Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/02/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding. 

Ymrwymiadau Gwariant ar gyfer Cwm Rhondda

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwm Rhondda yn 2020? OAQ55046

Mae ein cyllideb ddrafft yn cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru, gan gynnwys yng nghwm Rhondda. Rydym yn buddsoddi £284 miliwn yn Rhondda Cynon Taf drwy fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; £2.7 miliwn yn y gwaith o ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg, ac mae'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn darparu gwasanaethau gwell.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn wir, roeddwn am sôn am reilffyrdd a mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Ac rwy'n gobeithio y bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod gwella'r gwasanaethau yn flaenoriaeth gyson, o ran eu maint a'r cyfleusterau sydd arnynt, fel bod y Cymoedd, a'u potensial rhyfeddol o bobl fedrus iawn, yn gallu cael mynediad at swyddi sy’n talu’n dda, a bod yr economi sylfaenol yn y Cymoedd yn cael ei mynegi i'r eithaf, gan ein bod wedi cael newyddion da yn hynny o beth yn ddiweddar. Ond yn draddodiadol, nid yw gwariant ar seilwaith wedi bod yn ddigon mewn lleoedd fel Cymoedd Rhondda.

Cytunaf yn llwyr â David Melding fod rheilffyrdd, yn enwedig i mewn i Gaerdydd, ond hefyd mewn mannau eraill allan o'r Cymoedd, yn gwbl hanfodol i ehangu rhagolygon gwaith pobl. A dyna pam ein bod yn buddsoddi £738 miliwn i drawsnewid rheilffyrdd y Cymoedd i Drehebert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni a Coryton, gan drydaneiddio 172 cilomedr o reilffyrdd, ac uwchraddio seilwaith i sicrhau gwell amseroedd teithio a mwy o drenau bob awr, ac i ddarparu gwasanaeth metro erbyn mis Rhagfyr 2020. Ond yn y cyfamser, o 15 Rhagfyr, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu capasiti ar gyfer miloedd o gymudwyr ychwanegol ar y rheilffyrdd bob wythnos, gan gyflwyno trenau ychwanegol ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, ac mae hynny'n gynnydd o 10 y cant mewn capasiti ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth. Felly, credaf fod hynny'n ddechrau da, ond yn sicr, mae llawer o uchelgais i’w gael a llawer mwy i'w wneud.

Fel y gŵyr y Senedd hon, rwy'n cefnogi prosiect twnnel y Rhondda yn frwd. Rwyf hefyd yn aelod o'r gymdeithas sy'n ceisio ailagor y rhyfeddod peirianegol hwn. Rwy'n gefnogol gan y byddai’r potensial i Gwm Rhondda a Chwm Afan yn enfawr pe bai’r prosiect yn dwyn ffrwyth. Pe bai modd ei gysylltu â gweithgareddau hamdden, fel y cyfleoedd rhagorol sydd gan Rhondda ac Afan i'w cynnig mewn perthynas â beicio mynydd a beicio ffordd, heb sôn am y syniad o weiren wib gyfagos yn y Rhigos, mae’r potensial i ddenu ymwelwyr a rhoi hwb i'r economi leol yn enfawr.

Yn anffodus, mae’r un rhwystr yn ein hwynebu â’r hyn oedd yn ein hwynebu pan ddechreuais siarad am y prosiect hwn flynyddoedd lawer yn ôl, sef y cwestiwn ynghylch perchnogaeth. Mae'r bobl sy'n llywio’r prosiect yn ymbil ar Lywodraeth Cymru a/neu gyngor Rhondda Cynon Taf i gymryd perchnogaeth ar yr ased hwn ar ran y bobl, fel y gall symud ymlaen i'r cam datblygu nesaf—y broses o gael grant. Heb ddatrys y mater ynghylch perchnogaeth, ni ellir ymgeisio am y grantiau hynny mewn gwirionedd. Felly, mae’r goblygiadau a amcangyfrifir o ran cost yn sgil cymryd perchnogaeth ar y twnnel yn ei gyflwr presennol yn nesaf peth i ddim. Mewn gwirionedd, daw gyda chynnig, cynnig untro, o daliad o £60,000 gan y perchnogion presennol, Highways England.

Felly, a allwch ddweud wrthym a oes rheswm ariannol i Lywodraeth Cymru beidio â chymryd perchnogaeth ar dwnnel y Rhondda?

Mae Llywodraeth Cymru'n rhannu eich brwdfrydedd ynglŷn â thwnnel Rhondda, a'ch cefnogaeth i'r gymdeithas. Mae fy ngŵr yn dod o Dynewydd, ac mae gennym deulu ym Mlaen-y-Cwm, felly edrychaf ymlaen yn fawr at allu beicio drwy dwnnel y Rhondda un diwrnod. Felly, yn sicr mae gennych fy nghefnogaeth i, ac mae gan y gymdeithas fy nghefnogaeth. Gwn fod trafodaethau, fel y dywedwch, yn mynd rhagddynt gyda Highways England, i ddeall yn well yr ased y byddem yn cymryd rheolaeth ohono, oherwydd, yn amlwg, mae angen i rywfaint o gyllid ddod gyda hynny, ac mae'r trafodaethau hynny’n parhau ar hyn o bryd. Credaf mai fy nghyd-Weinidog Lee Waters sy'n arwain y gwaith hwnnw, a byddaf yn sicrhau ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny.FootnoteLink

Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir y Fflint

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cefnogi ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn Sir y Fflint? OAQ55032

Mae'r gyllideb yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys hwb o £20 miliwn i fetro gogledd Cymru, buddsoddiad parhaus yn sir y Fflint ar gyfer band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac amryw o lwybrau teithio llesol. Mae'r setliad llywodraeth leol hefyd yn darparu cynnydd o 3.7 y cant ar gyfer sir y Fflint.

13:35

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, rwyf wedi sôn yn y Siambr hon eisoes am y pwysau y mae cyni parhaus yn ei roi ar lywodraeth leol. Mae penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn cael effaith enfawr ar lawr gwlad yn sir y Fflint. Nawr, mae llawer ohonom yn siomedig ynglŷn â'r newyddion nad oes gan Lywodraeth y DU, ar ôl yr etholiad, unrhyw fwriad i gadw eu haddewid i ddod â chyni i ben. Gellir gweld effaith cyni ar strydoedd Glannau Dyfrdwy. Weinidog, fel rwyf wedi’i ddweud o'r blaen, mae llinellau cyllideb fel y grant cymorth tai yn gwbl hanfodol os yw cynghorau am liniaru effaith cyni. Mae'n anodd diwallu'r angen â'r cyllid a ddyrannwyd gan y grant. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o ddod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer y grant hwn, neu ddarparu arian ychwanegol i gynghorau fel Cyngor Sir y Fflint, i helpu i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau?

Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn, ac am ei gefnogaeth i wasanaethau ar gyfer pobl ddigartref. Gŵyr ein bod wedi cynnal lefel y cyllid eleni yn y grant cymorth tai ar £126.8 miliwn. A chredaf fod ein cyflawniad yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol iawn â'r hyn a wnaed dros y ffin, mewn perthynas â Cefnogi Pobl. Oherwydd cafodd y gyllideb yno ei dadneilltuo, gan arwain at doriadau sylweddol yn y gwasanaeth, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Ond, fel y gŵyr yr Aelod, mae’r gwaith o graffu ar gyllideb 2020-21 yn mynd rhagddo, ac rwy'n gwrando'n ofalus. A gwn y bu rhai negeseuon am flaenoriaethau Aelodau, sydd wedi cael eu cyfleu’n gwbl glir. Felly, byddaf yn sicr yn ceisio gweld—pan fyddaf yn pennu’r gyllideb derfynol, yn y ddadl derfynol honno ar y gyllideb—beth fyddai fy mlaenoriaethau pe baem yn cael refeniw ychwanegol o gyllideb Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth.

Ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Cyngor Sir y Fflint eu hymgyrch #CefnogiGalw, yn y cyfarfod llawn, gyda chefnogaeth gwbl drawsbleidiol,

'i fynd â'r frwydr i lawr i'r adran lywodraeth leol yng Nghaerdydd i gael cyfran deg o'r arian cenedlaethol'.

Dywedodd eu harweinydd, sy'n digwydd bod yn aelod o'ch plaid, fod y cyngor yn ceisio cael cydnabyddiaeth i’r modd y mae'r fformiwla'n effeithio ar gyllid isel y cyngor o gymharu â mwyafrif y cynghorau yng Nghymru. Gwelodd un o'r cynghorau y toriadau mwyaf yng Nghymru yn 2019-20. Ym mis Hydref, anfonwyd llythyr atoch, a Gweinidogion eraill, a oedd wedi’i lofnodi gan yr arweinydd a holl arweinwyr y pleidiau—arweinydd pob grŵp—a oedd yn nodi,

'Rydym yn parhau i ddadlau ein bod ninnau, fel cyngor sy'n cael lefel isel o gyllid y pen o dan fformiwla ariannu llywodraeth leol, yn fwy agored na'r rhan fwyaf'.

Wedyn, yn y gyllideb ddrafft, fe wnaethoch roi'r trydydd setliad isaf iddynt yng Nghymru. Mae uwch gynghorwyr yn sir y Fflint wedi dweud wrthyf yn ystod yr wythnosau diwethaf nad ydynt am herio’r fformiwla ariannu yn agored, ar y sail y byddai'n rhaid i gynghorau eraill gael llai er mwyn iddynt hwy gael mwy, ac ni fyddent yn cael cefnogaeth allanol. Fodd bynnag, sut yr ymatebwch i'r llythyr a gawsoch gan arweinwyr cynghorau yng ngogledd Cymru, wedi'i lofnodi gan bob arweinydd, o bob plaid, ac sy’n nodi nad yw manteision eich setliadau dros dro yn y gyllideb ddrafft yn cael eu rhannu'n ddigon teg, a’u bod yn gadael y mwyafrif o'r cynghorau yn y gogledd gyda setliad sy'n sylweddol is na chostau net y pwysau ariannol, chwyddiant a newid demograffig?

Wel, wrth gwrs, mae'r cyllid refeniw craidd a ddarparwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn yn cael ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy'n ystyried llwyth o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau hynny. Ac fel y mae Mark Isherwood wedi’i gydnabod, caiff y fformiwla ariannu honno ei datblygu mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol, drwy'r is-grŵp dosbarthu.

Yr hyn yr hoffwn ei ddweud yw bod setliad sir y Fflint yn adlewyrchu ystod o symudiadau ailddosbarthu ariannol llai ffafriol o ran dangosyddion fformiwlâu, fel y rheini sy’n cael cymorthdaliadau incwm isel, felly pobl 65 oed neu hŷn nad ydynt mewn gwaith. A hefyd, mae nifer y disgyblion mewn ysgolion meithrin a chynradd hefyd yn gymharol isel. Ond mae'r awdurdod yn gweld symudiad ffafriol, yn ariannol, ymhlith pobl rhwng 18 a 64 oed sy’n cael cymorthdaliadau incwm. Felly, dyma'r mathau o nodweddion sy'n arwain at y setliad cyllid a gafodd sir y Fflint. A buaswn yn dweud bod 3.7 y cant yn setliad da iawn, ar ôl degawd o gyni. Ac mae wyneb gan yr Aelodau Ceidwadol braidd yn sôn wrthyf am doriadau i awdurdodau lleol, o ystyried ein bod wedi cael 10 mlynedd o gyni, a bod ein cyllideb y flwyddyn nesaf yn dal i fod £300 miliwn yn is na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl.

Felly, fel y mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi’i ddweud ar sawl achlysur, ac fel rwyf innau wedi’i ddweud, rydym yn agored iawn i gael y trafodaethau hynny gydag awdurdodau lleol, a chynghorwyr lleol ddylai gael y drafodaeth honno yn y lle cyntaf. Ac ni chredaf y dylai cynghorwyr lleol deimlo'n bryderus mewn unrhyw ffordd ynglŷn â thrafod pryderon digon cyfiawn gyda'u cymheiriaid.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth

Diolch, Llywydd. Wrth drafod y gyllideb ddrafft ddoe, mi gafodd cryn sylw ei roi i'r testun pwysig iawn o ddadgarboneiddio. Beth ydy blaenoriaethau'r Llywodraeth o ran annog dadgarboneiddio mewn trafnidiaeth yng Nghymru?

Mae blaenoriaethau ein Llywodraeth mewn perthynas â datgarboneiddio yn cael eu llywio i raddau helaeth gan y cyngor a gawn gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sydd, fel y dywedwch, yn cydnabod trafnidiaeth ochr yn ochr â thai fel y ddau faes y mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gwneud ymdrech ynddynt. Felly, fe welwch ein bod wedi buddsoddi £430 miliwn eisoes—wel, erbyn diwedd y flwyddyn nesaf—ym metro de Cymru. Ac mae hynny'n sicr yn dangos cryn ymrwymiad i leihau carbon.

Bydd trenau sy'n rhedeg ar reilffyrdd i'r gogledd allan o Gaerdydd yn drenau tyniant trydan 100 y cant, gyda'r trydan yn dod o ffynonellau cwbl adnewyddadwy. Ac mae'r gyllideb, yn amlwg, yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith ceir trydan, er fy mod yn sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y gwaith hwnnw.

Ac at hynny dwi am droi, achos ydych, mi ydych chi ar gyfnod cynnar iawn, iawn yn y buddsoddiad ddylai fod yn digwydd ar raddfa eang mewn rhwydwaith y wefru ar gyfer ceir trydan. Dwi'n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn dadl yma yn Siambr y prynhawn yma ar sut i annog cerbydau trydan drwy'r drefn gynllunio. Ond yn ein cytundeb ar y gyllideb ddwy flynedd yn ôl, mi wnaeth eich Llywodraeth chi gytuno i gais Plaid Cymru i fuddsoddi £2 filiwn mewn rhwydwaith wefru genedlaethol gyhoeddus. A gafodd hwnnw ei wario ac ar beth?

Bydd yn rhaid i mi roi sicrwydd i chi y byddaf yn trafod gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, fod yr arian hwnnw wedi’i wario, ond, fel rydym wedi trafod eisoes, rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth fy nghyd-Weinidogion fod angen iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Blaid Cymru ar y cynnydd tuag at yr eitemau hynny y cytunasom arnynt ar y cyd yn ein cyllideb, a byddaf yn ymdrechu i roi’r diweddariad hwnnw i chi.

Wir yr, mae'n rhaid i fi ddweud, mae wedi bod yn destun rhwystredigaeth mawr i fi, ar ôl llwyddo i gael y cytundeb yna, i weld arafwch mawr wrth wario'r arian. Mewn ateb ysgrifenedig ym mis Tachwedd ynglŷn â gwariant Llywodraeth Cymru yn y pum mlynedd diwethaf ar isadeiledd gwefru, rydym ni'n gweld bod ychydig dros £0.5 miliwn yn cael ei roi mewn grantiau i gynghorau Sir Gaerfyrddin, sir Benfro, ac Abertawe yn ôl ym mis Mai y llynedd a tua'r un faint, mymryn yn fwy, wedi'i ddyrannu ym mis Medi. Doedd £2 filiwn ddim yn llawer fel yr oedd hi, ond mi oedd yn bwysig iawn cael yr arian yna er mwyn rhoi hwb yn y sector yma.

Ond ydych chi'n derbyn bod llwyddo i wario dim ond hanner hynny drwy Gymru gyfan ar bwyntiau gwefru cyhoeddus hyd at ddiwedd y llynedd yn brawf o fethiant y Llywodraeth i droi addewidion gwariant yn realiti? Ac os mai dyna'ch agwedd chi tuag at y rhwydwaith gwefru, onid ydy hynny yn gofyn cwestiynau difrifol iawn ynglŷn â'r addewidion sy'n cael eu gwneud yn ehangach rŵan o ran taclo newid hinsawdd a pharodrwydd a gallu'r Llywodraeth i droi'r cynlluniau hynny i gyd yn realiti hefyd?

Buaswn yn anghytuno â hynny, gan y credaf, pan fyddwn yn gwneud addewidion, y dylem eu cadw. Felly, mae'r gyllideb hon rwyf wedi'i chyhoeddi yn cyflawni’r addewidion mawr a wnaethom yn yr etholiad diwethaf. Felly, mae’n cyflawni o ran darparu’r 100,000 o brentisiaethau i bob oedran yn ystod tymor y Cynulliad hwn; mae'n cyflawni o ran dyblu'r swm y gall pobl ei gadw cyn talu am ofal cymdeithasol; mae'n cyflawni o ran darparu cefnogaeth i fusnesau bach gyda’u hardrethi; ac mae'n cyflawni mewn perthynas â'r holl eitemau eraill a oedd yn addewidion allweddol gennym, ac felly gallwn fynd at y bobl y tro nesaf, a dweud ein bod wedi cyflawni mewn perthynas â'r addewidion hynny.

O ran cerbydau trydan, mae hwnnw’n fater pwysig iawn ac rwy'n falch eich bod wedi sicrhau'r ddadl ar hynny y prynhawn yma. Credaf fod llawer y mae angen i'r farchnad ei wneud o hyd. Felly, roedd Mike Hedges, yn y ddadl ddoe, yn ein hatgoffa y bydd angen gwahanol fathau o wefrwyr ar wahanol fathau o gerbydau. Nawr, yn amlwg, ymddengys i mi fod hynny’n broblem.

Yr wythnos hon, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno deddf sy’n ei gwneud yn ofynnol i wefrwyr ffonau ar gyfer pa fath bynnag o ddyfais, boed yn ddyfais Android neu Apple, fod yr un peth. Mae hynny'n newyddion da i ddefnyddwyr. Nid wyf yn gwybod pam na allwn archwilio beth y gallem ei wneud a allai fod yn newyddion da i ddefnyddwyr i wneud hyn yn haws.

13:45

Diolch, Lywydd. Ddoe, cafwyd dadl yn y Siambr hon ar y gyllideb ddrafft. Wrth gwrs, yr hyn sy’n allweddol er mwyn rhoi sylfaen well i economi Cymru yw cefnogi busnesau bach Cymru'n well. A allwch ddweud wrthym sut y mae'r gyllideb ddrafft hon yn cynnig helpu'r 95 y cant o fusnesau Cymru sy'n fusnesau bach a micro, ac sy’n cyflogi llai na naw o bobl yr un, mewn sawl achos?

Yn sicr. Mae'r gyllideb yn nodi ein hymrwymiadau i gefnogi busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig, drwy ein cefnogaeth i ardrethi busnes. Fe wyddoch, yng Nghymru, nad yw oddeutu hanner y busnesau yn talu unrhyw ardrethi o gwbl diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n cymharu'n ffafriol iawn â’r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr, lle nad oes ond oddeutu traean yn unig yn cael y lefel honno o gefnogaeth.

Weinidog, rydych yn llygad eich lle yn dweud bod nifer o fusnesau'n osgoi talu unrhyw ardrethi o gwbl. Ymwelais â stryd fawr Cas-gwent yn ddiweddar, ac ar un stryd yno, ceir nifer o fusnesau nad ydynt yn talu ardrethi. Yn anffodus, ar yr un stryd, ceir busnesau hefyd sydd o faint tebyg iawn, ond mewn parth gwahanol o bosibl, sy'n gorfod talu ardrethi busnes uchel iawn o ystyried maint y busnes. Felly, a fyddech yn cytuno â mi bod dadl yma dros adolygu'r system gyfan i sicrhau ei bod yn decach?

Os edrychwch ar dreth drafodiadau tir ar gyfer eiddo anfasnachol dros £1 filiwn ac ardrethi busnes, ymddengys bod y rhain yn fwy na’n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr ar hyn o bryd—mater a godais ddoe. Felly, a wnewch chi ymrwymo i edrych eto ar ardrethi busnes? Maent yn dreth, i bob pwrpas, ac maent yn effeithio ar lawer o'n busnesau arbennig o fach, sy'n asgwrn cefn yr economi.

Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar ddyfodol trethi lleol, felly rydym yn edrych ar ardrethi busnes a’r dreth gyngor, mewn partneriaeth, i archwilio a oes angen diwygio rhywfaint ar gyllid llywodraeth leol. Rydym wedi bwrw iddi ar sawl maes ymchwil i'n helpu gyda hynny, gan gynnwys edrych i weld beth fyddai'r goblygiadau pe baem yn newid i dreth gwerth tir, er enghraifft; edrych ar oblygiadau ailbrisio posibl, pwy fyddai'n ennill a phwy fyddai’n colli; a rhywfaint o waith sy'n edrych ar oblygiadau credyd cynhwysol, yn benodol ar ochr y dreth gyngor o drethiant lleol. Felly, rydym yn sicr yn dod â llawer o ymchwil at ei gilydd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan Brifysgol Bangor a mannau eraill, a byddwn yn ei chyhoeddi mewn cyfres o ddogfennau dros y tri mis nesaf, rwy’n credu, a byddant ar gael i'r holl gyd-Aelodau eu harchwilio i weld a oes ffordd well o weithredu trethi lleol. Yr hyn y byddaf yn ei ddweud yw nad ydym am ddiwygio er mwyn diwygio, ond yn sicr, credaf fod yna achos dros gyflwyno mwy o degwch a mwy o gydlyniad i'r system.

Buaswn yn dweud 'Dyna safbwynt Ceidwadol da: nid diwygio er mwyn diwygio', ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch yn y ffordd roeddech chi'n ei feddwl. Rwy'n falch fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Fel y dywedais, ymwelais â stryd fawr Cas-gwent yn ddiweddar, lle roedd yn ymddangos i mi ei bod yn hynod annheg y gallwch gael busnesau gyferbyn â'i gilydd ar un stryd, oherwydd y ffordd y mae ardrethi busnes yn gweithio ac oherwydd y system barthau, neu drws nesaf at ei gilydd i bob pwrpas ar stryd, sydd naill ai ddim yn talu unrhyw gyfraddau o gwbl neu'n talu cyfraddau eithaf uchel. Felly rwy'n gobeithio y bydd hynny’n cael sylw.

Weinidog, gwnaeth Rhun ap Iorwerth, yn ei gwestiynau agoriadol, rai pwyntiau da iawn am yr economi werdd, yn enwedig mewn perthynas â gwefru trydan. Roeddech yn falch o ddweud ddoe fod eich cyllideb yn gyllideb werdd, a chredaf fod pob un ohonom am weld cyllideb werdd a chyllidebu gwyrdd effeithiol yng Nghymru. Fel rwyf wedi'i ddweud, i bob pwrpas, trethi yw ardrethi busnes ac mae angen inni sicrhau eu bod yn gystadleuol. A ydych yn credu, mewn cyfnod o newid tuag at bennu cyllidebau gwyrddach, fod hon yn adeg dda i edrych eto ar y ffordd y mae busnesau yng Nghymru yn cael eu trethu ac efallai i edrych mwy ar newid tuag at economi drethiant gwyrdd, lle rydym yn tynnu’r baich oddi ar fusnesau a allai fod yn fach ond a allai fod yn eithaf ecogyfeillgar ac yn ei roi ar fusnesau nad ydynt yn ecogyfeillgar o bosibl, er mwyn eu hannog i wneud yn well? O ran eich cyllideb ddoe, fe wnaethoch ei galw’n gyllideb werdd, ond nid wyf wedi gweld llawer o dystiolaeth eto eich bod yn edrych ar newid y ffordd y mae strwythurau fel ardrethi busnes a threthi eraill yn gweithio i sicrhau ein bod, ar lawr gwlad, yn helpu busnesau sy'n chwarae eu rhan dros yr amgylchedd.

Wel, nid ydym yn argymell newidiadau mawr naill ai i’r dreth gyngor neu i ardrethi annomestig yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yr hyn rydym yn ei gynnig yw casglu'r ymchwil a'r sylfaen dystiolaeth honno er mwyn llywio ein syniadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn trafodaeth a gefais yn ddiweddar gyda’r grŵp trawsbleidiol ar siopau bach, a gadeiriwyd gan eich cyd-Aelod, Janet Finch-Saunders. Buom yn siarad am werth busnesau bach a chanolig, ac yn yr achos hwn, buom yn siarad yn benodol am y stryd fawr. Trodd y drafodaeth at yr hyn y buasem yn gofyn amdano pe baem yn edrych o'r newydd ar ardrethi busnes. A oes ffordd well o glymu ardrethi busnes â'r math o bethau sydd gennym yn ein contract economaidd? Sut y byddem, o bosibl, yn sicrhau ein bod yn ystyried gwaith teg neu ddatgarboneiddio ac ati? Nid ydym am greu system hynod lafurus, anodd a chymhleth, ond credaf ei bod yn deg meddwl am bethau'n wahanol, gan gynnwys mewn perthynas â’r agenda werdd hefyd.

13:50

Diolch, Lywydd. Gan gamu'n ôl o fanylion y gyllideb hon, a'r anawsterau penodol rydym wedi'u cael gydag amseriad cyllideb y DU mewn perthynas â'n cyllideb ein hunain, beth yw barn y Gweinidog Cyllid ynglŷn â sut y mae ein proses gyllidebol yn gweithio yn gyffredinol? Pa mor dda, neu fel arall, y mae'n cymharu â'r hyn y gallem ei ystyried yn arfer gorau gan ddeddfwrfeydd eraill, boed hynny yn y DU neu'n rhyngwladol? A yw hi o’r farn fod achos i’w gael, wrth i fwy a mwy o drethi gael eu datganoli ac wrth i’r sefydliad hwn aeddfedu, dros symud at broses cyllideb ddeddfwriaethol?

Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn casglu tystiolaeth arno ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at siarad yn fanwl yn sesiwn graffu’r pwyllgor ar hynny. Credaf fod rhai syniadau cynnar, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag amseriad a'r ffordd y mae eleni wedi bod yn arbennig o anhrefnus, mae'n deg dweud, heb sôn am y gostyngiadau negyddol a gawsom wythnos cyn pennu ein hail gyllideb atodol ar gyfer eleni. Felly, mae wedi bod yn anhygoel mewn sawl ffordd.

Rydym eisoes wedi archwilio’r syniad o symud i system sy'n debycach i'r un a geir yn yr Alban, a fyddai fel rheol yn golygu cyhoeddi'r gyllideb ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei chyllideb hithau. Gwnaethom archwilio hynny gyda’r Pwyllgor Cyllid, a chredaf i’r Pwyllgor Cyllid ddod i’r casgliad, ac roeddem yn barod i gytuno â hynny, ei bod yn well ei chyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn i roi’r lefel o sicrwydd y gallwn ei rhoi i’n partneriaid.

Un o'r pethau rwy'n falch iawn ein bod yn gallu eu gwneud eleni—cyfarfu'r Gweinidog lywodraeth leol a minnau ag is-grŵp cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bore yma—yw gallu rhoi mwy o sicrwydd ynglŷn â rhai o'r grantiau mawr y mae awdurdodau lleol yn dibynnu arnynt. Credaf fod hynny wedi bod yn wers dda i ni o ran yr ymgysylltu a gawsom yno.

Ond yn sicr, credaf ei bod yn ddyddiau cynnar o ran y drafodaeth gyda'r pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at archwilio hyn. Buaswn yn dweud hefyd, o ran y broses, ein bod yn awyddus i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ymhellach yn ein proses o lunio'r gyllideb drwy gydol y flwyddyn. Felly, fe fyddwch yn gyfarwydd iawn bellach â'r cynllun treigl pum mlynedd i wella'r gyllideb, ac rydym wedi'i gyhoeddi am y tro cyntaf eleni i wella'r ffordd rydym yn cyflawni'r broses o bennu'r gyllideb.

O ran y ffordd y mae'r broses yn gweithio, gyda chyllideb ddrafft a chyfnod wedyn o sawl wythnos o leiaf o ymgynghori ymddangosiadol ac ystyried cynnwys y gyllideb ddrafft honno cyn i ni gyflwyno cyllideb derfynol wedyn i'w hystyried, tybed a yw'r broses honno'n rhoi'r argraff i bobl y tu allan i Lywodraeth Cymru yn arbennig a allai dderbyn neu elwa o gyllid fod mwy o gyfle i newid y gyllideb honno mewn ffordd fwy sylweddol nag y mae profiad yn awgrymu sy'n wir.

Tybed faint o newidiadau y mae'r Gweinidog Cyllid yn disgwyl eu gwneud i'r gyllideb ddrafft pan fydd yn cyhoeddi'r gyllideb derfynol. Er enghraifft, un maes y credaf y codwyd pryderon yn ei gylch ar sail drawsbleidiol yw'r gostyngiad mewn termau real yn y cymhorthdal ​​bysiau. A yw hynny'n rhywbeth y mae'n realistig inni ddisgwyl bod y Gweinidog wedi clywed y sylwadau hynny ac wedi'i newid mewn ymateb iddynt, neu a yw'r broses yn caniatáu i bobl feddwl ac efallai i gael eu harwain i ddisgwyl mwy o bosibilrwydd o newid, effaith a dylanwad nag y mae'r broses gyllidebol yn caniatáu ar ei gyfer yn amlach na pheidio?

Credaf fod dadl i'w chael dros ymgysylltu'n gynharach yn y flwyddyn, ac roedd y ddadl a gyflwynodd y Pwyllgor Cyllid ar ôl eich sesiwn wrando yn addysgiadol iawn ac yn ddefnyddiol iawn. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y buaswn yn awyddus i'w gyflwyno ar sail flynyddol, cael y ddadl yn gynnar yn y flwyddyn. Credaf fod rhywfaint o drafodaeth i'w chael gyda'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn ag a ddylai'r Pwyllgor Cyllid arwain y ddadl ar ôl i'r pwyllgor wneud ei waith gwrando, neu a yw'n rhywbeth y byddai'n well gan y Pwyllgor Cyllid i'r Llywodraeth ei gyflwyno, ond rwy'n fwy na pharod i archwilio'r materion hynny gyda'r pwyllgor. Felly, credaf fod ymgysylltu cynnar yn bwysig iawn.

O safbwynt yr hyn a allai ddigwydd yn y gyllideb derfynol, rwy'n dal i ystyried beth y gallai'r opsiynau fod. Un o'r anawsterau mewn gwirionedd yw y bydd cyllideb y DU yn cael ei chyhoeddi'n fuan ar ôl hynny, a gallai newid pethau eto o bosibl. Gallwn ddyfalu na fyddai llawer o newid o ran refeniw ond efallai y byddai cyfalaf ychwanegol, felly credaf fod hon yn adeg i ni ac eraill ystyried beth fyddai ein blaenoriaethau pe baem yn cael cyllid ychwanegol. Ond os na allaf wneud dyraniadau pellach yn y gyllideb derfynol, yn sicr, buaswn yn awyddus i ddynodi i fy nghyd-Aelodau beth fyddai'r blaenoriaethau, pe bai cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu.

13:55
Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru? OAQ55024

Mae Llywodraeth Cymru'n cyflawni ei nodau a'i hamcanion, yn rhannol, drwy nifer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Darperir cymorth ariannol drwy gymorth grant ar gyfer costau rhedeg a gorbenion. Gall cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru hefyd wneud cais am gyllid grant wedi'i neilltuo.

Diolch am eich ateb, Weinidog Cyllid.

Yn amlwg, ym mis Ebrill, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatganiad ar yr argyfwng newid hinsawdd. Nododd fy nghyd-Aelod Nick Ramsay fod eich sylwadau ddoe yn dweud bod hon yn gyllideb werdd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, eich rheoleiddiwr eich hun ar gyfer llawer o'r pethau ym maes yr amgylchedd, wedi cael cyllideb wastad, sydd i bob pwrpas yn doriad mewn termau real. A allwch gadarnhau p'un a gawsoch unrhyw sylwadau gan Weinidog yr amgylchedd i geisio sicrhau cynnydd mewn termau real yng nghyllideb CNC, neu a ydych heb dderbyn unrhyw sylwadau? Ac os na fydd cynnydd yn eu cyllideb, sut y disgwyliwch i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni'r swyddogaethau rydych wedi'u rhoi iddynt?

Mae'r cyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn fater i Weinidog yr amgylchedd, ond yn y gyllideb hon, mae'r cyllid craidd yn refeniw o £69 miliwn yn 2020-21, a cheir cyllideb gyfalaf o £1.2 miliwn yn 2020-21. Mae'r gostyngiad mewn refeniw wedi digwydd o ganlyniad i newidiadau yng nghyllid pontio afreolaidd yr UE a roddwyd yn 2019-20, a symud £0.2 miliwn ar sail afreolaidd dros dro yn y prif grŵp gwariant i linell wariant cyllideb ansawdd yr amgylchedd lleol, ac mae hynny o ganlyniad i ail-gysoni cyllidebau. Felly, nid yw'r rheini'n effeithio o gwbl ar y cyllid uniongyrchol i Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw'r cyllidebau cyfalaf yn cael eu cario drosodd ac maent yn seiliedig ar broffil o wariant cynlluniedig y cytunwyd arno yn 2017-18, a 2020-21 yw blwyddyn olaf y cytundeb tair blynedd hwnnw.

Felly, ni fu unrhyw newid yn y cymorth grant ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, ond credaf ei bod yn bwysig cofio eu bod hefyd yn derbyn swm o gyllid grant gan wahanol rannau o Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at y cymorth grant, ac mae hynny o un flwyddyn i'r llall ar gyfer prosiectau sydd y tu allan i'r cymorth grant. Byddai enghreifftiau'n cynnwys llwybr arfordir Cymru neu Taclo Tipio Cymru, a arferai fod wedi'u cynnwys yn y cymorth grant pan oeddent mewn portffolio gwahanol. Mae hynny, unwaith eto, yn ymwneud â'r ffordd y mae pethau wedi symud o fewn y Llywodraeth.

Hefyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn derbyn cyllid afreolaidd ychwanegol ar gyfer pwysau amrywiol. Yn amlwg, bydd gan y Gweinidog fanylion pellach am y rheini mewn blynyddoedd blaenorol, ond maent hefyd yn derbyn, unwaith eto, incwm masnachol ac incwm coedwigaeth, ac mae honno'n ffynhonnell incwm arall i Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwn fod yn rhaid i'r Gweinidog ystyried yr holl bwysau ar ei phortffolio yn gyffredinol, ond nid y cyllid craidd yw'r unig gyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Mae adroddiad y Llywodraeth ar gyfer 2017-18 yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £323 miliwn ar gyllid uniongyrchol i sefydliadau'r trydydd sector. Nid yw hyn yn cynnwys taliadau anuniongyrchol drwy asiantaethau fel llywodraeth leol. O ystyried bod nifer o enghreifftiau o ddyblygu wrth ddarparu gwasanaethau'r trydydd sector—er enghraifft, dywedir bod oddeutu 48 o sefydliadau'n ymwneud â gofalu am bobl ddigartref—a yw Llywodraeth Cymru wedi ei hargyhoeddi bod y cyllid hwn yn cynnig gwerth da am arian i drethdalwyr?

14:00

Wel, buaswn yn dweud nad yw cyrff y trydydd sector, wrth gwrs, yn gyffredinol, yn cael eu cyfrif fel cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Pan fyddwn yn siarad am gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, yr hyn a olygwn yw cyrff gweithredol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, cyngor y celfyddydau, neu gyrff cynghori fel Pwyllgor Meddygol Cymru, Pwyllgor Optometrig Cymru, neu dribiwnlysoedd fel y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl a thribiwnlys y Gymraeg ac ati. Felly, nid yw hwn yn fater corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ond gwn fod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y trydydd sector bob amser yn awyddus iawn i sicrhau nad yw'r sefydliadau hynny'n dyblygu, ac mewn gwirionedd, mae'n aml yn ofyniad erbyn hyn, mewn perthynas â grantiau, fod y cynigion yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â sefydliadau eraill er mwyn sicrhau bod y sefydliadau hynny'n gwneud y mwyaf o'u cyfraniad ond hefyd er mwyn osgoi'r math hwnnw o ddyblygu. Ond os oes gennych unrhyw reswm penodol dros boeni, buaswn yn amlwg yn fwy na pharod i edrych arnynt.

Grant Cymorth Tai

4. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i roi i ariannu'r grant cymorth tai wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ55037

Mae cynnal cyllid o £127 miliwn yn y grant cymorth tai, ochr yn ochr â'n buddsoddiad parhaus o £18 miliwn ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd a ffrydiau cyllido eraill yn tynnu sylw at y pwyslais rydym yn ei roi ar ddarparu gwasanaethau i'r digartref, pobl mewn cartrefi a llety ansicr a phobl sydd angen cymorth i aros allan o leoliadau sefydliadol.

Mae fy apêl i'n syml iawn: peidiwch â gwneud unrhyw beth yn eich cyllideb sy'n bygwth gwariant ar daclo digartrefedd. Mae'n rhaid ichi gynnal a chynyddu grantiau tai a Chefnogi Pobl ac ati oherwydd, y tu ôl i'r ystadegau digartrefedd, mae yna bobl go iawn. Efo calon drom, mi soniaf i am un ohonyn nhw. Mi wnaeth y crwner yr wythnos yma gadarnhau mai Paul Daniel Hughes oedd y dyn gafodd ei ganfod yn farw mewn hen adeilad gwag yn Llangefni fis diwethaf.

Roedd fy nhîm yn drist iawn wrth glywed am farwolaeth Paul. Roedd yn ymweld â fy swyddfa'n rheolaidd. Roedd yn ddyn lleol digartref a fu’n byw mewn pabell ar lannau Afon Cefni am gyfnod. Ceisiodd fy nhîm ei helpu, a chawsant eu llesteirio dro ar ôl tro. Fe'i gwnaed yn ddigartref yn wreiddiol oherwydd marwolaeth ei fam, neu ar ôl marwolaeth ei fam. Roedd wedi bod mewn hostel ar un adeg ond dywedwyd wrtho am adael, am ddwyn brechdan mae'n debyg. Roedd yn daer eisiau cymorth a gwelodd na allai gael y gefnogaeth roedd ei hangen. A ydych yn cytuno mai pobl fel Paul sydd wedi dioddef, ac mewn llawer o achosion, wedi colli eu bywydau oherwydd toriadau gwariant, ac a ydych yn cytuno, er mwyn pobl fel Paul neu oherwydd pobl fel Paul, fod yn rhaid inni fuddsoddi'n iawn mewn dileu digartrefedd, ac na fydd unrhyw beth ond cynnydd yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer hyn yn dderbyniol?

Wel, yn amlwg mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am eich etholwr, Paul. Rydych yn llygad eich lle fod sefyllfa Paul a sefyllfa llawer o bobl fel Paul yn ganlyniad i'r sefyllfa rydym ynddi i raddau helaeth, yr anhawster i gael gwaith. A dweud y gwir, profedigaeth yw un o'r rhesymau mwyaf cyffredin a glywais gan bobl y siaradais â hwy sydd wedi bod yn ddigartref ar y stryd ac mae hynny wedi bod—. Roedd hynny'n dipyn o agoriad llygad oherwydd nid yw'n un o'r pethau y mae pobl yn eu nodi'n aml, ac rwy'n credu bod mwy o waith inni ei wneud yn hynny o beth o ran cymorth profedigaeth.

Gwrandewch, fel y dywedais wrth Jack Sargeant, rwyf wedi clywed y negeseuon gan gyd-Aelodau a chan y pwyllgor ac eraill yn glir ac rydym wedi cael cyfle i drafod yr union fater hwn gyda llywodraeth leol y bore yma, ac fel y dywedaf, os cyflwynir cyllid ychwanegol ac os oes cyfle yn y gyllideb derfynol, byddaf yn nodi beth fydd y meysydd blaenoriaeth hynny.

Wel, rwy'n falch iawn o glywed y sylwadau olaf hynny, oherwydd er bod y mater hwn wedi'i drafod yn fanwl ddoe, nid wyf yn credu eich bod wedi rhoi ateb terfynol i'r cwestiwn ynghylch cyllidebu ataliol, sy'n wendid a nodwyd yn y gyllideb a gyflwynwyd gennych. Fel eraill, ymwelais â Llamau. Prosiect Drws Agored oedd hwn i helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel gartref, ac os na allant eu cadw'n ddiogel gartref, i ddod o hyd i gartrefi diogel newydd iddynt—dyna ydyw, yn fras. Nid yw'n rhad, ond ei wendid, fel cymaint o'r prosiectau hyn, yw nad oes unrhyw sicrwydd y bydd yn parhau. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf pa asesiad a wnaethoch o’r arbedion i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol o ganlyniad i’r buddsoddiad cyfredol yn y grant cymorth tai a faint y gallech ei arbed pe baech yn cynyddu'r grant cymorth tai ar y cam hwn?

Rydym yn ymwybodol iawn o'r angen am sicrwydd y bydd cyllid yn parhau. Mae'n anffodus na ddigwyddodd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant y llynedd, ond rydym yn disgwyl iddo ddigwydd yn nes ymlaen eleni, a dylai hwnnw ddarparu rhagolwg tair blynedd, o leiaf, ar gyfer gwariant cyhoeddus, a fydd yn bendant yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r Llywodraeth, ac rydym bob amser yn awyddus i roi cymaint o sicrwydd ag y gallwn i awdurdodau lleol a'n partneriaid eraill ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

O ran y gwasanaeth ataliol, yn amlwg, mae cefnogi pobl ac atal pobl rhag mynd yn ddigartref yn un o'r gwasanaethau pwysig hynny. Mae'r ddeddfwriaeth rydym wedi'i rhoi ar waith, rwy'n credu, yn enghraifft wych o ddull ataliol arbennig o dda. Mae’r dyletswyddau a rown ar awdurdodau lleol bellach wedi atal dros 20,000 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref. Felly, mae ystod o bethau y dylem eu defnyddio—dylem ddefnyddio cyllid yn ogystal â deddfwriaeth a syniadau polisi craff i gefnogi pobl ac atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Ond fel rwy'n gobeithio fy mod wedi’i egluro i gyd-Aelodau, rwyf wedi bod yn gwrando ar y sylwadau a gyflwynwyd.

14:05

Rwy'n croesawu'r sylwadau gan y Gweinidog. Yn hwyr y llynedd, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ganllawiau ymarfer drafft y grantiau cymorth tai ar gyfer awdurdodau lleol, a gofynnai'r ymgynghoriad a oedd y trefniadau a nodir yn y canllawiau ymarfer yn addas at y diben, yn glir ac yn galluogi comisiynwyr a darparwyr i gyflawni pwrpas craidd y grant a darparu'r gwasanaethau cymorth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y rhai y bwriadwyd y gwasanaeth ar eu cyfer.

Weinidog, a allwch chi roi gwybod i mi felly sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hidlo'r ymatebion er mwyn cynhyrchu'r ddogfen ganllawiau derfynol hollbwysig honno ym mis Ebrill? Ac a allwch chi ddweud wrthyf beth yw'r amserlen arfaethedig ar gyfer cyhoeddi'r canllawiau terfynol? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu sefydlu’n effeithiol i gynorthwyo dinasyddion Cymru, a lle bo hynny'n bosibl, yn edrych ar wella a chynyddu'r grant hwn?

Iawn. Wel, mae arnaf ofn na allaf ddarparu ateb manwl mewn perthynas â sut rydym yn hidlo ac yn aros am yr ymatebion hynny, na rhoi gwybodaeth am yr amserlen, ond gwn y bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog llywodraeth leol, yn gallu gwneud hynny, a byddaf yn sicrhau eich bod yn cael ateb llawn i hynny.FootnoteLink

Caffael Arloesol

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gaffael arloesol yng Nghymru? OAQ55059

Mae dulliau arloesol o gaffael eisoes yn cael eu defnyddio i hybu creadigrwydd a sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol eang i gymunedau a dinasyddion Cymru. Rydym hefyd yn gweithredu rhaglen gallu masnachol a chaffael newydd i adeiladu gallu a gwytnwch ar draws y proffesiwn caffael yng Nghymru i hybu arloesedd.

Gallaf weld bod Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Siambr, ac felly hefyd aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Byddwn yn lansio ac yn cyhoeddi ein hadroddiad ar gaffael yn yr economi sylfaenol yn ddiweddarach yr wythnos hon, felly nid wyf am ddatgelu ei gynnwys, ond hoffwn ofyn cwestiwn am gaffael sy'n gysylltiedig â hynny.

Roedd yn amlwg o'r sesiynau tystiolaeth yn yr ymchwiliad bod angen mwy o eglurder ar rôl a phwrpas byrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â chaffael arloesol. Yr wythnos ddiwethaf—yr wythnos cyn yr wythnos ddiwethaf—mewn dadl a gynhaliwyd ar drefi angor—dadl fer a gynhaliais yma—nododd y Dirprwy Weinidog rôl y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a’u rôl ym maes caffael. O ystyried y diffyg eglurder, a all y Gweinidog egluro sut y mae'n disgwyl i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ymgysylltu a defnyddio eu cadwyni cyflenwi lleol er mwyn caffael mewn ffordd arloesol, yn enwedig mewn perthynas â'r economi sylfaenol?

Rwy'n ddiolchgar i Hefin David am godi'r mater hwn ac am ei ddiddordeb arbennig ynddo. Rydym yn credu bod ffocws yr economi sylfaenol yn cyd-fynd yn dda iawn â chynlluniau llesiant byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sy'n adlewyrchu eu blaenoriaethau lleol. Mae llawer o'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus hynny wedi nodi datblygu'r economi sylfaenol fel un o'u blaenoriaethau lleol o fewn y cynlluniau llesiant hynny, ac rydym wedi bod yn ymgysylltu â hwy ers yr haf i archwilio pa gefnogaeth y gallwn ei rhoi iddynt a pha gymorth y gallwn ei ddarparu er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau hynny.

Felly, cynhaliwyd gweithdy lle buom yn archwilio potensial caffael cyhoeddus i gyflawni amcanion yr economi sylfaenol a fydd yn helpu i wella llesiant lleol. Ac ers hynny, rydym hefyd wedi rhannu adroddiad a luniwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym wedi cael trafodaethau da gyda hwy ar hynny. Gallaf ddweud yn awr fod y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol wedi'i phenodi gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus sy'n dymuno gweithredu rhaglenni caffael blaengar. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith hwnnw. Felly, mae nifer o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi mynegi diddordeb, a bydd prosiect braenaru cychwynnol ar gaffael yn dechrau y mis nesaf. Felly, rydym yn dechrau bwrw ymlaen â'r gwaith rydym yn ei wneud gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac yn darparu cyllid i ysgogi'r gwaith hwnnw.

14:10

Weinidog, mae ffyrdd newydd o weithio mewn hinsawdd o gyllidebau cyfyngedig yn anhepgor ar gyfer cynnal ansawdd a chwmpas y gwasanaethau a ddarperir. Felly, a gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu cynghorau lleol i nodi anghenion cyffredin lle gallent elwa o atebion arloesol a lle byddai atebion ar y cyd yn caniatáu i fwy o adnoddau gael eu defnyddio?

Fe fyddwch wedi clywed fy ateb i Hefin David ynglŷn â phwysigrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn cynnal digwyddiad ymgysylltu yfory, ac mae pob un o'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi mynegi diddordeb yn hyn wedi cael gwahoddiad, a bydd hynny'n rhan o waith tasglu'r Cymoedd. Disgwyliwn y bydd hynny'n arwain at gynllun gweithredu penodol ar gyfer defnyddio caffael i gyflawni'r blaenoriaethau economi sylfaenol hynny ar gyfer y rhanbarth penodol hwnnw. Felly, rydym yn sicr yn awyddus i wneud yr hyn a allwn i gefnogi cydweithio a rhannu gwybodaeth ar y cyd, a hybu eu grym gwario i'r eithaf hefyd.

Weinidog, mae canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr Undeb Ewropeaidd a chaffael cyhoeddus yn ddiddorol i'w darllen. Maent yn datgan bod yr UE yn nodi'r deddfau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy wrth ddyfarnu contractau caffael cyhoeddus. Mae'r deddfau wedi'u cynllunio i agor marchnad yr UE i gystadleuaeth, i hyrwyddo rhyddid i symud nwyddau a gwasanaethau ac i atal polisïau rhwng dwy wlad. A yw Llywodraeth Cymru bellach yn croesawu'r cyfleoedd newydd y bydd Brexit yn eu cynnig i fusnesau Cymru ac a fydd y ddogfen ganllawiau'n cael ei diweddaru yn awr?

O ganlyniad i delerau'r cytundeb ymadael a negodwyd gan yr UE a'r DU, yn amlwg, mae cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys yn ystod y cyfnod pontio. Ond rydym yn edrych ymlaen at ddangos beth fydd ein blaenoriaethau o ran cysylltiadau yn y dyfodol, oherwydd, yn amlwg, bydd y DU yn gallu ymrwymo i gytundebau masnach rydd. Bydd gan y rhan fwyaf o'r rheini benodau ar gaffael wedi'u cynnwys ynddynt, felly mae gennym ddiddordeb mawr mewn gweld beth y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn diogelu buddiannau Cymru. Y meysydd lle byddwn yn blaenoriaethu ein cyfraniadau i'r ddadl honno fydd datgarboneiddio, gwerth cymdeithasol, manteision cymunedol, yr economi sylfaenol, a'r economi gylchol hefyd. Felly, dyna'r meysydd yr hoffem eu gweld yn cael blaenoriaeth mewn unrhyw benodau caffael mewn cytundebau masnach rydd yn y dyfodol.

Treth ar Dir Gwag

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflwyno treth ar dir gwag i Gymru? OAQ55033

Rydym yn gwneud cynnydd gyda Llywodraeth y DU i sicrhau pwerau ar gyfer treth ar dir gwag yng Nghymru. Y cam nesaf yw cyfarfod o gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd, a byddaf yn rhoi rhagor o fanylion i'r Cynulliad yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Diolch, Weinidog, ac rwy'n croesawu'r diweddariad hwnnw ar gynlluniau ar gyfer mesur y teimlaf y gallai fod o fudd gwirioneddol i gymunedau fel fy un i. Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ddatganiad llafar yr wythnos ddiwethaf ar yr agenda trawsnewid trefi, lle siaradodd am ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bancio tir. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod treth ar dir gwag yn elfen hanfodol o hyn, gan alluogi adfywio canol trefi a datgloi safleoedd ar gyfer darparu tai newydd?

Ydw, rwy'n cytuno. Rwy'n credu y gallai treth ar dir gwag fod yn offeryn cyffrous iawn i'w gael yn ein harfogaeth, os mynnwch, pan fyddwn yn edrych ar wella ein strydoedd mawr a thu hwnt. Rwy'n falch iawn ei bod yn ymddangos bellach ein bod yn gwneud rhywfaint o gynnydd gyda Llywodraeth y DU. Mae wedi bod yn eithaf anodd hyd yma, ond credaf ein bod yn dechrau gweld gwelliant. Wrth gwrs, dyma'r tro cyntaf i ni roi prawf ar Ddeddf Cymru 2017 o ran datganoli pwerau i ni gyflwyno trethi mewn rhai meysydd, ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael y broses yn iawn.

Ond fel y dywed Vikki, amcan polisi treth ar dir gwag fyddai gwneud defnydd cynhyrchiol o dir segur, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd i ni gofnodi ein hawydd i beidio â chael unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Felly, byddwn yn ymgynghori'n drylwyr er mwyn sicrhau ein bod yn cael y polisi'n iawn.

Staff Locwm

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwerth am arian defnyddio staff locwm yn y GIG yng Nghymru? OAQ55060

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag ystod o faterion ariannol yn ei bortffolio, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud ag adnoddau staff y GIG, a drafodwyd gennym yn gynharach yr wythnos hon.

14:15

Mae penaethiaid bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi dweud wrthym fod y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn anniogel oherwydd prinder meddygon ymgynghorol parhaol. Mae'r olaf yn ymddeol ar ddiwedd mis Mawrth. Dywed yr un bwrdd gweithredol nad yw cynnal gwasanaeth sy’n llwyr ddibynnol ar weithwyr locwm yn ddiogel. O safbwynt ariannol, dywedant y byddai'n costio llai i gyflogi meddygon ymgynghorol parhaol. Gwn o ffynonellau dibynadwy fod yna feddygon ymgynghorol locwm a fyddai'n barod i ymgymryd â swyddi ar sail barhaol pe baent yn cael cynnig oriau hyblyg a phecyn ychydig yn well. Mae byrddau eraill wedi cynyddu nifer eu meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw Cwm Taf wedi gwneud hynny.

Wrth gwrs, tra bo canoli elfen damweiniau ac achosion brys rhaglen de Cymru yn dal ar waith, y rhwystr arall yw y bydd yr ansicrwydd hwnnw'n parhau a gallai'r swyddi hynny fod yn anneniadol. Mae'n ymddangos i mi a llawer o rai eraill, gan gynnwys y staff sy'n gweithio i'r GIG, na wnaed unrhyw ymdrech go iawn i recriwtio i swyddi parhaol, a bod yr holl ymarfer wedi dod yn broffwydoliaeth hunangyflawnol.

Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fonitro a rheoli cyllideb Llywodraeth Cymru, a ydych yn rhannu'r rhwystredigaethau hyn ynghylch y ddibyniaeth ar staff locwm drud yn y GIG, yn enwedig pan ymddengys nad oes llawer o ymdrech wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddarparu'r swyddi parhaol hynny?

Dros y tair blynedd ddiwethaf ledled Cymru rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG i lunio fframwaith rheoli ar gyfer gwariant ar staff asiantaeth a locwm, ac mae'r mesurau hynny'n cynnwys lefelau uwch o graffu gan y byrddau, lleihau'r defnydd o staff locwm, a gwella gwerth am arian drwy gyfraddau capio a chaffael mwy effeithiol. Bu gostyngiad parhaus mewn gwariant ledled Cymru ar locymau meddygol ar ôl cyflwyno'r fframwaith. Yn wir, ers cyflwyno'r fframwaith, bu gostyngiad o bron i 30 y cant yng nghost locymau meddygol, ac mae hynny'n rhyddhau arbediad o oddeutu £300 miliwn. Ond wrth gwrs, dyna'r darlun ledled Cymru, ac rwy'n derbyn bod yna faterion penodol yn codi mewn perthynas â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ond cefais drafodaeth gyda'r Gweinidog iechyd, ac mae’n rhaid i mi ddweud nad yw'r materion sy'n wynebu'r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn faterion ariannol.

Blaenoriaethau Gwario Llywodraeth Cymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ55026

Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 yn cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru ac yn buddsoddi yn nyfodol ein planed, gan gynnwys £324 miliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru, bron i £200 miliwn ychwanegol i lywodraeth leol, a phecyn newydd gwerth £140 miliwn i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. 

Wel, ar ôl clywed dadl y gyllideb ddoe ac ar ôl clywed cwestiynau heddiw, rhaid bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r pryder ar draws y Siambr ynglŷn â'r angen i gefnogi tai â chymorth. Pan euthum ar ymweliad, gwelais rywun a oedd wedi llwyddo i beidio â mynd i'r ysbyty ers pum mlynedd. Nid oeddent erioed wedi gallu aros allan o'r ysbyty am flwyddyn nes iddynt gael darpariaeth tai â chymorth. Mae cefnogaeth eang, os nad bron yn unfrydol, ar draws y Siambr hon i ddarparu cyllid ychwanegol i dai â chymorth. A wnaiff y Gweinidog geisio rhoi blaenoriaeth iddo yn ystod y cylch cyllideb hwn? Oherwydd mae’n fater sydd i'w weld yn uno bron bawb.

Diolch i Mike Hedges am ei gyfraniad. Buaswn yn ailadrodd, unwaith eto, fy mod wedi bod yn gwrando'n ofalus ar gyd-Aelodau a bod y dadleuon yn rhai da. Pan ddaw'r adeg briodol, byddaf yn nodi unrhyw feysydd blaenoriaeth ar gyfer cyllid ychwanegol, os bydd cyllid ychwanegol ar gael.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.

Cyfleusterau Diogel i Sefyll Mewn Stadia Pêl-Droed

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran cefnogi'r broses o gyflwyno cyfleusterau diogel i sefyll mewn stadia pêl-droed? OAQ55022

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd unrhyw gamau i gefnogi'r cynnig y mae'r Aelod yn cyfeirio ato.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n sylweddoli eich bod chi a minnau wedi cael trafodaethau ar hyn o'r blaen, a'ch bod wedi ymateb drwy lythyr gweinidogol yn nodi na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailgyflwyno hynny. Mae'n ffaith, serch hynny, yn yr etholiad cyffredinol diweddar ar gyfer San Steffan, fod tair plaid—y Rhyddfrydwyr, y Blaid Lafur a'r blaid lywodraethol, y Blaid Geidwadol—wedi cynnwys hwn fel ymrwymiad maniffesto. Ac mae Nigel Adams, y Gweinidog chwaraeon, bellach wedi cael adroddiad ar yr union bwnc hwn. A gaf fi eich annog, Weinidog, i ymgysylltu â'r Gweinidog chwaraeon yn San Steffan fel nad yw stadia Cymru yn cael eu gadael ar ôl? Mae gennym dimau, fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, sy'n chwarae yng nghynghrair pêl-droed Lloegr, ac mae'n bwysig, o safbwynt y Llywodraeth, a allai gynnig cymorth neu beidio, ein bod yn rhan o'r negodiadau a'r trafodaethau hynny, fel nad yw stadia yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl pan fydd y cynnig yn cael ei weithredu yn San Steffan.

14:20

Wrth gwrs, rydym yn cadw llygad manwl ar y datblygiadau yn y maes hwn yn adran chwaraeon Llywodraeth y DU, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r gyfundrefn bresennol yn sicrhau mai'r Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon, fel yr awdurdod trwyddedu, sy'n gyfrifol am adael gwylwyr i mewn i feysydd pêl-droed, sy'n cynnwys pob maes pêl-droed yn y Gymdeithas Bêl-droed, yr Uwch Gynghrair a chynghrair pêl-droed Lloegr ynghyd â stadiwm Wembley a stadiwm Principality. Yn amlwg, lle mae timau Cymru'n chwarae yn y cynghreiriau hynny, cânt eu cynnwys pan fyddant mewn stadia yn Lloegr; o dan y ddeddfwriaeth hon, byddant yn cael eu cynnwys.

Mae'r Cae Ras yn Wrecsam, gogledd Cymru, yn cael ei gydnabod gan Guinness World Records fel y stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf y byd sy'n dal i gynnal gemau rhyngwladol, ar ôl cynnal gêm gartref ryngwladol gyntaf Cymru ym 1877. Ddirprwy Weinidog, mae llawer o gyd-Aelodau o ogledd Cymru ac ar bob ochr i'r Siambr hon wedi cydnabod yr angen i ddatblygu a buddsoddi yn y stadiwm, ac rwy'n cydnabod gwaith Llyr Gruffydd yn arbennig. [Torri ar draws.] Ymddiheuriadau. Gan gadw diogelwch gwylwyr sy'n sefyll mewn cof, Ddirprwy Weinidog, byddai hon yn ffordd berffaith o ddatblygu ac uwchraddio'r stadiwm gan gadw naws hanesyddol y maes ar yr un pryd. Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu bod hwn yn rhywbeth y gallem weithio arno ar bob ochr i ddarparu stadiwm chwaraeon ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yng ngogledd Cymru?

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaethpwyd yn anffurfiol—fel y gall ei wneud fel yr Aelod etholaeth dros Wrecsam—gan Lesley Griffiths. Felly, mae gennym ni bellach gynghrair o Griffithiaid. [Chwerthin.]

Cyfrifoldeb perchnogion y Cae Ras yw dyfodol y Cae Ras, ac os oes unrhyw gynigion mewn unrhyw ran o Gymru ar gyfer datblygu gweithgaredd chwaraeon pellach, gan gynnwys pêl-droed a chwaraeon eraill, byddem yn hapus iawn i'w drafod, gyda Chwaraeon Cymru wrth gwrs, fel ein prif gorff ar gyfer y mater hwn.

Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol fel Llywodraeth Cymru ym mharc Colliers, oherwydd dyna'r math o gyfleuster roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau ei weld yn Wrecsam i adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd. A chawn ein harwain yn fawr, nid gan uchelgeisiau gwleidyddion yn yr achos hwn, ond gan fuddiannau ein cyrff chwaraeon.

Cynllun Heddwch Gwladwriaeth Palesteina ac Israel

2. Pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cynllun heddwch ar gyfer gwladwriaeth Palesteina ac Israel a argymhellwyd yn ddiweddar gan Unol Daleithiau America? OAQ55045

Member
Eluned Morgan 14:23:47
Minister for International Relations and the Welsh Language

Er bod cysylltiadau rhyngwladol yn gymhwysedd a gedwir yn ôl, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd tramor i egluro ein safbwynt ar gynllun heddwch y dwyrain canol. Mae Cymru'n credu'n gryf mewn system ryngwladol sy'n seiliedig ar reolau, ac yn credu'n gryf mewn ymdrech wirioneddol deg i ddod o hyd i ateb i'r gwrthdaro hwn sydd wedi para'n hwy na nemor yr un gwrthdaro arall. Os bydd trafodaethau'n cael eu cynnal, dylid gwneud hynny'n unol â chyfraith ryngwladol, paramedrau sefydledig, a phenderfyniadau presennol y Cenhedloedd Unedig. Ac mae'n bell o fod yn glir mai dyna yw man cychwyn y cynllun a luniwyd gan yr Arlywydd Trump a'r Prif Weinidog Netanyahu.

Diolch am hynny. Mae'n fwy cynhwysfawr na'r hyn roeddwn wedi disgwyl ei glywed heddiw. Rydym i gyd yn gwybod mai Israel a Phalesteina, y gwrthdaro a'r anghydfod, yw'r broblem geowleidyddol sydd wedi para hwyaf yn y byd, ac mae'r anallu i'w datrys wedi arwain at effaith eang a niweidiol iawn ar y cysylltiadau rhwng y byd Mwslimaidd a gwledydd y gorllewin. Fel rydych wedi'i nodi, mae safbwynt yr Unol Daleithiau gyda'i chynllun heddwch newydd yn golygu ei bod bellach wedi cefnu ar hyd yn oed yr esgus o fod yn ganolwr niwtral. Byddai'r cynllun hwn a amlinellwyd yn ddiweddar, cynllun a elwir yn gynllun heddwch, yn cyfreithloni dwyn tir ar raddfa enfawr ac yn golygu y gallai degawdau o waith a wnaed gan y gymuned ryngwladol i geisio dod i gonsensws ar ateb dwy wladwriaeth gael ei golli.

Rwy'n deall eich bod wedi ysgrifennu ar y cynllun penodol hwn, ond rwyf eisiau deall pa sylwadau pellach y byddwch yn eu cyflwyno i'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd tramor i'w gwneud yn glir na fyddwch yn cefnogi unrhyw dresmasu pellach gan Lywodraeth Israel o ran y setliadau. Mae llawer ohonynt eisoes yn anghyfreithlon, fel y gwyddom, ac—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, mae Neil Hamilton yn gweiddi ar fy nhraws. Rwy'n ceisio gofyn cwestiwn, sy'n ddilys.

14:25

Fy nghwestiwn i, i gloi, yw: beth rydym am ei wneud i allu darparu ar gyfer pobl Palesteina ac Israel er mwyn iddynt allu byw'n gytûn gyda'i gilydd yn y dyfodol, ac fel y gallwn geisio dod o hyd i ateb heddychlon i bawb mewn modd nad yw wedi'i adlewyrchu yn y cynllun hwn?

Diolch. Rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd tramor. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, beth bynnag sy'n digwydd yn y dyfodol, ei fod yn seiliedig ar gyfraith ryngwladol ac ar gydraddoldeb ac ar sicrhau bod y ddwy ochr yn deall bod yn rhaid i hwn fod yn gytundeb ar y cyd. Rwy'n credu mai'r broblem go iawn gyda'r cynllun yw'r ffaith nad oedd y Palesteiniaid yn yr ystafell pan gafodd ei drafod. Rwy'n credu y dylid bachu ar unrhyw ymdrechion i hyrwyddo heddwch yn y dwyrain canol, ond mae'n amlwg fod angen inni sicrhau ei fod yn deg a'i fod yn cydymffurfio â rhyddid a chyfiawnder. Mae'n rhyfeddol fod hyd yn oed y Tywysog Charles, a oedd yn y tiriogaethau Palesteinaidd yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn cytuno y dylai unrhyw drafodaethau yn y dyfodol fod yn seiliedig ar hynny.

Fel ymwelydd mynych ag Israel a'r Lan Orllewinol yn y blynyddoedd diwethaf, rwy'n gwybod yn union pa mor anodd fydd datrys y gwrthdaro hwn, ond rwy'n credu bod angen i bawb ohonom fod yn onest â ni ein hunain a chydnabod bod ein gallu i ddatrys y gwrthdaro penodol hwn yn gyfyngedig iawn. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol: pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, yn ychwanegol at yr hyn y mae eisoes wedi'i wneud drwy ysgrifennu at Lywodraeth y DU, mewn perthynas â'r cynllun heddwch penodol hwn? Pa waith y gallech chi ei wneud ar lawr gwlad er mwyn cael pobl i siarad â'i gilydd a gweithio gyda'i gilydd er mwyn inni allu adeiladu heddwch o'r gwaelod i fyny, mewn sawl ystyr?

Fe fyddwch yn gwybod ein bod ni fel plaid wedi dweud ein bod angen rhaglen Cymru i'r byd. Gallai hynny gynnwys rhywfaint o waith ar ddeialog ddinesig rhwng Cymru a ffrindiau yn y dwyrain canol, yn Israel ac yn y tiriogaethau Palesteinaidd. Credaf y byddai hwnnw'n gyfle gwych inni gael mwy fyth o ddylanwad yn y rhan benodol honno o'r byd. Fe gyfeirioch chi, yn fyr iawn, at ymweliad diweddar Tywysog Cymru. A wnewch chi gytuno â mi fod ymweliadau o'r fath yn gwneud llawer iawn mewn gwirionedd i hyrwyddo buddiannau pobl Cymru dramor a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny?

Diolch. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall mai Llywodraeth y DU sy'n arwain mewn perthynas â materion tramor, ond hefyd mae'n bwysig fod pobl yn deall y gwerthoedd y credwn y dylid seilio cytundebau fel hyn arnynt. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru gefnogi unrhyw gamau a fydd yn golygu ein bod gam yn nes at weld problem heddwch y dwyrain canol yn cael ei datrys. Nid wyf yn siŵr mai dechrau arni yn y ffordd y mae hyn wedi'i ddechrau yw'r llwybr cywir ar gyfer sicrhau cynnydd yn hyn o beth. Ond yn sicr, rwy'n cytuno bod ymweliad y Tywysog Charles â'r Awdurdod Palesteinaidd yn rhywbeth adeiladol iawn yn ôl pob tebyg, ac rwy'n credu bod ei neges yn glir iawn pan oedd yno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, neithiwr, roedd y ddwy ohonom ni mewn digwyddiad ColegauCymru i ddysgu mwy am ganlyniadau Cymraeg Gwaith. Unwaith eto, roedd sgiliau cudd wedi cael eu cydnabod, nid yn unig o fewn y gweithlu, ond yn y corff myfyrwyr hefyd. Mae'r mwyafrif mawr o ddarlithwyr, myfyrwyr a phrentisiaid yn nodi, yn eu barn nhw eu hunain, nad oes ganddyn nhw unrhyw sgiliau Cymraeg neu sgiliau ail iaith sylfaenol, gan ddweud eu bod yn well ganddyn nhw astudio drwy gyfrwng y Saesneg yn unig, sy'n siomedig.

Bydd bron yr holl fyfyrwyr a phrentisiaid hynny wedi bod mewn ysgolion yng Nghymru, a byddai'r Gymraeg wedi bod yn elfen orfodol o'u haddysg. Felly, rwy'n croesawu cynllun y coleg Cymraeg ar gyfer addysg bellach a phrentisiaethau, a gwaith presennol Cymraeg Gwaith, ond mae ffordd bell i fynd i oresgyn effeithiau system addysg ac amgylchedd gwaith sy'n creu Cymro neu Gymraes swil. Sut y byddwch chi'n mesur llwyddiant y cynllun addysg bellach a phrentisiaethau, a pha mor hir fydd tymor hir?

14:30

Diolch yn fawr. Roedd hi'n dda i'ch gweld chi yn y cyfarfod yna neithiwr. Dwi yn meddwl bod yna broblem gyda ni gyda llawer o bobl sydd wedi bod trwy addysg cyfrwng Cymraeg sydd ddim gyda'r hyder efallai i ddefnyddio'r iaith, yn arbennig yn y colegau addysg bellach. A dyna pam mae'r grŵp yma mor hanfodol, dwi'n meddwl, ein bod ni yn cael coleg Cymraeg, sydd yn annog pobl i ddefnyddio'r iaith. Ond, hefyd, un o'r pethau maen nhw wedi gwneud yw creu llysgenhadon i geisio cael pobl yr un oedran â'r myfyrwyr i roi'r neges eu hunain. A dwi yn meddwl bod hwnna'n hynod o bwysig, ac yn gam ymlaen.

Un o'r pethau mae'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n gwybod pwy sydd yn gallu siarad rywfaint o Gymraeg, ac un o'r pethau rŷn ni'n ei wneud yn y maes addysg, er enghraifft, yw ein bod ni wedi ymgymryd â chyfrifiad blynyddol nawr i sicrhau ein bod ni'n gwybod pwy yn y maes addysg sy'n siarad Cymraeg sydd efallai yn dysgu mewn ysgolion sydd ddim yn Gymraeg iaith gyntaf. Felly, dwi yn meddwl efallai, yn y pen draw, y bydd angen inni wneud hynny yn y colegau addysg bellach yma.

Dwi yn meddwl bod Cymraeg Gwaith—mae e'n brosiect eithaf newydd o hyd, felly rŷn ni jest yn dechrau mas ar y daith yma, ond mae'r adborth rŷn ni wedi cael yn bositif tu hwnt, a dwi yn meddwl bod yn rhaid i ni roi ychydig mwy o amser i weld beth yw'r effaith, ac a oes rhywbeth sydd angen i ni ei wneud i wella ar y ffordd rŷn ni'n ymgymryd â'r gwaith yma. Ond beth rŷn ni wedi gwneud i ddechrau yw i ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle ni'n gwybod bod yr iaith Gymraeg yn hollol hanfodol, fel ym meysydd gofal a gofal plant. 

Diolch am yr ymateb yna. Yn bersonol, rwy'n croesawu'r syniad o lysgenhadon, yn arbennig gan mai syniad y Ceidwadwyr Cymraeg oedd hwnnw, i'w cael nhw yn y gweithle. Felly, os yw e'n gweithio ym maes addysg bellach, mae'n mynd i fod yn beth da. Dwi'n derbyn beth ddywedoch chi ynglŷn â sut i fwrw ymlaen gyda hynny, ond un o elfennau craidd y cynllun yw sicrhau digon o staff dwyieithog i addysgu ledled Cymru ym mhob pwnc sy'n flaenoriaeth ar gyfer datblygu, fel rŷch chi wedi dweud. Ond mae'r coleg Cymraeg yn galw am raglen datblygu staff genedlaethol i gefnogi addysgu dwyieithog dros y tymor canolig.

Mae'ch cynllun chi yn nodi bod angen 300 o athrawon ysgol uwchradd ychwanegol i ddysgu Cymraeg fel pwnc, a 500 arall i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn y flwyddyn nesaf i fod ar y trywydd iawn am 2050. Mae'n glir na fydd hynny yn digwydd. Felly, mae'n annhebygol y bydd myfyrwyr a darlithwyr y dyfodol yn cael profiad gwahanol, ystyrlon eu Cymraeg ar ôl gadael ysgol i fynd i'r coleg neu ymgymryd â phrentisiaeth. Mae 18 o diwtoriaid y coleg Cymraeg yn cyflwyno Cymraeg Gwaith, felly sut y gallwch ddisgwyl i addysg bellach a'r coleg Cymraeg gyflwyno rhaglen genedlaethol a thrawsnewid darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 pan fydd staff a myfyrwyr yn dod i mewn i'r system honno heb ddim gwell sgiliau nag sydd ganddynt yn awr?

Diolch. Yn amlwg, mae hwn yn rhywbeth sydd yn sialens i ni. A dwi'n meddwl fod e'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny. Bydd diddordeb gen i i ddarllen y strategaeth mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi'i lansio amser cinio i weld beth maen nhw yn rhagweld yw'r ffordd orau ymlaen. Ond dwi yn meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni yn gwneud beth rŷn ni'n gallu i gynyddu'r niferoedd sydd yn ymwneud ag addysg, ac rŷn ni yn cymryd camau penodol iawn.

Dwi wedi sôn am y cyfrifiad blynyddol yn y gweithle. Mae rhaglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon nawr yn cynnwys 25 awr o Gymraeg, ac mae hwnna yn gam ymlaen. Mae gyda ni Iaith Athrawon Yfory; mae cymhelliant o £5,000 i annog pobl i weithredu ac i hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cynllun sabothol hefyd. Mae gennym ni waith o ran cydweithredu â'r consortia rhanbarthol. Mae gennym ni bob math o gamau rŷn ni eisoes yn eu gwneud. Mae tua 15 o bethau rŷn ni'n eu gwneud i gymryd y camau yma ymlaen. Dwi ddim yn meddwl mai un peth yw e, a dyna pam rŷn ni'n manteisio ar y cyfle. A bydd pob un o'r rhain, wrth gwrs, yn bwydo i mewn, dwi'n meddwl, yn y pen draw, i faint o bobl sydd ar gael i weithredu yn y maes addysg bellach hefyd.

14:35

Wel, diolch am yr ymateb, ond mae'r cwestiwn yn dal i fod yna: faint o amser yw'r tymor canolig a'r tymor hir?

Dwi jest eisiau dod i ben gyda hyn: neithiwr, roeddem yn siarad am y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a'r ffaith bod sgiliau iaith Gymraeg wedi bod yn thema sy'n dod lan drwyddyn nhw, sydd wedi dod i sylw. Os dwi'n deall yn iawn, byddwn yn disgwyl hynny—wel, byddwn i'n disgwyl hynny—gan y sector cyhoeddus, wrth gwrs, oherwydd safonau, ond rwy'n gwybod bod swyddogion Cymraeg i fusnes yn cydnabod yr angen i normaleiddio'r Gymraeg mewn rhannau o'r sector preifat hefyd. Dwi wedi gofyn am hyn o'r blaen, ond beth yw'r pwyslais mae'r partneriaethau sgiliau yn ei roi ar hyn?

Diolch. Jest i orffen y pwynt blaenorol, dwi'n meddwl ein bod ni'n debygol o gyrraedd y targedau ar addysg gynradd. Dwi'n gobeithio y bydd cyfrifiad blynyddol y gweithlu yma efallai yn caniatáu inni weld a fydd hi'n bosibl i symud pobl sydd efallai ddim yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i symud i mewn i feysydd lle byddan nhw yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn rhaid inni weld beth mae'r cyfrifiad yna yn ei ddweud.

O ran Cymraeg i fusnes—a diolch am eich diddordeb chi yn hwn—dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni wneud lot mwy o ran y partneriaethau, i sicrhau eu bod nhw'n teimlo bod rhywbeth gyda nhw i'w gynnig, a'u bod nhw'n cymryd yr awenau. Felly, o ran busnes, does dim safonau gyda ni yn y sector preifat, ar y cyfan, ond dwi'n meddwl efallai y gallwn ni edrych mwy ar y llysgenhadon roeddech chi'n sôn amdanynt. Os yw hwnna'n gweithio yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, efallai y tu hwnt i beth rŷn ni'n ei wneud gyda'r 12 o bobl yma sydd gyda ni—swyddogion yn mynd o gwmpas y wlad, yn rhoi cyngor i bobl—efallai y byddan nhw yn gallu helpu i weld pwy fydd yn gallu bod yn champions drosom ni.

Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych yn nodi yn eich strategaeth ryngwladol, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae gan Lywodraeth Cymru rwydwaith o 21 o swyddfeydd dros y môr mewn 12 o wledydd'.

A wnewch chi felly gyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer y swyddfeydd hyn, a nodi ble'n union y mae angen datblygu ein presenoldeb?

Diolch. Mae gennym 21 o swyddfeydd ledled y byd. Mae ganddynt dargedau sefydledig. Nid wyf yn credu bod angen strategaethau arnynt i gyd, ond mae gennym rywun sy'n rheoli'r swyddfeydd hynny'n ganolog yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae pob swyddfa'n mynd i fod ychydig yn wahanol, oherwydd gallai'r hyn a wnawn yn Tsieina fod yn wahanol iawn i'r hyn sydd angen inni ei wneud yn yr Almaen. Felly, mae angen addasu pob un o'r swyddfeydd ac mae angen iddynt fod ychydig bach yn wahanol i'w gilydd. Bellach, rydym yn adrodd beth yw'r gweithgareddau hynny i'r pwyllgor sy'n monitro'r gwaith a wnawn yn yr adran.

Mae eich strategaeth yn mynd ymlaen i ddweud y byddwch yn codi proffil Cymru drwy weithio gyda Chymry alltud, cynfyfyrwyr a sefydliadau partner o Gymru, gan ganolbwyntio yn y flwyddyn gyntaf ar UDA a Japan, a nodi Cymry dylanwadol o gwmpas y byd. Dywedwch hefyd y byddwch yn creu cronfa ddata gynhwysfawr o gysylltiadau Cymreig, gyda'r nod o greu 500,000 o gysylltiadau mewn pum mlynedd. Fodd bynnag, nid yw'r strategaeth ryngwladol yn ymhelaethu ar beth yn union y byddwch yn ei wneud â'r cysylltiadau hynny ar ôl iddynt gael eu ffurfio. Er enghraifft, a fyddwch yn edrych ar drefniadau gefeillio? Fe gofiwch fod yna daith fasnach gan fentrau prifysgol a busnes o dalaith Oklahoma yma y llynedd. Ac a gaf fi ddweud, mae fy mab ieuengaf yn byw yn Oklahoma—rwy'n adnabod y dalaith yn dda. Ac roeddent eisiau trefniant gefeillio: Dinas Oklahoma gyda Chaerdydd, a'u hail ddinas, Tulsa, gydag Abertawe. A oes cynlluniau i awgrymu'r math hwnnw o beth? A hefyd, er enghraifft, a fyddech yn barod i edrych, yng nghyd-destun UDA unwaith eto, ar gydweithio ar lefel talaith, gyda Wisconsin dyweder? Ers talwm, roedd gan Wisconsin 300 o gapeli Cymraeg eu hiaith. Roedd llif enfawr o Gymry wedi mynd yno bryd hynny, ac i Ohio a thalaith Efrog Newydd. Felly, Pennsylvania—enwch un o daleithiau UDA ac mae'r 1.8 miliwn o bobl o dras Gymreig yno wedi'u gwasgaru ym mhobman. Felly, a ydych yn ystyried meithrin cydweithrediad ar lefel talaith hefyd?

14:40

Rwy'n credu mai'r peth pwysig mewn perthynas â Chymry alltud yn gyntaf oll yw ein bod wedi comisiynu rhywfaint o waith ar hyn, oherwydd mae yna lawer o bobl sy'n weithgar yn y maes hwn eisoes, a'r her i ni yw sut y gallwn eu hannog i gydweithredu a gweithio gyda'i gilydd fel nad ydynt yn cystadlu ac fel ei bod yn hawdd i bobl yng Nghymru a thramor ddeall lle mae'r platfform gorau. Felly, rydym wedi comisiynu rhywfaint o waith ar hynny ac rydym yn aros i hwnnw ddod yn ôl.

Ond o fewn y strategaeth ar gyfer Cymry alltud, rwy'n credu y bydd gwahanol lefelau i'r hyn rydym yn disgwyl ei wneud. Felly, efallai y gallem ddefnyddio rhai Cymry enwog iawn i godi llais ar ran Cymru a byddai hynny'n rhywbeth mawr ynddo'i hun i godi ein proffil. Rwy'n canolbwyntio ar yr economi hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd yna strategaeth glir iawn ar gyfer y Cymry alltud mewn perthynas â sut rydym yn llywio'r economi ac efallai mai dyna sut y gallem helpu cwmnïau yng Nghymru i gysylltu â Chymry alltud dramor neu hyd yn oed siambrau masnach neu beth bynnag—unrhyw gymorth y gallant ei gael, os ydynt eisiau allforio. A'r un peth gyda mewnfuddsoddi, efallai y gallwn ddefnyddio hynny fel cyfrwng. Rwy'n credu y bydd angen llawer o adnoddau ar gyfer hynny. Pe baem yn mynd ymhellach tuag at yr hyn roeddech yn sôn amdano, byddai hynny'n galw am swm enfawr o adnoddau ychwanegol. Ac a bod yn onest, nid wyf yn credu bod gennym y capasiti yn yr adran i wneud y math yna o beth. Ond yr hyn yr hoffwn ei wneud yw ceisio creu platfform lle gall pobl fwrw ymlaen â hynny eu hunain, yn hytrach na gorfod mynd yn ôl ac ymlaen at y Llywodraeth o hyd. Mae'n rhaid i hon fod yn strategaeth sy'n eiddo i bobl Cymru hefyd.

Ac yn olaf, soniodd y strategaeth hefyd am lwyddiant diweddar Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan o ran hyrwyddo, ac rwy'n dyfynnu:

'sectorau technoleg a digidol, creadigol, gofal iechyd ac uwch-weithgynhyrchu Cymru'.

Felly, beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i barhau i hyrwyddo Cymru fel lle i ymweld ag ef ac fel lle i gydweithredu ar ddiwylliant yng nghyd-destun Japan yn awr, yn enwedig o gofio'r diddordeb mawr yn Japan ym mhob peth Cymreig? A fyddech, er enghraifft, yn ystyried gwahodd llysgennad Japan i'r Eisteddfod? A chan feddwl am y fenter chwaraeon fawr nesaf, sef y pêl-droed—Ewro 2020 yr haf hwn—wrth i Gymru orymdeithio i'r rowndiau terfynol ac ennill y gystadleuaeth honno, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Cymru yn sgil y llwyddiant disgwyliedig hwnnw?

Diolch yn fawr iawn. Fel y mae'n digwydd, y bore yma, bûm mewn cyfarfod, gyda fy nghyd-Weinidog, i drafod sut y gallwn glymu'r asedau diwylliannol a chwaraeon sydd gennym yng Nghymru, a sut y gallwn ddefnyddio'r rheini i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol. Felly, roedd hwnnw'n gyfarfod pwysig.  

Rhan o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yw gweld sut y gallwn weithio'n dda fel tîm Cymru ac adeiladu a gweithio gyda'n gilydd. Yn sicr, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhoi gwybod i ni heddiw eu bod yn agored iawn i weithio gyda ni mewn perthynas â chwpan Ewrop. Rwy'n credu y byddai gennym fwy o ddiddordeb mewn hyrwyddo ein hunain yn yr Eidal nag yn Azerbaijan, os ydym yn onest, felly mae'n rhaid inni feddwl beth yw'r ffordd orau o wneud hynny. Roedd yn ddiddorol cael trafodaeth gyda llysgennad Prydain yn yr Eidal dros y penwythnos, sy'n digwydd bod yn dod o Gymru, ac sy'n awyddus iawn i'n helpu. Felly, byddwn yn gweithio ar raglen debyg i'r hyn a wnaethom yn Japan, gobeithio.

Ar ben hynny, un o'r enghreifftiau a roddwyd y bore yma yw bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gobeithio gwneud arddangosfa yn Japan yn 2022, ac rwy'n credu mai dyna beth y dylem fod yn edrych arno: beth yw'r fframwaith hirdymor y gallwn edrych arno? Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cynllunio gwaith oddeutu tair blynedd ymlaen llaw. Os ydym yn gwybod hynny, a allwn ni adeiladu taith fasnach o amgylch hynny? Felly, mae'n ymwneud â sut y gallwn sicrhau'r gorau i dîm Cymru, ond mae angen ychydig o gydlynu ar hynny a dyna roeddem yn dechrau ei drafod y bore yma.  

Ac o ran gwahodd pobl yma, mae llysgennad Japan yn dod i Gymru yn fuan iawn ond ar ben hynny, un o'r prosiectau a drefnwyd gennym eleni yw ein bod yn gwahodd llysgenhadon i'r Gelli Gandryll ar gyfer yr ŵyl lenyddiaeth. Felly, hwnnw fydd ein hymgais gyntaf i ddod â llysgenhadon yma ar gyfer digwyddiad diwylliannol, lle cawn gyfle i werthu Cymru yn sgil hynny. Mae'n debyg ei bod yn werth sôn hefyd fod llysgennad yr Almaen yn dod i Gymru yr wythnos nesaf, ac mae hwnnw'n ymweliad gwirioneddol bwysig i ni o ran pwysleisio mai'r Almaen yw ein prif farchnad allforio.  

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

14:45
Gwledydd Tramor Sydd â Dinasyddion a Phobl yn Byw yng Nghymru

4. Pa gysylltiad sydd gan y Gweinidog â gwledydd tramor sydd â dinasyddion a phobl yn byw yng Nghymru? OAQ55027

Mae nifer o ffyrdd o ymgysylltu'n rhyngwladol. Ers ymgymryd â'r swydd, rwyf wedi cyfarfod â llysgenhadon o dramor yng Nghaerdydd ac yn Llundain, ac mae gan lawer ohonynt nifer fawr o ddinasyddion yng Nghymru. Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliais ddigwyddiad i ddathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd gyda'r dirprwy lysgennad a'r gymuned Tsieineaidd yma yng Nghymru.

Wel, diolch am hynny. Ychydig cyn y Nadolig, cefais y pleser o ymuno â hwyl yr ŵyl fel gwestai ym mharti Nadolig y ganolfan gymorth integreiddio Bwylaidd yn Wrecsam, ac rwyf wedi cael gwahoddiad i'w Diwrnod Treftadaeth Bwylaidd ar 9 Mai. Yn 2017, cyflwynodd llysgenhadaeth Gwlad Pwyl yn Llundain Ddiwrnod Treftadaeth Bwylaidd i'r calendr o ddigwyddiadau rheolaidd ledled y DU, gyda dros 40 o ddigwyddiadau wedi'u trefnu yn wreiddiol, gyda chefnogaeth swyddfeydd consyliaid Pwylaidd yn Llundain, Manceinion a Chaeredin. Pa gysylltiad, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru â'r agenda hon hyd yn hyn, ac os nad oes cysylltiad, a fyddai gennych ddiddordeb mewn ymgysylltu?

Diolch. Wel, mae gennyf ddiddordeb mawr, yn enwedig mewn cysylltu â'r gymuned Bwylaidd, oherwydd mae'n un o'n cymunedau alltud mwyaf yng Nghymru. Yn sicr, pwysleisiais hynny i lysgennad Gwlad Pwyl pan gyfarfûm ag ef yn Llundain yn ddiweddar. Felly, yn hytrach nag aros iddynt ddod i Gymru yn awr, rhan o'r hyn rwy'n ceisio'i wneud yw mynd i Lundain, eu gwahodd i ddod atom ni, er mwyn inni allu rhannu'r negeseuon clir hynny â hwy. Un o'r pethau a welwch yn y strategaeth ryngwladol yw ein bwriad i ddathlu cymuned wahanol bob blwyddyn ac yn sicr, mae'r gymuned Bwylaidd yn un o'r rhai y buaswn eisiau eu dathlu. Fel mae'n digwydd, rydym yn gwahodd Almaenwyr alltud, sy'n un o'n grwpiau alltud mwyaf yng Nghymru, i ymuno â ni i gyfarfod â'r llysgennad yr wythnos nesaf.

Hyrwyddo Alun a Glannau Dyfrdwy i'r Byd

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Alun a Glannau Dyfrdwy i'r byd? OAQ55031

Mae'r strategaeth ryngwladol yn nodi pwysigrwydd cael cynnig cryf i ddenu mewnfuddsoddiad a thwristiaeth i Gymru a thyfu ein heconomi. Mae gogledd Cymru, wrth gwrs, gan gynnwys Alun a Glannau Dyfrdwy, yn rhan o'r cynnig hwnnw.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o groesawu'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi i Tata Steel yn fy etholaeth yr wythnos ddiwethaf, ac roedd yn wych clywed yr ymrwymiad sydd gan y rheini sydd ar frig Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur, ac mae'n rhaid dweud bod hynny'n wahanol i Lywodraeth San Steffan—Llywodraeth Dorïaidd San Steffan. Nawr, mae Tata Steel yn arwain y ffordd o ran arloesi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion dur, yn enwedig ar safle Shotton, ac mae arbenigedd y safle hwnnw'n golygu mai hwy yw'r unig gynhyrchydd yn Ewrop a all ddarparu cynnyrch uwch tair haen ar y tro. Mae'r warant a ddaw gyda'r cynnyrch hwn yn eu galluogi i'w werthu i bob cwr o'r byd, gan gynnwys India, Chile, Periw, Awstralia a ledled Ewrop. Weinidog, beth all y strategaeth ryngwladol ei wneud i hyrwyddo'r gwaith sy'n cael ei wneud ar safle gwaith dur Shotton, a hefyd i hyrwyddo dur Cymru am yr hyn ydyw—sef y gorau un?

Diolch. Wel, rwy'n gobeithio bod y ffaith bod y Prif Weinidog a Gweinidog yr economi wedi ymweld â chi yn Shotton yn dyst i'r ffaith eu bod yn tanlinellu pwysigrwydd y sector hwn yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae gennym yng Nghymru rywbeth i'w werthu i'r byd. Rydym yn gwneud gwaith arloesol iawn, a chredaf fod lle inni hyrwyddo hynny. Felly, un o'r pethau rwy'n ceisio ei wneud yw trefnu bod neges fisol yn cael ei hanfon i lysgenadaethau o gwmpas y byd sy'n dweud, 'Dyma'r thema yr hoffem i chi ei hyrwyddo eleni neu'r mis hwn', a chredaf y byddai'n ddefnyddiol iawn, efallai, inni ystyried sut y gallem wneud hynny yng nghyd-destun dur, felly mae hynny'n sicr—. Ond rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio hefyd fod Alun a Glannau Dyfrdwy yn gartref i'r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, a sonnir yn benodol am y ganolfan honno yn y strategaeth fel un o'r prosiectau magned i annog pobl i ddod i ogledd Cymru i fuddsoddi.

14:50

Wel, o gastell Caergwrle i Lyfrgell Gladstone, o brosiect Enbarr Shotton Point i waith gwych Fforwm Treftadaeth Gogledd-ddwyrain Cymru, sy'n cynnwys Cymdeithas Bwcle, Quay Watermen's Association, Cymdeithas Hanes Lleol Glannau Dyfrdwy a'r Cylch, Grŵp Hanes Saltney a Saltney Ferry a llawer mwy, mae gan Alun a Glannau Dyfrdwy lawer i'w gynnig i ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Pa ymgysylltiad sydd gennych neu y bwriadwch ei gael gyda grŵp anhygoel Twristiaeth Gogledd Cymru, a'i frand Go North Wales, sydd efallai'n arwain y ffordd ar waith i hyrwyddo, nid yn unig Alun a Glannau Dyfrdwy, ond y rhanbarth ehangach i'r byd o'n cwmpas?

Diolch. Wel, gobeithio y byddwch wedi gweld, yn y strategaeth, fod twristiaeth antur gynaliadwy y byddaf yn ei chysylltu'n fawr iawn â gogledd Cymru, yn ogystal â rhai cyfleoedd gwych yn ne Cymru, yn rhywbeth rydym yn canolbwyntio'n benodol arno. Felly, y peth allweddol gyda'r strategaethau rhyngwladol hyn yw sut rydych yn tynnu sylw yn y lle cyntaf. Ac rwy'n credu mai dyna'r hyn rydym wedi bod yn ceisio ei ddweud: edrychwch, o ran twristiaeth antur gynaliadwy, Cymru yw'r lle i fod. A phan fyddant yno, gallwn eu cyfeirio i Lyfrgell Gladstone neu beth bynnag arall. Hynny yw, efallai nad y math o bobl sydd eisiau mynd i Lyfrgell Gladstone yw'r math o bobl sydd am neidio oddi ar glogwyn, ond rwy'n credu mai'r peth allweddol yw sut rydym yn tynnu sylw atom ein hunain i ddechrau, a dyna rydym yn ceisio ei wneud. Felly, efallai fod cyfle i mi gyfarfod â phobl sy'n ymwneud â thwristiaeth, ond fy nghyd-Weinidog Dafydd Elis-Thomas sy'n gyfrifol am hynny.

Twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio digwyddiadau mawr i hyrwyddo twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55052

Wel, cyn i mi ymateb, roeddwn am fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i un o gynghorwyr Abertawe, Sybil Crouch, a fu farw'n ddiweddar. Gwn fod llawer o gyfeillion a chyd-Aelodau yn y lle hwn ac ar draws y wlad yn ei pharchu'n fawr. Sybil oedd y fenyw gyntaf, a hyd yn hyn, yr unig fenyw i gadeirio Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd yn berson y gellid yn hawdd ei disgrifio fel arweinydd ym myd celfyddyd a diwylliant, nid yn unig yn y de-orllewin, ond ar draws Cymru gyfan. Rwyf wedi gweld teyrngedau'n llifo i mewn yn canmol ei chyfraniad i wleidyddiaeth a diwylliant Cymru. Cysegrodd Sybil ei bywyd i guradu pethau rhyfeddol ar gyfer y wlad hon, a hoffwn gofnodi ein diolch ar ran Llywodraeth Cymru.

Ond i ateb eich cwestiwn, mae'r strategaeth ryngwladol newydd a'r cynllun gweithredu twristiaeth yn egluro ein hymrwymiad i gefnogi a buddsoddi mewn digwyddiadau rhyngwladol a digwyddiadau Cymreig, gan gynnwys digwyddiadau busnes, ac i ddenu a datblygu digwyddiadau sy'n hyrwyddo twristiaeth ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys de-orllewin Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae Cymru'n datblygu fel cyrchfan twristiaeth, ac yn 2017, amcangyfrifir bod trosiant Cymru yn £4.8 biliwn. Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi fy rhanbarth, gan fod yno harddwch Gŵyr a thref glan môr Porthcawl. Mae'n ymddangos nad yw Stadiwm Liberty yn cael ei ddefnyddio'n ddigonol ac nid yw'n gweld yr un nifer o wyliau chwaraeon a cherddoriaeth a welwn yng Nghaerdydd o bosibl. Felly, Weinidog, sut y bwriadwch fanteisio ar harddwch ein gwlad drwy gynnal digwyddiadau mwy o faint y tu allan i Gaerdydd a fydd yn hybu twf economaidd yng Ngorllewin De Cymru?

Diolch. Wel, fe fyddwch yn ymwybodol fod y strategaeth dwristiaeth newydd wedi'i lansio erbyn hyn, a gwn fod digwyddiadau mawr yn rhan o'r strategaeth honno. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal adolygiad o ddigwyddiadau mawr ac rwy'n gobeithio y byddwn yn edrych ar rai o'r materion hyn yn y cyd-destun hwnnw, oherwydd rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol yw ein bod yn gyson yn aros i bobl gyflwyno syniadau i ni, ac weithiau, rwy'n credu bod angen i ni annog pobl mewn ardaloedd penodol i gynnig syniadau ar gyfer digwyddiadau mawr. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol dros y blynyddoedd, ond yn amlwg, mae yna bot o arian na allwn ond ei ddefnyddio unwaith. Felly, y peth allweddol, rwy'n credu, yw i bobl feddwl am syniadau creadigol iawn o ran yr hyn y credant y bydd yn denu mwy o bobl i'r ardal ac yn dod â'r refeniw ychwanegol angenrheidiol hwnnw sydd mor hanfodol i ddatblygu ein cymunedau.

Mae dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ymwneud â chodi hyder economaidd yn fy rhanbarth i a thu hwnt, ond law yn llaw â hynny, mae'r awdurdod lleol yn Abertawe yn ceisio adfywio canol y ddinas, gan gynnwys adeiladu arena ddigidol newydd yn Abertawe. Felly, gyda'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, mae hyn yn cynyddu'r capasiti yn sylweddol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau mawr ar draws de Cymru, ond yn arbennig yn fy rhanbarth i. Felly, a allwch chi ddweud sut y bydd strategaeth dwristiaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf darpariaeth llety o ansawdd newydd ac wedi'i adnewyddu i ymwelwyr o fewn pellter hygyrch i'r arena newydd hon? Diolch.

14:55

Wel, rwy'n credu, mewn perthynas â'r strategaeth dwristiaeth, ei bod yn well cyfeirio'r cwestiwn at fy nghyd-Weinidog. Gwn fod rhywfaint o wariant cyfalaf ychwanegol eleni, ac rwy'n gobeithio y bydd hwnnw'n creu rhai cyfleoedd. Ond yn sicr, o ran yr arena ddigidol a phrosiectau eraill yn yr ardal honno, un o'r pethau y byddwch yn ei weld yn y strategaeth ryngwladol yw rhestr yn yr atodiad o'r holl brosiectau magned rydym yn ceisio'u defnyddio fel dulliau o ddenu pobl i ardaloedd ar hyd a lled Cymru. Ac yn sicr, siaradais â chyngor Abertawe am yr hyn y byddent eisiau ei weld o ran y math o fagnedau a fyddai'n denu pobl i'r ardal ar gyfer buddsoddi ymhellach.

Masnach Ryngwladol

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach ryngwladol? OAQ55036

Mae tyfu ein heconomi drwy fasnach ryngwladol yn un o uchelgeisiau craidd y strategaeth ryngwladol. Mae'r heriau a'r cyfleoedd y mae allforwyr yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod pontio wrth adael yr UE a thu hwnt yn golygu bod cymorth Llywodraeth Cymru yn bwysicach nag erioed.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. I ddilyn cwestiwn Dai Lloyd yn gynharach, a wnaiff y Gweinidog gydnabod pwysigrwydd hanfodol cael cytundeb masnach cynnar gyda'r Unol Daleithiau, lle mae gennym Lywodraeth sydd o blaid Brexit ac sy'n awyddus i'n helpu ni fel gwlad, mewn cyferbyniad llwyr â Monsieur Barnier, sy'n cynnal polisi o anhyblygrwydd ac sy'n ymddangos fel pe bai'n dymuno i ni barhau'n ddiddiwedd i dderbyn rheolau a rheoliadau a wneir gan sefydliadau'r UE na fyddwn yn cymryd rhan ynddynt, ac na fyddai modd i unrhyw wlad yn y byd sydd ag unrhyw hunan-barch eu derbyn?

Mae'r Unol Daleithiau yn economi enfawr sy'n tyfu—mae incwm cenedlaethol wedi codi 50 y cant ers 2010, ond yn yr UE, mae wedi aros yn ei unfan. Felly, dylem weld y manteision enfawr o gael cytundeb cynnar gyda'r Unol Daleithiau, yn enwedig gan mai dyna'r ffordd orau o roi pwysau ar yr UE i ddod i gytundeb masnach synhwyrol a rhesymol gyda ni.

Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn hynod o ofalus yn y fan hon. Mae'n rhaid i ni gofio bod 60 y cant o'n masnach mewn nwyddau gyda'r UE, a dyna pam ein bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl glir mai ein blaenoriaeth fyddai cytundeb masnach gyda'r UE. Mae'r rheolau a'r rheoliadau hynny eisoes—os ydym yn troi ein cefnau arnynt, bydd y rhwystrau'n codi o ran mynediad at y marchnadoedd hynny, ac mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn.

Ac rwy'n credu, pan fyddwch yn dweud 'na fyddai modd i unrhyw wlad sydd ag unrhyw hunan-barch' gytuno i reolau gan rywun arall, mae hynny—. Yr hyn rydych chi'n ei awgrymu mewn gwirionedd yw ein bod yn ymrwymo i reolau Americanaidd yn lle rheolau'r UE, ac yn sicr nid yw hynny'n rhywbeth y gwnaethoch ei werthu pan oeddech yn ceisio dweud wrth bobl yng Nghymru y byddai'n syniad da i adael yr UE.

Mae Jacob Rees-Mogg wedi dweud y gallai gymryd 50 mlynedd i ni elwa o adael yr UE. Dyna realiti ein sefyllfa yn awr, ac rwy'n credu ei bod yn drueni mawr. Wrth gwrs, os gallwn gael cytundeb gweddus gyda'r Unol Daleithiau, byddai hynny'n ein helpu'n rhyngwladol i gynyddu ein hallforion, i weld rhagor o fewnfuddsoddi. Wrth gwrs, byddem eisiau gweld hynny, ond nid ydym eisiau hynny ar draul ein perthynas â'r UE.

Weinidog, ein partneriaid masnachu mwyaf yw'r Almaen a Ffrainc, yn y drefn honno, ac i fod yn deg â Neil Hamilton, mae UDA yn drydydd. Roedd ein perfformiad allforio yn gadarn y llynedd, ac rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y gwaith a wnaeth yno; gwelsom fod ein hallforion wedi cynyddu bron i 5 y cant. Ond cafwyd gostyngiad yn yr allforion i'r Almaen, ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn am y negeseuon rydym yn eu hanfon. Mae angen inni ddiogelu'r marchnadoedd Ewropeaidd hyn lle rydym yn aml yn allforio rhai o'n prif nwyddau, gyda phopeth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer swyddi sy'n talu'n dda ac ymchwil a datblygu ac yn y blaen.

Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir, ac roeddwn yn bryderus iawn pan welais y gostyngiad yn y ffigurau hynny, er ein bod, ar y cyfan, yn gwneud yn eithaf da o ran allforion. Ond roeddwn yn bryderus iawn o weld y gostyngiad yn ein hallforion i'r Almaen, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn ceisio denu'r Almaen i fod yn bartner rhyngwladol allweddol i ni. Dyna pam rydym wedi gwahodd y llysgennad yma, a bydd yn ymweld â de Cymru yn ogystal ag Airbus. Felly, rydym yn hynod ymwybodol fod y marchnadoedd hynny'n hanfodol i gynnal y 60 y cant hwnnw o fasnach gyda'r UE. Ond fel y dywedwch, mae'n rhaid i ni fod yn sensitif iawn yn y cyfnod anodd hwn lle mae llawer o bobl wedi colli hyder ac mae angen i ni adennill yr hyder hwnnw yn awr.

15:00
Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chynrychiolwyr o'r UE ynghylch strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ55048

Lansiais y strategaeth ryngwladol ym Mrwsel a Pharis, ac mae fy natganiad ysgrifenedig yn cynnwys mwy o fanylion.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb, ac rwyf wedi darllen y datganiad ysgrifenedig, ac rydych yn nodi eich bod wedi cyfarfod â chabinet y Comisiynydd Hogan—ei dîm, rwy'n tybio, yn hytrach nag ef ei hun, efallai y gallwch egluro hynny.

Ond fel y dywedwyd wrthym droeon gan bobl Brexit, efallai ein bod yn gadael yr UE, ond nid ydym yn gadael Ewrop. Nawr, y sefydliad masnachu cyfundrefnol mwyaf yn Ewrop yw'r UE, ac yn y strategaeth ryngwladol, rydych wedi nodi seiberddiogelwch a’r diwydiannau creadigol fel dau o'r meysydd. Yn amlwg, bydd cyfraith yr UE yn effeithio arnynt, yn enwedig efallai ar y cwestiwn ynghylch hawlfraint, gan fod hynny wedi bod yn mynd rhagddo, a cheir pryderon dwys iawn am yr hawlfraint. Pa drafodaethau y byddwch yn eu cael gyda chynrychiolwyr yr UE i sicrhau, wrth iddynt edrych ar y deddfau, y gallwn weithio o fewn hynny i sicrhau y gall ein busnesau allforio i'r UE, ac i sicrhau nad ydym yn torri'r gyfraith?

Oherwydd mae’r cyfnod pontio hwn yn un anodd. Nid ydym yn gwybod pa mor dda y llwyddwn i drosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU a Chymru, ac ar ôl 31 Rhagfyr, gallai hynny newid hyd yn oed yn fwy. Felly, mae angen inni gael trafodaethau gyda'r UE i sicrhau bod y busnesau a'r diwydiannau a nodwyd gennych yn y strategaeth ryngwladol, ynghyd â'r rhai nad ydynt wedi’u cynnwys, yn gallu elwa o gyfraith yr UE a'i defnyddio, ac nad yw'n effeithio ar ein diwydiannau.

Diolch. Pan oeddem yn ceisio canfod pa sectorau y dylem eu hyrwyddo, fe wnaethom edrych am rai a fyddai’n gymharol ddiogel rhag Brexit mewn gwirionedd, ac roedd y sectorau a ddewiswyd gennym yn rhai y credem y byddai gadael yr UE yn cael llai o effaith arnynt. Felly, rydym wedi meddwl am hynny’n fwriadol fel dull gweithredu.

Ond credaf mai'r hyn y mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus ohono yw sut olwg fydd ar hynny yn y dyfodol. Pan fyddwn yn dechrau mynd i gyfeiriad gwahanol, os byddwn yn mynd i gyfeiriad gwahanol, beth fydd hynny'n ei olygu o ran mynediad at y farchnad a sut y gallai hynny effeithio ar y sectorau? Rydym mewn lle gwahanol yn awr, ac mae'n rhaid inni edrych ar ble mae'r cyfleoedd i ni hefyd. Efallai fod lle inni yn rhai o'r meysydd technolegol hyn o ran creu'r amgylchedd rheoleiddiol ar gyfer cerbydau awtonomaidd neu ar gyfer seiberddiogelwch; efallai fod rhywfaint o le yno inni fynd yn gyflymach ac yn gynt na rhai rhannau o'r cyfandir, a gallai hynny roi cyfle inni achub y blaen arnynt. Penderfyniad Llywodraeth y DU, i raddau helaeth, fydd p'un a fyddant yn bachu'r cyfle hwnnw.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Mae Cwestiwn 1 [OAQ55055] a Chwestiwn 2 [OAQ55053] ill dau wedi'u tynnu'n ôl, felly daw cwestiwn 3, i'w ateb gan y Llywydd, gan Vikki Howells.

Hyrwyddo Etholiad Nesaf y Cynulliad

3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ymdrechion i hyrwyddo etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ55042

Mae hyrwyddo etholiad Senedd 2021 yn un o dair ymgyrch rhyng-gysylltiedig y mae'r Comisiwn yn eu blaenoriaethu dros yr 16 mis nesaf, ynghyd â phleidleisio yn 16 a newid enw i'r Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr y dylai ein gwaith ar hyrwyddo etholiad cyffredinol Cymru geisio canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r etholiad hwnnw fis Mai nesaf, i wella gwybodaeth am sut i bleidleisio, a darparu deunyddiau angenrheidiol ar gyfer unigolion a mudiadau sy'n gweithio ym maes addysg ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd allweddol.

Diolch am eich ateb, Lywydd. Rwyf wedi bod yn edrych ar astudiaeth gan Ganolfan Dyfodol Democratiaeth Prifysgol Caergrawnt, ac mae'r astudiaeth honno'n awgrymu bod bron i dri o bob pump o bobl y DU yn anfodlon â democratiaeth. Mae'r ganolfan wedi olrhain safbwyntiau ar ddemocratiaeth ers 1995, a dyma'r lefel uchaf a gofnodwyd erioed. Mewn cyd-destun lle mae'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau datganoledig yn tueddu i fod yn is nag ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU, sut y mae'r Comisiwn yn ymgysylltu â phartneriaid i hyrwyddo ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chyfranogiad cyn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf?

Diolch am eich cwestiwn ac am gyfeirio at y gwaith pwysig sy'n tynnu sylw at rywbeth y mae'n debyg fod llawer ohonom yn ymwybodol ohono o'n gwaith gwleidyddol ein hunain yn ein hetholaethau. Mae'r gwaith yn swnio'n ddiddorol; yn sicr, byddaf yn gofyn i fy swyddogion edrych arno wrth inni geisio paratoi ein gwaith cyfathrebu a hyrwyddo ein hunain i baratoi ar gyfer etholiadau'r flwyddyn nesaf. Fel y dywedais yn fy ymateb agoriadol, rydym yn awyddus i flaenoriaethu meysydd penodol. Un, wrth gwrs, yw'r bleidlais i bobl 16 a 17 oed, elfen newydd i'n hetholwyr, ond ceisio gweithio hefyd gyda phartneriaid sy'n gweithio gyda phobl o gymunedau sy'n teimlo'n arbennig o gryf eu bod wedi'u dieithrio oddi wrth y broses ddemocrataidd. Mae angen inni weithio i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â'r bobl hynny yn arbennig, a'u bod yn wybodus ac yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu pleidlais ddemocrataidd y flwyddyn nesaf.

15:05
Polisi Cofebion

4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei bolisi cofebion mewn perthynas â'r rhai fu farw, yn druenus, wrth wasanaethu fel Aelodau Cynulliad? OAQ55029

Penderfynodd y Comisiwn ar y polisi cofebion fis Chwefror 2019. Mae'n nodi na fydd y Comisiwn yn ystyried ceisiadau am gofeb i unigolyn hyd nes fod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers marw yr unigolyn hynny.

Diolch am eich ymateb, Lywydd. Yn bersonol, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn meddwl am yr Aelodau Cynulliad a fu farw tra oeddent yn Aelodau Cynulliad ym mhob un o dymhorau'r Cynulliad ers 1999. Clywaf yr hyn a ddywedwch am y polisi a'r rheol 10 mlynedd, ac roeddwn yn ddiolchgar o weld llythyr, yn amlwg, ond yn siomedig gyda'i gynnwys, fod y Comisiwn wedi trafod hyn yn ddiweddar.

Pe bai'r Cynulliad yn penderfynu, mewn gwirionedd, fod angen i'r polisi newid i adlewyrchu'r teimlad rwyf newydd ei gyfleu i chi, a fyddai'r Comisiwn yn agored i ailystyried ei safbwynt fel y gellid codi cofeb addas, heb unrhyw gost i'r trethdalwr, ar ystâd y Cynulliad? Fel y gellid coffáu'r Aelodau a fu farw yn ystod eu cyfnod fel Aelodau'r Cynulliad.

Mae trafod a phenderfynu ar gofeb i ffrind a chyd-Aelod a fu farw yn y Senedd hon yn fater sensitif, ac mae'n un anodd i mi'n bersonol. Yn gynnar yn fy nghyfnod fel Cadeirydd y Comisiwn, cawsom ddau gais o'r natur hon: plac porffor i Val Feld a lleoliad ar gyfer cerflun i Rhodri Morgan. Yng ngoleuni'r penderfyniadau unigol hyn y bu'n rhaid i'r Comisiwn eu gwneud, ac nid oeddent yn benderfyniadau syml na hawdd i'w gwneud, fe benderfynasom lunio polisi i gynorthwyo Comisiynwyr yn y dyfodol gyda materion o'r fath. Fel yr amlinellais, blwydd oed yn unig yw'r polisi, ac yn barod, gofynnir i ni wneud eithriadau unigol i'r polisi hwn. Mae'r polisi, fel y nodoch chi, Andrew R.T. Davies, yn eiddo i'r Cynulliad cyfan ac i'r holl Aelodau. Os oes grwpiau gwleidyddol sy'n awyddus i'r polisi hwn gael ei ddiwygio, rwy'n fwy na pharod i drafod sylwadau a chynigion a wneir gan y grwpiau gwleidyddol ac Aelodau i'r Comisiwn, gyda golwg ar adolygu ein polisi, os mai dyna ddymuniad y Cynulliad hwn.

Rwy'n falch iawn o gysylltu fy enw â'r llythyr trawsbleidiol a anfonasom atoch, a diolch am eich ateb. Cyn i ni ddechrau trafod dull gwahanol o'i wneud, rwyf am archwilio'r polisi coffáu cyfredol ychydig ymhellach, polisi sydd, yn fy marn i, yn rhoi rhywfaint o ddisgresiwn i gyflawni'r hyn rwy'n ceisio'i gyflawni, sef cofeb i Carl Sargeant. Oherwydd o dan faen prawf 6.1, mewn perthynas â'r rheol 10 mlynedd, credaf mai'r frawddeg olaf yw:

'Efallai y bydd y Comisiwn yn ystyried cyfnod byrrach mewn amgylchiadau eithriadol.'

Hoffwn ddadlau y byddai cofeb i Carl Sargeant yn bodloni'r maen prawf ar gyfer amgylchiadau eithriadol, gan fod y cyfraniad a wnaeth Carl Sargeant i'r Senedd—fel ffigwr aruthrol ar y meinciau cefn yn ogystal â Gweinidog rhagorol, gan gynnwys bod yn bensaer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd wedi golygu bod y Cynulliad hwn, y Senedd a'n gwlad yn dod yn fwyfwy adnabyddus fel arloeswr o ran y modd y mae angen inni fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd—yn ogystal ag amgylchiadau trasig marwolaeth Carl, does bosibl nad yw hynny'n haeddu ystyriaeth eithriadol i osod plac i Carl cyn y moratoriwm 10 mlynedd. Buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai Comisiwn y Cynulliad yn rhoi ystyriaeth ddyledus i hyn.

Nid wyf yn awyddus o gwbl i fod mewn sefyllfa i drafod rhinweddau cyd-Aelodau unigol sydd wedi marw yn y fforwm hwn. Rwy'n deall y pwynt a wnaethoch, a'r pwynt a wnaethpwyd i mi gan y tri Aelod a ysgrifennodd ataf. Mynegodd y Comisiwn ei farn ar y polisi sydd ganddo ar waith; nad oeddem yn gallu gwneud eithriadau unigol ar y pwynt hwnnw. Fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, os oes grwpiau gwleidyddol sy'n cynrychioli barn fwyafrifol y Cynulliad hwn yn awyddus i wneud sylwadau ar ran unrhyw fater y mae'r Comisiwn yn gyfrifol amdano, gwnewch hynny. Fe'ch cynrychiolir ar y Comisiwn gan Gomisiynwyr o bob plaid wleidyddol. Mae gennych rym i wneud y safbwyntiau hynny'n hysbys i'ch Comisiynwyr ac i'r Comisiwn. Ond mae angen i'r polisi a'r penderfyniadau gael eu mynegi yng nghyd-destun teimlad mwyafrifol y Cynulliad hwn. Peidiwch â gofyn i mi wneud unrhyw sylw ar unigolion yn y fforwm hwn.

15:10

Mae cwestiwn 5 i'w ateb gan David Rowlands, fel Comisiynydd. Cwestiwn 5, Bethan Sayed.

Lleihau Gwastraff Bwyd

5. A wnaiff y Comisiwn amlinellu ymdrechion i leihau gwastraff bwyd ar ystâd y Cynulliad? OAQ55049

A gaf fi ddiolch i Bethan Sayed am ei chwestiwn ar fater sy'n peri pryder i bob un ohonom yn y Siambr, rwy'n siŵr? A gaf fi roi sicrwydd iddi, a gweddill y Siambr, fod y gwasanaeth arlwyo yn y Cynulliad yn gweithio'n galed i leihau gwastraff bwyd lle bo modd drwy gynllunio bwydlenni a dognau yn effeithiol yn seiliedig ar dueddiadau hanesyddol a gwahanol ofynion cwsmeriaid bob dydd? Mae'r lefel gymharol fach o wastraff bwyd a gynhyrchir, sy'n cael ei anfon i'w gompostio mewn cyfleuster lleol, yn gadarnhad o effeithiolrwydd eu hymdrechion.

Diolch am eich ateb. Gwn fod llawer o Aelodau'r Cynulliad yn trefnu digwyddiadau, a gwyddom, o bosibl, pa mor gostus y gall peth o'r bwyd fod yma. Mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o'r angen i archebu'r hyn sydd ei angen arnom ar gyfer digwyddiadau o'r fath, fel nad ydym yn gor-archebu, ac fel y gallwn sicrhau bod gwesteion yn gallu mwynhau eu hunain a mwynhau'r lluniaeth a rown iddynt. Ond mae llawer o bobl sy'n mynychu digwyddiadau, neu lawer o bobl sy'n gweithio yma, wedi dweud wrthyf y gellir ailgylchu rhywfaint o fwyd fel y gall pobl fwyta'r bwyd yn yr ardal leol, drwy ei roi i elusen leol, ond mewn rhai amgylchiadau, mae'r bwyd, er ei fod yn dal i fod yn fwytadwy, yn cael ei wastraffu. Nid oes angen i hynny ddigwydd pan fydd cymaint o fwyd ar ôl wedi digwyddiadau.

Wrth gwrs, mae llawer o staff y Cynulliad yn fwy na pharod i fynd â hambyrddau o frechdanau adref o'r digwyddiadau hyn, ond tybed, er enghraifft, a oes unrhyw elusennau digartrefedd lleol neu fanciau bwyd yn yr ardal leol—? Mae'n rhaid inni arwain drwy esiampl, a chyn ein bod yn ailgylchu'r bwyd yn y ffordd honno, buaswn yn gobeithio y gallem ei ailgylchu mewn ffordd lle gallem fod yn helpu pobl a allai fod ei angen yn fwy na ni i'w fwyta.

Diolch i Bethan am ei chwestiwn atodol. Y gwir amdani, yn amlwg, yw mai'r ffordd orau yw sicrhau bod gennym lawer llai o wastraff yn y lle cyntaf. Ond yn anffodus, mae'n rhaid i'r gwasanaeth arlwyo gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd, sy'n nodi bod yn rhaid cael gwared ar fwyd wedi'i oeri a osodir allan mewn bwffe ar dymheredd ystafell ar ôl pedair awr. Mae'n rhaid i'r Comisiwn nodi bod y rhan fwyaf o'r bwffes yn cael eu harchebu gan drefnwyr digwyddiadau allanol sy'n gyfrifol am brynu faint o fwyd sydd ei angen. Deallaf fod y rheolwyr arlwyo yn eu cynghori i archebu'n geidwadol. Fodd bynnag, mae diwylliant gwrth-risg naturiol ymhlith trefnwyr nad ydynt am weld prinder bwyd i'r gwesteion, ac mae hynny'n aml yn arwain at or-archebu.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn cytuno â Bethan y dylem estyn allan at elusennau lleol ac ati, a gofyn iddynt ddod i gasglu'r bwyd hwn yn gynnar iawn efallai, gan egluro iddynt fod yn rhaid cael ei wared. Ond ceir anhawster arall hefyd, fel yr eglurodd y rheolwr arlwyo wrthyf, pe bai rhywun yn bwyta bwyd o dan yr amgylchiadau hynny a'i adael am chwech neu saith awr a mynd yn sâl ar ôl bwyta'r bwyd hwnnw, dywedir mai'r cwmni arlwyo sy'n gyfrifol am hynny.

Hoffwn archwilio hyn ychydig ymhellach, gan fy mod yn gweld peth o'r gwastraff y gwn ei fod yn mynd i'r bin. Ac o ystyried bod traean o'r holl fwyd yn cael ei wastraffu yn y wlad hon, mae'n amlwg fod rhwymedigaeth arnom i geisio sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Roedd yn ddiddorol eich clywed yn sôn am y rheol bedair awr, gan fod staff wedi dweud wrthyf mai rheol dwy awr yw hi. Ac mae hynny'n amlwg yn golygu bod y staff arlwyo yn cael eu cyfarwyddo i gasglu'r holl fwyd sy'n weddill a'i roi yn y bin, ac mae hynny'n hynod o ofidus. Yn amlwg, mae angen inni archebu faint o fwyd sydd ei angen, ond credaf hefyd fod angen inni wneud ymdrech go iawn i sicrhau, os nad oes pobl wedi mynychu am ba reswm bynnag, y gallwn sicrhau ei fod yn cyrraedd y bobl sydd angen bwyd yn y gymuned leol, a datblygu'r math o gysylltiadau y mae archfarchnadoedd wedi'u datblygu â sefydliadau elusennol eraill.

15:15

Wel, ni allaf ond cytuno'n llwyr â chi ar y sylwadau hynny. Yn anffodus, mae'n anos o lawer gwneud hyn yn ymarferol na'r theori yn hyn o beth, ond rydym bob amser yn edrych—mae'r Comisiwn, ac wrth gwrs, y staff arlwyo bob amser yn edrych am atebion amgen yn lle gwastraffu bwyd.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Daeth un cwestiwn amserol i law, i'w ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Rhun ap Iorwerth sydd i ofyn y cwestiwn.

Ymadawiad Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch ymadawiad Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr? 391

Diolch. Cyhoeddodd cadeirydd y bwrdd iechyd ddoe y bydd y prif weithredwr yn gadael y sefydliad. Y bwrdd iechyd a'i gadeirydd sydd i wneud penderfyniadau am faterion cyflogaeth.

Diolch yn fawr iawn ichi. Dydy hi byth yn braf personoli materion fel hyn, ond mae'n amlwg bod hyder wedi cael ei golli ers tro yng ngallu Gary Doherty i sicrhau y math o gynnydd sydd ei angen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl pum mlynedd, bron, mewn mesurau arbennig. A dweud y gwir, mae yna ddigon o dystiolaeth dwi'n ei gweld mewn sawl maes fod pethau wedi bod yn mynd yn waeth yn ddiweddar, a rŵan mae'n rhaid i bethau gwella.

Mae'n amlwg fod pall ar amynedd y cadeirydd a’r bwrdd gyda'r prif weithredwr, ond gadewch i mi ddweud yn glir fod pall ar amynedd pobl gogledd Cymru ynghylch methiant y bwrdd iechyd, mewn partneriaeth uniongyrchol, wrth gwrs, â'r Llywodraeth Lafur hon. Nid oes ganddynt unrhyw beth ond parch at weithwyr iechyd ymroddedig, ond mae angen adfer eu ffydd fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn addas at y diben.

Nid oes arnaf awydd mynd ar drywydd ad-drefnu er mwyn ad-drefnu, ond yn sicr, deuthum i'r casgliad, ac mae mwy a mwy o bobl yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac o'i gwmpas yn dweud wrthyf eu bod yn cytuno â mi, efallai nad oes opsiwn bellach ond rhannu'r bwrdd iechyd diffygiol hwn—cam, fel y saif pethau, y buaswn yn barod i'w gymryd pe bawn yn dod yn Weinidog iechyd ar ôl etholiad y flwyddyn nesaf. Ond cyfrifoldeb yr arweinyddiaeth newydd, yr un dros dro a'r un barhaol, a Llywodraeth Cymru yw dangos, dros y flwyddyn a hanner nesaf, y gellir gwella'r sefyllfa er mwyn osgoi hynny. Mae pob llygad bellach ar y bwrdd, ar y swyddogion gweithredol ac arnoch chi, Weinidog.

Mae gennyf bum cwestiwn yma. Deallaf, yn gyntaf, y bydd y bwrdd iechyd yn parhau i dalu Gary Doherty nid yn unig drwy gydol y cyfnod diswyddo ond hefyd drwy gydol ei secondiad i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Addysgu Swydd Gaerhirfryn. A ydych yn credu y gellir cyfiawnhau hynny? Yn ail, a gaf fi ofyn a yw penodi Simon Dean, dirprwy brif weithredwr GIG Cymru wrth gwrs, yn bennaeth dros dro yn nodi cynnydd, mewn rhyw ffordd, o fesurau arbennig? Yn drydydd, pan fydd prif weithredwr parhaol yn cael ei benodi, a ydych yn disgwyl y dylai fod ganddo ef neu hi gryn ddealltwriaeth a phrofiad o ddarparu gofal iechyd yn y math o ardal sydd gennym yng ngogledd Cymru—ardal wledig i raddau helaeth, ac ardal ddwyieithog? Yn bedwerydd, a wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu'r disgwyliadau o ran perfformiad y prif weithredwr newydd? Buaswn yn gwerthfawrogi pe baech yn osgoi termau annelwig fel 'gwella'r sefyllfa'. Yn olaf, a ydych yn cytuno â mi nad yw hyn yn ymwneud ag un unigolyn yn unig? Mae'n ymwneud â diffyg arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru hefyd, a'r gallu i gael timau rheoli sy'n gallu cyflawni gwelliannau nad ydym wedi'u gweld hyd yma.

Diolch am eich cwestiynau a’ch sylwadau. I ddechrau, hoffwn ateb y sylwadau a wnaed gennych am drefniadaeth y bwrdd iechyd. Credaf ei bod yn aml yn demtasiwn i ateb drwy awgrymu y byddai ad-drefnu'n sicrhau gwelliant mewn gwasanaethau, ac mae’n rhaid i unrhyw un sy'n dymuno arddel y ddadl honno—ac mae dadleuon i'w cael; nid dyma yw fy marn i—egluro sut y byddai'r sefydliad hwnnw'n gweithredu, pa mor gyflym y byddech yn dechrau gweld gwelliannau, a beth y byddech yn ei wneud ynglŷn â'r fframwaith. I ddychwelyd at dri sefydliad ar wahân, credaf y byddai gennych dri sefydliad eithaf bach, a hyd yn oed pe bai gennych ddau sefydliad yng ngogledd Cymru, byddai'n rhaid i chi benderfynu beth i'w wneud â chanol gogledd Cymru ac Ysbyty Glan Clwyd. Nid yw'r rhain yn gwestiynau syml i'w hateb, felly mae angen i unrhyw un sydd o blaid cael fframwaith hollol wahanol ac ôl troed hollol wahanol ystyried sut bethau fyddai'r rheini, a sut y byddent yn arwain at wella ansawdd a darpariaeth gofal, yn ogystal â’r trefniadau ymarferol, wrth gwrs, ar gyfer rhannu’r sefydliad. Nid wyf yn rhannu barn pobl eraill sy'n dweud na ellir rheoli’r bwrdd iechyd a'i bod yn amhosibl cael sefydliad sy'n gwneud cynnydd.

Gan droi at eich pum pwynt penodol, o ran secondiad, mae'n gwbl gyffredin yn ystod secondiadau i gyflogau gael eu talu gan y sefydliad secondio, yna daw'r gyflogaeth i ben, ond mae'r rhain yn faterion i'r bwrdd iechyd eu nodi a'u hegluro. Ni chredaf fod hynny'n anarferol.

Ac o ran y rhagolygon, mae’r dewisiadau hyn a wneir yn rhai ymarferol iawn. Pan fydd pobl yn gadael swyddi uwch arweinwyr, ceir dewisiadau ynglŷn â beth sydd er budd gorau'r sefydliad a gallu symud ymlaen, ac mae'r bwrdd iechyd wedi dewis gallu symud ymlaen a dechrau'r broses o benodi prif weithredwr parhaol.

O ran trefniadau'r prif weithredwr dros dro, unwaith eto, mae hwn yn bwynt ymarferol. Mae Simon Dean wedi gweithio i'r bwrdd iechyd yn y gorffennol, a bryd hynny, fe lwyddodd i sefydlogi’r sefydliad. Mae'n ymwybodol nid yn unig o’r cyfnod hwnnw yno, ond mae ei rôl fel dirprwy brif weithredwr yn golygu bod ganddo ymwybyddiaeth a gwybodaeth am yr holl sefydliadau yng Nghymru. Mae ganddo brofiad sylweddol yn y gwasanaeth iechyd ehangach, ond ceir cryn dipyn o barch tuag ato hefyd ymhlith staff a rhanddeiliaid ehangach yng ngogledd Cymru. Mae'n bwynt ymarferol iawn, ac rydym am weld y bwrdd iechyd yn parhau i wneud cynnydd yn hytrach nag oedi am ba amser bynnag y byddai'n cymryd i recriwtio prif weithredwr newydd.

O ran y prif weithredwr yn y dyfodol, wrth gwrs, bydd sylwadau’n cael eu gwneud am y ffordd y caiff gofal iechyd ei ddarparu yma yng Nghymru, ac yn benodol, yng ngogledd Cymru. Bydd angen iddynt gael cefnogaeth hefyd gan bobl o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol i gymryd camau i wella'r sefydliad. Felly, mae hynny'n golygu peidio â bod ofn gwneud dewisiadau am y dyfodol, er mwyn gallu cael sgwrs agored nid yn unig â'r tîm y byddant yn ei arwain yn y bwrdd iechyd, ond gyda'r cyhoedd ehangach a'u cynrychiolwyr etholedig. Rwy'n derbyn y bydd etholiad ymhen ychydig dros 15 mis, ond bydd angen darparu gofal iechyd yn y cyfamser, ac rwy'n disgwyl i bawb yn yr ystafell hon sydd â diddordeb yn nyfodol y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ymgysylltu'n agored ac yn uniongyrchol ar hynny. A bydd y prif weithredwr, pwy bynnag y bo, yn deall eu bod yn camu i mewn i amgylchedd lle mae etholiad ar y ffordd, ond lle mae angen gwelliant gwirioneddol hefyd yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu. Dyna y mae gan y staff a'r bobl eu hunain hawl i'w ddisgwyl a’i gael.

Ac ar berfformiad, rwyf wedi nodi'r disgwyliadau o ran perfformiad yn y fframwaith mesurau arbennig diwygiedig a gyhoeddais ym mis Tachwedd. Mae'n nodi meysydd diwygiedig i'r bwrdd iechyd wneud cynnydd arnynt er mwyn gallu symud ymlaen o fesurau arbennig, a thu hwnt i hynny hefyd. Credaf fod yn rhaid i'r prawf a osodwn ar gyfer y bwrdd iechyd fod yn un teg. Mae’n rhaid iddo fod: beth y mae'n rhaid i'r sefydliad hwn ei wneud a beth y mae angen iddo'i wneud i symud ymlaen o fesurau arbennig, yna beth arall y mae angen iddo'i wneud i gyrraedd y sefyllfa y byddai pob un ohonom yn gobeithio’i gweld, lle mae’n sefydliad gofal iechyd sy’n perfformio’n dda? Ac ni chredaf y byddai'n bosibl disgwyl iddynt symud o fesurau arbennig i'r ffrâm benodol honno mewn un naid.

O ran y pwynt ynglŷn ag unigolion a'r pwynt ynglŷn â chyfrifoldeb cyfunol, rwy'n cael cyfle rheolaidd i nodi fy rôl yn y system ac i ateb cwestiynau ar hynny, nid yn unig yn y wasg ond yn y Siambr hon a thu hwnt. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod gennyf gyfrifoldeb gwleidyddol, cyfrifoldeb gweinidogol am y gwasanaeth iechyd, ac mae hynny’n dod law yn llaw ag atebolrwydd amdano. Nid wyf yn ceisio ymyrryd mewn dewisiadau gweithredol, ond bob tro y bydd rhywbeth yn digwydd o fewn y gwasanaeth iechyd, mae'n gwbl bosibl y byddaf yn cael fy holi amdano a bydd disgwyl i mi roi ateb. Mae hynny'n rhan o’r gwaith ac nid wyf yn ymgilio rhag hynny, ond rwy'n edrych am arweinyddiaeth newydd i helpu i newid a phennu nid yn unig yr hyn y maent yn ei ddisgwyl o'r brig, ond sut y maent yn disgwyl i’r staff a thîm cyfan y bwrdd iechyd gyflawni'r gwelliannau diwylliannol a'r gwelliannau mewn perfformiad rwyf fi, fel y dywedaf, yn cydnabod y byddai pawb yn y Siambr hon a thu hwnt yn disgwyl eu gweld.

15:20

Mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, rwy'n synnu ychydig wrth glywed rhai o'r sylwadau rydych wedi'u gwneud mewn ymateb i'r cwestiwn brys hwn heddiw. I lawer ohonom yng ngogledd Cymru, mae hyn yn teimlo'n debyg iawn i—

Esgusodwch fi.

I lawer ohonom yng ngogledd Cymru, mae hyn yn teimlo'n debyg iawn i gylch diddiwedd, ac fel pe baem yn mynd yn ôl i'r cychwyn. Mae gennym yr un prif weithredwr dros dro a benodwyd ar y diwrnod y cyflwynwyd y mesurau arbennig i ddechrau, bron i bedair blynedd a hanner yn ôl—bron i bum mlynedd yn ôl bellach. Dywedwyd wrthym gan Simon Dean bryd hynny fod cynlluniau 100 diwrnod ar waith i newid cyfeiriad y sefydliad diffygiol hwn. Ni welsom unrhyw welliant. Rydym wedi gweld, dros y pedair blynedd a hanner diwethaf, sefydliad sydd wedi perfformio'n waeth byth—y perfformiad gwaethaf erioed. Hwn yw'r gwaethaf yng Nghymru gyfan bellach o ran llawer o fesurau perfformiad, ac mae ganddo system lywodraethu sydd wedi torri'n llwyr. Nid yw'n gweithio.

Gwelsom adroddiad a wnaed yn gyhoeddus ychydig dros wythnos yn ôl, nad oedd hyd yn oed wedi'i rannu; adroddiad a oedd yn nodi methiannau difrifol mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig mewn perthynas â therapïau seicolegol gan TogetherBetter, na chafodd ei rannu â chadeirydd y bwrdd iechyd hyd yn oed, er ei fod ym meddiant y bwrdd iechyd ers misoedd lawer. Felly, mae'r system wedi torri. Rydych yn rhan o'r system. Mae hwn yn sefydliad sydd mewn mesurau arbennig.

A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a ydych yn derbyn yn awr nad yw mesurau arbennig o dan eich trefniant chi yng Nghymru yn gweithio, nad ydych yn gallu sicrhau'r mathau o welliannau y mae pobl gogledd Cymru yn haeddu eu gweld ym mherfformiad y bwrdd iechyd? Mae'n gwbl amlwg nad oedd Gary Doherty yn gallu gwneud y gwaith, er ei fod yn ddyn dymunol. Roedd yn arwain sefydliad gyda thîm o swyddogion gweithredol, ac nid oedd rhai ohonynt yn addas ar gyfer y gwaith, ac a dweud y gwir, roeddem yn falch o'u gweld yn mynd. Mae angen tîm newydd arnom. Mae angen dull arnom sy'n mynd i sbarduno gwelliant. Nid wyf wedi fy argyhoeddi, a dweud y gwir, mai chi yw'r Gweinidog a fydd yn gallu cyflawni'r gwelliant y mae angen inni ei weld, a chredaf o ddifrif ei bod yn bryd i chi ystyried eich sefyllfa fel Gweinidog iechyd fel y gallwn droi tudalen yng ngogledd Cymru a chael lefel briodol o wasanaeth i gleifion yn y rhanbarth. Rydym yn mynd yn ôl i'r cychwyn, ac a dweud y gwir, ar ôl mwy na phedair blynedd, nid yw hyn yn ddigon da.

15:25

Wel, nid wyf yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd, ac nid yw'r ffordd y mae Darren Millar yn ymhyfrydu mewn ymosod ar unigolion yn glod iddo o gwbl. Gwelais y datganiad i'r wasg a gyhoeddodd am Simon Dean, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod siarad yn y ffordd a wnaeth am rywun sydd â 37 mlynedd o brofiad yn y GIG, sy'n alluog, yn ymroddedig ac yn uchel ei barch yn y gwasanaeth iechyd gwladol, ni chredaf fod yr ymosodiad personol iawn hwnnw yn glod o gwbl i Darren Millar, ac rwy'n credu o ddifrif y dylai ailystyried, tynnu'r sylwadau a wnaeth am Simon Dean yn ôl ac ymddiheuro amdanynt.

A dylai gydnabod, mewn gwirionedd, o ran cyfnod blaenorol Simon Dean yn y bwrdd iechyd, i'r bwrdd wneud cynnydd, ac mae hynny'n rhan nid yn unig o'r siom ond yr her yn ein sefyllfa, gan fod cynnydd wedi dechrau digwydd ar ystod o fesurau yn ystod ei gyfnod yno. Felly, ar ofal sylfaenol, ar famolaeth, a hyd yn oed ar iechyd meddwl, gwnaed cynnydd yn ystod ei gyfnod yno, ac eto, yn ystod y cyfnod hwy o amser, yr oddeutu pedair blynedd—y pedair blynedd diwethaf—rydym wedi gweld y bwrdd iechyd yn mynd tuag yn ôl o ran perfformiad ac o ran cyllid hefyd.

Nawr, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud dewis ynglŷn â newid yr arweinyddiaeth weithredol, a'r her yn awr yw sut y mae gennym arweinyddiaeth newydd ar waith, nid dros dro yn unig, ond arweinyddiaeth barhaol i gyflawni'r cynnydd pellach sydd ei angen yn amlwg ar berfformiad a chyllid yn erbyn y fframwaith mesurau arbennig a nodais ym mis Tachwedd y llynedd, a dyna fy nisgwyliad clir iawn. Gwn yn iawn y bydd pobl yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn ymarferol, y cyhoedd a'r staff sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd hwnnw wrth gwrs, a byddaf yn adrodd yn ôl i'r lle hwn ac edrychaf ymlaen at gael cwestiynau yr wythnos nesaf. Mae pobl yn cael cyfle yn rheolaidd i ofyn cwestiynau i mi; mae hynny'n rhan o'r gwaith. Yn sicr, nid wyf yn ystyried gadael y swydd hon. Edrychaf ymlaen at wneud y gwaith a pharhau i wneud gwahaniaeth go iawn.

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl staff sy'n gweithio'n hynod o galed i ddarparu gofal iechyd yng ngogledd Cymru bob dydd? Fodd bynnag, mae'n amlwg fod angen inni ganolbwyntio ar welliant ac mae angen i'r weledigaeth honno ddod o'r brig. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod i, ynghyd â fy nghyd-Aelodau o ogledd Cymru—cyd-Aelodau Llafur—wedi bod yn dwyn y mater hwn a materion sy'n peri pryder i'ch sylw'n rheolaidd, a hwn yw prif destun sgwrs fy nghyd-Aelodau a minnau. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r prif weithredwr dros dro cyn gynted ag y gallaf, a byddaf yn codi materion y mae etholwyr yn eu codi gyda mi yn wythnosol.

Yn gyntaf, gwasanaethau damweiniau ac achosion brys: yr angen am fwy o ddarpariaeth mân anafiadau ledled sir y Fflint. Un ateb penodol y gallaf ei weld fyddai cyflwyno gwasanaeth mân anafiadau yn ysbyty Glannau Dyfrdwy. Yn ogystal, rwyf am godi gwasanaethau iechyd meddwl. Ar hyn o bryd, nid yw Betsi Cadwaladr yn byw yn ôl eu harwyddair y dylid darparu gwasanaethau iechyd meddwl gyda'r un pwysigrwydd a brys ag iechyd corfforol, ac mae angen i hynny newid ac mae angen iddo wella. Ac yn olaf, Weinidog, rwyf am godi strwythur y bwrdd iechyd, ac edrychaf ymlaen at y sgwrs honno yn y dyfodol. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi a chodi'r materion hyn ar ran fy etholwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ond ar ran pobl ledled gogledd Cymru, yn eich gohebiaeth â'r bwrdd iechyd?

15:30

Yn fy ngohebiaeth â'r bwrdd iechyd, rwy'n parhau i bwysleisio pwysigrwydd gwneud cynnydd yn erbyn y fframwaith mesurau arbennig. Rwyf wedi nodi’n wrthrychol ac yn glir ac yn gyhoeddus—ac rwy’n cael yr un sgwrs yn y cyfarfodydd atebolrwydd uniongyrchol â'r bwrdd iechyd—fod angen gwneud cynnydd gwirioneddol ar ofal heb ei drefnu a gofal wedi'i drefnu, parhau i wneud cynnydd ar wasanaethau iechyd meddwl, parhau i weld gwelliant yn y swyddogaeth gyllidol hefyd—heb y ddisgyblaeth ariannol honno, maent yn annhebygol o weld gwelliannau mewn meysydd eraill—ac mae'r gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru ei darparu'n ymwneud â chael cynllun cywir i allu ei gefnogi a’i ddefnyddio i gefnogi'r bwrdd iechyd. Ac rwy’n cydnabod bod Jack Sargeant, wrth gwrs, fel Aelodau eraill dros Ogledd Cymru, wedi dwyn materion i fy sylw dros gyfnod o amser, ac rwy’n siŵr y bydd y prif weithredwr dros dro yn awyddus i gyfarfod â chynrychiolwyr etholedig o bob rhan o’r sbectrwm, yn gynt yn hytrach na’n hwyrach.

Ac o ran y pwynt penodol a godwch heddiw, pwynt rydym wedi'i drafod yn y gorffennol, ynglŷn â darpariaeth mân anafiadau, rhan o'r pwynt diddorol yn hyn o beth yw ein bod ni, o ran perfformiad adrannau achosion brys mawr, o fewn 2 bwynt canran i Loegr ar berfformiad adrannau mawr. Mae ein her yn deillio’n bennaf o’n gallu i ymdrin â rhai o'n cleifion brys, ond mewn gwirionedd, i beidio â rhoi darpariaeth mân anafiadau i'r naill ochr. Felly, mae'n her, nid yn unig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond yn ehangach, a gwn fod hynny’n un o'r heriau sydd wedi’u trafod nid yn unig gennyf fi, ond gwn y bydd y prif weithredwr dros dro a'r prif weithredwr yn y dyfodol am fynd i'r afael â hynny hefyd.

Ac o ran iechyd meddwl, mae gan y bwrdd iechyd fwy o waith i'w wneud. Ond mewn gwirionedd, os edrychwch ar yr hyn y gall y bwrdd iechyd ei wneud, mae mewn sefyllfa lawer gwell yn awr nag y bu o'r blaen. Ac mewn gwirionedd, os edrychwch ar y gwaith o gyflwyno Mi FEDRAF, mae miloedd o bobl yn mynd i gymryd rhan mewn menter a ddatblygwyd yng ngogledd Cymru, a cheir cydnabyddiaeth iddi y tu allan i Gymru hefyd, ac mae'n rhywbeth y mae pobl eraill yn awyddus i’w wneud. Ac mae wedi'i gyflwyno yng Nghonwy a Sir Ddinbych hefyd. Felly, mae rhesymau da i fod yn optimistaidd am ystod o bethau sydd gan y bwrdd iechyd, ond serch hynny, gwyddom hefyd fod heriau sylweddol i'w cyflawni ym mhrif swyddogaethau'r bwrdd iechyd. Felly, mae'n adlewyrchiad gonest o’r sefyllfa, ond nid yw’n ildio i'r syniad fod popeth yn mynd o'i le a phopeth yn annerbyniol yng ngogledd Cymru, gan nad yw hynny'n wir o gwbl.

Hoffwn dalu teyrnged i Gary Doherty am yr hyn y mae wedi ceisio'i wneud. Yn amlwg, pan fydd unrhyw un yn ymgymryd â rôl mor gyfrifol, maent yn gwneud hynny yn y gobaith y byddant yn sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol. A chredaf ei bod yn gyd-ddigwyddiad braidd fod Gary wedi dod i fwrdd iechyd yng Nghymru o leoliad bwrdd iechyd yn Lloegr, a'i fod wedi mynd yn ôl i wasanaeth bwrdd iechyd yn Lloegr—efallai fod hynny'n siarad cyfrolau. Ond mae gennym sefyllfa bellach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lle mae’r staff nyrsio ar y rheng flaen yn ei ddisgrifio i gleifion fel bwrdd sydd mewn argyfwng. Mae etholwyr yn dod ataf yn rheolaidd ac yn dweud, 'Janet, rydym yn ofni. Rydym yn ofni beth fydd yn digwydd i ni pan fyddwn yn mynd i'r ysbyty.' Mae hynny'n ddweud mawr, pan nad oes gan bobl hyder yn y bwrdd iechyd. Fel y nododd Jack Sargeant yn gwbl gywir, mae gennym staff nyrsio gwych ar y rheng flaen, ac mae gennym feddygon ymgynghorol gwych, ond mae'r rhwystredigaeth, yr anhrefn, y camreoli, yn parhau ar ôl pum mlynedd.

Nawr, mae Mark Polin, y cadeirydd, yn iawn i gydnabod nad yw perfformiad mewn rhai meysydd yn dderbyniol. A chredaf, mewn gwirionedd, os oes unrhyw Aelod wedi’ch dwyn i gyfrif mewn perthynas â bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fy mod yn ystyried fy hun yn un ohonynt, gan ein bod ninnau ar y rheng flaen, ar ddydd Gwener, yn ein swyddfeydd etholaethol, ac mae'n dorcalonnus gweld rhai o'r achosion a welwn, y bobl rydym yn siarad â hwy. Dyma unigolion y mae perfformiad gwael y bwrdd hwn yn effeithio ar eu bywydau. Ac mae'n torri fy nghalon a dweud y gwir. Nawr, mae hyn er gwaethaf y ffaith, Weinidog, fod gan y bwrdd iechyd hwn—a chefais y wybodaeth hon drwy gais rhyddid gwybodaeth—63 o gyfarwyddwyr ar gyflogau uchel. Chwe deg tri o gyfarwyddwyr. Cafodd 66 y cant o gleifion eu gweld o fewn y cyfnod tyngedfennol o bedair awr ym mis Rhagfyr. A’r mis diwethaf, roedd oddeutu 2,900 o gleifion yn aros am driniaethau orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, gydag amser aros o oddeutu 114 wythnos. Cymharwch hyn â Lloegr, lle mae'r amser aros yn 18 wythnos. Ac yn gywilyddus, ddoe ddiwethaf, drwy gais rhyddid gwybodaeth—. Gofynnais gwestiwn syml: faint o lawdriniaethau a gynlluniwyd a gafodd eu canslo oherwydd rhesymau anghlinigol rhwng mis Medi a mis Rhagfyr? Pe bawn yn dweud, ‘Dyfalwch’—a ydych chi'n gwybod, Aelodau, a ydych chi'n gwybod faint o lawdriniaethau a gynlluniwyd a gafodd eu canslo oherwydd rhesymau anghlinigol rhwng mis Medi a mis Rhagfyr? Y ffigur yw 2,463, ac mae rhai o'r rheini'n etholwyr i mi.

Nawr, pan roddwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015—bum mlynedd yn ôl, bron—un o'r meysydd pryder oedd arweinyddiaeth a llywodraethu. Mae'r pryderon hynny ynghylch arweinyddiaeth a llywodraethu yn dal i fod yno. Nawr, pan siaradais ag uwch aelodau o'r bwrdd—ac mae hyn yn embaras braidd, a dweud y gwir—maent yn dweud wrthyf mai ymyriadau eich Llywodraeth chi, mewn gwirionedd, sy'n achosi rhai o'r rhesymau pam na allant fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Felly, a wnewch chi edrych eto ar eich model eich hun o fesurau arbennig ac ymyriadau'r Llywodraeth i weld a ydych yn eu cefnogi mewn gwirionedd, neu a ydych yn amharu ar y broses?

Yn ôl y fframwaith gwella, gofynnir i arweinwyr ddeall yr heriau, a sicrhau bod arbenigedd a gallu perthnasol ar draws y system yn mynd i’r afael â’r rhwystrau. Nawr, gwneuthum gais rhyddid gwybodaeth i weld faint y mae hynny wedi'i gostio hyd yn hyn: £83 miliwn am yr ymyriadau mesurau arbennig gan y Llywodraeth. Faint o lawdriniaethau y gallai hynny fod wedi talu amdanynt? Faint o staff, staff nyrsio newydd, y gallai hynny fod wedi’u cyflogi? Rwyf am fod yn onest gyda chi nawr: y brand—mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn frand gwenwynig. Ac mae’n flin iawn gennyf dros y diweddar Betsi Cadwaladr a’i theulu. Oherwydd nid wyf yn credu bod cael fy enw’n gysylltiedig â methiant o'r fath—pe bawn i'n fyw, ond yn sicr pe bawn wedi hen fynd—yn waddol y dylech chi fel Gweinidog Llywodraeth Cymru fod yn falch ohoni.

Nawr—

15:35

Iawn. Rwyf am ofyn fy nghwestiynau yn awr, os caf. [Chwerthin.] A ydych yn—? O, mae hwn yn fater mor ddifrifol. A ydych yn bwriadu rhoi cefnogaeth ychwanegol i Simon Dean, ac os felly, pa gefnogaeth? Yr un dyn fydd y Simon Dean a fydd yn dod i'r bwrdd hwn yn awr, ond bydd yr heriau'n wahanol i'r heriau bum mlynedd yn ôl. A fydd disgwyl iddo ddarparu gweledigaeth gymhellol ar gyfer y bwrdd iechyd y mae pawb o'r brig i lawr yn y sefydliad yn ei deall, yn ei chydnabod ac yn ei derbyn? Ac ai afal pwdr yw rôl prif weithredwr y bwrdd iechyd gwenwynig hwn mewn gwirionedd, ac a allai'r bwrdd fod mewn mesurau arbennig yn awr am gyfnod anfesuradwy?

Cafwyd cryn dipyn o sylwadau, ond credaf mai dim ond cwpl o gwestiynau a ofynnwyd mewn gwirionedd. Ac edrychwch, o ran ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, ni allwch ei chael hi’r ddwy ffordd. Ni allwch ddweud, ar y naill law, ‘Gwnewch fwy, byddwch yn fwy gweithredol, cymerwch ran', a dweud ar y llaw arall, 'Rydych yn gwneud gormod, ewch o'r ffordd, gadewch iddynt fwrw ymlaen â’r gwaith'. Ni allwch ei chael hi’r ddwy ffordd. Yr her mewn gwirionedd yw sut rydym yn cael gafael ar y bobl sy'n deall heriau gweithredol rhedeg a darparu'r gwasanaeth, a all lwyddo i wella'r berthynas rhwng staff ym mhob rhan o’r sefydliad a chyda chymunedau.

Ac o ran eich pwyntiau am Simon Dean, bydd yn cael yr holl gefnogaeth y mae arno ei hangen ac y mae’n gofyn amdani. Bydd hefyd yn cael cyfle nid yn unig i ymgymryd â’r gwaith gyda'i brofiad o fod yn ddirprwy brif weithredwr a gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru, ond ei amser ar lawr gwlad, er mwyn darparu syniad, os oes heriau ychwanegol o'r persbectif hwnnw, o ble y gallai Llywodraeth Cymru fod o gymorth ai peidio. Ond mewn gwirionedd, gwaith y prif weithredwr nesaf, ynghyd â'r tîm, yw cyflawni cynllun y dyfodol a'r weledigaeth hirdymor. Nid ydym yn awyddus i Simon Dean aros yn y bwrdd iechyd am flwyddyn arall—rwy'n edrych am gyfnod interim llawer byrrach, felly bydd gan y prif weithredwr newydd amser i gyflawni'r weledigaeth honno ac i weithio gyda’r tîm sydd yno. Ac nid o gwmpas y bwrdd gweithredol yn unig y mae'r tîm; mae o gwmpas y bwrdd iechyd cyfan.

Mae 19,000 o bobl yn gweithio i Betsi Cadwaladr, pobl sy'n rhan annatod o'u cymunedau lleol—ffynhonnell o wybodaeth, ffynhonnell o ddealltwriaeth, ac i aelodau eraill o'r gymuned, safbwyntiau pwysig iawn ynghylch cyfeiriad teithio'r bwrdd iechyd. Ac mewn gwirionedd, mae'n galonogol, yn yr arolwg staff diwethaf, y bu gwelliant sylweddol mewn pobl sy'n falch o weithio i'r bwrdd iechyd ac sy'n cydnabod bod y bwrdd iechyd yn dechrau gwella mewn gwirionedd. Nawr, mae honno'n her y mae angen i chi ei gweld yn cael ei hatgyfnerthu dro ar ôl tro. Dyma’r dystiolaeth wrthrychol gan y staff eu hunain. Mae hynny'n hynod o bwysig i'r gymuned ehangach, ac edrychaf ymlaen, unwaith eto, at gael sgwrs gwbl onest â phobl yn y lle hwn, a phan fyddaf yn mynd i ogledd Cymru yn rheolaidd, ynglŷn â sefyllfa’r bwrdd iechyd, beth arall sydd angen ei wneud. Ac edrychaf ymlaen at y daith drwy a thu hwnt i’r mesurau arbennig, gan mai dyna y mae pobl yng ngogledd Cymru yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.

15:40
5. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad, a David Rees sydd gyntaf y prynhawn yma.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddoe, 4 Chwefror, oedd Diwrnod Canser y Byd—y diwrnod penodol pan ofynnir i ni feddwl am yr effaith y mae canser yn ei chael ar y rheini sydd wedi cael diagnosis o unrhyw fath o ganser a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt hwy a'u hanwyliaid. Mae hefyd yn ddiwrnod pan fyddwn yn cydnabod gwaith gwych y timau meddygol, nyrsys arbenigol, timau cymunedol a'r ymchwilwyr ymroddedig yn y maes. Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi clywed y geiriau dychrynllyd hynny, 'Mae gennych ganser', a'r poen cynnar hwnnw y mae diagnosis yn ei achosi i'r unigolion a'u teuluoedd. Mae pob un ohonom yn adnabod pobl sydd wrthi'n brwydro yn erbyn canser. Mae pob un ohonom yn adnabod pobl sydd wedi ennill eu brwydr, ond rydym hefyd yn adnabod pobl sydd wedi ymladd yn ddewr ac yn urddasol ac nad ydynt gyda ni mwyach.

Mae gwelliannau mewn diagnosis cynnar, ymchwil arloesol, a'r gwaith hanfodol a wneir gan elusennau canser yn ein symud yn agosach o hyd at leihau nifer y bobl sy'n ofni'r geiriau hynny sy'n newid bywydau—ac maent yn eiriau sy'n newid bywydau—gan helpu pobl i'w ystyried yn fwy fel salwch cronig, yn ogystal â'r gwaith a wneir gan bobl i sicrhau eu bod yn rhydd o ganser. Dyna yw uchelgais y sefydliadau unigol hynny, fel bod modd trin pob math o ganser, a chaniatáu i bobl fyw bywydau lle maent yn rheoli eu salwch. Er mwyn cefnogi'r uchelgais hwnnw, mae 4 Chwefror yn ddiwrnod sy'n cynnig cyfle i bob un ohonom feddwl am ein gweithredoedd ac addo cael effaith barhaol ar hynny. Ddoe, a phob dydd, rwy’n addo hyrwyddo’r frwydr yn erbyn canser, gan fod cynnydd i greu byd lle nad yw pobl yn ofni canser mwyach yn bosibl. Gwn y bydd pawb ar draws y Siambr yn ymuno â mi yn yr addewid hwnnw.

Dwi eisiau siarad efo chi heddiw am Parkrun, y gymdeithas fyd-eang o glybiau rhedeg sy'n annog pobl i redeg 5 km bob bore Sadwrn. Mae'n mynd ers 2004 ac, erbyn hyn, mae yna gannoedd a miloedd yn rhedeg yn wythnosol ac mae criwiau o wirfoddolwyr yn rhedeg parkruns ym mhob cwr o Gymru. Llanddwyn a Llangefni ydy'r ddwy sydd yn fwyaf lleol i fi, ac, yn ôl gwefan Parkrun—roeddwn i'n checio y bore yma—fy amser gorau i, fy personal best i, ydy 26 munud a 49 eiliad. A dwi'n siŵr eich bod chi'n impressed iawn efo hynny, a finnau'n hen ddyn. Ond a wyddoch chi fod record y byd newydd ar gyfer merched mewn parkruns wedi cael ei gosod yng Nghaerdydd dydd Sadwrn diwethaf? Mi redodd yr athletwraig Charlotte Arter ei 5 km hi mewn 15 munud a 49 eiliad, sy'n rhyfeddol.

Ond, wrth gwrs, tra bod PBs a rasio yn erbyn eich hun ac eraill yn rhan fawr o Parkrun, yr elfen iechyd a chymdeithasol sydd bwysicaf. Mae Parkrun a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu, er enghraifft, wedi dod at ei gilydd i hybu parkrun fel enghraifft o bresgripsiwn cymdeithasol. Ers ei lansio 18 mis yn ôl, mae 15 y cant o feddygfeydd teulu Cymru wedi cofrestri bellach i ddod yn parkrun practices, ond mi fyddai'n dda gweld hynny yn codi ymhellach.

Felly, llongyfarchiadau mawr, Charlotte, ac, os nad ydych chi wedi cymryd rhan mewn parkrun o'r blaen, wel, gwnewch. Does dim angen i chi drio torri record—a dweud y gwir, mi allwch chi gerdded, os liciwch chi—ond rhowch dro arni: cofrestrwch ar-lein a chychwynnwch eich penwythnos efo hwb go iawn i'ch iechyd a'ch lles corfforol a meddyliol. 

Yr wythnos hon yw Wythnos Prentisiaethau—cyfle i ddathlu prentisiaid, dathlu cyflogwyr a dathlu darparwyr hyfforddiant. Fel cyn brentis fy hun, gwn pa mor bwysig yw'r system brentisiaethau ar gyfer datblygu arbenigedd technegol a chymhwysedd proffesiynol, ac mae'n rhan allweddol o'r gwaith o baratoi gweithlu'r dyfodol. Yn ogystal â datblygu sgiliau technegol dysgwyr, mae'n rhaid i brentisiaethau hefyd arfogi pobl â'r sgiliau cyflogadwyedd a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer bywyd gwaith ac i lwyddo i bontio rhwng gyrfaoedd mewn marchnad lafur sy'n newid yn barhaus.

Mae prentisiaethau da'n darparu cydbwysedd rhwng profiad yn y gwaith a hyfforddiant technegol. Ddirprwy Lywydd, prentisiaid heddiw yw arweinwyr yfory, ac mae'n rhaid i ni eu harfogi â'r sgiliau hynny. Mae prentis, Michael Halliday, a fu'n bwrw ei brentisiaeth gyda mi, bellach yn bennaeth peirianneg i gyflogwr pwysig yn fy etholaeth. Mae Michael yn goruchwylio nifer fawr o brosiectau ac yn rheoli tîm o beirianwyr profiadol; enghraifft wych o lwyddiant system brentisiaethau Cymru.

Felly, Ddirprwy Lywydd, gadewch i ni ddathlu Wythnos Prentisiaethau drwy ddweud 'Diolch' wrth ein holl brentisiaid, diolch i'r holl gyflogwyr, ac i'n holl ddarparwyr hyfforddiant, fel Coleg Cambria, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chymaint o rai eraill sy'n cefnogi prentisiaethau ledled Cymru ac yn sicrhau bod gennym ni, yng Nghymru, y prentisiaid gorau a bod gennym y system brentisiaethau orau yn y byd. Diolch yn fawr.

15:45
6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Galwaf ar David Melding i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7239 David Melding

Cefnogwyd gan Angela Burns, Dai Lloyd, David J. Rowlands, Huw Irranca-Davies, Jenny Rathbone, Mark Isherwood, Mick Antoniw, Mohammad Asghar, Rhun ap Iorwerth, Russell George, Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu gael ei osod ag o leiaf un pwynt gwefru ceir trydan.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau bod gan:

(a) bob adeilad preswyl newydd sydd â lle parcio cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod;

(b) bob adeilad preswyl newydd neu sy'n cael ei adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd parcio, lwybrau ceblau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50 y cant o gyfanswm y lleoedd parcio.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am roi cyfle i mi sôn am y cynnig deddfwriaethol hwn heddiw? A gaf fi ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi'i gefnogi? Rwy'n falch o ddweud fod llawer iawn wedi rhoi eu cefnogaeth i drafod hyn heddiw. Rwy’n falch iawn fod fy Mil arfaethedig wedi cael cefnogaeth gan bob plaid wleidyddol, yn wir. Credaf fod hyn yn dangos bod consensws gwleidyddol eang o blaid gwella'r rhwydwaith cerbydau trydan yng Nghymru yn gyflym.

Mae'n cyd-fynd â'r naratifau ehangach a fu'n dominyddu’r Cynulliad hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth gwrs, yr un fwy felly na datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn ymgrynhoi'r egwyddorion rydym yn eu cefnogi ac yn eu hyrwyddo yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a byddai'n golygu ein bod yn llawer agosach at gyflawni ein rhwymedigaethau hinsawdd rhyngwladol. Cerbydau trydan yw'r dyfodol. Nid wyf yn amau ​​hynny. Yn wir, ddoe ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fydd ceir petrol, diesel a hybrid newydd yn cael eu gwerthu o 2035 ymlaen, fan bellaf. Ac o gofio bod y targed hwnnw wedi'i ostwng erbyn hyn o 2040 i lawr i 2035, credaf fod 'fan bellaf' yn gyfyngiad diddorol.

Fel y nodwyd yn flaenorol yn y Siambr hon, mae nifer o rwystrau y mae'n rhaid eu goresgyn o hyd, megis gwelliannau mewn technoleg batri, y gallu i deithio’n bellach, gwefru cyflymach a thwf yn y dewis o fodelau sydd ar gael. Ond mae'r sector yn goresgyn y rhwystrau hyn ar gyflymder rhyfeddol. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Tesla y nifer uchaf erioed o werthiannau cerbydau trydan ac mae pris eu cyfranddaliadau wedi cynyddu'n sylweddol. Mae'r diwydiant ceir ei hun yn paratoi am i 2020 fod yn flwyddyn arloesol i geir trydan, gan ragweld y bydd nifer y modelau yn ystafelloedd arddangos Prydain yn mwy na dyblu, a gwerthiant blynyddol ceir teithwyr di-allyriadau yn pasio'r 100,000 o bosibl. Mae hyn yn arwyddocaol iawn.

Ond yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, er bod Prydain yn gyffredinol ar drothwy chwyldro ceir trydan, nid yw pobl Cymru'n teimlo hynny eto i’r un graddau. Gymaint felly nes bod hyd yn oed The Guardian wedi adrodd ar y mater tua diwedd y llynedd. Yn ôl y ffigurau a ddyfynnwyd ganddynt, mae'r wyth sir yn y DU sydd â'r nifer leiaf o bwyntiau gwefru y pen i gyd yng Nghymru. Roedd Rhondda Cynon Taf ar waelod y tabl, gyda thri phwynt gwefru yn unig i bob 100,000 o drigolion; nid oedd Caerffili a Bro Morgannwg fawr gwell, gyda phedwar a phum pwynt i bob 100,000, yn y drefn honno. Nawr, mae dwy o'r ardaloedd cyngor hynny yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth De Cymru, felly rwy'n bendant yn awyddus i weld hyn yn gwella'n gyflym iawn.

Nawr, yn ôl yr arbenigwyr, diffyg pwyntiau gwefru ledled y wlad yw un o'r ffactorau pwysicaf sy’n atal nifer y bobl sy'n defnyddio cerbydau trydan. Felly, mae gyrwyr yn gohirio gwneud y newid hanfodol hwn. Dyna pam fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth, ac mae fy nghynnig yn seiliedig arni’n fras. Byddai’n briodol i mi gydnabod, ar y pwynt hwn, fod y cynigion yn adeiladu ar sylfeini sydd eisoes wedi’u gosod gan Aelodau yn y Siambr hon, ac rwy’n cofio cynnig deddfwriaethol tebyg Rhun ap Iorwerth yn 2018, a gafodd gefnogaeth eang gan yr Aelodau hefyd, a phob plaid wleidyddol.

Yr hyn rwy’n ei gynnig, ac yn wir, yr hyn a gynigiodd Rhun yn 2018, yw deddfwriaeth a fydd yn gam ymlaen tuag at ddarparu’r seilwaith sylfaenol sydd ei angen arnom i wefru’r cerbydau trydan hyn er mwyn ei gwneud yn haws i bobl allu dewis defnyddio’r dechnoleg newydd hon. Felly, pam fod Llywodraeth Cymru mor segur yn y maes hwn mewn gwirionedd? Mae llawer o opsiynau ar gael i ni, ac mae angen i ni bwysleisio hyn. Gallem sicrhau bod Cymru yn arwain ym maes trafnidiaeth gynaliadwy ac ynni adnewyddadwy, a chredaf y dylai hynny fod yn uchelgais i ni.

Un o'r opsiynau hynny yw fy nghynnig i, er mwyn sicrhau bod pob cartref a adeiladir o'r newydd yn cael y seilwaith angenrheidiol er mwyn galluogi newid o'r fath yn y cerbydau a ddefnyddir. Mae'n un darn o'r pos. Un o atyniadau allweddol cerbyd trydan yw y gellir ei wefru ble bynnag y caiff ei barcio cyhyd â bod pwynt gwefru trydanol addas i’w gael yno. Bydd pobl am i hyn gael ei ddarparu mewn modd hygyrch ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd, p'un a ydynt yn mynd i'r archfarchnad, eu gweithle—yn wir, rwy'n falch iawn fod gennym rai pwyntiau gwefru ar ystâd y Cynulliad bellach—neu'r gampfa.

Mae fy neddfwriaeth yn sicrhau ein bod yn cysylltu'r dechnoleg hon â’r agwedd fwyaf cyffredin a sylfaenol ar ein bywyd bob dydd: ein cartref. Dyma ble y bydd mwyafrif helaeth y gwefru cerbydau trydan yn digwydd. Byddai gwefru gartref yn cynnig yr opsiwn mwyaf cyfleus, wrth gwrs, a bydd yn rhatach na defnyddio'r rhwydwaith cyhoeddus yn amlach na pheidio, yn enwedig wrth wefru dros nos a manteisio ar dariffau allfrig. O ystyried bod 98 y cant o deithiau yn y DU yn llai na 50 milltir o hyd, efallai na fydd angen o gwbl i lawer o yrwyr sydd â phwynt gwefru gartref ddefnyddio'r rhwydwaith o bwyntiau gwefru cyhoeddus.

Credaf ei bod yn bryd gosod y dechnoleg hon yn ein tai newydd. Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod pwynt gwefru yn costio oddeutu £976 y man parcio os caiff ei ddarparu gydag adeilad newydd neu adnewyddiad, o gymharu â mwy na £2,000 i’w ôl-osod. Felly, yn amlwg, mae angen inni fwrw ymlaen â hyn a helpu ein trigolion i wneud y dewis gwych hwn. Diolch.

15:50

Rwy'n falch iawn o gefnogi eich cynnig am Fil, er bod gennyf rai amheuon ynghylch y manylion yr hoffwn eu hamlinellu. Credaf fod cerbydau hydrogen yn un o'r atebion, ond yn sicr, ni fyddent ar frig fy rhestr o atebion i'r argyfwng carbon. Ar hyn o bryd, mae'r nifer sy'n eu defnyddio yn isel iawn am eu bod yn costio llawer o arian ac nid ydynt ar gael. Mae'n cymryd tri mis o leiaf i gael car newydd, sy'n ddrud eithriadol, ac nid yw rhai ail-law fawr rhatach am y rheswm amlwg fod y cerbydau hyn mor brin. Ond credaf fod nifer y pwyntiau gwefru sy'n cael eu gosod bob dydd rywle rhwng chwech a 12, felly mae'r farchnad gyfan yn ffrwydro. Serch hynny, rwy’n eich llongyfarch ar gael cynnig amserol iawn yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth.

Ond rhai o'r amheuon: a fydd trigolion dinasoedd y dyfodol am lenwi eu strydoedd â blychau metel sy'n llonydd am dros 90 y cant o'r dydd? Oni fyddai’n well defnyddio’r gofod rhwng cartrefi i blant ac oedolion chwarae yn ogystal â thyfu bwyd? Cofiaf fy ymweliad yn y pedwerydd Cynulliad, gyda rhai aelodau o bwyllgor yr amgylchedd, â Freiburg yn Baden-Württemberg fel rhan o bwyllgor yr amgylchedd, ac roedd ansawdd a chysylltedd y llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn golygu bod llawer llai o drigolion yn y ddinas honno'n trafferthu cael car, ac roeddent yn rhentu un pan oedd angen iddynt fynd ar wyliau neu wneud taith arbennig neu anghyffredin.

Roedd gan un ystâd dai y buom yn ymweld â hi faes chwarae antur coed helyg bendigedig, ac roedd ei ôl troed yn amlwg yn cynrychioli ôl troed tir a neilltuwyd ar gyfer maes parcio ychwanegol. A'r cwestiwn i’r trigolion oedd: a oedd yn well ganddynt y maes chwarae coediog hwn neu faes parcio aml-lawr arall? Ac mae'n werth nodi bod cynllun yr ystâd honno’n caniatáu i bobl yrru at ddrws y tŷ i ddadlwytho pobl neu nwyddau, ond yn y maes parcio aml-lawr yn unig y gellid parcio ceir, ac roedd hynny'n creu amgylchedd mwy dymunol o lawer. Felly, credaf fod cryn dipyn o ffordd gennym i fynd o ran meddwl am ddyluniadau sy’n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Yn ail, er bod cerbydau trydan yn allyrru llawer llai o lygredd na cheir diesel neu betrol, rwy'n cydnabod nad ydynt heb gost i'r amgylchedd. Mae'r cyfan yn dibynnu, er enghraifft, ar p'un a yw'r ynni y byddant yn ei ddefnyddio i wefru'r cerbyd trydan hwnnw'n ynni glân o ffynonellau adnewyddadwy—nid wyf yn ymwybodol fod fawr o hynny’n digwydd yn unrhyw le ym Mhrydain—neu'n ynni budr o danwydd ffosil. Mae gwahaniaeth enfawr o ran y canlyniad i'r amgylchedd ac o ran allyriadau carbon. Felly, os derbynnir y cynnig hwn, buaswn yn awyddus i weld y cynnig yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod y pwyntiau gwefru trydan sy’n cael eu gosod gyda thai newydd—

15:55

—yn cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy. [Torri ar draws.] Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.

O'r gorau. Iawn. Wel, bydd yn rhaid i mi beidio â derbyn yr ymyriad.

Rwy'n falch iawn o allu cefnogi Bil David Melding. Credaf fod hwn yn Fil taclus, yn Fil amserol iawn, ac mewn gwirionedd, mae'n Fil bach y gallem ei gael drwy'r Cynulliad mewn dim o dro, am fod iddo gymaint o ffocws.

Clywais yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone, ac rwy'n cytuno bod yna bethau i'w goresgyn, ond credaf hefyd mai dim ond drwy lawer o gamau bach y byddwn yn datrys yr argyfwng hinsawdd. Mae unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i un ateb i'r broblem a datrys y cyfan ar yr un pryd—nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Un cam bach yw hwn. Mae'r elfennau eraill y sonioch chi amdanynt yn gamau bach eraill.

Rwy'n arbennig o bryderus am fod mwy a mwy o bobl yn ceisio mynd ar drywydd ceir trydan, ond yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae bron yn amhosibl dod o hyd i bwyntiau gwefru ceir. Er, hoffwn ddweud fy mod wedi dod o hyd i wefan wych o'r enw Zap-Map sy'n dangos yr holl bwyntiau gwefru ledled y DU; mae’n eithaf moel yng Nghymru, mae’n rhaid dweud.

Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wahardd gwerthu ceir tanwydd ffosil erbyn 2035. Fel rhywun sy'n caru ei char, yn byw yn ei char, ac yn hoffi teithio ar gyflymder goleuni, mae’n rhaid i mi wasgu fy nannedd. Ond mewn gwirionedd, rwyf am i fy mhlant dyfu i fyny mewn amgylchedd da iawn a chael planed i fyw arni. Felly, rwy’n gredwr mawr mewn ceir trydan.

Y rheswm arall pam y credaf fod hwn yn syniad mor dda, David, yw am fy mod wedi dadlau ers tro o blaid defnyddio'r hyn a elwir yn egwyddor Merton wrth adeiladu ystadau tai newydd. Nawr, egwyddor gynllunio ragnodol yw hon a enwyd ar ôl bwrdeistref Merton yn Llundain, a’i dyfeisiodd yn y lle cyntaf. Dywed y dylai 10 y cant o holl anghenion ynni ystâd dai newydd ddod o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y safle lle mae'r tai. Felly, beth am ehangu hynny i gynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan gyda'r holl dai hynny, gan ein bod yn defnyddio’r egwyddor honno ac yn ei datblygu gam ymhellach?

Hoffwn hefyd pe bai’r Llywodraeth, wrth inni fwrw ymlaen gyda'r Bil hwn, yn ystyried edrych ar bethau fel y benthyciadau di-log ar gyfer cerbydau trydan fel y mae Transport Scotland yn eu cynnig ar hyn o bryd, i alluogi pobl i brynu ceir trydan. Maent yn dal i fod yn eithaf drud, mae’r broses o’u gwerthu a’u prynu yn gymhleth iawn, mae'n rhaid i chi gael y cyfleuster i allu gosod man gwefru yn eich cartref—sy’n anodd os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau. Ond mae Transport Scotland wedi canfod ffordd o roi symiau sylweddol o arian i bobl ar fenthyciadau cost isel iawn dros chwe blynedd i sicrhau ein bod yn symud tuag at y chwyldro ceir trydan, a dyna mae pob un ohonom yn ei wneud. Cam bach yw hwn, ond credaf ei fod yn syniad da iawn, yn ddeddfwriaeth dda. David Melding, rwy'n dymuno'n dda i chi, a byddaf yn ei gefnogi i'r carn.

Fel ymgyrchydd balch dros ddefnyddio mwy o gerbydau allyriadau isel iawn, neu gerbydau ULEV, rwy'n croesawu'r cynnig hwn gan David Melding, ac rwy’n fwy na pharod i’w gefnogi.

Mewn ymateb i'r hyn a glywsom gan Angela Burns—fe ddywedoch chi eich bod yn hoffi'ch car, rydych chi'n hoffi gyrru'n gyflym, ond fe fyddwch yn cefnogi cerbydau trydan—mae cerbydau trydan yn gyrru fel unrhyw gar arall. Nid ydym yn gofyn i chi roi'r gorau i unrhyw beth; rydym yn gofyn i chi wneud cyfraniad i'r amgylchedd.

Soniodd David Melding yn gynharach fy mod wedi cyflwyno cynnig tebyg yn ôl yn 2018. Roedd hwnnw'n ymwneud â mwy na thai; roedd yn ymwneud â chyflwyno canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, boed yn adeiladau cyhoeddus neu dai, er mwyn sicrhau ein bod yn cael y rhwydwaith ehangach hwnnw. Cynigiais Fil hefyd i gael strategaeth gerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon i Gymru drwy ddeddfwriaeth. Y pwynt yw bod arnom angen deddfwriaeth, ac mae angen i ni ddefnyddio ein hoffer deddfwriaethol. Bydd y farchnad yn cyflawni llawer o'r hyn rydym am ei weld, ond yn yr un modd â band eang, nid yw'r farchnad yn cyrraedd pob rhan o Gymru. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddarparu cyllid, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddarparu deddfwriaeth hefyd, ac mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl offer sydd ar gael i ni er mwyn annog pobl i ddefnyddio cerbydau trydan.

Soniais yn gynharach yn y Siambr heddiw am arian a sicrhawyd gan Blaid Cymru mewn cytundeb cyllidebol flwyddyn neu ddwy yn ôl, i sicrhau arian ar gyfer rhwydwaith cenedlaethol o bwyntiau gwefru. Unwaith eto, bydd y farchnad yn talu am lawer o'r pwyntiau gwefru y bydd eu hangen arnom, ond o ran tai—[Torri ar draws.] Nid wyf yn credu ein bod yn cael derbyn ymyriadau yn y dadleuon hyn.

16:00

Mewn eiliad. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, pan fydd pobl yn mynnu cael pwyntiau gwefru yn eu cartrefi, mae'n siŵr y bydd adeiladwyr yn eu rhoi i mewn. Ond gall y Llywodraeth fynnu bod hynny'n digwydd drwy ddeddfwriaeth yn awr, er mwyn sbarduno'r newid diwylliant a fydd yn ein harwain at y pwynt hwnnw yn y dyfodol gweddol agos.

A ydych chi'n cytuno bod angen i'r pwyntiau gwefru trydan newydd hyn gael eu cynhyrchu gan ynni adnewyddadwy? Fel arall, nid ydym yn ennill tir o ran ein hallyriadau carbon. 

Er mwyn cadw fy ateb yn fyr, mae cerbydau trydan yn dal i fod yn fwy effeithlon na cheir a yrrir gan beiriant tanio mewnol, hyd yn oed os ydynt yn cael eu tanio gan drydan a gynhyrchir gan danwydd ffosil, am eu bod yn fwy effeithlon. Ond rydych yn llygad eich lle, wrth gwrs: dyna lle mae angen inni gyrraedd, ein bod yn defnyddio trydan glân i yrru'r car. Felly mae'n bwynt canolog. 

Mae llawer angen ei wneud yng Nghymru. Cyhoeddais yr adroddiad hwn gydag aelod o fy nhîm, Jamie Thomas, y llynedd, i edrych ar wersi o'r Alban, ac mae cymaint y gallwn ei ddysgu o'r hyn a wnaethant yn yr Alban. Roeddent o ddifrif ynglŷn â hyn flynyddoedd yn ôl. Rhoesant fesurau ar waith trwy Lywodraeth ganolog yr Alban a chynghorau lleol fel Dundee er mwyn gyrru'r newid diwylliant hwnnw, ac mae cymaint o gwestiynau i Lywodraeth Cymru edrych arnynt. Pa gymhellion y gellir eu rhoi i bobl newid? Gyda phwy y gallant weithio mewn partneriaeth i wneud cerbydau ULEV yn fwy deniadol i bobl? Sut y gellir cyfleu manteision cerbydau ULEV i bobl? Sut y gall Cymru arloesi a normaleiddio ym maes ULEV? Sut y gallwn reoli pethau'n ganolog, fel y gwnaethant yn yr Alban, drwy gael canolbwynt canolog, dan berchnogaeth gyhoeddus y caiff data gan gwmnïau preifat ei fwydo iddo fel eu bod yn gwybod sut y mae pobl yn yr Alban yn ymddwyn mewn perthynas â cherbydau trydan?

Felly, dyma ddeddfwriaeth bwysig iawn arall yn cael ei chynnig gan David Melding. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn bwrw iddi go iawn ar hyn. 

Rwyf innau hefyd yn cefnogi cynnig deddfwriaethol David Melding. Fel Rhun ap Iorwerth, rwy'n ymgyrchydd yn y maes hwn. Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o ddatganiad newid hinsawdd Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, cyfeiriodd David Melding at gyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe ei bod am gael gwared ar geir petrol a diesel ar gam cynharach o lawer. Felly rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gyflymu gweithgarwch yn y maes hwn er mwyn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y newid sydd o'n blaenau.

Dyna pam y gwnaeth y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau waith ar hyn y llynedd, ac aethom ati i gynnal ein hymchwiliad mewn ffordd wahanol iawn mewn gwirionedd. Fe ddechreuasom yn y ffordd arferol, drwy gasglu tystiolaeth, ond yr hyn a wnaethom wedyn oedd penderfynu cyhoeddi ein hadroddiad drafft, a gwnaethom hynny am fod hwn yn faes polisi sy’n newid mor gyflym. Felly roeddem eisiau'r mewnbwn pellach hwnnw, ac ar ôl i ni ei gael fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad terfynol. Hefyd, rhoesom sylw i'r gwaith a wnaeth Rhun ap Iorwerth, oherwydd roedd hwnnw'n cyd-fynd fwy neu lai â'n hadroddiad.

Mae gan 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10' bolisi newydd ar gerbydau allyriadau isel iawn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau amhreswyl gael pwyntiau gwefru wrth o leiaf 10 y cant o'r lleoedd parcio sydd ar gael. Ond roedd ein hadroddiad yn argymell mynd ymhellach na hyn, a dywedasom y dylid ei ymestyn i gynnwys datblygiadau preswyl, ac y dylid ystyried codi canran y lleoedd parcio â phwyntiau gwefru wrth i gerbydau trydan ddod yn fwy cyffredin. Felly o ganlyniad i hynny roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac wedi nodi bod symud tuag at bwyntiau gwefru mewn datblygiadau amhreswyl—ac rwy'n dyfynnu yma—

wedi’i fwriadu i fod yn fesur dros dro yn lle mesur mwy cynhwysfawr i'w gyflwyno drwy'r Rheoliadau Adeiladu. 

Felly galwodd adroddiad ein pwyllgor am weithredu ar frys ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cyflwyno strategaeth newydd ar wefru cerbydau trydan, a bydd ei gynnwys yn bwysig iawn. 

Clywsom am ymyrraeth y farchnad, a bydd y farchnad yn ymyrryd yn y maes hwn, ond mae'n sefyllfa iâr ac wy. Mae angen i'r Llywodraeth gamu i'r adwy i dorri'r cylch hwnnw, a dyna pam rwy'n gefnogol iawn i'r cynigion a gyflwynwyd gan David Melding heddiw a byddaf yn cefnogi ei gynnig deddfwriaethol.   

16:05

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn, ond rwy'n cydnabod nad yw’r angen am bwyntiau gwefru ceir trydan mewn adeiladau preswyl ond yn rhan o'r seilwaith ehangach sydd ei angen. 

Cadeiriais y sesiwn gyntaf ym mhrif seminar Fforwm Polisi Cymru ym mis Rhagfyr ar bolisi ynni yng Nghymru a hwyluso'r newid i economi carbon isel— blaenoriaethau ar gyfer torri allyriadau, seilwaith a buddsoddiad, a chefnogi'r economi. Fel y dywedais yno, mae'r gallu i storio llawer iawn o ynni yn hanfodol i ynni adnewyddadwy, oherwydd nid yw heulwen a gwynt yn ymddangos ar adegau cyfleus pan fydd angen trydan ar bobl, ond os daw ceir a cherbydau trydan i gymryd lle'r holl geir a cherbydau cyhoeddus confensiynol, byddai cyflenwad y byd o lithiwm, sy'n cael ei ddefnyddio mewn batris, yn dod i ben o fewn oddeutu pum degawd. Nodais hefyd fod yna waith ymchwil yn mynd rhagddo yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd ar fatris ynni adnewyddadwy amgen, ond nid ydynt yn barod ar gyfer y farchnad eto. 

Clywsom hefyd gan y panel arbenigol ein bod yn gweld tystiolaeth fod y newid i gerbydau trydan a mathau eraill o gerbydau allyriadau isel wedi dechrau, ond mae’n digwydd yn llawer arafach yng Nghymru na gweddill y DU, a chaiff ei fesur yn ôl y nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan a'r ddarpariaeth o seilwaith pwyntiau gwefru. 

Clywsom fod rhestr hir o bethau y gallai ac y dylai sefydliadau sector cyhoeddus eu gwneud, gan gynnwys hwyluso rhwydwaith o bwyntiau gwefru ac arwain trwy esiampl, trwy annog mabwysiadu cerbydau trydan yn fflydoedd y sector cyhoeddus a'u cadwyni cyflenwi, gan ddefnyddio'u dylanwad trwy gaffael. Clywsom ei bod yn gwbl hanfodol fod digon o bwyntiau gwefru ar gael yn y lleoliadau cywir i roi hyder i fflydoedd ac unigolion fynd allan a buddsoddi mewn cerbyd trydan, ac y gall y sector cyhoeddus arwain trwy esiampl, fel y nodais. 

Mae fy mab-yng-nghyfraith wedi cymhwyso fel gosodwr mannau gwefru cerbydau trydan, ac yn ddiweddar cyfarfûm â busnesau yn Sir y Fflint sy'n darparu hyfforddiant ac yn eu gosod. Mae pob un yn aros i’r argae chwalu, ond eto dangosodd ystadegau Adran Drafnidiaeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr mai dim ond 60 o fannau gwefru cyflym sydd ar gael yn gyhoeddus ledled Cymru, heb un o gwbl, yn ôl yr hyn a ddywedant, yng Ngwynedd, Conwy, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent neu Dorfaen, a dim ond 1.8 am bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru, o'i gymharu â 3.6 yn Lloegr a 7.5 yn yr Alban. 

Yn ei ddatganiad diweddar ar fetro gogledd Cymru, cyfeiriodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth at y safle parcio a theithio newydd a llwybrau teithio llesol ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy—pethau da; fodd bynnag, deallaf mai dim ond dau fan gwefru dwbl sy'n cael eu gosod ar gyfer 240 o leoedd parcio yn y maes parcio a theithio, a bod hyn hyd yn oed wedi galw am ymyrraeth ar ran y cyngor. Mae'n rhaid inni wneud yn well. 

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi i gyd am y cyfraniadau a wnaed ar y pwnc hwn. Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i drafod mesurau sydd â’r potensial i gyfrannu’n ystyrlon at drawsnewid ein sector trafnidiaeth a’n hamgylchedd, ac sydd wedi ennyn cymaint o gonsensws trawsbleidiol clir. 

Yn amlwg, mae'r mater hwn yn ymwneud â thrafnidiaeth, ond rwy'n ymateb i'r ddadl gan ein bod wedi penderfynu mai rheoliadau adeiladu, sy'n dod o fewn fy mhortffolio i, fydd y modd allweddol o ddarparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn adeiladau newydd, fel y dywedasom yn adroddiad pwyllgor Russell George. 

Mae trydaneiddio trafnidiaeth ffordd yn ganolog i'n cynlluniau i leihau allyriadau carbon, fel y'u nodir yn 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel'. Ceir ar eu pennau eu hunain sydd i gyfrif am bron i 8 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Nid yw allyriadau carbon y sector trafnidiaeth wedi newid fawr ddim ers llinell sylfaen 1990, a gallai ymddangosiad cerbydau trydan leihau hyn yn sylweddol yn ystod y 2020au. Mae gan gerbydau trydan ran allweddol i'w chwarae hefyd yn gwella ansawdd aer yn ein trefi a'n dinasoedd. 

Fel y cydnabu David Melding, bydd adeiladu'r rhwydwaith cynhwysfawr o fannau gwefru sydd eu hangen i gefnogi'r defnydd o gerbydau trydan ar raddfa fawr yn her sylweddol. Mae yna amrywiaeth o systemau gwefru a gwefryddion, ac mae eu hangen ar gyflymder amrywiol ac mewn amrywiaeth o leoliadau cyfleus i bawb allu gwefru. Fodd bynnag, gwefru gartref, i'r rheini sydd â chyfleuster i barcio gartref, fydd y dull mwyaf cyfleus a chosteffeithiol o wefru ceir yn y dyfodol agos. Gall gwefru gartref dros nos helpu hefyd i gydbwyso galw brig ac allfrig am drydan ac felly dylid eu hannog. Mae tua 80 y cant o'r holl wefru ceir trydan a wneir yn digwydd gartref ar hyn o bryd ac rydym yn disgwyl i hynny barhau i fod y dull mwyaf poblogaidd o wefru. 

Yn ddiweddarach eleni, bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyhoeddi strategaeth gwefru cerbydau trydan a fydd yn ein helpu i benderfynu pa gamau sy'n ofynnol i gyflawni'r gofynion ar gyfer gwefryddion yn ystod y pum mlynedd nesaf. Ar y cam cynnar hwn o fabwysiadu cerbydau trydan, rydym yn cydnabod yr angen i annog pobl i’w defnyddio. Rwy'n argymell yn fawr y Zap-Map a nodwyd gan Angela Burns i unrhyw un sydd â cherbyd trydan—mae'n ddefnyddiol iawn ar gyfer gwybod ble y gallwch ddod o hyd i bwynt gwefru. 

Fel y dywedodd Russell George, rydym eisoes wedi cyflwyno gofyniad yn 'Polisi Cynllunio Cymru' i ddatblygiadau amhreswyl newydd fel archfarchnadoedd a gweithleoedd gael pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Ar gyfer adeiladau sy'n bodoli'n barod, rydym wedi cyflwyno hawliau datblygu a ganiateir i alluogi busnesau i osod mannau gwefru cerbydau trydan heb fod angen unrhyw ganiatâd cynllunio. Mae'r mesurau hyn i gyd yn bwysig i fynd i'r afael â phryderon ynghylch pellter teithio cyn ailwefru. Yn amlwg, mae unrhyw un sydd wedi ystyried cael cerbyd trydan yn cyfrif ar unwaith beth yw eu pellter teithio arferol ac a allant gyrraedd yno ac yn ôl heb y mecanwaith gwefru. I'r rhai ohonom sy'n gweithio mewn dau le gwahanol, mae eich gallu i wefru yn y gwaith os yw'r pellter teithio cyn ailwefru yn rhy bell, fel y byddai yn fy achos i er enghraifft, yn fater o bwys. 

16:10

I roi rhywfaint o gyd-destun i chi, Weinidog, os byddaf yn gyrru cerbyd trydan o sir Benfro i Fae Caerdydd ac yn ôl eto, rhaid i mi stopio yn y gwasanaethau ar yr M4 er mwyn ailwefru i barhau fy nhaith adre. Mae ailwefru’n cymryd hanner awr, felly mae'n gwneud yr holl broses yn hwy.  

Rwyf mewn sefyllfa debyg iawn fy hun. A dweud y gwir, un o'r pethau rwyf eto i’w trafod, ond rwy'n siŵr y bydd y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn croesawu hynny, yw a allwn gyflwyno pwyntiau gwefru trydanol yn yr adeilad hwn ar gyfer ceir yr Aelodau. Mae gennym rai ar gyfer ceir y Llywodraeth, ond os gallwn edrych ar ymestyn hynny, credaf y byddai croeso mawr i hynny gan lawer o’r Aelodau'n bersonol. Ond yn amlwg, mae angen yr ysbryd hwnnw arnom i fynd allan i bob math o waith yng Nghymru fel y gall pobl eraill sy'n teithio pellteroedd i’r gwaith neu am ba reswm bynnag wefru dros dro hefyd. 

Fel y dywedaf, nid ydym yn ei gadael hi ar hynny. Rydym eisoes wedi cynllunio rhai o'r pwerau angenrheidiol i wneud y newidiadau ar fannau gwefru cerbydau trydan. Yn ddiweddar, cytunodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau i gyhoeddi papur ymgynghori ar newidiadau i’w gwneud yn ofynnol i gynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pob annedd newydd ac mewn mannau parcio ar gyfer adeiladau amhreswyl. Nodir manylion y cynigion hyn yn fwy manwl yn yr ymgynghoriad. 

I ateb Rhun, rydym wedi bod yn gweithio mewn ymateb i'r cytundeb a wnaethom gyda Phlaid Cymru. Roedd gennym 670 o bwyntiau gwefru ledled Cymru ym mis Ebrill y llynedd ac mae gennym 1,000 ar hyn o bryd, felly mae'n cynyddu rhywfaint, er fy mod yn cytuno y gallem fynd yn gyflymach. 

Disgwyliwn i'r ymgynghoriad ymddangos yn ddiweddarach y gwanwyn hwn. Felly, er fy mod yn cefnogi'r amcan o’i gwneud yn ofynnol i dai newydd gael pwyntiau gwefru cerbydau trydan, nid oes angen Bil gan y byddwn yn datblygu ein cynigion ein hunain i'w gyflwyno yn ein rheoliadau adeiladu y bwriedir ymgynghori arnynt yn fuan iawn ac a fydd yn cynnwys amryw o bethau, a hyn yn un ohonynt. 

Mae Jenny Rathbone yn iawn am y seilwaith gwyrdd a'r pwyntiau cynllunio ar gyfer byw. Mae gennym un neu ddwy o raglenni yn ein prosiect tai arloesol sy'n edrych ar hynny, sef a fydd pobl yn byw mewn datblygiadau lle mae eu car yn rhywle arall. Un o'r problemau a gawsom mewn cynlluniau blaenorol yw na fydd pobl yn defnyddio trefniadau parcio i ffwrdd o'r tŷ oherwydd, yn aml, car yw'r ail beth drutaf y bydd unrhyw un wedi'i brynu, ar ôl eu tŷ, felly maent yn amharod iawn i'w gadw filltiroedd i ffwrdd o ble y maent. Ond rwy'n cytuno bod angen inni edrych ar y seilwaith gwyrdd mewn perthynas â hynny a'r hyn y gellir ei ymgorffori yn hynny. 

Fel y dywedodd Rhun, rwy'n cytuno bod angen ymyrraeth y Llywodraeth arnom mewn marchnad nad yw'n cyflawni'n llwyr, ond nid deddfwriaeth sylfaenol sydd ei hangen arnom o reidrwydd—mae gennym ddulliau deddfwriaethol eraill, gan gynnwys rheoliadau adeiladu a'r trefniadau cynllunio. 

Diolch am ildio. Mae wedi bod yn ddadl gynhyrchiol iawn hyd yn hyn. Rwy'n cytuno â'r Aelodau sydd wedi dweud bod angen i ni, fel y dywedodd y Gweinidog, wella'r seilwaith pwyntiau gwefru’n helaeth—mae'n amlwg fod hynny’n bwysig. O ran y dyfodol, yn Ewrop gwelwyd trefi prototeip lle maent yn edrych ar wefru Wi-Fi, a allai fod yn un ffordd o wefru cerbydau’n barhaus ar hyd y ffyrdd yn y dyfodol. Rwy'n gwybod bod hynny'n bell i ffwrdd yng Nghymru, ac mae'r hyn a wnewch drwy flaenoriaethu'r strwythurau presennol yn iawn, ond a ydych chi'n rhoi unrhyw sylw i ddatblygiadau arloesol yn y dyfodol a allai olygu y bydd rhai o'r problemau hyn yn datrys eu hunain yn y dyfodol? 

Dyna bwynt da iawn. Rydym wedi edrych ar rai rhaglenni arloesol. Gwn fod swyddogion y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, er enghraifft, wedi bod yn edrych i weld a yw'n bosibl cael lonydd gwefru araf ar hyd cefnffyrdd fel bod gennych—nid wyf yn deall y dechnoleg—ryw fath o ddolen anwytho fel bod eich car yn ailwefru os ydych chi'n ei yrru ar x milltir yr awr. Rydym yn edrych ar rai o'r datblygiadau arloesol hynny, ond rwy'n credu eu bod ychydig yn bell i ffwrdd o ran seilwaith cyffredinol, ond serch hynny, mae angen eu cadw mewn cof. 

Y peth arall i'w ddweud—rwy'n credu mai Angela Burns a gododd hyn, ac efallai fod nifer o rai eraill wedi gwneud hynny hefyd—ond mae awdurdodau lleol eisoes yn gallu gosod targedau ynni adnewyddadwy yn eu cynlluniau datblygu lleol yn unol â rheol Merton y cyfeiriodd ati'n benodol, ac mae eraill wedi sôn am wyrddu'r grid. Felly gall awdurdodau lleol wneud hynny eisoes yng Nghymru. Yr hyn a wnawn yn awr, o ran y fframwaith datblygu cenedlaethol a'r trefniadau cynllunio strategol a gyflwynwn drwy'r Bil llywodraeth leol, yw eu hannog i wneud hynny ar lefel strategol, ranbarthol, yn ogystal ag yn eu cynlluniau datblygu lleol. Ond mae ganddynt bŵer i'w wneud yn barod.

Felly, os caf ddweud i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn llwyr gefnogi byrdwn y cynnig hwn i sicrhau bod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael eu gosod ym mhob tŷ newydd, ac mewn adeiladau amhreswyl hefyd. Fodd bynnag, rydym yn ymatal am nad ydym yn credu bod angen deddfwriaeth sylfaenol, dyna i gyd. Rydym yn edrych ar wneud hyn drwy'r llwybr rheoliadau adeiladu yn lle hynny, ac mae hynny'n rhan o'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf ein bod wedi cael dadl ragorol a chafodd pwyntiau perthnasol iawn eu cyflwyno sydd wedi ychwanegu at ei dyfnder, ac wedi ychwanegu awdurdod i'r angen i symud hefyd yn fy marn i, a diolch i'r Gweinidog am ateb yn yr ysbryd hwnnw hefyd.  

Os caf ddweud, rwy'n meddwl, Jenny Rathbone, eich bod chi'n iawn i ddweud bod yna dechnolegau eraill, a hydrogen yw'r un mwyaf tebygol efallai, pan fyddwn ni'n cymharu, ond mae trydan yn llawer mwy datblygedig ac mae heriau eithaf helaeth yn dal i wynebu hydrogen. Ond beth bynnag fydd yn digwydd, rydym am i'r technolegau newydd hyn fod ar gael. Faint o geir? Rwyf innau hefyd yn weddol agnostig ar y defnydd o geir. Hoffwn weld llai o geir yn cael eu prynu a mwy yn cael eu rhannu, ac mae'n debyg y gwelwn dueddiadau cymdeithasol felly. Nid ydym yn adeiladu cymaint â hynny o dai newydd, felly mae'n weddol gyfyngedig, mewn gwirionedd, os ydym yn mynd i gyflwyno'r ddeddf hon. Nid yw fel pe baem yn mynd i fod yn ei gwneud yn ofynnol i bob tŷ ôl-ffitio. Ac rydych chi'n iawn am ynni adnewyddadwy; mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r darlun. Rwy'n credu bod cartŵn yn y Telegraph heddiw—neu mae yn un o'r papurau newydd, beth bynnag—yn dangos pwynt gwefru trydan wedi'i gysylltu wedyn wrth orsaf bŵer fudur yn defnyddio glo, ac mae hynny'n mynd yn groes i'r bwriad yn llwyr.

Angela, rwy'n meddwl bod pwyntiau gwefru gwledig yn wirioneddol bwysig, ac mae'r Zap-Map, sy'n swnio'n fendigedig ac rwy'n siŵr ei fod yn fendigedig, ond mae'n newydd i mi. Ac rydych chi'n hoffi eich car—nid ydych yno gyda Jenny a minnau. Mae'n rhaid inni gofio hyn, fod llawer o bobl yn ystyried ceir yn bethau sy'n rhoi llawer iawn o ryddid iddynt, ac mae Jenny a minnau'n byw mewn ardaloedd trefol iawn gyda llawer o ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau eraill, felly gadewch i ni gofio'r rhai sy'n ddibynnol iawn ar eu ceir.  

Rhun a arweiniodd yr agenda hon ac rwy'n falch o gael yr encôr, mae'n debyg. Fe wnaethoch chi dawelu meddwl Angela fod ceir trydan yn perfformio'n dda hefyd—nid wyf am ddweud 'mynd yn gyflym', a allai annog y peth anghywir, ond beth bynnag, 'perfformio'n dda', gadewch i ni dderbyn yr ymadrodd hwnnw. A'r angen, fel y dywedoch chi, i ddefnyddio grym deddfwriaethol a chynllunio, ac edrych ar yr hyn a wnaeth yr Alban—wyddoch chi, mae'n arf hanfodol.

Russell, eto, mae'r pwyllgor wedi gweithio'n galed yn y maes hwn, ac fe wnaethoch ein hatgoffa am rwymedigaethau newid hinsawdd, ac mae hyn yn rhan allweddol iawn o'u cyflawni.  

Siaradodd Mark am y dechnoleg, ac mae angen inni wella technoleg batri, ac mae'r ddibyniaeth ar lithiwm ar hyn o bryd yn broblematig o bosibl. Ac mae'r diffyg pwyntiau gwefru cyflym yng Nghymru yn rhywbeth sy'n amlwg yn broblem ar hyn o bryd.  

Yna, canolbwyntiodd y Gweinidog ar reoliadau adeiladu a dulliau eilaidd, gan nad oedd angen deddfwriaeth sylfaenol, ac rwy'n croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth yn y maes hwn yn gynnes iawn, strategaeth y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ei llunio. Rwy'n nodi'n gwrtais mai cynnig i nodi yw hwn—nid yw'n dweud y dylai Bil gael ei gyflwyno—felly rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i chi ei wrthwynebu, gan nad yw'n eich ymrwymo, yn ôl fy nealltwriaeth i o'r cynnig beth bynnag; nid yw ond yn nodi bod y cynnig hwn wedi'i wneud, ac rydych chi'n amlwg wedi nodi eich amheuon beth bynnag. Felly, gobeithio y gall basio drwy gymeradwyaeth, fel petai.  

Diolch, Ddirprwy Lywydd.  

Diolch, a'r cwestiwn yw a ddylem nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?

Mae arnaf ofn fy mod yn gwrthwynebu; mae angen inni ymatal.

16:20

O'r gorau. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Fframweithiau polisi cyffredin: gwaith craffu gan y Cynulliad
8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Rebecca Evans, and amendments 2, 4 and 5 in the name of Darren Millar. 

Felly, symudwn at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar lygredd aer. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7264 Siân Gwenllian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 1. Yn credu bod llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus, sy’n cyfrannu at amcangyfrif o 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru.

2. Yn nodi nad yw ardaloedd mawr o Gymru yn monitro ansawdd aer.

3. Yn galw am ddeddf aer glân i Gymru, a fyddai’n cynnwys mesurau i:

a) rhoi’r hawl i gymunedau gael offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai;

b) creu seilwaith a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd lle bo hynny’n briodol;

c) diwygio’r broses gynllunio i’w gwneud yn ofynnol i effaith datblygiad ar lygredd aer gael mwy o bwys yn y system gynllunio;

d) cyflymu’r broses o drawsnewid i system drafnidiaeth drydan fel bod ceir petrol a disel yn cael eu diddymu’n raddol erbyn 2030.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o allu agor y ddadl yma am fater pwysig iawn, iawn o ran iechyd y cyhoedd a phwysig iawn o ran yr amgylchedd hefyd, sef llygredd awyr. Mae'r dystiolaeth yn glir iawn. Dwi'n credu bod hon yn broblem sylweddol tu hwnt. Mi fydd llygredd awyr yn lladd 2,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru—meddyliwch am hynny.

Gall dod i gysylltiad â llygredd aer amgylchynol yn y tymor byr a’r tymor hir arwain at lu o gyflyrau—llai o weithrediad yr ysgyfaint; heintiau anadlol; asthma gwaethygol i enwi dim ond tri. Mae perthynas rhwng cysylltiad y fam â llygredd aer amgylchynol a chanlyniadau geni niweidiol, pwysau geni isel, er enghraifft, geni cyn amser, genedigaethau bach o ystyried oed y ffetws. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg hefyd yn awgrymu y gallai llygredd aer amgylchynol effeithio ar ddiabetes a datblygiad niwrolegol mewn plant. Mae’n achosi llawer o ganserau, ac mae cysylltiad rhwng rhai llygryddion aer â chyflyrau seiciatryddol. Mae llygredd aer yn effeithio'n anghymesur ar bobl mewn ardaloedd difreintiedig, ac yn anffodus, mae'r ymatebion polisi yn aml wedi awgrymu nad yw hyn wedi’i ddeall. Rydym yn dal i aros am Ddeddf aer glân. Nid wyf yn siŵr ar hyn o bryd a yw'r Llywodraeth yn bwriadu cyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog yn ei ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth i gael Deddf o'r fath.

Mae'r geiriad a ddefnyddir gan y Llywodraeth yng ngwelliannau 1 a 3 o'n blaenau y prynhawn yma yn destun siom i ni. Nid oes gan y mwyafrif o Gymru systemau monitro ansawdd aer ar waith, ac mae’n hysbys iawn fod y modelau a ddefnyddir yn anfanwl. Nododd dyfyniad gan yr Athro Paul Lewis, athro uchel ei barch ym Mhrifysgol Abertawe, nad oes unrhyw fanylion yn y cynllun aer glân o gwbl ynglŷn â beth fyddai rhwydwaith monitro llygredd aer cenedlaethol yn ei wneud, ac efallai na fyddai’n arwain at unrhyw gynnydd sylweddol mewn monitro mewn gwirionedd: yn hytrach na buddsoddi mewn technoleg, mae’n debygol mai dim ond gweithio gyda'r cwmni modelu i wella'r modelau a wnânt—modelau sydd â chyfradd camgymeriad o 30 y cant ar hyn o bryd—i ragfynegi lefelau llygredd aer ledled Cymru. 

Bydd fy nghyd-Aelodau’n ymhelaethu ymhellach ynglŷn â pham ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn credu bod yr ymateb presennol yn gwbl annigonol, ac rwy'n meiddio dweud, yn hunanfodlon. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr ger ein bron heddiw gan y credwn eu bod yn ychwanegu at y cynnig, ac maent yn adeiladol. 

Ond wrth gwrs, nid yw hon yn broblem sydd wedi'i chyfyngu i Gymru mewn unrhyw ffordd. Rydym yn sôn am broblem fyd-eang. Gallem nodi, er enghraifft, y bydd dros 1.5 miliwn o bobl—1.5 miliwn o bobl—yn marw bob blwyddyn yn Tsieina oherwydd llygredd aer, ac ymddengys bod hyn, rywsut, yn cael ei ystyried yn normal, yn anochel efallai. Gadewch inni gyferbynnu hynny â'r mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith yn hollol briodol i liniaru lledaeniad Coronafirws. Yn yr achos hwn, mae buddiannau diwydiant, yr economi, yn eilradd, yn hollol briodol, i'r flaenoriaeth o gyfyngu ar y bygythiad real iawn i iechyd y cyhoedd. Ond o ran problemau amgylcheddol sy'n fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd—y newid yn yr hinsawdd yw'r un mawr amlwg yma—ac mae graddau’r methiant i weithredu yn siarad cyfrolau. 

Y pwynt yw: gadewch inni ddychmygu pe baem yn ystyried bod llygredd yn fygythiad llawn mor ddifrifol â firws. Rwy’n credu y byddem yn datrys y broblem bron dros nos. Ond yn lle hynny, nid ydym yn gweld y newid diwylliant sydd ei angen arnom mewn nifer o feysydd—yn y system gynllunio, mewn prosesau cyllidebu ac agweddau ehangach o fewn y Llywodraeth—sy'n awgrymu ein bod lawn mor o ddifrif ynglŷn â hyn ag y dylem fod. Mae'n dal i ymddangos yn rhy aml fel pe bai gwrthdaro rhwng adrannau economi, dyweder, a phawb arall, sy'n ystyried llygredd yn gam angenrheidiol o dwf economaidd, rywsut. Yn sicr, os nad ydym ar ben draw'r ffordd honno o feddwl, rydym yn prysur agosáu ato.

Fe ddof i ben gyda'r dyfyniad hwn o adroddiad diweddar yn y Lancet ar lygredd:

Profwyd bod yr honiad fod rheoli llygredd yn llesteirio twf economaidd... yn anghywir dro ar ôl tro.

Mewn gwirionedd mae llygredd yn costio i'r economi mewn cynhyrchiant a gollir a gwariant ar ganlyniadau hynny. Yn anffodus, mae'r diwydiannau sy'n gyfrifol am lygredd hefyd yn effeithiol iawn gyda'u cysylltiadau cyhoeddus, gan lobïo a dwyn pwysau ar y cyfryngau i greu'r argraff fod rheoli llygredd yn ddrwg i dwf. Ond mae astudiaethau o effaith rheoliadau aer glân yn yr Unol Daleithiau'n awgrymu fel arall.

Yn y bôn, rydym yn gwybod, onid ydym, fod yn rhaid i ni newid. Rydym yn gwybod, does bosibl, Lywodraeth Cymru, fod yn rhaid gweithredu a bod angen Deddf arnom. Does bosibl nad yw'n bryd bellach inni roi'r gorau i'n caethiwed i aer gwael.

16:25

Diolch. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn ffurfiol yn enw Rebecca Evans?

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw am rwydwaith cenedlaethol newydd ar gyfer monitro llygredd aer sy’n cyd-fynd â gallu presennol Cymru i fonitro.

Gwelliant 3—Rebecca Evans

Ym mhwynt 3, dileu 'a fyddai’n cynnwys mesurau i:' a rhoi yn ei le 'ac i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gymryd camau pendant i atgyfnerthu pob mesur, gan ddefnyddio deddfwriaeth lle y bo angen, er mwyn:'.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.

Yn ffurfiol.

Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 2, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi ymhellach fod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad yw effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael wedi eu deall yn llawn eto.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwyntiau newydd cyn is-bwynt (a) ac ailrifo yn unol â hynny:

'ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd;

mandadu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth statudol ar ansawdd aer bob pum mlynedd; '

Gwelliant 5—Darren Millar

Ym mhwynt 3(a), cynnwys ', a chyflwyno "hawl i anadlu"' ar ôl 'ysbytai '.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 4 a 5.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y gwelliannau'n ffurfiol yn enw Darren Millar—gwelliant 2, gwelliant 4 a gwelliant 5 ar y papur trefn y prynhawn yma.

Mae'n teimlo braidd fel pe baem wedi bod yma o'r blaen. Ym mis Medi, cawsom ddadl ar awyr lân o'r ochr hon i'r Siambr, ac rwy'n ategu teimladau'r sawl a agorodd y ddadl yn llwyr pan ddywedodd, pe bai hon yn unrhyw fath arall o broblem byddai ewyllys genedlaethol i'w datrys. Gwyddom fod bron i 2,000 o bobl yn marw'n gynamserol, ac yn y ddadl honno, gwneuthum yr union bwynt hwn: pe bai rhywun yn dod i mewn ac yn lobïo'r Siambr hon, a'r Aelodau yn y Siambr hon, i ddweud bod 2,000 o bobl yng Nghymru yn marw'n gynamserol a bod y gallu gennym i ddatrys y broblem hon, neu'n sicr i leihau'n sylweddol y nifer o bobl sy'n marw'n gynamserol, byddai gwleidyddion o bob lliw yn gwneud eu gorau glas i sicrhau ein bod yn defnyddio'r gallu hwnnw i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r mater.

Mae'n siomedig fod ymrwymiad y Prif Weinidog yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth i gyflwyno Bil aer glân bellach wedi disgyn oddi ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer y Cynulliad hwn. Rwy'n siŵr y bydd i'w weld mewn maniffestos ar gyfer 2021, ond unwaith eto, buaswn yn awgrymu ei bod yn ddeddfwriaeth a fyddai'n cael cefnogaeth eang ar draws y Siambr ac ni fyddai'n cael ei llesteirio gan ryfel gwleidyddiaeth bleidiol efallai neu rai o'r rhwystrau sy'n amlwg yn atal deddfwriaeth rhag pasio'n ddilyffethair drwy'r sefydliad hwn. A gydag ewyllys da Aelodau ar bob ochr i'r Siambr, rwy'n credu y gallai deddfwriaeth fod ar y llyfr statud erbyn i'r Cynulliad hwn gael ei ddiddymu tuag at ddiwedd mis Mawrth. Felly, unwaith eto, hoffwn annog y Gweinidog i weithio gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ac estyn allan ar draws y Siambr i gyflwyno'r newidiadau deddfwriaethol a fydd, fel y deallaf o ddadleuon blaenorol, a'r ddadl hon mae'n siŵr, yn ailadrodd y consensws sy'n bodoli o gwmpas y Siambr.

Ac rwy'n credu bod hawl gan bobl i gael aer glân i'w anadlu o ddydd i ddydd. Cofiaf yn iawn, yn y ddadl ym mis Medi, fy nghyd-Aelod Nick Ramsay ar yr ochr yma, yn tynnu sylw at un o'i etholwyr—Mrs Barnard oedd enw'r wraig rwy'n credu—a oedd yn y bôn yn mygu i farwolaeth oherwydd, yn amlwg, roedd ganddi gyflwr ar yr ysgyfaint a gâi ei waethygu gan ansawdd aer gwael. A allwch chi ddychmygu gwylio rhywun annwyl i chi yn araf ond yn sicr yn ymladd am aer, ei hanadliadau olaf, ac yn marw yn y pen draw, a chithau'n gwybod y gellid gwneud gwelliannau i wella ansawdd y bywyd y bydd yr unigolyn hwnnw'n ei fyw? Dyna'r canlyniadau dynol go iawn sy'n digwydd yn ein cymdeithas heddiw, a lle'r Llywodraeth yw cyflwyno'r cynigion a allai wneud gwahaniaeth mawr mewn gwirionedd. Felly, dyna pam, yng ngwelliant 2, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn tynnu sylw at y cyflyrau sy'n cael eu gwaethygu gan ansawdd aer gwael, fel asthma, fel canser yr ysgyfaint, ac effeithiau hirdymor eraill ar iechyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant yn cael cefnogaeth y Siambr y prynhawn yma.

Buaswn yn awgrymu ei bod hi hefyd yn bwysig, pan fyddwn yn gosod safonau, fel yr amlygwn yng ngwelliant 4, yn lle bodloni ar y safonau sydd gennym ar hyn o bryd—yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae safonau Llywodraeth Cymru'n seiliedig ar safonau Ewropeaidd—ein bod yn anelu tuag at safonau Sefydliad Iechyd y Byd yn y maes penodol hwn, oherwydd mae hynny'n gosod y safon aur ar gyfer ble mae angen inni fod. Mae Llywodraethau eraill ledled y DU wedi cytuno mai dyna'r safon y maent yn mesur eu hunain wrthi, a buaswn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru am gael ei mesur yn ôl yr un safon hefyd. A'r unffurfiaeth—fel yr amlygodd y sawl a agorodd y ddadl, nid problem leol yma yng Nghymru'n unig yw hon—er bod gennym rai o'r problemau mwyaf cronig o ran cyflwr yr aer yma—ond ar draws y byd i gyd, ac yn wir, ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Ac felly, unwaith eto, buaswn yn gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth a phleidiau eraill yn cefnogi gwelliant 4 sydd yn enw Darren Millar ac sy'n galw ar y Llywodraeth i fabwysiadu canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd.

Yna, gwelliant 5, sy'n sôn am yr hawl i anadlu. Hawl i anadlu aer glân ydyw. Gwelaf Dai Lloyd yn y fan acw yn y Siambr ac rwy'n gweld y darllenfwrdd sydd ganddo o'i flaen; mae'n siŵr ei fod yn mynd i gyfrannu at y ddadl hon, ac rwy'n parchu'r gwaith y mae wedi'i wneud yn y grŵp hollbleidiol y mae'n ei gadeirio ar y pwnc penodol hwn. Tynnodd sylw at y ffaith ei bod hi'n cael ei hystyried yn iawn 150 o flynyddoedd yn ôl i bobl yfed dŵr brwnt a bod y canlyniadau iechyd a ddeuai yn sgil hynny yn dderbyniol mewn cymdeithas fel y cyfryw. Pan ddaeth ein rhagflaenwyr at ei gilydd i weithredu drwy lanhau'r systemau dŵr yn y wlad hon, gwellodd iechyd y cyhoedd yn ddramatig. Roedd ein hynafiaid 150 o flynyddoedd yn ôl yn ystyried bod angen gwneud newidiadau o'r fath. Wel, heddiw—yn anffodus, rydym wedi gorfod aros 150 mlynedd—gallwn wneud y newidiadau i ansawdd aer yma yng Nghymru a fydd yn gweld y newid seismig yn ansawdd y bywyd y bydd llawer o bobl yn ei fwynhau ar hyd a lled Cymru.

Ac felly, wrth gynnig y gwelliannau hyn, rwy'n gobeithio y byddant yn cyfrannu at y cynnig cyffredinol sydd ger ein bron y prynhawn yma. Ac rwy'n gobeithio, fel llawer o gynigion o'r blaen, y caiff y cynnig hwn ei gefnogi gan y Cynulliad ac y cawn weld gweithredu go iawn gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, gweithredu y buaswn yn awgrymu y bydd yn ennyn cefnogaeth ar draws y Siambr. Ni allwn sefyll yn ein hunfan a chaniatáu i 2,000 o bobl eraill farw'n gynamserol bob blwyddyn. Dyna pam y byddwn yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma.

16:30

Hoffwn sôn am y cyfeiriadau a glywsom at y 2,000 o bobl sy'n marw'n gynamserol oherwydd llygredd aer. Wrth gwrs, nid yw hynny'n cyfrif yn ogystal y miloedd lawer sy'n dioddef afiechydon o ganlyniad i lygredd yn yr aer. Nid yw graddau'r profiadau hynny'n cael eu hadlewyrchu yn yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, sy'n deimlad sydd eisoes wedi'i fynegi ac un rwyf am ei gefnogi.

Yn ôl ym mis Mai 2017, gwelsom sut y ceisiodd Plaid Cymru ddiwygio Bil iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru i gydnabod llygredd aer fel problem iechyd cyhoeddus. Yn anffodus, pleidleisiodd Llafur yn erbyn y gwelliannau hynny. Yn ôl ym mis Ionawr 2018, cyfaddefodd Llywodraeth Cymru mewn achos yn yr Uchel Lys a ddygwyd gerbron gan Client Earth ei bod wedi methu cyrraedd targedau'r UE i leihau llygredd aer, ac roedd rhwymedigaeth gyfreithiol arni i ddrafftio cynllun aer glân erbyn diwedd Ebrill ac i gael cynllun terfynol ar waith erbyn diwedd Gorffennaf 2018. Bu'n rhaid iddi ofyn am estyniad i wneud hynny.

Rwy'n dal i deimlo nad ydym wedi gweld newid sylweddol yn agwedd Llywodraeth Cymru a ddynodai ei bod yn barod i fynd i'r afael â hyn a'i ddatrys. Ers hynny, rydym wedi gweld y Llywodraeth o hyd—. Mae'n teimlo fel pe bai'r Llywodraeth yn methu penderfynu ai Deddf aer glân neu gynllun aer glân a fydd ganddi. Yn sicr, teimlaf fod y Llywodraeth wedi methu creu a chyflwyno mesurau cadarn i roi camau go iawn ar waith.

Ym mis Rhagfyr, cafwyd datganiad am aer glân, ac ymddangosai fel pe bai'n cadarnhau ymrwymiad i Ddeddf aer glân. Fodd bynnag, nid oedd y datganiad ond yn ymrwymo i ymgynghoriad 12 wythnos a chyhoeddi'r canfyddiadau wedyn cyn diwedd y Cynulliad hwn. Wel, nid oes llawer o ôl brys yno, ac mae'n teimlo fel pe bai'r broblem yn cael ei rhoi i'r naill ochr.

Nawr, os ydych am gael enghraifft bendant o pam y mae angen Deddf aer glân i amddiffyn cymunedau ac iechyd pobl, nid oes angen edrych ymhellach na'r Waun. Mae'n ardal y gwn fod y Gweinidog yn gyfarwydd â hi. Tref fechan ger Wrecsam yw hi, cartref i gwmni gweithgynhyrchu sglodion pren mawr, Kronospan, lle bu tân yn ei iard foncyffion yn ddiweddar. Dyma'r ail dân ar bymtheg mewn 18 o flynyddoedd, er bod y bobl leol yn dweud wrthyf fod mwy o ddigwyddiadau rheolaidd na hynny hyd yn oed. Nawr, oherwydd diffyg monitro llygredd aer, cymerodd 48 awr i breswylwyr sy'n byw ar draws y ffordd i'r gwaith a oedd ar dân gael eu cynghori i gau eu drysau a'u ffenestri. Cymerodd 48 awr i gynghori plant yn yr ysgol ar draws y ffordd i beidio â chwarae yn yr iard. A chymerodd 48 awr i gael offer monitro yno o Abertawe i asesu ansawdd yr aer.

Nawr, dyma gymuned sydd wedi cael mwy na'i siâr o ddigwyddiadau o'r fath ac a dweud y gwir, maent wedi cael digon. Maent wedi cael digon, ac maent yn cynnal piced wythnosol yn y ffatri erbyn hyn ac yn awyddus i weld gweithredu. Ond wrth gwrs, ni fyddant yn ei gael gan y Llywodraeth hon, oherwydd dywedodd y Gweinidog wrthyf yr wythnos diwethaf nad oedd hi'n meddwl bod angen ymchwiliad annibynnol; hyn, er gwaethaf tystiolaeth fod fformaldehyd yn yr aer, a gafodd ei fonitro yn y diwedd 48 awr ar ôl i'r adeg yr oedd y tân ar ei waethaf, a gwyddom am beryglon carsinogenaidd mwg pren gwlyb yn ogystal. I fod yn glir, nid tân bach oedd hwn. Roeddem yn sôn yma am 7,000 o dunelli o bren a ddinistriwyd yn y tân.

Felly, dyna pam y mae angen Deddf aer glân: i orfodi Llywodraethau hunanfodlon i weithredu yn hytrach na golchi eu dwylo o gyfrifoldeb. Byddai Deddf aer glân fel yr un a argymhellir gan Blaid Cymru yn galluogi trigolion y Waun a mannau eraill i gael ansawdd aer wedi'i fonitro'n barhaol ger ysgolion ac ysbytai. Mae ysbytai ac ysgolion y Waun o fewn tafliad carreg i waith Kronospan. Byddai'r Ddeddf aer glân hefyd yn rhoi pwerau ychwanegol i gynghorau wrthod caniatâd cynllunio pe bai'n golygu cyfaddawdu ar ansawdd yr aer. Cafodd cynghorwyr eu llyffetheirio wrth i gais cynllunio ar ôl cais cynllunio ddod ger eu bron.

I bobl y Waun a'r cyffiniau, nid syniad haniaethol yw Deddf aer glân, mae'n ddeddfwriaeth hanfodol i amddiffyn eu plant a chenedlaethau'r dyfodol. Ac os yw'r Llywodraeth hon am wneud mwy nag esgus cefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol, bydd yn sicrhau bod y Senedd hon yn gosod Deddf aer glân Plaid Cymru ar y llyfr statud cyn gynted ag y bo modd.

16:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n credu bod galw cynyddol am Ddeddf aer glân gan fod mwy o bobl yn ymwybodol o'r niwed y maent yn ei wneud i'w hysgyfaint, ac yn enwedig i fywydau eu plant. Mae un o'r meithrinfeydd yn fy etholaeth i yn sefydliad rhagorol ym mhob agwedd, sefydliad sy'n canolbwyntio ar y plentyn unigol, heblaw'r ffaith ei bod wedi'i lleoli mewn ardal lle mae'r aer wedi'i lygru i raddau sy'n beryglus. Mae gan hanner y plant broblemau resbiradol, a dyna pam y buaswn yn ei chael yn anodd iawn yn foesol i argymell y feithrinfa honno i unrhyw un, am fy mod yn gwybod beth y mae'n ei wneud i ysgyfaint y plant hynny. Mae'n rhywbeth sydd y tu hwnt i allu darparwyr y feithrinfa i'w newid, gan nad oes ganddynt adnoddau i symud.

Ond mae'n eironig fod yna ysgol gynradd y drws nesaf i'r feithrinfa lle mae rhieni'n mynnu codi eu plant yn y car, am fod ganddynt hawl i wneud hynny, ac maent yn ychwanegu at broblem sydd eisoes yn annerbyniol. Rwy'n gweld nad yn yr ardal benodol honno'n unig y mae'n digwydd. Mewn ardaloedd eraill lle ceir lefelau uchel iawn o lygredd, lle ceir ysgolion, mae rhieni'n mynnu mynd â'u plant at giât yr ysgol. Yn syml, maent yn gwadu'r ffaith eich bod yn peri i'ch plentyn ddod i gysylltiad â mwy o lygredd drwy eu danfon i'r ysgol mewn car nag y byddech pe baech yn cerdded ar hyd y ffordd neu'n mynd ar sgwter neu'n beicio. Sawl gwaith y mae'n rhaid inni ailadrodd hyn? Rydych chi'n peryglu iechyd eich plentyn drwy wneud hyn.

Rwy'n falch iawn o weld bod y gwelliannau a gynigiwyd gan y Llywodraeth yn cryfhau'r cynnig. Credaf ei fod yn dangos lefel yr ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth i weithredu ar hyn, oherwydd ni allwn barhau fel hyn. Rwyf am ofyn un peth mewn perthynas â chludo plant i'r ysgol, sef bod gwir angen creu parthau gwahardd cerbydau o amgylch ein hysgolion, (a) er mwyn gorfodi pobl i ddysgu sut i gerdded eto, a (b) er mwyn sicrhau nad yw llygredd cerbydau yn mynd i mewn i'r iard chwarae lle mae'r plant yn chwarae yn ystod eu hamser egwyl. Credaf fod hynny'n bendant yn rhywbeth y gallem ei wneud.

Ac yn ychwanegol at hynny, fel yr awgryma'r cynnig, dylem gael cyfarpar monitro llygredd y tu allan i bob ysgol ac ysbyty er mwyn inni wybod faint yn union o lygredd y mae pobl yn agored iddo yn y mannau y mae'n rhaid mynd iddynt. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig ac rwy'n cefnogi'r teimlad sy'n sail iddo yn fawr.

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Rwy'n ddiolchgar i chi, Jenny, am gymryd yr ymyriad. Fe dynnoch chi sylw at barthau gwahardd ceir o amgylch ysgolion. Rydym yn canolbwyntio ar yr injan tanio mewnol, ond rydych chi a minnau wedi clywed tystiolaeth yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch deunydd gronynnol o deiars a sylweddau eraill, padiau brêc hefyd, sy'n 40 y cant o'r gronynnau a anadlwn. Felly, nid yw'n fater o ganolbwyntio'n unig ar yr injan tanio mewnol, y gellir ei oresgyn gan geir trydan; mae'n fater o edrych ar holl symud pobl o le i le, fel rydych chi'n ei nodi heddiw.

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, a dyna un o'r amheuon sydd gennyf ynglŷn â'r ffocws ar wefru cerbydau trydan, oherwydd mae cerbydau trydan yn dal i fod â breciau a theiars, ac maent yn mynd i ddal i allyrru mater gronynnol.

A wnewch chi dderbyn ymyriad byr? Buaswn i'n gwneud y pwynt fod cerbydau trydan sy'n defnyddio'r pŵer o'r cerbyd sy'n symud i wefru'r batri—ac wrth wneud hynny, yn arafu'r car yn drydanol, os mynnwch—yn llawer gwell na cherbydau presennol o ran yr allyriadau o badiau brêc a welwn ar hyn o bryd.

Ni fuaswn yn anghytuno â hynny, ond rwy'n dal i feddwl bod yn rhaid i chi ystyried y ffaith nad yw cerbydau trydan yn niwtral o ran carbon. Maent yn rhan o'r ateb yn fwy na rhan o'r broblem.

Ond rwy'n credu o ddifrif fod yn rhaid inni barhau i drafod y mater hwn er mwyn sicrhau ei fod yn uwch ar yr agenda, oherwydd nid yw'n gadael ei farc yn ddigonol ar hyn o bryd yn ymwybyddiaeth pobl fod yn rhaid inni newid y ffordd y byddwn yn gwneud pethau. Felly, yn sicr mae angen inni roi llawer mwy o sylw i'r mater hwn, oherwydd pe bai gennym gynifer o bobl yn marw ar y ffyrdd ag sydd o fywydau'n cael eu byrhau gan lygredd aer, byddai gennym lawer mwy o bobl yn mynnu newid.

16:40

Beth sy'n fwy sylfaenol na'r aer a anadlwn? Mae'n rhywbeth y dylem allu ei gymryd yn ganiataol fel hawl ddynol, ac mae'r ffaith bod yn rhaid inni gael y ddadl hon heddiw, mae arnaf ofn, yn gondemniad damniol o gyflawniad y Llywodraeth. Er mwyn byw'n iach, gwyddom y dylai pawb allu cael mynediad at ddŵr yfed glân heb ei lygru a bwyd maethlon nad yw wedi'i wenwyno. Hyd yn oed wedyn, gall bodau dynol fyw am wythnosau heb fwyd, a heb ddŵr am ddyddiau, ond mae'n anodd iawn mynd am fwy nag ychydig funudau heb anadlu, a dylai'r aer fod yn lân. Felly mae'n warthus—mae'n gwbl warthus—heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain, fel y clywsom eisoes, fod llygredd aer yn cyfrannu at oddeutu 2,000 o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru, sy'n cyfateb i tua 6 y cant o'r holl farwolaethau.  

Mae'n syfrdanol fod un o'r gwrthbleidiau yn gorfod galw dadl yn ein Senedd i erfyn ar ein Llywodraeth—Llywodraeth sy'n ymfalchïo ac yn galw ei hun yn flaengar a gofalgar mewn sawl ffordd—i weithredu er mwyn caniatáu'r hawl ddynol hon i aer glân i'n dinasyddion. Mae'r effaith ofnadwy a gaiff llygredd aer ar iechyd plant yn arbennig yn dorcalonnus, a chlywsom rywfaint o hyn eisoes. Nid yw'n iawn fod rhai plant yn cael eu geni eisoes yn dioddef o effeithiau llygredd aer ar ôl cael eu gwenwyno yn y groth i bob pwrpas. Yn ôl Joseph Carter, pennaeth Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghymru, mae llygredd aer yn niweidiol iawn i'r ysgyfaint sy'n datblygu mewn plant a fegir yng Nghymru. Nid yw hwnnw'n waddol y dylem ei dderbyn. Rwy'n cytuno â Mr Carter pan ddywed fod angen gweithredu yn awr, oherwydd mae'n amlwg nad yw'r system bresennol yn gweithio neu ni fyddem yn cael y ddadl hon.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyndyn o fabwysiadu rôl arweiniol, ac mae hynny'n gadael i awdurdodau lleol reoli hyn, gan arwain at ganlyniadau anghyson. Mae'r ffordd fwyaf llygredig yn y DU y tu allan i Lundain yn fy rhanbarth i, yn Hafodyrynys. Nawr, er iddo basio cynnig aer glân a gyflwynwyd gan Blaid Cymru gyda chefnogaeth drawsbleidiol, mae'r awdurdod lleol wedi methu gweithredu'n bendant, gan ddadlau y byddai gwneud hynny'n rhy gostus mewn cyfnod o gyni. Roedd y sefyllfa mor ddrwg yn y diwedd fel mai'r unig beth y gellid ei wneud oedd prynu'r tai i gyd ar y ffordd honno er mwyn eu dymchwel.  

Cafwyd enghraifft arall yr haf diwethaf pan gymeradwyodd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddatblygiad tai wrth ymyl ardal rheoli ansawdd aer, lle dadleuodd y swyddogion cynllunio fod eu cynllun datblygu lleol ar gyfer 2013 yn dwyn mwy o bwysau cyfreithiol na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nawr, hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw diben cael deddfwriaeth sy'n arwain y byd y gall swyddogion cynllunio lleol ei hanwybyddu. Ar hyn o bryd, mae datblygiad tai dan ystyriaeth gan yr un cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i ffordd newydd rwygo drwy goetir lleol; datblygiad a gafodd ei werthu gan swyddogion i'r pwyllgor perthnasol fel prosiect gwyrdd sy'n bodloni safonau teithio llesol. Felly dyna lle rydym ni arni ar hyn o bryd. Hyd y gwn i, unwaith yn unig y mae Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd er mwyn gosod rheolaeth ganolog ar lygredd aer, a hynny yn ardal rheoli ansawdd aer Castell-nedd Port Talbot. Mae hynny wedi arwain at leihau llygryddion gronynnau niweidiol. Ond yn amlwg, cam bach yn unig yw un ymyrraeth pan fo angen newid sylfaenol ym mhob rhan o Gymru.

Felly beth ddylai ddigwydd? Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau pendant ar waith yn hyn o beth, yn hytrach na chael mwy o ymgynghoriadau. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei strategaeth aer glân bum mlynedd yn ôl, ac eto, yma yng Nghymru mae'r Llywodraeth Lafur ar ei hôl hi. Darllenais ddatganiad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ym mis Rhagfyr yn addo ymgynghoriad arall, ac mae arnaf ofn fod y diffyg uchelgais yn amlwg iawn. Mae'r ymgynghoriad yn sôn am ystyried canllawiau aer glân Sefydliad Iechyd y Byd, yn hytrach na mynd ati i'w gweithredu. Mae'n gosod uchelgeisiau amgylcheddol islaw twf economaidd. Does bosibl nad yw adeiladu economi lwyddiannus a lleihau llygredd aer yn nodau a all gydfodoli. Fel y clywsom eisoes, bydd economegwyr yn dweud wrthym fod llygredd yn costio i'r economi drwy lesteirio twf a cholli cynhyrchiant, heb sôn am y canlyniadau i iechyd y cyhoedd.  

Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth aer glân yn ystod y tymor hwn, unwaith eto, fel yr addawodd y Prif Weinidog ei wneud yn ei faniffesto ar gyfer yr arweinyddiaeth. Mae'n bryd inni gael gweithredoedd, nid geiriau, a dylem ddefnyddio'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn fwy effeithiol. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gyfrwng delfrydol ar gyfer gosod nodau cenedlaethol uchelgeisiol ag iddynt sylfaen statudol.

Gwyddom mai trafnidiaeth ar y ffyrdd yw'r elfen sy'n llygru fwyaf, felly gadewch inni weld cynllun trafnidiaeth werdd cenedlaethol cynhwysfawr ac uchelgeisiol sy'n defnyddio cerbydau trydan neu hybrid fel y gallwn weld gostyngiad yn lefel y llygryddion yn ein haer cyn diwedd tymor y Senedd hon. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru heddiw i wneud mwy na phasio'r cynnig hwn a pharhau â busnes fel arfer. Gwrandewch ar eiriau Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghymru: mae angen gweithredu yn awr.

16:45

Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, gan fod ansawdd aer gwael yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Yr wythnos diwethaf, siaradodd y cyfryngau am gerbydau trydan a pheidio â gwerthu ceir petrol ar ôl 2035. Er ein bod oll yn croesawu'r symudiad hwn, rhaid inni sicrhau bod y seilwaith yn iawn, fod ceir yn fforddiadwy a bod cymhellion megis cynlluniau sgrapio yn mynd i gael eu cynnig i bobl yn y gobaith y byddant yn newid yn gynt, gan fod pobl 21 gwaith yn fwy tebygol o farw o farwolaethau llygredd ffyrdd na damweiniau traffig ar y ffyrdd.

Gan rannau o'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, sef Gorllewin De Cymru, y ceir peth o'r aer mwyaf brwnt yn y DU. Mae PM10 yn aml yn llawer uwch na'r terfyn dyddiol diogel, ac mae ysgolion yn fy rhanbarth wedi cael sawl diwrnod pan oedd ddwywaith cymaint â'r terfyn dyddiol diogel, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'r grŵp Awyr Iach Cymru yn galw am ymgorffori canllawiau newydd Sefydliad Iechyd y Byd mewn deddfwriaeth cyn gynted â phosibl. Canfu Coleg y Brenin Llundain hefyd y gall torri un rhan o bump oddi ar lygredd aer yn ninasoedd mwyaf llygredig y DU leihau nifer yr achosion o gyflyrau'r ysgyfaint rhwng 5 a 7 y cant.

Achosir y rhan fwyaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gan lefelau cyfreithiol o lygredd aer. Does bosibl na ddylem ei gwneud yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol. Mae Coleg y Brenin Llundain hefyd wedi canfod, yn achos plant sy'n byw'n agos at ffordd brysur, fod llygredd aer yn gallu cyfyngu cymaint â 14 y cant ar dyfiant yr ysgyfaint. A gall byw'n agos at ffordd brysur gynyddu'r perygl o ddatblygu canser yr ysgyfaint gymaint â 10 y cant.

Yng Nghymru, mae 314,000 o bobl—un o bob deg—yn cael triniaeth ar gyfer asthma ar hyn o bryd. Mae'r canllawiau presennol ar lygredd yn annigonol, gyda 19 y cant o'r holl achosion o asthma mewn plant yn y DU yn gysylltiedig â llygredd aer. Llygryddion aer sydd i'w beio am farwolaethau o leiaf bump o bobl y dydd yng Nghymru, a'r cyfrannwr mwyaf yw trafnidiaeth.

Roedd Llywodraeth Lafur y DU yn cymell newid i geir diesel. Oherwydd hyn, mae faint o ronynnau a nitrogen deuocsid sydd yn ein hatmosffer wedi cynyddu'n ddramatig. Oherwydd hyn hefyd, prynodd llawer o bobl geir diesel gan gredu eu bod yn well, a chael eu cosbi'n ddiweddarach gan drethi ffyrdd uwch, gyda phobl yn methu newid oherwydd cost cerbydau trydan ar hyn o bryd—rhaid edrych ar hyn. Felly, rhaid cael cymhellion i bobl newid, cymhellion ariannol. Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau i leihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd, sydd, unwaith eto, yn chwyddo llygredd. Rhaid i'n system gynllunio ystyried yr effaith a gaiff datblygiadau newydd ar dagfeydd traffig, yn ogystal ag ystyried pwyntiau gwefru trydan mewn datblygiadau newydd.

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael. Mae angen system adrodd i rybuddio preswylwyr am ansawdd aer gwael, a rhaid gwneud hyn ar lefel genedlaethol ac nid ei adael i fyrddau iechyd lleol. Gellir defnyddio datblygiadau newydd fel y lloeren Sentinel-5P a wnaed ym Mhrydain, sy'n monitro llygryddion aer, ar lefel genedlaethol i wella dulliau rhagweld, a'u defnyddio i rybuddio'r cyhoedd am ddigwyddiadau o'r fath. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio a gweithredu ar hyn ar fyrder.

Rwy'n edrych ymlaen at weld cynlluniau aer glân Llywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio y gallwn i gyd gydweithio ar y mater hwn. Diolch.    

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, darllenais y ddogfen ymgynghori 'Cynllun Aer Glân i Gymru', a chefais gyfarfod hefyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i drafod rhai o'r pethau sydd yn y cynnig. Ac wedi gwneud hynny, gan ystyried Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arbenigwyr annibynnol, nid wyf yn rhannu pesimistiaeth Plaid Cymru, ond rwy'n croesawu rhai o'r geiriau sydd yn y cynnig. Felly, rwy'n cefnogi byrdwn y cynnig ond nid wyf yn teimlo mor besimistaidd, ac rwy'n meddwl am optimistiaeth Jenny Rathbone y bydd Llywodraeth Cymru yn ymroi i hyn ac y bydd ganddi Ddeddf aer glân cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn. Rwy'n credu bod hynny'n debygol o ddigwydd.

Mae iechyd cyhoeddus yn rhedeg drwy'r ddogfen ymgynghori 'Cynllun Aer Glân i Gymru'. Nid siarad yn unig am leihau allyriadau carbon a wna, nid sôn yn unig am effaith ar safonau amgylcheddol a wna; mae hefyd yn sôn am ansawdd bywyd, ac mae'n sôn am atal salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, a marwolaeth. Felly, yn sicr ceir edefyn yn y cynllun hwnnw sy'n cyd-fynd â'r cynnig, ac mae'r cynnig ei hun yn cydnabod yn glir yr effaith ar fywyd a'r angen i roi sylw i'r mater, ac rwy'n meddwl bod y Gweinidog ei hun yn debygol o ddweud wrthym beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf aer glân. Rwy'n optimistaidd ynglŷn â hynny.  

Y mater arall yw'r dyfyniad am 2,000 o farwolaethau'r flwyddyn. Nid yw mor llwm â hynny yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru—neu nid yw mor syml â hynny. Mae dulliau presennol y Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer yn ystyried y cymysgedd o lygryddion mewn aer sy'n nodi gostyngiad i ddisgwyliad oes ac mae modd creu swm cyfanredol ohonynt wedyn i ystod o rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru. Felly, nid yw mor syml â dweud y bydd 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw o ganlyniad i lygredd aer; mae'n fesur cyfanredol sy'n seiliedig ar ddisgwyliad oes, sydd ynddo'i hun yn dangos pa mor anodd yw mesur effeithiau ansawdd aer a'r ffaith nad yw'n wyddor fanwl ar hyn o bryd.

Daw hynny'n ôl at rywbeth a ddywedodd Rhun ap Iorwerth: mae angen i ni fod yn well am fonitro effeithiau ansawdd aer. Mae monitro yn rhywbeth y gellir ac y mae'n rhaid ei wneud yn fwy trylwyr. P'un a ellir ei wneud yn barhaus y tu allan i ysgolion—. Rhoddaf enghraifft i chi. Pan oeddwn yn gynghorydd, yn fy ward gyngor, cafodd ansawdd aer ei fonitro gennym dros gyfnod o chwe mis. Roedd y gost yn enfawr; roedd cost enfawr i fonitro ansawdd aer. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i chi ei ystyried yw'r ffordd orau o ddefnyddio adnoddau yn yr ardaloedd lle mae'r risg fwyaf. Felly, Llyr, yr ardal yn eich rhanbarth y sonioch chi amdani, mae honno'n ardal sy'n addas ar gyfer monitro ansawdd aer, ac mae angen inni ystyried yr ardaloedd hynny a modelu'n briodol wedyn.

Rwy'n meddwl, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi wedi monitro—nid mater o fonitro'n unig yw hyn, ond y camau rydych chi'n mynd i'w cymryd, a chredaf mai dyna lle mae'r ddadl yn awr: pa gamau a gymerwch? Ac nid wyf yn meddwl ei fod yn fater o a ydym am gael Deddf aer glân, ond beth y mae'r Ddeddf aer glân yn mynd i'w wneud. Credaf mai dyna yw'r cwestiwn allweddol, a dyna ddylai rhan adeiladol y ddadl hon fod: beth y mae'r Ddeddf aer glân yn ceisio'i gyflawni?

Wel, mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun rheoli ansawdd aer lleol. Y broblem yw ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi problemau wrth weithio gydag eraill ac mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gynhyrchu cynlluniau gweithredu, ond dyna ni; nid yw'n mynnu,  wedyn, fod gweithredu'r camau hynny'n cael ei fonitro a'i graffu gan wleidyddion nac unrhyw un arall. Felly, mae yna broblemau gyda hynny y gall Deddf aer glân fynd i'r afael â hwy.

Mae angen ystyried y cyd-destun lleol. Os ydym yn cael trothwyon caeth, mae cyd-destun yn hanfodol. Os oes gennym drothwyon caeth, yna gall y trothwyon hynny fod yn fwyaf effeithiol mewn ardaloedd lle mae mwy o bobl agored i niwed, ond os ydych yn gaeth iawn ar draws ardal ddaearyddol enfawr, mae'n creu problemau o ran y gallu i gyflawni. A thrwy gamau 1 a 2 o'r Bil, rwy'n meddwl bod angen trafodaeth ynghylch y gallu hwnnw i gyflawni.    

Ac yn olaf, rhai o'r materion ymarferol a allai fod yn ddiffygion yn y camau gweithredu presennol sy'n cael eu hargymell y tu allan i Ddeddf, ac y bydd angen i Ddeddf fynd i'r afael â hwy'n glir iawn. Mae cyrraedd y gwaith yn anodd tu hwnt os ydych yn byw y tu allan i Gaerdydd; mae cyrraedd y gwaith yn hynod o anodd. Nid yw pobl ar hyn o bryd yn ymddiried mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus; mae'n anodd iawn ymddiried ynddo. Rwyf eisoes wedi dweud yn y Siambr hon am y pwyllgor a fethais bythefnos yn ôl a theimlo digofaint y Cadeirydd sy'n eistedd o fy mlaen am fethu'r pwyllgor. Bu'n rhaid i mi erfyn ar Stagecoach i redeg bws o Fargoed i Ysbyty Brenhinol Gwent—bu'n rhaid i mi erfyn arnynt. Bu'n rhaid i mi erfyn ar Stagecoach i adfer bws dros dro i ysbyty'r Mynydd Bychan, a beth am ysbyty'r Grange? Sut beth fydd trafnidiaeth gyhoeddus i ysbyty'r Grange? Mae cwestiynau ynglŷn â hyn sy'n gofyn am fwy na Deddf aer glân; mae angen Bil dadreoleiddio bysiau ac mae angen Deddf llywodraeth leol ac yn ffodus, rydym yn gweld y Llywodraeth yn gweithredu ar hynny.    

Yn olaf, hoffwn sôn am Ysgol Twyn yn fy etholaeth. Mae Aneira Luff yn ddisgybl yn Ysgol Twyn, ac mae hi wedi rhoi camau ar waith drwy ysgrifennu at y pennaeth, Lee Thomas, sydd wedyn wedi darparu ei llythyr ar gyfer y rhieni i ofyn iddynt beidio â chadw injan eu ceir i redeg y tu allan i'r ysgol. Mae Aneira Luff wedi gwneud hynny—disgybl yn yr ysgol. Credaf fod honno'n ffordd hynod bwerus o gyfleu'r angen i leihau allyriadau o geir i'r aer y tu allan i ysgolion. Mae Jenny Rathbone wedi dweud y gweddill, ac rwy'n cytuno. Ac rwy'n meddwl, gyda hynny—Lywydd, rydych chi'n edrych arnaf yn awr—fod fy amser ar ben. Felly, rwy'n mynd i orfod dod i ben yn y fan honno.

16:55

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon mewn gwirionedd, a llongyfarchiadau i bawb ar ansawdd y drafodaeth. Yn amlwg, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru, rwyf am weld Deddf, yn y bôn, oherwydd fy mod yn credu bod angen gweithredu ar frys yn awr. Mae'r amser wedi dod ar gyfer gweithredu ar frys oherwydd nid yw'r ymyl o aer ar ben y ddaear hon, y blaned hon, yr ymyl o aer y mae pawb ohonom yn ei hanadlu, ond yn 10 milltir o ddyfnder. Mae'n rhaid i ni ofalu amdani. Pan fyddwn yn sôn am deithio rhwng y planedau a stwff, rydym yn siarad am filiynau a miliynau o filltiroedd, ond rydym yn dibynnu ar ymyl o aer sydd ond yn 10 milltir o ddyfnder er mwyn gallu anadlu. Yn sicr, rhaid inni ofalu amdani a'i pharchu.

Nawr, wrth gwrs, o fynd yn ôl mewn hanes, rydym wedi cael Deddfau aer glân gwreiddiol o'r blaen. Roeddent yn ganlyniad i fwrllwch angheuol yn Llundain yn 1952 a dinasoedd mawr eraill yn y 1940au, 1950au a'r 1960au. Dilynwyd hynny gan ddeddfwriaeth i gynhyrchu tanwydd di-fwg. Yn amlwg, fe lanhaodd hynny yr aer, h.y. daeth yr aer yn glir, ond mae llygredd yno o hyd; y gwahaniaeth yn awr yw na allwn ei weld. Felly, mae ein troed wedi llithro oddi ar y pedal yn llythrennol am nad ydym bellach yn cael ein dallu gan y mwrllwch fel o'r blaen. Ac yn amlwg, yr anomaledd arall oedd bod cynhyrchu'r tanwydd di-fwg ar gyfer Llundain yn golygu ein bod wedi llwyddo i drosglwyddo llygredd aer gronynnol a oedd yn Llundain i Abercwmboi yng Nghwm Cynon, a gafodd y dasg o gynhyrchu'r tanwydd golosg di-fwg yn y gwaith glo golosg ffiaidd hwnnw, gan ledaenu gronynnau dros y dyffryn hwnnw yn lle Llundain.

Nawr, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd, fel y clywsom i gyd, ac rydym wedi cael Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae gennym lefelau difrifol o lygredd aer yn niweidio iechyd ac yn lladd pobl yn awr, heddiw. Rwy'n derbyn pwynt Hefin: mae'n wyddor anfanwl. Dechreuodd hyn ym maes iechyd yr amgylchedd, mae ar ei hôl hi'n cyrraedd y maes iechyd cyhoeddus a'r maes iechyd. Bob amser, mae gennym yr amgylchedd ar y blaen, sy'n iawn—mae angen i rywun fod ar y blaen—ond dylai fod lle i iechyd hefyd. Mae'r ffigur yn 2,000 o farwolaethau—2,000 o farwolaethau cynamserol—y flwyddyn yng Nghymru. Mae gennym lefelau asthma cynyddol; mae gennym fwyfwy—[Torri ar draws.]

Nid yw hynny'n—. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad, nid hwnnw oedd y ffigur a roddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i mi. Dywedasant fod y 1,000 i 1,400 o ystod gyfanredol yn seiliedig ar ddisgwyliad oes. Felly, nid yw'r 2,000 o farwolaethau ar hyn o bryd—nid yw'n ffigur pendant; y cyngor iechyd cyhoeddus yw'r un a nodais i.

Rwy'n derbyn y pwynt. Dyna pam y dywedais 'farwolaethau cynamserol'—yn gynharach na'r disgwyl oherwydd bod gennych gyflwr cronig yr ysgyfaint a'ch bod yn ychwanegu gronynnau a beth bynnag ar ben hynny, ac i ffwrdd â ni.

Felly, mae gennym lefelau cynyddol o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint; mae gennym waddol o niwmoconiosis gan y glowyr hefyd; silicosis gan ein chwarelwyr; mae asbestosis yn dal o gwmpas; mae gennym lefelau cynyddol o ffeibrosis yr ysgyfaint idiopathig—'idiopathig' yw'r Lladin am, 'Nid ydym yn gwybod beth sy'n ei achosi', rwy'n tybio mai llygredd aer fydd yr ateb yn y pen draw, wedi'u hachosi i raddau helaeth gan ein hagwedd ddi-hid tuag at lygredd aer dros y cenedlaethau; o'u hanadlu mae gronynnau PM2.5 yn lladd; mae nitrogen deuocsid hefyd yn lladd; a gall nanogronynnau o blastigau o deiars rwber gael eu hamsugno i'n system waed, i'n system cylchrediad y gwaed a'n calon.

Felly, fel y dywedais, yn bersonol rwy'n ffafrio deddfwriaeth. Nid oes unrhyw beth yn debyg i gefnogaeth y gyfraith i wneud yn siŵr fod pobl yn gweithredu yn hytrach na chael cynlluniau nad ydynt yn rhwymo, ni waeth pa mor dda yw eu nod. Deddf aer glân i ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yn y gyfraith; Deddf aer glân i fandadu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd; Deddf aer glân i roi dyletswydd statudol gyfreithiol ar awdurdodau lleol i fonitro llygredd aer, i asesu llygredd aer, i fod o ddifrif ynglŷn â llygredd aer, i weithredu yn ei erbyn ac i fod o ddifrif ynglŷn â phryderon llygredd aer mewn ceisiadau cynllunio. Mae angen Deddf aer glân arnom i gyflwyno'r hawl i anadlu lle mae'n rhaid i gynghorau lleol ddweud wrth grwpiau bregus pan fydd y lefelau'n codi'n uwch na lefelau penodol, oherwydd eich bod chi'n debygol o fynd yn sâl a gallech farw’n gynamserol.

Ac felly, yn olaf, wrth i bawb gwyno bod costau'r gwasanaeth iechyd yn symiau cynyddol o arian flwyddyn ar ôl blwyddyn, nid oes neb yn credu mewn buddsoddi mewn newid ymddygiad i atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Na, rydym yn dilorni'r GIG am fod angen mwy o arian drwy'r amser. Rydym yn beirniadu’r GIG am sugno arian pan fo’n rhaid i’r gwasanaeth iechyd fynd i'r afael â'r problemau y dylai Llywodraethau eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf. Y GIG sy’n gorfod codi’r darnau.

Felly, mae gennym epidemig o ordewdra sy'n achosi diabetes cynyddol a chanserau cynyddol, nid ydym yn deddfu mewn ysgolion ar gyfer mwy o weithgaredd corfforol na’n gwahardd hysbysebu bwydydd sothach. Gallem sianelu treth siwgr Cymru i'r agenda addysg hon, nid ydym yn gwneud hynny. Ond peidiwch â beirniadu iechyd am orfod ymdrin â chanlyniadau diffyg gweithredu mewn meysydd portffolio eraill. Ac o ran llygredd aer, ie, deddfwch i ffurfio Deddf aer glân i fynd i’r afael â’r cyfraddau cynyddol o asthma, i fynd i’r afael â dioddefaint clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, y lefelau cynyddol o ffeibrosis yr ysgyfaint idiopathig, y niwed i ysgyfaint plant sy’n tyfu. A’r miloedd o farwolaethau cynamserol a achosir gan ronynnau a nitrogen deuocsid. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, nid ydym yn goddef dŵr budr mwyach, ni ddylem oddef aer budr mwyach.

Felly, wrth gloi, mae Llywodraeth Cymru wedi cael y dasg o leihau allyriadau yn y ffordd gyflymaf sy’n bosibl ar ôl cael ei dyfarnu’n euog o dorri rheoliadau'r UE ddwy flynedd yn ôl. Gwnewch hyn yn awr. Mae yna gynllun, mae yna Bapur Gwyn, a deddfwriaeth mewn 18 mis o bosibl. Mae'r her yn amlwg. Nawr yw’r amser i weithredu. Diolch, Lywydd.

17:00

Rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw yn fawr iawn, ac rwy’n adleisio’r hyn a ddywedodd Dai Lloyd. Rwy'n credu iddi fod yn ddadl dda a phwerus iawn, ac yn briodol felly, oherwydd rydym yn siarad am iechyd y cyhoedd, ac mae'n amlwg fod ansawdd aer yn ffactor o bwys wrth ystyried a ydym yn mwynhau'r math o iechyd cyhoeddus da rydym am ei weld yng Nghymru ai peidio. Ac ydy, mae Awyr Iach Cymru wedi gwneud llawer o ymchwil, rwy'n meddwl, ac wedi rhoi rhai o'r ffeithiau a'r ystadegau gerbron pob un ohonom, sy'n dangos yn glir yr effeithiau niweidiol ar iechyd rydym yn byw gyda hwy ar hyn o bryd. A dyma'r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd y cyhoedd—ansawdd aer, neu ddiffyg ansawdd aer—ac mae ymchwil hefyd yn dangos ei fod yn effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau difreintiedig. Felly, mae effaith niweidiol ar iechyd y bobl fwyaf bregus beth bynnag. 

Felly, rydym wedi newid i fod yn gymdeithas ôl-ddiwydiannol i raddau helaeth yng Nghymru, Lywydd, a chredaf fod hynny’n dangos yn glir mai traffig ar y ffyrdd yw'r her fwyaf wrth ymdrin â'r materion hyn. Ac yn bennaf, rwy'n credu ei fod yn fater o Lywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i weithredu'n effeithiol a sicrhau bod strategaethau a pholisïau priodol ar waith. Rydym wedi siarad am rywfaint o'r ddeddfwriaeth, rhai o'r cynlluniau, a'r Ddeddf sydd ar y ffordd, gobeithio. Ond mae yna lawer y gellir ei wneud wrth gwrs, yma a nawr, mesurau ymarferol iawn i fynd i’r afael â'r problemau hyn. 

Clywsom yn gynharach am gludo plant i’r ysgol, a chredaf fod hynny'n arwyddocaol ac yn bwysig, ac mae mesurau ymarferol yn cael eu rhoi ar waith mewn ysgolion ledled Cymru y gellid eu hefelychu ym mhob man yn ein gwlad. Felly, gellid cau’r ffyrdd o amgylch ysgolion ar adegau codi a gollwng plant. Gellid gweithredu polisïau ar gyfer bysiau cerdded, ar gyfer mynd ar sgwter, cerdded a beicio i'r ysgol, ac fel y soniodd Hefin David, mae ennyn diddordeb y disgyblion mewn rhoi pwysau moesol ar rieni ac ysgolion yn effeithiol ac yn briodol iawn yn fy marn i. 

Ni ddylid caniatáu i gerbydau segura wrth gatiau ysgolion ac ni ddylid eu caniatáu yn gyffredinol yn ein hardaloedd trefol. Mae tacsis a bysiau yn broblem fawr. Mae yna lawer o ffyrdd o newid tacsis i fod yn fwy—[Torri ar draws.]. Mewn munud. Roeddwn yn mynd i sôn am newid tacsis a bysiau, ac wrth gwrs, mae hynny'n digwydd, ond unwaith eto, gallai hynny ddigwydd ledled Cymru, a byddai'n cyfrannu’n sylweddol hefyd. Hefin David. 

Mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws, ond un o'r pethau—mae'n gwneud y pwynt am gerbydau’n segura—un o'r pwyntiau a glywais hefyd gan swyddogion iechyd cyhoeddus yw nad cerbydau’n segura yn unig yw’r broblem; gallai’r weithred o ddiffodd eich cerbyd tra’n aros y tu allan i ysgol fod yr un mor llygrol pan fyddwch yn ei ailgychwyn eto. Felly, mewn llawer o achosion, waeth i chi ei adael i segura fwy na’i ddiffodd a’i ailgychwyn; mae'n dibynnu am ba hyd rydych chi'n ei adael i segura. Felly, mewn gwirionedd, y peth mwy effeithiol i’w wneud, fel y dywedodd Jenny Rathbone, yw peidio â gadael ceir yn agos at yr ysgol yn y lle cyntaf. 

17:05

Rwy'n credu mai dyna'r peth mwyaf effeithiol, ond rwy'n credu eich bod chi'n aml yn gweld cerbydau’n segura am funudau a munudau a munudau, a byddai eu diffodd yn syniad da iawn. Ond rwy'n cymeradwyo'r ffaith eich bod wedi cyfarfod ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Hefin, ac yn amlwg, mae hynny wedi bod yn addysgiadol iawn o'ch cyfraniadau a'ch syniadau am y materion hyn. 

Ond do, fe wnaethom siarad yn gynharach hefyd, oni wnaethon, am geir trydan, ac yn sicr clywais gan arbenigwyr iechyd cyhoeddus fod croeso mawr iddynt, fel y clywsom, ond oes, mae yna broblemau o hyd gyda deunydd gronynnol a breciau a theiars. Felly, mae angen inni dynnu pobl allan o'u ceir, hyd yn oed gyda niferoedd llawer mwy o geir trydan neu geir hydrogen yn dod i fodolaeth. Felly, mae'n rhaid inni ddatrys y problemau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n rhaid inni wneud y metro’n llawer mwy apelgar yn llawer cyflymach. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod dadreoleiddio bysiau’n digwydd er mwyn darparu gwasanaethau bws wedi'u cynllunio'n well sy'n helpu pobl i wneud y newid moddol hwn. 

Ac wrth gwrs, mae gennym y Ddeddf teithio llesol yng Nghymru ers rhyw bedair blynedd bellach yn ogystal â'r cynllun gweithredu. Ac eto, nid ydym wedi gweld y newid sydd angen inni ei weld i feicio a cherdded ar gyfer teithiau byr bob dydd, er bod awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio ar rai o'u cynlluniau rhwydwaith, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £20 miliwn ychwanegol y flwyddyn ar gael a gall awdurdodau lleol wau teithio llesol i'w strategaethau trafnidiaeth ehangach yn ychwanegol at hynny. 

Felly, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus iawn ar sut y gall gael trosolwg ar hyn a gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru yn fwy effeithiol ar deithio llesol. Mae'r cyllid ar gael, ond nid yw bob amser yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl. Defnyddir peth o'r arian o hyd yn fwy at ddibenion hamdden yn hytrach na theithio llesol a theithiau pwrpasol. Rwy'n credu bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru, drwy sicrhau bod y cyllid hwnnw ar gael, i weithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol er mwyn gwneud yn siŵr fod y cyllid yn cyflawni'r newid moddol y mae angen i ni ei weld.

Ni all neb anghytuno â'r cynnig hwn, ond y broblem yw bod polisïau’r Llywodraeth Lafur yn—ac rwy'n defnyddio’r amser presennol—achosi llygredd aer. Os edrychwn ar gynlluniau datblygu lleol ledled Cymru, cymerwch un, cynllun datblygu lleol Caerdydd, fel enghraifft. Mae'r cynllun hwnnw a basiwyd gan y cyngor, heb i ddim gael ei wneud yn ei gylch yma yn y Senedd hon, yn rhoi 10,000 o geir ychwanegol ar un gerbytffordd—un ffordd yn unig—Heol Llantrisant yng Ngorllewin Caerdydd. Bydd 10,000 o geir ychwanegol bob dydd os aiff y cynllun datblygu llawn hwnnw yn ei flaen. 

Nawr, polisi'r Llywodraeth yw cynlluniau datblygu lleol. Ni fu unrhyw newid. Yn anffodus, pan oedd Plaid Cymru yn y Llywodraeth, roeddent yn gyfrifol am gymeradwyo'r ffigurau poblogaeth mwyaf chwerthinllyd—mwyaf chwerthinllyd—gan ganiatáu i gynlluniau datblygu lleol gael eu cyflwyno ledled Cymru. Felly, y ddwy blaid, nid yw dwylo’r naill na'r llall ohonynt yn lân yn hynny o beth. 

Mae’n ymddangos bod hwn—[Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ymddangos bod hwn yn gynnig nodweddiadol gan y cartél Llafur-Plaid Cymru yng ngwleidyddiaeth Cymru, oherwydd yr hyn rydym yn sôn amdano yma—ac mae'n gartél. Mae’n gartél. Mae Llafur wedi rhedeg y wlad hon am yr 20 mlynedd diwethaf, weithiau gyda chymorth—[Torri ar draws.] Ni fyddai'n syndod i mi o gwbl mai'r nod, y tro nesaf, fyddai ei rhedeg mewn clymblaid gyda chi.  

Y prif beth yma yw bod arnom angen polisïau gan y Llywodraeth nad ydynt yn achosi llygredd aer—nad ydynt yn achosi llygredd aer. Os yw un o ACau Caerdydd eisiau cyfrannu, fe ildiaf trwy'r Cadeirydd, os yw hi'n caniatáu, ac egluro efallai i bobl y wlad hon pam nad ydynt wedi gwrthwynebu'r cynlluniau datblygu lleol a basiwyd yn y ffordd fwyaf gwarthus. 

Nid oedd naw deg y cant o bobl y ddinas hon eisiau cynllun datblygu lleol Caerdydd, ond cafodd ei basio. Felly, cyn inni sefyll yma a siarad am lygredd aer ac onid yw'n ofnadwy—wrth gwrs ei fod—mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r polisïau. Dylid ymdrin â chynlluniau datblygu lleol sy'n achosi llygredd enfawr, a dylid ymdrin â hwy fel mater o argyfwng. Rydych chi'n dweud bod yna argyfwng hinsawdd—gwnewch rywbeth ynglŷn â hynny. Diolch yn fawr. 

17:10

Fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, o'r diwrnod cyntaf un ers i mi gael fy ethol i'r Senedd, fel eraill, rwyf wedi ymgyrchu i leihau llygredd aer yn fy etholaeth ac ar draws Cymru. Mae gwella ansawdd aer yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Cymru, fel y mae'r gyllideb ddrafft yn amlinellu. Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', yn rhwymo Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau a chyflawni gwelliannau hanfodol i ansawdd aer trwy fesurau cynllunio, seilwaith, rheoleiddio a chyfathrebu iechyd. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ymgynghori ar y cynllun aer glân ar gyfer Cymru, 'Awyr Iach, Cymru Iach', sy'n nodi camau uchelgeisiol ar draws holl adrannau a sectorau'r Llywodraeth i leihau llygredd aer. Mae'r ymgynghoriad presennol ar hyn, y cynllun pwysicaf oll, yn ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd aer a chyfathrebiadau newid ymddygiad, yn ogystal â mesurau lliniaru i helpu pawb i wella ansawdd aer ac annog eraill i wneud hynny. Mae'n hollol iawn nad yw polisi brysiog yn bolisi da, a dylai fod y gorau y gall fod. Mae dull o weithredu'r Llywodraeth yn gywir, ac nid mabwysiadu methodoleg ddifeddwl yw'r ffordd ymlaen. 

Fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, ac fel y crybwyllwyd, mae Woodside Terrace ym mhentref Hafodyrynys yn Islwyn yn un o strydoedd mwyaf llygredig ein gwlad. Fel y bydd pawb sy'n byw yno'n dweud, y gwir amdani yw nad yw'r atebion yn syml. Nid perthyn i un sffêr yn unig y maent. Cofnodwyd bod lefelau nitrogen deuocsid ar y ffordd hon yn uwch nag unman arall yn y Deyrnas Unedig y tu allan i ganol Llundain, ond mae yna broblem, a hynny oherwydd iddynt gael eu cofnodi. Nid ydym yn gwybod ble mae’r Hafodyrynys nesaf. Gyda'r gweithio mewn partneriaeth gadarnhaol rhwng cyngor sir Caerffili dan arweiniad Llafur a thrigolion lleol, a Llywodraeth Lafur Cymru, cafwyd ateb ar ôl trafodaethau cymhleth a phellgyrhaeddol ym maes polisi cyhoeddus a chylchoedd llywodraethol.

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi lansio ymgyrch newydd heddiw i dynnu sylw’r cyhoedd at fater hanfodol llygredd aer. Ac er na allwn ei weld â’r llygad yn unig, fel y dywedwyd yn flaenorol, deunydd gronynnol mân a elwir yn PM2.5 sy'n creu bygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd. Gwyddom fod angen mynd i’r afael â’r broblem ar bob lefel o Lywodraeth ac ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus a dinesig, o gynghorau lleol i Gynulliad Cymru i San Steffan a Llywodraeth y DU, yn ogystal â sefydliadau rhynglywodraethol rhyngwladol. Yr wythnos hon, gorfodwyd y DU i gyhoeddi cynlluniau i wahardd gwerthu ceir petrol, diesel a hybrid erbyn 2035—ychydig yn gynharach nag a fwriadwyd yn wreiddiol. Ydy, mae hwn yn newyddion i'w groesawu, ond y manylion sy’n bwysig yma. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynlluniau manwl ar sut i gyflawni hyn, gan gynnwys cyhoeddi set gadarn o gerrig milltir i'w cyflawni cyn 2035, i gyflymu'r newid i drafnidiaeth ffordd allyriadau sero yn y DU. 

Nid ydym yn ynys yn hyn o beth. Rhaid inni gofio na fydd y DU ar flaen y gad o ran newid yn y materion hyn. Mae gan Norwy darged i ddod â’u defnydd i ben yn raddol erbyn 2025 tra bod yr Iseldiroedd, Gweriniaeth Iwerddon, Sweden a Denmarc oll wedi gosod 2030 fel terfyn amser. Mewn gwirionedd, ni fydd cynnig Llywodraeth Dorïaidd y DU ond yn cynnwys ceir newydd sbon. Faint o'ch etholwyr chi sy'n gallu fforddio car newydd sbon? 

Mae astudiaeth ddiweddar gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn rhagweld y byddai 37.1 miliwn o geir petrol a diesel yn dal i fod ar y ffordd yn 2020 a 22.6 miliwn erbyn 2040. Nid yw hynny'n ddigon da. Felly mae angen i Lywodraeth Dorïaidd y DU wneud llawer os yw'r DU am gyrraedd—rwyf bron â gorffen—ei tharged o allyriadau nwyon tŷ gwydr net-sero erbyn 2050. Byddent yn gwneud yn dda i ddilyn yr arweiniad frwdfrydig, egnïol a dychmygus ar y mater allweddol hwn gan y Llywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd. Dechrau’n unig ar newid sylfaenol uchelgeisiol yn yr ymagwedd ddiwylliannol Gymreig a newid polisi yng Nghymru yw'r £140 miliwn yn y gyllideb ddrafft eleni. Gobeithio y bydd yn cael y gefnogaeth drawsbleidiol gyson sydd i'w gweld yn berthnasol yn y Siambr hon heddiw, ond ceir rhai yn y Siambr nad ydynt yn credu mewn newid hinsawdd a buaswn yn eu hannog hwy'n fawr iawn i agor eu llygaid a gweld beth sydd o'u blaenau. Diolch, Lywydd.  

17:15

Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl hon ar ran y Llywodraeth. Mae arnom angen camau gweithredu pendant gan y Llywodraeth yn ogystal â deddfwriaeth er mwyn sicrhau aer glân ledled Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Deddf aer glân i Gymru. Mae'r ymgynghoriad presennol ar ein cynllun aer glân yn gam mawr tuag at y ddeddfwriaeth newydd honno.  

Rwy'n croesawu'r ffaith bod cydnabyddiaeth glir ar draws y Senedd i'r angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithredu'n bendant. Rydym i gyd yn cydnabod yr effeithiau ar iechyd a'r gwelliannau sylweddol y gallwn eu gwneud i lesiant Cymru drwy leihau llygredd aer. Adlewyrchir hyn ym mhwynt 1 yng nghynnig Plaid Cymru a gwelliant 2 y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n cyfeirio at effeithiau hirdymor llygredd aer ar iechyd. A bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r ddau welliant.  

Nid yw'r honiad a wnaethpwyd ym mhwynt 2 o gynnig Plaid Cymru yn gywir. Ni cheir ardaloedd mawr o Gymru lle na chaiff ansawdd yr aer ei fonitro. Fodd bynnag, rydym yn cytuno â'r angen i gynyddu monitro, ac mae gwelliant y Llywodraeth yn galw am rwydwaith monitro newydd i ategu ein gallu presennol. Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn cynyddu nifer y monitorau, gan ganolbwyntio'n benodol ar fonitro ansawdd aer yn y mannau lle gwyddom fod pobl yn fwy agored i niwed llygredd, gan gynnwys ysgolion a chyfleusterau iechyd.  

Er mwyn gweithredu'n bendant, mae'n rhaid inni fod yn glir ynglŷn â'r cyfrifoldebau a'r camau sydd eu hangen. Mae arnom angen deddfwriaeth newydd, ond mae angen inni weithredu yn awr hefyd i ddefnyddio'r ddeddfwriaeth sydd gennym eisoes a'r holl ysgogiadau eraill sydd ar gael. Dyna pam y mae pwynt 3 yng ngwelliant y Llywodraeth yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gryfhau'r holl fesurau a ddisgrifiwyd yn y cynnig gwreiddiol a defnyddio deddfwriaeth lle bo angen.  

Tybed a ydych wedi meddwl am gael sgwrs gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chael gwared ar y TAW ar gerbydau trydan, oherwydd nid yw hynny'n rhywbeth y mae gennym bwerau i'w wneud, a byddai'n ei gwneud hi'n bosibl eu hyrwyddo drwy eu gwneud yn rhatach.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn ac yn sicr byddai gennyf fi, neu fy nghyd-Weinidog Ken Skates, ddiddordeb mawr mewn cael y sgwrs honno.  

Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 4 a 5 gan y Ceidwadwyr, ond mae hyn ar y sail eu bod yn drysu rhwng materion allweddol ac y byddent yn gwanhau, yn hytrach na chryfhau, y mesurau sydd angen inni eu cymryd. Cefnogwn y farn y dylai deddfwriaeth newydd fod yn seiliedig ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. I wneud hyn, byddwn yn trosi egwyddorion y canllawiau yn y Ddeddf, yn hytrach na mewnosod y canllawiau eu hunain ar wyneb y Bil. Bydd hynny'n sicrhau bod y targedau a osodwn yng Nghymru yn cael eu cynllunio yn ôl y safonau uchaf yn fyd-eang.

Yn yr un modd, rydym yn cefnogi'r hawl i anadlu, ond ein cyfrifoldeb ni yw troi hyn yn ddeddfwriaeth sy'n benodol ac y gellir ei gweithredu. Felly, fel y dywedais, byddwn yn gwrthwynebu'r gwelliannau hynny, ond byddem yn annog yr Aelodau i edrych ar y mesurau rydym eisoes wedi'u hargymell yn ein cynllun aer glân—a chyfeiriodd sawl Aelod at y ddogfen—sy'n fwy caeth a phenodol. Mae'r ymgynghoriad yn agored tan 10 Mawrth, Lywydd, ac mae'n disgrifio camau gweithredu sy'n gysylltiedig â phob pwynt yn y cynnig gwreiddiol a mwy. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddarparu manylion am rai o'r camau rydym yn eu cymryd yn y meysydd hyn yn ystod y misoedd nesaf, wrth i ni weithio tuag at greu Deddf aer glân i Gymru.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau i leihau llygredd aer o draffig ar rwydwaith cefnffyrdd Cymru. Mae'r arwyddion cynnar yn dynodi bod y rhain yn cael effaith gadarnhaol, ond yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad, a fydd yn cynnwys tystiolaeth o effeithiolrwydd ac argymhellion ynghylch unrhyw gamau pellach y mae angen inni eu cymryd i leihau llygredd a grëir a'r effaith ar iechyd pobl. Ar yr un pryd, byddaf yn cyhoeddi fframwaith parth aer glân i Gymru yn fuan i amlinellu sut y credwn y dylai parthau aer glân gael eu gweithredu yng Nghymru. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn cyhoeddi adroddiad ar wahân hefyd ar gostau a manteision cyflwyno taliadau i ddefnyddwyr ffyrdd ar sail ranbarthol er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio dull teg a chyson o leihau cysylltiad pobl â llygredd aer o draffig ffyrdd. Ac yn ogystal, rydym yn bwriadu cyhoeddi strategaeth gwefru cerbydau trydan ar gyfer Cymru yn 2020, sy'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth o seilwaith trydan ar gyfer gwefru cerbydau.  

Bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu at strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, sydd i'w chyhoeddi eleni hefyd. Bydd y strategaeth yn egluro sut y bwriadwn wireddu ein huchelgais ar gyfer system drafnidiaeth carbon isel, gan gynnwys creu fflyd o fysiau a thacsis carbon isel erbyn 2028. Yn ogystal â darparu manteision o ran lleihau ein hallyriadau carbon, bydd hyn hefyd yn arwain yn uniongyrchol at leihau llygredd aer yn sylweddol.

Yn ogystal â'n hymdrechion i fynd i'r afael â llygredd aer sy'n deillio o draffig ffyrdd, rydym yn rhoi amrywiaeth eang o fesurau eraill ar waith i leihau allyriadau ac yn rhoi ystyr i hawl dinasyddion Cymru i anadlu. Eleni, byddwn yn diweddaru gwefan Ansawdd Aer yng Nghymru i'w gwneud yn fwy rhyngweithiol ac yn haws i'w defnyddio, er mwyn annog mwy o ddinasyddion Cymru i ddod o hyd i wybodaeth am ansawdd aer yn eu hardal. Rydym hefyd yn bwriadu adeiladu ar fenter gwyddoniaeth dinasyddion y Dreigiau Ifanc lle rydym wedi cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o wneud cyfraniad pwysig i'r sylfaen dystiolaeth ar lygredd aer, ar yr un pryd â rhoi cyfle ymarferol iddynt ddysgu mwy am y wyddoniaeth.  

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o atgyfnerthu ein gallu i ymateb i argyfwng ansawdd aer, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwasanaeth tân a'r Swyddfa Dywydd, fel ein bod yn gallu ymateb i fwy o ddigwyddiadau yn gyflymach, gan roi gwybodaeth gywirach i ddinasyddion mewn achosion o lygredd aer difrifol.  

Eleni, byddwn yn cyhoeddi canllawiau cynllunio newydd gyda nodyn cyngor technegol wedi'i ddiweddaru ar ansawdd aer a seinwedd i gymryd lle TAN 11 ar sŵn. Bydd hyn yn sicrhau bod cynllun datblygiadau newydd yn mynd i'r afael â llygredd aer cyn i broblemau godi.  

Ym mis Mawrth, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi datganiadau ardal, carreg filltir allweddol yng ngweithrediad Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Drwy ddiffinio'r cyfleoedd a'r heriau allweddol ar gyfer cryfhau cydnerthedd ecosystemau mewn gwahanol rannau o Gymru, bydd y datganiadau ardal yn ein galluogi i sicrhau'r manteision gorau posibl i natur ar yr un pryd â chael effaith gadarnhaol ar ansawdd aer ac agweddau eraill ar ein lles.

Felly, dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o'r camau rydym yn eu rhoi ar waith yn awr i wella ansawdd aer yng Nghymru. Ym mhob achos, gallai fod cyfleoedd i gryfhau effeithiolrwydd y mesurau hyn drwy ein Deddf aer glân, ac rwy'n gobeithio y bydd pob plaid yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw i ddangos ein penderfyniad cyfunol ar sail drawsbleidiol i roi camau pendant ar waith i leihau llygredd aer yng Nghymru, a rhoi gwir ystyr i hawl dinasyddion Cymru i anadlu.  

17:20

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl sydd, dwi'n meddwl, yn wirioneddol wedi bod yn un adeiladol y prynhawn yma. Diolch i Andrew R.T. Davies yn gyntaf. Roeddwn i'n falch o'i glywed o'n ategu y farn y gwnes i ei gwyntyllu ynglŷn â'r cyferbyniad mawr yna rhwng y diffyg brys sydd yna tuag at fynd i'r afael â phroblem llygredd awyr—y cyferbyniad rhwng hynny a'r disgwyliad am weithredu brys, yn sicr, pe bai o'n rhywbeth arall sy'n hawlio gymaint o fywydau. Ac rydych chi'n iawn hefyd i ddweud bod dŵr budr ar un adeg wedi cael ei ystyried yn dderbyniol, mewn oes o'r blaen. Yr ateb wrth symud ymlaen rŵan ydy Deddf aer glân er mwyn sicrhau ein bod ni'n symud tuag at feddwl am yr awyr rydyn ni'n ei anadlu yn yr un ffordd.

Mi wnaeth Llyr Gruffydd hefyd y pwynt dyw difrifoldeb y broblem ddim yn cael ei adlewyrchu gan ddifrifoldeb a brys ymateb y Llywodraeth. Dwi'n ddiolchgar i Llyr am gyfeirio at y sefyllfa yna yn y Waun, a'r sylweddoliad sydd wedi bod ymhlith y gymuned yno bod yn rhaid mynd i'r afael â'r llygredd difrifol maen nhw'n byw efo fo, a'r angen am fonitro llawer mwy manwl. A'r ateb ydy Deddf aer glân. 

Gan Jenny Rathbone, llygredd dinesig oedd fwyaf dan sylw gan yr Aelod o Ganol Caerdydd. Mae'n plant ni yn ein trefi a'n dinasoedd ni mewn perig—mae mor syml â hynny—oherwydd llygredd, llygredd o gerbydau yn bennaf, yn yr enghreifftiau glywon ni amdanyn nhw. Roedd John Griffiths hefyd yn sôn yn benodol am draffig o'r school run a'r perig sydd yn dod o hynny. Mae'n rhaid monitro'n fanwl er mwyn gallu mesur yn llawer gwell beth sydd yn digwydd y tu allan i'n hysgolion ni, a'r ateb unwaith eto ydy Deddf aer glân. 

Mi oedd Dai Lloyd—

Diolch am ildio, Rhun. Cytunaf yn llwyr â chi ac Aelodau eraill fod Deddf aer glân yn sicr yn ffordd gadarnhaol o'i wneud, ond a fyddech yn cytuno â mi ein bod wedi cael Deddfau fel y Ddeddf teithio llesol o'r blaen, ac wrth gwrs, Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sydd oll yn rhai da eu bwriad ac sy'n cynnig sylfaen dda ar gyfer y dyfodol, ond os nad oes gennych fesurau ymarferol ar lawr gwlad a dyfeisiau a dulliau monitro priodol ar waith i roi adborth pan na fydd pethau'n gweithio, mae'r cynnydd yn araf ofnadwy a rhaid ichi ailedrych ar y Deddfau hyn drosodd a throsodd? Felly, a fyddech yn cytuno bod angen dannedd arnom i wneud hyn ar lawr gwlad?

Rwy'n cytuno â chi, ac mae arfau deddfwriaethol eraill gennym a all helpu i fynd â ni i'r fan lle rydym am fynd, ac mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn un o'r rheini. Yr hyn a fyddai gennym drwy'r Ddeddf aer glân hon yw ffocws go iawn ar waith penodol sy'n rhaid inni ei wneud er mwyn glanhau'r aer a anadlwn, ac mae'n rhaid iddi fod yn ddeddfwriaeth a fyddai'n bendant â dannedd ac a fyddai'n galw am weithredu ar lawr gwlad.

Mi wnaeth Dai Lloyd sôn yn fwy manwl am yr effaith mae llygredd yn ei gael ar ein cyrff ni, a pham bod hwn yn fater o gymaint o frys. Roedd Delyth Jewell yn iawn i feddwl am anadlu awyr lân fel hawl dynol sylfaenol. Roedd Caroline Jones yn iawn i ddweud mai dyma un o'r heriau mwyaf sydd yn ein hwynebu ni o ran iechyd y cyhoedd. Mi wrandawais i yn ofalus iawn ar sylwadau Hefin David. Nid bod yn besimistaidd ydym ni, dwi'n credu, ond bod yn barod i sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa fel y mae heddiw. Dyna beth roeddwn i'n ei glywed gan y rhelyw yma yn y Siambr heddiw yma. O ran y ffigur hwnnw—yr anghydfod bach rhwng y ffigur o 2,000 o farwolaethau cynnar y flwyddyn, a rhywle rhwng 1,000 a 1,400, dwi'n meddwl, roeddech chi'n ei grybwyll, mi wnaf i ddyfynnu o bapur gafodd ei gyflwyno i Gabinet Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2018. Felly, dyma'r ffigurau lled ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ohonyn nhw:

'Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y gellir priodoli tua 1,600 o farwolaethau i gysylltiad â mân ddeunydd gronynnol...a thua 1,100 o farwolaethau i gysylltiad â nitrogen deuocsid...bob blwyddyn yng Nghymru.'

Felly, mewn gwirionedd, mae ffigurau'r Llywodraeth a roddir inni o'r papur a roddwyd i'r Cabinet yn uwch na'r hyn a ddyfynnwyd yn wreiddiol gennym ni a gennych chi.

17:25

Roedd hwnnw'n seiliedig ar ronynnau unigol, a'r amcangyfrif o ronynnau unigol. Yr hyn a wna dadansoddiad y Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer yw cyfuno'r gronynnau hynny yn amcangyfrif mwy realistig o'r math o ronynnau a fydd yn bodoli yn yr aer ar unrhyw un adeg, sy'n rhoi'r ffigurau rhwng 1,000 a 1,400.

Rwy'n gwerthfawrogi eich manylder wrth ddangos tystiolaeth o ble y credwn y mae'r niwed a'r effaith y mae'n ei chael.

Y pwynt y buaswn yn ei wneud—. Wyddoch chi, wrth wraidd hyn, mae cannoedd o bobl, miloedd o bobl mae'n debyg—dros filiwn o bobl mewn gwlad fel Tsieina—yn marw bob blwyddyn o ganlyniad uniongyrchol i lygredd aer, ac os nad yw hynny'n rhywbeth sy'n ddigon enbyd i'n sbarduno i weithredu, beth allai fod yn ddigon i'n hysgogi? Mae Deddf aer glân, yn ein barn ni yn sicr, yn rhan greiddiol o'r hyn sydd ei angen arnom fel set o arfau i'n symud yn ein blaenau.

Mi allwn ni wastad dibynnu, chwarae teg, ar gysondeb tôn gan yr Aelod annibynnol dros Ganol De Cymru a gan yr Aelod Llafur dros Islwyn. Mi lwyddodd Rhianon Passmore unwaith eto i wneud cyfraniad cwbl di-feirniadol o weithrediadau Llywodraeth Llafur. Does yna neb arall yn y Siambr yma, yn cynnwys y Gweinidog, yn meddwl bod popeth yn cael ei wneud cystal ag y gall o fod.

Mi symudaf i nôl at y sylwadau glywon ni gan y Gweinidog. Dwi'n croesawu'r ymrwymiad i ddeddfu, ac yn croesawu'r ffaith bod yr ymrwymiad wedi cael ei wneud heddiw mewn ymateb i gynnig rydym ni wedi'i roi gerbron y Senedd yma heddiw. Dyna pam rydym ni'n gwneud y cynigion yma—er mwyn trio gwthio'r Llywodraeth i wneud yr ymrwymiadau yma. Dwi'n croesawu ymrwymiadau sydd ddim yn ddeddfwriaethol hefyd—ymrwymiadau i gynyddu'r monitro dros y blynyddoedd nesaf i greu parthau awyr glân ac ati, a dwi'n cytuno â'r hyn a dywedwyd yn glir gan y Gweinidog, ein bod ni angen gweithredu rŵan:

Mae angen inni weithredu yn awr, gan ddefnyddio'r pwerau sydd gennym yn barod.

Ac, wrth gwrs, rydych chi'n hollol iawn yn hynny o beth. Ond rhwystredigaeth nad oes yna ddigon o weithredu rŵan wedi bod sydd tu ôl i'r ffaith ein bod ni wedi cyflwyno'r cynnig yma i'r Cynulliad heddiw. Heb os, er bod yna levers eraill a all gael eu defnyddio rŵan ac yn y dyfodol, mi ydym ni'n grediniol bod yn rhaid i Ddeddf aer glân fod wrth galon yr hyn rydym ni'n ei wneud i lanhau'r awyr y mae'n plant ni yng Nghymru yn ei anadlu, ac, yn hynny o beth, dwi'n eich annog chi i gefnogi ein cynnig ni heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

17:30

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, heblaw fod tri Aelod eisiau i fi symud i ganu'r gloch. Heb hynny, felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig deddfwriaethol gan Aelod ar bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw David Melding. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, 11 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

NDM7239 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: O blaid: 34, Yn erbyn: 1, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar lygredd aer. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7264 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 9, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7264 - Gwelliant 1: O blaid: 37, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2: pleidlais felly ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM7264 - Gwelliant 2: O blaid: 46, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3 yw'r bleidlais nesaf. Felly, pleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 3.

NDM7264 - Gwelliant 3: O blaid: 35, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf i bleidleisio arno. Felly, pleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, tri yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 4.

NDM7264 - Gwelliant 4: O blaid: 17, Yn erbyn: 27, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 5: galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, tri yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.

NDM7264 - Gwelliant 5: O blaid: 10, Yn erbyn: 34, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM7264 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus, sy’n cyfrannu at amcangyfrif o 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru.

2. Yn galw am rwydwaith cenedlaethol newydd ar gyfer monitro llygredd aer sy’n cyd-fynd â gallu presennol Cymru i fonitro.

3. Yn nodi ymhellach fod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad yw effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael wedi eu deall yn llawn eto.

4. Yn galw am ddeddf aer glân i Gymru, ac i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gymryd camau pendant i atgyfnerthu pob mesur, gan ddefnyddio deddfwriaeth lle y bo angen, er mwyn:

a) rhoi’r hawl i gymunedau gael offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai;

b) creu seilwaith a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd lle bo hynny’n briodol;

c) diwygio’r broses gynllunio i’w gwneud yn ofynnol i effaith datblygiad ar lygredd aer gael mwy o bwys yn y system gynllunio;

d) cyflymu’r broses o drawsnewid i system drafnidiaeth drydan fel bod ceir petrol a disel yn cael eu diddymu’n raddol erbyn 2030.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, un yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.

NDM7264 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 42, Yn erbyn: 4, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Pa ddyfodol i ffermydd cyngor?

Mae'r ddadl fer i'w chynnal nawr. Felly, gall Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel ac yn gyflym, cyn i fi alw Llyr Gruffydd i gyflwyno ei ddadl fer. Felly, dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw ef.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd cynghorau Cymru yn eiddo ar bron i 1,000 o ffermydd cyngor, ffermydd a oedd yn cael eu gosod allan, wrth gwrs, ac yn cynnig cyfle i newydd-ddyfodiaid i gael i mewn i'r diwydiant amaeth. Mae'r ystadegau diweddaraf sydd gennym ni yn dangos bod cynghorau sydd—ac mae rhywun yn cydnabod hyn—o dan bwysau ariannol yn sgil llymder wedi bod yn gwerthu'r asedau hynny i ffwrdd, ac yn aml iawn, fel rŷn ni'n cydnabod, er mwyn cynnal gwasanaethau cyhoeddus craidd. Ond dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae dros 1,000 hectar o dir wedi ei werthu gan y cynghorau, a hynny am gyfanswm o bron i £28 miliwn. Mae yna bellach lai na 500 o ffermydd gydag adeiladau allanol trwy Gymru, a does yna ddim arwydd bod y gyfradd sy'n cael ei gwaredu yn lleihau na'n arafu chwaith. 

Mae'r sefyllfa, mae'n debyg, hyd yn oed yn waeth yn Lloegr. Mae hanner tir fferm cynghorau yno wedi cael ei werthu dros y ddegawd diwethaf, ac mae nifer o gynghorau yno yn gweld eu ffermydd fel pethau sy'n perthyn i'r gorffennol. Mae'r cyfuniad tocsig yna, o lymder ac amharodrwydd ar ran rhai cynghorau i fod yn fwy creadigol ac i arloesi er mwyn datblygu ffrwd incwm newydd neu fodelau busnes newydd, yn gyrru'r dirywiad sy'n cael ei weld mewn ffermydd cyngor. Felly, pam bod hyn yn bwysig?

Pam y mae hyn yn bwysig? Wel, efallai y byddwch yn dweud bod 16,000 hectar o dir yn ddibwys fel rhan o'r darlun mawr, ond rwyf am gyflwyno'r achos dros ei arwyddocâd yn sicrhau dyfodol ffyniannus i ffermio yng Nghymru.

Cafodd ffermydd a oedd yn eiddo i'r cyngor eu datblygu dros ganrif yn ôl er mwyn galluogi pobl heb gysylltiadau ffermio neu dir i weithio ym maes amaethyddiaeth. Nawr, buaswn yn dadlau bod mwy o'u hangen heddiw nag erioed, yn enwedig gan ein bod yn gweld poblogaeth ffermio sy'n heneiddio, gydag oedran cyfartalog ffermwyr Cymru dros 60, ac amgylchiadau eraill yn cynllwynio i'w gwneud hyd yn oed yn anos i'n cenhedlaeth iau weithio ar y tir.

Felly, mae'r ffermydd cyngor hyn yn cynnig cyfle unigryw i'r rhai sy'n awyddus i droi at y byd amaeth. A heb ddifrïo'r rhai sydd â blynyddoedd lawer o brofiad mewn unrhyw ffordd, mae'n bwysig bob amser i unrhyw ddiwydiant neu sector ganiatáu i waed newydd ddod i mewn gyda syniadau ffres a safbwyntiau newydd. Heb arloesi a newid, byddai amaethyddiaeth, fel unrhyw sector arall, yn aros yn ei unfan.

Dylid cofio hefyd fod cymhellion economaidd i gynghorau hefyd, gan fod y rhent o ffermydd sirol yn cyfrannu at falansau'r cyngor. Gwnaeth cynghorau ledled Cymru warged net o £2.7 miliwn y llynedd i helpu i gydbwyso cyllidebau a diogelu gwasanaethau rheng flaen. Mae ffermydd cyngor cynhyrchiol a ffyniannus yn fuddiol, nid yn unig o safbwynt ariannol, ond maent yn sicrhau cymaint o fanteision mwy cyffredinol i gymunedau cyfan.

Felly, gadewch i ni roi ein ffermydd cyngor ar waith mewn ffordd lawer mwy creadigol. Beth am daro partneriaeth rhwng cynghorau a cholegau amaethyddol i ddefnyddio ffermydd cyngor fel cyfle i'r disgleiriaf a'r gorau o'n cenhedlaeth nesaf yn y byd ffermio i amaethu'r tir, ar y ddealltwriaeth eu bod yn arloesi a'u bod yn profi ac yn treialu systemau a dulliau ffermio newydd fel rhan o'r fargen. Gadewch inni feddwl o'r newydd a hyrwyddo arferion gorau yn y system. Gadewch inni roi ein hystâd o ffermydd cyhoeddus ar waith er mwyn y gymdeithas ehangach, nid i'r unigolion sy'n ffermio yn unig.

A pham ei gadael ar hynny? Mae angen i sefydliadau eraill fod yn rhan o'r drafodaeth hon ac yn rhan o'r mudiad ehangach hwn. Edrychwch ar yr hyn y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn ei wneud yn Llyndy Isaf. Prynwyd y fferm gan yr ymddiriedolaeth tua 10 mlynedd yn ôl bellach. Ers hynny, gan weithio gyda chlybiau ffermwyr ifanc Cymru, mae olyniaeth o ffermwyr ifanc wedi cael bwrsariaeth i wneud i'r fferm weithio mewn ffordd fodern a chynaliadwy. Mae ffermio cadwriaethol yn rhan lawn mor bwysig o'r cynllun hwn ag y mae cynhyrchu bwyd, sy'n cyd-fynd i raddau helaeth â'n dyheadau ar gyfer y sector. Mae'n gyfle gwych i berson ifanc rhwng 18 a 25 oed gael cyfle i reoli fferm a dysgu am y busnes, gyda chymorth a chyngor mentoriaid sydd wrth law i helpu os oes angen. Nawr, roedd hwnnw'n benderfyniad bwriadol gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i roi ei ased ar waith yn y ffordd arbennig honno.

Felly, fy her heddiw yw i ni alluogi cynghorau i roi'r gorau i edrych ar ffermydd cyngor fel ateb cyflym i'w problemau ariannol. Gadewch i ni fabwysiadu'r safbwynt mwy hirdymor, mwy cynaliadwy. Gadewch inni wneud i'r ystâd o ffermydd cyhoeddus weithio'n llawer mwy creadigol ar ran y gymdeithas. Os ydym o ddifrif ynghylch dyfodol y Gymru wledig, a sicrhau bod pobl ifanc yn gallu byw a gweithio mewn cymunedau gwledig, a bod ein diwydiant ffermio'n addas i'r diben ar gyfer heriau'r unfed ganrif ar hugain, rhaid inni ddweud 'na' wrth amcanion tymor byr. Onid dyna yw holl bwynt Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol? Onid dyna pam ein bod ni fel deddfwrfa wedi gwneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol i'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru?

Ni ddylem adael i'r ffermydd cyngor hyn ddiflannu o un i un heb ystyried yr hyn rydym yn ei golli. Dylem wneud popeth a allwn i gynorthwyo cynghorau lleol i allu gwrthsefyll y modd y caiff asedau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol—pedwar conglfaen datblygu cynaliadwy yng Nghymru—mor bwysig eu gwerthu am y nesaf peth i ddim. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw dod â'r holl chwaraewyr at ei gilydd i ystyried sut y gallwn fynd ati, nid yn unig i atal ein hystâd o ffermydd cyhoeddus rhag cael ei cholli, ond i'w throi'n ased sy'n cyflawni ar ran ein cymunedau gwledig a'n cymdeithas ehangach ledled Cymru.

Felly, gyda hyn i gyd mewn cof, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, i fwrw iddi'n weithredol ar hyn a dod â'r holl chwaraewyr at ei gilydd i fynd i'r afael â'r mater. Dylai ffermydd sy'n eiddo i'r cyhoedd fod yn rhan o fudiad ehangach i sicrhau bod gennym ddiwydiant ffermio cynaliadwy wrth galon ein cymunedau gwledig. Mae gwerthu ein ffermydd yn ddi-baid yn ateb tymor byr i gynghorau sydd o dan bwysau, ond rhaid inni sefyll yn ei erbyn.

Mae angen ein cefnogaeth ar genedlaethau'r dyfodol sydd am roi eu troed ar ris yr ysgol ffermio. Dyna pam y gweithiais gyda'r rheini sy'n ceisio cadw ffermydd fel Trecadwgan yn eiddo cyhoeddus. Fferm gyngor yw hon sydd mewn perygl o ddod i ben ei hoes fel fferm fyw, weithredol a chael ei gwaredu fel ased gan Gyngor Sir Penfro. Mae gan Drecadwgan botensial i fod yn fodel ar gyfer y dyfodol, gan arallgyfeirio'n fferm gymunedol. Ffermydd yw'r rheini sy'n cyfuno amaethyddiaeth yn llwyddiannus â meysydd fel iechyd a gofal, gweithgareddau diwylliannol, dysgu gydol oes, creu swyddi, a busnesau crefftwyr. Gall y rhain fod yn anadl einioes i gymunedau gwledig, gan ychwanegu at eu cynaliadwyedd, ac wrth gwrs at les eu pobl.

Nawr, rwy'n ddigon pragmatig i dderbyn y gall fod amgylchiadau penodol yn pennu mai gwerthu fferm gyngor yw'r unig ddewis ymarferol. Ar ôl rhoi cynnig ar bopeth arall, os mai gwerthu yw'r unig ddewis sydd ar ôl, gadewch inni sicrhau mai cymunedau lleol sy'n cael y cynnig cyntaf, a gadewch inni wneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar y cymunedau hynny i wneud hwnnw'n bosibilrwydd realistig ac ymarferol. Efallai y cymer ychydig yn hwy nag a wnâi fel arall ac efallai na fydd yn cynhyrchu cymaint o arian ar y cychwyn ag y byddai cynghorau'n dymuno, ond yn y tymor hwy byddai'n gwneud cymaint mwy ac yn rhoi cymaint mwy o werth i'r gymuned a'r cyngor, o'i gymharu â gwerthiant cyflym. Dylai Llywodraeth Cymru a chynghorau ddysgu o esiampl fferm Trecadwgan a sicrhau bod pob cymuned yn cael cyfle i chwarae ei rhan pan fydd y cyfleoedd hyn yn codi.

Mae'r rheini sy'n ymladd dros Drecadwgan wedi cyhoeddi rhestr o newidiadau polisi angenrheidiol sy'n deillio o'u brwydr. Credaf y dylai Llywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar yr awgrymiadau hynny. Un o'r rhain yw y dylai Llywodraeth Cymru greu grŵp adolygu diwygio tir, tebyg i'r un sy'n gweithredu yn yr Alban, gyda briff i archwilio: i ba raddau y gall diffyg mynediad at dir dagu dyheadau a chyfleoedd pobl; yr effeithiau ar gyflogaeth a'r economi wledig yn deillio o hynny; a ffyrdd y gellid ac y dylid gwella mynediad at dir—tir gwledig a threfol, gyda llaw. Maent hefyd wedi galw am adolygiad o Orchymyn Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) i roi llawer mwy o bwyslais ar fuddiannau cenedlaethau'r dyfodol, yn hytrach na dim ond y pris gorau yn y sefyllfaoedd hyn.

Mae angen inni ystyried cronfa cyfoeth cymunedol genedlaethol hefyd, fel y gallwn helpu i gaffael tir ffermio er mwyn i'r gymuned fod yn berchen arno. Yn ogystal, mae galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno banc tir amaethyddol i Gymru—banc ariannol. Yn ogystal â darparu benthyciadau llog isel a di-log i newydd-ddyfodiaid, gallai'r banc tir hwn ddarparu cyllid i gymunedau sydd am brynu tir a ffermydd, gan gynnwys ffermydd sirol. Hefyd, gallai helpu awdurdodau lleol i brynu tir newydd i dyfu'r ystâd o ffermydd sirol. Nawr, mae'r rhain i gyd yn gynigion ymarferol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am y mathau hyn o awgrymiadau.

Nid yw'r llwybr presennol o werthu ffermydd cyngor yn dderbyniol. Yr hyn sy'n llai derbyniol byth, wrth gwrs, yw'r diffyg gweithredu a welwn gan Lywodraeth Cymru, a ddylai fod yn helpu ac yn gweithio gyda chynghorau i ddiogelu'r ased pwysig hwn, a hefyd yn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r budd mwyaf, nid yn unig i'r sector, ond i'r gymdeithas ehangach. Mae diogelu ein tir, ein hamgylchedd, ein pobl a'n diwylliant i gyd yn rhan o gael gweledigaeth ac uchelgais ar gyfer ein ffermydd cyhoeddus.

Fe ddylai diflaniad ffermydd cyngor fod yn destun gofid i gymdeithas gyfan. Mae'n droedle pwysig iawn i mewn i'r diwydiant i waed newydd a chenhedlaeth newydd o amaethwyr. Da chi, Weinidog, peidiwch ag eistedd ar eich dwylo; gweithiwch gyda'r cynghorau, nid yn unig i amddiffyn yr hyn sydd ar ôl, ond i weithio tuag at greu ystâd fferm gyhoeddus a fydd yn cyffroi y genhedlaeth nesaf i fod eisiau ffermio. Trowch nhw i mewn i rywbeth sy'n cynrychioli cyfle, mentergarwch ac arloesedd. Mae yna gyfle, trwy ein ffermydd cyngor ni, i yrru ac i greu twf yn y sector. Ond ar hyn o bryd, wrth gwrs, beth rŷn ni yn ei weld yw rheoli dirywiad. Mae yna ddyletswydd ar y Llywodraeth i newid hynny, ac mae'n ddyletswydd arnom ni i sicrhau bod yr un cyfle gan genedlaethau'r dyfodol ag sydd wedi bod gan genedlaethau'r gorffennol.

17:40

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths.

Diolch, Lywydd, a diolch, Llyr Huws Gruffydd, am gyflwyno'r pwnc hwn ar gyfer y ddadl fer. Gwn fod gennych ddiddordeb ers amser maith yn y maes hwn o'r byd amaeth.

Mae ffermydd awdurdodau lleol yn ased pwysig i'r diwydiant amaethyddol ac yn parhau i fod yn bwynt mynediad amhrisiadwy i lawer o bobl ifanc yma yng Nghymru. Yng nghyd-destun ehangach yr holl dir amaethyddol yng Nghymru, elfen fach ydynt, dim ond 1 y cant o dir amaethyddol Cymru. Ond maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi'r economi sylfaenol ym mhob rhan o Gymru.

Bob blwyddyn, rwy'n cyhoeddi adroddiad, fel rhan o fy nyletswydd statudol o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, ar weithgareddau Llywodraeth Cymru, a gweithgareddau awdurdodau lleol, mewn perthynas â mân-ddaliadau yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn darparu gwybodaeth ystadegol am y maes a nifer y mân-ddaliadau sy'n eiddo i awdurdodau lleol. Roedd yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer 2017-18 ac mae'n dangos bod awdurdodau lleol Cymru yn berchen ar ychydig dros 13,600 hectar o dir at ddibenion mân-ddaliadau, a hwnnw wedi'i rannu'n 963 o fân-ddaliadau. Felly, nid yw nifer y mân-ddaliadau wedi newid yn sylweddol ers 2009-10, pan oedd yna 967 o fân-ddaliadau. Yr hyn sydd wedi newid yw cyfanswm yr arwynebedd tir sy'n eiddo i awdurdodau lleol ac a osodir fel mân-ddaliadau. Felly, yn 2010, cafodd tua 7,700 hectar o dir ei osod at y diben hwn. Golyga hyn fod gostyngiad o tua 23 y cant yn y tir a neilltuwyd ar gyfer mân-ddaliadau awdurdodau lleol rhwng 2010 a 2018.  

Er bod hwn yn ostyngiad sylweddol, hoffwn dynnu sylw at yr hyn y mae'r ffigurau'n ei olygu i'r cwestiwn canolog ynglŷn â sut rydym yn annog newydd-ddyfodiaid i mewn i'r byd amaeth. Rhoddwyd mwyafrif y tenantiaethau awdurdod lleol newydd yn 2018 i denantiaid presennol. O'r 169 o denantiaethau newydd a roddwyd, dim ond 21 a aeth i newydd-ddyfodiaid, tra bod 148 wedi'u rhoi i denantiaid presennol. Yn 2018, roedd 61 y cant o fân-ddaliadau awdurdodau lleol o dan 20 hectar o faint ac ni ellid disgwyl i ffermydd bach o'r fath ddarparu cynhaliaeth ariannol ddigonol i ffermwyr ac felly, nid ydynt yn cynnig y llwybr gorau i mewn i'r sector ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Yn y pen draw, mater i'r awdurdodau lleol yng Nghymru yw rheoli'r ffermydd hyn. Nid yw Deddf Amaethyddiaeth 1970 yn rhoi rheolaeth i Weinidogion dros bwerau'r awdurdodau lleol i werthu tir. Mater i awdurdodau lleol ei ystyried yw gwerthu tir a phenderfynu sut i fynd ati ac nid yw'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ymyrryd ynddo na chwarae rhan ynddo.

Mae dod o hyd i ffordd i mewn i ffermio, a chyfeiriodd Llyr Huws Gruffydd at hyn, yn gallu bod yn frawychus os nad ydych chi neu'ch partner yn dod o deulu sy'n ffermio neu os nad yw'r fferm deuluol yn ddigon mawr i gynnal newydd-ddyfodiad. Mae cefnogi pobl ifanc i ymuno â'r diwydiant a datblygu eu gyrfaoedd yn hanfodol ac yn rhywbeth rwyf wedi bod â diddordeb personol ynddo ers i mi ddod i'r swydd. Os ydym yn mynd i gyflwyno arloesedd, egni a brwdfrydedd i'r sector ac ymateb i heriau'r dyfodol, mae ffermydd awdurdodau lleol yn llwybr pwysig a chyfyngedig i mewn i amaethyddiaeth.

Fel rhan o Gynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, a wnaed gyda chyllid y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru mewn cytundeb ar y gyllideb ychydig flynyddoedd yn ôl, gwnaethom sicrhau bod £6 miliwn ar gael i gynorthwyo pobl ifanc i fynd i mewn i'r sector amaethyddol a sefydlu busnesau proffidiol a gwydn. Darparwyd y cyllid dros ddwy flynedd ar ffurf cyfalaf gweithio, a fydd yn cynnig hyblygrwydd i newydd-ddyfodiaid fuddsoddi yn eu busnes. Talodd am amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys technoleg ac arferion newydd i wella effeithlonrwydd, neu ddatblygu mentrau newydd a ffrydiau incwm i feithrin cadernid yn y busnes. Ac yn ogystal â'r datblygiadau hyn, roedd gofyn i ymgeiswyr ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth a chymryd camau cadarnhaol tuag at sicrhau buddiannau cadarnhaol i'r amgylchedd naturiol, gan gefnogi amaethyddiaeth carbon isel ac iechyd anifeiliaid.

Hefyd, mae gennym raglen Mentro, sef gwasanaeth a sefydlwyd i baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n dymuno camu'n ôl o ffermio llawn amser gyda newydd-ddyfodiaid sy'n chwilio am lwybr i mewn i'r diwydiant, ac mae creu'r cynllun yn adeiladu ar argymhellion y genhedlaeth nesaf o ran cymorth ffermio.

Mewn perthynas â nifer y ffermydd sy'n eiddo i awdurdodau lleol, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parchu gallu awdurdodau lleol i ddatblygu eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer y modd y maent yn rheoli'r asedau y maent yn gyfrifol amdanynt ar ran y cymunedau a gynrychiolant. Rwy'n credu y dylem ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio ag awdurdodau lleol, a rhwng awdurdodau, yn hytrach na cheisio lleihau'r hyblygrwydd sydd gan awdurdodau lleol i weithredu er mwyn cyflawni blaenoriaethau lleol, a chyfeiriodd Llyr at sawl agwedd, rwy'n meddwl, y gallwn edrych arnynt i wneud hynny.

Rwy'n credu bod cyfleoedd yn bodoli i gydweithredu o'r newydd mewn perthynas â'r modd y defnyddiwn y tir yn y sector cyhoeddus na fyddai'n galw am ddeddfwriaeth newydd na gosod cyfyngiadau newydd ar awdurdodau lleol. Cafwyd cyhoeddiad gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid, ynglŷn â chreu is-adran tir Llywodraeth Cymru—ymdrech gydweithredol ar draws y sector cyhoeddus i newid y ffordd rydym yn rheoli tir y sector cyhoeddus er mwyn cryfhau'r modd y cyflawnir ein blaenoriaethau strategol, gan gynnwys cefnogi camau i fynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.

Felly, hoffwn annog yr Aelodau'n gryf i ymddiddori yn y fenter hon gan ei bod yn amlwg yn gyfle sy'n uniongyrchol berthnasol i'r drafodaeth rydym yn ei chael heddiw. Ond fel rwy'n dweud, rwy'n gobeithio y gallwn barhau i archwilio'r syniadau a gyflwynodd Llyr yn y ddadl hon. Diolch.

17:45

Diolch i'r Gweinidog, a dyna ni'n dod â thrafodion y dydd i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:49.