Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/11/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Datganiad gan y Llywydd

Cyn i fi alw ar y Prif Weinidog i ateb cwestiynau, dwi eisiau gwneud datganiad i'r Cynulliad.

Ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ddoe fe dderbyniais i ymddiswyddiad y Comisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans. Bydd yr Aelodau'n gwybod am y sylwadau ar yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig ag ymddiswyddiad y cyn-gomisiynydd, ac nid wyf yn bwriadu gwneud sylwadau ar y materion hyn yn y fan yma heddiw. Fodd bynnag, rwyf eisiau ei gwneud yn glir bod cofnodi sgyrsiau preifat yn gudd ar ystad y Cynulliad yn achos difrifol o dorri ymddiriedaeth. Rwy'n deall y gwnaed recordiadau sain a oedd yn cynnwys tystiolaeth gyfrinachol gan dyst yn ystod ymchwiliad ffurfiol i ymddygiad Aelod Cynulliad. Mae'n arbennig o ysgytiol bod y recordiad cudd wedi'i wneud gan yr Aelod Cynulliad sy'n destun yr ymchwiliad. O ran y mater o recordio cudd, gofynnwyd i Heddlu De Cymru ymchwilio i sut y gwnaed recordiadau o'r fath, a'u cyfreithlondeb. Mae chwiliad o ystad y Senedd am ddyfeisiau recordio, gan ddechrau gydag ystafelloedd cyfarfod a mannau eraill a ddefnyddir yn gyffredin, eisoes wedi cychwyn.

O ran y weithdrefn gŵynion, yn unol ag adran 4 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009—[Torri ar draws.] rwyf yn cynghori Neil McEvoy i fod yn dawel ac i wrando arnaf i ar yr adeg hon.

O ran y weithdrefn gŵynion, yn unol ag adran 4 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, mae'r broses ar gyfer penodi comisiynydd dros dro wedi dechrau. Bydd y comisiynydd dros dro yn ymgymryd ag ymchwiliad i gŵynion parhaus o ran ymddygiad Aelodau'r Cynulliad. Hoffwn ei gwneud yn glir i achwynwyr na fydd unrhyw gŵynion na fyddant yn cael sylw o ganlyniad i ymddiswyddiad y cyn-gomisiynydd. Caiff camau eu cymryd hefyd i ddiogelu gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd erbyn hyn ond a gafwyd drwy ymyrraeth mewn achosion safonau cyfrinachol.

Diben hanfodol y cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yw, a dyfynnaf,

'cynnal enw da Cynulliad Cenedlaethol Cymru a bod...agored ac atebol...er mwyn sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn...Aelodau.... Mae'r Cod yn berthnasol i holl Aelodau'r Cynulliad'. 

Mae tanseilio'r broses safonau statudol, annibynnol, y mae pob un ohonom ni fel aelodau etholedig yn atebol iddi, yn fater difrifol, yn fy marn i. Rwyf wedi penderfynu y byddaf i'n gwneud cwyn i'r comisiynydd safonau dros dro, pan fydd wedi'i benodi, ynghylch y defnydd o ddyfeisiau recordio cudd gan Aelod Cynulliad a rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol heb awdurdod.

2. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Integriti mewn Safonau

Gofynnaf nawr i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wneud datganiad. Jayne Bryant.

Rwyf wedi gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wneud ei datganiad. Jayne Bryant.

Diolch, Llywydd. Diolch i chi am y cyfle i wneud datganiad heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Pasiwyd Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan holl Aelodau'r trydydd Cynulliad, yn 2011. Roedd hwn yn ddarn allweddol o waith i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac roedd yn dilyn argymhellion a wnaed yn adroddiad Woodhouse yn 2002, pasio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, dau ymgynghoriad, ac ymchwiliad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y pryd. Casgliad y rhain i gyd oedd bod angen creu swydd statudol annibynnol ar gyfer Comisiynydd Safonau, gyda phwerau pwysig i gynnal ymchwiliadau trwyadl i gŵynion a wneir yn erbyn Aelodau. Nod hyn oedd rhoi mwy o ffydd i'r cyhoedd yn eu cynrychiolwyr etholedig, drwy ymgorffori pwerau ac annibyniaeth Comisiynydd Safonau'r Cynulliad mewn cyfraith.

Rhan o'r broses hon yw'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad trawsbleidiol, a etholwyd gan y Cynulliad i ystyried y cwynion a gyflwynwyd gan y comisiynydd annibynnol. Rydym yn gwneud hynny mewn modd diduedd a chyda chonsensws. Fel pwyllgor, rydym wedi myfyrio ar y datblygiadau ynghylch urddas a pharch, ac rydym yn defnyddio hyn fel cyfle i sicrhau bod y cod ymddygiad, a'r prosesau cysylltiedig, yn ddigonol i ymdrin â senedd sy'n esblygu. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein cynigion wedi'u sefydlu i hysbysu'r Comisiynydd Safonau newydd.

Ni all cyfundrefn safonau effeithiol weithredu heb uniondeb ac ymddiriedaeth gan bawb sy'n ymwneud â'r system a'r broses, a hoffwn atgoffa pob Aelod o'n hangen i gynnal y ffydd yn y system annibynnol hon.

Rwyf wedi cael nifer o geisiadau i siarad neu i wneud pwyntiau o drefn ar yr adeg hon. Rwyf wedi penderfynu peidio â derbyn yr un ohonyn nhw. Y modd gorau o gynnal ein henw da fel Cynulliad, ar hyn o bryd, yw drwy barhau â'n busnes.

13:35
3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Gofynnaf i'r Prif Weinidog ymateb i gwestiynau.

Y cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. [Torri ar draws.]

Nid wyf yn derbyn unrhyw bwyntiau o drefn. Rwyf wedi dweud wrth Mark Reckless a'r holl Aelodau nad wyf yn derbyn unrhyw bwyntiau o drefn. Felly, gofynnaf i'r Aelod eistedd. Mae'r Prif Weinidog ar—[Torri ar draws.] Mr Reckless, nid yw eich meicroffon wedi ei droi ymlaen. Nid ydych chi'n cael eich recordio ar gyfer y pwynt hwn. Nid wyf yn derbyn pwynt o drefn. Rwyf wedi symud i'r busnes nesaf. [Torri ar draws.] Fy ngwaith i yw cynnal enw da'r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy'n credu mai'r modd gorau o wneud hynny, ar hyn o bryd, yw drwy barhau â'r gwaith yr ydym ni wedi ein hethol yn y fan hon i'w wneud. Felly, cwestiynau i'n Prif Weinidog yw hynny, a Llŷr Gruffydd fydd yn gofyn y cwestiwn cyntaf.

Yr Argyfwng Hinsawdd

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau ymarferol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngogledd Cymru er mwyn ateb yr argyfwng hinsawdd? OAQ54687

Llywydd, diolch yn fawr. Rydym yn cymryd sawl cam ymarferol yng ngogledd Cymru er mwyn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Mae'r camau hyn yn amrywio o rai lleol iawn, fel rhoi cyllid i gynghorau cymuned ar gyfer defnyddio goleuadau stryd effeithlon o ran ynni, i fuddsoddi mewn prosiectau ynni'r môr, fel Morlais a Minesto, er mwyn creu diwydiant newydd i Gymru.  

Mae'r sector ynni hydro wedi cysylltu â fi yn mynegi gofid ynglŷn â sefyllfa trethi busnes annomestig. Fe fyddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, fod grant wedi bod yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf er mwyn cynorthwyo gyda thalu hynny a gwarchod y prosiectau hynny rhag cynnydd sylweddol posib yn y dreth annomestig. Mae yna dros flwyddyn nawr ers i'r Llywodraeth gomisiynu a chyhoeddi adroddiad oedd yn edrych ar y sefyllfa a hefyd yn cynnig dulliau amgen. Ond rŷn ni nawr yn cyrraedd y pwynt lle, wrth gwrs, bydd yna gyllideb yn cael ei hoedi cyn ei chyhoeddi eto eleni, a dyw'r sector dal ddim yn gwybod a fydd y grant yn bodoli'r flwyddyn nesaf neu a fydd yna newidiadau mwy pellgyrhaeddol i'r ffordd maen nhw'n cael eu trethu. Maen nhw mewn limbo. Maen nhw angen gwybod yn union beth sy'n digwydd, oherwydd os na fyddan nhw'n cael eu gwarchod rhag y codiad hwn, yna yn amlwg bydd nifer ohonyn nhw yn mynd allan o fusnes. Felly, pryd, yw fy nghwestiwn i, y byddan nhw'n cael gwybod beth sy'n digwydd y flwyddyn nesaf.

Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ychwanegol. Wrth gwrs, fel Llywodraeth rŷn ni wedi bod yn awyddus i helpu'r sector, yn enwedig y sector lleol a chymunedol. Fel mae'r Aelodau wedi clywed oddi wrth Llyr Gruffydd, achos yr etholiad cyffredinol rŷn ni wedi gohirio ein cyllideb ni tan ar ôl y bleidlais ym mis Rhagfyr. Gallaf i siarad â'r Gweinidog a gyda swyddogion er mwyn iddyn nhw gael sgwrs gyda'r sector yn y bwlch sydd wedi agor nawr i roi'r sefyllfa ddiweddaraf iddyn nhw.  

Prif Weinidog, un o'r risgiau mwyaf i'r gogledd, o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, wrth gwrs, yw lefelau'r môr yn codi a pherygl o lifogydd. Neithiwr, fel llawer o bobl yn fy etholaeth i, cefais rybudd o lifogydd oherwydd gwendid amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd yr arfordir yn fy etholaeth i, gan gynnwys yn Nhowyn a Bae Cinmel, lle, ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, byddwn yn coffáu pen-blwydd y llifogydd dinistriol a ddigwyddodd yn y gymuned honno 30 mlynedd yn ôl. Nid yw'r amddiffynfeydd rhag llifogydd yn ddigonol yn Nhowyn a Bae Cinmel ar hyn o bryd i'r graddau nad oes unrhyw adeiladu tai preswyl newydd wedi'i ganiatáu yn yr ardal am dros ddegawd. Pa gamau y bydd eich Llywodraeth chi yn eu cymryd i wella'r amddiffynfeydd yn Nhowyn a Bae Cinmel fel na fydd yn rhaid i'm hetholwyr fyw mewn ofn bob tro y byddan nhw'n cael rhybudd ar eu ffôn am y perygl o lifogydd posibl yn eu hardal?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna ac rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y pryderon y mae pobl yn eu hwynebu pryd bynnag y mae llifogydd yn peri risg i'w heiddo. Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym ni raglen uchelgeisiol gwerth £350 miliwn o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a gwn fod yr Aelod ei hun, mewn dadleuon blaenorol ar y mater hwn, wedi cydnabod y gwaith a wnaed mewn rhannau eraill o'i etholaeth i liniaru llifogydd. Mae'n gwybod hefyd, mewn rhai rhannau o Gymru, fod buddiannau masnachol y mae'n rhaid iddyn nhw eu hunain ysgwyddo rhan o gost darparu'r amddiffynfeydd sy'n angenrheidiol. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan, ond ni all sefydliadau eraill ddisgwyl i Lywodraeth Cymru ysgwyddo'r holl gostau pan fo buddiannau busnes a masnachol amlwg yn y fantol hefyd. Ond rwyf eisiau sicrhau'r Aelod fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r safbwynt y mae ef wedi'i amlinellu, a'i bod yn ei ystyried yn weithredol, a bod Llywodraeth Cymru eisiau ceisio dod o hyd i ateb yn y rhan honno o arfordir y gogledd.

13:40
Effaith Cytundeb Fasnach Rhwng y DU ac UDA ar GIG Cymru

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am effaith cytundeb fasnach rhwng y DU ac UDA ar GIG Cymru? OAQ54664

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Nid yw GIG Cymru ar werth mewn unrhyw drafodaethau negodi rhwng Boris Johnson a Donald Trump. Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud y pwynt hwnnw dro ar ôl tro, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i'w ailddatgan eto y prynhawn yma.

Prif Weinidog, mae uwch swyddogion Llywodraeth y DU wedi cwrdd â chynrychiolwyr cwmnïau o'r Unol Daleithiau chwe gwaith i drafod y GIG mewn trafodaethau ar fasnachu ar ôl Brexit. Yn ystod pump o'r achlysuron hyn, roedd cwmnïau cyffuriau o'r Unol Daleithiau hefyd yn bresennol. Mae'n amlwg bod y GIG yn agored i gael ei breifateiddio ar batrwm yr Unol Daleithiau o dan y Torïaid. Mae'r Torïaid a Phlaid Brexit yn barod i werthu'r GIG i'r cynigydd corfforaethol uchaf. Yng Nghymru, mae'r GIG wedi ei ddatganoli, ond nid yw hynny'n wir am gytundebau masnach rhyngwladol. Prif Weinidog, pa bryderon sydd gennych chi ynghylch dyfodol ein GIG yng Nghymru o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU? Ac yn ail, Prif Weinidog, a ellir ymddiried yn Boris Johnson i amddiffyn y GIG?

Wel, Llywydd, byddai'n syniad da i unrhyw un sy'n ymddiddori o ddifrif yn y pwnc hwn edrych ar egwyddorion negodi UDA, a gyhoeddwyd gan arlywyddiaeth Trump ym mis Chwefror eleni. Mae'n nodi y dylai'r holl wasanaethau—pob gwasanaeth—yn y Deyrnas Unedig fod yn agored i gystadleuaeth oni bai eu bod yn ymddangos ar restr o eithriadau. Ac yn y rhestr o eithriadau a gyhoeddwyd yn y ddogfen honno, nid yw'r gwasanaeth iechyd na'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ymddangos. Mewn geiriau eraill, mae'n gwbl amlwg fod yr Unol Daleithiau yn credu bod ein GIG ar werth, a bod cytundeb byrbwyll a fyddai'n cael ei wneud gan y Prif Weinidog presennol, sy'n benderfynol o ddangos ei fod yn gallu taro bargeinion masnach rydd ledled y byd, yn ddiamau yn rhoi ein gwasanaeth iechyd gwladol ar werth. Dyna pam yr ydym ni'n bryderus yn ei gylch yma yng Nghymru, ac a oes modd ymddiried yn y Prif Weinidog presennol i beidio â gwneud hynny? Wel, holwch bobl Gogledd Iwerddon, lle yr aeth a rhoi ymrwymiad llwyr iddyn nhw na fyddai unrhyw ffin i lawr Môr Iwerddon, dim ond i ganfod ychydig wythnosau yn ddiweddarach ei fod wedi llofnodi'r union gytundeb hwnnw. Gallwn ddisgwyl yr un lefel o ddibynadwyedd yn yr hyn y mae'n ei ddweud am y gwasanaeth iechyd gwladol.

Nid wyf i erioed wedi clywed y fath lol yn fy holl fywyd, Prif Weinidog. Yn y pen draw, fe wyddoch chi'n iawn fod ymgyrch eich Plaid Lafur yn methu ac rydych chi'n lledaenu'r straeon brawychus hyn. Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi sicrwydd diamwys nad yw'r GIG ar werth. Nid yw ar werth. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, o ran y GIG yma yng Nghymru a gweithgynhyrchwyr cyffuriau o UDA, nid yw Orkambi, a wneir gan gwmni fferyllol o'r Unol Daleithiau, ar gael. Pam na wnewch chi gymryd camau a dechrau darparu cyffuriau a fyddai'n gwella'r canlyniadau i gleifion Cymru yn fawr yn hytrach na lledaenu straeon brawychus yn GIG Cymru, Prif Weinidog?

Llywydd, nid oes yn rhaid i Aelodau boeni am yr hyn y mae Andrew R.T. Davies wedi ei ddweud oherwydd gallen nhw wrando ar yr hyn y mae Donald Trump wedi'i ddweud. Oherwydd fe ddywedodd Donald Trump, pan ddaeth i'r wlad hon—[Torri ar draws.] Rwy'n gweld Aelodau gyda'u pennau yn eu dwylo. Nid ydyn nhw'n hapus pan ddywedir y gwir wrthyn nhw. Daeth Donald Trump i'r wlad hon ym mis Mehefin eleni a dywedodd wrth newyddiadurwyr y papurau newydd ei fod yn disgwyl i'r GIG fod yn rhan o fargen a fyddai'n cael ei tharo rhwng y wlad hon a'r Unol Daleithiau. Daeth llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cynulliad hwn ym mis Gorffennaf a dweud yn union yr un peth wrthyf i. Maen nhw'n disgwyl i'r GIG gael ei roi ar werth. Gwyddom na fyddai gan y blaid honno unrhyw broblemau o ran gwneud hynny. A bydd cost cyffuriau yn GIG Cymru yn codi'n aruthrol oherwydd eu bod yn benderfynol bod yn rhaid i ni dalu'r prisiau a delir yn yr Unol Daleithiau i gwmnïau fferyllol. Byddan nhw'n gosod rhwystrau ar lwybr cyffuriau generig sydd wedi cefnogi ein GIG dros gynifer o flynyddoedd. Y gwir amdani yw, Llywydd, yn yr etholiad hwn, fod dyfodol y GIG mewn perygl fel na fu erioed o'r blaen, ac nid yw'r math o sŵn a glywn o'r ochr arall i'r Siambr hon yn ddim ond ymgais i dynnu sylw oddi ar y perygl y maen nhw'n ei beri i'r gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru.

13:45

Diolch i'r Prif Weinidog am ei atebion i'r ddau holwr blaenorol. Rwy'n meddwl efallai y gallwn ni ddod i'r casgliad, o ystyried y sŵn o feinciau'r Ceidwadwyr—rwy'n dyfynnu o Shakespeare—'Methinks, my Lord, he doth protest too much' ac efallai nad oes ganddyn nhw gymaint o ffydd yng ngeiriau eu harweinydd. Ond, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, fel yr amlinellwyd gan Mick Antoniw ac fel yr amlinellwyd gennych chithau yn eich ymatebion iddo ac i Andrew R.T. Davies, a ydych chi'n cytuno â Phlaid Cymru a'r SNP, waeth beth fo canlyniad yr etholiad hwn yn San Steffan, er mwyn amddiffyn ein GIG, mai'r hyn y bydd ei angen yw fframwaith statudol deddfwriaethol cryf sy'n nodi mewn cyfraith na allai unrhyw Lywodraeth y DU orfodi cytundebau masnach ar y gweinyddiaethau datganoledig a fyddai, fel y mae ef wedi ei nodi, yn drychinebus? Onid yw hi'n bryd, yn hytrach na rhoi ein ffydd mewn unrhyw wleidydd yn y DU, i'w roi mewn cyfraith mewn gwirionedd fel na allwn ni gael ein diystyru yn y fan yma yn y wlad hon?

Wel, diolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud, ac rwyf i wedi edrych gyda diddordeb ar y cynnig y mae Plaid Genedlaethol yr Alban wedi'i wneud ar gyfer deddfwriaeth yn y maes hwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae honno'n ddeddfwriaeth y maen nhw'n bwriadu ei gynnig ar lawr Tŷ'r Cyffredin, yn hytrach nag yn Senedd yr Alban ei hun. Felly, edrychaf ymlaen at weld rhagor o fanylion amdani. Edrychaf ymlaen at weld sut y maen nhw'n bwriadu gwneud cynnydd gyda'r Bil hwnnw. Mae'n rhaid i unrhyw beth sy'n gosod rhwystr ar lwybr y rhai hynny a fyddai'n ceisio newid natur ein gwasanaeth iechyd, newid y sail i'r ffaith fod pobl wedi gallu ei fwynhau dros y 70 mlynedd diwethaf a mwy, fod yn werth ei ystyried. Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, mae'r synau a glywn o'r ochr arall i'r Siambr yn llawn sŵn a dicter, ac yn dynodi dim.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, faint o'r ymrwymiadau seilwaith ym maniffesto 2016 Llafur Cymru yr ydych chi'n bwriadu eu cyflawni mewn gwirionedd?

Byddwn yn cyflawni'r buddsoddiad a addawyd gennym yn ein maniffesto yn 2016. Llywydd, rydym ni eisoes wedi llwyddo i ddarparu mwy ohonyn nhw ac yn gyflymach nag y rhagwelwyd gennym yn wreiddiol. Pe byddai ei Lywodraeth ef wedi bod yn barod i fuddsoddi mewn buddsoddiad, pe na bydden nhw wedi dileu ein rhaglen buddsoddi cyfalaf, byddem ni wedi cyflawni hyd yn oed mwy. Ond gyda'r dull llawn dychymyg yr ydym ni wedi ei ddefnyddio ar gyfer buddsoddiad cyfalaf, gan ddefnyddio posibiliadau benthyca awdurdodau lleol a dyfeisio'r model buddsoddi cydfuddiannol newydd y mae cydweithwyr yn yr Alban wedi'i fabwysiadu ers hynny hefyd, rydym ni wedi llwyddo i lenwi rhai o'r bylchau gwaethaf a adawyd gan ei Lywodraeth ef i ni ymdrin â nhw.

Bai rhywun arall yw hi bob amser, onid yw e', Prif Weinidog? Nid yw byth yn fai arnoch chi, ydy e'? Mae angen i chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb. Ond beth am i ni edrych ar un o'r ymrwymiadau yn eich maniffesto? Mae maniffesto eich plaid yn 2016 yn honni eich bod eisoes wedi cyflawni gwaith deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac eto mae'r dyddiad cwblhau ar gyfer lledu rhan o ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi'i wthio'n ôl am yr ail dro eleni, a hynny gyda gorwariant anferthol. Nid yw'n rhywbeth i chi fod yn brolio yn ei gylch, yw e', Prif Weinidog?

A, gadewch i ni edrych ar y cynigion eraill ar gyfer seilwaith yn eich maniffesto. Gwelliannau i'r A55 yn y gogledd: er bod atgyweiriadau wedi'u gwneud, rwy'n credu y bydd yn anodd iawn i chi ddod o hyd i unrhyw un a fyddai'n cytuno bod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud. Gwella'r A40 yn y gorllewin: rwy'n gwybod fel rhywun sy'n teithio'n rheolaidd ar y darn hwnnw o'r ffordd cyn lleied sydd wedi ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem hon. A ffordd liniaru'r M4: wel, Prif Weinidog, mae gogor-droi gan eich Llywodraeth chi wedi gadael cymunedau yn y de-ddwyrain heb ateb i'w tagfeydd, ac yn y cyfamser rydych chi wedi gwastraffu miliynau a miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Prif Weinidog, onid yw'n wir bod eich Llywodraeth chi, yn syml, ar y ffordd i unman pan ddaw'n fater o gyflawni gwelliannau ffyrdd ledled Cymru, ac a wnewch chi ymddiheuro yn awr i'r cymunedau hynny yr ydych chi wedi'u siomi'n arw?

Wel, Llywydd, rwy'n credu ein bod ni wedi clywed teitl maniffesto'r Blaid Geidwadol yn yr etholiad hwn: 'ar y ffordd i unman' sy'n ymddangos i mi yn grynodeb gweddol gryno o'u hymgyrch nhw yng Nghymru dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Rwy'n sylwi bod yr Aelod wedi dechrau drwy gyfaddef mai rhywun arall sydd ar fai, ac mae hynny'n wir; mae hynny'n sicr yn wir o ran y cyllidebau y bu'n rhaid i'r Llywodraeth hon ymdrin â nhw.

Gadewch i mi gymryd y cyntaf o'i gyhuddiadau gwallus. O ran rhan 2 yr A465, fe wnaeth fy nghydweithiwr, Ken Skates, ddatganiad ym mis Ebrill eleni i'r Cynulliad hwn, ac mae'r sefyllfa honno yn parhau i fod yr un sefyllfa heddiw. Fe wnaethom ni ddweud yn y datganiad hwnnw y byddai hi bellach yn 2020 cyn y byddai deuoli'r rhan honno o ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cael ei gwblhau. Yng ngheunant Clydach sy'n sensitif yn amgylcheddol ac sydd ag ochrau serth, mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith wedi adrodd y bu rhesymau amgylcheddol pam y mae wedi cymryd mwy o amser iddyn nhw gwblhau'r gwaith gwerth £1,000 miliwn y bydd y Llywodraeth hon yn ei fuddsoddi yn ffordd Blaenau'r Cymoedd, na fyddai byth bythoedd—byth bythoedd—wedi bod yn flaenoriaeth i'w Lywodraeth ef. Os nad ydyn nhw eisiau ei weld, dylen nhw ddweud hynny. Rydym ni'n falch iawn o'r hanes sydd gennym, a phe byddwn i'n credu bod unrhyw wersi i'w dysgu gan Lywodraeth sy'n gyfrifol am ffiasgo HS2, rwy'n gwybod bellach ble y gallaf fynd—ar y ffordd i unman—i ddod o hyd iddyn nhw.

13:50

Prif Weinidog, gallwch chi droelli hyn mewn unrhyw ffordd y dymunwch chi: mae eich Llywodraeth chi yn methu. Mae cymunedau ledled Cymru yn teimlo'n rhwystredig oherwydd y diffyg cynnydd gwirioneddol o ran mynd i'r afael â seilwaith ffyrdd Cymru yn eu hardaloedd lleol. Mae'r Ffederasiwn Busnesau bach wedi dweud yn ddiweddar nad oes dim eglurder o hyd ynghylch sut y bydd seilwaith mewn rhannau eraill o Gymru yn elwa ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen â'r M4 a bod 63 y cant o fusnesau Cymru wedi'u heffeithio gan seilwaith, gan gynnwys ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith digidol a chyfleustodau. O ystyried yr effaith economaidd ddifrifol y mae methiant eich Llywodraeth i sicrhau gwelliannau sylweddol i'r ffyrdd yn ei chael ar fusnesau a chymunedau ledled Cymru, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd ar unwaith yn awr fel Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn fel mater o frys cyn etholiadau nesaf y Cynulliad?

Wel, Llywydd, byddai'n ddoeth i'r aelod gadw'n gyfredol â'r cyhoeddiadau sy'n cael eu gwneud gan y Llywodraeth hon. O fewn y pythefnos diwethaf, mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid, wedi cyhoeddi gwerth £80 miliwn o fuddsoddiad mewn seilwaith yma yng Nghymru. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd hi y fersiwn ddiweddaraf o gynllun seilwaith buddsoddi Cymru. Mae hynny i gyd yn nodi'r miliynau a'r miliynau o bunnoedd y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwario ar seilwaith yma yng Nghymru: £1.8 biliwn i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy, y byddwn ni'n eu darparu yn ystod tymor y Cynulliad hwn; buddsoddiad sylweddol yn rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain—y rhaglen fwyaf o fuddsoddi mewn seilwaith addysg ers 50 mlynedd a'r rhaglen fwyaf yn unman yn y Deyrnas Unedig. Mae gan y Llywodraeth hon hanes balch o fuddsoddi yn y gwasanaethau ac yn y seilwaith sy'n gwneud gwahaniaeth yma yng Nghymru. Gallai'r Aelod ei ddilyn pe byddai'n dewis gwneud hynny, oherwydd rydym ni'n ei gyhoeddi bob un wythnos.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Yn ystod yr oriau brig, unwaith eto, yr wythnos hon, mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod dan y lach am ganslo trenau, methu arosfannau a gorlenwi. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n dderbyniol i glywed teithwyr—gan gynnwys un yn adrodd stori am gychwyn allan yn gynnar i fynd i swydd newydd a dweud y bu'n rhaid iddo wylio pedwar neu fwy o drenau yn mynd drwy orsaf Heol y Frenhines cyn dod o hyd i un â lle ynddo i fynd arno. Mae'r rhain yn broblemau y mae pobl yn eu hwynebu ddydd ar ôl dydd.

O gofio hyn, rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall y pryder yn dilyn adroddiadau diweddar yn dweud os nad yw Trafnidiaeth Cymru yn cael caniatâd gan yr Adran Drafnidiaeth i barhau i ddefnyddio hen drenau Pacer, nad ydyn nhw'n cydymffurfio, cyn diwedd y flwyddyn, pan fydd gofynion hygyrchedd newydd yn dod i rym, bydd y gweithredwr trên yn colli hyd at 30 o drenau neu 60 o gerbydau. Mae hyn yn hanner eu cerbydau ar wasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd. Gallai tua 19 o drenau Sprinter hefyd gael eu tynnu oddi ar y cledrau am yr un rheswm, gyda goblygiadau i'r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi. Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau bod gan Trafnidiaeth Cymru gynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i ymdopi â'r posibilrwydd o golli hyd at hanner eu fflyd a'r anhrefn y byddai hynny yn amlwg yn ei achosi i deithwyr?

Wel, Llywydd, mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda'r Adran Drafnidiaeth, ac yn groes i'r graen yn ceisio cael caniatâd arbennig i weithredu trenau y tu hwnt i'r terfyn amser o 15 mis a gynigiwyd i Trafnidiaeth Cymru gan y Llywodraeth Geidwadol er mwyn cyflawni cydymffurfiad, ar ôl llawer iawn o flynyddoedd, lle nad oedd y Llywodraeth wedi cymryd unrhyw ddiddordeb mewn cydymffurfiad o gwbl. Nid Trafnidiaeth Cymru yn unig sydd yn y sefyllfa hon. Mae masnachfreintiau eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sy'n gorfod ceisio rhan-ddirymiadau dros dro tebyg. Mae'r trafodaethau hynny yn parhau, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn cymryd rhan lawn ynddyn nhw.

13:55

Rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru gan un o bwyllgorau'r Cynulliad yn 2013, rwy'n credu, fod yn rhaid mynd i'r afael â materion yn ymwneud â cherbydau fel mater o frys, yn enwedig o gofio'r terfynau amser ar gyfer cydymffurfio yr oeddem ni'n gwybod eu bod yn dod. A allwch chi ddweud wrthym ni pam mae'r Gweinidog trafnidiaeth wedi'i adael tan yr hydref hwn cyn gofyn am y caniatâd arbennig i barhau i ddefnyddio'r trenau hynny?

Rhybuddiodd swyddogion mor bell yn ôl â mis Mai y llynedd na fyddech chi'n gallu cael trenau newydd i gymryd lle'r trenau nad oedden nhw yn cydymffurfio, ar amser. Rydych chi'n dweud nad Trafnidiaeth Cymru yn unig sydd yn y sefyllfa o fod ag angen caniatâd arbennig. Rydych chi yn llygad eich lle. Mae Northern Rail yn Lloegr yn wynebu problemau tebyg ac mae wedi cael caniatâd arbennig ar y sail y bydd yn cyplysu Pacers gyda threnau sy'n cydymffurfio. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi nodi eu bod yn ystyried gwneud yr un peth, ond mae'n ymddangos nad oes ganddyn nhw ddigon o drenau sy'n cydymffurfio i wneud hynny. Felly, ble mae hynny'n ein gadael ni?

O ran Northern Rail, mae sawl gwleidydd Llafur amlwg wedi bod yn gofyn am ostyngiad mewn prisiau tocynnau i deithwyr sy'n cael eu gorfodi i ddioddef y trenau Pacer y tu draw i'r dyddiad a addawyd ar gyfer eu diddymu. Daeth y galwadau gan faer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham; maer dinas-ranbarth Sheffield, Dan Jarvis; arweinydd Cyngor Dinas Leeds, Judith Blake. A allwch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn sicrhau gostyngiadau tebyg yng Nghymru am y diflastod a ddioddefir yn ystod eich cyfnod chi?

Lywydd, ni fyddai cyngor i Lywodraeth Cymru yn 2013 wedi bod yn gyngor y gallai unrhyw Lywodraeth fod wedi'i ddilyn oherwydd, bryd hynny, roeddem wedi'n clymu mewn masnachfraint na fu gennym ddylanwad drosti o gwbl. Dyna pam y dywedais i ein bod ni wedi cael 15 mis pan fo'r gallu wedi bod gennym, drwy Trafnidiaeth Cymru, i ymateb i'r mater hwn. Nid yw hynny wedi profi'n ddigon hir gan nad yw'r cerbydau newydd a addawyd i Gymru gan gwmnïau adeiladu preifat wedi eu darparu ganddyn nhw. Nid cyfrifoldeb Trafnidiaeth Cymru yw hwnnw. Cyfrifoldeb y cwmnïau hynny sydd wedi contractio i ddarparu'r cerbydau hynny ac sydd bellach yn dweud wrthym nad ydyn nhw'n gallu cyflawni, ar amser, y stoc a addawyd i ni.

Llywydd, o fis Ionawr 2020, bydd gostyngiadau yn y prisiau ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru. Nid oedd angen i unrhyw wleidydd ofyn i hynny ddigwydd yma yng Nghymru oherwydd ei fod eisoes yn rhan o'n rhaglen weithredu arfaethedig gyda Trafnidiaeth Cymru.

Y broblem o ran y caniatâd arbennig, fel y gwyddoch, yw na chymerwyd camau ar amser gan Lywodraeth Cymru. Ond, os caf i droi, ar gyfer fy nhrydydd cwestiwn, at rywbeth yr wyf i'n dymuno mynd ar ei drywydd heb greu unrhyw wrthdaro, os caniateir hynny yn ystod cyfnod etholiad.

Ysgrifennais atoch chi ddoe, yn gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi gwelliannau yr wyf i wedi'u cyflwyno i'w trafod yng Nghyfnod 3 Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yfory, gyda chefnogaeth nifer o ACau Llafur, yn galw am roi'r enw 'Senedd' neu 'Senedd Cymru' i'r sefydliad hwn sy'n eiddo i ni, fel y cytunais fel cyfaddawd i gael geiriad y cytunwyd arno yn gyfreithiol ar gyfer y gwelliant.

Gan fod y cytundeb hwnnw gennym ni a bod y gwelliannau mewn trefn, bellach mae'n ymwneud â'ch ewyllys chi fel Llywodraeth Cymru. Rydych chi eisoes wedi mynegi eich dewis chi yn bersonol i ddefnyddio'r term 'Senedd'. Rydym ni ar fin cytuno, gobeithio, ar ein galw ni yn 'Aelodau'r Senedd'. 'Y Senedd' yw enw'r adeilad hwn eisoes. Nawr, y cyfan sydd ei angen yw'r cam bach ond arwyddocaol o roi'r enw swyddogol hwnnw ar y sefydliad.

Rydym ni'n cytuno, fel arwydd o'r cynnydd a thaith datganoli, y dylai'r ddeddfwriaeth newydd hon ddisgrifio'r sefydliad hwn fel Senedd, ac mae'n gwneud hynny. Ond rydym ni'n sôn am roi teitl cynhenid ac unigryw i'n Senedd frodorol, unigryw, fel y mae cynifer o seneddau eraill yn ei wneud ledled y byd. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle unigryw hwn i gefnogi'r datganiad mai ein Senedd ni, beth bynnag fo'n dewis o ran iaith, yw Senedd Cymru?

Wel, mewn ysbryd tebyg, gadewch i mi ddiolch i'r Aelod am yr holl waith y gwn ei fod wedi bod yn ei wneud dros yr wythnosau diwethaf i siarad ag eraill ac i gyflwyno cynigion. Mae'n fater y mae gan lawer o Aelodau'r Cynulliad farn gref arno, ac nid yw'n fater i'r Llywodraeth. Bil Cynulliad yw hwn, nid Bil Llywodraeth, a bydd gwahanol Aelodau Cynulliad â barn wahanol ar yr ateb iawn i'r cwestiwn hwn. Roedd y Llywodraeth o'r farn yn ystod Cyfnod 2, Llywydd, y dylem ni fel cenedl ddwyieithog fod ag enw dwyieithog ar y sefydliad yr ydym ni'n gweithredu oddi mewn iddo, a dyna fydd y safbwynt y byddwn ni yn ei adlewyrchu wrth bleidleisio fel Llywodraeth yfory, tra bydd Aelodau o'r Blaid Lafur nad ydyn nhw yn y Llywodraeth yn cael mynegi eu barn yn y modd sy'n ymddangos yn iawn iddyn nhw.

14:00

Prif Weinidog, a yw'n dderbyniol i un o Weinidogion Cymru ddweud celwydd os mai ei amcan yw pardduo Plaid Brexit? Hefyd, a wnaeth Rebecca Evans eich hysbysu chi neu'r Cwnsler Cyffredinol, o dan baragraff 7.16 o'r cod gweinidogol, cyn gwneud cwyn am safonau yn gyfan gwbl heb rinwedd, ac ynglŷn â hynny, dywedodd y comisiynydd safonau sy'n ymadael bod ei gweithredoedd hi, ac rwy'n dyfynnu, yn warthus?

Llywydd, bob wythnos mae'r Aelod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i mi am y cyfrifoldebau niferus yr wyf i'n eu hymarfer fel pennaeth y Llywodraeth yma yng Nghymru. Wythnos ar ôl wythnos mae'n dewis fy holi am bethau nad ydyn nhw'n rhan o'm cyfrifoldebau i fel pennaeth y Llywodraeth o gwbl. Mae'r dewisiadau a wna Aelodau yn eu capasiti fel AC unigol yn rhai iddyn nhw eu gwneud, a phan fo ganddyn nhw gwynion, mae'n gwbl briodol y dylen nhw fynd symud ymlaen â'r cwynion hynny, ac y dylen nhw wneud hynny heb unrhyw ymdeimlad o fod yn atebol i Lywodraeth Cymru.

Na, na—ni fydd pwyntiau o drefn ar y mater hwn. Parhewch â'ch cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Prif Weinidog, mae Rebecca Evans yn eistedd ar y Pwyllgor Busnes fel Gweinidog y Llywodraeth. [Torri ar draws.] Fe godais i gyda chi yr wythnos diwethaf—

Nid oes angen unrhyw gymorth ar y Prif Weinidog gan feinciau cefn y Llywodraeth, ac nid oes angen eu cymorth arnaf innau ychwaith.

Codais gyda chi yr wythnos diwethaf un o'ch Aelodau yn dweud wrth un o'm haelodau i i 'effio bant'. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i y dylwn ei gyfeirio at y comisiynydd safonau i'w godi ac ymchwilio iddo'n briodol. Nawr, mae'r sylw y mae'n ei wneud ynghylch 'gwarthus', am eich Gweinidog cyllid, yn ymwneud â hi'n gwleidyddoli cofnodion y Pwyllgor Busnes, y mae hi'n gwasanaethu arno fel Gweinidog y Llywodraeth. Dywedodd ef hefyd ei fod eisiau siarad â hi am ei hagwedd:

Mae hi fel petai'n tybio os yw hi'n dweud ei bod hi'n dweud un peth, fy mod i'n dechrau o'r sail o dderbyn yr hyn y mae hi'n ei ddweud, mae'n rhaid i mi edrych ar y gŵyn i weld a yw hi'n dweud celwydd.

Mae'n amlwg i mi nad oedd Rebecca yn gwybod ffeithiau llawn yr achos cyn iddi drydar hyn—

Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn, Mark Reckless. Nid oes angen dyfyniadau wedi'u darllen gennych chi byth a beunydd. Rydych chi'n cael y fraint o ofyn cwestiynau i Brif Weinidog Cymru ar ei gyfrifoldeb am wasanaethau cyhoeddus a'r economi yng Nghymru. Rwy'n awgrymu y dylech chi gymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif a'i gyflawni fel arweinydd Plaid Brexit.

Wrth gwrs, mae cwestiynu eich swyddogaeth chi yn annerbyniol, onid yw e'? Rwyf wrth gwrs yn derbyn eich barn ar y mater hwnnw, Llywydd.

Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, buom yn siarad am y comisiwn cyfiawnder, ac fe wnaethoch chi ddweud bod adroddiad y comisiwn cyfiawnder wedi dangos y ffordd ymlaen ar gyfer datganoli cyfiawnder yng Nghymru. Dywedodd yr Arglwydd Thomas y gellid dibynnu ar dîm o ddim ond 10 o weision sifil i gefnogi'r datganoli cyfiawnder hwnnw, oherwydd gallem ni bwyso ar y farnwriaeth ac ysgolion y gyfraith yng Nghymru. Ac eto, gwnaeth y sawl a fu, am bron i 10 mlynedd, y prif farnwr yng Nghymru ddweud am fenywod sy'n gyfreithwyr:

Byddwch chi'n dod ar ei draws drwy'r amser, yn enwedig gydag, yn arbennig, menywod ifanc sy'n gyfreithwyr, bargyfreithwyr, sy'n ymwneud mewn modd emosiynol â'u cleientiaid. Mae'n gusan angau.

Nid ydych chi'n dod at gwestiwn. Rwyf wedi gofyn i chi ddod at gwestiwn.

Beth, Llywydd, y mae hynny'n ei ddangos am y farnwriaeth yn y wlad hon, ac am ysgolion y gyfraith, pan ddaw i'r casgliad:

Rydych chi'n meddwl gwneud y gyfraith, mae hi'n gefnogwr Plaid Cymru—?

Os dewiswch chi ymateb i hynny, cewch wneud hynny, Prif Weinidog, ond os dewiswch chi beidio â gwneud hynny, bydd gennych chi fy nghydymdeimlad.

Llywydd, rwy'n ystyried y cwestiwn yna yn gamddefnydd o'r cyfle sydd gan yr Aelod yn y fan yma yn y Siambr ac nid wyf i'n—

Rwyf i wedi fy nghyhuddo o ragfarn gan Aelod o'r Cynulliad hwn yn y fan heddiw. Gofynnaf i'r Aelod hwnnw dynnu'r cyhuddiad hwnnw yn ôl, a gofynnaf i chi fod cystal â gwneud hynny nawr.

Er gwaethaf pa un a yw'r honiad yn wir ai peidio, rwyf yn ei dynnu'n ôl.

14:05

Cwestiwn 3—David Rowlands. [Torri ar draws.]. Cwestiwn 3—David Rowlands.

Rwy'n symud ymlaen. Cwestiwn 3—Rwy'n gofyn i chi ofyn eich cwestiwn, David Rowlands. David Rowlands, gofynnwch eich cwestiwn.

Cwangos

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cwangos yng Nghymru? OAQ54654

Llywydd, mae gan Lywodraeth Cymru 52 o gyrff hyd braich o wahanol fathau, 15 ohonyn nhw'n gwmnïau dan berchnogaeth lwyr. Mae cyrff hyd braich yn cyflawni pob math o swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ond yn gweithredu'n annibynnol arnynt.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Nid wyf yn diystyru'r gwaith da y mae'r trydydd sector yn ei wneud, ond mae'n amlwg, hyd yn oed i sylwedydd achlysurol, fod llawer iawn o ddyblygu yn y sefydliadau sy'n ymwneud â lliniaru rhai o'r problemau mwyaf dybryd sy'n wynebu'r cyhoedd yng Nghymru. Er enghraifft, rwy'n credu bod oddeutu 50 o sefydliadau yn gofalu am ddigartrefedd. Er fy mod i'n deall bod llawer ohonyn nhw'n gwbl wirfoddol ac nad ydyn nhw'n cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru, pa fesurau sydd ar waith i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu pan fyddan nhw'n cael arian gan y Llywodraeth? Ac mae dros 30,000 o sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru—un ar gyfer pob 96 o bobl. Yn sicr, mae hyn yn codi'r cwestiwn, 'a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth yn y sector hwn?'

Llywydd, roeddwn i wedi deall bod y cwestiwn yn ymwneud â nifer y cwangos yng Nghymru, ac nid yw'r 30,000 o fudiadau trydydd sector yn gwangos mewn unrhyw ystyr o'r gair hwnnw. Mae cynifer o sefydliadau yng Nghymru oherwydd bod gan Gymru ddiwylliant mor gyfoethog o weithredu cymunedol a bod cynifer o bobl yng Nghymru yn benderfynol o wneud eu cyfraniad yn y ffordd honno. Maen nhw'n aml yn amrywio o elusennau bach iawn, a sefydlwyd i ddatrys problemau lleol iawn, yn aml i adlewyrchu profiadau unigol y mae pobl wedi eu cael yn eu bywydau eu hunain. Rwy'n credu bod digon o le yn ein bywyd yng Nghymru i'r bobl hynny a'r sefydliadau hynny, ac rwy'n credu ei bod yn fwy o fater i'w ddathlu, bod gennym gynifer o bobl a chymaint o gyrff sydd, yng Nghymru, yn dymuno gwneud y cyfraniad hwnnw, a byddai'n well gennyf fod â'r broblem honno nag o fod heb ddigon o bobl a dim digon o sefydliadau sy'n barod i gamu ymlaen i'n helpu â'r pethau yr ydym ni'n eu hwynebu heddiw.

Prif Weinidog, mae gan y Llywodraeth, yn gwbl briodol, amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a noddir sy'n cyflawni tasgau penodol iawn, ac maen nhw'n rhai eithriadol o bwysig fel darparu gwasanaethau cyhoeddus enfawr. Yr hyn sydd ei angen, yn arbennig ar yr olaf o'r rhain, yn fy marn i, yw llywodraethu rhagorol ar lefel bwrdd, er mwyn i'r cyfarwyddwyr anweithredol, yn arbennig, allu sicrhau bod gweithrediaeth y cyrff hynny: un, yn cyflawni'r mandadau a nodir o ran polisi gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd yn ei wneud yn effeithiol, ac yn effeithlon fel ein bod yn cael y gwerth gorau am arian.

Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth David Melding. Mae'r swyddi y mae pobl sydd wedi eu penodi i'n prif gyrff cyhoeddus yn aml yn arwyddocaol iawn, a gallu cyfarwyddwyr anweithredol i chwarae eu rhan yn y ffordd y byddem ni yn dymuno iddyn nhw ei wneud, fel eu bod yn gyfeillion beirniadol i'r sefydliad hwnnw, heb fod byth yn ofni gofyn cwestiynau anodd neu heriol, yw'r union swyddogaeth y byddem ni'n dymuno eu gweld nhw'n ei chyflawni.

Yn ddiweddar, rydym ni wedi sefydlu uned cyrff cyhoeddus newydd o fewn Llywodraeth Cymru i allu rhoi hyfforddiant ychwanegol a chymorth ychwanegol i'r bobl hynny sydd yn y swyddi pwysig iawn hynny, ac rwy'n falch iawn y byddwn ni'n cael mwy o wrandawiadau cyn penodi gan bwyllgorau yn y sefydliad hwn, er mwyn i Aelodau'r Cynulliad gael cyfle, pan benodir pobl i arwain y cyrff hynny, i'w holi ac i fod yn fodlon eu bod yn gallu cyflawni'r cyfrifoldebau hynny i arwain tîm o gyfarwyddwyr anweithredol, a gwneud hynny gyda'r trylwyredd y byddem ni'n ei ddisgwyl ganddynt.

Y Cyflog Byw

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganran y gweithlu yng Nghymru sy'n ennill y cyflog byw neu uwch? OAQ54662

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rydym ni'n cyhoeddi asesiad yn ein hadroddiad blynyddol ar lesiant Cymru, sy'n nodi ein cynnydd yn erbyn saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dengys ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 77 y cant o swyddi yng Nghymru, yn 2019, wedi'u talu ar y cyflog byw neu'n uwch, ac mae hynny'n gynnydd o'r 74 y cant yn 2018.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi na allwn ni, dim un ohonom ni, fod yn falch bod bron i draean o'n plant yn byw mewn tlodi, a bod gan lawer o'r plant hynny rieni sy'n gweithio—llawer ohonyn nhw gyda mwy nag un swydd.

Roeddwn i'n falch o gymryd rhan ddoe yn lansiad yr Wythnos Cyflog Byw yn y gorllewin, a noddwyd gan gwmni bwyd anifeiliaid anwes Burns yng Nghydweli. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed sut yr oedd y cwmni cymharol fach hwn, gyda dim ond ychydig dros 120 o weithwyr, yn defnyddio contractio i sicrhau bod yr holl staff ar eu safle—nid yn unig eu gweithlu sy'n cael eu talu'n uniongyrchol, ond yr holl staff ar y safle—yn cael eu talu y cyflog byw gwirioneddol. Nid ydyn nhw ar unrhyw amod yn fodlon contractio gydag unrhyw is-gontractwyr oni bai eu bod nhw'n gwneud hynny.

Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn esiampl y cwmni bach arloesol hwn, a hefyd bod cymorth yn cael ei roi i sefydliadau yn y sector preifat a allai ddymuno gwneud yr un peth?

14:10

Diolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn ychwanegol yna. Roedd yn wych cael y cyfle ddoe, yma yng Nghaerdydd ar ddechrau'r diwrnod, a gwn yng Nghydweli yn ddiweddarach yn y dydd, i nodi Wythnos Cyflog Byw gwirioneddol yma yng Nghymru. Ac yn union fel yr oedd hi'n gallu dathlu llwyddiant cwmni yn y gorllewin, felly hefyd y rhai hynny ohonom ni o bob cwr o'r Siambr a oedd yma yn y Pierhead bore ddoe i ddathlu cyhoeddi mai Caerdydd oedd yr ardal drefol fawr gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn statws dinas cyflog byw. Mae hynny'n dystiolaeth wirioneddol i arweinyddiaeth cyngor y ddinas ar y naill law, ond hefyd i gwmnïau o'r sector preifat a siaradodd yn y digwyddiad hwnnw hefyd.

Un o'r prif ffyrdd yr ydym ni wedi bod yn bwrw ymlaen â hyn, wrth gwrs, yw drwy'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi—yr union bwynt yr oedd Helen Mary yn ei wneud. Mae dau gant ac un ar ddeg o sefydliadau wedi llofnodi i gytuno i'r cod hyd yn hyn; 58 o'r rheini o'r sector cyhoeddus, ond mae 153 yn sefydliadau preifat. Ac mewn sawl ffordd, rydym ni'n dibynnu ar ysbryd cenhadol cwmnïau fel yr un yng Nghydweli sy'n esbonio i'w cyfoedion pam mae'r camau y maen nhw'n eu cymryd nid yn unig yn dda i weithwyr ond yn dda i gyflogwyr hefyd. Dyna'r pwynt a oedd yn cael ei wneud yn y Pierhead ddoe gan gyflogwyr.

Mae cyflogwyr sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol â'r fantais o fwy o deyrngarwch ac ymrwymiad gan eu gweithwyr. Mae'r bobl hynny'n treulio mwy o amser gyda nhw, mae nhw’n datblygu eu llwyddiant, maen nhw'n gwneud cyfraniad ychwanegol i lwyddiant y cwmni hwnnw. Felly, nid bod yn anhunanol yn unig yr ydym ni'n gofyn amdano gan y sector preifat, ond hunan-les goleuedig hefyd. A chwmnïau yn egluro hynny i gwmnïau eraill fu'r ffordd yr ydym ni wedi cael y llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael wrth sicrhau bod y 153 o sefydliadau preifat hynny wedi llofnodi i gytuno i'r cod eisoes.

Prif Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn y fan yna o ran pwysigrwydd cael cwmnïau preifat i lofnodi i gytuno i'r cod a'u swyddogaeth o ran darparu'r cyflog byw. A gaf i hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i'r rhai hynny y mae Aelodau eraill wedi eu rhoi i Gaerdydd fel y ddinas cyflog byw gyntaf? Mae hynny'n bwysig nid yn unig i Gaerdydd ond hefyd i ardal y ddinas-ranbarth.

Fodd bynnag, mae Cynnal Cymru wedi canfod bod un o bob pum swydd yng Nghymru yn dal i dalu llai na'r cyflog byw o £9.30 yr awr, ac mae gweithwyr Cymru yn dal i gael rhai o'r cyflogau wythnosol isaf ledled y DU. Rydych chi'n sôn am Gaerdydd, ac rwyf i wedi sôn am Gaerdydd—mae gwahaniaeth hefyd rhwng y gogledd a'r de. Felly, o ystyried y pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn, ond yn enwedig pwerau trethu, er enghraifft, sut ydych chi'n rhagweld y byddwch chi'n defnyddio'r dulliau newydd hyn i sicrhau, dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, fod y sefyllfa rhwng y gogledd a'r de yn gallu cael ei hunioni, fel y gall pob rhan o Gymru elwa ar gael mwy o bobl yn byw uwchlaw'r cyflog byw?

Llywydd, mae rhai o'r cyflogau gorau yng Nghymru yn cael eu talu yn y gogledd, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw economi sy'n tyfu, lle mae mwy o arian felly i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus, ond lle mae'r twf yn ein heconomi yn dod o'r swyddi hynny sy'n cynnig cyfle i bobl nid yn unig i oroesi ond i ffynnu yn eu bywydau eu hunain. Mae hynny'n sicr yn golygu talu'r cyflog byw gwirioneddol o leiaf.

Rwy'n talu teyrnged i gyngor Mynwy sydd, er nad yw wedi'i achredu hyd yma, yn dalwr cyflog byw gwirioneddol. Mae yna arweiniad i'w ddangos gan ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru er mwyn annog mwy o gwmnïau yn y sector preifat i ddilyn eu hesiampl. Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn talu'r cyflog byw gwirioneddol neu uwch. Cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ddoe, ac roedd yn rhan o ddathliad y Pierhead, eu bod hwythau bellach yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol. Mae'r prifysgolion eisoes, mae ein parciau cenedlaethol eisoes. Rydym ni'n creu màs critigol o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i'r agenda hon, ac wedyn rydym ni eisiau defnyddio'u profiad nhw i dynnu gweddill economi Cymru i'r un cyfeiriad.

14:15
Mynd i'r Afael â Chaethwasiaeth Fodern

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern? OAQ54686

Diolch i Dawn Bowden am hynna. Cymru yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth. Caiff achosion o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru eu hadolygu gan grŵp cenedlaethol, gan gynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron, asiantaethau cymorth a gorfodi'r gyfraith perthnasol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddaf yn ofalus ynghylch yr hyn yr wyf yn ei ddweud yn fy nghwestiwn, oherwydd bod ymchwiliadau cyfredol gan yr heddlu yn fy etholaeth i ar y mater hwn. Ond mae ymchwiliadau o'r fath yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod pawb yn parhau i fod yn effro i broblemau masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern, ac i'r camfanteisio ofnadwy ar bobl sy'n agored i niwed a all ddigwydd mewn ystod eang o sefyllfaoedd bob dydd. Prif Weinidog, mae'r ymchwiliadau presennol yn fy etholaeth i yn canolbwyntio ar y sector gofal preswyl, sydd rwy'n credu yn rhan o'r system gofal sy'n destun rheoleiddio ac arolygu gennym ni. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i mi, ar adeg briodol, y bydd yr holl dystiolaeth berthnasol yn cael ei hadolygu i weld pa gamau eraill a allai fod yn bosibl? Er enghraifft, a ddylem ni fod yn ceisio sicrhau bod cyrff arolygu yn fwy effro i'r materion sy'n ymwneud â chaethwasiaeth fodern a'r hyn y dylen nhw fod yn ei ystyried fel ffordd arall o helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon yn y sector gofal yng Nghymru?

Diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn pwysig yna. Llywydd, oherwydd mai ni sydd â'r unig gydgysylltydd atal caethwasiaeth yn y DU yma yng Nghymru, rydym ni wedi gallu defnyddio'r swydd honno i sicrhau bod gennym hyfforddiant ar y cyd a chyson ledled Cymru ar y mater hwn. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod fod pob achos o gaethwasiaeth fodern yn cael ei adolygu gan grŵp gwaith achos gwrth-gaethwasiaeth Cymru gyfan, sy'n mynd drwyddyn nhw i sicrhau ein bod ni'n dysgu'r gwersi oddi wrthynt. Ac mae'n ffaith ddifrifol, Llywydd, onid yw hi, yn 2018, fod 251 o achosion o gaethwasiaeth fodern wedi'u hadrodd yma yng Nghymru. Fel yr awgrymodd yr Aelod, nid yw hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn rhywle arall, nid yw'n rhywbeth y mae rhywun arall yn ei weld ond nad ydych chi yn ei weld. Dyna pam mae hyfforddi ein harolygwyr, hyfforddi pobl sy'n dod ar draws amgylchiadau lle gallai hyn fod yn wir, mor bwysig i ni.

Ac mae cyfleoedd i ni fel Aelodau Cynulliad yn y fan yma hefyd. Llywydd, cefais i fy huna achos i adrodd am enghraifft, yn dilyn cymhorthfa ar y stryd a gynhaliais yn fy etholaeth fy hun dros yr haf, lle'r oedd trigolion lleol wedi dychryn o weld yr hyn a welsant yn digwydd mewn adeilad ym mhen pellaf eu stryd eu hunain. Ac, ar ôl ymchwilio, roedd yna rywbeth yr oedd dirfawr angen ymchwilio iddo yn y fan honno. Felly, mae gennym ni i gyd gyfrifoldebau, yn union fel eraill sy'n llygaid ac yn glustiau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r ffigur hwnnw o 251, Llywydd, er ei fod yn syfrdanol yn ei ffordd, yn cael ei ystyried yn y sector fel llwyddiant, oherwydd mae'n golygu bod mwy o bobl yn barod i ddod ymlaen a nodi enghreifftiau o'r math hwn. Fe wnaethom ni ddechrau'r daith hon yn 2012, dan arweiniad fy nghyd-Aelod Joyce Watson i raddau helaeth a phopeth y mae hi wedi'i wneud yn y maes hwn. Adroddwyd am 34 o achosion yn y flwyddyn honno. Chwe blynedd yn ddiweddarach, roedd wedi cynyddu i dros 250. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn dangos i ni fod mwy o bobl yn ymwybodol, mwy o bobl yn effro, ac felly bod mwy o allu i wneud yr hyn a awgrymwyd gan Dawn Bowden, sef casglu'r dystiolaeth a dysgu'r gwersi.  

Yn eich ateb i gwestiwn Helen Mary yn gynharach, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am god ymarfer cyflogaeth foesegol Llywodraeth Cymru. Rwy'n tybio mai hwnnw yw'r un cod yr ydym ni'n sôn amdano yn y fan yma. Felly, roeddwn i'n falch o glywed bod cynifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat wedi ymrwymo iddo. Clywaf eich ymateb i gwestiwn Dawn Bowden, a oedd yn llawn iawn, i fod yn deg, ond os gwn i tybed a yw'n bryd efallai cynnal ail-lansiad cyhoeddusrwydd ar hyn, oherwydd, os oes 150 o gwmnïau preifat neu gyrff preifat sy'n dilyn y cod hwn, yn gyntaf oll, hoffwn i wybod faint ohonyn nhw sydd mewn gwirionedd yn ei ddilyn yn llawn, ac nid dim ond canolbwyntio ar y cyflog byw ac efallai ddim yn canolbwyntio ar yr elfen gwrth-gaethwasiaeth. Ac, mewn gwirionedd, mae gennym ni filoedd o gwmnïau yma yng Nghymru—efallai y gallai mwy ohonyn nhw ddysgu mwy am hyn a bod yn barod i ymrwymo iddo.

14:20

Diolch i Suzy Davies am hynna. Rwy'n awyddus iawn i ni fanteisio ar bob cyfle a geir i hyrwyddo'r cod. Rydym ni'n ei wneud drwy'r contract economaidd; byddwn ni'n ei wneud yr wythnos hon. Wythnos Diogelu Cymru yw hon, a bydd fy nghyd-Aelod Julie Morgan yn mynychu digwyddiadau—mae hi eisoes wedi gwneud hynny yn y de, a bydd hi yn y gogledd yn ddiweddarach yr wythnos hon yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r camau yr ydym ni'n eu cymryd yn rhan o hynny. Ac wrth gwrs, mae Suzy Davies yn iawn: mae'r cod ymarfer mewn cyflogaeth foesegol yn ymwneud â thelerau ac amodau ac amgylchiadau lle mae pobl yn cael eu cyflogi, ond mae'n fwy na hynny. Mae caffael yn rhan bwysig ohono, ac mae'r ffordd y deuir â phobl i mewn i'r gweithle yng Nghymru yn flaenllaw yn y cod hwnnw. Felly, byddaf yn meddwl yn ofalus am yr hyn a ddywedodd hi. Rydym ni'n manteisio ar ba gyfleoedd bynnag sydd gennym eisoes, ac efallai y bydd achos yn y flwyddyn newydd dros gael digwyddiad arall sy'n tynnu sylw at yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni ac sy'n denu mwy o bobl i'w gefnogi.

Tlodi Plant

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dlodi plant? OAQ54648

Diolch i Mike Hedges am hynna. Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau tlodi plant yn canolbwyntio ar y mesurau lliniaru ymarferol hynny sydd yn ein dwylo ni ac sy'n gadael arian ym mhocedi teuluoedd sydd â'r angen mwyaf amdano.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bob haf, mae plant yn llwgu, mae llawer o rieni yn colli 10 o brydau am ddim fesul plentyn yr wythnos pan fydd ysgolion ar gau. Byddwn yn cymeradwyo gwaith fy nghydweithiwr Carolyn Harris, a fu'n bwydo ymhell dros 5,000 o blant yn ystod yr haf yn Nwyrain Abertawe, ond yn sicr nid oedd hynny'n cyrraedd pawb a oedd ar eu colled o ran y bwyd am ddim. A wnaiff y Prif Weinidog nodi costau parhau i gynnig brecwast am ddim mewn ysgolion drwy wyliau'r haf, ac yna ystyried ei ariannu? Mae'n debyg mai dyma fyddai'r ffordd orau o ymdrin â thlodi plant yng Nghymru.

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hynod bwysig yna. Mae'n ffaith ddifrifol, Llywydd, ein bod yn gallu clywed brawddeg yn y Cynulliad hwn sy'n dweud 'bob haf mae plant yn llwgu yma yng Nghymru'. Yn sicr, ni ddylem ni fod yn barod i glywed hynny fel petai'n fater o drefn ac yn rhywbeth na ddylem ni wneud rhywbeth yn ei gylch. Wrth gwrs, rwy'n cymeradwyo gwaith Carolyn Harris yn Abertawe, a ddenodd lawer o ddiddordeb a sylw dros yr haf eleni.

Llywydd, mae dros 61,000 o blant yng Nghymru sy'n cael brecwast am ddim yn ein hysgolion cynradd ar ddyddiad y cyfrifiad ar ddechrau'r flwyddyn hon. Mae'r cyllid wedi mynd i mewn i'r grant cymorth refeniw ers tro, fel y byddem yn disgwyl iddo ei wneud. Yn nhymor y Cynulliad hwn, rydym wedi canolbwyntio fel Llywodraeth ar y rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol, SHEP. Fe wnaethom ni roi £500,000 o arian i'r rhaglen yn ystod dwy flynedd gyntaf y tymor Cynulliad hwn. Cododd hynny i £900,000 yn y flwyddyn ariannol hon, a phan fo arian mor brin, mae'n arwydd gwirioneddol o'r flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei rhoi i ymdrin ag effaith ymarferol tlodi ym mywydau'r plant hynny y mae angen ein cymorth arnyn nhw fwyaf. Mae rhaglen SHEP yn darparu pryd o fwyd i blant, ond llawer mwy na phryd o fwyd. Mae'n cynnwys rhieni wrth baratoi'r pryd bwyd hwnnw. Mae'n cynnwys pwyslais ar safonau maeth. Mae'n darparu ymarfer corff i blant yn rhan o'r rhaglen. Mae'n mynd i'r afael â cholli dysgu yn ystod y gwyliau. Mae bellach wedi'i chyflwyno i 21 o'r 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru, ac mae'r arian ychwanegol hwnnw—mae £100,000 o hwnnw wedi mynd i sefydliadau'r trydydd sector, ac mae rhywfaint o hwnnw, am y tro cyntaf, wedi cael ei ddefnyddio i roi bwyd i blant llwglyd yn ystod y gwyliau hanner tymor diweddar ym mis Hydref.

Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau y mae Mike Hedges wedi eu gwneud am bwysigrwydd y pwnc hwn, ac rwy'n awyddus i ddathlu rhai o gyflawniadau'r sefydliadau hynny sy'n gweithio, gyda'n cymorth ni, i wneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau plant.  

Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Great School Libraries, dim ond 67 y cant o ysgolion Cymru sydd â man dynodedig ar gyfer llyfrgell ysgol. Fodd bynnag, mae ysgolion yn Lloegr hyd at draean yn fwy tebygol o fod â llyfrgell. Nawr, mae'r anghyfartaledd yn dangos unwaith eto yr anghydraddoldeb o ran cyfle i ddisgyblion yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Mae diffyg llyfrgelloedd yn taro ein plant tlotaf galetaf. Nawr, mae ysgolion â chyfran uwch o blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim hefyd fwy na dwywaith yn fwy tebygol o beidio â bod â man dynodedig ar gyfer llyfrgell ar y safle. Felly, mae gennym ni ffordd bell i fynd, Prif Weinidog, i wella'r sefyllfa yng Nghymru oherwydd dim ond 9 y cant o ysgolion y credir bod ganddyn nhw gyllideb llyfrgell, hyd yn oed. Felly, a wnewch chi weithio gydag arweinwyr ysgolion a'r gymuned llyfrgell ac, yn wir, eich Gweinidog, i ddatblygu buddsoddiad newydd mewn llyfrgelloedd ysgol gyda'r nod o gydbwyso anghydraddoldeb o ran mynediad a darpariaeth?

14:25

Llywydd, mae diffyg bwyd yn taro ein plant tlotaf galetaf yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys y 50,000 o blant ychwanegol a fydd yn dod i ddiwedd y degawd hwn mewn tlodi o'i gymharu â phan ddaeth ei Llywodraeth hi i rym yn 2010.

Rwy'n siŵr bod fy nghydweithiwr, y Gweinidog addysg, wedi clywed yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am lyfrgelloedd, ond dechreuodd y cwestiwn hwn gyda phlant sy'n llwglyd yn ystod y gwyliau, a dyna ble rwy'n credu y mae fy meddyliau wedi'u canolbwyntio y prynhawn yma.

Gwella Trafnidiaeth

7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella trafnidiaeth? OAQ54655

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn cynnwys hyrwyddo teithio llesol, buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a seilwaith trafnidiaeth sy'n cefnogi ffyniant a hygyrchedd i bawb.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Mae'r Adran Drafnidiaeth yn rhagamcan y bydd traffig ar hyd yr M4 yng Nghymru yn cynyddu gan bron i 38 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Yn 2015, roedd cyfraddau damweiniau ar rai rhannau o'r draffordd yn dal i fod yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol er gwaethaf cyflwyno camerâu cyflymder amrywiol ar rai mannau peryglus ar yr M4. Mae gan rai rhannau o'r M4 aliniadau sy'n is na'r safonau presennol ar gyfer traffyrdd, heb lain galed, a cheir cyffyrdd mynych, sy'n achosi i gerbydau newid lonydd dros bellteroedd cymharol fyr. Prif Weinidog, nid ydych chi a'ch Llywodraeth wedi cyflawni ei hymrwymiad yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad diwethaf ar gyfer y ffordd liniaru. Pa bryd y byddwch chi'n cymryd y camau sy'n ofynnol i wella diogelwch a thagfeydd ar yr M4, os gwelwch yn dda?

Wel, o ystyried yr hyn a ddywedodd, bydd yr Aelod yn falch, Llywydd, o groesawu'r swyddogion traffig ychwanegol sydd eisoes yn gweithio ar yr M4 yn ardal Casnewydd, gan leihau'r amser ymateb i ddamweiniau o 20 munud i 10 munud. Bydd yn falch o groesawu'r gwasanaeth adfer am ddim, a sefydlwyd gennym dros yr haf, mewn trefniant anffurfiol ar yr adeg honno gyda Heddlu Gwent, ond sydd bellach wedi'i gadarnhau mewn cynllun ar gyfer patrolau gwelededd uchel o gapasiti adfer trwm ar gyfer digwyddiadau mawr a gwyliau banc ac yn y blaen. Bydd yn falch o wybod bod arwyddion negeseuon amrywiol am amserau teithiau bellach wedi'u cwblhau ac yn cael eu defnyddio rhwng cyffordd 23 a chyffordd 29, a'n bod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr bod gyrwyr yn ymwybodol o broblemau ar y rhwydwaith a'r angen i gymryd camau gweithredu i osgoi'r damweiniau hynny a all achosi oedi i eraill.

Fel y clywsom yn gynharach, Prif Weinidog, ar ôl 31 Rhagfyr, gallem ni golli'r trenau Pacer o reilffyrdd y Cymoedd. Nawr, byddai colli'r trenau Pacer yn achos dathlu fel arfer, oherwydd maen nhw mor hen ac mor ofnadwy, ond, oherwydd y diffyg cynllunio gennych chi, rydym ni'n wynebu gostyngiad digynsail yn y gwasanaethau trên dros nos. Yn gynharach, roeddech chi'n beio cwmnïau preifat, ac eto fe'ch rhybuddiwyd am hyn chwe blynedd yn ôl. Ac roedd yr adroddiad o 2013 yn galw ar Lywodraeth Cymru—nid ar gwmnïau preifat, ond chi, eich hunain—i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys. Ni weithredwyd ar yr argymhelliad hwnnw a bydd teithwyr dig, gan gynnwys fi fy hunan, eisiau gwybod pam. Ni allwn dderbyn gwasanaeth hyd oed gwaeth nag sydd gennym ar hyn o bryd. Cafodd fy nhrên i ei ganslo y bore yma, ac mae hyn yn digwydd yn fwy ac yn fwy rheolaidd. Prif Weinidog, beth yw eich cynllun B os na allwch chi ddefnyddio'r trenau Pacer ar ôl 31 Rhagfyr?

Wel, fel yr eglurais yn fy ateb cynharach, Llywydd, rydym ni eisiau colli'r trenau Pacer o'r rhwydwaith a byddem ni wedi gallu gwneud hynny pe byddai'r cwmnïau a oedd wedi eu contractio i gyflenwi cerbydau newydd i rwydwaith Cymru wedi cyflawni'r addewidion a wnaethon nhw. Nid yw hynny'n fethiant ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd yr archebion hynny wedi eu gwneud, roedd y cynlluniau hynny wedi eu gwneud, ond mae'r cwmnïau, ar ôl contractio i ddarparu'r cerbydau, bellach wedi methu â gwneud hynny. Rydym ni'n dal i drafod, fel y dywedais, gyda'r Adran Drafnidiaeth, parhau i ddefnyddio trenau Pacer yn y tymor byr, hyd y bydd y cerbydau newydd hynny ar gael. Ond ni fu erioed yn gynllun hirdymor i Trafnidiaeth Cymru nac i'r Llywodraeth i barhau i ddibynnu ar drenau Pacer ymhell i'r dyfodol.

14:30
Cydnerthedd yn y Sector Iechyd

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cydnerthedd yn y sector iechyd? OAQ54675

Diolch i'r Aelod. Mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r gwasanaeth ambiwlans wedi datblygu cynlluniau cydnerthu ar y cyd ar gyfer y gaeaf hwn. Cytunir ar y fersiynau terfynol yr wythnos hon. Mae rheoli cyfnodau dwys o bwysau yn parhau i fod yn her, ond mae staff iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol bob dydd.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Fel y dywedasoch, unwaith eto, mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn paratoi eu hunain ar gyfer pwysau'r gaeaf. Felly, pa gamau yr ydych chi wedi'u cymryd i sicrhau bod pob maes a nodwyd dros y blynyddoedd, lle y ceir arfer da, wedi'i wreiddio yn y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf hon?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rydym wedi gweithio dros flynyddoedd lawer i sicrhau bod y gwersi a ddysgir mewn un rhan o Gymru yn cael eu lledaenu i rannau eraill hefyd. Mae arian sydd wedi'i gadarnhau dros y degawd diwethaf wedi bod wrth wraidd hynny erioed. Dyna pam, ar 1 Hydref, pan gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £30 miliwn ar gyfer cydnerthedd y gaeaf—a gyhoeddwyd yn gynharach nag erioed o'r blaen—mae £17 miliwn o hwnnw wedi mynd yn uniongyrchol i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, oherwydd bod dysgu'r gwersi yn y gwasanaeth iechyd, mewn cyfnod o aeaf, yn gorfod cynnwys y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd. Nawr, hyd yn hyn, mae'r arian wedi mynd yn uniongyrchol i'r gwasanaeth iechyd, ac mae'r gwasanaeth iechyd yn gwneud y penderfyniadau. Nawr, penderfynir ar y cyd ar £17 miliwn yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, gan ganiatáu i'r gwersi sydd wedi'u dysgu yn y gorffennol diweddar gael eu cymhwyso'n ehangach ledled awdurdodau lleol, a bod dysgu'n digwydd rhwng byrddau iechyd hefyd.

Diolch, Llywydd. Wrth gwrs, ffordd arall o feithrin cydnerthedd yw ystyried y gwasanaeth iechyd yn ei gyfanrwydd. A byddwch yn gwybod ein bod ni, yn y Gorllewin, wedi'i chael hi'n anodd darparu gwasanaethau iechyd cynaliadwy a chadarn ar gyfer y cyfan o'r Gorllewin. Ac mae cynllun i adeiladu ysbyty newydd efallai, ac mae ansicrwydd parhaus, wrth gwrs, felly, ynghylch dyfodol Glangwili a dyfodol Llwynhelyg. A hoffwn i wybod, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd wedi derbyn unrhyw fath o gais neu ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o ran y posibilrwydd o gael arian i symud hyn ymlaen. Nid oes pobl yn dod i'r Gorllewin ar hyn o bryd oherwydd bod yr ardal gyfan mewn cyflwr o ansicrwydd, ac mae angen inni wybod a oes gan y syniadau botensial a phosibilrwydd mewn gwirionedd, neu ai breuddwyd gwrach yn unig ydyn nhw.

Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch y clinigwyr hynny yn ardal Hywel Dda sydd wedi arwain y sgwrs am natur gyfnewidiol y galw a'r ddarpariaeth yn y rhan honno o'r De-orllewin. Ac rydym ni'n edrych ymlaen at gael y fersiwn nesaf o gynigion gan y bwrdd iechyd, fel y gallwn edrych am ffyrdd o'u cefnogi yn yr ymdrech honno. Ond dechreuodd yr Aelod drwy wneud pwynt pwysig, meddyliais i—bod angen i'r gwasanaeth iechyd gael ei weld yn ei gyfanrwydd, ac ni all hynny olygu canolbwyntio ar ysbytai'n unig. Ers gormod o amser, mae'r ddadl yn y De-orllewin yn aml wedi cael ei felltithio drwy feddwl bod y gwasanaeth iechyd yn golygu ysbytai. Yr hyn a olygwn wrth 'yn ei gyfanrwydd' yw dibyniaeth ar y rhyngwyneb rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond hefyd y rhyngwyneb rhwng y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol. Ac mae rhai o'r cynigion mwyaf dychmygus—wrth ystyried cwestiwn Caroline Jones—a rhai o'r ffyrdd mwyaf dychmygus y mae'r arian a ddarperir ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol yng Nghymru wedi'i ganfod yn Sir Benfro. Mae defnydd o'r arian yno mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys y trydydd sector hefyd, i mi yn enghraifft eithaf da o'r hyn y dylem ni ei olygu mewn gwirionedd wrth sôn am wasanaeth 'yn ei gyfanrwydd', yn hytrach na gwasanaeth sydd bob amser yn canolbwyntio ar ddim ond un rhan, a'r rhan fwyaf gweladwy, fwy na thebyg, o'r hyn y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud.

14:35
Pwynt o Drefn

Pwynt o drefn yn codi allan o'r cwestiynau. Carwyn Jones. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n codi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9, Cadw Trefn, a gwnaf hynny i gefnogi eich safbwynt, Llywydd. Os edrychwn i ar Reol Sefydlog 13.9 (i), mae'n ofynnol bod yr Aelodau'n cael eu galw i drefn os ydyn nhw'n

'ymddwyn mewn ffordd a fyddai, ym marn y Llywydd, yn gyfystyr â thramgwydd troseddol neu ddirmyg llys'.

Rwy'n atgoffa'r Aelodau nad yw braint yn berthnasol i awdurdodi troseddau yn y Siambr hon. Dim ond pan ddaw'n fater o faterion sifil nad ydyn nhw'n ymwneud â materion troseddol y mae'n berthnasol. Rwyf wedi clywed gan Mark Reckless heddiw, a gofynnaf iddo fyfyrio ar hyn, cwestiwn a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ynghylch y Gweinidog Cyllid a Threfydd, Rebecca Evans, am y data nad oedd modd ei gael ond trwy recordio'n gudd. Os yw data o recordiad cudd, sy'n sôn am drydydd parti, yn cael ei roi ar goedd, gall hynny fod yn drosedd, a gofynnaf ichi ystyried hynny a dyfarnu ar hynny.  

Tynnaf eich sylw hefyd at 13.9(iv): Aelod

'sy'n euog o ymddygiad anghwrtais neu amhriodol'.

Rydym ni i gyd yn y Siambr hon, o bryd i'w gilydd, yn cael ein gwthio i ymddwyn mewn ffordd na fyddem ni fel arall. Mae'n rhan arferol o weithredu democratiaeth. Gwyddom fod y Siambr hon yn lle bywiog, ond nid yw'n weddus, nac yn anghwrtais ychwaith, i gyhuddo'r Llywydd o ragfarn ac yna gynnig geiriau camarweiniol—geiriau camarweiniol—a methu â thynnu'r honiad hwnnw'n ôl. Mae Rheol Sefydlog 13.9(v) yn ymdrin â

'defnyddio iaith sy'n groes i’r drefn, iaith sy'n gwahaniaethu neu sy'n peri tramgwydd'.

Wel, roedd iaith sy'n groes i drefn, fe gredaf i, ymhlyg ac yn eglur yn yr hyn a ddywedwyd gan Mark Reckless.  

Rheol Sefydlog 13.9 (vi):

'gwrthod cydymffurfio ag unrhyw Reol Sefydlog neu ag unrhyw ofyniad arall ynglŷn ag ymddygiad Aelodau'.

Nid oedd ef wedi cydymffurfio â'r cais gennych iddo dynnu'r honiad o ragfarn yn ôl. Ni fyddai wedi cael gwneud hynny mewn unrhyw le arall, ac nid wyf eisiau i'r Siambr hon gael ei gweld fel rhywle lle y gall pobl gael rhwydd hynt i wneud unrhyw beth. Fel arall, mae hynny'n arwain at anhrefn lwyr.

Ac, yn olaf, 13.9(vii): diystyru awdurdod y Cadeirydd. Rwyf i wedi gweld dau aelod yn gwneud hynny yn y Siambr hon y prynhawn yma. Gwelais yr Aelod, Neil McEvoy, nad yw yma gyda llaw, ac ni fyddwn yn cyfeirio at hynny fel arall, ond rwy'n credu ei bod yn werth cyfeirio at y trydariad y mae newydd ei anfon. Trydariad wedi'i anfon gan Neil McEvoy:  

dylai @yLlywydd fod wedi datgan diddordeb heddiw, cyn trafod y recordiadau a wnaed gennyf i. Cyfeiriwyd ati hi ynddyn nhw. Cwestiynau i'w hateb.

Nid yw hyd yn oed yn y Siambr, ond mae'n ymosod arnoch chi, Llywydd. Ac i bob pwrpas, fe'i gwelais yn gweiddi ar eich traws neu'n ceisio gweiddi ar eich traws y prynhawn yma, a dyna ymddygiad y byddai pob un ohonom ni yn y Siambr hon, gwn hynny, yn ei gondemnio'n llwyr. Ac mae'n rhaid imi ddweud, Mark Reckless, yn yr hyn a ddywedodd pan fethodd â thynnu'n ôl, ar eich cais penodol chi, gyhuddiad o ragfarn mewn modd a oedd yn ddiamod, ac unwaith eto gofynnaf iddo ef fyfyrio ar hynny, ac roedd yn diystyru'n llwyr, yn fy marn i, bron yn ddirmygus o, Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. A dywedaf yr holl bethau hyn i'ch cefnogi chi, Llywydd. Gofynnaf i chi, felly, edrych ar Reol Sefydlog 13.9 (i) ac ystyried eich pwerau o dan y Rheol Sefydlog honno i ymdrin â sefyllfa nad wyf wedi gweld ei thebyg mewn 20 mlynedd yn y Siambr hon.

Diolch i'r—[Torri ar draws.] Na. Hoffwn i ddiolch i'r Aelod am y pwynt o drefn ac, ar gyfer y cofnod yn unig, nid oes yr un Aelod wedi llwyddo i weiddi ar fy nhraws i yn y gadair hon y prynhawn yma. Byddaf yn edrych ar y cofnod ac yn adolygu'r hyn a ddywedwyd yn ystod y cyfraniad gan Mark Reckless yn gynharach yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, ac a oedd hynny o fewn y Rheolau Sefydlog ac a oedd mewn unrhyw ffordd yn torri'r Rheolau Sefydlog hynny neu unrhyw achos troseddol a allai godi. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol imi ddweud yn gynharach y prynhawn yma mai Heddlu De Cymru a'r Comisiynydd Safonau dros dro yw'r sefydliadau priodol bellach i fynd ar drywydd llawer o'r materion hyn.

Ond i fyfyrio ar y prynhawn yma ac, yn wir, ran o ddoe, rwy'n ddig iawn ar adegau am sut mae'r Aelodau yn ymddwyn yn y Siambr hon neu'n ymgymryd â'u gwaith etholedig. Nid wyf yn ddig heddiw; mae llawer o'r hyn yr wyf i wedi'i weld ac wedi'i glywed yn y Siambr hon a llawer o'r hyn sy'n digwydd y tu allan i'r Siambr hon yn peri tristwch mawr imi. A dywedaf fod Cymru yn haeddu gwell gan rai o'i Haelodau etholedig, sy'n bresennol a heb fod yn bresennol. A byddaf i nawr—[Torri ar draws.]. Ac rwyf yn cynnwys fy hun yn yr hyn y mae Cymru yn ei haeddu o ymddygiad ei Haelodau. Mae disgwyl i bob un ohonom ni yma, y rhai sy'n bresennol a'r rhai nad ydyn nhw'n bresennol, wneud ein gwaith mewn modd da a threfnus, ac rwy'n siomedig bod rhai ohonom ni, rhai ohonoch chi, heddiw, wedi methu â chyrraedd y safon honno y byddwn i'n disgwyl i Gymru ei haeddu gennym ni.

14:40
Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Rwy'n symud ymlaen at gwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, a daw cwestiwn cyntaf yn y sesiwn hon gan Mark Isherwood.

Deddf Cydraddoldeb 2010

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r broses o weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru? OAQ54657

Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, sy'n rheoleiddio Deddf Cydraddoldeb 2010. Cyhoeddodd y Comisiwn friffiau sectoraidd o'u hymarfer monitro diweddaraf yn gynharach yn yr haf.

Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu—ac rwy'n dyfynnu yma—bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau feddwl o flaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n llesteirio pobl anabl. Wrth wneud hyn, mae'n dweud ei bod yn syniad da ystyried yr amrywiaeth o anableddau a allai fod gan eich darpar ddefnyddwyr gwasanaethau ac na ddylech aros nes y bydd person anabl yn cael anhawster defnyddio gwasanaeth. Mae hefyd yn dweud ei bod yn ofynnol i'r rhai y mae'r darpariaethau yn berthnasol iddynt gymryd camau rhesymol i osgoi rhoi pobl anabl dan anfantais sylweddol, pan fod methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd hon yn fath o wahaniaethu. Ac mae hyn yn adlewyrchu model cymdeithasol anabledd, sy'n gofyn am newidiadau i'r amgylchedd, yn ogystal â newidiadau o ran agwedd ac ymddygiad. Ac eto, bob dydd, rwy'n gorfod ysgrifennu, ar hyn o bryd, gwaith achos sy'n ymwneud â diogelu plant, manteisio ar addysg, gwaharddiadau o ysgolion a cholegau, manteisio ar ofal a chymorth gan wasanaethau cymdeithasol a manteisio ar wasanaethau iechyd yng Nghymru, a gorfod ailadrodd cynnwys y ddeddfwriaeth hon i'r un darparwyr gwasanaeth yr wyf eisoes wedi ailadrodd iddyn nhw'n flaenorol. Mae hyn yn fethiant o ran monitro. Sut ydym ni'n mynd i reoli'r newid i sicrhau bod y cyrff cyhoeddus hyn ar y llawr uchaf yn deall beth mae'n ei olygu, ond yna hefyd yn monitro i sicrhau eu bod yn ei gweithredu?

Wel, diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn hwnnw, oherwydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd i reoleiddio dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a chomisiynwyd gwaith y llynedd, yn 2018, i fonitro'r gydymffurfiaeth honno. Fel y dywedais, cyhoeddwyd canlyniadau’r ymarfer yn gynharach eleni, ac mewn gwirionedd rydym yn nodi yn y prif ganfyddiad nad oedd yr un o'r cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn bodloni holl ofynion dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn llawn—y dyletswyddau penodol a oedd yn cael eu monitro. Rwy'n siŵr eich bod wedi gweld y crynodeb o'r materion cyffredin a nodwyd. Felly, yn amlwg, mae heriau sylweddol iawn yn bodoli.

Rwyf wedi trafod hyn gyda Ruth Coombs, Cyfarwyddwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac es i i ddigwyddiad ym mis Gorffennaf eleni. Rwy'n cael fy nghalonogi nawr bod sefydliadau yn camu ymlaen a byddwn i'n cefnogi'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gymryd hyn o ddifrif. Rydym yn falch ein bod wedi cael y dyletswyddau penodol hynny yng Nghymru ac mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu. Ond, credaf y bydd yr Aelod wedi cael ei galonogi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr wythnos diwethaf, yn ymrwymo'n benodol i'r rhai y mae anableddau dysgu yn effeithio arnyn nhw i'w galluogi i fyw bywydau actif a bodlon mewn amgylcheddau gofalgar a sefydlog. Gwn fod y fframwaith a gyhoeddwyd ganddi wedi cael croeso mawr o ran y fframwaith tair haen newydd ar gyfer addysg a hyfforddiant sy'n mynd i gael ei ddatblygu a'i gyflwyno'r flwyddyn nesaf.

Ond hefyd, yn olaf, byddwn i'n dweud bod y fframwaith ar gyfer byw'n annibynnol, 'Gweithredu ar Anabledd', yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda chynllun gweithredu sy'n cynnwys pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mae hynny i'w gyflawni ar lefel leol a hefyd gan y sector iechyd.

Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, wrth fynd i'r afael â materion yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ei bod yn bwysig bod yr iaith briodol yn cael ei defnyddio bob amser. Tybed a yw hi'n rhannu fy mhryder y bu tueddiad cynyddol mewn trafodaethau cyhoeddus i ddefnyddio'r termau 'rhyw' a 'rhywedd' yn gyfnewidiol. Nawr, fel mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd, nid yw rhywedd yn nodwedd warchodedig. Tybed a fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi efallai ei bod yn bryd diweddaru'r Ddeddf Cydraddoldeb i adlewyrchu'r iaith gyfredol. Credaf fod y Ddeddf, fel y mae, yn cyfeirio at bobl sy'n drawsrywiol; nid yw'n cyfeirio'n benodol at bobl sy'n drawsryweddol. Felly, yn ein barn ni, mae angen addasu'r Ddeddf honno er mwyn derbyn arfer da presennol. Ond a wnaiff y Dirprwy Weinidog hefyd gytuno â mi, yn y cyfamser, ei bod yn bwysig iawn, wrth gyfeirio at wahaniaethu rhwng menywod a dynion, fod cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r term 'gwahaniaethu ar sail rhyw' ac nid 'gwahaniaethu ar sail rhywedd' gan ei fod yn drysu rhwng dau fater cydraddoldeb gwahanol i'w gilydd ond pwysig iawn?

14:45

Wel, rwy'n gwerthfawrogi bod gan Helen Mary Jones farn, yn yr un modd ag eraill, ar y mater hwn. Rwy'n fodlon iawn ar y cyngor a roddwyd inni, nid yn unig o ran y Ddeddf Cydraddoldeb a sut y cafodd ei darparu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ond hefyd gan sefydliadau fel y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, sy'n cynrychioli sefydliadau menywod ledled Cymru, a hefyd gan Stonewall Cymru, yn enwedig ynghylch eu cyngor ar drawsrywedd. Yn wir, nid yn unig yr ydym yn ariannu Stonewall Cymru, ond rydym yn eu hariannu i gyflogi gweithiwr trawsrywiol hefyd. Rwy'n ymroddedig iawn i ganlyniad yr adolygiad o'r rhywiau gan Chwarae Teg, sef y ffordd ymlaen yn fy marn i, ac yn sicr bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd yn fuan ar ein hymateb i hynny.

Diwrnod y Rhuban Gwyn

2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddiwrnod y rhuban gwyn? OAQ54653

Llywodraeth Cymru oedd yr unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig i ennill achrediad y Rhuban Gwyn. Rydym ni'n adnewyddu ein hachrediad ac yn annog pob dyn, pob aelod o staff ac Aelod Cynulliad sy'n ddyn, i ystyried bod yn llysgenhadon Rhuban Gwyn ac i fenywod fod yn bencampwyr.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Efallai y dylwn i ddatgan fy mod yn Llysgennad Rhuban Gwyn, diolch i fy nghyfaill Jack Sargeant, a anfonodd yr holl wybodaeth ataf ar gyfer bod yn un. Ond pan fydda i'n siarad am faterion fel hyn, mae hynny'n fwy o lawer fel tad i ferch 21 oed na fel gwleidydd. Mae trais yn erbyn menywod bob amser yn annerbyniol. Mae angen i bawb ohonom wneud safiad a siarad yn ei erbyn pan fyddwn yn dod ar ei draws. Rwy'n gwisgo fy Rhuban Gwyn gyda balchder. Sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo Diwrnod Rhuban Gwyn ledled yr holl sector cyhoeddus yng Nghymru?

Wel, rwy'n diolch i Mike Hedges am gyflwyno'r cwestiwn hwn ac am sefyll a siarad fel llysgennad, a hefyd, wrth gwrs, gan ystyried effaith a dylanwad Jack Sargeant ar hyn. Yn fuan iawn, wrth gwrs, byddwn ni'n gweithio tuag at y diwrnod pan fyddwn yn cydnabod Dydd y Rhuban Gwyn, sef diwrnod rhyngwladol dileu trais yn erbyn menywod. Mae hynny ar 25 Tachwedd, ac edrychaf ymlaen hefyd at ymuno â Joyce Watson, fel y mae'n siŵr y bydd llawer ohonoch chi, ar y pumed ar hugain o Dachwedd, pan fydd gennym ddigwyddiad trawsbleidiol ar gyfer rhanddeiliaid. Gobeithio bod hyn yn cael ei gydnabod yn drawsbleidiol yn y Siambr hon heddiw. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru strategaeth genedlaethol o ran gweithredu ein deddf arloesol, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Rwy'n credu ei bod mor bwysig heddiw ein bod yn rhoi sylw i'r neges, 'Paid cadw'n dawel' o ran trais yn y cartref a thrais yn erbyn menywod. Ni fydd Cymru'n sefyll o'r neilltu. Mae hynny'n wedi'i gysylltu'n agos iawn â neges ymgyrch y Rhuban Gwyn.

Ond o ran y sector cyhoeddus, mae pedwar awdurdod lleol, dau wasanaeth tân ac achub, dau heddlu ac un cyngor tref yng Nghymru sydd wedi'u hachredu, yn ogystal â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Rwy'n credu y gallwn ddefnyddio'r flwyddyn hon i gryfhau unwaith eto'r gydnabyddiaeth a'r broses o godi ymwybyddiaeth ymhlith y sector cyhoeddus er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen o'r 28 llysgennad Rhuban Gwyn sydd wedi bod gyda ni, lawer ohonyn nhw â swyddogaethau arwain allweddol o fewn Llywodraeth Cymru.

4. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Ac felly'r datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog a'r Trefnydd i wneud y datganiad. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, a gellir ei weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar ganlyniadau arholiadau yng Nghymru? Yn ôl Estyn, mae cyfran y disgyblion nad ydyn nhw'n symud o flwyddyn 10 i flwyddyn olaf TGAU eisoes wedi dyblu yn y chwe blynedd diwethaf. Aethon nhw ymlaen i ddweud bod y data'n awgrymu nad oedd mwyafrif y disgyblion a oedd yn ailadrodd blwyddyn 10 yn gwneud hynny oherwydd resymau dilys. Yng ngoleuni pryderon Estyn, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar y camau y mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau nad yw ysgolion yn symud disgyblion oddi ar eu cofrestri fel ffordd hawdd o wella data arholiadau yng Nghymru?

14:50

Diolch i Mohammad Asghar am godi'r mater pwysig hwn y prynhawn yma, ac yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Addysg ysgrifennu atoch gyda gwybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn sefyll yr arholiadau ar yr adeg briodol.

Trefnydd, y llynedd, ac yn gynharach eleni, yn wir fe gawsom adroddiadau gan uned gyflawni'r GIG ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn y gymuned. Tynnodd y ddau sefydliad sylw at agwedd cynllun gofal a thriniaeth y cynllun cyflawni hwnnw y mae Llywodraeth Cymru yn ei weithredu, a'r angen gwirioneddol i'w gryfhau. Rwyf wedi cyfarfod â Mind, ac mae Mind hefyd wedi gwneud rhywfaint o waith ar gynllunio gofal a thriniaeth, eto gan dynnu sylw at yr angen i gryfhau'r maes hwn, er mwyn i bobl ddeall sut y gallan nhw gymryd rhan a meithrin y maes hwn eu hunain, ac nid dim ond cael ticio blwch.

Rwy'n deall yn iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn fuan iawn. Ond, a gawn ni felly ddadl yn amser y Llywodraeth ar y cynllun hwnnw, unwaith y caiff ei gyhoeddi, fel y gallwn ni gael trafodaeth ar yr agweddau y mae'n ymdrin â nhw? Oherwydd bydd hynny'n sicrhau bod y bobl y mae angen y gwasanaeth arnyn nhw yn deall sut y caiff y gofal a'r driniaeth eu cynllunio, ac yn sicrhau y gallwn ni gael y drafodaeth honno. Gallwn helpu pobl sy'n agored i niwed. Gallwn wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyngor gorau posibl, a'u bod yn cael eu cynnwys yn eu cynllun gofal a thriniaeth.

Mae David Rees yn gywir i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori'n ddiweddar ar ei chynllun cyflawni newydd ar gyfer iechyd meddwl, a gwn fod y Gweinidog iechyd yn awyddus i'r Aelodau gael cyfle i'w drafod yn y Siambr. Rwy'n siŵr y bydd yn cyflwyno cynnig i'w gyflwyno maes o law.

Trefnydd, a fyddai modd imi ofyn am ddatganiad ar ddiogelu plant ysgol mewn lleoliadau sy'n cael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio, os gwelwch yn dda? Mae pryder ynghylch diogelwch disgyblion oherwydd bod cyfleusterau'r ysgol hefyd yn cael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol. Rhoddaf un enghraifft yma o Bennaeth sydd wedi cysylltu â mi, sy'n methu â sicrhau diogelwch yr ysgol i ddisgyblion gan y byddai'r cyhoedd yn rhannu mynediad, a byddai'n rhaid cadw ffensys diogelwch heb eu cloi er mwyn i'r cyhoedd eu defnyddio. Mae'r Pennaeth arbennig hwn, wrth gwrs, yn gyndyn o gau'r ysgol ar y diwrnod hwn, a byddwn i'n disgwyl nad yw'r enghraifft hon yn un unigryw ledled Cymru. Yng ngoleuni hyn, a gaf i ofyn am ddatganiad ac a allwch chi gysylltu â'r Gweinidog Addysg ynghylch a oes cyllid ar gael a fyddai'n galluogi ysgolion i adleoli i addysgu eu disgyblion mewn cyfleuster neu leoliad arall? Nid yw hyn yn berthnasol i'r etholiad cyffredinol hwn yn unig, ond hefyd i etholiadau'r cynghorau a'r Cynulliad yn y dyfodol.

Mae diogelu plant o fewn amgylchedd eu hysgol yn amlwg yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth. Byddwn i'n awgrymu, yn y lle cyntaf, fod Pennaeth yr ysgol yr ydych chi'n cyfeirio ati yn trafod ei achos penodol gyda'r swyddog canlyniadau etholiadol ar gyfer yr ardal leol, ond hefyd o bosibl â gwasanaethau democrataidd o fewn y Cyngor hefyd. Ond, byddwn i'n eich annog i ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol er mwyn ceisio cael ymateb ehangach i'r mater a godwyd gennych.

A gawn ni ddatganiad am y gefnogaeth i blant ysgolion cynradd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg cyfrwng Cymraeg? Nawr, yn amlwg, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi blaenoriaethu twf addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan o'i thargedau uchelgeisiol ar gyfer 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond, un o heriau tyfu addysg Gymraeg mewn ardaloedd sy'n dechrau o sylfaen isel yw y bydd plant yn yr ardaloedd hynny hefyd yn mynychu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy'n dod o deuluoedd Cymraeg eu hiaith a rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg y bydd angen cymorth dysgu ychwanegol arnynt yn y Gymraeg, na fydd efallai yn ei le. Byddai'n anfoddhaol tu hwnt—gwn y byddai'r Trefnydd yn cytuno—os, ar gyrraedd yr oedran pan fydd diagnosis sy'n cefnogi anghenion ychwanegol yn aml yn cael ei wneud, ym mlynyddoedd 9 a 10, nad oes digon o gefnogaeth i'r plant hyn mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad ar y mater pwysig hwn, a allai dynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael a hefyd unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth mewn gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi'r plant hynny sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Cod Ymarfer AAA Cymru yn ei gwneud yn glir bod yna ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ystyried diwallu anghenion disgyblion AAA yn unol â dewisiadau rhieni, ac mae hynny'n cynnwys y dewis o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Nod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw creu system ddwyieithog o gymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. O dan y system anghenion dysgu ychwanegol newydd, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol a lleoliadau addysg ystyried a ddylid darparu darpariaeth ddysgu ychwanegol i'r plentyn neu i'r person ifanc yn Gymraeg. A lle bo gan ddysgwr angen y ddarpariaeth honno yn Gymraeg, rhaid nodi hynny'n benodol yn y cynllun datblygu unigol a rhaid i'r corff wedyn gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cymorth yn cael ei ddarparu yn Gymraeg. Ond byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Addysg roi diweddariad manylach ichi o ran y cwestiynau penodol a ofynnwyd gennych ynglŷn â rhwystrau posibl i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y math hwn o gymorth.

14:55

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad os oes modd, os gwelwch yn dda, a'r cyntaf ar glefyd coed ynn? Yn ddiweddar, gwnaeth y Cyngor Coed arolwg a chyflwyno adroddiad ar yr arolwg hwnnw ledled y DU, ynghyd â'r costau ariannol a chostau amgylcheddol posibl. Yn Lloegr yn arbennig mae awdurdodau lleol wedi wynebu biliau o ddegau o filiynau o bunnoedd. Rwy'n sylweddoli bod yr awdurdodau lleol hynny'n fwy o faint na'r awdurdodau lleol yng Nghymru, ond ni ellir tanbrisio'r maint hwn. Wrth ichi yrru o gwmpas, fe welwch chi lawer mwy o waith yn cael ei wneud oherwydd clefyd coed ynn, sydd bellach yn gafael ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Yn wir, mae'r adroddiad arbennig hwn yn nodi y gellid colli 2 biliwn o goed. Mae clefyd llwyfen yr Iseldiroedd, y mae llawer o bobl yn gwybod amdano, wedi peri inni golli 150 miliwn o goed, felly fe allwch chi weld pa mor enbyd yw hyn. Byddwn yn ddiolchgar o gael datganiad gan y Llywodraeth—ac nid wyf i'n hollol siŵr pa Weinidog yn y Llywodraeth fyddai'n ymdrin â hyn, ai'r Gweinidog Llywodraeth Leol ynteu'r Gweinidog Materion Gwledig—o ran sut y mae'n ymgysylltu ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus ynghylch (a) y rhwymedigaethau a (b) pa waith sy'n cael ei wneud i geisio lliniaru unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o'r effaith enfawr ar dyfiant coed ar hyd a lled Cymru.

Yn ail, hoffwn ofyn am eglurhad gan y Gweinidog Tai, a gytunodd yn garedig iawn i fynd at breswylwyr Celestia i fyny'r ffordd o'r fan hon a chwrdd â nhw a thrafod eu problemau nhw? Fe wnes i gwrdd â nhw ddydd Gwener ac roedden nhw'n awyddus i gael cyfarfod â'r Gweinidog ac, fel yr wyf i'n deall, fe nododd y Gweinidog yn y pwyllgor y byddai hi'n barod i gyfarfod â'r preswylwyr. Rwy'n derbyn bod dyddiaduron y Gweinidogion yn llawn iawn a'i bod yn cymryd amser i gynllunio'r pethau hyn, ond byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai'r preswylwyr gael gwybod pryd y gellid cynnal cyfarfod o'r fath fel bod modd iddynt, yn amlwg, gynllunio yn unol â hynny.

Iawn. Felly, y mater cyntaf y gwnaethoch chi ei godi oedd mater pwysig clefyd coed ynn, a'r effaith y gall hynny ei chael ar niferoedd ein coed ni yma yng Nghymru. Byddaf i'n gofyn i Weinidog yr Amgylchedd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn hyn o beth, ond am yr ystyriaethau hefyd, a'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gynhaliwyd gydag awdurdodau lleol o ran yr effaith y gallen nhw ei theimlo.FootnoteLink Ar fater y cais am gyfarfod gyda thrigolion Celestia, a gaf i ofyn ichi ysgrifennu at swyddfa'r Gweinidog i geisio gwneud y trefniadau hynny?

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad. Hannah Blythyn.

Diolch. Yn flynyddol ym mis Tachwedd rydym ni, yn briodol iawn, yn manteisio ar y cyfle i anrhydeddu a nodi'r ddyled sydd arnom i'r rhai a fu farw, i'n cyn-filwyr a chymdeithasau ein lluoedd arfog ledled Cymru fel rhan o gyfnod blynyddol y cofio. Mae'r flwyddyn 2019 yn nodi sawl pen-blwydd pwysig.

Ym mis Mehefin, roeddem ni'n coffáu pymtheng mlynedd a thrigain ers D-Day, y diwrnod tyngedfennol yr ydym ni erbyn hyn yn ei ystyried yn ddechrau diwedd y rhyfel yn Ewrop. Cynhaliwyd digwyddiadau mawr i goffáu, yma yn y DU ac ar hyd arfordir Normandi, wrth i gymunedau a gwledydd fyfyrio, cydnabod a chofio. Bu fy hen ewythr Tommy—Thomas Edward Oldfield o Gorfflu Gwasanaeth y Fyddin Frenhinol—yn filwr yng Ngwlad Belg ac yn Ffrainc cyn D-Day. Bu yn Arromanches yn ystod y glaniadau lle gwelodd ei ewythr ei hun, Arthur Brockley, yn glanio o'r cwch ar y traeth. Fe ofynnodd ei ewythr iddo, 'Be' wyt ti'n ei wneud yn y fan hon?' ac fe atebodd ef, 'Yr un peth â thithau.' Yn 83 mlwydd oed erbyn hyn, mae Tommy yn parhau i fynychu ei senotaff lleol yn flynyddol ar Sul y Cofio.

Roedd y mis diwethaf hefyd yn nodi saith deg a phump o flynyddoedd ers rhyddhau 's-Hertogenbosch gan y 53ed Adran (Cymru). Roedd y Prif Weinidog yn cynrychioli Cymru yn ystod digwyddiadau coffáu ar 26 a 27 o fis Hydref. Fe gollwyd 146 o filwyr o Gymru yn ystod yr un frwydr honno.

Roedd mis Awst hefyd yn nodi hanner canmlwyddiant anfon lluoedd arfog y DU i ymgyrchoedd yng Ngogledd Iwerddon—yr ymgyrch barhaus hwyaf erioed yn hanes milwrol Prydain.

Eleni, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gwahodd cymunedau ledled Prydain i 'Gofio gyda'i Gilydd' am y gwasanaeth, yr aberth, y cyfeillgarwch a'r cydweithrediad ymysg dynion a menywod o Brydain, y Gymanwlad a'r cymheiriaid a fu'n ymladd ar yr un ochr ym 1944.

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

A thrwy ein rhaglen ni, sef Cymru'n Cofio Wales Remembers, rydym yn parhau i nodi canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf. Mae'r rhaglen yn gweithio ar y cyd â phartneriaid cenedlaethol a lleol, gan roi teyrnged deilwng i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro erchyll hwnnw, ac roeddwn i'n falch fod cyllid wedi ei roi a fydd yn ymestyn y rhaglen tan 2020.

Ym mis Mai, fe wnes i lansio'r adroddiad blynyddol cyntaf erioed gan Lywodraeth Cymru ar gyfamod y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed ac mae'n tystio i'r hyn y gellir ei gyflawni wrth gydweithio ar draws pob sector. Heddiw, hoffwn i achub ar y cyfle i rannu gwybodaeth gyda'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran rhoi mwy o gefnogaeth i gymuned ein lluoedd arfog.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi iechyd a lles cymuned ein lluoedd arfog, gan weithio i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal iechyd yn diwallu'r anghenion sydd ganddyn nhw. Rydym yn darparu bron £700,000 yn flynyddol i GIG Cymru i Gyn-filwyr i helpu i drin cyflyrau iechyd meddwl. Mae hwn yn wasanaeth unigryw—yr unig wasanaeth cenedlaethol o'i fath yn y DU—sydd wedi cael dros 4,500 o atgyfeiriadau ers iddo ddechrau.

Yng nghynhadledd y cyfamod fis diwethaf, roeddwn i'n falch o helpu i lansio'r rhwydwaith trawma i gyn-filwyr yng Nghymru. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, a fydd, mewn cydweithrediad â rhwydwaith o arbenigwyr ledled Cymru, yn galluogi i gyn-bersonél y lluoedd arfog, sydd wedi dioddef anafiadau corfforol difrifol o ganlyniad i'w cyfnod yn y lluoedd arfog, gael gofal amserol a phriodol ar gyfer eu hanafiadau, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod yr effaith y gallai'r pontio ei chael ar les cymuned ein lluoedd arfog. Mae sicrhau bod y cymorth cywir ar gael wedi iddyn nhw ddychwelyd i fywyd sifil yn hollbwysig, ac mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef, gan weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd nhw, sy'n dychwelyd i Gymru yn gallu cael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar lefel leol.

I sicrhau cysondeb wrth ddarparu polisïau a gweithdrefnau sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog, rydym wedi dyrannu £250,000 y flwyddyn am ddwy flynedd, o 2019 i 2020, i ariannu swyddogion cyswllt y lluoedd arfog—yr AFLOs. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, mae'r swyddogion cyswllt yn gwneud cynnydd sylweddol, gan helpu i gynyddu ymgysylltiad, gwella sgiliau staff rheng flaen a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfamod.

Ceir nifer o enghreifftiau o arfer gorau. Yn y Gogledd, er enghraifft, mae hyfforddiant ar gyfer darparwyr gwasanaethau rheng flaen yn mynd rhagddo i godi ymwybyddiaeth o'r cyfamod. Ar yr un pryd yn y De, mae awdurdodau lleol yng Ngwent wedi diwygio eu polisïau tai ar gyfer rhoi ystyriaeth i hyd y cyfnod o amser a dreuliwyd yn y lluoedd arfog wrth ystyried rhestrau aros.

Yng ngrŵp arbenigol y lluoedd arfog ym mis Medi, fe glywsom ni am ddatblygu'r Gwasanaeth Cymorth wrth Adael y Lluoedd Arfog (y DTS). Mae'r DTS wedi ei anelu at y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd nhw, sydd ag anghenion pontio cymhleth, a bydd yn rhoi cymorth a gwybodaeth mewn meysydd allweddol fel tai, cyllid, iechyd a lles. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau bod gennym ni system gymorth ddi-dor ar waith ar gyfer y rhai sydd angen hynny.

Yn ddiweddar, fe ysgrifennodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau ar y cyd at yr holl Aelodau ynghylch ein llwybr cyflogaeth a'n pecyn cymorth i gyflogwyr. Mae'r adnoddau pwysig hyn yn llywio ac yn rhoi dewisiadau i bobl sy'n gadael y lluoedd arfog a chyn-filwyr wrth chwilio am waith boddhaol, gan gymhwyso'r nifer fawr o sgiliau gwerthfawr sydd gan gyn-bersonél y lluoedd arfog. Fe fyddem ni'n falch iawn o gael cefnogaeth gan Aelodau i godi ymwybyddiaeth o'r dulliau hyn sy'n arbennig o ddefnyddiol o fewn y gymuned fusnes.

Fe all cyfnodau o fod ar wahân, yn ogystal â natur symudol bywyd yn y lluoedd arfog, arwain at heriau cyflogaeth i wragedd a gŵyr. Mae'r wefan newydd Forces Families Jobs yn darparu cyfleuster sy'n addas i aelodau'r lluoedd arfog i gynorthwyo teuluoedd y lluoedd arfog i gael swyddi a chyfleoedd am hyfforddiant.

Wrth lansio'r wefan yn ein cynhadledd ni ar y cyfamod, fe glywais i drosof fy hunan am yr heriau unigryw sy'n wynebu teuluoedd y rhai sy'n aelodau o'r lluoedd arfog. Mae nifer o fusnesau ledled Cymru wedi cofrestru gyda'r safle, gan gynnwys pobl fel General Dynamics, Prifysgol De Cymru a Choleg Sir Benfro.

Fe all plant i aelodau'r lluoedd arfog sydd â phrofiad o'u rhieni yn y fyddin wynebu heriau addysgol gwirioneddol. Mae'r gronfa i gefnogi plant y lluoedd arfog yng Nghymru, a lansiwyd yn 2018, wedi bod ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019/20. Mae'r gronfa bwrpasol o £250,000 yn ceisio lliniaru effeithiau adleoli neu symudedd, gan gefnogi ysgolion i wreiddio arferion a all fod o fudd i blant y lluoedd arfog a'u hysgol nhw.

Rwy'n ymwybodol bod rhai cyn-filwyr yn cael trafferth i gael tai i fyw ynddyn nhw. Felly, gadewch inni fod yn glir, nid yw hyn yn dderbyniol. I gydnabod eu gwasanaeth nhw i'w gwlad, fe ddylid rhoi blaenoriaeth fawr o fewn cynlluniau dyrannu awdurdodau lleol i bersonél y lluoedd arfog sydd wedi cael eu hanafu'n ddifrifol neu sydd wedi eu handwyo yn nhymor eu gwasanaeth ac sydd mewn angen dybryd o dai cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu'r trefniadau i roi blaenoriaeth i anghenion, a disgwylir adroddiad ynglŷn â hynny ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Dirprwy Lywydd, yn y datganiad diwethaf o'r math hwn, siaradodd fy rhagflaenydd am ymarfer cwmpasu ein lluoedd arfog i ganfod bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Mae'r gwaith pwysig hwn yn symud yn ei flaen, a hoffwn fynegi fy niolch ar goedd i'r cyn-filwyr, y teuluoedd a'r sefydliadau sydd wedi ymwneud â'r gwaith hwn. Mae'r materion a godwyd yn cynnwys anghysondeb o ran cefnogaeth yn ystod y cyfnod pontio, yr angen am fwy o gymorth i deuluoedd, cymorth i'r rhai sydd yn y carchar a'r rhai sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac ansicrwydd ynghylch cael gafael ar gymorth a chyngor.

Erbyn hyn, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag aelodau o grŵp arbenigol y lluoedd arfog i fwrw ymlaen â chynlluniau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Rydym yn parhau hefyd i weithio'n agos â nifer o adrannau Llywodraeth y DU ar gyflawni strategaeth y DU i gyn-filwyr. Mae ein canlyniadau cwmpasu wedi cyfrannu i'r gwaith hwnnw.

Rwy'n gwybod, er hynny, bod heriau a phryderon yn aros o hyd i aelodau o gymuned ein lluoedd arfog, ac rwyf i fy hun wedi clywed hynny'n uniongyrchol. Rydym yn gwrando, rydym yn gweithredu, ac rydym wedi ymrwymo i ateb yr heriau hyn. Drwy gydweithio'n dda, byddwn yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan sicrhau nad yw'r heriau'n cael eu hwynebu mewn unigrwydd nac yn ynysig. Mae cymuned ein lluoedd arfog yn haeddu ein cefnogaeth ni ac fe fyddan nhw'n cael hynny.

Ni fyddwn yn anghofio'r aberth—i rai, yr aberth mwyaf—a wnaeth personél y lluoedd arfog. Dirprwy Lywydd, pa ffordd fwy addas i gau'r datganiad hwn heddiw na gyda geiriau John Maxwell Edmonds:

'When you go home, tell them of us and say / For your tomorrow, we gave our today.'

15:05

Diolch i chi am eich datganiad. Mewn gwirionedd bu degawd erbyn hyn ers i mi arwain dadl fer yn y fan hon yn galw ar Gymru i fabwysiadu cyfamod y lluoedd arfog, ac rydym ni i gyd wedi troedio llwybr hir yn ystod y degawd oddi ar hynny. Ond, wrth gwrs, fel mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn ei ddweud, nid yw'r cofio ynddo'i hun yn gogoneddu rhyfel, ac mae'r symbol sydd iddo, y pabi coch, yn arwydd o goffadwriaeth a gobaith am ddyfodol heddychlon.

Ddydd Gwener diwethaf, cefais i'r fraint o fod yn bresennol a dweud gair yn seremoni arwyddo cyfamod y lluoedd arfog gan fusnesau o bob rhan o'r gogledd ym Mharc Antur Eryri. Ac yna ddydd Sul fe osodais i dorch, ynghyd â Lesley Griffiths, yn y gwasanaeth coffa yn Wrecsam, lle daeth miloedd ar filoedd o bobl leol ynghyd.

Rydych chi'n cyfeirio at saith deg a phump o flynyddoedd ers D-Day a'ch ewythr Tommy. Wel, fe wnaeth fy llysdad i, sef Mack, fel yr oeddem ni'n ei alw, sydd wedi ymadael â ni erbyn hyn ysywaeth, hedfan gleider ar D-Day ac nid oedd ef eisiau siarad am ei brofiadau byth ar ôl hynny. Ond rwy'n credu mai dyna wir sylwedd y profiad y gwnaeth llawer ei wynebu ar yr achlysur hwnnw.

Roeddech chi'n cyfeirio at hyfforddiant i ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen i godi ymwybyddiaeth o'r cyfamod, sy'n amlwg yn hanfodol, ac at y llwybr cyflogaeth a phecyn cymorth i gyflogwyr. Unwaith eto, yn gynnar eleni, roeddwn i'n falch o gynnal lansiad y gwobrau cenedlaethol cyntaf i gyn-filwyr yng Nghymru, a oedd yn dathlu cyn-bersonél y lluoedd arfog a'r cyfraniad a wnaethant i fywyd sifil ar ôl ymadael â'r fyddin, gan fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau yn eu meysydd perthnasol.

Gan symud ymlaen at bwyntiau penodol, mae SSAFA wedi dweud bod 74 y cant o gyn-filwyr yn cael problemau yn nhair blynedd gyntaf y pontio i fywyd sifil, sef 80 y cant yn y pum mlynedd gyntaf. Ac o'r 15,000 o ddynion a menywod sy'n gadael y lluoedd arfog bob blwyddyn, disgwylir y bydd bron naw o bob 10 yn pontio'n llwyddiannus, gan ddefnyddio'r sgiliau y maen nhw wedi eu dysgu yn ystod eu gwasanaeth milwrol, ond fe fydd yna leiafrif bychan yn wynebu problemau difrifol ar ôl iddyn nhw ymadael. Ac fe geir rhyw gymaint o dystiolaeth bod y nifer hwn yn cynyddu—boed yn broblemau iechyd meddwl neu les emosiynol, anawsterau o ran dod o hyd i waith neu gadw gwaith, anawsterau o ran perthynas neu dor perthynas, problemau iechyd corfforol neu rai eraill, ond y rhain oedd ymhlith y rhai mwyaf difrifol yr adroddwyd amdanynt.

Yng Nghymru, mae tua 48,338 o gyn-filwyr, fe gredwn, sydd o oedran gwaith yn byw yma, ond mae'r cyn-filwyr eu hunain yn llawer mwy tebygol o fod yn hŷn, gyda chanran sylweddol dros 75 oed, a bron i ddwy ran o dair dros 65 oed, gan roi mwy o bwysau ar wasanaethau cymorth i gyn-filwyr hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Mae cyn-filwyr o oedran ymddeol yn fwy tebygol o nodi eu bod yn dioddef, er enghraifft, problemau gyda'r galon, pwysedd gwaed a/neu gylchrediad y gwaed. Felly, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru, o ran ei darpariaeth iechyd, yn ei rhoi i anghenion cymhleth penodol cyn-filwyr—nid yn unig i roi'r hawl iddynt gael triniaeth â blaenoriaeth, ond i gydnabod yr angen efallai i ymgysylltu â nhw mewn ffordd ymarferol a chydymdeimladol pan fyddant yn defnyddio'r gwasanaethau?

Gwyddom fod Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin wedi mynegi pryderon am duedd rhai awdurdodau lleol i beidio â rhoi'r disgowntiau priodol ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor i deuluoedd y lluoedd arfog. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni felly am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu o ran y pryder hwn ac yn sicrhau ei bod yn darparu mynegbyst addas i helpu a chefnogi personél y lluoedd arfog sy'n gymwys i wneud cais ynglŷn â hynny?

Gwyddom fod yna gomisiynydd annibynnol ar gyfer cyn-filwyr yn yr Alban sy'n rhoi cyngor diduedd i Lywodraeth yr Alban ar sut i gefnogi cymuned y cyn-filwyr a'r rhai sydd wedi gadael y lluoedd arfog o ran darpariaeth awdurdodau cyhoeddus yn yr Alban a hyrwyddo cyn-filwyr fel asedau gwerthfawr yn eu cymunedau. Mae Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu Gweinidog yn y Llywodraeth hefyd sydd â chyfrifoldeb penodol dros gyn-filwyr. Yn Llywodraeth y DU, mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu swyddfa ar gyfer materion cyn-filwyr o fewn Swyddfa'r Cabinet ac wedi penodi Gweinidog ar gyfer pobl sy'n ymwneud ag amddiffyn y wlad a chyn-filwyr. Ond fe ganfu ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid i gyfamod y lluoedd arfog fod 

Diffyg atebolrwydd i sicrhau bod y sefydliadau hynny sydd wedi tanysgrifio i'r cyfamod mewn gwirionedd yn cyflawni eu rhwymedigaethau.

Yn absenoldeb y swyddogion a'r swyddogaethau penodol sy'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU, sut wnaiff Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r pryder arbennig hwnnw?

Roeddech chi'n cyfeirio at addysg a'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i newid y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion i gynnwys cwestiwn ar blant y lluoedd arfog. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llinell amser ar gyfer hynny?

O ran anghenion iechyd meddwl, gwyddom fod y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi datgan bod un ym mhob 10 yng nghymuned y rhai sydd wedi gadael y lluoedd arfog wedi dweud eu bod nhw'n teimlo'n isel eu hysbryd—sy'n cynrychioli 31,000 o unigolion yng Nghymru. Mae hefyd achosion niferus o anhwylderau iechyd meddwl sy'n gyffredin yn lluoedd arfog y DU, a amcangyfrifwyd yn 20 y cant, ynghyd â chamddefnyddio alcohol yn 13 y cant ac anhwylder straen wedi trawma yn 6 y cant. Bydd y grant gan Help for Heroes ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n rhoi cymorth i'r gymuned honno am dair blynedd, sef £517,000 i gyflogi tri o therapyddion llawn amser i gyn-filwyr, yn dod i ben fis Medi nesaf, sef 2020. Ac fe ddywedir wrthyf i y bydd angen cyllid ar y gwasanaeth, yn ychwanegol, o tua £160,000 bob blwyddyn i gadw'r swyddi hynny, os ydyn nhw am gadw amser aros am driniaeth o dan dargedau 26 wythnos Llywodraeth Cymru. Felly, pa ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi, yn sgil hynny, i ariannu'r gwasanaethau hyn i gyn-filwyr yn ei chyllideb arfaethedig? Rwy'n gwerthfawrogi na allwch ddweud wrthym faint yn union fydd y swm hwnnw, ond pa ystyriaeth fyddwch chi'n ei rhoi i hynny?

15:10

A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch yn dda? Rydych chi wedi cael bron cymaint o amser ag a gafodd y Gweinidog i gyflwyno'r datganiad. Felly, un cwestiwn olaf, os gwelwch chi'n dda.

Yn olaf, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn cyfeirio at gysgu ar y stryd a digartrefedd. Maen nhw'n nodi bod mwyafrif y cyn-filwyr yn llwyddo i reoli'r broses o drosglwyddo i gartrefi newydd yn llwyddiannus a nifer gymharol isel o gyn-filwyr sy'n wynebu anawsterau ac felly'n mynd yn ddigartref ac yn gorfod cysgu allan yn y pen draw. Ond sut ydych chi'n ymateb i'w hargymhelliad nhw y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn angen blaenoriaethol fel y bydd yn cwmpasu nid yn unig y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, ond y rhai a adawodd hyd at bum mlynedd yn ôl hefyd, i ganiatáu iddyn nhw allu addasu wrth symud i fywyd sifil?

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood am rannu hanesion ei deulu ef ei hunan am Mack, a fu'n hedfan gleider yn yr ail ryfel byd? Ceir cymaint o hanesion am ddewrder aruthrol yn y lluoedd arfog ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn gallu eu rhannu nawr ein hunain wrth inni fyfyrio a chofio a dysgu o'r gorffennol hefyd.

Byddaf yn gwneud fy ngorau i geisio mynd i'r afael â nifer o'r cwestiynau a godwyd gan yr Aelod. I ddechrau gyda'r pwynt olaf ynglŷn â mynediad blaenoriaethol o ran dyrannu tai a digartrefedd, fel y cyfeiriais ato yn y datganiad, ceir adolygiad annibynnol ar hyn o bryd o angen blaenoriaethol ym maes tai, y disgwylir iddo adrodd yn ôl ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ac, wrth gwrs, bydd yr effaith ar gyn-filwyr a gwaith ein hymarfer cwmpasu ni'n rhan o hynny hefyd.

Ynghyd â'r sôn am bontio, mae'r ymarfer cwmpasu wedi canfod bod cefnogaeth ar gael ac mae hynny'n ymwneud â chyfeirio hefyd a sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth hwn. Ond hefyd, mewn gwirionedd, mae'r ymarfer cwmpasu yn dangos bod pontio'n un o'r meysydd hynny lle y gallai fod angen inni ystyried sut y gallwn, o bosib, lenwi rhai o'r bylchau hynny. Felly, rwy'n gobeithio, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fod mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny yn ogystal â'r gwaith y mae grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn ei wneud nawr er mwyn inni allu cyflawni hynny.

Fe wnaethoch chi godi pwynt pwysig iawn o ran cyn-filwyr hŷn yn benodol, a'r anghenion cymhleth a allai fod ganddyn nhw. Roedd yn bleser gennyf fod yn rhan o Brosiect 360 Age Cymru a chyfrannu at hwnnw, yn ogystal â siarad yn eu cynhadledd—i gydweithio gyda nhw a phartneriaid eraill i sicrhau, wrth inni symud ymlaen, ein bod yn rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol a'r cymorth i bob un o'n cyn-filwyr ac yn enwedig i bobl wrth iddyn nhw heneiddio hefyd.

Gyda golwg ar fater arall, codwyd mater y gostyngiad yn y dreth gyngor yn y Siambr hon gan un o'ch cyd-Aelodau yr wythnos diwethaf yn y cwestiynau busnes. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gallaf i a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fwrw ymlaen ag ef gyda chydweithwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn cael gwybod am y gostyngiadau hyn a'u bod nhw'n cael eu rhoi lle dylen nhw gael eu rhoi hefyd.

O ran y cwestiwn ynglŷn â CYBLD, rwy'n gweithio'n agos gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth, yn yr adran Addysg a chyda'r Gweinidog Addysg, i roi sylw i'r argymhelliad hwn. Rydym yn cydnabod y byddai cael y data hynny o fudd aruthrol i gefnogi plant y lluoedd mewn addysg ac mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo. Rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn bo hir.

15:15

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac allaf i hefyd ddiolch i'r Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol am ei datganiad ar Ddydd y Cofio, a'r gefnogaeth i'n lluoedd arfog ni, lle bynnag y bo nhw? Ac, wrth gwrs, wrth gofio aberth y rhai a gollwyd, fel mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, rydym ni hefyd yn cofio dioddefaint y rhai sydd wedi goroesi, a gan ein bod ni i gyd yn cofio am aelodau o'n teuluoedd sydd wedi bod mewn rhyfeloedd, a gan fy mod i gymaint yn hŷn na'r rhelyw sydd wedi siarad eisoes, bu fy nhaid yn ymladd ym mrwydr y Somme yn y rhyfel byd cyntaf yn 1916 ac, yn rhyfeddol, goroesi—neu fuaswn i ddim yma, yn naturiol—ond goroesi mewn cryn ddioddefaint byth wedyn tan ei farwolaeth cynamserol, yn wir, pan oeddwn i'n fachgen bach iawn. Felly, ie, rydym ni'n cofio aberth y rhai a gollwyd, ond hefyd rydym ni'n cofio am ddioddefaint y rhai a wnaeth oroesi—dioddefaint sydd yn parhau heddiw. 

Ac, wrth gwrs, dyna un o'r pethau—rydych chi'n sôn yn eich datganiad am sgil-effeithiau iechyd, yn naturiol, a sgil-effeithiau iechyd meddwl yn benodol, ac yn olrhain yr ystod eang o waith sydd yn mynd ymlaen gyda gwahanol fudiadau. Ond, wrth gwrs, mae aelodau a chyn-aelodau ein lluoedd arfog ni wedi gweld pethau erchyll, ac mae'n anodd iawn byth i ymdopi efo hynna, ac mae eisiau cefnogaeth wastadol. Mae angen cynnydd sylfaenol yn ein darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ni ar draws y bwrdd, a dweud y gwir, achos rydym ni'n wynebu fel meddygon a'r sawl—nyrsys—sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ton gynyddol o heriau iechyd meddwl, a gyda chyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni gyda risg uchel o fod ymhlith y miloedd yna sydd yn dioddef, dydyn ni ddim i gyd yn eu hadnabod nhw eto. 

Bu i'r pwyllgor iechyd yn y Senedd yma gynhyrchu adroddiad y llynedd ynglŷn â hunanladdiad ac, wrth gwrs, un o'r grwpiau â risg uchel gogyfer hunanladdiad ydy cyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni. Dwi'n gweld beth sy'n mynd ymlaen ynglŷn â'r holl fudiadau ond, wrth gwrs, yn naturiol, mae yna bobl sydd yn cwympo rhwng bob math o fylchau rhwng gwahanol fudiadau, beth mae pawb yn ei wneud, ac ati. Wedyn, yn y bôn, beth rydym ni eisiau gwybod ydy beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i wneud yn siŵr bod yna ariannu cyson, yn enwedig o'n mudiadau elusennol ni sy'n gweithio yn ein cymunedau ni, sydd yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl ar draws y bwrdd, yn ogystal â'r mudiadau yna rydych chi wedi eu henwi yn fan hyn sydd yn darparu cefnogaeth i'r sawl sydd wedi bod yn gyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni. Mae yna fudiadau eraill hefyd—elusennol—sydd yna yn gwneud gwaith clodwiw, ac buaswn nhw'n gwneud rhagor o waith clodwiw pe bae nhw'n cael eu hadnoddi i'r graddau cywir, felly. Hynny yw, mwy o adnodd, ac yn gyson, ac yn dymor hir—y math o heriau rydym ni wastad yn gofyn i'r Llywodraeth i'w gwneud. 

A'r unig gwestiwn arall sydd gyda fi ydy pan fo rhywun sydd wedi bod yn aelod o'n lluoedd arfog ni yn dod nôl allan ac yn dod i gysylltiad efo'n gwasanaeth iechyd, weithiau mae yna gagendor yn eu cofnodion meddygol nhw. Hynny yw, nid yw'n bosib cael gafael weithiau mewn unrhyw fath o wybodaeth o'u hanes meddygol nhw tra roedden nhw yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac eto pan ydym ni'n eu gweld nhw fel meddygon a nyrsys allan yn y gymuned, does dim gwybodaeth o'u cyn salwch nhw gyda ni o gwbl. Mae yna alw a galw wedi bod, ac mae yna newidiadau yn digwydd, i fod yn deg, ond eto mae yna rai esiamplau pan nad yw'r wybodaeth gan y gwasanaeth iechyd y dyddiau yma, ac mae'r wybodaeth yna yn deillio o'r amser pan oedden nhw yn y lluoedd arfog, ac yno mae'r wybodaeth yna'n aros. Buaswn i'n gobeithio bod yna ryw fath o ffordd o allu trosglwyddo'r wybodaeth yna, y wybodaeth angenrheidiol, ynglŷn â chyflwr iechyd ein pobl ni i’r awdurdodau iawn rŵan sydd yn edrych ar eu holau nhw y dyddiau yma. Diolch yn fawr iawn ichi.

15:20

Diolch am eich cwestiynau, Dai Lloyd.

Mae'n amlwg eich bod chi'n iawn yn yr hyn a ddywedwch wrth sôn am eich tad-cu, wyddoch chi, o ran ein bod ni'n coffáu aberth y rhai a gollwyd ond hefyd yn cofio dioddefaint y rhai a oroesodd, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni, fel cymuned, fel gwlad ac fel Llywodraeth yng Nghymru, ein bod ni'n cefnogi'r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth ac sy'n parhau i wneud hynny hefyd.

O ran yr heriau, mae'r gefnogaeth yno. Rydym yn falch o gefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr—gwasanaeth unigryw o'i fath yn y DU—ond, yn amlwg, fel y nododd ein hymarfer cwmpasu, mae yna fylchau ac, yn anffodus, mae rhai pobl, weithiau, yn cwympo trwyddynt, fel y dywedwch. Felly, mae'n fater bellach o sut yr ydym ni'n cau'r bylchau ac yn gweithio gyda'r sefydliadau partner hynny i sicrhau, mewn gwirionedd, os yw'r cymorth ar gael, fod pobl yn gwybod ble i fynd i gael y cymorth hwnnw, a bod y mynegbyst yn effeithiol ac yn y mannau cywir.

Fel y dywedais, rwyf wedi clywed, ar rai o'r ymweliadau y bum arnynt yn y swydd hon, yn enwedig â sefydliadau fel Woody's Lodge, gan y cyn-filwyr eu hunain, yn deimladwy iawn ar rai achlysuron, am yr heriau a wynebwyd ganddynt mewn gwirionedd ar ôl gadael y lluoedd arfog a theimlo eu bod nhw wedi cael eu siomi. Fe gefais i fy nghyffwrdd gan hyn, a'm sbarduno i sicrhau ein bod ni, yn y cam nesaf yng ngwaith Llywodraeth Cymru, yn gwneud yn siŵr ein bod yn cau'r bylchau hynny hyd eithaf ein gallu, a hefyd yn cefnogi'r sefydliadau elusennol hynny, fel y dywedwch, sy'n gwneud gwaith ardderchog. Ac, mewn gwirionedd, ni fyddai'n bosibl gwneud y gwaith hwn heb bartneriaeth a heb y bobl sydd â'r arbenigedd hwnnw. Oherwydd gwyddom, mewn sawl achos, fod llawer o'r sefydliadau hyn yn cael eu harwain gan gymheiriaid hefyd, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gyn-filwyr os ydynt yn gwybod bod modd mynd i siarad â rhywun sydd wedi rhannu'r un profiadau ac yn gallu deall ei gilydd. Felly, er nad wyf i'n gallu ymhelaethu ar ffigurau'r gyllideb, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl heddiw, hoffwn i fynegi'r sicrwydd ar goedd bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y gwaith o gefnogi cyn-filwyr a chymunedau'r lluoedd arfog yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog, am y datganiad hynod bwysig hwn heddiw. Fe gefais i'r fraint o allu ymuno â chyn-filwyr ac aelodau'r cyhoedd yn y senotaff ar Sul y Cofio, rhywbeth y mae gennyf i atgofion melys iawn o'i wneud yn blentyn ifanc, law yn llaw â'm tad. Ac, unwaith eto, fe gefais i'r fraint o ymuno ag aelodau o'r cyhoedd a chyn-filwyr ddoe yn y senotaff yng Nghei Connah.

Ddoe, fe gafodd y gofeb ei dadorchuddio gyda 23 o enwau ychwanegol pobl o Gei Connah a Shotton a ymladdodd yn y rhyfel byd cyntaf. Roedd hwn yn gyfle hefyd, unwaith yn rhagor, i roi teyrnged i'r rhai a aberthodd eu bywydau i ddiogelu'r rhyddid yr ydym ni i gyd yn ei drysori. A, Dirprwy Lywydd, gadewch imi ddweud: yn angof ni chânt fod.

Wrth inni fynd heibio i gan mlynedd ers diwedd y rhyfel byd cyntaf a nodi 80 mlynedd ers dechrau'r ail ryfel byd, mae'n ddyletswydd ar fy nghenhedlaeth i i wneud popeth o fewn ein gallu i gofio'r rhai a ymladdodd yn y rhyfeloedd hyn a phob rhyfel ers hynny. Dyna pam yr wyf i'n falch dros ben o ddatgan heddiw fy mod i'n aelod anrhydeddus o gangen Shotton a Chei Connah y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, y bu fy niweddar ewythr Mark yn aelod ohoni.

Nid yw cofio'n ymwneud â'r digwyddiadau hyn yn unig, mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael y cymorth y maen nhw'n ei haeddu. Dirprwy Weinidog, ar yr un trywydd â Dr Dai Lloyd—fy nghyd-Aelod o du draw i'r Siambr—anodd iawn yw dechrau dychmygu'r hyn y mae personél y lluoedd arfog wedi ei weld ar faes y gad. Felly, a wnewch chi amlinellu pa gymorth iechyd meddwl sydd ar gael i gyn-filwyr ond sydd ar gael hefyd i bersonél cyfredol y lluoedd arfog, yn ogystal â'u teuluoedd nhw, ac unrhyw feysydd y mae'n hi'n teimlo y gellid gwella'r ddarpariaeth hon?

Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi wrth ddweud yn y Siambr hon, 'rhag i ni anghofio'?

Diolch. Ie, yn hollol. Rhag i ni Anghofio—rwy'n credu bod cytundeb ar hynny bob amser ar draws y Siambr hon a thu hwnt, ledled y wlad. Yn ogystal â hynny, a gaf i ddechrau drwy eich llongyfarch chi am ddod yn aelod anrhydeddus o Gangen Shotton a Glannau Dyfrdwy? Roeddech chi'n dechrau drwy sôn am senotaff Cei Connah, ac mae'n rhaid imi ddweud, Dirprwy Lywydd, fod gennyf innau atgofion melys o senotaff Cei Connah wrth i mi dyfu i fyny, yn arbennig y tro hwnnw y bues i'n cludo'r faner ar gyfer Brownis 1af Cei Connah mewn un gwasanaeth coffa. Ac mewn gwirionedd, dim ond i ddweud ychydig mwy am fy hanes i fy hunan, yr hen-ewythr Tom y soniais i amdano, roedd yntau wrth y senotaff yng Nghei Connah ar Sul y Cofio hefyd, yn ôl ei arfer bob blwyddyn.

O ran y pwyntiau difrifol yr ydych chi'n eu codi gyda chefnogaeth i iechyd meddwl—yn bendant, rydym yn gwybod bod honno'n flaenoriaeth y mae angen ei chefnogi, a dyna pam yr ydym ni'n falch o fod wedi buddsoddi yn y gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Fel y dywedais i o'r blaen, mae'n amlwg nad yw pawb yn gwybod am fodolaeth y gwasanaeth hwn, ac efallai nad ydynt yn teimlo eu bod nhw'n gallu mynd i gael y cymorth hwnnw. A dyna pam mae'r gefnogaeth honno gan gymheiriaid mor bwysig, ond hefyd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn yr ymarfer cwmpasu, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n siarad â'r bobl hynny, sefydliadau'r cyn-filwyr, lle maen nhw'n teimlo efallai fod bylchau yn y gwasanaethau. Ac, wrth gwrs, os oes gan yr Aelod faterion a godwyd gydag ef yn lleol o ran darpariaeth cymorth, yna, ysgrifennwch atom ni ac ysgrifennwch ataf innau, oherwydd wedyn fe all hynny gyfrannu at y ffordd yr ydym ni'n adeiladu ar y gwaith a wnawn eisoes.

15:25

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog, a hoffwn dalu teyrnged i bawb a roddodd gymaint mewn gwahanol fathau o frwydrau dros y blynyddoedd. Ni allaf hyd yn oed ddechrau dychmygu arswyd rhyfel ym 1914 na nawr. Rwy'n falch na allaf. Rhaid inni gydnabod aberth miliynau o fywydau, ond hefyd aberth iechyd meddyliol a chorfforol, o fywydau a gynlluniwyd ac a ddychmygwyd ond na chawsant eu byw, o briodasau na ddigwyddodd, cariadon, rhieni a brodyr a chwiorydd a gollwyd, a'r holl fywydau cyffredin a gollwyd ac a effeithiwyd arnyn nhw gan ryfel.

Gall pob un ohonom ni ddwyn i gof aelod o'r teulu a syrthiodd—yr enw hwnnw a ynganwyd â balchder, ac yr ydym yn wylo drosto bob mis Tachwedd, waeth pa mor bell yn ôl y buont farw. Clywaf gan gyn-filwyr eu bod o'r farn bod torfeydd yn fwy yn y gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn cael ei groesawu'n fawr iawn. Rydych chi i gyd yn gwybod bod fy mab yn gwasanaethu yn y fyddin ar hyn o bryd. Mae wedi gwneud pum taith o Irac ac Affganistan, a llawer mwy. Mae wedi gweld ffrindiau a chymdeithion yn marw mewn brwydr o'i flaen—roedden nhw'n feibion imi hefyd. Mae'n gwasanaethu ei wlad a'i Frenhines gyda balchder. Mae'n barod i fentro ei fywyd i ni; mae fy nghalon yn byrlymu gyda balchder wrth weld y dyn a'r milwr, yr hyn yw e nawr

Un o'r pethau mwyaf gwefreiddiol am Sul y Cofio eleni i mi oedd sefyll wrth ochr gwraig a oedd yn dweud wrth ei mab pum mlwydd oed pam yr oeddem ni yno. Soniodd am berthynas a syrthiodd a'r miliynau o bobl eraill a roddodd eu bywydau a'r hyn a ddywedodd hi oedd, 'er mwyn i ni allu byw bywyd gwell'. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddweud wrth ein plant am ryfel a gwrthdaro ac am gymodi a goddefgarwch, a'r unig beth rwy'n ei ofyn heddiw yw ein bod yn gwneud yn siŵr y caiff ein plant ysgol eu haddysgu am wrthdaro arfog a'i le yn natblygiad ein democratiaeth. Yr unig bwynt gwleidyddol yr wyf yn teimlo sy'n briodol heddiw yw, er bod cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr i'w groesawu'n fawr, rwy'n gwybod y byddai'n well o lawer gan filwyr a morwyr sy'n gwasanaethu, a'r rhai yn yr Awyrlu, weld mynd i'r afael â digartrefedd, darparu tai a rhoi terfyn ar erlyniadau. Ni â’u cofiwn hwy. 

Diolch am y cyfraniad hynod o deimladwy yna, a oedd yn gwbl o'r galon. Ac rwy'n gobeithio na fydd ots gan yr Aelod fy mod yn diolch ar goedd, ar ran Llywodraeth Cymru, i'ch mab a'i gyd-filwyr sy'n gwasanaethu, am bopeth y maen nhw'n ei wneud yn eu gwasanaeth i'n gwlad ac am gadw'r byd yn ddiogel.

I gyfeirio at y sylwadau a wnaethoch chi o ran torfeydd cynyddol eleni, a llawer o gyn-filwyr yn dweud—rwy'n credu ein bod ni i gyd, mae'n debyg, wedi gweld hynny yn y dystiolaeth o luniau o'r gwasanaethau ger cofebion ar hyd a lled y wlad. Ac fe'i gwelais fy hun mewn dau o'r gwasanaethau y bûm i ynddyn nhw y Sul hwn hefyd. Mae hynny i'w groesawu, oherwydd ei bod hi'n briodol ein bod yn cofio ac mewn gwirionedd ein bod yn dysgu o hynny hefyd, ac rydym yn cydnabod yr aberth mawr a'r gwasanaeth y mae pobl wedi'i wneud o'r blaen ac yn dal i'w wneud ar ein rhan, a bod hynny'n cael ei ddysgu—. Yr hyn a welais yn arbennig—. Fe wnaethoch chi sôn am wneud plant ysgol yn ymwybodol o'r rhan y mae pobl sy'n gwasanaethu yn ei chwarae. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n eithaf gwych gweld—ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill yn rhannu straeon tebyg am ysgolion yn cymryd rhan nawr mewn gwasanaethau cofio—ysgolion uwchradd lleol, ac ysgolion cynradd, hyd yn oed, yn gosod torchau ar ran y plant. A'r maes coffa yng Nghastell Caerdydd—mae yna adran yno lle mae plant ysgol ar draws Caerdydd wedi cymryd rhan mewn gwirionedd yn talu eu teyrngedau eu hunain, ac, os ewch chi i edrych ar rai o'r croesau hynny, mae rhai teyrngedau hyfryd, angerddol gan y genhedlaeth iau, yn cofio'r genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth hŷn a'r hyn a wnaethant drosom ni.

6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf ddweud bod cynllun morol cenedlaethol cyntaf Cymru wedi'i gyhoeddi a'i fabwysiadu, sy'n gosod gweledigaeth 20 mlynedd ar gyfer sicrhau fod dyfroedd Cymru yn lân, iach a chynhyrchiol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y mae eu hargymhellion wedi helpu i fod yn sail i'r cynllun, a'r nifer fawr o randdeiliaid a phartneriaid â diddordeb sydd wedi rhoi o'u hamser a chyfrannu eu harbenigedd a'u syniadau.

Cyhoeddi'r cynllun morol cenedlaethol hwn i Gymru yw ein cyfle i ddatblygu dull unigryw Cymreig o reoli ein moroedd, yn unol â'r nodau a'r ffyrdd o weithio a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r cynllun yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn dangos sut yr ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn mynd ati'n rhagweithiol i ddiogelu gwerth aruthrol moroedd iach i amgylchedd, economi a chymdeithas Cymru. Os byddwn yn rheoli ein moroedd yn ddoeth, gallant chwarae rhan hanfodol wrth reoleiddio effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac amddiffyn ein rhywogaethau mwyaf gwerthfawr. Mae gweithgarwch economaidd yn ein moroedd yn cyfrannu miliynau o bunnoedd a miloedd o swyddi, sydd o fudd i'n cymunedau arfordirol a'n heconomi yn gyffredinol. Mae ein harfordir eiconig yn hanfodol i'n treftadaeth ddiwylliannol a'n hunaniaeth.

Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi ar adeg pan fo ein moroedd a'n cymunedau arfordirol o dan bwysau aruthrol, ac mae angen gweithredu i gadw gwerth ein moroedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cynllun yn gosod gofynion mwy cadarn ar ddatblygwyr ac awdurdodau cyhoeddus, gan roi sail gadarnach i Lywodraeth Cymru ar gyfer pennu a thrwyddedu gweithgareddau yn unol â'n gwerthoedd. Y bygythiad pennaf i'n moroedd yw'r newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau sy'n diflannu. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr arwyddion o ddifrif, ac yn gweithredu cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Mae effaith y newid yn yr hinsawdd eisoes ar ein gwarthaf, gyda chymunedau yng Nghymru'n profi effeithiau patrymau cynyddol o lifogydd, erydu arfordirol a stormydd eithafol. Mae'r cynllun yn cryfhau'r gofynion ar i bob datblygiad ddangos y gallant wrthsefyll y llifogydd a'r erydu arfordirol yr ydym ni'n eu disgwyl o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd.

Mae'r cynllun yn nodi ein bwriad i ehangu'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, a chryfhau'r amddiffyniadau sy'n berthnasol i ardaloedd dynodedig eraill. Mae gofynion cadarnach wedi'u cyflwyno, er mwyn galluogi gweithredu cadarn yn erbyn sbwriel morol a mathau eraill o lygredd sy'n deillio o weithgareddau yn ein moroedd. Mae mynd ati a chynllunio sut i reoli ein moroedd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy, gan alluogi creu swyddi mewn ffordd sy'n cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd morol. Mae ein cynllun, felly, yn nodi'r ffyrdd y bydd ein polisïau yn annog amrywiaeth eang o weithgareddau economaidd, o bysgota a dyframaeth i dwristiaeth a llongau. Yn ganolog i'n hagenda amgylcheddol a'n hagenda economaidd yw'r rhan y gall ein moroedd ei chwarae wrth gefnogi'r newid i system ynni carbon isel.

Eisoes mae gennym ni yng Nghymru rywfaint o'r seilwaith ynni morol mwyaf sylweddol o unrhyw wlad yn y byd, gan gynnwys datblygiadau gwynt ar y môr ar raddfa fawr, a pharthau arddangos ynni morol, lle mae busnesau ac academyddion o Gymru yn creu'r technolegau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni yn y Cynulliad hwn gytuno i gyd bod yn rhaid i ddatblygu sector ynni morol bywiog fod yn un o'n nodau strategol hirdymor pwysicaf i economi Cymru.

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at bolisïau Llywodraeth y DU lle mae materion wedi'u neilltuo i Lywodraeth y DU. Yn anochel, ceir meysydd lle mae gwrthgyferbyniad rhwng polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae un maes o'r fath yn ymwneud ag echdynnu olew a nwy. Nod polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi rhagor o gloddio a defnyddio tanwyddau ffosil ym mhob ardal yr ydym yn gyfrifol amdani. Gwrthwynebwn yn llwyr unrhyw echdynnu tanwydd ffosil yn y moroedd sy'n amgylchynu Cymru. Yn y cynllun, rydym ni wedi mynd ymhellach na hyn i ddweud, lle mae elfennau tir i unrhyw echdynnu tanwydd ffosil ar y môr—hynny yw, unrhyw elfennau a fyddai'n dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru—byddwn yn gweithredu ein polisi i osgoi cloddio parhaus ar ffosilau tanwydd, gan ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni.

Yn ein cynllun, rydym ni hefyd wedi cynnwys manylion polisi Llywodraeth y DU, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r moroedd sy'n amgylchynu Cymru. Eu polisi yw manteisio i'r eithaf ar echdynnu tanwydd ffosil yn yr ardaloedd arfordirol sy'n amgylchynu Cymru. Ni allai'r gwrthgyferbyniad rhwng polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn fwy amlwg. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, hoffwn gofnodi barn Llywodraeth Cymru bod unrhyw bolisi i annog parhau i echdynnu tanwyddau ffosil yn bolisi y byddem yn ei wrthod yn bendant.

Gan ein bod bellach wedi cyhoeddi a mabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, bydd ein hymdrechion yn canolbwyntio ar weithredu. Mae grŵp penderfynwyr cynllunio morol wedi'i ffurfio ac mae canllawiau atodol manwl wrthi'n cael eu cwblhau ar y cyd â rhanddeiliaid. Erbyn hyn, rydym ni wedi rhyddhau fersiwn wedi'i diweddaru o borth cynllunio morol Cymru, gan ddarparu mapiau tystiolaeth rhyngweithiol ar-lein sydd ar gael yn rhwydd.

Wrth i'r sylfaen dystiolaeth ddatblygu byddwn yn mireinio'r cynllun yn barhaus a sut mae'n berthnasol i weithgareddau penodol a rhanbarthau penodol o Gymru. Mae cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol cyntaf Cymru yn rhan bwysig o'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol wrth iddo effeithio ar ein moroedd. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i gymunedau arfordirol a'n cefnogaeth i'r diwydiannau a fydd, yn ein barn ni, yn sail i ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Mae'r cynllun hwn yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lewyrchus a chydnerth lle mae ein moroedd yn gyforiog o fywyd gwyllt, yn cynnal sector ynni adnewyddadwy bywiog, ac yn cyfoethogi bywydau pobl Cymru mewn cymaint o ffyrdd eraill.  

15:35

Gweinidog, Diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Yn amlwg, fel pwyllgor, y pwyllgor amgylchedd, rydym ni wedi edrych yn fanwl iawn ar hyn ac fe hoffwn i ddiolch i chi a'ch swyddogion sydd wedi dod ger ein bron hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar i weld canlyniad y gwaith a ddygwyd ymlaen yn y cynllun ac yn arbennig y datganiad sy'n amlinellu dyheadau'r Llywodraeth ar gyfer y cynllun hwn. 

Mae'n gynllun 20 mlynedd, fel y mae'n dweud. Mae un peth yn sicr, mae pob cynllun yn tueddu i gael ei ddiwygio. Felly, i agor, y cwestiwn agoriadol yw: pa mor gydnerth ydych chi'n meddwl yw'r cynllun hwn mewn gwirionedd? Rydym ni wedi'i weld ar lawer o gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno gyda'r bwriadau gorau a chyda chefnogaeth gan y byd diwydiant a sectorau amrywiol. Mae'n debyg mai'r cynllun coetir yw'r un amlycaf ym maes gwelliannau ac amddiffyniadau amgylcheddol, lle mai 100,000 hectar yn nod, ac ychydig iawn o gynnydd sydd wedi'i wneud yn y maes penodol hwnnw. Pa mor ffyddiog allwn ni fod na fydd y cynllun penodol hwn, ymhen pedair, pump, chwe blynedd yn destun diwygiad enfawr, oherwydd efallai nad yw rhai o'r nodau yr ydych chi wedi'u gosod neu rai o'r amcanion yr ydych chi wedi'u rhoi yn y cynllun hwn yn gyraeddadwy, neu nad yw'r capasiti'n bodoli, yn arbennig gan Gyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd gwyddom, yn anffodus, y bu eu gallu i reoleiddio a chyflawni mewn rhai meysydd yn ddiffygiol ers eu sefydlu? Pa mor ffyddiog ydych chi y bu Cyfoeth Naturiol Cymru ar flaen y gad o ran cyflwyno'r cynllun hwn gyda chi, fel nad ydych chi wedi gosod nod rhy uchelgeisiol ynddo, ac mewn gwirionedd na all y strwythurau sydd ar gael i helpu gwireddu hynny gyflawni dyhead y Llywodraeth yn y maes penodol hwn?

Mae defnydd economaidd o'r moroedd yn allweddol bwysig, oherwydd ein bod ni'n gymuned arfordirol. Os edrychwch chi ar boblogaeth Cymru, yn bennaf, o amgylch yr arfordir y mae'r boblogaeth yn bodoli. A gellir diffinio hynny drwy dri maes y mae'r cynllun hwn yn sôn amdanyn nhw: twristiaeth, pysgota ac ynni. Gwyddom, o ran ynni'r llanw, fod potensial enfawr, ond mae llawer o'r dechnoleg yn dal i fod yn ei babandod. Sut fydd y cynllun hwn yn galluogi ehangu ynni'r llanw a medi ynni'r llanw i gynyddu'r maes penodol hwn, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n faes pwysig iawn i ganolbwyntio arno? Ond twristiaeth hefyd, oherwydd bod llawer o drefi a dinasoedd—. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod Caerdydd yn ddinas arfordirol. Gellir ei mesur yn broffidiol iawn fel dinas—dinas fywiog yw Caerdydd—ond pan ewch chi ymhellach oddi wrth Gaerdydd, fe welwch chi lawer o ardaloedd arfordirol sy'n cael trafferth ac maen nhw'n dibynnu ar y sector twristiaeth, y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad, ac eto gwyddom rhwng 2017 a 2018 y bu gostyngiad o 12 y cant yn nifer y twristiaid yma yng Nghymru, o'i gymharu â'r Alban yn amlwg, lle cafwyd cynnydd o 29 y cant yn nifer y twristiaid. Felly, mae gennym ni ased gwych o amgylch glannau ein gwlad wych ni. Sut fydd y cynllun hwn yn galluogi adrannau eraill i'w ddefnyddio fel arf hyrwyddo economaidd, fel bod y cymunedau hynny sy'n teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl yn gallu elwa ar ehangu twristiaeth?  

Hoffwn hefyd ddeall sut y mae'r adran economaidd yn fwy cyffredinol wedi bod yn rhan o ddatblygu'r cynllun. Rydych chi'n crybwyll llongau a phorthladdoedd yn arbennig. Mae gennym ni gyfleoedd enfawr i ehangu'r meysydd penodol hynny ac yn arbennig gyda chymaint o gyfrifoldeb nawr, pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn dod yn ôl i'r Cynulliad neu i'r DU. Faint o ymgysylltu a fu â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu'r cynllun hwn, gan fod llanw a thrai i'r môr? Nid yw'n parchu ffiniau na therfynau, nid yw'n gwneud hynny, ac ni ddylai'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr o anghenraid gael ei fabwysiadu yma yng Nghymru. Lle'r Llywodraeth yn llwyr yw penderfynu a yw hi eisiau gwneud hynny, ond mae angen dull cydweithredol o reoli ein moroedd, a byddai'n dda deall yn union faint o ymgysylltu a fu, ac yn arbennig o ran datblygiad y cynllun wrth fwrw ymlaen ag ef, faint o weithio a fu arno rhyngoch chi ag adran DEFRA yn Llundain.

Rwy'n nodi, yn amlwg, y cyfeirio mynych at danwyddau ffosil. Rwy'n credu mai dyna yw cynnwys y pump/chwe pharagraff yn y datganiad cyfan, yn wir. Safbwynt y Llywodraeth yw hynny, ac mae'n debyg y byddwn yn anghytuno ag ef i ryw raddau, ond deallaf pam mae'r Llywodraeth yn mynegi'r farn honno.

Deallaf o un paragraff yr ymddengys, os darllenwch rhwng y llinellau, y byddech yn defnyddio'r system gynllunio, gan eich bod yn sôn am ardaloedd sydd o fewn eich rheolaeth ar y tir i ddatblygu eich polisi, er y gallai'r cloddio am danwydd ffosil fod yn digwydd yn y môr. A allech chi fod yn fwy eglur o ran pa fath o fesurau y gallech chi fod yn ceisio eu hymarfer? Fel y dywedais, a yw mor syml â chi yn defnyddio'r system gynllunio ac yn rhoi arweiniad i'r arolygaeth gynllunio ac i awdurdodau lleol i wrthod ceisiadau cynllunio o'r fath? Oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig, bod pobl yn deall yr arwyddion sy'n dod o'r Llywodraeth a'r defnydd o'r system gynllunio yn amlwg i gyflawni polisi'r Llywodraeth.

Ond, ar y cyfan, mae'n hanfodol ein bod yn cadw cydbwysedd rhwng yr hyn y byddwn yn ei ystyried yn ased economaidd ac yn ased amgylcheddol, ac mae'r agweddau cadwraeth sydd gennym ni o amgylch ein harfordir godidog yma yng Nghymru yn rhywbeth y mae angen eu gwarchod ac y mae angen eu hehangu. Edrychaf ymlaen at weld y cynllun hwn yn cael ei arfer gan y Llywodraeth gyda'r pwerau newydd a ddaw yn ôl o'r Undeb Ewropeaidd. Am y tro cyntaf ers degawdau lawer bellach, bydd gennych chi lais uniongyrchol dros lawer o feysydd sydd, yn hanesyddol, wedi digwydd y tu allan i'r adeilad hwn.

15:40

Diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Rwyf yn credu ei fod yn gynllun cydnerth. Fel y dywedwch chi, dyma ein gweledigaeth ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf. Mae wedi bod yn amser hir yn dod. Rwyf wedi bod yn gweithio ar hyn, ynghyd â swyddogion, ers i mi ddod i'r swydd am y tro cyntaf dair blynedd yn ôl, ac rwy'n credu yr oedd hi'n bwysig i'w gael yn gywir. Roedd yn rhywbeth a oedd yn angenrheidiol iawn yn fy marn i, i ni gael ein cynllun morol ein hunain, yn enwedig gyda'r pwerau newydd a fydd yn dod i'n rhan, fel y dywedwch chi. A fydd angen ei fireinio ar adegau? Mae'n debyg y bydd yn rhaid inni fod yn hyblyg yng nghyswllt hynny, ond yn sicr ni fyddwn i eisiau edrych eto ar y mater yn ei gyfanrwydd, nac ymgynghori eto yn y maes hwn dros yr 20 mlynedd nesaf.

Fe wnaethoch chi holi am Gyfoeth Naturiol Cymru a'i allu a'i alluoedd o ran rheoleiddio, a chyfarfûm y bore yma â Chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion eraill o'r corff hwnnw, lle mae rheoleiddio'n eitem sefydlog yn aml, fel y gallwch chi ddychmygu, mae'n siŵr, ond buom yn siarad yn benodol am reoleiddio a phwysigrwydd eu gallu i reoleiddio polisïau a chynlluniau newydd yr ydym ni'n eu cyflwyno, ynghyd â'r rhai presennol. Yn sicr, rwyf wedi fy sicrhau bod hynny'n wir.

Fe wnaethoch chi ofyn cyfres o gwestiynau, un yn ymwneud â chysylltiad Llywodraeth y DU, ac rydych chi yn llygad eich lle ynglŷn â threfniadau trawsffiniol, os mynnwch chi, mewn cysylltiad â'r môr. Felly, rydym ni wedi ymgysylltu â phob un o'n hawdurdodau cynllunio morol cyfagos i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwaith cynllunio trawsffiniol effeithiol, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn o fewn y cynllun hwn. Yn sicr, mae fy adran wedi cael cyswllt agos a rheolaidd â'r Sefydliad Rheoli Morol ar faterion cynllunio morol er mwyn sicrhau ein bod ni yn mynd ati yn y modd cydgysylltiedig hwnnw. Rydym ni hefyd wedi ymgysylltu â'r Alban, gyda Gogledd Iwerddon, gyda Gweriniaeth Iwerddon ac Ynys Manaw, ac rydym ni hefyd wedi sefydlu cytundeb ffyrdd o weithio gyda'r Sefydliad Rheoli Morol ynghylch cydweithio.

Mae pwyslais economaidd i'r cynllun, ac rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chydbwysedd yng nghyswllt—fe wnaethoch chi sôn am dwristiaeth a phorthladdoedd a llongau, ac, yn sicr, mae swyddogion wedi ymgysylltu ar draws y Llywodraeth. Ond mae'n amlwg bod llawer o swyddi eisoes yn bodoli mewn cysylltiad â'n cymunedau arfordirol a'n bywyd morol. Yn amlwg, rwyf wedi gweithio'n agos gyda Gweinidogion o ran cyflwyno'r cynllun hwn. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud Cymru'n gymdeithas fwy ffyniannus, cynaliadwy a chyfartal, felly mae'r moroedd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein heconomi ac yn enwedig economïau ein cymunedau arfordirol, ac fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, maen nhw o dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod y cyfoeth o asedau y mae ein moroedd yn eu cynnig a'r angen i gynllunio ar eu cyfer mewn ffordd gynaliadwy.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am ynni adnewyddadwy, ac mae'n amlwg bod llawer o'r technolegau sy'n datblygu yn rhai gwreiddiol. Euthum i'r gynhadledd ynni morol yn Nulyn fis diwethaf, neu efallai'r mis cyn hynny, ac roedd peth o'r dechnoleg a oedd ar ddangos yno—roedd llawer o ddatblygwyr ar gyfer gwynt arnofiol, er enghraifft. Yn amlwg, dros y blynyddoedd nesaf, mae hynny'n mynd i fod yn rhan bwysig. Felly, unwaith eto, mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda datblygwyr, gyda'n sefydliadau cydsynio a chyda'n rheoleiddwyr hefyd, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu achub ar y cyfleoedd y mae'r technolegau newydd hyn yn eu cyflwyno.

Fe wnaethoch chi sôn yn benodol am danwyddau ffosil, a chredais ei bod hi'n bwysig iawn cael hynny yn y cynllun. Rwy'n gobeithio fy mod wedi gwneud fy marn yn glir iawn yn ein datganiad agoriadol ar y cyd â—y gwahanol bolisïau tanwydd ffosil sydd gennym ni rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Rwy'n glir iawn y gellir defnyddio ein polisi cynllunio tir. Dylai hynny allu osgoi'r echdynnu a'r defnyddio parhaus o danwyddau ffosil ar y tir, a rhaid cymhwyso hynny mewn unrhyw ystyriaethau sy'n gysylltiedig â seilwaith ar y lan sy'n gysylltiedig â gweithgarwch olew a nwy ar y môr.

15:45

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, bydd eisiau ychydig amser i bori drwy'r ddogfen nid ansylweddol hon cyn dod i gasgliad terfynol ynglŷn â beth yw fy marn i amdani. Ond, yn sicr, mae yna ambell bwynt yn codi dwi angen holi ynglŷn ag ef.

Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yr effaith rŷn ni eisoes yn ei gweld i'r argyfwng hinsawdd, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein cymunedau ni. Rŷch chi'n cyfeirio at lifogydd ac erydu'r arfordir, er enghraifft, ac rŷn ni'n ymwybodol bod yna gymunedau ar draws Cymru sydd yn wynebu'r her real honno heddiw. Dwi eisiau holi, felly, beth yw bwriad y Llywodraeth o ran mynd ati i greu cyfundrefn neu i greu proses benodol ac—yn rhagweithiol, efallai—proses statudol, er mwyn sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid sydd yn mynd i orfod bod yn rhan o'r broses yna, efallai, o adleoli cymunedau, hyd yn oed, sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn gallu dod at ei gilydd.

Gallwn ni sôn am yr hyn sydd angen ei wneud i geisio gwarchod y cymunedau hynny, ond, ar ddiwedd y dydd, bydd yna rai cymunedau a fydd yn gorfod adleoli, ac mae pobl yn edrych i'r Llywodraeth, dwi'n meddwl, i roi arweiniad. Efallai ein bod ni'n sôn am un neu ddau o fewn y degawdau nesaf, ond ar ôl hynny mi fydd yna ragor. Felly, mae angen rhyw fath o broses a rhyw fath o drefniadaeth glir ar gyfer mynd ati i gynnal y drafodaeth honno ac wedyn i weithredu pan fydd angen gwneud hynny. Felly, byddwn i'n awyddus i glywed eich sylwadau chi ar hynny.

Mae'r ffaith fy mod i'n gofyn y cwestiwn yma efallai yn fy arwain i at fy nghwestiwn nesaf, sef, wrth gwrs: mae gennym ni fframwaith datblygu cenedlaethol, ac mae gennym ni gynllunio morol yma, ac maen nhw'n gorgyffwrdd, onid ydyn nhw? Hynny yw, mae'r mater dwi wedi sôn amdano fe nawr—gallai fod yn un neu'r llall, neu'r ddau, fel y dylai fod, efallai. Ynni adnewyddadwy hefyd: mae'n gynwysedig yn y ddwy ddogfen. Pam felly ddim cael cynllun datblygu ar gyfer y tir a'r môr mewn un cynllun sydd wedi'i gydlynu ac sydd wedi'i gydblethu yn benodol? Pam penderfynu cael dwy ddogfen wahanol?

Wrth ehangu rhwydwaith yr ardaloedd gwarchodedig morol, yr MPAs, sut y byddwch chi'n sicrhau bod yr holl leisiau yn cael eu clywed ac yn cael eu gwrando arnyn nhw, wrth gwrs, yn y drafodaeth honno? Rŷn ni gyd yn cofio ymdrechion y Cynulliad diwethaf i ehangu niferoedd y parthau cadwraeth morol—y marine conservation zones—a dwi'n meddwl efallai mai'r diffyg i ddatblygu'r cynigion yna ar y cyd ag ystod digon eang o fudd-ddeiliaid a arweiniodd at yr ymateb adweithiol, efallai, a'r gwrthdaro a ddaeth yn sgil hynny. Mae'n bwysig bod pawb yn dod ar y siwrnai. Felly, lle fydd y lleisiau yna'n cael eu clywed, a sut y byddwch chi'n sicrhau bod pawb yn cael bod yn rhan o'r drafodaeth honno?

Dwi eisiau ymhelaethu ar ynni morol, wrth gwrs. Dwi'n cytuno â chi bod hwn yn sicr yn un o nodau tymor hir strategol pwysicaf Cymru. Byddwn i'n dadlau, er mwyn gwireddu hynny i'w lawn botensial, fod angen rhagor o ddatganoli—er enghraifft, cyfrifoldebau Ystâd y Goron, fel sydd ganddyn nhw yn yr Alban. Byddwn i'n gofyn a ydych yn cytuno, er enghraifft, y byddai datblygu pwerau Ystâd y Goron i fan hyn yn gymorth inni i wireddu'r potensial yma, gan ei fod, fel rŷch chi'n ei ddweud, yn un o'n nodau tymor hir strategol pwysicaf ni.

Dwi'n falch o weld y cyfeiriad at echdynnu tanwydd ffosil o'n moroedd. Dwi wedi codi hyn gyda chi yn flaenorol, wrth gwrs. Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu hynny, a dwi'n falch iawn o weld datganiad yn gwneud eich safbwynt chi yn glir ar hynny. Yr her nawr, wrth gwrs, yw sicrhau bod y cynllun yma'n cael ei weithredu, a'i fod yn cael ei ddefnyddio gan y rheoleiddwyr, gan ddatblygwyr, gan ddefnyddwyr y môr, ac nad yw'n casglu llwch ar y silff, wrth gwrs. Y cwestiwn allweddol yn hynny o beth, wedyn, yw: a fydd y cynllun yma yn derbyn yr adnoddau a'r buddsoddiad sy'n angenrheidiol? Oherwydd mae yna deimlad, dwi'n credu, fod y polisi morol wedi bod, i gyfieithu idiom Saesneg, yn berthynas dlawd am lawer yn rhy hir, ac felly, yn sgil y cynllun yma, fod yr amser wedi dod i fuddsoddi i'r lefelau angenrheidiol i sicrhau bod newid yn digwydd.

15:50

Diolch yn fawr iawn, Llyr Huws Gruffydd, am y gyfres yna o gwestiynau a sylwadau. Gobeithio eich bod yn cytuno y bûm yn ddiamwys iawn mewn perthynas â'r echdynnu tanwydd ffosil. Roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi hynny yn y datganiad a hefyd yn y cynllun morol cenedlaethol.

Am y tro cyntaf, mae gennym ni fframwaith polisi strategol statudol i helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â'r môr, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni hynny i gefnogi pawb sy'n dymuno defnyddio ein hamgylchedd morol, am ba reswm bynnag, i sicrhau bod gennym ni ecosystemau morol cadarn a'n bod yn gallu diogelu'r dreftadaeth forwrol gyfoethog ac amrywiol iawn, fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr. Rwy'n credu mai'r prif fyrdwn mewn perthynas â datblygu, a datblygu ynni adnewyddadwy yn arbennig, yw bod y datblygiadau cywir yn cael eu hannog yn y lle cyntaf, ac y cânt eu cyflwyno yn y lle cyntaf, ac y caiff gwrthdaro dianghenraid ei osgoi, rhywbeth nad wyf yn credu sydd wedi digwydd o'r blaen. Rwy'n credu y bu oedi hefyd pan gafwyd ceisiadau am ganiatâd yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y cynllun yn cynorthwyo yn y ffordd honno.

Rwy'n credu y gallwch chi weld bod datblygu cynaliadwy yn gwbl greiddiol i'r cynllun hwn. Felly, mae'n cynnwys polisïau i gadarnhau'r angen i warchod ein hamgylchedd, yn ogystal â phennu'r fframwaith strategol y credaf y bydd ei angen wrth inni gyflwyno mwy o ynni adnewyddadwy.

Un sylw yr hoffwn ei wneud yw nad yw'r cynllun hwn yn lleihau'r rhwystrau a'r gwrthbwysau amgylcheddol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd yn mynd ymhellach, a'i fod yn darparu'r anogaeth honno o ran polisi er mwyn gweithredu i ddiogelu ac adfer a gwella ein hecosystemau morol.

Fe wnaethoch chi sôn am y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac, yn amlwg, bydd y cynllun hwn a'r fframwaith yn cydweithio â'i gilydd. Roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig iawn cyflwyno'r cynllun morol hwn yn ei rinwedd ei hun. Byddwch yn ymwybodol, o'r adeg y bûm o flaen y pwyllgor, ei fod yn hwyrach nag yr oeddwn i wedi ei gynllunio, ond mae'r mater bychan hwnnw o'r enw Brexit rwy'n credu wedi amharu ar bethau. Nid wyf yn gwneud esgus, ond byddwch yn sylweddoli bod hwn yn ddarn sylweddol o waith yr oeddwn yn gwbl benderfynol y byddem yn ei wneud yn gywir, ac rwy'n credu ei fod yn ddiwrnod pwysig iawn. Mae lansio'r cynllun hwn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i Gymru yn fy marn i.

O ran ardaloedd morol gwarchodedig, mae'r cynllun yn cynnwys polisïau sy'n cadarnhau diogelwch ar gyfer y rhwydwaith o safleoedd ardaloedd morol gwarchodedig. Cynhaliwyd asesiad helaeth o'r rheoliadau cynefinoedd er mwyn i ni allu deall a rheoli unrhyw effeithiau posib ar bolisïau mewn cysylltiad â hynny o fewn y cynllun hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn dal i chwarae rhan, a soniais am ddau grŵp, rwy'n credu, yn fy natganiad gwreiddiol a fydd yn ein cynorthwyo o ran gweithredu'r cynllun, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n bwysig iawn na chaiff ei roi ar silff i hel llwch. Yn sicr, bydd pwyslais hyn nawr ar weithredu, ac mae canllawiau ar fin cael eu cwblhau ac fe gânt eu dosbarthu i grwpiau sydd â diddordeb.

Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf neu'r wythnos gynt gydag Ystad y Goron, ac, yn sicr, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda nhw i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i gefnogi datblygu'r diwydiant gwynt ar y môr mewn lleoliadau priodol. Yn bersonol, nid wyf wedi cael sgwrs am ddatganoli rhagor o bwerau, ond yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd, yn fy marn i, yw ein bod yn gweithio'n agos gydag Ystad y Goron. Roedd yr holl swyddogion y cyfarfûm â hwy o Ystad y Goron, yn ddiddorol, wedi gweithio ar gynllun Gwynt y Môr, 10 neu 15 mlynedd yn ôl mae'n debyg, ac roeddent yn sicr yn cydnabod y cyfleoedd sydd gennym ni yng Nghymru o ran gwynt ar y môr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog, a'r cynllun. Mae'n rhaid inni edrych ar hyn i gyd yn erbyn cefndir o gynhesu byd-eang a lefelau'r môr yn codi, ac, oni bai ein bod yn gweithredu'n gyflym, rhagor o gynhesu byd-eang a lefelau'r môr yn codi'n uwch. Mae'n bwysig bod moroedd Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y potensial economaidd sy'n gysylltiedig â'n hadnoddau morol, yn ogystal â swyddogaeth ein moroedd o ran cefnogi lles. Drwy ddull ecosystem, caiff adnoddau naturiol eu rheoli'n gynaliadwy, ac mae ein moroedd yn iach ac yn gydnerth, gan gefnogi economi gynaliadwy sy'n ffynnu. Sylwaf y caiff y cynllun hwn ei ategu gan ddogfennau cynllunio atodol ac offer cynllunio cysylltiedig. Pryd maen nhw'n debygol o gael eu cynhyrchu?

Rwy'n croesawu amcan carbon isel 1 i gyfrannu'n sylweddol at ddatgarboneiddio ein heconomi ac at ein ffyniant, drwy gynyddu faint o ynni adnewyddadwy morol a gynhyrchir.

Rwy'n cefnogi defnydd masnachol pellach o dechnoleg gwynt ar y môr ar raddfa briodol dros oes y cynllun. Yn y fframwaith datblygu cenedlaethol, awgrymir dynodi ardaloedd fel rhai sy'n addas ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt. Ai'r bwriad oedd iddo ddynodi ardaloedd ar y môr, neu a wyf wedi colli rhywbeth drwy gael cipolwg cyflym drwy'r ddogfen?

Mae cefnogi'r broses o ddatblygu ac arddangos technolegau ynni'r tonnau a ffrwd llanw yn y tymor byr i ganolig yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr, ac rwyf ymhlith y rheini o'r gwahanol bleidiau sy'n cynrychioli rhanbarth Bae Abertawe sy'n gwbl siomedig nad yw morlyn llanw Bae Abertawe wedi cael sêl bendith.

Yn olaf, mae gennym ni gynllun morol cenedlaethol Cymru a fframwaith datblygu cenedlaethol. Er fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd—dylent fod mewn un ddogfen—os na fyddant mewn un ddogfen, a allant groesgyfeirio at ei gilydd yn y fath fodd fel y gall pobl droi o'r naill i'r llall? Oherwydd bod y môr yn dod i'r tir, a bod unrhyw beth sy'n digwydd ar dir, fel nitradau yn mynd i afonydd, yn cyrraedd y môr. Felly, ni allwch chi drin un fel un sy'n ymdrin ag un maes, a'r llall fel un sy'n ymdrin â'r llall—maen nhw i gyd ynglŷn â'n hamgylchedd.

15:55

Diolch, Mike Hedges, sydd, wrth gwrs, yn Gadeirydd y pwyllgor ar newid hinsawdd. O ran croesgyfeirio, mae'n sicr yn rhywbeth y gallaf i edrych arno a siarad â'r Gweinidog llywodraeth leol amdano, oherwydd, yn amlwg, nid yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol wedi cael ei gyflwyno, ond credaf y byddai hynny, yn amlwg, o gymorth mawr i bobl allu gweld y ddwy ddogfen hynny yn y ffordd yr ydych chi'n ei hawgrymu. Felly, rwy'n hapus iawn i siarad â hi ac edrych ar hynny.

Mae'n debyg y dylwn fod wedi dweud yn fy ateb i Llyr ein bod wedi cael grŵp cydsynio newydd ar gynghori strategol. Yr hyn y mae'n ei wneud yw darparu fforwm ar gyfer trafodaeth agored a gonest, rwy'n credu, am yr heriau allweddol o ran cydsynio, er enghraifft. Nid yw hynny'n unigryw i Gymru, ond rwy'n credu, unwaith eto, y bydd hynny'n helpu mewn cysylltiad â sylwadau Mike Hedges.

Rwyf innau hefyd yn rhannu'ch siom ynghylch y morlyn llanw. Yn amlwg, roedd yn rhywbeth yr oedd Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â'i ddatblygu. Ond rwy'n credu bod llawer o gyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy yn ein moroedd o amgylch Cymru.

Ni atebais gwestiwn Llyr chwaith ynghylch cymunedau arfordirol ac, yn amlwg, rwy'n ymwybodol o ba gymuned yr ydych chi'n ei thrafod. Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid ei ystyried yn ofalus iawn dros y blynyddoedd nesaf, a byddwch yn ymwybodol, er enghraifft, ein bod wedi cefnogi Cyngor Gwynedd gyda chyllid i wneud gwaith ymchwil. Mae'n drafodaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei chael hefyd, oherwydd, fel y gwelwn, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd—mae'n amlwg yn drafodaeth sensitif iawn y mae angen ei chynnal. Ond rwy'n credu yn y lle cyntaf, ei bod yn bwysig iawn bod ein hawdurdodau lleol yn ei drafod gyda'r boblogaeth leol.

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad yma? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod gennym ni rŵan gynllun morol i Gymru, er, fel un fu'n gwthio ers tro am gael math o gynllun Cymreig a oedd yn cyfateb i'r cynllun Gwyddelig 'Harnessing our Ocean Wealth', sydd allan ers rhai blynyddoedd bellach, dwi yn nodi, wrth gwrs, mai gorfod paratoi y cynllun yma mae Llywodraeth Cymru, a hynny o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn San Steffan. Ond, wrth gwrs, mae'n dda rŵan fod yna ryw fath o amlinelliad o fwriad y Llywodraeth mewn perthynas â'r moroedd o'n cwmpas ni.

Mi wna i gyfeirio at rywbeth dwi wedi'i grybwyll droeon yma yn y Cynulliad, sef yr angen parhaus i ddod i ddeall y môr o'n cwmpas ni yn well, a'r rôl sydd gan yr adran eigioneg ym Mhrifysgol Bangor, yn fy etholaeth i, i'w chware yn y gwaith yna o fapio ac ati y môr o'n cwmpas ni. Dwi'n falch o'r ymateb cadarnhaol sydd wedi bod i'r ddadl gwnes i ei chyflwyno peth amser yn ôl bellach, am yr angen i'r Llywodraeth allu dod i gytundeb newydd ynglŷn â defnydd y Prince Madog, yn arbennig fel llong ymchwil. Dwi'n ddiolchgar am y ffordd y gwnaeth y Gweinidog ymateb i'r pryder hwnnw gafodd ei roi o'i blaen hi gen i fod yna o bosib dyfodol ansicr i'r llong. Dwi yn edrych ymlaen i weld cryfhau ar y cytundebau sydd bellach yn eu lle ar gyfer defnydd y Prince Madog.

Ond, os caf i sôn yn benodol am y cynlluniau mewn perthynas ag ynni môr, mae yna, wrth gwrs, gynlluniau cyffrous o gwmpas arfordir Ynys Môn ar gyfer tynnu ynni o lu y llanw—cynllun Morlais, cynllun Minesto. Mae yna hefyd gynlluniau sydd wedi bod yn cael eu crybwyll ers rhai blynyddoedd a sydd bellach yn dod yn ôl ar yr agenda ar gyfer cynhyrchu mwy o ynni gwynt. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fod yna bryder gen i ynglŷn â'r diffyg cydweithio sydd yna, mae'n ymddangos, rhwng yr hyn sydd angen digwydd a gall ddigwydd yn y môr a'r hyn sydd angen digwydd, ac angen peidio â digwydd hefyd mewn rhai llefydd, ar y tir.

Rydym ni wedi cael amlinelliad drwy'r cynllun drafft, y cynllun fframwaith cenedlaethol, ar gyfer bwriad y Llywodraeth ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddol ar y tir. Mae yn bryder mawr i fi gweld y 15 ardal yma, yn cyfateb i 20 y cant o arwynebedd Cymru, yn cael ei adnabod fel ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer cynhyrchu ynni solar, ynni gwynt. Mae'r syniad o gael rhan mor fawr o Ynys Môn yn cael ei hadnabod fel ardal sydd yn barod ar gyfer tyrbinau 250 metr o uchder, sydd yn uwch nag unrhyw dir yn Ynys Môn, yn rhywbeth sy'n gwneud i fi feddwl nad oes yna ddigon o feddwl wedi bod am hyn, ac mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn dweud nad ydy'r hyn sydd gennym ni yn yr NDF yn ffit ar gyfer pwrpas. 

Ond wedyn peth arall wnaeth fy nharo i efo'r NDF, wrth gwrs, ydy nad oes yna gyfeiriad at yr hyn a all gael ei wneud yn y môr. Allwch chi ddim cynllunio ar gyfer dyfodol ynni adnewyddol ar y tir heb ystyried y môr, na chwaith yn y môr heb ystyried y tir. Felly, mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog beth ydy'r bwriad sydd yna i ddod â'r ddwy elfen at ei gilydd, a pam mae'r Llywodraeth wedi penderfynu rhannu ei chynlluniau ar gyfer ein dyfodol ynni adnewyddol ni i'r môr a'r tir, pan, siawns, ddylem ni fod yn meddwl mewn un ffordd unedig.

Mae yna gynlluniau, os ydych chi'n eu hychwanegu nhw, i gynhyrchu o bosib 10 gwaith gofynion ynni Cymru drwy beth sydd gennym ni yn y ddau gynllun yma. Rŵan, dwi'n licio bod yn uchelgeisiol a chynllunio ar gyfer cynhyrchu mwy o drydan nag ydyn ni ei angen—mae trydan ag ynni yn rhywbeth y gallwn ni ei allforio. Ond mae rhywbeth yn gwneud i mi feddwl bod y Llywodraeth wedi methu â meddwl am y math o sgêl gallwn ni fod ei angen o ran cynhyrchu ynni. Mi hoffwn i eglurhad o pam nad oes yna dargedau yna go iawn ar gyfer faint o ynni rydyn ni ei angen cynhyrchu o'r môr, a faint gallwn ni ei gyflawni o'r môr fel nad oes angen wedyn gwthio am y cynlluniau mwy amhoblogaidd sy'n creu mwy o impact ar yr amgylchedd ac ati ar y tir.

Ac, yn olaf, dwi ddim yn meddwl eich bod chi wedi ateb y cwestiwn gan Llyr Gruffydd, felly mi ofynnaf i o eto, ynglŷn â'r adnoddau mae'r Llywodraeth yn barod i'w rhoi i mewn, yn ariannol ac o ran swyddogion a gweision sifil ac ati, i wneud yn siŵr bod modd delifro beth sydd yn y cynlluniau yma gennych chi.

16:00

Diolch, Rhun ap Iorwerth, am y cwestiynau yna. O ran y Prince Madog, rwy'n cofio pan wnaethoch chi—credaf y cawsoch chi ddadl fer am y Prince Madog, a dyna pryd yr edrychais ar hynny am y tro cyntaf yn y manylder yr oedd ei angen. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol briodol inni wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau dyfodol i'r cwch. Ac ymwelodd y Prif Weinidog a minnau—. Nid wyf yn siŵr a ydych chi'n ymwybodol i'r Prif Weinidog a minnau ymweld ag ef ar ôl Sioe Amaethyddol Môn, ar ddiwrnod gwlyb iawn, i weld drosom ni ein hunain y gwaith, gwaith sy'n arwain y byd, sy'n cael ei wneud ar y cwch. Felly, rwy'n falch iawn ein bod, rhyngom ni i gyd, wedi llwyddo i sicrhau hynny. 

O ran y fframwaith datblygu cenedlaethol, yn amlwg—rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud ei fod yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad; rwy'n credu fod hynny'n dod i ben yr wythnos hon. Yn amlwg, mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno'n fanwl o ran y targedau, er enghraifft. Rwy'n credu mai fi oedd y Gweinidog a gychwynnodd proses y fframwaith datblygu cenedlaethol, yn ogystal â gwneud y cynllun morol. Yn amlwg, mae bellach yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Llywodraeth Leol. Ond roeddwn yn awyddus iawn i gyflwyno'r ddogfen hon, oherwydd roeddem ar ei hôl hi. Rwy'n credu bod angen dybryd am gynllun morol. Roeddwn i eisiau iddo fod yn uchelgeisiol iawn ac rwy'n credu ei fod yn gam mawr ymlaen yn y ffordd yr ydym ni'n mynd i reoli ein moroedd a sicrhau eu dyfodol cynaliadwy. Ac, yn sicr, rwy'n credu bod cyhoeddi'r cynllun hwn heddiw yn rhoi neges glir iawn ein bod yn cynllunio ar gyfer Cymru llawer mwy ffyniannus a chydnerth ac mae angen i'n hadnoddau naturiol gael eu rheoli'n gynaliadwy yn y ffordd a amlinellwyd gennym ni. Ond mae'n sicr yn rhywbeth y gallaf i edrych arno gyda'r Gweinidog i wneud yn siŵr bod mwy—. Rwy'n credu bod yr awgrym i groesgyfeirio gan Mike Hedges yn sicr yn rhywbeth y gallwn ni edrych arno.  

Rydych chi'n llygad eich lle, mae llawer o gyfleoedd, ac, yn amlwg, rydych chi'n cynrychioli etholaeth sydd wedi'i hamgylchynu'n llwyr gan ein moroedd a'r holl fanteision sy'n dod yn sgil hynny. Ac rwyf wedi ymweld â Morlais, er enghraifft. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda datblygwyr. Soniais am y gynhadledd yr euthum iddi yn Nulyn—roedd llawer o bobl â diddordeb yn y stribed hwnnw o Ynys Môn draw ar hyd arfordir gogledd Cymru. Rwy'n credu bod cydweithio'n bwysig iawn a bod hynny'n digwydd. Soniais am grwpiau cynghori newydd yr ydym ni wedi'u cyflwyno. Bu llawer iawn o ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd, ond rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd ynni adnewyddadwy morol. Unwaith eto, mae'n ymwneud â chydnabod yr heriau cydsyniol allweddol a fu, a chredaf y bydd y cynllun hwn yn gwneud llawer i roi sylw i'r rheini.  

16:05

Gydag ymddiheuriadau, os caf i ddyfynnu geiriau John F. Kennedy:

mae gan bob un ohonom ni, yn ein gwythiennau yr un ganran union o halen...ag sydd yn y cefnfor...mae gennym ni halen yn ein gwaed, yn ein chwys, yn ein dagrau. Rydym ni wedi ein clymu wrth y cefnfor. A phan awn yn ôl i'r môr...rydym yn dychwelyd...i'r fan o ble y daethom ni.

Nid yn unig y mae'r geiriau hynny wedi'u dyfynnu yma heddiw yn y Siambr hon, ond 10 mlynedd yn ôl mewn gwirionedd, gan Hilary Benn, fy mhennaeth ar y pryd, wrth inni gyflwyno Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn San Steffan. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Hydref, roeddwn yn cyflwyno camau terfynol y Bil 320 o gymalau ac, ar 12 Tachwedd 2009, 10 mlynedd yn ôl i'r diwrnod hwn, fe wnaethom ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei gyflwyno gyda balchder ac yn gwbl briodol, o ran cynllunio yn ein hamgylchedd morol yng Nghymru. Mae'n adeg nodedig, rhaid imi ddweud. Ac rwy'n croesawu hyn a'r craffu a wnaeth y pwyllgor hefyd.

A gaf i ofyn ambell gwestiwn? Yn gyntaf oll, beth yw barn y Gweinidog ar yr ymgyrch barhaus gan Gymdeithas Cadwraeth y Môr ac eraill o ran cael ardaloedd cadwraeth morol sydd â gwarchodaeth lem iawn, fel rhyw fath o barth safon aur? Mae'n cael ei archwilio ar hyn o bryd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. A yw'r Gweinidog yn barod i edrych ar hyn ac a oes unrhyw botensial yn nyfroedd Cymru ar gyfer y parthau safon aur hynny, ai peidio? Sut mae'r cynllun hwn heddiw yn cyfrannu at y sefyllfa sydd ohoni ledled y DU gyfan, at y rhwydwaith cydlynus ecolegol hwn o ardaloedd cadwraeth morol, yn enwedig yn sgil y cynhesu cyflymach sydd ar ein cefnforoedd, pan fydd rhywogaethau'n mudo ond hefyd lle mae hyd yn oed modd i gynefinoedd addasu a newid? A wnaiff hi ailadrodd, a dweud ar goedd unwaith eto, y bydd penderfyniadau yn y dyfodol, yn enwedig o ran gweithredu, o ran cydbwyso gweithgareddau economaidd a chymdeithasol a chadwraeth, wastad—wastad—yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf cadarn, gan gynnwys y dadansoddiad sylfaenol amgylcheddol gorau oll?

Ac, o ran tanwyddau ffosil—ac rwy'n croesawu'r eglurder a roddir yma yn fawr yn y datganiad hwn—a gaf i ofyn beth yw'r pwerau hynny sydd gan Lywodraeth Cymru i wrthod echdynnu tanwyddau ffosil yn y dyfroedd gwerthfawr hyn, yn enwedig yn y dyfroedd alltraeth? Pwerau dros gyfleusterau ar y tir ac yn agos at y môr, er enghraifft a ddefnyddir i gefnogi ac echdynnu gwasanaethau—fe allem ni ddefnyddio'r rheini—pwerau i ddylanwadu ar Lywodraeth San Steffan yn unol â Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir, sy'n eang ei chwmpas, ac sy'n rhoi dyletswyddau ar bedair Llywodraeth a gweinyddiaeth y DU i siarad â'i gilydd a chynllunio'n briodol gyda'i gilydd. Beth yw safbwynt Llywodraeth Iwerddon ar danwyddau ffosil, ac a allwn ni weithio gyda nhw? Beth mae Deddf y môr yn galluogi Llywodraeth Cymru i'w wneud o ran gallu lleisio barn am y dyfroedd alltraeth hyn? Ac, ar hyn o bryd, beth yw safbwynt yr UE o ran echdynnu tanwyddau ffosil yno?

Ac, yn olaf, gan nodi sefydlu'r grŵp penderfynwyr cynllunio morol, rwy'n ei groesawu'n fawr, i fwrw ymlaen â'r gweithredu, a gaf i ofyn sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn chwarae rhan lawn yn y gweithredu, gan gynnwys, ie, pysgodfeydd, ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth, porthladdoedd a'r holl randdeiliaid eraill hynny, ond hefyd sefydliadau amgylcheddol ac ecolegol arbenigol, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn rhan annatod o'r ffordd ymlaen?

Ond mae hwn yn ddiwrnod nodedig. Croesawaf y datganiad, a nawr mae angen bwrw ati a chydbwyso, fel a wnaed yn wreiddiol 10 mlynedd yn ôl, y buddiannau hynny ar y moroedd byw sydd gennym ni o amgylch ein glannau.  

16:10

Diolch yn fawr iawn. Dyna'r ail dro i mi glywed y dyfyniad hwnnw heddiw; mae'n amlwg yn ddyfyniad y dydd. Fel y dywedodd yr Aelod, mae 10 mlynedd ers i Lywodraeth Lafur y DU gyflwyno'u deddfwriaeth, ac fe wnes i ddweud—fe wnes i gyfaddef—roeddem ni ar ei hôl i braidd a dyna pam yr oedd hi mor bwysig, rwy'n credu, ein bod wedi cyflwyno'r cynllun morol cenedlaethol hwn i Gymru. Rwyf yn credu ei fod yn ddiwrnod pwysig, yn sicr i'm swyddogion, sydd wedi gweithio arno ers amser maith. Maen nhw'n gweld hwn fel cam gwirioneddol bwysig ar gyfer dyfodol ein moroedd.

Soniodd Huw Irranca-Davies am yr ardaloedd morol gwarchodedig, ac a fyddwn yn ystyried safon aur. Yn sicr, ni chrybwyllwyd hynny wrthyf, hyd y gallaf gofio, ond, yn amlwg, rydym ni wedi ymgysylltu'n sylweddol â rhanddeiliaid ar y cynllun hwn, ac rwyf bob amser yn hapus i edrych ar unrhyw beth a fydd yn parhau i ddiogelu ein moroedd. Mae'r cynllun yn nodi'n glir na ddylai datblygu ardaloedd adnoddau strategol, er enghraifft, lesteirio dynodiad yr ardaloedd morol gwarchodedig yn y dyfodol, ac efallai na fydd gweithgarwch dynol penodol yn briodol mewn ardaloedd morol gwarchodedig, er enghraifft. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r amddiffyniadau hynny yn y cynllun hwn, oherwydd, fel y dywedais, bydd yn bodoli am 20 mlynedd, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio i'r eithaf ar ein cyfleoedd.

O ran y tanwyddau ffosil a'r olew a'r nwy, roeddwn i eisiau bod yn glir iawn ynglŷn â'r gwahaniaethau rhwng y ddwy Lywodraeth. Fodd bynnag, mae cydsynio i echdynnu olew a nwy yn fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU yn y rhan fwyaf o foroedd Cymru, fel y gŵyr yr Aelod, ond rydym ni'n gyfrifol am gadwraeth natur, rydym ni'n gyfrifol am ddiogelu'r amgylchedd, a dyna pam ein bod wedi sefydlu ystod eang o fesurau i sicrhau bod y camau diogelu hynny yn eu lle. Cyfarfûm â'r Gweinidog dros liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd yn Iwerddon pan oeddwn yn y gynhadledd ar ynni'r môr. Roedd hwn yn fater a drafodwyd yn gyffredinol, ond credaf fod angen inni sicrhau, yr holl wledydd y siaradais â nhw am y trefniadau trawsffiniol hynny, ein bod yn gwybod yn union ym mhle y mae'r pwerau gennym ni a beth y gallwn ni ei wneud gyda'r pwerau hynny. Fel y dywedaf, mae trwyddedu datblygu petroliwm ar y môr yn swyddogaeth a gadwyd yn ôl, ond credaf fod Llywodraeth y DU yn gwbl sicr ynghylch ein safbwynt.      

Mae'r cynllun morol cenedlaethol yn benllanw llawer iawn o ymgynghori a chydweithredu dros flynyddoedd lawer, ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu pwysigrwydd ein moroedd o ran y nifer a'r ystod o ddiddordebau, o ddiwydiannau, y maen nhw'n eu cefnogi, a hefyd yr ymdeimlad cenedlaethol o'r hunan y mae unrhyw un sydd wedi byw gerllaw neu nid nepell o gymuned arfordirol yn ei werthfawrogi. Felly, rwyf yn croesawu'r cynllun cenedlaethol cyntaf i reoli a datblygu ein moroedd mewn ffordd gynaliadwy a chraff. 

Rwyf eisiau sôn am y dull o ymdrin â physgodfeydd a chynefinoedd. Mae'r polisïau perthnasol yn cydnabod pwysigrwydd pysgota cynaliadwy a'r angen i gynnal cylchredau bywyd pysgod a hefyd yr ecosystem y maen nhw'n dibynnu arni. Gwyddom i gyd fod y mwyafrif helaeth—sef oddeutu 90 y cant o'n fflyd bysgota—yn cynnwys cychod llai sy'n aros ger y glannau gan fwyaf. Ac ar y cyfan maen nhw'n defnyddio offer sefydlog fel potiau a thrapiau, ac nid ydyn nhw'n tueddu i bysgota am rywogaethau y dyrannwyd cwota iddyn nhw. Felly, er enghraifft, maen nhw'n chwilio am bysgod cregyn. Nawr, ar hyn o bryd, nid oes uchafswm ar niferoedd y potiau—ac ni fyddwch yn synnu fy mod yn sôn am hyn—ond, yn y dyfodol, Gweinidog, a wnewch chi barhau i ymgynghori â'r rhanddeiliaid morol ac asesu a gwerthuso'r achos dros gwotâu ar botiau a therfynau ar ddal, yn dibynnu ar iechyd y stociau pysgod cregyn hynny wrth i'r amgylchiadau newid?

Ac eto, gan weithio gyda'r diwydiant pysgota, a wnewch chi ystyried rhinweddau tagio potiau a symud at ddefnyddio deunyddiau bioddiraddiadwy, gan ein bod bellach yn ymwybodol iawn y dyddiau hyn o'r hyn y mae llygredd plastig yn ei wneud i'r môr? Caiff hyn ei greu'n benodol gan botiau coll ac offer pysgota, ac mae'n gwneud niwed sylweddol. Y math arall o niwed, wrth gwrs, a achosir gan botiau heb eu tagio a thrwy beidio â chadw golwg arnyn nhw, yw'r perygl a'r bygythiad y maen nhw'n ei achosi drwy bysgota anfwriadol. Ac rwy'n siŵr eich bod yn gwybod y byddai'r holl bobl sy'n ymwneud â physgota ar hyn o bryd, y math arbennig hwnnw o bysgota, yn barod iawn i wneud y pethau hyn, gan fod llawer ohonyn nhw eisoes yn eu gwneud.

16:15

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. Mae Joyce Watson yn codi rhai pwyntiau gwirioneddol bwysig, ac un o'r pethau yr oeddwn yn awyddus iawn i'w hystyried yn y polisi hwn oedd y cychod bach, sydd, fel y dywedwch chi, yn ffurfio'r rhan fwyaf o fflyd Cymru. Maen nhw'n hynod o sensitif i ddadleoli, er enghraifft, ac roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn diogelu gweithgareddau sefydledig o fewn y cynllun hwn.

O ran parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, yn amlwg rwy'n gweithio gyda rhanddeiliaid ynghylch hyn. Rwyf wedi gweithio gyda rhanddeiliaid o'r maes pysgodfeydd a'r diwydiannau morol ynghylch Brexit—maen nhw wedi bod yn bresennol o amgylch y bwrdd yn fynych—a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu o ran y sylw yr ydych chi'n ei wneud ynghylch llygredd plastig a sbwriel pysgota, yn niffyg gair gwell, rydym yn cydnabod, er enghraifft, bod gan offer pysgota a gollwyd ar y môr y potensial wedyn i lygru ac effeithio'n fawr ar yr amgylchedd morol. Felly, mae hynny'n ddarn o waith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud gyda'r sector pysgodfeydd ynghylch hynny.

Byddwch hefyd yn gweld bod y cynllun yn cynnwys darpariaeth o ran polisi i ddiogelu meysydd o bwys i'n diwydiant pysgota, ac mae hynny'n cynnwys y cynefinoedd allweddol a'r tiroedd pysgota, yn ogystal ag anogaeth i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth greiddiol, sy'n gwbl hanfodol. Rwy'n credu mai Huw Irranca-Davies a grybwyllodd hynny. Mae'r sylfaen dystiolaeth honno mor angenrheidiol er mwyn gallu hwyluso penderfyniadau cadarnhaol ynghylch rheoli pysgodfeydd.

7. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Model Cyflenwi Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r model cyflenwi arfaethedig ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru yn y dyfodol. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn Weinidog yr economi, rwyf wedi bod yn glir erioed mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru. Nid yn unig maen nhw'n bwysig o ran nifer—o blith bron i 300,000 o fusnesau sy'n weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae mwy na 257,000 yn fusnesau micro, yn fach ac yn ganolig eu maint—maen nhw i gyd mor hanfodol i'r ffordd y mae ein heconomi a'r ffordd y mae ein cymunedau yn gweithredu.

Drwy'r gadwyn gyflenwi, ar y stryd fawr, yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae busnesau bach a chanolig yn rhan mor fawr o fywiogrwydd ac egni economi Cymru a chymunedau Cymru. Ac o'r cwmnïau technoleg newydd ifanc i'r bragwr crefftus sy'n ehangu, i'r cwmni adeiladu y mae rhywun lleol yn berchen arno neu i'r practis cyfraith teuluol, mae'r ffordd yr ydym ni fel cymuned o'u hamgylch yn cefnogi ac yn helpu'r cwmnïau hynny i dyfu, i gael cyllid ac i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, ynddo'i hun yn hanfodol i ddyfodol economi Cymru.

Rwy'n falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ystod datganoli i gefnogi'r cwmnïau bach a chanolig hynny. Drwy Busnes Cymru, rydym ni wedi gallu llenwi'r bylchau a darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau o ansawdd uchel i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau gyda'u cynlluniau i gychwyn a thyfu eu busnesau drwy bob cylch twf.

Ers 1999, a thrwy gwymp 2008 a thu hwnt, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi cwmnïau cymunedol a chwmnïau sydd mewn perchnogaeth leol ar bob cam o'r cylch bywyd busnes—o gynhyrchu syniadau, drwy'r blynyddoedd hynny sy'n aml yn anodd, ac ymlaen i gyflymu twf. Ac rwy'n falch fod Busnes Cymru, ers 2013, wedi ymdrin â mwy na 126,000 o ymholiadau drwy ei linell gymorth ac wedi cael dros 3 miliwn o ymweliadau â'i wefan. Mae wedi rhoi cyngor busnes i dros 71,000 o ddarpar entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig. Mae'n cefnogi busnesau bach a chanolig i greu dros 28,000 o swyddi ac mae wedi diogelu 45,000 arall. Ac mae wedi cefnogi entrepreneuriaid i greu 10,500 o fusnesau newydd.

Un o nodweddion ei waith yr wyf yn arbennig o falch ohono fu'r ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes. Drwy'r 406 o esiamplau Syniadau Mawr ledled Cymru, ymgysylltwyd â thros 219,000 o bobl ifanc ar draws ein holl ysgolion, colegau a phrifysgolion er mwyn iddyn nhw ystyried sut y gallent ddechrau eu busnesau eu hunain neu sut i ddod yn entrepreneuriaid llwyddiannus. Dyma sydd wedi helpu 57 y cant—57 y cant—o bobl ifanc o dan 25 oed i feithrin uchelgeisiau i weithio iddyn nhw eu hunain a bod yn feistri arnyn nhw eu hunain, i ddechrau eu busnesau eu hunain.

Efallai fod effaith Busnes Cymru i'w weld yn fwyaf clir yn yr effeithiau cadarnhaol a gafodd ar ein heconomi. Am bob £1 a werir drwy wasanaeth Busnes Cymru, cynhyrchir £10 yn economi ehangach Cymru, gyda hyd at £17 yn y meysydd cymorth mwy penodol. Mae'r gyfradd oroesi o bedair blynedd ar gyfer busnesau newydd a gefnogir gan ei waith bellach yn 85 y cant ac mae hynny'n cymharu â 41 y cant ar gyfer y rhai nad ydynt yn cael cymorth. Caiff 20 y cant o'r swyddi a grëwyd gan gymorth Busnes Cymru eu llenwi gan bobl ddi-waith, gan gynyddu i 40 y cant ar gyfer swyddi mewn mentrau hunangyflogedig.

O ystyried y swm sylweddol o arian strwythurol y mae gwasanaeth Busnes Cymru wedi elwa arno dros nifer o flynyddoedd, mae'n bwysig nodi bod y manteision hyn i'n heconomi o ganlyniad uniongyrchol i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. A beth bynnag fydd yn digwydd dros y misoedd a'r wythnosau nesaf, rwyf eisiau talu teyrnged i'n partneriaid yn Ewrop sydd, drwy gefnogi Busnes Cymru, wedi ein helpu i gyflawni'r pethau pwysig hyn.

Ond drwy ein holl waith, rydym ni wastad wedi gofyn i'n hunain un cwestiwn pwysig: beth nesaf? Sut y gallwn ni sicrhau bod ein gwasanaethau, drwy Busnes Cymru, yn gliriach ac yn fwy addas i anghenion cwmnïau a busnesau ar hyd a lled Cymru? Dyma pam, yn 2017, roeddwn wrth fy modd o gael lansio Banc Datblygu Cymru, ein hymateb i fethiant y farchnad mewn cyllid cychwyn a meithrin busnes a welsom ni yma yng Nghymru. Sefydliad, rwy'n falch o ddweud, sydd bellach yn rheoli dros £1 biliwn o gyllid, yn cefnogi cwmnïau a phrosiectau Cymreig ledled y wlad.

Ond gan ystyried y cyflawniadau hyn ac wrth feddwl am heriau'r dyfodol, mae'n bryd i ni fel Llywodraeth Cymru weithio gyda chi fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru i helpu i roi Busnes Cymru ar sail gadarnach ar gyfer y dyfodol; i'w baratoi, ac o ganlyniad ein busnesau, ar gyfer sefyllfa ein heconomi ar ôl Brexit; er mwyn ei helpu i wynebu'r heriau ehangach a nodwyd gennym ni yn y cynllun gweithredu economaidd o baratoi ar gyfer amharu ar gysylltiadau digidol, gwella cynhyrchiant, cynyddu nifer yr achosion o waith teg, datgarboneiddio a hyrwyddo twf cynhwysol. Ac felly, yn ystod y misoedd diwethaf, bûm yn gweithio'n agos gyda'm swyddogion i ddechrau'r gwaith hwnnw: gwaith mae arnom ni eisiau i chi, fel aelodau o'n Senedd genedlaethol, ei gefnogi; gwaith sy'n gallu datblygu, esblygu a gwella gwasanaeth Busnes Cymru ar gyfer y dyfodol.

Yn ganolog i'r gwaith hwnnw fu'r nod pennaf o sicrhau mai Cymru yw'r lle gorau oll yn Ewrop i gychwyn a meithrin busnes cynhwysol a chynaliadwy. I wneud hynny, rydym ni wedi canolbwyntio ein gwaith ar dri maes allweddol. Y cyntaf yw'r maes allweddol o greu gwasanaeth Busnes Cymru yn y dyfodol sy'n adnodd cyngor ac ymchwil blaenllaw o ansawdd uchel; un sy'n adnodd cynhwysfawr ar gyfer cymorth digidol, llinell gymorth ac ymholi i bawb sy'n dymuno ei gael.

Yr ail elfen oedd canolbwyntio ar greu gwasanaeth sy'n gallu gwella capasiti a gallu ein heconomïau rhanbarthol yng Nghymru i gefnogi twf cynhwysol. Yn gryno, mae hynny'n golygu cael gwasanaeth cymorth i fusnesau sy'n gweithio gyda phartneriaid yn rhanbarthau a chymunedau Cymru, gyda llywodraeth leol, gyda'n prifysgolion, ein colegau a gyda'n banciau ar y stryd fawr; un sy'n gwneud cysylltiadau syml ond cryf rhwng partneriaid i wneud y lleoedd hynny yn fannau gwych i gychwyn a meithrin busnes.

Ac mae trydydd maes ein gwaith yn canolbwyntio ar dwf cynhwysol a chynaliadwy. Fel Gweinidog, rwyf wedi bod yn glir iawn fod cyfrifoldeb ar bob busnes i gefnogi twf cynhwysol, ac, yn ein tro, fel Llywodraeth, mae gennym ni ddyletswydd i greu'r amodau lle y gall mwy o ficrofusnesau a busnesau bach dyfu mewn ffyrdd cynhwysol a chynaliadwy, i fod yn fusnesau bach a chanolig ffyniannus, i gefnogi cynhyrchiant, proffidioldeb a chydnerthedd busnesau canolig presennol, i sicrhau eu perchenogaeth hirdymor yn y dyfodol ac i sicrhau bod gwaith teg yn cael ei hyrwyddo.

Fy mwriad yw y bydd Busnes Cymru yn parhau i gael ei gyflawni ar sail genedlaethol, ac i sicrhau effeithlonrwydd bydd hefyd yn adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol i ddarparu cyfleoedd pellach ar gyfer rhanbartholi a fydd yn gyson â'r fframweithiau rhanbarthol sy'n cael eu datblygu gan y prif swyddogion rhanbarthol. Byddaf yn ceisio gwneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan i sicrhau bod gan Busnes Cymru y buddsoddiad sydd ei angen i wneud y gwasanaeth yn llwyddiant.

Gyda'r cymorth a'r buddsoddiad iawn, credwn y gall Busnes Cymru gael effaith economaidd sylweddol, gan helpu busnesau i greu hyd at 6,000 o swyddi newydd y flwyddyn, drwy gynnal y gyfradd oroesi bedair blynedd drawiadol ar gyfer busnesau newydd a gefnogir a thrwy ychwanegu gwerth o tua £220 miliwn drwy nwyddau a gwasanaethau i'n heconomi yn flynyddol.

Ond er fy mod eisiau bod yn onest gyda'r Siambr am yr hyn y gallwn ni ei gyflawni, mae angen i mi hefyd fod yn onest ac yn blaen am y perygl a wynebwn, hefyd. Mae methiant Llywodraeth y DU i gadarnhau y bydd cyllid strwythurol newydd yn dod yn ôl i Gymru yn golygu bod gwasanaethau cyflenwi fel Busnes Cymru mewn perygl yn y dyfodol. Ar gyfer Busnes Cymru, mae hyn yn golygu bod £12 miliwn y flwyddyn mewn perygl, a chyfleoedd yn ei sgil na allwn fforddio i'n busnesau a'n cymunedau eu colli mewn economi ar ôl Brexit.

Byddaf yn gweithio'n agos iawn â'm cyd-Weinidog, sef y Gweinidog Cyllid, a gyda chydweithwyr ehangach yn Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn ailadrodd ein safbwynt clir a diamwys: dim ceiniog yn llai, dim pŵer wedi ei golli wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae fy ymrwymiad i adeiladu Busnes Cymru o ansawdd uchel yn absoliwt. Gobeithio na fydd Llywodraeth y DU yn rhwystro'r uchelgais honno.

16:25

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwyf yn cefnogi i raddau helaeth ddyheadau'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yn y rhan fwyaf o'i ddatganiad. Rwy'n sicr yn cytuno â dechrau ei ddatganiad heddiw, pan ddywedodd mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru. Ni allwn gytuno mwy â hynny. Mae'n debyg bod rhan olaf ei ddatganiad braidd yn negyddol efallai. Credaf y bydd rhai heriau gwirioneddol yn codi wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond ceir rhai cyfleoedd hefyd, a byddwn yn gobeithio y byddai cyllid yn y dyfodol, fel y byddai'n cytuno â mi, rwy'n siŵr, wedi'i deilwra'n well ac yn fwy addas ar gyfer anghenion Cymru, ac yn llai cyfyngedig.

Yn ysbryd araith y Gweinidog—. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddweud heddiw yw ei fod yn chwilio am awgrymiadau gan y Senedd hon ac aelodau'r Cynulliad, felly fe ofynnaf fy nghwestiynau yn ysbryd—rhof awgrymiadau iddo mewn ffordd ymholgar. O dan y model cyflawni arfaethedig ar gyfer Busnes Cymru yn y dyfodol, tybed pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i uno swyddogaethau Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru er mwyn sicrhau'r effaith economaidd fwyaf posibl a'i gwneud yn haws i fusnesau gael gafael ar gyllid. Os oedd hynny'n ystyriaeth, hefyd eich barn am gadw brandio'r ddau sefydliad, er eu bod efallai'n un corff. Rwy'n cynnig awgrym o'r newydd yn y fan yna, ac yn gofyn am farn y Gweinidog am hynny.

Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi gwneud rhai argymhellion;

Wrth bennu gwerth am arian ledled y DU, dylai cymorth busnes symud y tu hwnt i... dargedau creu swyddi tuag at

—ac rwy'n dyfynnu'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn y fan yma—

sgwrs economaidd ehangach. Gallai hyn gynnwys moderneiddio, targedau datgarboneiddio, enillion cynhyrchiant, a'r effaith gymdeithasol ar gymunedau.

Byddwn yn croesawu eich barn ar argymhellion y Ffederasiwn Busnesau Bach.

Tynnir sylw at faterion sy'n ymwneud ag ymwybyddiaeth isel o ffynonellau cyllid amgen yn adroddiad yr Athro Jones-Evans, ac mae hyn yn cyd-fynd â'm syniadau i o ran ymdrin â'm gwaith achos fy hun. Tybed sut y byddwch yn sicrhau y bydd unrhyw fodel cyflawni arfaethedig ar gyfer Busnes Cymru yn y dyfodol yn gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o frand ac i gyfleu'r ystod lawn o ffynonellau ariannol a dewisiadau sydd ar gael i fusnesau.

Mae rhai sydd wedi cael gwasanaeth gan Fusnes Cymru wedi dweud bod ansawdd y cyngor yn gallu amrywio, ac rwy'n tybio sut y gall unrhyw fodel cyflawni arfaethedig ar gyfer Busnes Cymru yn y dyfodol sicrhau bod y cyngor a roddir yn gyson ar draws y wlad. Beirniadaethau eraill o'r model presennol yw y gall perthynas banciau â Busnes Cymru fod braidd yn ad hoc o ran atgyfeirio neu gyfeirio busnesau i gael cymorth a chefnogaeth gan Busnes Cymru. Felly, sut y bydd unrhyw fodel cyflawni newydd, yn eich barn chi, yn meithrin perthynas waith agosach rhwng Busnes Cymru a'i bartneriaid allweddol o'r sefydliadau ariannol, ac rwy'n cynnwys yn hynny, wrth gwrs, Banc Cymunedol Cymru hefyd, a gafodd ei grybwyll, a darparwyr cyllid eraill i sicrhau bod gennym ni ddull gweithredu mwy cydgysylltiedig?

16:30

A gaf i ddiolch i Russell George am nifer o awgrymiadau darbwyllol iawn ar gyfer gwella model Busnes Cymru wrth i ni symud ymlaen? Mae her fawr, fodd bynnag, wrth gynnal y cymorth ariannol i wasanaethau Busnes Cymru os na chaiff cyllid newydd ei warantu gan Lywodraeth y DU, ar ffurf sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru i'w gwario ar wasanaethau cymorth busnes hanfodol. Mae'r her honno'n real iawn oherwydd byddwn, ar ôl 2021, yn wynebu gostyngiad yn y gyllideb o ryw 48 y cant ar gyfer Busnes Cymru os na sicrheir cyllid newydd yn lle'r ERDF. Byddai hynny, yn ei dro, â goblygiadau enfawr o ran nifer y busnesau y byddem yn gallu eu cefnogi a rhoi cyngor iddyn nhw, nifer y swyddi y gellid eu creu, a nifer y swyddi y gellid eu cynnal. Felly, rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn egluro ei sefyllfa o ran cyllid newydd a bydd yn gwarantu y byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ei gael.

Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaed ynghylch y gwaith y mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn ei wneud gyda'i gilydd yn bwysig iawn. Mae'r awgrym i uno yn rhywbeth yr wyf i ac eraill wedi'i ystyried yn y gorffennol. Mae'n sicr yn rhywbeth yr wyf yn cadw meddwl agored yn ei gylch. Ond rwyf hefyd yn poeni am y berthynas waith agos sydd rhwng Busnes Cymru a Gyrfa Cymru. Unwaith eto, buom yn edrych ar sut y gallem NI wella'r berthynas waith rhwng Gyrfa Cymru a Busnes Cymru, ac rydym yn falch eu bod yn gweithio'n hynod o agos nawr. Nid wyf yn bwriadu awgrymu ar hyn o bryd y byddai uno llawn yn fanteisiol i'r defnyddiwr—y cwsmer, y busnes sy'n cael cymorth—ond mae'n rhywbeth y credaf y gellid ac y dylid ei ystyried yn rheolaidd.

O ran banciau'r stryd fawr, credaf fod Russell George yn gwneud pwynt hynod o bwysig. Roedd yn rhywbeth y cyfeiriais ato tua diwedd fy natganiad. Mae gwir angen sicrhau bod banciau'r stryd fawr yn cyfeirio busnesau i Busnes Cymru os ydyn nhw'n credu y gallai'r busnesau hynny elwa mewn unrhyw ffordd ar y cyngor a'r cymorth a gynigir. Y pwynt pwysig, fodd bynnag, i Busnes Cymru, yw bod angen iddyn nhw sicrhau bod pob cangen stryd fawr yn ymwybodol o wasanaeth Busnes Cymru. Bydd y math hwnnw o gydweithio'n hanfodol bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth brand Busnes Cymru hefyd, ac mae hyn yn rhywbeth y cyfeiriodd Russell George ato hefyd. Rwy'n credu bod ymwybyddiaeth o frand wedi bod yn anhygoel o dda yn ddiweddar, ond mewn oes pan gawn ni ein peledu â llu o negeseuon a brandiau bob eiliad o bob dydd, mae'n bwysig nad yw'r momentwm sydd wedi'i adeiladu gan Busnes Cymru yn cael ei golli.

Nawr, soniodd Russell George am adborth busnesau. Nawr, mae adborth busnesau ynghylch arolwg cwsmeriaid Busnes Cymru wedi creu argraff yn wir: roedd 90 y cant o fusnesau yn fodlon ar lefel gwybodaeth ac arbenigedd cynghorydd; roedd 89 y cant yn fodlon ar lefel proffesiynoldeb; a byddai 86 y cant yn argymell y gwasanaeth i eraill. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen sicrhau cysondeb llwyr ledled Cymru. Felly, wrth inni fwrw ati i ranbartholi gwasanaethau megis Busnes Cymru, ni fyddwn yn rhoi'r gorau i edrych ar sut y gallwn ni sicrhau gwasanaeth cyson o safon uchel ym mhob rhan o'r wlad.

Cyfeiriodd Russell George at adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr. Rwy'n credu na ellir gorbwysleisio pwysigrwydd creu lleoedd mewn ystyriaethau cymorth busnes. Roedd creu lleoedd wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd, gyda'r pwyslais ar yr economi sylfaenol, gyda'r awydd i weld cymorth busnes yn peidio â chanolbwyntio ar brynu swyddi neu greu swyddi yn unig, ond yn cyfrannu at feysydd blaenoriaeth eraill, fel datgarboneiddio, megis cryfder a chydnerthedd y stryd fawr, ac, wrth gwrs, iechyd a lles y gweithlu. Felly, wrth i Busnes Cymru fwrw ymlaen i'r dyfodol, ac wrth i'w fodel gweithredu newydd gael ei ddatblygu a'i weithredu'n llawn, byddwn yn disgwyl i Busnes Cymru weithredu ar y sail y defnyddir y contract economaidd, ac y perchir yn llawn y cynllun gweithredu economaidd a flaenoriaethwyd.

Diolch am y datganiad ac am y copi ohono ymlaen llaw. Dwi'n sicr yn cytuno—sut allwn i ddim—ar bwysigrwydd busnesau micro, bach a chanolig i economi Cymru. Mae'r ffigurau, fel rydych chi wedi'u cyflwyno nhw heddiw, yn eithaf syfrdanol mewn difri, onid ydyn nhw: 259,000 o fusnesau, a 257,600 ohonyn nhw yn fusnesau micro, bach a chanolig. Felly, tanddatganiad ydy dweud eu bod nhw'n asgwrn cefn i'n heconomi ni.

Dwi wedi gweithio am sbel efo Busnes Cymru ac wedi cyfeirio nifer o fusnesau at Fusnes Cymru—yn sicr, mae yna staff sydd yn ymroddedig iawn, ond y pryderon sydd gen i yn aml iawn, ac mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o hyn, gan fy mod i wedi llythyru efo fo ar y mater ar nifer o achlysuron, ydy bod yna dangyllido yn aml, dim digon o adnoddau wedi cael eu rhoi iddyn nhw, ac mae yna bwysau gormodol yn cael ei roi ar rhy ychydig o staff, a'r canlyniad ydy eu bod nhw'n methu delifro weithiau. Mi fyddwn ni, wrth chwilio am fodel newydd, yn chwilio am flaenoriaethu o'r newydd, mewn ffordd, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr amcanion sydd gan y staff yn gweithio ar y llawr yn gallu cael eu gwireddu.

Dwi yn sicr yn cyd-fynd â phryderon y Gweinidog pan mae'n dod at impact ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni'n gwybod cymaint o gyllid Ewropeaidd sydd wedi cael ei roi dros y blynyddoedd at fentrau yn gysylltiedig â datblygu busnesau, ac rydyn ni'n gwybod ein bod ni ar y pwynt yma mewn amser, o fewn ychydig fisoedd, o bosib, i fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn dal heb y math o sicrwydd, ar hyd yn oed lefel sylfaenol, ynglŷn â'r cyllid a fyddai'n dod yn y dyfodol i allu parhau â'r gwaith yma, sydd eto yn mynd i gynyddu'r pwysau ar yr adnoddau prin sydd gan y corff Busnes Cymru yn barod.

O ran y dyfodol yr ardal allweddol gyntaf a gafodd ei hamlinellu gan y Gweinidog, dwi'n cyd-fynd, yn sicr, fod yn rhaid inni ddatblygu ymhellach yr elfen one-stop shop yma. Mae'r ail elfen yn ymwneud â beth sydd angen ei wneud, dwi'n meddwl, sef gwreiddio mwy o fewn cymunedau ar draws Cymru. Mae yna newid wedi bod mewn fframweithiau gan Fusnes Cymru dros y blynyddoedd sydd wedi symud Busnes Cymru ymhellach oddi wrth fusnesau, yn sicr yn fy etholaeth i. Mae'n rhaid inni fod yn fwy sensitif i'r angen i gael gweithwyr Busnes Cymru ar y ddaear o fewn ein cymunedau ni, ymhob rhan o Gymru, er mwyn i bob un busnes, ble bynnag maen nhw, yn teimlo bod ganddyn nhw wirioneddol gyswllt â ffynonellau o gymorth.

O ran y drydedd ardal o waith y soniodd y Gweinidog amdano fo—twf cynaliadwy—mi fyddwn i'n croesawu rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog ynglŷn â'r uchelgeisiau sydd ganddo fo i fuddsoddi mewn mentrau cymunedol hefyd, sy'n gallu troi i mewn i fusnesau sydd yn gyflogwyr pwysig o fewn ein cymunedau ni, ac yn wirioneddol wedi'u gwreiddio o fewn y cymunedau hynny. Mi wnes i ymweld ag Ynni Ogwen yn ddiweddar ym Methesda, sy'n gwneud gwaith rhagorol yn amgylcheddol o ran y ffordd mae'n cynhyrchu ynni, ond hefyd o ran y gwaith mae o'n ei wneud fel hub ar gyfer datblygu economaidd yn yr ardal honno. Felly, mi fyddwn i'n croesawu rhagor o wybodaeth am hynny.

Hefyd, a fyddai modd cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r camau sydd angen eu gwneud er mwyn gwreiddio busnesau Cymreig yng Nghymru ar gyfer y dyfodol? Y broblem, fel rydyn ni'n gwybod yn aml, ydy pan mae busnes yn cyrraedd rhyw faint, mae yna demtasiwn yng Nghymru i werthu'r busnes hwnnw gan golli'r rheolaeth sydd gennym ni ar y busnesau hynny. Mi welsom ni hynny'n digwydd yn achos Marco Cable Management yn fy etholaeth i yn ddiweddar—yn union hynny: cwmni oedd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ond mi fethwyd â chael gafael ar y busnes hwnnw drwy sicrhau'r cymorth a fyddai wedi gallu ei wreiddio fo yn Ynys Môn. A beth sy'n digwydd rŵan—mae o wedi mynd, mae o'n symud i ganolbarth Lloegr, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n gresynu'n fawr ynglŷn â fo, a dwi'n teimlo bod yna'n dal ddiffyg ffocws ar y gwaith yna o gadw busnesau Cymreig yn gynhenid Gymreig, oherwydd dyna sut mae cadw eu helw nhw yng Nghymru heddiw, ond eu presenoldeb nhw a'u hymrwymiad nhw i Gymru ar gyfer y dyfodol.

16:40

Credaf fod Rhun ap Iorwerth yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn heddiw ac yn codi cwestiynau holl bwysig am y model cyflwyno wrth symud ymlaen, ond a gaf i ddiolch iddo, yn gyntaf, am fod mor garedig â chydnabod proffesiynoldeb y staff sy'n darparu gwasanaethau Busnes Cymru? Rwy'n cydnabod y cyfraniad enfawr a wnânt, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn, ac mae capasiti a gallu yn gwbl hanfodol—mae'n un o'r ddwy agwedd sy'n sail i'r model cyflenwi newydd, a bydd yr un mor bwysig i Busnes Cymru ei hun.

Nawr, rwy'n credu'n gryf y bydd gweithio'n agosach gyda'n timau rhanbarthol ledled Cymru yn helpu i wella capasiti a gallu yn sector y gwasanaethau cymorth i fusnesau, ond felly hefyd gweithio'n agosach gyda banciau'r stryd fawr a'r banc datblygu ac, fel soniais wrth Russell George, Gyrfa Cymru. Mae'n bwysig bod pawb yn cydweithio a chyd-dynnu er mwyn sicrhau bod gan ein holl fuddsoddiadau, ein holl wasanaethau cymorth, bwyslais manwl, ac, ni waeth pa fath o wasanaeth yr ydych chi'n gofyn amdano, pa fath o gymorth y mae arnoch chi ei angen, bod y system ei hun yn glir, nad oes unrhyw gymhlethdodau, nad oes angen i chi ymbalfalu o gwmpas—mae gennych chi un adnodd cynhwysfawr i droi ato, ac mae'r holl gapasiti a'r gallu sydd ei angen ar gael yn yr amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n ffurfio'r system honno. 

O ran twf cynaliadwy, dylwn ddweud, Dirprwy Lywydd, fod gan Busnes Cymdeithasol Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru ran bwysig hefyd o ran ysgogi twf economaidd cynaliadwy yng Nghymru, a bydd eu cyd-swyddogaethau yn eithriadol o bwysig yn y dyfodol, gan eu bod yn helpu i sbarduno twf yn nifer y busnesau sy'n eiddo i gymunedau.

Ac o ran gwreiddio busnesau yng Nghymru, ni ddylem ni anghofio swyddogaeth hanfodol bwysig y banc datblygu, yn enwedig wrth gefnogi cwmnïau canolig eu maint. Efallai nad yw'r Aelodau'n ymwybodol o hyd a lled y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, ond byddwn yn fodlon ysgrifennu at yr Aelodau, oherwydd ers lansio Dirnad Economi Cymru yn 2018, mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i edrych ar y canol coll yng Nghymru a sut y gallwn ni ateb y pwyntiau hynny a wnaeth Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad.

Eisoes, mae Dirnad Economi Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi cynnal rhywfaint o ymchwil feintiol i ddadansoddi cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru. Roedd y canfyddiadau cychwynnol ar gael yn ôl ym mis Medi, a chaiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi'n fuan. Ond bydd cyfnod arall i'w gwaith, a'r cyfnod arall hwnnw fydd yr ymchwil ansoddol a wneir gan Fusnes Cymru i ganfod y math o gymorth sydd ei angen, a byddaf yn cyflwyno hynny i'r Aelodau yng ngwanwyn 2020.

Tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw hefyd at y ffigurau eithaf syfrdanol o ran nifer y microfusnesau a busnesau bach yng Nghymru. Ond, yn yr un modd, mae cwmnïau canolig eu maint yn chwarae rhan hanfodol bwysig yng nghyfraniad cyffredinol refeniw i Gymru a hefyd o ran ffigurau cyflogaeth. Ac eisoes, mae Banc Datblygu Cymru yn cefnogi busnesau canolig eu maint yn benodol sy'n dymuno aros yng Nghymru gydag arian olyniaeth rheoli, sy'n hanfodol bwysig wrth helpu i atal gwerthu busnesau a allai gael eu difreinio yn y pen draw neu eu hadleoli y tu allan i Gymru. Mae cronfa olyniaeth rheoli £25 miliwn eisoes ar gael yng Nghymru, ac mae'r rhaglen hynod o uchelgeisiol hon o gadw a gwreiddio mwy o fusnesau yng Nghymru yn un o elfennau ein gwaith o ran darganfod sut y gallwn ni gefnogi a thyfu'r canol coll sydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Prin yw'r rhai yn y Siambr hon na fyddent yn cydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan dimau gwasanaeth Busnes Cymru, ac, fel Rhun ap Iorwerth a Russell George, a gaf i gymeradwyo'r ffaith bod y Gweinidog ei hun mewn gwirionedd yn iawn i nodi pwysigrwydd y sector microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru?

Gan ddod yn ôl at Busnes Cymru, mae gennyf gryn dystiolaeth anecdotaidd am gwmnïau bach newydd sydd wedi elwa ar gyngor a chefnogaeth ariannol a roddwyd neu a sicrhawyd ar eu cyfer gan Busnes Cymru. Mae'r ffigurau a ddyfynnir yn y datganiad yn drawiadol, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn adeiladu ar waith Busnes Cymru. Yr hyn sy'n arbennig o drawiadol yn y ffigurau hyn yw'r nifer cynyddol o fusnesau newydd a oroesodd yn hwy na phedair blynedd ers i'r gwahanol gynlluniau o dan Busnes Cymru ddod i fodolaeth. Rhaid canmol hyn. Mae'n peri pryder mawr pan fydd gennych nifer o fusnesau yn cychwyn arni ond yna'n mynd i'r gwellt. Os yw hyn yn atal hynny rhag digwydd, ac mae'n amlwg nad yw'n digwydd yma yng Nghymru fel y bu yn y gorffennol, mae hynny, unwaith eto, yn ganmoladwy.

A minnau wedi bod ym myd busnes ers dros ddeugain mlynedd, gallaf ddweud yn onest fy mod yn dymuno y buasai sefydliad fel Busnes Cymru ar gael pan oeddwn yn dechrau'r nifer o fusnesau y bûm yn ymwneud â nhw dros y blynyddoedd. Rwy'n siŵr y buaswn wedi cael profiad busnes gwerthfawr gan sefydliad o'r fath.

Oherwydd bod banciau'r stryd fawr—os gallwn eu galw o hyd yn fanciau'r stryd fawr, hynny yw—wedi cefnu i bob diben ar gefnogaeth ariannol i'r sector busnesau bach, mae'n hanfodol bod Busnes Cymru ar gael i helpu i hwyluso cyllid drwy gyfeirio a chynorthwyo, gyda chyngor pellach drwy fanc datblygu Cymru. Fodd bynnag, gwelir bod un gwendid yn y system fenthyca bresennol, sef anallu'r banc datblygu i ariannu mwy na 50 y cant o'r cyllid y mae'n ei roi i gwmnïau, gan eu gadael i geisio'r gweddill gan y sector preifat. Er y gallaf ddeall awydd Llywodraeth Cymru i beidio â gorddefnyddio arian cyhoeddus, rwy'n teimlo bod angen i'r banc helpu i sicrhau'r cyllid ychwanegol hwnnw gan y sector preifat drwy feithrin cysylltiadau cryfach â chyllidwyr preifat. A wnaiff y Gweinidog edrych ar sut y gellid sicrhau'r cysylltiadau hyn?

Yn olaf, hoffwn ategu galwad y Gweinidog ar i Lywodraeth y DU sicrhau y ceir nid yn unig yr un faint â chyllid strwythurol yr UE ar ôl i ni adael yr UE, ond mwy fyth. Gallaf sicrhau'r Gweinidog y byddwn ni yn y Blaid Brexit yn cefnogi unrhyw fesurau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau'r arian hwnnw.  

16:45

A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei eiriau caredig am y bobl sy'n darparu gwasanaethau Busnes Cymru? Rwy'n credu bod y ffaith y dywedodd 37 y cant o'r busnesau a ymatebodd i'r arolwg y byddent yn fodlon neu yn wir yn hapus i dalu am gymorth a chyngor Busnes Cymru yn dangos pa mor effeithiol yw gwasanaethau Busnes Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod ni mor awyddus i sicrhau bod y model gweithredu yn y dyfodol yn adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymru.  

Rwy'n credu bod David Rowlands yn gwneud y pwynt pwysig bod busnes sy'n ceisio ac sy'n sicrhau cyngor a chefnogaeth gan Busnes Cymru fwy na thebyg wedi dyblu'r siawns o oroesi pedair blynedd o'i gymharu â busnes nad yw'n gwneud hynny. Mae'r ffigurau'n gwbl anhygoel, ac mae'r ffigurau hynny wedi cyfrannu at y ffaith bod gan Gymru bellach fwy o fentrau gweithredol nag a fu ganddi ar unrhyw adeg arall yn ei hanes. Ac, unwaith eto, dyma stori lwyddiant y dymunwn adeiladu arni.

O ran y cymorth a ddarperir drwy Banc Datblygu Cymru, ein barn erioed yw, rhwng Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, yn cydweithio'n agos â'i gilydd, gall busnesau elwa nid yn unig ar gymorth ariannol ond ar gyngor hefyd. Mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn edrych yn ddiweddar, yn enwedig yng nghyd-destun gadael yr UE a'r cymorth y gallai fod angen ei ddarparu i fusnesau, ar y risg o fenthyg i fusnesau bach a chanolig. Mae hyn yn gwbl hanfodol, a hefyd gyda hyn daw'r angen i wneud penderfyniadau amserol a sicrhau y cedwir y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â sicrhau cymorth ariannol i'r lleiafswm lleiaf. Ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn llongyfarch Banc Datblygu Cymru ar ei gyflawni.

O ran y meini prawf cyllido a'r swm y disgwylir i fusnes ei sicrhau drwy ddulliau eraill, rwyf wastad yn fodlon adolygu'r trefniadau ariannu ar gyfer busnesau, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ymestyn buddsoddiad preifat cyn belled ag y gallwn ni.  

16:50
8. Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7181 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2019.   

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig yn fy enw i heddiw, ac rwy'n falch o agor y ddadl hon a fydd, gobeithio, yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019. Os bydd yr Aelodau yn cytuno ar y Rheoliadau, bydd isafbris uned o 50c am uned o alcohol yn dod i rym o 2 Mawrth y flwyddyn nesaf.  

Fel y gwyddom ni yn sgil hynt y Bil, mae alcohol yn un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru, a bydd cyflwyno isafbris uned yn gwneud cyfraniad pwysig i helpu i fynd i'r afael â'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed alcohol. Yn 2018-19, cafodd bron 60,000 o bobl eu derbyn i'r ysbyty, y gellid eu priodoli i alcohol ac, yn 2018, roedd 535 o farwolaethau'n gysylltiedig ag alcohol. Rwy’n credu bod yr Aelodau ar draws y Siambr hon yn cytuno bod yn rhaid inni weithredu i leihau'r niferoedd hynny.

Effaith arfaethedig y ddeddfwriaeth hon yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, drwy leihau'r alcohol sy'n cael ei yfed gan bobl mewn ffordd beryglus a niweidiol, sy'n tueddu i yfed mwy o gynhyrchion alcohol cost isel ac sy'n cynnwys lefel uchel o alcohol. Felly, mae'n amcan â thargedau clir, yn amlwg. Y nod yw peidio â lleihau'r maint o alcohol sy'n cael ei yfed yn gyffredinol, na'i wneud yn rhy ddrud i bob categori o yfwyr. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhan o raglen waith ehangach a pharhaus i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yma yng Nghymru. Ac rydym wedi nodi hynny yn ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau ar gyfer 2019 i 2022.  

Fodd bynnag, byddwn yn cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol yng Nghymru ac yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi alcohol o dan y pris hwnnw. Ac, unwaith eto, cafodd hynny ei gynnwys yn hynt y Bil, sef y Ddeddf erbyn hyn. Bydd isafswm pris yn pennu pris gwaelodol, sy'n golygu nad oes modd gwerthu alcohol na'i gyflenwi o dan y pris hwnnw. Ni fyddai'n codi pris pob diod, dim ond y rhai sy'n cael eu gwerthu neu eu cyflenwi ar hyn o bryd o dan unrhyw isafswm pris.

Rydym wedi cydweithio'n agos â manwerthwyr, y diwydiant alcohol, iechyd y cyhoedd a rhanddeiliaid camddefnyddio sylweddau wrth i'r ddeddfwriaeth hon gael ei datblygu, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud hyn ystod y cyfnod cyn gweithredu. A bydd hynny'n parhau i hyrwyddo amcanion y ddeddfwriaeth o ran iechyd y cyhoedd. Edrychaf i ymlaen at y ddadl a gofynnaf i'r Aelodau gytuno ar y Rheoliadau hyn.  

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Fel y dywedasoch chi eich hun, mae hyn yn rhan o raglen ehangach. Dyma'r elfen olaf wrth weithredu'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn flaenorol, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r Rheoliadau hyn yn dod i rym. Ond hoffwn i wneud cwpl o bwyntiau, oherwydd i ni, mae'n ymwneud â'r stori ehangach, a byddwn yn eich annog unwaith eto i fod yn hollol gadarn wrth gasglu data.

Gwyddom am lawer o bolisïau sydd wedi'u gweithredu. Mae rhai o'r data hyn wedi'u casglu'n llwyddiannus iawn, ond mae nifer sylweddol hefyd lle nad yw'r broses o gasglu'r data yn un dda iawn. Ychydig iawn o fesur a geir, does dim llawer o fonitro, does dim llawer o ddadansoddi effeithiolrwydd y polisi. Ac rydym i gyd yn cydnabod, a dylem ni gydnabod, na fydd y polisi hwn, sef isafbris uned o 50c, ond yn gweithio os bydd yn digwydd yn ei gyfanrwydd, os caiff ei gynnwys gyda phopeth arall.  

Hoffwn ichi hefyd ymgymryd unwaith eto i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau triniaeth a chymorth alcohol. Rwy'n sylweddoli eich bod wedi rhoi hyn yn eich cynllun camddefnyddio sylweddau, ac mae fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn siarad yn angerddol ar y pwnc hwn, ond ni chawsom ni na'r pwyllgor y dystiolaeth i ddweud bod digon o gefnogaeth ar hyn o bryd i bobl sy'n dioddef o gamddefnyddio alcohol, a hoffem gael y sicrwydd hwnnw, wrth symud ymlaen, y bydd hynny'n digwydd.

Mae'r Alban, wrth gwrs, eisoes ychydig yn bellach i lawr y llwybr na hyn. Mae Cymru a'r Alban yn gwbl arloesol yn y ddeddfwriaeth hon, a byddwn i'n eich annog i barhau i fonitro'r effeithiau wrth i'r ddeddfwriaeth hon gael ei rhoi ar waith ledled Cymru dros y pum mlynedd nesaf, fel y gallwn ni ddysgu ganddyn nhw, oherwydd maen nhw ychydig ymhellach ar y blaen i ni. Gobeithio, os profir bod hon yn ffordd lwyddiannus iawn o fynd i'r afael ag epidemig enfawr, y bydd gwledydd eraill yn ein dilyn, a dyna'r hyn y mae angen inni ei wneud—gosod y bar, cael y dystiolaeth i ddweud pam mae'n gweithio a sut mae'n gweithio, fel y gall eraill ddilyn.

Yn olaf, ac mae wedi bod yn destun pryder arbennig i mi o'r dystiolaeth yr ydym ni wedi'i chlywed, yw mater cyfnewid am rywbeth arall. Hoffwn i gael fy ngwir sicrhau y bydd gan Lywodraeth Cymru afael gadarn ar ddeall a oes cyfnewid am rywbeth arall yn digwydd ai peidio, oherwydd ni fyddem yn hoffi gweld pobl yn mynd o un caethiwed i'r llall. Diolch.    

16:55

Rwy'n hapus i godi i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon ar isafswm pris alcohol, fel y'i gosodwyd ger ein bron. Yn amlwg, mae hon yn fenter iechyd cyhoeddus o bwys, fel yr amlinellodd y Gweinidog. Rydym wedi trafod o'r blaen, yn ystod hynt y Bil hwn drwy'r Senedd, amryw effeithiau uniongyrchol alcohol ar iechyd o ran clefydau'r afu a'r gweddill ond hefyd, yn amlwg, fel y byddem yn gwerthfawrogi, y dylanwadau ehangach yn y gymdeithas fel cynnydd mewn trais domestig,  cynnydd mewn troseddau ac anhrefn gyhoeddus, sy'n gysylltiedig â chyfraddau cynyddol o yfed alcohol cryf.

Yn amlwg, rydym wedi cael y dystiolaeth ddiweddar, fel y crybwyllwyd gan Angela Burns, fod y polisi hwn—polisi tebyg iawn, fel mae'n debyg—wedi'i weithredu yn yr Alban bellach, er gwaethaf oedi o bum mlynedd a achoswyd gan y diwydiannau diod mawr yno, sydd yn amlwg â diddordeb personol yn hyn, yn eu tyb nhw. Ond, yn amlwg, mae adroddiad a gynhyrchwyd gan yr Alban fis diwethaf yn dangos pa mor llwyddiannus y bu'r polisi isafswm pris alcohol yn yr Alban. Mae pobl yr Alban yn yfed llai o alcohol nawr. Pwy fyddai wedi meddwl? Mae pobl yr Alban yn yfed llai o alcohol—go brin y gallwn i gredu hynny, pan ddarllenais i hynny yn gyntaf oll yn y British Medical Journal fis diwethaf—ac mae hynny'n ymwneud â'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth. Oherwydd, fel yr amlinellodd y Gweinidog, ac fel yr ydym ni wedi'i ddweud o'r blaen, mae'r ddeddfwriaeth hon yn targedu alcohol cryf yn benodol mewn pobl sy'n yfed yn beryglus, a dyna lle mae'n dangos y budd mwyaf hefyd.

Nawr, o ran fy unig bwynt i, mewn gwirionedd, o ran y pris o 50c yr uned, dyna'r pris a ddefnyddiwyd yn yr holl fodelu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n ffigur a gafodd ei grybwyll ers sawl blwyddyn bellach. Derbyniaf fod y gwaith modelu y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn rhan ohono wedi edrych ar amrediad o brisiau, ond rydym wedi penderfynu ar 50c yr uned, sy'n iawn cyn belled ag y mae'n mynd am y tro ond, wrth gwrs, wrth i amser fynd yn ei flaen, bydd teimlad efallai fod angen i brisiau newid. Mae prisiau yn newid ac, yn amlwg, efallai y bydd angen i'r uned isafbris alcohol honno newid hefyd. Felly, o ran mai hwnnw yw'r pris a bennwyd nawr, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa gynlluniau sydd ganddo, neu pa strategaeth sydd ganddo ar waith, i ystyried beth ddylai'r pris hwnnw fod yn y dyfodol, neu a ydym ni'n mynd i gael 50c yr uned yn haearnaidd am byth, y byddwn i'n tybio y byddai angen ei addasu'n ddiweddarach?  

Ond, gyda'r ychydig sylwadau hynny, rydym ni'n gefnogol iawn i'r mesur gwerthfawr iechyd y cyhoedd hwn. Diolch yn fawr.      

Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awr i ymateb?

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Geidwadwyr Cymru a Phlaid Cymru am ddangos eu cefnogaeth heddiw i'r rheoliadau sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i.

Rwy'n fodlon ymdrin â nifer o'r pwyntiau a wnaed gan y ddau siaradwr. A bod yn deg, mae Angela Burns wedi codi materion yn gyson ynglŷn â gwerthuso ac effaith yn ystod hynt y Bil, fel yr oedd bryd hynny, yn ystod y craffu, ac rwy'n hapus i ail-ymgymryd â'r sicrwydd a roddwyd, o ran deall y data ar yr effaith ar ymddygiad defnyddwyr ac, yn wir, a oes unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg ynglŷn â'r posibilrwydd o gyfnewid am rywbeth arall. Bu adroddiad yn ddiweddar sydd, unwaith eto, yn rhagdybio beth allai ddigwydd, yn hytrach na'r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. O ystyried bod yr Alban flwyddyn o'n blaenau, os ydym ni'n mynd i weld tueddiadau yn y maes hwnnw, rydym ni'n debygol o'u gweld mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys y posibilrwydd o gyfnewid am rywbeth arall. Felly, rwy'n hapus i nodi hynny, nid yn unig yn ystod hynt y Bil, ond ers ei weithredu yn yr Alban hefyd, mae swyddogion yn y ddwy Lywodraeth yng Nghymru a'r Alban yn parhau i weithio mewn modd agored ac adeiladol iawn, ac mae hynny'n gryfder gwirioneddol yn y ffordd y mae ein timau iechyd cyhoeddus a'r ddwy Lywodraeth wedi gallu gweithio.

O ran y pwyntiau ar wasanaethau cefnogaeth a thriniaeth alcohol, fe fyddwch yn ymwybodol imi gadarnhau'n ddiweddar gynnydd o 10 y cant yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Rydym yn cydnabod bod angen parhau i adolygu'r ddarpariaeth yr ydym ni'n gallu ei gwneud o fewn ein cyllideb er mwyn deall lefel yr angen sy'n bodoli a pha mor effeithiol y mae'r gwasanaethau hynny. Mae hyn yn rhan o sgwrs ehangach am y dewisiadau yr ydym ni i gyd yn eu gwneud fel dinasyddion: faint rydym ni'n ei fwyta, faint rydym ni'n ei yfed, faint rydym ni'n symud. Mae'r rhain i gyd yn rhannau allweddol, ynghyd ag ysmygu, yn ein canlyniadau iechyd ein hunain, ond rydym yn cydnabod bod her sylweddol i ni o ran defnydd alcohol.

Ac o ran y pwynt ehangach y mae Dai Lloyd yn ei wneud am adolygu lefel isafswm pris uned, aethom drwy hyn eto wrth i'r Ddeddf fynd trwy'r Senedd, ac rwy'n gafodd ei ystyried dros y blynyddoedd diwethaf ac a fydd yn cael eu gosod mewn rheoliadau o ddechrau Mawrth, os bydd y Cynulliad yn cytuno, yn cael effaith wahanol mewn dwy, tair, pedair a phum mlynedd arall. Felly, byddwn ni'n adolygu'n agored a oes angen diwygio lefel isafbris uned, a gallwn wneud hynny drwy reoleiddio. Mae hynny'n rhan hanfodol o'r hyn y byddwn ni'n ei ystyried.

A'r pwynt olaf, i orffen, yw'r pwynt ehangach hwn ynglŷn ag ystyried effaith y drefn newydd. Rydym wedi gweld yn yr Alban ei fod wedi cael effaith wirioneddol yn barod. Y llynedd, yfwyd y lefel isaf o alcohol yn yr Alban. Mae'n cyfateb â 19 uned fesul oedolyn yr wythnos. Mae yna fwlch o 9 y cant o ran alcohol pur a werthir yn yr Alban—mae ganddyn nhw 9 y cant yn uwch na Lloegr a Chymru—a dyna'r gwahaniaeth lleiaf ers 2003. Felly, gallwn ei weld yn cael effaith wirioneddol.

Bydd y gwerthusiad yr ydym ni wedi ymrwymo i'w wneud o dan y Ddeddf yn cael ei ddwyn ymlaen, a hoffwn i sicrhau'r Aelodau y bydd cyfle iddynt, gyda'r cymal machlud, ystyried a ddylid parhau â'r drefn hon ai peidio, pe bai'r rheoliadau'n cael eu pasio heddiw.

17:00

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl: Cysylltedd Digidol

Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar gysylltedd digidol, a galwaf ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig—Lee Waters.

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar, a gwelliant 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Cynnig NDM7180 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2012 i wella cysylltedd digidol ledled Cymru drwy’r rhaglen Superfast Cymru, â 733,000 o eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn. 

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith hwn mewn maes nad yw wedi ei ddatganoli yn sgil methiant Llywodraeth y DU ar y pryd i fuddsoddi’n ddigonol lle na fyddai’r farchnad fasnachol yn darparu.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau a buddsoddi mewn band eang sy’n gallu ymdopi â gigabit sy’n bodloni anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru, gan sicrhau bod:  

a) cyllid yn adlewyrchu’r heriau o roi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru;

b) dull sy’n edrych o’r ‘tu allan i’r tu mewn’ yn cael ei ddilyn wrth gyflenwi, sy’n darparu cysylltedd i’r eiddo hynny mewn ardaloedd gwledig neu wledig iawn; ac

c) cysylltedd yn cael ei ddarparu yn gyntaf i’r eiddo hynny nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Os ydw i eisiau gwirio fy malans yn y banc, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio ffilm neu, yn wir, droi fy ngwres ymlaen, rwy'n reddfol yn estyn am fy ffôn clyfar, a gallaf wneud hynny oherwydd fy mod yn gallu dibynnu ar signal band eang cyflym. Mae mynediad at fand eang dibynadwy a chyflym yn fwyfwy angenrheidiol, ond nid ni sy'n gyfrifol am ei ddarparu; Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol. Ond heb ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai gan dros 50 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at fand eang ffeibr cyflym.

Nid yw telathrebu wedi'i ddatganoli, ond yn union fel yr ydym ni wedi gorfod ei wneud gyda buddsoddiad yn y rheilffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi dargyfeirio arian o adeiladu ysgolion ac ysbytai oherwydd na wnaeth y Llywodraeth a ddylai fod wedi gweithredu, wneud hynny. Gan ddefnyddio arian yr UE a'n harian ein hunain, gwnaethom gamu i'r adwy, ac ar ugeinfed pen-blwydd creu Llywodraeth ddatganoledig, gallwn ddweud yn hyderus na fyddai gan 730,000 o safleoedd ledled Cymru fynediad at fand eang cyflym heb ddatganoli. Ac rydym ni'n parhau i gyflawni mwy. Rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu cysylltedd ffeibr llawn i 26,000 o safleoedd eraill erbyn 2021, ac rydym ni'n siarad ag Openreach am gynyddu'r nifer hwnnw. Ond fel y mae fy mewnflwch Gweinidogol yn dangos, mae pobl a chymunedau o hyd nad ydyn nhw wedi'u cysylltu eto.

Nawr, mae Prif Weinidog y DU wedi dweud o'r diwedd y bydd band eang gigabit ym mhob cartref erbyn diwedd 2025. Dydym ni ddim yn gwybod eto sut y caiff hyn ei gyflawni nac, yn wir, sut y caiff ei ariannu. A hyd yn oed os bydd yn digwydd, ni fydd y cynllun yn dechrau am bedair blynedd arall, ac ni fydd yn gyflawn am 14 mlynedd arall, ddwy flynedd ar ôl i arbenigwyr ragweld y gwelwn ni geir di-yrrwr ar ein ffyrdd—ceir na fyddant yn symud heb gysylltedd digidol. Serch hynny, Llywydd, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU nawr yn bwriadu gweithredu, ac rydym ni'n barod i gydweithio â hi i wneud yn siŵr, os bydd yn bwrw ymlaen â hyn, bod dealltwriaeth o anghenion cymunedau Cymru ac y gweithredir arnyn nhw.

Mae'n hanfodol ein bod yn cyrraedd pob cymuned, a gwyddom o'n rhaglen band eang cyflym iawn ein hunain fod costau cyrraedd cymunedau gwledig yn uwch a'r enillion masnachol yn is. Ac rydym yn pryderu, os cânt lonydd, y bydd cwmnïau masnachol yn canolbwyntio'n gyntaf ar roi hwb i gyflymder cwsmeriaid mewn ardaloedd trefol sydd eisoes â band eang da. Yn yr un modd ag yn y genhedlaeth flaenorol o ddatblygiadau technolegol, roedd yn rhaid cael buddsoddiad ychwanegol a mwy o wybodaeth am beirianneg i gael darllediadau teledu da i Gymru gyfan, ac mae hynny'n wir eto gyda band eang a ffonau symudol. Ni fydd cwmnïau preifat byth yn gwneud hyn oherwydd nid yw'n broffidiol, felly mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd camau beiddgar i sicrhau fod pawb wedi eu cysylltu ac yn gallu cymryd rhan yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Felly, byddwn yn ceisio cael sicrwydd bod swm y cyllid gan Lywodraeth y DU yn ddigon i gyrraedd pob rhan o Gymru. Ac ar sail yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud, ni fyddir yn dechrau gweithredu nes 2023 ar y cynharaf, felly, er nad yw hwn yn faes a ddatganolwyd, byddwn yn parhau i weithredu i sicrhau bod pobl Cymru wedi eu cysylltu â'r seilwaith hanfodol hwn, a byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar le nad yw'r sector preifat a Llywodraeth y DU yn gweithredu. Felly, gan ddatblygu'r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud, gallaf gyhoeddi heddiw y byddwn yn creu cronfa newydd o £10 miliwn i helpu'r 5 y cant olaf o bobl sy'n dal ar-lein. Ac oherwydd y ffordd arloesol yr ydym ni wedi negodi ein contract gyda BT—a rhaid imi dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, Julie James, a'n tîm ymroddedig o swyddogion—rydym yn cael cyfran o enillion contract Cyflymu Cymru, yr oeddem wastad wedi bwriadu ei ddefnyddio i ddarparu band eang pellach ledled Cymru.

Nawr, nid ar gyfer ardaloedd gwledig yn unig y mae'r gronfa hon, ond bydd yn agored i unrhyw gymuned yng Nghymru lle nad yw ein cynllun Cyflymu Cymru wedi cyrraedd eto. Rwyf eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gynllunio'r gronfa mewn ffordd a fydd yn eu helpu i ymateb i anghenion y cymunedau er mwyn sicrhau eu bod wedi eu cysylltu. Nawr, mae rhai cynghorau eisoes yn cymryd y camau cyntaf i helpu pobl i gael grantiau, ac rwyf eisiau gweld sut y gallwn ni gynyddu hynny i lefel ranbarthol. Mae cynrychiolwyr awdurdodau lleol a'm swyddogion eisoes wedi dod at ei gilydd i ffurfio tasglu seilwaith gwledig digidol i argymell camau ymarferol y gellir eu cymryd yn y tymor byr i fynd i'r afael â heriau penodol yng nghefn gwlad Cymru. Rydym ni hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddenu cyllid drwy gynlluniau rhwydwaith ffeibr llawn lleol a chysylltedd gigabit gwledig Llywodraeth y DU i uwchraddio cysylltiadau copr i adeiladau'r sector cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i fynd â ffeibr llawn i galon cymunedau lleol, a bydd y cydweithio hwn hefyd yn datblygu'r berthynas ac yn gosod y sylfeini ar gyfer y prosiect newydd.

Rwyf hefyd, Dirprwy Lywydd, eisiau gweld sut y gallwn ni annog grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol fel y rhai yn Llanfihangel-y-fedw, i'r gorllewin o Gasnewydd, lle mae pobl leol wedi dod ynghyd i osod eu ffeibr eu hunain, ac i harneisio arloesedd technolegol fel y prosiect yr ymwelais ag ef yn Sir Fynwy lle mae cymunedau wedi'u cysylltu â band eang drwy ddefnyddio signalau teledu a mastiau presennol wrth iddyn nhw aros i gysylltiadau ffeibr llawn gael eu gwneud yn bosibl yn y tymor hwy. I grynhoi, rwyf eisiau ei gwneud hi'n haws i gysylltu pobl nad yw ein buddsoddiad sylweddol wedi eu cyrraedd eto, ac rwyf eisiau—[torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:05

Mae'n bwynt cadarnhaol. Clywais am eich ymweliad â Sir Fynwy ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gweld hynny. Rwy'n credu bod rhai pethau arloesol gwirioneddol dda yn digwydd, nid dim ond yn y fan yna, ond ledled Cymru o ran defnyddio signalau teledu a phethau eraill. Caiff Sir Fynwy ei defnyddio hefyd fel arbrawf ar gyfer 5G, sydd, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, yn enghraifft arall o arloesi da, a gobeithio y gallwn ni sicrhau y caiff hynny ei ledaenu ledled Cymru pan fydd ar waith ac yn gwbl weithredol hefyd.

Yn hollol. O ran 5G, mae Simon Gibson o banel arbenigol wedi gwneud gwaith gwych wrth lunio cais sydd nawr yn nwylo'r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i ganolbwyntio ar Sir Fynwy a Blaenau'r Cymoedd i roi pwyslais gwledig ar 5G a'i gymhwyso mewn deallusrwydd artiffisial. Ac mae gwaith Llanfihangel-y-fedw yn enghraifft wych o'r hyn y gall cymunedau ei wneud, gan ddatblygu cynnig llawer gwell nag y byddai'r cynnig masnachol wedi ei ddarparu, sy'n llawer rhatach iddyn nhw fel cost barhaus ond mae hynny'n gofyn am lefel o gyfalaf cymdeithasol nad yw pob cymuned yn ei feddu. Mae casgliad o unigolion yn y pentref hwnnw na fyddech yn dod ar eu traws ym mhob pentref, gyda phrofiad rheoli prosiect a gwahanol fathau o wybodaeth a modd. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw defnyddio'r math hwnnw o ddull anghonfensiynol lle mae galw cymunedol, ond i helpu pobl i wneud hynny a defnyddio mentrau cymdeithasol i wneud hynny lle'r ydym yn credu bod cyfle. Felly, dyna'r hyn y byddwn eisiau edrych arno nesaf er mwyn harneisio'r arloesi cymdeithasol hwnnw a gwneud hynny'n haws, yn hytrach na bod yn ddibynnol ar BT drwy'r amser a'u rhaglen gyflwyno gonfensiynol. Rydym ni eisiau gweld llu o ddulliau gweithredu, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle nad yw'r farchnad fasnachol yn eu cyrraedd ac nad yw'n debygol o'u cyrraedd am gryn amser.

Felly, dim ond i gloi, Dirprwy Lywydd, dyna'r brwdfrydedd a'r ymrwymiad yr wyf eisiau eu harneisio yn ein cymunedau, ac, fel y cawsom ein hatgoffa gan adolygiad diweddar o arloesi digidol gan yr Athro Phil Brown, mae'n hanfodol ein bod yn addasu ein heconomi a'n pobl i harneisio'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag amhariad y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac mae sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru wedi'u cysylltu'n ddigidol yn gam cyntaf sylfaenol tuag at wneud hynny. Diolch.

17:10

Diolch. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu:

a) at fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid i sicrhau y byddai gan bob eiddo preswyl a busnes, fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015;

b) bod rhai cymunedau wedi'u gadael gydag asedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 Cyflymu Cymru;

c) at ddiffyg pontio di-dor rhwng defnyddio cam un a cham dau y cynllun Cyflymu Cymru;

d) at ddiffyg amserlen glir ar gyfer cyflenwi band eang cyflym i'r eiddo sy'n weddill.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) a fydd yn rhoi hawl clir, gorfodadwy i gartrefi a busnesau cymwys yn y DU ofyn am gysylltiad band eang digonol a fforddiadwy erbyn mis Mawrth 2020;

b) buddsoddiad Llywodraeth y DU i ddarparu band eang cyflym iawn a'i symbyliad ar gyfer buddsoddiad masnachol mewn cysylltiadau ffeibr llawn mewn lleoliadau gwledig a threfol ledled y DU gyfan;

c) ymrwymiad diweddar y Canghellor, o £5 biliwn, i ariannu defnyddio gallu-gigabit i 20 y cant o'r adeiladau anoddaf eu cyrraedd drwy ddull 'o'r tu allan i mewn';

d) cyhoeddiad diweddar o £1 biliwn gan Lywodraeth y DU a phedwar gweithredwr rhwydwaith dyfeisiadau symudol y DU i adeiladu rhwydwaith gwledig gyffredin a fyddai'n golygu bod cyrhaeddiad dyfeisiadau symudol 4G yn ymestyn i 95 y cant o dirwedd y DU;

e) ymrwymiad y Swyddfa Gartref i adeiladu'r seilwaith rhwydwaith ychwanegol sydd ei angen i ddarparu'r rhwydwaith gwasanaethau brys newydd a'r rhaglen gwasanaeth ardal estynedig, a fydd yn darparu gwasanaeth 4G masnachol yn ardaloedd gwledig Cymru na fyddai'n cael eu gwasanaethu fel arall.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi diweddariadau chwarterol sy'n dangos nifer y safleoedd, ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, a gysylltir o dan gam 2 o gontract Superfast Cymru;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gydweithio â phartneriaid masnachol i flaenoriaethu cysylltedd digidol y safleoedd hynny yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau band eang cyflym dibynadwy.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Byddwn yn cytuno â sylwadau agoriadol y Dirprwy Weinidog pan ddywedodd nad yw band eang yn foethusrwydd bellach; mae'n rhan o fywyd bob dydd. Mae'n debyg i nwy a thrydan, ac mae'n ddisgwyliedig. Byddwn yn cytuno â'r Dirprwy Weinidog yn ei sylwadau agoriadol.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog nifer o gyfeiriadau at y ffaith nad yw hwn yn faes a ddatganolwyd, ond hoffwn nodi i'r Blaid Lafur wneud ymrwymiad maniffesto i sicrhau y byddai pob adeilad preswyl a busnes yn cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015, ymrwymiad maniffesto sydd heb ei gyflawni.

Nawr, ers cyflwyno'r cynllun Cyflymu Cymru, byddwn yn dweud ein bod wedi gweld darlun cymysg o ran lleihau'r bwlch digidol rhwng y rhai mewn ardaloedd trefol a'r rhai mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Er enghraifft, cynhaliodd adroddiad Ofcom 'Cysylltu'r Gwledydd' astudiaeth achos a oedd yn canolbwyntio ar fy etholaeth i, fel mae'n digwydd, ar gysylltedd digidol, mae'n debyg oherwydd fy mod i efallai'n un o'r Aelodau hynny sy'n cysylltu mwy â nhw nag eraill. Canfu fod cyfran uwch o eiddo yn Sir Drefaldwyn heb fynediad at fand eang o 10 Mbps, fel y'i gelwir, o gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, a bod y gagendor rhwng y rhai sydd â chyfleusterau rhagorol a'r rhai sydd heb ddim, mewn rhannau gwledig o Sir Drefaldwyn, wedi cynyddu eto. Er bod rhai cartrefi a busnesau yn elwa ar dechnoleg ffeibr-i-eiddo cyflym iawn, nid oes gan rai ohonynt unrhyw beth o gwbl.

Ac nid yw'r sefyllfa, wrth gwrs, yn unigryw i Bowys o gwbl—nid wyf yn awgrymu hynny. Ond mae'r rhaniad digidol trefol-gwledig hwn ar draws Cymru yn cael effaith andwyol enfawr ar economi wledig Cymru, wrth gwrs. Mae'n drueni mawr fod rhai cymunedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 prosiect Cyflymu Cymru, ac er fy mod yn gwerthfawrogi'r ffaith nad oes arian cyhoeddus wedi'i wario ar yr asedau wedi'u hynysu bondigrybwyll a welwn ar draws ein cymunedau, mae'n rhwystredig iawn i bobl weld ceblau ffeibr yn hongian o'r polion ychydig fetrau o'u cartrefi, a dylai hyn fod yn rhywbeth i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae mewn cymell Openreach i weithredu.

Rwyf hefyd yn credu y dylid bod wedi cael cyfnod pontio di-dor rhwng cam 1 a cham 2 cynllun Cyflymu Cymru. Mae'r oedi cyn comisiynu a gweithredu cam 2, a'r diffyg gwybodaeth benodol am yr amserlen ar gyfer uwchraddio'r band eang ar wirwyr band eang Llywodraeth Cymru ac Openreach, wedi achosi rhwystredigaeth, a chreu rhwystredigaeth i bobl sy'n parhau i fod heb unrhyw fand eang o gwbl, heb sôn am fand eang cyflym iawn.

Roeddwn yn falch o glywed cyhoeddiad y Gweinidog am gronfa o—ai £5 miliwn neu £10 miliwn?—£10 miliwn o bunnau i ymdrin â'r 5 y cant olaf hwnnw. Rwy'n wirioneddol rhwng dau feddwl pa un ai i ddweud wrth fy etholwyr am y newyddion gwych hyn ai peidio, oherwydd gwneuthum y camgymeriad hwnnw gyda cham 2. Dywedais wrth fy etholwyr nad oeddent yn cael gwasanaeth yng ngham 1, 'Edrychwch, mae rhywbeth arall ar y gweill. Mae hyn yn gadarnhaol, peidiwch â phoeni, fe gewch chi wasanaeth,' ac ni ddigwyddodd hynny. Felly, rwy'n gyndyn i raddau i wneud hynny. Rwyf eisiau i'r Gweinidog geisio fy mherswadio fel y gwnaf i ddweud wrth fy etholwyr am y gronfa £10 miliwn newydd wych hon ac y cânt y gwasanaeth yn y 5 y cant olaf.

Nawr, gan droi at rai o'n pwyntiau yng ngwelliant 2, ymhlith yr hyn a wnaeth Llywodraeth y DU yn y cyfnod diweddar, gwelsom gyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth i bawb, a £5 biliwn o ymrwymiad i ariannu gosod system gigabit i 20 y cant o'r eiddo anoddaf i'w gyrraedd drwy ddull gweithredu o'r tu allan i mewn, cyhoeddi £1 biliwn a fydd yn creu rhwydwaith ffonau symudol gwledig ar y cyd a fyddai'n golygu y byddai signal ffonau 4G yn ymestyn i 95 y cant o'r DU, a chyllid o hyd at £7 miliwn i ddarparu band eang ffeibr-optig llawn yn y gogledd. Nawr, yr hyn yr ydym ni wedi'i weld hefyd yw canllawiau wedi'u diweddaru yn Lloegr a'r Alban, a byddwn yn gwahodd y Gweinidog i ddefnyddio'r ysgogiadau polisi datganoledig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus, erbyn pryd y caiff diwygiadau y mae mawr eu hangen eu cyflwyno fel nad yw Cymru wledig yn syrthio ymhellach y tu ôl i Loegr a'r Alban. Mae'n rhwystredig clywed y Gweinidog yn sôn am rai o'r cyfrifoldebau datganoledig. Mae llawer o'r dulliau ysgogi yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac nid ydyn nhw wedi cael eu defnyddio. Dyna pam ein bod ni wedi syrthio y tu ôl i rannau eraill o'r DU. [Torri ar draws.] Wel, mae yna gynllunio, ac mae materion eraill wedi'u datganoli.

Rwyf hefyd wedi cael fy siomi gan gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer ffonau symudol. Dydw i ddim eisiau dweud hyn, ond mae'n ddogfen sydd â llawer o rethreg. Rwyf eisiau iddi fod yn fwy na hynny, ond yn hytrach nag unrhyw ymrwymiadau pendant, yn anffodus, mae'n edrych yn debyg bod y brwdfrydedd y tu ôl i'r cynllun gweithredu symudol hwnnw wedi diflannu. Hoffwn weld hefyd—. Gallaf weld bod fy amser ar ben, Dirprwy Lywydd. Felly, ni af ymlaen i sôn am yr hyn yr hoffwn ei weld, yn anffodus. Gobeithio y gallaf gynnwys hynny ychydig yn hwyrach. Diolch.

17:15

Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn ei enw ef ei hun?

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddarparu gwell gwybodaeth—drwy ‘siop un stop’—i’r rhai sydd ddim wedi cael eu cysylltu drwy raglen Cyflymu Cymru, ynglŷn â sut arall y gallant gael mynediad cyflym i’r we.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n deg cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli yma. Ond, nid wyf yn credu bod hynny'n golygu y dylem ni roi rhwydd hynt i Lywodraeth Cymru, oherwydd mae ganddi ddylanwad mewn meysydd drwy gyllid grant, er enghraifft, gan gynnwys grantiau i unigolion drwy gyfrwng mynediad band eang Cymru, grantiau ar gyfer telathrebu darparwyr, a'r defnydd o bwerau datganoledig eraill, megis y system gynllunio, sy'n bwysig iawn, ac sy'n gallu bod yn bwerus iawn fel offeryn i sicrhau buddsoddiad digidol. Mae rhyddhad ardrethi busnes hefyd yn rhywbeth y gellir ei ddefnyddio i ysgogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau digidol.

Daeth adroddiad 2017 gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ar ôl ei ymchwiliad i seilwaith digidol yng Nghymru, ynghylch Cyflymu Cymru, i'r casgliad canlynol:

A siarad yn gyffredinol, barn y rhanddeiliaid yw bod prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru wedi cyflawni'n ddigonol o ran cyflwyno seilwaith, ond y bu diffygion yn y ffordd y rhoddwyd gwybodaeth am y prosiect i'r rhai yn yr ardaloedd lle mae'n weithredol.

Roedd hynny'n sicr yn broblem ac mae'n parhau felly. Wrth gwrs, dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r bwlch rhwng argaeledd band eang cyflym iawn yng Nghymru ac yn y DU yn ei chyfanrwydd wedi lleihau, ac mae hynny i'w ddathlu. Ond, mae'r darlun yn wahanol iawn ar gyfer signal ffonau symudol, lle mae Cymru'n parhau i fod mewn sefyllfa sylweddol waeth o'i chymharu â chyfartaledd y DU. Gwrandewais yn llygadrwth ar sylwadau cyntaf y Dirprwy Weinidog, pan oedd yn dweud mor ddibynnol yr oedd ar ei ddyfais symudol i roi cysylltedd iddo. Mae rhannau o'm hetholaeth lle mae signal ffonau symudol a chysylltedd data drwy ddyfeisiau symudol yn gwaethygu wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen. I mi, nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn seilwaith dyfeisiau symudol. Gadewir unrhyw gyflwyno i weithredwyr rhwydwaith symudol masnachol. Y gwir amdani yw, os ydym ni eisiau gweld buddsoddiad sylweddol, ni ellir gadael hynny i'r farchnad yn unig, i gwmnïau masnachol, i adeiladu ein seilwaith. Mae angen buddsoddiad sylweddol yn seilwaith digidol Cymru, ac yn hyn o beth credaf ein bod yn gweld enghraifft arall lle nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru.

Bydd y math o gysylltedd digidol y mae angen inni ei adeiladu yn y blynyddoedd i ddod yn cael dylanwad enfawr ar y math o economi y gallwn ni ei ddatblygu. Defnyddiaf enghraifft Ottawa yng Nghanada, y cyfeiriais ati yn y gorffennol yma yn y Cynulliad, lle mai canlyniad ymdrech ar y cyd a buddsoddiad difrifol i greu rhanbarth â chysylltiadau digidol o amgylch prifddinas Canada oedd i gwmni Ford, er enghraifft, fuddsoddi dros £300 miliwn mewn canolfan ar gyfer datblygu cerbydau ymreolaethol. Gwnaed y buddsoddiad gan Ford, ond fe'i hysgogwyd gan y math o seilwaith a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth.

Rydym ni'n colli cyfleoedd allweddol yma oherwydd yr anghydraddoldebau sy'n rhan o'r DU fel y mae hi. Cyfeirir ati'n aml fel un o'r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal mewn unrhyw le yn y byd. Gellir gweld yr anghydraddoldeb hwnnw drwy gysylltedd digidol hefyd, a nawr yw'r amser inni fynd i'r afael â'r broblem hon a sicrhau, bum mlynedd o nawr, ein bod yn llawer mwy eglur ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo, o ran buddsoddi digidol. Os nad yw San Steffan yn dymuno gwneud dim, wel mae'n rhaid i ni chwilio am ffyrdd eraill o symud ymlaen.

Gan gyfeirio at fy ngwelliant yn benodol, sy'n galw am ddarparu gwell gwybodaeth drwy gael un adnodd cynhwysfawr i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â rhaglen Cyflymu Cymru ynghylch sut y gallant gael cysylltiad rhyngrwyd cyflym. Mae yna ddigonedd o ffyrdd y gall pobl gael mynediad at fand eang cyflym: drwy ddyfeisiau symudol, gall dongl yn y cartref ddarparu mynediad digidol i'r cartref cyfan. Rydym ni wedi clywed am fynediad drwy'r signal teledu, y soniasoch amdano, yn Sir Fynwy, ac rwy'n credu yr ystyriwyd systemau tebyg yn Ynys Môn. Mae lloeren wedi bod yn ffordd hirsefydlog o gael cysylltiad â'r rhyngrwyd. Ond sawl gwaith ydw i'n dod ar draws etholwyr, yn unigolion a busnesau, nad ydyn nhw'n gwybod i ble i droi i ofyn am wybodaeth am sut i gael cysylltedd? Mae yna bob amser ffordd, rywsut i gysylltu eich hun, ond mae'n anodd credu ar ôl yr holl flynyddoedd hyn ers dechrau Cyflymu Cymru, nad oes rhyw fan yn bodoli lle gall pobl droi ato. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni wedi cymryd cam yn ôl o'r dyddiau hynny pan allech chi fynd ar Cyflymu Cymru a rhoi eich cod post a chael gwybod yn union ble roeddech chi ar y rhestr aros. Wel, roedd problemau ynghylch hynny hefyd, ond roedd gennych chi syniad drwy ganolfan ganolog pryd allech chi ddisgwyl cael eich cysylltu. Rydym ni wedi cymryd cam yn ôl o hynny, ac rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r ffrwd gyfathrebu honno i bobl, fel y gallant gael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw i edrych mewn mannau eraill os byddant yn ei chael hi'n anodd o hyd i gael band eang cyflym.  

17:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i'r Llywodraeth am ddod â'r cynnig hwn gerbron ac am y gwelliannau amrywiol sydd wedi'u gwneud iddo. Bwriad fy ngrŵp yw cefnogi'r cynnig a'r holl welliannau iddo. Fodd bynnag, drwy ddod at hwn fel un nad yw'n arbenigwr yn y maes, rwy'n ei chael hi braidd yn anodd cymryd rhan yn y ddadl a gwneud unrhyw asesiad o rinweddau cymharol y cynnig yn erbyn y gwelliannau sy'n cael eu gwneud iddo. Mae'n sôn am yr hyn sy'n ymddangos yn waith da gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn ac, o welliannau'r Ceidwadwyr, i'r hyn sy'n ymddangos yn waith da, o leiaf, mewn rhai achosion, yn addewidion o waith yn y dyfodol, gan Lywodraeth y DU.

Mae rhywfaint o ddefnydd o'r hyn y byddwn i, fel un nad yw'r arbenigwr, yn ei ddisgrifio fel jargon. Dydw i ddim yn dymuno bod yn ddifrïol ynghylch hynny, ond dydw i ddim yn deall beth yw ystyr 'o'r tu allan i mewn' yn y cyd-destun hwn. Er y byddwn ni'n cefnogi'r cynnig a'r gwelliannau, byddwn yn croesawu rhywfaint o eglurhad ynghylch yr hyn sydd ei angen yn hynny o beth. Yn yr un modd gydag 'asedau wedi'u hynysu', cawsom gan Russell yr enghraifft o geblau ffeibr yn hongian ar bolion ger cartrefi, felly rwy'n casglu o hynny y bu buddsoddiad na fanteisiwyd arno'n llawn, ac y gadawyd ceblau'n hongian. A yw hynny efallai'n ymwneud â'r methiant i gysylltu cam 1 Cyflymu Cymru a cham 2?

Tybed o ran y Llywodraeth, maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi cysylltu 733,000 o safleoedd eraill na fyddant wedi eu cysylltu oni bai am ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ac ni wn i am unrhyw reswm i amau'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud ynghylch hynny, ond tybed beth oedd cost hynny. Cafwyd rhywfaint o gyfeirio at gronfeydd yr UE, ond hefyd cronfeydd y Llywodraeth ei hun, ac mewn gwirionedd trosglwyddo arian a fyddai wedi cael ei wario ar ysgolion ac ysbytai i'r maes hwn. Faint o arian oedd hynny? A ydym ni'n ystyried ei fod wedi rhoi gwerth am arian ac y bu'n werth wneud hynny o dan yr holl amgylchiadau?

Yn amlwg, mae ardaloedd arbennig o wledig yn mynd i fod yn galetach ac yn ddrutach i'w cysylltu nag eraill. Ond nid oes gennym ni unrhyw ffigurau na synnwyr ariannol yn y cynnig hwn na'r gwelliannau ynghylch beth yw'r rheini, a chyn barnu i ba raddau y dylai'r Llywodraeth, boed yn Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, ymyrryd yn iawn a buddsoddi arian yn y maes hwn, byddai'n ddefnyddiol cael gwybod rhywbeth am gostau'r rheini, a sut y cynigir y cânt eu hysgwyddo.

Gan gyfeirio at welliant 2, rwyf yn cefnogi'n arbennig cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ynghylch y £1 biliwn ac ynghylch defnyddio a chael rhwydwaith gwledig ar y cyd. Rwyf wedi dadlau ers tro y dylai'r dull gweithredu yn y maes hwn fod, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig na ellir darparu ar eu cyfer fel arall, o ystyried lefel y buddsoddiad cyhoeddus, y dylid cael cyfleustodau ar y cyd. Felly, os ydym yn bwrw ymlaen â hynny, mae hynny'n fy nharo i fel peth cadarnhaol, er fy mod yn nodi mai dim ond ar gyfer technoleg 4G y mae ar hyn o bryd, ac rwy'n meddwl tybed sut y gellid cyflwyno hynny i 5G maes o law. Rydym ni hefyd yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru ynglŷn â chael un adnodd cynhwysfawr i helpu pobl gyda'r llu o fesurau technegol gwahanol a'r gwahanol ffrydiau ariannu sydd ar gael i'w helpu i allu elw ar hynny. Mae hynny'n fy nharo i fel rhywbeth synhwyrol iawn.

Fy nghais olaf, ac rwy'n credu ei fod yn afrealistig, mae'n debyg, dros y mis neu fwy nesaf, serch hynny fyddai i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio mwy yn y maes hwn nag y mae'n ymddangos y buont yn gwneud cyn hyn, ac, yn amlwg, bydd sgyrsiau anodd ynghylch pwy sy'n ariannu beth. Ond o ystyried yr heriau penodol sy'n ein hwynebu yng Nghymru, a'n natur wledig, a bod hwn yn fater heb ei ddatganoli, ond y bu Llywodraeth Cymru yn fodlon buddsoddi arian ynddo, yn sicr dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eistedd i lawr, gweithio gyda'i gilydd, ac ystyried sut orau i gymell darparwyr, sut i dalu am hyn, a sicrhau bod y gwahanol lefelau o fuddsoddiad yn gweithio ar y cyd ac yn cefnogi ei gilydd yn hytrach na gweithio'n groes. Felly, rwy'n gobeithio, ar ôl y deuddegfed o Ragfyr o leiaf, y gallai Llywodraeth Cymru a'r DU feddwl am hynny.

17:25

Dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl. Lee Waters.

Diolch yn fawr i'r holl Aelodau a gyfrannodd, ac mae'n rhaid imi gydymdeimlo â Mark Reckless—mae llawer iawn o jargon a chymhlethdod yn y maes hwn, ac rwyf wedi bod yn gweithio fy ffordd drwyddynt dros y flwyddyn ddiwethaf fy hun. Er mwyn ateb rhai o'i gwestiynau ffeithiol, rydym ni wedi buddsoddi £200 miliwn o'n cyllid a chronfeydd yr UE yn Cyflymu Cymru, ac mae'r prosiect olynol yn costio £26 miliwn, ac mae hynny'n arwain at sgil effaith economaidd sylweddol.

Gofynnodd beth oedd ystyr 'o'r tu allan i mewn' a gofynnodd beth oedd 'asedau wedi'u hynysu'. Wel, 'o'r tu allan i mewn' yw'r egwyddor o wneud i'ch Llywodraeth ymyrryd yn yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd ac yna symud i mewn i ardaloedd trefol, lle mae'n anochel, oherwydd dwysedd y boblogaeth, fod cymhelliad masnachol i gwmnïau fuddsoddi eu harian eu hunain, ar y llaw arall o ran ardaloedd gwledig—oherwydd y materion a drafodais yn fy araith agoriadol, cymhlethdod y buddsoddiad a'r adenillion arafach—mae'r rhain yn llai deniadol i gwmnïau masnachol. Felly, yr egwyddor yr ydym yn ei chefnogi, a'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei chefnogi hyd nawr, yw y dylid buddsoddi yn y tu allan yn gyntaf, ac yna symud i mewn i lenwi'r bylchau y tu mewn, yn hytrach na dim ond uwchraddio'r cysylltedd sydd gan ardaloedd trefol eisoes.

Canlyniadau anfwriadol ein cynllun band eang Cyflymu Cymru yw 'asedau wedi'u hynysu'. Rydym yn gosod targedau profi ar gyfer BT, y bu'n anodd iddynt eu cyflawni ers tro, ac yn y pen draw, oherwydd y brys i gyrraedd y nodau a osodom ni—oherwydd, fel y dywedais, cytunodd Julie James ar gontract llym gyda nhw—fe wnaethon nhw orgyflenwi. Felly, o ganlyniad i hynny, fe gyrhaeddon nhw eu targed o ran niferoedd, ond wedyn roedd ganddyn nhw bob math o geblau'n hongian o goed, fel y dywedwyd mewn llawer cyfarfod cyhoeddus lliwgar yr wyf wedi bod ynddyn nhw ac fel y mae Aelodau yma wedi adrodd, sydd yn rhwystredig iawn i drigolion pan welant wifrau mewn gwrychoedd a pholion ger eu tai, ond nid ydynt yn gallu cysylltu â nhw, oherwydd o safbwynt BT, maen nhw wedi cyrraedd eu targedau, maen nhw wedi cael eu cyllid, ac nid oes achos masnachol gwirioneddol iddyn nhw eu cysylltu gan fod y cynllun grant wedi gorffen.

Bydd y gronfa yr wyf wedi cyhoeddi'r bwriad i'w sefydlu heddiw ar gael i'r cymunedau hynny i ystyried cysylltu'r asedau hynny sydd wedi'u hynysu yn ogystal â chymunedau gwledig nad ydyn nhw'n gallu denu'r buddsoddiad masnachol, i weld a oes ffyrdd mwy arloesol i'w cysylltu yn y tymor byr i ganolig, tra byddwn yn aros i Lywodraeth y DU ddod i'n cefnogi ni i geisio cael cysylltedd ffeibr llawn. Ac mae'n bosibl na fydd rhai cymunedau byth yn cael cysylltedd ffeibr llawn. Ac rwyf wedi bod mewn cyfarfodydd cyhoeddus lle mae pobl yn dweud wrthych nad oes ganddyn nhw'r prif gyflenwad nwy a charthffosiaeth, ond eu bod yn disgwyl band eang ffeibr-i'r-safle; nid yw hyn yn realistig. Mae'r gost o wneud hyn fesul cartref yn y degau o filoedd o bunnau.

Sy'n dod a fi'n ôl at araith agoriadol Russell George, ac rwyf yn cael ychydig o drafferth gyda hyn, oherwydd bod Llywodraeth Cymru, am reswm da, wedi camu i'r adwy ac wedi ymyrryd ac wedi cyflawni. Ac mae ymateb y Ceidwadwyr braidd yn anfoesgar, gan ein cyhuddo o bob math o fethiannau, o fyn yn ymyrryd â chyfrifoldebau eu Llywodraeth eu hunain. Mae hwn yn faes sydd heb ei ddatganoli. Dylech chi fod yn gwneud hyn. Rydym ni'n gwneud ein gorau. Fe ildiaf i Mark Isherwood yn gyntaf.

A ydych yn cydnabod y dechreuwyd yr holl broses hon pan roddodd Llywodraeth y DU £57 miliwn yn 2011 i Lywodraeth Cymru fel arian cyfatebol, er mwyn i Lywodraeth Cymru ddarparu rhaglen Cyflymu Cymru—11 y cant o'r holl arian—ac yna £56 miliwn yn fwy yn 2017 i ymdrin â'r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni? Llywodraeth y DU a roddodd gychwyn ar hyn; eich gwaith chi oedd cyflawni.

Diolch yn fawr iawn. Mae hynny'n ddiddorol, onid yw e? Felly, fe roddodd Llywodraeth y DU arian cyfatebol, mae hynny'n hollol gywir, fel y gwnaeth Ewrop, fel y gwnaethom ni. Fe wnaethom ni roi'r pecyn at ei gilydd, daeth Llywodraeth y DU i mewn yn sgil hynny. Ein gwaith ni oedd cyflawni: mae'n faes sydd heb ei ddatganoli. Pe na baem ni wedi rhoi'r pecyn hwn at ei gilydd, ni fyddai dim i Lywodraeth y DU roi arian cyfatebol ar ei gyfer. Eu cyfrifoldeb nhw, mewn maes telathrebu allweddol, yw gweithredu yn y maes hwn ac maen nhw wedi methu â gwneud hynny. Fe ildiaf i Russell George.

Diolch ichi am ildio. Os nad yw hwn yn faes a ddatganolwyd, pam rhoi yn eich maniffesto ar gyfer Cynulliad Cymru—ymrwymiad y bydd gan bob safle ledled Cymru fand eang cyflym iawn erbyn 2015? Hefyd, rwy'n eich herio ar faint rydych chi wedi ymwneud â hyn, yn bendant. Hynny yw, dewch i'm hetholaeth a dod i gyfarfod cyhoeddus—nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau'r bobl sydd wedi cael eu gadael ar ôl, a dyma'r ymrwymiadau a wnaethoch chi yn eich maniffesto. Siawns nad yw ond yn iawn i mi fel Aelod Cynulliad graffu ar wariant Llywodraeth Cymru yn y ddadl hon heddiw?

17:30

Felly, rydych chi'n llygad eich lle, maen nhw wedi cael eu gadael ar ôl. Maen nhw wedi cael eu gadael ar ôl gan eich Llywodraeth, oherwydd ei fod yn faes nad yw wedi'i ddatganoli. Os ydych chi eisiau gwahodd pobl i gyfarfodydd cyhoeddus, yna ar bob cyfrif gwahoddwch Boris Johnson i'ch etholaeth a gall egluro iddyn nhw pam nad yw'n darparu ar gyfer eich ardaloedd. Rydym ni wedi ymyrryd, rydym ni wedi gosod targedau, rydym ni wedi cyrraedd 95 y cant o safleoedd yng Nghymru. Mae rhai, am resymau dilys o ran peirianneg a chost, na fu hi'n bosib eu cyrraedd, a bydd y gronfa heddiw yr ydym yn bwriadu ei lansio yn gwneud yr hyn a allwn ni i ymyrryd er mwyn cyrraedd y rhai hynny tra bod Llywodraeth y DU yn ceisio cael tipyn o siâp arni.

Ond mae'n haerllugrwydd digywilydd, a dweud y gwir, i'n cyhuddo ni o gamu i'r adwy lle maen nhw wedi methu â gwneud hynny. Maen nhw'n ceisio manteisio'n wleidyddol ar gefn ein hymdrechion i wneud iawn am annigonolrwydd eu Llywodraeth eu hunain. Felly, rwy'n awgrymu eu bod nhw'n cael rhai sgyrsiau difrifol ymysg eu hunain cyn iddyn nhw ddechrau pwyntio'r bys atom ni.

Ar bwynt technegol, mae Russell wedi gwneud sawl pwynt, ac rydym ni wedi esbonio hyn iddo o'r blaen, nad oedd cyfnod pontio di-dor rhwng cam cyntaf band eang cyflym iawn ac ail gam band eang cyflym iawn, oherwydd na ellir cael proses bontio di-dor, oherwydd, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni lansio adolygiad marchnad agored i fodloni'r gyfraith gystadleuaeth o ran cymorth gwladwriaethol, i sefydlu ble gallem ni ymyrryd. Ac wedi gwneud hynny, bu'n rhaid i ni gaffael y gwasanaeth wedyn. Felly, dyna pam—[torri ar draws.] Mae arnaf ofn nad oes gennyf ddigon o amser i ildio eto. Rwyf wedi bod yn eithaf hael.

Felly, gwnaethom hynny, a heddiw rydym ni'n lansio adolygiad pellach o'r farchnad agored i weld pa eiddo yng Nghymru sydd heb gysylltedd hyd at 30 Mb yr eiliad. Mae Russell George yn dal i fwmian—rwy'n teimlo braidd yn rhwystredig; mae'n fy atgoffa ychydig o hyn, pe baem yn palmantu ffyrdd Cymru gydag aur, byddai Russell George yn cwyno am raddiant y ffyrdd. Mae hyn yn anfoesgar a dim byd arall. Rydym yn gwneud ein rhan a'i Lywodraeth ef ddylai fod yn gwneud y gweddill.

Felly, rwy'n credu, Llywydd, y dof â'm sylwadau i ben gyda hynny, heblaw dweud y byddwn yn derbyn gwelliannau 3 a 4. Dywedaf yn olaf, o ran gwelliant 2, eto mae'r Ceidwadwyr yn sôn am rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, ac mae pob un ohonom yn clywed hynny ac mae'n swnio'n eithaf rhesymol. Meddyliwch am Swyddfa'r Post, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol fynd â'r llythyr i lawr llwybr y fferm gan ei fod yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol—a dyna'n union a ddylai fod yn digwydd yn y maes hwn, fel y mae Julie James wedi bod yn dadlau ers blynyddoedd lawer. Nid dyna sy'n digwydd. Maen nhw'n defnyddio iaith rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol heb ei gyflawni, oherwydd fersiwn Llywodraeth y DU o'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol yw y bydd gan gwsmeriaid yr hawl i ofyn am gysylltiad, nid yr hawl i gael un. Bydd ganddyn nhw'r hawl i gyflymder hyd at 10 Mbps—, a phe baem ni wedi gwneud hynny, Russell George fyddai'r cyntaf i gwyno am ba mor araf yw hynny. Ac unrhyw gost dros £3,400—[torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn ildio. Mae'n rhaid i unrhyw gost dros £3,400 gael ei hysgwyddo gan yr aelwyd, sydd yng Nghymru wledig, ar wahân i'r ychydig breintiedig, yn rhywbeth amhosibl. Felly, nid yw hon yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol i bawb, nid yw'n ddim ond rhethreg i geisio celu'r ffaith eu bod yn methu â chyflawni yn y maes hwn, ac mae'n bryd iddyn nhw dorchi llewys. Yn y cyfamser, fe wnawn ni'r gorau gallwn ni.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Daw hyn â ni i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais hynny ar y Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

NDM7181 - Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019: O blaid: 38, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar gysylltedd digidol. Dwi'n galw yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1—gwelliant 1, felly, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

17:35

NDM7180 - Gwelliant 1: O blaid: 13, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r gwelliant nesaf—gwelliant 2 wedi ei gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Mae gwelliant 2 hefyd wedi ei wrthod.

NDM7180 - Gwelliant 2: O blaid: 13, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 yw'r gwelliant nesaf—gwelliant 3 wedi ei gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae gwelliant 3 wedi ei gymeradwyo.

NDM7180 - Gwelliant 3: O blaid: 43, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf. Mae gwelliant 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn.

NDM7180 - Gwelliant 4: O blaid: 42, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio—y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Cynnig NDM7180 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2012 i wella cysylltedd digidol ledled Cymru drwy’r rhaglen Superfast Cymru, â 733,000 o eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith hwn mewn maes nad yw wedi ei ddatganoli yn sgil methiant Llywodraeth y DU ar y pryd i fuddsoddi’n ddigonol lle na fyddai’r farchnad fasnachol yn darparu.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau a buddsoddi mewn band eang sy’n gallu ymdopi â gigabit sy’n bodloni anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru, gan sicrhau bod: 

a) cyllid yn adlewyrchu’r heriau o roi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru;

b) dull sy’n edrych o’r ‘tu allan i’r tu mewn’ yn cael ei ddilyn wrth gyflenwi, sy’n darparu cysylltedd i’r eiddo hynny mewn ardaloedd gwledig neu wledig iawn; ac

c) cysylltedd yn cael ei ddarparu yn gyntaf i’r eiddo hynny nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi diweddariadau chwarterol sy'n dangos nifer y safleoedd, ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, a gysylltir o dan gam 2 o gontract Superfast Cymru;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gydweithio â phartneriaid masnachol i flaenoriaethu cysylltedd digidol y safleoedd hynny yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau band eang cyflym dibynadwy.

5. Yn galw am ddarparu gwell gwybodaeth - drwy ‘siop un stop’ - i’r rhai sydd ddim wedi cael eu cysylltu drwy raglen Cyflymu Cymru, ynglŷn â sut arall y gallant gael mynediad cyflym i’r we.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

NDM7180 - Dadl: Cysylltedd Digidol, Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A dyna ni'n dod at ddiwedd ein trafodion am y dydd heddiw. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:36.