheoliadau, os yw'r coronafeirws yn ymledu fel y rhagwelir, gyda goblygiadau enfawr o ran y cymorth a'r gefnogaeth a allai fod yno—rydym yn siarad, fel y dywedais, am 20 y cant o'r gweithlu'n absennol ar unrhyw adeg—a yw honno'n adeg synhwyrol i gyflwyno newidiadau mor fawr? Gallaf glywed rhai ar feinciau cefn Llafur yn dweud 'ydy'. Wel, mae'n amlwg mai dyna yw eu barn hwy, ond yn y pen draw, os ydych yn mynd i orfod cyflawni'r newidiadau hyn i'r rheolau a'r rheoliadau fel y rhagwelir, bydd angen cryn dipyn o gymorth a chefnogaeth arnoch i (a) eu deall, (b) eu gweithredu, ac (c) pi beidio â thramgwyddo'r rheolau a gorfod mynd i'r llys o'u herwydd. Felly, rwy'n gofyn i chi: a ragwelir yr bydd y rheoliadau gyda ni cyn y Pasg, ac os yw'r coronafeirws yn datblygu fel y rhagwelir, a fyddai'n synhwyrol yn awr i ohirio gweithredu rheoliadau o'r fath nes ein bod mewn sefyllfa gadarnach i wneud yn siŵr fod modd rhoi cymorth a chefnogaeth ar waith fel nad yw pobl yn tramgwyddo'r rheolau a'r rheoliadau?
Byddant yn cael eu cyflwyno cyn diwedd y tymor hwn.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gynyddu nifer y coed a gaiff eu plannu ledled Cymru? OAQ55144
Diolch. Rwy'n ymrwymedig i gynyddu ein cyfradd plannu coed i 2,000 hectar y flwyddyn. Rydym yn buddsoddi £4.5 miliwn i ddechrau sefydlu coedwig genedlaethol. Bydd hyn yn cyflymu'r broses o blannu coed yng Nghymru ochr yn ochr â pholisïau eraill, megis cynllun creu coetiroedd Glastir.
Wrth gwrs, gallem ni fel unigolion wneud rhagor hefyd, a phlannu coed yn ein gerddi ein hunain. Rwyf am bwysleisio pwysigrwydd coed i leihau llygredd a llifogydd a gweithredu fel storfeydd carbon. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i amaeth-goedwigaeth a fyddai'n helpu i liniaru llifogydd, lleihau fflachlifoedd a lleihau llifddwr dros dir?
Diolch. Rwy'n cydnabod y manteision pellgyrhaeddol a ddaw yn sgil plannu coed, gan gynnwys ar gyfer amaeth-goedwigaeth. Mae cynyddu gorchudd coetir yng Nghymru yn rhan greiddiol o'n cynllun cyflawni carbon isel i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac fel y dywedwch, gall fynd i'r afael â phroblemau ansawdd aer gwael a llifogydd hefyd. Un o brif flaenoriaethau'r strategaeth genedlaethol ddrafft ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru yw sicrhau mwy o ymyriadau naturiol a dulliau'n seiliedig ar dalgylchoedd i helpu i wella gwytnwch amgylcheddol a chredaf mai un peth a welsom dros y mis diwethaf yw na allwch ddal ati i adeiladu waliau uwch a defnyddio mwy o goncrit. Mae angen inni edrych ar yr ymyriadau naturiol hynny.
Mae ein cynllun rheoli cynaliadwy hefyd wedi cefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa'r dirwedd, ac mae'n rhoi camau ar waith i wella gwytnwch ein hadnoddau naturiol ledled Cymru ac mae'r rheini'n cynnwys rheoli perygl llifogydd ar afon Clwyd, cynyddu gwytnwch ein coetiroedd eiconig yng Nghymru ar safleoedd ledled Cymru, ac atebion sy'n seiliedig ar natur yn nalgylch Dyfi, a hefyd adfywio ein mawndiroedd a'n cynefinoedd gwerthfawr ar yr ucheldir ym mhob rhan o Gymru. Ac rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn ar y dechrau, Mike Hedges, fod modd i bawb ohonom chwarae rhan—os gallwn—drwy blannu coed yn ein gerddi.
Rwy'n credu bod Mike Hedges yn gwneud pwynt da iawn wrth ofyn y cwestiwn hwn, oherwydd maent mor bwysig, ac rwy'n parchu'n fawr y targed 2020 sydd gan Lywodraeth Cymru i blannu 2,000 hectar o goed bob blwyddyn. Ond ochr yn ochr â hynny, ac fel ymateb i gais rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, fe wnaethom sefydlu, ar draws y pedwar safle a reolir gan CNC, lle lleolwyd ffermydd gwynt ar y tir, fod cyfanswm o 1,938,400 o goed wedi'u cwympo, sy'n cyfateb i golli 1,155 hectar o goed. Felly, yn y bôn, mae twll yng ngwaelod y bwced, onid oes—wrth i chi eu plannu, cânt eu cwympo. Felly, Weinidog, a allwch roi rhyw syniad inni o'r rhesymeg y tu ôl i hynny? Ac a wnewch chi ymrwymo felly i gynyddu eich cyfradd ailblannu, o gofio bod CNC yn cwympo bron mor gyflym ag y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio plannu?
Nid wyf yn ymwybodol o'r rhesymau penodol dros y ffigur y mae Angela Burns yn cyfeirio ato, ond yn sicr, mae ailblannu yr un mor bwysig i mi ag yw safleoedd newydd. Ond byddaf yn sicr o edrych ar y ffigur hwnnw a rhoi ateb i'r Aelod pam y mae hynny'n digwydd. Ond mae CNC yn ymwybodol iawn o'r targed sydd gennym, ein hangen i'w gyrraedd. Nid wyf yn credu bod 2,000 hectar yn rhy uchelgeisiol. Rwy'n credu y dylem allu gwneud hynny, ac yn amlwg, gyda'r goedwig genedlaethol hefyd, rwy'n obeithiol iawn y cyrhaeddir y ffigur hwnnw.
Weinidog, yr un yw fy nghwestiwn i ag un Angela yn y bôn. O dan y cais rhyddid gwybodaeth, mae mwy na 1.5 o goed wedi'u cwympo ar dir CNC i wneud lle i ffermydd gwynt ledled Cymru. Fy ail ran fyddai: pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i liniaru colli darnau mor eang o'r ecosystem, a sut y gallwch gyfiawnhau un yn erbyn y llall?
I ategu fy ateb i Angela Burns, mae'n bwysig fod CNC yn cydnabod yr angen i ailblannu, ac yn amlwg ceir coed heintiedig y mae'n rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod yn gallu ailblannu yn eu lle ar ôl i amser penodol fynd heibio. Rwy'n credu bod plannu coed yn ddyhead hirdymor. Fi yw'r cyntaf i gyfaddef nad ydym yn plannu digon o goed, am amryw o resymau, ond rydym wedi ymrwymo i wneud yn well yn y dyfodol, fel y gallwn fynd i'r afael ag argyfyngau'n gysylltiedig â bioamrywiaeth a newid hinsawdd, a darparu'r manteision lluosog y cyfeiriodd Mike Hedges atynt yn ei gwestiynau cychwynnol.
Weinidog, nodwyd clefyd gennych fel un o'r rhesymau pam rydym yn cwympo coed. Yn amlwg, yng nghwm Afan, gwelsom y rhai cyntaf o'r coed heintiedig yn cael eu cwympo, ac maent yn dal i gael eu cwympo yno yn awr. Mae ailblannu yn hollbwysig. Felly, a wnewch chi gynnal trafodaethau gydag CNC i sicrhau bod eu cynlluniau ailblannu yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl? Oherwydd nid yn unig y mae'n effeithio ar y coed, ond mae hefyd yn effeithio ar ddiwydiant a busnesau sy'n elwa o'r beicio mynydd yng nghwm Afan, sy'n colli cwsmeriaid oherwydd y cwympo.
Gwnaf, yn sicr fe gaf y sgwrs honno ag CNC. Rwy'n credu—treuliwyd chwarter arall y cyfarfod a gawsom ddoe, pan nad oeddem yn sôn am lifogydd, yn siarad am bren a phlannu coed ac ati. Felly, maent yn ymwybodol iawn o hynny. A'r angen i blannu'r goeden iawn yn y lle iawn—mae hynny hefyd yn bwysig iawn.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rannu cyfrifoldebau ar gyfer archwilio tomenni glo a'u cadw'n ddiogel? OAQ55161
Diolch. Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw rheoli tomenni glo. Mewn llawer o achosion, awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru neu'r Awdurdod Glo fydd hwn. Lle ceir pryderon ynghylch tomen lo, mae gan yr awdurdodau perthnasol bwerau i'w harchwilio ac os oes angen, i wneud gwaith adferol.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae'n ymddangos—. Yr hyn sy'n peri pryder i mi yw, pan ddywedodd y Prif Weinidog fod gan yr holl sefydliadau hyn gyfrifoldebau i arolygu'r tomenni glo—rwy'n poeni a oes unrhyw orgyffwrdd cyfrifoldeb lle mae'n bosibl na fydd un sefydliad yn glir pwy sy'n gwneud beth. Mewn perthynas â thir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ai mater i CNC yn unig yw rhoi sicrwydd i chi ac i ni? A ble—. Fe ddywedoch chi mai'r tirfeddiannwr oedd yn gyfrifol, ond wedyn fe restroch chi amryw o sefydliadau na fyddent yn dirfeddianwyr, er enghraifft os yw'n dir preifat. Beth felly yw cyfrifoldeb yr Awdurdod Glo yn erbyn yr awdurdod lleol lle mae'r tir hwnnw wedi'i leoli?
Credaf eich bod yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig iawn, ac rydym yn amlwg yn edrych arnynt ar frys ac yn ofalus iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol o atebion y Prif Weinidog iddo gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y buont yn ei drafod yn syth ar ôl y tirlithriad a welsom: diogelwch tomenni glo.
O ran eich cwestiwn ynghylch tir Llywodraeth Cymru: ie, CNC ydyw. Ar draws yr holl domenni glo hyn, fel y dywedaf, mae awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Lywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo, a cheir rhai perchnogion preifat. Ni chredaf ei bod yn ormod i ofyn am gofrestr o'r rhain. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei roi ar waith ar unwaith. Yn amlwg, hyd yn oed os yw'n dirfeddiannwr preifat, byddai gan yr awdurdod lleol, yn y man hwnnw, bwerau i fynd i mewn a'i archwilio, er enghraifft.
Felly credaf ei bod yn bwysig iawn inni gwblhau’r gwaith hwn cyn gynted â phosibl. Gwn y bu cyfarfod pellach ddydd Gwener diwethaf ar lefel swyddogol. Cafwyd cyfarfod y bore yma, yn sicr gyda fy swyddogion i a chyda’r Awdurdod Glo, rwy’n credu, eto. Felly, hoffwn roi sicrwydd i bobl fod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried fel mater brys.
Weinidog, fe wnaeth y tirlithriad diweddar yn Tylorstown yng nghwm Rhondda ennyn atgofion torcalonnus o’r trychineb ofnadwy a ddigwyddodd yn Aberfan yn 1966. Y llynedd, cyhoeddwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi contract pum mlynedd i'r Awdurdod Glo i archwilio tomenni a chwareli yn ne Cymru. Yn y pen draw, yr ateb gorau yw cael gwared ar y tomenni hyn yn gyfan gwbl. Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r Awdurdod Glo a Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â chael gwared ar y malltod hwn oddi ar dirwedd Cymru?
Credaf eich bod yn llygad eich lle, roedd yn sicr yn emosiynol iawn. Pan ymwelais â Tylorstown gyda'r Prif Weinidog, ni allech osgoi meddwl am yr adeg ofnadwy honno. Yn sicr, wrth siarad â thrigolion, roedd yn amlwg yn rhywbeth roeddent yn meddwl amdano, a dyna pam ei bod mor bwysig fod y Prif Weinidog wedi cyfarfod mor fuan â'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafwyd y trafodaethau hynny yn y cyfarfod hwnnw. Credaf fod hynny’n rhywbeth y gwnaethom ei ystyried. Credaf ei bod yn bwysig iawn, efallai, fod gennym un corff sy'n goruchwylio'r rhain oll, yn hytrach na'r ffordd wasgaredig y mae pethau'n digwydd ar hyn o bryd y cyfeiriodd Mark Reckless ati yn ei gwestiwn agoriadol. Fel y dywedais, mae hwn yn waith rydym yn ei wneud ar frys er mwyn gallu dod â—. Yn amlwg, bydd y Prif Weinidog yn awyddus i adrodd i'r Aelodau.
Weinidog, yr wythnos diwethaf, pan holais y Prif Weinidog ynglŷn â’r hyn a oedd yn digwydd i asesu diogelwch tomenni glo yn dilyn glaw trwm diweddar, dywedodd wrthyf y bydd yr holl domenni sy’n peri’r risg fwyaf wedi cael eu harolygu erbyn diwedd yr wythnos diwethaf. Felly, a allwch gadarnhau bod hyn wedi digwydd, ac a allwch roi gwybod i ni a yw'r asesiadau hyn wedi darganfod unrhyw beth a fyddai'n peri pryder inni? Mae diogelwch pobl yn amlwg yn hollbwysig, ac mae'n rhaid iddo fod, felly a allwch roi gwybod i ni hefyd a yw safonau diogelwch yn cael eu hailgalibradu i ystyried hinsawdd yn y dyfodol lle bydd glawiad trwm a llifogydd yn fwy cyffredin?
Yn olaf, ni chafwyd gair gan y Prif Weinidog ar fy nghwestiwn ynghylch dychweliad cynlluniau adfer tir ar gyfer safleoedd tir llwyd. Mae awdurdodau lleol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi mynnu cael y cynlluniau adfer tir hynny ar ôl iddynt gael eu torri gan eich Llywodraeth ychydig flynyddoedd yn ôl. A yw eich Llywodraeth Lafur wedi ystyried gwneud tro pedol ar gyllid i gynlluniau adfer tir i sicrhau nid yn unig fod hen domenni glo ar gael at ddefnydd economaidd, ond y gall pob un ohonom fod yn hyderus eu bod yn cael eu gwneud yn ddiogel?
Mewn ymateb i'ch cwestiwn olaf am y cynllun adfer tir a ddaeth i ben, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau, ond ni chredaf y byddai hynny'n rhan o fy mhortffolio, felly efallai y byddai Gweinidog arall yn edrych ar hynny.
Credaf fod eich pwynt ynghylch safonau yn bwysig iawn. Credaf fod angen inni ystyried safonau, oherwydd yn amlwg, pan oedd y tomenni hynny yno i gychwyn, nid oedd y geiriau 'newid hinsawdd' wedi'u trafod hyd yn oed. Felly credaf, yn sicr, fel rhan o’r gwaith parhaus hwn, y bydd angen ystyried safonau.
Nid wyf wedi cael adroddiad ynglŷn â'r arolygiadau. Hyd y gwn i, mae'r holl arolygiadau wedi'u cwblhau ac rwy'n aros am wybodaeth ynglŷn â hynny, ac rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gyda'r Aelodau os bydd modd.
A gaf fi ofyn faint o'r arolygiadau, a groesawaf yn fawr, a fydd yn ymdrin nid yn unig â'r tomenni glo a'r dyddodion glo mawr ac amlwg sy'n dal i fodoli mewn rhai cymoedd, ond hefyd y rheini sydd wedi eu hadfer eisoes, lle mae gennych, er enghraifft, dai, ffyrdd neu seilwaith arall wedi’u hadeiladu ar eu pennau? Oherwydd ymddengys i mi y gallai’r un problemau o ran tir gorlawn o ddŵr a llifogydd a glaw trwm mwyfwy niweidiol ac amlach arwain at broblemau i'r rheini.
Nawr, nid wyf yn siŵr a yw’r rheini yn rhan o’r ymchwiliadau, ond hoffwn roi sicrwydd i fy etholwyr fod pethau fel hen safleoedd mwyngloddio brig, ffyrdd a rheilffyrdd sy'n cael eu hadeiladu, i bob pwrpas, ar seidins glo, y bydd y rheini hefyd yn cael eu hymchwilio. Ac os nad oes ganddi’r ateb nawr, tybed a allai ysgrifennu ataf, yn enwedig mewn perthynas â fy etholaeth i.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, y tomenni risg uchel a gâi eu hystyried fel mater brys erbyn diwedd yr wythnos diwethaf. Felly, credaf fod yr hyn y cyfeiriwch ato yn amlwg yn waith sylweddol, ac nid oes gennyf yr amserlen ar ei gyfer, ond byddaf yn sicr yn edrych ar eich etholaeth ac yn ysgrifennu atoch.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith amgylcheddol niwsans llwch ar gymunedau? OAQ55164
8. Beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i warchod pobl Cymru rhag sgil effaith llwch yn dianc i’r atmosffer? OAQ55180
Ddirprwy Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 5 a 8 gael eu grwpio. Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn rhoi'r pwerau angenrheidiol i awdurdodau lleol ymchwilio i gwynion am lwch fel niwsans statudol. Os caiff ei gadarnhau, gall yr awdurdod lleol fynnu bod unrhyw un sy'n gyfrifol yn lliniaru unrhyw niwsans llwch a nodir. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' hefyd yn darparu canllawiau i helpu i leihau effeithiau llwch ar gymunedau.
Bydd y Gweinidog yn cofio fy mod, ar sawl achlysur, wedi codi materion sy'n ymwneud â gweithrediadau ar Fferm Gelliargwellt Uchaf yng Ngelligaer yn fy etholaeth, a'r gwaith sy'n cael ei wneud o dan faner Bryn Group, sef y busnes yno. Mae'r safle sy'n cael ei redeg gan Bryn Group yn cynnwys chwarel ar gyfer cyflenwi agregau, ac o'r herwydd, mae ffrwydro'n digwydd yn rheolaidd. Rwy'n cael llawer o gwynion gan drigolion am niwsans llwch a dirgryniadau ar draws cymuned Gelligaer. Mae llwch yn sgil-gynnyrch sy'n peri niwsans, ac mae trigolion yn teimlo'n gryf ei fod yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac ar eu bywydau. Mae hefyd i'w weld ym Maenor Llancaiach Fawr gerllaw, felly mae cwestiwn yn codi ynglŷn â'i effaith ar dwristiaeth hefyd.
Deallaf mai Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yw'r Ddeddf y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyfeirio ati wrth ystyried cymryd camau yn erbyn cwynion niwsans statudol, ac nid yw'r Ddeddf honno'n darparu digon o bŵer i fynd i'r afael â'r materion hyn yng nghymuned Gelligaer. Felly, a yw'r Gweinidog yn teimlo bod angen newid deddfwriaethol fel y gall awdurdodau lleol fynd i'r afael yn fwy effeithiol ag effaith niwsans llwch, ac yn enwedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn yr achos hwn, er mwyn ymdrin â'r broblem gynyddol hon?
Nid wyf wedi cael unrhyw gyngor fod angen edrych ar y ddeddfwriaeth honno neu ei hadnewyddu. Yr hyn y cefais sicrwydd yn ei gylch yw bod swyddogion o dîm iechyd yr amgylchedd cyngor Caerffili yn ymateb i bob cwyn. Gwn fod cynllun lliniaru llwch i'w gael ar gyfer y safle. Gwn hefyd fod cyngor Caerffili a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael llawer o gwynion am y safle hwn. Mae'r cyngor hefyd wedi cynnal gwaith monitro llwch cyfnodol yng nghymunedau Penybryn a Gelligaer. Maent wedi cofnodi lefelau llwch sy'n nodweddiadol o lefelau amgylchynol, ac fel rhagofal, maent hefyd wedi gosod monitor PM10 parhaol yng nghymuned Penybryn, monitor a rennir gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac nid ydynt hwy wedi nodi unrhyw bryderon. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod y pwyntiau penodol hynny, os ydych yn meddwl y byddai hynny o gymorth.
Mae llwch o weithfeydd Kronospan wedi bod yn weladwy ar geir a ffenestri pobl yn y Waun ers blynyddoedd lawer, ac mae'r trigolion lleol yn pryderu'n fawr am yr effaith y mae anadlu'r llwch hwnnw'n fwy hirdymor yn ei chael ar eu hiechyd. Y gronynnau mwy yn unig y mae gwaith monitro gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn eu mesur, y gronynnau PM10, ac nid oes unrhyw beth ar waith i fesur y gronynnau PM2.5 llai o faint, a all fynd i mewn i'r ysgyfaint, a'r cemegion sy'n gysylltiedig â'r gweithfeydd, fel fformaldehyd. Oherwydd hyn, mae'r trigolion lleol yn poeni bod eu hiechyd yn mynd i ddioddef yn y tymor hir, ond yn enwedig iechyd eu plant mewn ysgolion cyfagos hefyd. Felly, pryd y bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod iechyd a diogelwch trigolion mewn lleoedd fel y Waun yn cael eu diogelu drwy wella'r gwaith monitro ar gyfer y cemegion a'r gronynnau llai, a sicrhau bod y gwaith monitro hwnnw'n digwydd mewn modd agored a thryloyw?
Yn amlwg, rydym yn cymryd y pryderon—. Fe gyfeirioch chi at Kronospan a'r Waun yn benodol. Mae'n amlwg ein bod o ddifrif ynglŷn â'u pryderon. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r hyn rydym yn ei wneud ledled Cymru mewn perthynas â rhaglen aer glân Cymru, y cynllun aer glân i Gymru, a byddwn yn cyflwyno Deddf aer glân i Gymru.
Mewn perthynas â gronynnau PM10 a PM2.5, fel arfer, mae meintiau gronynnau llwch gweladwy yn rhy fawr i'w hanadlu i mewn, felly nid yw'r risgiau a'r effeithiau iechyd yr un fath ag wrth ddod i gysylltiad â gronynnau llai fel gronynnau PM10 a PM2.5. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol mai Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yr unig gorff rheoleiddio ar gyfer y safle hwnnw o'r haf hwn ymlaen. Un peth arall rwyf wedi'i drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yw fy mod yn credu bod angen ymgysylltu'n llawer gwell â thrigolion y Waun ynglŷn â llawer o'u pryderon. Ni chredaf fod hynny wedi digwydd gyda'r awdurdod lleol, a phan fydd CNC yn dod yn unig gorff rheoleiddio ar gyfer y safle, rwy'n pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned yn eu rôl reoleiddiol.
Mewn gwirionedd, ddoe ddiwethaf, nododd astudiaeth yn The Times fod llygredd aer yn achosi mwy o farwolaethau na'r cyfanswm sy'n cael eu lladd gan ryfeloedd, malaria, AIDS ac ysmygu gyda'i gilydd. Gan gyfeirio at y tân yn Kronospan, yn y dyddiau canlynol, fel y gwyddoch, o bosibl, cynhaliodd yr AS newydd dros Dde Clwyd, Simon Baynes, gymhorthfa wyth awr gyda thrigolion yno i drafod eu pryderon ynghylch y problemau ansawdd aer a gawsant ar ôl y tân—nid yn unig pobl yn y Waun, ond yn yr ardal gyfagos hefyd. Cyfarfu hefyd â'r cyngor, y prif weithredwr, Kronospan, cyngor y dref ac ati.
E-bost nodweddiadol a gefais gan etholwr ynglŷn â hyn: 'Rwy'n byw dair milltir i ffwrdd ac rwyf wedi cael fy effeithio gan y mwg hyd yn oed gyda fy ffenestri ar gau.' Roedd hynny dri diwrnod ar ôl i'r tân ddechrau. Mae angen atebion ar bobl y Waun, a sicrwydd y bydd yr holl broblemau yn Kronospan yn cael ystyriaeth ddifrifol. Mae angen ymweliadau annibynnol, rheolaidd, dirybudd i fonitro llygredd aer.
Cysylltais â Cyfoeth Naturiol Cymru a chefais ymateb defnyddiol. Gwnaethant ailgadarnhau bod y cymhlethdod wedi'i achosi gan y ffaith bod y gwaith rheoleiddio wedi'i rannu rhyngddynt hwy a chyngor Wrecsam, ac er iddynt wneud cais yn y cyfarfod amlasiantaethol am offer monitro aer dros dro, cyfrifoldeb y cyngor yw parhau i fonitro'r aer yn y Waun yn fwy hirdymor.
Felly, a allwch gadarnhau pryd y mae rhannu'r gwaith rheoleiddio i fod i ddod i ben, gan y deallaf o ohebiaeth flaenorol ar ran trigolion y Waun fod hynny wedi'i gynllunio, a hefyd sut rydych yn ymateb i'r alwad am ymweliadau annibynnol, rheolaidd, dirybudd i fonitro llygredd aer yn y Waun a'r cyffiniau?
Wel, nid wyf yn siŵr a glywodd yr Aelod fi, ond dywedais yn fy ateb i Llyr Huws Gruffydd y bydd hynny'n digwydd yn yr haf. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon ynghylch y rhaniad, ac yn amlwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw corff rheoleiddio'r rhan o'r safle yr effeithiwyd arni, ac maent wedi dechrau eu hymchwiliad, ac rwy'n disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill. Yn sicr, fel Gweinidog ar draws sawl portffolio, rwyf wedi cefnogi arolygiadau dirybudd. Felly, mae'n rhywbeth y buaswn yn fwy na pharod i'w drafod ymhellach gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus yn Tai-bach ym Mhort Talbot gyda'r British Lung Foundation. Yno, siaradais â llawer o drigolion am y pryderon sydd ganddynt am lwch ym Mhort Talbot, a deallaf fod gan Tata gynlluniau ar gyfer corn simnai newydd ac elfennau eraill i'w gosod yn lle'r system gloddio 40 oed bresennol yn y gwaith sintro.
Felly, rwy'n awyddus i ddeall pa sgyrsiau rydych chi fel Gweinidog wedi'u cael gyda Tata mewn perthynas â hwy'n newid eu mentrau yn hyn o beth i'w gwneud yn fwy ecogyfeillgar i'r bobl sy'n byw yn y gwaith dur a'r cyffiniau. Yr hyn a ddywedwyd wrthyf gan lawer yn y cyfarfod cyhoeddus hwnnw oedd y byddent yn croesawu—fel y dywedoch chi wrth Hefin David—mwy o gyfleoedd i ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn iddynt allu deall beth yn union yw'r mathau hyn o broblemau, a sut y gallant gyfleu hyn mewn ffordd y maent yn ei deall.
Rydym yn siarad yma am ronynnau PM10, PM2.5, ond mae'n rhaid inni normaleiddio'r hyn y mae'r materion hyn yn ymwneud ag ef fel bod pobl yn deall pa mor ddifrifol ydynt pan fyddant yn mynd i mewn i ysgyfaint pobl ac yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymgyrch wybodaeth i'r cyhoedd hefyd fel bod pobl ledled Cymru yn ymwybodol o'r peryglon mewn perthynas â llygredd aer, a sut wedyn y gall y Ddeddf rydych am ei chyflwyno mewn perthynas â'r mater hwn olygu rhywbeth iddynt yn eu bywydau bob dydd?
Ymwelais â Tata yn ôl yn ystod toriad yr haf gyda David Rees, yr Aelod lleol, lle trafodwyd hyn, ac mae fy swyddogion yn parhau i gael sgyrsiau parhaus gyda Tata ynglŷn â hynny.
Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedwch am ymgysylltu â'r cyhoedd. Gorau arf, dysg, yn fy marn i, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn grymuso preswylwyr i wybod beth yn union yw'r llwch, er enghraifft, yr hyn na allant ei weld. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y wybodaeth honno ganddynt. Ac yn amlwg, gan ein bod wedi cael yr ymgynghoriad hwnnw ynglŷn â'r cynllun ac yna ymlaen at y Ddeddf, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno'n ofalus iawn.
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl y mae'r llifogydd diweddar yng Nghwm Cynon wedi effeithio arnynt? OAQ55152
Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gynlluniau ar waith i gefnogi'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar ledled Cymru, gan gynnwys y gronfa cymorth yn ôl disgresiwn i unigolion, a phecyn cymorth i fusnesau. Rydym hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol drwy'r cynllun cymorth ariannol brys.
Diolch, Weinidog. Croesawaf ddatganiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn rhyddhau gwerth £2.5 miliwn o gymorth i fusnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt. Yn sicr, bydd hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i'r 450 amcangyfrifedig o fusnesau yr effeithiwyd arnynt ledled Rhondda Cynon Taf.
Nawr, gwn eich bod yn ymwybodol, Weinidog, o'r ystadegau a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol yr wythnos hon, sy'n awgrymu y bydd cynnydd amcangyfrifedig o 50 y cant yn y glawiad dros Gymoedd de Cymru dros y 10 mlynedd nesaf oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Felly, mae gennyf gryn ddiddordeb yn y gwaith y gallai CNC ei wneud i liniaru effeithiau gwaethaf hyn. Mae tri mater allweddol wedi'u codi gyda mi dro ar ôl tro gan etholwyr a oedd ymhlith y 750 amcangyfrifedig o gartrefi yr effeithiwyd arnynt yn RhCT. Y cyntaf yw ailblannu coed, a nodaf eich atebion i Aelodau eraill yn y Siambr hon heddiw ynglŷn â hynny.
Yr ail yw carthu, ac mae llawer o etholwyr yn teimlo'n angerddol iawn, o fod yn adnabod eu cymunedau, fod afonydd wedi cael eu carthu'n drwyadl iawn yn y gorffennol, ond dros y 10 neu 20 mlynedd diwethaf, fod hyn wedi cael ei esgeuluso. Felly, hoffwn glywed eich barn ar hyn a'r neges y gallaf ei chyfleu i fy etholwyr.
Ac mae'r olaf yn ymwneud â staffio. Unwaith eto, nodaf eich sylwadau i Aelodau eraill ar hyn, ond rwy'n sôn am bobl ar lawr gwlad—pobl sy'n gallu clirio gweddillion, sicrhau bod afonydd yn llifo. A hyd yn oed yn ystod y cyfnod hwn o gyni, a fyddai modd i Lywodraeth Cymru ystyried cynyddu niferoedd y mathau hynny o staff sy'n gweithio i CNC fel y gellid blaenoriaethu ailblannu coed a chadw ein sianeli'n rhydd o weddillion?
Diolch. O ran y tri phwynt penodol a godwyd gennych, i ychwanegu, mewn gwirionedd, at atebion blaenorol mewn perthynas â phlannu coed, gwn fod bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo rhaglen ambarél i greu coetiroedd, a'r hyn rwyf wedi gofyn iddynt ei wneud yw bwrw ymlaen â'r broses o roi hynny ar waith ac edrych ar yr ardaloedd lle gellir cyflymu hynny.
O ran recriwtio staff, ac yn amlwg, rydych yn sôn, fel y dywedwch, am bobl ar lawr gwlad, mae hynny'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i'w godi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn sôn am staffio, ond rydym yn tueddu i sôn am—. Soniais am beirianwyr llifogydd a sicrhau eu bod yn cael eu cwota llawn o hynny. Ond mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei godi gyda hwy.
Ac mewn perthynas â charthu, yn amlwg, mae CNC ac awdurdodau lleol yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw cyrsiau dŵr—clirio'r rhwystrau, rheoli'r llystyfiant, cael gwared ar waddodiad, er enghraifft. Dywedir wrthyf nad yw carthu sianeli afonydd ar raddfa fawr yn ateb effeithiol i leihau llifogydd, a'r hyn a oedd yn peri gwir bryder imi oedd y gall wneud pethau'n waeth. Felly, yn y tywydd eithafol rydym wedi'i weld, rwy'n credu er enghraifft fod cyfaint y dŵr yn fwy o lawer na'r hyn y gall sianel yr afon ei ddal, ni waeth pa waith carthu a wneir. Ond credaf ei fod yn sicr yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno'n ofalus iawn oherwydd, yn amlwg, ni fyddem am wneud pethau'n waeth.
Weinidog, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cyllid i Gymru i leddfu effeithiau trychineb llifogydd a addawyd gan Brif Weinidog y DU pan ddywedodd yn y Senedd wythnos yn ôl fod Llywodraeth y DU
wedi ymrwymo i weithio hyd eithaf ein gallu gyda gweinyddiaeth ddatganoledig Cymru er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cymorth llifogydd sydd ei angen arnynt. A bydd yr arian hwnnw, wrth gwrs, yn sicr o gael ei basportio drwodd.
A ydych wedi cael unrhyw arian wedi'i basportio drwodd i chi?
Hyd y gwn i, nac ydym.
Mae'n rhaid i chi gael y cais yn gyntaf, cyn ichi basio'r arian ymlaen, ac ni chredaf fod cais wedi'i wneud.
Ond os caf ofyn fy nghwestiwn, y pwynt yr hoffwn ei ofyn yw: cawsom y grŵp trawsbleidiol ar goetiroedd a choedwigaeth ddoe, a bu amryw o Aelodau'n herio rhai o'r arbenigwyr o gwmpas y bwrdd ynghylch pam nad oes mwy o goetiroedd yn cael eu plannu yn rhai o'r ucheldiroedd. Yr ymateb a gafwyd oedd bod rhai o'r rheolau a'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r gwaith o reoli'r ucheldiroedd hynny'n ei gwneud yn anodd, os nad yn amhosibl, plannu coetiroedd yn yr ardaloedd hynny. A fyddech yn cytuno â'r dystiolaeth honno a gyflwynwyd inni ddoe, ac os nad ydych, a wnewch chi fynd ati i annog plannu mwy o goetiroedd ar yr ucheldir, a allai helpu i liniaru peth o'r llifogydd yn is i lawr drwy amsugno mwy o ddŵr ymhellach i fyny'r afon?
Mae'n rhywbeth y bûm yn ei annog yn weithredol, ac yn sicr, gan ein bod wedi bod yn gwneud gwaith cwmpasu ar y goedwig genedlaethol, sef ymrwymiad maniffesto'r Prif Weinidog, fel y gwyddoch, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'n rhywbeth rydym yn sicr wedi bod yn edrych arno ac yn ei annog, fel y dywedaf.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Eitem 2 ar yr agenda yw cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Cwestiwn 1—David Rowlands.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw ad-drefnu llywodraeth leol yn arwain at gostau uwch i drethdalwyr? OAQ55148
Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ad-drefnu ein 22 prif gyngor. Pan fydd cynigion i uno'n wirfoddol yn cael eu cyflwyno, byddwn yn rhoi camau ar waith i'w cefnogi.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ym maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru yn 2016, cafwyd ymrwymiad i greu awdurdodau lleol cryfach a mwy o faint a fyddai'n arwain at ddatganoli pwerau o Fae Caerdydd. Gwyddom i'ch rhagflaenydd ddweud wrthym fod yn rhaid i gynghorau newid, neu byddai'n gwneud iddynt newid. A allwch egluro os gwelwch yn dda pam na chadwyd at addewid eich maniffesto?
Nodais fy nghynlluniau ar gyfer llywodraeth leol yn fy natganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Tachwedd, a gyflwynodd Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Roedd y datganiad hwnnw'n nodi'n glir iawn y bydd y diwygiadau yn y Bil yn gwella tryloywder, llywodraethiant a pherfformiad, yn ogystal â darparu fframwaith ar gyfer gweithio mwy cyson, effeithiol a chydweithredol a fydd yn galluogi llywodraeth leol i fod yn fwy effeithlon ac i allu ymdopi'n well â'r pwysau y mae'n ei wynebu.
Yn 2020-21, bydd awdurdodau lleol yn cael £4.474 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 4.3 y cant ar sail tebyg am debyg o gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Dyna'r setliad gorau rydym wedi gallu ei ddarparu i lywodraeth leol ers blynyddoedd lawer. Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol felly ein bod yn bendant wedi cadw at ymrwymiad ein maniffesto.
Weinidog, mae toriadau i gyllid awdurdodau lleol wedi golygu bod cynghorau'n gorfod ailystyried y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau i sicrhau arbedion. Mewn rhai achosion, maent yn rhannu gwasanaethau gydag awdurdodau lleol cyfagos. Fodd bynnag, yn anochel, canolbwyntiodd cynghorau yng Nghymru ar fesurau tymor byr i fantoli eu cyllidebau, yn hytrach na buddsoddi mewn mesurau mwy hirdymor i weddnewid gwasanaethau. Gan nad ydynt yn gwybod beth fydd y setliadau yn y dyfodol, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i roi mwy o sicrwydd i awdurdodau lleol ynghylch setliadau yn y dyfodol er mwyn iddynt ddatblygu cynlluniau ariannol mwy cadarn ar gyfer y tymor canolig, a thrwy hynny, helpu i osgoi'r perygl o ad-drefnu llywodraeth leol, a fyddai'n arwain at gostau uwch i drethdalwyr yng Nghymru?
Cymeradwyaf ddymuniad ac awydd Mohammad Asghar i roi sicrwydd i lywodraeth leol ynglŷn â'u cyllid. Buaswn wrth fy modd pe bai'r Llywodraeth y mae'n ei chefnogi ar lefel y DU yn rhannu'r awydd hwnnw hefyd. Fe fyddwch yn gwybod mai cyllideb un flwyddyn yn unig sydd gennym. Pe baem wedi cael yr adolygiad cynhwysfawr o wariant roedd ei Lywodraeth wedi'i addo inni, ni fyddem yn y sefyllfa honno. Rydym wedi rhoi'r setliad gorau y gallem ei roi i awdurdodau lleol o dan yr amgylchiadau. Fe fydd yn ymwybodol, fel y gweddill ohonom, nad yw ei Lywodraeth hyd yn oed wedi cyflwyno'r gyllideb o fewn y terfynau amser arferol eleni.
2. Faint o bobl sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol ar draws Cymru? OAQ55160
Diolch am eich cwestiwn. Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu ystadegau ynghylch aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol. Fodd bynnag, gan gydnabod yr angen gwirioneddol, rydym yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Bydd hyn yn cyfrannu at leddfu'r pwysau ar restrau aros.
Mae'n gwbl ryfeddol nad oes gennych chi fel Llywodraeth ddata manwl cenedlaethol am y nifer o bobl sydd yn aros am dŷ cymdeithasol yng Nghymru. O gofio bod hon yn un o'ch blaenoriaethau chi, sef darparu mwy o dai cymdeithasol, sut yn y byd ydych chi'n medru monitro bod eich polisïau chi'n effeithiol os dydych chi ddim yn gwybod un union beth yw'r sefyllfa? Yn Arfon, dwi yn gwybod bod llawer gormod o bobl yn aros am dai cymdeithasol. Maen nhw mewn tai anaddas. Mae'r tai yn rhy fach i anghenion eu teuluoedd nhw. Maen nhw'n damp a chostus o ran biliau, neu mae pobl yn dibynnu ar ewyllys da eu teuluoedd a'u ffrindiau. Neu, wrth gwrs, maen nhw'n gorfod byw ar y stryd achos bod yna ddim digon o dai cymdeithasol.
Mae gan Gyngor Gwynedd, dwi'n gwybod, gynlluniau arloesol i adeiladu mwy o dai cymdeithasol i ddiwallu'r angen yn lleol. Ond, dwi'n gofyn i chi eto: sut fedrwch chi ddarparu digonedd o dai os dydych chi ddim yn gwybod beth yw digonedd o dai yn y lle cyntaf, oherwydd bod y data ddim ar gael?
Ie, wel, rwy'n deall y cysylltiad y mae Siân Gwenllian yn ceisio'i wneud, a rhannaf yr awydd y tu ôl iddo. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r rhestr aros am dai yn arwydd o'r angen am dai fel y cyfryw, gan fod pobl yn mynd ar restrau aros am bob math o resymau. Er enghraifft, efallai y byddant yn awyddus i symud am reswm penodol, ond heb fod angen tŷ mewn gwirionedd. Nid pobl sy'n daer angen tai yn unig rydym yn eu hannog i fynd ar restr aros am dŷ cyngor; bydd rhai pobl nad ydynt 'mewn angen' fel y cyfryw yn awyddus i symud o fewn yr ardal, mae ganddynt resymau heblaw bod mewn cartref anniogel ar hyn o bryd.
Felly, rwy'n cymeradwyo pwynt y cwestiwn, sef sut rydym yn asesu angen, mewn gwirionedd, ledled Cymru. Rydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn monitro, er enghraifft, yr unedau a osodir fel unedau tai cymdeithasol. Felly, ar 31 Mawrth 2019, roedd gan Gymru gyfanswm o 231,408 uned o dai cymdeithasol wedi'u gosod. Cynyddodd nifer yr unedau a osodwyd o'r newydd 4 y cant yn 2018-19 i 21,135, roedd 61 y cant o'r rheini ar y rhestr aros am dai, cynnydd o 2 y cant ers y flwyddyn flaenorol i 12,863 o'r rheini. Gwelwyd cynnydd eto yng nghyfran y gosodiadau i aelwydydd a gafodd eu hailgartrefu ar sail blaenoriaeth am eu bod yn ddigartref, a chynyddodd nifer cyffredinol y mathau o osodiadau 15 y cant ers y flwyddyn flaenorol.
Felly, rydym yn mynd o'i chwmpas hi y ffordd arall; rydym yn gwneud hyn drwy osodiadau yn hytrach na'r rhestr, os ydych chi'n deall yr hyn rwy'n ei olygu. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rydym yn annog rhestrau tai cyfun mewn rhai ardaloedd, gan fod manteision eraill, ar wahân i ddeall yr angen—yn enwedig y ffaith y gallwch wneud un cais mewn ardaloedd sydd â rhestr dai gyfun a chael eich ystyried gan yr holl landlordiaid cymdeithasol. Mae gennym restr gyfun mewn 19 o'r 22 awdurdod lleol. Mae gennym dri awdurdod heb restrau cyfun, ac mae ganddynt drefniadau partneriaeth gwahanol. Yr hyn nad ydym yn dymuno'i weld yw rhywun yn gorfod gwneud cais i lawer o wahanol landlordiaid i gaffael eu cartref cymdeithasol.
Mae gennyf ymchwil yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i edrych ar sut y gallem restru'r angen am dai, yn hytrach na'r bobl sydd am fod ar y rhestr aros am dai. Nid wyf am annog pobl nad ydynt 'mewn angen' rhag mynd ar y rhestrau aros hynny. Ceir nifer fawr o bobl sy'n gwybod, efallai, nad ydynt am gyrraedd y brig mewn system sy'n seiliedig ar bwyntiau, ond sydd, serch hynny, am gofrestru am dŷ cyngor gan fod rhai ohonynt yn dod ar gael mewn amgylchiadau eraill. Felly, mae'r gwaith ymchwil hwnnw ar y gweill gennyf, ac rwy'n gobeithio gallu ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
Ar ôl cyhoeddi ffigurau rhestrau aros am dai cymdeithasol ar gyfer 2018, a oedd yn nodi bod mwy na 16,500 o aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru, cyfeiriodd Shelter Cymru at y sefyllfa fel argyfwng tai. Ond wrth gwrs, yn ystod yr ail Gynulliad, pan rybuddiodd ymgyrch Cartrefi i Bawb Cymru, gan gynnwys Shelter, y byddai argyfwng tai pe na bai Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi ei thoriadau i dai cymdeithasol newydd—mewn gwirionedd, gwelwyd toriad o 70 y cant yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad.
Mae lleddfu'r pwysau ar restrau aros am dai cymdeithasol yn cynnwys—ac rwy'n cytuno â chi ar hyn—cyflenwad mwy o dai fforddiadwy mwy eang, boed hynny drwy renti canolradd neu berchentyaeth cost isel. Pam, felly, y credwch fod ffigurau cofrestredig y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai ar gyfer cartrefi newydd, a gyhoeddwyd fis yn ôl ar gyfer 2019, yn dangos, er i nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd yn Lloegr a'r Alban gynyddu, eu bod wedi gostwng yng Nghymru o 5,448 i 4,769?
Mae hwnnw'n bwnc cwbl wahanol—pwnc adeiladu o'r newydd, nid tai cymdeithasol. Rwy'n rhyfeddu eich bod, ar feinciau'r Ceidwadwyr, yn ein cystwyo am beidio ag adeiladu tai cymdeithasol a chithau heb gael gwared ar gapiau'r cyfrif refeniw tai tan ddiwedd y llynedd, a chawsom ein hatal gennych rhag defnyddio tai a werthir o'r sector cymdeithasol i'r sector preifat—. Cawsom ein hatal gennych rhag defnyddio'r arian hwnnw i adeiladu tai cymdeithasol newydd. Credaf fod eich haerllugrwydd—. Wel, rwy'n fud gan syndod at eich haerllugrwydd, a dweud y gwir—[Chwerthin.]—am awgrymu hynny i mi. Y rheswm pam fod gennym angen dybryd am dai cymdeithasol yw am eich bod wedi gwerthu'r stoc tai cymdeithasol.
Weinidog, mae'r—[Torri ar draws.]
Gwnaethoch ein hatal, drwy gael y cap ar y cyfrif refeniw tai—[Torri ar draws.]
Na. Diolch. Nid ydym am gael hyn ar draws y Siambr. Mae angen i chi fynd drwy'r Cadeirydd, ac rwyf newydd alw ar Aelod arall i siarad—Huw Irranca-Davies.
Rwy'n falch o ddweud nad yw'r Gweinidog erioed wedi bod yn fud. Ond a gaf fi ddweud, nid ydym ni yn Ogwr ar ein pennau ein hunain wrth gael pobl ar y rhestr dai cymdeithasol yn aros am lety am wahanol fathau o unedau, ac ar yr un pryd, mae gennym lawer o eiddo gwag, yn aml uwchben siopau, yn y Cymoedd, y gellid eu troi, gyda'r grantiau sydd bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio, gydag ychydig o feddwl cydgysylltiedig, yn unedau tai cymdeithasol? Felly, sut y mae cyngor fel Pen-y-bont ar Ogwr, arweinydd cyngor fel Huw David, a'i swyddogion, yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i gydgysylltu hyn a dweud, 'Wel, fel awdurdod lleol, gyda chymdeithasau tai eraill, gallwn ddatblygu'r eiddo gwag hyn i'w troi'n gartrefi hyfryd i bobl'?
Ie, rydych yn llygad eich lle, ac mae gennym nifer o enghreifftiau o hynny. Mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, wedi bod ar daith o amgylch Cymru yn edrych ar enghreifftiau amrywiol o ddod â'r union fath hwnnw o eiddo yn ôl i ddefnydd. Ac mae gennym nifer o gynlluniau sy'n caniatáu—. Mewn amgylchiadau lle mae'r eiddo hwnnw'n berchen i'r sector preifat, mae gennym nifer o gynlluniau sy'n caniatáu i'r landlordiaid preifat hynny roi’r eiddo i’w rentu’n gymdeithasol am bum mlynedd, yn gyfnewid am ddychwelyd yr eiddo i safon y gellir byw ynddo ac yn y blaen. Ac mewn cyfarfod diweddar â chyngor Casnewydd, er enghraifft, dangoswyd set o gynlluniau inni yng nghanol Casnewydd, lle gwneir defnydd buddiol o'r eiddo uwchben y siopau unwaith eto. Mae hynny'n darparu cartrefi i bobl, ond mae hefyd yn darparu bywiogrwydd ac ymwelwyr mawr eu hangen â chanol y dref, ac mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn wedi bod yn gwthio ein menter adfywio yng nghanol trefi am yr union reswm hwnnw.
Weinidog, dros y pump i 10 mlynedd nesaf, mae disgwyl i nifer yr aelwydydd un person gynyddu 15 i 20 y cant. Rydym yn gwybod bod gennym eisoes brinder eiddo un ystafell wely o ansawdd da ar gael i'w rentu'n gymdeithasol. Ceir tua 60,000 o unedau tai cymdeithasol un ystafell wely yng Nghymru, ond mae hanner y rhain yn dai â chymorth neu’n dai gwarchod. Weinidog, o ystyried bod mwyafrif yr aelwydydd un person yn y categori dan 65 oed, a bod disgwyl i'r ffigur hwnnw godi, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu nifer yr eiddo un ystafell wely sydd ar gael i'w rentu’n gymdeithasol?
Y system yng Nghymru yw ein bod yn disgwyl i'r awdurdodau lleol wneud asesiad o’r angen am dai, ac yna byddwn yn teilwra ein grant tai cymdeithasol i gyd-fynd â hynny. O ganlyniad i'r adolygiad tai fforddiadwy, rydym yn y broses o edrych eto ar y ffordd rydym yn gweithredu grantiau tai cymdeithasol, ac rwy’n gobeithio gallu cyflwyno datganiad llafar yn manylu ar hynny, Ddirprwy Lywydd, yn sicr cyn toriad yr haf. Felly, rydym wedi derbyn argymhellion yr adolygiad tai fforddiadwy mewn egwyddor, ond rwyf eisiau cyflwyno cynllun gweithredu a fydd yn dweud wrthych sut rydym yn bwrw ymlaen â hynny. A rhan o'r argymhellion, os cofiwch o'r adolygiad hwnnw, oedd ein bod yn edrych eto ar y ffordd roeddem yn gweithredu grantiau tai cymdeithasol, a'n bod yn caniatáu iddo gael ei dargedu'n well at y mathau o aelwydydd a welwn.
Mewn gwirionedd, mae nifer fawr iawn o'r aelwydydd un person yng Nghymru yn fenywod dros 70 oed. Felly, mae angen tai gwahanol iawn ar aelwydydd un person ifanc na'r hyn sydd ei angen ar gyfer aelwydydd hŷn, a threfniadau gwahanol hefyd, felly mae angen i ni gael asesiad da iawn o’r angen am dai. Ond rwy'n cytuno â chi mewn egwyddor; mae angen inni edrych eto a gweld bod ein systemau'n cynhyrchu'r math o dai rydym eu hangen fwyaf.
Trown yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n codi gyda rhywfaint o anesmwythder, o ystyried y sylwadau ychydig yn ddramatig a gafwyd yn gynharach, ond os caf arfer fy nyletswyddau craffu yma. A yw'r Gweinidog yn dal i gredu y bydd y targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros dymor y Cynulliad yn cael ei gyrraedd? Yn ôl fy nghyfrifiad, mae gennych 6,500 o dai i’w hadeiladu mewn oddeutu 13 mis. A lle mae prinder ar hyn o bryd? A yw'n fwy o ran cartrefi cymdeithasol, neu o ran y cynllun Cymorth i Brynu a chynlluniau tebyg?
Rydym yn disgwyl cyrraedd y targed o 20,000. Mewn gwirionedd, rydym eisoes wedi rhagori ar y rhan ohono a oedd yn dai Cymorth i Brynu ac ati. Fodd bynnag, ar sawl achlysur ar draws y Siambr hon, rwyf wedi ateb cwestiynau'n ymwneud â'r hyn a olygwn wrth 'fforddiadwy.' Ac roedd 20,000 o gartrefi, i raddau helaeth, yn seiliedig ar y diffiniad o fforddiadwy a oedd gennym bryd hynny, ac o ystyried y sylwadau rydym newydd eu cael yn y Siambr, yng ngoleuni'r cap sy’n parhau i fod yn gadarn iawn ar gyfrifon refeniw tai awdurdodau lleol yn eu hatal rhag benthyca ac ail-fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Ers hynny, ers i'r targed gael ei osod, mae hynny wedi newid, ac felly rydym wedi symud ein ffocws yn gadarn iawn tuag at adeiladu'n gyflym ar raddfa fawr ar gyfer tai cymdeithasol am mai dyna'r bwlch mwyaf. Rydym angen tai sector preifat o hyd, ond mae gennym fwy o waith dal i fyny i’w wneud ar dai cymdeithasol nag ar dai yn y sector preifat, ac fe gafodd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, a minnau gyfarfod bywiog ond adeiladol iawn y bore yma gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi i drafod sut y gallai'r ddau sector ddod at ei gilydd a gwneud y gorau o'r cyflenwad tir yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, Weinidog, os cynyddwn y cyflenwad yn sector y farchnad, yn enwedig drwy ddenu mwy o gystadleuaeth a mentrau bach a chanolig, byddem yn gobeithio gweld prisiau tai’n dod yn fwy sefydlog, a byddai hynny, yn y ffordd honno, yn ôl economeg glasurol, yn eu gwneud yn fwy fforddiadwy. Ond, rwy'n credu eich bod yn iawn pan ddywedwch fod llawer o ddryswch ynglŷn â thai fforddiadwy—y categori—oherwydd ei fod yn cymysgu’r sector preifat a’r sector cyhoeddus. Ac rwy'n meddwl tybed a fyddem yn well ein byd pe baem yn newid i ddiffiniad yn awr sy'n canolbwyntio ar dai cymdeithasol, tai i'w rhentu. Ac wrth i bob plaid yn y Siambr hon baratoi eu maniffestos ar gyfer etholiad y flwyddyn nesaf, rwy'n credu ei bod hi'n bryd edrych ar dargedau realistig ond uchelgeisiol ar gyfer tai cymdeithasol yn y 2020au. Ac yn fy marn i, mae angen inni adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn, neu 20,000 dros dymor Cynulliad, yn y 2020au. A ydych yn cytuno?
Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen inni edrych eto ar y diffiniad o 'fforddiadwy', yng ngoleuni'r holl bwerau sydd bellach ar gael inni, ac yng ngoleuni'r angen. Rydych yn llygad eich lle o ran y ffigurau, o ran y tai cymdeithasol sydd eu hangen arnom, ac mae hynny ond yn golygu cyrraedd lle dylem fod. Ac o ran y sgwrs a gefais gyda Siân Gwenllian ynghylch sut rydym yn diffinio’r angen am dai, yr hyn rydym yn sôn amdano yn y ffigurau rydych newydd eu dyfynnu yw cael pobl allan o lety dros dro i mewn i lety parhaol, diogel. Mae'n ddigon posibl bod categorïau eraill o angen nad ydym yn eu diwallu o gwbl ar hyn o bryd, ond y byddem yn hoffi eu diwallu pan fyddwn wedi cael y bobl nad ydynt mewn tai digonol o gwbl ar hyn o bryd i mewn i dai o’r fath. Felly dyna pam ei bod yn anodd taro’r cydbwysedd hwnnw.
Ond mae'n werth archwilio'r diffiniad o 'fforddiadwy', oherwydd nid wyf eisiau—. Er fy mod yn cytuno'n llwyr am dai rhent cymdeithasol, ceir modelau eraill. Ceir modelau cydweithredol a chymunedol o berchentyaeth sy'n werth eu harchwilio, ac y gellir eu gwneud yn fforddiadwy hefyd. Credaf fod angen i'r diffiniad o 'fforddiadwy' fynd y tu hwnt i'r pwynt gwerthu. Felly, mae gennym ddiffiniad o 'fforddiadwy' sy'n cynnwys Cymorth i Brynu, er enghraifft, a chaiff y cartrefi hynny eu gwneud yn fwy fforddiadwy drwy gymhorthdal y Llywodraeth, felly mae hynny'n iawn, ond nid ydynt yn fforddiadwy drwy gydol eu hoes, oherwydd pan gânt eu gwerthu am yr eildro maent yn mynd i'r sector preifat. Felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar rai agweddau, ond yn bendant, mae angen cynnal adolygiad ohono.
Os caf droi at bwnc arall—sy'n destun pryder pwysig iawn—sef a ydych yn bwriadu cyfarfod â'r preswylwyr yn Celestia, y datblygiad tai ar garreg ein drws ein hunain. Cyfarfûm â grŵp ddydd Gwener, a gwn y byddent yn falch o'ch croesawu. Rwy'n credu bod cymhlethdodau'r achos hwn yn ei wneud yn achos prawf. Bydd hygrededd y math hwn o ddatblygiad yn cael ei gwestiynu os na cheir rhyw ateb i'r problemau cymhleth hyn—ac mae llawer ohonynt ymhell y tu hwnt i unrhyw beth y gallai'r preswylwyr ei ragweld. Ond hoffwn wybod a ydych chi'n barod, ac a oes gennych unrhyw gynlluniau, i'w cyfarfod.
Hoffwn yn fawr iawn eu cyfarfod. Rwy'n cael fy nghynghori i beidio â gwneud hynny tan y daw canlyniad eu hapêl, a deallaf yn awr na fydd hynny’n digwydd tan fis Medi eleni. Rwy'n edrych i weld gyda fy swyddogion a allem osod paramedrau ar gyfer y cyfarfod, a fyddai'n fy ngalluogi i'w cyfarfod yn gynharach. Am mai fi yw'r Gweinidog cynllunio, mae yna rai pethau nad oes gennyf hawl i wneud sylwadau arnynt, ond rwy'n siŵr y gallem gael y paramedrau hynny. Mae fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, hefyd wedi gofyn i mi edrych ar hynny. Felly rwy'n hapus iawn i ofyn am fwy o gyngor swyddogol ar hynny.
Ac rydym hefyd yn monitro'r datblygiadau ar lefel y DU yn ofalus iawn. Cafwyd rhai cyhoeddiadau—neu led-gyhoeddiadau—ynghylch pethau fel y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau, Lease, ac ati, sy'n cael eu monitro gennym yn ofalus iawn, oherwydd rydym eisiau sicrhau bod beth bynnag a gyhoeddir ar lefel y DU yn addas at y diben yma yng Nghymru. A gwn fod David Melding yn fwy ymwybodol na neb yn y Siambr o fanylion, neu ymylon carpiog, datganoli mewn perthynas â chyfraith tir a chyfraith eiddo a thai, ac felly rydym yn cerdded ar bigau'r drain i raddau—i gymysgu fy nhrosiadau yn ofnadwy—wrth geisio penderfynu beth yn union y gallwn ei wneud. Ond rydym yn edrych ar gynlluniau gwirfoddol, er enghraifft, ar gyfer asiantau rheoli, a chynlluniau gwirfoddol ar gyfer gwerthwyr tai, y gallwn sicrhau rhyw fath o achrediad ar eu cyfer, er mwyn sicrhau bod pobl yn deall cymaint â phosibl ar y pwynt gwerthu, ac yna, ar ôl hynny, cael rhyw fath o warant barhaus gan y bobl y mae ganddynt gontract â hwy—felly'r adeiladwyr, ac ati. Felly, yn sicr, byddaf yn gofyn am y cyngor hwnnw eto. Ar hyn o bryd, fel y dywedais, rwy'n cael fy nghynghori i beidio â'u cyfarfod tan ar ôl dyddiad yr apêl, a deallaf yn awr mai ym mis Medi 2020 fydd hwnnw.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau i chi ynglŷn â pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i helpu awdurdodau lleol i baratoi i ymdopi â'r achosion o coronafeirws. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ofalwyr cartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. A oes gan y Llywodraeth hyder y bydd gan awdurdodau lleol gapasiti i sicrhau gofal parhaus i bobl sydd ei angen, os bydd y gofalwyr eu hunain yn mynd yn sâl—boed yn berthnasau di-dâl, neu'n weithwyr gofal mewn cartrefi preswyl? Nawr, rwy'n ymwybodol fod cynlluniau wedi'u crybwyll i ddenu gweithwyr iechyd sydd wedi ymddeol yn ol i weithlu'r GIG. A yw hyn yn cael ei ystyried ar gyfer y sector gofal hefyd? Ac yn olaf, a allwch chi gadarnhau y bydd adnoddau ychwanegol ar gael i gynghorau i dalu unrhyw gostau ychwanegol a ddaw yn sgil hynny?
Cawsom gyfarfod arbennig o'r Cabinet y bore yma i drafod parodrwydd ar gyfer yr achosion o coronafeirws, ac roedd yr holl aelodau o'r Cabinet yn bresennol. Rydym wedi bod yn gweithio ers peth amser gyda'r fforymau cydnerthedd lleol a'r awdurdodau lleol i wneud yn siŵr fod gennym y cynllun gorau posibl. Yn amlwg rydym yn cynllunio ar gyfer y canlyniad gwaethaf rhesymol, tra'n gobeithio am y canlyniad gorau posibl, ond mae'n rhaid i chi wneud y ddau beth hynny. Felly, wrth gwrs, rydym wedi trafod pethau fel goblygiadau salwch yn y gwahanol weithluoedd, salwch yn yr awdurdodau lleol, cymorth ar y cyd, yr holl bethau sy'n—. Rwy'n falch iawn o ddweud bod y fforymau cydnerthedd lleol ar y blaen mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer pandemig, nid ar gyfer y feirws penodol hwn, ond cynlluniau ar gyfer pandemig. Mae hynny wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer. Ac felly mae gennym gynlluniau da ar gyfer hynny. Nid ydym eisiau i bobl gynhyrfu'n ddiangen, felly dylent gael sicrwydd fod y cynlluniau hynny'n bodoli. Maent hefyd yn cynnwys nifer fawr o gyrff yn y trydydd sector y gweithiwn gyda hwy'n rheolaidd ar faterion gwasanaethau cyhoeddus—y Groes Goch, cynghorau gwirfoddol ac yn y blaen. Felly, rydym yn sicr yn cynllunio ar gyfer y senario achos gwaethaf rhesymol, gan obeithio'n fawr am y canlyniad gorau posibl.
Diolch ichi am yr atebion hynny, Weinidog. Mae hynny'n galonogol, clywed eich bod wedi bod yn trafod hyn y bore yma yn llythrennol, a bod y cynlluniau ar waith. Yn amlwg, lle mae'n briodol, byddai'n dda cael gweld y rheini, ond rwy'n sylweddoli y bydd rhai pethau na ellir eu rhannu ar yr un pryd.
Fe sonioch chi am salwch yn y gweithlu. Y cyngor a roddir ar hyn o bryd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw y dylai'r rhai sy'n amau bod coronafeirws arnynt roi eu hunain mewn cwarantîn hyd nes y ceir prawf negyddol. Un mater a godwyd yn y Siambr ddoe oedd contractau dim oriau, ond credaf fod y mater hwn hefyd yn berthnasol i'r rheini sy'n hunangyflogedig neu ar gyflogau isel, lle bydd y bobl hynny'n colli eu cyflogau os byddant yn colli sifftiau. Gwyddom fod llawer o bobl yn y sector gofal cymdeithasol ar gyflogau isel, ac nad ydynt yn gallu manteisio ar lawer o'r amddiffyniadau cyflogaeth yr hoffem eu gweld yn manteisio arnynt.
Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn atal y feirws rhag ymledu i gartrefi gofal preswyl, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â'r pwynt hwnnw, ac felly byddai angen i bobl sy'n gweithio yn y cartrefi hyn gael sicrwydd y byddent yn cael eu diogelu yn y ffordd honno os nad ydynt yn mynd i'r gwaith. Felly, a ydych mewn sefyllfa i allu gwarantu na fyddai'r gweithwyr a gyflogir yn aml gan gynghorau lleol yn wynebu unrhyw golled economaidd pe baent yn dilyn cyngor iechyd swyddogol ac yn peidio â mynd i'r gwaith os ydynt yn amau bod coronafeirws arnynt ac yn gorfod rhoi eu hunain mewn cwarantîn? Nid dim ond yn y tymor byr—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n golygu yn y tymor byr, nid ad-daliad damcaniaethol yn y tymor hwy pe baent yn datblygu'r symptomau'n ddiweddarach.
Rwy'n deall y pwynt rydych yn ei wneud yn iawn. Mae amryw o gategorïau o weithwyr. Felly, yn sicr bydd pobl a gyflogir gan yr awdurdod lleol yn cael eu talu o'r cychwyn. Mae'r Prif Weinidog, fe wyddoch, wedi gwneud cyhoeddiadau ynglŷn â thri diwrnod cyntaf y salwch—nid yw rhai gweithwyr yn cael eu talu am y tridiau cyntaf. Rwy'n falch o ddweud nad yw hynny'n wir yn y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ond cawsom sgwrs hir yn y Cabinet y bore yma am rai o'r problemau economaidd a gododd, a bydd fy nghyd-Aelodau Ken Skates a Lee Waters yn edrych arnynt. Ond os caf wneud cymhariaeth—un wael, rwy'n gwybod—â'r llifogydd sydd newydd ddigwydd. Wrth gwrs, rydym wedi bod yn awyddus i sefydlu cynlluniau ar gyfer pobl fusnes a phobl hunangyflogedig yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Felly, byddwn yn sicrhau bod y mathau hynny o gynlluniau'n bodoli hefyd ar gyfer pobl yn yr amgylchiadau hynny, ac yn ôl pob tebyg, drwy helpu'r busnesau, gan obeithio helpu'r bobl yn economi'r GIG, gan ei bod yn anodd iawn cael help unigol yn y ffordd honno, gallwn helpu gyda llif arian ac yn y blaen i gadw hynny i fynd. Ond byddwn yn dibynnu'n fawr, os aiff y peth ymlaen am amser hir iawn, ar Lywodraeth y DU i gamu i'r adwy a gwneud yn siŵr ei bod yn talu am bethau yn Lloegr yn y fath fodd fel ein bod yn cael yr arian canlyniadol y mae cymaint o'i angen arnom yng Nghymru er mwyn i ni allu amddiffyn ein gweithlu.
Diolch am hynny. Rwy'n sylweddoli unwaith eto fod yna ansicrwydd ynghlwm wrth rywfaint o hyn oherwydd y rôl y bydd Llywodraeth y DU yn ei chwarae. Yn amlwg, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai gorau po gyntaf y cawn eglurder ar hyn i bawb.
Felly, yn olaf, hoffwn droi at fater gorfodaeth. Yn ôl fy nealltwriaeth i, yng Nghymru, swyddogion iechyd yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi cyfarwyddebau i unigolion hunanynysu os credant fod angen gwneud hynny. A'r cwestiwn yw: pwy sy'n gyfrifol am orfodi cyfarwyddeb o'r fath? Mae'n glir mai'r heddlu sydd â'r awdurdod yn Lloegr, yn dilyn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) 2020 a basiwyd ar 10 Chwefror. Unwaith eto, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r rheoliadau hynny'n cynnwys Cymru, ond mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gyflwyno ei rheoliadau cyfatebol ei hun. A allech chi ddweud wrthyf a yw'n fwriad gan y Llywodraeth i wneud hynny, ac os felly, pryd?
Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried y ddeddfwriaeth a grybwyllwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n benodol i'r coronafeirws, ac rwy’n gresynu rhywfaint oherwydd credaf y dylai fod yn ddeddfwriaeth ar gyfer pandemig yn hytrach na deddfwriaeth benodol. A phan gawn eglurder ynglŷn â beth yn union fydd y ddeddfwriaeth honno’n ei gynnwys, byddwn yn gallu cyflwyno'r hyn rydym ei angen i lenwi'r bylchau yng Nghymru, os caf ei roi felly, a hyd nes y cawn rywfaint o eglurder, ni allwn wneud y penderfyniad hwnnw.
Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae gennym bartneriaeth dda yn gweithio gyda'n holl awdurdodau drwy gyngor partneriaeth Cymru a’n bwrdd heddlu. Mae fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, ar fin cadeirio un o'r cyfarfodydd gyda chydweithwyr yn yr heddlu, felly rydym yn eithaf sicr y byddwn yn gallu ei ddatrys yn lleol beth bynnag, ond byddwn eisiau edrych ar y math o reoliadau fydd eu hangen pan welwn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig yn ei Bil trosfwaol.
Mae cwestiwn 3 [OAQ55169] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 4, Helen Mary Jones.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin? OAQ55163
Yn sicr. Mae tai cymdeithasol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth tai y Llywodraeth hon ac rydym yn parhau i gynyddu'r ddarpariaeth o gartrefi cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru. Yn ystod 2018-19, yn Sir Gaerfyrddin, gwnaethom ddarparu gwerth dros £6.9 miliwn o gyllid drwy ein rhaglen grant tai cymdeithasol. Yn ogystal, buddsoddwyd £5.7 miliwn drwy'r rhaglen tai arloesol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb. Fe fydd yn gwybod, ac fe fydd yn falch iawn o wybod, fod y weinyddiaeth yno o dan arweiniad Plaid Cymru, flwyddyn ar y blaen i'w targed cychwynnol o 900 o gartrefi cyngor newydd. A gwn y bydd y Gweinidog yn falch fod yr awdurdod lleol wedi ymrwymo ddoe ddiwethaf i adeiladu 370 o gartrefi newydd eraill dros y tair blynedd nesaf. Ac mae'n dangos beth y gall awdurdod lleol ei gyflawni—gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn wir, rwy'n cydnabod yn llwyr—pan fyddant yn barod i roi arweiniad go iawn.
Mae'n debyg y bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod y cynlluniau newydd yn enwedig yn edrych ar ffyrdd y gallant ddatblygu stoc dai newydd a fydd yn niwtral o ran carbon, a gwn fod hynny'n cyd-fynd yn fawr â'r materion y mae'r Gweinidog wedi'u codi'n rhan bendant o'i hagenda. A all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw pa gefnogaeth bellach y bydd Llywodraeth Cymru'n gallu ei darparu i awdurdodau lleol i sicrhau y gellir ailadrodd y llwyddiant hwn yn Sir Gaerfyrddin mewn mannau eraill, yn enwedig o ran datgarboneiddio'r stoc dai bresennol, sydd, wrth gwrs, yn llawer anos nag adeiladu cartrefi carbon niwtral newydd fel y mae pawb ohonom yn gwybod?
Ie, yn wir, rwy'n falch iawn fod Caerfyrddin wedi bwrw iddi gyda'r rhaglen tai arloesol yn y ffordd a wnaethant. Fel y dywedais eisoes rwy'n credu, rydym wedi rhoi £5.7 miliwn i mewn yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf er mwyn darparu 39 o gartrefi arloesol iawn yn Sir Gaerfyrddin, a'u monitro i weld a ydynt yn gwneud yr hyn y maent yn ei ddweud ac i gyflwyno cynlluniau i adeiladu llawer mwy ohonynt.
Yn 2018-19, dyrannwyd cyllid o £2.8 miliwn i Sir Gaerfyrddin, fel awdurdod cadw stoc, i gefnogi’r gwaith o adeiladu tai cyngor newydd drwy'r grant tai fforddiadwy, ac yna £1.8 miliwn arall yn 2019-20. Fel roeddwn yn ei ddweud mewn ymateb i gwestiwn cynharach, o ganlyniad i'r adolygiad tai fforddiadwy, rydym yn edrych ar y ffordd rydym yn gweithredu grantiau. Roedd yr adolygiad tai fforddiadwy eisiau inni edrych ar y ffordd rydym yn gweithredu grantiau ar gyfer adeiladu tai newydd, ond roedd hefyd eisiau inni edrych ar y ffordd rydym yn gweithredu'r hyn a elwir yn 'waddoli’ ar gyfer y trosglwyddiadau stoc mawr ac ar gyfer y cynghorau cadw stoc. A phan fyddaf yn cyflwyno’r datganiad llafar y soniais amdano’n gynharach, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn cwmpasu'r hyn rydym yn ei ddisgwyl yn gyfnewid am fuddsoddiad sylweddol iawn o ran codi’r stoc bresennol—pan fyddwn wedi gwneud safon ansawdd tai Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny—i lefel arall. Ac felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau ac rwy'n gobeithio gallu adrodd amdano wrth y Cynulliad yn fuan.
Weinidog, rydych wedi cyfeirio'r cwestiwn cynharach at Caroline Jones, pan oedd yn siarad am adeiladu cartrefi un person, ac wrth gwrs, rydych newydd siarad am y grant tai fforddiadwy, ond a allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd hyn yn edrych i bobl sy'n byw gydag anableddau ac sy'n ofalwyr? Mae gennyf achos yn Sir Gaerfyrddin lle mae'r person mewn cadair olwyn—mae wedi bod mewn cadair olwyn ers blynyddoedd lawer—ac mae bellach yn heneiddio. Mae gan ei gŵr ddementia eithaf difrifol, ac er eu bod yn dal i allu byw gyda'i gilydd, mae'n anodd dros ben. Ac wrth gwrs, nid yw'r grantiau hyn yn cydnabod nad yw’r ffaith eich bod yn byw gydag anabledd yn golygu nad oes gennych gyfrifoldebau gofalu—naill ai pobl hŷn neu bobl iau. Ond nid yw stoc dai y gellir ei darparu gan y gwasanaethau cymdeithasol a chan y cynghorau lleol bob amser yn adlewyrchu'r gymysgedd honno mewn teulu—mae ar gyfer person anabl neu bâr, ond nid gyda'r teulu estynedig. Felly, a ydych yn gallu rhoi cyfeiriad neu a oes gennych unrhyw newyddion ar eu cyfer, oherwydd fel rydych newydd ei wneud gyda Helen Mary, rydym yn sôn am dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol, sy'n ddymunol ac yn gynaliadwy, ond rydym angen iddynt fod yn addas ac yn gynaliadwy ar gyfer teuluoedd go iawn hefyd, ac mae yna deuluoedd o bob maint a ffurf, ag iddynt greiddiau gwahanol.
Oes, rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n cydnabod y broblem yn fy llwyth achosion fy hun hefyd. Wrth gwrs, mae gennym gyfres gyfan o addasiadau a chynlluniau gofal a thrwsio sy'n ceisio sicrhau bod y stoc bresennol yn cyrraedd y safon angenrheidiol er mwyn i bobl allu cynnal ffyrdd o fyw cymhleth ac amrywiol.
O ran y gwaith adeiladu newydd rydym yn ei roi at ei gilydd, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn siarad yn y Siambr ar sawl achlysur am dai am oes, ac felly yr hyn rydym yn gobeithio ei wneud, yn enwedig gyda'r rhaglen dai fodiwlaidd, yw adeiladu tŷ, yn y lle cyntaf, sydd â drysau hygyrch, plygiau ar yr uchder cywir—mae ganddo'r holl bethau hynny, ond hefyd gellir ychwanegu ystafelloedd gwely, a'u tynnu hyd yn oed, wrth i'r teulu dyfu a lleihau, ac mae ganddo bethau fel grisiau llydan, drysau llydan, ar y gwastad—pob math o bethau. Felly, yn y dyfodol, byddwn yn sicr yn disgwyl i'n tai gydymffurfio â hynny, ac rydym yn eu hadeiladu. Ymwelais ag un yn etholaeth fy nghyd-Aelod Huw Irancca-Davies yn ddiweddar iawn a oedd yn cydymffurfio â'r patrwm hwnnw.
Ond o ran y stoc dai bresennol, mae'n amlwg y gall hynny fod yn anos o lawer, ac mewn rhai achosion, mae'n amhosibl ei wneud. Ond lle bo hynny'n bosibl, dylai'r awdurdod lleol allu cynorthwyo drwy'r cynllun addasu a thrwy ofal a thrwsio. Os yw'n cael problem arbennig gydag etholwr penodol—os yw'n awyddus i ysgrifennu ataf, fe wnaf edrych i weld beth y gallaf ei wneud.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi yng ngogledd ddwyrain Cymru? OAQ55176
Mae trawsnewid trefi ledled Cymru a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi parhau i gefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, yn enwedig gyda phrosiectau gwerth £60 miliwn sy'n canolbwyntio ar y Rhyl, Wrecsam a Threffynnon.
Diolch ichi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fel cyd-ogleddwr, fe fyddwch yn adnabod stryd fawr Bwcle yn fy etholaeth yn dda iawn. Yn anffodus, dros y blynyddoedd, mae wedi gweld busnesau'n cau, ac mae wedi colli pob un o'i banciau. Nawr, mae angen buddsoddiad go iawn yng nghanol y dref i gyd-fynd â gwaith caled y gymuned ym Mwcle, a'u gwaith caled i gefnogi'r stryd fawr. Yn bersonol, rwy'n benderfynol o sefydlu banc cymunedol yn y dref, a dyna fydd man cychwyn adfywio yn fy marn i. Weinidog, mae hefyd yn allweddol ein bod yn dod ag unedau gwag yn ôl i ddefnydd. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i ymuno â mi ar ymweliad â stryd fawr Bwcle i drafod gyda rhanddeiliaid amrywiol sut y gall Llywodraeth Cymru wneud i hyn ddigwydd a dechrau adfywio trefi fel Bwcle?
Mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn iawn, rwy'n adnabod stryd fawr Bwcle yn dda, yn enwedig gan fod Bwcle yn ffinio â fy etholaeth, er, mae'n rhaid i mi ddweud, mae blynyddoedd ers fy ymweliadau rheolaidd â'r Tiv ym Mwcle.
Rydych yn siarad yn dda am y ffordd y mae Bwcle wedi colli banciau—mae'r stryd fawr wedi newid, fel y mae llawer o'n strydoedd mawr ledled y wlad wedi newid, ac mae'r ffordd rydym yn gweithio, byw a siopa wedi newid. Gwn eich bod yn parhau i ymgysylltu, gyda Banc Cambria a'r banc cymunedol, a hefyd gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
Rydych wedi sôn am felltith eiddo gwag, ac rydym i gyd yn gyfarwydd â'r rhain yng nghanol ein trefi a'n strydoedd mawr—eiddo sydd wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd ac rydym i gyd yn siarad amdanynt. Ni allwch gysylltu—mae naill ai'n anodd cael gafael ar y landlord neu nid ydynt mewn sefyllfa i wneud unrhyw beth â'r eiddo. Dyna pam rwy'n falch iawn ein bod wedi sicrhau'r gronfa orfodi hon, sy'n werth £13.6 miliwn, fel rhan o'r agenda trawsnewid trefi, ac rwy'n falch iawn fod awdurdodau lleol fel Sir y Fflint yn nodi eiddo i wneud defnydd o'r gronfa ac i ddefnyddio'r arbenigedd a fydd wrth law i'w helpu i fynd i'r afael â hynny.
Pan gyhoeddais yr agenda trawsnewid trefi, roeddwn yn awyddus iawn i fynd i siarad â chymunedau a rhanddeiliaid am y ffordd orau o weithio gyda'n gilydd i adfywio a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, os hoffech gysylltu â fy swyddfa breifat, buaswn yn fwy na pharod i drefnu cyfle i ddod gyda chi.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu tai cyngor yng Nghymru? OAQ55181
9. Faint o anheddau cyngor y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl fydd yn cael eu hadeiladu ym mlwyddyn ariannol 2020/21? OAQ55147
Ddirprwy Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 6 a 9 gael eu grwpio.
Rwy'n falch o ddweud bod pob cyngor yng Nghymru sydd wedi cadw eu stoc tai cymdeithasol yn bwriadu adeiladu cartrefi cyngor newydd. Eu huchelgais yw darparu tua 1,790 o gartrefi newydd erbyn diwedd tymor y Llywodraeth hon, ac rydym yn gweithio gyda hwy i ddarparu mwy na hynny hyd yn oed.
Mae yna gwestiwn wedi codi, efallai, ynglŷn â sut mae nifer o gynghorau yng Nghymru yn mynd i allu manteisio ar gyfleoedd yn y maes yma, oherwydd maen nhw, wrth gwrs, wedi colli eu stoc tai cyngor ers iddyn nhw drosglwyddo'r rheini i landlordiaid cymdeithasol dros ddegawd yn ôl. Nawr bod pethau, wrth gwrs, wedi newid a bod pwyslais ar gynghorau i godi tai eu hunain unwaith eto, yna y cwestiwn yw: sut y mae cynghorau heb stoc yn gallu bod yn rhan o'r ymdrech yma? Felly, gaf i ofyn pa ffyrdd amgen y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cynnig i gynghorau sydd heb stoc dai yn uniongyrchol o fewn eu perchnogaeth nhw eu hunain i fod yn rhan o greu mwy o dai cyhoeddus sydd yn, wrth gwrs, wirioneddol fforddadwy?
Ie, mae'n bwynt da iawn. Rydym yn cefnogi'r 11 cyngor yng Nghymru sydd wedi cadw eu stoc o gartrefi cyngor wrth gwrs, ond rydym hefyd yn gweithio'n galed iawn gyda'r cynghorau nad ydynt yn dal stoc ond sydd wedi trosglwyddo stoc. Rydym yn darparu'r hyn a elwir yn 'daliadau gwaddoli' i'r trosglwyddiadau stoc gwirfoddol mawr—yn y bôn, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ydynt, ond y tai cyngor oedd y rhain yn arfer bod. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda hwy a'r cyngor lleol i sicrhau y gallwn gael rhaglen fuddsoddi ar waith gyda'n gilydd. Wrth gwrs, rydym yn darparu peiriannau adeiladu tai cymdeithasol ar gyfer y rhaglen honno ac fel y dywedais, rydym yn darparu'r hyn a elwir yn 'daliadau gwaddoli' ar ei chyfer hefyd. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr fod pobl sy'n byw—. Ni ddylech allu sylwi a ydych yn byw mewn cyngor sy'n dal stoc neu gyngor nad yw'n dal stoc. Rydym yn adeiladu cartrefi cymdeithasol, a bydd rhai o'r rheini'n cael eu rhedeg gan ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a bydd rhai'n cael eu rhedeg gan y cyngor, ac ni ddylai fod o bwys i'r tenant pa wahaniaeth y mae hynny'n ei wneud.
Unwaith eto, mewn ymateb i'r adolygiad o dai fforddiadwy, byddwn yn edrych ar y ffordd rydym yn defnyddio'r grant hwnnw i ysgogi newidiadau i'r tenant. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod cyfraddau boddhad tenantiaid yn uchel, fod gennym y math cywir o gyfranogiad tenantiaid o ran gwneud penderfyniadau ac yn y blaen. Bydd hynny'n effeithio ar dai cyngor yn ogystal â'r sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rwyf hefyd wedi dweud droeon yn y Siambr hon fy mod yn edrych ar adolygiad llywodraethu ar gyfer yr elfen boddhad tenantiaid o redeg tŷ cyngor, nid yr elfen lywodraethu a chyllid, oherwydd yn amlwg caiff hynny ei reoli drwy'r setliad llywodraeth leol.
Credaf mai'r unig ffordd y gallwch ymdrin â'r prinder tai yw adeiladu tai cyngor yn y niferoedd a adeiladwyd rhwng 1945 a 1979, a digwyddodd hynny ar draws Llywodraethau Ceidwadol a Llafur yn ystod y cyfnod hwnnw, a oedd wedi ymrwymo i adeiladu mwy a mwy o dai cyngor, a aeth i'r afael â'r broblem a achoswyd ar ôl yr ail ryfel byd lle'r oedd niferoedd enfawr o bobl angen tai, a thai digonol. Cafodd slymiau eu clirio.
Mae awdurdodau fel Abertawe, sy'n gwneud gwaith hynod o dda, wedi cadw eu stoc eu hunain ac yn adeiladu tai. Y rheini a aeth drwy'r broses o drosglwyddo stoc—credaf efallai fod rhai ohonynt yn edifar bellach, ond mae amser yn rhoi cyfle i chi edifarhau—a allant ddechrau adeiladu tai cyngor eto? Os yw'r arian ar gael i adeiladu tai cyngor, a ydynt ar gael? Hoffwn roi cyfle i'r bobl a wnaeth y penderfyniad i drosglwyddo i landlord cymdeithasol cofrestredig drosglwyddo'n ôl i'r awdurdod lleol. Credaf y byddai hynny'n datrys llawer o broblemau. Rwy'n credu bod y bobl a drosglwyddodd wedi gwneud camgymeriad enfawr. Ymgyrchais yn ei erbyn yn Abertawe ac rwy'n falch iawn fod Abertawe wedi cadw eu tai cyngor.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â'r ail ran. Roeddwn innau hefyd yn Abertawe ar y pryd, a bydd Mike Hedges yn sicr yn cofio fy mod i ar yr ochr honno i'r ddadl hefyd. Fodd bynnag, cafodd y trosglwyddiadau stoc eu gwneud er mwyn gallu cael y cyllid angenrheidiol i sicrhau bod y tai yn cyrraedd safon ansawdd tai Cymru. Dyna oedd y sefyllfa bryd hynny ac mae bywyd yn wahanol iawn yn awr. Felly, credaf mai'r ateb byr i'ch cwestiwn yw y gallai cynghorau sydd wedi cau eu cyfrifon refeniw tai agor y cyfrif refeniw tai eto os dymunant a dechrau arni, ond ar gyfer niferoedd bach o dai, mae honno'n ffordd eithaf drud o'i wneud, ac felly mae'r rhan fwyaf ohonynt—pob un ohonynt, rwy'n eithaf siŵr—yn dewis peidio â gwneud hynny. Mae Cyngor Gwynedd yn adeiladu pedwar cartref carbon isel newydd i wella ansawdd y ddarpariaeth ddigartrefedd yn y fwrdeistref, ond mae rhai cymhlethdodau, yn y bôn, gyda'r ffordd y mae'n rhaid i'r cyfrif refeniw tai weithio cyn gynted ag y bydd gennych denantiaid cyngor unwaith yn rhagor, ac rydym yn archwilio hynny gyda hwy.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl, fodd bynnag, fel rwyf newydd ei ddweud wrth ateb Llyr, yw ein bod yn disgwyl i gynghorau yn yr 11 ardal yng Nghymru lle maent wedi trosglwyddo eu stoc dai i gymdeithas dai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr (TGRF) weithio gyda'r gymdeithas dai TGRF honno a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill yn eu hardal i adeiladu tai cymdeithasol. Rwy'n dal i wneud y pwynt nad yw'n ymwneud â thai cyngor, mae'n ymwneud â thai cymdeithasol. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn poeni llawer pwy yw eu landlord cyhyd â'u bod yn cael taliadau gwasanaeth teg, cysylltiadau tenantiaid da, atgyweiriadau da ac yn y blaen. Felly, yr hyn rydym eisiau ei wneud yw sicrhau bod y sector, lle bynnag rydych yng Nghymru, yn ysgwyddo ei gyfrifoldeb a bod gennym lefel uchel o foddhad tenantiaid a gwasanaethau da ar draws y sector tai cymdeithasol.
Rwy'n falch iawn, Weinidog, fod gennyf nifer o gwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint wedi'u sefydlu'n dda yn fy etholaeth sy'n awyddus iawn i ymgymryd â'r gwaith o adeiladu cartrefi cyngor i'r awdurdod lleol, ac mae'r awdurdod lleol hefyd yn awyddus i'r cwmnïau hynny ymgymryd â'r gwaith. Ar hyn o bryd, mae'r broses yn ymddangos yn or-gymhleth, ac rwy'n meddwl tybed sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i wneud y broses dendro'n haws ac yn symlach. Oherwydd mae pawb ohonom eisiau gweld mwy o fusnesau lleol cynhenid yn gwneud y math hwn o waith yng Nghymru. Sut y gallwn gyflawni hynny a gwneud y broses yn llawer haws nag y mae ar hyn o bryd?
Rydym yn hapus iawn fel Llywodraeth i weithio gydag unrhyw awdurdod sy'n stryffaglu i ddarparu adnoddau i'r broses o dendro gwaith i'w hun ar ei dir ei hun, er enghraifft. Felly, os oes gennych achosion penodol yr hoffech chi sôn wrthyf amdanynt, buaswn yn hapus iawn i fynd ar eu trywydd. Ond fel y dywedaf, y bore yma, cyfarfûm â'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, gyda fy nghyd-Aelod Lee Waters, i drafod hynny: sut y gallem hwyluso'r broses i adeiladwyr gyflwyno eu cynlluniau eu hunain yng Nghymru, ond hefyd i weithredu fel 'contractwyr' i'r awdurdod lleol, neu'r landlord cymdeithasol cofrestredig lleol sy'n cyflwyno datblygiadau tai. Rydym yn awyddus iawn i weithio gyda'r sector i sicrhau bod nifer fawr o fusnesau bach a chanolig yn gallu cael eu troed yn y drws, oherwydd mae hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd llif arian iddynt pan fyddant yn gwneud datblygiadau eu hunain mewn mannau eraill, oherwydd mae gennym nifer o bethau ar waith—er enghraifft, cyfrifon banc prosiectau ac yn y blaen—sy'n gallu lleddfu'r argyfwng llif arian sy'n wynebu llawer o fusnesau bach a chanolig pan fyddant yn gwneud cais cynllunio, er enghraifft.
A'r peth arall yr hoffwn sôn amdano yw cynlluniau fel ein rhaglen hunanadeiladu newydd, lle mae disgwyl i'r awdurdod lleol gyflwyno'r tir gyda chynlluniau ar ei gyfer, cyn belled â'ch bod yn adeiladu un o'r patrymau sydd ar gael. Ac rydym yn disgwyl—. Er mai 'hunanadeiladu' yw'r teitl, rydym yn disgwyl i'r bobl sy'n prynu'r lleiniau hyn gyflogi adeiladwyr lleol i adeiladu'r tai mewn gwirionedd; ni chredwn y bydd unigolyn yn mynd ati i adeiladu tŷ â'u dwylo eu hunain heblaw mewn achosion prin iawn. Felly, mae'r awdurdod lleol yn cynorthwyo gyda'r broses dendro ar gyfer y rheini hefyd, gyda'r bwriad o sicrhau bod y busnesau bach a chanolig hynny'n cael troed yn y drws hefyd. Ond os oes gennych faterion penodol yn codi, rwy'n fwy na pharod i'w trafod gyda chi.
Roeddwn eisiau gofyn i chi, Weinidog, pan fyddwn yn sôn am dai fforddiadwy yn benodol, a fydd eich cynlluniau ar gyfer dulliau adeiladu anhraddodiadol, os caf ddweud, yn effeithio ar dai cyngor a thai cymdeithasol a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol? Yn amlwg, bydd eu cyfleuster benthyca yn dibynnu ar brisio corff yr asedau ac yn amlwg, cawsom broblemau gydag eiddo a godwyd rhwng y rhyfeloedd ac ar ddechrau'r 1960au yn sgil adeiladu gyda blociau concrit. A allwch chi ddweud wrthym pa sgyrsiau a gawsoch gyda benthycwyr ynglŷn ag a fyddant yn pryderu ynghylch hyn, oherwydd mae'r rhain yn syniadau da iawn ac nid ydym eisiau iddynt gael eu rhwystro gan anallu i fenthyca? Diolch.
Mae Suzy Davies yn codi pwynt da iawn, ac rydym wedi bod yn cael yr union drafodaethau hynny. Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau gyda'r gwahanol drefniadau gwarantu ac achredu—felly, y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni (ISO) ac yn y blaen—am fod rhai ohonynt yn hen iawn yn wir ac am eu bod wedi cael eu creu yn y 1970au pan nad oedd llawer o'r deunyddiau newydd yn bodoli. Felly, er enghraifft, mae'n aml yn wir eu bod yn gofyn am goncrid wedi'i atgyfnerthu mewn rhannau amrywiol, sydd—nid oes angen hynny bellach. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y gall yr hyn a gyflwynir gennym gael y gwarantau cywir, ac y bydd y benthycwyr yn hapus iawn i fwrw ymlaen ar ôl cael y gwarantau cywir, ond maent yn hoffi sicrhau bod gwarantau a safonau'r ISO yn eu lle. Felly, rydym wedi—. Rwy'n eich sicrhau mai rhan fawr o'r rhaglen tai arloesol yw profi'r honiadau y mae'r gweithgynhyrchwyr yn eu gwneud am y ffyrdd amrywiol o adeiladu tai, gyda'r bwriad o'u cynorthwyo i wneud yn siŵr fod y gwarantau sy'n angenrheidiol yn eu lle i sicrhau cyllid priodol ar gyfer y tai.
7. Sut y mae polisïau hawliau tramwy Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymgyrch Y Cerddwyr 'Don't Lose Your Way''? OAQ55179
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n cyflawni rhaglen diwygio mynediad. Mae'n cynnwys ymdrin â darpariaethau diangen yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, fel y rheini sy'n ymwneud â'r dyddiad terfyn yn 2026 ar gyfer llwybrau hanesyddol a nodwyd gan ymgyrch Y Cerddwyr, 'Don't Lose Your Way'.
Mae hynny'n dda i'w glywed, Ddirprwy Lywydd, a dylwn ddatgan buddiant fel is-lywydd Cerddwyr Cymru—fel is-lywydd balch Cerddwyr Cymru. A yw wedi cael cyfle fel Gweinidog i fynd allan gyda'r Cerddwyr i weld yr ap newydd sy'n sail i'r ymgyrch hon? Rwyf wedi'i ddefnyddio fy hun ar fy llwybrau lleol. Gallwch sweipio o'r chwith i'r dde. Mae'n debyg y gallwch wneud hynny hefyd gydag apiau eraill, nad wyf yn gyfarwydd â hwy. [Chwerthin.] Ac mae'n gosod mapiau cyfredol dros fapiau hanesyddol fel y gallwch weld pa fapiau sydd wedi mynd ar goll, ac yna gallwch, yn llythrennol, wrth i chi sefyll yno, fanylu ar y llwybr sydd wedi mynd ar goll, sydd o'ch blaen ond nad yw wedi'i nodi ar yr hawliau tramwy cofrestredig, a gallwch ei gyflwyno ar-lein. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun. Mae mor hawdd i'w ddefnyddio. A'r hyn rydym yn edrych amdano, fel Y Cerddwyr, yw i ddegau o filoedd o bobl ar draws y wlad wneud yn siŵr eu bod yn cofrestru'r hawliau tramwy hyn cyn y dyddiad terfyn yn 2026. A yw'r Gweinidog wedi cael cyfle i fynd allan gyda'r Cerddwyr? A yw wedi defnyddio'r ap ac wedi'i sweipio o'r chwith i'r dde?
Ap Y Cerddwyr, ie? [Chwerthin.] Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Cerddwyr Cymru yn genedlaethol, fel Gweinidog, yn ystod yr wythnosau diwethaf, a chyfarfûm â fy ngrŵp Cerddwyr lleol ddydd Gwener diwethaf mewn gwirionedd. Yn anffodus, roedd y tywydd garw'n golygu nad oeddem allan am dro, ond cawsom eistedd mewn caffi hyfryd ar gornel stryd yng Nghaerwys. Felly, er nad oedd gennym yr ap na'r fersiwn ar-lein o'r mapiau, roedd gennym y mapiau papur traddodiadol, a siaradais drwy rai o'r llwybrau coll ar lefel leol. Rwy'n credu bod yr Aelod newydd wneud gwaith rhyfeddol o dda o hyrwyddo eu hymgyrch, ac annog Aelodau eraill efallai i edrych i weld sut y gallant gymryd rhan yn eu hardaloedd eu hunain. Fel y dywedais, rwy'n gwerthfawrogi gwaith yr holl wirfoddolwyr a Cerddwyr Cymru yn fawr a'r gwaith y maent yn ei wneud yn y ffordd hon, ac fel y dywedais, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i weld sut y gallwn adolygu dyddiad terfyn 2026.
Diolch yn fawr, Weinidog.
Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Delyth Jewell.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â'r adroddiadau y gallai gemau rygbi'r chwe gwlad fod ar gael ar sail talu-wrth-wylio yn unig yn y dyfodol? 401
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Dyw darlledu ddim wedi ei ddatganoli. Mae'r mater hwn, felly, yn benodol ar hyn o bryd i'w ystyried gan bwyllgor y chwe gwlad a'r darlledwyr. Dwi'n credu ei bod hi'n briodol i mi ddweud bod y broses o dendro am yr hawliau darlledu yn parhau yn agored ar hyn o bryd, ac felly, wrth ateb heddiw ar ran Llywodraeth Cymru, dwi'n gwneud hynny'n ymwybodol bod yna faterion sydd yn gyfrifoldeb y cyrff llywodraethol cenedlaethol a ariennir gennym ni, a hefyd bod yna faterion yma sy'n fasnachol a chyfrinachol.
Ocê. Diolch am eich ateb am hynny, Dirprwy Weinidog. Beth fuaswn i yn dweud—. So, rygbi—. Mae rygbi mor bwysig i'r bobl yng Nghymru, ac rwy'n siŵr bydden ni’n cytuno ar hynny.
Yn wir, mae gemau Rygbi'r Chwe Gwlad yn cael eu gwylio gan 82 y cant o boblogaeth Cymru. Mae hwnnw'n ffigur hollol anghredadwy, a chredaf, mewn rhai ffyrdd, y gellir dadlau'n sicr ei fod yn achos unigryw oherwydd hynny.
Ond mae'r ddadl ynglŷn ag a ddylai'r gemau symud i blatfform talu-wrth-wylio yn ymwneud â mwy na rygbi'n unig. Mae'n ymwneud â'r ffaith na ddylai rhai pethau gael eu penderfynu gan bwy sy'n gallu talu fwyaf o arian. Nawr, rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaeth y Dirprwy Weinidog mewn perthynas â'r ffaith bod y broses dendro hon yn dal i fynd rhagddi, y bydd materion yma a fydd yn gyfrinachol, ond oherwydd y lle unigryw sydd i rygbi yng nghalonnau llawer o bobl yng Nghymru, mae'n dal yn bwysig inni gael trafodaeth am hyn yn y Senedd.
Ers i'r RFU neu England Rugby werthu'r hawliau i'w gemau i Sky ychydig flynyddoedd yn ôl, mae miliynau o gefnogwyr rygbi Lloegr wedi methu gwylio eu tîm eu hunain yn chwarae. Nid wyf yn credu y byddai o fudd i neb pe bai'r un peth yn digwydd i rygbi Cymru.
Nawr, dŷch chi wedi sôn am rai o'r problemau pam dŷch chi methu ateb rhai pwyntiau yn barod, Dirprwy Weinidog, ond, am yr iaith Gymraeg, fy mhryder i a nifer fawr iawn o bobl yw does dim sicrwydd y bydd sylwebaeth yn y Gymraeg yn parhau. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau byddwch chi’n edrych i'w chael gyda'r Llywodraeth yn San Steffan ynglŷn â dyfodol sylwebaeth yn y Gymraeg—os bydd dal gan S4C a Radio Cymru yr hawl i gario ymlaen i sylwebu yn y Gymraeg? Os na fydd, y pryder yw bydd nifer fawr iawn o bobl Cymru’n rili colli mas a chael—. They’ll be disenfranchised—sut bynnag mae dweud hwnna yn y Gymraeg.
Os yw'r darllediadau Saesneg eu hiaith yn symud i Sky, yna, yn syml, bydd y bobl yn cael eu prisio allan o'u traddodiadau eu hunain, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud, o ran o'u diwylliant eu hunain. Wrth gwrs, nid rygbi yw'r unig gamp genedlaethol yng Nghymru o bell ffordd, ond mae'n rhoi mwynhad i filoedd o gefnogwyr ac yn ysbrydoli niferoedd dirifedi o bobl ifanc i ddilyn eu huchelgais eu hunain yn y gêm, sy'n hanfodol ar gyfer iechyd y gêm ar lawr gwlad. Felly, Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Plaid Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, gan ddadlau y dylid rhoi'r un statws arbennig i'r chwe gwlad yn Neddf Darlledu 1976 â rownd derfynol Cwpan yr FA a'r Gemau Olympaidd—hynny yw, dylid gwarantu y byddant ar gael i'w gwylio yn rhad ac am ddim i bawb. A sylwaf fod nifer o Aelodau meinciau cefn Llafur wedi anfon llythyr i'r un perwyl at gadeirydd Undeb Rygbi Cymru. A yw hon yn ddadl rydych yn cytuno â hi, ac a fyddwch yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ddadlau'r achos hwnnw?
Ac yn olaf, Ddirprwy Weinidog, a ydych yn cytuno â mi—er fy mod yn credu y gallaf ragweld yr hyn rydych am ei ddweud o'ch ateb blaenorol—yn y tymor hwy, mai'r ffordd o sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar chwaraeon a diwylliant Cymru o fudd i Gymru a'r Cymry, mai'r unig ffordd o sicrhau hynny, yw mynd ar drywydd datganoli darlledu i Gymru fel na all San Steffan roi rhannau o'n diwylliant ein hunain ar werth?
Wel, mae yna tua 10 o gwestiynau yn fanna, dwi'n meddwl, ond mi geisiaf i ateb rhai ohonyn nhw. Dwi ddim wedi ateb y cwestiwn cyntaf yn gywir, dwi yn sylweddoli. Dydw i ddim wedi cael trafodaethau uniongyrchol gyda'r darlledwyr na gyda'r undebau rygbi ynglŷn â’r mater yma. Dyna oedd yr ateb dylwn i fod wedi ei roi.
Ac rydw i'n derbyn mai'r sefyllfa rydym ni ynddi hi ydy bod gyda ni gyfundrefn yma o restru. Ac, yn wir, os awn ni nôl dros y datblygiad o restru, yn ôl cyn 2009, hyd yn oed, fe adroddodd y pwyllgor ymgynghorol dan gadeiryddiaeth fy nghyfaill David Davies yn argymell, ymhlith pethau eraill, y dylid adolygu'r rhestr yn fwy rheolaidd nag sydd wedi digwydd hyd yn hyn. Yr ateb sydd wedi cael ei roi, gan gynnwys ateb diweddar yn San Steffan, ydy nad oes bwriad gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig i adolygu'r rhestr. Ond, wedi astudio'r mater yma, fy marn i yw nad yw'r ffordd o restru digwyddiadau yn y dull yma yn briodol yn y dyddiau o gyfathrebu digidol, ac mae hynna'n cynnwys rŵan yr holl agweddau—nid jest darlledu ond yr holl blatfformau lle mae modd i bobl ddilyn chwaraeon.
Ond a gaf i ddweud un peth? Dwi ddim yn ystyried mai fy rôl i fel un o Weinidogion yn Llywodraeth Cymru, Dirprwy Weinidog yn gyfrifol am y maes yma, ydy mynd i ofyn i San Steffan a fyddan nhw mor garedig â gwrando arnom ni. Dwi yn meddwl—[Torri ar draws.] Dwi'n meddwl ei bod hi'n hen bryd inni ei gwneud hi'n glir bod disgwyl i farn Llywodraeth Cymru gael ei ystyried yn freiniol mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnom ni. Ac un o’r gwendidau efo'r trafodaethau yma ydy bod y disgrifiad sydd yn digwydd yn y ddeddfwriaeth wreiddiol yn sôn am faterion o bwys cenedlaethol, a dyma ni nôl yn fan hyn eto. Mae yna Deyrnas Unedig bedair cenedl, ac felly, mae'r hyn sydd yn briodol i fod yn sail i ddiwylliant y genedl hon yn sicr yr un mor bwysig ag unrhyw un o'r pedair gwlad arall.
Fel rhywun sy'n credu y dylai rygbi, rygbi rhyngwladol, fod ar gael i'w wylio am ddim, ac fel rhywun nad yw'n berchen ar deledu lloeren, ac nad yw erioed wedi bod yn berchen ar ddysgl lloeren, rwy'n gresynu at y sefyllfa y mae'r undebau cartref ynddi. Ond rwy'n derbyn ei bod yn gêm broffesiynol yn awr, ac i'r rheini sydd eisiau iddi barhau i fod ar gael i'w gwylio am ddim, mae'n rhaid bod yna ddadl i'w chael ynglŷn ag o ble y daw'r refeniw i sicrhau y gall y gêm ar lawr gwlad yng Nghymru aros yn gystadleuol a sicrhau y gellir cadw chwaraewyr yma yng Nghymru. A dyna'r sefyllfa annymunol y mae Undeb Rygbi Cymru a'r undebau eraill ynddi ar hyn o bryd.
Gofynnais gwestiwn i chi am gefnogaeth yr undeb rai misoedd yn ôl mewn cwestiwn amserol, Weinidog, ac fe ddywedoch chi fod gwaith yn mynd rhagddo rhyngoch chi a'r undebau i geisio nodi ffrydiau ariannu a allai liniaru rhywfaint o'r pwysau ariannol ar lefel ranbarthol. A ydych mewn sefyllfa heddiw i roi peth o'r wybodaeth honno am y cyfarfodydd rydych wedi'u cael er mwyn ceisio nodi ffrydiau lle gallai Llywodraeth Cymru fod yn ddefnyddiol i sicrhau bod refeniw ar gael i'r undeb a fyddai'n tynnu'r pwysau oddi ar raglenni talu-wrth-wylio? Oherwydd, yn y pen draw, mae'n rhaid i'r undeb fantoli ei lyfrau a sicrhau eu bod yn codi cyflogau chwaraewyr ac yn gwella seilwaith stadia.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am egluro'r cyfyng-gyngor y mae hyn yn ei achosi i'r cyrff llywodraethu rygbi ac wrth gwrs, i ni fel Llywodraeth. Wrth ymateb i chi'n gynharach ar y mater hwn, credaf fy mod wedi nodi bod ein cyllid yn mynd i gyrff llywodraethu drwy swyddfeydd y cyngor chwaraeon, ac ar gyngor y cyngor chwaraeon, buaswn yn gyndyn o edrych am ffordd o gefnogi unrhyw un o'r 45, efallai, o gyrff llywodraethu sydd gennym ar gyfer gwahanol gampau mewn ffordd nad yw'n perthyn i'r cyngor a gawn gan y cyngor chwaraeon.
Ond mewn ymateb i'ch cwestiwn, gallaf ddweud fy mod yn aros i weld canlyniadau'r broses bresennol. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni wneud ein barn yn hysbys os gallwn ddod i gytundeb ar ffordd ymlaen yn y Cynulliad hwn. Gwnaethpwyd awgrym yn gynharach y gallai hwn fod yn fater defnyddiol iawn inni gael dadl arno, a phe bai hynny'n digwydd—ni allaf siarad ar ran y Trefnydd na rheolwyr busnes y Llywodraeth—buaswn i fel Gweinidog yn croesawu dadl ar y mater ac yn falch o weld y Cynulliad yn dod i benderfyniad yn ei gylch, ac mai dyna fyddai barn ystyriol y Cynulliad hwn.
Mae fy nyddiau fel bachwr i dîm cyntaf Ysgol Tregŵyr yn bell y tu ôl i mi. A dweud y gwir, yn fy ngêm ddiwethaf roeddwn yn asgellwr i dîm rygbi'r Cynulliad, sy'n gwneud cymaint dros elusennau a chodi ymwybyddiaeth o faterion pwysig yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Ond a gaf fi ddweud wrth y Dirprwy Weinidog, pe bai'r chwe gwlad yn diflannu y tu ôl i wal dalu, boed yn Amazon, Sky neu'n unrhyw un arall, efallai y bydd, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn gywir, yn llenwi bwlch yn y coffrau yn fasnachol i rai o undebau'r chwe gwlad, ond bydd yn drychineb llwyr o ran y rhai sy'n cyfranogi, gan gynnwys cyfranogiad ar lawr gwlad? Oherwydd gwelsom beth a ddigwyddodd i gampau eraill, fel criced, sydd wedi diflannu y tu ôl i waliau talu.
Felly, rwyf am awgrymu ffordd ymlaen i'r Dirprwy Weinidog y gallai helpu gyda hi, oherwydd mae'n wahanol yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r pwynt a wnaeth, fod Cymru fel cenedl yn ganolog i benderfyniadau ynglŷn â pha chwaraeon y dylid eu gwarchod, gael ei godi yn awr gyda Llywodraeth y DU, oherwydd bydd y mater yn dychwelyd ar gyfer cylchoedd ceisiadau yn y dyfodol. Oherwydd hynny, mae angen inni ddadlau bod gan rygbi dras a thraddodiad gwahanol yng Nghymru. Nid datblygu o ysgolion preifat a wnaeth, ond o gymunedau glofaol, yr holl ffordd yn ôl i'w ddechreuad yng Nghymru. Yn y 1970au, roedd y timau a chwaraeai yn cynnwys cyfreithwyr a meddygon ochr yn ochr â glowyr a oedd yn gweithio yn y pyllau glo yn ogystal, neu yn y gwaith dur. Mae'n draddodiad dosbarth gweithiol yng Nghymru, a dyna pam ein bod yn awyddus iawn i sicrhau na fydd y penderfyniad hwn yn digwydd ac na fydd yn diflannu y tu ôl i wal dalu.
Felly, a gaf fi ofyn iddo: a allai wneud y sylwadau hynny, gan ddilyn y sylwadau arweiniol a wnaeth i Lywodraeth y DU, y dylent yn awr newid y ffordd y mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ac nad ydynt yn cael eu gwneud gan Weinidogion y DU yn unig? Pan fyddant yn disgrifio cenedl, dylent edrych ar wledydd yr Alban a Gogledd Iwerddon, a Chymru hefyd, i weld beth sy'n bwysig i ni.
A allech chi hefyd gyflwyno sylwadau yma nawr i sicrhau y gall ITV a BBC wneud cais ar y cyd? Oherwydd yn y cylch presennol, oni bai bod Llywodraeth y DU yn newid ei meddwl ac yn gwneud hon yn gamp safon aur a ddiogelir, yr unig obaith sydd gennym mewn gwirionedd o lenwi'r coffrau a'i rwystro rhag diflannu y tu ôl i wal dalu yw sicrhau cais da ar y cyd gan ITV a BBC.
Roeddwn yn falch o gyflwyno llythyr i Undeb Rygbi Cymru—sydd mewn sefyllfa anodd—gan holl Aelodau Llafur y meinciau cefn yn ychwanegu at yr hyn a grybwyllwyd heddiw, ac yn pwysleisio pwysigrwydd hyn. Ond rwy'n credu y gallai'r Dirprwy Weinidog helpu os gall gyflwyno dadl gref ar y ddau fater. Rydym angen gweld cais ar y cyd yn cael ei gyflwyno i sicrhau y gall holl bobl Cymru ei wylio'n rhad ac am ddim. Rwyf am ddweud, i gloi: bydd yn drychineb i rygbi rhyngwladol, yn ogystal ag i Gymru, os yw'n diflannu.
Wel, mewn ymateb i'r datganiad hynod ddi-flewyn-ar-dafod hwnnw, gallaf addo y byddaf yn gwneud yr hyn y gofynnwyd amdano, oherwydd, wedi'r cyfan, nid yn unig rwy'n aelod o'r Llywodraeth, rwy'n was i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac mae'n glir iawn, yn y drafodaeth hon, beth yw barn yr Aelodau. Byddaf yn falch iawn o dynnu sylw—. Yn amlwg, mae wedi cael ei wneud yn y man cyhoeddus arbennig hwn, a bydd pawb yn gwybod beth sydd wedi cael ei ddweud. Ond rwy'n addo cyfleu'r mater hwn. Yn wir, efallai y gallaf ei gyfleu'n bersonol, gan y byddaf yn Llundain ar fusnes arall yn y dyddiau nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Mae'r cwestiwn amserol nesaf y prynhawn yma i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit. Huw Irranca-Davies.
2. I ba raddau yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys mandad y DU ar gyfer y trafodaethau gyda'r UE? 402
Yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar bob cyfle i nodi blaenoriaethau Cymru ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol i Lywodraeth y DU. Cawsom weld testun drafft ychydig ddyddiau cyn ei gyhoeddi, a chymerwyd rhan mewn cynhadledd ffôn ychydig oriau cyn y disgwylid i Gabinet y DU ei drafod. Nid oedd y testun terfynol yn adlewyrchu unrhyw rai o'r pwyntiau o sylwedd a wnaethom. Roedd hyn er gwaethaf cylch gorchwyl Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau Ewropeaidd), sy'n rhwymo Llywodraeth y DU i geisio cytuno ar safbwyntiau negodi gyda'r Llywodraethau datganoledig. Mae'r dull gweithredu y mae'r mandad yn ei amlinellu yn un sy'n gosod trywydd ideolegol ynghylch sofraniaeth lwyr—sy'n sicr yn ffantasi yn y byd sydd ohoni—uwchben swyddi a bywoliaeth pobl. Rydym wedi bod yn glir na allwn gefnogi dull o'r fath, a bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyfle i siarad ar ran pob un o bedair Llywodraeth y DU yn y negodiadau, sydd wedi dechrau yr wythnos hon.
Weinidog, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ymgysylltiad adeiladol Llywodraeth y DU â'r Llywodraethau datganoledig yn dod yn bwysicach fyth. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i fanteisio ar bob cyfle i ddangos bod gwir ddyfnder a sylwedd y tu ôl i'r rhethreg am barch tuag at y Llywodraethau datganoledig. Yn yr un modd, mae'n ddyletswydd ar Lywodraethau datganoledig i ddangos eu bod yn barod i ymgysylltu o ddifrif ac yn adeiladol â Llywodraeth y DU. Felly, Weinidog, ddiwedd mis Ionawr, dywedodd Prif Weinidog Cymru, ar ôl cyfarfod rhwng y Llywodraethau datganoledig a Gweinidog y DU, Michael Gove, eu bod yn cydnabod bod angen i'r gwaith o lunio perthynas â'r UE yn y dyfodol gael ei wneud drwy gytundeb ar draws llywodraethau'r DU yn hytrach na'u bod yn bwrw iddi ar eu pen eu hunain.
Nawr, roedd hwnnw'n swnio fel ymrwymiad difrifol ac adeiladol gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i eiriau calonogol mewn cyfarfod â Llywodraeth y DU. Ac eto, fis yn unig yn ddiweddarach, rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru yn gyhoeddus, ar ôl cyhoeddi mandad negodi'r DU a'r UE, y byddai economi a swyddi Cymru yn cael eu niweidio gan berthynas 'sylfaenol, ddisylwedd â'r UE' sy'n 'ddiffygiol o ran uchelgais ac yn gwneud cam â Chymru', y bydd 'safbwynt masnachu'r DU yn arwain at golli swyddi yng Nghymru', a'n bod mewn perygl o wynebu tariffau a fyddai'n 'andwyo ein ffermwyr a'n sector bwyd' os bydd y negodiadau'n methu. Rhybuddiodd hefyd fod uchelgais wleidyddol Llywodraeth y DU i sicrhau unrhyw gytundeb doed a ddelo, neu ddim cytundeb o gwbl, yn 'amlwg yn bwysicach iddynt na sicrhau cytundeb sydd o fudd i holl wledydd y DU'.
Weinidog, dywedodd Michael Gove wrth Dŷ'r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf fod y Llywodraethau datganoledig wedi helpu i lunio ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at fandad y DU. Weinidog, a oedd Michael Gove yn dweud y gwirionedd plaen wrth Senedd y DU, neu a oedd yn camsiarad?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pellach hwnnw. Mae honni bod llais y Llywodraethau datganoledig wedi cael effaith sylweddol ar lunio'r mandad negodi yn chwerthinllyd, a bod yn onest. Fel y crybwyllais yn fy ateb cynharach, rydym wedi manteisio ar bob cyfle i gyflwyno'r achos ar ran Cymru. Yn ogystal â'r blaenoriaethau negodi, a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr, ar sail y datganiad gwleidyddol yn dilyn cyhoeddi'r amcanion negodi, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Brif Weinidog y DU i amlinellu rhai o'n blaenoriaethau'n fanylach.
Ar ôl derbyn y mandad drafft, ysgrifennais at Lywodraeth y DU gan nodi nifer o bwyntiau manwl roedd angen rhoi sylw iddynt. Er enghraifft, yng nghyd-destun yr adran sy'n ymdrin â rhwystrau technegol i fasnachu, pwysleisiais yr angen i gydnabod anghenion y sector awyrofod yn benodol. Yn yr adran sy'n ymdrin â mesurau i sicrhau iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion, gofynnais am flaenoriaeth benodol i sectorau yng Nghymru y mae'r mesurau hynny'n effeithio arnynt, gan gynnwys pysgod cregyn, cig eidion, cig oen, a'r sector llaeth. Ni ddaw o hyd i'r cyfeiriadau hynny y bûm yn pwyso amdanynt yn y mandad terfynol.
Ar y bore roedd Cabinet y DU yn cyfarfod i drafod a chwblhau'r mandad, cefais alwad ffôn gyda Michael Gove lle trafodais y pryderon roeddwn wedi'u codi yn fy llythyr, ac yn yr alwad honno ni chefais unrhyw sicrwydd fod Llywodraeth y DU yn fodlon newid eu dull negodi mewn ymateb i sylwadau gan unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig, ac ni allent bwyntio at unrhyw newidiadau yn y mandad a oedd yn adlewyrchu pethau roeddem wedi pwyso amdanynt. Felly, mae'n amlwg yn y testun terfynol hwnnw fod Llywodraeth y DU wedi dewis peidio ag ystyried buddiannau cyfreithlon y Senedd hon ac achos Llywodraeth Cymru.
Gan ddilyn yr un trywydd i raddau helaeth, a gaf fi ddweud, nid yw rhai ohonom yn y Siambr hon yn unoliaethwyr? Gallai hynny fod yn syndod i rai. Weithiau, mae'n rhaid ichi gwestiynu gwerth bod yn unoliaethwr yn y sefyllfa hon, oherwydd yn eich datganiad yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â deddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit, fe gofiwch yr eglurhad helaeth, athronyddol o gonfensiwn Sewel y gwnaethoch honni eich bod yn ei roi allan, ac roeddem yn cytuno'n fawr â'ch dadansoddiad; y ffaith, yn y bôn, mewn perthynas â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynglŷn â'r Ddeddf ymadael, fod tri gwrthodiad yn y Seneddau datganoledig—nid yn unig yma, ond yn yr Alban a Gogledd Iwerddon—ond bod San Steffan wedi diystyru'r tri gwrthodiad cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gan nodi bod sefyllfa Brexit 'ddim yn normal' ac yn unigryw. Bwriodd San Steffan yn ei blaen heb ystyried ein safbwyntiau ni yma.
Nawr, fe ddywedoch chi yn eich datganiad yr wythnos ddiwethaf eich bod wedi cael sicrwydd wedi hynny—nid yn unig bod San Steffan wedi bwrw ymlaen er bod tair Senedd ddatganoledig wedi anghytuno â hwy a bwrw ymlaen—roeddech chi wedi symud ymlaen ac wedi cael sicrwydd a diffiniad o'r hyn a olygai 'ddim yn normal', yn yr ystyr ei fod yn unigryw, os nad yn hynod unigryw, ac anarferol. Felly, roedd yn ymddangos eich bod yn dawel eich meddwl na fyddai'r sefyllfa hon yn parhau i ddigwydd, er inni ofyn pa fesurau diogelwch sydd ar waith er mwyn sicrhau na fyddai'r sefyllfa hon yn parhau i ddigwydd.
Felly, mae'n ymddangos yma, yn awr, mewn perthynas â mandad y DU, fod Llywodraeth Cymru yn cael ei hanwybyddu neu ei gwthio i'r cyrion, ac nad yw ei llais yn cael ei glywed. A ddylem gymryd bod hon yn sefyllfa arall lle nad yw hon ond yn gyfres unigryw arall o sefyllfaoedd? A yw hyn eto 'ddim yn normal', ac a oes disgwyl inni dderbyn hynny a symud ymlaen ni waeth beth a dweud unwaith eto, 'Mewn gwirionedd, nid oedd hyn yn normal. Mae'n unigryw. Mae'n adeg anodd. Rhaid inni dderbyn y math hwn o beth gan mai dyma lle mae'r Senedd ym meddylfryd San Steffan'? Neu a ydym yn sefyll ac yn dweud, 'Ni all hyn barhau. Mae pedair Senedd i fod yn rhan o hyn. Gadewch inni wneud rhywbeth amdano.'
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae ef a minnau, wrth gwrs, yn anghytuno ynglŷn â gwerth yr undeb a manteision bod yn rhan o undeb i Gymru, ac a bod yn onest, fe ddylai weithredu'n well nag y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu. Ond serch hynny, mae gennym farn wahanol ar hynny.
Mae'n cyfeirio at y ddadl mewn perthynas â chonfensiwn Sewel, ac fe fydd yn cofio, rwy'n credu, wrth wneud hynny, fy mod wedi cyflwyno'r achos dros ddiwygio confensiwn Sewel, nid honni bod y trefniadau presennol yn ddigonol. Felly, wrth geisio diwygio, yn yr ystyr eang honno, mae ef a minnau'n rhannu'r egwyddor honno. Ond mae hefyd yn bwysig nodi y bu enghreifftiau, a dyna pam fod hyn mor rhwystredig—boed mewn perthynas â pharatoi deddfwriaeth neu'r cytundeb rhynglywodraethol; neu wrth gydweithio i gynllunio ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb; neu yn wir mewn perthynas â'r corff sylweddol o is-ddeddfwriaeth a basiwyd er mwyn hwyluso'r broses o adael; ac yn wir, mewn perthynas â pheth o'r gwaith y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, yn ei wneud gyda'r Adran Masnach Ryngwladol ar negodiadau masnach gyda gweddill y byd—ceir enghreifftiau lle mae ymgysylltu wedi sicrhau mantais ac wedi rhoi'r llais priodol i Gymru yn yr ystyriaethau hynny.
Felly, mewn gwirionedd, rwy'n dod i'r Siambr gyda thristwch mawr i ddweud yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrth ymateb i'r cwestiwn gan Huw Irranca-Davies. Nid yw hon yn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn cau'r drws. Pe bai Llywodraeth y DU yn agor y drws yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac yn rhoi cyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru a Llywodraethau datganoledig eraill ymwneud yn briodol yn y negodiadau hynny, byddem yn barod, fel rydym bob amser wedi bod, i chwarae rhan adeiladol yn hynny. Ond mae'r cyfrifoldeb hwnnw yn awr ar garreg drws Llywodraeth y DU, sydd wedi methu'n lân ag adlewyrchu llais y Llywodraethau datganoledig yn y mandad negodi hwn.
A all y Cwnsler Cyffredinol synnu mewn gwirionedd nad yw Llywodraeth y DU wedi ei gymryd o ddifrif wrth ofyn am rôl yn y mandad negodi hwn? Mae'n sôn am ymgysylltiad adeiladol, ac nid yw'n dymuno hynny o gwbl; mae'n dymuno gweld ymgysylltiad dinistriol. Mae wedi bod yn gyson ac yn ymosodol elyniaethus tuag at holl nodau negodi Llywodraeth y DU. Pleidleisiodd mwyafrif pobl Cymru i adael yr UE, a dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn eu gallu i rwystro canlyniad y refferendwm hwnnw. Rydym bellach wedi gadael yr UE. Mae cyfleoedd yn ogystal â heriau o'n blaenau, ond nid yw'r Cwnsler Cyffredinol byth yn gweld cyfleoedd; nid yw ond yn gweld anawsterau. Bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni canlyniad y refferendwm yn 2016, canlyniad y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un mor elyniaethus tuag ato heddiw ag y bu drwy gydol fy nghyfnod yn y Cynulliad hwn.
Ar lefel fechan iawn, credaf y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi chwarae rhan bwysig yn datblygu'r mandad negodi hwn, ond oherwydd y rhyfelgarwch cyhoeddus yn erbyn prosiect cyfan Llywodraeth y DU, ni fydd byth yn cael ei gymryd o ddifrif. Nid yw'n awyddus i chwarae rhan yn negodiadau'r DU, ond mae'n awyddus i chwarae rhan yn negodiadau'r UE; mae'n geffyl pren Troea i Monsieur Barnier.
Wel, mae'n ddrwg gennyf ddweud fy mod yn credu bod y cyfraniad hwnnw wedi methu cyrraedd lefel y drafodaeth, ac yn anffodus, nid yw'n adlewyrchu realiti'r sefyllfa mewn unrhyw ffordd. Yn amlwg, byddai wedi bod yn well gan Lywodraeth Cymru gael canlyniad gwahanol i'r refferendwm; mae hynny'n ffaith sydd wedi'i hen sefydlu, ond yr hyn rydym wedi'i wneud, ar bob cyfle, yw cydnabod gwirioneddau newydd a cheisio dylanwadu o fewn y fframwaith hwnnw. Felly, pan ddaeth yn amlwg fod gan y Prif Weinidog fandad i adael yr Undeb Ewropeaidd ar sail datganiad gwleidyddol, gwnaethom ymgysylltu â'r datganiad gwleidyddol hwnnw, gan gydnabod nad hwnnw oedd y man cychwyn y byddem wedi'i ddewis ein hunain, a gwnaethom ddisgrifio, yn eithaf manwl, ac nid yw hynny wedi'i wrthbrofi, y fersiwn orau o'r trefniant hwnnw ar gyfer dyfodol Cymru, yn gyson â'r mandad hwnnw.
Rydym wedi manteisio ar bob cyfle i geisio dylanwadu ar y ddadl mewn ffordd adeiladol. Fel y dywedaf—[Torri ar draws.]
A wnewch chi adael i'r Gweinidog ateb y cwestiwn heb unrhyw sylwadau oddi ar eich eistedd? Diolch.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi ceisio dylanwadu ar y drafodaeth mewn ffordd adeiladol iawn, er na fyddem wedi dymuno dechrau o'r sefyllfa hon, fel rwy'n dweud. Rydym wedi ceisio manteisio ar y cyfleoedd, fel y mae'r Aelod yn eu disgrifio, boed mewn perthynas â buddsoddi rhanbarthol, neu gymorth amaethyddol, neu newid cyfansoddiadol. Mae pob un o'r meysydd hyn yn rhai sy'n cynnig cyfle i wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol, ac yn yr ysbryd hwnnw rydym wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r mandad hwn, a byddem yn dymuno parhau i wneud hynny pe bai'r cyfle'n codi.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad. Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, dywedodd Billy Liddon, cyfaill i mi, ac ymgyrchydd ar ran Undeb Cenedlaethol y Glowyr Glofa'r Cwm, sydd wedi ein gadael yn anffodus, na fyddai'n gwneud mwy o gyfweliadau am streic y glowyr am ei bod yn cael ei gor-ramanteiddio yn y cyfryngau, ac mai'r gwirionedd oedd ei bod yn frwydr flwyddyn o hyd o dlodi a chaledi aruthrol. Felly, mae heddiw, 35 mlynedd ers y diwrnod y dychwelodd glowyr de Cymru i'r gwaith, yn gyfle i fyfyrio ar realiti'r streic a sut y mae'n parhau i ddylanwadu ar ein cymunedau heddiw.
Wrth amddiffyn eu swyddi a'u cymunedau, arestiwyd oddeutu 12,000 o lowyr; cafodd 9,000 eu cyhuddo a bu farw pump. Collodd y glowyr y streic, ac aeth y Llywodraeth Dorïaidd yn eu blaenau i gau'r holl byllau glo, gan gynnwys y rhai a oedd yn broffidiol. Yng ngeiriau Michael Heseltine, 'Dyna'r pris a dalwyd ganddynt am ein herio.'
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Gellid gweld gwaddol ingol y streic dros yr wythnosau diwethaf. Daeth yr ymdeimlad o gymuned ac undod a oedd wrth wraidd y streic i'r amlwg unwaith eto wrth i'r llifogydd erchyll daro'r un cymunedau—o Nantgarw yn fy etholaeth i, i Pentre yn y Rhondda. Pobl yn sefyll ochr yn ochr, gan wneud popeth a allent i helpu eu cymdogion, yn dod ynghyd gyda'r un penderfyniad na fyddai'r trychineb hwn yn eu trechu. Ddegawd yn ôl, dywedodd Billy Liddon wrthyf hefyd ei fod yn credu bod pobl yn anghofio dioddefaint y glowyr yn ystod y flwyddyn honno. Ond ar adegau fel y garreg filltir hon, cawn gyfle i fyfyrio ar y ffaith bod gwaddol brwydr y glowyr 35 mlynedd yn ôl yn parhau yng nghryfder ein cymunedau yn wyneb heriau, wrth ailddarganfod treftadaeth a gollwyd, ac yn y frwydr barhaus am gyfiawnder.
Diolch yn fawr.
Y ddadl nesaf yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rees.
Cynnig NDM7286 David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Nid yw’r angen i Gymru sicrhau ei bod yn sefyll allan yn rhyngwladol, a datblygu a thyfu ei chysylltiadau rhyngwladol, erioed wedi bod mor fawr. Dyna pam fy mod yn falch iawn o agor dadl heddiw ar strategaeth ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch ein bod wedi cael datganiadau gan y Gweinidog, ar ôl i’r strategaeth ryngwladol gael ei chyhoeddi, ond credaf mai hwn yw'r cyfle cyntaf a gawsom i'w thrafod yn y Senedd ac i'r Aelodau, efallai, gael nodi eu gweledigaeth ar gyfer Cymru yn y byd.
Yn gyntaf, mae'n bwysig croesawu'r strategaeth gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy byd-eang, a sut y mae Cymru’n symud ymlaen mewn marchnad fyd-eang sy'n tyfu'n barhaus—mae hynny’n hanfodol i gyflawni uchelgais i hybu economi Cymru. Mae ein hadroddiad yn benllanw ar bron i flwyddyn o waith yn edrych ar ymagwedd Cymru tuag at gysylltiadau rhyngwladol ar ôl Brexit. Ac rydym yn diolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith. A hoffwn gofnodi fy niolch eto i’r tîm, a'r staff clercio, a'r staff ymchwil, ar y pwyllgor, a wnaeth waith aruthrol i'n helpu i gynhyrchu'r adroddiad hwnnw.
Nawr, yn ein hadroddiad, rydym yn gwneud cyfanswm o 10 argymhelliad, ac mae pob un ohonynt yn mynd i'r afael â meysydd penodol sy'n ymwneud â'r hyn a oedd, pan gyhoeddwyd yr adroddiad, yn strategaeth ryngwladol ddrafft. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes cyffredinol: blaenoriaethau a chyflawniad y strategaeth; cydgysylltu gweithgareddau rhyngwladol ar draws y Llywodraeth; a'r berthynas rhwng y cysylltiadau blaenoriaethol a'r swyddfeydd tramor ar ôl Brexit.
Ar gyfer y cyntaf o'r meysydd hyn, rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cytuno â ni ynghylch yr angen i gynnwys datganiad cryfach o’r weledigaeth yn y strategaeth derfynol. Yn ychwanegol at hynny, dylai'r blaenoriaethau a nodwyd yn y strategaeth roi sylfaen i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid ar gyfer mwy o gydweithredu ac ymgysylltu ar y llwyfan rhyngwladol. Yn ein barn ni, mae'r strategaeth yn ddiffygiol o ran cyflawni. Mae'n rhwystredig mai tri tharged mesuradwy yn unig sydd yn y strategaeth. I atgoffa'r Aelodau beth yw'r targedau hyn: (1) codi proffil Cymru yn rhyngwladol drwy sicrhau 500,000 o gysylltiadau rhyngwladol dros y pum mlynedd nesaf—mae’n ddiddorol sut y byddwn yn mesur hynny a sut rydych yn nodi rhai o'r cysylltiadau hyn; (2) tyfu'r cyfraniad a wneir gan allforion i'r economi 5 y cant, er nad ydym yn siŵr at ba gyfnod o amser y mae hynny’n cyfeirio; a (3) plannu 15 miliwn o goed yn Uganda erbyn 2025.
Nawr, mae'r targedau hyn ynddynt eu hunain yn rhesymol ac o fewn cyd-destun y strategaeth. Fodd bynnag, mae gennym bryderon ehangach am y nifer cyfyngedig o dargedau, a'r goblygiadau y gallai hyn eu cael ar gyflawni'r strategaeth. Er ein bod yn deall y ddadl efallai nad y ddogfen strategaeth yw'r lle mwyaf priodol ar gyfer cynnwys cyfres o dargedau, rydym yn sicr y dylai'r strategaeth gael ei chefnogi gan gynllun cyflawni y gallwn ni, fel pwyllgor, graffu arno. Mae'n siomedig iawn, felly, ei bod yn ymddangos bod ein galwadau'n disgyn ar glustiau byddar yn hyn o beth.
Ac ar ben hynny, mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i’n hadroddiad yn honni ei fod yn derbyn argymhellion 5 a 6, sy’n galw am gyhoeddi cyfres fanwl o dargedau mesuradwy a chynlluniau cyflawni, ac yna’n nodi yn naratif y strategaeth nad y bwriad yw cyhoeddi cynlluniau manwl pellach yn ychwanegol at y rheini a geir yn y strategaeth. Mae hawl gan y Llywodraeth i arddel y farn hon wrth gwrs, er mor siomedig ydyw, ond mae ceisio honni ei bod, wrth wneud hynny, yn derbyn ein hargymhellion, yn codi cwestiynau ynglŷn â pha mor gredadwy yw rhai o'r datganiadau.
Mae'r ail faes diddordeb yn ymwneud â chydgysylltu gweithgareddau Llywodraeth Cymru a sut y maent yn berthnasol i'r strategaeth newydd. O’r blaen yn y Siambr hon, rwyf wedi croesawu creu swydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am gysylltiadau rhyngwladol. A dylai penodiad o'r fath helpu i gynyddu gwelededd materion sy’n ymwneud â chysylltiadau rhyngwladol ar draws y Llywodraeth—tasg sy’n bwysicach fyth wrth inni greu dyfodol newydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Yn yr adroddiad hwn ac yn ein hadroddiad blaenorol ar berthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol, gwnaethom dynnu sylw at bwysigrwydd cydgysylltu effeithiol â phortffolios allweddol eraill, yn enwedig portffolios yr economi, yr amgylchedd ac addysg. I'r perwyl hwnnw, gwnaethom ailadrodd ein barn y dylai'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol sefydlu mecanwaith ffurfiol ar gyfer cydgysylltu gwaith Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhyngwladol drwy greu is-bwyllgor Cabinet. Mae ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion hyn yn siomedig. Er gwaethaf y pwysigrwydd sydd ynghlwm wrth yr angen am fecanwaith ffurfiol ar gyfer cydgysylltu, fel y nodwyd mewn dau adroddiad pwyllgor, mae'r Gweinidog wedi penderfynu peidio â rhoi unrhyw un ohonynt ar waith mewn unrhyw fodd ystyrlon, a buaswn yn ei hannog i ailystyried hynny.
Mae'r maes olaf yn ymwneud â'r cysylltiadau blaenoriaethol a nodwyd yn y strategaeth a dyfodol swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru. Nawr, rydym yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed yn y strategaeth derfynol i adeiladu ein cysylltiadau rhyngwladol â nifer o wledydd a rhanbarthau a chenhedloedd is-wladwriaethol ledled y byd. Dylid rhoi pwysigrwydd newydd i’r gwaith hwn yng ngoleuni ymadawiad y DU â'r UE a'r berthynas newydd a ddaw i rym ar ddiwedd y flwyddyn hon, beth bynnag y bo, gan ein bod yn ansicr ar hyn o bryd. Bydd y ffordd y mae'r cysylltiadau blaenoriaethol yn cyd-blethu â gwaith y swyddfeydd tramor yn allweddol i lwyddiant yn y dyfodol. Rwy'n croesawu'r adolygiad y mae’r Gweinidog yn ei amlinellu yn ei hymateb. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog roi mwy o fanylion ynglŷn â chynnwys yr adolygiad hwn a'r amserlenni ar gyfer ei gwblhau.
O ran y ddwy berthynas flaenoriaethol â gwledydd eraill, sef Iwerddon a'r Almaen, mae'r strategaeth yn nodi’n briodol y cysylltiadau economaidd a chymdeithasol agos sy'n bodoli ar hyn o bryd. Yn ychwanegol at hynny, mae'r strategaeth yn tynnu sylw at y ffaith mai gwladolion o'r Almaen ac Iwerddon yw dwy o'n cymunedau rhyngwladol mwyaf. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn achub ar y cyfle hwn, a phob cyfle, i ailadrodd ein neges o gefnogaeth i'r cymunedau hyn a chymunedau eraill sy'n byw yng Nghymru o bob rhan o'r UE. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog a'r Aelodau eraill yn ategu fy nghefnogaeth iddynt.
Yn y dyfodol, byddai'n ddefnyddiol i ni pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd o ran y trafodaethau ynghylch unrhyw berthynas benodol rhwng Iwerddon a'r DU yn y dyfodol a'r negodiadau ynghylch parhau i gyfranogi yn rhaglenni'r UE ar ddiwedd y cyfnod pontio. Mae pryder o hyd y gallai’r rhain gael eu colli os na ellir dod i gytundeb ar y berthynas yn y dyfodol a chytundeb masnach rydd, ac maent yn rhoi hwb i statws rhyngwladol Cymru. Yn bersonol, credaf na ddylent byth fod wedi bod yn gysylltiedig â chytundeb masnach. Maent ar wahân, maent yn rhaglenni sy'n ein helpu i ddatblygu ein gwlad ac ni ddylent fod wedi bod yn rhan o'r safbwynt negodi.
Fel pwyllgor, rydym wedi nodi'r gwerth ychwanegol i feysydd cyfrifoldeb datganoledig, megis addysg, ymchwil a datblygu economaidd, a gafwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn llu o raglenni'r UE. Rwy’n falch fod y datganiad gwleidyddol a’r mandadau negodi yn dal i adael y drws ar agor ar gyfer negodi setliad yn y meysydd hyn. Fodd bynnag, credaf y bydd angen lobïo parhaus ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y negodiadau rhwng y DU a'r UE. Y prynhawn yma'n unig, yn y cwestiwn i'r Gweinidog pontio Ewropeaidd newydd, y clywsom am y pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r ffaith nad ydym wedi gweld y llais hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn y mandadau eto.
Nawr, wrth inni fwrw ymlaen â chytundebau masnach a thrafodaethau ynglŷn â sut y bydd cysylltiadau â'r UE a chenhedloedd eraill yn y dyfodol yn datblygu, mae’n rhaid inni wneud popeth a allwn i gryfhau llais Cymru, yn ystod y negodiadau ac wedi hynny, pan fydd y cysylltiadau wedi'u sefydlu, a gwn fod y Llywodraeth yn rhannu'r safbwyntiau hynny.
Lywydd dros dro, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad. Rwy'n gobeithio y byddant yn ei gefnogi, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau ac ymateb y Gweinidog y prynhawn yma.
Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon. Credaf ei fod yn bwnc pwysig ac rwy'n canmol y Llywodraeth am ddatblygu strategaeth ryngwladol, o leiaf. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser, ond credaf y dylai fod yn rhan greiddiol iawn o weithgareddau Llywodraeth Cymru, a dylem dreulio amser yn myfyrio arni ac yn awgrymu mannau lle gellir ei gwella.
Hoffwn sôn am ychydig o bethau y credaf fod angen gweithio arnynt a'u pwysleisio, ac mae’r Cymry alltud ledled y byd yn rhywbeth rwy'n falch o'i weld yn cael ei gydnabod yn y strategaeth ryngwladol. Rwy'n credu ei bod yn hen bryd i hynny ddigwydd. Oddeutu 10 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn aelod o’r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, rwy'n cofio inni gyfarfod yn Glasgow ac roedd yr Albanwyr yn gwneud llawer o gynnydd yn eu hymgyrch 'Alban dramor' ac yn defnyddio eu rhwydwaith o ffrindiau a'r holl bobl a chanddynt ryw fath o linach Albanaidd ledled y byd. Ac wrth gwrs, cawsant eu hysbrydoli gan yr hyn y mae Iwerddon wedi'i wneud yn naturiol mewn gwirionedd, am wn i, yn y ganrif a hanner ddiwethaf—nid rhywbeth y gellid ei ailadrodd, o reidrwydd. Ond ni ddylai hynny ein hatal rhag datblygu ymagwedd o'r fath chwaith, a chredaf eu bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant ar hynny yn yr Alban. A dylem wneud yr un peth. Mae cryn dipyn o ewyllys da i’w gael; mae llawer o bobl a chanddynt gysylltiadau â Chymru, yn ogystal â phobl a anwyd yng Nghymru ac sydd wedi cael gyrfaoedd hynod lwyddiannus ledled y byd. Ac rwy'n credu eu bod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl, a chredaf fod hynny'n bwysig tu hwnt.
Rwy'n meddwl hefyd mai’r hyn sy’n allweddol i'r hyn y dymunwn ei wneud, ac mae'n gysylltiedig â'r pwynt cyntaf hwn, yw hyrwyddo dealltwriaeth gyhoeddus a rhyngwladol o hanes a diwylliant Cymru. Mae gennym hanes a diwylliant gwych. Mae'n un o gerrig sylfaen diwylliant Ewropeaidd, yn enwedig yr iaith, ac mae'n ffynnu hyd heddiw. Cofiaf ymweld ag arddangosfa’r Amgueddfa Brydeinig ar y gwareiddiad Celtaidd, ac roedd yn ymddangos i mi ei fod wedi dod i ben 200 neu 300 mlynedd yn rhy gynnar, gan fod y gwareiddiad Celtaidd yn dal i ffynnu: rydym yn ei weld yn yr eisteddfod; rydym yn ei weld yn ein polisi ysgolion i annog addysg cyfrwng Cymraeg; rydym yn ei weld yn y nod o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg ac rydym yn ei weld yn y Mabinogi—cafwyd cyfieithiad godidog arall eto i’r Saesneg yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, mae gennym lawer iawn o bethau. Felly, os ydym yn edrych ar yr Alban ac Iwerddon, nid ydym yn brin o’r math o gynnig y gallwn ei wneud.
A buaswn yn dweud yma hefyd: rwy'n credu bod yn rhaid inni atgoffa pobl y byd mai ein hamgylchedd adeiledig, sy'n ymestyn yn ôl i gestyll oes Edward, er gwell neu er gwaeth, yw’r enghraifft orau o dechnoleg filwrol y drydedd ganrif ar ddeg. Ac rwy'n credu ei bod yr un mor arwyddocaol ar y pryd â dyfeisio'r llong awyrennau neu'r awyren fomio gudd ac ati. Roedd y ceyrydd hyn yn ddatblygiad gwirioneddol syfrdanol, gan y gallent ddominyddu'r ardal o'u cwmpas gydag oddeutu 40 o bobl yn unig yn eu gwarchod. Gwyddom bellach pa effaith a gafodd hynny ar ein datblygiad gwleidyddol a'n hopsiynau, ond mae’n ymwneud â’r etifeddiaeth rydym wedi'i chael, ac mae'n enghraifft bwysig o'r hyn sydd wedi digwydd a phrofiad dynolryw a'i datblygiad, a ddigwyddodd yn y cestyll milwrol hynny yma. Ac nid oes enghraifft well o hynny yn unman arall—nid oes unman yn y byd cystal â ni.
Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw hyn: ceir ffigyrau gwych yn hanes Cymru sy'n aml yn cael eu gwerthfawrogi fwy dramor nag yma. Ac yn hyn o beth, mae'n bleser gennyf sôn am Evan Roberts, efengylydd y diwygiad mawr ym 1904. Ac a gaf fi ganmol fy nghyd-Aelod Darren Millar, sydd wedi gwneud cymaint gyda Sefydliad Evan Roberts i atgoffa pobl Cymru o'r cyfraniad gwych hwn i syniadaeth Gristnogol? Ac mae'n aml yn fwy adnabyddus yng Ngogledd America neu mewn sawl rhan o Asia: Korea, Singapôr—y lleoedd hyn. Ac rwy'n arbennig o falch fod argraffiad newydd o eiriau Evan Roberts, wedi'i ddiweddaru a'i gasglu, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gan ein cyd-Aelod Darren yma, ac maent yn llawn o ddiarhebion anhygoel a chrebwyll gwych a duwioldeb Cristnogol, ac rwyf am ddarllen un ohonynt:
'Nid bedd yw byd y Cristion, ond gardd, er fod ynddi chwyn lawer.'
A chredaf fod Evan Roberts, a llawer o rai eraill, yn ffigyrau gwych yn hanes Cymru sy'n dal i fod â chenhadaeth ledled y byd, a dylem ei defnyddio i hyrwyddo ein strategaeth ryngwladol.
Rwy'n falch iawn i gymryd rhan yn y drafodaeth yma. Gaf i longyfarch y Cadeirydd yn y lle cyntaf ar ei araith agoriadol, yn fendigedig yn cyfleu beth sydd angen ei ddweud ynglŷn â'r adroddiad yma ac ymateb y Llywodraeth? Yn naturiol, rydyn ni i gyd yn cydnabod bod yna waith da yn mynd ymlaen, ac hefyd rydyn ni'n deall nad oes llond trol o arian ar gael i'r Gweinidog. Yn yr amser byr sydd ar gael, roeddwn i jest yn mynd i fynegi rhai syniadau—rhai dwi wedi crybwyll eisoes efo'r Gweinidog—ynglŷn â sut y gallwn ni gamu ymlaen. Dwi'n credu bod yn rhaid gweithio i greu mwy o gysylltiadau naturiol efo gwledydd fuasai'n gallu cael cysylltiad naturiol efo Cymru, megis—fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato eisoes—y gwledydd eraill gyda ieithoedd lleiafrifol, ieithoedd nad ydynt yn brif iaith llefydd. Ie, dwi'n deall Gwlad y Basg, yn naturiol, Catalunya, Llydaw, Occitan, Alsace. Pan ydych chi'n mynd i'r Ffindir, mae Karelia a Sámi hefyd. Pan ŷch chi'n mynd i'r Almaen, mae Sorbian a Frisian. Mae lot o ieithoedd lleiafrifol eraill nad ydynt yn y brif ffrwd, a dwi'n credu buasai'r bobl yma jest yn adeiladu ar y cysylltiad.
Mae yna gysylltiad naturiol efo gwledydd eraill sydd yn wledydd bychain dros y byd: Slofenia, Cyprus, Melita, a 62 o wledydd annibynnol dros y byd sydd yn llai o faint na Chymru. Dwi'n credu y buasai yna atyniad naturiol wrth adeiladu pontydd yn fanna hefyd. A hefyd, cysylltiadau eraill efo gwledydd Celtaidd eraill, yn naturiol: Iwerddon, Alban, Cernyw, ac ati. Ond hefyd, Llydaw, Galicia, Asturias; gwledydd Celtaidd eraill hefyd.
Hefyd cysylltiadau y gallem ni adeiladu arnyn nhw, achos mae yna ffordd naturiol i gysylltu efo nhw, ydy gwledydd eraill sy'n chwarae rygbi. Rydyn ni wedi clywed y drafodaeth eisoes. Seland Newydd: maen nhw'n gwybod am Gymru achos y gêm rygbi. Awstralia, Ffrainc, De Affrica, ac ati. Mae yna ffordd i adeiladu cysylltiadau naturiol, achos beth sydd gyda ni yn gyffredin. Ac hefyd, mae yna wledydd lle mae llawer iawn o Gymry dros y blynyddoedd wedi symud i fyw yn y ddwy ganrif ddiwethaf, fel Awstralia, wrth gwrs, yn naturiol; Patagonia yn yr Ariannin, ac ati. Mae yno filoedd ar filoedd o bobl o dras Gymreig yn byw ym Mhatagonia heddiw ac yn siarad y Gymraeg ym Mhatagonia heddiw, ac wrth gwrs, Unol Daleithiau America. Mae yna 1.8 miliwn o drigolion Unol Daleithiau America sydd o dras Gymreig. Yn nhalaith Wisconsin, mae yna bron i 30,000 o bobl o dras Gymreig. Yn nhalaith Efrog Newydd, mae yna 74,000 o bobl o dras Gymreig. Yn nhalaith Ohio, mae yna 117,000 o bobl o dras Gymreig, ac yn Pennsylvania, mae yna 155,000 o bobl o dras Gymreig. Felly, mae yna gysylltiadau naturiol yn fanna, yn ogystal â'r categori olaf: gwledydd sydd efo cysylltiadau crefyddol naturiol efo Cymru, fel mae David Melding newydd ei fynegi—Madagascar, er enghraifft, cenhadon o Gymru yn fanna; a Mizoram yn ne-ddwyrain India: cysylltiad naturiol Cristnogol yn fanna, yn seiliedig ar ein hanes crefyddol ni. Felly cysylltiadau naturiol.
A'r ail beth ydy adeiladu ar y tueddiad sydd wedi bod ers degawdau rŵan i'n trefi a'n pentrefi a'n dinasoedd i fod yn gefeillio efo dinasoedd a threfi eraill rownd y byd, fel dwi wedi crybwyll o'r blaen i chi, Weinidog. Rŷch chi'n gwybod bod Abertawe wedi gefeillio efo Mannheim, a Cork, ac ati; Caerdydd wedi ei gefeillio efo Stuttgart. Mae hyd yn oed Mwmbwls wedi gefeillio efo Hennebont yn Llydaw a Havre de Grace yn Unol Daleithiau America, yn ogystal â Kinsale, Iwerddon. Dwi'n siŵr bod yna fodd i adeiladau ar y cysylltiadau anffurfiol yma o efeillio sydd wedi digwydd ers degawdau, ac fel dwi wedi crybwyll o'r blaen, efallai dechrau gefeillio o'r newydd, fel efo talaith Oklahoma, fel dwi wedi crybwyll o'r blaen. Oklahoma City, maen nhw eisiau gefeillio efo Caerdydd. Tulsa, yr ail ddinas, eisiau gefeillio efo Abertawe. Ac mi allen ni gael y cysylltidau is-wladwriaethol yna efo y gwahanol daleithiau yna, yn enwedig taleithiau America y gwnes i eu rhestru: Wisconsin, Efrog Newydd, Ohio, Pennsylvania, sydd efo cefndir cryf Cymreig. Mi allai yna ryw fath o efeillio naturiol ddigwydd efo'r taleithiau yna.
A ddim jest stopio yn fanna: gan ein bod ni yn is-wladwriaeth, felly, mae yna is-wladwriaethau eraill dros y lle i gyd sydd efo cysylltiad naturiol, megis Bavaria, Baden-Württemberg, Hessen, Saxony, ac ati, Friesland, ac ati. Mae yna ddigon o bosibiliadau yn fan hyn, o gofio'ch daearyddiaeth. Diolch yn fawr.
Roeddwn wedi bwriadu siarad ac roedd am fod yn araith eithaf sych, ond rwyf wedi fy ysbrydoli gan rai o'r Aelodau eraill bellach. Trof at y darn sych yn y man, ond os ydym am rannu profiadau ynglŷn â sut y gallwn estyn allan at ein cymuned fyd-eang, a gaf fi awgrymu ein bod yn meddwl am bobl fel Richard Price o Fferm Ty'n-Ton yn Llangeinwyr, a'i syniadau a'i athroniaeth egalitaraidd, a gredai y dylai pob unigolyn gael pleidlais, ac y dylai pawb gael y bleidlais honno a bod pob dyn a menyw'n gyfartal, ac roedd hynny'n ategu ei gefnogaeth i sefydlwyr America ac i'r chwyldro Americanaidd ei hun, a bod y 13 o drefedigaethau yn cael eu rheoli'n anghyfiawn. Felly, cafodd ei anrhydeddu a thalwyd teyrnged iddo am ategu hanfodion cyfansoddiad America ac athroniaethau sefydlwyr America, ond fe wnaeth eu hymestyn hefyd.
Ystyrid ef yn godwr twrw yn ôl adref. Credaf fod hynny'n draddodiad clodwiw: cael eich ystyried yn godwr twrw yn eich ardal eich hun a chael eich canmol dramor. Cafodd glod hefyd am ymestyn yr un egwyddorion hynny i gefnogi'r chwyldro Ffrengig hefyd. Felly gallwch ddychmygu pam fod y sefydliad yn ei ystyried yn godwr twrw rhonc. Ond mewn gwirionedd, byddai ei ymagwedd academaidd tuag at syniadau economaidd hefyd, yn fy marn i, yn ennyn cefnogaeth ar y meinciau gyferbyn, oherwydd y syniad rydym yn sôn amdano'n eithaf rheolaidd bellach, sef mantoli'r gyllideb gyhoeddus a chynnal y cydbwysedd cywir rhwng dyled gyhoeddus a'r economi ehangach, ef oedd y cyntaf i gyflwyno'r syniadau hynny a'u rhoi ar bapur. Felly, cafodd glod am hynny.
Felly mae ei gyrhaeddiad yn America, Weinidog, yn helaeth. Gŵyr pob un am Richard Price yn America, ond pan fyddaf yn crwydro'r cwm lle rwy'n byw ac yn dweud, 'O, dacw fferm Fferm Ty'n-Ton. Dyna lle roedd Richard Price yn byw, un o feibion niferus y byd amaeth, a gerddodd i Lundain i fod yn bregethwr Undodaidd, yn anghydffurfiwr radicalaidd, o'r fan yna roedd yn dod.' 'Pwy yw Richard Price?' Wel, dyna'r math o beth y mae gwir angen inni ei ddefnyddio er mantais i ni. [Torri ar draws.] Gwnaf, yn wir.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio i un o gefnogwyr Burke—gelyn mawr Dr Price, wrth gwrs. [Chwerthin.] Cofiaf Brian Groom yn ysgrifennu darn ar y 10 Cymro uchaf yn y Financial Times, ac ysgrifennais at yr FT, gan ddweud, 'Ble mae Dr Richard Price, dyfeisiwr y cynllun actiwaraidd, yr un a gynghorai Alexander Hamilton sut i gynnal dyled genedlaethol? Nid yw ar y rhestr.' Ac er tegwch i'r FT, fe wnaethant gyhoeddi'r llythyr. [Chwerthin.]
Llongyfarchiadau i'r dyn hwnnw. Ond credaf y byddai'r gynulleidfa a fyddai gennym, yn rhyfedd iawn, ar yr ochr draw i fôr Iwerydd yn llwyr gydnabod ei gyfraniad. Felly, mae asedau gwirioneddol yma y gallwn eu defnyddio, a Weinidog, os nad ydych wedi'i weld, rwy'n fwy na pharod i ddangos i chi, yn fy etholaeth i, y man lle cafodd ei eni a gweld sut y gallwn ddefnyddio hanes o'r fath.
Ond gan symud ymlaen o hynny, yn y funud a hanner sydd gennyf ar ôl, yr hyn roeddwn am ei ddweud oedd ei bod yn wych gweld bod y Llywodraeth wedi ymateb i adroddiad y pwyllgor, a gafodd ei gadeirio'n dda iawn, a'r dystiolaeth a gawsom drwy dderbyn y cyfan ohono. Mae'n rhaid imi ddweud bod rhywfaint o'r adborth a gefais gan y gymuned fusnes hefyd wedi bod yn galonogol iawn, o ran y ffocws y mae'r strategaeth ryngwladol hon bellach yn ei roi ar Gymru fel brand, fel endid, a'r hyn y gallwn ei wneud a rhai agweddau ohoni, a'r teimlad gobeithiol yn ei chylch. Ond—ac mae'n rhaid cael 'ond'—un o'r pethau wrth dderbyn yr holl argymhellion yma, ac roedd hon yn thema yn y pwyllgor a fu'n edrych ar y mater, yw ein bod yn awyddus i weld mwy o fanylion. Rydym am weld y gronynnau. Ceir pethau lefel uchel yma y byddem yn eu cymeradwyo, ond ceir rhai sectorau nad ydynt yn cael eu crybwyll, ond sydd, fel y dengys yr adroddiad, yn cael eu crybwyll yn y strategaeth ffyniant economaidd ac ati, ond mae angen inni weld rhywfaint o dystiolaeth o'r hyn sy'n sail iddi. Oherwydd os nad yw'r cyfan yn mynd i fod yn y strategaeth, mae angen inni weld sut rydym yn mesur llwyddiant.
Y tu hwnt i'r tri maes y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt, ym maes ehangach datblygu effaith Cymru yn rhyngwladol, sut rydym yn mesur llwyddiant? Fel arall, bydd y Gweinidog yn sefyll o'n blaenau yn y Llywodraeth Lafur nesaf ymhen pedair neu bum mlynedd ac yn dweud wrthym, 'Wel, rwyf wedi gwneud yr holl bethau hynny', a byddwn yn dweud, 'Am funud bach, ni ddywedoch wrthym beth roeddem yn ei fesur.' Felly dyna sydd ei angen arnom. Dyna fyddai'r brif feirniadaeth: er ein bod yn croesawu'r ffaith eich bod yn derbyn popeth a ddywedasom yn yr adroddiad hwn, ein cwyn fawr oedd fod angen rhagor o fanylion arnom. Nawr, efallai fod hon yn ddogfen fyw, efallai fod llu o gynlluniau gan wahanol adrannau yn sail iddi, ac os felly, mae angen gwneud y cysylltiadau hynny'n glir fel y gallwn fesur llwyddiant y Llywodraeth hon. Ond ceir ymdeimlad o optimistiaeth yn ei chylch, mae'n rhaid i mi ddweud. Dyna rwy'n ei synhwyro gan bobl y siaradaf â hwy y tu allan, felly daliwch ati i yrru hynny yn ei flaen, Weinidog, ond rhowch y manylion i ni hefyd.
Roeddwn yn disgwyl ychydig mwy o drafferth na hynny, mewn gwirionedd. Darren Millar.
Diolch, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith, sy'n waith rhagorol yn fy marn i? Wrth gwrs, rydym wedi gweld y strategaeth ryngwladol bellach ac mae llawer o'r argymhellion yn cael eu trafod yn y ddogfen newydd honno. Ac a gaf fi ganmol Llywodraeth Cymru am y gwaith y mae wedi'i wneud hyd yma ar wella ei hymgysylltiad â'r gymuned ryngwladol, yma yng Nghymru a thramor? Credaf fod yr ymgysylltiad hwnnw wedi gwella’n sylweddol, a chredaf ei bod ond yn deg fod gennym bresenoldeb ar lwyfan rhyngwladol. Dylwn sôn hefyd, wrth gwrs, am waith y grŵp trawsbleidiol a gadeirir gan Rhun ap Iorwerth yn hyn o beth. Credaf fod hwnnw hefyd wedi bod yn gyfrwng rhagorol ar gyfer sicrhau ein bod yn trafod y materion hyn mewn perthynas â'r agenda ryngwladol a'r rhagolygon y mae pob un ohonom yn dymuno’u cael, rwy'n credu, ar bob ochr i'r Siambr hon yn y dyfodol.
Mae rhai meysydd, wrth gwrs, lle credaf fod angen gwneud rhywfaint o waith ychwanegol, ac mae'n drueni na chyfeiriwyd at y rhain bob amser yn y strategaeth ryngwladol hyd yma. Un o'r rheini, wrth gwrs, yw'r cyfraniad aruthrol y gall ein cymunedau ffydd ei wneud i'n helpu gyda'r ymgysylltiad rhyngwladol hwnnw. Rydym eisoes wedi clywed gan ddau siaradwr heddiw am enw da llawer o arweinwyr Cristnogol Cymru yn y gorffennol, yn enwedig ein harweinwyr anghydffurfiol, a’r ffaith bod eu henwau’n aml yn cael eu hadrodd dramor ond yn llai adnabyddus yma. Ac wrth gwrs, gwyddom fod hanes Cymru wedi arwain at gysylltiadau aruthrol sydd gennym o hyd mewn llawer o'r gwahanol rannau hyn o'r byd, drwy gysylltiadau eglwysi unigol, gyda phrosiectau dramor mewn lleoedd fel Affrica, Asia ac America Ladin.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gan y gymuned Fwslimaidd gysylltiadau cryf yn y dwyrain canol ac yn y dwyrain pell yn enwedig. A chredaf fod angen inni arfer y cyfleoedd hynny ychydig yn fwy, ac roedd yn siom i mi’n bersonol—ac i gymunedau ffydd yn fwy cyffredinol, rwy’n credu—na chyfeiriwyd at y rhain yn amlach yn y strategaeth ryngwladol pan gafodd ei chyhoeddi. Gwn ichi ymgysylltu â'r cymunedau ffydd hynny wrth ddatblygu’r strategaeth, a chredaf ei bod ychydig yn siomedig na roddwyd mwy o bwyslais arnynt.
Cafwyd cyfeiriadau, wrth gwrs, at chwaraeon fel ffordd o ymgysylltu â chymunedau dramor, a bu’n wych cael y cyfle ardderchog i ymgysylltu â Japan drwy Gwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddar, ac y bydd y cysylltiadau hynny'n parhau i gael eu meithrin drwy ymweliad gan lysgennad Japan â Chaerdydd cyn bo hir. Credaf ei bod yn dda ein bod yn edrych ar dimau chwaraeon Cymru wrth iddynt fynd dramor er mwyn estyn allan i ymgysylltu â'r gymuned ryngwladol. Ond mae angen inni hefyd wahodd llygaid y byd i edrych ar Gymru drwy ein chwaraeon, a dyna pam y credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddenu digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr a phwysig i'n gwlad yn y dyfodol. Gwn ein bod, yn hanesyddol, wedi gweithio'n galed iawn gyda gwledydd Celtaidd eraill i gyflwyno cais ar y cyd am gwpan Ewropeaidd. Felly, gadewch inni estyn am y sêr unwaith eto a dechrau tynnu’r mathau hynny o gynigion at ei gilydd yn y dyfodol, fel y gallwn sicrhau bod y sylw’n cael ei hoelio ar Gymru, a’n bod yn cael cyfle i ddenu ymwelwyr rhyngwladol na fyddent, a bod yn onest, yn manteisio ar y cyfle i ddod i ymweld â ni fel arall.
Y pwynt olaf y buaswn yn ei wneud yw bod angen y dull tîm Cymru hwn arnom i adeiladu ein henw da dramor. Roeddwn yn falch o weld bod hyn yn rhywbeth a gydnabuwyd yn y strategaeth ryngwladol, ac yn wir, mae'n wych ein bod wedi cael ymweliadau gan Aelodau'r Cynulliad â Seneddau yng Nghanada a mannau eraill dros y misoedd diwethaf, a gwn fod y Llywydd, er enghraifft, yn cynrychioli’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mrwsel yr wythnos hon, yn ogystal â’r Prif Weinidog. A chredaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom, ni waeth beth fo'n plaid wleidyddol, i wneud yr hyn a allwn i weithredu fel llysgenhadon dros ein cenedl, ni waeth i ble yn y byd yr awn, pa bryd bynnag y teithiwn, a'n bod yn ymgysylltu, yn enwedig yn y byd gwleidyddol. Byddai'n wych clywed gan y Gweinidog, mewn ymateb i'r ddadl hon, a yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth wedi meddwl mwy amdano o ran sut y gallai helpu i sicrhau bod hynny’n digwydd.
Ond a gaf fi ganmol yr adroddiad, cymeradwyo ymateb cadarnhaol y Gweinidog, a dweud ein bod yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ar y meinciau hyn, fel yr wrthblaid, i hyrwyddo Cymru gartref a thramor?
Mi hoffwn i wneud ychydig o sylwadau yn gwisgo sawl het wahanol. Rydw i'n meddwl, yn gyntaf, rydw i'n rhyngwladolwr. Hynny ydy, rydw i'n gweld Cymru a'i lle yn y byd ac yn credu'n gryf mewn ymestyn ein rhwydwaith ni fel gwlad i bedwar ban byd, er mwyn y budd mae hynny'n dod i ni fel gwlad ond hefyd y lles sy'n dod o weld gwledydd yn gweithio'n agos efo'i gilydd wastad.
Rydw i hefyd yn siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion rhyngwladol. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod gennym ni grŵp o'r math yna ac mae'n dda cael cefnogaeth o ar draws y pleidiau i'r grŵp hwnnw. Rydym ni'n trafod bob mathau o feysydd gwahanol o ran y math o ymgysylltu rhyngwladol mae Cymru yn ei wneud. Ac yn digwydd bod, mae'r cyfarfod nesaf rydym ni'n ei gynnal, ar 25 Mawrth, os ydw i'n cofio'n iawn, yn ymwneud â'r strategaeth ryngwladol yma, lle mae'r Gweinidog yn mynd i fod efo ni a chyfle i edrych yn ddyfnach eto ar y strategaeth.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Rydw i'n siarad fel cadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yng Nghymru—rhwydwaith ddefnyddiol iawn eto i ni fel Senedd i ymestyn allan at Seneddau eraill mewn rhannau eraill o'r byd, nid yn unig er mwyn dysgu oddi wrth ein gilydd o ran ymarferion democrataidd, sydd yn bwysig iawn, wrth gwrs, ond hefyd er mwyn gwneud y mathau yna o gysylltiadau sy'n dod yn sgil hynny, sy'n gallu dod â budd diwylliannol ac economaidd i ni fel gwlad.
Rydw i hefyd, am wn i, yn siarad fel aelod o dîm rygbi'r Cynulliad Cenedlaethol, sydd, wrth gwrs, yn elfen arall o'r gwaith ymgysylltu rydym ni'n ei wneud fel Senedd. Ac, ydy, mae o'n dod â gwên i'r wyneb, ond mae o'n ddifrifol, wrth gwrs, achos wrth chwarae fel Senedd yn erbyn yr Assemblée Nationale o Ffrainc—a'u curo nhw, gyda llaw, rhyw bythefnos yn ôl—eto, rydym ni'n ymestyn allan, onid ydym, at ein partneriaid mewn gwledydd eraill? Ac rydw i yn edrych ymlaen at chwarae a churo Senedd Prydain a Senedd yr Alban yn yr wythnosau nesaf hefyd.
Ond o ddifrif, i fi, beth sy'n bwysig ar y cyfnod yma o ddatblygu strategaeth ryngwladol gan Lywodraeth Cymru ydy ei fod o'n digwydd. Mi allwn ni siarad am y gwendidau, dwi'n credu, sydd ynddo fo. Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu crybwyll gan Aelodau eraill yn barod. Dwi'n meddwl bod yr argymhellion, o bosib, ychydig bach yn gyfyng yn eu sgôp. Rydym ni wedi clywed pryderon, o bosib, fod yna dargedau yma sy'n anodd eu cyrraedd. Ond dim ond dechrau'r gwaith ydy hyn, a dwi'n cydnabod hynny. Beth dwi'n gobeithio ei weld ydy y bydd y strategaeth yn dod yn rhywbeth deinamig ac yn rhywbeth sydd yn cyffwrdd â holl waith y Llywodraeth mewn blynyddoedd i ddod.
Fel rydym ni wedi clywed yn barod gan gymaint o gyfranwyr â chyfraniadau difyr iawn, iawn, iawn ynglŷn â chysylltiadau Cymreig ymhob rhan o'r byd, mae Cymru yn wlad sydd yn rhyngwladol, ac wedi estyn allan ac wedi gadael ei marc mewn cymaint o lefydd ar hyd a lled y byd, mewn amgylchiadau anodd. Dwi'n meddwl mai'r diweddaraf i ni fod yn ei drafod ydy'r ysbyty yn Wuhan yn Tsieina—wrth gwrs, un o ysbytai mwyaf Tsieina oedd yng nghanol y pryderon am coronafeirws yn gynharach eleni ac yn parhau felly, ac ysbyty wedi cael ei sefydlu gan Gymro—Griffith John o Abertawe.
Ond beth sydd gennym ni yn y rhwydwaith yma sydd wedi ymestyn i bob cwr o'r byd ydy'r potensial i dyfu'r cysylltiadau hynny, i fanteisio ar y cysylltiadau hynny. A phan mae rhywun yn edrych ar y gwaith rhagorol mae GlobalWelsh wedi'i wneud mewn cyfnod byr iawn, y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Undeb Cymru a'r Byd dros lawer hirach o amser, mae'r rhwydweithiau gennym ni. A beth rydym ni'n gallu ei wneud drwy gael strategaeth ryngwladol a gobeithio gweld Llywodraeth yn parhau'n ddifrifol ynglŷn â datblygu'r strategaeth honno ydy'r gobaith o weld adeiladu ar y gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros flynyddoedd yn barod i ddatblygu'r diaspora.
Credaf y dylem gydnabod y cysylltiadau sydd gennym â'r Eidal drwy'r bobl yn yr Eidal a ddaeth i Gymru, yn amlwg, yn y ganrif ddiwethaf, a phoblogi ein Cymoedd, a'r ffaith bod mwy o Gymraeg nag Eidaleg yn cael ei siarad yn Bardi ar un adeg yn ôl y sôn.
Mae'n uchelgais gennyf i ymweld â Bardi yn ystod yr haf ryw bryd yn y dyfodol. Roeddwn yn byw am gyfnod byr yn Parma, i lawr y ffordd, ac ni lwyddais i ymweld â Bardi i glywed am y cynulliad Cymreig chwedlonol hwn yn Bardi, yng ngogledd yr Eidal, yn yr haf.
Beth rydw i eisio gweld ydy Cymru'n tyfu yn ei hyder, ac mae tyfu mewn hyder yn rhyngwladol yn golygu'r angen i gael strategaeth gan Lywodraeth a phenderfynoldeb bob amser i chwilio am gyfleon. Ac er bod yna le i wella, wrth gwrs, ar y strategaeth yma, mae'n fan cychwyn, ac mi fyddwn ni'n gallu dychwelyd at y strategaeth dro ar ôl tro, yn cynnwys, fel dwi'n dweud, yn y cyfarfod yna o'r grŵp trawsbleidiol ymhen rhyw wythnos neu ddwy.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau dechrau trwy ddiolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith nhw i’n helpu ni i siapio ein strategaeth ryngwladol. Ynghyd â llawer o randdeiliaid eraill yng Nghymru a rhanddeiliaid mewn gwledydd eraill ar draws y byd, mae’r pwyllgor wedi ein helpu ni i ddatblygu’r strategaeth. Nawr, dwi’n ymwybodol na fydd y pwyllgor yn fodlon aros am bum mlynedd i weld beth fydd yn cael ei gyflawni, a dwi’n ymwybodol hefyd fod aelodau o’r pwyllgor yn dymuno cymryd rhan yn barhaus i fonitro’r portffolio. Felly, dros y misoedd nesaf, byddaf i’n rhyddhau datganiadau a dangos cynlluniau a fydd yn rhoi darlun cliriach o sut byddwn ni’n mynd ati i gyflawni’r strategaeth, a dwi yn gobeithio y bydd hwn yn tawelu meddyliau’r pwyllgor. Dwi eisiau diolch i’r Cadeirydd ac i aelodau’r pwyllgor am eu hadroddiadau ac am eu rhaglen waith sy’n parhau.
Nawr, mae’r ddogfen hon yn cael ei chyhoeddi ar adeg bwysig iawn. Dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach i Gymru gael presenoldeb cryf yn rhyngwladol, a dwi’n gobeithio bydd y blaenoriaethau yn ein strategaeth ni yn glir. A dwi’n cymryd y pwynt mae Dai Lloyd yn ei ddweud—bod yna gymaint o bethau y gallem ni wneud, ond mae adnoddau’n brin, ac felly dyna pam mae’n rhaid inni gael ffocws, a dyna beth rŷn ni wedi ceisio ei wneud. Ac mae hwnna yn hollbwysig, yn sicr wrth inni ymgymryd â pherthynas newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill yn y byd. Ac er ein bod ni nawr y tu fas i’r Undeb Ewropeaidd, mae llawer iawn o ansicrwydd o hyd ynglŷn â chytundeb masnach a’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae’r strategaeth yn nodi pa drywydd rŷn ni eisiau ei ddilyn. Rŷn ni eisiau hyrwyddo’r wlad yma fel un sy’n groesawgar, ac rŷn ni eisiau trosglwyddo’r neges ein bod ni am barhau i weithio a masnachu gyda gwledydd eraill yn y byd. Dyna sy’n bwysig. Dyna pam cafodd y swydd yma ei chreu.
Ar yr union bwynt hwnnw, un o'r pethau diddorol a glywodd y pwyllgor yn y dystiolaeth—ac mae wedi bod yn thema, mewn gwirionedd, yn y pwyllgor a'r tu allan iddo—yw'r angen i gryfhau ein presenoldeb bellach ym Mrwsel, yn rhyfedd iawn, ar ôl ymadael â'r UE, oherwydd yr angen, yr anghenraid pragmatig, i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed. A chan ein bod wedi torri rhai o'r cysylltiadau swyddogol a'r presenoldeb yn Senedd Ewrop, Cyngor y Gweinidogion ac ati, mae angen inni ddyblu'r ymdrech yn awr er mwyn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed nid yn unig yn y farchnad bwysig hon, ond hefyd rhai o'r newidiadau cymdeithasol y gallent fod yn eu cyflwyno hefyd.
Mae hynny'n gywir, a dyna pam mai un o'r blaenoriaethau a nodwyd gennym yw cryfhau ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, mae hynny'n gwbl glir yn y strategaeth, ynghyd â'r ffaith ein bod am godi ein proffil yn rhyngwladol. Rydym yn awyddus i dyfu'r economi drwy allforio a thrwy ddenu mewnfuddsoddiad, ac rydym am sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang.
Nawr, yn sicr, un o’r heriau amlwg i gyflawni ein nodau yw'r ansicrwydd ynghylch ein perthynas yn y dyfodol â'r farchnad bwysig honno a'r UE, a chyda phwerau economaidd mawr ledled y byd. Rwy'n cytuno â Chadeirydd y pwyllgor y buaswn wedi hoffi gweld targedau mwy cadarn mewn gwirionedd; ond credaf ei bod yn adeg afrealistig i roi’r targedau hynny ar waith pan nad oes gennym unrhyw syniad beth yw ein perthynas â'n marchnad darged agosaf.
Nawr, gwn fod y pwyllgor wedi cynnig llawer o argymhellion defnyddiol, a datblygwyd nifer ohonynt yn ein strategaeth derfynol. Pan edrychwn ar y blaenoriaethau yn y strategaeth, credaf ein bod wedi gwneud cynnydd rhagorol yn barod. Felly, os ydym yn edrych er enghraifft ar sefydlu Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang, mae'n werth nodi bod rhaglen goed Mbale ar y trywydd iawn i gyflawni ei blwyddyn orau erioed yn 2019-20, gan ddod â chyfanswm cronnus y rhaglen i 12 miliwn o eginblanhigion—ymhell ar y ffordd i gyflawni ein hymrwymiad i blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025. A heddiw, ar gyfer Pythefnos Masnach Deg, rydym wedi cyhoeddi partneriaeth ag Uganda sy’n golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu 3,000 o ffermwyr i gael pris teg am eu coffi. Pobl yw'r rhain sydd wedi wynebu dinistr yn sgil y newid yn yr hinsawdd, a gallwn eu cefnogi yn awr.
Rwy'n cydnabod bod llawer o waith i'w wneud mewn perthynas â'r boblogaeth alltud. Mae llawer o bobl yn y maes hwn eisoes, fel y mae nifer wedi’i ddweud, ac mae rhan o'r hyn sydd angen inni ei gyflawni'n ymwneud â sut rydym yn sicrhau bod y bobl hyn yn gweithio gyda'i gilydd. Dyma Gymru, wedi'r cyfan—rydym yn hoff o gweryla gyda'n gilydd—ond mae ceisio dod â phobl at ei gilydd—. Felly, heddiw, cyfarfûm â grŵp o bobl rydym wedi'u comisiynu i ddarparu platfform lle gall yr holl sefydliadau hyn weithio a chydweithredu. Felly, efallai y gallaf roi mwy o fanylion ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny ac—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf.
Ni fyddai'n ddadl ar y strategaeth ryngwladol heb i mi roi hysbysrwydd i Love Zimbabwe wrth gwrs, ac rwy'n siŵr eich bod yn disgwyl hynny. Fe wyddoch am y gwaith caled y mae'r elusen honno'n ei wneud yn Sir Fynwy, ac rydych wedi cael cyfarfodydd â hwy eich hun. Felly, a allwch roi sicrwydd y bydd Zimbabwe ac Affrica gyfan, fel rhan o'r byd sy'n datblygu, yn cael lle blaenllaw yn strategaeth ryngwladol derfynol Llywodraeth Cymru fel y gallwn chwarae ein rhan wrth feithrin cysylltiadau rhwng trefi fel y Fenni a threfi eraill yng Nghymru a threfi yng ngwledydd Affrica?
Wel, mae Cymru ac Affrica yn sicr yn rhan allweddol o'n rhaglen, ac felly bydd cyfleoedd i Love Zimbabwe gymryd rhan yn y rhaglen honno drwy'r mecanwaith hwnnw. Yn sicr, rydym yn gobeithio y bydd y platfform hwnnw, y platfform alltud hwnnw y byddwn yn ei greu, yn lle i ni allu siarad am rai o'r cymeriadau gwych o’r gorffennol y soniodd cymaint ohonoch amdanynt—am Evan Roberts, am Richard Price. A chredaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn cydnabod bod cyfle yno inni adrodd ein stori wrth y byd, a gobeithio y bydd cyfle yno i sôn am rai o'r arweinwyr crefyddol hefyd.
O ran allforion, byddwn yn cael cynllun allforio o'r newydd, a byddaf yn rhoi mwy o fanylion am hyn yn yr ychydig fisoedd nesaf hefyd. Credaf ei bod yn werth nodi ar y pwynt hwn y gallai lledaeniad y coronafeirws effeithio ar yr effaith bosibl y gallai cyflawni ein cynlluniau ei chael. Rydym eisoes wedi gorfod canslo taith fasnach i Tsieina a thaith fasnach i ffair gemau yn San Francisco. Felly, dyma'r broblem gyda gosod targedau, ac mae gennym darged yn hynny o beth, a byddwn yn ceisio unioni hynny a cheisio gwneud iawn am y gwahaniaeth yn ystod y pum mlynedd. Ond mae rhai pethau'n gallu bwrw pethau eraill oddi ar eu hechel.
Nawr, er bod y strategaeth yn canolbwyntio ar dri sector lle gallwn ddangos rhagoriaeth—seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol—hoffwn roi sicrwydd i’r pwyllgor nad ar y tri sector hyn yn unig y mae ein ffocws. Wrth gwrs, byddwn yn hyrwyddo sectorau eraill, ond ein nod yma yw denu sylw byd-eang drwy ein gallu i ddarparu rhagoriaeth fyd-eang. Mae hynny'n agor y drws inni siarad am gynifer o feysydd eraill. Felly, er enghraifft, rwyf newydd ddychwelyd o ymweliad â gogledd America, ac yn ystod fy ymweliad, llofnodais ddatganiad o fwriad gyda Llywodraeth Quebec. Gyda llaw, roeddent yn datblygu eu strategaeth ryngwladol ar yr un pryd â ni, a chymerodd flwyddyn iddynt ddatblygu eu strategaeth ryngwladol, ac nid oedd ganddynt Brexit, felly ni chredaf ein bod yn gwneud yn rhy wael. Ond rhan o'n cynllun yno yw canolbwyntio ar awyrofod a chydweithredu ar awyrofod. Felly, nid yw’n gyfyngedig i'r tri sector o gwbl.
Nawr, gan nodi pwynt y pwyllgor ynglŷn â chysylltiadau a chydweithrediad Llywodraeth y DU, roeddwn yn awyddus, yn ystod fy ymweliad, i sicrhau bod teithiau masnach y DU dramor, yn gyntaf oll, yn ymwybodol o'n cynnig a'n blaenoriaethau, ac i sicrhau eu bod yn sylweddoli bod ganddynt gyfrifoldeb i hyrwyddo Cymru, ein gallu a'n cynnig. Felly, mae gwell cydweithredu â Llywodraeth y DU, yn fy marn i, yn gwbl allweddol i lwyddiant yn y byd rhyngwladol, a byddaf yn cyfarfod â swyddogion y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yr wythnos hon i ganfod faint yn fwy y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw. Mae hynny’n ychwanegol at y cyfarfodydd rwyf wedi'u cael yn y gorffennol. Mae copïau o'r strategaeth wedi'u hanfon at swyddogion y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ledled y byd fel eu bod yn ymwybodol o'n ffocws.
Ond mae'n rhaid i beth bynnag a wnawn gael ei weld yn ychwanegol at yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig. Gwyddom na allwn gyflawni'r agenda ryngwladol ar ein pen ein hunain. Dyna pam fod tîm Cymru mor bwysig. Felly, yn ogystal â gweithio trawslywodraethol—ac rwyf eisoes yn cael cyfarfodydd misol gyda'r Gweinidog addysg, cyfarfodydd rheolaidd iawn gyda Gweinidog yr economi, a dros y flwyddyn, byddaf yn sicrhau fy mod yn cael cyfarfodydd dwyochrog â Gweinidogion eraill, fel y gallwn archwilio rhai o'r meysydd hynny lle gallant flaenoriaethu—rydym hefyd wedi gosod dyddiad ar gyfer ein cyfarfod cyntaf â'r gymdeithas sifil cyn yr haf. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â maes y celfyddydau a chwaraeon, ac mae amgueddfeydd, er enghraifft, yn awyddus i sicrhau eu bod yn cydgysylltu eu gweithgareddau gyda ni. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion i'r pwyllgor ynglŷn â sut rydym yn cydgysylltu'r gweithgarwch hwn cyn yr haf. Mae cymell tawel yn hollbwysig. Mae'n bwysig iawn. Ond mae'n anodd iawn ei fesur hefyd, felly rydym yn ôl at yr anhawster ynglŷn â sut i fesur ein llwyddiant. Byddwn yn defnyddio ein digwyddiadau mawr i sicrhau’r proffil Cymreig hwnnw fel yr awgrymwyd.
Yn y strategaeth, rwyf wedi nodi nifer o ranbarthau penodol lle byddwn yn canolbwyntio, lle byddwn yn ffurfioli neu'n adeiladu ar y cysylltiadau ffurfiol sydd gennym eisoes. Fe wyddoch fod Gwlad y Basg eisoes yn un o'r ardaloedd lle rydym wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth Gwlad y Basg, ac rydym wedi canolbwyntio ar arloesi, iechyd ac iaith yn yr ardal honno. Wrth gwrs, yr wythnos hon, gwnaethom groesawu Llywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw i Gymru, a dirprwyaeth o'r sector diwylliannol, i ailddatgan ein hymrwymiad i femorandwm cyd-ddealltwriaeth a chynllun gweithredu ar ôl Brexit.
Yn sicr, o ran ieithoedd lleiafrifol, rydym wedi bod mewn cysylltiad ag UNESCO i weld sut y gallwn gydgysylltu ein gweithgarwch, ac ar hyn o bryd, rydym yn arwain y rhwydwaith o grwpiau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop. Felly, byddwn yn edrych ymlaen at groesawu'r rheini i Gymru yn yr ychydig fisoedd nesaf. Nawr, rwyf wedi ymrwymo i adolygu effeithiolrwydd a pherfformiad holl weithgarwch yr adran cysylltiadau rhyngwladol yn rheolaidd, gan gynnwys y gwaith a wneir gan ein swyddfeydd tramor. Mae cylch gwaith y swyddfeydd hynny’n cael ei adolygu, a dylai gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Ebrill.
Y pythefnos hwn yw amser prysuraf y calendr, wrth gwrs, o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, gan fod gennym y ffocws hwnnw. Roedd yn wych cael dathliadau cynnar yn Ottawa, San Francisco a Los Angeles yr wythnos diwethaf, a byddaf yn dathlu gyda'r gymuned ryngwladol yn Llundain ddydd Iau ac yn Iwerddon yr wythnos nesaf. Yr wythnos hon yn Llundain, bydd nifer o weithgareddau’n cael eu cydgysylltu gan Cymru yn Llundain.
Felly, i gloi, hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn eto am y gwaith rydych wedi'i wneud fel pwyllgor. Rwy'n ddiolchgar iawn. Credaf ei bod yn bwysig iawn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl eraill i'w gynnig ynglŷn â sut y gallwn fanteisio ar ein cysylltiadau rhyngwladol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros yr ychydig fisoedd nesaf. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar David Rees i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma, ac yn amlwg i’r Gweinidog am ei hymateb hefyd? Rwy'n hapus iawn gyda hynny. Hoffwn dynnu sylw at ychydig o bethau, gan ei bod yn ddiddorol iawn—mae cryn dipyn o bobl wedi nodi eu gweledigaeth ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio pethau i hybu agenda Cymru, boed hynny, fel y nododd David, drwy Gymry alltud a gwthio hynny ychydig ymhellach. Ond fe wnaeth ein hatgoffa wedyn o'n treftadaeth ddiwylliannol wych hefyd, gan gynnwys elfen grefyddol y dreftadaeth ddiwylliannol honno. Ac fel y gwelwyd—ymunodd Huw Irranca ag ef hefyd i gydnabod y dreftadaeth grefyddol.
Ond credaf fod hynny'n tynnu sylw at y ffaith bod cymaint yn digwydd yng Nghymru y gallwn ei ddefnyddio i hyrwyddo Cymru a'i hanes a sut rydym wedi gallu dylanwadu ar agweddau eraill ar y byd, a gadewch inni adeiladu ar hynny. Cawsom ein hatgoffa gan Dai Lloyd am yr ieithoedd lleiafrifol. Bûm yn trafod gyda Dafydd Trystan yr wythnos hon, a ddywedodd ei fod wedi bod yn, neu wedi trafod â Phrifysgol Hawaii, a sut roeddent yn meddwl bod Cymru’n gwneud gwaith gwych ar ieithoedd lleiafrifol ac ar ddatblygu’r maes, ac y dylem ddefnyddio hynny fel enghraifft o ymarfer da ledled y byd ar ieithoedd lleiafrifol, ac y dylem arwain ar hynny.
Unwaith eto, do, fe dynnodd sylw at bwynt arall. Fe wnaethom godi hyn yn y pwyllgor—y cysylltiadau gefeillio rhwng dinasoedd a threfi ledled y wlad hon â chenhedloedd a gwledydd a dinasoedd mewn mannau eraill. Gadewch inni beidio â gwastraffu hynny. Gadewch inni adeiladu ar y berthynas honno. Mae'r rhain yn ffyrdd y gallwn greu ac adeiladu'r cysylltiadau hynny a'u datblygu hyd yn oed yn ymhellach. Credaf i Huw dynnu sylw ar un pwynt, serch hynny, at yr angen i fanylu. Bydd angen inni edrych ar sut y gallwn graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru. Weinidog, yn eich ymateb, fe ddywedoch chi na fyddem yn aros pum mlynedd. Wel, mae'n ddrwg gennyf, efallai na fyddwn yma ymhen pum mlynedd. Mae gan y Cynulliad 14 mis ar ôl, a chyn diwedd y Cynulliad hwn, rydym am allu gweld pa gynnydd a wneir ar hynny. Felly, rwy'n falch iawn y byddwch yn edrych ar rai o'r pwyntiau a godwyd, a byddwn yn craffu ar hynny.
Darren, ydy, mae'r gymuned ffydd, unwaith eto, yn agwedd bwysig iawn. Mae cymaint ohonynt yng Nghymru y dylem fod yn edrych arnynt o ran sut y gallwn ddefnyddio eu cysylltiadau yn rhyngwladol hefyd—nid y ffydd Gristnogol yn unig, ond pob ffydd, o ran hynny. Rhun, ie—. Gyda llaw, pob lwc dros y penwythnos yn erbyn Senedd y DU; dymunwn yn dda i chi. Ond tynnodd sylw at y pwynt fod pethau gyda'r sefydliad hwn, Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, lle gellir clywed llais Cymru’n glir iawn, a dylem ddefnyddio'r llais hwnnw cystal ag y gallwn. Gwn am Aelodau sy'n mynd drwy Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, neu drwy’r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig neu drwy ddulliau eraill; maent yn defnyddio'r cyfle hwnnw i sicrhau bod rhywun yn gwrando ar lais Cymru a'i fod yn cael ei adnabod. Ond credaf iddo gytuno â Rhun hefyd y dylai'r ddogfen fod yn ddogfen ddynamig—ni ddylai fod yn rhywbeth lle gallwn ddweud, 'Dyna ni; gadewch inni edrych arni eto ymhen pum mlynedd.' Dylai fod yn ddynamig, dylai esblygu wrth inni fwrw ymlaen â hyn, ac ni ddylem ofni esblygiad y ddogfen honno.
Weinidog, rwy'n cytuno â chi—rydym yn wynebu llawer o heriau. Rydym mewn cyfnod ansicr. Nid ydym yn gwybod beth fydd y berthynas, ac rydych yn nodi mai dyna'r rheswm, o bosibl, pam nad ydych wedi rhoi targedau manwl i ni. Ond credaf y dylem fod yn paratoi'r targedau hynny o hyd, gan fod dau ganlyniad, mae’n debyg, o ran yr hyn a fydd yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn—un canlyniad yw na fydd gennym berthynas â'r UE; y llall yw y bydd gennym berthynas—a chredaf, o ran y ddau ganlyniad, y gallem ddechrau paratoi ar gyfer y llwybr hwnnw.
A gyda llaw, Quebec—rwy’n falch iawn fod gennych berthynas â Quebec, oherwydd gadewch inni beidio ag anghofio bod Quebec yn un o ysgogwyr CETA, y cytundeb economaidd a masnach cynhwysfawr. Oherwydd hwy yw'r rhai a oedd am lywio perthynas Canada â'r UE. Ac fel talaith yng Nghanada, roeddent yn y cefndir, yn dechnegol, yn gyfreithiol, oherwydd y broses, ond roeddent ar flaen y gad, yn ei llywio. Felly, mae ganddynt yr hanes hwnnw, ac mae ganddynt y profiad hwnnw o gysylltiadau rhyngwladol yno. Felly, rwy'n siŵr y byddai’n eithaf diddorol cymharu ein strategaeth gysylltiadau a'u strategaeth gysylltiadau hwy, i weld sut y mae hynny’n gweithio.
Weinidog, fe sonioch chi am y peth pwysig arall—soniodd pawb arall amdano—sef cymell tawel. Dyna'r elfen hanfodol, a dyna pam y gofynnodd Huw y cwestiwn ynglŷn â swyddfa Brwsel, gan y cydnabyddir fod cymell tawel swyddfa Brwsel yn rhagorol, a dylem adeiladu ar yr arbenigedd hwnnw. Mae gan Gymru gyfle gwych i wneud llawer mwy o ddefnydd o gymell tawel, boed drwy weithgareddau diwylliannol, chwaraeon neu fathau eraill o weithgareddau, a gadewch inni beidio â cholli'r cyfleoedd.
Nawr, rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae pob un ohonom yn gwybod hynny—ond rydym yn bwrw ymlaen â'r arena ryngwladol. P'un a yw'r dyfodol hwnnw'n ansicr, nid ydym yn gwybod, ond gwyddom fod dyfodol i ni, ac mae hynny'n bwysig, ac rydym yn bwrw ymlaen tuag at hynny. Ac mae'n ymdrech ar y cyd i fusnesau, cymdeithas sifil a'r Llywodraeth weiddi'n uwch a gweiddi'n falch ynglŷn â phwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud yma yng Nghymru, a'r hyn y gall Cymru ei gynnig i eraill. Dylai hynny roi sylfaen gref inni allu hwylio’r dyfroedd. A chredaf y gall fod dyfroedd garw o'n blaenau. Ond edrychaf ymlaen at eich dwyn i gyfrif yn y blynyddoedd i ddod—neu’r 14 mis i ddod, beth bynnag. Felly, diolch i bawb am eich cyfraniadau. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi gefnogi’r cynnig y prynhawn yma.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Neil McEvoy.
Symudwn yn awr at eitem 6 ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar blant sy'n derbyn gofal, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7287 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019.
2. Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal.
3. Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal;
b) cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu;
c) ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a
d) sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae plant sydd wedi cael profiad o ofal a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae bron i ddwy ran o dair o'r unigolion hynny mewn gofal, yn anffodus, oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod. Nawr, mae diddordeb wedi'i ddatgan eisoes ar draws y llawr yma mewn cefnogi plant sy'n derbyn gofal gan edrych hefyd ar leihau'r niferoedd hynny'n ddiogel.
Gwnaeth hyd yn oed Prif Weinidog Cymru addewid yn ei faniffesto arweinyddiaeth i sicrhau bod y broblem yn cael sylw ac yn cael ei datrys. Yn anffodus, fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn llithro allan o reolaeth. Ar hyn o bryd, mae 6,845 o blant rhwng 0 a 18 oed yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol. Dyna gynnydd o 2.1 y cant—21 y cant, mae'n ddrwg gennyf—ers diwedd tymor diwethaf y Cynulliad, ym mis Mawrth 2016, a bu cynnydd o 34 y cant yn y 15 mlynedd diwethaf. Roedd gan Gymru 109 o blant sy'n derbyn gofal ym mhob 10,000 o'r boblogaeth erbyn diwedd mis Mawrth y llynedd, o gymharu â 65 ym mhob 10,000 o'r boblogaeth yn Lloegr. Yn yr un modd, mae Gogledd Iwerddon a'r Alban wedi cofnodi cyfraddau llai difrifol, ac mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi mai'r hyn sy'n drawiadol yw'r cynnydd amlwg a pharhaus yn y gyfradd yng Nghymru, a'r bwlch sy'n lledu rhyngom ni â Lloegr.
Mae arnaf ofn fod Siân Gwenllian, ein cyd-Aelod Cynulliad, yn iawn—mae polisi o dargedau lleihau i awdurdodau lleol yn ateb arwynebol. Mewn gwirionedd, mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw Cymru'n mynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol pam fod plant yn cael eu rhoi mewn gofal. Ymddengys nad yw'r strategaeth yn gweithio, felly mae angen inni adolygu'r cynlluniau a'r rhaglenni cymorth i blant a'u teuluoedd ar frys.
Nawr, rwy'n llwyr o blaid atal ac ymyrryd yn gynnar, ac rwy'n derbyn bod llawer ohonoch chi hefyd, fel grŵp cynghori'r Gweinidog, sydd wedi atgyfnerthu symudiadau tuag at atal. Yn bwysig, tanlinellodd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod cyfle i ddefnyddio gwariant ataliol yn well i sicrhau canlyniadau hirdymor gwell i'n plant. Fodd bynnag, mae lle i wella o hyd. Er enghraifft, er bod £5 miliwn wedi'i roi i 22 awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ar ffiniau gofal yn 2017-18, mae'r comisiwn cyfiawnder yng Nghymru wedi bod yn amheus ynglŷn â llwyddiant y gwariant hyd yma. Mynegwyd pryder hefyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n dweud bod yr arian cyfyngedig sydd ar gael yn mynd yn gynyddol ar ddarparu cymorth brys i blant a theuluoedd sydd eisoes mewn argyfwng, gan adael fawr ddim i'w fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar. Yn bersonol, rwy'n cymeradwyo llwyddiant y rhaglen Troubled Families a lansiwyd gan Lywodraeth y DU yn 2012. Mae wedi gweld gwahaniaeth o 32 y cant yng nghyfran y plant sy'n derbyn gofal. Fel y dywedodd yr Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain,
effaith fwyaf sylweddol y rhaglen yw lleihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.
Mae gan Lywodraeth Cymru ffordd bell i fynd i wella cyfleoedd bywyd y plant sy'n mynd i mewn i'r system ofal. Mewn perthynas ag addysg, yng nghyfnod allweddol 2, dim ond 58.3 y cant o blant sy'n derbyn gofal sy'n cyflawni'r dangosydd pynciau craidd, o'i gymharu â chyfartaledd o 87.8 y cant ledled Cymru. Yng nghyfnod allweddol 4, dim ond 10.9 y cant sy'n cyflawni'r dangosydd pynciau craidd, o'i gymharu â thua 60 y cant yn gyffredinol. Daw'r ffeithiau hynny er i'n Prif Weinidog presennol gyd-gyhoeddi 'Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru: Strategaeth' yn 2016. Gellir cyflawni cynnydd drwy ystyried menter Skolfam yn Sweden a chyflwyno premiwm plant sy'n derbyn gofal.
Nawr, o ran iechyd meddwl, canfu NSPCC fod plant sy'n derbyn gofal bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef anhwylder iechyd meddwl o ryw fath, a naw gwaith yn fwy tebygol o gael anhwylder ymddygiadol. Ac mewn astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd, dangoswyd ffeithiau gwirioneddol frawychus am bobl ifanc mewn gofal preswyl, er enghraifft: hwy sy'n sgorio leiaf o ran lles meddyliol; mae 56 y cant wedi cael eu bwlio; a gwelwyd bod canran uwch ohonynt wedi bod yn feddw ac wedi defnyddio canabis yn ystod y mis diwethaf na phlant nad ydynt mewn gofal. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi addo rhagor o fuddsoddiad ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol pob plentyn a pherson ifanc, ni allaf anwybyddu'r ffaith ein bod ni yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn teimlo ei fod yn aneglur. Mae angen inni wybod faint yn union sy'n cael ei dargedu at blant sy'n derbyn gofal yn benodol. Sut y caiff ei fonitro o ran ei effaith ar gyflawni argymhellion 'Cadernid meddwl'? O ran dyfodol mwy disglair, mae canfyddiadau gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Chymdeithas y Plant yn dangos bod y rhai sy'n gadael gofal yn wynebu mwy o risg o fod yn ddigartref ac o fod yn dlawd.
Fe allai ac fe ddylai Cymru sicrhau dyfodol gwell na hyn i'n plant, ac mae yna gamau y gallwn eu cymryd. Er enghraifft, unwaith eto, argymhellodd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y dylai pob plentyn sydd wedi cael profiad o ofal gael gwybod fel mater o drefn am eu hawl i eiriolwr a chael gwybodaeth glir ynglŷn â sut i gael gafael ar yr ystod o wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael. Nid yw'r rhain yn ofynion mawr, ond mae angen iddynt fod ar waith. Fodd bynnag, canfu TGP Cymru yn ddiweddar mai dim ond 5 y cant i 10 y cant o gartrefi plant yn y sector preifat sydd â threfniadau eiriolaeth ymweliadau preswyl ar waith. Felly, dylem weithredu hefyd ar alwadau gan Gymdeithas y Plant i helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn nodi plant ifanc sy'n wladolion Ewropeaidd yn eu gofal, ac sydd wedi gadael eu gofal, fel y gellir eu cynorthwyo i sicrhau eu statws neu eu dinasyddiaeth os oes angen. Yn yr un modd, mae angen i ni gefnogi trefniadau lleoli plant. Mae'r Rhwydwaith Maethu wedi adrodd bod Cymru angen 550 o deuluoedd maeth ychwanegol i sicrhau bod plant yn cyrraedd y cartref cywir yn gyntaf. Os na lwyddwn i gyflawni hyn, bydd rhai plant yn wynebu cael eu gwahanu oddi wrth eu brodyr a'u chwiorydd eu hunain. Mae awdurdodau lleol wedi dechrau ymuno â'r her recriwtio, ond mae angen i'ch Llywodraeth wneud mwy i'w cynorthwyo.
Mae'r un peth yn wir am rieni sy'n mabwysiadu, sy'n dod â mi at fy mhwynt olaf. Mae gennyf etholwraig sydd ag un plentyn maeth ac un plentyn wedi'i fabwysiadu. Mae hi'n daer, yn angerddol, eisiau cynnwys y plentyn maeth yn y teulu a dod yn rhiant sy'n mabwysiadu. Ar ôl gofyn iddi a oedd hyn yn mynd i ddigwydd, dywedodd 'na', a'r rheswm am hynny yn syml oedd y gostyngiad sylweddol yn y cymorth a fyddai'n dilyn. Yn aml iawn, pan fydd pobl yn symud o'r model maethu i'r model mabwysiadu, rydych ar eich pen eich hun i raddau helaeth iawn, ac nid yw'n gweithio fel hynny. Dylai'r cymorth ddal i fod ar gael i rieni sy'n mabwysiadu er mwyn cadw'r teuluoedd hyn gyda'i gilydd, ac rwyf wedi ymdrin â dau achos arall lle mae brodyr a chwiorydd wedi wynebu cael eu gwahanu o bosibl oherwydd gall y gofynion cymorth sydd ynghlwm wrth fabwysiadu brodyr a chwiorydd fod yn eithaf dwys. Nid oes dyletswydd ar unrhyw un i gefnogi rhieni sy'n mabwysiadu. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gofyn i chi edrych o ddifrif ar hyn a cheisio cael mwy o'n plant, lle bo angen, i mewn i sefyllfaoedd lle mae rhieni'n mabwysiadu.
Gall sefyllfa plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru fod yn eithaf digalon, ond mae gennyf obaith ar gyfer y dyfodol, ac mae gennyf obaith i'r plant hyn. Gan weithio gyda'n gilydd yn drawsbleidiol yma ac mewn mannau eraill, credaf mai synnwyr cyffredin yw ein cynnig heddiw, dyma sydd ei angen, a byddai'n braf iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod yna resymau cymhleth y tu ôl i lefelau cynyddol o blant mewn gofal, ond yn credu fod y disgwyliad sydd ar awdurdodau lleol i osod targedau er mwyn ateb y broblem yn ddatrysiad arwynebol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae yna ofid mawr, wrth gwrs, am lefelau cynyddol o blant mewn gofal yng Nghymru, hynny i'r graddau y bu iddo fo ffurfio rhan fawr o adroddiad Thomas, sy'n edrych ar y system gyfiawnder yng Nghymru. Yn yr adroddiad yna, maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith fod cyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru gryn dipyn yn uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mi glywsom ni rai o'r ffigurau brawychus yna gan y cynigydd. Yr hyn sy'n nodedig o'r ffigurau ydy'r cynnydd sylweddol a pharhaus yn y gyfradd yng Nghymru, a'r ffaith fod y bwlch rhwng Cymru a Lloegr yn tyfu. Mae'n werthu tynnu sylw'r Senedd at asesiad ac argymhellion adroddiad Thomas ar blant mewn gofal, ac felly dwi'n pwyso ar y Llywodraeth i ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion hynny, ac yn enwedig i roi ystyriaeth i'r camau brys a'r argymhellion tymor byr sy'n cael eu hawgrymu.
Yn ôl gweithwyr proffesiynol yn y maes, mae yna nifer o resymau am y newid sylweddol yn yr anghenion sydd yn amlygu eu hunain yn y maes yma. Does dim gwadu, yn gefndir i hyn i gyd, wrth gwrs, mae blynyddoedd o dlodi. Mae polisïau llymder—polisïau llymder gan gynigwyr y ddadl hon heddiw—yn y cefndir yna hefyd; does dim gwadu hynny. Mae newidiadau eraill hefyd, wrth gwrs. Mae newidiadau mewn cymdeithas yn rhan o'r darlun, yn ogystal â materion newydd yn dod i sylw. Er enghraifft: county lines, ymddygiad rhywiol problemus ac anaddas, defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, cam-drin dros y wê, ac yn y blaen. Ac yn hanesyddol, doedd rhain ddim yn ffactorau amlwg ond, wrth gwrs, maen nhw erbyn hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru i greu cynlluniau i leihau'r niferoedd sydd mewn gofal, ac mae'r cynlluniau hynny i'w croesawu. Maen nhw'n gallu rhoi ffocws i'r gwasanaethau, gan gydnabod y newidiadau sydd wedi digwydd hefyd. Ond, fel dwi wedi dweud o'r blaen, dydy targedau rhifyddol ddim yn ddull digon effeithiol i leihau niferoedd y plant mewn gofal. Fel rydym ni'n dweud yn ein gwelliant, mae targedau rhifyddol yn ddull arwynebol o geisio mynd i'r afael â'r broblem. Dwi yn credu bod yna dderbyniad o hynny erbyn hyn, a bod yna well ddealltwriaeth o hyn gan y Llywodraeth nag oedd ychydig fisoedd yn ôl, ac dwi yn croesawu hynny.
Mae angen atebion holistaidd: gwaith ataliol; mwy o arian i wasanaethau iechyd meddwl; a chael ffocws aml-asiantaethol yn ein hysgolion ni. Mae gostwng y nifer yn gofyn am atebion cynhwysfawr. Mae'n bosib bod angen newidiadau i ddeddfwriaeth. Mae'n sicr angen edrych ar y broses llysoedd, ac mae angen edrych ar sut mae kinship care yn wahanol yn yr Alban i sut mae o yng Nghymru. Mae angen edrych ar leoliadau gyda rhieni, lle mae plentyn yn byw adref efo rhieni ar orchymyn gofal ac efo cefnogaeth, ond, yn anffodus, mewn rhai ardaloedd, mae'r llysoedd yn gyndyn iawn o gytuno i hynny. Yn sicr, mae angen buddsoddiad mawr mewn gwasanaethau ataliol, a dydy grantiau tymor byr ddim yn ddigon i gynnal y gwasanaethau hynny. Felly, dwi'n croesawu'r hyn y mae'r adroddiad PAC ac adroddiad Thomas yn ei ddweud, sef bod angen gwneud gwelliannau system gyfan er mwyn darparu gwasanaethau amserol a chynnar i deuluoedd, fel eu bod nhw'n cael eu cefnogi i aros efo'i gilydd, efo'r nod yn y pen draw, wrth gwrs, i leihau nifer y plant yn y system ofal.
Cyn cloi, hoffwn i jest sôn am un mater arall y prynhawn yma. Buaswn i yn hoffi diolch i Gymdeithas y Plant am gysylltu efo rhai ohonom ni i sôn am y miloedd o blant Ewropeaidd sydd yn blant mewn gofal yn y Deyrnas Unedig. Rŵan, fe all newidiadau deddfwriaethol yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd greu problemau i blant mewn gofal, yn enwedig wrth iddyn nhw ddod yn oedolion, gan y bydd angen i rai ohonyn nhw gael dogfennau newydd i sicrhau eu statws. Felly, hoffwn gymryd y cyfle i holi Llywodraeth Cymru. Un, a oes gennych chi syniad faint o blant yng Nghymru sydd yn disgyn i'r categori yma? Ac yn ail: beth ydych chi'n gallu ei wneud i helpu awdurdodau lleol, sef y rhieni corfforaethol, i adnabod y plant a gwneud yn siŵr fod y ceisiadau yma'n cael eu gwneud? Mae'n ofnadwy o bwysig nad ydy'r garfan yma o blant mewn gofal yn disgyn drwy'r rhwyd. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Neil McEvoy i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn ei enw? Neil.
Gwelliant 2—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu:
a) mai llwybr cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u rhieni;
b) na ddylai cysylltiad gael ei leihau na’i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff eu talu; ac
c) gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen.
Gwelliant 3—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod pobl ifanc sy’n gadael gofal ac a ddaw’n rhieni, hefyd yn wynebu’r risg o wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol ailedrych ar bob achos plentyn mewn gofal i chwilio am gefndir o wahaniaethu yn erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at gadw eu plentyn mewn gofal.
Gwelliant 4—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y dylai’r ysgogiad elw gael ei ddileu o’r maes gofal plant ac nad cwmnïau preifat yw’r dewis gorau i wasanaethu buddiannau plant Cymru yn y dyfodol.
Gwelliant 5—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynnu bod plant sy’n gwneud honiadau ynghylch camdrin mewn gofal yn cael eu cymryd o ddifrif ac y cânt eiriolwr, a bod arbenigwr diogelu plant yn siarad â nhw mewn lle diogel er mwyn trafod yr hyn â godwyd.
Gwelliant 6—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod ymchwiliadau o gwynion yn gwadu ffeithiau mewn adroddiadau asesu a derbyn mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal, fod yn gyfan gwbl annibynnol a heb i’r cyngor sir y mae’r achwynwr yn cwyno amdano fod yn talu amdanynt.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n debyg fod hyn—wel, nid mae'n debyg—hwn yw'r maes rwyf wedi ymwneud fwyaf ag ef dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf. Efallai nad yw'r Siambr yn gwybod imi gyflogi gweithiwr cymdeithasol profiadol iawn oherwydd nifer yr achosion roeddwn yn eu cael mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal yn enwedig.
Mae gwelliant 2 yn syml iawn. Mae'n dweud mai llwybr cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy'n derbyn gofal a'u rhieni. Mae'n syml iawn. Mae'n dweud na ddylai cysylltiad gael ei leihau na'i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff eu talu ac y gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen. Nawr, rwy'n deall nad yw pawb yn y Siambr yn mynd i gefnogi'r gwelliant hwn—mae hynny'n peri cryn syndod i mi. Oherwydd yr hyn sy'n digwydd yw bod cysylltiad yn cael ei gyfyngu rhwng plant sydd am weld eu rhieni a'u rhieni, oherwydd y darparwyr gofal, a darparwyr gofal y sector preifat yn aml iawn. Felly, nid yw er budd gorau'r plentyn; mae er budd gorau cwmni preifat. Felly, hoffwn ofyn i bawb gefnogi gwelliant 2.
Gwelliant 3: mae'n cydnabod bod y rhai sy'n gadael gofal ac a ddaw'n rhieni hefyd yn wynebu'r risg o wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol ailedrych ar bob achos plentyn mewn gofal—mae'n bwynt allweddol—i weld a oes unrhyw hanes o wahaniaethu yn erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at gadw eu plentyn mewn gofal. Mae gennyf nifer o bobl yn fy meddwl yma—nifer o famau yn enwedig—sydd, yn fy marn i, wedi cael eu trin yn warthus, yn berffaith onest. Yr hyn a welwch yma hefyd yw gwahaniaethu sylfaenol ar sail dosbarth. Mae'r gwelliant hwn yn gofyn inni edrych ar yr achosion hyn er mwyn nodi'r gwahaniaethu a allai fod yn digwydd. Ac yn fy marn i, mae'n sicr yn digwydd, oherwydd pan fyddwch—[Torri ar draws.] Iawn.
Rwy'n nodi eich gwelliant gyda braw, mae'n rhaid i mi ddweud, ac ni fyddaf yn ei gefnogi, oherwydd yn gyntaf oll, ni allaf weld eich bod wedi cyflwyno unrhyw brawf o gwbl i ddweud bod (b) yn welliant dilys. A hefyd, fy mhrofiad i o'r hyn y mae pobl—ar ôl siarad â phlant mewn gofal a chymryd achosion, yn aml iawn, mae'r cysylltiad yn cael ei dorri oherwydd mai dyna sydd orau er lles y plentyn; nid yw byth yn cael ei dorri fel arall.
Gyda phob parch, buaswn yn dweud eich bod yn anghywir, ac ni allaf weld dim o'i le ar ddweud na ddylai asiantaeth gyfyngu ar gysylltiad, yn enwedig pan fydd plant am gael cysylltiad â'u rhieni.
Y gwelliant na wnaethoch siarad amdano yn y fan honno yw'r ongl cyfiawnder. Beth sydd o'i le ar adolygu achosion lle gallai fod gwahaniaethu'n digwydd? Mae'r achos rwy'n meddwl amdano lle mae cysylltiad wedi'i gyfyngu yn deillio o fod y rhieni'n cwyno, a bod y plentyn yn cwyno am gam-drin mewn gofal. Mae hwnnw'n welliant arall—fe ddown at hwnnw yn awr.
Gall hyn fod yn ddadleuol i rai; nid yw'n ddadleuol i mi. Dylai'r ysgogiad i wneud elw gael ei ddileu o ofal plant, a chytunaf 100 y cant â Chomisiynydd Plant Cymru, a gobeithio bod pawb yn cefnogi'r gwelliant hwnnw. Gan fod pobl yn llythrennol yn dod yn filiwnyddion ar sail—. Y swm enfawr o arian a godir ar lywodraeth leol—£300,000, £0.5 miliwn, yn dibynnu ar anghenion y plentyn.
Gwelliant 5, a gobeithio na fydd neb yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn. Mae'n mynnu—a dyna'r gair cywir i'w ddefnyddio—fod plant sy'n honni eu bod yn cael eu cam-drin yn cael eu cymryd o ddifrif; y darperir eiriolwr ar eu cyfer; a bod arbenigwr ar amddiffyn plant yn siarad â hwy mewn man diogel er mwyn mynd drwy'r materion a godir. Nawr, os oes unrhyw un allan yno nad yw'n cefnogi hyn, mae angen rheswm da iawn arnynt, oherwydd rwy'n dweud wrthych fod hyn yn digwydd. Ac os oes unrhyw un sy'n credu nad yw'n digwydd, dewch i fy swyddfa a gallwch siarad â rhieni a gallwch weld y cofnodion.
Mae gwelliant 6 yn ymwneud â'r broses gwyno, ac mae Welsh National Party yn credu mewn sofraniaeth i'r unigolyn, i alluogi pobl i gael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Os oes gennych gwynion ynglŷn â gwasanaethau plant—y nifer sy'n cael eu derbyn a'u hasesu, yn yr achos hwn—y cyngor sy'n talu am y person sy'n cynnal yr ymchwiliad. Cânt eu galw'n annibynnol, ond nid ydynt yn annibynnol am eu bod yn cael eu talu gan y cyngor sydd i fod yn destun i'w hymchwiliad. Yr hyn sy'n digwydd yn gyffredinol yw nad yw'r cwynion yn cael cymaint o sylw ag y dylent.
Hoffwn droi'n fyr iawn at bwynt 2. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chael plant allan o ofal—ac mae cyd-Aelod yn y fan acw newydd siarad yn erbyn hyn—mae angen cysylltiad o ansawdd da rhwng y rhieni a'r plant. A beth y mae hyn yn ei ddweud yma—. Nid yw'n fater ohonoch chi'n dweud nad ydych yn credu bod hyn yn digwydd, ond lle cyfyngir ar gysylltiad er cyfleustra cwmni preifat, mae'r gwelliant hwn yn dweud na ddylai hynny ddigwydd. Yr hyn sydd gennym yma yng Nghymru—fe ddof i ben yn awr, Ddirprwy Lywydd—yw system lle mae hawliau plant yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn. Yr hyn a welaf yn fy ngwaith achos, un achos penodol, yw tramgwydd yn erbyn hawliau dynol. Daw pawb yma o wythnos i wythnos, dywedwn yr un hen bethau—ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf, a bod yn onest—ond ceir achosion go iawn y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy. Ac ni fyddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru oherwydd fy mod yn credu y dylid rhoi camau ar waith, ac ni allaf weld unrhyw ddewis arall ar hyn o bryd ar wahân i'r hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud drwy gyfrwng targedau. Diolch yn fawr.
Mae gan Gymru rai o'r cyfraddau uchaf o blant sy'n derbyn gofal yn y Deyrnas Unedig. Mae dros 6,800 o blant hyd at 18 mlwydd oed yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n ffaith ofnadwy fod nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi codi 34 y cant dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae'r ffigur yn llawer uwch nag yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Erbyn diwedd mis Mawrth 2019, roedd gan Gymru 109 o blant yn derbyn gofal ym mhob 10,000 o bobl. Mae hyn yn cymharu, ar y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, i 65 ym mhob 10,000 yn Lloegr a 71 ym mhob 10,000 yng Ngogledd Iwerddon. Gwnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru sylwadau ar hyn y llynedd a dywedodd,
'Yr hyn sy'n nodedig yw'r cynnydd sylweddol a pharhaus yn y gyfradd yng Nghymru a'r ffaith bod y bwlch rhwng Cymru a Lloegr yn tyfu.'
Agwedd arall ar y mater hwn yw bod y gyfradd yn amrywio'n helaeth rhwng awdurdodau lleol. Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r ffigurau'n dangos bod 49 o blant yn derbyn gofal ym mhob 10,000 o bobl. Yn Nhorfaen, 216 yw'r ffigur. Dengys astudiaethau fod graddiant cymdeithasol amlwg yn bodoli lle canfuwyd bod plant yn y 10 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig 16 gwaith yn fwy tebygol o fod yn destun ymyriadau lles plant na'r rhai yn y 10 y cant o ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Daeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'r casgliad fod pedwar prif ffactor yn cyfrannu at nifer y plant mewn gofal. Un o'r ffactorau a nodwyd yw amddifadedd. Mae hyn yn bwysig gan fod canlyniadau i bobl ifanc mewn gofal yn wael yn gyffredinol—yn waeth na'r canlyniadau i blant y tu allan i'r system ofal.
Mae canlyniadau addysgol hefyd yn peri pryder arbennig. Dim ond 59 y cant o'r plant sy'n derbyn gofal sy'n cyflawni dangosydd pynciau craidd cyfnod allweddol 2, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru o bron i 88 y cant. Yng nghyfnod allweddol 4, mae llai nag 11 y cant yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd, o'i gymharu â ffigur cyffredinol o tua 60 y cant. O'r Cymry ifanc sydd wedi gadael gofal, nid oes gan 23 y cant ohonynt unrhyw gymhwyster o gwbl.
Mae prif arolygydd Estyn hefyd wedi nodi nad yw'r bwlch tlodi wedi lleihau. Nid yw gwahaniaethau o ran cyrhaeddiad a phresenoldeb rhwng disgyblion o gefndiroedd breintiedig a difreintiedig wedi cau dros y degawd diwethaf. Mae angen inni dorri'r cylch amddifadedd hwn fel mater o frys, Lywydd. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o raglenni ar waith i atal plant rhag mynd i mewn i'r system ofal. Targedai cynllun Dechrau'n Deg blant hyd at bedair oed am gost o fwy na £690 miliwn ers 2006 a gwariwyd £290 miliwn ar Teuluoedd yn Gyntaf ers 2012. Nid oes yr un o'r rhaglenni hyn wedi llwyddo i atal y cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. Mae'r gyllideb ar gyfer 2020-21 wedi argymell adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â'r broblem. Mae'n dyrannu £2.3 miliwn o gyllid iechyd ychwanegol i'r gwasanaeth mabwysiadu, yn ogystal â £900,000 ar waith archwilio ar ddull integredig o gefnogi plant sy'n derbyn gofal mewn addysg.
Er ei fod yn ddechrau da, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach i gefnogi plant mewn gofal. Byddem yn cyflwyno premiwm disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal i gefnogi—[Torri ar draws.]—i gefnogi'r plant sydd eisoes yn wynebu bylchau enfawr yn eu cyrhaeddiad addysgol. Lywydd—[Torri ar draws.] Os ydych chi eisiau gofyn rhywbeth, Kirsty, mae croeso i chi wneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, mae plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â'r rhai nad ydynt wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae gennym ni i gyd blant. Mae plant angen cyfle diogel ac iach—cyfle yn eu bywydau yn y dyfodol, i ddod yn ddinasyddion y wlad hon sy'n parchu'r gyfraith. Dyna sy'n creu'r gymdeithas orau, a dyna sy'n creu'r economi orau hefyd. Rydym i gyd yn gweithio tuag at hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ac yn sicrhau bod ein plant yn cael gofal priodol gan bawb sy'n gofalu amdanynt. Diolch.
Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy gydnabod bod consensws trawsbleidiol cryf yng Nghymru fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael. Yr wythnos diwethaf, Ddirprwy Lywydd, gofynnais gwestiwn i'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles AC, am y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n faes diddordeb yr hoffwn fynd ar ei drywydd heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £224,000 i awdurdodau lleol Cymru i gynorthwyo dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n gwneud cais i'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE. Y gyfran o'r cyllid hwnnw sy'n mynd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw £9,500, yn seiliedig ar amcangyfrif o 3,000 o ddinasyddion yr UE yn yr awdurdod lleol hwnnw. Felly, heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at y cyngor i ganfod faint o'r 435 o blant sydd wedi cael profiad o ofal sy'n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, a beth y mae'r awdurdod yn ei wneud i sicrhau bod eu statws o fewn y Deyrnas Unedig yn cael ei ddiogelu. Felly, hoffwn ehangu fy nealltwriaeth—os gall y Gweinidog fy helpu—ynglŷn â pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi a sicrhau bod awdurdodau lleol fel Caerffili yn nodi pa blant sy'n gymwys ar gyfer y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.
Mae ystadegau'n dangos, fel y dywedwyd, fod nifer y plant mewn gofal yng Nghymru yn dal i gynyddu, fel sy'n wir ar draws y Deyrnas Unedig. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae nifer y plant sy'n cael profiad o ofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant, ac mae hon yn ffaith a ddylai beri i bawb ohonom oedi i feddwl. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau'n cymell y duedd hon, gan gynnwys tlodi, amddifadedd, ac effeithiau gwirioneddol cyni a newidiadau i'r system les. Ni allwn anwybyddu hynny. Mae cyflwyno'r dreth ystafell wely, toriadau i fudd-daliadau a rhewi budd-daliadau, a'r gostyngiad yng nghyfraddau credyd cynhwysol yn enwedig, wedi taro'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru yn galetach na neb. Gwyddom mai materion ariannol yw'r sbardun mwyaf i chwalu teuluoedd, dirywiad iechyd meddwl a'r ysgogiad i gamddefnyddio sylweddau. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth yma wedi gwneud y mater hwn yn flaenoriaeth.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i ehangu'r cymorth ar gyfer plant sydd wedi cael profiad o ofal ers 2017. Mae'r arian hwn wedi golygu bod gwasanaethau ar ffiniau gofal bellach ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae wedi arwain at sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi sy'n torri tir newydd, ac sydd wedi cefnogi bron 2,000 o bobl ifanc sy'n gadael gofal wrth iddynt bontio i fywyd fel oedolion. Ac mae wedi darparu ar gyfer cyflwyno'r rhaglen Reflect ledled Cymru, sy'n cefnogi rhieni ifanc y mae eu plant wedi cael eu rhoi yn y system ofal. Gwyddom fod hyn yn bwysig. Buddsoddir £15 miliwn arall dros y ddwy flynedd nesaf drwy'r gronfa gofal integredig i ehangu gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael gwasanaethau di-dor sy'n canolbwyntio ar y teulu ac yn eu cynorthwyo i aros gyda'i gilydd.
Mae'r rhain yn fentrau ymarferol, seiliedig ar gymorth sy'n gweithio. Mae angen i bob un ohonom sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael i'w galluogi i ffynnu mewn amgylchedd diogel a mwynhau'r un cyfleoedd ag y byddai unrhyw blentyn arall yn ei ddisgwyl. Mae pawb ohonom yn y Siambr yn rhieni corfforaethol yn yr ystyr hon. I'r perwyl hwnnw, rhaid inni gydnabod, does bosibl, fod yr oes hon o bolisi cyni Llywodraeth y DU yn niweidio cyfleoedd bywyd y plant tlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru a'r DU.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Yn anffodus, mae nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal wedi dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf. Ac er bod yn rhaid i anghenion a diogelwch y plentyn fod yn unig flaenoriaeth bob amser, rhaid inni wneud popeth a allwn i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal. Oherwydd, fel y mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn ei nodi'n gywir, mae cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na chyfleoedd bywyd plant nad ydynt mewn gofal.
Rwyf hefyd yn cytuno â Phlaid Cymru nad gosod targedau arwynebol yw'r ateb. Mae'n rhaid inni roi camau cadarnhaol cryf ar waith i atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal yn y lle cyntaf; rhoi camau ar waith i sicrhau bod gennym rwydwaith gofal maeth â chymorth da ac sydd â'r adnoddau priodol ar gyfer anghenion gofal tymor byr; a gwneud mabwysiadu'n llawer haws i rieni sy'n mabwysiadu.
A hoffwn wneud sylwadau ar araith agoriadol Janet Finch-Saunders, lle dywedodd am y newid o fod yn rhiant maeth i fabwysiadu. Gallaf uniaethu â hynny drwy etholwr a ddywedodd wrthyf am eu profiad hwy. Roedd ganddynt un plentyn biolegol ac roeddent yn awyddus i gael plentyn arall. Nid oedd yn bosibl, felly fe wnaethant fabwysiadu plentyn bach arall, yn gwmni yn ogystal ag i'w garu'n fawr. Dangosodd y plentyn bach arwyddion fod ganddi broblemau iechyd meddwl yn gynnar, ond nid oedd y rhwydwaith cymorth yno, a hyd heddiw, mae teulu'r ferch fach wedi ei chael hi'n anodd ymdopi mewn gwirionedd. Felly, gan nad oedd cymorth ar gael yn ystod y camau cynnar iawn, mae'r teulu cyfan bellach wedi dioddef trawma oherwydd bod dirywiad yn iechyd meddwl y plentyn wedi effeithio ar fywyd y teulu, ac mae'n parhau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Rwy'n gwerthfawrogi eich ymyriad, Caroline Jones, ac rwy'n derbyn eich pwynt, a hoffwn ychwanegu'n syml mai'r peth arall sy'n digwydd mewn gwirionedd yw bod plentyn sy'n derbyn gofal yn cael ei fabwysiadu yn y pen draw, mae'r cymorth hwnnw'n diflannu, ac mae'n arwain wedyn at chwalu'r trefniadau mabwysiadu'n llwyr. Gwn yn fy etholaeth fy hun fy mod wedi ymdrin â threfniadau mabwysiadu sydd wedi chwalu o leiaf hanner dwsin o weithiau, ac maent yn wirioneddol dorcalonnus i'r holl bobl sy'n gysylltiedig.
Diolch, Angela. Mae'n amharu'n llwyr ar fywyd y teulu cyfan.
Felly, wrth inni roi camau ar waith i wella cyfleoedd bywyd y rhai sydd mewn gofal hirdymor, boed mewn cartref gofal neu gyda theulu maeth, dywedodd y Comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru fod buddiannau plant yn cael eu hesgeuluso yn y llysoedd teulu a'u bod yn pryderu ynglŷn â'r niferoedd uchel iawn o blant sy'n cael eu rhoi mewn gofal. Felly, er nad wyf bob amser yn cytuno mai datganoli cyfiawnder yw'r ateb, credaf fod rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda'i gilydd i ddeall pam y mae gennym nifer mor uchel o blant yn cael eu rhoi mewn gofal, a rhoi camau ar waith i sicrhau nad Cymru yw'r wlad yn y DU sydd â'r gyfran uchaf o blant mewn gofal. Ar wahân i fynd i'r afael â—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Yn fyr iawn. A fyddech yn cydnabod bod plant sy'n cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae plentyn yn cael profiad o ofal, nad ydynt yn cael eu rhoi yn y sefyllfa honno'n ddifeddwl, a bod proses gyfan wedi ei dilyn, ac mai dyna'r rhan olaf bosibl o'r broses honno cyn i blentyn gael ei roi mewn gofal?
Wel, weithiau mae'n ddewis olaf, ond yr hyn roeddwn yn ei ddweud oedd, rwy'n credu bod angen mwy o waith atal er mwyn sicrhau nad yw plant yn cael eu rhoi mewn gofal yn y lle cyntaf. Ac nid wyf yn credu bod y rhwydwaith cymorth yno. Felly, rwy'n cytuno â chi—weithiau, ond nid yn gyfan gwbl, Rhianon. Diolch.
Felly, ble roeddwn i? Roeddwn wedi dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda'i gilydd i ddeall pam fod gennym niferoedd mor uchel o blant yn cael eu rhoi mewn gofal, a chymryd camau i sicrhau nad Cymru yw'r wlad â'r gyfran uchaf o blant mewn gofal yn y DU.
Felly, ar wahân i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud cymaint mwy i wella'r canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal. Rhaid inni dorri'r cylch o ddechrau gwael mewn bywyd yn arwain at gyfleoedd gwael mewn bywyd. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud ar draws Cymru, ond oherwydd pwysau ar y gweithlu a chyllid, dyna yw'r eithriad yn hytrach na'r norm. Rydym i gyd yn gwybod bod atal yn well na gwella, mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn atal plant mewn gofal rhag dod yn oedolion iach, gweithgar a chynhyrchiol. Gwyddom yn rhy dda fod plant mewn gofal yn llai tebygol o gael cymwysterau addysgol da, yn profi mwy o broblemau iechyd a lles ac o gael anghenion tai fel oedolion, ac yn wynebu mwy o risg o gamddefnyddio sylweddau. Drwy fuddsoddi i liniaru'r risgiau hyn, byddwn yn gwella'r canlyniadau i'r unigolyn, a byddwn yn gwella ein cymdeithas yn ei chyfanrwydd hefyd.
Fel y dywedais yn gynharach, ceir enghreifftiau gwych o waith ardderchog yn cael ei wneud, a hoffwn dynnu sylw unwaith eto at waith sefydliad Roots Foundation Wales yn fy rhanbarth i. Elusen yw hi sy'n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yn Abertawe, gyda'r nod o gefnogi pobl ifanc mewn gofal, rhai sy'n gadael gofal, plant mewn angen ac oedolion sydd wedi gadael gofal gyda chyfnod pontio o fyw'n annibynnol. Maent yn helpu pobl ifanc yn llwyddiannus iawn i bontio i fywyd y tu allan i'r system ofal ac maent yn addysgu'r sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol—sgiliau y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu dysgu gan rieni, ond nad yw plant mewn gofal yn meddu arnynt bob amser, yn anffodus, oherwydd amryw fathau o bwysau. Dylai'r hyn y mae Roots Foundation Wales yn ei wneud ddigwydd fel mater o drefn ac ni ddylai fod angen elusennau fel hyn, ond rwyf fi a'r cannoedd o blant y maent wedi'u cefnogi yn falch eu bod yn bodoli. Fodd bynnag, mae dyletswydd arnom i'r 7,000 o blant sydd mewn gofal i wneud cymaint mwy. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Credaf iddi fod yn ddiddorol iawn hyd yn hyn, ac rwy'n sylweddoli efallai mai prif fyrdwn y ddadl yw lleihau nifer y plant mewn gofal mewn ffordd ddiogel, ond wrth drafod cyfleoedd bywyd, sef pwynt 2 ein cynnig, rwy'n credu bod angen inni edrych ar y berthynas rhwng plant sy'n derbyn gofal a'r system addysg y maent ynddi a'r modd y diwellir anghenion y plant hynny. Nid yw'n fater sy'n sefyll ar ei ben ei hun, wrth gwrs. Fel y dywedodd Caroline Jones, gall llu o brofiadau plentyndod beryglu gallu unrhyw blentyn i gael unrhyw beth o'r system addysg ffurfiol i wella eu cyfleoedd bywyd, ond mater i'r system mewn gwirionedd yw ymateb i anghenion y plant a'r rôl a chwaraeir gan bobl bwysig eraill ym mywyd y plentyn, yn hytrach nag fel arall.
Felly, y cwestiwn cyntaf rwyf am ei ofyn yw: pa mor hyderus rydym ni fod gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi'n dda a pha mor dda y cânt eu hyfforddi a'u hannog i ganfod y ffyrdd gorau o helpu'r plentyn sydd yn eu gofal i gael y gorau o'u haddysg? Crybwyllwyd hyn eisoes, ond gwnaeth ein pwyllgor plant waith trawiadol iawn ychydig flynyddoedd yn ôl ar ddiffyg cymorth ôl-fabwysiadu effeithiol i rieni newydd, ond credaf fod yr un peth yn mynd i fod yn wir am leoliadau maeth hirdymor—nid y rhai byrrach, ond y gofalwyr maeth mwy hirdymor, gan gynnwys gofalwyr sy'n berthnasau, wrth gwrs, sy'n mynd drwy eu cymysgedd eu hunain o emosiynau cymhleth iawn yn ymwneud â'u teulu eu hunain. Felly rwyf am wneud y pwynt fod pwynt 4(d) ein cynnig yn ymwneud â mwy na diogelwch plentyn, a'u hymddygiad efallai, mae'n ymwneud â chydnabod y gall ysgol fod yn un lle arall i blentyn sy'n derbyn gofal deimlo ei fod ar goll, yn ddiflas a heb fod yn perthyn, neu nad oes neb yn ei ddeall, ac nad yw'n cael cymorth, hyd yn oed yn yr ysgolion sy'n fwyaf effro i anghenion ychwanegol plant sy'n derbyn gofal. Felly, a allwn fod yn sicr a gofyn i ni'n hunain a oes gan ofalwyr maeth yr holl arfau sydd eu hangen arnynt i ymladd dros eu plentyn yn ysgol y plentyn hwnnw? Fel y clywsom eisoes, mae canlyniadau addysgol plant sy'n derbyn gofal yn waeth na rhai eu cyfoedion. Nid wyf am ailadrodd hynny eto.
Wrth gwrs, dylem fod yn falch fod 23 y cant o blant sy'n derbyn gofal bellach yn cael pum TGAU da. Mae hynny wedi cynyddu'n sylweddol yn yr wyth mlynedd diwethaf, ond mae 23 y cant o'r plant hynny'n dal i adael ysgol heb gymwysterau o gwbl. Sut y mae hynny wedi digwydd? Beth sydd wedi mynd mor dda ac mor anghywir ar yr un pryd, oherwydd y tu ôl i'r ffigurau hynny mae eraill a ddylai fod yn destun pryder i ni. Rydym eisoes wedi clywed mai 10.9 y cant o blant sy'n derbyn gofal—sy'n gyfran fach iawn—sy'n cyrraedd y pwynt y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol gan blentyn 16 oed. Felly, tybed a welwn ostyngiad yn awr yn yr ystod honno o—[Torri ar draws.] Ie, ar bob cyfrif.
Diolch. Rwy'n llwyr ddeall y dyhead y tu ôl i hynny ac yn rhannu'r dyhead hwnnw'n gyfan gwbl o ran y ffigur trothwy ar gyfer TGAU. A fyddech hefyd yn cydnabod bod ystod eang o allu ac i rai plant, fod gallu mynychu'r ysgol a dod oddi yno'n un darn yn gyflawniad mawr, ac nad yw'n ymwneud â chymwysterau'n unig?
Rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr, ond os ydych mewn byd lle mae cymwysterau'n golygu cymaint, mae angen inni weithredu mewn ffordd nad yw'n atal plant sydd â phrofiad o ofal yn artiffisial rhag gallu gwneud hynny a manteisio i'r eithaf o'u cymwysterau os gallant. Felly, yn sicr nid yw'n wir fod yn rhaid i bawb gael 6,000 TGAU, waeth beth fo'u cefndir.
Serch hynny, credaf fod hwn yn bwynt pwysig, Rhianon. Mae'r comisiynydd plant ei hun wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw 43 y cant o blant sy'n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal yn cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth pan fyddant yn 19 oed, a hynny er bod gan rai ohonynt gymwysterau TGAU eithaf da erbyn hynny. Ac mae'n cymharu â 5 y cant o'u cyfoedion. Felly, er nad cymwysterau yw'r unig beth y dylem ei ystyried, mae'n bwysig fod y plant sy'n gallu eu cael yn eu cael. Pa gyfraniad y mae'n ei wneud i'ch lles os byddwch, ar ôl oes o ysgol, yn dod oddi yno heb unrhyw gymhwyster? Byddai'n eithriadol o hawdd i chi golli hunan-hyder yn llwyr a chithau prin wedi dechrau ar eich bywyd fel oedolyn.
Mae'r Gweinidog Addysg, wrth gwrs, yn rhoi ymhell dros £100 miliwn tuag at y grant datblygu disgyblion. Rwy'n dychmygu eich bod yn teimlo braidd yn rhwystredig ynglŷn â chynnydd y canlyniadau i'n plant mwyaf difreintiedig, gan gynnwys ein plant sy'n derbyn gofal. Mae Estyn yn tynnu sylw, wrth gwrs, at y ffaith bod y ddarpariaeth yn amrywiol iawn, felly efallai fod hynny'n rhywbeth lle gallwn gael rhywfaint o drosolwg gweinidogol arno. Ond mae eich fersiwn chi o'n premiwm plant sy'n derbyn gofal yn mynd i gonsortia; fe sonioch am hynny eich hun ychydig wythnosau'n ôl. Rwy'n eithaf awyddus i ddarganfod faint o arian sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion i'w helpu i gynorthwyo plant sy'n derbyn gofal i ganfod eu ffordd drwy'r cwricwlwm newydd, a chyfrannu at system ysgol gyfan sy'n meithrin plant sy'n derbyn gofal yn dda, gan mai un peth yw adnoddau ar-lein ond mae angen amser ar athrawon i'w hasesu a'u defnyddio.
Ddirprwy Weinidog, rwy'n meddwl mai dyma lle byddai rhywfaint o waith trawslywodraethol yn ddefnyddiol. Mae Gweinidogion ac Aelodau wedi bod yn sôn am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ers amser maith, ac roeddwn braidd yn siomedig wrth glywed mai dim ond yn awr yr archwilir ymagwedd gyfannol, y soniodd Siân Gwenllian amdani, tuag at blant ac addysg yn benodol, pan fo lles a'r gallu i gyflawni potensial wedi'u plethu'n dda.
Hoffwn orffen, Ddirprwy Lywydd, ar y pwynt a godwyd gan Janet Finch-Saunders am raglen Skolfam a ddatblygwyd yn Sweden—ac mae Llywodraeth Cymru yn hoff iawn o Sweden—sef system ar gyfer plant mewn gofal maeth, sy'n gwbl seiliedig ar ymrwymiad amlasiantaethol a mapio. Gwelai fod cyrhaeddiad cyfranogwyr yn gwella'n fawr a bod canlyniadau mewn profion safonedig yn gwella'n sylweddol. Ond yr hyn a oedd yn bwysig i mi oedd edrych ar nifer y plant ifanc a gyflawnodd y canlyniadau gofynnol i fynychu addysg ôl-16: rydym yn dychwelyd at gyfleoedd bywyd. Cyflawnodd 100 y cant o'r rhai ar y cynllun hwn y graddau hynny o'i gymharu â 67 y cant o blant mewn gofal na wnaeth hynny. Nawr, dyna 100 y cant o blant, dyna 100 y cant ohonynt wedi'u hargyhoeddi bod ganddynt ddyfodol a fyddai'n gwrthsefyll eu gorffennol, ac rwy'n credu mai dyna'r math o uchelgais y mae angen inni chwilio amdano yma yn Llywodraeth Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Pan gyfeiriwn at blant sy'n derbyn gofal, golygwn y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan y wladwriaeth mewn modd a ddisgrifir o dan ddeddfwriaeth y DU a Chymru, boed hynny mewn sefydliadau gwladol neu o dan ryw fath o drefniant maethu. Yn anffodus, mae plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n byw yng ngofal y wladwriaeth yn dal i fod yn un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae nifer y plant sy'n destun achosion gofal wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r mwyafrif yn cael eu rhoi mewn gofal yn sgil honiad o gam-drin neu esgeuluso ar ran rhieni neu deulu.
Mae'n ffaith anffodus fod canlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn waeth na chanlyniadau eu cyfoedion mewn perthynas ag addysg ac iechyd meddwl, fel y crybwyllwyd sawl gwaith yn gynharach, gyda llawer ohonynt yn teimlo'n ynysig ac yn dal i fod yn agored i niwed tra byddant mewn gofal. Er y cafwyd rhywfaint o welliant yn y system ofal, mae llawer o bobl ifanc yn dal i fynd ymlaen i gael profiadau bywyd gwael wrth adael gofal y wladwriaeth, yn cynnwys problemau mewn perthynas â thlodi, a diffyg llety a gwaith addas.
Mae'n hollbwysig, felly, y dylai symud plant o gartref teuluol fod yn ddewis olaf bob tro. Mae'n ddealladwy fod gweithwyr cymdeithasol yn rhy ofalus, o gofio bod rhai penderfyniadau a wnaed gan eu cydweithwyr wedi'u condemnio mewn achosion proffil uchel yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae'n ffaith hefyd y gall ymagwedd rhy eiddgar weithredu yn erbyn lles gorau'r plentyn weithiau, ac felly yn erbyn lles y teulu.
Roedd y Prif Weinidog, yn ei anerchiad etholiadol i'r swydd y mae bellach ynddi, yn sylweddoli bod gormod o blant yn cael eu symud o deuluoedd yng Nghymru. Cyfeiriodd hefyd at osod targedau, targed i bob awdurdod lleol leihau nifer y plant o'r ardal honno—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—sy'n cael eu symud o ofal y teulu, gan gynnwys—. Wrth gwrs y gwnaf.
Diolch am hynny. A fyddech yn cydnabod, o ran cael gormod o blant mewn awdurdod lleol yn cael eu rhoi mewn gofal, fel rydych newydd ei ddweud, ei fod yn seiliedig ar asesiad unigol o bob achos unigol? Ac mae'n rhaid i hynny fynd drwy broses hir a maith, nad oes gennyf amser i fynd drwyddi ar hyn o bryd. Mae'n rhaid gwneud hynny oherwydd sefyllfa benodol y plentyn dan sylw, a dyna'r unig ffactor sy'n gysylltiedig â hyn.
Rwy'n sicr yn cydnabod hynny, Rhianon, ond mae'n ymddangos o'r ystadegau sydd gennym yng Nghymru, o'u cymharu â'r rhai sydd ganddynt yn Lloegr a'r rhannau eraill o'r DU, ei bod yn ymddangos bod ymagwedd rhy eiddgar yng Nghymru gan y gweithwyr cymdeithasol sy'n edrych ar ôl y plant hyn, ac fe ddof at yr hyn sy'n digwydd wedyn.
Ac rwyf am edrych yn unig ar yr hyn sy'n digwydd pan fydd y plant yn cael eu rhoi mewn gofal. Mae teuluoedd y cafodd plant eu cymryd oddi wrthynt yn ei chael hi'n anodd iawn gwyrdroi penderfyniadau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â symud eu plentyn neu eu plant. Mae'r ffaith bod llysoedd teulu yn llysoedd caeedig, gan gynnwys eithrio newyddiadurwyr, yn golygu nad oes craffu annibynnol ar y gweithdrefnau barnwrol. Mae llawer o rwystrau hefyd i deuluoedd rhag gallu sicrhau cynrychiolaeth gyfreithiol dda oherwydd gallai fod gwrthdaro buddiannau lle mae cwmnïau cyfreithwyr mawr yn aml yn ymwneud â busnes awdurdodau lleol.
Mae symud plentyn o ofal ei rieni naturiol yn ddigwyddiad trawmatig, i'r plentyn ac i'r teulu, gan gynnwys i deidiau a neiniau a theulu agos. Mae'n hanfodol felly y gellir craffu'n drylwyr ar benderfyniadau o'r fath drwy'r system farnwrol. Ceir llawer o dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod hyn bron yn amhosibl o dan y system gyfreithiol bresennol. Er ein bod yn cydnabod bod llawer o'r dulliau cyfreithiol y tu hwnt i gymwyseddau Llywodraeth Cymru, byddem yn eich annog i ymyrryd lle bo hynny'n bosibl er mwyn gallu craffu'n gywir ar holl faes symud plant i ofal y wladwriaeth neu farnu pwy ddylai gael rheolaeth rhiant.
A wnewch chi ildio?
Y gwir amdani yw nad yw llysoedd teulu caeedig—
A ydych chi'n ildio?
—er lles y plant. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n ymddiheuro.
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych yn ei ddweud am y system llysoedd teulu. Felly, oni chredwch y gallem ei wneud yn well yng Nghymru pe bai gennym ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain yma?
Wel, nid wyf yn siŵr y byddai hynny'n digwydd. Mae'n rhaid inni gael sefyllfa lle mae cydnabyddiaeth i'r ffaith bod llysoedd teulu sy'n eistedd yn gyfrinachol yn anghywir. Pan oeddwn yn ynad, gallwn gyfarwyddo'r holl newyddiadurwyr mewn llys—gallwn roi cyfyngiadau adrodd ar y newyddiadurwyr hynny. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellir gosod y cyfyngiadau hynny mewn llysoedd teulu. Rwy'n derbyn na ddylem adael i'r cyhoedd ddod i lysoedd teulu, ond pam na ddylem gael newyddiadurwyr i wneud yn siŵr fod craffu'n cael ei gyflawni ar yr hyn sy'n digwydd? Rwy'n credu ei bod yn warthus nad oes.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael cyfle i ymateb i’r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am ddod â’r ddadl hon i’r Siambr. Rwy'n credu bod llawer o ddiddordeb wedi’i ddangos a llawer o bwyntiau pwysig iawn wedi'u gwneud. Felly, diolch am hynny.
Yn gyntaf, rwyf am gydnabod gwaith defnyddiol iawn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal, ac rwyf hefyd am gydnabod gwaith grŵp cynghori’r Gweinidog dan gadeiryddiaeth fedrus iawn David Melding, ac rwy’n falch o weld ei fod yn y Siambr heddiw. Ac yn dilyn ei gyhoeddiad ar y penwythnos, hoffwn dalu teyrnged i David am ei gyfraniad enfawr i blant yng Nghymru. Rwyf wedi gweithio gyda David—rydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar y mater hwn—ers blynyddoedd lawer, ac mae ei gyfraniad i blant yng Nghymru yn anfesuradwy. Felly, diolch, David.
Er fy mod yn falch o weld cynnydd y rhaglen Canlyniadau i Blant, credaf ei bod yn bwysig iawn inni beidio â llaesu dwylo. Dangosodd ystadegau ym mis Mawrth 2019 fod nifer y plant a oedd yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol wedi parhau i gynyddu 7 y cant ar y flwyddyn flaenorol , ac yn amlwg, mae cynnydd yn siomedig, ond mae'n bwysig iawn nodi, am yr ail flwyddyn yn olynol, fod nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal wedi gostwng.
Mae'n bwysig iawn fod plant yn cael lleoliadau sefydlog. Mae data 2018 a 2019 yn dangos bod 9 y cant o blant wedi symud lleoliad dair gwaith neu fwy. Mae'r ffigurau hyn wedi aros yn sefydlog dros gyfnod o amser, a chredaf fod yn rhaid i ni gydnabod bod angen symud lleoliadau weithiau a bod hynny er lles gorau plant, ond rydym am i blant gael cymaint o sefydlogrwydd â phosibl.
Mae'r maes gwaith hwn yn gymhleth ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system gyfan, a soniwyd am lawer o'r meysydd hynny heddiw, gan gynnwys yr awdurdod lleol, gwasanaethau cymdeithasol, y farnwriaeth, iechyd, addysg, tai a'r trydydd sector ac mae gan y sefydliadau hyn oll rôl bwysig i'w chwarae yn helpu i gadw teuluoedd yn ddiogel gyda'i gilydd a lleihau'r angen i blant gael eu rhoi mewn gofal.
Mae'r cynnig yn cyflwyno nifer o alwadau ar y Llywodraeth, felly rwyf am ymdrin â'r rhain yn eu tro—yn gyntaf, adolygu cynlluniau disgwyliadau lleihau awdurdodau lleol. Rydym eisoes yn gwneud hyn drwy ein grŵp dysgu ac adborth gan gymheiriaid. Roedd cynnydd awdurdodau lleol yn ystod y chwe mis cyntaf yn dangos bod y gyfradd sy'n derbyn gofal wedi arafu. Er y bu cynnydd yn ystod y cyfnod hwn, roedd ar gyfradd o 1.3 y cant, ac mae cynnydd y blynyddoedd blaenorol wedi bod oddeutu 7 y cant. Rwyf am rybuddio nad yw'r ffigurau hyn wedi'u dilysu, ond rwy'n gobeithio y bydd y duedd hon yn parhau. Ar gyfer y chwe mis cyntaf y mae hynny.
Mae'r rhesymau dros y cynnydd yn y boblogaeth sy'n derbyn gofal yn gymhleth, fel y dywedodd Siân Gwenllian yn ei gwelliant, ond rwy'n gwbl sicr fod cais y Prif Weinidog i awdurdodau lleol osod targedau lleihau wedi hoelio ein meddyliau ac wedi annog dull system gyfan o atal. Ac rydym ar y daith honno o welliant a rhaid i ni gynnal momentwm. Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr, y targedau yw'r targedau a gyflwynwyd gan yr awdurdodau lleol, nid oes unrhyw gosbau, a dim ond rhan o ddull gweithredu system gyfan ydynt.
O ran gofalwyr maeth, rydym yn parhau i helpu awdurdodau lleol i recriwtio mwy o ofalwyr maeth drwy'r fframwaith maethu cenedlaethol, ac eleni fe wnaethom ddarparu £100,000 ychwanegol i ddatblygu ei strategaeth farchnata. Yn yr un modd, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru cystal ag y gallant fod. Yn 2019-20, darparwyd cyllid digynsail o £3.2 miliwn gennym i awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol i wella cymorth mabwysiadu, i'w ddarparu drwy'r fframwaith cymorth mabwysiadu ar gyfer Cymru. Mynychais symposiwm ar fabwysiadu ddoe yn y Deml Heddwch, ac er bod pawb yn cydnabod bod cryn ffordd i fynd, gan fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn meysydd pwysig o gymorth ôl-fabwysiadu bellach, yn sicr ceir teimlad—ac mae rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd heddiw ynglŷn â'r ffaith bod rhieni'n ei chael hi'n anodd ymdopi ar ôl mabwysiadu—rydym yn bendant yn ceisio mynd i'r afael â hynny. Roeddwn yn rhan o'r ymchwiliad cyntaf a edrychodd ar fabwysiadu, a buaswn yn dweud bod gwelliant wedi bod ers hynny, ond mae ffordd bell i fynd o hyd. [Torri ar draws.] Iawn.
Diolch am ildio, Julie. Ar ddechrau eich cyfraniad, fe sonioch am waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes hwn a edrychodd ar bob un o'r meysydd hyn. Fel y gwyddoch, fe wnaethom bwynt o gymryd tystiolaeth gan y bobl ifanc eu hunain, ac un o'r negeseuon pwysicaf a gawsom gan y bobl ifanc hynny oedd pwysigrwydd sefydlogrwydd, yn enwedig o ran lleoliadau. Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn cael 20, 25 o leoliadau mewn un flwyddyn. Felly, pan fyddwch yn edrych ar y dull system gyfan hwn, a ydych yn gwerthfawrogi cyfraniad y pwyllgor yn awgrymu y dylai fod mwy o sefydlogrwydd i bobl ifanc ac y dylid eu rhoi yng nghanol y broses, nid dim ond dweud wrthynt beth sy'n mynd i ddigwydd iddynt?
Yn bendant. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn—rhaid i'r plant fod yn ganolog i hyn—ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y mater.
Mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu'r angen am wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer teuluoedd unigol sy'n mabwysiadu, gan gynnwys gwneud asesiad ar gyfer cymorth ariannol i ddiwallu anghenion penodol plant. Mae gennym bolisi Cymru gyfan sy'n pennu'r meini prawf a'r amgylchiadau y gellir talu lwfans mabwysiadu, y broses asesu ac adolygu, a'r hyn y gellir rhoi cymorth tuag ato.
Fel Llywodraeth, rydym wedi rhoi ffocws cadarn ar rianta cadarnhaol ac yn cydnabod gwerth cymorth rhianta. Mae ein grŵp gweithredu arbenigol ar rianta yn ystyried sut y gellir darparu cymorth rhianta yn y ffordd fwyaf effeithiol ledled Cymru. Ac nid wyf am ragdybio canlyniad eu gwaith, ond hoffwn bwysleisio, er bod lle i gymorth rhianta fel rhan o gwrs, mae dulliau eraill ar gael ac maent yn effeithiol mewn gwahanol amgylchiadau.
Yng ngoleuni'r hyn rwyf newydd ei egluro, byddaf yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol, ond ni fyddaf yn cefnogi gwelliant Siân Gwenllian oherwydd nid wyf yn derbyn y geiriau am y targedau. Ond diolch iddi am ei barn ystyriol ac am dynnu sylw at adolygiad Thomas.
Ac mewn perthynas â'r cynllun statws preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE—a soniodd Rhianon am hyn hefyd—ceir 115 o blant cymwys yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref, yr awdurdodau lleol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi'r broses o wneud cais ar gyfer y plant hyn. Ac rydym mewn cysylltiad rheolaidd â'r awdurdodau lleol ynglŷn â'r mater hwn.
O ran gwelliannau Neil McEvoy, yn amlwg, yn yr holl waith rydym yn ei wneud gyda phlant, mae'n rhaid i'w diogelwch fod yn brif ffactor wrth benderfynu ar yr hyn a wnawn. Ond mae cysylltiad â rhieni'n bwysig iawn, ac yn rhan allweddol o'r broses o ailuno teuluoedd ar ôl i blentyn dreulio rhywfaint o amser mewn gofal, ynghyd â chymorth parhaus. Felly, byddaf yn cefnogi'r gwelliant hwnnw. Rwy'n cytuno ynglŷn â phwysigrwydd eiriolwyr, ac mae'r trefniadau hyn eisoes yn y gyfraith ac yn y canllawiau, felly byddaf yn cefnogi hynny hefyd.
Fodd bynnag, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau eraill am resymau y byddaf yn eu hegluro. Rwyf innau hefyd yn pryderu y gallai'r rhai sy'n gadael gofal ac a ddaw'n rhieni yn wynebu'r risg o wahaniaethu. Rydym am i awdurdodau lleol newid eu hagwedd tuag at atal gwell, ac mae'r mater hwn yn rhan o'r agenda honno. Mae'r rhaglen Reflect a ariannir gennym, ac y soniwyd amdani eisoes, yn darparu cymorth mawr ei angen i rieni, ac rydym eisoes yn disgwyl llawer gan awdurdodau lleol, felly nid ydym am ychwanegu archwiliad mawr o ffeiliau achos at eu llwyth gwaith.
Mae ailgydbwyso'r sector gofal cymdeithasol i gefnogi twf maethu a gofal preswyl awdurdodau lleol a lleihau dibyniaeth ar y sector preifat yn bolisi Llywodraeth. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae angen rhywfaint o ddarpariaeth breifat o ansawdd da arnom. Felly, ni allaf gytuno â geiriad y gwelliant hwnnw, oherwydd mae gennym blant yn y ddarpariaeth honno ar hyn o bryd, felly ni allwn gytuno ar eiriad y gwelliant hwnnw.
Ac ar y broses gwyno, mae rheoliadau Cymru 2014 a'r canllawiau yn darparu ar gyfer ymchwilydd annibynnol nad yw'n aelod nac yn swyddog o'r awdurdod lleol. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwnnw.
Rwy'n ymwybodol fod angen imi gwblhau fy sylwadau, ac roedd llawer mwy o faterion y credaf y gallem fod wedi'u trafod. Gwn fod pwyntiau pwysig iawn wedi'u gwneud am addysg, ond rwyf am bwysleisio'r pwynt mewn ymateb i Oscar fod gennym grant datblygu disgyblion sydd wedi'i anelu'n benodol at blant mewn gofal, yn ogystal â phlant eraill. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig i'w wneud.
Ond yn olaf, hoffwn orffen, fel y gwnaeth Janet Finch-Saunders, ar nodyn cadarnhaol, a gwn fod David Rowlands wedi sôn am Roots Foundation yn Abertawe. Ymwelais â Roots Foundation, a chredaf eu bod yn gwneud gwaith rhagorol yno. I lawer o blant, rwy'n credu bod rhaid inni ddweud mai bod mewn gofal yw'r hyn sydd orau er eu lles a bod hynny'n cynnig sefydlogrwydd a diogelwch, fel y mae ymatebion i'r arolwg Bright Spots wedi'i ddangos. Rwyf wedi cyfarfod â rhai sy'n gadael gofal ac sy'n gwneud yn rhagorol, yn cyflawni'n academaidd ac yn llwyddo i fyw bywydau annibynnol a bodlon. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig gorffen ar y nodyn cadarnhaol hwnnw.
Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. Janet Finch-Saunders a agorodd y ddadl, wrth gwrs, gan ddweud bod y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd yn llithro allan o reolaeth gyda nifer y plant sy'n derbyn gofal yn codi 34 y cant dros 15 mlynedd, 6,845 o blant rhwng dim a 18 oed yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ym mhob 10,000 bellach yn llawer uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a hefyd yn uwch nag yn yr Alban ar sail y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd. Soniodd fod y comisiwn cyfiawnder yn amheus ynghylch effeithiolrwydd gwariant yng Nghymru hyd yma ar yr agenda hon, fod angen rhoi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar er mwyn lleihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal, a gwella cyfleoedd bywyd. Dywedodd fod plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef cyflyrau iechyd meddwl na phlant nad ydynt mewn gofal, ac felly mae angen inni wybod nid yn unig faint sy'n cael ei dargedu tuag at blant sy'n derbyn gofal, ond hefyd sut y mae hyn yn cael ei fonitro. Gyda'r rhai sy'n gadael gofal yn wynebu mwy o risg o ddigartrefedd a thlodi, dywedodd fod angen i'r rhai sy'n gadael gofal gael eiriolwr, ac i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru nodi a chefnogi plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru sy'n gymwys i wneud ceisiadau i'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE, rhywbeth y soniodd llawer o bobl amdano, a'r angen i gynorthwyo rhieni sy'n mabwysiadu i gadw brodyr a chwiorydd gyda'i gilydd. Gorffennodd ar nodyn cadarnhaol am obaith i'r dyfodol a gobaith i'r plant hyn.
Cyfeiriodd Siân Gwenllian eto at adroddiad Thomas, fod canran y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a bod angen i Lywodraeth Cymru ymateb i'r bwlch sy'n ehangu rhwng Cymru a Lloegr. Cyfeiriodd at faterion sy'n dod i'r amlwg, megis llinellau cyffuriau a cham-drin ar-lein, yr angen am ddull amlasiantaethol mewn nifer o feysydd, ac ysgolion a llysoedd yn benodol, a buddsoddi cynaliadwy mewn gwasanaethau ataliol i gadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Mynegodd Neil McEvoy nifer o bryderon, gan gynnwys yr angen am gysylltiad—neu bryder ynghylch cyfyngu ar gysylltiad—rhwng plant sydd eisiau gweld rhieni a'u rhieni; y gall rhieni eu hunain fod mewn perygl o wahaniaethu; y dylai plant sy’n gwneud honiadau ynghylch cam-drin gael eu cymryd o ddifrif; a bod angen i ymchwiliadau i gwynion fod yn hollol annibynnol, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.
Soniodd Mohammad Asghar eto am y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, gan nodi y bu cynnydd trawiadol yn nifer y plant mewn gofal yng Nghymru ac amrywio eang rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yna archwiliodd hynny ymhellach, a'r angen i dorri’r cylch o amddifadedd, lle mae Llywodraeth Cymru wedi lansio nifer o raglenni ac wedi buddsoddi'n enfawr yn y rheini, ond nid oes yr un ohonynt hyd yn hyn wedi atal y cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal.
Cyfeiriodd Rhianon Passmore at y consensws trawsbleidiol cryf i sicrhau bod plant sydd wedi cael profiad o ofal yn cael y gefnogaeth orau sydd ar gael, a phwysigrwydd gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal. Soniodd Caroline Jones am fuddiannau plant yn cael eu hesgeuluso yn y llysoedd teulu, yr angen i dorri cylch dechrau gwael mewn bywyd yn arwain at gyfleoedd bywyd gwael, ac fel nifer o bobl, cyfeiriodd wedi hynny at waith gwych y Roots Foundation, ac unwaith eto pwysleisiodd y rhan allweddol a chwaraeir gan y sector gwirfoddol, a phwysigrwydd hanfodol buddsoddi yng ngwasanaethau allweddol ymyrraeth gynnar ac atal y sector gwirfoddol er mwyn gwella bywydau a defnyddio arian yn well ac atal pwysau ar wasanaethau statudol.
Yn olaf—neu bron yn olaf, os gallaf ddod o hyd i fy nhudalen olaf, gan fod cymaint o ddarnau o bapur yma—cawsom Suzy Davies, yn olaf ond un, yn dweud bod yn rhaid i'r system ymateb i anghenion plant, nid fel arall; pwysigrwydd cefnogi gofalwyr maeth, cyrsiau rhianta cadarnhaol, a mynediad at hyfforddiant ac addysg, ac ennill cymwysterau i roi dyfodol i bob unigolyn ifanc. Soniodd David Rowlands—dywedodd fod nifer y plant sy'n destun achosion gofal yn cynyddu'n sylweddol, ac y dylai symud plant o'r cartref teuluol fod yn ddewis olaf bob amser. Mae symud plentyn yn ddinistriol nid yn unig i'r rhieni, ond hefyd i neiniau a theidiau, na ddylem byth mo’u hanghofio, a'r teulu ehangach. A mynegodd bryder ynghylch y llysoedd teulu yn eistedd yn gyfrinachol.
Gorffennodd y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, trwy ganmol, yn briodol, grŵp cynghori’r Gweinidog a gadeirir yn fedrus gan David Melding; pwysigrwydd, fodd bynnag, peidio â llaesu dwylo; pwysigrwydd lleoliadau sefydlog lle bynnag y bo modd. Dywedodd fod y maes gwaith hwn yn gymhleth, yn amlasiantaethol, ac er bod y gyfradd sy'n derbyn gofal wedi arafu, mae'r niferoedd heb eu dilysu hyd yn hyn. Dywedodd ein bod ar daith o welliant a bod yn rhaid i ni gadw momentwm, ond mae ffordd bell i fynd. Yn amlwg, mae'r ffigurau a'r adroddiadau hyn yn dystiolaeth o hynny. Fel y cytunodd, rhaid i blant fod yn y canol yn hyn. Wrth gwrs, rydym yn croesawu’r ffaith iddi ddweud y bydd yn cefnogi’r cynnig. Felly, rwyf am gloi trwy alw ar bawb i ymuno â'r Dirprwy Weinidog i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gallai fod yn gyflymach na hynny. Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar.
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar anhwylderau bwyta, a galwaf ar Bethan Sayed i gyflwyno’r cynnig—Bethan.
Cynnig NDM7288 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a chyfeillion.
2. Yn credu:
a) bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth uchel;
b) bod gwellhad yn bosibl;
c) gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad.
3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen.
4. Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn.
5. Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Wel, mae'r ddadl hon i’w gweld yn amserol heddiw oherwydd i mi ddechrau fy ngyrfa yn 2007 gyda dechrau'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta, ac rwy'n gorffen y rhan hon o fy ngyrfa cyn mynd ar gyfnod mamolaeth heddiw gyda dadl ar anhwylderau bwyta a'r fframwaith anhwylderau bwyta. Felly, mae'n ddiwrnod emosiynol, a byddwch yn amyneddgar os ydw i'n mynd yn fyr o anadl neu'n emosiynol.
Cawsom ddigwyddiad heddiw gyda Beat Cymru i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, a dyna pam roeddwn i eisiau cael y ddadl hon heddiw, oherwydd credaf ei bod hi'n wythnos bwysig y dylem ei nodi bob blwyddyn i sicrhau y gallwn geisio codi ymwybyddiaeth o wasanaethau anhwylderau bwyta yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, a hefyd i sicrhau ein bod yn rhoi polisïau Llywodraeth cryf ar waith i sicrhau nad oes raid inni ei drafod yn barhaus, ond bod gennym wasanaethau cryf ar waith i sicrhau ein bod yn targedu’r clefyd hollbresennol hwn.
Yn aml caiff ei yrru gan ddiffyg ymwybyddiaeth. Mae pobl yn dweud yn aml iawn mai deiet wedi mynd o'i le ydyw. Mae pobl yn wynebu pwysau enfawr mewn cymdeithas, o drawma yn ystod plentyndod i gamdriniaeth, i'r lluniau a welwn ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd—mae pawb ohonom yn gwybod amdano, ac mae pawb ohonom yn gwybod ei fod yn effeithio nid yn unig ar fenywod ond ar bawb yn y gymdeithas. Gall diffyg hunan-barch cyffredinol neu gysylltiad â chyflyrau iechyd meddwl eraill ddwysau'r anhwylder bwyta hwnnw wrth gwrs.
Mae yna nifer o resymau y tu ôl i bob achos unigol o anhwylder bwyta. Nid oes neb a gyfarfûm erioed wedi cael yr un enghraifft yn union o anhwylder bwyta. Ond rwy’n gwybod mai dyma’r broblem iechyd meddwl sydd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau yn y DU, ac eto mae angen inni ddal i gydnabod y ffaith bod diffyg buddsoddiad enbyd, nid yma yng Nghymru yn unig ond mewn rhannau eraill o’r DU, ac mae angen inni newid hynny.
Mae 1.25 miliwn o bobl yn y DU yn byw gydag anhwylder bwyta, ond gallai hwn fod yn dangyfrif, oherwydd yn syml iawn, nid yw rhai pobl yn cydnabod bod ganddynt anhwylder bwyta, oherwydd fel gyda phroblemau iechyd meddwl eraill, yn aml ni fyddwn yn ei adnabod ynom ein hunain. Ac yn aml, ac yn enwedig dynion, maent yn ei anwybyddu'n llwyr ac nid ydynt yn gwybod sut i droi at bobl i ofyn am gefnogaeth.
Mae triniaeth yn bosibl ac mae cymorth yn bosibl. Ond cefais drafodaethau gyda phobl sydd ag anhwylderau bwyta dros y blynyddoedd ynglŷn â'r gair 'adferiad' ac mae rhai pobl yn dweud wrthyf na fyddant byth yn gwella'n llwyr o anhwylder bwyta, ond yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod y ffordd i wellhad yno i bawb ohonom os ydym am ei dilyn ac y gallwn ymdopi ag anhwylder bwyta hyd yn oed os yw'n aros gyda ni am weddill ein hoes.
Hoffwn ddweud bod—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—Nick.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Rydych chi newydd fynd â mi yn ôl i 2007, a chredaf fod eich grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta yn un o'r grwpiau trawsbleidiol cyntaf i mi eu mynychu, a daethoch â dyn ifanc gyda chi i'r cyfarfod hwnnw a oedd wedi bod yn dioddef o anhwylder bwyta. Felly, rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch, fod dynion yn aml yn amharod i gyfaddef bod ganddynt anhwylder bwyta neu broblem iechyd meddwl ehangach, yn broblem benodol. Felly, efallai fod hynny'n rhywbeth y gellir mynd i'r afael ag ef wrth symud ymlaen, fel bod y nifer fawr o bobl nad ydynt wedi’u cofnodi yn camu ymlaen ac yn dweud—dal eu llaw a dweud, 'Hei, mae gennyf broblem.'
Diolch am ddod i'r cyfarfod cyntaf hwnnw, Nick. Rwy'n credu eich bod chi'n siarad am James Downs sydd wedi bod yn ymgyrchydd anhygoel. Mae wedi symud i Loegr bellach ac mae'n gwneud yr un math o ymgyrchu ag y gwnaeth yma. Felly, mae ganddo fynydd i'w ddringo, ond mae'n dal i chwarae rhan fawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn annog y bobl hynny i gamu ymlaen.
Y broblem i lawer o bobl, rwy’n credu, yw bod yr aros yn aml yn beryglus o hir a bod y ddarpariaeth o wasanaethau yn dameidiog mewn sawl ardal. Mewn rhai ardaloedd maent yn dda iawn, ond mewn ardaloedd eraill, prin eu bod yn bodoli—os edrychwn ar ganolbarth Cymru, mae'n anodd iawn cael mynediad at y gwasanaethau hynny. A’r hyn sydd ei angen arnom yw cymorth mwy cyson—pan fydd ganddynt fynediad at y gwasanaethau hynny yn y gymuned, dywed llawer o bobl nad oes ganddynt grwpiau cefnogi i fynd iddynt wedyn, lle gallant gyfarfod â phobl eraill a gallant rannu eu profiadau gyda phobl eraill.
Yn 2018 arweiniodd Dr Jacinta Tan adolygiad fframwaith anhwylderau bwyta Llywodraeth Cymru. Hwn oedd yr adolygiad y buom yn ymgyrchu amdano yn ôl yn 2007, adolygiad a roddwyd ar waith gan Edwina Hart, fel y Gweinidog ar y pryd. Ac yna fe wnaethom ymgyrchu i'r adolygiad ddigwydd ym mis Tachwedd 2018. I fod yn deg â Jacinta Tan, roedd yr adolygiad yn gryf iawn, yn gadarn iawn, ac roedd gofalwyr, cleifion a'u teuluoedd wedi cymryd rhan ynddo, a theimlent eu bod yn cael eu cynnwys ac yn rhan o'r broses. Yr unig beth a berai bryder i mi ar y pryd oedd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd amser eithaf hir i gynnig unrhyw syniadau ynglŷn â sut y byddent yn gweithredu'r adolygiad hwnnw, a chredaf y byddem yn annog Llywodraeth Cymru yma heddiw i ddweud wrthym sut y bwriadant roi'r newidiadau yn yr adolygiad ar waith i'w wireddu.
Amserau aros—mae llawer o gyflyrau eraill yn broblem yma. Gwyddom o gronfa ddata cyfnodau cleifion Cymru fod amseroedd aros y GIG yn ychwanegol at yr amser helaeth y mae’n aml yn ei gymryd i lawer o bobl gamu ymlaen a gofyn am gymorth ar gyfer eu cyflwr. Felly, gallai hyn olygu aros hyd at dair blynedd fan lleiaf. Felly, yn yr adolygiad o’r gwasanaeth, argymhellir na ddylid aros mwy na phedair wythnos ar gyfer atgyfeiriadau nad ydynt yn rhai brys ac un wythnos ar gyfer atgyfeiriadau brys. Ac eto, mae hyn ymhell iawn o’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n destun pryder, fel y dywedais, fod Llywodraeth Cymru i’w gweld yn bell iawn o'i weithredu, felly hoffwn wybod pryd y maent yn mynd i wneud hynny.
Felly, er bod yr amseroedd aros yn broblem, mae mynediad yn broblem hefyd. Ac rwyf wedi colli cyfrif ar y nifer o weithiau mae pobl wedi dweud wrthyf na allant fanteisio ar wasanaethau’n ddigon cyflym iddynt allu trin eu hanhwylder bwyta.
Ac mae nifer ohonynt—. Nid wyf am feirniadu gweithwyr iechyd proffesiynol yn benodol, ond rydym yn gwybod, os ewch at eich meddyg teulu—nid ydynt yn arbenigwyr, ond nid ydynt yn gwybod, weithiau, at bwy i atgyfeirio claf, nid ydynt yn gwybod beth yw'r prosesau. Felly, rwy'n credu bod angen llawer mwy o hyfforddiant yn hynny o beth. Ac yna sonia'r adolygiad am ddull o ddarparu gwasanaethau ar gyfer pob oedran a fyddai’n dileu rhai o’r heriau y mae trosglwyddo rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a gwasanaethau oedolion yn aml yn eu hachosi. Nid wyf am i fy amser ddod i ben cyn i mi allu crynhoi; rwy'n sylweddoli fy mod yn mynd yn arafach nag arfer.
Fe glywais gan lysgennad Beat, Zoe John, yma heddiw a ddywedodd eu bod wedi barnu nad oedd hi'n ddigon tenau i gael triniaeth, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl anfaddeuol. Mae angen inni adolygu'r BMI, hyd yn oed os nad ydych am ei ddileu. Pe bawn i'n aelod o'r Llywodraeth, buaswn yn ei ddileu, oherwydd hyd yn oed os na fydd gennych anhwylder bwyta ar y cychwyn, gallech gael anhwylder bwyta am eu bod yn dweud wrthych eich bod yn rhy drwm neu fod angen i chi wneud pethau penodol i'ch ffordd o fyw er eich bod yn gwneud hynny'n barod efallai, ac rwy'n credu ei bod hi'n allweddol inni edrych ar hynny, ac ni chafodd sylw yn yr adolygiad hwn o anhwylderau bwyta.
Ceir cymaint o straeon y mae pobl wedi'u dweud wrthyf, ond bu'n fraint cael arwain y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta ac rwy'n gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen â'r gwaith tra byddaf oddi yma ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r newidiadau i'r adolygiad fel y gallaf ddod yn ôl ac y gallaf fod—wel, ni fydd gennyf lawer i'w wneud bryd hynny. [Chwerthin.] Felly, ni chaf amser i ymateb i chi; bydd yn rhaid i chi ddod â rhywun arall i mewn. Ond diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig a galwaf ar Angela Burns i gynnig y gwelliannau, 1 a 2, yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach at yr amser i ddatblygu amseroedd aros am wasanaethau i oedolion a gwasanaethau plant a amlinellir yn ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 26 Medi 2019.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ym mhwynt 6, ar ôl 'i sicrhau' ychwanegu 'ar frys'.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro. A Bethan Sayed, hoffwn roi rhybudd teg i chi, os ydych yn credu, pan fydd eich bwndel bach o lawenydd wedi dod i'r byd, y bydd gennych lai i'w wneud, rydych chi'n camgymryd yn arw. [Chwerthin.] Ond mae'n mynd i fod yn daith wych, ac rwy'n dymuno'r gorau i chi. Hoffem ni, ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig, ddiolch yn fawr i chi am bopeth a wnaethoch yma yn y Cynulliad ar ddatblygu'r maes pwysig hwn, oherwydd mae'n bwysig. Mae'n effeithio ar gynifer o bobl, nid yn unig y rheini sydd â chyflwr o anhwylderau bwyta, ond hefyd y teuluoedd a'r ffrindiau. Rydych chi wedi dweud llawer iawn o'r pethau roeddwn i eisiau eu dweud a hynny'n daclus iawn.
Rydym yn cefnogi'r cynnig yn llwyr, ond byddwn yn ei wrthwynebu er mwyn cael ein gwelliant wedi'i glywed. Y rheswm pam ein bod am gael ein gwelliant wedi'i glywed yw ein bod yn credu ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i siarad gwag—mae angen i'r Dirprwy Weinidog weithredu bellach ac mae angen inni weld symud ar hyn a chael gwasanaeth anhwylderau bwyta. Mae'n dweud y cyfan yn y fan hon; nid oes angen i mi ei ailadrodd. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ac mae angen inni ei ddweud yn awr.
Mae amser yn hollbwysig. Mae canfod ac ymyrryd yn gynnar yn un o egwyddorion sylfaenol yr adolygiad hwn, ac mae'r holl weithwyr proffesiynol yn cydnabod bod ymyrraeth gynnar mor bwysig. Ac eto, mae gennyf etholwyr sy'n aros am flynyddoedd yn llythrennol ar ôl i'w hanhwylder bwyta ddechrau cyn iddynt ddechrau cael unrhyw fath o driniaeth. Ac os ydynt yn ddigon lwcus i gael triniaeth, yn aml iawn ni fydd ond yn para am chwe wythnos. Wel, beth ar y ddaear y mae chwe wythnos yn mynd i'w wneud pan fydd angen cymorth a dealltwriaeth iechyd meddwl arnoch i fynd ar daith hir iawn?
Mae'r amseroedd aros yn hir, ond mae'n ymwneud hefyd â chael y diwrnod hwnnw a'r driniaeth breswyl. Ac rwyf wedi cael etholwyr—rhieni—yn dod ataf ac yn dweud bod eu meddyg teulu wedi dweud wrthynt, 'Eich bet gorau yw mynd i'r Priory yn Llundain, neu i Clouds'—neu beth bynnag yw ei enw—'yn Wiltshire.' Wel, nid yw hwnnw'n ateb. Oherwydd mae angen cymorth preswyl ar y sawl rydych chi'n pryderu amdanynt i'w cael drwy hyn, ac mae gwir angen inni edrych ar hyn.
Yr un pwynt rwyf am fynd ar ei drywydd yw'r holl faes sy'n ymwneud â rhoi mwy o brofiad o bob mater iechyd meddwl i feddygon teulu yn ystod eu hyfforddiant, gan gynnwys anhwylderau bwyta. Rwy'n siarad o fy mhrofiad personol fy hun, o fewn fy nheulu, pan glywyd y neges, 'Tynnwch eich hun at eich gilydd', a 'Mynd drwy gyfnod y mae hi.' Wyddoch chi—ie, cyfnodau yw'r hyn rydych chi'n mynd drwyddynt pan fyddwch chi'n tyfu o fod yn 5 troedfedd 3 modfedd i fod yn 5 troedfedd 4 modfedd. Gallwch alw hwnnw'n gyfnod, ond nid yw anhwylderau bwyta'n gyfnod. Credaf fod gwir angen inni sicrhau bod meddygon teulu, am mai hwy yw'r rheng flaen, yn deall bod angen i bob problem iechyd meddwl gael ei thrin yn dda, a bod anhwylderau bwyta yn rhywbeth go iawn, mae'n gyflwr, mae'n glefyd. Ac os gallwch helpu rhywun i ymdopi a dysgu byw gydag ef a'i reoli a'i goncro, gobeithio, fe gânt ganlyniad cymaint yn well mewn bywyd.
Felly, un o'r pethau rwyf o ddifrif eisiau ei hyrwyddo yw hyfforddiant ychwanegol o'r fath i feddygon teulu, wedi'i gylchdroi yn y gymuned, wedi'i gylchdroi mewn gwasanaethau iechyd meddwl a deall ei bwysigrwydd. Diolch i chi unwaith eto am gyflwyno'r ddadl hon—a phob lwc, fe gewch amser gwych.
Galwaf yn awr ar Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Mi es i i'r digwyddiad amser cinio heddiw yma yn y Senedd, wedi'i drefnu i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, wedi'i drefnu gan y grŵp Beat, ac wedi'i noddi gan Bethan Sayed. A gaf i ddweud wrthych chi mor falch ydw i fy mod i wedi mynd i'r digwyddiad hwnnw ac i allu gwrando ar ferched ifanc yn egluro mor huawdl sut oedd eu bywydau nhw wedi cael eu taro gan anhwylderau bwyta: y pwysau i gydymffurfio yn y lle cyntaf o ran siâp eu cyrff neu eu hedrychiad; y diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth oedd ganddyn nhw o'r peryg y gallan nhw syrthio i drap anhwylderau bwyta; sut doedden nhw ddim wedi sylweddoli bod problem yn datblygu arnyn nhw tan fod y broblem honno wedi troi yn un ddifrifol; a sut roedd yr ymateb i'w cri nhw am help, neu eu cais am gymorth gan y gwasanaeth iechyd, wedi bod yn annerbyniol o wael?
Ac mae hynny yn sicr yn fy argyhoeddi i y dylem ni fod yn cymryd anhwylderau bwyta yn llawer iawn mwy o ddifrif nag rydym ni wedi bod yn eu cymryd nhw o ran yr angen am frys. A dyna, mewn difrif, ydy gofyniad Beat a'r merched ifanc yna wnes i glywed ganddyn nhw heddiw yma—i weithredu efo brys. Ac mae'r cyfarwyddiadau ar beth ddylen ni fod yn ei wneud gennym ni, achos mae'r adolygiad wedi cael ei gynnal. Yr hyn rydym ni'n ei ofyn amdano fo, yn syml iawn, ydy gweithredu'r hyn a ddaeth allan o'r adolygiad hwnnw.
Cael gwasanaethau o safon sydd eu hangen ar fechgyn a merched sydd yn dioddef o'r salwch meddwl yma; sicrhau bod yna gysondeb mewn gwasanaethau ar draws Cymru; sicrhau ein bod ni'n datblygu ffyrdd o fonitro'r gofal sydd yn cael ei roi; sicrhau bod staffio yn cael sylw digonol, a bod y cyllidebau yno mewn lle ar lefel ein byrddau iechyd ni i weithredu system sydd yn briodol; a sicrhau ein bod ni'n dysgu ein meddygon ifanc ni ynglŷn ag anhwylderau bwyta, a bod yna fwy o amser na'r llai na dwy awr sy'n cael ei gynnig i feddygon ifanc yn eu hyfforddiant ar hyn o bryd, a bod yr amser yna yn cael ei gynyddu fel bod yna ddealltwriaeth ymhlith y gweithlu iechyd drwyddo draw ynglŷn â difrifoldeb hyn.
Mae'r patrwm yna yn dilyn yr adolygiad. Gadewch inni, drwy'r ddadl fer yma heddiw yma, wneud y pwynt fel Senedd ein bod ni'n disgwyl i'r argymhellion yna gael eu gweithredu, a hynny ar frys, er mwyn ein pobl ifanc ni.
Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Bethan am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a defnyddio'r cyfle hefyd i ddiolch iddi am yr holl waith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn, a'r modd y mae hi wedi'i wneud yn faes gwaith pwysig iawn i'r Cynulliad, ac am ei holl waith gyda'r grŵp trawsbleidiol, ac i ddymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n falch iawn o gael cyfle heddiw i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta ac i bwysleisio'r gwaith sy'n cael ei wneud i wella'r gwasanaeth anhwylderau bwyta yng Nghymru. Rwy'n derbyn yn llwyr fod anhwylderau bwyta'n gyflyrau difrifol sy'n effeithio nid yn unig ar y rhai sydd â'r cyflwr, ond y gallant gael effaith enfawr ar fywydau teuluoedd a chyfeillion. Ac mae ffrindiau a theuluoedd yn aml yn allweddol yng ngofal holistaidd y rhai sydd ag anhwylderau bwyta, ac mae'n addas fod pwyslais yr wythnos hon ar rymuso a chefnogi'r ffrindiau a'r teuluoedd hyn.
Hoffwn ymuno ag Aelodau'r Cynulliad i ganmol y rhai sydd wedi gweithio a chymryd rhan yn adolygiad y gwasanaeth anhwylderau bwyta. Fel y dywedodd Bethan, yn 2018, comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Jacinta Tan o Brifysgol Abertawe i adolygu gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru ac i benderfynu pa newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau.
Rwy'n gwybod—a chredaf fod Bethan wedi dweud hyn ar y dechrau—fod profiad y rhai sydd ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd yn gwbl ganolog i gasgliadau Dr Tan, ac rwy'n ddiolchgar yn bersonol am y buddsoddiad y mae'r bobl hyn wedi'i wneud tuag at wella gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru. Rwy'n gwybod y gall fod yn anodd iawn—disgrifiodd Rhun yn fyw iawn y menywod ifanc a gyfrannodd at y digwyddiad amser cinio. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod y brwydrau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu yn gwbl ganolog i benderfyniadau polisi. Cefais fy nharo hefyd gan yr hyn a ddywedodd Bethan am—rwy'n credu mai Zoe John a ddywedodd nad oedd hi'n ddigon tenau. Mae'r adolygiad yn eithaf clir na ddylid ar unrhyw gyfrif ddweud wrth gleifion sydd angen triniaeth nad ydynt yn ddigon sâl. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.
Mae adolygiad Dr Tan yn darparu dadansoddiad eang o wasanaethau anhwylderau bwyta cyfredol a gwnaeth nifer o argymhellion pwysig sy'n adlewyrchu'r hyn y gallai gwasanaethau ei gyflawni yn fwy hirdymor. Mae'r adolygiad yn sôn am rôl ffrindiau a theuluoedd yn cyfranogi yn y driniaeth: yn bod yn gynghreiriaid i therapyddion a chymell eu hanwyliaid. Mae hefyd yn cydnabod yr aberth emosiynol, ariannol a galwedigaethol a wneir i gefnogi ffrindiau a theulu.
Mae'r adolygiad yn argymell y dylid ystyried anghenion a safbwyntiau teuluoedd y rhai sydd ag anhwylderau bwyta wrth ddatblygu polisi a llunio gwasanaethau, a'u cynnwys yn nhriniaeth eu hanwyliaid. Rwy'n cefnogi'r egwyddor hon yn llwyr ac yn disgwyl i hyn, ynghyd ag egwyddorion eraill sy'n sail i'r adolygiad, lywio datblygiad gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y byrddau iechyd yn nodi'r camau y mae'n disgwyl iddynt gael eu cymryd mewn ymateb i'r adolygiad: ad-drefnu gwasanaethau tuag at ymyrraeth gynharach; gweithio tuag at gyflawni safonau NICE ar gyfer anhwylderau bwyta o fewn dwy flynedd; a datblygu cynlluniau i gyrraedd targed amser aros o bedair wythnos o fewn dwy flynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn sylwadau gan bob bwrdd iechyd yn nodi dull awgrymedig ar gyfer cyflawni'r targedau hyn gan sicrhau bod cynlluniau mwy hirdymor yn cyd-fynd ag uchelgais yr adolygiad.
Mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol er mwyn dechrau darparu'r lefel o wasanaethau sydd eu hangen yng Nghymru, ac mae swyddogion wrthi'n datblygu dull o ariannu a fydd yn ein galluogi i wneud cynnydd. Gwn y byddai llawer o bobl yn hoffi gweld hyn yn digwydd yn gyflymach ac rwy'n credu mai dyna oedd thema'r cyfraniadau yma heddiw, ond mae hwn wedi bod yn adolygiad sylweddol, sy'n galw am ei ddadansoddi'n fanwl. Bu'n rhaid ymgysylltu â chlinigwyr i brofi'r argymhellion a sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn ffordd sy'n ystyried y cynnydd a wnaed eisoes mewn sawl maes. Ac i gefnogi'r cynnydd hwn, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd adnodd cenedlaethol ar gael i sicrhau bod modd gwneud y cynnydd a welir mewn rhai rhannau o'r wlad ar draws Cymru, oherwydd roedd y broblem fod y gwasanaethau'n dameidiog ar draws Cymru'n bwynt pwysig arall a wnaethpwyd.
Er ei bod yn bwysig i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau yn eu hardaloedd, mae angen inni sicrhau bod pobl sy'n byw yng Nghymru yn gallu disgwyl triniaeth ragorol ar gyfer anhwylderau bwyta, lle bynnag y maent yn byw. Mae'r newidiadau rydym yn gweithio tuag atynt yn uchelgeisiol ac yn adlewyrchu maint yr her sy'n ein hwynebu, ac ni fydd y newidiadau hyn yn digwydd dros nos. Mae'r gwaith a wnaed gan weithwyr proffesiynol, y rhai ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd ar ddatblygu'r adolygiad wedi bod yn allweddol ar gyfer pennu'r camau sy'n cael eu cymryd i wella gwasanaethau yng Nghymru. Felly, mae cynllun clir ar y gweill.
Hoffwn gloi, a dweud y gwir, drwy ddiolch i Bethan am gyfrannu at y sefyllfa sydd gennym. Mae gennym gynllun clir rydym yn gweithio tuag ato, ond mae'n gymhleth a bydd yn cymryd amser. Ond fel y clywsoch yn fy araith, rhoddir terfynau amser ar gyfer cyrraedd y sefyllfa rydym am fod ynddi.
Galwaf yn awr ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, a diolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu; rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb a gawsom. Rwyf am ddechrau gyda hyn: fe ddywedoch chi, Ddirprwy Weinidog, na fydd yn digwydd dros nos, ac rwy'n sylweddoli y bydd unrhyw newid i'r gwasanaethau yn cymryd amser, ond credaf mai'r hyn yr hoffwn eich annog i'w wneud yn yr ystyr honno, felly, yw sicrhau bod y bobl a gyfrannodd at yr adolygiad—boed yn gleifion, boed yn ofalwyr, boed yn geraint—yn cymryd rhan lawn yn yr amserlenni sydd gennych.
Oherwydd fe wnaethant ddweud wrthyf fod gostyngiad wedi bod ar ôl iddynt gyfrannu at adolygiad Jacinta Tan, ac na chawsant wybod gan Lywodraeth Cymru beth oedd yn digwydd. Ni chawsant eu cynnwys. Ac nid oes mwy y maent eisiau gallu ei wneud na chael gwybod beth sy'n digwydd a chael cymryd rhan. Felly, hoffwn eich annog, hyd yn oed os ydych chi'n mynd i ddweud wrthynt, 'Mae'n mynd i gymryd ychydig o amser, byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda', wyddoch chi beth, nid ydynt yn mynd i'ch beirniadu am hynny, oherwydd maent yn gwybod eich bod yn rhoi'r wybodaeth honno iddynt? Felly, byddwch yn ymwybodol o hynny.
Rydych yn dweud y bydd angen arian ychwanegol a'ch bod yn cysylltu â gweision sifil i edrych ar sut y bydd hynny'n digwydd. Yn amlwg, fe fyddwch wedi darllen yn adolygiad Jacinta Tan y byddai'n rhagweld bod angen tua £9 miliwn i allu gwneud hynny. Felly, hoffwn ddeall beth y mae eich gweision sifil yn ei wneud o ran costio gwahanol fodelau a sut y byddant yn ymdrin â hynny mewn gofynion cyllidebol yn y dyfodol, felly. Oherwydd wrth gwrs, ar hyn o bryd, yr £1 filiwn o arian rheolaidd y buom yn ymgyrchu drosto yn 2007 ydyw o hyd, ac mae pethau wedi newid ers hynny. Oes, mae pocedi o arian wedi mynd i wahanol wasanaethau, fel pontio ac yn y blaen, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu'n llwyr, ond yn ei hanfod mae'n dal yn eithaf bach o gymharu â chyllideb y GIG yn ei chyfanrwydd. Ac fel y dywedasom, unwaith eto, mae pobl yn marw o'r cyflwr hwn, ac rydym am atal hynny rhag digwydd yn y dyfodol.
Felly, rwyf am orffen yn awr, a hoffwn ddweud nad yw'n rhywbeth a ddylai fod—. Fel y byddwn yn trafod yn y ddadl nesaf, mae pob ffurf ar iechyd meddwl yn bwysig, ond yn benodol, nid yw anhwylderau bwyta yn perthyn i faes iechyd yn unig, maent yn perthyn i fyd addysg hefyd. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf eu bod yn mynd i'r ysgolion a byddent yn hoffi cael mwy o wybodaeth ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu iddynt. Dywedodd Emily Hoskins, a oedd yma'n gynharach, fod ei thad yn athro a bod pobl yn dweud wrth bobl yn yr ysgol—am eu bod yn gwybod bod gan Emily anhwylder bwyta—pe bai ganddynt anhwylder bwyta yn yr ysgol honno y gallent fynd i'w weld. Wel, roedd yn ymdopi â hynny fel gofalwr, ac yna'n dod i mewn a phobl yn cyfeirio pobl ato am help gydag anhwylderau bwyta. Nid oedd hynny'n briodol mewn gwirionedd.
Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych ar bob elfen o gymdeithas a sut y gall nid yn unig y system addysg ddarparu ar gyfer y rhai sydd ei angen, ond hefyd sut y gellir diwygio'r system iechyd wedyn i sicrhau bod y rhai sydd angen triniaeth yn ei chael yn amserol ac yn cael y driniaeth y maent ei hangen ar gyfer eu gofynion eu hunain, yma yn y gymdeithas.
Felly, diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth gymryd rhan, a gobeithio y bydd newidiadau ar y gweill er mwyn sicrhau bod y newidiadau hynny yn helpu'r bobl sydd ar y rheng flaen, fel eu bod nhw ddim yn mynd mor sâl fel bod angen iddyn nhw fynd mewn i uned driniaeth yn Lloegr, a'u bod nhw'n gallu aros yn y gymuned i gael y driniaeth benodol honno.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Symudaf ymlaen yn awr at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar wasanaethau iechyd meddwl. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7289 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.
2. Yn credu na ddylid anfon unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i unedau sy'n bell iawn o'u teulu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau digon o gapasiti cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir mynd ati'n raddol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar gontract allanol;
b) bod â chynllun ar gyfer ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw mewn unedau yn Lloegr;
c) gosod gwaharddiad ar GIG Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag adroddiadau gwael gan y Comisiwn Ansawdd Gofal;
d) sicrhau bod unedau y tu allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn cydymffurfio â gofynion arolygu Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Mae'r ddadl fer yma rŵan yn plethu mewn i'r ddadl rydym ni newydd ei chael—mi wnaf i egluro mwy am hynny am y man. Ond, dadl ydy hi ynglŷn â rhywbeth penodol iawn sydd o bryder mawr i ni ar y meinciau yma, dwi'n gobeithio i ni fel Senedd, ac i lawer gormod o'n hetholwyr ni. Sôn ydym ni am y nifer uchel o gleifion o Gymru sy'n cael eu hanfon i unedau iechyd meddwl ymhell, bell o gartref, yn aml iawn dros y ffin yn Lloegr. Ac mae yna bryderon difrifol ynglŷn â'r egwyddor sydd ynghlwm â gyrru pobl ymhell o gartref. Mae yna bryderon penodol ynglŷn â safon y gofal sy'n cael ei ddarparu i lawer ohonyn nhw.
Mae enghraifft yn y fan hyn: Wayne Erasmus yn honni ei fod o ddim hyd yn oed wedi gallu siarad efo na gweld ei fab awtistig ers dros dair blynedd. Mae ei fab o'n byw mewn uned sydd wedi bod yn destun adroddiad syfrdanol gan y Comisiwn Ansawdd Gofal, uned sydd wedi gweld ataliaeth gorfforol yn cynyddu. Mae claf arall o Gymru efo anorecsia yn yr uned. Dim ond tair galwad ffôn 10 munud yr wythnos sy'n cael eu caniatáu iddi hi efo'i pherthnasau gartref, a hynny efo cyfyngiadau ar yr hyn maen nhw'n cael siarad amdano fo. Ydy hynny'n swnio'n dderbyniol i chi? Mae yna lawer iawn o achosion tebyg wedi bod.
Ond hyd yn oed pe na bai yna bryder am safon ac ansawdd y gofal, mae yna bwynt pwysig iawn o egwyddor ynglŷn â'r effaith ar les claf o fod oriau a channoedd o filltiroedd i ffwrdd o gartref, yn methu siarad efo'u perthnasau o bosib, yn aml ddim yn gwybod pa mor hir fyddan nhw yna, ac yn sicr yn teimlo'n bell iawn o'r rhwydweithiau gofal yna sydd mor bwysig i bobl. Dwi'n cofio etholwr yn dweud wrthyf fi sut y cafodd o ei gludo o'i gartref yng nghanol nos, ag yntau yn wynebu problem iechyd meddwl aciwt, a'i gludo mewn cerbyd i gyffiniau Llundain, a sut yr oedd hynny wedi gwaethygu cymaint yr angst meddyliol yr oedd o'n mynd drwyddo fo ar y pryd. Gall hynny ddim bod yn dderbyniol o dan unrhyw amgylchiadau.
Mi fyddai'n un peth pe bai'r math yma o achosion yn rhai prin, ond dydy o ddim—dydy'r rhain ddim yn achosion prin. Mae Hafal, grŵp sy'n gwneud gwaith mor dda ym maes iechyd meddwl, yn sôn am arolwg o gyfnod lle nad oedden nhw'n gallu llenwi'r gwlâu yn eu huned nhw ym Mhontardawe, a lle oedd 30 y cant allan o 1,000 o gleifion iechyd meddwl ag anableddau dysgu a oedd yn rhan o'r astudiaeth yma wedi cael eu rhoi mewn ysbytai yn Lloegr. Does dim synnwyr yn y peth.
O'i glymu yn ôl at y ddadl flaenorol, mae'n bwysig tynnu sylw hefyd at y ffaith bod gan Gymru ddim uned breswyl anhwylderau bwyta. Mi oedd hi'n bleser cael sgwrs efo merch ifanc sy'n etholwraig i mi yn y cyfarfod heddiw yma. Roedd hi'n hyfryd siarad efo Sara am ei phrofiadau hi, ac yn torri calon rhywun o glywed profiadau Sara. Mi oedd Sara wedi gorfod teithio ymhell bell o gartref ac i Loegr er mwyn cael gofal, a hithau dim ond yn ei harddegau. Mae hynny'n annerbyniol.
Gadewch i ni ystyried hefyd achos cau'r uned mamau a babanod yng Nghaerdydd ar gyfer mamau sy'n profi seicosis postpartum—penderfyniad a wnaeth niwed difrifol, fel cafodd ei ddweud yn glir iawn wrth ymholiad y pwyllgor yma yn y Senedd. Dyma chi ddyfyniad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion:
Nid yw pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n cael eu hanfon allan o'r ardal, allan o'r wlad hyd yn oed, yn bobl â chyflyrau anghyffredin neu anarferol iawn. Maent yn bobl y gallem ofalu amdanynt yn agos at eu teuluoedd ac yn agos at eu ffrindiau.
Mi glywoch chi'r ddadl yn cael ei gwneud weithiau bod y mas critigol o ran poblogaeth ddim gennym ni yma yng Nghymru, ond ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, mae gennym ni yn sicr y boblogaeth sydd ag angen dwys i gael y gofal yn agos at gartref, a diogi a phatrymau hanesyddol gwael o ran comisiynu gofal sydd wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa yma. Felly, dyna ddigon o esgusodion; gadewch i ni anfon neges glir iawn bod yn rhaid i hyn ddod i ben, a bod yn rhaid i ni ddatblygu gwasanaeth iechyd sydd wir yn siwtio ein hanghenion ni fel gwlad.
Rwyf wedi dewis y ddau welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod pellter o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol
b) sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod holl gleifion iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg a diogelwch lefel uchel yn cael eu lleoli yng Nghymru oni bai mewn amgylchiadau eithriadol;
b) sicrhau digon o gapasiti ar gyfer cleifion mewnol diogelwch canolig a lefel uchel ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir diddymu'r trefniadau ar gyfer contractio gofal yn raddol;
c) sicrhau bod Arolygiaeth Iechyd Cymru a'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cydweithredu er mwyn i unedau iechyd meddwl y tu allan i Gymru sy'n derbyn cleifion o Gymru gydymffurfio â gofynion arolygu;
d) cyflwyno Uwch-swyddogion Cyfrifol ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn galluogi cydweithio rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd lleol sy'n canolbwyntio ar y claf; ac
e) sicrhau bod yn rhaid i gynlluniau cyfathrebu gael eu gosod ochr yn ochr â chynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn rheoli disgwyliadau'r claf, y teulu a'r clinigwyr.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n mynd i siarad yn gyflym oherwydd mae gennyf lawer i'w ddweud ar y pwnc hwn a dim ond tri munud sydd gennyf. Yn gyntaf oll, nid wyf am adael i chi osgoi cerydd am eich sylw bach digywilydd yno, Rhun ap Iorwerth. Fe wyddoch fod y meinciau hyn yn pryderu’n fawr am y mater, gan i mi ei godi ar sawl achlysur, ac rwy'n falch iawn fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn mynd i edrych arno.
Y rheswm pam ein bod wedi cyflwyno ein gwelliant yw oherwydd ein bod wedi gwneud digon o waith i allu ymchwilio i rywfaint o'r manylion sydd eu hangen arnom yma, Weinidog. Ond cyn i mi ddechrau ar yr elfen arbennig honno o'r gwelliant, rwyf am ddweud rhywbeth wrth bawb yn y Siambr. Yn llythrennol ddeufis yn ôl ymwelais ag un o fy etholwyr mewn uned diogelwch canolig yn Lloegr. Mae'n un sydd â marciau du difrifol gan y Comisiwn Ansawdd Gofal yn ei erbyn, a ph'un a yw'n dda neu'n ddrwg ai peidio, fel bod dynol arall yn cerdded i mewn i uned diogelwch canolig, gallaf ddweud wrthych yn awr fod fy nghalon bron â stopio curo. Mae'n erchyll. Rwyf wedi ymweld â charchardai hefyd. Ble byddai'n well gennyf fod—carchar neu uned diogelwch canolig? Byddai'n well gennyf fod mewn carchar. Os ydych chi mewn carchar fe gewch wneud pethau. Os ydych chi mewn carchar, caniateir i chi ddod i gysylltiad â phobl. Os ydych chi mewn carchar, mae'n hawdd i chi weld eich teulu a'ch ffrindiau mewn ystafelloedd aros arbenigol. Os ydych chi mewn carchar, yn anad dim, rydych chi'n gwybod pa bryd y byddwch yn cael eich rhyddhau. Gallai fod yn dri mis, tair blynedd, 30 mlynedd, ond mae gennych nod terfynol. Nid oes gennych ddim o'r optimistiaeth honno, dim dyhead felly, na sicrwydd o’r fath pan fyddwch mewn carchar diogelwch canolig. A phan fyddwch mewn carchar diogelwch canolig sydd 200 milltir i ffwrdd oddi wrth eich teulu, mae'r torcalon gymaint yn fwy am ei bod hi’n anodd iawn dal ati i gyfathrebu.
Un o'r pethau sy'n cael eu dweud yn aml, cyn gynted ag y byddwch yn un o'r mathau hynny o leoedd—a pheidiwch ag anghofio, os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl a'ch bod chi mewn uned diogelwch canolig, rydych chi’n aml iawn gyda phobl sydd yno trwy system y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae hynny'n anodd. Gwelais weithgareddau caled yn digwydd. Ni hoffwn fod yno.
Felly rydych chi'n berson agored i niwed yn barod ac rydych chi'n cael eich rhoi mewn lle sy'n eich gwneud chi'n fwy agored byth i niwed. Mae llawer yn cael ei wneud o'r ffaith nad oes gennym gapasiti yma yng Nghymru, ac mae hynny'n wir, ond pan fyddwch i ffwrdd, mae pawb angen teulu neu ffrindiau, neu angor. Mae'r angor mor bwysig. Dyna sut y dowch o hyd i'ch ffordd yn ôl i iechyd da. Os yw eich angor 200 milltir i ffwrdd neu 300 milltir i ffwrdd ac ni allwch gael mynediad at yr angor hwnnw'n hawdd, mae'n anodd iawn dod o hyd i'ch llwybr adref. Felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i edrych ar hyn ac i edrych ar sut rydym yn darparu unedau diogelwch canolig yng Nghymru.
Gyda'ch caniatâd chi, hoffwn roi sylw i bwyntiau (d) ac (e), oherwydd mae uwch-swyddog cyfrifol yn gwbl allweddol, Ddirprwy Weinidog. Un o'r problemau mawr sydd gennych yw y bydd bwrdd iechyd yn dweud, 'Mae'r person hwn angen darpariaeth uned diogelwch canolig.' Yna, bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn mynd ati i'w gomisiynu ac yna, rhwng y ddau, collir golwg ar y person hwnnw, ar ei gynnydd neu ei gynllun triniaeth. Ac wrth gwrs, mae pobl yn cael eu symud o gwmpas. Bob tro y cewch eich symud o A i B, byddwch yn cael eich ailadolygu, eich ailddadansoddi a gweithredir cynllun triniaeth newydd. Mae'n anodd iawn gwneud y camau hynny wrth symud ymlaen; mae bob amser yn ddau gam ymlaen, un cam yn ôl.
Yn olaf, cynllun cyfathrebu. Mae hwnnw'n gwbl allweddol, oherwydd mae llawer o'r gwrthdaro a welwn yn ymwneud â'r ffaith na chyfathrebir yn glir â theulu a ffrindiau ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd, beth yw'r camau nesaf a pha ran y gallant ei chwarae i helpu'r unigolyn dan sylw i wella. Ac nid oes gan y person sydd i mewn yno gynllun cyfathrebu clir. Teimlant ar unwaith eu bod ar drugaredd y bobl sy'n gyfrifol amdanynt, a dyna fu un o'r achosion gwrthdaro mwyaf yn fy mhrofiad i ac i'r holl bobl a welais. Felly, hoffwn weld uwch-swyddog cyfrifol a hoffwn weld cynlluniau cyfathrebu clir yn cael eu gosod gyda'r bobl agosaf a cheraint ochr yn ochr â'r cynllun triniaeth, ac wrth gwrs rwyf am weld unedau diogelwch canolig yma yng Nghymru. Mae'n hurt fod rhaid teithio mor bell i gael triniaeth a ddylai fod yn normal yn ein GIG.
Diolch. Galwaf ar Mark Reckless.
Diolch. Rwy'n falch iawn o glywed gan Angela eto. Cofiaf iddi gyflwyno dadl argyhoeddiadol iawn yn y Siambr o'r blaen ar hyn a gwn am yr achos penodol a gafodd a'r gwaith anhygoel y mae wedi'i wneud fel AC i gefnogi'r teulu hwnnw. Fe'm trawyd hefyd gan raglen ddogfen ar y teledu yn ddiweddar yn yr un maes. Wrth edrych ar y cyfleuster hwnnw, roedd yn llawer tebycach i garchar nag y dychmygais. Mae hi'n dweud y dylai fod gennym uned diogelwch canolig yng Nghymru—dylem yn wir. Gobeithio y bydd yn well na'r hyn a welsom, o leiaf rai o'r unedau hynny yn Lloegr. Ond nid wyf yn meddwl y bydd o reidrwydd yn golygu y byddai'n trin pob claf yng Nghymru lle mae angen y driniaeth iechyd meddwl hon ar gyfer cleifion mewnol. Rwy'n credu bod perygl mewn symud o bryderon penodol am achosion rydym yn ymwybodol ohonynt i'r gofynion cyffredinol ond rhagnodol iawn a welwn yn y cynnig hwn.
Rwy'n poeni braidd ynglŷn â dweud hefyd na ddylai'r un claf fod yn bell oddi wrth ei deulu. Efallai fod rhai cyflyrau iechyd meddwl mor arbenigol fel mai dim ond un neu ddau o leoedd sydd ar gael yn y DU lle gallwch roi triniaeth ar raddfa ddigon mawr gyda digon o arbenigwyr i wneud hynny. Mewn rhai achosion, efallai mai dyna'r lle iawn i glaf penodol yng Nghymru fod. Rwyf hefyd o'r farn fod gwrthddweud posibl rhwng dweud na ddylai'r un claf fod yn bell oddi wrth ei deulu a dod â'r holl gleifion o Gymru—nid yw hynny wedi'i ddiffinio'n glir—sydd mewn unedau yn Lloegr ar hyn o bryd yn ôl i Gymru. Efallai fod gan rai o'r rheini deulu neu gefnogaeth yn Lloegr, ac mae gennym lawer o bobl sy'n byw ger y ffin, ac sy'n gallu symud o Loegr i Gymru. A gall fod achosion arbennig i gleifion unigol, a rhaid inni ystyried y rheini hefyd.
Rwy'n credu bod 3(c) yn rhy gryf o ran gwahardd unedau yng Nghymru rhag defnyddio rhai yn Lloegr sydd wedi cael arolwg gwael. Efallai eu bod yn ymdrin â'r arolwg gwael, neu efallai fod yr arolwg gwael yn ymwneud yn benodol ag un agwedd ar y cyfleuster hwnnw. Yn 3(c), mae cynnig Plaid Cymru yn rhoi llawer o bwyslais ar y Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr, ac eto, yn (d) mae'n dweud y dylem anwybyddu hwnnw'n llwyr ac y dylent orfod glynu at ofynion arolygu Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n afrealistig mewn cyd-destun arall. Ni allwn gael trefn reoleiddio sy'n croesi tiriogaethau. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.
Diolch yn fawr iawn. Roeddwn am adael i'r Siambr wybod fy mod wedi cael cyfarfod ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar y mater hwn, gyda'r pennaeth, ac roedd hi'n eithaf clir ynglŷn â'r anawsterau—yr anawsterau deddfwriaethol ac ymarferol—a fyddai'n codi pe bai sefydliad yng Nghymru yn monitro lleoliad yn Lloegr.
Ceir anawsterau o ran monitro, a dylem ystyried y rheini, ond nid wyf yn credu mai'r ffordd o fynd i'r afael â hynny yw ymestyn trefn reoleiddio Cymru i gynnwys cyfleusterau yn Lloegr, neu feddwl bod honno'n ffordd realistig o ymdrin â hynny. Credaf fod angen inni sicrhau cydnabyddiaeth ar y ddwy ochr neu rywbeth tebyg i hynny, a chael perthynas y gellir ymddiried ynddi gyda'r cyrff rheoleiddio.
Nid wyf wedi fy narbwyllo ynglŷn â'r cynnig ar gyfer cynllun cyfathrebu, ond rwy'n credu y dylai'r cynllun triniaeth ystyried sut i gyfathrebu â theulu ac eraill. Pan fydd gennym gleifion yn Lloegr, credaf fod angen i'r cyfleusterau yn Lloegr wybod pwy maent yn ymwneud â hwy yng Nghymru. Rwy'n credu bod problem ofnadwy wedi bod gyda'r bwrdd iechyd, a chyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedyn, a diffyg eglurder ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth. Mae angen inni fod yn glir, ac mae angen inni sicrhau bod y cyfleuster rydym yn ei gomisiynu yn Lloegr hefyd yn glir. Credaf fod gan Lywodraeth Cymru welliant da ar hyn gyda'r cydbwysedd cywir yn eu pwyntiau (a) a (b), a bwriadwn gefnogi eu gwelliant, ond byddwn yn gwrthwynebu'r cynnig a'r gwelliannau eraill. Diolch.
Hoffwn siarad am brofiadau grŵp penodol o bobl sy'n dioddef o orfod mynd i Loegr i gael gofal iechyd meddwl, sef mamau newydd sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Yn ôl Cynghrair Iechyd Meddwl Mamau, mae'r menywod hyn yn cael eu hamddifadu o ofal a allai achub bywydau oherwydd diffyg uned gymorth arbenigol yng Nghymru. Credaf mai fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, oedd y person cyntaf i alw am ddatblygu uned arbenigol. Llwyddodd i chwarae ei ran yn cyflawni ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu uned barhaol erbyn 2021, fel rhan o gytundeb cyllideb 2018-19 rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Nawr, fe wyddom nad yw'n edrych debyg y bydd hyn yn digwydd, gyda Llafur ar fin torri addewid cytundeb cyllideb drwy agor uned dros dro mewn ysbyty seicolegol yn lle hynny. Nid dyma a gytunwyd, ac nid dyma sydd ei angen. Mae torri ymrwymiad cytundeb cyllideb yn fater difrifol iawn, nid yn unig o ran ymddiriedaeth wleidyddol ond yn bwysicach yn yr achos hwn, mae'n golygu y bydd mamau newydd yn dal i gael eu hamddifadu o'r driniaeth sydd ei hangen arnynt.
Hoffwn gofnodi fy niolch i BBC Cymru Wales am y newyddiaduraeth ragorol y maent wedi'i chyflawni dros y blynyddoedd diwethaf yn rhoi llwyfan i rai o'r menywod y mae hyn wedi effeithio arnynt. Dywedodd un fam newydd a gafodd ei thrin mewn uned seiciatrig—lleoliad a gâi ei ystyried yn amhriodol ar gyfer y cyflwr, yn ôl arbenigwyr—wrth ohebydd y BBC:
Nid oeddwn mewn amgylchedd priodol... nid oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl i fy mhartner a fy mab ymweld â mi yn ystod y dydd.
Unwaith eto, rydym yn sôn am fenywod mewn cyflwr bregus iawn, pan fyddant angen eu teuluoedd yn fwy nag erioed.
Seicosis postpartum, ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—. Pan edrychasom ar hyn, buom yn siarad ag un ddynes a oedd wedi dod i lawr i Gaerdydd pan oedd y cyfleuster yno, a byddai'n well ganddi fod wedi mynd i Fanceinion. I lawer yng ngogledd Cymru, mae'n gweithio i fynd i uned mam a'i baban ac ysbyty ym Manceinion, a bydd hynny'n well na chael eu gorfodi i ddod i lawr i Gaerdydd, ymhellach oddi wrth eu teuluoedd.
Rwy'n derbyn y bydd hynny'n wir mewn rhai achosion, ond bydd llawer o achosion lle mae angen hyn. Unwaith eto, dychwelaf at y ffaith mai ymrwymiad cyllideb oedd hwn, ac roedd yn rhywbeth y cytunwyd arno rhwng y ddwy blaid. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch mewn rhai achosion.
Dywedodd mam arall ei bod wedi mynd o fod yn hapus iawn i gael babi i beidio â gwybod yn iawn ble roedd hi, ac nad oedd hi'n gwybod beth roedd hi'n ei wneud a'i bod yn teimlo'n ofnus iawn a heb wybod ble y gallai fynd am gymorth. Dywedodd am ei theulu:
Nid oeddent yn cael dod i fy ystafell, byddem yn treulio'r amser yn crwydro coridorau'r ysbyty.
Eglurodd nyrs amenedigol yr effaith roedd teithio i uned arbenigol wedi'i chael ar ddynes arall:
Fe gymerodd 10 awr iddynt gyrraedd yno... Roedd yn erchyll oherwydd mae'n rhaid i chi stopio gyda'r babi bob dwy awr am ei fod yn newydd-anedig... fe gyraeddasant am 10 p.m.... am beth ofnadwy i'w wneud i'r ddynes honno a oedd yn seicotig.
Mae arbenigwyr yn gytûn fod agor uned yng Nghymru yn hanfodol. Dywedodd Dr Witcombe-Hayes o NSPCC Cymru:
Mae'n hanfodol fod gan Gymru ddarpariaeth uned i famau a'u babanod ar gyfer menywod sy'n dioddef y cyflyrau mwyaf difrifol.
Yn ôl Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, mae menywod bellach yn wynebu dewis rhwng cael gofal fel cleifion mewnol yn fwy lleol, ond cael eu gwahanu oddi wrth eu babanod, neu aros gyda'u babanod mewn uned arbenigol, ond bod angen iddynt deithio i ffwrdd oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth. Ychwanegant fod menywod mewn llawer o achosion yn dewis cael gwasanaethau seiciatrig acíwt lleol nad ydynt yn addas at y diben a heb wybodaeth arbenigol. Nid yw'n ddewis y dylai unrhyw un orfod ei wynebu, yn enwedig mamau mewn argyfwng.
Felly, i gloi, dyma'r neges i Lywodraeth Cymru: mae angen yr uned gymorth arbenigol hon ar y menywod hyn. Mae'r arbenigwyr yn cytuno. Fe addawoch chi ei darparu. Gwnewch hyn cyn i unrhyw famau newydd orfod dioddef oherwydd y diffyg gweithredu gwarthus hwn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, a chredaf fod yr enghreifftiau a ddefnyddiwyd yn y ddadl wedi bod yn rymus iawn ac yn dangos y broblem rydym yn mynd i'r afael â hi yma heddiw. Ac rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hi i gleifion a'u teuluoedd pan fo'n rhaid cael gofal oddi cartref, ac mae'n amlwg yn llawer anos os oes gan deuluoedd bryderon ynglŷn ag ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu. Felly, rwy'n falch o'r cyfle i ailddatgan cydnabyddiaeth y Llywodraeth i bwysigrwydd parhau i wella gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys darpariaeth iechyd meddwl i gleifion mewnol. Ac rwyf hefyd am roi sicrwydd ynglŷn â'r trefniadau sydd gennym ar waith i sicrhau ansawdd a diogelwch y gofal a gaiff cleifion o Gymru sy'n cael gofal ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl y tu allan i Cymru.
Ein nod yw darparu gofal iechyd meddwl yn agosach at adref i bobl a lleihau'r angen am gymorth cleifion mewnol. Mae ein buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl, a fydd yn codi yn 2020-21 i £712 miliwn, yn gwella canlyniadau. Er enghraifft, mae'r buddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol wedi arwain at leihad yn nifer y derbyniadau iechyd meddwl i'r ysbyty dros amser. Ac rydym hefyd yn parhau i weld gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n cael eu gosod mewn unedau yn Lloegr. Yn 2018, roedd yn 130 ac yn 2019, roedd wedi gostwng i 96, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau, y duedd hon ar i lawr.
Ond er ein bod yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o gymorth yn y gymuned, bydd angen darpariaeth arbenigol i gleifion mewnol bob amser i gynorthwyo pobl ag anghenion dwys. Ac er ein bod yn darparu cymorth i gleifion mewnol yma yng Nghymru, mewn gwirionedd, mae gennym ddwy uned diogelwch canolig o fewn y GIG yng Nghymru, Tŷ Llywelyn yn y gogledd a Caswell yn y de, ac rydym hefyd yn darparu mynediad i unedau cymorth yn Lloegr. Mae hyn yn caniatáu i gleifion yng Nghymru gael cymorth arbenigol iawn a ddarperir mewn unedau ar gyfer y DU gyfan. Ond rydym yn cydnabod ei bod yn anodd i gleifion a theuluoedd pan gânt eu lleoli ymhell i ffwrdd.
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Mae'n ddrwg gennyf, dim ond i egluro eich pwynt oherwydd, ydy, mae Clinig Caswell yn bodoli ond mewn gwirionedd, maent yn llawn o bobl eisoes. Mae gennym 61 o bobl yn ôl fy nghyfrif diwethaf, nad oedd yn bell iawn yn ôl, yn Lloegr. Er enghraifft, mae perygl y bydd yn rhaid i un o fy etholwyr symud i Stevenage am fod y ward y mae'r unigolyn arni dan fygythiad i gau. I fod yn onest, nid wyf yn siŵr mewn gwirionedd fy mod yn gwybod ble mae Stevenage, ond ymhellach ac ymhellach i ffwrdd o Gymru, ac nid ydynt yn gallu cyrraedd yr ychydig leoedd sydd gennym sy'n unedau diogelwch canolig. Mae gennym o leiaf 61 yn fwy o bobl sydd angen y math hwnnw o gymorth.
Oes, ac roeddwn am wneud y pwynt fod gennym yr unedau yng Nghymru; dyna'r pwynt roeddwn yn ei wneud.
A phan fo anghenion iechyd meddwl claf yn cael eu diwallu orau mewn uned arbenigol, mae byrddau iechyd yn edrych ar yr ansawdd. Yn gyntaf, gwneir penderfyniadau ynghylch yr ansawdd a'r math o ofal arbenigol a ddarperir i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion yr unigolyn. Yn ail, mae'r comisiynydd yn ystyried y pellter o adref ac unrhyw effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar y canlyniadau i'r unigolyn. A'r ystyriaeth derfynol fydd gwerth neu gost gyffredinol yr uned. Felly, ansawdd, pellter a gwerth yn y drefn honno yw'r ffactorau allweddol sy'n cael eu hystyried wrth leoli pobl y tu allan i Gymru ar gyfer gofal iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol.
A phan fydd cleifion yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru, rhoddir ystyriaeth hefyd i sicrhau y gall teuluoedd a pherthnasau gadw mewn cysylltiad tra bod eu hanwyliaid yn derbyn gofal oddi cartref. Gwn fod sylwadau wedi'u gwneud am achosion unigol, ac yn amlwg, ni allaf roi sylwadau arnynt, ond dyna'r gweithdrefnau sydd ar waith. Edrychir ar y mater pan wneir y lleoliadau.
Mae gennym drefniadau i sicrhau ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir yn yr unedau arbenigol y tu allan i Gymru. Mae fframwaith cydweithredol cenedlaethol GIG Cymru yn gytundeb a mecanwaith ffurfiol a ddatblygwyd gan uned comisiynu cydweithredol GIG Cymru a GIG Cymru. Mae'n galluogi pob rhan o GIG Cymru i gaffael a rheoli perfformiad gwasanaethau o dan safonau, costau, telerau ac amodau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Goruchwylir lleoliadau o dan y fframwaith cydweithredol cenedlaethol mewn lleoliadau gofal iechyd y tu allan i Gymru gan dîm gwella sicrwydd ansawdd GIG Cymru. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i fyrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru fod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn amgylchedd diogel o ansawdd uchel.
Mae tîm gwella sicrwydd ansawdd GIG Cymru hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda chyrff rheoleiddio yn Lloegr, gan gynnwys y Comisiwn Ansawdd Gofal. Roedd hyn yn wir yn sgil cau rhai o'r unedau yn Ysbyty St Andrew yn Northampton dros dro. Mae cyfarfodydd teirochrog rhwng y Comisiwn Ansawdd Gofal, GIG Lloegr a GIG Cymru yn parhau ar sail fisol ynglŷn â'r darparwr.
Cyhoeddasom y trydydd cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', sef yr un terfynol, ym mis Ionawr, ac roedd hwnnw'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd gyda'n partneriaid dros y tair blynedd nesaf i barhau i wella iechyd meddwl a lles meddyliol. Mae'r cynllun cyflawni newydd yn ymrwymo i gynnal archwiliad o'r ddarpariaeth bresennol o unedau diogelwch i gleifion mewnol, ac i ddatblygu strategaeth gadarn ar gyfer cleifion mewnol iechyd meddwl. Rydym yn ymwybodol o'r anawsterau sy'n bodoli. Rydym wedi ymrwymo i gomisiynu gwerthusiad annibynnol i edrych ar ein cynnydd ers cyhoeddi'r strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2012, a fydd yn llywio ein cyfeiriad yn y dyfodol.
Ac i ateb y pwynt a wnaethpwyd mor rymus gan Delyth Jewell—ac roeddwn ar y pwyllgor pan edrychasom ar y mater hwn, ac rydym yn ymwybodol o'r materion emosiynol enfawr sy'n effeithio ar famau a babanod newydd-anedig—gofynnwyd i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru sefydlu darpariaeth i famau a babanod yng Nghymru i alluogi mamau i gael cymorth mwy dwys pan fo'i angen. Yn ddiweddar, gofynasom iddynt archwilio'r ddarpariaeth dros dro ar frys tra rhoddir trefniadau mwy hirdymor ar waith ar safle Ysbyty Tonna, a disgwylir iddynt fod yn eu lle erbyn gwanwyn 2021. Felly, unwaith eto, mae yna gynllun. Byddwn yn darparu hynny. Ac rwyf am ailadrodd eto sut rydym—
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Ddirprwy Weinidog, neu a yw eich amser ar ben?
Gwnaf, yn sicr. Wel, rwyf ar fin gorffen.
Ewch amdani, fe wnaf adael i chi—. Mae ei hamser ar ben.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am wneud y pwynt, er fy mod yn croesawu'r uned dros dro ar gyfer mamau a babanod yn Ysbyty Tonna wrth gwrs, mae Tonna bedair awr a hanner i ffwrdd oddi wrth famau yng ngogledd Cymru. A fyddech yn cytuno fod arnom angen ateb pwrpasol ar gyfer y broblem yn y gogledd-orllewin yn arbennig? Rwy'n credu bod y bwrdd iechyd yn barod i ddechrau trafodaethau ynglŷn â hynny gyda'r bwriad o gael darpariaeth yn y gogledd yn ogystal ag yn Ysbyty Tonna.
Yn sicr, ni fydd safle Ysbyty Tonna yn addas i fenywod sy'n dod o'r gogledd, felly yn bendant, mae'n rhaid edrych ar hynny.
Felly, beth bynnag, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd fod gennym gynlluniau i edrych ar yr holl faes anodd hwn, ond mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenoriaeth absoliwt inni, ac mae gennym drefniadau ar waith i edrych ar ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr.
Diolch. A gaf fi alw ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl werthfawr yma ac wedi codi materion cwbl ddilys ac o bwys, ac yn enwedig y cyfeiriadau at rai o'r enghreifftiau echrydus rŷn ni, dwi'n ofni, yn dod yn rhy gyfarwydd o lawer â nhw.
Mi wnaf i ychwanegu un elfen arall at y drafodaeth yma hefyd, wrth gloi, oherwydd y flwyddyn ddiwethaf fe holais i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr faint o gleifion iechyd meddwl oedd yn cael eu danfon i ysbytai yn Lloegr ac, wrth gwrs, mae yna ddwsinau sy'n gadael y gogledd i gartrefi ac ysbytai iechyd meddwl ar hyd a lled Lloegr. Mewn llawer o'r rhain, wrth gwrs, mae'r gofal sy'n cael ei ddarparu yn addas, er, wrth gwrs, ei fod e yn bellach o adref nag y byddai unrhyw un ohonom ni yn ei ddymuno. Ond yn ôl y Care Quality Commission, sy'n asesu safonau gofal yn Lloegr, roedd llawer o'r sefydliadau lle danfonwyd cleifion o ogledd Cymru unai'n inadequate neu'n requiring improvement. Nawr, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gwario miliynau lawer ar wasanaethau iechyd meddwl, a llawer o'r pres yna, wrth gwrs, yn mynd i'r sefydliadau yma yn Lloegr. Mae gen i bryder mawr am lefel y gofal yn yr ychydig sefydliadau yma. Mae yn gofyn cwestiwn o ba oruchwyliaeth sydd yno o'r cleifion mwyaf bregus yna os ydyn nhw gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'u teuluoedd, ac yn wir, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'r bwrdd iechyd sydd yn eu gosod nhw yn y llefydd yna.
Cafodd dau gartref gofal yn benodol—cartref Wyke Cygnet Health Care yn Bradford, a safle Kneesworth Partnerships in Care—eu rhestru fel rhai annigonol gan y Comisiwn Ansawdd Gofal ar ôl ei arolwg. Casglwyd bod angen gwella tri arall. Ac mae'r rhain yn fethiannau difrifol. Barnwyd bod Wyke yn annigonol o ran diogelwch, effeithiolrwydd, gofal ac arweinyddiaeth dda. Ac o ran diogelwch, roedd hynny'n golygu bod cleifion yn wynebu risg o ran monitro a rheoli meddyginiaethau. Nawr, rwy'n cwestiynu a oedd y bwrdd iechyd yn ymwybodol o hynny, ac os oedd yn ymwybodol, wel, yn amlwg, mae cwestiwn i'w ofyn ynglŷn â pham yr anfonwyd y cleifion hynny yno. Nawr, fel y dywedais yn gynharach, hyd yn oed os yw, neu os oedd y gwasanaethau'n ddigonol—
Mae'n ddrwg gennyf, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, iawn, er bod fy amser eisoes wedi dod i ben.
Wel, roeddwn am ddweud y gallaf ateb hynny'n rhannol i chi, oherwydd bernir mai dinasyddiaeth eilradd ydyw, a bod yn onest, oherwydd nid oes dewis arall. Nid oes dim byd yn Lloegr y gallant droi ato, ac rwyf wedi cyfarfod â phobl wych sy'n ymwybodol iawn nad yw'r lleoliadau'n briodol, fel y rhai rydych newydd sôn amdanynt, ond nid oes dewis arall ganddynt, gan nad oes gennym ddim yng Nghymru ac nid oes unrhyw beth arall yn Lloegr, ar wahân i leoedd hyd yn oed yn bellach i ffwrdd. Ac mae'n drueni gan na fyddem yn trin pobl â chanser neu gyflyrau'r galon yn y ffordd rydym yn trin pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Diolch am hynny. A hefyd, wrth gwrs, mae'n fy atgoffa o bwynt arall, sef pam y mae bob amser yn draffig un ffordd? Pan fyddwn eisiau manteisio ar wasanaethau, rhaid inni fynd i Loegr. Pam nad oes gennym uchelgais i ddatblygu rhai o'r arbenigeddau hynny yma yng Nghymru, fel bod pobl yn Lloegr yn dod atom ni? Nid oes raid iddo fod yn draffig un ffordd. Nawr, rwy'n derbyn fod yn rhaid iddo fod o bryd i'w gilydd, ond nid bob amser, nid bob amser. A'r cynnig hwn yw ein cyfle i anfon neges glir yn hynny o beth, a hoffwn annog pob Aelod i gefnogi cynnig Plaid Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rwy'n barod i dderbyn ei bod hi'n gyfnod pleidleisio yn awr, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na? Da iawn. Felly, symudwn at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar blant sy'n derbyn gofal, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 41, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig, ac mae'r holl welliannau'n methu.
NDM7287 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 41, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr at y ddadl gan Blaid Cymru ar anhwylderau bwyta, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 43, neb yn ymatal, 8 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM7288 - Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau Bwyta Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 43, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar wasanaethau iechyd meddwl. A galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau.
NDM7289 - Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 31, 1 yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1, a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
NDM7289 - Gwelliant 1: O blaid: 31, Yn erbyn: 19, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Felly, galwn yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7289 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod pellter o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol
b) sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 40, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7289 - Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl - Cynnig wedi'i ddiwygio : O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Yr eitem nesaf yw eitem 10—dadl fer gan Jenny Rathbone, os dwi'n iawn fan hyn. Galwaf arni hi i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi hi.
Dangoswyd sleidiau i gyd-fynd â’r drafodaeth.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwyf wedi dewis y pwnc 'Ai clefyd yw gordewdra? ' (a) oherwydd ei bod hi'n Ddiwrnod Gordewdra'r Byd heddiw, (b) oherwydd bod y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn adrodd heddiw fod lefelau gordewdra'n parhau i gynyddu, ac mae'n dal yn wir fod dros un o bob pedwar o blant pedair a phump oed yn ordew—ffaith eithaf damniol a sobreiddiol. Ac yn drydydd, pan gyfarfûm â Novo Nordisk yr wythnos diwethaf—cwmni fferyllol sy'n fwyaf adnabyddus am eu gwaith ar ddiabetes—gofynnwyd i mi a oeddwn yn ystyried bod gordewdra yn glefyd, a dywedais y byddai angen i mi feddwl am hynny a dod yn ôl atynt. Y rheswm pam fy mod yn gyndyn i ateb oedd nad oeddwn am feddyginiaethu'r hyn rwyf bob amser wedi'i weld fel problem gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd, wedi'i chreu gan ddiwydiant bwyd sy'n tueddu i achosi gordewdra, a thra-arglwyddiaeth y car dros y 60 mlynedd diwethaf.
Felly, beth yw gordewdra? Efallai ei bod braidd yn anodd i chi ddarllen ond rwy'n ddiolchgar iawn i Rachel Batterham, sy'n athro gordewdra yng Ngholeg Prifysgol Llundain, am ganiatáu i mi ddefnyddio rhai o'r sleidiau o'i chyflwyniad diweddar i Goleg Brenhinol y Meddygon sef y sefydliad a arweiniodd y ffordd, fel y cofiwch o bosibl, o ran sicrhau'r gwaharddiad ar ysmygu, ac sydd hefyd yn ymgyrchu'n galed iawn ar gael gwaharddiad i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r diwydiant alcohol yn ogystal. Felly, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn sefydliad pwysig. Beth bynnag, y diffiniad o ordewdra, sy'n broblem fyd-eang, yw clefyd lle mae braster gormodol wedi cronni yn y corff i'r fath raddau fel y gall niweidio iechyd.
Nid anghyfleustra'n unig ydyw—mae gordewdra'n byrhau hyd oes rhwng tair a 10 mlynedd. Mae gordewdra'n atal pobl rhag byw'n dda, ac rydym yn gwario 10 y cant o gyllideb y GIG ar gefnogi pobl sydd â diabetes. Efallai na fyddwch yn gallu darllen y sleid, ond nid diabetes math 2 yn unig y mae'n ei achosi, ond clefyd cardiofasgwlaidd, strôc, pwysedd gwaed uchel, clefyd rhydwelïau coronaidd, a methiant y galon, a llawer o bethau eraill heblaw hynny, gan gynnwys anffrwythlondeb, anymataliaeth, iselder, gorbryder ac asthma.
Ychydig o bobl a fyddai'n dadlau, felly, yn erbyn yr angen i leihau gordewdra, o ystyried ei effaith yn bygwth bywydau. Yn wir, mae ganddo'r gallu, yn fy marn i, i orlethu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Nawr, mae'n ymddangos bod yr ateb yn syml: os ydym yn bwyta llai ac yn gwneud mwy o ymarfer corff, cawn gydbwysedd cywir o egni, a byddwn yn cario'r pwysau cywir ar gyfer ein maint. Yn y 1940au, y cyngor iechyd oedd cysgu o leiaf wyth awr y dydd, sicrhau eich bod yn cael amser hamdden—h.y. rhywbeth sy'n newid llwyr o'ch gwaith bob dydd, ar gyfer y corff a'r meddwl—y meintiau cywir o'r bwyd cywir, ac ymarfer corff rheolaidd. A hynny yn ystod yr ail ryfel byd, pan oedd y boblogaeth ar ei mwyaf iach—ond dogni oedd y rheswm am hynny. Ond gallwn weld bod y dirwedd wleidyddol, gymdeithasol ac economaidd wedi dirywio'n aruthrol ers y 1940au, a bod lefelau gordewdra'n parhau i godi a chodi. Faint ohonom sy'n glynu at fantra'r 1940au heddiw, mewn byd nad yw byth yn cysgu?
Felly, y cwestiwn sy'n rhaid inni ei ofyn i ni'n hunain yw: a yw'r rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach yn ddigon beiddgar a radical i ymdopi â maint y broblem, a gwrthdroi ein ffordd o fyw obesogenig? Caiff Cymru ei chanmol gan arbenigwyr ar ordewdra am fod yn barod i ddefnyddio deddfwriaeth i newid yr amgylchedd bwyd, mewn cyferbyniad â'r tin-droi a'r oedi ar ben arall yr M4. Rhaid inni atal y diwydiant bwyd rhag targedu plant i fwyta'r pethau anghywir: mae hynny'n gwbl anfoesol. Ac rwyf hefyd yn gobeithio y gallwn ddefnyddio dadreoleiddio bysiau, sy'n dod yn ystod y 12 mis nesaf, fel cyfle hefyd i wahardd hysbysebu bwyd sothach ar drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein cyhyrau caffael cyhoeddus i wahardd bwyd sothach o ganolfannau iechyd ac ysbytai'r GIG, ac rwy'n cymeradwyo bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro am ddangos y ffordd drwy gael gwared ar yr holl fwyd sothach o 13 o'i gaffis a'i ffreuturau ysbyty, a bydd yn ymestyn hyn i gynnwys ei ddau ysbyty cymunedol yn ddiweddarach eleni. Mae'r fenter hon wedi cynyddu nifer eu cwsmeriaid a'u proffidioldeb, ac mae hynny'n dangos y dylai pob bwrdd iechyd ddilyn y llwybr hwnnw, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn cael safon adwerthu genedlaethol ar gyfer ysbytai i hyrwyddo'r dewisiadau iach yn yr holl safleoedd gwerthu ar ystadau'r GIG. Mae Caerdydd a'r Fro wedi datblygu offeryn archwilio i sicrhau mai'r hyn y maent yn dweud eu bod yn ei gyflenwi yw'r hyn sy'n cael ei gyflenwi, sy'n eithaf pwysig o ystyried y byddwch yn costio mwy fyth mewn amser ac arian i'r gwasanaeth iechyd os ydych chi'n bwyta'r bwyd anghywir.
Felly, mae gwir angen inni osod yr un safonau cadarn ar gyfer caffael cyhoeddus yn ein hysgolion, ac rwy'n gobeithio y bydd y rheoliadau bwyta'n iach newydd yn cael eu cryfhau, oherwydd gyda chynifer o'n plant yn byw mewn tlodi, a theuluoedd sy'n agored iawn i ddewis ar sail pris yn unig, hyd yn oed os nad oes fawr o werth maethlon i'r bwyd, mae'n golygu bod brecwastau ysgol am ddim a chiniawau ysgol maethlon yn achubiaeth i blant o'r fath. Yn ogystal, mae'r rhaglen bwyta yn ystod gwyliau ysgol yn sicrhau nad yw'r un plant yn llwgu yn ystod gwyliau'r ysgol.
Felly, rwyf am weld llywodraethwyr ac awdurdodau lleol yn mynd ati'n llawer mwy trylwyr i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei gyflwyno i blant yn ein hysgolion yn cydymffurfio â'r rheoliadau bwyta'n iach. Mae gan Estyn ryw fath o rôl anuniongyrchol yn hyn, o ran sicrhau bod llywodraethwyr ac awdurdodau lleol yn gwneud y gwaith hwnnw, ond nid ydynt hwy eu hunain yn arolygu, ac yn fy mhrofiad i, mae llawer iawn o waith i'w wneud yn y maes hwnnw.
Nawr, yn amlwg, nid ein perthynas â bwyd yn unig sydd angen ei newid, mae angen inni wneud mwy o weithgarwch corfforol hefyd. Gwn fod y Dirprwy Weinidog ar flaen y gad yn sicrhau bod £30 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf a ddyranwyd i awdurdodau lleol i gynyddu llwybrau teithio llesol yn cael ei ddefnyddio nid yn unig ar lwybrau braf i'w cael ar gyfer twristiaid, ond i ddechrau symud yr amgylchedd obesogenig sy'n cael ei ddominyddu gan y car. Yng Nghaerdydd, mae Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad ac Ysgol Gynradd Howardian wedi arwain y ffordd ar gael cynlluniau teithio llesol, ond mae gwir angen inni ddisgwyl i bob ysgol eu rhoi ar waith hefyd. Ac roeddwn yn meddwl felly pa sgwrs y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â gweithredu parthau gwahardd cerbydau o gwmpas pob ysgol, yn unol ag argymhelliad Sustrans, fel bod pob disgybl yn gorfod cerdded, neu feicio neu fynd ar sgwter i'r ysgol ar gyfer rhan olaf y daith. Teimlaf y dylid ystyried hyn yn rhan annatod o'r pecyn, i wneud 20 mya yn gyfyngiad cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig, a newid y ffordd rydym yn defnyddio ein ffyrdd. Rwy'n tybio mai ar hynny y defnyddir y £4 miliwn ar y grant diogelwch ar y ffyrdd, ac efallai y gallai'r Dirprwy Weinidog egluro hynny, neu yn yr un modd, y £5 miliwn ar gyfer y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Rhaid inni gydnabod y gall plant fod yn llysgenhadon brwd dros fod yn fwy egnïol. Gallant helpu'r oedolion yn eu bywydau i fabwysiadu ffyrdd mwy egnïol o fyw.
Er fy mod yn llwyr gefnogi'r holl fesurau hyn, mae angen imi fynd i'r afael yn awr â pham nad yw gordewdra yn ddim ond cyflwr a achosir gan ddewisiadau ffordd o fyw rydym am eu gwrthdroi. Mae'n rhaid inni ei drin fel clefyd hefyd yn yr un ffordd ag y gwnawn gyda diabetes neu unrhyw glefyd arall. Yn gyntaf oll, y stigma sy'n gysylltiedig â gordewdra. Mae grŵp trawsbleidiol Senedd y DU ar ordewdra wedi rhyddhau canlyniadau arolwg yr wythnos hon ar y stigma sy'n gysylltiedig â gordewdra. Mae'r arolwg yn cadarnhau bod pobl sy'n byw gyda gordewdra yn wynebu lefelau uchel o stigma, sy'n effeithio ar eu bywydau, eu gwaith a'u hamdden, eu perthynas ag eraill, ac ar ba mor debygol ydynt o ofyn am gyngor meddygol gan eu meddyg teulu. Roedd 71 y cant o bobl a oedd yn ordew yn teimlo stigma wrth ofyn am gyngor neu gymorth iechyd. Mae llawer o bobl, gan gynnwys meddygon, yn methu deall bod gordewdra yn glefyd cronig. Maent yn ei weld fel diffyg grym ewyllys, diogi neu amharodrwydd i fwyta llai a symud mwy. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni herio'r agwedd honno oherwydd nid yw'n cydnabod maint problem gordewdra, sy'n ymwneud â mwy na ffactorau amgylcheddol yn unig.
Os na allwn atal gordewdra, mae gennym ddyletswydd foesol i'w drin. Mae rhai o'r triniaethau a gynigiwn i bobl sydd dros bwysau neu'n ordew yn aneffeithiol a dweud y gwir, fel y dengys y crynodeb hwn o doreth o bapurau ymchwil, pe baech yn gallu ei weld. Casgliad y papurau academaidd hyn yw bod dwy ran o dair o'r bobl sy'n mynd ar ddeiet yn adennill mwy o bwysau na'r hyn roeddent yn ei gario'n wreiddiol, cyn iddynt fynd ar ddeiet yn y lle cyntaf. Felly, pam hynny? Wel, credaf fod a wnelo hyn â'r ffaith ein bod, yn wreiddiol, yn byw mewn amgylchiadau llawer mwy anodd na heddiw. Rydym wedi ein cyflyru i drin deiet fel newyn, a'r unig ymateb rhesymegol i hynny yw adfer y pwysau a gollwyd cyn gynted ag y daw cyfle. Yn ogystal â hynny, mae rhai o'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu yn enetig. Mae cyfansoddiad genetig ein rhieni yn dylanwadu'n fawr ar ba mor denau neu dew ydym ni. A yw hynny'n golygu, wrth i fwy o'r boblogaeth fynd yn ordew, fod mwy o'r plant a gawn hefyd yn mynd yn ordew? Mae'n rhaid inni ddechrau meddwl beth ddylai ein hymateb fod.
Yr ymateb mwyaf eithafol, os mynnwch, yw llawdriniaeth fariatrig, ond caiff ei hargymell gan yr arbenigwyr meddygol fel y driniaeth fwyaf effeithiol ar gyfer pobl sy'n ordew iawn. Cafodd cyfaill agos i mi, nad yw gyda ni mwyach, lawdriniaeth fariatrig, ac yn sicr fe wnaeth drawsnewid ei ymddangosiad, ei bwysau a'i allu i fyw bywyd egnïol. Felly, credaf fod budd enfawr i ddosbarthu gordewdra fel clefyd, oherwydd byddai'n sicrhau felly fod gennym lwybr clinigol ar gyfer trin yr achosion cymhleth hyn. Mae cysylltiad rhwng llawdriniaeth fariatrig ar gyfer trin pobl sy'n ordew iawn a llwyddiant i gadw'r pwysau i lawr yn barhaol dros 20 mlynedd. Mewn 95 y cant o achosion, llwyddodd i wrthdroi diabetes math 2 cleifion a newidiodd eu perthynas â bwyd, yn ogystal â'i gwneud yn haws iddynt symud o gwmpas wrth gwrs.
Llywodraeth Portiwgal yw'r unig Lywodraeth yn y byd sy'n cydnabod gordewdra yn swyddogol fel clefyd, er bod llu o gyrff meddygol yn cymeradwyo hyn fel ffordd o wella'r ffordd rydym yn trin diabetes. Mewn mannau eraill, pleidleisiodd Senedd yr Eidal o blaid cydnabod gordewdra fel clefyd yn dilyn ymgyrch gan grŵp trawsbleidiol ar ordewdra a diabetes.
I gloi, credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod angen teilwra'r gwasanaethau i helpu rhai pobl sydd â thuedd enetig i fod yn ordew er mwyn eu helpu i osgoi'r canlyniadau mwyaf difrifol. Ond nid yw, ac ni ddylai hynny ein rhyddhau o'n dyletswydd wleidyddol i fynd i'r afael ag achosion cymdeithasol ac economaidd ein hamgylchedd obesogenig, a fydd fel arall yn lleihau cyfleoedd bywyd pobl ac yn fy marn i, gallai beri i'r GIG chwalu.
Diolch, Jenny. Galwaf nawr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ganolbwyntio ar y mater pwysig hwn, o'r gwaith y mae'n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar fwyd a'r grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol yn ogystal â'r gwaith yn ei hetholaeth ei hun. Mae'n tynnu sylw'n gyson at achosion a chanlyniadau gordewdra ac mae'n llais pwysig yn ein Senedd ar y materion hyn.
Fel yr amlinellodd yn ei haraith, eisoes mae gennym oddeutu 600,000 o oedolion 16 oed neu hŷn yng Nghymru sy'n ordew, ac yn fwy pryderus, mae 60,000 o'r rheini'n ordew iawn. Mae'r nifer hwnnw'n cynyddu, ac amcangyfrifir bod 10,000 yn fwy o oedolion yn mynd yn ordew bob blwyddyn. Mae dros chwarter y plant rhwng pedair a phump oed yng Nghymru dros bwysau, gan gynnwys 12.4 y cant sy'n ordew. Mae'r ffigurau hyn yn frawychus. I roi ateb uniongyrchol i'r cwestiwn a ofynnodd Jenny Rathbone yn y ddadl hon, ynglŷn ag a yw gordewdra yn glefyd, dyna yw casgliad Coleg Brenhinol y Meddygon yn ogystal â Sefydliad Iechyd y Byd, sydd wedi categoreiddio gordewdra fel clefyd ers 2016. Felly, ar un ystyr, mae'r awdurdodau arweiniol wedi ateb y cwestiwn.
Nid ydym yn teimlo y byddai cydnabod bod gordewdra yma yng Nghymru yn glefyd ar hyn o bryd yn arwain at ymateb gwahanol o ran gwasanaeth i'r hyn rydym eisoes wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag ef. Mae ein rôl yn ymwneud ag atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai o brif achosion gordewdra a amlinellwyd gan Jenny Rathbone, sef tlodi, yr amgylchedd a deiet. Ar gyfer oedolion a phlant, mae cyfraddau gordewdra yn cynyddu gydag amddifadedd, gyda nifer yr achosion 6 y cant yn uwch ymysg plant pedair i bump oed sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, gan godi i 13 y cant ar gyfer oedolion.
Mae strydoedd sy'n cael eu dominyddu gan geir yn cyfrannu at ein hargyfwng gordewdra. Mae strydoedd traffig trwm yn creu'r hyn sy'n cael ei alw'n 'amgylcheddau obesogenig'—lleoedd sy'n annog pobl i beidio â gwneud gweithgarwch corfforol ac sy'n cyfrannu at broblem diffyg ymarfer corff. Caiff un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru eu categoreiddio'n ordew bellach, ond mae'r nifer yn gostwng yn sylweddol ymhlith y rhai sy'n gorfforol egnïol. Felly, mae cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr yn creu sawl mantais, o aer glanach a ffyrdd llai prysur, i iechyd meddwl gwell a siopau lleol prysurach.
Ac i geisio ateb y cwestiwn a ofynnodd Jenny Rathbone am barthau gwahardd ceir o amgylch ysgolion, rydym newydd ddiweddaru'r canllawiau ar gyfer y prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar ymyriadau sy'n annog newid ymddygiad. Ac rwyf wedi dweud fy mod wedi cyfarfod â'r holl swyddogion diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru ac wedi nodi fy nisgwyliadau clir iawn nad atebion ar sail peirianneg yn unig roeddem am eu gweld; roeddem am gael atebion a oedd yn mynd i annog newid moddol ac i gymell pobl rhag ymgymryd â gweithgareddau sy'n dibynnu ar geir. Eu lle hwy yn awr yw cyflwyno cynigion ac yn sicr byddem yn croesawu cynigion i gael parthau gwahardd ceir o amgylch ysgolion lle mae cefnogaeth leol i hynny, ac mae Jenny Rathbone yn iawn: mae angen inni ddechrau meddwl yn fwy radical am y math o ymyriadau a welwn o gwmpas ysgolion yn arbennig. Ac rwy'n disgwyl, yn y rownd nesaf o fapiau—y mapiau rhwydwaith unigol y mae awdurdodau lleol yn eu cynhyrchu y flwyddyn nesaf ar gyfer buddsoddi mewn teithio llesol yn y dyfodol—y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael ei mapio ar y cynlluniau hynny, a fydd yn arwain at seilwaith wedyn, gan eu cysylltu â rhwydweithiau dros y cyfnod cynllunio hwnnw.
Mae'r system fwyd, fel y mae Jenny Rathbone yn ein hatgoffa'n gyson, yn cyfrannu at yr epidemig o ordewdra hefyd. Mae mynediad at fwydydd rhad, sy'n cynnwys llawer o halen, siwgr, brasterau ac ychwanegion, wedi annog newid mewn ymddygiad bwyta. Felly, er mwyn cael effaith sylweddol, bydd angen dull trawslywodraethol effeithiol, a dyna pam rydym wedi nodi themâu yn ein strategaeth 10 mlynedd, 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, sy'n ymwneud ag amgylcheddau iach a lleoliadau iach. Er enghraifft, byddwn yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth yn yr amgylchedd bwyd dros yr haf, ac yn ystyried ystod o fesurau yn y dyfodol, megis hyrwyddiadau prisiau, labelu calorïau a phrynu diodydd. Daw hyn ochr yn ochr â buddsoddi i newid ein hamgylchedd ffisegol mewn mesurau i annog teithio llesol a chreu mannau gwyrdd.
Mae cysylltiad mawr rhwng gordewdra ac anghydraddoldebau iechyd a byddwn yn edrych ar rôl newid ymddygiad i annog newid cynaliadwy. Dyma pam ein bod yn datblygu dulliau wedi'u targedu a'u teilwra, yn enwedig gyda phlant a theuluoedd. Y risg o roi label clefyd ar ordewdra yw y gall llawer o bobl deimlo y bydd gordewdra yn anochel wedyn ar adeg pan ydym am i bobl deimlo y cânt eu galluogi i wneud newid iach—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Roeddwn yn meddwl tybed sut rydych yn ein gweld yn mynd i'r afael â'r stigma, a nodwyd gan y grŵp seneddol trawsbleidiol, oherwydd nid oes amheuaeth fod pobl yn teimlo'n gyndyn i fynd at eu gweithwyr iechyd proffesiynol ac yn rhannol am nad yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn cydymdeimlo â'r broblem.
Yn hollol. Mae llawer o bobl wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru am y stigma dyddiol y maent wedi'i wynebu, sy'n gallu bod yn ffactor gwaharddol iddynt wneud newid cadarnhaol, neu gleifion yn ofni trafod eu pwysau gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel y dywedodd Jenny Rathbone. Byddwn yn sicrhau bod mwy o ofal tosturiol yn y GIG a bod gwasanaethau'n gefnogol ac yn rhai sy'n galluogi. Rydym yn gwybod y bydd cael ymateb cyson gan y GIG drwy'r llwybr gordewdra yn help i fod yn ffactor cyfrannol sylweddol yn hyn o beth. Fodd bynnag, yr hyn na allwn ei wneud yw lleihau'r problemau cymdeithasol rydym yn eu hwynebu er mwyn sicrhau nad yw hwn yn fater sy'n diffinio iechyd ein poblogaeth yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu y byddai trin gordewdra fel clefyd yn helpu i newid y momentwm na'r ddarpariaeth y byddwn yn bwrw ymlaen â hi drwy ein dull uchelgeisiol o weithredu drwy 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:51.