Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/01/2020

Cyfarfu'r Cynulliad am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Cyn symud at y cwestiynau, hoffwn hysbysu'r Cynulliad, y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

A'r eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies. 

Anghenion Dysgu Ychwanegol

1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol? OAQ54913

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu darpariaeth addas ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig, a dyrennir cyllid i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw. Rwyf hefyd wedi sicrhau bod £20 miliwn ar gael i gefnogi'r rhaglen drawsnewid ADY ehangach.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, ac wrth gwrs, i fod yn deg, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch siarad â ni am y cyllid hwnnw ar gyfer helpu awdurdodau lleol ac addysgwyr i baratoi ar gyfer gofynion y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Ac yn y gyllideb ddrafft, rydych wedi ymrwymo £9 miliwn i ddau faes gwariant arall, gan gynnwys helpu cynghorau i ymdrin â'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â darparu cymorth anghenion dysgu ychwanegol. Ac eto, o ganlyniad i gylch gwariant Llywodraeth y DU, gwyddom fod £35 miliwn o gyllid canlyniadol i'r bloc Cymreig o'i ddyraniad cyllideb i anghenion addysgol arbennig ac anghenion dysgu ychwanegol. Felly, nid wyf yn sôn am y £700 miliwn a gafodd sylw gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, ac y bydd pawb ohonom yn ei ddisgwyl yn eiddgar, rwy’n sôn am y £35 miliwn o'r cylch gwariant. Rydych yn blaenoriaethu eich gwariant, rwy'n gwybod hynny, ond ni allaf gredu bod ein hangen am fuddsoddiad mewn AAA ac ADY gymaint yn llai nag yn Lloegr. Pam nad ydych chi wedi gwario £35 miliwn ar AAA ac ADY?

Wel, fel y dywedais wrth yr Aelod wrth ateb ei chwestiwn cyntaf, mae'r mwyafrif helaeth o gostau ysgol yn cael eu talu o'r grant cynnal refeniw. Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Llywodraeth wedi gallu cynyddu’r arian a roddir i awdurdodau lleol yn sylweddol eleni. Mae'r ychwanegiad at y setliad llywodraeth leol, a chyllid newydd arall ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn gwneud cyfanswm o £220 miliwn ar gyfer 2020-2021, ac mae hyn yn fwy na'r hyn a gawsom yn y cylch gwariant mewn perthynas â chyllid ychwanegol i ysgolion a gofal cymdeithasol o Loegr. Mae'r cyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn Lloegr wedi'i gynnwys yn y cynnydd cyffredinol ar gyfer ysgolion, felly rydym wedi gallu sicrhau arian ychwanegol ar gyfer y grant cynnal refeniw. Rwy'n ymwybodol o bwysau penodol yn y gymuned ADY, a dyna pam y byddwn yn ategu'r cynnydd yn y grant cynnal refeniw gydag £8 miliwn ychwanegol o fy nghyllideb fy hun, a mwy nag £1 filiwn i sicrhau lleoliadau arbenigol ar gyfer y plant sydd â’r anghenion mwyaf dwys ar gyfer astudio ôl-16. 

Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r arian ychwanegol rydych wedi'i roi yn fawr. Mae gennyf etholwr sydd â phlentyn sydd angen y math hwnnw o gefnogaeth, ond yn anffodus, nid yw'n ei gael oherwydd nad oes diagnosis wedi'i wneud eto. Ond hefyd, rwy'n gwerthfawrogi'r £20 miliwn rydych yn ei roi tuag at y paratoadau ADY ar gyfer gweithredu'r Bil yn 2021. Ond bydd awdurdodau lleol, felly, yn edrych yn ofalus iawn ar yr arian ychwanegol, er mwyn iddo gyflawni yn erbyn y cynnydd disgwyliedig yn y gofynion y bydd yn rhaid iddynt eu bodloni o ganlyniad i'r newidiadau hynny. Nawr, fel y dywedais, mae gennyf etholwr y byddai ei blentyn yn cael y gefnogaeth ymhen 18 mis yn ôl pob tebyg oherwydd bod y gofynion yn newid o ddim ond diagnosis i anghenion plentyn mewn gwirionedd. O ganlyniad, byddant yn cael y cymorth hwnnw. Ond mae angen arian ar gynghorau i'w ddarparu. A ydych yn bwriadu cynyddu’r cyllid i awdurdodau lleol yng nghyllidebau’r dyfodol, er mwyn sicrhau—pan ddaw’r newid hwn i rym, pan ddaw’r cynnydd, a bydd cynnydd yn y galw—y bydd y cynnydd hwnnw’n cael ei ariannu ac y bydd y plant hynny’n cael y cymorth y maent ei angen?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, David. Mae dau bwynt pwysig iawn yma. Yn gyntaf, rwy'n disgwyl bod pob awdurdod addysg lleol yng Nghymru yn diwallu anghenion plant o dan y ddeddfwriaeth gyfredol, ac ni ddylai fod unrhyw esgus dros beidio â diwallu'r anghenion hynny cyn cyflwyno'r Bil ADY newydd. Mae gan y plant hynny amddiffyniadau a hawliau yn awr, a dylai awdurdodau lleol fod yn eu darparu. Er, mae’n rhaid i mi ddweud, mae gwariant awdurdodau lleol ar AAA mewn ysgolion ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hon wedi'i gyllidebu i fod oddeutu £405 miliwn, sy'n gynnydd o 6.1 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae awdurdodau lleol yn buddsoddi yn addysg y plant hyn.

O ran cyflwyno'r Ddeddf, fe fyddwch yn ymwybodol, fel y dywedais yn fy ateb i Suzy Davies, fod £20 miliwn wedi'i ddarparu i gefnogi'r gwaith o weithredu’r Ddeddf, yn benodol ar gyfer anghenion dysgu proffesiynol staff ac awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno'n llwyddiant. Bydd rhagor o wybodaeth ariannol ar gael i'r Aelodau pan fyddwn yn cyhoeddi'r cod statudol a fydd yn sail i'r ddeddfwriaeth honno yn ddiweddarach eleni. 

13:35

Roedd y Gweinidog yn ddigon caredig i dreulio rhywfaint o amser yn fy etholaeth ddoe yn cyfarfod ag athrawon ADY, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am yr amser a dreuliodd yn siarad â'r bobl hynny, ond hefyd am y sgwrs a gafwyd, a oedd yn fuddiol i bawb yn fy marn i. Roedd yr athrawon yno, Weinidog, yn dweud yn glir iawn, er mwyn cyflawni'r weledigaeth, sydd, yn fy nhyb i, yn cael ei rhannu ar bob ochr i'r Siambr hon, eu bod angen yr adnoddau, yr amser a'r gefnogaeth i allu cael y pethau hyn yn iawn.

A allwch roi ymrwymiad inni heddiw, Weinidog, y byddwch yn ceisio rhoi'r pecyn hwn at ei gilydd? Oherwydd roedd y ddeddfwriaeth, wrth gwrs, yn rhan o raglen drawsnewid ac nid dyna oedd y rhaglen yn ei chyfanrwydd. Ac wrth gyflawni'r cod, pan fyddwch yn gallu gwneud hynny, byddwn yn trawsnewid profiad addysg i blant a phobl ifanc sydd â'r anghenion dysgu ychwanegol hynny. 

Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am hwyluso'r cyfarfod ddoe, ac am ymdrechion yr athrawon y cyfarfûm â hwy ddoe yn y gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, yn ein hysgolion, a'r unigolyn sy'n ceisio cydlynu dulliau ADY ledled y rhanbarth? Roedd eu hadborth yn ddefnyddiol iawn i mi. Roeddent yn dweud yn glir iawn nad ydynt angen unrhyw hyfforddiant pellach ar elfennau'r ddeddfwriaeth newydd, ond eu bod bellach angen rhywfaint o hyfforddiant mewn perthynas â’r cyfrifoldebau ymarferol o wneud y swydd honno o ddydd i ddydd.

Roedd gennyf ddiddordeb mawr hefyd mewn clywed y gwahanol agweddau tuag at statws cydgysylltwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn strwythurau rheoli ysgol, gyda rhai ohonynt yn teimlo efallai nad yw uwch dimau rheoli yn rhoi digon o bwyslais ar anghenion y rôl benodol honno. Felly, cafwyd trafodaethau defnyddiol iawn, a byddaf yn mynd ar eu trywydd gyda fy swyddogion ac yn adrodd yn ôl i'r Aelod fel y gall yntau adrodd yn ôl i'r aelodau staff hynny roeddwn yn ddiolchgar iawn am gael eu cyfarfod ddoe.

Y Cynllun Peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau? OAQ54910

Dros yr haf a'r hydref gwnaethom dreialu nifer o ddulliau o fynd i'r afael â newyn gwyliau, gan gynnwys gweithio gyda lleoliadau chwarae a lleoliadau cymunedol ledled Cymru drwy ein cynllun peilot gwaith chwarae. Bydd canfyddiadau'r gwerthusiad yn llywio syniadau ynglŷn â'r ddarpariaeth ehangach y flwyddyn nesaf.

Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn cyflawni'r cynllun hwn ac mae'n helpu plant o deuluoedd incwm isel, ond rwy'n siŵr y byddai pobl yn rhannu fy ngofid fod cannoedd o deuluoedd—rhai sy'n gweithio ac yn derbyn budd-daliadau a'r rhai sy'n dibynnu'n llwyr ar incwm budd-daliadau—yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddibynnu ar gynlluniau o'r fath i fwydo eu plant yn ystod gwyliau ysgol. Mae'n arwydd o 10 mlynedd o gyni, ac mae newidiadau’r Llywodraeth Dorïaidd i fudd-daliadau a hawliau wedi taro teuluoedd heb fawr o incwm yn galetach na neb arall. Felly, rydym hefyd yn cydnabod bod hynny’n achosi straen aruthrol i rieni a theuluoedd mewn angen o'r fath.

Rydych wedi dweud eich bod yn bwriadu gwerthuso, wrth symud ymlaen, a fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw hwn: pan fyddwch wedi cynnal y gwerthusiad hwnnw ac yn symud ymlaen gyda'r cynllun peilot, ai eich bwriad wedyn yw ehangu mynediad ar gyfer y rheini nad ydynt yn rhan o'r cynllun peilot ar hyn o bryd a pharhau’r mynediad ar gyfer y rheini sy'n rhan o'r cynllun peilot?

Wel, Joyce, mae'r rhesymau pam fod teuluoedd a phlant yn dioddef o newyn gwyliau yn rhai sydd, mewn llawer o achosion, y tu hwnt i'n rheolaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn hollol iawn fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gweithredu i leddfu canlyniadau penderfyniadau a wneir mewn mannau eraill. Roedd gan y cynllun peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau 92 o safleoedd chwarae mynediad agored a chwech o safleoedd y tu allan i'r ysgol i gyd. Fe wnaethant ddosbarthu tua 13,000 o brydau bwyd, sy'n dangos maint y rhaglen benodol honno.

Mae'n bwysig inni gofio mai rhan yn unig o'n hymdrechion i drechu a lliniaru problem newyn gwyliau yw hyn. Mae'n sefyll ochr yn ochr â'n rhaglen draddodiadol ar gyfer cyfoethogi gwyliau ysgol; ein rhaglen bwyd a hwyl sy'n cael ei darparu o fewn ysgolion. Ac rwy'n falch o ddweud ein bod, yn y flwyddyn ariannol newydd, wedi clustnodi cyllid o £1 filiwn ar gyfer y cynlluniau peilot gwaith chwarae a byddwn yn cynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol bwyd a hwyl i £2.7 miliwn. Bydd hynny'n caniatáu inni ddarparu 100 y cant o gost y rhaglen honno, sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac yn rhannol gan awdurdodau lleol. Ond byddwn yn gallu ehangu'r rhaglen honno a chredwn y gallai gyrraedd tua 7,600 o blant yr haf hwn.

13:40

Rwy'n croesawu'r cynllun peilot hwn ac rwy'n croesawu'r wybodaeth rydych newydd ei rhoi inni fod mwy o blant yn debygol o elwa o hyn. Rwy’n cydnabod hefyd fod cyllidebau’n dynn a chyda’r Torïaid mewn grym yn San Steffan, nid oes fawr o obaith y bydd ein sefyllfa yn gwella am rai blynyddoedd.

Felly, tybed pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i fanteisio ar y gormodedd enfawr o fwyd sy'n cael ei gynhyrchu gan archfarchnadoedd bob dydd? A allai defnyddio'r gormodedd hwn wneud y cynllun yn rhatach? Mae fy swyddfa wedi bod yn casglu a dosbarthu bwyd o nifer fach o archfarchnadoedd. Mae'n gynnyrch da a fyddai wedi cael ei daflu i’r bin, yn bennaf oherwydd ei oes silff fer. Nid oes gennym unrhyw gymhwyster—nid oes angen i bobl fod yn derbyn budd-daliadau i gael mynediad at y bwyd hwnac o ganlyniad, rydym wedi cael mwy na 6,000 o ymweliadau gan bobl sy’n chwilio am fwyd am ddim dros y chwe mis diwethaf. Felly, a allwch chi ystyried defnyddio'r gwastraff o archfarchnadoedd i alluogi mwy o blant i gael eu bwydo yn ystod gwyliau ysgol?

Diolch i chi am hynny, Leanne, a diolch am eich ymdrechion. Mae gwleidyddion sy'n eistedd yn y Siambr hon yn ymdrechu i wneud yr un peth, a thu allan i'r Siambr hon, mewn amryw o bleidiau gwleidyddol sy'n ceisio rhoi camau ymarferol ar waith yn hyn o beth. Nid ni sy'n cynnal y rhaglenni hynny mewn gwirionedd. Rydym yn sicrhau bod y cyllid ar gael i'n partneriaid mewn llywodraeth leol a'n sefydliadau trydydd sector allu ei wneud ar lawr gwlad. 

Ond rwy'n fwy na pharod i'n swyddogion ofyn i'n partneriaid annog ac edrych ar y cynnig rydych newydd ei gyflwyno. Rydym bob amser yn chwilio am bartneriaid newydd i helpu i sicrhau bod y bwyd sy’n cael ei gynnig, yn ogystal â’r ystod o weithgareddau—oherwydd mae honno'n rhan bwysig o'r rhaglen hefyd, yr amrywiaeth o weithgareddau—sy'n cael eu cynnig yn ystyrlon, yn gyffrous ac yn ddeniadol i blant. 

Felly, yn ddiweddar, cyfarfûm ag Undeb Rygbi Cymru. Mae Undeb Rygbi Cymru yn ystyried sicrhau rhywfaint o ddarpariaeth yn ystod yr haf ac yn hytrach na sefydlu hynny fel rhaglen unigol, maent yn trafod gyda ni ynglŷn â sut y gallwn eu rhoi mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol fel y gallant weithio ochr yn ochr â'n rhaglen, yn hytrach na dyblygu ymdrechion.

Felly, rydym bob amser yn chwilio am bartneriaid newydd i weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i wneud y profiadau hynny i blant yn ystyrlon, nid yn unig o ran maeth, ond hefyd o ran gweithgareddau a all fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, unigrwydd ac arwahanrwydd, neu golli dysgu yn ystod gwyliau'r haf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn pan wnaethoch chi ddiwygio'r canllawiau, sydd i'w dilyn gan awdurdodau lleol yn bennaf, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt roi camau ychwanegol ar waith cyn gwneud penderfyniad ar gau ysgolion bach, gwledig. Ac er nad oedd hynny'n cynnwys pob ysgol fach, roedd yn ddatganiad o gydnabyddiaeth i le ysgolion bach, gwledig yn y gymuned a'u cyfraniad i safonau, ac wrth gwrs, y canlyniadau negyddol o gludo plant ifanc dros bellteroedd mawr, ac mewn rhai achosion, wrth gwrs, yr effaith negyddol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Ond mae ysgolion bach yn ddrutach i'w cynnal y pen, ac i gynorthwyo gyda hyn, ers mis Ebrill 2017 rydych wedi cynnig dyrannu grant o £2.5 miliwn o'r canol bob blwyddyn i gefnogi mwy o waith rhwng ysgolion mewn ardaloedd gwledig. Mae'n grant blynyddol, ond tybed a allwch chi ddweud wrthyf lle gallwn ddod o hyd iddo yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21, a pha ddefnydd sydd wedi'i wneud ohono ers iddo gael ei gyflwyno.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am gydnabod y rôl bwysig y mae ysgolion bach yn ei chwarae yn ein system addysg? Pan ddeuthum i’r swydd, gwneuthum addewid i ddiwygio’r cod trefniadaeth ysgolion i gynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny.  

Mae'r Aelod yn iawn fod gennym grant ysgolion bach a gwledig, sydd yno i gefnogi addysg plant mewn ysgolion bach a gwledig, i sicrhau ei bod gystal ag y dylai fod. Mae yna rai heriau penodol i ddarparu ysgolion bach a gwledig: y ffaith bod gofyn i athrawon addysgu ystod eang o grwpiau oedran, er enghraifft, a'r gallu i wahaniaethu, yn ogystal â phenaethiaid sy'n ymdopi â cyfrifoldebau addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â chyfrifoldebau rheolaethol.

Mae'r swm o arian sydd ar gael yn y flwyddyn ariannol newydd ar gyfer y grantiau ysgolion bach a gwledig yn parhau ar yr un lefel a bydd hwnnw ar gael. Mae awdurdodau lleol yn gwneud cais am yr arian hwnnw ac maent wedi’i ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd i gefnogi amser cynllunio, paratoi ac asesu ar gyfer penaethiaid a chyflogi cymorth ychwanegol yn yr ysgolion hynny, neu, mewn un achos penodol rwy'n ymwybodol ohono, gallu sicrhau bod yr ysgol honno'n rhan o rwydwaith rhannu addysgeg ehangach i wneud yn siŵr bod yr addysgu cystal ag y gallai fod pan nad oes gan ysgolion arbenigedd penodol, weithiau, mewn pwnc unigol. 

13:45

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, rwy'n hynod falch o glywed ei fod yn y gyllideb yn rhywle a’i fod yn cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd iddo gael ei ddefnyddio. Er mai awdurdodau lleol, fel y gwyddom, sy'n bennaf gyfrifol am gyllid ysgolion, mae ysgolion, heb os, yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau a wnewch ar y gyllideb addysg. Yn ystod y Cynulliad hwn, rydych yn sicrhau bod £36 miliwn ar gael i leihau maint dosbarthiadau babanod, wedi'i dargedu at y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan amddifadedd, ond o fewn ei derfynau clir, mae'n agored, rwy'n credu, i gryn dipyn o ysgolion—nifer o ysgolion. A oes gennych unrhyw syniad faint o ysgolion gwledig sy'n cael yr arian i leihau maint dosbarthiadau babanod?

Mae'r £36 miliwn sydd ar gael yn ystod y Senedd hon i gefnogi dosbarthiadau llai yn cynnwys elfen refeniw ac elfen gyfalaf. Mae'r Aelod yn iawn: un o'r meini prawf ar gyfer cais llwyddiannus yw canran uchel o blant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Ond rydym hefyd yn cefnogi ysgolion lle nad yw'r safonau, o bosibl, mor dda ag y mae angen iddynt fod ac mae angen iddynt gwella, ac rydym hefyd yn edrych ar ysgolion lle nad yw canran uchel o'r plant yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf. Rydym yn dewis y meini prawf hynny oherwydd gwyddom mai dyna lle bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth.

Awdurdodau lleol sy’n gwneud ceisiadau. Felly, mae'r awdurdodau lleol eu hunain yn blaenoriaethu pa ysgolion y maent eisiau eu cefnogi—maent yn amrywiaeth o ysgolion ar draws pob un o’n hawdurdodau lleol—ac rwy'n hapus i ddarparu rhestr i'r Aelod o bob ysgol sydd wedi cael yr elfen refeniw a’r elfen gyfalaf. 

Diolch am yr ateb hwnnw. Roeddwn yn deall bod yr arian yn cael ei dargedu at ardaloedd o amddifadedd, ond roedd yn ymddangos, yn y ffordd y cafodd ei lunio, y gallai o bosibl fod wedi mabwysiadu cwmpas ychydig yn ehangach na'r grant amddifadedd disgyblion.

Mae'r £36 miliwn hwn, serch hynny—byddwch wedi'i weld yn y wasg yr wythnos hon—eisoes wedi ysgogi rhai cwestiynau am ei werth am arian o ran ei ganlyniadau. Rydych wedi clywed hefyd fod ysgolion yn poeni y gallai cynnal lefelau cyflogaeth yr holl aelodau staff newydd hyn, a phoblogi'r ystafelloedd newydd y gallai'r £36 miliwn fod wedi'u prynu, fod yn eithaf anodd pan ddaw'r ymrwymiad i gyllido maint dosbarthiadau i ben.

Bydd rhai o'r ysgolion sydd wedi defnyddio'r arian hwn hefyd yn gymwys i gael cryn dipyn o incwm grant datblygu disgyblion, ond wrth gwrs, nid pob un ohonynt. Felly, yn gyntaf, a allwch chi ddweud wrthyf a ydych yn disgwyl i'r grant datblygu disgyblion ychwanegol a gyhoeddwyd gennych ar gyfer babanod yr wythnos hon dalu am gost y gweithgaredd hwn o 2020-21 ymlaen, gan amsugno unrhyw gynnydd yn y llinell wariant honno?

Yn ail, beth rydych yn ei ddweud wrth ysgolion gwledig a allai fod wedi gwneud y buddsoddiad hwnnw mewn staff ac adeiladau i leihau maint dosbarthiadau babanod, ond nad oes ganddynt fynediad at lefelau uchel o grant datblygu disgyblion, sydd hefyd yn cefnogi cynaliadwyedd ysgolion o ran niferoedd staff, ysgolion y mae eu darpariaeth o gymorth AAA, sy'n mynd yn ôl at fy nghwestiwn cyntaf heddiw, ddwywaith mor anodd oherwydd teneurwydd y boblogaeth ac felly nid ydynt yn gallu mynd i'r afael ag effeithiau tlodi yn y ffordd y byddent yn hoffi ac yn ôl pob tebyg, yn y ffordd y byddech chi’n hoffi?

Mae rhai ysgolion yn fy rhanbarth yn gwneud yn eithaf da drwy'r gyllideb addysg ganolog, ond nid fy ysgolion gwledig. Ni allaf ond dychmygu beth yw’r sefyllfa yn eich etholaeth hynod wledig chi.

Wel, yn fy etholaeth i, rwy'n falch iawn fod y grant lleihau maint dosbarthiadau yn darparu athro dosbarth ychwanegol yn ysgol gynradd Trefonnen yn Llandrindod ac yn darparu canolfan blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn ardal Ystradgynlais a chwm Tawe. Felly, rwyf wrth fy modd gyda'r effaith y mae'n ei chael yn fy etholaeth i.

Ond gadewch i ni fod yn glir, yn y flwyddyn academaidd hon, bydd tua 95 o athrawon ychwanegol yn cael eu cyflogi o ganlyniad i'r grant hwnnw; bydd tua 40 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol yn cael eu cyflogi o ganlyniad i'r grant hwnnw; ac o ran ei gynaliadwyedd, bydd y grant yn bodoli tra byddaf yn Weinidog addysg a hyd at ddiwedd y Senedd hon. O ran Senedd yn y dyfodol, buaswn yn gobeithio y bydd y dystiolaeth a ddaeth i law gan rieni ac athrawon ynglŷn â pha mor werthfawr yw'r grant yn dangos i Lywodraeth yn y dyfodol pa mor bwysig fydd ei barhau.

Diolch. Hyd y gwn, dyma fy sesiwn graffu olaf cyn i mi fynd ar gyfnod mamolaeth, os aiff popeth yn iawn, felly hoffwn ddymuno’r gorau i bwy bynnag a ddaw yn fy lle. Erasmus yw craidd cyfleoedd ein myfyrwyr i astudio dramor a hebddo, fel y dywedasom ddoe, ni fyddai miloedd o fyfyrwyr yn cael cyfle i deithio a phrofi bywyd dramor. Mae'n fy synnu y byddai'r Torïaid, sy'n honni eu bod yn uchelgeisiol, hyd yn oed yn ystyried neu'n awgrymu’r posibilrwydd o adael Erasmus y flwyddyn nesaf. Os na fydd Llywodraeth y DU yn cymryd rhan yn y rhaglen olynol neu'n cwblhau trafodaethau ar bartneriaethau addysg yn ddigon cyflym gyda’r UE, gallai ein cyfranogiad fod yn y fantol a bydd miloedd o fyfyrwyr, yn enwedig rhai o gefndiroedd incwm is, fel y dywedodd Lynne Neagle ddoe, yn colli’r cyfleoedd bywyd hynny.

Yn sgil y ffaith nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn siŵr iawn beth i'w wneud â’r trafodaethau yn y dyfodol yn hyn o beth, a yw'n peri pryder i chi fel Gweinidog fod Senedd y DU—Llywodraeth y DU, mae'n ddrwg gennyf—wrth wrthod y gwelliant i barhau i gymryd rhan yn rhaglenni olynol Erasmus+ yr wythnos diwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin, yn chwarae gwleidyddiaeth ideolegol gyda dyfodol addysg uwch? Oni fyddai’n arwain at fwy o ansicrwydd i brifysgolion a cholegau yma yng Nghymru ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd beth bynnag o dan gysgod Brexit? 

13:50

Lywydd, rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr wrth fynegi fy nymuniadau gorau i Bethan wrth iddi ddechrau ar ei chyfnod mamolaeth. Os caf fi gynnig rhywfaint o gyngor yn hyn o beth, peidiwch â bod ar ormod o frys i ddod yn ôl. [Chwerthin.] Ac rwy’n dweud hynny am resymau cwbl anhunanol. Bethan, rydych ar fin cychwyn ar y gwaith anoddaf y byddwch chi byth yn ei wneud, ac mewn rhai ffyrdd bydd dod yn ôl i'r Siambr hon yn orffwys, gallaf eich sicrhau o hynny. [Chwerthin.] Ond hoffwn ddymuno'r gorau i chi a'ch gŵr ar y daith ryfeddol rydych ar fin cychwyn arni. 

Mae Bethan yn codi cwestiwn amserol iawn y prynhawn yma, oherwydd rwy'n deall, Lywydd, fod nifer o gyfranogwyr o raglen Erasmus yn yr oriel uwch ein pennau heddiw—athrawon sydd, fel rhan o'r rhaglen honno, yn gallu gweithio'n rhyngwladol i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth a chryfhau systemau addysg ei gilydd. Mae'r gwaith gwerthfawr hwnnw mewn perygl o gael ei golli os nad ydym yn sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud mewn perthynas â chyfranogiad parhaus yn rhaglen Erasmus+.

Fel y dywedasom yn y Siambr ddoe, nid oes unrhyw reswm pam y dylai gadael yr Undeb Ewropeaidd fod yn anghydnaws â’n gallu i barhau i fod yn bartneriaid llawn yn y rhaglen honno, ar draws ystod gyfan y rhaglen, sy'n cefnogi teithiau cyfnewid addysgol i ymarferwyr, i'r rheini mewn addysg uwch, i'r rheini mewn addysg bellach, i'n hysgolion ac i'r rheini yn ein clybiau ieuenctid a'n gwasanaethau ieuenctid. Mae Cymru wedi elwa’n anghymesur ac wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth fanteisio ar gronfeydd Erasmus+ i ehangu cyfleoedd bywyd i ystod gyfan o blant a phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, a gallai hynny fod mewn perygl.

Nawr, mae'n wir nad yw'r bleidlais yr wythnos hon yn ein hatal rhag cynnal trafodaethau parhaus, ac rwyf wedi defnyddio pob cyfle a gefais a byddaf yn parhau i orfod perswadio Chris Skidmore, a'r Trysorlys yn arbennig, o wir werth yr arian hwnnw. Ac weithiau, mae angen atgoffa gwleidyddion a gweision sifil y gallwn wybod cost popeth heb sylwi ar werth rhai pethau weithiau, ac mae Erasmus+ yn enghraifft o rywbeth sy'n werth cymaint yn fwy na'r symiau ariannol a fuddsoddir. 

Diolch. I fynd ar ôl eich pwynt cyntaf am gyfnod mamolaeth, rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn falch na fyddaf yn rhuthro yn ôl. [Chwerthin.

O ran senarios gwaethaf, gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe, ac roeddech chi yma ar y pryd, ynglŷn â chynlluniau wrth gefn y gellir eu gwneud, yn benodol o ran y posibilrwydd o sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yma yn gweithio'n uniongyrchol gyda sefydliadau Ewropeaidd. Ac felly, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda phartneriaid yn yr UE ynglŷn â gwneud hynny? Rwy'n deall nad ydym yn gallu ymrwymo i gytundebau dwyochrog penodol rhwng y DU a'r UE ar deithiau cyfnewid addysgol, ond mae'n debyg y gallem edrych ar feithrin ein perthynas ein hunain â sefydliadau addysg uwch ledled Ewrop, fel rydym eisoes yn ei wneud rwy'n siŵr, ond rydym bellach o dan rywfaint o bwysau i sicrhau y byddai rhaglen Erasmus+ yn gallu parhau. Felly, a allwch roi syniad i mi o’r hyn rydych yn ei wneud yn hynny o beth, a pha gynlluniau wrth gefn sydd ar y gweill?

13:55

Mae gan Lywodraeth Cymru a minnau hierarchaeth o ddewisiadau. Ein dewis cyntaf yw parhau i allu cymryd rhan yn y rhaglen Erasmus+ lawn ar sail y DU. Dyna ein dewis cyntaf oherwydd credwn fod cryfder i'r brand hwnnw, mae'n ddealladwy, ac mae'n cyd-fynd â'r nodau strategol a fyddai gennym fel Llywodraeth. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth San Steffan a swyddogion cyfatebol yn Lloegr yn edrych ar gynllun DU gyfan o bosibl. Mae hwnnw, rwy’n credu, yn ail ddewis gan nad oes iddo’r un gydnabyddiaeth a hanes—fel y dywedais—â’r cynllun Erasmus presennol. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a chynrychiolwyr y gwasanaeth sifil yn Iwerddon i edrych ar gynllun Celtaidd os nad oedd cynllun DU ar gael neu os nad oedd Llywodraeth Lloegr yn fodlon buddsoddi yn y maes penodol hwn. Felly, rydym yn edrych ar hynny yn ogystal â chael sgyrsiau sefydliadol unigol lle mae ein sefydliadau yng Nghymru yn ceisio sicrhau partneriaethau â sefydliadau ledled Ewrop. Felly, fel y gallwch weld, mae yna hierarchaeth.

Yr hyn rwy’n ei ofni fwyaf, yn dilyn y trafodaethau rwyf wedi’u cael, yw y gallai'n hawdd fod cynllun newydd i gymryd ei le ar yr ochr addysg, ond rwy'n ofnus iawn mewn perthynas ag addysg bellach yn enwedig, a gwasanaethau ieuenctid yn enwedig, ac ynglŷn ag a oes unrhyw warantau neu unrhyw debygolrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn gweld gwerth yn hynny. Felly, rwy'n poeni llai am brifysgolion, ond rwy'n bryderus iawn am y rhaglen yn ehangach.

Diolch yn fawr am hynny. Mae hynny'n glir. Mae mater Erasmus yn codi rhai cwestiynau eraill yn fy meddwl, lle na fyddem, efallai, yn cytuno i’r un graddau, rwy'n credu—ond nid wyf wedi’i grybwyll eto—yn ymwneud ag iechyd ehangach y sector addysg uwch. Roedd adroddiadau ar y cyfryngau dros y penwythnos yn dweud yn glir fod addysg uwch yn wynebu heriau mawr iawn. Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd—ac rwy’n dyfynnu—mai’r sgwrs o fewn y sector yn awr yw, ‘Pa mor fawr yw eich diffyg?’, nid a oes diffyg neu beidio.

Rwy'n deall bod rhai costau, fel y rhai sy'n gysylltiedig â phensiynau, wedi achosi i ddiffygion edrych yn fwy eleni, ond mae'n amlwg fod y mwyafrif o sefydliadau yn gweithredu yn y coch a bod gostyngiad parhaus hefyd yn nifer yr ymgeiswyr a dderbynnir yng Nghymru a chwymp o 17,000 yng nghyfanswm y ceisiadau ers 2016. Nawr, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn o effaith economaidd ehangach prifysgolion Cymru, ac rydym wedi gwyntyllu rhai o'r dadleuon hynny yma dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n peri pryder i ni ym Mhlaid Cymru fod hanner myfyrwyr Cymru wedi dewis gadael y wlad a mynd i astudio mewn prifysgol yn rhywle arall. Nid ydym yn dweud na ddylent fynd, ond rydym yn pryderu bod dros eu hanner wedi penderfynu mynd, ac rydym yn gweld na chafodd y draen dawn o Gymru a fu'n digwydd dros ddegawdau mo'i atal gan Lywodraethau blaenorol yma yng Nghymru.

Felly, fy nghwestiwn i chi, fy nghwestiwn olaf, yw hwn: beth rydych yn ei wneud yn wahanol i sicrhau y gallwn newid y sefyllfa ac annog llawer mwy o bobl i aros ac i gael eu haddysg yng Nghymru? A hoffwn ddweud, i gloi, nid yw'n ymwneud â pheidio ag annog pobl i fynd i rywle arall i astudio, ond er mwyn sicrhau bod gennym sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yma yng Nghymru, mae'n rhaid inni gydnabod yr angen i edrych ar sut y gallwn gadw rhai o’r myfyrwyr hynny yma yng Nghymru oherwydd mae hynny'n rhan annatod o'r broblem ar hyn o bryd.

Wel, materion i sefydliadau unigol yw cwricwlwm, marchnata, recriwtio a chadw myfyrwyr ac nid mater i'r Llywodraeth. Yn ystod y Senedd hon, buaswn yn dadlau ein bod wedi cyflwyno’r system gymorth decaf, fwyaf blaengar a chynaliadwy yn y Deyrnas Unedig, system sy'n trin myfyrwyr Cymru yn dda iawn. Ond hefyd, rwy’n cydnabod bod prifysgolion yn gyflogwyr mawr a’u bod yn hanfodol i’n heconomi leol a llawer o’n cymunedau, a dyna pam rydym wedi symud i system ariannu fwy cynaliadwy a pham y byddwn yn gweld cyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cynyddu’n sylweddol yn 2020-21 wrth inni gyflawni ein diwygiadau Diamond. Ond mater i'r prifysgolion unigol yw'r cyrsiau y maent yn eu cynnig a'u gallu i farchnata a recriwtio myfyrwyr i'r cyrsiau hynny.

Awtistiaeth mewn Ysgolion

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn ysgolion? OAQ54924

Diolch, Jayne. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod disgyblion awtistig mewn ysgolion yn cael eu cynorthwyo'n effeithiol i oresgyn unrhyw rwystrau i ddysgu a allai fod ganddynt. Bydd ein diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol uchelgeisiol yn ailwampio'r system bresennol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn llwyr, a byddant yn sbarduno gwelliannau ac yn codi ymwybyddiaeth o ADY i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial llawn.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae tua 700,000 o oedolion a phlant ar y sbectrwm awtistiaeth yn y DU, ac os ydych yn cynnwys eu teuluoedd, mae awtistiaeth yn rhan o fywyd bob dydd 2.8 miliwn o bobl, ac eto mae'n dal i gael ei gamddeall yn aml.

Roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at y camau diweddaraf sydd ar waith yng Ngwent i godi ymwybyddiaeth ac i gyflwyno Moli i'r Gweinidog a'r Siambr: Moli, The Cow Who Moo She Was Different. Mae Moli yn awtistig ac mae ei stori yn ychwanegiad newydd gwych i ysgolion cynradd a llyfrgelloedd ar draws y rhanbarth. Nod y llyfr yw tynnu sylw at bwysigrwydd croesawu gwahaniaeth a sut y mae gan bawb eu cryfderau unigol eu hunain. Cafodd stori Moli ei lansio yng nghanolfan Serennu Casnewydd, ac fe'i datblygwyd gan bobl ifanc ag awtistiaeth. Daeth i fodolaeth ar ôl i gynghorydd o Gasnewydd, Paul Cockeram, gael ei ysbrydoli gan The Elephant Who Forgot, llyfr a grëwyd gan rieni i godi ymwybyddiaeth o ddementia. Dyma'r trydydd llyfr o'i fath, gyda dau arall ar y gweill. Caiff y llyfrau eu hariannu drwy'r Gronfa Gofal Integredig. Mae'r dulliau meddal hyn o addysgu plant am yr hyn sy'n aml yn bynciau anodd, yn syml ac yn hynod o dreiddgar. Maent yn effeithiol o ran mynd i'r afael â stigma, a gofynnaf i'r Gweinidog edrych yn fanwl ar y prosiectau hyn a gweld sut y gellid cyflwyno'r llyfrau hyn er mwyn i stori Moli fod yn un y byddai holl blant Cymru yn ei hadnabod yn y pen draw.

14:00

Wel, diolch, Jayne, a diolch am ddwyn sylw'r Siambr gyfan at argaeledd yr adnodd hwnnw, a gobeithiaf allu cael gwell golwg arno ar ôl i’r cwestiynau ddod i ben. Rydym yn gweithio i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth nid yn unig ymhlith plant, ond hefyd ymhlith ein holl grwpiau proffesiynol, gan gynnwys y rheini sy'n gweithio yng ngwasanaethau awdurdodau lleol, addysg ac iechyd, fel rhan o'n rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol. Mae hynny wedi cynnwys cyhoeddi canllawiau i addysgwyr. Mae'r canllawiau hynny’n manylu ar ymyriadau effeithiol ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth mewn lleoliadau addysg. Ac rydym yn parhau i gyflwyno a datblygu ein cynllun dysgu gydag awtistiaeth, gyda rhaglenni wedi'u hanelu at y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd ac addysg bellach. Mae hynny'n cynnwys cyhoeddi a pharatoi pecynnau adnoddau dwyieithog ar gyfer yr holl leoliadau hynny, felly mae hynny'n ein galluogi, fel y dywedais, i helpu i godi ymwybyddiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd y llyfr y sonioch chi amdano a Moli'r fuwch yn ychwanegiad defnyddiol at yr adnoddau y bydd eu hangen ar ysgolion i allu mynd i'r afael â'r gwahaniaethau pwysig hyn sy'n bodoli mewn ystafell ddosbarth.

Weinidog, mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi plant ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Fodd bynnag, mae plant ag awtistiaeth yn aml yn cael eu camddeall a gallant ei chael hi’n anodd cymdeithasu a chyfathrebu yn eu cymunedau ac yn eu hamgylchedd. O’r herwydd, gall diffyg ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith plant eraill arwain at ynysu neu fwlio pobl awtistig. Weinidog, pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi i sicrhau bod ein hysgolion yn mynd ati’n rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth er mwyn hyrwyddo gwell goddefgarwch a dealltwriaeth o awtistiaeth yn ein hystafelloedd dosbarth? Diolch.

Fel y dywedais yn fy ateb i Jayne Bryant, mae gennym raglen Cymru gyfan ar waith i wella ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith addysgwyr sy'n gweithio gyda phlant. Mae hynny'n cynnwys, fel y dywedais, cynhyrchu canllawiau a deunydd hyfforddi ar eu cyfer, yn ogystal â chynhyrchu adnoddau y gellir eu defnyddio mewn ysgolion, ac wrth gwrs, mae ein cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ni, mewn amryw o ffyrdd, ond yn bennaf drwy ein maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, lle gallwn fynd ati’n rhagweithiol i archwilio gwahaniaethau o bob math gyda'n plant a sicrhau eu bod yn deall, yn empathetig, yn barchus ac yn wybodus am y cymunedau amrywiol iawn y byddant yn tyfu i fyny ynddynt ac y byddant, gobeithio, yn dod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus ynddynt pan fyddant yn gadael ein system ysgolion.

Cymwysterau TGAU Cymraeg a Saesneg

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am roi cydraddoldeb i gymwysterau TGAU Cymraeg a Saesneg mewn gofynion prifysgolion yng Nghymru? OAQ54914

Mater i sefydliadau unigol yw recriwtio myfyrwyr, fel y dywedais yn gynharach. Fodd bynnag, deallaf fod prifysgolion yn trin TGAU Cymraeg a Saesneg yn gyfartal, er y gallai fod gofynion mynediad penodol ar gyfer cyrsiau unigol.

Rydych chi'n iawn mai mater i brifysgolion ydy manylion, ond mae yna faterion o egwyddor pwysig yn fan hyn. Mae yna fwy nag un achos tebyg wedi cael ei dynnu at fy sylw i. Yn yr achos penodol yma, yr un diweddaraf, mae darpar fyfyriwr meddygaeth wedi cael gwybod na all hi gael ei derbyn ar y cwrs am nad oes ganddi hi radd B mewn Saesneg TGAU—C sydd ganddi hi; mae B ganddi hi yn ei hiaith gyntaf hi, sef Cymraeg. Rŵan, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrthym ni fod yna amryw gyrsiau eraill lle mae'r gofynion mynediad yn gofyn am C mewn Cymraeg neu Saesneg.

'Mi fyddwn ni'n gofyn am eglurhad pam fod angen B yn Saesneg yn benodol, a pham na fyddai B yn y Gymraeg yn ddigonol am y rhesymau hyn hefyd.'

Mae'n gwneud y pwynt bod hyn yn arbennig o wir o ystyried yr angen sy'n bodoli am ragor o weithwyr gofal sylfaenol sydd â sgiliau yn y Gymraeg. Fe ddywedodd y Coleg Cymraeg wrthyf i, ym marn y coleg, dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal o ran y gofyniad yna, a byddan nhw'n mynegi hyn i'r brifysgol. Ydych chi'n cytuno efo'r egwyddor honno, y dylai'r ddwy iaith gael eu trin yn gyfartal yng Nghymru ar gyfer cwrs sy'n darparu ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

14:05

Wrth gwrs, credaf y byddai'r gallu i allu ymarfer meddygaeth yn ddwyieithog drwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg yn rhoi rhywun mewn lle gwych iawn i fod yn ymarferydd rhagorol, ond fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn, y prifysgolion eu hunain sy'n gyfrifol am bennu'r gofynion unigol o ran graddau ar gyfer y cyrsiau. Maent yn gwneud hynny, yn aml, mewn ffordd i sicrhau bod y myfyrwyr iawn yn cael eu rhoi ar y cyrsiau hynny, myfyrwyr â'r galluoedd iawn i allu llwyddo a ffynnu. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar yr achos unigol hwnnw, ond fel y dywedais, mater i sefydliadau unigol yw gwneud penderfyniad ynglŷn â’r gofynion penodol er mwyn i fyfyrwyr allu llwyddo ar y cwrs hwnnw, ond mae'r egwyddor fod TGAU Cymraeg iaith gyntaf neu TGAU Saesneg yn gydnaws â'i gilydd yn un y cytunaf â hi ac yn un rydym yn ei defnyddio fel mesur perfformiad cydnaws yn system werthuso Llywodraeth Cymru.

Fel y dywed y canllaw derbyniadau addysg uwch a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru, mae'r TGAU diwygiedig yng Nghymru yn cadw'r raddfa raddio A* i G. Ni ellir gwneud cymhariaeth fanwl rhwng y raddfa raddio gyfredol sy'n mynd yn ôl trefn yr wyddor a'r raddfa rifol ddiwygiedig yn Lloegr. Wrth gwrs, mae gan Gymru ddwy TGAU mathemateg hefyd, mathemateg a rhifedd, ac un yn unig sydd gan Loegr, ac mae posibilrwydd wrth gwrs y gall hynny greu cymhlethdodau a dryswch pan fo angen i ni allu eu cymharu. Os a phan, felly, y bydd prifysgolion yn methu deall sut i gymharu'n effeithiol fel bod cyflawniad cyfartal yn cael ei gydnabod yn gyfartal, pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i oresgyn unrhyw gamddealltwriaeth neu gamdybiaethau mewn unrhyw brifysgolion yng Nghymru, Lloegr neu unrhyw le arall a allai fod yn camddeall pethau?

Y peth cyntaf i'w ddweud, Mark, yw bod ein TGAU a'n Safon Uwch a'n cyfres o gymwysterau yr un mor drylwyr â'r rheini dros y ffin. Mae penderfyniad Llywodraeth Lloegr i newid eu trefniadau graddio, yn fater iddynt hwy, ac mae hynny’n gwbl briodol, ond mae Cymwysterau Cymru wedi rhoi cyngor clir fod y system raddio yn ôl llythrennau yn un y mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei deall yn dda, ac efallai o ran addysgu prifysgolion ynglŷn â chymwysterau, efallai mai ar y system rifol y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.

Fodd bynnag, gan fod gwahaniaeth yn y system gymwysterau a'n bod yn awyddus i sicrhau cludadwyedd ein system gymwysterau ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, er enghraifft, mae gan Gymwysterau Cymru weithiwr penodedig sy'n gweithio gyda'r sector addysg uwch ledled y DU i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth lawn o'r llu o gymwysterau y mae plant Cymru yn astudio ar eu cyfer, a'u gwerth a'u trylwyredd, ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith y mae Cymwysterau Cymru yn ei wneud yn hyn o beth.

Adolygiad Reid

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Adolygiad Reid? OAQ54918

Derbyniwyd argymhellion adolygiad Reid mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru yn 2018, ac ers hynny, rwyf wedi bod yn bwrw ymlaen â chamau i gefnogi’r argymhellion hyn gyda Gweinidogion a swyddogion o bob rhan o'r Llywodraeth.

Yn y dystiolaeth a roddodd y Gweinidog i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, gwnaeth ymrwymiad cyllidebol clir i sicrhau £15 miliwn o wariant ar gyfer gweithredu, yn benodol, argymhelliad 2 yn adolygiad Reid. Ond roedd argymhelliad 2 yn adolygiad Reid yn argymell £30 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i gymell ymchwilwyr i sicrhau mwy o gyllid gan fusnesau ac o'r tu allan i Gymru. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyflawni argymhellion adolygiad Reid mewn egwyddor, ond mae'r ffigur a amlinellwyd ganddi £15 miliwn yn brin. A’r hyn a ddywedodd mewn ymateb i gwestiynau oedd bod Llywodraeth Cymru yn ariannu’r ymchwil mewn amrywiaeth o wahanol adolygiadau sydd bron yn Fysantaidd o ran eu cymhlethdod. Mae'r arian allan yno yn rhywle, ond mae'n gymhleth iawn ei archwilio y tu hwnt i'r £15 miliwn a ymrwymwyd ganddi. Serch hynny, mae trydydd argymhelliad adolygiad Reid yn argymell un brand trosfwaol ar gyfer ei gyllid ymchwil ac arloesi i gynyddu gwelededd a chysondeb. Felly, gyda hynny mewn golwg, a all esbonio’n fanylach o ble y daw'r arian? Ac os na all wneud hynny heddiw, a wnaiff hi ymrwymo i ddarparu esboniad cyn gynted â phosibl, ac os oes modd, gwneud datganiad i'r Siambr ynglŷn â hynny, a gweithio gyda'i chyd-Weinidogion i sicrhau’r cysondeb a argymhellwyd gan adolygiad Reid?

14:10

Mae'r Aelod yn llygad ei le, Lywydd: rydym yn buddsoddi oddeutu £15 miliwn mewn cronfa arloesi ac ymgysylltu. Roedd honno'n gronfa a gafodd ei diddymu neu ei dirwyn i ben yn ôl yn 2014 oherwydd y pwysau a oedd ar gyllideb Llywodraeth Cymru bryd hynny, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu ailddechrau ariannu'r ddarpariaeth honno. Yn ychwanegol at hynny, rydym yn dyrannu cyllid ymchwil o safon i CCAUC yn unol â'r argymhellion yn adroddiadau Reid a Diamond. Ond mae cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi wedi'i wasgaru ar draws nifer o bortffolios: fy mhortffolio i, portffolio Ken Skates, a phortffolio Vaughan Gething. Felly, at ei gilydd, mae Llywodraeth Cymru yn gwario symiau sylweddol o arian ar ymchwil, ar arloesi yn gyffredinol. Gall fod yn gymhleth a dyna pam fod swyddogion yn gwneud y gwaith hwn, er mwyn gallu cael gwell dealltwriaeth o'r adnoddau sydd ar gael.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod, mae ein gallu i ariannu prifysgolion yn y ffordd hon o dan fygythiad difrifol oherwydd y diffyg eglurder o dan y gronfa ffyniant gyffredin. Mae llawer o'r adnoddau sydd wedi ariannu rhaglen Sêr Cymru, rhaglen Sgiliau'r Economi Wybodaeth ym Mhrifysgol Bangor—mae'r rhaglenni hyn wedi cael eu hariannu gan arian o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, ac mae'r anallu i gael eglurder ynghylch hynny a'r anallu i gael Llywodraeth Cymru i gyfeirio'r cyllid hwnnw yn fygythiad gwirioneddol. A dyna pam fod Prifysgolion Cymru yn cefnogi galwad Llywodraeth Cymru am eglurder gan Lywodraeth San Steffan ar y gallu i gael y cronfeydd strwythurol newydd, ac i'r cronfeydd hynny gael eu rheoli yma, yn gwbl briodol, gan y Llywodraeth hon, ac i'r Senedd hon allu craffu arnynt.

Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

6. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn Sir Gaerfyrddin? OAQ54921

Diolch. Mae £87 miliwn wedi'i fuddsoddi yn ystâd ysgolion Sir Gaerfyrddin drwy don gyntaf rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Cynigir £112 miliwn yn ychwanegol i ailadeiladu ac adnewyddu ystâd ysgolion Sir Gaerfyrddin yn ystod ail don y rhaglen, a dechreuodd y cyllid ar gyfer y don honno ym mis Ebrill y llynedd.

Diolch i'r Gweinidog am y diweddariad hwnnw. Ni fydd y Gweinidog yn synnu fy nghlywed yn ei holi eto am y cynnydd a wnaed ar ddarparu Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli. Roeddwn yn ddiolchgar iawn pan ymrwymodd y Prif Weinidog, cyn y Nadolig, i gael trafodaethau traws-Gabinet am y materion penodol sy'n codi mewn perthynas â chynllunio ar gyfer yr ysgol honno, a tybed a all y Gweinidog ddweud wrthyf heddiw a yw'r sgyrsiau hynny wedi digwydd a phryd y gall y rhieni, y staff, ond yn bwysicaf oll, y disgyblion, ddisgwyl clywed y bydd y gwaith o adeiladu'r ysgol newydd yn dechrau.

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, cymeradwywyd yr achos busnes amlinellol ar gyfer adeiladu'r ysgol newydd honno yn 2017. Fodd bynnag, yn y cyfamser, mae'r cynnig hwnnw wedi dod yn destun cryn drafodaeth o ran materion cynllunio y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohonynt. Ar hyn o bryd, mae'r adran o Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau cynllunio yn ystyried cais i'w alw i mewn, ond mae'n rhaid i mi roi gwybod i'r Aelod na ellir ystyried y cais yn llawn hyd nes bod cyngor Sir Gaerfyrddin yn paratoi adroddiad ei swyddogion ei hun ac yn ei gyflwyno i'r pwyllgor. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn aros am yr adroddiad hwnnw, a byddant yn gwneud argymhellion i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ôl ei dderbyn. Mae unrhyw ddylanwad y gallai hi ei gael ar y broses honno i'w groesawu.

Weinidog, tybed a allech ddweud neu gadarnhau wrthym pa drefniadau ffurfiol sydd gennych ar waith ar gyfer monitro a gwerthuso gwerth am arian mewn perthynas â chyflawniadau rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, boed hynny yn Sir Gaerfyrddin neu ledled Cymru.

Yn sicr. O ystyried y swm sylweddol o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar y rhaglen, sy'n cynnwys arian gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd arian cyfalaf y mae llywodraeth leol eu hunain yn ei roi i'r prosiect, ac yna fe geir proses werthuso. Mae hynny wedi bod o gymorth wrth lywio'r ail don o gyllid, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol i gyflawni'r gwerth gorau posibl am arian. Gan i'r gronfa gael ei rheoli'n dda iawn yn y band cyntaf, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi gallu cyflawni mwy o brosiectau nag a ragwelwyd ar ddechrau'r prosiect. Ond mae rhoi sylw manwl i werth am arian yn rhan bwysig o'r broses drylwyr sy'n cael ei goruchwylio yn annibynnol ar y Llywodraeth pan roddir cymeradwyaeth. Felly, mae'n ddull amlhaenog, a gwneir argymhellion i Weinidogion gan banel annibynnol.

14:15
Yr Adolygiad Cyllido Ysgolion

7. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad cyllido ysgolion yng Nghymru? OAQ54926

Mae'r economegydd addysg blaenllaw Luke Sibieta yn bwrw ymlaen â dadansoddiad o sut y mae cyfanswm y gwariant a gwariant ar gategorïau gwahanol yn amrywio rhwng ysgolion o dan amgylchiadau penodol yng Nghymru. Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith hwn wedi'i gyhoeddi, a'r bwriad yw y bydd y gwaith wedi'i gwblhau cyn toriad yr haf.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae pob un ohonom yn ymwybodol y bydd maint cyllid ysgolion yn parhau i fod yn broblem hyd nes ein bod nid yn unig yn gwrthdroi effaith 10 mlynedd o doriadau Torïaidd i gyllideb Cymru ond hefyd yn gallu cynyddu ein cyllidebau mewn termau real ac am gyfnod estynedig. Ond er gwaethaf y pwysau, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi darparu £100 miliwn i gyflawni gwell safonau ysgolion, wedi cyflwyno grant mynediad datblygu disgyblion, wedi cynyddu cefnogaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn cefnogi'r cynllun newyn gwyliau ac yn cyflwyno rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ond a allwch ddweud wrthyf i ba raddau y bydd setliad cyllideb Cymru ar gyfer 2020-1 yn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon a nodwyd yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid ysgolion yng Nghymru?

Iawn. Gallaf ddweud y bydd y penderfyniadau a wneir gan wasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion, awdurdodau addysg lleol a chynghorau yn rhan o ymchwiliad ac adroddiad Luke. Un o'r materion blaenllaw yn adroddiad y pwyllgor oedd nid yn unig cyfanswm y cyllid, ond mewn gwirionedd, y ffordd y mae'r arian a ddyrannwyd yn cyrraedd y rheng flaen ac yn mynd i gyllideb ysgolion unigol. Ac felly, fel y dywedais, bydd hynny'n rhan bwysig o'r adroddiad.

O ran y flwyddyn ariannol sydd ar ddod, ar ôl gwrando'n ofalus iawn ar gydweithwyr mewn llywodraeth leol a chael sicrwydd ganddynt, pe bai Llywodraeth Cymru yn rhoi setliad da i lywodraeth leol, y byddent yn blaenoriaethu ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, credaf fod hynny'n ein rhoi mewn sefyllfa dda, yn ogystal â'r adnoddau ychwanegol sydd ar gael i mi, gan gynnwys rhai o'r buddsoddiadau a amlinellwyd gennych yn eich cwestiwn atodol.

Y Fframwaith Siarter Iaith

8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y fframwaith Siarter Iaith? OAQ54928

Diolch yn fawr, Llyr. Cyfrifoldeb Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yw Siarter Iaith. Fodd bynnag, gallaf ddweud wrthych fod fframwaith Siarter Iaith yn rhan o'r ymgynghoriad ar gwricwlwm newydd Cymru. Bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried ochr yn ochr â'r gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Wel, diolch ichi am hynny. Yn amlwg, mi ddywedodd y canllawiau cychwynnol—

Mae'n ddrwg gen i—

Mae'n ddrwg gennyf—fy nghlustffonau. Nid yw fy Nghymraeg mor dda â hynny. [Chwerthin.] Safon blwyddyn 2.

Diolch. Mi ddywedodd y canllawiau cychwynnol, wrth gwrs, a gyhoeddwyd i ysgolion nôl ym mis Ebrill, y byddai yna ganllawiau pellach ymarferol ar gael erbyn mis Medi. Wel, rŷn ni bum mis yn ddiweddarach ac rŷn ni dal, hyd y gwelaf i, ddim wedi eu gweld nhw. Nawr, dwi'n derbyn beth ddywedoch chi ynglŷn â chyfrifoldeb Gweinidogion o gwmpas hyn, ond y pwynt dwi eisiau ei wneud yw: mi ddylai'r Siarter Iaith fod yn llawer mwy blaenllaw a chanolog, yn fy marn i, i'r ymdrech yma i dyfu'r iaith Gymraeg drwy gyfrwng ystafell ddosbarth, er mai hyrwyddo defnydd o'r iaith y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth mae'n ei wneud, wrth gwrs. A dwi eisiau clywed gan y Llywodraeth fod y Siarter Iaith yn cael y statws dyledus yna er mwyn i fi gael hyder ei fod yn flaenoriaeth ichi fel Llywodraeth, oherwydd mae'r oedi yma yn y canllawiau diweddaraf yn rhywbeth sy'n fy mhoeni i yn fawr. Mi fyddai modd lleddfu hynny, wrth gwrs, drwy sicrhau, fel rŷch chi wedi, efallai, rhyw hanner awgrymu, y byddai cyfeiriad llawer mwy cryf tuag at y Siarter Iaith yn y cwricwlwm newydd. Ond y neges dwi eisiau ei glywed gennych chi, os caf i, yw ei fod e'n rhan ganolog o weledigaeth y Llywodraeth yn y maes yma a bod gennych chi ymrwymiad i sicrhau bod y Siarter Iaith yn tyfu ac yn datblygu ymhellach.

Wel, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn falch, pan fyddwn yn cyhoeddi'r fersiwn derfynol o ganllawiau'r cwricwlwm ddiwedd y mis hwn, ein bod wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr adborth o'r cyfnod cychwynnol mewn perthynas â'r Siarter. Mae'r gwerthusiad allanol yn mynd rhagddo, ac oherwydd y newidiadau i amserlen y gwerthusiad, ni fydd y prosiect yn cael ei gwblhau tan ddiwedd mis Chwefror. O ganlyniad, ni fydd canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi tan dymor yr haf. Disgwylir i ysgolion weithredu'r fframwaith newydd o fis Medi 2020 ymlaen, ac mae cydgysylltwyr Siarter Iaith wedi cael gwybod am yr amserlen newydd hon. Felly, yr oedi mewn perthynas â'r gwaith gwerthuso sydd wedi arwain at yr effaith ganlyniadol hon. Ond bydd y Siarter yn ffordd bwysig iawn i ni o ddatblygu'r iaith.

Un o'r heriau sy'n ein hwynebu weithiau, yn enwedig i blant lle nad yw Cymraeg yn iaith y cartref, yw bod iaith, yn rhy aml, yn cael ei hystyried yn rhywbeth sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn hytrach na'i bod yn rhan fyw o gymuned yr ysgol gyfan a phob agwedd arni. Ac felly bydd gallu adeiladu ar siarad yr iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn rhan bwysig iawn, yn gyntaf oll, o ddatblygu sgiliau a hyfedredd unigolion, ond hefyd wrth anfon neges glir iawn ynglŷn â lle'r iaith nid yn unig ym mywyd yr ysgol, ond ym mywydau plant o ddydd i ddydd a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Canolfannau Diagnosis Cyflym

1. Pryd bydd y Gweinidog yn cyhoeddi gwerthusiad o gynllun canolfannau diagnosis cyflym Llywodraeth Cymru? OAQ54895

Diolch am eich cwestiwn. Mae'r grŵp gweithredu ar ganser, a arweinir gan y GIG, wedi ariannu dwy ganolfan beilot ddiagnosteg gyflym. Ystyriwyd yr adroddiadau gwerthuso interim yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd 2019 ac mae disgwyl i'r gwerthusiad terfynol gael ei ystyried yn eu cyfarfod ym mis Mai eleni. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r Aelodau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar y gwerthusiad a'r effaith ar gynllunio a chyflawni y GIG.

Rydyn ni'n gwybod bod adnabod canser yn gynnar yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael canlyniad da neu ganlyniad gwael pan ei bod hi'n dod i drin y canser hwnnw. Yn syml iawn, mae darganfod canser yn gynnar yn achub bywyd claf. Mae'r dystiolaeth gadarnhaol sy'n dod yn sgil cynlluniau peilot Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg i'w chroesawu'n fawr iawn. Mae pobl Gwynedd yn galw am wasanaeth tebyg, efo dros 1,500 o bobl wedi llofnodi llythyr agored yn galw am ganolfan diagnosis cyflym yn ein hardal ni. Gan ystyried bod canser yn arwain at farwolaeth mwy o bobl yng Ngwynedd nac unrhyw beth arall, a gan ein bod ni'n gwybod bod diagnosis cyflym yn achub bywydau, pryd fedrwn ni weld canolfan diagnosis cyflym yn dod i'r ogledd-orllewin?

Wel, fel y dywedaf, bydd y gwerthusiad sydd i ddod ym mis Mai eleni yn caniatáu i ni ddeall yr union effaith, er bod y prif bwyntiau a gafwyd yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, yn amlwg, wedi bod yn werthusiad cychwynnol cadarnhaol. Bydd y gwerthusiad terfynol yn dweud mwy wrthym nid yn unig am y ddau safle, ond yn ein helpu wedyn i lywio cynllun cenedlaethol, a bryd hynny, bydd modd i mi roi diweddariad i'r Aelodau ar sut beth fydd hwnnw, gan fod mwy i'w ystyried na nodi lleoliadau'n unig; mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod gennym y gweithlu cywir a'r cyfalaf cywir ar ei gyfer pe bai angen. Ond rwy'n edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol a gwneud dewis wedyn, gyda'r system, ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hynny.

Weinidog, credaf fod pob un ohonom wedi darllen y stori gadarnhaol iawn am Gastell-nedd Port Talbot ddoe. Wrth gwrs, maent wedi profi'r cynlluniau peilot yn Lloegr, ac maent yn mynd ati i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol. Mewn gwirionedd, erbyn mis Ebrill eleni—fis cyfan cyn i'ch gwerthusiad gael ei gynnal o'r diwedd—bydd rhwydwaith ar waith yn Lloegr. Pam ein bod ni mor bell ar ei hôl hi?

Nid ydym mor bell â hynny ar ei hôl hi. Ni chredaf fod hynny'n adlewyrchiad teg o gwbl, gyda phob parch, Mr Melding. Y gwir amdani yw ein bod wedi sefydlu'r cynlluniau peilot hyn, rydym yn dysgu llawer oddi wrthynt, ac rwy'n disgwyl gwneud dewisiadau ar draws ein system eleni, ac yna byddwn yn dechrau ar y cam gweithredu. Ni fuaswn yn derbyn yn ddi-gwestiwn bob datganiad i'r wasg a gyhoeddir yn Lloegr ynglŷn â ble maent arni go iawn gyda'u gwasanaeth. Er enghraifft, mewn cyfnodau eraill o wariant ar iechyd a pherfformiad iechyd, gwelsom ddatganiadau i'r wasg yn cael eu cyhoeddi nad ydynt yn adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwerthusiad o fewn ein system o sut y mae ein system yn gweithio mewn ffordd integredig a chynlluniedig i ddarparu gofal ar sail fwy cyson ledled y wlad pan fyddwn yn gwybod beth yw'r ateb cywir. Mae gennyf fwy o ddiddordeb o lawer mewn bod mewn sefyllfa i helpu i gyfarwyddo'r gwasanaeth i wneud gwelliannau, yn hytrach na dweud yn unig fod llawer o syniadau da i'w cael ond nad oes barn gennyf ynglŷn â'r hyn y dylai hynny ei olygu ar draws y gwasanaeth.

14:25

Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Dr Heather Wilkes a'i thîm yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a'i rhagflaenydd, Dr Jeremiah, sydd wedi cyflawni'r gwaith hwn mewn gwirionedd, ac o ganlyniad, rydym yn gweld bod bywydau'n cael eu hachub drwy ddiagnosis cynharach? Ond fel y nodoch chi, yn awr ac yn y pwyllgor y bore yma, os ydym am gael mwy o'r rhain, mae arnom angen i staff allu darparu'r adrannau hynny a'r unedau hynny. Beth a wnewch fel Llywodraeth i baratoi ar gyfer sefyllfa lle bydd modd i ni ehangu hyn i feysydd eraill os gwelir bod y cynlluniau peilot hyn yn gweithio, gyda chanlyniadau cadarnhaol parhaus, fel bod gennym staff, adnoddau ac offer i sicrhau y gellir ehangu hyn ledled Cymru?

Credaf fod y pwyntiau a wneuthum yn y pwyllgor heddiw yn hollol gywir o hyd. Mae'n ymwneud â chydnabod nid yn unig y cynllun i gael y rhain, ond mewn gwirionedd, gwaith y staff i arwain ac i gyflawni'r gwaith hwnnw ar lawr gwlad mewn cyfnod peilot, ac nad yw'r dysgu'n ymwneud â chanlyniadau'r hyn y mae hynny'n ei olygu yn unig, ond hefyd y gymysgedd o staff sydd ei angen arnoch i'w cyflawni'n llwyddiannus. Felly, ni all y gwerthusiad nodi, 'Dyma'r ateb cywir' yn unig, a pheidio â chynnwys barn ynglŷn â sut y dylid bwrw ymlaen â hynny wedyn.

Rwy'n awyddus i fod mewn sefyllfa i ddeall a oes angen i ni wneud gwahanol ddewisiadau buddsoddi yn ganolog, neu a oes angen, mewn gwirionedd, i ni helpu i gyfarwyddo a symud o amgylch ein system mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth. Dyna pam, er enghraifft, ein bod wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau delweddu, nid yn unig yr academi ddelweddu, i wella ansawdd yr hyfforddiant ac i wella cyfraddau cadw staff, ond hefyd y buddsoddiad a wnaethom yn y rownd ddiweddaraf o hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r buddsoddiad ychwanegol rydym wedi'i wneud mewn radiotherapyddion, er enghraifft. Felly, mae a wnelo hyn ag ymbaratoi ar gyfer y dyfodol, ond gan ddeall yn iawn o hyd fod angen inni wneud rhagor pan gawn y gwerthusiad llawn o'r hyn y dylid ei wneud nesaf.

Trosglwyddo Cleifion

2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog yn eu cael gyda byrddau iechyd a phartneriaid cysylltiedig i wella’r broses o drosglwyddo cleifion o ysbytai yn ôl i leoliadau cymunedol? OAQ54912

Diolch i David Rees am ei gwestiwn. Fel y Gweinidog, rwy’n cael trafodaethau rheolaidd am y materion hyn gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cyfarfodydd ym Mae Abertawe yr wythnos diwethaf. Mae'n hanfodol atal derbyniadau diangen, a throsglwyddo pobl o'r ysbyty i'w cartrefi neu leoliadau cymunedol cyn gynted ag y byddant yn barod.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fel y darganfu’r Gweinidog drosto’i hun yr wythnos diwethaf, pan ymwelodd â’r uned mân anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ar y diwrnod penodol hwnnw, roedd 125 o gleifion yn Nhreforys yn aros i gael eu rhyddhau am eu bod yn ddigon iach yn gorfforol i fynd o’r ysbyty, ond roeddent yn dal i eistedd yno am na allent adael. Mae'n amlwg fod perthynas i'w chael â phartneriaid i sicrhau bod pecynnau gofal ar waith, fod lleoedd ar gael mewn cartrefi gofal, neu gartrefi nyrsio, a bod yr addasiadau'n cael eu gwneud. Mae hyn yn peri problem, gan ein bod bob amser yn tynnu sylw at y ffaith bod ambiwlansys wedi'u parcio y tu allan i ysbytai a bod adrannau damweiniau ac achosion brys yn wynebu anawsterau, ond y llif drwy'r ysbytai ac anawsterau wrth ryddhau cleifion sy'n blocio popeth mewn gwirionedd.

Beth a wnewch i sicrhau bod yr adrannau hynny a'r gwasanaethau cymdeithasol hynny, y partneriaid hynny, yn gwneud eu gorau glas? Gwn eu bod dan bwysau—rwy'n llwyr sylweddoli'r pwysau sydd arnynt—ond mae angen iddynt allu sicrhau y gall y cleifion adael cyn gynted â phosibl fel bod modd rhyddhau'r gwelyau er mwyn sicrhau bod y llif drwy ysbytai yn gwella.

Diolch, David Rees, am godi'r pwyntiau pwysig iawn hynny. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd weithio gydag awdurdodau lleol a chyda'r trydydd sector i sicrhau bod pobl yn dychwelyd adref o'r ysbyty cyn gynted ag y byddant yn iach i wneud hynny, gan y credaf fod pob un ohonom yn gwybod am y niwed i bobl sy'n aros yn hwy yn yr ysbyty, yn ogystal â'r effaith ar y llif drwy'r ysbyty. Gwn o ymweliadau diweddar, yn enwedig â Bae Abertawe, fod ymrwymiad gwirioneddol i wneud hyn.

Felly, rydym yn gwneud ymdrech ac yn darparu arian. Rydym yn cefnogi gwelliannau drwy raglen genedlaethol Every Day Counts a'r llwybrau rhyddhau i adfer ac asesu. Rydym wedi buddsoddi mewn mentrau newydd drwy'r gronfa gofal integredig a'r gronfa trawsnewid, lle mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd, wrth gwrs, i ddod o hyd i atebion.

Mae rhanbarth Bae Abertawe yn rhoi nifer o fesurau ar waith, gan gynnwys drwy fuddsoddi dros £1 filiwn yn eu gwasanaeth ysbyty i'r cartref, y soniasant wrthyf yn fanwl amdano yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n cefnogi rhyddhau cynnar. Mae'r camau hyn wedi arwain at welliannau, felly yn sicr, ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, gostyngwyd cyfraddau oedi wrth drosglwyddo gofal.

Fe sonioch chi am y gronfa trawsnewid, Weinidog, ac oedi wrth ryddhau i leoliadau cymunedol. Un o'r rhwystrau o hyd yw cyllido, yn enwedig os oes angen cyllid ar unigolyn gan y gwasanaeth iechyd a chan y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd y pecyn gofal cymysg sydd ei angen arnynt. Yn eithaf aml, ceir mân ryfeloedd llwythol—sy'n ffordd garedig o'i ddisgrifio efallai. Mae gan bobl eu cyllidebau eu hunain, mae'n rhaid iddynt ddiogelu eu cyllidebau ac mae'n rhaid iddynt roi cyfrif am eu cyllidebau. Tybed pa waith sy'n mynd rhagddo, drwy'r gronfa trawsnewid, yn enwedig yn 'Gorllewin Cymru Iachach', lle mae'r holl sefydliadau i fod i ddod at ei gilydd i sicrhau gwell canlyniadau i gleifion a sicrhau eu bod yn gadael ysbytai ac yn mynd yn ôl i leoliadau cymunedol. Tybed a oes modd i ni ddechrau dysgu gwersi ynglŷn â sut y gallwn ddatrys y materion cyllido hyn, fel bod cael rhywun allan o'r ysbyty ac yn ôl i'w cartref neu i ofal preswyl, ni waeth beth arall sy'n digwydd—fel nad cyllid fydd yn achosi'r rhwystr, a phwy sy'n talu am ba elfen o'r gofal sydd ei angen ar yr unigolyn hwnnw.

14:30

Mae Angela Burns yn llygad ei lle, ceir anawsterau weithiau mewn perthynas â'r gwahanol elfennau hynny o gyllid. Ond mae'n gwbl hanfodol fod y claf, yr unigolyn, yn gwbl ganolog i'r ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud. A gwn fod rhai prosiectau, o dan y cyllid trawsnewid, wedi edrych ar sut y gall hynny ddatblygu, a gobeithiaf y bydd modd i ni ddysgu drwy hynny. Mae gofal parhaus yn un mater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef, a chredaf ein bod wedi cael datganiad ar hynny'n weddol ddiweddar, a gwn ein bod yn edrych ar rai elfennau o ofal cymunedol ac yn eu hadolygu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones. 

Diolch, Lywydd. A yw’r Gweinidog yn cytuno â’r datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe mewn ymateb i gwestiynau gan Adam Price, wrth siarad am bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans? A dyfynnaf:

'Nid yw'r broblem yn un y gellir ei datrys yn nwylo'r gwasanaeth ambiwlans yn unig... Mae'n fater systemau cyfan, lle mae'n rhaid i ni allu clirio pobl drwy'r system gyfan, fel y bydd lle wrth y drws ffrynt pan fydd y system yn dod dan bwysau, fel sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf.'

Ac a yw’n disgwyl i ni gredu’r Prif Weinidog pan ddywedodd y Prif Weinidog wrth Adam Price:

'rŷn ni wedi datrys y broblem... ac mae'r sefyllfa lot yn well nag yr oedd hi pan roeddwn i'n dod i ddechrau fel Gweinidog dros Iechyd'?

Oherwydd buaswn yn awgrymu, Lywydd, nad dyna yw profiad fy etholwyr sy'n cael eu gwasanaethu gan fyrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.

Ie, credaf fod y Prif Weinidog yn iawn i'w ddisgrifio fel mater system gyfan; mae hynny'n bendant yn wir. Mae'r ymweliadau rwyf wedi'u gwneud drwy ddechrau cyfnod y gaeaf, yn y flwyddyn galendr hon eisoes, wedi atgyfnerthu hynny i mi. Ac mae'n newid o'r hyn ydoedd ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn hytrach na chlywed pobl yn dweud pan fyddech yn mynd i mewn i adrannau brys, 'Mae angen mwy o feddygon ymgynghorol arnom', eu clywed yn dweud 'Mae angen mwy o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol.' Felly, mae'n sicr yn fater system gyfan.

Ond hefyd, pan edrychwch ar ein sefyllfa, credaf fod gennym, mewn gwirionedd. Os edrychwch yn wrthrychol ar ein sefyllfa o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, rydym yn well yn awr na phan ddechreuodd y Prif Weinidog ei gyfnod fel Gweinidog iechyd. Mae gennym nifer o bethau sydd wedi gwella yn ein system. Yr her i ni, fel bob amser, yw pa mor gyflym rydym yn gwneud gwelliannau yn ein systemau iechyd a gofal, a chyflymder a natur newidiol y galw a'r angen. A dyna'r her gyson sy'n ein hwynebu yn y gwasanaeth iechyd, ac mae'n gysylltiedig â'r cwestiynau a'r sgyrsiau a gawsom ddoe ynglŷn â'r gronfa trawsnewid yn ei hystyr ehangach mewn perthynas â gofal iechyd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Hoffwn pe gallwn ei alw'n ddigonol; mae arnaf ofn na allaf wneud hynny. Rwyf wedi bod yn edrych yn ôl ar ddatganiadau'r Gweinidog ynghylch pwysau'r gaeaf dros y tair blynedd diwethaf, ac mae bob amser yn dweud yr un pethau. Mae bob amser yn sôn am norofeirws a'r ffliw, ac mae'n dweud yr un pethau pan fo gennych flwyddyn heriol iawn, pan fo gennych lawer o norofeirws neu'r ffliw mewn gwirionedd, ac mae'n dweud yr un pethau pan nad yw'r sefyllfa, fel eleni, mor heriol â hynny.

Nawr, efallai ei fod yn gywir fod rhai agweddau ar y gwasanaeth mewn gofal heb ei drefnu wedi gwella ers cyfnod y Prif Weinidog, ond un peth sydd heb ei ddatrys yw'r rhyng-gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Nawr, Lywydd, gŵyr pob un ohonom fod Gweinidogion Cymru yn ein Senedd wedi bod yn gyfrifol am y portffolios iechyd a gofal cymdeithasol am yr 20 mlynedd diwethaf. A all y Gweinidog ddweud wrthyf, a all roi sicrwydd i ni heddiw, na fyddwn yn cael yr un sgwrs ymhen blwyddyn arall, heb sôn am ymhen 20 mlynedd arall?

Wel, nid wyf yn disgwyl cael y sgwrs hon ymhen 20 mlynedd; rwy'n gobeithio y bydd fy mywyd wedi symud ymlaen i bwynt gwahanol erbyn hynny.

Ond o ran rhai o'r pethau a ddywedoch chi, pan fyddwch yn dweud nad yw'n heriol, mewn gwirionedd, mae'r cyd-destun rydym yn darparu iechyd a gofal ynddo yn heriol. Ac nid yw'n gysylltiedig â'r ffliw neu norofeirws yn mynd ar led neu'r tywydd yn unig; mae'n ymwneud â natur newidiol a hwyliau ein poblogaeth. Ac yn y datganiad a gyhoeddais yn gynharach heddiw, y ffaith ein bod wedi cael cynnydd o 23 y cant mewn galwadau ambiwlans coch yn ystod y cyfnod hwnnw—y bobl salaf, fwyaf gwael—cynnydd o'r natur honno o un gaeaf i'r llall, dyna'r math o duedd y byddech yn disgwyl ei gweld dros sawl blwyddyn, nid dros un gaeaf. Felly, mae'r cyd-destun yn wahanol. Mae'r cynnydd yn wahanol. Ac nid fi'n unig sy'n dweud hynny; mae pob rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol ym mhob un o bedair gwlad y DU yn disgrifio'r un cynnydd o ran heriau a phwysau.

Ac o ran y staff rwyf wedi cyfarfod â hwy, maent yn deall natur yr heriau a welant yn dod drwy'r drws yn dda iawn, ac nid ydynt yn eu disgrifio fel, 'Mae'n union yr un fath â gaeafau blaenorol lle na all y system ymdopi.' Felly, rydych yn dychwelyd at yr her ynghylch y rhyng-gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ac unwaith eto, rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd. Pan edrychwch ar y gwaith y mae'r byrddau partneriaeth yn ei wneud a'r ffordd y maent wedi defnyddio arian, nid yn unig y gaeaf hwn, ond y gwelliant yn y berthynas—. O ganlyniad i'r gwelliannau hynny a'r rhyng-gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn gweld y llif yn cael ei adfer, rydym yn gweld y llif yn parhau mewn gwahanol rannau o'r wlad, i mewn ac allan o'r ysbyty. Ac rydym yn fwy llwyddiannus nag erioed am gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain bellach hefyd.

Serch hynny, rydym yn dal i ofyn, 'Sut rydym yn mynd hyd yn oed ymhellach?', a dyna pam ein bod yn edrych nid yn unig ar y gaeaf hwn, ond tuag at y gaeaf nesaf, o ran sut rydym yn mynd ymhellach ac yn gwario mwy, nid yn unig arian at ei gilydd, ond mwy i sefydlogi ac i wella'r gwasanaethau ar y rhyng-gysylltiad hwnnw rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain yn fwy llwyddiannus, ac ar y ffyrdd i'w cael allan o ysbytai, pan nad dyna'r lle iawn ar gyfer eu triniaeth mwyach.

14:35

Wel, y broblem, wrth gwrs, Lywydd, yw nad oes unrhyw un yn amau'r Gweinidog pan fo'n dweud y pethau hyn, ond y broblem yw ei fod wedi bod yn dweud amrywiaeth ohonynt, ac mae ei ragflaenwyr wedi bod yn dweud amrywiadau ar y thema. Efallai'n wir, ac nid wyf yn cwestiynu ei ffigurau, fod gennym, er enghraifft, nifer anarferol o gleifion agored i niwed, ond mae hynny'n arwain at y cwestiwn pam fod y cleifion hynny'n dod mor agored i niwed, pam nad ydynt yn derbyn y gofal yn y gymuned y dylent fod yn ei gael, a daw â ni'n ôl at holl fater y methiant llwyr i sicrhau dull system gyfan.

Mae angen i ni ddweud yn glir iawn, Lywydd, nad ymosodiad ar y staff mo hwn. Gwyddom fod y staff yn gwneud gwaith rhagorol. Gwyddom hefyd fod awdurdodau lleol, mewn rhai lleoedd, yn cydweithredu'n dda neu ddim cystal â'u byrddau iechyd lleol, a lle maent yn cydweithredu'n dda, fod hynny'n sicrhau newid. Ond fy nghwestiwn fyddai: ble mae'r arweinyddiaeth genedlaethol i ddarparu'r newid hwnnw ar raddfa fwy? Nawr, heb os, bydd y Gweinidog yn siarad eto am y gronfa trawsnewid, ond hoffwn atgoffa'r Siambr eto ei fod ef neu ei blaid wedi bod yn gyfrifol am hyn ers 20 mlynedd, ac nid yw'r hyn a ddywedodd y prynhawn yma yn rhoi mwy o sicrwydd i mi na'r holl bethau eraill y mae wedi'u dweud dros y blynyddoedd blaenorol.

Ond hoffwn ddychwelyd at un peth penodol. Felly, mae'r Gweinidog newydd gydnabod, fel y dywedodd y Prif Weinidog, mai un o'r problemau mewn perthynas â rhyddhau cleifion o ambiwlansys i ysbytai—un o'r rhesymau dros y pwysau—yw bod angen dull system gyfan. Felly, rwy'n synnu braidd yn hynny o beth fod y Gweinidog wedi penderfynu sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen arall eto fyth i adolygu'r gwasanaeth ambiwlans. Os nad yn y gwasanaeth ambiwlans y mae'r problemau mewn gwirionedd, ond mewn gofal cymdeithasol, gydag oedi wrth drosglwyddo gofal—a'r capasiti sydd wedi'i ddileu o'r system, buaswn yn dadlau—pam y bydd cael adolygiad arall eto fyth o'r gwasanaeth ambiwlans yn ddefnyddiol, rhywbeth y mae wedi dweud wrthyf ar adegau eraill ei fod yn berffaith iawn? Rwyf wedi drysu braidd.

Nid oes gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud i amddiffyn y penderfyniad, a bod yn gwbl onest. Ond yr hyn y buaswn yn ei ofyn iddo'n ffeithiol yw: pwy fydd aelodau'r adolygiad gorchwyl a gorffen hwn? Mae wedi dweud wrthym pwy fydd y cadeirydd a'r is-gadeirydd—neu gyd-gadeiryddion, rwy'n ymddiheuro. Wel, pwy fydd yr aelodau? Sut y bydd llais cleifion, ac yn enwedig y cleifion mwyaf agored i niwed fel pobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu, yn cael ei glywed yn yr adolygiad? A phryd y mae'n disgwyl iddo adrodd? Oherwydd credaf fod pob un ohonom yn colli amynedd gydag adolygiadau a grwpiau gorchwyl a gorffen. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw Gweinidog iechyd sy'n barod i wneud penderfyniad.

Rwy'n gwneud penderfyniadau bob dydd yn y swydd hon. Rwyf wedi gwneud nifer o benderfyniadau ynglŷn â chyfarwyddo dyfodol y gwasanaeth, nid yn unig y cynllun trosfwaol 10 mlynedd yn 'Cymru Iachach' ond llawer mwy, fel y gŵyr yr Aelod. Rwy'n derbyn bod yna ymdeimlad o theatr yn perthyn i hyn, ond o bryd i'w gilydd, dylem geisio ymwneud â rhai o elfennau mwy realistig yr hyn rydym yn ymdrin ag ef yn y gwasanaeth.

Pan fyddwch yn sôn ynglŷn â pham fod cleifion mor agored i niwed, gwyddom yn iawn pam fod llawer o'n cleifion yn fwy agored i niwed yn awr nag yn y blynyddoedd a fu. Mae'n rhan o'n hanes llwyddiannus o gadw pobl yn fyw am fwy o amser. Mae hefyd yn ymwneud, yn rhannol, â her baich afiechyd a chlefydau nad ydynt rhan o'r broses o heneiddio'n naturiol. Felly, mae'r Aelod yn gwybod hynny'n iawn.

O ran dileu capasiti o'r system, nid ydym wedi dileu capasiti o'r system o reidrwydd. Yr her i ni yw ein gallu i'w gynyddu ar draws y system gyfan i'r graddau ei fod yn ddigon cynaliadwy wedyn i ddarparu'r gofal sydd ei angen arnom. Ac mewn gwirionedd, pe baech yn holi unrhyw sylwebyddion gwrthrychol ynglŷn â ble mae'r capasiti hwnnw'n bodoli, ni chredaf y byddent yn cytuno â dadansoddiad yr Aelod.

Ac o ran y tasglu a sefydlais, fe wyddoch yn iawn pwy yw'r cadeiryddion, a byddaf yn cyhoeddi'r holl aelodau a fydd yn rhan ohono maes o law. Rwy'n disgwyl iddynt adrodd i mi er mwyn gwneud awgrymiadau cynnar cyn diwedd y gaeaf hwn, felly cyn diwedd mis Mawrth. Rwy'n disgwyl cael syniad cadarn o hynny o fewn cyfnod o oddeutu tri mis. Nid wyf wedi sefydlu rhywbeth i gymryd chwech i 12 mis er mwyn osgoi'r her. Mae gennyf ddiddordeb mewn cael cyngor a her ynglŷn â sut i wneud hyn ar draws y system gyfan.

Credaf fod yr Aelod wedi camddeall bod hyn yn ymwneud â chanolbwyntio ar y gwasanaeth ambiwlans yn unig. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwella argaeledd ambiwlansys, ac mae angen edrych ar y system gyfan er mwyn gwneud hynny. Edrychaf ymlaen at allu adrodd yn ôl ar hynny'n iawn i'r Aelodau pan fydd y cyngor hwnnw ar gael i mi.

14:40

Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw amheuaeth fod gennym fyddin anhunanol o 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai un o’i blaenoriaethau er mwyn cefnogi'r gwaith o sicrhau gwell hawliau i ofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 oedd cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu.

Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £15 miliwn mewn gwasanaethau ataliol sy'n cefnogi oedolion ag anghenion gofal a gofalwyr sydd angen cefnogaeth. Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2019, cyhoeddodd eich Llywodraeth y byddwch yn datblygu cynllun gweithredu cenedlaethol eleni i gryfhau cydgysylltiad cenedlaethol cymorth i ofalwyr. Mae tystiolaeth wedi dod i'r amlwg sy'n dangos bod 59 y cant o ofalwyr yng Nghymru wedi nodi eu bod, dros gyfnod y Nadolig, wedi'i chael hi'n anodd iawn, a bod 45 y cant yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, hyd yn oed.

Mae cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru wedi nodi bod gofalwyr ledled Cymru yn aberthu cymaint wrth ofalu am rywun annwyl, ond caiff eu cyfraniad i gymdeithas ei anwybyddu i raddau helaeth, ac ni chaiff ei werthfawrogi'n ddigonol. Pa gamau a roddwch ar waith, Ddirprwy Weinidog neu Weinidog, i sicrhau y bydd y cynllun gweithredu cenedlaethol newydd y byddwch yn gweithio arno yn mynd i'r afael â hyn?

Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn pwysig iawn. Credaf fod pob un ohonom yn gwerthfawrogi'r cyfraniad enfawr y mae gofalwyr yn ei wneud—y 370,000 y cyfeiriodd atynt—ac rydym am sicrhau bod eu bywydau mor hawdd ag y gallwn.

Soniodd mai un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru oedd bywyd ochr yn ochr â gofalu. Mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod gofalwyr yn gallu dweud eu bod yn ofalwyr a'n bod yn eu hadnabod fel gofalwyr, fel eu bod yn gallu cael mynediad at unrhyw gymorth sydd ar gael iddynt. Ac rydym am sicrhau hefyd fod cyngor a gwybodaeth ar gael ar eu cyfer. A dyna ein tair blaenoriaeth, ac rydym wedi cefnogi'r blaenoriaethau hynny drwy gyfres o fentrau cyllido, ac rydym wedi rhoi pwyslais o'r newydd ar y grŵp cynghori gweinidogol—y grŵp sy'n cynghori'r grŵp gofalwyr.

Rwy'n ymwybodol hefyd fod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cynnal ymchwiliad helaeth i ofalwyr a bod ganddynt 31 o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, a byddwn yn ymateb iddynt cyn bo hir. Felly, gallaf roi sicrwydd iddi ein bod yn rhoi ystyriaeth drylwyr i ofalwyr a'n bod yn mynd i'r afael â'u problemau.

Diolch, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ymdrechion yn hyn o beth, ond mae'n rhaid inni wynebu'r ffeithiau: yn fwy nag unrhyw genedl arall yn y DU, mae Cymru'n ddibynnol iawn ar ei gofalwyr. Canfuwyd bod canran yr oedolion sydd wedi bod yn ofalwyr yn ystod eu bywydau fel oedolion yn 63 y cant yn Lloegr, yn 65 y cant yn yr Alban, yn 66 y cant yng Ngogledd Iwerddon, ond yn 70 y cant yng Nghymru.

Roedd Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014—ac roeddwn yn bresennol yn ystod y broses o graffu arni—yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnig asesiad i unrhyw ofalwr. Wrth ystyried y data ar nifer yr asesiadau a gynhaliwyd, ymddengys fod yna duedd gadarnhaol, gyda'r niferoedd yn codi o 6,178 yn 2016-17 i 7,261 yn 2018-19. Nid yw'n ddigon da. O edrych ar y sefyllfa'n fwy manwl, darganfûm fod nifer yr asesiadau yng Nghymru wedi gostwng mewn saith awdurdod lleol mewn gwirionedd.

Wrth ystyried canfyddiadau’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr y bydd nifer y gofalwyr yn y DU yn cynyddu oddeutu 60 y cant erbyn 2030, dylem fod yn gweld cynnydd yn yr asesiadau hyn, nid gostyngiad. Felly, a wnewch chi, fel y Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb am hyn, edrych i weld pam nad yw hyn yn digwydd mewn bron i 40 y cant o'n hawdurdodau lleol, a gweld a oes rhai gofalwyr yn cael eu hamddifadu o'u hawl statudol i asesiad?

Roedd yn arloesol, yn y Ddeddf y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati, fod gan ofalwyr hawl i asesiad gofalwr, ac rydym am sicrhau bod cymaint o ofalwyr â phosibl yn cael arfer yr hawl honno. Dyna pam mai un o'n blaenoriaethau yw nodi pwy sy'n ofalwyr ac i ofalwyr nodi drostynt eu hunain eu bod yn ofalwyr, gan fod llawer o bobl yn cyflawni'r rôl o ofalu am rywun annwyl heb nodi eu bod yn ofalwyr. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn pwysleisio pwy sy'n ofalwr a pha gymorth sydd ar gael. Ac wrth gwrs, credaf fod yn rhaid i ni dderbyn hefyd nad yw rhai gofalwyr yn dymuno cael asesiad. Ond rwy'n derbyn yr hyn y mae'n ei ddweud a chredaf ein bod wedi gweld o'r holl adroddiadau a gafwyd gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a chan sefydliadau eraill nad yw rhai pobl yn cael y gwasanaeth yr hoffem ni, fel Llywodraeth, eu gweld yn ei gael. A dyna pam ein bod yn rhoi mwy o adnoddau tuag at brosiectau sy'n ymwneud â gofalu, ac mae'r grantiau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir yn rhoi cyllid sylweddol i sefydliadau gofalwyr, ac rydym yn bwriadu cynyddu ein cefnogaeth.

14:45

Diolch. Hoffwn bwysleisio unwaith eto mai nifer yr asesiadau—pan fydd gofalwyr yn awyddus i gael yr asesiadau ac yn methu eu cael. Ers Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, credaf ei bod hyd yn oed yn bwysicach nad yw eich Llywodraeth yn gwneud cam â'r rheini.

Nawr, mae gofynion gofal cymdeithasol fel darparu cefnogaeth i ofalwyr a phlant sy'n derbyn gofal a diwallu anghenion gofal cartref yn rhoi pwysau ariannol enfawr ar awdurdodau lleol. Er enghraifft, mae awdurdod lleol Sir Fynwy yn wynebu diffyg o £4 miliwn eleni, yn rhannol o ganlyniad i ofynion gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fy awdurdod lleol i, yn rhagweld diffyg ariannol o £12.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Er bod y gyllideb ddrafft yn dyrannu £40 miliwn drwy grant arbennig i awdurdodau lleol ar gyfer mynd i'r afael â phwysau mewn gofal cymdeithasol yn 2020-21, ni lwyddodd y £30 miliwn a ddyrannwyd drwy grantiau i awdurdodau lleol y llynedd i fynd i'r afael â'r pwysau hyn mewn gofal cymdeithasol. Felly, mae'n debyg ei fod yn gwestiwn amlwg iawn ar fy rhan: pam eich bod yn meddwl y bydd £40 miliwn yn ddigon i helpu'r awdurdodau lleol hyn i gyflawni eu dyletswyddau, yn enwedig o gynnwys eu dyletswyddau tuag at ofalwyr a phlant sy'n derbyn gofal?

Yn sicr, defnyddiwyd y £30 miliwn yn effeithiol iawn gan awdurdodau lleol. I raddau helaeth, gadawyd y penderfyniad ynglŷn â sut y byddai'n cael ei ddefnyddio i'r awdurdodau lleol, gan eu bod yn agosach at eu hanghenion. Ond yn sicr, gwyddom am y mathau o faterion y gwnaethant ddefnyddio'r £30 miliwn hwnnw ar eu cyfer: defnyddiodd naw awdurdod lleol y cyllid i gefnogi gwasanaethau oedolion a phobl hŷn; defnyddiodd wyth awdurdod lleol y cyllid i gefnogi gofal cartref i bobl hŷn; a defnyddiodd un ar ddeg o awdurdodau lleol gyfran i gynyddu cyflogau ar draws y sector, sy'n broblem, wrth gwrs—y lefelau cyflog sy'n bodoli yn y sector gofal cymdeithasol. Ac felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi £10 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol iddynt ei ddefnyddio yn y mathau o ffyrdd a ddisgrifiais, ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y teimlant y byddant o gymorth, gan ein bod yn derbyn yn llwyr fod yna bwysau ar y sector gofal cymdeithasol.

Mae'n hanfodol bwysig i bobl Cymru ein bod yn gallu darparu gofal digonol iddynt pan fydd ei angen arnynt, a dyna pam fod gennym amrywiaeth eang o fentrau i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn. Rydym wedi sôn am y cronfeydd trawsnewid a'r gronfa gofal integredig, ac mae'r rheini'n cael eu defnyddio i sicrhau y ceir gweithio integredig er mwyn helpu'r sector gofal cymdeithasol. Ac rwy'n llwyr gydnabod y mater ynglŷn â phlant, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn gweithio i geisio cadw plant gartref gyda'u teuluoedd, lle rydym yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i geisio eu cynorthwyo i aros yno'n hytrach na gorfod mynd yn rhan o'r system ofal. Felly, mae gennym lu o fentrau, ond rwy'n derbyn yn llwyr fod angen i ni wneud mwy.

Diolch, Lywydd.

Weinidog, roeddwn yn awyddus i holi am y meddylfryd sy'n sail i'r rheswm pam fod ein graddfeydd cyflog ar gyfer meddygon mewn ysbytai yn wahanol i'r rheini a geir yn Lloegr, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar recriwtio a chadw staff. Ar gyfer meddygon sylfaen y flwyddyn gyntaf, nodaf fod ein graddfeydd rhwng £1,300 a £1,500 yn uwch y flwyddyn nag yn Lloegr, ond onid yw meddygon yn edrych y tu hwnt i hynny ac yn gweld, ar ddiwedd y flwyddyn sylfaen honno wrth iddynt fynd i mewn i'r ail flwyddyn sylfaen, eu bod yn cael cynnydd o oddeutu £2,800 yn Lloegr o gymharu â £700 yn unig yng Nghymru? Mae hynny wedyn yn gadael oddeutu £600 y flwyddyn yn llai iddynt nag y byddai meddygon cyfatebol yn ei gael yn Lloegr. Ac mae hynny'n parhau hyd at gofrestryddion arbenigol, lle maent yn dechrau ar oddeutu £600 yn llai nag yn Lloegr, ac yna ar frig y pwynt cyflog uchaf, mae'r cyflog oddeutu £1,000 yn llai nag yn Lloegr. Pan fyddaf yn siarad â meddygon yng Nghymru, rwy'n aml yn gweld bod eu canfyddiad o'r gwahaniaeth rhwng y graddfeydd cyflog a'r syniad fod cyflog rywsut yn sylweddol is yng Nghymru yn gwbl anghymesur â'r gwahaniaethau cymharol fychan hynny rwyf newydd eu disgrifio, a tybed, felly, a yw hynny'n awgrymu effaith negyddol ar recriwtio a chadw staff, sy'n gwbl anghymesur â'r swm cymedrol o arbedion a wneir yn sgil y graddfeydd cyflog is a ddisgrifiais.

14:50

Mae dau bwynt y credaf y dylwn eu gwneud. Y cyntaf yw, o ran y meddylfryd y tu ôl i'r trefniadau cyflog, mae hynny'n fater a negodir rhwng y Llywodraeth, cyflogwyr y GIG, a'r undeb llafur cydnabyddedig, Cymdeithas Feddygol Prydain, felly ceir ystod o bethau i'w hystyried gyda hynny. Yn amlwg, o'r ochr ddiwydiannol, rydych yn disgwyl y byddent yn awyddus i gael y cytundeb gorau posibl i'w haelodau, ond hefyd mae angen cydbwyso'r hyn y gall y system ei fforddio a'r hyn y mae hynny'n ei wneud o ran recriwtio a chadw staff. A cheir rhywfaint o sensitifrwydd mewn perthynas â graddfeydd gwahaniaethol o bosibl, ar bob ochr i'r ffin. Ceir ychydig o wahaniaeth, yn amlwg, ar ben iau'r raddfa oherwydd y contract a roddwyd ar waith yn Lloegr. Ac mewn gwirionedd, wrth i ni ymgysylltu'n uniongyrchol iawn â Chymdeithas Feddygol Prydain a'u pwyllgor meddygon iau, roeddent yn gwbl glir eu bod o'r farn ein bod wedi gwneud y peth iawn yn peidio â gwneud yr un peth.

Rydym wedi cytuno, fel rhan o'r ffordd arferol, y byddwn yn parhau i negodi'r heriau tymor hwy o ran cyflog meddygon ymgynghorol, lle credaf y byddai'n well mabwysiadu ymagwedd amlwladol, ond mae hynny'n rhywbeth i'w drafod ac i siarad amdano, ynghyd ag adolygiad o'r sefyllfa parthed contract y meddygon iau yma yng Nghymru. Yn sicr, ni cheir agenda i geisio arbed ychydig o arian ac i beryglu'r gwaith o recriwtio a chadw staff, oherwydd mewn gwirionedd, mae meddygon yn edrych ar gyfres lawer ehangach o bethau: maent yn edrych ar hyfforddiant, maent yn edrych ar ragoriaeth, dyfodol y gwasanaethau ac a ydynt yn credu ei fod yn rhywle y maent yn dymuno gweithio ynddo mewn gwirionedd. Dyna pam fod gennym ymgyrch, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', gan fod yr holl agweddau hynny'n gwneud gwahaniaeth i ble mae ystod gyfan o weithwyr iechyd proffesiynol yn dewis dilyn gyrfa.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Os caf droi at fater penodol pensiynau, credaf mai pan fu'r Gweinidog yn dirprwyo dros y Prif Weinidog mewn cwestiynau blaenorol i'r Prif Weinidog y gofynnais iddo am yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr i dalu'r costau ychwanegol hynny i feddygon, ac a fyddem yn gwneud yr un peth yng Nghymru. Rwy'n gweld ein bod yn gwneud hynny bellach; cafwyd cyfarwyddyd gweinidogol i hynny ddigwydd.

Ond tybed a gaf fi dynnu sylw at wahaniaeth allweddol rhwng yr hyn a wnawn yng Nghymru a'r sefyllfa i Lywodraeth y DU yn Lloegr, fel y crybwyllais wrth y Gweinidog Cyllid yn gynharach yn y pwyllgor, yn yr ystyr mai trafodiad cyfrifyddu rhwng GIG Lloegr a'r Trysorlys ydyw i Lywodraeth y DU yn y bôn. Ar y llaw arall, i ni yng Nghymru, onid ydym yn wynebu'r un clogwyn ag y mae meddygon eu hunain yn ei wynebu, ac maent yn dewis peidio ag ymgymryd â sesiynau ychwanegol, gan fod effeithiau'r sesiynau ychwanegol hynny ar eu pensiynau gymaint yn fwy fel bod gwneud hynny'n costio arian iddynt? Ac mae costau ymylol y sesiynau hynny'n enfawr oherwydd y ffordd y maent yn rhyngweithio â'r system bensiynau. Onid yw hynny'n wir hefyd i Lywodraeth Cymru os ydynt yn dewis talu'r dreth honno? Ac a yw'n sicr yn ffordd gost-effeithiol, ar gyfer unrhyw beth y tu hwnt i'r tymor byr iawn, o wario arian trethdalwyr Cymru ar y symiau sylweddol iawn hyn i dalu treth pensiwn i Lywodraeth y DU a ninnau ond yn cael cynnydd cymedrol yn nifer y sesiynau a ddarperir gan feddygon yn sgil hynny?

Credaf ei bod yn broblem real iawn ac yn sicr nid yw wedi'i datrys. Yng nghyd-destun y pwysau ar bob gwlad yn y DU a'r gwasanaeth iechyd gwladol yn y gaeaf, mae'n waethygiad o hynny gan fod rhai o'r bobl rydym yn sôn amdanynt ar reng flaen y system ysbytai ynghyd â phobl sy'n gweithio mewn ymarfer cyffredinol hefyd, boed hynny mewn gwasanaeth oriau arferol neu'r tu allan i oriau. Felly mae'n effeithio ar y system gyfan ac mae grwpiau eraill o staff, clinigol ac anghlinigol, yn cael eu heffeithio gan yr un mater.

Felly, o ran y dewis a wnaed yn Lloegr, buaswn yn dweud ei bod yn eithaf rhyfeddol gwneud hynny ynghanol ymgyrch etholiadol a gwneud hynny heb unrhyw gyswllt â Llywodraethau eraill y DU hefyd. Ni chredaf fod hynny wedi'i adlewyrchu'n arbennig o dda yn y ffordd roedd llawer o staff gofal iechyd, ni waeth beth oedd eu barn ar sut i bleidleisio, yn teimlo am y ffaith bod y dewis hwnnw wedi cael ei wneud, ac mae gwir angen mynd yn ôl i edrych ar yr effaith uniongyrchol. Yr effaith ar staff ar ymyl y clogwyn y mae rhai'n ei hwynebu o bosibl yw cael biliau yn ystod y flwyddyn sydd yr un faint neu'n fwy na'u cyfraddau cyflog neu symiau sylweddol o arian nad ydynt wedi darparu ar eu cyfer ac na allant gynllunio ar eu cyfer, ac ni allech ddisgwyl o fewn rheswm iddynt allu gwneud hynny chwaith.

Ceir her hefyd ynghylch effeithiau hirdymor y cynllun pensiwn. Os yw eich enillwyr uwch a'ch cyfranwyr uwch yn dod allan o'r cynllun hwnnw heb wneud cyfraniadau, mae hynny'n effeithio ar bawb sy'n rhan o'r cynllun. Ond yn fwy na hynny, rheolau'r DU yw'r rhain, ac maent yn rheolau'r DU sydd wedi'u cynllunio a'u gweithredu gan Drysorlys y DU—maent yn effeithio ar bob un ohonom. Ac rwy’n sicr yn gobeithio, yng nghyllideb y DU sydd ar ddod o fewn y misoedd nesaf, y byddant yn datrys y broblem y maent wedi'i chreu. Oherwydd bydd yn costio mwy o arian i'w datrys fel arall, gan y byddwn yn gwneud hynny yn yr ystyr ein bod eisoes wedi gorfod gweithio o gwmpas y trefniant yn awr; byddwn yn gwneud hynny drwy dalu mwy am weithgarwch, yn y sector annibynnol yn ôl pob tebyg, i adfer gweithgarwch na fydd yn digwydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ond yn fwy na hynny, rydym yn colli ewyllys da'r staff yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ac efallai y bydd rhai o'r staff sy'n dod i weithio oriau ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd gwladol, i ymgymryd â mentrau rhestrau aros ym mhob un o bedair gwlad y DU, yn penderfynu peidio â dychwelyd, ac efallai y byddwn yn gweld bod angen i ni recriwtio, hyfforddi a chadw hyd yn oed mwy o'r staff hynny yn y dyfodol, gyda hyd yn oed mwy o gost i'r trethdalwr a'r gwasanaeth iechyd gwladol er mwyn gwneud hynny.

Credaf ei fod yn fesur hunandrechol. Rwyf wedi ysgrifennu, neu byddaf yn ysgrifennu eto cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i roi gwybod i'r Aelodau pan fyddaf yn gwneud hynny, at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt, unwaith eto, gael pwl o synnwyr cyffredin, i edrych eto ar y rheolau, ac i wneud y peth iawn i'r gwasanaeth iechyd gwladol, gan y bydd pob un ohonom yn talu os na fyddant yn gwneud hynny, ac mae'n llythrennol yn effeithio ar filoedd ar filoedd o achosion o ofal a thriniaeth cleifion. Mae'n rhaid mai dyna'r dewis anghywir i'w wneud, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn, a gallant ddadlau ynglŷn â phwy ddylai gymryd y clod am hynny wedyn.

14:55
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

3. Pa fewnbwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael i wella gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OAQ54901

Rydym yn cefnogi ystod o weithgareddau i hybu gwelliant gwasanaethau, a nodwyd enghreifftiau o hynny yn fy natganiadau ar 19 Tachwedd 2019, 8 Hydref 2019, a 16 Gorffennaf 2019. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael gwasanaethau iechyd sy'n darparu'r canlyniadau a'r profiad gorau posibl.

Weinidog, mae gennyf gwestiwn am gyflwr gofal amenedigol, ac mae arnaf ofn mai'r sefyllfa hon yw'r norm, yn hytrach na'r eithriad. Mae etholwr wedi cysylltu â mi gydag un o'r enghreifftiau mwyaf torcalonnus i mi glywed amdani o fethiannau'r GIG. Dywed mai cariad tuag at ei phlant yw'r unig beth a'i rhwystrodd rhag dod â'i bywyd i ben. Mae'r fenyw dan sylw hefyd yn cael cefnogaeth gan y Birth Trauma Association, sydd wedi'u synnu gan y methiannau niferus, y diffyg gwelliant o ran mynediad at therapïau seicolegol ac anallu mamau i hunangyfeirio.

Rwyf wedi ysgrifennu at brif weithredwr yr ymddiriedolaeth, i geisio cael cyfiawnder mewn perthynas â'r achos unigol hwn, ond credaf fod y mater yn tynnu sylw at ddiffyg cyffredinol o gyfleusterau gofal amenedigol yma yng Nghymru—mater a amlygwyd sawl blwyddyn yn ôl gan fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, y mae llawer o hiraeth ar ei ôl. Felly, a ydych yn cytuno â mi a chyda Steffan fod angen gwella gofal amenedigol yng Nghymru ar frys, ac os ydych yn cytuno, sut y bwriadwch wneud hynny?

Wel, yn amlwg, nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau unigol y cyfeiria'r Aelod atynt, ac os yw'n awyddus i mi roi sylw i'r mater unigol hwnnw, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, ond byddai angen ei chaniatâd hi a'i hetholwr arnaf i wneud hynny, a beth yw'r ymateb i'r cwynion a'r pryderon a godwyd.

O ran yr hyn a wnawn yn ei gylch, rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn gofal amenedigol cymunedol, ond ceir her hefyd ynghylch darparu'r uned mamau a babanod rydym wedi ymrwymo i'w wneud, ond un rhan o'r jig-so yn unig yw hynny, ac mae'n rhan o'r gwelliant cyffredinol. Felly, ydw, rwy'n credu bod angen eu gwella. Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd. Cafwyd rhywfaint o siom ynghylch cyflymder a graddfa'r newid, ac rwy'n edrych ar ateb dros dro cyn y gellir rhoi un parhaol ar waith ar ofal cleifion mewnol. Ac ymrwymais eto heddiw yn y sesiwn graffu ar y gyllideb gyda'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i sicrhau eu bod hwythau'n cael gwybod pan fyddaf yn darparu diweddariad pellach i'r pwyllgor plant a phobl ifanc.

Ond mae hwn yn faes sylweddol o weithgarwch ac o weithgarwch gwella hefyd. Mae'r arweinydd amenedigol sydd gennym ar waith, Sharon Fernandez, ymwelydd iechyd cydnabyddedig, yn helpu i hybu rhywfaint o'r gwelliant. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion am y rhaglen os yw hynny o ddefnydd.

Weinidog, ychydig fisoedd yn ôl, gofynnais i chi am yr anghysondeb mewn amseroedd rhyddhau o ambiwlansys i fy etholwyr sy'n mynychu Ysbyty Tywysoges Cymru, o gymharu â'r rheini sy'n mynychu ysbytai eraill yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Nawr, cefais ymateb rhyddid gwybodaeth sy'n dangos bod fy etholwyr sy'n byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aros llawer mwy am lawdriniaeth orthopedig na'r rheini sy'n byw mewn mannau eraill yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae'r cyfnod aros am ben-glin newydd, clun newydd a llawdriniaeth ar yr ysgwydd yn naw mis i drigolion hen ardal Cwm Taf. Fodd bynnag, mae'n rhaid i fy etholwyr aros ddwywaith yn hwy na hynny, ac o leiaf ddwy flynedd i gael pen-glin newydd. Mae Cwm Taf Morgannwg wedi dechrau rhoi'r achosion symlach ar gontract allanol i ysbytai preifat—gadewch i ni glywed y floedd o ddicter nawr—a thrwy drefnu gwaith ar y penwythnos yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Ond a ydych chi'n fodlon ag annhegwch y ddarpariaeth o fewn un bwrdd iechyd?

15:00

Na, nid mewn un bwrdd iechyd y mae'r her yn hyn o beth, ond yn y gwelliant ehangach y gwyddom fod ei angen mewn sawl gwahanol ran o Gymru, yn enwedig o ran llawdriniaethau ar y cymalau. Dyna ran o'r rheswm pam ein bod yn edrych nid yn unig ar y gwaith o wella gofal wedi'i gynllunio, ond yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran ad-drefnu ein hystod o wasanaethau mewn ysbytai, a chyrraedd pwynt o'r diwedd lle rydym yn deall sut i gael system gofal wedi'i gynllunio nad yw gofal brys yn ymyrryd arni ac yn ei gorlwytho. Felly bydd angen i ni edrych eto a gallu cyflawni peth gweithgarwch gofal wedi'i cynllunio lle nad oes gennym ofal brys yn digwydd ar yr un safle.

Nawr, mae hynny'n rhan o'r her nid i un bwrdd iechyd yn unig ond i fyrddau iechyd yn gyffredinol. Dyna ran o'r rheswm pam rwyf wedi'i gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd weithio gyda'i gilydd, yn rhanbarthol, i gynllunio rhai o'r gweithgareddau hynny hefyd, ac rwy'n disgwyl rhoi diweddariad i'r Aelodau yn ystod y flwyddyn ar yr hyn y mae hynny'n debygol o'i olygu, gan fy mod am weld gwelliant ym mhob rhan o'r wlad, nid mewn un ardal bwrdd iechyd yn unig.

Amseroedd Aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? OAQ54897

Nid yw'r perfformiad yn erbyn targedau mynediad adrannau brys ar y lefel rydym ni, y cyhoedd na'r GIG am iddo fod ac rwyf wedi nodi fy nisgwyliad yn glir wrth y byrddau iechyd ynglŷn â'r angen am welliant parhaus. Rydym yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i gefnogi'r gwaith o gyflawni gwelliant system gyfan.

Diolch. Weinidog, mae adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gweld degawd o ddirywiad yng Nghymru. Mae canran y cleifion sy'n cael eu gweld o fewn yr amser targed o bedair awr wedi gostwng o 90.9 y cant ym mis Hydref 2009 i 74.4 y cant ym mis Tachwedd 2019. Mae'r seirenau'n sgrechian uchaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi gostwng o 93.7 y cant ym mis Hydref 2009 i 72.2 y cant fis Tachwedd diwethaf. Mae'r realiti hyd yn oed yn waeth mewn rhai ysbytai, yn enwedig Ysbyty Glan Clwyd, sef yr adran ddamweiniau ac achosion brys sy'n perfformio waethaf yng Nghymru bellach. Nid yw'r ysbyty hwn erioed wedi cyrraedd y targed o 95 y cant. Pa gamau brys y byddwch yn eu cymryd ar y cyd â phrif weithredwr y bwrdd iechyd i adolygu a diwygio'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd?

Wel, ni chredaf fod y broblem dan sylw'n ymwneud ag un adran yn unig, ond mae gwaith gwella'n mynd rhagddo ar arweinyddiaeth gan gymheiriaid a chyfnewid rhwng y tair adran yng ngogledd Cymru. Cafwyd ymyrraeth allanol ar y cyd hefyd nid yn unig yn ystod y gaeaf diwethaf, ond y gaeaf hwn yn ogystal. Byddwch hefyd wedi gweld y camau rydym wedi'u cymryd, er enghraifft, gyda'r Groes Goch ac ymyrraeth fferylliaeth ym mhob un o'r adrannau achosion brys. Os edrychwch ar y—[Torri ar draws.]

Ac os edrychwch ar yr heriau sy'n bodoli ledled y Deyrnas Unedig—[Torri ar draws.]

A gawn ni ganiatáu i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Os edrychwch ar yr heriau ledled y Deyrnas Unedig, fe welwch yr un pwysau'n union ar draws y system, yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae pob system yn siarad ac yn adlewyrchu'n onest yr heriau sy'n ei hwynebu. Pan edrychwch ar y gwaith y byddaf yn gallu ei gadarnhau yn gynnar eleni ar ddiwygio a gwella gofal brys, credaf y byddwch yn gweld ein bod wedi gwrando ar ein clinigwyr, rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o wella, ac wrth gwrs, mae'r datganiad a wneuthum heddiw yn nodi ystod o gamau gwella a fydd yn mynd rhagddynt nid yn unig wrth y drws blaen, ond drwy ein system gyfan. Felly credaf y gallwch weld camau sy'n cael eu cymryd eisoes, a byddaf yn cyhoeddi rhagor dros y misoedd nesaf.

Weinidog, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod mewn mesurau arbennig, felly mae'r sefyllfa wedi datblygu o dan eich gwyliadwriaeth chi. Bob blwyddyn, rydych yn paratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf, a phenawdau diweddaraf y BBC y bore yma oedd, ar gyfer Cymru gyfan, fod 79,150 o oriau wedi'u gwastraffu wrth i griwiau ambiwlansys aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hynny'n cyfateb i naw mlynedd, a llynedd oedd hynny, o ran criwiau'n aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hynny'n digwydd bob blwyddyn, a phob blwyddyn, ymddengys eich bod yn methu cyflawni. Os edrychwn ar y Cofnod ar gyfer yr adeg hon y llynedd, gwn y bydd yr un cwestiynau a'r un atebion yn codi. Pryd y gwelwn y gwelliannau y mae ein hetholwyr yn eu haeddu?

Wel, dyna'n union pam, yn y datganiad a gyhoeddais heddiw, y nodais y gwaith a fydd yn mynd rhagddo i edrych ar argaeledd ambiwlansys. Mae hynny'n ymwneud â rhyddhau ambiwlansys i'r gymuned, ond hefyd, fel rwyf wedi'i ddweud, mae'n rhaid i hynny ymwneud â gwelliannau pellach i sicrhau bod pobl yn mynd drwy'r ysbyty ac allan o'r ysbyty hefyd. Rydym wedi bod yn fwy llwyddiannus nag erioed o ran cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain.

O ran ffordd newydd o weithio ym maes gofal brys, arweinir y rhaglen gan Jo Mower, yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu, ac rydym wedi buddsoddi yn y rhaglen honno. Mae hi wedi gweithio gyda'i chymheiriaid mewn adrannau brys ledled y wlad i edrych ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu i'r adrannau hynny, a rhaid cysylltu hynny wedyn â'r hyn y mae'n ei olygu i'r system gyfan. Felly, fy nisgwyliad yw ein gweld yn gwneud mwy na darparu gofal ar yr adeg hon yn unig a chael ateb tymor byr; mae angen ateb mwy hirdymor arnom hefyd. Oherwydd ni fuaswn yn esgus wrth unrhyw Aelod yn y lle hwn, ni waeth beth fo'u plaid, fy mod yn hyderus ac yn fodlon ynglŷn â lefel gyfredol y perfformiad yn ein system ddamweiniau ac achosion brys—rwy'n dweud hynny wrth y staff sy'n gweithio ynddi a'r pwysau y maent yn ei deimlo, ond wrth y bobl hefyd. Ac yn wir, roedd y sgwrs a gefais gyda chlaf yn adran ddamweiniau ac achosion brys Treforys yn atgyfnerthu hynny. Mae cefnogaeth a dealltwriaeth wych ymhlith y cyhoedd ynglŷn â'r pwysau ar y system, ond yr hyn y maent yn dymuno ei gael mewn gwirionedd yw gwelliant, a dyna'n union rwy'n dymuno ei gael hefyd.

15:05
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn methiant Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyrraedd ei darged amser ymateb am y tro cyntaf mewn pedair blynedd? OAQ54922

Rydym yn gweithio'n agos gyda phrif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans, byrddau iechyd a gwasanaeth ambiwlans Cymru i nodi camau i gefnogi gwelliant uniongyrchol a chynaliadwy yn amseroedd ymateb ambiwlansys. Gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig ar y mater hwn yn gynharach heddiw.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Credaf ei bod yn bwysig, pan fyddwn yn sôn am y materion hyn, ein bod yn cofio ein bod yn siarad am bobl go iawn, teuluoedd go iawn, a'r effaith ar eu bywydau.

Hoffwn dynnu sylw’r Gweinidog at etholwr o Lanelli a gysylltodd â mi yr wythnos diwethaf ynglŷn â thriniaeth ei dad yn dilyn cwymp ar ddydd Sul 29 Rhagfyr. Fe dorrodd ei glun. Roedd y gŵr oedrannus yn ffodus nad oedd ar ei ben ei hun. Gwnaed galwad ffôn i'r gwasanaethau brys am 8.30 y.h. Ni ymatebwyd i'r alwad tan 10.30 y.b. Dyna amser aros o 14 awr i ŵr bregus, oedrannus 88 oed. Erbyn i Mr Ogborne gael ei gludo i Ysbyty Treforys a chael gwely, roedd bron i ddiwrnod cyfan wedi bod ers iddo gwympo, ac roedd yn ffodus iawn, wrth gwrs, nad oedd ar ei ben ei hun pan ddigwyddodd hynny. Gwaethygwyd y sefyllfa gan y nifer fawr iawn o ambiwlansys a oedd yn aros y tu allan i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Trefnwyd iddo gael llawdriniaeth ar ei glun ar 31 Rhagfyr. Digwyddodd hynny yn y diwedd ar 1 Ionawr, ond dirywiodd ei iechyd ymhellach, ac yn anffodus iawn, fe fu ei salwch yn drech nag ef a bu farw ar 4 Ionawr eleni.

Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno nad dyma'r math o driniaeth y dylai etholwyr a dinasyddion mwyaf oedrannus a bregus Cymru yn arbennig ei ddisgwyl. Rwy'n gobeithio y gall roi rhywfaint o sicrwydd i'r teulu y bydd canlyniad yr adolygiad y mae eisoes wedi'i ganiatáu heddiw yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd angen i bobl fel Mr Ogborne aros am y math hwn o amser eto. A tybed a wnaiff y Gweinidog—er y gall fod cymhlethdodau—ystyried ymddiheuro i deulu Mr Ogborne, gan y gwn nad dyma'r safon gwasanaeth y byddai'r Gweinidog yn dymuno'i weld.

Na, yn sicr, nid dyna'r safon gwasanaeth y buaswn yn dymuno'i weld. Yn amlwg, nid wyf yn ymwybodol o'r holl fanylion, ond ni fuaswn yn disgrifio'r hyn y mae'r Aelod wedi'i nodi fel rhywbeth sy'n dderbyniol, ac mae'n ddrwg gennyf fod unrhyw unigolyn yn cael profiad o'r fath. Dyna'n union pam ein bod yn edrych ar gyfraddau ymateb ambiwlansys eto gyda grŵp gorchwyl a gorffen byr, i edrych ar gamau i'w cymryd yn gynt yn hytrach na'n hwyrach. Nid oes unrhyw beth yn hawdd am hyn. Gwnaeth yr Aelod y pwynt hwn yn gynharach: pe bai hyn yn hawdd, byddem wedi tynnu lifer a'i wneud amser maith yn ôl. Nid oes ateb hawdd i ddatrys holl heriau amseroedd aros hir yn y system.

Gwyddom ein bod wedi gwneud gwelliant gwirioneddol a pharhaus yn ein gwasanaeth ambiwlans dros y pedair blynedd diwethaf. Gwyddom fod systemau eraill yn yr Alban a Lloegr wedi efelychu'r hyn rydym wedi'i wneud i raddau helaeth. Ond gwyddom hefyd ein bod wedi wynebu her sydd wedi tyfu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn enwedig mewn perthynas ag amseroedd ymateb ehangach, a dyna rwy'n awyddus i fynd i'r afael ag ef, i sicrhau bod gennym ambiwlansys sydd ar gael yn gyffredinol ar gyfer y risgiau sy'n bodoli yn y gymuned, oherwydd wrth i chi ymdrin â'r hyn sy'n dod drwy ddrws blaen ysbyty ac sy'n defnyddio adnoddau yno, ni allwch reoli ac ymdrin â'r risg yn y ffordd y byddech yn dymuno ei wneud yn y gymuned. A derbynnir hynny ar draws y system hefyd, felly nid oes a wnelo hyn â phwyntio bys at un rhan o'n system; mae a wnelo â chyflawni gwelliant system gyfan er mwyn darparu gwell gofal a gofal mwy amserol i bobl ledled y wlad.

Diagnosis Canser

6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diagnosis canser yng Nghymru? OAQ54907

Nodir y dull o weithredu yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser, sy'n parhau i fod ar waith tan fis Rhagfyr eleni. Mae hyn yn cynnwys y cynlluniau peilot ar ganolfannau diagnosteg gyflym y buom yn eu trafod yn gynharach, cefnogi ymarfer atgyfeirio mewn gofal sylfaenol ac un llwybr canser. Mae rhaglenni cenedlaethol pwysig ar waith hefyd i gefnogi gwasanaethau diagnostig, megis delweddu, patholeg ac endosgopi.

Diolch, ac wrth gwrs, clywais yr ymateb a roesoch i'r Aelod dros Arfon pan ofynnodd hi gwestiwn tebyg iawn yn gynharach, ond hoffwn sôn am fylchau yn y gweithlu diagnostig. A phe bawn yn rhoi enghraifft, fel histopatholegyddion, ers i'r contract meddygon iau newydd gael ei gyflwyno yn Lloegr yn 2016, mae gwahaniaeth sylweddol wedi datblygu rhwng y cyflog a roddir i hyfforddeion sy'n astudio histopatholeg yng Nghymru a'r cyflog a roddir i'r rheini dros y ffin yn Lloegr, sy'n golygu, os ydych yn histopatholegydd sy'n gweithio yn Lloegr, byddwch yn ennill £60,000 yn fwy yn ystod eich gyrfa o gymharu â gweithiwr cyfatebol yng Nghymru. Ac mae rhanddeiliaid yn credu'n gryf fod hyn yn cyfrannu, yn rhannol—nid dyma'r unig reswm, ond mae'n cyfrannu—at y gyfradd o 40 y cant o hyfforddeion sydd wedi gadael y rhaglen hyfforddi yng Nghymru ers 2017. Deugain y cant. Mae'n nifer syfrdanol o uchel. Felly, o ystyried y problemau hyn sy'n wynebu'r gweithlu ac o ystyried y byddant yn parhau i gael effaith ddifrifol, yn y pen draw, ar y cleifion ac ar ein gallu i wneud diagnosis cynnar o ganser ac felly i wella ansawdd bywydau pobl, a wnewch chi amlinellu beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddatrys y broblem hon, yn ogystal â darparu amserlen ar gyfer pryd y byddai unrhyw gamau yn cael eu cymryd?

15:10

Wel, mewn gwirionedd, y newyddion da yw ein bod wedi llenwi ein holl leoedd hyfforddi ar gyfer histopatholeg eleni, ond rwy'n ymwybodol nid yn unig o'r rôl sydd gan histopatholegyddion mewn perthynas â chanser, ond yn fwy cyffredinol hefyd, ac rwy'n nodi'r pwynt am gadw'r bobl hynny yn ystod eu hyfforddiant ac wedi hynny hefyd. Ac fel y dywedais mewn trafodaeth yn gynharach â Mark Reckless, yn rhannol yn unig y mae hyn yn ymwneud â'r cyflog. Mae'n ymwneud â'r amodau gwasanaeth cyffredinol a'n cyfeiriad teithio hefyd. Ac wrth i ni agosáu at gael strategaeth lawn ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, bydd gennym gynllun strategol i gefnogi hynny hefyd. Ond rydym eisoes yn cymryd camau. Fel rydych wedi'i weld, rydym yn amlwg yn cynyddu nifer y lleoedd, mae'r flaenoriaeth ychwanegol honno ar waith, ac fel y dywedais, mae'n galonogol wrth gwrs ein bod wedi llenwi'r holl leoedd hynny eleni. Ond mae'n fater sy'n cael ei adolygu'n gyson oherwydd, gan ein bod am ehangu'r un llwybr canser a'i gyflawni'n fwy llwyddiannus, bydd angen inni edrych eto ar y gweithlu sydd gennym a'r gweithlu sydd ei angen arnom.

Yr Ymgyrch Dewis Doeth

7. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf hwn? OAQ54927

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i fonitro ac adolygu deunyddiau Dewis Doeth i sicrhau bod y rhain yn targedu'r gynulleidfa a fwriadwyd. Rydym hefyd yn canolbwyntio'n benodol ar ddull digidol yn gyntaf y gaeaf hwn, gan gadw cynllun Fy Iechyd y Gaeaf Hwn ar gyfer y rheini nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd na'r cyfryngau cymdeithasol.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Yn ystod fy ymweliad cyn y Nadolig ag Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, roeddwn yn falch o gyfarfod ag ystod o staff, gan gynnwys staff y Groes Goch sy'n gweithio yn yr adran achosion brys ar y gwasanaeth lles a diogelwch yn y cartref. A chredaf fod datganiad ysgrifenedig y Gweinidog iechyd y bore yma wedi cydnabod y dylai pob un ohonom fod yn ymwybodol o'r cyfraniad y mae sefydliadau fel y Groes Goch yn ei wneud mewn gwirionedd i gefnogi'r GIG.

Roeddwn hefyd yn falch o weld yn natganiad y Gweinidog y bydd tasglu gweinidogol yn cael ei sefydlu, ac y bydd yn ystyried llwybrau amgen i osgoi ymweliadau diangen ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, ochr yn ochr â hyn, a gaf fi ofyn beth arall y gellir ei wneud i godi mwy fyth o ymwybyddiaeth o'r ymgyrch Dewis Doeth, fel y gallwn gyfeirio cleifion at leoliad priodol ar gyfer eu hanghenion iechyd? Oherwydd er ei bod yn amlwg fod mwy o lawer i'w wneud o ran rheoli'r pwysau ar ein system achosion brys, mae'n rhaid i ran o'r ateb ymwneud â sicrhau bod pobl na ddylent fod mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt lle mae ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt, yn y lleoliadau mwyaf priodol.

Diolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn pwysig iawn, ac yn sicr, hoffwn gymeradwyo gwaith y Groes Goch yn yr ysbyty ym Merthyr Tudful a diolch hefyd i'r holl staff ym mhob rhan o GIG Cymru a'r sector gofal cymdeithasol sydd, fel y gwyddom o'r trafodaethau a gawsom yma y prynhawn yma, yn gweithio dan bwysau i ddarparu gofal i bobl Cymru. Felly rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl fyrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn darparu'r canlyniad gorau i gleifion ac i gefnogi'r gwaith ymarferol pellach y mae angen i ni ei wneud.

Mae'r cynllun Dewis Doeth wedi bod yn llwyddiant. Mae wedi llwyddo i gyfeirio mwy o bobl i fynd â'u hymholiadau i leoedd eraill yn hytrach na mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, ac rydym yn monitro beth ddylai'r neges fod yn barhaus. Rydym hefyd yn sicrhau bod gennym neges am iechyd meddwl yn y rhaglenni Dewis Doeth, fod pobl yn cydnabod yr anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu a'r problemau iechyd meddwl sy'n codi, yn enwedig dros gyfnodau fel cyfnod y Nadolig, felly rydym yn edrych ar hynny hefyd.

Ond rydym hefyd yn parhau â'r cynllun lle rydym yn cael yr holl wybodaeth am unigolyn ac yn gofyn iddynt ei harddangos yn rhywle, fel ar oergell neu yn eu hystafell wely, fel bod gwybodaeth ar gael yn y cartref i weithwyr proffesiynol pan ofynnir iddynt am gymorth, er mwyn ceisio gwneud yr hyn sydd orau i'r claf a cheisio eu cadw gartref, os oes modd, ym mhob achos.

15:15
Darpariaeth Awtistiaeth

8. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth awtistiaeth ym Mlaenau Gwent? OAQ54904

Diolch. Rydym yn gwella gwasanaethau drwy'r strategaeth awtistiaeth, ac mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ar waith ledled Cymru, gan gynnwys ym Mlaenau Gwent. Byddwn yn ymgynghori ar y cod ymarfer statudol drafft ar awtistiaeth yn y gwanwyn, ac rydym yn cynnal adolygiad o'r galw a chapasiti i sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion pobl awtistig a'u teuluoedd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny, a gwn fod y Gweinidog wedi dangos ymrwymiad personol mawr iawn i ddarparu lefel uchel o wasanaethau o ansawdd uchel i bobl a theuluoedd ag awtistiaeth. Hoffwn ofyn iddo adolygu'r ffordd y caiff y polisïau hynny eu cyflawni ym Mlaenau Gwent. Rwy'n clywed yn fy nghymorthfeydd bob wythnos am anawsterau y mae teuluoedd yn eu cael i gael mynediad at wasanaethau. Rwy'n cydnabod nad yw hyn yn digwydd ledled y wlad, ond buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gomisiynu adolygiad o ddarpariaeth y gwasanaethau hyn ym Mlaenau Gwent i sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn cyfateb i ansawdd gorau'r ddarpariaeth ledled y wlad.

Mae'r Aelod, a bod yn deg, wedi bod yn gyson o ran ei bryderon ynghylch profiad byw pobl awtistig a'u teuluoedd yn ei etholaeth a'r pryderon penodol y mae'n teimlo eu bod yn bodoli mewn perthynas â chydgysylltu'r holl wasanaethau hynny i helpu i wneud y gwahaniaeth mwyaf cadarnhaol i'r teuluoedd hynny. Rwy'n credu y byddaf yn cyfarfod yn fuan â grŵp o rieni o'ch etholaeth, ac rwy'n fwy na pharod i drafod ymhellach yno nid yn unig eu profiad byw ond lle gellid neu lle na ellid cynnal unrhyw adolygiad. Oherwydd rydym yn adolygu'r darlun cenedlaethol cyfan, rydym yn cael sgwrs genedlaethol, rydym yn gwrando ar brofiadau pobl, felly bydd eu lleisiau'n cael eu cynnwys yn y cod ymarfer a'r rhaglen wella rydym wedi'i nodi, ond hoffwn ddeall yn fwy manwl sut olwg fyddai ar hynny, ac a allai partneriaid lleol fod yn gwneud hynny beth bynnag heb i mi geisio cyfarwyddo'r gwaith hwnnw ar lefel weinidogol neu dorri ar draws y gwaith rydym yn ei wneud. Credaf mai'r peth gorau i'w wneud yw mynd i'r afael â hynny gyda'r Aelod yn ei etholaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol—dau gwestiwn wedi'u derbyn heddiw, i'w gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.

Colledion Swyddi Mondi

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Mondi ynghylch colledion swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint? 380

Gwnaf, wrth gwrs. Mae hyn yn newyddion hynod siomedig, ac rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Ymwelodd fy swyddogion â safle Glannau Dyfrdwy ddoe, ac rydym yn canolbwyntio bellach ar berswadio'r cwmni i gadw'r safle yng ngogledd Cymru. Rydym yn darparu'r holl gefnogaeth sy'n bosibl i'r gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfnod anodd tu hwnt i'r unigolion, eu teuluoedd a'r gymuned gyfan yng Nglannau Dyfrdwy, ac mae'n bwysig yn awr ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi'r gweithlu. Weinidog, fe sonioch chi eich bod yn cyfathrebu â Mondi. A allwch gadarnhau eich bod hefyd yn cyfathrebu â'r undebau llafur perthnasol? Yn ail, pa gefnogaeth y gellir ei rhoi ar waith i'r gweithlu, ac yn allweddol, a wnewch chi amlinellu sut y gall y gweithlu gael mynediad at y gefnogaeth hon? Weinidog, mae'r newyddion hwn unwaith eto'n pwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw hi i ni fynd ati ar unwaith i helpu i greu swyddi yng Nglannau Dyfrdwy. Nawr, fe wyddoch chi, Weinidog, a gŵyr yr Aelodau ar draws y Siambr, fy mod wedi galw ers peth amser am gefnogaeth i ganolfan logisteg Heathrow yn Tata Steel yn Shotton, a chredaf hefyd y dylem fuddsoddi ymhellach mewn ail sefydliad gweithgynhyrchu uwch yn yr ardal. Weinidog, a ydych yn cefnogi'r galwadau hyn?

A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau? Yn gyntaf oll, o ran y sefyllfa ar safle Mondi, byddwn yn gweithio gyda rheolwyr y cwmni—rydym eisoes wedi cysylltu; rydym wedi ymweld â'r safle—byddwn yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, ac rydym yn gweithio gyda chynrychiolwyr staff drwy'r undebau, drwy gydol y cam ymgynghori sydd bellach ar y gweill, ac rydym yn gobeithio dod o hyd i ateb a fydd yn arwain at gynnal y gweithgarwch ar y safle yn y dyfodol. Nawr, er ein bod yn gobeithio y gellir osgoi cau'r safle, rydym yn barod i weithio, gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda'n tîm ReAct ein hunain a chyda rhanddeiliaid perthnasol eraill, i ddarparu pecyn cymorth cynhwysfawr i weithwyr os na ellir achub y safle.

Cysylltwyd eisoes â'r Ganolfan Byd Gwaith a Chyngor Sir y Fflint, a byddant yn darparu cefnogaeth a chyngor drwy'r gwasanaeth ymateb cyflym rydym bellach wedi'i sefydlu yng ngogledd Cymru. Rwy'n falch o ddweud bod Mondi eisoes wedi dweud y byddant yn cynnal diwrnod recriwtio swyddi gyda chyflogwyr lleol fel rhan o'r mesurau cymorth diswyddiadau cyflym os cadarnheir y bydd y safle'n cau. Byddwn yn gweithio'n agos iawn i gefnogi'r gwaith hwn, ac os bydd angen, i drafod unrhyw ddefnydd pellach ar y cyfleuster yng Nglannau Dyfrdwy yn y dyfodol.

O ran buddsoddiad ehangach yn ardal Glannau Dyfrdwy, wrth gwrs, mae canolfan logisteg Heathrow yn cynnig cyfle gwych i ddarparu gwaith cynaliadwy o ansawdd uchel i lawer o bobl yr ardal, a buaswn yn cytuno â Jack Sargeant drwy ddweud bod ail gam y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch—sef cam 2 yr athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch—yn gwbl hanfodol i hyrwyddo'r ardal a'r rhanbarth fel canolfan ragoriaeth ym maes electroneg. Rydym yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau hynny ar gyfer yr athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch ar fyrder.

Dylwn ddweud hefyd i gloi, o ran y galw am sgiliau yn yr ardal, fod niferoedd cyflogaeth mor uchel yn Sir y Fflint erbyn hyn—Sir y Fflint, Lywydd, sydd â'r gyfradd gyflogaeth uchaf yng Nghymru, a'r gyfradd ddiweithdra isaf ar 2.3 y cant yn unig, sy'n golygu bod cryn alw yn yr ardal am bobl fedrus. Fel rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud gyda'r cwmni ei hun, byddwn yn cynnal archwiliad sgiliau o'r gweithlu i sicrhau, pe bai'r safle'n cau, y bydd modd paru'r bobl a gyflogir gan Mondi cyn gynted â phosibl â gwaith priodol mewn mannau eraill—er enghraifft, yn KK Fine Foods efallai, lle rydym, yn y 24 awr ddiwethaf, wedi gallu cyhoeddi y bydd 40 o swyddi eraill yn cael eu creu gyda buddsoddiad o ychydig dros £0.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

15:20

Fel y gwyddoch, mae Mondi Group yn creu cynhyrchion deunydd pacio papur a phlastig, ac mae eu safleoedd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, lle mae 167 o swyddi mewn perygl, ac yn Nelson, Swydd Gaerhirfryn, lle mae 41 o swyddi'n cael eu heffeithio, yn creu deunydd pacio plastig hyblyg—bagiau, cydau a laminiadau—ar gyfer y diwydiant nwyddau traul. Ond dywedodd y cwmni fod newid yn y galw am y cynhyrchion arbenigol hyn wedi arwain at y posibilrwydd o gau safleoedd. Fodd bynnag, yn eu datganiad ddydd Gwener diwethaf, dywedasant y byddant yn cychwyn proses ymgynghori 45 diwrnod, a allai arwain at gau’r gweithfeydd. Beth yw eich dealltwriaeth o'r sefyllfa o ran y newid yn y galw am gynhyrchion arbenigol? Pa gefnogaeth y gellid ei rhoi, os o gwbl, gan weithio gyda'r asiantaethau eraill a Llywodraeth y DU fel y nodoch, naill ai i helpu i ysgogi'r galw am y cynhyrchion arbenigol hynny neu i amrywio'r cynhyrchion arbenigol, efallai, i greu cynnyrch newydd i sicrhau eu bod yn ateb y galw sy'n bodoli?

A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau yn ei gyfraniad? Fy nealltwriaeth i yw bod y cynhyrchion sy'n dod o safle Glannau Dyfrdwy yn gynhyrchion arbenigol iawn a bod y galw amdanynt wedi lleihau'n ddiweddar. O ganlyniad, mae angen i'r cwmni wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cau'r safle, neu a allant, o bosibl, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU efallai, a'r awdurdod lleol, ei gadw ar agor yng ngogledd Cymru drwy ehangu ei sylfaen o gynhyrchion. Wrth gwrs, byddai angen mwy o ymchwil a datblygu er mwyn gwneud hynny, a dyna'n union pam ein bod wedi annog busnesau i fanteisio'n llawn ar y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch nad yw'n bell o'r busnes penodol hwnnw. Byddem yn annog y cwmni, os yw'n penderfynu cadw'r safle ar agor, ac rydym yn mawr obeithio y byddant, i ddefnyddio'r gwasanaethau a'r cydweithredu a geir yn y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch.

O ran y gefnogaeth rydym yn barod i'w chynnig i'r gweithwyr, rwyf eisoes wedi amlinellu'r gwasanaeth ymateb cyflym sydd bellach ar waith yng ngogledd Cymru ac sy'n barod i gynorthwyo gweithwyr. Yn ogystal, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar y buddsoddiadau posibl a'r twf sydd gennym ar y gweill eisoes ar gyfer y rhanbarth, ac yn sicrhau y gwneir pob ymdrech i sicrhau buddsoddiad a allai arwain at ddatblygu cyfleoedd gwaith newydd yng Nglannau Dyfrdwy a thu hwnt.

Mae'n ddiddorol fod y cwmni'n nodi'r ffaith bod newid wedi bod yn y galw am y cynhyrchion arbenigol. Nawr, mae hynny'n arwain at gwestiwn ehangach, wrth gwrs—ym mha ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru helpu cwmnïau i ddiogelu eu busnes at y dyfodol, o gofio, wrth gwrs, fod galwadau cymdeithas, a thueddiadau defnyddwyr os mynnwch, yn newid, yn enwedig yng nghyd-destun yr amgylchedd. Tybed beth y gall y Llywodraeth ei wneud i gefnogi rhai o'r cwmnïau sydd efallai'n gweld yr heriau hyn ar y gorwel.

Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn clywed a yw Mondi wedi egluro pam eu bod yn gadael y DU. Pam atgyfnerthu y tu allan i'r DU? Pa ffactorau sydd wedi llywio'r penderfyniad penodol hwnnw? Hefyd, a oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod risg i'r swyddi hyn, oherwydd fy nealltwriaeth i yw eu bod wedi wynebu problemau yno flwyddyn neu ddwy yn ôl, a daeth y gweithlu i'r adwy bryd hynny? Tybed, yn y cyfamser, a yw'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni i geisio diogelu'r swyddi hynny. Ac os oeddech yn ymwybodol fod y swyddi mewn perygl, efallai y gallech ddweud wrthym beth a wnaethoch ynglŷn â hynny.

15:25

Ni allaf ddatgelu beth sydd ar ein cofrestr risg o fusnesau rydym yn ofni y gallent ddewis symud o Gymru. Mae'r proffil hwnnw o fusnesau'n parhau i fod yn gyfrinachol gan nad ydym am achosi unrhyw bryderon diangen yng ngweithlu Cymru. Rydym yn cynnal deialog agos iawn gyda llawer o'r 250,000 o fusnesau yng Nghymru, ac rydym yn barod i gynorthwyo unrhyw rai sy'n wynebu anawsterau.

O ran cefnogaeth uniongyrchol y gellir ei chynnig i fusnesau er mwyn eu diogelu at y dyfodol mewn perthynas â heriau fel datgarboneiddio, awtomatiaeth a digideiddio ac ati, fe wnaethom ddatblygu'r cynllun gweithredu ar yr economi, nid yn unig y contract economaidd sy'n ganolog i'r cynllun gweithredu ar yr economi, ond y gronfa dyfodol yr economi newydd, gyda phum maes gweithgarwch sy'n caniatáu i gwmnïau sicrhau cyllid. O fewn y pum maes hynny, mae datgarboneiddio'n un, mae lleoli pencadlysoedd yng Nghymru yn un arall, ac o ran ymchwil a datblygu, gall busnesau sicrhau cyllid hefyd drwy gronfa dyfodol yr economi.

Nawr, yr enghraifft a roddais yn fy ymateb i Jack Sargeant, KK Fine Foods—fe wnaethant sicrhau arian er mwyn diogelu eu gweithgarwch yng Nglannau Dyfrdwy at y dyfodol. Bellach, mae ganddynt gontract economaidd sy'n hyrwyddo datgarboneiddio, gwell iechyd ac iechyd meddwl yn y gweithle, a gwaith teg. Fe wnaethant sicrhau eu cyllid er mwyn cynnal mwy o weithgaredd ymchwil a datblygu ar safle Glannau Dyfrdwy, arallgyfeirio, a newid i gynhyrchu deunydd pecynnu bioddiraddadwy. Mae hynny'n dangos sut y mae'r cynllun gweithredu ar yr economi a'r galwadau i weithredu yng nghronfa dyfodol yr economi yn gweithio'n ymarferol ar lawr gwlad i gefnogi cwmnïau sy'n pontio i ddyfodol newydd.

Diolch am yr ateb i'r cwestiwn yna. Mae'r cwestiwn nesaf gan Russell George.

Flybe

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i adroddiadau ynghylch dyfodol Flybe a'i effaith ar faes awyr Caerdydd? 381

Gwnaf, wrth gwrs. Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn galonogol nodi bod cytundeb wedi'i gyrraedd bellach gyda Llywodraeth y DU sy'n sicrhau bod y cwmni hedfan yn parhau i weithredu. Fodd bynnag, ceir problemau o hyd gyda chysylltedd rhanbarthol ac mae angen i Lywodraeth y DU ymyrryd ymhellach i gefnogi cystadleurwydd meysydd awyr llai o faint.

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ateb, a chytunaf ag ef o ran y newyddion calonogol fod Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb â chyfranddalwyr Flybe a fydd yn parhau i ganiatáu i Flybe weithredu, yn y tymor byr o leiaf? O ran dyfodol Flybe, tybed pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael, fel perchnogion y maes awyr, gyda Llywodraeth y DU a Flybe eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol y byddai Flybe yn gatalydd ar gyfer twf y maes awyr, felly o ystyried statws ariannol cyfredol y cwmni, a allwch ymhelaethu ar y trafodaethau a gawsoch gyda Maes Awyr Caerdydd ar effaith bosibl Flybe yn lleihau nifer y teithiau o Gaerdydd? A tybed hefyd a allech wneud asesiad o'r goblygiadau i Faes Awyr Caerdydd, pe bai Flybe yn rhoi'r gorau i weithredu, a'r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru a Holdco i'w lliniaru.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, llofnodwyd trefniant neu gytundeb 10 mlynedd gyda Flybe pan ddechreuodd y cwmni weithredu yng Nghaerdydd yn 2015, felly tybed a allwch nodi unrhyw oblygiadau i'r cytundebau a'r rhwymedigaethau cytundebol hyn yng nghyd-destun yr anawsterau sy'n wynebu Flybe ar hyn o bryd. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried, neu a yw Maes Awyr Caerdydd wedi ystyried, cynnig unrhyw gymhellion ariannol i Flybe i'w denu i barhau i weithredu ym Maes Awyr Caerdydd, er enghraifft hepgor ffioedd neu gostau am hedfan i mewn ac allan o'r maes awyr? Ac a gaf fi ofyn hefyd pa gynlluniau wrth gefn sydd gan y maes awyr ar waith ar golli teithiau yn y dyfodol, a pha drafodaethau a gawsoch ar brosiectau eraill sy'n cynhyrchu refeniw a fydd yn gwella cynaliadwyedd ariannol Maes Awyr Caerdydd? Gofynnaf hyn yng nghyd-destun colledion cyn treth parhaus Maes Awyr Caerdydd, gan y gwyddom eu bod wedi treblu, bron â bod, i £18 miliwn, ac wrth gwrs, y benthyciad arall o £21 miliwn yr oedd ei angen yn ôl ym mis Hydref. Tybed a allech gadarnhau hefyd beth oedd pwrpas y benthyciad hwnnw o £21 miliwn yn ôl ym mis Hydref.

Ac yn olaf, ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch gadarnhau nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddadansoddiad o ba bryd y byddai'r maes awyr yn dechrau gwneud elw, nad oeddech yn gallu diystyru unrhyw fenthyciadau pellach, ac nad oeddech yn gwybod pryd y byddai'r benthyciad cyfredol yn dechrau cael ei ad-dalu. Felly, yn hynny o beth, pa asesiad rydych chi a'ch cyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, yn ei wneud o'r risg bosibl i bwrs y wlad mewn perthynas â sefyllfa'r benthyciadau a roddwyd eisoes i'r maes awyr? A allwch gadarnhau bod yr asesiad a wnaethoch yr wythnos diwethaf i bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr un fath heddiw hefyd, yn dilyn y newyddion am Flybe a'r pryderon ynghylch Flybe?

15:30

A gaf fi ddiolch i Russell George a dweud i ddechrau, 'Ydi, mae fy asesiad i heddiw yr un fath ag yr oedd yr wythnos diwethaf, yn awr bod Llywodraeth y DU wedi achub cwmni hedfan, yn union fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru achub maes awyr pwysig flynyddoedd yn ôl'? Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn Llywodraeth ymyraethol erbyn hyn, gan ddilyn ôl troed Llywodraeth Cymru. Cynhelir trafodaethau'n rheolaidd rhwng y maes awyr a Flybe yn uniongyrchol, a Llywodraeth Cymru a'r maes awyr. Cafodd tua 310,000 o deithwyr eu cludo i ac o Faes Awyr Caerdydd yn y flwyddyn ddiwethaf—sef 310,000 o'r 1.7 miliwn, felly mae'n cael effaith sylweddol ar y maes awyr.

Pan gynhaliwyd diwydrwydd dyladwy ar gynnig y benthyciad, rhoddwyd ystyriaeth i senarios amrywiol, gan gynnwys cwymp rhai cwmnïau hedfan, ac roeddem yn hyderus, yn seiliedig ar ein hasesiad, y byddai colli Flybe yn dal i ganiatáu i'r maes awyr weithredu mewn modd hyfyw a chynaliadwy. Fodd bynnag, byddai nifer y teithwyr yn llawer llai, a byddem yn dymuno gweld niferoedd y teithwyr yn parhau i dyfu yn hytrach na gostwng, a dyna pam fy mod mor falch o glywed canlyniad y trafodaethau a fu rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmni hedfan.

Ond gallai'r Llywodraeth yn San Steffan wneud mwy i gynorthwyo o ran y cymhellion ariannol y mae Russell George wedi gofyn cwestiynau amdanynt heddiw. Yn union fel y mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi'i argymell, gallai Llywodraeth y DU ddatganoli tollau teithwyr awyr i Gymru, a gallai Llywodraeth Cymru wneud penderfyniad wedyn ynglŷn â sut y mae'n defnyddio tollau teithwyr awyr er mwyn cymell pobl i ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd a llwybrau ohono, yn ogystal â'r newid sydd angen i gwmnïau hedfan ei wneud o awyrennau llygredig iawn i awyrennau llai llygredig. Gallem fodelu cyfundrefn o dollau teithwyr awyr sy'n caniatáu inni gymell cwmnïau hedfan sy'n gweithredu'r awyrennau lleiaf llygredig i ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd.

Mae'r camau pellach y gellid eu cymryd i wella'r amrywiaeth o lwybrau teithio a gynigir o Faes Awyr Caerdydd yn cynnwys cymorth ar gyfer y llwybrau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rydym wedi'u hargymell i Lywodraeth y DU, ond hyd yma mae wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen i'w hargymell i'r Comisiwn Ewropeaidd. Pe bai'n cefnogi'r llwybrau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus hynny, byddai cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr yn cael ei chwistrellu i fodel busnes y maes awyr.

Rwy'n hyderus—yn seiliedig ar dwf o dros 34 y cant mewn refeniw yn y flwyddyn ddiwethaf ac enillion cadarnhaol cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddiad am yr ail flwyddyn yn olynol—fod y maes awyr mewn sefyllfa gref iawn. Ond mae'r sector hedfan yn ei gyfanrwydd yn mynd drwy gyfnod anodd ar hyn o bryd, a dyna pam ei bod yn hollol iawn fod Llywodraeth y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru, fel y dangoswyd ddoe, yn barod i helpu'r sector.

Mae'n gwbl hanfodol o ran twf economaidd. Mae'n hanfodol o ran darparu swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol, megis y 2,500 y mae Maes Awyr Caerdydd yn eu cynnal yn ne Cymru. Ac mae'n gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod cymunedau yng Nghymru a'r DU wedi'u cysylltu'n well nag y byddent fel arall heb y meysydd awyr hyn. Er enghraifft, a fyddai Maes Awyr Ynys Môn yn hyfyw heb Faes Awyr Caerdydd? Rwy'n amau hynny'n fawr, Lywydd.  

Rwy'n falch eich bod o'r diwedd wedi crybwyll Maes Awyr Ynys Môn, oherwydd mae Flybe yn bwysig i Faes Awyr Caerdydd am ei fod yn cysylltu â nifer o gyrchfannau pwysig, ond mae gan Flybe hefyd lwybrau hedfan sy'n dechrau ac yn gorffen yng Nghymru—y daith rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Ac mae'r daith honno, ynddi ei hun, wedi dod yn bwysig iawn i unigolion, i fusnesau, a hefyd o ran llywodraethu Cymru, sy'n bwysig iawn yma. Mae gwneud Cymru'n llai a'i gwneud yn haws i Weinidogion y Llywodraeth deithio, fel y gwyddoch yn iawn, ac ymddiddori'n uniongyrchol yn yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad mewn rhannau eraill o Gymru yn bwysig tu hwnt, ac ni ddylem anghofio hynny.

Rwy'n credu bod llawer o'r cwestiynau wedi cael eu gofyn yn barod, ond rwy'n awyddus i wybod, o ystyried pwysigrwydd Flybe i Gymru, pa rôl y byddwch yn ceisio ei chwarae yn awr yn yr adolygiad hwn o gysylltedd rhanbarthol y mae Llywodraeth y DU yn addo ei gynnal, oherwydd byddem eisiau iddi fod yn rôl weithredol. A hefyd, beth fyddwch chi'n ei wneud i gynyddu'r lefel o frys i fynd ar drywydd datganoli tollau teithwyr awyr? Rydym yn cytuno bod angen iddo ddigwydd, ond sut ydych yn defnyddio'r sefyllfa benodol hon fel ffordd o fentro mwy, os mynnwch, a gwneud yr achos yn gryfach byth dros ddatganoli tollau teithwyr awyr cyn gynted â phosibl?

15:35

A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau? Mae'n hollol iawn fod angen inni siapio dyfodol tollau teithwyr awyr yn y DU. Ac fel rhan o'r adolygiad a fydd yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU, byddem yn disgwyl iddynt ystyried sut y cymhwysir tollau teithwyr awyr, a chan bwy. A dylai'r hyn sy'n ddigon da i'r Alban, bid siŵr, fod yn ddigon da i Gymru a dylai fod gennym gyfrifoldebau wedi'u datganoli dros dollau teithwyr awyr.

Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch y cyhoeddiad ddoe, gan bwysleisio pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru yn rhan o'r adolygiad ar gysylltedd rhanbarthol a dyfodol tollau teithwyr awyr. Rwy'n credu bod penderfyniad Llywodraeth y DU yn dangos sut y gellir defnyddio tollau teithwyr awyr fel galluogwr i gymell teithwyr i beidio â gorfod teithio pellteroedd mawr i fynd ar awyren a defnyddio meysydd awyr mwy lleol a rhanbarthol yn lle hynny. Ac felly buaswn yn disgwyl y byddwn yn rhan ganolog o'r trafodaethau ynglŷn â dyfodol tollau teithwyr awyr.

Ac mewn perthynas â'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus o Gaerdydd i Ynys Môn yn benodol, rwy'n falch o ddweud na fyddai'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus wedi cael ei heffeithio pe bai Flybe wedi mynd i'r wal, am mai Eastern Airways sydd wedi'i gontractio i gynnal y llwybr teithio. Fodd bynnag, bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod archebion cyfredol ar gyfer y gwasanaeth penodol hwnnw yn cael eu gwneud drwy wasanaeth archebu Flybe. Felly, er mai Eastern Airways sydd â system archebu wrth gefn, byddai honno, yn ôl pob tebyg, wedi cael ei gweithredu'n ddi-oed pe bai Flybe wedi mynd i'r wal.

Mae Plaid Brexit yn croesawu'r ymyrraeth gan Lywodraeth y DU i alluogi cwmni hedfan Flybe i barhau â'i weithrediadau, gan ein bod yn cydnabod ei bwysigrwydd i Faes Awyr Caerdydd. Mae rhai yn ceisio beirniadu'r Llywodraeth am eu cefnogaeth i Flybe, gan dynnu sylw at y ffaith na chafwyd pecyn cymorth o'r fath i Thomas Cook. Fodd bynnag, a ydych yn cytuno nad yw'r Llywodraeth yn darparu swm mawr o arian i Flybe? Yn syml, maent wedi cytuno i ohirio dyled a werthwyd am dreth teithwyr awyr am oddeutu tri mis, a dywedir ei fod oddeutu £100 miliwn.

Ac mae'n wir hefyd fod dadansoddiad priodol o weithrediadau'r ddau gwmni yn dangos pam y gellir cyfiawnhau'r ymyrraeth, oherwydd mae Flybe, yn gyfan gwbl bron, yn gludydd mewnol Ewropeaidd a Phrydeinig, yn gwasanaethu meysydd awyr rhanbarthol Prydain yn bennaf, gan roi mynediad hanfodol i'r meysydd awyr rhanbarthol hyn, gan gynnwys Caerdydd wrth gwrs, at feysydd awyr y DU ac Ewrop. A wnewch chi hefyd gytuno â'r honiad fod cyfanswm dyledion Flybe, sydd ond yn ddegfed ran o gyfanswm dyledion Thomas Cook, hefyd yn fach o'u cymharu a bod iddo ddyfodol hyfyw o'r herwydd?

Mae gweithgarwch Flybe yn hwyluso teithiau gwyliau mewnol ond mae hefyd yn gyswllt busnes hanfodol, yn enwedig lle mae amser yn hollbwysig. Mae taith o Gaerdydd i Gaeredin, er enghraifft, yn bosibl mewn diwrnod drwy'r awyr, ond bron yn amhosibl ar drên neu mewn car. Mae Flybe hefyd yn hanfodol i rannau eraill o'r DU, sy'n cynnwys Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Belfast, a Newquay yng Nghernyw, sydd i gyd, wrth gwrs, yn cysylltu â Chaerdydd mewn un ffordd neu'r llall. Mae teithwyr yn dweud nad yw ffyrdd eraill o deithio yn opsiwn, a dywedodd un y byddai taith o Lundain i Newquay ar y trên yn cymryd oddeutu pum awr.

Unwaith eto, gan ddychwelyd yn nes adref, mae Flybe, wrth gwrs, yn gwmni hedfan hollbwysig i faes awyr Caerdydd, gan ei fod yn un o'i gludwyr mwyaf. Felly, o bersbectif Cymreig, a ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol cadw'r cwmni hedfan yn weithredol? Gallai'r posibilrwydd o dorri tollau teithwyr awyr roi hwb i Gaerdydd hefyd.

15:40

A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau a'i sylwadau? Buaswn yn cytuno bod y sefyllfa y mae Flybe yn ei hwynebu yn wahanol iawn i'r sefyllfa roedd Thomas Cook yn ei hwynebu. Mae'n gwbl hanfodol fod Flybe wedi cael y cymorth y mae'n ymddangos ei fod wedi'i gael. Nid ydym yn gwybod faint yn union o dollau teithwyr awyr sydd wedi'i ohirio. Rwyf hefyd wedi gweld adroddiadau sy'n awgrymu bod y ffigur hwnnw oddeutu £100 miliwn. Nid arian parod i Flybe yw hwn; mae'n gymorth hanfodol a fydd yn rhoi lle iddo anadlu a galluogi'r perchnogion i chwistrellu cyfalaf i'r busnes er mwyn ei wneud yn hyfyw yn y tymor hir.  

Mae'n ffaith ddiddorol na fu erioed flwyddyn yn hanes awyrennau teithwyr lle mae'r diwydiant hedfan wedi gwneud elw mewn gwirionedd. Mae pob blwyddyn yn gweld enillwyr a chollwyr, yn gweld colledion ac elw, ond nid oes blwyddyn wedi bod lle cafwyd elw net o awyrennau teithwyr. Mae hynny'n dangos pa mor anodd yw maes awyrennau teithwyr. Mae'n dangos pa mor gystadleuol ydyw hefyd. Ac mae hefyd yn dangos pam fod llywodraethau, weithiau, yn gorfod ymyrryd.  

Mae hefyd yn ddiddorol, yn gyffredinol, rwy'n credu, fod pobl Prydain yn credu y dylai meysydd awyr fod mewn perchnogaeth breifat ac yn nwylo perchnogion preifat yn unig, ond y gwir amdani yw bod 86 y cant o feysydd awyr y byd lle gall teithwyr hedfan i mewn ac allan ohonynt yn eiddo i'r sector cyhoeddus, ac 14 y cant sydd mewn dwylo preifat. Mae'n dangos, felly, pam fod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, yn iawn i achub Maes Awyr Caerdydd a chynnal ei buddiant yn y darn hollbwysig hwn o seilwaith.

O ran y cymorth a gynigir i Flybe, bydd yn galluogi'r cwmni hedfan hwnnw i gynnig gwasanaethau, nid yn unig o ran teithiau hedfan o'r DU i Ewrop, ond teithiau hedfan hefyd sy'n sicrhau bod cymunedau ym Mhrydain yn cael eu cysylltu'n well â'i gilydd, er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl o rannau mwy pellennig o'r DU yn gallu teithio'n bell o'n canolfannau strategol allweddol fel Manceinion, Heathrow a meysydd awyr mawr eraill. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol, wrth i ni ystyried dyfodol tollau teithwyr awyr, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n dangos parch at swyddogaethau datganoledig a gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio tollau teithwyr awyr er mwyn ysbrydoli a chefnogi twf pellach ym Maes Awyr Caerdydd.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Leanne Wood.

Wayne Warren, töwr 57 oed o Dreherbert, oedd yr enillydd hynaf yn hanes pencampwriaeth dartiau'r byd Sefydliad Dartiau Prydain pan gurodd ei gyd-Gymro, Jim Williams, o 7-4 dros y penwythnos. Mae'r Rhondda eisoes wedi cynhyrchu pencampwr dartiau'r byd Sefydliad Dartiau Prydain yn Richie Burnett o Gwmparc, felly mae gennym ddau bellach.

Yn ôl yn 2001, credai Wayne na fyddai byth yn chwarae dartiau eto ar ôl dioddef llosgiadau i ran uchaf ei gorff a threulio 10 diwrnod mewn uned losgiadau mewn ysbyty. Bron i ddau ddegawd ar ôl y digwyddiad erchyll hwnnw, mae wedi cael ei goroni'n bencampwr byd. Mae defnydd Wayne o'r ddraig goch ar ei deithiau hedfan wedi sicrhau cydnabyddiaeth i'n gwlad yn ogystal ag i'r Rhondda.

Gall fod manteision i chwarae dartiau, gan gynnwys gwell cydlyniad rhwng y dwylo a'r llygaid, meddwl strategol a sgiliau mathemategol. Mae hefyd, wrth gwrs, yn esgus gwych i fynd allan o'r tŷ a chymdeithasu a chefnogi eich clwb neu eich tafarn leol.

Felly, hoffwn ddweud, 'Diolch yn fawr iawn, Wayne Warren', am ddangos yr hyn sy'n bosibl gyda phenderfyniad, ymroddiad ac uchelgais. Diolch hefyd i chwaraewyr dartiau eraill y Rhondda fel Richie Burnett, Alan Evans, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'The Rhondda Legend', a'r llu o bobl eraill sydd wedi dod â bri i'r Rhondda ac i Gymru drwy gyfrwng dartiau. Dartiau teidi.

Dyna lle'r oeddwn i, yn gwrando ar Stormzy ar argymhelliad Rhun ap Iorwerth, pan ddaeth artist mwy cyfarwydd i mi i sylw'r siartiau. Hoffwn longyfarch fy etholwr Dafydd Iwan am godi i frig siart iTunes gyda'i anthem eiconig 'Yma o Hyd'. Mae llwyddiant Dafydd yn briodas hapus rhwng yr hen rocar a mudiad ifanc ffyniannus YesCymru. Mae Dafydd yn rhannu'r un gwerthoedd â'r rhai a lwyddodd i'w ddyrchafu i rif un. Nid oes yna neb wedi bod cystal â Dafydd am warchod y winllan a'i throsglwyddo i ofal y genhedlaeth iau. Ar label Sain a recordiwyd 'Yma o Hyd' yn 1981, a chwmni o Landwrog yn etholaeth Arfon oedd yn gyfrifol am hynny, ac mae'n wych gweld cyfraniad Sain i'r sîn gerddorol yng Nghymru'n cael cydnabyddiaeth rhyngwladol. Mae'r cyhoeddusrwydd yma'n ragarweiniad amhrisiadwy a ninnau'n agosáu at Ddydd Miwsig Cymru ar 7 Chwefror, diwrnod pan fydd y Gymraeg a'i cherddoriaeth yn asio i hyrwyddo'n diwylliant. Ac er, efallai, na chlywn ni lawer o ganeuon protest mis nesaf, gallwn ni gymryd cysur fod geiriau 'Yma o Hyd' yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw bron i 40 mlynedd yn ôl. 

15:45

Mae'r ail ddatganiad 90 eiliad heddiw yn sôn am chwaraewr dartiau Cymreig—pwy fyddai wedi meddwl? Byddai wedi bod yn ben blwydd ar Leighton Rees yn wyth deg y dydd Gwener hwn, 17 Ionawr. Ganwyd Leighton yn Ynys-y-bŵl, y pentref lle treuliodd lawer o'i oes. Ar ôl ysgol, bu'n gweithio i gwmni rhannau moduron, ac yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd chwarae dartiau. Roedd yn chwarae dros ei dafarn a'i sir yn rheolaidd, ac yna daeth yn enwog am chwarae'r gamp ar lwyfan ehangach yn y 1970au.

Roedd byd y teledu'n galw. Cymerodd ran ar raglen deledu Yorkshire TV, The Indoor League, yr unig chwaraewr i ennill yr elfen bencampwriaeth ddartiau ddwywaith. Yn wir, daeth y cystadleuydd o Ynys-y-bŵl, a gafodd ei lysenwi'n 'Marathon Man', mor enwog fel y bu iddo droi'n broffesiynol yn 1976. Yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd cyntaf Ffederasiwn Dartiau'r Byd ym 1977, roedd Leighton yn rhan o dîm llwyddiannus Cymru a gipiodd y wobr gyntaf. Hefyd, enillodd Leighton y bencampwriaeth i unigolion. Y flwyddyn ganlynol, bu'n llwyddiannus ym mhencampwriaeth dartiau proffesiynol byd-eang cyntaf Embassy yn Nottingham.

Ar ôl cael ei raddio'n gyntaf yn y byd, profodd ei yrfa rywfaint o ddirywiad, eto i gyd parhaodd Leighton i fod yn un o gystadleuwyr mwyaf poblogaidd y byd dartiau. Roedd ei ornestau'n arwain at arenâu llawn bron bob tro. Mwynhaodd lwyddiant ar raglen deledu Bullseye, ac mae'n cael ei gofio fel rhywun a helpodd i wneud dartiau'n adloniant poblogaidd ar y teledu, ac roedd yn ffigur lleol hoffus a mawr ei barch hefyd. Enwyd stryd, Leighton Rees Close yn Ynys-y-bŵl, ar ei ôl. Bu farw Leighton yn 2003 yn 63 mlwydd oed, ond mae'r cof am y 'Marathon Man' yn fyw o hyd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru

Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7226 Llyr Gruffydd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. Fel Cadeirydd y pwyllgor, wrth gwrs, mi hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r ymchwiliad yma ac i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, hefyd, am ei hymateb i'n hadroddiad ni. Mae'r pwyllgor yn croesawu'n fawr iawn y ffaith bod y Gweinidog, yn ei hymateb hi, wedi derbyn pob un o argymhellion yr adroddiad.

O dan Ddeddf Cymru 2017 a'r fframwaith cyllidol cysylltiedig, ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru derfyn benthyca cyfalaf blynyddol o £150 miliwn. Ym mis Mehefin y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog becyn buddsoddi cyfalaf gwerth £85 miliwn. Yna, ar 4 Tachwedd, cyhoeddodd gyllid ychwanegol gwerth £130 miliwn ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf allweddol, ac roedd hynny'n cynnwys £53 miliwn i gefnogi busnesau yn wyneb Brexit ac i ddarparu buddsoddiad ychwanegol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, fel tai a theithio llesol. Ynghyd â'r cyhoeddiad hwn, cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o Gynllun Buddsoddi Seilwaith Cymru.

Nawr, mi gafodd yr adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru ar weithredu Rhan 2—cyllid—o Ddeddf Cymru 2014 ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae’n cyfeirio at fenthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru ac mae'n nodi—a dwi'n dyfynnu—

'Bydd ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i'r defnydd o fenthyca cynlluniedig yn ystod pob cyfnod cyllidebol, a bydd ond yn cael ei ddefnyddio pan fydd pob ffynhonnell gonfensiynol, ratach o gyllid cyfalaf sydd ar gael wedi cael ei disbyddu.'

Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid gynnal yr ymchwiliad hwn i sefydlu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ffrydiau cyllidol sydd ar gael iddi, pa mor effeithiol yw strategaeth gyllido Llywodraeth Cymru, a hefyd manteision a risgiau modelau cyllido penodol, yn enwedig y model buddsoddi cydfuddiannol, neu'r MIM fel rŷn ni'n ei adnabod e drwy'r acronym Saesneg.

O ran ei natur, mae cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi mwy o gyfyngiadau ar ddefnyddio cyfalaf, a hynny drwy gyflwyno cyfalaf trafodion ariannol. Yn 2019-20, roedd 14.2 y cant o gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar ffurf cyfalaf trafodion ariannol. Dim ond ar gyfer benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti yn y sector breifat y gellir defnyddio’r cyfalaf hwn, wrth gwrs, a rhaid ei dalu yn ôl i Drysorlys Ei Mawrhydi.

Yn ei thystiolaeth i’r ymchwiliad, nododd y Gweinidog fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru dalu yn ôl 80 y cant o gyfanswm y cyfalaf trafodion ariannol gafodd ei ddyrannu gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddarparu benthyciadau di-log neu fenthyciadau llog isel iawn i'r sector breifat fuddsoddi mewn seilwaith perthnasol, er enghraifft, mewn prosiectau tai.

Mae’r pwyllgor o’r farn bod tystiolaeth rhanddeiliaid yn dangos yr angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gellid defnyddio cyfalaf trafodion ariannol yn well i gefnogi darparwyr tai a hefyd sut y gellir defnyddio pwerau benthyca cyfalaf llywodraeth leol yn fwy effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y dystiolaeth bod seilwaith cyfalaf yn dirywio, felly gwnaeth y pwyllgor argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda llywodraeth leol i ddarparu dull mwy integredig o gyflawni buddsoddiad seilwaith, yn genedlaethol ac hefyd yn lleol.

Yn ystod yr ymchwiliad, un o’r prif themâu i ddod i’r amlwg oedd yr angen i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer y tymor hwy a nodi ffynonellau cyllid ar gyfer projectau er mwyn creu darlun cliriach o ran faint o gyfalaf y bydd angen ei fenthyca yn y dyfodol.

Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynllun buddsoddi seilwaith diwygiedig, gan ei fod yn rhoi mwy o fanylion am fuddsoddiadau seilwaith arfaethedig Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn ystod yr ymchwiliad, tynnodd rhanddeiliaid sylw at y diffyg eglurder yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu projectau ar hyn o bryd. Awgrymodd un o’r tystion y dylai unrhyw gynllun buddsoddi hirdymor gael ei gyhoeddi yn llawn. Dywedodd y Gweinidog wrth y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymru i gael y golwg hirdymor hwnnw, gan edrych rhwng pump a 30 mlynedd i’r dyfodol. Ac yn ôl y Gweinidog, mi fydd y grŵp hwn yn gwneud argymhellion ynghylch anghenion y seilwaith economaidd ac amgylcheddol yn y tymor hwy ledled Cymru. Yn ei hymateb i’n hadroddiad ni, fe ychwanegodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i argymhellion y comisiwn newydd ar ôl iddo gyhoeddi ei adroddiad cyntaf yn 2021 ac yn edrych ar sut y gall hyn ddylanwadu ar ddull Llywodraeth Cymru o fenthyca.

Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth fod y risg yn amrywio drwy oes project a bod y risg uchaf yn y cyfnod adeiladu. Dylai'r risg gael ei hasesu ar bob cam o'r project, a dylid ystyried cysylltu ffynonellau cyllid â risg project ar bob cam. Mae'r pwyllgor o'r farn y byddai hyn yn ffordd fwy effeithiol o ddyrannu cyllid na’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar hyn o bryd, sef defnyddio'r ffynhonnell rataf o fenthyca yn gyntaf. Mi fyddai fe hefyd yn galluogi’r Llywodraeth i wneud y mwyaf o'r cyfalaf sydd ar gael a lleihau costau cyllid ar yr un pryd.

Roedd yr ymchwiliad gan y pwyllgor hefyd yn cynnwys cryn dipyn o dystiolaeth yn cymharu a chyferbynnu mentrau cyllid preifat, y PFI, a gyflwynwyd gyntaf, wrth gwrs, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig nôl ym 1992, a'r model buddsoddi cydfuddiannol, y MIM oeddwn i'n sôn amdano fe gynnau, a gafodd ei ddatblygu yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy na £1 biliwn i ariannu seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r model buddsoddi cydfuddiannol yn seiliedig ar fodel dosbarthu di-elw Llywodraeth yr Alban, a gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Banc Buddsoddi Ewrop i ddatblygu’r model newydd gyda’r nod o sicrhau nad oes unrhyw rwymedigaeth o ran dyledion yn cael ei chofnodi ar fantolen y Llywodraeth. Dylai hyn olygu na fydd yn cael ei chynnwys yn nherfynau benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru, ac fe ddylai ddarparu, felly, ffrwd fenthyca annibynnol i'r Llywodraeth yma yng Nghymru.

Awgrymodd y dadansoddiad cymharol fod model buddsoddi cydfuddiannol yn well o ran agweddau fel buddion cymunedol a goruchwylio contractau project, ond ei bod yn anodd gweld gwahaniaeth sylweddol rhwng y ddau fodel. Yn benodol, nid yw'n eglur sut mae’r model buddsoddi cydfuddiannol yn lleihau costau cyllido na sut mae’n cynnig mwy o werth am arian na’r model PFI blaenorol.

Yn yr ymchwiliad, un o fuddion posibl y model buddsoddi cydfuddiannol a gafodd ei amlygu oedd bod cyfle i’r sector cyhoeddus gael hyd at 20 y cant o gyfanswm yr ecwiti mewn project a chael cyfran o unrhyw enillion o ganlyniad i hynny. Byddai cael ecwiti mewn project hefyd yn galluogi'r sector cyhoeddus i gael cynrychiolaeth ar fwrdd y project fel cyfranddaliwr, a byddai hyn yn gyfle i'r sector cyhoeddus ddylanwadu ar benderfyniadau yn ymwneud â’r project. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn pryderu am y posibilrwydd na fyddai'r trefniadau llywodraethu presennol yn ddigon cadarn i liniaru gwrthdaro buddiannau posibl a allai godi o ganlyniad i’r ffaith y byddai Llywodraeth Cymru wedyn yn gyfranddaliwr ac yn gleient.

Fe glywsom ni dystiolaeth fod y gwaith i ddatblygu'r model buddsoddi cydfuddiannol wedi ceisio delio â rhai o’r materion o ran cymhlethdod ac anhyblygrwydd y contractau PFI, ond fe glywsom ni gan dystion fod contractau model buddsoddi cydfuddiannol yn dal yn gymhleth ac yn dal i fod yn weddol anhyblyg. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu, o dro i dro, lefel yr arbenigedd sydd yn ei le ar gyfer rheoli contractau, a hynny er mwyn cynnal yr arbenigedd hwn a sicrhau bod projectau o dan y model hwn yn cael eu cyflawni'n effeithiol trwy gydol eu hoes.

Mae tystiolaeth hefyd wedi awgrymu y dylid ystyried yn ofalus y projectau sy'n cael eu dewis ar gyfer eu cyflawni trwy'r model buddsoddi cydfuddiannol. Dyw projectau â gofynion cymhleth, asedau technoleg uchel a phrojectau arloesol ddim yn cael eu hystyried yn rhai priodol ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol. Mae projectau sy'n cael eu hystyried yn rhai sefydlog dros amser, megis adeiladu ffyrdd, ysgolion ac ysbytai, yn fwy priodol ar gyfer y model hwnnw. Roedd y pwyllgor yn fodlon bod projectau priodol wedi cael eu dewis ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol, ac mae wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio’r model hwn i ariannu projectau sy'n gofyn am gysondeb dros oes y contract yn ogystal â phrojectau lle gall y sector preifat sicrhau'r gwerth mwyaf am arian.

Cyfeiriwyd at sawl model cyllid arall yn ystod ymchwiliad y pwyllgor, ac mae’r Aelodau’n credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i archwilio dulliau ariannu eraill er mwyn bod yn fwy arloesol gyda'r cyllid sydd ar gael ac er mwyn datgloi rhagor o fuddsoddiad preifat ar gyfer projectau cyfalaf yng Nghymru.

Yn olaf, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni hefyd ei bod yn ceisio cael pwerau benthyca darbodus—prudential borrowing powers—i gefnogi ei rhaglen seilwaith cyfalaf, a chytunodd mwyafrif aelodau'r pwyllgor y dylai'r Llywodraeth barhau i bwyso am y pwerau hynny.

Dwi wedi rhedeg trwy'r adroddiad yn sydyn iawn. Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau ac, wrth gwrs, ymateb y Gweinidog. Diolch.

15:55

Tra bod alcemyddion eisiau troi metal cyffredin yn aur, mae gwleidyddion yn awyddus i sicrhau arian preifat i brosiectau cyhoeddus yn rhad, gan osgoi tramgwyddo gofyniad benthyca'r sector cyhoeddus a chael eu capio gan y Trysorlys. Yr ymgais ddiweddaraf yng Nghymru yw'r model buddsoddi cydfuddiannol sy'n denu cyfalaf preifat i gefnogi prosiectau sector cyhoeddus. Wrth lansio'r model buddsoddi cydfuddiannol, dywedodd y Prif Weinidog newydd, pan oedd yn Weinidog Cyllid:

'Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau gorfodol pwysig tymor hir i sicrhau manteision cymunedol, i greu prentisiaethau a lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr Cymru ac ar gyfer datblygu cynaliadwy, lle mae'r partner sector preifat yn cefnogi cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n ymgorffori ein hymrwymiad i god cyflogaeth foesegol ac yn caniatáu i ni fanteisio i'r eithaf ar ein harferion caffael cynaliadwy. Mae'r model hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i ddylanwadu ar y partner preifat a ddewiswyd er mwyn sicrhau bod budd y cyhoedd yn cael ei amddiffyn. Pan rydym ni'n buddsoddi mewn cynlluniau, bydd y dylanwad hwn yn cael ei arfer gan gyfarwyddwr budd y cyhoedd, ac mae hyn yn gam pwysig ymlaen o ran yr hyn sydd wedi cael ei sicrhau mewn modelau partneriaeth cyhoeddus-preifat eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicrhau tryloywder cadarn o ran mynediad at wybodaeth sydd ar gael i'r bwrdd, ochr yn ochr ag amrywiaeth o faterion a gedwir yn ôl i ddiogelu arian cyhoeddus a budd y cyhoedd.'

Bydd pob un o'r uchod yn costio. Bydd y sector preifat yn cynnwys cost yr holl bethau neis hyn rydym wedi'u hychwanegu pan fyddant yn cyfrifo'r pris. Chi fydd yn talu amdano, ac rwy'n meddwl weithiau ein bod i'n gweld yn credu bod y sector preifat am roi rhywbeth i ni am ddim. Nid ydynt yn mynd i wneud hynny. Mewn gwneud elw y mae eu diddordeb—nid yw honno'n feirniadaeth arnynt, ond dyna yw eu diddordeb. Gallwch ofyn iddynt wneud unrhyw beth o gwbl ac fe'i gwnânt. Yr hyn y byddant yn ei wneud, fodd bynnag, yw gwneud i chi dalu amdano.

Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Chwefror 2019, dywedodd y Gweinidog Cyllid presennol:

'O'r cychwyn cyntaf, ein bwriad erioed fu sicrhau bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn hyrwyddo budd y cyhoedd yn y diffiniad ehangaf posib o'r term hwnnw. Yn hynny o beth, bydd y model yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ychwanegol mewn cysylltiad â llesiant, gwerth am arian a thryloywder, ac wrth wneud hynny bydd yn osgoi llawer o'r beirniadu a fu ar ffurfiau hanesyddol o bartneriaethau cyhoeddus-preifat—mewn rhai achosion, beirniadaeth yr oedd Llywodraeth Cymru ymhlith y cyntaf i'w mynegi. Er enghraifft, fe gofiwch chi fod un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi beirniadu'r ffurf ar fenter cyllid preifat sydd wedi ei hanghymeradwyo bellach... O ran llesiant, bydd partneriaid preifat yr ydym ni'n contractio gyda nhw gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gorfod helpu'r Llywodraeth i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd angen iddyn nhw gynnig manteision cymunedol eang, gyda chosbau am fethu â gwneud hynny.'

Felly, os oes cosb am fethu cyflawni, beth fyddant yn ei wneud? Byddant yn cynnwys y gosb, oherwydd mae'n anorfod. Nid elusennau ydynt; maent yn gwneud hyn er mwyn gwneud arian. Bob tro y byddwch yn cynnwys unrhyw beth tebyg i hynny, fe fyddwch yn talu pris amdano.

'Bydd angen iddyn nhw fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. A bydd angen iddyn nhw adeiladu ein seilwaith gan ystyried cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol... Rydym ni hefyd wedi datblygu dull sicrwydd prosiect newydd y bydd pob cynllun sy'n defnyddio'r model buddsoddi cyddfuddiannol yn ddibynnol arno—gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol. Rydym ni wedi cynnal dau o'r gwiriadau hyn ar y gwaith o ddeuoli'r A465. Cefnogwyd y gwiriadau hyn gan arbenigwyr o Fanc Buddsoddi Ewrop ac Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau'r DU. Rwy'n argyhoeddedig y bydd arfarniadau buddsoddi trwyadl, ynghyd â sicrwydd prosiect cadarn gan arbenigwyr diamheuol, nid yn unig yn esgor ar well dealltwriaeth o'r peryglon dan sylw wrth ddarparu prosiectau seilwaith mawr, ond hefyd yn arwain at werthfawrogiad mwy credadwy o werth am arian prosiectau o'r fath, a pha mor fforddiadwy ydyn nhw.'

Wel, os yw'r gwaith o ddeuoli'r A465 yn dangos llwyddiant y model ariannol hwn, nid wyf yn siŵr sut y byddai methiant yn edrych. Beth bynnag yw eich barn am yr A465—ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yn crybwyll hyn yn nes ymlaen—yn ariannol, ni fu'n arbennig o lwyddiannus.

'Er mwyn cynyddu gwerth am arian ein cynlluniau, rydym ni wedi penderfynu'n fwriadol i beidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol i ariannu gwasanaethau meddal, megis glanhau ac arlwyo, a oedd yn un o'r beirniadaethau mawr ar gontractau menter cyllid preifat blaenorol, ac ni chaiff ei ddefnyddio chwaith i ariannu offer cyfalaf.'

'O ran tryloywder, mae'r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi swm bach o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael cyfran o unrhyw elw o fuddsoddiad.'

Mae elw o fuddsoddiad yn golygu cael rhywfaint o'ch arian eich hun yn ôl. Os yw'n gwneud £1 filiwn o elw, ac mai chi sydd ag 20 y cant ohono, fe gewch chi £200,000 o'r elw, ac mae'r £800,000 arall yn mynd i'r bobl sydd ynghlwm wrtho. Rydych yn prynu eich elw eich hun.

'Caiff y cyfranddaliad hwn ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru i fyrddau'r cwmnïau hynny sy'n darparu ein hasedau.'

A ddylem fod yn dawel ein meddwl os yw deuoli'r A465 yn dangos llwyddiant y model ariannol hwn? Wedi i chi gael gwared ar yr holl eiriau cynnes, fy mhryder i yw mai'r hyn a wneir yw talu am gyfalaf preifat dros gyfnod hir o amser. Bydd y rhai sy'n darparu'r cyfalaf yn chwilio am gyfradd enillion uwch na chost benthyca i awdurdodau lleol, a byddant hefyd yn ceisio lleihau eu risg.

Er na cheir gormodedd gwaethaf menter cyllid preifat (PFI)—megis peidio ag ariannu gwasanaethau meddal a chostau offer cyfalaf, megis £20 i newid bwlb golau—mae'n dal i fod yn ymrwymiad hirdymor a fydd yn effeithio ar gyllidebau refeniw am ddegawdau. Ar gyfer ysgolion, byddai'n rhatach i Lywodraeth Cymru ariannu benthyca gan awdurdodau lleol i dalu drwy symiau cyfanredol cyllid allanol am adeiladu'r ysgolion, a gadael iddynt fenthyg gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.

Hyd nes y byddwn yn gwybod beth yw cost derfynol y prosiectau, nid ydym yn gwybod faint y bydd yn costio, ond yn olaf, Ddirprwy Lywydd, o ddifrif, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn, oherwydd maent yn gostau hirdymor am enillion tymor byr.

16:00

A gaf fi ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cyllid am ganiatáu i mi gymryd rhan yn y ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig? Darllenais yr adroddiad a gynhyrchwyd gennych gyda diddordeb mawr, a gallaf weld ei fod yn waith trylwyr iawn, felly rwyf am eich canmol i gyd ac yn wir, y clercod sydd wedi eich cefnogi trwy'r broses.

Ar ôl darllen yr adroddiad, mae'n amlwg iawn fod yna rai argymhellion allweddol ynddo y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol iawn iddynt, ac rwy'n falch o weld hynny. Mae'n amlwg, rwy'n credu, fod angen i Lywodraeth Cymru gynllunio ei buddsoddiad mewn seilwaith mewn ffordd fwy hirdymor yn y dyfodol er mwyn inni gael mwy o gysondeb a datblygu economaidd sy'n gydlynol, yn hytrach na'r hyn rwy'n credu y mae'r adroddiad wedi'i nodi fel dull tameidiog yn y gorffennol o ran y ffordd y cafodd cyfalaf ei fuddsoddi ar rai achlysuron.

Ac wrth gwrs, rydym yn agosáu at ddiwedd cynllun buddsoddi mewn seilwaith Cymru, sy’n gynllun 10 mlynedd, a gwn fod Gweinidogion yn gweithio ar y cynllun 10 mlynedd nesaf, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn  gwneud argymhellion defnyddiol ac addas iawn ynglŷn â sut y gellid datblygu'r cynllun hwnnw yn y dyfodol. Wrth gwrs, gwyddom fod y Llywodraeth wedi nodi nifer o wahanol flaenoriaethau, mae gennym yr argyfwng newid hinsawdd sydd wedi’i ddatgan hefyd, a gwyddom fod yna lefel o ansicrwydd, rwy’n cydnabod hynny, o ran y ffordd y gallai cronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU weithio.  

Nawr, un o'r pethau a oedd yn un o brosiectau allweddol cynllun buddsoddi mewn seilwaith Cymru, wrth gwrs, oedd ffordd liniaru’r M4. Dywedwyd wrthym fod y cynllun wedi'i roi heibio oherwydd yr argyfwng newid hinsawdd, ond ni welwn unrhyw gynigion yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd ar gyfer seilwaith gwyrdd o ran— 

16:05

Diolch am ildio. Dywedodd fod y cynllun wedi’i roi heibio oherwydd yr argyfwng newid hinsawdd, ond a yw’n cofio nad oedd yr hysbysiad ynghylch y penderfyniad a oedd yn naw neu 10 tudalen o hyd yn sôn o gwbl am newid hinsawdd? 

Ydw, ond roeddwn yn cyfeirio at resymeg y Prif Weinidog, o ran rhesymeg y Prif Weinidog dros wrthod y cynnig. Rydym i gyd yn gwybod, wrth gwrs, fod yr arolygydd annibynnol wedi argymell y dylid datblygu’r llwybr. Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw bod yn rhaid i chi baru eich cynlluniau buddsoddi mewn seilwaith â blaenoriaethau a nodau datganedig y Llywodraeth, ac nid wyf yn credu ein bod ni o reidrwydd wedi gweld cydgysylltiad rhwng y pethau hynny yn y gorffennol, ac mae gennym gyfle, rwy'n credu, i wneud hynny os yw rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn i gael eu gweithredu. 

Sylwaf hefyd, ac rwyf wedi myfyrio ar y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganiad eich bod bob amser yn ceisio dihysbyddu'r holl ffynonellau cyllid rhatach cyn i chi droi at y ffynonellau cyllid drutach o bosibl. Nawr, mae honno'n swnio'n ffordd resymol iawn o fynd ati, oni bai a hyd nes eich bod chi'n dechrau adeiladu risg yn rhan o’r broses. Ac wrth gwrs, dyma beth o'r siarad a ddaeth drwodd yn y sesiynau tystiolaeth lafar, yn enwedig gan KPMG ac eraill, gan gyfeirio at y fenter cyllid preifat (PFI) a'r model buddsoddi cydfuddiannol (MIM), oherwydd pan allwch chi rannu'r risg â'r sector preifat, yn aml iawn mae'n gwneud synnwyr, er y gallai fod yn ffordd ddrutach o fenthyca. Felly credaf y dylai'r Llywodraeth ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y pwyllgor ynghylch y math o bolisi yr ymddengys ei bod wedi ei fabwysiadu o ran ei hamharodrwydd i ariannu o ffynonellau preifat, oherwydd, yn aml iawn, rwy’n credu—. Rydym wedi gweld enghreifftiau gwael o fentrau PFI ond mae rhai da i’w cael hefyd ac ni ddylem anwybyddu'r ffaith y bu peth gweithgarwch PFI llwyddiannus, a chredaf fod y model buddsoddi cydfuddiannol wedi cael cyfle, o bosibl, i ddangos dull gwahanol o weithredu sy'n sicrhau gwell gwerth am arian mewn ffordd nad yw'r mentrau PFI hynny yn y gorffennol wedi’i wneud bob amser o bosibl. 

A allwch chi enwi cynllun PFI sydd, dros ei oes, wedi sicrhau gwerth am arian? 

Gallaf dynnu sylw at enghreifftiau yng Nghonwy lle codwyd ysgolion newydd a oedd yn bendant yn sicrhau gwerth am arian. Gallaf dynnu sylw hefyd at y buddsoddiad ym Mae Colwyn yn fy etholaeth i gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei bencadlys newydd a oedd yn bartneriaeth gyda'r sector preifat, sy'n ymddangos fel pe bai'n dangos gwerth am arian. Ond gallaf hefyd dynnu sylw at enghreifftiau gwael iawn o fentrau PFI hefyd lle mae'n amlwg bod y trethdalwr heb weld gwerth am arian. Fe sonioch am ffordd Blaenau’r Cymoedd, ac rydym i gyd yn gwybod bod rheolaeth dros wariant cyfalaf wedi bod yn broblemus gyda rhai o brosiectau Llywodraeth Cymru, a chredaf ei bod yn hanfodol fod pawb ohonom yn y Cynulliad Cenedlaethol yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif lle mae pethau wedi mynd o chwith. Ond rwyf am gymeradwyo'r adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac rwy'n falch iawn o weld bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion ynddo. 

Gwnaf i ddim siarad yn hir. Mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau pwysig wedi cael eu gwneud gan Gadeirydd y pwyllgor, ond mi oedd hwn yn ymchwiliad pwysig, dwi'n meddwl, achos rydym ni'n sôn yn fan hyn am fodd o ddatgloi potensial Cymru. Rydym ni'n sôn am un o'r ffyrdd allweddol o ddod â ni allan o'r rhigol rydym ni ynddi hi, dwi'n teimlo, fel gwlad ar hyn o bryd.

Mae buddsoddi yn isadeiledd Cymru'n gwbl hanfodol, dwi'n meddwl, ar gyfer y dyfodol: isadeiledd er mwyn gallu delifro gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn cynnwys addysg; isadeiledd i gysylltu Cymru er mwyn creu a rhannu llewyrch o gwmpas y wlad; isadeiledd digidol i wneud yn siŵr bod Cymru yn gallu chwarae ei rhan yn llawn yn yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt; ac, wrth gwrs, yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, yr isadeiledd gwyrdd i'n gwneud ni yn ffit i ymateb i'r argyfwng hinsawdd yna. Mae angen cyllid cyfalaf, wrth gwrs, er mwyn gallu gwneud hynny, ac mae'n dda gweld pan fo cyllid cyfalaf yn gallu cael ei ddyrannu o fewn cyllidebau blwyddyn i flwyddyn, ond, wrth gwrs, dydy hynny ddim yn ddigon wrth inni edrych ar sut i ddad-wneud blynyddoedd lawer o ddiffyg buddsoddiad yn isadeiledd Cymru.

Mae angen symiau mawr arnom ni, ac er mwyn datgloi'r symiau mawr yna mae angen bod yn greadigol ynglŷn â sut i wneud hynny. A beth wnaethon ni fel pwyllgor, fel rydym ni wedi'i glywed yn cael ei amlinellu'n barod, oedd edrych ar draws ystod o fodelau a gweld bod yna sgôp go iawn i fuddsoddi yn ein dyfodol mewn ffyrdd dydyn ni ddim wedi bod yn eu gwneud hyd yma. Ac, fel dywedodd y Cadeirydd hefyd, rydym ni'n feddwl agored iawn fel pwyllgor ynglŷn â'r sgôp i feddwl am ffyrdd a modelau newydd o gyllido buddsoddiad—modelau dydyn ni ddim hyd yma wedi gallu eu mireinio nhw.

Felly, mae'n rhaid, fel mae'r argymhellion yn eu rhestru, cynllunio'n ofalus ac i'r hirdymor sut i flaenoriaethu buddsoddiad. Mae'n rhaid cael darlun cwbl glir o beth ydy'r heriau, beth ydy'r rhwystrau rydym ni'n trio eu goresgyn, a sut mae'r cynlluniau sydd yn cael eu datblygu yn ymateb i'r heriau hynny. Mae eisiau dewis modelau cyllid cywir ar gyfer y sefyllfaoedd cywir, fel rydym ni wedi'i glywed yn cael ei grybwyll yn barod—cydweithio â llywodraeth leol, er enghraifft, yn y gwaith o sicrhau ein bod ni'n dewis y modelau iawn, a gwneud yn siŵr bod y model sydd yn cael ei ddewis yn adlewyrchu'r risg, fel sydd wedi cael ei grybwyll gan aelodau eraill o'r pwyllgor, a'r gwahanol fathau a gwahanol lefelau o risg sydd ynghlwm wrth brosiectau o wahanol natur.

Dyna, dwi'n meddwl, oedd un o broblemau mawr cynlluniau PFI yn y gorffennol. Mi oedd yna, heb os, dwi'n meddwl, wobrwyo buddsoddwyr preifat lle roedd y risg a oedd yn cael ei gymryd, mewn gwirionedd, yn isel iawn. Mae Mike Hedges wedi cyfeirio at beth o'r cytundebau hynny oedd yn gwobrwyo'n hael iawn am elfennau meddal o gytundebau. Gallwn ni ddim gwneud hynny, ac wrth inni symud tuag at fodelau newydd—MIM, er enghraifft—mae'n rhaid bod yn llawer mwy soffistigedig ynglŷn â sut mae'r cytundebau hynny yn cael eu llunio, ac mae hynny'n gorfod golygu buddsoddi mewn sgiliau sydd yn gallu dod â'r gwerth mwyaf i'r pwrs cyhoeddus drwy lunio cytundebau mewn ffyrdd effeithiol.

Ond mi wnaf i orffen efo'r pwynt yma: un peth mae'n rhaid inni fod yn barod i'w wneud ydy benthyca a buddsoddi mewn ffyrdd uwchlaw beth sydd wedi cael ei wneud yn y gorffennol. Mae'r gyfran o gyllideb Cymru sydd yn cael ei defnyddio i ad-dalu benthyciadau yn llawer iawn rhy isel—werth inni fod yn blaen. Mae'n rhaid inni fod mewn sefyllfa lle rydym ni'n gallu datgloi cyfalaf, sicrhau yn rhesymol pa gyfran o'n cyllideb rydym ni'n hapus ac yn gyfforddus i'w defnyddio i ad-dalu'r benthyciadau hynny, er mwyn symud ymlaen tuag at isadeiledd rydym ni'n gallu bod yn hyderus ynddo fo, sy'n mynd i roi cyfle inni gyrraedd potensial nad ydyn ni ddim wedi'i wneud o'r blaen. Mi ddylai'r Llywodraeth yma fod yn curo ar ddrws Downing Street yn ddyddiol yn mynnu'r pwerau yma er mwyn inni gael buddsoddi yn y modd hwn. Ond o leiaf rŵan, ac efo'r Llywodraeth wedi cytuno i'r argymhellion yma, mae yna, dwi'n meddwl, uchelgais yn datblygu ar y cyd i ddatgloi ein potensial ni.

16:10

Rydym yn cael brawddegau rhy ddeniadol braidd, ac sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn ôl pob golwg, gan y Prif Weinidog: dylem ddefnyddio'r cyllid rhataf yn gyntaf—sy'n swnio’n synhwyrol iawn—ac yna mae'r pwyllgor yn dweud y dylem baru ffynonellau cyllid â phrosiectau, sydd hefyd yn ymddangos yn synhwyrol iawn. Ond fel arfer, yn y sector preifat, pan fydd pobl yn siarad am baru cyllid â phrosiectau, maent yn paru cyllid risg uchel, enillion uchel â phrosiectau lle mae'r risg yn uchel, ac yn yr un modd, â chyllid lle mae’r enillion yn isel. Ond mewn gwirionedd, yn y dystiolaeth a glywodd ein pwyllgor, yr hyn a argymhellwyd i ni oedd y gwrthwyneb. Roedd Gerry Holtham yn dweud ei bod yn bwysig iawn os oedd prosiect yn un risg uchel, eich bod chi'n benthyca ar ei gyfer trwy giltiau, i bob pwrpas, oherwydd ychydig iawn y byddech yn ei dalu fel sicrwydd yn erbyn risg uchel. Pe baech chi'n mynd at ffynonellau amgen—y sector preifat o bosibl, MIM neu fel arall—dylech ei wneud lle byddai gan y sector preifat gyfraddau cymharol isel o gymharu â phrosiectau eraill y gallai eu hariannu. 

Yn y senario honno, mae'r Llywodraeth yn derbyn ein hargymhelliad, ond nid wyf yn siŵr iawn fod y mater wedi'i ddatrys, oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ofyniad gwirioneddol iddo fod, oherwydd nid oes unrhyw arwydd ein bod yn mynd yn agos at y terfynau benthyca o £150 miliwn y flwyddyn neu gyfanswm o £1 biliwn, er eu bod yn gymharol isel fel cyfran o refeniw Llywodraeth Cymru ar 1 y cant ac ychydig yn llai na 7 y cant. 

Felly, pan fyddwn yn siarad am MIM ac yn ei gymharu â PFI, credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw nad ydym yn defnyddio MIM yn y ffordd y defnyddiwyd PFI, ar rai adegau yn y gorffennol o leiaf, i guddio benthyca a gwthio benthyciadau'r Llywodraeth oddi ar y mantolenni er mwyn osgoi rheolau'r Trysorlys i gael pethau cyfalaf, na fyddech yn eu cael fel arall, pan fydd cost hynny’n waeth o lawer oherwydd, i bob pwrpas, rydych chi'n talu'r sector preifat i fenthyca i chi ar gyfraddau sylweddol uwch ac yna’n eu had-dalu gydag elw. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr. 

Dylem droi at y sector preifat pan fydd ganddynt arbenigedd neu eu bod yn well am wneud rhywbeth nag y byddai'r sector cyhoeddus yn uniongyrchol, neu mewn rhai achosion, efallai y byddwn eisiau cael dull consortiwm partneriaeth o weithredu, lle mae'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn cynnig sgiliau a galluoedd gwahanol. Os yw'r sector cyhoeddus yno ac yn berchen ar ran o brosiect, bydd y sector preifat yn llawer mwy sicr o ymrwymiad y sector cyhoeddus iddo, yn enwedig mewn pethau fel cynllunio a rheoleiddio, lle gallai meddu ar ddealltwriaeth a chefnogaeth y sector cyhoeddus fod yn bwysig iawn i'r sector preifat.

Mewn rhai amgylchiadau, rwy’n credu y byddai'n dda i'r Llywodraeth gael sedd ar y bwrdd, cyfranddaliad mewn prosiect o bosibl—efallai y bydd yn cael llif gwell o wybodaeth ac mae hynny'n gadarnhaol. Weithiau, pan fyddwch yn cyfuno sgiliau a thalentau, yn bendant dyna'r ffordd y byddech chi eisiau mynd, ond nid yw'n ateb i bob dim pan fyddwch chi ond yn contractio gyda'r sector preifat am eich bod chi eisiau rhywbeth a’ch bod yn talu'r sector preifat amdano. 

Os ydych chi'n gyfranddaliwr ynddo, byddwch yn lliniaru gwrthdaro o’r fath rywfaint, ond nid ydych yn datrys y broblem fod y sector cyhoeddus yn talu am rywbeth y mae ei eisiau a'r sector preifat yn ei ddarparu er mwyn gwneud elw—nid ydych ond yn lliniaru hynny ar yr ymyl a bydd gwrthdaro o hyd y mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn wrth ei reoli. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw cael rhywun sy'n gyfrifol o fewn y sector cyhoeddus, boed yn Weinidog neu'n swyddog a enwir ar gyfer prosiect hir a chymhleth, rhywun sydd â pherchnogaeth arno ac sy'n deall sut i reoli'r contract trwy gydol y prosiect.

Nawr, pan wnaethom yr adroddiad hwn, buom yn siarad am fenthyca darbodus a chefnogi hynny, ond roeddwn yn pryderu bod benthyca darbodus yn golygu benthyca diderfyn, neu’r perygl o hynny fan lleiaf. Dywedodd y Gweinidog cyllid mewn tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn 

y dylai gosod y terfyn hwnnw fod yn fater i ni, ond byddem yn gwneud hynny mewn trafodaeth â'r Cynulliad Cenedlaethol.

Rwy'n pryderu bod hwnnw'n ofyniad hynod o radical, y dylem ni, yng Nghymru, allu benthyg cymaint ag y dymunwn ac nad oes a wnelo Llywodraeth y DU ddim â'r peth. Rhaid i unrhyw dalaith yn yr Unol Daleithiau gael cyllideb gytbwys. Yn yr Undeb Ewropeaidd, boed yn Sbaen, yr Eidal, neu’r Almaen, rhaid iddynt gytuno eu benthyca gyda'r Comisiwn Ewropeaidd a gellir dwyn camau gorfodi yn eu herbyn neu osod dirwyon os ydynt yn benthyca mwy nag y mae cyfraith yr UE yn ei ganiatáu. Yn yr un modd, yma, nid wyf yn credu ei bod yn realistig i Lywodraeth Cymru allu benthyca beth bynnag y mae ei eisiau tra'i bod yn rhannu system lywodraethol ac arian cyfred yn y DU. Hyd yn oed pan oedd Llywodraeth yr Alban—[Torri ar draws.]—hoffwn barhau, gan mai ychydig iawn o amser sydd gennyf—yn ceisio mynd am annibyniaeth, roedd yn rhaid iddi ddatrys y cwestiwn bryd hynny ynglŷn â sut rydych chi'n cytuno ar fenthyca tra'ch bod yn rhannu arian cyfred. Naill ai drwy'r bwrdd arian cyfred, ac nid oes gennych fenthyciwr pan fetho popeth arall, neu mae angen i chi ymdrin â gweddill y DU. 

Felly, yn yr achos hwn, cefais fy nghalonogi gan dystiolaeth y Gweinidog y bore yma, lle ymddengys mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw negodi terfyn uwch ar y benthyca a'r ddyled gyda Llywodraeth y DU. O ystyried pa mor isel yw'r terfynau yn awr, mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn ei gefnogi, ac rwy’n gobeithio gweld cefnogaeth ar draws y Siambr, ac mae hwnnw'n amcan realistig, ond nid yw cael benthyca diderfyn heb unrhyw reolaeth o gwbl yn amcan realistig. Diolch.

16:15

Fel eraill, hoffwn ddiolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor a Chadeirydd y pwyllgor am y gwaith a wnaethant i gynorthwyo'r pwyllgor yn yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am dderbyn holl argymhellion y pwyllgor. Rwy'n credu bod gweld y Llywodraeth yn derbyn argymhellion fel hyn yn rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr.

Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol fod y defnydd o bwerau benthyca a drosglwyddwyd i Lywodraeth Cymru gan Ddeddf 2014 a Deddf 2017 yn destun gwaith craffu. Yn fy marn i, mae'r ymchwiliad wedi dangos, er bod y dull strategol cyffredinol sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru yn ddull da ac effeithiol o wneud y mwyaf o werth cyhoeddus y ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael iddi, ar yr un pryd mae angen bod yn fwy ystwyth ac efallai'n fwy deallus yn y cynlluniau tymor canolig a hirdymor ar gyfer rheoli'r cyllid hwn.

Roeddwn yn falch o weld bod y rhan fwyaf o'r tystion yn teimlo bod y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn syniad da. Awgrymodd llawer o bobl fod gwelliannau y gellid eu gwneud iddo, ond ynddo'i hun câi ei ystyried yn rhan sefydledig o'r fframwaith ariannu cyffredinol a weithredir gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n ystyriaeth bwysig i ni edrych arni wrth ddadlau a thrafod sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli cyfleoedd cyllid cyfalaf.

Ond yn fwy na dim i mi, Ddirprwy Lywydd—prif ganfyddiad y pwyllgor oedd bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy craff wrth reoli'r rhaglen buddsoddi cyfalaf. Dyfynnwyd yr Athro Holtham eisoes y prynhawn yma, ac roeddwn yn teimlo ei fod wedi disgrifio hyn yn dda—fod angen i gynllunio fod yn y tymor hwy, gan ddeall risg mewn ffordd ddyfnach. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n ganfyddiad pwysig iawn i'r pwyllgor hwn. Mae Aelodau eraill y prynhawn yma wedi trafod yr un pwynt mewn gwahanol ffyrdd, ac mae wedi bod yn rhy hawdd yn rhy hir i Lywodraeth Cymru ac i Weinidogion ddweud yn syml, 'Fe ddefnyddiwn y ffynhonnell rataf yn awr ac fe wnawn hyn dros y tymor hwn a'r llall', yn hytrach nag edrych ar sut rydych yn rheoli gwariant cyfalaf dros dymor llawer hwy, a pharu'r risg sy'n gysylltiedig â'r cyfalaf sydd ar gael. Rwy'n falch o weld nad oedd y Gweinidog wedi mynd ati mewn ffordd rhy ideolegol i ymdrin â rhai o'r materion hyn, a'i bod wedi mabwysiadu agwedd ddidostur o bragmatig at y ffordd yr ymdriniwn â'r materion hyn. Ac rwy'n credu bod honno'n ymagwedd dda iawn.

Er fy mod yn gweld bod y cynllun MIM newydd sy'n cael ei argymell gan y Llywodraeth yn sicr yn welliant ar fodelau cynharach, model PFI ydyw o hyd; rwy'n credu ein bod yn twyllo ein hunain os credwn ei fod yn rhywbeth gwahanol. PFI ydyw. Nid wyf yn gweld sut y gellir dadlau nad yw hynny'n wir, ond rwy'n cytuno â'r Llywodraeth ei bod yn iawn ac yn briodol inni sicrhau ein bod yn paru arian o'r math hwn â phrosiectau penodol. Hon fydd y ffordd orau o ariannu rhai o'n rhaglenni cyfalaf ond nid ein rhaglen gyfalaf i gyd, ac rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedwyd am y gwasanaethau meddal lle nad ydym am weld rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus yn cael eu preifateiddio.

A gaf fi orffen ar un pwynt nad yw siaradwyr yn y ddadl hon wedi mynd i'r afael ag ef hyd yn hyn, sef sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hasedau? Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf wedi fy argyhoeddi—ac mewn gwirionedd, ni chefais fy argyhoeddi yn y 13 blynedd y bûm yma—fod gan Lywodraeth Cymru afael gadarn ar reolaeth yr asedau yn ei pherchnogaeth ac o dan ei rheolaeth. Rwy'n synnu'n gyson i ddarganfod bod Llywodraeth Cymru yn berchen ar siop yng Nglynebwy neu'n landlord ar floc o fflatiau yng Nglynebwy, neu ble bynnag, ac yn berchen ar eiddo ym mhob man. Nid wyf erioed wedi cael fy argyhoeddi gan unrhyw Weinidog, naill ai mewn Llywodraeth neu y tu allan i'r Llywodraeth, fod y Llywodraeth yn deall beth y mae'n berchen arno, gwerth yr hyn y mae'n berchen arno a sut i reoli ei hasedau yn y ffordd orau ar draws y Llywodraeth. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael ag ef yn fwy trylwyr. Yn y gorffennol, mae Gweinidogion wedi gweld rheoli asedau yn syml fel ffordd o werthu swyddfeydd mewn gwahanol rannau o'r wlad; rydym wedi gweld hynny'n digwydd ar wahanol adegau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond rwy'n gobeithio yn y dyfodol y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld ei hasedau fel rhan werthfawr, nid yn unig o'r ystâd gyhoeddus yng Nghymru, ond yn y byd cyhoeddus, ac fel dull mwy deallus a phellgyrhaeddol o reoli ei hasedau, boed hynny'n gysylltiedig â gwireddu neu ddiddymu'r asedau hynny, neu eu defnyddio mewn ffordd fwy trwyadl er mwyn cyflawni ei rhagolygon polisi. Ond rwy'n credu, yn gyffredinol, fod hwn yn adroddiad sy'n ceisio bod yn gadarnhaol iawn a chredaf fod y pwyllgor ei hun yn gweithredu mewn ffordd gadarnhaol iawn. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor.

16:25

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?

Diolch. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl heddiw ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y mater pwysig hwn ac am eu hadroddiad, ac rwyf hefyd yn falch iawn, fel y clywsom, o allu derbyn yr holl argymhellion a wnaed gan y pwyllgor.

Rwy'n credu ei bod yn werth dechrau drwy ystyried y cyd-destun ariannol sydd wedi siapio ein cynlluniau buddsoddi mewn perthynas â chyfalaf dros y degawd. Yn 2010-11 Roeddem yn wynebu toriadau sylweddol i'n cyllidebau cyfalaf o ganlyniad i bolisi cyni Llywodraeth y DU, a chan barhau i alw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau arfaethedig, aethom ati i archwilio pob llwybr a manteisio ar bob cyfle i wneud y gorau o'n pŵer gwario cyfalaf i gynnal buddsoddiad cyfalaf hanfodol er mwyn ysgogi a thyfu'r economi ac i ddiogelu swyddi.

Yn 2012 gwnaethom gyhoeddi'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a nododd ein cynlluniau i ddefnyddio adnoddau cyfalaf presennol, sicrhau ffynonellau cyllid ychwanegol, a defnyddio mathau newydd, arloesol o gyllid hefyd i gynyddu lefel y cyfalaf a oedd ar gael inni a gwneud y defnydd gorau o'n holl adnoddau er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi mewn seilwaith. Rwy'n falch iawn o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Felly, ers i ni gyhoeddi'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, rydym wedi dyrannu mwy na £15 biliwn, wedi cynhyrchu £2 biliwn arall o ganlyniad i'n mentrau cyllid arloesol, a hefyd, wrth gwrs, wedi sicrhau'r pwerau benthyca newydd hynny.

Er gwaethaf camau diweddar gan Lywodraeth y DU i gynyddu gwariant cyfalaf, mae ein cyllideb gyfalaf ar sail debyg am debyg yn 2021 yn dal i fod £100 miliwn yn llai na'r hyn ydoedd ar ddechrau'r degawd mewn termau real, ac wrth gwrs, mae'r tirlun polisi'n newid hefyd ac ni allwn golli golwg ar yr heriau y bydd angen inni fynd i'r afael â hwy a'r heriau a fydd yn llywio ein dull o fuddsoddi mewn seilwaith dros y tymor hwy.

Felly, rydym yn wynebu cyfleoedd yn ogystal â heriau o ran y boblogaeth sy'n heneiddio ac yn newid, y datblygiadau mewn technoleg sy'n effeithio ar ddyfodol ein heconomi, ble rydym yn byw a sut rydym yn teithio, ac yn amlwg mae taer angen inni fynd i'r afael â'r agenda newid hinsawdd a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac mae hynny'n galw am ddull newydd o weithredu.

Yn y gyllideb ddrafft, rwyf wedi nodi ystod eang o fesurau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, ac yn erbyn y cefndir hwn rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud popeth a allwn i hybu'r adnoddau sydd ar gael a gwneud y gorau o'n dulliau cyfalaf i gefnogi Cymru fwy llewyrchus a mwy gwyrdd.

Mae datblygu olynydd i gynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru dros y blynyddoedd i ddod yn rhoi cyfle inni nodi'r blaenoriaethau strategol i sbarduno penderfyniadau ynghylch buddsoddi, gan gadw'r hyblygrwydd i ymateb i raddfa a chyflymder y newid y bydd ei angen ar fuddsoddiad seilwaith.

Un tensiwn cyson sy'n ein hwynebu yw'r un rhwng yr angen i ddarparu'r sicrwydd hirdymor a hefyd y setliadau ariannol cyfyngedig o ran amser a gawn gan Lywodraeth y DU. Ond er gwaethaf y cyfyngiadau a wynebwn, rydym yn darparu'r sicrwydd mwy hirdymor lle gallwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ein rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a ddechreuwyd gennym yn 2012 ac a fydd yn gweld buddsoddiad rhagamcanol o £2.3 biliwn ar draws Cymru, gan gefnogi oddeutu 200 o brosiectau i ailadeiladu ac adnewyddu ysgolion a cholegau.

O ran eu natur, mae i fuddsoddiadau cyfalaf a buddsoddiadau seilwaith yn arbennig amseroedd arwain cymharol hir, sy'n galw am lawer iawn o gynllunio hirdymor. Mae hyd oes yr asedau a gyflawnir trwy fuddsoddi mewn seilwaith hefyd yn golygu bod golwg hirdymor ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu hefyd yn hollbwysig, a rhaid inni gynllunio'r rheini mewn ffordd sy'n sicrhau'r effaith fwyaf posibl dros ddegawdau. Gan ddeall yr angen i ddarparu'r sail fwy hirdymor honno ar gyfer cynllunio seilwaith, rydym yn archwilio cyfleoedd i ddeall yn gliriach beth allai ein gofynion cyfalaf fod yn y dyfodol, gan ddefnyddio ystod o fodelau senario ar gyfer ein cyllid grant bloc i nodi'r cyfleoedd mwyaf priodol i ddefnyddio benthyca a chyllid preifat.

Os bydd angen benthyca y tu hwnt i'r £1 biliwn sydd ar gael ar hyn o bryd, rydym yn cydnabod bod paru ffynonellau ariannu â risg prosiect ar draws cylch bywyd prosiect yn ffactor pwysig iawn i'w ystyried, a chredaf fod y pwynt wedi'i wneud yn y ddadl nad yw cost cyllid a gawn drwy'r gronfa benthyciadau gwladol ar hyn o bryd yn dibynnu ar risg prosiect. Yr un yw'r gost ni waeth beth fo'r prosiect. Ond pan fydd mwy o gyfryngau ariannol yn dod ar gael i ni a phan fydd gennym ffynonellau cyllid ychwanegol, bydd yna gyfleoedd i wneud y mwyaf o'r cymysgedd posibl o gyllid y byddem yn ceisio ei ddefnyddio.

Cydnabyddwn ein bod, fel rheol, wedi mynd ati i ddefnyddio'r ffynonellau ariannu rhataf yn gyntaf, ac mae hynny'n caniatáu inni fuddsoddi'n sylweddol yng Nghymru mewn modd na ellid ei fforddio fel arall yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, a byddwn yn adolygu'r dull hwn o fynd ati fel rhan o'r datblygiadau ar olynydd i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru presennol.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y pwyllgor yn cydnabod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud ar ddefnyddio cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol, gan gynnwys y cynllun Cymorth i Brynu £520 miliwn a'r amrywiaeth o gronfeydd busnes a ddarperir drwy Fanc Datblygu Cymru.

Rwyf wedi nodi yn y Siambr hon o'r blaen yr heriau sy'n ein hwynebu wrth fynd ati i ddefnyddio'r math hwn o gyllid yn effeithiol, ond rydym yn parhau'n ymrwymedig i ddefnyddio pob punt sydd ar gael i'w buddsoddi mewn seilwaith a hybu twf economaidd yn y tymor hir. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i rannu arferion gorau ac enghreifftiau o sut y defnyddir trafodiadau ariannol. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i archwilio datblygiad cynlluniau sy'n rhoi cymysgedd o arian grant a benthyciadau cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol i landlordiaid cyhoeddus cofrestredig, a bydd hynny'n eu helpu i leihau'r angen i gael gafael ar gyllid preifat ar gost uwch. Rwy'n credu bod honno'n ffordd wirioneddol arloesol o edrych ar y defnydd posibl o gyfalaf trafodiadau ariannol ac mae'n sicr yn ymateb, rwy'n credu, i un o'r meysydd diddordeb a oedd gan y pwyllgor yn ystod ei ymchwiliad.

Hefyd, o ran defnyddio ein hasedau ein hunain mewn ffordd well, rwy'n cydnabod pwysigrwydd hynny, a dyna pam ein bod wedi sefydlu is-adran tir Llywodraeth Cymru. Felly, yn y lle cyntaf, byddwn yn edrych ar y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno ac yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio hwnnw mewn ffordd well yn y dyfodol, mewn ffordd sy'n ein helpu i ymateb i'n buddiannau ar draws y Llywodraeth. Felly, ein diddordeb arbennig yn y lle cyntaf yw sut y gallwn ddefnyddio tir Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol ledled Cymru. Ond dim ond dechrau yw hyn, ac rwy'n credu bod mwy o gyfleoedd o'n blaenau drwy is-adran y tir a'r gwaith y mae honno'n ei wneud, ond hefyd y ffordd y gallwn ddangos arweiniad i rannau eraill o'r sector cyhoeddus allu defnyddio eu hasedau mewn ffordd sy'n edrych ar y gwerth y tu hwnt i'r gwerth ariannol yn unig ac edrych i weld beth arall y gallant ei gyflawni.

Rwy'n nodi ac yn croesawu argymhellion y pwyllgor ynghylch ein gwaith ar y model buddsoddi cydfuddiannol. Mae Llywodraeth Cymru'n rhannu cydnabyddiaeth y pwyllgor o bwysigrwydd mwy o dryloywder, ac rydym wedi datblygu'r model buddsoddi cydfuddiannol gyda'r egwyddor hon mewn cof. Rydym wedi sicrhau bod y gofynion adrodd yn rhan annatod o gynllun y model a byddwn yn eu hymgorffori fel ymrwymiadau contract yn ein cytundebau. Bydd gan y sector cyhoeddus hawl hefyd i enwebu cyfarwyddwr ar fwrdd y cwmnïau prosiect sy'n cyflawni'r cynlluniau MIM hynny, gan sicrhau bod budd y cyhoedd yn ddylanwadol yno.

Bydd angen i bob cynllun MIM ddefnyddio'r model pum achos ar gyfer datblygu'r achosion busnes gofynnol, ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid asesu fforddiadwyedd a gwerth am arian cyn bwrw ymlaen â phrosiect. At hynny, mae pob cynllun yn destun haen drylwyr o graffu ychwanegol gan ddefnyddio ein hadolygiadau o'r pwyntiau cymeradwyo masnachol.

Rydym hefyd yn sicrhau bod trefn reoli contractau effeithlon ar waith i oruchwylio'r cynlluniau hyn, ac rydym yn bwriadu sefydlu swyddogaeth rheoli contractau MIM cyn i'r cynllun MIM cyntaf ddechrau adeiladu yn 2020. Ar y pwynt hwnnw, dylwn egluro bod y cynllun MIM yn cael ei ddefnyddio i ariannu rhannau 5 a 6 o'r A465 ac nad yw wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhannau blaenorol o'r ffordd honno. Byddem yn disgwyl i gyfranogwr llwyddiannus ar gyfer rhannau 5 a 6 gael eu cyhoeddi yn chwarter 2 o 2020. Rhoddwyd blaenoriaeth i'r cynllun hwn am ei fod yn addo manteision economaidd i rai o'r rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru.

Gallaf weld fy mod yn brin o amser, ond rwy'n nodi argymhelliad y pwyllgor i barhau i ddefnyddio'r MIM lle bo'n briodol.

Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd cyllideb y DU yn digwydd ar 11 Mawrth, a disgwyliwn y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei strategaeth seilwaith genedlaethol, gan gynnwys yr adolygiad cyllid, bryd hynny. Yn y Siambr yr wythnos diwethaf, ymrwymais i adlewyrchu unrhyw newidiadau sylweddol yn ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf mewn cyllideb atodol gynnar, ac yn amlwg, byddaf yn ystyried goblygiadau'r strategaeth wrth ddatblygu ein cynllun buddsoddi mewn seilwaith. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi'r cynnig y prynhawn yma, ac unwaith eto rwyf am gofnodi fy niolch i'r pwyllgor a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu yn y ddadl.

16:30
16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl hon? Rwy'n credu efallai fod Mike wedi cyfleu'r teimlad sy'n rhedeg fel llinyn arian drwy'r ymchwiliad hwn, sef na fydd y sector preifat yn rhoi unrhyw beth inni am ddim. Ond awn i mewn i hynny gyda'n llygaid yn agored, oni wnawn? Ac rydym yn ymwybodol o hynny.

Rwy'n credu, ynglŷn â'r tensiwn rhwng PFI a MIM—nid wyf yn rhy hoff o acronymau, ond dyna ni—a yw MIM mor wahanol â hynny i PFI? Gellir cwestiynu hynny yn fy marn i. Cyfeiriais yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n credu, at rai manteision, ond eto i gyd mae nifer o elfennau sy'n dal yn debyg iawn. Ac rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Mark Reckless, y gellid defnyddio MIM i guddio benthyca yng Nghymru—ac wrth gwrs mae'n costio mwy i ddefnyddio'r benthyca hwnnw drwy'r sector preifat—yn rhywbeth y credaf ein bod yn effro iawn iddo.

Mae'r pwyntiau hirdymor sy'n rhedeg drwy'r adroddiad a'r ddadl, rwy'n credu, yn bwynt y tynnodd Darren sylw atynt eto, ac mae'n rhoi mwy o eglurder pan fydd y llif clir hwnnw o brosiectau seilwaith o'ch blaen, ac mae hynny'n helpu i gyflwyno mwy o ddewisiadau o ran buddsoddiad. Mae a wnelo â'r cydbwysedd rhwng y benthyca rhataf a lle mae'r risgiau'n ffactor, oherwydd pan allwch rannu risg, hyd yn oed os yw ychydig yn ddrutach, efallai y byddai'n gwneud mwy o synnwyr ei ddefnyddio yn y ffordd honno.

Cawsom ein hatgoffa gan Rhun fod hon yn broses barhaus lle mae angen i ni adolygu a datblygu modelau'n barhaus, ac mae angen inni fod yn effro i'r cyfleoedd a bod yn ddigon hyblyg i ddefnyddio rhai o'r cyfleoedd hynny. Ond wrth gwrs, mae angen inni fod yn gyfrifol wrth wneud hynny hefyd, a daw hynny â mi at yr elfen fenthyca darbodus y cyffyrddwyd arni. Byddai gennym i gyd farn ynglŷn â pha gyfyngiadau y dylid neu na ddylid eu gosod ar fenthyca Llywodraeth Cymru, ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw na ddylai unrhyw Lywodraeth fenthyca mwy nag y mae'n gallu ei fforddio.

Nawr, rwy'n ddiolchgar i Alun Davies—[Torri ar draws.] Ewch amdani, Mike.

Nid yw pennu faint rydym yn ei fenthyg yn ymwneud â faint y gallwch ei fforddio. Faint rydych chi'n ei ad-dalu sy'n bwysig, onid e?

Mae'n wir, ac rydym i gyd yn ymwybodol fod benthyca'n costio, a dyna'n union y mae angen i ni ei gofio. Ond wrth gwrs, os yw'n ddigon da i lywodraeth leol, ni allaf weld pam nad yw'n ddigon da i Lywodraeth Cymru, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud yn y ffordd iawn.

Cawsom ein hatgoffa gan Alun Davies, neu fe gwestiynodd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rheoli ei hasedau, ac rwy'n credu fy mod yn cofio'r Athro Holtham yn dweud wrthym yn y pwyllgor, ac efallai fy mod yn aralleirio yma, os yw'n werth mwy i rywun arall, ac nad yw mor bwysig i Lywodraeth Cymru fel ased, beth am ryddhau'r gwerth hwnnw i'w fuddsoddi yn rhywle arall. Yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei wneud yn well.

Ac mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithredu mewn hinsawdd anodd iawn, gyda thoriadau i'r gyllideb gyfalaf yn sgil cyni'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth fod yn hyblyg a chreadigol. Ond wrth gwrs, cawsom ein hatgoffa gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, neu fe awgrymodd yn y pwyllgor y bore yma, efallai nad yw'r cynnydd yn y gyllideb a welsom eleni a'r flwyddyn nesaf yn ddim mwy na gosteg dros dro yn y storm, felly efallai y bydd angen inni fod yr un mor hyblyg a chreadigol yn y dyfodol hefyd.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, ond wrth gwrs nid ydym yn sefyll yn llonydd. Credaf fod rhywfaint o gonsensws ynghylch ein hadroddiad, ac mae hynny'n adlewyrchu awydd yr Aelodau i fod yn greadigol ond i esblygu'r modelau hyn sy'n agored inni'n barhaus. Ac yn y math hwnnw o ysbryd adeiladol, edrychwn ymlaen at barhau i fod yn gyfaill beirniadol i Lywodraeth Cymru pan ddaw'n fater o graffu ar ffynonellau cyllid cyfalaf. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Addysgu Hanes Cymru

Eitem 6 ar ein hagenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Addysgu Hanes Cymru', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig, Bethan Sayed.

Cynnig NDM7228 Bethan Sayed

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod y mater hwn wedi ennyn diddordeb y cyhoedd yn eang, ac er nad ni yw'r pwyllgor addysg, ar ôl cynnal arolwg cyhoeddus ar yr hyn yr oeddent yn meddwl y dylem ni fel pwyllgor ymchwilio iddo, daeth y mater hwn i'r amlwg. Atebodd dros 2,500 o bobl i'r arolwg, ac roedd 44 y cant yn dweud y dylem ymchwilio i'r mater hwn.

Yn ystod yr ymchwiliad, roedd yn amlwg mai'r pryderon ynghylch dysgu hanes oedd y rhai mwyaf dybryd. Ond, mae'n deg i ddweud bod diwylliant a threftadaeth yn rhan annatod o'n hanes, felly, yn sicr byddai unrhyw ddatblygiadau i'r dyfodol angen edrych ar hwn mewn mwy o fanylder. Yn amlwg, nid hanes yw'r unig bwnc lle mae naratifau a phrofiadau o hunaniaeth Gymreig yn cael eu hadlewyrchu, fel y cawsom ein hatgoffa, a gobeithio y cawn amser i ystyried addysgu diwylliant Cymru drwy iaith, llenyddiaeth a'r celfyddydau yn y dyfodol.

Ni ddylid cyfyngu addysgu hanes i un strwythur gwersi penodol—rydym yn cytuno ar hynny, yn sicr. Felly, byddai darn ehangach o waith gan y pwyllgor penodol yma, yn edrych i mewn i'r posibiliadau ar sut mae'r gymuned ysgol i gyd yn edrych ar hanes, diwylliant a threftadaeth, yn rhywbeth y byddem ni'n ei groesawu yn y dyfodol.

O ran her y cwricwlwm newydd, cafodd y pryderon hyn eu symbylu gan y newidiadau o ran y Cwricwlwm i Gymru 2022. Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthym y byddai dysgu hanes Cymru yn cael ei wanhau pan fydd yn cael ei addysgu ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau, ochr yn ochr ag astudiaethau crefyddol, daearyddiaeth ac astudiaethau busnes. Dywedodd academyddion ac undebau addysg wrthym fod y dull hwn yn golygu na fydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu trylwyredd o ran y dadansoddiad hanesyddol sydd ei angen arnynt i astudio'r pwnc ar lefel gradd.

Yn bwysicaf oll, roedd pawb a ddaeth i siarad â ni yn galw am i bob disgybl ddysgu am themâu a digwyddiadau cyffredin. Cafwyd sylw nodweddiadol gan Dr Elin Jones, a ddywedodd fod rhai cyfnodau allweddol yn hanes Cymru pan fu datblygiadau sy'n ganolog i ffurfio hunaniaeth unigol yng Nghymru. Dyna pam rwy'n siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod ein hargymhelliad i gynnwys corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer pob disgybl sy'n astudio hanes yn y cwricwlwm newydd. Y dystiolaeth a glywsom ni oedd y bydd dysgu am ddigwyddiadau allweddol yn caniatáu i bob disgybl ddeall sut mae eu gwlad wedi cael ei siapio gan ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn cyd-destun ehangach.

Dywedodd y Llywodraeth fod y Cwricwlwm i Gymru 2022: 

'yn gwricwlwm pwrpasol sy'n torri cwys newydd drwy ymwrthod â rhestrau o "bynciau/cynnwys" sydd i'w haddysgu.'

Maen nhw hefyd yn dweud:

'Bydd hyblygrwydd y Cwricwlwm newydd yn ychwanegu at hyn drwy ganiatáu i athrawon ddarparu gwersi mewn ffyrdd mwy creadigol, sy’n fwy priodol i'r dysgwyr sy'n cael eu haddysgu.' 

Mae hyn yn golygu y bydd dysgwyr ledled Cymru yn cael profiadau gwahanol iawn o ddysgu hanes Cymru. Yr hyblygrwydd hwn yw'r hyn a arweiniodd at bryderon ymarferwyr a ddywedodd wrthym fod rhai elfennau o'r hanes a rennir sy'n rhy bwysig i'w gadael allan. Dywedodd Gaynor Legall o'r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant, a dwi'n dyfynnu:

Rwyf eisiau i'r plant sy'n byw yn y dociau... wybod am ogledd Cymru... lawn cymaint ag y dymunaf i'r bobl yn Harlech... wybod am y dociau ac am y diwydiant glo... oherwydd mae'n ymwneud â Chymru. Ein gwlad ni yw hon, ac mae angen inni wybod sut y daethom yma, ac yn bwysicach, sut rydym yn mynd i symud ymlaen. A chyda'n gilydd yn unig y gallwn symud ymlaen.

Yn hanfodol, dywedodd Cyngor Hil Cymru wrthym y dylid nodi'n benodol hanes pobl ddu fel rhan o'r cwricwlwm newydd, ac ni ddylai fod yn ddewisol. Siawns os mai bwriad y cwricwlwm newydd yw bod yn weledigaeth ar gyfer Cymru yna dylem sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael yr un cyfle i ddeall y digwyddiadau sydd wedi siapio ein cenedl ac wedi adeiladu ein hunaniaeth? Ni fyddai rhoi canllaw defnyddiol ar ddigwyddiadau allweddol yn hanes Cymru, yn ein barn ni fel pwyllgor, yn tarfu ar y gallu i roi hyblygrwydd na'n tarfu ar y gallu i athrawon fod yn greadigol o fewn y system hynny. Mae athrawon Cymru yn ddigon talentog i allu addasu i hynny.

O ran adnoddau, bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfrifoldeb newydd ar athrawon i ddatblygu deunyddiau sy'n dehongli'r tirweddau, yr hunaniaethau a'r hanesion sy'n rhan o gynefin disgyblion. Ond mae undebau addysg wedi dweud nad yw dyraniad y Llywodraeth o £24 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm yn agos at fod yn ddigon. Dywedodd, er enghraifft, yr Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd fod y cyllid cyfredol ar gyfer ysgolion yn eithaf enbyd a bod angen £200 miliwn arall y flwyddyn i ddarparu addysg sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Dywedodd, a dwi'n dyfynnu:

Mae angen meysydd dysgu llawer ehangach ar y cwricwlwm newydd ac mae angen i athrawon fod yn fwy annibynnol, yn fwy hyblyg a chreu mwy o gynnwys eu hunain.

A chyda'r cyllid presennol:

mae'n annheg gofyn i athrawon wneud y swydd honno.

O ran amrywiaeth, dwi wedi siarad tipyn bach am hwn yn barod, ond clywsom hefyd bod angen adlewyrchu hanes amrywiol Cymru. A dwi'n falch iawn i'r pwyllgor edrych ar hyn mewn manylder nad ydw i'n credu sydd wedi digwydd o'r blaen yn y Senedd yma. Nid ydym yn dawel ein meddwl y bydd yn bendant yn cael ei gynnwys o dan bwyslais y cwricwlwm newydd ar ardal. Gwnaethom alw am gynnwys amrywiaeth ethnig a chrefyddol fel elfen graidd o'r cwricwlwm newydd. Mewn ymateb, mae'r Llywodraeth wedi dweud y bydd y cwricwlwm newydd yn eang, yn gytbwys, yn gynhwysol ac yn heriol. Ond os na ragnodir amrywiaeth, yna sut y bydd yn sicrhau bod pob ysgol yn addysgu hanes ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig? Rydym ni wedi clywed eisoes nad yw'n digwydd yn ddigonol, ac mae angen inni sicrhau ei bod hi'n gallu digwydd os oes newidiadau ar droed. 

Unwaith eto, os yw'r cwricwlwm newydd yn caniatáu hyblygrwydd i athrawon deilwra'r cynnwys y maent yn ei gyflwyno i'r graddau a ddisgrifiwyd eisoes gan y Gweinidog a'i thîm, mae risg y bydd y genhedlaeth nesaf o ddisgyblion sy’n gadael yr ysgol wedi cael profiadau hollol unigryw na fydd efallai'n arwain at ymdeimlad a rennir o'r hanes a ffurfiodd ein cenedl ac sy'n llywio ein gwleidyddiaeth. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y ffaith nad ydym o hyd yn recriwtio digon o athrawon sy’n bobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig yn ein hysgolion i fod yn fodelau rôl ac yn ddylanwadwyr allweddol mewn perthynas â chynnwys y cwricwlwm yn barhaus.

I orffen, o ran adolygiad Estyn, teimlai'r pwyllgor ei bod yn hanfodol cael sylfaen dystiolaeth gadarn ar gynnwys a safon yr addysgu presennol. Cawsom wybod gan Dr Steve Thompson o Brifysgol Aberystwyth bod y rhan fwyaf o hanes Cymru wedi'i gynnig o fewn modiwl hanes Prydeinig lle mae elfennau hanes Cymreig symbolaidd yn cael eu hychwanegu. Clywsom bryderon gan Dr Elin Jones, ers iddi gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen ar y pwnc hwn yn 2013, y bu diffyg cynnydd yn y maes hwn. Lleisiodd rwystredigaeth llawer o'n rhanddeiliaid pan ddywedodd nad oedd ganddi unrhyw dystiolaeth benodol o'r hyn sy'n digwydd mewn ysgolion ar hyn o bryd. Ac mae'n rhaid inni ofni hynny os nad oes digon o dystiolaeth. Dyna pam rwy’n falch bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn yr argymhelliad penodol yma i anfon cylch gwaith at Estyn i adolygu i ba raddau y mae ysgolion yn addysgu cynnwys Cymreig. Rwy’n edrych ymlaen at gael rhagor o fanylion ynghylch pryd y bydd hyn yn digwydd a sicrwydd y bydd gan Estyn ddigon o adnoddau i'w wneud yn drylwyr. Rydym am i'r ystod ehangaf bosibl o ysgolion gael eu cynnwys yn yr adolygiad.

I orffen, hoffwn i jest ategu ein bod ni yn teimlo'n siomedig bod y Llywodraeth wedi gwrthod ein hargymhellion i bob myfyriwr ddysgu corff cyffredin o wybodaeth am yr hanes sydd wedi siapio ein cenedl. Fel dwi wedi ei ddweud ynglŷn â'r pwnc amrywiaeth yn benodol, os nad oes gennym ddigon o athrawon yn addysgu o'r un persbectif, yna sut y mae ysgol yng Ngheredigion, efallai, sydd heb ddigon o athrawon o gefndiroedd gwahanol, yn mynd i allu eu haddysgu nhw ynglŷn â hanes mor eang sydd angen iddyn nhw wybod amdano yma yng Nghymru? Dyw e ddim yn digwydd ar hyn o bryd; dŷn ni wedi clywed hynny gan EYST a gan Race Council Cymru, ac mae angen ehangu ar hynny i sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn gadael ysgolion, nid dim ond yn gwybod rhywbeth am eu cynefin, sy'n deilwng iawn, ond yn gwybod rhywbeth hefyd am Gymru yn genedlaethol a hefyd sut y mae Cymru wedi siapio'r byd yn rhyngwladol, nid yn unig o berspectif Prydeinig ond yn sicr o berspectif Cymreig, sy'n mynd i'w galluogi nhw i weld y byd mewn ffordd hollol wahanol i'r ffordd maen nhw wedi gweld y byd fel rhan o'r system addysg roeddwn i'n rhan ohono, yn sicr.

Felly, rwy'n edrych ymlaen at y ddadl. Dŷn ni wedi clywed cryn drafodaeth yn barod gan bobl Cymru ynglŷn â hwn. Mae cryn ddiddordeb yn y maes yma, a gobeithiaf y gallwn ni i gyd weithio tuag at lunio system addysg sy'n llwyddiannus ac yn plesio pawb. Diolch yn fawr iawn. 

16:45

Dywedodd Martin Luther King nad ni sy'n gwneud hanes ond yn hytrach, hanes sy'n ein gwneud ni, ac mae'n sicr yn wir fod hanes ein cymunedau yn ffurfio meddylfryd a gwerthoedd ein cymunedau, felly mae deall o ble y daethom a beth a wnawn yn hanfodol bwysig.  

Mae hwn wedi bod yn orchwyl aruthrol. Mae'n faes rwyf wedi ysgrifennu amdano o bryd i'w gilydd, am y diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o'n hanes cymunedol a'n hanes gwleidyddol a chymdeithasol, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn rhywbeth a gaiff ei unioni yn ein cwricwlwm a'n haddysg. Ond nid wyf yn bychanu rhai o'r pwyntiau a wnaeth Bethan a'r her o hyfforddi a pharatoi athrawon i allu cyflwyno'r cwricwlwm ac yn arbennig, i fod â hyblygrwydd a dealltwriaeth i ddarparu'r rhan gymunedol o hanes a'r deunyddiau a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer hynny.

Rhoddaf ychydig o enghreifftiau o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, ac rwyf wedi siarad am hyn wrth ymweld ag ysgolion, er mwyn ceisio canfod beth yw lefel y ddealltwriaeth. Ac mae'n faes lle mae'n rhaid gwneud llawer iawn o waith. Llantrisant yn fy nghymuned i—mae pawb yn gwybod am Dr William Price, meddyg enwog, Siartydd, neo-dderwydd ac ecsentrig. Cafodd effaith fawr ar yr arfer o amlosgi, ac arweiniodd hynny at yr amlosgfa gyntaf, yr amlosgfa weithredol gyntaf, ym Mhrydain yn 1924 yng Nglyn-Taf. Pan ofynnais am y peth, mewn gwirionedd, yr unig beth yr ymddangosai fod pobl yn ei wybod oedd bod 20,000 o bobl wedi dod i'w angladd ac erbyn canol dydd, nid oedd cwrw ar ôl yn yr un o'r 29 o dafarndai yn y dref. Ac eto, roedd ei her ar amlosgi yn dynodi newid arwyddocaol mewn perthynas â'r gyfraith yng nghyswllt cyfraith eglwysig a seciwlareiddio'r gyfraith—sy'n sylfaenol bwysig.

Saethyddion Llantrisant—brwydr Crécy, y rôl a chwaraewyd a'r hyn a etifeddwyd ganddynt hyd y dydd heddiw drwy olyniaeth drwy'r llinell fenywaidd a phwysigrwydd yr hawliau a'r breintiau parhaus yn awr a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i hanes yr ardal. Brown Lenox—rhan mor bwysig a chwaraeodd yn natblygiad Pontypridd ac yn y chwyldro diwydiannol, eto i gyd ymddengys mai'r cyfan y mae pobl yn ei wybod yw mai hwy a adeiladodd y cadwyni ar gyfer y Titanic, er nad yw hynny'n wir mewn gwirionedd, eu hadeiladu ar gyfer y Queen Mary a'r Queen Elizabeth a wnaethant. Ond mae'n rhan o'r chwedloniaeth honno.

Ac yn bwysig, pethau fel dyfarniad Cwm Taf—1901, dyfarniad pwysig gan y llys a ddileodd hawliau undebau llafur sylfaenol, a arweiniodd at Ddeddf Anghydfodau Llafur 1906, cam sylfaenol yn y broses o ddemocrateiddio ein cymdeithas a rhoi grym a chydnabyddiaeth i hawl gweithwyr i gael llais. Ac yn ardal Pontypridd ei hun, un o sylfaenwyr y mudiad manwerthu cydweithredol, William Hazell—mudiad a barhaodd mewn gwirionedd o fewn y sector manwerthu hyd at 1985, ar ôl streic y glowyr, pan gaewyd glofa Lady Windsor.

Nawr, mae'r rheini i gyd yn bethau—ac mae llawer, llawer mwy o'r rhain—ond y cwestiwn yw: sut y cânt eu haddysgu yn ein hysgolion? Pwy sy'n gwybod amdanynt mewn gwirionedd? Ble mae'r deunyddiau? Pan fyddant yn dod i ysgolion, yn aml ni fydd athrawon yn hanu o'r ardal y maent yn addysgu ynddi. Sut y gallwn sicrhau y ceir hyfforddiant o'r fath, fod y deunyddiau ac yn y blaen ar gael, er mwyn i bobl allu bwrw iddi go iawn, ac yna'r trefniadau gyda gweddillion y sefydliadau hyn sy'n aml yn dal i fodoli mewn cymdeithasau treftadaeth?

Felly, dyna'r her fawr i mi mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n credu bod yr holl ymrwymiadau yno o ran pwysigrwydd ein cymunedau, o ran deall ein hanes, o ble rydym yn dod, y bobl allweddol yn hynny, yn hanes ehangach Cymru ac o fewn hanes rhyngwladol ehangach, ac ymddengys i mi fod problemau mawr iawn yn codi gyda'n gallu i gyflawni hyn mewn gwirionedd a'n gallu i'w gyflawni'n gyson a sut y gallwn ei gyflawni, ac rwy'n tybio bod yr un peth yn wir, os edrychwn o gwmpas, am bob un o'n cymunedau ledled Cymru, lle bydd gennym ein henghreifftiau o'r hanes hwnnw a bydd gennym yr un pryderon yn ôl pob tebyg o ran y lle a roddir i hynny.

Mae'n her fawr, ond credaf ei bod yn her y mae'n rhaid inni ymateb iddi. Credaf fod hwn yn adroddiad rhagorol, yn adroddiad gwirioneddol bwysig a hanesyddol i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio y rhoddir ystyriaeth ddifrifol iawn i'r agweddau arno sydd mor bwysig i'n system addysg yn y dyfodol a'n plant a'n dinasyddion yn y dyfodol. Diolch.

16:50

Dywedodd yr athronydd Michael Oakeshott, y tu hwnt i ffeithiau moel, 1066 a hynny i gyd—efallai y dylwn ddweud 1282—mai gweithred o wneud yw hanes—roedd yn ddiddorol sut y cychwynnodd Mick—neu o leiaf amgyffrediad, ymgais i ddeall. Ac mae pob cenhedlaeth yn gwneud hynny, ac mae'n gofyn am sgìl mawr. Byddai ein hen hen neiniau a'n hen hen deidiau wedi dweud mai brwydr Bosworth oedd un o'r prif bethau a greodd hunaniaeth Gymreig. Nid wyf yn tybio—. Wel, ychydig iawn o blant a fyddai'n dysgu am hynny erbyn hyn, ond cawsom basiantau gwych yng nghastell Caerdydd yn ei ail-greu a sut yn union roedd hynny'n dangos dychweliad Arthur ar ffurf y Tuduriaid, os ydych chi eisiau bod yn wirioneddol ffansi yn ei gylch. Ond mae'n haen ar ben haen o sut y mae gwahanol genedlaethau'n edrych ar bethau.

Nid wyf yn hollol siŵr ai Dr John Davies neu R. Davies a ddywedodd—roedd yn hanesydd 'Davies' o fri enfawr—a ddywedodd fod cymdeithas Gymreig yn y canol oesoedd yn cyfateb mewn gwirionedd i'r Gyrcas, a chymdeithas filwraidd a oedd wedi ymrwymo i'r math mwyaf ffyrnig o ryfela—dyna oedd yr arbenigedd mawr a'r hyn a gadwai lawer o ddynion mewn gwaith cyflogedig, nid yn unig ym mhob cwr o Brydain ond drwy Ewrop.

Wel nawr, byddem yn cael dysgu lawer mwy, yn gwbl briodol, am ein traddodiad o geisio heddwch a chytgord yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn yr ugeinfed ganrif hefyd, a'r neges ewyllys da y mae plant yn ei hanfon drwy'r Urdd a'r pethau hyn. Roedd Cymru adeg y Diwygiad Protestannaidd yn hynod Gatholig—gydag East Anglia a Swydd Gaerhirfryn, dyma'r ardaloedd cadarnaf eu gwrthwynebiad yn ôl pob tebyg. Gwrthodwyd Protestaniaeth gydag angerdd ymysg y bobl, a oedd yn hoff iawn o'u traddodiad ffydd a chrefydd y werin, gyda'i holl liw a'i seremonïau. Ond wedyn, yn y ddeunawfed ganrif, roedd y newid i anghydffurfiaeth yn enfawr, a chafodd y fath ddylanwad pwysig ar greu'r Gymru fodern.

Felly, ceir pob math o linynnau yno sy'n galw am ddealltwriaeth ddofn. Mae'n debyg mai celfyddyd hanes yw gwneud hynny heb orfodi ein dewisiadau ni ar y cenedlaethau blaenorol o ddynion a menywod yng Nghymru, oherwydd roeddent yn byw bywydau go iawn. Roedd y gwerthoedd hynny'n bwysig iawn iddynt, ac maent yn wahanol iawn, lawer ohonynt, i'r ffordd rydym yn meddwl heddiw.

Sylwaf yn yr holl faes hwn ei fod wedi bod yn ddadleuol ers tro—credaf mai Leighton Andrews oedd y Gweinidog cyntaf i ddweud bod angen inni edrych ar y cwricwlwm hanes, a chomisiynodd Dr Elin Jones wedi hynny i ysgrifennu adroddiad, ac roedd hwnnw'n ddefnyddiol iawn fel sylfaen i'n hastudiaeth.

A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'n fras ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad? Ond mae'n anffodus fod argymhelliad 2, sef bod angen rhoi rhyw fath o arweiniad ynglŷn â'r llinyn y dylai myfyrwyr ei gael, o ran beth yw'r digwyddiadau arwyddocaol ac yna sut y gellir eu dehongli—credaf fod hynny'n ddefnyddiol iawn mewn stori genedlaethol. Er i chi wrthod argymhelliad 2, sylwaf eich bod wedi ymrwymo i ddatblygu adnoddau newydd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr yn fy marn i.

Credaf fod dealltwriaeth hanesyddol o'n diwylliant yn bwysig iawn, oherwydd os na wnawn ni hynny, nid wyf yn credu y bydd y rheini y tu allan i Gymru yn cael eu hargyhoeddi o ddifrif fod angen edrych arnom, ac edrych ar y profiad unigryw sydd gennym mewn perthynas â datblygiad Cymru a'i lle ym Mhrydain ac yn y byd ehangach yn wir.

Credaf fod dealltwriaeth y cyhoedd o hanes a diwylliant Cymru ledled y DU yn rhywbeth y dylem edrych arno—roedd yn un o'r awgrymiadau a wneuthum ar un adeg yn y pwyllgor—gan fod i hanes Cymru bwysigrwydd Prydeinig ac Ewropeaidd. Mae rhai sefydliadau o gwmpas gweddill Prydain, yn Llundain neu—. Euthum i Amgueddfa Genedlaethol yr Alban, a gofynnais am ddeunyddiau ar deyrnas Ystrad Clud, y gloddfa fawr honno o ddiwylliant Cymreig, o ran ei llenyddiaeth—cafwyd hyd i lawer o'n testunau yno. Nid oedd neb i'w weld yn deall, oherwydd nid yw'n rhan o'r stori genedlaethol yn yr Alban, felly pam y gofynnais hynny? Ond mewn gwirionedd, mae gennym bum stori genedlaethol ar yr ynysoedd hyn—y pedair gwlad a Phrydain. Rwy'n credu bod y ffordd y ceisiwn eu hamgyffred a'u deall heddiw yn wirioneddol bwysig, o ran ein cyfanrwydd diwylliannol ac yn wir, y ffordd y defnyddiwn yr adnoddau tra chyfoethog sydd wedi dod yn rhan o'n treftadaeth, ond hefyd, sut rydym yn rhoi ffurf arnynt heddiw. Diolch.

16:55

A gaf fi gymeradwyo'r hyn y credaf innau hefyd ei fod yn adroddiad aruthrol gan y pwyllgor am bwysigrwydd hanes Cymru? Yn amlwg, cafwyd galw o blith y cyhoedd am yr adroddiad hwn, fel yr amlinellodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol rhagorol. Rwyf innau hefyd ychydig yn siomedig fod argymhelliad 2 wedi'i wrthod. Mae fel pe bai'n gwanhau pwysigrwydd yr angen i bobl yng Nghymru wybod eu hanes, nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol hefyd.

A gaf fi hefyd ganmol y cyfraniadau eraill? Mick Antoniw, David Melding, rhagorol, gan ein bod i gyd yn dod at hyn o wahanol gefndiroedd, os mynnwch, ond mae'r cyfan yno i ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth pobl Cymru heddiw, gan fod angen i bobl yng Nghymru wybod o ble y daethom oll fel poblogaeth amrywiol, yr hyn sydd wedi digwydd inni ar y ffordd, i lywio'r hyn rydym yn ei wneud yn awr gyda'n gilydd ac i ble rydym yn mynd yn y dyfodol. Un agwedd yn unig.

Pan dwi'n siarad Cymraeg weithiau, neu'n annerch cyfarfod a fyddai oni bai am hynny i gyd yn Saesneg, mae ambell unigolyn weithiau yn gallu grwgnach, yn enwedig ar-lein wedyn: 'Oh Dai, leave it go, lighten up, always banging on in Welsh, you can speak English.' Ond o gloriannu ein hanes fel cenedl a'n hanes fel iaith Gymraeg, sy'n cwmpasu canrifoedd o ormes ac o dywallt gwaed, fel rhyfeloedd wedi'u brwydro, Deddf Uno 1536 a wnaeth wahardd yr iaith Gymraeg o unrhyw swydd gyhoeddus am dros bedair canrif, terfysgoedd Merthyr, y Siartwyr a therfysgoedd Rebeca yn oes Fictoria, i gyd wedi'u trefnu a'u cydlynu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Fe wnaeth hynny esgor ar frad y llyfrau gleision yn 1847 a dileu'r Gymraeg o ysgolion Cymru yn gyfangwbl, dan ormes cosb y gansen, y Welsh Not. Bu i fy nhaid i a'i genhedlaeth ddioddef y gansen am fynnu siarad Cymraeg yn yr ysgol dros ganrif yn ôl. Fe fyddai e'n falch, dwi'n siŵr, i glywed cenhedlaeth ei wŷr yn annerch Senedd ei wlad heddiw yn yr un un iaith honno heb gosb gorfforol. So, let it go? Na, dwi ddim yn credu hynny.  

Ac mae 562,000 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn y cyfrifiad diwethaf, 19 y cant o'r boblogaeth. Mae hynny'n achos dathlu'n bendant ac yn destun rhyfeddod fod y Gymraeg wedi goresgyn pob ymgais i gael ei dileu dros y canrifoedd.

Nawr, nid yw hanesion gwaedlyd yn unigryw. Mae ein hanes gwaedlyd ni yma yng Nghymru, serch hynny, wedi porthi ein dyhead pendant i weld ein hiaith yn goroesi, y bydd Cymru'n goroesi yn groes i bob dim. Yma o hyd, yn wir. Ni ddylid bod yn ysgafn yn ei gylch o gwbl; fel arall, rydym yn bradychu dioddefaint ac ymrwymiad cenedlaethau blaenorol a fynnai fod yn Gymry a siarad Cymraeg er gwaethaf cosb. Ond fel y dywedais, dim ond un agwedd ar hanes Cymru yw honno.

Nid oes gennyf amser, a dweud y gwir, i oedi ar Dryweryn—dyna pam rwy'n edrych ar wersi hanes yn yr ysgolion—i oedi ar Dryweryn neu'r ecsbloetio a ddigwyddodd yn y diwydiant glo—crybwyllodd Mick hynny—neu Aberfan, hynny i gyd. Cymaint o anghyfiawnderau, cyn lleied o amser. A cheir llwyth o bobl ysbrydoledig. Rydym wedi clywed amdanynt. A gaf fi ychwanegu ychydig mwy? Robert Recorde a ddyfeisiodd yr arwydd hafal. Roedd yn hanu o Ddinbych-y-pysgod. Dyfeisiodd William Grove o Abertawe y gell ffotofoltäig, a ragflaenodd y batri, yn 1843. Mae hynny i'w weld yn llongau gofod NASA heddiw. Yr holl arlywyddion Americanaidd â gwreiddiau Cymreig. David Lloyd George, ie; Aneurin Bevan; Frank Lloyd Wright, pensaer o fri rhyngwladol, a fagwyd mewn teulu Cymraeg ei iaith gyda chymdogion Cymraeg eu hiaith, nid yng nghefn gwlad Ceredigion ond yng nghefn gwlad Wisconsin yn yr Unol Daleithiau yn y 1860au.

Felly, mae ein hanes yn ein hatgoffa bod Cymru a'i phobl wedi cyflawni pethau gwych mewn sawl maes. Mae Cymru wedi bod yn annibynnol yn y gorffennol. Roedd ganddi dros 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gorffennol, felly gadewch i'n hanes ysbrydoli ein dyfodol. Diolch yn fawr.  

17:00

Rwy'n credu bod yr adroddiad rydym yn ei drafod heddiw yn un buddiol ac arwyddocaol iawn, oherwydd mae addysg mor hanfodol bwysig a hanes yn rhan mor fawr, a rhaid iddo fod yn rhan mor fawr o addysg. Yn amlwg, mae angen i bob un ohonom gael dealltwriaeth mor dda ag y gallwn o hanes y byd, ein hanes lleol, ein hanes cenedlaethol, os ydym am wir ddeall y gorffennol ac wrth gwrs, ei berthnasedd i'r presennol a'r dyfodol. Mae hefyd yn bwysig iawn, yn fy marn i, i'n hymdeimlad o le a'n hymdeimlad o hunaniaeth, sy'n wirioneddol bwysig o ran cael sylfaen i fynd allan i'r byd, fod gennym yr ymdeimlad hwnnw o hanes, ac yn arbennig, fe gredaf, yr ymdeimlad hwnnw o hanes lleol a chenedlaethol.

Yr hyn yr hoffwn ei bwysleisio heddiw, Ddirprwy Lywydd, yw fy mod yn credu y dylai addysgu hanes ddechrau mewn sawl ystyr gyda hanes lleol cyn datblygu i fod yn hanes rhanbarthol a chenedlaethol, ac o'r fan honno'n hanes Ewropeaidd a rhyngwladol, oherwydd rwy'n credu ei bod yn haws denu plant a phobl yn gyffredinol at hanes os ydych yn defnyddio eu hamgylchedd lleol, enwau lleoedd, enwau ardaloedd, hanes diwydiannol, ac yn wir, hanes cymunedau amrywiol.

Wrth dyfu i fyny yng Nghasnewydd, ac wrth fynd i ysgol gynradd mewn ardal aml-ethnig, mae'n siomedig, rwy'n meddwl—gwn fod hyn amser maith yn ôl—ond mae'n siomedig edrych yn ôl a myfyrio ar y ffaith nad oedd dim o hynny yn fy addysg ar y pryd. Ychydig iawn a gofiaf am hanes lleol er ein bod wedi cael hanes diwydiannol y dociau, hanes diwydiannol y glo a'r dur a ddeuai drwy'r dociau hynny, gwrthryfel y siartwyr yng Nghasnewydd, a oedd mor arwyddocaol o ran y frwydr am ddemocratiaeth yn llawer pellach i ffwrdd na Chasnewydd ei hun, ac wrth gwrs, yr amrywiaeth lle cawsom donnau o fewnfudo, fel fy mam fy hun yn dod i Gasnewydd fel rhan o'r allfudo a mewnfudo Gwyddelig, ac wrth gwrs, Gorllewin India ac Asia.

Ni chafodd dim o hynny ei adlewyrchu'n fawr iawn, os o gwbl, yn fy addysg yn yr ysgol gynradd yn ôl yr hyn a gofiaf. Ac o ran y Gymraeg, os cofiaf yn iawn, nid wyf yn credu ein bod ni hyd yn oed wedi dysgu'r anthem genedlaethol yn Gymraeg. Felly, roedd cymaint yn brin, a gwn ein bod wedi gwneud llawer o gynnydd ers hynny, ond credaf fod cryn dipyn o waith i'w wneud eto a chredaf fod yr adroddiad hwn yn ymgorffori llawer o hynny ac yn ei nodi mewn modd cryno a phenodol iawn, ac rwy'n credu bod yr argymhellion yn bwysig iawn ac rwy'n croesawu'r ymateb gan Lywodraeth Cymru i lawer o'r argymhellion hynny, er nad pob un ohonynt.

Credaf ei bod yn bwysig mewn perthynas ag amrywiaeth ein bod yn ystyried y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd, a'n bod yn cynnwys y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig a Race Council Cymru i helpu i adrodd hanes y mewnfudo a phrofiadau'r poblogaethau lleiafrifol ethnig hynny wrth ein plant heddiw, nid yn yr ysgolion mwyaf amrywiol yn unig, ond mewn ysgolion yn gyffredinol.

Rwyf hefyd yn meddwl y gallwn groesgyfeirio yma at adroddiad arall y mae'r pwyllgor diwylliant wedi'i gyflawni ar 'Minnau hefyd!' a defnyddio'r celfyddydau a diwylliant i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol. Oherwydd mae ein hamgueddfeydd yn amlwg yn berthnasol iawn, a'n sefydliadau diwylliannol a chelfyddydol yn fwy cyffredinol, yn yr ymdrech i addysgu ein plant a dylai hynny fod yn wir mewn perthynas â hanes. Felly, dylem fynd â'r plant allan i'r amgueddfeydd gymaint ag y gallwn ac i sefydliadau eraill, ac yn wir, dylem ddod â'r sefydliadau hynny i mewn i'n hysgolion. Felly, rwy'n credu bod angen inni wneud y cysylltiadau gweddol amlwg hynny, yn fy marn i, o ran sut y datblygwn hyn oll.

Felly, i mi, Ddirprwy Lywydd, dylai ddechrau gyda hanes lleol, rwy'n credu, o safbwynt y cynnydd sydd angen inni ei wneud oherwydd rwy'n credu ei bod yn llawer haws ennyn diddordeb ein plant a'n pobl ifanc ar y sail honno ac yna gallwn ddatblygu'r straeon o'r pwynt hwnnw.

17:05

Ar adegau fel hyn, mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn aelod o'r pwyllgor diwylliant mwyach. Rwy'n siomedig braidd, Dai, na sonioch chi am y gŵr ardderchog o Langeinwyr, Richard Price, sef ein harwr rhanbarthol, wrth gwrs. Rhaid i mi gyfaddef, rwy'n poeni am le hanes Cymru—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] O, mae ar frig y dramatis personae—dewch wir. Rwyf eisoes yn poeni am le hanes Cymru, nid yn unig yn ein cwricwlwm ni, ond yng nghwricwla gwledydd eraill y DU fel ffynhonnell gwybodaeth, dealltwriaeth a her, a hefyd yn ein bywydau yn gyffredinol, rwy'n meddwl, a chael ein hymdeimlad ein hunain o bwy ydym, lle rydym a phryd rydym, mewn gwirionedd.

Mae'r argymhellion ar amrywiaeth yn yr adroddiad, y gellir eu cyfiawnhau'n llwyr, ac rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi derbyn y rheini, yn meddu ar arwyddocâd ehangach ynglŷn â lle rydym yn ffitio i'n bywydau ein hunain yn ogystal â'n lle yn y bydysawd, os mynnwch—cwestiynau a adlewyrchir mewn crefyddau o amgylch y byd. Ond hyd yn oed mewn amgylchedd seciwlar fel ein hun ni, rwy'n siŵr y byddwn i gyd wedi treulio munud neu ddwy yn ddiweddar yn gofyn y cwestiynau, 'A ydw i'n Gymro? A ydw i'n Brydeiniwr? A ydw i'n Ewropead?'

Rwy'n credu ei bod hefyd yn deg dweud nad yr ysgol yw'r ateb i bob dim o ran ein dealltwriaeth o hanes. Mae'n gynnyrch dysgu gydol oes, a gallwn hyd yn oed gydnabod cyfraniad yr holl gynhyrchwyr ffilm a theledu a llenorion ffuglen hanesyddol hyd yn oed, gan gynnwys y rhai yng Nghymru, sy'n cydnabod drama fawr ein straeon, boed yn lleol neu'n fyd-eang, ac sy'n dal ein sylw—rhywbeth sy'n allweddol i ddysgu—ac yn cadw ein diddordeb. Ni waeth am gywirdeb, gwnewch hanes yn berthnasol, dangoswch y rhan y mae bodau dynol yn ei chwarae.

Nid wyf yn credu bod Macmillan yn hollol gywir pan gwynodd am 'Ddigwyddiadau, fachgen, digwyddiadau'. Rwy'n credu bod hanes wedi'i adeiladu ar benderfyniadau; penderfyniadau pobl eraill fel arfer ac yn aml iawn wrth gwrs, penderfyniadau dynion. Ond gallwn gael dadl arall am hynny.

Mae gan y cwricwlwm newydd hwn botensial i drin astudio hanes fel modd o ddeall ac archwilio'r natur ddynol lawn cystal ag astudio llenyddiaeth. Nid wyf yn credu y dylid cyfyngu hanes Cymru i wersi penodol chwaith. Ond mae hanes yn fwy na ffynhonnell o ddeunydd er mwyn i athrawon y dyniaethau allu cyfeirio at ddigwyddiadau diddorol o hanes Cymru i ddarlunio pwyntiau anthropolegol eraill. Rwy'n credu ein bod eisoes yn clywed bod gormod o'n hysgolion yn dibynnu ar athrawon sy'n dysgu dosbarthiadau y tu hwnt i'w harbenigedd, ac rydym wedi cytuno nad dyma'r profiad gorau i'n disgyblion. Nawr, rydym yn gofyn i'n hathrawon gael ehangder o wybodaeth a phrofiad i fynegi'r cwricwlwm drwy wersi y gellir parhau i'w galw'n hanes neu fathemateg a sicrhau bod disgyblion yn dal i gael digon o wybodaeth bynciol i ddangos peth dyfnder ac arbenigedd er mwyn mynd ar drywydd astudiaethau, hyfforddiant neu waith pellach mewn meysydd penodol.

Mae pobl ifanc yn parhau i fod eisiau cymwysterau ar ddiwedd addysg orfodol, a bydd yn dal i fod angen sicrhau ansawdd yr arholiadau neu asesiadau eraill a'u cymharu â'r rhai cyfatebol agosaf yn y DU a thu hwnt. Gydag arholiadau, daw manylebau, ac mae hynny'n awgrymu bod angen rhyw elfen o ragnodi—y llinyn arian hwnnw roedd David yn sôn amdano—i sicrhau bod manylebau'n cael eu cyflawni.

Nid anogaeth i addysgu ar gyfer arholiadau'n unig yw hyn. Rwy'n cydnabod ac yn deall pam y mae'r Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad 2, ond gofynnaf iddi hi a'r pwyllgor hyd yn oed, i ystyried y darlun hwn o'r her. Mae hyn yn mynd i swnio'n dipyn o ymffrost mam, felly ymddiheuriadau am hynny a'r canlyniad tebygol y bydd hyn yn rhywbeth na ddylid cyffwrdd ag ef. Felly, fy mab, iawn? Fe raddiodd gyda gradd ddosbarth cyntaf mewn hanes modern diweddar o brifysgol Grŵp Russell. Dyna fy wyneb mam falch. Ond fe wnaeth ei addysg orfodol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol yn y dref sy'n gartref i senedd Owain Glyndŵr, ac roedd yn dwli ar ei athro hanes. Prin iawn oedd yr hanes Cymru a astudiodd, neu hyd yn oed ddimensiwn Cymreig i'r hanes Prydeinig a wnaeth, gan nad oedd gofyn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes Cymru yn ei addysg orfodol. Ac mae hynny'n wahanol iawn i fy nyddiau ysgol fy hun, gyda llaw, er fy mod yn gofyn i mi fy hun hyd yn oed yn awr beth a ddysgais am fy nghynefin mewn gwirionedd.

Bydd y Gweinidog yn dweud y bydd adolygiad Estyn a'r cwricwlwm newydd yn ateb yr her honno, ond gyda'r gweithlu presennol yn gyfarwydd â'r cwricwlwm hanes cul iawn presennol sydd wedi gwasgu hanes Cymru allan, sut y gallwn warchod rhag tair risg?

Y gyntaf yw hon: pwy fyddai'n beio'r gweithlu presennol, nad yw wedi cael fawr o brofiad o ddysgu hanes Cymru efallai, heb sôn am yr amgylchedd addysgol tra gwahanol hwn, am geisio'r llwybr hawsaf posibl ar gyfer cyrraedd isafswm derbyniol a dim mwy? Nid oes fawr o ddiben cael adnoddau, fel yn argymhelliad 6, os nad oes gan athrawon amser i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau hynny, waeth pa mor dalentog a hyblyg ydynt.

Yr ail yw y bydd ein hathrawon newydd wedi meithrin y sgiliau addysgol hyn sy'n fwy trawsbynciol er mwyn cyflawni'r nodau y cawn ein hatgoffa amdanynt yn ymateb y Gweinidog i argymhelliad 7, ond sy'n llai arbenigol yn y maes gwybodaeth, er gwaethaf ei gobeithion i'r gwrthwyneb a nodir yn yr un ymateb. Dim ond hyn a hyn y gallwch ei ffitio i mewn i flwyddyn o astudio TAR wedi'r cyfan.

Yn drydydd ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd. Y trydydd yw y gellid ystyried hanes Cymru fel ateb i'r agwedd hunaniaeth leol yn y cwricwlwm, ac y caiff ei adlewyrchu mewn gwaith cwrs a dysgu drwy brofiad yn hytrach na chael ei ystyried hefyd fel pwnc priodol ar gyfer yr elfen profi academaidd, sy'n gorfod bod yn gydran o gymwysterau TGAU neu eu holynwyr, a fydd yn dal i fod yn bwysig am y rhesymau a roddais yn gynharach, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom eisiau hynny. Diolch.

17:15

Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma. Fe hoffwn i gymryd y cyfle brynhawn yma i holi'r Gweinidog am ambell i beth sydd yn codi o'i hymatebion hi i adroddiad y pwyllgor—yn gyntaf, yr adolygiad thematig mae Estyn yn mynd i fod yn ei wneud, sy'n edrych ar drefniadau addysgu hanes Cymru mewn ysgolion: ydy'r cylch gwaith wedi'i gytuno, a beth ydy'r amserlen ar gyfer cyhoeddi'r gwaith yma? Mae angen i hwn ddigwydd yn sydyn. Dwi'n rhagdybio y bydd yr adroddiad yn cadarnhau beth yr ydym ni'n ei wybod yn barod, sef bod yna bocedi o arfer da iawn ond mai diffyg cysondeb ydy'r nodwedd amlycaf, efo rhai ysgolion yn methu â chyflwyno dim oll i'w disgyblion am hanes Cymru. Mae angen y dystiolaeth yna—dwi'n cytuno bod angen iddo fo ddigwydd yn sydyn.

Fel mae eraill wedi sôn, mae'r ymateb i argymhelliad 2 yn hynod o siomedig. Gofyn am ganllaw mae'r argymhelliad sy'n nodi corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy'n astudio hanes. Fel dywedais i ddoe, wrth drafod cymorth cyntaf, dwi yn deall gweledigaeth a chysyniad y cwricwlwm newydd ac yn croesawu'r hyblygrwydd y bydd o'n ei roi i athrawon, ond dwi yn credu bod rhai materion, sy'n cynnwys hanes Cymru, yn haeddu mwy o eglurder a mwy o sicrwydd yn eu cylch nhw. Fel mae pethau, dydy'r sicrwydd y bydd bob plentyn yn cael dysgu yn llawn am hanes ein gwlad ddim ar gael, a bydd y cwricwlwm newydd ddim yn gwella'r sefyllfa heb gael canllaw clir. Heb y canllaw yna, mae peryg i'r sefyllfa waethygu, a dyna sydd yn peri gofid mawr i mi. Dwi wedi awgrymu newid 'hanes', sy'n dod o dan y pennawd dyniaethau, yn 'hanes Cymru a'r byd', fel o leiaf y byddai'n rhaid rhoi persbectif Cymreig i'r dysgu. Ydy hyn yn rhywbeth y byddai'r Gweinidog yn barod i'w ystyried?

Dwi'n falch gweld eich bod chi yn eich ymateb i adroddiad y pwyllgor yn comisiynu adnoddau newydd—newyddion da iawn. Beth ydy'r manylion am hyn, os gwelwch yn dda, a beth ydy'r amserlen ar gyfer eu cyhoeddi nhw? Dwi'n gweld o'ch ymateb chi i'r adroddiad eich bod chi'n dweud y bydd hyn i gyd yn cael ei lywio o ganlyniad i arolwg Estyn, sydd eto yn rheswm da iawn dros gael amserlen dynn a chyhoeddiad buan o'r arolwg hwnnw. Mae cael corff o adnoddau pwrpasol yn cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau allweddol yn hanes Cymru a'r byd yn allweddol, ac mae yna, wrth gwrs, lawer wedi cael eu cyhoeddi yn barod. Dwi'n gwybod eu bod nhw ar gael ar Hwb ac yn y blaen, ond sut ydych chi'n bwriadu tynnu'r cwbl ynghyd a sut bydd yr adnoddau yn sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn dod i wybod hanfodion ein hanes hir, ac nid jest talpiau di-gyswllt?

Tra'r oeddwn yn mynd ar daith eithaf hir dros y Nadolig, mi gefais i gyfle i wrando ar un o bodlediadau hanes Cymru y diddanwr Tudur Owen. Mi wnes i wrando ar bennod o'r enw 'Pwy oedd Owain Glyndŵr?', efo'r haneswyr Rhun Emlyn ac Eurig Salisbury yn ein tywys ni drwy un o gyfnodau mawr, dramatig ein hanes ni. Roeddwn i'n gwrando yn astud ac yn dysgu llawer o wybodaeth ddifyr, newydd ac, yn wir, ces i fy swyno'n llwyr efo'r profiad o wrando ar yr haneswyr ifanc yma yn siarad mor ddeallus ac angerddol am eu pwnc. Mi oedd y daith drosodd mewn dim o beth.

Mae ein hanes ni'n llawn cyffro, ond ar hyn o bryd mae'r mwyafrif ohonom ni yn cael ein hamddifadu ohono fo. Byddai Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn unioni hynny. Yn y cyfamser, dwi'n erfyn ar y Llywodraeth bresennol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael dysgu hanes Cymru a'r byd, a hynny ymhob ysgol ar draws ein gwlad.

17:20

Nid oeddwn yn mynd i siarad yn y ddadl hon—dim ond pan glywais sylwadau agoriadol y Cadeirydd y cyflwynais y cais. Croesawaf yn fawr waith ac argymhellion y pwyllgor i hyrwyddo hanes lleol a hanes Cymru. A ddydd Sadwrn diwethaf, cefais fy lobïo gan etholwyr yn benodol i ofyn i'r Gweinidog addysg gynnwys addysg am ein harwyr lleol mewn ysgolion. A ddydd Sadwrn diwethaf oedd hi am ei bod yn 100 mlynedd i'r diwrnod pan oeddem yn coffáu canmlwyddiant marwolaeth Pryce Jones, a aned ac a fu farw yn y Drenewydd ac a newidiodd y byd. Ef oedd sylfaenydd archebu drwy'r post, ac ef oedd rhagflaenydd Amazon. Ond yn anffodus, pe baech yn gofyn i blant ysgol yn y Drenewydd, mae'n debygol iawn na fyddent yn gwybod y ffaith honno. Ac roedd hyb treftadaeth y Drenewydd, a oedd yn hyrwyddo'r digwyddiad, yn bwriadu gofyn i'r Gweinidog addysg ystyried yr hyn y mae eich adroddiad yn ei amlinellu heddiw.

Ond yn Sir Drefaldwyn, ac yn y Drenewydd yn benodol, mae gennym nifer o arwyr lleol. Yn wir, rydym newydd enwi pedair cylchfan newydd ar eu holau ar ffordd osgoi'r Drenewydd: Robert Owen, Pryce Jones, Laura Ashley a David Davies Llandinam. Ond rwy'n gwybod y gall y Gweinidog addysg ddisgwyl llythyr—oherwydd rwyf wedi gweld drafft o'r llythyr y bore yma ac mae ar ei ffordd ati—oddi wrth hyb treftadaeth canolbarth Cymru, yn gofyn am gynnwys ein harwyr lleol yn y cwricwlwm ysgol. Ac mae'r llythyr yn nodi hefyd y byddwn, ar 14 Mai y flwyddyn nesaf, yn dathlu blwyddyn arbennig iawn o waddol Robert Owen. A dylwn ddweud, yn 1816, agorodd Robert Owen yr ysgol gyntaf am ddim i blant bach yn y DU.

Efallai mai dyma lle rwy'n anghytuno â David Melding a ddywedodd, yn ei gyfraniad, 'Os na wnawn ni yma yng Nghymru weiddi am ein harwyr lleol, ni wnaiff neb arall hynny.' Ond mewn gwirionedd—

Ie, mae New Lanark yn tynnu sylw, wrth gwrs, yn y fan honno—maent wedi gwneud yn fawr o Robert Owen. Felly, os gall rhannau eraill o'r wlad weiddi a siarad am ein harwyr Cymreig lleol, does bosibl na ddylem ninnau fod gwneud hynny yng Nghymru ac yn ein hysgolion.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i ymateb ar ran y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor ar ddysgu hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru. Fel y nodwyd eisoes yn ystod y ddadl, rydym wedi derbyn pob un o'r argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor, namyn un. Gallaf gadarnhau y bydd Estyn yn cynnal adolygiad o'r modd y caiff hanes Cymru ei addysgu, a chynhelir yr adolygiad hwn dros y misoedd nesaf, a llywir ei gylch gorchwyl gan argymhellion y pwyllgor.

Trof yn awr at faterion ehangach—y rhai a godwyd yn yr adroddiad ac yn y ddadl y prynhawn yma. Yn amlwg, mae hwn yn bwnc sy'n ennyn teimladau, safbwyntiau a dehongliadau cryf. A gadewch imi fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwbl ymrwymedig i ddull arloesol y cwricwlwm newydd o ymdrin â thema cynefin fel man cychwyn i astudio. Bydd yn rhedeg drwy bob un o'r meysydd dysgu a phrofiad. Bydd y dysgwyr yn cael sylfaen o ddealltwriaeth o'r hunaniaeth, y tirweddau a'r hanesion sy'n dod at ei gilydd i ffurfio eu cynefin.

Wrth ysgrifennu am ddylanwad cyfoes parhaus y meddwl Cristnogol, ysgrifennodd yr hanesydd Tom Holland yn ddiweddar ei fod fel gronynnau llwch—mor fân nes bod yn anweledig, yn cael ei anadlu i mewn i'r un graddau gan bawb. Nid ddylai, ac ni all dadansoddi, deall a chwestiynu hanesion a straeon Cymru, ein cymunedau a'n cymdogion gael ei gyfyngu i wers hanes—bydd pawb ar draws y cwricwlwm yn ei anadlu i mewn. Felly, mae'n ddiddorol nodi, er bod y pwyllgor yn edrych ar ddysgu hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru, ni allwn ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad at lenyddiaeth, chwaraeon, ffilm neu ddrama. Ac mae hynny'n drueni mawr, gan ei fod yn rhoi'r argraff mai mater i un wers ac un pwnc yn unig yw hanes—neu'n fwy cywir, hanesion.

Rwy'n disgwyl, yn y cwricwlwm newydd, y bydd hanesion Cymru'n cael eu datgloi, eu darganfod a'u dadansoddi, wrth i ddysgwyr gael eu hannog, er enghraifft, i archwilio Shakespeare neu R.S. Thomas a Mererid Hopwood, i graffu ar rôl chwaraeon fel mynegiant o hunaniaeth genedlaethol, neu wrthgyferbynnu a chymharu'r hanesion a bortreadir yn Pride â'r rhai yn House of America efallai. Nawr, nid diystyru hanes fel disgyblaeth yw hyn—rwy'n fyfyriwr hanes fy hun—ond fel y mae Sarah Morse, o Gymdeithas Ddysgedig Cymru wedi'i roi:

Nid hanes yw'r unig bwnc lle caiff naratifau a phrofiadau Cymru eu hadlewyrchu.

Ac mae'n anffodus nad oedd gan y pwyllgor ddigon o amser i gael yr ehangder a'r dyfnder llawn hwn.

Os caf droi felly at yr un argymhelliad a wrthodwyd gennym—sef rhestru digwyddiadau a phynciau allweddol i'w hastudio gan bob dysgwr. Nawr, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â sail resymegol y pwyllgor dros wneud yr argymhelliad hwn, ond wrth wraidd y cwricwlwm newydd mae'r egwyddor fod dysgwyr yn elwa pan fydd eu hathrawon yn cael hyblygrwydd i deilwra cynnwys gwersi i'w hanghenion ac i'w cyd-destun lleol. Er mwyn darparu'r hyblygrwydd hwn, mae angen inni sicrhau nad yw'r cwricwlwm wedi'i strwythuro fel rhestr ticio blychau o gynnwys i'w astudio.

A mawredd mawr, Ddirprwy Lywydd, nid oes ond angen inni wrando ar y cyfraniadau o amgylch yr ystafell y prynhawn yma i ddeall cymaint o broses fyddai rhestru'r union bynciau hynny. Ac a gaf fi ddweud, Russell George, nid oes dim i rwystro ysgolion cynradd y Drenewydd rhag siarad am eich arwyr lleol, ac yn sicr nid ydynt angen caniatâd gennyf fi i wneud hynny. Rhoddaf enghraifft i chi yn fy etholaeth fy hun, lle mae Cymdeithas Hanes Ystradgynlais wedi creu nifer o lyfrynnau am bobl o'r gymuned honno, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, ac wedi'u dosbarthu i ysgolion. Felly, yn sicr nid oes angen caniatâd arnynt yn y Drenewydd gan y Gweinidog addysg i fwrw iddi gyda'r gwersi hynny.

17:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nid oedd i fod yn feirniadaeth, dim ond sylw. Ond rwy'n credu, yn bwysicach fyth, mai’r pwynt ehangach roeddwn yn ei wneud oedd y gellir siarad am rai o'r arwyr lleol hyn nid yn unig yn y Drenewydd ond ledled Cymru yn ein hysgolion. Dyna oedd y pwynt ehangach roeddwn yn ei wneud. 

Gellir yn wir. Ac unwaith eto, nid oes unrhyw beth yn y cynigion ar gyfer ein cwricwlwm newydd a fyddai’n atal hynny rhag digwydd. 

Byddwn yn gweithio gydag addysgwyr i gomisiynu adnoddau newydd sy'n cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau allweddol yn hanesion Cymru a'r byd. Ac rwy'n disgwyl y bydd y rhain yn darparu sylfaen real iawn wrth inni symud ymlaen yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf cyn i'r cwricwlwm gael ei gyflwyno. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda nifer o gyrff i asesu'r hyn y bydd ei angen, ond yng nghyd-destun hanes Cymru, unwaith eto, dywedodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru nad yw diffyg adnoddau o reidrwydd yn broblem.  

Nawr, yng nghyd-destun dysgu sy'n symud ac yn edrych tuag allan o'ch cynefin eich hun, buaswn yn disgwyl bod pethau sylfaenol yn ein hanes a fydd yn allweddol i gyflawni diben y cwricwlwm o ddod yn ddinesydd gwybodus. Er enghraifft, wrth adeiladu ar yr adnoddau helaeth sydd eisoes ar gael, gallwn edrych ymlaen at ddadansoddi digwyddiadau a phynciau allweddol fel rhyfeloedd byd y ganrif ddiwethaf, y terfysgoedd hil 100 mlynedd yn ôl, taith gyfansoddiadol Cymru, stori’r Gymraeg, Dai, a datblygiad y wladwriaeth les. Nawr, bydd y pynciau hyn a phynciau eraill yn cael eu hastudio a'u dehongli o safbwynt lleol gan ffurfio cysylltiadau wedyn â'r cenedlaethol a'r rhyngwladol.  

Felly, ar hanes yr iaith, er enghraifft, yn fy rhan i o’r wlad mae'n ddigon posib mai cliriadau Epynt yw'r cyd-destun, pan symudwyd teuluoedd Cymraeg eu hiaith o'r rhan honno o Sir Frycheiniog gan symud y llinell lle siaredid y Gymraeg yn y gymuned. Ond ymhellach i'r gogledd ym Mhowys, yn rhan Russell George o’r wlad, efallai y gallem gael sgyrsiau am Feibl yr Esgob William Morgan a dylanwad enfawr ei waith yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar yr iaith, neu archwilio'r cysylltiadau rhwng enwau lleoedd ymhellach i ffwrdd, pam y ceir Trelew yn yr Ariannin; pam y ceir Brynmawr yn Pennsylvania? A rhaid inni gofio bod amrywiaeth persbectif a dadansoddiad yn bwysig wrth inni symud ymlaen. Felly, gadewch inni beidio ag anghofio ein rôl yn y fasnach gaethweision. Gadewch inni ddadansoddi pam fod cymaint o athrawon a rhieni yng Nghymru wedi cytuno i’r defnydd o'r Welsh Not, a gadewch inni beidio ag anghofio, yn union fel y gellir dadlau mai ni yw'r drefedigaeth wreiddiol, fe wnaethom ni hefyd gyfrannu at adeiladu'r ymerodraeth. 

Felly, peidiwch â chamgymryd, mae astudio hanes a hanesion Cymru yn bwysig er mwyn cyflawni dibenion y cwricwlwm newydd. I fod yn ddinesydd ymgysylltiedig, gwybodus a moesegol, bydd dysgwyr yn gwneud synnwyr o'u hunaniaeth a’r hanes, y diwylliannau a’r ddaearyddiaeth a helpodd i'w ffurfio. Ac rwy'n falch fod y mater hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i gynifer o bobl yma yn y Senedd ac wedi arwain at rai o'r dadleuon gorau a gawsom. Gobeithio fy mod wedi gallu egluro ymhellach sut rydym yn bwrw ymlaen â'r materion hyn. 

Bydd y gefnogaeth ychwanegol, y dysgu proffesiynol a'r arweiniad sy'n cael ei ddatblygu yn galluogi ysgolion i fwrw ymlaen ag astudiaethau gwell, estynedig a mwy eang o'n hanes ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad, ac unwaith eto gallaf gadarnhau y bydd hanesion a straeon Cymru yn elfen graidd o bob maes dysgu a phrofiad ar draws y cwricwlwm.

Nawr, mae'r dadleuon yma yn y Siambr y prynhawn yma, mewn rhai ffyrdd, wedi derbyn yr egwyddorion sy’n sylfaen i’n cwricwlwm newydd, ond maent wedi cynnwys 'ond' mawr. Os ydym am ymddiried yn ein hathrawon, y cam cyntaf yw ymddiried ynddynt i lunio’r cwricwlwm hwn, oherwydd cafodd y cwricwlwm ei ddatblygu ar y cyd ag arbenigwyr ar hanes, gyda'r athrawon sy'n gweithio o ddydd i ddydd gyda'n plant. Fe'i lluniwyd gyda'r arbenigedd o'n prifysgolion a'n colegau addysg bellach. Hwy sydd wedi cyflawni a llunio'r cwricwlwm hwn. Rwy'n llwyr gefnogi'r ysbryd o ddatblygu ar y cyd a'u hymagwedd tuag at ‘cynefin’ a'r hyn y bydd hynny'n arwain ato er mwyn rhoi profiad dysgu cyfoethog i'n plant. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch. Rwy'n gwybod na fydd gennyf amser i ystyried cyfraniadau pawb, ond rwy'n ddiolchgar hefyd am y cyfoeth o gyfraniadau a gawsom a'r cyfoeth o ddiddordeb a fu yn y ddadl hon heddiw. Mae’n dangos y pwyslais y mae pawb ohonom yn ei roi ar ein hanesion ein hunain a'n fersiwn ein hunain o hanesion, ac rwy’n tybio mai dyna lle rwy'n credu y byddai'r Gweinidog yn dweud y byddai'n anodd rhoi llinell o dan yr agweddau pwysicaf. Ond rwy'n credu ein bod yn ceisio bod o gymorth wrth ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru er enghraifft, y gallai fod gennych gyfoeth o dalent ac adnoddau i allu dysgu mater penodol oherwydd ei fod yn rhan o'r cynefin, oherwydd ei fod rhan o wleidyddiaeth leol yr ardal, ond mewn rhan arall o Gymru, efallai na fydd modd trosglwyddo'r un math o ddysgu. 

Rwy'n teimlo fy mod i wedi dysgu hyn fwyaf gan y rhai a ddaeth atom o'r gymuned ddu a lleiafrifoedd ethnig, gan Race Council Wales a'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid. Ac rwy'n teimlo weithiau ein bod ni'n siarad o sefyllfa freintiedig, oherwydd gallwn rygnu ymlaen am hyblygrwydd, ond os nad oes gennych athrawon o'r gymuned benodol honno yn yr ystafelloedd dosbarth gyda'r cefndir hwnnw, mae’n ddigon posibl na fyddwch yn cael eich addysgu am y terfysgoedd hil neu sut y mae trefedigaethedd yn gweithio. Ni chefais fy nysgu erioed am y modd y gwnaethom gymryd rhan yn y broses o ddinistrio gwledydd ym mhob rhan o’r byd fel rhan o ymerodraeth Prydain, ac rwy'n credu bod cael llinyn yn bwysig oherwydd fy mod eisiau bod yn sicr y bydd ysgolion ledled Cymru yn cael elfen o hynny o leiaf.

Oherwydd fe wyddom bellach, er mor anhygoel fydd rhai o'r athrawon hyn, mewn amryw o wahanol bynciau efallai na fyddant yn ymwybodol neu, oherwydd nad ydynt wedi cael y profiad byw hwnnw, efallai na fyddant yn gallu trosglwyddo hynny. Ac mae athrawon yn dweud hynny wrthyf trwy'r amser hefyd: 'Nid wyf yn teimlo'n hyderus fy mod yn gallu gwneud y math hwnnw o hanes neu drosglwyddo'r math hwnnw o hanes i'r bobl rwy'n eu dysgu.' Ond nid yw hynny’n dweud nad ydynt yn dda; dim ond cydnabod y gallai fod angen mwy o adnoddau arnynt neu fod angen mwy o gefnogaeth arnynt i gyrraedd y pwynt hwnnw, ac rwy'n ategu barn y pwyllgor y dylem gael mwy na'r hyblygrwydd hwnnw yn ein system addysg, oherwydd, yn y pen draw, fel y dywedodd rhai ohonoch, rwy’n credu, bydd angen cymwysterau arnom ar ddiwedd hyn. Bydd angen inni wybod sut y gallwn ni sicrhau wedyn fod holl fyfyrwyr Cymru yn gadael gyda'r cymhwyster sylfaenol hwnnw i fynd allan i'r byd go iawn a rhannu'r wybodaeth honno ag eraill. 

Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwyd mewn perthynas â'r cwricwlwm ehangach, ond dywedais hefyd ar y dechrau yr hoffem ddychwelyd at hyn fel pwyllgor i edrych ar lenyddiaeth ac agweddau eraill ar y cwricwlwm; roedd amser yn brin yn hynny o beth. Er enghraifft, rwy'n gwybod yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, ym Mhort Talbot, fod rhai o'r cynghorwyr lleol wedi ariannu celf stryd yn yr ardal yn seiliedig ar stori Dic Penderyn. Nawr, nid oes a wnelo hynny â'r cwricwlwm hanes yn yr ystafell ddosbarth, ond mae a wnelo popeth â sut rydym yn ei ddysgu mewn ffordd wahanol iawn, mewn ffordd greadigol. Felly, peidiwch â meddwl ein bod wedi ei anwybyddu; dim ond hyn y llwyddasom i'w wneud o fewn yr amser a oedd gennym fel pwyllgor. 

Nid wyf yn siŵr bod gennyf lawer o amser ar ôl. Gwn i Mick Antoniw wneud pwyntiau cryf iawn mewn perthynas â materion cymdeithasol ac am y chwyldro diwydiannol. Gwn fod hynny'n rhywbeth y byddwn am ei rannu ledled Cymru a byddwn am herio athrawon yn ei gylch o ran sut y maent yn cysylltu hynny â gweddill y byd. Ond gwnaeth David Melding bwynt da iawn yn y pwyllgor, na ddylem edrych ar hyn fel dull system addysg yn unig, ond fel dull cyhoeddus. Mae yna oedolion yn awr nad ydynt yn deall llawer o agweddau ar eu hanes eu hunain. Sut y mae sicrhau y gallwn gyfleu'r hanes cyhoeddus hwnnw a'r ddealltwriaeth honno? 

Byddem yn disgwyl i Dai Lloyd fod yn angerddol am y meysydd y siaradodd amdanynt. Ond mae'n wir, wyddoch chi. Nid ydym eisiau gwleidyddoli'r iaith at ddibenion gwleidyddol, ond mae wedi dod o le gwleidyddol iawn, lle cafodd yr iaith ei llesteirio dros y blynyddoedd, ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni atgoffa cenedlaethau'r dyfodol yn ei gylch, neu ni fyddant yn gwybod yr hanfodion ynglŷn ag o ble y daeth.

O ran John Griffiths, nid wyf yn pryderu'n fawr pa un a ddylech ddechrau gyda lleoliaeth neu a ddylech ddechrau gyda materion rhyngwladol. Efallai y bydd yr ysgol am ganolbwyntio ar rywbeth nad yw'n lleol o reidrwydd. Ond rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud, os ydych chi'n dechrau'n agos iawn at adref, mae'n golygu rhywbeth diriaethol i chi, ac mae'n golygu rhywbeth y gallwch edrych arno ac ymweld ag ef. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt da iawn am yr adroddiad tlodi mewn perthynas ag amgueddfeydd a sut y gallwn blethu ymweliadau a phethau felly yn rhan o'n cwricwlwm yn llawer gwell, ac rwy'n gobeithio y bydd yr athrawon yn gwneud hynny. Mae Sain Ffagan eisoes yn adnodd anferthol i bobl fanteisio arno.

Yn gyflym felly, o ran yr hyn a ddywedodd Suzy Davies—a llongyfarchiadau i'ch mab ar ei radd, ar yr ymffrost mam, roedd hynny'n—. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch chi o ran manylebau, ac rwy'n deall bod angen inni sicrhau bod gennym ddealltwriaeth leol o'r hyn rydym yn ei addysgu yn ogystal.

I orffen: Russell George, diolch am gymryd rhan yn y ddadl ar y funud olaf. Y cyfan y buaswn yn ei ddweud efallai yw, os oes gennych gylchfannau i'w henwi ar ôl pobl ddylanwadol, gellid addurno un Laura Ashley â rhywbeth ychydig yn fwy diddorol na phorfa ac ychydig o lwyni. Mae hi'n frenhines ffasiwn, felly mae angen inni gael mwy.

Gwnaeth Leanne bwynt ar ei heistedd: rhaid inni feddwl hefyd faint o fenywod sy'n rhan o'n hanes. Cawsom lawer o enwau dynion yno, oni chawsom? Mae'n rhaid inni geisio cyfuno hyn rywfaint â'r modd y gall menywod dylanwadol chwarae rhan allweddol yn ein hanes a'r modd yr addysgwn am hanes Cymru. Rwyf am orffen ar hynny. Diolch yn fawr.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Trais a Chamdriniaeth Rywiol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Caroline Jones, a gwelliannau 4 a 5 yn enw Darren Millar. Ni ddewiswyd gwelliant 2.

Y ddadl nesaf, felly, yw dadl Plaid Cymru ar drais a cham-drin rhywiol. Dwi'n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig—Leanne Wood.

Cynnig NDM7229 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.

2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol.

3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr.

4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais.

5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.

6. Yn galw i gefnogaeth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol fod ar gael ac iddynt gael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth roi tystiolaeth.

7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rydym i gyd, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o nifer o achosion proffil uchel yn ddiweddar sy'n cyfiawnhau'r angen am y ddadl hon. Roedd un yn arbennig o ingol: merch yn ei harddegau o Brydain a gafwyd yn euog o ddweud celwydd ynglŷn â chael ei threisio gan giang ac a ddedfrydwyd i bedwar mis o garchar gohiriedig a dirwy o €140. Digwyddodd hyn wedi iddi dynnu ei datganiad i'r heddlu yn ôl ar ôl sesiwn holi wyth awr o hyd na chafodd ei chofnodi, a heb iddi allu cael cynrychiolaeth gyfreithiol. Dywedwyd bod yr anafiadau niferus ar ei chorff, yn ôl un arbenigwr, yn gyson ag ymosodiad treisgar. Rwyf fi a llawer o bobl eraill o'r farn fod trosedd erchyll wedi'i chyflawni yn erbyn y ddynes ifanc hon a'i fod yn gamweinyddiad cyfiawnder posibl. Yn fyr, rwy'n ei chredu, ac mae nifer o rai eraill yn ei chredu hefyd. Ac un peth yw i bobl bwyntio bys at system gyfiawnder ddiffygiol yng Nghyprus; buaswn i'n dadlau nad oes unrhyw wlad yn y byd lle mae'n ddiogel i fenywod fyw heb ofn trais neu ymosodiad rhywiol.

Gadewch i ni edrych ar yr ystadegau. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019, cafwyd 58,657 o gyhuddiadau o drais rhywiol, ond dim ond 1,925 o euogfarnau am drais rhywiol. Ers 2016, mae nifer yr achosion a erlynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi gostwng 52 y cant. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod cynnydd o 43 y cant wedi bod yn nifer yr honiadau o drais rhywiol a wnaed i'r heddlu. Mae erlyniadau am drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf mewn degawd; ac mae hynny ar gyfer oedolion. Ar gyfer plant, rydym yn dal i fod heb wybod yn iawn beth yw graddau cam-drin plant yn rhywiol. Serch hynny, yn ôl Cymdeithas y Plant, canfu dadansoddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cyfran uwch o blant na grwpiau oedran eraill wedi'u cynnwys yn y niferoedd o droseddau rhywiol yng Nghymru a Lloegr, gyda dioddefwyr trais rhywiol yn fwy tebygol o fod rhwng 15 ac 19 oed, a'r ystod oedran hwn yw bron chwarter, sef 23 y cant, o ddioddefwyr yr holl droseddau trais rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu, er mai dim ond 6 y cant o'r boblogaeth yw'r grŵp oedran hwnnw. Nid yw tua 85 y cant o'r troseddau yr adroddir yn eu cylch yn arwain at achos yn erbyn y cyflawnwr. 

Nid oes dim o hyn yn digwydd mewn gwactod. Er mwyn mynd i’r afael â’r ystadegau ysgytiol hyn a’u gwrthdroi, rhaid i bob cangen o’r Llywodraeth weithredu a chymryd cyfrifoldeb. Mae diwylliant gwenwynig sy'n arwain at feio dioddefwyr, erlid goroeswyr a'r rhagdybiaeth o ddiniweidrwydd ar ran cyflawnwyr wedi arwain bron at ddad-droseddoli trais ac ymosodiad rhywiol. Beth yw pwynt rhoi gwybod am drais neu ymosodiad rhywiol pan fyddwch yn gwybod sut driniaeth y gallwch ei disgwyl? Faint o bobl sydd awydd ail-fyw'r trawma pan na chânt eu credu, i beidio â chael canlyniad ar ddiwedd y cyfan? Pam fyddech chi'n trafferthu? Felly, rwy'n parchu’r holl bobl sy’n rhoi gwybod am droseddau; rydych chi'n anhygoel o ddewr.  

Ond rwyf am gyffwrdd â'r cyd-destun gwleidyddol y mae hyn i gyd yn digwydd ynddo. Nid wyf yn credu mai damwain yw hi nad yw cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cael ei ddwyn i gyfrif am yr hyn a wyddai neu na wyddai am weithredoedd ei ffrind a'i gydweithiwr gwleidyddol, Ross England, a oedd yn gyfrifol am ddymchwel achos o drais rhywiol, gan orfodi rhywun a oroesodd drais rhywiol nid yn unig i orfod ail-fyw ei dioddefaint unwaith ond ddwywaith, a chael ei henw wedi'i bardduo yn y broses. Mae'r mwyafrif o fenywod rwy’n eu hadnabod—rhaid i mi ddweud bod y rhan fwyaf o fenywod rwy'n eu hadnabod ac y siaradais â hwy am hyn wedi cael rhywfaint o brofiad rhywiol digroeso yn eu hanes. Mae'r pethau hyn yn rhy gyffredin o lawer. Mae'r rhan fwyaf o fenywod rwy'n eu hadnabod wedi dychryn ynglŷn â'r modd y gellir rhoi cefnogaeth wleidyddol i ddyn a ddymchwelodd achos o drais rhywiol ar ôl iddo wneud hynny, tra bod gofal y goroeswr wedi'i esgeuluso— 

17:40

——neu, i fod yn gywirach, mae hyn oll wedi ei niweidio ymhellach.

Na. 

Rwyf wedi mynd ar drywydd achos Alun Cairns, ac rwy'n eithaf sicr fod yna aelodau blaenllaw eraill o blith y Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod mwy nag yr oeddent yn ei gyfaddef, oherwydd credaf fod dynion fel hyn sydd â chyn lleied o barch at ddioddefwyr trais rhywiol mewn swyddi pwerus yn cyfrannu at yr ystadegau trais rhywiol echrydus y cyfeiriais atynt yn gynharach, ac at y rhesymau pam nad yw menywod a dynion yn rhoi gwybod am droseddau. A byddaf yn parhau i fynd ar ei drywydd, a gwahoddir pob un ohonoch i arwyddo'r llythyr agored a ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ar y mater hwn, llythyr sydd i'w weld ar fy ngwefan ac ar fy nhudalen Facebook. 

Rwyf am orffen y prynhawn yma gydag amlinelliad o'r hyn y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn i gyd. Oes, mae angen inni herio a newid diwylliant trais rhywiol—rhaid i hyn ddechrau yn yr ysgol gyda chwestiynau fel parch a chydsyniad—ond mae'n rhaid inni newid y diwylliant gwleidyddol hefyd. Byddai ymgyrch wybodaeth gyhoeddus sy'n egluro ble mae'r ffiniau gyda chydsyniad a thrais rhywiol yn ddefnyddiol hefyd. Mae'n rhaid inni newid cymaint am y ffordd rydym ni fel cymdeithas yn ymdrin â thrais rhywiol, ac er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid inni gael rheolaeth dros y dulliau polisi. Mae'r status quo yn gneud cam â goroeswyr trais rhywiol fel y mae pethau, a gallwn newid hynny drwy ddatganoli. 

Byddai datganoli'r system cyfiawnder troseddol hefyd yn ein galluogi i sicrhau bod rhaglenni cyflawnwyr sydd wedi'u treialu'n dda ar gael yn llawn mewn carchardai a thimau prawf i geisio lleihau'r risg y bydd troseddau rhywiol yn cael eu hailadrodd. Hefyd, hoffwn weld newidiadau i arferion yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a systemau'r llysoedd i fynd i'r afael â'r cyfraddau euogfarnu isel. Gallem sicrhau bod cyfweliadau ôl-drafod yn statudol pan fydd plentyn yn dychwelyd o fod ar goll; mae hyn yn digwydd mewn mannau eraill gyda chanlyniadau da, gan helpu'r heddlu i adeiladu patrymau a lluniau, ac mae'n helpu i wella systemau diogelu. 

Mae comisiwn Thomas yn rhoi cyfle inni wella'r sefyllfa gyffredinol. Daeth Thomas i'r casgliad mai datganoli deddfwriaethol llawn yn unig, ynghyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn methiannau'r system bresennol. Byddai'n rhoi cyfle inni edrych ar yr hyn sy'n gweithio mewn gwledydd eraill, fel y llysoedd arbenigol yn Ne Affrica a'r mudiadau cymdeithasol a'r ymgyrchoedd gwybodaeth ar gydsyniad a rheolaeth drwy orfodaeth a welwn yn Sweden. Gallwn adeiladu system newydd sy'n gweithio o'r dechrau, yn rhydd o rwymiadau patriarchaidd a misogynistaidd sy'n bodoli o fewn y system gyfredol. Pam na fyddem yn gwneud hynny?    

Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), dwi ddim wedi dethol gwelliant 2. Dwi'n galw, felly, ar Mandy Jones i gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Mandy Jones. 

17:45

Gwelliant 1—Caroline Jones

Dileu pwyntiau 5 a 7.

Gwelliant 3—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Comisiwn Thomas ac yn diolch i’r Comisiwn am ei waith ar y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder gan edrych ymlaen at y ddadl a addawyd yn ystod amser y llywodraeth ar ganfyddiadau’r Comisiwn ac unrhyw effaith a gaiff y rhain ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.

Diolch, Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn ffurfiol yn enw Caroline Jones. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n codi materion pwysig sy'n mynd at graidd y math o wlad rydym ni a'r hyn rydym am fod.

Roeddwn yn arswydo wrth ddarllen yr adroddiadau am yr achos yng Nghyprus a oedd yn y penawdau yr wythnos diwethaf, ac yn arswydo eto heddiw wrth weld adroddiadau am ymgais arall eto i bob pwrpas i guddio achosion o baratoi i bwrpas rhyw a thrais rhywiol ar raddfa fawr yn erbyn plant yn y system ofal, y tro hwn ym Manceinion Fwyaf. Pryd y gwnaethom ddechrau beio dioddefwyr? Pryd y cawsom is-ddosbarth o ddioddefwyr lle mae rhai straeon yn fwy credadwy nag eraill? Ac yn yr achos yr wythnos diwethaf, pryd y gwnaeth dynion ifanc ddechrau meddwl ei bod yn gwbl dderbyniol neu mai rhan o natur tyfu i fyny oedd i grŵp o 10 neu fwy gael rhyw gydag un fenyw? Felly, er bod y ddadl hon yn ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol, mae yma ystyriaethau ehangach hefyd ynghylch addysg, rhianta ac argaeledd pornograffi ac yn y blaen.

Trof yn awr at ein gwelliannau. Nid wyf yn derbyn y bydd datganoli pwerau i'r lle hwn ynddo'i hun yn arwain at y canlyniadau a ddymunir. Yn wir, bob wythnos, byddwn yn dadlau ac yn craffu ar y pwerau sydd gennym eisoes a'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud gyda hwy yma. Pan fydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei herio fel y mae; pan welir gwelliant sy'n ein cadw ar waelod canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar gyfer y DU fel llwyddiant, nid oes gennyf unrhyw hyder y byddai'r Cynulliad hwn na'r Llywodraeth hon yn well am weinyddu cyfiawnder troseddol na Llywodraeth y DU, a bod yn gwbl onest. Ond rwy'n edrych ymlaen at gael trafodaeth lawn yn y Siambr ar yr adroddiad llawn maes o law, yn enwedig mewn perthynas â sut y caiff cyfraddau euogfarnu eu gwella. Er fy mod wedi mynegi fy ngwerthfawrogiad fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno, ac rwy'n mynegi cefnogaeth fy ngrŵp i ddioddefwyr yn llawn—yn wryw, yn fenyw, yn blentyn ac yn oedolyn—teimlaf ein bod yn cael negeseuon cymysg, yn enwedig gan Blaid Cymru a Llafur Cymru. Sut y mae rhoi pleidlais i dreiswyr a rhai sy'n cam-drin yn rhywiol, fel rydych yn ei argymell, yn dangos cefnogaeth i ddioddefwyr? Sut rydych yn cysoni eich galwadau croch am leihad yn nifer y rhai sy'n mynd i'r carchar â hawl dioddefwyr i gyfiawnder? Rwy'n credu bod y toriadau i wasanaethau cyhoeddus dros y 10 mlynedd diwethaf wedi cael effaith anghymesur ar fynediad at gyfiawnder, ac yn sicr, ar Wasanaeth Erlyn y Goron. Yn fy marn bendant i, nid yw hwnnw'n addas at y diben, ac mae angen gwneud newidiadau ac adfer hyder.

Hoffwn droi yn awr at ddedfrydu. Mae'n rhaid i'r rhai a gafodd euogfarn yn sgil y troseddau hyn gael dedfrydau ystyrlon sy'n ceisio adsefydlu, a chosbi yn wir. Mewn achos sy'n anghyfforddus o agos at adref, ystyriai barnwr fod colli enw da a chwympo oddi wrth ras yn ddigon o gosb mewn achos pornograffi plant, lle caiff plant eu cam-drin yn rhywiol a'u treisio'n rhywiol i greu'r delweddau hyn ar-lein. Roedd y ddedfryd yn sarhad o'r mwyaf— [Torri ar draws.] Ie.

Nodyn o rybudd yn yr ymgyrch hon am gyfiawnder: caiff bywydau eu difetha gan honiadau ffug o drais a chamdriniaeth rywiol, ac mae'r rhai sy'n gwneud yr honiadau ffug hynny hefyd yn ei gwneud yn anos i ddioddefwyr go iawn. Felly, mae angen taro cydbwysedd. Nid wyf yn siŵr sut y mae hynny'n digwydd, ond rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno nad yw'r prosesau presennol yn gweithio a'u bod wedi bod yn mynd tuag yn ôl a heb fod yn gweithio ers amser hir. Nid yw hyn yn iawn ac mae angen gwneud rhywbeth cyn gynted ag y bo modd. Diolch.  

Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark Isherwood. 

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Arolwg Trais Rhywiol 2019 Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM wedi canfod bod nifer yr achosion a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth i gael eu penderfynu gan yr heddlu a nifer yr achosion a erlynwyd gan y Gwasanaeth wedi disgyn, er gwaethaf bod adroddiadau o drais a gaiff eu cyflwyno i'r heddlu bron wedi dyblu.

Gwelliant 5—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi datganiad Llywodraeth y DU bod y canfyddiadau yn peri pryder mawr a'i bod wedi ymrwymo i adfer hyder yn y system gyfiawnder a darparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr.

Cynigiwyd gwelliannau 4 a 5.

Diolch, Lywydd. Fel y dywedodd adroddiad Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM ar adolygiad 2019 o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr y mis diwethaf, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr honiadau o drais rhywiol, ac eto, mae nifer yr erlyniadau am drais rhywiol wedi gostwng yn sylweddol. Fel y dywedodd hefyd, mae trais rhywiol yn drosedd sy'n cael ei chyflawni'n bennaf gan ddynion yn erbyn menywod. Fodd bynnag, caiff ei chyflawni hefyd yn erbyn dynion a bechgyn, felly yn yr adroddiad hwn, maent yn cyfeirio at yr achwynydd. Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth newydd y DU fod y canfyddiadau hyn yn peri pryder mawr a bod dioddefwyr yn haeddu gwybod y cânt eu cefnogi, ac mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir fod yn rhaid gwneud mwy i ddwyn cyflawnwyr troseddau treisgar a rhywiol gerbron eu gwell. I unioni'r sefyllfa, maent yn cynnal adolygiad llawn o ymateb dinasyddion i gyfiawnder troseddol, gan recriwtio 20,000 yn fwy o heddlu, yn rhoi £85 miliwn i Wasanaeth Erlyn y Goron, yn creu lleoedd ychwanegol mewn carchardai ac yn gwneud yn siŵr bod troseddwyr treisgar a rhywiol yn treulio mwy o amser yn y carchar. Wedi dweud hyn, yn amlwg mae mwy i'w wneud, ond mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adfer hyder yn y system gyfiawnder, ac yn allweddol, i ddarparu gwell cymorth i ddioddefwyr. Rwy'n cynnig gwelliant 5 yn unol â hynny.  

Fel y noda ein gwelliant 4, canfu'r adroddiad hwn fod nifer yr achosion a gyfeiriwyd gan yr heddlu at Wasanaeth Erlyn y Goron am benderfyniad yn ogystal â nifer yr achosion a erlynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi gostwng, er bod adroddiadau o drais rhywiol i'r heddlu bron â bod wedi dyblu. Adroddwyd bod Prif Arolygwr EM, Kevin McGinty, wedi dweud bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr honiadau o drais rhywiol ers 2016, tra bod nifer yr erlyniadau am drais rhywiol wedi gostwng yn sylweddol, sy'n dangos bod yna broblem ddifrifol. Dywedodd fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi'i gyhuddo o ddewis achosion hawdd i'w herlyn yn unig, ond ni welsom unrhyw dystiolaeth o hynny yn ein hadroddiad. Er bod angen i Wasanaeth Erlyn y Goron wella'r ffordd y mae'n gweithio gyda'r heddlu, meddai, rhan fechan yn unig o broblem systemig fawr yn y broses cyfiawnder troseddol wrth ymdrin ag achosion cymhleth yw Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae angen mwy o waith, meddai, i ymchwilio i'r anghysondeb rhwng nifer yr achosion a gofnodwyd a nifer yr achosion a erlynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron.  

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi dweud bod y cynnydd mewn troseddau rhywiol y rhoddir gwybod amdanynt i'r heddlu,

yn fwyaf tebygol o fod yn ganlyniad i arferion cofnodi gwell ar ran llawer o heddluoedd y gwelwyd yn flaenorol eu bod yn annigonol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi... a pharodrwydd cynyddol dioddefwyr a goroeswyr y troseddau hyn i roi gwybod amdanynt.

Ond fel y dywed Cymorth i Fenywod Cymru, mae goroeswyr yn aml yn cael eu rhoi ar restri aros tra bydd capasiti am gymorth yn dod ar gael. Wrth gwrs, nid problem i Gymru neu Loegr yw hon, ond un drawsffiniol ac un heb ffiniau. Felly, cefnogwn welliant 1, sy'n ailadrodd gwelliant 2 a dynnwyd yn ôl gennym.  

Er bod de Cymru wedi gweld cynnydd o 179 y cant yn y cyfraddau a gofnodwyd rhwng 2014-19, Dyfed Powys wedi gweld cynnydd o 167 y cant, Gwent wedi gweld cynnydd o 147 y cant a gogledd Cymru wedi gweld cynnydd o 126 y cant—cyfanswm o 2,218 o achosion a gofnodwyd—gwelodd pob un o'r pedwar heddlu ostyngiadau mawr yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd at Wasanaeth Erlyn y Goron, y niferoedd a gyhuddwyd a'r niferoedd a arweiniodd at euogfarn. Fodd bynnag, ni allaf ond dod o hyd i un cyfeiriad yn adroddiad Comisiwn Thomas ar gyfiawnder yng Nghymru at unrhyw droseddu trawsffiniol, a hynny yng nghyd-destun llinellau cyffuriau ar hyd coridor yr M4 a gogledd Cymru. A'r ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru ar y cyd ag asiantaethau eraill, heb gyfeirio at bartneriaid ar draws y ffin. Mewn gwirionedd, er enghraifft, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod mwy o gydweithio gyda heddluoedd Glannau Mersi a Swydd Gaer ac maent yn rhannu eu huned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gyda heddluoedd cyfagos yn Lloegr.

Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, ond mae'n wir: mae gan Gymru echel dwyrain-gorllewin o droseddu a chyfiawnder, ac mae galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru yn methu cydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol, a bod 48 y cant o bobl yng Nghymru'n byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a 90 y cant o fewn 15 milltir i'r ffin. Nid yw troseddu'n genedlaethol ei natur.  

Ar y llaw arall, dim ond 5 y cant o boblogaeth yr Alban a Lloegr sy'n byw o fewn 15 milltir i'w ffiniau. Mae'n drueni felly fod adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn canolbwyntio, i raddau helaeth, ar bolisïau darfodol Llywodraethau a phleidiau ar bob ochr i'r ffin, sef pethau sy'n mynd a dod, yn hytrach na gweld a fyddai egwyddor gyfansoddiadol datganoli cyfiawnder troseddol yn creu system decach a mwy cyfiawn i bawb.

17:50

Wel, mae'n dibynnu ar yr amser; dim ond ychydig eiliadau sydd gennyf ar ôl.

Chi sydd i benderfynu a ydych am dderbyn yr ymyriad. Fe wnaf ganiatáu rhagor o amser ar gyfer ymyriadau.

Rydych newydd gyflwyno dadl o blaid system cyfiawnder troseddol Ewropeaidd.

Wel, naddo, bydd fy mharagraff olaf yn ymdrin â hynny mewn gwirionedd. Pan godais hyn ddiwethaf yn y Siambr, bûm yn trafod system debycach i'r Unol Daleithiau gyda'r Prif Weinidog, oherwydd os ydym yn lle hynny yn mynd i esblygu i fod yn system fwy effeithiol sy'n cydnabod natur gynyddol ffederal a ffedereiddiol y DU, bydd angen inni edrych ar fwy o system rwydwaith yn hytrach na dim ond ceisio tynnu llinellau rhwng systemau yn ôl ble mae'r ffiniau cenedlaethol. Dyna sut y dylid trin cyflawnwyr, ond dyna sut y dylid cefnogi'r dioddefwyr hefyd.

Roeddwn am fynd ar drywydd rhywbeth a ddywedodd Leanne yn gynharach ynglŷn â sut y mae pob menyw wedi dioddef rhyw fath o ymosodiad. Roeddwn yn myfyrio ar hyn, oherwydd pan oeddwn yn 18 oed, rhoddais lifft i ddyn ifanc o barti. Nid oeddwn erioed wedi'i gyfarfod o'r blaen, nid oeddwn yn gwybod unrhyw beth amdano, ond roedd yn digwydd byw yn agos at lle roeddwn i'n byw. Ac wedi i mi ei ollwng wrth ei dŷ, a minnau'n gwrthod mynd i mewn, dechreuodd fy nghuro ar draws fy mhen, heb unrhyw rybudd o gwbl. Roeddwn yn berffaith iawn—rhedais oddi yno a gadael fy nghar, ac euthum yn ôl i'w gasglu'n ddiweddarach—ond y gwir yw, ni soniais wrth neb erioed am hyn; ni siaradais â fy rhieni amdano ac ni siaradais â fy ffrindiau amdano. Pa mor hynod gythryblus ei feddwl oedd yr unigolyn hwn, nad oeddwn erioed wedi ei gyfarfod o'r blaen ac na wneuthum ei gyfarfod wedyn, fel ei fod yn credu bod ganddo hawl i fy nghuro ar draws fy mhen am i mi wrthod ildio i'w ddyheadau? Mae'n rhaid bod pob un ohonom wedi cael profiad tebyg. Faint o bobl eraill y gwnaeth y dyn hwnnw rywbeth tebyg iddynt, a faint ohonynt a wnaeth ildio iddo? Os na chodwn ein llais, bydd pobl sy'n gythryblus iawn eu meddwl yn parhau i wneud pethau o'r fath.

Felly, hoffwn longyfarch Leanne ar amseriad y ddadl hon, oherwydd, yn amlwg, mae'n cyd-fynd â'r sefyllfa warthus a ddigwyddodd yng Nghyprus. Mae'n ymddangos i mi fod y neges yn glir na ddylai neb fynd ar wyliau i Gyprus, oherwydd ni fydd y system cyfiawnder troseddol yng Nghyprus yn eich cadw'n ddiogel. Mae methiant heddlu Cyprus i ddilyn y mesurau diogelu gweithdrefnol mwyaf sylfaenol wrth gyfweld â'r ferch ifanc hon yn rhywbeth y gobeithiaf na fyddwn byth yn ei weld eto yn y wlad hon. Ac rwy'n tybio y bydd, yn y pen draw, yn arwain at wrthdroi'r penderfyniad a wnaed gan y llysoedd. Rwy'n siŵr ei fod wedi bod yn wrthgynhyrchiol—mae eu hymgais i ddiogelu delwedd Cyprus fel cyrchfan i dwristiaid wedi cael y canlyniad croes i hynny mewn gwirionedd.  

Roeddwn eisiau siarad ychydig am gyfraddau euogfarnu. Rwy'n falch fod de Cymru yn gwneud yn llawer gwell na'r tri heddlu arall, oherwydd mae 55 o bob 100 o droseddau cam-drin domestig y maent yn ymdrin â hwy yn arwain at erlyniad, o'i gymharu â 27 neu 28 y 100 yn yr ardaloedd plismona eraill. Ac mae hynny'n well, ond yn amlwg, nid yw'n ddigon, oherwydd mae'n rhaid inni gofio, yn ychwanegol at y rhai sy'n cael eu cofnodi fel troseddau trais yn y cartref, mae'r heddlu'n ymdrin â llawer o ddigwyddiadau eraill nad ydynt yn cael eu cofnodi fel trosedd. Ac wedyn, wrth gwrs, ceir yr holl bobl eraill nad ydynt byth yn mynd yn agos at yr heddlu.

Yr wythnos diwethaf, roedd yn ddiddorol iawn gwrando ar Sally Challen a'i mab David yn siarad am eu sefyllfa, a llongyfarchiadau i Bethan Sayed am drefnu hynny. I'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â hyn, dyma fenyw yn ei chwedegau a benderfynodd yn sydyn, ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o briodas, fod yn rhaid iddi ladd y dyn hwn. Ac wrth gwrs, digwyddodd hynny ar ôl blynyddoedd o reolaeth drwy orfodaeth a oedd yn amlwg i'w ffrindiau, nid yn gymaint i'w theulu, ond i'w ffrindiau, ei chymdogion, ac mewn rhai achosion, yr heddlu. Felly, beth allai rhywun fod wedi'i wneud i atal y lefel honno o orfodaeth rhag arwain at farwolaeth anffodus rhywun a oedd, yn amlwg, yn ddyn annymunol iawn? Ac ni siaradodd neb o'i blaid. Roedd yr holl bobl yn yr achos yn gefnogol i'r ddynes hon—holl gyfeillion y teulu, y perthnasau, gan gynnwys ei dau fab. Mae'n dweud wrthym, fel y dywedodd Sally, fod llawer gormod o bobl yn wynebu sefyllfa o'r fath. Yr hyn a ddywedodd mewn cyfweliad oedd,

Mae llawer o'r broblem yn deillio o'r ffaith nad yw menywod yn gwybod eu bod mewn perthynas sy'n seiliedig ar reolaeth drwy orfodaeth. Teulu, ffrindiau a pherthnasau sy'n ei weld. Rywsut mae'n rhaid iddynt siarad â'r person dan sylw a'u darbwyllo i adael. Nid ydynt fel pe baent yn gallu torri'r cwlwm hwnnw. Mae'n gwlwm cryf iawn ac mae'r menywod yn fregus iawn.

Ac yn amlwg, mae hi'n siarad amdani ei hun, ond mae llawer o bobl eraill yn sefyllfa Sally Challen. Felly, rwy'n meddwl, yn olaf, fy mod am ddweud ei bod mor bwysig ein bod yn cyflwyno ein cwricwlwm cydberthynas a rhywioldeb oherwydd dyma lle gallwn feithrin gallu ein pobl ifanc i gael perthynas dda ag eraill a'r gwydnwch emosiynol a ddaw yn sgil hynny.

18:00

Does dim rhaid edrych yn ddwfn iawn i gael syniad o pam dydy ein system gyfiawnder ni ddim yn gweithio dros ddioddefwyr. Rhwng 2010 a 2016, mi dorrwyd un rhan o dair o gyllideb y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Hon oedd yr adran gafodd ei tharo ail waethaf ar ôl yr Adran Waith a Phensiynau. Mi gafodd cyllidebau llysoedd eu torri; nifer y llysoedd ynadon eu torri o 330 i 150. Mae effaith y mesurau yna, wrth gwrs, yn siŵr o fod wedi gweithio eu ffordd drwy'r system gyfan, o Wasanaeth Erlyn y Goron, y ffordd maen nhw'n ymgymryd ag achosion, i oedi yn y llysoedd, i ymgyfreithwyr neu litigants yn cael eu gorfodi i gynrychioli eu hunain, y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr yn cael ei erydu. Os ydych chi'n ddioddefwr trais rhywiol sy'n chwilio am gwnsela, mi ydych chi'n debyg o gael clywed wrth wneud y cais yna fod rhestr aros eich canolfan argyfwng trais rhywiol chi wedi cau oherwydd diffyg cyllid. O ganlyniad, wrth gwrs, mae iechyd meddwl ac emosiynol yn siŵr o ddirywio.

Canolfan Gefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru ydy'r unig wasanaeth rape crisis ar draws chwech o siroedd y gogledd sy'n darparu cwnsela arbenigol i holl ddioddefwyr. Dyma ddywedodd eu cyfarwyddwr nhw, Jane Ruth:

Mae gweithredu gwasanaeth yn heriol tu hwnt pan fo'r cyllid mor ansicr. Mae gennyf bryderon difrifol iawn am yr hyn a fydd yn digwydd i'r holl bobl sy'n ceisio cymorth os na allwn ddiwallu eu hanghenion.

Rydym ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o'n cymdeithas ni'n meddwl bod hyn yn annerbyniol. Mi wnaeth arolwg gan YouGov yn ddiweddar ar ran yr End Violence Against Women Coalition ddarganfod bod y mwyafrif o bobl yn ystyried mynediad at gwnsela i fod yn fwy pwysig na mynediad at yr heddlu neu'r broses llysoedd i oroeswyr trais rhywiol. Mae'r mwyafrif llethol o bobl—82 y cant—yn cydnabod bod trais rhywiol yn cael effaith ar iechyd meddwl. Ac yn arwyddocaol hefyd, fel sy'n digwydd mor aml, mae 60 y cant o bobl yn credu bod mynediad at gwnsela am ddim eisoes ar gael i oroeswyr trais rhywiol, pan ydym ni'n gweld nad dyna sydd yn digwydd yn ymarferol oherwydd diffyg capasiti, yn cael ei yrru gan ddiffyg cyllid.

Ym mis Mawrth 2018, mi oedd yna 6,355 o oroeswyr ar restrau aros rape crisis—dros 6,000 o bobl ar un pwynt mewn amser yn aros ar restrau aros, ac mae disgwyl bod y nifer yn uwch fyth eleni, efo'r galw cynyddol am wasanaethau cymorth. Ysgwn i os fydd y ddynes ifanc a gafodd yn euog o ddweud celwydd ar ôl cael ei threisio gan gangiau yng Nghyprus yn cael mynediad at wasanaethau cwnsela a phroffesiynol, ynteu a ydy hi'n mynd i aros am rhyw restr aros sydd yn faith ar y gorau neu ddim yn bodoli ar ei chyfer hi, efallai?

Does gen i ddim amheuaeth mai methiannau Llywodraeth Prydain sydd wrth wraidd y problemau yma sydd ganddom ni rŵan. Dyma ddywedodd Sarah Green, cyd-gyfarwyddwr yr End Violence Against Women Coalition:

Nid oes unrhyw ran o'r Llywodraeth erioed wedi camu i'r adwy ac wedi sicrhau bod cyllid gwarantedig ar gyfer gwasanaethau cwnsela yn y gymuned yn gyfrifoldeb iddynt. Mae hyn yn amddifadu goroeswyr yn enbyd. Mae'r llywodraeth bresennol wedi gweld yn dda i adael y penderfyniad ynglŷn ag a ddylid ariannu gwasanaethau cwnsela trais rhywiol hanfodol sy'n achub bywydau i gymysgedd o gomisiynwyr lleol, gan gynnwys cynghorau lleol, comisiynwyr heddlu a throseddu a byrddau iechyd, sydd oll yn brin o arian.

Beth am i Gymru wneud pethau yn wahanol? Beth am i Gymru gymryd y cyfrifoldeb am wneud pethau yn wahanol? Mi all ddatganoli cyfiawnder helpu i greu system fwy integredig, a'r budd ddaw o hynny drwy uno'n gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd efo'n polisi cyfiawnder.

Rydyn ni wedi gweld llawer o arfer da yma yn barod yng Nghymru ar lawr gwlad, diolch i waith ein comisiynwyr heddlu a throsedd. Mae'r adroddiad Thomas diweddar hefyd yn pwyntio at ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, fel enghraifft o sut allwn ni fod yn arloesol, efo pwyslais ar waith ataliol. Mae gan Gymru y gallu. Mae gan Gymru y sgiliau i ddarparu gwasanaeth llawer gwell. Mae'n rhaid inni, rŵan, wthio er mwyn cael y pwerau hefyd.

18:05

Mae trais rhywiol yn ail yn unig i lofruddiaeth ar y raddfa droseddu, ac mae wedi'i gondemnio'n briodol ac yn cael ei gosbi'n llym iawn pan gaiff cyflawnwyr eu heuogfarnu. Ond yr un peth y mae'r cynnig hwn yn ei anwybyddu ar y llaw arall, os yw trais rhywiol yn drosedd mor ddifrifol, yw bod cyhuddo rhywun yn anghywir o drais rhywiol yn fater difrifol iawn hefyd. Mae pawb yn gwybod am y stigma sydd ynghlwm wrth honiadau o'r fath. Ac rwy'n cael rhywfaint o anhawster i dderbyn telerau'r cynnig lle dywedai

'nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu'.

Wel, efallai fod hynny'n wir, ond hefyd, fel y gwyddom o achos Carl Beech, a llawer o rai eraill, mae'r gwrthwyneb hefyd yn wir—fod llawer o ddioddefwyr honedig yn gwneud honiadau ffug ac felly'n darostwng y dioddefwyr i drawma na ellir mo'i amgyffred.

Felly, yr hyn sy'n fy mhoeni am y ffordd y mae'r cynnig hwn wedi'i eirio yw nad yw'n ymddangos ei fod yn talu unrhyw sylw o gwbl i un o egwyddorion mwyaf sylfaenol cyfiawnder Prydain, sef y rhagdybiaeth o ddiniweidrwydd—rhywbeth sydd wedi'i ymgorffori yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau dynol, yn erthygl 6(2). Ymddengys mai cyhuddo yw euogfarnu. Soniwn am

'arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu'.

Wel, os tybiwn fod yn rhaid i ni gael cwota o euogfarnau, mae hynny i bob golwg yn tanseilio union sail y system gyfiawnder ei hun. Mae'n ddigon posibl nad oes digon o euogfarnau am nad yw'r dystiolaeth yn dal dŵr, ac yn aml iawn, fel y gwyddom, caiff pobl eu heuogfarnu'n anghywir, ac ar y llaw arall, ceir pobl sy'n osgoi cosb am droseddau am nad ydynt wedi gallu dod o hyd i ddigon o dystiolaeth yn y llys i argyhoeddi rheithgor.

Rwy'n credu mai fi yw'r unig Aelod o'r Cynulliad hwn sydd wedi cael y profiad diflas o gael fy nghyhuddo'n dwyllodrus o drais rhywiol, gyda fy ngwraig, yn ôl yn 2001. Cefais fy arestio'n gyhoeddus iawn gerbron cyfryngau'r byd i gyd, ac mae hwnnw'n brofiad go annymunol. Ar yr un diwrnod, anfonwyd chwe heddwas i Swydd Gaer lle roeddem yn byw ar y pryd, er mwyn i'n tŷ gael ei ysbeilio a'i chwilio. A chafodd fy ngwraig y profiad gwarthus o orfod ffonio ei mam a oedd yn 88 oed ar y pryd, a gofyn iddi fynd i agor y tŷ i dderbyn y ddirprwyaeth hon, oherwydd cawsom ein carcharu, ar ôl ein harestio, mewn gorsaf heddlu yn Llundain ar gyhuddiadau ffug o gam-drin rhywiol. Cafodd hyn i gyd ei drefnu, wrth gwrs, gan Max Clifford. Gwnaeth fargen â'r sawl a wnaeth gyhuddiadau ffug yn ein herbyn gyda News of the World, fel y gallai hi gael £50,000. Yn y pen draw aeth i'r carchar am dair blynedd am dyngu anudon a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roeddwn yn rhyfeddu, 10 mlynedd yn ddiweddarach, pan gysylltodd rhywun â mi yn gwbl annisgwyl i ofyn ai'r un un oedd y person a oedd wedi cyhuddo ei mab ar gam o drais rhywiol â'r sawl a gyhuddodd fy ngwraig a minnau. Ac wele, dyna oedd wedi digwydd: Nadine Milroy-Sloan. Aeth i'r carchar am yr eildro—am bedair blynedd y tro hwnnw. A gwyddom o Operation Midland fod yr honiadau mwyaf hurt yn aml iawn, mae'n ymddangos—pan ddarllenwch wrth edrych yn ôl beth roedd yr heddlu wedi'i gredu—wedi arwain at ddinistrio bywydau pobl yn llwyr. Rydym yn gwybod, yn achos Operation Midland fod pobl fel y Maeslywydd yr Arglwydd Bramall wedi'u cyhuddo o gam-drin bechgyn, a phennaeth MI5, pennaeth MI6, y Prif Weinidog Edward Heath, y cyn Ysgrifennydd Cartref, Uncle Tom Cobbley a'r cyfan. Ac yn ystod cyfweliadau dagreuol gyda'r heddlu, cyhuddodd Carl Beech ei ddiweddar lystad hyd yn oed, uwch-gapten yn y fyddin, o'i dreisio, a dywedodd ei fod wedi ei drosglwyddo i gadfridogion i'w arteithio mewn canolfannau milwrol ac wedi dioddef camdriniaeth rywiol sadistig gan ffigurau eraill a oedd yn rhan o'r sefydliad yn y 1970au a'r 1980au. Ni allwn wadu bod hon yn broblem ddifrifol hefyd. Felly, hoffwn pe bai'r cynnig hwn wedi cael ei lunio mewn ffordd fwy cytbwys i gyfeirio at ddioddefwyr eraill y saga druenus hon hefyd, sef y rhai sy'n cael eu cyhuddo ar gam. Mae fy hen gyfaill Harvey Proctor wedi bod ar y teledu lawer gwaith yn y misoedd diwethaf fel un arall o ddioddefwyr Operation Midland, ac mae'r trawma—rwy'n siŵr y byddai pawb sydd wedi'i weld ar y teledu yn gweld—wedi gadael ei ôl yn y llinellau ar ei wyneb.

Nawr, wrth dynnu sylw at bobl sydd wedi dioddef y profiad hwn, nid yw'n fwriad gennyf fychanu'r trawma a'r anghyfiawnder a gyflawnir yn erbyn dioddefwyr trais rhywiol mewn unrhyw fodd. Mae llawer o bobl yn cael eu targedu o dan yr amgylchiadau rwyf wedi'u disgrifio am eu bod yn adnabyddus; mae'n bosibl gwneud arian o hyn os ydych chi'n ddigon penderfynol a diegwyddor. Ond nid pobl fel fi yw dioddefwyr go iawn honiadau ffug—yn y tymor hir, rydym wedi goroesi ac adfer a ffynnu—dioddefwyr go iawn honiadau ffug yw'r rhai sydd wedi dioddef trais rhywiol go iawn, ond y mae eu hygrededd gerbron rheithgor wedi'i leihau yn sgil yr honiadau ffug proffil uchel y profir wedyn eu bod yn gwbl hurt.

18:10

Beth a olygwn pan ddefnyddiwn y gair 'cyfiawnder'? Rwyf wedi edrych, ac mae'r Oxford English Dictionary yn cynnig dau brif ystyr: y cyntaf yw 'ymddygiad rhesymol a chyfiawn neu'r rhinwedd o fod yn deg', a'r ail ystyr yw 'gweinyddiaeth y gyfraith'. Nawr, fel y bydd unrhyw un sydd wedi adnabod rhywun sydd wedi dioddef trais rhywiol neu sydd wedi ymgyrchu i wella'r system yn gwybod, nid yw'r ddau ystyr bob amser yr un fath; mewn gormod o achosion, nid yw gweinyddiaeth y gyfraith yn Lloegr yn rhoi triniaeth gyfiawn a rhesymol i oroeswyr trais rhywiol. Mae'r ystadegau'n dangos hyn yn rhannol. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 2019 Mawrth, fel y clywsom, arweiniodd llai na 4 y cant o achosion y rhoddwyd gwybod i'r heddlu amdanynt at erlyniad. Ond Lywydd, rhan o'r stori'n unig y mae'r ystadegau'n ei ddweud wrthym. Beth am y goroeswyr nad ydynt yn teimlo y gallant adrodd ynglŷn â beth sydd wedi digwydd iddynt hyd yn oed? Caiff yr ystadegau eu chwalu gan y straeon nad ydynt yn eu hadrodd—y menywod a'r dynion nad ydynt yn rhoi gwybod am beth sydd wedi digwydd iddynt oherwydd stigma, cywilydd, ofn ynglŷn â sut y gallent gael eu beio neu beidio â chael eu credu gan y bobl a'r systemau sydd i fod i ddarparu triniaeth deg iddynt.

A beth am y goroeswyr sy'n cymryd y cam ymddangosiadol ddewr o roi gwybod i'r heddlu am drais rhywiol? Ar bob cam o frwydr anodd goroeswr i gael cyfiawnder, mae'r ods yn pentyrru yn eu herbyn. Diwylliant yr heddlu—er ei fod yn well ac er bod gwaith cadarnhaol yn cael ei wneud gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu, mae'n dal yn dameidiog. Bydd cwestiynau am beth oedd y goroeswr yn ei wisgo, faint roeddent wedi'i yfed, a oeddent wedi cysgu gyda'r troseddwr o'r blaen, faint o bobl y maent wedi cysgu gyda hwy yn gyffredinol ar unrhyw adeg, a ydynt wedi bod mewn cysylltiad â'r troseddwr ers hynny. Bydd yna archwiliadau meddygol ymyraethol a allai ddod, neu a allai fethu dod o hyd i'r dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i brofi beth sydd wedi digwydd iddynt. Ac yna, hyd yn oed os yw'r heddlu'n fodlon â gwirionedd eu stori a hyd yn oed pe baent yn rhoi gwybod amdano cyn cael cawod neu wneud y peth greddfol o olchi'r hyn sydd wedi digwydd i ffwrdd, efallai y byddant yn dal—maent yn hynod o debygol o gael gwybod nad yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn credu bod digon o obaith o lwyddo ac na fyddant yn mynd ar drywydd yr achos.

Mae Cynghrair Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod yn cyfeirio at achos a gafodd ei ollwng gan Wasanaeth Erlyn y Goron oherwydd y gellid camddehongli negeseuon WhatsApp ac un arall lle na chafodd trais o fewn priodas ei erlyn oherwydd rhagdybiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddai rheithgor yn deall dynameg rheolaeth drwy orfodaeth mewn perthynas. Ond Lywydd, a oes unrhyw ryfedd fod cyn lleied o fenywod a dynion yn dewis rhoi gwybod am droseddau pan fyddant wedi'u treisio'n rhywiol? Mae ein system gyfiawnder yn mynnu dewrder aruthrol ar ran goroeswyr; mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi'r trawma i'r naill ochr a mynd i ystafell archwilio oer a siarad â dieithriaid am y peth gwaethaf sydd erioed wedi digwydd iddynt. Un o'r prif resymau pam y credaf y dylid datganoli cyfiawnder i Gymru yw nad yw achosion troseddol fel hyn yn digwydd mewn gwactod. Bydd goroeswr trais rhywiol yn debygol o ddod i gysylltiad â llu o wasanaethau—meddyg teulu, nyrs brysbennu mewn adran ddamweiniau ac achosion brys, clinig iechyd rhywiol, grŵp cymorth, canolfan Cyngor ar Bopeth—cyn, neu yn lle mynd at yr heddlu.

18:15

Diolch. Dim ond cwestiwn, mewn gwirionedd. Os oes person sydd wedi gwneud honiad o drais rhywiol yn ne Cymru yn anhapus â'r ffordd y mae Heddlu De Cymru wedi eu trin a'u bod yn mynd i weld eu Haelod Cynulliad wedyn, er enghraifft, a ydych chi'n credu y dylai'r AC eu helpu? Beth y credwch y dylai'r AC ei wneud? A beth y credwch chi ddylai ddigwydd i'r AC os ydynt yn anwybyddu'r sawl sydd wedi dod atynt fel dioddefwr?

Ni allaf ond rhagdybio bod yna rywbeth nad wyf yn ymwybodol ohono yn yr hyn rydych yn sôn amdano ac ni allaf roi ateb i rywbeth nad wyf yn gwybod beth yw'r manylion yn ei gylch. Rwy'n siomedig eich bod wedi defnyddio cyfle mewn dadl fel hon i wneud y pwynt hwnnw, o ddifrif.

Mae'n fater o egwyddor. Yr hyn sy'n ffiaidd yw peidio â helpu pobl.

Rwy'n credu'n wir y bydd y ddadl hon yn helpu pobl.

Mae'r ffaith nad ydym yn gallu integreiddio plismona'n llawn yn y llwybrau cyfeirio y cyfeiriais atynt a'r rhwydweithiau cymorth yn cael effaith hynod o andwyol ar oroeswr, unrhyw oroeswr, trosedd erchyll fel trais rhywiol. Pe bai plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli, byddem yn gallu edrych ar ffyrdd llai trawmatig o roi gwybod am droseddau sy'n cynnwys ymarferwyr iechyd, grwpiau cefnogi—yr holl wasanaethau eraill hyn sydd eisoes yn gweithio gyda'i gilydd—ac osgoi'r ystafell holi oer lle mae pethau mor aml yn mynd o chwith.

I fod yn glir: mae trais rhywiol yn drosedd erchyll. Nid gweithred gorfforol yn unig yw hi. Ei nod yw tanseilio rhywun yn seicolegol, dwyn eu gallu, cipio rheolaeth yn y modd gwaelaf a mwyaf diraddiol posibl. Nid yw trais yn ymwneud â dyhead na chyfathrach rywiol. Mae'n ymwneud â mynnu pŵer a chipio pŵer rhywun.

Mae arnom angen system gyfiawnder sy'n rhoi hyder i oroeswyr y gallant adennill rhywfaint o'r pŵer hwnnw; system sy'n eu cefnogi ochr yn ochr â gwasanaethau eraill; system sy'n nes at brif ystyr cyfiawnder—darparu triniaeth gyfiawn a rhesymol, adfer yr hyn sy'n deg. Nawr, nid oes unrhyw degwch mewn trais rhywiol. Ni ellir ei ddad-wneud. Ond mae dyletswydd arnom ni fel cymdeithas, cymdeithas gyfan, tuag at oroeswyr i roi system iddynt sy'n eu cynnal, sy'n dechrau'r llwybr i wneud pethau'n oddefadwy unwaith eto, sy'n eu hatgoffa bod yna bobl a strwythurau yn bodoli i'w cefnogi. Oherwydd nid yw'r system gyfiawnder sydd gennym yn awr yn ddigon da.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, ac yn arbennig i Leanne Wood, oherwydd mae'n hynod o bwysig a braf yw clywed ei bod yn cael ei chefnogi, at ei gilydd, ar draws y Siambr. Oherwydd mae'n amlwg nad yw'r system yn gweithio yn y ffordd y dylai i'r dioddefwyr.

Sylwaf fod gwelliant Darren Millar yn gofyn inni nodi bod Llywodraeth y DU yn canfod bod y bwlch sy'n lledu rhwng adroddiadau o drais rhywiol ac erlyniadau'n peri pryder mawr ac maent wedi ymrwymo i adfer hyder yn y system gyfiawnder. Buaswn yn awgrymu wrth y Torïaid efallai mai'r ffordd gyntaf y gallent adfer rhywfaint o'r cydraddoldeb o fewn y system gyfiawnder fyddai adfer rhywfaint o'r arian a dynnwyd allan o'r system gan amddifadu menywod neu unrhyw ddioddefwr o gymorth cyfreithiol, sy'n golygu na all pobl gael mynediad at gyfreithwyr, ac sydd hefyd yn golygu nad yw pobl yn gallu cael mynediad at y system llysoedd oherwydd eu bod wedi cau. Rwy'n credu y byddai hwnnw'n lle da iawn i ddechrau, yn hytrach na dim ond mynegi rhai geiriau, oherwydd ni fyddant yn newid dim o gwbl. Yn fy rhanbarth i, mae mwy na hanner y llysoedd wedi cau ers 2012 ac mae'r toriadau i gymorth cyfreithiol wedi arwain at ddiffyg cyngor. Felly, nid yw pobl yn gallu cael mynediad at gyfiawnder, ac ni allant hyd yn oed gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddod o hyd i'r cyfiawnder hwnnw. Felly, mae gennym bethau go sylfaenol yn digwydd yno.

Ond un o'r meysydd rwyf am ganolbwyntio arno yw'r hysbysiadau prosesu digidol a roddwyd ar waith ledled Cymru a Lloegr, sy'n ei gwneud yn ofynnol i rai sy'n adrodd am ymosodiad rhywiol lofnodi ffurflenni caniatâd sydd i bob pwrpas yn caniatáu i'r heddlu lawrlwytho a mynd drwy gynnwys eu ffonau symudol a'u holl ddyfeisiau electronig eraill. Hoffwn i unrhyw un yma ystyried am funud faint o'ch bywyd personol sy'n cael ei storio ar eich ffôn. Rwy'n credu ei fod yn noeth-chwiliad digidol hynod o aflonyddol, ac er mai dim ond awgrymu y gellid defnyddio hynny mewn achosion a wnaed, rwy'n credu—. Cafwyd achos lle roeddent wedi gwneud hynny a chafwyd rhywun yn ddieuog o'r drosedd. Fel pob peth, cafwyd ymateb difeddwl a bellach nid yw menywod—menywod yw'r mwyafrif; gwyddom hynny—yn mynd y tu hwnt i wneud cwyn, oherwydd maent yn gwrthod ildio eu ffonau symudol ac unrhyw ddyfeisiau electronig eraill. Felly, er fy mod yn derbyn bod honiadau ffug yn niweidiol iawn i'r unigolion hynny, ychydig dros 0.5 y cant o'r holl honiadau yw eu nifer, ac eto mae'r achwynwyr yn cael gwybod yn gynyddol y bydd yr heddlu'n gollwng yr achos os nad ydynt yn cydymffurfio â'r cais am ddata. Credaf fod hynny'n gwbl warthus.

Y peth arall rwyf am symud ymlaen ato a sôn amdano yw adroddiad Cymdeithas y Plant sy'n dweud, pan aiff plant ar goll, boed hynny o'u cartref neu o ofal, y dylid sicrhau bod sesiwn ôl-drafod ar gael i'r plant hynny er mwyn ceisio darganfod atebion i'r hyn a ddigwyddodd pan aethant ar goll a chanfod beth sydd wedi digwydd iddynt yn y cyfamser o bosibl.

Ond rwy'n credu mai'r newid mwyaf sy'n gorfod digwydd yw'r newid diwylliannol—yr iaith a ddefnyddir pan fyddwch yn adrodd am achos o drais rhywiol, yr iaith a ddefnyddir yn ystafell y llys. Ac rydym wedi gweld achosion gwirioneddol wael o hynny, lle mae'r fenyw neu'r dioddefwr yn cael eu portreadu fel unigolion sydd wedi gofyn am gael eu treisio. Nid wyf yn gwybod am unrhyw berson yn unrhyw le sydd wedi gofyn am gael eu treisio. Nid yw'r ffaith eich bod yn gwisgo sgert fer neu ffrog dynn neu sodlau uchel yn golygu eich bod wedi gofyn am gael eich treisio'n rhywiol. Rwyf eto i gyfarfod â'r person sydd eisiau hynny.

Rwyf hefyd yn credu yn yr un modd fod angen inni feddwl am y diwylliant oddi mewn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Leanne am Alun Cairns, ond credaf fod angen inni feddwl am hynny yma hefyd. Rwy'n credu bod cam-drin rhywiol bellach yn symud i mewn i gartrefi unigolion drwy eu cyfrifiaduron, drwy ddyfeisiau, ac rwy'n credu, pan fo gennym ddelweddau wedi'u rhywioli o gydweithwyr yn cael eu rhoi allan i'r byd eu gweld, a bod gennym gomisiynydd safonau sy'n dweud bod hynny'n iawn—. Buaswn yn dadlau nad yw hynny'n iawn o gwbl ac nid yw'n iawn, chwaith, mai'r sawl sydd wedi cael ei gam-drin sy'n gorfod dod â'r achos hwnnw gerbron a'i gwestiynu, ond nad yw'n cael unrhyw wybodaeth o gwbl am y modd y mae hynny'n mynd rhagddo, ond mae pawb yn gwybod bod y cyflawnwr wedi cael gwybod popeth. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ein systemau ein hunain hefyd, ac mae delweddu'n bwysig.

18:20

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Plaid Cymru wedi'i ddweud heddiw a'r hyn y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud. Rwy'n credu ei bod yn hollol iawn i bobl yn y lle hwn dynnu sylw at y cyfraddau euogfarnu affwysol am drais a cham-drin rhywiol. Mae'r anawsterau sy'n wynebu dioddefwyr trais a cham-drin rhywiol yn hysbys iawn, ac mae'n ymddangos bod y sefyllfa'n waeth yn awr na 10 mlynedd yn ôl. Mae'r un mor ddrwg os nad yn waeth na phan oeddwn yn y brifysgol 20 mlynedd yn ôl.

Rhaid bod llawer o ddioddefwyr trais a cham-drin rhywiol yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu'n llwyr gan yr union bobl sydd i fod yno i'w hamddiffyn. Sut y mae'r dioddefwyr hynny'n teimlo pan welant fod trais a cham-drin rhywiol yn erbyn merched diamddiffyn yn Rotherham ac mewn mannau eraill yn mynd heb ei gosbi am flynyddoedd, neu'r troseddwyr yn cael dedfryd bitw? Sut y gallant deimlo'n hyderus y bydd cyfiawnder yn digwydd iddynt hwy pan fyddant wedi gweld dioddefwyr eraill yn cael cam mor ofnadwy?

Cytunaf â llawer o gynnig Plaid Cymru, a chytunaf â hwy fod cynyddu cyfraddau euogfarnu'n bwysig er mwyn atal trais a cham-drin rhywiol. Dim ond cyfran o'r achosion o drais a cham-drin rhywiol a gofnodir. O'r rheini, dim ond rhan fach iawn sy'n arwain at euogfarn. Mae hon yn broblem oesol y mae academyddion a chyfreithwyr ar ddwy ochr y ffin ac amryw o grwpiau menywod a phob math o bobl wahanol wedi bod yn ymgodymu â hi dros y degawdau. Felly, buaswn wedi hoffi gweld Plaid Cymru, yn rhan o'u cynnig, yn cyflwyno polisïau a newidiadau go iawn yn y gyfraith y gallem eu harchwilio ar gyfer gwella cyfraddau erlyn ac euogfarnu. Rwy'n gwybod eich bod wedi cyflwyno rhai awgrymiadau yn ystod y ddadl, ond mae'n ddrwg gennyf, nid yw hynny'n ddigon da, ac mae'r methiant i'w cynnwys yn y cynnig ond yn gwneud i'r cynigion ymddangos fel ôl-ystyriaeth braidd. Mae a wnelo craidd eich cynnig â datganoli. Mae'n ymddangos bod Plaid Cymru'n poeni mwy am wthio eu hagenda wleidyddol eu hunain. Mae eu cynnig yn gwneud dau gyfeiriad at gynyddu pwerau'r Cynulliad; nid yw'n cynnwys unrhyw awgrym go iawn a fyddai'n gwella cyfraddau canfod ac euogfarnu mewn achosion o drais rhywiol.

Mae trais a cham-drin rhywiol yn fater emosiynol iawn, a dyna pam y tybiaf fod Plaid Cymru wedi dewis y pwnc hwn i wyntyllu eu hymgyrch dros ddatganoli yn y dyfodol. Gallai Plaid Cymru fod wedi cyfeirio at nifer o droseddau, ond dewisasant y troseddau mwyaf emosiynol posibl, heb roi unrhyw sylw i ddioddefwyr a goroeswyr ar draws Cymru. Yn y bôn, mae'r cynnig hwn yn cyfleu neges i rai sydd wedi goroesi trais rhywiol eu bod yn fwy tebygol o weld cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn erbyn eu hymosodwr pe bai Cymru'n fwy annibynnol. Mae'r ddadl honno'n ddi-chwaeth, yn dwp ac yn ddi-sail. Di-chwaeth a thwp oherwydd bod dioddefwyr trais rhywiol yn cael eu defnyddio heb eu cydsyniad mewn dadl wleidyddol nad oes a wnelo hi ddim oll â hyrwyddo cyfiawnder iddynt hwy yn y bôn, ac yn ddi-sail am fod hanes yn dangos i ni, pan gaiff mater ei ddatganoli i'r Llywodraeth hon, mae'n gwaethygu yn hytrach na gwella. Mae addysg a'r GIG wedi cael eu datganoli i Gymru ers blynyddoedd, a gwelir bod pob blwyddyn yn waeth i bobl Cymru na'r addysg a'r GIG ym mhob gwlad arall yn y DU.

Beth amser yn ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog a oedd yn cytuno â mi na ddylai'r llys teulu fyth roi hawliau i dadau plant a aned yn sgil trais rhywiol i weld y plant hynny. Am ryw reswm, gwrthododd gefnogi fy nghais—gwrthodiad y credaf y bydd unrhyw deulu gweddus, gweithredol yng Nghymru yn ei chael yn amhosibl ei ddeall. Heddiw mae gan Blaid Cymru gyfle i ddangos eu bod wedi ymrwymo o ddifrif i helpu dioddefwyr trais mewn ffordd bendant, a'ch bod yn defnyddio unrhyw bwerau ychwanegol a allai fod gan y lle hwn yn y dyfodol i atal treiswyr rhag cael cyswllt a dylanwad ar blentyn a gaiff ei genhedlu drwy drais rhywiol.

Os yw Plaid Cymru yn methu cefnogi gwaharddiad o'r fath yn glir heddiw yn eu hymateb i'r ddadl hon, bydd yn amlwg i bawb fod y cynnig hwn, fel rwy'n tybio, yn ymwneud mwy â hybu eu hawydd i fod yn annibynnol nag y mae â gwneud y peth iawn dros ddioddefwyr un o'r troseddau mwyaf creulon. Felly, Blaid Cymru, pe rhoddir y pŵer i'r lle hwn, a fyddech yn cefnogi gwahardd tadau plant a aned yn sgil trais rhywiol rhag dod o gysylltiad â'r plant hynny? Ac yn y cyfamser, a wnewch chi ategu fy ngalwad am gyflwyno gwaharddiad o'r fath? Bydd 'gwnawn' neu 'na wnawn' yn ddigon. Diolch.

18:25

Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog i gyfrannu i'r ddadl—Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon ac rwy'n cefnogi'r cynnig. Leanne Wood, rhoesoch araith agoriadol mor bwerus—fe wnaethoch nodi nid yn unig yr ystadegau, y ffigurau, ond fe dynnoch chi sylw hefyd at achosion proffil uchel.

Gadewch i ni edrych ar yr ystadegau hynny eto. Ers 2016, bu cynnydd o 43 y cant yn nifer yr honiadau o drais rhywiol i'r heddlu, ond mae nifer yr achosion a erlynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi gostwng 52 y cant. Gwelwyd gostyngiad o 23 y cant yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd at Wasanaeth Erlyn y Goron gan yr heddlu am benderfyniad, ac mae'r gostyngiad hwn yn golygu, er bod adroddiadau o drais rhywiol i'r heddlu bron â bod wedi dyblu, ni chafodd nifer sylweddol o'r achosion hyn eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld adolygiad Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM o'r hyn sydd wrth wraidd y ffigurau hyn.

Mae'n hanfodol fod pobl yn teimlo y gallant roi gwybod am ymosodiad. Rydym am i'r heddlu gofnodi'r troseddau hyn yn gywir fel y gellir rhoi'r camau cywir ar waith. Mae'n amlwg ac yn destun pryder mawr fod y bwlch rhwng yr hyn a gofnodir ac erlyniadau ac euogfarnau am drais rhywiol wedi lledu.

Lywydd, cyn belled â bod trais ac ymosodiadau rhywiol yn parhau i fod yn bynciau tabŵ, mae'n llawer anos, fel y dywedwyd heddiw, i ddioddefwyr roi gwybod amdanynt. A phan fyddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt fod yn hyderus y byddant yn cael eu credu, y bydd camau'n cael eu cymryd, y bydd eu hymosodwyr yn cael eu dwyn i gyfrif. A dyna pam y mae'r ddadl hon mor bwysig. Rhaid i'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn wybod na fyddant yn llwyddo i osgoi cosb, cânt eu herlyn a byddant yn cael eu heuogfarnu. Ond mae'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wedi comisiynu adolygiad o erlyniadau ac euogfarnau am droseddau trais rhywiol, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn croesawu'r adolygiad yn fawr, ac fe rannaf fy llythyr gyda'r Aelodau drwy ei osod yn y Llyfrgell.

Mae trais ac ymosodiadau rhywiol yn ymwneud â phŵer a rheolaeth, ac mae ein hymgyrch gyfathrebu ar reolaeth drwy orfodaeth wedi sbarduno cynnydd yn nifer y galwadau i'n llinell gymorth Byw Heb Ofn. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau o reolaeth drwy orfodaeth ar draws heddluoedd Cymru ers lansio'r ymgyrch, a bydd cam nesaf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar reolaeth a thrais rhywiol. Diolch i Jenny Rathbone am siarad am ei phrofiad ac am dynnu sylw at y sesiwn gwestiynau a drefnwyd gan Bethan yr wythnos diwethaf gyda Sally a David Challen; gobeithio bod rhai ohonoch wedi gweld y cyhoeddusrwydd hwnnw. Fel y dywedodd Jenny, dioddefodd Sally reolaeth drwy orfodaeth, a soniodd am yr angen i fynd i'r afael â hyn mewn ysgolion. Felly, dyna pam rydym yn ariannu Hafan Cymru i addysgu am gydberthynas iach mewn ysgolion, ac wrth gwrs, fel y dywedwyd, bydd rhywioldeb a chydberthynas yn faes trawsbynciol ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Nid yw cyfiawnder a phlismona wedi'u datganoli i Gymru. Fodd bynnag, gan fod troseddau a chyfiawnder yn fy mhortffolio, rwy'n gweithio gyda heddluoedd Cymru ar bob agwedd ar droseddu sy'n effeithio ar ddinasyddion Cymru, ac mae'r bwrdd partneriaeth ar blismona a gadeirir gennyf yn dod â chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid at ei gilydd o bob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru bob chwarter, a byddaf yn crybwyll materion sy'n codi o'r ddadl hon yn ein cyfarfod nesaf.

Rwy'n falch fod y cynnig yn cynnwys cyfeiriad at wasanaethau cefnogi dioddefwyr ymosodiadau rhywiol, a Rhun, fe sonioch chi am hyn, fel y gwnaeth Delyth. Rwyf am nodi'r cynnydd a wnaed ar hyn. Mae'r GIG yn arwain adolygiad amlasiantaethol ar ddarpariaeth canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol mewn cydweithrediad â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, yr heddluoedd a'r trydydd sector, gan helpu'r heddlu i ddatblygu a monitro manylebau gwasanaethau ar gyfer caffael gwasanaethau fforensig mewn modd integredig hyd nes y gellir sefydlu gwasanaeth archwiliadau meddygol fforensig. Wrth gwrs, fel rydych wedi dweud, mae cwnsela'n hanfodol i ddioddefwyr. Mae ar gael gan sefydliadau megis New Pathways ac Ynys Saff, ac yn uniongyrchol drwy wasanaethau iechyd meddwl y byrddau iechyd. Wrth gwrs, tynnodd Delyth Jewell sylw at y trawma y mae dioddefwyr yn ei ddioddef, fel y gwnaeth Joyce, a chredaf fod y materion y mae Joyce Watson wedi'u codi yn bwysig iawn, o ran mynediad at ffonau symudol. Roeddwn am ddweud fy mod yn ymwybodol fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi canllawiau mai dim ond llinellau ymchwilio rhesymol y dylid eu dilyn, er mwyn osgoi ymyrryd ym mywydau personol tystion. Ond rydym yn gwybod nad yw hynny wedi bod yn wir, ac mae angen inni weld hynny'n cael ei weithredu.

Hefyd, gan nodi pwynt Joyce am blant sy'n mynd ar goll yng Nghymru, yn sicr mae'r gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wneud ar y mater hwn yn hollbwysig, ac mae Prifysgol Caerdydd yn debygol o fod yn gweithio ar adroddiad ymchwil 'Cadw'n Ddiogel?' a gyhoeddwyd y llynedd. Mae adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai dioddefwyr troseddau'n teimlo bod y system cyfiawnder troseddol wedi'u siomi. Yn aml, nid oes ganddynt hyder yn y system. Maent yn ofni'r troseddwyr. Mae gwaith y comisiwn ar hyn yn bwysig iawn, ac yn amlwg, nid ydym am i'w profiadau ddod yn wybodaeth gyhoeddus sy'n golygu na roddir gwybod am droseddau.

Hefyd, mae'r adroddiad yn cyfeirio at ein gwaith, gwaith Llywodraeth Cymru, ar ddatblygu a gweithredu polisïau i fynd i'r afael â throseddau, gan weithio gyda chyrff datganoledig a chyrff yn y DU, felly, wrth gwrs, mae'r gwaith rydym yn ei wneud ar ein Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn allweddol i hynny o ran mesur lefelau cynyddol o adrodd ar gam-drin a sicrhau ein bod yn cael ymyriadau cynnar, ymyrraeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynyddu hyder dioddefwyr a mynediad at gyfiawnder.

Ond mae'r comisiwn yn iawn pan ddywed fod angen gwneud mwy i gefnogi pawb sy'n dioddef trosedd, ac mae'n dweud mai casgliad unfrydol y comisiwn, a nodir ym mharagraff cyntaf ei adroddiad pwysig, yw bod pobl Cymru yn cael cam gan eu system gyfiawnder, a thros y 10 mlynedd diwethaf—a chyfeiriodd Joyce at hyn—mae toriadau sylweddol wedi bod yn yr arian ar draws y system gyfiawnder, gan gynnwys mewn plismona a Gwasanaeth Erlyn y Goron, sy'n cael effaith ddifrifol yma yng Nghymru. Felly, dylai cyfiawnder fod yn ganolog i'r Llywodraeth a dylai gyd-fynd â pholisïau eraill, yn enwedig y rhai a ddatganolwyd i Gymru.  

Felly, unwaith eto ac yn olaf, rwy'n croesawu'r ddadl hon a byddwn yn cefnogi gwelliannau 4 a 5 hefyd. Bydd yr is-bwyllgor Cabinet newydd ar gyfiawnder, a sefydlwyd ac a gadeirir gan y Prif Weinidog, is-bwyllgor rwy'n aelod ohono, gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, yn darparu arweinyddiaeth gryfach yn Llywodraeth Cymru ar faterion cyfiawnder ac mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Hyd yn hyn, nid yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli. Rwyf wedi tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru gyda'n pwerau a'n cyfrifoldebau cyfredol, ond yn unol â'ch cynnig, rwy'n mynegi fy nghydymdeimlad a fy nghefnogaeth i'r rhai sydd wedi goroesi trais ac ymosodiadau rhywiol, ac mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r troseddau erchyll hyn ac i gefnogi dioddefwyr. Diolch.  

18:35

Diolch yn fawr, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Mae trais rhywiol, wrth gwrs, fel y mae rhai Aelodau eisoes wedi dweud, yn drosedd arbennig o ofnadwy. Mae hefyd yn wir y bydd y rhan fwyaf o fenywod wedi cael rhyw brofiad nad oeddem mo'i eisiau, a bydd pob un ohonom yn yr ystafell hon yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei threisio. Efallai nad ydych yn gwybod eich bod yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei threisio, ond mae'n wir, oherwydd mae trais rhywiol, yn enwedig yn erbyn menywod, mor hollbresennol yn ein diwylliant.

Cafwyd cynifer o gyfraniadau gwirioneddol dda fel nad wyf yn mynd i allu ymateb i bob un ohonynt, ond fe af drwy gymaint ag y gallaf. Fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud, gosododd Leanne Wood y cyd-destun, amlinellu'r ffeithiau, ac maent yn ddychrynllyd. Soniodd sawl Aelod am bwysigrwydd y diwylliant mewn perthynas â'r materion hyn, a phan fydd gennym blant a phobl ifanc yn cael eu magu mewn byd sydd wedi'i wenwyno gan bornograffi arbennig o erchyll, lle mae bechgyn a merched yn tyfu i fyny gan feddwl bod pethau'n normal pan na fyddant—. Neges glir iawn pan ddaeth Sally a David Challen i'n Cynulliad yr wythnos diwethaf: pan ofynnwyd i Sally beth y gallai pobl fod wedi'i wneud, dywedodd mai rhan o'i phroblem oedd nad oedd hi'n sylweddoli nad oedd yr hyn oedd yn digwydd iddi'n normal, a dywedodd fod i ni wneud dau beth, fel y nodwyd—mai'r cyfan sydd angen i ni fod yn gyfrifol amdano yw peidio â chamu'n ôl pan welwn fod rhywbeth o'i le a gofyn cwestiynau pan welwn batrymau ymddygiad y gwyddom eu bod yn anghywir. Ond mae angen i ni ddechrau hynny'n gynnar iawn hefyd fel nad yw ein plant yn tyfu i fyny gan feddwl bod i ddynion reoli menywod a bechgyn weithiau—dynion a bechgyn eraill—drwy orfodaeth i gyflawni gweithredoedd rhywiol yn normal mewn unrhyw ffordd.  

Rwy'n credu bod cwestiwn Mandy Jones ynglŷn â pha bryd y gwnaethom ni ddechrau beio'r dioddefwyr yn un dilys iawn. Ar ôl cymryd rhan mewn ymgyrchoedd gweithredol ar y materion hyn ers y 1980au, Lywydd, roeddwn yn credu bod pethau'n gwella, ac rwy'n argyhoeddedig, yn anffodus, nad ydynt yn gwella bellach ac mewn rhai ffyrdd rydym yn mynd tuag yn ôl. Ni allaf ddweud yn onest, pe bai cyfaill i mi neu fy merch yn dod ataf heddiw ar ôl cael ei threisio a gofyn a ddylai ei adrodd—ni allaf roi fy llaw ar fy nghalon a dweud y gallwn ei hannog yn ddiogel i wneud hynny gyda'r system fel y mae. Ac mae'n ofid mawr i mi ddweud hynny oherwydd, fel y dywedodd Jenny, mae'r profiadau hyn mor gyffredin, os na fyddwch yn rhoi gwybod amdanynt, rydych yn cael eich gadael yn pendroni faint o fenywod eraill neu ddioddefwyr eraill fydd yn dioddef dan law'r unigolyn hwnnw. Ond ni allaf ddweud yn onest y buaswn yn dweud wrth fy ffrind gorau, 'Cer at yr heddlu', oherwydd rhai o'r profiadau a glywsom.

Hoffwn yn arbennig gyfeirio at rai rhannau o gyfraniad Joyce Watson, oherwydd credaf fod y ffordd yr ymatebwn i bobl sy'n gwneud honiadau o drais rhywiol, yn enwedig menywod a merched, mor wahanol i'r ffordd yr ymatebwn i honiadau eraill o droseddau treisgar. Ni allaf ddychmygu y byddai dyn sydd wedi gwneud honiad o niwed corfforol difrifol yn erbyn dyn arall yn cael ei ffôn wedi'i gymryd, a bod disgwyl iddo rannu ei holl wybodaeth breifat. Ac rwy'n gwybod, oherwydd rwyf wedi cael y sgyrsiau hynny, fel y mae Joyce, fod hynny'n atal menywod ifanc a merched. Mae'n debyg fod gan bob un ohonom ar ein proffiliau cyfryngau cymdeithasol bethau a all fod yn gymhleth, pethau y byddwn am eu cadw'n breifat o bosibl. Pam y byddem yn gofyn i ddynes rannu hynny? Pam y mae hynny'n berthnasol, pan nad ydym yn gwneud hynny ar gyfer unrhyw ddioddefwyr troseddau treisgar eraill?  

Rwyf am ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaed am honiadau ffug. Yn amlwg, mae unrhyw honiad ffug o unrhyw drosedd yn gwbl annerbyniol a dylid ei erlyn, ond rydym yn gweithio mewn diwylliant lle mae pobl yn tybio ei bod yn fwy tebygol fod pobl sy'n gwneud honiadau o drais rhywiol yn dweud celwydd, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Os edrychwn ar yr holl ystadegau a'r holl ymchwil sydd wedi'i wneud erioed, mae'n dangos bod lefel yr honiadau ffug ynghylch troseddau rhywiol ychydig yn is na lefelau'r honiadau ffug am bob math o bethau eraill—tua'r un faint mewn rhai astudiaethau, ac yn is mewn rhai eraill.

Felly, mae'n bwysig iawn nad ydym yn dweud nac yn gwneud unrhyw beth sy'n bwydo'r diwylliant hwn sy'n tybio, pan fydd menywod yn gwneud yr honiadau hyn, eu bod yn dweud celwydd, oherwydd, fel y mae Delyth ac eraill wedi dweud, dyna'r rhagdybiaeth waelodol. Nid ydym yn gwneud y rhagdybiaethau hynny am ddioddefwyr troseddau treisgar eraill. Ac rwy'n ofni bod hyn yn adlewyrchu diwylliant misogynistaidd. Oni bai ein bod yn credu bod menywod yn fwy tebygol—a menywod yw'r rhan fwyaf o'r dioddefwyr, er bod rhai, wrth gwrs, yn ddynion—o ddweud celwydd na dynion, ni allwn dderbyn yr hyn sy'n digwydd. Ac nid wyf am ailadrodd yr ystadegau a gyflwynwyd eisoes, ond rwy'n credu mai 3.2 y cant o erlyniadau llwyddiannus yw'r ffigur diweddaraf, a dim ond yr achosion hynny lle gwnaed honiadau yw hynny, ac rydym wedi clywed gan sawl cyfrannwr i'r ddadl hon pa mor anodd yw gwneud yr honiadau hynny, pa mor anodd yw rhoi gwybod.  

Fe wnaeth Mark Isherwood bwyntiau da iawn yn ei gyfraniad, fel y gwna bob amser, ond mae arnaf ofn nad wyf yn gallu credu'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud yn awr, pan fo cyllideb y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi'i lleihau draean ers 2010, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth. Nawr, ni allwch erlyn yn llwyddiannus, ac nid ydym yn gwybod—. Soniodd y Gweinidog am yr adolygiad; mae eraill wedi sôn am yr adolygiad; gwnaeth Mark hynny ei hun. Ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, oherwydd bydd ffactorau cymhleth yn codi ynglŷn â pham y mae lefel yr euogfarnau wedi gostwng, ond bydd lefel yr euogfarnau'n gostwng yn rhannol oherwydd nad oes gan Wasanaeth Erlyn y Goron adnoddau i fynd ar ôl yr achosion anoddaf. Felly, os ydynt ond yn mynd ar drywydd llwyddiannau hawdd, rhywfaint o'r rheswm am hynny, rwy'n siŵr, yw oherwydd bod adnoddau mor dynn. Felly, hyd nes y gwelwn fwy o adnoddau yn y system, mae arnaf ofn nad oes gennyf fawr o ddiddordeb yn yr hyn y mae'r Llywodraeth ganolog yn ei ddweud.  

Rwyf am grybwyll cyfraniad Delyth, oherwydd mae'r hyn a ddywedodd am y cywilydd, y stigma, yr ofn sydd gan bobl ynglŷn ag adrodd mor bwysig, ac mae angen inni newid hynny. Ac mae angen inni sicrhau nad yw ein hymateb yn digwydd mewn gwactod, a dyma'r rheswm pam ein bod yn cefnogi datganoli cyfiawnder troseddol, fel y gallwn gael dull cyson o weithredu. Rwy'n credu mai Mark a ddywedodd nad yw trosedd yn parchu ffiniau. Wel, nac ydy, ond mae'r ffordd rydym yn ymdrin â throsedd yn parchu ffiniau; mater gwleidyddol ydyw—gydag 'g' fach, nid mater pleidiol wleidyddol. Ac rwy'n credu—ac rwy'n falch fod y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig—fod yn rhaid inni gael dull cyson o weithredu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, ac ni allwn sicrhau hynny oni bai bod yr holl wasanaethau cyhoeddus hynny'n atebol yn ddemocrataidd ac yn agored i'r un cyfeiriad.

Mae'n ddrwg iawn gennyf os oes unrhyw un yn credu bod cyflwyno'r mater hwn yn fater pleidiol wleidyddol neu fod cymhelliant gwleidyddol yn sail iddo. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw bod dwsinau o oroeswyr wedi cysylltu â mi a fy nghyd-Aelodau heddiw, ac mae rhai ohonynt wedi siarad yn gyhoeddus. Cysylltodd un goroeswr penodol â mi ar ôl iddi fy nghlywed i a Leanne Wood yn gwneud sylwadau ar y materion hyn yn gyhoeddus. Ac maent wedi diolch i ni am gyflwyno'r mater. Ac nid wyf yn poeni mewn gwirionedd os oes rhai pobl yn y Siambr yn sinigaidd ynglŷn â'n cymhellion, oherwydd mae'r hyn y mae'r goroeswyr yn ei feddwl yn llawer pwysicach i mi na hynny.  

Mae cymaint mwy yr hoffwn ei ddweud; rwy'n gwybod nad oes gennyf amser. Hoffwn wneud sylw byr am gyfraniad y Dirprwy Weinidog—rwy'n ymwybodol iawn o'i hargyhoeddiadau personol yn y materion hyn, ac roeddwn yn bwriadu talu teyrnged hefyd i Joyce Watson am ei blynyddoedd o ymgyrchu ar y materion hyn, yn yr un modd â fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru. Ond rwyf am ddweud wrth y Gweinidog fod yn rhaid i ni sicrhau—. Nid oes gennym y dulliau eto. Nid yw'r pwerau wedi'u datganoli eto, a bydd angen inni gael y dadleuon hynny a sicrhau eu bod yn cael eu datganoli. Ond mae yna bethau y gallwn eu gwneud yn awr, ac un o'r pethau y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr yw buddsoddi go iawn, gan nodi cyfraniad Rhun ap Iorwerth am y diffyg mynediad at wasanaethau cwnsela. Mae hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr, mae angen iddi ei wneud yn awr. Rydym wedi gweld gormod o wasanaethau—gwasanaethau lleol, dan arweiniad goroeswyr—yn colli eu cyllid i sefydliadau mwy o faint na fyddant yn deall y dioddefwyr yn y ffordd y maent hwy'n eu deall.  

Ac rwyf am orffen y cyfraniad hwn, Lywydd, a diolch am eich amynedd, drwy ddweud yn syml fod yn rhaid i bob un ohonom wneud popeth a allwn. Nid yw'n ddigon da inni eistedd o gwmpas ac aros i'r gwasanaethau cyfiawnder troseddol gael eu datganoli. A rhaid i ni, sydd â'r gwaith o ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, graffu arnoch o ran y modd y defnyddiwch eich pwerau yn awr. Ac rwyf am orffen drwy ddweud, wrth y menywod, wrth y dioddefwyr: rwy'n eich credu chi, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r bobl yn yr ystafell hon yn eich credu hefyd.

18:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac y mae'r cyfnod pleidleisio yn digwydd nawr; oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n cychwyn y bleidlais.

8. Cyfnod Pleidleisio

Ac mae'r bleidlais ar gynnig Plaid Cymru ar drais a cham-drin rhywiol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, dau yn ymatal, 12 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.

NDM7229 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 12, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

9. Dadl Fer: Dathlu Arwyr Cymru: Cyfraniad arwyr Cymru i broffil rhyngwladol ein gwlad

Ac felly, dyma ni yn cyrraedd y cyfnod ar gyfer y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Mick Antoniw, ac mi wnaf i adael i bobl adael y Siambr yn dawel.

Os gall pobl adael y Siambr yn dawel, mae gennym fusnes yn parhau, a galwaf ar Mick Antoniw i gyflwyno'r ddadl yn ei enw ef—Mick Antoniw.

Diolch i chi, Lywydd. Drwy hanes, ceir dynion a menywod—boed drwy wyddoniaeth a dysgu, drwy ddiwylliant, y celfyddydau, masnach, arloesi neu ymdrech wleidyddol—sydd wedi hybu buddiannau eu cenedl a'i phroffil mewn modd sy'n ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Yn aml, caiff eu cyflawniadau effaith fyd-eang ac fe'u cydnabyddir yn briodol yn sgil hynny.

Yng Nghymru, mae gennym lawer o arwyr o'r fath, ond yn anffodus nid yw llawer ohonynt wedi cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Mewn gwirionedd, erys llawer, hyd heddiw, yn anhysbys yng Nghymru heblaw i nifer fach o bobl sydd â diddordeb. I ryw raddau, mae cyflawniad Cymreig ynghudd o dan hunaniaeth dra-arglwyddiaethol y DU neu Brydain, ond beth bynnag yw'r rheswm, mae angen inni gywiro'r hanes a datgan cyfraniad balch Cymru i ddigwyddiadau'r byd.

Rwy'n gobeithio y bydd y newid yn ein cwricwlwm ysgol yn cyfrannu at gynyddu ymwybyddiaeth, ond rwy'n credu bod rhan gan y Senedd hon i'w chwarae hefyd yn helpu i sicrhau bod arwyr Cymru yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Nid y diben yw creu rhyw fath o gwlt personoliaeth, ond sicrhau yn hytrach fod cyfraniad Cymru at ddigwyddiadau, hanes a datblygiad rhyngwladol yn cael ei gydnabod yn briodol, fel sy'n wir yn achos y rhan fwyaf o wledydd eraill.

Dim ond amser i ganolbwyntio ar rai ohonynt sydd gennyf, ond credaf y bydd cydnabod y rhain yn helpu i ddechrau'r broses. Eleni roedd hi'n 80 mlynedd ers un o'r gweithredoedd arwrol mawr yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Ar y diwrnod hwnnw, achubodd y Cymro a'r gŵr o Gaerdydd, Archibald Dickson, fywydau 2,638 o ddynion, menywod a phlant a oedd yn ffoi o Sbaen a milwyr ffasgaidd y Cadfridog Franco a oedd yn nesu. Arweiniodd blocâd o borthladd Alicante gan longau rhyfel Eidalaidd a'r bygythiad o awyrennau bomio Almaenig at olygfeydd o anhrefn ac anobaith. Roedd Capten Dickson yr SS Stanbrook yn dyst i'r golygfeydd trasig hyn, ac mewn gweithred o ddewrder pur, gadawodd ei gargo ar ôl ac yn lle hynny, derbyniodd y ffoaduriaid ar fwrdd y llong. Ddeng munud wedi dechrau'r daith, daeth sŵn ffrwydradau a bomiau'n disgyn ger y Stanbrook. Eto i gyd, torrodd Capten Dickson y blocâd, gan achub llawer o fywydau yn ddi-os. Yn Alicante, mae cofeb i'r Capten Dickson yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg ac mae cynlluniau ar y gweill i ddadorchuddio plac yn union yr un fath yn y Pierhead ar ystâd y Cynulliad.  

Lywydd, ym mis Tachwedd bob blwyddyn yn Wcráin mae aelodau o'r gymuned ryngwladol yn nodi'r diwrnod y cofir am ddioddefwyr newyn artiffisial Stalin yn 1932-33, a elwir yn Holodomor, sy'n golygu marwolaeth drwy newyn mewn Wcreineg. Newyn oedd hwn a grëwyd gan Stalin i orfodi cyfunoli amaethyddiaeth ac i dorri gwrthwynebiad Wcreinaidd i reolaeth Rwsia Sofietaidd yn Wcráin. Cafwyd mwy na 4,000 o derfysgoedd yn erbyn y polisi hwn a chafodd y rhain eu trechu'n ddidrugaredd. Ym mis Rhagfyr 1932, gorchymynodd pwyllgor canolog y Blaid Gomiwnyddol i'r holl rawn, gan gynnwys hadau i'w hau, gael eu hatafaelu. Cafodd pentrefi a fethodd gydweithredu eu rhestru a'u hamddifadu'n fwriadol o fwyd hyd at farwolaeth, ac amcangyfrifwyd bod 1 filiwn o bobl wedi'u halltudio i Siberia. Bu farw oddeutu 4 miliwn i 6 miliwn o bobl, ac amcangyfrifir bod tua dwy ran o dair o'r plant wedi marw. Mae'n amhosibl cael ffigurau manwl gywir oherwydd bod Stalin wedi gorchymyn i'r holl gofnodion gael eu dinistrio.

Roedd y newyddiadurwr Cymraeg ei iaith, Gareth Jones, a aned yn Aberystwyth, ac a gladdwyd yn y Barri, yn dyst i'r Holodomor ac ynghyd â Malcolm Muggeridge, roedd yn un o'r newyddiadurwyr prin a fu'n ddigon dewr i adrodd ar faint y newyn a'i achosion. Mae'n cael ei ystyried yn arwr yn Wcráin, lle mae'n cael ei anrhydeddu, a chyn bo hir, bydd stryd yn y brifddinas, Kyiv, yn cael ei henwi ar ei ôl. Ar 31 Ionawr yn sinema Chapter yng Nghaerdydd, bydd BAFTA Cymru yn cynnal dangosiad cyntaf yng Nghymru o'r ffilm newydd Mr Jones, gyda'r actor James Norton yn serennu ynddi, ac yna cynhelir sesiwn holi ac ateb. Caiff Gareth Jones ei gydnabod dramor, ond prin y gwyddys amdano yng Nghymru. Ond mae'n arwr Cymreig go iawn ac yn batrwm o newyddiaduraeth foesegol.

Teithiodd John Hughes, diwydiannwr Cymreig a pheiriannydd o Ferthyr Tudful, gyda thîm o lowyr a pheirianwyr o Gymru i Donetsk yn yr Wcráin, a oedd yn rhan o ymerodraeth Rwsia ar y pryd, i sefydlu diwydiant glo a dur mewn lle a oedd i ddod yn un o ddinasoedd cynhyrchu dur mwyaf y byd, ac fe'i henwyd ar ei ôl ar y pryd fel Hughesovka. Mae cerflun iddo yng nghanol y ddinas, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gerflun neu gydnabyddiaeth iddo yng Nghymru, er gwaethaf ei statws ryngwladol.

Lywydd, dim ond tri arwr cymharol anhysbys yw'r rhain, ond mae llawer mwy: Arthur Horner, llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru, cyn aelod o Fyddin Dinasyddion Iwerddon yn ystod y chwyldro Gwyddelig, a enillodd enw da yn rhyngwladol fel dadleuwr dros lowyr a'u hamodau gwaith ar draws y byd; Bertrand Russell, enillydd Gwobr Nobel mewn llenyddiaeth, awdur, athronydd, dyneiddiwr o fri rhyngwladol a hyrwyddwr rhyddid i feddwl; Francis Lewis o Landaf, un o'r rhai a lofnododd ddatganiad annibyniaeth yr Unol Daleithiau; Henry Richard, Tregaron, ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch ac ymgyrchydd dros ddiddymu caethwasiaeth; Thomas Jefferson, awdur y datganiad annibyniaeth, yr oedd ei deulu'n hanu o Eryri—yn wir, roedd tua thraean o'r rhai a lofnododd ddatganiad annibyniaeth America o dras Gymreig; Robert Owen, o'r Drenewydd, a gafodd gydnabyddiaeth ryngwladol fel un o sylfaenwyr a hyrwyddwyr cynnar y mudiad cydweithredol, ac y dywedodd Friedrich Engels amdano, 'Mae i bob mudiad cymdeithasol, pob gwir ddatblygiad... ar ran y gweithwyr gysylltiad ag enw Robert Owen'; a llawer o rai eraill a aeth ymlaen i gael llwyddiant rhyngwladol fel sylfaenwyr undebau llafur a mudiadau cymdeithasol yn rhyngwladol.

Lywydd, yn ogystal â thynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod cyfraniad yr arwyr Cymreig hyn i'n hanes, fy mwriad heddiw yn y ddadl fer hon yw tanlinellu hefyd pa mor bwysig ydynt i'n dyfodol fel modelau rôl ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau i ddod.

Ni soniais am Paul Robeson. Wrth gwrs, ni chafodd ei eni'n Gymro, ond mewn sawl ffordd mae'n Gymro enwog iawn, i'r graddau ei fod wedi cael ei gydnabod fwy yng Nghymru mae'n debyg nag yn ei wlad enedigol hyd yn oed, ac efallai y dylid cael cerflun i Paul Robeson ym mhrifddinas Cymru.

Mae ar bob cenedl angen ei harwyr, ac yn awr yn fwy nag erioed. Mae'r heriau sy'n wynebu cenedlaethau heddiw yn anferthol. O newid hinsawdd i chwilio am wrthfiotigau newydd, o'r cynnydd mewn ffasgaeth i lygredd ein cefnforoedd, mae angen cenhedlaeth newydd o arwyr ar Gymru a'r byd yn awr, a chredaf y cânt eu hysbrydoli'n rhannol gan y gorffennol.  

18:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl? Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n rhoi pleser mawr imi ymateb i'r ddadl hon. Dadl fer yw un o'n darnau mwy creadigol o'r Rheolau Sefydlog, yn yr ystyr ei bod yn caniatáu i Aelodau ddewis pwnc, a chyfrifoldeb unrhyw Weinidog priodol sydd ar gael yw ymateb i'r ddadl wedyn. Ond rwy'n arbennig o falch o allu gwneud hynny heddiw oherwydd, drwy ddewis dathlu rhyngwladolwyr o Gymru sydd wedi cael effaith ddiamheuol yn rhyngwladol, rwy'n credu eich bod wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ailysgrifennu'r cwricwlwm ar gyfer ein gwlad ein hunain.

Oherwydd credaf ei bod yn rhan o broses ymreolaeth gynyddol y bydd y cenhedloedd a'r rhanbarthau sy'n cyflawni'r ymreolaeth honno nid yn unig yn ceisio ailysgrifennu'r presennol a'r dyfodol, ond ailysgrifennu'r gorffennol hefyd; mewn gwirionedd, mae ei ddeall mewn modd a allai fod wedi ymddangos yn wrthwynebus neu'n ymylol neu hyd yn oed yn eithafol mewn rhyw bersbectif arall yn cynrychioli traddodiad y mae angen inni ei ddathlu wrth inni gryfhau ein hadnoddau syniadol ar gyfer yr hyn sy'n ein hwynebu, fel y disgrifiwyd gennych yn dda ar ddiwedd eich sylwadau.

Dyna pam rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle yn dweud bod cyflawniadau Cymreig ynghudd yn y gorffennol o dan 'hunaniaeth dra-arglwyddiaethol y DU neu Brydain', i ddyfynnu eich geiriau eich hun, a chredaf ei bod hi'n bryd i ni ailddatgan hynodrwydd ein treftadaeth, ac ailddiffinio'r cyfraniad y mae Cymru wedi'i wneud i ryngwladoliaeth yn enwedig. Mae hynny'n cynnwys gwaddol y mudiad heddwch a'r gefnogaeth i Gynghrair y Cenhedloedd, a mynd yn ôl i sefydlu'r Deml Heddwch yma yn ein prifddinas ein hunain, drwodd i hanes hir y mudiad heddwch, y mudiad gwrth-niwclear, mudiad y menywod. Mae'r rhain i gyd yn agweddau ar ein hanes sydd ag arwyddocâd rhyngwladol yn perthyn iddynt.

Rwy'n falch eich bod wedi dewis eich—nid eich 10 arwr uchaf yn hollol, ond roeddech chi bron yno, rwy'n meddwl. Ac rwy'n falch hefyd o weld y gair 'arwyr' yn cael ei ddefnyddio nid yng nghyd-destun rhyw gyflawniad unigolyddol, fel sy'n digwydd weithiau, hyd yn oed gydag arwyr chwaraeon ac arwyr eraill, ond ein bod yn dathlu'r ffaith bod yr arwyr hyn yn dod o gymuned, o gefndir, o brofiad cymdeithasol, y maent wedyn yn ei gymryd i gyflawni drostynt eu hunain. Ond nid drostynt eu hunain yn unig y maent yn cyflawni, maent yn cyflawni dros y diwylliant y daethant ohono.

Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr yn bersonol yn y rhyfel cartref yng ngwledydd Sbaen, a chefais y fraint yn fy mywyd fy hun o gael adnabod a chael sgyrsiau diddorol iawn â Tom Jones, a adwaenid gan bawb—yn Gymraeg, yn sicr, ac yn Saesneg hefyd, mae'n debyg, yng Nghymru—fel Twm Sbaen. Mae ei brofiad a'i gyfraniad, nid yn unig yn ystod y gwrthdaro yn Sbaen ond i wleidyddiaeth mudiad yr undebau llafur a'r chwith a rhyngwladoliaeth yng Nghymru, yn un nodedig iawn.

Roeddwn hefyd yn falch eich bod wedi crybwyll y digwyddiadau yn yr Wcráin, ac yn amlwg mae gennych gysylltiad personol a theuluol cryf â'r fan honno, ac rwy'n credu bod gennym lawer i'w ddysgu o hyd am frwydr Wcráin drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o'r ugeinfed ganrif i'r unfed ganrif ar hugain. Mae dewis Gareth Jones yn ein hatgoffa eto o bwysigrwydd newyddiaduraeth annibynnol a gallu pobl i godi llais, gyda Malcom Muggeridge, fel y disgrifioch chi. Nid oeddwn yn ymwybodol fod yna stryd yn Kyiv wedi'i henwi ar ei ôl, ac roeddwn yn falch iawn o glywed hynny ac edrychaf ymlaen at gefnogi eich ymdrechion chi ac eraill i sicrhau ei fod yn cael ei gydnabod i'r un graddau yng Nghymru.

John Hughes, eto, meteorolegydd a pheiriannydd nodedig. Faint o Gymry neu bobl a aned yng Nghymru sydd wedi sefydlu dinas? Ni allaf feddwl am un yn uniongyrchol. Mae'n siŵr bod rhyw ffigwr anghydffurfiol arwyddocaol a ddylai fod wedi dod i fy meddwl. Efallai, mewn gwirionedd, mai'r Mormoniaid a fyddai'n cyfateb iddo, yn Salt Lake City. Ond yn sicr, mae bod wedi gwneud hynny a sefydlu canolfan weithgynhyrchu yn gyfraniad nodedig.

Ac yna, gan nesu at ein hamser ni, drwy hanes undeb y glowyr, down at Bertrand Russell yn awr. Rwy'n falch o ddweud yn y Siambr hon i mi gael y fraint o gyfarfod â Bertrand Russell yng nghyd-destun y mudiad heddwch, yng nghyd-destun y cyfraniad a wnaeth gyda'i delegram enwog a anfonwyd o Benrhyndeudraeth i Washington a Moscow adeg argyfwng taflegrau Cuba, a oedd yn gyfnod brawychus iawn i mi fel dyn cymharol ifanc ac i lawer o bobl eraill. Roedd yn sicr yn athronydd mawr ac yn ddyneiddiwr o fri. Nid wyf yn meddwl ei fod yn fawr o genedlaetholwr Cymreig, ond ni allaf ei feirniadu am hynny.

Yn amlwg, y ffigurau rhyngwladol eraill a grybwyllwyd gennych: mae yna ysfa gref, yn enwedig ar ran fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, i'n gweld yn dathlu Robert Owen yn iawn, a byddwn yn gwneud hynny. Ond mae hefyd yn bwysig yn y dathliadau hynny ein bod yn gallu cydnabod bod rhyngwladoliaeth fel y câi ei hyrwyddo gan y meibion a'r merched hyn o Gymru yn rhywbeth y mae angen inni ei adfer heddiw. Nid ymwneud â datganoli i Gymru yn unig y mae'r lle hwn, mae'n ymwneud â'r hyn y gall Cymru barhau i'w gyfrannu i'r byd rhyngwladol.

19:00

Daeth y cyfarfod i ben am 19:00.