Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

27/06/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.

Lles Addysgol Plant Mabwysiedig

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am les addysgol plant mabwysiedig? OAQ52403

Diolch, Dawn. Mae 'Ein Cenhadaeth Genedlaethol' yn datgan ein hymrwymiad yn glir i ddarparu gwelliannau go iawn a pharhaus yng nghanlyniadau a phrofiad addysgol ein dysgwyr sydd dan anfantais. Yn aml, gall plant mabwysiedig wynebu heriau a rhwystrau mewn perthynas â'u haddysg, ac mae gwella eu lles, ynghyd â lles pob dysgwr, yn thema allweddol yn ein diwygiadau addysgol.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r ddwy ohonom newydd fynychu lansiad yr adroddiad, 'Pontio'r Bwlch', sy'n ymdrin â lles addysgol plant mabwysiedig. Ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn awyddus i chwarae ein rhan wrth sicrhau bod pob plentyn mabwysiedig neu blentyn sy'n derbyn gofal yn cael cyfle cyfartal yn yr ysgol. Ac er y gwn y bydd penderfyniadau cyllidebol yn cael eu trafod yn y rownd ariannol, a allwch roi sicrwydd i mi y bydd yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn mewn perthynas ag ymwybyddiaeth a hyfforddi staff, creu amgylcheddau cefnogol i blant mabwysiedig mewn ysgolion, a chamau i sicrhau y bydd data canlyniadau ar gyfer plant mabwysiedig yn cael ei goladu, yn rhan o'ch ystyriaethau wrth ichi fwrw ymlaen â'r gwaith hwn?

Diolch yn fawr iawn, Dawn. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod nad adnoddau, o reidrwydd, yw'r ateb i'r holl broblemau a wynebir gan blant sy'n derbyn gofal a phlant mabwysiedig yn ein system addysg. Ond mae elfen plant sy'n derbyn gofal y grant datblygu disgyblion ar gyfer 2018-19 oddeutu £4.5 miliwn, ac mae'r arian hwnnw ar gael i gefnogi addysg plant mabwysiedig. Rwy'n awyddus iawn i mi a fy swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr Adoption UK Cymru er mwyn edrych ar yr hyn y mae'r adroddiad yn gofyn amdano, yn enwedig mewn perthynas â chasglu data. Gwn fod rhywfaint o rwystredigaeth nad ydym yn gallu nodi canlyniadau addysgol yn hawdd ar gyfer plant mabwysiedig, gan nad yw hynny'n rhan o'n data cyfrifiad ysgolion blynyddol lefel disgyblion ar hyn o bryd. Er na fuaswn yn dymuno bod mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid gorfodi rhieni i ddatgelu neu rannu gwybodaeth ynghylch mabwysiadu os nad yw hynny'n rhywbeth y maent yn teimlo'n gyfforddus neu'n awyddus i'w wneud, rwy'n deall y rhesymeg sy'n sail i fod eisiau gwella'r gwaith o gasglu data, ac rwy'n fwy na pharod i barhau i weithio gyda swyddogion a phobl sydd â diddordeb yn y maes i ystyried sut y gellir cyflawni hyn mewn modd cymesur a sensitif.

Fel rhywun sydd â diddordeb yn y maes ac sydd wedi trafod hyn eisoes gydag Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n galonogol iawn fod gennym y grant datblygu disgyblion yng Nghymru i roi opsiynau i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim, ond hefyd i blant sy’n derbyn gofal a phlant sydd wedi'u mabwysiadu. Ac wrth gwrs, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd rhieni mabwysiadol yn awyddus i'r ysgol fod yn ymwybodol, ac yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn cael y gefnogaeth ychwanegol honno. Pa gynnydd sy’n cael ei wneud ar rannu'r data hwnnw, ac yn benodol, a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi dysgu unrhyw wersi o rai o'r darpariaethau sydd ganddynt ar gyfer rhannu data yn y maes hwn gyda gwasanaethau cymdeithasol a phlant mabwysiedig yn Lloegr?

Wel, fel y dywedais, Mark, mae'r drws ar agor, a buaswn yn croesawu trafodaeth barhaus ynglŷn â sut y gallwn wella'r gwaith o gasglu data ar gyfer plant mabwysiedig, ar yr amod nad ydym yn gorfodi rhieni i ddatgelu gwybodaeth nad ydynt yn awyddus i'w datgelu. Mae'n bwysig hefyd ein bod yn parhau i ystyried addysg y plant hyn yn ei chyfanrwydd, ac mae hynny weithiau'n golygu bod angen inni weithio ar draws adrannau, mewn awdurdodau addysg lleol, gyda gwasanaethau cymdeithasol yn benodol, er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o'r ffordd orau o gefnogi anghenion plant unigol. Mae elfen plant sy'n derbyn gofal y grant datblygu disgyblion, fel y dywedais, yn werth £4.5 miliwn eleni. Fe'i gweinyddir ar lefel ranbarthol, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n consortia rhanbarthol i sicrhau bod yr arian hwnnw, yr adnoddau hynny, yn cael eu defnyddio i sicrhau'r effaith orau.

Credaf mai'r hyn a oedd yn nodedig yn y digwyddiad a fynychwyd gan Dawn a minnau, ac Aelodau eraill o'r Cynulliad, y prynhawn yma oedd nad oes angen adnoddau ychwanegol ar nifer o'r pethau y maent yn gofyn amdanynt. Mae'n ymwneud â newid y meddylfryd yn rhai o'n hysgolion er mwyn sicrhau bod yno awyrgylch sy'n ymateb yn briodol i blant mabwysiedig. Felly, er enghraifft, pan fydd plentyn sydd wedi dioddef trawma, neu broblemau'n ymwneud ag ymlyniad, fod yr athrawon yn gwybod beth yw'r ffordd briodol o gefnogi'r plentyn hwnnw. Ac mae hynny'n ymwneud â datblygu dysgu proffesiynol parhaus, yn ogystal â newidiadau yn ein darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon.

Uwchsgilio ac Ailsgilio

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi oedolion i uwchsgilio ac ailsgilio pan fyddant mewn gwaith? OAQ52411

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhaglenni i gynorthwyo unigolion i uwchsgilio pan fyddant mewn gwaith. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac rydym hefyd yn cynorthwyo cyflogwyr i uwchsgilio eu gweithlu drwy ein Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

13:35

Y bore yma, gyda Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, bûm yn ymweld â The Number Hub, sef busnes bach yn Ffynnon Taf, ac roedd ganddynt lawer i'w ddweud am ddatblygiadau mewn awtomatiaeth a newid technolegol. Pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer swyddi'r dyfodol, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar y sgiliau sydd eu hangen yn y sector cwmnïau bach a'r math o swyddi y gallai pobl fod yn awyddus i'w cael mewn mentrau bach a chanolig yn y sector hwnnw yn y dyfodol? Pa newidiadau rydych yn eu rhagweld, a sut y mae paratoi oedolion a dysgwyr ar gyfer y swyddi hynny?

Wel, credaf mai'r fantais fawr sydd gan fusnesau bach yw y gallant symud yn llawer iawn cyflymach na busnesau mawr. Felly, dyna'r fantais sydd ganddynt mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn eu bod yn manteisio ar y gallu hwnnw—efallai y bydd cwmnïau mawr iawn yn ei chael hi'n anos troi'r llongau enfawr hyn o gwmpas. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn bod yn ymatebol i'r datblygiadau digidol hynny.

Gallwn roi cymorth sgiliau eisoes. Mae gennym y Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Ond credaf mai'r peth arall rwy'n awyddus iawn i'w weld yn datblygu yw'r rhaglen beilot y byddwn yn ei datblygu, lle mae gennym gyfrifon dysgu unigol i sicrhau ein bod yn llenwi'r bylchau sgiliau y gallai rhai o'r busnesau bach a chanolig hynny eu hwynebu. Bûm yn siarad â chwmni mawr y bore yma, ac roeddent yn dweud wrthyf eu bod eisoes yn ei chael hi'n anodd recriwtio pobl â sgiliau digidol a modurol. Ac mae'r sgwrs honno ynglŷn â pha mor hyblyg y gallwn fod, pa mor gyflym y gallwn ad-drefnu pethau—. Credaf y bydd ein rhaglen Cymru'n Gweithio yn rhoi cyfleoedd inni o'r flwyddyn nesaf ymlaen i ymateb yn llawer cyflymach ac i addasu pethau ar gyfer yr unigolion, ond bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn cael y drafodaeth agos iawn honno gyda phobl, gyda busnesau bach a chanolig yn arbennig, ond hefyd gyda'r cwmnïau mawr yng Nghymru.

Weinidog, mae addysg ran-amser yn caniatáu i oedolion sydd eisoes mewn gwaith sicrhau'r lefelau sgiliau uwch sydd ei hangen i sicrhau twf economaidd. Fodd bynnag, mae ffigurau Llywodraeth Cymru wedi dangos bod niferoedd dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach ac mewn lleoliadau dysgu oedolion yn y gymuned yn yr awdurdodau lleol wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r dirywiad hwn er mwyn sicrhau bod gan Gymru'r gweithlu medrus sydd ei angen arni ac y gall pawb gael mynediad at yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i gyflawni eu potensial llawn yn eu bywyd yng Nghymru? Diolch.

Diolch, Mohammad. Credaf eich bod yn llygad eich lle—mae arnaf ofn fod dirywiad wedi bod o ran nifer y bobl sydd wedi gwneud defnydd o ddysgu rhan-amser. Roedd hynny'n rhannol, wrth gwrs, yn ymateb i'r mesurau cyni a gyflwynwyd, a bu'n rhaid inni flaenoriaethu cyllid a rhoddwyd blaenoriaeth i addysg y blynyddoedd cynnar. Ond gyda natur newidiol cyflogaeth—y ffaith y byddwn yn gweld y newid hwn i awtomatiaeth a sgiliau digidol—credaf y bydd yn rhaid inni feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â sut rydym yn ailsgilio pobl ar gyfer y dyfodol. Felly, mae'r syniad hwn ynghylch y cyfrif dysgu unigol yn ymwneud â mynd i'r afael â'r union fater hwnnw y tynnwch sylw ato, a byddwn yn gweld sut y bydd hynny'n datblygu. Bydd y cyfrifon dysgu unigol yn rhoi cyfle i bobl ailsgilio, fel y dywedais, yn y meysydd lle y gwyddom fod yna fylchau sgiliau a lle y ceir cyfleoedd i bobl ailsgilio. Bydd angen inni ailsgilio pobl sydd eisoes mewn gwaith lle y gallwn weld y bydd y swyddi'n diflannu yn y dyfodol, ond bydd angen uwchsgilio pobl nad ydynt wedi bod yn rhan o'r gweithlu o'r blaen hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n siŵr bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod cyngor sir Caerfyrddin wedi lansio ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg yr wythnos yma, sy'n gynllun uchelgeisiol iawn ac yn un sydd wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, ac mae e'n gosod y sir ar y ffordd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol. Wrth gwrs, mae'n mynd i roi cyfle i bob disgybl fod yn ddwyieithog erbyn diwedd cyfnod allweddol 2 ac erbyn eu bod nhw'n gadael ysgol gynradd. A wnewch chi felly gadarnhau i ni, fan hyn, y byddwch chi fel Gweinidog, ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn rhoi cefnogaeth 100 y cant i gyngor sir Caerfyrddin wrth iddyn nhw gychwyn ar y siwrnai yma i weithredu'r cynllun strategol Cymraeg mewn addysg yma, oherwydd mae'n bosib na fydd hi'n siwrnai gyfforddus iawn ar adegau, ond gan mai gweithio i wireddu eich uchelgais chi fel Llywodraeth o safbwynt siaradwyr Cymraeg y maen nhw, yna plîs a wnewch chi gadarnhau y byddwch chi'n rhoi cefnogaeth ddiwyro o dan bob amgylchiad i'r strategaeth?

13:40

A gaf fi ddweud fy mod i yn gefnogol o'r hyn y mae sir Gaerfyrddin yn ei wneud, wrth gwrs? Mae eu hadroddiad nhw a'u cynlluniau nhw wedi eu gwneud yn glir yn y WESP y maen nhw wedi rhoi gerbron y Llywodraeth, felly, wrth gwrs, rŷm ni'n cefnogi hynny. Fues i'n agor ysgol yn Llanelli yr wythnos diwethaf, yn sir Gaerfyrddin—ysgol sydd yn newid o fod yn ysgol ddi-Gymraeg i fod yn ysgol ddwyieithog a wedyn yn mynd ar hyd y llwybr yna. Felly, dyna'n union beth rŷm ni eisiau ei weld mewn ardal weddol ddifreintiedig. Felly, maen nhw'n mynd ar hyd y llwybr rŷm ni eisiau ei weld, ond, wrth gwrs, nid yn sir Gaerfyrddin yn unig yr ydym ni eisiau gweld hyn yn digwydd; mae'n rhaid i ni weld y llwybr yna trwy Gymru gyfan. Mae'n dal i fod chwech WESP sydd ddim wedi cael eu cadarnhau, ac rydym ni'n gwthio'r rheini hefyd i fynd ar hyd y trywydd yma. Felly, mae pawb yn gwybod nawr beth yw ein nod ni, ac, er mwyn cyrraedd y nod yna, fe fydd yn rhaid i bob un symud. Rwyf yn meddwl bod yr ymwybyddiaeth wedi newid y tu fewn i lywodraeth leol.

Wnes i ddim cweit clywed yn ddi-flewyn ar dafod, 'Byddwn, byddwn ni yn cefnogi'r cyngor'. Efallai y gallwch chi ychwanegu'r frawddeg yna wrth ateb fy nghwestiwn nesaf i, os ydych chi'n dymuno gwneud hynny. 

Ar begwn arall yr uchelgais sydd yng Nghymru i weld twf mewn addysg Gymraeg, wrth gwrs, mi gafodd nifer ohonom ni fraw o weld bod Cyngor Sir y Fflint yr wythnos diwethaf wedi ystyried opsiwn posib—ac rwy'n falch i ddweud na wnaethon nhw barhau â hynny yn y diwedd—i ddileu trafnidiaeth am ddim i ysgolion Cymraeg yn y sir. Wrth gwrs, nid yw'n ofyniad statudol ac rŷm ni i gyd yn gwybod beth yw'r sefyllfa a'r hinsawdd ariannu ar hyn o bryd, ac felly mae hwn yn gwestiwn sy'n mynd i godi blwyddyn ar ôl blwyddyn ar draws 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hynny yn y pen draw yn mynd i olygu efallai fod yna un awdurdod yn mynd i wneud y penderfyniad yna. Felly, fy nghwestiwn i i chi yw: yn hytrach nag aros tan fod rhywun yn gwneud y penderfyniad posib yna a wedyn efallai trio mynd i'r afael â hynny, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn o bryd, a pha waith ydych chi'n ei wneud gyda'ch cyd-Aelodau o'r Llywodraeth, i sicrhau na fydd cynghorau yn cymryd cam o'r fath, oherwydd byddai hynny nid yn unig yn tanseilio darpariaeth addysg Gymraeg, ond mi fyddai'n gwbl andwyol i addysg Gymraeg mewn nifer o siroedd yng Nghymru.

A gaf fi ddweud fy mod i'n falch iawn nad yw Cyngor Sir Fflint wedi mynd drwyddo â'r awgrym? Nid o'r cyngor y daeth yr awgrym, ond rwyf yn meddwl ei fod yn bwysig eu bod nhw wedi tynnu yn ôl o hynny. Wrth gwrs, rwy'n meddwl y byddai'n cael effaith andwyol ar nifer y plant sydd yn mynd i ysgolion Gymraeg pe na fyddai trafnidiaeth am ddim ar gael. Felly, wrth gwrs, byddem yn annog cynghorau lleol i sicrhau eu bod nhw'n cymryd hyn i ystyriaeth. Fe fydd hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid iddyn nhw ei ystyried, ac efallai y bydd yn rhywbeth y gallwn ni ofyn i'r WESPs ei wneud yn glir, ac i'r bobl sydd yn ystyried beth rŷm ni eisiau ei weld yn y dyfodol, i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol bod rhaid i hwn fod yn rhywbeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei ystyried wrth iddyn nhw'n rhoi'r WESP newydd i mewn ar gyfer y sesiwn nesaf. Felly, wrth gwrs, mae hawl gan bobl i gael addysg Gymraeg, ond mae'n rhaid i ni ei gwneud yn hawdd iddyn nhw gael access i addysg Gymraeg.

Wel, ie, ac mae'n bwysig, felly, o safbwynt y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, os ydych chi'n sôn am greu mwy o ddisgwyliadau, fod y rheoliadau o gwmpas y WESPs yn adlewyrchu'r dyhead hynny, a byddwn i'n awyddus iawn i weld hynny'n digwydd. Wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod Aled Roberts wedi bod yn edrych ar y maes yma ac yn parhau i wneud gwaith ar ran y Llywodraeth ar hyn, ac mi wnaeth eich rhagflaenydd chi—. Ac rwy'n siŵr y byddech chi hefyd am gymeradwyo un o'r argymhellion sydd wedi cael ei wneud, sef bod angen symleiddio'r broses o gategoreiddio ieithyddol ysgolion, sef rhywbeth y cyfeirioch chi ato fe yng nghyd-destun yr ymweliad a wnaethoch chi â sir Gaerfyrddin yr wythnos diwethaf.

Roeddwn i hefyd yn darllen erthygl gan Laura McAllister yn y Western Mail dros y penwythnos a oedd yn sôn nid yn unig am symleiddio, ond am fynd â'r peth ymhellach a bod pob ysgol gynradd yng Nghymru yn ddwyieithog, a bod bob plentyn yn cychwyn ysgol uwchradd yn 11 oed yn gallu deall a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg? Byddai hynny'n cyd-fynd â pholisi Plaid Cymru, ond byddai hefyd yn adlewyrchu'r argymhellion a ddaeth o adroddiad yr Athro Sioned Davies nôl yn 2013—ac rydw i wedi codi hyn gyda chi yn flaenorol—sef bod pob plentyn yn dysgu Cymraeg fel rhan o gontinwwm o ddysgu. A allwch chi roi diweddariad i ni ar unrhyw gynnydd sydd wedi digwydd ar y ffrynt yna gan y Llywodraeth? Rŷch chi wedi sôn yn y gorffennol am gyflwyno peth o hyn fel rhan o’r diwygiadau sy’n digwydd o gwmpas y cwricwlwm, ond rwyf i wir yn teimlo nad oes rhaid i ni aros tan ganol y degawd nesaf nes i ni weld tipyn o hyn yn digwydd, ac y dylem ni fod yn gwneud mwy, fel mae sir Gaerfyrddin yn ei wneud, yn cychwyn ar y siwrne yna nawr. Felly, a allwch chi sôn wrthym ni am ba gynnydd mae’r Llywodraeth wedi’i wneud yn y maes yna?

13:45

Rydw i'n awyddus iawn i sicrhau nad ŷm ni’n aros tan bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno. Nid wyf i eisiau colli cenhedlaeth arall o blant sydd ddim yn cael y cyfle o gael addysg dda Cymraeg fel ail iaith. Felly, mae’n rhaid i ni wella’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Rŷch chi’n gallu cael 13 mlynedd o wersi Cymraeg a dod mas yn siarad bron â bod ychydig iawn. Felly, mae angen i ni edrych ar hynny, a dyna pam, ddydd Gwener diwethaf, fe wnaethom ni gynnal symposiwm yn Abertawe, trwy ddod ag arbenigwyr at ei gilydd. Fe wnaethom ni ofyn am adroddiad oddi wrth Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Reading. Fe wnaethon nhw gyflwyno eu syniadau nhw ynglŷn â sut rŷm ni’n gwella’r ffordd o ddysgu ail iaith a beth yw’r practis gorau drwy’r byd. Fe ddaeth lot o bobl o ar draws Cymru at ei gilydd—pobl sydd yn hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg—ac roedden nhw’n falch iawn. Roedd hwn yn symud adroddiad Sioned Davies ymlaen. Roedd hi yn y cyfarfod, a beth oedd yn ddiddorol oedd mai beth roedd hi’n ei ddweud oedd, 'Nawr mae tystiolaeth y tu ôl i’r peth yr oeddwn i'n gofyn amdano’.

Felly, rwyf i wedi gofyn heddiw am follow-up i wybod yn union nawr beth sydd yn mynd i ddigwydd fel canlyniad i’r symposiwm yna. Rydym ni'n gwybod yn union beth sydd angen cael ei wneud nawr. Rŷm ni’n gwybod bod angen gwella dysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Un o’n problemau mwyaf, wrth gwrs, yw sicrhau bod digon o athrawon da gyda ni. Felly, er ei fod yn syniad y byddwch chi eisiau ei weld—syniadau Laura McAllister—y ffaith yw na fyddai digon o athrawon gennym ni ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i ni gamu a sicrhau bod nifer o bobl yn hyfforddi gyda ni drwy gyfrwng y Gymraeg. Rŷm ni’n gwneud ymdrech mawr gyda hynny trwy roi £5,000 ychwanegol i bobl, yn dechrau ym mis Medi, i hyfforddi i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd i wella boddhad y cyhoedd gydag ysgolion Cymraeg?

Darren, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl', cenhadaeth i godi safonau, cau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod gennym system addysg yng Nghymru rydym yn falch ohoni ac y mae gan y cyhoedd hyder ynddi. Dyna pam rydym wedi cychwyn ar y rhaglen radical hon i ddiwygio addysg yn y genedl hon.

Fe fyddwch yn gwybod bod yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru wedi'i gyhoeddi yr wythnos diwethaf, ac roedd yn dangos dirywiad sylweddol yn lefelau boddhad y cyhoedd gyda'n hysgolion uwchradd yn benodol. Felly, mae'n amlwg fod y cyhoedd yn prysur golli hyder yn eich gallu i gyflawni yn erbyn y genhadaeth genedlaethol a bennwyd gennych. Ac ni ddylai hynny fod yn syndod, gan y gŵyr pob un ohonom inni gael ein canlyniadau TGAU gwaethaf ers degawd y llynedd, ein bod wedi cael ein rhoi yn hanner gwaelod safleoedd y byd yn y set ddiwethaf o brofion rhyngwladol inni gymryd rhan ynddynt, a'n bod ar waelod tabl cynghrair y DU o ran y sgorau PISA hynny hefyd. Ac mae nifer y myfyrwyr o Gymru, wrth gwrs, sy'n mynychu prifysgolion gorau'r DU hefyd wedi gostwng 10 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Felly, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw beth bynnag rydych yn ei wneud ar hyn o bryd yn gweithio ac nad yw'n meithrin yr hyder y dywedwch eich bod yn ceisio'i feithrin. Pam fod dysgwyr Cymru yn cael eu gadael ar ôl, a beth ar y ddaear y bwriadwch ei wneud am hynny?

Wel, Darren, wrth gwrs, pan fo un o bob pedwar rhiant yn mynegi nad ydynt yn gwbl fodlon ag addysg uwchradd eu plant, hoffwn weld y ffigur hwnnw'n gwella. Rwy'n awyddus i bob rhiant yng Nghymru deimlo bod eu hysgolion uwchradd yn gwneud gwaith da ar gyfer eu disgyblion. Dyna pam rydym yn diwygio ein TGAU; dyna pam rydym yn diwygio'r ffordd rydym yn hyfforddi ein hathrawon; dyna pam, ym mis Medi, y byddwn yn lansio rhaglen genedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon presennol; dyna pam rydym yn buddsoddi symiau digynsail o arian yn y grant datblygu disgyblion i sicrhau bod ein dysgwyr tlotaf yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt yn ein hysgolion; dyna pam rydym wedi creu'r academi arweinyddiaeth genedlaethol; a dyna pam, dros yr haf, y byddwn yn gweld y garfan lawn gyntaf o rwydwaith Seren yn sefyll eu harholiadau Safon Uwch ac yn mynychu'r prifysgolion gorau hynny. Rydym wedi cychwyn ar set radicalaidd o ddiwygiadau addysgol, un rwy'n hyderus—ac yn bwysicach, un y credaf y gall y proffesiwn, a'r cyhoedd yn fy marn i, fod â hyder ynddi—a fydd yn darparu'r newid sylweddol y cytunaf fod ei angen arnom mewn addysg yng Nghymru.

13:50

Mae'n amlwg yn set o ddiwygiadau nad oes gan y cyhoedd hyder ynddi, a dyna pam fod cyfraddau boddhad yn disgyn o dan eich goruchwyliaeth chi fel Ysgrifennydd y Cabinet. Sylwais na sonioch chi am gyllido yn eich ymateb, gan y gŵyr pob un ohonom fod cyllidebau ysgolion o dan bwysau sylweddol. Nawr, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau—maent wedi dweud bod y bwlch cyllido fesul disgybl, fesul blwyddyn, rhwng Cymru a Lloegr bellach yn £678 y disgybl. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 i'w wario ar ysgolion yma am bob £1 a werir ar ysgol yn Lloegr. Mae Estyn, eich arolygiaeth eich hun, wedi eich rhybuddio bod cyllid yn peryglu gallu ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd pan fydd yn cael ei gyflwyno. Nawr, a ydych yn derbyn bod yna ddiffyg buddsoddi, fod angen ichi wneud yn well o ran sicrhau bod arian yn cyrraedd y rheng flaen yn ein hysgolion, a beth rydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod gan ysgolion adnoddau i ddarparu'r addysg o'r radd flaenaf y mae ein plant yn ei haeddu?

Wel, wrth gwrs, Darren, rwy'n derbyn yn llwyr fod yna bwysau cyllido o fewn y system addysg, gan mai fi sy'n gorfod gwneud y gwaith annymunol o wneud y dewisiadau anodd hynny, ond mae arnaf ofn mai fel hyn y mae agenda gyni Dorïaidd yn edrych. Ni allwch ddweud ar y naill law fod arnoch eisiau cyni a dweud ar y llaw arall fod arnoch eisiau buddsoddiad pellach yn ein gwasanaethau cyhoeddus, pan fo'ch cymheiriaid yn Llundain yn gwneud i'r gwrthwyneb. Lywydd, gadewch imi egluro: dros dymor y Cynulliad hwn, byddwn yn buddsoddi £100 miliwn i godi safonau ysgolion. Byddwn yn buddsoddi £2.4 biliwn ym mand B ein rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Eleni, byddwn yn buddsoddi dros £90 miliwn yn y grant datblygu disgyblion, gan effeithio ar gyfleoedd bywyd ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ond mae arnaf ofn nad wyf am wrando ar bregeth gan wleidydd Ceidwadol sy'n dilyn mantra mewn lle arall o dorri gwariant cyhoeddus yn hytrach na buddsoddi.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n sylweddoli y byddwch yn gyndyn i sôn am achos penodol, felly rwy'n defnyddio hyn fel enghraifft yn unig. Mae gennyf etholwr a gafodd wybod gan y cyngor lleol y byddai disgwyl i'w merch 11 oed fynd ar fws ysgol, ac yna i fynd ar fws cysylltu cyhoeddus er mwyn mynd i ysgol oddeutu 15 i 20 milltir i ffwrdd. Mae'n debyg nad yw honno'n stori anghyffredin ledled Cymru. Ychydig yn ôl, hefyd, bûm yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda grŵp o bobl ifanc a oedd yn teithio adref o'u hysgol uwchradd. Er ei bod yn bleser cyfarfod â phobl ifanc disglair a chall iawn, roedd yn peri pryder, gan y gallai fod gofyn i blentyn 11 oed gwblhau'r daith honno ar eu pen eu hunain. Roedd y daith yn golygu dod i gysylltiad â ffyrdd prysur a dieithriaid llwyr, ac er y bydd y mwyafrif helaeth o'r cyd-deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn bobl weddus a gonest, mae gennym ddyletswydd i ddiogelu plant a phobl ifanc, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ynglŷn â hynny. Felly, pa wiriadau rydych yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac ysgolion eu cwblhau cyn is-gontractio cludiant ysgol, neu benderfynu bod yn rhaid i blant deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r ysgol?

Yn gyntaf, a gaf fi ddweud bod nifer fawr iawn o blant yn teithio i'r ysgol ar drafnidiaeth cyhoeddus ac yn gwneud hynny'n llwyddiannus ac yn ddiogel bob dydd? Mewn gwirionedd, mae trafnidiaeth ysgol yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, a nodir y rheolau ynghylch cludiant ysgol ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, a gyflwynwyd gan y Cynulliad sawl blwyddyn yn ôl. O dan y ddeddfwriaeth honno, mae gan rieni hawl i ofyn i'w hawdurdod lleol gynnal asesiad o lwybrau diogel er mwyn sicrhau bod y llwybrau y mae'r awdurdodau lleol yn gofyn i bobl ifanc deithio arnynt wedi bod yn destun asesiad risg ac wedi'u harchwilio'n briodol o ran diogelwch dysgwyr. Buaswn yn dweud wrth eich etholwr, drwoch chi, fod angen iddynt fynd ar drywydd yr opsiwn cyntaf hwnnw gyda'u hawdurdod addysg lleol er mwyn cynnal dadansoddiad o lwybrau diogel i'r ysgol ac i sicrhau bod hynny'n agored i drafodaeth.

13:55

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Cydymdeimlaf yn llwyr â'r egwyddor y dylid pennu darpariaeth yn lleol, ac o gofio'r ddaearyddiaeth yng Nghymru, gall cynllunio llwybrau teithio fod yn her, ond mae yma ddiffyg cysondeb pendant ac mae'r holl beth yn dipyn o lanast. Yn dibynnu ar ba ysgol rydych yn ei mynychu, efallai eich bod yn teithio ar fws ysgol neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Efallai eich bod yn teithio mewn ffordd hollol wahanol i'ch cymydog sy'n mynychu ysgol i lawr y ffordd. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r hyn a ddywedoch ynglŷn â'r ffaith mai'r Ysgrifennydd trafnidiaeth sydd â'r prif gyfrifoldeb am hyn, ond yn y pen draw, chi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, felly does bosib nad oes gennych ddiddordeb yn sut y caiff cludiant i'r ysgol ei ddarparu. Rwy'n deall hefyd fod pwysau ariannol ar awdurdodau lleol ac arnoch chi hefyd fel Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a ydych wedi ystyried ac a ydych wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth gyda'r bwriad o gynnal adolygiad o'r ffordd y darperir cludiant ysgol ac a ellid ei symleiddio, gan gyfuno darpariaeth ar draws ysgolion a ffiniau sirol efallai, er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithiol ar gyfer plant a phobl gan arbed arian y gellid ei roi tuag at bethau eraill?

Wel, mae'n rhaid imi ddweud, o ran addysg ysgol orfodol, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gydymffurfio â'r Mesur teithio gan ddysgwyr, sy'n datgan yn glir pwy sy'n gymwys a phwy nad yw'n gymwys i gael cludiant ysgol am ddim. Mae hefyd yn nodi'r disgwyliad hwnnw mewn perthynas â mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Dywed hefyd fod yn rhaid i unrhyw lwybr y bydd plentyn yn ei deithio, yn enwedig os yw'r llwybr hwnnw'n llwybr cerdded, fod yn destun asesiad llwybrau diogel i'r ysgol. Nawr, mae i'r Aelod awgrymu nad yw awdurdodau lleol yn gweithio ar draws ffiniau neu'n ystyried atebion arloesol i ddarparu cludiant ysgol—nid yw hynny'n wir. Yn fy etholaeth fy hun, gwn fod rhai o fy etholwyr yn teithio y tu allan i'r sir i gael eu haddysg am fod yr ysgol addas agosaf yn digwydd bod yr ochr arall i ffin sirol, ac mae'r sir yn hwyluso hynny. Os oes gan yr Aelod bryderon penodol, mae angen iddi ddwyn y mater, yn y lle cyntaf, i sylw'r awdurdod addysg lleol a'r cyngor sir lleol.

Wel, mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet, roedd fy nghwestiwn yn gofyn a ydych chi'n bersonol, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi ystyried adolygu'r ffordd y trefnir trafnidiaeth, ar lefel uchel, ond fe af ymlaen at fy nghwestiwn olaf.

Mae rhieni'n dweud wrthyf fod toriadau yng nghyllid awdurdodau lleol yn arwain at ofyn i blant a phobl ifanc ag anableddau, a oedd yn arfer teithio i'r ysgol mewn tacsi, deithio i'r ysgol ar y bws ysgol. Nawr, mae hynny'n beth da iawn i'r plentyn neu'r unigolyn ifanc, ac mae'n well i'r amgylchedd ac yn rhatach hefyd, ond os oes ganddynt dueddiad tuag at ymddygiad ymosodol neu ymddygiad heriol, nid yw'n deg ar y plant eraill os na sicrheir bod oedolyn priodol wrth law ar y bws i roi cymorth i'r plentyn neu'r unigolyn ifanc. Felly, pa adnoddau y bwriadwch eu darparu i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau eraill, a'r bobl o'u hamgylch, yn ddiogel ac yn cael cymorth wrth deithio i ac o'r ysgol? Ac os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi pregeth arall imi ar y Mesur.

Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig. Pan fo plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu teithio'n ddiogel gyda'u cyfoedion ar drafnidiaeth ysgol, mae hynny'n rhywbeth i'w ystyried, ond mae angen inni ystyried diogelwch cyffredinol y garfan ar drafnidiaeth ysgol hefyd. Dyna pam fod gennym godau ymddygiad y mae'n rhaid i rieni a phlant gydymffurfio â hwy os byddant yn teithio ar drafnidiaeth ysgol. O ran anghenion dysgu ychwanegol, unwaith eto, bydd ystyried gofynion ac anghenion trafnidiaeth plentyn yn briodol ochr yn ochr â'u gofynion addysgol yn rhan bwysig o'r gwaith o ddatblygu eu cynllun datblygu unigol. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, er bod gennym ddeddfwriaeth yn y cyswllt hwn drwy ein Bil ADY newydd, mater ar gyfer awdurdodau lleol unigol yw darparu ar gyfer eu dysgwyr. Mae'n amhosibl gwneud penderfyniadau trafnidiaeth unigol o'r canol ar gyfer plant unigol.

Lefelau Cyrhaeddiad Disgyblion Difreintiedig

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lefelau cyrhaeddiad ymysg disgyblion mwyaf difreintiedig Gorllewin De Cymru? OAQ52407

Diolch, Caroline. Rydym yn parhau i fuddsoddi symiau digynsail o arian drwy'r grant datblygu disgyblion: bydd £187 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf yn cynorthwyo ysgolion ledled Cymru i wella canlyniadau ar gyfer ein dysgwyr difreintiedig, ac mae hyn yn cynnwys mwy na £25 miliwn yn rhanbarth Gorllewin De Cymru yn unig.

Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yng Nghastell-nedd Port Talbot y llynedd, disgynnodd canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n cyrraedd lefel 2 neu uwch yn eithaf sylweddol. Mae'r nifer ar ei isaf ers 2011. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried hyn, ac o gofio sylwadau diweddar ynghylch effeithiolrwydd y grant amddifadedd disgyblion, a ydych o'r farn fod eich polisïau'n gweithio ar gyfer disgyblion yn fy rhanbarth i?

14:00

Wel, yn gyntaf, a gaf fi gywiro'r Aelod? Nid y grant amddifadedd disgyblion yw ei enw mwyach, fe'i gelwir bellach yn grant datblygu disgyblion. Mae'r Aelod yn gywir i ddweud, ar ôl nifer o flynyddoedd pan gafwyd cynnydd o ran cyrhaeddiad lefel 2 ac uwch ar lefel TGAU mewn perthynas â'n plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a'n plant sy'n derbyn gofal, na lwyddodd y garfan honno o blant, yn anffodus, i ymdopi cystal yr haf diwethaf wrth i'r manylebau TGAU newydd gael eu cyflwyno. Rydym wedi cyflawni gwaith yn fewnol er mwyn deall yn well pam roedd y garfan honno o blant yn llai gwydn, yn enwedig wrth inni weld rhagor o fanylebau TGAU newydd yn cael eu cyflwyno eleni yng Nghymru, er enghraifft mewn gwyddoniaeth.

Rwy'n gwbl ymrwymedig, hyd ddiwedd cyfnod y Llywodraeth hon, i barhau i ariannu'r grant datblygu disgyblion. Yn y gwerthusiad annibynnol a gynhaliwyd o'r grant hwnnw, nododd ysgolion ei fod yn hynod o werthfawr, a fy ngwaith i yw sicrhau nid yn unig fod yr adnoddau hynny ar gael i ysgolion, ond bod ysgolion unigol sy'n derbyn yr adnodd yn ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol ar ymyriadau y gwyddom eu bod yn gweithio.

Bûm yn gwneud peth ymchwil, cyn y cwestiwn heddiw, a chyflawnwyd adroddiad gan Ipsos MORI a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ar y grant datblygu disgyblion, ac yn ôl yr adroddiad hwnnw, er bod y grant datblygu disgyblion wedi cyflawni llawer o bethau cadarnhaol, roedd hi'n anodd gweld a wnaed cynnydd o ganlyniad i'r grant datblygu disgyblion ynddo'i hun, a bod rhai o'r newidiadau wedi dod cyn rhoi'r grant datblygu disgyblion ar waith. Nawr, gwn mai hon yw'r ffactor allweddol wrth geisio newid rhagolygon pobl o gefndiroedd difreintiedig, felly a allwch ddweud wrthym pa ddadansoddiad pellach a wnaed gennych ers yr adroddiad penodol hwnnw yn 2017 i sicrhau eich bod yn gwybod yn iawn mai'r grant datblygu disgyblion a'r cyllid sydd ynghlwm wrtho sy'n cyflawni'r lefelau cyrhaeddiad hynny, yn hytrach na rhywbeth arall a allai fod yn dod o le arall o ran themâu yn ngwaith cynllunio'r gweithlu addysg?

Wel, Bethan, i mi, mae hwn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Ni ddylai canlyniadau addysgol unrhyw blentyn gael eu pennu yn sgil amgylchiadau eu geni neu allu eu teulu i gefnogi eu haddysg. Dyna pam nad wyf yn ymddiheuro, fel y dywedais, am wario dros £90 miliwn eleni ar addysg y dysgwyr hynny.

Nawr, yr hyn a wyddom yw bod ysgolion o'r farn fod yr adnodd hwn yn hynod o werthfawr, fod dwy ran o dair o ysgolion yn defnyddio'r adnodd yn effeithiol i wneud gwahaniaeth i'r dysgwyr mwyaf agored i niwed, ond rwyf am i'r holl ysgolion wneud defnydd effeithiol o'r adnodd hwn, a dyna pam ein bod, drwy ein consortia rhanbarthol, newydd gyflogi cynghorwyr penodol i weithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau bod yr arian hwn a ddarperir i ysgolion unigol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Yr hyn a wyddom hefyd yw bod angen inni ymyrryd cyn gynted â phosibl yn addysg plentyn, a dyna pam rydym wedi dyblu faint o'r grant datblygu disgyblion sy'n mynd i gefnogi addysg ein disgyblion ifancaf, oherwydd os gallwn sicrhau nad oes bwlch cyrhaeddiad rhwng plant 11 oed, mae hynny'n rhoi cyfle gwell inni sicrhau bod plant yn mynd yn eu blaenau i gael canlyniadau TGAU da iawn. Ond rwyf bob amser yn awyddus i ystyried sut y gallwn ddatblygu a lledaenu arferion gorau, ac mae hynny'n cynnwys ystyried pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton penodol ar gyfer Cymru. Ar hyn o bryd, dyna'r safon aur y gofynnir i ysgolion farnu penderfyniadau a wnânt ynghylch gwariant yn ei herbyn. Credaf ei bod bellach yn bryd ystyried datblygu pecyn cymorth penodol ar gyfer Cymru sy'n cydnabod amgylchiadau diwylliannol penodol y system addysg yng Nghymru.

Sgiliau Digidol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu sgiliau digidol mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru? OAQ52416

Diolch. Mae ysgolion ledled Cymru yn croesawu dysgu digidol yn barod ar gyfer ein cwricwlwm cyffrous newydd. Roeddwn yn falch iawn o weld ysgolion o ogledd Cymru yn cyfrannu at ein digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol yn ddiweddar, ac mae'r ysgolion hyn yn cynorthwyo eraill i wireddu ein cenhadaeth genedlaethol i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn ddigidol gymwys.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Darllenais yn ddiweddar eu bod yn gwthio ffiniau yn Tsieina mewn perthynas â sgiliau codio, a bod hyd yn oed plant cyn ysgol yn dysgu'r sgiliau sylfaenol, gan ddefnyddio apiau a gwersi ar-lein yn aml. Mae bron i flwyddyn wedi bod bellach ers eich datganiad ar 'Cracio'r Cod' lle y dywedoch y byddech yn annog clybiau codio i ffurfio ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, flwyddyn yn ddiweddarach, faint o glybiau codio sydd i'w cael, faint o blant sydd wedi elwa, a sut rydych yn gwerthuso unrhyw effeithiolrwydd?

14:05

Diolch. Fel y dywedoch, Mandy, y llynedd, fe gyhoeddasom fuddsoddiad o dros £1 filiwn i ddatblygu clybiau codio ledled Cymru, ac rydym wedi gweld cynnydd yn hynny o beth. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gydag union niferoedd y cyfranogwyr os oes modd inni gael gafael arnynt.FootnoteLink Yr wythnos diwethaf, yn y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol, cyfarfûm â phlant o bob rhan o Gymru sy'n defnyddio cod i ddatblygu adnoddau addysgol, apiau, ac mewn rhai achosion, mae'r apiau hynny bron â bod yn barod i'w masnacheiddio, a'u rhoi ar y farchnad.

Yn rhanbarth yr Aelod, hoffwn dynnu sylw at yr arferion da yn Ysgol St Christopher yn Wrecsam. Mae'n un o'n hysgolion arbennig mwyaf yng Nghymru, ac mae ganddynt glwb codio llwyddiannus iawn y mae llawer o'u plant yn aelodau ohono, gan gydnabod bod y sgiliau hyn yn berthnasol i bob un o'n plant, waeth beth fo'u hanghenion dysgu ychwanegol, a byddwn yn parhau i gefnogi'r ymarfer da hwnnw ledled y wlad.

Tynnwyd cwestiwn 5 [OAQ52421] yn ôl. Felly, cwestiwn 6, Russell George.

Addysg ym Mhowys

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi addysg ym Mhowys? OAQ52399

Mae Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol ar y cyd yn cynorthwyo ysgolion ym Mhowys i wella safonau addysgol, yn unol â'n blaenoriaethau a nodir yn 'Cenhadaeth ein Cenedl'.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau wedi condemnio'r bwlch cyllido disgyblion, sydd bellach bron yn £700 y disgybl o gymharu ag ysgolion a gynhelir yn Lloegr. A gaf fi ofyn beth rydych yn ei wneud i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido, sydd, yn ôl yr Undeb, a dyfynnaf,

yn culhau'r cwricwlwm mewn rhai ysgolion ac yn arwain at ddiswyddo athrawon a staff cymorth talentog?

Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn buddsoddi £100 miliwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn i godi safonau ysgolion. Rydym yn buddsoddi dros £2 biliwn mewn adeiladau ysgolion, yn ogystal â nifer fawr o fentrau gyda'r nod o fynd i'r afael ag anghenion penodol o fewn y cwricwlwm. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, fod aelodau Ceidwadol Cyngor Sir Powys wedi pleidleisio ychydig wythnosau yn ôl yn erbyn opsiwn a allai fod wedi sicrhau adnoddau ychwanegol i ysgolion Powys. Efallai y dylai gael gair â'i gymheiriaid ar y cyngor.

Nid yw Jenny Rathbone yma i holi cwestiwn 7 [OAQ52412]. Tynnwyd cwestiwn 8 [OAQ52425] yn ôl. Felly, cwestiwn 9, Paul Davies.

Dysgwyr ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig? OAQ52390

Gwnaf yn wir, Paul. Rwy'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i ddiwallu anghenion ein holl ddysgwyr, gan gynnwys y rheini ag awtistiaeth. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol i anghenion dysgu ychwanegol yn ailwampio'r system bresennol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn gyfan gwbl, gan sefydlu proses integredig a chydweithredol ar gyfer asesu, cynllunio a monitro'r cymorth a ddarperir.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n pryderu bod dysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig o dan anfantais wrth sefyll yr arholiad TGAU Saesneg oherwydd eu hanawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol a rhyngweithio cymdeithasol, sydd, wrth gwrs, yn golygu sefyll yr un prawf â'u cyfoedion niwronodweddiadol, ac mae hynny'n gwneud pethau'n anos o lawer iddynt. Yng ngoleuni'r annhegwch hwn, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gafwyd gyda darparwyr arholiadau ynglŷn â'r arholiad TGAU Saesneg, ac a yw'n bosibl i ddysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig sefyll math gwahanol o arholiad ar gyfer y pwnc hwn, fel nad yw'r dysgwyr hyn o dan anfantais yn y dyfodol?

Paul, mae'n flin gennyf glywed bod rhai o'ch etholwyr yn teimlo nad oedd y papur TGAU Saesneg iaith a osodwyd eleni yn addas ar gyfer anghenion eu plant. Rwy'n ymwybodol fod nifer o'r cwestiynau ar y papur hwnnw, er enghraifft, yn cyfeirio at esbonio beth oedd 'hun-lun', esbonio beth oedd 'mynd yn feiral', a holl fater cyfryngau cymdeithasol. Wrth gwrs, efallai fod rhai plant yn fwy cyfarwydd a brwdfrydig ynglŷn â'r gweithgareddau hynny na phlant eraill.

Mae disgwyl i'n byrddau arholi sicrhau bod ein harholiadau yn deg i bob dysgwr. Rhoddaf ymrwymiad i chi y byddaf yn codi'r achos penodol hwn ynghylch y papur TGAU Saesneg gyda Cymwysterau Cymru, oherwydd, wrth gwrs, caiff cymwysterau eu pennu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond yn amlwg, rydym am sicrhau chwarae teg i bob plentyn sy'n cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau.

14:10
Dyrannu Adnoddau i Ysgolion

10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau i ysgolion yng Nghymru? OAQ52408

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion yn eu siroedd.

Diolch. Fel y gwyddoch, mae'r premiwm disgyblion lluoedd arfog ar gael yn Lloegr i gefnogi addysg plant y lluoedd arfog, ac mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn galw am gronfa debyg i ysgolion yng Nghymru ar gyfer oddeutu 2,500 o blant sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n gadarnhaol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £200,000 o gyllid eleni i ysgolion wneud cais amdano i gefnogi plant y lluoedd arfog, ond mae pryder ynghylch yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, sut rydych yn ymateb i'r alwad gan y lleng a chymuned ehangach y lluoedd arfog yng Nghymru am bremiwm disgyblion lluoedd arfog, fel yr hyn sydd ganddynt yn Lloegr, fel y gall pob ysgol gael cyllid ar gyfer pob un o blant y lluoedd arfog?

Mark, rwy'n falch iawn fod ysgolion wedi gallu gwneud cais am yr adnoddau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu eleni i gefnogi anghenion addysgol plant y lluoedd arfog yn dilyn y toriadau a wnaed i'r cyllid hwnnw gan yr adran amddiffyn o dan eich Llywodraeth chi yn Llundain.

Gadewch i mi fod yn glir: rydym yn parhau i ystyried a oes tystiolaeth i awgrymu bod plant i bersonél ein lluoedd arfog o dan anfantais addysgol, yn yr un modd ag y gwyddom sy'n wir yn aml iawn, er enghraifft, am ein plant tlotaf, am ein plant sy'n derbyn gofal, ac am ein plant sydd wedi'u mabwysiadu. A byddwn yn parhau i ystyried, o fewn cyfyngiadau'r adnoddau sydd ar gael, sut y gallwn barhau i gefnogi'r plant hynny fel rydym eisoes yn ei wneud eleni. Rwy'n ddiolchgar i gymuned y lluoedd arfog am eu gwasanaeth i'n cenedl, ac nid wyf am i'r gwasanaeth hwnnw gael effaith andwyol ar addysg eu plant, a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.

Ffigurau Presenoldeb Ysgol

11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ystyriaeth a roddir i absenoldeb oherwydd anabledd wrth gasglu ffigurau presenoldeb ysgol? OAQ52396

Diolch, Mick. Rydym eisoes yn ystyried absenoldeb oherwydd anabledd wrth gasglu ein hystadegau ar absenoldeb o'r ysgol. Ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, rydym yn casglu amrywiaeth o ystadegau ar absenoldeb yn ôl nodweddion disgyblion, sy'n cynnwys data'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig.

Diolch am eich ateb, ac wrth gwrs, credaf fod pob un ohonom yn deall bod ysgolion yn teimlo pa mor bwysig yw sicrhau bod eu ffigurau presenoldeb mor uchel â phosibl a pha mor bwysig yw presenoldeb uchel mewn ysgolion ac i addysg plant. Yr hyn sydd wedi'i ddwyn i fy sylw gan nifer o deuluoedd, fodd bynnag, yw y bydd plant sydd ag anableddau sylweddol sy'n ei gwneud yn angenrheidiol iddynt fod yn absennol o'r ysgol yn rheolaidd er mwyn cael triniaeth ac ati—ymddengys bod system yn datblygu er mwyn annog presenoldeb lle mae systemau gwobrwyo presenoldeb ar waith mewn ysgolion er mwyn annog presenoldeb, a cheir amryw o systemau o'r fath ledled Cymru. Ond wrth gwrs, yr ymateb a gaf gan rai o'r teuluoedd, ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i fy etholaeth i yn unig, yw bod y plant hyn yn gofyn, 'Wel, pam na allaf fi ennill tystysgrif? Pam na allaf fi gael gwobr? Rywsut, rwy'n methu yn hynny o beth.' Ac ymddengys i mi fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Ni chredaf fod unrhyw beth maleisus ynglŷn â hyn, ond credaf fod problem wirioneddol wedi dod i'r amlwg a bod angen ei hystyried er mwyn sicrhau bod plentyn sydd ag anabledd nad yw'n gallu bod yn bresennol o hyd yn cael tystysgrif am fod yn bresennol hyd eithaf eu gallu, ac mae angen inni sicrhau dull felly o weithredu.

Mick, diolch o galon am godi hyn, a chytunaf yn llwyr â chi na ddylai plant ag anabledd deimlo eu bod yn cael eu cosbi neu deimlo'n ddigalon neu'n annigonol mewn unrhyw ffordd yn yr ymgyrch gyffredinol i hybu presenoldeb cyffredinol. Rwy'n cydnabod y gall gwobrau gymell disgyblion eraill i fod yn bresennol, ond ni all fod y tu hwnt i allu ysgolion unigol i ddeall bod cyfnodau o absenoldeb i rai plant, naill ai oherwydd salwch neu oherwydd yr angen i fynychu nifer fawr o apwyntiadau, mewn cyfleusterau sy'n aml yn bell iawn o'r ysgol, gan olygu na allant fynd i'r ysgol am hanner diwrnod neu ran o sesiwn, hyd yn oed—ni ddylid eu cosbi yn y ffordd honno.

Mae ein canllawiau statudol 'Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd' hefyd yn pwysleisio'r pwynt hwnnw, ei bod yn anaddas cosbi plant am absenoldeb o ganlyniad i'w hanabledd. Byddaf yn edrych i weld pa ddulliau cyfathrebu sydd gennym gyda'n proffesiwn addysgu, ein hysgolion a'n hawdurdodau addysg lleol i atgyfnerthu'r neges yn y canllawiau hynny nad yw'r arferion sydd mewn perygl o wahaniaethu yn erbyn plant oherwydd eu hanabledd yn addas neu'n dderbyniol. Yn wir, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o gydnabod cyflawniadau'r plant hynny yn eu hysgolion, yn wyneb anawsterau mawr weithiau.

14:15
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf [OAQ52426] wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 2, Caroline Jones.

Diffygion yng Nghyllideb Byrddau Iechyd Lleol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lleihau'r diffygion yng nghyllideb byrddau iechyd lleol? OAQ52409

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir fod gorwario gan fyrddau iechyd yn annerbyniol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ymyrraeth wedi'i thargedu i'r byrddau sydd mewn diffyg er mwyn datblygu cynlluniau ariannol cynaliadwy. Gyda'r cymorth hwn, roedd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro mewn gwell sefyllfa ariannol yn 2017 o gymharu a'r flwyddyn flaenorol. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £27 miliwn o arian rheolaidd ychwanegol i Hywel Dda o ganlyniad i'r adolygiad cwbl gynhwysfawr i sicrhau bod y bwrdd ar sylfaen gyllido deg yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, rwyf wedi cyhoeddi'r fframwaith gwella mesurau arbennig ar gyfer Betsi Cadwaladr gogyfer â'r 18 mis nesaf, gan nodi fy nisgwyliadau o ran gwelliannau yn glir iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fy mwrdd iechyd lleol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ddiffyg o dros £3 miliwn y mis. Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg hwn, mae'r bwrdd iechyd yn cynnig lleihau nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael. Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod cyfraddau defnydd gwelyau yn fy rhanbarth bron yn 90 y cant, a ydych o'r farn fod y cynnig i leihau nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddiogel?

Diolch am y cwestiwn. Credaf ei bod yn gadarnhaol fod Abertawe Bro Morgannwg wedi cael alldro ariannol gwell na'r flwyddyn flaenorol, ac rwyf am fod yn gadarnhaol ynghylch eu rhagolygon ar gyfer gwelliant pellach, hyd nes y byddant mewn sefyllfa sy'n dderbyniol yn gyffredinol pan fyddant yn byw o fewn eu modd, ac yn wir, yn darparu lefel dderbyniol o berfformiad mewn perthynas â'u cyfrifoldeb cyfan.

Ni ddylai'r ymgynghoriad presennol ynghylch gwelyau gael ei lywio gan fesurau ariannol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, maent yn ceisio dadlau'r achos dros newid lle y darperir gofal gan fod gwasanaethau amgen ar gael. Nid yw hynny wedi'i lywio gan arian; caiff hynny ei lywio yn ôl ble y darparwch y gofal iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn. Ni fuaswn yn cefnogi cael gwared ar welyau o'n system fel mesur ariannol yn unig. Mae'r newid o ran nifer y gwelyau a'u lleoliad yn fater gwahanol. Fel y dywedaf, mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo. Heddiw yw'r diwrnod olaf, a buaswn yn annog unrhyw un nad yw wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad i leisio'u barn yn glir.

Pam nad yw Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r byrddau iechyd, wedi gwneud mwy i leihau'r swm enfawr o wariant ar staff asiantaeth? Oni fyddai ganddo well rheolaeth ar y diffygion hyn pe gwneid hynny?

Mewn gwirionedd, y llynedd, cyhoeddais fesurau i sicrhau cap ar staff asiantaeth a gwnaeth hynny wahaniaeth gwirioneddol yn ystod chwarter olaf y llynedd. Yr her bellach yw nid yn unig gweld buddion blwyddyn lawn o hynny, ond i gymryd camau gweithredu ehangach hefyd, a dyna pam mai'r sgwrs barhaus yw bod angen inni ddod i bwynt terfynol mewn perthynas â newid y defnydd o staff asiantaeth a staff banc. Oherwydd credaf fod mwy o gyfle i'w gael o ran y ffordd y defnyddir staff banc yn hytrach na staff asiantaeth, a'r ffordd y darperir ansawdd gofal, yn ogystal â'r mesurau ariannol.

Felly, rwy'n chwilio am gynnydd pellach. Mewn gwirionedd, rydym wedi llwyddo i gael gwared, i raddau helaeth, ar rai o'r asiantaethau ar y pen drutaf hefyd, ond bydd hyn yn parhau i fod yn broblem o ran cynaliadwyedd ariannol ein system. Mae hyn hefyd yn golygu, mewn rhai rhannau o'n system gofal iechyd, y bydd angen inni newid y ffordd y darperir gofal, gan ei bod yn anodd recriwtio pobl i rai o'r ffyrdd o ddarparu gofal sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, ceir amrywiaeth o fesurau gwahanol i'w rhoi ar waith, ond wrth gwrs, bydd yn faes rwy'n disgwyl rhagor o graffu arno yma, ac yn wir, mae'r cyfarwyddwr cyffredinol yn craffu'n rheolaidd ar y mater hwn yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd.

Lleihau Lefelau Ysmygu

3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau lefelau ysmygu? OAQ52406

Diolch am y cwestiwn. Mae ein cynllun cyflawni ar reoli tybaco, a gyhoeddwyd ym mis Medi y llynedd, yn amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i leihau lefelau ysmygu yng Nghymru ymhellach. Er enghraifft, yn ddiweddar, lansiais ymgynghoriad ar reoliadau i wahardd smygu ar dir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae awdurdodau lleol, a'r mannau y tu allan i leoliadau gofal plant cofrestredig.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar ysmygu wedi cynorthwyo i leihau ysmygu, ond ysmygu yw prif achos salwch difrifol a marwolaethau cynnar y gellir eu hosgoi yng Nghymru o hyd, ac mae'n gyfrifol, yn ôl Gweithredu ar Smygu ac Iechyd, am oddeutu 5,500 o farwolaethau bob blwyddyn, ac ni fydd targed Llywodraeth Cymru o leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020 yn cael ei gyflawni ar sail y rhagolygon presennol. Croesawaf ddarpariaethau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i alluogi cyfyngiadau pellach, fel y sonioch, yn ogystal â'r gallu a roddir gan y ddeddfwriaeth honno i ddynodi lleoedd ychwanegol yn fannau di-fwg, a chredaf y gallai hynny, er enghraifft, gynnwys ardaloedd awyr agored mewn caffis a bwytai, a chanol trefi a dinasoedd. A ydych yn cytuno y bydd ymestyn cyfyngiadau yn y ffordd honno yn amddiffyn ein pobl yn well rhag ysmygu goddefol, yn helpu i ddadnormaleiddio ysmygu ac yn annog ysmygwyr i roi'r gorau iddi?

14:20

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n cydnabod efallai fod tystiolaeth i'w chael ynglŷn â chynnydd pellach y gallem ei wneud drwy gymryd camau pellach ar ysmygu oherwydd, fel y dywedoch, dyna yw prif achos niwed y gellir ei osgoi, ac mae angen inni wneud mwy i gynorthwyo pobl i roi'r gorau iddi, gan mai dyna'n union oedd y pwynt olaf a wnaethoch. Sut rydym yn cynorthwyo pobl i roi'r gorau iddi? Drwy sicrhau bod y gwasanaethau priodol ar waith, ac yn wir, y ffordd y darperir y gwasanaeth hwnnw. Felly, disgwyliaf y byddwn yn gweld mwy'n cael ei ddarparu yn y fferyllfa gymunedol hefyd, fel rhan o sut y mae'r dyfodol yn debygol o edrych. A bydd yn parhau i fod yn destun sgwrs rheolaidd, oherwydd pryd bynnag y cawn drafodaeth ynglŷn ag iechyd y cyhoedd a phryd bynnag y cawn sgwrs am un o'r lladdwyr mawr, rydym yn sôn am yr un pethau: ysmygu, alcohol, deiet ac ymarfer corff.

Felly, o ran y rheoliadau a gyhoeddwyd gennyf eisoes ac yr ymgynghorwn yn eu cylch, byddwn yn bwrw ymlaen â hwy ac yn gwrando ar y cyhoedd o ran beth arall yr hoffent ei weld. Rwy'n cydnabod y cwynion a godwyd gyda mi gan rai pobl nad ydynt yn awyddus inni gymryd camau i wneud ysmygu'n anos, ond ni fyddant yn newid cyfeiriad y Llywodraeth hon. Ac wrth gwrs, byddaf yn gwrando ar y dystiolaeth ynglŷn â'r posibilrwydd o roi camau ar waith yn y dyfodol i helpu i gyflawni ein prif nod o ddadnormaleiddio ysmygu yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr eu hadolygiad tystiolaeth o e-sigaréts a chynhyrchion gwresogi tybaco. Dywed yr adolygiad fod defnyddio e-sigaréts yn achosi cyfran fach yn unig o'r risgiau a berir gan ysmygu a bod newid yn llwyr o ysmygu i ddefnyddio e-sigaréts yn arwain at fanteision iechyd sylweddol dros barhau i ysmygu. Aiff ymlaen i ddweud bod defnyddio e-sigaréts o leiaf 95 y cant yn llai niweidiol nag ysmygu. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr y dylid annog defnyddio e-sigaréts ar raddfa eang fel ffordd o gynorthwyo pobl i roi'r gorau i ysmygu yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn. Trafodwyd hyn gennym yn y fersiwn gyntaf o Fil iechyd y cyhoedd na chafodd ei dderbyn cyn etholiad diwethaf y Cynulliad. Ar y pryd, roedd cryn bryder ynghylch y defnydd o e-sigaréts, ac mae'r pryder hwnnw'n parhau, oherwydd y ffaith eu bod yn aml yn cael eu targedu at bobl iau, yn hytrach na fel dewis amgen yn lle ysmygu, ac am na allwn fod yn glir ynglŷn â beth sydd ynddynt gan nad ydym yn rheoleiddio cyfansoddiad e-sigaréts. Felly, credaf ei bod yn deg dweud bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cydnabod bod e-sigaréts yn peri llai o risgiau nag ysmygu. Nid yw hynny'n gyfystyr â dweud nad oes unrhyw risgiau. I wahanol bobl, bydd gwahanol ddulliau yn eu cynorthwyo i roi'r gorau i ysmygu, a dyna yr hoffwn ei weld. Wrth gwrs, byddwn yn gwrando ar y sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu ynglŷn â'r holl gynnyrch sy'n cynorthwyo pobl i roi'r gorau i ysmygu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Symudwn yn awr at gwestiynau gan y llefarwyr, a daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Angela Burns.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. A wnewch chi amlinellu pa weithdrefnau sydd ar waith er mwyn i gleifion mewn ysbytai weinyddu eu meddyginiaethau rheolaidd eu hunain?

A ydych yn sôn am feddyginiaeth reolaidd o fewn lleoliad ysbyty?

Nid wyf yn siŵr fy mod yn deall y cwestiwn, oherwydd mewn perthynas â chleifion ysbytai a meddyginiaeth, ceir meddyginiaeth y maent yn ei chael pan fyddant yn yr ysbyty, ac os oes angen meddyginiaeth arnynt dan arweiniad gofal eilaidd, sut y maent yn gweinyddu'r feddyginiaeth honno eu hunain. Mae hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar y cyflwr a'r feddyginiaeth.

Gadewch imi egluro i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei bod hi'n ymddangos eich bod yn cael ychydig o drafferth. Sylwaf, er enghraifft, fod yr Aelod dros Gwm Cynon wedi cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig yn ddiweddar yn gofyn am wybodaeth ynghylch y gweithdrefnau sydd ar waith mewn perthynas â chleifion mewn ysbytai yn hunan-weinyddu eu meddyginiaeth eu hunain. Ymddengys ei bod wedi cael atebion eithaf cyffredinol i'w chwestiynau.

Nawr, gadewch i ni ystyried pobl â chlefyd Parkinson fel enghraifft. Efallai eu bod yn mynd i'r ysbyty am resymau a all fod yn gysylltiedig â chlefyd Parkinson neu fel arall, ac yn wynebu sefyllfa lle nad yw rownd gyffuriau'r ysbyty yn cyd-fynd â'u trefn feddyginiaethol eu hunain. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, gyda chlefyd  Parkinson, gall newid bach yn amseru'r feddyginiaeth gael effeithiau negyddol sylweddol ar y broses o reoli symptomau a gwellhad cyffredinol. Gall y ffaith bod dopamin yn cael ei ryddhau'n anghyson olygu, yn sydyn, nad yw unigolyn—gyda chlefyd Parkinson—yn gallu symud, codi o'r gwely, neu gerdded ar hyd y coridor, a gall hefyd arwain at gymhlethdodau difrifol megis niwmonia a rhwystr yn y coluddyn. Mae Parkinson's UK wedi lansio ymgyrch o'r enw Get It On Time er mwyn sicrhau bod cyffuriau megis levodopa, a ddefnyddir i drin clefyd Parkinson, yn cael eu gweinyddu ar adegau rheolaidd o'r dydd—ymgyrch a gyflwynwyd yn llwyddiannus yng Nghanada. Pa gyngor fyddai eich adran yn gallu ei roi i'r byrddau iechyd ynglŷn â rhoi cynllun o'r fath ar waith mewn ysbytai yng Nghymru, gan fod hon yn broblem lle nad yw trefn gyffuriau arferol unigolyn yn cyd-fynd â threfn bresgripsiynu cyffuriau'r ysbyty pan fyddant yn yr ysbyty?

14:25

Wel, edrychwch, mae hwn yn fater rwy'n ymwybodol ohono, ymgyrch Get It On Time. Nid yw'n ymgyrch ar gyfer un cyflwr yn benodol oherwydd, mewn gwirionedd, ceir amrywiaeth o gyflyrau eraill—epilepsi, er enghraifft. Mae gan fy mrawd iau epilepsi a gwn, o rai o'i arosiadau yn yr ysbyty yn y system yn Lloegr, fod diffyg gweinyddu ar gyfer y cyflwr hwnnw wedi golygu ei fod wedi cael trawiad a fyddai fel arall wedi cael ei reoli drwy ei drefn feddyginiaethol y tu allan i'r ysbyty. Felly, rwy'n cydnabod yr heriau sydd i'w cael gyda nifer o gyflyrau mewn perthynas â pharhau â threfn feddyginiaethol reolaidd na therfir arni gan arhosiad yn yr ysbyty, boed hynny ar gyfer y prif gyflwr y darperir y meddyginiaethau hynny ar ei gyfer neu rywbeth gwahanol. Ac mae rhywbeth yn hyn o beth sy'n ymwneud â'n rhaglen wella ar gyfer rheoli fferylliaeth a rheoli meddyginiaethau beth bynnag, mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaethau mewn ysbytai, ond hefyd o ran sicrhau nad oes bwlch diangen pan gaiff rhywun ei ryddhau o'r ysbyty, er mwyn sicrhau bod ganddynt unrhyw feddyginiaeth y mae arnynt ei hangen mewn pryd i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Felly, rwy'n gyfarwydd â'r ymgyrch. Mae'r prif fferyllydd yn arwain gwaith gyda'r byrddau iechyd a'r prif fferyllwyr ym mhob un o'r byrddau iechyd gan fy mod yn cydnabod bod hyn yn her.

Wel, rwy'n falch o'ch clywed yn dweud hynny, ac wrth gwrs, roedd yr adolygiad seneddol yn argymell yn gryf—wel, roedd yn pwysleisio dau beth allweddol. Y cyntaf oedd ein bod yn awyddus i'r cyhoedd ddechrau cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain ac i reoli eu hunain mewn ffordd fwy priodol, a'r ail beth oedd bod arnom eisiau i bobl fynd i'r ysbyty yn llai aml, a phan fyddant yno, i ddod oddi yno yn gynt o lawer, ac mae gennym sefyllfaoedd lle y gall pobl sydd â chyflyrau megis clefyd Parkinson fod yn aros yn yr ysbyty heb unrhyw fai arnynt hwy ond oherwydd nad yw'r trefniadau hynny'n clymu gyda'i gilydd.

Rwyf wedi gweld â fy llygaid fy hun yn ystod fy nghyfnod yn yr ysbyty y gall staff ysbytai gael eu claddu gan bob math o bwysau arall, ac felly, nid yw'r troli cyffuriau yn cyrraedd pen arall y coridor ac yn y blaen. Felly, hoffwn ofyn unwaith eto i chi archwilio hyn yn ofalus gan na allwn ddweud ar y naill law, 'Ysgwyddwch fwy o gyfrifoldeb'—. Mae rhai pobl wedi byw â chyflyrau megis clefyd Parkinson—ac fel y dywedwch, nid hwnnw yw'r unig un—ers blynyddoedd lawer, ac maent yn gwybod beth sydd ei angen arnynt ac maent yn gwybod pryd y bydd arnynt ei angen. Rwy'n deall, os byddwch yn yr ysbyty am rywbeth hollol wahanol, efallai y bydd gwrtharwyddion ac ati—mae'n rhaid bod yn ofalus iawn bob amser—ond credaf y gallwn ddibynnu ar y cyhoedd pan fyddant yn dioddef o rywbeth fel hyn, pan fyddant yn gwbl ymwybodol o'r hyn sy'n addas ar eu cyfer hwy, oherwydd wrth gwrs, fel y gwyddoch, bydd pob unigolyn sydd â chyflwr fel clefyd Parkinson yn ymateb iddo mewn ffordd wahanol, bydd ganddynt setiau gwahanol o feddyginiaethau, ac yn sicr, bydd ganddynt amserlenni gwahanol. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ymrwymo i archwilio hyn yn ofalus iawn, fel y gallwn ddweud wrth bobl, 'Rydym yn gofyn i chi ysgwyddo cyfrifoldeb, ac rydym yn ymddiried ynoch'? Yn anad dim, mae'n ymwneud â'u cadw'n well yn yr ysbyty, fel y gallant fynd oddi yno, gobeithio, wedi gwella o beth bynnag a achosodd iddynt fynd yno.

Rwy'n llwyr gydnabod y pwynt ynglŷn â phobl yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gofal iechyd eu hunain, ond mewn gwirionedd, credaf fod y budd mwyaf y gellir ei gael o hynny yn ymwneud â sut y mae pobl yn cymryd eu meddyginiaeth yn y gymuned a sut rydym yn galluogi hynny i ddigwydd. Mewn lleoliad ysbyty, mae'n ymwneud â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn sicrhau bod hynny'n cael ei alluogi'n briodol. Ni fydd gan rai pobl eu meddyginiaethau eu hunain, yn aml caiff ei gymryd oddi wrthynt pan fyddant yn cyrraedd. Mae'n rhaid sicrhau bod eu meddyginiaeth yn cael ei ddarparu'n rheolaidd fel y gellir ei—

—fel y gellir ei gweinyddu, ac mae hynny'n her i ni. Mae a wnelo hefyd â sut rydym yn symud rhywfaint o'r gwaith.

Felly, rhan o'r her i ni yn y gwasanaeth fferylliaeth ysbyty yw nad oes angen i beth o'r gwaith ddigwydd yn y lleoliad hwnnw o reidrwydd, a bydd hynny'n rhoi mwy o amser iddynt wneud yr hyn y mae gwir angen iddynt ei wneud, yr hyn na all neb ond hwy ei wneud i gleifion mewn ysbytai. Felly, mae'r cysylltiad rhwng gwasanaeth fferylliaeth ysbyty a fferylliaeth gymunedol yn wirioneddol bwysig a chredaf fod mwy o fudd i'w gael os yw fferyllfeydd cymunedol yn ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol yn y dyfodol i'w gwneud yn haws i bobl fynd allan i gynorthwyo pobl i gyflawni eu trefniadau meddyginiaethol eu hunain yn llwyddiannus, yn ogystal â rhoi mwy o amser i'w cydweithwyr yn yr ysbytai wneud eu gwaith yn iawn, yn ychwanegol at staff eraill mewn system ysbyty.

14:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rydym eisoes wedi trafod achos fy etholwr, Paul Davies, y Paralympiad a oedd yn wynebu'r posibilrwydd o fethu Tokyo 2020 oherwydd diffyg gofal cymdeithasol. Weinidog, gyda'ch cymorth chi, rwy'n falch o ddweud bellach fod gan Paul Davies y gefnogaeth sydd ei hangen arno er mwyn hyfforddi ar gyfer Gemau Paralympaidd Tokyo. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddymuno pob lwc i Paul Davies gyda'i ymdrechion a gobeithio y gall ddod â medal aur yn ôl i Gymru?

Yn sicr. A chredaf y byddai pawb yma yn ymuno â chi, Caroline, i ddymuno pob lwc i Paul. Mewn rhai ffyrdd, gallaf ddweud ei fod yn fachgen lleol, yn ddyn lleol, yn fy ardal i, fymryn y tu allan i fy etholaeth. Ond rydym wrth ein bodd fod yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol wedi dod ynghyd, i raddau helaeth, mae'n rhaid imi ddweud, ar sail y syniad a grybwyllir gennym yn rheolaidd yma yn y Cynulliad—gan Ysgrifennydd y Cabinet a minnau—y dylid canolbwyntio ar ganlyniadau i'r unigolyn, nid ar ofal yn unig, ond ar fyw'n annibynnol. Ac mae byw'n annibynnol yn cynnwys y gallu i ymgymryd â gweithgareddau a hobïau a diddordebau—mae'n ymwneud â mwy na gofal yn unig. Ond rwy'n falch, drwy dynnu sylw at y mater, Caroline, eich bod chi ac eraill wedi sicrhau—credaf eich bod yn gorbwysleisio fy rôl yn hyn o beth, mae'n rhaid imi ddweud, ond rwyf wrth fy modd eu bod, ar lawr gwlad, yn lleol, wedi llwyddo i sicrhau ateb a fydd yn galluogi iddo fynd ati i gystadlu. Deallaf gan fy swyddogion eu bod bellach wedi gallu penodi dau gynorthwyydd personol, a fydd yn golygu y gall ddilyn ei freuddwydion a'i ddyheadau, ac mae pob un ohonom yn gobeithio hefyd y gall eu gwireddu.

Yn sicr. Diolch, Weinidog. Llwyddasom i sicrhau canlyniad boddhaol iawn yn achos Paul. Ond beth am y rheini nad oes ganddynt eu Haelod Cynulliad i ymladd drostynt? Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob unigolyn anabl yng Nghymru yn gallu cyflawni eu huchelgeisiau, eu breuddwydion, heb gael eu rhwystro gan eu hanabledd?

Yn hollol. A Caroline, os caf ailadrodd fy sylwadau cynharach, sef bod y fframwaith statudol yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hyn a geir dros y ffin yn Lloegr; mae'n seiliedig i raddau helaeth—gyda chefnogaeth yr Aelodau yma, a sicrhaodd fod y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio—ar ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle dylai'r unigolyn hwnnw benderfynu ar y cyd ar eu pecyn cymorth ar gyfer byw'n annibynnol. Ni ddylid gwneud hyn ar eu cyfer, ond yn hytrach gyda hwy. Dylai fod yn seiliedig ar y canlyniadau i'r unigolyn er mwyn gwella ansawdd eu bywyd a'u gallu—fel y mae pob un ohonom yn ei gymryd yn ganiataol—i wneud yr hyn a fynnwn ac i gymdeithasu ac i fod yn rhan o'r gymdeithas ehangach. Hefyd, ceir hawl statudol i eiriolaeth, wrth gwrs, naill ai eiriolaeth anffurfiol, neu yn niffyg hynny, eiriolaeth fwy ffurfiol, ac yn y blaen. Credaf mai'r her a wynebir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ac eraill yw'r cyfyngiadau ariannol y maent yn gweithredu ynddynt. Ond ni ddylai hynny eu hatal rhag canolbwyntio ar y dull hwnnw o weithio gyda'r unigolyn, gyda'u hanghenion, er mwyn pennu'r ffordd orau o gefnogi byw'n annibynnol ac ansawdd bywyd y mae pob un ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, a dylent hwythau allu ei gymryd yn ganiataol hefyd.

Diolch eto am eich ateb, Weinidog. Mae Paralympiaid y dyfodol yn dibynnu ar eu gofalwyr—rhai cyflogedig a di-dâl—i'w cefnogi wrth iddynt hwy ganolbwyntio ar ennill y medalau. Ond pwy sy'n cefnogi'r gofalwyr? Weinidog, yn anffodus, gwyddom nad yw dwy ran o dair o ofalwyr di-dâl wedi cael cynnig neu wedi gwneud cais am asesiad o anghenion, ac mae tri chwarter y gofalwyr hynny yn dweud nad ydynt yn cael unrhyw gymorth gan eu meddygon teulu. Felly, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod anghenion gofalwyr yn cael eu hasesu? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Efallai yr hoffai fy nghyd-Aelodau wybod bod ein bod wedi cynnull cyfarfod ffurfiol cyntaf grŵp cynghori’r Gweinidog ar ofalwyr heddiw. Cyfarfûm â hwy yng nghanol Caerdydd. Mae'r holl randdeiliaid perthnasol yno, o amrywiaeth eang o sefydliadau. Ac mewn ffordd debyg i'r gwaith a wneir gan ein cyd-Aelod yma, David Melding, ar y grŵp gweithredu gweinidogol dros blant sy'n derbyn gofal, sydd wedi darparu canlyniadau a ffrydiau gwaith mor dda sydd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol, rydym yn obeithiol iawn y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr yn gwneud yr un peth. Fe'i cefnogir hefyd gan grŵp ategol, gyda'r bwriad o gynrychioli llais ehangach gofalwyr. Ni allwn ffitio pawb o gwmpas y bwrdd hwnnw, ond mae gennym ddarparwyr statudol, mae gennym sefydliadau gofalwyr, sefydliadau pobl hŷn, sefydliadau pobl iau. Ni all pob un ohonynt ffitio o gwmpas y bwrdd—mae'n grŵp sy'n meddu ar ffocws a thargedau pendant iawn—ond y tu hwnt i hynny, ceir grŵp ategol sydd hefyd yn rhoi llais i'r bobl sydd am gael eu clywed fel gofalwyr yn rhan ohono hefyd—. A bydd yn canolbwyntio ar faterion megis sut rydym yn eu cefnogi—sut rydym yn cefnogi gofalwyr â bywyd y tu hwnt i ofalu, fel nad ydynt yn cael eu diffinio fel gofalwyr a dim arall, gan fod llawer o ofalwyr yn awyddus i weithio, i gymryd rhan ehangach yn y gymdeithas ac ati. Mae hyn yn seiliedig ar sut rydym yn nodi gofalwyr a'r gwaith a wnawn gyda meddygfeydd meddygon teulu, gyda fferyllfeydd, mewn ysgolion gyda'r pecyn cymorth i ysgolion, ac mae hefyd yn canolbwyntio ar y cymorth ychwanegol, gan gynnwys cymorth seibiant hyblyg, y gallwn ei roi i ofalwyr yn y dyfodol. Mae hon yn daith rydym arni, nid cynnyrch terfynol, oherwydd mae'n rhaid inni barhau i wella'r canlyniadau. Ond o ran y gwerth o £8.1 biliwn sydd i ofalwyr—y fyddin enfawr o ofalwyr sydd ar gael—nid yw'n ymwneud yn unig â'u gwerth ariannol, ond caiff ei fesur hefyd mewn tosturi a thrwy'r cariad a roddant, a gobeithio y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar hyn yn rhoi'r cyfeiriad teithio sydd ei angen arnom yn y Llywodraeth ac yma yn y Cynulliad ar gyfer gwella bywydau gofalwyr.

14:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm y bore yma gyda grŵp a fynegodd bryder ynglŷn ag oesoffagws Barrett, sef cyflwr a all arwain at ganser os nad yw'n cael ei drin. Ond mae modd defnyddio triniaeth o'r enw abladiad radio-amledd i drin y cyflwr cyn iddo arwain at ganser. Mewn gwirionedd, fe'i profwyd yn glinigol ac mae manteision y driniaeth o ran cost yn glir iawn. Ond nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael yng Nghymru, felly mae'n rhaid i gleifion fynd i Loegr. Nawr, mae costau darparu triniaeth yn Lloegr, a delir gan y GIG yng Nghymru, wedi cynyddu'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf—cynnydd o tua 150 y cant. Felly, mae diffyg mynediad at y dechnoleg hon yng Nghymru yn costio mwy a mwy i'r GIG yma. A allwch ddweud wrthyf beth yw'r rhwystr sy'n atal y gwasanaeth hwnnw rhag cael ei ddarparu yng Nghymru? Ac a allwch roi gwybod i mi a'r Cynulliad am y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ddarparu triniaeth abladiad radio-amledd yng Nghymru cyn gynted â phosibl?

Gallaf, rwy'n falch o ymateb i hyn. Mewn gwirionedd, rwyf wedi cael gohebiaeth uniongyrchol gan un o fy etholwyr ar y mater hwn, a chan grŵp buddiant ehangach, a thrwy gyd-ddigwyddiad, ddydd Sadwrn, ym Margam, cefais y pleser o gyfarfod â phobl o Gymdeithas Gastroenteroleg Bangladesh. Cyfarfûm hefyd â llywydd Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain, a ddywedodd ei fod yn bwriadu ysgrifennu ataf ynglŷn â'r mater penodol hwn cyn bo hir. Oherwydd rwy'n cydnabod bod triniaeth a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gael a'n bod yn ei chomisiynu dros y ffin ar hyn o bryd, yn enwedig yn ne Cymru. Credwn bellach y gallem ac y dylem allu darparu'r gwasanaeth yma yng Nghymru. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn arwain y gwaith ar hynny er mwyn darparu'r gwasanaeth hwnnw. Rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y dyfodol ynglŷn â lle y gall fod yn fwy eglur ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer gwneud hynny, ond rwy'n disgwyl y gall y driniaeth honno fod ar gael yn briodol, fel yr awgryma'r dystiolaeth, ac i sicrhau ei bod ar gael yma yng Nghymru, yn hytrach na pharhau i orfod comisiynu gwasanaeth dros y ffin.

Ydy, mae hynny'n gadarnhaol. Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gan droi at fater arall sy'n ymwneud ag arafwch y broses o gyflwyno technolegau newydd, sef y defnydd o MRI amlbarametrig i wneud diagnosis o ganser y prostad, fe fyddwch yn gwybod—yn gwybod yn iawn—mai'r consensws clinigol yw bod hyn yn newid go iawn yn y broses o wneud diagnosis o ganser y prostad. Ond dau fwrdd iechyd yng Nghymru yn unig sy'n darparu mpMRI o safon ddigon uchel i osgoi'r angen am fiopsi. Y canlyniad yw bod llawer o ddynion wedi dewis—wedi cael eu gorfodi, i bob pwrpas—i dalu £900 a mwy am sganiau mpMRI preifat.

Nawr, pan ofynnwyd i chi am hyn o'r blaen, fe ddywedoch eich bod yn aros am y canllawiau diweddaraf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ond ni fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac ar yr un pryd, mae Lloegr a'r Alban wedi cyflwyno hyn ar sail gyffredinol. Nawr, mewn achosion lle rwy'n amau eich bod yn gwybod, a dweud y gwir, mai casgliad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fydd argymell bwrw ymlaen â hyn, a lle mae gwasanaethau eraill y GIG yn y DU yn defnyddio technolegau newydd—pam eich bod yn fodlon i gleifion yng Nghymru aros tan y dyfarniad ac i aros wedyn iddo gael ei weithredu?

Wel, nid wyf yn cytuno â'i grynodeb o'r sefyllfa. Yn benodol, y cyngor clir iawn rwyf wedi'i gael yw nad yw'r gwasanaeth hwn ar gael yn gyson yn Lloegr. Nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa yn yr Alban, ond nid yw ar gael ym mhob rhan o'r GIG yn Lloegr, ac nid oes gennym gonsensws clinigol eto. Dywed nifer o gefnogwyr ei fod yn newid sylweddol; nid dyna yw safbwynt y consensws clinigol eto. Gall hynny ddod naill ai yn sgil arweiniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu gallai ddod gan fwrdd wroleg Cymru, sy'n archwilio'r mater ar hyn o bryd. Pe bai bwrdd wroleg Cymru yn rhoi cyngor inni, byddai hynny wedyn yn pwyso ar y sail dros gonsensws clinigol a gallem gael gwasanaeth sy'n cael ei gynllunio a'i ddarparu ledled y wlad, yn hytrach na'r cynlluniau braenaru sydd ar waith ar hyn o bryd mewn dau o'r byrddau iechyd, sydd, wrth gwrs, yn ychwanegu at ein sylfaen dystiolaeth. Felly, hoffwn weld y mater yn cael ei ddatrys fel y gallwn ddeall a oes consensws clinigol. Yna, fel rwyf wedi'i ddweud ar sawl achlysur, os bydd y dystiolaeth a'r cyngor yn newid, buaswn yn disgwyl i'n system gofal iechyd weithredu yn unol â'r dystiolaeth a'r cyngor gorau sydd ar gael i ni.

14:40

Mae'r holl dystiolaeth rwyf wedi'i gweld yn awgrymu ein bod eisoes yn gwybod yr hyn sydd angen inni wybod—fod hon yn driniaeth a allai achub bywydau.

Nawr, roedd yr adolygiad seneddol diweddar yn pwysleisio'r rôl y gall technolegau newydd ei chwarae wrth ddarparu triniaeth yn nes at adref, gyda'r pwyslais ar iechyd ataliol drwy ddiagnosis cynharach. Mae'r ddwy enghraifft a roddais heddiw yn achosion lle y dylai ein GIG, yn fy marn i, fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth fabwysiadu technoleg newydd i gyflawni'r dibenion hyn. Bydd aros am y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a'u llwyth gwaith enfawr sy'n golygu nad oes modd iddynt ddal i fyny â phopeth, yn dod yn fwy o broblem dros amser. Felly, a wnewch chi ystyried ailasesu ymagwedd eich Llywodraeth tuag at gyflwyno technoleg cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y gall triniaethau yng Nghymru barhau neu fod ar flaen y gad, a bod cleifion yng Nghymru yn cael y driniaeth orau sy'n bosibl?

Mae gennym Technoleg Iechyd Cymru er mwyn gwneud yn union hynny, Ddirprwy Lywydd, yn yr un modd ag y mae gennym Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru i'n caniatáu i gael mynediad cyflymach at y broses o arfarnu meddyginiaethau newydd hefyd. Felly, mae gennym broses ar gael inni mewn perthynas â thechnoleg newydd, yn hytrach na meddyginiaethau newydd. A chyda phob parch, gallai bwrdd wroleg Cymru sicrhau consensws clinigol ar yr mpMRI yn awr pe baent yn darparu'r cyngor hwnnw i ni. Pe baent yn darparu'r consensws clinigol hwnnw, byddai gennym le gwahanol i weithredu.

Mae'n iawn i wleidyddion gael eu perswadio ynglŷn â'r hyn y credant sy'n iawn, ond mewn gwirionedd, credaf fod arnom angen consensws clinigol priodol ar y ffordd ymlaen er mwyn cynnal y gwasanaeth cyhoeddus sylweddol hwn. Mae gennym ffordd o wneud hynny eisoes, ond mae gennyf bob amser ddiddordeb mewn gweld a allwn wella'r ffordd rydym yn gwneud y dewisiadau hynny, gan mai rhan o fy rhwystredigaeth reolaidd—ac fe'i hategir gan yr adolygiad seneddol a'r cynllun sydd gennym—yw bod y broses o newid y ffordd y mae ein system gofal iechyd yn cyflawni ac yn gwella yn rhy araf o lawer. Felly, dyna pam mai'r nod deublyg yw sicrhau cyflymder a maint y newid a'r trawsnewid y mae pob un ohonom yn cydnabod sydd ei angen.

Gwasanaethau Iechyd yn Sir Drefaldwyn

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ52401

Diolch am y cwestiwn. Darperir gwasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn gan dîm ymroddedig o staff sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer eu poblogaeth leol mor agos i'r cartref â phosibl.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cytuno bod y staff sy'n gweithio yn Sir Drefaldwyn yn ymroddedig iawn. Bydd newidiadau mawr mewn byrddau iechyd cyfagos yn swydd Amwythig ac ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn arwain at symud rhai gwasanaethau ymhellach oddi wrth bobl Sir Drefaldwyn. Gwn ichi ymweld â'r Trallwng yn ddiweddar, a gwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, y byddwch yn ymweld â Llanidloes cyn bo hir. A gaf fi ofyn pa gamau rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn drwy ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gymuned i wasanaethu pobl fy etholaeth?

Credaf fod Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys wedi bod yn arbennig o flaengar, nid yn unig o ran eu partneriaeth gyda'r cyngor, ond o ran y ffordd y maent yn ceisio datblygu cyfleusterau i ddarparu cymaint o ofal â phosibl o fewn y sir, yn ogystal, wrth gwrs, â chomisiynu gofal gan ddarparwyr eraill yng Nghymru a dros y ffin yn Lloegr.

Rwy'n cydnabod bod ymgynghoriad Future Fit yn peri cryn bryder, yma ac yn Lloegr yn wir, ac felly buaswn yn annog trigolion Sir Drefaldwyn, a thrigolion Brycheiniog a Sir Faesyfed yn wir, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sydd ar waith. Mae bwrdd iechyd Powys yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus i geisio hyrwyddo'r ymgynghoriad ac i annog pobl i gymryd rhan. Credaf fod Powys wedi bod yn bartner da i fyrddau iechyd eraill drwy ei gwneud yn glir eu bod yn deall anghenion cleifion Powys, a bydd angen iddynt ystyried ac ailystyried ble mae'r dystiolaeth ynglŷn â'r lle gorau i drigolion Powys gael gofal iechyd—boed yn ofal iechyd lleol neu'n ofal ysbyty. Ond credaf fod gan Bowys stori dda i'w hadrodd am ddarparu ystod eang o wasanaethau cymunedol, a'r awydd i ddarparu cymaint o ofal â phosibl yn y gymuned, ac mewn sawl ffordd, mae angen i weddill Cymru edrych ar Bowys a deall sut y gallent hwy fod yn debycach i Bowys o ran darparu gofal iechyd lleol.

Gwasanaeth Hunaniaeth Rhywedd i Gymru

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i Gymru? OAQ52424

Diolch am y cwestiwn. Teimlaf yn gryf y dylai pobl drawsryweddol allu diwallu eu hanghenion gofal iechyd mor agos i'w cartrefi â phosibl. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i wella gofal i bobl drawsryweddol yng Nghymru, drwy ofal sylfaenol a gofal eilaidd. Yn ychwanegol at y gwelliannau a amlinellwyd yn fy natganiad ysgrifenedig diweddar, gallaf gadarnhau bod yr uwch-glinigydd ar gyfer tîm hunaniaeth rhywedd Cymru bellach yn ei swydd.

Mae'n gwbl annerbyniol fod oedi o 12 mis wedi bod cyn cyflwyno'r gwasanaeth newydd yma ac mae hyn yn creu problemau gydag anghysondeb yn yr wybodaeth sy'n cael ei rhoi i bobl sydd eisiau'r gwasanaeth, gyda rhai yn cael gwybod nad oes gwasanaeth ar gael, tra, mewn gwirionedd, fod y clinig yn Llundain yn parhau ar gael i bobl o Gymru tan fod y gwasanaeth newydd ar ei thraed. A wnewch chi esbonio pam mae yna oedi, ac a wnewch chi sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhannu efo pobl sy’n holi am wasanaethau hunaniaeth rhywedd yn y cyfnod trosiannol yma?

14:45

Ie. Mae hwn yn destun pryder go iawn i bobl ledled Cymru, ac rwy'n rhwystredig iawn oherwydd yr amser y mae hyn wedi'i gymryd i ni hyd yma. Hoffwn weld cynnydd yn digwydd yn gyflymach o lawer yn y dyfodol. Mae rhywfaint o hynny wedi ymwneud â recriwtio'r staff cywir yn y lle cywir, ond a dweud y gwir, nid yw'r rhwystredigaethau, rwy'n teimlo, yn cymharu â rhai'r bobl y tarfwyd ar eu gofal iechyd. Dyna yw pwynt hyn. Rwy'n anhapus iawn ynglŷn â'r modd y tarfwyd ar ffyrdd presennol rhai pobl o gael gofal iechyd yng Nghymru. Nid oes unrhyw reswm o gwbl dros ddefnyddio unrhyw un o'r cyhoeddiadau a wneuthum fel rheswm i wneud gwasanaethau iechyd yn llai hygyrch. Nid yw'r gwelliannau rwy'n eu disgwyl ym maes gofal sylfaenol, a bod yn onest, yn ddim byd mwy nag y mae unrhyw un ohonom yn eu disgwyl ein hunain—cael anghenion gofal iechyd sylfaenol arferol wedi eu darparu o fewn ein cymuned leol.

Rydym yn cyrraedd pwynt lle mae gennym ateb i ddarparu'r angen gofal iechyd lleol hwnnw ar sail gyson. Ni ddylai neb roi'r gorau i drin cleifion yn y ffordd y maent yn cael mynediad at ofal ar hyn o bryd, ac yn wir, y gofal arbenigol, rydym yn disgwyl y bydd mwy o hwnnw'n cael ei ddarparu yng Nghymru yn y dyfodol, a dylai'r uwch-glinigydd yn nhîm rhywedd Cymru allu helpu i wneud cynnydd ar hynny eisoes. Felly, rwy'n anhapus ynglŷn â'n diffyg cynnydd. Rwy'n parhau i gyfarfod â phobl o'r gymuned drawsryweddol a gohebu â hwy ac yn wir, bydd ein gwasanaeth gofal iechyd yn parhau i gyfarfod â rhanddeiliaid a'r bobl bwysicaf wrth gwrs—y bobl drawsryweddol eu hunain.

Ysgrifennydd y Cabinet, bydd datblygiad y gwasanaeth hunaniaeth o ran rhywedd ar gyfer Cymru yn ei gwneud yn haws o lawer i bobl drawsryweddol gael mynediad at wasanaethau a chymorth lleol, heb orfod teithio ymhellach i ffwrdd. A allwch chi ddweud ychydig mwy am eich ymrwymiad i sefydlu rhwydwaith o feddygon teulu ag arbenigedd penodol mewn hunaniaeth o ran rhywedd i sicrhau mynediad lleol? Rydych wedi cyffwrdd â hyn yn fras gyda Siân Gwenllian. Yn amlwg, mae'n faes pwysig. A allwch chi ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y byddech yn gweld hwnnw'n gweithredu'n ymarferol?

Gallaf. Rydym eisoes wedi cytuno i roi arian i rywun gael eu cyflogi gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro Bwrdd i ymateb i'r anghenion presgripsiynu uniongyrchol, oherwydd dyna yn aml yw'r wasgfa go iawn, lle nad yw rhai meddygon teulu yn teimlo'n hyderus i bresgripsiynu ar ôl i wasanaeth ysbyty ddechrau triniaeth. Yn y pen draw, dylem gyrraedd pwynt lle mae gennym rwydwaith ehangach, ond y pwynt cyntaf fydd sicrhau bod meddyg teulu cyflogedig, a gyflogir yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, ar gael i lenwi'r bwlch rydym yn cydnabod sy'n bodoli ar hyn o bryd gan ein bod eisiau datblygu'r gwasanaeth ehangach hwnnw, oherwydd, fel y dywedaf, mae hwn yn angen gofal iechyd rheolaidd y dylem allu ei ddiwallu mewn gofal iechyd lleol, ac nid yw'n beth da nad yw ein gwasanaeth wedi gallu gwneud hynny hyd yma.

Diffibrilwyr

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid ar gyfer diffibrilwyr? OAQ52422

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, byrddau iechyd ac elusennau i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a gosod diffibrilwyr mynediad cyhoeddus mewn adeiladau ledled Cymru.

Mae yna sawl datblygiad wedi bod yn fy etholaeth i yn ddiweddar o gyflwyno peiriannu diffibrilio, ac mae'r rheini wedi cael eu croesawu mewn cymunedau ar hyd yr ynys, wrth gwrs, gan eu bod nhw'n cynnig diogelwch mewn achos o anhwylder calon, ac mae yna ymdrechion, wrth gwrs, i gyflwyno rhagor o beiriannau fel hyn. Y diweddaraf ydy'r cais i gael peiriant i gyd-fynd â chyflwyno park run newydd yn Ynys Môn ar gyfer pobl ifanc, yn y gobaith o allu sicrhau'r gefnogaeth diogelwch i redwyr. Yr elusennau, yn aml iawn, sy’n cyfrannu tuag at beiriannau o’r math yma, ond a allwch chi fel Llywodraeth chwilio am ffyrdd newydd i ddarparu cymorth ariannol gan fod hwn yn rhywbeth sy’n cael ei yrru gan gymunedau ac sy’n haeddu cefnogaeth gan y Llywodraeth yn hynny o beth?

Diolch i chi am y cwestiwn. Yn rhyfedd ddigon, roeddwn mewn man yn fy etholaeth yn ddiweddar lle roedd rhywun a gafodd eu cymell gan eu profiad eu hunain o'r gwasanaeth iechyd wedi mynd ati i godi arian i ddarparu diffibrilwyr—un yn ysgol uwchradd Eastern High sydd newydd agor yn Trowbridge yn ddiweddar, a'r llall yng nghlwb bocsio Phoenix yn Llanrhymni. Ac felly, ceir amrywiaeth o bobl sy'n hollol ymrwymedig i wneud hyn, ac yn yr un modd, yn y sector elusennol, ceir amrywiaeth eang o elusennau sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o ddiffibrilwyr ar gael a gwneud yn siŵr eu bod ar gael i'r cyhoedd, ac mae'r bartneriaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn helpu i wneud yn siŵr fod y diffibrilwyr mynediad cyhoeddus hynny ar gael ac i'w defnyddio.

Felly, mae'r her bob amser yn ymwneud â faint, lle a phryd, a hefyd lle mae rôl y Llywodraeth o ran sicrhau bod y rheini ar gael. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa o arian. Nid ydym wedi gweld arian canlyniadol ar gyfer y gronfa honno, ond mae angen i ni feddwl eto ynglŷn â sut y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn parhau i weld mwy o ddiffibrilwyr yn cael eu defnyddio ac yn wir, sut y mae hynny'n cysylltu â'r cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty i sicrhau bod yr offer achub bywyd hwn, sy'n gymharol hawdd i'w ddefnyddio, nid yn unig ar gael ond yn cael ei ddefnyddio i helpu i achub bywydau pobl mewn gwirionedd.

14:50

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd groesawu eich ateb a'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan gynifer o gymunedau sydd wedi mynd i'r afael â'r hyn mewn gwirionedd ac wedi sefydlu diffibrilwyr yn y cymunedau hynny, ac sydd wedi codi'r arian, wedi cefnogi'r hyfforddiant, ac ati, er mwyn iddynt weithredu? Yn fy etholaeth i, mewn un ardal yn Nhonyrefail, bellach mae gennym 20 o ddiffibrilwyr wedi'u sefydlu gan gymunedau. Maent i'w cael ar bolion lampau, maent i'w cael mewn siopau, mae un y tu allan i fwyty cyri, a chefais fy sicrhau mai'r rheswm am hynny oedd oherwydd ei fod angen y cysylltiad trydan yno. Ond mae'n dangos beth y gall cymunedau ei wneud, ac mae'n dangos cryfder ein cymunedau.

Mae'n debyg mai'r mater a fyddai'n peri rhywfaint o bryder, wrth gwrs, yw bod hynny'n iawn pan fo gennych y gymuned yn barod i wneud hynny, ond yr hyn na fyddem eisiau ei weld yw bylchau o amgylch y wlad lle mae gan rai ddiffibrilwyr a rhai heb ddiffibrilwyr. Efallai mai'r hyn y dylem ei wneud mewn gwirionedd yw ceisio cael darlun ehangach o'r sefyllfa mewn perthynas â lledaeniad diffibrilwyr ac edrych ar ffyrdd y gallwn annog lledaeniad mwy o ddiffibrilwyr yn yr ardaloedd nad ydynt wedi llwyddo i wneud hynny eto.

Ie, ac rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â Thonyrefail gyda grŵp o godwyr arian cymunedol, ac yn benodol gwaith y ddwy elusen sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, Cariad a Calonnau Cymru, ond yn amlwg mae gan Sefydliad Prydeinig y Galon ddiddordeb mewn sicrhau bod mwy o ddiffibrilwyr ar gael yn hygyrch i'r cyhoedd.

A dyna pam fod y bartneriaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn bwysig, i ddeall lle y maent, fel eu bod ar gael pan fydd rhywun angen un, ond hefyd i ddeall, os oes rhannau o Gymru lle y ceir bwlch yn y ddarpariaeth ac yn yr un modd, o ran adeiladau cyhoeddus, y gallwn fuddsoddi o'r pwrs cyhoeddus i wneud yn siŵr fod yna ddiffibrilwyr ar gael hefyd.

Dylwn wneud pwynt yma oherwydd, mewn trafodaethau diweddar ynglŷn â diffibrilwyr, mae nifer y diffibrilwyr sy'n cael eu fandaleiddio a'u dwyn wedi fy arswydo. Ac mae rhywbeth ynglŷn â chefnogi gwaith pobl sy'n codi arian i'w cael, ac yna eu gweld yn cael eu cynnal hefyd, fel y mae Cariad a Calonnau Cymru yn ei wneud, rwy'n siŵr, ond hefyd ei gwneud yn glir fod dwyn a fandaleiddio offer achub bywyd, fel sy'n digwydd yn llawer rhy aml yn anffodus, yn hollol annerbyniol.

Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i blant? OAQ52393

Ein blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru yw helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd lle y bo'n bosibl, gan osgoi'r angen am ofal. Felly, mae rhaglenni fel Dechrau'n Deg a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn darparu cymorth cynnar, cymorth emosiynol a chymorth ymarferol i'r teuluoedd hynny fel y gall pob plentyn yng Nghymru fwynhau'r un cyfleoedd mewn bywyd.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb? Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol i blant a bod y gost a'r angen am wasanaethau plant wedi cynyddu'n sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf, ac yn sicr dros yr 20 mlynedd diwethaf. Hefyd, nid yw gwasanaethau cymdeithasol yn golygu gofal cymdeithasol i'r henoed yn unig, fel sy'n cael ei ystyried yn eithaf aml yn y lle hwn.

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wasanaethau cymdeithasol i blant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru?

Rwy'n falch o nodi, Mike, fod ein cyllid awdurdod lleol tuag at wariant gwasanaethau i blant a theuluoedd wedi cynyddu 24 y cant, mewn gwirionedd, dros y cyfnod o bum mlynedd rhwng 2012-13 a 2016-17. Mae wedi cynyddu o £467 miliwn i £577 miliwn, ond wrth gwrs, mae hynny ochr yn ochr â'r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn pethau megis Dechrau'n Deg, ac agweddau eraill ar gyllid yn ogystal.

A diolch i chi, Mike, am ein hymweliad yn ddiweddar â chanolfan gymunedol Cwtch yn Eglwys Teilo Sant yn ogystal. Roedd yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd mewn ardal sydd o dan rywfaint o anfantais yn ogystal, ond sy'n sicrhau amrywiaeth o ddarpariaeth ar gyfer teuluoedd a phlant sy'n ticio llawer o flychau ar yr un pryd. Ac wrth gwrs, yr agwedd arall o ran Abertawe yw eu cynnydd sylweddol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ond ar eu liwt eu hunain mewn gwirionedd, mewn perthynas â nifer y plant sy'n derbyn gofal sydd bellach wedi gostwng, o 585 i 480 dros y pedair blynedd diwethaf. Mae rhaglen wella wedi bod ar waith ganddynt, ac mae'n dangos manteision go iawn mewn gwirionedd, ac efallai y byddwn yn gallu dysgu gwersi o'r hyn y mae Abertawe yn ei wneud i leihau nifer y plant sy'n dod i dderbyn gofal yn ddiogel drwy feddwl yn greadigol ac yn ddeallus ar lawr gwlad. Os gall un awdurdod lleol ei wneud, yna gallai llawer o rai eraill ei wneud hefyd.

14:55
Gwasanaethau Meddygaeth Cwsg

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygaeth cwsg? OAQ52398

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd meddygaeth cwsg, ac mae ein dull gweithredu wedi'i nodi yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer iechyd anadlol. Cafodd y cynllun hwnnw ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi ym mis Ionawr eleni. Mae'n cynnwys ffrwd waith genedlaethol ar gyfer gwella meddygaeth cwsg.

Diolch i chi am yr ateb, ac rwy'n croesawu'r gwaith a wnaed ar rywbeth nad yw ei bwysigrwydd wedi ei gydnabod yn ddigonol o bosibl. Gwn fod cwestiynau blaenorol wedi bod, gan Llyr Gruffydd ac eraill rwy'n credu, ynglŷn â'r pwnc penodol hwn. Rwyf wedi derbyn nifer o sylwadau, oherwydd er bod apnoea cwsg a narcolepsi yn cael cydnabyddiaeth yn arbennig, nid yw'r rheini ond yn ddau o'r 70 o anhwylderau cysgu amrywiol a all gael effaith sylweddol iawn ar allu pobl i weithio, ond hefyd i fyw bywydau cyffredin. Un o'r sylwadau a gefais yw mai Cymru yw'r unig wlad heb gyfleuster dynodedig i wneud diagnosis a rheoli anhwylderau cysgu cymhleth a bod lefel y gwasanaeth yn loteri cod post braidd ledled Cymru o ran y ffordd y mae'r gwasanaethau'n gweithredu. Tybed a yw hynny'n rhywbeth y gallai Ysgrifennydd y Cabinet edrych arno'n fanylach a mynd i'r afael ag ef, a gwn y bydd hefyd wedi derbyn sylwadau meddygol penodol ar y mater hwn.

Yn wir, rwyf wedi cael gohebiaeth ar y mater hwn yn uniongyrchol, ac mae'n rhan o'r hyn y mae'r grŵp gwella iechyd anadlol yn edrych arno, oherwydd, fel y dywedwch, mae anhwylderau cysgu yn bodoli, a'r rhai mwyaf cyffredin rydym yn sôn amdanynt yw narcolepsi ac apnoea cwsg. Ceir rhai eraill, ac maent yn cael effaith go iawn ar allu pobl i fyw eu bywydau bob dydd. Felly, rydym yn edrych ar fwy o'r gwasanaethau sydd, er enghraifft, ar hyn o bryd yn cael eu darparu yn y ganolfan yn Ysbyty Nevill Hall yn Aneurin Bevan, a chawn weld ynglŷn â lledaeniad y gwasanaeth hwnnw a mynediad at y gwasanaeth o rannau eraill o Gymru, yn ogystal â deall beth arall sydd angen i ni ei wneud i leihau peth o'r amrywio rwy'n cydnabod sy'n bodoli hefyd. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r rhaglen waith o fewn y grŵp iechyd anadlol, ac felly rwy'n disgwyl y byddaf, dros y flwyddyn nesaf, yn gallu disgrifio i chi beth sy'n cael ei gynllunio yn ogystal â'r hyn sy'n cael ei wneud am hynny hefyd.FootnoteLink

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

10. Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? OAQ52404

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ddarparu'r gefnogaeth a'r her angenrheidiol wrth iddynt weithio i sicrhau bod eu gwasanaethau yn diwallu anghenion eu poblogaeth leol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Nawr, ym mis Medi 2016, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ei wneud yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru. Y rheswm am hyn oedd oherwydd pryderon sylweddol ar y pryd ynghylch gofal heb ei drefnu, gofal canser a gofal wedi'i gynllunio, ymhlith eraill, fel y gwyddoch yn iawn. Er gwaethaf bron i ddwy flynedd o ffocws gan Lywodraeth Cymru, mae'n amlwg fod llawer o wasanaethau nid yn unig wedi methu gwella, ond wedi cymryd cam yn ôl mewn gwirionedd: mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys, gofal cleifion canser penodol, a pherfformiad gofal wedi'i gynllunio yn erbyn y targed 26 wythnos i gyd wedi cymryd cam yn ôl. Nawr, mae hyn yn amlwg yn codi cwestiynau o ran pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac rwy'n credu bod angen craffu ar hyn. A wnewch chi ymrwymo, felly, i gyflwyno datganiad Llywodraeth yma yn y Siambr fel y gallwn drafod y cymorth a ddarperir a'r heriau a wynebir yn fwy manwl?

Wel, nid wyf am ymrwymo i ddarparu datganiad; yr hyn rwyf am ymrwymo iddo yw fy mod yn hapus i wneud yn siŵr fod yr Aelodau'n cael gwybod am y cymorth sydd ar gael yn ogystal â chynnydd, neu fel arall, Bwrdd Iechyd ABM, oherwydd rydych yn gywir i ddweud bod yna heriau o ran perfformiad gofal heb ei drefnu a gofal canser yn arbennig. Rwy'n falch fod tuedd i wella wedi bod yn ystod y flwyddyn hon o ran gofal heb ei drefnu, gyda mwy i'w wneud eto i gynnal y sefyllfa gyda gofal canser yn ogystal. Felly, rwy'n fwy na pharod i ddod yn ôl ar y meysydd gwella, ond hefyd, o'r cwestiwn cyntaf a ofynnwyd heddiw, i nodi gwelliant yn eu sefyllfa ariannol. Rwy'n disgwyl y bydd hynny'n gwella, ac o ran gofal heb ei drefnu hefyd, yn sicr rwy'n disgwyl y byddwn mewn sefyllfa i gyhoeddi targed gwella o'r un a oedd ganddynt ar ddechrau'r flwyddyn, a pherfformiad gwell yn wir. Ond ceir amrywiaeth o feysydd lle mae gan ABM stori bwysig a chadarnhaol i'w hadrodd hefyd, fel pob rhan arall o'r gwasanaeth iechyd.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Daeth Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 i rym ar 1 Gorffennaf 1948. Hoffwn ddathlu pen blwydd y ddeddfwriaeth arloesol hon yn 70 oed. Ystyrir Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 yn sylfaen statudol i gynllunio ffisegol ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Sefydlodd y Ddeddf y ddarpariaeth gynllunio sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu tir. Nid oedd perchnogaeth yn unig bellach yn rhoi hawl i ddatblygu'r tir. Er mwyn rheoli hyn, roedd y Ddeddf yn ad-drefnu'r system gynllunio o 1,400 o awdurdodau cynllunio i 145, wedi'u ffurfio o gynghorau sir a bwrdeistref, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt baratoi cynllun datblygu cynhwysfawr. Ar ben hynny, rhoddwyd pwerau iddynt reoli hysbysebion awyr agored, ac i ddiogelu coetiroedd neu adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, sef dechrau'r system fodern o adeiladau rhestredig rydym yn gyfarwydd â hi heddiw. Er bod y llythyrau a anfonir at holl Aelodau'r Cynulliad a'r Senedd, a chynghorwyr, yn llawn o wrthwynebiadau a chefnogaeth i geisiadau cynllunio, Deddf 1947 oedd dechrau'r broses o ddarparu cynllunio fel rydym yn ei adnabod yn awr—deddfwriaeth flaengar a phwysig arall gan Lywodraeth Lafur 1945-51.

15:00
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6754 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6753 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 27 Mehefin 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Iawn. Mae'n ddrwg gennyf; mae wedi'i ysgrifennu. Felly, y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, cawn bleidlais ar hyn. Mae'n rhaid i'r bleidlais ddigwydd yn awr, oni bai bod tri Aelod—[Torri ar draws.] Canu'r gloch? Tri Aelod? Mae tri Aelod yn dangos eu bod eisiau canu'r gloch. Diolch. Canwch y gloch, os gwelwch yn dda.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

15:05

Rydym am symud i bleidlais. Y bleidlais yw atal y Rheolau Sefydlog. Felly, rwyf am alw am bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, roedd 4 yn ymatal, a 9 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog: O blaid: 35, Yn erbyn: 9, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

5. Dadl ar NNDM6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Felly, symudwn at eitem 5, sef dadl ar gynnig diwrnod heb ei enwi 6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Galwaf ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NNDM6753 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn datgan nad oes ganddo bellach hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni proseictau seilwaith mawr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe.

2. Yn datgan nad oes ganddo hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn credu y dylai’r swydd gael ei dileu a’i disodli gan gyngor Gweinidogion y DU, wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y cyd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi, yn gyntaf oll, ddiolch i'r Cynulliad am ganiatáu i ni drafod y cynnig diwrnod heb ei enwi yn awr? O ystyried y digwyddiadau dros yr wythnos ddiwethaf a phenderfyniadau Llywodraeth San Steffan, credaf ei bod hi'n briodol i ni drafod y cynnig hwn. Deallaf na fydd pawb yn cefnogi cynnwys y cynnig, a cheir gwelliannau ger ein bron, ond credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn caniatáu i'n hunain drafod y cynnig o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol.

Pan gyflwynais y cynnig, wrth gwrs, nid oeddwn yn meddwl y byddem yn cael dau gynnig o ddiffyg hyder ar yr un diwrnod mewn perthynas â'r Blaid Geidwadol, ond mae'n ymddangos mai dyna fel y mae. Ond rydym ni yma i farnu cyfrifoldeb un dyn, a chyfrifoldeb un dyn i gyflawni ymrwymiadau maniffesto, a dyna rwyf am farnu'r Ysgrifennydd Gwladol arno—ymrwymiad yn 2015 i fuddsoddi mewn dau ddarn mawr o seilwaith yng Nghymru, buddsoddiad o dros £2 biliwn: trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd a chefnogi'r morlyn llanw. Yn fwy na hynny, roedd yna ymrwymiad yn y maniffesto y safodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru arno, ac y cafodd ei ethol arno, i orffen y gwaith trydaneiddio a chefnogi'r morlyn llanw.

Ers maniffesto 2015, mae amgylchiadau wedi newid, do, a llawer ohonynt wedi'u creu gan y Llywodraeth Geidwadol ei hun, wrth gwrs, wrth alw am refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid oes un o'r buddsoddiadau mawr hynny wedi'u gwneud, ac mae hynny'n codi cwestiynau, nid yn unig ynglŷn â gair yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun ond ynglŷn â gwleidyddiaeth yn fwy eang, rwy'n credu—pob un ohonom sy'n sefyll etholiad ar faniffestos. Rwyf wedi gweld rhai o'r ymatebion gan fy etholwyr ynglŷn â hyn yr wythnos hon, ac maent yn teimlo bellach nad oes unrhyw un yn gwrando arnynt ac y gellir torri ymrwymiadau ac addewidion maniffesto yn ddi-wahân, nid gan wrthbleidiau, nid gan bleidiau bach, nid gan eraill, ond gan bleidiau sydd wedi bod mewn Llywodraeth ers nifer o flynyddoedd.

Mae'r methiant hwnnw i gyflawni wedi ein gadael mewn sefyllfa gas iawn yn y Cynulliad hwn, oherwydd roeddem eisiau i'r prosiectau hyn gyflawni ar ein cyfer, roedd Llywodraeth Cymru eisiau gweithio gyda'r prosiectau hyn, roedd Llywodraeth Cymru yn barod i gydfuddsoddi yn y prosiectau hyn, ac roedd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar waith er budd Cymru gyfan pan fyddai'r prosiectau hyn yn mynd rhagddynt, o ran trydaneiddio rheilffyrdd ac o ran y morlyn llanw. O ganlyniad i benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth San Steffan, ac i ryw raddau, o ran y ddadl hon heddiw, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw'r sawl sy'n atebol—mae'n bosibl nad ef yn bersonol a wnaeth rai o'r penderfyniadau hyn, yn yr ystyr fy mod yn deall mai'r Prif Weinidog a benderfynodd ganslo'r cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe—ond ef yw ein llais mwyaf uniongyrchol yn San Steffan. Ef sydd i fod yn llais Cymru yn y Cabinet, yr eiriolwr dros Gymru yn y Cabinet, a'r person y dylai hyn fod yn fater o ymrwymiad personol a chyfrifoldeb personol iddo ei gyflawni.

Os oes dau ymrwymiad yn eich maniffesto etholiad, ac mai chi yw'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol amdanynt, ac nid ydych yn eu cyflawni, a ydych yn parhau yn eich swydd? A ydych yn ymddiswyddo? A ydych yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennyf, methais â'u cyflawni'? A ydych yn ymddiswyddo fel arwydd eich bod yn anhapus â pherfformiad eich Llywodraeth eich hun? Rydym wedi cael ymddiswyddiadau yr wythnos hon gan aelodau o'r Llywodraeth, am resymau llai na hyn, mewn gwirionedd—ar egwyddor i bleidleisio yn erbyn penderfyniad cynllunio ar Heathrow, nad yw mor ddatblygedig â'r cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffyrdd a'r morlyn llanw hyd yn oed. Mae'r ffaith nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dewis gweithredu yn ysbryd yr hyn roedd Cymru ei eisiau, na dangos ei anfodlonrwydd gyda phenderfyniadau ei Lywodraeth ei hun—ac a bod yn deg, mae rhai o'r Aelodau gyferbyn â mi wedi gwneud hynny dros y dyddiau diwethaf—rwy'n credu bod hynny'n golygu y dylem wneud cynnig o ddiffyg hyder ynddo yma heddiw.

Nawr, wrth gwrs nad ydym yn gyfrifol am Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid yw'n atebol i ni, ac nid yw'n dod i'r Cynulliad mwyach hyd yn oed i roi ei araith flynyddol. [Torri ar draws.] Mewn eiliad, wrth gwrs. Roeddem yn iawn i gael gwared ar y drefn braidd yn anacronistig honno, ond ei lais ef yw ein hunig lais yn San Steffan, a ni yw llais pobl Cymru, felly mae'n gwbl briodol yn wleidyddol—nid yn gyfansoddiadol efallai, ond yn wleidyddol credaf ei bod yn gwbl briodol—ein bod yn trafod y cynnig ac yn ei basio yma heddiw.

15:10

Roeddwn am ddweud ei fod hefyd yn gwrthod dod i bwyllgorau i roi tystiolaeth.

Mae'n wir, ac yn fwyaf diweddar i'r pwyllgor y mae Mike Hedges yn aelod ohono, fel rwyf fi, y Pwyllgor Cyllid.

Nid wyf am restru methiannau un unigolyn yma. Mae llawer ohonynt, a gallwn eu rhestru—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser yn yr awr nesaf. Rwy'n canolbwyntio ar y ddau ymrwymiad mawr na lwyddodd i'w cyflawni, a oedd yn y maniffesto ac y dylai ef yn bersonol gymryd cyfrifoldeb drostynt. Credaf fod y lleill, a allai ddod yn amlwg yn y drafodaeth i ddod, yn bethau ar gyfer dadl. Nid ydynt yn ein rhoi mewn sefyllfa lle byddem eisiau pasio cynnig neu wneud cynnig o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol, ond mae'r ddau benderfyniad hwn yn ein rhoi yn y sefyllfa honno.

Gadewch i ni edrych yn benodol ar y penderfyniad ar forlyn llanw bae Abertawe, yr un mwyaf diweddar. Wrth wrthod y prosiect hwn, nid un prosiect morlyn yn unig a wrthodwyd. Yr hyn a wrthodwyd yw'r holl syniad o dechnoleg amrediad llanw. Cafodd ei wrthod ar sail eu hadroddiad annibynnol eu hunain a gomisiynwyd gan Weinidog ynni blaenorol ar botensial ynni amrediad llanw, nad oedd yn ymwneud â morlyn Abertawe yn unig—er iddo ddod i gasgliad penodol ar forlyn Abertawe—ond mewn gwirionedd, roedd yn adroddiad ar yr holl ynni amrediad llanw o gwmpas ynysoedd Prydain. Yng ngeiriau prif weithredwr Tidal Lagoon Power, mae'r penderfyniad i wrthod y morlyn

yn bleidlais o ddiffyg diddordeb yng Nghymru, diffyg hyder mewn gweithgynhyrchu ym Mhrydain, a diffyg gofal am y blaned.

O ystyried hynny, credaf mai diffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol yw'r ymateb lleiaf y gall y Cynulliad hwn ei wneud. Roedd y ffordd y cafodd y cyhoeddiad hwn ei wneud yn rhwbio ein hwynebau yn y baw, ac yn rhwbio halen ar y briw. Ar y diwrnod y cafodd y morlyn llanw ei wrthod, cymeradwywyd rhedfa ychwanegol gwerth £14 biliwn yn Heathrow, ac ar y diwrnod y gwrthodwyd y morlyn llanw, penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio ei gyfrwng cymdeithasol ei hun, cyfrif Twitter Swyddfa Cymru, i drydaru cyfres o femynnau plentynaidd ynglŷn â nifer truenus y swyddi a fyddai'n cael eu creu gan y morlyn llanw, a sut na fyddai'n gwneud hyn a'r llall ac arall, ar sail symiau a ffigurau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu nad ydynt yn gwneud synnwyr. Roeddent yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr; er enghraifft, roedd trydariad gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud na fyddai ond wedi creu 28 o swyddi hirdymor, a cheir ymrwymiad ym maniffesto 2015 sy'n dweud:

Bydd y prosiect hwn yn creu miloedd o swyddi ac yn denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Gymru.

[Torri ar draws.]—Rwyf am roi hynny i'r naill ochr. Dair blynedd ar wahân—pa un yw'r celwydd? Pa un yw'r celwydd—trydariad yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe neu'r ymrwymiad mewn maniffesto y cytunwyd arno, nid gan un unigolyn yn unig, ond gan y Blaid Geidwadol gyfan?

Mae Charles Hendry wedi nodi hyn ac wedi gwneud pwynt pwysig iawn yn ei ymateb ei hun i'r penderfyniad hwn. Dywedodd:

yn union fel nad yw gweithfeydd nwy a ffermydd gwynt ond yn creu nifer fach o swyddi hirdymor. Y pwynt yn y fan hon oedd a allwn ddechrau diwydiant byd-eang newydd o'r DU? Dechrau'n unig fyddai Abertawe.

Dechrau'n unig fyddai Abertawe. Nid un prosiect yn unig y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i ddwyn oddi arnom, ond dechrau technoleg gyfan, dechrau newydd i Abertawe ac i Gymru, dechrau marchnad allforio newydd, dechrau sylfaen weithgynhyrchu newydd, dechrau gobaith newydd i Tata Steel, dechrau gobaith newydd ar gyfer sgiliau a hyfforddiant yn ne Cymru. Dyna y mae wedi'i ddwyn oddi arnom, a dyna pam na ddylem roi unrhyw arwydd iddo fod gennym hyder o gwbl yn ei allu i wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Mae yna gefnogaeth gyhoeddus enfawr i'r morlyn—mae 76 y cant o bobl Prydain yn cefnogi ynni tonnau ac ynni'r llanw, o'i gymharu, fel y mae'n digwydd, â 38 y cant yn unig sy'n cefnogi ynni niwclear. Ac eto, nid yn unig y mae ynni niwclear yn cael y cymhorthdal contract gwahaniaeth—roedd y morlyn yn gofyn am yr un peth â Hinkley, wrth gwrs—ond mae hefyd yn cael cydfuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, rhywbeth yr oedd Llywodraeth Cymru, a bod yn deg, wedi'i gynnig i'r morlyn, ac a gafodd ei wrthod gan Lywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, mae gan fôr-lynnoedd llanw fywyd gweithredol gwahanol iawn a llawer hwy ac maent yn costio llai yn y tymor hir, fel y dywedodd Hendry yng nghasgliad ei adroddiad annibynnol. I'w roi yn y cyd-destun hwn, disgwylir y bydd prosiect braenaru, megis bae Abertawe, wedi'i ariannu drwy'r dull contract gwahaniaeth, sef 30c y flwyddyn ar bob bil, yn costio 30c i bob cartref ar gyfartaledd, fel y dywedais. Mae hyn, i mi, yn ymddangos yn bris bach iawn i'w dalu am dechnoleg newydd sy'n cynnig y manteision hynny ac sydd â photensial amlwg i ddechrau diwydiant newydd sylweddol. Mae symud ymlaen gyda morlyn braenaru, rwy'n credu, yn bolisi 'di-edifeirwch'.

Os ydym yn derbyn y penderfyniad hwn gan San Steffan, a chan yr Ysgrifennydd Gwladol yn benodol, os nad ydym yn sicrhau bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn edifar am ei benderfyniad, yna bydd y polisi 'di-edifeirwch' hwn yn troi'n benderfyniad trychinebus. Mae'n rhaid i ni fynnu ein hawliau yma i anfon neges glir at San Steffan. Fe roesant neges glir iawn i ni ddydd Mawrth. Dywedasant, 'Ewch, anghofiwch am fuddsoddi, anghofiwch am eich dyfodol, anghofiwch am y dechrau newydd hwn. Ewch a byddwch yn dawel.' Rhaid inni beidio â bod yn dawel yn wyneb y fath negeseuon cryf gan San Steffan a rhaid i ni anfon neges yr un mor gryf yn ôl at yr Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd weithiau mae'n rhaid i chi wneud gwleidyddiaeth yn bersonol, ac weithiau mae'n rhaid i chi sylweddoli bod y rheini sy'n ceisio bod yn bont ar gyfer gwireddu uchelgeisiau Cymru wedi cau'r drws yn glep ar yr uchelgeisiau Cymreig hynny mewn gwirionedd. Datgan nad oes gennym unrhyw hyder ynddo yw'r unig ffordd y gallwn wrthod ei ymgreinio a'i friwsion oddi ar fwrdd y DU a mynnu ein hawl ddemocrataidd i'n hadnoddau ein hunain a'n penderfyniadau ein hunain.

15:15

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Julie James

Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi yn ei le:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif linell rhwng Caerdydd ac Abertawe.

2. Yn gresynu at fethiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.

3. Yn credu:

a) bod rhaid sicrhau rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig;

b) bod angen diwygio peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio a’r broses o wneud penderfyniadau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn ei enw. Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyflawniadau sylweddol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n cynnwys:

a) y cytundeb â Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol hanesyddol;

b) diddymu tollau'r pontydd Hafren;

c) buddsoddiad sylweddol mewn bargeinion dinesig a bargeinion twf rhanbarthol ledled Cymru; a

d) y cyhoeddiad diweddar ynghylch negodiadau pellach i ddatblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd.

2. Yn nodi anallu Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnydd ar brosiectau seilwaith mawr ledled Cymru, yn dilyn ei phenderfyniad i wrthod Cylchffordd Cymru a'i methiant parhaus i gyflawni gwelliannau i'r M4, yr A40 a'r A55.

3. Yn credu bod swydd a swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hanfodol o ran cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Llywodraeth y DU.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. 

Rwy'n siomedig fod y cynnig hwn wedi'i gyflwyno gan Blaid Cymru heddiw, ac rwy'n drist eu bod yn chwarae gwleidyddiaeth plaid â'r mater penodol hwn. Ni fydd yn syndod i'r Aelodau y bydd fy nghyfraniad yn canolbwyntio ar rai o'r cyfraniadau cadarnhaol y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'u gwneud dros Gymru. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu nad yw'r Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr yn siomedig iawn gyda'r cyhoeddiad diweddar am y morlyn llanw, ac mae fy nghyd-Aelodau wedi ei gwneud yn gwbl glir ein bod yn rhannu'r siom a'r rhwystredigaeth a adleisiwyd gan Aelodau eraill yn y Siambr hon. Yn wir, fel Aelod sy'n cynrychioli ardal lle mae datblygiadau ynni llanw yn gwneud cynnydd sylweddol, rwy'n cydnabod gwerth posibl y morlyn llanw. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli bod gan Weinidogion y Llywodraeth ddyletswydd i sicrhau bod y ffigurau'n gwneud synnwyr a sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr, ac mae'n amlwg eu bod yn teimlo nad oeddent yn gallu gwneud hynny gyda'r prosiect hwn. Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar fodel diwygiedig sy'n gwneud y prosiect yn fwy costeffeithiol ac yn fwy deniadol i fuddsoddiad gan y sector preifat.

Fodd bynnag, ni chyflwynwyd y ddadl heddiw er mwyn trafod hynny na goblygiadau'r morlyn llanw i Gymru, ond yn hytrach i drafod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Felly, mae'n briodol ein bod yn bachu ar y cyfle i fod ychydig yn fwy gwrthrychol, a chydnabod fan lleiaf rai o'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyfredol. [Torri ar draws.] Gwnaf, mewn munud. Er enghraifft—ac rwyf am roi rhai enghreifftiau i chi—gwyddom fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi chwarae rôl allweddol yn darparu'r fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth Cymru, fframwaith sydd wedi'i groesawu gan bawb yn y Siambr hon. Mae'r fframwaith cyllidol yn darparu trefniant cyllido hirdymor teg i Gymru, gan ystyried y pwerau trethu newydd a ddatganolwyd eleni, ac yn sicr mae'n arwain y ffordd ar gyfer datganoli cyfraddau Cymreig o dreth incwm yn 2019.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dweud yn glir hefyd y bydd y tollau ar bont Hafren yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, ac mae hwnnw hefyd yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Bydd y cyhoeddiad hwn o fudd i ddegau o filiynau o yrwyr bob blwyddyn, yn lleihau'r gost o wneud busnes rhwng Cymru a Lloegr, ac yn darparu hwb gwerth £100 miliwn i economi Cymru. Mae cael gwared ar y rhwystr ariannol hwnnw'n datgan yn glir bod Cymru ar agor ar gyfer busnes ac mae'n ddatganiad symbolaidd fod Llywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol cyfredol yn chwalu rhwystrau ac yn cefnogi economi Cymru, yn hytrach na chreu rhwystrau. Ildiaf i'r Aelod dros Ynys Môn.

15:20

Diolch i chi am ildio. Rydych yn siarad am swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'n eithaf clir, onid yw, mai dyn San Steffan yng Nghymru yw Alun Cairns, nid dyn Cymru yn San Steffan? Mae'n gwbl amlwg, onid yw, fod Alun Cairns yn ailddyfeisio rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel llywodraethwr cyffredinol ar Gymru? Rwy'n gwrthwynebu hynny ar egwyddor, rwy'n gwrthwynebu hynny fel Cymro, a phan fo'n amlwg fod y llywodraethwr cyffredinol hwnnw'n gweithio yn erbyn budd Cymru, onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder ynddo?

Mae'n nonsens llwyr. Rwyf newydd roi rhestr i chi o'r hyn y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'i gyflawni dros Gymru.

Mae ein gwelliant hefyd yn tynnu sylw at y gwaith allweddol sy'n cael ei wneud ar y bargeinion twf dinesig a rhanbarthol ledled Cymru a'r buddsoddiad sylweddol a wnaed mewn gwahanol rannau o Gymru. Cytunwyd ar fargeinion twf ar gyfer rhanbarthau Caerdydd ac Abertawe, gyda chynlluniau'n cael eu llunio yng ngogledd Cymru—ac mae'r rhain i gyd yn cael cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth y DU. Mae'r bargeinion yn rhoi cyfleoedd i bobl leol fynd i'r afael â'r heriau i dwf economaidd yn yr ardal drwy ddatblygu busnesau newydd gwerth uchel a chynorthwyo busnesau sy'n bodoli eisoes i arloesi a datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd, a dylai'r Cynulliad gefnogi'r bargeinion hynny a gweithio gydag awdurdodau lleol i hybu eu potensial. Er enghraifft, deallaf y bydd bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe yn sicrhau cynnydd parhaol yn ei gwerth ychwanegol gros ac yn cynhyrchu tua 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol hefyd wedi gweithio'n galed mewn perthynas â datblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd, a fydd yn creu miloedd o swyddi yng ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn darparu'r buddsoddiad mwyaf yng ngogledd Nghymru ers cenhedlaeth. Yn wir, mae Horizon yn rhagweld y bydd yn creu hyd at 9,000 o swyddi ar frig y cyfnod adeiladu, a chyda dau adweithydd ar y safle, bydd y gwaith hefyd yn cynnal tua 1,000 o swyddi yn ystod ei weithrediad. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod, yn wahanol i'r darlun llwm iawn y mae rhai yn y Siambr hon wedi'i baentio, mae Ysgrifennydd Gwladol cyfredol Cymru wedi cyflawni rhai canlyniadau da iawn i Gymru.

Wrth gwrs, ar yr ochr hon i'r Siambr, credwn fod swydd a swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hanfodol er mwyn cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Llywodraeth y DU. Yn wir, wrth i'r DU symud gam yn agosach at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach byth fod llais Cymru i'w glywed o amgylch bwrdd y Cabinet a bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu cynrychioli yn holl gyfarfodydd y Cabinet.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae Ysgrifennydd Gwladol cyfredol Cymru wedi sicrhau rhai canlyniadau sydd i'w croesawu'n fawr ac mae'n bwysig i'r Aelodau fod yn wrthrychol wrth ystyried cyhoeddiadau polisi. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau, i edrych y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid, a chael dadl go iawn ynglŷn â chyflawni prosiectau seilwaith ledled Cymru.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Ddoe, soniais yn y datganiad ar y morlyn llanw am y ffyrnigrwydd a'r dicter diatal yn Abertawe, a ddiwrnod yn ddiweddarach mae'r ffyrnigrwydd diatal hwnnw'n dal i fod yn ddiatal, rhaid i mi ddweud, a dyna'r rheswm dros y ddadl hon y prynhawn yma.

Mae carfannau o raddedigion peirianneg yn Abertawe, dwsinau o fusnesau lleol a chontractwyr bach wedi bod yn aros am benderfyniad cadarnhaol ar swyddi cyflog uchel o ansawdd da ers blynyddoedd, miloedd ohonynt, fel ym maniffesto'r Ceidwadwyr. Roedd yna obeithion uchel ar gyfer y fenter fawr arloesol hon, ac ni allwn, mewn unrhyw ffordd, fychanu'r ymdeimlad o ddinistr y mae Abertawe a'r gymuned rwy'n byw ynddi yn ei deimlo yr wythnos hon—brad a dinistr llwyr. Maent yn disgwyl ateb grymus gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n derbyn bod ein dwylo wedi'u clymu yn gyfansoddiadol i raddau helaeth. Dyma hyd a lled ein hateb grymus i newyddion dinistriol ac echrydus. Mae cannoedd o bobl wedi cysylltu â phob un ohonom, nid fi yn unig. Mae yna ffyrnigrwydd yno—ffyrnigrwydd llwyr—ac nid yw, mewn unrhyw ffordd, yn fater o chwarae gêm wleidyddol o gwbl.

Mae'n rhaid dal rhywun i gyfrif am hyn. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fod i ymladd ar ein rhan. Prin iawn yw'r dystiolaeth o'r frwydr honno dros y misoedd diwethaf, mae arnaf ofn—prin iawn. Rydym yn gwybod beth yw'r ffigurau. Yr un prisiau streic yn Hinkley Point. Iawn, byddai 30c yn ychwanegol i'w dalu yn ein biliau trydan o ganlyniad i'r morlyn llanw—30c yn hytrach na £15 ychwanegol yn sgil y diwydiant niwclear. Ond yn fwy na hynny, mae'n wastraff llwyr o ddiwydiant arloesol o'r radd flaenaf a fyddai wedi'i leoli yng Nghymru—yn Abertawe i ddechrau, y prosiect braenaru, ond hefyd Caerdydd, Casnewydd, Bae Colwyn. Dyna'r dinistr rydym yn ei deimlo o ganlyniad i'r penderfyniad ofnadwy hwn. [Torri ar draws.] Mae'n frad ac mae'n enfawr, ac mae wedi mynd, yn llwyr. Dyna pam rydym yn cael y ddadl hon. Mae'n rhaid dwyn rhywun i gyfrif am hyn, ac nid oes gennyf unrhyw hyder, nid oes gennym unrhyw hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Darren—yn amlwg, ni allwch glywed.

15:25

Fe sonioch am amddiffyn rhag llifogydd, ac yn gwbl briodol, mae rhai Aelodau wedi bod yn tynnu sylw at y ffaith fy mod wedi bod yn cefnogi prosiectau yng ngogledd Cymru oherwydd y manteision amddiffyn rhag llifogydd. Roedd Llywodraeth y DU yn eithaf clir fod gwrthod y cynnig penodol hwn yn golygu gwrthod y cynnig penodol hwn. Nid oedd, mewn gwirionedd, yn benderfyniad i wrthod ynni'r llanw ar ei ben yma yng Nghymru. A dweud y gwir, pe baech yn siarad â datblygwyr y prosiectau posibl yng ngogledd Cymru, fel rwyf fi wedi'i wneud, byddent yn dweud wrthych fod eu prosiect wedi'i lunio gyda thechnoleg wahanol sy'n gallu lleihau'r pris streic yn sylweddol i'w wneud yn llawer mwy fforddiadwy. Felly, credaf ei bod hi'n amlwg fod yna wahanol dechnolegau i'w cael yn ogystal â gwahanol gynlluniau y dylid, a hynny'n gwbl briodol, eu pwyso a'u mesur yn ôl eu rhinweddau eu hunain.

Diolch i chi am hynny—un o'r ymyriadau hwyaf a gofnodwyd erioed o bosibl. A phe bai Llywodraeth y DU wedi siarad â'r cwmni morlyn llanw yn Abertawe, byddent wedi clywed dadl debyg, ond nid oedd unrhyw gyfathrebu am ddwy flynedd, yn ôl yr hyn y mae'r prif weithredwr a'r cadeirydd yn ei ddweud wrthyf. Felly, beth y mae disgwyl iddynt ei wneud? [Torri ar draws.] Wel, yn hollol. Ni allwch ei amddiffyn. Dyna pam rwy'n gofyn i chi bleidleisio dros ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Ac yn amlwg, mae'r brad hwn ar ben sawl brad arall. Mae fy amser yn brin yn awr, ond rwyf am ganolbwyntio ar y penderfyniad i beidio â thrydaneiddio'r brif reilffordd i, unwaith eto, Abertawe. Mae yna ffactor cyffredin yma—Abertawe. Beth rydym ni wedi'i wneud? Beth rydym ni wedi'i wneud? Felly, ie, yn hollol—dau addewid maniffesto mawr nad ydynt yn digwydd. Nid oes gennym unrhyw hyder o gwbl yn yr Ysgrifennydd Gwladol cyfredol.

Os caf orffen ar ail bwynt ein cynnig o ddiffyg hyder, nid oes gennym hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru chwaith. Rydym mewn hinsawdd newydd bellach ar ôl Brexit. Dylem fod o blaid Llywodraethau'n cydweithio yn deg gyda'i gilydd gyda chyngor Gweinidogion y DU wedi'i gyfansoddi'n briodol, gyda phwerau cyfartal a rennir i wneud penderfyniadau. Dyna'r ffordd ymlaen. Nid ydym angen rhyw golomen gludo rhwng Caerdydd a Llundain mwyach. Mae'n perthyn i orffennol trefedigaethol—cefnogwch y cynnig.

15:30

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn am un peth yn benodol, sef y ffaith y byddai wedi bod yn bosibl cael cynnig heddiw y gallai'r Cynulliad cyfan fod wedi cytuno arno, rwy'n credu, oherwydd rydym o ddifrif yn siomedig gyda'r canlyniad ar y morlyn llanw ac rwy'n gobeithio y bydd yn bosibl i ni ailystyried pethau cyn gynted â phosibl yn y tymor canolig. Mae'n ddyletswydd ar y rheini sydd wedi cynnig y cynllun i ailedrych ar y ffigurau, oherwydd bydd llawer o'r manylion yn awr, yn anochel, yn dod i'r amlwg, a byddant yn haeddu cael eu harchwilio'n fanwl iawn, a dyna beth y byddwn ni yn ei wneud ar yr ochr hon i'r Cynulliad.

A gaf fi sôn yn gyntaf oll am y gorgyrraedd amlwg a gafodd ei awgrymu'n gryf, a bod yn deg, yn araith Simon wrth wneud y cynnig? Ond mae angen i ni fyfyrio ar yr angen i ddangos parch tuag at gylchoedd y Llywodraeth—mae hynny wrth wraidd system ddatganoledig neu ffederal. Beth fyddai Plaid Cymru yn ei wneud pe bai San Steffan yn cynnig pleidlais o ddiffyg hyder ym Mhrif Weinidog Cymru? Mae'n rhaid i mi ddweud ar unwaith—ac ni fydd hyn yn eich synnu—fy mod yn teimlo mai gwleidyddiaeth wirion yw hon. Wedi'r cyfan, caiff Plaid Cymru eu cynrychioli'n fedrus yn San Steffan—gadewch i mi orffen y pwynt hwn—a dylai fod ganddynt hyder yn eu cyd-Aelodau yn San Steffan i fynd ar drywydd y materion hyn yno, lle y gellir dwyn yr Ysgrifennydd Gwladol i gyfrif wrth gwrs. Rwy'n fodlon ildio yn awr.

Rwy'n siŵr fod fy nghyd-Aelodau yn fwy nag abl i wneud hynny yn San Steffan, ond onid yw'n sylweddoli bod ei Brif Weinidog ei hun yn defnyddio GIG Cymru i ymosod ar Jeremy Corbyn yn gyson?

Wel, wyddoch chi, dyna yw'r taro a'r gwrthdaro a geir mewn gwleidyddiaeth—

Rydych wedi gwneud y pwynt drosom. Rydych wedi gwneud y pwynt drosom.

Wel, gadewch i mi orffen fy mhwynt, diolch i chi, Leanne. Mae gwleidyddiaeth angen cymariaethau. Wrth wraidd Llywodraeth ddatganoledig, mae'r ddamcaniaeth eich bod yn edrych ar awdurdodaethau gwahanol ac yn dysgu ganddynt. Mae hynny'n bendant yn ddilys. Ond yr hyn nad ydych yn ei wneud ym model San Steffan—yn wir, mewn unrhyw system ddemocrataidd o lywodraethu—yw cael un ddeddfwrfa i bleidleisio 'diffyg hyder' mewn Gweinidog nad yw'n atebol i'r ddeddfwrfa honno. Mae'n nonsens cyfansoddiadol, fel y gwyddoch yn iawn.

Gadewch i mi symud ymlaen. Rheswm arall pam rwy'n siomedig iawn yn y cynnig hwn yw bod gan Alun Cairns graffter unigryw a ddaw o fod yn Aelod Cynulliad blaenorol a fu'n gwasanaethu am gyfnod maith. Rydym yn gwerthfawrogi hynny'n fawr ar yr ochr hon i'r Cynulliad, ac rwy'n amau, y tu ôl i'r llenni, fod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi hynny hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth i'w drysori'n fawr. Mae ganddo hanes da iawn o gyflawni yn y swydd, ac mae'n eiriolwr diflino dros Gymru, fel sydd wedi'i amlinellu. Gallwn restru'r holl gyflawniadau, ond cawsant eu rhestru'n fedrus gan fy nghyd-Aelod.

Mick Antoniw a gododd—

Carwn wneud y pwynt hwn yn unig.

A gaf fi ychwanegu hyn, mewn ysbryd o gonsensws? Mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ar faterion economaidd yn deilwng yn fy marn i. Ac ers 2010, rydym wedi gweld cynnydd o dros 18,000 yn nifer y busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y gallwch ddweud mai Llywodraeth y DU yn unig yw hynny, na Llywodraeth Cymru yn unig—partneriaeth yw hi. Ers 2010, rydym wedi gweld 117,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru a 57,000 yn llai o bobl ddi-waith. Unwaith eto, llwyddiannau ar y cyd yw'r rhain, ac maent yn rhai teilwng. Rwy'n fodlon ildio yn awr, Mick.

Onid rhan o'r broblem yw eich bod wedi gwneud addewidion penodol iawn yn eich maniffesto, eu bod wedi cael eu cyhoeddi gyda'r bwriad penodol o gael pobl i bleidleisio drosoch, ac i ennill rhai etholaethau, ac ati? Nawr, nid oes gennyf broblem gyda hynny, oherwydd mae hynny'n rhan o wleidyddiaeth. Ond onid yw'n dinistrio holl bwrpas cael maniffesto, mewn gwirionedd, a hygrededd ein system wleidyddol? Hynny yw, beth ydyw—pan wnaethoch yr addewidion penodol hynny i bobl yn eich maniffesto, ai'r gwir yw na wnaethoch roi ystyriaeth briodol iddynt, eich bod yn gweld eich cyfle a dyna i gyd, neu a gawsant eu gwneud heb fod gennych unrhyw fwriad o gwbl o'u cyflawni?

Rydych yn hollol gywir yn dweud bod unrhyw Lywodraeth yn atebol i'r etholaeth am yr hyn y mae'n ei ddatgan mewn maniffesto. Nid wyf yn credu bod yr un Lywodraeth yn cyflawni popeth y mae'n bwriadu ei wneud, ac yn amlwg os ydych yn cyrraedd islaw pwynt penodol gallwch ddisgwyl ymateb deifiol gan yr etholaeth. Ond rydym yn falch o'r hyn rydym yn ei gyflawni, a byddwn yn ei amddiffyn, ac rwy'n siŵr y bydd pobl Cymru, a'r DU, yn ein barnu'n deg ac yn gweld ystod lawn ein llwyddiannau.

A gaf fi siarad am swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, oherwydd mae gennym adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol ar y gweill ar hyn o bryd? Rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru am sicrhau, fel rhan o'r trefniadau wrth i ni adael yr UE, ein bod yn adolygu sut rydym yn datblygu cydlywodraethu yn y DU. Mae'n dasg hanfodol—rwyf wedi dweud hyn dro ar ôl tro—ond yn sicr rydym angen cadw swydd yr Ysgrifennydd Gwladol, o leiaf hyd nes y bydd dulliau mwy ffurfiol o gydlywodraethu yn cael eu sefydlu a'u gweld ar waith. Byddai'n ffôl dod â swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ben hyd nes bod y rhagolwg cyfansoddiadol newydd hwnnw wedi'i gyflawni.

Ac rwyf am ddweud hyn yn uniongyrchol wrth Blaid Cymru: byddai'n gyngor gwell i chi gael eich cefndryd yn yr SNP i gefnogi datblygiad dulliau mwy ffederal o ffurfio cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU, oherwydd y gwir amdani, ar hyn o bryd, yw bod yr SNP yn fwy awyddus i ddibynnu ar drafodaethau dwyochrog, oherwydd maent naill ai yn eu hennill neu maent yn condemnio Llywodraeth y DU yn llwyr os nad ydynt yn cael eu ffordd, hyd yn oed os nad ydynt yn cyfaddawdu o gwbl, ac nid oes ganddynt ddiddordeb yn y dasg sylfaenol y mae gennym ni ddiddordeb ynddi, sef cryfhau cyfansoddiad y DU. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau Llafur yn bennaf yn myfyrio ar hynny.

15:35

Fel y dywedais ddoe, rwyf wedi cael fy siomi'n wirioneddol gan benderfyniad cibddall Llywodraeth Theresa May i wrthod y morlyn llanw. Mae siom mawr yn fy rhanbarth i hefyd ymysg y bobl sy'n sicr yn lleisio eu barn, a hynny'n briodol hefyd. Unwaith eto, mae Llywodraeth San Steffan wedi dangos eu dirmyg llwyr tuag at fy rhanbarth, ar ôl torri'r addewid i ddarparu trydaneiddio i Abertawe ac yn awr, sathru ar gyfle Abertawe i arwain y byd ym maes ynni adnewyddadwy arloesol.

Ond rwy'n derbyn mai un llais yn unig yw'r Ysgrifennydd Gwladol: un Gweinidog o blith 118; un llais o blith 21 sy'n eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet. Felly, rwy'n rhoi'r bai am y penderfyniad ofnadwy hwn ar Theresa May a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark. Negesydd yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'r cyfan, ac yn yr achos hwn ni allwn roi'r bai i gyd arno am y penderfyniad hwn. Fodd bynnag, rwy'n teimlo, mewn gwirionedd, fod angen i Alun Cairns fod yn llawer cryfach wrth sefyll dros Gymru, wrth sefyll dros fy rhanbarth i.

Yn dilyn y ddadl hon, rwyf eisiau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod yn llai o was bach a gwneud y peth iawn dros fy rhanbarth i, dros Gymru a dros y bobl. Felly, er fy mod yn cydymdeimlo'n fawr â gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n teimlo bod Llywodraeth y DU wedi siomi Cymru a bod angen i ni sicrhau mwy o gydweithredu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Ymddengys nad yw'r trefniadau cyfredol yn gweithio ac o ganlyniad, byddaf yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru.

Felly, y penderfyniad ar y morlyn llanw oedd y diweddaraf mewn cyfres hir o benderfyniadau gwael gan Lywodraeth y DU. Mae Cymru angen i'r ddwy Lywodraeth weithio gyda'i gilydd os yw am ffynnu. Diolch.  

Rheilffyrdd heb eu trydaneiddio, pontydd yn cael eu hailenwi ar ôl y tywysog trefedigaethol, gwrthod y morlyn llanw: dyna beth sy'n cael ei gyflawni gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Llais San Steffan yng Nghymru ydyw nid llais Cymru yn San Steffan. Torrwyd un addewid maniffesto ar ôl y llall. Aethpwyd yn ôl ar un cyhoeddiad ar ôl y llall. Ac wrth gwrs, do, cafodd pleidleisiau eu hennill ar sail yr addewidion hynny. 

Mae £5 biliwn o arian trethdalwyr yn mynd tuag at ynni niwclear, ond ni ellir dod o hyd i un rhan o bump o hwnnw ar gyfer y morlyn llanw; £3.5 biliwn i drwsio Palas San Steffan, ond ni ellir dod o hyd i un rhan o dair o hwnnw i adeiladu'r morlyn llanw; cil-dwrn o £1 biliwn i'r DUP, ond mae morlyn llanw bae Abertawe yn rhy ddrud. Roedd dydd Llun yn crynhoi dirmyg San Steffan tuag at Gymru yn berffaith. Ar yr union ddiwrnod y gwnaethant gymeradwyo rhedfa gwerth £14 biliwn yn Llundain, fe wnaethant y penderfyniad i wrthod morlyn llanw bae Abertawe. Mae hi bron fel pe baent yn ceisio rhwbio eu methiant i fuddsoddi yng Nghymru yn ein hwynebau.

Ddoe, yn chwerthinllyd, cawsom ein cyhuddo gan y Prif Weinidog o adael i'r Torïaid, a chynrychiolydd Cymru yn San Steffan, wneud fel y mynnant. Bydd y Blaid Lafur heddiw i bob pwrpas yn dangos eu cefnogaeth i Ysgrifennydd Gwladol Cymru drwy ymatal, neu o bosibl drwy bleidleisio yn erbyn ein cynnig. Rwy'n derbyn mai cynnig symbolaidd yw hwn, ond sut arall rydym ni i fod i ddangos cryfder ein teimladau? Pa ddulliau sydd ar gael i ni? Mae'n gwrthod, fel y dywedwyd eisoes, rhoi tystiolaeth i bwyllgor. Sut ar y ddaear y gallwn ni ei ddwyn i gyfrif?

Yr hyn rydym ei angen yn awr yw gweithredoedd, nid ymataliadau. Pwrpas sydd ei angen arnom, nid datganiadau i'r wasg, a phleidleisiau yn hytrach na dicter. Yn y pen draw, heddiw, mae'r Blaid Lafur, unwaith eto, yn dangos eu bod yn barod i sefyll dros San Steffan i amddiffyn y gweithredoedd hyn na ellir eu hamddiffyn, yn hytrach na sefyll dros Gymru. Oherwydd y swyddi a'r cyfleoedd a allai fod wedi cael eu creu yn sgil y morlyn llanw, mae'n rhaid i ni ddadlau ein hachos. Mae Plaid Cymru yn credu bod yn rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol fynd, ynghyd â'r cysyniad o swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei hun. Ni all San Steffan byth, ac ni fyddant byth, yn gweithio dros Gymru—dyna y mae hyn yn ei ddangos i ni. Felly, heddiw, mae gennym gyfle i anfon neges ddiamwys: ni wnawn ganiatáu i'n gwlad gael ei thrin â'r fath ddirmyg.

15:40

Testun siom i mi yw bod yma heddiw i siarad ar y cynnig hwn o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dylai fod yn llais Cymru yn San Steffan, ond mae'n amlwg nad yw'n hynny o gwbl. Mae ganddo record o fethiant llwyr. Gydag Alun Cairns yn Ysgrifennydd Gwladol, rydym wedi gweld y cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffyrdd yn cael eu canslo. Mewn sawl gwlad yn y byd y mae'n amhosibl i chi deithio ar drên trydan rhwng y ddwy ddinas fwyaf? A oes unrhyw le arall yn Ewrop? Mae'n sefyllfa hollol gywilyddus.

Yn awr mae morlyn llanw Abertawe wedi cael ei ganslo. Roedd hwn yn gyfle i Gymru arwain y byd ym maes ynni adnewyddadwy. Y math o ail-ddiwydiannu y mae Cymru ei angen yn daer yn yr unfed ganrif ar hugain, ond nid oedd Alun Cairns yn ei gweld hi felly. Mae wedi gadael i'r Llywodraeth hon gael gwared ar y prosiect hwnnw o dan ei oruchwyliaeth ef. Pe bai ganddo unrhyw ddewrder—dewrder gwleidyddol—byddai wedi ymddiswyddo dros hyn, neu efallai ei bod hi'n amlwg nad oes ots ganddo.

Os meddyliwn am Bont Hafren, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn parhau i honni bod mwyafrif tawel eisiau gweld y bont yn cael ei hailenwi, pan fo holl dystiolaeth yr arolygon barn gan y cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y DU yn dangos mai canran eithriadol o fach o bobl sy'n cefnogi newid enw'r bont.

Y cwestiwn go iawn i mi yma yw, pam fod y Blaid Lafur yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, a pham mai tua 10 yn unig o ACau Llafur sydd yma i gael dadl ar y cynnig hwn. Mae'n amlwg fod ganddynt hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o hyd. Nid yw'n syndod i mi, oherwydd rwyf wedi gwybod ers amser maith fod y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur yn ddwy ochr i'r un geiniog—Torïaid coch a glas, yn gweithio gyda'i gilydd i sathru ar Gymru.

Mae pobl Cymru wedi colli hyder yn y Ceidwadwyr gyda chymaint o brosiectau na chawsant eu cyflawni a chymaint o addewidion wedi'u torri. Ond eto gallwn gael adweithyddion niwclear, mwd niwclear a charchardai mawr wedi'u dadlwytho arnom. A dyma'r Gymru rydym yn byw ynddi heddiw. Y gwir amdani yw bod y Blaid Lafur yr un mor wael â'r Ceidwadwyr. Ni fyddent hyd yn oed yn cyfaddef eu bod wedi cefnogi'r cynlluniau i newid enw'r bont. Cymerodd gais rhyddid gwybodaeth i ddarganfod hynny. Ddydd Llun, tybed a welwn y Prif Weinidog yn plygu glin i'r frenhiniaeth yn union fel y Prif Weinidog Ceidwadol o'i flaen.

Mae angen i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun ac mae'r Blaid Lafur yn ein rhwystro rhag gwneud hynny. Mae'r Ceidwadwyr yn ein rhwystro rhag gwneud hynny. Felly, mae'n bryd i bobl Cymru sefyll ar eu traed, oherwydd yn amlwg ni chawn unrhyw beth tra bôm yn parhau i gael ein hanwybyddu dro ar ôl tro, fel rhan o'r Deyrnas Unedig honedig, a thra anghyfartal hon.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, ac mae arnaf ofn nad wyf yn rhannu'r gwrthwynebiadau cyfansoddiadol a fynegodd David Melding yn gynharach. Credaf fod hawl gan y Cynulliad hwn i fynegi barn ar gymhwysedd Gweinidogion y Deyrnas Unedig lle mae eu cyfrifoldebau'n cyffwrdd ar Gymru a buddiannau ei phobl yn uniongyrchol. Mae hynny'n ymddangos yn gwbl briodol i mi ac rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, er na fyddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru oherwydd, yn anffodus, mae'r ail ran yn rhywbeth nad wyf yn cytuno ag ef.

Ond credaf yn sicr fod gennym hawl, mewn perthynas â mater eiconig y morlyn llanw, a thrydaneiddio'r rheilffyrdd yn wir, i arddel safbwynt ar gymhwysedd yr Ysgrifennydd Gwladol. Amddiffyniad eithaf treuliedig o'r Ysgrifennydd Gwladol presennol yw na ddylem fod yn trafod y mater hwn oherwydd ei fod yn rhy debyg i wleidyddiaeth plaid. Wel, os nad ydym ni yn y sefydliad hwn yn cynrychioli gwleidyddiaeth plaid, pam ar y ddaear rydym ni yma? Ond nid yw hynny'n golygu ein bod yn gwneud pwyntiau yn y ddadl hon am resymau pleidiol amheus yn unig. Ceir dicter go iawn ar yr ochr hon i'r Siambr ynghylch y penderfyniad ar y morlyn llanw, a theimlaf yn flin iawn dros gyd-Aelodau Ceidwadol, sy'n amlwg yn rhannu'r teimlad hwnnw ond yn methu ei fynegi yn yr un modd yn hollol. Oherwydd mae'r Ysgrifennydd Gwladol a'i gymheiriaid yn y Cabinet wedi troi'r llanw ar y Ceidwadwyr yn hyn o beth, a'u gadael mewn picil.

Mae dweud bod Alun Cairns wedi cael cyflawniadau mawr ar ffurf y fframwaith cyllidol yn crafu'r gwaelod go iawn. Os ewch chi draw i'r Eli Jenkins heno a gofyn i bobl yn y bar dros beint am beth y bydd Alun Cairns yn cael ei gofio, ai am fframwaith cyllidol Cymru neu'r dyn a suddodd y morlyn llanw—os gallwch suddo morlyn—credaf fod yr ateb yn go amlwg ac nid oes angen unrhyw esboniad.

Nawr—

Diolch yn fawr iawn, Neil. Nid oes gennyf ddigon o amser i ddweud beth y mae wedi'i wneud. Mae'n un o feibion Cymru a heblaw amdano ef, gallaf eich sicrhau na fyddai Tata Steel yno ym Mhort Talbot. Felly, peidiwch ag anghofio. Mae gennych gof byr iawn—[Torri ar draws.] Mae gennych gof byr iawn yma, a bydd ei wasanaeth i'r wlad hon yn cael ei gofio a bydd yno i helpu'r wlad hon. A pheidiwch ag anghofio nad yw'r morlyn llanw hwn yn farw eto.

Wel, mae gennyf barch mawr at farn leiafrifol, oherwydd rwyf mewn lleiafrif bach iawn yn y tŷ hwn, ond credaf fod y rheini sy'n arddel y farn honno mewn lleiafrif hyd yn oed yn llai na'r un rwyf ynddo fel arfer.

Ond er fy mod yn cefnogi swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid wyf yn meddwl y gallaf gefnogi'r sawl sydd ynddi ar hyn o bryd. Wrth gwrs, rhaid inni barhau i gael Ysgrifennydd Gwladol Cymru, oherwydd mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig ac mae yna nifer o faterion o bwys mawr sydd heb eu datganoli, ac ef yw llais Cymru yn y Cabinet. Ond y cwestiwn yw: pa mor effeithiol yw'r llais hwnnw? Dyna'r cwestiwn allweddol yma, a chredaf fod yr enghreifftiau a nodwyd yn y ddadl hon eisoes yn dangos nad yw'r llais hwnnw'n effeithiol o gwbl, mewn gwirionedd.

Nawr, mae pawb yn gwybod fy mod yn sgeptig ar faterion ynni gwyrdd mewn sawl ffordd, ond os ydym yn mynd i gael prosiectau ynni gwyrdd, ymddengys i mi fod ynni'r llanw ac ynni'r tonnau yn cynnig gwell gwerth am arian yn hirdymor na phrosiectau fel ffermydd gwynt, oherwydd mae ynni llanw o leiaf yn rhagweladwy ac nid yw'n ddarostyngedig i natur ysbeidiol haul neu wynt. Ac am y rhesymau a nodwyd ynghylch datblygu technoleg newydd fyd-eang a allai greu sgil-effeithiau pwysig i Gymru, mae yna resymau eraill pam y dylid bod wedi cefnogi'r prosiect hwn.

Nawr, roedd yn gyd-ddigwyddiad yn wir, onid oedd, fod y cyhoeddiad wedi'i wneud ar yr un diwrnod â'r buddsoddiad yn Heathrow, y buom yn aros ers oes pys amdano, mae'n ymddangos—fod y ddau gyhoeddiad wedi'u gwneud gyda'i gilydd. Oherwydd roedd hwnnw, mae'n debyg, yn ddiwrnod da ar gyfer claddu newyddion drwg i Gymru, heblaw fod arnaf ofn na fydd rhuo'r awyrennau jet sy'n codi o Heathrow yn ddigon i foddi'r bloeddiadau o ddicter sy'n dod o Gymru wrth iddi gael ei hanghofio, unwaith eto, ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth.

Felly, mae arnaf ofn fod y Llywodraeth wedi gwneud cam â Chymru yn hyn o beth ac mewn llawer o ffyrdd eraill yn ogystal. Ac mae'n ddrwg gennyf, oherwydd mae Alun Cairns yn ddyn hoffus, ond rwy'n ofni bod gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth effeithiol, yn fwy na bod yn hoffus. Rhaid i chi allu sicrhau canlyniadau. Bachgen ysgol oeddwn i pan benodwyd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, sef Jim Griffiths. Ef oedd fy Aelod Seneddol, a rhaid i mi ddweud, yn yr oddeutu 50 mlynedd ers hynny, rydym wedi gweld ambell un da i ddim yn y swydd honno, ond rwy'n credu y bydd Alun Cairns ymhell i lawr y rhestr ar sail profiad hanesyddol. Ac os edrychwn am gymariaethau hanesyddol, efallai mai'r sarhad seneddol mwyaf dinistriol a ynganwyd erioed yn erbyn Gweinidog yn y Llywodraeth oedd yr un a wnaed gan Disraeli am yr Arglwydd John Russell, pan ddywedodd pe bai crwydryn o bell yn cael clywed bod dyn o'r fath yn Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, fe allai'n hawdd ddechrau deall sut roedd yr Eifftwyr yn addoli pryfyn.

15:50

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford?

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n ddadl yr ydym yn ei chael, wrth gwrs, oherwydd penderfyniad Llywodraeth y DU ddydd Llun i beidio â chefnogi prosiect morlyn llanw Bae Abertawe, prosiect braenaru a fyddai wedi profi hyfywedd cynhyrchiant ynni môr-lynnoedd llanw a gallai fod wedi paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu diwydiant ehangach yng Nghymru, diwydiant, fel y dywedodd Simon Thomas wrth agor, a oedd â photensial i feddu ar arwyddocâd byd-eang.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, mae wedi cymryd bron flwyddyn a hanner i Lywodraeth y DU gyrraedd y penderfyniad hwn. Yn wir, roeddent wedi cael adroddiad eu cynghorydd annibynnol eu hunain a ddaeth i'r casgliad y dylid ei gefnogi ar sail ddi-edifeirwch am chwe mis llawn cyn mynd i mewn i etholiad cyffredinol yn gwneud yr addewidion a nododd Mick Antoniw yn ei ymyriad—chwe mis hir y gallai fod wedi dod i benderfyniad ynglŷn â'r mater. Yn wir, aeth i mewn i etholiad gan wneud addewidion i bobl y rhan honno o dde Cymru a byth ers hynny, yn hytrach na chefnogaeth, rydym wedi gweld hanes digalon o anwadalu, mwydro, oedi, ac amharodrwydd i ymgysylltu hyd yn oed â'r llawer o fuddiannau a oedd eisiau cefnogi'r cynnig o forlyn llanw ar gyfer bae Abertawe.

Fel rydym wedi clywed yn y ddadl, mae hon yn Llywodraeth, wrth gwrs, ag iddi hanes o ddweud 'na' wrth Gymru. Prin fod y llwch wedi setlo ar benderfyniad annoeth Llywodraeth y DU i dorri ei gair ar drydaneiddio'r brif reilffordd yr holl ffordd i Abertawe. Bydd llawer ohonom yma yn cofio addewidion cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ynglŷn â threnau trydan cyflymach yr holl ffordd i Abertawe pan oedd yn eistedd ar un o'r trenau diesel hynny sy'n dal i deithio'n ddyddiol i ac o Paddington. Ac fel y clywsom, ac fel y dywed Simon Thomas, gwyddom yn awr fod Prif Weinidog y DU yn bersonol wedi cymeradwyo'r penderfyniad i ganslo cynlluniau i drydaneiddio'r rhan o'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Un mewn cyfres o brosiectau seilwaith mawr eu hangen i gael eu canslo gan y Llywodraeth honno yn y DU oedd trydaneiddio'r brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, diolch i'r Blaid Geidwadol am eu gwelliant. Fe wnaeth godi calon ar ddiwedd prynhawn hir ddoe gyda'i haeriad pwerus fod oes dychan yn dal yn fyw ac yn iach yn y seddi gyferbyn. Ar wahân i agor y môr coch, gwyddom yn awr fod popeth sydd wedi digwydd yng Nghymru o fewn cof yn ganlyniad i ymdrechion Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, wrth edrych yn fanylach, Ddirprwy Lywydd, tybed a all y Swyddfa Gyflwyno ystyried gosod rhybudd iechyd ar welliannau o'r fath yn y dyfodol, rhyw fath o neges 'gwirio yn erbyn realiti', oherwydd wrth i mi ddechrau darllen y rhestr o gyflawniadau arwyddocaol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, deuthum, yn gyntaf oll, at ei rôl yn y cytundeb ar fframwaith cyllidol hanesyddol â Llywodraeth Cymru. Wel, rwy'n cofio hydref 2016 yn iawn, Ddirprwy Lywydd, gan fy mod yn cyfarfod bob mis, a mwy nag unwaith y mis, â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, David Gauke. Rwy'n cofio llofnodi'r fframwaith cyllidol hanesyddol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Nid wyf yn cofio gweld yr Ysgrifennydd Gwladol yn un o'r cyfarfodydd hynny. Gwelais ef mewn sesiwn dynnu lluniau gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ac ni feddyliais y byddai ei ran mewn sesiwn dynnu lluniau yn cyrraedd cynnig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyflawniad hanesyddol. Gallwn fynd drwy weddill y gwelliant—[Torri ar draws.] Mr Ramsay.

Gan fod angen ymyriad, rwy'n siŵr fod yr Ysgrifennydd Gwladol yno o ran ysbryd, Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Ac efallai nad oedd yn y cyfarfodydd penodol hynny, ond wrth gwrs, rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yw helpu i gydgysylltu a hwyluso'r mathau hynny o gytundebau, ac yn y pen draw, roedd y fframwaith cyllidol yn rhywbeth y gweithioch chi'n galed iawn arno, rwy'n gwybod, ac rwyf bob amser wedi rhoi clod i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a heb rôl San Steffan, ni fyddai wedi digwydd, na fyddai?

15:55

Wel, wrth gwrs, diolch i Nick Ramsay—mae'r syniad o Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel ysbryd Marley, yn ysgwyd ei gadwynau yn y cefndir yn ystod fy nghyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn un difyr. O ystyried ei hanes mewn perthynas â materion eraill, yn bersonol, rwy'n tueddu i fod yn ddiolchgar am y ffaith nad oedd yn yr ystafell, o ystyried beth allai fod wedi digwydd pe bai wedi bod yno.

Gadewch i mi droi, Ddirprwy Lywydd, at y cynnig ei hun. Mae gwelliant y Llywodraeth yn wahanol i'r cynnig, rwy'n credu, o ran ei ddull yn hytrach na'i gyflawniad. Ychydig iawn oedd yna yn yr hyn a ddywedodd Simon Thomas wrth agor y ddadl hon y buaswn wedi anghytuno ag ef o gwbl. Credaf yn syml, ar yr ochr hon, nad ydym yn credu ei fod yn gwneud synnwyr i'r sefydliad hwn gael ei ddenu i basio cynigion o ddiffyg hyder mewn unigolion nad ydynt wedi eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol nac yn atebol iddo.

At hynny, Ddirprwy Lywydd, ym meddyliau'r cyhoedd, mae i gynnig o ddiffyg hyder mewn lleoliad gwleidyddol ddiben penodol: os caiff ei dderbyn, rhaid i'r unigolyn ymddiswyddo. Ac rydym yn gwybod na fyddai hyn yn wir yn yr achos hwn; byddai'n arwydd, meddai arweinydd Plaid Cymru wrthym. A suddodd fy nghalon, oherwydd nid oeddwn yn credu ein bod wedi sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn bod yn gadarnle ar gyfer gwleidyddiaeth arwyddion.

Mae gwelliant y Llywodraeth yn gwneud dau beth: mae'n nodi'r swydd sy'n gyfrifol—ac nid wyf yn anghydweld ag unrhyw beth sydd wedi'i ddweud gan Aelodau Plaid Cymru am y cyfrifoldeb sydd ar ysgwyddau'r sawl sydd yn y swydd—ac yna mae'n mynd yn ei flaen i osod methiannau'r swydd yng nghyd-destun ehangach cyflwr anghynaliadwy y peirianwaith rhynglywodraethol yma yn y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn fwy na methiant unigolyn, Ddirprwy Lywydd; mae'n fethiant ar ran Llywodraeth. Wrth gwrs, mae'n iawn y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol nodi ei ddyfarniad ar faint y dicter a'r siom a deimlir ynglŷn â'r penderfyniad a nodi pwy sy'n gyfrifol. Ond rhaid inni fynd ymhellach na hynny; rhaid inni feddwl sut y gellid unioni hyn ar gyfer y dyfodol. Dyna beth y mae gwelliant y Llywodraeth yn ei wneud, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ei gefnogi y prynhawn yma.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar i bawb wnaeth gymryd rhan yn y drafodaeth. Fel Mark Drakeford, roeddwn i’n prysur weld y dewin yma yn ymddangos ar y gorwel oedd â hudlath yn newid cwrs gwleidyddiaeth Cymru. Ond realiti'r peth, wrth gwrs, yw bod penderfyniadau, neu ddiffyg penderfyniadau, gan Lywodraeth San Steffan wedi dal yn ôl dau broject pwysig iawn i Gymru: y trydaneiddio i Abertawe, ac, yn ail, y morlyn llanw ym Mae Abertawe. Er fy mod i’n gallu derbyn, wrth gwrs, bod y Blaid Geidwadol am amddiffyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru—rwy’n derbyn nad yw’r Llywodraeth, efallai, yn y fan hyn eisiau cefnogi cynnig fel hwn oherwydd natur rynglywodraethol—nid ydw i'n gallu derbyn nad yw'n briodol i ni fel Senedd ddemocrataidd cael pasio barn ar berfformiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nid yw’n anghyfansoddiadol i wneud hynny. Mae yn wleidyddol—ydy, mae yn wleidyddol, ond rydym ni yma, wedi ein hethol, i fod yn wleidyddol ac i roi'r bys o gyfrifoldeb gwleidyddol lle mae’r briw.

Ac, yn yr achos yma, rydw i hefyd jest eisiau codi un pwynt a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Rydw i’n derbyn beth mae e’n ei ddweud. Hynny yw, rydw i’n derbyn bod gyda fe ddadl pan fo’n dweud ddylem ni ddim pasio cynnig o ddiffyg ffydd mewn aelod o Senedd arall, ond mae mynd mor bell â dweud nad yw’r lle yma’n gallu cynnig diffyg ffydd mewn unrhyw un sydd ddim wedi’i ethol i’r lle yma yn mynd yn llawer rhy bell i fi. Pe bai bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu’n llwyr, byddem ni eisiau pleidleisio dros ddiffyg ffydd yng ngweinyddiaeth y bwrdd iechyd, oni fyddwn ni ddim? Ac felly mae yn briodol ein bod ni’n defnyddio’r dulliau sydd gyda ni fan hyn, mewn trefn, i wneud hynny. Mae’n mynd â ni i gors wleidyddol, rwy’n derbyn hynny, ond nid ydw i’n siŵr iawn pam nad yw’r Llywodraeth wedi bod yn fwy creadigol wrth ymateb i hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yn hytrach na dileu popeth a rhoi rhywbeth yn ei le—sydd, i bob pwrpas, yn cytuno ag ail ran ein gosodiad ni bod angen gwella'r drefn rhynglywodraethol yma—a chaniatáu i feinciau cefn Llafur gael pleidleisio â'r botwm yna i ddweud nad ydyn nhw'n credu yn Alun Cairns. Mae mor syml â hynny, achos dyna rydw i'n gwybod yn wir sydd yng ngwaed y rhan fwyaf o Aelodau'r Llywodraeth.

Nawr, mae pawb wedi cyfrannu yn eu—

16:00

Diolch am ildio. Deallaf yn iawn pam eich bod eisiau cyflwyno dadl ar y morlyn llanw, ac fel y gwyddoch, rydym yn rhannu siom y Cynulliad a Chymru na fwriwyd ymlaen â hynny. A ydych chi'n meddwl y gellid bod wedi gwneud achos, fodd bynnag, dros lunio cynnig y gallai pob plaid yma fod wedi'i gefnogi'n eithaf hawdd, a fydda'n dal i fod wedi mynegi anfodlonrwydd wrth Lywodraeth y DU, ond mewn ffordd adeiladol? Felly, roedd ffordd wahanol o'i wneud, a dyna pam rwy'n deall y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cynnig o ddiffyg hyder.

Rwy'n cofio llunio cynnig o'r fath. Arweiniais ddadl meinciau cefn ar gynnig o'r fath. Cefnogodd pawb yn y Cynulliad y cynnig hwnnw, a beth wnaeth Llywodraeth San Steffan mewn ymateb i'r cynnig hwnnw? Fe ddywedodd, 'Na, dim diolch.' Fe basiwyd cynnig yma, gyda phob plaid o blaid y morlyn llanw, ac mae wedi'i wrthod gan San Steffan. Nid wyf yn erbyn yr hyn a awgrymodd yr Aelod, ond credaf fod heddiw'n ddiwrnod ar gyfer gwyntyllu'r dicter a fynegwyd yn Abertawe ac i ni leisio'r dicter hwnnw ar ran y bobl. Dyna sydd ei angen heddiw.

A gaf i droi at rai o'r pwyntiau mwy cadarnhaol a wnaed? Paul Davies, croeso i'r digwyddiad cyntaf fel arweinydd y grŵp Ceidwadol—[Torri ar draws.] Dros dro am y tro—beth bynnag rydych chi eisiau ei ddweud. Mae Paul wedi datgan yn glir bod cyfle o hyd i ynni o'r môr, ond pa fuddsoddwr nawr sy'n mynd i ddod i Gymru a thrafod gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan gan gredu y byddai eu harian nhw a'u gwaith caled dros flynyddoedd yn cael ei ysgrifennu bant mewn datganiad byr iawn i Dŷ'r Cyffredin ar gefn chwe tudalen o fathemateg hollol ropey, os caf i ddweud, hefyd? Edrychwch chi ar beth mae Marine Energy Wales, sydd, wrth gwrs, yn sir Benfro, wedi ei ddweud. Maen nhw'n dweud bod hyn yn golygu disregard ar gyfer amcanion ac uchelgeisiau Cymru o'i gymharu â beth mae Llywodraeth San Steffan yn ei wneud. Byddwch chi'n gwybod bod cwmnïau fel Ledwood yn Noc Penfro yn barod i fod yn rhan o adeiladu'r morlyn llanw yma. 

Rydw i'n ofni ein bod ni wedi tynnu'r plwg—os caf i ei ddweud e fel yna—nid yn unig ar un cynllun, fel y dywedais i, ond ar y diwydiant, ar y broses ac am rai blynyddoedd. Y tro nesaf y daw rhywun i ddatblygu yn y môr yng Nghymru, byddwn ni'n gorfod edrych ar gwmni o'r tu allan, o Ffrainc neu Tsieina, ac yn gorfod derbyn eu termau nhw, yn hytrach na bod yn rhan o lunio'r cynllun fan hyn. Dyna fethiant San Steffan a methiant yr Ysgrifennydd Gwladol yn benodol.

Rwy'n diolch i bawb. Nid oes gen i amser nawr i fynd trwy bawb, so gwnaf i jest gloi drwy ddweud ein bod ni wedi cael neges glir iawn gan San Steffan: dau gynllun enfawr, pwysig, dros £2 biliwn, y cyfle i fuddsoddi yng Nghymru, creu miloedd o swyddi, creu diwydiannau newydd a chreu cyfleoedd newydd—maen nhw wedi cael eu gwrthod ar sail tystiolaeth denau iawn, iawn, iawn. Nawr yw'r amser, heddiw yw'r amser i yrru neges unfrydol, glir at yr Ysgrifennydd Gwladol: 'Gwnaethoch chi fethu, gwnaethoch chi fethu'r job, dewch o 'na a rhowch y cyfle i rywun arall ei wneud e eto.'

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Adeiladu tai lesddaliad preswyl

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: tai lesddaliad preswyl. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y cynnig. Mick Antoniw.

Cynnig NDM6671 Mick Antoniw

Cefnogwyd gan Jane Hutt, Jenny Rathbone, Mike Hedges, Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i:

a) rhoi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad preswyl yng Nghymru; a

b) gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr o oblygiadau deiliadaeth lesddaliad.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i wrthod pob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau tai lesddaliad preswyl; a

b) gosod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau cytundebau lesddaliad i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i gyflwyno cynnig deddfwriaethol gan Aelod i ddiddymu lesddeiliadaeth ar gyfer tai preswyl newydd. Rydym wedi trafod y mater hwn ar sawl achlysur wrth gwrs. Y tro diwethaf, cynhaliodd y Siambr hon ddadl fanwl, deallus ac angerddol iawn gan Aelodau unigol ar y problemau sy'n deillio o dwf newydd tai lesddaliad a'r canlyniadau cysylltiedig i denantiaid yn sgil y cytundebau lesddaliad roeddent yn ddarostyngedig iddynt. Denodd y cynnig a drafodwyd gennym gefnogaeth drawsbleidiol, ac roedd yn amlwg o gyfraniadau'r Aelodau fod lesddaliad yn broblem ym mhob rhan o Gymru. Ers y ddadl honno, cafwyd datganiad gan y Gweinidog. Nid yw'n diystyru deddfwriaeth, ond mae'n canolbwyntio ar gytundeb gwirfoddol gyda nifer o ddatblygwyr mawr i beidio ag adeiladu tai lesddaliad newydd.

Nawr, rwy'n croesawu'r datganiad hwnnw yn fawr iawn, ond rwy'n dadlau heddiw y dylem fynd ymhellach, a dylem roi'r mater y tu hwnt i unrhyw amheuaeth yn y dyfodol drwy gyflwyno deddfwriaeth fer a syml a fyddai'n gwahardd drwy gyfraith unrhyw dai lesddaliad newydd rhag cael eu hadeiladu yng Nghymru. Felly, er mwyn egluro fy rhesymau, byddai'n ddefnyddiol atgoffa'r Aelodau am y cefndir i'r mater hwn. Ceir tua 200,000 eiddo lesddaliad yng Nghymru. Mae lesddaliad yn grair o'r unfed ganrif ar ddeg, adeg pan oedd tir yn golygu pŵer—ac yn anffodus, mae hynny'n wir o hyd. I dirfeddiannwr heddiw, mae lesddaliad yn golygu sicrhau'r incwm mwyaf posibl a chadw rheolaeth dros y tir y maent yn berchen arno, ond i'r lesddeiliad, mae'n golygu'r gwrthwyneb yn llwyr: costau afreolus a diffyg rheolaeth dros yr hyn y gallant ei wneud gyda'r eiddo y maent yn berchen arno. Felly, pan ddeddfodd Llywodraeth yr Alban i ddileu deiliadaeth ffiwdal, cawsant y cywair yn hollol gywir.

Fel llawer o Aelodau, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n sôn mai'r achos sylfaenol yw annhegwch cynhenid, cymhlethdod a natur hen ffasiwn contractau prydles, cwynion am renti tir cynyddol, pobl yn teimlo'n gaeth yn eu cartrefi eu hunain, a gwerthoedd eiddo sy'n plymio o un flwyddyn i'r llall wrth i'r brydles sy'n weddill leihau—ac mae'r rheini'n gyffredin. Pan fo lesddeiliaid yn ceisio adnewyddu eu prydles neu brynu rhydd-ddeiliadaeth eu cartref, cânt eu dal yn wystlon. Mae lesddeiliaid yn hollol ddiamddiffyn gerbron landlord y tir. Ac oherwydd proffidioldeb y system lesddeiliadaeth, mae corfforaethau cyllid wedi prynu gan lawer iawn o landlordiaid, ac o ganlyniad, nid craig y mae'n adeiladu ei fywyd arni yw cartref yr unigolyn mwyach, ond nwydd i'w fasnachu a'i hapfasnachu. Felly, i mi, mae'n gwbl synhwyrol fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i gefnogi diwygio'r gyfraith. Mae cymhlethdod cytundebau lesddaliad, gydag elfennau o gyfraith contract a chyfraith eiddo'n cydblethu, yn golygu ei bod yn gwneud synnwyr i aros am gynigion Comisiwn y Gyfraith, yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth ledled y DU i ymdrin â'r holl ganlyniadau ôl-weithredol, nad oes gennym ni, beth bynnag, gymhwysedd cyfansoddiadol i ymdrin â hwy ar hyn o bryd.

Felly, mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â dau beth. Yn bennaf, mae'n cynnig cyflwyno darn syml o ddeddfwriaeth Gymreig i roi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad yn y dyfodol. Nid yw'n berthnasol ar gyfer fflatiau neu adeiladau a rennir, dim ond tai preswyl newydd. Yn ail, mae'r cynnig hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ac asiantau gwerthu i ddarparu gwybodaeth berthnasol am lesddeiliadaeth i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.

16:05

Dim ond er eglurder: fe ddywedoch na fyddai'n berthnasol ar gyfer adeiladau a rennir, ond byddai'n berthnasol i dai preswyl. Sut y byddech yn mynd i'r afael â rhydd-ddeiliadaethau sy'n crogi dros neu islaw rhan o eiddo lesddaliad?

Rhydd-ddeiliadaeth sy'n crogi dros neu islaw eiddo lesddaliad, lle mae gennych bobl wahanol yn byw yn eu cartrefi eu hunain, ond o fewn adeiladau sy'n gorgyffwrdd ag adeiladau eraill. Felly, mae rhydd-ddeiliadaethau'n peryglu eu gallu i fynd i'r afael â gwaith atgyweirio.

Credaf y byddai unrhyw eiddo sy'n cynnwys rhan-berchenogaeth partïon gwahanol ar y rhydd-ddaliad yn cael eu heithrio. Mae hyn yn ymwneud yn unig â pherchnogaeth unigol ar dai newydd. 

Mae pawb ohonom yn gwybod mai prynu eiddo yw'r penderfyniad ariannol mwyaf arwyddocaol y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei wneud, felly mae'n hanfodol fod darpar brynwyr yn deall goblygiadau a chanlyniadau llawn prynu eiddo lesddaliad. Felly, ym mis Ebrill y llynedd, galwodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio lesddeiliadaeth am roi terfyn ar dai lesddaliad, a diwedd ar renti tir beichus. Ac yna, mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, becyn o fesurau i gyfyngu ar arferion lesddaliad annheg yn Lloegr, gan gynnwys deddfwriaeth yn gwahardd lesddaliadau newydd. Dywedodd:

Mae'n glir fod llawer gormod o dai newydd yn cael eu hadeiladu a'u gwerthu fel lesddaliadau, gan gamfanteisio ar brynwyr tai â chytundebau annheg a rhenti tir cynyddol. Digon yw digon. Mae'r arferion hyn yn annheg, yn ddiangen ac mae angen rhoi'r gorau iddynt.

Felly, mae'r rhain yn eiriau calonogol. Ym maniffesto Llafur Cymru yn 2017, gwnaethom ein safbwynt ninnau'n glir hefyd y byddwn yn cefnogi'r rhai sy'n berchen ar eu cartrefi, gan gynnwys lesddeiliaid sydd ar hyn o bryd heb amddiffyniad rhag cynnydd mewn rhenti tir:

'Bydd Llywodraeth Lafur yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid rhag rhenti tir twyllodrus ac yn rhoi terfyn ar y defnydd arferol o dai lesddaliadol mewn datblygiadau newydd.'

Yn 2016, trafodion lesddaliadol oedd 22 y cant o drafodion eiddo a adeiladwyd o'r newydd. Wrth ymateb unwaith eto mewn dadl yn San Steffan, nododd y Gweinidog tai ar y pryd fod

pa un a fydd Cymru'n diddymu lesddeiliadaeth yn fater sydd wedi'i ddatganoli.

Felly, mae'r pŵer yn ein dwylo ni. Mae gennym ymrwymiad maniffesto Llafur i ddeddfu, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru, mae gennym gefnogaeth drawsbleidiol gyffredinol i ddiddymu, ac er na allwn atal pob stori arswyd lesddaliadol y bu'n rhaid i'n hetholwyr ei dioddef, mae gennym gymhwysedd o leiaf i atal y broblem rhag tyfu'n fwy. Mae gennym allu i roi terfyn unwaith ac am byth ar unrhyw ansicrwydd yn y dyfodol ynglŷn â thai lesddaliad. Gallwn anfon neges glir at yr holl ddatblygwyr a thirfeddianwyr yn awr ac yn y dyfodol nad yw lesddeiliadaeth yn opsiwn tai derbyniol yng Nghymru mwyach. Gallwn arwain y ffordd ar y mater hwn, ac anfon neges at weddill y DU—at ddatblygwyr eiddo, at dirfeddianwyr, at yr holl gwmnïau o dramor sy'n ystyried buddsoddi mewn eiddo yng Nghymru ac yn y DU—fod lesddaliad ar dai yn grair o'r gorffennol, a thrwy basio darn syml o ddeddfwriaeth, gallwn ei wneud yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.

16:10

Diolch. A gaf fi atgoffa'r holl siaradwyr yn awr mai dadl cynnig deddfwriaethol yw hi? Felly, y terfyn amser ar gyfer siaradwyr yw tri munud. Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr iawn. Mae 57 y cant o lesddeiliaid yn difaru eu bod nhw wedi prynu eiddo lesddaliad, ac mae hwn yn ffigwr llawer rhy uchel ac yn annerbyniol, wrth gwrs. Mae’r materion o bryder yn cynnwys y cymalau rhent tir beichus sy’n prysur droi o fod yn fforddadwy i fod yn anfforddadwy, ac yn gallu ei gwneud hi’n anodd iawn i werthu’r eiddo, ac mi all taliadau eraill am ganiatâd i addasu’r eiddo, a hyd yn oed caniatâd i werthu’r eiddo, ychwanegu at gostau parhaus.

O gofio cymhlethdod y system lesddaliad, ac yn wir prydlesi unigol, fe fydd llawer o lesddeiliaid wedi dibynnu’n llwyr ar eu cynghorydd cyfreithiol i dynnu sylw at unrhyw bryderon cyn prynu’r eiddo, ac mae’n gwbl bosib nad oedd rhai lesddeiliaid—o bosib llawer iawn ohonyn nhw—ddim yn sylweddoli beth yr oedden nhw’n cytuno i’w wneud, beth yn union yr oedden nhw yn ei arwyddo. Felly, mae’r bwriad yn y Bil i osod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau lesddaliad yn un gwerthfawr iawn ac yn un rydw i’n cytuno’n llwyr efo fo.

Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad wedi gwneud dadansoddiad o ddata trafodiadau y Gofrestrfa Tir, ac wedi nodi bod gan Gymru ardaloedd lle mae yna lawer o dai newydd yn cael eu gwerthu ar lesddaliad. Mae llawer o’r ardaloedd hyn yn y gogledd, efo Aberconwy, gorllewin Clwyd, Wrecsam a Delyn ar frig y tabl o ran nifer y tai newydd yn cael eu gwerthu ar lesddaliad. Mi fyddai’r Bil newydd, wrth gwrs, yn golygu y byddai ceisiadau cynllunio ar gyfer tai newydd lesddaliad yn cael eu gwrthod, ac y mae hynny hefyd yn rhywbeth rydw i yn gefnogol iddo fo.

Gall fod amgylchiadau eithriadol, wrth gwrs. Nid ydw i’n gallu meddwl am unrhyw amgylchiadau efallai lle dylid caniatáu tai newydd lesddaliad, ond mae hynny’n rhywbeth y dylid meddwl amdano fo wrth i’r Bil gael ei graffu arno, rhag ofn bod yna unrhyw fath o rwystr yn dod yn sgil hynny. Efo’r gair yna o rybudd, rydw i'n eich llongyfarch chi am ddod â’r mater yma gerbron, ac yn edrych ymlaen yn sicr i weld y Bil yn mynd trwyddo. Diolch.

Roeddwn innau hefyd eisiau sôn am rai enghreifftiau o'r anawsterau sy'n wynebu perchnogion tai yng Nghymru, oherwydd yn fy etholaeth i, Dwyrain Casnewydd, cyfarfûm yn ddiweddar â dirprwyaeth o gwmni datblygu tai o fri sy'n adeiladu ar lan yr afon lle y ceir 81 lesddeiliad a welodd, yn fuan ar ôl prynu, y byddai eu rhenti tir yn dyblu bob 10 mlynedd, ac ni chafodd hynny ei ddwyn i'w sylw wrth iddynt brynu'r lesddaliadau, a bydd y rhydd-ddaliad wedyn yn cael ei werthu ymlaen i gwmni gwahanol i'r datblygwr. Ni ddaethant yn ymwybodol o faint y problemau'n llawn, a chymaint oedd y sgandal a oedd ynghlwm wrth y materion hyn fel eu bod wedi dod i sylw cenedlaethol yn y DU, mewn gwirionedd, pan roddodd Llywodraeth y DU gamau ar waith i fynd i'r afael â hwy. Cyflwynodd y datblygwr gynllun gwirfoddol wedyn i fynd i'r afael â rhent tir fel na fydd yn dyblu bob 10 mlynedd, ond yn hytrach yn codi'n unol â'r mynegai prisiau manwerthu, ond nid yw hynny'n berthnasol i'r rheini a brynodd gan y cwmni y gwerthwyd y rhydd-ddaliadau ymlaen iddynt. Felly, mae yna bellach lesddeiliaid a fydd yn gweld eu rhent tir yn dyblu bob 10 mlynedd, ac eraill y bydd eu rhent tir yn codi'n unol â'r mynegai prisiau manwerthu. Maent yn teimlo'n gryf iawn, bob un ohonynt, ni waeth beth yw eu sefyllfa, fod angen mynd i'r afael â'r arferion amheus hyn a'u hatal rhag digwydd yn y dyfodol. Mae'n gwestiwn, wrth gwrs, beth y gellir ei atal, ond hefyd beth y gellir ei wneud ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn y sefyllfa honno, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn yn gyffredinol er mwyn datblygu diwygiadau angenrheidiol, a fydd yn berthnasol i'n hamgylchiadau penodol yng Nghymru, gobeithio, yn ogystal ag yn Lloegr. Credaf felly ei bod hi'n wirioneddol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i edrych ar y materion hyn mewn cydweithrediad agos â Llywodraeth y DU, ond hefyd ein bod yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn gan Aelod, a fydd yn ymdrin yn eglur ag un agwedd ar y problemau ar gyfer y dyfodol.

16:15

Diolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym yn trafod llawer o feysydd tebyg i'r hyn a drafodwyd yn y ddadl gan Aelod unigol y cymerodd Mick ran ynddi hefyd, gyda phobl eraill, felly nid wyf am ailadrodd popeth a ddywedais bryd hynny—mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau yn dal yn ddilys. Yn UKIP rydym yn cytuno'n fras â'r egwyddor o gyfyngu'n ddifrifol ar lesddeiliadaeth ar gyfer tai a adeiladir o'r newydd yn y dyfodol, sef yr hyn y mae Mick yn ceisio ei gyflawni, ac mae'n broblem go iawn. Diwygiwyd lesddaliadau yng Nghymru yn ystod y 1950au, ond rydym yn gwybod bod lesddaliadau'n sleifio'n ôl. Dyfynnodd Mick y ffigur o 200,000 o gartrefi lesddaliad yng Nghymru, felly rydym yn cytuno ei bod yn broblem a byddai'n dda pe gallem ymdrin â hi mewn ffordd ystyrlon. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried hyn a bod rhai camau yn yr arfaeth, felly bydd yn ddiddorol clywed beth sydd ganddynt i'w ddweud heddiw.

I ddychwelyd at ystyriaethau perthnasol sy'n deillio o'r broblem hon, soniodd John Griffiths am renti tir yn codi. Mae yna broblem hefyd gyda'r gwahaniaeth sylweddol mewn prisiadau tai pan fyddant yn mynd ar y farchnad, os oes gwahaniaethau rhwng rhywun sy'n berchen ar rydd-ddaliad a rhywun arall drws nesaf sy'n berchen ar lesddaliad. I ddangos hynny, mae gennyf etholwr yng Nghwm Cynon a werthodd ei thŷ yn y pen draw am £110,000 am mai lesddeiliad yn unig oedd hi, er bod eiddo arall yn yr un stryd yn mynd am £140,000, sy'n golled sylweddol. Nid oedd yr unigolyn yn sylweddoli pan brynodd ei heiddo beth oedd lesddaliad hyd yn oed, felly mae hynny'n ein harwain at fater cysylltiedig addysg ariannol a helpu i sicrhau bod pobl yn gwybod beth y maent yn ymrwymo iddo pan fyddant yn cael cytundeb morgais yn y lle cyntaf.

I gloi, rydym yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'r cynnig hwn, ac rydym yn hapus i'w gefnogi heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n falch o gefnogi cynnig deddfwriaethol Mick Antoniw. Mae'n ymdrin â mater y siaredais amdano yn y ddadl gan Aelod unigol, ac mae'n effeithio ar fy etholwyr ym Mro Morgannwg, gyda 3,500 o dai newydd yn y Quays yn ardal y glannau yn y Barri a adeiladwyd gan gonsortiwm Taylor Wimpey, Barratt a Persimmon. Ar y pryd, tynnais sylw at y ffaith bod cynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru wedi cefnogi canran fawr o brynwyr newydd yn y lleoliad hynod ddymunol hwn, sy'n cysylltu'r dref ag Ynys y Barri drwy ffordd newydd—datblygiad pwysig ar gyfer tref y Barri. Ond lleisiwyd pryderon ynghylch y defnydd o lesddaliad gan y datblygwyr, a chrybwyllais y pryderon wrth y Gweinidog yn gynharach eleni. Gwneuthum y pwynt ym mis Ionawr ein bod yn sybsideiddio cefnogaeth i berchenogion tai drwy Cymorth i Brynu gydag arian cyhoeddus, ac felly'n ymyrryd yn y farchnad dai er budd datblygwyr ac yn wir, er budd prynwyr tai. Ond gallent fod dan anfantais yn y tymor byr a'r tymor hir oherwydd trefniadau lesddaliadol a orfodwyd arnynt yn y datblygiadau newydd, felly roeddwn yn falch iawn o gydnabod cyhoeddiad y Gweinidog ar 6 Mawrth. Mae'r pecyn hwnnw o fesurau, a lansiwyd ganddi yn y Barri, ar ymweliad â'r Quays, lle y cyfarfu â'r datblygwyr—ar gyfer tai a fflatiau sydd â hawl i gael cymorth o dan Cymorth i Brynu, ac fe gynhwysodd y pecyn newydd hwn, gan gynnwys meini prawf newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwr gyflwyno rheswm dilys dros farchnata tŷ fel lesddaliad yn ogystal â nifer o fesurau pwysig.

Gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y datblygiadau, oherwydd o ran gwaith gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, maent yn gweithio ar ddewisiadau amgen yn lle lesddaliadau, megis cyfunddaliadau, gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hawl i reoli. Ond clywsom dystiolaeth gref heddiw eto am fethiannau, am gwmnïau rheoli sy'n gwneud elw yn gadael trigolion yn agored i niwed ac i fyw mewn amgylchiadau annerbyniol. Felly, er y bydd angen diwygio lesddeiliadaeth, yn enwedig mewn perthynas â fflatiau a chartrefi mewn eiddo a rennir, rwy'n cefnogi Mick Antoniw yn ei alwad am ateb deddfwriaethol a wnaed yng Nghymru. Mae gennym bwerau i wahardd tai newydd rhag cael eu datblygu fel lesddaliadau. Gallai Cymru arwain y ffordd.

16:20

A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies?

Member
Alun Davies 16:21:03
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau, fel yr Aelodau eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma, drwy ddiolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r cynnig hwn? Credaf fod pawb ohonom sydd wedi gwrando ar y ddadl fer hon heddiw wedi ein calonogi gan lefel y cytundeb ar bob ochr i'r Siambr. Gwn fod pob Aelod wedi siarad o brofiad personol a phrofiad etholaeth ar y materion hyn, a phe bawn i'n sefyll yma fel Aelod dros Flaenau Gwent, buaswn innau hefyd yn ymuno yn llawer o'r sgyrsiau hynny. Credaf ei bod yn glir iawn nid yn unig fod yna safbwyntiau cryfion ar draws y Siambr, ond bod cytundeb cryf ar draws y Siambr yn ogystal, fel y nodais.

Gwnaeth disgrifiad Mick Antoniw o lesddaliad fel crair ffiwdal sy'n perthyn i'r gorffennol gryn argraff arnaf, ac mae'n rhywbeth y mae gennyf gydymdeimlad mawr ag ef, rhaid imi ddweud. Nid wyf yn anghytuno â'r Aelod dros Bontypridd ar y materion hyn. A gwn ei fod wedi trafod gyda'r Gweinidog ar nifer o achlysuron fod y rhain yn broblemau go iawn i filoedd lawer o bobl.

Ond rydym hefyd yn gwybod bod lesddaliad yn ddeiliadaeth sy'n berthnasol i raddau lle y ceir safleoedd sy'n cynnwys mannau a chyfleusterau cymunedol, a gwn y bydd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn cydnabod hynny unwaith eto y prynhawn yma. Ond rhaid inni gytuno hefyd ei bod yn ymddangos nad oes fawr o gyfiawnhad dros gynnig tai a adeiladwyd o'r newydd fel lesddaliadau. Mae hi hefyd yn glir iawn nad oedd llawer o bobl sydd wedi prynu eiddo lesddaliad yn llwyr ymwybodol o'r hyn y mae lesddaliad yn ei olygu mewn gwirionedd a beth yw eu hawliau a'u rhwymedigaethau o ganlyniad i'r math hwnnw o berthynas gytundebol. Gall gwasanaeth cynghori ar lesddaliadau a ariennir gan y Llywodraeth helpu, ac mae wedi cael dros 30,000 o ymweliadau â'i wefan gan gleientiaid yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym eisoes wedi gweithredu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Fro Morgannwg am gydnabod hynny ac mae'r Gweinidog eisoes wedi rhoi nifer o fesurau ar waith. Disgrifiwyd y cyhoeddiad a wnaed ym mis Mawrth eisoes, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cydnabod bod y Llywodraeth yn mynd ati i weithredu'r camau y gallwn eu rhoi ar waith.

Rydym wedi cael gwared ar gymorth drwy Cymorth i Brynu—Cymru ar gyfer tai lesddaliad newydd ac rydym hefyd yn sicrhau bod ymrwymiad gan y pum prif ddatblygwr yng Nghymru na fyddant yn cynnig tai a adeiladwyd o'r newydd i'w gwerthu fel lesddaliadau, heblaw lle y ceir ychydig o eithriadau angenrheidiol. Er mwyn sicrhau bod yr eiddo a gynigir yn gyfreithlon drwy Cymorth i Brynu—Cymru ar sail lesddaliad yn cynnig bargen deg, mae gofyniad newydd ar gyfer hyd lesddaliad a chyfyngiadau i rent tir yn gymwys bellach ar gyfer eiddo a brynir drwy'r cynllun. Gall unrhyw un sy'n prynu cartref ddewis defnyddio trosgludiaethwr Cymorth i Brynu—Cymru achrededig a chael sicrwydd eu bod wedi'u hyfforddi i ddarparu'r cyngor y mae prynwyr ei eisiau a'i angen.

Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn faes hynod o gymhleth o'r gyfraith a dyma pam y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi prosiect Comisiwn y Gyfraith i symleiddio a gwella'r dull o ryddfreinio lesddaliad ac ailfywiogi cyfunddaliadau fel dewis amgen yn lle lesddaliad. Gan fod y materion hyn yn galw am ystyriaeth ofalus, gobeithiaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod bod Comisiwn y Gyfraith mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y gwaith. Yn ogystal â'r mesurau hyn, rydym hefyd yn dwyn grŵp amlddisgyblaethol ynghyd i roi cyngor ar gamau anneddfwriaethol pellach, gan gynnwys cod ymarfer i godi safonau a phroffesiynoli rheoli eiddo. Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y materion hyn yn yr wythnosau nesaf. Mae'r Gweinidog hefyd wedi gofyn am wneud ymchwil i ganfod cwmpas a maint y problemau sy'n gysylltiedig â lesddaliadau yng Nghymru fel y byddwn mewn gwell sefyllfa i gymryd y camau cywir i fynd i'r afael â'r problemau go iawn y mae pobl yn eu dioddef. A gadewch imi ddweud hyn a bod yn gwbl glir: mae'r Llywodraeth yn gwbl glir fod yr anawsterau hyn yn bodoli ac rydym yn cydnabod grym y ddadl a wnaed y prynhawn yma.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu gwaith Mick Antoniw ar gadw'r mater pwysig hwn yn uchel ar yr agenda wleidyddol, a hoffwn ei sicrhau'n bendant nad yw'r Llywodraeth wedi diystyru deddfwriaeth yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae'r Gweinidog cynllunio, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, yn ei lle ac mae hithau hefyd wedi gwrando ar y ddadl hon y prynhawn yma, ac mae'n deall ac yn cydnabod y problemau gyda'r system gynllunio a'r strwythurau cynllunio y mae eich deddfwriaeth yn ceisio mynd i'r afael â hwy.

Heb gynnig manwl, ni allwn ymrwymo'r Llywodraeth y prynhawn yma i gynnig sydd wedi'i gyflwyno yma, felly byddaf yn gofyn i Weinidogion ymatal ar hyn, ond wrth wneud hynny, hoffwn gofnodi ymrwymiad clir iawn hefyd, Ddirprwy Lywydd, y byddwn yn parhau i gael sgwrs gyda'r Aelod dros Bontypridd ac Aelodau eraill sydd wedi codi materion y prynhawn yma i wneud yn siŵr ein bod mewn sefyllfa i sicrhau bod gennym strwythurau ar waith—rhai deddfwriaethol os bydd angen, rhai anneddfwriaethol yn bendant—i sicrhau bod amddiffyniadau ar waith ar gyfer pobl sy'n chwilio am gartref.

16:25

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Mick Antoniw i ymateb i'r ddadl?

A gaf fi yn gyntaf ddiolch i'r rhai a siaradodd yn y ddadl a'r rhestr anochel sydd gennym o straeon arswyd am y system bresennol? A gaf fi hefyd ddiolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymrwymiad a wnaeth, a chredaf ei fod wedi symud ymhellach ymlaen i o leiaf ddechrau edrych ar realiti posibl deddfwriaeth? Roeddwn yn cytuno'n fawr â llawer o'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n ymwneud â mater Comisiwn y Gyfraith a'r holl faterion ôl-weithredol. Y pwynt am yr argymhelliad penodol hwn mewn perthynas â deddfwriaeth yw ei fod yn dweud y gallwn gyfleu neges glir egwyddorol, a hefyd, gallwn glirio'r byrddau, gallwn ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ar gyfer creu darn syml iawn o ddeddfwriaeth, gyda ffocws clir iawn, sy'n dweud yn y bôn, 'Digon yw digon—ni fydd rhagor o lesddaliadau mewn perthynas â pherchnogaeth ar dai a adeiladir o'r newydd.'

Y rheswm pam y dylem ddefnyddio'r pŵer hwnnw—fe fyddaf yn blwmp ac yn blaen am y peth—yw nad yw'r ymrwymiadau sydd gennym gan y sefydliadau adeiladu tai yn werth y papur y maent wedi eu hysgrifennu arnynt i fod yn onest. Ymhen pedair neu bum mlynedd, os gellir cynyddu anghenion proffidioldeb y cwmnïau hynny drwy gael lesddeiliadaeth, dyna fydd yn digwydd. Cwmnïau yw'r rhain. Rydym yn byw mewn cymdeithas gyfalafol, yn anffodus. Rydym yn byw mewn cymdeithas gyfalafol a diben y cwmnïau hyn yw gwneud cymaint â phosib o elw. Felly, mae angen inni sicrhau bod y materion hyn—boed yn fancio tir, crynhoi tir, uwchgynllunio, fel y mae'r cwmnïau hyn yn ei wneud, dros 10, 20, 30 mlynedd ymlaen llaw—rydym yn dileu, rydym yn diddymu'r posibilrwydd o lesddaliadau pellach yn dod yn ôl i aflonyddu arnom yn y dyfodol. Mae'n rhoi eglurder egwyddorol llwyr inni ac mae'n enghraifft o lle y gallwn ddefnyddio ein pwerau er budd ein pobl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Onid dyna oedd diben Deddf cenedlaethau'r dyfodol? Mae'n ymwneud â chymryd camau, mae'n ymwneud â gwneud pethau sy'n diogelu cenedlaethau'r dyfodol mewn gwirionedd. A byddai darn byr, syml o ddeddfwriaeth fel hyn yn cyfrannu'n sylweddol at sefydlu'r egwyddor honno a'r eglurder hwnnw a byddai'n dangos bod gan y Cynulliad hwn bwerau a'i fod yn defnyddio'i bwerau er budd pobl Cymru.

Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Ddeisebau P-04-472 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf' a P-04-575 'Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig'

Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl ar ddeisebau P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf', a P-04-575, 'Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar gyfer Cloddio Glo Brig'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—David Rowlands.

Cynnig NDM6747 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a Deiseb P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig— Crynodeb o’r ystyriaeth', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch ichi am y cyfle i gael y ddadl hon am adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddwy ddeiseb yn ymwneud â chloddio glo brig. Cyflwynwyd y ddwy ddeiseb yn ystod y tymor Cynulliad blaenorol ac maent wedi bod yn destun trafodaeth ers cryn dipyn o amser. Felly, hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith a wnaed ar y materion hyn gan Aelodau yn y Cynulliad cyfredol a'r Cynulliad blaenorol. Yn benodol, hoffwn gofnodi ein diolch i'r Pwyllgor Deisebau blaenorol.

Mae deiseb P-04-472, a gyflwynwyd gan Dr John Cox ac a ddenodd 680 o lofnodion, yn ymwneud â statws 'Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo ', a elwir yn fwy cyffredinol yn MTAN 2. Dadl Dr Cox yw y dylai cynnwys y MTAN gael ei wneud yn orfodol yng nghyfraith gynllunio Cymru. Yn benodol, mae wedi cyfeirio at y gofyniad i gael clustogfa o 500m o amgylch gweithfeydd glo brig ac mae wedi darparu enghreifftiau o ble na chafodd hyn ei orfodi.

16:30

Daeth David Melding i’r Gadair.

Mae'r ail ddeiseb i'r Cynulliad, P-04-575, yn galw am alw i mewn pob cais cynllunio cloddio glo brig i'w penderfynu gan Lywodraeth Cymru. Fe'i cyflwynwyd gan Grŵp Gweithredu United Valleys, dan arweiniad Terry Evans, a chasglwyd 180 o lofnodion. Hoffai'r Pwyllgor Deisebau gydnabod y modd cydwybodol, penderfynol ac amyneddgar y mae'r ddwy set o ddeisebwyr wedi ymwneud â'r Cynulliad yn ystod y cyfnod y bu'r deisebau hyn dan ystyriaeth.

Gosodwyd ein hadroddiad ar y deisebau hyn yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill. Mae'r adroddiad yn cynnwys trosolwg o'r dystiolaeth a gawsom yn ystod ein hystyriaeth o'r materion hyn, yn y pedwerydd a'r pumed Cynulliad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y dystiolaeth a gawsom, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, hefyd ar gael i'r cyhoedd drwy wefan y Cynulliad.

Fe siaradaf am beth o'r dystiolaeth yn ystod gweddill y cyfraniad hwn. Mae canllawiau MTAN yn cwmpasu amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud â datblygiadau glo, gan gynnwys dewis safleoedd, diogelu'r amgylchedd a lleihau effaith cloddio glo ar gymunedau lleol. Dylid ei ystyried mewn penderfyniadau cynllunio, fel polisïau a chanllawiau cynllunio eraill, ond ni cheir gofyniad statudol penodol i'w ddilyn.

Mae deiseb Dr Cox yn galw am roi'r MTAN ar sail statudol a gorfodol mewn cyfraith gynllunio. Cafodd y ddeiseb ei hysgogi gan y broses gynllunio a ddilynodd gais am waith glo brig yn y Farteg yn Nhorfaen. Gwn ei fod yn fater a godwyd yn y Siambr hon ar nifer o achlysuron blaenorol, yn arbennig gan Lynne Neagle, ac rydym yn cydnabod ei chyfraniad sylweddol i'r trafodaethau ynghylch MTAN.

Roedd y cais hwn yn mynd yn groes i agweddau ar y canllawiau MTAN, gan gynnwys mewn perthynas â'r glustogfa o amgylch y gwaith arfaethedig. Gwrthodwyd y cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ond daeth yn destun apêl gan y datblygwr yn dilyn hynny. Barn Dr Cox oedd bod yr arolygydd cynllunio wedi anwybyddu'r canllawiau MTAN yn ystod y gwrandawiadau ac wrth wneud y penderfyniad i gymeradwyo'r cais. Y canlyniad oedd honiad y ddeiseb y dylid cryfhau'r canllawiau drwy eu rhoi ar sail statudol.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod angen i bolisïau cynllunio fod yn hyblyg mewn modd na fyddai'n bosibl pe baent yn gyfraith. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan ei barn y dylid ystyried polisi cynllunio ar bob cam yn ystod y broses gynllunio. Mae'r pwyllgor yn cytuno â hyn. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi lleisio pryderon ynghylch graddau'r oruchwyliaeth o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio ei hun, a pha un a ddylid cynnal archwiliadau ar y penderfyniadau a wneir gan arolygwyr. Credwn fod hyn yn hynod bwysig ar gyfer sicrhau dull sylfaenol gyson o weithredu, yn enwedig mewn perthynas ag apeliadau.

Roedd y ddeiseb gan Grŵp Gweithredu United Valleys yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru alw i mewn pob cais cynllunio cloddio glo brig dros faint penodol. Byddai hyn yn ffordd o sicrhau'r cysondeb hwnnw o bosibl. Mae'r deisebwyr wedi dadlau bod goblygiadau'r datblygiadau hyn yn bellgyrhaeddol a hirsefydlog, gydag effeithiau y tu hwnt i'r ardal leol. Felly, maent yn teimlo y dylid ystyried ceisiadau o'r fath ar sail genedlaethol.

Mae'r pwyllgor yn nodi bod y broses galw i mewn yn ymwneud â'r cwestiwn ynglŷn â phwy ddylai wneud penderfyniad cynllunio, yn hytrach na rhinweddau, neu fel arall, unrhyw gais penodol. Gall y seiliau ar gyfer galw i mewn gynnwys achosion lle y gallai cais gael effaith y tu hwnt i'r ardal gyfagos; mae'n debygol o effeithio'n sylweddol ar ardaloedd tirwedd neu natur; neu mae'n groes i bolisïau cynllunio cenedlaethol. Dadl y deisebydd yw bod y meini prawf hyn oll yn berthnasol i geisiadau ar gyfer datblygiadau glo brig. Ar ben hynny, maent wedi mynegi pryderon ynglŷn ag i ba raddau y ceir arbenigedd a gwybodaeth dechnegol mewn awdurdodau cynllunio lleol i ymdrin yn effeithiol â cheisiadau cynllunio o'r math hwn. Fodd bynnag, mae Gweinidogion o'r farn y dylid defnyddio'r pŵer i alw ceisiadau i mewn yn ddetholus. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod polisi hollgynhwysol ar gyfer galw i mewn pob cais cynllunio o'r math hwn yn briodol.

Trof yn awr at ddatblygiadau cyffredinol diweddar mewn perthynas â chloddio glo, a pholisïau cynllunio Llywodraeth Cymru yn benodol. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet hi'n glir ar sawl achlysur mai bwriad Llywodraeth Cymru yw symud tuag at economi carbon isel ac oddi wrth y defnydd parhaus o danwydd ffosil. Mae'r ymgynghoriad diweddar ar newidiadau i 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cadarnhau'r cyfeiriad teithio hwn. O ran cloddio glo brig, nododd y fersiwn o'r polisi a oedd yn destun ymgynghori,

'Ni ddylid caniatáu cynigion ar gyfer datblygiadau glo brig, pyllau glo dwfn na gwaredu gwastraff pyllau glo.'

Croesawodd y Pwyllgor Deisebau y dull hwn o weithredu yn ein hadroddiad. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi cau, ac wrth gwrs, byddai gennym ddiddordeb mewn unrhyw ddiweddariadau y gall Ysgrifennydd y Cabinet eu darparu heddiw ar yr agwedd hon ar bolisi cynllunio cenedlaethol yn y dyfodol.

Hoffwn gyffwrdd yn fyr hefyd ar faterion etifeddiaeth a gwaith adfer. Amlygwyd nifer o enghreifftiau i ni lle roedd gwaith adfer ar safleoedd glo brig yn annigonol, neu hyd yn oed heb ddigwydd o gwbl. Dadleuai'r ddwy set o ddeisebwyr yn gryf fod angen gwneud llawer mwy ar hyn, gan gynnwys yr angen i awdurdodau lleol gael blaendal sy'n cyfateb i gostau llawn y gwaith o adfer y safle ymlaen llaw. Rydym yn nodi bod y mater hwn hefyd wedi bod yn destun sylw gan y cyfryngau yn ddiweddar. Unwaith eto, dyma fater sydd wedi'i gynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Fodd bynnag, er bod y polisi drafft yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith adfer, nid yw'n gwneud blaendal llawn yn ofynnol ymlaen llaw. Mae'n amlwg fod y dull hwn o weithredu wedi arwain at broblemau yn y gorffennol pan na fu'n bosibl i awdurdodau lleol adennill y costau angenrheidiol ar gyfer gwneud gwaith adfer. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod yn rhaid cael gwarantau effeithiol gan y rhai sy'n gyfrifol am ddatblygiadau cloddio glo brig. Gallai hyn gynnwys blaendal ymlaen llaw ar gyfer holl gostau adfer safle. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gadw effeithiolrwydd polisi cenedlaethol yn hyn o beth o dan adolygiad manwl.

I gloi, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd dros gyfnod sylweddol o amser, daeth y pwyllgor i bedwar casgliad. Rydym yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi ei chefnogaeth yn dilyn hynny i bob un o'r rhain. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd Cymru'n gweld rhagor o geisiadau ar gyfer cloddio glo brig yn y dyfodol. At hynny, os yw polisi cynllunio yn cael ei ddiwygio ar hyd y llinellau a argymhellwyd, byddai'n ymddangos yn debygol y byddai unrhyw geisiadau o'r fath yn cael eu gwrthod. Er y byddai hyn yn rhywfaint o gysur i'r bobl sydd wedi cyflwyno deiseb i'r Cynulliad ar y pwnc hwn, mae hefyd yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol yn mynd ati'n effeithiol i orfodi'r polisïau hyn sy'n bodoli er mwyn diogelu cymunedau lleol a'r amgylchedd. Rhaid i hyn gynnwys sicrhau bod polisïau cynllunio cenedlaethol yn cael eu dilyn a'u cynnal, heblaw, efallai, mewn amgylchiadau eithriadol, ac y gellir gwarantu a defnyddio darpariaeth ddigonol i adfer safleoedd ar gyfer eu defnyddio mewn modd addas gan gymunedau lleol. Diolch yn fawr.

16:35

Rwy'n falch iawn o wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon. Fel y nododd David Rowlands, cyflwynwyd y ddeiseb 'Gwnewch y MTAN yn gyfraith' gan un o fy etholwyr, Dr John Cox, ac rwyf wedi gweithio'n agos gydag ef ar y ddeiseb honno ac wedi rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebau ym mis Mai 2013. Fel y dywedodd David Rowlands, cyflwynwyd y ddeiseb wedi i gyngor Torfaen wrthod y cais ar gyfer cloddio glo brig yn y Farteg. Roedd y cais hwnnw ar gyfer cloddio ychydig fetrau'n unig o gartrefi trigolion ac ysgol gynradd leol.

Rwy'n credu'n bendant fod cyngor Torfaen wedi gwneud y peth iawn. Fe wnaethant edrych ar y MTAN a gweld fod clustogfa yno, ac ar sail honno, gwrthodwyd y cais. Gallai awdurdod lleol wynebu risg drwy wrthod cais gan fod posibilrwydd bob amser o apêl ac awdurdodau lleol prin o arian yn gorfod ysgwyddo costau pe baent yn colli'r apêl. Fodd bynnag, fe wnaeth Cyngor Torfaen y peth iawn yn gwrthod, ond yn anffodus, apeliodd y datblygwyr a chynhaliwyd ymchwiliad cynllunio llawn.

Ar y pwynt hwnnw, roedd hi'n ymddangos bod yr arolygydd cynllunio wedi diystyru'r canllawiau yn y polisi MTAN ynglŷn â'r glustogfa ac wedi argymell cymeradwyo'r cais. Felly, aeth yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru, a pholisi a gytunwyd yn unfrydol gan y Cynulliad hwn. A dyna a arweiniodd at y ddeiseb hon, mewn gwirionedd, oherwydd nid oeddem yn credu y dylid cael diffyg cydlyniad o'r fath rhwng polisi Llywodraeth Cymru, polisi y Cynulliad, a'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad.

Rwy'n falch ein bod yn trafod yr adroddiad hwn heddiw, ac rwy'n mawr obeithio bod David Rowlands yn iawn i edrych ymlaen at glywed beth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud, a gobeithiaf na fyddwn yn gweld ceisiadau glo brig newydd. Ond nid wyf yn hollol glir o'r adroddiad hwn sut y mae hyn yn mynd i ddiogelu cymunedau wrth symud ymlaen rhag yr un math o beth ag a ddigwyddodd yn y Farteg. Mae angen inni gael rhywfaint o sicrwydd, lle mae polisi ar waith, fod arolygwyr cynllunio yn mynd i'w ddilyn.

Diolch i David Rowlands am ei eiriau caredig i mi, ond roeddwn am fynegi pryderon am y cyfnod hir iawn o amser y mae wedi cymryd i'r ddeiseb hon ddwyn ffrwyth yma. Mae wedi cymryd pum mlynedd, a chredaf fod yn rhaid i ni gydnabod pan fydd dinasyddion neu gymunedau yn troi at y Pwyllgor Deisebau, maent yn gwneud hynny oherwydd eu bod angen ein help a'n cymorth gyda phroblem yn y fan a'r lle, mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i geisio ymateb i'r pryderon hynny mor amserol â phosibl. Nid wyf yn gwybod pam y mae wedi cymryd cymaint o amser i hyn ddod yn ddadl heddiw, ond credaf fod angen inni edrych ar hynny, gan nad oes unrhyw ddiben cael Pwyllgor Deisebau os na allwn ymateb mewn modd amserol ac effeithiol i bryderon dinasyddion Cymru.

Edrychaf ymlaen at glywed sicrwydd Ysgrifennydd y Cabinet na fydd cymunedau eraill yng Nghymru—a gobeithio, yn sicr, fy nghymuned i'n arbennig—byth yn cael eu rhoi yn y sefyllfa y cafodd trigolion y Farteg a chyngor Torfaen eu rhoi ynddi rai blynyddoedd yn ôl.

Cyn i mi orffen, hoffwn gofnodi fy niolch mawr iawn i Carl Sargeant a oedd â digon o synnwyr, diolch byth, i wrthod y cais yn groes i argymhelliad yr Arolygiaeth Gynllunio. Felly, diolch yn fawr iawn oddi wrthyf fi a phreswylwyr y Farteg i Carl Sargeant. Diolch.

16:40

Diolch, Lywydd dros dro, ac rwy'n siŵr y bydd gan rai o'r Aelodau o Gynulliadau blaenorol atgofion melys wrth eich gweld yn y Gadair. A gaf finnau hefyd gofnodi fy llongyfarchiadau ar eich arwisgo â CBE ddoe gan y Tywysog Charles?

Y Pwyllgor Deisebau, cefais syndod o weld y Pwyllgor Deisebau yn dod yma heddiw er cymaint o amser a aeth heibio ers i'r deisebau hyn gael eu cyflwyno gyntaf. Mae'n bosibl fod rhesymau penodol dros yr oedi, ond o'm rhan i, hoffwn ddiolch i David Rowlands fel Cadeirydd, a'r pwyllgor, am barhau i fynd ar drywydd hyn, ac nid oedd y ffaith ei fod wedi bod yno ers amser maith yn rheswm dros ei anghofio, ond o leiaf, roedd ei gyflwyno heddiw ar gyfer dadl yn rhywbeth cadarnhaol yn fy marn i.

Rwy'n credu bod Lynne wedi siarad yn glir am yr anawsterau penodol, a buaswn yn cytuno â'i beirniadaeth o adroddiad yr arolygydd ar y cais i gyngor Torfaen, ond yn y pen draw, fe wnaeth y Gweinidog y penderfyniad cywir a oedd yn gyson â'r canllawiau. Ac mae'n ymddangos i mi fod y gyfundrefn ganllawiau yn darparu lefel synhwyrol o ddisgresiwn lleol, a bydd pob cais a phob datblygiad arfaethedig yn wahanol, ac mae'n ymddangos i mi yn synhwyrol fod gan Weinidogion, Llywodraeth a'r Cynulliad hwn fewnbwn ar gyfer darparu canllawiau ar yr hyn sy'n bethau priodol i'w hystyried. Wedyn gall y pwyllgor cynllunio ystyried sefyllfaoedd lleol, a'r un mor bwysig, safbwyntiau lleol. Mae'n amlwg nad yw cloddio glo brig yn boblogaidd yn aml iawn, a lle y cafodd ei gyflwyno, yn gyffredinol cafwyd gwrthwynebiad sylweddol. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na fyddai pwyllgor cynllunio a etholwyd yn lleol yn rhoi ystyriaeth briodol i'r gwrthwynebiadau gan y bobl sy'n byw yn eu hardal, a chredaf fod y gyfundrefn honno'n well wrth gefnogi lleoliaeth yn ôl pob tebyg, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn gefnogol iawn i hynny, yn hytrach na gwneud y canllawiau'n statudol neu gael gofyniad y dylech alw cais i mewn ym mhob achos, ni waeth beth yw manylion penodol yr ardal leol, os yw'n fwy na rhyw faint penodol.

Fodd bynnag, credaf fod y deisebwyr wedi llwyddo i raddau helaeth yn eu hamcanion. Efallai y bydd y Gweinidog yn ein goleuo ymhellach pan fydd yn siarad. Ond credaf fod drafft Polisi Cynllunio Cymru 10, y daeth yr ymgynghoriad yn ei gylch i ben ganol mis Mai, i'w weld wedi tynhau'r polisi'n eithaf sylweddol, ac mae'n anodd gweld sut y gall cloddio glo brig wneud ei ffordd drwyddo. Rhoddodd Cadeirydd y pwyllgor y frawddeg gyntaf; mae'n parhau:

'Pe bai cynigion yn cael eu cyflwyno o dan amgylchiadau cwbl eithriadol, byddai’n rhaid iddynt ddangos yn glir pam eu bod eu hangen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd a diogelwch ynni.'  

Credaf fod hynny'n ddiddorol, ac yn heriol mewn rhai ffyrdd, oherwydd mae'n gosod y cyfrifoldeb am yr eithriad ar ystyriaethau cenedlaethol, a DU gyfan mae'n debyg, ynghylch targedau newid hinsawdd a diogelwch ynni. Tybed, o fewn hynny, a geir argymhelliad a wnaed gan Lywodraeth y DU a pholisi—credaf iddo gael ei gefnogi o'r blaen, i raddau, gan Lywodraeth Cymru—y dylid dirwyn glo i ben yn raddol erbyn canol i ddiwedd y 2020au rwy'n credu, pe bai rhywun yn dweud yn y cyfamser, 'Wel, dyna'r polisi, dyna a gytunwyd, ond o ran sicrwydd ynni, onid yw'n well ei gynhyrchu gartref yn hytrach na dibynnu ar fewnforion o bell?' Rwy'n meddwl tybed beth fyddai arolygydd cynllunio yn ei wneud o'r ddadl honno, ac fe edrychwn ymlaen at weld y canllawiau terfynol y bydd y Gweinidog yn eu cyflwyno yn y maes hwn.

Mae'r Cymoedd wedi symud ymlaen ers dyddiau'r gweithfeydd glo a'r adeg pan oedd hi'n ardal lofaol fwyaf blaenllaw'r byd o bosibl, ac yn sicr o ran ansawdd y glo. Cawsom rywfaint o gloddio glo brig, ond mae wedi bod yn eithaf amhoblogaidd ar yr adegau pan gafodd ei gynnig. Gwn fod yna gynnig wedi bod ynghylch Dowlais Top lle roedd gan bobl safbwyntiau cryf iawn yn ei erbyn. Hefyd, ardal gorllewin Rhyd-y-car, lle y cafwyd cynigion o'r blaen ar gyfer cloddio glo brig—mae'n gyffrous iawn fod Marvel yn awr yn cyflwyno cynnig sylweddol iawn ar gyfer datblygiad y gobeithiaf, o leiaf, y bydd yn fwy poblogaidd na chloddio glo brig, canolfan eira dan do, parc sglefrio a beicio, parc dŵr dan do, a llety gwyliau a chartrefi, ac mae buddsoddiad sylweddol iawn eisoes wedi mynd tuag ato a diolch iddynt am eu gwahoddiad i ddigwyddiad gwybodaeth ddydd Gwener.

Ond credaf fod mater galw i mewn a gwneud penderfyniadau lleol—yn amlwg, mewn rhai ardaloedd, mae ceisiadau penodol yn heriol tu hwnt ac yn anodd iawn a cheir manylion niferus iawn ynghlwm wrthynt. I awdurdodau lleol sy'n brin o arian, yn enwedig rhai bach, gallant fod yn bethau sylweddol iawn. Ond credaf fod pwysigrwydd democratiaeth leol yn allweddol, ac rwyf wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig ar hyn, a deallaf yr anawsterau, os yw'n dod at Weinidogion yn dilyn apêl ac arolygydd cynllunio, nad ydych chi eisiau rhagfarnu pethau, ond tybed a allai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddarparu cymorth cynllunio neu adnoddau, efallai, y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio ar gyfer ceisiadau arbennig o fawr ar lefel ganolog, gan sicrhau ar yr un pryd na fyddai'r ddarpariaeth o adnoddau ac arbenigedd cyffredinol yn rhagfarnu unrhyw apêl ddiweddarach y gallai Gweinidogion orfod ymdrin â hi.

Rwy'n llongyfarch y deisebwyr a'r Pwyllgor Deisebau am ymdrin â hyn o'r diwedd, ac edrychaf ymlaen hefyd at glywed beth fydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud.

16:45

Yn sicr a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r adroddiad hwn i'w drafod? Nid oeddwn yma pan gyflwynwyd y deisebau hyn yn wreiddiol, ond rwy'n ymwybodol iawn o frwydr fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, ac rwy'n wynebu brwydrau tebyg yn awr yn fy etholaeth gyda'r ceisiadau ar gyfer Nant Llesg y byddaf yn eu trafod mewn eiliad. Felly, rwyf wedi dilyn yr ystyriaeth o'r deisebau gyda diddordeb, oherwydd ers cael fy ethol fel AC dros Ferthyr Tudful a Rhymni, mae cloddio glo brig wedi bod yn ystyriaeth bwysig yn y gwaith rwy'n ei wneud, ac ym mhryderon yr etholwyr a gynrychiolaf. Mae'r gwaith glo brig presennol yn Ffos-y-frân ym Merthyr Tudful wedi bod o ddiddordeb mawr i fy etholwyr, oherwydd bod mater adfer y safle wedi bod yn llusgo yn ei flaen. Bellach, rydym wedi cael cais ar gyfer Nant Llesg yng Nghwm Rhymni uchaf, a chyflwynwyd y ddeiseb, yr ail ddeiseb, mewn perthynas â hynny. Roedd nifer o fy etholwyr yn rhan o'r broses o gyflwyno'r ddeiseb honno i alw i mewn pob cais ar gyfer cloddio glo brig, gan gynnwys Terry Evans, y cyfeirioch chi ato, David Rowlands, ac mae'r bobl hynny wedi bod yn rhan fawr o'r ymgyrch groch yn erbyn datblygiad Nant Llesg yng Nghwm Rhymni uchaf.

Ond mae gennyf ddiddordeb mewn dau faes yn benodol: adfer, ac rwyf eisoes wedi cyfeirio at hynny, a cheisiadau yn y dyfodol. Felly, fel y dywedais eisoes, yn ystod yr amser byr y bûm yn Aelod Cynulliad, mae'r dirwedd o gwmpas Merthyr Tudful wedi newid yn llwyr o ganlyniad i ddatblygiad Ffos-y-frân, wrth i'r glo gael ei gloddio ac wrth i waith adfer graddedig ddigwydd. Yn fwy diweddar, fodd bynnag, testun pryder i mi oedd yr achos llys rhwng perchnogion y gwaith yn Ffos-y-frân a'r awdurdod lleol. Nawr, mae fy safbwynt yn glir ac yn gwbl ddiamwys. Erys budd cyhoeddus hollbwysig i sicrhau, ar ôl cwblhau'r gwaith cloddio glo brig presennol, fod yn rhaid i'r perchenogion adfer y safle mewn cydymffurfiaeth â'u rhwymedigaethau. Hynny, a hynny'n unig, yw'r budd gorau ar gyfer y cyhoedd yn y mater hwn. Fodd bynnag, o ystyried yr ymgyfreitha parhaus ar hynny—a chredaf y gallem gael penderfyniad yn yr achos llys hwnnw heddiw—nid wyf yn bwriadu dweud mwy na hynny. Fodd bynnag, mae'n fy arwain at y pwynt mwy cyffredinol o egwyddor, sef y dylai awdurdodau lleol, yr Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru sicrhau bod darpariaeth ariannol addas ar gyfer gwaith adfer yn cael ei gweithredu, ei monitro a'i gorfodi'n effeithiol, y pwynt y credaf ei fod yn cael ei nodi yng nghasgliad 3 o adroddiad y pwyllgor. Ni ddylai unrhyw gymuned byth orfod wynebu'r ansicrwydd o etifeddu problemau wedi i weithredwyr gwneud miliynau o bunnoedd o'u gweithfeydd.

A dyna pam y mae'r adolygiad presennol o 'Polisi Cynllunio Cymru' i'w groesawu hefyd, o ystyried y ceisiadau y cyfeiriais atynt sy'n peri pryder ac sydd heb gael eu datrys eto, gan gynnwys Nant Llesg. Gwrthodwyd cais Nant Llesg eisoes gan yr awdurdod lleol. Nid yw'n rhan o gynllun datblygu lleol yr awdurdod hwnnw. Caiff ei wrthwynebu bron yn unfrydol gan y gymuned leol. Ac eto mae'n destun apêl ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gobeithio, yn unol â chasgliad 2 yr adroddiad, y bydd y polisi yn y dyfodol nid yn unig yn atgyfnerthu barn Llywodraeth Cymru ar ddyfodol cloddio am danwydd ffosil, ond y bydd hefyd yn parchu hawl cymunedau lleol i benderfynu a oes gwaith o'r fath yn digwydd ar garreg eu drws. Oherwydd er na allwn ddianc rhag hanes cloddio glo yn ein gorffennol ac yn ein cymunedau yn y Cymoedd—yn wir, rwy'n credu ein bod yn ymfalchïo ynddo—mae'n glir hefyd, fel y dywedodd Mark Reckless, fod y cymunedau hyn wedi symud ymlaen oddi wrth y math hwnnw o ddiwydiant, ac mae'n amlwg nad ydynt am weld diwydiannau sy'n seiliedig ar garbon a diwydiannau dibynnol yn cael eu hatgyfodi a fyddai'n dinistrio'r tirweddau hardd sydd ganddynt yn awr ac yn niweidio'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, ar hyn o bryd, Gadeirydd, mae tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet i'r Pwyllgor Deisebau a'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo ar hyn yn rhoi tawelwch meddwl i mi. Fodd bynnag, mae'n hanfodol, drwy'r broses briodol, ein bod yn gweld yr adolygiad o'r polisi cynllunio yng Nghymru yn mynd ar drywydd hyn.

16:50

Diolch i chi am yr adroddiad hwn. Rwyf wedi bod yn ymwneud â'r maes hwn ers amser hir, ynghyd ag ACau eraill, gan fy mod wedi cadeirio Cymru yn Erbyn Cloddio Glo Brig yma yng Nghymru, felly mae hynny'n fy rhoi mewn sefyllfa unigryw o bosibl i siarad am y rhai yn fy ardal i, ond rwyf hefyd yn gwybod cryn dipyn am lo brig mewn ardaloedd eraill. Yn fy ardal fy hun, er enghraifft, mae gennym Ochr y Waun ac East Pit yn Nghwmllynfell, lle y gwyddom fod cloddio hanesyddol wedi bod yn digwydd yn anghyfreithlon, lle mae estyniadau wedi digwydd yn erbyn ewyllys y bobl. Yng Nghynffig, ym Margam, yn fy rhanbarth i, mae gennym ehangder enfawr o ddŵr lle na fu unrhyw weithredu gyda gwaith adfer o hyd, sy'n gwbl droseddol yn fy marn i—fod cwmnïau'n gallu gwneud hyn. Gwelwn ym Merthyr, gyda Ffos-y-frân, gwelwn broblemau'r ffaith nad yw'r cwmni'n talu. Maent bellach wedi newid eu henw o Miller Argent i—beth y gallaf ei ddweud—Blackstone, er mwyn ceisio dianc rhag yr enw drwg y maent wedi'i gael dros y flwyddyn. Dylent fod yn talu'r rhandaliadau hynny i adfer y tir er mwyn adfer normalrwydd i bobl y dref honno ac fel nad oes raid iddynt fyw bywyd yn poeni am eu hiechyd, a pharhau i wneud cwynion am y ffordd y mae Miller Argent wedi gweithio yn yr ardal honno. Mae'r un peth yn wir am weithfeydd eraill ar draws de Cymru.

Nawr, er fy mod yn falch fod gennym yr adroddiad hwn, rwy'n sinigaidd braidd hefyd ynghylch casgliad 1 yn arbennig, fod cymaint o ffydd yn cael ei roi yn Llywodraeth Cymru, er nad yw'n ei groesawu, oherwydd y newidiadau polisi, y byddai i'w weld

'yn golygu bod datblygiadau glo brig newydd yn annhebygol iawn yn y dyfodol'.

Wel, gyda hyn yn bolisi, a MTAN yn dal i fod yn ganllaw, mae arnaf ofn nad wyf yn gwbl argyhoeddedig y dylem fod mor fodlon â'r hyn y mae'r casgliad hwn i'w weld yn ei adlewyrchu. Nid wyf o reidrwydd yn cytuno bod angen inni roi MTAN ar sail statudol, oherwydd teimlaf fod gormod o eithriadau yn y MTAN. Rwy'n credu bod angen inni fod wedi diwygio'r MTAN yn llwyr a chreu proses ddeddfwriaethol newydd lle rydym yn diffinio'r eithriadau hynny, yn diffinio beth fyddai ystyr derbyniol neu annerbyniol, a gwneud hynny'n gyfraith. Cyhyd ag y bo'n ganllaw, cyhyd â'i fod yn bolisi, bydd arolygwyr cynllunio allan yno, bydd awdurdodau lleol allan yno, a fydd yn gallu dweud, yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, sy'n eithaf mawr—maent yn bellgyrhaeddol, yn edrych ar dueddiadau'r DU yn y diwydiant—gallent fwrw ymlaen yn y dyfodol. Felly, hoffwn fod mor gadarnhaol â chi, ond wedi cael y profiad a gefais, nid wyf yn teimlo mor gadarnhaol yn bersonol, a dyna pam yr hoffwn weld Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ymhellach. Mae hoelio ein gobeithion ar y polisi hwn yn iawn i rai, ond nid yw'n iawn i mi, mae arnaf ofn.

Mewn perthynas â gwaith adfer, rwy'n cytuno â chasgliad 3 y Pwyllgor Deisebau, byddwch yn falch o glywed, ond unwaith eto, mae angen inni fod yn siarad am waith adfer yn awr. Mae yna gwmnïau sy'n anwybyddu'r hyn y dylent fod yn ei wneud yma. Mae yna gwmnïau sydd ag arian a ddylai fynd tuag at waith adfer. Mae yna gymunedau sydd wedi byw gyda'r cefndir hwn yn eu cymdeithas ers blynyddoedd lawer, a dylai diffyg gweithredu gan y cwmnïau hyn fod yn embaras i'r awdurdod lleol ac i Lywodraeth Cymru am nad ydynt wedi gweithredu ar hyn yn gynt. Ceir deddfau sydd mewn grym eisoes i ddwyn y cwmnïau hyn i gyfrif, ac maent yn rhoi eu harian mewn cyfrifon tramor, maent yn seiffno'u cronfeydd i wahanol rannau o'r byd. Felly, ni allant fod yn atebol, ac rwy'n credu bod hynny'n hollol annerbyniol.

O ran galw i mewn, mynychais y gynhadledd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl ar gymhwysedd mewn perthynas ag awdurdodau cynllunio mwynau awdurdodau lleol, ac roeddwn yn meddwl y byddai wedi bod yn syniad gwell i uno awdurdodau cynllunio mwynau yn hytrach na symud yn syth at alw ceisiadau i mewn fel opsiwn, oherwydd, os gallwn gael arbenigedd ar lefel leol, rhannwch yr arbenigedd hwnnw ar bob cyfrif, yn hytrach na throi'n syth at y broses alw i mewn. Nawr, gwn efallai nad yw John Cox ac eraill yn cytuno â mi ar hynny, ond nid wyf yn credu mai troi at broses wneud penderfyniadau genedlaethol yn syth ddylai fod yn ystyriaeth gyntaf, ond yn hytrach dylem geisio adeiladu arbenigedd drwy system yr awdurdod lleol lle y gellir gwneud hynny, ac nid wyf yn gwybod a gafodd hynny sylw pan basiwyd y portffolio i rywun arall yn Llywodraeth Cymru oherwydd, ar y pryd, roeddem yn clywed gan swyddogion fod hynny'n rhywbeth y byddent yn ei ystyried o ddifrif. Nid yw'n ymddangos yn iawn i mi y byddai'r Llywodraeth o bosibl am wneud y penderfyniadau hyn a hwythau wedi dweud beth bynnag nad ydynt eisiau gweld cloddio glo brig. Felly, os oes polisi'n mynd i fod yn erbyn cloddio glo brig, rhaid iddo dreiddio drwy ein holl bolisïau. Mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gennym bolisïau datblygu cynaliadwy yn ganolog yn Llywodraeth Cymru ac mae hynny'n golygu bod angen inni arfer yr hyn a bregethwn mewn perthynas â hyn a sicrhau mai perthyn i'r gorffennol y mae cloddio glo brig.

16:55

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rhoddwyd sylw i lawer o faterion. Mae gan Bethan lawer mwy o wybodaeth na mi am yr arferion cloddio glo brig eu hunain.

Hoffwn fynd i'r afael â rhywbeth a gododd Lynne Neagle, sef pam y mae wedi cymryd cymaint o amser rhwng cael deiseb yn 2013 i'w thrafod yma yn y Siambr. Nid yw'r holl atebion gennyf. Roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau am flwyddyn gyntaf y tymor hwn a chredaf mai un broblem a gawsom ar y Pwyllgor Deisebau, y ceisiodd y Cadeirydd, sef Mike Hedges ar y pryd, ymdrin â hi'n go gyflym, oedd ein bod wedi etifeddu llawer iawn o ddeisebau. Ceir llawer o ddeisebau, ac eir ar drywydd rhai ohonynt yn fwy egnïol nag eraill, ac roedd yn ymddangos i ni mai'r broblem oedd bod gormod ohonynt heb eu cau pan oeddent y tu hwnt i'r cam lle y gallem wneud unrhyw beth ystyrlon â hwy mewn gwirionedd. Felly, roedd gennym gymaint o wahanol ddeisebau fel na allem weld beth oedd beth yn iawn, a chredaf fod Mike wedi ceisio symud yn gyflymach drwy'r deisebau, gan gau'r rhai na allem wneud unrhyw beth â hwy, ac yna gallem edrych ar y rhai lle y gallem wneud rhywbeth â hwy. Credaf eich bod yn iawn fod angen i'r broses fod yn llawer cyflymach os yw'r Pwyllgor Deisebau yn mynd i weithio mewn ffordd ystyrlon. Credaf ei fod yn gweithio'n well erbyn hyn. Yn amlwg, nid wyf yn aelod ohono mwyach, ond rwy'n siŵr ei fod yn gweithio mewn ffordd symlach nag o'r blaen. Felly, gobeithio y bydd hynny'n ateb y broblem, gyda deisebau'n cyrraedd yma yn llawer cyflymach, oherwydd fel y dywedwch, mae'n hurt ei bod wedi cymryd cyhyd i drafod y mater hwn.

Ar y materion sy'n ymwneud â glo brig, mae'n amlwg fod yna lawer o broblemau. Mae Bethan, Dawn Bowden ac eraill wedi rhoi sylw iddynt. Mewn llawer o ffyrdd, mae cloddio glo brig yn waeth na chloddio tanddaearol, am ei fod yn digwydd uwchben y ddaear, fel bod y baw a'r llwch yn lledaenu i'r atmosffer lleol, ac mae'n llai llafurddwys na chloddio tanddaearol hefyd, felly mae llai o bobl yn cael budd masnachol ohono. Yn sicr mae gennym gyfres gyfan o gymunedau'r Cymoedd yng Nghymru a adeiladwyd ar gloddio glo tanddaearol, ond nid oes gennym unrhyw gymunedau yng Nghymru a adeiladwyd ar gloddio glo brig. Yr hyn a gawsom dros y 25 mlynedd diwethaf yw llawer o gymunedau'n cwyno ynglŷn â chloddio glo brig, yn protestio ynghylch cloddio glo brig ac yn ymgyrchu yn erbyn cloddio glo brig. Weithiau, ni wrandawyd ar leisiau'r cymunedau hynny'n iawn, ac maent wedi cael cam gan y broses cynllunio, o ran y cynlluniau a ganiatawyd a hefyd y problemau a nodwyd heddiw ynglŷn ag adfer y safleoedd ar ôl iddynt orffen eu gweithio.

Nawr, gan droi at y deisebau eu hunain, y ddwy ddeiseb rydym yn edrych arnynt, cafodd y gyntaf ei chychwyn gan Dr Cox, sy'n awyddus i wneud y MTAN yn orfodol yn y gyfraith—felly, pan wneir penderfyniadau cynllunio, ni all fod yn ganllaw yn unig; mae angen iddo fod yn orfodol. Un o'r pwyntiau y mae'n ei godi yw nad yw ceisiadau glo brig i fod i gael caniatâd oni bai bod o leiaf 500m rhwng y gwaith a'r tai agosaf. Yn amlwg, yn achos y Farteg, nid oedd hynny'n wir, ac ni chymhwyswyd y canllaw. Nawr, mae Dr Cox yn honni bod yr arolygydd cynllunio a oedd yn dyfarnu yn y gwrandawiad hwnnw wedi dweud nad oedd yn bwriadu dilyn MTAN 2 gan mai arweiniad yn unig ydoedd. Mae'n ymddangos bod gennym broblem gyda hyn. Os nad yw'r arolygwyr cynllunio yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth, i bwy y maent yn atebol? A ydynt yn rhoi digon o sylw i bryderon lleol? Yn UKIP rydym wedi dadlau drwy gydol y pumed Cynulliad nad yw'r system gynllunio'n ddemocrataidd iawn. Technocratiaeth ydyw lle y gall arolygwyr cynllunio sy'n fiwrocratiaid anetholedig sathru ar benderfyniadau democrataidd a wnaed gan gynghorwyr etholedig. Yna mae gennym y cynghorwyr yn ofni dyfarnu yn erbyn ceisiadau cynllunio dadleuol ar gyngor eu swyddogion cynllunio eu hunain, sy'n dweud wrthynt y bydd y cais yn sicr o ennill ar apêl i'r arolygiaeth gynllunio.

Rhaid inni ddod â'r arolygwyr cynllunio hyn o dan ryw fath o reolaeth ddemocrataidd. Rhaid inni geisio democrateiddio'r broses gynllunio ac yn UKIP rydym yn dweud mai'r ffordd o wneud hynny yw cyflwyno darpariaeth ar gyfer refferenda lleol wedi'u rhwymo mewn cyfraith pan geir ceisiadau cynllunio sydd o bwys mawr yn lleol ac yn achosi pryder mawr yn lleol. Rydym yn parhau i wneud yr alwad honno. Hyd yn hyn, ni yw'r unig blaid yng Nghymru sy'n galw am y mesur hwnnw. Hyd nes y caiff y system gynllunio ei democrateiddio, rydym yn cytuno y dylid gwneud MTAN 2 yn orfodol, fel yr awgryma Dr Cox, ac fel y mae ei ddeisebwyr yn cytuno. Rydym hefyd yn cytuno gyda'r ail ddeiseb y dylai Gweinidog cynllunio Cymru alw i mewn yr holl geisiadau cloddio glo brig o faint penodol ac o oedran penodol yn awtomatig. Mae'r system gynllunio yn gwbl anghywir ac mae angen ei diwygio ar frys. Ni yw'r unig blaid sy'n dweud hynny, ond yn y cyfamser rydym yn hapus i gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.

17:00

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 17:04:35
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau, yr un presennol a'r un blaenorol, am ei ystyriaeth drylwyr iawn o faterion yn ymwneud â chloddio glo brig, gan gynnwys y MTAN ar lo. Fel y crybwyllodd Lynne Neagle, mae wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd, ac mae wedi cynnwys amryw o sesiynau tystiolaeth. Credaf mai canlyniad hynny yw adroddiad cytbwys iawn ac yn llawn gwybodaeth, ac rwy'n cefnogi'r cynnig.

Cyn troi at gasgliadau'r adroddiad a'r cwestiynau a godwyd, unwaith eto hoffwn godi mater creu lleoedd a'i ffocws yn y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig fel ffordd o greu cymunedau cynaliadwy a ffyniannus. Mae hyn yn bendant yn cofleidio egwyddorion y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n rhoi nodau llesiant ar flaen y trafodaethau sy'n effeithio ar gymunedau a'r amgylchedd adeiledig a naturiol. Gallwch ofyn pam y mae creu lleoedd yn berthnasol i'r ddadl heddiw, a hoffwn ddweud pam y credaf ei fod yn berthnasol. Mae'n berthnasol oherwydd ei fod yn cynnwys pob math o ddatblygiad a'r diwydiant glo oedd y sylfaen ar gyfer llawer o leoedd yng Nghymru, a chredaf fod Dawn Bowden wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac fe ddarparodd waith lleol a dalai'n dda iawn. Ond rydym yn symud tuag at ddyfodol yn seiliedig ar dechnolegau wedi'u datgarboneiddio, felly rhaid inni sicrhau ein bod yn annog datblygiadau o ansawdd uchel gydag effaith gadarnhaol ar yr economi, yr amgylchedd a'n cymunedau. Mae angen inni feddwl yn drwyadl ac yn gadarn ynglŷn â'r nifer o elfennau sy'n cystadlu ac sy'n rhaid inni ymdrin â hwy wrth ystyried datblygiadau, gan gynnwys sut y gallwn wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau. Rhaid inni sicrhau y cawn y datblygiad cywir yn y lle iawn. Dyma yw ffocws y polisi cynllunio diwygiedig, ac mae'n berthnasol wrth feddwl am bob math o ddatblygiad.

Felly, os caf droi'n benodol at y casgliadau yn yr adroddiad. O ran casgliad 1, rwyf wedi ymgynghori ar bolisi diwygiedig yn 'Polisi Cynllunio Cymru' i wneud yn siŵr ei fod yn cyd-fynd â'r nodau llesiant ac yn cefnogi cynnydd ar ein hagenda ddatgarboneiddio. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae'r polisi diwygiedig arfaethedig ym Mholisi Cynllunio Cymru yn gyfyngol a bydd yn anghymell ceisiadau ar gyfer safleoedd glo brig yn y dyfodol. Os caiff y polisi ei gadarnhau, bydd yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau glo brig sydd eto i'w penderfynu.

Mae mynd i'r afael â chasgliad 2 yn dilyn o'r dull polisi a ddilynais ym Mholisi Cynllunio Cymru. Os ydym yn anghymell safleoedd newydd ar gyfer gweithfeydd glo brig rhag cael eu cyflwyno yng ngoleuni ein dyheadau datgarboneiddio a'n hymgyrch i sicrhau ynni adnewyddadwy diogel, yna mae'n dilyn na fyddai raid inni ystyried defnyddio pwerau galw i mewn. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau hefyd at y cyfarwyddyd hysbysu presennol sydd ar waith. Mae hwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol gyfeirio ceisiadau i mi os ydynt yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu mwynau nad yw'n cyd-fynd ag un neu fwy o ddarpariaethau'r cynllun datblygu. Unwaith eto, daw hyn â ni at y pwynt fod cynllun datblygu lleol a fabwysiadwyd yn hanfodol. Y cynllun datblygu lleol sy'n caniatáu i awdurdod cynllunio fynegi ei weledigaeth ar gyfer ardal ac i ddarparu sail gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Mae adfer yn cael sylw yn gwbl briodol yng nghasgliad 3, ac ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd gwaith adfer. Er y bydd fy mholisi arfaethedig yn cyfyngu ar ddatblygiadau cloddio glo brig, rwyf wedi manteisio ar y cyfle hefyd i awgrymu newidiadau er mwyn cryfhau polisïau sy'n ymwneud â darparu sicrwydd ariannol i sicrhau bod gwaith adfer yn digwydd. Mae gwaith adfer yn hanfodol. Nid yw datblygu heb gynlluniau adfer effeithiol a'r modd o sicrhau ac ariannu cynlluniau o'r fath yn dderbyniol, ac nid yw erioed wedi bod yn dderbyniol. Rwy'n cytuno hefyd ei bod hi'n bwysig cadw effeithiolrwydd polisi cynllunio o dan adolygiad. Mae hyn eisoes yn digwydd fel mater o drefn. Mae hefyd yn bwysig i awdurdodau cynllunio lleol fonitro safleoedd gwaith unigol mewn ffordd gadarn. Dylent wneud defnydd o'r holl ddulliau sydd ar gael iddynt, gan gynnwys y drefn fonitro ffioedd a thrwy sefydlu pwyllgorau cyswllt.

Mewn ymateb i gasgliad 4, gallaf eich hysbysu bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Polisi Cynllunio Cymru yn cael eu hystyried yn awr gan swyddogion a bwriadaf gyhoeddi'r polisi diwygiedig terfynol yn yr hydref. Felly, yn olaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am adroddiad trylwyr ac ystyrlon, ac i Aelodau'r Cynulliad am eu cyfraniadau y prynhawn yma.

17:05

Diolch—nid wyf yn siŵr a ddylwn ddweud 'Dirprwy Ddirprwy Lywydd'. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Mae rhai, wrth gwrs, wedi bod yn ymwneud â hyn ers peth amser—mae Bethan Sayed a Lynne Neagle wedi chwarae rhan fawr yn y materion hyn. Soniodd Lynne Neagle am gost apeliadau a'r arolygiaeth gynllunio'n mynd yn groes i reoliadau MTAN. Nododd Dr Cox mai geiriau agoriadol yr arolygydd yn apêl y Farteg oedd, 'Canllawiau'n unig yw'r MTAN, fi sy'n deddfu yma', sy'n rhyw fath o dweud nad yw'r MTAN mor gryf ag y dylai fod.

Siaradodd Mark Reckless yn erbyn gwneud MTAN yn statudol ar y sail y dylai pwerau fod ar sail leol. Hefyd gwnaeth y pwynt y dylai ceisiadau cynllunio ystyried diogelwch ynni ar gyfer y wlad a'i effaith bosibl ar y ceisiadau cynllunio hynny. Soniodd Dawn Bowden am Ffos-y-frân wrth gwrs, fel y byddai'n ei wneud gan mai hi yw'r Aelod dros Ferthyr Tudful, ac wrth gwrs tynnodd sylw at fater tra phwysig gwaith adfer—fod yn rhaid i berchnogion adfer y safle ar ôl i'r gwaith ddod i ben. Soniodd fod yna geisiadau cynllunio i mewn hefyd ar gyfer gwaith cloddio glo brig arall yn ei hardal a sut roedd y gymuned leol yn ei wrthwynebu'n llwyr.

Siaradodd Bethan Sayed am y diffyg gwaith adfer hefyd mewn hen weithfeydd yn ei hardal, ac mae hwnnw'n fater parhaus yn yr ardaloedd hynny wrth gwrs. Hefyd, soniodd am waith adfer yng Nghymru yn gyffredinol. Soniodd am y ffaith y dylem ailysgrifennu'r gyfraith MTAN yn llwyr o bosibl. Efallai fod hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno. Galwodd am greu mwy o arbenigedd mewn awdurdodau lleol, gan gadw penderfyniadau ar lefel leol, a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig dros ben i'w wneud.

Siaradodd Gareth Bennett am yr oedi cyn ymdrin â'r ddeiseb hon a nododd fod yna ôl-groniad mawr iawn o ddeisebau, mater a gafodd sylw yn gyntaf gan Mike Hedges pan oedd yn Gadeirydd y pwyllgor, ac mae'n broses sydd ar y gweill gennym yn barhaus. Rydym yn ceisio cyflymu'r broses, ond roedd Lynne Neagle yn llygad ei lle pan ddywedodd y dylai rhywbeth y tynnwyd ein sylw ato cyn belled yn ôl â 2013, rwy'n credu, fod wedi dod gerbron y Cynulliad hwn beth amser yn ôl.

Os caf droi at y pwyntiau a wnaed yn awr gan Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod yna gytundeb cyffredinol gan Ysgrifennydd y Cabinet fod yn rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar unrhyw geisiadau cynllunio newydd, yn enwedig ar gyfer cloddio glo brig, ac mae'n braf ei chlywed yn ailddatgan ymrwymiad llwyr Llywodraeth Cymru i Gymru ddi-garbon gan wneud y tebygolrwydd o ddatblygiadau o'r fath yn annhebygol iawn yn y dyfodol.

Felly, daw'r ddadl heddiw ag ystyriaeth y pwyllgor o'r deisebau hyn i ben. Gobeithiaf fod y broses a ddilynwyd, ac rwy'n cydnabod eto iddi fod yn un hir, wedi cynorthwyo'r deisebwyr ac eraill i fynegi eu pryderon a'u cynigion. Cawn weld eto, wrth gwrs, beth fydd yn digwydd yn y dyfodol mewn perthynas â chloddio glo brig yng Nghymru ac a welwn unrhyw geisiadau newydd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd proses ddeisebau'r Cynulliad yn aros yn agored i bobl leisio eu pryderon ynglŷn â materion cenedlaethol megis polisi cynllunio yn ôl yr angen. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Ynni hydrogen

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Julie James, a gwelliant 3 yn enw Caroline Jones. 

Eitem 8 yw dadl Plaid Cymru ar ynni hydrogen a galwaf ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6750 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC.

2. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i adeiladu ar sgiliau ac arbenigedd i arwain y Deyrnas Gyfunol mewn ymchwil a datblygiad a buddsoddiad yn hydrogen. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod gyda busnesau, ymchwilwyr a chyrff i gynnal digwyddiad allweddol i gyfleu uchelgais Cymru mewn perthynas â’r economi hydrogen i gynulleidfa fyd-eang ac fel sbardun i ddatblygu strategaeth economi hydrogen gynhwysfawr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae'n dda gen i gynnig hwn, sy'n seiliedig ar waith a gomisiynwyd gen i fel rhan o arian ymchwil y Cynulliad. Mae wedi cael ei gyhoeddi fel adroddiad, 'Potensial Hydrogen yn y Datgarboneiddio o Drafnidiaeth yng Nghymru'. Os oes unrhyw Aelod am gael copi, mae croeso iddyn nhw gysylltu am hynny. Hoffwn hefyd ddiolch i Riversimple, cwmni ceir hydrogen yn Llandrindod, a wnaeth gynnal lansiad y papur a rhoi cyfle i mi gael fy ngyrru o gwmpas mewn car hydrogen—a nifer o bobl eraill hefyd—a phrofi'r dechnoleg yma. Mae'n wych i weld nid yn unig fod ymchwil yn digwydd yng Nghymru ond bod ymgais i wireddu yr ymchwil yn brosiect go iawn, a hynny yn digwydd yng nghanolbarth Cymru ac nid, efallai, yn y llefydd arferol. 

Mae'r adroddiad yn edrych i mewn i'r posibiliad o ddefnyddio hydrogen fel tanwydd yn y system drafnidiaeth yng Nghymru, ond yn ehangach yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu economi seiliedig ar hydrogen yn ogystal. Rydym yn edrych ar nifer o ffyrdd ar draws y byd, yn enwedig yng ngorllewin Ewrop, lle mae hydrogen yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, a sut y mae arian Ewropeaidd ac arian ymchwil yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r dechnoleg—technoleg a aned yng Nghymru yn nwylo Syr William Grove, ond sydd â photensial ar gyfer y dyfodol. 

Mae hydrogen yn bwysig i ni oherwydd ein bod ni angen pob arf yn y ffordd rydym ni'n ymladd yn erbyn y ddwy her o newid hinsawdd a llygredd awyr. Nid wyf yn dadlau bod hydrogen yn rhagori ar bob dull arall. Beth rwy'n dadlau yw bod hydrogen â rôl a photensial i'w chwarae wrth fynd i'r afael ochr yn ochr â phethau megis ceir trydan a phethau mwy penodol megis lleihau nifer y teithiau rydym yn eu gwneud mewn trafnidiaeth yn y lle cyntaf. 

Y prif rinwedd sydd gan hydrogen yw nad yw yn cynhyrchu unrhyw nitrogen deuocsid na mater gwenwynol wrth gael ei ddefnyddio, a dim ond dŵr yw'r allyriadau o beiriant neu gell hydrogen, ac mae hynny'n golygu ein bod ni'n glanhau ein trefi ag awyr glân ac yn manteisio ar gyfleoedd— 

17:15

Trefn. Mae'n ddrwg gennyf, Simon, rydym wedi colli'r cyfieithiad. Mae'r profion yn gweithio. A yw pawb yn cael y darllediad bellach? Diolch. Rwy'n ymddiheuro, Simon. Gallwch barhau.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn ond yn sôn am ddŵr, so gobeithio bod hynny ddim wedi cael ei golli yn ormodol. 

Mae technoleg ar gael ac yn benodol rydw i â diddordeb gweld pa rôl sydd gan hydrogen fel tanwydd yn y diwydiant cludo ac yn y diwydiant trafnidiaeth torfol hefyd. So, rydym yn edrych ar fysys neu drenau, a chyfleoedd gyda masnachfraint Cymru a'r gororau a threnau yn dod i ddwylo Llywodraeth Cymru inni wneud rhywbeth mwy dyfeisgar a mwy arloesol yma. 

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Beth rŷm ni'n gobeithio ei weld fan hyn yw bod y Llywodraeth, a bod Cymru ei hunan yn dod yn genedl sydd yn achub y blaen ac yn arwain wrth ddatblygu y diwydiant hydrogen. Mae'n rhywbeth sydd yn ehangu yn brysur dros y byd i gyd. Mae'n rhywbeth sydd yn ychwanegu yn gryf iawn yn y gwledydd sydd â diddordeb mewn ymchwil ac mewn dulliau newydd. Mae yna gymuned hydrogen dros y byd i gyd lle mae yna rannu gwybodaeth, ac mae modd, rydw i'n credu, i ni fel cenedl sydd yn hyblyg a'r maint iawn, fel petai, gyda Llywodraeth ddyfeisgar, i arwain nifer o'r pethau yma. Byddwn i'n gobeithio'n fawr iawn—byddwn i wrth fy modd, a dweud y gwir—pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu cynnull rhyw fath o summit neu ryw fath o uwchgyfarfod o'r cyrff yma i ddangos ein bod ni am arwain. 

Rŷm ni'n gweld bod buddsoddi yn yr economi hydrogen yn rhywbeth sy'n mynd ochr yn ochr â theithio llesol, gyda pharthau awyr glân, gyda cherbydau trydan. Nid yw hydrogen yn rhagori, fel y dywedais i, ar bob un o'r rhain; mae'n rhan o'r mesurau i fynd i'r afael â llygredd awyr a newid hinsawdd. 

Mae yna wledydd di-rif erbyn hyn yn arbrofi gyda'r dulliau yma. Mae bysys hydrogen mewn llefydd fel Aberdeen a Birmingham. Mae Llundain yn buddsoddi mewn bysys hydrogen, ac rydw i'n credu bod gyda ni ond tri bws trydan drwy Gymru i gyd. Nid yw'r rheini ar yr hewlydd eto, so rydym ar ei hôl hi go iawn. Efallai bod yr Almaen mas o Gwpan y Byd heddiw ond maen nhw'n buddsoddi mewn trenau hydrogen, gydag Awstria, Ontario a Tsieina, wrth gwrs, yn edrych i mewn i hyn hefyd. Mae Costa Rica yn wlad sydd yn edrych i fuddsoddi mewn trenau hydrogen. Mae cyfle gwych inni ddatblygu yn fanna. 

Roeddwn i'n gweld yn atodlen y gyllideb atodol fod £5 miliwn wedi cael ei sicrhau gan yr Ysgrifennydd Cabinet tuag at ddatblygiadau sydd yn dod yn sgil peidio â bwrw ymlaen gyda chynlluniau ym Mlaenau Gwent ynglŷn â Chylchdaith Cymru, a bellach maent yn edrych i mewn i'r posibiliadau o fuddsoddi mewn carbon isel ym Mlaenau Gwent. Byddai'n wych o beth gweld bod hynny hefyd yn cael ei gyfeirio tuag at ddatblygu'r economi hydrogen. Rŷm ni'n gallu arwain fan hyn. Roeddwn yn gweld dim ond yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth yr Alban wedi cefnogi llong hydrogen i gael ei hadeiladu yn yr Alban. Dyna'r cyfleoedd sydd gyda ni, ac rwy'n gobeithio'n fawr, er gwaethaf gwelliannau braidd yn ddi-ddychymyg, ddi-uchelgais y Llywodraeth, fod modd manteisio ar y dechnoleg yma ac arwain y byd. 

17:20

Diolch. Rwyf wedi dethol tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ym mhwynt 1, ar ôl 'Simon Thomas AC', mewnosoder:

', ac yn nodi ymhellach:

a) potensial hydrogen fel ffurf amgen o danwydd;

b) pwysigrwydd tanwydd hydrogen i arallgyfeirio ein portffolio ynni;

c) y gwahaniaeth pwysig rhwng tanwydd hydrogen gwyrdd a brown;

d) bod tanwydd hydrogen gwyrdd dim ond yn ddichonadwy fel sgil-gynnyrch o gynhyrchu gormodedd o drydan, ac felly dylid cydnabod ei gyfyngiadau; ac

e) bod angen i Lywodraeth Cymru wneud gwelliannau i seilwaith y grid yng Nghymru er mwyn sicrhau y gellir defnyddio trydan a hydrogen fel dewisiadau gwyrdd amgen yn lle tanwyddau ffosil.'

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant yn enw Paul Davies, ac wrth wneud hynny rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr ac yn nodi ein cefnogaeth i'r amcanion sydd wedi'u cynnwys yng nghynnig Plaid Cymru. Rwy'n gobeithio y caiff ein gwelliannau eu cefnogi gan y credwn, wrth gwrs, eu bod yn cryfhau'r cynnig ymhellach.

Rhaid inni beidio ag anghofio bod Awdurdod Datblygu Cymru wedi datgan yn 2005, 13 mlynedd yn ôl, ei fod am ddatblygu microeconomi yn ne Cymru yn seiliedig ar dechnoleg ynni dŵr. Roedd y Gweinidog datblygu a thrafnidiaeth ar y pryd, Andrew Davies, yn rhagweld y byddai gennym orsafoedd hydrogen, rhwydweithiau trafnidiaeth integredig di-allyriadau, tacsis dŵr wedi'u pweru gan hydrogen a chanolfannau lle y gall cerbydau nwyddau trwm drosglwyddo nwyddau i'w dosbarthu ar gerbydau trydan. Ar y pryd, rhagwelwyd y byddai hyn i gyd yn digwydd o fewn 10 mlynedd, ac fel y dywedodd Jenny Rathbone yn briodol yn y Siambr fis Hydref diwethaf, nid oes dim o hyn wedi'i wireddu, ac er bod hynny'n anffodus, rwy'n meddwl, efallai fod hyn yn dangos bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru wedi'i orddatgan braidd, a dyna pam rwy'n codi hyn, gan mai dyna pam y buaswn yn awgrymu na fyddwn yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth.

Darllenais bapur Simon Thomas gyda diddordeb mawr—dysgais lawer. Roeddwn yn meddwl ei fod yn ffordd dda iawn o ddefnyddio cronfeydd ymchwil y Cynulliad. Mae'n ddogfen dda iawn, ac mae'n sicr—. Mae'n iawn ein bod yn trafod eitem fel hon yn amser y gwrthbleidiau, fel rydym yn ei wneud heddiw.

Nawr, mae cerbydau trydan a chelloedd tanwydd hydrogen yn lanach na thanwyddau carbon ac mae ganddynt botensial i gyflawni llu o fanteision gan gynnwys lleihau allyriadau carbon a chostau rhedeg isel a gwelliannau diogelwch, ond er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod Cymru yn arwain yn hyn o beth, er mwyn addasu i'r dechnoleg newydd hon ac arallgyfeirio ein portffolio ynni, bydd angen gwelliannau i seilwaith grid Cymru wrth gwrs, neu fel arall ni chaiff y cynlluniau a amlinellir yn adroddiad Simon Thomas byth mo'u gwireddu.

Rwy'n deall bod hyfywedd cynhyrchiant tanwydd hydrogen gwyrdd yn dod o gynhyrchiant trydan dros ben, ac wrth i'r grid ddatblygu, caiff y trydan sy'n cael ei storio ei ymgorffori ym model y grid, a byddai yna lai o drydan dros ben, wrth gwrs, gan y byddai bellach yn cael ei storio gan weithredwyr y system ddosbarthu ar gyfer ei ddosbarthu'n diweddarach. Dyna a ddeallais, ond rwy'n ddigon hapus i gael fy nghywiro gan Simon Thomas os nad wyf wedi cael hynny'n iawn.

Nid wyf am ei gywiro yn yr ystyr honno—credaf ei fod at ei gilydd yn gywir—ond yr hyn y mae'n ei fethu, a dyna pam nad wyf yn gwbl fodlon â'i welliant, ac rwy'n deall ei fod yn ceisio bod yn welliant adeiladol—. Rwy'n credu ei fod yn methu'r cyfle yng Nghymru yn arbennig, lle'r ydym yn cynhyrchu trydan adnewyddadwy dros ben—byddem yn sicr wedi'i gael gyda'r morlyn llanw, ond hefyd mae llawer o'n ffermydd gwynt yn cynhyrchu trydan ar adeg pan nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn gwirionedd, ac mae potensial gan hydrogen i sefyll yn y bwlch. Mae'n fwy effeithiol fel dull o storio ynni na storio ynni fel trydan am nad yw ein technoleg batri mor effeithlon â'n technoleg hydrogen.

Diolch, Simon Thomas. Mae hyn yn rhywbeth newydd rwy'n ei archwilio fy hun, felly rwy'n hapus i gael y pwynt hwnnw.

Gallaf weld fod fy amser bron â dod i ben, ond credaf mai un mater sydd angen ei ddatrys yw'r tensiwn hefyd rhwng y rôl y mae hydrogen yn ei chwarae yn erbyn yr angen am gerbydau trydan, neu gynhyrchiant trydan yn ogystal, oherwydd ceir cyfyngiadau yn hynny o beth. Felly, credaf ei bod yn iawn inni fwrw ymlaen â phwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ogystal. Ond yr hyn rwy'n ceisio ei amgyffred yw'r cydbwysedd rhwng y ddau a lle maent, a dyna rwy'n gobeithio ei gael o'r ddadl y prynhawn yma, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet a chyfraniadau Aelodau eraill a'ch casgliadau chi yn ogystal. Diolch.

Diolch. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?

Gwelliant 2—Julie James

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn eu lle:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i dyfu.

Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau erbyn 2023.

Yn nodi bod yn rhaid i waith i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod angen gwneud gwaith ymchwil a datblygu creadigol ar atebion eraill o ran seilwaith ac ar draws amrywiaeth o danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan gynnwys hydrogen.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Diolch. A gaf fi alw ar Michelle Brown yn awr i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones? Michelle.

Gwelliant 3—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw fathau o ynni amgen y maent yn archwilio iddynt yn bodloni'r profion fforddiadwyedd, sy'n cynnwys peidio â gosod gormod o faich ar drethdalwyr.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ynni hydrogen yn dechnoleg gyffrous a diddorol iawn y gellir ei defnyddio i greu ynni ar gyfer pweru ceir, cerbydau nwyddau trwm, llongau, a hefyd i wresogi cartrefi. Felly, rwy'n falch dros ben o allu cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

Cyhyd â bod yr hydrogen ei hun yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy, mae'n darparu ateb i'r llygredd sy'n niweidiol i iechyd ac yn achosi marwolaethau niferus bob blwyddyn yn y wlad hon. Fodd bynnag, fel y nodais o'r blaen, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r llygredd a grëir gan longau, ni fyddwn byth yn datrys problem llygredd y byd. Ond mae yna obaith oherwydd hydrogen. Mae llong arbrofol Race for Water yn defnyddio pŵer solar a stacio hydrogen i ehangu ei gyrhaeddiad pan fo'n bell o'r cyhydedd. Mae peiriannau hydrogen yn cael eu datblygu hefyd i'w defnyddio mewn cerbydau nwyddau trwm yn ogystal. Mae dull Riversimple o ddylunio ceir o amgylch y gell pŵer nid yn unig yn anhygoel o resymegol, mae wedi arwain hefyd at y posibilrwydd hyfyw o gar heb fawr o anfanteision ceir trydan a cheir hybrid sydd braidd yn wrthgynhyrchiol, o fod yn gyfuniad o danwydd ffosil a batris trwm.

Mae arloesedd a gallu technolegol y cwmni cynhenid hwnnw i'w canmol, ac maent yn rhan o draddodiad balch o beirianwyr Prydeinig a holltodd yr atom ac a roddodd y cyfrifiadur i'r byd. Felly, gadewch i ni beidio â gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth cenedlaethau blaenorol, a welodd ddyfeisiadau gan Brydeinwyr yn creu ffortiwn i gwmnïau mewn gwledydd eraill.

Gwnaed pwynt allweddol ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan ddywedwyd y dylem ofalu rhag rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged cerbydau trydan. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylem gael ffynhonnell gymysg o gynhyrchiant ynni. Nid ydym eisiau bod yn gaeth i gartél fel rydym ar hyn o bryd gyda phetrol a diesel, a bydd cymysgedd ynni addas yn atal hynny rhag digwydd.

Mae cerbydau trydan wedi'u pweru gan fatri yn gwneud peth niwed i'r amgylchedd, fel y dywedais yma yn y gorffennol. Rhaid cynhyrchu'r trydan, ac ar y cyfan rydym yn dal i wneud hynny drwy ddefnyddio tanwydd ffosil. Hefyd, mae angen cloddio a phrosesu'r deunyddiau ar gyfer y batris enfawr—proses a allai fod yn niweidiol i'r amgylchedd ac i iechyd pobl. Mae cael gwared ar y batris hyn yn broblem hefyd. Mae'n gadarnhaol yn yr ystyr nad yw cerbydau trydan yn cynhyrchu allyriadau gwenwynig, ond o fewn ein cymysgedd pŵer cyfredol, wedi cael eu symud i fannau eraill y mae'r allyriadau hyn—maent yn dal i fynd i mewn i'r atmosffer. Nid yw'r diffyg dewis hwnnw'n bodoli yn achos cerbydau tanwydd hydrogen.

Gan droi at ein gwelliant, rydym yn cydnabod y bydd cyflwyno cerbydau wedi'u pweru gan hydrogen ar raddfa eang yn galw am seilwaith sy'n costio arian i'w osod. Roedd hynny'n wir, wrth gwrs, gyda dyfodiad cart-a-cheffyl yn y lle cyntaf. Er bod gennym arosfannau ar gyfer trafnidiaeth a dynnid gan geffylau ar un adeg, gyda phorthiant a stablau, bu'n rhaid creu seilwaith cyfan ar gyfer storio, cludo a phuro, neu gynhyrchu petrol, diesel ac olew gwresogi.

Mae gorsafoedd petrol eisoes wedi'u cyfarparu i ymdrin â thanwydd hylosg, ac er ei bod yn wir y byddai angen eu haddasu i ddarparu ar gyfer hydrogen, nid yw'n dasg mor fawr â'r hyn a oedd yn ofynnol yn flaenorol, ar ddechrau oes y cerbydau tanwydd ffosil. Rwy'n siŵr y byddai unrhyw ddigwyddiadau allweddol megis yr hyn a grybwyllir yn y cynnig yn cynhyrchu amrywiaeth o syniadau, ac rwy'n gwbl gefnogol i'r cynnig o safbwynt hynny. Ond buaswn yn gofyn inni gadw'r opsiynau sy'n cael eu hystyried yn realistig o fforddiadwy.

Mae angen inni sicrhau elw da ar fuddsoddiad, a bod y risgiau o greu'r seilwaith angenrheidiol, ac ymchwil a datblygu, a hyrwyddo'r dechnoleg wedyn yn cael eu rhannu'n deg rhwng y cwmnïau a fydd yn elwa arni, y Llywodraeth, a'r trethdalwr yn y pen draw.

Bydd angen inni gael cefnogaeth y cyhoedd hefyd, ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd os ydynt yn ofni eu bod yn mynd i cael eu taro gan dreth werdd gostus arall. Felly, rwy'n credu y byddai sicrwydd gan y Llywodraeth yn hynny o beth yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n eich annog i gefnogi gwelliant UKIP. Diolch.

17:25

Roeddwn i’n teimlo’n ddrygionus iawn ychydig funudau yn ôl yn meddwl pa bleidlais frys gallem ni ei galw gan fod Plaid Cymru mewn mwyafrif dros y pleidiau eraill i gyd yma yn y Cynulliad ar hyn o bryd. [Chwerthin.]

Rydw i’n falch o gael cymryd rhan, yn fyr iawn, yn y ddadl yma, ac rydw i'n llongyfarch Simon ar y gwaith mae o wedi’i wneud yn paratoi'r adroddiad yma sy’n edrych ar botensial hydrogen ar gyfer Cymru, a’r gair 'potensial' yna sy’n bwysig i fi yn fan hyn, achos fel cymaint o dechnolegau newydd, a ffyrdd o ddefnyddio’r technolegau hynny, megis dechrau ydym ni mewn gweld pa mor bell y gallwn ni wthio’r ffiniau.

Mae angen pob arf arnom ni mewn sawl brwydr ar hyn o bryd—y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac yn amlwg mae hydrogen yn cynnig rhywbeth inni yn y maes hwnnw. Mae angen pob arf arnom ni yn y frwydr i sicrhau bod yr awyr yn lanach o’n cwmpas ni, ac mae hydrogen unwaith eto yn cynnig rhywbeth yn hynny o beth. Rydw i'n meddwl bod angen pob arf hefyd pan fo'n dod at edrych ar y potensial economaidd i Gymru. Mewn cymaint o wahanol feysydd, mae Cymru yn syrthio ar ei hôl hi, mewn meysydd amgylcheddol hefyd. Mae'r Iwerddon—efo'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, roeddwn i'n genfigennus iawn o'r gwaith oedd wedi cael ei wneud ar yr adroddiad 'Harnessing Our Ocean Wealth' yn edrych ar sut i gael y gorau allan o ynni morol a'r lles economaidd ac amgylcheddol fyddai'n dod o hynny.

Yn y gwaith rydw i'n trio ei wneud ar geir trydan ar hyn o bryd, rydw i'n gresynu at y ffaith ein bod ni'n syrthio ar ei hôl hi, lle mae gweddill Prydain yn datblygu ac yn buddsoddi llawer mwy mewn pwyntiau gwefru ac yn y blaen ar gyfer ceir trydan, lle'r oeddem ni ychydig flynyddoedd yn ôl yma yng Nghymru yn sôn am y posibilrwydd, fel gwlad fach, hyblyg, am allu bod yn arweinwyr mewn creu rhwydweithiau gwefru. Ar hyn o bryd, dim ond dymuno cael bod yn y gêm ydym ni. Lle mae gan Gymru un pwynt gwefru wedi ei gyllido o'r pwrs cyhoeddus ar gyfer pob 100,000 o bobl, mae gan yr Alban un pwynt gwefru ar gyfer pob 7,000 o bobl. Dyna faint yr her sydd o'n blaenau ni, ac rydw i'n edrych ymlaen at fynd i Dundee cyn bo hir, sy'n ddinas sy'n gwneud gwaith rhyfeddol yn y maes yma. 

Oes, mae yna rai pobl, a dweud y gwir, sydd yn efengylu am geir trydan yn troi eu trwynau ychydig bach ar y posibilrwydd o ddatblygu technolegau hydrogen ar gyfer ceir. Fy nadl i wrthyn nhw ydy bod eisiau inni edrych ar bob ffordd o sicrhau ein bod ni'n troi ein dulliau trafnidiaeth ni at ffyrdd sydd yn isel iawn, iawn, iawn neu'n ddim allyriadau o gwbl. Ac yn sicr, ym maes cerbydau masnachol, bysus a loris ac ati, rydw i'n meddwl bod ynni hydrogen rŵan, nid yn y dyfodol, yn cynnig gwir botensial. Felly, yr apêl heddiw ydy: cefnogwch y cynnig yma a gadewch inni sylweddoli bod gan, yn fan hyn, y gwaith sy'n cael ei ddatblygu yma yng Nghymru botensial i greu'r math o fyd yn ogystal â'r math o Gymru rydym ni'n chwilio amdano fo.

17:30

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn heddiw, a diolch i Simon Thomas am gyflwyno'r adroddiad hwn. Hefyd, hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedodd Russell George; credaf fod hwn yn ddefnydd campus o gyllidebau ymchwil. Mae'n adroddiad ymchwil gwych ac rwy'n ei groesawu'n fawr iawn. Credaf ei bod yn deg dweud bod y dyfodol, mewn llawer o ffyrdd, yn perthyn i'r meddyliau agored, yn hytrach na'r rhai caeedig; y rhai sy'n agored i syniadau newydd; y rhai sy'n agored i her; y rhai sy'n agored i dechnoleg newydd; ac yn hollbwysig, y rhai sy'n agored i newid.

Fel y dywedodd Simon, rwy'n credu bod angen inni edrych ar rôl hydrogen yn y broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth o fewn cyd-destun ehangach ac integredig y rôl sydd gan hynny i'w chwarae yn datgarboneiddio ein heconomi gyfan, a'n cymunedau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Wrth ddatblygu'r ymrwymiadau o dan Ddeddf yr amgylchedd, byddwn yn lansio ymgynghoriad fis nesaf ar ein llwybrau datgarboneiddio hyd at 2030 a thu hwnt, a byddwn yn gofyn am farn ar y camau gweithredu y dylid eu blaenoriaethau ar gyfer Cymru.

Gan mai 5 y cant yn unig o hydrogen sy'n wyrdd ar hyn o bryd, mae angen inni sicrhau, wrth symud tuag at hydrogen, nad ydym drwy amryfusedd yn cyfyngu ar ein gallu i ddatgarboneiddio, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae pawb yn ei gydnabod. Felly, er mwyn gwneud hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gallwn gynhyrchu hydrogen gan ddefnyddio cynhyrchiant ynni adnewyddadwy dros ben ochr yn ochr â defnyddio dal a storio carbon ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth, ochr yn ochr â gwres, diwydiant a phŵer.

Rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau penodol yn ein hymrwymiad i symud tuag at sector trafnidiaeth di-garbon yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn niwtral ynghylch rôl gwahanol danwyddau a thechnolegau ar gyfer cyflawni'r nod hwn, gan gynnwys rôl hydrogen. Mae'r duedd bresennol tuag at gerbydau trydan a hybrid, ond ceir diddordeb cynyddol mewn hydrogen a gyriant celloedd tanwydd hydrogen, ac rydym eisoes yn eu cefnogi.

Mae'r cymorth gwerth £2 filiwn i Riversimple yn arwydd o'n cefnogaeth i'r newid i economi a sector trafnidiaeth carbon isel. Ariannwyd y prosiect uchelgeisiol ac ysbrydoledig hwn gennym ar adeg pan oedd llawer o'r farn ei fod yn annhebygol iawn o ddod yn fusnes hyfyw, ac rydym bellach yn helpu Cyngor Sir Fynwy i archwilio cyfleoedd i adeiladu ar y treial hydrogen Riversimple sy'n digwydd yn eu hardal mewn perthynas â thanwyddau cynaliadwy a symudedd doethach. Mae'n waith hynod o gyffrous, yn enwedig o ystyried ei fod mewn amgylchedd gwledig. Mae ein rhaglen Sêr Cymru yn ariannu ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i danwydd hydrogen ar gyfer cerbydau ac ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n ymchwilio i dechnoleg ar gyfer cynhyrchu hydrogen gwyrdd.

Mae ein buddsoddiad o £5 biliwn yn y gwasanaeth rheilffyrdd newydd ar gyfer Cymru yn cynnwys ymrwymiad mawr i ddatgarboneiddio. Ystyriwyd yr opsiwn o dechnoleg hydrogen yn llawn gyda'r rhai a gynigiodd am wasanaeth rheilffordd Cymru a'r gororau yn ystod yr ymarfer caffael, a byddwn yn parhau i edrych am arloesedd ar y rhwydwaith yn y dyfodol. Ein nod, fel yr amlinellwyd yn—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs, iawn.

17:35

Ar y pwynt hwnnw, rwy'n gweld y cyhoeddiad calonogol yr wythnos hon ynglŷn â chyfleuster treialu ar gyfer rheilffyrdd, hefyd yn ne Cymru, yn eithaf agos fel y mae'n digwydd i Faglan a ffynonellau hydrogen. A fyddai honno'n ardal bosibl lle y gellid ymchwilio i hyn?

Gallai fod. Yn bendant. Yn bendant. Mae'n ychwanegu at atyniad y cyfleuster. Fel y dywedais yn y datganiad ynglŷn â'r hyn a gâi ei alw o fewn y gwasanaeth sifil a fy swyddfa yn 'Brosiect Hornby', ond a fydd yn ganolfan ragoriaeth ymchwil fyd-eang, câi hyn ei arwain gan y diwydiant yn ôl y galw ac fel y gwyddoch, neulltuir symiau mawr iawn o arian ar gyfer datblygu trenau mwy datblygedig a yrrir gan hydrogen, ac rwy'n hyderus, fel cyfleuster prawf, y gallem weld y cynhyrchion hynny, y trenau hynny, y cerbydau hynny, yn cael eu profi yng Nghymru.

Ein nod, fel yr amlinellwyd yn y cynllun gweithredu economaidd, yw gwasanaeth a sectorau bws a thacsi di-garbon o fewn 10 mlynedd, ac ar hyn o bryd rydym yn cwmpasu llwybrau posibl i hynny allu digwydd. Gallai fod rhan gan hydrogen i'w chwarae—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—yn enwedig yn y sector bysiau, ond mae bysiau hydrogen ar hyn o bryd yn denu premiwm cryn dipyn yn uwch o gymharu ag opsiynau eraill. Bydd hynny, wrth gwrs, yn lleihau dros amser wrth i fysiau hydrogen gael eu prif-ffrydio o fewn y rhwydwaith.

Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i gynorthwyo'r sector trafnidiaeth i ddatblygu a gweithredu technolegau newydd, gan adlewyrchu eu rôl yn ein llwybrau datgarboneiddio, a'r cyfleoedd y maent yn eu cynnig i economi lwyddiannus yn y dyfodol drwy gefnogi ein nodau llesiant ehangach. Credaf y bydd ein buddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg yn annog hyn, fel y bydd ein buddsoddiad mewn busnesau megis Riversimple, ac mewn cyfleusterau megis y cyfleuster treialu rheilffyrdd sy'n mynd i gael ei adeiladu ar y ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys.

O ran capasiti'r grid, ar y pwynt a gododd Russell George, buaswn yn cytuno bod angen buddsoddiad pellach ar frys mawr i gryfhau capasiti'r grid, ond rwy'n falch fod y Grid Cenedlaethol yn agor canolfan ragoriaeth ac ymchwil yng Nghymru.

Felly, diolch unwaith eto am y cyfle i drafod y mater pwysig hwn heddiw, ac i Simon Thomas yn arbennig am fy arbed rhag yr angen i wylio Match of the Day yn nes ymlaen, ar ôl iddo ddatgelu canlyniad gêm yr Almaen yng nghwpan y byd.

Diolch. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon? Dadl fer oedd hi i nodi cyhoeddi'r adroddiad, ond gallaf addo i chi y byddaf yn eich diflasu ynglŷn â hydrogen am beth amser i ddod, ac mae yna rai eraill sy'n frwd iawn yn ei gylch hefyd, felly mae hynny'n beth da i'w weld.

Dyma dechnoleg y credaf ei bod yn gwneud llawer i dicio llawer o flychau y mae gennym ddiddordeb ynddynt yng Nghymru. Mae'n arloesol. Cafodd ei lunio yma fel mae'n digwydd, sy'n ychwanegu at y rhamant; nid oes ots mewn gwirionedd, ond mae'n ychwanegu ato. Mae'n rhywbeth sy'n datgarboneiddio ein sector trafnidiaeth ac mae ganddo botensial mewn meysydd eraill yn ogystal. Hoffwn ddweud ar y dechrau—er na fyddaf o reidrwydd yn cefnogi pob un o'r gwelliannau—fy mod yn deall ysbryd y gwelliannau hynny: maent yn adeiladol, ac rydym yn cael dadl sy'n ceisio llunio syniadau ynglŷn â'r potensial ar gyfer hydrogen.

Y peth allweddol yw bod angen inni gael hydrogen gwyrdd ar y cyfan. Ceir peth hydrogen brown fel sgil-gynnyrch a allai barhau i fod yn rhan o'r gymysgedd, rwy'n credu, ond nid yw cynhyrchu hydrogen yn uniongyrchol o danwydd ffosil yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Ond gan ddefnyddio'r hyn a ddisgrifiwyd gan Alan Whitehead sy'n siarad ar ran y Blaid Lafur yn y DU, yn y New Statesman fel,

ymddangosiad llwyth mawr o bŵer amrywiadwy,

sef ynni adnewyddadwy wrth gwrs,

yn rhan o'r system efallai y daw'r trydan "dros ben" hwn i fod ar gael

ar gyfer cynhyrchu hydrogen. Fel y dyfynnais wrth Russell yn ei gwestiynau rhesymol, mae'n ymddangos bod storio trydan dros ben fel hydrogen yr un mor gosteffeithiol—yn wir, mae rhai o'r arbenigwyr a'r rhai sy'n ei ddefnyddio yn dweud ei fod yn fwy costeffeithiol—na'i storio fel trydan. Ac felly rydym hefyd yn osgoi rhai o'r costau batri a grybwyllodd Michelle Brown, ac rwy'n golygu costau amgylcheddol yn ogystal â chost wirioneddol. Felly, mae potensial enfawr yno.

Un peth nad yw wedi'i grybwyll yn y ddadl, ac fe wnaethom ganolbwyntio ar drafnidiaeth, ond mae rôl i hydrogen mewn gwresogi. I'r rhai hynny ohonom sy'n cofio nwy tref—nid fi, ond os ydych yn cofio nwy tref—roedd oddeutu 40 y cant o nwy tref yn hydrogen. Mae yna swyddfa nwy tref yn Aberystwyth o hyd, mewn gwirionedd. Mae Aberystwyth Gas Company wedi'i ysgrifennu uwch ei phen. Arferem gynhyrchu nwy tref o lo. Arferem gywasgu glo a'i losgi er mwyn cynhyrchu hydrogen. Dyna oedd ein system nwy. Nid yw ein system nwy bresennol—y prif gyflenwad nwy—yn hoffi mwy na chanran fach iawn o hydrogen ynddo, ond mae angen inni weithio gyda'r darparwyr nwy i weld a allwn bwmpio ychydig mwy o hydrogen i mewn i'r system nwy oherwydd mae yna—. Rydym yn ei gynhyrchu ar gyfer trafnidiaeth, gallwn ei gynhyrchu ar gyfer gwres, gallwn ei gynhyrchu wedyn i ddatgarboneiddio'n ehangach yn yr economi.

A gaf fi ddweud yn olaf fod sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn llawer mwy gobeithiol na'r gwelliant gan y Llywodraeth? Felly, rwy'n mynd i bwyso ar ei sylwadau, nid y gwelliant, ac rwy'n mynd i obeithio bod hynny'n golygu y gallwn gael dadl go iawn, wrth symud ymlaen yn y Cynulliad, ac yn wir y gallwn weithio i roi Cymru ar—. Er nad yw'n seiliedig ar dechnoleg benodol, ceir cyfleoedd enfawr yma. Mae pobl yn buddsoddi eisoes, ac rwyf am weld Cymru'n bod yn rhan o hynny, ac yn arwain ar hynny. Fe gymeraf ei sylwadau, yn hytrach na'r gwelliant, fel arwydd o obaith ar gyfer y dyfodol.

17:40

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, pleidleisiwn ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl Plaid Cymru: Canserau'r pen a'r gwddf

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Eitem 9 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar ganserau'r pen a'r gwddf, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6751 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer yr achosion o ganserau'r pen a'r gwddf ymhlith dynion.

2. Yn nodi'r dystiolaeth o effeithiolrwydd y brechiad HPV o ran diogelu rhag y mathau hyn o ganser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei rhaglen brechu HPV i'r holl fechgyn yn eu glasoed.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n falch o gael agor y ddadl yma heddiw am ehangu y brechlyn feirws papiloma dynol, sef y brechlyn cyntaf un i gael ei ddatblygu yn erbyn canser. Mae hynny, yn llyfrau unrhyw un, yn ddatblygiad mawr. I ryw raddau, wrth gwrs, mae yna fantais yn cael ei gymryd o'r datblygiad mawr yna drwy fod y brechlyn yn cael ei gynnig i ferched yn eu llencyndod, ac i ddynion sy'n cael rhyw efo dynion. Ond nid ydym ni, eto, yn cynnig y brechlyn yma i fechgyn ifanc, er gwaethaf y dystiolaeth glir iawn o effeithlonrwydd y brechlyn yn atal canser difrifol, gan gynnwys canserau'r pen a'r gwddf. Byddai defnyddio'r brechlyn yn ehangach hefyd yn ehangu'r amddiffyniad i ferched yn erbyn canser gwddf y groth.

Gwnaf i droi yn syth at welliant y Llywodraeth, sydd fwy neu lai yn dweud eu bod nhw am anwybyddu argymhellion Cancer Research UK a phob oncolegydd yn y wlad, cyn belled ag y gwelaf i, a disgwyl am argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn lle hynny. Nid oes gen i amheuaeth mewn difrif beth fydd yr argymhelliad yna, sydd yn gofyn y cwestiwn: pam aros? Ond rydw i yn meddwl ei bod hi nid yn unig yn deg ond yn bwysig i ailedrych ar argymhelliad cynharach y JCVI i beidio ag ehangu’r brechlyn, a pham y gwnaethon nhw’r argymhelliad yna, achos mae o’n codi materion go sylfaenol, rydw i'n meddwl. A ydyw’r dulliau presennol sydd gennym ni o ddadansoddi effeithiolrwydd cost—nid oes yna neb yn amau'r effeithiolrwydd clinigol—a ydyw’r dulliau yna wir yn addas ar gyfer yr oes yma?

Rhesymau blaenorol y JCVI am beidio ehangu’r rhaglen oedd am eu bod nhw’n teimlo y byddai lles brechu yn cael ei ehangu i fechgyn beth bynnag, gan y byddai brechu lot o ferched yn darparu amddiffyniad heidiol sylweddol i fechgyn. Ond rydym ni’n credu bod y casgliad yma yn ddiffygiol am sawl rheswm. Mi af i drwyddyn nhw. Mae e wedi’i seilio ar y rhagdybiaeth y byddai yna lefel uchel iawn o ferched yn derbyn y brechlyn—rhywbeth sydd ddim yn wir, yn anffodus, oherwydd yr amrywiad anferth yna sydd yna rhwng gwahanol grwpiau, ac yn rhywbeth sy’n gallu cael ei roi mewn peryg gan un stori ddychryn am frechlyn, fel yr ydym ni yn gweld yn ymddangos yn y wasg o bryd i’w gilydd. Mae o’n cymryd yn ganiataol y dylai’r cyfrifoldeb am ddarparu amddiffyniad heidiol ac atal heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol gael ei roi ar ferched. Pam ddim dadlau, er enghraifft, fod rhaglen frechu bechgyn yn unig yn ddigonol i ddarparu imiwnedd heidiol i ferched? Yn drydydd, mae yna'n dal nifer sylweddol o ferched, fel roeddwn i’n ei ddweud, sydd ddim wedi cael eu brechu ac felly a allai drosglwyddo'r feirws i ddynion a fyddai, fel arall, wedi cael eu hamddiffyn petasent wedi eu brechu eu hunain. Pedwar: mi oedd yn farn gan y JCVI a oedd yn seiliedig, mae’n ymddangos, ar ragdybiaethau heteronormadol, sef bod pob dyn yn heterorywiol. Mae hyn, rydw i'n meddwl, yn cael ei gydnabod yn rhannol gan y penderfyniad a ddaeth maes o law i ymestyn brechu MSM, a hynny’n benderfyniad a gafodd ei wneud ar wahân. Mae hi'n bryderus ac mi allai fod yn beryglus hefyd i ddim ond rhoi brechlyn i ddynion sy'n fodlon datgelu eu rhywioldeb, a drwy dybio nad yw hyn yn broblem mae'r JCVI, rydw i'n meddwl, yn dangos yr angen am hyfforddiant cydraddoldeb ehangach yn y sector iechyd.

Mi fyddai brechu bechgyn, fel rydw i'n dweud, yn darparu lefelau uwch o imiwnedd heidiol ymysg merched, sy'n golygu y dylem ni ystyried y budd ychwanegol i ferched yn benodol o frechu bechgyn. Mae'r dystiolaeth wedyn o effeithlonrwydd mewn atal canserau eraill wedi cryfhau ers y dadansoddiad gwreiddiol. Mae hynny'n bwysig i'w nodi, ac mae yn debygol hefyd o fod yn gryfach byth dros amser. Os nad oedd y brechlyn eisoes yn cael ei ddefnyddio, rydw i'n meddwl y byddai casgliadau'r JCVI am gyflwyno rhaglen gyffredinol ar draws y boblogaeth ferched a bechgyn siŵr o fod yn wahanol. Hynny ydy, petasai'r brechlyn yn cael ei gyflwyno o'r newydd rŵan, rydw i'n siŵr mae rhaglen gyffredinol fyddai gennym ni. 

Yn olaf, wrth ystyried canlyniad y dadansoddiad effeithlonrwydd cost, rydw i'n meddwl bod yna danamcangyfrif difrifol o'r gost effeithlonrwydd cyflwyno brechlyn ar gyfer bechgyn. Y rheswm, rydw i'n meddwl, ydy oherwydd nad yw’r budd yn dod tan ymhell iawn i lawr y trac. Rŵan mae'r gost yn cael ei thalu o roi'r brechlyn, pan o bosibl na fydd y canser yn cael ei atal am 50 mlynedd. Rŵan, rydw i'n ofni bod y prosesau o fesur cost effeithlonrwydd yn methu â delio efo'r math yna o oedi. Rydw i'n meddwl bod y JCVI ei hunan yn nodi'r problemau hyn, a'r ffaith bod eu dwylo nhw, mewn ffordd, wedi'u clymu, oherwydd yn eu dadansoddiad interim maen nhw'n dweud hyn:

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y dadleuon a wnaed gan randdeiliaid ar fater mynediad cyfartal a bod manteision clinigol ychwanegol y gellid eu cyflawni mewn dynion gyda rhaglen niwtral o ran rhyw. Dymuna'r Pwyllgor gyfeirio mater mynediad cyfartal felly at yr Adran Iechyd i'w ystyried.

Mewn geiriau eraill, Ysgrifennydd y Cabinet, maent am i chi wneud y penderfyniad. Credaf nad yw'r syniad y gallai hyn fod yn rhy ddrud yn dal dŵr. Mae'r amcangyfrif o'r gost o ymestyn y rhaglen i gynnwys bechgyn oddeutu £0.5 miliwn y flwyddyn. Ni fyddai ond angen inni atal saith neu wyth o achosion o ganser bob blwyddyn, a byddai cyflwyno'r brechlyn hwn yn sicr o wneud hynny, i adennill y gost hon. Yn wir, mae'r unig reswm y defnyddiwyd y ddadl ynghylch costeffeithiolrwydd yn seiliedig ar y syniad y gallwn gael y manteision o'r brechlyn yn rhad drwy ragdybio imiwnedd poblogaeth ar sail rhaglen i ferched yn unig. Fel y gobeithiaf fy mod wedi amlinellu, mae hyn yn ddiffygiol, a chredaf y dylai'r Llywodraeth newid ei meddwl yn awr.

17:45

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Julie James

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch a ddylid ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys bechgyn yn eu harddegau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau o Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, a byddwn yn ei chefnogi'n llwyr, oherwydd yn y GIG heddiw rydym yn gyson yn sôn am yr angen i atal yn hytrach na gwella ac onid yw atal gymaint yn haws, ac os gallwn fynd allan a dal pobl a fyddai'n ddigon anffodus i ddatblygu canser o'r math hwn, gadewch i ni geisio ei atal, a gadewch i ni geisio ei atal yn awr.

Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, nid yw'n costio gormod o arian pan edrychwch ar effeithiau hyn yn nes ymlaen. Gadewch i ni feddwl nid yn unig am yr unigolyn a beth y gallent fod yn ei ddioddef, ond am y gost o ran cyflogaeth, y gost o ran holl gymorth y wladwriaeth, a'r gost o ran yr effaith ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Felly, credaf fod yn rhaid inni lynu wrth yr agenda atal, ac mae'n cysylltu'n glir iawn â'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn dweud y dymunant weld y cyfeiriad teithio'n mynd. Rydym yn gofyn i bobl gymryd cyfrifoldeb, i gamu ymlaen, ac rydym yn dweud, 'Collwch bwysau, rhowch y gorau i ysmygu, a gwnewch fwy o ymarfer corff', a dyma rywbeth y gallem ei wneud yn eithaf hawdd a fyddai'n helpu i ddileu rhai o'r peryglon o ddatblygu clefydau hynod o annymunol.

Nid ydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth nad yw erioed wedi'i wneud o'r blaen. Gadewch inni fod yn glir iawn: mae bechgyn yn eu harddegau yn cael hyn mewn nifer o wledydd ledled y byd, Seland Newydd ers 2008—roeddent ar flaen y gad go iawn—Awstria, Croatia, rhannau helaeth o Ganada—tua phedair o daleithiau mawr Canada—a'r gwersi a ddysgwyd ganddynt yw y bydd prisiau'r brechiad yn gostwng gydag arbedion maint. Felly, unwaith eto, mae'n anodd iawn edrych ar hynny a gwrthod yr awydd i'w wneud.

Ond yn anad dim, rydym yn dweud o hyd cymaint y dibynnwn ar ein clinigwyr, cymaint o angen ein clinigwyr sydd arnom i wneud y penderfyniadau gorau drosom, ac mae ein clinigwyr wedi dweud yn glir iawn, a hoffwn gyfeirio at un ohonynt, Dr Evans. Mae hi'n oncolegydd clinigol ymgynghorol yn ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, ac mae wedi dweud—nid wyf hyd yn oed yn mynd i ddweud beth yw'r enw torfol ar y canserau hyn i gyd, nid wyf yn siŵr y gallwn ei ynganu, ond yn y bôn, mae canserau'r pen, y gwar, y tonsiliau, y tafod a'r gwddf wedi treblu yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf, ac mae hi'n dweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y canserau hyn a HPV. Felly, dyma glinigydd uchel iawn ei pharch, clinigydd byd enwog, sydd wedi arwain ymgyrch—ymgyrch gref, oherwydd fe wnaethom ei chefnogi, y Ceidwadwyr Cymreig—ym mis Awst y llynedd pan ddywedodd yn glir iawn, 'Dylem edrych ar hyn'. Felly, unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r adolygiad seneddol, y weledigaeth ar gyfer iechyd, dan arweiniad clinigwyr, penderfyniadau clinigwyr—mae clinigwyr yn dweud y dylem edrych ar hyn, a chredaf y dylech wneud hynny.

Nid wyf yn hollol glir sut y cafodd Rhun ap Iorwerth y ffigurau cyllid, oherwydd rhaid imi ddweud wrthych yn onest fod fy ffigurau i'n sylweddol uwch na'ch rhai chi, ond rwy'n barod iawn i ddweud y gallai fy ffigurau fod yn anghywir—ond fe ddeuthum o hyd i ateb hefyd. Bydd yn amhoblogaidd dros ben, rwy'n gwybod, ond ceisiwch beidio â hisian gormod, ond mae dadansoddiad o ddata GIG Cymru yn amcangyfrif, pe bai paracetamol, asbirin, ibuprofen a co-codamol yn cael eu tynnu oddi ar restr GIG Cymru o feddyginiaethau am ddim i'r rheini nad ydynt yn amddifad neu'n agored i niwed neu bobl â chyflyrau cronig, byddai'n arbed tua £16 miliwn bob blwyddyn. Pan allaf fynd i'r archfarchnadoedd mawr iawn—byddai'n well i mi beidio â'u henwi—i brynu pecyn o ibuprofen am 32c, a bod pobl eraill yn gallu cael triniaeth sy'n achub eu bywyd—. Oherwydd nid yw arian yn tyfu ar goed, felly mae gennyf beth cydymdeimlad, oherwydd credaf y bydd yn costio mwy na £0.5 miliwn. Pe baem yn ystyried rhoi cymhorthdal i frechu 36,000 o fechgyn 12 i 13 oed Cymru, byddai'n costio—ar gost o oddeutu £300, sef yr hyn y mae fferyllydd stryd fawr enwog iawn yn ei godi ar hyn o bryd, byddai'n costio £11 miliwn amcangyfrifedig fan bellaf i'r GIG.

Felly, yr hyn rwyf am ei ddweud wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod atal yn well na gwella. Rydym yn ceisio cael neges iechyd y cyhoedd, rydym yn ceisio atal pobl rhag mynd yn sâl, fel bod y gost hirdymor i'r GIG ei hun, i'r wladwriaeth yn gyffredinol, i gyflogaeth, a'r pwysau ofnadwy y mae'n ei roi ar yr unigolyn ac ar deuluoedd—os gallwn ddechrau dileu hynny i gyd, nid oes unrhyw reswm yn y byd pam na ddylem fwrw ymlaen, gwrando ar y clinigwyr, a gwneud hyn. A gallwch ei fforddio drwy ofyn i rywun fel fi, sy'n ennill yr arian rwy'n ei ennill, i dalu 32c am fy ibuprofen, tra byddwch chi'n parhau i amddiffyn y bobl agored i niwed a'r bobl dlawd.

17:50

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am wneud y cynnig sydd ger ein bron heddiw.

Y feirws papiloma dynol, neu'r enw haws i'w ynganu HPV, yw'r feirws a drosglwyddir yn rhywiol mwyaf cyffredin ar y blaned. Credir y bydd pedwar o bob pump o bobl yn cael un o'r 100 neu fwy o fathau o'r feirws ar ryw adeg yn eu bywydau. Yn y mwyafrif llethol o achosion, nid yw'r dynion a'r menywod sydd wedi'u heintio yn dangos unrhyw symptomau allanol a byth yn gwybod eu bod wedi dal y feirws yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, gwyddys bod haint HPV yn gyfrifol am bron 2 y cant o'r holl ganserau yn y DU. Oherwydd y cysylltiad agos hwn â rhai mathau o ganser—canser ceg y groth yn arbennig, lle y credir bod 99.7 y cant o'r achosion o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan haint HPV—gwnaed penderfyniad i frechu pob merch rhwng 12 a 18 oed. Ar y pryd, ystyrid ei bod yn rhy ddrud i frechu bechgyn er mwyn atal canser ceg y groth. Fodd bynnag, daeth tystiolaeth i'r amlwg yn cysylltu math 16 a math 18 o HPV â chanserau'r anws a'r pidyn, a rhai canserau'r pen a'r gwddf.

Mae'r dystiolaeth hon wedi'i chadarnhau gan ddatganiad interim y cydbwyllgor ar imiwneiddio a brechu ar ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys bechgyn yn eu harddegau. Mae'r cydbwyllgor yn cyfeirio at y dystiolaeth sy'n cynyddu ynglŷn â'r cysylltiad rhwng HPV a chanserau eraill heblaw canser ceg y groth. Fodd bynnag, mae'r cydbwyllgor yn ystyried dyfarnu yn erbyn gweithdrefn imiwneiddio ar gyfer dynion ifanc oherwydd bod y modelau a ddefnyddiwyd ganddynt yn dangos nad yw'n gosteffeithiol. Ond sut y gall fod yn gosteffeithiol i beidio ag imiwneiddio bechgyn yn eu harddegau? Mae'n fater o ychydig gannoedd o bunnoedd i frechu bachgen yn ei arddegau, yn erbyn y gost o drin y bechgyn neu'r merched y dônt i gysylltiad rhywiol â hwy a fyddai'n datblygu canser yn y dyfodol.

Hyd yn oed pe baem yn anwybyddu'r manteision i'r bechgyn o imiwneiddio yn erbyn canserau pen a gwddf penodol a rhai mathau o ganser yr anws a'r pidyn, ni allwn anwybyddu'r budd o gynyddu amddiffyniad rhag canser ceg y groth. Roedd y modelau a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r rhaglen frechu HPV ar gyfer merched yn rhagdybied cyfraddau brechu o dros 80 y cant. Dengys tystiolaeth a gafwyd gan Ymchwil Canser y DU fod y gyfradd mewn rhai ardaloedd awdurdod lleol mor isel â 44 y cant. Ni fydd hyn nid yn sicrhau imiwnedd poblogaeth, ac felly mae angen inni imiwneiddio bechgyn yn eu harddegau yn ogystal â merched os ydym i gael unrhyw obaith o frwydro yn erbyn canser ceg y groth.

Mae hwn yn fater cydraddoldeb hefyd: pam y mae'n iawn i adael i ddynion ifanc ddod i gysylltiad â feirws a allai beri iddynt ddatblygu canser y pen neu'r gwddf pan fo brechlyn profedig ac effeithiol ar gael, a hynny'n unig oherwydd nad yw mor gosteffeithiol ag ydyw mewn menywod ifanc?

Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw a gwrthod gwelliant y Llywodraeth. Gwnaeth y cydbwyllgor hi'n glir flwyddyn yn ôl na fyddent yn cefnogi ymestyn y brechlyn i gynnwys dynion yn eu harddegau ar sail y gost. Oni bai eu bod wedi gwrando ac wedi diweddaru eu modelau, maent yn annhebygol o newid y farn honno. Mae angen inni weithredu yn awr, nid aros ychydig flynyddoedd eto i'r polisïau ddal i fyny gyda'r dystiolaeth. Diolch. Diolch yn fawr.

17:55

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl. Ynghylch imiwneiddio yn y lle cyntaf, brechu, ceir stori lwyddiant rhyfeddol yma ynglŷn ag ymchwil feddygol, oherwydd ers degawdau bellach rydym wedi meddwl nad yw imiwneiddio ond o werth ar gyfer atal heintiau. Nawr, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi canfod brechiad sy'n atal canser. Mae'n newid rhyfeddol, a phan glywais y newyddion hwnnw gyntaf tua 15 mlynedd yn ôl neu fwy—mae'n cael effaith wirioneddol aruthrol ar sut yr edrychwch ar y byd fel meddyg. Meddyliwn am imiwneiddio fel rhywbeth sy'n atal haint; rydych yn atal lladdfa flynyddol o ganlyniad i ddifftheria, tetanws a'r stwff a lenwai ein hen fynwentydd a'n hen gapeli yng Nghymru, ac yn awr, yn sydyn, rydych yn imiwneiddio a gallwch atal canser. Mae'n anghredadwy. Mae'n newid sylweddol, ac rydym yn anghofio weithiau y dylem ryfeddu at rai o'r pethau rydym wedi'u darganfod.

Yn amlwg, y feirws papiloma dynol sydd dan sylw yma. Caiff ei drosglwyddo'n rhywiol ac yn amlwg, mae'r brechlyn hwn yn atal yr haint, ond mae'n atal y canserau rhag datblygu. Mae'n wirioneddol anhygoel, yn enwedig o ran y dadansoddiad o gost a budd, ac mewn bechgyn, mewn dynion, mae'n ymwneud ag atal canserau'r pen a'r gwddf. Mae'r rhain yn ganserau sylweddol sydd â goblygiadau cost enfawr o ran llawdriniaethau eithaf erchyll, sy'n anffurfio, oherwydd fel arfer daw'n amlwg yn hwyr yn y dydd: mae gennych lwmp ar ochr eich gwddf, tu ôl i'ch tafod, mewn pob math o gilfach na allwn eu gweld tan yn hwyr yn y dydd. Mae yna gost erchyll, enfawr i bob achos unigol o ganser y pen a'r gwddf sy'n rhaid ei gynnwys yn y fformiwla hon o sut rydym yn barnu a yw rhywbeth yn gosteffeithiol ai peidio: os ydynt wedi cael eu brechlyn HPV, ni fyddant yn datblygu'r canser pen a gwddf hwnnw. Oherwydd y cynnydd enfawr mewn—. Mae'r ffigurau gennyf yma, bu cynnydd o 63 y cant yn ystod y degawd diwethaf mewn achosion o ganserau'r geg a'r oroffaryncs mewn dynion yng Nghymru. Dyna'r ffigurau, ac mae'r cynnydd hwnnw'n gysylltiedig â'r cynnydd mewn heintiau HPV. Felly, gallwn wneud rhywbeth ynglŷn â hynny drwy frechu'r bechgyn yfory.

Dyma'r agenda atal ar ei gorau, fel y nododd Angela Burns. Eisoes, mae'r merched yn cael eu brechu. Gellid brechu'r bechgyn yn ogystal. Rydym ar y ffordd i ddileu canser ceg y groth. Mae'n anhygoel, onid yw? Rydych yn sôn am ganser ceg y groth mewn menywod ar y ffordd i gael ei ddileu gan y rhaglen frechu hon, a dylem fod yn cynnig yr un fath i ddynion ifanc. Wrth iddynt dyfu'n hŷn, gallem ddatrys canser y pen a'r gwddf, sy'n ganser erchyll, dinistriol, gyda goblygiadau cost enfawr sy'n amlwg heb eu hystyried yn y dadansoddiad o'r gost yn ei gyfanrwydd. Felly, dyma frechlyn sy'n atal canser mewn menywod, dyma frechlyn y mae profiad rhyngwladol yn dangos ei fod yn atal canser ymhlith dynion yn ogystal. Felly, mae merched yn ei gael; dylai bechgyn ei gael hefyd. Diolch yn fawr.

18:00

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu safbwyntiau ar y mater pwysig hwn a drafodwyd gennym o'r blaen ac rwy'n gobeithio y gallwn ei drafod eto yn y dyfodol ar ôl gwneud penderfyniad. Yn ei gyfarfod diweddaraf ar 6 Mehefin, rhoddodd panel arbenigol annibynnol y Deyrnas Unedig ar faterion imiwneiddio y clywsom amdano heddiw—y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—ystyriaeth bellach i ymestyn y brechiad HPV i gynnwys bechgyn. Mae adroddiadau ar y drafodaeth yn y cyfarfod hwnnw wedi ymddangos mewn rhai rhannau o'r cyfryngau, ond mae'r cyd-bwyllgor eto i gyhoeddi datganiad yn rhoi ei gasgliadau terfynol a chyngor. Rwy'n disgwyl i hwnnw fod ar gael yn fuan iawn, ac yn sicr cyn diwedd mis Gorffennaf. Felly, mae'r cyngor ar fin ymddangos.

Nawr, er gwaethaf anogaeth yr Aelodau heddiw, ni allaf achub y blaen ar yr hyn y bydd y datganiad hwnnw yn ei ddweud, ond hoffwn ymateb i beth o'r drafodaeth heddiw. Fel y dywedwyd, ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu mae brechiadau HPV wedi cael eu cynnig fel mater o drefn i ferched yn eu harddegau ers 2008, ac ers ei gyflwyno, dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, fod nifer y menywod ifanc a heintiwyd â HPV wedi gostwng yn ddramatig hyd at 86 y cant rhwng 2010 a 2016. Disgwylir y bydd yr amddiffyniad yn hirdymor, ac yn y pen draw yn achub cannoedd o fywydau y flwyddyn. Fel y dywedodd nifer o'r Aelodau heddiw, mae hyn yn ymwneud ag achub bywydau. Y newyddion da yw bod y brechiad HPV mewn merched yn darparu rhywfaint o amddiffyniad anuniongyrchol i fechgyn, a gwn fod Rhun ap Iorwerth wedi sôn am hyn, ac yn benodol soniodd am gyfraddau brechu. Mewn gwirionedd, mae cyfraddau brechu yng Nghymru yn gymharol uchel. Y ffigurau diwethaf oedd 83 y cant ac maent yn gwella, gydag 89 y cant yng Nghwm Taf a 79 y cant ym Mhowys. Felly, mae mwy i'w wneud bob amser. Ond ym mis Ebrill 2017, eto mewn ymateb i gyngor y cyd-bwyllgor, cyflwynwyd rhaglen gennym wedi'i thargedu ar gyfer dynion sy'n cael rhyw gyda dynion, a gwnaed hynny mewn modd amserol, gan weithredu ar y cyngor a ddiweddarwyd gan y cyd-bwyllgor.

Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol hynny, nodaf o'r ddadl heddiw a gohebiaeth flaenorol gan eraill, gan gynnwys amrywiaeth o glinigwyr mewn nifer o feysydd gwahanol, fod yna bryderon yn parhau ynglŷn â mynediad cyfartal at y brechiad HPV a dibyniaeth ar imiwnedd poblogaeth yn hytrach na chynnig amddiffyniad uniongyrchol i ddynion a bechgyn. Rwy'n ymwybodol fod y pryderon wedi'u dwyn i sylw'r cyd-bwyllgor gan nifer o ffynonellau fel rhan o'r ymgynghoriad yn dilyn cyhoeddi eu datganiad interim y llynedd. Nawr, mae eu hadolygiad ers hynny wedi cymryd mwy o amser nag y byddai neb ohonom wedi dymuno, ond mae bellach yn dod i gasgliad, fel y dywedais yn fy sylwadau cynharach. Roedd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar nifer o faterion cymhleth a'r cyd-bwyllgor ei hun sydd yn y sefyllfa orau i'w hasesu, nid yn lleiaf mewn perthynas â chosteffeithiolrwydd, er y bydd yna benderfyniad i mi ei wneud ar ei ddiwedd. Ni chredaf y dylem droi cefn ar bwysigrwydd costeffeithiolrwydd oherwydd mae angen i ni werthuso manteision posibl rhaglenni cenedlaethol yn deg, yn gyson ac yn drylwyr. Mae angen inni sicrhau gwerth am arian a'r budd iechyd mwyaf sy'n bosibl i'r boblogaeth.

Rwy'n anghytuno â phwynt Angela Burns ynglŷn â pha mor hawdd y gallai fod i dynnu'r pedwar neu bump eitem a enwyd oddi ar y rhestr bresgripsiynu. Nid wyf yn credu y gallech osgoi ailgyflwyno prawf modd drud ar gyfer gwneud hynny, ac nid wyf yn credu ychwaith ei fod yn hawdd, fel yr awgrymwyd, nac ychwaith y byddech yn sicrhau'r arbedion cost y mae hi'n eu nodi, ac wrth gwrs, ceir gwahaniaethau ar sail egwyddor ynglŷn â pharhad ein polisi presgripsiynau am ddim.

Ond rwyf am wneud hyn yn glir oherwydd gwn fod nifer o bobl wedi cyfeirio at dystiolaeth a safbwyntiau grwpiau ymgyrchu eraill a grwpiau sydd â diddordeb yn y maes hwn ac sydd eisiau gweld newid cadarnhaol, ond nid wyf yn credu y gallwch ddiystyru'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu fel y corff awdurdodol y mae holl deulu GIG y DU gyfan yn dibynnu arno i'w helpu i wneud dewisiadau a arweinir gan dystiolaeth ynghylch imiwneiddio a brechu. Pan fydd eu datganiad ar gael yn y dyfodol agos iawn, byddaf yn sicr yn gwrando ar y cyngor yn ofalus cyn penderfynu ar y ffordd orau o fwrw ymlaen yng Nghymru. Fodd bynnag, rwyf am sicrhau'r Aelodau y byddaf yn blaenoriaethu ystyriaeth o'r cyngor hwnnw ac yna'n gwneud penderfyniad y byddaf yn atebol amdano, ond byddaf yn gwneud hynny mewn modd amserol, yn sicr, heb unrhyw oedi hir.

Yn fyr iawn, diolch i bawb, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, am eich cefnogaeth i fwrw ymlaen â hyn ar ryw adeg. Yr hyn na allaf ei ddeall yn iawn yw pam na allwn fwrw ymlaen ag ef yn awr?

I ateb eich cwestiwn am y gost, Angela Burns, cyflwynasom geisiadau rhyddid gwybodaeth ar y costau. Roedd y £0.5 miliwn yn seiliedig ar 5 y cant o gost y rhaglen imiwneiddio ar gyfer merched yn Lloegr. Down at £0.5 miliwn, ac nid oes gennym unrhyw reswm dros gredu y byddai'n costio'n wahanol ar gyfer bechgyn, ac mae'r ffigur hwnnw wedi'i gadarnhau drwy ddulliau eraill yn ogystal. Felly, os—[Torri ar draws.] Iawn—â chroeso.

18:05

Er eglurder, gan ein bod yn cyfnewid ffigurau, buom yn edrych ar ddata cyfrifiad y GIG—niferoedd y dynion ifanc, neu fechgyn yng Nghymru heddiw—a phe baem yn mynd allan a dechrau o'r dechrau a rhoi'r brechiad hanfodol hwnnw i bob un ohonynt, neu'r ddau frechiad, a symud ymlaen oddi yno.

Diolch. Yr hyn sy'n bwysig yma yw ein bod yn cytuno bod hyn yn sicr yn gosteffeithiol oherwydd y salwch difrifol, y canserau y gallem fod yn eu hosgoi drwy gyflwyno hyn. Fel y dywedaf, yr imiwneiddiad cyntaf, y brechlyn cyntaf ar gyfer canser.

Dyma'r trydydd mater heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i mi ei godi yma yn y Cynulliad ar rywbeth y gellid ei gyflwyno, y gellid ei gyflwyno ymhellach, rhywbeth a brofwyd yn glinigol, y credwn ei fod yn gosteffeithiol, a rywsut mae'n cael ei gadw'n ôl. Crybwyllais y frwydr wyth mlynedd o hyd i gyflwyno triniaeth abladiad radio-amledd ar gyfer oesoffagws Barrett, ac unwaith eto, roeddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb cadarnhaol a gobeithio y gwelwn rywfaint o symud ar hynny.

Soniais unwaith eto am sganiau mpMRI sy'n caniatáu diagnosis o ganser y prostad heb fiopsi—rhywbeth yr ydym yn aros am gymeradwyaeth NICE ar ei gyfer, er bod Lloegr a'r Alban hefyd yn aros am gymeradwyaeth NICE, ond maent yn ei wneud beth bynnag. Felly, yn yr holl achosion hyn, rwy'n credu bod y dystiolaeth glinigol yn glir. Yma mae gennym rywbeth a fydd yn achub bywydau, na, nid pobl heddiw, ond ymhen 50 mlynedd—[Torri ar draws.] Buaswn wrth fy modd, ond ni allaf. Felly, os gwelwch yn dda, cefnogwch hyn a dangoswch ein bod eisiau i bobl yng Nghymru, yn ddynion neu'n fenywod, i gael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd, ac mae HPV wedi rhoi'r cyfle hwnnw. Mater o'i gyflwyno ydyw, dyna i gyd.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod pleidleisio

Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf am fwrw ymlaen yn syth at y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma felly ar y cynnig diwrnod heb ei enwi 6753—Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 9, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NNDM6753 Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 9, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn yn awr at bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 30, roedd 1 yn ymatal, a 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

NNDM6753 Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Gwelliant 1: O blaid: 30, Yn erbyn: 18, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM6753 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif linell rhwng Caerdydd ac Abertawe.

2. Yn gresynu at fethiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.

3. Yn credu:

a) bod rhaid sicrhau rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig;

b) bod angen diwygio peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio a’r broses o wneud penderfyniadau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 31, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NNDM6753 Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 31, Yn erbyn: 18, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar ynni hydrogen. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ab Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, roedd 2 yn ymatal, a 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6750 - Dadl Plaid Cymru - Ynni hydrogen - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 16, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6750 - Dadl Plaid Cymru - Ynni hydrogen - Gwelliant 1: O blaid: 16, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

18:10

NDM6750 - Dadl Plaid Cymru - Ynni hydrogen - Gwelliant 2: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 15, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

NDM6750 - Dadl Plaid Cymru - Ynni hydrogen - Gwelliant 3: O blaid: 15, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM6750 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC.

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i dyfu.

3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau erbyn 2023.

4. Yn nodi bod yn rhaid i waith i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod angen gwneud gwaith ymchwil a datblygu creadigol ar atebion eraill o ran seilwaith ac ar draws amrywiaeth o danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan gynnwys hydrogen.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6750 - Dadl Plaid Cymru - Ynni hydrogen - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar ganserau'r pen a'r gwddf. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 23, roedd 1 yn ymatal, a 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6751 - Dadl Plaid Cymru - Canserau - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 25, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6751 - Dadl Plaid Cymru - Canserau - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6751 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer yr achosion o ganserau'r pen a'r gwddf ymhlith dynion.

2. Yn nodi'r dystiolaeth o effeithiolrwydd y brechiad HPV o ran diogelu rhag y mathau hyn o ganser.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch a ddylid ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys bechgyn yn eu harddegau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, roedd 13 yn ymatal, a neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6751 - Dadl Plaid Cymru - Canserau - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda.

11. Dadl Fer: Bagloriaeth Cymru: addysg ynteu orfodaeth?

Symudwn at y ddadl fer, a galwaf ar Neil Hamilton i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn bwnc pwysig ac rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gael ei chadw yma y prynhawn yma ar ddiwrnod heulog braf. Mae hi a minnau'n anghytuno'n wleidyddol yn aml, ond ni all neb wadu'r ysbryd a'r ymrwymiad sydd ganddi tuag at ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac rwy'n bendant yn talu teyrnged i bopeth a gyflawnodd yn y blynyddoedd y bu yn y Cynulliad hwn yn gweithio ar ei hoff bwnc, ac rwy'n golygu hynny fel canmoliaeth ddiffuant.

Rwyf wedi codi'r mater hwn unwaith o'r blaen yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac rwyf wedi cael fy ngwawdio gan rai, mae'n ymddangos, am geisio osgoi trafodaeth ynglŷn â phynciau materion cyfoes dadleuol mewn ysgolion, neu geisio tawelu plant. Nid yw hynny'n rhan o fy mwriad o gwbl. Rwy'n gadarn o blaid cynnwys pobl ifanc mewn trafodaeth wleidyddol, ond rhaid gwneud hyn ar sail hyddysg a chytbwys. Un o'r pethau yr oeddwn yn bryderus yn eu cylch mewn perthynas â bagloriaeth Cymru yw'r her dinasyddiaeth fyd-eang a'r ffordd yr ymddengys bod y cwricwlwm wedi'i ddyfeisio, a'r ffordd braidd yn ogwyddog y'i lluniwyd.

Nawr, mae pynciau dadleuol yn rhwym o gael eu trafod mewn ysgolion ac fel y dywedaf, mae'n iawn iddynt gael eu trafod, ond pan ydym yn ymdrin â materion dan benawdau, megis amrywiaeth ddiwylliannol, masnach deg, ynni yn y dyfodol, anghydraddoldeb, tlodi, newyn, ymfudo, prynwriaeth ac ati, mae'r rhain oll yn bynciau hynod o wleidyddol, ac yn y lle hwn mae'n amlwg ein bod yn cael dadleuon grymus yn eu cylch. Nid wyf yn siŵr ein bod yn cael dadleuon grymus mewn ysgolion yn yr un modd. Nawr, nid wyf yn dweud bod ysgolion yn addysgu'r cyrsiau hyn yn fwriadol fel propaganda gwleidyddol, ond rwy'n bryderus nad oes digon o amrywiaeth barn i'w gwneud yn ddadl fwy cytbwys ac agored, a dyna pam y penderfynais godi hyn y prynhawn yma.

Hoffwn roi ychydig o enghreifftiau. Mewn dogfen o'r enw 'Sgiliau gwybodaeth', a gynhyrchir—yn anffodus rwyf wedi anghofio fy sbectol ac ni allaf ddarllen y rhan uchaf—. Mae'n ddrwg gennyf, dyma ni; maent wedi dod i fy achub. Dyna ni—a gynhyrchwyd gan fagloriaeth Cymru, mae'n dweud, 'Beth yw propaganda? Gwybodaeth yw propaganda nad yw'n ddiduedd ac a ddefnyddir yn bennaf i ddylanwadu ar gynulleidfa a hyrwyddo agenda, yn aml drwy gyflwyno ffeithiau mewn ffordd ddetholus (drwy ddweud celwydd neu eu hepgor efallai) neu
ddefnyddio negeseuon ensyniadol i greu ymateb emosiynol yn hytrach na
rhesymegol i'r wybodaeth a gyflwynwyd.'

Nawr, mae yna un eitem yn rhan o'r cwrs hwn o'r enw 'ethnosentrigrwydd': 'Ethnosentrigrwydd yw pan fydd rhywun yn credu bod y grŵp y maent yn perthyn iddo yn well na grwpiau eraill.' Mae'n mynd rhagddo ymlaen i ddweud mai'r rheswm am hyn yw oherwydd ei fod ond yn barnu diwylliant arall yn ôl gwerthoedd a safonau ei ddiwylliant eu hun. Wrth gwrs, nid yw gweld diwylliannau eraill fel rhai gwahanol o reidrwydd yn golygu ein bod yn eu gweld yn rhagori. Mae'r enghraifft a roddwyd yn nogfen y cwrs ar ethnosentrigrwydd, yn rhyfedd iawn, yn ymwneud â Cuba a goresgyniad America o Cuba yn 1960, yn dilyn chwyldro Cuba, a ddaeth â Fidel Castro i rym. Nawr, newyddion i mi yw bod yr Americanwyr wedi cynorthwyo alltudion o Cuba yn yr ymosodiad ar Cuba yn 1960 oherwydd eu bod yn ystyried bod America'n rhagori ar bobl Cuba. Digwyddiad geowleidyddol ydoedd wrth gwrs, ar anterth y rhyfel oer, ac mae iddo gyd-destun hanesyddol nad yw i'w weld yn y testun sy'n disgrifio'r hyn a ddigwyddodd yn Cuba yr holl flynyddoedd yn ôl. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw gyfeiriad o gwbl at natur cyfundrefn Castro, a orfodwyd ar Cuba yn sgil cael gwared ar yr unigolyn llawn mor ofnadwy hwnnw, Fulgencio Batista, sef unben Cuba cyn i Castro ei olynu.

Credaf fod hyn yn warthus, oherwydd os yw cenhedlaeth o blant yn cael eu magu gyda chamsyniadau, yn cael eu haddysgu yn yr ysgol yn y ffordd hon, mae hynny'n sicr o ddylanwadu ar eu barn am y pwnc y mae hynny'n enghraifft ohono. Nawr, wrth gwrs, cafodd cyfundrefn Castro ei chondemnio'n hallt gan sefydliadau hawliau dynol dros flynyddoedd maith. Mae Human Rights Watch yn dweud, o dan Fidel Castro, fod Llywodraeth Cuba wedi gwrthod cydnabod cyfreithlondeb sefydliadau hawliau dynol Cuba, pleidiau gwleidyddol eraill, undebau llafur annibynnol na gwasg rydd. Hefyd, gwrthododd adael i fonitoriaid rhyngwladol, megis Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch a sefydliadau anllywodraethol rhyngwladol fel Human Rights Watch, fynd ar yr ynys i ymchwilio i amodau hawliau dynol. Un o'r rhesymau pam y cefnogodd yr Americanwyr oresgyniad Cuba yn 1960 oedd oherwydd eu bod yn credu bod cyfalafiaeth, menter rydd a chymdeithasau democrataidd yn rhagori ar gymdeithas gomiwnyddol. Does bosib nad ydym wedi cael digon o brofiad o gomiwnyddiaeth yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, efallai, i beidio â chredu bod hwnnw'n safbwynt y gellid ei herio. Felly, mae disgrifio hynny fel enghraifft o ethnosentrigrwydd yn camarwain y plant sy'n ei ddysgu yn gyfan gwbl. Nawr, os yw hynny'n digwydd yn yr un maes hwnnw, efallai ei fod yn digwydd mewn meysydd eraill yn ogystal. Mae hon yn elfen bwysig iawn o addysg nad yw o bosibl yn cael ei haddysgu'n dda.

Ceir llawer o bynciau dadleuol eraill lle y ceir ochr arall i bethau hefyd, ac nid wyf yn siŵr a yw hynny'n cael ei addysgu yn yr ysgol. Ystyriwch dlodi, er enghraifft, a newyn. Beth sydd wrth wraidd tlodi a newyn, ar y cyfan? Pam y mae rhai gwledydd yn llwyddo i greu cyfoeth ac eraill yn methu, a pham y mae rhai gwledydd wedi mynd tuag yn ôl yn ystod y ganrif ddiwethaf, o gymharu â lle yr oeddent ar ddechrau'r ugeinfed ganrif? Os edrychwch ar y gwledydd cyfoethocaf yn y byd, gwledydd fel Singapôr, Hong Kong a De Korea ydynt, nad oeddent yn unman 50 mlynedd yn ôl yn y tablau creu cyfoeth, tra bo Venezuela, Zimbabwe a'r Ariannin oll wedi mynd y ffordd arall. Yn y 1920au, roedd yr Ariannin yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, a diolch i ddegawdau o gamlywodraethu gan bleidiau gwleidyddol adain chwith a lled ffasgaidd ac arweinwyr cleptocrataidd, dinistriwyd economi yr Ariannin. Felly, mae yna nifer o resymau pam y caiff cyfoeth ei greu, ond a siarad yn gyffredinol, nid yw rheolaeth y wladwriaeth yn un ohonynt.

O ran tlodi mewn gwledydd sy'n datblygu, nid yw'r seilwaith deallusol i greu cyfoeth yno. A yw 'masnach nid cymorth' yn cael ei addysgu mewn ysgolion, er enghraifft? Dywedodd yr Athro Peter Bauer, a oedd yn athro economeg datblygu rhyngwladol pan oeddwn yn fyfyriwr yn ôl yn y 1960au, mai cymorth, yn gyffredinol, yw arian y trethdalwyr a gesglir gan bobl dlawd mewn gwledydd cyfoethog i'w roi i bobl gyfoethog mewn gwledydd tlawd, ac rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau o hynny dros y blynyddoedd. Nawr, nid wyf yn awgrymu bod cymorth i wledydd tramor bob amser yn beth drwg, wrth gwrs—mae llawer o brosiectau cymorth yn dda—ond os ydych yn rhoi'r argraff mai'r unig ffordd y gall gwledydd tlawd ddod yn wledydd cyfoethog yw drwy drosglwyddo cyfoeth o wledydd cyfoethocach, mae hynny, unwaith eto, yn dangos camddealltwriaeth o natur y broses economaidd. Mae cystadleuaeth yn broses o ddarganfod: nid yw syniadau gwael yn llwyddo, yn wahanol i syniadau da. Felly, mae'r rhain yn bethau y dylid eu cynnwys yn briodol yn y cwricwlwm. Mae gennym bethau fel trosglwyddo cyfoeth rhwng y cenedlaethau, yn ogystal, mewn perthynas â thlodi. Yn y genhedlaeth hon, yn aml clywn bobl yn sôn am gyni, ond beth yw cyni? Cyni yw ein profiad o saith mlynedd ddiwethaf y Llywodraeth Geidwadol lle mae'r ddyled genedlaethol wedi dyblu. Nawr, trosglwyddo cyfoeth rhwng cenedlaethau yw hynny; rydym yn gwario arian heddiw y bydd yn rhaid ei dalu'n ôl gan genedlaethau yfory. A yw'r cwrs bagloriaeth Cymru yn ymdrin yn briodol â'r materion hyn? Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl.

Ceir cwrs o'r enw 'prynwriaeth'. Nawr, dyna derm llwythog, os bu un erioed. Chwiliais am y diffiniad ohono yn y geiriadur ac fe'i disgrifiwyd fel 'y gred bod cynyddu'r defnydd o nwyddau yn ddymunol yn economaidd'. Wel, nid wyf yn credu y byddai llawer o bobl yn ystyried y defnydd cynyddol o nwyddau yn beth drwg, ac a siarad yn gyffredinol, po dlotaf yr ydych, y mwyaf o nwyddau rydych eu heisiau. Mae hyn yn beth da. Felly, pam yr ydym yn dysgu rhywbeth o'r enw prynwriaeth i blant mewn ysgolion? Mae'r cyfan yn mynd yn ôl, mae'n debyg, at y syniad Rousseauaidd o'r anwar nobl—yn ôl at natur, y bywyd syml lle rydym yn crafu byw o'r pridd—ond nid dyna'r ffordd o fyw y mae pobl normal am ei dilyn.

18:20

Ie. Pobl normal, pobl go iawn. Gadewch inni ddweud 'pobl go iawn' felly. [Torri ar draws.] Wel, nid wyf yn adnabod llawer o wynebau yma o bobl sydd wedi dilyn rhaglen o gyni crys brethyn rhawn yn eu bywydau preifat. Rydym i gyd yn mwynhau bywydau cyfforddus iawn—[Torri ar draws.] Wel, rydym i gyd yn mwynhau bywyd hynod o gyfforddus, yn ennill arian mawr iawn o gymharu â'r cyfartaledd a chredaf ei bod yn nawddoglyd inni ddisgrifio dymuniadau pobl gyffredin fel 'prynwriaeth'.

Mater dadleuol arall yw cynhesu byd-eang—[Torri ar draws.] Ydw, rwy'n mynd i sôn am gynhesu byd-eang, oherwydd mae adwaith yr Ysgrifennydd addysg yn enghraifft o bopeth rwy'n sôn amdano y prynhawn yma. Oherwydd mae gennyf safbwyntiau ar gynhesu byd-eang sydd mewn lleiafrif bach iawn yn y Cynulliad hwn, ond mae'r ffordd y mae'r Ysgrifennydd addysg yn ymateb pan fyddaf yn crybwyll materion o'r fath yn awgrymu nad oes gennyf hawl i arddel y safbwyntiau hyn, am nad oes unrhyw sail ddeallusol drostynt o gwbl, er bod trafodaeth barchus iawn ar y gweill mewn gwirionedd ymhlith meteorolegwyr a hinsoddegwyr ar y materion hyn. A yw sefydliadau fel y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang yn cael eu defnyddio i ddarparu deunyddiau cwrs ar y materion hyn ym magloriaeth Cymru? Rwy'n amau hynny'n fawr iawn. Ac eto, os edrychwn ar hanes yr hinsawdd, rydym wedi cael cylchoedd pan oedd hinsawdd y byd yn cynhesu a chylchoedd eraill pan oedd yn oeri. Roedd cyfnod y Rhufeiniaid yn boeth iawn a'r cyfnod canoloesol yn boeth iawn, a rhyngddynt cawsom oesau iâ byr—cawsom un ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Felly, os edrychwn ar y ffeithiau y gellir arsylwi arnynt, nid ydynt yn ategu'r modelau hinsawdd sy'n seiliedig ar ragfynegiadau cyfrifiadurol.

Mae'r rhain yn ddadleuol, ac efallai y byddwch yn anghytuno â hwy, ond dylem yn sicr ddysgu'r ochr arall i'r ddadl os ydym am gael dadl gytbwys ar y pwnc, oherwydd rydych yn gosod costau enfawr ar bobl drwy godi pris ynni yn artiffisial. Gall fod yn beth da ein bod yn gwneud y pethau hyn, nid wyf yn gwybod. Nid oes gennym ffordd o allu penderfynu am nad ydym yn deall y ffeithiau. Mae hinsoddeg ei hun yn fater cymhleth iawn. Nid oes data hanesyddol ar gael beth bynnag i gymharu un cyfnod ag un arall, felly mewn gwirionedd ni allwn ddod i unrhyw gasgliadau o'r newidiadau bach iawn sydd wedi digwydd yn y tymheredd byd-eang yn y blynyddoedd diwethaf am na allwn gymharu â chenedlaethau blaenorol mewn modd rhifyddol. Ac nid ydym yn gwybod, beth bynnag, pa mor bell y bydd tueddiadau presennol yn parhau.

Felly, mae yna gyfyngiadau ar y wybodaeth y seilir damcaniaethau arnynt, ac nid wyf yn credu bod hyn yn cael ei adlewyrchu'n llawn yn yr addysgu a gyflawnir mewn ysgolion ychwaith. Y cyfan rwy'n ei ddweud yn ystod y ddadl hon yw y dylem gydnabod ym mhob un o'r pynciau dadleuol hyn, fod yna ochr arall i bethau, a dylid cyflwyno hynny i blant er mwyn iddynt allu dadlau a phenderfynu drostynt eu hunain. Ni ddylem drin hyn fel rhyw fath o destun crefyddol, lle na cheir dadl ar yr ochr arall—[Torri ar draws.] Mae Lee Waters yn dweud, 'Parchwch wyddoniaeth'. Wel, mae'r wyddoniaeth rwy'n sôn amdani yn cael ei pharchu gan yr Athro Christopher Essex, athro mathemateg gymhwysol ym Mhrifysgol Gorllewin Ontario, sef Cadeirydd y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang, gan Syr Ian Byatt, cyfarwyddwr cyffredinol gwasanaethau dŵr Cymru a Lloegr, yr Athro Freeman Dyson, cymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol, ffisegydd damcaniaethol byd-enwog ac athro emeritws yn y Sefydliad Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Princeton, gan yr Athro William Happer, athro ffiseg ym Mhrifysgol Princeton, yr Athro David Henderson, pennaeth yr adran economeg ac ystadegau yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a llawer iawn o rai eraill yn y rhestr o'r rhai sy'n cefnogi'r ymagwedd sgeptigaidd sy'n ganolog i waith y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang. Nid yw'n ymwneud â'u bod yn dilyn agenda benodol i orfodi barn, gan fod amrywiaeth o safbwyntiau, hyd yn oed o fewn y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang—[Torri ar draws.]

18:25

Felly, credaf mai'r hyn y dylem fod yn ei wneud mewn ysgolion yw addysgu plant fod yna wahanol safbwyntiau i'w cael ar bethau, hyd yn oed mewn pynciau hynod ddadleuol lle mae pobl weithiau yn eu gweld yn ddu a gwyn, gan annog dadl, annog ymryson, ond yn y pen draw eu dysgu i fod yn feirniadol. Dyna'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yn yr ysgol yn fy marn i: dysgu plant fod yn rhaid iddynt fod yn feirniadol yn eu dealltwriaeth, i gwestiynu bob amser a chwilio am y ffeithiau bob amser, ac nid derbyn propaganda gwleidyddol fel gwirionedd.

Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i'r ddadl? Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod bagloriaeth Cymru yn chwarae rhan allweddol yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau drwy wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc. Fe'i lluniwyd i roi profiad ehangach i bobl iau nag a gânt fel arfer drwy eu haddysg academaidd draddodiadol. Mae'n paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd yn y byd go iawn, gan eu harfogi â sgiliau i feddwl drostynt eu hunain ac i gymryd cyfrifoldeb am ymchwil annibynnol. Yn eironig, dyma'r union sgiliau a fydd yn helpu pobl ifanc i weld drwy ymdrechion i orfodi syniadau, fel y crybwyllwyd yn nheitl dadl Mr Hamilton, os yw hynny'n digwydd.

Drwy fagloriaeth Cymru, gall dysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gymdeithas a'r gymuned lle maent yn byw. Gallant hefyd ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion byd-eang, digwyddiadau a safbwyntiau ac wrth gwrs, rydym yn disgwyl i benaethiaid a phrifathrawon ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol wrth bennu'r rhaglen ddysgu gywir ar gyfer eu dysgwyr. Ond credaf mai ein dyletswydd yw darparu'r sgiliau, y wybodaeth ac os caf ddweud, y dystiolaeth sydd ei hangen ar genedlaethau'r dyfodol iddynt allu chwarae rhan lawn a gweithgar yn eu cymunedau a'r gymdeithas ehangach, a bydd bagloriaeth Cymru yn ein helpu i gyflawni'r ddyletswydd honno.

Nid wyf yn arbennig o gyfarwydd â'r adnoddau a ddyfynnwyd gan Mr Hamilton, na'r rhai y cyfeiriodd atynt yn ei araith y prynhawn yma, ond nid yw wedi cynnig unrhyw dystiolaeth nad oes unrhyw beth ond yr hyn rwyf newydd ei ddisgrifio yn digwydd yn ein hysgolion. Mae'r her dinasyddiaeth fyd-eang yn faes astudio pwysig yn fy marn i, ac mae'n cyfeirio myfyrwyr ac athrawon at ddefnydd o ystod o ffynonellau a deunyddiau i archwilio materion a restrir yn y cwricwlwm, ac i ystyried ffactorau perthnasol eraill. Yn wir, er mwyn i waith y plentyn gael ei asesu a phasio ym maes eu safbwynt personol yn y cymhwyster hwn—ac rwy'n dyfynnu—rhaid iddynt gynnwys

gwahanol safbwyntiau a barn ar faterion byd-eang yn eu hasesiadau ysgrifenedig. 

Rhaid iddynt amlinellu ffactorau perthnasol, yn ogystal â ffurfio'u barn eu hunain ar ddiwedd y darn hwnnw o waith. Dyna'r meini prawf asesu a ddefnyddir i asesu gwaith myfyrwyr yn y cyswllt hwn. Hoffwn nodi unwaith eto fod yn rhaid iddynt gynnwys barn pobl eraill neu wahanol safbwyntiau a dadleuon ar y pwnc y maent wedi'i ddewis.

Nawr, nid fi'n unig sy'n credu bod hwn yn gymhwyster pwysig. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymwysterau Cymru, corff annibynnol, adolygiad ar y cymhwyster a ddaeth i'r casgliad fod dysgwyr yn datblygu sgiliau sy'n llesol ar gyfer eu dyfodol. Roeddent yn dweud bod egwyddorion bagloriaeth Cymru a'r dystysgrif her sgiliau yn gryf ac maent yn berthnasol. Yn ogystal, maent yn cynghori y dylid cadw a diweddaru elfen y dystysgrif her sgiliau o'r cymhwyster.

Ddirprwy Lywydd, fel sydd i'w ddisgwyl gan unrhyw adolygiad, ceir argymhellion ar gyfer diweddaru a mireinio, ac ni fyddem yn disgwyl dim llai. Nododd yr adroddiad fod rhai agweddau ar y cynllun a'r asesiad yn fwy cymhleth nag y mae angen iddynt fod ar gyfer plant ac addysgwyr, a cheir rhywfaint o ddyblygu cynnwys ac asesiadau ar draws ei elfennau. Nawr, rwy'n croesawu'r camau y bydd Cymwysterau Cymru yn eu cymryd yn eu maes cyfrifoldeb, a chyn bo hir byddaf yn nodi fy ymateb i'w hadroddiad, a byddwn yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru, CBAC a'r consortia i adolygu eu hargymhellion a rhoi newidiadau ar waith. Mae hefyd yn werth nodi bod busnesau a chyflogwyr hefyd yn cydnabod beth y gall y cymhwyster ei gynnig. I ddyfynnu o'r adolygiad:

Canfu'r adroddiad hwn fod y Dystysgrif Her Sgiliau yn gymhwyster gwerthfawr sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau allweddol. Y sgiliau y mae cyflogwyr yn dweud yn gyson fod eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo yn y gweithle.

Dywedodd Mr Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru 

fod llawer o athrawon yn dweud bod y Dystysgrif Her Sgiliau yn rhoi boddhad o'i addysgu a bod myfyrwyr yn dweud eu bod yn mwynhau ennill sgiliau newydd,

a'r cyfle i ganolbwyntio ar bynciau sydd o ddiddordeb go iawn iddynt hwy.

Rydym hefyd yn gwybod bod llawer o ysgolion a myfyrwyr yn cydnabod manteision y cymhwyster, ac rydym yn derbyn adborth rheolaidd gan ysgolion a cholegau ar sut y mae bagloriaeth Cymru o fudd i'n dysgwyr. Y llynedd, cyflawnodd academi chweched dosbarth Coleg Castell-nedd Port Talbot gyfradd lwyddo anhygoel o 25 y cant o fyfyrwyr yn ennill gradd A* neu A, 60 y cant yn cael A* i B ac 86 y cant yn cael A* i C. A llwyddodd dros 200 o fyfyrwyr i gyflawni'r dystysgrif her sgiliau uwch. Mae'r rhain yn ganlyniadau rhagorol sydd wedi galluogi ein myfyrwyr a'n pobl ifanc i gael mynediad at ystod o leoedd prifysgol a chyfleoedd cyflogaeth. Fel y clywsom gan gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin a gyflawnodd y dystysgrif her sgiliau uwch ochr yn ochr â thair gradd Safon Uwch arall:

Drwy astudio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, llwyddais i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau na fuaswn wedi'u cyflawni drwy astudio Safon Uwch yn unig. Yn arbennig, bydd fy ymchwiliad unigol ar orbryder ac iselder yn sicr yn fuddiol ym Mhrifysgol Caerdydd lle byddaf yn astudio Seicoleg.

Mae'r rhain, Ddirprwy Lywydd, yn enghreifftiau go iawn o sut y mae bagloriaeth Cymru o fudd i bobl yng Nghymru. Yn ddiweddar hefyd, clywais fod bagloriaeth Cymru'n cael ei beirniadu am nad yw'n cael ei derbyn gan brifysgolion. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir wrth fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith gyda bagloriaeth Cymru—nid yw hyn yn wir o gwbl. Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, yn gweld mwy a mwy o werth y dystysgrif her sgiliau, a bagloriaeth Cymru am y sgiliau y mae wedi eu datblygu. Rwy'n gwybod hyn, oherwydd rwyf wedi siarad â thiwtoriaid derbyn y ddwy brifysgol honno, er mwyn ei glywed ganddynt yn uniongyrchol, ac mae llawer yn barod i dderbyn y fagloriaeth at ddibenion gofynion mynediad. Gellir cymharu'r dystysgrif her uwch â'r Safon Uwch, ac mae prifysgolion ledled y DU yn gadarnhaol iawn, gyda'r rhan fwyaf yn barod i dderbyn y fagloriaeth Cymru uwch newydd fel rhan o'u gofynion mynediad. Mae'n werth nodi ei bod yn denu'r un pwyntiau UCAS â'r Safon Uwch. Mae rhai prifysgolion wedi gostwng y tariff graddau sy'n ofynnol ar gyfer rhai cyrsiau lle mae ymgeiswyr wedi cyflawni bagloriaeth Cymru. Mae hyn yn arwydd o'u hyder yn y cymhwyster.

Felly, i grynhoi, roedd adolygiad diweddar o'r cymhwyster yn gadarnhaol, mae athrawon yn mwynhau ei ddysgu, mae myfyrwyr yn mwynhau ei astudio, a dywed cyflogwyr ei fod yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen i bobl ifanc yn y gweithle. Ac mae llawer o brifysgolion yn ei gydnabod ar gyfer eu gofynion mynediad. Mae'r rhai nad ydynt yn ei gydnabod ar gyfer eu gofynion mynediad yn dal i weld ei werth o ran y sgiliau a'r profiadau ehangach y mae'n eu rhoi i bobl ifanc, a gall wella eu cais. Felly, rwy'n sicr y byddwn yn parhau i annog pawb i fabwysiadu bagloriaeth Cymru am ei fod yn gwneud synnwyr, am fod y dystiolaeth yn dweud wrthym ei fod yn werth chweil ac am fy mod yn credu y bydd yn ein helpu i godi safonau, i leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac i ddarparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd lle bydd pobl ifanc yn cael yr union sgiliau i allu herio barn bobl debyg i Mr Hamilton.

18:30

Daeth y cyfarfod i ben am 18:34.