Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
06/07/2016Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:00 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Trefn. Rwy’n galw’r Cynulliad i drefn.
Cyn inni gychwyn ar y busnes ar yr agenda, rwyf am gymryd y cyfle i ddymuno’n dda i’n tîm pêl-droed ni heno yn erbyn Portiwgal. [Cymeradwyaeth.] Roedd buddugoliaeth y tîm yn erbyn Gwlad Belg yn wefreiddiol ac yn ddigwyddiad gwirioneddol bwysig yn hanes diwylliannol a chwaraeon Cymru. Fe ddaeth geiriau’r bardd Waldo yn wir:
‘Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain’.
Rydym hefyd yn llongyfarch y cefnogwyr. Maent wedi bod yn llysgenhadon gwych i ni fel cenedl. Rydym yn diolch i’r hyfforddwyr, y chwaraewyr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am ein herio ni i freuddwydio a dangos mai gorau chwarae yw cyd-chwarae.
At this point, I was tempted to lead us all in a rendition of ‘Don’t take me home, please don’t take me home, I just don’t want to go to work’, but I had no confidence in your ability to sing in harmony. [Laughter.] I have far greater confidence in the ability of the Welsh team to win tonight. On behalf of us all, I wish Chris Coleman and his players all the very best for tonight and for Sunday.
Pob lwc, Gymru. [Cymeradwyaeth.]
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas.
Felly, rydym yn symud i’r eitem gyntaf ar yr agenda, a honno yw’r ddadl ar Araith y Frenhines. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6060 Elin Jones
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2016/2017.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Rwy’n galw’n awr ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns, Aelod Seneddol, i gyflwyno’r cynnig.
Diolch yn fawr, Fadam Lywydd. Mae hi’n wirioneddol yn bleser cael bod yma. A gaf i, yn y lle cyntaf, eich llongyfarch chi a’r Dirprwy Lywydd ar gael eich ethol fel Llywydd a Dirprwy Lywydd i’r Cynulliad Cenedlaethol? Hefyd, a gaf i longyfarch pob Aelod o’r Cynulliad sydd wedi cael ei ethol, a’i ailethol, ar ôl yr etholiad diweddar?
It’s a privilege to be here in the Senedd Chamber once again. Today, as you rightly said, is a big day for many reasons. I should suggest it’s not because of my presence as Secretary of State for Wales in the Chamber. I genuinely hope this is the last time, not out of disrespect at all to the Assembly, but because I think that the legislation that requires my attendance here once a year simply belongs to a past era because of the maturity of the Assembly.
It’s also an important day for very serious reasons, such as the publication of the Chilcot report, but, as you’ve rightly said, it’s a big day for Wales on a more positive and optimistic note in relation to the fantastic success of the Welsh football team. I spoke to the Portuguese ambassador earlier today and we both agreed that we would be supporting the victor this evening, whoever that might be, in the final. I said I was pretty confident that that would be Wales.
I also say that Wales and the Senedd has come a long way for many, many reasons, but I would say it says something when even ‘The Daily Telegraph’ says, in Welsh, that we are all Welsh, which I take as a positive underlining of Wales’s position and that of the football team as well.
I remember the Chamber fondly from my time, the 11 years that I spent here, and the return has caused me to reflect on how much it has changed since that period. Since 2011, when this Assembly took on full law-making powers, it has passed 28 Acts and numerous pieces of secondary legislation, including innovative legislation about organ donation, about sustainability and about housing.
Madam Llywydd, I want to talk today about the UK’s legislative programme and how it delivers security and increases life chances for people across Wales. But first, Madam Llywydd, I want to touch on the vote to leave the European Union and what that means for us all.
The people of Wales have spoken, and we must act and deliver a managed exit from the European Union. We need to show strong leadership and instil confidence in businesses and investors, universities and colleges, charitable organisations and local authorities, and to families and consumers alike. We will remain full members of the European Union for at least two years. Having spoken to the leadership contenders, it is clear that article 50 will not be invoked immediately on their election. This offers more stability to the economy and to those who benefit from support from the European Union. We need to use this interim period to prepare the nation for withdrawal.
The Cabinet agreed last week to establish a European Union unit in Whitehall, looking at all of the legal, practical, regional, national and financial issues that need to be considered. Of course, I will work closely with the First Minister to inform the unit as the UK negotiates to leave the European Union. I will ensure that Welsh interests are represented as the Cabinet agrees our negotiating position and, having met with Oliver Letwin to discuss some specifics earlier this week and the impact for Wales, I’m able to extend an invitation to the First Minister to meet with Oliver Letwin and myself to discuss the issues in more detail, as and when the First Minister feels appropriate. The same invitation has been extended today to Nicola Sturgeon and to the Deputy First Minister and the First Minister in Northern Ireland.
So, I would say talking negatively at this stage doesn’t help anyone. I’m hugely impressed by the response from the business community in Wales. Phrases such as ‘business as usual’ were used, and another one, ‘the rebirth of businesses’ came out of recent briefing sessions I held last week. I would also say my favourite phrase was ‘entrepreneurs thrive on change’ and that was quoted by one exporter. That demonstrates the opportunity that many people will see from this changing situation, whether it was desired or not.
I want to ensure that the values that British society holds dear, the values of tolerance, of openness and of unity, are not seen as casualties of this referendum, and that we redouble our efforts to support community cohesion, both locally, nationally and across the United Kingdom. This issue is of particular importance to the universities and colleges as we welcome international students from September this year, September next year and well beyond.
The British economy is strong. Near-record employment and a reduced deficit put us in a good position from which to grow. We are leaving the institution of the European Union, not turning our backs on our friends, neighbours and trading partners across Europe. I’m optimistic about our future and of the one that Wales and Britain must create outside of the European Union. I’ve committed to making UK Trade and Investment resource available to open new markets and to use the Foreign Office to develop relationships further afield. The Wales Office stands ready and waiting to give that access to all of the Whitehall resource and expertise and, of course, I want to work with every Assembly Member and the Welsh Government in exploring those opportunities.
So, turning to our legislative programme, economic security is our priority. Good progress has been made over the last six years, and I am the first to recognise that there is always more to do. The Digital Economy Bill will modernise the climate for entrepreneurship and give everyone a legal right to superfast broadband. The Bill will support Wales, which already plays a leading position in the technology sector. It will support Wales to go to the next level and develop even further.
The modern transport Bill would provide for driverless cars, spaceports and safety around drone operations amongst a range of other policies, some of them, I would say, a little bit more local. The neighbourhood planning and infrastructure Bill will simplify planning and put the National Infrastructure Commission on a statutory footing. Again, Wales has a particular interest in the National Infrastructure Commission. The local growth and jobs Bill will promote home ownership in England and develop significant additional powers to English regions. This creates opportunities for regional economies in Wales to form strong partnerships, but also highlights the greater competition across the UK that we must see as a positive challenge.
We are also determined to go further in tackling the barriers to opportunity. Through the prison and courts reform Bill, we will empower prison governors to take forward innovation that our prisoners need, ensuring that prisons will no longer be warehouses for criminals, but incubators for changing lives instead. I know this is something that Dai Lloyd raised in the debate that you recently held in the Assembly.
The Children and Social Work Bill will make changes to adoption to tip the balance in favour of permanent adoption, if that is the right solution for the child. The Higher Education and Research Bill will cement the UK’s position as a world leader in research, ensuring that we maximise the £6 billion a year investment that we make in research. Welsh universities are receiving more than ever, and I know that the Cabinet Secretary for Education is discussing other matters relating to this Bill with the universities Minister.
Keeping our country safe in these challenging times is, without question, a priority. The counter-extremism and safeguarding Bill will help authorities to disrupt the activities of extremists. The investigatory powers Bill will fill holes in our security apparatus so that we give law enforcement agencies the tool they need to protect the public in this digital age. The Policing and Crime Bill will take forward the next phase in police reform, while the criminal finances Bill will cement the UK’s role in the fight against international corruption and enable a further crackdown on money laundering and those who profit from crime. Alongside this, we will bring forward a British bill of rights to reform the UK human rights framework, consulting absolutely with the Assembly and the Welsh Government throughout the process.
The legislative programme, Madam Llywydd, also makes further changes that will only apply in England, including reform of social work and giving more freedom to teachers in schools, as well as encouraging the establishment of new universities. I hope that Assembly Members will look on the legislation that applies in England and seek opportunities from them—it may be by replicating them, but it may be by doing something very different—and hope that we will recognise that the UK is our biggest market that we are inextricably linked with and associated to. The closer that communities work, co-operate, complement, co-ordinate and even compete, the better the outcomes tend to be, particularly in light of the referendum less than two weeks ago.
So, now, Madam Llywydd, I want to spend a little bit of time talking about the Wales Bill. My key aim is to ensure that it delivers the two underpinning principles of the future devolved governance of Wales—that’s clarity and accountability. The timing of the Bill seemed to be an issue. I know that Rhianon Passmore raised it in the debate, as well as letters from the leaders of the Government and party leaders here. I would say, Second Reading took place last week, and the first day of Committee Stage took place yesterday. I know there were concerns about the time allocated, but, on each occasion, the debates finished early with much time to spare. I hope that gives confidence that we are determined to give it appropriate and proper scrutiny. The second day of committee will take place next Monday and there will be further debate in the autumn as the Bill reaches Report Stage before Third Reading. The whole process will start again when the Bill moves on to the other place where their lordships will undoubtedly show a close interest and scrutiny as appropriate. Of course, I want this Assembly to pass a legislative consent motion, and I’m sure that the First Minister, the Presiding Officer and I will continue in our warm and open discussions.
The Bill will devolve significant powers, provide clarity and accountability, and it underpins my commitment to devolution. Constitutional Bills are not what comes up on the doorstep, but they will allow the Welsh Government and the Assembly to focus on the things that matter to the people who live and work in Wales: tax levels, the economy, health policy, education policy, energy projects, regeneration and so many others.
Madam Llywydd, the debate on the draft Wales Bill was dominated by the necessity test and the inclusion of the test led to calls for a separate jurisdiction. This test was believed to be set at too high a bar and calls were made for a lower threshold. But, Madam Llywydd, I have gone further and removed the test entirely when the Assembly modifies civil and criminal law in devolved areas. As a consequence, many of the arguments for a separate legal jurisdiction should have fallen away. However, I also recognise the validity of some of the points that were made in that pre-legislative scrutiny phase. Therefore, I’ve included a clause on the face of the Bill that recognises, for the first time, that Welsh law is made by the Assembly and Welsh Ministers within the single legal jurisdiction.
Distinct administrative arrangements also need to be recognised to accommodate Welsh law, and I’ve established a working group involving the Welsh Government, the Lord Chief Justice and UK officials. This will run in parallel with the scrutiny of the Bill.
Now, the single jurisdiction itself caused a lot of discussion from Mick Antoniw, as one, from Jeremy Miles and a number of other Members during the debate that the Assembly had on the Bill here, but I’ve never heard of a policy that cannot be delivered because of the single jurisdiction. It offers businesses simplicity and allows Wales and Welsh legal firms to capitalise on opportunities in London and elsewhere. The legal profession is one of Wales’s fastest-growing sectors, and I’m not sure what additional regulatory burden, bureaucracy and risks to investors and law schools a separate jurisdiction would achieve. This was accepted, I’m pleased to say, by opposition Members of Parliament yesterday. The advent of metro mayors and devolution across England has put us in greater competition for investment and for capital. I suggest that we don’t underestimate how risks would be portrayed by some of our competitors. We need to be alive to that.
So, at the heart of the Bill is the reserved-powers model, and we’ve cut a swathe through the reservations since the draft Bill was published in October. The list in the Wales Bill has been streamlined, with clearer and more accurate descriptions of reservations. I believe that, broadly, we have struck the right balance, but I’m happy to continue a dialogue. This reserved-powers model will deliver a settlement that will make it clear to people in Wales who they should hold to account, the UK Government or the Welsh Government, for the decisions that affect their daily lives.
The Bill also devolves further powers over ports, energy projects, speed limits, traffic signs, transport services in Wales, powers over fracking, coal mining—it’s hard to believe that, until this Bill passes, this place couldn’t sanction a new coal mine, in Wales of all places—as well as marine licensing and conservation.
So, a key feature of a mature legislature, of a parliament, of a ‘senedd’, is that it raises through taxation much of the money that it spends. The devolution of stamp duty land tax and landfill tax, and the full devolution of business rates last year, are the first steps towards this, and it’s only right that a portion of income tax is devolved, too. The Wales Bill removes the need for a referendum to introduce a Welsh rate of income tax. There are practical issues to agree with the Welsh Government, particularly on how the Welsh block grant is to be adjusted in order to take account of tax devolution, and I will continue to build on our warm relationship and hope that having delivered the much-needed funding floor will give confidence to Members in this respect.
Lywydd, fel y nodais yn gynharach, mae’r rhaglen ddeddfwriaethol gymaint yn fwy, wrth gwrs, na dim ond datganoli yma yng Nghymru. Mae’n ymwneud â mwy na’r cyfansoddiad, sydd mor aml wedi’i ymgolli cymaint ym Mae Caerdydd. Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol yn ymwneud â darparu diogelwch ar gyfer pobl sy’n gweithio ledled Cymru; mae’n ymwneud â chynyddu cyfleoedd bywyd pobl ledled Cymru; ac mae’n ymwneud â chryfhau ein diogelwch cenedlaethol. Rhaid i ni nawr gydweithio gyda’n gilydd—y ddwy Lywodraeth—i ddarparu dyfodol llewyrchus ac unedig i Gymru. Diolch yn fawr.
Rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i groesawu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ôl i’r Cynulliad ac i’r Siambr hon? Mae’r berthynas rhyngof i a fe, wrth gwrs, yn mynd yn ôl flynyddoedd, o achos y ffaith ein bod ni wedi sefyll yn erbyn ein gilydd ddwywaith mewn etholiadau, ac felly rŷm ni’n mynd yn ôl 17 o flynyddoedd, i’r amser y cwrddon ni yma am y tro cyntaf.
Can I welcome, as I said, the Secretary of State back to the Chamber? It did strike me that he has already achieved something that at least two of his predecessors failed to do, in that he has managed to deliver a speech without being heckled. [Laughter.] I know that was not the case with his predecessor, and indeed not the case with the predecessor before that, the Member of Parliament for Clwyd West, who I think was heckled by his own side when he came to this Chamber.
Could I thank him for the presentation he has given us in terms of the UK Government’s plans for a legislative programme? Of course, the leader of the house will respond fully at the end of the debate, and so it falls to me to make some observations. The Wales Bill, of course, has occupied the time of this house for many, many months, and it will, of course, do the same for the Commons and the Lords in the months to come. I start from the basis that the Bill that was previously introduced in Parliament was so badly flawed that it was effectively unworkable. This Bill is not in that category. There’s much to do with it, but the obsession with keeping the single legal jurisdiction led to the previous Bill being a Bill that would have removed powers from this Assembly that the people of Wales themselves voted for in 2011.
There are some areas, of course, where there will be dispute. I cannot agree with his view in terms of the jurisdiction. The Bill itself devolves most of the criminal law. In those circumstances, it would seem to me that that increases the argument, or gives weight to the argument, that there should be, in time, a different jurisdiction. Otherwise, this will be the only common-law jurisdiction in the known universe where there are two entirely separate systems of law that operate in a particular area.
There are issues anyway, already, for lawyers and for judges. Lawyers have to be aware that even though they may be qualified in a jurisdiction, there are different sets of laws that apply within that jurisdiction; it’s the same for judges. I do not think—
Simon Thomas a gododd—
Mae’n gwybod fy mod yn cytuno ag ef yn llwyr yn ei ddadansoddiad ynglŷn â pham y gallwn gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol yng Nghymru. Pam ar y ddaear y gwrthwynebodd y Blaid Lafur hynny yn y bleidlais yr wythnos hon?
Mae’n gwybod beth yw fy marn. Mae’n anochel y daw amser pan fydd yna awdurdodaeth benodol—awdurdodaeth ar wahân o bosibl. Dyna yw barn Llywodraeth Cymru.
Mae plismona, yn yr un modd, yn rhywbeth nad yw’n gwneud unrhyw synnwyr peidio â’i ddatganoli. Fel arall, byddwn mewn sefyllfa yn y pen draw lle bydd, er enghraifft, deddfwriaeth trefn gyhoeddus wedi ei datganoli i raddau helaeth a bydd yr heddlu yn plismona deddfau yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith na fyddant yn gyfrifol yng Nghymru am blismona’r deddfau hynny. Mae yna anghysondebau y bydd angen ymdrin â hwy yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy’n gwybod na fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno â mi ynglŷn â’r awdurdodaeth a phlismona, ond yn anffodus, mae’n golygu na all y Bil hwn—er ei fod yn well na’r Bil blaenorol—fod yn setliad parhaol i Gymru, oherwydd y rhesymau hynny a hefyd oherwydd y ffaith ein bod yn gwybod, yn dilyn y refferendwm, fod y sefyllfa gyfansoddiadol yn y DU yn eithaf twymynnol ar hyn o bryd ac nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd i’r DU ei hun dros y tair blynedd nesaf, a bydd angen ymdrin â hyn yn ofalus os yw’r DU am oroesi.
Credaf y bydd angen trafod rhai meysydd ymhellach, fodd bynnag. Er enghraifft, pam na fyddai’r ardoll seilwaith cymunedol yn cael ei datganoli? Treth gynllunio ydyw, i bob pwrpas. Mae trethiant yn cael ei ddatganoli i’r Cynulliad hwn. Mae’n fy nharo i’n anghyson na fyddai’r ardoll seilwaith cymunedol, felly, yn cael ei datganoli.
Soniodd hefyd am y Bil cynllunio, lle—oes—mae gennym ddiddordeb yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, nid o ddewis, ond oherwydd bod rhai ohonom yn credu y dylai’r hyn y mae’r comisiwn hwnnw’n ei wneud gael ei ddatganoli i Gymru beth bynnag mewn gwirionedd. Felly, nid oes gennym unrhyw ddewis ond bod yn rhan o’r hyn a elwir, a hynny’n anghywir, yn ‘Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol’, gan ei fod yn berthnasol i Gymru ac i Loegr mewn rhai meysydd.
Yn dilyn datganoli’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus, mae hefyd yn ymddangos yn rhyfedd nad yw trwyddedu wedi’i ddatganoli. O gofio ein bod yn gwybod bod alcohol yn achosi llawer o anhrefn cyhoeddus, ar y naill law byddwn yn gallu creu troseddau neu ddiwygio’r gyfraith o ran trefn gyhoeddus, ond ni fyddwn yn gallu ymdrin ag un o brif achosion anhrefn gyhoeddus. Unwaith eto, y ddadl a ddefnyddiwyd gyda mi yn y blynyddoedd a fu oedd bod trwyddedu yn rhan annatod o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus o dan gyfraith droseddol, a fydd bellach yn cael ei datganoli i raddau helaeth. Felly, pam cadw trwyddedu fel eithriad?
Mae gennym gytundeb mewn egwyddor ar ddatganoli tâl ac amodau athrawon—mae’n werth ailbwysleisio hynny. Bydd angen cynnal trafodaethau pellach, wrth gwrs, o ran y math o drosglwyddiad ariannol fydd ei angen er mwyn i hynny gael ei roi ar waith yng Nghymru.
Croesawaf yr hyn a ddywedodd am y porthladdoedd. Ni allaf weld pam y dylai Aberdaugleddau ddod yn borthladd cytundeb, i bob pwrpas, yn yr un modd ag y digwyddodd i ddau borthladd yn Iwerddon pan sefydlwyd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Byddwn yn croesawu eglurhad pellach ynglŷn â pham y dylai porthladd Aberdaugleddau gael ei drin yn wahanol i bob porthladd arall yng Nghymru gyfan.
A gaf fi groesawu, o leiaf, y ffaith fod gweithgor cyfiawnder yng Nghymru wedi’i sefydlu? Mae’n rhaid i mi ddweud wrtho nad wyf fi na’r Gweinidogion wedi derbyn gwahoddiad eto i gymryd rhan yn y grŵp hwnnw, ond rwy’n croesawu’r hyn y mae wedi’i ddweud heddiw—y bydd cyfranogiad gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld cyfranogiad gweinidogol yn rhan o hynny.
O ran y sefyllfa treth incwm, nid wyf yn anghytuno â’r hyn y mae wedi’i ddweud am y refferendwm, ond mae’n rhaid iddo fod yn ymwybodol—mae ef a minnau wedi trafod hyn eisoes—na allwn argymell y dylai’r Cynulliad roi ei gydsyniad deddfwriaethol i Fil Cymru oni bai bod cytundeb ar fframwaith cyllidol ymlaen llaw. Fel y mae’r Bil ar hyn o bryd, gall y Trysorlys orfodi setliad ariannol ar bobl Cymru heb gytundeb y lle hwn, ac mae hynny’n anghywir mewn egwyddor—nid yw’n berthnasol yn yr Alban. Felly, rwy’n credu y bydd cytundeb ar fframwaith cyllidol yn gwbl allweddol i gytundeb y corff hwn mewn perthynas â datganoli treth incwm. Fel rwy’n dweud, nid wyf yn ei erbyn mewn egwyddor, ond mae’r ymarferol yn bwysig i wneud yn siŵr na fydd Cymru ar ei cholled.
Gan ymdrin yn fyr â rhai o’r materion eraill a godwyd ganddo, mae’n gywir i dynnu sylw at yr heriau sy’n bodoli mewn perthynas â chanlyniad refferendwm yr UE. Cytunaf ag ef fod rhoi hyder i fusnesau, a dweud wrth fusnesau fod Cymru ar agor i fusnes, yn hynod o bwysig. Rydym yn gwybod bod busnesau’n casáu ansicrwydd ac yn anffodus, mae’r ansicrwydd hwnnw’n dal i fodoli. Rwy’n derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud, mai cyfrifoldeb y ddwy Lywodraeth yw lleddfu’r ansicrwydd hwnnw dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Cytunaf yn gryf â’r hyn a ddywedodd am gydlyniant cymunedol. Clywais straeon yr wythnos ddiwethaf, pan euthum i Lanelli ac Abertawe, am bobl sy’n teimlo dan fygythiad oherwydd dehongliad lleiafrif bach o ganlyniad y refferendwm. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud yn siŵr fod ‘genie’ rhagfarn a ryddhawyd o’r botel yn cael ei roi yn ôl yn gadarn yn y botel yn y dyfodol.
A gaf fi ddweud wrtho, o ran trafodaethau’r UE, mae’n hynod o bwysig fod pob gweinyddiaeth yn y DU yn rhan o unrhyw drafodaeth? Yn fy marn i, dylai unrhyw setliad, unrhyw gytundeb, gael ei gadarnhau gan bob un o’r pedair senedd er mwyn cael cefnogaeth ar draws y DU. Ceir rhai meysydd, wrth gwrs, fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, lle nad oes gan Senedd y DU unrhyw rôl o gwbl bron, ac felly mae’n gwbl briodol, yn y meysydd hynny, ac yn wir yn ehangach, y dylid cael cadarnhad y lle hwn a’r seneddau datganoledig eraill er mwyn i’r cytundeb gael ei dderbyn yn llawn ar draws y DU gyfan.
Yn olaf, rwyf am sôn am y ddeddf hawliau dynol. ‘Pob lwc gyda honno’ a ddywedaf fi wrtho, oherwydd siaradais â’r grŵp oedd yn edrych ar greu deddf hawliau dynol a gwrandewais yn ofalus ar yr hyn y mae Gweinidogion wedi’i ddweud am y ddeddf hawliau dynol, ac i mi nid yw’n ychwanegu unrhyw beth o gwbl at Ddeddf Hawliau Dynol 1998 sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, arhoswn i weld beth y bydd deddf hawliau dynol o’r fath yn ei ddweud y tu hwnt i’r rhethreg a beth y bydd yn ei olygu’n benodol i’r gwledydd datganoledig hefyd. Hyd y gwelaf i, nid wyf yn siŵr beth y mae’n ei ychwanegu at y ddeddfwriaeth sydd gennym eisoes. Ond cawn weld sut y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf, ac yn amlwg bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru yn ogystal â’r lle hwn roi eu barn ynglŷn â sut beth fydd y ddeddf hawliau dynol.
Bydd yna feysydd eraill, Biliau eraill, wrth gwrs, lle bydd trafodaethau’n cael eu cynnal wrth i’r Biliau hynny symud ymlaen drwy’r Senedd. Diau y bydd Bil Cymru yn un ohonynt wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Ond fel y dywedais yn ystod y ddadl heddiw, mae’n gyfle i’r Aelodau fynegi eu barn, a bydd arweinydd y tŷ yn ymateb yn ffurfiol ar ran y Llywodraeth ar ddiwedd y ddadl.
Rwyf wedi dethol dau welliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
Gwelliant 1—Simon Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i’r rhai sydd ar gael i’r Alban, neu sy’n cael eu cynnig i’r Alban.
Gwelliant 2—Simon Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r Briff Ymchwil: ‘Cymru a’r UE: Beth mae’r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?’ ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i’r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy’n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau’r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu’r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a’r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf welliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas.
Yn dilyn refferendwm yr UE, mae Cymru ar lefel y DU yn nwylo Llywodraeth Geidwadol ranedig iawn. Yn wir, mae sefydliad San Steffan yn ei gyfanrwydd wedi’i rwygo gan ymladd mewnol, gan gynnwys gwrthblaid swyddogol y DU, y Blaid Lafur. Mae i hyn gyfres o oblygiadau i Gymru, gan fod araith 2016 yn cydnabod y parhad yn nhaith Bil Cymru, wrth gwrs, sy’n nodi’r newidiadau tymor byr nesaf i’r cyfansoddiad Cymreig.
Lywydd, fel rhan o fy ymateb i ganlyniad refferendwm yr UE, dywedais y byddai Plaid Cymru yn gwneud cynnig i gynyddu pwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad Cenedlaethol. Os mai pleidlais yn erbyn y canfyddiad o reolaeth o bell neu reolaeth ganoledig oedd canlyniad refferendwm yr UE, yna nid oedd yn bleidlais dros ganoli mwy o bwerau yn San Steffan. Os mai pleidlais i reoli bywydau pobl oedd canlyniad refferendwm yr UE, yna nid oedd yn bleidlais dros wneud mwy o ddeddfau neu benderfyniadau Cymreig y tu allan i Gymru. Mae canlyniad y refferendwm, mewn gwirionedd, yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy hanfodol fod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu grymuso i warchod buddiannau ein gwlad, yn unol â’r modd y penderfynwyd ar y buddiannau hynny mewn etholiadau cyffredinol yng Nghymru.
Ni fu unrhyw ymdrechion arwyddocaol hyd yn hyn i gysylltu canlyniad refferendwm yr UE â lleihad ym mhwerau’r Cynulliad Cenedlaethol neu â saib yn natblygiad Cymru fel gwlad hunanlywodraethol, ond rhaid i ni i gyd fod yn effro ac yn wyliadwrus rhag i ymdrechion o’r fath ddod yn amlwg yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni fynd ati’n rhagweithiol i gyflwyno’r achos dros sicrhau bod mwy byth o benderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yma yn y wlad hon. A phan fydd y pwerau a’r cyfrifoldebau ychwanegol hynny yn eu lle, dylem ehangu’r drafodaeth ynglŷn â’u defnydd i gynnwys y cymunedau hynny nad oes ganddynt gysylltiad da â’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y Siambr hon ar hyn o bryd, gan gynnwys yr ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl yn teimlo wedi’u difreinio a’u dadrithio gan wleidyddiaeth ddemocrataidd.
Mae ein hail welliant yn ymwneud â rheoliadau’r UE yn fwy uniongyrchol, a bydd y rheini’n cael sylw pellach gan siaradwyr eraill.
Lywydd, mae holl ddyfodol y Deyrnas Unedig bellach ynghanol y pair. Dylai fod trafodaeth genedlaethol lawn am opsiynau i ni ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, os mai dyna fydd pobl ei eisiau, gan dderbyn, wrth gwrs, y byddai hyn yn gofyn i’r bobl yma wneud dewis newydd, ffres. Ond Bil Cymru yw’r cyfrwng priodol ar gyfer y newidiadau uniongyrchol hynny yn y tymor byr a allai godi ein gwlad i lefel o gymhwysedd datganoledig sy’n debyg i ddeddfwrfeydd datganoledig eraill yn y DU. A hoffwn ganolbwyntio yn awr ar y mesurau tymor byr hynny.
Mae Plaid Cymru yn gresynu nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn cyrraedd yr un lefel â phwerau tebyg megis y rhai sydd ar gael, neu’n cael eu cynnig, i’r Alban. Mae gennym sefyllfa arall eto fyth lle mae Bil Cymru wedi’i oddiweddyd gan ddigwyddiadau. Mae dull Llywodraeth y DU yn rhy gul, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn methu â mynychu’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwy’n rhannu pryder Cadeirydd y pwyllgor hwnnw, sy’n hollol iawn i nodi y gallai Bil Cymru symud y setliad datganoli yn ei ôl mewn rhai agweddau. Mae hefyd yn gywir i geisio cynnwys cymdeithas ehangach Cymru yng ngwaith craffu’r pwyllgor ar y Bil, ond mae’r gwaith craffu wedi cael ei danseilio gan y ffaith nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn bresennol yn y pwyllgor hwnnw.
Ar y cam hwn, ni allwn ond dyfalu sut y bydd Bil Cymru gwan yn effeithio ar archwaeth pobl yn y dyfodol am fwy o hunanlywodraeth. Ond ni fydd y Bil Cymru cyfredol, mewn unrhyw ffordd, yn rhoi diwedd ar y ddadl gyfansoddiadol yn y wlad hon, ac yn hynny o beth, bydd yn methu â bodloni amcanion Llywodraeth y DU.
A fyddai’r Aelod yn ildio ar y pwynt hwnnw?
Byddwn.
Rwy’n codi oherwydd ei bod wedi crybwyll y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mae’r gwahoddiad hwnnw’n aros, gyda llaw. Y rheswm y mae’n aros yw oherwydd ein bod, yn ysbryd yr ymgysylltiad adeiladol a wnaed gan y Prif Weinidog, gan arweinwyr y gwrthbleidiau, a hefyd gan y Llywydd—gan gynnwys mynd mor bell ag awgrymu newidiadau hyd yn oed—yn teimlo o ddifrif y gallwn fod o gymorth adeiladol wrth graffu ar y Bil hwn, er mwyn ei wneud yn iawn. Oherwydd mae ganddo botensial i wella, ond mae ganddo hefyd botensial i wrthdroi datganoli mewn rhai meysydd. Felly, mae’r gwahoddiad yn aros.
Rwy’n croesawu eich cyfraniad i’r perwyl hwnnw, ac efallai y byddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn hoffi ystyried y pwynt hwnnw. Efallai y byddai hefyd yn hoffi myfyrio ar y ffaith mai’r Bil hwn, os caiff ei roi mewn grym, fydd y pumed tro i ddatganoli gael ei newid yng Nghymru. Nid yw’r ffaith ein bod wedi gorfod newid datganoli bum gwaith yn adlewyrchiad o ryw fath o haelioni o du San Steffan, mae’n adlewyrchu’r ffaith fod y model y rhoesom gynnig arno wedi bod yn anghynaliadwy. O ystyried ein bod wedi clywed Ysgrifenyddion Gwladol olynol yn honni y bydd y Bil datganoli nesaf yn setlo’r ddadl am genhedlaeth—ac rydym wedi clywed hynny gan o leiaf bedwar o Ysgrifenyddion Gwladol Cymru hyd yn hyn—yna setlo nad yw byth yn digwydd mewn gwirionedd, mae rhywbeth mawr iawn o’i le.
Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan wedi rhoi camau ar waith i geisio cryfhau’r Bil hwn. Yn unol â Bil drafft Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru Llywodraeth Cymru, cyflwynodd ein Haelodau Seneddol welliant ar awdurdodaeth gyfreithiol. Mae’r safbwynt hwn wedi cael cymeradwyaeth ddemocrataidd mwyafrif y rhai a bleidleisiodd yng Nghymru yn yr etholiad rai misoedd yn ôl. Mae’n anffodus iawn fod y Blaid Lafur yn San Steffan wedi ymatal ar y bleidlais honno a bod y gefnogaeth i’r egwyddor yn amrywio’n fawr ymhlith yr Aelodau Seneddol Llafur a siaradodd am y gwelliant hwnnw. Rwy’n ei chael hi’n anhygoel clywed y Prif Weinidog yn dweud heddiw fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ddadl dros awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig, a bod Aelodau Seneddol Llafur wedi methu â chefnogi hynny yn y Senedd ddoe, a dywedais wrth y Prif Weinidog ddoe: mae angen iddo ddweud wrth ei Aelodau Seneddol am gallio.
Cafwyd mwy o gefnogaeth—cefnogaeth gyson—gan Aelodau Seneddol Llafur i’r bleidlais arall a orfodwyd gan yr Aelodau Seneddol yn San Steffan ddoe, ar gael gwared ar yr asesiadau o’r effaith ar gyfiawnder, ac rwy’n croesawu hynny. Ond hoffem pe baem wedi gallu bod yn fwy unedig ar faterion eraill, yn enwedig o ystyried mai polisi’r Blaid Lafur ydoedd.
Nawr, ar sawl ystyr, rwy’n credu bod yr ymdrechion hynny wedi dioddef yn sgil yr anhrefn yn y Blaid Lafur yn San Steffan, ac fel y cyfaddefodd Prif Weinidog Cymru wrthyf ddoe, mae’r sefyllfa honno’n ansefydlog. Ond yn y pen draw, mae methiant wedi bod o ran sut y mae’r Bil hwn wedi’i strwythuro a’i graffu.
Mae’r Araith y Frenhines ehangach wedi bod yn siomedig am nifer o resymau i Gymru. Ar ddiwygio carchardai, mae Llywodraeth y DU, i bob pwrpas, yn cynnig ei model academïau aflwyddiannus i garchardai. Pe baem yn rheoli ein polisi carchardai ein hunain, gellid bod wedi atal hyn. Rwy’n croesawu’r symud ar y dreth diodydd siwgr. Roedd Plaid Cymru o flaen y gweddill, wrth gwrs, gyda’r cynnig hwnnw, ar ôl cael eu gwawdio gan eraill; y tro cyntaf i ni alw amdani oedd yn 2013. Ond bydd yn siomedig os na chaiff y refeniw o’r dreth honno ei ddosbarthu’n gyfartal.
Fel erioed, fodd bynnag, mae Araith y Frenhines yn nodedig am yr hyn sydd ar goll. Roedd Araith y Frenhines amgen gan Blaid Cymru yn cynnwys Bil datganoli plismona; Bil tollau pont Hafren; fe alwom am gytundeb twf i ogledd Cymru, gydag argymhellion lluosog yn amrywio o drydaneiddio rheilffyrdd a chadarnhad o faes gofod Llanbedr. Nid yw’r cyhoeddiad blaenorol gan Lywodraeth y DU am gytundeb twf i ogledd Cymru yn cynnwys unrhyw gynigion pendant o gwbl. Rydym hefyd wedi argymell Bil cronfeydd wrth gefn yr UE i gyflwyno a sefydlu trefniadau cyllido wrth gefn statudol amgen sydd o leiaf yn hafal i’r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd i lefelau cronfeydd strwythurol yr UE a’r polisi amaethyddol cyffredin.
Rydym yn nodi gyda diddordeb y datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar fwriad y Prif Weinidog newydd i oedi gweithredu erthygl 50. Roedd yn syndod braidd ei glywed yn dweud hyn. A oes gennym unrhyw syniad pa mor hir y bydd hynny’n cael ei ohirio? Oherwydd mae ansicrwydd yn broblem fawr yn awr ac ni allaf weld sut y bydd yr oedi hwn yn helpu gyda hynny. Y perygl yw ei bod yn ymddangos fel pe na bai gan Lywodraeth y DU syniad beth y mae’n ei wneud ac rwy’n gobeithio’n fawr mai ymddangos felly’n unig y mae.
Dylai Araith y Frenhines gael ei gweld fel cyfle arall a gollwyd. Mae’r hyn sydd ar goll o’r araith, ac o Fil Cymru, yn fwy arwyddocaol na’r hyn sy’n cael ei gynnwys. Mae’r gwelliannau a gynigir, megis sefydlu parhâd y sefydliad hwn, a rheoli ein trefniadau etholiadol ein hunain, i’w croesawu, ond maent wedi cael eu pecynnu mewn Bil sy’n anhygoel o gymhleth, yn bennaf oherwydd absenoldeb yr awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig. Rwy’n poeni am y ffordd y mae’r Bil bellach wedi symud ymlaen heb ymgysylltiad o sylwedd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol â’r Cynulliad hwn.
I gloi, rwy’n credu na fydd y Bil hwn yn sicrhau sefydlogrwydd i Gymru am gyfnod hwy na’r tymor byr uniongyrchol, ac nid yw yn ein rhoi ar yr un lefel â’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban. Pam ei bod yn ymddangos, unwaith eto, nad yw’r hyn sy’n ddigon da i’r Alban yn ddigon da i Gymru, a pham fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’w weld yn fodlon â hynny?
Rwy’n croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol yma heddiw. Fel rhywun sydd wedi eistedd ar y meinciau gyda chi, gallaf eich cofio’n dweud ‘clywch, clywch’ ac yn curo ar ddesgiau pan oeddech yma, ond gallaf weld eich bod yn ymddwyn yn llawer gwell yn awr eich bod yn Ysgrifennydd Gwladol. Ond rydym yn estyn croeso cynnes iawn i chi o feinciau’r Ceidwadwyr, gan mai hwn yw eich ymweliad cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol. Clywais y sylwadau a wnaethoch yn eich araith eich bod yn gobeithio mai hwn fydd eich ymweliad olaf, ond rwy’n cofio’r Ysgrifennydd Gwladol blaenorol yn dweud yr un geiriau pan oedd yma oherwydd cynnydd Bil Cymru.
Er y bydd llawer o’r ymrwymiadau heddiw wrth gwrs yn ymwneud â’r Bil Cymru drafft, mae’n bwysig troi at y ddadl ar Araith y Frenhines gyda ffocws ar y llu o fesurau a fydd yn effeithio ar Gymru neu’r rhai a fydd yn tynnu sylw at ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru mewn llawer o’r meysydd hyn. Bydd y darpariaethau a geir yn Araith y Frenhines yn ddiweddar yn gweithredu i ddarparu sicrwydd economaidd i bobl sy’n gweithio ac yn gwella cyfleoedd bywyd pobl. Mae’n gyfres o gynigion deddfwriaethol sydd â’r egwyddorion creiddiol hyn yn ganolog iddynt, a dylid eu croesawu. Bydd llawer o ddeddfau a gadwyd yn ôl yn effeithio’n fawr ar Gymru, tra bod rhai Biliau ar gyfer Lloegr yn unig yn pwysleisio materion sy’n rhaid i’r weinyddiaeth newydd yma eu hystyried wrth iddi ddatblygu ei rhaglen ddeddfwriaethol ei hun. Mae’r cynlluniau hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan Lywodraeth y DU dros y chwe blynedd diwethaf i sefydlogi ein heconomi ac yn pwysleisio’r agenda flaengar sy’n cynnal ein dyfodol hirdymor.
Wrth galon Araith y Frenhines mae ffocws ar wella cyfleoedd bywyd ar gyfer y difreintiedig. Lle nad yw darpariaethau ond yn gymwys i Loegr, mae’n bwysig ein bod yn clywed cynlluniau clir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y byddant yn sicrhau nad yw ein cenedl yn cael ei gadael ar ôl. Yn wir, mae cyfamod newydd i’r rhai sy’n gadael gofal yn hynod gadarnhaol i ofalwyr ac fel rhan o’r Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, bydd yn gwella’r cyfleoedd hynny. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyfleoedd bywyd y rhai hynny yng Nghymru yn cael cefnogaeth yn yr un modd, yn ogystal â monitro’n agos sut y mae datblygiadau yn Lloegr yn llwyddo.
Bydd gofynion adrodd newydd o fewn y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil yn gosod her symudedd cymdeithasol i’r sector addysg uwch, ac yn amlinellu’n glir pa waith sydd angen ei wneud i gefnogi cyfraddau cynnydd ar gyfer pawb. Mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu sut y bydd diwygiadau o’r fath i’r ochr gyflenwi yn cael eu cyflawni yn yr un modd yma yng Nghymru.
Mae’r Bil Twf a Swyddi Lleol hefyd yn rhoi ardrethi busnes yn Lloegr o dan y chwyddwydr ac rwy’n adnewyddu fy ngalwadau heddiw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa bryd y bydd yn cyflwyno’r rhyddhad ardrethi gwell i gwmnïau bach ar yr ochr hon i Glawdd Offa. Mae perygl mawr y byddwn yn cael ein gadael ar ôl yng Nghymru ar y mater hwn, yn dilyn cyhoeddiadau eraill diweddar ar ardrethi busnes a wnaed gan y Canghellor presennol.
Mae diogelwch hefyd yn elfen allweddol o Araith y Frenhines eleni, ac mae llawer o faterion sydd heb eu datganoli yn ganolog i’r agenda i helpu i gadw cymunedau Cymru yn ddiogel, gan gynnwys pwerau cryfach i darfu ar weithgareddau eithafwyr a diogelu’r cyhoedd. Ar ben hynny, bydd diwygio carchardai yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cosbi ac adsefydlu, ac yn cefnogi’r ethos o roi cyfle i bawb gyfrannu at gymdeithas—credoau sy’n greiddiol i Lywodraeth Geidwadol un genedl.
Rydym hefyd yn gwybod fod Araith y Frenhines eleni yn paratoi’r ffordd ar gyfer sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar sail statudol. Bydd hyn yn darparu cyngor annibynnol arbenigol ar faterion seilwaith. Yn rhan o’r ddadl hon, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut y bydd ei chynlluniau ei hun ar gyfer comisiwn seilwaith—a drafodwyd y tu ôl i ddrysau caeedig gyda Phlaid Cymru—yn ategu gwaith y corff newydd hwn.
Mae’n debygol mai’r Bil Cymru drafft, wrth gwrs, yw’r Bil mwyaf perthnasol i ennyn diddordeb Aelodau yn y Cynulliad hwn. Bydd y Bil hwn yn darparu setliad datganoli cliriach a mwy sefydlog ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU wrth iddo fynd ar ei daith.
Mae’n bwysig nodi proses ddatblygu’r Bil Cymru drafft. Mae rhanddeiliaid allweddol wedi bod yn gadarnhaol iawn ynglŷn ag ail ddrafft y Bil, ac mae Llywodraeth y DU yn haeddu clod aruthrol am yr ymarfer gwrando a gynhaliwyd ganddi wrth ddiwygio cynigion blaenorol. Rwy’n diolch o galon i’r Ysgrifennydd Gwladol am ei rôl yn hyn.
Yn wir, mae fy mhlaid fy hun yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi trafod materion sy’n ymwneud â’r rhestr o gymalau cadw a chydsyniadau yn fanwl, a gweithredodd Swyddfa Cymru yn adeiladol ac yn bendant wrth chwilio am gonsensws. Byddai model cadw pwerau yn gam hanesyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol, a bydd cyfrifoldebau pellach yn cynnig cyfle amlwg i ddarparu atebion Cymreig penodol i’r heriau a wynebwn, gan gynnwys mewn perthynas ag ynni a thrafnidiaeth yn anad dim.
Un o’r pethau da am ail ddrafft Bil Cymru yw nad yw’r Bil yn gwneud yr hyn y bwriadai ei wneud yn sylfaenol yn ei ffurf ddrafft ac mae’n galluogi sawl rhan o fywyd yng Nghymru i elwa ar y penderfyniadau a wnaed yn y ddeddfwrfa hon. Mae hynny’n newid pethau i Gymru, yn enwedig o ran y dreth incwm, a bydd yn dod â gwir atebolrwydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y modd y defnyddir y pwerau hyn yn rhoi ffocws newydd ar y Cynulliad Cenedlaethol hwn a barn y cyhoedd ar Lywodraeth Cymru.
Mae llawer o’r egwyddorion sy’n cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth hon ymhlith ei hamodau mwyaf perthnasol. Drwy sefydlu parhauster y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru mewn statud, gwelwn fod gwell cydnabyddiaeth ffurfiol i’r Cynulliad hwn yn nhrefniadau cyfansoddiadol y DU. Rwy’n gobeithio y bydd pob Aelod yn ystyried heddiw pa mor bwysig yw hynny.
Mae’n werth ystyried bod y ddadl hon yn digwydd oriau yn unig ar ôl trafod enw’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Y Bil hwn fydd yn ein galluogi i wneud y penderfyniad hwnnw a thrafod trefniadau eraill, gan gynnwys maint, systemau etholiadol, a’r oedran pleidleisio. Rhaid i ni beidio â cholli golwg ar arwyddocâd hyn.
Wrth gwrs, mae Bil Cymru yn rhan o becyn o ddiwygiadau ehangach y mae Llywodraethau dan arweiniad y Ceidwadwyr wedi eu gweithredu. Un datblygiad o’r fath yw cyllid gwaelodol teg, y cafodd y Blaid Lafur 13 mlynedd i’w weithredu a gwneud dim. Roedd hynny’n anffodus iawn. [Torri ar draws.] Rwy’n pryderu’n fawr am y ffrwydrad o gyfeiriad Ysgrifennydd y Cabinet—rwy’n poeni am ei les. [Chwerthin.] A ydych yn teimlo’n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet?
Rwy’n credu ei fod wedi mwynhau ei ginio.
Mae’n amlwg ei fod wedi cael cinio da iawn, buaswn yn tybio. Rwy’n croesawu’r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cydnabod corff penodol o gyfraith i Gymru ar wyneb y Bil, o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Mae hwn yn gymhwysiad synhwyrol; a bydd sefydlu gweithgor cyfiawnder i edrych ar drefniadau penodol yn llywio gwaith pellach yn y maes hwn. Gallai’r Bil Cymru drafft fod yn garreg filltir i Gymru. Mae’n rhan o Araith y Frenhines sy’n ceisio darparu cyfleoedd a ffyniant. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol yn barod i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn parhau i gael pethau’n iawn i Gymru.
A wnaiff yr Aelod yn ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod. A gaf fi fynd ag ef yn ôl ychydig o funudau pan soniodd am y cyllid gwaelodol, sy’n gytundeb gwleidyddol ac nid yw mewn deddfwriaeth fel y cyfryw? Ond wrth gwrs, cyn i ni dderbyn Bil Cymru i’w gymeradwyo’n derfynol yma a phasio’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a yw’n cytuno bod angen i ni weld fframwaith cyllidol ar waith—cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan—sy’n sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol ar ein perthynas ariannol os ydym yn cael datganoli wedyn ac yn datganoli trethiant ymhellach?
Ni ddylai fod unrhyw niwed i fformiwla cyllido Cymru—mae hynny’n glir fel grisial. Credaf fod y Prif Weinidog wedi dweud hynny ar goedd, ac rwy’n credu bod nifer o Ysgrifenyddion Gwladol, a’r Ysgrifennydd Gwladol hwn, wedi gwneud hynny’n gwbl glir. Mae gennym hanes da iawn mewn perthynas â chyllido Cymru, yn enwedig o ran cyflwyno’r cyllid gwaelodol, a byddwn yn parhau gyda’r trafodaethau hynny i wneud yn siŵr nad oes unrhyw anfantais i Gymru—ac mae’r Alban yn cynnig model i ni edrych arno.
Yn olaf, rwy’n talu teyrnged i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy’n ymuno â ni heddiw, ac i’r gwaith y mae wedi’i wneud dros ac ar ran Cymru, gan hyrwyddo buddiannau Cymru yng nghoridorau grym. Rydym wedi clywed cryn dipyn yn ddiweddar am dyrcwn yn pleidleisio dros y Nadolig. Mae’r Bil hwn yn hanesyddol: drwy hepgor adran 32 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, bydd yn dod â rhan yr Ysgrifennydd Gwladol yn nhrafodion y Cynulliad i ben yn y dyfodol—cam nodedig arall yn nhaith y sefydliad hwn i gyfeiriad deddfwrfa awdurdodedig gref gartref o fewn Teyrnas Unedig gref. Diolch.
Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf i hefyd yn croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol yma, o bosibl am y tro olaf cyn iddo ddychwelyd i ebargofiant San Steffan. Gwnaeth ei orau i gyflwyno Araith y Frenhines fel rhywbeth arwyddocaol, er bod pawb yn gwybod, mewn gwirionedd, mai cybolfa o filiau cymharol ddibwys a di-nod ydyw, am fod y Prif Weinidog yn awyddus i gael gwared ar bopeth a allai fod yn ddadleuol cyn y refferendwm. Roedd y sylwebaeth ar y pryd bron yn unffurf yn y modd yr oedd yn fflangellu Araith y Frenhines. Disgrifiwyd yr araith gan wefan ITV fel
stwff sy’n tynnu sylw ond sy’n hollol annadleuol: pwy allai wrthwynebu meysydd gofod, rheolaeth dynnach ar ddronau neu fand eang cyflymach?
Wel, rwy’n siŵr ein bod i gyd o blaid band eang cyflymach o ystyried bod y rhan fwyaf o Gymru yn bwrw ymlaen ar gyflymder malwen yn hyn o beth. Ond nid yw meysydd gofod a dronau, ar wahân i rai o’r Aelodau yn y tŷ hwn, yn golygu llawer o ddim yn nychymyg pobl mewn gwirionedd. Dywedodd ‘The Daily Telegraph’ am Araith y Frenhines:
Gellid maddau i’r Ceidwadwyr traddodiadol a oedd yn llenwi Tŷ’r Arglwyddi ar gyfer Araith y Frenhines... am feddwl eu bod yn yr ystafell anghywir... I rai Torïaid, bydd yn swnio fel rhaglen y gallai’r llywodraeth Lafur ddiwethaf fod wedi’i chreu.
Cyhuddodd Iain Duncan Smith y Prif Weinidog o osgoi dadl yn fwriadol cyn y bleidlais ar aelodaeth o’r UE, gan ddweud:
Wrth i’r Llywodraeth fynd ar drywydd chwyrligwgan y refferendwm, mae llawer o’r Ceidwadwyr yn gynyddol bryderus eu bod wedi gwanhau neu gael gwared ar elfennau allweddol o’u rhaglen ddeddfwriaethol.
Wel, nid wyf am ymyrryd ymhellach yn y galar preifat hwnnw. Ond dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yn ei ragymadrodd i’w araith heddiw, ac mae hyn yn peri cryn syndod, ac ar hyn rwy’n cytuno gydag arweinydd yr wrthblaid, y bydd yr oedi cyn cychwyn y broses o drafod telerau erthygl 50 rywsut yn ennyn hyder ac yn dod â mwy o sefydlogrwydd i’r broses. Dyna’r peth olaf y bydd hyn yn ei wneud. Mewn gwirionedd, mae angen i ni fwrw ymlaen â’r broses hon er mwyn datrys yr ansicrwydd sy’n bodoli. A minnau wedi bod yn aelod o Gyngor y Gweinidogion—Gweinidog y farchnad fewnol—am ddwy flynedd a hanner, fy mhrofiad i yw bod cyfraith Parkinson yn sicr yn berthnasol ac mae’r gwaith yn ehangu i lenwi’r amser sydd ar gael. Felly, po fyrraf yw’r amserlen, y mwyaf rydym yn debygol o’i gyflawni. Yn bersonol nid wyf yn gweld pa mor anodd yw llunio trefniadau olynydd priodol i’n perthynas fasnachu gyda’r UE. Dros 50 mlynedd, dau gytundeb masnach rydd priodol yn unig y mae’r UE wedi llwyddo i’w negodi—gyda Mecsico a De Korea. Ni allaf weld pam na allwn ddefnyddio’r rheini fel templedi ar gyfer ein perthynas ein hunain â’r UE yn y dyfodol. Mae llawer o sôn wedi bod yn y lle hwn am y gwahanol fodelau sy’n bodoli ar gyfer cysylltiadau—model Norwy neu beth bynnag; mae’r rhain i gyd yn gwbl amherthnasol gan nad oes unrhyw ffordd, yn dilyn canlyniad y refferendwm, y gallem dderbyn llafur yn symud yn rhydd o fewn yr UE. Dyna holl bwynt y refferendwm—ni fyddem byth wedi cael un oni bai am y pryder ynghylch natur ddireolaeth ein ffiniau. A bydd unrhyw beth sy’n mynd i’n hatal rhag cael rheolaeth lwyr ar ein polisi mewnfudo ein hunain yn cael ei wrthod gan y cyhoedd yn gyffredinol.
Unwaith eto, rwy’n cytuno, yn ysbryd cytundeb trawsbleidiol, â’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei sylwadau—ac yn wir, arweinydd yr wrthblaid—am gytundeb ar fframwaith cyllidol o gwmpas Bil Cymru. Ni allaf weld sut y gallai fod yn dderbyniol o gwbl i bobl Cymru gael y Bil hwn wedi’i orfodi arnom oni bai ein bod yn gallu bod yn gwbl sicr, a’i fod yno mewn ffeithiau ariannol plaen, na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd ar ôl i’r Bil gael ei basio na chyn hynny. Ac yn hynny o beth, wrth gwrs, mae compact yr UE yn ddarostyngedig i’r un alwad fod yn rhaid i bob ceiniog y mae’r UE yn ei gwario yng Nghymru ar hyn o bryd ddod i Gymru ar ôl i ni adael yr UE.
Felly, o ganlyniad, nid yw Araith y Frenhines eleni ond yn mynd â ni rywfaint o’r ffordd, ond nid yn bell iawn mewn gwirionedd. Ni allaf ddeall o gwbl pam y dylai rhywbeth fel y dreth ar siwgr, a nodwyd yn araith arweinydd yr wrthblaid, gael ei hystyried fel cam ymlaen; mae’n fil hurt, mewn gwirionedd, pan edrychwch ar natur y dreth. Yn gyntaf oll, mae wedi’i dargedu’n wael gan fod suddoedd ffrwythau a diodydd llaeth yn cael eu heithrio, felly mae hynny’n golygu bod rhai o’r diodydd â’r mwyaf o siwgr ar y farchnad yn osgoi’r ardoll arfaethedig mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae siocled poeth mawr iawn o Starbucks yn cynnwys 15 llwy de o siwgr, dwbl yr uchafswm dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolyn, ond am ei bod yn ddiod laeth caiff ei heithrio rhag yr ardoll. A gellid dweud yr un peth am fathau eraill o ysgytlaeth, coffi a diodydd iogwrt.
Onid ydych yn credu ei fod yn gyfle i newid ffocws y dreth ar siwgr i wneud yn siŵr ei bod yn cynnwys pob math o siwgr mewn pob math o fwydydd?
Mae’n sicr yn gyfle i wneud hynny. Dylwn ddatgan buddiant yn hyn, gyda llaw, am fy mod yn gyfarwyddwr cwmni sy’n arbenigo mewn cynhyrchion di-siwgr, ac felly nid yw fy muddiant mewn gwirionedd yn rhagfarnllyd—. Nid wyf yn rhagfarnllyd tuag at y bil hwn mewn gwirionedd, ond yn dechnegol mae’n debyg y dylwn ddatgan y buddiant hwnnw.
Yr ail wrthwynebiad i’r dreth arfaethedig yw y bydd yn taro pobl dlawd yn galetach nag eraill. Mae hynny’n wir gyda threthi treuliant bob amser wrth gwrs, oherwydd mae’r 10 y cant o aelwydydd tlotaf eisoes yn talu mwy na 20 y cant o’u hincwm gros mewn tollau a TAW, sy’n fwy na dwbl yr hyn y mae’r aelwyd gyfartalog yn ei dalu, a bydd y dreth hon yn ychwanegu at y baich hwnnw.
Yn drydydd, mae’r dreth wedi’i chynllunio’n wael; mae’n fras iawn oherwydd bod yr ardoll yn cael ei phennu fesul litr o ddiod feddal lawn siwgr, nid fesul gram y litr. Felly, mae’n golygu y bydd llawer o ddiodydd sy’n waeth i chi o ran y cynnwys siwgr yn cael eu trethu ar lefel is. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhoi’r enghraifft o ddiod egni oren Sainsbury’s a Coca-Cola, dwy ddiod sy’n cael eu trethu ar y gyfradd uwch o 24c y litr. Mae tri litr o Coca-Cola yn cynnwys 318g o siwgr, sef yr un peth â dau litr o’r ddiod egni oren, ond oherwydd bod y dreth wedi’i chynllunio yn y modd hwn, byddwch yn talu 72c o dreth ar y tri litr o Coca-Cola, a 48c yn unig ar y ddiod egni sydd mewn poteli dau litr. Felly mae mwy o siwgr yn y botel lai o faint nag sydd yn y botel fwy o faint. Felly, mae’r ffaith fod y dreth wedi’i chynllunio’n wael hefyd yn golygu ei bod yn methu â chosbi’r diodydd sy’n cynnwys y mwyaf o siwgr.
Tynnodd y Prif Weinidog sylw hefyd at y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 yn Araith y Frenhines, ac rwy’n cytuno â’r Prif Weinidog mai camau cosmetig yw’r rhain i raddau helaeth. Ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth go iawn i gwmpas y ddeddfwriaeth hawliau dynol, sydd y tu hwnt i gyrraedd sefydliadau seneddol yn y wlad hon, y credaf ei fod yn wrthwynebiad ar sail ddemocrataidd. Yn wir, mewn darlith yn ddiweddar dywedodd yr Arglwydd Sumption, un o’n barnwyr Goruchaf Lys mwyaf nodedig, fod Llys Hawliau Dynol Ewrop yn mynd y tu hwnt i’w bwerau cyfreithlon, yn tresmasu ar rôl gwleidyddion ac yn tanseilio’r broses ddemocrataidd. A chan fod Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi datblygu ei gyfreitheg ei hun dros y 50 neu 60 mlynedd diwethaf, mae wedi dyrchafu ei hun ac mewn gwirionedd wedi gwaethygu’r diffyg democrataidd, a dylem, yn sicr fel seneddwyr, fod yn bryderus ynglŷn â hynny. Fel y dywedodd yr Arglwydd Sumption:
[Y Llys] sy’n chwifio’r faner ryngwladol bellach dros gyfraith sylfaenol a wnaed gan farnwyr sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r testun y mae’n gyfrifol am ei gymhwyso.
A
dros lawer o flynyddoedd mae wedi datgan bod ganddo’r hawl i drin y Confensiwn fel yr hyn a elwir ganddo yn "offeryn byw".
Felly, mae barnwyr o awdurdodaethau mor bell i ffwrdd ag Azerbaijan, Armenia a Georgia, sy’n aelodau o’r sefydliad hwn, yn llunio’r cyfreithiau ar gyfer y wlad hon, boed honno’n Gymru neu’r Deyrnas Unedig. Gan fod y confensiwn Ewropeaidd wedi’i ddrafftio’n eang ac yn amwys iawn o ran egwyddor—yn wahanol iawn i awdurdodaeth cyfraith gyffredin a threftadaeth cyfraith statudol y wlad hon—mae’n golygu bod gennym system gyfreithiol sydd y tu hwnt i reolaeth ddemocrataidd.
Mae erthygl 8, sy’n cyfeirio at barch tuag at fywyd teuluol, rhywbeth na fyddai’r un ohonom yn gallu ei wrthwynebu mewn egwyddor, wedi cael ei ddehongli mewn gwahanol ffyrdd, ffyrdd y gallem eu gwrthwynebu. Nid oes amser i ni edrych ar fanylion hyn yn awr, ond fel mater o egwyddor gyffredinol, ni all fod yn iawn i farnwyr gael y gair olaf yn yr hyn sy’n gyfraith gwlad. Rhaid bod rhyw fodd democrataidd o wrthdroi hynny. Yn yr Unol Daleithiau, mae gennych y Goruchaf Lys, ond gall mwyafrif o ddwy ran o dair yn y ddau Dŷ Cyngres wrthdroi penderfyniadau barnwyr. Nid yw hynny’n bosibl o dan awdurdodaeth Llys Hawliau Dynol Ewrop ac ni fydd y ddeddfwriaeth hawliau dynol a argymhellwyd yn Araith y Frenhines yn gwneud unrhyw wahaniaeth i hynny. Felly mae’r wlad yn cael ei thwyllo os yw’n credu hynny o ganlyniad i’r hyn y mae’r Ysgrifennydd Cartref—a allai ddod yn Brif Weinidog cyn bo hir—wedi bod yn ceisio ei ddweud wrthym ers cyhyd.
Felly, mae Araith y Frenhines, yn anffodus, yn gyfle gwych a wastraffwyd. Nawr ein bod wedi gwneud y penderfyniad i adael yr UE, efallai y dylid rhwygo hon, ac y dylid cyflwyno un newydd i’r Senedd yn yr hydref gyda biliau gwirioneddol arwyddocaol a fydd yn mynd â ni lawer ymhellach ar y daith i adennill ein hannibyniaeth genedlaethol ac adfer uniondeb ein sefydliadau seneddol.
Cyflwynwyd Araith y Frenhines ar 18 Mai ac mae’n ymddangos yn amser pell iawn yn ôl pan feddyliwch am yr holl bethau sydd wedi digwydd ers hynny. Cafwyd ymgyrch chwerw, gynhennus y refferendwm Ewropeaidd, llofruddiaeth drasig ein cydweithiwr yn San Steffan, yr Aelod Seneddol Jo Cox, buddugoliaeth agos i’r ymgyrch dros adael yr UE—ac rwy’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau wedi ymgyrchu gyda’n gilydd dros yr ochr ‘aros’ ar Stryd y Frenhines—ac wrth gwrs, ymddiswyddiad y Prif Weinidog, problemau yn fy mhlaid fy hun, a bellach ymddiswyddiad Nigel Farage a’r posibilrwydd o refferendwm annibyniaeth arall i’r Alban. Felly, mae’r ffaith fod yr holl bethau hynny wedi digwydd mewn cyfnod mor fyr o amser wedi goddiweddyd ein bywyd gwleidyddol, ac mae’n gwneud i bethau deimlo’n ansicr a chyfnewidiol iawn. Felly, mae’n eithaf anodd edrych yn ôl ar Araith y Frenhines a gweld ‘Sut y gwnaeth araith y Frenhines eleni effeithio ar gyfleoedd bywyd pobl yma yng Nghymru?’
Nawr, roedd brawddeg gyntaf un Araith y Frenhines yn crybwyll
cryfhau’r economi er mwyn darparu diogelwch i bobl sy’n gweithio
a chynyddu
cyfleoedd bywyd i’r rhai mwyaf difreintiedig.
Honnodd y Prif Weinidog fod hon yn araith y Frenhines un genedl i Lywodraeth un genedl. Nawr, buaswn yn herio hynny’n bendant. Rwy’n credu bod y mesurau caledi a gyflwynwyd ers 2010 gan y glymblaid a’r Llywodraeth Geidwadol bresennol wedi gwneud y bwlch rhwng y rhai ffodus a’r rhai anffodus hyd yn oed yn fwy. Credaf fod yn rhaid i ni ystyried Araith y Frenhines yn y cyd-destun hwnnw.
Nid oes ond raid i chi edrych ar y ffordd y mae’r toriadau wedi effeithio’n anghymesur ar fenywod a phlant, pobl sy’n agored i niwed a phobl anabl. Yn 2014-15 yn y DU, roedd 200,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi, gan godi’r nifer i 3.9 miliwn yn ôl y ffigurau diweddaraf gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ym mis Mehefin eleni. Roedd yn dweud,
Mae’r ffigurau arswydus hyn yn atgyfnerthu rhagamcanion gan arbenigwyr fel y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Resolution Foundation sy’n dweud bod disgwyl i dlodi plant yn y DU gynyddu 50 y cant neu fwy erbyn 2020.
Beth oedd yn mynd i’r afael â’r materion hynny yn Araith y Frenhines? Beth oedd yn pontio’r bwlch hwnnw yn Araith y Frenhines?
Yng Nghymru, yn ôl ffigurau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar ôl costau tai mae tua 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Dyna 29 y cant o’r holl blant sy’n byw yng Nghymru. Yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth yn erbyn tlodi sydd wedi cael canmoliaeth uchel, ond nid yw’r prif ysgogiadau yn ein dwylo ni. Mae’r ffaith fod tlodi plant, yn 2016, yn tyfu ledled y DU yn warth ac yn gywilydd llwyr, ac nid oedd Araith y Frenhines yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r mater hwnnw.
Bydd Araith y Frenhines yn cynyddu cyfleoedd bywyd i’r difreintiedig. Rwy’n siŵr fod swyddfeydd etholaethol pob un ohonoch yn llawn o bobl sy’n wynebu toriadau i’w budd-daliadau, yn enwedig pobl ag anableddau ers i’r lwfans byw i’r anabl ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd hirdymor gael ei ddiddymu a’i ddisodli gan daliadau annibyniaeth bersonol. Mae gennym lu o achosion agored sy’n ymwneud ag asesiadau taliadau annibyniaeth bersonol ar ein llyfrau ar hyn o bryd. Dyma enghraifft i chi: roedd un o fy etholwyr, dyn ifanc a ddioddefodd anafiadau mewn damwain car rai blynyddoedd yn ôl, mewn poen difrifol, ac er iddo gael llawdriniaeth, ni allai gerdded yn bell o gwbl, ac fe gollodd ei hawliau, collodd ei gerbyd symudedd a chollodd ei obaith o gael byw bywyd normal mewn gwirionedd. A heb y cerbyd hwn, roedd yn hollol gaeth i’r tŷ. Roedd eisoes yn dioddef o iselder mawr ynglŷn â’i gyflwr a’i ragolygon cyn colli ei gymhwysedd i gymorth symudedd, ond roedd colli’r cerbyd yn ychwanegu’n fawr at ei iselder. Felly treuliodd bum mis yn ymladd y penderfyniad ac yn y pen draw, llwyddodd fy swyddfa i’w helpu i gael y penderfyniad wedi’i wrthdroi. Ond i feddwl bod dyn ifanc wedi gorfod treulio’r holl amser, a gwneud yr holl ymdrech, gan waethygu ei iselder, a hynny yn 2016, yn y wlad hon heddiw.
Felly, dyna realiti’r mesurau caledi a gyflwynwyd gan San Steffan. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru, ar bob un ohonom yma yn y Cynulliad, i wneud popeth yn ein gallu i dynnu sylw at beth yn union sy’n digwydd. Mae Araith y Frenhines eleni yn cynnwys rhai pethau y gallwn eu canmol—rwy’n cefnogi’r doll ar ddiodydd meddal ac rwy’n credu bod rhai pethau da ynglŷn â mabwysiadu sydd angen eu cyflwyno yng Nghymru—ond nid ydynt yn mynd i’r afael â’r problemau enfawr rydym yn eu gweld yn y gymdeithas heddiw. Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy’n credu, wedi ailbwysleisio’r problemau hynny.
Felly, i gloi, Lywydd, rwy’n credu bod Araith y Frenhines yn cynnig golwg gul iawn ar yr hyn sy’n digwydd yn y gymdeithas yma yng Nghymru heddiw—cyfle arall a gollwyd.
Hoffwn i estyn croeso i’r Ysgrifennydd Gwladol, yn ogystal â dweud, er bod croeso iddo fe bob tro yn y Cynulliad, fod y ddadl yma heddiw yn edrych yn eithriadol o ddibwrpas, mae angen dweud, nid yn unig gan fod pwrpas y ddadl yn cael ei ddiddymu ym Mil Cymru, ond oherwydd, fel sydd wedi cael ei grybwyll gan sawl siaradwr erbyn hyn, fod y tirlun gwleidyddol wedi newid mor drawiadol ers Araith y Frenhines fel nad oes modd, a dweud y gwir, i gymryd y ddadl yma o ddifri ynglŷn â phwrpas y Llywodraeth yn San Steffan, fel y mae wedi’i osod allan yn Araith y Frenhines, o ran strategaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rŷm ni i gyd yn derbyn bod yna newid Prif Weinidog a bod yna newid gwleidyddol, ac felly bod llawer o bethau, hyd yn oed y pethau pitw, a oedd yn Araith y Frenhines heb fawr o gyfle i gael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, gan fod y Llywodraeth gyfan yn mynd i ganolbwyntio ar Brexit a’r anghenion i ddarparu ar gyfer hynny. Dyna beth oedd pwrpas gwelliannau Plaid Cymru heddiw. Byddwn i’n licio jest amlinellu ychydig ar y gwelliant sy’n trafod yn arbennig cyfraith Ewrop a pharhad cyfraith Ewrop.
Wrth ymateb i Araith y Frenhines dros ddau fis yn ôl, roedd ein Haelodau Seneddol ni yn San Steffan wedi cynnig y dylai Araith y Frenhines fod wedi cynnwys Bil pwrpasol ar gyfer Brexit. Felly, roeddem ni’n broffwydol iawn fel Aelodau Seneddol ein bod am weld Bil a oedd yn gosod allan, pe bai Brexit yn digwydd, beth fyddai’n digwydd i gronfeydd strwythurol a beth fyddai’n digwydd i’r arian sydd yn dod o ran taliadau fferm sengl a’r polisi amaeth cyffredinol—felly, roeddem ni’n barod ar gyfer hynny—a hefyd yn dweud y dylai fod yna ddarpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer strategaeth y tu ôl i gronfeydd strwythurol a beth oedd pwrpas, felly, datblygu polisi amaeth. Rŷm ni i gyd yn gwybod nad yw polisi amaeth yn benodol yn bolisi cyffredin trwy wledydd Prydain o gwbl—mae’r polisi’n wahanol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Felly, roeddem ni am weld Bil o’r fath yn yr Araith y Frenhines wreiddiol. Ni chafwyd hynny, ond cafwyd, yn ystod ymgyrch y refferendwm, nifer o addewidion gan y bobl a oedd yn ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd y byddai’r arian yn parhau, y byddai’r gyllideb yn parhau ac y byddai modd dal i ariannu cronfeydd strwythurol a’r arian polisi amaethyddol. Felly, rŷm ni yn gobeithio nawr y bydd Llywodraeth San Steffan yn ymateb i’r her yna drwy osod allan sut bydd hyn yn digwydd.
Yr ail elfen yn hyn, wrth gwrs, yw y ffaith ein bod ni, dros 40 mlynedd, wedi plethu ein cyfraith ni â chyfraith Ewrop. Mae nifer o bobl wedi dehongli hynny fel Ewrop yn dweud wrthym ni beth i’w wneud. Rwy’n ei ddehongli fel deddfu ar y cyd ag Ewrop. Nid oes modd amlinellu popeth mewn araith y prynhawn yma, ond ymysg y pethau sydd yn rhan o gyfraith Prydain a chyfraith Cymru erbyn hyn yw’r nifer o ddarpariaethau ar gyfer oriau gwaith gweithwyr. Fe soniodd yr Ysgrifennydd Gwladol ein bod yn cael derbyn y dreth dirlenwi, a’i bod yn cael ei datganoli i Gymru, ond, wrth gwrs, mae’r dreth dirlenwi yn deillio o gyfarwyddyd tirlenwi gan yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw. Mae nifer o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy sy’n digwydd yng Nghymru hefyd o dan gyfarwyddyd gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan y Gymraeg statws cyd-swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd nad oes ganddi yn San Steffan. Mae hynny’n rhywbeth i’w gofio. Mae gennym gynllun difa diciâu mewn gwartheg sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae yna wir berig, nid yn unig y bydd arian yn cael ei golli o’r cynllun hwnnw ond hefyd y bydd Ewrop yn dechrau edrych o’r newydd ar yr ardaloedd o Gymru sy’n dioddef o TB mewn gwartheg ac efallai’n dechrau amau a oes statws glân gan Gymru. Oherwydd, yn y cyd-destun Ewropeaidd, rydym yn wlad sy’n dioddef yn drwm o TB mewn gwartheg ar adegau.
Felly, mae’r pethau yma ymysg y ffordd rŷm ni wedi ffurfio a deddfu dros Gymru dros y 40 mlynedd diwethaf, naill ai o dan San Steffan neu o dan y Cynulliad. Felly, mae’n rhwym, rwy’n meddwl, ar y Llywodraeth yn San Steffan i egluro sut y byddwn ni’n awr yn mynd ati i ddarparu yn y meysydd yma. Hefyd, y peth syml, wrth gwrs, yw dweud a datgan yn glir iawn bod cyfraith Ewrop yn parhau nes ei bod wedi cael ei diddymu’n benodol gan y Cynulliad hwn neu, yn achos deddfau sy’n briodol, gan San Steffan.
I orffen, ac ynghlwm â’r cwestiwn yma, rwyf eisiau dychwelyd hefyd i’r ffaith bod angen neges glir a chryf, a chyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn lled at hynny, fod dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd i’w croesawu yng Nghymru, yn cyfrannu’n fawr at ein gwasanaeth iechyd a’n heconomi ni, a bod modd iddyn nhw aros, heb unrhyw amheuaeth o gwbl, yn achos teuluoedd ac unigolion, fod gofyniad iddyn nhw ddychwelyd i wledydd eraill.
Pan ddaeth Llywodraeth glymblaid y DU i rym yn 2010, roedd yr angen i achub yr economi yn un brys. Roedd Prydain wedi dioddef y dirwasgiad gwaethaf ers yr ail ryfel byd ac roedd ganddi’r diffyg strwythurol mwyaf ond un o’r holl economïau datblygedig. Roedd diweithdra wedi cynyddu bron i hanner miliwn. Mae economeg Keynesaidd yn argymell gwario ar fenthyciadau pan fydd economi yn dioddef, ond mae hefyd yn argymell cwtogi ar wariant y Llywodraeth yn ystod cyfnodau o ffyniant. Ond roedd Gordon Brown wedi torri’r cylch, gan esgus bod yna ben draw i ffynnu a methu. Wedi’r cyfan, mae’r rhai sy’n benthyg yn benthyg, ond y rhai sy’n rhoi benthyg sy’n gosod y telerau: dyna’r wers sy’n wynebu gwledydd a gredai y gallent fenthyg i osgoi methu.
Pan agorodd Gordon Brown bencadlys Lehman Brothers yn Llundain yn 2004, dywedodd:
Hoffwn dalu teyrnged i’r cyfraniad rydych chi a’ch cwmni yn ei wneud i ffyniant Prydain.
Wrth gwrs, arweiniodd eu cwymp yn 2008 at y wasgfa gredyd.
Adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod Trysorlys Mr Brown wedi cael rhybudd dair blynedd cyn i Northern Rock ddod yn agos at fynd i’r wal yn dweud bod angen iddo sefydlu cynlluniau brys i ymdrin ag argyfwng bancio ond ni wnaethant ddim am y peth.
Cyn y wasgfa gredyd, dywedodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol fod system fancio’r DU yn fwy agored i ddyledion eilaidd nag unman arall yn y byd. Ar ôl y wasgfa gredyd, adroddodd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol fod y Llywodraeth Lafur ar y pryd yn rhoi pwyslais gwleidyddol parhaus ar yr angen i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol beidio â bod yn rhy llawdrwm, ac rydym i gyd, wrth gwrs, yn dal i dalu’r pris.
Mae fy ngeiriadur yn diffinio caledi fel bod heb ddigon o arian. Felly, etifeddiaeth ydyw yn hytrach na dewis. Mae asesiadau realistig o gyflwr economi’r DU yn ymwneud â gwneud penderfyniadau anodd i leihau’r diffyg a rheoli gwariant. Yn y byd ariannol go iawn, yr ateb yw lleihau gorwariant a chynhyrchu gwarged cyllidebol, gan ddarparu diogelwch yn awr a sicrwydd yn erbyn dirywiad yn y dyfodol.
Pe bai ymdrechion wedi’u gwneud i leihau’r diffyg yn gyflymach, byddai’r toriadau wedi bod yn fwy. Pe bai ymdrechion wedi’u gwneud i leihau’r diffyg yn arafach byddai cyfraddau llog wedi bod yn uwch a’r toriadau wedi bod yn fwy. Diolch i waith caled pobl yng Nghymru a ledled y DU, mae’r diffyg wedi gostwng ddwy ran o dair, ceir bron i 2.9 miliwn yn fwy o swyddi yn y sector preifat, a cheir dros 900,000 yn fwy o fusnesau. Mewn ymateb i hyn a datblygiadau diweddar, rydym wedi cael y coctel Carwyn clasurol o sothach, stŵr, bwlio a beio, pan fo angen i ni, yn lle hynny, weithio gyda’n gilydd i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, manteisio ar gyfleoedd a darparu ffordd newydd a mwy addas o drechu tlodi a diweithdra yng Nghymru, yn ogystal â’r bwlch ffyniant rhyngom ni a gweddill Prydain.
Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r rhwystrau i gyfloedd ac yn ganolog i Araith y Frenhines mae newidiadau mawr i helpu i ledaenu cyfleoedd bywyd i bawb. Bydd Bil yr Economi Ddigidol, fel y clywsom, yn rhoi hawl gyfreithiol i bob aelwyd gael cysylltiad band eang cyflym. Bydd y gofynion yn y Bil cynllunio a seilwaith cymdogaethau, sy’n ymwneud â’r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer darparu swyddi a thwf, yn gymwys i Gymru, fel y bydd darpariaethau sy’n ymwneud â mabwysiadu yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol. Bydd y Bil diwygio’r carchardai a’r llysoedd yn cyflwyno’r diwygiadau mwyaf a welwyd i’n carchardai ers oes Fictoria, gan sicrhau nad llefydd ar gyfer cosbi’n unig yw’r rhain ond hefyd i adsefydlu troseddwyr, er mwyn rhoi cyfle i bawb fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Bydd y Bil cynilion oes yn helpu pobl i gynilo a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, yn enwedig pobl ifanc a phobl ar incwm isel.
Mae’r Bil gwrth-eithafiaeth a diogelu yn rhoi pwerau newydd i asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys plant, rhag propaganda eithafol ac i hyrwyddo gwerthoedd cyffredin goddefgarwch a pharch. Bydd y Bil arian troseddol yn cynnwys trosedd newydd i gorfforaethau sy’n methu ag atal staff rhag hwyluso osgoi talu treth.
Er bod y Bil Heddlua a Throsedd yn ymwneud yn bennaf â materion nad ydynt wedi’u datganoli yn ymestyn i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â chymalau o’r Bil y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol i faterion datganoledig. Mae hyn yn cynnwys cryfhau diogelwch i bobl sy’n destun ymchwiliad ac mae’n sicrhau diogelwch pellach i blant a phobl ifanc rhag camfanteisio rhywiol. Rwy’n gobeithio felly y bydd y Cynulliad yn cefnogi hynny. Mae’r Bil hefyd yn rhoi pwerau i’r heddlu symud person sy’n ymddangos fel pe bai’n dioddef o anhwylder meddyliol i le diogel ac yn atal defnyddio celloedd yr heddlu fel man diogel ar gyfer unrhyw berson o dan 18 oed. Diolch byth, fodd bynnag, nid yw’n cynnwys datganoli plismona. Fel y dywedodd cyn-Weinidog Llywodraeth Lafur y DU Kim Howells ddydd Llun, mae’r syniad fod Cymru wedi’i hynysu oddi wrth Brydain yn sothach cenedlaetholgar, ac mae Carwyn Jones wedi colli gafael ar sut y mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn meddwl.
Roedd Harold Wilson yn arfer dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Wel, mae’n ymddangos fel oes wleidyddol gyfan yn ôl, fel y crybwyllwyd eisoes, er pan gyflwynwyd Araith y Frenhines i’r Senedd ar 18 Mai 2016. Ar wahân i’r llu o faterion economaidd, masnachol a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu yn awr, mae’n anochel i Gymru fod y sylw’n canolbwyntio yn awr ar Fil Cymru. Nid oes amheuaeth fod y Bil newydd i’w groesawu o’i gymharu â’r Bil drafft blaenorol a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. Fodd bynnag, rydym unwaith eto yn wynebu materion sy’n parhau heb eu datrys. Yn fwyaf nodedig, nid yw’r Bil yn cynnwys datganoli plismona, ac mae cyflogau athrawon hefyd yn parhau i fod yn gymal cadw cadarn yn y Bil, o ganlyniad i drafodaethau parhaus ar y trosglwyddiad ariannol sydd ei angen i gefnogi datganoli. Mae angen cywiro hyn. Gwn fod y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ac annog dadleuon a chraffu seneddol ar y materion hyn. Ni ddylai fod angen dweud mai’r cyfan y mae Cymru yn ei fynnu gan Lywodraeth y DU yw tegwch a pharch—rhaid cael tegwch a pharch ar y naill ochr a’r llall.
Yn yr un modd, nid yw’n gwneud synnwyr i mam a dad ar Stryd Fawr Coed Duon nac i gyfreithwyr cyfansoddiadol fod datganoli pwerau ledled y Deyrnas Unedig i’w weld mor dameidiog ac ad hoc. Mae Llywodraeth y DU, eto heddiw, wedi argymell meiri metro, fel y crybwyllwyd, a fydd yn arwain at roi pwerau dros blismona yn nwylo un person. Eto i gyd, parheir i wadu datganoli pwerau o’r fath i’r Cynulliad Cenedlaethol cyfan, ac nid oes unrhyw resymeg i hyn.
Cefais fy nharo gan y sylwadau yn y Siambr ddoe gan fy ffrind Huw Irranca-Davies, yr Aelod dros Ogwr, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Er bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cael gwahoddiad i ddod gerbron y pwyllgor, meddai, hyd yn hyn nid oedd wedi derbyn y gwahoddiad i fynychu. Er ei bod yn dda gweld Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ein cyfarch ni heddiw—hawl y bydd y Bil Cymru yn ei diddymu gyda llaw—mae’n bwysig fod cyfathrebu a chydweithredu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru cystal ag y bo modd iddo fod, ac yn seiliedig ar barch y naill tuag at y llall, gan fod Llywodraeth Lafur Cymru bob amser wedi ceisio bwrw ymlaen â’r broses ddatganoli drwy gonsensws trawsbleidiol, lle bo hynny’n bosibl.
Mae’n anodd amgyffred a deall pam fod Bil Cymru wedi’i frysio, yn enwedig pan ystyriwch nad oedd trafodaethau rhwng swyddogion y DU a Llywodraeth Cymru wedi dod i ben. Hefyd, mae’r amserlen bresennol ar gyfer taith y Bil yn gyfyngedig a brysiog ac nid yw’n rhoi fawr iawn o amser ar gyfer craffu gwerthfawr. Mae deddfwriaeth frysiog, fel rwy’n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn gwybod, yn arwain at gyfraith wael iawn.
Heddiw rwyf i, gyda fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Lafur Cymru, yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru fel mater o egwyddor. Dylai’r pwerau a gynigir i’r Alban a Gogledd Iwerddon gael eu cynnig i Gymru hefyd. Mae’r Prif Weinidog wedi dadlau’r safbwynt hwnnw’n gyson yn y Siambr hon, ac mae Carwyn Jones wedi arwain ar hyn drwy ddadlau bod angen i ni symud tuag at ddull mwy cydlynol a chyson o weithredu gan Lywodraeth y DU, dull sy’n trin pob rhan o’r DU gyda pharch cyfartal. Nid yw bellach yn ymarferol i Gymru’r unfed ganrif ar hugain gael ei llywodraethu ar sail cyfansoddiad anysgrifenedig sydd wedi datblygu’n anghyfartal ar hyd a lled y gwahanol aelodau o’r Deyrnas Unedig, ac i gyfeiriad cynyddol wahanol i’r setliad datganoli.
Yn yr un modd, nid yw fy etholwyr wedi fy anfon yma i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod materion cyfansoddiadol datganoli yn ddiddiwedd. Maent wedi fy anfon yma—fel y crybwyllwyd eisoes—i frwydro dros eu teuluoedd gweithgar, i sicrhau gwell dyfodol i’n cymunedau, i ymladd yn erbyn tlodi a chreu swyddi, a chael y fargen orau sy’n bosibl iddynt. Nid yw Araith y Frenhines yn cyflawni hynny. Gadewch i ni fod yn onest, roedd Araith ddiweddaraf y Frenhines yn gyfle arall a gollwyd i fynd i’r afael â llawer o’r materion mawr sy’n wynebu Cymru a’r DU yn ehangach. Araith y Frenhines ddisylwedd oedd hi a ddarparwyd yng nghysgod y refferendwm Ewropeaidd y rhagwelai’r Prif Weinidog yn hyderus y byddai’n ei ennill. Mae golygydd PoliticsHome.com, Kevin Schofield, wedi crynhoi gwerth rhagfynegiadau’r Prif Weinidog yn daclus:
Felly yn y bôn, byth ers i David Cameron ein sicrhau nad yw Prydeinwyr yn rhoi’r gorau iddi, mae pawb wedi rhoi’r gorau iddi. Ac eithrio Jeremy Corbyn.
Heddiw ac yfory a thrennydd, a’r wythnos ar ôl hynny, a’r mis ar ôl hynny wedyn, gwn na fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r gorau i’w phenderfyniad diwyro i roi i bobl Cymru y parch a’r broses ddemocrataidd y maent yn ei haeddu, yn gydradd â’n cyd-ddinasyddion ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Diolch, Lywydd.
Yn ogystal â mynd i’r afael â’r hyn a gafodd ei ddweud yn Araith y Frenhines, rwy’n credu ei bod yn bwysig ystyried, fel y mae eraill wedi’i wneud, yr hyn na chafodd ei ddweud, a hefyd i nodi bod 28 o’r 30 Bil a gyhoeddwyd yn hen gyhoeddiadau. Roedd y sylw i Gymru, sydd bellach yn orfodol, yn fyrrach nag arfer hyd yn oed, gyda brawddeg yn unig ar gyflwyno Bil Cymru, rhywbeth rydym eisoes wedi craffu arno cyn y broses ddeddfu. Mae’n drist nodi hefyd na chrybwyllwyd Cymru unwaith gan y Prif Weinidog nac arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan yn eu cyfraniadau i’r ddadl ar Araith y Frenhines yn Nhŷ’r Cyffredin. Fel y clywsom, mae yna nifer o Filiau Cymru-a-Lloegr, ychydig o filiau Prydain, yn ogystal â Biliau ar gyfer y DU gyfan. Rwy’n credu mai un peth sydd angen ei ystyried yn dilyn Araith y Frenhines eleni yw sut y gallwn weithredu proses newydd ar gyfer deddfau o’r fath sydd ar gyfer Cymru a Lloegr, neu ar gyfer Prydain yn unig neu’r DU gyfan sy’n gallu dod â Llywodraethau at ei gilydd, gan gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig, fel y gellir cydweithio ar y Biliau hynny, hyd yn oed os ydynt yn parhau i fod yng nghategori materion a gedwir yn ôl ym mha bynnag Fil Cymru a ddaw i rym yn y pen draw.
Rwy’n gobeithio y rhoddir ystyriaeth i rai o’r syniadau yn Araith y Frenhines amgen Plaid Cymru. Mae Simon Thomas eisoes wedi cyfeirio at yr angen am Fil cronfeydd wrth gefn yr EU, ac rwy’n gobeithio y rhoddir ystyriaeth ddifrifol iddo, a bydd nifer o gymunedau yn y wlad hon yn disgwyl Bil o’r fath. Mae’n amlwg, rwy’n credu, ein bod angen Bil i sefydlu comisiwn annibynnol i ddatrys anghydfodau cyllido rhwng Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig. Datgelwyd annhegwch fformiwla Barnett gan gomisiwn annibynnol Holtham flynyddoedd lawer yn ôl, yn ogystal â nifer o gomisiynau eraill cyn ac ar ôl hynny, a byddai’r methiant i ddyrannu arian canlyniadol llawn i Gymru o ganlyniad i HS2, yn ogystal ag enghreifftiau eraill, yn cael eu datrys, fel y dylent gael eu datrys, gan gomisiwn annibynnol yn y dyfodol. Mae sefydlu comisiwn annibynnol hefyd yn hanfodol yng nghyd-destun y ddadl sy’n dod i’r amlwg ynglŷn â’r fframwaith cyllidol a fydd yn cynnwys y trefniadau rhannu treth sydd ar y gorwel rhwng y DU a Llywodraeth Cymru.
Fel y nodwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, dylai comisiwn dyfarnu annibynnol fod yn elfen hanfodol felly yn y fframwaith cyllidol sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y DU. Cynigiodd adroddiad Canolfan Bingham mai’r corff hwn, neu gorff annibynnol arall, fydd yn gyfrifol am ddyfarnu mewn achosion o anghydfod rhwng Llywodraethau na ellir eu datrys drwy brosesau gweinidogol ar y cyd—ac os oes un peth rydym wedi’i ddysgu o’r ddadl hon heddiw, mae’n eithaf posibl, buaswn yn awgrymu, y ceir anghydfod neu ddau rhwng dwy Lywodraeth yn y dyfodol.
Yn Araith y Frenhines, byddem wedi croesawu Bil darlledu a fyddai o’r diwedd yn datganoli’r cyfrifoldeb, neu ran o’r cyfrifoldeb, dros ddarlledu yng Nghymru. Byddai hynny’n sefydlu ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer Cymru fel rhan o gorff BBC mwy ffederal ar lefel y DU. Ac wrth gwrs, fel rhan o’r Bil darlledu hwn, byddem wedi croesawu gweld y cyfrifoldeb dros S4C yn cael ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â chyllid ar gyfer y sianel sydd ar hyn o bryd gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Whitehall.
Mae Aelodau eraill wedi sôn am y cyfrifoldeb dros blismona. Byddai datganoli plismona fel rhan o Fil Cymru, neu fel rhan o ddeddfwriaeth blismona ar wahân, wedi cael croeso mawr gennym. Mae canlyniadau etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu yn ddiweddar wedi arwain at sefyllfa lle mae pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru yn datgan eu bod yn cefnogi datganoli plismona, yn ogystal â’r ffaith fod y mwyafrif o’r pleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi cefnogi datganoli plismona.
Mae Plaid Cymru yn credu bod ffordd well o gyflwyno diwygiadau i garchardai, ac fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, mae hynny’n rhywbeth a fydd yn fater Cymru-a-Lloegr, yn Fil Cymru-a-Lloegr, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu rhoi ymrwymiad pendant, os na fydd carchardai’n cael eu datganoli yn fuan, y bydd y ddeddfwrfa hon a Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys ar y cam cyn y broses ddeddfu wrth i Filiau pellach symud ymlaen ar blismona.
Byddai Plaid Cymru wedi croesawu Bil, fel llawer o bleidiau eraill rwy’n siŵr, i drosglwyddo cyfrifoldeb, o’r diwedd, dros bontydd Hafren i Lywodraeth Cymru pan fyddant yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Fel Aelod sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, gallaf ddweud y byddai hynny wedi cael croeso cynnes yn ein cymunedau. Byddai hyn wedi galluogi Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu ar y lefel briodol o dâl, os o gwbl, sydd ar gyfradd uchel ar hyn o bryd ac sy’n niweidiol i economi Cymru.
Ceir ambell elfen a grybwyllwyd gan eraill y mae Plaid Cymru yn eu croesawu yn Araith y Frenhines, gan gynnwys y doll ar ddiodydd meddal—rhywbeth a gynigwyd gan Blaid Cymru beth amser yn ôl ac a wawdiwyd gan bobl sydd bellach wedi cael tröedigaeth Ddamascaidd. Rwy’n gobeithio, wrth gloi, y bydd San Steffan dros y misoedd nesaf yn gallu cyflawni ei addewid o agenda o barch rhwng y ddwy Lywodraeth sy’n rheoli’r wlad. Rwy’n amau nad ydym eto wedi gweld hwnnw’n datblygu’n llawn. Diolch.
Os caf ofyn ynglŷn ag elfen y Bil Cymru drafft yn Araith y Frenhines, Ysgrifennydd Gwladol, bydd Aelodau’r Siambr hon yn ymwybodol iawn o fy mhryderon ynghylch datganoli treth, neu’n hytrach, y gostyngiadau dilynol a wneir yn y grant bloc ar ôl datganoli treth. Rydym yn derbyn ei fod yn eithaf syml yn y flwyddyn gyntaf, gyda chyfran o dreth incwm yn cael ei chodi yma, ond yn y blynyddoedd dilynol, mae’n rhaid i ni gael mecanwaith, fel y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwybod, ar gyfer mynegeio, a bydd angen ystyried ffactorau megis poblogaeth a chwyddiant. Felly, Ysgrifennydd Gwladol, mae hwn yn faes cymhleth, ac nid oes amheuaeth gennyf y caiff mecanwaith ei ddyfeisio, ond rwy’n credu mai’r hyn y mae’r Siambr hon ei eisiau yw hyder y bydd y mecanwaith hwnnw yn un a fydd yn gwasanaethu pobl Cymru cystal ag y bo modd. Yn yr Alban, cafodd mater y newid yn y boblogaeth ei ystyried wrth benderfynu ar y mecanwaith yno. Penderfynwyd na ddylai hynny fod yn rhan o’r risg i Lywodraeth yr Alban mewn perthynas â chyfran yr Alban o dreth incwm, ac rwy’n credu y byddem yn gobeithio cael yr un trefniadau yma. Tybed a allech roi rhywfaint o eglurder i ni ar y meddylfryd a’r trafodaethau gyda’r Trysorlys o ran y mecanweithiau sy’n cael eu hystyried. Ac os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd Gwladol, cymerwch sicrwydd o hyn: nid yw’n fater o ddiffyg hyder ynoch chi; mae gennym ychydig bach mwy o hyder ynoch chi nag sydd gennym yn y Trysorlys, dyna’i gyd.
Croesawaf yr Ysgrifennydd Gwladol yma heddiw, a byddwn o ddifrif yn ei groesawu yn ôl eto fel y gall y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol rwy’n Gadeirydd arno ymgysylltu’n adeiladol i graffu ac yn wir ei helpu i wella Bil Cymru. Nawr, efallai nad ydynt yn trafod hyn hyd syrffed yn y dafarn, ond rwy’n fwy na pharod i brynu peint iddo yn y Mountain Hare ym Mrynna os yw’n derbyn ein gwahoddiad; efallai dau beint hyd yn oed, Ysgrifennydd Gwladol, ac nid wyf erioed wedi prynu dau beint i neb. [Torri ar draws.] Nid i bob un ohonoch. [Chwerthin.]
Nid oes yr un ohonom, yn sicr, am weld Bil sydd yn wir yn sicrhau camau ymlaen i Gymru, ond sydd â chanlyniadau anfwriadol a fyddai’n peri pryder ac a allai ddadwneud y setliad datganoli hyd yn oed. Mae ein pwyllgor—hoffwn dalu teyrnged yma i gyn-aelodau’r pwyllgor a’r aelodau presennol, a’r cyn-Gadeiryddion hefyd—wedi bod yn casglu llawer o dystiolaeth gan dystion arbenigol, a byddwn yn parhau i dderbyn tystiolaeth drwy gydol yr haf. Cafwyd croeso gofalus i rai o’r newidiadau a wnaed i’r Bil drafft gwreiddiol, a gafodd ei wfftio gan bawb, ond mae rhai pryderon cyffredin a difrifol eisoes yn dod yn amlwg.
Er gwaethaf sicrwydd pendant gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae tystion i’r pwyllgor wedi mynegi pryderon y gallai’r asesiadau newydd o’r effaith ar gyfiawnder, o’u defnyddio ar y cyd â phwerau sydd ar gael yn barod i’r Ysgrifennydd Gwladol, gael eu defnyddio er mwyn rhoi feto ar ddeddfwriaeth a wneir yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hyn yn codi’r posibilrwydd fod y ddarpariaeth hon yn ymestyn neu o leiaf yn atgyfnerthu gallu Llywodraeth y DU i lesteirio ewyllys Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Awgrymwyd nad yw’r asesiadau hyn o’r effaith ar gyfiawnder yn cyflawni unrhyw ddiben defnyddiol, neu y gallent fod yn niweidiol hyd yn oed, i fuddiannau Cymru, ac felly cynigir y dylid cael gwared arnynt.
Mae’r Bil yn argymell ein bod yn symud tuag at fodel cadw pwerau, o fath tebyg i’r un a ddefnyddir yn yr Alban, er nad yn union yr un fath, lle y gallai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar unrhyw fater nad yw wedi’i gadw yn ôl yn benodol i Senedd y DU. Beirniadwyd y Bil drafft gwreiddiol yn llym am gynnwys rhestr mor eang o gymalau cadw nes ei fod, yn amlwg, yn lleihau gallu Cymru i ddeddfu ar lawer o faterion. Ond hyd yn oed yn awr, mae’r tystion yn dweud wrthym nad yw ysbryd llawn y model cadw pwerau yn hunanamlwg, ac mae pryderon eang y gallai rhai o’r pwerau a gedwir yn ôl ddechrau dadwneud y broses ddatganoli. Ni fyddai hynny’n dderbyniol, Ysgrifennydd Gwladol, felly bydd yn rhaid ystyried a gwneud newidiadau.
Er mwyn lleihau pryderon ynglŷn â sut i ddelio ag esblygiad parhaus corff o gyfreithiau a wnaed yng Nghymru neu sy’n berthnasol i Gymru, a goblygiadau hyn ar gyfer awdurdodaeth benodol, er nad o reidrwydd ar wahân, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi sefydlu’r gweithgor ar gyfiawnder yng Nghymru. Yn wir, byddai’r dull hwn yn cael ei groesawu, wrth gwrs. Ond mae ein pwyllgor yn clywed nad yw Prif Weinidog Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cael gwahoddiad i bennu’r cylch gorchwyl ac nad ydynt wedi cael eu gwahodd yn ffurfiol eto i gymryd rhan, ac i Weinidogion y DU yn unig y bydd y gweithgor yn adrodd ac nid i Lywodraeth Cymru. Eto i gyd, gyda pheth ailfeddwl, byddwn yn dweud wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru y gallai grŵp sefydlog sy’n ystyried y twf yn neddfwriaeth Cymru dros gyfnod o amser fod â gwerth gwirioneddol, ar yr amod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan uniongyrchol.
Mae mwy, wrth gwrs, ac mae’n rhaid i mi ddweud mai dyna pam yr ydym wedi gofyn i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymddangos ger ein bron i rannu’r hyn y mae’n ei feddwl, ac i ystyried yr hyn sy’n rhaid i ni ei newid yn ôl arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol blaenllaw. Dywedodd un o’r tystion arbenigol wrth y pwyllgor fod angen i Fil Cymru fod yn ‘uchelgeisiol’. Heriais hynny, a gofyn pam na allai fod yn ddim mwy na datganiad pragmataidd ac ymarferol o’r hyn sy’n bodoli eisoes. Dywedodd y tyst,
Oherwydd rwy’n credu bod cyfansoddiadau yn cyfleu negeseuon ynglŷn â pha fath o wleidyddiaeth rydych yn ei harfer mewn gwlad, pa fath o gymdeithas yr hoffech fyw ynddi, pa fath o ddyheadau sydd gennych ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Aeth yn ei blaen:
A’r holl negeseuon hyn, symbolaidd neu beidio, ar lefel ddatganiadol neu ar lefel dechnegol iawn—credaf y dylai’r cyfansoddiad fynd ymhellach na mynegiant technegol a chyfreithiol o realiti gwleidyddol yn unig.
Mae rhannau o’r Bil hwn i’w croesawu. Mae’n well na’r drafft gwreiddiol. Mae’n cynnwys rhai buddugoliaethau i Gymru, ond mae hefyd yn cynnwys maglau posibl a allai ddadwneud ein setliad datganoli. Felly, rwy’n rhoi croeso cynnes unwaith eto i Ysgrifennydd Gwladol Cymru—nid yw’n ddieithr i’r Senedd hon—ddychwelyd i’n pwyllgor a’n helpu i wella’r Bil er lles Cymru, er lles pobl Cymru ac er mwyn sicrhau setliad cyfansoddiadol mwy gwydn.
Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i siarad.
Wel, diolch, Fadam Lywydd. Bu’n bleser cael gwrando yn astud iawn ar y ddadl.
It’s a pleasure to have listened to, I think, what has been a respectful and interesting debate. I didn’t realise that I was the first that hadn’t been heckled, as was highlighted by the First Minister. But, as I look around, I think I know most people pretty well—I don’t know absolutely everyone, but I hope that that sets the tone for a mature relationship that the UK Government can have, through the Wales Office, and the Welsh Government, and the Assembly, in turn. And I’m determined to continue that as a dialogue, so, many of the points that have been raised I’d like to continue in that spirit.
I think, out of the issues that have been raised, there have been some common themes, and I’m grateful to all of those Members who have spoken. I haven’t got the opportunity to go through, within the limited time that’s available, all of the points made by all of the Members. But, if I can just highlight a couple of points that have been raised.
The first is in relation to Europe. I think there are naturally some questions, some concerns, about the direction of policy. Some people raised surprise that I said that article 50 wouldn’t be invoked for at least two years. Well, it’s quite clear that there won’t be a new Prime Minister in place until 9 September. Now, that is some months after the Brexit referendum. It’s obvious that the new Prime Minister won’t exercise article 50 immediately at that period, because they—he or she—will want to take stock and consider the implications, and discuss with the devolved administrations and with Members of Parliament, of all political persuasion, in terms of the approach that they would like to see. So, therefore, that demonstrates that several months will pass from the Brexit referendum until article 50 is invoked.
And I say this positively. Because, if there is a different view that lies within the Assembly—clearly, Neil Hamilton said the sooner the better, and I think maybe the First Minister might have said something similar last week, that he wanted article 50 invoked sooner rather than later. Well, if that is the view of the Assembly, I think it would be helpful if the Assembly took a formal position, so that that could inform the European Unit, and the new Prime Minister, in terms of where it goes.
For me, personally, I believe that an element of stability, an element of negotiation with individual European nations, in order to strengthen our position, in order to get to a position whereby we have strong relationships, where we clearly understand the intentions and the will of allies around Europe, is a sensible way forward. And we can use the interim period in order to put the United Kingdom, Wales, and all of the constituent parts of the United Kingdom, in a strong position in order to embark on those negotiations. Because, come what may, unless all 27 of the member states of the European Union agree, when article 50 is invoked, then the two-year clock will start ticking. I think that it would be a sensible position in order to understand Assembly Members’ views on that. It’s not for me to tell you what to do, but I think that that would be helpful in terms of inputting whether you would like article 50 invoked immediately, or whether you think that a delay would be more sensible.
The other theme, within the time limit that remains, is the Wales Bill. Much attention has rightly been given to the fiscal framework—I prefer to call it ‘Barnett adjustment’. Because, absolutely, the only model that we’ve got that existed in relation to this sort of situation is as the Scotland Act passed last year. The Scottish Parliament, naturally, wouldn’t pass a legislative consent motion until there was satisfaction over the fiscal framework. I think that that is a natural place. I mean, I’ve said clearly to the First Minister that that’s the position I would expect the Assembly to take. So, I would hope that the introduction of the funding floor would give confidence.
Reference has been made to Gerry Holtham’s report and the funding floor of 115 per cent minimum, and the spending level is above that as it stands. The funding floor of 115 per cent as a minimum has been introduced and, again, it received Gerry Holtham’s support, as well as much support in the wider community. He has also published some models for which a Barnett adjustment could be used, and that again is a helpful position in which to get to. So, it is in that spirit that I want to continue this discussion, which will be developed in parallel with the Bill.
There are lots of other points that I wanted to cover, but, unfortunately, I haven’t. But in terms of the financial consequentials that come to this place, I just really do want to underline that HS2 consequentials absolutely came, and that is accepted by Members of Parliament in Plaid Cymru. Because the HS2 consequentials led to the 16 per cent increase in capital spending, because it was a consequential out of the Department for Transport budget. So, I really wanted to underline that.
And, finally, if I can respond to the questions about attending the Constitutional and Legislative Affairs Committee here at the Assembly, I thought the Chairman and I, through informal discussion, had come to an arrangement, so I was somewhat surprised and disappointed to see the criticism that had been aired in the media and press thereafter. I’m happy to continue a discussion in order to come to a situation that works for both of us, and I would hope that that will be accepted in the spirit in which it’s intended. Thank you.
Rwy’n galw ar Jane Hutt i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ei gyfraniad i’r ddadl heddiw, ac am ei ymateb yn ogystal, ac i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl hefyd. Wrth gwrs, fel y dywedwyd heddiw, mae’r ddadl flynyddol ynglŷn â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU wedi dod yn ddigwyddiad rheolaidd yng nghalendr y Cynulliad, ond os aiff popeth yn iawn, fel y dywedodd pawb, gan gynnwys y Prif Weinidog yn ei sylwadau agoriadol, bydd y dadleuon hyn yn dod i ben. Bydd Bil Cymru yn cael gwared ar y gofynion diangen sy’n cyfyngu ar y ffordd yr ydym yn cyflawni busnes y Siambr hon ar hyn o bryd, ac rydym yn croesawu hynny, ond wrth gwrs, ar lefel bersonol rydym yn croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol, fel y rhoesom groeso i’ch rhagflaenydd—credaf i ni ddweud yr un peth y llynedd—a’ch croesawu, wrth gwrs, nid yn unig fel cyn-Aelod o’r Cynulliad hwn, ond yn bersonol, gan ein bod yn rhannu’r un etholaeth, Bro Morgannwg, a mwynhau’r cyfle hwnnw.
Credaf y gallwn gytuno nad yw’r gofyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol ymweld â’r Cynulliad, i ymgynghori â ni ynglŷn â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, yn cyflawni unrhyw ddiben bellach ac rydym yn cydnabod hynny. Ond mae’n ddiddorol edrych yn ôl a gweld ein bod, ers mis Mehefin 2008, wedi trafod 88 cynnig cydsyniad deddfwriaethol—88 o achosion pan wnaed darpariaeth gan ddeddfwriaeth y DU mewn maes datganoledig, gyda’r Cynulliad yn penderfynu a ddylai roi cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Mae ein ffocws ni, wrth gwrs, ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid i ni fod yn effro i’r gorgyffwrdd rhwng ein deddfwriaeth ein hunain a deddfwriaeth Llywodraeth y DU, a galluogi atebion ar gyfer y DU gyfan lle bo’n briodol i gael eu datblygu drwy ddeddfwriaeth y DU os mai dyna yw ein hopsiwn gorau. Mewn gwirionedd, mae proses y cydsyniad deddfwriaethol yn egwyddor gyfansoddiadol bwysig, a chredaf ei bod yn bwysig dweud hynny yn y ddadl hon y prynhawn yma. Pan fo pwerau deddfwriaethol gan y Cynulliad, ni ddylai San Steffan ddeddfu heb gydsyniad y Cynulliad, na deddfu i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad heb gydsyniad y Cynulliad.
Bydd Bil Cymru yn darparu cydnabyddiaeth statudol, sydd i’w groesawu ar gyfer y confensiwn allweddol hwn. Ni fu ganddo sail statudol yng Nghymru fel sy’n wir, wrth gwrs, yn yr Alban, a bydd Bil Cymru yn darparu hynny. Ac mae hynny’n newid pwysig sydd i’w groesawu. Ond dylai’r Bil ei gwneud yn glir fod y confensiwn yn berthnasol pan fo’r Senedd yn deddfu i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, yn ogystal â phan fo’r Senedd yn deddfu ar faterion sydd eisoes wedi’u datganoli. Mae’n amhosibl dweud ar hyn o bryd sawl gwaith y bydd angen i ni ofyn i’r Cynulliad am ei gydsyniad deddfwriaethol dros y flwyddyn sydd i ddod. Ond rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd gydag asesiad cychwynnol Llywodraeth Cymru o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’i goblygiadau ar gyfer busnes y Cynulliad. Rydym eisoes wedi gosod memoranda ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) a’r Bil Heddlua a Throsedd; mae Mark Isherwood eisoes wedi rhoi sylwadau ar hynny y prynhawn yma.
Hoffwn siarad o blaid y ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. O ran y gwelliant cyntaf, cytunwn y dylid cynnig pwerau i Gymru os ydynt yn cael eu cynnig i’r Alban neu Ogledd Iwerddon. Mae’n bryd cael dull mwy cydlynol a chyson gan Lywodraeth y DU sy’n trin pob rhan o’r DU gyda’r un parch. O ran yr ail welliant, mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau parhad deddfwriaeth bwysig yr UE a roddwyd mewn grym yng Nghymru a gweddill y DU. Nid yw’n glir eto, wrth gwrs, sut y caiff y parhad hwn ei gyflawni, ond mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw’r cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd, yn enwedig, er enghraifft, fel y trafodwyd ddoe yn y Siambr, ar faterion amgylcheddol ac ar ddiogelu hawliau gweithwyr, yn cymryd cam yn ôl.
Dychwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol at fater pwysig yr ymateb ers 23 Mehefin o ran ein hymateb i’r refferendwm. Unwaith eto, rwyf am ddilyn o’r hyn y mae Prif Weinidog Cymru wedi’i ddweud yn ei lythyr at Brif Weinidog y DU, yn dilyn canlyniad y refferendwm. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i warchod buddiannau Cymru, cryfhau’r economi ac uno’r genedl. Mae’n bwysig i ni gydnabod, a dywedodd Prif Weinidog Cymru hyn yn glir iawn wrth Brif Weinidog y DU, y dylai Cymru gymryd rhan lawn yn y broses o drafod ymadawiad y DU o’r UE er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu hystyried yn llawn er mwyn i ni sicrhau’r cytundeb gorau. Rwy’n falch fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud sylwadau ar hynny a’r cyfleoedd yn ei ddatganiad agoriadol.
Er mwyn rhoi rhai enghreifftiau i chi, mae’r Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, eisoes wedi cyhoeddi cyfres o fesurau tymor byr i ddiogelu swyddi a chynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd, gan gynnwys digwyddiad twf swyddi pwysig yng ngogledd Cymru, a chredaf fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cael gwahoddiad i’r digwyddiad hwnnw hefyd. Mae Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau nad yw Cymru’n colli unrhyw gyllid yn dilyn canlyniad y refferendwm. Dyna’r hyn y mae pobl yn dymuno’i glywed o ran ein hymateb. Ddydd Llun, bydd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cyfarfod â ffigyrau allweddol o sectorau amgylcheddol ac amaethyddol Cymru i drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y llythyr a ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Theresa May ddoe, ac mae’n dilyn pwynt Simon Thomas ynghylch gwladolion yr UE. Ysgrifennodd i ddweud ei fod yn fwyfwy pryderus ynghylch sefyllfa gwladolion yr UE sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghymru. Wrth gwrs, rydych chi hefyd wedi gwneud sylwadau, Ysgrifennydd Gwladol, ar y myfyrwyr sy’n dod i Gymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn a’r rhai sydd eisoes yn byw ac yn astudio yng Nghymru. Wrth gwrs, dywedodd y Prif Weinidog wrth yr Ysgrifennydd Cartref fod llawer o sectorau busnes ledled Cymru, ac yn y DU yn gyffredinol yn wir, gan gynnwys y GIG, yn dibynnu ar wladolion yr UE i lenwi swyddi hanfodol. Mae’n gofyn iddi gadarnhau y bydd gwladolion yr UE sy’n gweithio ac yn byw yma pan fydd y DU yn gadael yr UE yn cadw’r hawl i wneud hynny. Mae hefyd yn siarad am brofiadau negyddol gwladolion yr UE a mewnfudwyr eraill o ran effaith ymddygiad camdriniol a throseddau casineb, sydd wedi cael sylw gennym, wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru, a gan yr heddlu a’r comisiynwyr heddlu a throseddu, gan gydnabod bod hwn yn fater hollbwysig, sydd, yn anffodus, yn un o ganlyniadau trist iawn y refferendwm.
Mae llawer o Filiau wedi cael eu crybwyll heddiw—wedi cael eu croesawu neu eu nodi a phwyntiau wedi eu gwneud. Rwy’n siŵr y bydd llawer iawn o ddiddordeb yn nadansoddiad Neil Hamilton o’r diwydiant diodydd meddal mewn perthynas ag ardoll y Bil Cyllid ar y diwydiant diodydd meddal. Wrth gwrs, fel y dywed Jenny Rathbone, mae Llywodraeth Cymru’n dymuno lleihau faint o siwgr y mae pobl yn ei fwyta ac wedi annog yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn gyson i roi camau gweithredu mwy cadarn ar waith ynglŷn â siwgr ar lefel y DU.
Yn briodol ac yn bwysig, mae’n rhaid i mi dynnu sylw at y pwyntiau a wnaed am blismona gan Rhianon Passmore a Steffan Lewis. Byddent yn croesawu’r gwelliannau a gynigiwyd gan y Prif Weinidog i Fil Cymru. Mae hon yn neges gref iawn—yn gyson, rhaid i mi ddweud, ag argymhellion trawsbleidiol comisiwn Silk—fod Llywodraeth Cymru yn cynnig gwelliannau, gan ganolbwyntio ar y ffaith nad yw’r blaenoriaethau a bennir ar gyfer plismona drwy Gymru a Lloegr, o dan y trefniadau presennol, yn gallu adlewyrchu amgylchiadau unigryw Cymru yn gywir, a mynd ymlaen i ddweud mai plismona yw’r unig brif wasanaeth nad yw’n gyfrifoldeb y sefydliadau datganoledig yng Nghymru ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, yr effaith a gaiff hynny o ran cydweithio â gwasanaethau golau glas eraill. O ganlyniad, ceir tystiolaeth glir gan Silk y byddai datganoli yn creu gwell aliniad rhwng polisïau ar gyfer mynd i’r afael â throseddu a’i achosion, yn ogystal ag atebolrwydd dros blismona.
Mae Julie Morgan yn tynnu sylw at ddigwyddiadau pwysig ers y cyflwynwyd Araith y Frenhines yn San Steffan—yn wir, mae Simon Thomas yn sôn sut y mae’r dirwedd wleidyddol wedi newid cymaint—ac mae hi’n iawn i dynnu sylw at y gwrth-ddweud yn Araith y Frenhines, sy’n honni bwriad i gryfhau’r economi a chynyddu cyfleoedd bywyd pobl ifanc, ond yna mae hi’n nodi’n glir, fel y credaf y gallwn ac fel rydym wedi’i wneud yn y Siambr hon, effaith caledi a’r effaith o ran anghydraddoldebau yn dyfnhau a’r toriadau i’n cyllideb, ond hefyd mae’n rhoi enghreifftiau, fel y gallwn ni, o effaith polisïau a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â lles, ac rydym i gyd yn gwybod ac yn deall yr effaith honno ar fywydau pobl sy’n agored i niwed. Rwy’n credu mai dyma pam ei bod mor bwysig ein bod yn edrych ar hyn o ran y persbectif ehangach, o ran yr hyn y gallwn ei wneud gyda’n pwerau a’n cyfrifoldebau, a sut y gallwn eu datblygu a’u cryfhau.
Mae hyn yn dod â mi at y pwynt hollbwysig ynglŷn â fframwaith cyllidol, y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yn ei ddatganiad agoriadol hefyd. Mae cymal 16 yn dileu’r ddarpariaeth yn Neddf Cymru 2014 ar gyfer refferendwm cyn datganoli treth incwm. Wel, ie, os ydym am symud ymlaen â hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod bod rhaid iddo ddod gydag ymrwymiad llawn i fframwaith cyllidol y gallwn gytuno arno. Ar hyn o bryd, byddai’r ddarpariaeth yn ei adael yn agored i Drysorlys y DU ddatganoli cyfrifoldebau treth incwm drwy Orchymyn, heb unrhyw ofyn am ymgynghoriad â’r Cynulliad neu Weinidogion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwelliant fel na fydd pwerau gwneud Gorchmynion yn arferadwy oni bai bod fframwaith cyllidol llawn yn ei le, ac mae’n rhaid i hynny gynnwys y pwyntiau a wnaed. Gwnaeth Nick Ramsay y pwynt hefyd ynglŷn â gwrthbwysiad grant bloc teg, ateb hirdymor i gyllid teg, cynnydd yn nherfyn benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru, a materion eraill, ond mae’n rhaid i’r ddwy Lywodraeth gytuno arnynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno dogfen y fframwaith cyllidol gerbron y Senedd cyn gwneud Gorchymyn Trysorlys, ac na ddylid gwneud y Gorchymyn nes y bydd Dau Dŷ’r Senedd a’r Cynulliad wedi cytuno ar y fframwaith cyllidol—sy’n hollbwysig o ran y ffordd ymlaen.
Yn olaf, byddwn yn dweud bod Huw Irranca-Davies wedi dangos y ffordd fel Cadeirydd newydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn dilyn gwaith rhagorol—ac wrth gwrs, y mae’n aelod o hyd—David Melding, rhagflaenydd y Cadeirydd. Mae’n ei gwneud yn glir iawn fod cyfle go iawn yma i ni weithio gyda’n gilydd. Mae’r pwyllgor bellach yn weithredol ac mae’r gwahoddiad wedi dod, nid yn unig cyn y ddadl hon, ond codwyd cwestiynau wrth gwrs ynglŷn ag a fyddech yn derbyn y gwahoddiad i fynychu’r pwyllgor hwnnw fel Ysgrifennydd Gwladol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud hynny, gan fod cymaint y gallwn ei ennill o’r ymgysylltiad llawn hwnnw a’r cwrteisi rydym wedi’i gynnig heddiw.
Yn fyr, os caf ymyrryd i ddweud fy mod yn croesawu ymateb adeiladol Ysgrifennydd Gwladol Cymru i barhau i drafod hyn, ac nid fy nghynnig terfynol oedd dau beint; rwy’n barod i fynd yn uwch. [Chwerthin.]
Iawn, ar y nodyn hwnnw rwy’n meddwl y gallwn ddod i ben. Diolch i’r Ysgrifennydd Gwladol am ei bresenoldeb heddiw. Efallai mai hon yw’r ddadl olaf ar Araith y Frenhines yma, ond gall fod yn sicr y bydd Llywodraeth Cymru, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a’r Cynulliad yn gweithio gyda’i gilydd i fonitro rhaglen ddeddfwriaethol y DU, hyrwyddo buddiannau Cymru yn y dyfodol a mynd o’r fan hon heddiw gyda’r ymgysylltiad cadarnhaol hwnnw wrth i ni i gyd droi at y gêm fawr heddiw, i gefnogi ein tîm buddugol heno yn Ffrainc. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddwn yn pleidleisio yn electronig ar y pleidleisiau sy’n weddill ar gyfer yr eitem hon. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15, fe gytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ddiwedd y ddadl, ac, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais.
Rwy’n galw felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, yn ymatal dim, ac yn erbyn 11. Mae’r gwelliant felly wedi’i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 11, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6060.
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 34, yn ymatal 11, ac yn erbyn dim. Mae gwelliant 2 felly wedi’i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 0, Ymatal 11.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6060.
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6060 fel y’i diwygiwyd:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2016/2017.
Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i’r rhai sydd ar gael i’r Alban, neu sy’n cael eu cynnig i’r Alban.
Yn nodi’r Briff Ymchwil: ‘Cymru a’r UE: Beth mae’r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?’ ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i’r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy’n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau’r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu’r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a’r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 35, yn ymatal dau, ac yn erbyn 10. Mae’r cynnig, felly, fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig NDM6060 fel y’i diwygiwyd: O blaid 35, Yn erbyn 10, Ymatal 2.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6060 fel y’i diwygiwyd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Gwladol ac rydym yn symud yn awr ymlaen at ein heitem nesaf o fusnes.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Iawn, felly. Eitem 2 yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Cwestiwn cyntaf, Neil Hamilton.
Prinder Llefydd mewn Ysgolion
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brinder llefydd mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0011(EDU)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Nid oes prinder lleoedd ysgolion yng Nghymru. Er bod rhai ysgolion yn boblogaidd iawn ac nad oes ganddynt ddigon o leoedd ar gyfer pawb sy’n dymuno eu mynychu, nid wyf wedi derbyn unrhyw adroddiadau o brinder cyffredinol mewn unrhyw awdurdod lleol.
Fy lle i yw llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am y tro cyntaf ar ei hymddangosiad cyntaf yn ei swydd newydd, ac rwy’n gwneud hynny’n gynnes a diffuant iawn. Rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiannus iawn yn ei swydd. Ond mae arnaf ofn na allaf rannu’r hunanfodlonrwydd sy’n llenwi’r ateb rwyf newydd wrando arno oherwydd bod gwahaniaeth sylweddol rhwng gwahanol rannau o Gymru lle y ceir prinder sylweddol mewn rhai mannau a gormodedd mewn mannau eraill. Er enghraifft, yn Ysgol Uwchradd Caerdydd eleni, cafwyd 635 o geisiadau am 240 o leoedd, ond yn ein rhanbarth ni ym Mhowys, mae 25 y cant o leoedd uwchradd yn wag. Ar draws y ffin yn Swydd Amwythig, mae gormod o geisiadau am leoedd i un rhan o dair o’r ysgolion. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet rannu ei syniadau ynglŷn â sut y gallem ailgydbwyso addysg yng Nghymru ond heb amddifadu ysgolion gwledig o’u cyllid presennol.
Diolch i’r Aelod am ei eiriau caredig. Mae’n sicr yn brofiad gwahanol iawn i mi fod yn ateb cwestiynau yn hytrach na’u gofyn. A gaf fi ddweud wrth yr Aelod fod peth pwysau ar rai ysgolion mewn rhai rhannau o Gymru, ond nid oes prinder cyffredinol o leoedd mewn ysgolion yng Nghymru? Bydd yr Aelod yn ymwybodol o fy nghytundeb gyda’r Prif Weinidog i adolygu’r polisi ar leoedd gwag, yn enwedig gan ei fod yn effeithio ar y Gymru wledig, a byddaf yn dod yn ôl i’r Siambr cyn bo hir gyda chynigion ar sut y gallwn sicrhau nad effeithir yn andwyol ar ysgolion yng nghefn gwlad Cymru gan orbwyslais ar leoedd gwag.
Gan ddychwelyd i’r Gymru drefol, er ei bod yn wir fod 635 o geisiadau am 240 o leoedd yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, nid dyna graidd y mater mewn gwirionedd: bydd yna bob amser rai ysgolion penodol y mae pawb eisiau eu mynychu. Y cwestiwn yw a oes twyll yn digwydd gyda phobl yn esgus eu bod yn byw mewn cyfeiriad penodol pan nad ydynt. Ond roeddwn i eisiau gofyn eich cyngor mewn gwirionedd ar sut rydym yn rheoli lleoedd ysgolion yn gyffredinol yng Nghaerdydd, sef y ddinas sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, ac yn arbennig er mwyn sicrhau bod plant ysgol gynradd yn gallu cerdded i’r ysgol, ac nad ydynt yn cael cynnig lleoedd sydd mor bell i ffwrdd fel ei bod yn afrealistig i blentyn pedair neu bum mlwydd oed gerdded yno. Rwy’n sylweddoli ei fod yn gymhleth, ond roeddwn yn meddwl tybed faint o leoedd gwag sy’n rhaid i ni eu darparu felly er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu mynd i ysgolion lleol.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn? Mae hi’n hollol iawn yn nodi nad yw mater lleoedd gwag yn un sy’n perthyn i ardaloedd gwledig yn unig; mae’n effeithio ar y ffordd rydym yn cynllunio darpariaeth mewn ardaloedd trefol hefyd, a bydd hynny’n ffurfio rhan o’r adolygiad. Mae gan Gaerdydd gynlluniau sy’n hysbys iawn i ehangu darpariaeth ysgolion mewn lleoliadau allweddol, yn enwedig ar lefel gynradd, ac mae eisoes wedi derbyn cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu ysgolion newydd, megis yr ysgol gynradd newydd ym Mhontprennau, y cefais wahoddiad ddoe i’w hagor yn nes ymlaen eleni. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd ysgolion digonol ar gyfer eu poblogaeth yn y cymunedau iawn, ac fe’u bernir gan Estyn ar ba mor effeithiol y maent yn gwneud hynny.
Mae’r Aelod yn crybwyll mater teithio llesol. Dylem geisio annog mesurau teithio llesol lle bynnag y bo modd, er mwyn i bobl allu mynd i’r ysgol drwy gerdded neu ar y beic, a dylai hynny fod yn rhan o’r ystyriaeth wrth gynllunio a datblygu ysgolion newydd. Mae Bil Teithio Llesol (Cymru) 2012 yn nodi gofynion cyfreithiol ar gyfer awdurdodau lleol yn hyn o beth. Nid yw’n fater i mi ond i fy nghyd-Aelod o’r Cabinet, Ken Skates, ond rwy’n siŵr y byddai’r ddau ohonom eisiau sicrwydd, wrth ddatblygu ysgolion newydd, fod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i sicrhau bod plant yn gallu teithio’n ddiogel i’r ysgolion newydd hyn.
Mae galw heb ei ddiwallu yn awgrymu bod angen mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg cynradd mewn ysgolion ym Mhenlle’r-gaer neu yng Ngorseinon yn fy rhanbarth oherwydd pwysau ar Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin. Caiff plant ifanc eu cludo o ardaloedd Cwmbwrla a Gendros yn Abertawe i gael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg mewn rhannau eraill o’r ddinas am fod y cyngor wedi clustnodi safle perffaith i ysgol ar gyfer tai, a cheir problemau gorlif parhaus gyda pheth o’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg cynradd yn nwyrain fy rhanbarth o ganlyniad i ymgynghoriad carbwl gan y cyngor a cholli arian ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ysgol newydd o ganlyniad i hynny. A yw cynghorau yn trin cynlluniau Cymraeg mewn addysg o ddifrif ac os nad ydynt, a wnewch chi gryfhau’r ddeddfwriaeth berthnasol i sicrhau eu bod yn gwneud hynny?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod? Rwy’n ymwybodol iawn o bryderon y rhieni hynny yn ardal Abertawe sy’n ceisio cael addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y cynllun Cymraeg mewn addysg blaenorol ar gyfer ardal Abertawe wedi ei gymeradwyo gan y Gweinidog blaenorol ym mis Mawrth eleni, ac yn wir, roedd y cynllun hwnnw’n nodi rhai o’r pwysau ar rieni sy’n chwilio am addysg cyfrwng Cymraeg. Cyflwynir y rownd nesaf o gynlluniau cyfrwng Cymraeg yn ardal Abertawe ar gyfer y cyfnod 2017-20 i fy adran cyn diwedd y flwyddyn hon, a byddaf eisiau bod yn gwbl hyderus fod yna gynllun cynhwysfawr, cynaliadwy a chyraeddadwy ar gael fel bod y rhieni sy’n gwneud y dewis cadarnhaol iawn hwnnw i anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg yn cael cyfle i wneud hynny yn eu cymunedau, ac nad ydynt yn gorfod teithio pellteroedd hir i gyflawni hynny.
Dosbarthiadau Babanod (Islwyn)
2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa ganran o ddisgyblion sydd mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion yn Islwyn? OAQ(5)0009(EDU)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd o’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, a elwir hefyd yn CYBLD, yn dangos mai nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau o dros 30 gydag eithriadau a ganiateir yn gyfreithiol oedd 256 o ddisgyblion allan o gyfanswm o 2,600, gan wneud hynny’n 9.8 y cant o blant.
Diolch i chi am hynny. Mae’r cyfrifiad ysgolion diweddaraf yn dangos mai’r maint dosbarth babanod cyfartalog yng Nghymru yw 25.4 o ddisgyblion. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gostyngir maint dosbarthiadau babanod yn Islwyn i 25, gan fod lleihau maint dosbarthiadau babanod yn fater pwysig i rieni ac y gall effeithio’n gadarnhaol ar lwyth gwaith athrawon? A pha bryd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y gellir cyrraedd y targed ar gyfer Islwyn?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am gydnabod pwysigrwydd y mater hwn? Fel rhywun a dreuliodd amser yn dysgu plant, rwy’n siŵr fod ganddi brofiad uniongyrchol o wybod sut y gall niferoedd disgyblion effeithio’n wirioneddol ar allu plant i ddysgu. Mae lleihau llwyth gwaith a galluogi athrawon i dreulio’r amser hanfodol hwnnw’n cynorthwyo disgyblion yn flaenoriaeth allweddol i mi a Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gwmpasu opsiynau i leihau maint dosbarthiadau ar sail Cymru gyfan, gan ddechrau gyda’r dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf. O ran yr amser targed ar gyfer Islwyn, nid wyf mewn sefyllfa heddiw i allu dweud pa bryd y cyflawnir hynny, ond mae’n un o fy mlaenoriaethau, fel y dywedais, ar sail Cymru gyfan.
Rwyf hefyd yn awyddus i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei swydd newydd. Fy nghwestiwn cyntaf iddi yw—. Yn ôl datganiad i’r wasg gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, cafodd dros 7,500 o ddisgyblion yng Nghymru eu haddysgu mewn dosbarthiadau o fwy na 30 o ddisgyblion y llynedd. Ynddo hefyd, roeddech chi’n dyfynnu—eich dyfyniad chi—
ein prif flaenoriaeth addysg yw torri maint dosbarthiadau.
Fodd bynnag, mae cynghorydd i Lywodraeth Cymru, yr Athro David Reynolds, wedi dweud,
Os edrychwch ar y dystiolaeth academaidd, nid ydych yn ennill llawer o leihau maint dosbarthiadau.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw torri maint dosbarthiadau yn Islwyn ac mewn rhannau eraill o Gymru yn dal i fod yn brif flaenoriaeth iddi mewn addysg yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am ei eiriau caredig? A gaf fi ddweud yn glir nad yw David Reynolds yn cynghori fy adran? A gaf fi hefyd ddweud bod yna dystiolaeth sy’n awgrymu bod torri maint dosbarthiadau yn arbennig o bwysig i’n disgyblion iau, mae’n arbennig o bwysig i’n disgyblion mwyaf difreintiedig—rhai o’r cymunedau y mae’r Aelod yn dweud ei fod yn eu cynrychioli—ac mae’n arbennig o bwysig i’r plant ifanc hynny nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt? Dyna ble y gwyddom fod torri maint dosbarthiadau yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Os yw’r Aelod yn treulio amser yn siarad gyda rhieni ac athrawon, bydd yn gwybod ei fod yn flaenoriaeth iddynt. Dyna pam mai dyna oedd fy mhrif flaenoriaeth ym maniffesto fy mhlaid a dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn cyflawni arno.
Rwyf wedi bod yn siarad â phenaethiaid yn ddiweddar sy’n pryderu ynglŷn â’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn. Maent hefyd yn pryderu bod ysgolion sydd â gormod o geisiadau eisoes ar eu cyfer—drwy leihau’r nifer safonol, gallai arwain at allu derbyn llai o ddisgyblion nag ar hyn o bryd hyd yn oed. Maent hefyd yn pryderu ynglŷn â gallu adeiladau’r ysgol i ymdopi â’r newidiadau a fydd yn deillio o’r polisi hwn, felly tybed pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei gynnig o ystyried y pryderon hynny.
Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Mae’n wir dweud y bydd yn rhaid cael amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cyflawni hyn. Dyna pam y mae fy swyddogion yn cwmpasu nifer o ddewisiadau lle y gallwn wireddu hyn ar gyfer y disgyblion. Gallai hynny gynnwys cyflogi athrawon ychwanegol, gallai olygu rhyddhau grantiau ar gyfer gwaith cyfalaf, neu gallai olygu cyflogi, er enghraifft, cynorthwywyr addysgu lefel uwch i ni allu mynd i’r afael â chymarebau oedolion i fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth. Mae fy swyddogion yn cwmpasu’r dulliau gorau o gyflawni’r nod o sicrhau bod athrawon yn cael yr amser sydd ei angen arnynt i roi’r sylw angenrheidiol i ddisgyblion unigol allu ffynnu yn eu blynyddoedd cynharaf o addysg.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Symudwn yn awr at gwestiynau llefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf yr wythnos yma mae’r llefarydd Llyr Gruffydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w chwestiynau addysg cyntaf? Dechreuaf drwy ofyn iddi gadarnhau, efallai, unwaith ac am byth i’r Siambr, y bydd y cyllid ar gyfer y polisi maint dosbarthiadau rydym newydd fod yn ei drafod ac rydych wedi ymrwymo iddo, yn cael ei ddarparu ar wahân i’r addewid addysg o £100 miliwn a wnaed gan y blaid Lafur yn yr etholiad.
A gaf fi groesawu’r llefarydd newydd ar ran Plaid Cymru? Roeddwn yn falch o gael cyfle cynnar i drafod gydag ef pa flaenoriaethau ar y cyd sydd gennym gyda’n gilydd ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef. Fel y byddwch yn gwybod, mae yna nifer o fentrau yr hoffwn eu datblygu ym maes addysg. Trafodir cyllid y rheini yn y trafodaethau arferol rhyngof fi a’r Gweinidog cyllid ac fe’u datgelir yn derfynol yn y gyllideb pan gyhoeddir honno yn nes ymlaen eleni.
Wel, rwy’n meddwl ei bod braidd yn siomedig fod yna amwysedd ynglŷn â hynny o hyd oherwydd nid yn unig ar y meinciau hyn, ond ar y meinciau eraill hefyd, mynegwyd pryder ynglŷn â’r diffyg eglurder ynghylch hynny. Efallai y gallech roi rhywfaint o eglurder i ni felly ynghylch y consortia rhanbarthol, sy’n parhau i hollti barn o fewn y sector addysg. Roedd eich maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol yn ymrwymo i ddiddymu’r cyrff hynny, ac roedd maniffesto Llafur yn cefnogi eu parhad. Felly, a allech roi syniad efallai ynglŷn â pholisi maniffesto pa blaid y byddwch yn ei ddilyn?
A gaf fi ddweud bod rôl y consortia yn rôl y ceir trafodaeth yn ei chylch? Roedd ymrwymiad fy maniffesto i ddiddymu’r consortia rhanbarthol yn seiliedig ar y ffaith fod y maniffesto hefyd yn galw am ad-drefnu llywodraeth leol. Er bod diffyg eglurder yn dal i fod ynghylch yr hyn fydd map neu ffurf yr hyn fydd awdurdodau lleol yn ei wneud yn y dyfodol yng Nghymru, rwy’n meddwl bod rhaid i ni fod yn ofalus wrth newid y system gwella addysg sydd gennym yng Nghymru tra bo’r ansicrwydd hwnnw’n bodoli.
Yr hyn sy’n amlwg i mi yw ein bod wedi cael newyddion calonogol gyda chyhoeddi adroddiad Estyn ar gonsortia canol de Cymru. Mae’r newyddion ynghylch GwE, consortia gogledd Cymru, yn llai na chadarnhaol. Byddaf yn aros am adroddiadau Estyn ar bob un o’r pedwar consortiwm cyn i mi wneud datganiad pendant ar y ffordd ymlaen o ran strwythurau gwella ysgolion yng Nghymru.
Wel, beth yw problem y Democratiaid Rhyddfrydol gydag addewidion maniffesto? Nid wyf yn gwybod. Dyna ni. Iawn, wel, mae amwysedd yno o hyd.
Gadewch i ni weld a ydych yn glynu at eich barn ar PISA, felly, oherwydd, 18 mis yn ôl, wrth holi’r Prif Weinidog ynglŷn â newidiadau’r Llywodraeth i dargedau PISA, fe ddywedoch ac rwy’n dyfynnu, ac yn ddiau, bydd llawer o’r rhain dros y misoedd nesaf:
‘Os bu angen enghraifft arnom erioed o ddiffyg uchelgais llwyr y Llywodraeth hon, yna fe’i cafwyd yr wythnos diwethaf. Cafwyd gwared ar un o’r targedau yr oeddech chi fwyaf brwdfrydig drosto wrth ei amddiffyn yn y Siambr—er efallai na ddylem ni synnu, o ystyried bod cynghorydd eich Llywodraeth eich hun wedi dweud ei fod yn gwbl hurt. Yr ymateb gan eich Gweinidog yw targed uchelgeisiol newydd i’n rhoi ni yn yr un sefyllfa erbyn 2021 ag yr oedd yr Alban ynddi y llynedd. Nid ymdrechu i sicrhau uchelgais yw hynny, Brif Weinidog.’
Eich geiriau chi. Felly, beth yw eich uchelgais, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a fyddwch, felly, yn gosod targedau newydd?
Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod PISA yn parhau i fod yn ddangosydd pwysig iawn o sut y mae’r system addysg yng Nghymru yn perfformio. Nid hwnnw yw’r unig ddangosydd, ond mae’n un pwysig os yw ein myfyrwyr am gystadlu mewn economi fyd-eang pan fyddant yn gadael y system addysg. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod myfyrwyr Cymru wedi cyflawni’r rownd olaf o brofion PISA yn yr hydref y llynedd. Rydym yn disgwyl i’r canlyniadau hynny gael eu cyhoeddi yn yr hydref eleni. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gwneud gwelliannau, ond rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn maddau i mi nad wyf mewn sefyllfa i ddylanwadu arnynt mewn unrhyw fodd gan i mi ddod i’r rôl hon rai misoedd ar ôl i’r profion hynny gael eu cynnal.
Yr hyn rwy’n glir yn ei gylch yw bod gweithrediad llwyddiannus cwricwlwm newydd, yn seiliedig ar ‘Dyfodol Llwyddiannus’ gan Donaldson, yn rhoi’r cyfle gorau i’n plant gystadlu’n rhyngwladol gyda’u cymheiriaid ar draws y byd, a dyna’n sicr fydd fy ffocws yn y misoedd nesaf i wneud yn siŵr y datblygir y cwricwlwm a bod ysgolion ac athrawon mewn sefyllfa i gyflawni hynny.
Diolch. Symudwn at lefarydd UKIP, Mark Reckless. Na?
Nid oes gennyf gwestiynau ar yr achlysur hwn.
Iawn. Diolch yn fawr iawn. Symudwn felly at lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi hefyd groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w chwestiynau cyntaf—[Torri ar draws.]
[Anghlywadwy.]—os gwelwch yn dda.
[Yn parhau.]—ar faterion addysg yma yn y Senedd. [Torri ar draws.] Os yw’r Aelodau yn barod, rwyf am barhau.
Roeddwn wrthi’n dweud, rwyf newydd ofyn iddynt unwaith, ni fyddaf yn gofyn eto.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyhoeddoch ddatganiad yn ddiweddar ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r cynnydd rydych yn gobeithio ei wneud ar hwnnw. A allwch nodi’r amserlen rydych yn disgwyl cyhoeddi Bil drafft i’w ystyried gan y Cynulliad?
A gaf fi ddweud pa mor falch yr wyf y bydd Darren Millar yn fy nghysgodi? Ar ôl gweithio’n agos â’n gilydd dros y pum mlynedd diwethaf ar y pwyllgor iechyd, byddwn wedi gweld ei golli pe na bai’r newid wedi’i wneud. Fe fyddwch yn ymwybodol o ddatganiad y Prif Weinidog fod y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth ddeddfwriaethol i’r Llywodraeth; mae’n hen bryd ei gael. Rwy’n gwybod ei fod yn destun gofid i lawer nad oedd y Llywodraeth mewn sefyllfa i symud ymlaen â hyn yn y tymor diwethaf. Caiff y Bil ei gyflwyno i’r Cynulliad gan fy nghyd-Weinidog ac rydym yn gobeithio cyhoeddi Bil drafft cyn gynted ag y bo modd.
A allwch roi rhywfaint o hyder i ni ynglŷn â’r adnoddau a allai fod ynghlwm wrth y Bil, Ysgrifennydd y Cabinet? Un o’r pryderon sydd gan lawer o bobl yw na fydd ganddo ddigon o adnoddau o ran y canlyniadau y mae’r Bil yn gobeithio eu cyflawni, ac y bydd hynny’n effeithio’n anfanteisiol ar y cyfleoedd addysg i unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol. Pa adnoddau sydd ynghlwm wrth hyn ar hyn o bryd, gan werthfawrogi’r ymateb rydych eisoes wedi ei roi o ran y trafodaethau rydych yn eu cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ynglŷn â’r dyraniadau i’ch cyllideb yn y dyfodol?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol, pan gyhoeddir y Bil, ochr yn ochr â hynny cyflawnir asesiad effaith rheoleiddiol a bydd yna asesiad ariannol hefyd, a fydd yn amlinellu’r adnoddau y bydd eu hangen er mwyn gallu gweithredu’r Bil hwnnw’n llwyddiannus.
Un ffordd, wrth gwrs, o ryddhau adnoddau fyddai cael gwared ar y consortia rhanbarthol fel yr argymellasoch mor frwd i’r Cynulliad y dylid bod wedi’i wneud cyn yr etholiadau. Edrychais ar eich maniffesto yn gynharach heddiw, o ran eich ymrwymiad, ac nid oedd yn awgrymu ar unrhyw adeg fod yr ymrwymiad i ddiddymu’r consortia rhanbarthol ynghlwm wrth ddiwygio llywodraeth leol. Felly, credaf fod hynny wedi dod yn dipyn o syndod i lawer o’r Aelodau yma heddiw.
A gaf fi roi cefnogaeth lwyr y Ceidwadwyr Cymreig i chi pe baech yn bwrw ymlaen i fod eisiau cael gwared ar y consortia rhanbarthol, yn enwedig o ystyried barn arolygiaeth Estyn mewn perthynas â’u hadroddiad diweddar ar gonsortia rhanbarthol gogledd Cymru, GwE, y cyfeirioch ato eisoes? Fe wyddoch eu bod wedi canfod ei fod yn anfoddhaol o ran rheoli adnoddau, a byddwn yn awgrymu nad yw hynny’n werth da am arian i drethdalwyr Cymru.
A gaf fi annog yr Aelod i ddarllen nid yn unig adran addysg maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ond y ddogfen gyfan? Mae llawer ynddo i’w argymell i chi. Mae gan y consortia ran bwysig i’w chwarae yn gwella addysg tra bo gennym system o 22 o awdurdodau lleol o hyd, y dangoswyd bod llawer ohonynt, yn y gorffennol, heb adrannau a swyddogaethau gwella addysg effeithiol o’u mewn. Yr hyn y mae’r Aelod yn hollol iawn yn ei ddweud yw bod adroddiad Estyn ar GwE, consortiwm gogledd Cymru, yn siomedig. Cyfarfûm â phrif arolygydd Estyn i drafod yr adroddiad hwnnw yr wythnos diwethaf. Cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr GwE ddoe. Nid yw’n ddigon da a bydd angen iddynt wella. Mae adroddiad Estyn ar y consortiwm yng nghanol de Cymru yn gwbl wahanol fodd bynnag. Cyhoeddir y pedwar adroddiad yn ystod yr haf, a byddaf yn cyfarfod â’r holl gonsortia ym mis Medi. Rwy’n disgwyl darpariaeth dda gan bob un ohonynt. Os nad yw hynny’n bosibl, bydd yn rhaid i ni ystyried rôl y consortia eto. Os na allant ychwanegu gwerth i gyrhaeddiad addysgol eu plant, bydd yn rhaid i ni ystyried eto.
Diolch. Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3, Suzy Davies.
Mynediad i Addysg
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i addysg? OAQ(5)0004(EDU)
Yn sicr. Yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i addysg gynhwysfawr ar gyfer pawb.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwybod bod mater llwybrau diogel i’r ysgol o ddiddordeb arbennig i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan eich bod wedi gofyn cwestiynau ar ran eich etholwyr cyn hyn. Mae’n broblem i fy etholwyr i, hefyd. Hyd yn oed yn awr, mae’r llwybr cerdded i ysgol newydd Bae Baglan yn enghraifft o hyn i ddisgyblion blaenorol ysgol Cwrt Sart, sy’n cau cyn bo hir. Er nad yw’r ysgol newydd ar agor eto, aseswyd y llwybr cerdded i’r ysgol cyn cyflwyno canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ychydig dros ddwy flynedd yn ôl. Nid wyf yn credu y byddai’r llwybr newydd yn bodloni’r meini prawf newydd. A wnewch chi weithio gyda’ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i fynnu bod awdurdodau lleol yn ailasesu llwybrau i’r ysgol a gafodd eu cymeradwyo o dan yr hen feini prawf, ac i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau 2014?
Diolch i’r Aelod. Gwn ei bod wedi gweithio’n galed iawn dros nifer o flynyddoedd ar y mater hwn. Yn wir, adolygodd Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad diwethaf y canllawiau i raddau helaeth o ganlyniad i’r gwaith ymgyrchu a wnaeth hi yn y maes hwn. Rwy’n arddel y safbwynt synnwyr cyffredin nad yw trefniadau teithio yn addas os nad ydynt yn ddiogel. Fel y soniais yn gynharach mae’r ddeddfwriaeth sydd ar waith, Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn gosod y gofynion statudol ar gyfer cludo plant o’r cartref i’r ysgol. Os nad yw llwybr yn cael ei ystyried yn ddiogel, yna ni ellir disgwyl i blentyn gerdded i’r ysgol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’r pellter rhwng y cartref a’r ysgol yn llai na’r meini prawf milltiroedd statudol ar gyfer cludiant am ddim. Rwy’n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi tua £150,000 i gyngor sir Castell-nedd Port Talbot er mwyn datblygu llwybrau i’r ysgol newydd, felly mae’n siomedig iawn clywed, er y gwariant hwnnw, fod rhieni’n dal yn bryderus. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion, ar y cyd â rhai Ysgrifennydd y Cabinet dros ddatblygu economaidd sydd â chyfrifoldeb dros y Mesur teithio gan ddysgwyr, i ystyried hyn eto.
Wrth gwrs, pan fydd disgyblion yn cyrraedd yr ysgol, rhaid iddynt wneud eu ffordd o gwmpas yr ysgol. Mae nifer o blant yn cael anhawster symud, mae rhai mewn cadeiriau olwyn, ond mae rhai hefyd yn cael anhawster i wneud eu ffordd o amgylch yr ysgolion. Sawl un o’r ysgolion sy’n methu â chydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cydymffurfio?
Ar fy ngwir, Mike, rwyf wedi ymdrechu’n galed iawn i wneud yn siŵr fy mod wedi paratoi’n dda ar gyfer y cwestiynau hyn, ond nid oes gennyf y manylion hynny wrth law. Os yw’n dderbyniol i’r Aelod, byddaf yn ysgrifennu ato gydag union fanylion yr ysgolion sy’n cydymffurfio neu nad ydynt yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r cynlluniau sydd gennym. Rwy’n siŵr fod llawer o’r buddsoddiad yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cyd-fynd â sicrhau bod ein hysgolion yn hygyrch i’n plant i gyd.
Mae mynediad at addysg gynnar o safon uchel yn ffordd effeithiol o gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant difreintiedig a phlant eraill, a sicrhau datblygiad ieithyddol plant ifanc. Ar hyn o bryd, mae plant sy’n byw mewn tlodi parhaus yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio yn is na’r cyfartaledd ar gyfer eu datblygiad iaith pan yn bump oed o’u cymharu â’u cyfoedion mwy cefnog. Yn ystod yr etholiad, mi gynigiodd Plaid Cymru bolisïau radical a fyddai’n helpu cau’r bwlch cyrhaeddiad, gan gynnwys cynnig lle mewn ysgol i bob plentyn o dair oed ymlaen. Mae ymchwil yn dangos bod cychwyn ysgol yn gynt yn mynd i’r afael â’r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad gwael ac yn help i godi teuluoedd allan o dlodi. A ydych chi’n cytuno bod angen gweithio tuag at sicrhau mynediad cyfartal i addysg gynnar i bob plentyn tair oed? Os felly, er mwyn cyflawni hyn, a fyddech chi’n fodlon cychwyn ar gynllunio ar gyfer derbyn plant yn dair oed mewn ysgolion?
Diolch i’r Aelod am y pwynt, sy’n un arbennig o berthnasol. Rydym yn gwybod, hyd yn oed ar y cam cynharaf, pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol, fod ein plant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig eisoes ar ei hôl hi. Dyna pam, yr wythnos hon, fod Llywodraeth Cymru wedi lansio eu prosiect Parod i Ddysgu er mwyn ceisio rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am y pethau bach y gallant eu gwneud gartref i baratoi plant ar gyfer dechrau yn yr ysgol ac i wneud y cyfnod pontio hwnnw’n llwyddiant. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod hyn yn natblygiad y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer ein disgyblion cyfnod sylfaen, a byddaf yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud yn y meini prawf hynny. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dechrau cynllun i weithredu ymrwymiad maniffesto’r Blaid Lafur i ddarparu 30 awr o addysg a gofal plant. Mae’n bwysig iawn fod y ddarpariaeth honno o safon uchel ac y gall fod ar gael i’r plant tlotaf hynny fel eu bod hwy, hefyd, yn gallu manteisio ar hynny. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi i edrych ar sut y gallwn wneud yn siŵr fod y pecyn addysg a gofal hwnnw’n goresgyn rhai o’r heriau sy’n wynebu ein plant o’n cefndiroedd mwyaf difreintiedig cyn iddynt ddechrau eu taith drwy’r ysgol.
Addysg Bellach
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg bellach? OAQ(5)0002(EDU)[W]
Mae addysg bellach yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu sgiliau yng Nghymru, gan wella rhagolygon dysgwyr o ran cyflogaeth a gyrfaoedd a pherfformiad cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae colegau addysg bellach hefyd yn helpu i gynyddu ffyniant economaidd a gwella lles unigol a bywyd cymunedol.
Rwy’n diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Fel mae’n ymwybodol, mae lot o drafodaethau wedi bod ynglŷn â sut gall colegau addysg bellach fod yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A ydy’r Gweinidog yn cytuno y dylai’r rhaglen honno gynnwys colegau addysg bellach? Yn wir, ym maniffesto’r Blaid Lafur roedd addewid y byddai’r £2 biliwn o fuddsoddiad yn cynnwys colegau addysg bellach. Wrth gwrs, mae buddsoddi yn meddwl lot mwy nac adeiladau. A fydd y Gweinidog yn fodlon rhannu â ni yn y Cynulliad rhywbryd ei weledigaeth ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a hefyd, efallai, ran o’r strategaeth benodol ar gyfer addysg bellach yng Nghymru?
Rwy’n hapus iawn i wneud hynny. Yn amlwg, mae gennym ni strategaeth addysg bellach sy’n rhan o strategaeth hirdymor ar gyfer addysg ar ôl 16, ac mae hynny’n cynnwys sgiliau ac addysg bellach ei hun. Rydym ni’n mynd i barhau i fuddsoddi mewn cyfalaf, fel mae’r Aelod wedi awgrymu, ond hefyd rydym ni’n trio ac yn edrych ar sut rydym ni’n diogelu’r gyllideb ar gyfer addysg bellach yn y flwyddyn yma. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod y gyllideb addysg bellach wedi dioddef rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond bydd Aelodau hefyd yn ymwybodol bod y gyllideb bresennol yn dangos bod yna 2 y cant o gynyddiad mewn ariannu addysg bellach ar gyfer y flwyddyn ariannol yma.
A gaf fi dynnu sylw’r Gweinidog at Goleg Penybont, a osodwyd ar y brig y llynedd o blith ein sefydliadau addysg bellach yng Nghymru mewn perthynas ag iechyd a lles, cymorth a chefnogaeth, gwybodaeth a chyngor, ac ymatebolrwydd i fyfyrwyr? Ond yn ogystal â lefelau ardderchog o foddhad myfyrwyr a llwybrau academaidd rhagorol, mae hefyd yn helpu i ddarparu prentisiaethau o safon ar y cyd â chyflogwyr lleol a rhanbarthol. Felly, a all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sefyllfa bresennol gyda’r ardoll brentisiaethau mewn perthynas â Chymru? Mae’n ymddangos y gallem fod ar ein colled yn hynny o beth. Ond hefyd, ar ôl y bleidlais i adael yr UE, beth yw’r sefyllfa o ran yr arian o gronfa gymdeithasol Ewrop a oedd yn mynd tuag at brentisiaethau a chefnogi prentisiaethau? Sut y mae gwneud iawn am y diffyg a allai ddod yn amlwg bellach yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cadw’r buddsoddiad hwnnw mewn prentisiaethau o safon yn ein colegau addysg bellach ledled Cymru?
Mae’r cyfrifoldeb dros brentisiaethau a’r meysydd hynny ym mhortffolio’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ac mae hi yma yn y Siambr, a bydd wedi clywed y cwestiwn hwnnw ac yn ymateb maes o law rwy’n siŵr. Ond a gaf fi ddweud hyn: mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod safon yr addysg a ddarperir gan addysg bellach yn cael ei fonitro, ei ddeall a’i ddathlu yn y ffordd y mae’r Aelod wedi ei wneud? Byddwn yn cynnal adolygiad dros y tair blynedd nesaf i sicrhau bod gennym yr arweinyddiaeth a’r ymatebolrwydd i gyflogwyr, yn ogystal â’r cryfder cyllidol sy’n angenrheidiol o fewn sefydliadau unigol, a byddaf yn adrodd wrth y Siambr am y cynnydd ar hynny.
Ond yn gyffredinol, fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr ddoe, gwyddom fod £650 miliwn yn mynd i gael ei golli bob blwyddyn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl yn y Siambr hon sy’n credu am funud y bydd Prif Weinidog Prydain yn gwneud addewid i sicrhau y bydd pob ceiniog o hwnnw’n cael ei roi i Gymru. Gwyddom na allwn ymddiried yn y Torïaid gyda phethau o’r fath. Felly, gwyddom ein bod yn wynebu anawsterau sylweddol yn y blynyddoedd nesaf, a’r modd y gwneir y cytundebau cyffredinol o ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd wrth i ni wynebu’r blynyddoedd i ddod fydd yn effeithio ar ein gallu i ariannu’r prosiectau hyn yn y dyfodol.
Rwy’n sylweddoli, Weinidog, fod prentisiaethau yn rhan o gylch gwaith Gweinidog portffolio arall, ond rwy’n siwr eich bod yn gwybod am gynllun prentisiaeth Sir Benfro, sy’n anelu at gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cael hyfforddiant yn y sector ynni ar draws Sir Benfro, cynllun a gefnogir gan sefydliadau megis Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, sy’n noddi cyflogwyr. Nawr, mae hon, wrth gwrs, yn enghraifft wych o fusnesau lleol a darparwyr addysg yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu prentisiaethau sy’n bwysig i’r economi leol. Felly, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chynorthwyo mwy o fusnesau i ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach, fel Coleg Sir Benfro, fel bod colegau addysg bellach Cymru ar y blaen yn y gwaith o gyflwyno rhaglenni sy’n adlewyrchu marchnadoedd sgiliau lleol mewn gwirionedd?
Cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn. Rwy’n meddwl bod y berthynas rhwng cyflogwyr a cholegau a sefydliadau addysg bellach yn gwbl allweddol er mwyn cyflwyno rhaglen brentisiaeth sy’n ateb anghenion y boblogaeth leol a’r economi leol. Un o’r disgwyliadau sydd gennyf yw bod pob sefydliad addysg bellach yn ymatebol i gyflogwyr lleol. Gwyddom fod hynny’n wir am y rhan fwyaf, a gwyddom hefyd, lle mae gennym nifer o gyflogwyr mawr ac arwyddocaol—. Cyfeiriodd yr Aelod at awdurdod porthladd Aberdaugleddau; gallech gyfeirio yn yr un modd at y purfeydd yn yr un math o ardal. Lle y ceir cyflogwyr mawr iawn, gwyddom fod yr ymatebolrwydd yno eisoes. Weithiau os oes gennych economi sy’n cael ei dominyddu gan fentrau bach a chanolig eu maint, rwy’n pryderu nad yw pob un o’r anghenion hynny’n cael eu deall yn llawn ar draws y wlad i gyd, a dyna un maes y byddaf yn canolbwyntio arno yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) Arfaethedig
5. Sut y bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) arfaethedig yn cefnogi disgyblion sydd â’r anghenion dysgu a meddygol mwyaf cymhleth yn ein hysgolion addysg arbennig? OAQ(5)0016(EDU)[R]
Rydym yn awyddus i drawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr mewn ysgolion arbennig. Bydd cyflwyno’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) sydd ar y gorwel yn garreg filltir allweddol yn y daith tuag at newid sydd eisoes wedi cychwyn.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o’r gwaith ardderchog a wneir gan ysgol anghenion arbennig Trinity Fields yn etholaeth Caerffili dan arweiniad y pennaeth, Ian Elliott, a’i staff rhagorol. Rwy’n datgan buddiant yma fel un o lywodraethwyr y sefydliad hwnnw. Fel llawer ohonom yn y Siambr, ac arweinwyr yr ysgol, rydym yn cefnogi egwyddorion y Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni, ond ar hyn o bryd, nid yw’r ysgol ond yn gyfrifol am ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol hyd nes eu bod yn 19 oed. O ystyried hynny, a allwch roi gwybod i mi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r Bil hwn i sicrhau ymrwymiad llawn y gwasanaeth iechyd gwladol a’r byrddau iechyd i ddarparu’r adnoddau a’r gwasanaethau i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth hyd nes eu bod yn 25 oed?
Diolch. Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol iawn o’r gwaith a wnewch chi fel llywodraethwr ac eraill yn Trinity Fields. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr ysgol wedi cael ei chydnabod gan Estyn yn yr adroddiad blynyddol fel un y mae ei gwaith yn arwain y sector, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth i’w ddathlu eto. Mae’n wych gweld y gwaith sy’n cael ei wneud gan ysgolion ar hyd a lled Cymru.
Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet gwestiwn cynharach yn dweud y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi maes o law ac y bydd yn rhoi cyfle bryd hynny i ni ddadlau a thrafod sut rydym yn cyflawni a sut y byddwn yn sicrhau bod gennym y fframwaith statudol cywir yn sail i’r broses o gyflawni’r gwaith hwn. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod dros Gaerffili y byddwn yn sicrhau bod y broses o bontio o addysg i fod yn oedolyn yn cael ei chynllunio a’i chefnogi’n well, a byddwn yn fwy na hapus i barhau i gael y drafodaeth honno, o ran y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei drafftio ac yn ei chyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ond hefyd o ran sut y darperir y gefnogaeth honno y tu allan i’r fframwaith statudol.
Angela Burns.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd dros dro. Weinidog, yn y—[Torri ar draws.]
Mae’n ddrwg gennyf. [Chwerthin.]
Popeth yn iawn.
Derbyniwch fy ymddiheuriadau.
Na, popeth yn iawn. Gallaf actio os ydych am i mi wneud, ond ni fyddech yn hoffi fy ngweld yn actio. Ewch ymlaen.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fy ymddiheuriadau.
Weinidog, a allech chi gadarnhau i ni, o ran yr ymgynghori a wnaed gan Lywodraeth flaenorol Cymru ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol—? Rwy’n gwybod bod y Gweinidog addysg blaenorol wedi dweud y byddai’n ymgynghori eto. Nid oedd unrhyw un o’r elfennau yn gofyn i rieni a gofalwyr am eu barn ynglŷn â throsglwyddo’r rhai yn eu gofal, eu plant, i ysgolion dysgu ychwanegol neu ysgolion arbennig, oherwydd, fel y gwyddoch, ychydig ohonynt sydd yna yng Nghymru ac mae’n rhaid i bobl ifanc deithio pellteroedd enfawr. I blentyn sydd eisoes dan anfantais ddifrifol, naill ai’n feddyliol neu’n gorfforol neu’r ddau, gall y daith honno ynddi ei hun beri straen a phwysau enfawr ac ychwanegu oriau at eu diwrnod. Tybed a fyddwch yn derbyn adborth pellach ar hynny er mwyn i chi allu cynnwys darpariaeth neu ddatganiad neu ganllawiau ar yr union fater hwnnw yn y Bil anghenion dysgu ychwanegol arfaethedig.
Rwy’n sicr yn hapus i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf cyhoeddais ymateb y Llywodraeth i ymgynghoriad ar y Bil drafft. Nawr, os nad yw’r Aelod yn credu ein bod wedi ymdrin yn llawn â’r meysydd hynny, yna byddwn yn ddiolchgar pe gallai ysgrifennu ataf a byddaf yn sicr o wneud hynny. Ond o ran y pwynt cyffredinol a wnaed yn y cwestiwn, wrth gwrs, rwy’n cytuno’n llwyr fod angen i ni fabwysiadu ymagwedd gyfannol at bolisi yn hytrach nag ymagwedd sydd ond yn penderfynu ac yn pennu beth sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth heb gydnabod y cymorth ehangach sydd ei angen i ddarparu profiad addysgol llawn i’r plant hynny. Felly, os nad yw’r Aelod neu unrhyw Aelod arall yn credu ein bod wedi cynnwys y pwyntiau hynny’n llawn yn yr ymateb, yna byddwn yn hapus i wneud hynny.
Fe ddywedaf fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd y Bil hwn yn rhan o flwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar amserlen ar gyfer hynny, a byddaf yn gwneud datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo modd, pan fyddwn yn gallu deall beth fydd yr amserlen a phryd y byddwn yn gallu cyhoeddi’r ddeddfwriaeth. Felly, bydd yr Aelodau’n cael cyfle wedyn i edrych eto ar y mater hwn.
Gwleidyddiaeth a Materion Cyfoes mewn Ysgolion
6. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella dealltwriaeth disgyblion o wleidyddiaeth a materion cyfoes mewn ysgolion? OAQ(5)0015(EDU)
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn amserol? Mae dysgwyr ar hyn o bryd yn astudio gwleidyddiaeth a materion cyfoes drwy’r fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol a bagloriaeth Cymru sydd newydd ei ailwampio. Mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio gyda phedwar diben yn ganolog iddo a bydd yn helpu pob unigolyn ifanc i ddatblygu’n ddinasyddion moesol a gwybodus yng Nghymru ac yn wir, yn y byd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Yn refferendwm diweddar yr UE, pleidleisiodd 73 y cant o bobl 18 i 24 oed dros aros yn yr UE. Fodd bynnag, dim ond 43 y cant o’r rhai a oedd yn gymwys i bleidleisio a wnaeth hynny mewn gwirionedd, o gymharu â chyfanswm y nifer a bleidleisiodd, sef 72 y cant. Mewn gwirionedd, yn ystod etholiadau’r Cynulliad, cyfarfûm â’r unig bleidleisiwr yng Nghaerdydd a oedd yn cael ei phen-blwydd yn 18 oed ar ddiwrnod yr etholiad, ac fe aeth i bleidleisio. Ond dywedodd wrthyf ei bod hi a’i ffrindiau’n teimlo nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am wleidyddiaeth a dewisiadau, a beth y gallech ei wneud drwy ddemocratiaeth mewn ysgolion. Felly, a oes unrhyw beth pellach y mae’n meddwl y gellid ei wneud i annog pobl ifanc i gydnabod pa mor bwysig yw’r broses bleidleisio, a pha fath o benderfyniadau y gellir eu gwneud?
Diolch i’r Aelod am y sylwadau hynny. Fel y dywedais, mae hyn eisoes wedi’i gynnwys yn y cwricwlwm presennol, ac mae gan Estyn rôl yn sicrhau bod y cwricwlwm hwnnw, fel y mae ar hyn o bryd, yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen i blant a myfyrwyr allu cymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd Cymru.
Gyda golwg ar y cwricwlwm newydd, sy’n cynnwys datblygu dinasyddion moesol a gwybodus yn un o’i bedwar amcan allweddol fel y dywedais, drwy rwydwaith o ysgolion arloesol mae addysgwyr yn ganolog i’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, a’r trefniadau asesu o’i gwmpas, a fydd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i ysgolion ac addysgwyr dros benderfynu sut y dysgir y pynciau hyn. Ond maent yn agwedd sylfaenol ar y math o addysg rydym yn disgwyl i’n pobl ifanc ei chael, yn awr ac yn y dyfodol.
Rwy’n cael fy nhemtio, yn sgil digwyddiadau’r wythnosau diwethaf, i ddweud nad pobl ifanc sydd eisiau gwella eu dealltwriaeth o wleidyddiaeth, ond y bobl hŷn, o bosib. Ond, yn sicr, mae yna ddyletswydd arnom ni fel pleidiau i ledaenu gwybodaeth ac annog pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth.
Ond, yn benodol ar y pwynt yma, rydych chi eisoes wedi sôn am bwrpas y cwricwlwm newydd, a’r ffordd y bydd hwn yn darparu yn wahanol i’r ffordd rydym ni wedi ei wneud yn y gorffennol. A ydych chi’n dal, felly, yn glir mai dyma yw’r ffordd orau i fwrw ymlaen? Hynny yw, fel yr Ysgrifennydd newydd, a ydych chi am weithredu y pedwar pwrpas yna yng nghwricwlwm arfaethedig Donaldson? A lle bellach ydych chi gyda rhan arbennig o’r cwricwlwm y penderfynodd Huw Lewis yn ei chylch, sef i ddisodli addysg grefyddol gyda set newydd o egwyddorion yn troi o gwmpas moeseg ac athroniaeth?
A gaf fi gytuno’n llwyr gyda’r Aelod efallai nad pobl ifanc oedd angen i ni fod wedi rhoi gwybodaeth well iddynt yn y cyfnod yn arwain at ganlyniad y refferendwm? Ac wrth fynegi fy nhristwch a fy siom ynghylch y canlyniad, y bobl ifanc hynny yr effeithir arnynt mewn gwirionedd gan y penderfyniad hwn yn fwy nag unrhyw un arall yn ein natur. Ac mae wedi bod yn ffynhonnell siom fawr i mi, ar y cam cynnar hwn, i barhau i weld myfyrwyr MA yn dod ataf fel Gweinidog, yn ddibynnol ar y cyllid a gawn gan yr Undeb Ewropeaidd—popeth o brosiectau i gefnogi datblygiad o sgiliau codio yn ein hysgolion, i laeth ysgol am ddim. Ac rwy’n gobeithio y bydd y rhai a oedd o blaid pleidlais i adael yn sicrhau na fydd rhaid colli yr un o’r cynlluniau hynny sy’n cael eu hariannu gan arian Ewropeaidd yn fy adran oherwydd na allant gadw at eu gair. Ac rwy’n disgwyl na fydd ceiniog yn llai ar gyfer addysg plant Cymru yn deillio o gronfeydd yr UE gan y bobl a wnaeth yr addewidion hynny.
Rwy’n gwbl ymrwymedig i ddilyn argymhellion adolygiad Donaldson. Mae’r cwricwlwm presennol wedi ei wreiddio yng nghwricwlwm cenedlaethol 1988 a gadewch i ni ei wynebu, fe’i hysgrifennwyd cyn cwymp Wal Berlin, cyn ffonau symudol a chyn y we fyd-eang, ac mae’n sôn am ddisgiau hyblyg, o ran yr hyn y mae’n disgwyl i athrawon ei ddysgu i’n plant. Mae’n rhaid i ni symud ymlaen, ac rwy’n gwbl ymrwymedig i ddilyn argymhellion Donaldson. Mae ein hysgolion arloesol yn gweithio’n galed iawn arno; rydym yn gwneud cynnydd da, er enghraifft ar y fframweithiau cymhwysedd digidol, a fydd ar gael o fis Medi ymlaen. Gwn fod y mater ynglŷn ag addysg grefyddol wedi achosi rhai pryderon, ac ar y pwynt hwn, nid oes gennyf gynlluniau i newid y penderfyniad a wnaed gan y Gweinidog blaenorol yn hynny o beth—dim cynlluniau.
A yw disgiau hyblyg wedi dyddio mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae’n rhaid i mi gadw i fyny gyda’r oes, onid oes? Byddwch yn dweud wrthyf nesaf nad oes gwifrau ar ffonau, ond dyna ni. [Chwerthin.]
Rydym wedi cael nifer o ddadleuon yn y Siambr hon dros y blynyddoedd, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio, ac mae rhan o’r ddadl honno yn aml wedi cynnwys yr angen i geisio gwella dealltwriaeth pobl iau o wleidyddiaeth. Ac rwy’n cytuno â’r amcan hwnnw. Nid bod yn nawddoglyd yw hynny: pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion yn fy etholaeth, mae pobl ifanc yn dweud wrthyf, ‘Byddem yn hoffi cael mwy o wybodaeth am wleidyddiaeth ac am y systemau gwleidyddol, a hyd yn oed am bethau mor syml â sut rydych yn pleidleisio, lle mae’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif, a sut y rhoddir ystyriaeth i hynny.’ Gwrandewais gyda diddordeb arnoch, ac rwy’n cytuno gyda’ch atebion i Simon Thomas a Julie Morgan. A wnewch chi weithio i gael addysg wleidyddiaeth well yn yr ysgolion, fel bod pobl ifanc yn teimlo eu bod wedi’u paratoi ar gyfer mynd allan i bleidleisio, ar ba oedran bynnag y gallai hynny fod yn y dyfodol?
Gwnaf yn wir, ac fel y dywedais, mae’r fagloriaeth Gymreig newydd, a gyflwynwyd gyntaf i’w dysgu ym mis Medi y llynedd, yn cynnwys dinasyddiaeth fyd-eang fel un o’i phedair her graidd. Ceir darpariaeth ar hyn o bryd yn y cwricwlwm cyfredol, ond wrth i ni ddatblygu ein cwricwlwm newydd, drwy ein hysgolion arloesol, bydd yna ffocws cryf, fel y dywedais, ar sicrhau bod ein plant, pan fyddant yn gadael addysg, yn ddinasyddion moesol a gwybodus, ac yn gallu chwarae rhan lawn ym mhob agwedd ar ein cymuned a’n cymdeithas.
Addysg ar gyfer Disgyblion ag Awtistiaeth
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth addysg ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth? OAQ(5)0006(EDU)
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein holl ddysgwyr gan gynnwys y rhai sydd ag awtistiaeth. Drwy ganolbwyntio ar ddatblygu ein gweithlu, drwy ein cynllun gweithredu strategol a thrwy rhaglen i drawsnewid y cymorth a roddir tuag at anghenion dysgu ychwanegol, byddwn yn sicrhau bod dysgwyr awtistig yn derbyn y ddarpariaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Diolch. Yn ddiweddar, fe wnes i godi mater gydag arweinydd y tŷ ynghylch mater lleol gan etholwr i mi sydd yn ceisio cadw ei wŷr awtistig mewn ysgol arbennig, Maes y Coed, yn ardal Castell-nedd am flwyddyn arall, yn ychwanegol i’r flwyddyn ysgol, hyd nes y ceir cytundeb gyda bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg a’r adran addysg dros ei ddyfodol hirdymor. Mae yna ddarpariaeth i ganiatáu i hyn ddigwydd mewn amgylchiadau eithriadol. Fodd bynnag, mae’r cyfarwyddwr addysg yng nghyngor Castell-nedd Port Talbot hyd yn hyn wedi gwrthod. A allwch chi ddweud pa gyngor rydych chi’n ei roi fel Gweinidog, neu fel Llywodraeth, ar yr apwyntiadau eithriadol hyn, fel bod modd i bobl ifanc nad ydynt yn cael gwasanaeth ar ôl iddyn nhw adael ysgol i fynd ato, fel eu bod nhw’n gallu aros yn y sector yma i gael y gefnogaeth sydd yn angenrheidiol iddyn nhw?
Os yw’r Aelod yn fodlon ysgrifennu ataf gyda’r enghraifft y mae hi wedi’i thrafod yn y Siambr yma, byddaf yn hapus iawn i ymateb i’r pwyntiau penodol rydych chi wedi’u codi gyda ni. Ond, a gaf ddweud yn gyffredinol, rydym ni, fel Llywodraeth—? Mae’r Aelod wedi cael cyfle i ddarllen y cynllun presennol, y cynllun sydd wedi cael ei newid yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r cynllun roedd Mark Drakeford wedi’i lansio cyn yr etholiad fel y Gweinidog iechyd. Mae angen i ni sicrhau bod pob un person sydd angen cefnogaeth ac angen cwricwlwm ‘differential’, beth bynnag yw e, yn cael hynny, ym mha bynnag ysgol neu ‘setting’ maen nhw’n derbyn eu haddysg. Mi fyddwn yn sicrhau bod hynny yn digwydd, naill ai drwy’r Mesur rydym wedi’i drafod yn barod yn y sesiwn yma, neu drwy sicrhau bod y gefnogaeth ar gael y tu fas i hynny. Ond rwy’n hapus iawn i ymateb yn uniongyrchol i’r Aelod ar yr enghraifft y mae hi wedi’i chodi gyda ni.
Weinidog, rwy’n falch iawn o glywed yr ateb rydych newydd ei roi i Bethan Jenkins mewn perthynas â’r strategaeth sydd wedi bod ar y gweill. Fodd bynnag, strategaeth yw strategaeth ac nid oes unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau a chyrff cyhoeddus a dyna un o ganlyniadau’r Ddeddf awtistiaeth. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o rieni sydd wedi cael trafferth cael gwasanaethau ar gyfer eu plant mewn gwirionedd, weithiau oherwydd nad yw awdurdodau lleol yn gwrando ar arbenigwyr megis therapyddion a chlinigwyr, ac maent yn gweld ymddygiad mewn ysgol lle nad yw plentyn gyda lefel uchel o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig mewn gwirionedd yn arddangos ymddygiad o’r fath mewn amgylchedd ysgol arferol. A wnewch chi edrych ar y canllawiau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwrando ar glinigwyr a therapyddion, ac yn cymryd cyngor ganddynt, fel y gellir rhoi cymorth y mae cymaint o’i angen arnynt i rieni?
Gwnaf, yn sicr; byddwn yn sicr o wrando ar hynny, ond hoffwn fynd ymhellach na hynny hefyd, oherwydd os oes anawsterau, fel rydych chi a’r Aelod dros Orllewin De Cymru wedi disgrifio, a bod hynny’n arwain at y farn fod yna yn broblem fwy systemig nag anawsterau unigol, yna, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni weithredu’n llawer mwy helaeth ar hynny. Mae’r Aelodau’n ymwybodol o’r cytundeb rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, yn yr ystyr y byddwn yn edrych ar y strategaeth awtistiaeth dros y misoedd nesaf ac yn edrych i weld a oes gofyniad i ddeddfu ar y mater hwn neu a oes angen i ni wneud darpariaethau deddfwriaethol ar gyfer y cynllun gweithredu strategol. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelodau fod hynny’n rhywbeth rwy’n ei ystyried yn ddifrifol iawn ac os oes angen cymryd camau deddfwriaethol yn sail i ddarparu’r gwasanaethau hyn, yna ni fyddwn yn oedi rhag gwneud hynny.
Mae ymchwil yn awgrymu’n gryf y gall gweithgarwch corfforol fel chwaraeon effeithio’n gadarnhaol ar allu plentyn awtistig i gyfathrebu ac ymwneud ag eraill a gall leihau’r straen y mae eu problemau’n eu hachosi iddynt. Mae pob person ag anabledd yn unigryw ac mae ganddynt eu hanghenion addysgol penodol eu hunain. Lle mae gweithwyr proffesiynol o’r farn y byddai plentyn penodol yn elwa o weithgarwch corfforol penodol neu chwaraeon sydd ond ar gael yn ystod oriau ysgol, a wnaiff y Gweinidog gefnogi rhyddhau plentyn o’r fath o ysgol, fel y gall fanteisio ar therapïau amgen fel chwaraeon?
Yn amlwg, mae’r math o raglen ddysgu sy’n cael ei darparu ar gyfer pob disgybl unigol yn fater iddynt hwy a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin â hwy. Nid wyf yn siŵr y byddai’n briodol i mi, fel Gweinidog, farnu ar y mathau hynny o benderfyniadau neu i wneud sylwadau ar hynny heb ddeall anghenion unigol y disgybl. Ond a gaf fi ddweud hyn wrthych? Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gydnabod bod pobl yn gallu manteisio ar y cwricwlwm gwahaniaethol sydd ei angen arnynt, eu bod yn cael cymorth i sicrhau eu bod yn cael y gorau o addysg o’r fath, y dysgu hwnnw a’r cwricwlwm hwnnw a’n bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol, yn rhoi’r strwythurau a’r fframweithiau cenedlaethol ar waith fel na fyddwn yn gweld y methiannau y mae Aelodau unigol yn eu disgrifio yma o bryd i’w gilydd.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Symudwn at eitem 3 ar yr agenda, sef cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol. Cwestiwn 1, Simon Thomas.
Blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad
1. Beth yw blaenoriaethau’r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0001(CG)[W]
A gaf fi ddiolch i chi yn gyntaf am y cwestiwn—y ddau gwestiwn a gyflwynwyd gennych mewn gwirionedd? Rwyf am ddweud fy mod wedi sylwi, ers i mi gael fy mhenodi, fod nifer y cwestiynau wedi haneru mewn gwirionedd. Rwy’n credu ein bod wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn meddwl am ffyrdd creadigol o ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ennyn ateb a gwnaf fy ngorau i dreulio’r pum mlynedd nesaf yn meddwl am ffyrdd creadigol o ateb y cwestiynau hynny.
Ond mewn ymateb uniongyrchol i’r cwestiwn, fel swyddog y gyfraith, fy mlaenoriaethau yw cynorthwyo’r Llywodraeth i gyflawni ei rhaglen lywodraethu, cynnal rheolaeth y gyfraith, gwella mynediad at gyfreithiau Cymru, a sicrhau ein bod yn gallu sicrhau’r fargen orau i bobl Cymru.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb ac fe’i croesawaf ef i’w swydd newydd, wrth gwrs, gan ddweud fy mod yn edrych ymlaen at bum mlynedd o ofyn cwestiynau iddo fe fel yr oeddwn yn eu gofyn i’w rhagflaenydd.
Ymysg y blaenoriaethau yna, pa mor bwysig y mae’r Llywodraeth a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y ffaith bod y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn rhan o gyfraith Cymru drwy Ddeddfau Cymru? Wrth gwrs, mae yna fwriad, neu sôn am fwriad, gan Lywodraeth San Steffan i ddisodli hwnnw drwy ryw fath o fil hawliau mwy annelwig o lawer. A ydy’n fwriad gan y Llywodraeth i amddiffyn y ffaith bod y confensiwn yn rhan o gyfraith sydd yn sail i’r ffordd yr ydym yn gweithio yma yn y Cynulliad?
Wrth gwrs, mae’r confensiwn a Deddf Hawliau Dynol 1998 yn hawliau sy’n rhaid i ni eu hymgorffori yn ein deddfwriaeth Gymreig ein hunain. Mewn gwirionedd, rhaid i Lywodraeth y DU wneud yr un peth gyda’i deddfwriaeth ei hun. Wrth gwrs, cawsom y sylwadau heddiw gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod deddf hawliau dynol yn mynd i gael ei chyflwyno. Tybiaf eich bod chi hefyd, ynghyd â llawer o rai eraill, wedi cyfarfod â’r pwyllgor gwreiddiol a sefydlwyd i edrych ar ddeddf hawliau dynol. Daeth i’r casgliad mewn gwirionedd na allent gyflawni eu swyddogaeth heb danseilio rhai o’r hawliau sylfaenol a oedd eisoes yn eu lle.
Credaf fod y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn un o’r trysorau mawr a roddodd y Deyrnas Unedig i Ewrop. Cafodd ei ddrafftio gan gyfreithwyr Ewropeaidd; cafodd ei ddrafftio a bu rhai cyfreithwyr gwych a sefydledig o Gymru ynghlwm wrth y gwaith—yn aml, pobl a oedd wedi dysgu eu crefft a meithrin eu dealltwriaeth o bwysigrwydd yr egwyddorion hyn yn ystod treialon Nuremberg. Wrth gwrs, yn eu plith roedd yr Arglwydd Elwyn-Jones, a llawer o bobl eraill o Gymru a luniodd hwnnw. Felly, rwy’n meddwl bod y cyfraniad a wnaed gennym iddo—. Rydym wedi gosod y safonau mewn gwirionedd. Rydym wedi sefydlu’r fframwaith deddfwriaethol arno. Cafodd ei hyrwyddo gan Winston Churchill, a chaiff ei gydnabod yn rhyngwladol fel un o’r cyfraniadau mawr i sefydlu safonau, hawliau, ar draws y byd. Yn fy marn i, byddai’n gam difrifol iawn yn wir i wneud unrhyw beth sy’n tanseilio neu’n tynnu’n ôl o’r safonau hynny mewn gwirionedd.
Goblygiadau Cyfreithiol y DU o ran Tynnu Allan o’r UE
2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynglŷn â goblygiadau cyfreithiol y DU o ran tynnu allan o’r UE? OAQ(5)0002(CG)[W]
Rwy’n credu y bydd yr Aelod yn sylweddoli mai saith diwrnod yn unig sydd yna ers i mi ddechrau yn y swydd, felly ni fydd yn syndod nad wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith eraill ar y mater hwn, ond mae’n amlwg bod gadael yr UE yn newid cyfansoddiadol enfawr i’r DU. Bydd iddo oblygiadau pellgyrhaeddol hefyd o ran y setliad datganoli.
Diolch i’r Cwnsler am ei ateb, ac a gaf i ddweud wrtho ar y cychwyn fod ei atebion eisoes wedi bod llawer yn fwy cynhwysfawr nag a gefais i yn ystod y pum mlynedd diwethaf—nag a gafodd ef, o bryd i’w gilydd, yn ystod y pum mlynedd diwethaf hefyd?
Rwy’n parchu’r ffaith nad oes llawer o amser wedi pasio ers iddo gael ei benodi, a’r refferendwm, wrth gwrs. Ond, o safbwynt y drafodaeth yr ydym newydd ei chael yn y Siambr hon, mae’n amlwg bod y ffordd y mae’r gyfraith Ewropeaidd wedi’i phlethu i mewn i gyfraith Cymru a chyfraith y Deyrnas Gyfunol yn mynd i fod yn gwestiwn dyrys yn ystod y blynyddoedd nesaf. A gaf i gyfeirio at erthygl sydd yn y ‘Western Mail’ heddiw gan y bargyfreithiwr Emyr Lewis, sydd yn edrych ar sut y bydd cyfraith Cymru yn rhan o’r cwestiynau dyrys iawn i’r proffesiwn cyfreithiol yn ystod y blynyddoedd nesaf?
Felly, beth fydd y camau? Er enghraifft, a ydy’r Cwnsler Cyffredinol â golwg ar gyhoeddi, o leiaf, ryw fath o ‘scoping exercise’ sydd yn sôn am y gwahanol ‘directives’ a phethau sy’n effeithio ar gyfraith fan hyn, fel ein bod ni o leiaf yn gallu deall swmp y gwaith cyn mynd ati i ddeall sut i dynnu allan?
Rydych yn gofyn cwestiwn atodol pwysig iawn. Gwn fod adrannau Llywodraeth Cymru eisoes yn dechrau ar y broses benodol hon, ac rwyf innau hefyd, oherwydd mae yna lawer o agweddau a chymhlethdodau ynghlwm wrth yr holl broses hon. Er enghraifft, ni wyddom pa agwedd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i’w mabwysiadu tuag at adael yr UE—er enghraifft, beth fyddai’r drefn ar gyfer galw erthygl 50 i rym. Gwelais adroddiadau—rwy’n siŵr fod yr Aelod wedi eu gweld hefyd—y gallai fod cais cyfreithiol am ddatganiad gan y llys ynglŷn ag a yw’n uchelfraint frenhinol neu a oes rhaid gosod deddfwriaeth. Gallai hynny fod yn arwyddocaol, pe bwrid ymlaen â hynny a’i fod yn llwyddiannus, gan y byddai’n golygu y byddai’n rhaid i rywbeth ddod gerbron y Senedd a fyddai’n gosod paramedrau ar gyfer y trafodaethau eu hunain.
Rwy’n credu hefyd mai’r cwestiwn arall, wrth gwrs, yw bod llawer o’r darnau o ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar bobl, boed yn y DU, neu drwy ein deddfwriaeth ein hunain—pa un a fyddem am gadw’r rheini, pa un a allwn gadw’r rheini—yn effeithio’n fawr o ran agweddau ar bolisi Llywodraeth, er enghraifft. Rydym wedi cael nifer o drafodaethau ar gaffael ac rydym wedi cael Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n rhoi safonau arwyddocaol iawn hefyd, safonau y byddem am eu gweld yn cael eu cymhwyso mewn perthynas â’r rhai sy’n gweithio yn y wlad hon mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, gall fod effeithiau, gan fod llawer o’r hyn sydd wedi’i ddweud yn ymwneud â diddymu biwrocratiaeth, ond wrth gwrs, nid oes unrhyw un wedi llwyddo i gael unrhyw eglurhad clir ynglŷn â pha ddeddfau—beth yw’r fiwrocratiaeth—y byddai’r rhai a gefnogodd y cynnig i adael yr UE eisiau cyfyngu ar eu nifer.
Ni allaf ond mynd yn ôl at y dadleuon a gawsom pan lofnododd Llywodraeth y DU y bennod gymdeithasol, mai’r hyn oedd hi mewn gwirionedd oedd llawer o’r hawliau cymdeithasol a’r hawliau cyflogaeth. Os ydym ni, fel Llywodraeth, yn cefnogi cynnal safonau cyflogaeth uchel, mae’n amlwg y bydd y camau y gellid eu cymryd i leihau nifer y darnau hynny o ddeddfwriaeth o bwys mawr. Er enghraifft, rwy’n sylwi bod gwerthusiad wedi’i wneud o tua 2,500 o ddarnau o ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd, ac mewn gwirionedd, o bob un o’r rheini, dim ond yn achos 48 ohonynt yn unig y methodd y Deyrnas Unedig â chael ei ffordd ei hun mewn gwirionedd.
Felly, yr hyn rydym yn sôn amdano yw nifer o agweddau ar ddeddfwriaeth y mae cynrychiolwyr Cymru, cynrychiolwyr y DU, Llywodraeth y DU ac yn y blaen, wedi eu hyrwyddo a’u heisiau mewn gwirionedd. Felly, os yw’r rhain yn ddarnau o ddeddfwriaeth rydym wedi ymwneud â’u cefnogi ac yn awyddus i’w gweld mewn gwirionedd, pam y byddem am eu gweld yn cael eu diddymu? Pam y byddem am eu gweld yn cael eu dirymu? Pam na fyddem, er enghraifft, am eu gweld yn cael eu cadw? Felly, rwy’n meddwl bod llawer o gwestiynau ond byddaf yn sicr yn adolygu hyn yn ofalus tu hwnt. Mae yna lawer o gymhlethdodau, nid yn lleiaf oherwydd nad ydym yn gwybod yn iawn i ba gyfeiriad rydym yn mynd. Mae’n amlwg nad oedd yna gynllun A neu gynllun B neu gynllun C o ran canlyniadau hyn, ond mae’n amlwg yn ddifrifol ac mae’n rhaid i ni ymdrin ag ef.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 4, 5, 6 a 7 yn enw Simon Thomas, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 3 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn methu. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn methu.
Symudwn ymlaen at eitem 4 ar y rhaglen, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar effaith refferendwm UE ar Tata Steel, a galwaf ar Caroline Jones i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6058 Neil Hamilton, Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod gan gwmni dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit.
Cynigiwyd y cynnig.
Iawn. Diolch i chi—diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig yn ffurfiol y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Neil Hamilton a minnau.
Mae’r cynnig UKIP ger eich bron heddiw yn adlewyrchu ein cred fod yr Undeb Ewropeaidd wedi llyffetheirio busnes Prydain â phentwr o fiwrocratiaeth a pholisi diwydiannol nad yw wedi ei gynllunio ar gyfer ein diwydianwyr yn sector gweithgynhyrchu Prydain. Mae’r problemau sy’n wynebu cwmnïau fel Tata Steel yn fy rhanbarth wedi cael eu trafod yma lawer gwaith, ond nes i’r cyhoedd ym Mhrydain bleidleisio i adael yr UE, roedd yn ymddangos nad oedd llawer y gallem ei wneud i achub y diwydiant dur, ac mae pob plaid a gynrychiolir yn y Siambr hon heddiw yn cytuno bod yn rhaid i’r DU gynnal capasiti cynhyrchu annibynnol.
Pan ymunasom â rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd yn 1973, roedd y DU yn cynhyrchu bron i 26 miliwn o dunelli o ddur bob blwyddyn. Dros y pedwar degawd y buom yn aelod o’r UE a’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, mae hwn wedi gostwng yn ddramatig. Dros y pedwar degawd y buom yn aelod o’r UE, tyfodd ein cynnyrch domestig gros y pen 71 y cant, a’r UE yn ei chyfanrwydd 62 y cant yn unig, tra tyfodd cynnyrch domestig gros y pen yn Tsieina dros 1,000 y cant a Singapore dros 500 y cant—gwahaniaeth amlwg yn y perfformiad economaidd rhwng y dwyrain a’r gorllewin.
Mae yna rai sy’n dymuno parhau i glymu economi’r UE wrth economi ddi-fflach Ewrop, gan rybuddio am ganlyniadau difrifol os methwn ag aros yn rhan o’r farchnad sengl. Nid oes angen i ni fod yn aelodau o’r farchnad sengl er mwyn masnachu â’r UE 27. Gallwn barhau i brynu cig oen Seland Newydd, gwin Awstralia, cig eidion o Frasil, ceir Americanaidd ac electroneg Tsieineaidd, er nad oes yr un o’r gwledydd hynny’n aelodau o’r farchnad sengl. Yn wir, mae’r UE wedi methu’n llwyr â sicrhau cytundebau masnach gydag unrhyw un o’r gwledydd hyn.
Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r UE wedi ceisio cwblhau pum cytundeb masnach allweddol gyda’r UDA, Japan ac India, yn ogystal â Chymdeithas Cenhedloedd De-ddwyrain Asia a blociau masnachu Mercosur. Oherwydd diffyndollaeth mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, mae’r UE wedi methu â chael bargen fasnach gydag unrhyw un o’r gwledydd neu’r blociau hynny. Mae ffigurau’r UE ei hun yn dangos bod hyn wedi costio bron 300,000 o swyddi i’r DU. Aelodau, ymhell o fod yn achubydd swyddi Prydeinig, mae’r UE wedi bod yn rhwystr i greu swyddi, economi ddisymud sy’n llusgo’r DU i lawr gyda hi. Diolch i’r drefn, pleidleisiodd pobl y DU dros wrthod parhau ein haelodaeth o’r UE, dros wrthod cynyddu biwrocratiaeth, dros wrthod sefydliad na all ddelio â gweddill y byd. Ond yn anad dim, pleidleisiodd y bobl dros wrthod sefydliad sy’n tynnu’n groes i’n lles cenedlaethol.
Ar adeg pan fo’n hallforion i weddill y byd yn tyfu, dylem fod yn mynd ar drywydd cytundebau masnach, yn hytrach na’i adael i’r Undeb Ewropeaidd. Mae dyfodol ein sector gweithgynhyrchu yn dibynnu ar ein gallu i fasnachu â gweddill y byd, ond yn bwysicach, mae dyfodol ein diwydiant dur yn dibynnu ar adael yr UE. Yn sgil y dirwasgiad byd-eang, gadawyd Tsieina gyda 200 miliwn tunnell amcangyfrifedig o ddur dros ben, dur yr aethant ati i’w ddympio ar farchnadoedd y byd. Cododd gweddill y byd dariffau er mwyn atal eu marchnadoedd rhag cael eu boddi â dur rhad o Tsieina. Cyflwynodd yr UDA dariffau masnach o 522 y cant ar ddur o Tsieina. Cyflwynodd yr UE dariffau o 16 y cant yn unig. O ganlyniad, mae mewnforion dur o Tsieina i’r UE—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, fe wnaf.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych, felly, yn gresynu at rôl ASEau UKIP yn 2014 yn peidio â chefnogi moderneiddio a symud mecanweithiau tariff masnach ac amddiffyn masnach? Dyma eiriau cynrychiolydd UKIP:
Nid yw UKIP yn pleidleisio o blaid yr UE yn gwneud pethau ar ein rhan.
Nid oeddent yn malio am y diwydiant dur.
Pleidleisiodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd UKIP yn erbyn gwelliant grŵp Llafur yr oedd Llafur yn honni y byddai’n arwain at fesurau gwrth-ddympio uwch. Ond nid oedd llawer o dystiolaeth o hyn ac ymataliodd UKIP—ymatal—fel rhan o egwyddor. Tariffau UE o 16 y cant yn unig—o ganlyniad, cododd mewnforion dur o Tsieina i’r UE dros 50 y cant. Mae hyn wedi cael effaith ddinistriol ar ddur y DU a Chymru.
Dair blynedd yn ôl ni ddefnyddiodd y DU un darn o far atgyfnerthu concrid Tsieineaidd, a’r llynedd barrau atgyfnerthu o Tsieina oedd bron i hanner yr holl farrau atgyfnerthu concrid yn y DU. Yn ôl UK Steel mae’r lefel hon o dwf yn ddigynsail ac yn bygwth holl fodolaeth cynhyrchiant barrau atgyfnerthu yn y Deyrnas Unedig. Aelodau, mae dyfodol diwydiant dur Cymru dan fygythiad. Mae dan fygythiad oherwydd dur rhad o Tsieina. Mae dan fygythiad oherwydd prisiau ynni uchel yn y DU, ac mae dan fygythiad oherwydd Undeb Ewropeaidd sy’n tangyflawni, ac sydd â mwy o ddiddordeb mewn biwrocratiaeth na masnach.
Gan fod y rhan fwyaf o’r cyhoedd yng Nghymru a Phrydain bellach wedi pleidleisio dros adael yr UE gallwn achub ein diwydiant dur. Ar ôl gadael yr UE gall perchnogion newydd Tata Steel, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, edrych tuag at weddill y byd am farchnadoedd i’r dur gorau yn y byd yn ddi-os: dur Cymru. Yn y dyfodol, byddwn yn gallu mynnu bod yr holl waith adeiladu sy’n digwydd yn y DU yn defnyddio dur Prydain a Chymru heb bechu yn erbyn rheolau tendro a chaffael yr UE. Pan fyddwn yn rhydd o hualau’r UE, byddwn yn gallu cynorthwyo ein cynhyrchwyr dur gyda’u biliau ynni—y rhai mwyaf drud yn Ewrop—heb gyfyngiadau rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Fel y gwyddoch, ni chaem ymyrryd mewn unrhyw fenthyciadau o unrhyw fath oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. [Torri ar draws.] Ni chaem ac ni wnaethom.
Nid oes rhaid i chi gael sgwrs ar draws y Siambr. Parhewch â’ch araith os gwelwch yn dda.
Diolch. Aelodau, ar ôl gadael yr UE, bydd gan Tata Steel yn fy rhanbarth obaith gwell o oroesi ac fe’ch anogaf i gefnogi’r cynnig. Gan symud at y gwelliannau, rwy’n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Nid ydym yn anghytuno â’r pwyntiau rydych yn eu gwneud a phe baech wedi penderfynu ychwanegu’r pwyntiau hynny at ein cynnig, byddem wedi eich cefnogi. Fodd bynnag, efallai fod eich grŵp yn dal yn rhanedig ar fater Ewrop; rydych yn dewis dileu ein cynnig. Ni allwn eich cefnogi felly. Byddwn hefyd yn gwrthod gwelliant Llafur Cymru. Nid yw parhau ein haelodaeth o’r UE yn gwarantu dyfodol dur Cymru ac nid yw ein penderfyniad i adael yn peryglu dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu dur yng Nghymru.
O ran gwelliannau Plaid Cymru, byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3. Wrth gwrs, dylai’r DU a Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth a allant eisoes i gefnogi’r diwydiant dur. Dylem edrych hefyd ar bob ffynhonnell o gyllid i gefnogi’r diwydiant dur, boed yn arian rydym wedi ei anfon i’r UE ac yn ei gael yn ôl neu ariannu uniongyrchol gan y DU a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn ymatal ar welliant rhif 4 Plaid Cymru. Nid ydym yn credu y bydd yna ansicrwydd enfawr a chwalfa economaidd fel y mae’r pleidiau eraill yn ei ragweld yn sgil ein pleidlais i adael yr UE. Yn wir, mae’r farchnad stoc eisoes wedi dechrau adennill y colledion a welwyd ar y newyddion ar ôl i ni sicrhau pleidlais dros adael yr UE. Yn olaf, ar welliannau 1 a 5, byddwn yn pleidleisio yn erbyn. Nid yw’r farchnad sengl yn bopeth. Mae angen i ni allu masnachu’n rhydd gyda’r UE 27 heb gael ein llyffetheirio gan y cyfyngiadau a osodir gan y farchnad sengl. Creu helynt yw bwriad gwelliant 5. Mae Plaid Cymru yn gwybod yn iawn fod nifer o aelodau UKIP yn pleidleisio yn erbyn holl gynigion Comisiwn yr UE ar y sail eu bod am weld seneddwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, megis yn San Steffan, yn gwneud cyfreithiau a rheoliadau ac nid biwrocratiaid anetholedig ym Mrwsel.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n cymeradwyo’r cynnig hwn i’r Siambr. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1, 4, 5, 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
Gwelliant 1—Simon Thomas
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i’r Farchnad Sengl.
Gwelliant 4—Simon Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.
Gwelliant 5—Simon Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian presennol yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy newydd gael ei adeiladu ar safle TATA ym Mhort Talbot i fynd i’r afael â’r mater o gostau ynni uchel, a Horizon 2020, fel y gall canolfan ymchwil a datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws Arloesi Prifysgol Abertawe i wella cyfleoedd busnes TATA UK.
Gwelliant 6—Simon Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
Gwelliant 7—Simon Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio’r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop—mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.
Cynigiwyd gwelliannau 1,4, 5, 6 a 7.
Rwy’n sefyll i gynnig gwelliannau Plaid Cymru. Mae yna gynamserol, wedyn mae yna’r ddadl hon. Edrychwch ar yr anhrefn sydd yng ngwleidyddiaeth Prydain drwyddi draw. Mae’r Prif Weinidog wedi mynd. Mae’r person a oedd yn olynydd mwyaf tebygol iddo wedi mynd. Brwydr arweinyddiaeth yn y Blaid Lafur. Ac eto, hyd yn oed wrth i arweinydd eu plaid eu hunain ymddiswyddo, am nawr, a gadael ei lanast i’r gweddill ohonom gael trefn arno, mae gennym Blaid Annibyniaeth y DU rywsut yn ceisio dadlau y byddai gadael yr UE yn well i’r diwydiant dur heb hyd yn oed ystyried cynllun ar gyfer gwireddu hynny.
Fel y mae dadleuon haniaethol yn mynd, byddai hyn yn ddifyr pe na bai mor ddifrifol. Dyna pam, ar welliant 1, rydym wedi penderfynu rhoi cynnig newydd yn hytrach na’i aileirio, am fod ei gynsail yn hurt. Er bod gwerth mewnforion haearn a dur yn fwy na’r allforion ar gyfer y DU i gyd, ar gyfer Cymru, mae’n sylweddol uwch. Y llynedd, mewnforiwyd 400 miliwn tunnell o haearn a dur gennym ond allforiwyd un biliwn—ddwywaith a hanner cymaint. O’r swm hwnnw, mae oddeutu 69 y cant—dros ddwy ran o dair—yn mynd i’r farchnad Ewropeaidd. A dweud y gwir, mae’n amhosibl dadlau y bydd y diwydiant dur yn elwa o golli ei gallu i fasnachu ar y farchnad agored. Mae’r UE wedi gwneud hyn yn glir; nid oes unrhyw gytundebau arbennig i’w cael. Naill ai rydych chi i mewn neu rydych chi allan. [Torri ar draws.] Na, mae’n ddrwg gennyf. Nid yw’n ymwneud â maint yr economi a marchnadoedd dwyochrog. Hyd yn hyn, mae wedi bod yn iawn i UKIP a chefnogwyr ‘gadael’ eraill ddadlau nad yw hyn yn wir, ond ni ddylem roi unrhyw goel ar hynny hyd nes y profir bod un o ragfynegiadau’r ymgyrch dros ‘adael’ yn wir.
Rwyf am ymdrin â gwelliannau 4 a 5 gyda’i gilydd. Mae Plaid Cymru wedi rhoi dau syniad clir iawn o’r hyn y gallem ei wneud yma yng Nghymru i gefnogi Tata ym Mhort Talbot i ddod yn fwy cystadleuol a chynaliadwy. Gellir ei wneud heb dorri rheolau cystadleuaeth yr UE, er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd yn flaenorol. Sut y gwn i hyn? Oherwydd bod staff y Comisiwn Ewropeaidd—y biwrocratiaid diwyneb y siaradwch amdanynt o hyd—wedi dweud wrthyf pan euthum i’r drafferth o ymweld â hwy. Ni waeth beth y mae rhai o Aelodau’r Siambr hon yn ei feddwl ohonynt, mae gennyf y parch mwyaf at y rhai y cyfarfûm â hwy. Maent mewn sefyllfa well nag unrhyw un arall, rwy’n meddwl, i wybod beth sy’n gymorth gwladwriaethol annerbyniol.
Felly, beth am roi’r ddadl honno o’r neilltu a siarad yn gadarnhaol am yr hyn y gellir ei wneud. Wel, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn defnyddio Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop. Cawsom ddatganiad gan y cyn-Weinidog cyllid yn y Cynulliad diwethaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar ei gynnydd, a chynnydd Horizon 2020. Dywedwyd wrthyf ym Mrwsel hefyd fod Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop yn addas iawn i ariannu cynlluniau Tata ar gyfer gorsaf bŵer newydd. Mae’r cynigion hyn wedi eu gwireddu’n llawn ac mae ganddynt y caniatadau angenrheidiol. Byddai’r gwaith newydd yn ailddefnyddio nwyon sy’n sgil-gynhyrchion cynhyrchu dur. Mae’r agwedd amgylcheddol hon, a fyddai’n lleihau allyriadau’r safle, yn ffactor arwyddocaol wrth benderfynu a ddylai prosiect o’r fath gael arian. Bydd hefyd, yn allweddol, yn lleihau costau ynni Tata.
Diolch i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn cytuno felly ei bod yn bwysig ein bod yn ailddefnyddio nwy gwastraff, a’i bod yn bwysig felly ein bod yn cadw’r pen trwm yn y gwaith dur i gynhyrchu’r nwy gwastraff hwnnw mewn gwirionedd, fel bod y gwaith integredig yn parhau’n waith integredig?
Ydw, wrth gwrs, rwy’n bendant yn cytuno â hynny. Mae llawer o fythau wedi cael eu gwyntyllu ynghylch cost polisi ynni. Yr hyn y gwyddom yw ei fod yn rhan fach iawn o bris biliau cyfleustodau, ac rydym hefyd yn gwybod nad oes affliw o obaith o weld diwygio’r farchnad honno. Felly, gorsaf bŵer ynni adnewyddadwy yw’r opsiwn gorau o hyd—yr unig opsiwn.
Yn yr un modd, mae gan yr UE bot sy’n rhaid ei wario mewn pedair blynedd ar gyfer annog ymchwil a datblygu gwyddonol. Mae gennym adran ddur yng nghampws arloesi newydd Prifysgol Abertawe sydd eisoes yn gweithio gyda Tata Steel. Yn wir, sefydlwyd adran newydd i gefnogi peirianneg a’r diwydiannau sylfaen, ac mae am gryfhau’r berthynas honno. Mae staff yn y brifysgol yn credu bod ganddynt fantais heb ei thebyg o gael ffwrneisi chwyth o fewn golwg i’w campws, ac am gost o tua £17 miliwn a werir dros bum mlynedd, gallem sefydlu sefydliad ymchwil a datblygu a fyddai’n arwain y byd mewn arloesedd dur. Byddai’r ddau brosiect yn cynnal y gwaith a safleoedd eraill ar draws Cymru. Rwyf am gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud o ran y tasglu ac o ran yr hyn y maent yn ei wneud i fod yn rhagweithiol yn hyn o beth. Gyda’r bleidlais i adael yr UE, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod yna frys ynghylch hyn.
Yn olaf, hoffwn ystyried y mater a grybwyllwyd eisoes mewn perthynas â’r bleidlais ar ddympio dur. Nid oedd Nigel Farage yn bresennol ar gyfer y bleidlais ddeddfwriaethol gyffredinol ar ddympio dur o Tsieina. Pe bai UKIP yn malio go iawn am ddympio dur Tsieineaidd sy’n gwneud Port Talbot yn llai hyfyw, yna byddech wedi pleidleisio dros y ddeddfwriaeth o blaid tariffau uwch ar ddur o Tsieina a chywilydd arnoch am beidio â gwneud hynny. [Torri ar draws.]
Diolch, nid ydym eisiau—. Rwyf wedi dweud unwaith o’r blaen nad ydym am gael sgyrsiau ar draws y Siambr. Pe baech chi eisiau ymyrryd dylech fod wedi sefyll ar eich traed ac ymyrryd ar yr Aelod, ond rydym wedi colli’r un honno. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod rôl hanfodol y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre i economi Cymru a’r holl Deyrnas Unedig.
2. Yn cydnabod gwaith Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU tuag at gynorthwyo TATA i ganfod prynwr credadwy i waith dur Port Talbot.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i lunio strategaeth i sicrhau hyfywedd a photensial hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.
4. Yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio â gwledydd eraill yn Ewrop ac ar draws y byd i sicrhau cytundebau masnach sydd o fantais i ddiwydiant dur Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. Nawr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig a minnau’n croesawu’r ddadl hon ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cynhyrchu dur yng Nghymru yn hanfodol bwysig i economi Cymru wrth gwrs, i weithwyr a’u teuluoedd, ac i’r cymunedau sy’n dibynnu ar gynhyrchu dur.
Ni fyddwn yn cefnogi’r cynnig heb ei ddiwygio gan nad ydym yn credu bod y cynnig yn adlewyrchu’n ddigonol gymhlethdod ac ansicrwydd y sefyllfa anodd sy’n wynebu cymunedau dur ar draws Cymru. Mae’r diwydiant dur ar draws y DU ac Ewrop yn wynebu hinsawdd economaidd heriol iawn gyda chwymp byd-eang yn y galw am ddur a cheir gorgynhyrchu mawr ar draws y byd. Mae hwn yn fater gwirioneddol fyd-eang ac fel y cyfryw rwy’n credu na ellir ystyried y sefyllfa sy’n wynebu Tata yng Nghymru ar wahân i’r bleidlais i adael yr UE.
Rwy’n cydnabod y ffaith fod canlyniad refferendwm yr UE yn golygu ei bod yn bwysicach fyth i Lywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru. Yr UE, wrth gwrs, yw’r farchnad bwysicaf ar gyfer dur o hyd, gyda thros hanner ein hallforion yn mynd i’r UE ac mae mwy na dwy ran o dair o’n mewnforion yn dod o’r UE. Yn y cyd-destun hwnnw felly rydym yn hapus i gefnogi gwelliant y Llywodraeth yn enw Jane Hutt a gwelliant 4 yn enw Simon Thomas. Dylwn ddweud ein bod hefyd yn cefnogi geiriad gwelliant 1, yn enw Simon Thomas, ond ni allwn gefnogi’r gwelliant hwnnw wrth bleidleisio gan y byddai’n dileu, wrth gwrs—byddai ein gwelliannau ni’n methu.
Rwy’n amau bod yr holl Aelodau yn y Siambr hon, y Senedd, yn cydnabod pwysigrwydd dur Cymru i les economaidd ein cenedl ac rwy’n falch, hyd yn hyn, fod cryn dipyn o gonsensws trawsbleidiol wedi bod i gefnogi ein diwydiant dur. Felly, mewn ysbryd o gydweithrediad roeddwn yn awyddus iawn i welliannau’r Ceidwadwyr Cymreig beidio â bod yn ddadleuol, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cytuno â hynny. Rwy’n siomedig na all UKIP gefnogi ein gwelliannau yn yr ysbryd hwnnw. Ond wyddoch chi, mae’r gwaith dur yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae’n bwysig fod Llywodraethau’r DU a Chymru yn parhau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau cymaint â phosibl o hyfywedd a photensial i gynhyrchiant dur yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae Tata Steel yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru a chyfanswm o £3.2 biliwn o effaith economaidd i Gymru yn ei chyfanrwydd—yn ôl brîff a ddarllenais gan wasanaeth ymchwil yr Aelodau. Mae hefyd yn cyflogi 4,000 o bobl ym Mhort Talbot gyda llawer mwy, wrth gwrs, yn y rhanbarth yn ddibynnol ar y diwydiant dur am eu bywoliaeth. Felly, credwn ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio’n agos gyda’i gilydd i lunio strategaeth i helpu Tata i sicrhau prynwr credadwy i’r gwaith dur sy’n cynnig y cyfleoedd gorau posibl ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol ac yn diogelu swyddi a gweithwyr dur Cymru.
Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn hanfodol nad yw’r strategaeth hon yn ymagwedd ddifeddwl, megis y rhai sy’n galw am wladoli, ond yn hytrach, ei fod yn gynllun hirdymor i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru yn y sector preifat. Felly, rydym yn cefnogi gwelliant 6, yn enw Simon Thomas, sy’n troi at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol os yw hynny’n angenrheidiol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cymryd camau i greu amgylchedd cystadleuol ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru drwy ddarparu pecyn cymorth gwerth cannoedd o filiynau. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi creu pecyn ar gyfer y rhai dan fygythiad o golli swydd, ac mae Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi camau ar waith mewn perthynas â chostau ynni uchel.
Byddai mesurau eraill i wneud iawn am y baich ynni trwm ar weithgynhyrchu dur i’w croesawu hefyd, a hoffwn ystyried gwelliannau a manylion y Blaid yng ngwelliant 5 mewn perthynas â gwaith ynni adnewyddadwy newydd a lleihau costau ynni ymhellach, a sut y byddai canolfan ymchwil a datblygu dur newydd yn addas i gael cymorth Trysorlys tuag at ardal fenter ar gyfer Port Talbot. Rwyf hefyd yn awyddus i annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio gyda chenhedloedd eraill—nid yn unig yn Ewrop, ond o gwmpas y byd—er mwyn sicrhau’r cytundebau masnach gorau posibl i ddiwydiant dur Cymru. Yng ngoleuni’r bleidlais i adael yr UE, ceir cryn dipyn o ansicrwydd o hyd—rhaid cydnabod hynny—ynglŷn â’r modd y caiff cytundebau masnach eu llunio yn y dyfodol. Mae hynny’n ansicr hyd yma, ac wrth gwrs, mae’n hanfodol fod cytundebau masnach yn y dyfodol yn cael eu trefnu gyda chenhedloedd eraill ac nad ydynt yn anwybyddu pwysigrwydd y diwydiant dur.
Nawr, byddwn yn dweud—
Mae’n rhaid i chi ddirwyn i ben yn awr.
Iawn, fe wnaf ddirwyn i ben felly, Ddirprwy Lywydd. Dim ond dweud, o fy safbwynt i, fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda’i gilydd tuag at ganlyniad cadarnhaol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol. Gallwch sefyll i wneud hynny; mae’n neis iawn. [Chwerthin.]
Gwelliant 3—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl ‘credu’ a rhoi yn ei le:
‘ei bod yn bwysicach nag erioed, yn dilyn canlyniad Refferendwm yr UE, bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant gwneud dur yng Nghymru.’
Cynigiwyd gwelliant 3.
Cynnig, yn ffurfiol.
Cynnig yn ffurfiol, diolch. David Rees.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae’r Aelodau’n llwyr ymwybodol, dur yw calon fy nhref enedigol ac rwy’n croesawu cyfle arall i drafod dyfodol y diwydiant yma heddiw. Fodd bynnag, heddiw, dylem fod yn trafod sut y gallwn sicrhau dyfodol cynaliadwy drwy weithio gyda’n gilydd i adeiladu amgylchedd economaidd sefydlog a mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu gweithwyr dur, yn hytrach na defnyddio’r diwydiant dur fel esgus ar gyfer croesawu pleidlais i adael yr UE, sef yr hyn yw’r cynnig hwn.
Mae’r gwaith dur ym Mhort Talbot wedi bod yn rhan o’n nenlinell ers dros ganrif ac rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i dra-arglwyddiaethu’r nenlinell am lawer iawn mwy o flynyddoedd i ddod. Mae’r diwydiant dur yng Nghymru—nid yn unig ym Mhort Talbot, gan fod gweithfeydd eraill yng Nghymru—yn rhan hanfodol o’r economi. Ond ni allwn guddio rhag y ffaith fod yna bwysau ar draws Ewrop, sy’n golygu bod y diwydiant dur yn y DU yn dioddef mwy o ansicrwydd mewn gwirionedd, gan beri i’w weithwyr deimlo bod cleddyf Damocles yn hongian drostynt. Mae llawer o fy etholwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn Aberafan yn dal yn ansicr ynghylch dyfodol y gwaith ym Mhort Talbot, a rhaid i ni ymrwymo i weithio i sicrhau’r dyfodol hwnnw a darparu sicrwydd mawr ei angen. Gwn fod yna gyfarfod o fwrdd Tata yn Mumbai ddydd Gwener a fydd yn sicr o effeithio ar beth fydd y dyfodol yno.
Mae amrywiaeth o ffactorau wedi arwain at filoedd o swyddi’n cael eu colli yn y sector ar draws y DU a chollwyd dros fil mewn gwirionedd yn fy etholaeth i—ni allwn anghofio’r contractwyr a gweithwyr y gadwyn gyflenwi hefyd yr effeithir arnynt yn sgil yr argyfwng dur. Un ffactor pwysig fu’r mewnforion rhad, ond nid yn unig o Tsieina: dônt hefyd o Dwrci a Rwsia. Fel y gwyddom, mae’r UE wedi cael dulliau o roi tariffau ar ddur a fewnforir i fynd i’r afael â dympio, ac maent wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Soniwyd mai dim ond 16 y cant sydd ganddynt, ond gadewch i ni atgoffa ein hunain na wasgodd Llywodraeth y DU am newid i’r gyfradd is o dollau; mewn gwirionedd fe wnaethant ei rwystro. Mae hynny’n rhywbeth mae angen i ni fynd i’r afael ag ef. Efallai y bydd y ffaith ein bod yn mynd i adael yr UE yn diddymu’r rhwystr ar y gyfradd is o dollau mewn gwirionedd, ond ni fydd yn berthnasol i ni; bydd yn berthnasol yn ein herbyn, o bosibl, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n rhaid i ni ei wylio. Felly, peidiwch â rhoi’r bai ar yr UE am hynny, rhowch y bai ar Lywodraeth bresennol y DU.
Fel y dywedais, o ganlyniad i adael yr UE, efallai y byddwn yn ddarostyngedig i’r tariffau hynny yn y dyfodol, yn enwedig os na all y DU gytuno ar gytundeb ar gyfer y farchnad sengl, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n amlwg dan sylw ar hyn o bryd. Bydd hyn yn effeithio ar bris tunnell o ddur a byddwch yn cofio bod Port Talbot mewn gwirionedd yn allforio traean o’i farchnad i’r UE. Felly, mae honno’n effaith drom iawn arnom os bydd yn rhaid i ni dalu costau ychwanegol.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
A yw’r Aelod yn cydnabod, ers y bleidlais i adael yr UE, fod lefel y bunt bellach wedi gostwng oddeutu 10 y cant ac oni fydd hynny’n llifo drwodd i welliant sylweddol yng nghystadleurwydd y diwydiant dur yng Nghymru a’r DU?
Ydw, rwy’n derbyn y pwynt fod y bunt yn is, felly mae’r allforion yn rhatach ac o bosibl yn fwy deniadol i brynwyr, ond wrth gwrs, rydym yn prynu deunyddiau crai mewn doleri, ac mae’r bunt wedi suddo fel plwm i bwynt is nag y gwnaeth ers 31 o flynyddoedd yn erbyn y ddoler, felly mae’r canlyniadau sydd gennym, yn ôl pob tebyg efallai, yn sefyllfa waeth, nid yn sefyllfa well o reidrwydd.
Mark Reckless a gododd—
Nid wyf am gymryd ail un, nac ydw.
Rwy’n croesawu’r gwelliant gan y Ceidwadwyr Cymreig mewn gwirionedd, sy’n annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i lunio strategaeth i hyrwyddo i sicrhau cymaint â phosibl o hyfywedd a photensial hirdymor i gynhyrchiant dur yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser hir. Gorymdeithiais ochr yn ochr â gweithwyr dur Port Talbot ym mis Mai wrth iddynt lobïo Llywodraeth y DU i gyflwyno strategaeth ddiwydiannol i gryfhau ein sector dur. Rwy’n teimlo y dylai Llywodraeth Cymru fod â rhan i’w chwarae yn y trafodaethau hynny gan fod y rhan fwyaf o’r gweithgarwch cynhyrchu dur bellach yn digwydd yng Nghymru.
O ran gwelliant 5 Plaid Cymru, rwy’n cytuno’n llwyr â’r teimlad sy’n sail iddo, yn tynnu sylw at yr angen i gefnogi datblygiad yr orsaf bŵer a sefydlu canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, wedi’i chanoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r gwelliant, fodd bynnag, yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu pan nad wyf yn credu bod ganddi’r awdurdod i wneud hynny, ond rhaid i ni bwysleisio’r gwaith gwych y mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ei wneud ar y cyd â Tata a phwysleisio y dylai arwain unrhyw ganolfan ymchwil a datblygu yn y DU. Rwyf wedi ymweld â’r campws arloesi yn y brifysgol a phrosiectau penodol hefyd ym mae Baglan ar sawl achlysur gyda’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Mae’r rhain yn gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf a dylid eu cefnogi yn y blynyddoedd i ddod. Rwy’n cytuno ag unrhyw alwad ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r meysydd hyn.
Yn olaf, mae’n rhaid i ni yn awr sicrhau bod unrhyw brynwyr posibl i fusnes Tata Steel UK yn cael cynnig y cymorth a gynigiwyd iddynt cyn canlyniad y refferendwm. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod Tata yn parhau i fod yn gyflogwr a gwerthwr cyfrifol. Bythefnos yn ôl yn unig, cefais sicrwydd y byddai pan gyfarfûm â Mr Jha, prif swyddog gweithredol Tata Steel UK. Gadewch i ni obeithio y bydd yn parhau ac y bydd hynny’n parhau i ddigwydd.
Ond drwy’r holl ansicrwydd enfawr hwn, mae’r gweithwyr ym Mhort Talbot wedi parhau i ddangos eu hymrwymiad i gynhyrchu dur ac wedi bod yn cynhyrchu mwy nag erioed, er bod y cwmwl hwn o ansicrwydd yn hofran drostynt. Rhaid i ni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflwyno’r manteision treth a addawyd a’r ymgynghoriad pensiwn, a ddaeth i ben ar y trydydd ar hugain—yn rhyfedd ddigon, ar yr un diwrnod y pleidleisiodd y DU dros adael yr UE, ond dyna pryd y caeodd yr ymgynghoriad pensiwn—a’i fod wedi edrych yn ofalus iawn, wedi craffu’n briodol, a’n bod yn dod i ryw gasgliad. Oherwydd y peth olaf rydym ei eisiau yw pensiynau’n mynd i mewn i’r gronfa diogelu pensiynau oherwydd byddai hynny’n drychinebus i bensiynwyr a’r gweithwyr yn y gwaith yn awr.
Rwy’n parhau i gredu bod yna ddyfodol i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Mae’n rhaid i ni i gyd uno i sicrhau ein bod yn gwarchod y diwydiant sylfaen hwn. Byddaf i, yn bendant, yn parhau i weithio gyda’r cydweithwyr yn yr undebau llafur, rheolwyr, y gweithlu a’r holl bobl ym Mhort Talbot i sicrhau’r dyfodol hwnnw.
Mae’r diwydiant dur yng Nghymru yn wynebu argyfwng sy’n bygwth swyddi a bywoliaeth. Felly, rwy’n teimlo ei bod yn iawn ac yn briodol i ni ystyried y mater hwn yn y Cynulliad. Mae fy nghyd-Aelod UKIP, Caroline Jones, eisoes wedi tynnu sylw at fater tariffau a’r ffordd y mae aelodaeth o’r UE wedi cyfyngu ar allu’r DU i ymateb i ddympio dur o Tsieina. Mae’r pwynt, fel bob amser, yn ddadleuol yn y Siambr hon. Yn bersonol, rwy’n cymeradwyo’r pwynt a wnaeth Caroline, ond nid wyf am ymhel ag ef eto yn awr gan ei fod wedi bod yn destun dadl sawl gwaith yn y Siambr hon. Yn amlwg, ni fyddwn byth yn dod—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn. Ewch ymlaen felly.
Y pwynt yw bod Llywodraeth Prydain hefyd wedi gwrthwynebu’r gwelliannau hynny.
Do, rwy’n dod at hynny.
Felly, pam y mae’n well yn nwylo Llywodraeth Prydain os ydynt hwy hefyd wedi pleidleisio yn y ffordd honno?
Iawn. Mae hwnnw’n bwynt da, ac rwy’n ymdrin â hynny yn nes ymlaen yn fy nghyfraniad.
Iawn. Yr unig ychwanegiad y byddwn yn ei wneud i’r ddadl ar dariffau yw hyn, ac mae’n cyd-fynd â’r hyn y mae David Rees newydd ei grybwyll. Cyfeiriodd David yn briodol at y pwynt pwysig—yr un pwynt ag y gwnaeth Bethan hefyd mewn gwirionedd—fod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ei hun wedi gweithredu a phleidleisio yn erbyn gosod tariffau dialgar yn erbyn Tsieina. Felly, yn hyn o beth—rydych yn hollol iawn, maent wedi gwneud hynny—y pwynt y byddwn yn ei wneud yw bod gadael yr UE yn rhoi hawl damcaniaethol i Lywodraeth y DU godi tariffau. Mater i Lywodraeth y DU ei hun yw penderfynu a yw am ddefnyddio’r hawl honno ai peidio. Yn anffodus, ar hyn o bryd, mae wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Mae’n llawer gwell cael yr hawl ddamcaniaethol i weithredu na pheidio â’i chael o gwbl. O leiaf mae gan etholwyr y DU yr hawl i bleidleisio i gael gwared ar Lywodraeth y DU os ydynt yn anghytuno â’i pholisi diwydiannol. Nid oedd ganddynt hawl o’r fath i bleidleisio i gael gwared ar fiwrocratiaid yr UE a fu’n rheoli ein polisi diwydiannol hyd yn hyn. Sylwer, Bethan, na wneuthum eu galw’n ddiwyneb.
Pan fyddwn wedi gadael yr UE ac yn adennill y mesur o reolaeth dros ein diwydiant, beth y gallwn ei wneud wedyn fel cenedl i gefnogi dur Cymru? A oes yna, yn wir, ddyfodol hyfyw i ddur Cymru? Wel, mewn gwirionedd, os edrychwn ar sefyllfa’r farchnad ar hyn o bryd, mae’r galw byd-eang am ddur yn debygol o godi wrth i economïau datblygedig ymadfer yn raddol ar ôl cwymp 2008 ac wrth i fwy o economïau sy’n dod i’r amlwg godi safonau byw. Wrth iddynt wneud hynny, mae mwy o bobl eisiau ac yn gallu fforddio ceir, offer domestig a chynhyrchion eraill sy’n cynnwys dur. Yn y DU ei hun, mae’r Llywodraeth wedi addo prynu mwy o ddur Prydain fel rhan o gontractau sector cyhoeddus yn y DU. Mae nifer o’r rhaglenni seilwaith ac offer mawr yn cynnwys cryn dipyn o ddur.
Fodd bynnag, problem arall sy’n rhaid i ni ei goresgyn yw cost gymharol uchel ynni i ddiwydiant y DU, o’i gymharu â llawer o’i gystadleuwyr Ewropeaidd. Mae llawer o hyn yn ganlyniad i gosbau allyriadau carbon a gyflwynwyd, nid gan yr UE, ond gan Lywodraeth flaenorol yn y DU. Yn 2008, gwnaeth Gordon Brown a’i Gabinet Llafur y penderfyniad tyngedfennol i ailenwi’r Adran Ynni yn Adran Ynni a Newid Hinsawdd. Dan stiwardiaeth Ed Miliband—y dyn hynod o graff hwnnw—cyflwynodd yr adran hon Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 wedyn a gyda hi, y trethi allyriadau llym y mae diwydiant dur y DU bellach yn eu hwynebu. Roedd llawer o bynditiaid gwleidyddol annibynnol eu barn yn rhagweld ar y pryd y byddai hyn yn arwain at drychineb diwydiannol, ac efallai ein bod bellach yn wynebu’r trychineb hwnnw. Tra bo diwydiant dur y DU yn sefyll ar ymyl y dibyn, nid yw gweithwyr dur yr Almaen a’r Iseldiroedd yn wynebu dyfodol mor fygythiol o bell ffordd. Y rheswm am hynny, yn rhannol, ond i raddau helaeth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy’n dod at y diwedd, felly, mae’n ddrwg gennyf. Mae eu costau ynni yn is o lawer o gymharu â’n rhai ni. Felly, rhaid i ni geisio adennill rheolaeth dros ein diwydiant dur o fachau biwrocratiaeth yr UE, ond mae angen i ni hefyd ddeddfu’n synhwyrol gartref. Diolch.
Rwy’n falch i allu cyfrannu at y ddadl yma achos mae’n fater pwysig iawn—gwaith dur Tata. A allaf i, yn y lle cyntaf, longyfarch David Rees a Bethan Jenkins ar eu cyfraniadau? Maen nhw wedi bod yn arbennig y prynhawn yma. Ni wnaf i ailadrodd y pwyntiau, ond mae’n werth nodi bod gwaith dur Tata yn ffynhonnell o filoedd o swyddi lleol gyda chyflogau uchel, gyda miloedd o drigolion o Bort Talbot, Castell-nedd ac Abertawe yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn y maes.
Nawr, ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ‘tariffs’, sef taliadau arbennig i geisio rhwystro Tsieina rhag dympio dur rhad yma yn y Deyrnas Gyfunol—perthnasol iawn, fel rydym ni wedi clywed, i Bort Talbot, wrth gwrs. Dyma’r union fecanwaith mae Unol Daleithiau’r America wedi ei ddefnyddio i osod tariff o 266 o ‘percentage’ yn yr ‘anti-dumping tariff’ a 256 ‘per cent’ o dariff ar ddur a roliwyd yn oer o Tsieina—cyfanswm o 522 y cant, fel rydym ni wedi clywed eisoes gan Caroline Jones. Dyna’r mecanwaith sydd wedi dod â’r tariff yna i’r Unol Daleithiau. Mae’r union fecanwaith yna ar gael yn Ewrop, ond gwnaeth Llywodraeth Prydain bleidleisio yn erbyn hynny, gan ddefnyddio’r feto. Dyna pam mae’r tariff yn ddim ond 16 y cant ar ddur o Tsieina—achos gwnaeth Lywodraeth Prydain bleidleisio yn erbyn. Mae e’n gamarweiniol tost i feio Ewrop am hynny. Os ydych chi eisiau beio rhywun, a dylai rhywun gael ei feio, Llywodraeth Prydain sydd ar fai yn y fanna. Nid yw’n gwneud dim synnwyr o gwbl, felly, i feio Ewrop am broblem mae Llywodraeth Llundain, y Deyrnas Gyfunol, wedi ei achosi.
Rydym ni mewn sefyllfa waeth nawr, allan o Ewrop. Rydym ni’n dibynnu ar benderfyniadau Llywodraeth Prydain, sydd newydd fod yn erbyn y ‘tariffs’ yma. Dyna pam mae’r taliadau mor isel. Nid ydy’r ddadl yn gwneud dim synnwyr o gwbl—i gyd achos bod Llywodraeth bresennol Prydain eisiau ffafrio ei ffrindiau newydd yn Tsieina ar draul diwydiant ym Mhrydain, ac yng Nghymru yn benodol.
Fel mae Bethan a sawl un arall wedi sôn yn barod, rydym ni yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn mesurau’r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop eleni. Gwnaethon nhw benderfynu pleidleisio yn erbyn mesurau a fyddai wedi codi costau llawer uwch ar ddur o Tsieina. Mae’r bai hefyd yn eich dwylo chi’ch hunan, ac nid wyf i’n gallu deall y fath feddylfryd sy’n gallu dod â’r ddadl yma gerbron y prynhawn yma, pan, yn rhannol, rydych chi wedi achosi’r broblem.
Wedi’r refferendwm, yn naturiol, rydym ni’n derbyn y canlyniad, ond mae angen gweithredu dros fasnach a thros fusnes yng Nghymru, a thros weithwyr dur Port Talbot. Rydym wedi clywed olrhain hanes yr ergydion—
Mark Isherwood a gododd—
O, dyma ni eto.
Fis Tachwedd diwethaf, gofynnodd Gweinidog Llywodraeth y DU i Frwsel alw cyfarfod i drafod y tariffau. Cytunasant i wneud hynny, ond parodd oedi ar ôl hynny i Edwina Hart, Gweinidog yr economi ymadawol y lle hwn, ddweud ddeufis yn ôl fod y rheolau braidd yn anhyblyg a’u bod wedi ei gyrru’n wallgof. Pan ofynnais i’r Prif Weinidog am hyn a pha drafodaethau a gafodd gyda’r Comisiwn Ewropeaidd pan gawsom ein galw yn ôl ddechrau mis Ebrill, y cyfan a ddywedodd oedd,
rydym wedi bod yn gohebu â’r Comisiwn.
A ydych yn cytuno bod angen i ni wybod pa ddeialog sydd wedi bod yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd dros y misoedd hyn?
Nac ydym. Nid wyf yn cytuno â hynny. Derbyniwch y ffaith fod y Llywodraeth ar lefel Brydeinig, pan gafodd y cyfle, wedi gwrthwynebu—wedi rhoi feto ar—y sefyllfa gyda thariffau uwch, neu fel arall byddem gyda’r UDA ar 522 y cant, nid ar 16 y cant. Derbyniwch hynny fel ffaith, dyna’i gyd. [Torri ar draws.] Fis Tachwedd diwethaf oedd mis Tachwedd diwethaf. Roedd hyn ym mis Chwefror pan oedd pethau’n esblygu a’r cyfle yno a rhoddodd Llywodraeth y DU feto arno. Rhowch y gorau i feio Ewrop. Ac mae’n bryd tyfu i fyny. Beiwch Lywodraeth y DU. Nawr, rydych wedi ein gadael ar drugaredd Llywodraeth y DU.
To close, therefore, I do hope that there will be collaboration between the UK Government and the Government here in Wales. There’s a huge challenge before us. We have thousands of people in my region facing a very uncertain future indeed. There isn’t a need to play any more games. Of course, the situation now is in a state of paralysis—the political system has been paralysed, but we have to act now. Thank you very much.
Rwyf am ddechrau drwy nodi teitl diwygiedig y ddadl hon ac rwy’n croesawu’r sylweddoliad fod ein diwydiant dur yng Nghymru yn llawer mwy na dim ond un safle. Er fy mod yn cydnabod pwysigrwydd ein diwydiant sylfaen, nid yn unig i’n heconomi, ond i gymdeithas yn gyffredinol yng Nghymru, ni fydd yn syndod i’r Aelodau fy mod yn dymuno canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar Shotton.
Ni allaf bwysleisio digon cymaint o lwyddiant yw dur Shotton. Nid un ond dau fusnes arloesol proffidiol a hyfyw gyda gweithlu medrus a brwdfrydig a theyrngar sydd wedi ymrwymo i’r dyfodol; dyfodol disglair—fel y dywedais o’r blaen a dywedaf eto—gyda’r cymorth cywir. Ar hynny, rhaid i mi roi clod i’n Llywodraeth a’n Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet a fy nghydweithwyr yn Sir y Fflint am y gefnogaeth a’r gwaith ar y cyd a wnaed i gefnogi Shotton wrth edrych tua’r dyfodol. Ond fel ein diwydiant dur ar draws Cymru a’r DU, mae angen ffactorau a gweithredoedd allanol penodol, nid yn unig er mwyn iddo allu goroesi, ond er mwyn iddo allu ffynnu.
Yn gyntaf, mae angen Llywodraeth y DU sy’n rhagweithiol neu hyd yn oed yn weithredol ac sy’n rhoi blaenoriaeth i’n diwydiant dur yn y dyfodol hytrach na’r Prif Weinidog yn y dyfodol. Mae angen i ni hefyd, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod o Aberafan, gael cytundeb ar gyfer mynd i mewn i’r farchnad sengl. Nawr, dywedodd llefarydd UKIP, ‘Mae’n iawn; fe gawn gytundebau masnach yn lle hynny’, ond nid yw cytundebau masnach yn digwydd dros nos. Mae angen gweithredu yn awr, ar unwaith, er mwyn cynnal dyfodol ein diwydiant dur. Mae’n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein diwydiant dur.
Yn olaf, fel Aelod Cynulliad yn Sir y Fflint a chynnyrch gwleidyddol y diwydiant dur hwnnw, yn awr yn fwy nag erioed fe roddaf fy sicrwydd i’r gweithlu yno, wedi refferendwm yr UE, y byddaf yn ymladd dros eu dyfodol er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau’n llwyddiannus yn y dyfodol.
Yn yr un modd â Hannah, rwyf am bwysleisio’r darlun ehangach yng Nghymru mewn perthynas â dur a’r angen i gefnogi’r diwydiant dur yn y dyfodol, Ddirprwy Lywydd, oherwydd, yn amlwg, yn fy ardal i, yng Nghasnewydd, mae gennym waith Tata yn Llanwern, mae gennym waith Orb, sy’n rhan o Tata Steel, a hefyd Liberty a nifer o weithredwyr llai yn ogystal. Felly, mae dur yn dal yn bwysig iawn i Gasnewydd a’r economi ranbarthol o’i hamgylch. Rwy’n credu ei bod yn amlwg o’r ddadl rydym wedi’i chael yma eisoes heddiw fod effeithiau gadael yr UE ym marn y mwyafrif yn gwneud bywyd yn fwy anodd, yn fwy o straen ac yn fwy pryderus i’r diwydiant dur a gweithwyr dur yng Nghymru. Dyna pam rwy’n falch fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny ac yn ei roi yng nghyd-destun—yn dilyn gadael yr UE—yr angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio’n agosach byth gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag anghenion y diwydiant dur yng Nghymru. Felly, er bod geiriad y cynnig hwn yn canolbwyntio ar Bort Talbot, gwyddom yn iawn fod Port Talbot wedi ei integreiddio â’r gweithfeydd dur Tata eraill yng Nghymru, ac mae’n rhaid i ni edrych ar y darlun cyfannol os ydym yn mynd i wneud y gwaith mewn perthynas â dur yng Nghymru y mae pobl Cymru, a gweithwyr dur yn arbennig, yn disgwyl i ni ei wneud.
O ran Casnewydd, Ddirprwy Lywydd, rwy’n credu ein bod wedi cael perthynas waith gynhyrchiol iawn gyda Llywodraeth Cymru dros gyfnod o amser. Yn ddiweddar, ymwelais â gwaith dur Llanwern gyda’r Prif Weinidog. Roedd yn eithaf amlwg fod yna berthynas waith dda. Mae cynnyrch o ansawdd da iawn yno yn Llanwern, fel y mae safle Zodiac, er enghraifft, yn ei ddangos, gwaith sy’n cynhyrchu dur o ansawdd uchel iawn ar gyfer y diwydiant ceir. Ac yn yr un modd, mewn ymweliad diweddar â gwaith Orb, roeddent yn gwbl glir fod ganddynt berthynas waith dda gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n ymwneud â chymorth ar gyfer buddsoddi, cymorth ar gyfer prosesau newydd, ac yn wir, datblygu sgiliau, ac maent am weld y berthynas honno’n cael ei chryfhau a’i datblygu yng ngoleuni’r sefyllfa newydd a’r pryderon newydd. Ac yn enwedig yn achos Liberty, ar ôl ymweld â’r safle yr wythnos o’r blaen, maent, wrth gwrs, yn rhan o’r broses geisiadau ar gyfer Tata Steel, ond mae ganddynt weithrediadau annibynnol hefyd yng Nghasnewydd sy’n ymgorffori datblygiad ynni yn ogystal â dur. Maent yn uchelgeisiol; maent yn gwmni rhyngwladol gydag adnoddau go iawn. Ganddynt hwy y mae’r orsaf bŵer glo bresennol yn Aber-wysg, a byddent yn hoffi ei throi’n orsaf biomas. Maent yn rhan o’r consortiwm sy’n dymuno datblygu morlynnoedd llanw yn Abertawe, wrth gwrs, ac yng Nghasnewydd a Chaerdydd, a gallai’r ynni y gallai’r morlynnoedd hyn ei gynhyrchu fod yn rhan bwysig o’u cynlluniau cyffredinol. Maent yn ei ddisgrifio fel ‘dur gwyrdd’, Ddirprwy Lywydd, ac mae’n ymwneud â chynhyrchu ynni i ddiwallu’r anghenion ynni mawr sy’n gysylltiedig â dur. Mae’n ymwneud ag ailgylchu sgrap a dod â ffwrneisi arc trydan i’r safle yng Nghasnewydd o bosibl er mwyn darparu’r cyfleuster ar gyfer prosesu’r metel sgrap.
Felly, o roi hynny i gyd at ei gilydd, yr hyn y gofynnent amdano—a dyma oedd eu ple i mi, mewn gwirionedd—oedd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfleu’r neges i weinyddiaeth y DU eu bod angen i benderfyniadau pwysig gael eu gwneud yn amserol, mewn perthynas â’r anghenion ynni hynny er enghraifft, o ran y newid i fiomas yng ngwaith pŵer Aber-wysg, ac o ran penderfyniadau ar y morlynnoedd llanw. Maent yn ddiamynedd yn eu hawydd i weld cynnydd ar y penderfyniadau hyn ac rwy’n deall y diffyg amynedd hwnnw’n iawn. Hoffwn ddweud heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn y cyd-destun presennol, gyda’r holl ansicrwydd, y gallem gael mwy o sicrwydd ar y ffordd ymlaen pe baem yn cael penderfyniadau amserol a chywir, wyddoch chi, ynglŷn â’r cwestiynau ynni hynny. Rwy’n gobeithio’n fawr fod Llywodraeth y DU yn gwrando ac y bydd yn gweithredu ar fyrder.
Rhaid i mi gyfaddef pan ddarllenais y cynnig yn gyntaf sy’n dweud bod gwell gobaith i Tata Steel ym Mhort Talbot oroesi yn sgil gadael yr UE, roeddwn yn meddwl mai jôc sâl oedd hi. Nid wyf am warafun i’r rheini a ymgyrchodd i adael yr UE eu heiliad i fwynhau eu buddugoliaeth, ond byddwn yn gofyn iddynt beidio â bod yn anystyriol. Mae gennyf etholwyr sy’n gweithio ym Mhort Talbot, a channoedd o deuluoedd sy’n dibynnu ar waith Trostre yn Llanelli ac sy’n poeni’n fawr am ganlyniadau’r penderfyniad i adael yr UE, ac mae cynnig heddiw yn ansensitif i’w pryderon.
Nid yw’r arwyddion cynnar, mae’n rhaid i mi ddweud, yn galonogol. Mae israddio statws credyd y DU eisoes wedi arwain at atal buddsoddiad busnes yng Nghymru. Ddoe ddiwethaf, dywedwyd wrthyf fod cronfa bensiwn fawr wedi tynnu allan o ddatblygiad yn ne Cymru oherwydd na allant roi arian i mewn i economi sydd heb statws AAA. Mae honiadau aruchel am y buddion a fydd yn llifo i ni o fod y tu allan i’r UE eisoes yn ymddangos yn wag, ac nid yw’r cefnu a wnaed ar yr addewid o arian ychwanegol ar gyfer y GIG yn galonogol.
Wrth gwrs, y gwir yw nad ydym yn gwybod beth fydd y trefniadau masnach a thariff. Mae’n bosibl y gallent fod yn well. Rwy’n amau hynny, ond gadewch i ni fod yn hael ac yn optimistaidd; gallent fod. Ond y ffaith yw ei bod yn sefyllfa ansicr ac yn debygol o fod yn ansicr am nifer o flynyddoedd i ddod. Mae’r ansicrwydd hwnnw’n creu risg sylweddol i ddyfodol y gwaith dur yn y tymor byr.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Rwy’n synnu at ei sylw am gronfeydd pensiwn. Mae Ffrainc a’r Unol Daleithiau wedi cael eu hisraddio o statws AAA—ychydig iawn o economïau AAA sydd i’w cael. Yn sicr, yr un peth y gwyddom yw bod allforion o’r gweithfeydd hyn bellach 10 y cant yn rhatach nag yr oeddent bythefnos yn ôl. Clywsom gan Bethan fod dwywaith a hanner yn fwy o allforion na mewnforion. Yn sicr, mae hynny eisoes wedi gwella cystadleurwydd a dyna pam y mae ein cynnig yn un difrifol iawn—dylid ei drin felly.
Rwy’n adlewyrchu safbwyntiau busnesau, dyna’i gyd, ac mae ef yn rhoi safbwynt dethol iawn o’r darlun economaidd i gyfiawnhau’r uffern a ryddhawyd ar y marchnadoedd. Byddwn yn dadlau bod polisi economaidd sy’n seiliedig yn unig ar y gyfradd gyfnewid rad yn un annoeth iawn.
Ychydig wythnosau yn ôl, fel y dywedodd David Rees, yr Aelod dros Aberafan, eisoes, cyfarfu ef a minnau â phrif weithredwr Tata Steel yn y DU, Mr Bimlendra Jha, yma yn y Cynulliad. Roedd yn amlwg o’i sgwrs, pe bai’n gallu rhoi pecyn at ei gilydd i ddwyn perswâd ar fwrdd Tata yn India i gadw perchnogaeth ar weithfeydd y DU, byddai’n gwneud ei orau, ond ei fod yn poeni am rwymedigaethau’r gronfa bensiwn ac yn poeni ynglŷn â’r DU yn gadael yr UE. Yn wir, mae si ar led fod pecyn achub yn yr arfaeth, ond iddo gael ei dynnu’n ôl y bore ar ôl y bleidlais. Mae bellach yn fwy anodd sicrhau buddsoddiad, felly ni allwn wybod pa un a yw’r cynigwyr eraill yn gallu bwrw ymlaen.
Mae dyfodol yr holl weithfeydd yng Nghymru a phensiynau gweithwyr dan amheuaeth. Naw wfft i’r gobaith gwell o oroesi o fod y tu allan i’r UE. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ar y bwrdd, a dywedodd Mr Jha wrthym yn glir fod Tata wedi croesawu hwnnw’n gynnes, yn wahanol i’r diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth y DU, sydd eto i wireddu eu haddewidion o gymorth. Ond yn awr mae angen i’r rhai a oedd am adael yr UE gyflawni, a byddai’n dda pe bai UKIP yn rhoi’r gorau i drin ofnau pobl fel pethau i chwarae gwleidyddiaeth â hwy.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw? Rwy’n gwybod y bydd pawb yn pryderu am yr effaith y mae’r refferendwm wedi ei chael ar y diwydiant dur yn y DU, ac nid oes amheuaeth fod canlyniad y refferendwm wedi creu cryn ansicrwydd ac ymdeimlad dwfn o bryder hefyd. Ategaf gyfraniad Lee Waters, a ddisgrifiodd faint y pryder y mae gweithwyr dur a’u teuluoedd bellach yn ei wynebu.
Nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl gan strategaeth UKIP mai lladd arian cyfredol cenedlaethol yw’r ffordd orau i dyfu economi. Nid wyf yn cofio’r Aelod sy’n eistedd yma heddiw ar hyn o bryd, ond a oedd mewn man arall am nifer o flynyddoedd, yn dathlu’r gostyngiad yng ngwerth y bunt yn ôl yn y 1990au.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf.
I’r gwrthwyneb, rwy’n meddwl ei bod yn adeg ryfeddol tu hwnt, ac rwyf bob amser wedi ei alw’n ‘Ddydd Mercher Gwyn’ yn hytrach na ‘Dydd Mercher Du’. Fodd bynnag, yn wahanol i’r adeg honno, ar y data diweddaraf, mae gennym ddiffyg cyfrif cyfredol o 7 y cant o gynnyrch domestig gros. Mae ei bennaeth wedi sôn llawer am y modd y mae’r bunt uchel wedi bod yn anfantais i gynhyrchiant dur. Yn sicr, er mwyn dod yn fwy cystadleuol, mae arnom angen arian cyfredol is.
Mae’r Aelod wedi anwybyddu dro ar ôl tro y ffaith fod deunyddiau crai a fewnforir o dramor hyd yn oed yn fwy drud yn awr a bydd yn mygu twf yn y sector hwn. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny; nid oes unrhyw fudd net. Mae yna hefyd, fel y nododd yr Aelodau eisoes—Bethan Jenkins, Dai Lloyd ac eraill—eironi Shakespearaidd trasig yn yr hyn y mae Aelodau UKIP wedi ei ddweud heddiw a’r hyn y maent wedi ei wneud mewn gwirionedd yn y gorffennol, lle maent heddiw wedi honni y bydd tariffau amddiffynnol yn wych ar gyfer y diwydiant dur, ond yn y gorffennol, pan oedd ganddynt gyfle i gyflwyno tariffau a fyddai’n ffafrio ein diwydiant dur, fe wnaethant y gwrthwyneb yn llwyr. Gallai sinig amau bod UKIP yn y gorffennol wedi mynd ati’n fwriadol i danseilio’r diwydiant dur er mwyn gwneud elw gwleidyddol o’r ansicrwydd yr arweiniai hynny ato.
Rwy’n credu y byddai aelodau o’r cyhoedd yn gywir yn amau unrhyw wleidydd sy’n dweud yn derfynol, ‘Mae hyn yn wych’ neu ‘Mae hyn yn enbyd.’ Gadewch i ni ei adael i’r arbenigwyr. Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf yn unig, cyhoeddodd UK Steel eu maniffesto, sy’n agor gyda datganiad go glir:
Roedd canlyniad Refferendwm yr UE yn ergyd i’r diwydiant dur.
Yn fy marn i, nid gadael yr UE yw’r ffordd orau o ddatblygu diwydiant dur Prydain, ond gallaf eich sicrhau o hyn: mae’r bobl wedi siarad ac fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau dyfodol diogel. Rydym yn gweithio’n ddiflino i gefnogi’r broses werthu a’r cymunedau dan sylw, a byddwn yn parhau i roi pob adnodd sydd gennym fel Llywodraeth tuag at y diben hwnnw. Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio’r neges hon yn gyson ac yn uniongyrchol wrth uwch-arweinwyr Tata yn Ewrop ac yn Mumbai, yn ogystal ag ar y lefelau uchaf o Lywodraeth San Steffan. Byddwn yn parhau i bwysleisio’r neges hon. Yn wir, mae’r dirprwy ysgrifennydd parhaol, fy swyddog uchaf, yn hedfan allan i gyfarfod y bwrdd ddydd Gwener i gyfleu ein safbwynt yn y termau cryfaf posibl.
Serch hynny, mae canlyniad y refferendwm a newidiadau Llywodraeth y DU yn codi cwestiynau pwysig am y dyfodol. Mae’n hanfodol nad yw ansicrwydd arweinwyr ar lefel Llywodraeth y DU yn effeithio ar eu hymrwymiad datganedig i wneud popeth a allant i sicrhau dyfodol ein diwydiant dur. Rwy’n gobeithio nad yw sylw Whitehall ar ddyfodol ein gweithfeydd dur yma yng Nghymru wedi llacio o ganlyniad i ddigwyddiadau diweddar, ac na fydd yn gwanhau nac yn dod i ben. Un o’n blaenoriaethau allweddol yw cadw’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn weithredol, ond yr un mor bwysig yw sicrhau bod Port Talbot yn parhau i fod yn brif gyflenwr dur i safleoedd eraill Cymru, yn ogystal ag i Hartlepool ac i Corby.
Soniodd Hannah Blythyn am fater pwysig diogelu ein holl safleoedd dur, a hoffwn ei chanmol am y gwaith y mae wedi ei wneud yn cynrychioli gweithwyr ar safle Shotton. Hefyd, roedd Hannah Blythyn, yn gwbl briodol, yn tynnu sylw at y ffaith y byddai cryn ansicrwydd yn cael ei achosi yn ystod y broses o drafod cytundeb fframwaith newydd, a allai gymryd degawd neu fwy—ansicrwydd ac wrth gwrs, fel y dywedais eisoes, pryder i’r rhai a gyflogir yn y diwydiant dur.
Rydym yn aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Tata ar sut y mae’n dod yn ei flaen gyda’r broses werthu, ac rydym yn parhau’n barod i gefnogi unrhyw gynigwyr a fydd yn sicrhau bod swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy yn aros yng Nghymru. Mae ein cynnig o gymorth yn parhau i fod ar y bwrdd, ond ni allwn ystyried manylion unrhyw gynnig penodol hyd nes y cyrhaeddwn y cam nesaf pan fydd gennym fwy o eglurder ynghylch cynlluniau cynigydd. [Torri ar draws.] Buaswn yn hoffi, ond mae’n ddrwg gennyf.
Tra bo Tata yn parhau i roi ystyriaeth ddyladwy i’r mater, mae’n fwy hanfodol nag erioed o’r blaen, fel y dywedodd Russell George ac fel y dywedodd John Griffiths, fod Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda ni, y diwydiant dur, undebau llafur dur a phartneriaid eraill i ennyn hyder ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i greu’r amgylchedd busnes cywir a fydd yn cynnal diwydiant dur cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig. Fis diwethaf, mynychais gyngor dur Llywodraeth y DU. Mae gan y cyngor bedwar grŵp sy’n gweithio dan arweiniad y diwydiant i ystyried, nid yn unig sut rydym yn ymateb i’r argyfwng dur presennol, ond hefyd sut i alluogi cynaladwyedd hirdymor cynhyrchu dur yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae gennym ein tasglu dur ein hunain hefyd. Byddaf yn cadeirio cyfarfodydd y tasglu yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y momentwm a’r bartneriaeth gadarnhaol sy’n cael ei datblygu i gefnogi gweithwyr. A byddwn yn falch o roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau yn yr wythnosau nesaf ar y cynnydd a wnaed.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo’n dda ar gryfhau ein polisi caffael, a fydd yn egluro pwysigrwydd agor cyfleoedd i gyflenwyr dur yn y DU. Bu cynnydd, hefyd, ar ardal fenter glannau Port Talbot sydd newydd ei sefydlu, ac a gynhaliodd ei gyfarfod cyntaf fis diwethaf. Bydd y bwrdd yn datblygu ei strategaeth drwy adeiladu ar y sgiliau gweithgynhyrchu uwch o’r radd flaenaf a’r dreftadaeth weithgynhyrchu gref. Bydd yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, entrepreneuriaeth wedi ei gyrru gan arloesedd, gan gynnwys cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r brifysgol a dinas-ranbarth Bae Abertawe, fel yr amlinellwyd gan fy ffrind a fy nghyd-Aelod, Dai Rees.
Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Tata Steel a chynrychiolwyr y diwydiant dur yng Nghymru a’r DU i ailadrodd bod Cymru, fel gwlad, wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy. Disgwyliwn i’r holl rai rydym yn ymgysylltu â hwy i wneud eu gorau glas i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Er gwaethaf canlyniad y refferendwm, mae Cymru ar agor i fusnes—ac rwy’n benderfynol o’i chadw felly, ac rwyf yr un mor benderfynol o adeiladu dyfodol disglair i’n diwydiant dur hefyd.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar David Rowlands i ymateb i’r ddadl. David Rowlands.
Diolch yn fawr. Wel, rhaid i mi ddweud bod llawer wedi cael ei ddweud yn y Siambr hon am yr angen i gadw hyder yn economi Cymru ac economi Prydain. Wel, yn ystod y pythefnos diwethaf ers pleidleisio dros adael yr UE, ni fyddai gan neb a fu’n gwrando ar y sylwadau yn y Siambr hon unrhyw hyder o gwbl yn ein gallu fel cenedl i gynnal economi dda a hyderus sy’n ehangu.
Afraid dweud ein bod i gyd yn gresynu at yr ansefydlogrwydd mewn perthynas â gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot a’r canlyniadau a fyddai’n deillio o’i gau, nid yn unig i weithwyr a’u teuluoedd, ond i economi ehangach Port Talbot yn ei chyfanrwydd. Ond teimlaf fod yn rhaid gwneud pwynt yma fod y Blaid Lafur yn hwyr iawn yn dod at y frwydr i achub swyddi yn y diwydiant dur, yma yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol. O dan y Llywodraeth Lafur ac wrth gwrs, tra roeddem yn y DU—yr UE—collodd y DU oddeutu—[Torri ar draws.] Collodd y DU oddeutu 33,000 o swyddi yn y diwydiant dur, gan ddisgyn o 68,000 pan ddaeth Llafur i rym yn 1997 i tua 35,000 pan adawsant yn 2010, gan gynnwys gostwng o 17,000 i 7,000 yng Nghymru yn yr un cyfnod. [Torri ar draws.] Na, mae’n ddrwg gennyf. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Yn hytrach na helpu diwydiant dur Prydain, rwy’n awgrymu bod ein presenoldeb yn y prosiect gwleidyddol Ewropeaidd wedi bod yn anfantais enfawr i’r diwydiant.
O dan reolau caffael yr UE, er enghraifft, bydd 100 o gerbydau ymladd Ajax newydd y Fyddin Brydeinig yn cael eu hadeiladu yn Sbaen gan ddefnyddio dur o Sweden. Roedd hyn ar gais Brwsel, a ddefnyddiodd grantiau’r UE er mwyn cynnal swyddi yn Sbaen. [Torri ar draws.] Gallwn gyfrif—[Torri ar draws.] Gallwn gyfrif nifer o achosion o’r fath. Ers ymuno â’r Undeb Ewropeaidd rydym bron iawn â cholli rhannau helaeth o’n diwydiannau gweithgynhyrchu—adeiladu llongau, adeiladu trenau a cherbydau, mae’r diwydiant cemegol yn dirywio’n derfynol, mae tecstilau mewn argyfwng, ac mae’r diwydiant pysgota a ffermio bron iawn â bod wedi dirywio’n llwyr.
Mae’r Prif Weinidog wedi datgan sawl gwaith, os cofiaf yn iawn, pa mor lân yw ein hafonydd a’n traethau o ganlyniad i ddeddfwriaeth amgylcheddol yr UE. Wel, mae’n ddrwg gennyf hysbysu’r Prif Weinidog nad oes ganddo ddim i’w wneud â rheoliadau’r UE; y rheswm am hynny yw nad oes gennym ddiwydiannau i’w llygru bellach. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’] Rydym wedi clywed hyd syrffed gan Aelodau’r Cynulliad hwn am y trychineb a ddaw i ran economi Cymru os na chawn arian grant.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Ai eich cynigion felly—? A ydych felly yn barod i gael gwared ar yr holl ddiwydiant yng Nghymru er mwyn i chi gael amgylchedd glân, oherwydd dyna rydych newydd ei ddweud?
Wel, dyna beth sy’n digwydd. [Torri ar draws.] Dyna beth sy’n digwydd. [Torri ar draws.] Mae’n ganlyniad peidio â chael y diwydiant. Mae’r ateb yn y ffaith ein bod, ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Lafur yn y sefydliad hwn ac am flynyddoedd lawer gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn gymwys i gael y grantiau hynny—. Mae’n ddrwg gennyf, fe ailadroddaf hyn, gan i rywun dorri ar draws.
Rydym wedi clywed hyd syrffed gan Aelodau’r Cynulliad hwn am y trychineb a ddaw i ran economi Cymru os na fyddwn yn cael arian grant yr UE neu wrth gwrs, yr arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU ar ôl gadael yr UE. Os yw hyn yn wir mae’n rhaid i ni ofyn y cwestiwn ‘pam?’ Mae’r ateb yn y ffaith ein bod, ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Lafur yn y sefydliad hwn ac am flynyddoedd lawer gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn gymwys i gael y grantiau hynny oherwydd ein bod yn dal i fod yn un o ranbarthau tlotaf Ewrop. Mae llawer o Aelodau’r Cynulliad hwn yn ymddwyn fel pe bai’r arian Ewropeaidd hwn yn galon ac enaid y genedl hon. Maent yn anwybyddu’r ffaith fod yr holl arian a gawn gan Ewrop yn fychan iawn o gymharu â’r symiau a gawn gan fformiwla Barnett, hyd yn oed gyda’i ddiffygion amlwg. [Torri ar draws.] Rydym ni yn UKIP yn hyderus os yw’r pleidiau’r tŷ yn gweithredu’n unedig â’r pleidiau eraill, fel rydym i gyd wedi addo ei wneud, fe gawn arian gan Lywodraeth y DU a fydd yn cyfateb—na, yn fwy—na’r arian a gawn gan Ewrop.
Rydym ni yn UKIP, yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r wrthblaid yn y Cynulliad, yn credu y gallwn ymddiried yn ein gwleidyddion Cymreig a Phrydeinig ein hunain yn San Steffan yn hytrach na chasgliad o gomisiynwyr tramor anatebol ac annemocrataidd ym Mrwsel, a than ein nawdd ein hunain bydd gobaith i Tata Steel oroesi am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Cafwyd gwrthwynebiad, felly fe—[Torri ar draws.] Diolch. Rwy’n gwybod bod pawb yn gynhyrfus ynglŷn â digwyddiad a allai ddigwydd heno ond os na fyddwn yn ymdawelu, byddwn yn dal yma’n pleidleisio cyn dechrau’r digwyddiad hwnnw, felly a gawn ni bleidleisio’n ddistaw, os gwelwch yn dda? Gohiriaf y pleidleisio yn awr tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym wedi cytuno y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, af ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. A oes unrhyw un sy’n dymuno i’r gloch gael ei chanu? Nac oes.
Iawn, symudwn ymlaen at y pleidleisio. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton a Caroline Jones. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 5, yn erbyn y cynnig 43. Nid oedd neb yn ymatal. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 5, Yn erbyn 43, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6058.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 34, yn erbyn y cynnig—mae’n ddrwg gennyf, y gwelliant, mae’n ddrwg gennyf. Felly, o blaid gwelliant 1 34, yn erbyn gwelliant 1 14, neb yn ymatal. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 14, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6058.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, mae gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol.
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Symudwn i bleidlais ar welliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 46, yn erbyn y gwelliant 2. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 46, Yn erbyn 2, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6058.
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, yn erbyn 27, ac roedd 10 yn ymatal. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 10, Yn erbyn 27, Ymatal 10.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6058.
Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 44, yn erbyn y gwelliant 2, gydag un yn ymatal. Felly derbyniwyd y gwelliant.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 44, Yn erbyn 2, Ymatal 1.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6058.
Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 34, yn erbyn y gwelliant 5. Roedd 9 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 5, Ymatal 9.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 7 i gynnig NDM6058.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6058 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i’r Farchnad Sengl.
2. Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
4. Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio’r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop—mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 43, yn erbyn y cynnig 5. Nid oedd neb yn ymatal.
Derbyniwyd cynnig NDM6058 fel y’i diwygiwyd: O blaid 43, Yn erbyn 5, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6058 fel y’i diwygiwyd.
Cytunwyd y bydd y ddadl fer yn cael ei gohirio tan ddydd Mercher 13 Gorffennaf. Felly, dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Ac fel y soniodd y Llywydd ar ddechrau’r trafodion, pob lwc i’r tîm pêl-droed, a lle bynnag y byddwn yn gwylio, a gawn ni i gyd ddweud, ‘Yn gryfach gyda’n gilydd, yn unedig fel gwlad’? Ac rwy’n siŵr y byddwn i gyd yn dychwelyd yfory gyda’r canlyniad cywir. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:55.