Y Cyfarfod Llawn
Plenary
30/06/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Prynhawn da. Prynhawn da, bawb.
Croeso nôl. Rydyn ni'n dechrau nawr gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, cwestiwn 1, Francesca O'Brien.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio yn y sector addysg? OQ64315
Mae cefnogi'r gweithlu addysg yn ganolog i'n cenhadaeth i godi safonau a rhoi'r sylfaen orau i ddysgwyr ar gyfer eu dyfodol. Roeddwn i'n falch o ymuno â'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ar 11 Mehefin i gyhoeddi ein bod ni wedi cyflawni ein hymrwymiad 100 diwrnod i gynyddu'r cymhelliant pwnc blaenoriaeth i athrawon dan hyfforddiant i £20,000 o fis Medi ymlaen, er mwyn cefnogi recriwtio ledled Cymru.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Brif Weinidog, cyflwynodd y Llywodraeth Lafur flaenorol grant o £5,000 sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant ar sail eu hethnigrwydd yn unig—nid eu harbenigedd pwnc, nid eu gallu, nid eu potensial, ond eu hethnigrwydd yn unig. Ar ôl pedair blynedd, mae data Llywodraeth Lafur Cymru ei hun yn dangos bod y cynllun wedi gwneud bron dim byd. Yn y cyfamser, nid yw un o bob pump plentyn sy'n gadael yr ysgol gynradd yng Nghymru yn gallu darllen yn iawn ac mae ein sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi cyrraedd lefelau isaf erioed o gymharu â gweddill y DU. Mae eich maniffesto yn addo gwell cymhellion i athrawon dan hyfforddiant ac mae eich Llywodraeth newydd eisoes wedi cyflwyno'r grant hwn yn dawel ymlaen i 2026-27. Brif Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth hon barhau i dalu arian cyhoeddus i recriwtio athrawon ar sail hil yn hytrach na theilyngdod, neu a wnewch chi ymrwymo o'r diwedd i system recriwtio athrawon sy'n barnu pob ymgeisydd yn ôl yr un safon, fel y mae pobl Cymru yn ei haeddu?
Roedd y maniffesto y gwnes i sefyll ar ei sail yn addo rhoi camau ar waith i gymell recriwtio athrawon. Dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud. Mae angen mwy o athrawon arnom ni. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gytuno ar hynny. Rydym ni wedi cymryd mesurau drwy nodi meysydd arbenigol eisoes. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod ni'n estyn allan i gymunedau nad oes digon o athrawon wedi bod yn dod ohonyn nhw. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr bod ein gweithlu addysgu yn adlewyrchu poblogaeth Cymru, lle rwy'n credu, ar y mater penodol hwn, y mae 2 y cant o'r gweithlu addysgu presennol yn nodi eu bod yn dod o leiafrif ethnig o'i gymharu â 12 y cant o ddysgwyr. Felly, mae gwneud yn siŵr bod y gweithlu yn adlewyrchu'r disgyblion yn bwysig iawn hefyd, ond ceir llawer o wahanol ffyrdd yr ydym ni'n benderfynol o gymell athrawon, oherwydd mae angen y rhai gorau arnom ni i wella safonau addysg. Dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud.
Mae ysgolion yn Ngŵyr Abertawe yn nodi cynnydd mewn absenoldeb, sy'n arwain at gynnydd mewn pryderon ynghylch anxiety—pryder—a iechyd meddwl sy'n gysylltiedig. Mae clod mawr i John Davies fan hyn, achos ei synied ef oedd e ein bod ni'n mynd rownd ysgolion Gŵyr Abertawe i weld beth oedd y problemau, so ein bod ni'n gallu gweld beth rydyn ni'n gallu gwneud amdanyn nhw. Mae'r absenoldebau yn achosi problemau dysgu, problemau i rieni a phroblemau i athrawon. Yn amlwg, mae'r rhain i gyd yn gwneud dysgu yn anoddach fyth, ac yn effeithio ar nid dim ond recriwtio ond ar gadw athrawon yn y swydd hefyd. Pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi athrawon gyda hyn a’u helpu i aros mewn swyddi? Diolch.
Dwi'n llongyfarch yr Aelodau lleol am sicrhau eu bod nhw'n mynd i ysgolion i ddeall beth ydy'r heriau sy'n cael eu hwynebu. Mae presenoldeb rheolaidd, rydyn ni'n gwybod, yn hanfodol ar gyfer cyfranogiad, ar gyfer cyflawniad addysgol a lles disgyblion. Rydyn ni'n canolbwyntio ar nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny cyn gynted â phosib, gan alluogi plant a phobl ifanc i fynychu'r ysgol, cymryd rhan mewn dysgu a chyflawni eu potensial llawn. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn gweithio i fynd i'r afael yn benodol ag achosion sylfaenol absenoldeb, gan gynnwys drwy rannu gwybodaeth yn well a thynnu ynghyd y partneriaid sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen yn y maes yma—gwasanaethau addysg, lles a chymorth—gwella ymgysylltu drwy wneud hynny, ac, yn y pen draw, gobeithio lleihau absenoldeb.
Fe wnaf i ddweud bod lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y gweithlu addysgu. Mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwael, ac rwy'n falch iawn o'r camau a gymerodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf i geisio mynd i'r afael â hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am barhau â'r cyllid hwnnw.
Fodd bynnag, Brif Weinidog, ar fater gwahanol, fe wnaethoch chi sôn am eich cyhoeddiad blaenllaw yn gynnar eleni i wella recriwtio yn y sector addysg. Mae'n gam sydd wedi cael ei feirniadu yn eang. Disgrifiodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon y cynlluniau fel ateb plastr glynu a rhybuddiodd ei fod yn arwain at berygl o greu gweithlu dwy haen. Yn anhygoel, mae'n ymddangos nad yw'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon aros yn y proffesiwn am gyfnod penodol o amser ar ôl derbyn y cymhellion ariannol a gynigir.
Felly, Brif Weinidog, allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau gawsoch chi gydag undebau llafur athrawon cyn cyhoeddi'r cynlluniau yma? Rydych chi wedi dweud eich bod chi eisiau gweithio mewn partneriaeth. Beth oedd y trafodaethau gafwyd? Pam na wrandawoch chi ar y consýrn maen nhw wedi ei godi, os gwnaethoch chi gwrdd â nhw? Os na wnaethoch chi gwrdd â nhw, yna sut ydych chi nawr yn mynd i ddysgu'r gwersi?
Beth wnaf i ddweud ydy, wrth gwrs, fod y Gweinidog dros addysg yn cyfarfod cynrychiolwyr undebau drwy'r amser. Mae partneriaeth efo undebau yn rhywbeth pwysig. Mae'n Weinidog sydd, yn digwydd bod, â phrofiad o weithio yn y maes hwnnw ei hun. Felly, all neb gyhuddo'r Gweinidog addysg yma o beidio parchu'r berthynas efo undebau'r athrawon. Ar ddiwedd y dydd, mae yna fwriad neu mae yna nod gennym ni yma, fel Llywodraeth, i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio, a cham cyntaf ydy hwn, wrth gwrs, fydd yn arwain at adeiladu'r incentives rydyn ni'n bwriadu eu rhoi mewn lle, oherwydd mae athrawon presennol angen gwneud yn siŵr eu bod nhw yn cael eu cefnogi. A rhan fawr o'r gefnogaeth yna ydy gwneud yn siŵr bod yna wytnwch ar draws y gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd.
Roedd Gwyn Williams yn gwbl gywir i dynnu sylw at yr her o ran cadw ein hathrawon gweithgar ar hyn o bryd hefyd, Brif Weinidog. Dangosodd arolwg diweddar gan un undeb athrawon fod 38 y cant o athrawon yma yng Nghymru wedi dioddef rhyw fath o drais yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae nifer o athrawon bellach yn dweud wrthym ni mai un o'r prif resymau pam maen nhw'n gadael y proffesiwn yw oherwydd trais ac ymddygiad ofnadwy yn yr ystafell ddosbarth. Felly, Brif Weinidog, beth fyddwch chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau hyn y mae athrawon yn eu dioddef yn yr ystafelloedd dosbarth, fel y gall ein hathrawon deimlo'n ddiogel yn gwneud y gwaith y maen nhw wrth eu boddau yn ei wneud?
Rwy'n meddwl bod yr Aelod yn llygad ei le, a dyna pam mae'r blaid yr wyf i'n ei harwain wedi siarad mor eglur am fod angen y dull cyfannol hwnnw, y dull cofleidiol hwnnw, i roi'r cymorth sydd ei angen ar ddisgyblion ac athrawon, ac, wrth gwrs, mae mynd i'r afael â thrais yn amgylchedd yr ysgol yn rhywbeth sy'n eithriadol o bwysig. Mae'r Aelod yn gwbl gywir i nodi, wrth gwrs, bod llu o faterion sy'n dod at ei gilydd i wneud addysgu yn opsiwn deniadol, yn broffesiwn deniadol. Rwyf i eisiau i bobl deimlo cyffro am ymuno â'r proffesiwn hwnnw. Roedd fy nau riant yn athrawon eu hunain. Mae teimlo'n ddiogel yn amgylchedd yr ysgol, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn o'r cymorth y gallwn ni ei roi i'r gweithlu.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw fiolegol? OQ64253
Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu cyfreithlon, cyson ac ymarferol yng Nghymru, gan gynnal urddas a pharch pawb.
Brif Weinidog, cysylltodd sawl aelod o staff pryderus â mi yn ddiweddar, sydd eisiau aros yn ddienw, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ar ôl iddyn nhw dderbyn cyflwyniad o'r enw 'transcending boundaries, celebrating transgender awareness week and how to be an ally'. Rwy'n hollol o blaid amrywiaeth, ond byddai'n llawer gwell gen i pe bai staff y GIG yn canolbwyntio ar gleifion a darparu gofal, yn hytrach na bod eu sylw yn cael eu tynnu gan sesiynau hyfforddi nad ydyn nhw'n gwella gofal cleifion a gwasanaethau rheng flaen. Dywedodd staff wrthyf i eu bod nhw'n teimlo'n hynod anghyfforddus â'r sesiwn, gan ddweud ei bod yn hynod rhywioledig ac amhriodol. Ni allaf i ddweud fy mod i'n eu beio nhw pan fyddwch chi'n clywed rhywfaint o gynnwys y cyflwyniad. Brif Weinidog, roedd rhan o'r cyflwyniad yn cynnwys dyn yn siarad am ei organau cenhedlu, ochr yn ochr â llun o roced, ac mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Dim angen Viagra'. Mae'r cyflwyniad hefyd yn cynnwys llun o ddyn pan oedd yn noeth fel plentyn. Mae'r cyflwyniad hefyd yn sôn am faterion ystafell ymolchi trawsryweddol a chynorthwyo dynion mewn mannau menywod. Mae hyn i gyd ar gael i bawb ei wylio ar-lein. A ydych chi'n cytuno â mi, Brif Weinidog, bod hyn yn peri gofid a phryder enfawr, yn ogystal â'r ffaith nad yw'n briodol ar gyfer y gweithle? Ac yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys y llynedd, a chanllawiau drafft y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn dilyn y gyfraith ac yn diogelu mannau menywod?
Dilyn y gyfraith, mewn sawl ffordd, yw'r darn hawdd. Mae hon yn Llywodraeth a fydd yn dilyn y gyfraith, ac, fel sefydliadau cyhoeddus, mae'n rhaid i ni ddilyn y gyfraith. Does dim amheuaeth y tu ôl i hynny o gwbl. Mae'r hyn sydd gennym ni yma hefyd yn rhywbeth sydd wedi dod yn ddadunol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A byddwn yn apelio i ymdeimlad yr Aelod o arweinyddiaeth wleidyddol ym mhopeth y mae'n ei wneud i ymgysylltu â'r mater hwn i ddangos yr arweinyddiaeth honno, sy'n sicr yn golygu gwrando ar bryderon pobl, sy'n codi pryderon dilys, ond hefyd cydbwyso hynny yn erbyn—. Mae'n sôn am 'aelodau staff pryderus'. Rydym ni'n clywed gan bobl drawsrywiol pryderus iawn sy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu dadrymuso ac yn cael eu rhoi mewn perygl, hyd yn oed, gan y ddadl bresennol. A dyna, rwy'n credu, yw o le mae arweinyddiaeth wleidyddol yn dod. Allaf i ddim gwneud sylwadau ar y deunydd penodol y soniodd amdano oherwydd nad wyf i'n ymwybodol o beth ydyw. Ond nid buddugoliaeth un ochr dros y llall oedd y dyfarniad hwnnw gan y Goruchaf Lys. Roeddwn i'n gwrando ar yr adeg pan gyhoeddwyd y dyfarniad. Yr hyn a ddechreuodd oedd cyfnod newydd o'r angen am fwy o ddealltwriaeth rhwng pobl sydd â gwahanol safbwyntiau. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod yn ymwybodol o hynny wrth geisio oeri'r tymheredd ar yr hyn sydd wedi dod yn ddadl danllyd ond hefyd yn ddadl boenus iawn i lawer o unigolion.
Brif Weinidog, mae bellach wedi bod yn 440 diwrnod ers i'r Goruchaf Lys ddyfarnu bod y diffiniad cyfreithiol o fenyw o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at ryw biolegol ac nid hunaniaeth rhywedd. Onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod 440 diwrnod yn amser hir iawn i aros am yr amddiffyniadau hanfodol a amlinellir yn y dyfarniad, sy'n dal i gael eu gwrthod i 51 y cant o'r boblogaeth a'u hanwybyddu ar draws sawl sector, gan gynnwys y llywodraeth, addysg, iechyd a'r sector masnachol? Mae nifer o achosion ledled y DU yn cael eu dwyn a'u hennill, yn gywir, yn seiliedig ar y dyfarniad hwn. Yn ddiweddar, darparodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol god ymarfer wedi'i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Mae'r cod hwn yn cynnwys darpariaethau penodol ar gyfer creu mannau un rhyw. A ydym ni'n aros ac yn petruso, gan ganiatáu i achosion o'r fath gael eu dwyn yma yng Nghymru, neu a wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi amserlen bendant ar sut a phryd y maen nhw'n bwriadu diweddaru'r polisïau a'r canllawiau yng Nghymru yng ngoleuni'r datblygiadau hyn? Ac a yw'r Prif Weinidog yn parchu dyfarniad y Goruchaf Lys?
Fel y dywedais i, yr hyn a wnaeth dyfarniad y Goruchaf Lys oedd cychwyn cyfnod newydd ar gyfer trafodaeth ynglŷn â hyn, lle gallwn ni ganiatáu i ddaduniad ddod i'r amlwg, neu y gallwn ni geisio deall yn well y pryderon a'r realiti i bobl ar ddwy ochr y ddadl.
O ran yr aros, mae aros yn llythrennol yn rhan o gyhoeddi cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, o'r safbwynt ei fod yn cael ei gyhoeddi ac yna rydym ni'n aros i weld beth yw'r ymateb. Ac os, ar adeg benodol, sef mis nesaf fel y mae'n digwydd, nad oes unrhyw wrthwynebiadau, yna mae'n cael ei roi ar waith. Rydym ni fel Llywodraeth yn adolygu'r drafft hwnnw, gan ei fod yn god ymarfer gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i asesu'r goblygiadau i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn gweithredu yn unol â'r gyfraith. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n cydymffurfio â'r gyfraith. Ond rydym ni hefyd yn Llywodraeth sydd â gwerthoedd, sy'n deall y pryderon gwirioneddol sydd gan rai pobl, ond sy'n cydnabod hefyd nad yw'r dyfarniad gwreiddiol hwnnw yn cael gwared ar amddiffyniadau i bobl drawsryweddol, er enghraifft, sy'n parhau i gael eu diogelu rhag gwahaniaethu ac aflonyddu o dan ailbennu rhywedd, ac mae angen i ni gamu ymlaen i'w hamddiffyn lle maen nhw'n teimlo mewn perygl.
Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Dan Thomas.
Diolch, Lywydd. Tynnwyd sylw at drafferthion ein nyrsys dan hyfforddiant eto yr wythnos hon, ac adroddwyd bod 400 o nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant wedi cael gwybod nad oes swydd yn aros amdanyn nhw pan fyddan nhw'n graddio, ar adeg pan fo gan y GIG brinder nyrsys difrifol. Nawr, mae'r gyllideb atodol yn dyrannu £145 miliwn i'r GIG. A fydd unrhyw ran o'r cyllid hwnnw yn cael ei defnyddio i sicrhau swydd i fydwragedd dan hyfforddiant a nyrsys dan hyfforddiant pan fyddan nhw'n gorffen eu hyfforddiant?
Mae rhai pethau, os caf i ddweud, na all arian eu prynu. Mae problem benodol sydd wedi codi eleni, na ddylai fod wedi codi, ond mae wedi codi oherwydd bod niferoedd hyfforddi ar gyfer y cohort hwn sy'n chwilio am swyddi ym mis Medi eleni wedi cael eu comisiynu yn 2022. Rŵan, rydym ni bellach yn byw gyda'r heriau a achoswyd gan y gor-gomisiynu bryd hynny. Rwy'n cydnabod ac yn bryderus iawn am ba mor annifyr yw hynny i raddedigion sydd heb sicrhau swydd. Dyna pam y daeth y Gweinidog Cabinet dros iechyd â phartneriaid at ei gilydd ar 18 Mehefin, gan ofyn i'r system symud yn gyflym i sicrhau cynifer o gyfleoedd â phosibl, i ddarparu cefnogaeth gyson, i wella cynllunio ar gyfer cohortau'r dyfodol. Mae nifer o fesurau yn cael eu cymryd ar ailagor, symleiddio, cydgysylltu cenedlaethol parhaus gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gan nodi llwybrau cyflogaeth hyblyg trosiannol. Ond gadewch i ni atgoffa ein hunain: byddwn yn helpu'r rhai sy'n graddio rŵan i gael swyddi. Mae ganddyn nhw yrfaoedd yn y GIG. Rydym ni eu hangen nhw. Ond mae gennym ni broblem yr ydym ni'n ei hwynebu ar hyn o bryd, y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio o'i chwmpas i gynorthwyo, yn gwbl briodol, y rhai sy'n bryderus mewn ffordd na ddylen nhw fod, pan wnaethon nhw gofrestru ar y cyrsiau hynny yn 2022.
Ond, Brif Weinidog, nid dyna'r hyn sy'n cael ei ddweud wrth y nyrsys a'r bydwragedd dan hyfforddiant hyn. Maen nhw'n wirioneddol bryderus am eu gyrfaoedd, a pha un a oes swydd yn aros amdanyn nhw. Nawr, rwy'n deall bod y sefyllfa yn fater etifeddiaeth a etifeddwyd gan y Blaid Lafur. Ond gallai Plaid Cymru ddewis gwahanol lwybr. Ar hyn o bryd, Reform sy'n cefnogi ein nyrsys dan hyfforddiant a'n bydwragedd dan hyfforddiant.
Nawr, o ran cyllideb atodol y Llywodraeth, mae'n amlwg o'r ymateb cychwynnol gan yr holl wrthbleidiau, os yw'r bleidlais yn cyd-fynd â'r rhethreg, na fydd gan y Llywodraeth gefnogaeth i'w chyllideb atodol, ac ni fydd yn mynd drwodd. Nawr, mae Plaid Cymru yn siarad am dryloywder, felly a wnaiff y Prif Weinidog ddatgelu a ydych chi'n cael unrhyw drafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol eraill, a oes unrhyw feysydd o gyfaddawdu o fewn y gyllideb atodol ac a fyddech chi'n fodlon gweithio gyda Reform?
Mae'r Aelod a minnau wedi cyfarfod. Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal yn barhaus ar draws, drwy'r—[Torri ar draws.] Wel, ni ddylai fod yn syndod i unrhyw un fy mod i wedi cyfarfod â holl arweinwyr pleidiau gwleidyddol yn y Senedd hon. Pan fyddaf i'n sôn am fod eisiau bod yn Llywodraeth gydweithredol, mae hynny'n golygu cael sgyrsiau gydag arweinwyr Reform, y Ceidwadwyr, Llafur a'r Blaid Werdd. Mae'n ddrwg gen i os yw hynny wedi bod yn syndod i unrhyw un.
Gwrandewch, y gyllideb atodol hon yw'r cyfle cyntaf i'r Llywodraeth hon gysoni'r rhywfaint o le sy'n bodoli, o fewn cyfyngiadau ariannol tynn, i gysoni cyllidebau â blaenoriaethau a gyflwynwyd ac y mae gennym ni fandad i'w rhoi ar waith. Ond rydym ni'n cydnabod bod hon yn Llywodraeth leiafrifol, a dyna pam, pan fyddwn ni'n apelio yn y Senedd ar bobl, Aelodau yma, i gefnogi'r mesurau hynny i sefydlogi a mynd i'r afael â rhestrau aros yn y GIG a'u lleihau, byddwn yn gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddai'r Aelod yn gallu ei gefnogi. Pan edrychaf i ar y mesurau sy'n cael eu cymryd nawr i gynorthwyo teuluoedd gyda'r argyfwng costau byw, trwy ofal plant estynedig, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a all apelio i Aelodau ar draws y Senedd hon, a mesurau i wella adeiladau ysgolion ac yn y blaen.
Nid yw hon yn Llywodraeth nad yw'n cydnabod yr angen i siarad ar draws y Siambr hon. Mae hon yn Llywodraeth sy'n benderfynol o roi'r rhaglen y gwnaethom ni sefyll ar ei sail ar waith ac yr ydym ni'n gwybod y byddwn ni angen cefnogaeth pobl eraill i'w gweithredu.
Diolch. Croesawais y cyfle i gael cyfarfod cyflwyniadol gyda'r Prif Weinidog, yn fuan ar ôl i ni gael ein hethol, ond cytunwyd na fyddem ni'n trafod polisi. At ddibenion tryloywder, hoffwn hysbysu'r Senedd am hynny, o leiaf.
Mae'n galonogol ei bod hi'n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi newid ei feddwl ynglŷn â gweithio gyda Reform, oherwydd, yn ystod yr etholiad, fe wnaethoch chi ddweud na fyddech chi'n gweithio gyda ni. Felly, mae hwnnw'n dro pedol i'w groesawu. Ein llinellau coch, fodd bynnag, fyddai sicrhau swydd i bob nyrs a bydwraig dan hyfforddiant—byddai honno'n llinell goch i ni—pan fyddan nhw'n gorffen eu hyfforddiant. Byddem ni hefyd eisiau cynyddu gwariant ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol a byddem ni eisiau rhoi'r gorau i wario arian trethdalwyr dramor a buddsoddi'r arian hwnnw yn GIG Cymru a phlant Cymru. Felly, dyna ein llinellau coch.
Ond waeth beth sy'n digwydd gyda'r gyllideb atodol, bu awgrymiadau y bydd cyllideb lawn yn dod i'r Senedd yn yr hydref. [Torri ar draws.] Cyllideb lawn yn dod—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n gobeithio y bydd yn dod. Rwy'n gobeithio y bydd yn dod. Dywedodd y Prif Weinidog fod ei faniffesto wedi'i gostio'n llawn. Felly, a fydd manylion holl gostiadau eich holl addewidion yn cael eu nodi yn y gyllideb yn yr hydref?
Dyma daranfollt i chi: bydd cyllideb yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Yr awgrym—[Torri ar draws.] Bu ymdeimlad—[Torri ar draws.] Bydd yn digwydd, gallaf sicrhau'r Aelod. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud fel dull o ymdrin â'r gyllideb honno, fel yr ydym ni wedi ei wneud nawr, fydd nodi, ymhlith amgylchiadau heriol, yr hyn yr ydym ni'n gobeithio ei gyflawni ar ran ac ar gyfer pobl Cymru. Rwy'n sylweddoli bod yr Aelod wedi gosod iechyd fel blaenoriaeth rŵan. Ni chafodd ei grybwyll gan ei blaid fel blaenoriaeth yn ystod yr etholiad yr ydym ni newydd ei ymladd, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod hwnnw'n cael ei ystyried yn faes pwysig rŵan. Dyna'n union pam mae wedi bod yn gwbl flaenllaw yn y gyllideb atodol hon, sy'n bwysig iawn er mwyn gwneud y gwaith hwnnw y gwnaethom ni addo i bobl Cymru y byddem ni'n ei wneud, sef adeiladu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mater i bob Aelod yma yw penderfynu a yw hynny'n rhywbeth y gallan nhw ei gefnogi yn y gyllideb atodol hon.
Arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates.
Brif Weinidog, rhwng nawr a 2029, faint mae eich Llywodraeth yn rhagweld y bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU mewn cyllid canlyniadol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol?
Mae'r taliad untro eleni, wrth gwrs, yn un yr ydym ni'n gwybod ei fod yn seiliedig ar ddyled hanesyddol yn Lloegr. O edrych ymlaen at flynyddoedd i ddod, dwy flynedd o nawr, ceir arwydd o gyllid canlyniadol. Mae'r Llywodraeth yr oedd yr Aelod yn arfer bod yn aelod ohoni ei hun yn gwybod yn iawn bod blaenoriaethu sut rydych chi'n gwario'r arian hwnnw yn benderfyniadau a wneir gan Lywodraethau'r dydd, mewn partneriaeth ag eraill, yn ôl yr angen. Ond byddwn yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar roi'r mesurau ar waith yr ydym ni'n credu all helpu plant mewn addysg, cleifion yn y gwasanaeth iechyd a theuluoedd sydd angen cymorth gyda gofal plant.
Diolch, Brif Weinidog. Mwy na £0.5 biliwn yw'r ateb—mwy na £0.5 biliwn a fydd yn dod i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i fwy o wariant gan Lywodraeth y DU ar anghenion dysgu ychwanegol. Mae hwnnw'n swm ychwanegol enfawr y bydd eich Llywodraeth yn ei dderbyn. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn galw am drosglwyddo cyllid canlyniadol eleni i gynghorau fel y gallan nhw ei drosglwyddo wedyn i ysgolion i'w fuddsoddi mewn plant ac yn y proffesiwn addysgu. Mae llawer o'ch Aelodau, fel yr wyf i wedi ei ddweud ar sawl achlysur, wedi bod yn gyson o ran galw am fwy o arian ADY ar gyfer y system. Felly, faint o gyllid ADY ychwanegol ydych chi'n fodlon ei ddyrannu ar gyfer plant ac ysgolion yng nghyllideb atodol eleni?
Bydd y rhai sydd wedi bod mewn Llywodraeth, Lywydd, yn gwybod bod dwy ochr i'r cyfriflyfr o ran cyllidebau. Oes, mae cyllid canlyniadol o bryd i'w gilydd, mae pwysau hefyd. Mae'r Llywodraeth hon wedi etifeddu pwysau sylweddol, y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw—ac rydym ni wedi etifeddu'r pwysau hynny gan Lywodraethau blaenorol—gan fabwysiadu dull hirdymor a chynaliadwy o ymdrin â'r system ADY gyfan. Nid yw'r pwysau ADY yr ydym ni'n gwybod ein bod ni'n eu teimlo—teuluoedd, plant, llywodraeth leol—yn mynd i gael eu datrys gan daliad untro eleni; syniadau hirdymor wrth ddatblygu polisi sy'n mynd i fynd i'r afael â nhw, a dyna'n union mae fy Ngweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn ei wneud. Mae dim llai na hynny yn ddyledus gennym ni i'r teuluoedd hynny.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa drafodaethau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael o fewn awdurdod cynllun masnachu allyriadau'r DU ynglŷn â'r angen i amddiffyn swyddi a buddsoddiad yng Nghymru rhag effaith gosbol y dreth garbon? Rydym ni'n gwybod o ffigurau a gyhoeddwyd dim ond yr wythnos diwethaf fod allyriadau diwydiannol wedi gostwng 25 y cant yn 2024 oherwydd cau ffwrneisi chwyth glo Tata ym Mhort Talbot. Ond, wrth gwrs, nid yw'n rhywbeth i'w ddathlu, oherwydd nid yn unig y mae wedi dileu, y dreth garbon, ein gallu sofran i gynhyrchu dur yma yng Nghymru, y cwbl yr ydym ni'n ei wneud bellach yw mewnforio dur o dramor, o wledydd eraill sy'n llygru'n fwy trwm, ac yn gwthio ein cynlluniau lleihau carbon i'r bin. Felly, a ydych chi'n cydnabod nad yw'r fframwaith treth carbon presennol yn gweithio, ei fod yn arwain at allforio allyriadau, allforio swyddi ac yn rhoi ein diogelwch cenedlaethol mewn perygl? A beth ydych chi a'ch Llywodraeth yn mynd i'w wneud nawr o fewn awdurdod cynllun masnachu allyriadau'r DU i ddadlau dros ddull gwell a mwy synhwyrol o ymdrin â sero net?
Byddwn yn gwneud y pwynt hwn yn gyntaf oll, Lywydd, fy mod i wedi galw erioed am bontio teg o ran dur. Roeddem ni'n gofyn i gynhyrchu dur sylfaenol gael ei ddiogelu ym Mhort Talbot, nid oherwydd nad oeddem ni'n gweld bod hwn yn ddiwydiant sy'n llygru—wrth gwrs—ond bod ffordd o bontio tuag at rywbeth a allai ddiogelu swyddi a buddsoddi yn y ffyrdd glanach hynny o gynhyrchu dur. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU o ran y drafodaeth, neu'r ddadl, Ewropeaidd ehangach, ynghylch masnachu allyriadau. Rydym ni'n benderfynol o sefyll yn gadarn dros fuddiannau Cymru, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n cael bargen gystal â phosibl i Gymru o'r trafodaethau hynny. Nid yw hynny'n gwadu effaith allyriadau ar newid hinsawdd. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n benderfynol o frwydro yn erbyn newid hinsawdd ym mhob ffordd y gallwn, ond rydym ni'n gwneud hynny drwy wneud y ddadl dros bontio teg ar yr un pryd.
Wel, wrth gwrs, fe allwch chi wneud y ddadl honno dros bontio teg o fewn awdurdod cynllun masnachu allyriadau'r DU. Dyna'r corff y mae gennych chi sedd arno, ac rydych chi'n gyfrifol ar y cyd fel Llywodraeth, ynghyd â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, am wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar ddyfodol y trefniadau hyn yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, bu pwyslais didrugaredd ac afrealistig ar y ras i sero net, nad yw wedi bod yn deg i lawer o gartrefi, i lawer o fusnesau a llawer o deuluoedd sydd wedi colli swyddi a cholli eu bywoliaeth o ganlyniad i'r ymgyrch ddidrugaredd hon.
Nawr, ymwelais yn ddiweddar â phurfa Valero ym Mhenfro. Mae'n un o ddim ond pedair purfa sydd ar ôl yn y DU; mae rhai eisoes wedi gwneud y penderfyniad i gau o ganlyniad i'r dreth garbon. Mae tua 1,000 o swyddi yn dibynnu ar y cyfleuster hwnnw, mae tua 15 y cant o allforion Cymru yn cael eu cyfrif o ganlyniad i'r busnes sy'n mynd drwy'r cyfleuster hwnnw, ac mae'n cyflenwi 15 y cant o danwydd trafnidiaeth y DU. Mae'n rhan hanfodol bwysig o'n seilwaith cenedlaethol, a byddai unrhyw benderfyniad i gau'r cyfleuster hwnnw yn achosi niwed sylweddol, nid yn unig i'n heconomi, ond i'n diogeledd ynni a'n diogeledd tanwydd trafnidiaeth hefyd, ac yn ei roi mewn perygl o anwadalrwydd marchnadoedd rhyngwladol. A ydych chi'n derbyn mai hwn yw'r amser i fabwysiadu dull gwahanol iawn o ymdrin â'r mater hwn i wneud yn siŵr nad yw dyfodol Valero a diwydiant trwm arall yng Nghymru yn cael ei beryglu gan yr ymdrech ddidrugaredd hon i gyrraedd sero net, sydd, a bod yn onest, ddim yn gweithio?
Mae gwahaniaeth o ran egwyddor rhyngom ni ar hyn. Rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur, ac fe'i gwnaf hi'n eglur eto, y bydd y Llywodraeth hon i mi a'm Gweinidog menter yn gwneud popeth y gallan nhw i sefyll yn gadarn dros ddiwydiant Cymru, ac mae hynny'n golygu gwneud y ddadl, bob amser, dros bontio teg. Oes, mae goblygiadau ynghylch masnachu allyriadau ar gyfer hynny, ond rydym ni'n cymryd golwg ehangach na hynny. Bydd buddsoddi yn ein diwydiannau ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol yn creu'r swyddi hynny a fydd yn y pen draw, ymhen amser, yn disodli swyddi sy'n llygru mwy mewn ffordd deg. Pan edrychwn ni ar ynni'r gwynt ar y môr arnofiol, y cyfarfod a gefais yn Iwerddon yr wythnos diwethaf gyda'r cwmni sy'n rhan o gynllun Erebus—bydd hyn yn creu miloedd o swyddi yng Nghymru.
Felly, rydym ni'n edrych ar fanteision economaidd, yn sicr, o'r pontio y mae angen i ni ei wneud. Ac o ran y defnydd o'r gair 'didrugaredd', efallai eich bod chi wedi sylwi ei bod hi braidd yn gynnes yr wythnos diwethaf, onid oedd? Dylech chi ddod i arfer â hyn. Dyma realiti newid hinsawdd, ac mae rheswm da pam mae angen i ni fod yn ddidrugaredd wrth fynd ar drywydd mesurau y gallwn ni eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd, tra hefyd yn gofalu am ddiwydiant yng Nghymru ac adeiladu diwydiant y dyfodol.
Mae cwestiynau 3 ac 8 wedi eu grwpio. Yn gyntaf, cwestiwn 3, Laura Anne Jones.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau diogeledd bwyd? OQ64317
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau diogeledd a gwydnwch bwyd? OQ64237
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno strategaeth fwyd genedlaethol ar gyfer Cymru a fydd yn cwmpasu diogeledd bwyd, yn mynd i'r afael â thlodi bwyd ac yn gwella llythrennedd bwyd a chanlyniadau iechyd. Yn rhan o gynllun y 100 diwrnod cyntaf, mae gwaith i benodi gweithgor gweinidogol i ddatblygu'r strategaeth ar y gweill, a bydd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn cynnig rhagor o fanylion yn yr wythnosau nesaf. Mae'r un ymateb yn berthnasol i gwestiwn 8 gan Peter Fox.
Brif Weinidog, rwy'n croesawu eich ateb ar bwysigrwydd diogeledd bwyd, ac mae'n braf gweld eich bod chi'n meddwl amdano. Ond allwch chi ddim, ar y naill law, ddweud bod diogeledd bwyd yn bwysig, mai dyna eich nod, bod gennych chi gynllun a fyddai'n gofyn am gymaint o dir fferm â phosibl, ac yna, ar y llaw arall, caniatáu i dir amaethyddol neu dir cynhyrchu bwyd safonol gael eu cymryd allan o faes cynhyrchu bwyd a'i ddefnyddio yn hytrach ar gyfer datblygiadau solar graddfa fawr. Felly, Brif Weinidog, pa un ydych chi ei eisiau?
Rwy'n meddwl bod fy safbwyntiau ar hyn yn arbennig o gyhoeddus. Dydw i ddim yn credu y dylid defnyddio tir BMV, y tir gorau a mwyaf amlbwrpas, ar gyfer ynni solar ar raddfa fawr. Mae rheolau cynllunio ar waith yng Nghymru sy'n golygu y dylem ni fod yn diogelu'r tir hwn ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae hon yn Llywodraeth a fydd eisiau dilyn y rheolau hynny sydd ar waith am reswm da iawn.
Brif Weinidog, rydym ni wedi gweld pa mor fregus y gall ein system fwyd fod, a dyna'n union pam y cyflwynais fy Mil bwyd yn 2022, i greu fframwaith cydgysylltiedig, hirdymor ar gyfer sut rydym ni'n cynhyrchu, yn dosbarthu ac yn bwyta bwyd yn y wlad hon, gan sicrhau nid yn unig ein diogeledd bwyd, ond hefyd mynd i'r afael â materion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â diffyg maeth a gordewdra. Yn anffodus, pleidleisiwyd yn ei erbyn pan na fyddai'r Llywodraeth Lafur flaenorol a Democrat Rhyddfrydol yn caniatáu iddo barhau, rhywbeth y gwn fod llawer ohonyn nhw yn dal i'w ddifaru.
Nawr, rwy'n cydnabod bod eich Llywodraeth wedi siarad yn gadarnhaol am lawer o'r un uchelgeisiau hyn, â rhai mentrau eisoes ar y gweill. Ond yr hyn sy'n parhau i fod yn absennol yw un cynllun cydlynol, cyflawnadwy sy'n dod â'r system fwyd gyfan at ei gilydd ac yn edrych arni ar sail gyfannol. Felly, Brif Weinidog, o ystyried y cysondeb eglur rhwng yr egwyddorion a nodir yn fy Mil Bwyd (Cymru) a'r uchelgeisiau y mae eich Llywodraeth wedi eu mynegi, a wnewch chi ymrwymo nawr i gyflwyno strategaeth fwyd genedlaethol gynhwysfawr, gyffredinol ar gyfer Cymru, un a fydd yn llywio'r system fwyd gyfan o'r fferm i'r fforc?
Rwy'n hoffi cadw fy atebion yn gymharol gryno, felly fe allwn i ateb gyda 'gwnaf', ond fe wnaf i roi ychydig mwy na hynny hefyd. A hoffwn ganmol yr Aelod am y gwaith a wnaeth yn y Senedd ddiwethaf, wrth gynnig ffordd—drwy ddeddfwriaeth, fel y mae'n digwydd—i ddiogelu a datblygu'r sector bwyd yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni wedi dweud y byddwn ni'n ei wneud—ac mae fy Gweinidog dros wydnwch gwledig eisoes yn torchi ei lewys ar hyn—yw ein bod ni'n mynd i fod yn cyflwyno'r union fath hwnnw o strategaeth fwyd genedlaethol, gyda'r bwriad o greu system gydgysylltiedig ar gyfer cynhyrchu a phrosesu hyd at fanwerthu a chaffael sector cyhoeddus, fel y gallwn ni gryfhau cadwyni cyflenwi, gwella gwydnwch, cynyddu argaeledd bwyd Cymru, gan gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd wrth i ni wneud hynny. Mae'n rhaid i'r pwyslais fod ar wella mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon, a dyna pam mae hyn o ddiddordeb i'm Gweinidogion iechyd, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn awyddus i'w ddatblygu erioed, ac y byddwn ni bellach yn bwrw ymlaen ag ef yn gyflym.
Brif Weinidog, mae'r tonnau gwres a'r patrymau tywydd ansefydlog yr ydym ni wedi eu gweld yn ystod y mis diwethaf yn fygythiad uniongyrchol i'n diogeledd bwyd hirdymor. Mae ymchwil ddiweddar gan y Gynghrair Werdd yn dangos bod effeithiau tywydd eithafol a hinsawdd wedi ychwanegu amcangyfrif o £361 y flwyddyn at fil bwyd cyfartalog cartrefi'r DU, tra bod adroddiadau gan yr Autonomy Institute yn rhybuddio y gallai tonnau gwres a llifogydd heb eu rheoli gynyddu prisiau bwyd 34 y cant arall erbyn 2050—siociau sy'n taro ein teuluoedd incwm isaf galetaf. O gofio bod diogeledd bwyd gwirioneddol yn dibynnu ar amgylchedd naturiol iach, priddoedd iach ac ecosystemau sy'n ffynnu, a chan nodi, yr wythnos diwethaf, bod y Gweinidog dros wydnwch gwledig wedi cyhoeddi'n swyddogol gwaith ar gynllun hinsawdd a natur newydd a strategaeth fwyd genedlaethol ar gyfer Cymru, pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y strategaethau hyn yn diogelu bywydau go iawn drwy amddiffyn teuluoedd rhag biliau bwyd sy'n mynd drwy'r to, trwy gefnogi ffermwyr lleol i addasu a defnyddio caffael cyhoeddus i gael cynnyrch iach sy'n cael ei dyfu yng Nghymru ar blatiau ysgol?
Rwy'n cysylltu fy hun â'r pryderon a godwyd am effaith newid hinsawdd a sut y bydd hynny'n effeithio ar gynhyrchu bwyd. Rwy'n credu bod yr hud, mewn sawl ffordd, yn dod yn y rhyngweithio rhwng y gwahanol elfennau hynny y mae'r Gweinidog ac eraill eisoes wedi'u hamlinellu. Yn bendant, un o'r prif bryderon sydd gennym ni rŵan yw effaith newid hinsawdd ar yr arian—yr arian prin, mewn llawer gormod o achosion—ym mhocedi pobl Cymru. Pan edrychwn ni ar yr hyn y mae'r strategaeth fwyd genedlaethol yn bwriadu ei wneud—cynorthwyo cynhyrchwyr a busnesau bwyd Cymru i dyfu mewn ffordd sy'n cydnabod y pwysau o ran costau ar deuluoedd ac aelwydydd—mae hynny'n bwysig iawn, iawn, a bydd yn rhaid i ni chwilio am ffyrdd hefyd o gefnogi'r diwydiant amaethyddiaeth i addasu i'r amgylchedd sy'n newid yn barhaus. Mae'n rhaid i ni fod yn ddidrugaredd yn ein holl ddulliau o ymdrin â'r her hinsawdd.
Gan adeiladu ar lawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes, mae Cymru yn cynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf, ond mae gormod o bobl yn dal i gael trafferth i gael gafael ar brydau maethlon a fforddiadwy, tra bod ein heconomi yn methu â sicrhau gwerth llawn yr hyn sy'n cael ei dyfu, ei fagu, ei ddal a'i brosesu yma yng Nghymru. Byddai strategaeth fwyd genedlaethol newydd yn helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi, i wella diogeledd bwyd ac i ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Dylai hefyd ehangu llythrennedd bwyd, cefnogi canolfannau bwyd cymunedol, cynyddu cynhyrchu garddwriaethol a sicrhau prydau iachach ar draws ein hysgolion, ein hysbytai a'n gwasanaethau cyhoeddus eraill. Gyda'i gilydd, byddai'r mesurau hyn yn cadw mwy o werth yn ein cymunedau lleol, yn gwella mynediad at fwyd da ac yn creu system fwyd gryfach yng Nghymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen strategaeth fwyd genedlaethol gynhwysfawr ar Gymru nawr i gyflawni'r nodau penodol hynny?
Yn sicr, ac mae'r gwahanol elfennau hynny y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yn rhan fawr o'r rhesymeg a'r rhesymu sy'n sail i'r angen am y strategaeth fwyd hon. Mae gennym ni lygad wirioneddol ar y dyfodol yma, fel yr awgrymodd yr Aelod, a dylwn ddweud bod y Gweinidog Cabinet wedi cynnal trafodaethau cynnar gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, gan ymdrin â'r strategaeth fwyd genedlaethol. Mae paratoi ar gyfer y dyfodol a gwneud ein hunain yn addas ar gyfer y dyfodol yn sicr yn cynnwys elfennau fel—ar ymylon y ddadl, gallech ddadlau, ond mae angen i ni ddod â nhw i mewn i'w chraidd—llythrennedd bwyd, fel bod pobl yn deall pam rydym ni'n gofyn iddyn nhw, i bob pwrpas, i ymgysylltu â bwyd mewn ffordd wahanol.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ64236
Rydym ni eisiau adeiladu ar y safonau uchel sydd gennym ni eisoes yng Nghymru. Yn ein maniffesto, fe wnaethom ni ddweud y byddwn ni'n datblygu cynllun iechyd a lles anifeiliaid wedi'i arwain gan wyddoniaeth. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid, partneriaid gweithredu, diwydiant a'r trydydd sector i ddatblygu ein dull newydd ar gyfer Cymru.
Mae sut rydym ni'n trin anifeiliaid yn arwydd o'r math o gymdeithas ydym ni ac yr ydym ni eisiau bod. Os ydym ni'n caniatáu i anifeiliaid gael eu cam-drin, naill ai drwy anwybodaeth neu greulondeb, yna mae'n adlewyrchu'n wael arnom ni fel cymdeithas. Mae'n rhaid i ni gofio bod y dystiolaeth o astudiaethau gwyddonol lluosog wedi ein helpu ni i ddeall bod amrywiaeth eang o anifeiliaid yn fodau ymdeimladol. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw'r gallu i deimlo teimladau cadarnhaol a negyddol fel pleser, llawenydd, poen a gofid. Mae cynnydd wedi cael ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, ond mae llawer mwy ar ôl i'w wneud. Rwy'n credu bod angen i ni ddeddfu ar les anifeiliaid, â deddfwriaeth i gynnwys gosod microsglodion mewn cathod, gwaharddiad ar glymu ceffylau, gwaharddiad ar unigolion yn cadw primatiaid, rhoi terfyn ar fridio adar hela mewn cawell, gwahardd maglau Larsen, a pherchnogaeth o gwningod dim ond ar ôl cwrs hyfforddi cryno lle gall unigolion ddangos eu bod nhw'n deall anghenion cwningod. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon?
Rwy'n sylweddoli bod yr Aelod wedi cymryd diddordeb ers amser maith mewn materion lles anifeiliaid. Rydym ni'n genedl o bobl sy'n hoff o anifeiliaid ac mae angen hyrwyddwyr dros les a llesiant anifeiliaid arnom ni yn ein Senedd. Cyflwynodd ein maniffesto ein huchelgais ar gyfer fframwaith rheoleiddio newydd. Rydym ni wedi dweud ein bod ni eisiau gosod safonau uchel ar gyfer trin anifeiliaid. Mae deddfwriaeth yn un llwybr, ac un y byddwn bob amser yn agored i'w ystyried. Fe wnaeth y Senedd ddiwethaf ddeddfu ar rasio milgwn, wrth gwrs. Mae gosod microsglodion mewn cathod yn enghraifft lle mae gwahaniaeth barn braidd ynghylch effeithiolrwydd deddfu, yn yr ystyr, heb ddeddfwriaeth, mae gennym ni lefelau tebyg o osod microsglodion mewn cathod yng Nghymru ag sydd ganddyn nhw yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw ddeddfwriaeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud bob amser fel Llywodraeth yw monitro. Os ydym ni ar ei hôl hi neu os ydym ni'n teimlo ein bod ni angen llinyn arall i'n bwa, wel, gadewch i ni edrych ar fesurau eraill y gallwn ni eu cymryd.
Brif Weinidog, fe wnaeth eich plaid gefnogi gwahardd rasio milgwn yng Nghymru. O ganlyniad, bydd yn cael ei wahardd yn llwyr yng Nghymru mor gynnar â mis Ebrill nesaf. Rwy'n pryderu o ddifrif na fydd awch Plaid Cymru i wahardd chwaraeon diwylliannol Prydeinig yn dod i ben yn y fan yma. Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville, ychydig fisoedd yn ôl y dylid gwahardd rasio ceffylau o fath y Grand National. Brif Weinidog, mae rasio ceffylau nid yn unig yn rhan ddiwylliannol o'n hunaniaeth Brydeinig ond yn un economaidd, sy'n cynhyrchu cannoedd o filiynau o bunnoedd i Gymru, gan gefnogi swyddi o stablau i draciau i fariau yn y rasys. A wnewch chi gadarnhau i'r Senedd heddiw na fyddwch chi'n symud i wahardd rasio ceffylau â neidiau yma yng Nghymru?
Mae gen i ofn bod yn rhaid i mi gywiro'r Aelod, Lywydd. Roedd y bleidlais ar rasio milgwn yn bleidlais rydd, ac rwy'n credu ei bod i fwyafrif y pleidiau yn y Senedd ddiwethaf.
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl? OQ64295
Mae cefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn hanfodol. Rydym ni'n gwella canlyniadau trwy seibiannau byr, cymorth ariannol a gwasanaethau lles i ddarparu cymorth ymarferol. Ar yr un pryd, rydym yn datblygu strategaeth genedlaethol newydd, wedi'i llywio gan yr hyn y mae gofalwyr wedi'i ddweud wrthym sydd fwyaf pwysig iddyn nhw. Byddwn yn gwella bywydau gofalwyr di-dâl drwy sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu cael gafael ar gymorth o ansawdd uchel yn gyson, gan gynnwys seibiant, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.
Diolch. Ar hyn o bryd, Brif Weinidog, mae un o fy etholwyr yng Nghlwyd yn darparu gofal bob awr o'r dydd a'r nos i'w wraig, sy'n byw gyda sawl cyflwr iechyd difrifol. Fel cymaint o ofalwyr di-dâl ledled Cymru, mae'n ei chael yn anodd gyda'r straen emosiynol, y pwysau ariannol a'r blinder llethol y gall cyfrifoldebau gofalu eu cynnwys, hyn yn aml tra'i fod yn teimlo nad yw'n cael cefnogaeth gan y gwasanaethau cyhoeddus a'i fod yn cael ei anwybyddu ganddynt.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r pwysau ariannol sy'n wynebu gofalwyr di-dâl, pwysau sy'n rhy aml yn gwthio unigolion at drothwy tlodi, a rhai yn cael eu gorfodi i wneud dewisiadau amhosibl rhwng angenrheidiau sylfaenol, fel gwresogi a bwyta. A wnaiff felly ymrwymo i bwyso ar Lywodraeth y DU i uwchraddio lwfans gofalwyr i lefel sy'n adlewyrchu'n briodol y cyfraniad hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud ac i sicrhau nad ydyn nhw bellach yn cael eu gadael yn ysgwyddo cyfrifoldebau mor ddwys heb gymorth ariannol digonol?
Mae'r Aelod yn disgrifio yn huawdl iawn y pwysau a deimlir gan filoedd a miloedd o ofalwyr ar hyd a lled Cymru. Rydym yn cefnogi'r gwaith maen nhw'n ei wneud ac yn cydnabod na fyddai ein gwasanaeth iechyd yn gallu ymdopi hebddyn nhw. Dyna pam mae'r camau rydyn ni'n eu cymryd fel Llywodraethau, o fewn ein pwerau ac yn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, mor bwysig. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y straen y mae'r etholwr hwnnw a'r holl ofalwyr di-dâl hynny yn ei ysgwyddo, a gallaf gadarnhau bod y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod wedi ysgrifennu at Syr Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd, i ofyn am gyfarfod. Ein bwriad ni yn sicr yw pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud lwfans gofalwyr yn decach a'i fod yn cael ei dalu ar gyfradd uwch. Rydym yn gwybod bod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd o lwfans gofalwyr, a byddwn yn gwneud ein barn yn glir iawn, fel y byddai gofalwyr ar hyd a lled ein gwlad yn disgwyl i ni ei wneud.
Brif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi mai gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw'n arbed biliynau o bunnoedd i bwrs y wlad bob blwyddyn, ac eto mae llawer yn dal i gael trafferth yn cael mynediad at y gwasanaethau seibiant a seibiant byr sydd eu hangen arnyn nhw. Pa gyllid ychwanegol mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol a thrydydd sectorau i ehangu'r gwasanaethau hynny, a phryd y bydd y gofalwyr di-dâl yn gweld y cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu? Hoffwn rannu dyfyniad gan ofalwr di-dâl: 'Mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn rhoi gymaint ond cael ychydig iawn o gymorth yn gyfnewid.' Diolch.
Mae'n hanes yr ydym ni i gyd fel Aelodau etholedig yn ei glywed—pobl sy'n teimlo nad ydyn nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac a dweud y gwir, does byth digon y gallwn ni ei wneud, o ystyried faint o gymorth sy'n cael ei haeddu gan y Llywodraeth i'r rhai sy'n rhoi o'u bywydau i ofalu am anwyliaid. Mae gofal seibiant yn amlwg yn bwysig iawn, iawn. Rydym ni'n gweithio fel Llywodraeth gydag awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau cyson ac amserol ar y naill law, mwy o gymorth seibiant ledled Cymru ar y llaw arall. Mae prosiect gwella ar waith nawr. Byddwn ni'n ystyried ysgogiadau eraill sy'n agored i ni os nad ydym ni'n gweld digon o gynnydd ar hynny. Ond, yn y cyfamser, gan gyfeirio'n ôl at fy ateb cyntaf, y pwysau hwnnw y gallwn ni, gobeithio, ei roi ar Lywodraeth y DU, gan weithio gyda phartneriaid eraill ledled y DU—rydym ni angen rhywsut i hynny wneud gwahaniaeth o ran lefelau lwfans gofalwyr.
Brif Weinidog, Castell-nedd Port Talbot sydd â'r gyfradd uchaf o bobl sy'n darparu 50 awr a mwy o ofal di-dâl yng Nghymru. Fe wnes i gyfarfod â gofalwyr di-dâl o bob rhan o'r sir yng Nghimla yn ddiweddar, lle tynnodd nifer o bobl sylw at straen ariannol darparu'r gofal hwnnw. A ydych chi'n cytuno â mi, felly, y dylid datganoli a chynyddu'r lwfans gofalwyr yng Nghymru yn unol â'r Alban, fel y gellir cynorthwyo gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn well?
Hanner can awr a mwy—nid yw hyd yn oed yn swydd lawn amser, mae'n fwy na hynny, ac mae cynifer o bobl yn cael yr un profiad. Fel y dywedais i, i sicrhau y gallwn ni ddylunio a chyflawni amddiffyniadau cymdeithasol sydd wir wedi'u creu yng Nghymru, sy'n adlewyrchu anghenion a gwerthoedd ein cymunedau, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau lles. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer system fudd-daliadau sy'n diwallu anghenion Cymru, sydd wedi'i hysgogi gan hawliau ac sy'n cefnogi ein hamcanion ar y cyd ar fynd i'r afael â thlodi. Ond, wrth i ni weithio tuag at ddatganoli pwerau dros les, byddwn yn gweithio i wella, fel y dywedais i, system fudd-daliadau bresennol Cymru i sicrhau y gall pobl hawlio eu holl hawliau, gan gynnwys lwfans gofalwyr ar y lefel bresennol.
Brif Weinidog, mae cynifer o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl, a gall seibiannau byr fod yn achubiaeth go iawn i'r gofalwyr di-dâl hynny, gan roi'r lle sydd ei angen i'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw ac iddyn nhw eu hunain. Yn 2022, fe wnaeth Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru greu'r cynllun seibiannau byr, a chyrhaeddodd y cynllun hwn lawer o ofalwyr nad oedden nhw wedi cael unrhyw fath arall o seibiant, ac nad oedden nhw'n derbyn unrhyw fath arall o gymorth. Sut mae'r Llywodraeth hon yn mynd i sicrhau bod gofalwyr yn cael y seibiant, gyda'r seibiannau byr hynny, sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n eu haeddu?
Yn ogystal â'r mesurau yr wyf wedi eu crybwyll rydym ni'n eu cymryd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU, rwy'n falch o gefnogi'r cynllun seibiannau byr hwnnw gan Lywodraeth Cymru, sy'n estyn cyfleoedd, fel rydych chi'n dweud, i ofalwyr di-dâl ledled Cymru i gael y seibiant hwnnw, iddyn nhw gamu i ffwrdd am ychydig oddi wrth waith gofalu sy'n aml yn heriol iawn yn gorfforol. Mae hwnnw'n gynllun sydd wedi bod yn ei le nawr—. Rwy'n credu mai tua phedair blynedd sydd wedi bod ers i'r cynllun gael ei gyflwyno. Fe gaiff ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, y byrddau partneriaeth rhanbarthol, a hefyd ar y cyd gyda sefydliadau trydydd sector lleol. Rydym ni'n awyddus i allu eu cefnogi i sicrhau y bydd cymaint o bobl â phosibl yn cael cyfle i gael seibiant fel hyn, o fewn yr adnoddau prin, ond, unwaith eto, gan ddadlau'r achos dros lwfans gofalwyr i helpu'r teuluoedd a'r unigolion hynny hefyd.
Prynhawn da, Brif Weinidog. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gael cymaint o bobl yn gofyn cwestiynau am y mater pwysig hwn, a pheth da iawn yw bod â chefnogaeth drawsbleidiol. Fe hoffwn i ganolbwyntio ar ofalwyr ifanc, os caf i. Mae yna ddwy fil ar hugain o ofalwyr ifanc yng Nghymru; mae hynny'n un o bob chwech yn ein hysgolion uwchradd. Pobl ifanc fel Ollie o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n 16 oed, sydd wedi gofalu am ei frawd iau am y 10 mlynedd diwethaf. Maen nhw'n wynebu nifer o heriau: yn gyntaf, gallan nhw ddim fod yn blant oherwydd eu cyfrifoldebau i ofalu; yn ail, ychydig iawn iawn o gymorth a chefnogaeth sydd ar eu cyfer nhw, oherwydd nid oes asesiadau ar gael iddyn nhw, er gwaethaf y Ddeddf. Rydym ni'n edrych ar asesiadau o tua 2.67 y cant, a hanner ohonyn nhw fydd yn cael cefnogaeth. Felly, ar unwaith, mae problem gyda'n hawdurdodau lleol ni yn hyn o beth. Nid yw'n nodwedd warchodedig. Yn olaf, mae'r bobl ifanc hynny sydd dros 16 oed gennym ni sy'n chwilio am gymorth i barhau mewn addysg, ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny am bod yn rhaid iddyn nhw fforffedu eu lwfans gofalwyr. Felly, mae yna nifer o faterion yn wynebu ein gofalwyr ifanc ledled Cymru. Fe hoffwn i ofyn i chi, Brif Weinidog: beth fydd eich Llywodraeth chi'n ei wneud i helpu'r gofalwyr ifanc hynny? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n gwerthfawrogi'r cwestiwn pellach hwnnw, ac roedd yr Aelod yn sôn am Ollie. Roedd hynny'n fy atgoffa o Jet, sef dyn ifanc o Ysgol Gyfun Radur ar gyrion Caerdydd. Fe anfonais neges ato ef a'i gyd-ddisgyblion yn eu seremoni raddio Safon Uwch yr wythnos diwethaf. Mae Jet wedi bod yn gofalu am ei deulu, wrth ofalu am ofalwyr ifanc eraill yn amgylchedd ei ysgol ei hun, ac rwy'n gwybod bod y gwaith a wnaeth yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn.
Unwaith eto, mae seibiant yn beth pwysig iawn, iawn. Mae cefnogaeth ar gyfres gyfan o wahanol lefelau yn bwysig, ond rydym ni awyddus i'n plant deimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi yn wirioneddol, nid dim ond yn cael eu canmol am y gwaith maen nhw'n ei wneud. Fe fydd y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod yn llofnodi'r cyfamod i bobl ifanc i wneud ein hymrwymiad ni i ofalwyr ifanc yn amlwg iawn, o ystyried bod rhai ystadegau yn awgrymu bod gan bron i 20 y cant o bobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru ryw lefel o gyfrifoldeb gofalu. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif iawn, iawn oherwydd fe allai'r pwysau sydd arnyn nhw nawr ynghyd â bod heb gefnogaeth gael effaith ar weddill eu bywydau.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o addysg uwch? OQ64284
Mae adolygiad o addysg uwch yn un o’n hymrwymiadau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth, a dwi’n falch o ddweud bod y gwaith yn datblygu’n dda. Mi fydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn rhannu rhagor o fanylion am hyn maes o law.
Diolch am yr ymateb, Brif Weinidog. Rydym i gyd yn y Siambr hon yn gwybod bod addysg uwch yng Nghymru yn wynebu heriau ariannol sylweddol am nifer o resymau, tra bod y gyfran o bobl 18 oed sy'n dewis mynd i'r brifysgol yn parhau i ostwng. Mae data diweddar UCAS yn dangos bod y gyfradd mynediad i addysg uwch yng Nghymru ar ei lefel isaf ers degawd. Fy etholaeth i, Afan Ogwr Rhondda, sydd â'r bwlch cyfranogiad mwyaf o unrhyw etholaeth yng Nghymru, sy'n sefyllfa go ddifrifol y mae'r Llywodraeth hon wedi ei hetifeddu. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mynd i'r afael â'r bwlch cyfranogiad rhwng dysgwyr o gymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru yn rhan ganolog o'r adolygiad sector eang o addysg uwch?
Mae’r gwahaniaeth cyfranogiad yna yn rhywbeth a ddylai ein pryderu ni i gyd. Dwi’n anghofio’r union leoliad, ond mi oedd yna ystadegyn roeddwn i’n edrych arno fo yn y misoedd diwethaf a oedd yn dangos bod 18 y cant o ddisgyblion o un ysgol uwchradd neu ardal yng nghymoedd Gwent yn mynd i brifysgol, ac 80 y cant o ddisgyblion o un ysgol uwchradd arbennig yng Nghaerdydd. Mae'n frawychus bod cyfleon bywyd yn cael eu gosod allan mewn ffordd lle mae yna gymaint o wahaniaeth â hynny.
Mae cyfranogiad yn un o'r meysydd sydd yn mynd i fod yn cael sylw yn yr adolygiad. Dydy o ddim yr unig elfen ohono fo. Mae sut i sicrhau bod myfyrwyr drwyddi draw yn cael cefnogaeth ddigonol mewn addysg uwch yn bwysig, ac mae cefnogi ein sefydliadau addysg uwch ni yn gwbl, gwbl hanfodol. Oni bai bod camau yn cael eu cymryd, dydy hi ddim yn anodd dychmygu sefyllfa lle fyddai yna ddim sefydliadau addysg uwch i ddisgyblion fynd iddyn nhw yng Nghymru. Dydyn ni ddim cweit ar y pwynt hwnnw eto, ond dyna ddifrifoldeb y sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu. Mae cynyddu cyfleon am gyfranogiad fel bod y myfyrwyr yma yn gallu mynd yn fyfyrwyr, yn cynllunio ar gyfer eu bywydau, yn gosod uchelgais ar gyfer eu hunain mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, yn rhan o’r ateb i hyfywedd ein sefydliadau addysg uwch. Felly, mae yna gylch yma rydyn ni angen ei gau. Mi fydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn ynglŷn â sut y bydd y materion yma yn cael eu cymryd ymlaen.
Cwestiwn 7, Anna Nicholl.
Diolch. Sut allwn ni sicrhau y bydd cynlluniau ynni adnewyddadwy yn ystyried lleisiau cymunedau lleol ac y bydd y cymunedau lleol hyn yn elwa yn uniongyrchol ar y pontio i ynni adnewyddadwy?
Y cwestiwn atodol ydy hwnna, yr wyf i'n hapus i ymateb iddo yn syth.
A fyddech chi'n gofyn y cwestiwn cychwynnol, os gwelwch chi'n dda?
Iawn—
Fe allaf i eich helpu chi.
Os oes copi o hwnnw gan unrhyw un, os gwelwch chi'n dda.
Brif Weinidog, help.
7. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y trawsnewidiad i ynni glân o fudd i gymunedau lleol yng Ngheredigion Penfro? OQ64288
Diolch yn fawr iawn. Prif Weinidog.
A ydy hynna'n iawn?
Diolch yn fawr iawn. Fe fydd ein strategaeth ynni genedlaethol yn nodi sut y bydd Cymru yn manteisio ar fwy o'r manteision economaidd, cymdeithasol a chymunedol oherwydd ynni glân. Fe fydd ein cwmni ynni cyhoeddus ni yng Nghymru yn cefnogi perchnogaeth leol a chynlluniau ynni cymunedol, gan greu swyddi medrus a chaniatáu ail-fuddsoddi mewn lleoedd sy'n cynnal seilwaith ynni newydd ledled Cymru.
Efallai y gwnawn ni addasu'r darn fideo i'r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hwnna. [Chwerthin.]
Fe wn i fod llawer o Aelodau wedi gweld People's Emergency Briefing, ac rwy'n annog y rhai nad ydyn nhw wedi ei weld i wneud hynny. Mae'n dangos y gost ariannol echrydus oherwydd oedi cyn gweithredu ar newid hinsawdd, yn enwedig i gyllidebau aelwydydd, a'r cyfleoedd economaidd cadarnhaol os ydym ni'n gweithredu yn gyflym.
Yng Ngheredigion Penfro, mae'r trawsnewid i ynni glân yn creu cyfleoedd mawr. Mae hynny'n mynd y tu hwnt i adlewyrchu systemau tanwydd ffosil. Mae'n gyfle i ail-lunio ein heconomi, gan weithio gyda busnesau a chymunedau i greu ffyniant ledled Cymru. Ond mae yna risg hefyd. Mae cymunedau yn pryderu na fydd ganddyn nhw lais ystyrlon i lywio'r newid hwn, ac y bydd buddion yn llifo allan o Gymru. Sut y bydd y Llywodraeth hon yn cefnogi llais cymunedol gwirioneddol, yn ogystal ag ymchwil a datblygu ac arloesi er mwyn galluogi busnesau bach a chanolig a mentrau cymunedol i ysgogi datrysiadau lleol a sicrhau manteision economaidd yng Ngheredigion Penfro ac, yn wir, ledled Cymru?
Dyna'r ymagwedd gadarnhaol yr wyf i'n wirioneddol awyddus i bob un ohonom ni ei groesawu o ran dyfodol ynni yng Nghymru: sôn am y cyfleoedd economaidd cadarnhaol, rhai ohonyn nhw'n rhai mawr iawn, iawn; a sôn am y cyfleoedd gyda'r gwynt ar y môr Celtaidd, a miloedd o swyddi yn cael eu creu. Ond mae yna brosiectau llawer mwy cymedrol a all ddod â buddion gwirioneddol i'r gadwyni cyflenwi yng Nghymru, lle gall cwmnïau weithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio o gyfleoedd gydag ynni adnewyddadwy, ond er mwyn cymunedau hefyd.
Ac mae'r ffordd yr ydym ni'n cloi'r budd cymunedol i mewn yn y system yn digwydd mewn nifer o wahanol ffyrdd. Trwy fod ag un cwmni ynni sy'n eiddo cyhoeddus yng Nghymru sy'n rhoi'r cymunedau yn gyntaf bob amser wrth weithio ar ddyfodol strategaeth ynni yng Nghymru. Dyna pryd y byddwn ni'n ystyried sut y gall cynlluniau perchnogaeth gymunedol greu'r ymdeimlad o berchnogaeth wirioneddol, yn llythrennol ac yn drosiadol ar gynlluniau ynni yn eu cymunedau. Mae'n rhaid i ni addasu'r ffordd y buom ni'n gwneud pethau ynddi a chadw golwg ar ffyrdd o wneud pethau yn wahanol yn y dyfodol.
Nid oes unrhyw amheuaeth gen i ar gyfer Ceredigion Penfro, fel sy'n wir am lawer o ardaloedd eraill yn Nghymru, bod yna enillion economaidd enfawr, nad ydynt wedi eu gwireddu eto, o wneud hyn yn iawn, a dyna pam mae bwrw ymlaen â strategaeth ynni newydd i Gymru yn rhywbeth sy'n cadw fy Ngweinidog ynni, cysylltedd a menter yn brysur iawn, iawn. Fe rois i eich swyddogaethau chi yn y drefn anghywir yn y fan yna: y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.
9. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu meddyginiaeth atal y glasoed i blant 11 oed? OQ64316
Pan fo hynny'n briodol yn glinigol, fe ellir rhoi hormonau sy'n atal y glasoed ar bresgripsiwn i blant yng Nghymru a ddechreuodd eu triniaethau cyn Gorchymyn Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar eu rhagnodi heblaw am drwy'r GIG, ac i blant sy'n defnyddio gwasanaethau rhywedd y GIG, yn rhan o astudiaeth ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal pan fydd honno'n dechrau. Rydym ni'n parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth i lywio gwasanaethau hunaniaeth rhywedd er mwyn ein pobl ifanc yng Nghymru.
Brif Weinidog, diolch yn fawr iawn i chi am eich ymateb. Mae adolygiad Cass yn ei gwneud hi'n eglur fod ansicrwydd sylweddol ynghylch diogelwch hirdymor y triniaethau hyn i blant, gan gynnwys effeithiau posibl ar iechyd esgyrn, ffrwythlondeb a datblygiad yr ymennydd. O ystyried y peryglon hynny, a wnewch chi esbonio pam y dylai unrhyw blentyn yng Nghymru fod yn agored i ymyriadau meddygol pan fo sylfaen y dystiolaeth mor gyfyngedig? A pha gamau penodol y bydd eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw pobl ifanc agored i niwed yn agored i niwed y gellir ei osgoi?
Mae'r Aelod yn cyfeirio at adolygiad Cass. Mae ofn arnaf ddweud wrtho fod awdur adolygiad Cass yn gefnogol i'r ymchwil hon, gan ddweud bod hyn yn ymwneud â chyfyngu ar niwed. Mae hon yn astudiaeth ofalus, yn astudiaeth academaidd, sy'n ymwneud â chyfyngu ar niwed i blant a phobl ifanc. Fe fyddwn i wedi meddwl mai rhywbeth y byddem ni'n awyddus i'w gefnogi fyddai hynny.
10. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion Penfro? OQ64286
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngheredigion Penfro drwy ystod eang o weithgarwch Croeso Cymru. Rydym ni'n benderfynol o wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio o dwristiaeth, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy i'r sector ei hun, sydd mor bwysig i Gymru, a chymunedau Cymru.
Brif Weinidog, mae'r gorllewin yn cynnwys rhai o'r tirweddau naturiol mwyaf ysblennydd yn y byd ac, fel gwyddoch chi, mae'r diwydiant twristiaeth â swyddogaeth enfawr o ran cynnal cymunedau lleol a'r economi yng Ngheredigion Penfro. Yn anffodus, mae gweithredwyr twristiaeth a darparwyr llety yn fy etholaeth i dan bwysau cynyddol, ac un o'r materion mwyaf dybryd ar hyn o bryd yw'r trothwy 182 diwrnod ar gyfer deiliadaeth. Yn wir, mae data gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dangos bod nifer y busnesau hunanarlwyo yng Nghymru wedi gostwng gan bron i 31 y cant, ac felly mae angen i ni weld rhywfaint o gamau i atal dirywiad pellach. Mae Gweinidog Cyllid y Cabinet wedi cadarnhau y bydd eithriadau yn dod, ond yr hyn sydd ei angen ar y diwydiant yw newid polisi, nid potsian ar yr ymylon er budd dyrnaid o ddarparwyr. Felly, Brif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth wrando ar ddarparwyr twristiaeth yn y gorllewin ac ymrwymo i adolygu'r polisi trothwy 182 diwrnod yn ei gyfanrwydd cyn y bydd rhagor o fusnesau hunanarlwyo yn cael eu gorfodi i gau?
Lywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi egluro y byddwn ni'n cadw'r 182 diwrnod hynny dan adolygiad oherwydd bod angen i ni fesur pa ganlyniadau anfwriadol a allai fod wedi codi, ac amser byr sydd wedi bod ers i'r mesur gael ei gyflwyno. Rydym ni'n cofio pam y cafodd ei gyflwyno. Roedd y trothwy blaenorol, sef 70 diwrnod, yn ddiwerth. Roedd angen i ni fod yn gwthio yn wirioneddol i nodi pwy oedd y busnesau a oedd yn guriad calon ein sector twristiaeth yn y sector gosod, er mwyn gallu eu cefnogi nhw ac nad oedd pobl yn twyllo'r system, efallai, fel gallai rhai fod wedi cael eu temtio i wneud hynny am fod y trothwy mor isel. Rydym ni'n dymuno sicrhau bod y trothwy hwnnw'n briodol. Mae eithriadau yn bwysig dros ben. Mae yna rai tai wedi cael eu dal yn y polisi arbennig hwn nad oedd bwriad erioed i'w dal nhw ynddo. Ysguboriau wedi'u trawsnewid, er enghraifft—lleoedd na allai fod wedi bod yn gartrefi ar gyfer anheddau parhaol. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur y byddwn ni'n cymryd camau ar hynny. Ar yr adolygiad o'r 182 diwrnod, rwyf wedi rhoi sicrwydd gwirioneddol ein bod ni'n dymuno gwneud yn siŵr bod y trothwy yn un cywir.
Diolch, Brif Weinidog.
Rydyn ni'n symud nawr i eitem 2, cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Rydw i'n siarad yn araf achos efallai bod y Cwnsler Cyffredinol yn dod i mewn i'r Siambr.
Cwestiynau nawr i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae cwestiwn 1 a chwestiwn 6 wedi eu grwpio. Cwestiwn 1, Sarah Cooper-Lesadd.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i estyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol i ystod ehangach o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys cyrff nad yw eu swyddogaethau wedi'u datganoli, yng ngoleuni darpariaethau Deddf Lles Plant ac Ysgolion 2026? OQ64254 [R]
6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut mae'r fframwaith rhianta corfforaethol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cymharu, o ran effaith gyfreithiol a gorfodadwyedd, â'r dyletswyddau statudol cryfach sydd bellach mewn grym yn Lloegr? OQ64255
Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu'r cwestiwn? Fe hoffwn roi teyrnged i'r Aelod am ei dealltwriaeth o'r broblem hon a'i hymrwymiad i'r pwnc dros gyfnod maith. Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, felly rwy'n falch o gael mynd i'r afael ag ef.
Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch chi, wedi hyrwyddo rhianta corfforaethol ehangach drwy'r siarter rhianta corfforaethol wirfoddol, ac mae dros 70 o sefydliadau wedi cofrestru arni. Caiff hynny ei gryfhau trwy ganllawiau statudol mewn cod ymarfer diwygiedig. Er mai i'r awdurdodau lleol y mae'r dyletswyddau statudol yn berthnasol yn bennaf, mae dewisiadau deddfwriaethol yn parhau i fod dan adolygiad.
Ceisiodd y Llywodraeth ganiatâd ar gyfer ystod o ddarpariaethau yn y Bil Lles Plant ac Ysgolion, ond nid ar gyfer rhianta corfforaethol. Yr eironi yw hyn: fe roddodd San Steffan y dyletswyddau hynny i gyrff nad ydynt wedi eu datganoli yng Nghymru—yr heddlu, cyfiawnder ieuenctid—felly mae unigolyn o Gymru sy'n gadael gofal eisoes yn warchodedig yno, ond ein cyrff datganoledig ein hunain, ein byrddau iechyd, fe wnaethom ni eu gadael ar siarter y gallan nhw ei llofnodi dim ond os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Nid oes neb yn amau hawl Cymru i wneud pethau yn ei ffordd ei hun, ond ni all gwneud rhywbeth yn ein dull ein hunain olygu ein bod ni'n gwneud llai o rywbeth. Felly, rwy'n gofyn am ei gyngor ef, nid wyf i'n gofyn iddo amddiffyn y Llywodraeth, dim ond pwynt o ffaith gyfansoddiadol: a oedd unrhyw beth yn y gyfraith yn atal y Senedd hon rhag amddiffyn ein cyrff ni fel y gwarchododd San Steffan ei rhai hi ei hun, neu ai dewis syml oedd hwnnw i adael plant Cymru â llai o amddiffynfa gan eu Llywodraeth eu hunain na'r hyn sydd gan San Steffan?
Fel gŵyr yr Aelod, nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau uniongyrchol dan Ddeddf Lles Plant ac Ysgolion 2026 er mwyn ymestyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol i ystod ehangach o gyrff cyhoeddus. Er nad yw'r dyletswyddau rhianta corfforaethol hynny gennym ni yng Nghymru, fe gynhaliodd y Llywodraeth flaenorol ddau ymgynghoriad cyhoeddus—fe gaeodd un ym mis Hydref 2025 ac un ym mis Ebrill 2026—ac roedd hyn ar y canllawiau ar gyfer yr awdurdodau lleol.
Fe fydd y Llywodraeth hon yn darparu canllawiau wedi'u cryfhau drwy bennod benodol ar rianta corfforaethol yn adran 6 o'r cod ymarfer ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac sy'n derbyn llety o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe fydd y bennod hon yn nodi dyletswyddau'r awdurdodau lleol yn eu rôl fel rhieni corfforaethol ac yn cefnogi dull mwy cadarn o strategaeth a phartneriaeth o ran rhianta corfforaethol. Y bwriad yw cyhoeddi cod ymarfer diwygiedig yn ddiweddarach eleni.
Rwyf i am wneud y pwynt hefyd fod llawer o sefydliadau ac unigolion wedi llofnodi'r siarter wirfoddol. Er nad yw'r siarter yn orfodol drwy ddeddfwriaeth, yng Nghymru, mae 70 o sefydliadau wedi llofnodi'r siarter, gan gynnwys yr awdurdodau lleol i gyd a'r byrddau iechyd lleol i gyd. Felly, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid rhianta corfforaethol ac fe fyddwn ni'n parhau i adolygu'r gofyniad i orfodi trwy ddeddfwriaeth. Er hynny, fel mae ein ffigyrau ni o ran y rhai sydd wedi llofnodi yn dangos, nid oes angen wedi bod i ni wneud hyn.
Sarah Cooper-Lesadd.
Pa gyngor cyfreithiol a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut mae'r fframwaith rhianta corfforaethol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cymharu, o ran ei effaith gyfreithiol a sut mae ei orfodi, â'r dyletswyddau statudol mwy cadarn sydd ar waith yn Lloegr erbyn hyn?
Sarah, os gallwch chi ddilyn ymlaen gyda'ch cwestiwn atodol nawr, ar unwaith.
Iawn, i'r dim. Rydych chi'n sôn am y siarter wirfoddol, ac mae hynny'n iawn. Ond rwy'n credu ei bod hi'n hynod o drist, a minnau wedi cael profiad o ofal fy hun pan oeddwn i'n ifanc, fod yr hawliau yn Lloegr i unigolyn ifanc â phrofiad o ofal o ran dwyn yr awdurdodau hyn i gyfrif gymaint gwannach yng Nghymru. Rwy'n ei chael hi'n gwbl syfrdanol, wir. Rwy'n parchu eich ymyrraeth chi yma, ac rwy'n parchu'r hyn rydych chi'n ei ddweud, ond rwyf ond yn gofyn am y cyrff hynny y tu hwnt i'r awdurdodau lleol—. Yr unig beth sy'n eu rhwymo nhw yw siarter pe bydden nhw'n dewis ei llofnodi. Mae hon yn ffaith gyfreithiol syml, yn wir yn unrhyw le. Ychydig o ddyletswydd y gellir ei gorfodi sy'n cael ei chreu gan siarter wirfoddol. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau, fel mae'r gyfraith yn sefyll, fod gan unigolyn sy'n gadael gofal yng Nghymru lai o hawliau y gellir eu gorfodi o ran y cyrff datganoledig hynny nag y byddai gan rhywun sy'n gadael gofal ac yn byw yn Lloegr?
Fel y soniais i'n gynharach, mae'r dull yng Nghymru yn wahanol i'r dull yn Lloegr, ac mae wedi'i wreiddio yn ein fframwaith deddfwriaethol presennol, sy'n rhoi dyletswyddau eglur ar yr awdurdodau lleol, ochr yn ochr â chyfrifoldebau mwy eang o ran partneriaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Fel y soniais i, mae dros 70 o sefydliadau wedi cofrestru eisoes. Mae'r sefydliadau hyn wedi cofrestru er mwyn dilyn y siarter, er mwyn cadw at y siarter, ac er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a roddir arnyn nhw, hyd y gorau y gallan nhw. Nid yw hi'n wir bob amser fod angen i chi orfodi trwy ddeddfwriaeth i sicrhau y bydd pobl yn gwneud pethau yn iawn. Fel y dywedais i wrth yr Aelod yn gynharach, mae'r siarter rhianta corfforaethol yn hyrwyddo rhianta corfforaethol yn eang, a hefyd yn hwyluso trafodaethau ar yr hyn y gall sefydliadau ei gyflawni. Fe all unrhyw sefydliad o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector gofrestru a bod yn rhiant corfforaethol a chroesawu ac ymgorffori'r egwyddorion yn y sefydliad hwnnw. Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais i'n gynharach: mae'r cwestiwn o ddeddfwriaeth yn dal i gael ei ystyried wrth inni weld sut mae'r siarter yn gweithio mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, mae hi'n gweithio yn dda. Ar hyn o bryd, mae hi'n boblogaidd, mae hi'n cael ei llofnodi ac mae pobl yn cadw ati hi. Fe gawn ni weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Rwyf eisiau diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, oherwydd fe wn i ei fod nid yn unig yn fater sy'n agos at ei chalon hi, ond yn fater pwysig hefyd i gymaint o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Rwy'n awyddus i achub ar y cyfle hwn i godi pryder penodol sydd gen i ynglŷn â statws pobl ifanc a fabwysiadwyd. Mae'r rhai sydd mewn gofal neu sydd wedi bod mewn gofal yn cael cydnabyddiaeth o'u profiad nhw ac, felly, mae ganddyn nhw hawl i fod â rhyw lefel o gefnogaeth. Serch hynny, nid yw hynny mor wir ar gyfer pobl sydd wedi'u mabwysiadu, ac fe fyddan nhw'n colli eu statws wedyn o ran eu profiad nhw o ofal. Er gwaethaf hynny, ffurf wahanol o ofal yw mabwysiadu. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan James Evans, dyn ifanc yng Nghaerdydd a fabwysiadwyd ac sydd bellach yn eirioli dros hawliau pobl ifanc mabwysiedig, am sut y cafodd ei brofiadau ef eu diystyru yn rhy aml ac nad oedd ei archoll unigryw ef yn cael sylw. Fel James, mae llawer o bobl sydd wedi'u mabwysiadu yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael ar eu holau heb ddigon o gefnogaeth a diffyg cydnabyddiaeth o'r hyn y buon nhw drwyddo. A gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol pa gyngor cyfreithiol y maen nhw wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar statws cyfreithiol pobl sydd wedi'u mabwysiadu?
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn wir, maes fy arbenigedd i oedd cyfraith teulu a phlant, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r hyn y mae hi'n ei ddweud, ac mae hi'n fanwl gywir ac yn iawn. Er hynny, yr hyn y byddwn i'n ei awgrymu iddi hi yw y gallai hi anfon nodyn, ac fe wnaf innau sicrhau bod fy nghyd-Aelod yn y Cabinet sydd â'r cyfrifoldeb am y portffolio hwnnw yn ymdrin â'r materion y mae hi wedi'u codi yn briodol iawn.
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â rhoi Confensiwn Sewel ar sail statudol? OQ64260
Mae'n bwysig bod gan gonfensiwn Sewel sail gyfreithiol rwymol ar gyfer cryfhau'r setliad datganoli, fel yr argymhellodd y Comisiwn annibynnol diweddar ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Nid cymwynas y gellir dewis ei gwneud i Lywodraethau datganoledig yw confensiwn Sewel. Mae cadw ato yn hanfodol i weithrediad y setliad datganoli bob amser.
Diolch yn fawr am yr ateb yna a chroeso i chi i'r rôl.
Gwnsler Cyffredinol, mae confensiwn Sewel yn nodi na fydd San Steffan yn deddfu ar faterion datganoledig fel arfer heb ganiatâd. Mae'r anhawster yn y geiriau hynny—'nid fel arfer'. Am fod y Goruchaf Lys wedi cadarnhau mai confensiwn gwleidyddol yw Sewel, nid rheol gyfreithiol rwymol, mae'r confensiwn wedi cael ei ddiystyru dro ar ôl tro ers refferendwm yr UE, gan gynnwys ar 11 achlysur lle mae San Steffan wedi deddfu heb ganiatâd, a phum achos arall lle'r oedd Llywodraeth y DU a Chymru yn anghytuno ynghylch yr angen am gydsyniad.
Ar ei ffurf bresennol, mae Sewel yn caniatáu i San Steffan ddiystyru mandad democrataidd y Senedd hon. Sut felly y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylai Llywodraeth y DU ddeddfu i ofyn am gydsyniad datganoledig ar unrhyw newid i bwerau datganoledig, yn amodol yn unig ar eithriadau cytunedig fel rhwymedigaethau rhyngwladol, amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol? Diolch.
Mae'r Aelod yn hollol gywir am yr hyn a ddangosodd profiad y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â'r angen i ddiwygio'r confensiwn—ac fe fyddwn yn ychwanegu 'ymlyniad' hefyd. Ers 2020, mae nifer cwbl annerbyniol o Filiau mewn meysydd datganoledig wedi cael eu pasio heb ganiatâd y Senedd hon, yn groes i'r confensiwn. Fe fyddwn ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei hymrwymiad maniffesto i ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth i gryfhau confensiwn Sewel, gyda'r nod, yn y pen draw, i'w roi ar sail statudol rhwymol. I gonfensiwn Sewel weithredu yn gywir, mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i ymgysylltu yn gynnar ac ystyrlon ar Filiau'r DU lle mae'r broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn debygol o gael ei thanio.
Cododd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd y Llywodraeth a'r Cyfansoddiad y mater pwysig hwn yr wythnos diwethaf mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn Belfast, yr oedd Prif Ysgrifennydd y Prif Weinidog yn bresennol ynddo—fel roedd, mae'n debyg—Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Roedd cryn drafodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â'r mater arbennig hwn. Felly, mae'r ymgysylltiad disgwyliedig â Llywodraeth y DU ar fin digwydd. Yn arbennig felly, os oes rhaid i hwnnw fod yn femorandwm cyd-ddealltwriaeth, fe fyddwn ni'n symud ymlaen i sicrhau bod hwnnw'n fwy grymus a'i fod yn cynnwys ymrwymiadau cadarn iawn ynghylch ymgysylltiad, tryloywder, newidiadau gweithdrefnol a phrydlondeb, i wneud y broses o gydsyniad deddfwriaethol yn un fwy effeithiol. Yn y pen draw, bod â sail statudol yw'r ffordd ymlaen, fel dywed yr Aelod yn briodol iawn.
Er mwyn i'r confensiwn gael ei roi ar y llyfrau statud, mae angen i chi gael caniatâd gan Lywodraeth San Steffan hefyd. Pa gyngor fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn ei roi i Lywodraeth Cymru pe byddai Llywodraeth San Steffan yn penderfynu nad yw hi o blaid trosi'r confensiwn yn ddeddfwriaeth statudol?
Bydd yn rhaid i ni aros i weld. Bydd yn rhaid i ni drafod, ar sail gydweithredol a synhwyrol, gyda'n cydweithwyr yn San Steffan. Dyna a fyddwn ni'n ei wneud. Dyna y mae'r Prif Weinidog wedi nodi y bydd yn ei wneud. Fe fyddwn ni'n croesi'r bont honno pan gyrhaeddwn ni hi. Ond yn amlwg, fel rwyf i newydd sôn, mae hwnnw'n bryder, nid yn unig i'r Llywodraeth hon, ond i'n cydweithwyr ni yn yr Alban, ac yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd. Yn sicr, mae'n rhaid bod honno'n neges weddol gryf i'n cydweithwyr ei hystyried yn San Steffan. Mae hi'n gynnar eto, ond os a phryd y dylid cymryd camau, fe fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud maes o law.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Cwnsler Cyffredinol. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Adrian Mason.
Gwnsler Cyffredinol, a gaf i eich croesawu chi i'ch swydd? Rydych chi wedi cael gyrfa hir a nodedig, ac rwy'n dweud yn ddiffuant fod y Llywodraeth hon yn ffodus i allu galw ar eich gwasanaeth parhaus. Yn eich bywyd gwleidyddol, rydych chi wedi bod yn eglur yn y gorffennol ynglŷn â'r newid yr hoffech ei weld yng Nghymru. Ond, yn Gwnsler Cyffredinol, rydych chi yn sefyll mewn lle newydd. Nid dilyn polisi eich plaid yw eich dyletswydd chi, nac i ddibenion gwleidyddol, ond i'r gyfraith a budd y cyhoedd. Fel cwnsler cyffredinol cysgodol, fy ngorchwyl i yw profi'r gyfraith y bydd y Llywodraeth hon yn ei chyflwyno. Rwy'n gobeithio y gall ein trafodaethau ni fod yn ddifrifol, yn deg, ac yn seiliedig ar y gyfraith, yn hytrach nag ar sgorio pwyntiau gwleidyddol. Gyda hynny mewn golwg, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi sicrhau'r Senedd hon, lle mae'r gyfraith a'r uchelgais wleidyddol yn pwyntio at gyfeiriadau cyferbyniol, mai'r gyfraith a fydd yn arwain eich cyngor chi i Weinidogion, ac a fyddwch chi'n dweud 'na' wrthyn nhw?
Fy ngwaith i yw cynghori'r Llywodraeth ar faterion cyfreithiol, dyna ei diwedd hi—yr union bwynt. Rwy'n gwybod ei fod yntau hefyd yn gyfreithiwr. Rwy'n gwybod ei fod yn un eithaf da am ddrafftio cwestiynau; fe gefais i brofiad o hynny yn y fan yna. Fe fyddwn i'n awgrymu iddo ef, a hynny yn ysbryd cydweithrediad, pe byddai ef yn dymuno cwrdd â mi ar unrhyw adeg i drafod ei friff cysgodol, mae fy nrws i'n agored ac fe fyddwn i'n falch iawn o'i weld ar unrhyw adeg. Ond nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i unrhyw faterion cyfreithiol gwleidyddol, gogwyddol ar y cam hwn—ymgais dda iawn, ond wnaf i mo hynny.
Iawn, fe gadwaf i at y gyfraith yma nawr. Gwnsler Cyffredinol, fe ddylai pobl yng Nghymru ddisgwyl i newidiadau mawr i'r gyfraith gael eu gwneud yn y Siambr hon mewn ffordd agored a hynny ar ôl craffu priodol. Ond mae pwerau Harri VIII yn caniatáu i Weinidogion newid Deddfau yn ddiweddarach trwy gyfrwng rheoliadau, fel y gwyddoch chi'n iawn. Efallai fod hyn yn gyfleus i'r Llywodraeth, ond fe all wanhau craffu gan y Senedd. Felly, a fyddech chi'n rhoi sicrwydd eglur, pan fo Biliau Cymru yn cynnwys pwerau o'r fath, y byddwch yn mynnu eu bod nhw'n gyfyngedig, yn gyfiawn ac yn destun i'r craffu mwyaf manwl posibl?
Wel, dyna'r hyn y mae'r Senedd yma i'w wneud—craffu ar waith y Llywodraeth a sicrhau ein bod ni i gyd yn cael y gorau y gallwn ni i Gymru. Dyna'r peth cyntaf sy'n ein hysgogi ni, yr unig beth sy'n ein hysgogi ni. O ran pwerau Harri VIII, roedd yn ymddangos eu bod nhw'n gweithio i lawr y ffordd yn Llundain. Rwy'n siŵr y gallai Gweinidogion Cymru gyflawni'r swyddogaeth honno lawn cystal. Dyma rywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn teimlo yn gryf amdano—y dylen nhw fod â'r pŵer i'w wneud pryd bynnag y bo'r angen, ond nid wyf i'n dweud ar sail gwbl gyffredinol; ni fyddai neb yn dweud felly oherwydd, yn sicr, fe fyddai hynny'n tanseilio holl ddiben ein Senedd ni yma. Ond mae yna adegau—amseroedd o argyfwng, neu beth bynnag a allai fod, pryd ceir rhai materion eithaf syml i ymdrin â nhw, ac eraill sy'n galw am symudiad gweinidogol gweddol gyflym—lle byddwn i'n awgrymu y bydd pwerau Harri VIII yn ychwanegiad defnyddiol at bwerau Gweinidogion Cymru. Mae hwnnw'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth hon yn mynd ar ei drywydd maes o law.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Rydych chi wedi ymddiddori mewn cyfiawnder a dyfodol Cymru ers amser maith, ac rwy'n parchu hynny. Eto i gyd, rwy'n parhau i fod yn bryderus am gyfeiriad cyfansoddiadol eich plaid chi. Fe ddylid barnu newidiadau i'r gyfraith, y llysoedd neu bwerau'r lle hwn trwy brofion eglur: pa faterion y byddan nhw'n mynd i'r afael â nhw, faint fyddan nhw'n costio, pwy fydd yn gyfrifol amdanyn nhw, a bod cefnogaeth amlwg gan bobl Cymru iddyn nhw? Felly, a ydych chi'n derbyn y dylai unrhyw newid mawr fod yn eglur, wedi cyfri'r gost a'i fynegi i'r bobl mewn ffordd y gallan nhw ei deall? Ac o ystyried nod datganedig Plaid Cymru o annibyniaeth, a wnewch chi roi sicrwydd i'r Senedd na fyddwch yn cefnogi newid cyfreithiol neu wleidyddol yn llechwraidd, ond y byddwch chi'n gwbl agored gyda phobl Cymru yn y ffordd dryloyw y mae ganddyn nhw hawl i'w disgwyl?
Rwyf i yma i gynghori Llywodraeth, a hynny heb ofn na ffafr. Dyna'r hyn y byddaf i'n ei wneud. Fe fyddaf i'n gwneud fy ngorau i roi'r cyngor cyfreithiol gorau posibl iddyn nhw, a mater i eraill yw penderfynu ar bolisi'r dyfodol, o ran y cyfansoddiad a phopeth arall.
Llefarydd Llafur Cymru, Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Pa ddadansoddiad a wnaeth y Cwnsler Cyffredinol o safon adeiladau'r llysoedd yng Nghymru? Mae rhywun wedi dweud wrthyf i fod nifer o adeiladau'r llysoedd yng Nghymru mewn cyflwr gwael iawn. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi trafod cyflwr adeiladau'r llys yng Nghymru gydag Arglwyddes Carr, pennaeth barnwriaeth Cymru a Lloegr? A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi trafod cyflwr adeiladau'r llys yng Nghymru gyda'r Arglwydd Ganghellor? Ac a fydd y Cwnsler Cyffredinol yn adrodd i'r Senedd ar gynigion i wella gwneuthuriad adeiladau llysoedd yng Nghymru?
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n gallu siarad yn onest am gyflwr adeiladau llysoedd yng Nghymru: ar y cyfan, maen nhw'n mewn cyflwr ofnadwy, ac fe fydd rhywbeth yn cael ei wneud ac fe ddylid ei wneud. Fel mae ef yn ei ddeall, mater a gedwir yn ôl yw hwn, gan fod yr Arglwydd Ganghellor yn anfon rhyw bunt neu ddwy bob hyn a hyn i atgyweirio to sy'n gollwng. Mae cyflwr adeiladau'r llysoedd yn ofnadwy. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw y byddaf i, cyn bo hir, yn cwrdd â'r Arglwyddes Brif Ustus Carr, ac yn sicr, fe fyddaf i'n cynnwys y pwnc hwn fel un o'r prif bynciau y byddwn ni'n eu trafod.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Mae Arglwyddes Carr yn ymwybodol iawn o'r problemau; fe adroddodd hi hynny i bwyllgor Senedd yn y Senedd ddiwethaf.
Fy nghwestiwn nesaf i yw: fe ellir cyflawni llawer iawn heb ddeddfwriaeth, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd gydag addysg gyfun, ond mae angen deddfwriaeth ar rai materion. Mae'r meysydd sydd angen deddfwriaeth yn cynnwys cyrff statudol. Mae staff cymorth yn bwysig iawn i redeg ysgol. Ni allai ysgolion redeg yn effeithiol hebddyn nhw. Rwyf i wedi gweld hynny'n uniongyrchol fel llywodraethwr ysgol—aelodaeth yr wyf i'n ei ddatgan ar y cofnod. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol a Phlaid Cymru gefnogi cynnig deddfwriaethol fy nghyd-Aelod Lynne Neagle i greu corff negodi staff cymorth ysgolion yn y gyfraith?
Wel, mae hyn y tu allan i'm cylch gorchwyl i'n amlwg, ond nid wyf am wneud dim ond ei daro i ffwrdd. Rwy'n gweld bod y Llywydd yn chwerthin yn y fan acw. Mae hyn yn debyg i'r hen ddyddiau yn San Steffan.
Na, mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn un dilys a'r hyn a wnaf i, hyd yn oed os nad yw'r Gweinidog Cabinet sy'n gyfrifol am y portffolio yn ymwybodol o'i gwestiwn, yw y bydd hi'n dod yn ymwybodol o'r cwestiwn, ac yn ddiamau, fe fydd hi'n mynd i'r afael â'r cwestiwn ar ei gyfer.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. A gaf i eich croesawu, Gwnsler Cyffredinol, i'ch swydd newydd a dweud pa mor falch yr wyf wrth gofio'r adegau y buom ni'n gweithio gyda'n gilydd i wella gofal i gyn-filwyr yng Nghymru yn ystod eich cyfnod fel Aelod Seneddol yn San Steffan? Ac rwy'n gobeithio y bydd ein perthynas ni'r un mor adeiladol yma yn y Senedd hon ac yn y Siambr hon.
Yr wythnos diwethaf, Gwnsler Cyffredinol, roedd ymchwiliad Llywodraeth y DU i gangiau meithrin perthynas amhriodol yn nodi'r lleoliadau dechreuol lle y mae'n bwriadu cynnal rhai ymchwiliadau a gweithio ynddyn nhw. Yn anffodus, nid oedd un o'r lleoliadau hynny yma yng Nghymru, ac mae hynny'n siomedig dros ben oherwydd fe wyddom ni o ymchwiliadau sydd wedi digwydd yn flaenorol, yn enwedig yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, a arweiniwyd gan yr Athro Jay, bod gangiau meithrin perthynas amhriodol wedi bod yn weithredol yn ardal Abertawe. Fe wyddom ni fod achos yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ynglŷn â gangiau meithrin perthynas amhriodol yn y Rhyl, ac yn amlwg ni fyddwn yn disgwyl i chi wneud sylwadau ar yr achos hwnnw, ond fe wyddom ni hefyd o dystiolaeth gan ddioddefwyr y gangiau hyn a masnachu rhywiol bod hynny wedi digwydd mewn rhannau eraill o gefn gwlad Cymru hefyd. A gaf i ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r rhai sy'n gyfrifol am yr ymchwiliad ynglŷn ag ymgysylltiad Cymru â'i gwaith pwysig i sicrhau na chaiff unrhyw fater ei ddiystyru wrth nodi graddfa'r problemau hyn yng Nghymru a'r camau y gellir eu cymryd i atal y rhain rhag digwydd yn y dyfodol?
Wel, rwy'n diolch yn fawr iddo am ei ddymuniadau da, ac rwyf innau'n cofio gweithio yn gydweithredol iawn ag ef yn y dyddiau hynny. Mae'r ddau ohonom ni wedi mynd ychydig yn hen ac yn gysetlyd ac yn gas, efallai, yn yr amser hwnnw, ac rwy'n fy nghynnwys fy hun yn hynny. [Chwerthin.] Ond mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn un dilys. Nid wyf i am sôn o gwbl am fater y Rhyl oherwydd mae hwnnw gerbron Llys y Goron Caernarfon wrth i ni siarad heddiw. Ond mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn un dilys, ac rwy'n credu mai'r ffordd ymlaen i mi ateb y cwestiwn hwn yn briodol yw drwy ddweud y byddaf i'n ymgysylltu â fy nghyd-Aelod sydd â chyfrifoldeb am drafodaethau gyda'r cyrff sy'n penderfynu ym mha le y mae ymchwiliadau yn digwydd ac y gellir ymchwilio yn briodol ac yn eang i'r materion hynny, ac fe ddaw ateb cyn bo hir.
Rwy'n falch iawn ac yn galonnog o glywed eich ymateb chi yn y fan yna. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i ddioddefwyr y gangiau hyn ein bod ni'n cael atebion a'n bod yn gallu dwyn y bobl hynny i gyfrif sydd wedi eu methu nhw. Nid yn lleiaf ymhlith y dioddefwyr hynny, wrth gwrs, Emily Vaughn, sydd wedi siarad yn rymus am ei phrofiadau ofnadwy hi wedi iddi gael ei threisio gannoedd o weithiau gan unigolion â chysylltiad â'r gangiau hyn ac fe gafodd ei masnachu o un lle i'r llall, ac o Gymru i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, i ddioddef y cam-drin hwnnw a brofodd.
Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n deall o'r gwaith sydd wedi digwydd eisoes fod rhai o'r bobl a ddylai fod yn amddiffyn merched ifanc agored i niwed yn bennaf, ond bechgyn weithiau hefyd, mai snobyddiaeth oedd un o'r rhesymau sut y llwyddodd yr unigolion hynny i osgoi cyfiawnder wrth gyflawni'r troseddau hynny am gyfnod mor faith oherwydd roedd y rhai hyn weithiau, y dioddefwyr hyn, o gefndiroedd tlawd ac fe gawson nhw eu diystyru fel unigolion trafferthus. Roedd llwfrdra yn achos hefyd, diffyg parodrwydd i enwi gweithgarwch mewn rhai grwpiau ethnig oherwydd ofn cyhuddiadau o hiliaeth. Ac yn anffodus, o ganlyniad i hynny, roedd llawer o'r unigolion hynny yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael yn amddifad. A gaf i ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi hefyd, yn ogystal ag estyn allan a gweithio gyda chydweithwyr ledled gweddill y Deyrnas Unedig, estyn allan at rai o ddioddefwyr y gangiau hyn yma yng Nghymru, a chael sgyrsiau gyda nhw am y ffordd y bydden nhw'n dymuno i Lywodraeth Cymru ddylanwadu ar yr ymchwiliad hwn? Ac os ydych chi'n teimlo na fydd ymchwiliad y DU yn mynd at hanfod y problemau y mae'r unigolion hynny yn awyddus iddyn nhw gael sylw, a wnewch chi roi cyngor annibynnol i'r Llywodraeth ac a fyddwch chi'n eofn yn eich galwad am ymchwiliad drwy Gymru i'r meysydd hynny y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, pe byddai hynny'n angenrheidiol?
Wel, mae'r Siambr gyfan wedi clywed yr hyn a ddywedodd, ac mae'r Siambr gyfan wedi ffieiddio ac yn ofidus iawn ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i'r bobl ifanc hyn—nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond nid yw fy nghylch gwaith i'n ymestyn i'r hyn y mae o'n gofyn i mi ei wneud. Eto i gyd, fe gafodd ei glywed yn hyglyw iawn, ac rwy'n gobeithio y gallai hyn fod yn ddechrau ar sgwrs gyda chydweithwyr a fydd yn gallu mynd â'r mater ymhellach. Mae'r mater y mae o'n ei godi yn un pwysig, ond fe allaf i ddweud hyn wrtho: pe gofynnid i mi roi unrhyw gyngor cyfreithiol yn y cyswllt hwn, heb ofn na ffafr y byddai hynny, bob amser.
3. Pa rôl sydd gan y Cwnsler Cyffredinol o ran sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol? OQ64242
Nid oes swyddogaeth uniongyrchol i mi yn y gwaith o fonitro neu oruchwylio cyrff cyhoeddus Cymru. Er hynny, fe allaf i ddechrau achos cyfreithiol sy'n ymwneud â materion pryd y gellir defnyddio unrhyw swyddogaethau sydd gan Weinidogion Cymru a phryd y bo gweithredu o'r fath yn briodol ar gyfer hyrwyddo neu amddiffyn budd y cyhoedd.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Rwy'n derbyn bod fframwaith eang ar waith o ran atebolrwydd yng Nghymru: y llysoedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gwaith pwysig gan bob un ohonyn nhw, ond mae rheolaeth y gyfraith yn dechrau gyda'r Llywodraeth ei hun. Trwy fy ngwaith craffu i a cheisiadau rhyddid gwybodaeth, fe welais i sut y gall cwestiynau godi ynglŷn â thryloywder, llywodraethu a chydymffurfiaeth â dyletswyddau cyfreithiol. Mewn un adolygiad mewnol i gyfres o geisiadau a wnes i am wybodaeth amgylcheddol yn ymwneud ag Ynni Cymunedol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ei bod wedi grwpio pum cais ar wahân gyda'i gilydd, wedi methu ag esbonio'r sail dros wneud hynny yn ei hymateb gwreiddiol ac wedi ymddiheuro am yr esgeulustod hwnnw. Mae hynny'n codi cwestiwn cyfansoddiadol llawer ehangach. Yn swyddog cyfreithiol Llywodraeth Cymru, pa sicrwydd a allwch chi ei roi i'r Senedd hon fod Gweinidogion, adrannau'r Llywodraeth a chyrff a ariennir yn gyhoeddus yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na'u bod yn gadael dinasyddion i ymladd drwy gwynion, adolygiadau mewnol ac apeliadau er mwyn sicrhau'r canlyniad sy'n ofynnol dan y gyfraith eisoes?
Wel, fel y dywedais i, mae pwerau gennyf i ymgymryd ag erlyniadau mewn rhai amgylchiadau. Ond, fel Cwnsler Cyffredinol, mae gwaith gennyf i hefyd o ran sicrhau bod penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gyfreithlon a'u bod nhw'n ymarfer eu swyddogaethau mewn modd priodol a'u bod nhw'n cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol hefyd. Yn ogystal â hynny, rwyf hefyd yn ceisio gwella hygyrchedd cyfraith Cymru, sydd hefyd yn cynorthwyo dinasyddion a chyrff cyhoeddus Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a chyfrifoldebau cyfreithiol. O dan adran 67 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae pŵer gennyf i gychwyn, sefydlu, amddiffyn neu ymddangos mewn achosion cyfreithiol pan fyddaf o'r farn fod hynny'n briodol ar gyfer hyrwyddo neu amddiffyn budd y cyhoedd. Mae'r pŵer yn adran 67 yn gymwys i achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â materion lle gellir defnyddio un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol. Ond, yn y pen draw, cyrff cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth yn unol â'u cyfrifoldebau cyfreithiol eu hunain, ac nid yw fy swyddogaeth i'n effeithio ar y mater penodol hwnnw.
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gapasiti Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol i gefnogi rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth mewn Senedd fwy o faint gyda 96 Aelod? OQ64245
Rwyf eisoes wedi cael nifer o drafodaethau gyda'r Prif Gwnsler Deddfwriaethol, sy'n arwain y swyddfa honno, am waith y swyddfa, ei chapasiti a deddfwriaeth yn gyffredinol.
Yn dilyn yr etholiad hanesyddol ym mis Mai 2026, mae'r Siambr hon wedi tyfu o 60 i 96 o Aelodau. Mae'r ehangu strwythurol yn newid deinameg ddeddfwriaethol ein Senedd yn sylfaenol. Gyda mwy o Aelodau yn cymryd eu seddi, mae'n anorfod y byddwn ni'n gweld cynnydd sydyn mewn ymchwiliadau gan bwyllgorau, nifer uwch o welliannau a mwy o awydd am Filiau Arfaethedig Aelodau'r meinciau cefn. Gyda'r symudiad yn y Siambr weithiau'n araf ac yn aml yn cael ei ohirio tan yr hydref, dim ond os yw'r seilwaith y tu ôl iddi yn barod y gall Senedd fwy o faint basio deddfau dwyieithog o ansawdd uchel. A allai'r Cwnsler Cyffredinol amlinellu pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod gan swyddfa'r cwnsler ddigon o adnoddau a staff a'i bod yn barod i fynd i'r afael â'r pwysau drafftio cynyddol heb achosi oedi i agenda'r Llywodraeth ei hun?
Dim ond i nodi'r hyn sy'n amlwg, sef bod y Llywodraeth newydd yn ymwybodol iawn mai hyrwyddo deddfwriaeth yw un o'i swyddogaethau pwysicaf, ac mae gan Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol rôl hanfodol, wrth ddrafftio ac, yn fwy cyffredinol, wrth helpu i lunio rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Mae hefyd yn arwain y broses o fy helpu i ddatblygu rhaglen o weithgareddau i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn y bôn, i ddatblygu llyfr statud dwyieithog haws ei ddeall ar gyfer Cymru.
Mae'r swyddfa, fel y rhan fwyaf o swyddfeydd drafftio deddfwriaethol eraill, yn gymharol fach. Fodd bynnag, bydd yn recriwtio'n fuan i ehangu'r swyddfa i 20 o gwnsleriaid deddfwriaethol o'r nifer presennol, sef 17. Fodd bynnag, byddaf yn monitro capasiti'r swyddfa yn y misoedd nesaf ac yn ystyried pa mor effeithlon yw'r gwasanaeth sifil yn ei gyfanrwydd o ran ei allu i ddatblygu cynigion deddfwriaethol.
I gloi, byddwn yn ychwanegu mai canlyniadau yw ffocws y Llywodraeth, ac mae hyn yn berthnasol i'r dull y bydd yn ei gymryd i ddeddfu cymaint ag i ddatblygu polisïau a gwneud ymrwymiadau ariannol. Ni fydd y ffaith bod mwy o Aelodau'r Senedd i graffu o reidrwydd yn rhwystro gwaith cwnsleriaid deddfwriaethol mewn unrhyw ffordd, ac, yn enwedig, gan y byddan nhw'n cynyddu'n sylweddol—wel, o 17 i 20, mae'n uwchraddio sylweddol o ran niferoedd.
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar i ba raddau y mae trefniadau gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn cael eu hategu gan gytundebau gweinyddol, neu rwymedigaethau statudol neu gontractiol gorfodadwy? OQ64238
Rwy'n byw ym Meirionnydd, sy'n ffinio â ble mae e'n byw, ac felly rwy'n ymwybodol o broblemau sy'n digwydd weithiau ar draws ffiniau. Mae trefniadau gofal iechyd trawsffiniol yn rhan arferol a hanfodol o ddarpariaeth y GIG i gymunedau ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Maen nhw'n cael eu hategu gan ddyletswyddau statudol ar gyrff y GIG i sicrhau gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau, a'u cefnogi, fel y dywedais i, gan bwerau statudol i gomisiynu gofal ar draws y ffin a chan gytundebau gweithredol, gan sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth amserol a di-dor.
Gwnsler Cyffredinol, dydw i ddim yn glir o'ch ymateb ble mae'r sicrwydd cyfreithiol, felly allwch chi egluro a ydych chi'n fodlon y byddai'r trefniadau gofal iechyd trawsffiniol presennol yn gwrthsefyll newid mewn cymhwysedd deddfwriaethol heb fod angen eu hailnegodi ac, os na, beth yw'r risg gyfreithiol i gleifion yn y cyfamser?
Mae yna ddeddfwriaeth yng Nghymru a hefyd yn Lloegr sy'n caniatáu'n benodol i wasanaethau gael eu darparu a hefyd eu comisiynu ar draws ffiniau tiriogaethol. Mae gan gyrff y GIG hefyd bwerau a dyletswyddau i gydweithredu a gweithio ar y cyd, gan gefnogi darpariaeth drawsffiniol integredig, ac, yn ymarferol, mae'r sylfeini statudol hyn yn cael eu hategu gan gytundebau comisiynu a gwasanaeth strwythuredig rhwng sefydliadau. Mae yna ddatganiad o werthoedd ac egwyddorion ar y cyd hefyd sy'n atgyfnerthu dull cyson sy'n canolbwyntio ar y claf ac yn osgoi oedi neu fylchau mewn gofal, ac mae'r fframwaith cyffredinol yn sicrhau bod profiad cleifion yn ddi-dor, yn ddiogel ac yn amserol.
Ac fe wnaf y pwynt hwn bod gofal iechyd trawsffiniol yn gweithredu o fewn fframweithiau a sefydlwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a Deddf Iechyd Gwladol 2006, a bod y Deddfau hyn yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a chyrff y GIG yng Nghymru a Lloegr i hyrwyddo a sicrhau gwasanaethau iechyd cynhwysfawr i'w poblogaethau. Gyda pharch, byddwn i wedi dweud bod y sail statudol yno. Roedd ond rhaid ei gwneud i weithio ychydig yn fwy effeithiol ar adegau.
Croeso arbennig i'r Cwnsler Cyffredinol i'w swyddogaeth newydd yma heddiw. Mi wnaf i ofyn hwn yn Saesneg, er syndod i sawl un.
Rydyn ni'n clywed llawer am y mater o iechyd trawsffiniol ym Mhowys, fodd bynnag, yr hyn nad ydyn ni'n clywed llawer amdano yw'r ffaith bod GIG Lloegr wedi ailbrisio costau gofal argyfwng y llynedd, gan arwain at gynnydd mewn ffioedd uwchlaw'r costau chwyddiant arferol ac ati, sy'n cael eu tanysgrifennu gan y Llywodraeth. Arweiniodd hyn at gost ychwanegol o £3.8 miliwn y llynedd, ac mae'n debygol o fod yn £4 miliwn ychwanegol yn 2026-27. Ar ben hynny, mae Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy yn cael ei dosbarthu gan GIG Lloegr fel ardal wledig, ac mae'n cael premiwm. Fodd bynnag, maen nhw wedyn yn disgwyl yn awtomatig i Bowys dalu premiwm iddyn nhw hefyd, sydd wedi arwain at fil o £13 miliwn hyd yma.
Dyma'r materion sy'n creu pwysau enfawr ar fwrdd iechyd Powys. Pa gyngor cyfreithiol y gall y Cwnsler Cyffredinol ei roi i Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r materion trawsffiniol hyn? Diolch yn fawr.
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn hwnnw, fel yr oeddwn am y cwestiwn blaenorol. Fe ailadroddaf yn fyr bod comisiynu gwasanaethau'r GIG, gan gynnwys gwasanaethau trawsffiniol, yn fater i fyrddau iechyd lleol, sy'n gweithredu o fewn y fframwaith statudol a sefydlwyd gan ddeddfwriaeth, y cyfeiriais ato. Mae Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o'r pwysau ariannol sy'n wynebu byrddau iechyd, gan gynnwys y rhai sy'n deillio o newidiadau cyfnodol i system brisio GIG Lloegr, sef y tariff y cytunir arno ar gyfer darparu gwasanaethau trawsffiniol.
Nid yw penderfyniadau a wneir i gydnabod pwysau penodol y tu hwnt i'r dulliau trawsffiniol y cytunir arnynt yn orfodadwy ar draws ffiniau, ac maen nhw'n faterion i Gymru a Lloegr yn ôl eu trefn, ar wahân. Ond rydyn ni'n parhau i ymgysylltu â sefydliadau'r GIG a byrddau iechyd ar y pwysau hynny, ond materion i'r sefydliadau dan sylw yw penderfyniadau comisiynu unigol rhwng cyrff y GIG.
Croeso i'r swydd hefyd, Gwnsler Cyffredinol.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Rwyf eisiau cyfeirio'n ôl at fater a godais ynghylch y pryder hwn gyda'r Prif Weinidog, lle y gwnaeth gydnabod yr annhegwch yn y system aros sy'n wynebu cleifion ym Mhowys, ac y gwnaeth gydnabod ei fod yn fater o degwch. Dywedodd:
'fe fyddwn ni'n sicrhau bod buddiannau pobl Powys wrth eu gwraidd.'
Yn wir, mae hynny'n peri cryn bryder i gleifion ym Mhowys, oherwydd nid dyna sy'n digwydd. Rydyn ni'n clywed bod y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo, a byddaf yn hollol onest ac yn barchus i chi, ond rydyn ni'n clywed hynny gennych chi hefyd. Rydych chi'n sôn am fframweithiau, rydych chi'n sôn am wasanaethau di-dor. Dydy'r geiriau hyn ddim yn golygu dim i gleifion ym Mhowys sy'n aros i gael eu llawdriniaethau, a fydd yn lleddfu eu poen.
Fe sonioch chi fod fframwaith statudol ar waith i edrych ar y gwasanaethau, felly fy her i chi yn eich rôl yw: a wnewch chi newid a herio'r fframweithiau statudol hynny er mwyn caniatáu i gleifion ym Mhowys sy'n byw ar y ffin gael mynediad i ysbytai yn Lloegr o fewn yr un amser aros â chleifion yn Lloegr? Diolch yn fawr iawn.
Wel, unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Does gen i ddim rôl yn hyn, o ran dweud y byddaf yn newid unrhyw beth. Byddaf yn rhoi cyngor cyfreithiol pan gaf fy ngalw i wneud hynny. Ond mae'r broblem a godwyd gan y tri Aelod yn un fyw. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd rwy'n byw dros y ffin yn sir Feirionnydd. Rwy'n ymwybodol ohoni. Mae gen i ffrindiau dros y ffin yn sir Drefaldwyn sy'n dioddef o'i herwydd.
Nawr, rwy'n argymell mai'r hyn sydd angen ei wneud, yw bod yn rhaid cael rhyw fath o drafodaeth a/neu ymchwiliad swyddogol i'r holl fater i weld beth y gellir ei wneud, oherwydd rwy'n ymwybodol ei fod yn fater difrifol, ac rwy'n ymwybodol bod angen mynd i'r afael ag ef. Felly, rwy'n clywed beth mae'r ledi yn ei ddweud—beth mae'r Aelod yn ei ddweud—ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, sy'n gyfrifol am hyn, wedi clywed hynny hefyd. A dydw i ddim yn diystyru’r cwestiwn hwn. Mae'n un pwysig. Mae'r tri ohonyn nhw'n bwysig. Mae angen i rywbeth gael ei wneud. Ond nid yw'n fater i mi, fel Cwnsler Cyffredinol, ddweud beth ddylai gael ei wneud. Gallai cynlluniau gael eu rhoi ar fy desg a byddwn i'n cael fy holi ynghylch a yw'r cyfreithlondeb yn iawn neu beth bynnag—iawn, ocê, ond mae'n rhaid cael rhyw fath o drafodaeth sy'n arwain at fframwaith polisi newydd, efallai ar ddwy ochr y ffin.
Diolch. Ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i chi, Gwnsler Cyffredinol, am dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng eich rôl chi a rôl yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am faes portffolio hefyd. Roedd hynny'n ddefnyddiol iawn.
[Anghlywadwy.]—Lywydd. Mae'n flin gen i, rwy'n siŵr nad oeddech chi'n bwriadu dweud hyn, ond fe wnaethoch chi gyfeirio ataf fel 'ledi', a dydy hynny ddim yn dderbyniol, yn fy marn i.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Jane.
Rwy'n ymddiheuro os yw hynny'n sarhaus. Mae'n flin gen i.
Diolch, ac rydyn ni'n nodi'r ymddiheuriad hefyd ar y cofnod. Diolch yn fawr iawn. Diolch, Jane.
Rydyn ni'n symud nawr i gwestiwn 7. Gwyn Williams.
Diolch yn fawr, Lywydd. A llongyfarchiadau, Gwnsler Cyffredinol, ar eich rôl newydd.
7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i herio achosion cynllunio a gymeradwywyd gan awdurdodau lleol er gwaethaf gwrthwynebiad lleol cryf? OQ64265
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ddirymu, addasu neu derfynu caniatâd cynllunio y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ei roi, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Dim ond lle yr ystyrir bod y penderfyniad gwreiddiol mor anghywir fel y gallai wneud niwed i fudd ehangach y cyhoedd y bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio.
Y rheswm pam fy mod i'n sôn yn benodol am hyn yw, ers i mi ddod i mewn i'r Siambr hon—wel, nid yn gorfforol heddiw, ond dros y chwe wythnos diwethaf—rydw i wedi cael mwy o negeseuon e-bost am fater Mynydd Cilfái yn Abertawe nag efallai unrhyw fater arall. Abertawe, fyddwn i'n ei ddweud, er nad wyf i'n ddiduedd, wrth gwrs, yw un o'r dinasoedd mwyaf rhyfedd o unigryw ac unigryw o ryfedd yn y byd, a Bryn Cilfái yw'r lle mwyaf rhyfedd o brydferth, efallai, yn Abertawe gyfan, sy'n dweud llawer, yw'r hyn rydw i'n ei ddweud. Mae yna sawl ymgyrch sy'n gwrthwynebu'r datblygiad ar y mynydd oherwydd fflora a ffawna naturiol y mynydd hefyd, a hefyd y ffaith bod Abertawe arfer cynhyrchu 90 y cant o'r copr yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd pridd y mynydd ei wenwyno mewn ffordd mor unigryw fel bod y planhigion sy'n tyfu yno ar hyn o bryd fwy neu lai'n unigryw i'r mynydd hwnnw. A hefyd roedd fy mab fy hun, cyn iddo fynd i'r Magnelwyr Brenhinol, yn hyfforddi ar y mynydd hwnnw fel rhan o'r coleg paratoi milwrol. Felly, er fy mod i'n deall mai hwn, fwy na thebyg, yw'r cyngor cyfreithiol mwyaf pwerus y gall yr ymgyrchoedd lleol ofyn amdano, pa gyngor fyddech chi'n ei roi, efallai, i ymgyrch Achub Mynydd Cilfái yn eich rôl fel Cwnsler Cyffredinol?
Byddwn i'n colli fy swydd pe bawn i'n rhoi unrhyw gyngor iddyn nhw. [Chwerthin.] Ond fe ddywedaf hyn wrtho: fe ddylai ac mae'n rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud yn unol â'r polisïau sydd wedi'u nodi yn y cynllun datblygu perthnasol a fabwysiadwyd, oni bai bod ystyriaethau cynllunio perthnasol yn nodi fel arall. Ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn hefyd: dydy gwrthwynebiad cyhoeddus ynddo'i hun ddim yn ystyriaeth gynllunio berthnasol. Mae'n rhaid i aelod o'r cyhoedd nodi rhesymau cynllunio pam ei fod o'r farn na ddylai'r datblygiad gael ei gymeradwyo, ac mae'n agored i unrhyw un herio'r modd yr ymdrinnir â chais cynllunio trwy adolygiad barnwrol os ydyn nhw o'r farn ei fod yn ddiffygiol yn gyfreithiol, ond nid yw'n bosibl herio'r rhesymeg dros y penderfyniad. Anaml iawn mae pwerau dirymu yn cael eu defnyddio, fel yr wyf wedi esbonio, ac mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn gallu gwneud sylwadau ar rinweddau cynllunio achos unigol, oherwydd gall ddod gerbron Gweinidogion Cymru yn ddiweddarach, a fyddwn i ddim eisiau niweidio unrhyw rôl ffurfiol y gall fod gennyf wedyn.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Lindsay Whittle.
Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, prynhawn da, ac rwy'n gobeithio na fydd fy nghwestiwn i yn arwain at golli'ch swydd.
8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron? OQ64256
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am hynny. Roeddwn i'n mynd i ddweud, 'fy ffrind', ond dydw i ddim i fod i ddweud hynny mwyach. [Chwerthin.] Dyna arfer arall San Steffan a ddylai fynd.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ceisio sicrhau datganoli Ystad y Goron i Gymru. Dylai pobl Cymru elwa ar gyfoeth naturiol anhygoel y genedl. Dylai penderfyniadau am dir Cymru, gwely'r môr Cymru ac asedau arfordirol gael eu gwneud yng Nghymru ac adlewyrchu blaenoriaethau ac amodau Cymru.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol, am eich ateb. Ac rwy'n gwybod ein bod ni ar y meinciau hyn, ac efallai eraill hefyd, yn rhannu rhwystredigaeth y Llywodraeth hon bod Cymru'n parhau i fod dan anfantais o gymharu â'r Alban sydd, wrth gwrs, wedi mwynhau manteision refeniw Ystad y Goron ers 2017. Gallai datganoli Ystad y Goron olygu miliynau o bunnoedd mewn elw y gallwn ni ei fuddsoddi'n uniongyrchol yn ôl i gymunedau arfordirol Cymru, gan gefnogi'r pwysau ar ein llywodraeth leol, a chefnogi swyddi a gweithgynhyrchu yn ein sector ynni gwyrdd. Beth mwy allech chi ofyn amdano? Pa gamau, felly, y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd ar drywydd datganoli'r ased hanfodol hwn ymhellach yn gyfreithlon?
Wel, yn amlwg, yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw dechrau trafodaethau ystyrlon gyda San Steffan, oherwydd San Steffan sydd â'r allwedd i unrhyw ddatganoli arall. Ond rwy'n deall ac rwy'n clywed yr hyn y mae'n ei ddweud am werth posibl Ystad y Goron i Drysorlys Cymru. Y ffigurau sydd gennyf yw, rhwng 2024 a 2026, bod dyfroedd Cymru wedi cynhyrchu tua £700 miliwn mewn ffioedd opsiynau ar gyfer gwynt ar y môr, a dydy Cymru ddim yn cael cyfran deg o hynny o bell ffordd. Felly, mae angen i ni fod yn edrych ymhellach ar hyn. Mae'n faes polisi. Nid fy mholisi i, ond mae'n faes polisi, ac rwy'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn gwneud y maes polisi hwn yn flaenoriaeth.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Diolch.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Rydych chi wedi gwneud yn dda i addasu i gonfensiynau'r Siambr hon ac i osgoi cael eich llusgo i feysydd portffolio, er bod Aelodau wedi'ch temtio chi yno, yn gryf iawn yn wir. Diolch yn fawr iawn.
Nawr, eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Mae yna un newid i fusnes yr wythnos hon: mae datganiad llafar wedi'i ychwanegu at agenda heddiw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae busnes ddrafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r holl Aelodau yn electronig.
Mae Cymru yng nghanol yr hyn sy'n argyfwng tai. Rwy'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyflwyno ei thargedau adeiladu tai, ond roeddwn i'n tybio a allai'r Trefnydd berswadio'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i ddod ymlaen i esbonio beth fydd cynnig y Llywodraeth ar gartrefi gwag. Yn fy etholaeth fy hun ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, mae dros 2,000 o gartrefi gwag y mae'n rhaid i bobl fynd heibio iddyn nhw nawr, a, hefyd, mae tua 1,200 o gartrefi gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag ers tua 12 mis. Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn gallu dod ymlaen ac esbonio i'r Siambr beth yw ei chynlluniau o ran dod â'r tai hyn yn ôl i ddefnydd a gweld a allwn ni gael etholwyr i mewn ynddyn nhw cyn gynted â phosibl.
Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, mi oeddech chi yma pan wnaeth y Gweinidog wneud y datganiad blaenoriaethau ac ati. Mae yna gyfleoedd eraill yn mynd i fod i'w holi hi, a dechrau craffu drwy'r pwyllgorau hefyd. Mae hwn yn fater mae gennym ni i gyd ddiddordeb ynddo fo, dwi'n siŵr, oherwydd mae tai yn fater y byddem ni i gyd yn ei gael fel gwaith achos. Ac o ran gweld tai gwag, mae angen inni fod yn mynd i'r afael â hynny ac, yn sicr, mae yna gynlluniau felly. Felly, mi fydd yna gyfle i fod yn craffu a holi'r Gweinidog, mae hynny'n sicr, ac mi fydd hynny drwy'r pwyllgorau ac yn uniongyrchol drwy ofyn cwestiynau iddi hi.
Drefnydd, a wnewch chi roi rhywfaint o amser ar gyfer datganiad gan y Gweinidog perthnasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am strategaeth ddiwydiannol newydd Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, y strategaeth sgiliau gysylltiedig a ddylai gweithredu ochr yn ochr â hi mewn gwirionedd, gan gynnwys rhywfaint o fanylion ynglŷn â phryd y bydd yn cael ei chyhoeddi, ac, yn hollbwysig, beth ydyn ni'n mynd i fod yn ei ddisgwyl o ran sicrhau swyddi gwaith teg o ansawdd da?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, mi glywsoch chi y Gweinidog perthnasol yn gwneud datganiad blaenoriaethau yn ddiweddar yma—hynny gan Adam Price fel y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Mae yna ymrwymiadau, wrth gwrs, yn ein cynllun 100 diwrnod ni, ac mi fyddwn ni yn diweddaru'r Senedd wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.
Drefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau epilepsi ledled Cymru. Nawr, y llynedd, gwnaeth adroddiad 'Seizing Change' Epilepsy Action Cymru ganfod bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu â bodloni'r canllawiau ar gyfer amseroedd aros ar gyfer triniaeth ar ôl ffit. Tynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at y ffaith bod cleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn aros hyd at 36 wythnos i gael eu gweld, yr amser aros hiraf erioed, lle mae canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn dweud y dylai'r apwyntiad dilynol fod o fewn pythefnos i rywun gael ei ffit cyntaf.
Nawr, Drefnydd, rydw i wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n dweud wrthyf fod gwasanaethau epilepsi yn ardal fy mwrdd iechyd i yn dal i fod o dan bwysau enbyd a'u bod yn methu â diwallu anghenion cleifion mewn modd amserol. Rhaid i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ofal amserol a buddsoddi yn y gweithlu epilepsi, ac felly byddwn i'n ddiolchgar pe gallwn ni gael datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, fel y gallwn ni ddeall beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau epilepsi ledled Cymru.
Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater yna? Yn amlwg, mi fydd nifer ohonom ni wedi cael aelodau o'r cyhoedd yn cysylltu efo ni ar y mater hwnnw. Gaf i ofyn, gan fod gennych chi bobl benodol yn eich etholaeth wedi cysylltu, a fyddech chi'n fodlon rhannu hynny a'r profiadau byw hynny gyda'r Gweinidog Cabinet fel y gall o edrych yn bellach mewn i hynny, os gwelwch yn dda?
A gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ynglŷn â'r rhaglen gofal plant a'r amserlen ar hyn? Roeddwn i'n falch o glywed y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud ymrwymiad penodol a chlir y byddai costau cychwynnol a manylion cyflwyno'n raddol yn cael eu dwyn i'r Senedd cyn toriad yr haf, ac mae hynny'n newyddion calonogol iawn. Ac mae gennym ni hefyd y grŵp llywio arbenigol sydd wedi'i sefydlu, ac rwy'n deall eu bod nhw wedi cwrdd am y tro cyntaf, ond mae gennym ni 210,000 o deuluoedd ledled Cymru sy'n byw mewn tlodi ac a fyddai wir yn elwa ar y gofal plant am ddim hwnnw. Felly, er y bydd y cyhoeddiad a'r datganiad gyda ni erbyn diwedd tymor y Senedd hon, allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, os gwelwch yn dda, am ddarparu gofal plant am ddim a sut y bydd hynny'n cael ei gyflwyno, yn enwedig o fewn heriau awdurdodau lleol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn. Byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru yn rhannu eich uchelgais chi o ran sicrhau bod gan bob teulu fynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel, oherwydd bod hyn yn datgloi cyfleoedd. Mae hwn yn rhywbeth sydd wrth galon ein cynllun ni yn y Llywodraeth. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod gwelliant Plaid Cymru yn y ddadl ddiweddar yma, oedd yn ymrwymo i fod yn cyhoeddi mwy o fanylion o fewn y 100 diwrnod, wedi pasio'n ddiweddar yma. Dydy'r ymrwymiad hwnnw heb ddiflannu.
Dwi'n gobeithio bod y ffaith ein bod ni wedi cyhoeddi yn y gyllideb atodol £55 miliwn er mwyn dechrau'r gwaith ehangu hwnnw yn dangos i'r Aelod ein bod ni o ddifrif o ran mynd ati efo'r gwaith hwn, ac mae'r ffaith bod y Gweinidog Cabinet wedi ymrwymo i roi diweddariadau rheolaidd hefyd, gobeithio, yn rhoi'r sicrwydd mae'r Aelod yn gofyn amdano fo. Byddwn i'n gobeithio felly y bydd yr Aelod yn fodlon cefnogi ein cyllideb atodol ni pan ddaw i hynny, oherwydd, yn amlwg, mae'r £55 miliwn yna yn gam cyntaf pwysig dros ben er mwyn mynd â'r uchelgais honno ymlaen.
Drefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ar ddarpariaeth bysiau lleol yng Nghwm Ogwr, yn enwedig adfer gwasanaethau i ardaloedd Caedu a Stormy Lane, yn ogystal â chynigion i ymestyn gwasanaethau gyda'r nos. Ers ad-drefnu'r rhwydwaith yn 2019, mae trigolion wedi bod heb wasanaeth bws rheolaidd, gan effeithio ar lawer o drigolion hŷn, pobl anabl a theuluoedd â phlant ifanc. Mae achos cryf hefyd dros ymestyn yr amserlen nos bresennol. Mae'r bws olaf o Ben-y-bont ar Ogwr i Nant-y-moel yn gadael tua 8.30 yr hwyr ar hyn o bryd, gan gyfyngu ar fynediad i gyflogaeth gyda'r nos, hamdden a chysylltiadau rheilffordd ar gyfer teithiau ymlaen.
Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynigion ar gyfer gwasanaethau coetsys gwell o'r gogledd i'r de a datblygu masnachfreinio bysiau, rhaid sicrhau bod gwasanaethau bysiau gwennol lleol cryfach hefyd. Byddai datganiad yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adfer y llwybrau lleol a'r gwasanaethau gwennol hynny yn cael ei groesawu'n fawr. Diolch.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog yn y Siambr ac wedi clywed hynny, neu fel arall byddwn i'n gofyn i chi ysgrifennu ato fo. Yn amlwg, ar ôl i ni basio fel Senedd yn y chweched Senedd yr holl ddiwygiadau o ran gwasanaethau bws, mae ymrwymiad Plaid Cymru yn ddiamwys o ran yr angen i wella cysylltiadau. Mae yna gyhoeddiad yn hwyrach heddiw, ond nid dyna ddiwedd y daith o ran lle rydym ni eisiau gweld hyn. Mae bysys yn eithriadol o bwysig. Rydym ni wedi gweld lot o ganolbwyntio ar drenau yn y gorffennol hefyd, ond mae bysys yn eithriadol o bwysig am y rhesymau mae'r Aelod wedi'u nodi fan hyn. Felly, dwi'n gobeithio eich bod chi'n falch o'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi clywed hynny yn benodol.
Fe gaeodd Llywodraeth y DU y cynllun mannau addoli rhestredig ar 31 Mawrth. Cafodd cronfa newydd gwerth £92 miliwn ei sefydlu yn ei le, ond ar gyfer Lloegr yn unig. Roedd hyn yn golygu bod eglwysi a chapeli ledled Cymru yn wynebu cynnydd TAW o 20 y cant dros nos ar bob un atgyweiriad. Nawr, rwy'n gwybod bod yna geisiadau'r Loteri Genedlaethol a Cadw y mae'n bosibl gwneud cais amdanyn nhw, ond mae angen cymorth proffesiynol i wneud hynny, ac mae hynny'n anodd iawn i grwpiau cymunedol bach sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Nid yw hyn yn ymwneud â'r adeiladau yn unig. Rydyn ni'n gwybod mai ein heglwysi a'n capeli yw lle rydyn ni'n canu ein hemynau, lle rydyn ni'n gwarchod ein hiaith, ac maen nhw'n llunio ein hunaniaeth genedlaethol. Felly, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog diwylliant ar y mater brys iawn hwn? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. Mae hwn yn fater sydd yn fyw iawn o fewn fy mhortffolio i ar y funud. Yn amlwg, rydych chi wedi cyfeirio at y cyllid sydd wedi bod ar gael drwy Cadw er mwyn buddsoddi yn yr adeiladau hyn, oherwydd, hyd yn oed pan fyddan nhw'n stopio bod yn addoldai, maen nhw hefyd yn adnodd cymunedol o bwys. Rydym ni wedi gweld hynny yn digwydd ledled Cymru pan fyddan nhw'n cael eu hailbwrpasu a'u hailddychmygu. Yn sicr, mi wnaf i ymrwymo i ysgrifennu at yr Aelod efo diweddariad o ran y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Mae hwn wedi cael effaith, dwi’n deall hynny, y newid ar lefel Prydeinig, ond mae yna bethau rydym ni wedi bod yn eu gwneud trwy Cadw i asesu beth yw goblygiadau hynny a beth rydym ni'n gallu ei wneud i gefnogi yma yng Nghymru.
Drefnydd, mae'r sylwadau a wnaethpwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn y Siambr hon ryw bythefnos yn ôl wedi peri cryn ddryswch o fewn llywodraeth leol, pan honnodd y Gweinidog fod rhanbartholrwydd—regionalism—wedi digwydd yn raddol, trwy'r drws cefn. Go brin byddwn i’n disgrifio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fel drws cefn.
Drefnydd, mae cyd-bwyllgorau corfforedig wedi'u sefydlu gan y gyfraith. Dydyn nhw ddim yn berffaith, ond maen nhw'n gyfrwng pwysig i sicrhau bod cydweithredu rhanbarthol yn gallu gweithio ar sail ddemocrataidd, sy'n cyferbynnu'n llwyr â chynnig Plaid Cymru i allanoli datblygu economaidd rhanbarthol i gwangos anetholedig. Mae yna enghraifft drawiadol yn ne Cymru sy'n dangos pam efallai nad corff tebyg i Awdurdod Datblygu Cymru yw'r ffordd orau o gyflawni twf economaidd: ffatri LG yng Nghasnewydd yn methu ar ddechrau'r 2000au. Cymharwch hynny â datblygiad diweddar y clwstwr lled-ddargludyddion o'r radd flaenaf ar yr un safle, rhywbeth na fyddai wedi digwydd heb gymorth Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru. Felly, Drefnydd, a all y Gweinidog wneud datganiad ar gyd-bwyllgorau corfforedig a sut y bydd atebolrwydd democrataidd yn cael ei gadw ym maes datblygu economaidd rhanbarthol?
Wel, mae'r hyn rydych chi'n gofyn amdano fo yn swnio fel cwestiwn perffaith i ofyn i'r Gweinidog pan mae gennym ni sesiynau holi Gweinidogion. Mae o'n benodol iawn, ac mi fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n rhoi'r cwestiwn hwnnw yn y balot pan mae'n dod i hynny. Ac wrth gwrs, mae yna wastad cyfleodd i holi a chraffu Gweinidogion o ran hyn.
Drefnydd, a gaf fi alw am ddatganiad ar ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal? Fel y bydd y Trefnydd yn gwybod, mae cannoedd o filoedd o unigolion yng Nghymru nad ydyn nhw wedi'u cofrestru gyda deintydd y GIG ar hyn o bryd, ac mae llawer o bobl yn gorfod gweithredu eu hunain gyda gefeiliau, neu deithio y tu allan i Gymru i gael triniaeth, dramor weithiau hyd yn oed. Mae gennym ni filoedd o bobl yn fy etholaeth fy hun yng Nghlwyd sydd wedi colli mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cleifion dau glinig lleol yn ardal Abergele yn unig dros y 12 wythnos diwethaf.
Nawr, rydyn ni'n gwybod mai rhan o'r broblem yw contract deintyddol y GIG, a gafodd ei osod ar ddeintyddion Cymru gan Lywodraeth Lafur flaenorol Cymru. Mae'n amlwg bod angen edrych ar hwnnw eto er mwyn sicrhau ei fod yn fwy deniadol i bobl ymuno â deintyddiaeth y GIG ac i gynnal eu contractau GIG. Mae angen i ni wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i fynd i'r afael â'r ymchwydd llanw a'r ymadawiadau hyn, a byddwn i'n ddiolchgar i wybod pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd, ac a allai datganiad gael ei gyflwyno.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Dwi’n gwybod y gwnaeth Jane Dodds ofyn i mi bythefnos yn ôl hefyd, ac mi fyddwn ni'n nodi'r pwyntiau y gwnes i bryd hynny o ran pwysigrwydd deintyddiaeth, a’n bod ni'n cydnabod yr heriau gwirioneddol sydd yna. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn sicrhau bod adolygiad contract newydd yn digwydd yn yr hydref, ac mae'r dental access portal yn helpu pobl i ffeindio deintydd hefyd. Dwi'n cydnabod bod yna heriau fan hyn, ac rydyn ni yn ymrwymo i geisio mynd i'r afael â nhw.
Drefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni ar ddyfodol busnesau annibynnol ar y stryd fawr yng Nghymru, os gwelwch yn dda. Ledled Cymru, mae busnesau annibynnol yn cael eu gwasgu o bob cyfeiriad. Mae costau cynyddol, trethi uwch, mwy o reoleiddio, biliau ynni cynyddol, ardrethi busnes annheg o gymharu â Lloegr, a gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr yn ei gwneud hi'n anoddach nag erioed i oroesi. Bob wythnos, rydyn ni'n gweld mwy o siopau yn cau eu drysau, gan adael adeiladau gwag ar ein strydoedd mawr a mynd â swyddi, buddsoddiad ac ysbryd cymunedol gyda nhw. Mae busnesau annibynnol nid yn unig yn bwysig i'n heconomi, nhw yw anadl einioes ein trefi a'n cymunedau hefyd. Unwaith maen nhw wedi mynd, maen anodd iawn cael rhywbeth yn eu lle. Felly, a wnaiff y Gweinidog Cabinet roi datganiad yn nodi pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i atal ein stryd fawr rhag dirywio a sicrhau bod dyfodol i fusnesau annibynnol yng Nghymru? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn? Yn amlwg, mae dyfodol ein canol trefi ac adfywio canol trefi yn bwysig dros ben. Mae o'n bwysig i Blaid Cymru. Mi oedd yna nifer o ymrwymiadau yn ein maniffesto ni. Mi oedd o hefyd wedi ei grybwyll gan y Gweinidog Cabinet dros effeithiolrwydd—na, yr un anghywir, sori. Cafodd ei grybwyll gan Adam Price fel y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, pan oedd o'n sôn ynglŷn â'i flaenoriaethau o. Yn sicr, mi fydd y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. Mae yna nifer o fesurau y byddwn ni'n eu cymryd. Does yna ddim un datrysiad. Mae yna nifer o heriau yn wynebu ein strydoedd mawr ni—yn edrych ar heriau o ran llifogydd mewn rhai, a'r heriau hynny y mae'r Aelod wedi'u nodi. Felly, mi fedraf ei sicrhau bod y gwaith hwnnw yn mynd heibio. Mi fydd tasglu canol trefi yn cael ei sefydlu fel rhan o'n cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf. Mi fydd hwn yn archwilio'r opsiynau ar gyfer cyfraddau busnes diwygiedig sy'n cefnogi adfywio'r stryd fawr yn well.
A gaf fi gefnogi galwadau Jane Dodds am wybodaeth fanylach am y ffordd y bydd eich cynnig gofal plant yn cael ei weithredu? Fe wnes i gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am aelodaeth y grŵp llywio gofal plant, a daeth yr ateb yn ôl gan ddweud y byddai'n rhaid i'r Dirprwy Brif Weinidog ysgrifennu ataf am hynny. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod yna dryloywder ar ymrwymiad mor fawr sy'n mynd i gostio cymaint o arian.
A gaf fi hefyd ofyn am ddatganiad ar ymateb y Llywodraeth i'r alwad am dystiolaeth ar ddyfodol addysg drydyddol? Mae'r Llywodraeth i fod yn ymrwymedig i ddull cysylltiedig ar draws y sector ôl-16, fodd bynnag, y cyfan rydyn ni wedi clywed amdano hyd yn hyn yw'r sector prifysgolion. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'n pobl ifanc, ein pobl ifanc fwyaf agored i niwed, yn y sector addysg bellach, yn enwedig y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Roedd galwad gynhwysfawr am dystiolaeth, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Senedd yn cael y cyfle i graffu ar yr ymatebion hynny.
Diolch. Os caf i nodi, o ran y pwynt cyntaf, mi gafodd y gwelliant a gyflwynodd y Llywodraeth ei basio ar yr ymrwymiad hwnnw o ran mwy o wybodaeth o fewn y 100 diwrnod cyntaf. Dwi'n gobeithio bod y ffaith bod yna £55 miliwn yn y gyllideb atodol, fel roeddwn i'n sôn wrth Jane Dodds, yn rhoi'r sicrwydd y mae Aelodau yn chwilio amdano fo fod y gwaith yn mynd rhagddo. Mi wnaeth cyfarfod cyntaf y grŵp llywio arbenigol ehangu gofal plant newydd ddigwydd ar 25 Mehefin. Mi gadeiriwyd hwnnw gan y Dirprwy Brif Weinidog. Mi wnaf i holi o ran sicrhau eich bod chi yn cael yr ymateb hwnnw o ran yr aelodaeth.
O ran yr ail bwynt, mi fyddwn ni yn edrych i ddod â diweddariad i'r Senedd am y gwaith a'r ymrwymiadau oedd gennym ni yn ein maniffesto ni yn fuan iawn.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Weinidog y Llywodraeth sy'n gyfrifol am gyflawni'r Llywodraeth a'r cyfansoddiad? Yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, fe gyfeiriodd yn gyson at yr adolygiad COVID yn hytrach na'r ymchwiliad COVID a addawodd y Llywodraeth pan oedden nhw'n wrthblaid. Roedd yn eithaf amlwg, pan oeddech chi'n wrthblaid, eich bod chi'n pleidleisio dros ymchwiliad. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi eich hun, ar raglen deledu, wedi cyfeirio ato fel mwy o adolygiad, a dywedodd yr Ysgrifennydd iechyd yn yr wrthblaid, 'Na, ymchwiliad ydyw.' A gawn ni eglurder, os gwelwch yn dda, drwy ddatganiad, i ddeall paratoadau'r Llywodraeth wrth lunio hyn, ac y bydd yn ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005?
Wel, diolch. Mi wnaf gyfeirio'r Aelod at faniffesto Plaid Cymru, lle roedd o'n glir—a'r ymrwymiad a wnaed yn gweithio efo COVID bereaved families—yr hyn y byddem ni'n ymrwymo iddo fo. Felly, yn sicr, mi fydd yna ddiweddariad pan fydd y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. Ond mi fydd yr Aelod yn gwybod yn glir ein bod ni wedi sefyll ar ein maniffesto, bod yna gydweithio wedi bod efo'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio. Bydd o hefyd yn gwybod ei bod ni wedi cyd-sefyll ac wedi bod yn galw am wersi wedi'u dysgu. A dyna sydd angen digwydd fan hyn: gwersi i'w dysgu, fel bod y paratoadau yn well at y dyfodol pan fydd—pan fydd—rhywbeth cyffelyb yn digwydd yn y dyfodol, oherwydd mae'r tebygolrwydd yn uchel, ac mae'n sicr ein bod ni wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi hynny.
Drefnydd, pleidleisiodd pob un o Aelodau Seneddol Llafur, gan gynnwys fy Aelod Seneddol fy hun dros sir Fynwy, Catherine Fookes, a Nick Simpson o Dorfaen—Thomas-Symonds, mae'n ddrwg gen i—yn San Steffan yn ddiweddar i gefnogi treial sy'n gwthio—sy'n cynnig, mae'n flin gen i—meddyginiaeth atal y glasoed, cyffuriau sy'n newid bywyd i blant. Mae'n ffiaidd. Ac eto, maen nhw hefyd wedi cefnogi gwahardd y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed, am nad yw plant yn ddigon aeddfed, yn ôl pob sôn, i'w defnyddio'n gyfrifol. Felly, maen nhw'n dweud ar y naill law bod plant yn rhy anaeddfed i sgrolio ar eu ffonau, ond yn ddigon aeddfed i gydsynio i benderfyniadau anadferadwy sy'n newid bywyd am eu cyrff a'u ffrwythlondeb. Rwy'n gobeithio, Drefnydd, y byddwch chi'n cytuno â mi bod y treial hwn yn ddim byd llai na cham-drin plant wedi'i noddi gan y wladwriaeth. Felly, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn datgan ei hymrwymiad i ddiogelu plant Cymru rhag cyffuriau o'r fath yn y treial hwn dan arweiniad Llywodraeth y DU, gan fy mod i'n credu ei bod o fewn gallu Llywodraeth Cymru i dynnu plant Cymru allan o'r arbrawf afiach ar blant sy'n agored i niwed? Diolch.
Wel, nid fy lle i ydy ymateb i'r hyn mae Aelodau Seneddol o blaid wahanol wedi ei ddweud mewn siambr wahanol i hon, yn y lle cyntaf. Ac mi fyddwn i'n cyfeirio yr Aelod at y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, a hefyd nodi o ran awdur y Cass review a'u barn nhw ar y mater hwn.
Yn olaf, Jason O'Connell.
Drefnydd, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros fenter am y sefyllfa sy'n mynd rhagddi yn Kepak ym Merthyr Tudful? Kepak yw'r ffatri prosesu cig mwyaf yng Nghymru ac fe wnaethon nhw ddechrau ymgynghoriad a allai weld colli hyd at 85 o swyddi. Ers blynyddoedd, mae'r diwydiant ffermio a'r diwydiant gwledig ehangach wedi rhybuddio Llywodraethau beth fyddai'n digwydd pe bai eu pledion am fwy o gynhyrchu yn cael eu hanwybyddu a phe na bai'n cael ei wneud yn flaenoriaeth. Nawr, mae nifer y buchesi yn gostwng, mae hyder yn gostwng ac mae gweithwyr yng Nghymru yn talu'r pris. Mae'n hollol hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i achub y swyddi hyn ym Merthyr. Mae pob un o'r swyddi hyn yn cefnogi teuluoedd, y gymuned ehangach a busnesau lleol yn ein hetholaeth. Bydd eu colli yn ergyd nid yn unig i Ferthyr, ond i'r sector cynhyrchu bwyd cyfan yng Nghymru. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mi ddylwn i ddatgan bod hwn o fewn yr etholaeth dwi'n ei chynrychioli hefyd. Mae o'r ail waith mae'r Aelod wedi codi hyn yn ystod datganiadau busnes. Wn i ddim os ydy'r Aelod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a gofyn am gyfarfod. Oherwydd natur hyn, dyna fyddwn i'n credu byddai'r peth mwyaf buddiol, oherwydd bod pethau yn symud yn gyflym hefyd.
Diolch, Weinidog.
Symudwn ymlaen, felly, i ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: gwella arweinyddiaeth a pherfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod ar lefel uwchgyfeirio uchel ers 11 mlynedd, ac ar y lefel bresennol, sef lefel 5, ers mis Chwefror 2023. Er bod y bwrdd wedi cael lefel sylweddol o gyllid a chymorth wedi'i dargedu dros y tair blynedd diwethaf, mae’n wynebu heriau sylweddol o hyd o ran arweinyddiaeth, llywodraethiant, perfformiad a chyflawni, ynghyd â chanlyniadau sy'n dal i fod yn is na'r safon y dylai pobl y gogledd ei disgwyl.
Dwi eisiau bod yn glir iawn ar y dechrau fy mod i'n ddiolchgar am yr ymroddiad a'r ymrwymiad y mae staff yn eu dangos bob dydd, a hynny'n aml mewn amgylchiadau anodd a heriol. Mae'r saga druenus yma wedi effeithio arnynt hwythau lawn gymaint â'r cleifion.
Dro ar ôl tro, mi wnaeth y Llywodraeth flaenorol roi cynnig ar gynlluniau hyd braich i geisio gwneud gwahaniaeth, ond heb lwyddo i gynnal llwyddiant. Allwn ni ddim a wnawn ni ddim caniatáu i'r diffyg cynnydd yma barhau. Yn ddiweddar, mi wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddynodi adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn wasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol, ei lefel fwyaf o bryder, lai na dwy flynedd ers i'r adran gael ei thynnu o'r statws hwn.
Mae pobl y gogledd hefyd yn aros yn rhy hir i gael mynediad at y gofal a'r driniaeth y maen nhw eu hangen. Dydy hyn ddim yn realiti y dylid gofyn i’r cyhoedd ei dderbyn, a dydy o ddim chwaith yn realiti y bydd y Llywodraeth hon yn ei dderbyn. Wnaiff y Llywodraeth hon ddim goddef methiannau'r 11 mlynedd diwethaf. Mae o'n anghyfiawnder i gleifion, i'w teuluoedd ac i'r staff gweithgar sy'n gweithio ar draws y maes iechyd a gofal yn y gogledd.
Fel y soniais i wrth ymateb i arolygiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, dwi wedi cael llond bol ar glywed y gair 'Betsi' yn cael ei ddefnyddio i gyfleu diffygion gweithredol a dirywiad mewn safonau, gan bardduo enw da’r NHS a’i staff gweithgar yr un pryd. Dyna pam yr ydw i heddiw yn cyhoeddi fy mhenderfyniad i roi mesurau newydd ar waith i sefydlogi gwasanaethau, cryfhau arweinyddiaeth a dal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyfrif am welliant parhaus, fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio lefel 5 sy'n parhau yn y bwrdd iechyd.
Mae hon yn ymyrraeth ddifrifol, sy'n adlewyrchu'r pryderon parhaus sydd heb eu datrys. Mae trefniadau blaenorol wedi dibynnu ar y bwrdd iechyd yn nodi ac yn cyflawni ei adferiad ei hun, gyda chymorth ochr yn ochr ag ef. Nid yw'r dull hwnnw wedi sicrhau newid ar y raddfa nac ar y cyflymder sydd ei angen. Mae'r ymyrraeth hon yn symud y tu hwnt i'r model hwnnw i un lle mae gweithredu yn cael ei arwain yn fwy uniongyrchol.
Nid dim ond gofyn i'r sefydliad wella rydym yn ei wneud; rydym yn rhoi cyfarwyddiadau iddyn nhw ar sut y bydd y gwelliant hwnnw'n digwydd. Mae hynny'n golygu gosod disgwyliadau clir, darparu arbenigedd wedi'i dargedu, a chynnal goruchwyliaeth agos a pharhaus o'r hyn a gyflawnir. Mae hefyd yn golygu nad oes ail gyfle i'r rhai mewn swyddi â chyfrifoldeb ac awdurdod. Mae'r cyfnod lle caniatawyd i gynlluniau ar gyfer gwelliannau lithro, lle caniatawyd i broblemau grynhoi, gan danseilio buddiannau cleifion a staff, yn dod i ben nawr. Mae hefyd yn ddatganiad clir o'm hymrwymiad i gefnogi gwelliant a sicrhau bod pobl yn y gogledd yn derbyn y gofal diogel, amserol o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu.
Ers i mi gael fy mhenodi'n Weinidog Cabinet fis diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda fy swyddogion i roi mesurau ar waith i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cyflawni gwelliannau ar unwaith. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod cynllun 100 diwrnod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gomisiynu adolygiad ar y cyd ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o effeithiolrwydd y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd presennol, y mae'r materion cronig yn Betsi wedi dangos yn glir ei fod yn ddiffygiol. Mae fy swyddogion yn gweithio ar gyflymder i lunio opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â'r adolygiad hwn, ac fe fyddaf i'n gwneud datganiad maes o law. Ond ni all mynd i'r afael â'r materion yn Betsi aros. Dyna pam mae gwaith eisoes wedi'i wneud gyda Perfformiad a Gwella GIG Cymru i gryfhau trefniadau atebolrwydd ac ymyrraeth.
Fel rhan o ddull newydd o ymyrryd yn achos sefydliadau sy'n destun lefelau uwchgyfeirio uwch, mae tîm cymorth, adfer a gweithredu dwys wedi'i sefydlu yn Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Bydd yr ymyrraeth yn mabwysiadu dull pum cam i ysgogi, asesu, cynllunio, cefnogi a phontio. Bydd y tîm cymorth, adfer a gweithredu dwys yn canolbwyntio ar y meysydd risg mwyaf dybryd sy'n effeithio ar y sefydliad ar hyn o bryd, gan ddod ag arbenigwyr gweithredol a chlinigol ynghyd i lywio gwelliant brys. Bydd y gwaith a wneir ganddynt yn blaenoriaethu lleihau arosiadau hir am driniaeth canser, mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys, a sicrhau nad oes neb yn aros mwy na dwy flynedd am ofal wedi'i gynllunio.
Mae'r dull hwn wedi'i dargedu wedi'i gynllunio i sefydlogi gwasanaethau'n gyflym, a mynd i'r afael â heriau perfformiad hirsefydlog sydd wedi effeithio ar ganlyniadau cleifion hefyd. Trwy gyfuno arbenigedd cyflawni ymarferol ag arweinyddiaeth glinigol, bydd y tîm ISRT yn cefnogi'r bwrdd iechyd i gymryd camau gweithredu pendant, gwella llif cleifion, a sicrhau bod mynediad amserol at ofal unwaith eto.
Fel rhan o'r ymyrraeth lefel 5 ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, rwyf hefyd wedi comisiynu ystyriaeth lawn o sefyllfa bresennol y bwrdd iechyd, yn cwmpasu heriau gweithredol, ansawdd gofal a chyfeiriad strategol, er mwyn pennu'r camau nesaf mwyaf priodol i weld gwelliannau yn cael eu cyflawni i bobl yn y gogledd. Bydd camau gweithredu uniongyrchol yn cynnwys adolygiad ffurfiol 'arwain yn dda' o'r sefydliad, yn cwmpasu arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant sefydliadol; ansawdd, diogelwch a phrofiad cleifion; capasiti a gallu'r bwrdd a'r tîm gweithredol; a bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried unrhyw feysydd o arfer da i alluogi cynlluniau gwella a chyflawni yn y dyfodol.
Bydd her annibynnol gryfach nag a welwyd o'r blaen. Bydd panel arbenigol a benodir yn genedlaethol yn cynnal asesiad llawn o arweinyddiaeth, llywodraethu a pherfformiad. Bydd yn darparu argymhellion clir yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn sicrhau bod yna dryloywder ynghylch y newidiadau sydd eu hangen. Bydd grŵp cyfeirio hefyd yn cael ei sefydlu i sicrhau cyd-destun lleol ar gyfer yr adolygiad ac i ddarparu arweiniad.
Yn bwysig, mae'r ymyriad hwn wedi'i gynllunio nid yn unig i ymdrin â'r pwysau uniongyrchol o ran perfformiad, ond hefyd yr achosion sylfaenol sydd wrth wraidd y methiant hwn dro ar ôl tro. Mi fydd yn archwilio a oes gan y sefydliad y capasiti arweinyddol, y gallu a'r diwylliant sydd eu hangen i gynnal gwelliant dros y tymor hirach. Mae hyn yn arwydd o symud clir tuag at gymorth ac atebolrwydd mwy uniongyrchol, efo pwyslais cryf ar ganlyniadau mesuradwy a gwelliant parhaus i bobl y gogledd.
Fis diwethaf, mi wnes i ysgrifennu at gadeirydd y bwrdd iechyd yn nodi fy mhryderon am y diffyg cynnydd. Ym mis Gorffennaf, mi fyddaf i'n cadeirio cyfarfod gydag aelodau bwrdd a thîm gweithredol y bwrdd iechyd, i'w gwneud yn glir iddyn nhw mai fy nisgwyliad i ydy bod yn rhaid iddyn nhw gymryd perchnogaeth o'r problemau hirsefydlog o fewn y bwrdd iechyd a gwneud y gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer y bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.
Er bod y Llywodraeth hon yn camu i mewn yn fwy uniongyrchol, dydy hynny ddim yn tynnu cyfrifoldeb oddi ar y bwrdd iechyd—i'r gwrthwyneb, mae'n cryfhau'r disgwyliadau. Rhaid i'r bwrdd a'r tîm gweithredol gymryd perchnogaeth lawn o'r materion y maen nhw'n eu hwynebu, a gweithio'n gyflym i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen, a hynny gyda chymorth, ond her gadarn hefyd, yr ymyriad yma. Dwi'n disgwyl i adroddiad terfynol yr adolygiad 'arwain yn dda' gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref eleni.
Dwi wedi tanlinellu'r angen i’r gwaith yma gael ei gyflymu’n sylweddol, a dwi’n disgwyl felly i ganfyddiadau interim gael eu hadrodd yn fisol, i lywio'r camau ymyrryd a chymorth sydd ar y gweill. Bydd yr adroddiad a'i ganfyddiadau yn cael eu defnyddio i sbarduno unrhyw ymyriad a chyfeiriad pellach y bydd eu hangen, ac mi fyddwn ni'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar yr allbynnau i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd. Mi fyddwn ni'n parhau i gydweithio â'r bwrdd i sicrhau bod y camau ymyrryd yn effeithiol ac yn arwain at welliant hirdymor yng nghanlyniadau'r gwasanaethau.
Ddirprwy Lywydd, nid o dan ein gofal ni y dechreuodd yr helbulon a'r trafferthion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ond dwi wedi ymrwymo i droi pethau o gwmpas. Dyma gyfle olaf y bwrdd i ddangos eu bod nhw'n gallu sicrhau’r safonau gofal uchel a chyson y mae pobl y gogledd yn eu haeddu. Fel y mae'r Prif Weinidog a minnau wedi datgan yn hollol glir, bydd yr holl opsiynau’n cael eu hystyried os na fydd cynnydd yn cael ei wneud ar y raddfa a'r cyflymder rydyn ni'n disgwyl ei weld. Mi fyddaf i'n cadw goruchwyliaeth fanwl ac yn rhoi diweddariadau i'r Aelodau am hynt y gwaith. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn cymryd camau pellach mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond mae'r bobl yn y gogledd wedi clywed geiriau cryf o'r blaen. Maen nhw wedi clywed addewidion ynghylch gwelliant o'r blaen. Maen nhw wedi gweld adolygiadau, cynlluniau gweithredu, fframweithiau uwchgyfeirio a chymorth allanol ers blynyddoedd. Ond ar ôl 11 mlynedd o uwchgyfeirio a mwy na thair blynedd yn ddarostyngedig i fesurau arbennig lefel 5 eto, rydym yn dal i siarad am fethiannau difrifol mewn arweinyddiaeth, llywodraethu, perfformiad a diogelwch cleifion. Mae'r cwestiwn allweddol heddiw yn syml: beth fydd yn wahanol y tro hwn?
Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud nad staff rheng flaen sydd ar fai. Mae meddygon, nyrsys a'r gweithlu ehangach yn gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd iawn. Maen nhw'n cael eu gadael i lawr gan y system, yn union fel y mae cleifion yn cael eu gadael i lawr gan y system. Ond mae'r ffigurau yn parhau i beri gofid mawr. Dim ond 58.2 y cant o gleifion adrannau brys yn Betsi a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr, ac arhosodd 17.1 y cant ohonyn nhw am fwy na 12 awr. O ran gofal wedi'i gynllunio, roedd 18.6 y cant o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn. Roedd diagnosteg hefyd yn broblem fawr, gyda 43 y cant o lwybrau yn aros yn hirach na'r targed o wyth wythnos. Roedd perfformiad canser yn 52.5 y cant yn erbyn y targed o 62 diwrnod, sy'n llawer is na'r targed o 75 y cant y mae Llywodraeth Cymru yn ei osod iddi'i hun.
Dylai penderfyniad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd fod yn rhybudd difrifol hefyd. Mae ei adran achosion brys wedi cael ei ddynodi unwaith eto fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol. Cododd AGIC bryderon am arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli risg, ond rydym wedi clywed hynny i gyd o'r blaen, ac rwy'n gwybod bod Aelodau o'r gogledd wedi ei godi yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Mae'r ffaith bod yr adran hon wedi bod o dan y trefniadau hynny o'r blaen, rhwng 2022 a 2024, yn dangos, hyd yn oed pan mae cynnydd wedi cael ei wneud, nid yw wedi cael ei gynnal. Beth sy'n mynd o'i le yma?
Rwyf am ofyn i'r Gweinidog yn uniongyrchol: pa bwerau sydd ganddo ar hyn o bryd i orfodi'r newid yn Betsi, a pha un o'r pwerau hynny y mae'n barod i'w defnyddio? Oherwydd y perygl yw bod y Llywodraeth yn siarad yn dda iawn am ymyrraeth—rwy'n gwybod, rwyf wedi ei glywed am y pum mlynedd diwethaf—ac wedyn yn dweud bod ei phwerau yn gyfyngedig o ran bod â dylanwad uniongyrchol ar gyflawni. Os yw'r Gweinidog yn credu nad yw'r rheolau presennol yn rhoi digon o bŵer iddo ymyrryd yn uniongyrchol, yna fe ddylai newid y rheolau. Os nad yw'r fframwaith uwchgyfeirio yn ddigon cryf, yna dylid ei gryfhau. Ac os na all Gweinidogion gyfarwyddo cyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen o dan fesurau arbennig lefel 5, yna cyflwynwch y newidiadau sydd eu hangen fel bod y Llywodraeth yn gallu gwneud hynny. Ni ellir gofyn i bobl y gogledd eistedd trwy gylch arall o adolygiad, adroddiad, cynllun gweithredu ac yna'r siom a'r perfformiad gwael sy'n dilyn.
Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi heddiw y bydd tîm cymorth, adferiad a gweithredu dwys. Mae'n ymddangos fel bwrdd arall i mi. Dydw i ddim yn gwrthwynebu dod ag arbenigedd i mewn, ond y cwestiwn yw sut y bydd y tasglu hwn yn cyflawni gwelliannau ar lawr gwlad. A fydd ganddo'r pŵer i gyfarwyddo penderfyniadau gweithredol? A fydd yn adrodd yn uniongyrchol i'r Gweinidog? A fydd yn gallu herio'r bwrdd mewn amser real? A phwy fydd yn bersonol atebol eto os bydd y targedau hyn yn cael eu colli? Ai'r Gweinidog neu rywun nad ydym erioed wedi'i weld o'r blaen? Rwyf hefyd eisiau gofyn pa fesurau a chymorth ychwanegol sy'n cael eu rhoi i mewn ar gyfer y meysydd penodol a nodwyd gan y Gweinidog.
O ran canser, a fydd capasiti diagnostig ychwanegol, clinigau ychwanegol, gweithio ar benwythnosau neu gyda'r nos, mwy o ddefnydd o gapasiti trawsffiniol a chynllun adfer clir ar gyfer y targed o 62 diwrnod? Fel arall, dim ond geiriau cynnes ydyn nhw. O ran trosglwyddo o ambiwlansys, beth sy'n cael ei wneud gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid gofal cymdeithasol i wella llif cleifion, cyflymu rhyddhau ac atal ambiwlansys rhag gorfod aros y tu allan i ysbytai yn hytrach nag ymateb i argyfyngau? Ac o ran arosiadau dwy flynedd, a wnaiff y Gweinidog osod cynllun llwybr wrth lwybr gyda dyddiadau clir, capasiti theatrau ychwanegol, mewnoli neu allanoli lle bo angen, a lle gall cymorth cydfuddiannol o rannau eraill o'r GIG neu ddarparwyr o'r tu allan i Gymru ddod i mewn i helpu? Dyna'r hyn y mae angen i bobl ei weld gyda chyflawni ar lawr gwlad.
Mae'r dystiolaeth eisoes yno, mae'r methiant eisoes yn hysbys. Y mater nawr yw nid a all adolygiad arall ddisgrifio'r broblem; y mater yw a yw'r Gweinidog yn barod i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i'w drwsio. Fel arall, bydd hwn yn fwrdd arall sy'n nodi'r methiannau ac yn cyflawni dim.
Yn olaf, i gloi, fe ddywedoch chi nad o dan eich gofal chi y dechreuodd y materion hyn, ond fe fydd pobl y gogledd yn gwylio i weld a allwch chi droi hyn o gwmpas. Oherwydd os na allwch chi wneud hynny, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n credu y byddwch chi'n un arall ar y rhestr hir o Weinidogion iechyd sydd wedi methu â throi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o gwmpas. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud, oherwydd yn ystod y dadleuon pwyllgor rydym wedi'u cael, rydym wedi codi'r materion hyn am Betsi Cadwaladr, ac yn amlwg mae yna fater trawsbleidiol yn y fan yma o ran eisiau datrys hyn. Yn wir, mae'n debyg y dylwn i ddatgan buddiant. Rwy'n byw yn y gogledd, mae fy nheulu yn gleifion o dan Betsi Cadwaladr. Mewn gwirionedd, mae bron i hanner y Cabinet yn cael ei gynrychioli gan Betsi Cadwaladr. Mae er ein budd ni i'w weld yn gwella.
Fe wnaethoch chi rai pwyntiau da iawn ynglŷn â'r materion, ac fe wnaethoch chi ddarparu'r data gydag ystadegau am ofal brys a gofal argyfwng, y problemau o ran gofal wedi'i gynllunio, yr ystadegau canser, y ddiagnosteg, AGIC yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r rhain i gyd yn rhai o'r prif broblemau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliant cyflym yn y rheini. Fodd bynnag, y gwahaniaeth yn y fan yma—ac fe ofynnoch chi beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn rydym yn ei gynnig a'r hyn sydd wedi'i wneud yn y gorffennol—yw bod y dull blaenorol yn dibynnu ar y bwrdd iechyd i nodi a chyflawni ei gynllun adfer ei hun, gyda chymorth gan y Llywodraeth ochr yn ochr ag ef.
Dydy'r dull hwnnw ddim wedi cyflawni yn y gorffennol. Yn yr achos hwn, yr hyn rydym yn ei wneud yw ein bod ni'n rhoi'r unigolion i mewn i helpu gyda'r cymorth ac i gyfarwyddo'r cymorth hwnnw, gan edrych yn benodol ar ddiagnosteg canser ac amseroedd aros, gan edrych yn benodol ar y trosglwyddo a'r problemau sydd gennym mewn adrannau brys, ac ar yr arosiadau dwy flynedd. Fe fyddan nhw'n delio'n uniongyrchol â'r materion mawr hynny y gallwn ni eu nodi ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweld gwelliant cyflym yn yr adrannau hynny.
Fe wnaethoch chi bwynt da ynghylch a yw'r fframwaith uwchgyfeirio yn addas i'w ddefnyddio. Rydym wedi dweud nad ydyw. Dydyn ni ddim yn argyhoeddedig ei fod e ar hyn o bryd. Dyna pam rydym wedi dechrau'r broses o adolygu'r fframwaith. Rydym wedi comisiynu'r darn hwnnw o waith yn barod, ac fe fyddaf i'n diweddaru'r Senedd ar hyn.
Ar y pwynt olaf a godwyd gennych ynghylch y rhestrau aros, mae'n amlwg eu bod nhw'n annerbyniol yn y gogledd. Dyna pam rydym wedi cyflwyno'r cynllun refeniw £100 miliwn ar gyfer rhestrau aros. Bydd llawer o hynny'n amlwg yn cael ei dargedu at Betsi Cadwaladr, ac fe fyddwn ni'n defnyddio'r holl offer sydd ar gael i ni i sicrhau bod yr arosiadau dwy flynedd hynny yn gostwng o fewn ychydig fisoedd. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi ei gwneud yn glir bod y bwrdd iechyd ar rybudd ac mai dyma'r cyfle olaf sydd ganddyn nhw, felly rydym yn disgwyl gweld gwelliant cyflym dros y misoedd nesaf.
Weinidog, diolch am eich datganiad. Rwyf hefyd yn teimlo'r rhwystredigaethau sydd wedi'u mynegi yn y Siambr hon. Mae'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annigonol ac mae angen ei wella'n gyflym.
Pan ddarllenais i'r datganiad, Weinidog, fe ges i fy atgoffa yn fy meddwl fy hun o'r olygfa honno yn This Is Spinal Tap lle maen nhw'n symud deial y gitâr i fyny i 11 o 10. Mae'n teimlo ac yn swnio fel eich bod chi'n rhwystredig gyda'r fframwaith uwchgyfeirio, oherwydd mae'n mynd i rif 5, ac mae Betsi wedi bod ar y pwynt hwnnw ers blynyddoedd lawer bellach, ond dydyn ni ddim yn gweld y gwelliannau a chyflymder y gwelliannau y dylid eu disgwyl ar y pwynt hwnnw ar y raddfa uwchgyfeirio. Felly, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi pam rydych chi'n cymryd y mesurau hyn, ond yr hyn rwy'n pryderu amdano yw bod y mesurau wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol, ond ar ffurfiau gwahanol. I raddau helaeth, mae ymyrraeth wedi cael ei gweld yn y gorffennol heb fawr o lwyddiant, os o gwbl, neu o leiaf heb unrhyw fudd parhaus ar gyfer y tymor hir.
Fodd bynnag, mae yna rai pwyntiau pwysig iawn sy'n dod o'ch datganiad. I ddechrau,
'nad oes ail gyfle i'r rhai mewn swyddi â chyfrifoldeb ac awdurdod.'
Mae hynny'n swnio i mi fel ei fod yn rhybudd terfynol ffurfiol i'r bwrdd. A yw hefyd yn rhybudd terfynol i swyddogion gweithredol? Yn arwyddocaol hefyd, gyda'r mesurau rydych chi'n eu cyhoeddi heddiw, yn y bôn, bydd GIG Cymru yn ymyrryd yn fwy uniongyrchol ac yn fwy dwys. Mae GIG Cymru yn uniongyrchol atebol i chi. Rydych chi wedi rhoi rhybudd terfynol. Does bosib bod hynny'n berthnasol i GIG Cymru hefyd, ac os felly, rydych chi'n rhoi eich hun yn y llinell danio yn uniongyrchol os na fyddwn ni'n gweld, fel y dywedwch chi, welliannau ar unwaith.
Byddwn i'n croesawu amlinelliad o faint o gyfrifoldeb rydych chi'n fodlon ei gymryd am y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr, ac, o ran y gwelliannau uniongyrchol hynny, beth ydyn nhw ac erbyn pryd y byddwn ni'n gweld gwelliant ar unwaith. Ydy 'ar unwaith' yn ddyddiau, yn wythnosau, ai misoedd ydyw? Rwy'n cymryd bod y meysydd gwella hynny'n ymwneud â lleihau rhestrau aros hir ar gyfer triniaeth canser, mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo a sicrhau nad oes neb yn aros am fwy na dwy flynedd am ofal wedi'i gynllunio, ond byddai'n ddefnyddiol iawn cael eglurder ar hynny.
Rydych hefyd yn nodi bod yr ymyrraeth hon yn cynrychioli newid clir tuag at gymorth ac atebolrwydd mwy uniongyrchol gyda phwyslais cryf ar ganlyniadau mesuradwy. Mae canlyniadau mesuradwy yn wych, ond mae hyd yn oed yn bwysicach nodi beth yw eich targedau ar gyfer y canlyniadau mesuradwy hynny. Felly, byddai eglurder ar beth allai'r targedau hynny fod yn ddefnyddiol iawn i'r Siambr, rwy'n credu.
Fe wnaethoch chi gloi eich datganiad gyda'r llinell
'Dyma gyfle olaf y bwrdd'.
Fel yr wyf newydd ei ofyn, ai dyma gyfle olaf y swyddogion gweithredol hefyd? Rwy'n gwybod, yn nhymhorau blaenorol y Senedd, fod yr Aelodau wedi dadlau bod aelodau'r bwrdd, sydd wedi dioddef yn y gorffennol o gael eu diswyddo, wedi cuddio bai, os mynnwch chi, neu wedi aberthu eu hunain er budd y swyddogion gweithredol weithiau. Ai rhybudd olaf y tîm gweithredol yw e heddiw?
Ac yna'n olaf—ac mae'n cyfeirio at yr hyn a ofynnwyd gan James Evans—y sancsiwn terfynol, sef ad-drefnu. Ar ba sail fyddech chi'n dechrau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yn glir a thryloyw, oherwydd os na allwch chi ddarparu manylion am y sail y byddech chi'n ad-drefnu'r bwrdd iechyd arno, yna rwy'n ofni y byddwn ni'n gweld llithro, ansicrwydd ac ansefydlogrwydd yn y bwrdd iechyd. Yn y gorffennol, rydych chi wedi dweud bod pob opsiwn ar y bwrdd. Allwch chi fod yn glir gyda ni heddiw ynghylch yr amgylchiadau a fyddai'n eich arwain i ddechrau ad-drefnu'r bwrdd iechyd? Diolch.
Unwaith eto, mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn. Rwy'n deall hefyd, fel Aelod dros y gogledd, fod ganddo ddiddordeb hefyd mewn sicrhau bod hyn yn gweithio. Ac roedd yn hollol iawn pan ddechreuodd ei gyfraniad gan ddweud, 'Rwy'n rhwystredig gyda'r fframwaith a'r ffaith nad yw wedi dangos ei fod yn gweithio.' Dyna pam rydym wedi comisiynu adolygiad o'r fframwaith. Ac fel y dywedais, fe fyddaf i'n dod ag adroddiad yn ôl i'r Senedd gyda chynnydd ar yr adolygiad hwnnw.
Fe soniodd yr Aelod, ar yr un llinellau ag y soniodd James yn gynharach, fod mesurau wedi cael eu defnyddio o'r blaen, ond mae yna wahaniaeth amlwg yn y fan yma lle roedd mesurau a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn caniatáu i'r bwrdd iechyd arwain ei adferiad ei hun a nodi ei broblemau ei hun. Yn yr achos hwn, rydym yn dweud, 'Na, rydym yn gwybod beth yw'r problemau. Dydych chi ddim yn mynd i arwain yr adferiad hwnnw eich hun. Rydym yn dweud wrthych y bydd yn rhaid i chi wella diagnosteg canser a thriniaeth canser. Mae'n rhaid i chi wella ar drosglwyddo o ambiwlansys a pherfformiad adrannau brys.' Felly, dyna lle mae'r targedau yn dod i mewn. Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, gyda chanser, er enghraifft, nad ydyn nhw wedi cyrraedd y targed ar gyfer canser—maen nhw wedi bod ar 52.5 y cant. Mae angen iddyn nhw fod ar 55 y cant am bedwar mis yn barhaus er mwyn iddyn nhw gael eu hisgyfeirio o ran y mesur hwnnw. Felly, mae angen i ni weld gwelliant cynaliadwy o bedwar mis fel y gallan nhw gael eu hisgyfeirio i lefel 4. Felly, dyna'r targedau sydd wedi'u gosod ac rydym yn dweud bod angen i ni weld hyn yn cael ei gyflawni ar frys. Ac rwy'n disgwyl gweld hyn yn cael ei gyflawni cyn gynted â mis Medi ac yna gyflawniad cyson o bedwar mis ar ôl hynny.
Yn olaf, y cwestiwn pwysig ac, mae'n debyg, yr un pwysicaf a godwyd gennych oedd ynghylch ad-drefnu ac ar ba bwynt rydym yn gwneud unrhyw benderfyniadau ar hynny. Dyna pam rwyf wedi cyhoeddi heddiw bod gennym y tîm 'arwain yn dda' hwnnw, a fydd yn cynnwys panel arbenigol o bobl sydd wedi rhedeg sefydliadau, wedi rheoli sefydliadau o'r fath, a chyda mewnbwn clinigol i ddeall beth yw'r broblem—beth sydd wedi mynd o'i le yn y gorffennol, pam na lwyddodd yr ymyrraeth a roddwyd ar waith gan eich Llywodraeth chi, beth sydd wedi mynd mor anghywir fel nad ydym wedi gweld y gwelliannau sydd eu hangen a beth yw'r problemau gyda'r ffordd mae'r bwrdd iechyd yn cael ei lywodraethu a'r diwylliant yno? Ac fe soniodd adroddiad Arolygiaeth Iechyd Cymru yn benodol am ddiwylliant yn Ysbyty Glan Clwyd—mae hynny ar draws y bwrdd iechyd hefyd, y broblem ddiwylliannol. Fe fyddan nhw'n edrych ar yr holl bethau hyn ac yna'n cyflwyno argymhellion i mi. Ac yna, yn seiliedig ar hynny a darn o waith rwyf wedi'i gomisiynu i edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer Betsi, fe fyddwn ni'n gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a roddwyd sydd o'n blaenau. Diolch.
Diolch, Weinidog Cabinet, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Rwy'n cefnogi eich angerdd i droi pethau o gwmpas yn y bwrdd, ac rwy'n cytuno bod amser yn hanfodol o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o ystyried ei fod wedi bod mewn mesurau arbennig ers 11 mlynedd. Rwyf hefyd yn cytuno bod materion y bwrdd yn gymhleth ac yn amrywiol. Tybed, serch hynny, Weinidog Cabinet, sut y bydd eich dull gweithredu chi, yn wir, yn helpu i ddod o hyd i ganlyniad gwell. Mae'n teimlo fel bod adolygiadau ar faterion sydd eisoes wedi'u hadolygu yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, sy'n ymddangos fel cicio'r can i lawr y ffordd i mi. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi sôn am linellau amser; fe ateboch chi'r cwestiwn, yn fyr, i Ken Skates yn y fan yna. Fe sonioch chi am fis Medi, ond hoffwn wybod beth fydd yn digwydd ar ôl mis Medi.
Dydy'r atebion ynghylch sut rydym yn datrys problemau Betsi ddim yn ymwneud â rhoi mwy o arian i'r bwrdd iechyd ychwaith. Fe welson ni Lywodraeth flaenorol Cymru yn taenu degau o filiynau o bunnoedd ar y bwrdd iechyd yn enw gwelliant heb unrhyw fudd. Yn wir, rhagwelwyd y byddai'r bwrdd yn dal i fod â diffyg o £17 miliwn ar ddiwedd mis Mawrth, a nawr rydym yn gweld y byddwch chi hefyd yn darparu £100 miliwn i wella amseroedd aros, felly faint o hynny sy'n mynd ar Betsi Cadwaladr mewn gwirionedd? Fel rydym wedi'i weld yn y datganiad ystadegol diweddaraf y mis hwn, mae'r bwrdd yn cyfrif am draean o'r cleifion sy'n aros dros flwyddyn am driniaeth, a dwy ran o dair o gleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd. Mae hynny'n 33,000 o gleifion sy'n aros dros flwyddyn yn Betsi yn unig. Ddylen nhw ddim bod yn aros mor hir, Weinidog Cabinet, felly oes gennych chi amserlenni mewn golwg ar gyfer gwelliannau brys gan y tîm cymorth, adferiad a gweithredu dwys a gyhoeddwyd gennych?
Yr wythnos diwethaf, fe sonioch chi hefyd am ganolfannau llawfeddygol, ond yng ngoleuni ein dadl ar atal israddio a chau ysbytai, roeddech chi'n wylaidd iawn ynghylch sut y byddai eich Llywodraeth yn camu i fyny ar gyfer gwasanaethau lleol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi gadarnhau a yw'r canolfannau llawfeddygol hyn yn fesur dros dro neu'n fesur barhaol wrth symud ymlaen.
Nid prif weithredwr newydd yw'r ateb ychwaith. Mewn 11 mlynedd, mae wedi bod yn ddrws cylchdroi ar y brig, ac mae angen sicrwydd ar staff bod eu harweinyddiaeth yn mynd i fod yn sefydlog ac yn ddiogel o hyn ymlaen. Rwy'n gwybod bod Carol Shillabeer wedi bod yn gyfrifol am tua thair blynedd erbyn hyn, ond hyd yn oed wedyn, rydym wedi gweld bron i 89,000 o gleifion yn cael eu trin mewn coridorau ysbytai, ac fel y clywson ni yr wythnos diwethaf, staff yn brwydro yn erbyn seilwaith adfeiliedig sydd wedi dyddio i drin cynifer o gleifion ag y gallan nhw. Ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys y bwrdd ei hun.
Rydych chi wedi sôn am Ysbyty Glan Clwyd, a gallwn ni weld y problemau y mae'n eu hwynebu. Mae'n eistedd ar waelod tabl y GIG, gyda llai na thraean o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr. Dydy Maelor Wrecsam ddim llawer gwell, gyda llai na 40 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn yr amser targed, a gwnaeth dros 1,800 o gleifion aros am fwy na 12 awr yn y ddau ysbyty. Amcangyfrifodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod bron i 1,000 o gleifion wedi marw tra'n aros am driniaeth frys ledled Cymru y llynedd. Felly, beth fydd y tîm gweithredu yn ei wneud nawr i wella llif cleifion allan o ysbytai yn y gogledd?
Weinidog Cabinet, fe nodais eich bod wedi amlinellu £20 miliwn mewn pecyn cyfalaf ar gyfer gwella rhestrau aros, ond rydym yn gweld £1 biliwn o broblemau cynnal a chadw uchel a sylweddol yn ystad y GIG. Fodd bynnag, sylwais eich bod wedi ceisio osgoi'r pwyntiau hyn yr wythnos diwethaf, ac nad ydych chi'n sôn amdanyn nhw yn unrhyw un o'ch datganiad yma heddiw. Felly, pa fesurau brys ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod gwaith gwella brys yn cael ei wneud i ysbytai fel Maelor Wrecsam?
Weinidog Cabinet, rydych chi wedi dweud ar sawl achlysur mai ar ofal sylfaenol y byddwch chi'n canolbwyntio, ond nid oes unrhyw sôn am sut y bydd hyn yn cael ei droi o gwmpas yn y datganiad hwn. Rwy'n cytuno bod angen mwy o ofal arnom yn agosach at adref, fodd bynnag, yn achos Betsi Cadwaladr, rydym yn gwybod, yn hanesyddol, bod prinder eang o feddygon teulu wedi bod yn yr ardal ei hun. Rydym yn gweld sefyllfaoedd rheolaidd lle nad yw cleifion hyd yn oed yn gallu cofrestru gyda meddyg teulu yn y gogledd. Mae hyn, yn y pen draw, yn cael effaith uniongyrchol ar adrannau damweiniau ac achosion brys, gan nad oes unrhyw le arall iddyn nhw fynd. Felly, er mai cyllid ychwanegol ar gyfer gofal sylfaenol yw eich nod clir, Weinidog Cabinet, sut y bydd hyn yn helpu trigolion y gogledd a pha fesurau ydych chi'n eu cymryd i gynyddu nifer y meddygon teulu ar draws ardal y bwrdd?
Yn olaf, Weinidog Cabinet, rwy'n gweld yr wythnos diwethaf i chi ddweud y bydd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n dyfynnu,
'ar wyliadwriaeth...dros y ddwy flynedd nesaf',
gan awgrymu ad-drefnu posibl pe na bai'n gwella ei berfformiad. Gadewch i mi ddweud hyn yn glir heddiw, Weinidog: bydd eich Llywodraeth chi ar wyliadwriaeth hefyd, nid yn unig yn y Siambr hon gennym ni, ond gan drigolion y gogledd hefyd. Diolch.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn iawn yn ei beirniadaeth o'r sefyllfa lle mae gennym broblemau mewn gofal sylfaenol—fe ddechreuwn ni yn y fan yna—o ran meddygon teulu, ac mae hynny'n bwydo i'r broblem sydd gennym ni yn, er enghraifft, Ysbyty Glan Clwyd, ond mewn gwirionedd ym Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd hefyd. Mae'r problemau hynny gyda throsglwyddiadau o ambiwlansys i'r ysbyty, y problemau hynny gydag adrannau brys, yn dechrau gyda'r gofal sylfaenol hwnnw, felly mae'r asesiad hwnnw'n hollol gywir. Dyna pam rydym wedi dweud y byddwn ni'n recriwtio 100 o feddygon teulu ychwanegol ledled Cymru, ac fe fyddan nhw, yn amlwg, yn helpu yn y gogledd, yn yr ardaloedd hynny sydd—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn gofyn sawl un—mae'r holl benderfyniadau rydym yn eu gwneud yn cael eu harwain yn glinigol, felly byddan nhw'n helpu yn y meysydd lle mae angen brys.
Gofynnodd yr Aelod am ganlyniadau gwell ac a oedd hyn yn gyfystyr â chicio'r can i lawr y ffordd ai peidio. Wel, byddwn i'n gwthio'n ôl ar hynny ac yn dweud 'na', oherwydd rydym yn rhoi'r cymorth hwn o ran y tîm adfer a gweithredu ar waith ar unwaith, a byddan nhw'n helpu gyda'r materion hynny y soniais amdanyn nhw, gyda diagnosteg canser a thriniaeth canser, gyda throsglwyddo o ambiwlansys a chyda'r arosiadau dwy flynedd. Felly, byddan nhw'n helpu ar unwaith i nodi'r hyn sydd angen ei wneud a chyfarwyddo'r gwaith er mwyn datrys y rheini. Rwyf eisoes wedi nodi'r amserlen rydym yn gweithio tuag ati.
Un o'r cwestiynau a gododd yr Aelod oedd ynglŷn â'r gwariant cyfalaf ac a fyddem yn delio â'r ôl-groniad ai peidio. Rwy'n credu fy mod wedi sôn sawl gwaith, Ddirprwy Lywydd, yn y Siambr hon, bod y materion brys sy'n ymwneud â'r ôl-groniad yn flaenoriaeth i ni. Mae'r ôl-groniad yn y GIG yn £1.5 biliwn, felly rydym yn gwybod bod angen gwneud gwaith brys penodol, a'i fod yn flaenoriaeth. Byddwn ni'n mynd trwy'r darnau hynny o waith yn gyflym dros y flwyddyn nesaf ac ychydig fisoedd, mewn gwirionedd, wrth i ni roi'r £20 miliwn hwnnw rydym wedi ymrwymo iddo i mewn i wella gofodau theatr ac offer diagnostig hefyd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ateb y rhan fwyaf o—
Yr ystad.
Yr ystad, ie, sef yr hyn rwyf newydd ymateb iddo yn y fan yna. Yn y cwestiwn ar yr ystad, fe wnaethoch chi ofyn a yw'r canolfannau rydym yn eu cyflwyno yn mynd i fod yn barhaol ai peidio. Unwaith eto, i ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud yn flaenorol, byddwn ni'n cael ein harwain yn glinigol. Bydd rhai ohonyn nhw'n barhaol, bydd rhai ohonyn nhw'n defnyddio mannau sy'n cael eu tanddefnyddio o fewn ystad y GIG ar hyn o bryd. Felly, fe fydd e'n gymysgedd yn dibynnu ar y cyngor clinigol rydym yn ei gael.
Diolch. Marc Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gaf i gychwyn drwy ddatgan diddordeb? Mae fy ngwraig i'n gweithio fel nyrs ym Metsi Cadwaladr.
Mae’r sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn adlewyrchiad clir o wendidau systemig sydd wedi datblygu dros gyfnod hir o dan y Llywodraeth flaenorol. Mae yna fethiant dros ddegawd a mwy i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn y lle cywir, yn enwedig mewn lleoliadau cymunedol, sydd wedi arwain at bwysau sylweddol ar ysbytai ac, yn anffodus, at ganlyniadau gwaeth i gleifion. O ganlyniad, dŷn ni wedi gweld patrwm cyfarwydd yn datblygu: diffyg capasiti yn y gymuned, galw cynyddol ar wasanaethau mewn ysbytai cyffredinol ac yna'r angen i ymateb i argyfyngau yn hytrach na'u hatal nhw. Dydy o ddim yn syndod, felly, fod Betsi Cadwaladr unwaith eto mewn rhyw fath o fesurau ychwanegol, sy'n tanlinellu'n glir nad ydy'r dull blaenorol wedi bod yn ddigon cadarn nac yn gynaliadwy.
Mae'r datganiad yma yn arwydd clir fod y sefyllfa bresennol yn mynnu mwy o her, mwy o graffu ac yn fwy na dim byd, mwy o atebolrwydd clir. Dwi'n falch bod y Llywodraeth yma'n barod i wynebu'r realiti mor fuan yn eu tymor ac i edrych o'r newydd ar y fframwaith presennol er mwyn cryfhau llywodraethiant ac ailsefydlu atebolrwydd.
Weinidog Cabinet, dydy hyn ddim yn ddim byd newydd, nac ydy? Dŷn ni'n gwybod ein bod ni wedi bod yn ymgyrchu ers degawd a mwy i wella safonau iechyd yn y gogledd.
Oes cwestiwn, Marc, sori?
Mae yna gwestiwn ar ei ffordd.
Yn sydyn?
Ond a gaf i hefyd ddweud: dwi'n mynnu eich bod chi'n gwrando ar lawr gwlad; fuasai fy ngwraig i ddim yn maddau imi petaswn i ddim yn dweud hynny. Plis gwrandewch ar lawr gwlad; nhw sy'n gwybod orau sut i ddelio efo hyn. Y cwestiwn fuasai, felly: wnewch chi egluro sut yn union y bydd yr escalation yma yn sefydlu diwylliant newydd o arweinyddiaeth gadarn, tryloywder ac atebolrwydd hirdymor er budd cleifion ledled y gogledd? Diolch yn fawr.
Ddirprwy Lywydd, ddaru'r Aelod ddechrau drwy gyfeirio at ei wraig, sydd yn y bwrdd. A gaf i gymryd ennyd i ddiolch iddi hi a phob nyrs a bydwraig arall sydd yn gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn yn y gogledd? Mae eu gwaith nhw'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi gan y Llywodraeth yma.
Dwi'n rhannu'r pryderon ddaru'r Aelod godi am Betsi Cadwaladr. Roedd e'n gywir i ddweud ein bod ni wedi bod yn ymgyrchu er mwyn gwella ansawdd iechyd a gwasanaethau iechyd yn y gogledd ers dros ddegawd. Ac er gwaetha'r buddsoddiad sylweddol ddaru'r Llywodraethau blaenorol roi i mewn i Betsi Cadwaladr, mae'r bwrdd wedi methu â dangos y lefel o gynnydd angenrheidiol.
Dydy'r tîm cefnogaeth dwys dwi wedi ei gyhoeddi heddiw erioed wedi cael ei gyhoeddi o'r blaen. Dydyn ni erioed wedi comisiynu'r math hwn o gorff o'r blaen, yn enwedig pan fo'n dod i'r gwaith yn Betsi Cadwaladr. Mi fyddan nhw'n cael eu cyfarwyddo i wneud y gwaith gan y Llywodraeth er mwyn edrych a chynorthwyo yn benodol, gyda gwella llif y cleifion, trwy leihau amseroedd trosglwyddo'r ambiwlansys, fel y gwnes i sôn, lleihau'r rhestr aros ar gyfer triniaethau a diagnostics, a gwella rhestrau aros diagnosis a thriniaeth canser. Mae hynny'n mynd i fod yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael newid diwylliant, bod pobl ar haen reoleiddiol y bwrdd yn gwybod bod angen gweithredu efo brys pan fo'r bwrdd yn dod â chynlluniau o flaen, a'u bod nhw'n gweithredu ar y cynlluniau yna, yn lle gadael i'r cynlluniau aros ar y silff heb weithredu arnyn hwn. Rwyf wedi gofyn hefyd i'r swyddogion ddatblygu gweithredoedd pellach os na fydd y bwrdd yn cyrraedd ein disgwyliadau ni.
Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich datganiad. Rwyf am godi pryder difrifol iawn heddiw, ac rwy'n credu ei fod yn un sydd wedi cael ei anwybyddu'n gyfan gwbl yn y ddadl hon, ac fe drafodaf hynny yn y man.
Yn wir, mae aelod o staff yn ysbyty Wrecsam wedi cysylltu â mi ac wedi disgrifio'r hyn y mae'n ystyried yn ddiwylliant o fwlio a bygylu o fewn rhannau o'r strwythur uwch reoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac efallai bod hynny wrth wraidd rhai o'r materion sy'n digwydd yma. Mae'n dweud wrtha i fod staff wedi mynd yn sâl, wedi ymddiswyddo neu wedi ceisio cael trosglwyddiadau i fannau eraill am eu bod yn teimlo nad ydyn nhw'n cael cymorth a doedden nhw ddim yn gallu herio ymddygiad gwael o hyd.
Fel cyn-weithiwr y GIG fy hun, fe weithiais i ar draws y gogledd, gan gynnwys yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Rwy'n gwybod bod meddygon, nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff cymorth yn haeddu gweithle lle maen nhw'n cael eu parchu a'u gwerthfawrogi a lle maen nhw'n gallu codi eu llais heb ofni canlyniadau.
Mae arweinyddiaeth wael yn effeithio ar fwy na morâl staff yn unig, gall effeithio ar ofal cleifion yn y pen draw. A dydy e ddim yn swnio fel rheolaeth weithredol gref a chefnogi lles staff i mi, o'r hyn rwyf wedi'i ddarllen yn eich datganiad heddiw. A wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, felly, ddweud wrthym pa sicrwydd y gallwch chi ei roi bod pryderon ynghylch bwlio a bygylu, a allai fod wrth wraidd rhai o'r materion parhaus ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, yn cael eu hymchwilio'n annibynnol, a pha gamau penodol y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod staff sy'n codi pryderon yn cael eu diogelu a bod pobl yn gwrando arnyn nhw?
Ac un cwestiwn olaf. Fe wnaethoch chi sôn heddiw bod pob opsiwn ar agor. Fyddech chi, mewn gwirionedd, yn ystyried trosglwyddo rheolaeth i fwrdd iechyd o'r tu allan i Gymru? Diolch.
Ddirprwy Lywydd, os caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf.
Os caf fi ddechrau gyda'r pwynt olaf, na, wnaf i ddim hyd yn oed ystyried y syniad o ganiatáu i fwrdd iechyd o'r tu allan i Gymru gymryd drosodd Betsi Cadwaladr, oherwydd maen nhw'n gweithio i wahanol reolau a rheoliadau. Mae gennym ni ddatganoli yma. Mae gennym ni ein darnau ein hunain o ddeddfwriaeth. Mae'r bwrdd iechyd yn atebol i'r Senedd hon, i chi, y bobl a etholwyd gan bobl Cymru.
Mae'r materion a godwyd gennych ynghylch y cyhuddiadau o fwlio a rheoli rydych chi wedi'u clywed yn swnio, ar yr wyneb, yn ddifrifol, a byddwn i'n dweud bod gennym ni bwerau chwythu'r chwiban cryf yma, ac fe fyddwn i'n awgrymu, os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth a'i fod yn gallu rhannu'r dystiolaeth honno, yna gwnewch hynny os gwelwch yn dda. Ddylai neb gael ei gosbi. Ddylai neb golli ei swydd am ei fod wedi chwythu'r chwiban. Felly, gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth honno yn fy nghyrraedd i, i ddechrau—neu byddai'n llawer gwell iddi fynd yn uniongyrchol, i ddechrau, i'r bwrdd iechyd fel y gallan nhw edrych ar y cyhuddiad o leiaf i ddechrau.
Ond mae'r pwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei godi ynghylch y diwylliant a'r llywodraethu yn hollol allweddol i'r hyn rydym yn ei wneud. Dyna pam rydym yn sefydlu'r panel arbenigol arwain yn dda annibynnol fel y gallwn ni edrych ar y materion hynny sy'n ymwneud â diwylliant y bwrdd iechyd, pam nad yw pethau wedi llwyddo, a oes ganddyn nhw'r arweinyddiaeth angenrheidiol a'r set sgiliau angenrheidiol i wthio pethau ymlaen. Felly, mae'r pwynt ehangach rydych chi'n ei wneud ynghylch diwylliant a llywodraethu yn ganolog i'r hyn rydym yn ei gyhoeddi heddiw.
Diolch. Dim ond i'ch atgoffa: cyfraniadau un funud. Dydw i ddim yn hoffi torri ar draws pobl, ond pan ydym yn agosáu at ddwy funud mae'n mynd ychydig yn hir, ac, er tegwch i bawb, hoffwn roi cyfle i bawb sydd gen i ar fy rhestr i gyfrannu.
Darren Millar nesaf. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A allaf hefyd gyfeirio at fy nghofrestr buddiannau? Mae fy merch yn cael ei chyflogi fel seicolegydd cynorthwyol gan y bwrdd iechyd. Dydy Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim yn gweithredu fel y dylai. Mae ar beiriant cynnal bywyd. Dydy ei arwyddion hanfodol ddim yn dda. Rydym yn gwybod nad yw'r perfformiad yn agos at ble y dylai fod, ac mae hynny'n effeithio ar gleifion ac ar staff. Rydych chi wedi cyhoeddi heddiw mwy o'r un feddyginiaeth, i bob pwrpas, ar gyfer y claf, gyda mwy byth o baneli, mwy byth o bobl o'r tu allan yn rhoi cymorth i bobl ar y tu mewn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, does gen i ddim llawer o hyder ei fod yn mynd i gyflawni'r canlyniadau rydym i gyd eisiau eu gweld.
Y tîm cymorth, adfer a gweithredu dwys, mae hwnnw'n dîm cenedlaethol. Dydy e ddim yn canolbwyntio ar Betsi yn unig—mae'n mynd i fod yn gyfrifol am Gymru gyfan. Yr adolygiad arwain yn dda, dydych chi ddim wedi dweud pwy sy'n ymwneud â hynny nac wedi enwi'r unigolion sy'n mynd i'w arwain. Rydych chi wedi cyfeirio at y grŵp cyfeirio, sy'n mynd i helpu i lywio ei waith. Rwyf am wybod a yw cleifion a staff yn mynd i fod ar y grŵp cyfeirio hwnnw.
Ond a gaf ofyn dau gwestiwn cyflym iawn i chi? Yn gyntaf oll, ydyn ni'n mynd i gynnwys Donna Ockenden yn y gwaith hwn? Roedd lefel uchel o hyder yn Donna gyda'r ddau adolygiad y mae hi eisoes wedi'u cynnal yn y gogledd ac, yn amlwg iawn, mae ganddi'r arbenigedd, mae hi wedi ei ddefnyddio mewn mannau eraill ledled y DU i helpu i sicrhau newid, a byddwn i'n ddiolchgar i wybod a ydych chi'n barod i'w chynnwys. Ac yn ail, gan gyfeirio'n benodol at berfformiad adrannau brys, mae gan Ysbyty Abergele rywfaint o gapasiti i'w ddefnyddio gyda gwelyau cleifion mewnol ac fe allai gael ei ddefnyddio fel uned mân anafiadau. A wnewch chi edrych o ddifrif ar hynny, gyda'ch swyddogion a'r bwrdd iechyd, i benderfynu a yw hynny'n ateb hyfyw?
Ddirprwy Lywydd, wnaf i ddim ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud am y gwahaniaeth rhwng yr hyn rydym yn ei hyrwyddo yn y fan yma a'r hyn rydym wedi'i weld yn y gorffennol, sef y pwynt cyntaf a gododd yr Aelod.
Fe ofynnodd yr Aelod am Donna Ockenden. Mae Donna wedi gwneud nifer o ddarnau rhagorol o waith yma yng Nghymru a darnau o waith gwerthfawr iawn yng Nghymru. Yn Betsi Cadwaladr, fe edrychodd ar fater Tawel Fan, ac, yn fwy diweddar, rydym yn gwybod am y gwaith mae hi wedi'i wneud ym mhrifysgol Nottingham, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Felly, yn sicr, rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae hi wedi'i wneud, ac fe wnaf i roi ei henw hi ymlaen i'm swyddogion i'w ystyried fel rhan o'r panel arbenigol. Ond, o ddifrif, allaf i ddim addo y bydd hi'n derbyn nac y bydd hi hyd yn oed ar gael, oherwydd fe fyddwch chi'n gwybod ei bod hi'n brysur iawn ar hyn o bryd.
Fe ofynnodd yr Aelod am fewnbwn cleifion a staff—roedd bai arnaf i am beidio ag ateb pwynt Marc Jones hefyd—ydw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n clywed gan y cleifion a chan y rhai ar lawr gwlad. Dyna pam mae popeth rydw i wedi'i gyhoeddi ers i mi gael fy mhenodi'n Weinidog Cabinet yn cael ei arwain yn glinigol, mae'n cael ei arwain gan y dystiolaeth. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried profiad bywyd cleifion, a'r bobl sy'n gweithio yno hefyd, ac fe wnaf i fwydo hynny yn ôl hefyd, fel ei fod yn cael ei fwydo i'r panel arbenigol.
Ysbyty Abergele—unwaith eto, dydw i ddim eisiau ailadrodd fy hun yn rhy aml, ond bydd y panel arbenigol rydym yn ei sefydlu ar gyfer y canolfannau clinigol hynny yn cael ei arwain yn glinigol, bydd y penderfyniadau maen nhw'n eu gwneud yn cael eu harwain yn glinigol. Ond fe wnaf i gynnig Abergele fel un o'r opsiynau y byddan nhw'n eu hystyried. Unwaith eto, allaf i ddim addo y bydd hi yno, oherwydd pwy a ŵyr beth fydd eu cyngor, ond fe wnaf i ei gyflwyno hefyd.
A gaf fi hefyd—? Unwaith eto, roedd bai arnaf i am beidio â diolch i'r Aelod am y gwaith a wnaeth o fewn y GIG yn y gogledd yn flaenorol, a diolchwch i'ch merch hefyd am y gwaith y mae hi'n ei wneud.
Rydym ni'n gwybod bod perfformiad y GIG ledled Cymru wedi bod o dan bwysau sylweddol dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig o dan y cyn-Lywodraeth Lafur, gyda rhestrau aros hir, anghysondeb mewn safonau, a phryderon parhaus ynghylch arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws y system. Mae’r heriau hyn wedi’u hamlygu’n arbennig o glir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn fy etholaeth i. Hoffwn bwysleisio o’r cychwyn nad yw hon yn feirniadaeth o staff y GIG; maent yn gweithio yn eithriadol o galed o dan amgylchiadau hynod o heriol. Yn hytrach, mae’r broblem yn gorwedd mewn systemau sydd, dros gyfnod hir, wedi bod yn rhy ymatebol i fethiant yn hytrach na’i atal, gyda diffyg eglurder o ran atebolrwydd a chydlyniant mewn arweinyddiaeth.
Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi, Weinidog, yn ceisio gosod disgwyliadau clir a newid y diwylliant systemig hwnnw. Ac yn awr, mae'n gadarnhaol gweld camau pendant i gryfhau safonau arweinyddiaeth a gwella tryloywder perfformiad. Felly, a allwch amlinellu yn benodol pa gamau trafod a gweithredu sydd wedi’u cymryd i sicrhau gwelliant gwirioneddol a chynaliadwy i gleifion, a pha newidiadau a wneir i’r fframwaith presennol er mwyn sicrhau atebolrwydd cliriach a chanlyniadau gwell? Diolch.
Bwriad neu, yn wir, pwrpas mesurau estynedig, Ddirprwy Lywydd, ydy er mwyn dal y bwrdd iechyd—unrhyw fwrdd iechyd—i gyfrif ar y delifri o wasanaethau iechyd. Dwi wedi gosod ein disgwyliadau o'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn gwbl, gwbl glir o ran delifro gwelliannau sy'n ddisgwyliedig, ac mi fyddaf i'n atgyfnerthu hyn pan fyddaf i'n cadeirio cyfarfod nesaf y bwrdd estynedig fis nesaf. Fel rhan o ymrwymiad Plaid Cymru, y 100 diwrnod, dwi wedi datblygu opsiynau ar gyfer adolygu y fframwaith hynny yn barod, ar y cyd gydag Archwilio Cymru a HIW, ynghylch effeithlonrwydd y drefn bresennol, ac mi fyddaf i'n penderfynu ar ac yn cyhoeddi yr opsiwn gorau o fewn yr wythnos. Bydd y gwaith hynny yn cynnwys asesiad brys o'r fframwaith presennol cyn, wedyn, cyhoeddi fframwaith newydd fydd yn sicrhau effeithlonrwydd, tryloywder a chymesurwydd. Yn ganolog i hyn i gyd, byddwn ni'n edrych ar a ydy'r mesurau estynedig yn arwain ar wella canlyniadau, sef beth ydy'r hyn rydym ni i gyd eisiau ei weld ar ddiwedd y dydd.
Janet Finch-Saunders.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am ymestyn yr amser ar hyn.
O fi o ychydig ffydd, Weinidog Cabinet—rydym wedi clywed y cyfan o'r blaen. Efallai bod gennych chi ffordd wahanol o fynd ati i wneud pethau, ond mae angen gweithredu cyflym arnom yn ddirfawr. Wyddoch chi, 50 diwrnod i mewn i'r holl newidiadau gwahanol hyn a oedd yn mynd i ddod i mewn, y bwrdd iechyd oedd un o'r blaenoriaethau mwyaf allweddol i mi. Hoffwn ddiolch i Nigel am gyflwyno'r cyhuddiadau hynny o fwlio, a hoffwn gwrdd â chi, oherwydd rwyf hefyd wedi derbyn—. Credwch neu beidio, rwy'n credu bod yna rai pryderon efallai bod angen rhywun fel Donna Ockenden ar y Gweinidog Cabinet i ddod i mewn ac edrych ar y bwrdd hwn, oherwydd nid o reidrwydd lle rydych chi'n meddwl y gallai'r bwlio fod yn digwydd mewn gwirionedd. Mae rhai aelodau uwch—uwch iawn—o'r bwrdd iechyd hwn hefyd wedi teimlo o dan—. Allwch chi ddim anghofio mai'r Llywodraeth Cymru hon sydd â'r cyfrifoldeb terfynol. Allwch chi feio—. Fel yr oeddech chi, fe wnaethoch chi agor eich datganiad gyda sylwadau eithaf cyhuddedig: 'Os na fyddan nhw'n gwneud hyn, os na fyddan nhw'n gwneud y llall.' Mae angen eich help a'ch cefnogaeth arnyn nhw. Mae angen help a chefnogaeth cyfarwyddwr cyffredinol y bwrdd iechyd arnyn nhw hefyd.
Felly, mewn gwirionedd, yr hyn rwyf am ei ofyn i chi yw: yn eich 50 diwrnod cyntaf, o ystyried y canlyniadau sydd eu hangen ar unwaith—a gallan nhw ddim dod yn ddigon buan—beth ydych chi wedi'i weithredu, heblaw am gyhoeddi rhywfaint o gyllid a bwrdd adolygu arall, i fynd i'r afael â'r methiannau hyn? A sut mae'r cyfarwyddwr cyffredinol yn rhan o'r camau sydd eu hangen i gefnogi'r prif weithredwr, cadeirydd y bwrdd a'u haelodau? Mae angen help ar y bwrdd iechyd hwn. Mae angen cefnogaeth arno. Does dim angen y llaw galed honno rydych chi wedi'i chyflwyno yma heddiw. Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw i chi: sut ydych chi'n gweithio gyda'r swyddogion gweithredol hynny y soniodd Ken Skates amdanyn nhw, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw ysgwyddo rhywfaint o'r cyfrifoldeb hefyd? Diolch.
Ddirprwy Lywydd, fe ddywedodd yr Aelod ei bod hi wedi clywed y cyfan o'r blaen; rwy'n anghytuno â hynny, oherwydd mae'r hyn rydym wedi'i gynnig heddiw yn wahanol i'r hyn a welwyd o'r blaen, fel yr wyf wedi esbonio. Felly, wnaf i ddim ailadrodd fy hun, os gallwch chi faddau i mi am hynny. Ond fe ddywedodd yr Aelod ar ôl 50 diwrnod i mewn a beth bynnag—. Yn union. Dim ond ers 40 rhywbeth diwrnod rwyf wedi bod yn Weinidog Cabinet, ac rydym yn gweithredu nawr gyda chyflymder. Rydym yn cyhoeddi ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n helpu'r bwrdd iechyd er mwyn cyrraedd eu targedau. Felly, y cwestiwn a ofynnoch chi ynglŷn â sut rydym yn helpu'r bwrdd—trwy'r hyn rwyf wedi'i gyhoeddi heddiw.
O ran y cyfarwyddwr cyffredinol, rwy'n cael cyfarfodydd gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol bron bob dydd er mwyn dod o hyd i atebion ar gyfer hyn a gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi camau ar waith i ddod â'r bwrdd iechyd allan o'r mesurau uwchgyfeirio hynny fel ein bod ni'n gweld canlyniadau gwell i bobl y gogledd.
Ac yn olaf, Weinidog, Elfed Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad ac am gymryd camau cadarn mor fuan i mewn i'r tymor seneddol i fynd i'r afael â'r heriau dwys sydd yn wynebu Betsi Cadwaladr. Un elfen o'r datganiad roeddwn i yn ei chroesawu yn benodol oedd yr ymrwymiad i gyflwyno tîm arbenigol i roi cymorth yn y meysydd gofal wedi ei gynllunio, canser a gofal brys. Mae'n amlwg o'r ohebiaeth dwi wedi ei derbyn gan etholwyr fod y rheini oll yn feysydd sydd wedi cadw'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig cyhyd. Pa welliannau penodol felly mae'r Gweinidog yn gobeithio eu gweld wrth gyflwyno'r tîm arbenigol, a phryd mae'n gobeithio gweld y gwelliannau hynny yn cael eu gweithredu?
Ddirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn berffaith iawn i ddweud bod angen i ni weld gwelliannau, a hynny ar fyrder, a dwi'n cytuno ac yn cydymdeimlo efo'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Dyna pam fy mod i wedi rhestru yn glir ein disgwyliad ni o'r bwrdd er mwyn iddyn nhw ddod allan o lefel 5 a mynd i lawr i lefel 4. Mae hynny'n cynnwys edrych ar y gofal wedi ei gynllunio. Mae angen i ni weld gweithredu'r cynlluniau sydd wedi cael eu creu, ond ddim eto wedi cael eu gweithredu. Mae hynny'n golygu, o'u gweithredu nhw, mi fyddwn ni'n gweld y rhestrau aros yn disgyn erbyn diwedd mis Medi, gan barhau i ddisgyn erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae hynny'n edrych ar ganser, yr ystadegau roedden ni'n sôn amdanynt ynghynt, lle rydym ni'n edrych ar gynyddu o 52.5 y cant i 55 y cant, a chadw hynny i fynd am y pedwar mis dilynol. Ac yn yr un modd, gan edrych ar ofal brys, rydym ni'n gwybod bod y bwrdd wedi cytuno bellach i fuddsoddi £3.9 miliwn er mwyn gwella a chryfhau'r gweithlu yn yr adrannau brys. Mi fyddwn ni'n disgwyl gweld gwelliannau yn delifro yn yr adrannau brys, a hynny ar fyrder.
Felly, dwi'n disgwyl gweld gwella, a hynny erbyn diwedd mis Medi, a chynnal hyn am fisoedd y gaeaf.
Diolch, Weinidog.
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth—trafnidiaeth integredig, gwasanaethau coetsys gogledd-de. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper.
Ddirprwy Lywydd, rydw i'n falch o ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd rydym yn ei wneud wrth gyflawni dau ymrwymiad 100 diwrnod cyntaf i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru. Mae ymrwymiadau hyn yn glir: cryfhau cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru, a chyflymu ein gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru i greu system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig, hygyrch a theg i bawb.
Rydym ni wedi gwneud cynnydd mesuradwy sy'n adlewyrchu uchelgais y Llywodraeth hon a'r camau ymarferol rydym ni'n eu cymryd ar unwaith i wella trafnidiaeth gyhoeddus i bobl a chymunedau ledled Cymru.
Ers degawdau, mae ein cymunedau ar draws llawer rhan o Gymru wedi wynebu anhawster gwirioneddol wrth deithio rhwng y gogledd a'r de, yn enwedig yng ngorllewin y wlad. Er y gall fod heriau wrth gwrs wrth deithio o'r dwyrain i'r gorllewin yng Nghymru, rydym ni'n gyffredinol yn cael ein gwasanaethu'n well gyda dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Ers cyfnod toriadau Beeching, nid oes gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar draws coridor gorllewin Cymru. Mae hyn yn golygu mai'r ffordd gyflymaf o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus o Fangor i Gaerfyrddin yw trwy Loegr. Mae llawer yng Nghymru wedi dadlau ers tro dros ailagor y rheilffyrdd, ac mae hyn yn rhan o weledigaeth rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, byddai hyn yn costio tua £2 biliwn. Mae arnom ni eisiau gwella cysylltedd nawr. Bydd y gwasanaeth bysiau newydd o'r gogledd i'r de yn darparu amser teithio tebyg i'r gwasanaeth rheilffordd a safon debyg o drafnidiaeth.
Mae rhwydwaith bysiau TrawsCymru o werth enfawr mewn cymunedau lle mae angen i bobl wneud teithiau hirach, yn enwedig lle nad oes gwasanaethau trên. Mae'r rhwydwaith hwn bellach yn cefnogi bron i 2.5 miliwn o deithiau bob blwyddyn i deithwyr. Fodd bynnag, fe wyddom ni hefyd fod llawer o'r teithiau ar rwydwaith TrawsCymru yn parhau i fod yn lleol, sy'n ddefnydd hollol ddilys a gwerthfawr o'r rhwydwaith, ond fe gredwn ni fod yna alw am deithiau pellter hirach.
Dyna'n union pam rydw i'n falch o gyhoeddi ein cynlluniau i gyflwyno gwasanaeth bysiau newydd y gellir ei harchebu sy'n cysylltu cymunedau allweddol o'r gogledd i dde Cymru. Bydd hyn yn dechrau ym Mangor ac yn gorffen yng Nghaerfyrddin, ac yn cynnwys arosfannau yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron. Bydd hyn yn golygu dros awr yn llai o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gysylltu cymunedau a hwyluso cysylltiadau â gwasanaethau rheilffordd a bysiau lleol, gyda'r dewis o estyniadau i borthladdoedd yng ngogledd a de'r wlad yn y dyfodol. Byddwn yn buddsoddi £2 filiwn yn y cynllun hwn yn y flwyddyn ariannol hon.
Roedd y cynllun hwn yn destun achos busnes llawn, a ddatblygwyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio yn y Senedd ddiwethaf, yn dilyn gwaith technegol helaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus. Derbyniwyd dros 1,000 o gyfraniadau, gyda chefnogaeth gref gan y cyhoedd i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de. Ar hyn o bryd, mae cymunedau ar hyd y coridor hwn yn wynebu cyfuniad o heriau: mynediad cyfyngedig at wasanaethau, cyfyngiadau economaidd, amseroedd teithio hir, a chynnig trafnidiaeth gyhoeddus nad yw bob amser yn bodloni'r disgwyliadau. Mae'r gwasanaeth newydd hwn wedi'i gynllunio'n uniongyrchol i fynd i'r afael â'r heriau hynny.
Rydym wedi gwneud cynnydd cyflym eisoes. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi prynu wyth bws modern cwbl hygyrch; maen nhw wedi ymgysylltu â'r farchnad, a bydd y broses gaffael ar gyfer y gwasanaeth yn dechrau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rwy'n ddiolchgar i Trafnidiaeth Cymru am weithredu mor gyflym, gan gyflawni ein hymrwymiad i baratoi i lansio gwasanaeth bysiau o'r gogledd i'r de yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, cyn i'r drefn archebu agor ar gyfer dechrau'r gwasanaeth yn yr hydref.
Rwy'n cydnabod, os yw'r gwasanaeth hwn yn mynd i fod yn llwyddiannus, bod angen bysiau rheolaidd i gefnogi teithwyr i wneud y teithiau sy'n iawn iddyn nhw. Felly, er bod yn rhaid i ni aros nes bod y broses gaffael wedi dod i ben cyn y gellir cadarnhau manylion manwl, bydd gwasanaethau bob dwy awr o'r bore i'r nos.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod cyfleoedd i wella'r seilwaith presennol mewn rhai trefi i helpu i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth cwbl hygyrch. Nid oes unrhyw rwystrau i ddechrau'r cynllun hwn yn yr hydref, ond bydd Trafnidiaeth Cymru a'm swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i nodi ble y gallwn ni wella arosfannau bysiau i sicrhau bod y gwasanaeth mor effeithiol â phosibl.
Mae cyflwyno'r gwasanaeth bysiau o'r gogledd i'r de yn gam arwyddocaol ac mae hi'n hwyr glas gwneud hynny, ond rwy'n ymwybodol iawn nad yw'n ddigon ar ei ben ei hun. Mae'r Llywodraeth hon yn uchelgeisiol ynglŷn â'r hyn y gellir ei gyflawni wrth i ni barhau i ddatblygu ein rhwydwaith rheilffyrdd a pharhau i gynlluniau i fasnachfreinio bysiau.
Ddirprwy Lywydd, dyna pam y gwnaethom ni hefyd ymrwymo, yn ein dogfen 100 diwrnod cyntaf, i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i symud ymlaen ag integreiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth yn llawn a chael uchafswm prisiau. Er mai dim ond ers nifer o wythnosau yr wyf wedi bod yn y swydd, rwyf wedi bod yn falch o weld y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud i integreiddio ein system trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, rwy'n credu y gallwn ni wneud mwy.
Rwy'n cefnogi'n llwyr weledigaeth Trafnidiaeth Cymru o 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'. Ar hyn o bryd mae llawer o bobl yn gweld nad yw amserlenni gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau yn gweithio gyda'i gilydd, ei bod hi'n rhy anodd cynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus a bod tocynnau'n rhy gymhleth. Dyna pam rydym ni'n bwrw ymlaen â chynlluniau i ymestyn tocynnau clyfar ar y rhwydwaith rheilffyrdd, gan gyflwyno technoleg tapio cyrraedd a gadael yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan adeiladu ar y cyflwyniad llwyddiannus sydd bellach ar waith ar draws de'r wlad. Roedd hyn ar draws 15 gorsaf ar lwybr Wrecsam-Bidston ym mis Mai a bydd yn cael ei ymestyn i 10 gorsaf arall yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn gwneud teithio yn symlach, yn gyflymach ac yn fwy hyblyg, ond ni fyddwn yn rhoi terfyn arni yn y fan yna. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio ar gynlluniau i ymestyn hyn ymhellach.
Rydym ni'n parhau i ddatblygu un llwyfan digidol ar gyfer cynllunio ac archebu teithiau. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol i gadw trafnidiaeth gyhoeddus bresennol a denu teithwyr newydd. Gall fod yn her enfawr i gynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd, gan geisio dilyn amserlenni bysiau a rheilffyrdd ar draws sawl gwefan. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn dod â chynllunio teithiau, tocynnau a gwybodaeth amser real at ei gilydd mewn un lle, gan adeiladu ar ein llwyfan rheilffyrdd sydd eisoes wedi'i wella wrth i ni symud tuag at fasnachfreinio bysiau.
Yn olaf, rwy'n ddiolchgar i Weinidog Cyllid y Cabinet am ddyrannu £8 miliwn arall i sicrhau y bydd y cynllun arbrofol tocynnau bws am £1 yn parhau tan ddiwedd 2026-27. Mae'r cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda dros 6.5 miliwn o deithiau bellach wedi'u gwneud drwy'r cynllun. Mae'n hanfodol ein bod yn dal i gefnogi'n plant a'n pobl ifanc i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden, gan ein bod yn gwybod y gall trafnidiaeth fod yn rhwystr.
Mae arnaf i eisiau pwysleisio bod yr ymrwymiadau rydw i wedi'u hamlinellu yn fwy na dim ond trafnidiaeth. Rwy'n gweld trafnidiaeth yn allweddol i gyflawni cymaint. Mae'n ymwneud â chyfleoedd, cysylltu cymunedau, cryfhau ein heconomi a chyflawni Cymru fwy cynaliadwy, cynhwysol.
Dyma pam yr ydym wedi cymryd camau ar unwaith, gan gyflawni ein hymrwymiadau 100 diwrnod, a pham y byddaf yn ceisio cynnal cyflymder ac uchelgais ein hymdrechion i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Diolch.
Diolch am eich datganiad—[Torri ar draws.] Dyna ni. Sut mae hynny? Diolch.
Diolch am eich datganiad, Weinidog. Mae'r gwelliannau hyn i deithio o'r gogledd i'r de yn hir ddisgwyliedig. Mae eich cyhoeddiadau heddiw yn gam bach ond pwysig iawn i drwsio hynny, ond nid yw'r ymrwymiadau 100 diwrnod hyn rydym ni wedi clywed cymaint amdanyn nhw yn ddim byd i ymffrostio yn eu cylch. Er mwyn i'r gwasanaeth bysiau hwn wirioneddol allu darparu i drigolion a rhoi hwb i'r economi leol, rhaid iddo fod yn weithredol, rhaid iddo fod yn aml a rhaid iddo fod yn ddibynadwy bob adeg o'r dydd.
Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod yn gweithio ar un llwyfan ar gyfer archebu a chynllunio teithiau, ond ni fydd hyn o unrhyw ddefnydd os yw bysiau, trenau a bysiau yn teithio dim ond bob dwy awr neu os oes yna oedi. Felly, allwch chi warantu y bydd gwasanaeth y gall preswylwyr ddibynnu arno yn cael ei roi ar waith, mewn pryd, erbyn diwedd y flwyddyn? Allwch chi warantu bod yna fysiau wrth gefn ar gael pe bai methiant mecanyddol neu unrhyw achosion annisgwyl gyda'r cerbydau? A sut mae amserlenni'n cael eu paru â gwasanaethau trafnidiaeth eraill, fel trenau a'r rhwydwaith bysiau ehangach?
Ond, wrth gwrs, nid yw dibynadwyedd y seilwaith yn unig yn ddigon. Bydd hyd yn oed y gwasanaeth gorau yn methu os nad yw pobl yn gallu fforddio ei ddefnyddio. Mae Plaid yn hoffi esgus bod Reform yn gwrthwynebu trafnidiaeth werdd, ond y gwir yw nad ydym ni'n gwneud hynny. Rydym ni'n cefnogi system drafnidiaeth sy'n ddibynadwy, yn fforddiadwy ac yn gweithio i bobl Cymru. Gallai gwasanaeth o'r gogledd i'r de fod yn ddewis arall gwirioneddol i'r car os yw'n fforddiadwy i deuluoedd, os yw'n fforddiadwy i fyfyrwyr, ac os yw'n cael ei brisio i gefnogi swyddi, twristiaeth a thwf economaidd ledled Cymru. Mae un gair ar goll o'ch datganiad, a'r gair hwnnw yw 'fforddiadwyedd'. Ni ddywedoch chi erioed wrthym ni beth fydd y gwasanaeth hwn yn ei gostio, beth fydd angen i bobl Cymru ei dalu i'w ddefnyddio. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa lefelau prisiau sy'n cael eu hystyried ar gyfer y gwasanaeth hwn, ac a fyddwch chi'n gwarantu tocynnau teulu a gostyngiadau grŵp o'r diwrnod cyntaf, fel bod y gwasanaeth hwn yn llawn teithwyr ac nid dim ond yn llawn addewidion gwag?
A dweud y gwir, mae heddiw yn datgelu problem llawer mwy i Gymru. Tra bod gwledydd ledled Ewrop yn buddsoddi mewn rhwydweithiau rheilffyrdd modern sy'n cymell twf, yn cysylltu marchnadoedd llafur ac yn cymell buddsoddiad, mae Cymru yn dal i siarad am fysiau. Yn y Swistir, fe wnaethon nhw adeiladu twnnel sylfaen Gotthard a oedd yn cysylltu'r gogledd a'r de. Fe wnaeth leihau amseroedd teithio, symud cludo nwyddau i'r rheilffordd ac fe wnaeth droi rhanbarthau tameidiog yn farchnadoedd llafur unigol gweithredol. Mae Plaid Cymru yn sôn am uchelgais i Gymru, ond mae'r datganiad heddiw yn adrodd stori wahanol iawn. Mae'n stori am economi dameidiog Cymru ac yn dathlu cadw pethau fel y maen nhw, sydd wedi'i gyfyngu i'r hyn sy'n cyfateb i Dave's Coaches.
Nawr, Weinidog, ni fydd bysys yn trawsnewid yr economi, seilwaith sy'n gwneud. Felly, Gweinidog, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael ynglŷn â phrosiectau seilwaith rheilffyrdd mawr gogledd-de? A yw hynny'n rhywbeth y mae Plaid yn ei ddiystyru'n llwyr? Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith economaidd y gwasanaeth bysiau hwn? A pham mai ateb Plaid i heriau seilwaith mwyaf Cymru yn 'fwy o fysiau'? Yn sicr ni fydd yn datrys ffordd liniaru'r M4 yn y de ac yn sicr ni fydd yn datrys yr heriau economaidd. Mae'r wlad eisiau i chi adeiladu.
Yn olaf, fe hoffwn i gysylltu hyn â'n porthladdoedd. Ers cenedlaethau, mae ein porthladdoedd wedi bod yn borth i fasnach Cymru, busnesau Cymru a swyddi yng Nghymru. Mae porthladd Caergybi yn unig yn trin 4.8 miliwn tunnell o nwyddau bob blwyddyn, sy'n golygu mai hwn yw prif borthladd Cymru ar gyfer masnach gydag Iwerddon. Mae pob lori, pob fferi a phob busnes sy'n dibynnu ar y porthladd hwnnw yn atgof o'r cyfle economaidd sy'n eistedd ar garreg ein drws, ond nid yw eich gwasanaeth blaenllaw o'r gogledd i'r de hyd yn oed yn ei gyrraedd; mae'n terfynu ym Mangor. Mae hynny'n dweud wrthym ni bopeth sydd angen i ni ei wybod am uchelgais y Llywodraeth hon: huawdl gyda chyhoeddiadau, huawdl gyda datganiad i'r wasg, diffygiol iawn gyda chyflawni.
Os ydych chi o ddifrif am ddatblygu economi gogledd Cymru, cefnogi busnesau a chreu swyddi, pam fyddech chi'n terfynu filltiroedd o un o borthladdoedd economaidd pwysicaf Cymru? A wnewch chi ymrwymo heddiw i ymestyn y gwasanaeth hwn i Gaergybi, ac yn y de i Abergwaun, gydag amserlen wedi ei ariannu ar gyfer ei ddarparu? Neu a yw hon yn enghraifft arall lle mae Llywodraeth yn siarad am gysylltu Cymru ond yn gadael yr union leoedd sy'n creu swyddi a thwf economaidd wedi'u datgysylltu? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn, Jason. Rwy'n credu yr hyn rydym ni wedi sôn amdano yn y fan yna—. Mae yna lawer o bethau y byddwn i'n cytuno â nhw yn y datganiad yna ac rwy'n credu ei bod yn dda gweld bod yna lawer o uchelgais rydych chi eisiau ei weld, ac mae hyn yn rhan o hynny.
Fe ddywedaf i wrthych chi beth yw dechrau hyn, sef dechrau pragmatig i wneud yn siŵr bod pethau'n gweithio, oherwydd fe allwn ni aros am byth i bethau newid, neu fe allwn ni wneud gwahaniaeth yn gyflym. Mae hyn yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth yn gyflym; mae'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth rydym ni'n gwybod y bydd ar bobl eisiau ei ddefnyddio. Ac rydym ni'n gwybod y bydd gan bobl ddiddordeb yn hyn. Pan aethom ni allan i ymgynghori am hyn, dywedodd 60 y cant o'r bobl hynny a oedd yn yr ymgynghoriad hwnnw bod arnyn nhw eisiau gweld y gwasanaeth hwn rydym ni wedi'i amlinellu yn y fan yma, felly rydym ni'n ffyddiog bod hyn yn mynd i weithio.
Rwy'n credu bod eich pwynt am ei fod yn weithredol wydn yn bwysig iawn. Ac mae hyn yn rhywbeth sydd wrth wraidd yr hyn rydym ni wedi'i amlinellu yn y fan yma. Dyma'r rheswm pam mae gennym ni'r bysiau dwy awr hyn. Mae arnom ni eisiau i bobl ymddiried ynddyn nhw, mae arnom ni eisiau i bobl gredu bod y rhain yn mynd i ddod pan ddywedwn ni y byddan nhw'n dod, a dyna'r rheswm rydym ni wedi cyfyngu'r arosfannau. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bysiau yn gallu mynd o A i B, o'r gogledd i'r de, mewn amser sy'n gyfleus i bobl ac sy'n gweithio i bobl. Felly, mae hynny'n bwysig iawn. Dyna hefyd pam mae gennym ni eisoes wyth bws yn yr iard, yn barod i fynd.
Fe wnaethoch chi sôn am integreiddio, ac rwy'n credu bod integreiddio yn debygol o fod yn un o bwyntiau allweddol y gwasanaeth hwn. Er mwyn gwneud iddo weithio, mae angen iddo integreiddio. Cyfeiriais at borthladdoedd yn fy natganiad, ond hefyd integreiddio â gwahanol drefi nad ydyn nhw ar y rhwydwaith uniongyrchol. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rhaglennu'r system gyfan hon, felly mae'n dod yn rhan o'r system gyfan. Felly, mae'n cysylltu â chytrefi llai sydd ar y tu allan, ac maen nhw'n dod yn rhan o hyn ac fe allan nhw wneud yn siŵr eu bod yn rhan o'r datrysiad hwn hefyd.
Mae fforddiadwyedd yn ganolog i hyn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu mai dyna un o'r materion y byddwn yn siarad yn eu cylch ar y dechrau. Ond y sicrwydd y gallaf ei roi yw y bydd hwn yn wasanaeth fforddiadwy a fydd yn gwneud synnwyr i bocedi pobl. Bydd yn rhatach na char, a bydd y gwasanaeth cywir y mae pobl yn ei ddewis.
Rwy'n hoffi'r ffaith eich bod yn cefnogi ein rhwydwaith rheilffyrdd. Edrychaf ymlaen at siarad am ddatganoli rheilffyrdd yr wythnos nesaf. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ein cefnogi ni pan fyddwn yn siarad am ddatganoli rheilffyrdd i wneud yn siŵr y gallwn ni siarad â llais unedig â Gweinidogion y Deyrnas Unedig pan ddaw'r amser hwnnw.
Byddaf yn gorffen trwy ddweud y bydd y ffordd y caiff y prosiect hwn ei ymestyn yn seiliedig ar sut mae'n cael ei ddefnyddio. Rydym ni'n hyderus y gallwn ni ddarparu'r gwasanaeth fel y mae nawr, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym ni'n ychwanegu arosfannau yn y dyfodol. Byddai hynny'n rhywbeth y byddwn yn edrych arno ar sail galw. Ond y galw fel y mae hi ar hyn o bryd yw'r hyn sydd gennym ni yn y fan yma. Diolch.
Diolch, Weinidog, am eich diweddariad ar wasanaethau bysiau, gan gynnwys y cyswllt cyflym rhwng Bangor a Chaerfyrddin, yr oedd Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi cychwyn ei gynllunio. Rwy'n credu y bydd unrhyw un sydd wedi gorfod gwneud y daith honno ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda threnau yn gwybod bod angen taith i Loegr drwy'r Amwythig a'i bod yn cymryd mwy na chwe awr ar hyn o bryd. Tua diwedd y Senedd ddiwethaf, roeddem yn cynnal adolygiad o'r posibilrwydd o gyflwyno mwy o wasanaethau bysiau gydag arosfannau cyfyngedig sy'n cysylltu gogledd, canolbarth a de Cymru a gorllewin Cymru, felly rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn parhau gyda chynllun blaenorol Llywodraeth Lafur Cymru.
Yn wahanol i'r meinciau Reform draw fanna, rydym ni'n cydnabod y ffaith, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, fod yr amcan bris ar gyfer ailagor cysylltiadau rheilffordd rhwng Bangor a Chaerfyrddin drwy Bwllheli ac Aberystwyth hyd at £2 biliwn. Wn i ddim a oes gan Jason O'Connell £2 biliwn yn ei boced gefn, ond rydym ni ar feinciau Llafur yn sicr yn cytuno bod gwasanaeth bws cyflym yn ddewis amgen hynod synhwyrol, ac rydym ni'n croesawu eich cyhoeddiad ar hyn. Rwy'n siŵr y bydd y buddsoddiad roeddem ni eisoes wedi'i roi i wasanaethau TrawsCymru o oddeutu £7.3 miliwn i ddarparu gwasanaethau bws o safon ar lwybrau strategol ledled Cymru wedi helpu'n aruthrol.
Mae gen i rai cwestiynau ynglŷn â'ch cyhoeddiad yma y prynhawn yma. Sylwaf eich bod yn dweud y bydd y gwasanaeth cyflym newydd hwn yn wasanaeth y gellir ei archebu. Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i'r rhai a fyddai'n ei chael hi'n anodd archebu ar-lein ac a allai gael eu heithrio'n ddigidol? Wrth feddwl am yr wyth bws newydd rydych chi wedi'u comisiynu, a fydd ganddyn nhw le i gadw cadeiriau olwyn a beiciau, ac a fyddan nhw'n hygyrch i deithwyr â phroblemau symudedd?
Byddwch yn gwybod bod Llafur Cymru wedi ymrwymo yn ein maniffesto etholiadol yn y Senedd i 100 o lwybrau bysiau newydd ledled Cymru. Gyda hynny mewn golwg, er bod y gwasanaeth cyflym hwn yn wir i'w groesawu, a wnewch chi'n amlinellu a fydd gwasanaethau eraill sy'n cynnig mwy o arosfannau ar gyfer teithiau byrrach sy'n gwasanaethu cymunedau i fyny ac i lawr y llwybr hefyd? Pa ddarpariaeth ydych chi wedi'i wneud ar gyfer cyd-fynd â mapiau a mentrau teithio llesol awdurdodau lleol mewn arosfannau ar hyd y llwybr?
Gan droi at y cynllun tocynnau bws o £1, mae'n amlwg bod angen i ni gynnig polisïau uchelgeisiol, arloesol ac ystyrlon os ydym ni am gael mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac annog y newid moddol sydd ei angen arnom ni i gyrraedd sero net. Roeddwn i'n falch bod fy mhlaid wedi cyflawni'r cynllun tocyn bws hwnnw o £1 i bobl ifanc yn ystod tymor diwethaf y Senedd a'n hymrwymiad maniffesto i wneud hynny'n gynllun parhaol, yn ogystal â bod ag uchafswm prisiau yn gyffredinol. Mae'r polisïau hyn yn allweddol i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy, felly rwyf braidd yn siomedig bod eich datganiad yn cadarnhau nad yw Llywodraeth bresennol Cymru ond yn fodlon cynnig ymrwymiad tymor byr i ymestyn y cynllun i bobl ifanc tan ddiwedd 2026-27. Felly, i gloi, fe hoffwn i ofyn a fyddwch chi'n ailystyried y penderfyniad hwnnw. Os na, sut arall y byddwch chi'n gwneud yn siŵr bod pobl ifanc nid yn unig yn cael eu hannog ond yn gallu fforddio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Diolch, Vikki, a diolch am y gefnogaeth eang i'r datganiad heddiw. Rwy'n credu bod hynny'n dangos pan geir syniadau da, nid oes unrhyw beth i'n rhwystro ni weithio tuag atyn nhw. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth a gafodd ei gynllunio'n wreiddiol, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn rhan o'r cytundeb cydweithio, felly mae'n dangos pan fydd pleidiau yn cydweithredu, fe allwn ni roi cychwyn ar bethau ac fe allwn ni wneud cynnydd. Fe hoffwn i feddwl y bu'r cynnydd hwn yn bosib oherwydd inni lwyddo i gael arian o'r gyllideb ar unwaith, felly rydyn ni'n cychwyn ar hwn. Byddwn yn cychwyn y gwasanaeth hwn yn yr hydref, felly bydd pobl yn gallu ei archebu o'r adeg yna. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda o bethau'n gweithio gyda'i gilydd.
Fe wnaethoch chi sôn am archebu ar-lein, ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt da iawn. Rydw i'n mynd i bendroni dros hynny, os yw hynny'n iawn, dim ond i ddod yn ôl atoch chi gyda'r atebion iddo. Mae'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio arno. Gall pobl archebu sy'n cael trafferth defnyddio systemau ar-lein ar eu pennau eu hunain, ond ar y gwasanaeth penodol hwn, fe wnaf ddod yn ôl atoch chi ar yr un mater yna ar wahân.
Rwy'n credu bod hygyrchedd yn bwysig iawn o ran teithio hefyd. Dim ond i roi enghraifft i chi o sut rydym ni wedi gweithio ar y gwasanaeth hwn i wneud yn siŵr bod pobl sy'n teithio gyda chadeiriau olwyn neu sydd ag ymrwymiadau storio mwy eraill yn gallu gweithio gyda'r gwasanaeth hwn, rwy'n credu bod gennych chi sefyllfa lle roedd un o'r arosfannau yn arbennig o anodd gallu cael cadair olwyn arno ac oddi arno oherwydd maint y bws, felly rydyn ni wedi llwyddo i weithio gyda lle arall yn y dref. Mae hyn yn Aberaeron, lle gallwch chi barcio ymhellach i fyny, a gellir gwneud mynediad i gadeiriau olwyn ar ac oddi y bws yn hygyrch. Bydd pob arosfan yma ar gael i'r bobl hynny sydd angen mynediad pellach. Rydym ni hefyd wedi gwneud yn siŵr bod yr amser fesul stop yn caniatáu i'r bobl hynny fynd a dod yn hytrach na chymryd amser oddi ar y daith gyfan.
Soniais am integreiddio yn fy ateb i Jason. Rwy'n credu bod integreiddio yn allweddol i hyn ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn integreiddio gwasanaethau, felly p'un a yw'n wasanaethau lleol, p'un a yw'n wasanaethau teithio llesol awdurdodau lleol, mae'r rhain i gyd yn rhan o'r integreiddio. Yr hyn y mae angen i ni ei gydnabod yw bod hyn wedi'i fwriadu i fod yn daith gyflym rhwng y gogledd a'r de, ond pan fydd pobl yn dod i ffwrdd, fe allan nhw ymuno â'r rhwydwaith ehangach. Ond rydym ni hefyd yn cydnabod—ac fe wnes i gyfeirio at hyn—y bydd pobl yn ei ddefnyddio ar gyfer teithiau byrrach oherwydd ei fod yn gyfleus. Bydd hyn yn gweithio os ydych chi am fynd o Borthmadog i Ddolgellau, Caerfyrddin i Fangor, efallai. Mae'r rhain yn deithiau rydym ni'n cydnabod y bydd pobl yn eu gwneud.
O ran yr ymrwymiad, siaradodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid a minnau am ymestyn y tocyn bws o £1. I wneud hynny ar gyfer eleni mae angen gwneud yn siŵr ei fod wedi ei gynnwys eleni. Peidiwch â chymryd hynny fel arwydd na fydd wedi ei gynnwys am flynyddoedd pellach; mae'r rhain yn sgyrsiau y byddwn ni'n eu cael. Mae hwn yn amlwg yn wasanaeth y mae pobl ifanc yn ei groesawu ac yn ei fwynhau a'i ddefnyddio. Mae'n rhaid i ni geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael teithwyr. Os cawn ni bobl ifanc yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan maen nhw'n ifanc, gobeithiwn y byddan nhw'n ymestyn hynny i'w bywydau yn fwy cyffredinol hefyd. Diolch.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn llwyr. Yn ddiddorol, pan ddechreuwyd trafod datganoli gyntaf, un o'i brif amcanion, pe ceid datganoli, oedd sicrhau y byddai gennym ni seilwaith ffyrdd o'r gogledd i'r de a fyddai'n cysylltu gogledd Cymru â'r brifddinas a Llywodraeth Cymru. Ond rydym ni wedi bod yn aros am 27 mlynedd, ac nid yw hynny wedi digwydd. Felly, rwy'n croesawu hyn fel ffordd arall o gael pobl o'r gogledd i'r de. Pan ystyriwch chi fod 71.7 miliwn o siwrneiau teithwyr yn cael eu gwneud ar wasanaethau bws lleol bob blwyddyn, a chofiwch nad oes gan 19 y cant o boblogaeth Cymru fynediad at gar, mae hyn yn dangos pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a dibynadwy i lawer o gymunedau.
Cynhaliodd Trafnidiaeth Cymru astudiaeth ddichonoldeb, a gyhoeddwyd yn 2025, i gyflwyno gwasanaeth bysiau cyflym TrawsCymru a fyddai'n cysylltu gogledd a de Cymru drwy'r coridor gorllewinol. Oherwydd i unrhyw un sy'n gwneud hyn yn wythnosol, heb sôn am os ydych chi am ddod yma yn amlach, gall gymryd rhwng pedair awr a phedair awr a hanner, ac ers y cyfyngiad 20 milltir yr awr a'r 50 milltir yr awr ar rai ffyrdd, rwy'n gweld ei fod yn fwy tebygol o fod yn fwy na phedair awr a hanner, weithiau pum awr, yn dod i lawr yma.
Rwy'n teithio'n rheolaidd ar y gwasanaeth trên uniongyrchol o Gaergybi, a gall hynny gymryd tua phedair awr, er y byddaf yn dweud, neithiwr—ac rwyf wedi ei godi gyda chi—fe es i ar y trên am 15:29, gan gyrraedd fy fflat am 21:30, ac fe wnes i ofyn am gael trefnu bws, oherwydd roedd Aelodau eraill yma na chyrhaeddodd adref tan lawer hwyrach na hynny. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i chi ei wneud. Siawns na fyddwch chi'n caniatáu perfformiad gwael Trafnidiaeth Cymru a'r trenau, y diffyg gwybodaeth, y camgyfathrebu, sydd mor ddrwg ar hyn o bryd.
Credaf fod teithiau trafnidiaeth gyhoeddus cyflymach eisoes yn gyraeddadwy ar rannau o rwydwaith trafnidiaeth Cymru. Rwy'n gwybod bod gwaith gwych ar y gweill, ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n cyhoeddi hyn yn yr wythnos neu ddwy nesaf, o ran masnachfreinio bysiau. Mae Trafnidiaeth Cymru yn amcangyfrif y bydd gwasanaeth cyflym arfaethedig TrawsCymru yn cymryd tua phedair awr a thri chwarter—ni ellir cwyno am hynny o gwbl—gan dorri tua 90 munud o rai amseroedd teithio.
Mae'n rhaid i ni wella dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy ar hyd coridor gorllewinol Cymru, ond na foed inni fyth anghofio bod llawer o bobl eisiau i'r seilwaith ffyrdd fod yn hawdd i'w ddefnyddio, oherwydd mae yna lawer o bobl sydd wrth eu bodd efo'u ceir, wrth eu bodd yn gyrru eu ceir, ac mae'n rhaid i'r dewis yna fod ar gael. Ni allwn ni wthio pawb, ac rydw i wedi dweud hynny o'r blaen yma—. Fe wnaf i hepgor y Lycra, ond allwn ni ddim gwthio pawb ar feiciau, trenau a bysiau. Mae yna bobl a fydd eisiau defnyddio eu ceir. Ond mae'n rhaid i ni leihau'r amseroedd teithio— dyna'r peth mawr, mewn gwirionedd.
Ar hyn o bryd, ychydig iawn o alw sydd yna am drafnidiaeth gyhoeddus ar hyd y coridor arfaethedig, a dim ond 4 y cant o ymwelwyr i Gymru sy'n teithio ar fws neu goets ar hyn o bryd, felly mae gwaith i'w wneud yn hynny o beth. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru, mae angen i ni weld gwell buddsoddiad parhaus mewn seilwaith rheilffyrdd, seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig. Ni fydd gwella un dull o drafnidiaeth ar ei ben ei hun yn ddigon. Bydd dull cydgysylltiedig sy'n cryfhau rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a ffyrdd yn darparu'r manteision mwyaf i deithwyr, busnesau, twristiaeth a chymunedau ledled Cymru.
A wnewch chi ymrwymo i sicrhau, yn y dyfodol, bod yr holl seilwaith trafnidiaeth yn cael ei adolygu ochr yn ochr â'r adolygiad o'r rhwydwaith bysiau integredig rhwng gogledd a de Cymru? Allwch chi fod yn fwy penodol na 'hydref', oherwydd mae'r hydref, yn dechnegol, yn dymor tri mis? Allwch chi fod yn fwy penodol o ran pryd rydych chi'n meddwl y bydd y bysiau hyn yn dechrau gweithredu? Diolch yn fawr iawn, a diolch eto am gyflwyno hyn. Mae angen rhywfaint o newyddion da arnom ni yn y Siambr hon. Diolch.
Mae hi wastad yn wych pan gewch chi Janet yn wirioneddol siarad am ein datganiad i'r wasg. Mae'n gweithio'n eithaf da, felly rwy'n gwerthfawrogi hynny yn fawr, Janet, a diolch am eich cefnogaeth.
Mae pwynt cysylltu ehangach ynglŷn â sut rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod ein systemau trafnidiaeth yn gweithio gyda'i gilydd. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei dderbyn ac rwy'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud. Rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod hwn yn ateb ymarferol, pragmatig sy'n ymwneud â chyflawni hyn yn gyflym. Mae'n addas i bobl, mae pobl eisiau gweld hyn yn digwydd. Mae'n edrych fel bod galw amdano. Byddwn yn gweld hynny yn fuan o ran cyflawni hynny. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau ac mae'n rhaid i ni fynd â phethau ymlaen. Mae hyn yn gwneud yn union hynny. Roedd yn cyfateb i'n hymrwymiad 100 diwrnod, a bydd hyn yn cael ei gyflawni.
O ran 'pryd', rydym ni'n gweithio tuag at hynny. Rydyn ni wythnosau i ffwrdd o gyhoeddi 'pryd', ond rydym ni'n cynnal ymarfer caffael, felly bydd ond angen ichi fod fymryn yn fwy amyneddgar, ond nid am hir iawn. Rydym ni'n awyddus iawn i weithredu hyn cyn gynted ag y gallwn ni, rwy'n awyddus iawn i weithredu hyn cyn gynted ag y gallwn ni, fel y gall pobl ei ddefnyddio. Bydd y cyfnod archebu yn dechrau ychydig wythnosau cyn hynny, felly bydd pobl yn gallu cynllunio eu teithiau ychydig wythnosau cyn teithio i fynd ar y ffordd a'r bysiau i wneud hynny.
Rydych chi, fel pawb arall, wedi sôn am integreiddio. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ei gwneud hi'n glir bod integreiddio yn allweddol i wneud i hyn weithio. Dyna integreiddio gwahanol ddulliau. Gall rhywfaint ohono fod yn ymwneud â char—
Ai cyffwrdd wrth gyrraedd, a chyffwrdd wrth adael fydd hi?
Fe all fod yn gyffwrdd wrth gyrraedd a gadael. Rwyf wedi sôn am 'un tocyn'—mae hyn i gyd yn rhan o'r un system honno ac yn rhan o'r weledigaeth honno, sy'n rhywbeth rydym ni'n awyddus i'w gefnogi fel y gall Trafnidiaeth Cymru gyflawni hynny. Fe wnaethoch chi sôn am fasnachfreinio bysiau; mae hyn yn cysylltu â hynny yn eithaf clir yn hynny o beth. Ond rwyf yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth ynghylch hyn. Diolch.
Gaf i groesawu'r cyhoeddiad arbennig yma heddiw? Am lawer rhy hir, mae'r cysylltiad rhwng gogledd a de Cymru wedi bod yn annigonol, a dweud y lleiaf, o'i gymharu â chysylltiadau trawsffiniol. Mae'n parhau i fod yn sefyllfa hurt bost fod teithio o fewn ein gwlad ein hunain yn aml yn fwy anodd ac yn llai effeithlon na theithio drwy Loegr, rhywbeth sy'n tanseilio cydlyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Mae potensial gwirioneddol yma i drawsnewid y ffordd mae pobl yn symud ar hyd echelin gogledd-de Cymru, yn clymu Cymru'n un.
Hoffwn dynnu sylw at y gwerth o gynnwys lleisiau cymunedau lleol yn y broses o gynllunio a gweithredu. Drwy weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, defnyddwyr a busnesau, gall y Llywodraeth sicrhau bod y gwasanaeth yn adlewyrchu patrymau teithio go iawn ac yn ateb anghenion pobl o ddydd i ddydd. Yn ogystal, mae amlder y gwasanaeth yn allweddol i'w lwyddiant. Mae gwasanaeth cyflym yn gam mawr ymlaen, ond ei werth gwirioneddol ddaw pan fo'n rhedeg yn ddigon aml i fod yn ddewis ymarferol i bobl bob dydd.
Byddai'n gadarnhaol clywed sut bydd y Llywodraeth, mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, yn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn gallu ymateb ac esblygu yn unol â'r galw, yn enwedig ar adegau prysur neu yn ystod digwyddiadau mawr. Gaf i hefyd ychwanegu fy mod i'n croesawu'n fawr iawn brwdfrydedd fy nghydweithiwr i'r chwith i mi am yr angen am fuddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau yng Nghymru? Mae'n bechod o'r mwyaf nad oes gennym ni ddim mynediad at gronfeydd cyfalaf Ewropeaidd bellach i wireddu hynny.
Diolch am eich cwestiwn, Elwyn.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Rwy'n credu bod hyn—. Unwaith eto, mae yna lawer o ailadrodd. Rwy'n cytuno â chi, mae hwn yn gyfle i newid y ffordd rydym ni'n teithio. Mae'n fan cychwyn. Rydym ni'n bell iawn, i fynd yn ôl i'r pwynt a wnes i pan siaradais i â Janet, o gael hyn yn iawn, ond rydym ni ar y trywydd iawn—efallai mai dyna'r gair anghywir—rydym ni ar y trywydd iawn i ddangos ein bod ni'n gwneud cynnydd.
O ran nifer y teithwyr a gwneud yn siŵr ein bod yn cysylltu â phatrymau teithio go iawn, rydym ni wedi siarad â llawer o bobl, felly mae llawer o ymchwil wedi'i wneud. Ers cyflwyno hyn yn y cytundeb cydweithio, bu llawer o egni a bu cryn siarad am hyn a chryn weithio arno gydag awdurdodau lleol ac eraill, i wneud yn siŵr bod hyn yn cyd-fynd â'r gofynion. Felly, rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa lle mae gennym ni fan cychwyn da, ac fe welwn ni hynny yn yr arosfannau sydd wedi'u dewis hyd yn hyn. Ond mae hyn yn waith sydd ar y gweill. Fel y dywedais i yn fy ateb i Jason yn gynharach hefyd, mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei adolygu o ran sut y gallwch chi ei ehangu. Ond yr allwedd iddo yw cynyddu'r niferoedd teithwyr, a rhan o hynny yw gwneud yn siŵr bod pobl yn hyderus y bydd y gwasanaeth yno. Dyma pam rydym ni wedi gwneud yn siŵr, gyda chefnogaeth y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, fod yr arian yno i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yno a'i fod yn rheolaidd ac y gellir dibynnu arno. Rwy'n credu, felly, bod cyfleoedd i ni ymestyn y gwasanaeth hwnnw, unwaith y gallwn ni weld bod yna hyn a hyn o deithwyr. Rwy'n credu bod ganddo gyfle i fod yn wasanaeth masnachol gwirioneddol dros y tymor hir hefyd, wrth iddo gael ei ddefnyddio. Diolch. Diolch am y cwestiwn.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, ac mae'n wych gweld buddsoddiad yma yn ein gwasanaethau bysiau. Chwaraeais ran fach wrth hyrwyddo a sicrhau ein bod yn sicrhau'r tocyn bws o £1 i bobl ifanc, ac rwy'n gwybod, ar draws y Siambr, pan fyddwn yn gweithio ar y cyd, mewn gwirionedd, y gallwn ni wella bywydau pobl yma yng Nghymru. Felly, diolch yn fawr iawn.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at wasanaethau TrawsCymru, ond un o wasanaethau TrawsCymru sydd wedi mynd yn ôl mewn amser mewn gwirionedd yw'r gwasanaeth T4, sy'n mynd o'r Drenewydd i Gaerdydd—neu o leiaf yr arferai fynd—drwy Aberhonddu. Mae bellach yn stopio ym Merthyr, ac ym Merthyr, mae'n rhaid i chi ddod oddi ar y bws ac aros am fws arall, os ydych chi'n ffodus, neu drên o Ferthyr i Gaerdydd. Nawr, tra byddwch chi'n hyrwyddo ac yn buddsoddi mewn gwasanaeth newydd TrawsCymru, mae gennym ni broblem mewn gwirionedd, oherwydd mae llawer o'r trigolion ledled canolbarth Cymru yn dioddef oherwydd y gwasanaethau T4. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi: a allech chi sicrhau eich bod yn edrych ar y gwasanaeth hwnnw a sicrhau ein bod yn cael gwasanaeth yr holl ffordd o'r Drenewydd i lawr i Gaerdydd, sef yr hyn yr oeddem ni'n arfer ei gael? Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Jane. Mae hyn yn rhywbeth a ddygwyd i'm sylw, felly nid yw hyn yn newyddion i mi o gwbl. Ond cyn i mi fynd ymlaen at y cwestiwn yna, fe hoffwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth, yn enwedig am y tocynnau bws o £1. Pan wnes i gwrdd â holl lefarwyr y gwrthbleidiau, dyma'r peth cyntaf a ddywedoch chi pan ddaethoch i mewn i'r ystafell, ac ni allwn i gadarnhau ar y pryd, ond rydym ni'n gallu ei gadarnhau nawr, i ymestyn y gwasanaeth hwnnw. Felly, diolch am eich cefnogaeth ar hynny.
O ran y T4, rwyf eisoes wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio ar hyn ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru. Mae rhai materion masnachol ar waith yma, a dyna'r rheswm ein bod ni yn y sefyllfa rydym ni ynddo, ond nid wyf yn credu eu bod yn derfynol, ond efallai na fydd modd eu datrys nhw ar unwaith. Ond mae'n rhywbeth sy'n un o'm materion blaenoriaeth i'w ddatrys. Rwy'n cydnabod os ydym ni am i'r system drafnidiaeth hon weithio yn y ffordd rydym ni'n disgwyl iddo, ac mae'n ymddangos bod rhywfaint o gonsensws o gwmpas y Siambr ar gyfer hyn, yna mae angen i ni wneud yn siŵr, lle mae diffyg yn y gwasanaeth, ein bod yn ei ddatrys cyn gynted ag y gallwn ni. Diolch.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn fel cam pwysig ymlaen yn y rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy'n cysylltu pobl a chyfleoedd, ac yn cefnogi'r economi ac yn gwneud teithio yn haws. Ond bydd llwyddiant y weledigaeth honno yn dibynnu ar ba mor fforddiadwy ydyw, fel rydym ni wedi clywed yn gynharach. Dyna pam ei bod hi'n iawn cydnabod ymrwymiad Plaid Cymru i gadw prisiau bws yn isel, gan gynnwys y tocynnau sengl o £1 a £3 i blant a phobl ifanc. Felly, a allaf i gael sicrwydd pellach y bydd y gwasanaeth newydd hwn hefyd yn fforddiadwy, yn enwedig gan fod prisiau rheilffordd yn aml allan o gyrraedd llawer o deuluoedd a phobl ar incwm isel? Fe hoffwn i hefyd ofyn am ragor o fanylion ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i greu system gwbl integredig, gan gynnwys y tocynnau cyffwrdd wrth gyrraedd a gadael ac uchafswm prisiau tocynnau dyddiol ar y bysiau a'r rheilffyrdd, fel bod trafnidiaeth gyhoeddus yn symlach, yn decach ac yn fwy hygyrch? A sut fyddwch chi'n hyrwyddo'r gwasanaeth fel y bydd y cyhoedd yn ymwybodol ohono, yn ymddiried ynddo ac, wrth gwrs, yn ei ddefnyddio?
Diolch, Pred. Pob un o'r rhain—. Unwaith eto, mewn perygl o ailadrodd fy hun, mae mor bwysig ein bod ni'n prisio hyn yn iawn a'i fod yn hygyrch i bobl, ac mae pobl yn gwybod bod hwn yn dod yn ddewis sy'n cynnig gwerth llawer gwell am arian na chymryd eich car eich hun ac y bydd yn ddewis gwerth llawer gwell am arian na dewis y trên. Mae'r rhain yn bethau y mae angen i ni fod—. Ac yn enwedig i bobl sydd eisiau mynd â theuluoedd ac ati ar y daith hon hefyd, mae hwn yn ateb a ddylai ddatrys llawer o broblemau pobl. Un o'r grwpiau rwy'n credu y bydd yn debygol o ddefnyddio hyn fydd myfyrwyr, er enghraifft, wrth iddyn nhw deithio ar draws y wlad, felly dyma un o'r cyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig iddyn nhw hefyd.
Mae masnachfreinio bysiau yn rhoi cyfle i ni wneud y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud, a dyma lle mae angen i ni ddygnu arni a gwneud y gwaith caled i wneud yn siŵr bod gennym ni'r tocyn sengl a bod popeth mor weladwy i bobl. Oherwydd ar hyn o bryd, fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'n eithaf anodd i bobl groesi rhwng gwefan A, gwefan B, gwefan C, a gall geisio datrys y pethau hynny ar sgrin fod yn hynod anodd. Fe allwn ni wneud hynny'n llawer haws. Mae'r dechnoleg yn bodoli. Nid yw hyn yn ddyrys. Mae angen i ni gychwyn arni.
Ac mae angen i ni gael popeth—. Mae gennym ni sawl cwmni sy'n rhedeg ein rhwydwaith bysiau, fel y gwyddoch chi, a'n rhwydwaith bysiau nawr, felly mae'n rhaid i ni ddefnyddio masnachfreinio bysiau fel ffordd o allu eu hintegreiddio, ac integreiddio, integreiddio, integreiddio.
Diolch. Ac yn olaf, Anna Nicholl.
Diolch. A gaf i groesawu'n gynnes eich datganiad heddiw ar y gwasanaeth bysiau cyflym o'r gogledd i'r de sy'n darparu cysylltiadau llawer cyflymach, nid yn unig rhwng gogledd Cymru a de Cymru, ond i gymunedau yng ngorllewin Cymru. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i symud tuag at y math o system drafnidiaeth gydlynol ac, fel y dywedwch chi, cwbl integredig sydd ei hangen ar Gymru. Yn ganolog i'r weledigaeth honno yw sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl, a bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn gallu cael mynediad at y gwelliannau hyn ac elwa arnyn nhw. Ond er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon mewn gwirionedd, mae angen cysylltiadau da a phrydlon arnom ni hefyd i gysylltu pobl sy'n byw mewn trefi a phentrefi llai i'r llwybr cyflym hwn. Felly, a allwch chi, Ddirprwy Weinidog, ein sicrhau ni y bydd y gwasanaethau cyswllt hyn yn cael eu datblygu a'u cyd-ddylunio gan leisiau lleol?
Diolch am y cwestiwn, Anna. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth rydych chi newydd ei ddweud. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn—unwaith eto, rwy'n defnyddio'r gair integreiddio hwnnw, oherwydd mae hyn yn enfawr. Dyma beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddiant y gwasanaeth hwn neu fel arall—y gallu i bobl nad ydyn nhw ar y llwybr uniongyrchol allu cael mynediad at hyn. Felly, mae hyn yn ymwneud â gweithio ar y llwybrau sy'n cysylltu. Rydym ni'n gwybod yr amseroedd yn fras y byddan nhw'n cyrraedd. Rydym ni'n credu y gallai hyn gymryd tua awr—o leiaf awr—o'r daith, pe baech chi'n ei wneud, ar sawl llwybr bws ar hyn o bryd, byddai hyd at awr a hanner. Felly, rydym ni'n gwybod yr amseroedd y byddan nhw'n cyrraedd yn agos at y lleoedd eraill hynny, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y lleoedd eraill hynny wedi'u cysylltu. Ac mae swyddogion yn Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar hynny. Nawr, mae hyn yn rhan o'r dyluniad sy'n cael ei gynllunio heddiw. Rwy'n credu y bydd yna bethau y byddwn ni'n eu hadolygu wrth i ni ddechrau adeiladu ar y broses hon, ond mae ei adolygu a dysgu ohoni yn ganolog i hyn fod yn llwyddiant. Diolch yn fawr.
Diolch, Weinidog.
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: parodrwydd gaeaf 2026-27 ar gyfer iechyd a gofal. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n amlinellu heddiw sut rydyn ni'n paratoi ar gyfer gaeaf 2026-27. Rydyn ni wedi cynnal adolygiad llawn o aeaf 2025-26, a hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i staff ar draws yr NHS, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol am eu hymrwymiad a'u gwydnwch yn ystod gaeaf heriol. Ond mae'n rhaid inni fod yn onest hefyd. Roedd pwysau gweithredol sylweddol yn parhau ac roedd gormod o bobl yn profi oedi o ran cael gofal amserol. Roedd y pwysau hynny i'w weld yn yr oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, amseroedd aros hir mewn adrannau brys, gofal mewn coridorau a chyfnodau parhaus o bwysau dwys. I gleifion, mae'r pwysau hynny'n effeithio ar eu diogelwch, eu profiad a’u canlyniadau.
Fel Llywodraeth newydd, rydyn ni'n cymryd camau newydd i wneud yn siŵr bod gwersi'n cael eu dysgu o'r gaeaf diwethaf, a bod y paratoadau ar gyfer y gaeaf hwn yn digwydd yn gynharach, eu bod nhw’n gryfach a’u bod nhw’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau gwell. Er hynny, mae'r pwysau rydyn ni wedi eu gweld ar draws y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn ystod y cyfnod diweddar o wres eithafol yn ein hatgoffa ni nad her ar gyfer y gaeaf yn unig ydy gwydnwch y system. Mae'r galw a'r risg yn amrywio drwy gydol y flwyddyn, ond yn aml iawn mae modd rhagweld y rhain, boed yn salwch sy'n gysylltiedig â gwres, pwysau salwch anadlol y gaeaf neu ddigwyddiadau byr o benllanw sy'n gysylltiedig â phoblogaethau dros dro.
Dyna pam mae'r Llywodraeth newydd hon yn symud i ddull mwy aeddfed, gydol blwyddyn, gan wneud yn siŵr bod capasiti yn cyd-fynd â'r galw a ragwelir a bod gwasanaethau yn barod ar gyfer pwysau tymhorol ble bynnag y byddan nhw'n codi. Mae hyn yn golygu symud y tu hwnt i ganolbwyntio’n gul ar y gaeaf, gan ddefnyddio dull cynllunio parhaus sy'n seiliedig ar ddata, lle mae modd addasu i risgiau sy'n newid drwy gydol y flwyddyn.
Rydyn ni’n disgwyl i fyrddau iechyd a phartneriaid gynllunio ar sail rhagolygon credadwy ynglŷn â'r galw, addasu capasiti yn gynharach a gweithredu cyn i'r pwysau effeithio ar ofal cleifion. Erbyn 2030, dylai'r dull hwn fod wedi’i ymgorffori'n llawn, fel bod gwasanaethau'n barod, pwysau yn cael eu rhagweld a chleifion yn cael gofal o ansawdd uchel bob dydd, ymhob man. Bydd hynny'n lleihau pwysau dwys y mae modd ei osgoi, yn gwneud yn siŵr bod cleifion yn ddiogel ac yn cryfhau gwydnwch drwy gydol y flwyddyn.
Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, gallaf sicrhau'r Senedd bod y gwaith caled i sicrhau bod ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach drwy oerfel y gaeaf sydd i ddod eisoes wedi dechrau. Y wers gliriaf o'r gaeaf diwethaf yw bod gwytnwch yn dibynnu ar gapasiti dibynadwy yn y rhannau cywir o'r system ar yr adeg iawn, yn enwedig yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr. Y gaeaf hwn, rydym ni'n rhoi mesurau newydd ar waith i gryfhau cynllunio, cyflawni a sicrwydd ar draws y system gyfan. Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom ni osod nod clir o wella ar gyfer y gaeaf: gofal brys ac argyfwng mwy diogel, mwy gwydn ac sy'n canolbwyntio'n fwy ar y person. Mae hynny'n golygu lleihau'r amser a dreulir o dan bwysau eithafol, mynd i'r afael â gofalu ar y coridor, gwella llif cleifion drwy'r ysbytai a chryfhau cymorth cymunedol, yn enwedig i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw gydag eiddilwch.
Mae angen cynllunio cadarn nawr, fel bod y system yn barod ar gyfer galw mawr oherwydd heintiau anadlol yn hytrach nag ymateb unwaith y bydd pwysau'n dechrau cynyddu. Felly, rydym ni wedi gosod pum maes blaenoriaeth newydd ar gyfer partneriaid a byrddau iechyd.
Yn gyntaf, gofal eiddilwch rhagweithiol yn y gymuned. Gall nodi pobl sydd â'r risg fwyaf yn gynharach, a'u cefnogi'n gynt, atal dirywiad y gellir ei osgoi, lleihau derbyniadau brys a diogelu capasiti acíwt i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae brechu yn parhau i fod yn un o'n hamddiffynfeydd cryfaf yn erbyn salwch y gaeaf. Byddwn yn gweithredu'n gynnar, yn targedu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl, yn cefnogi brechu ymhlith staff iechyd a gofal, ac yn diogelu plant a grwpiau agored i niwed trwy gyflwyno brechiadau mewn modd cynhwysfawr. Rydym ni eisoes wedi cymryd camau, gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol yn cyflwyno ehangu'r brechlyn firws syncytial anadlol i'r rhai dros 65 oed sydd mewn perygl clinigol, a rhaglen frechu grŵp B meningococol cyfyngedig mewn amser. Bydd y rhaglen frechu MenB hon yn darparu amddiffyniad ychwanegol i bobl ifanc risg uwch cyn cyfnod brig MenB dros y gaeaf. Byddwn yn parhau i weithredu ar y cyngor gwyddonol diweddaraf ac yn darparu gwybodaeth gyhoeddus glir, dibynadwy. Byddwn hefyd yn penodi cyfarwyddwr cenedlaethol ar gyfer gofal y tu allan i'r ysbyty. Mae gwaith ar y gweill gyda Perfformiad a Gwelliant Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i ddylunio'r swydd hon, a fydd yn sbarduno newid system a diwylliant.
Yn ail, mae'n rhaid i ni amddiffyn capasiti acíwt ysbytai. Mae hyn yn hanfodol i ddiogelwch cleifion, gofal brys amserol ac atal pwysau rhag cynyddu ar draws y system ehangach. Rydym ni'n gosod disgwyliadau cliriach i wella trosglwyddo cleifion o'r ambiwlans trwy sbardunau uwchgyfeirio, goruchwyliaeth amser real a chefnogaeth benodol i'r safleoedd sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Rhaid i fyrddau iechyd ddarparu digon o gapasiti gwelyau acíwt yn unol â'r galw a ragwelir. Am y tro cyntaf, bydd uned Perfformiad a Gwelliant y Gwasanaeth Iechyd yn cefnogi cynllunio senarios ar gyfer ffliw, firysau anadlol a phwysau sy'n gysylltiedig â heintiau, gyda chamau cryfach i leihau cau wardiau sy'n gysylltiedig ag achosion.
Yn drydydd, mae rhyddhau diogel heb oedi yn flaenoriaeth graidd ar gyfer y gaeaf. Pan fydd pobl nad oes angen gofal acíwt arnyn nhw bellach yn gallu gadael yr ysbyty yn brydlon, mae'r llif yn gwella, mae'r risgiau sy'n gysylltiedig ag arhosiad hir yn cael eu lleihau ac mae gwelyau ar gael i'r rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf. Bydd byrddau iechyd yn cyflwyno cynlluniau gwella newydd yr wythnos nesaf, gan nodi sut y byddant yn blaenoriaethu rhyddhau diogel yn gynnar ac ar y penwythnos, gyda chefnogaeth gwasanaethau saith diwrnod a phartneriaeth gref gyda gofal cymunedol. Byddwn hefyd yn cryfhau llwybrau rhyddhau trwy ddull cartref yn gyntaf, gofal cam-i-lawr ac adsefydlu cymunedol, gyda chefnogaeth gofal cartref, ailalluogi, gwasanaethau cymunedol a chapasiti cartrefi gofal.
Yn bedwerydd, mae parodrwydd cynnar a gafael gweithredol cryf yn hanfodol. Rydym ni'n symud o uwchgyfeirio adweithiol i reoli'r system yn rhagweithiol, gyda gafael cryfach ar y system gyfan i ragweld a rheoli pwysau cyn iddo effeithio ar ddiogelwch cleifion. Am y tro cyntaf, rydym ni wedi gosod disgwyliad bod yn rhaid i gynlluniau'r gaeaf gael eu profi am straen ym mis Medi ac yn barod i'w cyflawni'n llawn pan fydd y pwysau'n cynyddu.
Yn bumed, rhaid i sefydliadau gefnogi lles a gwydnwch staff yn ystod pwysau parhaus, gan gynnwys trefniadau ymarferol fel cludiant ar gyfer staff hanfodol mewn tywydd garw.
Mae’n rhaid i fyrddau iechyd a phartneriaid gefnogi a chynnal eu gweithlu, gan wneud yn siŵr bod staff yn cael eu harwain yn dda, yn cael eu defnyddio'n dda ac yn cael eu cefnogi'n briodol fel y gallan nhw barhau i ddarparu gofal diogel ac amserol o dan bwysau. Ddirprwy Lywydd, ni all yr un sefydliad wneud y pethau yma ar ei ben ei hun. Mae gwydnwch y gaeaf yn dibynnu ar gael system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cydweithio'n effeithiol. Rydym ni wedi gosod disgwyliadau clir yn genedlaethol fod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn rhannu gwybodaeth reolaidd am y gwasanaethau sydd ar gael a'u capasiti, gyda chefnogaeth cydweithio gryfach drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae cynlluniau ar gyfer dull cyfathrebu cenedlaethol newydd a chydgysylltiedig yn cael eu datblygu, gyda’r nod o roi cyngor clir i'r cyhoedd ar sut i gael mynediad at ofal, helpu pobl i gael y gefnogaeth iawn y tro cyntaf a lleihau'r pwysau y mae modd ei osgoi ar wasanaethau rheng flaen.
Yn olaf, mi fyddwn ni'n canolbwyntio’n gryf ar gyflawni a chanlyniadau. Mae’n rhaid cael disgwyliadau clir a sicrwydd rheolaidd bod cynlluniau'n arwain at well canlyniadau. Dwi wedi gofyn am asesiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf ar gyfer pob rhanbarth erbyn dechrau'r hydref, a bydd hynny'n llywio unrhyw gamau pellach sydd eu hangen ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
Mae ein huchelgais yn glir: gofal brys ac argyfwng mwy diogel, sy'n canolbwyntio ar y person ac sy’n wydn. Mi fyddwn ni'n cyflawni hyn drwy leihau cyfnodau o bwysau dwys, mynd i'r afael â gofal mewn coridorau, gwella llif drwy ysbytai a chryfhau gofal cymunedol, yn enwedig i bobl hŷn a'r rheini sy'n byw gyda bregusrwydd. Bydd y system gofal cymunedol integredig yn ganolog i gyflawni'r uchelgais hwnnw, gan gefnogi mwy o wasanaethau cymunedol di-dor fel y gall mwy o bobl aros gartref neu ddychwelyd adref yn gynt ar ôl arhosiad heb ei gynllunio yn yr ysbyty. Bydd hyn yn gofyn am gydweithio parhaus ar draws yr NHS yng Nghymru, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol, ac mi fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod y system yn barod ac yn wydn. Byddaf i'n rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau yn yr hydref.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad, ac rwyf yn croesawu'r ffaith bod paratoadau ar gyfer y gaeaf wedi dechrau'n gynnar, oherwydd os oes un peth rydym i gyd yn ei wybod, y ffaith na ellir datrys pwysau'r gaeaf ym mis Rhagfyr pan mae'r system eisoes dan straen yw hwnnw. Ond mae gen i bryder ynghylch y datganiad hwn, sef ein bod ni wedi clywed llawer o hyn o'r blaen. Pe bawn i'n cau fy llygaid a newid yr acen ychydig, yr Ysgrifennydd iechyd blaenorol allai fod wedi bod yn cyflwyno'r datganiad hwn, oherwydd rydym wedi clywed o'r blaen am y system gyfan yn gweithio gyda'i gilydd, gwell llifoedd, rhyddhau'n gynnar, cymorth cymunedol, llwybrau eiddilwch, brechu, gorchymyn a rheolaeth gryfach. Mae'r rheini i gyd yn nodau synhwyrol, ond dim ond os byddan nhw'n dod gyda'r capasiti, y gweithlu, y cyllid, yr atebolrwydd a'r targedau cyflawni clir y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth, oherwydd rydym wedi dweud hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn: os nad yw'r pethau hynny ar waith gennym, byddwn ni'n gweld yr un problemau ag sydd gennym ni. Ac mae'r ffigurau yn dangos mai dyna pam mae'n bwysig. Ym mis Mai, roedd ychydig dros 98,000 o bresenoldebau mewn adrannau brys yng Nghymru, a dim ond 64 y cant o gleifion gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr, pan mai'r targed yw 95 y cant. Mae hynny ymhell islaw lle y mae angen iddo fod. Ac arhosodd 11,000 o'r cleifion hynny 12 awr neu fwy, er gwaethaf y targed na ddylai unrhyw glaf aros unman yn agos at hynny. Dydy'r pwysau hyn ddim wedi'u cyfyngu i'r gaeaf; maen nhw eisoes wedi'u hymwreiddio yn y system ymhell cyn i'r gaeaf ddechrau.
Mae Archwilio Cymru hefyd wedi rhybuddio bod gofal brys a gofal argyfwng yng Nghymru o dan bwysau cyson. Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2026, dim ond un o bob pump o gleifion a gyrhaeddodd ysbyty mewn ambiwlans a gafodd eu trosglwyddo o fewn 15 munud, er bod y targed yn 100 y cant. Ym mis Mawrth 2026, yr amser cyfartalog ar gyfer trosglwyddo o ambiwlans oedd awr a 38 munud, ac fe eisteddoch chithau a minnau trwy ddatganiad gan y Gweinidog iechyd blaenorol a nododd na fyddai neb yn aros mewn ambiwlans. Felly, dydyn ni ddim yn taro'r targed hwnnw—ddim unman yn agos ato. A dydy hyn ddim yn ddiogel. Dydy e ddim yn ddiogel i gleifion, dydy e ddim yn deg i'r criwiau ambiwlans sy'n cael eu gadael yn gofalu am gleifion y tu allan i ysbytai, yn hytrach nag ymateb i'r argyfwng nesaf y mae angen iddyn nhw fynd iddo. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog Cabinet: sut ydych chi'n mynd i wella hyn cyn i'r gaeaf ddod? Oherwydd dydyn ni ddim eisiau dechrau ar y llinell sylfaen isel yr ydym arni nawr.
Mae'r Gweinidog hefyd yn sôn am leihau'r gofal a roddir mewn coridorau, ac rwy'n croesawu hynny, ond a all nodi sut y bydd gofal mewn coridor yn cael ei fesur y gaeaf hwn? Faint o gleifion gafodd eu trin mewn coridorau y gaeaf diwethaf? Dydy'r niferoedd ddim gennym ni. Beth yw'r llinell sylfaen a pha ostyngiad y mae'n disgwyl ei weld erbyn mis Ionawr? Oherwydd, oni bai ein bod ni'n ei fesur yn iawn, mae risg ein bod ni'n siarad am roi terfyn ar ofal mewn coridor pan fo cleifion yn parhau i'w brofi ddydd ar ôl dydd.
Mae'r Gweinidog hefyd yn sôn am ddiogelu capasiti ysbytai. Unwaith eto, rwy'n cytuno â'r egwyddor, ond hoffwn wybod pa welyau ychwanegol fydd ar gael y gaeaf hwn, ble y byddan nhw ar gael ac a fyddan nhw'n cael eu staffio'n briodol. Dydy gwely heb staff ddim yn gapasiti, a dydy cynllun gaeaf heb weithlu ddim yn gynllun gaeaf o gwbl. Fe wnaethoch chi sôn am dimau cymunedol, ond mae angen mwy o nyrsys, meddygon teulu, rhyngweithio â gofal cymdeithasol. Rydym i gyd yn gwybod bod angen cyllid ychwanegol ar y meysydd hynny i gryfhau timau cymunedol, ond wnes i ddim clywais yn y datganiad a oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn mynd i gael ei roi i gryfhau'r gweithlu.
O ran rhyddhau cleifion, mae Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at raddfa'r broblem: bu'n rhaid i 1,400 o gleifion aros yn yr ysbyty am fwy na 48 awr ar ôl iddyn nhw fod yn ffit i fynd adref. Mae hynny wedi costio tua £172 miliwn i'r GIG. Ac mae Archwilio Cymru wedi dweud, pe baen ni'n gallu lleihau oedi wrth ryddhau cleifion 15 y cant, y gallai £26 miliwn o adnoddau gael eu rhoi yn ôl i'r GIG i'n helpu gyda phwysau'r gaeaf. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog: pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd gydag awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol nawr i gynyddu gofal cartref, ailalluogi, gofal cam-i-lawr a chapasiti cartrefi gofal cyn i'r gaeaf daro? Dydy e ddim yn ddigon i ddweud 'cartref yn gyntaf' os nad yw'r pecyn gofal yno; dydy e ddim yn ddigon i ddweud 'rhyddhau saith diwrnod' os nad yw therapi, fferylliaeth, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol ar gael saith diwrnod yr wythnos, a dydy e ddim yn ddigon i ddweud wrth ysbytai i wella'r llif os yw'r tagfeydd yn eistedd y tu allan i furiau'r ysbyty.
Rwyf hefyd yn croesawu'r ffocws ar frechu, ond, unwaith eto, hoffwn gael y manylion. Beth yw'r targedau derbyn sy'n cael eu gosod ar gyfer brechu? Sut y bydd y Gweinidog iechyd yn sicrhau bod mwy o staff iechyd a gofal yn manteisio ar hyn, a pha gamau y mae'n mynd i'w cymryd a pha fesurau sy'n mynd i gael eu cymryd o gwmpas hynny?
Mae'r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at brofion straen. Fe wnaf i wirio'r amser, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at gynnal profion straen ar gynlluniau'r gaeaf ym mis Medi. Mae hynny'n synhwyrol. Ond pryd y bydd yn cyhoeddi canlyniadau'r asesiadau hynny yn ôl ardal bwrdd iechyd fel y gall Aelodau a'r cyhoedd weld, yn gywir ddigon, pa rannau o'n gwasanaeth iechyd sy'n barod ar gyfer y gaeaf a pha rannau sydd ddim—ac fe wnaf i orffen yn y fan yma—oherwydd mae angen atebolrwydd priodol? Os bydd bwrdd iechyd yn mynd i mewn i'r gaeaf hwn heb ddigon o welyau, heb lwybr rhyddhau diogel, heb gynllun gweithlu a heb fod â rheolaeth dros drosglwyddiadau ambiwlans, beth sy'n digwydd? Rydym yn gweld tagfeydd yn y system a phobl ddim yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Felly, os gallai'r Gweinidog ateb fy nghwestiynau ar y rheini, byddwn i'n ddiolchgar iawn. Diolch yn fawr.
Ddirprwy Lywydd, mae yna nifer o gwestiynau perthnasol iawn yn y fan yna ac fe wnaf i geisio fy ngorau i fynd trwy gymaint ohonyn nhw ag y gallaf yn yr amser sydd gennyf. Ac fe fyddaf i'n profi eich amynedd, rwy'n gwybod, oherwydd rwyf wedi bod yn siarad cryn dipyn y prynhawn yma. Rwy'n hoffi'r ffaith eich bod chi wedi croesawu'r datganiad. Mae hynny bob amser yn dda i'w glywed. Fodd bynnag, unwaith eto, byddwn i'n anghytuno â'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am glywed hyn o'r blaen, oherwydd, yn amlwg, dydych chi ddim. Rydym yn dechrau'r broses yn gynharach. Dydy hynny ddim wedi digwydd o'r blaen. Rydym yn modelu pethau fel ffliw, unrhyw achosion o'r ffliw, fel bod byrddau iechyd yn barod. Dydy hynny ddim wedi digwydd o'r blaen. Rydym yn cynllunio ymlaen llaw, nid dim ond ar gyfer eleni, ond am flynyddoedd ymlaen llaw. Dydy hynny ddim wedi digwydd. Ac mae rhannau eraill o'r datganiad yn amlwg yn ffyrdd newydd, diwylliant newydd rydym yn ei gyflwyno wrth baratoi ymlaen llaw yn hytrach na bod yn adweithiol.
Rydych chi'n hollol iawn bod angen i ni edrych ar ofal mewn coridor. Mae'n annerbyniol. Fe gyfeiriais i at hynny yn fy natganiad blaenorol a byddwn ni'n edrych ar wella'r broses o gasglu data. Mae hynny'n rhan allweddol o'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni fel Llywodraeth, fel bod gennym ni'r llinell sylfaen honno a'n bod ni'n nodi'n union beth sydd angen i ni ei wneud i'w ostwng. Ond, o ran gofal mewn coridor, rydym yn gwybod ei fod yn ddull system gyfan y mae angen i ni ei gyflwyno yn gynharach yn y system, mewn gofal sylfaenol, ac mae angen i ni ryddhau pobl o ysbytai, sy'n dod â ni at y pwynt y gwnaethoch chi ei godi ynglŷn â rhyddhau. Dyna pam y byddwn ni'n cyflwyno mwy o gyfle i ryddhau ar y penwythnos fel bod mwy o bobl yn gadael ysbytai yn gynt, oherwydd rydym yn gwybod mai'r unig reswm y dylai pobl aros mewn gwely ysbyty yw os oes gwelliant clinigol. Os nad oes unrhyw werth ychwanegol clinigol yn deillio o'u hamser yn y gwely, yna mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu rhyddhau fel eu bod yn gwella gartref.
Ac o ran brechiadau, ydw, rwy'n falch o'r ffaith y byddwn ni'n gwella'r broses gyflwyno. Rydym eisoes wedi gweld hynny gyda'r Dirprwy Weinidog dros atal a gofal sylfaenol yn sicrhau bod gennym ni'r cyllid ar gyfer brechiadau menB, ac rydym yn ehangu'r broses o gyflwyno RSV hefyd. Felly, bydd hynny'n gwella canlyniadau yma yng Nghymru.
Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad? Rwy'n eich canmol am gyflwyno'r datganiad mor gynnar. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai eich cyd-Aelodau, yn enwedig y rhai sydd â phortffolios cyflawni, wneud hynny hefyd. Rwy'n credu bod gwydnwch rhag pwysau'r gaeaf a chynllunio ar gyfer tywydd garw yn rhywbeth sy'n effeithio ar lawer o wasanaethau, a byddai'n ddefnyddiol iawn, yn fy marn i, i ni glywed gan eich cyd-Aelodau.
Wrth gwrs, mae cynllunio ar gyfer misoedd y gaeaf yn ymestyn y tu hwnt i'ch cyfrifoldebau craidd; mae'n dibynnu ar nifer o Weinidogion eraill yn gwneud cynlluniau ac yn gwella'r ddarpariaeth lle bynnag a phryd bynnag y bo angen. Er enghraifft, mae lleddfu pwysau ar ofal eilaidd yn dibynnu ar sicrhau bod y ffyrdd ar agor ac yn glir yn ystod misoedd y gaeaf. Mae'n ymwneud â sicrhau bod awdurdodau lleol wedi'u paratoi'n dda i allu delio â phwysau ym maes gofal cymdeithasol. O ran addysg, os na all staff aros a gweithio am fod eu plant i ffwrdd o'r ysgol oherwydd tywydd garw, yna mae'n effeithio ar y ddarpariaeth a'r capasiti adnoddau dynol mewn ysbytai. Ac yna, wrth gwrs, bydd brechiadau mewn ysgolion yn dylanwadu ar faint o bwysau fydd ar y GIG hefyd. Felly, byddai gwybod gan y Gweinidog addysg pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod cymaint â phosibl o frechiadau yn cael eu rhoi mewn ysgolion yn ddefnyddiol iawn. Yn yr un modd, cymorth y trydydd sector. Mae'n hanfodol bwysig hefyd fod y sector masnachol yn ymwneud yn llawn â'r gwaith o gynllunio ar gyfer y gaeaf, ac rwy'n meddwl yn benodol am fferyllfeydd ledled Cymru, sy'n gwneud cymaint dros gleifion ac sy'n gwneud cymaint i leddfu'r pwysau ar wasanaethau craidd y GIG.
Nawr, byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i gael cynllun traws-lywodraethol ar gyfer tywydd garw a pharodrwydd ar gyfer y gaeaf oherwydd y rhyng-ddibyniaethau ar draws portffolios. Rwy'n credu, hefyd, na ellir gorbwysleisio rôl meddygon teulu yn ystod misoedd y gaeaf; maen nhw mor bwysig wrth wneud yn siŵr bod pobl nad oes angen iddyn nhw gael eu derbyn i ysbytai yn gallu cael eu trin. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ynghylch y llwyth gwaith gormodol sydd gan feddygon teulu a sut y gellir eu cefnogi trwy fisoedd y gaeaf.
Fe ofynnodd James Evans lawer o'r cwestiynau eraill roeddwn i'n mynd i'w codi, ac rwy'n ddiolchgar am yr atebion. Ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod a oes unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gael i gefnogi'r mesurau, y mesurau ychwanegol, yr ydych wedi'u hamlinellu heddiw.
Yn olaf, wrth gwrs, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n cadw pobl mewn cartrefi cynnes er mwyn osgoi'r angen iddyn nhw gael eu derbyn i ysbytai. Felly, byddai'n fuddiol iawn, rwy'n credu, i glywed gan eich cyd-Aelod, y Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol, ynghylch unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru y gaeaf hwn i sicrhau nad yw pobl yn dioddef o gartrefi oer. Diolch.
Ddirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiynau yna.
Diolch am y pwyntiau hynny a godwyd gennych. Ac mae'n bwynt pwysig iawn y gwnaethoch ei godi; mae llinyn eich cyfraniad yn ymwneud â sicrhau ein bod ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth, yn chwalu'r seilos hynny ac yn gwneud yn siŵr bod pawb yn chwarae rôl wrth sicrhau bod pobl yn cael canlyniadau gwell ac yn derbyn gofal dros y gaeaf. Ac mae hynny'n genhadaeth i'r Llywodraeth hon—ein bod ni'n chwalu'r seilos hynny. Fe wnes i ddatganiad i'r Cabinet ar ein parodrwydd ar gyfer y gaeaf. Felly, mae pob Aelod o'r Cabinet yn ymwybodol o'r hyn rydym yn ei wneud ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu rôl wrth sicrhau bod pob adran yn paratoi ar gyfer y gaeaf. Ac mae gennym y Gweinidog cyflawni a'r Dirprwy Weinidog dros iechyd ataliol yn gweithio ar draws portffolios i sicrhau ein bod ni'n cyflawni ar y materion hyn.
Yr hyn y gwnaethoch ei grybwyll am y meddygon teulu—. Mae yna lwyth gwaith gormodol i feddygon teulu. Rydym yn gwybod ein bod ni'n is na lle mae angen i ni fod o ran niferoedd meddygon teulu yng Nghymru. Mae cwestiwn ehangach ynglŷn â chymorth i feddygon teulu, a dyna pam rydym yn llunio pecyn i helpu meddygon teulu yng Nghymru, a fydd yn cynnwys recriwtio 100 o feddygon teulu ychwanegol ledled Cymru i helpu i leddfu'r beichiau a'r straen y maent yn dioddef oddi tanyn nhw. Ond bydd hefyd yn cynnwys pethau fydd yn helpu gyda'r ystad meddygon teulu ac yn sicrhau bod cymorth ar gael i'w galluogi i wneud y gwaith maen nhw eisiau ei wneud, sef gofalu am gleifion.
O ran cyllid ychwanegol, rydym eisoes wedi gwneud cyhoeddiad ar y brechiadau menB, a bydd hynny'n cael ei gyflwyno'n fuan hefyd.
Diolch, Weinidog Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith, hefyd, fod y datganiad wedi'i gyflwyno ymhell ymlaen llaw, cyn anterth y gaeaf, a bod sôn am gael cynllun cadarn cyn i ni ddod at fisoedd y gaeaf. Mae'n newid braf o amserlen y Llywodraeth flaenorol, pan gawson ni glywed am barodrwydd ym mis Hydref.
Er fy mod i'n nodi pum prif nod y Gweinidog Cabinet a amlinellir yn y datganiad ar gyfer cynllun y GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer pwysau'r gaeaf, mae angen tri pheth sylfaenol arnom hefyd: mae angen gweithlu arnom, mae angen seilwaith arnom ac mae angen data da arnom. Weinidog Cabinet, rydym wedi clywed sawl gwaith gan y GIG bod yna bwysau trwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn y gaeaf, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi adleisio hynny yn eich datganiad hefyd.
Rydym i gyd yn gwybod bod diffyg staff ar draws pob sector yn y GIG wedi creu straen aruthrol ar y gweithlu, ac mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ofal cleifion. Rwy'n nodi eich bod chi wedi sôn bod yn rhaid i fyrddau iechyd gynnal a chefnogi eu gweithlu, ond dim ond yr wythnos diwethaf, gwnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfod, er bod cleifion dementia yn cael eu trin gyda charedigrwydd a pharch yn ysbyty Llandochau, roedd safonau glendid gwael, peryglon amgylcheddol, a gwendidau hefyd o ran atal heintiau. Y rheswm am hyn? Diffyg staff.
Rydym wedi gweld bod recriwtio parafeddygon wedi'i rewi a bod hanner y graddedigion nyrsio yn annhebygol o gael gwaith. Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr wedi dweud bod rhannau o Gymru yn wynebu rhai o'r prinderau mwyaf difrifol o arbenigwyr canser unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a'r wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd hefyd ffigurau damniol sy'n tynnu sylw at y sefyllfa enbyd y mae gweithlu GIG Cymru yn ei hwynebu. Er enghraifft, nid yw 306 o fyfyrwyr nyrsio fydd yn graddio ym mis Medi wedi cael swydd yn y GIG yng Nghymru. Ni fydd hyd yn oed mwy o fydwragedd sydd wedi hyfforddi'n ddiweddar yn cael cynnig rôl. Er enghraifft, ni fydd 36 o raddedigion yng Nghaerdydd a'r Fro yn cael rolau oherwydd bod bydwragedd o'r llynedd wedi cael oriau llawn amser, oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae rhai bydwragedd wedi cael eu gorfodi i ymgymryd â swyddi lletygarwch rhan-amser i dalu eu costau. A bod yn onest, mae hyn yn hurt. Yng ngoleuni hyn, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi galw am weithredu ar unwaith, gan gynnwys mwy o dryloywder ynghylch y ffordd y caiff y gweithlu ei gynllunio a gwell cydlynu rhwng y GIG a Llywodraeth Cymru.
Rwyf wir yn croesawu'r ffaith y byddwch chi'n cyhoeddi cam cyntaf cynllun y gweithlu yn yr hydref. Sut fyddwch chi'n cynnwys pwysau'r gaeaf a pharodrwydd ar gyfer y gaeaf yn eich cynllun, Weinidog Cabinet? Oherwydd dydw i wir ddim eisiau clywed am uwchgynhadledd arall yn gorfod digwydd ar ôl hyn.
O ran seilwaith, Weinidog Cabinet, eich ymateb uniongyrchol i bryderon gwirioneddol am ystad adfeiliedig y GIG yr wythnos diwethaf oedd mynnu costau gan feinciau'r wrthblaid. Tra rydym yn gweld achosion lle mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn cau oherwydd problemau cyflenwi dŵr, mae llawdriniaethau'n cael eu canslo oherwydd bod gan theatrau blâu colomennod, ac mae wardiau yn cau oherwydd achosion o norofeirws dro ar ôl tro—rwyf wedi codi hyn yn gynharach heddiw—pa gynlluniau ydych chi'n eu gwneud i fynd i'r afael â'r pryder difrifol ac uniongyrchol sydd yma nawr?
Rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn wynebu trafferthion ariannol, yn ogystal â thrafferthion oherwydd diffyg staff a'r seilwaith gwael rwyf wedi siarad amdanyn nhw. Rydych chi wedi etifeddu gwasanaeth cyhoeddus a gafodd ei redeg yn ofnadwy gan Lywodraeth flaenorol Cymru, Weinidog—allaf i ddim gwadu hynny—lle mae byrddau iechyd yn dal i adfer o'r pandemig chwe blynedd yn ôl, ac mae pob un ohonyn nhw'n destun rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Rydych chi wedi sôn am y cyllid ychwanegol o £100 miliwn i fynd i'r afael â rhestrau aros. Fodd bynnag, roedd chwech o'r saith bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg erbyn diwedd mis Mawrth diwethaf. Cyfanswm yr arbedion y rhagwelir y mae angen i fyrddau iechyd eu gwneud yw cyfanswm o £213 miliwn, ac mae un bwrdd iechyd, Bae Abertawe, wedi rhagweld diffyg o £76.6 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Ysgrifennydd Cabinet, y realiti yw hyn: mae byrddau iechyd wrthi'n ailgynllunio gwasanaethau, gan gynnwys israddio a chau, er mwyn arbed arian. Pa mor dda ydych chi'n meddwl y bydd y gwasanaethau newydd hyn yn gwneud yn ystod misoedd y gaeaf? Sut ydych chi'n meddwl y bydd gwasanaethau adrannau damweiniau ac achosion brys yn ymdopi y gaeaf hwn mewn ardaloedd lle mae cleifion yn fwy tebygol o fynd os nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewisiadau eraill?
Weinidog Cabinet, rhan arall o fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf yw data. O apwyntiadau meddygon teulu ac atgyfeiriadau at ysbytai i bresgripsiynau, mae angen system sy'n rhedeg yn llyfn yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy'n rhedeg y system, mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ac mae'n chwalu'n rheolaidd. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, gall y rhain—ac rwy'n dyfynnu'r geiriau hyn nawr, fod yn—
'aflonyddgar iawn i bractisau ac i gleifion...a gall gymryd oriau i adfer ohonynt.'
Felly, Weinidog Cabinet, yn eich ymateb i'n dadl yr wythnos diwethaf, sylwais eich bod wedi sôn bod angen technoleg i gefnogi staff y GIG. Yn anffodus, yn yr achos hwn, dydy e ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Felly, Weinidog Cabinet, fel rhan o'r cynllunio rydych chi'n ei wneud, pa gamau uniongyrchol ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod hyd yn oed swyddogaethau sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn rhedeg yn esmwyth dros fisoedd y gaeaf?
Yn olaf, Weinidog Cabinet, un o'r prif bethau sy'n achosi pwysau'r gaeaf yw cyflyrau'r ysgyfaint. Rwy'n nodi eich bod chi wedi sôn am gynllunio senarios ar gyfer ysbytai i atal heintiau ar y ward, fodd bynnag, fel pwynt cyffredinol, mae Asthma and Lung UK Cymru wedi dweud bod derbyniadau anadlol 40 y cant yn uwch yn y gaeaf, a thros yr 20 mlynedd diwethaf, mae derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer salwch anadlol wedi dyblu. Mae 6,000 o dderbyniadau anadlol bob gaeaf yn ymwneud â phlant, gydag un o bob pedwar derbyniad yn ymwneud â phlentyn o dan 10 oed. Yn anffodus, Weinidog Cabinet, mae llawer o'r materion hyn yn codi oherwydd bod diffyg gofal sylfaenol. Mae llai na chwarter o oedolion a thraean o blant yn derbyn gofal digonol. At hynny, mae'r derbyniadau hyn wedi cael eu disgrifio fel rhai y gellir eu hosgoi a rhai sy'n fwyfwy drud, gan roi mwy o faich ar ein GIG yma yng Nghymru.
Felly, Weinidog Cabinet, rwy'n croesawu eich sylwadau ar fwy o frechiadau yn eich datganiad, ond pa negeseuon y bydd eich Llywodraeth yn eu rhoi ar frechlynnau ac atal yn y dyfodol, ac a fyddwch chi'n buddsoddi mewn capasiti diagnostig ar gyfer ymyrraeth gynnar ar gyflyrau anadlol? Diolch.
Diolch am y pwyntiau hynny a godwyd gennych, Natasha. Ddirprwy Lywydd, mae bob amser yn braf clywed geiriau caredig ar ddechrau pob cyfraniad, ac unwaith eto, rwy'n croesawu'r geiriau cynnes a gafwyd gan Natasha.
Mae yna ambell bwynt sylfaenol a gododd yn y cyfraniad y byddwn i'n cytuno â nhw, gan gynnwys yr angen i nodi gofynion y gweithlu o fewn y system. Rydym wedi nodi'r problemau wrth gynllunio'r gweithlu yn eithaf clir. Dyna pam rydym wedi dweud y byddwn ni'n datblygu cynllun y gweithlu, cynllun cynhwysfawr ar gyfer y gweithlu, ar gyfer y GIG cyfan, fel ein bod ni'n glir ynghylch ble mae angen staff, ar ba adeg, i wneud beth. Felly, bydd y cynllun gweithlu lefel uchel hwnnw yn cael ei gyflwyno, fel y dywedais i, yn gynnar yn yr hydref, fel y gallwn ni nodi ble mae angen i'r bobl hynny fod yn ystod y cyfnod yna yn y gaeaf.
Ond, yn ystod y cyfraniad, soniodd yr Aelod am y mater ynghylch y graddedigion. Dydw i ddim eisiau ailadrodd fy hun eto, oherwydd rwyf wedi trafod mater yr uwchgynhadledd graddedigion sawl gwaith a'r ffaith nad yw'r mater sy'n ymwneud â'r graddedigion yn dderbyniol, ond mae'n ymwneud â 2022, ac fe fydd yn cymryd peth amser i weithio drwy'r system. Felly, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda chyrff cynrychioliadol—Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r byrddau iechyd—i geisio gwneud yn siŵr na fydd hyn yn digwydd eto, a bod cymaint o leoedd â phosibl yn cael eu canfod ar gyfer y graddedigion hyn, oherwydd cafodd addewid ei wneud iddyn nhw, ac mae angen i ni geisio datrys y broblem, a etifeddwyd gennym, ac anrhydeddu cymaint o'r addewidion hynny â phosibl.
Unwaith eto, soniodd yr Aelod am yr hyn a etifeddwyd gennym, o ran yr ystad yn yr achos hwn, ac mae'n ôl-groniad o £1.5 biliwn. Rydym wedi bod yn glir unwaith eto mai ein blaenoriaeth yw trwsio rhannau brys yr ôl-groniad hwnnw, a dyna pam, trwy ein cyllideb gwariant cyfalaf, rydym yn gweithio'n gyflym i ddatrys cymaint o'r rheini â phosibl. Mae'r un peth yn wir am y dechnoleg. Fe welson ni yr wythnos diwethaf, gyda'r gwres eithafol a gawson ni, rhai problemau ynghylch diagnosteg yn methu â gweithredu'n iawn oherwydd y gwres, ac rydym yn gwybod y bydd hynny'n digwydd eto pan ddaw i'r gaeaf, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym systemau diagnostig gwell. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi'r £20 miliwn i wella diagnosteg, a'r gofodau theatr, a rhywfaint o'r ôl-groniad sydd gennym o ran y rhestrau aros, i wneud yn siŵr bod y rheini mor gyfredol â phosibl.
Ac o ran heintiau yr ysgyfaint, yn sicr, rydych chi'n iawn: mae'n broblem fawr yn y gaeaf. Dyna pam rydym yn gweithio, yn chwalu'r seilos hynny i lawr, fel y soniais i yn gynharach, yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, yn gweithio gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno ôl-ffitio yn gyflym. Ond, yn y tymor byr, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan bobl ag asthma y cynlluniau asthma hynny, eu bod yn gyfredol, eu bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn gweithredu a bod ganddyn nhw'r pympiau sydd eu hangen, fel nad ydyn nhw'n dioddef yn y gaeaf.
Diolch. Cwestiynau hyd at un funud, Becca Martin.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog Cabinet a'r pwyslais ar gynllunio ymlaen llaw ar gyfer pwysau tymhorol. Fel y dywedwyd, y ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu capasiti'r GIG yw atal salwch a derbyniadau i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Yn fy etholaeth i, Clwyd, mae teuluoedd yn cael eu gwasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac felly hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad blaenorol. Fel pob rhan o Gymru, mae'r rhanbarth yn wynebu pwysau sylweddol yn y gaeaf bob blwyddyn, ac rydym yn gwybod mai rhaglenni brechu yw un o'r ymyriadau mwyaf costeffeithiol sydd ar gael i leihau'r galw ar bractisau meddygon teulu, gofal brys ac ysbytai.
Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai dim ond 43.7 y cant o blant dwy a thair oed yng Nghymru gafodd y brechlyn ffliw y gaeaf diwethaf. Ni chafodd mwy na 34,000 o blant cymwys eu brechu, er bod plant ifanc yn chwarae rôl sylweddol wrth ledaenu'r ffliw trwy deuluoedd a chymunedau. Er bod Betsi Cadwaladr yn mynd ati i annog pob plentyn dwy a thair oed cymwys i gael y brechlyn chwistrell trwynol trwy eu practisau meddygon teulu, mae'r nifer sy'n manteisio ar hynny yn gymharol isel o hyd. A all y Gweinidog amlinellu pa waith sy'n cael ei wneud gyda byrddau iechyd a gofal sylfaenol i sicrhau capasiti ar gyfer y rhaglen brechu rhag y ffliw cyn-ysgol, a pha ymdrechion ychwanegol fydd yn cael eu gwneud i annog rhieni plant dwy a thair oed i fanteisio ar y cynnig?
Rhywfaint o newyddion da am yr hyn a ddywedwyd: mae amcangyfrifon diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 46.1 y cant o blant dwy a thair oed wedi cael y brechiad, sy'n gynnydd o 2.5 y cant, ochr yn ochr ag amcangyfrif o 150,000 o frechiadau ffliw ychwanegol a roddwyd ar draws yr holl garfannau cymwys y llynedd, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ond ar y pwynt penodol a gododd yr Aelod, mae pob bwrdd iechyd yn datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb wrth fanteisio ar frechlynnau, ac mae hyn yn cynnwys trefniadau lleol ar gyfer eu darparu mewn lleoliadau meithrin mewn sawl ardal. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo y dylai plant gael eu brechu cyn gynted â phosibl ym mis Medi, gydag ymgyrch ar y cyd i roi brechiadau i blant erbyn diwedd mis Tachwedd. Mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'n partneriaid yn y GIG, wedi ymrwymo i barhau â'r gwelliant cadarnhaol hwn yn y niferoedd sy'n cael eu brechu a sicrhau bod y rhaglen ffliw yn cael ei chyflawni'n effeithiol eleni.
Weinidog Cabinet, unwaith eto, rwy'n adleisio meddyliau fy nghyd-Aelod. Diolch eto am eich datganiad cynnar a'ch uchelgeisiau a'ch disgwyliadau. Pan wnaethoch chi annerch y Siambr ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch chi fod y GIG wedi cyrraedd un o'r pwyntiau mwyaf ansicr yn ei hanes. Fe wnaethoch chi addo symud y tu hwnt i'r hyn y gwnaethoch chi ei alw'n 'atebion plastr glynu tymor byr' a chyflawni diwygiadau parhaol, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi eich penderfyniad.
Yn anffodus, mae'r gaeaf wedi datblygu arfer annifyr o wrthod darllen y datganiadau i'r wasg a roddir gan y Llywodraeth ac rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â sicrwydd gweinidogol bod y GIG yn barod, er na fyddwn ni'n gwybod hynny tan yr asesiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn yr hydref. Bob blwyddyn, rydym yn gweld y pwysau cyfarwydd: ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai, adrannau brys dan straen annerbyniol, cleifion yn cael eu rhyddhau ar frys a llawdriniaethau sydd wedi'u cynllunio yn cael eu gohirio. Rwy'n siŵr bod pawb yma yn gobeithio y bydd y cynigion yn llwyddo, ond dydy bwriadau da, uchelgeisiau a disgwyliadau ddim yn cadw ambiwlansys i symud na chleifion allan o goridorau. Nid pa mor uchelgeisiol y mae cynllun y gaeaf yn swnio ym mis Mehefin yw'r prawf. Y prawf yw a yw cleifion yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth pan mae'r pwysau ar ei uchaf ym mis Ionawr.
Felly, Weinidog, sut y byddwch chi'n dangos bod y cynigion yn gweithio? Pa gerrig milltir interim y byddwch chi'n eu defnyddio i fonitro a yw cynllun y gaeaf yn llwyddo? Pa bwyntiau sbarduno ydych wedi'u nodi a fyddai'n dangos bod y GIG yn dod o dan bwysau annerbyniol, a pha gymorth ychwanegol y bydd yn cael ei roi os cyrhaeddir y pwyntiau sbarduno hynny? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny ac, ydy, mae'r GIG mewn sefyllfa ansicr ac rydym wedi gweld llawer gormod o blastrau glynu yn cael eu rhoi ar y GIG. Yr hyn wnaeth fy nharo i pan ges i fy mhenodi i'r rôl hon oedd y ffaith bod gan Lywodraethau blaenorol ymateb adweithiol i bopeth ac nad oedd gennym unrhyw weledigaeth hirdymor ar gyfer y GIG yng Nghymru. A dyna'r gwahaniaeth rydym yn ei gyflwyno nawr: rydym yn datblygu cynlluniau tymor hir, nid yn unig ar gyfer eleni, ond rydym yn edrych ar wersi a ddysgwyd i fynd ymlaen am y blynyddoedd nesaf hefyd. Dyna pam rydym wedi gofyn i gyflwyno'r modelu hwnnw y soniais amdano: pan ddaw i achosion o'r ffliw, COVID-19, feirws syncytiol anadlol, ein bod ni'n eu modelu, mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda Perfformiad a Gwella GIG Cymru i weld yr effaith ar eu hysbytai, ar gapasiti gwelyau, eu modelu nhw ym mis Medi, dysgu o'r modelau, fel ein bod ni'n barod pan fydd yna achosion o'r ffliw neu COVID-19, eu bod nhw'n barod ar gyfer y digwyddiadau hynny. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn yr hydref, ond rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am faterion penodol ynghylch y data y byddwn yn ei gasglu, os yw'r Aelod yn dymuno.
Hoffwn eich llongyfarch, Weinidog, am wneud hyn pan mae'r haf ar ei anterth, dim ond wythnos ar ôl i ni i gyd bron â phobi i farwolaeth yn yr union Siambr hon. [Chwerthin.] Ond, niferoedd y gwelyau. Nid yn gymaint yr eliffant yn yr ystafell, ond y mamoth yn y Siambr. Mae gennym un o'r niferoedd isaf o welyau yn Ewrop, dim ond 3.4 fesul 1,000 o'i gymharu â chyfartaledd yr UE o 4.3 i 4.7, sy'n gwneud cronfa ffisiolegol y system mor fregus. Ac oherwydd hyn, bob gaeaf, sydd eto yn tueddu i ddod unwaith y flwyddyn, rydym wedyn yn cael ein gwthio dros yr ymyl bron oherwydd hynny. Ac mae'r eliffant hwnnw yn yr ystafell yn gysylltiedig â gofal cymdeithasol. Rwy'n casáu'r term 'bedblockers', oherwydd mae'n awgrymu bod rhywfaint o fai ar gleifion am fod yno, ond mae pobl—. Rydym hefyd yn clywed gan ochr Reform am yr oedi wrth ryddhau cleifion, a'r achos eithaf o oedi wrth ryddhau cleifion yw bod yn sownd yn yr ysbyty nid cymaint am ddyddiau, ond am wythnosau a misoedd, oherwydd diffyg lleoliad. Yng ngoleuni hyn, pa sicrwydd y gallaf ei gael gan y Gweinidog Cabinet bod gwaith yn cael ei wneud tuag at system gofal genedlaethol i Gymru? Diolch.
Ddirprwy Lywydd, ein blaenoriaeth gyntaf yw deall sut rydym yn defnyddio ein gwelyau, sef y pwynt cyntaf a godwyd gan yr Aelod. Mae'n rhaid i ni gael dealltwriaeth glir a rennir o'n capasiti gwirioneddol o ran gwelyau, wedi'i chefnogi gan wybodaeth a data cadarn. Ac os nad oes gennym reolaeth dros y llif hwnnw mewn ysbytai, allwn ni ddim darparu gofal diogel, amserol, ac mae defnydd uchel cyson yn glinigol anghynaliadwy ac yn sbardun i niwed. Mae'r dystiolaeth yn glir bod lleihau hyd arosiadau a rhyddhau cleifion yn ddiogel heb oedi yn allweddol i wella canlyniadau, profiad a rhyddhau capsiti acíwt hanfodol ein hysbytai. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella'r llif yn ein hysbytai. Mae hynny hefyd yn golygu edrych ar achosion o ryddhau, y soniais amdanyn nhw'n gynharach, sicrhau bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau o'r ysbyty saith diwrnod yr wythnos, a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gennym ofal gartref. Mae fy Dirprwy Weinidog yn gweithio ar gyflymder nawr i sicrhau ein bod ni'n darparu'r gofal iechyd a chymdeithasol cyfunol hwnnw, fel nad oes gennym y bylchau sydd gennym ar hyn o bryd yn y system, lle mae pobl yn mynd ar goll a lle dydyn nhw ddim yn cael y gofal maen nhw'n ei haeddu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym welyau yn y gymuned—gwelyau cam i lawr—a gofal gartref, fel y gallwn ni sicrhau llif pobl allan o'r ysbyty i wella canlyniadau.
Weinidog Cabinet, mae'n wych eich clywed chi'n defnyddio'r geiriau 'diogelwch', 'gwydnwch', 'cynllunio cadarn' a llawer mwy. Fel rhywun a dreuliodd lawer o aeafau i mewn ac allan o'r ysbyty oherwydd problemau anadlol, rwyf wedi gweld drosof fi fy hun sut olwg sydd ar ysbyty'r Mynydd Bychan—Ysbyty Athrofaol Cymru, wrth gwrs; 'Heath' rydym ni fel pobl leol yn ei alw yma. Rydym wedi parhau i glywed pryderon difrifol am yr amodau sydd wedi cael eu codi gan staff, gan undebau, gan y cyhoedd, ac, wrth gwrs, rydym i gyd wedi gweld y tyllau yn y nenfydau a'r bwcedi yn dal y glaw. Ac, wrth gwrs, mae staff wedi sôn yn aml am ba mor anodd yw hi i symud pobl o gwmpas yr ysbyty oherwydd bod y lifftiau ddim yn gweithio.
Rwy'n cydnabod na all ailadeiladu ddigwydd cyn y gaeaf hwn, ond a allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i ni y byddwch yn canolbwyntio ar wydnwch a diogelwch cleifion a'ch bod yn derbyn bod cyflwr presennol ysbyty'r Mynydd Bychan yn peri risg gynyddol i'r cyhoedd? A wnewch chi gadarnhau bod ailadeiladu yn gwbl angenrheidiol a nodi pa gamau pendant y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd?
Mae'r mater o gyflwr ysbyty'r Mynydd Bychan wedi cael ei godi sawl gwaith yn y Siambr hon, ac rwy'n cytuno, mae mewn cyflwr gwael, i'r graddau y mae angen i ni weld gwelliannau yn digwydd yn gyflym yno. Dyna pam rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr ôl-groniad brys hwnnw yn cael ei sortio. Oherwydd, yn anffodus, dydy'r materion yn ysbyty'r Mynydd Bychan ddim yn unigryw, ac nid dim ond i ysbyty'r Mynydd Bychan y maen nhw'n berthnasol.
Mae'n debyg mai'r cyflwr gwaethaf sydd gennym mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd yw yng Nglangwili. Ond os edrychwch chi ar y gogledd, mae gennym ni broblemau yn y gogledd hefyd, yn ogystal ag yn Aneurin Bevan, ac ar draws yr ystad. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod pob ysbyty yn addas i dderbyn cleifion a bod cleifion yn gallu cael y driniaeth orau y gallan nhw ei chael. Dyna pam rydym yn canolbwyntio ar yr ôl-groniad hwnnw, fel y dywedais.
O ran ailddatblygu'r Mynydd Bychan, fel y mae pethau'n sefyll, dydyn ni ddim wedi derbyn cynllun gan y bwrdd iechyd i ofyn am ailddatblygu. Hyd nes y cawn ni rywbeth fel yna, does dim cynllun wedi'i gyflwyno.
Diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad heddiw.
Rwy'n falch o weld y datganiad hwn yn cael ei wneud mor gynnar, oherwydd, fel y soniwyd, ni chafodd y math hwn o ddatganiad ei wneud gan Lywodraeth flaenorol Cymru tan fis Hydref, ac erbyn hynny roedd y gaeaf eisoes rownd y gornel. Weinidog Cabinet, allwn ni ddim siarad am barodrwydd ar gyfer y gaeaf heb sôn am dlodi tanwydd, gan fod y ddau yn mynd law yn llaw. Mae tua 340,000 o aelwydydd yng Nghymru—un o bob pedair—mewn tlodi tanwydd. Ac yfory, bydd y sefyllfa'n gwaethygu. Mae Ofgem yn codi'r cap ar brisiau ynni 13 y cant, a fydd yn ychwanegu £18 y mis at y bil cyfartalog. I gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, does ganddyn nhw ddim yr arian hwnnw. A phan na all pobl wresogi eu cartrefi, maen nhw'n mynd yn sâl. Maen nhw'n mynd i'n hysbytai, gan roi pwysau ar wasanaethau iechyd sydd eisoes wedi'u hymestyn bob gaeaf. Felly, Weinidog Cabinet, beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad oes rhaid i neb yng Nghymru ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi a'u hiechyd?
Mae'r neges yn berffaith glir gan yr Aelod—ni ddylai neb orfod dewis rhwng gwresogi eu tai a gwarchod eu hiechyd. Mae sicrhau bod y Llywodraeth yma yn gweithredu yn drawsadrannol er mwyn sicrhau ei bod yn gwella canlyniadau iechyd pobl Cymru yn greiddiol i'n cenhadaeth ni. Dyna pam fod y Prif Weinidog wedi penodi Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb dros atal afiechyd a iechyd cyhoeddus, gan weithio efo'r gwahanol Weinidogion ar y meinciau yma, er enghraifft y Gweinidog tai a chynllunio ar wella ansawdd tai trwy gynyddu retrofit. Mi fyddwn ni hefyd yn cyflwyno cynlluniau wedi'u targedu, ymyriadau iechyd cyhoeddus effeithiol, ac integreiddio gwell rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a chefnogaeth ynni, er mwyn cynorthwyo cynifer o bobl â phosib i aros yn gynnes, yn iach ac yn ddiogel.
Ac yn olaf, Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch hefyd am y datganiad.
Mae'n wych clywed cymaint o sôn am bethau sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol. Mae hynny'n mynd i'n helpu ni os gallwn ni gael pobl allan o'r ysbyty, ond hefyd eu hatal rhag mynd i mewn yn y lle cyntaf. Oherwydd rydym yn gwybod, y Nadolig diwethaf, bod 558 yng Nghymru wedi treulio'r amser hwnnw yn yr ysbyty pan oeddent yn barod i fynd adref yn glinigol. Roedd hynny'n golygu nad oedd cannoedd o bobl gyda'u teuluoedd adeg y Nadolig am nad oedden nhw'n gallu cael gofal cymdeithasol. Ac fel rydym wedi'i glywed, dydy'r ffigurau ddim wedi symud yn sylweddol. Felly rwy'n falch iawn o glywed y bydd ffocws ar ofal cymdeithasol.
Ond tybed a allaf ofyn i chi, Weinidog, os yw hynny'n iawn, am ysbytai cymunedol a gwelyau cymunedol. Mewn ardaloedd gwledig, rydym yn gwybod eu bod nhw mor bwysig er mwyn cael pobl allan o'r wardiau acíwt hynny, eu helpu i gael cyfle i adsefydlu yn y gwelyau cymunedol hynny, ac i fynd adref. Felly, a gaf fi ofyn am sicrwydd gennych nad oes unrhyw gynlluniau i leihau nifer y gwelyau cymunedol neu i leihau'r capasiti yn ein hysbytai cymunedol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n berffaith iawn dweud bod angen canolbwyntio ar ofal cymdeithasol a gwneud yn siŵr bod gennym ni y ddarpariaeth yna er mwyn bod pobl yn medru mynd allan. O ran niferoedd gwelyau, rydyn ni wedi ymrwymo i edrych, fel ro'n i'n sôn, ar y gwelyau sydd gennym ni yn y system i gyd er mwyn adnabod beth ydy'r angen, ble mae angen y gwelyau hynny. Ond pan mae'n dod i'r gymuned, rydw i wedi bod yn berffaith glir bod darpariaeth gwasanaethau step down, er enghraifft, ar gyfer helpu pobl rhwng bod yn yr ysbyty yn cael eu triniaeth a mynd adref, yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth iechyd sydd gennym ni. Dydy o ddim ar gyfer pawb. Y gobaith ydy cael cynifer o bobl adref â phosibl, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhoi gofal yn y cartref iddyn nhw. Ond i'r rhai hynny sydd angen gofal ychydig yn fwy dwys, mae angen y ddarpariaeth step down yna yn ein cymunedau ni, ac mi rydyn ni'n edrych ar hynny fel rhan o'r datrysiad.
Diolch, Weinidog, a diolch i chi am eich cyfraniadau heddiw. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:52.