Y Cyfarfod Llawn

Plenary

30/06/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

[R] indicates that the Member has declared an interest when tabling the business.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Huw Irranca-Davies) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Prynhawn da. Good afternoon, everybody.

Prynhawn da. Prynhawn da, bawb.

Croeso nôl. Rydyn ni'n dechrau nawr gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, cwestiwn 1, Francesca O'Brien.

Welcome back. We will begin this afternoon with questions to the First Minister. The first question is from Francesca O'Brien. 

Recriwtio yn y Sector Addysg
Recruitment in the Education Sector

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio yn y sector addysg? OQ64315

1. What steps is the Welsh Government taking to improve recruitment in the education sector? OQ64315

Supporting the education workforce is central to our mission to raise standards and give learners the best foundation for their futures. I was pleased to join the Cabinet Minister for Education and the Welsh Language on 11 June to announce that we have delivered our 100-day commitment to increase the priority subject incentive for student teachers to £20,000 from September, to support recruitment across Wales.

Mae cefnogi'r gweithlu addysg yn ganolog i'n cenhadaeth i godi safonau a rhoi'r sylfaen orau i ddysgwyr ar gyfer eu dyfodol. Roeddwn i'n falch o ymuno â'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ar 11 Mehefin i gyhoeddi ein bod ni wedi cyflawni ein hymrwymiad 100 diwrnod i gynyddu'r cymhelliant pwnc blaenoriaeth i athrawon dan hyfforddiant i £20,000 o fis Medi ymlaen, er mwyn cefnogi recriwtio ledled Cymru.

I thank the First Minister for his answer. First Minister, the previous Labour Government introduced a £5,000 grant available exclusively to student teachers on the basis of their ethnicity—not their subject specialism, not their ability, not their potential, but solely their ethnicity. After four years, the Welsh Labour Government's own data shows the scheme has done almost nothing. Meanwhile, a fifth of children leaving primary school in Wales are unable to read properly and our Programme for International Student Assessment scores have hit record lows compared to the rest of the UK. Your manifesto promises better incentives for trainee teachers and your new Government has already quietly rolled out this grant forward into 2026-27. First Minister, will this Government continue paying public money to recruit teachers on the basis of race rather than merit, or will you finally commit to a teacher recruitment system that judges every candidate by the same standard, as the people of Wales deserve?

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Brif Weinidog, cyflwynodd y Llywodraeth Lafur flaenorol grant o £5,000 sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant ar sail eu hethnigrwydd yn unig—nid eu harbenigedd pwnc, nid eu gallu, nid eu potensial, ond eu hethnigrwydd yn unig. Ar ôl pedair blynedd, mae data Llywodraeth Lafur Cymru ei hun yn dangos bod y cynllun wedi gwneud bron dim byd. Yn y cyfamser, nid yw un o bob pump plentyn sy'n gadael yr ysgol gynradd yng Nghymru yn gallu darllen yn iawn ac mae ein sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi cyrraedd lefelau isaf erioed o gymharu â gweddill y DU. Mae eich maniffesto yn addo gwell cymhellion i athrawon dan hyfforddiant ac mae eich Llywodraeth newydd eisoes wedi cyflwyno'r grant hwn yn dawel ymlaen i 2026-27. Brif Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth hon barhau i dalu arian cyhoeddus i recriwtio athrawon ar sail hil yn hytrach na theilyngdod, neu a wnewch chi ymrwymo o'r diwedd i system recriwtio athrawon sy'n barnu pob ymgeisydd yn ôl yr un safon, fel y mae pobl Cymru yn ei haeddu?

The manifesto on which I stood promised to put steps in place to incentivise the recruitment of teachers. That's exactly what we have done. We need more teachers. I hope that we can agree on that. We have taken measures through identifying specialist areas already. We also need to make sure that we reach into communities from which not enough teachers have been coming. We also need to make sure that our teaching workforce reflects the population of Wales, where I think, on this particular issue, 2 per cent of the existing teaching workforce identify as being from an ethnic minority compared with 12 per cent of learners. So, making sure that the workforce reflects the pupils is very important too, but there are lots of different ways in which we are determined to incentivise teachers, because we need the best ones in place to improve education standards. That's exactly what we do.

Roedd y maniffesto y gwnes i sefyll ar ei sail yn addo rhoi camau ar waith i gymell recriwtio athrawon. Dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud. Mae angen mwy o athrawon arnom ni. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gytuno ar hynny. Rydym ni wedi cymryd mesurau drwy nodi meysydd arbenigol eisoes. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod ni'n estyn allan i gymunedau nad oes digon o athrawon wedi bod yn dod ohonyn nhw. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr bod ein gweithlu addysgu yn adlewyrchu poblogaeth Cymru, lle rwy'n credu, ar y mater penodol hwn, y mae 2 y cant o'r gweithlu addysgu presennol yn nodi eu bod yn dod o leiafrif ethnig o'i gymharu â 12 y cant o ddysgwyr. Felly, mae gwneud yn siŵr bod y gweithlu yn adlewyrchu'r disgyblion yn bwysig iawn hefyd, ond ceir llawer o wahanol ffyrdd yr ydym ni'n benderfynol o gymell athrawon, oherwydd mae angen y rhai gorau arnom ni i wella safonau addysg. Dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud.

Mae ysgolion yn Ngŵyr Abertawe yn nodi cynnydd mewn absenoldeb, sy'n arwain at gynnydd mewn pryderon ynghylch anxiety—pryder—a iechyd meddwl sy'n gysylltiedig. Mae clod mawr i John Davies fan hyn, achos ei synied ef oedd e ein bod ni'n mynd rownd ysgolion Gŵyr Abertawe i weld beth oedd y problemau, so ein bod ni'n gallu gweld beth rydyn ni'n gallu gwneud amdanyn nhw. Mae'r absenoldebau yn achosi problemau dysgu, problemau i rieni a phroblemau i athrawon. Yn amlwg, mae'r rhain i gyd yn gwneud dysgu yn anoddach fyth, ac yn effeithio ar nid dim ond recriwtio ond ar gadw athrawon yn y swydd hefyd. Pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi athrawon gyda hyn a’u helpu i aros mewn swyddi? Diolch.

Schools in Gŵyr Abertawe are reporting an increase in school absences, leading to increasing concerns regarding anxiety and related mental health issues. A great deal of praise is due to John Davies, because it was his idea that we go around the schools in the constituency to see what the problems are, to see what we can do about them. These absences lead to problems in terms of learning, problems for parents and problems for teachers. Clearly, all of these things make teaching even more difficult, impacting on not only recruitment, but teacher retention as well. What steps will the Government take to support teachers and to help them to remain in their posts? Thank you.

Dwi'n llongyfarch yr Aelodau lleol am sicrhau eu bod nhw'n mynd i ysgolion i ddeall beth ydy'r heriau sy'n cael eu hwynebu. Mae presenoldeb rheolaidd, rydyn ni'n gwybod, yn hanfodol ar gyfer cyfranogiad, ar gyfer cyflawniad addysgol a lles disgyblion. Rydyn ni'n canolbwyntio ar nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny cyn gynted â phosib, gan alluogi plant a phobl ifanc i fynychu'r ysgol, cymryd rhan mewn dysgu a chyflawni eu potensial llawn. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn gweithio i fynd i'r afael yn benodol ag achosion sylfaenol absenoldeb, gan gynnwys drwy rannu gwybodaeth yn well a thynnu ynghyd y partneriaid sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen yn y maes yma—gwasanaethau addysg, lles a chymorth—gwella ymgysylltu drwy wneud hynny, ac, yn y pen draw, gobeithio lleihau absenoldeb.

I congratulate the local Members for ensuring that they do go to schools to see what the challenges are. Regular attendance, we know, is crucial for participation, educational achievement and pupil welfare and well-being. We are focused on tackling those barriers as soon as possible, enabling children and young people to attend school, to participate in learning and to achieve their full potential. The Cabinet Minister for Education and the Welsh Language is working specifically to address the fundamental causes of pupil absence, including better information sharing and drawing together the partners required in order to make progress in this area—education, well-being and support services—thereby improving engagement and, ultimately and hopefully, reducing pupil absence.

I will say that ethnic minorities are under-represented in the teaching workforce. That leads to poor outcomes, and I'm very proud of the steps that the last Labour Government took to try and address that. I'm grateful to the First Minister for carrying on that funding.

However, First Minister, on a different issue, you mentioned your flagship announcement early this year to improve recruitment in the education sector. It's a move that has been widely criticised. The National Association of Head Teachers described the plans as a sticking-plaster solution and warned that it risks creating a two-tier workforce. Incredibly, it seems that the plan doesn't require teachers to stay in the profession for a certain period of time having received the financial incentives proposed.

Fe wnaf i ddweud bod lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y gweithlu addysgu. Mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwael, ac rwy'n falch iawn o'r camau a gymerodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf i geisio mynd i'r afael â hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am barhau â'r cyllid hwnnw.

Fodd bynnag, Brif Weinidog, ar fater gwahanol, fe wnaethoch chi sôn am eich cyhoeddiad blaenllaw yn gynnar eleni i wella recriwtio yn y sector addysg. Mae'n gam sydd wedi cael ei feirniadu yn eang. Disgrifiodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon y cynlluniau fel ateb plastr glynu a rhybuddiodd ei fod yn arwain at berygl o greu gweithlu dwy haen. Yn anhygoel, mae'n ymddangos nad yw'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon aros yn y proffesiwn am gyfnod penodol o amser ar ôl derbyn y cymhellion ariannol a gynigir.

Felly, Brif Weinidog, allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau gawsoch chi gydag undebau llafur athrawon cyn cyhoeddi'r cynlluniau yma? Rydych chi wedi dweud eich bod chi eisiau gweithio mewn partneriaeth. Beth oedd y trafodaethau gafwyd? Pam na wrandawoch chi ar y consýrn maen nhw wedi ei godi, os gwnaethoch chi gwrdd â nhw? Os na wnaethoch chi gwrdd â nhw, yna sut ydych chi nawr yn mynd i ddysgu'r gwersi?

So, First Minister, could you tell us, First Minister, what discussions you had with the teaching unions before announcing these plans? You said that you want to be working in partnership. What were those discussions that you had? Why didn't you listen to the concerns that they have expressed, if you met with them? If you didn't meet with them, then how are you now going to be learning those lessons?

13:35

Beth wnaf i ddweud ydy, wrth gwrs, fod y Gweinidog dros addysg yn cyfarfod cynrychiolwyr undebau drwy'r amser. Mae partneriaeth efo undebau yn rhywbeth pwysig. Mae'n Weinidog sydd, yn digwydd bod, â phrofiad o weithio yn y maes hwnnw ei hun. Felly, all neb gyhuddo'r Gweinidog addysg yma o beidio parchu'r berthynas efo undebau'r athrawon. Ar ddiwedd y dydd, mae yna fwriad neu mae yna nod gennym ni yma, fel Llywodraeth, i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio, a cham cyntaf ydy hwn, wrth gwrs, fydd yn arwain at adeiladu'r incentives rydyn ni'n bwriadu eu rhoi mewn lle, oherwydd mae athrawon presennol angen gwneud yn siŵr eu bod nhw yn cael eu cefnogi. A rhan fawr o'r gefnogaeth yna ydy gwneud yn siŵr bod yna wytnwch ar draws y gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd.

What I will say is that, of course, the Minister for education meets union representatives all the time. Partnership with unions is important. She is a Minister who happens to have experience of working in that area herself. So, nobody could accuse this education Minister of not respecting the relationship with trade unions. At the end of the day, it is our aim here, as a Government, to address the recruitment challenges and this is a first step, of course, which will lead to developing the incentives that we intend to put in place, because the current teaching workforce needs to be supported. And a large part of that support is to ensure resilience across the education workforce in Wales.

Gwyn Williams was absolutely right to point to the challenge around retaining our hard-working teachers at the moment as well, First Minister. A recent survey by one teaching union showed that 38 per cent of teachers here in Wales have experienced some sort of violence in the classroom in the last 12 months, and a number of teachers are now telling us that one of the significant reasons why they're leaving the profession is because of violence and terrible behaviour in the classroom. So, First Minister, what will you do to tackle these challenges that teachers are experiencing in the classrooms, so that our teachers can feel safe doing the job that they love to do?

Roedd Gwyn Williams yn gwbl gywir i dynnu sylw at yr her o ran cadw ein hathrawon gweithgar ar hyn o bryd hefyd, Brif Weinidog. Dangosodd arolwg diweddar gan un undeb athrawon fod 38 y cant o athrawon yma yng Nghymru wedi dioddef rhyw fath o drais yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae nifer o athrawon bellach yn dweud wrthym ni mai un o'r prif resymau pam maen nhw'n gadael y proffesiwn yw oherwydd trais ac ymddygiad ofnadwy yn yr ystafell ddosbarth. Felly, Brif Weinidog, beth fyddwch chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau hyn y mae athrawon yn eu dioddef yn yr ystafelloedd dosbarth, fel y gall ein hathrawon deimlo'n ddiogel yn gwneud y gwaith y maen nhw wrth eu boddau yn ei wneud?

I think the Member is absolutely right, and it's why the party that I lead has spoken so clearly about needing that holistic approach, that wraparound approach, to giving both pupils and teachers the support that they need, and, of course, tackling violence in the school environment is something that is hugely important. The Member is quite right to point out, of course, that there is a whole host of issues that come together to make teaching an attractive proposition, an attractive profession. I want people to be excited about going into that profession. Both my parents were teachers themselves. Feeling safe within the school environment, of course, is a really important part of the support that we can give the workforce.

Rwy'n meddwl bod yr Aelod yn llygad ei le, a dyna pam mae'r blaid yr wyf i'n ei harwain wedi siarad mor eglur am fod angen y dull cyfannol hwnnw, y dull cofleidiol hwnnw, i roi'r cymorth sydd ei angen ar ddisgyblion ac athrawon, ac, wrth gwrs, mae mynd i'r afael â thrais yn amgylchedd yr ysgol yn rhywbeth sy'n eithriadol o bwysig. Mae'r Aelod yn gwbl gywir i nodi, wrth gwrs, bod llu o faterion sy'n dod at ei gilydd i wneud addysgu yn opsiwn deniadol, yn broffesiwn deniadol. Rwyf i eisiau i bobl deimlo cyffro am ymuno â'r proffesiwn hwnnw. Roedd fy nau riant yn athrawon eu hunain. Mae teimlo'n ddiogel yn amgylchedd yr ysgol, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn o'r cymorth y gallwn ni ei roi i'r gweithlu.

Y Diffiniad o Ryw Fiolegol
The Definition of Biological Sex

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw fiolegol? OQ64253

2. What action is the Welsh Government taking in light of the Supreme Court's ruling on the definition of biological sex? OQ64253

The Welsh Government is taking forward lawful, consistent and workable actions in Wales, whilst upholding the dignity and respect of all people.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu cyfreithlon, cyson ac ymarferol yng Nghymru, gan gynnal urddas a pharch pawb.

First Minister, I was recently contacted by several concerned members of staff, who want to remain anonymous, at the Aneurin Bevan University Health Board, after they received a presentation entitled 'transcending boundaries, celebrating transgender awareness week and how to be an ally'. I'm all in favour of diversity, but I would much rather NHS staff focus on patients and delivering care, than them being distracted by training sessions that do not improve patient care and front-line services. Staff told me how they felt extremely uncomfortable with the session, saying it was highly sexualised and inappropriate. I can't say I blame them when you hear some of the presentation's content. First Minister, part of the presentation involved a man talking about his genitals, alongside a photo of a rocket, and he states, and I quote, 'No Viagra needed'. The presentation also includes a photo of a man when he was naked as a child. The presentation also talks about transgender bathroom issues and supporting men in women's spaces. All of this is available for everyone to watch online. Do you agree with me, First Minister, that this is incredibly disturbing and concerning, as well as not appropriate for the workplace? And in light of the Supreme Court's judgment last year, and the Equality and Human Rights Commission's recently published draft guidelines, how is the Welsh Government going to ensure public bodies are following the law and protecting women's spaces?

Brif Weinidog, cysylltodd sawl aelod o staff pryderus â mi yn ddiweddar, sydd eisiau aros yn ddienw, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ar ôl iddyn nhw dderbyn cyflwyniad o'r enw 'transcending boundaries, celebrating transgender awareness week and how to be an ally'. Rwy'n hollol o blaid amrywiaeth, ond byddai'n llawer gwell gen i pe bai staff y GIG yn canolbwyntio ar gleifion a darparu gofal, yn hytrach na bod eu sylw yn cael eu tynnu gan sesiynau hyfforddi nad ydyn nhw'n gwella gofal cleifion a gwasanaethau rheng flaen. Dywedodd staff wrthyf i eu bod nhw'n teimlo'n hynod anghyfforddus â'r sesiwn, gan ddweud ei bod yn hynod rhywioledig ac amhriodol. Ni allaf i ddweud fy mod i'n eu beio nhw pan fyddwch chi'n clywed rhywfaint o gynnwys y cyflwyniad. Brif Weinidog, roedd rhan o'r cyflwyniad yn cynnwys dyn yn siarad am ei organau cenhedlu, ochr yn ochr â llun o roced, ac mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Dim angen Viagra'. Mae'r cyflwyniad hefyd yn cynnwys llun o ddyn pan oedd yn noeth fel plentyn. Mae'r cyflwyniad hefyd yn sôn am faterion ystafell ymolchi trawsryweddol a chynorthwyo dynion mewn mannau menywod. Mae hyn i gyd ar gael i bawb ei wylio ar-lein. A ydych chi'n cytuno â mi, Brif Weinidog, bod hyn yn peri gofid a phryder enfawr, yn ogystal â'r ffaith nad yw'n briodol ar gyfer y gweithle? Ac yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys y llynedd, a chanllawiau drafft y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn dilyn y gyfraith ac yn diogelu mannau menywod?

Following the law, in many ways, is the easy bit. This is a Government that will follow the law, and, as public organisations, we have to follow the law. There's no question behind that at all. What we have here also is something that has become divisive in recent years. And I would appeal to the Member's sense of political leadership in everything that she does to engage with this issue to show that leadership, which absolutely does mean listening to the concerns of people, who raise valid concerns, but also balance that against—. She mentions 'concerned members of staff'. We hear from very concerned trans people who feel that they are being disempowered and put at risk, even, by the current debate. And that, I think, is where political leadership comes from. I can't comment on the particular material that she mentioned because I'm not aware of what it is. But that Supreme Court ruling wasn't a victory of one side over another. I was listening at the time when the judgment was given. What it did usher in was a new era of the need for greater understanding between people who have divergent views. All of us have to be aware of that in trying to cool down the temperature on what has become a heated debate but also a very painful debate for many individuals.

Dilyn y gyfraith, mewn sawl ffordd, yw'r darn hawdd. Mae hon yn Llywodraeth a fydd yn dilyn y gyfraith, ac, fel sefydliadau cyhoeddus, mae'n rhaid i ni ddilyn y gyfraith. Does dim amheuaeth y tu ôl i hynny o gwbl. Mae'r hyn sydd gennym ni yma hefyd yn rhywbeth sydd wedi dod yn ddadunol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A byddwn yn apelio i ymdeimlad yr Aelod o arweinyddiaeth wleidyddol ym mhopeth y mae'n ei wneud i ymgysylltu â'r mater hwn i ddangos yr arweinyddiaeth honno, sy'n sicr yn golygu gwrando ar bryderon pobl, sy'n codi pryderon dilys, ond hefyd cydbwyso hynny yn erbyn—. Mae'n sôn am 'aelodau staff pryderus'. Rydym ni'n clywed gan bobl drawsrywiol pryderus iawn sy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu dadrymuso ac yn cael eu rhoi mewn perygl, hyd yn oed, gan y ddadl bresennol. A dyna, rwy'n credu, yw o le mae arweinyddiaeth wleidyddol yn dod. Allaf i ddim gwneud sylwadau ar y deunydd penodol y soniodd amdano oherwydd nad wyf i'n ymwybodol o beth ydyw. Ond nid buddugoliaeth un ochr dros y llall oedd y dyfarniad hwnnw gan y Goruchaf Lys. Roeddwn i'n gwrando ar yr adeg pan gyhoeddwyd y dyfarniad. Yr hyn a ddechreuodd oedd cyfnod newydd o'r angen am fwy o ddealltwriaeth rhwng pobl sydd â gwahanol safbwyntiau. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod yn ymwybodol o hynny wrth geisio oeri'r tymheredd ar yr hyn sydd wedi dod yn ddadl danllyd ond hefyd yn ddadl boenus iawn i lawer o unigolion.

13:40

First Minister, it's now been 440 days since the Supreme Court ruled that the legal definition of a woman under the Equality Act 2010 referred to biological sex and not gender identity. Does the First Minister not agree that 440 days is a very long time in which to wait for the essential protections outlined in the ruling, which are still being denied to 51 per cent of the population and ignored across multiple sectors, including governmental, education, health and the commercial sector? Numerous cases across the UK are being brought forward and won, correctly, based on this ruling. The Equality and Human Rights Commission recently provided an updated code of practice for services, public functions and associations. This code has specific provisions for the creation of single-sex spaces. Do we wait and dither, allowing such cases to be brought here in Wales, or will the Welsh Government issue a definitive timeline on how and when they intend to update the policies and guidance in Wales in light of these developments? And does the First Minister respect the ruling of the Supreme Court?

Brif Weinidog, mae bellach wedi bod yn 440 diwrnod ers i'r Goruchaf Lys ddyfarnu bod y diffiniad cyfreithiol o fenyw o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at ryw biolegol ac nid hunaniaeth rhywedd. Onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod 440 diwrnod yn amser hir iawn i aros am yr amddiffyniadau hanfodol a amlinellir yn y dyfarniad, sy'n dal i gael eu gwrthod i 51 y cant o'r boblogaeth a'u hanwybyddu ar draws sawl sector, gan gynnwys y llywodraeth, addysg, iechyd a'r sector masnachol? Mae nifer o achosion ledled y DU yn cael eu dwyn a'u hennill, yn gywir, yn seiliedig ar y dyfarniad hwn. Yn ddiweddar, darparodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol god ymarfer wedi'i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Mae'r cod hwn yn cynnwys darpariaethau penodol ar gyfer creu mannau un rhyw. A ydym ni'n aros ac yn petruso, gan ganiatáu i achosion o'r fath gael eu dwyn yma yng Nghymru, neu a wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi amserlen bendant ar sut a phryd y maen nhw'n bwriadu diweddaru'r polisïau a'r canllawiau yng Nghymru yng ngoleuni'r datblygiadau hyn? Ac a yw'r Prif Weinidog yn parchu dyfarniad y Goruchaf Lys?

As I said, what the Supreme Court's ruling did was usher in a new era for discussion around this, in which we can allow divisiveness to come to the fore, or we can seek to understand better the concerns and the realities for people on both sides of the debate.

On the waiting, waiting is literally a part of the publication of the EHRC code of practice, in that it is published and then we await to see what the response is. And if, at a certain point in time, which happens to be next month, there are no objections, then it gets put into practice. We as a Government are reviewing that draft, as it is a code of practice by EHRC, to assess the implications for the Welsh Government. We will act according to the law. We are a law-abiding Government. But we are also a Government that has values, that understands the very real concerns that some people have, but recognises also that that original judgment does not remove protections for trans people, for example, who remain protected from discrimination and harassment under gender reassignment, and we need to step up to protect them where they feel at risk.

Fel y dywedais i, yr hyn a wnaeth dyfarniad y Goruchaf Lys oedd cychwyn cyfnod newydd ar gyfer trafodaeth ynglŷn â hyn, lle gallwn ni ganiatáu i ddaduniad ddod i'r amlwg, neu y gallwn ni geisio deall yn well y pryderon a'r realiti i bobl ar ddwy ochr y ddadl.

O ran yr aros, mae aros yn llythrennol yn rhan o gyhoeddi cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, o'r safbwynt ei fod yn cael ei gyhoeddi ac yna rydym ni'n aros i weld beth yw'r ymateb. Ac os, ar adeg benodol, sef mis nesaf fel y mae'n digwydd, nad oes unrhyw wrthwynebiadau, yna mae'n cael ei roi ar waith. Rydym ni fel Llywodraeth yn adolygu'r drafft hwnnw, gan ei fod yn god ymarfer gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i asesu'r goblygiadau i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn gweithredu yn unol â'r gyfraith. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n cydymffurfio â'r gyfraith. Ond rydym ni hefyd yn Llywodraeth sydd â gwerthoedd, sy'n deall y pryderon gwirioneddol sydd gan rai pobl, ond sy'n cydnabod hefyd nad yw'r dyfarniad gwreiddiol hwnnw yn cael gwared ar amddiffyniadau i bobl drawsryweddol, er enghraifft, sy'n parhau i gael eu diogelu rhag gwahaniaethu ac aflonyddu o dan ailbennu rhywedd, ac mae angen i ni gamu ymlaen i'w hamddiffyn lle maen nhw'n teimlo mewn perygl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Dan Thomas. 

I now call on the party leaders to question the First Minister. First of all, the leader of Reform UK, Dan Thomas. 

Diolch, Lywydd. The plight of our student nurses was highlighted again this week, and it's been reported that 400 student nurses and midwives have been told there's not a job waiting for them when they graduate, at a time when the NHS has serious nursing shortages. Now, the supplementary budget allocates £145 million to the NHS. Will any of that funding be used to guarantee student midwives and student nurses a job when they finish their training?

Diolch, Lywydd. Tynnwyd sylw at drafferthion ein nyrsys dan hyfforddiant eto yr wythnos hon, ac adroddwyd bod 400 o nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant wedi cael gwybod nad oes swydd yn aros amdanyn nhw pan fyddan nhw'n graddio, ar adeg pan fo gan y GIG brinder nyrsys difrifol. Nawr, mae'r gyllideb atodol yn dyrannu £145 miliwn i'r GIG. A fydd unrhyw ran o'r cyllid hwnnw yn cael ei defnyddio i sicrhau swydd i fydwragedd dan hyfforddiant a nyrsys dan hyfforddiant pan fyddan nhw'n gorffen eu hyfforddiant?

There are some things, if I might say, that money can't buy. There's a specific problem that has arisen this year, which should not have arisen, but it has arisen because training numbers for this cohort who are looking for jobs in September this year were commissioned in 2022. Now, we are living now with the challenges posed by the over-commissioning back then. I recognise and am really concerned about how unsettling that is for graduates who haven't secured a post. That is why the Cabinet Minister for health brought partners together on 18 June, asked the system to move at pace to maximise opportunities, provide consistent support, improve planning for future cohorts. There are a number of measures being taken on reopening streamlining, ongoing national co-ordination by Health Education and Improvement Wales, identifying transitional flexible employment routes. But let's remind ourselves: we will help those graduating now to get jobs. They have careers in the NHS. We need them. But we have a problem that we face right now, which this Government is working around to quite rightly support those who are worried in a way that they shouldn't be, when they signed up to those courses in 2022. 

Mae rhai pethau, os caf i ddweud, na all arian eu prynu. Mae problem benodol sydd wedi codi eleni, na ddylai fod wedi codi, ond mae wedi codi oherwydd bod niferoedd hyfforddi ar gyfer y cohort hwn sy'n chwilio am swyddi ym mis Medi eleni wedi cael eu comisiynu yn 2022. Rŵan, rydym ni bellach yn byw gyda'r heriau a achoswyd gan y gor-gomisiynu bryd hynny. Rwy'n cydnabod ac yn bryderus iawn am ba mor annifyr yw hynny i raddedigion sydd heb sicrhau swydd. Dyna pam y daeth y Gweinidog Cabinet dros iechyd â phartneriaid at ei gilydd ar 18 Mehefin, gan ofyn i'r system symud yn gyflym i sicrhau cynifer o gyfleoedd â phosibl, i ddarparu cefnogaeth gyson, i wella cynllunio ar gyfer cohortau'r dyfodol. Mae nifer o fesurau yn cael eu cymryd ar ailagor, symleiddio, cydgysylltu cenedlaethol parhaus gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gan nodi llwybrau cyflogaeth hyblyg trosiannol. Ond gadewch i ni atgoffa ein hunain: byddwn yn helpu'r rhai sy'n graddio rŵan i gael swyddi. Mae ganddyn nhw yrfaoedd yn y GIG. Rydym ni eu hangen nhw. Ond mae gennym ni broblem yr ydym ni'n ei hwynebu ar hyn o bryd, y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio o'i chwmpas i gynorthwyo, yn gwbl briodol, y rhai sy'n bryderus mewn ffordd na ddylen nhw fod, pan wnaethon nhw gofrestru ar y cyrsiau hynny yn 2022.

But, First Minister, that's not what these student nurses and midwives are being told. They genuinely are worried about their careers, and whether there is a job waiting for them. Now, I understand the situation is a legacy issue inherited from the Labour Party. But Plaid Cymru could choose a different path. It is Reform, at the moment, who is backing our student nurses and student midwives.

Now, regarding the Government's supplementary budget, it's clear from the initial reaction from all the opposition parties that, if voting matches the rhetoric, the Government will not have support for its supplementary budget, and it will not go through. Now, Plaid Cymru talks about transparency, so will the First Minister disclose if you are having any talks with other political parties, if there are any areas of compromise within the supplementary budget and whether you'd be willing to work with Reform?

Ond, Brif Weinidog, nid dyna'r hyn sy'n cael ei ddweud wrth y nyrsys a'r bydwragedd dan hyfforddiant hyn. Maen nhw'n wirioneddol bryderus am eu gyrfaoedd, a pha un a oes swydd yn aros amdanyn nhw. Nawr, rwy'n deall bod y sefyllfa yn fater etifeddiaeth a etifeddwyd gan y Blaid Lafur. Ond gallai Plaid Cymru ddewis gwahanol lwybr. Ar hyn o bryd, Reform sy'n cefnogi ein nyrsys dan hyfforddiant a'n bydwragedd dan hyfforddiant.

Nawr, o ran cyllideb atodol y Llywodraeth, mae'n amlwg o'r ymateb cychwynnol gan yr holl wrthbleidiau, os yw'r bleidlais yn cyd-fynd â'r rhethreg, na fydd gan y Llywodraeth gefnogaeth i'w chyllideb atodol, ac ni fydd yn mynd drwodd. Nawr, mae Plaid Cymru yn siarad am dryloywder, felly a wnaiff y Prif Weinidog ddatgelu a ydych chi'n cael unrhyw drafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol eraill, a oes unrhyw feysydd o gyfaddawdu o fewn y gyllideb atodol ac a fyddech chi'n fodlon gweithio gyda Reform?

13:45

The Member and I have met. Discussions will take place continuously across, through the—[Interruption.] Well, it really shouldn't come as a surprise to anybody that I have met all leaders of political parties in this Senedd. When I speak of wanting to be a co-operative Government, that means having conversations with leaders of Reform, the Conservatives, Labour and the Green Party. I'm sorry if that's come as a surprise to anybody.

Listen, this supplementary budget is the first opportunity for this Government to align the some space there is, within tight financial constraints, to align budgets with priorities that were set out and for which we have a mandate to put in place. But we recognise this is a minority Government, and that is why, when we appeal in the Senedd for people, Members here, to support those measures to stabilise and get to grips with and bring down waiting lists in the NHS, I would hope that that is something that the Member would be able to support. When I look at the measures being taken now to support families with the cost-of-living crisis, through expanded childcare, I'm hoping that that is something that can appeal to Members across this Senedd, and measures to improve school buildings and so on.

This isn't a Government that doesn't recognise the need to speak across this Chamber. This is a Government that is determined to put in place the programme on which we stood and which we know we will need the support of others to implement.

Mae'r Aelod a minnau wedi cyfarfod. Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal yn barhaus ar draws, drwy'r—[Torri ar draws.] Wel, ni ddylai fod yn syndod i unrhyw un fy mod i wedi cyfarfod â holl arweinwyr pleidiau gwleidyddol yn y Senedd hon. Pan fyddaf i'n sôn am fod eisiau bod yn Llywodraeth gydweithredol, mae hynny'n golygu cael sgyrsiau gydag arweinwyr Reform, y Ceidwadwyr, Llafur a'r Blaid Werdd. Mae'n ddrwg gen i os yw hynny wedi bod yn syndod i unrhyw un.

Gwrandewch, y gyllideb atodol hon yw'r cyfle cyntaf i'r Llywodraeth hon gysoni'r rhywfaint o le sy'n bodoli, o fewn cyfyngiadau ariannol tynn, i gysoni cyllidebau â blaenoriaethau a gyflwynwyd ac y mae gennym ni fandad i'w rhoi ar waith. Ond rydym ni'n cydnabod bod hon yn Llywodraeth leiafrifol, a dyna pam, pan fyddwn ni'n apelio yn y Senedd ar bobl, Aelodau yma, i gefnogi'r mesurau hynny i sefydlogi a mynd i'r afael â rhestrau aros yn y GIG a'u lleihau, byddwn yn gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddai'r Aelod yn gallu ei gefnogi. Pan edrychaf i ar y mesurau sy'n cael eu cymryd nawr i gynorthwyo teuluoedd gyda'r argyfwng costau byw, trwy ofal plant estynedig, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a all apelio i Aelodau ar draws y Senedd hon, a mesurau i wella adeiladau ysgolion ac yn y blaen.

Nid yw hon yn Llywodraeth nad yw'n cydnabod yr angen i siarad ar draws y Siambr hon. Mae hon yn Llywodraeth sy'n benderfynol o roi'r rhaglen y gwnaethom ni sefyll ar ei sail ar waith ac yr ydym ni'n gwybod y byddwn ni angen cefnogaeth pobl eraill i'w gweithredu.

Thank you. I welcomed the chance to have an introductory meeting with the First Minister, shortly after we were elected, but it was agreed that we wouldn't discuss policy. For transparency, I want to advise the Senedd of that, at least.

It's encouraging that the First Minister seems to have changed his mind about working with Reform, because, during the election, you said you wouldn't work with us. So, that is a welcome u-turn. Our red lines, though, would be to guarantee all student nurses and midwives a job—that would be a red line for us—when they finish their training. We would also want to increase spending on children with additional learning needs and we'd want to stop spending taxpayers' money abroad and invest that money on the Welsh NHS and Welsh children. So, those are our red lines.

But regardless of what happens with the supplementary budget, there have been hints that there will be a full budget coming to the Senedd in the autumn. [Interruption.] A full budget coming—[Interruption.] Well, I hope it does come. I hope it does come. The First Minister said that his manifesto was fully costed. So, will all the costings of all your pledges be detailed in the budget in the autumn?

Diolch. Croesawais y cyfle i gael cyfarfod cyflwyniadol gyda'r Prif Weinidog, yn fuan ar ôl i ni gael ein hethol, ond cytunwyd na fyddem ni'n trafod polisi. At ddibenion tryloywder, hoffwn hysbysu'r Senedd am hynny, o leiaf.

Mae'n galonogol ei bod hi'n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi newid ei feddwl ynglŷn â gweithio gyda Reform, oherwydd, yn ystod yr etholiad, fe wnaethoch chi ddweud na fyddech chi'n gweithio gyda ni. Felly, mae hwnnw'n dro pedol i'w groesawu. Ein llinellau coch, fodd bynnag, fyddai sicrhau swydd i bob nyrs a bydwraig dan hyfforddiant—byddai honno'n llinell goch i ni—pan fyddan nhw'n gorffen eu hyfforddiant. Byddem ni hefyd eisiau cynyddu gwariant ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol a byddem ni eisiau rhoi'r gorau i wario arian trethdalwyr dramor a buddsoddi'r arian hwnnw yn GIG Cymru a phlant Cymru. Felly, dyna ein llinellau coch.

Ond waeth beth sy'n digwydd gyda'r gyllideb atodol, bu awgrymiadau y bydd cyllideb lawn yn dod i'r Senedd yn yr hydref. [Torri ar draws.] Cyllideb lawn yn dod—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n gobeithio y bydd yn dod. Rwy'n gobeithio y bydd yn dod. Dywedodd y Prif Weinidog fod ei faniffesto wedi'i gostio'n llawn. Felly, a fydd manylion holl gostiadau eich holl addewidion yn cael eu nodi yn y gyllideb yn yr hydref?

I'm going to drop a bombshell: there will be a budget published later this year. The hint—[Interruption.] There has been a sense—[Interruption.] It will happen, I can assure the Member. What we will do as an approach to that budget, as we've done now, is lay out, among challenging circumstances, what it is that we hope to achieve on behalf of and for the people of Wales. I appreciate that the Member has laid out health as a priority now. It wasn't mentioned by his party as a priority during the election that we've just fought, but I welcome the fact that that is seen as an important area now. That is exactly why it has been put front and centre of this supplementary budget, which is very important in order to do that work that we promised the people of Wales we would do, which is to build a sustainable health and care system fit for the future. It is up to all Members here to decide if that's something that they can support in this supplementary budget.

Dyma daranfollt i chi: bydd cyllideb yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Yr awgrym—[Torri ar draws.] Bu ymdeimlad—[Torri ar draws.] Bydd yn digwydd, gallaf sicrhau'r Aelod. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud fel dull o ymdrin â'r gyllideb honno, fel yr ydym ni wedi ei wneud nawr, fydd nodi, ymhlith amgylchiadau heriol, yr hyn yr ydym ni'n gobeithio ei gyflawni ar ran ac ar gyfer pobl Cymru. Rwy'n sylweddoli bod yr Aelod wedi gosod iechyd fel blaenoriaeth rŵan. Ni chafodd ei grybwyll gan ei blaid fel blaenoriaeth yn ystod yr etholiad yr ydym ni newydd ei ymladd, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod hwnnw'n cael ei ystyried yn faes pwysig rŵan. Dyna'n union pam mae wedi bod yn gwbl flaenllaw yn y gyllideb atodol hon, sy'n bwysig iawn er mwyn gwneud y gwaith hwnnw y gwnaethom ni addo i bobl Cymru y byddem ni'n ei wneud, sef adeiladu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mater i bob Aelod yma yw penderfynu a yw hynny'n rhywbeth y gallan nhw ei gefnogi yn y gyllideb atodol hon.

Arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates.

The leader of Welsh Labour, Ken Skates.

First Minister, between now and 2029, how much does your Government anticipate receiving from the UK Government in additional learning needs consequentials?

Brif Weinidog, rhwng nawr a 2029, faint mae eich Llywodraeth yn rhagweld y bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU mewn cyllid canlyniadol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol?

The one-off payment this year, of course, is one that we know is based on historic debt in England. Looking ahead to future years, two years from now, there is a signal of consequential funding. The Government that the Member used to be a member of himself knows full well that prioritisation as to how you spend that money are decisions taken by Governments of the day, in partnership with others, as needs be. But we'll concentrate right now on putting in place the measures that we believe can help both children in education, patients in the health service and families who need support with childcare. 

Mae'r taliad untro eleni, wrth gwrs, yn un yr ydym ni'n gwybod ei fod yn seiliedig ar ddyled hanesyddol yn Lloegr. O edrych ymlaen at flynyddoedd i ddod, dwy flynedd o nawr, ceir arwydd o gyllid canlyniadol. Mae'r Llywodraeth yr oedd yr Aelod yn arfer bod yn aelod ohoni ei hun yn gwybod yn iawn bod blaenoriaethu sut rydych chi'n gwario'r arian hwnnw yn benderfyniadau a wneir gan Lywodraethau'r dydd, mewn partneriaeth ag eraill, yn ôl yr angen. Ond byddwn yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar roi'r mesurau ar waith yr ydym ni'n credu all helpu plant mewn addysg, cleifion yn y gwasanaeth iechyd a theuluoedd sydd angen cymorth gyda gofal plant. 

13:50

Thank you, First Minister. The answer is more than £0.5 billion—more than £0.5 billion that will come to the Welsh Government as a result of increased spending by the UK Government on additional learning needs. That is a huge additional sum that your Government will be receiving. Every one of the 22 local authorities in Wales is calling for this year's consequential to be passed to councils so that they can then pass it to schools for investment in children and in the teaching profession. Many of your Members, as I've said on numerous occasions, have been consistent in calling for more ALN money for the system. So, how much additional ALN funding are you willing to allocate for children and schools in this year's supplementary budget?

Diolch, Brif Weinidog. Mwy na £0.5 biliwn yw'r ateb—mwy na £0.5 biliwn a fydd yn dod i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i fwy o wariant gan Lywodraeth y DU ar anghenion dysgu ychwanegol. Mae hwnnw'n swm ychwanegol enfawr y bydd eich Llywodraeth yn ei dderbyn. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn galw am drosglwyddo cyllid canlyniadol eleni i gynghorau fel y gallan nhw ei drosglwyddo wedyn i ysgolion i'w fuddsoddi mewn plant ac yn y proffesiwn addysgu. Mae llawer o'ch Aelodau, fel yr wyf i wedi ei ddweud ar sawl achlysur, wedi bod yn gyson o ran galw am fwy o arian ADY ar gyfer y system. Felly, faint o gyllid ADY ychwanegol ydych chi'n fodlon ei ddyrannu ar gyfer plant ac ysgolion yng nghyllideb atodol eleni?

Those who have been in Government, Llywydd, will know that there are two sides of the ledger when it comes to budgets. There are consequentials, yes, from time to time, there are pressures, too. This Government has inherited significant pressures, which have to be addressed—and we have inherited those pressures from previous Governments—whilst taking a long-term and sustainable approach to the whole ALN system. The ALN pressures that we know we feel—families, children, local government—are not going to be resolved by a one-off payment this year; they are going to be addressed by long-term thinking in developing policy, which is what exactly my Cabinet Minister for Education and the Welsh Language is doing. We owe those families nothing less than that.

Bydd y rhai sydd wedi bod mewn Llywodraeth, Lywydd, yn gwybod bod dwy ochr i'r cyfriflyfr o ran cyllidebau. Oes, mae cyllid canlyniadol o bryd i'w gilydd, mae pwysau hefyd. Mae'r Llywodraeth hon wedi etifeddu pwysau sylweddol, y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw—ac rydym ni wedi etifeddu'r pwysau hynny gan Lywodraethau blaenorol—gan fabwysiadu dull hirdymor a chynaliadwy o ymdrin â'r system ADY gyfan. Nid yw'r pwysau ADY yr ydym ni'n gwybod ein bod ni'n eu teimlo—teuluoedd, plant, llywodraeth leol—yn mynd i gael eu datrys gan daliad untro eleni; syniadau hirdymor wrth ddatblygu polisi sy'n mynd i fynd i'r afael â nhw, a dyna'n union mae fy Ngweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn ei wneud. Mae dim llai na hynny yn ddyledus gennym ni i'r teuluoedd hynny.

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar. 

The leader of the Welsh Conservatives, Darren Millar. 

Diolch, Llywydd. Will the First Minister outline what specific discussions the Welsh Government has had within the UK emissions trading scheme authority about the need to protect Welsh jobs and investment from the punitive impact of the carbon tax? We know from figures published just last week that industrial emissions fell by 25 per cent in 2024 due to the closure of Tata's coal-fired blast furnaces in Port Talbot. But, of course, it's nothing to celebrate, because not only has it wiped out, the carbon tax, our sovereign steel-making capacity here in Wales, we now are simply importing steel from overseas, from other more heavily polluting nations, and pushing our carbon-reduction plans into the bin. So, do you acknowledge that the current carbon tax framework is simply not working, that it's resulting in exporting emissions, exporting jobs and putting our national security at risk? And what are you and your Government now going to do within the UK emissions trading scheme authority to argue for a better and more sensible approach to net zero?

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa drafodaethau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael o fewn awdurdod cynllun masnachu allyriadau'r DU ynglŷn â'r angen i amddiffyn swyddi a buddsoddiad yng Nghymru rhag effaith gosbol y dreth garbon? Rydym ni'n gwybod o ffigurau a gyhoeddwyd dim ond yr wythnos diwethaf fod allyriadau diwydiannol wedi gostwng 25 y cant yn 2024 oherwydd cau ffwrneisi chwyth glo Tata ym Mhort Talbot. Ond, wrth gwrs, nid yw'n rhywbeth i'w ddathlu, oherwydd nid yn unig y mae wedi dileu, y dreth garbon, ein gallu sofran i gynhyrchu dur yma yng Nghymru, y cwbl yr ydym ni'n ei wneud bellach yw mewnforio dur o dramor, o wledydd eraill sy'n llygru'n fwy trwm, ac yn gwthio ein cynlluniau lleihau carbon i'r bin. Felly, a ydych chi'n cydnabod nad yw'r fframwaith treth carbon presennol yn gweithio, ei fod yn arwain at allforio allyriadau, allforio swyddi ac yn rhoi ein diogelwch cenedlaethol mewn perygl? A beth ydych chi a'ch Llywodraeth yn mynd i'w wneud nawr o fewn awdurdod cynllun masnachu allyriadau'r DU i ddadlau dros ddull gwell a mwy synhwyrol o ymdrin â sero net?

I'd make this point first of all, Llywydd, that I have always called for a just transition when it comes to steel. We were asking for the protection of primary steel making in Port Talbot, not because we didn't see that this is a polluting industry—of course it is—but that there is a way of transitioning towards something that could protect jobs and investing in those cleaner ways of producing steel. Discussions are currently ongoing with the UK Government in relation to the wider European discussion, or debate, around emissions trading. We are determined to stand up for Welsh interests, making sure that we get as good a deal as possible for Wales from those discussions. That is not denying the impact of emissions on climate change. We're a Government that is determined to fight climate change in every way that we can, but we do that by making the case for a just transition at the same time.

Byddwn yn gwneud y pwynt hwn yn gyntaf oll, Lywydd, fy mod i wedi galw erioed am bontio teg o ran dur. Roeddem ni'n gofyn i gynhyrchu dur sylfaenol gael ei ddiogelu ym Mhort Talbot, nid oherwydd nad oeddem ni'n gweld bod hwn yn ddiwydiant sy'n llygru—wrth gwrs—ond bod ffordd o bontio tuag at rywbeth a allai ddiogelu swyddi a buddsoddi yn y ffyrdd glanach hynny o gynhyrchu dur. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU o ran y drafodaeth, neu'r ddadl, Ewropeaidd ehangach, ynghylch masnachu allyriadau. Rydym ni'n benderfynol o sefyll yn gadarn dros fuddiannau Cymru, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n cael bargen gystal â phosibl i Gymru o'r trafodaethau hynny. Nid yw hynny'n gwadu effaith allyriadau ar newid hinsawdd. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n benderfynol o frwydro yn erbyn newid hinsawdd ym mhob ffordd y gallwn, ond rydym ni'n gwneud hynny drwy wneud y ddadl dros bontio teg ar yr un pryd.

Well, of course, you can make that case for a just transition from within the UK emissions trading scheme authority. That is the body that you have a seat on, and you are jointly responsible as a Government, along with the UK Government, the Scottish Government and the Northern Ireland Executive, to make decisions that impact on the future of these arrangements here in Wales. And, of course, there has been a relentless and unrealistic focus on the race to net zero, which has not been just for many homes, for many businesses and many families that have lost jobs and lost their livelihoods as a result of this relentless pursuit.

Now, I recently undertook a visit to Valero's Pembroke refinery. It's one of only four refineries left in the UK; some have already taken the decision to close as a result of the carbon tax. About 1,000 jobs rely on that facility, about 15 per cent of Welsh exports are accounted as a result of the business that goes through that facility, and it supplies 15 per cent of the UK's transport fuels. It's a vitally important part of our national infrastructure, and any closure of that facility would cause significant damage, not just to our economy, but to our energy security and transport fuel security as well, and put it at risk of the volatility of international markets. Do you accept that now is the time to take a very different approach on this issue to make sure that the future of Valero and other heavy industry in Wales is not jeopardised by this relentless pursuit of net zero, which, frankly, isn't working?

Wel, wrth gwrs, fe allwch chi wneud y ddadl honno dros bontio teg o fewn awdurdod cynllun masnachu allyriadau'r DU. Dyna'r corff y mae gennych chi sedd arno, ac rydych chi'n gyfrifol ar y cyd fel Llywodraeth, ynghyd â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, am wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar ddyfodol y trefniadau hyn yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, bu pwyslais didrugaredd ac afrealistig ar y ras i sero net, nad yw wedi bod yn deg i lawer o gartrefi, i lawer o fusnesau a llawer o deuluoedd sydd wedi colli swyddi a cholli eu bywoliaeth o ganlyniad i'r ymgyrch ddidrugaredd hon.

Nawr, ymwelais yn ddiweddar â phurfa Valero ym Mhenfro. Mae'n un o ddim ond pedair purfa sydd ar ôl yn y DU; mae rhai eisoes wedi gwneud y penderfyniad i gau o ganlyniad i'r dreth garbon. Mae tua 1,000 o swyddi yn dibynnu ar y cyfleuster hwnnw, mae tua 15 y cant o allforion Cymru yn cael eu cyfrif o ganlyniad i'r busnes sy'n mynd drwy'r cyfleuster hwnnw, ac mae'n cyflenwi 15 y cant o danwydd trafnidiaeth y DU. Mae'n rhan hanfodol bwysig o'n seilwaith cenedlaethol, a byddai unrhyw benderfyniad i gau'r cyfleuster hwnnw yn achosi niwed sylweddol, nid yn unig i'n heconomi, ond i'n diogeledd ynni a'n diogeledd tanwydd trafnidiaeth hefyd, ac yn ei roi mewn perygl o anwadalrwydd marchnadoedd rhyngwladol. A ydych chi'n derbyn mai hwn yw'r amser i fabwysiadu dull gwahanol iawn o ymdrin â'r mater hwn i wneud yn siŵr nad yw dyfodol Valero a diwydiant trwm arall yng Nghymru yn cael ei beryglu gan yr ymdrech ddidrugaredd hon i gyrraedd sero net, sydd, a bod yn onest, ddim yn gweithio?

13:55

There's a difference of principle between us on this. I have made it clear, and I'll make it clear again, that this Government of mine and my enterprise Minister will do all they can to stand up for Welsh industry, and that means making the case, always, for a just transition. Yes, there are implications around emissions trading for that, but we take a broader view than that. Investing in our renewables industries for the future will create those jobs that will ultimately, in time, take the place of more polluting jobs in a just way. When we look at floating offshore wind, the meeting I had in Ireland last week with the company that is involved in the Erebus scheme—this will create thousands of jobs in Wales.

So, we look at the economic benefits, surely, of the transition that we need to make. And on the use of the word 'relentless', you might have noticed that it was a bit warm last week, right? Get used to this. This is the reality of climate change, and there is good reason why we need to be relentless in our pursuit of measures that we can take to protect the environment, whilst also looking after industry in Wales and building the industry of the future.

Mae gwahaniaeth o ran egwyddor rhyngom ni ar hyn. Rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur, ac fe'i gwnaf hi'n eglur eto, y bydd y Llywodraeth hon i mi a'm Gweinidog menter yn gwneud popeth y gallan nhw i sefyll yn gadarn dros ddiwydiant Cymru, ac mae hynny'n golygu gwneud y ddadl, bob amser, dros bontio teg. Oes, mae goblygiadau ynghylch masnachu allyriadau ar gyfer hynny, ond rydym ni'n cymryd golwg ehangach na hynny. Bydd buddsoddi yn ein diwydiannau ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol yn creu'r swyddi hynny a fydd yn y pen draw, ymhen amser, yn disodli swyddi sy'n llygru mwy mewn ffordd deg. Pan edrychwn ni ar ynni'r gwynt ar y môr arnofiol, y cyfarfod a gefais yn Iwerddon yr wythnos diwethaf gyda'r cwmni sy'n rhan o gynllun Erebus—bydd hyn yn creu miloedd o swyddi yng Nghymru.

Felly, rydym ni'n edrych ar fanteision economaidd, yn sicr, o'r pontio y mae angen i ni ei wneud. Ac o ran y defnydd o'r gair 'didrugaredd', efallai eich bod chi wedi sylwi ei bod hi braidd yn gynnes yr wythnos diwethaf, onid oedd? Dylech chi ddod i arfer â hyn. Dyma realiti newid hinsawdd, ac mae rheswm da pam mae angen i ni fod yn ddidrugaredd wrth fynd ar drywydd mesurau y gallwn ni eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd, tra hefyd yn gofalu am ddiwydiant yng Nghymru ac adeiladu diwydiant y dyfodol.

Mae cwestiynau 3 ac 8 wedi eu grwpio. Yn gyntaf, cwestiwn 3, Laura Anne Jones.

Questions 3 and 8 are grouped. First, question 3, Laura Anne Jones.

Diogeledd Bwyd
Food Security

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau diogeledd bwyd? OQ64317

3. What action is the Welsh Government taking to strengthen food security? OQ64317

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau diogeledd a gwydnwch bwyd? OQ64237

8. How is the Welsh Government strengthening food security and resilience? OQ64237

The Welsh Government is committed to introducing a national food strategy for Wales that will encompass food security, tackle food poverty and improve food literacy and health outcomes. As part of the first 100 days plan, work to appoint a ministerial working group to develop the strategy is under way, and further details will be provided by the Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability in the coming weeks. The same response applies to question 8 from Peter Fox.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno strategaeth fwyd genedlaethol ar gyfer Cymru a fydd yn cwmpasu diogeledd bwyd, yn mynd i'r afael â thlodi bwyd ac yn gwella llythrennedd bwyd a chanlyniadau iechyd. Yn rhan o gynllun y 100 diwrnod cyntaf, mae gwaith i benodi gweithgor gweinidogol i ddatblygu'r strategaeth ar y gweill, a bydd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn cynnig rhagor o fanylion yn yr wythnosau nesaf. Mae'r un ymateb yn berthnasol i gwestiwn 8 gan Peter Fox.

First Minister, I welcome your answer on the importance of food security, and it's good to see that you're thinking about it. But you cannot, on the one hand, say that food security matters, it's your aim, you have a plan that would require as much farmland as possible, and then, on the other hand, allow prime agricultural land or food production land to be taken out of food production and used instead for large-scale solar developments. So, First Minister, which is it that you want?

Brif Weinidog, rwy'n croesawu eich ateb ar bwysigrwydd diogeledd bwyd, ac mae'n braf gweld eich bod chi'n meddwl amdano. Ond allwch chi ddim, ar y naill law, ddweud bod diogeledd bwyd yn bwysig, mai dyna eich nod, bod gennych chi gynllun a fyddai'n gofyn am gymaint o dir fferm â phosibl, ac yna, ar y llaw arall, caniatáu i dir amaethyddol neu dir cynhyrchu bwyd safonol gael eu cymryd allan o faes cynhyrchu bwyd a'i ddefnyddio yn hytrach ar gyfer datblygiadau solar graddfa fawr. Felly, Brif Weinidog, pa un ydych chi ei eisiau?

I think my views on this are very, very public. I do not believe that BMV land, the best and most versatile land, should be used for large-scale solar. There are planning rules in place in Wales that mean that we should be protecting this land for food production. This is a Government that will want to uphold those rules that are in place for very good reason.

Rwy'n meddwl bod fy safbwyntiau ar hyn yn arbennig o gyhoeddus. Dydw i ddim yn credu y dylid defnyddio tir BMV, y tir gorau a mwyaf amlbwrpas, ar gyfer ynni solar ar raddfa fawr. Mae rheolau cynllunio ar waith yng Nghymru sy'n golygu y dylem ni fod yn diogelu'r tir hwn ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae hon yn Llywodraeth a fydd eisiau dilyn y rheolau hynny sydd ar waith am reswm da iawn.

First Minister, we have seen how fragile our food system can be, which is precisely why I brought forward my food Bill in 2022, to create a joined-up, long-term framework for how we produce, distribute and consume food in this country, not only ensuring our food security, but also addressing societal issues linked with malnutrition and obesity. It was sadly voted down when the past Labour Government and Liberal Democrat wouldn't allow it to continue, something I know that many of them still regret.

Now, I recognise that your Government has spoken positively about many of these same ambitions, with some initiatives already under way. But what remains absent is a single, coherent, deliverable plan that brings the whole food system together and looks at it holistically. So, First Minister, given the clear alignment between the principles set out in my Food (Wales) Bill and the ambitions your Government has expressed, will you now commit to bringing forward a comprehensive, overarching national food strategy for Wales, one that will guide the whole food system from farm to fork?

Brif Weinidog, rydym ni wedi gweld pa mor fregus y gall ein system fwyd fod, a dyna'n union pam y cyflwynais fy Mil bwyd yn 2022, i greu fframwaith cydgysylltiedig, hirdymor ar gyfer sut rydym ni'n cynhyrchu, yn dosbarthu ac yn bwyta bwyd yn y wlad hon, gan sicrhau nid yn unig ein diogeledd bwyd, ond hefyd mynd i'r afael â materion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â diffyg maeth a gordewdra. Yn anffodus, pleidleisiwyd yn ei erbyn pan na fyddai'r Llywodraeth Lafur flaenorol a Democrat Rhyddfrydol yn caniatáu iddo barhau, rhywbeth y gwn fod llawer ohonyn nhw yn dal i'w ddifaru.

Nawr, rwy'n cydnabod bod eich Llywodraeth wedi siarad yn gadarnhaol am lawer o'r un uchelgeisiau hyn, â rhai mentrau eisoes ar y gweill. Ond yr hyn sy'n parhau i fod yn absennol yw un cynllun cydlynol, cyflawnadwy sy'n dod â'r system fwyd gyfan at ei gilydd ac yn edrych arni ar sail gyfannol. Felly, Brif Weinidog, o ystyried y cysondeb eglur rhwng yr egwyddorion a nodir yn fy Mil Bwyd (Cymru) a'r uchelgeisiau y mae eich Llywodraeth wedi eu mynegi, a wnewch chi ymrwymo nawr i gyflwyno strategaeth fwyd genedlaethol gynhwysfawr, gyffredinol ar gyfer Cymru, un a fydd yn llywio'r system fwyd gyfan o'r fferm i'r fforc?

14:00

I like to keep my answers relatively brief, so I could answer with 'yes', but I'll give a little bit more than that too. And I'd like to commend the Member for the work that he did in the last Senedd, in proposing a way—through legislation, as it happens—to protect and develop the food sector in Wales. What we have said we will do—and my Minister for rural resilience is already getting down to business on this—is we are going to be bringing in exactly that kind of national food strategy, looking to create a joined-up system for production and processing through to retail and public sector procurement, so that we can strengthen supply chains, improve resilience, increase the availability of Welsh food, supporting our food producers as we do so. The focus has to be on improving access to affordable, healthy and nutritious food, which is why this is of interest to my Ministers for health, and this is something that I have always been eager to develop, and which we will now press on with at pace.

Rwy'n hoffi cadw fy atebion yn gymharol gryno, felly fe allwn i ateb gyda 'gwnaf', ond fe wnaf i roi ychydig mwy na hynny hefyd. A hoffwn ganmol yr Aelod am y gwaith a wnaeth yn y Senedd ddiwethaf, wrth gynnig ffordd—drwy ddeddfwriaeth, fel y mae'n digwydd—i ddiogelu a datblygu'r sector bwyd yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni wedi dweud y byddwn ni'n ei wneud—ac mae fy Gweinidog dros wydnwch gwledig eisoes yn torchi ei lewys ar hyn—yw ein bod ni'n mynd i fod yn cyflwyno'r union fath hwnnw o strategaeth fwyd genedlaethol, gyda'r bwriad o greu system gydgysylltiedig ar gyfer cynhyrchu a phrosesu hyd at fanwerthu a chaffael sector cyhoeddus, fel y gallwn ni gryfhau cadwyni cyflenwi, gwella gwydnwch, cynyddu argaeledd bwyd Cymru, gan gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd wrth i ni wneud hynny. Mae'n rhaid i'r pwyslais fod ar wella mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon, a dyna pam mae hyn o ddiddordeb i'm Gweinidogion iechyd, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn awyddus i'w ddatblygu erioed, ac y byddwn ni bellach yn bwrw ymlaen ag ef yn gyflym.

First Minister, the record-breaking heatwaves and erratic weather patterns that we have seen this past month are a direct threat to our long-term food security. Recent research by the Green Alliance shows that extreme weather and climate impacts added an estimated £361 a year to the average UK household food bill, while reports from the Autonomy Institute warn that unchecked heatwaves and floods could drive up food prices by a further 34 per cent by 2050—shocks that hit our lowest-income families hardest. Given that true food security relies on a healthy natural environment, healthy soils and thriving ecosystems, and noting that, last week, the Minister for rural resilience officially announced work on a new climate and nature plan and a national food strategy for Wales, what immediate action is this Welsh Government taking to ensure that these strategies protect real lives by protecting families from skyrocketing food bills, supporting local farmers to adapt and using public procurement to get healthy Welsh-grown produce onto school plates?

Brif Weinidog, mae'r tonnau gwres a'r patrymau tywydd ansefydlog yr ydym ni wedi eu gweld yn ystod y mis diwethaf yn fygythiad uniongyrchol i'n diogeledd bwyd hirdymor. Mae ymchwil ddiweddar gan y Gynghrair Werdd yn dangos bod effeithiau tywydd eithafol a hinsawdd wedi ychwanegu amcangyfrif o £361 y flwyddyn at fil bwyd cyfartalog cartrefi'r DU, tra bod adroddiadau gan yr Autonomy Institute yn rhybuddio y gallai tonnau gwres a llifogydd heb eu rheoli gynyddu prisiau bwyd 34 y cant arall erbyn 2050—siociau sy'n taro ein teuluoedd incwm isaf galetaf. O gofio bod diogeledd bwyd gwirioneddol yn dibynnu ar amgylchedd naturiol iach, priddoedd iach ac ecosystemau sy'n ffynnu, a chan nodi, yr wythnos diwethaf, bod y Gweinidog dros wydnwch gwledig wedi cyhoeddi'n swyddogol gwaith ar gynllun hinsawdd a natur newydd a strategaeth fwyd genedlaethol ar gyfer Cymru, pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y strategaethau hyn yn diogelu bywydau go iawn drwy amddiffyn teuluoedd rhag biliau bwyd sy'n mynd drwy'r to, trwy gefnogi ffermwyr lleol i addasu a defnyddio caffael cyhoeddus i gael cynnyrch iach sy'n cael ei dyfu yng Nghymru ar blatiau ysgol?

I associate myself with the concerns raised about the impact of climate change and how that will hit food production. I think the magic, in many ways, comes in the interaction between those different elements that the Minister and others have already outlined. Absolutely, one of the core concerns that we have now is the impact of climate change on the money—scarce money, in far too many cases—in the pockets of the people of Wales. When we look at what the national food strategy aims to do—supporting Welsh producers and food businesses to grow in a way that recognises the cost pressures on families and households—that's very, very important, and we'll have to look for ways also of supporting the agriculture industry to adapt to the ever-changing environment. We have to be relentless in all our approaches to the climate challenge.

Rwy'n cysylltu fy hun â'r pryderon a godwyd am effaith newid hinsawdd a sut y bydd hynny'n effeithio ar gynhyrchu bwyd. Rwy'n credu bod yr hud, mewn sawl ffordd, yn dod yn y rhyngweithio rhwng y gwahanol elfennau hynny y mae'r Gweinidog ac eraill eisoes wedi'u hamlinellu. Yn bendant, un o'r prif bryderon sydd gennym ni rŵan yw effaith newid hinsawdd ar yr arian—yr arian prin, mewn llawer gormod o achosion—ym mhocedi pobl Cymru. Pan edrychwn ni ar yr hyn y mae'r strategaeth fwyd genedlaethol yn bwriadu ei wneud—cynorthwyo cynhyrchwyr a busnesau bwyd Cymru i dyfu mewn ffordd sy'n cydnabod y pwysau o ran costau ar deuluoedd ac aelwydydd—mae hynny'n bwysig iawn, iawn, a bydd yn rhaid i ni chwilio am ffyrdd hefyd o gefnogi'r diwydiant amaethyddiaeth i addasu i'r amgylchedd sy'n newid yn barhaus. Mae'n rhaid i ni fod yn ddidrugaredd yn ein holl ddulliau o ymdrin â'r her hinsawdd.

Building on a lot of what's already been said, Wales produces world-class food, yet too many people still struggle to access nutritious, affordable meals, while our economy fails to capture the full value of what is grown, reared, caught and processed here in Wales. A new national food strategy would help strengthen supply chains, improve food security and use public procurement to support Welsh food and drink producers. It should also expand food literacy, back community food hubs, increase horticultural production and ensure healthier meals across our schools, hospitals and other public services. Taken together, these measures would keep more value in our local communities, improve access to good food and build a stronger Welsh food system. Does the First Minister agree that Wales now needs a comprehensive national food strategy to deliver on those specific aims?

Gan adeiladu ar lawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes, mae Cymru yn cynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf, ond mae gormod o bobl yn dal i gael trafferth i gael gafael ar brydau maethlon a fforddiadwy, tra bod ein heconomi yn methu â sicrhau gwerth llawn yr hyn sy'n cael ei dyfu, ei fagu, ei ddal a'i brosesu yma yng Nghymru. Byddai strategaeth fwyd genedlaethol newydd yn helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi, i wella diogeledd bwyd ac i ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Dylai hefyd ehangu llythrennedd bwyd, cefnogi canolfannau bwyd cymunedol, cynyddu cynhyrchu garddwriaethol a sicrhau prydau iachach ar draws ein hysgolion, ein hysbytai a'n gwasanaethau cyhoeddus eraill. Gyda'i gilydd, byddai'r mesurau hyn yn cadw mwy o werth yn ein cymunedau lleol, yn gwella mynediad at fwyd da ac yn creu system fwyd gryfach yng Nghymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen strategaeth fwyd genedlaethol gynhwysfawr ar Gymru nawr i gyflawni'r nodau penodol hynny?

Absolutely, and those different elements mentioned by the Member do very much play into the rationale and reasoning behind the need for this food strategy. We have a real eye on the future here, as the Member suggested, and I should say that the Cabinet Minister has held early discussions with key stakeholders, including the future generations commissioner, covering the national food strategy. Preparing for the future and making ourselves fit for the future does very much include elements such as—on the fringes of the debate, you could argue, but we need to bring them into the core of it—food literacy, so that people understand why it is that we're asking them, essentially, to engage with food in a different way.

Yn sicr, ac mae'r gwahanol elfennau hynny y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yn rhan fawr o'r rhesymeg a'r rhesymu sy'n sail i'r angen am y strategaeth fwyd hon. Mae gennym ni lygad wirioneddol ar y dyfodol yma, fel yr awgrymodd yr Aelod, a dylwn ddweud bod y Gweinidog Cabinet wedi cynnal trafodaethau cynnar gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, gan ymdrin â'r strategaeth fwyd genedlaethol. Mae paratoi ar gyfer y dyfodol a gwneud ein hunain yn addas ar gyfer y dyfodol yn sicr yn cynnwys elfennau fel—ar ymylon y ddadl, gallech ddadlau, ond mae angen i ni ddod â nhw i mewn i'w chraidd—llythrennedd bwyd, fel bod pobl yn deall pam rydym ni'n gofyn iddyn nhw, i bob pwrpas, i ymgysylltu â bwyd mewn ffordd wahanol.

14:05
Lles Anifeiliaid
Animal Welfare

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ64236

4. What action is the Welsh Government taking to improve animal welfare? OQ64236

We want to build on the high standards we already have in Wales. In our manifesto, we said we'll develop a science-led animal health and welfare plan. We'll work with stakeholders, operational partners, industry and the third sector to develop our new approach for Wales.

Rydym ni eisiau adeiladu ar y safonau uchel sydd gennym ni eisoes yng Nghymru. Yn ein maniffesto, fe wnaethom ni ddweud y byddwn ni'n datblygu cynllun iechyd a lles anifeiliaid wedi'i arwain gan wyddoniaeth. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid, partneriaid gweithredu, diwydiant a'r trydydd sector i ddatblygu ein dull newydd ar gyfer Cymru.

How we treat animals is a sign of the type of society we are and want to be. If we allow animals to be mistreated, either by ignorance or cruelty, then it reflects badly on us as a society. We must remember that the evidence from multiple scientific studies has helped us to understand that a wide range of animals are sentient beings. This means they have the capacity to experience positive and negative feelings such as pleasure, joy, pain and distress. Progress has been made in recent years in Wales, but a lot more is left to be done. I believe we need to legislate on animal welfare, with legislation to include the microchipping of cats, a ban on tethering horses, a ban on individuals keeping primates, ending the cage breeding of game birds, banning Larsen traps, and rabbit ownership only after a short training course where individuals can show they understand the needs of rabbits. Will the Welsh Government bring in this legislation?

Mae sut rydym ni'n trin anifeiliaid yn arwydd o'r math o gymdeithas ydym ni ac yr ydym ni eisiau bod. Os ydym ni'n caniatáu i anifeiliaid gael eu cam-drin, naill ai drwy anwybodaeth neu greulondeb, yna mae'n adlewyrchu'n wael arnom ni fel cymdeithas. Mae'n rhaid i ni gofio bod y dystiolaeth o astudiaethau gwyddonol lluosog wedi ein helpu ni i ddeall bod amrywiaeth eang o anifeiliaid yn fodau ymdeimladol. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw'r gallu i deimlo teimladau cadarnhaol a negyddol fel pleser, llawenydd, poen a gofid. Mae cynnydd wedi cael ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, ond mae llawer mwy ar ôl i'w wneud. Rwy'n credu bod angen i ni ddeddfu ar les anifeiliaid, â deddfwriaeth i gynnwys gosod microsglodion mewn cathod, gwaharddiad ar glymu ceffylau, gwaharddiad ar unigolion yn cadw primatiaid, rhoi terfyn ar fridio adar hela mewn cawell, gwahardd maglau Larsen, a pherchnogaeth o gwningod dim ond ar ôl cwrs hyfforddi cryno lle gall unigolion ddangos eu bod nhw'n deall anghenion cwningod. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon?

I appreciate that the Member has long taken an interest in animal welfare issues. We are a nation of animal lovers and we need champions for the welfare and well-being of animals in our Senedd. Our manifesto set out our ambition for a new regulatory framework. We have said that we want to set high standards for the treatment of animals. Legislation is one route, and one that we will always be open to considering. The last Senedd did legislate on greyhound racing, of course. Cat microchipping is an example where the jury is out a bit on the effectiveness of legislating, in that, without legislation, we have similar levels of cat microchipping in Wales as they do in England, where they do have legislation. What we always need to do as a Government is monitor. If we’re lagging behind or we feel we need another string to our bow, well let’s look at other measures that we can take.

Rwy'n sylweddoli bod yr Aelod wedi cymryd diddordeb ers amser maith mewn materion lles anifeiliaid. Rydym ni'n genedl o bobl sy'n hoff o anifeiliaid ac mae angen hyrwyddwyr dros les a llesiant anifeiliaid arnom ni yn ein Senedd. Cyflwynodd ein maniffesto ein huchelgais ar gyfer fframwaith rheoleiddio newydd. Rydym ni wedi dweud ein bod ni eisiau gosod safonau uchel ar gyfer trin anifeiliaid. Mae deddfwriaeth yn un llwybr, ac un y byddwn bob amser yn agored i'w ystyried. Fe wnaeth y Senedd ddiwethaf ddeddfu ar rasio milgwn, wrth gwrs. Mae gosod microsglodion mewn cathod yn enghraifft lle mae gwahaniaeth barn braidd ynghylch effeithiolrwydd deddfu, yn yr ystyr, heb ddeddfwriaeth, mae gennym ni lefelau tebyg o osod microsglodion mewn cathod yng Nghymru ag sydd ganddyn nhw yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw ddeddfwriaeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud bob amser fel Llywodraeth yw monitro. Os ydym ni ar ei hôl hi neu os ydym ni'n teimlo ein bod ni angen llinyn arall i'n bwa, wel, gadewch i ni edrych ar fesurau eraill y gallwn ni eu cymryd.

First Minister, your party supported the banning of greyhound racing in Wales. As a result, it will be fully banned in Wales as early as next April. I am seriously concerned that Plaid Cymru's thirst for banning British cultural sports will not stop here. Plaid Cymru MP Liz Saville said a few months ago that Grand National-style horse racing should be banned. First Minister, horse racing is not only a cultural part of our British identity but an economic one, generating hundreds of millions of pounds for Wales, supporting jobs from stables to tracks to bars at the races. Will you confirm to the Senedd today that you will not be moving to ban horse racing with jumps here in Wales?

Brif Weinidog, fe wnaeth eich plaid gefnogi gwahardd rasio milgwn yng Nghymru. O ganlyniad, bydd yn cael ei wahardd yn llwyr yng Nghymru mor gynnar â mis Ebrill nesaf. Rwy'n pryderu o ddifrif na fydd awch Plaid Cymru i wahardd chwaraeon diwylliannol Prydeinig yn dod i ben yn y fan yma. Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville, ychydig fisoedd yn ôl y dylid gwahardd rasio ceffylau o fath y Grand National. Brif Weinidog, mae rasio ceffylau nid yn unig yn rhan ddiwylliannol o'n hunaniaeth Brydeinig ond yn un economaidd, sy'n cynhyrchu cannoedd o filiynau o bunnoedd i Gymru, gan gefnogi swyddi o stablau i draciau i fariau yn y rasys. A wnewch chi gadarnhau i'r Senedd heddiw na fyddwch chi'n symud i wahardd rasio ceffylau â neidiau yma yng Nghymru?

I'm afraid I have to correct the Member, Llywydd. The vote on greyhound racing was a free vote, and I believe it was for most parties in the last Senedd.

Mae gen i ofn bod yn rhaid i mi gywiro'r Aelod, Lywydd. Roedd y bleidlais ar rasio milgwn yn bleidlais rydd, ac rwy'n credu ei bod i fwyafrif y pleidiau yn y Senedd ddiwethaf.

Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
Support for Unpaid Carers

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl? OQ64295

5. What plans does the Welsh Government have to provide support for unpaid carers? OQ64295

Support for unpaid carers is essential. We're improving outcomes through short breaks, financial assistance and well-being services to provide practical help. At the same time, we're developing a new national strategy, shaped by what carers have told us matters most to them. We'll improve the lives of unpaid carers by ensuring they're recognised, valued and able to access consistent, high-quality support, including respite, wherever they live in Wales.

Mae cefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn hanfodol. Rydym ni'n gwella canlyniadau trwy seibiannau byr, cymorth ariannol a gwasanaethau lles i ddarparu cymorth ymarferol. Ar yr un pryd, rydym yn datblygu strategaeth genedlaethol newydd, wedi'i llywio gan yr hyn y mae gofalwyr wedi'i ddweud wrthym sydd fwyaf pwysig iddyn nhw. Byddwn yn gwella bywydau gofalwyr di-dâl drwy sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu cael gafael ar gymorth o ansawdd uchel yn gyson, gan gynnwys seibiant, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.

Diolch. First Minister, a constituent of mine in Clwyd is currently providing round-the-clock care for his wife, who is living with multiple serious health conditions. Like so many unpaid carers across Wales, he is struggling with the emotional strain, financial pressure and sheer exhaustion that caring responsibilities can bring, often while feeling overlooked and unsupported by public services.

The First Minister will be aware of the financial pressures facing unpaid carers, pressures that all too often push individuals to the brink of poverty, with some forced to make impossible choices between basic necessities, such as heating and eating. Will he therefore commit to pressing the UK Government to uprate carers allowance to a level that properly reflects the vital contribution unpaid carers make and to ensure that they are no longer left shouldering such profound responsibilities without adequate financial support?

Diolch. Ar hyn o bryd, Brif Weinidog, mae un o fy etholwyr yng Nghlwyd yn darparu gofal bob awr o'r dydd a'r nos i'w wraig, sy'n byw gyda sawl cyflwr iechyd difrifol. Fel cymaint o ofalwyr di-dâl ledled Cymru, mae'n ei chael yn anodd gyda'r straen emosiynol, y pwysau ariannol a'r blinder llethol y gall cyfrifoldebau gofalu eu cynnwys, hyn yn aml tra'i fod yn teimlo nad yw'n cael cefnogaeth gan y gwasanaethau cyhoeddus a'i fod yn cael ei anwybyddu ganddynt.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r pwysau ariannol sy'n wynebu gofalwyr di-dâl, pwysau sy'n rhy aml yn gwthio unigolion at drothwy tlodi, a rhai yn cael eu gorfodi i wneud dewisiadau amhosibl rhwng angenrheidiau sylfaenol, fel gwresogi a bwyta. A wnaiff felly ymrwymo i bwyso ar Lywodraeth y DU i uwchraddio lwfans gofalwyr i lefel sy'n adlewyrchu'n briodol y cyfraniad hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud ac i sicrhau nad ydyn nhw bellach yn cael eu gadael yn ysgwyddo cyfrifoldebau mor ddwys heb gymorth ariannol digonol?

14:10

The Member describes so eloquently the pressures felt by thousands and thousands of carers the length and breadth of Wales. We support the work that they do and recognise that our health service wouldn't be able to manage without them. That is why actions that we take as Governments, both within our powers and in our negotiations with the UK Government, are so, so important. I of course recognise the stress experienced by that constituent and all those unpaid carers, and I can confirm that the Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women's Health has written to Sir Stephen Timms, Minister of State for Social Security and Disability, to request a meeting. Our intention very much is to press the UK Government to make carers allowance fairer and paid at a higher rate. We know there's an ongoing review of carers allowance, and we'll be making our views very clear, as carers the length and breadth of our country would expect us to.

Mae'r Aelod yn disgrifio yn huawdl iawn y pwysau a deimlir gan filoedd a miloedd o ofalwyr ar hyd a lled Cymru. Rydym yn cefnogi'r gwaith maen nhw'n ei wneud ac yn cydnabod na fyddai ein gwasanaeth iechyd yn gallu ymdopi hebddyn nhw. Dyna pam mae'r camau rydyn ni'n eu cymryd fel Llywodraethau, o fewn ein pwerau ac yn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, mor bwysig. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y straen y mae'r etholwr hwnnw  a'r holl ofalwyr di-dâl hynny yn ei ysgwyddo, a gallaf gadarnhau bod y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod wedi ysgrifennu at Syr Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd, i ofyn am gyfarfod. Ein bwriad ni yn sicr yw pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud lwfans gofalwyr yn decach a'i fod yn cael ei dalu ar gyfradd uwch. Rydym yn gwybod bod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd o lwfans gofalwyr, a byddwn yn gwneud ein barn yn glir iawn, fel y byddai gofalwyr ar hyd a lled ein gwlad yn disgwyl i ni ei wneud.

First Minister, I'm sure you will agree with me that unpaid carers are the backbone of our health and social care system. They save the public purse billions of pounds each year, yet many still struggle to access the respite and short break services they desperately need. What additional funding is the Welsh Government providing to local authorities and third sectors to expand those services, and when will the unpaid carers see that support delivered? I'd like to make a quote from an unpaid carer: 'Unpaid carers across Wales give so much but get very little support in exchange.' Thank you.

Brif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi mai gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw'n arbed biliynau o bunnoedd i bwrs y wlad bob blwyddyn, ac eto mae llawer yn dal i gael trafferth yn cael mynediad at y gwasanaethau seibiant a seibiant byr sydd eu hangen arnyn nhw. Pa gyllid ychwanegol mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol a thrydydd sectorau i ehangu'r gwasanaethau hynny, a phryd y bydd y gofalwyr di-dâl yn gweld y cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu? Hoffwn rannu dyfyniad gan ofalwr di-dâl: 'Mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn rhoi gymaint ond cael ychydig iawn o gymorth yn gyfnewid.' Diolch.

It's a story we all as elected Members hear—people feeling that they just don't get the support that they need, and there's, frankly, never enough that we can do, given how much support is deserved by Government to those who give of their lives to care for loved ones. Respite care clearly is very, very important. We're working as a Government with local authorities to provide consistent and timely assessments on one hand, greater respite support across Wales on the other. There is an improvement project in place now. We will consider other levers open to us if we don't see sufficient progress on that. But, in the meantime, referring back to my first answer, that pressure that we can, hopefully, bring to bear on UK Government, working with other partners across the UK—we need somehow for that to make a difference in terms of carers allowance levels.

Mae'n hanes yr ydym ni i gyd fel Aelodau etholedig yn ei glywed—pobl sy'n teimlo nad ydyn nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac a dweud y gwir, does byth digon y gallwn ni ei wneud, o ystyried faint o gymorth sy'n cael ei haeddu gan y Llywodraeth i'r rhai sy'n rhoi o'u bywydau i ofalu am anwyliaid. Mae gofal seibiant yn amlwg yn bwysig iawn, iawn. Rydym ni'n gweithio fel Llywodraeth gydag awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau cyson ac amserol ar y naill law, mwy o gymorth seibiant ledled Cymru ar y llaw arall. Mae prosiect gwella ar waith nawr. Byddwn ni'n ystyried ysgogiadau eraill sy'n agored i ni os nad ydym ni'n gweld digon o gynnydd ar hynny. Ond, yn y cyfamser, gan gyfeirio'n ôl at fy ateb cyntaf, y pwysau hwnnw y gallwn ni, gobeithio, ei roi ar Lywodraeth y DU, gan weithio gyda phartneriaid eraill ledled y DU—rydym ni angen rhywsut i hynny wneud gwahaniaeth o ran lefelau lwfans gofalwyr.

Prif Weinidog, Neath Port Talbot has the highest rate of people providing 50-plus hours of unpaid care in Wales. I met with unpaid carers from across the county in Cimla recently, where a number of people highlighted the financial strain of providing that care. Do you agree with me, therefore, that, in order to better support unpaid carers in Wales, carers allowance should be devolved and increased in line with Scotland?

Brif Weinidog, Castell-nedd Port Talbot sydd â'r gyfradd uchaf o bobl sy'n darparu 50 awr a mwy o ofal di-dâl yng Nghymru. Fe wnes i gyfarfod â gofalwyr di-dâl o bob rhan o'r sir yng Nghimla yn ddiweddar, lle tynnodd nifer o bobl sylw at straen ariannol darparu'r gofal hwnnw. A ydych chi'n cytuno â mi, felly, y dylid datganoli a chynyddu'r lwfans gofalwyr yng Nghymru yn unol â'r Alban, fel y gellir cynorthwyo gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn well?

Fifty-plus hours—it's not even a full-time job, it's more than that, and so many people experience the same. As I say, to ensure that we can design and deliver truly made-in-Wales social protections, reflecting the needs and values of our communities, we will press the UK Government to devolve welfare powers. The Deputy First Minister has written to the Secretary of State for Work and Pensions to discuss how we can work together to deliver on our ambitions for a benefits system that meets Wales's needs, that's driven by entitlements and supports our shared objectives on tackling poverty. But, whilst we work towards devolving powers over welfare, we will work to improve, as I say, the existing Welsh benefits system to ensure people can claim all their entitlements, including carers allowance at the current level.

Hanner can awr a mwy—nid yw hyd yn oed yn swydd lawn amser, mae'n fwy na hynny, ac mae cynifer o bobl yn cael yr un profiad. Fel y dywedais i, i sicrhau y gallwn ni ddylunio a chyflawni amddiffyniadau cymdeithasol sydd wir wedi'u creu yng Nghymru, sy'n adlewyrchu anghenion a gwerthoedd ein cymunedau, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau lles. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer system fudd-daliadau sy'n diwallu anghenion Cymru, sydd wedi'i hysgogi gan hawliau ac sy'n cefnogi ein hamcanion ar y cyd ar fynd i'r afael â thlodi. Ond, wrth i ni weithio tuag at ddatganoli pwerau dros les, byddwn yn gweithio i wella, fel y dywedais i, system fudd-daliadau bresennol Cymru i sicrhau y gall pobl hawlio eu holl hawliau, gan gynnwys lwfans gofalwyr ar y lefel bresennol.

Prif Weinidog, so many people in Wales rely on unpaid carers, and short breaks can be a real lifeline for those unpaid carers, giving those they care for and themselves the breathing space that they need. In 2022, the previous Welsh Labour Government created the short breaks scheme, and this scheme reached many carers who had not had any other form of break, and who weren't receiving any other kind of support. How is this Welsh Government going to ensure that carers get the respite, with those short breaks, that they need and deserve?

Brif Weinidog, mae cynifer o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl, a gall seibiannau byr fod yn achubiaeth go iawn i'r gofalwyr di-dâl hynny, gan roi'r lle sydd ei angen i'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw ac iddyn nhw eu hunain. Yn 2022, fe wnaeth Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru greu'r cynllun seibiannau byr, a chyrhaeddodd y cynllun hwn lawer o ofalwyr nad oedden nhw wedi cael unrhyw fath arall o seibiant, ac nad oedden nhw'n derbyn unrhyw fath arall o gymorth. Sut mae'r Llywodraeth hon yn mynd i sicrhau bod gofalwyr yn cael y seibiant, gyda'r seibiannau byr hynny, sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n eu haeddu?

14:15

As well as the measures that I've mentioned we're taking in putting pressure on the UK Government, I'm pleased to support that Welsh Government short breaks scheme, which provides, as you say, unpaid carers across Wales with opportunities just to take that break, to let them step away from what are often very physically demanding caring duties. It's a scheme that's been in place now—. I think it's about four years since the scheme was introduced. It's delivered by Carers Trust Wales, regional partnership boards and also in conjunction with local third sector organisations. We want to be able to support them to make sure that as many people access that respite as possible, within scarce resource, but, again, making that case for carers allowance to help those families and individuals too. 

Yn ogystal â'r mesurau yr wyf wedi eu crybwyll rydym ni'n eu cymryd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU, rwy'n falch o gefnogi'r cynllun seibiannau byr hwnnw gan Lywodraeth Cymru, sy'n estyn cyfleoedd, fel rydych chi'n dweud, i ofalwyr di-dâl ledled Cymru i gael y seibiant hwnnw, iddyn nhw gamu i ffwrdd am ychydig oddi wrth waith gofalu sy'n aml yn heriol iawn yn gorfforol. Mae hwnnw'n gynllun sydd wedi bod yn ei le nawr—. Rwy'n credu mai tua phedair blynedd sydd wedi bod ers i'r cynllun gael ei gyflwyno. Fe gaiff ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, y byrddau partneriaeth rhanbarthol, a hefyd ar y cyd gyda sefydliadau trydydd sector lleol. Rydym ni'n awyddus i allu eu cefnogi i sicrhau y bydd cymaint o bobl â phosibl yn cael cyfle i gael seibiant fel hyn, o fewn yr adnoddau prin, ond, unwaith eto, gan ddadlau'r achos dros lwfans gofalwyr i helpu'r teuluoedd a'r unigolion hynny hefyd. 

Good afternoon, Prif Weinidog. I'm grateful for the opportunity to have so many people asking questions on this important issue, and it's good to have cross-party support. I just want to focus on young carers, if I may. Twenty-two thousand young carers in Wales; that's one in six in our secondary schools. Young people like 16-year-old Ollie from Bridgend, who's cared for his younger brother for the past 10 years. They face a number of challenges: firstly, they cannot be children because their responsibilities are to care; secondly, there is very, very little help and support, because there are no assessments available to them, despite the Act. We're looking at assessments being at about the level of 2.67 per cent, of which half will receive support. So, straight away, we've got an issue there with our local authorities. It's not a protected characteristic. Finally, we've got those post-16-year-olds who are looking for support to continue in education, but can't do that because they have to forfeit their carers allowance. So, a number of issues for our young carers across Wales. I'd just like to ask you, Prif Weinidog: what will your Government do to help those young carers? Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Brif Weinidog. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gael cymaint o bobl yn gofyn cwestiynau am y mater pwysig hwn, a pheth da iawn yw bod â chefnogaeth drawsbleidiol. Fe hoffwn i ganolbwyntio ar ofalwyr ifanc, os caf i. Mae yna ddwy fil ar hugain o ofalwyr ifanc yng Nghymru; mae hynny'n un o bob chwech yn ein hysgolion uwchradd. Pobl ifanc fel Ollie o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n 16 oed, sydd wedi gofalu am ei frawd iau am y 10 mlynedd diwethaf. Maen nhw'n wynebu nifer o heriau: yn gyntaf, gallan nhw ddim fod yn blant oherwydd eu cyfrifoldebau i ofalu; yn ail, ychydig iawn iawn o gymorth a chefnogaeth sydd ar eu cyfer nhw, oherwydd nid oes asesiadau ar gael iddyn nhw, er gwaethaf y Ddeddf. Rydym ni'n edrych ar asesiadau o tua 2.67 y cant, a hanner ohonyn nhw fydd yn cael cefnogaeth. Felly, ar unwaith, mae problem gyda'n hawdurdodau lleol ni yn hyn o beth. Nid yw'n nodwedd warchodedig. Yn olaf, mae'r bobl ifanc hynny sydd dros 16 oed gennym ni sy'n chwilio am gymorth i barhau mewn addysg, ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny am bod yn rhaid iddyn nhw fforffedu eu lwfans gofalwyr. Felly, mae yna nifer o faterion yn wynebu ein gofalwyr ifanc ledled Cymru. Fe hoffwn i ofyn i chi, Brif Weinidog: beth fydd eich Llywodraeth chi'n ei wneud i helpu'r gofalwyr ifanc hynny? Diolch yn fawr iawn.

I appreciate that further question, and the Member mentioned Ollie. It reminded me of Jet, who's a young man from Radyr Comprehensive School on the outskirts of Cardiff. I sent him and his fellow pupils a message at their A-levels graduation ceremony last week. Jet has been looking after his family, whilst himself looking after other young carers within his school environment, and I know that the work he's done is greatly, greatly appreciated.

Again, respite is very, very important. Support on a whole host of different levels is important, but we want our children to feel that they are genuinely supported, not just applauded for the work that they do. The Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health will be signing the young persons covenant to make our commitment to young carers very, very clear, given some statistics suggest that nearly 20 per cent of young people in schools in Wales have some level of caring responsibility. This is something that we have to take very, very seriously, for the pressures on them now and the impact that not having support could have on the rest of their lives.

Rwy'n gwerthfawrogi'r cwestiwn pellach hwnnw, ac roedd yr Aelod yn sôn am Ollie. Roedd hynny'n fy atgoffa o Jet, sef dyn ifanc o Ysgol Gyfun Radur ar gyrion Caerdydd. Fe anfonais neges ato ef a'i gyd-ddisgyblion yn eu seremoni raddio Safon Uwch yr wythnos diwethaf. Mae Jet wedi bod yn gofalu am ei deulu, wrth ofalu am ofalwyr ifanc eraill yn amgylchedd ei ysgol ei hun, ac rwy'n gwybod bod y gwaith a wnaeth yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn.

Unwaith eto, mae seibiant yn beth pwysig iawn, iawn. Mae cefnogaeth ar gyfres gyfan o wahanol lefelau yn bwysig, ond rydym ni awyddus i'n plant deimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi yn wirioneddol, nid dim ond yn cael eu canmol am y gwaith maen nhw'n ei wneud. Fe fydd y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod yn llofnodi'r cyfamod i bobl ifanc i wneud ein hymrwymiad ni i ofalwyr ifanc yn amlwg iawn, o ystyried bod rhai ystadegau yn awgrymu bod gan bron i 20 y cant o bobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru ryw lefel o gyfrifoldeb gofalu. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif iawn, iawn oherwydd fe allai'r pwysau sydd arnyn nhw nawr ynghyd â bod heb gefnogaeth gael effaith ar weddill eu bywydau.

Adolygiad o Addysg Uwch
Review of Higher Education

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o addysg uwch? OQ64284

6. Will the First Minister provide an update on the Welsh Government’s review of higher education? OQ64284

Mae adolygiad o addysg uwch yn un o’n hymrwymiadau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth, a dwi’n falch o ddweud bod y gwaith yn datblygu’n dda. Mi fydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn rhannu rhagor o fanylion am hyn maes o law.

A review of higher education is one of our commitments for the first 100 days of Government, and I’m pleased to say that the work is advancing well. The Deputy Minister for Skills and Tertiary Education will share more details on this in due course.

Diolch am yr ymateb, Brif Weinidog. Rydym i gyd yn y Siambr hon yn gwybod bod addysg uwch yng Nghymru yn wynebu heriau ariannol sylweddol am nifer o resymau, tra bod y gyfran o bobl 18 oed sy'n dewis mynd i'r brifysgol yn parhau i ostwng. Mae data diweddar UCAS yn dangos bod y gyfradd mynediad i addysg uwch yng Nghymru ar ei lefel isaf ers degawd. Fy etholaeth i, Afan Ogwr Rhondda, sydd â'r bwlch cyfranogiad mwyaf o unrhyw etholaeth yng Nghymru, sy'n sefyllfa go ddifrifol y mae'r Llywodraeth hon wedi ei hetifeddu. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mynd i'r afael â'r bwlch cyfranogiad rhwng dysgwyr o gymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru yn rhan ganolog o'r adolygiad sector eang o addysg uwch?    

Thank you for that response, First Minister. We all in this Chamber know that higher education in Wales faces significant financial challenges for a number of reasons, while the proportion of those aged 18 choosing to go to university continues to decrease. Recent data from UCAS shows that the access rates in Wales for higher education are at their lowest level for a decade. My constituency, Afan Ogwr Rhondda, has the largest participation gap of any constituency in Wales, which is a very serious situation that this Government has inherited. How will the Welsh Government ensure that tackling this participation gap between learners from the most and least deprived areas of Wales are a central part of this sector-wide review of higher education?

14:20

Mae’r gwahaniaeth cyfranogiad yna yn rhywbeth a ddylai ein pryderu ni i gyd. Dwi’n anghofio’r union leoliad, ond mi oedd yna ystadegyn roeddwn i’n edrych arno fo yn y misoedd diwethaf a oedd yn dangos bod 18 y cant o ddisgyblion o un ysgol uwchradd neu ardal yng nghymoedd Gwent yn mynd i brifysgol, ac 80 y cant o ddisgyblion o un ysgol uwchradd arbennig yng Nghaerdydd. Mae'n frawychus bod cyfleon bywyd yn cael eu gosod allan mewn ffordd lle mae yna gymaint o wahaniaeth â hynny.

Mae cyfranogiad yn un o'r meysydd sydd yn mynd i fod yn cael sylw yn yr adolygiad. Dydy o ddim yr unig elfen ohono fo. Mae sut i sicrhau bod myfyrwyr drwyddi draw yn cael cefnogaeth ddigonol mewn addysg uwch yn bwysig, ac mae cefnogi ein sefydliadau addysg uwch ni yn gwbl, gwbl hanfodol. Oni bai bod camau yn cael eu cymryd, dydy hi ddim yn anodd dychmygu sefyllfa lle fyddai yna ddim sefydliadau addysg uwch i ddisgyblion fynd iddyn nhw yng Nghymru. Dydyn ni ddim cweit ar y pwynt hwnnw eto, ond dyna ddifrifoldeb y sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu. Mae cynyddu cyfleon am gyfranogiad fel bod y myfyrwyr yma yn gallu mynd yn fyfyrwyr, yn cynllunio ar gyfer eu bywydau, yn gosod uchelgais ar gyfer eu hunain mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, yn rhan o’r ateb i hyfywedd ein sefydliadau addysg uwch. Felly, mae yna gylch yma rydyn ni angen ei gau. Mi fydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn ynglŷn â sut y bydd y materion yma yn cael eu cymryd ymlaen.

The participation gap is something that should concern us all. I forget the exact location, but there was a statistic I was looking at in recent months that showed that 18 per cent of pupils from one secondary school or area of the Gwent valleys were going to university, and 80 per cent of pupils from one specific secondary school in Cardiff were going to university. It's frightening that life chances are being set out in such a way where there is that much difference in the opportunity available.

Participation is one of the areas that will be addressed in the review. It's not the only element of it. How we ensure that students across the board have adequate support in HE is important, and supporting our HE institutions is entirely crucial. Unless steps are taken, it's not difficult to imagine a situation where there would be no higher education institutions for pupils to attend in Wales. We're not quite at that point yet, but that's the gravity of the situation that we are facing. Increasing opportunity for participation so that these students can become students, can plan their lives and set ambitions for themselves in HE institutions in Wales, is part of the solution to the viability of our HE institutions. So, there's a circle that we need to close here. The Deputy Minister will be making an announcement very soon as to how these issues will be taken forward.

Cwestiwn 7, Anna Nicholl. 

Question 7, Anna Nicholl.

Diolch. How do we ensure renewable energy plans take local communities' voices into account and that these local communities benefit directly from the energy transition?

Diolch. Sut allwn ni sicrhau y bydd cynlluniau ynni adnewyddadwy yn ystyried lleisiau cymunedau lleol ac y bydd y cymunedau lleol hyn yn elwa yn uniongyrchol ar y pontio i ynni adnewyddadwy?

That's the supplementary question, which I'm happy to respond to straight away. 

Y cwestiwn atodol ydy hwnna, yr wyf i'n hapus i ymateb iddo yn syth. 

Would you like to place the initial question, please?

A fyddech chi'n gofyn y cwestiwn cychwynnol, os gwelwch chi'n dda?

I can help you.

Fe allaf i eich helpu chi.

If anybody's got a copy of it, please.

Os oes copi o hwnnw gan unrhyw un, os gwelwch chi'n dda.

Ynni Glân
Clean Energy

7. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y trawsnewidiad i ynni glân o fudd i gymunedau lleol yng Ngheredigion Penfro? OQ64288

7. How will the Welsh Government ensure that the transition to clean energy benefits local communities in Ceredigion Penfro? OQ64288

Diolch yn fawr iawn. Prif Weinidog.

Thank you very much. First Minister. 

Diolch yn fawr iawn. Our national energy strategy will set out how Wales will capture more of the economic, social and community benefits from clean energy. Our Welsh public energy company will support local ownership and community energy schemes, creating skilled jobs and delivering reinvestment in places hosting new energy infrastructure across Wales.

Diolch yn fawr iawn. Fe fydd ein strategaeth ynni genedlaethol yn nodi sut y bydd Cymru yn manteisio ar fwy o'r manteision economaidd, cymdeithasol a chymunedol oherwydd ynni glân. Fe fydd ein cwmni ynni cyhoeddus ni yng Nghymru yn cefnogi perchnogaeth leol a chynlluniau ynni cymunedol, gan greu swyddi medrus a chaniatáu ail-fuddsoddi mewn lleoedd sy'n cynnal seilwaith ynni newydd ledled Cymru.

Perhaps we'll adjust the social media clip for that. [Laughter.]

I know many Members have seen the People's Emergency Briefing, and I urge those who haven't to do so. It shows the devastating financial costs of delaying action on climate change, not least for household budgets, and the positive economic opportunities if we act quickly.

In Ceredigion Penfro, the transition to clean energy is creating big opportunities. This goes beyond mirroring fossil fuel systems. It's an opportunity to reshape our economy, working with businesses and communities to generate prosperity across Wales. But there's also risk. Communities are concerned they will actually have no meaningful voice to shape this change, and that benefits will flow out of Wales. How will this Government support real community voice, as well as research and development and innovation to enable small and medium-sized businesses and community enterprises to drive local solutions and secure economic benefits in Ceredigion Penfro and, indeed, across Wales?

Efallai y gwnawn ni addasu'r darn fideo i'r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hwnna. [Chwerthin.]

Fe wn i fod llawer o Aelodau wedi gweld People's Emergency Briefing, ac rwy'n annog y rhai nad ydyn nhw wedi ei weld i wneud hynny. Mae'n dangos y gost ariannol echrydus oherwydd oedi cyn gweithredu ar newid hinsawdd, yn enwedig i gyllidebau aelwydydd, a'r cyfleoedd economaidd cadarnhaol os ydym ni'n gweithredu yn gyflym.

Yng Ngheredigion Penfro, mae'r trawsnewid i ynni glân yn creu cyfleoedd mawr. Mae hynny'n mynd y tu hwnt i adlewyrchu systemau tanwydd ffosil. Mae'n gyfle i ail-lunio ein heconomi, gan weithio gyda busnesau a chymunedau i greu ffyniant ledled Cymru. Ond mae yna risg hefyd. Mae cymunedau yn pryderu na fydd ganddyn nhw lais ystyrlon i lywio'r newid hwn, ac y bydd buddion yn llifo allan o Gymru. Sut y bydd y Llywodraeth hon yn cefnogi llais cymunedol gwirioneddol, yn ogystal ag ymchwil a datblygu ac arloesi er mwyn galluogi busnesau bach a chanolig a mentrau cymunedol i ysgogi datrysiadau lleol a sicrhau manteision economaidd yng Ngheredigion Penfro ac, yn wir, ledled Cymru?

That's the positivity that I really want us all to embrace when it comes to the future of energy in Wales: talking about the positive economic opportunities, some of them very, very large; talking about the offshore wind opportunities in the Celtic sea, and thousands of jobs created. But there are far more modest projects that can bring real benefits to supply chains in Wales, where companies can work together to maximise the opportunities flowing from renewables opportunities, but also for communities.

And the way that we lock into the system the community benefits happens in a number of different ways. It's through having that one publicly owned energy company for Wales that always has communities at the front of its mind when it's working on the future of energy strategy in Wales. It's when we look at how community ownership schemes can create a sense of real, literal and metaphorical ownership over energy schemes in their communities. We must adapt the way that we have been doing things and have an eye on how we can do things differently in the future.

I have no doubt that for Ceredigion Penfro, as for many other parts of Wales, there are hugely untapped economic gains to be made from getting this right, which is why cracking on with a new energy strategy for Wales is something that's keeping my energy, connectivity and enterprise Minister's time very, very occupied. I got your roles in the wrong order there: the Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy.

Dyna'r ymagwedd gadarnhaol yr wyf i'n wirioneddol awyddus i bob un ohonom ni ei groesawu o ran dyfodol ynni yng Nghymru: sôn am y cyfleoedd economaidd cadarnhaol, rhai ohonyn nhw'n rhai mawr iawn, iawn; a sôn am y cyfleoedd gyda'r gwynt ar y môr Celtaidd, a miloedd o swyddi yn cael eu creu. Ond mae yna brosiectau llawer mwy cymedrol a all ddod â buddion gwirioneddol i'r gadwyni cyflenwi yng Nghymru, lle gall cwmnïau weithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio o gyfleoedd gydag ynni adnewyddadwy, ond er mwyn cymunedau hefyd.

Ac mae'r ffordd yr ydym ni'n cloi'r budd cymunedol i mewn yn y system yn digwydd mewn nifer o wahanol ffyrdd. Trwy fod ag un cwmni ynni sy'n eiddo cyhoeddus yng Nghymru sy'n rhoi'r cymunedau yn gyntaf bob amser wrth weithio ar ddyfodol strategaeth ynni yng Nghymru. Dyna pryd y byddwn ni'n ystyried sut y gall cynlluniau perchnogaeth gymunedol greu'r ymdeimlad o berchnogaeth wirioneddol, yn llythrennol ac yn drosiadol ar gynlluniau ynni yn eu cymunedau. Mae'n rhaid i ni addasu'r ffordd y buom ni'n gwneud pethau ynddi a chadw golwg ar ffyrdd o wneud pethau yn wahanol yn y dyfodol.

Nid oes unrhyw amheuaeth gen i ar gyfer Ceredigion Penfro, fel sy'n wir am lawer o ardaloedd eraill yn Nghymru, bod yna enillion economaidd enfawr, nad ydynt wedi eu gwireddu eto, o wneud hyn yn iawn, a dyna pam mae bwrw ymlaen â strategaeth ynni newydd i Gymru yn rhywbeth sy'n cadw fy Ngweinidog ynni, cysylltedd a menter yn brysur iawn, iawn. Fe rois i eich swyddogaethau chi yn y drefn anghywir yn y fan yna: y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.

14:25
Meddyginiaeth Atal y Glasoed
Puberty Blockers

9. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu meddyginiaeth atal y glasoed i blant 11 oed? OQ64316

9. Does the Welsh Government support the provision of puberty blockers to 11-year-old children? OQ64316

Where clinically appropriate, puberty suppressing hormones can be prescribed for children in Wales who started treatment prior to the UK Government’s Order restricting their prescribing other than through the NHS, and to children accessing NHS gender services, as part of the National Institute for Health and Care Excellence research study when that commences. We continue to be led by the evidence to inform gender identity services for our young people in Wales.

Pan fo hynny'n briodol yn glinigol, fe ellir rhoi hormonau sy'n atal y glasoed ar bresgripsiwn i blant yng Nghymru a ddechreuodd eu triniaethau cyn Gorchymyn Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar eu rhagnodi heblaw am drwy'r GIG, ac i blant sy'n defnyddio gwasanaethau rhywedd y GIG, yn rhan o astudiaeth ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal pan fydd honno'n dechrau. Rydym ni'n parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth i lywio gwasanaethau hunaniaeth rhywedd er mwyn ein pobl ifanc yng Nghymru.

First Minister, thank you so much for your response. The Cass review makes it clear that there are significant uncertainties around the long-term safety of these treatments for children, including potential impacts on bone health, fertility and brain development. Given those risks, can you explain why any child in Wales should be exposed to medical interventions where the evidence base is so limited? And what specific steps will your Government take to ensure that vulnerable young people are not subject to avoidable harm?

Brif Weinidog, diolch yn fawr iawn i chi am eich ymateb. Mae adolygiad Cass yn ei gwneud hi'n eglur fod ansicrwydd sylweddol ynghylch diogelwch hirdymor y triniaethau hyn i blant, gan gynnwys effeithiau posibl ar iechyd esgyrn, ffrwythlondeb a datblygiad yr ymennydd. O ystyried y peryglon hynny, a wnewch chi esbonio pam y dylai unrhyw blentyn yng Nghymru fod yn agored i ymyriadau meddygol pan fo sylfaen y dystiolaeth mor gyfyngedig? A pha gamau penodol y bydd eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw pobl ifanc agored i niwed yn agored i niwed y gellir ei osgoi?

The Member references the Cass review. I'm afraid to tell him that the author of the Cass review is supportive of this research, saying that it is about reducing harm. This is a careful study, an academic study, that is about reducing harm to children and young people. I would have thought that that is something that, as a whole, we would eager to sign up to.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at adolygiad Cass. Mae ofn arnaf ddweud wrtho fod awdur adolygiad Cass yn gefnogol i'r ymchwil hon, gan ddweud bod hyn yn ymwneud â chyfyngu ar niwed. Mae hon yn astudiaeth ofalus, yn astudiaeth academaidd, sy'n ymwneud â chyfyngu ar niwed i blant a phobl ifanc. Fe fyddwn i wedi meddwl mai rhywbeth y byddem ni'n awyddus i'w gefnogi fyddai hynny.

Y Diwydiant Twristiaeth
The Tourism Industry

10. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion Penfro? OQ64286

10. What is the Welsh Government doing to support the tourism industry in Ceredigion Penfro? OQ64286

The Welsh Government is supporting tourism in Ceredigion Penfro through a wide range of Visit Wales activity. We're determined to make the most of opportunities that arise from tourism, and to do so in a way that is sustainable both for the sector itself, which is so important to Wales, and for Welsh communities.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngheredigion Penfro drwy ystod eang o weithgarwch Croeso Cymru. Rydym ni'n benderfynol o wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio o dwristiaeth, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy i'r sector ei hun, sydd mor bwysig i Gymru, a chymunedau Cymru.

First Minister, west Wales is home to some of the most spectacular natural landscapes in the world, and, as you know, the tourism industry plays a huge role in sustaining local communities and the economy in Ceredigion Penfro. Sadly, tourism operators and accommodation providers in my constituency are under increasing pressure, and one of the most pressing issues at the moment is the 182-day occupancy threshold. Indeed, data from the Valuation Office Agency shows that self-catering business numbers in Wales have fallen by nearly 31 per cent, and so we need to see some action to prevent further decline. The Cabinet Minister for Finance has confirmed that exemptions will be coming, but what the industry needs is a change of policy, not tinkering around the edges to benefit a few providers. Therefore, First Minister, will your Government listen to tourism providers in west Wales and commit to reviewing the whole 182-day threshold policy before more self-catering businesses are forced to close?

Brif Weinidog, mae'r gorllewin yn cynnwys rhai o'r tirweddau naturiol mwyaf ysblennydd yn y byd ac, fel gwyddoch chi, mae'r diwydiant twristiaeth â swyddogaeth enfawr o ran cynnal cymunedau lleol a'r economi yng Ngheredigion Penfro. Yn anffodus, mae gweithredwyr twristiaeth a darparwyr llety yn fy etholaeth i dan bwysau cynyddol, ac un o'r materion mwyaf dybryd ar hyn o bryd yw'r trothwy 182 diwrnod ar gyfer deiliadaeth. Yn wir, mae data gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dangos bod nifer y busnesau hunanarlwyo yng Nghymru wedi gostwng gan bron i 31 y cant, ac felly mae angen i ni weld rhywfaint o gamau i atal dirywiad pellach. Mae Gweinidog Cyllid y Cabinet wedi cadarnhau y bydd eithriadau yn dod, ond yr hyn sydd ei angen ar y diwydiant yw newid polisi, nid potsian ar yr ymylon er budd dyrnaid o ddarparwyr. Felly, Brif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth wrando ar ddarparwyr twristiaeth yn y gorllewin ac ymrwymo i adolygu'r polisi trothwy 182 diwrnod yn ei gyfanrwydd cyn y bydd rhagor o fusnesau hunanarlwyo yn cael eu gorfodi i gau?

Llywydd, this Government has made it clear that we will be keeping those 182 days under review because we need to be measuring what unintended consequences may have arisen, and there's still a short time since the measure was brought in. We remember why it was brought in. The previous threshold, 70 days, was worthless. We needed to have a genuine push to identify who the businesses were that were the heartbeat of our tourism sector in the letting sector, so that they could be supported and people didn't play the system, perhaps, as some may have been tempted to do because the threshold was so low. We want to make sure that that threshold is right. The exemptions are very, very important. There are some properties that have been caught in this particular policy that were never meant to have been caught in it. Barn conversions, for example—places that could never have been homes for permanent dwelling. We've made it clear that we will take action on that. On the 182-day review, I've genuinely given assurance that we want to make sure that it's at the right level.

Lywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi egluro y byddwn ni'n cadw'r 182 diwrnod hynny dan adolygiad oherwydd bod angen i ni fesur pa ganlyniadau anfwriadol a allai fod wedi codi, ac amser byr sydd wedi bod ers i'r mesur gael ei gyflwyno. Rydym ni'n cofio pam y cafodd ei gyflwyno. Roedd y trothwy blaenorol, sef 70 diwrnod, yn ddiwerth. Roedd angen i ni fod yn gwthio yn wirioneddol i nodi pwy oedd y busnesau a oedd yn guriad calon ein sector twristiaeth yn y sector gosod, er mwyn gallu eu cefnogi nhw ac nad oedd pobl yn twyllo'r system, efallai, fel gallai rhai fod wedi cael eu temtio i wneud hynny am fod y trothwy mor isel. Rydym ni'n dymuno sicrhau bod y trothwy hwnnw'n briodol. Mae eithriadau yn bwysig dros ben. Mae yna rai tai wedi cael eu dal yn y polisi arbennig hwn nad oedd bwriad erioed i'w dal nhw ynddo. Ysguboriau wedi'u trawsnewid, er enghraifft—lleoedd na allai fod wedi bod yn gartrefi ar gyfer anheddau parhaol. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur y byddwn ni'n cymryd camau ar hynny. Ar yr adolygiad o'r 182 diwrnod, rwyf wedi rhoi sicrwydd gwirioneddol ein bod ni'n dymuno gwneud yn siŵr bod y trothwy yn un cywir.

14:30

Diolch, Brif Weinidog.

Thank you very much, First Minister.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
2. Questions to the Counsel General

Rydyn ni'n symud nawr i eitem 2, cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Rydw i'n siarad yn araf achos efallai bod y Cwnsler Cyffredinol yn dod i mewn i'r Siambr. 

Cwestiynau nawr i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae cwestiwn 1 a chwestiwn 6 wedi eu grwpio. Cwestiwn 1, Sarah Cooper-Lesadd.

We move now to item 2, questions to the Counsel General. I'm speaking slowly in the hope that the Counsel General will enter the Chamber.

We move to questions to the Counsel General. Question 1 and question 6 have been grouped. Question 1, Sarah Cooper-Lesadd.

Cyfrifoldebau Rhianta Corfforaethol
Corporate Parenting Responsibilities

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i estyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol i ystod ehangach o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys cyrff nad yw eu swyddogaethau wedi'u datganoli, yng ngoleuni darpariaethau Deddf Lles Plant ac Ysgolion 2026? OQ64254 [R]

1. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government regarding its powers to extend corporate parenting responsibilities to a wider range of public bodies, including bodies whose functions are not devolved, in light of the provisions of the Children’s Wellbeing and Schools Act 2026? OQ64254 [R]

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut mae'r fframwaith rhianta corfforaethol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cymharu, o ran effaith gyfreithiol a gorfodadwyedd, â'r dyletswyddau statudol cryfach sydd bellach mewn grym yn Lloegr? OQ64255

6. What legal advice has the Counsel General provided the Welsh Government regarding how the corporate parenting framework under the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 compares, in legal effect and enforceability, with the strengthened statutory duties now in force in England? OQ64255

First of all, may I welcome the question? I'd like to pay tribute to the Member for her long understanding of this problem and her commitment to the subject. It's a very important question, so I'm pleased to be able to address it.

The Welsh Government has, as you know, promoted wider corporate parenting through the voluntary corporate parenting charter, with over 70 organisations signed up. This is being strengthened through statutory guidance in a revised code of practice. While statutory duties primarily apply to local authorities, legislative options continue to be kept under review.

Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu'r cwestiwn? Fe hoffwn roi teyrnged i'r Aelod am ei dealltwriaeth o'r broblem hon a'i hymrwymiad i'r pwnc dros gyfnod maith. Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, felly rwy'n falch o gael mynd i'r afael ag ef.

Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch chi, wedi hyrwyddo rhianta corfforaethol ehangach drwy'r siarter rhianta corfforaethol wirfoddol, ac mae dros 70 o sefydliadau wedi cofrestru arni. Caiff hynny ei gryfhau trwy ganllawiau statudol mewn cod ymarfer diwygiedig. Er mai i'r awdurdodau lleol y mae'r dyletswyddau statudol yn berthnasol yn bennaf, mae dewisiadau deddfwriaethol yn parhau i fod dan adolygiad.

The Government sought consent for a range of provisions in the Children’s Wellbeing and Schools Bill, but not corporate parenting. The irony is this: Westminster placed those duties on the non-devolved bodies in Wales—police, youth justice—so a Welsh care leaver is already protected there, but it is our own devolved bodies, our health boards, that we've left on a charter they sign only if they choose to. No-one doubts Wales's right to do things their own way, but doing it our own way can't mean doing it less. So, I'm asking for his advice, I'm not asking him to defend the Government, only a point of constitutional fact: was there anything in law stopping this Senedd protecting our own bodies as Westminster protected theirs, or was it simply a choice to leave Welsh children less protected by their own Government than by Westminster?

Ceisiodd y Llywodraeth ganiatâd ar gyfer ystod o ddarpariaethau yn y Bil Lles Plant ac Ysgolion, ond nid ar gyfer rhianta corfforaethol. Yr eironi yw hyn: fe roddodd San Steffan y dyletswyddau hynny i gyrff nad ydynt wedi eu datganoli yng Nghymru—yr heddlu, cyfiawnder ieuenctid—felly mae unigolyn o Gymru sy'n gadael gofal eisoes yn warchodedig yno, ond ein cyrff datganoledig ein hunain, ein byrddau iechyd, fe wnaethom ni eu gadael ar siarter y gallan nhw ei llofnodi dim ond os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Nid oes neb yn amau hawl Cymru i wneud pethau yn ei ffordd ei hun, ond ni all gwneud rhywbeth yn ein dull ein hunain olygu ein bod ni'n gwneud llai o rywbeth. Felly, rwy'n gofyn am ei gyngor ef, nid wyf i'n gofyn iddo amddiffyn y Llywodraeth, dim ond pwynt o ffaith gyfansoddiadol: a oedd unrhyw beth yn y gyfraith yn atal y Senedd hon rhag amddiffyn ein cyrff ni fel y gwarchododd San Steffan ei rhai hi ei hun, neu ai dewis syml oedd hwnnw i adael plant Cymru â llai o amddiffynfa gan eu Llywodraeth eu hunain na'r hyn sydd gan San Steffan?

As the Member knows, Welsh Ministers do not possess direct powers under the Children's Wellbeing and Schools Act 2026 in order to extend corporate parenting responsibilities to a wider range of public bodies. Whilst in Wales we do not have in place those corporate parenting duties, the previous Government undertook two public consultations—one closed in October 2025 and one in April 2026—and this was on the guidance for local authorities.

This Government will deliver strengthened guidance through a dedicated chapter on corporate parenting within part 6 of the code of practice for looked-after and accommodated children under the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014. This chapter will set out local authorities' duties in their role as corporate parents and also support a strengthened strategic and partnership approach to corporate parenting. The intention is to lay a revised code of practice later this year.

I'll just make the point as well that many organisations and individuals have signed up to the voluntary charter. Despite not mandating the charter through legislation, in Wales, 70 organisations have signed up to the charter, including all local authorities and all local health boards. We therefore work together with our corporate parenting partners and will continue to review the requirement to mandate through legislation. However, as our figures on signing up demonstrate, we have not needed to do this.

Fel gŵyr yr Aelod, nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau uniongyrchol dan Ddeddf Lles Plant ac Ysgolion 2026 er mwyn ymestyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol i ystod ehangach o gyrff cyhoeddus. Er nad yw'r dyletswyddau rhianta corfforaethol hynny gennym ni yng Nghymru, fe gynhaliodd y Llywodraeth flaenorol ddau ymgynghoriad cyhoeddus—fe gaeodd un ym mis Hydref 2025 ac un ym mis Ebrill 2026—ac roedd hyn ar y canllawiau ar gyfer yr awdurdodau lleol.

Fe fydd y Llywodraeth hon yn darparu canllawiau wedi'u cryfhau drwy bennod benodol ar rianta corfforaethol yn adran 6 o'r cod ymarfer ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac sy'n derbyn llety o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe fydd y bennod hon yn nodi dyletswyddau'r awdurdodau lleol yn eu rôl fel rhieni corfforaethol ac yn cefnogi dull mwy cadarn o strategaeth a phartneriaeth o ran rhianta corfforaethol. Y bwriad yw cyhoeddi cod ymarfer diwygiedig yn ddiweddarach eleni.

Rwyf i am wneud y pwynt hefyd fod llawer o sefydliadau ac unigolion wedi llofnodi'r siarter wirfoddol. Er nad yw'r siarter yn orfodol drwy ddeddfwriaeth, yng Nghymru, mae 70 o sefydliadau wedi llofnodi'r siarter, gan gynnwys yr awdurdodau lleol i gyd a'r byrddau iechyd lleol i gyd. Felly, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid rhianta corfforaethol ac fe fyddwn ni'n parhau i adolygu'r gofyniad i orfodi trwy ddeddfwriaeth. Er hynny, fel mae ein ffigyrau ni o ran y rhai sydd wedi llofnodi yn dangos, nid oes angen wedi bod i ni wneud hyn.

What legal advice has the Counsel General provided the Welsh Government regarding how the corporate parenting framework under the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 compares, in legal effect and enforceability, with the strengthened statutory duties now in force in England?

Pa gyngor cyfreithiol a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut mae'r fframwaith rhianta corfforaethol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cymharu, o ran ei effaith gyfreithiol a sut mae ei orfodi, â'r dyletswyddau statudol mwy cadarn sydd ar waith yn Lloegr erbyn hyn?

14:35

Sarah, if you could also follow up with your supplementary now, immediately.

Sarah, os gallwch chi ddilyn ymlaen gyda'ch cwestiwn atodol nawr, ar unwaith.

Okay, that's fine. You speak of the voluntary charter, and that's all very well and good. But I just find it incredibly sad, as a care-experienced young person myself, that the rights in England for a care-experienced young person to bring these authorities to account are so much weaker in Wales. I just find it absolutely astounding. I respect your intervention here, and I respect what you're saying, but I am simply asking for those bodies beyond local authorities—. The only thing binding them is a charter if they choose to sign it. This is a simple legal fact, true anywhere. A voluntary charter creates little enforceable duty. Will the Counsel General confirm that, as the law stands, a care leaver in Wales has less enforceable rights against those devolved bodies than if a care leaver was living in England?

Iawn, i'r dim. Rydych chi'n sôn am y siarter wirfoddol, ac mae hynny'n iawn. Ond rwy'n credu ei bod hi'n hynod o drist, a minnau wedi cael profiad o ofal fy hun pan oeddwn i'n ifanc, fod yr hawliau yn Lloegr i unigolyn ifanc â phrofiad o ofal o ran dwyn yr awdurdodau hyn i gyfrif gymaint gwannach yng Nghymru. Rwy'n ei chael hi'n gwbl syfrdanol, wir. Rwy'n parchu eich ymyrraeth chi yma, ac rwy'n parchu'r hyn rydych chi'n ei ddweud, ond rwyf ond yn gofyn am y cyrff hynny y tu hwnt i'r awdurdodau lleol—. Yr unig beth sy'n eu rhwymo nhw yw siarter pe bydden nhw'n dewis ei llofnodi. Mae hon yn ffaith gyfreithiol syml, yn wir yn unrhyw le. Ychydig o ddyletswydd y gellir ei gorfodi sy'n cael ei chreu gan siarter wirfoddol. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau, fel mae'r gyfraith yn sefyll, fod gan unigolyn sy'n gadael gofal yng Nghymru lai o hawliau y gellir eu gorfodi o ran y cyrff datganoledig hynny nag y byddai gan rhywun sy'n gadael gofal ac yn byw yn Lloegr?

As I mentioned earlier on, the Welsh approach is different from England's, and is rooted in our existing legislative framework, which places clear duties on local authorities, alongside wider partnership responsibilities across public services. As I mentioned, over 70 organisations have already signed up. These organisations signed up in order to observe the charter, in order to adhere to the charter, and in order to, as best they can, perform the duties placed upon them. It is not always the case that you need to mandate via legislation to get people to do things properly. As I said earlier to the Member, the corporate parenting charter does promote corporate parenting widely, and also facilitates discussions on what organisations can deliver. Any organisation from the public and third sector can sign up and become a corporate parent, and embrace and embed the principles in their organisation. I repeat what I said earlier on: the question of legislation remains under consideration when we see how the charter works in reality. Currently, it is working well. Currently, it is popular, it's being signed up to and it's being adhered to. We will see what the future holds.

Fel y soniais i'n gynharach, mae'r dull yng Nghymru yn wahanol i'r dull yn Lloegr, ac mae wedi'i wreiddio yn ein fframwaith deddfwriaethol presennol, sy'n rhoi dyletswyddau eglur ar yr awdurdodau lleol, ochr yn ochr â chyfrifoldebau mwy eang o ran partneriaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Fel y soniais i, mae dros 70 o sefydliadau wedi cofrestru eisoes. Mae'r sefydliadau hyn wedi cofrestru er mwyn dilyn y siarter, er mwyn cadw at y siarter, ac er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a roddir arnyn nhw, hyd y gorau y gallan nhw. Nid yw hi'n wir bob amser fod angen i chi orfodi trwy ddeddfwriaeth i sicrhau y bydd pobl yn gwneud pethau yn iawn. Fel y dywedais i wrth yr Aelod yn gynharach, mae'r siarter rhianta corfforaethol yn hyrwyddo rhianta corfforaethol yn eang, a hefyd yn hwyluso trafodaethau ar yr hyn y gall sefydliadau ei gyflawni. Fe all unrhyw sefydliad o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector gofrestru a bod yn rhiant corfforaethol a chroesawu ac ymgorffori'r egwyddorion yn y sefydliad hwnnw. Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais i'n gynharach: mae'r cwestiwn o ddeddfwriaeth yn dal i gael ei ystyried wrth inni weld sut mae'r siarter yn gweithio mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, mae hi'n gweithio yn dda. Ar hyn o bryd, mae hi'n boblogaidd, mae hi'n cael ei llofnodi ac mae pobl yn cadw ati hi. Fe gawn ni weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

I want to thank the Member for raising this issue, because I know it's not only an issue close to her heart, but it's an important issue for so many care-experienced young people in Wales. I wanted to use this opportunity to raise a specific concern I have regarding the status of adopted young people. Those that are in care or have been in care have their experience recognised and, therefore, are entitled to some level of support. However, this is not the same for people who have been adopted, and they then lose their status as care experienced. Despite this, adoption is still a different form of care. I've heard first-hand from James Evans, a young man in Cardiff who was adopted and now advocates for the rights of adopted young people, how his experiences were too often forgotten and his unique trauma was not addressed. Like James, many adopted people feel left behind without adequate support and a lack of recognition for what they've gone through. Could I ask the Counsel General what legal advice they have provided the Welsh Government on the legal status of adopted people?

Rwyf eisiau diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, oherwydd fe wn i ei fod nid yn unig yn fater sy'n agos at ei chalon hi, ond yn fater pwysig hefyd i gymaint o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Rwy'n awyddus i achub ar y cyfle hwn i godi pryder penodol sydd gen i ynglŷn â statws pobl ifanc a fabwysiadwyd. Mae'r rhai sydd mewn gofal neu sydd wedi bod mewn gofal yn cael cydnabyddiaeth o'u profiad nhw ac, felly, mae ganddyn nhw hawl i fod â rhyw lefel o gefnogaeth. Serch hynny, nid yw hynny mor wir ar gyfer pobl sydd wedi'u mabwysiadu, ac fe fyddan nhw'n colli eu statws wedyn o ran eu profiad nhw o ofal. Er gwaethaf hynny, ffurf wahanol o ofal yw mabwysiadu. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan James Evans, dyn ifanc yng Nghaerdydd a fabwysiadwyd ac sydd bellach yn eirioli dros hawliau pobl ifanc mabwysiedig, am sut y cafodd ei brofiadau ef eu diystyru yn rhy aml ac nad oedd ei archoll unigryw ef yn cael sylw. Fel James, mae llawer o bobl sydd wedi'u mabwysiadu yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael ar eu holau heb ddigon o gefnogaeth a diffyg cydnabyddiaeth o'r hyn y buon nhw drwyddo. A gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol pa gyngor cyfreithiol y maen nhw wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar statws cyfreithiol pobl sydd wedi'u mabwysiadu?

I thank the Member for that question. In fact, my area of expertise was family and child law, so I'm acutely aware of what she says, and she's accurate and correct. However, what I would suggest to her is that she might care to send a note, and I will ensure that my Cabinet colleague with the responsibility for that portfolio deals with the issues that she's very properly raised.

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn wir, maes fy arbenigedd i oedd cyfraith teulu a phlant, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r hyn y mae hi'n ei ddweud, ac mae hi'n fanwl gywir ac yn iawn. Er hynny, yr hyn y byddwn i'n ei awgrymu iddi hi yw y gallai hi anfon nodyn, ac fe wnaf innau sicrhau bod fy nghyd-Aelod yn y Cabinet sydd â'r cyfrifoldeb am y portffolio hwnnw yn ymdrin â'r materion y mae hi wedi'u codi yn briodol iawn.

Confensiwn Sewel
Sewel Convention

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â rhoi Confensiwn Sewel ar sail statudol? OQ64260

2. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government about putting the Sewel Convention on a statutory footing? OQ64260

It is important that the Sewel convention is given a binding legal basis in order to strengthen the devolution settlement, as was recommended by the recent independent Commission on the Constitutional Future of Wales. The Sewel convention is not an optional favour to devolved Governments. Adherence to it is fundamental always to the operation of the devolution settlement.

Mae'n bwysig bod gan gonfensiwn Sewel sail gyfreithiol rwymol ar gyfer cryfhau'r setliad datganoli, fel yr argymhellodd y Comisiwn annibynnol diweddar ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Nid cymwynas y gellir dewis ei gwneud i Lywodraethau datganoledig yw confensiwn Sewel. Mae cadw ato yn hanfodol i weithrediad y setliad datganoli bob amser.

Diolch yn fawr am yr ateb yna a chroeso i chi i'r rôl. 

Thank you very much for that response and welcome to your role.  

Counsel General, the Sewel convention states that Westminster will not normally legislate on devolved matters without consent. The difficulty lies in those words—'not normally'. Because the Supreme Court has confirmed that Sewel is a political convention, not a legally binding rule, it has been overridden repeatedly since the EU referendum, including 11 occasions where Westminster legislated without consent, and five further cases where the UK and Welsh Governments disagreed over whether consent was required.

In its current form, Sewel allows Westminster to disregard the democratic mandate of this Senedd. How therefore will the Welsh Government take forward the recommendation of the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales that the UK Government should legislate to require devolved consent for any change to devolved powers, subject only to agreed exceptions such as international obligations, defence or national security? Diolch.

Gwnsler Cyffredinol, mae confensiwn Sewel yn nodi na fydd San Steffan yn deddfu ar faterion datganoledig fel arfer heb ganiatâd. Mae'r anhawster yn y geiriau hynny—'nid fel arfer'. Am fod y Goruchaf Lys wedi cadarnhau mai confensiwn gwleidyddol yw Sewel, nid rheol gyfreithiol rwymol, mae'r confensiwn wedi cael ei ddiystyru dro ar ôl tro ers refferendwm yr UE, gan gynnwys ar 11 achlysur lle mae San Steffan wedi deddfu heb ganiatâd, a phum achos arall lle'r oedd Llywodraeth y DU a Chymru yn anghytuno ynghylch yr angen am gydsyniad.

Ar ei ffurf bresennol, mae Sewel yn caniatáu i San Steffan ddiystyru mandad democrataidd y Senedd hon. Sut felly y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylai Llywodraeth y DU ddeddfu i ofyn am gydsyniad datganoledig ar unrhyw newid i bwerau datganoledig, yn amodol yn unig ar eithriadau cytunedig fel rhwymedigaethau rhyngwladol, amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol? Diolch.

14:40

The Member is absolutely right that experience in recent years has shown that the convention is in need of reform—and I would add 'adherence' as well. Since 2020, an entirely unacceptable number of Bills in devolved areas have been passed without Senedd consent, in breach of the convention. We will engage the UK Government on its manifesto commitment to develop a memorandum of understanding to strengthen the Sewel convention, with an aim, ultimately, to place it on a binding statutory footing. For the healthy operation of the Sewel convention, it is essential that the UK Government commits to early and meaningful engagement on UK Bills where the legislative consent memorandum process is likely to be triggered. 

The Cabinet Minister for Government Effectiveness and the Constitution raised this important matter only last week at a meeting in Belfast of the Interministerial Standing Committee, which was attended by the Chief Secretary to the Prime Minister—as was, presumably—the Deputy First Minister of Scotland, and the First Minister and deputy First Minister of Northern Ireland. There was considerable discussion and understanding about this particular issue. So, the expected engagement with the UK Government is imminent. In particular, if it has to be a memorandum of understanding, we will move forward to ensure that that is stronger and that it contains cast-iron commitments around engagement, transparency, procedural changes and timeliness, to make the legislative consent process more effective. Ultimately, statutory underpinning is the way forward, as the Member rightly says.

Mae'r Aelod yn hollol gywir am yr hyn a ddangosodd profiad y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â'r angen i ddiwygio'r confensiwn—ac fe fyddwn yn ychwanegu 'ymlyniad' hefyd. Ers 2020, mae nifer cwbl annerbyniol o Filiau mewn meysydd datganoledig wedi cael eu pasio heb ganiatâd y Senedd hon, yn groes i'r confensiwn. Fe fyddwn ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei hymrwymiad maniffesto i ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth i gryfhau confensiwn Sewel, gyda'r nod, yn y pen draw, i'w roi ar sail statudol rhwymol. I gonfensiwn Sewel weithredu yn gywir, mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i ymgysylltu yn gynnar ac ystyrlon ar Filiau'r DU lle mae'r broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn debygol o gael ei thanio. 

Cododd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd y Llywodraeth a'r Cyfansoddiad y mater pwysig hwn yr wythnos diwethaf mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn Belfast, yr oedd Prif Ysgrifennydd y Prif Weinidog yn bresennol ynddo—fel roedd, mae'n debyg—Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Roedd cryn drafodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â'r mater arbennig hwn. Felly, mae'r ymgysylltiad disgwyliedig â Llywodraeth y DU ar fin digwydd. Yn arbennig felly, os oes rhaid i hwnnw fod yn femorandwm cyd-ddealltwriaeth, fe fyddwn ni'n symud ymlaen i sicrhau bod hwnnw'n fwy grymus a'i fod yn cynnwys ymrwymiadau cadarn iawn ynghylch ymgysylltiad, tryloywder, newidiadau gweithdrefnol a phrydlondeb, i wneud y broses o gydsyniad deddfwriaethol yn un fwy effeithiol. Yn y pen draw, bod â sail statudol yw'r ffordd ymlaen, fel dywed yr Aelod yn briodol iawn.

For the convention to be put on the statute books, you need consent from the Westminster Government as well. What advice would the Counsel General give to the Welsh Government if the Westminster Government decides it is not in favour of turning the convention into statutory legislation?

Er mwyn i'r confensiwn gael ei roi ar y llyfrau statud, mae angen i chi gael caniatâd gan Lywodraeth San Steffan hefyd. Pa gyngor fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn ei roi i Lywodraeth Cymru pe byddai Llywodraeth San Steffan yn penderfynu nad yw hi o blaid trosi'r confensiwn yn ddeddfwriaeth statudol?

We shall have to wait and see. We will have to discuss, on a co-operative and sensible basis, with our colleagues in Westminster. That is what we will do. That is what the First Minister has indicated he will be doing. We will cross that bridge when we come to it. But clearly, as I've just mentioned, it is a concern, not simply for this Government, but for our colleagues in Scotland, and the Executive of Northern Ireland as well. That must surely be a rather strong message for our colleagues to be considering in Westminster. It's early days yet, but if and when action is to be taken, decisions will be taken in due course.

Bydd yn rhaid i ni aros i weld. Bydd yn rhaid i ni drafod, ar sail gydweithredol a synhwyrol, gyda'n cydweithwyr yn San Steffan. Dyna a fyddwn ni'n ei wneud. Dyna y mae'r Prif Weinidog wedi nodi y bydd yn ei wneud. Fe fyddwn ni'n croesi'r bont honno pan gyrhaeddwn ni hi. Ond yn amlwg, fel rwyf i newydd sôn, mae hwnnw'n bryder, nid yn unig i'r Llywodraeth hon, ond i'n cydweithwyr ni yn yr Alban, ac yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd. Yn sicr, mae'n rhaid bod honno'n neges weddol gryf i'n cydweithwyr ei hystyried yn San Steffan. Mae hi'n gynnar eto, ond os a phryd y dylid cymryd camau, fe fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud maes o law.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Cwnsler Cyffredinol. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Adrian Mason. 

I now call the party spokespeople to question the Counsel General. First of all, Reform UK spokesperson, Adrian Mason. 

Counsel General, may I welcome you to your post? You've had a long and distinguished career, and I say sincerely that this Government is fortunate to be able to call upon your continued service. In your political life, you have been clear in the past about the change you want to see for Wales. But, as Counsel General, you now stand in a new place. Your duty is not to party line, or to political ends, but to law and public interest. As shadow counsel general, my task is to test the law that this Government brings forward. I hope our dealings can be serious, fair, and based on law, as opposed to party point-scoring. With that in mind, Counsel General, will you assure this Senedd that, where the law and political ambition point in opposite directions, it is the law that will guide your advice to Ministers, and will you say 'no' to them?

Gwnsler Cyffredinol, a gaf i eich croesawu chi i'ch swydd? Rydych chi wedi cael gyrfa hir a nodedig, ac rwy'n dweud yn ddiffuant fod y Llywodraeth hon yn ffodus i allu galw ar eich gwasanaeth parhaus. Yn eich bywyd gwleidyddol, rydych chi wedi bod yn eglur yn y gorffennol ynglŷn â'r newid yr hoffech ei weld yng Nghymru. Ond, yn Gwnsler Cyffredinol, rydych chi yn sefyll mewn lle newydd. Nid dilyn polisi eich plaid yw eich dyletswydd chi, nac i ddibenion gwleidyddol, ond i'r gyfraith a budd y cyhoedd. Fel cwnsler cyffredinol cysgodol, fy ngorchwyl i yw profi'r gyfraith y bydd y Llywodraeth hon yn ei chyflwyno. Rwy'n gobeithio y gall ein trafodaethau ni fod yn ddifrifol, yn deg, ac yn seiliedig ar y gyfraith, yn hytrach nag ar sgorio pwyntiau gwleidyddol. Gyda hynny mewn golwg, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi sicrhau'r Senedd hon, lle mae'r gyfraith a'r uchelgais wleidyddol yn pwyntio at gyfeiriadau cyferbyniol, mai'r gyfraith a fydd yn arwain eich cyngor chi i Weinidogion, ac a fyddwch chi'n dweud 'na' wrthyn nhw?

14:45

My role is to advise Government on legal matters, end of—precisely the point. I know that he also is a lawyer. I know that he is pretty good at drafting questions; I've had experience of it just now. I would suggest to him, and in the spirit of co-operation, if he wishes to meet up with me at any stage to discuss his shadow brief, my door is open and I'd be very pleased to see him at any time. But I'm not going to be drawn into any political, oblique legal matters at this stage—very good try, but I'm not going there.

Fy ngwaith i yw cynghori'r Llywodraeth ar faterion cyfreithiol, dyna ei diwedd hi—yr union bwynt. Rwy'n gwybod ei fod yntau hefyd yn gyfreithiwr. Rwy'n gwybod ei fod yn un eithaf da am ddrafftio cwestiynau; fe gefais i brofiad o hynny yn y fan yna. Fe fyddwn i'n awgrymu iddo ef, a hynny yn ysbryd cydweithrediad, pe byddai ef yn dymuno cwrdd â mi ar unrhyw adeg i drafod ei friff cysgodol, mae fy nrws i'n agored ac fe fyddwn i'n falch iawn o'i weld ar unrhyw adeg. Ond nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i unrhyw faterion cyfreithiol gwleidyddol, gogwyddol ar y cam hwn—ymgais dda iawn, ond wnaf i mo hynny.

Okay, I'll stick to the law here now. Counsel General, people in Wales should expect major changes to the law to be made in this Chamber in the open and after proper scrutiny. But Henry VIII powers allow Ministers to change Acts later through regulations, as you well know. This may be convenient for Government, but it can weaken scrutiny by the Senedd. So, would you give a clear assurance that, where Welsh Bills contain such powers, you will insist that they are limited, justified and subject to the strongest possible scrutiny?

Iawn, fe gadwaf i at y gyfraith yma nawr. Gwnsler Cyffredinol, fe ddylai pobl yng Nghymru ddisgwyl i newidiadau mawr i'r gyfraith gael eu gwneud yn y Siambr hon mewn ffordd agored a hynny ar ôl craffu priodol. Ond mae pwerau Harri VIII yn caniatáu i Weinidogion newid Deddfau yn ddiweddarach trwy gyfrwng rheoliadau, fel y gwyddoch chi'n iawn. Efallai fod hyn yn gyfleus i'r Llywodraeth, ond fe all wanhau craffu gan y Senedd. Felly, a fyddech chi'n rhoi sicrwydd eglur, pan fo Biliau Cymru yn cynnwys pwerau o'r fath, y byddwch yn mynnu eu bod nhw'n gyfyngedig, yn gyfiawn ac yn destun i'r craffu mwyaf manwl posibl?

Well, this is what the Senedd is here to do—to scrutinise the work of Government and to ensure that we all get the best we can for Wales. That is the first thing that drives us, the only thing that drives us. As regards Henry VIII powers, they have seemed to be working down the road in London. I'm sure that our Welsh Ministers could discharge that function equally well. It's something that this Government feels strongly about—that they should have the power to do it as and when necessary, but I'm not saying on a wholesale basis; nobody would say that, because that would surely undermine the whole point of our Senedd here. But there are times—times of urgency, or whatever it might be, where there are some rather simple matters to be dealt with, and others that call for ministerial movement fairly quickly—where I would suggest that the Henry VIII powers will be a useful adjunct to the powers of Welsh Ministers. That is something that this Government will be pursuing in due course.

Wel, dyna'r hyn y mae'r Senedd yma i'w wneud—craffu ar waith y Llywodraeth a sicrhau ein bod ni i gyd yn cael y gorau y gallwn ni i Gymru. Dyna'r peth cyntaf sy'n ein hysgogi ni, yr unig beth sy'n ein hysgogi ni. O ran pwerau Harri VIII, roedd yn ymddangos eu bod nhw'n gweithio i lawr y ffordd yn Llundain. Rwy'n siŵr y gallai Gweinidogion Cymru gyflawni'r swyddogaeth honno lawn cystal. Dyma rywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn teimlo yn gryf amdano—y dylen nhw fod â'r pŵer i'w wneud pryd bynnag y bo'r angen, ond nid wyf i'n dweud ar sail gwbl gyffredinol; ni fyddai neb yn dweud felly oherwydd, yn sicr, fe fyddai hynny'n tanseilio holl ddiben ein Senedd ni yma. Ond mae yna adegau—amseroedd o argyfwng, neu beth bynnag a allai fod, pryd ceir rhai materion eithaf syml i ymdrin â nhw, ac eraill sy'n galw am symudiad gweinidogol gweddol gyflym—lle byddwn i'n awgrymu y bydd pwerau Harri VIII yn ychwanegiad defnyddiol at bwerau Gweinidogion Cymru. Mae hwnnw'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth hon yn mynd ar ei drywydd maes o law.

Thank you, Counsel General. You've had an interest in justice and the future of Wales for a long time, and I do respect that. However, I remain concerned about your party's constitutional direction. Changes to the law, the courts or the powers of this place must be judged by plain tests: what issues will they address, what will they cost, who will be in charge, and have the people of Wales clearly supported them? So, will you accept that any major change must be clear, costed and put to the people in a way they can understand? And given Plaid Cymru's stated aim of independence, can you ensure the Senedd that you will not support change by legal or political stealth, but will be fully open with the Welsh people in the transparent way they're entitled to expect?

Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Rydych chi wedi ymddiddori mewn cyfiawnder a dyfodol Cymru ers amser maith, ac rwy'n parchu hynny. Eto i gyd, rwy'n parhau i fod yn bryderus am gyfeiriad cyfansoddiadol eich plaid chi. Fe ddylid barnu newidiadau i'r gyfraith, y llysoedd neu bwerau'r lle hwn trwy brofion eglur: pa faterion y byddan nhw'n mynd i'r afael â nhw, faint fyddan nhw'n costio, pwy fydd yn gyfrifol amdanyn nhw, a bod cefnogaeth amlwg gan bobl Cymru iddyn nhw? Felly, a ydych chi'n derbyn y dylai unrhyw newid mawr fod yn eglur, wedi cyfri'r gost a'i fynegi i'r bobl mewn ffordd y gallan nhw ei deall? Ac o ystyried nod datganedig Plaid Cymru o annibyniaeth, a wnewch chi roi sicrwydd i'r Senedd na fyddwch yn cefnogi newid cyfreithiol neu wleidyddol yn llechwraidd, ond y byddwch chi'n gwbl agored gyda phobl Cymru yn y ffordd dryloyw y mae ganddyn nhw hawl i'w disgwyl?

I am here to advise Government, without fear or favour. That is what I shall do. I shall do my best to give them the best possible legal advice, and it's for others to decide on future policy, on the constitution and everything else.

Rwyf i yma i gynghori Llywodraeth, a hynny heb ofn na ffafr. Dyna'r hyn y byddaf i'n ei wneud. Fe fyddaf i'n gwneud fy ngorau i roi'r cyngor cyfreithiol gorau posibl iddyn nhw, a mater i eraill yw penderfynu ar bolisi'r dyfodol, o ran y cyfansoddiad a phopeth arall.

Llefarydd Llafur Cymru, Mike Hedges.

The Welsh Labour spokesperson, Mike Hedges.

Diolch, Lywydd. What analysis has the Counsel General made of the standard of court buildings in Wales? I have been told that a number of the court buildings in Wales are in a very poor state of repair. Has the Counsel General discussed the state of the court buildings in Wales with Lady Carr, the head of the judiciary of England and Wales? Has the Counsel General discussed the state of the court buildings in Wales with the Lord Chancellor? And will the Counsel General report to the Senedd proposals to improve the fabric of court buildings in Wales?

Diolch, Lywydd. Pa ddadansoddiad a wnaeth y Cwnsler Cyffredinol o safon adeiladau'r llysoedd yng Nghymru? Mae rhywun wedi dweud wrthyf i fod nifer o adeiladau'r llysoedd yng Nghymru mewn cyflwr gwael iawn. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi trafod cyflwr adeiladau'r llys yng Nghymru gydag Arglwyddes Carr, pennaeth barnwriaeth Cymru a Lloegr? A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi trafod cyflwr adeiladau'r llys yng Nghymru gyda'r Arglwydd Ganghellor? Ac a fydd y Cwnsler Cyffredinol yn adrodd i'r Senedd ar gynigion i wella gwneuthuriad adeiladau llysoedd yng Nghymru?

I thank the Member for those questions. I can speak frankly about the condition of court buildings in Wales: by and large, they're absolutely appalling, and something is to be done and should be done. As he appreciates, it is a reserved matter, since the Lord Chancellor sends the odd pound or two to repair a leaky roof every now and then. The state of the court buildings is appalling. What I can say to him is that, shortly, I shall be meeting Lady Chief Justice Carr, and I will certainly be covering this subject as one of the main topics that we will be discussing.

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n gallu siarad yn onest am gyflwr adeiladau llysoedd yng Nghymru: ar y cyfan, maen nhw'n mewn cyflwr ofnadwy, ac fe fydd rhywbeth yn cael ei wneud ac fe ddylid ei wneud. Fel mae ef yn ei ddeall, mater a gedwir yn ôl yw hwn, gan fod yr Arglwydd Ganghellor yn anfon rhyw bunt neu ddwy bob hyn a hyn i atgyweirio to sy'n gollwng. Mae cyflwr adeiladau'r llysoedd yn ofnadwy. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw y byddaf i, cyn bo hir, yn cwrdd â'r Arglwyddes Brif Ustus Carr, ac yn sicr, fe fyddaf i'n cynnwys y pwnc hwn fel un o'r prif bynciau y byddwn ni'n eu trafod.

Thank you for that response. Lady Carr is well aware of the problems; she reported that to a Senedd committee in the last Senedd.

My next question is: a lot can be achieved without legislation, including what happened with comprehensive education, but some things need legislation. Areas that need legislation include statutory bodies. Support staff are very important to the running of a school. Schools could not run effectively without them. I've seen it first-hand as a school governor—a membership that I'm declaring for the record. Will the Counsel General and Plaid Cymru support my colleague Lynne Neagle's Member's legislative proposal to create in law a school support staff negotiating body?

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Mae Arglwyddes Carr yn ymwybodol iawn o'r problemau; fe adroddodd hi hynny i bwyllgor Senedd yn y Senedd ddiwethaf.

Fy nghwestiwn nesaf i yw: fe ellir cyflawni llawer iawn heb ddeddfwriaeth, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd gydag addysg gyfun, ond mae angen deddfwriaeth ar rai materion. Mae'r meysydd sydd angen deddfwriaeth yn cynnwys cyrff statudol. Mae staff cymorth yn bwysig iawn i redeg ysgol. Ni allai ysgolion redeg yn effeithiol hebddyn nhw. Rwyf i wedi gweld hynny'n uniongyrchol fel llywodraethwr ysgol—aelodaeth yr wyf i'n ei ddatgan ar y cofnod. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol a Phlaid Cymru gefnogi cynnig deddfwriaethol fy nghyd-Aelod Lynne Neagle i greu corff negodi staff cymorth ysgolion yn y gyfraith?

14:50

Well, this clearly is outside my remit, but I'm not going to just bat it away. I see that the Llywydd is having a laugh there. It's like the old days in Westminster.

No, the point he makes is a valid one and what I shall do, even if the Cabinet Minister responsible for the portfolio isn't aware of his question, she will be made aware of the question, and undoubtedly she will address it for him.

Wel, mae hyn y tu allan i'm cylch gorchwyl i'n amlwg, ond nid wyf am wneud dim ond ei daro i ffwrdd. Rwy'n gweld bod y Llywydd yn chwerthin yn y fan acw. Mae hyn yn debyg i'r hen ddyddiau yn San Steffan.

Na, mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn un dilys a'r hyn a wnaf i, hyd yn oed os nad yw'r Gweinidog Cabinet sy'n gyfrifol am y portffolio yn ymwybodol o'i gwestiwn, yw y bydd hi'n dod yn ymwybodol o'r cwestiwn, ac yn ddiamau, fe fydd hi'n mynd i'r afael â'r cwestiwn ar ei gyfer.

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar. 

The Welsh Conservatives' spokesperson, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Can I welcome you, Counsel General, to your new role and say how fondly I remember the times we worked together for the improvement of care for veterans in Wales during your tenure as a Member of Parliament? And I hope that we can have an equally constructive relationship here in the Senedd and in this Chamber.

Just last week, Counsel General, the UK Government's grooming gangs inquiry identified the first locations that it now intends to undertake some investigations and work in. Unfortunately, not one of those locations was here in Wales, and that's very, very disappointing because we know from previous inquiries that have taken place, most notably the independent inquiry into child sexual abuse, which was led by Professor Jay, that there was grooming gang activity in the Swansea area. We know that there's a live case ongoing about grooming gang activity in Rhyl at the moment, which, obviously, I wouldn't expect you to comment on, but we also know from the testimony of victims of grooming gangs and sexual trafficking that that has taken place in other parts of rural Wales as well. Can I ask you, Counsel General, what discussions you have had with those responsible for the inquiry about the engagement of Wales in its important work to make sure that no stone is left unturned in identifying the scale of these problems in Wales and the action that can be taken to prevent it happening in the future?

Diolch, Lywydd. A gaf i eich croesawu, Gwnsler Cyffredinol, i'ch swydd newydd a dweud pa mor falch yr wyf wrth gofio'r adegau y buom ni'n gweithio gyda'n gilydd i wella gofal i gyn-filwyr yng Nghymru yn ystod eich cyfnod fel Aelod Seneddol yn San Steffan? Ac rwy'n gobeithio y bydd ein perthynas ni'r un mor adeiladol yma yn y Senedd hon ac yn y Siambr hon.

Yr wythnos diwethaf, Gwnsler Cyffredinol, roedd ymchwiliad Llywodraeth y DU i gangiau meithrin perthynas amhriodol yn nodi'r lleoliadau dechreuol lle y mae'n bwriadu cynnal rhai ymchwiliadau a gweithio ynddyn nhw. Yn anffodus, nid oedd un o'r lleoliadau hynny yma yng Nghymru, ac mae hynny'n siomedig dros ben oherwydd fe wyddom ni o ymchwiliadau sydd wedi digwydd yn flaenorol, yn enwedig yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, a arweiniwyd gan yr Athro Jay, bod gangiau meithrin perthynas amhriodol wedi bod yn weithredol yn ardal Abertawe. Fe wyddom ni fod achos yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ynglŷn â gangiau meithrin perthynas amhriodol yn y Rhyl, ac yn amlwg ni fyddwn yn disgwyl i chi wneud sylwadau ar yr achos hwnnw, ond fe wyddom ni hefyd o dystiolaeth gan ddioddefwyr y gangiau hyn a masnachu rhywiol bod hynny wedi digwydd mewn rhannau eraill o gefn gwlad Cymru hefyd. A gaf i ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r rhai sy'n gyfrifol am yr ymchwiliad ynglŷn ag ymgysylltiad Cymru â'i gwaith pwysig i sicrhau na chaiff unrhyw fater ei ddiystyru wrth nodi graddfa'r problemau hyn yng Nghymru a'r camau y gellir eu cymryd i atal y rhain rhag digwydd yn y dyfodol?

Well, I thank him for his good wishes, and I do remember working quite co-operatively with him in those days. We've both grown a bit old and finicky and nasty, perhaps, in that time, and I include myself in that. [Laughter.] But the point he makes is a valid one. I shall not mention at all the Rhyl matter because that's before Caernarfon Crown Court as we speak. But the point he makes is a valid one, and I believe that the way forward for me to answer this question properly is to say that I will engage with my colleague who has responsibility for negotiations with the bodies that decide where inquiries take place and that those matters can be properly and deeply investigated, and an answer forthcoming before long.

Wel, rwy'n diolch yn fawr iddo am ei ddymuniadau da, ac rwyf innau'n cofio gweithio yn gydweithredol iawn ag ef yn y dyddiau hynny. Mae'r ddau ohonom ni wedi mynd ychydig yn hen ac yn gysetlyd ac yn gas, efallai, yn yr amser hwnnw, ac rwy'n fy nghynnwys fy hun yn hynny. [Chwerthin.] Ond mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn un dilys. Nid wyf i am sôn o gwbl am fater y Rhyl oherwydd mae hwnnw gerbron Llys y Goron Caernarfon wrth i ni siarad heddiw. Ond mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn un dilys, ac rwy'n credu mai'r ffordd ymlaen i mi ateb y cwestiwn hwn yn briodol yw drwy ddweud y byddaf i'n ymgysylltu â fy nghyd-Aelod sydd â chyfrifoldeb am drafodaethau gyda'r cyrff sy'n penderfynu ym mha le y mae ymchwiliadau yn digwydd ac y gellir ymchwilio yn briodol ac yn eang i'r materion hynny, ac fe ddaw ateb cyn bo hir.

I'm very pleased and heartened to hear your response there. It is important, of course, for the victims of these grooming gangs that we get answers and that we are able to hold those people to account who have failed them. Not least of those victims, of course, is Emily Vaughn, who has spoken powerfully about her awful experiences having been raped hundreds of times by individuals involved in these gangs and having been trafficked from one place to another, and from Wales into other parts of the United Kingdom, in order to suffer that abuse that she experienced.

Now, of course, we understand from the work that's already taken place that some of the people who were supposed to be protecting vulnerable young girls mainly, but sometimes boys too, that some of the reason that those individuals were able to get away with those crimes for such a long time was snobbery because these people sometimes, the victims, came from poor backgrounds and were written off as being troublesome individuals. Some of it was cowardice, not being prepared to call out activity in certain ethnic groups for fear of being accused of racism. And unfortunately, as a result, many of those individuals felt abandoned. Can I ask you, Counsel General, will you also, in addition to reaching out and working with colleagues across the rest of the United Kingdom, reach out to some of the victims of these gangs here in Wales, have conversations with them about the way that they want the Welsh Government to influence this inquiry? And should you feel that the UK inquiry is not going to get to the bottom of the problems that those individuals want to be dealt with, will you give independent advice to the Government and won't fall shy of calling for a Wales-wide inquiry into those areas for which the Welsh Government is responsible, should that be necessary?

Rwy'n falch iawn ac yn galonnog o glywed eich ymateb chi yn y fan yna. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i ddioddefwyr y gangiau hyn ein bod ni'n cael atebion a'n bod yn gallu dwyn y bobl hynny i gyfrif sydd wedi eu methu nhw. Nid yn lleiaf ymhlith y dioddefwyr hynny, wrth gwrs, Emily Vaughn, sydd wedi siarad yn rymus am ei phrofiadau ofnadwy hi wedi iddi gael ei threisio gannoedd o weithiau gan unigolion â chysylltiad â'r gangiau hyn ac fe gafodd ei masnachu o un lle i'r llall, ac o Gymru i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, i ddioddef y cam-drin hwnnw a brofodd.

Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n deall o'r gwaith sydd wedi digwydd eisoes fod rhai o'r bobl a ddylai fod yn amddiffyn merched ifanc agored i niwed yn bennaf, ond bechgyn weithiau hefyd, mai snobyddiaeth oedd un o'r rhesymau sut y llwyddodd yr unigolion hynny i osgoi cyfiawnder wrth gyflawni'r troseddau hynny am gyfnod mor faith oherwydd roedd y rhai hyn weithiau, y dioddefwyr hyn, o gefndiroedd tlawd ac fe gawson nhw eu diystyru fel unigolion trafferthus. Roedd llwfrdra yn achos hefyd, diffyg parodrwydd i enwi gweithgarwch mewn rhai grwpiau ethnig oherwydd ofn cyhuddiadau o hiliaeth. Ac yn anffodus, o ganlyniad i hynny, roedd llawer o'r unigolion hynny yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael yn amddifad. A gaf i ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi hefyd, yn ogystal ag estyn allan a gweithio gyda chydweithwyr ledled gweddill y Deyrnas Unedig, estyn allan at rai o ddioddefwyr y gangiau hyn yma yng Nghymru, a chael sgyrsiau gyda nhw am y ffordd y bydden nhw'n dymuno i Lywodraeth Cymru ddylanwadu ar yr ymchwiliad hwn? Ac os ydych chi'n teimlo na fydd ymchwiliad y DU yn mynd at hanfod y problemau y mae'r unigolion hynny yn awyddus iddyn nhw gael sylw, a wnewch chi roi cyngor annibynnol i'r Llywodraeth ac a fyddwch chi'n eofn yn eich galwad am ymchwiliad drwy Gymru i'r meysydd hynny y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, pe byddai hynny'n angenrheidiol?

14:55

Well, the whole Chamber has heard what he said, and the whole Chamber is disgusted and concerned about what's happening to these young people—there's no question about that. But my remit does not extend to what he asks me to do. However, he's been heard loud and clear, and I hope that this could be the beginning of a conversation with colleagues who are able to take it further. The matter that he raises is important, but I can tell him this: if I were ever asked to give any legal advice in connection with this, then it would be without fear or favour, always.

Wel, mae'r Siambr gyfan wedi clywed yr hyn a ddywedodd, ac mae'r Siambr gyfan wedi ffieiddio ac yn ofidus iawn ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i'r bobl ifanc hyn—nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond nid yw fy nghylch gwaith i'n ymestyn i'r hyn y mae o'n gofyn i mi ei wneud. Eto i gyd, fe gafodd ei glywed yn hyglyw iawn, ac rwy'n gobeithio y gallai hyn fod yn ddechrau ar sgwrs gyda chydweithwyr a fydd yn gallu mynd â'r mater ymhellach. Mae'r mater y mae o'n ei godi yn un pwysig, ond fe allaf i ddweud hyn wrtho: pe gofynnid i mi roi unrhyw gyngor cyfreithiol yn y cyswllt hwn, heb ofn na ffafr y byddai hynny, bob amser.

Dyletswyddau Cyfreithiol Cyrff Cyhoeddus
Public Bodies' Legal Duties

3. Pa rôl sydd gan y Cwnsler Cyffredinol o ran sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol? OQ64242

3. What role does the Counsel General have in ensuring public bodies in Wales comply with their legal duties? OQ64242

I do not have a direct role in the monitoring or supervision of Welsh public bodies. However, I can institute legal proceedings relating to matters where any functions of the Welsh Ministers are exercisable and where such action is appropriate for the promotion or protection of the public interest.

Nid oes swyddogaeth uniongyrchol i mi yn y gwaith o fonitro neu oruchwylio cyrff cyhoeddus Cymru. Er hynny, fe allaf i ddechrau achos cyfreithiol sy'n ymwneud â materion pryd y gellir defnyddio unrhyw swyddogaethau sydd gan Weinidogion Cymru a phryd y bo gweithredu o'r fath yn briodol ar gyfer hyrwyddo neu amddiffyn budd y cyhoedd.

Thank you, Counsel General. I accept that Wales has an extensive framework of accountability in place: the courts, the Public Services Ombudsman for Wales, the Auditor General for Wales and the Information Commissioner. Each has an important role to play, but the rule of law begins with Government itself. Through my own scrutiny work and freedom of information requests, I have seen how questions can arise over transparency, governance and compliance with legal duties. In one internal review into a series of my environmental information requests related to Community Energy Wales, the Welsh Government accepts that it has grouped five separate requests together, failed to explain the basis for doing so in its original response and apologised for that oversight. That raises a much broader constitutional question. As the Welsh Government's law officer, what assurance can you give this Senedd that Ministers, Government departments and publicly funded bodies comply with their legal duties from the outset, rather than leaving citizens to fight through complaints, internal reviews and appeals to secure the outcome the law already requires?

Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Rwy'n derbyn bod fframwaith eang ar waith o ran atebolrwydd yng Nghymru: y llysoedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gwaith pwysig gan bob un ohonyn nhw, ond mae rheolaeth y gyfraith yn dechrau gyda'r Llywodraeth ei hun. Trwy fy ngwaith craffu i a cheisiadau rhyddid gwybodaeth, fe welais i sut y gall cwestiynau godi ynglŷn â thryloywder, llywodraethu a chydymffurfiaeth â dyletswyddau cyfreithiol. Mewn un adolygiad mewnol i gyfres o geisiadau a wnes i am wybodaeth amgylcheddol yn ymwneud ag Ynni Cymunedol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ei bod wedi grwpio pum cais ar wahân gyda'i gilydd, wedi methu ag esbonio'r sail dros wneud hynny yn ei hymateb gwreiddiol ac wedi ymddiheuro am yr esgeulustod hwnnw. Mae hynny'n codi cwestiwn cyfansoddiadol llawer ehangach. Yn swyddog cyfreithiol Llywodraeth Cymru, pa sicrwydd a allwch chi ei roi i'r Senedd hon fod Gweinidogion, adrannau'r Llywodraeth a chyrff a ariennir yn gyhoeddus yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na'u bod yn gadael dinasyddion i ymladd drwy gwynion, adolygiadau mewnol ac apeliadau er mwyn sicrhau'r canlyniad sy'n ofynnol dan y gyfraith eisoes?

Well, as I've said, I do have powers to undertake prosecutions in certain circumstances. But, as Counsel General, I also have a role in ensuring that decisions made by Welsh Ministers are lawful and that they exercise their functions appropriately and that they also comply with international obligations. In addition, I also seek to improve the accessibility of Welsh law, which also assists citizens and Welsh public bodies to ensure compliance with legal rules and responsibilities. Under section 67 of the Government of Wales Act 2006, I do have power to initiate, institute, defend or appear in legal proceedings where I consider it appropriate for the promotion or protection of the public interest. The power in section 67 applies to legal proceedings relating to matters where a function of Welsh Ministers, the First Minister or the Counsel General is exercisable. But, at the end of the day, Welsh public bodies are responsible for ensuring compliance against their own legal responsibilities, and my role does not impinge on that particular matter.

Wel, fel y dywedais i, mae pwerau gennyf i ymgymryd ag erlyniadau mewn rhai amgylchiadau. Ond, fel Cwnsler Cyffredinol, mae gwaith gennyf i hefyd o ran sicrhau bod penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gyfreithlon a'u bod nhw'n ymarfer eu swyddogaethau mewn modd priodol a'u bod nhw'n cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol hefyd. Yn ogystal â hynny, rwyf hefyd yn ceisio gwella hygyrchedd cyfraith Cymru, sydd hefyd yn cynorthwyo dinasyddion a chyrff cyhoeddus Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a chyfrifoldebau cyfreithiol. O dan adran 67 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae pŵer gennyf i gychwyn, sefydlu, amddiffyn neu ymddangos mewn achosion cyfreithiol pan fyddaf o'r farn fod hynny'n briodol ar gyfer hyrwyddo neu amddiffyn budd y cyhoedd. Mae'r pŵer yn adran 67 yn gymwys i achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â materion lle gellir defnyddio un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol. Ond, yn y pen draw, cyrff cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth yn unol â'u cyfrifoldebau cyfreithiol eu hunain, ac nid yw fy swyddogaeth i'n effeithio ar y mater penodol hwnnw.

Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
The Office of the Legislative Counsel

4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gapasiti Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol i gefnogi rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth mewn Senedd fwy o faint gyda 96 Aelod? OQ64245

4. What assessment has the Counsel General made of the capacity of the Office of the Legislative Counsel to support the Government's legislative programme in an expanded 96-Member Senedd? OQ64245

15:00

I've had numerous discussions already with y Prif Gwnsler Deddfwriaethol, the First Legislative Counsel, who heads that office, both about the work of the office, its capacity and legislation generally.

Rwyf eisoes wedi cael nifer o drafodaethau gyda'r Prif Gwnsler Deddfwriaethol, sy'n arwain y swyddfa honno, am waith y swyddfa, ei chapasiti a deddfwriaeth yn gyffredinol.

Following the historic May 2026 election, this Chamber has grown from 60 to 96 Members. The structural expansion fundamentally alters the legislative dynamic of our Parliament. With more Members taking their seats, we will inevitably see a sharp rise in committee inquiries, a higher volume of amendments and a greater appetite for Member-proposed backbench Bills. With the movement in the Chamber sometimes slow and often delayed until the autumn, a larger Parliament can only pass high-quality bilingual laws if the infrastructure behind it is prepared. Could the Counsel General outline what steps he is taking to ensure that the office of the counsel is adequately resourced, staffed and prepared to handle the increased drafting pressure without causing delays to the Government's own agenda?

Yn dilyn yr etholiad hanesyddol ym mis Mai 2026, mae'r Siambr hon wedi tyfu o 60 i 96 o Aelodau. Mae'r ehangu strwythurol yn newid deinameg ddeddfwriaethol ein Senedd yn sylfaenol. Gyda mwy o Aelodau yn cymryd eu seddi, mae'n anorfod y byddwn ni'n gweld cynnydd sydyn mewn ymchwiliadau gan bwyllgorau, nifer uwch o welliannau a mwy o awydd am Filiau Arfaethedig Aelodau'r meinciau cefn. Gyda'r symudiad yn y Siambr weithiau'n araf ac yn aml yn cael ei ohirio tan yr hydref, dim ond os yw'r seilwaith y tu ôl iddi yn barod y gall Senedd fwy o faint basio deddfau dwyieithog o ansawdd uchel. A allai'r Cwnsler Cyffredinol amlinellu pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod gan swyddfa'r cwnsler ddigon o adnoddau a staff a'i bod yn barod i fynd i'r afael â'r pwysau drafftio cynyddol heb achosi oedi i agenda'r Llywodraeth ei hun?

Just to state the obvious, the new Government is very conscious that promoting legislation is one of its most important functions, and the Office of the Legislative Counsel has a vital role, both in drafting and, more generally, helping shape the Government's legislative programme. It also leads the process of helping me develop a programme of activities to make Welsh law more accessible, essentially, to develop an easier to understand bilingual statute book for Wales.

The office, like most other legislative drafting offices, is relatively small. However, it will shortly be recruiting to expand the office to 20 legislative counsel from the present number of 17. I will, however, be monitoring the office's capacity in the coming months and will be considering how efficiently the civil service as a whole is able to develop legislative proposals.

I would finally add that the Government's focus is on outcomes, and this applies to the approach it will take to legislating as much as to developing policy and making financial commitments. The fact that there is a larger membership of the Senedd to scrutinise necessarily will not in any way hamper the work of legislative counsel, and, especially, since they will be going up considerably—well, from 17 to 20, it's a considerable upgrading in terms of numbers.

Dim ond i nodi'r hyn sy'n amlwg, sef bod y Llywodraeth newydd yn ymwybodol iawn mai hyrwyddo deddfwriaeth yw un o'i swyddogaethau pwysicaf, ac mae gan Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol rôl hanfodol, wrth ddrafftio ac, yn fwy cyffredinol, wrth helpu i lunio rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Mae hefyd yn arwain y broses o fy helpu i ddatblygu rhaglen o weithgareddau i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn y bôn, i ddatblygu llyfr statud dwyieithog haws ei ddeall ar gyfer Cymru.

Mae'r swyddfa, fel y rhan fwyaf o swyddfeydd drafftio deddfwriaethol eraill, yn gymharol fach. Fodd bynnag, bydd yn recriwtio'n fuan i ehangu'r swyddfa i 20 o gwnsleriaid deddfwriaethol o'r nifer presennol, sef 17. Fodd bynnag, byddaf yn monitro capasiti'r swyddfa yn y misoedd nesaf ac yn ystyried pa mor effeithlon yw'r gwasanaeth sifil yn ei gyfanrwydd o ran ei allu i ddatblygu cynigion deddfwriaethol.

I gloi, byddwn yn ychwanegu mai canlyniadau yw ffocws y Llywodraeth, ac mae hyn yn berthnasol i'r dull y bydd yn ei gymryd i ddeddfu cymaint ag i ddatblygu polisïau a gwneud ymrwymiadau ariannol. Ni fydd y ffaith bod mwy o Aelodau'r Senedd i graffu o reidrwydd yn rhwystro gwaith cwnsleriaid deddfwriaethol mewn unrhyw ffordd, ac, yn enwedig, gan y byddan nhw'n cynyddu'n sylweddol—wel, o 17 i 20, mae'n uwchraddio sylweddol o ran niferoedd.

Trefniadau Gofal Iechyd Trawsffiniol
Cross-border Healthcare Arrangements

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar i ba raddau y mae trefniadau gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn cael eu hategu gan gytundebau gweinyddol, neu rwymedigaethau statudol neu gontractiol gorfodadwy? OQ64238

5. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government on the extent to which cross-border healthcare arrangements between Wales and England are underpinned by administrative agreements, or by enforceable statutory or contractual obligations? OQ64238

I live in Meirionnydd, which borders on where he lives, and so I am aware of problems that sometimes occur cross-border. Cross-border healthcare arrangements are a routine and essential part of NHS delivery for communities across the Wales-England border. They are underpinned by statutory duties on NHS bodies to secure services for their populations, supported, as I've said, by statutory powers to commission care across the border and by operational agreements, ensuring patients receive timely and seamless treatment.

Rwy'n byw ym Meirionnydd, sy'n ffinio â ble mae e'n byw, ac felly rwy'n ymwybodol o broblemau sy'n digwydd weithiau ar draws ffiniau. Mae trefniadau gofal iechyd trawsffiniol yn rhan arferol a hanfodol o ddarpariaeth y GIG i gymunedau ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Maen nhw'n cael eu hategu gan ddyletswyddau statudol ar gyrff y GIG i sicrhau gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau, a'u cefnogi, fel y dywedais i, gan bwerau statudol i gomisiynu gofal ar draws y ffin a chan gytundebau gweithredol, gan sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth amserol a di-dor.

Counsel General, I'm not overly clear from your response where the legal certainty lies, so can you clarify whether you are satisfied that current cross-border healthcare arrangements would withstand a change in legislative competence without requiring renegotiation and, if not, what is the legal risk to patients in the interim?

Gwnsler Cyffredinol, dydw i ddim yn glir o'ch ymateb ble mae'r sicrwydd cyfreithiol, felly allwch chi egluro a ydych chi'n fodlon y byddai'r trefniadau gofal iechyd trawsffiniol presennol yn gwrthsefyll newid mewn cymhwysedd deddfwriaethol heb fod angen eu hailnegodi ac, os na, beth yw'r risg gyfreithiol i gleifion yn y cyfamser?

There is legislation in Wales and also in England that expressly allows services to be provided and also commissioned across territorial boundaries. NHS bodies also have powers and duties to co-operate and work jointly, supporting integrated cross-border provision, and, in practice, these statutory foundations are complemented by structured commissioning and service agreements between organisations. There's also a shared statement of values and principles reinforcing a consistent patient-centred approach and avoids delays or gaps in care, and the overall framework ensures patients' experience is seamless, safe and timely to access.

And I just make this point that cross-border healthcare operates within frameworks established by the National Health Service (Wales) Act 2006 and the National Health Act 2006, and these Acts impose duties on Welsh Ministers, the Secretary of State and NHS bodies in both England and Wales to promote and secure comprehensive health services for their populations. With respect, I would have said that the statutory underpinning is there. It just had to be made to work slightly more effectively at times.

Mae yna ddeddfwriaeth yng Nghymru a hefyd yn Lloegr sy'n caniatáu'n benodol i wasanaethau gael eu darparu a hefyd eu comisiynu ar draws ffiniau tiriogaethol. Mae gan gyrff y GIG hefyd bwerau a dyletswyddau i gydweithredu a gweithio ar y cyd, gan gefnogi darpariaeth drawsffiniol integredig, ac, yn ymarferol, mae'r sylfeini statudol hyn yn cael eu hategu gan gytundebau comisiynu a gwasanaeth strwythuredig rhwng sefydliadau. Mae yna ddatganiad o werthoedd ac egwyddorion ar y cyd hefyd sy'n atgyfnerthu dull cyson sy'n canolbwyntio ar y claf ac yn osgoi oedi neu fylchau mewn gofal, ac mae'r fframwaith cyffredinol yn sicrhau bod profiad cleifion yn ddi-dor, yn ddiogel ac yn amserol.

Ac fe wnaf y pwynt hwn bod gofal iechyd trawsffiniol yn gweithredu o fewn fframweithiau a sefydlwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a Deddf Iechyd Gwladol 2006, a bod y Deddfau hyn yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a chyrff y GIG yng Nghymru a Lloegr i hyrwyddo a sicrhau gwasanaethau iechyd cynhwysfawr i'w poblogaethau. Gyda pharch, byddwn i wedi dweud bod y sail statudol yno. Roedd ond rhaid ei gwneud i weithio ychydig yn fwy effeithiol ar adegau.

15:05

Croeso arbennig i'r Cwnsler Cyffredinol i'w swyddogaeth newydd yma heddiw. Mi wnaf i ofyn hwn yn Saesneg, er syndod i sawl un.

Welcome to the Counsel General to his new role here today. I'll ask this question in English, to the great surprise of many.

We hear a great deal about the cross-border health issue in Powys, however, what we don't hear much about is the fact that, last year, NHS England did a revaluation of emergency care costs, leading to increased fees over and above the normal inflationary costs et cetera, which are underwritten by the Government. This led to an additional cost of £3.8 million last year, and it's likely to be an extra £4 million in 2026-27. On top of that, Wye Valley NHS Trust is classified by NHS England as a rural area, and gets a premium. However, they then automatically expect Powys to also pay them a premium, which results, to date, to a £13 million bill. 

These are the issues creating huge pressures on Powys health board. What legal advice can the Counsel General provide the Welsh Government to help address these cross-border issues? Diolch yn fawr.

Rydyn ni'n clywed llawer am y mater o iechyd trawsffiniol ym Mhowys, fodd bynnag, yr hyn nad ydyn ni'n clywed llawer amdano yw'r ffaith bod GIG Lloegr wedi ailbrisio costau gofal argyfwng y llynedd, gan arwain at gynnydd mewn ffioedd uwchlaw'r costau chwyddiant arferol ac ati, sy'n cael eu tanysgrifennu gan y Llywodraeth. Arweiniodd hyn at gost ychwanegol o £3.8 miliwn y llynedd, ac mae'n debygol o fod yn £4 miliwn ychwanegol yn 2026-27. Ar ben hynny, mae Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy yn cael ei dosbarthu gan GIG Lloegr fel ardal wledig, ac mae'n cael premiwm. Fodd bynnag, maen nhw wedyn yn disgwyl yn awtomatig i Bowys dalu premiwm iddyn nhw hefyd, sydd wedi arwain at fil o £13 miliwn hyd yma. 

Dyma'r materion sy'n creu pwysau enfawr ar fwrdd iechyd Powys. Pa gyngor cyfreithiol y gall y Cwnsler Cyffredinol ei roi i Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r materion trawsffiniol hyn? Diolch yn fawr.

Again, I'm grateful for that question, as I was for the previous question. I'll just repeat shortly that the commissioning of NHS services, including cross-border, is a matter for local health boards, who act within the statutory framework established by legislation, to which I referred. Welsh Ministers are aware of the financial pressure facing health boards, including those arising from periodical changes to the NHS England pricing system, which is the agreed tariff for cross-border service provision.

Decisions taken to recognise specific pressures outside the agreed cross-border mechanisms are not enforceable across borders, and are matters for Wales and England respectively, separately. But we continue to engage with NHS organisations and health boards on those pressures, but individual commissioning decisions between NHS bodies are matters for the organisations concerned.

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn hwnnw, fel yr oeddwn am y cwestiwn blaenorol. Fe ailadroddaf yn fyr bod comisiynu gwasanaethau'r GIG, gan gynnwys gwasanaethau trawsffiniol, yn fater i fyrddau iechyd lleol, sy'n gweithredu o fewn y fframwaith statudol a sefydlwyd gan ddeddfwriaeth, y cyfeiriais ato. Mae Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o'r pwysau ariannol sy'n wynebu byrddau iechyd, gan gynnwys y rhai sy'n deillio o newidiadau cyfnodol i system brisio GIG Lloegr, sef y tariff y cytunir arno ar gyfer darparu gwasanaethau trawsffiniol.

Nid yw penderfyniadau a wneir i gydnabod pwysau penodol y tu hwnt i'r dulliau trawsffiniol y cytunir arnynt yn orfodadwy ar draws ffiniau, ac maen nhw'n faterion i Gymru a Lloegr yn ôl eu trefn, ar wahân. Ond rydyn ni'n parhau i ymgysylltu â sefydliadau'r GIG a byrddau iechyd ar y pwysau hynny, ond materion i'r sefydliadau dan sylw yw penderfyniadau comisiynu unigol rhwng cyrff y GIG.

Croeso i'r swydd hefyd, Gwnsler Cyffredinol.

Welcome to your new position, Counsel General.

Thank you very much for raising this issue. I just want to refer back to an issue that I raised on this concern with the First Minister, where he acknowledged the unfairness in the waiting system facing Powys patients, and that he recognised it as a matter of equity. He said:

'we will have the interests of the people of Powys at heart.'

That actually sits quite uneasily with the Powys patients, because that is not what is happening. We hear that the buck is being passed, and I'll be absolutely honest and respectful to you, but we're hearing that from you as well. You're talking about frameworks, you're talking about seamless services. These words mean nothing to Powys patients who are waiting to have their operations, which will relieve them of pain.

You mentioned that there is a statutory framework in place in order to look at the services, so my challenge to you in your role is: will you change and challenge those statutory frameworks in order to allow Powys patients who live on the border access to English hospitals in the same waiting time that English patients have? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Rwyf eisiau cyfeirio'n ôl at fater a godais ynghylch y pryder hwn gyda'r Prif Weinidog, lle y gwnaeth gydnabod yr annhegwch yn y system aros sy'n wynebu cleifion ym Mhowys, ac y gwnaeth gydnabod ei fod yn fater o degwch. Dywedodd:

'fe fyddwn ni'n sicrhau bod buddiannau pobl Powys wrth eu gwraidd.'

Yn wir, mae hynny'n peri cryn bryder i gleifion ym Mhowys, oherwydd nid dyna sy'n digwydd. Rydyn ni'n clywed bod y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo, a byddaf yn hollol onest ac yn barchus i chi, ond rydyn ni'n clywed hynny gennych chi hefyd. Rydych chi'n sôn am fframweithiau, rydych chi'n sôn am wasanaethau di-dor. Dydy'r geiriau hyn ddim yn golygu dim i gleifion ym Mhowys sy'n aros i gael eu llawdriniaethau, a fydd yn lleddfu eu poen.

Fe sonioch chi fod fframwaith statudol ar waith i edrych ar y gwasanaethau, felly fy her i chi yn eich rôl yw: a wnewch chi newid a herio'r fframweithiau statudol hynny er mwyn caniatáu i gleifion ym Mhowys sy'n byw ar y ffin gael mynediad i ysbytai yn Lloegr o fewn yr un amser aros â chleifion yn Lloegr? Diolch yn fawr iawn.

Well, again, I thank the Member for that question. I do not have a role in this, in terms of saying that I will be changing anything. I will be giving legal advice when called upon to do so. But the problem raised by all three Members is a live one. I do know that, because I live over the border in Merionethshire. I'm aware of it. I've got friends over the border in Montgomeryshire who are suffering because of it.

Now, what needs to be done, in my submission, is there has to be some form of discussion and/or an official inquiry into the whole issue to see what can be done, because I am aware that it is a serious issue, and I'm aware it needs addressing. So, I hear what the lady says—what the Member says—and I'm sure that my colleague, who has a responsibility for this, will have heard that as well. And I'm not batting this question away. It's an important one. All three are. Something needs to be done. But it's not for me, as Counsel General, to say what should be done. Plans could come on my desk and I'd be asked whether the legality is okay or whatever—yes, fine, but there has to be some kind of a discussion leading to a new policy framework, maybe on both sides of the border.

Wel, unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Does gen i ddim rôl yn hyn, o ran dweud y byddaf yn newid unrhyw beth. Byddaf yn rhoi cyngor cyfreithiol pan gaf fy ngalw i wneud hynny. Ond mae'r broblem a godwyd gan y tri Aelod yn un fyw. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd rwy'n byw dros y ffin yn sir Feirionnydd. Rwy'n ymwybodol ohoni. Mae gen i ffrindiau dros y ffin yn sir Drefaldwyn sy'n dioddef o'i herwydd.

Nawr, rwy'n argymell mai'r hyn sydd angen ei wneud, yw bod yn rhaid cael rhyw fath o drafodaeth a/neu ymchwiliad swyddogol i'r holl fater i weld beth y gellir ei wneud, oherwydd rwy'n ymwybodol ei fod yn fater difrifol, ac rwy'n ymwybodol bod angen mynd i'r afael ag ef. Felly, rwy'n clywed beth mae'r ledi yn ei ddweud—beth mae'r Aelod yn ei ddweud—ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, sy'n gyfrifol am hyn, wedi clywed hynny hefyd. A dydw i ddim yn diystyru’r cwestiwn hwn. Mae'n un pwysig. Mae'r tri ohonyn nhw'n bwysig. Mae angen i rywbeth gael ei wneud. Ond nid yw'n fater i mi, fel Cwnsler Cyffredinol, ddweud beth ddylai gael ei wneud. Gallai cynlluniau gael eu rhoi ar fy desg a byddwn i'n cael fy holi ynghylch a yw'r cyfreithlondeb yn iawn neu beth bynnag—iawn, ocê, ond mae'n rhaid cael rhyw fath o drafodaeth sy'n arwain at fframwaith polisi newydd, efallai ar ddwy ochr y ffin.

15:10

Diolch. And we're very grateful to you, Counsel General, for pointing out the distinction between your role and the role of the Cabinet Secretary with responsibility in a portfolio area as well. That was helpful indeed.

Diolch. Ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i chi, Gwnsler Cyffredinol, am dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng eich rôl chi a rôl yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am faes portffolio hefyd. Roedd hynny'n ddefnyddiol iawn.

[Inaudible.]—Llywydd. I'm so sorry, I'm sure you didn't mean to say this, but you referred to me as 'a lady', and I really don't find that acceptable.

[Anghlywadwy.]—Lywydd. Mae'n flin gen i, rwy'n siŵr nad oeddech chi'n bwriadu dweud hyn, ond fe wnaethoch chi gyfeirio ataf fel 'ledi', a dydy hynny ddim yn dderbyniol, yn fy marn i. 

Thank you. Diolch yn fawr iawn, Jane.

Diolch. Diolch yn fawr iawn, Jane.

I do apologise if that's offensive. Sorry.

Rwy'n ymddiheuro os yw hynny'n sarhaus. Mae'n flin gen i.

Diolch, and we note the apology as well on the record. Diolch yn fawr iawn. Diolch, Jane.

Diolch, ac rydyn ni'n nodi'r ymddiheuriad hefyd ar y cofnod. Diolch yn fawr iawn. Diolch, Jane.

Rydyn ni'n symud nawr i gwestiwn 7. Gwyn Williams.

We now move on to question 7. Gwyn Williams.

Achosion Cynllunio
Planning Cases

Diolch yn fawr, Lywydd. A llongyfarchiadau, Gwnsler Cyffredinol, ar eich rôl newydd.

Thank you, Llywydd. And congratulations, Counsel General, on your new role.

7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i herio achosion cynllunio a gymeradwywyd gan awdurdodau lleol er gwaethaf gwrthwynebiad lleol cryf? OQ64265

7. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government regarding its powers to challenge planning cases approved by local authorities despite strong local opposition? OQ64265

The Welsh Ministers have powers to revoke, to modify or discontinue planning permission granted by local planning authorities, and these are set out in the Town and Country Planning Act 1990. These powers will only be used where the original decision is seen as so grossly wrong that damage could be done to the wider public interest.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ddirymu, addasu neu derfynu caniatâd cynllunio y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ei roi, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Dim ond lle yr ystyrir bod y penderfyniad gwreiddiol mor anghywir fel y gallai wneud niwed i fudd ehangach y cyhoedd y bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio.

The reason I specifically mention this is that, since I've entered this Chamber—well, not physically today, but over the past six weeks—I've had more e-mails about the Kilvey Hill issue in Swansea than perhaps any other issue. Swansea, I would say, though I am biased, of course, is one of the most strangely unique and uniquely strange cities in the world, and Kilvey Hill is the most strangely beautiful place, perhaps, in the whole of Swansea, which is saying a lot, is what I say. There are multiple campaigns that oppose the development on the hill because of the natural flora and fauna of the hill as well, and also the fact that Swansea used to produce 90 per cent of the copper in the British Empire. The soil of the hill became so uniquely poisoned that the plants that currently grow there are pretty much unique to that hill. And also my own son, before he went to the Royal Artillery, used to train on that hill as part of the military preparation college. So, although I gather that this is possibly the most high-powered legal advice the local campaigns can ever ask, what advice would you give, perhaps, to the Save Kilvey Hill campaign in your role as Counsel General?

Y rheswm pam fy mod i'n sôn yn benodol am hyn yw, ers i mi ddod i mewn i'r Siambr hon—wel, nid yn gorfforol heddiw, ond dros y chwe wythnos diwethaf—rydw i wedi cael mwy o negeseuon e-bost am fater Mynydd Cilfái yn Abertawe nag efallai unrhyw fater arall. Abertawe, fyddwn i'n ei ddweud, er nad wyf i'n ddiduedd, wrth gwrs, yw un o'r dinasoedd mwyaf rhyfedd o unigryw ac unigryw o ryfedd yn y byd, a Bryn Cilfái yw'r lle mwyaf rhyfedd o brydferth, efallai, yn Abertawe gyfan, sy'n dweud llawer, yw'r hyn rydw i'n ei ddweud. Mae yna sawl ymgyrch sy'n gwrthwynebu'r datblygiad ar y mynydd oherwydd fflora a ffawna naturiol y mynydd hefyd, a hefyd y ffaith bod Abertawe arfer cynhyrchu 90 y cant o'r copr yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd pridd y mynydd ei wenwyno mewn ffordd mor unigryw fel bod y planhigion sy'n tyfu yno ar hyn o bryd fwy neu lai'n unigryw i'r mynydd hwnnw. A hefyd roedd fy mab fy hun, cyn iddo fynd i'r Magnelwyr Brenhinol, yn hyfforddi ar y mynydd hwnnw fel rhan o'r coleg paratoi milwrol. Felly, er fy mod i'n deall mai hwn, fwy na thebyg, yw'r cyngor cyfreithiol mwyaf pwerus y gall yr ymgyrchoedd lleol ofyn amdano, pa gyngor fyddech chi'n ei roi, efallai, i ymgyrch Achub Mynydd Cilfái yn eich rôl fel Cwnsler Cyffredinol?

Whatever advice I would give them would get me the sack. [Laughter.] But I will say this to him: decisions must and should be made in accordance with the policies set out in the relevant adopted development plan, unless material planning considerations indicate otherwise. But I have to say this as well: public opposition is not in itself a material planning consideration. It is for a member of the public to set out planning reasons for why they think development should not be approved, and it's open to anyone to challenge the handling of a planning application via judicial review if they consider it was legally flawed, but it's not possible to challenge the reasoning for the decision. Revocation powers are very rarely used, as I've explained, and I regret that I'm unable to comment on the planning merits of an individual case, because it may come before Welsh Ministers at a later date, and I would not want to prejudice any formal role that I may then have.

Byddwn i'n colli fy swydd pe bawn i'n rhoi unrhyw gyngor iddyn nhw. [Chwerthin.] Ond fe ddywedaf hyn wrtho: fe ddylai ac mae'n rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud yn unol â'r polisïau sydd wedi'u nodi yn y cynllun datblygu perthnasol a fabwysiadwyd, oni bai bod ystyriaethau cynllunio perthnasol yn nodi fel arall. Ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn hefyd: dydy gwrthwynebiad cyhoeddus ynddo'i hun ddim yn ystyriaeth gynllunio berthnasol. Mae'n rhaid i aelod o'r cyhoedd nodi rhesymau cynllunio pam ei fod o'r farn na ddylai'r datblygiad gael ei gymeradwyo, ac mae'n agored i unrhyw un herio'r modd yr ymdrinnir â chais cynllunio trwy adolygiad barnwrol os ydyn nhw o'r farn ei fod yn ddiffygiol yn gyfreithiol, ond nid yw'n bosibl herio'r rhesymeg dros y penderfyniad. Anaml iawn mae pwerau dirymu yn cael eu defnyddio, fel yr wyf wedi esbonio, ac mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn gallu gwneud sylwadau ar rinweddau cynllunio achos unigol, oherwydd gall ddod gerbron Gweinidogion Cymru yn ddiweddarach, a fyddwn i ddim eisiau niweidio unrhyw rôl ffurfiol y gall fod gennyf wedyn.

Ac yn olaf, cwestiwn 8, Lindsay Whittle.

Finally, question 8, Lindsay Whittle.

Datganoli Ystad y Goron
Devolution of the Crown Estate

Diolch, Lywydd. Counsel General, good afternoon, and I hope my question will not get you the sack.

Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, prynhawn da, ac rwy'n gobeithio na fydd fy nghwestiwn i yn arwain at golli'ch swydd.

8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron? OQ64256

8. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government on the devolution of the Crown Estate? OQ64256

I thank the Member for that. I was going to say, 'my friend', but I'm not supposed to say that anymore. [Laughter.] That's another Westminsterism that should go.

The Welsh Government is actively seeking to secure devolution of the Crown Estate to Wales. Welsh people should benefit from the nation's incredible natural wealth. Decisions about Welsh land, the Welsh sea bed and coastal assets should be made in Wales and reflect Welsh priorities and conditions.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am hynny. Roeddwn i'n mynd i ddweud, 'fy ffrind', ond dydw i ddim i fod i ddweud hynny mwyach. [Chwerthin.] Dyna arfer arall San Steffan a ddylai fynd.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ceisio sicrhau datganoli Ystad y Goron i Gymru. Dylai pobl Cymru elwa ar gyfoeth naturiol anhygoel y genedl. Dylai penderfyniadau am dir Cymru, gwely'r môr Cymru ac asedau arfordirol gael eu gwneud yng Nghymru ac adlewyrchu blaenoriaethau ac amodau Cymru.

15:15

Thank you, Counsel General, for your answer. And I know that we on these benches, and maybe others too, share this Government's frustration that Wales remains at a disadvantage compared to Scotland, which has of course enjoyed the benefits of its Crown Estate revenues since 2017. Devolution of the Crown Estate could mean millions of pounds in profits that we can invest directly back into Welsh coastal communities, supporting pressures on our local government, and support jobs and manufacturing in our green energy sector. What more could you ask? What steps, then, can the Welsh Government take to pursue further the devolution of this vital asset legally?

Diolch, Gwnsler Cyffredinol, am eich ateb. Ac rwy'n gwybod ein bod ni ar y meinciau hyn, ac efallai eraill hefyd, yn rhannu rhwystredigaeth y Llywodraeth hon bod Cymru'n parhau i fod dan anfantais o gymharu â'r Alban sydd, wrth gwrs, wedi mwynhau manteision refeniw Ystad y Goron ers 2017. Gallai datganoli Ystad y Goron olygu miliynau o bunnoedd mewn elw y gallwn ni ei fuddsoddi'n uniongyrchol yn ôl i gymunedau arfordirol Cymru, gan gefnogi'r pwysau ar ein llywodraeth leol, a chefnogi swyddi a gweithgynhyrchu yn ein sector ynni gwyrdd. Beth mwy allech chi ofyn amdano? Pa gamau, felly, y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd ar drywydd datganoli'r ased hanfodol hwn ymhellach yn gyfreithlon?

Well, clearly, what the Welsh Government can do is to enter into meaningful negotiations with Westminster, because Westminster holds the key to any further devolution. But I understand and I hear what he says about the potential value of the Crown Estate to the Welsh Exchequer. The figures that I have are that, between 2024 and 2026, Welsh waters generated around £700 million in option fees for offshore wind, and Wales is not receiving anything like a fair share of that. So, we need to be looking further at this. It's a policy area. It's not my policy, but it's a policy area, and I do know that this Government is making this policy area a priority.

Wel, yn amlwg, yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw dechrau trafodaethau ystyrlon gyda San Steffan, oherwydd San Steffan sydd â'r allwedd i unrhyw ddatganoli arall. Ond rwy'n deall ac rwy'n clywed yr hyn y mae'n ei ddweud am werth posibl Ystad y Goron i Drysorlys Cymru. Y ffigurau sydd gennyf yw, rhwng 2024 a 2026, bod dyfroedd Cymru wedi cynhyrchu tua £700 miliwn mewn ffioedd opsiynau ar gyfer gwynt ar y môr, a dydy Cymru ddim yn cael cyfran deg o hynny o bell ffordd. Felly, mae angen i ni fod yn edrych ymhellach ar hyn. Mae'n faes polisi. Nid fy mholisi i, ond mae'n faes polisi, ac rwy'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn gwneud y maes polisi hwn yn flaenoriaeth.

Thank you, Counsel General. Thank you.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Diolch.

Thank you, Counsel General. You've done well do adapt to the conventions of this Chamber and to avoid being dragged into portfolio areas, even though Members have tempted you there, very strongly indeed. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Rydych chi wedi gwneud yn dda i addasu i gonfensiynau'r Siambr hon ac i osgoi cael eich llusgo i feysydd portffolio, er bod Aelodau wedi'ch temtio chi yno, yn gryf iawn yn wir. Diolch yn fawr iawn.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Business Statement and Announcement

Nawr, eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Item 3 is the business statement and announcement. I call on the Trefnydd, Heledd Fychan.

Member
Heledd Fychan 15:17:12
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Diolch, Lywydd. Mae yna un newid i fusnes yr wythnos hon: mae datganiad llafar wedi'i ychwanegu at agenda heddiw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae busnes ddrafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r holl Aelodau yn electronig.

Thank you, Llywydd. There is one change to this week's business: an oral statement has been added to today's agenda on the Betsi Cadwaladr University Health Board. The draft business for the next three weeks is set out in the business statement, which is available to all Members electronically.

Wales is in the middle of what is a housing crisis. I'm aware that the Government brought forward its house building targets, but I was wondering if the Trefnydd could convince the Cabinet Minister for Local Government, Housing and Planning to come forward to explain what the Government's proposal will be on empty homes. In my own constituency of Blaenau Gwent Caerffili Rhymni, there are over 2,000 empty homes that people have to pass now, and, as well, there are around 1,200 long-term empty homes that have been empty for about 12 months. I'd be grateful if the Government could come forward and explain to the Chamber what its plans are on bringing these houses back to life and seeing if we can get constituents into them as soon as possible.

Mae Cymru yng nghanol yr hyn sy'n argyfwng tai. Rwy'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyflwyno ei thargedau adeiladu tai, ond roeddwn i'n tybio a allai'r Trefnydd berswadio'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i ddod ymlaen i esbonio beth fydd cynnig y Llywodraeth ar gartrefi gwag. Yn fy etholaeth fy hun ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, mae dros 2,000 o gartrefi gwag y mae'n rhaid i bobl fynd heibio iddyn nhw nawr, a, hefyd, mae tua 1,200 o gartrefi gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag ers tua 12 mis. Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn gallu dod ymlaen ac esbonio i'r Siambr beth yw ei chynlluniau o ran dod â'r tai hyn yn ôl i ddefnydd a gweld a allwn ni gael etholwyr i mewn ynddyn nhw cyn gynted â phosibl.

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, mi oeddech chi yma pan wnaeth y Gweinidog wneud y datganiad blaenoriaethau ac ati. Mae yna gyfleoedd eraill yn mynd i fod i'w holi hi, a dechrau craffu drwy'r pwyllgorau hefyd. Mae hwn yn fater mae gennym ni i gyd ddiddordeb ynddo fo, dwi'n siŵr, oherwydd mae tai yn fater y byddem ni i gyd yn ei gael fel gwaith achos. Ac o ran gweld tai gwag, mae angen inni fod yn mynd i'r afael â hynny ac, yn sicr, mae yna gynlluniau felly. Felly, mi fydd yna gyfle i fod yn craffu a holi'r Gweinidog, mae hynny'n sicr, ac mi fydd hynny drwy'r pwyllgorau ac yn uniongyrchol drwy ofyn cwestiynau iddi hi.

Well, I thank the Member for raising that issue. Clearly, you were here when the Minister made the priorities statement and so on. There are going to be other opportunities to ask her questions and to start scrutinising through the committees as well. This is an issue that we all have an interest in, I'm sure, because housing is an issue that we will all be receiving in casework. And in terms of vacant homes, we need to address that issue and, certainly, there are plans under way. So, there will be an opportunity to scrutinise and to question the Minister, that is certain, and that will happen through the committees and directly through questions to her.

Trefnydd, will you make some time for a statement from the relevant Minister updating the Senedd on the Welsh Government's new industrial strategy and, of course, the associated skills strategy that really should run alongside it, including some detail on when that will be published, and, crucially, what are we going to be expecting in terms of delivery of real, good-quality, fair work jobs?

Drefnydd, a wnewch chi roi rhywfaint o amser ar gyfer datganiad gan y Gweinidog perthnasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am strategaeth ddiwydiannol newydd Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, y strategaeth sgiliau gysylltiedig a ddylai gweithredu ochr yn ochr â hi mewn gwirionedd, gan gynnwys rhywfaint o fanylion ynglŷn â phryd y bydd yn cael ei chyhoeddi, ac, yn hollbwysig, beth ydyn ni'n mynd i fod yn ei ddisgwyl o ran sicrhau swyddi gwaith teg o ansawdd da?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, mi glywsoch chi y Gweinidog perthnasol yn gwneud datganiad blaenoriaethau yn ddiweddar yma—hynny gan Adam Price fel y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Mae yna ymrwymiadau, wrth gwrs, yn ein cynllun 100 diwrnod ni, ac mi fyddwn ni yn diweddaru'r Senedd wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

May I thank the Member for that question? Clearly, you will have heard the relevant Minister making a priorities statement very recently—that was given by Adam Price as Minister for Enterprise, Connectivity and Energy. There are commitments in our 100-day plan too, and we will update the Senedd as that work proceeds.

Trefnydd, I'd like to request a statement from the Welsh Government on epilepsy services across Wales. Now, last year, Epilepsy Action Wales's 'Seizing Change' report found that every single health board in Wales was failing to meet waiting time guidelines for treatment after a seizure. That report highlighted that patients in the Hywel Dda University Health Board area were waiting up to 36 weeks to be seen, the longest waiting time on record, where National Institute for Health and Care Excellence guidelines actually say the follow-up appointment should be within two weeks of someone having their first seizure.

Now, Trefnydd, I've received representations from constituents who tell me that epilepsy services in my health board area are still under dire pressure and failing to meet patients' needs in a timely manner. The Welsh Government must improve access to timely care and invest in the epilepsy workforce, and so I'd be grateful if we could have a statement from the Cabinet Minister for Health and Care, so that we can understand exactly what the Welsh Government is doing to improve epilepsy services across Wales.

Drefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau epilepsi ledled Cymru. Nawr, y llynedd, gwnaeth adroddiad 'Seizing Change' Epilepsy Action Cymru ganfod bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu â bodloni'r canllawiau ar gyfer amseroedd aros ar gyfer triniaeth ar ôl ffit. Tynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at y ffaith bod cleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn aros hyd at 36 wythnos i gael eu gweld, yr amser aros hiraf erioed, lle mae canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn dweud y dylai'r apwyntiad dilynol fod o fewn pythefnos i rywun gael ei ffit cyntaf.

Nawr, Drefnydd, rydw i wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n dweud wrthyf fod gwasanaethau epilepsi yn ardal fy mwrdd iechyd i yn dal i fod o dan bwysau enbyd a'u bod yn methu â diwallu anghenion cleifion mewn modd amserol. Rhaid i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ofal amserol a buddsoddi yn y gweithlu epilepsi, ac felly byddwn i'n ddiolchgar pe gallwn ni gael datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, fel y gallwn ni ddeall beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau epilepsi ledled Cymru.

15:20

Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater yna? Yn amlwg, mi fydd nifer ohonom ni wedi cael aelodau o'r cyhoedd yn cysylltu efo ni ar y mater hwnnw. Gaf i ofyn, gan fod gennych chi bobl benodol yn eich etholaeth wedi cysylltu, a fyddech chi'n fodlon rhannu hynny a'r profiadau byw hynny gyda'r Gweinidog Cabinet fel y gall o edrych yn bellach mewn i hynny, os gwelwch yn dda?

May I thank the Member for raising that issue? Clearly, a number of us will have received correspondence from the public on that issue. Could I ask, since you have specific people in your constituency who've got in touch with you, would you be willing to share that and those lived experiences with the Cabinet Minister, so that he can look further into that, please?

Could I please request a statement from the relevant Minister with regards to the childcare programme and the timetable on this? I was pleased to hear the Deputy First Minister make a specific and clear commitment that initial costings and phasing details would be brought to the Senedd before the summer recess, and that's really encouraging news. And we also have the expert steering group having been set up, and I understand they've met for the first time, but we have 210,000 families across Wales who are living in poverty and really would benefit from that free childcare. So, whilst the announcement and the statement will be with us by the end of this Senedd term, could you give us an update, please, on the delivery of free childcare and how that will be rolled out, particularly within the challenges of local authorities? Diolch yn fawr iawn.

A gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ynglŷn â'r rhaglen gofal plant a'r amserlen ar hyn? Roeddwn i'n falch o glywed y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud ymrwymiad penodol a chlir y byddai costau cychwynnol a manylion cyflwyno'n raddol yn cael eu dwyn i'r Senedd cyn toriad yr haf, ac mae hynny'n newyddion calonogol iawn. Ac mae gennym ni hefyd y grŵp llywio arbenigol sydd wedi'i sefydlu, ac rwy'n deall eu bod nhw wedi cwrdd am y tro cyntaf, ond mae gennym ni 210,000 o deuluoedd ledled Cymru sy'n byw mewn tlodi ac a fyddai wir yn elwa ar y gofal plant am ddim hwnnw. Felly, er y bydd y cyhoeddiad a'r datganiad gyda ni erbyn diwedd tymor y Senedd hon, allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, os gwelwch yn dda, am ddarparu gofal plant am ddim a sut y bydd hynny'n cael ei gyflwyno, yn enwedig o fewn heriau awdurdodau lleol? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn. Byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru yn rhannu eich uchelgais chi o ran sicrhau bod gan bob teulu fynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel, oherwydd bod hyn yn datgloi cyfleoedd. Mae hwn yn rhywbeth sydd wrth galon ein cynllun ni yn y Llywodraeth. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod gwelliant Plaid Cymru yn y ddadl ddiweddar yma, oedd yn ymrwymo i fod yn cyhoeddi mwy o fanylion o fewn y 100 diwrnod, wedi pasio'n ddiweddar yma. Dydy'r ymrwymiad hwnnw heb ddiflannu.

Dwi'n gobeithio bod y ffaith ein bod ni wedi cyhoeddi yn y gyllideb atodol £55 miliwn er mwyn dechrau'r gwaith ehangu hwnnw yn dangos i'r Aelod ein bod ni o ddifrif o ran mynd ati efo'r gwaith hwn, ac mae'r ffaith bod y Gweinidog Cabinet wedi ymrwymo i roi diweddariadau rheolaidd hefyd, gobeithio, yn rhoi'r sicrwydd mae'r Aelod yn gofyn amdano fo. Byddwn i'n gobeithio felly y bydd yr Aelod yn fodlon cefnogi ein cyllideb atodol ni pan ddaw i hynny, oherwydd, yn amlwg, mae'r £55 miliwn yna yn gam cyntaf pwysig dros ben er mwyn mynd â'r uchelgais honno ymlaen.

I thank the Member for raising that issue. You will know that Plaid Cymru shares your ambition in terms of ensuring that every family has access to affordable, high-quality childcare, because this unlocks opportunity. This is something that's at the heart of our plan within Government. You will also be aware that Plaid Cymru's amendment in the recent debate here, which committed to providing greater detail within the 100 days, had passed very recently. That commitment has not changed.

I hope the fact that we have published £55 million in our supplementary budget in order to start that expansion work demonstrates to the Member that we are serious in terms of progressing this work, and the fact that the Cabinet Minister has committed to providing regular updates also, hopefully, provides that reassurance that the Member seeks. I would hope, therefore, that the Member would be content to support our supplementary budget when we get to that point, because, clearly, that £55 million is an important first step in order to take that ambition forward.

Trefnydd, I would like to request a statement from the Deputy Minister for Transport on local bus provision in the Ogmore Valley, particularly the restoration of services to the Caedu and Stormy Lane areas, as well as proposals to extend evening runs. Since the reorganisation of the network in 2019, residents have been left without a regular bus service, impacting many older residents, disabled people and families with young children. There's also a strong case for extending the current evening timetable. The last departure from Bridgend to Nantymoel is currently around 8.30 in the evening, limiting access to evening employment, leisure and onward rail connections.

As the Welsh Government develops proposals for improved north-south coach services and progresses bus franchising, these improvements must be matched by stronger local feeder bus services. A statement outlining how the Welsh Government will work with local authorities to restore those local routes and feeder services would be greatly welcomed. Diolch.

Drefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ar ddarpariaeth bysiau lleol yng Nghwm Ogwr, yn enwedig adfer gwasanaethau i ardaloedd Caedu a Stormy Lane, yn ogystal â chynigion i ymestyn gwasanaethau gyda'r nos. Ers ad-drefnu'r rhwydwaith yn 2019, mae trigolion wedi bod heb wasanaeth bws rheolaidd, gan effeithio ar lawer o drigolion hŷn, pobl anabl a theuluoedd â phlant ifanc. Mae achos cryf hefyd dros ymestyn yr amserlen nos bresennol. Mae'r bws olaf o Ben-y-bont ar Ogwr i Nant-y-moel yn gadael tua 8.30 yr hwyr ar hyn o bryd, gan gyfyngu ar fynediad i gyflogaeth gyda'r nos, hamdden a chysylltiadau rheilffordd ar gyfer teithiau ymlaen.

Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynigion ar gyfer gwasanaethau coetsys gwell o'r gogledd i'r de a datblygu masnachfreinio bysiau, rhaid sicrhau bod gwasanaethau bysiau gwennol lleol cryfach hefyd. Byddai datganiad yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adfer y llwybrau lleol a'r gwasanaethau gwennol hynny yn cael ei groesawu'n fawr. Diolch.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog yn y Siambr ac wedi clywed hynny, neu fel arall byddwn i'n gofyn i chi ysgrifennu ato fo. Yn amlwg, ar ôl i ni basio fel Senedd yn y chweched Senedd yr holl ddiwygiadau o ran gwasanaethau bws, mae ymrwymiad Plaid Cymru yn ddiamwys o ran yr angen i wella cysylltiadau. Mae yna gyhoeddiad yn hwyrach heddiw, ond nid dyna ddiwedd y daith o ran lle rydym ni eisiau gweld hyn. Mae bysys yn eithriadol o bwysig. Rydym ni wedi gweld lot o ganolbwyntio ar drenau yn y gorffennol hefyd, ond mae bysys yn eithriadol o bwysig am y rhesymau mae'r Aelod wedi'u nodi fan hyn. Felly, dwi'n gobeithio eich bod chi'n falch o'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi clywed hynny yn benodol.

I thank the Member for raising that issue. Clearly, the Deputy Minister is in the Chamber and heard that, or otherwise I would ask you to write to him. Clearly, after passing as a Senedd during the sixth Senedd all of those reforms in terms of bus services, Plaid Cymru's commitment is unambiguous in terms of the need to improve connections. There is an announcement coming later this afternoon, but that's not the end of the journey in terms of where we want to see this going. Buses are incredibly important. We have seen a lot of concentration on trains in the past, but buses are very important for the reasons that the Member has noted. So, I hope that you're pleased that the Deputy Minister heard that in particular.

15:25

The UK Government closed the listed places of worship scheme on 31 March. A £92 million replacement fund was found, but exclusively for England. This means that churches and chapels across Wales faced a 20 per cent VAT increase overnight on every single repair. Now, I know there are National Lottery and Cadw applications that can be applied for, but they require professional help, and that's very hard for small, volunteer-run community groups. This is not just about the buildings. We know our churches and chapels are where we sing our hymns, where we preserve our language, and they forge our national identity. So please can I request a statement from the Minister for culture on this very urgent issue? Diolch.

Fe gaeodd Llywodraeth y DU y cynllun mannau addoli rhestredig ar 31 Mawrth. Cafodd cronfa newydd gwerth £92 miliwn ei sefydlu yn ei le, ond ar gyfer Lloegr yn unig. Roedd hyn yn golygu bod eglwysi a chapeli ledled Cymru yn wynebu cynnydd TAW o 20 y cant dros nos ar bob un atgyweiriad. Nawr, rwy'n gwybod bod yna geisiadau'r Loteri Genedlaethol a Cadw y mae'n bosibl gwneud cais amdanyn nhw, ond mae angen cymorth proffesiynol i wneud hynny, ac mae hynny'n anodd iawn i grwpiau cymunedol bach sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Nid yw hyn yn ymwneud â'r adeiladau yn unig. Rydyn ni'n gwybod mai ein heglwysi a'n capeli yw lle rydyn ni'n canu ein hemynau, lle rydyn ni'n gwarchod ein hiaith, ac maen nhw'n llunio ein hunaniaeth genedlaethol. Felly, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog diwylliant ar y mater brys iawn hwn? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. Mae hwn yn fater sydd yn fyw iawn o fewn fy mhortffolio i ar y funud. Yn amlwg, rydych chi wedi cyfeirio at y cyllid sydd wedi bod ar gael drwy Cadw er mwyn buddsoddi yn yr adeiladau hyn, oherwydd, hyd yn oed pan fyddan nhw'n stopio bod yn addoldai, maen nhw hefyd yn adnodd cymunedol o bwys. Rydym ni wedi gweld hynny yn digwydd ledled Cymru pan fyddan nhw'n cael eu hailbwrpasu a'u hailddychmygu. Yn sicr, mi wnaf i ymrwymo i ysgrifennu at yr Aelod efo diweddariad o ran y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Mae hwn wedi cael effaith, dwi’n deall hynny, y newid ar lefel Prydeinig, ond mae yna bethau rydym ni wedi bod yn eu gwneud trwy Cadw i asesu beth yw goblygiadau hynny a beth rydym ni'n gallu ei wneud i gefnogi yma yng Nghymru.

Thank you very much for raising that issue. This is a very relevant issue within my portfolio at the moment. Clearly, you have referred to the funding that has been available through Cadw in order to invest in these buildings, because, even when they stop being places of worship, they are an important community asset. We have seen that happen across Wales when they are repurposed and reimagined. Certainly, I will commit to write to the Member with an update in terms of the work that we're doing. This has had an impact, this change at the UK level, but there are things that we have been doing through Cadw to assess the implications of that and what we can do to support here in Wales.

Drefnydd, mae'r sylwadau a wnaethpwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn y Siambr hon ryw bythefnos yn ôl wedi peri cryn ddryswch o fewn llywodraeth leol, pan honnodd y Gweinidog fod rhanbartholrwydd—regionalism—wedi digwydd yn raddol, trwy'r drws cefn. Go brin byddwn i’n disgrifio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fel drws cefn.

Trefnydd, the comments made by the Minister for Local Government, Housing and Planning in this Chamber two weeks ago created a lot of confusion within local government, when the Minister asserted that regionalism had happened gradually, through the back door. Now, I wouldn't describe the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 as a back door.

Trefnydd, corporate joint committees have been established by law. They're not perfect, but they're an important vehicle to ensure that regional collaboration can work on a democratic basis, which contrasts sharply with Plaid Cymru's proposal to outsource regional economic development to unelected quangos. There's a striking example in south Wales that shows how a Welsh Development Agency-style body may not be the best means of delivering economic growth: the LG factory in Newport failing in the early 2000s. Compare that with the recent development of the world-class semiconductor cluster on the same site, something that would not have happened without the support of the south-east Wales CJC. So, Trefnydd, can the Minister make a statement on CJCs and how democratic accountability will be retained in regional economic development?

Drefnydd, mae cyd-bwyllgorau corfforedig wedi'u sefydlu gan y gyfraith. Dydyn nhw ddim yn berffaith, ond maen nhw'n gyfrwng pwysig i sicrhau bod cydweithredu rhanbarthol yn gallu gweithio ar sail ddemocrataidd, sy'n cyferbynnu'n llwyr â chynnig Plaid Cymru i allanoli datblygu economaidd rhanbarthol i gwangos anetholedig. Mae yna enghraifft drawiadol yn ne Cymru sy'n dangos pam efallai nad corff tebyg i Awdurdod Datblygu Cymru yw'r ffordd orau o gyflawni twf economaidd: ffatri LG yng Nghasnewydd yn methu ar ddechrau'r 2000au. Cymharwch hynny â datblygiad diweddar y clwstwr lled-ddargludyddion o'r radd flaenaf ar yr un safle, rhywbeth na fyddai wedi digwydd heb gymorth Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru. Felly, Drefnydd, a all y Gweinidog wneud datganiad ar gyd-bwyllgorau corfforedig a sut y bydd atebolrwydd democrataidd yn cael ei gadw ym maes datblygu economaidd rhanbarthol?

Wel, mae'r hyn rydych chi'n gofyn amdano fo yn swnio fel cwestiwn perffaith i ofyn i'r Gweinidog pan mae gennym ni sesiynau holi Gweinidogion. Mae o'n benodol iawn, ac mi fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n rhoi'r cwestiwn hwnnw yn y balot pan mae'n dod i hynny. Ac wrth gwrs, mae yna wastad cyfleodd i holi a chraffu Gweinidogion o ran hyn. 

Well, what you're asking for sounds like a perfect question to ask of the Minister when we do have ministerial question sessions. It's very specific, and I would suggest that you table that question and place it into the ballot. And of course, there are always opportunities to question and scrutinise Ministers on these issues.

Trefnydd, can I call for a statement on NHS dentistry in Wales from the Cabinet Minister for Health and Care? As the Trefnydd will know, there are hundreds of thousands of individuals in Wales that are not currently registered with an NHS dentist, and many people are having to take matters into their own hands with pliers, or travelling outside of Wales for their treatment, sometimes even overseas. We've got thousands of people in my own constituency of Clwyd who have lost access to NHS dentistry in recent years, including the patients of two local clinics just in the Abergele area alone over the past 12 weeks.

Now, we know that part of the problem is the NHS dental contract, which was foisted on the dentists of Wales by the previous Welsh Labour Government. That clearly needs looking at again in order to make it more attractive for people to join NHS dentistry and to keep their NHS contracts going. We need to know what action the Welsh Government is going to take to address this rising tide and exodus, and I'd be grateful to know what action is going to be taken, and if a statement could come forward.

Drefnydd, a gaf fi alw am ddatganiad ar ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal? Fel y bydd y Trefnydd yn gwybod, mae cannoedd o filoedd o unigolion yng Nghymru nad ydyn nhw wedi'u cofrestru gyda deintydd y GIG ar hyn o bryd, ac mae llawer o bobl yn gorfod gweithredu eu hunain gyda gefeiliau, neu deithio y tu allan i Gymru i gael triniaeth, dramor weithiau hyd yn oed. Mae gennym ni filoedd o bobl yn fy etholaeth fy hun yng Nghlwyd sydd wedi colli mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cleifion dau glinig lleol yn ardal Abergele yn unig dros y 12 wythnos diwethaf.

Nawr, rydyn ni'n gwybod mai rhan o'r broblem yw contract deintyddol y GIG, a gafodd ei osod ar ddeintyddion Cymru gan Lywodraeth Lafur flaenorol Cymru. Mae'n amlwg bod angen edrych ar hwnnw eto er mwyn sicrhau ei fod yn fwy deniadol i bobl ymuno â deintyddiaeth y GIG ac i gynnal eu contractau GIG. Mae angen i ni wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i fynd i'r afael â'r ymchwydd llanw a'r ymadawiadau hyn, a byddwn i'n ddiolchgar i wybod pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd, ac a allai datganiad gael ei gyflwyno.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Dwi’n gwybod y gwnaeth Jane Dodds ofyn i mi bythefnos yn ôl hefyd, ac mi fyddwn ni'n nodi'r pwyntiau y gwnes i bryd hynny o ran pwysigrwydd deintyddiaeth, a’n bod ni'n cydnabod yr heriau gwirioneddol sydd yna. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn sicrhau bod adolygiad contract newydd yn digwydd yn yr hydref, ac mae'r dental access portal yn helpu pobl i ffeindio deintydd hefyd. Dwi'n cydnabod bod yna heriau fan hyn, ac rydyn ni yn ymrwymo i geisio mynd i'r afael â nhw.

Thank you very much for that question. I know that Jane Dodds asked me two weeks ago as well, and I would note the points I made at that point in terms of the importance of dentistry, and that we recognise the real challenges that are there. The Cabinet Minister for Health and Care is ensuring that there is a review being done of the new contract in the autumn, and the dental access portal helps people to find a dentist as well. I do recognise that there are challenges here, and we are committed to addressing them.

15:30

Trefnydd, I would like to request a statement from the Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy on the future of independent high-street businesses in Wales, please. Across Wales, independent businesses are being squeezed from every direction. Rising costs, higher taxes, increased regulation, soaring energy bills, unfair business rates compared to England, and declining footfall are all making it harder than ever to survive. Every week, we see more shops closing their doors, leaving empty premises on our high streets and taking jobs, investment and community spirit with them. Independent businesses are not just important to our economy, they are the lifeblood to our towns and our communities too. Once they are gone, they are incredibly difficult to replace. So, will the Cabinet Minister provide a statement setting out what urgent action the Welsh Government is going to take to stop the decline of our high streets and ensure that independent Welsh businesses have a future? Diolch.

Drefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni ar ddyfodol busnesau annibynnol ar y stryd fawr yng Nghymru, os gwelwch yn dda. Ledled Cymru, mae busnesau annibynnol yn cael eu gwasgu o bob cyfeiriad. Mae costau cynyddol, trethi uwch, mwy o reoleiddio, biliau ynni cynyddol, ardrethi busnes annheg o gymharu â Lloegr, a gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr yn ei gwneud hi'n anoddach nag erioed i oroesi. Bob wythnos, rydyn ni'n gweld mwy o siopau yn cau eu drysau, gan adael adeiladau gwag ar ein strydoedd mawr a mynd â swyddi, buddsoddiad ac ysbryd cymunedol gyda nhw. Mae busnesau annibynnol nid yn unig yn bwysig i'n heconomi, nhw yw anadl einioes ein trefi a'n cymunedau hefyd. Unwaith maen nhw wedi mynd, maen anodd iawn cael rhywbeth yn eu lle. Felly, a wnaiff y Gweinidog Cabinet roi datganiad yn nodi pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i atal ein stryd fawr rhag dirywio a sicrhau bod dyfodol i fusnesau annibynnol yng Nghymru? Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn? Yn amlwg, mae dyfodol ein canol trefi ac adfywio canol trefi yn bwysig dros ben. Mae o'n bwysig i Blaid Cymru. Mi oedd yna nifer o ymrwymiadau yn ein maniffesto ni. Mi oedd o hefyd wedi ei grybwyll gan y Gweinidog Cabinet dros effeithiolrwydd—na, yr un anghywir, sori. Cafodd ei grybwyll gan Adam Price fel y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, pan oedd o'n sôn ynglŷn â'i flaenoriaethau o. Yn sicr, mi fydd y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. Mae yna nifer o fesurau y byddwn ni'n eu cymryd. Does yna ddim un datrysiad. Mae yna nifer o heriau yn wynebu ein strydoedd mawr ni—yn edrych ar heriau o ran llifogydd mewn rhai, a'r heriau hynny y mae'r Aelod wedi'u nodi. Felly, mi fedraf ei sicrhau bod y gwaith hwnnw yn mynd heibio. Mi fydd tasglu canol trefi yn cael ei sefydlu fel rhan o'n cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf. Mi fydd hwn yn archwilio'r opsiynau ar gyfer cyfraddau busnes diwygiedig sy'n cefnogi adfywio'r stryd fawr yn well.

May I thank the Member for raising that issue? Clearly, the future of our town centres and regenerating town centres is extremely important. It's important to Plaid Cymru. There were a number of commitments in our manifesto in relation to that. It has also been mentioned by the Cabinet Minister for effectiveness—no, that's the wrong one, sorry. It was mentioned by Adam Price as Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy, when he set out his priorities. Certainly, that work will proceed. There are a number of steps that we will take. There is no single solution. There are many challenges facing our high streets—looking at challenges in terms of flooding in some areas, but also the other challenges the Member set out too. So, I can give you a reassurance that that work is proceeding. A town centre taskforce will be established as part of our 100-day plan. This will look at options for reformed business rates that support high-street regeneration better.

Could I support Jane Dodds's calls for more detailed information on your implementation of your childcare offer? I tabled a written question asking for the membership of the childcare steering group, and the reply came back saying that the Deputy First Minister would have to write to me about that. I think it is essential that there is transparency on such a major commitment that is going to cost so much money.

Can I also ask for a statement on the Government's response to the call for evidence on the future of tertiary education? The Government is meant to be committed to a connected approach across the post-16 sector, however, all we've heard about so far is the university sector. However, most of our young people, our most vulnerable young people, are in the further education sector, particularly those who are most at risk of becoming not in education, employment or training. There was a comprehensive call for evidence, and I think it is important that the Senedd has the opportunity to scrutinise those responses.

A gaf fi gefnogi galwadau Jane Dodds am wybodaeth fanylach am y ffordd y bydd eich cynnig gofal plant yn cael ei weithredu? Fe wnes i gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am aelodaeth y grŵp llywio gofal plant, a daeth yr ateb yn ôl gan ddweud y byddai'n rhaid i'r Dirprwy Brif Weinidog ysgrifennu ataf am hynny. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod yna dryloywder ar ymrwymiad mor fawr sy'n mynd i gostio cymaint o arian.

A gaf fi hefyd ofyn am ddatganiad ar ymateb y Llywodraeth i'r alwad am dystiolaeth ar ddyfodol addysg drydyddol? Mae'r Llywodraeth i fod yn ymrwymedig i ddull cysylltiedig ar draws y sector ôl-16, fodd bynnag, y cyfan rydyn ni wedi clywed amdano hyd yn hyn yw'r sector prifysgolion. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'n pobl ifanc, ein pobl ifanc fwyaf agored i niwed, yn y sector addysg bellach, yn enwedig y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Roedd galwad gynhwysfawr am dystiolaeth, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Senedd yn cael y cyfle i graffu ar yr ymatebion hynny.

Diolch. Os caf i nodi, o ran y pwynt cyntaf, mi gafodd y gwelliant a gyflwynodd y Llywodraeth ei basio ar yr ymrwymiad hwnnw o ran mwy o wybodaeth o fewn y 100 diwrnod cyntaf. Dwi'n gobeithio bod y ffaith bod yna £55 miliwn yn y gyllideb atodol, fel roeddwn i'n sôn wrth Jane Dodds, yn rhoi'r sicrwydd y mae Aelodau yn chwilio amdano fo fod y gwaith yn mynd rhagddo. Mi wnaeth cyfarfod cyntaf y grŵp llywio arbenigol ehangu gofal plant newydd ddigwydd ar 25 Mehefin. Mi gadeiriwyd hwnnw gan y Dirprwy Brif Weinidog. Mi wnaf i holi o ran sicrhau eich bod chi yn cael yr ymateb hwnnw o ran yr aelodaeth.

O ran yr ail bwynt, mi fyddwn ni yn edrych i ddod â diweddariad i'r Senedd am y gwaith a'r ymrwymiadau oedd gennym ni yn ein maniffesto ni yn fuan iawn.

Thank you. If I may note, in terms of the first point, the amendment that the Government tabled was passed on that commitment in terms of additional information within the first 100 days. I hope that the fact that there is £55 million in the supplementary budget, as I mentioned to Jane Dodds, provides that assurance that Members are seeking that the work is in train. The first meeting of the expert steering group on expanding childcare took place on 25 June. That was chaired by the Deputy First Minister. I will ask in terms of ensuring that you do receive that response regarding the membership.

Regarding the second point, we will be looking to bring forward an update to the Senedd on the work and the commitments that we had in our manifesto very soon.

Leader of the house, could we have a statement from the Government Minister responsible for Government delivery and the constitution? In his statement last week, he referred constantly to the COVID review rather than the COVID inquiry that the Government promised when they were in opposition. It was quite clear that, when you were in opposition, you were voting for an inquiry. I appreciate that you, your good self, on a tv programme, did refer to it as being more of a review, and the health Secretary in opposition said, 'No, it's an inquiry.' Can we have clarity, please, via a statement, to understand the Government preparations in putting this together and that it will be an inquiry under the Inquiries Act 2005?

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Weinidog y Llywodraeth sy'n gyfrifol am gyflawni'r Llywodraeth a'r cyfansoddiad? Yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, fe gyfeiriodd yn gyson at yr adolygiad COVID yn hytrach na'r ymchwiliad COVID a addawodd y Llywodraeth pan oedden nhw'n wrthblaid. Roedd yn eithaf amlwg, pan oeddech chi'n wrthblaid, eich bod chi'n pleidleisio dros ymchwiliad. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi eich hun, ar raglen deledu, wedi cyfeirio ato fel mwy o adolygiad, a dywedodd yr Ysgrifennydd iechyd yn yr wrthblaid, 'Na, ymchwiliad ydyw.' A gawn ni eglurder, os gwelwch yn dda, drwy ddatganiad, i ddeall paratoadau'r Llywodraeth wrth lunio hyn, ac y bydd yn ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005?

15:35

Wel, diolch. Mi wnaf gyfeirio'r Aelod at faniffesto Plaid Cymru, lle roedd o'n glir—a'r ymrwymiad a wnaed yn gweithio efo COVID bereaved families—yr hyn y byddem ni'n ymrwymo iddo fo. Felly, yn sicr, mi fydd yna ddiweddariad pan fydd y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. Ond mi fydd yr Aelod yn gwybod yn glir ein bod ni wedi sefyll ar ein maniffesto, bod yna gydweithio wedi bod efo'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio. Bydd o hefyd yn gwybod ei bod ni wedi cyd-sefyll ac wedi bod yn galw am wersi wedi'u dysgu. A dyna sydd angen digwydd fan hyn: gwersi i'w dysgu, fel bod y paratoadau yn well at y dyfodol pan fydd—pan fydd—rhywbeth cyffelyb yn digwydd yn y dyfodol, oherwydd mae'r tebygolrwydd yn uchel, ac mae'n sicr ein bod ni wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi hynny. 

Well, thank you. I will refer the Member to the Plaid Cymru manifesto, where it was clear—and the commitment that was made in working with COVID bereaved families—in terms of what we would commit to. So, certainly there will be an update when that work does progress. But the Member will know clearly that we have stood on our manifesto, that there has been collaboration with the families affected. He will also know that we stood shoulder-to-shoulder and have been calling for lessons to be learned. And that's what needs to happen here: lessons should be learned, so that preparations are better for the future when—when—something similar happens in future, because the likelihood of that is high, and certainly we are committed to learning those lessons.

Trefnydd, all Labour MPs, including my own Monmouthshire MP, Catherine Fookes, and Torfaen's Nick Simpson—Thomas-Symonds, sorry—voted in Westminster recently to support a trial pushing—offering, sorry—puberty blockers, life-altering drugs to children. It's abhorrent. And yet, they've also backed banning social media for under-16s, because children are supposedly not mature enough to use it responsibly. So, they are saying on the one hand that children are too immature to scroll on their phones, but mature enough to consent to irreversible life-altering decisions about their bodies and fertility. I hope that, Trefnydd, you will agree with me that this trial is nothing short of state-sponsored child abuse. So, may I request a statement from the Welsh Government stating its commitment to safeguarding Welsh children from such drugs in this UK Government-led trial, as I believe it's in the Welsh Government's power to take Welsh children out of the sickening experiment on vulnerable children? Diolch.

Drefnydd, pleidleisiodd pob un o Aelodau Seneddol Llafur, gan gynnwys fy Aelod Seneddol fy hun dros sir Fynwy, Catherine Fookes, a Nick Simpson o Dorfaen—Thomas-Symonds, mae'n ddrwg gen i—yn San Steffan yn ddiweddar i gefnogi treial sy'n gwthio—sy'n cynnig, mae'n flin gen i—meddyginiaeth atal y glasoed, cyffuriau sy'n newid bywyd i blant. Mae'n ffiaidd. Ac eto, maen nhw hefyd wedi cefnogi gwahardd y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed, am nad yw plant yn ddigon aeddfed, yn ôl pob sôn, i'w defnyddio'n gyfrifol. Felly, maen nhw'n dweud ar y naill law bod plant yn rhy anaeddfed i sgrolio ar eu ffonau, ond yn ddigon aeddfed i gydsynio i benderfyniadau anadferadwy sy'n newid bywyd am eu cyrff a'u ffrwythlondeb. Rwy'n gobeithio, Drefnydd, y byddwch chi'n cytuno â mi bod y treial hwn yn ddim byd llai na cham-drin plant wedi'i noddi gan y wladwriaeth. Felly, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn datgan ei hymrwymiad i ddiogelu plant Cymru rhag cyffuriau o'r fath yn y treial hwn dan arweiniad Llywodraeth y DU, gan fy mod i'n credu ei bod o fewn gallu Llywodraeth Cymru i dynnu plant Cymru allan o'r arbrawf afiach ar blant sy'n agored i niwed? Diolch.

Wel, nid fy lle i ydy ymateb i'r hyn mae Aelodau Seneddol o blaid wahanol wedi ei ddweud mewn siambr wahanol i hon, yn y lle cyntaf. Ac mi fyddwn i'n cyfeirio yr Aelod at y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, a hefyd nodi o ran awdur y Cass review a'u barn nhw ar y mater hwn. 

Well, it's not my place to respond to what Members of Parliament of a different party have said in a different chamber to this, in the first instance. And I would refer the Member to the comments made by the First Minister earlier today, and also note in terms of the author of the Cass review and their views on this matter.

Yn olaf, Jason O'Connell.

Finally, Jason O'Connell.

Trefnydd, can I ask for a statement from the Minister for enterprise on the ongoing situation at Kepak in Merthyr Tydfil? Kepak is Wales's largest meat processing plant and they began a consultation that could see the loss of up to 85 jobs. For years, the farming industry and the wider rural industry have warned Governments what would happen if their pleas for increased production were ignored and not made a priority. Now, herd numbers are falling, confidence is collapsing and Welsh workers are paying the price. It's absolutely vital the Welsh Government does all it can to save these jobs in Merthyr. Every one of these jobs supports families, the wider community and local businesses in our constituency. Losing them will be a blow not just to Merthyr, but to Wales's entire food production sector. Diolch.

Drefnydd, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros fenter am y sefyllfa sy'n mynd rhagddi yn Kepak ym Merthyr Tudful? Kepak yw'r ffatri prosesu cig mwyaf yng Nghymru ac fe wnaethon nhw ddechrau ymgynghoriad a allai weld colli hyd at 85 o swyddi. Ers blynyddoedd, mae'r diwydiant ffermio a'r diwydiant gwledig ehangach wedi rhybuddio Llywodraethau beth fyddai'n digwydd pe bai eu pledion am fwy o gynhyrchu yn cael eu hanwybyddu a phe na bai'n cael ei wneud yn flaenoriaeth. Nawr, mae nifer y buchesi yn gostwng, mae hyder yn gostwng ac mae gweithwyr yng Nghymru yn talu'r pris. Mae'n hollol hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i achub y swyddi hyn ym Merthyr. Mae pob un o'r swyddi hyn yn cefnogi teuluoedd, y gymuned ehangach a busnesau lleol yn ein hetholaeth. Bydd eu colli yn ergyd nid yn unig i Ferthyr, ond i'r sector cynhyrchu bwyd cyfan yng Nghymru. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (Kerry Ferguson) took the Chair.

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mi ddylwn i ddatgan bod hwn o fewn yr etholaeth dwi'n ei chynrychioli hefyd. Mae o'r ail waith mae'r Aelod wedi codi hyn yn ystod datganiadau busnes. Wn i ddim os ydy'r Aelod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a gofyn am gyfarfod. Oherwydd natur hyn, dyna fyddwn i'n credu byddai'r peth mwyaf buddiol, oherwydd bod pethau yn symud yn gyflym hefyd.

Well, I thank the Member for raising that issue. I should declare that this is within the constituency I represent too. It's the second time that the Member's raised this issue during business statements. I don't know if the Member has written to the Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy and asked for a meeting. Because of the nature of this, that would, I think, be the most beneficial thing, because things are moving very quickly too.  

Diolch, Weinidog. 

Thank you, Minister. 

4. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Gwella Arweinyddiaeth a Pherfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
4. Statement by the Cabinet Minister for Health and Care: Improving Leadership and Performance at Betsi Cadwaladr University Health Board

Symudwn ymlaen, felly, i ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: gwella arweinyddiaeth a pherfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor. 

Moving now to a statement by the Cabinet Minister for Health and Care: improving leadership and performance at Betsi Cadwaladr University Health Board. I call on the Cabinet Minister for Health and Care, Mabon ap Gwynfor.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod ar lefel uwchgyfeirio uchel ers 11 mlynedd, ac ar y lefel bresennol, sef lefel 5, ers mis Chwefror 2023. Er bod y bwrdd wedi cael lefel sylweddol o gyllid a chymorth wedi'i dargedu dros y tair blynedd diwethaf, mae’n wynebu heriau sylweddol o hyd o ran arweinyddiaeth, llywodraethiant, perfformiad a chyflawni, ynghyd â chanlyniadau sy'n dal i fod yn is na'r safon y dylai pobl y gogledd ei disgwyl.

Dwi eisiau bod yn glir iawn ar y dechrau fy mod i'n ddiolchgar am yr ymroddiad a'r ymrwymiad y mae staff yn eu dangos bob dydd, a hynny'n aml mewn amgylchiadau anodd a heriol. Mae'r saga druenus yma wedi effeithio arnynt hwythau lawn gymaint â'r cleifion.

Dro ar ôl tro, mi wnaeth y Llywodraeth flaenorol roi cynnig ar gynlluniau hyd braich i geisio gwneud gwahaniaeth, ond heb lwyddo i gynnal llwyddiant. Allwn ni ddim a wnawn ni ddim caniatáu i'r diffyg cynnydd yma barhau. Yn ddiweddar, mi wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddynodi adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn wasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol, ei lefel fwyaf o bryder, lai na dwy flynedd ers i'r adran gael ei thynnu o'r statws hwn.

Mae pobl y gogledd hefyd yn aros yn rhy hir i gael mynediad at y gofal a'r driniaeth y maen nhw eu hangen. Dydy hyn ddim yn realiti y dylid gofyn i’r cyhoedd ei dderbyn, a dydy o ddim chwaith yn realiti y bydd y Llywodraeth hon yn ei dderbyn. Wnaiff y Llywodraeth hon ddim goddef methiannau'r 11 mlynedd diwethaf. Mae o'n anghyfiawnder i gleifion, i'w teuluoedd ac i'r staff gweithgar sy'n gweithio ar draws y maes iechyd a gofal yn y gogledd.

Fel y soniais i wrth ymateb i arolygiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, dwi wedi cael llond bol ar glywed y gair 'Betsi' yn cael ei ddefnyddio i gyfleu diffygion gweithredol a dirywiad mewn safonau, gan bardduo enw da’r NHS a’i staff gweithgar yr un pryd. Dyna pam yr ydw i heddiw yn cyhoeddi fy mhenderfyniad i roi mesurau newydd ar waith i sefydlogi gwasanaethau, cryfhau arweinyddiaeth a dal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyfrif am welliant parhaus, fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio lefel 5 sy'n parhau yn y bwrdd iechyd.

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. Betsi Cadwaladr University Health Board has been in a heightened state of escalation for the past 11 years, with the current level 5 escalation in place since February 2023. Despite significant financial and targeted support over the past three years, the health board continues to face significant challenges in terms of leadership, governance, performance and delivery, with outcomes that remain below the standard people in the north of Wales should expect.

I want to be very clear at the outset that I am grateful for the dedication and commitment that staff show every day, often in difficult and challenging circumstances. They are as much the victims of this sorry saga as the patients.

Time and time again, the previous Government repeatedly tried arms-length initiatives to make a difference, without sustained success. The lack of progress cannot and will not be allowed to continue. Recently, Healthcare Inspectorate Wales designated the emergency department at Ysbyty Glan Clwyd as a service requiring significant improvement, its highest level of concern, less than two years since it was removed from this status.

People in the north of Wales are also waiting too long to be able to access the care and treatment they need. This is not a reality that the public should be asked to accept, and it's not one that this Government will accept either. This Government will not tolerate the failings of the past 11 years. It's an injustice for patients, their families and the hard-working staff working across health and care in the north of Wales.

As I mentioned in my response to the recent Healthcare Inspectorate Wales inspection at Ysbyty Glan Clwyd, I am fed up of 'Betsi' being a byword for dysfunction and declining standards, dragging the good name of the NHS and its hardworking staff down in the process. That’s why I am today announcing my decision to instigate new measures to stabilise services, strengthen leadership and hold Betsi Cadwaladr University Health Board to account for sustained improvement, as part of the ongoing level 5 escalation at the health board.

This is a serious intervention, reflecting the persistent and unresolved concerns. Previous arrangements have relied on the health board identifying and delivering its own recovery, with support alongside it. That approach has not delivered the scale or pace of change required. This intervention moves beyond that model to one where action is more directly led.

We are not simply asking the organisation to improve; we are directing them on how that improvement happens. That means setting clear expectations, providing targeted expertise, and maintaining close and continuous oversight of delivery. It also means there are no second chances for those in positions of responsibility and authority. The era of plans for improvements being allowed to drift, of problems being allowed to fester, undermining the interests of patients and staff, ends now. It is also a clear statement of my commitment to supporting improvement and ensuring people in the north of Wales receive the safe, high-quality and timely care that they deserve.

Since I was appointed as Cabinet Minister last month, I have been working closely with my officials to put measures in place to ensure the health board delivers immediate improvements. Members will be aware that this Government’s 100-day plan committed to commissioning a joint review with Audit Wales and Healthcare Inspectorate Wales of the effectiveness of the current escalation and intervention framework, which have clearly shown to be wanting by the chronic issues at Betsi. My officials are working at pace to put together options on advancing this review, and I will be making a statement in due course. But tackling the issues at Betsi cannot wait. That is why work has already been taken forward with NHS Wales Performance and Improvement to strengthen accountability and intervention arrangements.

As part of a new approach to intervention to organisations in higher levels of escalation, an intensive support, recovery and turnaround team has been established in NHS Wales Performance and Improvement. The intervention will take a five-phase approach to mobilise, assess, plan, support and transition. The intensive support, recovery and turnaround team will focus on the most pressing risk areas currently affecting the organisation, bringing together operational and clinical experts to drive urgent improvement. Their work will prioritise reducing long waits for cancer treatment, tackling ambulance handover delays, and ensuring that no-one waits more than two years for planned care.

This targeted approach is designed to stabilise services quickly, while addressing long-standing performance challenges that have impacted patient outcomes. By combining practical delivery expertise with clinical leadership, the ISRT team will support the health board to take decisive action, improve patient flow, and restore timely access to care.

As part of the level 5 intervention at Betsi Cadwaladr health board, I have also commissioned a full stock-take of the health board’s current position, covering operational challenges, quality of care and strategic direction, to determine the most appropriate next steps to see improvements delivered for the people of north Wales. Immediate actions will include a formal well-led review of the organisation, covering leadership, governance, and organisational culture; quality, safety and patient experience; board and executive capacity and capability; and the review will also consider any areas of good practice to enable future improvement and delivery plans.

There will be stronger independent challenge than seen previously. A nationally appointed expert panel will undertake a full assessment of leadership, governance and performance. It will provide clear, evidence-based recommendations and ensure transparency about the changes required. A reference group will also be established to ensure local context for the review and to provide guidance.

Mae hon yn ymyrraeth ddifrifol, sy'n adlewyrchu'r pryderon parhaus sydd heb eu datrys. Mae trefniadau blaenorol wedi dibynnu ar y bwrdd iechyd yn nodi ac yn cyflawni ei adferiad ei hun, gyda chymorth ochr yn ochr ag ef. Nid yw'r dull hwnnw wedi sicrhau newid ar y raddfa nac ar y cyflymder sydd ei angen. Mae'r ymyrraeth hon yn symud y tu hwnt i'r model hwnnw i un lle mae gweithredu yn cael ei arwain yn fwy uniongyrchol.

Nid dim ond gofyn i'r sefydliad wella rydym yn ei wneud; rydym yn rhoi cyfarwyddiadau iddyn nhw ar sut y bydd y gwelliant hwnnw'n digwydd. Mae hynny'n golygu gosod disgwyliadau clir, darparu arbenigedd wedi'i dargedu, a chynnal goruchwyliaeth agos a pharhaus o'r hyn a gyflawnir. Mae hefyd yn golygu nad oes ail gyfle i'r rhai mewn swyddi â chyfrifoldeb ac awdurdod. Mae'r cyfnod lle caniatawyd i gynlluniau ar gyfer gwelliannau lithro, lle caniatawyd i broblemau grynhoi, gan danseilio buddiannau cleifion a staff, yn dod i ben nawr. Mae hefyd yn ddatganiad clir o'm hymrwymiad i gefnogi gwelliant a sicrhau bod pobl yn y gogledd yn derbyn y gofal diogel, amserol o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu.

Ers i mi gael fy mhenodi'n Weinidog Cabinet fis diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda fy swyddogion i roi mesurau ar waith i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cyflawni gwelliannau ar unwaith. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod cynllun 100 diwrnod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gomisiynu adolygiad ar y cyd ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o effeithiolrwydd y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd presennol, y mae'r materion cronig yn Betsi wedi dangos yn glir ei fod yn ddiffygiol. Mae fy swyddogion yn gweithio ar gyflymder i lunio opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â'r adolygiad hwn, ac fe fyddaf i'n gwneud datganiad maes o law. Ond ni all mynd i'r afael â'r materion yn Betsi aros. Dyna pam mae gwaith eisoes wedi'i wneud gyda Perfformiad a Gwella GIG Cymru i gryfhau trefniadau atebolrwydd ac ymyrraeth.

Fel rhan o ddull newydd o ymyrryd yn achos sefydliadau sy'n destun lefelau uwchgyfeirio uwch, mae tîm cymorth, adfer a gweithredu dwys wedi'i sefydlu yn Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Bydd yr ymyrraeth yn mabwysiadu dull pum cam i ysgogi, asesu, cynllunio, cefnogi a phontio. Bydd y tîm cymorth, adfer a gweithredu dwys yn canolbwyntio ar y meysydd risg mwyaf dybryd sy'n effeithio ar y sefydliad ar hyn o bryd, gan ddod ag arbenigwyr gweithredol a chlinigol ynghyd i lywio gwelliant brys. Bydd y gwaith a wneir ganddynt yn blaenoriaethu lleihau arosiadau hir am driniaeth canser, mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys, a sicrhau nad oes neb yn aros mwy na dwy flynedd am ofal wedi'i gynllunio.

Mae'r dull hwn wedi'i dargedu wedi'i gynllunio i sefydlogi gwasanaethau'n gyflym, a mynd i'r afael â heriau perfformiad hirsefydlog sydd wedi effeithio ar ganlyniadau cleifion hefyd. Trwy gyfuno arbenigedd cyflawni ymarferol ag arweinyddiaeth glinigol, bydd y tîm ISRT yn cefnogi'r bwrdd iechyd i gymryd camau gweithredu pendant, gwella llif cleifion, a sicrhau bod mynediad amserol at ofal unwaith eto.

Fel rhan o'r ymyrraeth lefel 5 ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, rwyf hefyd wedi comisiynu ystyriaeth lawn o sefyllfa bresennol y bwrdd iechyd, yn cwmpasu heriau gweithredol, ansawdd gofal a chyfeiriad strategol, er mwyn pennu'r camau nesaf mwyaf priodol i weld gwelliannau yn cael eu cyflawni i bobl yn y gogledd. Bydd camau gweithredu uniongyrchol yn cynnwys adolygiad ffurfiol 'arwain yn dda' o'r sefydliad, yn cwmpasu arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant sefydliadol; ansawdd, diogelwch a phrofiad cleifion; capasiti a gallu'r bwrdd a'r tîm gweithredol; a bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried unrhyw feysydd o arfer da i alluogi cynlluniau gwella a chyflawni yn y dyfodol.

Bydd her annibynnol gryfach nag a welwyd o'r blaen. Bydd panel arbenigol a benodir yn genedlaethol yn cynnal asesiad llawn o arweinyddiaeth, llywodraethu a pherfformiad. Bydd yn darparu argymhellion clir yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn sicrhau bod yna dryloywder ynghylch y newidiadau sydd eu hangen. Bydd grŵp cyfeirio hefyd yn cael ei sefydlu i sicrhau cyd-destun lleol ar gyfer yr adolygiad ac i ddarparu arweiniad.

Yn bwysig, mae'r ymyriad hwn wedi'i gynllunio nid yn unig i ymdrin â'r pwysau uniongyrchol o ran perfformiad, ond hefyd yr achosion sylfaenol sydd wrth wraidd y methiant hwn dro ar ôl tro. Mi fydd yn archwilio a oes gan y sefydliad y capasiti arweinyddol, y gallu a'r diwylliant sydd eu hangen i gynnal gwelliant dros y tymor hirach. Mae hyn yn arwydd o symud clir tuag at gymorth ac atebolrwydd mwy uniongyrchol, efo pwyslais cryf ar ganlyniadau mesuradwy a gwelliant parhaus i bobl y gogledd.

Fis diwethaf, mi wnes i ysgrifennu at gadeirydd y bwrdd iechyd yn nodi fy mhryderon am y diffyg cynnydd. Ym mis Gorffennaf, mi fyddaf i'n cadeirio cyfarfod gydag aelodau bwrdd a thîm gweithredol y bwrdd iechyd, i'w gwneud yn glir iddyn nhw mai fy nisgwyliad i ydy bod yn rhaid iddyn nhw gymryd perchnogaeth o'r problemau hirsefydlog o fewn y bwrdd iechyd a gwneud y gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer y bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Er bod y Llywodraeth hon yn camu i mewn yn fwy uniongyrchol, dydy hynny ddim yn tynnu cyfrifoldeb oddi ar y bwrdd iechyd—i'r gwrthwyneb, mae'n cryfhau'r disgwyliadau. Rhaid i'r bwrdd a'r tîm gweithredol gymryd perchnogaeth lawn o'r materion y maen nhw'n eu hwynebu, a gweithio'n gyflym i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen, a hynny gyda chymorth, ond her gadarn hefyd, yr ymyriad yma. Dwi'n disgwyl i adroddiad terfynol yr adolygiad 'arwain yn dda' gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref eleni.

Dwi wedi tanlinellu'r angen i’r gwaith yma gael ei gyflymu’n sylweddol, a dwi’n disgwyl felly i ganfyddiadau interim gael eu hadrodd yn fisol, i lywio'r camau ymyrryd a chymorth sydd ar y gweill. Bydd yr adroddiad a'i ganfyddiadau yn cael eu defnyddio i sbarduno unrhyw ymyriad a chyfeiriad pellach y bydd eu hangen, ac mi fyddwn ni'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar yr allbynnau i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd. Mi fyddwn ni'n parhau i gydweithio â'r bwrdd i sicrhau bod y camau ymyrryd yn effeithiol ac yn arwain at welliant hirdymor yng nghanlyniadau'r gwasanaethau.

Ddirprwy Lywydd, nid o dan ein gofal ni y dechreuodd yr helbulon a'r trafferthion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ond dwi wedi ymrwymo i droi pethau o gwmpas. Dyma gyfle olaf y bwrdd i ddangos eu bod nhw'n gallu sicrhau’r safonau gofal uchel a chyson y mae pobl y gogledd yn eu haeddu. Fel y mae'r Prif Weinidog a minnau wedi datgan yn hollol glir, bydd yr holl opsiynau’n cael eu hystyried os na fydd cynnydd yn cael ei wneud ar y raddfa a'r cyflymder rydyn ni'n disgwyl ei weld. Mi fyddaf i'n cadw goruchwyliaeth fanwl ac yn rhoi diweddariadau i'r Aelodau am hynt y gwaith. Diolch.

Importantly, this intervention is designed not only to address immediate performance pressures, but to tackle the underlying causes of repeated failure. It will examine whether the organisation has the leadership capacity, capability and culture needed to sustain improvement over the longer term. This represents a clear shift towards more direct support and accountability, with a strong emphasis on measurable outcomes and sustained improvement for the people of the north of Wales.

Last month, I wrote to the chair of the health board setting out my concerns about the lack of progress. In July, I will chair a meeting with board members and the executive team from the health board to make clear to them my expectation that they must take ownership of the long-standing issues within the health board and make the improvements required for the people they serve. 

While this Government is stepping in more directly, this does not remove responsibility from the health board—on the contrary, it strengthens expectations. The board and executive team must take full ownership of the issues they face and work at pace to deliver the changes required, supported but also firmly challenged by this intervention. I expect the final report from the 'well-led' review to be submitted to the Welsh Government by the end of October this year.

I have been clear that there must be an urgent injection of pace for this work, so I expect, therefore, the interim findings to be reported monthly, to inform the ongoing intervention and support. The report and its findings will be used to trigger the further intervention and direction required, and we will work with the health board on the outputs to ensure that appropriate actions are taken. We will continue to work collaboratively with the board to ensure that interventions are effective and lead to long-term improvement in service outcomes.

Dirprwy Lywydd, the trials and tribulations at Betsi Cadwaladr health board didn’t start under our watch, but I am committed to turning the situation around. This is the board’s final chance to demonstrate that they can deliver the consistent high standards of care that people in north Wales deserve. As both the First Minister and I have made abundantly clear, all options will be considered if progress is not at the scale and pace that we expect to see. I will be maintaining close oversight and will keep Members informed of progress. Thank you.

15:45

I'd like to thank the Cabinet Minister for his statement. I welcome the fact that the Minister is taking further action on Betsi Cadwaladr University Health Board, but the people in north Wales have heard strong words before. They have heard promises of improvement before. They have seen reviews, action plans, escalation frameworks and outside support for years. But after 11 years of escalation and more than three years back in level 5 special measures, we are still talking about serious failures in leadership, governance, performance and patient safety. The key question today is simple: what will be different this time? 

The Minister is right to say that front-line staff are not to blame. Doctors, nurses and the wider workforce are doing their best in extremely difficult circumstances. They're being let down by the system, just as patients are being let down by the system. But the figures remain deeply concerning. Only 58.2 per cent of emergency department patients at Betsi were admitted, transferred or discharged within four hours, and 17.1 per cent waited more than 12 hours. On planned care, 18.6 per cent of pathways were waiting more than a year. Diagnostics were also a major problem, with 43 per cent of pathways waiting longer than the eight-week target. Cancer performance stood at 52.5 per cent against the 62-day target, far below the 75 per cent target that the Welsh Government sets itself. 

The recent Healthcare Inspectorate Wales decision at Ysbyty Glan Clwyd should also be a serious warning. Its emergency department has yet again been designated as a service requiring significant improvement. HIW raised concerns about leadership, governance and risk management, but we've heard all that before, and I know Members from north Wales have raised it in this Chamber on a number of occasions. The fact that this department has previously been under those arrangements, between 2022 and 2024, shows that, even when progress has been made, it has not been sustained. What is going wrong here?

I want to ask the Minister directly: what powers does he currently have to force the change at Betsi, and which of those powers is he prepared to use? Because the danger is that the Government talk a very good game on intervention—I know, I've heard it for the last five years—while then saying that its powers are limited when it comes to direct influence over delivery. If the Minister believes that the current rules do not give him enough power to intervene directly, then he should change the rules. If the escalation framework is not strong enough, then strengthen it. And if Ministers cannot direct the pace and scale of change needed under level 5 special measures, then bring forward the necessary changes so that the Government can. The people of north Wales cannot be asked to sit through another cycle of review, report, action plan and then the disappointment and poor performance that follows. 

The Minister has announced today an intense support, recovery and turnaround team. It just seems like another board to me. I do not oppose bringing in expertise, but the question is how this taskforce will deliver improvements on the ground. Will it have power to direct operational decisions? Will it report directly to the Minister? Will it be able to challenge the board in real time? And who will be personally accountable again if these targets are missed? Will it be the Minister or will it be someone we've never seen before? I also want to ask what additional measures and support are being put in for the specific areas that the Minister identified. 

On cancer, will there be extra diagnostic capacity, additional clinics, weekend or evening working, more use of cross-border capacity and a clear recovery plan for the 62-day target? Otherwise, it’s just warm words. On ambulance handovers, what is being done with the Welsh ambulance service, local authorities and social care partners to improve patient flow, speed up discharge and stop ambulances being stuck outside hospitals instead of responding to emergencies? And on two-year waits, will the Minister set out a pathway-by-pathway plan with clear dates, extra theatre capacity, insourcing or outsourcing where needed, and where mutual aid from other parts of the NHS or providers from outside Wales can come in to help? Those are what people need to see with delivery on the ground. 

The evidence is already there, the failure is already known. The issue now is not whether another review can describe the problem; the issue is whether the Minister is prepared to use every available lever to fix it. Otherwise, this will be just another board that identifies the failures and delivers nothing. 

To finally close, you said that these issues did not start under your watch, but the people of north Wales will be watching to see whether you can turn this around. Because if you can't, Cabinet Secretary, I think you'll be another one on the long list of health Ministers who has failed to turn Betsi Cadwaladr University Health Board around. Diolch, Deputy Presiding Officer.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn cymryd camau pellach mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond mae'r bobl yn y gogledd wedi clywed geiriau cryf o'r blaen. Maen nhw wedi clywed addewidion ynghylch gwelliant o'r blaen. Maen nhw wedi gweld adolygiadau, cynlluniau gweithredu, fframweithiau uwchgyfeirio a chymorth allanol ers blynyddoedd. Ond ar ôl 11 mlynedd o uwchgyfeirio a mwy na thair blynedd yn ddarostyngedig i fesurau arbennig lefel 5 eto, rydym yn dal i siarad am fethiannau difrifol mewn arweinyddiaeth, llywodraethu, perfformiad a diogelwch cleifion. Mae'r cwestiwn allweddol heddiw yn syml: beth fydd yn wahanol y tro hwn? 

Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud nad staff rheng flaen sydd ar fai. Mae meddygon, nyrsys a'r gweithlu ehangach yn gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd iawn. Maen nhw'n cael eu gadael i lawr gan y system, yn union fel y mae cleifion yn cael eu gadael i lawr gan y system. Ond mae'r ffigurau yn parhau i beri gofid mawr. Dim ond 58.2 y cant o gleifion adrannau brys yn Betsi a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr, ac arhosodd 17.1 y cant ohonyn nhw am fwy na 12 awr. O ran gofal wedi'i gynllunio, roedd 18.6 y cant o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn. Roedd diagnosteg hefyd yn broblem fawr, gyda 43 y cant o lwybrau yn aros yn hirach na'r targed o wyth wythnos. Roedd perfformiad canser yn 52.5 y cant yn erbyn y targed o 62 diwrnod, sy'n llawer is na'r targed o 75 y cant y mae Llywodraeth Cymru yn ei osod iddi'i hun.

Dylai penderfyniad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd fod yn rhybudd difrifol hefyd. Mae ei adran achosion brys wedi cael ei ddynodi unwaith eto fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol. Cododd AGIC bryderon am arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli risg, ond rydym wedi clywed hynny i gyd o'r blaen, ac rwy'n gwybod bod Aelodau o'r gogledd wedi ei godi yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Mae'r ffaith bod yr adran hon wedi bod o dan y trefniadau hynny o'r blaen, rhwng 2022 a 2024, yn dangos, hyd yn oed pan mae cynnydd wedi cael ei wneud, nid yw wedi cael ei gynnal. Beth sy'n mynd o'i le yma?

Rwyf am ofyn i'r Gweinidog yn uniongyrchol: pa bwerau sydd ganddo ar hyn o bryd i orfodi'r newid yn Betsi, a pha un o'r pwerau hynny y mae'n barod i'w defnyddio? Oherwydd y perygl yw bod y Llywodraeth yn siarad yn dda iawn am ymyrraeth—rwy'n gwybod, rwyf wedi ei glywed am y pum mlynedd diwethaf—ac wedyn yn dweud bod ei phwerau yn gyfyngedig o ran bod â dylanwad uniongyrchol ar gyflawni. Os yw'r Gweinidog yn credu nad yw'r rheolau presennol yn rhoi digon o bŵer iddo ymyrryd yn uniongyrchol, yna fe ddylai newid y rheolau. Os nad yw'r fframwaith uwchgyfeirio yn ddigon cryf, yna dylid ei gryfhau. Ac os na all Gweinidogion gyfarwyddo cyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen o dan fesurau arbennig lefel 5, yna cyflwynwch y newidiadau sydd eu hangen fel bod y Llywodraeth yn gallu gwneud hynny. Ni ellir gofyn i bobl y gogledd eistedd trwy gylch arall o adolygiad, adroddiad, cynllun gweithredu ac yna'r siom a'r perfformiad gwael sy'n dilyn. 

Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi heddiw y bydd tîm cymorth, adferiad a gweithredu dwys. Mae'n ymddangos fel bwrdd arall i mi. Dydw i ddim yn gwrthwynebu dod ag arbenigedd i mewn, ond y cwestiwn yw sut y bydd y tasglu hwn yn cyflawni gwelliannau ar lawr gwlad. A fydd ganddo'r pŵer i gyfarwyddo penderfyniadau gweithredol? A fydd yn adrodd yn uniongyrchol i'r Gweinidog? A fydd yn gallu herio'r bwrdd mewn amser real? A phwy fydd yn bersonol atebol eto os bydd y targedau hyn yn cael eu colli? Ai'r Gweinidog neu rywun nad ydym erioed wedi'i weld o'r blaen? Rwyf hefyd eisiau gofyn pa fesurau a chymorth ychwanegol sy'n cael eu rhoi i mewn ar gyfer y meysydd penodol a nodwyd gan y Gweinidog. 

O ran canser, a fydd capasiti diagnostig ychwanegol, clinigau ychwanegol, gweithio ar benwythnosau neu gyda'r nos, mwy o ddefnydd o gapasiti trawsffiniol a chynllun adfer clir ar gyfer y targed o 62 diwrnod? Fel arall, dim ond geiriau cynnes ydyn nhw. O ran trosglwyddo o ambiwlansys, beth sy'n cael ei wneud gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid gofal cymdeithasol i wella llif cleifion, cyflymu rhyddhau ac atal ambiwlansys rhag gorfod aros y tu allan i ysbytai yn hytrach nag ymateb i argyfyngau? Ac o ran arosiadau dwy flynedd, a wnaiff y Gweinidog osod cynllun llwybr wrth lwybr gyda dyddiadau clir, capasiti theatrau ychwanegol, mewnoli neu allanoli lle bo angen, a lle gall cymorth cydfuddiannol o rannau eraill o'r GIG neu ddarparwyr o'r tu allan i Gymru ddod i mewn i helpu? Dyna'r hyn y mae angen i bobl ei weld gyda chyflawni ar lawr gwlad. 

Mae'r dystiolaeth eisoes yno, mae'r methiant eisoes yn hysbys. Y mater nawr yw nid a all adolygiad arall ddisgrifio'r broblem; y mater yw a yw'r Gweinidog yn barod i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i'w drwsio. Fel arall, bydd hwn yn fwrdd arall sy'n nodi'r methiannau ac yn cyflawni dim.

Yn olaf, i gloi, fe ddywedoch chi nad o dan eich gofal chi y dechreuodd y materion hyn, ond fe fydd pobl y gogledd yn gwylio i weld a allwch chi droi hyn o gwmpas. Oherwydd os na allwch chi wneud hynny, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n credu y byddwch chi'n un arall ar y rhestr hir o Weinidogion iechyd sydd wedi methu â throi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o gwmpas. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:50

Thank you for those questions. I agree with a lot of what has been said, because during the committee debates we've had, we've raised these issues about Betsi Cadwaladr, and clearly there's a cross-party issue here in wanting to resolve this. In fact, I should probably declare an interest. I live in the north, my family are patients under Betsi Cadwaladr. In fact, nearly half of the Cabinet are represented by Betsi Cadwaladr. It's in our interests to see it improve. 

You made some very good points around the issues, and you provided the data with urgent and emergency care statistics, the planned care problems, the cancer stats, the diagnostics, HIW at Ysbyty Glan Clwyd. These are all some of the major problems facing the health board, and we expect to see rapid improvement in those. However, the difference here—and you asked what is the difference between what we're proposing and what has been done in the past—is that the previous approach relied on the health board to identify and deliver its own recovery plan, with support placed by the Government alongside it.

That approach hasn't delivered in the past. In this instance, what we're doing is that we are putting the individuals in to help with the support and to direct that support, looking specifically at cancer diagnostics and waiting times, looking specifically at the handover and the ED problems that we've got, and at the two-year waits. They will be dealing directly with those major issues we can identify and making sure that we have rapid improvement in those departments.

You made a good point about whether or not the escalation framework is fit for service and use. We've said it isn't. We're not convinced that it is at the moment. That's why we have started the process of reviewing the framework. We've commissioned that piece of work already, and I will be updating the Senedd on this. 

On the final point you raised around the waiting lists, they're clearly unacceptable in the north. That's why we've put forward the £100 million revenue plan for waiting lists. Much of that will clearly be targeted at Betsi Cadwaladr, and we will be using all the tools at our disposal to get those two-year waits down within a matter of months. The First Minister and I have made it clear that the health board is on notice and this is the last chance that they have, so we expect to see rapid improvement over the coming months.

Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud, oherwydd yn ystod y dadleuon pwyllgor rydym wedi'u cael, rydym wedi codi'r materion hyn am Betsi Cadwaladr, ac yn amlwg mae yna fater trawsbleidiol yn y fan yma o ran eisiau datrys hyn. Yn wir, mae'n debyg y dylwn i ddatgan buddiant. Rwy'n byw yn y gogledd, mae fy nheulu yn gleifion o dan Betsi Cadwaladr. Mewn gwirionedd, mae bron i hanner y Cabinet yn cael ei gynrychioli gan Betsi Cadwaladr. Mae er ein budd ni i'w weld yn gwella. 

Fe wnaethoch chi rai pwyntiau da iawn ynglŷn â'r materion, ac fe wnaethoch chi ddarparu'r data gydag ystadegau am ofal brys a gofal argyfwng, y problemau o ran gofal wedi'i gynllunio, yr ystadegau canser, y ddiagnosteg, AGIC yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r rhain i gyd yn rhai o'r prif broblemau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliant cyflym yn y rheini. Fodd bynnag, y gwahaniaeth yn y fan yma—ac fe ofynnoch chi beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn rydym yn ei gynnig a'r hyn sydd wedi'i wneud yn y gorffennol—yw bod y dull blaenorol yn dibynnu ar y bwrdd iechyd i nodi a chyflawni ei gynllun adfer ei hun, gyda chymorth gan y Llywodraeth ochr yn ochr ag ef.

Dydy'r dull hwnnw ddim wedi cyflawni yn y gorffennol. Yn yr achos hwn, yr hyn rydym yn ei wneud yw ein bod ni'n rhoi'r unigolion i mewn i helpu gyda'r cymorth ac i gyfarwyddo'r cymorth hwnnw, gan edrych yn benodol ar ddiagnosteg canser ac amseroedd aros, gan edrych yn benodol ar y trosglwyddo a'r problemau sydd gennym mewn adrannau brys, ac ar yr arosiadau dwy flynedd. Fe fyddan nhw'n delio'n uniongyrchol â'r materion mawr hynny y gallwn ni eu nodi ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweld gwelliant cyflym yn yr adrannau hynny.

Fe wnaethoch chi bwynt da ynghylch a yw'r fframwaith uwchgyfeirio yn addas i'w ddefnyddio. Rydym wedi dweud nad ydyw. Dydyn ni ddim yn argyhoeddedig ei fod e ar hyn o bryd. Dyna pam rydym wedi dechrau'r broses o adolygu'r fframwaith. Rydym wedi comisiynu'r darn hwnnw o waith yn barod, ac fe fyddaf i'n diweddaru'r Senedd ar hyn. 

Ar y pwynt olaf a godwyd gennych ynghylch y rhestrau aros, mae'n amlwg eu bod nhw'n annerbyniol yn y gogledd. Dyna pam rydym wedi cyflwyno'r cynllun refeniw £100 miliwn ar gyfer rhestrau aros. Bydd llawer o hynny'n amlwg yn cael ei dargedu at Betsi Cadwaladr, ac fe fyddwn ni'n defnyddio'r holl offer sydd ar gael i ni i sicrhau bod yr arosiadau dwy flynedd hynny yn gostwng o fewn ychydig fisoedd. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi ei gwneud yn glir bod y bwrdd iechyd ar rybudd ac mai dyma'r cyfle olaf sydd ganddyn nhw, felly rydym yn disgwyl gweld gwelliant cyflym dros y misoedd nesaf.

15:55

Minister, thank you for your statement. The frustrations that have been expressed in this Chamber I align myself with. The service provided by Betsi Cadwaladr University Health Board is insufficient and needs to be improved rapidly.

When I read the statement, Minister, I was reminded in my own mind of that scene in This Is Spinal Tap where they move the guitar dial up to 11 from 10. It feels and sounds like you're frustrated with the escalation framework, because it goes to number 5, and Betsi have been at that point for many years now, but we're not seeing the improvements and the speed of improvements that should be expected at that point on the escalation scale. So, I understand and appreciate why you are taking these measures, but what I'm concerned about is that the measures have been deployed in the past, albeit in different forms. Largely, intervention has been seen in the past to little or no avail, or at least to no sustained benefit for the long term.

There are some really important points, though, that come from your statement. First of all, 

'no second chances for those in positions of responsibility and authority.' 

That sounds to me like it's a formal final warning to the board. Is it also a final warning to executives? Significantly as well, with the measures that you're announcing today, essentially, NHS Wales will be intervening more directly and intensively. NHS Wales are directly accountable to you. You've issued a final warning. Surely that also applies to NHS Wales, in which case, you are putting yourself in the firing line directly if we do not see, as you put it, immediate improvements.

I'd just welcome an outline of how much responsibility you are willing to take for the situation at Betsi Cadwaladr, and, with regard to those immediate improvements, what they are and by when will we see immediate improvement. Is 'immediate' days, weeks, is it months? I take it that those areas of improvement relate to reducing long waiting lists for cancer treatment, tackling handover delays and ensuring that no-one waits for more than two years for planned care, but just clarity on that would be very helpful. 

You also state that this intervention represents a clear shift towards more direct support and accountability with a strong emphasis on measurable outcomes. Measurable outcomes are great, but it's even more important to state what your targets for those measurable outcomes are. So, just clarity on what those targets might be would be very helpful for the Chamber, I believe.

You closed your statement with the line

'This is the board's final chance'.

As I asked just before, is this the executives' final chance too? I know that in previous Senedd terms, Members have argued that the board members, who have suffered in the past from being dismissed, have sometimes covered for, if you like, or taken the bullets for the executives. Is it the executive team's final warning today?

And then finally—and it refers to what's been asked by James Evans—the ultimate sanction, which would be reorganisation. On what grounds would you commence reorganisation of Betsi Cadwaladr UHB? I think it's really important to be clear and transparent, because if you can't provide detail of the basis upon which you would reorganise the health board, then I'm afraid that we will just get drift, insecurity and instability within the health board. In the past, you've said that all options are on the table. Can you just be clear with us today on the circumstances that would lead you to commence reorganisation of the health board? Diolch.

Weinidog, diolch am eich datganiad. Rwyf hefyd yn teimlo'r rhwystredigaethau sydd wedi'u mynegi yn y Siambr hon. Mae'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annigonol ac mae angen ei wella'n gyflym.

Pan ddarllenais i'r datganiad, Weinidog, fe ges i fy atgoffa yn fy meddwl fy hun o'r olygfa honno yn This Is Spinal Tap lle maen nhw'n symud deial y gitâr i fyny i 11 o 10. Mae'n teimlo ac yn swnio fel eich bod chi'n rhwystredig gyda'r fframwaith uwchgyfeirio, oherwydd mae'n mynd i rif 5, ac mae Betsi wedi bod ar y pwynt hwnnw ers blynyddoedd lawer bellach, ond dydyn ni ddim yn gweld y gwelliannau a chyflymder y gwelliannau y dylid eu disgwyl ar y pwynt hwnnw ar y raddfa uwchgyfeirio. Felly, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi pam rydych chi'n cymryd y mesurau hyn, ond yr hyn rwy'n pryderu amdano yw bod y mesurau wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol, ond ar ffurfiau gwahanol. I raddau helaeth, mae ymyrraeth wedi cael ei gweld yn y gorffennol heb fawr o lwyddiant, os o gwbl, neu o leiaf heb unrhyw fudd parhaus ar gyfer y tymor hir.

Fodd bynnag, mae yna rai pwyntiau pwysig iawn sy'n dod o'ch datganiad. I ddechrau,

'nad oes ail gyfle i'r rhai mewn swyddi â chyfrifoldeb ac awdurdod.'

Mae hynny'n swnio i mi fel ei fod yn rhybudd terfynol ffurfiol i'r bwrdd. A yw hefyd yn rhybudd terfynol i swyddogion gweithredol? Yn arwyddocaol hefyd, gyda'r mesurau rydych chi'n eu cyhoeddi heddiw, yn y bôn, bydd GIG Cymru yn ymyrryd yn fwy uniongyrchol ac yn fwy dwys. Mae GIG Cymru yn uniongyrchol atebol i chi. Rydych chi wedi rhoi rhybudd terfynol. Does bosib bod hynny'n berthnasol i GIG Cymru hefyd, ac os felly, rydych chi'n rhoi eich hun yn y llinell danio yn uniongyrchol os na fyddwn ni'n gweld, fel y dywedwch chi, welliannau ar unwaith.

Byddwn i'n croesawu amlinelliad o faint o gyfrifoldeb rydych chi'n fodlon ei gymryd am y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr, ac, o ran y gwelliannau uniongyrchol hynny, beth ydyn nhw ac erbyn pryd y byddwn ni'n gweld gwelliant ar unwaith. Ydy 'ar unwaith' yn ddyddiau, yn wythnosau, ai misoedd ydyw? Rwy'n cymryd bod y meysydd gwella hynny'n ymwneud â lleihau rhestrau aros hir ar gyfer triniaeth canser, mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo a sicrhau nad oes neb yn aros am fwy na dwy flynedd am ofal wedi'i gynllunio, ond byddai'n ddefnyddiol iawn cael eglurder ar hynny.

Rydych hefyd yn nodi bod yr ymyrraeth hon yn cynrychioli newid clir tuag at gymorth ac atebolrwydd mwy uniongyrchol gyda phwyslais cryf ar ganlyniadau mesuradwy. Mae canlyniadau mesuradwy yn wych, ond mae hyd yn oed yn bwysicach nodi beth yw eich targedau ar gyfer y canlyniadau mesuradwy hynny. Felly, byddai eglurder ar beth allai'r targedau hynny fod yn ddefnyddiol iawn i'r Siambr, rwy'n credu.

Fe wnaethoch chi gloi eich datganiad gyda'r llinell

'Dyma gyfle olaf y bwrdd'.

Fel yr wyf newydd ei ofyn, ai dyma gyfle olaf y swyddogion gweithredol hefyd? Rwy'n gwybod, yn nhymhorau blaenorol y Senedd, fod yr Aelodau wedi dadlau bod aelodau'r bwrdd, sydd wedi dioddef yn y gorffennol o gael eu diswyddo, wedi cuddio bai, os mynnwch chi, neu wedi aberthu eu hunain er budd y swyddogion gweithredol weithiau. Ai rhybudd olaf y tîm gweithredol yw e heddiw?

Ac yna'n olaf—ac mae'n cyfeirio at yr hyn a ofynnwyd gan James Evans—y sancsiwn terfynol, sef ad-drefnu. Ar ba sail fyddech chi'n dechrau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yn glir a thryloyw, oherwydd os na allwch chi ddarparu manylion am y sail y byddech chi'n ad-drefnu'r bwrdd iechyd arno, yna rwy'n ofni y byddwn ni'n gweld llithro, ansicrwydd ac ansefydlogrwydd yn y bwrdd iechyd. Yn y gorffennol, rydych chi wedi dweud bod pob opsiwn ar y bwrdd. Allwch chi fod yn glir gyda ni heddiw ynghylch yr amgylchiadau a fyddai'n eich arwain i ddechrau ad-drefnu'r bwrdd iechyd? Diolch.

Once again, the Member makes some really important points. I understand also that, as a Member for the north of Wales, he also has an interest in making sure that this works. And he was absolutely right when he started his contribution saying, 'I am frustrated at the framework and the fact that it hasn't shown to be working.' That's why we have commissioned a review of the framework. And as I said, I will be bringing a report back to the Senedd with progress on that review.

The Member did mention, along the same lines as James mentioned earlier, that measures had been deployed previously, but there's a distinct difference here where measures deployed previously allowed the health board to lead its own recovery and identify its own problems. In this instance, we're saying, 'No, we know what the problems are. You're not going to lead that recovery yourself. We are telling you that you will have to improve on cancer diagnostics and cancer treatment. You're going to have to improve on ambulance handover and ED performance.' So, that's where the targets are coming in. We know, at the moment, with cancer, for instance, that they haven't reached the target for cancer—they've been on 52.5 per cent. We need them to be at 55 per cent for four months continuously in order for them to be de-escalated in that measure. So, we need to see a four-month sustainable improvement so that they can de-escalate down to level 4. So, those are the targets that have been set and we are saying that we need to see urgent delivery. And I expect to see delivery as soon as September and then a four-month consistent delivery after that.

Finally, the important question and probably the most important one that you raised was around reorganisation and at what point do we make any decisions on that. That's why I've announced today that we've got that well-led team put in place, which will be made up of an expert panel of people who have run organisations, managed such organisations, and with a clinical input to understand what the problem is—what's gone wrong in the past, why didn't your Government's intervention succeed, what's gone so wrong that we haven't seen the improvements required and what are the problems with the governance at the health board and the culture? And the Health Inspectorate Wales report specifically spoke about culture in Ysbyty Glan Clwyd—that's across the health board as well, the cultural problem. They will look at all of these things and then bring recommendations forward to me. And then, based on that and a piece of work I've commissioned to look at all options for Betsi, we will make a decision based on the evidence given in front of us. Thank you.

Unwaith eto, mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn. Rwy'n deall hefyd, fel Aelod dros y gogledd, fod ganddo ddiddordeb hefyd mewn sicrhau bod hyn yn gweithio. Ac roedd yn hollol iawn pan ddechreuodd ei gyfraniad gan ddweud, 'Rwy'n rhwystredig gyda'r fframwaith a'r ffaith nad yw wedi dangos ei fod yn gweithio.' Dyna pam rydym wedi comisiynu adolygiad o'r fframwaith. Ac fel y dywedais, fe fyddaf i'n dod ag adroddiad yn ôl i'r Senedd gyda chynnydd ar yr adolygiad hwnnw.

Fe soniodd yr Aelod, ar yr un llinellau ag y soniodd James yn gynharach, fod mesurau wedi cael eu defnyddio o'r blaen, ond mae yna wahaniaeth amlwg yn y fan yma lle roedd mesurau a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn caniatáu i'r bwrdd iechyd arwain ei adferiad ei hun a nodi ei broblemau ei hun. Yn yr achos hwn, rydym yn dweud, 'Na, rydym yn gwybod beth yw'r problemau. Dydych chi ddim yn mynd i arwain yr adferiad hwnnw eich hun. Rydym yn dweud wrthych y bydd yn rhaid i chi wella diagnosteg canser a thriniaeth canser. Mae'n rhaid i chi wella ar drosglwyddo o ambiwlansys a pherfformiad adrannau brys.' Felly, dyna lle mae'r targedau yn dod i mewn. Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, gyda chanser, er enghraifft, nad ydyn nhw wedi cyrraedd y targed ar gyfer canser—maen nhw wedi bod ar 52.5 y cant. Mae angen iddyn nhw fod ar 55 y cant am bedwar mis yn barhaus er mwyn iddyn nhw gael eu hisgyfeirio o ran y mesur hwnnw. Felly, mae angen i ni weld gwelliant cynaliadwy o bedwar mis fel y gallan nhw gael eu hisgyfeirio i lefel 4. Felly, dyna'r targedau sydd wedi'u gosod ac rydym yn dweud bod angen i ni weld hyn yn cael ei gyflawni ar frys. Ac rwy'n disgwyl gweld hyn yn cael ei gyflawni cyn gynted â mis Medi ac yna gyflawniad cyson o bedwar mis ar ôl hynny.

Yn olaf, y cwestiwn pwysig ac, mae'n debyg, yr un pwysicaf a godwyd gennych oedd ynghylch ad-drefnu ac ar ba bwynt rydym yn gwneud unrhyw benderfyniadau ar hynny. Dyna pam rwyf wedi cyhoeddi heddiw bod gennym y tîm 'arwain yn dda' hwnnw, a fydd yn cynnwys panel arbenigol o bobl sydd wedi rhedeg sefydliadau, wedi rheoli sefydliadau o'r fath, a chyda mewnbwn clinigol i ddeall beth yw'r broblem—beth sydd wedi mynd o'i le yn y gorffennol, pam na lwyddodd yr ymyrraeth a roddwyd ar waith gan eich Llywodraeth chi, beth sydd wedi mynd mor anghywir fel nad ydym wedi gweld y gwelliannau sydd eu hangen a beth yw'r problemau gyda'r ffordd mae'r bwrdd iechyd yn cael ei lywodraethu a'r diwylliant yno? Ac fe soniodd adroddiad Arolygiaeth Iechyd Cymru yn benodol am ddiwylliant yn Ysbyty Glan Clwyd—mae hynny ar draws y bwrdd iechyd hefyd, y broblem ddiwylliannol. Fe fyddan nhw'n edrych ar yr holl bethau hyn ac yna'n cyflwyno argymhellion i mi. Ac yna, yn seiliedig ar hynny a darn o waith rwyf wedi'i gomisiynu i edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer Betsi, fe fyddwn ni'n gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a roddwyd sydd o'n blaenau. Diolch.

16:00

Thank you, Cabinet Minister, for bringing forward the statement today. I support your passion to turn things around at the board, and I agree that time is of the essence when it comes to Betsi Cadwaladr University Health Board, given that it's been in special measures for 11 years. I also agree that the board's issues are complex and varied. I wonder, though, Cabinet Minister, how your approach will, indeed, help to find a better outcome. It feels like reviews on issues that have already been reviewed are undergoing regular reviews, which seems like kicking the can down the road for me. I know we've talked about timelines; you just answered the question, briefly, to Ken Skates. You mentioned September, but I'd like to know what happens after September.

The answers as to how we solve Betsi's problems also don't lie in more money for the health board. We saw the previous Welsh Government sprinkle tens of millions of pounds on the health board in the name of improvement, but without any return. In fact, the board was projected to still be £17 million in deficit at the end of March, and now we see that you'll also be providing £100 million to improve waiting times, so how much of that is actually going on Betsi Cadwaladr? As we've seen in the latest statistical release this month, the board makes up a third of patients waiting over a year for treatment, and two thirds of patients waiting more than two years. That's 33,000 patients waiting over a year in Betsi alone. They shouldn't be waiting this long, Cabinet Minister, so do you have time frames in mind for urgent improvement by your announced intensive support, recovery and turnaround team?

Last week, you also spoke about surgical hubs, but in light of our debate on preventing hospital downgrades and closures, you were remarkably coy about how your Government would step up for local services. So, I'd be grateful if you could confirm whether these surgical hubs are a temporary or permanent measure going forward.

The answer also doesn't lie in a new chief executive. In 11 years, it's been a revolving door at the top, and staff need reassurance that their leadership is going to be stable and secure from now on. I know that Carol Shillabeer has been in charge for about three years now, but even then, we've seen nearly 89,000 patients treated in hospital corridors, and as we heard last week, staff battling outdated and crumbling infrastructure to treat as many patients as they can. And this is reflected in the A&E waiting times for the board itself.

You've mentioned Ysbyty Glan Clwyd, and we can see the problems it faces. It sits at the bottom of the NHS table, with fewer than a third of patients being seen within four hours. Wrexham Maelor isn't much better, with fewer than 40 per cent of patients being seen within the target time, and over 1,800 patients waited longer than 12 hours in both hospitals. The Royal College of Emergency Medicine estimated that, last year, nearly 1,000 patients died waiting for emergency treatment across Wales. So, what will the turnaround team be doing now to improve patient flow out of hospitals in north Wales?

Cabinet Minister, I noted that you outlined £20 million in a capital package for improving waiting lists, yet we see £1 billion of high and significant maintenance issues in the NHS estate. However, it doesn't escape my notice that you sought to evade these points last week, and that you don't mention them in any of your statement here today. Therefore, what urgent measures are you taking to ensure that urgent improvement works are made to hospitals like Wrexham Maelor?

Cabinet Minister, you've said on many occasions that your focus will be on primary care, but no mention has been made of how this will be turned around in this statement. I do agree that we need more care closer to home, however, in the case of Betsi Cadwaladr, we know that, historically, there's been a widespread shortage of GPs in the area itself. We see regular situations where patients can't even register with a GP in north Wales. This, ultimately, has direct impacts on A&E departments, as there is simply nowhere else for them to go. So, while extra funding for primary care is your clear goal, Cabinet Minister, how will this help the residents of north Wales and what measures are you taking to increase the number of GPs across the board's area?

Finally, Cabinet Minister, I see last week that you said Betsi Cadwaladr will be, and I quote,

'on watch...over the next two years'

and hinted at a possible reorganisation if it did not indeed improve its performance. Let me just say this clearly today, Minister: your Government will also be on watch, not just in this Chamber by us, but by the residents of north Wales too. Thank you.

Diolch, Weinidog Cabinet, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Rwy'n cefnogi eich angerdd i droi pethau o gwmpas yn y bwrdd, ac rwy'n cytuno bod amser yn hanfodol o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o ystyried ei fod wedi bod mewn mesurau arbennig ers 11 mlynedd. Rwyf hefyd yn cytuno bod materion y bwrdd yn gymhleth ac yn amrywiol. Tybed, serch hynny, Weinidog Cabinet, sut y bydd eich dull gweithredu chi, yn wir, yn helpu i ddod o hyd i ganlyniad gwell. Mae'n teimlo fel bod adolygiadau ar faterion sydd eisoes wedi'u hadolygu yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, sy'n ymddangos fel cicio'r can i lawr y ffordd i mi. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi sôn am linellau amser; fe ateboch chi'r cwestiwn, yn fyr, i Ken Skates yn y fan yna. Fe sonioch chi am fis Medi, ond hoffwn wybod beth fydd yn digwydd ar ôl mis Medi.

Dydy'r atebion ynghylch sut rydym yn datrys problemau Betsi ddim yn ymwneud â rhoi mwy o arian i'r bwrdd iechyd ychwaith. Fe welson ni Lywodraeth flaenorol Cymru yn taenu degau o filiynau o bunnoedd ar y bwrdd iechyd yn enw gwelliant heb unrhyw fudd. Yn wir, rhagwelwyd y byddai'r bwrdd yn dal i fod â diffyg o £17 miliwn ar ddiwedd mis Mawrth, a nawr rydym yn gweld y byddwch chi hefyd yn darparu £100 miliwn i wella amseroedd aros, felly faint o hynny sy'n mynd ar Betsi Cadwaladr mewn gwirionedd? Fel rydym wedi'i weld yn y datganiad ystadegol diweddaraf y mis hwn, mae'r bwrdd yn cyfrif am draean o'r cleifion sy'n aros dros flwyddyn am driniaeth, a dwy ran o dair o gleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd. Mae hynny'n 33,000 o gleifion sy'n aros dros flwyddyn yn Betsi yn unig. Ddylen nhw ddim bod yn aros mor hir, Weinidog Cabinet, felly oes gennych chi amserlenni mewn golwg ar gyfer gwelliannau brys gan y tîm cymorth, adferiad a gweithredu dwys a gyhoeddwyd gennych?

Yr wythnos diwethaf, fe sonioch chi hefyd am ganolfannau llawfeddygol, ond yng ngoleuni ein dadl ar atal israddio a chau ysbytai, roeddech chi'n wylaidd iawn ynghylch sut y byddai eich Llywodraeth yn camu i fyny ar gyfer gwasanaethau lleol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi gadarnhau a yw'r canolfannau llawfeddygol hyn yn fesur dros dro neu'n fesur barhaol wrth symud ymlaen.

Nid prif weithredwr newydd yw'r ateb ychwaith. Mewn 11 mlynedd, mae wedi bod yn ddrws cylchdroi ar y brig, ac mae angen sicrwydd ar staff bod eu harweinyddiaeth yn mynd i fod yn sefydlog ac yn ddiogel o hyn ymlaen. Rwy'n gwybod bod Carol Shillabeer wedi bod yn gyfrifol am tua thair blynedd erbyn hyn, ond hyd yn oed wedyn, rydym wedi gweld bron i 89,000 o gleifion yn cael eu trin mewn coridorau ysbytai, ac fel y clywson ni yr wythnos diwethaf, staff yn brwydro yn erbyn seilwaith adfeiliedig sydd wedi dyddio i drin cynifer o gleifion ag y gallan nhw. Ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys y bwrdd ei hun.

Rydych chi wedi sôn am Ysbyty Glan Clwyd, a gallwn ni weld y problemau y mae'n eu hwynebu. Mae'n eistedd ar waelod tabl y GIG, gyda llai na thraean o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr. Dydy Maelor Wrecsam ddim llawer gwell, gyda llai na 40 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn yr amser targed, a gwnaeth dros 1,800 o gleifion aros am fwy na 12 awr yn y ddau ysbyty. Amcangyfrifodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod bron i 1,000 o gleifion wedi marw tra'n aros am driniaeth frys ledled Cymru y llynedd. Felly, beth fydd y tîm gweithredu yn ei wneud nawr i wella llif cleifion allan o ysbytai yn y gogledd?

Weinidog Cabinet, fe nodais eich bod wedi amlinellu £20 miliwn mewn pecyn cyfalaf ar gyfer gwella rhestrau aros, ond rydym yn gweld £1 biliwn o broblemau cynnal a chadw uchel a sylweddol yn ystad y GIG. Fodd bynnag, sylwais eich bod wedi ceisio osgoi'r pwyntiau hyn yr wythnos diwethaf, ac nad ydych chi'n sôn amdanyn nhw yn unrhyw un o'ch datganiad yma heddiw. Felly, pa fesurau brys ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod gwaith gwella brys yn cael ei wneud i ysbytai fel Maelor Wrecsam?

Weinidog Cabinet, rydych chi wedi dweud ar sawl achlysur mai ar ofal sylfaenol y byddwch chi'n canolbwyntio, ond nid oes unrhyw sôn am sut y bydd hyn yn cael ei droi o gwmpas yn y datganiad hwn. Rwy'n cytuno bod angen mwy o ofal arnom yn agosach at adref, fodd bynnag, yn achos Betsi Cadwaladr, rydym yn gwybod, yn hanesyddol, bod prinder eang o feddygon teulu wedi bod yn yr ardal ei hun. Rydym yn gweld sefyllfaoedd rheolaidd lle nad yw cleifion hyd yn oed yn gallu cofrestru gyda meddyg teulu yn y gogledd. Mae hyn, yn y pen draw, yn cael effaith uniongyrchol ar adrannau damweiniau ac achosion brys, gan nad oes unrhyw le arall iddyn nhw fynd. Felly, er mai cyllid ychwanegol ar gyfer gofal sylfaenol yw eich nod clir, Weinidog Cabinet, sut y bydd hyn yn helpu trigolion y gogledd a pha fesurau ydych chi'n eu cymryd i gynyddu nifer y meddygon teulu ar draws ardal y bwrdd?

Yn olaf, Weinidog Cabinet, rwy'n gweld yr wythnos diwethaf i chi ddweud y bydd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n dyfynnu,

'ar wyliadwriaeth...dros y ddwy flynedd nesaf',

gan awgrymu ad-drefnu posibl pe na bai'n gwella ei berfformiad. Gadewch i mi ddweud hyn yn glir heddiw, Weinidog: bydd eich Llywodraeth chi ar wyliadwriaeth hefyd, nid yn unig yn y Siambr hon gennym ni, ond gan drigolion y gogledd hefyd. Diolch.

16:05

Deputy Llywydd, the Member is right in her critique of the situation where we've got problems in primary care—we'll start there—when it comes to GPs, and that feeds into the problem that we have at, for instance, Ysbyty Glan Clwyd, but in fact in Wrexham Maelor and Ysbyty Gwynedd as well. Those problems with ambulance transfers into the hospital, those problems with ED, start at that primary care, so that assessment is absolutely right. That's why we've said that we will be recruiting an extra 100 GPs across Wales, and they will clearly help in the north of Wales, in those areas that—[Interruption.] The Member is asking how many—all the decisions that we're making are clinically led, so they will be helping out in the areas where the urgent need is required.

The Member asked about better outcomes and whether or not this was kicking the can down the road. Well, I would push back on that and say 'no', because we are putting this support of the recovery and turnaround team in immediately, and they will help with those issues that I mentioned, with cancer diagnostic and cancer treatment, with handover of the ambulances and with the two-year waits. So, they will be helping immediately to identify what needs to be done and direct the work in order to get those resolved. I've given already the timescale that we're working to.

One of the questions that the Member raised was around the capital spend and whether or not we would be dealing with the backlog. I think I've mentioned numerous times, Dirprwy Lywydd, in this Chamber, that the urgent issues around the backlog are a priority of ours. The backlog in the NHS stands at £1.5 billion, so we know that certain urgent works need to be done, and it is a priority. We will be going through those pieces of work with pace over the coming year and a few months, in fact, as we put that £20 million we've committed into improving theatre spaces and diagnostic equipment as well. So, I think that answers most of—

Ddirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn iawn yn ei beirniadaeth o'r sefyllfa lle mae gennym broblemau mewn gofal sylfaenol—fe ddechreuwn ni yn y fan yna—o ran meddygon teulu, ac mae hynny'n bwydo i'r broblem sydd gennym ni yn, er enghraifft, Ysbyty Glan Clwyd, ond mewn gwirionedd ym Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd hefyd. Mae'r problemau hynny gyda throsglwyddiadau o ambiwlansys i'r ysbyty, y problemau hynny gydag adrannau brys, yn dechrau gyda'r gofal sylfaenol hwnnw, felly mae'r asesiad hwnnw'n hollol gywir. Dyna pam rydym wedi dweud y byddwn ni'n recriwtio 100 o feddygon teulu ychwanegol ledled Cymru, ac fe fyddan nhw, yn amlwg, yn helpu yn y gogledd, yn yr ardaloedd hynny sydd—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn gofyn sawl un—mae'r holl benderfyniadau rydym yn eu gwneud yn cael eu harwain yn glinigol, felly byddan nhw'n helpu yn y meysydd lle mae angen brys.

Gofynnodd yr Aelod am ganlyniadau gwell ac a oedd hyn yn gyfystyr â chicio'r can i lawr y ffordd ai peidio. Wel, byddwn i'n gwthio'n ôl ar hynny ac yn dweud 'na', oherwydd rydym yn rhoi'r cymorth hwn o ran y tîm adfer a gweithredu ar waith ar unwaith, a byddan nhw'n helpu gyda'r materion hynny y soniais amdanyn nhw, gyda diagnosteg canser a thriniaeth canser, gyda throsglwyddo o ambiwlansys a chyda'r arosiadau dwy flynedd. Felly, byddan nhw'n helpu ar unwaith i nodi'r hyn sydd angen ei wneud a chyfarwyddo'r gwaith er mwyn datrys y rheini. Rwyf eisoes wedi nodi'r amserlen rydym yn gweithio tuag ati.

Un o'r cwestiynau a gododd yr Aelod oedd ynglŷn â'r gwariant cyfalaf ac a fyddem yn delio â'r ôl-groniad ai peidio. Rwy'n credu fy mod wedi sôn sawl gwaith, Ddirprwy Lywydd, yn y Siambr hon, bod y materion brys sy'n ymwneud â'r ôl-groniad yn flaenoriaeth i ni. Mae'r ôl-groniad yn y GIG yn £1.5 biliwn, felly rydym yn gwybod bod angen gwneud gwaith brys penodol, a'i fod yn flaenoriaeth. Byddwn ni'n mynd trwy'r darnau hynny o waith yn gyflym dros y flwyddyn nesaf ac ychydig fisoedd, mewn gwirionedd, wrth i ni roi'r £20 miliwn hwnnw rydym wedi ymrwymo iddo i mewn i wella gofodau theatr ac offer diagnostig hefyd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ateb y rhan fwyaf o—

The estate, yes, which is what I've just responded to there. In the question on the estate, you asked about whether or not the hubs that we're putting in are going to be permanent. Again, to repeat what I've said previously, we will be clinically led. Some of them will be permanent, some of them will be utilising underutilised spaces within the NHS estate currently. So, it'll be a mix and match depending on the clinical advice that we're receiving. 

Yr ystad, ie, sef yr hyn rwyf newydd ymateb iddo yn y fan yna. Yn y cwestiwn ar yr ystad, fe wnaethoch chi ofyn a yw'r canolfannau rydym yn eu cyflwyno yn mynd i fod yn barhaol ai peidio. Unwaith eto, i ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud yn flaenorol, byddwn ni'n cael ein harwain yn glinigol. Bydd rhai ohonyn nhw'n barhaol, bydd rhai ohonyn nhw'n defnyddio mannau sy'n cael eu tanddefnyddio o fewn ystad y GIG ar hyn o bryd. Felly, fe fydd e'n gymysgedd yn dibynnu ar y cyngor clinigol rydym yn ei gael. 

Diolch. Marc Jones.

Thank you. Marc Jones.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gaf i gychwyn drwy ddatgan diddordeb? Mae fy ngwraig i'n gweithio fel nyrs ym Metsi Cadwaladr.

Mae’r sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn adlewyrchiad clir o wendidau systemig sydd wedi datblygu dros gyfnod hir o dan y Llywodraeth flaenorol. Mae yna fethiant dros ddegawd a mwy i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn y lle cywir, yn enwedig mewn lleoliadau cymunedol, sydd wedi arwain at bwysau sylweddol ar ysbytai ac, yn anffodus, at ganlyniadau gwaeth i gleifion. O ganlyniad, dŷn ni wedi gweld patrwm cyfarwydd yn datblygu: diffyg capasiti yn y gymuned, galw cynyddol ar wasanaethau mewn ysbytai cyffredinol ac yna'r angen i ymateb i argyfyngau yn hytrach na'u hatal nhw. Dydy o ddim yn syndod, felly, fod Betsi Cadwaladr unwaith eto mewn rhyw fath o fesurau ychwanegol, sy'n tanlinellu'n glir nad ydy'r dull blaenorol wedi bod yn ddigon cadarn nac yn gynaliadwy.

Mae'r datganiad yma yn arwydd clir fod y sefyllfa bresennol yn mynnu mwy o her, mwy o graffu ac yn fwy na dim byd, mwy o atebolrwydd clir. Dwi'n falch bod y Llywodraeth yma'n barod i wynebu'r realiti mor fuan yn eu tymor ac i edrych o'r newydd ar y fframwaith presennol er mwyn cryfhau llywodraethiant ac ailsefydlu atebolrwydd.

Weinidog Cabinet, dydy hyn ddim yn ddim byd newydd, nac ydy? Dŷn ni'n gwybod ein bod ni wedi bod yn ymgyrchu ers degawd a mwy i wella safonau iechyd yn y gogledd.

Thank you, Dirprwy Lywydd. May I begin by declaring an interest? My wife works as a nurse at Betsi Cadwaladr.

The situation at Betsi Cadwaladr University Health Board is a clear reflection of the systemic weaknesses that have accumulated over a long period of time under the previous Government. There's been failure for over a decade to ensure that care is delivered in the right place, particularly in community settings, which has led to significant pressures on hospitals and, unfortunately, to worse outcomes for patients. As a result, we've seen a familiar cycle developing: a lack of capacity in the community, increasing demand on services in general hospitals, and then the need to respond to emergencies rather than prevent them. It is, therefore, no surprise that Betsi Cadwaladr is once again subject to some kind of additional measures, which clearly underlines that the previous approach has not been sufficiently robust or sustainable.

This statement is a clear sign that the current situation demands further challenge, further scrutiny and, above all, further accountability. I'm pleased that this Government is ready to face this reality head-on so soon in its term of office and to look afresh at the current framework in order to strengthen governance and re-establish accountability.

Cabinet Minister, this is nothing new, is it? We know we've been campaigning for a decade and more to improve standards of healthcare in north Wales.

16:10

Oes cwestiwn, Marc, sori? 

Is there a question, Marc, sorry?

Mae yna gwestiwn ar ei ffordd.

Yes, there is a question on the way. 

Ond a gaf i hefyd ddweud: dwi'n mynnu eich bod chi'n gwrando ar lawr gwlad; fuasai fy ngwraig i ddim yn maddau imi petaswn i ddim yn dweud hynny. Plis gwrandewch ar lawr gwlad; nhw sy'n gwybod orau sut i ddelio efo hyn. Y cwestiwn fuasai, felly: wnewch chi egluro sut yn union y bydd yr escalation yma yn sefydlu diwylliant newydd o arweinyddiaeth gadarn, tryloywder ac atebolrwydd hirdymor er budd cleifion ledled y gogledd? Diolch yn fawr.

But may I also say that I demand that you listen to the grass roots; my wife wouldn't forgive me if I didn't say that. Please listen to those working on the ground; they know best how to deal with this. The question, therefore, is: will you explain how exactly this escalation will establish a new culture of robust leadership, transparency and long-term accountability for the benefit of patients across north Wales? Thank you.

Ddirprwy Lywydd, ddaru'r Aelod ddechrau drwy gyfeirio at ei wraig, sydd yn y bwrdd. A gaf i gymryd ennyd i ddiolch iddi hi a phob nyrs a bydwraig arall sydd yn gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn yn y gogledd? Mae eu gwaith nhw'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi gan y Llywodraeth yma.

Dwi'n rhannu'r pryderon ddaru'r Aelod godi am Betsi Cadwaladr. Roedd e'n gywir i ddweud ein bod ni wedi bod yn ymgyrchu er mwyn gwella ansawdd iechyd a gwasanaethau iechyd yn y gogledd ers dros ddegawd. Ac er gwaetha'r buddsoddiad sylweddol ddaru'r Llywodraethau blaenorol roi i mewn i Betsi Cadwaladr, mae'r bwrdd wedi methu â dangos y lefel o gynnydd angenrheidiol.

Dydy'r tîm cefnogaeth dwys dwi wedi ei gyhoeddi heddiw erioed wedi cael ei gyhoeddi o'r blaen. Dydyn ni erioed wedi comisiynu'r math hwn o gorff o'r blaen, yn enwedig pan fo'n dod i'r gwaith yn Betsi Cadwaladr. Mi fyddan nhw'n cael eu cyfarwyddo i wneud y gwaith gan y Llywodraeth er mwyn edrych a chynorthwyo yn benodol, gyda gwella llif y cleifion, trwy leihau amseroedd trosglwyddo'r ambiwlansys, fel y gwnes i sôn, lleihau'r rhestr aros ar gyfer triniaethau a diagnostics, a gwella rhestrau aros diagnosis a thriniaeth canser. Mae hynny'n mynd i fod yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael newid diwylliant, bod pobl ar haen reoleiddiol y bwrdd yn gwybod bod angen gweithredu efo brys pan fo'r bwrdd yn dod â chynlluniau o flaen, a'u bod nhw'n gweithredu ar y cynlluniau yna, yn lle gadael i'r cynlluniau aros ar y silff heb weithredu arnyn hwn. Rwyf wedi gofyn hefyd i'r swyddogion ddatblygu gweithredoedd pellach os na fydd y bwrdd yn cyrraedd ein disgwyliadau ni.

Dirprwy Lywydd, the Member started by referring to his wife, who works for the board. May I take a moment to thank her and every nurse and midwife working in very difficult circumstances in north Wales? Their work is recognised and appreciated by this Government.

I share the concerns that the Member raised about Betsi Cadwaladr. He was right in saying that we've been campaigning to improve the quality of health services in north Wales for over a decade. And despite the significant investment made by previous Governments in Betsi Cadwaladr, the board has failed to show the level of progress required.

The support and recovery team that I announced today has never been done in the past. We have never commissioned this kind of body before, particularly when it comes to the work in Betsi Cadwaladr. They will be directed by Government to undertake work in order to look and support primarily, particularly with patient flow, improving ambulance transfer times, as I mentioned, reducing waiting times for treatment and diagnostics, and improving waiting times for cancer diagnosis and treatment. That will be important in order to ensure that we can change the culture, that people at the management level of the board know that they need to act with urgency when the board brings plans forward, and that they are acted upon and implemented, rather than letting them sit on a shelf without actually taking any action. I've asked officials also to develop further actions if the board doesn't reach our expectations.

Cabinet Secretary, thank you for your statement. I want to raise a really serious concern today, and I think it's one that's been actually overlooked in this debate altogether, and I'll discuss that in a moment.

I've been contacted, actually, by a staff member at Wrexham hospital who described what they believe to be a culture of bullying and intimidation within parts of the senior management structure at the Betsi Cadwaladr University Health Board, and that may be at the heart of some of the issues that are actually ongoing here. They tell me that staff have been driven to sickness, have resigned or have sought transfers elsewhere because they feel unsupported and were still unable to challenge poor behaviour.

As a former NHS employee myself, I worked right across north Wales, including at Wrexham Maelor Hospital. I know that doctors, nurses, healthcare professionals and support staff deserve a workplace where they are respected and valued and able to speak up without fear of repercussions.

Poor leadership doesn't just affect staff morale, it can ultimately affect patient care. And it doesn't sound like strong operational command and supporting staff well-being to me, from what I've read in your statement today. So, will you, Cabinet Secretary, therefore, tell us what assurances you can provide that concerns of bullying and intimidation, which may be at the heart of some of the issues ongoing within the Betsi Cadwaladr health board, are being independently investigated, and what specific actions you will take to ensure that staff who raise concerns are protected and listened to?

And one last question. You actually mentioned today that all options are open. Would you actually consider a takeover by a health board from outside of Wales? Diolch.

Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich datganiad. Rwyf am godi pryder difrifol iawn heddiw, ac rwy'n credu ei fod yn un sydd wedi cael ei anwybyddu'n gyfan gwbl yn y ddadl hon, ac fe drafodaf hynny yn y man.

Yn wir, mae aelod o staff yn ysbyty Wrecsam wedi cysylltu â mi ac wedi disgrifio'r hyn y mae'n ystyried yn ddiwylliant o fwlio a bygylu o fewn rhannau o'r strwythur uwch reoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac efallai bod hynny wrth wraidd rhai o'r materion sy'n digwydd yma. Mae'n dweud wrtha i fod staff wedi mynd yn sâl, wedi ymddiswyddo neu wedi ceisio cael trosglwyddiadau i fannau eraill am eu bod yn teimlo nad ydyn nhw'n cael cymorth a doedden nhw ddim yn gallu herio ymddygiad gwael o hyd.

Fel cyn-weithiwr y GIG fy hun, fe weithiais i ar draws y gogledd, gan gynnwys yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Rwy'n gwybod bod meddygon, nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff cymorth yn haeddu gweithle lle maen nhw'n cael eu parchu a'u gwerthfawrogi a lle maen nhw'n gallu codi eu llais heb ofni canlyniadau.

Mae arweinyddiaeth wael yn effeithio ar fwy na morâl staff yn unig, gall effeithio ar ofal cleifion yn y pen draw. A dydy e ddim yn swnio fel rheolaeth weithredol gref a chefnogi lles staff i mi, o'r hyn rwyf wedi'i ddarllen yn eich datganiad heddiw. A wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, felly, ddweud wrthym pa sicrwydd y gallwch chi ei roi bod pryderon ynghylch bwlio a bygylu, a allai fod wrth wraidd rhai o'r materion parhaus ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, yn cael eu hymchwilio'n annibynnol, a pha gamau penodol y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod staff sy'n codi pryderon yn cael eu diogelu a bod pobl yn gwrando arnyn nhw?

Ac un cwestiwn olaf. Fe wnaethoch chi sôn heddiw bod pob opsiwn ar agor. Fyddech chi, mewn gwirionedd, yn ystyried trosglwyddo rheolaeth i fwrdd iechyd o'r tu allan i Gymru? Diolch.

16:15

Ddirprwy Lywydd, os caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf.

Dirprwy Lywydd, if I start with the final point.

If I may start with the final point, no, I will not even countenance the idea of allowing a health board from outside of Wales to take over Betsi Cadwaladr, because they work to different rules and regulations. We've got devolution here. We've got our own pieces of legislation. The health board answers to this Senedd, to you, the people elected by the people of Wales.

The issues that you raised around the bullying and management accusations that you've heard sound, on the face of it, serious, and I would say that we've got strong whistleblowing powers here, and I would suggest that if the Member has got any evidence and can share that evidence, then please do so. Nobody should be penalised. Nobody should lose their job because of their whistleblowing. So, make sure that that information reaches myself, initially—or far better for it to go directly, initially, to the health board so that they can look at at least the accusation initially.

But the broader point the Member raises around the culture and governance is absolutely key to what we're doing. That's why we are setting up the independent well-led expert panel so that we can look at those issues around the culture of the health board, why things haven't succeeded, have they got the required leadership and the required skillset in order to push things forward. So, the broader point you're making around culture and governance is central to what we are issuing today.

Os caf fi ddechrau gyda'r pwynt olaf, na, wnaf i ddim hyd yn oed ystyried y syniad o ganiatáu i fwrdd iechyd o'r tu allan i Gymru gymryd drosodd Betsi Cadwaladr, oherwydd maen nhw'n gweithio i wahanol reolau a rheoliadau. Mae gennym ni ddatganoli yma. Mae gennym ni ein darnau ein hunain o ddeddfwriaeth. Mae'r bwrdd iechyd yn atebol i'r Senedd hon, i chi, y bobl a etholwyd gan bobl Cymru.

Mae'r materion a godwyd gennych ynghylch y cyhuddiadau o fwlio a rheoli rydych chi wedi'u clywed yn swnio, ar yr wyneb, yn ddifrifol, a byddwn i'n dweud bod gennym ni bwerau chwythu'r chwiban cryf yma, ac fe fyddwn i'n awgrymu, os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth a'i fod yn gallu rhannu'r dystiolaeth honno, yna gwnewch hynny os gwelwch yn dda. Ddylai neb gael ei gosbi. Ddylai neb golli ei swydd am ei fod wedi chwythu'r chwiban. Felly, gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth honno yn fy nghyrraedd i, i ddechrau—neu byddai'n llawer gwell iddi fynd yn uniongyrchol, i ddechrau, i'r bwrdd iechyd fel y gallan nhw edrych ar y cyhuddiad o leiaf i ddechrau.

Ond mae'r pwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei godi ynghylch y diwylliant a'r llywodraethu yn hollol allweddol i'r hyn rydym yn ei wneud. Dyna pam rydym yn sefydlu'r panel arbenigol arwain yn dda annibynnol fel y gallwn ni edrych ar y materion hynny sy'n ymwneud â diwylliant y bwrdd iechyd, pam nad yw pethau wedi llwyddo, a oes ganddyn nhw'r arweinyddiaeth angenrheidiol a'r set sgiliau angenrheidiol i wthio pethau ymlaen. Felly, mae'r pwynt ehangach rydych chi'n ei wneud ynghylch diwylliant a llywodraethu yn ganolog i'r hyn rydym yn ei gyhoeddi heddiw.

Diolch. Just a reminder: one-minute contributions. I don't like interrupting people, but when we're slipping near the two minutes it's becoming a bit long, and, for fairness for everyone, I'd like to give everyone a chance to come in that I've got on my list. 

Diolch. Dim ond i'ch atgoffa: cyfraniadau un funud. Dydw i ddim yn hoffi torri ar draws pobl, ond pan ydym yn agosáu at ddwy funud mae'n mynd ychydig yn hir, ac, er tegwch i bawb, hoffwn roi cyfle i bawb sydd gen i ar fy rhestr i gyfrannu. 

Darren Millar nesaf. Diolch.

Darren Millar next. Thanks.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Can I also refer to my register of interests? My daughter's employed as an assistant psychologist by the health board. The Betsi Cadwaladr University Health Board isn't functioning as it should. It's on life support. Its vital signs aren't good. We know that the performance is nowhere near where it should be, and that's taking its toll on patients and on staff. You've announced today more of the same medicine, effectively, for the patient, with yet more panels, yet more people from the outside giving support for people on the inside. And I have to say I've got a low level of confidence that it's going to deliver the turnaround results that we all want to see.

The intensive support and recovery turnaround team, that's a national team. It's not just focused on Betsi—it's going to be responsible for the whole of Wales. The well-led review, you haven't said who's involved in that or named the individuals who are going to lead it. You've referred to the reference group, which is going to help guide its work. I want to know whether patients and staff are going to be on that reference group.

But can I ask you two very quick questions? First of all, are we going to involve Donna Ockenden in this work? There was a high level of confidence in Donna with the two reviews she's already undertaken in north Wales and, very clearly, she has the expertise, she's used it elsewhere across the UK to help turnaround, and I'd be grateful to know if you're prepared to include her. And secondly, with reference specifically to emergency department performance, Abergele Hospital has some capacity to be used with in-patient beds and could be used as a minor injuries unit. Will you seriously look at that, with your officials and the health board, to determine whether that's a viable solution?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A allaf hefyd gyfeirio at fy nghofrestr buddiannau? Mae fy merch yn cael ei chyflogi fel seicolegydd cynorthwyol gan y bwrdd iechyd. Dydy Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim yn gweithredu fel y dylai. Mae ar beiriant cynnal bywyd. Dydy ei arwyddion hanfodol ddim yn dda. Rydym yn gwybod nad yw'r perfformiad yn agos at ble y dylai fod, ac mae hynny'n effeithio ar gleifion ac ar staff. Rydych chi wedi cyhoeddi heddiw mwy o'r un feddyginiaeth, i bob pwrpas, ar gyfer y claf, gyda mwy byth o baneli, mwy byth o bobl o'r tu allan yn rhoi cymorth i bobl ar y tu mewn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, does gen i ddim llawer o hyder ei fod yn mynd i gyflawni'r canlyniadau rydym i gyd eisiau eu gweld.

Y tîm cymorth, adfer a gweithredu dwys, mae hwnnw'n dîm cenedlaethol. Dydy e ddim yn canolbwyntio ar Betsi yn unig—mae'n mynd i fod yn gyfrifol am Gymru gyfan. Yr adolygiad arwain yn dda, dydych chi ddim wedi dweud pwy sy'n ymwneud â hynny nac wedi enwi'r unigolion sy'n mynd i'w arwain. Rydych chi wedi cyfeirio at y grŵp cyfeirio, sy'n mynd i helpu i lywio ei waith. Rwyf am wybod a yw cleifion a staff yn mynd i fod ar y grŵp cyfeirio hwnnw.

Ond a gaf ofyn dau gwestiwn cyflym iawn i chi? Yn gyntaf oll, ydyn ni'n mynd i gynnwys Donna Ockenden yn y gwaith hwn? Roedd lefel uchel o hyder yn Donna gyda'r ddau adolygiad y mae hi eisoes wedi'u cynnal yn y gogledd ac, yn amlwg iawn, mae ganddi'r arbenigedd, mae hi wedi ei ddefnyddio mewn mannau eraill ledled y DU i helpu i sicrhau newid, a byddwn i'n ddiolchgar i wybod a ydych chi'n barod i'w chynnwys. Ac yn ail, gan gyfeirio'n benodol at berfformiad adrannau brys, mae gan Ysbyty Abergele rywfaint o gapasiti i'w ddefnyddio gyda gwelyau cleifion mewnol ac fe allai gael ei ddefnyddio fel uned mân anafiadau. A wnewch chi edrych o ddifrif ar hynny, gyda'ch swyddogion a'r bwrdd iechyd, i benderfynu a yw hynny'n ateb hyfyw?

Dirprwy Lywydd, I won't repeat what I've said about the difference between what we're promoting here and what we've seen in the past, which is the first point that the Member raised.

The Member asked about Donna Ockenden. Donna has done a number of tremendous pieces of work here in Wales and really valuable pieces of work in Wales. In Betsi Cadwaladr, she looked at the Tawel Fan issue, and, more recently, we know of the work she's done in Nottingham university, which was published last week. So, absolutely, I value the work that she's done, and I will put her name forward to my officials to consider as part of the expert panel. But I seriously can't promise that she will accept or she's even available, because you'll know that she's extremely busy at the moment.

The Member asked about patient and staff input—which I was remiss not to answer Marc Jones's point also—yes, I think it is important that we hear from the patients and from those on the ground. That's why everything that I've announced since being appointed Cabinet Minister is clinically led, it's led by the evidence. So, I think it is important that we do take on board the lived experience of patients, and the people who work there as well, and I will feed that back as well, so that it is fed into the expert panel. 

Abergele Hospital—once again, not to repeat myself too often, but the expert panel that we're putting together for those clinical hubs will be clinically led, the decisions that they're making will be clinically led. But I will put forward Abergele as one of the options that they will consider. Again, I can't promise it'll be there, because who knows what their advice will be, but I'll put it forward as well.

Can I just also—? Again, I was remiss not to thank the Member for the work that he did within the NHS in north Wales previously, and thank your daughter as well for the work that she's doing.

Ddirprwy Lywydd, wnaf i ddim ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud am y gwahaniaeth rhwng yr hyn rydym yn ei hyrwyddo yn y fan yma a'r hyn rydym wedi'i weld yn y gorffennol, sef y pwynt cyntaf a gododd yr Aelod.

Fe ofynnodd yr Aelod am Donna Ockenden. Mae Donna wedi gwneud nifer o ddarnau rhagorol o waith yma yng Nghymru a darnau o waith gwerthfawr iawn yng Nghymru. Yn Betsi Cadwaladr, fe edrychodd ar fater Tawel Fan, ac, yn fwy diweddar, rydym yn gwybod am y gwaith mae hi wedi'i wneud ym mhrifysgol Nottingham, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Felly, yn sicr, rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae hi wedi'i wneud, ac fe wnaf i roi ei henw hi ymlaen i'm swyddogion i'w ystyried fel rhan o'r panel arbenigol. Ond, o ddifrif, allaf i ddim addo y bydd hi'n derbyn nac y bydd hi hyd yn oed ar gael, oherwydd fe fyddwch chi'n gwybod ei bod hi'n brysur iawn ar hyn o bryd.

Fe ofynnodd yr Aelod am fewnbwn cleifion a staff—roedd bai arnaf i am beidio ag ateb pwynt Marc Jones hefyd—ydw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n clywed gan y cleifion a chan y rhai ar lawr gwlad. Dyna pam mae popeth rydw i wedi'i gyhoeddi ers i mi gael fy mhenodi'n Weinidog Cabinet yn cael ei arwain yn glinigol, mae'n cael ei arwain gan y dystiolaeth. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried profiad bywyd cleifion, a'r bobl sy'n gweithio yno hefyd, ac fe wnaf i fwydo hynny yn ôl hefyd, fel ei fod yn cael ei fwydo i'r panel arbenigol. 

Ysbyty Abergele—unwaith eto, dydw i ddim eisiau ailadrodd fy hun yn rhy aml, ond bydd y panel arbenigol rydym yn ei sefydlu ar gyfer y canolfannau clinigol hynny yn cael ei arwain yn glinigol, bydd y penderfyniadau maen nhw'n eu gwneud yn cael eu harwain yn glinigol. Ond fe wnaf i gynnig Abergele fel un o'r opsiynau y byddan nhw'n eu hystyried. Unwaith eto, allaf i ddim addo y bydd hi yno, oherwydd pwy a ŵyr beth fydd eu cyngor, ond fe wnaf i ei gyflwyno hefyd.

A gaf fi hefyd—? Unwaith eto, roedd bai arnaf i am beidio â diolch i'r Aelod am y gwaith a wnaeth o fewn y GIG yn y gogledd yn flaenorol, a diolchwch i'ch merch hefyd am y gwaith y mae hi'n ei wneud.

16:20

Rydym ni'n gwybod bod perfformiad y GIG ledled Cymru wedi bod o dan bwysau sylweddol dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig o dan y cyn-Lywodraeth Lafur, gyda rhestrau aros hir, anghysondeb mewn safonau, a phryderon parhaus ynghylch arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws y system. Mae’r heriau hyn wedi’u hamlygu’n arbennig o glir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn fy etholaeth i. Hoffwn bwysleisio o’r cychwyn nad yw hon yn feirniadaeth o staff y GIG; maent yn gweithio yn eithriadol o galed o dan amgylchiadau hynod o heriol. Yn hytrach, mae’r broblem yn gorwedd mewn systemau sydd, dros gyfnod hir, wedi bod yn rhy ymatebol i fethiant yn hytrach na’i atal, gyda diffyg eglurder o ran atebolrwydd a chydlyniant mewn arweinyddiaeth.

Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi, Weinidog, yn ceisio gosod disgwyliadau clir a newid y diwylliant systemig hwnnw. Ac yn awr, mae'n gadarnhaol gweld camau pendant i gryfhau safonau arweinyddiaeth a gwella tryloywder perfformiad. Felly, a allwch amlinellu yn benodol pa gamau trafod a gweithredu sydd wedi’u cymryd i sicrhau gwelliant gwirioneddol a chynaliadwy i gleifion, a pha newidiadau a wneir i’r fframwaith presennol er mwyn sicrhau atebolrwydd cliriach a chanlyniadau gwell? Diolch.

We know that the performance of the NHS across Wales has been under significant pressure for a number of years, particularly under the former Labour Government, with long waiting lists, inconsistencies in standards, and ongoing concerns about leadership and accountability across the system. These challenges have been demonstrated particularly clearly at Betsi Cadwaladr University Health Board in my constituency. I would like to emphasise from the outset that this is not a criticism of NHS staff; they work extremely hard under extremely challenging circumstances. Rather, the problem lies in a system that, over a long period, has been overly focused on responding to failure rather than preventing it, accompanied by a lack of clarity in terms of accountability and cohesion in leadership.

I welcome the fact that you, Minister, are trying to set clear expectations and change that systemic culture. And now, it is positive to see concrete steps being taken to strengthen leadership standards and improve performance transparency. Therefore, could you outline specifically what discussions have been had and what actions have been taken to ensure real and sustainable improvement for patients, and what changes will be made to the current framework to ensure clearer accountability and better outcomes? Thank you.

Bwriad neu, yn wir, pwrpas mesurau estynedig, Ddirprwy Lywydd, ydy er mwyn dal y bwrdd iechyd—unrhyw fwrdd iechyd—i gyfrif ar y delifri o wasanaethau iechyd. Dwi wedi gosod ein disgwyliadau o'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn gwbl, gwbl glir o ran delifro gwelliannau sy'n ddisgwyliedig, ac mi fyddaf i'n atgyfnerthu hyn pan fyddaf i'n cadeirio cyfarfod nesaf y bwrdd estynedig fis nesaf. Fel rhan o ymrwymiad Plaid Cymru, y 100 diwrnod, dwi wedi datblygu opsiynau ar gyfer adolygu y fframwaith hynny yn barod, ar y cyd gydag Archwilio Cymru a HIW, ynghylch effeithlonrwydd y drefn bresennol, ac mi fyddaf i'n penderfynu ar ac yn cyhoeddi yr opsiwn gorau o fewn yr wythnos. Bydd y gwaith hynny yn cynnwys asesiad brys o'r fframwaith presennol cyn, wedyn, cyhoeddi fframwaith newydd fydd yn sicrhau effeithlonrwydd, tryloywder a chymesurwydd. Yn ganolog i hyn i gyd, byddwn ni'n edrych ar a ydy'r mesurau estynedig yn arwain ar wella canlyniadau, sef beth ydy'r hyn rydym ni i gyd eisiau ei weld ar ddiwedd y dydd.

The intention or, indeed, the purpose of these extended measures, Dirprwy Lywydd, is to hold the health board—any health board—to account on the delivery of health services. I have set out my expectations of the health board in north Wales clearly in terms of delivering expected improvements, and I will reinforce this when I chair the next meeting of the escalation board next month. As part of Plaid Cymru's commitment on the 100 days, I have developed options for reviewing that framework already, jointly with Audit Wales and HIW, on the efficiency of the current regime, and I will be deciding on and announcing the best option within the week. That work will include an urgent assessment of the current framework before then announcing a new framework that will ensure efficiency, transparency and proportionality. Central to all of this, we will look at whether the escalation measures do improve outcomes, which is what we all want to see at the end of the day.

Janet Finch-Saunders.

Janet Finch-Saunders.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, and thank you for extending the time on this.

O me of little faith, Cabinet Minister—we've heard it all before. You may have a different way of going about things, but we desperately need quick action. You know, 50 days in to all these different changes that were going to be coming in, the health board was one of the most key priorities for me. I'd like to thank Nigel for bringing forward those accusations of bullying, and I'd like to meet with you, because I have also received—. Believe it or not, I think there are some concerns that maybe the Cabinet Minister does need somebody like Donna Ockenden to actually come in and look at this board, because it's not necessarily where you think the bullying may be actually taking place. Some senior—very senior—members of this health board have also felt under—. You can't forget that the buck stops with this Welsh Government. You can blame—. As you were, you opened up your statement with quite accusatory comments: 'If they don't do this, if they don't do that.' They need your help and support. They also need the help and support of the director general of the health board.

So, really, what I want to ask you is: in your first 50 days, given the immediate outcomes that are needed—and immediate can't come soon enough—what have you actioned, other than announcing some funding and another review board, to address these failings? And how is the director general a part of the actions needed to support the chief exec, the chairman of the board and their members? This health board needs help. It needs support. It doesn't need that hard hand that you've delivered here today. So, I ask you that question: how are you working with those executives that Ken Skates mentioned, because they have to bear some responsibility also? Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am ymestyn yr amser ar hyn.

O fi o ychydig ffydd, Weinidog Cabinet—rydym wedi clywed y cyfan o'r blaen. Efallai bod gennych chi ffordd wahanol o fynd ati i wneud pethau, ond mae angen gweithredu cyflym arnom yn ddirfawr. Wyddoch chi, 50 diwrnod i mewn i'r holl newidiadau gwahanol hyn a oedd yn mynd i ddod i mewn, y bwrdd iechyd oedd un o'r blaenoriaethau mwyaf allweddol i mi. Hoffwn ddiolch i Nigel am gyflwyno'r cyhuddiadau hynny o fwlio, a hoffwn gwrdd â chi, oherwydd rwyf hefyd wedi derbyn—. Credwch neu beidio, rwy'n credu bod yna rai pryderon efallai bod angen rhywun fel Donna Ockenden ar y Gweinidog Cabinet i ddod i mewn ac edrych ar y bwrdd hwn, oherwydd nid o reidrwydd lle rydych chi'n meddwl y gallai'r bwlio fod yn digwydd mewn gwirionedd. Mae rhai aelodau uwch—uwch iawn—o'r bwrdd iechyd hwn hefyd wedi teimlo o dan—. Allwch chi ddim anghofio mai'r Llywodraeth Cymru hon sydd â'r cyfrifoldeb terfynol. Allwch chi feio—. Fel yr oeddech chi, fe wnaethoch chi agor eich datganiad gyda sylwadau eithaf cyhuddedig: 'Os na fyddan nhw'n gwneud hyn, os na fyddan nhw'n gwneud y llall.' Mae angen eich help a'ch cefnogaeth arnyn nhw. Mae angen help a chefnogaeth cyfarwyddwr cyffredinol y bwrdd iechyd arnyn nhw hefyd.

Felly, mewn gwirionedd, yr hyn rwyf am ei ofyn i chi yw: yn eich 50 diwrnod cyntaf, o ystyried y canlyniadau sydd eu hangen ar unwaith—a gallan nhw ddim dod yn ddigon buan—beth ydych chi wedi'i weithredu, heblaw am gyhoeddi rhywfaint o gyllid a bwrdd adolygu arall, i fynd i'r afael â'r methiannau hyn? A sut mae'r cyfarwyddwr cyffredinol yn rhan o'r camau sydd eu hangen i gefnogi'r prif weithredwr, cadeirydd y bwrdd a'u haelodau? Mae angen help ar y bwrdd iechyd hwn. Mae angen cefnogaeth arno. Does dim angen y llaw galed honno rydych chi wedi'i chyflwyno yma heddiw. Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw i chi: sut ydych chi'n gweithio gyda'r swyddogion gweithredol hynny y soniodd Ken Skates amdanyn nhw, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw ysgwyddo rhywfaint o'r cyfrifoldeb hefyd? Diolch.

16:25

Dirprwy Lywydd, the Member said that she's heard it all before; I beg to differ, because what we've put forward today is different from previously, as I've explained. So, I won't go into repeating myself, if you can forgive me for that. But the Member did say that after 50 days in and whatever—. Exactly. I've only been a Cabinet Minister for 40-something days, and we are taking now action with pace. We are announcing that we are making sure that we are helping the health board in order to reach their targets. So, the question that you posed about how are we helping the board—it's by what I've announced today.

Regarding the director general, I have meetings with the director general on a nearly daily basis in order to find solutions for this and making sure that we are putting steps in place to bring the health board out of those escalated measures so that we see improved outcomes for the people of north Wales.  

Ddirprwy Lywydd, fe ddywedodd yr Aelod ei bod hi wedi clywed y cyfan o'r blaen; rwy'n anghytuno â hynny, oherwydd mae'r hyn rydym wedi'i gynnig heddiw yn wahanol i'r hyn a welwyd o'r blaen, fel yr wyf wedi esbonio. Felly, wnaf i ddim ailadrodd fy hun, os gallwch chi faddau i mi am hynny. Ond fe ddywedodd yr Aelod ar ôl 50 diwrnod i mewn a beth bynnag—. Yn union. Dim ond ers 40 rhywbeth diwrnod rwyf wedi bod yn Weinidog Cabinet, ac rydym yn gweithredu nawr gyda chyflymder. Rydym yn cyhoeddi ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n helpu'r bwrdd iechyd er mwyn cyrraedd eu targedau. Felly, y cwestiwn a ofynnoch chi ynglŷn â sut rydym yn helpu'r bwrdd—trwy'r hyn rwyf wedi'i gyhoeddi heddiw.

O ran y cyfarwyddwr cyffredinol, rwy'n cael cyfarfodydd gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol bron bob dydd er mwyn dod o hyd i atebion ar gyfer hyn a gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi camau ar waith i ddod â'r bwrdd iechyd allan o'r mesurau uwchgyfeirio hynny fel ein bod ni'n gweld canlyniadau gwell i bobl y gogledd.  

Ac yn olaf, Weinidog, Elfed Williams. 

And finally, Elfed Williams. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad ac am gymryd camau cadarn mor fuan i mewn i'r tymor seneddol i fynd i'r afael â'r heriau dwys sydd yn wynebu Betsi Cadwaladr. Un elfen o'r datganiad roeddwn i yn ei chroesawu yn benodol oedd yr ymrwymiad i gyflwyno tîm arbenigol i roi cymorth yn y meysydd gofal wedi ei gynllunio, canser a gofal brys. Mae'n amlwg o'r ohebiaeth dwi wedi ei derbyn gan etholwyr fod y rheini oll yn feysydd sydd wedi cadw'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig cyhyd. Pa welliannau penodol felly mae'r Gweinidog yn gobeithio eu gweld wrth gyflwyno'r tîm arbenigol, a phryd mae'n gobeithio gweld y gwelliannau hynny yn cael eu gweithredu? 

Thank you, Dirprwy Lywydd. I thank the Cabinet Minister for his statement and for taking robust steps so soon in this parliamentary term to tackle the intensive challenges facing Betsi Cadwaladr. One element of the statement that I welcomed specifically was the commitment to introduce an expert team to provide support in the areas of planned care, cancer and urgent care. It's clear from the correspondence that I've received from constituents that those are all areas that have kept the health board under special measures for such an extended period of time. What specific improvements will the Cabinet Minister hope to see in introducing this expert team, and when does he hope to see these improvements being delivered?

Ddirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn berffaith iawn i ddweud bod angen i ni weld gwelliannau, a hynny ar fyrder, a dwi'n cytuno ac yn cydymdeimlo efo'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Dyna pam fy mod i wedi rhestru yn glir ein disgwyliad ni o'r bwrdd er mwyn iddyn nhw ddod allan o lefel 5 a mynd i lawr i lefel 4. Mae hynny'n cynnwys edrych ar y gofal wedi ei gynllunio. Mae angen i ni weld gweithredu'r cynlluniau sydd wedi cael eu creu, ond ddim eto wedi cael eu gweithredu. Mae hynny'n golygu, o'u gweithredu nhw, mi fyddwn ni'n gweld y rhestrau aros yn disgyn erbyn diwedd mis Medi, gan barhau i ddisgyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae hynny'n edrych ar ganser, yr ystadegau roedden ni'n sôn amdanynt ynghynt, lle rydym ni'n edrych ar gynyddu o 52.5 y cant i 55 y cant, a chadw hynny i fynd am y pedwar mis dilynol. Ac yn yr un modd, gan edrych ar ofal brys, rydym ni'n gwybod bod y bwrdd wedi cytuno bellach i fuddsoddi £3.9 miliwn er mwyn gwella a chryfhau'r gweithlu yn yr adrannau brys. Mi fyddwn ni'n disgwyl gweld gwelliannau yn delifro yn yr adrannau brys, a hynny ar fyrder.

Felly, dwi'n disgwyl gweld gwella, a hynny erbyn diwedd mis Medi, a chynnal hyn am fisoedd y gaeaf.

Dirprwy Lywydd, the Member is entirely right in saying that we need to see improvements as a matter of urgency, and I agree and sympathise with what the Member has said. That's why I have listed very clearly our expectations of the board so that they can come out of level 5 intervention and come down to level 4. That includes looking at planned care. We need to see the implementation of the plans that have been created, but haven't yet been implemented. That means that, in implementing them, we will see waiting lists fall by the end of September, and then continue to fall to the end of the year.

That looks at cancer, the statistics that we mentioned earlier, where we are looking at increasing from 52.5 per cent to 55 per cent, and to keep that going for the following four months. And likewise, looking at emergency care, we know that the board has now agreed to invest £3.9 million in order to strengthen the workforce in emergency departments. We will expect to see improvements in delivery in those departments as a matter of urgency.

So, I expect to see improvements by the end of September, and to maintain that for the winter months.

Diolch, Weinidog. 

Thank you, Cabinet Minister.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: Trafnidiaeth Integredig: Gwasanaethau Coetsys Gogledd-De
5. Statement by the Deputy Minister for Transport: Integrated Transport: North-South Coach Services

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth—trafnidiaeth integredig, gwasanaethau coetsys gogledd-de. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper. 

A statement by the Deputy Minister for Transport is next—integrated transport, north-south coach services. I call on the Deputy Minister for Transport, Mark Hooper.

Ddirprwy Lywydd, rydw i'n falch o ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd rydym yn ei wneud wrth gyflawni dau ymrwymiad 100 diwrnod cyntaf i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru. Mae ymrwymiadau hyn yn glir: cryfhau cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru, a chyflymu ein gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru i greu system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig, hygyrch a theg i bawb.

Dirprwy Lywydd, I'm pleased to provide Members with an update on the progress we are making in delivering two of our first 100 days commitments to improve public transport across Wales. These commitments are clear: to strengthen connectivity between north and south Wales, and to accelerate our work with Transport for Wales to create a more integrated, accessible and fair public transport system for all.

We have made tangible progress that reflects both the ambition of this Government and the practical steps we are immediately taking to improve public transport for people and communities right across Wales.

For decades, our communities across much of Wales have faced real difficulty travelling between the north and the south, particularly in the west of the country. Whilst there can of course be challenges travelling east to west in Wales, we are generally better served with public transport options. Since the era of Beeching cuts, there has not been a public transport service across the west of Wales corridor. This means that the quickest way to travel by public transport from Bangor to Carmarthen is via England. Many in Wales have long argued for reopening the rail lines, and this forms part of Transport for Wales's rail vision. However, this would cost in the region of £2 billion. We want to improve connectivity now. This new north-south coach service will provide a similar journey time to the rail service and a similar standard of transport.

The TrawsCymru bus network is of huge value in communities making longer journeys, particularly where there are no train services. This network now supports nearly 2.5 million passenger journeys annually. However, we also know that many of the journeys on the Traws network remain local, which is a perfectly legitimate and valuable use of the network, but we believe there is demand for longer distance journeys.

This is precisely why I am pleased to announce our plans to introduce a new bookable coach service linking key communities from the north to the south of Wales. This will start in Bangor and end in Carmarthen, and include stops in Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth and Aberaeron. This will reduce public transport journey times by over an hour, linking communities and facilitating connections with both rail and local bus services, with the option of extensions to ports in both the north and south of the country in the future. We will invest £2 million in this scheme in this financial year.

This scheme was subject to a full business case, developed as part of the co-operation agreement in the last Senedd, following extensive technical work and public consultation. Over 1,000 contributions were received, with strong public support for improving north to south Wales connectivity. Currently, communities along this corridor face a combination of challenges: limited access to services, economic constraints, long journey times, and a public transport offer that does not always meet expectations. This new service is designed directly to address those challenges.

We have made rapid progress already. Transport for Wales have already purchased eight fully accessible, modern coaches; they have undertaken market engagement, and the procurement process for the service will begin later this week. I am grateful to TfW for the pace at which they have acted, delivering on our commitment to prepare to launch a north-south coach service during the first 100 days, ahead of the bookings opening prior to the service beginning in the autumn.

I recognise that, if this service is going to be successful, there need to be regular coaches to support passengers to make the journeys that are right for them. Therefore, whilst we must wait until the procurement process has concluded before precise details can be confirmed, there will be two-hourly services from morning to evening.

I also recognise that there are opportunities to improve existing infrastructure in some towns to help ensure we offer a fully accessible service. There are no barriers to beginning this scheme in the autumn, but TfW and my officials will work in partnership with local authorities to identify where we can enhance bus stops to ensure the service is as effective as possible.

The introduction of the north to south coach is a significant and overdue step, but I am well aware that it is not enough on its own. This Government is ambitious about what can be achieved as we continue to develop our rail network and continue plans to deliver bus franchising.

Dirprwy Lywydd, this is why we also committed, in our first 100 days document, to work with TfW to progress full integration of our transport network and fare capping. Whilst I have only been in role for a number of weeks, I have been pleased to see the progress already made to integrate our public transport system. However, I believe we can do more. 

I fully support TfW’s vision of 'One network, one timetable, one ticket'. Many people currently find that rail and bus service timetables don’t work together, that it's too difficult to plan a journey on public transport and that tickets are too complicated. This is why we are pushing forward with plans to extend smart ticketing on the rail network, rolling out tap on, tap off technology in north-east Wales, building on the successful roll-out now in place across the south of the country. This was across 15 stations on the Wrexham-Bidston route in May and will be extended to another 10 stations later this year. This will make travel simpler, quicker and more flexible, but we will not stop there. TfW are already working on plans to extend this further.

We are continuing to develop a single digital platform for planning and booking journeys. I believe this is vital to retain existing public transport and attract new passengers. It can be a huge challenge to plan a journey on public transport currently, navigating bus and rail timetables across potentially multiple websites. TfW will bring journey planning, ticketing and real-time information together in one place, building on our already improved rail platform as we move towards bus franchising.

Finally, I am grateful to the Cabinet Minister for Finance for allocating a further £8 million to ensure the £1 bus fare pilot will continue until the end of 2026-27. This scheme has been very successful, with over 6.5 million journeys now having been made using it. It's vital we retain support for our children and young people to access education, employment, training and leisure activities, as we know that transport can be a barrier.

I want to emphasise that the commitments I have set out are more than just about transport. I see transport as key to achieving so much. It's about opportunity, connecting communities, strengthening our economy and delivering a more sustainable, inclusive Wales. 

Rydym ni wedi gwneud cynnydd mesuradwy sy'n adlewyrchu uchelgais y Llywodraeth hon a'r camau ymarferol rydym ni'n eu cymryd ar unwaith i wella trafnidiaeth gyhoeddus i bobl a chymunedau ledled Cymru.

Ers degawdau, mae ein cymunedau ar draws llawer rhan o Gymru wedi wynebu anhawster gwirioneddol wrth deithio rhwng y gogledd a'r de, yn enwedig yng ngorllewin y wlad. Er y gall fod heriau wrth gwrs wrth deithio o'r dwyrain i'r gorllewin yng Nghymru, rydym ni'n gyffredinol yn cael ein gwasanaethu'n well gyda dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Ers cyfnod toriadau Beeching, nid oes gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar draws coridor gorllewin Cymru. Mae hyn yn golygu mai'r ffordd gyflymaf o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus o Fangor i Gaerfyrddin yw trwy Loegr. Mae llawer yng Nghymru wedi dadlau ers tro dros ailagor y rheilffyrdd, ac mae hyn yn rhan o weledigaeth rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, byddai hyn yn costio tua £2 biliwn. Mae arnom ni eisiau gwella cysylltedd nawr. Bydd y gwasanaeth bysiau newydd o'r gogledd i'r de yn darparu amser teithio tebyg i'r gwasanaeth rheilffordd a safon debyg o drafnidiaeth.

Mae rhwydwaith bysiau TrawsCymru o werth enfawr mewn cymunedau lle mae angen i bobl wneud teithiau hirach, yn enwedig lle nad oes gwasanaethau trên. Mae'r rhwydwaith hwn bellach yn cefnogi bron i 2.5 miliwn o deithiau bob blwyddyn i deithwyr. Fodd bynnag, fe wyddom ni hefyd fod llawer o'r teithiau ar rwydwaith TrawsCymru yn parhau i fod yn lleol, sy'n ddefnydd hollol ddilys a gwerthfawr o'r rhwydwaith, ond fe gredwn ni fod yna alw am deithiau pellter hirach.

Dyna'n union pam rydw i'n falch o gyhoeddi ein cynlluniau i gyflwyno gwasanaeth bysiau newydd y gellir ei harchebu sy'n cysylltu cymunedau allweddol o'r gogledd i dde Cymru. Bydd hyn yn dechrau ym Mangor ac yn gorffen yng Nghaerfyrddin, ac yn cynnwys arosfannau yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron. Bydd hyn yn golygu dros awr yn llai o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gysylltu cymunedau a hwyluso cysylltiadau â gwasanaethau rheilffordd a bysiau lleol, gyda'r dewis o estyniadau i borthladdoedd yng ngogledd a de'r wlad yn y dyfodol. Byddwn yn buddsoddi £2 filiwn yn y cynllun hwn yn y flwyddyn ariannol hon.

Roedd y cynllun hwn yn destun achos busnes llawn, a ddatblygwyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio yn y Senedd ddiwethaf, yn dilyn gwaith technegol helaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus. Derbyniwyd dros 1,000 o gyfraniadau, gyda chefnogaeth gref gan y cyhoedd i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de. Ar hyn o bryd, mae cymunedau ar hyd y coridor hwn yn wynebu cyfuniad o heriau: mynediad cyfyngedig at wasanaethau, cyfyngiadau economaidd, amseroedd teithio hir, a chynnig trafnidiaeth gyhoeddus nad yw bob amser yn bodloni'r disgwyliadau. Mae'r gwasanaeth newydd hwn wedi'i gynllunio'n uniongyrchol i fynd i'r afael â'r heriau hynny.

Rydym wedi gwneud cynnydd cyflym eisoes. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi prynu wyth bws modern cwbl hygyrch; maen nhw wedi ymgysylltu â'r farchnad, a bydd y broses gaffael ar gyfer y gwasanaeth yn dechrau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rwy'n ddiolchgar i Trafnidiaeth Cymru am weithredu mor gyflym, gan gyflawni ein hymrwymiad i baratoi i lansio gwasanaeth bysiau o'r gogledd i'r de yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, cyn i'r drefn archebu agor ar gyfer dechrau'r gwasanaeth yn yr hydref.

Rwy'n cydnabod, os yw'r gwasanaeth hwn yn mynd i fod yn llwyddiannus, bod angen bysiau rheolaidd i gefnogi teithwyr i wneud y teithiau sy'n iawn iddyn nhw. Felly, er bod yn rhaid i ni aros nes bod y broses gaffael wedi dod i ben cyn y gellir cadarnhau manylion manwl, bydd gwasanaethau bob dwy awr o'r bore i'r nos.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod cyfleoedd i wella'r seilwaith presennol mewn rhai trefi i helpu i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth cwbl hygyrch. Nid oes unrhyw rwystrau i ddechrau'r cynllun hwn yn yr hydref, ond bydd Trafnidiaeth Cymru a'm swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i nodi ble y gallwn ni wella arosfannau bysiau i sicrhau bod y gwasanaeth mor effeithiol â phosibl.

Mae cyflwyno'r gwasanaeth bysiau o'r gogledd i'r de yn gam arwyddocaol ac mae hi'n hwyr glas gwneud hynny, ond rwy'n ymwybodol iawn nad yw'n ddigon ar ei ben ei hun. Mae'r Llywodraeth hon yn uchelgeisiol ynglŷn â'r hyn y gellir ei gyflawni wrth i ni barhau i ddatblygu ein rhwydwaith rheilffyrdd a pharhau i gynlluniau i fasnachfreinio bysiau.

Ddirprwy Lywydd, dyna pam y gwnaethom ni hefyd ymrwymo, yn ein dogfen 100 diwrnod cyntaf, i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i symud ymlaen ag integreiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth yn llawn a chael uchafswm prisiau. Er mai dim ond ers nifer o wythnosau yr wyf wedi bod yn y swydd, rwyf wedi bod yn falch o weld y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud i integreiddio ein system trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, rwy'n credu y gallwn ni wneud mwy.

Rwy'n cefnogi'n llwyr weledigaeth Trafnidiaeth Cymru o 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'. Ar hyn o bryd mae llawer o bobl yn gweld nad yw amserlenni gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau yn gweithio gyda'i gilydd, ei bod hi'n rhy anodd cynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus a bod tocynnau'n rhy gymhleth. Dyna pam rydym ni'n bwrw ymlaen â chynlluniau i ymestyn tocynnau clyfar ar y rhwydwaith rheilffyrdd, gan gyflwyno technoleg tapio cyrraedd a gadael yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan adeiladu ar y cyflwyniad llwyddiannus sydd bellach ar waith ar draws de'r wlad. Roedd hyn ar draws 15 gorsaf ar lwybr Wrecsam-Bidston ym mis Mai a bydd yn cael ei ymestyn i 10 gorsaf arall yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn gwneud teithio yn symlach, yn gyflymach ac yn fwy hyblyg, ond ni fyddwn yn rhoi terfyn arni yn y fan yna. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio ar gynlluniau i ymestyn hyn ymhellach.

Rydym ni'n parhau i ddatblygu un llwyfan digidol ar gyfer cynllunio ac archebu teithiau. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol i gadw trafnidiaeth gyhoeddus bresennol a denu teithwyr newydd. Gall fod yn her enfawr i gynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd, gan geisio dilyn amserlenni bysiau a rheilffyrdd ar draws sawl gwefan. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn dod â chynllunio teithiau, tocynnau a gwybodaeth amser real at ei gilydd mewn un lle, gan adeiladu ar ein llwyfan rheilffyrdd sydd eisoes wedi'i wella wrth i ni symud tuag at fasnachfreinio bysiau.

Yn olaf, rwy'n ddiolchgar i Weinidog Cyllid y Cabinet am ddyrannu £8 miliwn arall i sicrhau y bydd y cynllun arbrofol tocynnau bws am £1 yn parhau tan ddiwedd 2026-27. Mae'r cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda dros 6.5 miliwn o deithiau bellach wedi'u gwneud drwy'r cynllun. Mae'n hanfodol ein bod yn dal i gefnogi'n plant a'n pobl ifanc i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden, gan ein bod yn gwybod y gall trafnidiaeth fod yn rhwystr.

Mae arnaf i eisiau pwysleisio bod yr ymrwymiadau rydw i wedi'u hamlinellu yn fwy na dim ond trafnidiaeth. Rwy'n gweld trafnidiaeth yn allweddol i gyflawni cymaint. Mae'n ymwneud â chyfleoedd, cysylltu cymunedau, cryfhau ein heconomi a chyflawni Cymru fwy cynaliadwy, cynhwysol. 

Dyma pam yr ydym wedi cymryd camau ar unwaith, gan gyflawni ein hymrwymiadau 100 diwrnod, a pham y byddaf yn ceisio cynnal cyflymder ac uchelgais ein hymdrechion i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Diolch.

That is why we have taken immediate action, delivering our commitments for the first 100 days, and why I will seek to maintain the pace and ambition of our efforts to transform public transport in Wales. Thank you.

16:35

Thank you for your statement—[Interruption.] There we go. How is that? Thank you.

Thank you for your statement, Minister. These improvements to north-south travel are long overdue. Your announcements today are a small but very important step to fixing that, but these 100-day commitments that we've heard so much about are nothing to boast out. For this coach service to be genuinely able to deliver for residents and boost the local economy, it must be operational, it must be frequent and it must be dependable at all times of the day.

Minister, you say you're working on a single platform for booking and planning journeys, but this will not be of any use if coaches, trains and buses only run every two hours or are delayed. So, can you guarantee that a service residents can count on will be put in place, in time, by the end of the year? Can you guarantee that there are back-ups available should mechanical failure happen or any unforeseen instances with the vehicles? And how are timetables being matched with other transport services, such as trains and the wider bus network?

But, of course, reliability of the infrastructure alone isn't enough. Even the best service will fail if people simply can't afford to use it. Plaid likes to pretend that Reform opposes green transport, but the truth is that we simply don't. We support a transport system that is reliable, affordable and works for Welsh people. A north-south service could be a genuine alternative to the car if it's affordable for families, if it's affordable for students, and if it's priced to support jobs, tourism and economic growth across Wales. There's one word missing from your statement, and that word is 'affordability'. You never told us what this service will cost, what Welsh people will need to pay to use it. So, can you tell us what fare levels are being considered for this service, and will you guarantee family tickets and group discounts from day 1, so that this service is full of passengers and not just full of empty promises?

Frankly, today exposes a much bigger problem for Wales. While countries across Europe are investing in modern rail networks that drive growth, connect labour markets and drive investment, Wales is still talking about coaches. In Switzerland, they built the Gotthard base tunnel that connected the north and the south. It cut journey times, it shifted freight onto rail and it turned fragmented regions into single functioning labour markets. Plaid Cymru talks about ambition for Wales, but today's statement tells a very different story. It's a story of a fragmented Wales economy and a celebration of the status quo, which is limited to the equivalent of Dave's Coaches.

Now, Minister, coaches won't transform the economy, infrastructure does. So, Minister, what conversations have you had surrounding major north-south rail infrastructure projects? Is that something that Plaid is completely ruling out? What assessment has been made of the economic impact of this coach service? And why is Plaid's answer to Wales's greatest infrastructure challenges 'more buses'? It certainly won't solve the M4 relief road in the south and it certainly won't solve the economic challenges. The country wants you to build.

Finally, I'd like to link this to our ports. For generations, our ports have been gateways to Welsh trade, Welsh businesses and Welsh jobs. The port of Holyhead alone handles 4.8 million tonnes of freight every year, making it Wales's principal gateway for trade with Ireland. Every lorry, every ferry and every business that relies on that port is a reminder of the economic opportunity that's sitting on our very doorstep, yet your flagship north-south service doesn't even reach it; it stops at Bangor. That tells us everything we need to know about this Government's ambition: big on announcements, big on the press release, very short on delivery.

If you're serious about growing the north Wales economy, supporting businesses and creating jobs, why would you stop miles short of one of Wales's most important economic gateways? Will you commit today to extending this service to Holyhead, and in the south to Fishguard, with a funded timetable for delivery? Or is this another example where a Government talks about connecting Wales while leaving the very places that create jobs and economic growth disconnected? Diolch.

Diolch am eich datganiad—[Torri ar draws.] Dyna ni. Sut mae hynny? Diolch.

Diolch am eich datganiad, Weinidog. Mae'r gwelliannau hyn i deithio o'r gogledd i'r de yn hir ddisgwyliedig. Mae eich cyhoeddiadau heddiw yn gam bach ond pwysig iawn i drwsio hynny, ond nid yw'r ymrwymiadau 100 diwrnod hyn rydym ni wedi clywed cymaint amdanyn nhw yn ddim byd i ymffrostio yn eu cylch. Er mwyn i'r gwasanaeth bysiau hwn wirioneddol allu darparu i drigolion a rhoi hwb i'r economi leol, rhaid iddo fod yn weithredol, rhaid iddo fod yn aml a rhaid iddo fod yn ddibynadwy bob adeg o'r dydd.

Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod yn gweithio ar un llwyfan ar gyfer archebu a chynllunio teithiau, ond ni fydd hyn o unrhyw ddefnydd os yw bysiau, trenau a bysiau yn teithio dim ond bob dwy awr neu os oes yna oedi. Felly, allwch chi warantu y bydd gwasanaeth y gall preswylwyr ddibynnu arno yn cael ei roi ar waith, mewn pryd, erbyn diwedd y flwyddyn? Allwch chi warantu bod yna fysiau wrth gefn ar gael pe bai methiant mecanyddol neu unrhyw achosion annisgwyl gyda'r cerbydau? A sut mae amserlenni'n cael eu paru â gwasanaethau trafnidiaeth eraill, fel trenau a'r rhwydwaith bysiau ehangach?

Ond, wrth gwrs, nid yw dibynadwyedd y seilwaith yn unig yn ddigon. Bydd hyd yn oed y gwasanaeth gorau yn methu os nad yw pobl yn gallu fforddio ei ddefnyddio. Mae Plaid yn hoffi esgus bod Reform yn gwrthwynebu trafnidiaeth werdd, ond y gwir yw nad ydym ni'n gwneud hynny. Rydym ni'n cefnogi system drafnidiaeth sy'n ddibynadwy, yn fforddiadwy ac yn gweithio i bobl Cymru. Gallai gwasanaeth o'r gogledd i'r de fod yn ddewis arall gwirioneddol i'r car os yw'n fforddiadwy i deuluoedd, os yw'n fforddiadwy i fyfyrwyr, ac os yw'n cael ei brisio i gefnogi swyddi, twristiaeth a thwf economaidd ledled Cymru. Mae un gair ar goll o'ch datganiad, a'r gair hwnnw yw 'fforddiadwyedd'. Ni ddywedoch chi erioed wrthym ni beth fydd y gwasanaeth hwn yn ei gostio, beth fydd angen i bobl Cymru ei dalu i'w ddefnyddio. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa lefelau prisiau sy'n cael eu hystyried ar gyfer y gwasanaeth hwn, ac a fyddwch chi'n gwarantu tocynnau teulu a gostyngiadau grŵp o'r diwrnod cyntaf, fel bod y gwasanaeth hwn yn llawn teithwyr ac nid dim ond yn llawn addewidion gwag?

A dweud y gwir, mae heddiw yn datgelu problem llawer mwy i Gymru. Tra bod gwledydd ledled Ewrop yn buddsoddi mewn rhwydweithiau rheilffyrdd modern sy'n cymell twf, yn cysylltu marchnadoedd llafur ac yn cymell buddsoddiad, mae Cymru yn dal i siarad am fysiau. Yn y Swistir, fe wnaethon nhw adeiladu twnnel sylfaen Gotthard a oedd yn cysylltu'r gogledd a'r de. Fe wnaeth leihau amseroedd teithio, symud cludo nwyddau i'r rheilffordd ac fe wnaeth droi rhanbarthau tameidiog yn farchnadoedd llafur unigol gweithredol. Mae Plaid Cymru yn sôn am uchelgais i Gymru, ond mae'r datganiad heddiw yn adrodd stori wahanol iawn. Mae'n stori am economi dameidiog Cymru ac yn dathlu cadw pethau fel y maen nhw, sydd wedi'i gyfyngu i'r hyn sy'n cyfateb i Dave's Coaches.

Nawr, Weinidog, ni fydd bysys yn trawsnewid yr economi, seilwaith sy'n gwneud. Felly, Gweinidog, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael ynglŷn â phrosiectau seilwaith rheilffyrdd mawr gogledd-de? A yw hynny'n rhywbeth y mae Plaid yn ei ddiystyru'n llwyr? Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith economaidd y gwasanaeth bysiau hwn? A pham mai ateb Plaid i heriau seilwaith mwyaf Cymru yn 'fwy o fysiau'? Yn sicr ni fydd yn datrys ffordd liniaru'r M4 yn y de ac yn sicr ni fydd yn datrys yr heriau economaidd. Mae'r wlad eisiau i chi adeiladu.

Yn olaf, fe hoffwn i gysylltu hyn â'n porthladdoedd. Ers cenedlaethau, mae ein porthladdoedd wedi bod yn borth i fasnach Cymru, busnesau Cymru a swyddi yng Nghymru. Mae porthladd Caergybi yn unig yn trin 4.8 miliwn tunnell o nwyddau bob blwyddyn, sy'n golygu mai hwn yw prif borthladd Cymru ar gyfer masnach gydag Iwerddon. Mae pob lori, pob fferi a phob busnes sy'n dibynnu ar y porthladd hwnnw yn atgof o'r cyfle economaidd sy'n eistedd ar garreg ein drws, ond nid yw eich gwasanaeth blaenllaw o'r gogledd i'r de hyd yn oed yn ei gyrraedd; mae'n terfynu ym Mangor. Mae hynny'n dweud wrthym ni bopeth sydd angen i ni ei wybod am uchelgais y Llywodraeth hon: huawdl gyda chyhoeddiadau, huawdl gyda datganiad i'r wasg, diffygiol iawn gyda chyflawni.

Os ydych chi o ddifrif am ddatblygu economi gogledd Cymru, cefnogi busnesau a chreu swyddi, pam fyddech chi'n terfynu filltiroedd o un o borthladdoedd economaidd pwysicaf Cymru? A wnewch chi ymrwymo heddiw i ymestyn y gwasanaeth hwn i Gaergybi, ac yn y de i Abergwaun, gydag amserlen wedi ei ariannu ar gyfer ei ddarparu? Neu a yw hon yn enghraifft arall lle mae Llywodraeth yn siarad am gysylltu Cymru ond yn gadael yr union leoedd sy'n creu swyddi a thwf economaidd wedi'u datgysylltu? Diolch.

16:40

Thank you for your question, Jason. I think what we've talked about there—. There are a lot of things that I would agree with in that statement and I think it's good to see that there's a lot of ambition that you want to see, and this is part of that.

I'll tell you what this starts as being is a pragmatic start to make sure that things work, because we can wait forever for things to change, or we can make a difference quickly. This is about making a difference quickly; it's about making a difference that we know people will want to use. And we know that people will be interested in this. When we went out and consulted about this, 60 per cent of those people who were in that consultation said that they wanted to see this service that we've set out here, so we're confident that this is going to work.

I think your point about it being operationally resilient is really important. And this is something that's at the heart of what we've set out here. This is the reason we've got these two-hour coaches. We want people to trust in them, we want people to believe that these are going to turn up when we say they're going to turn up, which is the reason we've limited the stops. We need to make sure that the coach can get from A to B, from north to south, in a time that's convenient for people and works for people. So, that's really important. It's also why we've already got eight coaches in the yard, ready to go.

You mentioned integration, and I think integration is probably one of the key points of this service. To make it work, it needs to integrate. I referenced ports in my statement, but also integration with different towns that aren't on the direct network. Transport for Wales have been programming this whole system in, so it becomes a whole-system approach. So, it links into smaller conurbations that are on the outside, and they fit in and they can make sure that they're part of this solution too.

Affordability is central to this, Dirprwy Lywydd, and I think that's one of the issues that we'll be talking to at the start. But the guarantee I can give is that this will be an affordable service that will make sense for people's pockets. It will be cheaper than a car, and it'll be the right service that people choose.

I like the fact that you support our rail network. I look forward to talking about rail devolution next week. I hope to get the support from you behind us when we talk about rail devolution to make sure that we can talk with a united voice to UK Ministers when that time comes.

I'll finish by saying the way that this project will be extended will be based on how it gets used. We are confident that we can deliver the service as it is now, but that doesn't mean we don't add stops in the future. That would be something that we'd look at on a demand-led basis. But the demand as it stands at the moment is what we've got here. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn, Jason. Rwy'n credu yr hyn rydym ni wedi sôn amdano yn y fan yna—. Mae yna lawer o bethau y byddwn i'n cytuno â nhw yn y datganiad yna ac rwy'n credu ei bod yn dda gweld bod yna lawer o uchelgais rydych chi eisiau ei weld, ac mae hyn yn rhan o hynny.

Fe ddywedaf i wrthych chi beth yw dechrau hyn, sef dechrau pragmatig i wneud yn siŵr bod pethau'n gweithio, oherwydd fe allwn ni aros am byth i bethau newid, neu fe allwn ni wneud gwahaniaeth yn gyflym. Mae hyn yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth yn gyflym; mae'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth rydym ni'n gwybod y bydd ar bobl eisiau ei ddefnyddio. Ac rydym ni'n gwybod y bydd gan bobl ddiddordeb yn hyn. Pan aethom ni allan i ymgynghori am hyn, dywedodd 60 y cant o'r bobl hynny a oedd yn yr ymgynghoriad hwnnw bod arnyn nhw eisiau gweld y gwasanaeth hwn rydym ni wedi'i amlinellu yn y fan yma, felly rydym ni'n ffyddiog bod hyn yn mynd i weithio.

Rwy'n credu bod eich pwynt am ei fod yn weithredol wydn yn bwysig iawn. Ac mae hyn yn rhywbeth sydd wrth wraidd yr hyn rydym ni wedi'i amlinellu yn y fan yma. Dyma'r rheswm pam mae gennym ni'r bysiau dwy awr hyn. Mae arnom ni eisiau i bobl ymddiried ynddyn nhw, mae arnom ni eisiau i bobl gredu bod y rhain yn mynd i ddod pan ddywedwn ni y byddan nhw'n dod, a dyna'r rheswm rydym ni wedi cyfyngu'r arosfannau. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bysiau yn gallu mynd o A i B, o'r gogledd i'r de, mewn amser sy'n gyfleus i bobl ac sy'n gweithio i bobl. Felly, mae hynny'n bwysig iawn. Dyna hefyd pam mae gennym ni eisoes wyth bws yn yr iard, yn barod i fynd.

Fe wnaethoch chi sôn am integreiddio, ac rwy'n credu bod integreiddio yn debygol o fod yn un o bwyntiau allweddol y gwasanaeth hwn. Er mwyn gwneud iddo weithio, mae angen iddo integreiddio. Cyfeiriais at borthladdoedd yn fy natganiad, ond hefyd integreiddio â gwahanol drefi nad ydyn nhw ar y rhwydwaith uniongyrchol. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rhaglennu'r system gyfan hon, felly mae'n dod yn rhan o'r system gyfan. Felly, mae'n cysylltu â chytrefi llai sydd ar y tu allan, ac maen nhw'n dod yn rhan o hyn ac fe allan nhw wneud yn siŵr eu bod yn rhan o'r datrysiad hwn hefyd.

Mae fforddiadwyedd yn ganolog i hyn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu mai dyna un o'r materion y byddwn yn siarad yn eu cylch ar y dechrau. Ond y sicrwydd y gallaf ei roi yw y bydd hwn yn wasanaeth fforddiadwy a fydd yn gwneud synnwyr i bocedi pobl. Bydd yn rhatach na char, a bydd y gwasanaeth cywir y mae pobl yn ei ddewis.

Rwy'n hoffi'r ffaith eich bod yn cefnogi ein rhwydwaith rheilffyrdd. Edrychaf ymlaen at siarad am ddatganoli rheilffyrdd yr wythnos nesaf. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ein cefnogi ni pan fyddwn yn siarad am ddatganoli rheilffyrdd i wneud yn siŵr y gallwn ni siarad â llais unedig â Gweinidogion y Deyrnas Unedig pan ddaw'r amser hwnnw.

Byddaf yn gorffen trwy ddweud y bydd y ffordd y caiff y prosiect hwn ei ymestyn yn seiliedig ar sut mae'n cael ei ddefnyddio. Rydym ni'n hyderus y gallwn ni ddarparu'r gwasanaeth fel y mae nawr, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym ni'n ychwanegu arosfannau yn y dyfodol. Byddai hynny'n rhywbeth y byddwn yn edrych arno ar sail galw. Ond y galw fel y mae hi ar hyn o bryd yw'r hyn sydd gennym ni yn y fan yma. Diolch.

16:45

Thank you, Minister, for your update on bus services, including the express link between Bangor and Carmarthen, which the Welsh Labour Government had already set the wheels in motion for. I think anyone who's had to do that journey via public transport with trains will know that it necessitates a journey into England via Shrewsbury and takes more than six hours currently. Towards the end of the last Senedd, we were carrying out a review of the possibility of introducing more limited-stop coach services linking north, mid and south Wales and west Wales, so I welcome the fact that you're continuing along the previous Welsh Labour Government's road map.

Unlike the Reform benches over there, we recognise the fact, as you stated in your statement, that the estimated price tag for reopening rail links between Bangor and Carmarthen via Pwllheli and Aberystwyth was up to £2 billion. I don't know if Jason O'Connell has got £2 billion in his back pocket, but we on the Labour benches certainly agree that a high-speed bus alternative is eminently sensible, and we welcome your announcement on this. I'm sure the investment we had already put into TrawsCymru services in the region of £7.3 million to provide quality bus services on strategic routes across Wales will have helped enormously.

I have some questions on your announcement here this afternoon. I note that you say that this new express service will be a bookable service. What consideration have you given to those who would find online booking difficult and may be digitally excluded? Thinking about the eight new buses that you've commissioned, will they have capacity to store wheelchairs and bikes, and will they be accessible for passengers with mobility problems?

You will know that Welsh Labour had committed in our Senedd election manifesto to 100 new bus routes across Wales. With that in mind, while this express service is really welcome, would you set out whether there will be other services that offer more stops for shorter journeys serving communities up and down the route as well? What provision have you made for dovetailing with local authority active travel maps and initiatives at stops along the route?

Turning to the £1 bus fare scheme, we obviously need to offer ambitious, innovative and meaningful policies if we want to get more people using public transport and encourage the modal shift that we need to reach net zero. I was proud of my party's delivery of that £1 bus fare scheme for young people during the last Senedd term and our manifesto commitment to make that a permanent scheme, as well as capping fares across the board. These policies are key in improving the affordability of public transport, so I'm a bit disappointed that your statement confirms that the current Welsh Government is only willing to offer a short-term commitment to extend the scheme for young people until the end of 2026-27. So, to conclude, I'd like to ask if you would revisit that decision. If not, how else will you make sure that young people are not only encouraged but can afford to travel on public transport?

Diolch, Weinidog, am eich diweddariad ar wasanaethau bysiau, gan gynnwys y cyswllt cyflym rhwng Bangor a Chaerfyrddin, yr oedd Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi cychwyn ei gynllunio. Rwy'n credu y bydd unrhyw un sydd wedi gorfod gwneud y daith honno ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda threnau yn gwybod bod angen taith i Loegr drwy'r Amwythig a'i bod yn cymryd mwy na chwe awr ar hyn o bryd. Tua diwedd y Senedd ddiwethaf, roeddem yn cynnal adolygiad o'r posibilrwydd o gyflwyno mwy o wasanaethau bysiau gydag arosfannau cyfyngedig sy'n cysylltu gogledd, canolbarth a de Cymru a gorllewin Cymru, felly rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn parhau gyda chynllun blaenorol Llywodraeth Lafur Cymru.

Yn wahanol i'r meinciau Reform draw fanna, rydym ni'n cydnabod y ffaith, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, fod yr amcan bris ar gyfer ailagor cysylltiadau rheilffordd rhwng Bangor a Chaerfyrddin drwy Bwllheli ac Aberystwyth hyd at £2 biliwn. Wn i ddim a oes gan Jason O'Connell £2 biliwn yn ei boced gefn, ond rydym ni ar feinciau Llafur yn sicr yn cytuno bod gwasanaeth bws cyflym yn ddewis amgen hynod synhwyrol, ac rydym ni'n croesawu eich cyhoeddiad ar hyn. Rwy'n siŵr y bydd y buddsoddiad roeddem ni eisoes wedi'i roi i wasanaethau TrawsCymru o oddeutu £7.3 miliwn i ddarparu gwasanaethau bws o safon ar lwybrau strategol ledled Cymru wedi helpu'n aruthrol.

Mae gen i rai cwestiynau ynglŷn â'ch cyhoeddiad yma y prynhawn yma. Sylwaf eich bod yn dweud y bydd y gwasanaeth cyflym newydd hwn yn wasanaeth y gellir ei archebu. Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i'r rhai a fyddai'n ei chael hi'n anodd archebu ar-lein ac a allai gael eu heithrio'n ddigidol? Wrth feddwl am yr wyth bws newydd rydych chi wedi'u comisiynu, a fydd ganddyn nhw le i gadw cadeiriau olwyn a beiciau, ac a fyddan nhw'n hygyrch i deithwyr â phroblemau symudedd?

Byddwch yn gwybod bod Llafur Cymru wedi ymrwymo yn ein maniffesto etholiadol yn y Senedd i 100 o lwybrau bysiau newydd ledled Cymru. Gyda hynny mewn golwg, er bod y gwasanaeth cyflym hwn yn wir i'w groesawu, a wnewch chi'n amlinellu a fydd gwasanaethau eraill sy'n cynnig mwy o arosfannau ar gyfer teithiau byrrach sy'n gwasanaethu cymunedau i fyny ac i lawr y llwybr hefyd? Pa ddarpariaeth ydych chi wedi'i wneud ar gyfer cyd-fynd â mapiau a mentrau teithio llesol awdurdodau lleol mewn arosfannau ar hyd y llwybr?

Gan droi at y cynllun tocynnau bws o £1, mae'n amlwg bod angen i ni gynnig polisïau uchelgeisiol, arloesol ac ystyrlon os ydym ni am gael mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac annog y newid moddol sydd ei angen arnom ni i gyrraedd sero net. Roeddwn i'n falch bod fy mhlaid wedi cyflawni'r cynllun tocyn bws hwnnw o £1 i bobl ifanc yn ystod tymor diwethaf y Senedd a'n hymrwymiad maniffesto i wneud hynny'n gynllun parhaol, yn ogystal â bod ag uchafswm prisiau yn gyffredinol. Mae'r polisïau hyn yn allweddol i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy, felly rwyf braidd yn siomedig bod eich datganiad yn cadarnhau nad yw Llywodraeth bresennol Cymru ond yn fodlon cynnig ymrwymiad tymor byr i ymestyn y cynllun i bobl ifanc tan ddiwedd 2026-27. Felly, i gloi, fe hoffwn i ofyn a fyddwch chi'n ailystyried y penderfyniad hwnnw. Os na, sut arall y byddwch chi'n gwneud yn siŵr bod pobl ifanc nid yn unig yn cael eu hannog ond yn gallu fforddio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Thank you, Vikki, and thank you for the broad support for the statement today. I think that shows that when good ideas come out, there's nothing to stop us working towards them. I think this was something that was originally worked up, as I said in my statement, as part of the co-operation agreement, so it shows that when parties co-operate, we can get things going and we can make progress. I'd like to think that this progress has been pushed forward because we've managed to get money from the budget straight away, so we're launching this. We will be launching this service in the autumn, so people will be able to book it from then. I think this is a good example of things working together.

You mentioned online booking, and I think that's a really good point. I'm going to take that away, if that's okay, just to come back to you with the solutions to it. It's something that TfW already work with. People can book who struggle with using online systems on their own, but on this particular service, I'll come back to you on that one separately.

I think accessibility is really important on travel as well. Just to give you an example of how we've worked on this service to make sure that people who are travelling with wheelchairs or who've got other bigger storage commitments can work with this service, I think you've got a situation where one of the stops was particularly difficult to be able to get a wheelchair on and off it because of the size of the coach, so we've managed to work with another space in the town. This is in Aberaeron, where you can park further up, and wheelchair access on and off can be made accessible. Every single stop here will be available to those people who need further access. We've also made sure that the time per stop allows those people to get on and off instead of it taking time off the whole journey.

I mentioned integration in my answer to Jason. I think integration is key to this and TfW have been working really hard to make sure we integrate services, so whether it's local services, whether it's local authority active travel services, these are all part of the integration piece. What we need to recognise is that this is intended to be a fast journey between north and south, but when people come off, they can feed into the wider network. But we also recognise—and I did reference this—that people will be using it for shorter journeys because it's convenient. This will work if you want to go from Porthmadog to Dolgellau, Carmarthen to Bangor, perhaps. These are things where we recognise that the journey will be used.

In terms of the commitment, the Cabinet Minister for Finance and I spoke about extending the £1 bus fare. Doing it for this year is making sure it's in for this year. Don't take that as an indication that it won't be in for further years; these are conversations that we'll have. This is clearly a service that young people really welcome and enjoy and use. We've got to try and make sure that we get passengers. If we get young people using public transport whilst they're young, we hope they extend that through to their lives more generally as well. Thank you.

Diolch, Vikki, a diolch am y gefnogaeth eang i'r datganiad heddiw. Rwy'n credu bod hynny'n dangos pan geir syniadau da, nid oes unrhyw beth i'n rhwystro ni weithio tuag atyn nhw. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth a gafodd ei gynllunio'n wreiddiol, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn rhan o'r cytundeb cydweithio, felly mae'n dangos pan fydd pleidiau yn cydweithredu, fe allwn ni roi cychwyn ar bethau ac fe allwn ni wneud cynnydd. Fe hoffwn i feddwl y bu'r cynnydd hwn yn bosib oherwydd inni lwyddo i gael arian o'r gyllideb ar unwaith, felly rydyn ni'n cychwyn ar hwn. Byddwn yn cychwyn y gwasanaeth hwn yn yr hydref, felly bydd pobl yn gallu ei archebu o'r adeg yna. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda o bethau'n gweithio gyda'i gilydd.

Fe wnaethoch chi sôn am archebu ar-lein, ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt da iawn. Rydw i'n mynd i bendroni dros hynny, os yw hynny'n iawn, dim ond i ddod yn ôl atoch chi gyda'r atebion iddo. Mae'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio arno. Gall pobl archebu sy'n cael trafferth defnyddio systemau ar-lein ar eu pennau eu hunain, ond ar y gwasanaeth penodol hwn, fe wnaf ddod yn ôl atoch chi ar yr un mater yna ar wahân.

Rwy'n credu bod hygyrchedd yn bwysig iawn o ran teithio hefyd. Dim ond i roi enghraifft i chi o sut rydym ni wedi gweithio ar y gwasanaeth hwn i wneud yn siŵr bod pobl sy'n teithio gyda chadeiriau olwyn neu sydd ag ymrwymiadau storio mwy eraill yn gallu gweithio gyda'r gwasanaeth hwn, rwy'n credu bod gennych chi sefyllfa lle roedd un o'r arosfannau yn arbennig o anodd gallu cael cadair olwyn arno ac oddi arno oherwydd maint y bws, felly rydyn ni wedi llwyddo i weithio gyda lle arall yn y dref. Mae hyn yn Aberaeron, lle gallwch chi barcio ymhellach i fyny, a gellir gwneud mynediad i gadeiriau olwyn ar ac oddi y bws yn hygyrch. Bydd pob arosfan yma ar gael i'r bobl hynny sydd angen mynediad pellach. Rydym ni hefyd wedi gwneud yn siŵr bod yr amser fesul stop yn caniatáu i'r bobl hynny fynd a dod yn hytrach na chymryd amser oddi ar y daith gyfan.

Soniais am integreiddio yn fy ateb i Jason. Rwy'n credu bod integreiddio yn allweddol i hyn ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn integreiddio gwasanaethau, felly p'un a yw'n wasanaethau lleol, p'un a yw'n wasanaethau teithio llesol awdurdodau lleol, mae'r rhain i gyd yn rhan o'r integreiddio. Yr hyn y mae angen i ni ei gydnabod yw bod hyn wedi'i fwriadu i fod yn daith gyflym rhwng y gogledd a'r de, ond pan fydd pobl yn dod i ffwrdd, fe allan nhw ymuno â'r rhwydwaith ehangach. Ond rydym ni hefyd yn cydnabod—ac fe wnes i gyfeirio at hyn—y bydd pobl yn ei ddefnyddio ar gyfer teithiau byrrach oherwydd ei fod yn gyfleus. Bydd hyn yn gweithio os ydych chi am fynd o Borthmadog i Ddolgellau, Caerfyrddin i Fangor, efallai. Mae'r rhain yn deithiau rydym ni'n cydnabod y bydd pobl yn eu gwneud.

O ran yr ymrwymiad, siaradodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid a minnau am ymestyn y tocyn bws o £1. I wneud hynny ar gyfer eleni mae angen gwneud yn siŵr ei fod wedi ei gynnwys eleni. Peidiwch â chymryd hynny fel arwydd na fydd wedi ei gynnwys am flynyddoedd pellach; mae'r rhain yn sgyrsiau y byddwn ni'n eu cael. Mae hwn yn amlwg yn wasanaeth y mae pobl ifanc yn ei groesawu ac yn ei fwynhau a'i ddefnyddio. Mae'n rhaid i ni geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael teithwyr. Os cawn ni bobl ifanc yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan maen nhw'n ifanc, gobeithiwn y byddan nhw'n ymestyn hynny i'w bywydau yn fwy cyffredinol hefyd. Diolch.

16:50

I welcome this statement wholeheartedly. Interestingly, when devolution was first on the cards, one of its primary objectives, if devolution came in, was to ensure that we'd have a north-to-south road infrastructure in place that would connect north Wales with the capital city and Government of Wales. But we've been 27 years in the waiting, and that hasn't happened. So, I welcome this as being another way to get people from north to south. When you consider that 71.7 million passenger journeys are undertaken on local bus services each year, and remember that 19 per cent of the population of Wales has no access to a car, this demonstrates the importance of accessible and reliable public transport for many communities.

Published in 2025, Transport for Wales undertook a feasibility study into introducing a TrawsCymru express coach service that would connect north and south Wales via the western corridor. Because for anyone doing this on a weekly basis, let alone if you want to come here more often, it can take four to four and a half hours, and since the 20 mph and the 50 mph on some roads, I find it's more likely to be more than four and a half hours, sometimes five hours, coming down here.

I regularly travel on the direct train service from Holyhead, and that can take around four hours, although I will say last night—and I have raised it with you—I boarded at 15:29, arriving at my flat at 21:30, and I was asking for a bus to be laid on, because there were other Members here who didn't get home until much later than that. That is something that you need to do. It cannot be that you allow the poor performance of TfW and the trains, the lack of information, the miscommunication, which is so bad at the moment.

I believe that quicker public transport journeys are already achievable on parts of the Welsh transport network. I know great work is going on, and I know you'll announce this in the next week or two, as regards the bus franchising. Transport for Wales estimates that the proposed TrawsCymru express service will take around four hours and 45 minutes—can't knock that at all—cutting approximately 90 minutes from some journey times.

We've got to enhance sustainable transport options along Wales’s western corridor, but we must never forget that a lot of people do want the road infrastructure to be easy to use, because there are many people who love having their cars, love driving their cars, and there has to be that choice. We can't push everybody, and I've said it before here—. I'll leave the Lycra out, but we can't push everybody onto cycles, trains and buses. There are people who will want to use their cars. But we've got to reduce the travel times—that's the biggie, really.

Currently, there's low public transport demand along the proposed corridor, and only 4 per cent of visitors to Wales currently travel by bus or coach, so there's work to be done there. If we're serious about improving transport links between north and south Wales, we need to see better continued investment in rail infrastructure, road infrastructure and integrated public transport. Improving one mode of transport in isolation will not be enough. A co-ordinated approach that strengthens bus, rail and road networks will deliver the greatest benefits for passengers, businesses, tourism and communities across Wales.

Will you commit to ensuring, going forward, that all of the transport infrastructure is reviewed alongside the review of the integrated bus network between north and south Wales? Can you be more specific than 'autumn', because autumn, technically, is a three-month season? Can you be more specific as to when you think these buses will start running? Diolch yn fawr iawn, and thank you again for bringing this forward. We need some good news in this Chamber. Diolch.

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn llwyr. Yn ddiddorol, pan ddechreuwyd trafod datganoli gyntaf, un o'i brif amcanion, pe ceid datganoli, oedd sicrhau y byddai gennym ni seilwaith ffyrdd o'r gogledd i'r de a fyddai'n cysylltu gogledd Cymru â'r brifddinas a Llywodraeth Cymru. Ond rydym ni wedi bod yn aros am 27 mlynedd, ac nid yw hynny wedi digwydd. Felly, rwy'n croesawu hyn fel ffordd arall o gael pobl o'r gogledd i'r de. Pan ystyriwch chi fod 71.7 miliwn o siwrneiau teithwyr yn cael eu gwneud ar wasanaethau bws lleol bob blwyddyn, a chofiwch nad oes gan 19 y cant o boblogaeth Cymru fynediad at gar, mae hyn yn dangos pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a dibynadwy i lawer o gymunedau.

Cynhaliodd Trafnidiaeth Cymru astudiaeth ddichonoldeb, a gyhoeddwyd yn 2025, i gyflwyno gwasanaeth bysiau cyflym TrawsCymru a fyddai'n cysylltu gogledd a de Cymru drwy'r coridor gorllewinol. Oherwydd i unrhyw un sy'n gwneud hyn yn wythnosol, heb sôn am os ydych chi am ddod yma yn amlach, gall gymryd rhwng pedair awr a phedair awr a hanner, ac ers y cyfyngiad 20 milltir yr awr a'r 50 milltir yr awr ar rai ffyrdd, rwy'n gweld ei fod yn fwy tebygol o fod yn fwy na phedair awr a hanner, weithiau pum awr, yn dod i lawr yma.

Rwy'n teithio'n rheolaidd ar y gwasanaeth trên uniongyrchol o Gaergybi, a gall hynny gymryd tua phedair awr, er y byddaf yn dweud, neithiwr—ac rwyf wedi ei godi gyda chi—fe es i ar y trên am 15:29, gan gyrraedd fy fflat am 21:30, ac fe wnes i ofyn am gael trefnu bws, oherwydd roedd Aelodau eraill yma na chyrhaeddodd adref tan lawer hwyrach na hynny. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i chi ei wneud. Siawns na fyddwch chi'n caniatáu perfformiad gwael Trafnidiaeth Cymru a'r trenau, y diffyg gwybodaeth, y camgyfathrebu, sydd mor ddrwg ar hyn o bryd.

Credaf fod teithiau trafnidiaeth gyhoeddus cyflymach eisoes yn gyraeddadwy ar rannau o rwydwaith trafnidiaeth Cymru. Rwy'n gwybod bod gwaith gwych ar y gweill, ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n cyhoeddi hyn yn yr wythnos neu ddwy nesaf, o ran masnachfreinio bysiau. Mae Trafnidiaeth Cymru yn amcangyfrif y bydd gwasanaeth cyflym arfaethedig TrawsCymru yn cymryd tua phedair awr a thri chwarter—ni ellir cwyno am hynny o gwbl—gan dorri tua 90 munud o rai amseroedd teithio.

Mae'n rhaid i ni wella dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy ar hyd coridor gorllewinol Cymru, ond na foed inni fyth anghofio bod llawer o bobl eisiau i'r seilwaith ffyrdd fod yn hawdd i'w ddefnyddio, oherwydd mae yna lawer o bobl sydd wrth eu bodd efo'u ceir, wrth eu bodd yn gyrru eu ceir, ac mae'n rhaid i'r dewis yna fod ar gael. Ni allwn ni wthio pawb, ac rydw i wedi dweud hynny o'r blaen yma—. Fe wnaf i hepgor y Lycra, ond allwn ni ddim gwthio pawb ar feiciau, trenau a bysiau. Mae yna bobl a fydd eisiau defnyddio eu ceir. Ond mae'n rhaid i ni leihau'r amseroedd teithio— dyna'r peth mawr, mewn gwirionedd.

Ar hyn o bryd, ychydig iawn o alw sydd yna am drafnidiaeth gyhoeddus ar hyd y coridor arfaethedig, a dim ond 4 y cant o ymwelwyr i Gymru sy'n teithio ar fws neu goets ar hyn o bryd, felly mae gwaith i'w wneud yn hynny o beth. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru, mae angen i ni weld gwell buddsoddiad parhaus mewn seilwaith rheilffyrdd, seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig. Ni fydd gwella un dull o drafnidiaeth ar ei ben ei hun yn ddigon. Bydd dull cydgysylltiedig sy'n cryfhau rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a ffyrdd yn darparu'r manteision mwyaf i deithwyr, busnesau, twristiaeth a chymunedau ledled Cymru.

A wnewch chi ymrwymo i sicrhau, yn y dyfodol, bod yr holl seilwaith trafnidiaeth yn cael ei adolygu ochr yn ochr â'r adolygiad o'r rhwydwaith bysiau integredig rhwng gogledd a de Cymru? Allwch chi fod yn fwy penodol na 'hydref', oherwydd mae'r hydref, yn dechnegol, yn dymor tri mis? Allwch chi fod yn fwy penodol o ran pryd rydych chi'n meddwl y bydd y bysiau hyn yn dechrau gweithredu? Diolch yn fawr iawn, a diolch eto am gyflwyno hyn. Mae angen rhywfaint o newyddion da arnom ni yn y Siambr hon. Diolch.

16:55

It's always great when you get Janet really talking through our press release. It works quite well, so I really appreciate that, Janet, and thank you for your support.

There's a wider connecting point about how we make sure our transport systems work together. That's something that I'm taking on board and I hear what you're saying. I think we need to make sure this is a practical, pragmatic solution that is about delivering this quickly. It suits people, people want to see this happen. It looks like there's demand for it. We'll soon see that in terms of it going ahead. We have to make decisions and we have to take things forward. This is doing exactly that. It matched our 100-day commitment, and this will be delivered.

In terms of the 'when', we're working towards that. We're weeks away from announcing the 'when', but we're going through a procurement exercise, so you're just going to have to hold your horses a bit, but not for very long. We're really keen to get this running as soon as we can, I'm really keen to get this running as soon as we can, so people can use it. The booking window will start a few weeks out, so people will be able to plan their journeys a few weeks out from travelling to get on the road and the coaches to make it happen.

You, like everyone else, have talked about integration. I hope I've made it clear that integration is key to making this work. That's integration from different modes. Some of it can be about car—

Mae hi wastad yn wych pan gewch chi Janet yn wirioneddol siarad am ein datganiad i'r wasg. Mae'n gweithio'n eithaf da, felly rwy'n gwerthfawrogi hynny yn fawr, Janet, a diolch am eich cefnogaeth.

Mae pwynt cysylltu ehangach ynglŷn â sut rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod ein systemau trafnidiaeth yn gweithio gyda'i gilydd. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei dderbyn ac rwy'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud. Rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod hwn yn ateb ymarferol, pragmatig sy'n ymwneud â chyflawni hyn yn gyflym. Mae'n addas i bobl, mae pobl eisiau gweld hyn yn digwydd. Mae'n edrych fel bod galw amdano. Byddwn yn gweld hynny yn fuan o ran cyflawni hynny. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau ac mae'n rhaid i ni fynd â phethau ymlaen. Mae hyn yn gwneud yn union hynny. Roedd yn cyfateb i'n hymrwymiad 100 diwrnod, a bydd hyn yn cael ei gyflawni.

O ran 'pryd', rydym ni'n gweithio tuag at hynny. Rydyn ni wythnosau i ffwrdd o gyhoeddi 'pryd', ond rydym ni'n cynnal ymarfer caffael, felly bydd ond angen ichi fod fymryn yn fwy amyneddgar, ond nid am hir iawn. Rydym ni'n awyddus iawn i weithredu hyn cyn gynted ag y gallwn ni, rwy'n awyddus iawn i weithredu hyn cyn gynted ag y gallwn ni, fel y gall pobl ei ddefnyddio. Bydd y cyfnod archebu yn dechrau ychydig wythnosau cyn hynny, felly bydd pobl yn gallu cynllunio eu teithiau ychydig wythnosau cyn teithio i fynd ar y ffordd a'r bysiau i wneud hynny.

Rydych chi, fel pawb arall, wedi sôn am integreiddio. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ei gwneud hi'n glir bod integreiddio yn allweddol i wneud i hyn weithio. Dyna integreiddio gwahanol ddulliau. Gall rhywfaint ohono fod yn ymwneud â char—

Will it be tap on, tap off?

Ai cyffwrdd wrth gyrraedd, a chyffwrdd wrth adael fydd hi?

It can be tap on, tap off. I've talked about 'one ticket'—this is all part of that same system and part of that vision, which is something we're keen to support so that Transport for Wales can deliver that. You mentioned bus franchising; this links into that quite clearly as we go through. But I do appreciate the support on this. Thank you.

Fe all fod yn gyffwrdd wrth gyrraedd a gadael. Rwyf wedi sôn am 'un tocyn'—mae hyn i gyd yn rhan o'r un system honno ac yn rhan o'r weledigaeth honno, sy'n rhywbeth rydym ni'n awyddus i'w gefnogi fel y gall Trafnidiaeth Cymru gyflawni hynny. Fe wnaethoch chi sôn am fasnachfreinio bysiau; mae hyn yn cysylltu â hynny yn eithaf clir yn hynny o beth. Ond rwyf yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth ynghylch hyn. Diolch.

Gaf i groesawu'r cyhoeddiad arbennig yma heddiw? Am lawer rhy hir, mae'r cysylltiad rhwng gogledd a de Cymru wedi bod yn annigonol, a dweud y lleiaf, o'i gymharu â chysylltiadau trawsffiniol. Mae'n parhau i fod yn sefyllfa hurt bost fod teithio o fewn ein gwlad ein hunain yn aml yn fwy anodd ac yn llai effeithlon na theithio drwy Loegr, rhywbeth sy'n tanseilio cydlyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Mae potensial gwirioneddol yma i drawsnewid y ffordd mae pobl yn symud ar hyd echelin gogledd-de Cymru, yn clymu Cymru'n un.

Hoffwn dynnu sylw at y gwerth o gynnwys lleisiau cymunedau lleol yn y broses o gynllunio a gweithredu. Drwy weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, defnyddwyr a busnesau, gall y Llywodraeth sicrhau bod y gwasanaeth yn adlewyrchu patrymau teithio go iawn ac yn ateb anghenion pobl o ddydd i ddydd. Yn ogystal, mae amlder y gwasanaeth yn allweddol i'w lwyddiant. Mae gwasanaeth cyflym yn gam mawr ymlaen, ond ei werth gwirioneddol ddaw pan fo'n rhedeg yn ddigon aml i fod yn ddewis ymarferol i bobl bob dydd.

Byddai'n gadarnhaol clywed sut bydd y Llywodraeth, mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, yn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn gallu ymateb ac esblygu yn unol â'r galw, yn enwedig ar adegau prysur neu yn ystod digwyddiadau mawr. Gaf i hefyd ychwanegu fy mod i'n croesawu'n fawr iawn brwdfrydedd fy nghydweithiwr i'r chwith i mi am yr angen am fuddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau yng Nghymru? Mae'n bechod o'r mwyaf nad oes gennym ni ddim mynediad at gronfeydd cyfalaf Ewropeaidd bellach i wireddu hynny.

Could I welcome this debate today? For far too long, the link between north and south Wales has been inadequate, to say the least, when compared to cross-border connections. It continues to be an absurd situation whereby travelling within our own nation is often more difficult and less efficient than travelling through England, something that undermines the economic, social and cultural cohesion of Wales. There is real potential here to transform the way people move along the north-south axis in Wales, tying Wales together as one.

I would like to highlight the value of including local community voices in the planning and delivery process. By working closely with local authorities, service users and businesses, the Government could ensure that this service reflects real travel patterns and meets people's day-to-day needs. Furthermore, service frequency is crucial to its success. An express service is a major step forward, but its true value will become when it runs sufficiently often to be a practical daily option.

It would be positive to hear how the Government, in partnership with Transport for Wales, will ensure that this provision will be able to respond and evolve in line with demand, especially in busy periods or during major events. Could I also add that I welcome very much the enthusiasm of my colleague to my left for the need for capital investment in projects in Wales? It is such a shame that we don't have access to European capital funds anymore to realise that.

17:00

Diolch am eich cwestiwn, Elwyn.

Thank you for your question, Elwyn.

I appreciate it. I think this—. Again, there's a lot of repetition. I agree with you, this is an opportunity to change the way that we travel. It's a starting point. We're a long way, going back to the point I made when I spoke to Janet, from getting this right, but we're on track—maybe that's the wrong word—we're on track to show that we're making progress.

In terms of passenger numbers and making sure that we link with actual travel patterns, we've spoken to a lot of people, so there's been a lot of research done. Since it came up in the co-operation agreement, there's been a lot of energy and it's been spoken about and worked on with local authorities and others, to make sure this matches the requirements. So, I think we're in a position where we've got a good starting point, hence the stops that have been chosen so far. But this is work in progress. As I said in my answer to Jason earlier as well, this is something we'll review in terms of how you can expand it. But the key to it is about getting the passenger numbers up, and part of that is making sure that people are confident that the service will be there. This is why we've made sure, with the support of the Cabinet Minister for Finance, that the money is there to make sure the service is there and it is regular and it can be relied on. I think, then, there are opportunities for us to extend that service, once we can see that passenger numbers are coming through. I think it's got an opportunity to be a real commercial service over the long term as well, as it gets used. Diolch. Thanks for the question.

Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Rwy'n credu bod hyn—. Unwaith eto, mae yna lawer o ailadrodd. Rwy'n cytuno â chi, mae hwn yn gyfle i newid y ffordd rydym ni'n teithio. Mae'n fan cychwyn. Rydym ni'n bell iawn, i fynd yn ôl i'r pwynt a wnes i pan siaradais i â Janet, o gael hyn yn iawn, ond rydym ni ar y trywydd iawn—efallai mai dyna'r gair anghywir—rydym ni ar y trywydd iawn i ddangos ein bod ni'n gwneud cynnydd.

O ran nifer y teithwyr a gwneud yn siŵr ein bod yn cysylltu â phatrymau teithio go iawn, rydym ni wedi siarad â llawer o bobl, felly mae llawer o ymchwil wedi'i wneud. Ers cyflwyno hyn yn y cytundeb cydweithio, bu llawer o egni a bu cryn siarad am hyn a chryn weithio arno gydag awdurdodau lleol ac eraill, i wneud yn siŵr bod hyn yn cyd-fynd â'r gofynion. Felly, rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa lle mae gennym ni fan cychwyn da, ac fe welwn ni hynny yn yr arosfannau sydd wedi'u dewis hyd yn hyn. Ond mae hyn yn waith sydd ar y gweill. Fel y dywedais i yn fy ateb i Jason yn gynharach hefyd, mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei adolygu o ran sut y gallwch chi ei ehangu. Ond yr allwedd iddo yw cynyddu'r niferoedd teithwyr, a rhan o hynny yw gwneud yn siŵr bod pobl yn hyderus y bydd y gwasanaeth yno. Dyma pam rydym ni wedi gwneud yn siŵr, gyda chefnogaeth y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, fod yr arian yno i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yno a'i fod yn rheolaidd ac y gellir dibynnu arno. Rwy'n credu, felly, bod cyfleoedd i ni ymestyn y gwasanaeth hwnnw, unwaith y gallwn ni weld bod yna hyn a hyn o deithwyr. Rwy'n credu bod ganddo gyfle i fod yn wasanaeth masnachol gwirioneddol dros y tymor hir hefyd, wrth iddo gael ei ddefnyddio. Diolch. Diolch am y cwestiwn.

Thank you very much for your statement, and it's great to see investment here in our bus services. I played a small role in promoting and ensuring that we secured the £1 bus fare for young people, and I know that, across the Siambr, when we jointly work, actually, we can improve the lives of people here in Wales. So, diolch yn fawr iawn.

You referred to TrawsCymru services, but one of the TrawsCymru services that actually has gone back in time is actually the T4 service, which goes from Newtown to Cardiff—or at least it used to—via Brecon. It now stops at Merthyr, and at Merthyr, you have to get off the bus and wait for another bus, if you're lucky, or a train from Merthyr to Cardiff. Now, whilst you're promoting and investing in a new TrawsCymru service, we've actually got a problem, because many of the residents across mid Wales are suffering straight away because of the T4 services. So, I'd like to ask you: could you please ensure that you look at that service and ensure that we get a through service all the way from Newtown down to Cardiff, which is what we used to have? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, ac mae'n wych gweld buddsoddiad yma yn ein gwasanaethau bysiau. Chwaraeais ran fach wrth hyrwyddo a sicrhau ein bod yn sicrhau'r tocyn bws o £1 i bobl ifanc, ac rwy'n gwybod, ar draws y Siambr, pan fyddwn yn gweithio ar y cyd, mewn gwirionedd, y gallwn ni wella bywydau pobl yma yng Nghymru. Felly, diolch yn fawr iawn.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at wasanaethau TrawsCymru, ond un o wasanaethau TrawsCymru sydd wedi mynd yn ôl mewn amser mewn gwirionedd yw'r gwasanaeth T4, sy'n mynd o'r Drenewydd i Gaerdydd—neu o leiaf yr arferai fynd—drwy Aberhonddu. Mae bellach yn stopio ym Merthyr, ac ym Merthyr, mae'n rhaid i chi ddod oddi ar y bws ac aros am fws arall, os ydych chi'n ffodus, neu drên o Ferthyr i Gaerdydd. Nawr, tra byddwch chi'n hyrwyddo ac yn buddsoddi mewn gwasanaeth newydd TrawsCymru, mae gennym ni broblem mewn gwirionedd, oherwydd mae llawer o'r trigolion ledled canolbarth Cymru yn dioddef  oherwydd y gwasanaethau T4. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi: a allech chi sicrhau eich bod yn edrych ar y gwasanaeth hwnnw a sicrhau ein bod yn cael gwasanaeth yr holl ffordd o'r Drenewydd i lawr i Gaerdydd, sef yr hyn yr oeddem ni'n arfer ei gael? Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane. This is something that has already crossed my desk, so this isn't news to me at all. But before I get on to that question, I just want to thank you for your support, especially about the £1 bus fares. When I met all the opposition spokespeople, this was the first thing you said when you came into the room, and we couldn't confirm at the time, but we're able to confirm it now, to extend that service. So, thank you for your support on that.

With regard to the T4, I've asked officials already to start working on this alongside Transport for Wales. There are some commercial issues at play here, which is the reason that we're in the position that we are in, but I don't think they're insurmountable, but they may not be immediately resolvable. But it is something that's one of my priority issues to sort out. I recognise if we want this transport system to work in the way that we expect it to, and it seems like there's some consensus around the Siambr for this, then we need to make sure that, where there are breaks, we resolve them as soon as we possibly can. Diolch.

Diolch, Jane. Mae hyn yn rhywbeth a ddygwyd i'm sylw, felly nid yw hyn yn newyddion i mi o gwbl. Ond cyn i mi fynd ymlaen at y cwestiwn yna, fe hoffwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth, yn enwedig am y tocynnau bws o £1. Pan wnes i gwrdd â holl lefarwyr y gwrthbleidiau, dyma'r peth cyntaf a ddywedoch chi pan ddaethoch i mewn i'r ystafell, ac ni allwn i gadarnhau ar y pryd, ond rydym ni'n gallu ei gadarnhau nawr, i ymestyn y gwasanaeth hwnnw. Felly, diolch am eich cefnogaeth ar hynny.

O ran y T4, rwyf eisoes wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio ar hyn ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru. Mae rhai materion masnachol ar waith yma, a dyna'r rheswm ein bod ni yn y sefyllfa rydym ni ynddo, ond nid wyf yn credu eu bod yn derfynol, ond efallai na fydd modd eu datrys nhw ar unwaith. Ond mae'n rhywbeth sy'n un o'm materion blaenoriaeth i'w ddatrys. Rwy'n cydnabod os ydym ni am i'r system drafnidiaeth hon weithio yn y ffordd rydym ni'n disgwyl iddo, ac mae'n ymddangos bod rhywfaint o gonsensws o gwmpas y Siambr ar gyfer hyn, yna mae angen i ni wneud yn siŵr, lle mae diffyg yn y gwasanaeth, ein bod yn ei ddatrys cyn gynted ag y gallwn ni. Diolch.

I welcome this statement as an important step forward in the integrated transport network that connects people and opportunities, and supports the economy and making travel easier. But the success of that vision will depend on affordability, as we've heard earlier. This is why it's right to recognise Plaid Cymru's commitment to keeping the bus fare low, including the £1 single journeys and £3 tickets for children and young people. So, can I have further assurance that this new service will also be affordable, especially as rail fares can often be out of the reach of many families and people on low incomes? I'd also like to ask for further detail on how the Government will work with Transport for Wales to create a fully integrated system, including the tap on, tap off ticketing and daily fare caps across bus and rail, so that public transport is simpler, fairer and more accessible? And how will you promote the service so that the public will be aware of it, have confidence in it and, of course, use it?

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn fel cam pwysig ymlaen yn y rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy'n cysylltu pobl a chyfleoedd, ac yn cefnogi'r economi ac yn gwneud teithio yn haws. Ond bydd llwyddiant y weledigaeth honno yn dibynnu ar ba mor fforddiadwy ydyw, fel rydym ni wedi clywed yn gynharach. Dyna pam ei bod hi'n iawn cydnabod ymrwymiad Plaid Cymru i gadw prisiau bws yn isel, gan gynnwys y tocynnau sengl o £1 a £3 i blant a phobl ifanc. Felly, a allaf i gael sicrwydd pellach y bydd y gwasanaeth newydd hwn hefyd yn fforddiadwy, yn enwedig gan fod prisiau rheilffordd yn aml allan o gyrraedd llawer o deuluoedd a phobl ar incwm isel? Fe hoffwn i hefyd ofyn am ragor o fanylion ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i greu system gwbl integredig, gan gynnwys y tocynnau cyffwrdd wrth gyrraedd a gadael ac uchafswm prisiau tocynnau dyddiol ar y bysiau a'r rheilffyrdd, fel bod trafnidiaeth gyhoeddus yn symlach, yn decach ac yn fwy hygyrch? A sut fyddwch chi'n hyrwyddo'r gwasanaeth fel y bydd y cyhoedd yn ymwybodol ohono, yn ymddiried ynddo ac, wrth gwrs, yn ei ddefnyddio?

Diolch, Pred. All of these—. Again, at the risk of repeating myself, it's so important that we get the pricing of this right and that it's accessible for people, and people know that this becomes a much better value option than taking your own car and that it will be a much better value option than taking the train. These are things that we need to be—. And especially for people who want to take families et cetera on this journey too, this is a solution that should solve a lot of people's problems. One of the groups I think who we think will probably use this will be students, for example, as they travel across the country, so this is one of the opportunities that we get for those as well.

Bus franchising gives us the opportunity to make the changes that we need to make, and this is where we need to dig in and do the hard work to make sure that we get the single ticket and that everything becomes so visible for people. Because at the moment, as I said in my statement, it's actually quite difficult for people to cross between website A, website B, website C, and working those things out on a screen can be hugely difficult. We can make that a lot easier. The technology's out there. This isn't rocket science. We need to get into it.

And we just need to get all—. We have multiple operators running our bus network, as you know, and our coach network now, so we've just got to use bus franchising as a way of being able to integrate them, and integration, integration, integration.

Diolch, Pred. Pob un o'r rhain—. Unwaith eto, mewn perygl o ailadrodd fy hun, mae mor bwysig ein bod ni'n prisio hyn yn iawn a'i fod yn hygyrch i bobl, ac mae pobl yn gwybod bod hwn yn dod yn ddewis sy'n cynnig gwerth llawer gwell am arian na chymryd eich car eich hun ac y bydd yn ddewis gwerth llawer gwell am arian na dewis y trên. Mae'r rhain yn bethau y mae angen i ni fod—. Ac yn enwedig i bobl sydd eisiau mynd â theuluoedd ac ati ar y daith hon hefyd, mae hwn yn ateb a ddylai ddatrys llawer o broblemau pobl. Un o'r grwpiau rwy'n credu y bydd yn debygol o ddefnyddio hyn fydd myfyrwyr, er enghraifft, wrth iddyn nhw deithio ar draws y wlad, felly dyma un o'r cyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig iddyn nhw hefyd.

Mae masnachfreinio bysiau yn rhoi cyfle i ni wneud y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud, a dyma lle mae angen i ni ddygnu arni a gwneud y gwaith caled i wneud yn siŵr bod gennym ni'r tocyn sengl a bod popeth mor weladwy i bobl. Oherwydd ar hyn o bryd, fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'n eithaf anodd i bobl groesi rhwng gwefan A, gwefan B, gwefan C, a gall geisio datrys y pethau hynny ar sgrin fod yn hynod anodd. Fe allwn ni wneud hynny'n llawer haws. Mae'r dechnoleg yn bodoli. Nid yw hyn yn ddyrys. Mae angen i ni gychwyn arni.

Ac mae angen i ni gael popeth—. Mae gennym ni sawl cwmni sy'n rhedeg ein rhwydwaith bysiau, fel y gwyddoch chi, a'n rhwydwaith bysiau nawr, felly mae'n rhaid i ni ddefnyddio masnachfreinio bysiau fel ffordd o allu eu hintegreiddio, ac integreiddio, integreiddio, integreiddio.

17:05

Diolch. Ac yn olaf, Anna Nicholl. 

Thank you. Finally, Anna Nicholl. 

Diolch. Can I warmly welcome your statement today on the north-south express coach service providing much faster connections, not only between north Wales and south Wales, but for communities in west Wales. This is a genuinely exciting opportunity to move towards the kind of cohesive and, as you say, fully integrated transport system that Wales needs. Central to that vision is making sure that no community is left behind, and that people across all parts of Wales are able to access and benefit from these improvements. But for this vision to be truly achieved, we also need good and timely links to connect people living in smaller towns and villages into this express route. So, can you, as Deputy Minister, assure us that these connecting services will be developed and co-designed by local voices?

Diolch. A gaf i groesawu'n gynnes eich datganiad heddiw ar y gwasanaeth bysiau cyflym o'r gogledd i'r de sy'n darparu cysylltiadau llawer cyflymach, nid yn unig rhwng gogledd Cymru a de Cymru, ond i gymunedau yng ngorllewin Cymru. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i symud tuag at y math o system drafnidiaeth gydlynol ac, fel y dywedwch chi, cwbl integredig sydd ei hangen ar Gymru. Yn ganolog i'r weledigaeth honno yw sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl, a bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn gallu cael mynediad at y gwelliannau hyn ac elwa arnyn nhw. Ond er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon mewn gwirionedd, mae angen cysylltiadau da a phrydlon arnom ni hefyd i gysylltu pobl sy'n byw mewn trefi a phentrefi llai i'r llwybr cyflym hwn. Felly, a allwch chi, Ddirprwy Weinidog, ein sicrhau ni y bydd y gwasanaethau cyswllt hyn yn cael eu datblygu a'u cyd-ddylunio gan leisiau lleol?

Thank you for the question, Anna. I completely agree with everything that you just said. I think it's really important—again, I'm using that integration word, because this is huge. This is what will make the difference between this service being a success or otherwise—the ability for people who are not on the direct route to be able to access this. So, this is about working on the routes that fit. We know the times broadly that they're going to be dropping in. We believe this could take about an hour—at least an hour—from the journey, if you were to do it, by multiple bus routes at the moment, it would be up to an hour and a half. So, we know the times they're going be arriving close to those other places, and we just need to make sure that those other places are connected in. And officials in TfW are working on that. Now, this is part of the design that's being worked up today. I think there'll be things that we'll review as we start to build on this process, but reviewing it and learning from it is central for this to be a success. Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn, Anna. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth rydych chi newydd ei ddweud. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn—unwaith eto, rwy'n defnyddio'r gair integreiddio hwnnw, oherwydd mae hyn yn enfawr. Dyma beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddiant y gwasanaeth hwn neu fel arall—y gallu i bobl nad ydyn nhw ar y llwybr uniongyrchol allu cael mynediad at hyn. Felly, mae hyn yn ymwneud â gweithio ar y llwybrau sy'n cysylltu. Rydym ni'n gwybod yr amseroedd yn fras y byddan nhw'n cyrraedd. Rydym ni'n credu y gallai hyn gymryd tua awr—o leiaf awr—o'r daith, pe baech chi'n ei wneud, ar sawl llwybr bws ar hyn o bryd, byddai hyd at awr a hanner. Felly, rydym ni'n gwybod yr amseroedd y byddan nhw'n cyrraedd yn agos at y lleoedd eraill hynny, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y lleoedd eraill hynny wedi'u cysylltu. Ac mae swyddogion yn Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar hynny. Nawr, mae hyn yn rhan o'r dyluniad sy'n cael ei gynllunio heddiw. Rwy'n credu y bydd yna bethau y byddwn ni'n eu hadolygu wrth i ni ddechrau adeiladu ar y broses hon, ond mae ei adolygu a dysgu ohoni yn ganolog i hyn fod yn llwyddiant. Diolch yn fawr.

Diolch, Weinidog. 

Thank you, Minister.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Parodrwydd gaeaf 2026-27 ar gyfer iechyd a gofal
6. Statement by the Cabinet Minister for Health and Care: Health and care winter 2026-27 preparedness

Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: parodrwydd gaeaf 2026-27 ar gyfer iechyd a gofal. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor. 

Statement by the Cabinet Minister for Health and Care: health and care winter preparedness 2026-27. I call on the Cabinet Minister for Health and Care, Mabon ap Gwynfor.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n amlinellu heddiw sut rydyn ni'n paratoi ar gyfer gaeaf 2026-27. Rydyn ni wedi cynnal adolygiad llawn o aeaf 2025-26, a hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i staff ar draws yr NHS, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol am eu hymrwymiad a'u gwydnwch yn ystod gaeaf heriol. Ond mae'n rhaid inni fod yn onest hefyd. Roedd pwysau gweithredol sylweddol yn parhau ac roedd gormod o bobl yn profi oedi o ran cael gofal amserol. Roedd y pwysau hynny i'w weld yn yr oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, amseroedd aros hir mewn adrannau brys, gofal mewn coridorau a chyfnodau parhaus o bwysau dwys. I gleifion, mae'r pwysau hynny'n effeithio ar eu diogelwch, eu profiad a’u canlyniadau.

Fel Llywodraeth newydd, rydyn ni'n cymryd camau newydd i wneud yn siŵr bod gwersi'n cael eu dysgu o'r gaeaf diwethaf, a bod y paratoadau ar gyfer y gaeaf hwn yn digwydd yn gynharach, eu bod nhw’n gryfach a’u bod nhw’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau gwell. Er hynny, mae'r pwysau rydyn ni wedi eu gweld ar draws y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn ystod y cyfnod diweddar o wres eithafol yn ein hatgoffa ni nad her ar gyfer y gaeaf yn unig ydy gwydnwch y system. Mae'r galw a'r risg yn amrywio drwy gydol y flwyddyn, ond yn aml iawn mae modd rhagweld y rhain, boed yn salwch sy'n gysylltiedig â gwres, pwysau salwch anadlol y gaeaf neu ddigwyddiadau byr o benllanw sy'n gysylltiedig â phoblogaethau dros dro.

Dyna pam mae'r Llywodraeth newydd hon yn symud i ddull mwy aeddfed, gydol blwyddyn, gan wneud yn siŵr bod capasiti yn cyd-fynd â'r galw a ragwelir a bod gwasanaethau yn barod ar gyfer pwysau tymhorol ble bynnag y byddan nhw'n codi. Mae hyn yn golygu symud y tu hwnt i ganolbwyntio’n gul ar y gaeaf, gan ddefnyddio dull cynllunio parhaus sy'n seiliedig ar ddata, lle mae modd addasu i risgiau sy'n newid drwy gydol y flwyddyn.

Rydyn ni’n disgwyl i fyrddau iechyd a phartneriaid gynllunio ar sail rhagolygon credadwy ynglŷn â'r galw, addasu capasiti yn gynharach a gweithredu cyn i'r pwysau effeithio ar ofal cleifion. Erbyn 2030, dylai'r dull hwn fod wedi’i ymgorffori'n llawn, fel bod gwasanaethau'n barod, pwysau yn cael eu rhagweld a chleifion yn cael gofal o ansawdd uchel bob dydd, ymhob man. Bydd hynny'n lleihau pwysau dwys y mae modd ei osgoi, yn gwneud yn siŵr bod cleifion yn ddiogel ac yn cryfhau gwydnwch drwy gydol y flwyddyn.

Thank you, Deputy Presiding Officer. Today, I'm setting out how we are preparing for winter 2026-27. We have reviewed winter 2025-26 in full, and I would like to begin by thanking staff across the NHS, local government and social care for their commitment and resilience during a demanding winter. But we must be candid too. Significant operational pressures remained and too many people experienced delays in receiving timely care. Those pressures were visible in ambulance handover delays, long waits in emergency departments, the persistence of corridor care and sustained periods of high pressures. For patients, those pressures affect their safety, their experiences and their outcomes.

As a new Government, we are taking new action to ensure that lessons are learnt from the last winter, and that the preparations for this winter happen earlier, that they are stronger and that they are focused on delivering better outcomes. However, the pressures that we have been seeing across health, social care and wider public services during the recent period of extreme heat are a clear reminder that it is not just in the winter that system resilience is a challenge. Demand and risk vary throughout the year, but are often predictable, whether that's heat-related illness, winter respiratory pressures or peaks linked to transient populations.

That is why this new Government is moving to a more mature year-round approach, aligning capacity with forecast demand and ensuring that services are prepared for seasonal pressures wherever they arise. This means moving beyond a narrow winter focus to continuous data-driven planning that can adapt to changing risks across the year.

We expect health boards and partners to plan against credible demand forecasts, to flex capacity earlier and act before pressure affects patient care. By 2030, this approach should be fully embedded, so that services are prepared, pressures are anticipated and patients receive consistently high-quality care every day, everywhere. That will reduce avoidable escalation, make sure that patients are safe and strengthen resilience throughout the year.

However, Dirprwy Lywydd, I can assure the Senedd that the hard work to ensure that our communities are safe and healthy through the cold of the forthcoming winter has already begun. The clearest lesson from last winter is that resilience depends on reliable capacity in the right parts of the system at the right time, particularly during December and January. This winter, we are putting new measures in place to strengthen planning, delivery and assurance across the whole system. Earlier this month, we set a clear winter improvement aim: safer, more resilient and more person-centred urgent and emergency care. That means reducing time spent at extreme pressure, tackling corridor care, improving hospital flow and strengthening community support, especially for older people and those living with frailty.

We need robust planning now, so the system is ready for high-volume respiratory demand rather than reacting once pressure is entrenched. We have therefore set five new priority areas for health boards and partners.

First, proactive frailty care in the community. Identifying people at greatest risk earlier, and supporting them sooner, can prevent avoidable deterioration, reduce emergency admissions and protect acute capacity for those who need it most. Vaccination remains one of our strongest defences against winter illness. We will act early, target those most at risk, support high uptake among health and care staff, and protect children and vulnerable groups through a comprehensive roll-out. We have already taken action, with the Deputy Minister for Public and Preventative Health introducing an expansion of the respiratory syncytial virus vaccine to those over 65 who are at clinical risk, and a time-limited meningococcal group B vaccination programme. This MenB vaccination programme will provide additional protection for higher risk young people ahead of the winter MenB peak. We will continue to act on the latest scientific advice and provide clear, trusted public information. We will also appoint a national director for out-of-hospital care. Work is under way with NHS Wales Performance and Improvement to design this role, which will drive system and culture change.

Secondly, we must protect acute hospital capacity. This is essential to patient safety, timely emergency care and preventing pressure escalating across the wider system. We are setting clearer expectations to improve ambulance handover through escalation triggers, real-time oversight and targeted support to the most challenged sites. Health boards must provide sufficient acute bed capacity in line with forecast demand. For the first time, NHS P&I will support scenario planning for influenza, respiratory viruses and infection-related pressures, with stronger action to reduce outbreak-related ward closures.

Thirdly, safe discharge without delay is a core winter priority. When people who no longer need acute care can leave hospital promptly, flow improves, the risks associated with prolonged stays are reduced and beds are available for those in greatest clinical need. Health boards will submit new improvement plans next week, setting out how they will prioritise safe early and weekend discharge, supported by seven-day services and strong partnership with community care. We will also strengthen discharge pathways through a home-first approach, step-down care and community rehabilitation, supported by domiciliary care, reablement, community services and care home capacity.

Fourthly, early readiness and strong operational command are vital. We are moving from reactive escalation to proactive system control, with stronger whole-system grip to anticipate and manage pressure before it affects patient safety. For the first time, we have set an expectation that winter plans must be stress tested in September and ready for full delivery when pressures hit. 

Fifth, organisations must support staff well-being and resilience during sustained pressure, including practical arrangements such as transport for essential staff in severe weather. 

Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, gallaf sicrhau'r Senedd bod y gwaith caled i sicrhau bod ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach drwy oerfel y gaeaf sydd i ddod eisoes wedi dechrau. Y wers gliriaf o'r gaeaf diwethaf yw bod gwytnwch yn dibynnu ar gapasiti dibynadwy yn y rhannau cywir o'r system ar yr adeg iawn, yn enwedig yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr. Y gaeaf hwn, rydym ni'n rhoi mesurau newydd ar waith i gryfhau cynllunio, cyflawni a sicrwydd ar draws y system gyfan. Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom ni osod nod clir o wella ar gyfer y gaeaf: gofal brys ac argyfwng mwy diogel, mwy gwydn ac sy'n canolbwyntio'n fwy ar y person. Mae hynny'n golygu lleihau'r amser a dreulir o dan bwysau eithafol, mynd i'r afael â gofalu ar y coridor, gwella llif cleifion drwy'r ysbytai a chryfhau cymorth cymunedol, yn enwedig i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw gydag eiddilwch.

Mae angen cynllunio cadarn nawr, fel bod y system yn barod ar gyfer galw mawr oherwydd heintiau anadlol yn hytrach nag ymateb unwaith y bydd pwysau'n dechrau cynyddu. Felly, rydym ni wedi gosod pum maes blaenoriaeth newydd ar gyfer partneriaid a byrddau iechyd.

Yn gyntaf, gofal eiddilwch rhagweithiol yn y gymuned. Gall nodi pobl sydd â'r risg fwyaf yn gynharach, a'u cefnogi'n gynt, atal dirywiad y gellir ei osgoi, lleihau derbyniadau brys a diogelu capasiti acíwt i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae brechu yn parhau i fod yn un o'n hamddiffynfeydd cryfaf yn erbyn salwch y gaeaf. Byddwn yn gweithredu'n gynnar, yn targedu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl, yn cefnogi brechu ymhlith staff iechyd a gofal, ac yn diogelu plant a grwpiau agored i niwed trwy gyflwyno brechiadau mewn modd cynhwysfawr. Rydym ni eisoes wedi cymryd camau, gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol yn cyflwyno ehangu'r brechlyn firws syncytial anadlol i'r rhai dros 65 oed sydd mewn perygl clinigol, a rhaglen frechu grŵp B meningococol cyfyngedig mewn amser. Bydd y rhaglen frechu MenB hon yn darparu amddiffyniad ychwanegol i bobl ifanc risg uwch cyn cyfnod brig MenB dros y gaeaf. Byddwn yn parhau i weithredu ar y cyngor gwyddonol diweddaraf ac yn darparu gwybodaeth gyhoeddus glir, dibynadwy. Byddwn hefyd yn penodi cyfarwyddwr cenedlaethol ar gyfer gofal y tu allan i'r ysbyty. Mae gwaith ar y gweill gyda Perfformiad a Gwelliant Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i ddylunio'r swydd hon, a fydd yn sbarduno newid system a diwylliant.

Yn ail, mae'n rhaid i ni amddiffyn capasiti acíwt ysbytai. Mae hyn yn hanfodol i ddiogelwch cleifion, gofal brys amserol ac atal pwysau rhag cynyddu ar draws y system ehangach. Rydym ni'n gosod disgwyliadau cliriach i wella trosglwyddo cleifion o'r ambiwlans trwy sbardunau uwchgyfeirio, goruchwyliaeth amser real a chefnogaeth benodol i'r safleoedd sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Rhaid i fyrddau iechyd ddarparu digon o gapasiti gwelyau acíwt yn unol â'r galw a ragwelir. Am y tro cyntaf, bydd uned Perfformiad a Gwelliant y Gwasanaeth Iechyd yn cefnogi cynllunio senarios ar gyfer ffliw, firysau anadlol a phwysau sy'n gysylltiedig â heintiau, gyda chamau cryfach i leihau cau wardiau sy'n gysylltiedig ag achosion.

Yn drydydd, mae rhyddhau diogel heb oedi yn flaenoriaeth graidd ar gyfer y gaeaf. Pan fydd pobl nad oes angen gofal acíwt arnyn nhw bellach yn gallu gadael yr ysbyty yn brydlon, mae'r llif yn gwella, mae'r risgiau sy'n gysylltiedig ag arhosiad hir yn cael eu lleihau ac mae gwelyau ar gael i'r rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf. Bydd byrddau iechyd yn cyflwyno cynlluniau gwella newydd yr wythnos nesaf, gan nodi sut y byddant yn blaenoriaethu rhyddhau diogel yn gynnar ac ar y penwythnos, gyda chefnogaeth gwasanaethau saith diwrnod a phartneriaeth gref gyda gofal cymunedol. Byddwn hefyd yn cryfhau llwybrau rhyddhau trwy ddull cartref yn gyntaf, gofal cam-i-lawr ac adsefydlu cymunedol, gyda chefnogaeth gofal cartref, ailalluogi, gwasanaethau cymunedol a chapasiti cartrefi gofal.

Yn bedwerydd, mae parodrwydd cynnar a gafael gweithredol cryf yn hanfodol. Rydym ni'n symud o uwchgyfeirio adweithiol i reoli'r system yn rhagweithiol, gyda gafael cryfach ar y system gyfan i ragweld a rheoli pwysau cyn iddo effeithio ar ddiogelwch cleifion. Am y tro cyntaf, rydym ni wedi gosod disgwyliad bod yn rhaid i gynlluniau'r gaeaf gael eu profi am straen ym mis Medi ac yn barod i'w cyflawni'n llawn pan fydd y pwysau'n cynyddu.

Yn bumed, rhaid i sefydliadau gefnogi lles a gwydnwch staff yn ystod pwysau parhaus, gan gynnwys trefniadau ymarferol fel cludiant ar gyfer staff hanfodol mewn tywydd garw. 

Mae’n rhaid i fyrddau iechyd a phartneriaid gefnogi a chynnal eu gweithlu, gan wneud yn siŵr bod staff yn cael eu harwain yn dda, yn cael eu defnyddio'n dda ac yn cael eu cefnogi'n briodol fel y gallan nhw barhau i ddarparu gofal diogel ac amserol o dan bwysau. Ddirprwy Lywydd, ni all yr un sefydliad wneud y pethau yma ar ei ben ei hun. Mae gwydnwch y gaeaf yn dibynnu ar gael system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cydweithio'n effeithiol. Rydym ni wedi gosod disgwyliadau clir yn genedlaethol fod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn rhannu gwybodaeth reolaidd am y gwasanaethau sydd ar gael a'u capasiti, gyda chefnogaeth cydweithio gryfach drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae cynlluniau ar gyfer dull cyfathrebu cenedlaethol newydd a chydgysylltiedig yn cael eu datblygu, gyda’r nod o roi cyngor clir i'r cyhoedd ar sut i gael mynediad at ofal, helpu pobl i gael y gefnogaeth iawn y tro cyntaf a lleihau'r pwysau y mae modd ei osgoi ar wasanaethau rheng flaen.

Yn olaf, mi fyddwn ni'n canolbwyntio’n gryf ar gyflawni a chanlyniadau. Mae’n rhaid cael disgwyliadau clir a sicrwydd rheolaidd bod cynlluniau'n arwain at well canlyniadau. Dwi wedi gofyn am asesiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf ar gyfer pob rhanbarth erbyn dechrau'r hydref, a bydd hynny'n llywio unrhyw gamau pellach sydd eu hangen ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.

Mae ein huchelgais yn glir: gofal brys ac argyfwng mwy diogel, sy'n canolbwyntio ar y person ac sy’n wydn. Mi fyddwn ni'n cyflawni hyn drwy leihau cyfnodau o bwysau dwys, mynd i'r afael â gofal mewn coridorau, gwella llif drwy ysbytai a chryfhau gofal cymunedol, yn enwedig i bobl hŷn a'r rheini sy'n byw gyda bregusrwydd. Bydd y system gofal cymunedol integredig yn ganolog i gyflawni'r uchelgais hwnnw, gan gefnogi mwy o wasanaethau cymunedol di-dor fel y gall mwy o bobl aros gartref neu ddychwelyd adref yn gynt ar ôl arhosiad heb ei gynllunio yn yr ysbyty. Bydd hyn yn gofyn am gydweithio parhaus ar draws yr NHS yng Nghymru, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol, ac mi fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod y system yn barod ac yn wydn. Byddaf i'n rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau yn yr hydref.

Health boards and partners must support and sustain their workforce, ensuring that staff are well led, well deployed and properly supported so they can continue to deliver safe and timely care under pressure. Dirprwy Lywydd, none of this can be delivered by one organisation acting alone. Winter resilience depends on the whole health and social care system working together effectively. We have set clear national expectations that health boards and local authorities share regular information on service availability and capacity, supported by stronger joint working through regional partnership boards. Proposals for a new and co-ordinated communications approach are in development, with the aim of giving the public clear advice on how to access care, helping people to get the right support first time and reducing avoidable pressure on front-line services.

Finally, we will maintain a strong focus on delivery and outcomes. Clear expectations are necessary, matched by regular assurance that plans are translating into better outcomes. I have asked for a winter readiness assessment for every region by the early autumn, and that will inform any further action that is needed at a national, regional and local level.

Our ambition is clear: urgent and emergency care that is safer, person-centred and resilient. We will deliver this by reducing escalation, tackling corridor care, improving hospital flow and strengthening community care, particularly for older people and those living with frailty. The integrated community care system will be central to delivering that ambition, supporting more seamless community-based services so that more people can remain at home or return home sooner after an unplanned hospital stay. This will require continued joint working across the NHS in Wales, local government and the voluntary sector, and we will be working closely with partners to ensure that the system is prepared and resilient. I will provide a further update to Members in the autumn.

17:15

I'd like to thank the Cabinet Minister for his statement, and I do welcome the fact that preparations for winter have begun early, because if there's one thing we all know, it's that winter pressures cannot be solved in December when the system is already under strain. But there is a concern that I have with this statement, which is that we've heard much of this before. If I closed my eyes and changed the accent a little bit, I think it could have been the previous health Secretary delivering this statement, because we've heard before about the whole system working together, better flows, early discharge, community support, frailty pathways, vaccination, stronger command and control. Those are all sensible aims, but they will only make a difference if they come with the capacity, the workforce, the funding, the accountability and clear delivery targets, because we've said this year after year: if we do not have those things in place, we will see the same problems that we have. And the figures do show that this was why it matters. In May, there were just over 98,000 attendances at emergency departments in Wales, and only 64 per cent of patients were admitted, transferred or discharged within four hours, when the target is 95 per cent. That's well, well below where it needs to be. And 11,000 of those patients waited 12 hours or more, despite the target being that no patient should wait anywhere near that long. These pressures are not confined to the winter; they're already baked in to the system well before winter begins.

Audit Wales have also warned that urgent and emergency care in Wales is under consistent pressure. Between April 2024 and March 2026, only one in five patients arriving at a hospital by ambulance were handed over within 15 minutes, despite the target being 100 per cent. In March 2026, the average ambulance handover wait was one hour and 38 minutes, and you and I both sat through a statement by the previous health Minister saying that no-one would wait in an ambulance. So, we're not hitting that target—nowhere near it. And this is not safe. It's not safe for patients, it's not fair to the ambulance crews who are left caring for patients outside hospitals, instead of responding to the next emergency that they need to get to. So, I'd like to ask the Cabinet Minister: how are you going to improve this before the winter comes? Because we do not want to start at the low baseline of where we are now.

The Minister also talks about reducing corridor care, and I welcome that, but can he set out how will corridor care be actually measured this winter? How many patients were treated in corridors last winter? We don't have the numbers. What is the baseline and what reduction does he expect to see by January? Because, unless we measure it properly, these is a risk that we simply talk about ending corridor care when patients continue to experience it day after day.

The Minister also talks about protecting hospital capacity. Again, I agree with the principle, but I'd like to know what additional beds will be available this winter, where will they be available and whether they'll be properly staffed. A bed without staff is not capacity, and a winter plan without a workforce is not a winter plan at all. You talked about community teams, but they require more nurses, GPs, interacting with social care. We all know that those areas need additional funding to strengthen community teams, but I didn't hear in the statement if any additional funding was coming there to strengthen the workforce.

On discharge, Audit Wales has highlighted the scale of the issue: 1,400 patients were delayed in hospital for more than 48 hours after they were fit to go home. That has cost the NHS around £172 million. And Audit Wales have said that, if we could just reduce delayed discharges by 15 per cent, £26 million of resource could be put back in to the NHS to help us with winter pressures. So, I ask the Minister: what specific action is being taken with local authorities and social care providers now to increase dom care, reablement, step-down care and care home capacity before the winter hits? It's not enough to say 'home first' if the care package is not there; it's not enough to say 'seven-day discharge' if therapy, pharmacy, transport and social care are not available seven days a week, and it's not enough to tell hospitals to improve the flow if the bottlenecks are sitting outside the hospital walls.

I also welcome the focus on vaccination, but, again, I'd like the detail. What are the uptake targets being set for vaccination? How will the health Minister make sure that the uptake among health and care staff is going to be improved, and what action is he going to take and what measures are going to be taken around that?

The Minister also refers to stress testing. I'll check the time, Deputy Presiding Officer. The Minister refers to stress testing the winter plans in September. That is sensible. But when will he publish the outcomes of those assessments by health board area so Members and the public can rightly see which parts of our health service are prepared for winter and which parts are not—and I'll conclude here—because there needs to be proper accountability? If a health board goes into this winter without enough beds, without a safe discharge pathway, without a workforce plan and without a grip on ambulance handovers, what happens? We see bottlenecks in the system and people not getting the care that they need. So, if the Minister could answer my questions on those, I'd be very grateful. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad, ac rwyf yn croesawu'r ffaith bod paratoadau ar gyfer y gaeaf wedi dechrau'n gynnar, oherwydd os oes un peth rydym i gyd yn ei wybod, y ffaith na ellir datrys pwysau'r gaeaf ym mis Rhagfyr pan mae'r system eisoes dan straen yw hwnnw. Ond mae gen i bryder ynghylch y datganiad hwn, sef ein bod ni wedi clywed llawer o hyn o'r blaen. Pe bawn i'n cau fy llygaid a newid yr acen ychydig, yr Ysgrifennydd iechyd blaenorol allai fod wedi bod yn cyflwyno'r datganiad hwn, oherwydd rydym wedi clywed o'r blaen am y system gyfan yn gweithio gyda'i gilydd, gwell llifoedd, rhyddhau'n gynnar, cymorth cymunedol, llwybrau eiddilwch, brechu, gorchymyn a rheolaeth gryfach. Mae'r rheini i gyd yn nodau synhwyrol, ond dim ond os byddan nhw'n dod gyda'r capasiti, y gweithlu, y cyllid, yr atebolrwydd a'r targedau cyflawni clir y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth, oherwydd rydym wedi dweud hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn: os nad yw'r pethau hynny ar waith gennym, byddwn ni'n gweld yr un problemau ag sydd gennym ni. Ac mae'r ffigurau yn dangos mai dyna pam mae'n bwysig. Ym mis Mai, roedd ychydig dros 98,000 o bresenoldebau mewn adrannau brys yng Nghymru, a dim ond 64 y cant o gleifion gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr, pan mai'r targed yw 95 y cant. Mae hynny ymhell islaw lle y mae angen iddo fod. Ac arhosodd 11,000 o'r cleifion hynny 12 awr neu fwy, er gwaethaf y targed na ddylai unrhyw glaf aros unman yn agos at hynny. Dydy'r pwysau hyn ddim wedi'u cyfyngu i'r gaeaf; maen nhw eisoes wedi'u hymwreiddio yn y system ymhell cyn i'r gaeaf ddechrau.

Mae Archwilio Cymru hefyd wedi rhybuddio bod gofal brys a gofal argyfwng yng Nghymru o dan bwysau cyson. Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2026, dim ond un o bob pump o gleifion a gyrhaeddodd ysbyty mewn ambiwlans a gafodd eu trosglwyddo o fewn 15 munud, er bod y targed yn 100 y cant. Ym mis Mawrth 2026, yr amser cyfartalog ar gyfer trosglwyddo o ambiwlans oedd awr a 38 munud, ac fe eisteddoch chithau a minnau trwy ddatganiad gan y Gweinidog iechyd blaenorol a nododd na fyddai neb yn aros mewn ambiwlans. Felly, dydyn ni ddim yn taro'r targed hwnnw—ddim unman yn agos ato. A dydy hyn ddim yn ddiogel. Dydy e ddim yn ddiogel i gleifion, dydy e ddim yn deg i'r criwiau ambiwlans sy'n cael eu gadael yn gofalu am gleifion y tu allan i ysbytai, yn hytrach nag ymateb i'r argyfwng nesaf y mae angen iddyn nhw fynd iddo. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog Cabinet: sut ydych chi'n mynd i wella hyn cyn i'r gaeaf ddod? Oherwydd dydyn ni ddim eisiau dechrau ar y llinell sylfaen isel yr ydym arni nawr.

Mae'r Gweinidog hefyd yn sôn am leihau'r gofal a roddir mewn coridorau, ac rwy'n croesawu hynny, ond a all nodi sut y bydd gofal mewn coridor yn cael ei fesur y gaeaf hwn? Faint o gleifion gafodd eu trin mewn coridorau y gaeaf diwethaf? Dydy'r niferoedd ddim gennym ni. Beth yw'r llinell sylfaen a pha ostyngiad y mae'n disgwyl ei weld erbyn mis Ionawr? Oherwydd, oni bai ein bod ni'n ei fesur yn iawn, mae risg ein bod ni'n siarad am roi terfyn ar ofal mewn coridor pan fo cleifion yn parhau i'w brofi ddydd ar ôl dydd.

Mae'r Gweinidog hefyd yn sôn am ddiogelu capasiti ysbytai. Unwaith eto, rwy'n cytuno â'r egwyddor, ond hoffwn wybod pa welyau ychwanegol fydd ar gael y gaeaf hwn, ble y byddan nhw ar gael ac a fyddan nhw'n cael eu staffio'n briodol. Dydy gwely heb staff ddim yn gapasiti, a dydy cynllun gaeaf heb weithlu ddim yn gynllun gaeaf o gwbl. Fe wnaethoch chi sôn am dimau cymunedol, ond mae angen mwy o nyrsys, meddygon teulu, rhyngweithio â gofal cymdeithasol. Rydym i gyd yn gwybod bod angen cyllid ychwanegol ar y meysydd hynny i gryfhau timau cymunedol, ond wnes i ddim clywais yn y datganiad a oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn mynd i gael ei roi i gryfhau'r gweithlu.

O ran rhyddhau cleifion, mae Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at raddfa'r broblem: bu'n rhaid i 1,400 o gleifion aros yn yr ysbyty am fwy na 48 awr ar ôl iddyn nhw fod yn ffit i fynd adref. Mae hynny wedi costio tua £172 miliwn i'r GIG. Ac mae Archwilio Cymru wedi dweud, pe baen ni'n gallu lleihau oedi wrth ryddhau cleifion 15 y cant, y gallai £26 miliwn o adnoddau gael eu rhoi yn ôl i'r GIG i'n helpu gyda phwysau'r gaeaf. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog: pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd gydag awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol nawr i gynyddu gofal cartref, ailalluogi, gofal cam-i-lawr a chapasiti cartrefi gofal cyn i'r gaeaf daro? Dydy e ddim yn ddigon i ddweud 'cartref yn gyntaf' os nad yw'r pecyn gofal yno; dydy e ddim yn ddigon i ddweud 'rhyddhau saith diwrnod' os nad yw therapi, fferylliaeth, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol ar gael saith diwrnod yr wythnos, a dydy e ddim yn ddigon i ddweud wrth ysbytai i wella'r llif os yw'r tagfeydd yn eistedd y tu allan i furiau'r ysbyty.

Rwyf hefyd yn croesawu'r ffocws ar frechu, ond, unwaith eto, hoffwn gael y manylion. Beth yw'r targedau derbyn sy'n cael eu gosod ar gyfer brechu? Sut y bydd y Gweinidog iechyd yn sicrhau bod mwy o staff iechyd a gofal yn manteisio ar hyn, a pha gamau y mae'n mynd i'w cymryd a pha fesurau sy'n mynd i gael eu cymryd o gwmpas hynny?

Mae'r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at brofion straen. Fe wnaf i wirio'r amser, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at gynnal profion straen ar gynlluniau'r gaeaf ym mis Medi. Mae hynny'n synhwyrol. Ond pryd y bydd yn cyhoeddi canlyniadau'r asesiadau hynny yn ôl ardal bwrdd iechyd fel y gall Aelodau a'r cyhoedd weld, yn gywir ddigon, pa rannau o'n gwasanaeth iechyd sy'n barod ar gyfer y gaeaf a pha rannau sydd ddim—ac fe wnaf i orffen yn y fan yma—oherwydd mae angen atebolrwydd priodol? Os bydd bwrdd iechyd yn mynd i mewn i'r gaeaf hwn heb ddigon o welyau, heb lwybr rhyddhau diogel, heb gynllun gweithlu a heb fod â rheolaeth dros drosglwyddiadau ambiwlans, beth sy'n digwydd? Rydym yn gweld tagfeydd yn y system a phobl ddim yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Felly, os gallai'r Gweinidog ateb fy nghwestiynau ar y rheini, byddwn i'n ddiolchgar iawn. Diolch yn fawr.

17:20

Dirprwy Lywydd, a number of very pertinent questions there and I'll try my best to go through as many of them as I can in the time I have. And I will be testing your patience, I know, because I have been speaking quite a lot this afternoon. I like the fact that you've welcomed the statement. That's always good to hear. However, once again, I'd push back on what you said about having heard this before, because, clearly, you haven't. We are starting the process earlier. That's not happened previously. We are modelling things like influenza, any influenza outbreak, so that health boards are ready. That's not happened previously. We are planning in advance, not just for this year, but for years in advance. That's not happened. And other parts of the statement are clearly new ways, a new culture that we're introducing in preparing in advance rather than being reactionary.

You're absolutely right that we need to look at corridor care. It is unacceptable. I referenced that in my previous statement and we will be looking at improving data gathering. That's a key part of what we're looking to deliver as a Government, so we do have that baseline and we do identify exactly what we need to do to bring it down. But, as far as corridor care is concerned, we know it's a whole-system approach that we need to introduce earlier in the system, in primary care, and we need to discharge people from hospitals, which brings us to the point that you raised about discharging. That's why we'll be introducing a greater scope of discharging on the weekend so that more people get out of hospitals earlier, because we know that the only reason people should stay in a hospital bed is if they have clinical improvement. If there's no clinical added value to their time in the bed, then we need to get them out of there so that they improve at home.

And when it comes to vaccinations, yes, I am proud of the fact that we will be improving the roll-out. We've already seen that with the Deputy Minister for prevention and primary care ensuring that we've got the funding for menB vaccinations, and we're expanding the RSV roll-out as well. So, that will improve outcomes here in Wales.

Ddirprwy Lywydd, mae yna nifer o gwestiynau perthnasol iawn yn y fan yna ac fe wnaf i geisio fy ngorau i fynd trwy gymaint ohonyn nhw ag y gallaf yn yr amser sydd gennyf. Ac fe fyddaf i'n profi eich amynedd, rwy'n gwybod, oherwydd rwyf wedi bod yn siarad cryn dipyn y prynhawn yma. Rwy'n hoffi'r ffaith eich bod chi wedi croesawu'r datganiad. Mae hynny bob amser yn dda i'w glywed. Fodd bynnag, unwaith eto, byddwn i'n anghytuno â'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am glywed hyn o'r blaen, oherwydd, yn amlwg, dydych chi ddim. Rydym yn dechrau'r broses yn gynharach. Dydy hynny ddim wedi digwydd o'r blaen. Rydym yn modelu pethau fel ffliw, unrhyw achosion o'r ffliw, fel bod byrddau iechyd yn barod. Dydy hynny ddim wedi digwydd o'r blaen. Rydym yn cynllunio ymlaen llaw, nid dim ond ar gyfer eleni, ond am flynyddoedd ymlaen llaw. Dydy hynny ddim wedi digwydd. Ac mae rhannau eraill o'r datganiad yn amlwg yn ffyrdd newydd, diwylliant newydd rydym yn ei gyflwyno wrth baratoi ymlaen llaw yn hytrach na bod yn adweithiol.

Rydych chi'n hollol iawn bod angen i ni edrych ar ofal mewn coridor. Mae'n annerbyniol. Fe gyfeiriais i at hynny yn fy natganiad blaenorol a byddwn ni'n edrych ar wella'r broses o gasglu data. Mae hynny'n rhan allweddol o'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni fel Llywodraeth, fel bod gennym ni'r llinell sylfaen honno a'n bod ni'n nodi'n union beth sydd angen i ni ei wneud i'w ostwng. Ond, o ran gofal mewn coridor, rydym yn gwybod ei fod yn ddull system gyfan y mae angen i ni ei gyflwyno yn gynharach yn y system, mewn gofal sylfaenol, ac mae angen i ni ryddhau pobl o ysbytai, sy'n dod â ni at y pwynt y gwnaethoch chi ei godi ynglŷn â rhyddhau. Dyna pam y byddwn ni'n cyflwyno mwy o gyfle i ryddhau ar y penwythnos fel bod mwy o bobl yn gadael ysbytai yn gynt, oherwydd rydym yn gwybod mai'r unig reswm y dylai pobl aros mewn gwely ysbyty yw os oes gwelliant clinigol. Os nad oes unrhyw werth ychwanegol clinigol yn deillio o'u hamser yn y gwely, yna mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu rhyddhau fel eu bod yn gwella gartref.

Ac o ran brechiadau, ydw, rwy'n falch o'r ffaith y byddwn ni'n gwella'r broses gyflwyno. Rydym eisoes wedi gweld hynny gyda'r Dirprwy Weinidog dros atal a gofal sylfaenol yn sicrhau bod gennym ni'r cyllid ar gyfer brechiadau menB, ac rydym yn ehangu'r broses o gyflwyno RSV hefyd. Felly, bydd hynny'n gwella canlyniadau yma yng Nghymru.

17:25

Minister, can I thank you for your statement? I commend you for bringing the statement forward so early. I think it would be very helpful if your colleagues, particularly those in delivery portfolios, could do so as well. I think winter resilience and adverse weather planning is something that affects many services, and to hear from your colleagues, I think, would be very helpful indeed.

Of course, planning for the winter months extends beyond your core responsibilities; it is dependent on a number of other Ministers making plans and enhancing provision wherever and whenever necessary. For example, alleviating pressure on secondary care is dependent on making sure that the roads are open and clear during winter months. It's about making sure that local authorities are well equipped to be able to deal with pressures in social care. In terms of education, if staff can't stay and work because their children are off school because of adverse weather, then it affects the provision and capacity of human resource in hospitals. And then, of course, vaccinations in schools will influence the degree of pressure that the NHS is under as well. So, knowing from the education Minister what plans are in place to maximise the uptake of vaccinations in schools would be very helpful. Likewise, third sector support. It's vitally important too that the commercial sector is engaged fully in terms of planning for the winter, and I'm thinking specifically pharmacies across Wales, who do so much for patients and who do so much to alleviate pressure on core NHS services.

Now, it would be helpful, I do believe, to have a cross-Government adverse weather and winter preparedness plan because of the interdependencies across portfolios. I think, also, the role of GPs during winter months cannot be overstated; they become so acutely important in making sure that people who don't need to be admitted to hospitals are able to be treated. So, it would be very helpful to know what discussions have taken place with the British Medical Association over excessive workloads suffered by GPs and how they can be supported through winter months.

James Evans asked many of my other questions that I was going to raise, and I'm grateful for the answers. But I think it would be very helpful to know whether any additional financial support is being made available to support the measures, the additional measures, that you've outlined today.

Finally, of course, it's vitally important that we keep people in warm homes to avoid the need for admission to hospitals. So, it'd be very beneficial, I think, to hear from your colleague, the Minister for social justice, in terms of any support from Welsh Government this winter to ensure that people don't suffer from cold homes. Diolch.

Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad? Rwy'n eich canmol am gyflwyno'r datganiad mor gynnar. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai eich cyd-Aelodau, yn enwedig y rhai sydd â phortffolios cyflawni, wneud hynny hefyd. Rwy'n credu bod gwydnwch rhag pwysau'r gaeaf a chynllunio ar gyfer tywydd garw yn rhywbeth sy'n effeithio ar lawer o wasanaethau, a byddai'n ddefnyddiol iawn, yn fy marn i, i ni glywed gan eich cyd-Aelodau.

Wrth gwrs, mae cynllunio ar gyfer misoedd y gaeaf yn ymestyn y tu hwnt i'ch cyfrifoldebau craidd; mae'n dibynnu ar nifer o Weinidogion eraill yn gwneud cynlluniau ac yn gwella'r ddarpariaeth lle bynnag a phryd bynnag y bo angen. Er enghraifft, mae lleddfu pwysau ar ofal eilaidd yn dibynnu ar sicrhau bod y ffyrdd ar agor ac yn glir yn ystod misoedd y gaeaf. Mae'n ymwneud â sicrhau bod awdurdodau lleol wedi'u paratoi'n dda i allu delio â phwysau ym maes gofal cymdeithasol. O ran addysg, os na all staff aros a gweithio am fod eu plant i ffwrdd o'r ysgol oherwydd tywydd garw, yna mae'n effeithio ar y ddarpariaeth a'r capasiti adnoddau dynol mewn ysbytai. Ac yna, wrth gwrs, bydd brechiadau mewn ysgolion yn dylanwadu ar faint o bwysau fydd ar y GIG hefyd. Felly, byddai gwybod gan y Gweinidog addysg pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod cymaint â phosibl o frechiadau yn cael eu rhoi mewn ysgolion yn ddefnyddiol iawn. Yn yr un modd, cymorth y trydydd sector. Mae'n hanfodol bwysig hefyd fod y sector masnachol yn ymwneud yn llawn â'r gwaith o gynllunio ar gyfer y gaeaf, ac rwy'n meddwl yn benodol am fferyllfeydd ledled Cymru, sy'n gwneud cymaint dros gleifion ac sy'n gwneud cymaint i leddfu'r pwysau ar wasanaethau craidd y GIG.

Nawr, byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i gael cynllun traws-lywodraethol ar gyfer tywydd garw a pharodrwydd ar gyfer y gaeaf oherwydd y rhyng-ddibyniaethau ar draws portffolios. Rwy'n credu, hefyd, na ellir gorbwysleisio rôl meddygon teulu yn ystod misoedd y gaeaf; maen nhw mor bwysig wrth wneud yn siŵr bod pobl nad oes angen iddyn nhw gael eu derbyn i ysbytai yn gallu cael eu trin. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ynghylch y llwyth gwaith gormodol sydd gan feddygon teulu a sut y gellir eu cefnogi trwy fisoedd y gaeaf.

Fe ofynnodd James Evans lawer o'r cwestiynau eraill roeddwn i'n mynd i'w codi, ac rwy'n ddiolchgar am yr atebion. Ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod a oes unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gael i gefnogi'r mesurau, y mesurau ychwanegol, yr ydych wedi'u hamlinellu heddiw.

Yn olaf, wrth gwrs, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n cadw pobl mewn cartrefi cynnes er mwyn osgoi'r angen iddyn nhw gael eu derbyn i ysbytai. Felly, byddai'n fuddiol iawn, rwy'n credu, i glywed gan eich cyd-Aelod, y Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol, ynghylch unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru y gaeaf hwn i sicrhau nad yw pobl yn dioddef o gartrefi oer. Diolch.

Ddirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiynau yna.

Thank you very much to the Member for those questions.

Thank you for those points that you raised. And it is a very important point that you raised; the thread of your contribution is about ensuring that we work cross-Government, breaking down those silos and making sure that everybody plays a role in ensuring that people have improved outcomes and are looked after over the winter. And that's a mission of this Government—that we are breaking down those silos. I made a statement to Cabinet on our winter preparedness. So, each Cabinet Member is aware of what we're doing and is taking responsibility for their role in ensuring that each department is preparing for winter. And we've got the Minister for delivery and the Deputy Minister for preventative health working across portfolios on ensuring that we deliver on these issues.

What you mentioned about the GPs—. There is an excessive workload for GPs. We know that we are below where we need to be with regard to GP numbers in Wales. There's a broader question around support for GPs, and that's why we are putting together a package to help GPs in Wales, which will include recruiting an extra 100 GPs across Wales to help alleviate the burdens and the strains that they are suffering under. But it will also include things around helping with the GP estate and ensuring that they have got the support in place to allow them to do the work that they want to do, which is looking after patients.

When it comes to extra funding, we've already made an announcement on the menB vaccinations, and that will be rolled out soon as well.

Diolch am y pwyntiau hynny a godwyd gennych. Ac mae'n bwynt pwysig iawn y gwnaethoch ei godi; mae llinyn eich cyfraniad yn ymwneud â sicrhau ein bod ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth, yn chwalu'r seilos hynny ac yn gwneud yn siŵr bod pawb yn chwarae rôl wrth sicrhau bod pobl yn cael canlyniadau gwell ac yn derbyn gofal dros y gaeaf. Ac mae hynny'n genhadaeth i'r Llywodraeth hon—ein bod ni'n chwalu'r seilos hynny. Fe wnes i ddatganiad i'r Cabinet ar ein parodrwydd ar gyfer y gaeaf. Felly, mae pob Aelod o'r Cabinet yn ymwybodol o'r hyn rydym yn ei wneud ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu rôl wrth sicrhau bod pob adran yn paratoi ar gyfer y gaeaf. Ac mae gennym y Gweinidog cyflawni a'r Dirprwy Weinidog dros iechyd ataliol yn gweithio ar draws portffolios i sicrhau ein bod ni'n cyflawni ar y materion hyn.

Yr hyn y gwnaethoch ei grybwyll am y meddygon teulu—. Mae yna lwyth gwaith gormodol i feddygon teulu. Rydym yn gwybod ein bod ni'n is na lle mae angen i ni fod o ran niferoedd meddygon teulu yng Nghymru. Mae cwestiwn ehangach ynglŷn â chymorth i feddygon teulu, a dyna pam rydym yn llunio pecyn i helpu meddygon teulu yng Nghymru, a fydd yn cynnwys recriwtio 100 o feddygon teulu ychwanegol ledled Cymru i helpu i leddfu'r beichiau a'r straen y maent yn dioddef oddi tanyn nhw. Ond bydd hefyd yn cynnwys pethau fydd yn helpu gyda'r ystad meddygon teulu ac yn sicrhau bod cymorth ar gael i'w galluogi i wneud y gwaith maen nhw eisiau ei wneud, sef gofalu am gleifion.

O ran cyllid ychwanegol, rydym eisoes wedi gwneud cyhoeddiad ar y brechiadau menB, a bydd hynny'n cael ei gyflwyno'n fuan hefyd.

Thank you, Cabinet Minister, for your statement today. I welcome the fact, also, that the statement has been tabled well in advance, before the height of winter, and that there's talk of having a robust plan before the winter months are upon us. It's a refreshing change from the previous Government's timetable, when we got to hear about preparedness in October.

Whilst I note the Cabinet Minister's five main aims outlined in the statement for the NHS and social care plan ahead for winter pressures, we also need three fundamental things: we need workforce, we need infrastructure and we need good data. Cabinet Minister, we've heard many times from the NHS that pressures are not just in winter, they're all year round, and I appreciate that you echoed that in your statement as well. 

We all know that a lack of staff across all sectors in the NHS has created untold strain on the workforce, and this has a direct impact on patient care. I note that you've mentioned health boards must sustain and support their workforce, but just last week, Healthcare Inspectorate Wales found that whilst dementia patients were treated with kindness and respect at Llandough hospital, there were poor standards of cleanliness, environmental hazards, and also weaknesses in infection prevention. The reason for this? Lack of staff.

We've seen recruitment freezes in paramedics and that half of nursing graduates are unlikely to gain employment. The Royal College of Radiologists have said that parts of Wales face some of the most severe shortages of cancer specialists anywhere in the United Kingdom, and last week, the Royal College of Nursing and the Royal College of Midwives also released damning figures that highlight the dire situation that the Welsh NHS workforce is indeed facing. For example, 306 student nurses due to graduate in September have not been allocated a position in the Welsh NHS. Even more midwives who have recently trained won't be offered a role. For example, 36 graduates in Cardiff and Vale won't get roles because midwives from last year were provided with full-time hours, due to lack of funding from the Welsh Government. Some midwives have been forced to hold down part-time jobs in hospitality to cover their costs. Frankly, this is farcical. In light of this, the Royal College of Nursing has called for immediate action, including greater transparency with workforce planning and better co-ordination between the NHS and the Welsh Government.

I really do welcome that you will publish the first-phase workforce plan in the autumn. How will you work winter pressures and preparedness into your plan, Cabinet Minister? Because I really don't want to hear about another summit having to take place after this.

On infrastructure, Cabinet Minister, your immediate reaction to genuine concerns about the crumbling NHS estate last week was to demand costings from the opposition benches. While we are seeing cases where A&Es are closing due to water-supply issues, operations are cancelled because theatres have pigeon infestations, and there are ward closures because of repeated norovirus incidents—I've raised this earlier today—what plans are you undertaking to tackle the serious and immediate concern that's right here, right now?

I know that health boards are struggling financially, as well as through the lack of staff and poor infrastructure that I've spoken upon. You have inherited an appallingly run public service from the previous Welsh Government, Minister—I can't deny that—where health boards are still not recovered from the pandemic six years ago, and all of them are in some form of Government intervention. You've mentioned the extra funding of £100 million to tackle waiting lists. However, six of seven health boards projected a deficit by the end of last March. The total projected savings health boards have to make is a grand total of £213 million, and one health board, Swansea bay, has projected a £76.6 million deficit for next year.

Cabinet Secretary, the reality is this: health boards are currently redesigning services, including downgrading and closures, to save money. How well do you think these new services will fare during the winter months? How do you think A&E services will cope this winter in areas where patients are more likely to go if they don't have any alternatives?

Cabinet Minister, another part of tackling winter pressures is data. From GP appointments and hospital referrals to prescriptions, a system that runs smoothly is needed here in Wales. However, Digital Health and Care Wales, which runs the system, is in targeted intervention and regularly crashes. According to the British Medical Association, these can be—and I'm quoting these words now—

'extraordinarily disruptive for practices and for patients...and can take hours to recover from.'

So, Cabinet Minister, in your response to our debate last week, I noticed that you mentioned the need for technology to support NHS staff. Sadly, in this case, it's just not working right now. Therefore, Cabinet Minister, as part of your planning, what immediate steps are you taking to ensure that even the basic functions of Digital Health and Care Wales are running smoothly over the winter months?

Finally, Cabinet Minister, a major driver of winter pressures is lung conditions. I note you've mentioned scenario planning for hospitals to prevent ward infection, however, as an overall point, Asthma and Lung UK Cymru have said that respiratory admissions are 40 per cent higher in winter, and over the last 20 years, hospital admissions for respiratory illnesses have doubled. Six thousand respiratory admissions are for children each winter, with one in four admissions involving a child under 10. Sadly, Cabinet Minister, many of these issues arise because basic care is lacking. Less than a quarter of adults and a third of children receive adequate care. Furthermore, these admissions have been described as avoidable and increasingly expensive, placing more burdens on our NHS here in Wales.

So, Cabinet Minister, I welcome your comments on increased vaccinations in your statement, but what messaging will your Government be giving on vaccines and prevention going forward, and will you be investing in diagnostic capacity for early intervention on respiratory conditions? Thank you.

Diolch, Weinidog Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith, hefyd, fod y datganiad wedi'i gyflwyno ymhell ymlaen llaw, cyn anterth y gaeaf, a bod sôn am gael cynllun cadarn cyn i ni ddod at fisoedd y gaeaf. Mae'n newid braf o amserlen y Llywodraeth flaenorol, pan gawson ni glywed am barodrwydd ym mis Hydref.

Er fy mod i'n nodi pum prif nod y Gweinidog Cabinet a amlinellir yn y datganiad ar gyfer cynllun y GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer pwysau'r gaeaf, mae angen tri pheth sylfaenol arnom hefyd: mae angen gweithlu arnom, mae angen seilwaith arnom ac mae angen data da arnom. Weinidog Cabinet, rydym wedi clywed sawl gwaith gan y GIG bod yna bwysau trwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn y gaeaf, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi adleisio hynny yn eich datganiad hefyd. 

Rydym i gyd yn gwybod bod diffyg staff ar draws pob sector yn y GIG wedi creu straen aruthrol ar y gweithlu, ac mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ofal cleifion. Rwy'n nodi eich bod chi wedi sôn bod yn rhaid i fyrddau iechyd gynnal a chefnogi eu gweithlu, ond dim ond yr wythnos diwethaf, gwnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfod, er bod cleifion dementia yn cael eu trin gyda charedigrwydd a pharch yn ysbyty Llandochau, roedd safonau glendid gwael, peryglon amgylcheddol, a gwendidau hefyd o ran atal heintiau. Y rheswm am hyn? Diffyg staff.

Rydym wedi gweld bod recriwtio parafeddygon wedi'i rewi a bod hanner y graddedigion nyrsio yn annhebygol o gael gwaith. Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr wedi dweud bod rhannau o Gymru yn wynebu rhai o'r prinderau mwyaf difrifol o arbenigwyr canser unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a'r wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd hefyd ffigurau damniol sy'n tynnu sylw at y sefyllfa enbyd y mae gweithlu GIG Cymru yn ei hwynebu. Er enghraifft, nid yw 306 o fyfyrwyr nyrsio fydd yn graddio ym mis Medi wedi cael swydd yn y GIG yng Nghymru. Ni fydd hyd yn oed mwy o fydwragedd sydd wedi hyfforddi'n ddiweddar yn cael cynnig rôl. Er enghraifft, ni fydd 36 o raddedigion yng Nghaerdydd a'r Fro yn cael rolau oherwydd bod bydwragedd o'r llynedd wedi cael oriau llawn amser, oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae rhai bydwragedd wedi cael eu gorfodi i ymgymryd â swyddi lletygarwch rhan-amser i dalu eu costau. A bod yn onest, mae hyn yn hurt. Yng ngoleuni hyn, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi galw am weithredu ar unwaith, gan gynnwys mwy o dryloywder ynghylch y ffordd y caiff y gweithlu ei gynllunio a gwell cydlynu rhwng y GIG a Llywodraeth Cymru.

Rwyf wir yn croesawu'r ffaith y byddwch chi'n cyhoeddi cam cyntaf cynllun y gweithlu yn yr hydref. Sut fyddwch chi'n cynnwys pwysau'r gaeaf a pharodrwydd ar gyfer y gaeaf yn eich cynllun, Weinidog Cabinet? Oherwydd dydw i wir ddim eisiau clywed am uwchgynhadledd arall yn gorfod digwydd ar ôl hyn.

O ran seilwaith, Weinidog Cabinet, eich ymateb uniongyrchol i bryderon gwirioneddol am ystad adfeiliedig y GIG yr wythnos diwethaf oedd mynnu costau gan feinciau'r wrthblaid. Tra rydym yn gweld achosion lle mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn cau oherwydd problemau cyflenwi dŵr, mae llawdriniaethau'n cael eu canslo oherwydd bod gan theatrau blâu colomennod, ac mae wardiau yn cau oherwydd achosion o norofeirws dro ar ôl tro—rwyf wedi codi hyn yn gynharach heddiw—pa gynlluniau ydych chi'n eu gwneud i fynd i'r afael â'r pryder difrifol ac uniongyrchol sydd yma nawr?

Rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn wynebu trafferthion ariannol, yn ogystal â thrafferthion oherwydd diffyg staff a'r seilwaith gwael rwyf wedi siarad amdanyn nhw. Rydych chi wedi etifeddu gwasanaeth cyhoeddus a gafodd ei redeg yn ofnadwy gan Lywodraeth flaenorol Cymru, Weinidog—allaf i ddim gwadu hynny—lle mae byrddau iechyd yn dal i adfer o'r pandemig chwe blynedd yn ôl, ac mae pob un ohonyn nhw'n destun rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Rydych chi wedi sôn am y cyllid ychwanegol o £100 miliwn i fynd i'r afael â rhestrau aros. Fodd bynnag, roedd chwech o'r saith bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg erbyn diwedd mis Mawrth diwethaf. Cyfanswm yr arbedion y rhagwelir y mae angen i fyrddau iechyd eu gwneud yw cyfanswm o £213 miliwn, ac mae un bwrdd iechyd, Bae Abertawe, wedi rhagweld diffyg o £76.6 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ysgrifennydd Cabinet, y realiti yw hyn: mae byrddau iechyd wrthi'n ailgynllunio gwasanaethau, gan gynnwys israddio a chau, er mwyn arbed arian. Pa mor dda ydych chi'n meddwl y bydd y gwasanaethau newydd hyn yn gwneud yn ystod misoedd y gaeaf? Sut ydych chi'n meddwl y bydd gwasanaethau adrannau damweiniau ac achosion brys yn ymdopi y gaeaf hwn mewn ardaloedd lle mae cleifion yn fwy tebygol o fynd os nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewisiadau eraill?

Weinidog Cabinet, rhan arall o fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf yw data. O apwyntiadau meddygon teulu ac atgyfeiriadau at ysbytai i bresgripsiynau, mae angen system sy'n rhedeg yn llyfn yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy'n rhedeg y system, mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ac mae'n chwalu'n rheolaidd. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, gall y rhain—ac rwy'n dyfynnu'r geiriau hyn nawr, fod yn—

'aflonyddgar iawn i bractisau ac i gleifion...a gall gymryd oriau i adfer ohonynt.'

Felly, Weinidog Cabinet, yn eich ymateb i'n dadl yr wythnos diwethaf, sylwais eich bod wedi sôn bod angen technoleg i gefnogi staff y GIG. Yn anffodus, yn yr achos hwn, dydy e ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Felly, Weinidog Cabinet, fel rhan o'r cynllunio rydych chi'n ei wneud, pa gamau uniongyrchol ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod hyd yn oed swyddogaethau sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn rhedeg yn esmwyth dros fisoedd y gaeaf?

Yn olaf, Weinidog Cabinet, un o'r prif bethau sy'n achosi pwysau'r gaeaf yw cyflyrau'r ysgyfaint. Rwy'n nodi eich bod chi wedi sôn am gynllunio senarios ar gyfer ysbytai i atal heintiau ar y ward, fodd bynnag, fel pwynt cyffredinol, mae Asthma and Lung UK Cymru wedi dweud bod derbyniadau anadlol 40 y cant yn uwch yn y gaeaf, a thros yr 20 mlynedd diwethaf, mae derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer salwch anadlol wedi dyblu. Mae 6,000 o dderbyniadau anadlol bob gaeaf yn ymwneud â phlant, gydag un o bob pedwar derbyniad yn ymwneud â phlentyn o dan 10 oed. Yn anffodus, Weinidog Cabinet, mae llawer o'r materion hyn yn codi oherwydd bod diffyg gofal sylfaenol. Mae llai na chwarter o oedolion a thraean o blant yn derbyn gofal digonol. At hynny, mae'r derbyniadau hyn wedi cael eu disgrifio fel rhai y gellir eu hosgoi a rhai sy'n fwyfwy drud, gan roi mwy o faich ar ein GIG yma yng Nghymru.

Felly, Weinidog Cabinet, rwy'n croesawu eich sylwadau ar fwy o frechiadau yn eich datganiad, ond pa negeseuon y bydd eich Llywodraeth yn eu rhoi ar frechlynnau ac atal yn y dyfodol, ac a fyddwch chi'n buddsoddi mewn capasiti diagnostig ar gyfer ymyrraeth gynnar ar gyflyrau anadlol? Diolch.

17:30

Thank you for those points that you raised, Natasha. Dirprwy Lywydd, it's always nice to hear kind words at the beginning of every contribution, and once again, I welcome the warm words received from Natasha.

There are a couple of fundamental points in the contribution that she raised that I would align myself with, including the need to identify the workforce demands within the system. We've identified the problems in workforce planning quite clearly. That's why we've said that we will be developing the workforce plan, a comprehensive workforce plan, for the whole of the NHS, so that we are clear where staff are required, at what time, to do what. So, that high-level workforce plan will be delivered, as I said, in the early autumn, so that we can identify where those people need to be during that winter period.

But, during the contribution, the Member talked about the issue with the graduates. I don't want to repeat myself again, because I've discussed the issue around the graduate summit a number of times and how the issue with the graduates is not acceptable, but it relates to 2022, and it will take some time to work through the system. So, we are doing everything we can to work with representative bodies—Health Education and Improvement Wales and the health boards—to try and make sure that this doesn't happen again, and that as many places are found for these graduates as possible, because a promise was made to them, and we need to try and resolve the problem, which we inherited, and honour as much of those promises as possible.

Once again, the Member spoke about what we inherited, in this instance with the estate, and it's a £1.5 billion backlog. We've been clear once again that our priority is to fix the urgent parts of that backlog, and that's why, through our capital expenditure budget, we are working at pace to resolve as many of those as possible. The same applies to the tech. We saw last week, with the extreme heat that we had, some issues around diagnostics not being able to function properly because of the heat, and we know that will happen again when it comes to winter, so we have to make sure that we've got improved diagnostic systems. That's why we've announced the £20 million for improving the diagnostics, and the theatre spaces, and some of the backlog that we've got when it comes to the waiting lists, to make sure that we've got those up to date as much as possible.

And when it comes to lung infections, absolutely, you're right: it is a big problem in the winter. That's why we're working, breaking those silos down, as I mentioned earlier, working across Government with the Deputy Minister for Public and Preventative Health, working with the Minister for Local Government, Housing and Planning, making sure that we have retrofitting introduced at speed. But, in the short term, we need to make sure that people with asthma have those asthma plans, that they're up to date, that they make sure that they function and that they've got the pumps that are required, so that they don't suffer in the winter.

Diolch am y pwyntiau hynny a godwyd gennych, Natasha. Ddirprwy Lywydd, mae bob amser yn braf clywed geiriau caredig ar ddechrau pob cyfraniad, ac unwaith eto, rwy'n croesawu'r geiriau cynnes a gafwyd gan Natasha.

Mae yna ambell bwynt sylfaenol a gododd yn y cyfraniad y byddwn i'n cytuno â nhw, gan gynnwys yr angen i nodi gofynion y gweithlu o fewn y system. Rydym wedi nodi'r problemau wrth gynllunio'r gweithlu yn eithaf clir. Dyna pam rydym wedi dweud y byddwn ni'n datblygu cynllun y gweithlu, cynllun cynhwysfawr ar gyfer y gweithlu, ar gyfer y GIG cyfan, fel ein bod ni'n glir ynghylch ble mae angen staff, ar ba adeg, i wneud beth. Felly, bydd y cynllun gweithlu lefel uchel hwnnw yn cael ei gyflwyno, fel y dywedais i, yn gynnar yn yr hydref, fel y gallwn ni nodi ble mae angen i'r bobl hynny fod yn ystod y cyfnod yna yn y gaeaf.

Ond, yn ystod y cyfraniad, soniodd yr Aelod am y mater ynghylch y graddedigion. Dydw i ddim eisiau ailadrodd fy hun eto, oherwydd rwyf wedi trafod mater yr uwchgynhadledd graddedigion sawl gwaith a'r ffaith nad yw'r mater sy'n ymwneud â'r graddedigion yn dderbyniol, ond mae'n ymwneud â 2022, ac fe fydd yn cymryd peth amser i weithio drwy'r system. Felly, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda chyrff cynrychioliadol—Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r byrddau iechyd—i geisio gwneud yn siŵr na fydd hyn yn digwydd eto, a bod cymaint o leoedd â phosibl yn cael eu canfod ar gyfer y graddedigion hyn, oherwydd cafodd addewid ei wneud iddyn nhw, ac mae angen i ni geisio datrys y broblem, a etifeddwyd gennym, ac anrhydeddu cymaint o'r addewidion hynny â phosibl.

Unwaith eto, soniodd yr Aelod am yr hyn a etifeddwyd gennym, o ran yr ystad yn yr achos hwn, ac mae'n ôl-groniad o £1.5 biliwn. Rydym wedi bod yn glir unwaith eto mai ein blaenoriaeth yw trwsio rhannau brys yr ôl-groniad hwnnw, a dyna pam, trwy ein cyllideb gwariant cyfalaf, rydym yn gweithio'n gyflym i ddatrys cymaint o'r rheini â phosibl. Mae'r un peth yn wir am y dechnoleg. Fe welson ni yr wythnos diwethaf, gyda'r gwres eithafol a gawson ni, rhai problemau ynghylch diagnosteg yn methu â gweithredu'n iawn oherwydd y gwres, ac rydym yn gwybod y bydd hynny'n digwydd eto pan ddaw i'r gaeaf, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym systemau diagnostig gwell. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi'r £20 miliwn i wella diagnosteg, a'r gofodau theatr, a rhywfaint o'r ôl-groniad sydd gennym o ran y rhestrau aros, i wneud yn siŵr bod y rheini mor gyfredol â phosibl.

Ac o ran heintiau yr ysgyfaint, yn sicr, rydych chi'n iawn: mae'n broblem fawr yn y gaeaf. Dyna pam rydym yn gweithio, yn chwalu'r seilos hynny i lawr, fel y soniais i yn gynharach, yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, yn gweithio gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno ôl-ffitio yn gyflym. Ond, yn y tymor byr, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan bobl ag asthma y cynlluniau asthma hynny, eu bod yn gyfredol, eu bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn gweithredu a bod ganddyn nhw'r pympiau sydd eu hangen, fel nad ydyn nhw'n dioddef yn y gaeaf.

17:35

Diolch. Cwestiynau hyd at un funud, Becca Martin.

Thank you. Questions up to one minute, Becca Martin.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. I welcome the Cabinet Minister's statement and the emphasis on planning ahead for seasonal pressures. As said, the most effective way of protecting NHS capacity is to prevent illness and hospital admissions in the first place. In my constituency of Clwyd, families are served by Betsi Cadwaladr University Health Board, and so I thank the Minister for his previous statement. Like every part of Wales, the region faces significant winter pressures each year, and we know that vaccination programmes are one of the most cost-effective interventions available to reduce demand on GP practices, urgent care and hospitals.

Public Health Wales figures show that flu vaccine uptake amongst two and three-year-olds across Wales was just 43.7 per cent last winter. More than 34,000 eligible children were not vaccinated, despite young children playing a major role in the spread of flu through families and communities. Whilst Betsi Cadwaladr actively does encourage all eligible two and three-year-olds to receive the nasal spray vaccine through their GP practices, the uptake is still relatively low. Can the Minister outline what work is being undertaken with health boards and primary care to ensure capacity for the pre-school flu vaccination programme, and what additional efforts will be made to encourage parents of two and three-year-olds to take up the offer? 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog Cabinet a'r pwyslais ar gynllunio ymlaen llaw ar gyfer pwysau tymhorol. Fel y dywedwyd, y ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu capasiti'r GIG yw atal salwch a derbyniadau i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Yn fy etholaeth i, Clwyd, mae teuluoedd yn cael eu gwasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac felly hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad blaenorol. Fel pob rhan o Gymru, mae'r rhanbarth yn wynebu pwysau sylweddol yn y gaeaf bob blwyddyn, ac rydym yn gwybod mai rhaglenni brechu yw un o'r ymyriadau mwyaf costeffeithiol sydd ar gael i leihau'r galw ar bractisau meddygon teulu, gofal brys ac ysbytai.

Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai dim ond 43.7 y cant o blant dwy a thair oed yng Nghymru gafodd y brechlyn ffliw y gaeaf diwethaf. Ni chafodd mwy na 34,000 o blant cymwys eu brechu, er bod plant ifanc yn chwarae rôl sylweddol wrth ledaenu'r ffliw trwy deuluoedd a chymunedau. Er bod Betsi Cadwaladr yn mynd ati i annog pob plentyn dwy a thair oed cymwys i gael y brechlyn chwistrell trwynol trwy eu practisau meddygon teulu, mae'r nifer sy'n manteisio ar hynny yn gymharol isel o hyd. A all y Gweinidog amlinellu pa waith sy'n cael ei wneud gyda byrddau iechyd a gofal sylfaenol i sicrhau capasiti ar gyfer y rhaglen brechu rhag y ffliw cyn-ysgol, a pha ymdrechion ychwanegol fydd yn cael eu gwneud i annog rhieni plant dwy a thair oed i fanteisio ar y cynnig? 

Some good news on what was said: the latest Public Health Wales estimates point to an uptake of 46.1 per cent for children aged two and three years, which is an increase of 2.5 per cent, alongside an estimated additional 150,000 influenza vaccinations that were given across all eligible cohorts last year, compared with the previous year.

But on the specific point that the Member raised, all health boards are developing plans to address inequality in vaccine uptake, and this includes local arrangements for delivery in nursery settings in many areas. The Welsh Government will be directing that children should be vaccinated as early as possible in September, with a concerted drive to deliver children's vaccinations by the end of November. The Welsh Government, alongside our NHS partners, is committed to continuing this positive improvement in vaccination uptake and ensuring the effective delivery of the flu programme this year.

Rhywfaint o newyddion da am yr hyn a ddywedwyd: mae amcangyfrifon diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 46.1 y cant o blant dwy a thair oed wedi cael y brechiad, sy'n gynnydd o 2.5 y cant, ochr yn ochr ag amcangyfrif o 150,000 o frechiadau ffliw ychwanegol a roddwyd ar draws yr holl garfannau cymwys y llynedd, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ond ar y pwynt penodol a gododd yr Aelod, mae pob bwrdd iechyd yn datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb wrth fanteisio ar frechlynnau, ac mae hyn yn cynnwys trefniadau lleol ar gyfer eu darparu mewn lleoliadau meithrin mewn sawl ardal. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo y dylai plant gael eu brechu cyn gynted â phosibl ym mis Medi, gydag ymgyrch ar y cyd i roi brechiadau i blant erbyn diwedd mis Tachwedd. Mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'n partneriaid yn y GIG, wedi ymrwymo i barhau â'r gwelliant cadarnhaol hwn yn y niferoedd sy'n cael eu brechu a sicrhau bod y rhaglen ffliw yn cael ei chyflawni'n effeithiol eleni.

17:40

Cabinet Minister, again, I echo my colleague's thoughts. Thank you again for your early statement and your ambitions and expectations. When you addressed the Siambr a few weeks ago, you said that the NHS had reached one of the most precarious points in its history. You promised to move beyond what you called 'short-term sticking-plaster solutions' and deliver lasting reform, and I'm sure we all value your determination. 

Unfortunately, winter has developed an annoying habit of refusing to read the Government's press releases and we're all well versed in ministerial assurances that the NHS is ready, even though we won't know that until the winter readiness assessment in the autumn. Every year, we see the familiar pressures: ambulances waiting outside hospitals, emergency departments under unacceptable strain, rushed discharges and planned operations postponed. I'm sure everybody here hopes that the proposals succeed, but good intentions, ambitions and expectations don't keep ambulances moving or patients out of corridors. The test of a winter plan isn't how ambitious it sounds in June, it's whether patients notice any difference when pressure is at its highest in January.

So, Minister, how will you demonstrate that the proposals are working? What interim milestones will you use to monitor whether the winter plan is succeeding? What trigger points have you identified that would indicate the NHS is coming under unacceptable pressure, and what additional support will be deployed if those trigger points are reached? Thank you.

Weinidog Cabinet, unwaith eto, rwy'n adleisio meddyliau fy nghyd-Aelod. Diolch eto am eich datganiad cynnar a'ch uchelgeisiau a'ch disgwyliadau. Pan wnaethoch chi annerch y Siambr ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch chi fod y GIG wedi cyrraedd un o'r pwyntiau mwyaf ansicr yn ei hanes. Fe wnaethoch chi addo symud y tu hwnt i'r hyn y gwnaethoch chi ei alw'n 'atebion plastr glynu tymor byr' a chyflawni diwygiadau parhaol, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi eich penderfyniad. 

Yn anffodus, mae'r gaeaf wedi datblygu arfer annifyr o wrthod darllen y datganiadau i'r wasg a roddir gan y Llywodraeth ac rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â sicrwydd gweinidogol bod y GIG yn barod, er na fyddwn ni'n gwybod hynny tan yr asesiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn yr hydref. Bob blwyddyn, rydym yn gweld y pwysau cyfarwydd: ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai, adrannau brys dan straen annerbyniol, cleifion yn cael eu rhyddhau ar frys a llawdriniaethau sydd wedi'u cynllunio yn cael eu gohirio. Rwy'n siŵr bod pawb yma yn gobeithio y bydd y cynigion yn llwyddo, ond dydy bwriadau da, uchelgeisiau a disgwyliadau ddim yn cadw ambiwlansys i symud na chleifion allan o goridorau. Nid pa mor uchelgeisiol y mae cynllun y gaeaf yn swnio ym mis Mehefin yw'r prawf. Y prawf yw a yw cleifion yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth pan mae'r pwysau ar ei uchaf ym mis Ionawr.

Felly, Weinidog, sut y byddwch chi'n dangos bod y cynigion yn gweithio? Pa gerrig milltir interim y byddwch chi'n eu defnyddio i fonitro a yw cynllun y gaeaf yn llwyddo? Pa bwyntiau sbarduno ydych wedi'u nodi a fyddai'n dangos bod y GIG yn dod o dan bwysau annerbyniol, a pha gymorth ychwanegol y bydd yn cael ei roi os cyrhaeddir y pwyntiau sbarduno hynny? Diolch.

Thank you to the Member for those points and, yes, the NHS is in a precarious position and we've seen far too many sticking plasters applied to the NHS. What struck me when I was appointed to this role was the fact that previous Governments just had a reactive response in nature to everything and that we didn't have any long-term vision for the NHS in Wales. And that's the difference that we're introducing now: we are developing long-term plans, not just for this year, but looking at learnings to go forward for the next number of years as well. That's why we've asked to introduce that modelling that I talked about: when it comes to an influenza outbreak, COVID-19, respiratory syncytial virus, that we model them, the health boards work with NHS Wales Performance and Improvement to see the impact on their hospitals, on the bed capacity, model them in September, learn from the models, so that we are ready for when the flu outbreak or COVID-19 outbreak arrives, that they are prepared for those eventualities. I will be providing an update to the Senedd in the autumn, but I’m more than happy to provide further updates to the Member on specific issues around the data that we'll be gathering, if the Member wishes.

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny ac, ydy, mae'r GIG mewn sefyllfa ansicr ac rydym wedi gweld llawer gormod o blastrau glynu yn cael eu rhoi ar y GIG. Yr hyn wnaeth fy nharo i pan ges i fy mhenodi i'r rôl hon oedd y ffaith bod gan Lywodraethau blaenorol ymateb adweithiol i bopeth ac nad oedd gennym unrhyw weledigaeth hirdymor ar gyfer y GIG yng Nghymru. A dyna'r gwahaniaeth rydym yn ei gyflwyno nawr: rydym yn datblygu cynlluniau tymor hir, nid yn unig ar gyfer eleni, ond rydym yn edrych ar wersi a ddysgwyd i fynd ymlaen am y blynyddoedd nesaf hefyd. Dyna pam rydym wedi gofyn i gyflwyno'r modelu hwnnw y soniais amdano: pan ddaw i achosion o'r ffliw, COVID-19, feirws syncytiol anadlol, ein bod ni'n eu modelu, mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda Perfformiad a Gwella GIG Cymru i weld yr effaith ar eu hysbytai, ar gapasiti gwelyau, eu modelu nhw ym mis Medi, dysgu o'r modelau, fel ein bod ni'n barod pan fydd yna achosion o'r ffliw neu COVID-19, eu bod nhw'n barod ar gyfer y digwyddiadau hynny. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn yr hydref, ond rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am faterion penodol ynghylch y data y byddwn yn ei gasglu, os yw'r Aelod yn dymuno.

I congratulate you, Minister, for doing this at the height of summer, only one week after we all almost baked to death in this very same Chamber. [Laughter.] But, bed numbers. This is not so much the elephant in the room, but the mammoth in the Chamber. We have one of the lowest bed numbers in Europe, only 3.4 per 1,000 compared to an EU average of 4.3 to 4.7, which makes the physiological reserve of the system so fragile. And because of this, every winter, which again has a habit of coming once a year, we are then almost pushed over the edge because of that. And that elephant in the room is tied to social care. I despise the term 'bedblockers', because it implies some fault on patients for being in there, but people—. We hear also from the Reform side about delayed discharges, and the ultimate delayed discharge is to do with being stuck in hospital not so much for days, but for weeks and months, because of a lack of placement. In light of this, what assurances can I have from the Cabinet Minister that work is being undertaken towards a Welsh national care system? Thank you.

Hoffwn eich llongyfarch, Weinidog, am wneud hyn pan mae'r haf ar ei anterth, dim ond wythnos ar ôl i ni i gyd bron â phobi i farwolaeth yn yr union Siambr hon. [Chwerthin.] Ond, niferoedd y gwelyau. Nid yn gymaint yr eliffant yn yr ystafell, ond y mamoth yn y Siambr. Mae gennym un o'r niferoedd isaf o welyau yn Ewrop, dim ond 3.4 fesul 1,000 o'i gymharu â chyfartaledd yr UE o 4.3 i 4.7, sy'n gwneud cronfa ffisiolegol y system mor fregus. Ac oherwydd hyn, bob gaeaf, sydd eto yn tueddu i ddod unwaith y flwyddyn, rydym wedyn yn cael ein gwthio dros yr ymyl bron oherwydd hynny. Ac mae'r eliffant hwnnw yn yr ystafell yn gysylltiedig â gofal cymdeithasol. Rwy'n casáu'r term 'bedblockers', oherwydd mae'n awgrymu bod rhywfaint o fai ar gleifion am fod yno, ond mae pobl—. Rydym hefyd yn clywed gan ochr Reform am yr oedi wrth ryddhau cleifion, a'r achos eithaf o oedi wrth ryddhau cleifion yw bod yn sownd yn yr ysbyty nid cymaint am ddyddiau, ond am wythnosau a misoedd, oherwydd diffyg lleoliad. Yng ngoleuni hyn, pa sicrwydd y gallaf ei gael gan y Gweinidog Cabinet bod gwaith yn cael ei wneud tuag at system gofal genedlaethol i Gymru? Diolch.

Dirprwy Lywydd, our first priority is understanding how we use our beds, which is the first point raised by the Member. We must have a clear shared understanding of our true bed capacity, supported by robust data and intelligence. And without a grip on that hospital flow, we can't deliver safe, timely care, and persistently high occupancy is both clinically unsustainable and a driver for harm. The evidence is clear that reducing the length of stay and safely discharging without delay is key to improving outcomes, experience and releasing our vital acute hospital capacity. So, we have to make sure that we improve the flow in our hospitals. That also means looking at the discharges, which I mentioned earlier, ensuring that we have seven-day discharge from the hospital, and making sure we work with local authorities to ensure that we've got care at home. My Deputy Minister is working at pace now to ensure that we deliver that joined-up health and social care, so that we don't have the gaps that we've got currently in the system, where people get lost and don't receive the care they deserve. We need to make sure we've got beds in the community—step-down beds—and care at home, so that we can ensure the flow of people out of hospital to improve outcomes.

Ddirprwy Lywydd, ein blaenoriaeth gyntaf yw deall sut rydym yn defnyddio ein gwelyau, sef y pwynt cyntaf a godwyd gan yr Aelod. Mae'n rhaid i ni gael dealltwriaeth glir a rennir o'n capasiti gwirioneddol o ran gwelyau, wedi'i chefnogi gan wybodaeth a data cadarn. Ac os nad oes gennym reolaeth dros y llif hwnnw mewn ysbytai, allwn ni ddim darparu gofal diogel, amserol, ac mae defnydd uchel cyson yn glinigol anghynaliadwy ac yn sbardun i niwed. Mae'r dystiolaeth yn glir bod lleihau hyd arosiadau a rhyddhau cleifion yn ddiogel heb oedi yn allweddol i wella canlyniadau, profiad a rhyddhau capsiti acíwt hanfodol ein hysbytai. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella'r llif yn ein hysbytai. Mae hynny hefyd yn golygu edrych ar achosion o ryddhau, y soniais amdanyn nhw'n gynharach, sicrhau bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau o'r ysbyty saith diwrnod yr wythnos, a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gennym ofal gartref. Mae fy Dirprwy Weinidog yn gweithio ar gyflymder nawr i sicrhau ein bod ni'n darparu'r gofal iechyd a chymdeithasol cyfunol hwnnw, fel nad oes gennym y bylchau sydd gennym ar hyn o bryd yn y system, lle mae pobl yn mynd ar goll a lle dydyn nhw ddim yn cael y gofal maen nhw'n ei haeddu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym welyau yn y gymuned—gwelyau cam i lawr—a gofal gartref, fel y gallwn ni sicrhau llif pobl allan o'r ysbyty i wella canlyniadau.

17:45

Cabinet Minister, it's great to hear you use the words 'safety', 'resilience', 'robust planning' and so much more. As someone who spent many a winter in and out of hospital because of respiratory problems, I have seen first-hand what the state of Heath hospital looks like—the University Hospital of Wales, of course; we call it 'Heath' as locals here. We've continued to hear about the serious concerns about the conditions that have been raised by staff, by unions, by the public, and, of course, we've all seen the holes in the ceilings and the buckets catching the rain. And, of course, staff have often talked about how difficult it is to manoeuvre people around the hospital because the lifts are out of service. 

I recognise that rebuilding can't happen before this winter, but can you give us some reassurance that you will focus on resilience and patient safety and that you accept that the current condition of the Heath hospital presents a growing risk to the public? Will you confirm that rebuilding is absolutely necessary and set out what concrete steps your Government will be taking to make sure that that happens?

Weinidog Cabinet, mae'n wych eich clywed chi'n defnyddio'r geiriau 'diogelwch', 'gwydnwch', 'cynllunio cadarn' a llawer mwy. Fel rhywun a dreuliodd lawer o aeafau i mewn ac allan o'r ysbyty oherwydd problemau anadlol, rwyf wedi gweld drosof fi fy hun sut olwg sydd ar ysbyty'r Mynydd Bychan—Ysbyty Athrofaol Cymru, wrth gwrs; 'Heath' rydym ni fel pobl leol yn ei alw yma. Rydym wedi parhau i glywed pryderon difrifol am yr amodau sydd wedi cael eu codi gan staff, gan undebau, gan y cyhoedd, ac, wrth gwrs, rydym i gyd wedi gweld y tyllau yn y nenfydau a'r bwcedi yn dal y glaw. Ac, wrth gwrs, mae staff wedi sôn yn aml am ba mor anodd yw hi i symud pobl o gwmpas yr ysbyty oherwydd bod y lifftiau ddim yn gweithio. 

Rwy'n cydnabod na all ailadeiladu ddigwydd cyn y gaeaf hwn, ond a allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i ni y byddwch yn canolbwyntio ar wydnwch a diogelwch cleifion a'ch bod yn derbyn bod cyflwr presennol ysbyty'r Mynydd Bychan yn peri risg gynyddol i'r cyhoedd? A wnewch chi gadarnhau bod ailadeiladu yn gwbl angenrheidiol a nodi pa gamau pendant y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd?

The issue of the state of the Heath has been raised a number of times in this Siambr, and I agree, it is in a poor state, in as much as we need to see improvements there happen quickly. That's why we are concentrating on ensuring that that urgent backlog is fixed. Because, sadly, the issues at the Heath aren't unique, and they don't only apply to the Heath. 

Probably the worst condition that we've got in hospitals in Wales is in Glangwili at the moment. But if you look at north Wales, we've got issues in north Wales as well, as well as in Aneurin Bevan, and across the estate. We need to make sure that every hospital is fit to receive patients and that patients can get the best treatment they can. That's why we're concentrating on that backlog, as I said. 

With regard to the redevelopment of the Heath, as things stand, we've not received a plan from the health board to ask for redevelopment. Until something like that comes forward, there's no plan put forward. 

Mae'r mater o gyflwr ysbyty'r Mynydd Bychan wedi cael ei godi sawl gwaith yn y Siambr hon, ac rwy'n cytuno, mae mewn cyflwr gwael, i'r graddau y mae angen i ni weld gwelliannau yn digwydd yn gyflym yno. Dyna pam rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr ôl-groniad brys hwnnw yn cael ei sortio. Oherwydd, yn anffodus, dydy'r materion yn ysbyty'r Mynydd Bychan ddim yn unigryw, ac nid dim ond i ysbyty'r Mynydd Bychan y maen nhw'n berthnasol. 

Mae'n debyg mai'r cyflwr gwaethaf sydd gennym mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd yw yng Nglangwili. Ond os edrychwch chi ar y gogledd, mae gennym ni broblemau yn y gogledd hefyd, yn ogystal ag yn Aneurin Bevan, ac ar draws yr ystad. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod pob ysbyty yn addas i dderbyn cleifion a bod cleifion yn gallu cael y driniaeth orau y gallan nhw ei chael. Dyna pam rydym yn canolbwyntio ar yr ôl-groniad hwnnw, fel y dywedais. 

O ran ailddatblygu'r Mynydd Bychan, fel y mae pethau'n sefyll, dydyn ni ddim wedi derbyn cynllun gan y bwrdd iechyd i ofyn am ailddatblygu. Hyd nes y cawn ni rywbeth fel yna, does dim cynllun wedi'i gyflwyno. 

Diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad heddiw. 

Thank you to the Cabinet Secretary for his statement today. 

I'm glad to see this statement made so early, because, as mentioned, the previous Welsh Government didn't make this type of statement until October, by which point winter was already around the corner. Cabinet Minister, we can't talk about winter preparedness without talking about fuel poverty, as the two go hand in hand. Around 340,000 households in Wales—one in four—are in fuel poverty. And tomorrow, it gets worse. Ofgem is raising the energy price cap by 13 per cent, which will add £18 a month to the average bill. For hundreds of thousands of people in Wales, that's money they simply don't have. And when people can't heat their homes, they get sick. They end up in our hospitals, placing pressure on health services already stretched every winter. So, Cabinet Minister, what will the Government do to make sure no-one in Wales has to choose between heating their homes and their health?

Rwy'n falch o weld y datganiad hwn yn cael ei wneud mor gynnar, oherwydd, fel y soniwyd, ni chafodd y math hwn o ddatganiad ei wneud gan Lywodraeth flaenorol Cymru tan fis Hydref, ac erbyn hynny roedd y gaeaf eisoes rownd y gornel. Weinidog Cabinet, allwn ni ddim siarad am barodrwydd ar gyfer y gaeaf heb sôn am dlodi tanwydd, gan fod y ddau yn mynd law yn llaw. Mae tua 340,000 o aelwydydd yng Nghymru—un o bob pedair—mewn tlodi tanwydd. Ac yfory, bydd y sefyllfa'n gwaethygu. Mae Ofgem yn codi'r cap ar brisiau ynni 13 y cant, a fydd yn ychwanegu £18 y mis at y bil cyfartalog. I gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, does ganddyn nhw ddim yr arian hwnnw. A phan na all pobl wresogi eu cartrefi, maen nhw'n mynd yn sâl. Maen nhw'n mynd i'n hysbytai, gan roi pwysau ar wasanaethau iechyd sydd eisoes wedi'u hymestyn bob gaeaf. Felly, Weinidog Cabinet, beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad oes rhaid i neb yng Nghymru ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi a'u hiechyd?

Mae'r neges yn berffaith glir gan yr Aelod—ni ddylai neb orfod dewis rhwng gwresogi eu tai a gwarchod eu hiechyd. Mae sicrhau bod y Llywodraeth yma yn gweithredu yn drawsadrannol er mwyn sicrhau ei bod yn gwella canlyniadau iechyd pobl Cymru yn greiddiol i'n cenhadaeth ni. Dyna pam fod y Prif Weinidog wedi penodi Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb dros atal afiechyd a iechyd cyhoeddus, gan weithio efo'r gwahanol Weinidogion ar y meinciau yma, er enghraifft y Gweinidog tai a chynllunio ar wella ansawdd tai trwy gynyddu retrofit. Mi fyddwn ni hefyd yn cyflwyno cynlluniau wedi'u targedu, ymyriadau iechyd cyhoeddus effeithiol, ac integreiddio gwell rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a chefnogaeth ynni, er mwyn cynorthwyo cynifer o bobl â phosib i aros yn gynnes, yn iach ac yn ddiogel. 

The message is perfectly clear from the Member—nobody should have to choose between heating their homes and safeguarding their health. Ensuring that this Government works across departments to ensure that it improves outcomes for people's health is at the heart of our mission. That's why the First Minister has appointed a Deputy Minister with responsibility for preventing ill health and public health, working with the different Ministers on these benches, for example the Minister for housing and planning on improving housing quality by increasing retrofit. We will also be introducing targeted plans, public health interventions that are effective, and better integration between health, social care and energy support, to support as many people as possible to remain warm, healthy and safe. 

Ac yn olaf, Jane Dodds. 

And finally, Jane Dodds. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch hefyd am y datganiad. 

Thank you very much, Llywydd, and thank you for the statement. 

It's really great to hear so much talked about in relation to social care. That really is going to help us if we can get people out of hospital, but also stop them from going in in the first place. Because we know that last Christmas 558 in Wales spent that time in hospital when they were clinically ready to go home. That meant hundreds of people were not with their families at Christmas just because they couldn't get social care. And as we've heard, the figures haven't moved significantly. So I'm really pleased to hear that there is going to be a focus on social care.

But I wonder if I could ask you, Gweinidog, if that's all right, about community hospitals and community beds. In rural areas, we know they're so important in order to get people out of those acute wards, help them to have an opportunity to get rehabilitation in those community beds, and to go home. So, can I just seek your assurance that there are no plans to reduce the number of community beds or to reduce the capacity in our community hospitals? Diolch yn fawr iawn.

Mae'n wych clywed cymaint o sôn am bethau sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol. Mae hynny'n mynd i'n helpu ni os gallwn ni gael pobl allan o'r ysbyty, ond hefyd eu hatal rhag mynd i mewn yn y lle cyntaf. Oherwydd rydym yn gwybod, y Nadolig diwethaf, bod 558 yng Nghymru wedi treulio'r amser hwnnw yn yr ysbyty pan oeddent yn barod i fynd adref yn glinigol. Roedd hynny'n golygu nad oedd cannoedd o bobl gyda'u teuluoedd adeg y Nadolig am nad oedden nhw'n gallu cael gofal cymdeithasol. Ac fel rydym wedi'i glywed, dydy'r ffigurau ddim wedi symud yn sylweddol. Felly rwy'n falch iawn o glywed y bydd ffocws ar ofal cymdeithasol.

Ond tybed a allaf ofyn i chi, Weinidog, os yw hynny'n iawn, am ysbytai cymunedol a gwelyau cymunedol. Mewn ardaloedd gwledig, rydym yn gwybod eu bod nhw mor bwysig er mwyn cael pobl allan o'r wardiau acíwt hynny, eu helpu i gael cyfle i adsefydlu yn y gwelyau cymunedol hynny, ac i fynd adref. Felly, a gaf fi ofyn am sicrwydd gennych nad oes unrhyw gynlluniau i leihau nifer y gwelyau cymunedol neu i leihau'r capasiti yn ein hysbytai cymunedol? Diolch yn fawr iawn.

17:50

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n berffaith iawn dweud bod angen canolbwyntio ar ofal cymdeithasol a gwneud yn siŵr bod gennym ni y ddarpariaeth yna er mwyn bod pobl yn medru mynd allan. O ran niferoedd gwelyau, rydyn ni wedi ymrwymo i edrych, fel ro'n i'n sôn, ar y gwelyau sydd gennym ni yn y system i gyd er mwyn adnabod beth ydy'r angen, ble mae angen y gwelyau hynny. Ond pan mae'n dod i'r gymuned, rydw i wedi bod yn berffaith glir bod darpariaeth gwasanaethau step down, er enghraifft, ar gyfer helpu pobl rhwng bod yn yr ysbyty yn cael eu triniaeth a mynd adref, yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth iechyd sydd gennym ni. Dydy o ddim ar gyfer pawb. Y gobaith ydy cael cynifer o bobl adref â phosibl, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhoi gofal yn y cartref iddyn nhw. Ond i'r rhai hynny sydd angen gofal ychydig yn fwy dwys, mae angen y ddarpariaeth step down yna yn ein cymunedau ni, ac mi rydyn ni'n edrych ar hynny fel rhan o'r datrysiad.

Thank you very much to the Member for that question. It's quite right to say that we need to focus on social care and ensure that we have that provision so that people can leave hospitals. When it comes to bed numbers, we have committed, as I mentioned, to look at the bed capacity within the entire system in order to identify the need, where those beds are needed. When it comes to the community, I've been quite clear that the provision of step-down services, for example, to help people between that time in hospital being treated and returning home, is an important part of the health provision we have. It's not for everyone. The hope is to get as many people home as possible, and to ensure that we can provide care at home. But for those who need care that's a little more intensive, they need that step-down service in our community, and we're looking at that as part of the solution.

Diolch, Weinidog, a diolch i chi am eich cyfraniadau heddiw. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

I thank the Minister and thank you for your contributions today. That brings today's proceedings to a close.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:52.

The meeting ended at 17:52.