Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/03/2026

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Modiwlau 2, 2A, 2B, 2C Ymchwiliad COVID-19 y DU
5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026
6. Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026
7. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2025-26
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Plant ac Ysgolion
9. Cyfnod Pleidleisio
10. Dadl: Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
Grŵp 1: Digwyddiad sbardun A: y llysoedd i hysbysu’r Llywydd, a therfynu pôl adalw yn gynnar (Gwelliannau 1, 2, 4)
Grŵp 2: Digwyddiad sbardun B: canllawiau adalw (Gwelliannau 20, 10)
Grŵp 3: Rheoliadau ynghylch polau adalw (Gwelliant 3)
Grŵp 4: Anghymhwyso yn dilyn diswyddo Aelod o’r Senedd yn dilyn pôl adalw (Gwelliant 11)
Grŵp 5: Adolygu Rhan 1 (Gwelliant 21)
Grŵp 6: Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Gwelliannau 12, 18, 5, 6, 7, 8, 16)
Grŵp 7: Adroddiad ar gymhwyso cod ymddygiad i ymddygiad pan oedd Aelod o’r Senedd yn ymgeisydd mewn etholiad (Gwelliant 19)
Grŵp 8: Comisiynydd Safonau y Senedd: cymhwystra (Gwelliant 9)
Grŵp 9: Comisiynydd Safonau y Senedd: ymchwiliadau (Gwelliant 17)
Grŵp 10: Comisiynydd Safonau y Senedd: darpariaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg (Gwelliannau 14, 15)
Grŵp 11: Rhedeg Etholiadau Senedd Cymru (Gwelliant 13)
11. Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
12. Dadl: Cyfnod Adrodd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)
Grŵp 1: Cymhwyso’r Ddeddf i achosion arbennig (Gwelliannau 1, 2)
13. Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi
14. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)
15. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)
16. Cyfnod Pleidleisio

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog y prynhawn yma fydd y cwestiwn gan Llyr Gruffydd. 

Datblygiadau Canolfannau Data

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth y Llywodraeth ar gyfer datblygiadau canolfannau data? OQ64024

Mae Cymru yn camu ymlaen i’r bennod nesaf, pennod lle bydd data a datblygiadau digidol yn effeithio ar bron pob agwedd o’n bywydau. Dwi’n benderfynol y bydd Cymru yn arwain yn y bennod newydd yma ac yn cymryd rhan lawn yn yr economi newydd. Mae canolfannau data yn seilwaith digidol hanfodol, a dwi’n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn gallu gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd newydd hyn i ysgogi twf a chynhyrchiant. Bydd hyn yn arwain at fuddsoddiad mawr, swyddi gwerth uchel, a chadwyni cyflenwi lleol cryfach i gymunedau. Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod ffynonellau ynni glân yn cael eu datblygu i bweru'r datblygiadau newydd hyn.

Wel, diolch i chi am yr ymateb, a dwi’n cytuno, i bob pwrpas, â phopeth rŷch chi wedi’i ddweud. Mae e’n mynd i fod yn rhan bwysig iawn o’n dyfodol ni yma yng Nghymru, ac mae eisiau manteisio ar y cyfleoedd yma. Ond rŷch chi, yn y gorffennol, wedi dweud y bydd potensial i greu miloedd o swyddi drwy’r parthau twf deallusrwydd artiffisial. Nawr, mae ymchwiliad gan The Guardian yn ddiweddar wedi datgelu bod rhai o’r ffigurau creu swyddi yma, sy’n cael eu defnyddio yng nghyd-destun y parthau twf, wedi goramcangyfrif yn sylweddol y swyddi sydd wedi cael eu creu yn y gorffennol. A thra bod swyddi adeiladu tymor byr, wrth gwrs, yn dod gyda nifer o’r datblygiadau yma, mae yna gwestiwn ynglŷn â faint o swyddi parhaol hirdymor fydd yn cael eu creu mewn gwirionedd. Ond, y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod canolfannau data hyperscale modern yn gyfleusterau hynod o awtomataidd, sydd, unwaith y byddan nhw wedi cael eu hadeiladu, yn cyflogi nifer gymharol fach o bobl—diogelwch, cynnal a chadw, ac yn y blaen.

Felly, wrth asesu gwerth y datblygiadau yma, a gaf i ofyn sut mae’r Llywodraeth yn cydbwyso’r galwadau sylweddol sy’n dod yn eu sgil, wrth sgwrs, ar dir, ar ynni ac ar ddŵr yn erbyn y nifer gymharol fach o swyddi parhaol yn y pen draw? Ac a wnewch chi, felly, ymrwymo i gyhoeddi asesiad clir o fanteision economaidd a chymunedol hirdymor y parthau twf deallusrwydd artiffisial yma yng Nghymru, fel ein bod ni’n gallu deall yn iawn sut mae’r prosiectau hyn yn cyflawni’r twf cynhwysol a chynaliadwy mae’n cymunedau ni’n awyddus i’w weld ac, wrth gwrs, yn ei haeddu?

Wel, diolch yn fawr iawn. Dwi'n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cydnabod bod hyn yn bwysig o ran sicrhau bod y seilwaith cywir gyda ni. Ond mae’n rhaid i ni fynd ati gyda’n llygaid ar agor.

Oxford Economics sydd wedi dweud y bydd, yn y gogledd, dros 3,000 o swyddi yn cael eu creu yn yr ardal dwf yna, yn yr AI growth zone yna, ac mae hwnna'n cynnwys swyddi wrth adeiladu ond hefyd rhai ar ben hynny sydd yna yn barhaol.

Dwi’n gwybod, er enghraifft, yn y buddsoddiad sy’n cael ei grybwyll ym Mhen-y-bont, yn Vantage, eu bod nhw’n sôn am 1,500 o swyddi i adeiladu ac i gynhyrchu dros 10 i 15 mlynedd. Felly, dyw hwnna ddim yn rhywbeth dros dro—mae 10 i 15 mlynedd yn eithaf lot. Ac unwaith y bydd y campws wedi cael ei greu yn llawn, bydd 600 o swyddi, sydd hefyd ddim yn swm bach.

Ond beth sy’n bwysig yw cydnabod faint fyddai cyflog y bobl sydd yna’n barhaol—£75,000, ar gyfartaledd, sydd lot yn uwch na’r cyfartaledd sydd yno nawr.

Mae canolfannau data yn amlwg yn rhywbeth sy'n mynd i ysgogi'r economi unfed ganrif ar hugain yr ydym ni i gyd eisiau ei gweld, a fydd yn rhoi'r cyflogau hynny y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, Prif Weinidog. Ond y peth allweddol yw deall sut rydym ni'n dod â nhw i Gymru. Mae gen i ddau barth datblygu yn fy ardal i, un yn Sain Tathan ac un ar hen safle gorsaf bŵer Aberddawan. Mae'r ddau yn cystadlu am ganolfannau data. Pan wyf i wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, mae bron pob ardal twf neu barth menter yn siarad am fod yn gartrefi i ganolfannau data. Pa asesiad realistig sydd wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyrwyddo dod â chanolfannau data i Gymru a fydd yn dwyn ffrwyth mewn gwirionedd, ac nad ydyn nhw'n rhywbeth y mae'r ardaloedd datblygu hyn yn mynd ar ei drywydd er anfantais i brosiectau datblygu eraill a allai ddarparu swyddi gwerthfawr hefyd?

Rwy'n credu eich bod chi'n gwbl gywir—mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd iawn yma. Ond mae bod â dau barth twf deallusrwydd artiffisial yn debygol o gael pobl i ganolbwyntio ar yr ardal. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cydbwysedd yn iawn, ac mae angen i'r cydbwysedd fynd, yn amlwg, trwy geisiadau cynllunio. Maen nhw'n destun ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cymunedau lleol, ac mae'n bwysig bod y Llywodraeth hefyd yn nodi sut rydym ni eisiau gweld y cydbwysedd hwn yn erbyn pethau eraill. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n atal ac yn lliniaru unrhyw niwed posibl sy'n deillio o gynigion datblygu. Ond nid wyf i'n credu y gallwn ni osgoi'r chwyldro deallusrwydd artiffisial sy'n mynd i ddigwydd i ni, pa un a ydym ni'n ei hoffi neu beidio. Felly, y cwestiwn i ni yw: a ydym ni eisiau bod yn rhan o'i ysgogi, neu ydym ni eisiau bod yn gymerwr, rhywun sy'n derbyn yn llwyr yr hyn sy'n digwydd i ni ac sy'n cael ei wthio o gwmpas? Rwy'n credu bod y chwyldro deallusrwydd artiffisial hwn yn mynd i fod yn hanfodol i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ar wahân i drawsnewid ein hysbytai hefyd.

13:35

A gaf i ddechrau drwy ddweud 'Lá fhéile Pádraig sona dhuit', Dydd Sant Padrig hapus i chi, Prif Weinidog?

Mae gan Iwerddon, wrth gwrs, brofiad o ehangu canolfannau data, ac mae gwersi i'w dysgu am werth ehangach i'r economi, defnydd tir, gwerthoedd ac, yn wir, cyflenwad pŵer hefyd. Mae gan Gymru y fantais o ddau barth twf deallusrwydd artiffisial, a fydd yn cynyddu'r defnydd o ganolfannau data. Mae'n seilwaith digidol hanfodol, fel yr ydych chi'n ei gydnabod. Mae hefyd yn rhan o strategaeth ddiwydiannol y DU yn buddsoddi yng Nghymru. Bydd partneriaeth sector preifat yn hanfodol i sicrhau manteision y parthau twf hynny. Mae angen cenhadaeth a phwrpas arnyn nhw sy'n adeiladu ar gryfderau lleol yn yr economi a chyfleoedd i dyfu. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, sut y gwnewch chi gyflwyno sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y sector preifat, Uchelgais Gogledd Cymru a phrifddinas-ranbarth Caerdydd, i ddatblygu'r weledigaeth honno a'r cynllun hwnnw ar gyfer y parthau twf deallusrwydd artiffisial hynny a fydd yn dod â swyddi tymor hwy, â chyflogau da ac yn helpu i dyfu economi Cymru?

Diolch. Dydd Sant Padrig hapus i chi, ac, yn sicr, i'ch gwraig hefyd, y gwn y bydd yn dathlu heddiw. Roedd hi'n wych cael dathlu gyda Llywodraeth Iwerddon yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod bod cyfleoedd gwirioneddol yma, ond mae'n rhaid i ni gydbwyso hynny â'r ffaith bod deallusrwydd artiffisial, a chanolfannau data yn arbennig, yn defnyddio llawer o egni. Felly, y cwestiwn wedyn yw: pa fath o egni? Sut ydym ni'n gwneud yn siŵr bod yr hyn sy'n pweru'r parthau twf deallusrwydd artiffisial hyn yn ynni sy'n gynaliadwy? Dyna pam rwy'n credu bod y model yr ydych chi'n ei weld yn y gogledd, lle mae gennych chi'r adweithyddion modiwlaidd yn pweru'r parthau twf deallusrwydd artiffisial, yn fodel yr wyf i'n ei gredu y dylem ni fod yn ei groesawu. Y peth allweddol i mi, fodd bynnag, yw gwneud yn siŵr nad ydym ni'n cael ein gwthio o gwmpas gan y dechnoleg hon—mae'n rhaid i ni gadw rheolaeth ohoni. Mae'n mynd i fod yn anodd, ond mae'r ffaith ein bod ni wedi dechrau'r holl drafodaeth hon yng Nghymru, mewn partneriaeth gymdeithasol â'n cydweithwyr undebau llafur, yn fy marn i, yn gwbl sylfaenol o ran y gwerthoedd yr ydym ni'n disgwyl eu gweld pan fo pobl yn mynd i fod yn buddsoddi yng Nghymru o ran datblygiadau deallusrwydd artiffisial.

Busnesau Canol Tref

2. Pa ystyriaeth mae'r Prif Weinidog wedi ei rhoi i ba un ai ydy'r gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei darparu i fusnesau canol tref yn effeithiol ai peidio? OQ64008

Rŷn ni'n ymwybodol bod rhai busnesau yng nghanol ein trefi wedi bod yn stryglo wrth i'r ffyrdd y mae pobl yn siopa newid. Dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi'n eang yn ein rhaglen Trawsnewid Trefi, sydd wedi helpu i adfywio canol rhai trefi. Mae gwerthusiad o'r rhaglen wedi cael ei gomisiynu. Ar ben hynny, rŷn ni'n gwario dros £250 miliwn i helpu bron hanner o fusnesau fel nad oes yn rhaid iddyn nhw wario dim ar gyfraddau busnes parhaol. Mae dros ddau draean yn cael help i dalu trethi busnes. Yn ddiweddar, rŷn ni wedi rhoi help ychwanegol i dafarndai a bwytai, o fis Ebrill ymlaen.

Diolch. Bob dydd, mae busnesau lleol bach ledled Cymru yn cyfrannu'n aruthrol at ein heconomi ac at ein cymunedau a'n llesiant cyffredin. Ymwelais yn ddiweddar â Thirtythree/45, siop recordiau annibynnol wych newydd yng nghanol tref Castell-nedd, ac, yr wythnos hon, rwy'n gobeithio ymweld â lle ag enw ysblennydd, We Are Butty, sy'n stondin frechdanau newydd ym marchnad Castell-nedd. Sefydlais arolwg yn caniatáu i fusnesau bach o bob rhan o Orllewin De Cymru godi materion sy'n peri pryder gyda mi. Roedd y rhan fwyaf a wnaeth ei gwblhau naill ai'n unig fasnachwyr neu roedd ganddyn nhw lai na phump o weithwyr, yn gweithredu yn bennaf ym meysydd manwerthu a lletygarwch. Dywedodd chwe deg pedwar y cant o ymatebwyr mai costau cynyddol oedd eu her fwyaf—sefyllfa, wrth gwrs, a allai waethygu oherwydd y rhyfel yn y dwyrain canol—ac roedd 83 y cant yn teimlo nad ydyn nhw'n cael digon o gefnogaeth, cyngor na gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae data yn dangos i ni bod nifer yr ymwelwyr ar draws strydoedd mawr a chanol trefi yn parhau i ostwng, a Chymru sydd â rhai o'r lefelau ymwelwyr gwannaf ar draws unrhyw un o'r gwledydd yn y DU. Ac, wrth gwrs, ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd Marks & Spencer y bydden nhw'n cau eu siop yn Abertawe, a fydd yn peri pryder eto i fusnesau bach yng nghanol y ddinas. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen i ni fynd ymhellach i sicrhau y gall busnesau bach, annibynnol, lleol ar ein strydoedd mawr ffynnu, a sut ydych chi'n ymateb i alwad y busnesau hynny am well cyngor a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru?

13:40

Rwy'n deall bod busnesau o dan lawer o bwysau, yn enwedig y rhai ar ein strydoedd mawr, wrth i arferion pobl newid o ran y ffordd y mae pobl yn siopa. Mae'n bwysig i ni fel Llywodraeth allu ailfeddwl sut mae canol ein trefi yn edrych a'r hyn y gallwn ni ei wneud i'w cefnogi. Roedd yn wych bod ym marchnad Merthyr dros y penwythnos, lle mae £1.6 miliwn o'n cronfa Trawsnewid Trefi wedi helpu i newid canol Merthyr ac yn dod â phobl i mewn. Mae'n ddull gwahanol, ac mae'n rhaid i ni feddwl am yr hyn a fydd yn dod â'r bobl ychwanegol hynny i mewn.

Roeddwn i yn Abertawe ddydd Gwener diwethaf hefyd, a siaradais â phobl am eu siom ynglŷn â chau Marks & Spencer, ac rwy'n arbennig o bryderus am y bobl a fydd yn colli eu swyddi yno. Yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yw rydym ni wedi bod yn gwneud buddsoddiad enfawr yng nghanol Abertawe—£93 miliwn i gefnogi prosiectau adfywio. Rwyf i wedi bod yn Theatr y Palace—os nad ydych chi wedi bod yno, mae'n gwbl ryfeddol, ac mae'n gyfleuster gwych lle gall llawer iawn o fusnesau bach ymgartrefu a rhannu profiadau—a'r Storfa, sydd eto yn dod â phobl i ganol y dref. Felly, rwyf i yn credu bod awdurdodau lleol, fel yr un yn Abertawe, yn bod yn greadigol ac yn llawn dychymyg o ran ailfeddwl sut rydych chi'n tynnu pobl i ganol eu trefi.

Rydym ni'n gwneud yr un peth wrth ddefnyddio, er enghraifft, y gwasanaeth iechyd—mewn siopau Debenhams, er enghraifft. Bu un neu ddwy o enghreifftiau—ym Mangor ac yng Nghaerfyrddin rwy'n credu—lle'r ydym ni'n ceisio cael pobl i ganol y dref gan ddefnyddio iechyd fel y peth sy'n gyrru pobl i ganol ein trefi. Felly, ceir llawer o gefnogaeth yn y fan honno.

Rwy'n falch na wnaeth y bobl y gwnaethoch chi siarad â nhw sôn am y ffaith fod ardrethi yn broblem, oherwydd, mewn gwirionedd, nhw yw'r union fath o bobl nad oes yn rhaid iddyn nhw dalu ardrethi oherwydd y £250 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi, ac mae 50 y cant o fusnesau yn elwa o hynny.

Prif Weinidog, roedd cymuned Doc Penfro a de sir Benfro yn ehangach wrth eu bodd yr wythnos diwethaf o glywed, yn dilyn ymgyrch dros gyfnod o flwyddyn, y bydd canolfan fancio yn cael ei sefydlu yn y dref. Gan fy mod wedi cael fy ymddiried ynof i arwain yr ymgyrch gymunedol hon, gweithiais gyda thrigolion lleol a chynghorau tref a chymuned i gasglu dros 1,500 o lofnodion ar fy neiseb, codais y mater yn y Siambr hon, ac ymgysylltais yn helaeth nifer o weithiau â Gweinidogion, yr FCA, y comisiynydd pobl hŷn, a gyda Link, a gwnes i eu hargyhoeddi i ddychwelyd i'r ardal i gynnal asesiad personol a chwrdd â thrigolion pryderus. Mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymuned yn dod at ei gilydd i beidio â derbyn 'na' fel ateb. Disgwylir canolfan dros dro o fewn tri mis, felly mae'n amlwg bod momentwm yn datblygu. O gofio bod canolfannau bancio yn cael eu gweithredu drwy'r Swyddfa Bost, a'n bod ni wedi ymrwymo yn ein maniffesto i ddiddymu ardrethi busnes ar gyfer swyddfeydd post, a wnewch chi ymrwymo i'r un peth, i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn cael amser i anadlu fel y gallan nhw gefnogi canol ein trefi, ein strydoedd mawr a'n cymunedau?

Rwyf innau hefyd wrth fy modd o weld y ganolfan fancio honno sy'n mynd i gael ei chefnogi yn Noc Penfro. Os oes cymuned erioed y bu angen iddi wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael mynediad at gyllid ac at eu harian eu hunain, y gymuned honno yno yn Noc Penfro yw honno. Rwy'n deall pam rydych chi'n gwneud y cynnig hwn o ddiddymu ardrethi busnes i bawb. Yr hyn nad ydych chi'n ei ddweud wrthyn nhw yw faint mae'n ei gostio i wneud hynny. Rwy'n credu ein bod ni angen ychydig o onestrwydd gan y Blaid Geidwadol o ran costau'r hyn y maen nhw'n ei gynnig—y costau nid yn unig o ran y busnesau, ond y gost i wasanaethau cyhoeddus eraill a fydd yn cael eu torri o ganlyniad i'r hyn yr ydych chi'n ei wneud mewn mannau eraill.

Prif Weinidog, ar nodyn mwy cadarnhaol, tybed a fyddech chi'n cytuno â mi nad yw'r ffordd i adfywio strydoedd mawr yn llwyddiannus yn dibynnu yn y pen draw ar un model sy'n addas i bawb ond ar bartneriaeth sy'n cael ei ffurfio rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a busnesau lleol, a sefydliadau diwylliannol hefyd. Efallai mai hwn fydd fy nghyfle olaf i siarad am lwyddiant buddsoddiad Llywodraeth Cymru ym Mhontypridd—llwyddiant a ddaeth mewn gwirionedd o grant o £1 filiwn o dan y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, i alluogi'r cyngor i brynu'r rhydd-ddaliad ar ganolfan siopa adfeiliedig Taf, ac yna trafodaeth gydag arweinydd y cyngor, Andrew Morgan, am sut y gellid defnyddio honno i ddatblygu'r gwaith o drawsnewid canol y dref, sydd bellach wedi digwydd. Roedd achos busnes, a oedd wedyn yn golygu sgwrs gyda Ken Skates, a gytunodd mai Pontypridd fyddai'r lle delfrydol ar gyfer lleoliad Trafnidiaeth Cymru. Ac ychwanegwch at hynny yr hyn sydd yn ôl pob tebyg dros £100 miliwn o fuddsoddiad sydd wedi cael ei wneud, oherwydd mae hefyd i ddiogelu hunaniaeth ddiwylliannol y dref—felly, datblygiad YMa, datblygiad y Muni, y gefnogaeth i Glwb y Bont pan gafodd ei effeithio gan lifogydd. O roi'r rheini at ei gilydd, rydym ni bellach yn gweld nifer yr ymwelwyr yn cynyddu ac rydym ni'n gweld trawsnewidiad enfawr o'r dref. Felly, nid oes un ateb sy'n addas i bawb, ond mae'r bartneriaeth honno wedi creu tref hynod fywiog sydd bellach yn tyfu. A ydych chi'n cytuno mai dyna'r dull y dylem ni fod yn edrych arno nawr o ran adfywio rhai o'n trefi a'n cymunedau?

13:45

Rwy'n credu bod y trawsnewidiad ym Mhontypridd wedi bod yn gwbl ryfeddol. Rwy'n cofio ymweld ychydig yn ôl a meddwl, 'Mae hyn yn ddrwg. Nid yw hyn yn dda o gwbl'. Yr hyn a oedd yn wych oedd pan wnaethon nhw ddechrau'r rhaglen honno o brynu'r ganolfan siopa. Dyna ddechrau'r trawsnewid, fel y dywedwch chi, ac yna Trafnidiaeth Cymru wir yn sefydliad angor i'r dref. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod pobl yn dod i mewn, maen nhw'n gwario yn y siopau lleol, ac mae hynny i gyd yn dechrau annog symudiad. Mae wedi bod yn drawsnewidiad rhyfeddol. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gallu gweithio'n agos iawn gyda chyngor Rhondda Cynon Taf o dan arweinyddiaeth y rhyfeddol Andrew Morgan, a fydd yn cam i lawr yn fuan iawn fel arweinydd y cyngor hwnnw. Hoffwn dalu teyrnged iddo yma am y gwaith rhyfeddol y mae wedi ei wneud nid yn unig ar ran pobl Pontypridd a RhCT, ond hefyd ar ran pobl Cymru, oherwydd ni allaf ddechrau dweud wrthych chi pa mor allweddol y mae wedi bod o ran arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Roedd y gwaith a wnaeth yn enwedig yn ystod y pandemig yn gwbl ryfeddol. Dymunaf yn dda iawn iddo pan fydd yn camu i lawr fel arweinydd y cyngor.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nesaf. Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Mae rhyfel yr Arlywydd Trump yn erbyn Iran wedi ansefydlogi marchnadoedd ynni yn rhyngwladol, ac mae hynny, yn ei dro, wedi taro dinasyddion Cymru yn eu pocedi. Wrth gwrs, dwi'n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd £3.8 miliwn ar gael i gefnogi aelwydydd yng Nghymru sydd yn defnyddio olew gwresogi, ond dwi'n ofni y bydd diffyg manylion y cyhoeddiad yn golygu bod ansicrwydd a phryderon yn parhau. A all y Prif Weinidog ddiweddaru'r Senedd ar ba pryd fydd yr arian yn cael ei rannu yng Nghymru? A ydy hi'n cytuno efo fi y bydd unrhyw oedi yn creu caledi go iawn i bobl wrth i brisiau barhau i godi yn ddyddiol? A thra, wrth gwrs, bod eisiau targedu yn gyntaf y rhai sydd fwyaf angen help, mae yna lawer o bobl sydd ddim yn mynd i fod yn gymwys am arian drwy'r gronfa cymorth dewisol sy'n dal yn mynd i fod yn wynebu caledi go iawn. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud pa gamau y bydd hi yn eu cymryd i wthio ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfrannu rhagor o gymorth iddyn nhw?

Rwy'n falch iawn o weld bod Prif Weinidog y DU yn gwrthsefyll pwysau gan Arlywydd yr Unol Daleithiau i gymryd mwy o ran yn y rhyfel hwnnw, ond gadewch i ni fod yn eglur, mae'r rhyfel hwn yn mynd i effeithio arnom ni—mae'n gwneud hynny eisoes, ac mae pobl Cymru eisoes yn cael trafferth gyda phwysau costau byw. Mae angen i ni weld dad-ddwysau, ac rwy'n gwybod mai cyfrifoldeb Prif Weinidog y DU yw rhoi ein gwlad yn gyntaf. Rwy'n falch iawn bod gwersi wedi cael eu dysgu o ryfel Irac.

Mae'r effaith yn real, ac mae'n digwydd eisoes. Mae prisiau petrol wrth y pympiau eisoes yn codi. Rwy'n pryderu'n arbennig, fel yr ydych chi, am y bobl hyn sy'n ddibynnol ar olew. Mae pobl eraill wedi'u diogelu, am y tro o leiaf, drwy'r cap prisiau. Gadewch i mi fod yn eglur, fodd bynnag, bod gennym ni gronfa cymorth dewisol eisoes, a'r Sefydliad Banc Tanwydd, ac mae pobl yn gallu cael gafael ar arian yn y fan honno eisoes drwy eu hawdurdodau lleol. Rwy'n credu bod honno'n neges yr wyf i eisiau ei gwneud yn gwbl eglur i bobl sydd mewn trafferthion.

Mae'r £3.8 miliwn hwnnw yn ychwanegol. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i siarad â'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf am yr angen i gydnabod bod mwy o bobl yng Nghymru, yn gymesur, yn ddibynnol ar olew i wresogi eu cartrefi. Cydnabuwyd hynny yn y swm o arian yr ydym ni'n ei gael yn gymesur, a bydd yr arian hwnnw bellach ar gael i ychwanegu at yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth eisoes yn ei roi i mewn.

13:50

Fe wnes i ofyn yn benodol am ba bwysau fyddai'n cael ei roi i ofyn am gymorth i bobl na fydd yn gallu cael gafael ar arian drwy'r cynlluniau hynny, sydd ar incwm isel ac a fydd yn cael eu dyrnu gan y prisiau cynyddol. Byddwn yn croesawu unrhyw wybodaeth bellach gan y Prif Weinidog.

Hoffwn ddychwelyd nawr, fodd bynnag, at fater y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yr wythnos diwethaf yn y Siambr. Dywedodd bryd hynny, ac rwy'n dyfynnu:

'fe fyddaf i'n mynd i Landudno i agor canolfan orthopedig newydd, canolfan lawfeddygol newydd, ac mae hynny'n newyddion gwych—canolfan lawfeddygol arall. Rwy'n credu mai saith sydd gennym ni, a hon fydd yr wythfed, ac rwy'n credu bod un arall o bosibl. Felly, dyna ni'n siarad am naw canolfan lawfeddygol yng Nghymru.'

Cafodd gweithwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr ym maes darparu arbenigedd llawfeddygol eu synnu'n fawr gan y datganiad hwnnw gan y Prif Weinidog. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, y bu galw gan weithwyr iechyd proffesiynol am yr hyn y mae Plaid Cymru yn addo ei ddarparu, sef canolfannau llawfeddygol achrededig, sy'n rhywbeth penodol. A all hi restru'r naw canolfan lawfeddygol achrededig y soniodd amdanyn nhw yr wythnos diwethaf?

Gallaf, ac rwyf i wedi bod yn eu gwthio nhw ar hyn, gan fy mod i'n gweld eich bod chi'n troi braidd yn bigog oherwydd y 10 canolfan lawfeddygol newydd yr ydych chi'n eu haddo ar ben y rhai yr ydym ni eisoes wedi eu cyflwyno. Bu rhai newydd a sefydlwyd, er enghraifft, yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac a dweud y gwir, roedd y rhestrau aros yn Abertawe yn anhygoel o hir tan i'r ganolfan lawfeddygol newydd honno gael ei hagor, ac mae hynny bellach wedi trawsnewid y sefyllfa yn yr ardal honno. Dim ond un o lawer o'r saith canolfan lawfeddygol sy'n bodoli eisoes yw honno. Fel y dywedais i, bydd un newydd yn Llandudno ac un newydd hefyd yn ardal Llantrisant, a fydd yn cael ei chydgysylltu rhwng y tri bwrdd iechyd yn yr ardal honno: cyfle gwirioneddol i ni arddangos cydweithio, gan ddeall y pwysau sydd ar bobl. Y gwir amdani yw bod ein rhestrau aros, heddiw, wedi lleihau am saith mis yn olynol, a bu hynny'n bosibl dim ond oherwydd ein bod ni wedi cael yr arian ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth y DU. Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng troi'r tapiau hynny ymlaen a'n gallu i leihau'r rhestrau aros hynny. Rwy'n credu y dylem ni fod yn falch iawn o'r hyn yr ydym ni eisoes wedi ei wneud o ran canolfannau llawfeddygol. Fel y dywedais i, mae'r un newydd yn Llandudno a'r un newydd yn Llantrisant hefyd yn rhai yr wyf i'n siŵr y byddwn ni'n eithriadol o falch i'w cefnogi.

Llywydd, fe wnes i ddewis fy ngeiriau yn ofalus. Chlywodd y Prif Weinidog ddim fy nghwestiwn cyntaf y prynhawn yma; mae'n amlwg na chlywodd hi fy ail gwestiwn chwaith. Onid yw'n wir, Prif Weinidog, nad oes wyth canolfan lawfeddygol achrededig a nawfed ar y ffordd, ac mewn gwirionedd ni all fod, oherwydd dim ond y mis diwethaf y cyhoeddwyd yr alwad am ddatganiadau o ddiddordeb i sefydlu canolfannau achrededig? Roedd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon mor ddryslyd ag yr oeddwn i pan ddywedodd y Prif Weinidog yr hyn a ddywedodd yr wythnos diwethaf. Onid yw'n wir mai ychydig sydd wedi newid ers asesiad y coleg brenhinol yn yr hydref? Dyfynnaf eto fod datblygiad canolfannau llawfeddygol yng Nghymru wedi cael ei gyfyngu a'i blagio gan oedi a bod hyn wedi dod yn fwy amlwg o'i gymharu â sefydlu canolfannau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rwy'n sôn am y canolfannau achrededig y mae'r llawfeddygon yn galw amdanyn nhw. Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu ar sail argymhellion arbenigwyr ac yn sefydlu, ie, 10 canolfan lawfeddygol achrededig—dim mwy o betruso ac oedi. Pam mae'r Prif Weinidog mor fodlon â rhoi'r ddelwedd o gynnydd yn unig, yn hytrach na'i sicrhau mewn gwirionedd, fel y byddai Plaid Cymru?

Y gwir broblem yma yw a allwch chi wahanu gofal wedi'i gynllunio oddi wrth ofal brys. Dyna oedd gwers y pandemig. Dyna oedd neges y pandemig. Mae angen i chi allu gwahanu'r rheini. Mae hynny'n anoddach mewn gwlad fel ein gwlad ni. Gallwch chi ei wneud yng Nghaerdydd. Mae gennych chi Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac rydych chi'n gallu darparu'r gofal wedi'i gynllunio yn Llandochau—canolfan fawr, llawer haws. Mae hynny'n anoddach mewn ardaloedd eraill, a dyna pam mae'n rhaid i chi dynnu'r gwahanol fyrddau iechyd hyn at ei gilydd. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod gennym ni saith canolfan yng Nghymru eisoes, lle mae gennym ni'r gwahaniad hwnnw. Y peth sy'n bwysig i bobl Cymru yw bod y rhestrau aros hynny yn lleihau. Gallwch chi eu galw nhw'n beth bynnag yn y byd yr ydych chi ei eisiau, y cwestiwn yw a yw'r rhestrau aros yn lleihau. A'r ateb i hynny yw 'ydyn' pendant.

13:55

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, hoffwn droi at faterion o fywyd a marwolaeth. Neithiwr, darlledodd Y Byd ar Bedwar raglen a oedd yn peri gofid mawr yn datgelu realiti gofal mewn coridorau yn ysbytai'r gogledd. Datgelodd fod bron i 90,000 o gleifion wedi cael eu trin mewn coridorau yn y gogledd dros y tair blynedd diwethaf. Cyfwelodd Steve Jones, gŵr 68 oed. Roedd wedi treulio 44 awr mewn coridor yn Ysbyty Glan Clwyd mewn poen aruthrol â choden y bustl fadreddog. Disgrifiodd y sefyllfa yno fel parth rhyfel. Ceisiodd meddygon ei anfon adref oherwydd pwysau ar welyau, ac oni bai am ddyfalbarhad ei wraig fel cyn-nyrs—. Oherwydd ei hymyrraeth hi, cafodd ei ail-archwilio. Oni bai am ei hymyrraeth hi, ni fyddai wedi cael ei ruthro i gael llawdriniaeth frys i dynnu ei goden y bustl, ac mae'n debygol nawr, yn anffodus, y byddai wedi marw. A allwch chi ddweud wrthyf i, Prif Weinidog, a wnaethoch chi wylio'r rhaglen honno? Ac a wnewch chi dderbyn o'r diwedd bod y GIG yng Nghymru mewn argyfwng llawn?

Ni wyliais i'r rhaglen, ond rwyf i wedi clywed am y sefyllfa yng Nglan Clwyd. Rwy'n credu bod y sefyllfa yn gwbl annerbyniol. Mae'n peri gofid enfawr i'r bobl sy'n aros i gael eu trin yno. Gadewch i mi fod yn eglur: mae gofal mewn coridorau yn annerbyniol. Dyna safbwynt Llywodraeth Cymru. Dyna pam rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n osgoi i bobl orfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Rydym ni'n rhoi llawer mwy o ofal yn y gymuned. Rydym ni wedi cynyddu nifer y bobl sy'n gweithio yn y GIG 14 y cant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw honno'n nifer fach. Rydym ni'n ceisio cynyddu nifer y nyrsys cymunedol i wneud yn siŵr y gallwn ni gynorthwyo pobl ac osgoi iddyn nhw orfod mynd i ysbytai. Y gwir yw ein bod ni'n buddsoddi mewn pethau fel ail-alluogi, fel y gallwn ni gael pobl allan cyn gynted â phosibl hefyd. Mae llawer iawn o fuddsoddiad yn cael ei wneud yn y cysylltiad hwnnw rhwng y GIG a gofal. Ac, wrth gwrs, yr oedi wrth drosglwyddo gofal—rwy'n falch iawn o ddweud bod hynny yn lleihau. A oes gennym ni fwy i'w wneud? Wrth gwrs bod gennym ni. Mae'r gofynion ar y GIG yn gwbl ryfeddol. Ond rwy'n falch o weld y bydd pethau fel datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra yn helpu i dynnu pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd.

Rwy'n siomedig na chawsoch chi'r cyfle i wylio'r rhaglen honno. Byddwn i'n annog pob Aelod o'r Senedd i'w gwylio i weld drostyn nhw eu hunain maint yr her. Wnaethoch chi ddim cydnabod bod argyfwng yn ein GIG. Mae'n air sy'n cael ei ddefnyddio nid gen i yn unig, ond mae pobl eraill yn ei ddefnyddio hefyd. Roedd nyrs o Ysbyty Gwynedd a gafodd ei chyfweld. Dywedodd fod y GIG mewn argyfwng, bod gofal mewn coridorau yn ddigwyddiad bob dydd—nid oedd ers talwm—a bod staff bellach yn teimlo cywilydd am ansawdd is-safonol y gofal y maen nhw'n cael eu gorfodi i'w ddarparu.

Ac nid yw'n fater o'r enghreifftiau hyn a'r enghreifftiau yn y rhaglen honno yn unig. Yn gynharach y mis hwn, roedd Nadia Wainwright o Henllan yn Ysbyty Glan Clwyd yn yr adran achosion brys ar ôl i'w phartner fynd yn sâl. Soniodd am ei dychryn o weld menyw oedrannus yn marw ar ei phen ei hun, mewn trallod, ar droli mewn coridor, heb urddas, o flaen cleifion eraill. Yn y pen draw, tynnwyd cynfas dros wyneb yr hen wraig honno tra bod cleifion eraill yn aros am driniaeth o'i chwmpas. Nid yw'n ddigon da. Nid yw'n ddigon da o gwbl. Mae gen i ofn bod pobl bellach yn ofni mynd i'r ysbytai hyn i gael triniaeth.

A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog: a wnewch chi fanteisio ar y cyfle heddiw i ymddiheuro i'r bobl hynny sy'n cael y problemau hyn, nid yn unig yn y gogledd, ond ledled y wlad gyfan, yn y ffordd anurddasol hon, ac i'r staff sy'n cael eu gwthio i'w torbwynt? Oherwydd nid y bobl hynny yn unig sy'n cael eu hamddifadu o'u hurddas ac yn cael eu diogelwch wedi'i beryglu, mae'r staff hynny yn dioddef hefyd.

14:00

Bob dydd rwy'n poeni am bobl sydd wedi cael eu methu gan y GIG yng Nghymru. Rwy'n meddwl am y bobl sy'n rhoi eu calon a'u henaid i geisio cynorthwyo pobl yn ein GIG—dros 100,000 o bobl sy'n gweithio bob un dydd i geisio gwella bywydau pobl yn ein cymunedau. Ond, ydw, rwy'n poeni am y bobl nad ydyn nhw'n cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu. Mae'r pwysau ar y system yn gwbl, gwbl ryfeddol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n meddwl hefyd am y nyrsys hynny yn Ysbyty Gwynedd, ac rwy'n meddwl am y cynnydd i nifer y nyrsys yr ydym ni wedi ei weld ers i ni fod mewn Llywodraeth. Mae wedi bod yn gwbl ryfeddol y ffordd yr ydym ni wedi cynyddu'r cyllid sy'n mynd i'r GIG ar y raddfa sydd gennym ni.

Ond rydym ni, ers amser maith iawn, wedi cael ein hamddifadu o gyllid. Dyna realiti'r sefyllfa. Rydym ni wedi dioddef 14 mlynedd o gyni cyllidol, a nawr yr hyn sydd gennym ni yw'r tapiau yn cael eu troi ymlaen, yr arian ychwanegol. Rydym ni wedi cael y cynnydd mwyaf i gyllid yr ydym ni wedi ei gael ers sefydlu'r Senedd, a nawr gallwn ni roi'r cyllid ychwanegol hwnnw i mewn, a dyna pam mae'r rhestrau aros hynny yn lleihau.

Rwy'n cydnabod bod y pwysau ar y GIG yn ddwys. Rwy'n cydnabod bod llawer o bobl yn dioddef. Ond rwy'n cydnabod hefyd, mewn gwirionedd, ledled Cymru, bob un dydd, bod cannoedd o filoedd o bobl yn cael eu cynorthwyo gan ein GIG, ac rwyf i yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n siarad am y da yn ogystal â'r heriau yn y GIG.

Prif Weinidog, rhoddais y cyfle i chi ymddiheuro i staff, cleifion a'u hanwyliaid. Rhoddais y cyfle i chi gydnabod bod argyfwng yn GIG Cymru. Mae'n amlwg iawn nad yw'r camau yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd yn gweithio. Dydych chi byth yn mynd i ddatrys problem oni bai eich bod chi'n nodi ac yn cydnabod ei bod yn bodoli mewn gwirionedd.

Mae cleifion yn dweud wrthych chi fod argyfwng. Mae staff yn dweud wrthych chi fod argyfwng. Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng yn dweud wrthych chi fod argyfwng. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud bod argyfwng, ac felly hefyd Cymdeithas Feddygol Prydain. Mae pob un o'r sefydliadau hynny wedi galw am gynnydd sylweddol i nifer y gwelyau i adfer diogelwch ac urddas mewn gofal ac i atal pobl rhag marw mewn cypyrddau ysbytai ac ar goridorau o flaen pobl eraill. A ydych chi'n derbyn ei bod hi'n bryd tynnu'r llinyn rhwygo, datgan argyfwng iechyd a chynyddu'r niferoedd gwelyau hynny, fel bod gan y GIG y gallu i ddelio â'r sefyllfaoedd hyn? Mae'r GIG wedi bod yn ardderchog o ran gallu cynyddu capasiti yn y gorffennol yn ystod cyfnodau o argyfwng cenedlaethol. Fe'i gwelwyd yn ystod pandemig COVID. Felly, a wnewch chi ddatgan yr argyfwng iechyd hwn cyn i fwy o fywydau gael eu colli yn ddiangen o ganlyniad i'r sefyllfa hon?

Y ffaith yw bod y rhestrau aros wedi lleihau saith mis yn olynol. Roedd hyn yn flaenoriaeth i ni, ac rydym ni'n cyflawni hynny. Nawr, efallai eich bod chi eisiau gwadu hynny, ond dyna'r sefyllfa. A'r ffaith amdani yw bod hynny wedi digwydd oherwydd ein bod ni wedi rhoi arian ychwanegol i mewn. Ac o ble cawsom ni'r arian ychwanegol hwnnw? Gan Lywodraeth Lafur y DU. A wyddoch chi beth, Darren? Cawsoch chi gyfle i bleidleisio dros arian ychwanegol i fynd i'r GIG, a dewisoch chi bleidleisio yn erbyn. Felly, pan fyddwch chi'n mynd i siarad â'ch ffrindiau yn y GIG ac rydych chi'n dweud, 'Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf i dalu am hyn, hyn a'r llall', dywedwch wrthyn nhw nad ydych chi'n mynd i fod yn gwario ein harian ni ar hynny gan eich bod chi'n mynd i fod yn ailadeiladu'r M4. Mae honno'n broblem i chi. Mae angen i chi fod yn onest gyda phobl y wlad hon. Mae angen i chi fod yn onest. Rydych chi'n siarad drwy'r amser am yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud, ond rydych chi addo drwy'r amser y toriadau ychwanegol hyn yr ydych chi'n mynd i fod yn eu rhoi ym mhobman. Y ffaith amdani yw, pan ydych chi mewn Llywodraeth, mae'n rhaid i chi wneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Rydym ni wedi gwneud y penderfyniadau anodd hynny, ac rydym ni wedi blaenoriaethu'r GIG, ac rydym ni'n falch iawn o hynny.

Rygbi Rhanbarthol

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'u bwriad i ad-drefnu rygbi rhanbarthol? OQ63985

Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wrth ein boddau o weld Cymru yn troi cornel ar eu record anodd ddydd Sadwrn, o'r diwedd. Rydym ni wedi annog URC i wneud yn siŵr ei bod yn gwrando'n ofalus ar farn clybiau, chwaraewyr, cefnogwyr a phawb sydd â buddiant mewn cynigion i newid y gêm broffesiynol. Mater i URC yw dyfodol y gêm, ac rydym ni i gyd eisiau gweld Cymru yn ffynnu eto fel cenedl rygbi lwyddiannus.

14:05

Mae pawb sy'n byw yn Abertawe a'r cyffiniau yn eithaf unedig ynglŷn â'r ffaith bod Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud llanast llwyr o'r ad-drefniad hwn o rygbi Cymru, gan leihau nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri. Yr wythnos ddiwethaf hon, byddwch chi wedi gweld cyfres o gofnodion a ddatgelwyd o gyfarfod rhwng Undeb Rygbi Cymru a Chyngor Abertawe yn cadarnhau mai eu bwriad yw cau rhanbarth rygbi'r Gweilch erbyn diwedd tymor 2026-27. Nawr, ymdriniwyd â hyn yn ofnadwy drwy'r broses gyfan. Mae cefnogwyr wedi cael eu gadael yn y tywyllwch yn llwyr, wedi gorfod darganfod beth oedd yn digwydd trwy femos a ddatgelwyd a thrafodaethau mewnol sy'n cael eu cynnal, ac mae'n gwbl annerbyniol. Rwy'n credu, pe bai unrhyw sefydliad diwylliannol arall yng Nghymru ar fin cael ei gau a bod etholwyr yn cael eu trin fel hyn, byddai Llywodraeth Cymru, yn briodol, yn ei feirniadu. Rwy'n deall na all Llywodraeth Cymru ddod i mewn a rhedeg yr undeb rygbi a dweud wrtho beth i'w wneud, ond mae ganddi gyfrifoldeb i feirniadu pethau allan pan fyddan nhw'n anghywir, ac mae hyn yn hollol anghywir ar ran Undeb Rygbi Cymru, yn y penderfyniadau y mae'n eu gwneud ac yn y ffordd y mae'n mynd ati i'w gwneud. Felly, Prif Weinidog, os ydych chi'n cytuno â mi a'm hetholwyr bod y ffordd y mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymdrin â'r sefyllfa hon yn anghywir, a wnewch chi ymuno â mi i'w feirniadu?

Edrychwch, mae rygbi yn angerdd, rydym ni i gyd yn ei gefnogi, rydym ni i gyd eisiau gweld y gamp yn ffynnu, ond y ffaith amdani yw nad yw URC yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, mae'n sefydliad annibynnol. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i ymyrryd, hyd yn oed pe baem ni eisiau, yn y ffordd y mae'r sefydliad yn cael ei redeg neu'r penderfyniad y mae'n ei wneud, neu i gyfarwyddo'r URC i gymryd unrhyw gamau penodol. Wrth gwrs, rydym ni'n annog URC i ymgysylltu, rydym ni'n eu hannog i fod yn dryloyw a byddem yn argymell eu bod nhw'n cynnal ymgynghoriad eang iawn.

Wrth gwrs, mae nifer ohonom ni yn y Siambr hon yn edrych ar gynllwynion mewnol URC ac yn anobeithio. Mae Tom yn iawn, realiti'r sefyllfa yn y Gweilch yw ein bod ni'n edrych ar gynnig a fydd yn cael effaith sylweddol ar ein cymunedau, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Nawr, yn ôl pan oeddwn i'n iau yn chwarae rygbi, diolch i'r Gweilch y cefais i'r cyfle i fynd i ymarfer yng Nghanolfan Ragoriaeth Genedlaethol URC. Rwy'n gwybod bod hynny'n anodd ei gredu pan edrychwch chi arnaf i nawr, ond arweiniodd y cyfleoedd hynny at rai o'n chwaraewyr yn nhîm Cymru i gyrraedd lle maen nhw nawr—pobl fel Owen Watkin, a chwaraeodd i'r Gweilch, ac a symudodd ymlaen wedyn i chwarae yn URC dros y wlad ar ryw adeg.

Nawr, ceir swyddogaeth, rwy'n credu, i'r Llywodraeth yma o ran cael y sgyrsiau hynny gydag URC. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn ariannu URC mewn rhai ffyrdd. Ceir swyddogaeth arweinyddiaeth, rwy'n credu, y mae pobl yn chwilio amdani gan Lywodraeth Cymru yn yr achos hwn, yr arwydd hwnnw o le mae angen i bethau fynd. Felly, byddwn i'n adleisio galwadau Tom ar hyn. Os ydych chi'n cytuno â mi, fy etholwyr, bod y sefyllfa, mewn gwirionedd, â'r Gweilch yn diflannu yn golled enfawr iawn i ranbarth sydd eisoes wedi dioddef ergydion economaidd enfawr, yna peidiwch â chamu i mewn, ond cynhaliwch y y sgyrsiau hynny gydag URC. Dewch o hyd i'r ffyrdd amgen hynny ymlaen, oherwydd nid yn unig yr ydym ni'n colli clwb yma, nid yn unig yr ydym ni'n colli sefydliad diwylliannol, rydym ni'n colli ysgogiad economaidd enfawr i'n rhanbarth.

Wel, rwy'n ymwybodol bod Cyngor Abertawe yn rhan o sefyllfa gyfreithiol, felly mae'n bwysig troedio'n ofalus ar hyn. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad sefydliadau chwaraeon yn unig yw clybiau proffesiynol, maen nhw hefyd yn gyflogwyr lleol sylweddol ac yn gyfranwyr at yr economi ehangach honno, gan gynnwys twristiaeth a lletygarwch. Maen nhw'n gadwyn gyflenwi, os meddyliwch chi am drawsnewidiad y dref ar ddiwrnod gêm. Felly, rwyf i yn credu bod angen iddyn nhw gymryd yr effaith economaidd a chymunedol honno i ystyriaeth, ac mae'n rhaid i unrhyw fodel yn y dyfodol barchu'r cysylltiadau dwfn rhwng timau a'u cymunedau.

Bydd yr ad-drefnu arfaethedig yn arwain yn anochel at golli swyddi. Mae'r Gweilch, yn ôl y Western Mail, yn cyflogi dros 100 o bobl. Mae'n fater cyflogaeth. A phan fo'r Gweilch yn chwarae, mae'r bwyd a diod sy'n cael eu gwerthu o gwmpas y cae yn cynyddu. Mae'n fater o economi Abertawe, nid mater chwaraeon yn unig. A yw Llywodraeth Cymru wedi codi effaith economaidd cau un o ranbarthau rygbi Cymru? Mae clybiau chwaraeon yn cynhyrchu teyrngarwch lleol enfawr. Allwch chi ddim dweud wrth gefnogwr tîm bod tîm arall y gallan nhw ei gefnogi i lawr y ffordd. Fel y gwelsom ni ym Morgannwg Ganol, nid yw cefnogwyr yn ddarnau symudol—maen nhw naill ai'n aros gartref neu'n gwylio rhywbeth arall, fel yr uwch gynghrair ar y teledu. Os ydym ni eisiau i bobl fod yn gefnogol o rygbi Cymru, yna mae angen i ni ei barhau.

14:10

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymgysylltu ag URC ar iechyd a chynaliadwyedd cyffredinol y gêm. Rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny, ar lefel weinidogol a swyddogol. Rydym ni wedi gwneud hynny, ac rwy'n diolch i Jack Sargeant am ei arweinyddiaeth ar hyn. Mae'r trafodaethau wedi ymdrin â'r gêm gymunedol, iechyd a llesiant chwaraewyr, pryderon ynghylch cyfergyd ac, er enghraifft, datblygiad gêm y menywod.

Os bydd unrhyw swyddi'n cael eu colli, diswyddiadau, mewn unrhyw gyd-destun, fel gydag unrhyw sefydliad arall, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, fel Cymru'n Gweithio a'r Ganolfan Byd Gwaith, i sicrhau y bydd pobl sy'n cael eu heffeithio yn derbyn yr wybodaeth, y cyngor a'r cyfarwyddyd sydd eu hangen arnyn nhw. Ond nid wyf i'n credu ein bod ni wedi gweld diwedd y stori hon eto, ac mae'n bwysig i ni ganiatáu i'r broses gael ei chymryd i'w therfyn, ond mae'r casgliad hwnnw yn rhywbeth ac yn benderfyniad i URC.

Mae gennym ni gefnogaeth drawsbleidiol ar hyn, Prif Weinidog. Mae yna lawer iawn o bryder ynghylch y mater hwn. Y clybiau rygbi hyn yw calon bendant y gymuned mewn mannau fel Cwm Tawe ac Ystradgynlais, yr wyf i'n eu cynrychioli. Maen nhw'n fannau y mae pobl yn mynd iddyn nhw am gymorth iechyd meddwl, am gyfeillgarwch, am y gallu i gysylltu â phobl eraill, am gyfle cymdeithasol. Dyma rai o'n cymunedau mwyaf difreiniedig a datgysylltiedig, ac maen nhw wedi chwilio am ffordd o gysylltu â'i gilydd, ac mae hynny trwy glybiau rygbi. Efallai nad ydyn nhw'n chwarae rygbi, ond maen nhw'n mynd i'r clwb rygbi er mwyn cysylltu â'i gilydd, ac eto rydym ni'n gweld y bygythiad hwn ar y gorwel, y bygythiad hwn i'w bywydau, eu llesiant a'u cymunedau. Ac maen nhw wedi cael eu taro'n enfawr gan gynifer o bethau eraill.

Ynghyd ag eraill yn y Siambr hon, ac mae gennym ni'r gefnogaeth drawsbleidiol yma, byddwn yn erfyn arnoch chi, gan fod Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn ar faterion diwylliannol eraill a materion chwaraeon eraill, mai dyma'r amser i gamu i mewn bellach a sicrhau bod y Gweilch a'r timau rhanbarthol hynny yn aros fel y maen nhw er mwyn cefnogi'r cymunedau hynny, a pheidio, a bod yn onest, dweud, 'Does dim ots gennym ni amdanoch chi mwyach, rydym ni'n camu yn ôl.' Peidiwch â chamu yn ôl. Diolch yn fawr iawn.

A gaf i fod yn eglur? Dydyn ni erioed wedi dweud, 'Does dim ots gennym ni amdanoch chi mwyach.' Nid dyna safbwynt Llywodraeth Cymru, ond nid safbwynt Llywodraeth Cymru na chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gwneud penderfyniadau ar ran URC. Maen nhw'n sefydliad annibynnol, ac mae'n bwysig eu bod nhw'n gwneud y penderfyniadau hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, fodd bynnag, yw cydnabod, er enghraifft, bod clybiau rygbi yn ganolog i gynifer o gymunedau, a dyna pam mai un o ymrwymiadau'r Llywodraeth yn ei rhaglen lywodraethu yw hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau ar lawr gwlad. Y ffaith amdani yw ein bod ni wedi buddsoddi bron i £60 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden, ac mae hynny'n mynd i gyfleusterau cenedlaethol blaenllaw ac adnoddau ar lefel llawr gwlad.

Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl bobl hynny sy'n gweithio ar lefel llawr gwlad, sy'n cadw ein cymunedau yn fyw, sy'n gweithredu fel y glud cymdeithasol i lawer o'n cymunedau. Ceir gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, trefnwyr, hyrwyddwyr lleol—mae'r holl bobl hyn yn gwbl hanfodol i gynifer o'n cymunedau, a hoffwn ddiolch iddyn nhw heddiw.

Parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam? OQ63995

Rwy'n ymwybodol o'r rhwystredigaeth gwirioneddol y mae cleifion yn ei deimlo pan fydd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i le parcio ar gyfer apwyntiadau ysbyty, a'r anfodlonrwydd gwirioneddol yr oedd pobl yn ei deimlo pan oedd yn rhaid iddyn nhw dalu am barcio yn yr ysbyty—cofiwch y dyddiau hynny. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn falch ein bod ni, yn wahanol i Loegr, yn cynnig parcio am ddim yn ein hysbytai. Ond rydym ni hefyd yn cydnabod nad oes digon o leoedd parcio yn aml, neu fod y lleoedd parcio yn cael eu defnyddio gan bobl nad oes ganddyn nhw unrhyw hawl i fod yno. Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am reoli a gweithredu ei feysydd parcio, ac mae angen iddyn nhw wneud yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud er mwyn datrys y sefyllfa.

Diolch. Mae ysbyty Maelor, fel y mwyafrif o ysbytai, yn cael trafferth yn darparu digon o leoedd parcio i gleifion, i staff ac i ymwelwyr, ac mae'n fater pwysig iawn yn fy etholaeth i, ac mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi ac yn parhau i gysylltu â mi am y mater. Yn ddiweddar, roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod gyda swyddogion y bwrdd iechyd i edrych ar fanylion ynghylch parcio ceir yn ysbyty Maelor, ac, oherwydd y diffyg lleoedd sydd ar gael, mae pobl yn parcio ar balmentydd, maen nhw'n parcio ar lwybrau ac maen nhw'n parcio ar linellau melyn dwbl, ac mae hynny'n golygu, i ddefnyddwyr cadair olwyn neu fynediad i gadeiriau gwthio, nad yw'n bodoli o gwbl, ac wrth gwrs mae'n eithriadol o beryglus i bobl sydd ag amhariad ar eu golwg. Felly, un awgrym oedd disodli'r llinellau melyn dwbl sydd yno ar hyn o bryd, ond sy'n cael eu hanwybyddu'n llwyr, gyda llinellau coch dwbl. A'r rhesymeg dros hyn yw y byddai'r bwrdd iechyd wedyn yn gallu dwyn i gyfrif y gyrwyr sy'n parcio ar y llinellau coch dwbl hynny mewn ffordd na allan nhw ei wneud gyda llinellau melyn dwbl. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi cam o'r fath, ac a ellid rhoi ystyriaeth i ddarparu swm bach o arian a fyddai ei angen i'w weithredu?

14:15

Diolch. Fe wn i pa mor rhwystredig y mae pobl yn teimlo. Fe glywais i hyn yn blaen iawn, ei bod yn dod yn broblem fawr iawn i bobl wrth geisio cael lle i barcio yn Ysbyty Wrecsam Maelor. Ac rwy'n cytuno ynglŷn â'r angen i gyflwyno mesurau i wella gweithrediad a rheolaeth parcio ceir ar y safle. Mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod ei bod hi'n broblem. Rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu siarad â nhw'n uniongyrchol.

Nawr, mae llinellau melyn dwbl yn nodi nad oes parcio i fod ar unrhyw amser, tra bod llinellau coch dwbl yn gwahardd aros yno am unrhyw reswm o gwbl. Ond y broblem wirioneddol yw: a fyddai hynny'n newid ymddygiadau, beth bynnag fo lliw'r llinellau? Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yw i'r bwrdd iechyd ystyried mesurau gorfodi o ran parcio anghyfreithlon. Felly, ni fyddai lliw'r llinellau yn gwneud unrhyw wahaniaeth; mae hyn yn ymwneud â gorfodi'r rheolau sydd ar waith yno ar hyn o bryd. Fe allen nhw ddod i gytundeb gydag awdurdod lleol, fe allen nhw ddefnyddio eu staff eu hunain, neu fe allen nhw roi cytundeb i rywun arall ar gyfer gorfodi. Ond penderfyniad yw hwnnw i'r bwrdd iechyd ac fe fyddai Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ystyried unrhyw geisiadau gan y bwrdd iechyd am gyllid yn ôl y blaenoriaethau eraill sy'n cystadlu amdano.

Canlyniadau Iechyd yn Nwyrain De Cymru

5. Pa flaenoriaethau mae'r Prif Weinidog yn eu gosod i gefnogi canlyniadau iechyd gwell yn Nwyrain De Cymru? OQ64017

Fe fyddwn ni'n parhau i gymryd ymagwedd drawslywodraethol gyfannol at wella canlyniadau iechyd i bawb yng Nghymru. Mae materion fel tlodi, addysg a thai i gyd yn cyfrannu at faterion a chanlyniadau iechyd. Cafodd ein blaenoriaethau eu nodi yn eglur yn ein rhaglen strategol, 'Cymru Iachach', sy'n cael ei diweddaru a'i hadnewyddu yn rheolaidd. Mae honno'n nodi ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru, ac rydym ni'n mabwysiadu wyth egwyddor Marmot ar sail genedlaethol i ysgogi iechyd a llesiant gwell i bawb eto.

Diolch. Prif Weinidog, ar ôl 27 mlynedd o lywodraethu gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yng Nghymru mae'n gywilyddus ein bod yn gorfod rhoi mynd yn ôl at y pethau sylfaenol gymaint ag yr ydym ni. Nid yw pobl yn gallu gweld deintyddion y GIG, maen nhw'n aros yn llawer yn rhy hir i weld meddyg teulu, ac mae llawer yn dal i fod yn aros ar restrau am gyfnodau o amser sy'n annerbyniol. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn ennyn unrhyw falchder o gwbl, yn sicr.

Fe fydd Reform yn sicrhau y bydd pobl yn cael y gofal iechyd sylfaenol, gweddus, yn rhad ac am ddim yn y man y caiff ei gyflwyno, sef yr hyn y maen nhw'n ei haeddu ac y maen nhw'n gweithio yn galed iawn i dalu amdano. Rydych chi wedi methu fel Gweinidog Iechyd, rydych chi wedi methu fel Prif Weinidog, ac ni wnaiff ffugio'r ffigyrau guddio'r ffaith bod fy etholwyr i'n gwybod, ac rwyf innau'n gwybod, eich bod chi wedi ein siomi ni o ran eich rheolaeth o'r GIG. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod eich Llywodraeth chi wedi mynd yn brin o syniadau, a'i bod hi'n hen bryd i chi drosglwyddo'r awenau i Lywodraeth Reform y gall pobl yng Nghymru ymddiried ynddi i gael pethau i symud unwaith eto?

Wel, mae hi'n gwbl, gwbl ryfeddol. A wyddoch chi beth? Rydym ni wedi cyflawni yn gwbl ryfeddol, yn fy marn i, o ran niferoedd y bobl a gafodd eu cynorthwyo yn y GIG dros y pum mlynedd diwethaf. Os edrychwch chi ar yr hyn wnaethom ni o ran deintyddiaeth, 0.5 miliwn o apwyntiadau deintyddol newydd yn y GIG oherwydd ein bod ni wedi newid y cytundeb, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth, rwy'n credu, i bobl yng Nghymru. Ar ben hynny, mae yna 2.75 miliwn o apwyntiadau bob mis mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Nid niferoedd bychain mo'r rhain. Mae yna nifer enfawr o bobl sy'n cael eu cynorthwyo a'u cefnogi.

Ac rydych chi'n sôn am bobl sy'n brin o syniadau. Fe ddyweda' i wrthych chi: arhoswch chi nes y bydd ein maniffesto ni'n cael ei ryddhau. Rydym ni wedi nodi'r elfennau allweddol eisoes o ran yr addewidion a wnawn i'r cyhoedd yng Nghymru. Ond fe ddyweda' i hyn wrthych chi: mae Reform wedi dwyn eu syniadau nhw i gyd yn uniongyrchol oddi wrth y Blaid Geidwadol. Oherwydd wyddoch chi beth? Fe allwch chi roi unrhyw un o'ch dwy blaid chi'n gyfnewid am y llall, mwy neu lai. Rydych chi i gyd wedi dod o'r un blaid ar y dechrau. Felly, gadewch i ni fod yn onest ynglŷn â'r hyn y gall y GIG ei ddisgwyl oddi wrth Reform yn y dyfodol. Rwy'n dweud wrthych chi mai'r hyn y gallwn ni gredu a fydd yn dod gennych chi yn y dyfodol yw y byddai diddordeb gennych chi i breifateiddio agweddau ar y GIG. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ac fe wyddom ni fod eich arweinydd chi, yn y gorffennol, wedi cynnig y dylai premiwm yswiriant iechyd fodoli. Nawr, rwy'n credu bod angen i bobl Cymru wrando ar hynny, bod angen iddyn nhw glywed hynny, a bod angen cymryd y mater hwn o ddifrif, oherwydd, ymhen ychydig wythnosau, fe fyddan nhw'n mynd i bleidleisio ac fe fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau nhw, ac rwy'n dweud wrthych chi, os byddan nhw'n pleidleisio dros Reform, gadewch i mi fod yn eglur iawn y gallai trwbl fod o'n blaenau ni.

14:20
Gwasanaethau Deintyddol yng Nghaerffili

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau deintyddol yng Nghaerffili? OQ64019

Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd ein blychau post yn llawn o lythyrau gan bobl a oedd yn holi ynglŷn â thriniaethau deintyddol y GIG, ac rwy'n ymwybodol o ardaloedd lle mae mynediad at ddeintyddion y GIG yn dal i beri anhawster. Ond mae meddygfeydd deintyddol y GIG wedi bod yn cymryd cleifion newydd o ganlyniad i'r rhaglen ddiwygio ddeintyddol. Ers mis Ebrill 2022, mae dros 0.5 miliwn o gleifion newydd y GIG wedi cael cyrsiau llawn o driniaethau gan y GIG, sy'n cynnwys dros 112,000 o gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cafodd 54,000 o apwyntiadau eraill eu rhoi i gleifion newydd er mwyn cael gofal brys. Mae'r rhain yn niferoedd go fawr.

Niferoedd go fawr wir, Prif Weinidog. Mae tri deg pump o ddeintyddion wedi terfynu cytundebau'r GIG ledled Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf, a 10 ohonyn nhw ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy'n cwmpasu Caerffili. A hynny cyn i'r cytundeb deintyddol newydd ddod i rym yn y mis nesaf. Deintyddiaeth yw'r pwnc sy'n cael ei godi fwyaf aml gyda mi gan etholwyr, llawer ohonyn nhw'n cael gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd yn breifat er mwyn aros gyda'u deintyddion arferol. I'r rhan fwyaf o bobl, mae honno'n gost fawr ychwanegol y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd ei fforddio os, wrth gwrs, y gallan nhw ei fforddio o gwbl. Ac rwy'n gallu deall yr amcanion gwirioneddol dda y tu ôl i'r cytundeb newydd, ond a ydych chi'n pryderu y gallai'r cytundeb newydd hwn fod yn anymarferol cyn iddo gael ei roi ar waith, hyd yn oed? Beth a mae eich Llywodraeth chi wedi ei wneud yn wythnosau olaf y tymor Seneddol i osgoi'r argyfwng cynyddol hwn? Oherwydd, gyda phob parch, nid yw eich ffigyrau chi'n cyd-fynd â fy mewnflwch e-bost i. Yn wirioneddol, yn ddiffuant, dydyn nhw ddim. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau yn y fan hon yn teimlo'r un fath. Diolch i chi, Prif Weinidog.

Wel, gadewch i ni fod yn eglur nad yw'r cytundeb newydd wedi dechrau eto. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw, ar adeg pan fo costau byw yn effeithio fwyfwy ar bobl, fe fydd hi'n rhatach i gleifion yn y pen draw ac fe fydd hi'n fwy teg ar y deintyddion. Nawr, rwy'n cydnabod y bwlch sydd rhwng y bobl sy'n ymadael a'r ailgomisiynu wedyn. Oherwydd, mae'r arian yn aros yn y GIG—gadewch inni fod yn hollol eglur ynglŷn â hynny. Rwy'n credu mai dim ond tua 6 y cant o gytundebau deintyddol sydd wedi cael eu rhoi yn eu holau. Felly, rwy'n cael fy hysbysu, o'r 25 cytundeb sy'n weithredol ar draws bwrdeistref Caerffili, mae dau wedi trosglwyddo eu cytundebau yn eu holau. A £10 miliwn yw'r swm o arian sy'n mynd i mewn yno. Mae caffael o'r newydd yn cymryd amser. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n sicrhau y caiff ei gaffael o'r newydd. Fe fydd yn digwydd; fe fydd gwasanaeth ar gael i'r bobl hynny yn eich etholaeth chi.

Tipio Anghyfreithlon a Thaflu Sbwriel

7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yng ngogledd Cymru? OQ64009

Mae hi'n gas gan bawb ohonom ni weld sbwriel ar ein strydoedd, ac mae'r cynnydd o ran tipio anghyfreithlon yn fater y mae llwyr angen i ni roi diwedd arno. Dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu cyllid i helpu awdurdodau lleol i fynd ar ôl y rhai sy'n tipio yn anghyfreithlon a chefnogi'r cymunedau hynny sydd wedi cael llond bol ar weld sbwriel ar hyd eu strydoedd. Nawr, rydym ni wedi rhoi mwy o gefnogaeth i gynghorau lleol i geisio dal y troseddwyr sy'n tipio yn anghyfreithlon, gyda chamerâu newydd. Fe all pobl gael gafael ar offer casglu sbwriel o dros 200 o ganolfannau sbwriel ledled Cymru, ac rydym ni'n sicrhau bod cynhyrchwyr yn cyfrannu at y datrysiad hefyd.

Rydych chi'n tynnu ein sylw ni'n aml at gymwysterau amgylcheddol cadarn Cymru a'n cyfradd uchel o ailgylchu, ond fe fyddai llawer o bobl sy'n edrych ar gyflwr ein strydoedd yn ei chael hi'n anodd cysoni hynny ag unrhyw beth y maen nhw'n ei weld bob dydd. Ar draws y gogledd, mae trigolion yn dweud wrthyf yn gynyddol fod eu trefi a'u hardaloedd trefol nhw, fel canol tref y Rhyl, yn mynd yn fwy budr, gyda sbwriel yn pentyrru ar balmentydd, biniau gorlawn a thipio anghyfreithlon ar lonydd cefn ac ardaloedd preswyl yn mynd yn bethau sydd yn mynd yn llawer mwy cyffredin i'w gweld. Mae hynny'n cael ei ategu gan ddata gan Gadwch Gymru'n Daclus hefyd, sydd wedi olrhain ein dirywiad o ran glendid trefol.

Fe allwn ni fod yn falch o'r cynnydd o ran ailgylchu, ond ni allwn honni bod enw amgylcheddol da gennym ni os bydd pobl yn gweld eu strydoedd a'u cymdogaethau yn amlwg yn mynd yn futrach o un flwyddyn i'r llall. Mae hynny'n effeithio ar falchder cymunedol, ar fusnesau lleol ac ar yr argraff yr hoffem ei gwneud ar ymwelwyr. Felly, a all y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gydweithio â'r awdurdodau lleol i lansio ymgyrch yn erbyn problem gynyddol sbwriel, tipio anghyfreithlon a budreddi yn gyffredinol yn ein cymunedau trefol i sicrhau y bydd glanweithdra ein strydoedd wir yn adlewyrchu'r enw da y mae Cymru yn honni sydd ganddi o ran yr amgylchedd?

14:25

Rwyf i o'r farn y dylai pobl fod yn ddig oherwydd bod sbwriel ar eu strydoedd nhw. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb o ran sbwriel. A wyddoch chi fod 71 y cant o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yn ymwneud â gwastraff cartref? Pobl yr ydym ni'n eu hadnabod yw'r rhain. Felly, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni'n cymryd hyn o ddifrif. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd, ac nid oes fyth unrhyw gyfiawnhad i hynny. Rwy'n falch iawn fod Cadwch Gymru'n Daclus yn cefnogi'r awdurdodau lleol, yn enwedig yn y gogledd, i wella a chreu rhanbarthau glân a gwyrdd. Os edrychwch chi ar Ddyffryn Clwyd, rwy'n credu bod 11 hyrwyddwr sbwriel yno, a saith grŵp cymunedol, ac mae gennym ni bedair canolfan sbwriel yno. Fe gaiff hynny ei gyflawni gan filoedd o wirfoddolwyr, sy'n newyddion rhagorol.

Ond gadewch i mi siarad am orfodi, oherwydd un o'r pethau a wnaethom ni yw sicrhau y bydd yr awdurdodau lleol yn elwa ar y 150 o gamerâu newydd ac, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio nawr gyda Llywodraeth y DU o ran yr hyn maen nhw'n siarad amdano o ran cosbau, gorfodi a'r gallu, efallai, i sicrhau y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr—. Mae hi'n bosibl y byddai gan Cyfoeth Naturiol Cymru bwerau ychwanegol ar gyfer dod i'r adwy a rhoi dirwyon hefyd.

Dŵr Cymru

8. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Dŵr Cymru wrth wasanaethu pobl Islwyn? OQ64020

Rydym ni i gyd yn siŵr o fod wedi nodi'r ddirwy sylweddol a roddwyd i Dŵr Cymru yr wythnos diwethaf ar ôl eu methiant i gyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu a chynnal ansawdd ein dŵr yn y ffordd y dylen nhw. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cymryd glanhau ein hafonydd a'n moroedd ni'n ddifrifol, ac mae gan Dŵr Cymru ran sylweddol yn hynny o beth, ynghyd â'r gymuned amaethyddol. Mae camau gorfodi diweddar y rheoleiddiwr dŵr Ofwat yn rhoi fframwaith eglur ar gyfer prysuro cynnydd.

Diolch, Prif Weinidog. Fel roeddech chi'n dweud, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd rheoleiddiwr y diwydiant Ofwat wrth Dŵr Cymru bod rhaid iddyn nhw dalu'r swm mwyaf erioed sef £44.7 miliwn fel rhan o'r pecynnau gorfodi oherwydd toriadau difrifol ac annerbyniol o ran y dull y mae wedi rhedeg gweithfeydd carthffosiaeth. Maen nhw wedi cytuno i ymchwilio a gwneud gwaith selio ar rannau o'r rhwydwaith carthffosiaeth i fynd i'r afael â mewnlifiad dŵr daear, sy'n cyfrannu yn sylweddol yn aml at y gorlifoedd. Yng nghanol Islwyn mae maes lles Abercarn, cartref timau rygbi, pêl-droed a chriced y gymuned, ac mae wedi gweld blynyddoedd o golli digwyddiadau chwaraeon oherwydd gwastraff dynol yn llygru'r caeau. Ac mae hynny'n gwbl warthus. Prif Weinidog, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd cyn y Bil a danlinellwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog yr wythnos diwethaf a pha sylwadau y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynnu eu cael gan Dŵr Cymru ar y foment hon o ran cyflawni'r rhwymedigaethau hynny a rhoi terfyn o'r diwedd ar y gollyngiadau carthffosiaeth difrifol hyn wrth y ganolfan gymunedol bwysig iawn hon yn Islwyn?

Wel, fe wn i fod yna lawer o bryderon yn eich ardal leol chi, sy'n gynnwys y rhai ym maes lles Abercarn. Mae gan gymunedau yn Islwyn, rwy'n credu, hawl i fod â gwasanaethau o ansawdd uchel, sy'n gydnerth ac yn gyfrifol yn amgylcheddol. Trwy gyfrwng ein rhaglen i ddiwygio dŵr a'n Papur Gwyrdd, rydym ni'n cryfhau llywodraethu hirdymor i sicrhau canlyniadau gwell i gwsmeriaid, yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol. Mae Llafur Cymru wedi bod yn gwbl eglur, os cawn ni ddychwelyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mai, y byddwn ni'n cyflwyno Bil dŵr glân ar gyfer Cymru, fe fyddwn ni'n grymuso'r rheoleiddio, fe fyddwn ni'n cynyddu atebolrwydd ac fe fyddwn ni'n cosbi'r rhai sy'n llygru ein hafonydd a'n cymunedau.

2. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog. Dwi'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet cyllid gynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM9223 Mark Drakeford

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.45, yn cytuno i ystyried gwelliannau i Fil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd.

2. Yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8, yn atal Rheolau Sefydlog 11.16, 26.30, 26.45A, 26.46A a 26.59 er mwyn caniatáu i'r Cyfnod Adrodd gael ei gynnal ar 17 Mawrth 2026.     

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.

Does gyda fi ddim siaradwyr. Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro i'r Senedd fedru trafod gwelliannau i'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Awn ni ymlaen nawr i'r cyhoeddiad a datganiad busnes gan y Trefnydd, Jane Hutt.

14:30
Member
Jane Hutt 14:30:03
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, fel sydd wedi ei nodi ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae busnes yr wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynglŷn ag estyniadau i'r llinellau rheilffordd wedi'u trydaneiddio a gwelliannau i rannau presennol?

Rwy'n gefnogwr brwd o drydaneiddio'r rheilffyrdd yn y Cymoedd, a'r peth rhagorol yw bod hynny bron yn orffenedig, o'r diwedd. Rwyf i wedi siarad â rhai pobl sydd â rhai pryderon ynghylch pa mor gyson y defnyddir rhannau wedi eu claddu o dan ddaear yn barhaol ar rai rhannau o'r llinell. Fel gwyddom ni, ar rai rhannau, ac mewn llawer o orsafoedd, mae ceblau uwchben i'w cael o hyd, ac rwyf i wedi cael gwybod am bryderon diogelwch mewn mannau lle gallai hi fod yn fuddiol i gladdu ceblau. 

Rwyf i wedi cwrdd â thrigolion yn Station Terrace ar bwys gorsaf Pengam, lle mae'r ceblau mor agos at eu cartrefi nhw fel eu bod wedi cael gwybod nad ydyn nhw'n gallu cael mynd ar ben eu toeau eu hunain, na chodi sgaffaldiau ar gyfer atgyweirio eu cartrefi, ac maen nhw hyd yn oed yn cael trafferth wrth olchi eu ffenestri am fod y ceblau yn 'beryglus o agos'. Rwy'n pryderu am y ffordd y cafodd ceblau eu gostwng wrth y bont droed yng ngorsaf Pengam, er mwyn mynd o dan y bont droed. Ac mae rhai o'r problemau hyn wedi cael eu codi gyda Trafnidiaeth Cymru, ond faint o broblemau eraill sy'n bodoli?

Felly, fe fyddai hi'n ddefnyddiol i ni gael rhagor o wybodaeth am hyn, a thrafodaeth, os gwelwch chi'n dda, yn enwedig er mwyn y bobl sydd ar bwys gorsaf Pengam sy'n byw mor agos at y trac byw hwn.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Lindsay Whittle. 

Ac mae tynnu sylw at y materion hyn yn bwysig iawn. Yn amlwg, mae trydaneiddio llinellau'r Cymoedd i'w groesawu—fe wn i chi groesawu hynny—ac fe ddaw â manteision enfawr. Ond, yn amlwg, mae yna drawsnewidiad ac mae'r gymuned yn codi materion. Cyfrifoldeb, wrth gwrs, i Trafnidiaeth Cymru yw hwn a'r Adran Drafnidiaeth o ran y gorsafoedd ond, yn sicr, fe fyddwn i'n dweud y bydd gennych chi gyfle yfory i godi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ei gwestiynau llafar yn y Senedd. Ond, diolch i chi am godi hyn, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn gallu ymateb o ran y pwynt arbennig hwnnw. 

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, Trefnydd, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran capasiti gwelyau yn GIG Cymru? Yn ôl ym 1997, roedd yna 15,500 o welyau ar gael i'r GIG eu defnyddio. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw draean yn llai, sef llai na 10,500. Nid yw hi'n syndod fod problem gennym ni yn ein hadrannau brys ac yn ein hysbytai wrth i chi edrych ar y ffigurau hynny. Fe hoffwn i wybod beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau y bydd gennym ni nifer priodol o welyau ar gael i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru, yn enwedig o ystyried ein bod wedi gweld y boblogaeth yn tyfu a bod y boblogaeth hŷn, yn arbennig felly, wedi tyfu yn sylweddol yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn ei gael ynghylch tai. Fe ddaeth i'm sylw fod tuedd gynyddol o gynaeafu hawliadau yn digwydd yng Nghymru, o ran rhai sy'n mynd i gyfraith ac fe gysylltir â phobl yn rhagweithiol i wneud cwynion am landlordiaid—wyddoch chi, hawliadau ffug—o ran amodau byw eiddo. Mae hi'n ymddangos fod hyn yn rhywbeth sydd wedi cyrraedd Cymru—fe ddechreuodd yn y dinasoedd mawr—ac rwy'n bryderus iawn y bydd hyn yn rhoi pwysau pellach eto ar y farchnad dai, sy'n golygu y bydd llai o dai ar gael am brisiau fforddiadwy i'w rhentu. Fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â'r mater penodol hwn yng Nghymru, i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn tenantiaid, ac yn amddiffyn landlordiaid. 

Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna. O ran y cwestiwn cyntaf, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fyfyrio ar y ffordd newidiol yr ydym ni'n cyflawni ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau nad oes raid i bobl fynd i'r ysbyty oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol, a bod yr arosiadau hynny'n gyfyngedig i'r amser y mae angen y driniaeth honno arnyn nhw. Hefyd, mae'r ffaith sy'n ymwneud â sicrhau bod trosglwyddiadau gofal da—ac fe glywsoch chi heddiw eisoes am y lleihad o ran yr oedi wrth drosglwyddo gofal ac mae yna ffigurau calonnog o ran trosglwyddiadau gofal—a hefyd mae angen i ni gadw pobl yn iach yn eu cartrefi eu hunain. Ond, yn ogystal â hynny, fe fyddwn i'n dweud—ac nid wyf i'n dymuno mynd yn ôl i'm dyddiau i, flynyddoedd lawer yn ôl, yn Weinidog iechyd—i fyfyrio ar lawdriniaeth ddydd a'r gwahanol ffyrdd yr ydym ni'n trin cleifion erbyn hyn. Felly, rwy'n credu, yn amlwg, mai mater yw hwn yr wyf i'n siŵr y byddech chi'n croesawu ymrwymiadau maniffesto Llafur Cymru yn ei gylch o ran ein datblygiad o gynlluniau ysbytai a fydd, wrth gwrs, yn cynnal capasiti da o ran gwelyau.

O ran eich ail bwynt, nid wyf i'n ymwybodol o hyn. Yn amlwg, rydym yn gweithio yn glòs iawn gyda'r sector rhentu preifat a Rhentu Doeth Cymru. Mae hwn yn rhywbeth yr wyf i'n gwybod y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ddiddordeb ynddo, o ran unrhyw enghreifftiau sydd gennych chi y gellir eu rhannu nhw.

14:35

A gaf i ddatganiad ar gynnydd Hub Cymru Africa a'i gyflawniadau? Roeddwn i'n falch iawn o fynychu'r digwyddiad yn y Deml Heddwch yr wythnos diwethaf, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a gwaith menywod yn Affrica, a gafodd ei gynnal mewn partneriaeth â Hub Cymru Africa. Roedd y digwyddiad yn cydnabod cyflawniadau aruthrol Claire O'Shea hefyd, sef pennaeth blaenorol Hub Cymru Africa ac a oedd, wrth gwrs, yn ymwelydd cyson â'r Senedd hon ac a weithiodd i wella gofal canser gyda ni yn y fan hon.

Diolch yn fawr, Julie Morgan. Roeddwn innau hefyd yn falch iawn o fod yn bresennol ar y noson honno'r wythnos diwethaf ar gyfer y dathliad hwnnw o'r enw Cymru, Affrica a Menywod. Roedd llawer yn bresennol—roedd dros 150 o bobl yno. Fe'i trefnwyd gan Hub Cymru Africa, mudiad yr ydym ni'n falch iawn o'i ariannu. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o ariannu Hub Cymru Africa, drwy ein rhaglen Cymru ac Affrica. Roeddem ni'n cael clywed am gyfraniadau cymaint o bobl yno yn y digwyddiad hwnnw, ond yn cydnabod menywod mewn undod hefyd yn rhan o undod byd-eang, yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwy'n credu eich bod chi'n iawn, roedd hynny'n bwysig iawn. Fe roddwyd teyrnged i Claire O'Shea, a fu farw o ganser ym mis Mai y llynedd—cyn-bennaeth Hub Cymru Africa—ac rydym ninnau'n cofio amdani hi. Yn ogystal â hynny, fe glywsom ni am ymgyrch Claire, sy'n canolbwyntio ar sicrhau newid polisïau trwy wrando ar leisiau pobl ac ymgyrchu i newid y diwylliant o ddiystyru lleisiau menywod mewn gofal iechyd.

Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Gaf i ofyn am ddatganiad i ddechrau ar gael diweddariad ysgrifenedig ar barthau twf AI? Pan wnaed y datganiad bod yna barth AI yn mynd i fod yng ngogledd Cymru, ar y funud olaf, fe ychwanegwyd Trawsfynydd at y parth hwnnw. Er mwyn cael statws parth AI, mae'n rhaid i'r ardal yna gael yr un buddion â phorthladd rhydd, ond does gan Drawsfynydd ddim yr un buddion â phorthladd rhydd ar hyn o bryd. Felly, gawn ni ddatganiad clir a diamwys yn dangos y bydd gan Drawsfynydd yr un buddion, er mwyn i Gyngor Gwynedd, a'r ardal honno, fedru gwthio ymlaen â'r cynlluniau ar gyfer parth AI yno, os gwelwch yn dda?

Yr ail ddatganiad: gawn ni ddatganiad ar ddiweddariad ar y cynlluniau bathodyn glas, os gwelwch yn dda? Mae gen i etholwr yn Nwyfor Meirionnydd sydd yn dioddef o ganser y brostad, ac, felly, yn methu â cherdded ymhell. Mi fuasai hi'n gwneud byd o les iddo fo gael parcio'n agos at siopau er mwyn medru mynd yn haws a byw ei fywyd, ond dydy o ddim yn cael bathodyn glas ar hyn o bryd oherwydd y rheolau sydd yn eich dwylo chi fel Llywodraeth. Felly, gawn ni ddiweddariad ar yr hawl i bobl gael bathodynnau glas fel ein bod ni'n medru ymladd achos y gŵr yma ac eraill sydd yn yr un sefyllfa, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu, o ran y cwestiwn cyntaf y gwnaethoch chi ei godi, ei bod hi'n bwysig i ni egluro'r sefyllfa o ran parthau twf AI wedyn, yn enwedig felly, fel rydych chi'n ei gydnabod, ac mae hyn wedi digwydd, y mater ynghylch pa un a yw yn borthladd rhydd, er mwyn caniatáu i Drawsfynydd fod yn barth AI. Nid wyf i'n gallu rhoi ateb ynglŷn â'r pwynt hwnnw oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio egluro'r pwynt hwnnw, ond fe fyddaf i'n gofyn am eglurhad, ac yn gofyn hefyd a ellir cael diweddariad ar barthau AI hefyd, sy'n effeithio ar Gymru gyfan oherwydd eu datblygiad nhw.

O ran eich ail bwynt, ynglŷn â bathodynnau glas, mae hi'n ddiddorol, dim ond i ddweud ar goedd, mewn gwirionedd, heddiw, fod 274,280 o fathodynnau ar hyn o bryd yng Nghymru ar 1 Mawrth. Mae'n bwnc lle mae gennym grŵp arbenigol pwrpasol ar ei gyfer sy'n gweithio gyda'n cynghorau a'r CLlLC i archwilio ffyrdd o symleiddio prosesau, i rymuso rhannu data, ac ysgafnu'r baich gweinyddol i ymgeiswyr fel eich etholwr chi. Rwy'n gobeithio bod hon yn wybodaeth ddefnyddiol. A dim ond i ddweud, mae awdurdodau lleol wedi cael eu hannog i ddefnyddio'r llwybr lle nad oes rhaid cael ailasesiad, lle nad oes angen ond prawf hunaniaeth a chyfeiriad yn unig, pan fydd awdurdodau lleol yn fodlon y bydd ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn barhaus. Cafodd llawer o waith ei wneud i ystyried hyn yng nghyfarfod y gweithgor bathodyn glas yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd gan fy swyddogion i, ac mewn sesiynau hyfforddi hefyd i staff awdurdodau lleol fynd i'r afael â hyn i sicrhau y gallwn ni fyrhau'r aros o ran y ceisiadau, a dweud hefyd ein bod ni'n ystyried hyn o ran cymhwysedd a gorfodi.

14:40

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymorth blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae un o'm merched i'n gweithio yn Home-Start Sir y Fflint. Maen nhw'n darparu cymorth ymyrraeth ac atal ar gam cynnar sy'n anhepgor i deuluoedd ag o leiaf un plentyn o dan 11 oed. Mae teuluoedd yn defnyddio'r gwasanaeth hwn am ei fod yn gymorth heb unrhyw feirniadaeth, nad yw'n statudol, yn seiliedig ar gryfderau. Er hynny, fe fydd Cyngor Sir y Fflint yn disodli hwn gyda gwasanaeth argyfwng a gaiff ei redeg gan y cyngor, ac mae Home-Start yn cael ei orfodi i derfynu eu cefnogaeth nhw i blant dros ddwy oed. Fe fydd y cyngor hwn yn cau gwasanaeth anabledd teuluoedd sir y Fflint hefyd, sy'n cael ei redeg gan Action for Children, o 31 Mawrth. Dywedodd y cyngor wrthyf i fod hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i gwrdd â'r anghenion o fewn cyfyngiadau'r cyllid sydd ar gael. Rwy'n noddi Your Space (Marches), sy'n darparu cymorth hanfodol i blant a phobl ifanc â chyflyrau sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd. Fe gawson nhw eu gorfodi i gau fis diwethaf. Am y tro cyntaf yn eu hanes o 32 mlynedd, mae Parlys yr Ymennydd Cymru yn gorfod gwrthod babanod a fyddai'n elwa ar eu harbenigedd a'u cefnogaeth nhw sy'n trawsnewid bywydau. Ac felly y mae hi'n mynd. Fe anwybyddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg rybuddion y byddai hyn yn digwydd. Fe fydd y teuluoedd hyn yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar wasanaethau statudol nawr, gan gynyddu hyd at argyfwng ar gost lawer uwch i wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i chi, Mark Isherwood, am y cwestiynau yna. Nid oes unrhyw amheuaeth fod buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol. Mae'r dystiolaeth yn gwbl amlwg. Fe fyddwn i'n dweud mai dyna pam rydym ni wedi buddsoddi yn arbennig yn y broses o gyflwyno Dechrau'n Deg. Mae hi'n hanfodol bwysig fod Dechrau'n Deg yn cael ei gyflwyno yn wirioneddol nawr ac i ni wneud y buddsoddiad sydd wedi caniatáu hynny. A chydnabod bod hwn hefyd yn fater lle mae'r trydydd sector a'r sector arbenigol, fel rydych chi'n dweud, wedi gwneud cyfraniad enfawr ac maen nhw'n parhau i wneud felly. Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cefnogi llawer o'r sefydliadau hynny. Ond rwy'n ymateb i'ch pwynt chi fod buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol. Fe wn i y byddai'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn cytuno â hynny i raddau helaeth iawn ac yn cymeradwyo hynny. Ond cyllideb yw hon—cyllideb na wnaethoch chi ei chefnogi hi—sy'n rhoi mwy o gyllid i lywodraeth leol i'w caniatáu i barhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny sydd mor hanfodol bwysig i'n plant a'n pobl ifanc. Mae'r buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar, heb unrhyw amheuaeth, yn allweddol.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ynglŷn ag effeithiau'r rhyfel yn y dwyrain canol. Yn gyntaf, mae hwn yn rhyfel dinistriol. Fe wyddom ni eisoes fod 1,300 o bobl wedi'u lladd hyd yma—effaith enfawr, ddinistriol i sifiliaid yn y rhanbarth hwnnw. Rwy'n sylweddoli nad yw hynny'n rhan o allu Llywodraeth Cymru, ond mae angen mawr i ni estyn ein dwylo ar gyfer dwyn hyn i ben a bod â setliad a negodir cyn gynted â phosibl.

Roeddwn i'n wir awyddus i ymdrin â'r effaith y mae'n ei chael ar bobl yma yng Nghymru—fe gyfeiriwyd at hyn eisoes yng nghwestiynau'r Prif Weinidog—y teuluoedd hynny sy'n dibynnu ar gludiadau olew i wresogi, llawer ohonyn nhw'n cael eu canslo ar fyr rybudd. Mae trigolion oedrannus yn arbennig yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o redeg allan o danwydd yn gyfan gwbl. Fe fyddwn i'n ddiolchgar felly i glywed beth a fyddwn ni'n ei wneud yng Nghymru i helpu'r teuluoedd hynny, yn enwedig y rhai sy'n deall nad oes olew gwresogi ar gael, neu ei fod ei bris wedi dyblu, treblu, neu wedi cynyddu pedair gwaith, a'r rhai sy'n rhedeg allan hefyd. Diolch yn fawr iawn.

14:45

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Fel rydych chi'n dweud, mae'r rhyfel yn y dwyrain canol yn hynod bryderus mewn cymaint o ffyrdd. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno, ac fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, mae angen dad-ddwysáu'r ymladd a dwyn â'r gwrthdaro i ben cyn gynted â phosibl, ac rydym ni'n cydnabod bod llawer o bobl ledled Cymru yn pryderu, yn ofidus, ac yn gweld yr effaith ar eu biliau ynni nhw, yn enwedig y rhai sy'n ddibynnol ar olew i wresogi eu cartrefi. Rydym ni'n falch fod Llywodraeth y DU wedi ein galluogi i weithredu yn gyflym i helpu cartrefi yng Nghymru sy'n defnyddio olew i wresogi ac wedi rhoi £3.8 miliwn tuag at wneud hynny. Fe fuom ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr arian yn seiliedig ar nifer y cartrefi sy'n dibynnu ar olew gwresogi, nid yn seiliedig ar fformiwla Barnett. Hefyd, roedd honno'n gydnabyddiaeth fod hyn yn effeithio ar gyfran uwch o aelwydydd yng Nghymru o gymharu â'r DU yn ei chyfanrwydd.

Nawr, mae hwn yn fater, wrth gwrs, y mae gennym ni fecanweithiau a systemau cymorth ar ei gyfer i helpu pobl sy'n profi tlodi tanwydd wrth brynu tanwydd oddi ar y grid trwy ein cronfa cymorth dewisol. Rydym ni'n gweithredu nawr i gynyddu cefnogaeth i'r rhai mewn argyfwng ariannol trwy wneud codiad dros dro i'r swm y gellir ei ddarparu tra bod prisiau yn uwch, gan ddefnyddio ein cyllidebau ein hunain eleni, ac fe fyddaf yn dweud mwy ynglŷn â hyn dros y diwrnod i ddod. Fe fydd y cynnydd hwn, wrth gwrs, yn galluogi ein partneriaid cronfa cymorth yn ôl disgresiwn wedyn—yr awdurdodau lleol, a'r trydydd sector hefyd, Cyngor ar Bopeth, ac eraill—i gyflwyno ceisiadau am gymorth. Ond, yn ail—ac yn ystod y pandemig fe wnaethom ni gytuno i ymuno â'r bartneriaeth gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru—rydym ni'n cynyddu'r cymorth cyflenwi lleiaf drwy eu cynllun cronfa wres genedlaethol yng Nghymru i sicrhau eu bod nhw'n gallu dal ati i gefnogi aelwydydd sy'n talu am eu tanwydd ymlaen llaw ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu, ond drwy ddarparu talebau tanwydd hefyd ar gyfer cyflenwi olew neu nwy i'r rhai nad ydyn nhw â chysylltiad â'r rhwydwaith nwy prif gyflenwad. Ond fe fyddaf i'n dweud rhagor ynglŷn â hyn dros y 24 awr nesaf.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ar effaith y galw am dai ar leiniau glas ac ardaloedd tirwedd arbennig. Ac mae hwn yn fater y byddwch chi'n gwybod llawer iawn amdano fel Aelod dros yr etholaeth, gan fod Cyngor Bro Morgannwg wedi ymgynghori yn ddiweddar ar ei gynllun datblygu lleol amnewid blaendal ac, fel cafodd hwnnw ei ddrafftio, fe fyddai ag effaith ddinistriol iawn ar ardal dirwedd arbennig basn Cwrtyrala a'r lletem las rhwng Dinas Powys a Llandochau a Phenarth. Fe fydd dros 13 hectar yn cael eu chwalu, sy'n achosi pryderon difrifol o lifogydd. Nid oes unrhyw ofyniad penodol a fyddai'n sicrhau cydweithrediad a chyfraniad i feddygon teulu lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ac rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol iawn, Trefnydd, o'r materion ynglŷn â thagfeydd sy'n wynebu trigolion Dinas Powys eisoes. A wnewch chi gysylltu â'r Ysgrifennydd Cabinet i adolygu a yw hi'n iawn, yn ystod argyfwng hinsawdd a natur, y gall lletemau glas ac ardaloedd tirwedd arbennig mewn CDLl cyfredol gael eu diystyru wedyn gan yr un nesaf? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Fel roeddech chi'n dweud, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn ymgynghori ar y cynllun datblygu lleol newydd ac, yn wir, rwy'n credu bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben yr wythnos diwethaf ac mae'n bwysig iawn ac yn gyfiawn y dylai pobl godi eu problemau a'u pryderon nhw, fel gwnaethoch chi heddiw. Wrth gwrs, fe gaiff y rhain eu hystyried yn llawn, yn enwedig o ran ystyried y materion hynny sydd â pherthnasedd arbennig o ran y lletem las ac, yn wir, materion sy'n ymwneud ag argaeledd gwasanaethau. Mae hynny'n rhan o'r broses gynllunio ac, yn amlwg, aros am ganlyniad honno'r ydym ni.

Trefnydd, fe ymwelais i ag ysgol Stepaside yn ddiweddar yng Nghilgeti, sy'n cynnig addysg mewn cymuned sy'n tyfu gyda datblygiadau tai newydd yn nalgylch yr ysgol. Mae'r ysgol wedi addysgu nifer sefydlog o tua 100 o ddisgyblion dros y pum mlynedd diwethaf, sy'n cynnwys nifer fawr o ddisgyblion ag ADY, ac fe'i lleolir mewn adeilad a godwyd ddim ond 30 o flynyddoedd yn ôl ac sydd mewn cyflwr da. Roedd y plant yn hapus, yn gwrtais ac yn glod i'r ysgol. Ond mae cwestiynau wedi cael eu codi gyda mi ynglŷn â'r meini prawf a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol i benderfynu (a) nifer y lleoedd dros ben sydd yn yr ysgol, a (b) sut mae unrhyw gau arfaethedig yn cyd-fynd â rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a'r cod ysgolion gwledig. Rwyf i wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r mater hwn ond, o ystyried bod diddymiad y Senedd yn prysur agosáu, a fyddai'r Trefnydd yn gallu cadarnhau pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau yr ymdrinnir â'r pryderon hyn ar fyrder a bod ymateb yn cael ei ddarparu o fewn yr amser cyfyngedig sydd ar ôl yn nhymor y Senedd hon? Diolch.

14:50

Diolch i chi. Rwy'n siŵr y byddai'r ysgol yn croesawu eich diddordeb a'ch ymweliad, ac onid yw hi'n werth chweil pan fydd rhywun yn mynd i ysgolion yn ein hetholaethau ac yn gweld y dysgu a'r addysgu gwych sydd yna? Materion yw'r rhain y gwnaethom ni sefydlu canllawiau, rheoliadau ac ymgysylltiad eglur ar eu cyfer, ac fe gaiff hynny ei arwain gan yr awdurdodau lleol, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n tarddu o ran unrhyw gynlluniau a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Trefnydd, a gaf i ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda? Yn gyntaf, a gaf i ddatganiad ar ansawdd y cig sy'n mynd i'n hysgolion? Yn dilyn ymchwiliad diweddar gan y Gynghrair Cefn Gwlad, fe wyddom ni erbyn hyn fod hyd at 99 y cant o ysgolion mewn rhai ardaloedd cyngor yn gweini cyw iâr clorinedig o Tsieina a Gwlad Thai. Rwy'n pryderu hefyd mai 5 y cant o'r porc sy'n cael ei fwyta yma yng Nghymru sy'n cael ei gynhyrchu yma, felly beth sy'n mynd i'n hysgolion ni o ran hwnnw hefyd? Mae'r Blaid Lafur yn ei gwneud hi'n amhosibl i ffermwyr gystadlu ac yn eu gyrru nhw a'u cadwyni cyflenwi lleol allan o fusnes gyda rheoleiddio caeth. Mae ein plant ni'n haeddu bwyd maethlon o ansawdd uchel mewn ysgolion ac mae hi'n hen bryd bod â strategaeth briodol i sicrhau y bydd bwyd o Gymru yn cael ei roi ar blatiau ysgol Cymru.

Yn ail—mae hi'n debyg iawn gennyf i nad oes unrhyw ddiben gofyn hyn i chi mewn gwirionedd, gan eich bod chi'n amlwg wedi rhoi'r gorau i fod ag awydd i sicrhau diogelwch a thegwch menywod a merched yng Nghymru—mae hi'n hollol wallgof, wrth i mi sefyll yn y fan hon, fod menywod a merched wedi bod yn aros 335 diwrnod, 11 mis, ers dyfarniad y Goruchaf Lys bod rhyw yn golygu rhyw biolegol, i'r Llywodraeth hon fynd i'r afael â'u hamddiffyniad nhw. Rydych chi'n amlwg yn ceisio claddu hyn cyn yr etholiad, ond bob dydd y byddwch chi'n gadael i hyn fod, Trefnydd, rydych chi'n peryglu menywod a merched yng Nghymru. Mae angen datganiad arnom ni ynglŷn â hyn ac mae angen hwnnw arnom ni nawr. Diolch.

Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Mae hwn yn fater, o ran y bwyd y mae ein plant yn ei fwyta, sy'n bwysig iawn i bob un ohonom ni, ac i rieni, llywodraethwyr a chymunedau. Rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cynnal adolygiad trylwyr iawn o fwyd maethlon—mynediad at fwyd iach, maethlon—yn ein hysgolion ni. Yn wir, roeddwn i'n falch iawn pan ddaeth Lynne Neagle i ymweld ag un o'm hysgolion uwchradd pan ddywedodd un disgybl yr hoffai gwrdd â hi i siarad am ansawdd a maint y bwyd sydd ar gael i'r rhai sy'n cael eu prydau ysgol am ddim. Mae yna ymgysylltiad hynod bwysig eisoes ar gyfer mynd i'r afael â hyn, ond hefyd fe fyddwn i'n dweud bod cysylltiad agos yno â'n strategaeth fwyd gymunedol, sef y gwaith sy'n cael ei wneud gan bartneriaethau bwyd, gweithio gyda ffermwyr, gweithio gyda thyfwyr, a threialu ffyrdd hefyd o gael bwyd lleol mewn ysgolion lleol.

O ran eich ail bwynt, mater i Senedd San Steffan, i Lywodraeth y DU yw hwn. Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac fe gyhoeddwyd eu cod drafft nhw. Rwyf i wedi ymateb i hyn, ac rydym ni'n aros nawr am ganlyniad yr ystyriaeth honno oddi wrth Lywodraeth y DU. Yn sicr nid yn ein dwylo ni y mae hyn; ond yn eu dwylo nhw, o ran yr ystyriaeth honno ac, wrth gwrs, fe fydd hynny'n destun dadl yn Senedd San Steffan.

Fe hoffwn i alw am ddatganiad y prynhawn yma gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ar gynlluniau ar gyfer cynllun dychwelyd ernes. Rwy'n cefnogi cynllun dychwelyd ernes mewn egwyddor ac mae cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel yn nodau sy'n gyffredin i bawb ohonom ni. Er hynny, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynllun sy'n cynnwys gwydr pan nad yw cynllun gweddill y DU yn gwneud felly yn codi pryderon difrifol i fusnesau ledled Cymru. Mae'r diwydiant wedi galw yn aml am ddull pedair cenedl, ac wedi dadlau bod y cynllun presennol yn peryglu creu cymhlethdod yn ddiangen, ynghyd â chostau uwch a heriau logistaidd i gynhyrchwyr a manwerthwyr sy'n gweithredu dros ffiniau. Rydym ni'n wynebu'r posibilrwydd erbyn hyn y bydd cynhyrchwyr yn ariannu'r seilwaith ar gyfer mannau dychwelyd gwydr yn ystod y cyfnod pontio pedair blynedd pan na fydd unrhyw ernes yn berthnasol hyd yn oed i gynwysyddion gwydr. Mae hyn yn rhoi baich cost sylweddol ar y sector mewn amser pan fo llawer o fusnesau yn y sector dan bwysau mawr eisoes. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru esbonio'r rhesymeg dros orfodi cynnwys gwydr er nad oes unrhyw ernesau ac felly nid oes unrhyw gymhelliant i bobl ddychwelyd eu poteli gwydr ond eto'n parhau i'w gwneud hi'n ofynnol i'r diwydiant dalu am y seilwaith a pha asesiadau, os bu rhai o gwbl, a wnaeth Llywodraeth Cymru o'r effaith ar y diwydiant?

14:55

Diolch i chi am y cwestiwn yna, Gareth Davies, oherwydd mae'n rhoi cyfle i mi ddweud bod Llywodraeth Lafur Cymru yn falch iawn ein bod ni wedi arwain y ffordd ers llawer o flynyddoedd ym maes ailgylchu—mae bod yr ail genedl orau trwy'r byd am ailgylchu yn gyflawniad gwirioneddol dda, ac rydym ni awyddus i wneud hyd yn oed yn well eto. Y ffordd i wneud hynny yw drwy fod â chynllun dychwelyd ernes y gwnaethom ni ei ddylunio yng Nghymru, ac fe fydd hwnnw'n gynllun, yn yr hyn y gwnaethom ni ei gyflwyno, sy'n adlewyrchu dull synhwyrol ac ymarferol, lle mae'r gofynion o ran poteli gwydr yn cael eu cyflwyno yn raddol, ac fe fydd hynny'n sicrhau y gall cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ddod â manteision i Gymru a gweithio ar y cyd â rhannau eraill o'r DU hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, mae'r practis deintyddol olaf sydd ar ôl yn y Trallwng, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i dderbyn apwyntiadau deintyddol y GIG o fis Ebrill. Mae hi'n amhosibl cael apwyntiad drwy'r GIG yn y Drenewydd nawr hefyd. Felly, mae'r sefyllfa hon yn gorfodi pobl i wneud teithiau tair awr yno ac yn ôl ar gyfer gofal deintyddol sylfaenol. Mae'r cyhoeddiad o'r Trallwng, wrth gwrs, yn digwydd ar yr un pryd â chyflwyniad contract deintyddol newydd Llywodraeth Cymru, sy'n weithredol o fis Ebrill hefyd. Nawr, fe glywais i'r drafodaeth yn gynharach heddiw, ond mae hi'n amlwg nad yw'r contract newydd yn gweithio os nad yw deintyddion y GIG yn derbyn neu'n rhoi'r gorau i'w contractau GIG. A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd ar y galw disgwyliedig am gontract deintyddol newydd y GIG? Mae angen i'r datganiad hwnnw ystyried pryderon hefyd ac amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi cymunedau nad oes ganddyn nhw ddeintydd GIG erbyn hyn sy'n cynnig apwyntiadau deintyddol y GIG. Y cwestiwn yw: beth ddylai pobl ei wneud?

Diolch i chi am y cwestiwn yna, ac rwy'n falch hefyd eich bod chi wedi clywed, yn amlwg, y drafodaeth gyda'r Prif Weinidog yn gynharach. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod newidiadau i fod. Er enghraifft, ym Mhowys, fe ddefnyddiwyd cyllid a ddychwelwyd ar gyfer sefydlu gwasanaethau deintyddol cyffredinol cyflogedig, fel bod gwasanaethau argyfwng ar waith pe bai contractau yn cael eu dychwelyd. Ac maen nhw wedi cyflogi therapydd deintyddol hefyd i helpu i sicrhau nad oes unrhyw blant yn aros am fynediad i ofal deintyddol. Mae gan Bowys uned ddeintyddol symudol. Rwy'n siŵr y byddech chi, rwy'n gobeithio, yn croesawu'r mynediad hwnnw i ystod lawn o ddeintyddiaeth y GIG. Hefyd, mae hi'n bwysig cofio bod y mwyafrif helaeth o bractisau yn parhau, ac rydym ni'n hyderus fod yna ddarparwyr sy'n awyddus i ymgymryd â'r contractau sydd wedi cael eu terfynu.

Roeddech chi'n cyfeirio at y Trallwng. Mae Mydentist yn y Trallwng wedi anfon llythyr at eu cleifion nhw, yn rhoi gwybod iddyn nhw, fel roeddech chi'n dweud, na fydd eu deintydd yn parhau gyda'r GIG. Ond mae dau o ddeintyddion y GIG yn y practis, ac fe anfonodd y ddau ddeintydd hyn lythyrau at eu cleifion nhw heb roi gwybod i'r bwrdd iechyd ynglŷn â'r sefyllfa. Felly, nid yw hi'n eglur eto a fydd y practis yn terfynu'r contract, ond rwy'n credu y byddwch chi'n croesawu, fel dywedais i, y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith gan fyrddau iechyd i ddarparu gofal brys. Hefyd, mae'r contractau hynny sy'n cael eu dychwelyd, fel soniwyd yn gynharach, yn rhoi'r cyfle hwnnw i fyrddau iechyd ailystyried ac ailddosbarthu buddsoddiad deintyddol yn y ffordd y gwnes i ei disgrifio, gydag unedau symudol a chefnogaeth i wasanaethau deintyddol cyflogedig.

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Modiwlau 2, 2A, 2B, 2C Ymchwiliad COVID-19 y DU

Eitem 4 heddiw yw datganiad gan y Prif Weinidog ar ymateb Llywodraeth Cymru i adorddiad modiwlau 2, 2A, 2B, 2C ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig, a galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cyhoeddodd y Farwnes Hallett, cadeirydd ymchwiliad COVID-19 y DU, ei hail adroddiad a'i hargymhellion cysylltiedig ar 20 Tachwedd. Mae'r adroddiad hwn yn archwilio'r ymateb cychwynnol i'r pandemig gan bob un o genhedloedd y DU, y penderfyniadau a wnaeth y pedair Llywodraeth, yr hyn a wnaeth y gwleidyddion a'r gwasanaeth sifil, ac effeithiolrwydd y berthynas rhwng y Llywodraethau datganoledig ac ar draws y DU.

Roedd llywodraethu effeithiol a strwythurau ar gyfer gwneud penderfyniadau eglur yn hanfodol o ran ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Roedden nhw'n ein galluogi ni i weithredu gyda phenderfyniad ac yn dryloyw ar adegau ansicr iawn ac, wrth i'r pandemig fynd rhagddo a datblygu yn gyflym, roeddem ni'n gallu ymateb.

Ar ddechrau pob modiwl yn yr ymchwiliad, ac mewn tystiolaeth iddo, rŷn ni wedi clywed cofnod teimladwy iawn o effaith emosiynol, ariannol a chorfforol y pandemig—pethau sy'n parhau—ar unigolion, pobl a gafodd brofedigaeth, y rhai sy'n cefnogi'r bobl fwyaf bregus, ac ar ein cymunedau yn gyffredinol. Mae ein meddyliau ni yn dal i fod gyda phawb a gafodd y brofedigaeth enfawr o golli rhywun annwyl, a gyda phawb a brofodd yr effaith yn eu bywydau.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu canfyddiadau ac argymhellion yr ymchwiliad. Rŷn ni'n ddiolchgar i'r Farwnes Hallett a'i thîm am y gwaith cynhwysfawr sy'n sail i adroddiad ac argymhellion modiwl 2. Bydd gweithredu'r rhain yn helpu i sicrhau bod Cymru wedi paratoi'n dda ac yn gallu ymateb yn effeithiol i unrhyw argyfwng system-gyfan yn y dyfodol.

Ddoe, fe gyhoeddais i ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion modiwl 2 yr ymchwiliad, sy'n ymwneud â'r elfennau canlynol: cyngor gwyddonol a thechnegol; adnabod y bobl sy'n wynebu risg mewn argyfwng; prosesau gwneud penderfyniadau'r Llywodraeth; deddfwriaeth; gweithio rhynglywodraethol; a chyfathrebu â'r cyhoedd. Rŷn ni eisoes wedi cymryd camau i gryfhau ein prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau, gan adlewyrchu llawer o'r argymhellion hyn. Rŷn ni wedi ymrwymo'n gadarn i ddysgu gwersi o'r pandemig ac o'r ymchwiliad, ac fe fyddwn ni'n gwneud gwelliannau i'n systemau a'n prosesau yn unol â'r argymhellion, a thu hwnt iddyn nhw mewn sawl agwedd.

Rwy'n troi nawr at argymhellion modiwl 2. Wrth ymateb i unrhyw argyfwng system gyfan, mae'n bwysig i bob Llywodraeth gael mynediad at y cyngor gwyddonol gorau. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Farwnes Hallett bod y cam-drin a'r bygythiadau a wynebwyd gan lawer o arbenigwyr gwyddonol yn ystod y pandemig yn gwbl annerbyniol. Gan gydnabod y cyfraniadau hanfodol a wnaed gan arbenigwyr gwyddonol a phwysigrwydd eu rôl mewn argyfyngau yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad i ddatblygu amodau penodi safonol ar gyfer grwpiau cynghori gwyddonol.

Roedd ymarfer Pegasus, yr ymarfer pandemig ledled y DU y gwnaethom gymryd rhan ynddo yn ystod yr hydref, yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu a phrofi ein fframwaith '5 niwed' ymhellach, a ddefnyddiwyd gyntaf yn ystod pandemig COVID-19. Credwn y gall hwn ddod yn offeryn ehangach sy'n ystyried y rhai sydd mewn perygl mewn argyfwng iechyd, gan gryfhau ein galluoedd i wneud penderfyniadau a blaenoriaethu o ran cadw pobl Cymru yn ddiogel, yn unol ag argymhellion yr ymchwiliad. Rydym wedi gwneud cynnydd pwysig yn y maes hwn, ond rydym yn derbyn bod mwy i'w wneud. Mae adolygiad ledled y DU o Ymarfer Pegasus ar y gweill, a disgwylir adroddiad terfynol yng ngaeaf 2026. Mae myfyrdodau cynnar yn tynnu sylw at yr angen i gael mynediad at ddata iechyd a'i rannu'n gyflymach yn ystod pandemig, ac rydym yn gweithio'n agos gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i symud ymlaen â hyn. 

Roedd yr ymchwiliad yn cydnabod bod tasglu COVID-19 Llywodraeth Cymru yn rhan hanfodol o'n trefniadau mewnol yn ystod y pandemig, ac mae'n argymell y dylid parhau i gydlynu ymateb yn y dyfodol yn ganolog. Gan adeiladu ar ein hymateb i argymhellion modiwl 1, rydym wedi sefydlu prosesau o dan ein pwyllgor risg a pharodrwydd i lywio sut y dylai tasglu weithredu mewn argyfyngau system gyfan yn y dyfodol. Profwyd hyn hefyd yn ystod Ymarfer Pegasus.

Rydym yn croesawu'r argymhelliad y dylai Llywodraeth y DU, fel arfer safonol, wahodd y Llywodraethau datganoledig i fynychu cyfarfodydd COBRA. Mewn unrhyw bandemig neu argyfwng system gyfan, rhaid i'r broses o wneud penderfyniadau a chydlynu fod yn glir ac yn dryloyw a rhaid iddi adlewyrchu, o'r cychwyn cyntaf, fod y cyfrifoldeb am faterion datganoledig yng Nghymru yn gyfrifoldeb Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Mae ymateb effeithiol yn dibynnu ar weithio agos rhwng pedair cenedl y DU, wedi'i seilio ar bartneriaeth, ymddiriedaeth a pharch o'r ddwy ochr, ac nid ar hierarchaeth neu ddarostyngiad. 

Wrth ddatblygu ein hymateb i nifer o'r argymhellion, rydym wedi gweithio'n agos ac ar y cyd â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn cynnwys datblygu trefniadau y cytunwyd arnynt ar y cyd a sefydlu fforwm pedair gwlad penodol ar lefel penaethiaid llywodraeth. Dirprwy Lywydd, tryloywder oedd wrth wraidd ein dull yn ystod y pandemig. Rydym yn derbyn argymhelliad yr ymchwiliad i gyhoeddi cyngor technegol yn rheolaidd yn ystod argyfwng. O fis Mai 2020 ymlaen, fe wnaethom gyhoeddi papurau cyngor grwpiau cynghori technegol yn rheolaidd, gan roi mewnwelediad i'r wyddoniaeth a oedd yn sail i benderfyniadau allweddol.

Er mwyn cryfhau atebolrwydd ymhellach, gwella parodrwydd a chefnogi ein hymrwymiad i fod yn agored am y cyngor sy'n llywio penderfyniadau mewn unrhyw argyfwng system gyfan yn y dyfodol, ym mis Mai 2025, cyhoeddwyd ein 'Fframwaith Gwydnwch Cymru', sy'n helpu pobl i ddeall y risgiau yr ydym yn eu hwynebu a sut maent yn cael eu rheoli.

Roedd yr ymchwiliad hefyd yn cydnabod budd ein cyfathrebiadau wedi'u teilwra a hygyrch yn ystod y pandemig. Fe wnaethom ddefnyddio pob sianel a oedd ar gael i ddarparu gwybodaeth glir a chyfredol i'r cyhoedd wrth i'r cyfyngiadau'r pandemig newid. Cynhaliwyd 230 o gynadleddau dwyieithog i'r wasg, gyda chefnogaeth arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain. Yn 2020 yn unig, derbyniodd gwefan llyw.cymru fwy na 25 miliwn o ymweliadau. Rydym wedi rhoi canllawiau ar waith, sy'n nodi'r gwahanol fformatau sydd eu hangen i gefnogi gohebiaeth gyhoeddus hygyrch, ac rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill i gyd-gynhyrchu set newydd o egwyddorion i gefnogi cyfathrebu ar adeg argyfwng.

Fel Prif Weinidog, dwi'n falch o waith y Llywodraeth yn ystod y pandemig. Fe wnaeth pawb yn y Llywodraeth, yn y Cabinet ac yn y gwasanaeth sifil, weithio'n eithriadol o galed, mewn amgylchiadau anodd a heriol iawn, i ddiogelu Cymru. Mae yna rai pethau gawson ni'n anghywir, mae yna rai pethau y gallen ni fod wedi'u gwneud yn well, ac mae yna wersi i'w dysgu. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r ymchwiliad ac yn dysgu o’u canfyddiadau er mwyn i ni allu bod yn fwy parod ar gyfer yr argyfwng neu'r pandemig nesaf.

Mae'r newidiadau rŷn ni wedi'u gwneud yn barod yn dilyn modiwl cyntaf yr ymchwiliad yn rhai helaeth sydd eisoes wedi helpu i ymateb i gymunedau sy'n cael eu heffeithio gan dywydd eithafol a llifogydd. Bydd rhain yn helpu i gryfhau Cymru ar gyfer y dyfodol. Wrth i'r ymchwiliad barhau i gyhoeddi ei ganfyddiadau, byddwn ni yn parhau i ddysgu ac yn ymateb yn unol â hynny, fel bod Cymru'n gryfach ac yn fwy parod. Mae'r Farwnes Hallett wedi gofyn am ddiweddariadau chwe mis am y cynnydd sy'n cael ei wneud ar ei hargymhellion, a bydd y diweddariad nesaf ar fodiwlau 1 a 2 ym mis Tachwedd. Diolch.

15:05

Yn gyntaf, dwi am fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf i a Phlaid Cymru gyda'r rhai a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig. Fel gwleidyddion etholedig, mae'n ddyletswydd arnom ni i ystyried canfyddiadau'r adroddiadau hyn gyda'r gostyngeiddrwydd a'r difrifoldeb mwyaf. Mae'r adroddiad yn glir: methodd parodrwydd Llywodraethau a sefydliadau ledled y Deyrnas Gyfunol â chyrraedd y safonau oedd eu hangen. Wrth edrych ar y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd, fe welwn fod ymateb Cymru, mewn rhai meysydd, wedi syrthio'n fyr o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol.

Rydym ni'n derbyn nad oes unrhyw Lywodraeth yn berffaith, ac mae camgymeriadau'n anochel wrth wynebu pandemig unwaith mewn canrif. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod y llwyddiannau tra hefyd yn dysgu yn onest o'r methiannau. Ar lefel strategol, roedd y penderfyniad i wneud pethau'n wahanol o fewn pwerau datganoledig yn un cywir, er iddo ddod yn hwyr. Mae'r adroddiad yn nodi fod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi mabwysiadu dull mwy graddol o lacio cyfyngiadau yn haf 2020, mewn cyferbyniad â dull mwy anhrefnus Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar y pryd.

Fodd bynnag, fe wnaed camgymeriadau difrifol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at gyfleoedd a gollwyd i weithredu'n fwy rhagweithiol ac at ddiffyg brys anesboniadwy ar ddechrau 2020. Yn arbennig o bryderus ydy'r ffaith na chafodd COVID-19 ei drafod yn y Cabinet tan 25 Chwefror, er gwaethaf rhybuddion clir wythnosau ynghynt. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio pam y bu oedi cyn i'r bygythiad gyrraedd brig yr agenda?

Un o ganfyddiadau mwyaf damniol yr adroddiad yw nad oedd yna strategaeth glir yn ystod dau fis cyntaf 2020. Roedd diffyg eglurder ynghylch gweithredu'r cynllun ymateb traws Cymru, gan danseilio rôl y ganolfan cydlynu argyfyngau. Er fy mod yn croesawu'r bwriad i adolygu'r trefniadau hyn, tybed a all y Prif Weinidog roi amserlen glir ar gyfer y gwaith. Yn yr un modd, yn sgil pryderon am gapasiti gwelyau, pa gamau sydd wedi cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod Cymru mewn cyflwr gwell o barodrwydd yn y dyfodol?

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod yr ymateb cynnar yn cael ei drin yn rhy gul fel mater iechyd yn unig, heb ddull trawslywodraethol integredig. Mae hyn yn adlewyrchu problem ehangach, sef y duedd i weithio mewn silos yn hytrach na meithrin diwylliant o gydweithio. Yn y cyfamser, pa gamau ymarferol sydd wedi cael eu cymryd gan y Llywodraeth i dorri'r rhwystrau yma rhwng portffolios yn y Llywodraeth?

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r tensiynau sy'n codi o'r rhaniad pwerau rhwng Cymru a San Steffan, yn enwedig o ran plismona. A ydych yn cytuno bod dileu'r ymyl finiog yma drwy ddatganoli pellach yn allweddol i wella ymateb i argyfyngau yn y dyfodol? Ydych chi hefyd yn cydnabod nad yw dilyn arweiniad San Steffan bob amser yn sicrhau'r canlyniad gorau, ac y dylai Cymru fod yn fwy parod i roi a gosod ei harweiniad ei hun?

Fe ddywedodd eich rhagflaenydd y byddai proses Gymreig yn cael ei gyflwyno os na fyddai ymchwiliad y Deyrnas y Gyfunol yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Mae'n amlwg o'r modiwl yma'n unig nad ydy holl faterion Cymru wedi cael eu hystyried yn llawn, a bod yna gaps yn yr ymchwiliad cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Er mor gynhwysfawr ydy'r adroddiad yma, dydy o felly ddim yn rhoi darlun o effaith penderfyniadau a wnaed ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Dyna pam ein bod ni'n parhau i alw am broses penodol i Gymru, er mwyn sicrhau'r atebolrwydd, y gonestrwydd, a'r tryloywder y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Ydych chi felly'n credu bod yr adroddiad a'r broses ehangach yn gwneud cyfiawnder â phrofiadau pobl Cymru? 

15:10

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n derbyn bod gwersi i'w dysgu, a dwi wedi gwneud hwnna'n glir. Roedd hwn yn sefyllfa nad oedd neb wedi bod trwyddi o'r blaen. Dwi'n falch bod y Farwnes wedi cydnabod hynny, a bod rhaid i ni weithio dan amgylchiadau anodd dros ben.

Roedd cydnabyddiaeth, rwy'n falch iawn o ddweud, gan yr ymchwiliad o'n dull gofalus. Roedd yn rhywbeth a werthfawrogwyd nid yn unig gan yr ymchwiliad ond hefyd gan y bobl yng Nghymru.

Dydw i ddim yn derbyn nad oeddem yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Roedd cymaint o waith trawslywodraethol. Mewn gwirionedd, yr hyn oedd yn wirioneddol ddiddorol yw bod yr ymchwiliad ei hun yn cydnabod cryfder ein penderfyniadau, oherwydd roedd y Cabinet wedi ymgysylltu'n llawn trwy gydol y pandemig. Roedd yn dryloyw, roedd penderfyniadau ar y cyd, ac roedd ar draws y Llywodraeth gyfan. Roedd pob agwedd ar fywyd yng Nghymru yn cael ei hystyried pan oeddem yn gwneud y penderfyniadau hynny.

Fe wnaethoch chi ofyn beth sydd wedi cael ei dynhau, beth sydd wedi digwydd. Rydym eisoes wedi sefydlu fframwaith gwydnwch cenedlaethol yng Nghymru. Mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn, nid yn unig o ran gwneud yn siŵr ein bod ni wedi paratoi'n well ar gyfer sefyllfa debyg, ond mae hefyd wedi derbyn argymhellion o sefyllfa Tŵr Grenfell a bomio arena Manceinion. Mae'n rhaid i ni ddysgu ar ôl pob digwyddiad o'r math hwn.

Mae gennym strwythur ymateb brys newydd, ac mae yna well atebolrwydd. Mae fforwm gwydnwch Cymru yn rhywbeth yr wyf i'n ei gadeirio. A wyddoch chi? Mae'r cysyniad rheoli argyfwng o weithrediadau wedi cael ei brofi 60 gwaith ers i ni ei sefydlu. Felly, bu llawer o lifogydd, bu llawer o ddigwyddiadau pan fo'r tywydd yn effeithio arnom ni, ac maen nhw wedi camu i'r adwy ac wedi ymateb o ganlyniad i'r mesurau newydd hynny sydd wedi'u rhoi ar waith. Felly, nid yn unig rydym eisoes wedi cyflwyno'r pethau hyn, ond maen nhw'n cael eu defnyddio mewn gwirionedd. Felly, byddwn yn fwy parod, gobeithio, yn y dyfodol.

Rwy'n credu bod angen mwy o gydlynu ar draws y Deyrnas Unedig. Nid yw'n ymwneud â mwy o ddatganoli, mae'n ymwneud â mwy o gydgysylltiad, oherwydd, ar ryw adeg, mae angen cydnabyddiaeth. Gallwch weld, dim ond heddiw, mae gennym achosion o meningitis yn rhywle arall yn y wlad. Nawr, nid yw yma, ond mae angen i ni fod yn wyliadwrus, ac mae angen i ni ddysgu oddi wrthynt. Beth maen nhw'n ei ddysgu? Sut allwn ni fod yn barod? Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu, a bod gennym fwy o gydgysylltiad. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi'i roi ar waith o ganlyniad i'r pandemig. Ni wnaethom erioed ddilyn Llywodraeth y DU. Pan oedd yn effeithiol ac roedd yn gwneud synnwyr i ni weithio gyda Llywodraeth y DU, wrth gwrs fe wnaethom hynny. Ni wnaethom ni erioed fynd ein ffordd ein hunain er mwyn hynny. Gadewch i mi fod yn hollol glir ynglŷn â hyn: roedd ein meddyliau bob amser yn ymwneud â sut rydym yn rhoi amddiffyniad y cyhoedd yn gyntaf.

Felly, rwy'n credu bod Mark Drakeford a'i arweinyddiaeth yn y pandemig yn rhywbeth sydd wedi cael ei werthfawrogi. Mae'r arweinyddiaeth honno yn rhywbeth yr wyf yn credu bod angen i ni ei chydnabod, ac rwy'n falch iawn bod yr ymchwiliad wedi canfod nad oedd unrhyw honiadau eang o dorri rheolau gan Lywodraeth Cymru.

15:15

Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, nid wyf yn siŵr a ydych wedi darllen yr un adroddiad â phawb arall yn yr ystafell hon, oherwydd roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddigon i godi cywilydd mewn gwirionedd ar Lywodraeth Cymru o ran y canfyddiadau yn adroddiad y Farwnes Hallett. Gwnaeth hi'n glir nad oedd unrhyw strategaeth go iawn yn cael ei dilyn gan Lywodraeth Cymru yn ystod Ionawr a Chwefror 2020. Cafodd ei drafod yng nghyfarfod cyntaf y Cabinet hwnnw ar 25 Chwefror, er gwaethaf y ffaith bod Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, wedi nodi pwysigrwydd hyn wythnosau lawer ynghynt, gan ddweud bod angen i chi edrych ar gynlluniau ar gyfer ynysu ac ambiwlansys rhag ofn y byddai'r pandemig hwn yn digwydd yma yn y DU.

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Methodd Mr Drakeford, Mr Gething a Llywodraeth Cymru hefyd ag ymgysylltu'n ddigonol â'r risg tan ddiwedd mis Chwefror 2020',

a bod yr ymateb ar y pryd, sef diwedd mis Chwefror, ac rwy'n dyfynnu, 'yn rhy hwyr', o ystyried faint o rybudd blaenorol oedd wedi'i roi. Aeth ymlaen i ddweud bod gor-ddibyniaeth ar yr wybodaeth a ddaeth i mewn i Lywodraeth y DU, a bod y ddau unigolyn hynny—Prif Weinidog, rydych newydd ganmol y ffordd a wnaeth ymdrin â'r ymateb—wedi methu ag ystyried yr amgylchiadau penodol yma yng Nghymru. A gadewch i ni beidio ag anghofio bod y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ar y pryd, wedi diystyru cyfle i ddarllen strategaethau parodrwydd pandemig Llywodraeth Cymru ei hun pan ddaeth yn Weinidog Iechyd, ac yn ystod ei gyfnod yn y rôl ar ddechrau'r pandemig hwn. Cydnabu Mark Drakeford, wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad, nad oedd yn ystyried difrifoldeb y pandemig a'r feirws tan yr oedd hi mor hwyr â mis Mawrth 2020, ddeufis yn hwyrach na phan gafodd ef a'r Llywodraeth eu rhybuddio. Ac eto, rydych chi newydd honni bod gennych lywodraethu effeithiol a phrosesau gwneud penderfyniadau clir. Nid yw'n swnio'n effeithiol iawn i mi, yn enwedig ar ddechrau'r pandemig.

Felly, y cwestiwn cyntaf: a wnaethoch chi ddarllen yr adroddiad, neu a ydych chi wedi dibynnu ar yr hyn a argraffwyd i chi gan eich swyddogion? Oherwydd, i mi, nid oedd yn swnio fel cydnabyddiaeth o ba mor ddifrifol oedd y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn o ran y datganiad rydych chi newydd ei wneud. Ac mae'n rhaid i ni fod yn onest am y pethau hyn neu fel arall fyddwn ni byth yn dysgu'r gwersi, na fyddwn? Felly, nid oedd brys. Gwyddom fod Mark Drakeford, er gwaethaf iddo gael ei rybuddio am ba mor ddifrifol oedd hi, wedi mynd i Frwsel yn wythnos gyntaf mis Mawrth ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, yn hytrach na mynychu'r Cabinet ar y pedwerydd, ac roedd hyn ar ôl i'r cyfarfod yr wythnos gyntaf ar 25 Chwefror, ddweud bod problemau gyda'r feirws ac roedd angen i ni fod yn barod.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru, rwy'n dyfynnu,

'wedi methu â dysgu o brofiadau'r cyfnod cyfyngiadau symud cyntaf',

a arweiniodd wedyn at gyfyngiadau lleol yn cael eu gweithredu'n rhy hwyr ac yn rhy rydd i reoli lledaeniad y feirws. Roedd dull gweithredu eich Llywodraeth o ran cyfyngiadau lleol wedi'u targedu hefyd, wrth gwrs, yn aflwyddiannus, a dyna pam roedd angen cyfnod atal byr ym mis Hydref 2020. Ond roedd hynny bythefnos ar ôl i chi eisoes dderbyn tystiolaeth glir iawn bod angen i chi wneud hynny bythefnos ynghynt gan y cynghorwyr gwyddonol, gan eich prif swyddog meddygol, a dywedwyd wrthych fod y gyfradd atgynhyrchu yn uwch nag un, a'ch bod mewn perygl o dorri capasiti ysbyty ar yr adeg honno.

Rydych chi eisoes wedi cael eich holi am gapasiti ysbytai ac mae wedi bod yn fater o drafod heddiw. Nid yw'n ddigonol i ymdrin â gweithrediadau o ddydd i ddydd, heb sôn am bandemig. Ac nid oes unrhyw bwynt ceisio beio Llywodraeth y DU am unrhyw ddiffyg ac oedi. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod yr Alban yn cymryd camau yn llawer cyflymach nag yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ydi, mae o. Dywedodd eu bod wedi gweithredu'n gyflym. Gallaf eich gweld chi'n ysgwyd eich pen. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod yr Alban wedi bod yn gyflym yn defnyddio ei mesurau llym wedi'u targedu'n lleol i ymdrin â'r achosion hynny, a bod y niferoedd wedi tyfu yn yr Alban yn llawer arafach ac yn osgoi, felly, yr angen am gyfnod o gyfyngiadau symud ledled y wlad.

Felly, yr ail gwestiwn: a gaf i ofyn i chi, a ydych chi'n cytuno â'r adroddiad bod Llywodraeth Cymru yn rhy araf yn ymateb? Ac a ydych chi'n derbyn bod yr oedi hwnnw wedi arwain at ganlyniadau niweidiol, hyd yn oed marwolaethau, i bobl ledled Cymru?

Nawr, yn eich ymateb ysgrifenedig i'r adroddiad penodol hwn, Prif Weinidog, dywedoch chi fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â materion datganoledig o'r cychwyn cyntaf ac nid COBRA. Felly, y trydydd cwestiwn: a gaf i ofyn i chi pam ydych chi'n meddwl ei bod bob amser yn angenrheidiol mabwysiadu dull gwahanol i un Llywodraeth y DU? Rydych chi wedi bod yn dathlu'r ffaith ei fod yn ddull gwahanol, ond yr hyn nad ydych wedi bod yn barod i'w dderbyn yw'r angen am fwy o graffu ar y broses o wneud penderfyniadau yma yng Nghymru. Rydych chi wedi gwarafun ymchwiliad penodol i Gymru i bobl Cymru a theuluoedd mewn galar oherwydd COVID, ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID.

15:20

Onid ydych chi'n derbyn mai'r unig ffordd i ni fynd at waelod y materion hyn ac i ddysgu'r gwersi yw gwneud yn siŵr bod gennym ymchwiliad COVID priodol ar gyfer y bobl hynny a gollodd eu bywydau a'r rhai a ddioddefodd niwed o ganlyniad i'r pandemig hwn?

Yn gyntaf oll, wrth gwrs y darllenais i'r adroddiad. Rydw i wedi darllen bron popeth y gallaf mewn perthynas â'r ymchwiliad COVID. Mae wedi bod yn amser pwysig i ni ddysgu o'r gorffennol i wneud yn siŵr nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau, ond hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn cydnabod ac yn anrhydeddu'r bobl a ddioddefodd yn ystod y pandemig. A dyna pam rydw i wedi treulio llawer iawn o amser ar y mater hwn.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gydnabod nad yw'n wir ein bod wedi methu â dysgu gwersi. Fe wnaethon ni ddysgu gwersi sylweddol yr holl ffordd drwy'r pandemig. Rwy'n cofio cyfarfodydd y Cabinet lle gofynnwyd i ni: beth wnaethon ni ei ddysgu y tro diwethaf? Beth wnaethon ni o'i le? Sut allwn ni wneud hyn yn well? Fe wnaethon ni hynny dro ar ôl tro fel nad oeddem yn ailadrodd y camgymeriadau ar ddechrau'r pandemig.

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod yna adegau pan oeddem efallai wedi dymuno cyflwyno cyfyngiadau symud am gyfnod hwy. A'r broblem go iawn oedd nad oeddem yn gallu gwneud hynny; ni chawsom yr arian gan Lywodraeth y DU. Ni chawsom y sicrwydd y gallem roi'r gefnogaeth i bobl yn ystod y cyfnod hwnnw. A wir i chi, pan oedd Lloegr eisiau cyflwyno cyfyngiadau symud, fe wnaethon nhw ddod o hyd i'r arian. A dyna oedd un o'r problemau go iawn, rwy'n credu, a rhywbeth sydd hefyd yn cael ei gydnabod yn yr ymchwiliad.

Roedden nhw hefyd yn cydnabod bod y cyfnod atal byr yn effeithiol, mewn gwirionedd. Y broblem oedd nad oedd yn mynd ymlaen am ddigon hir. Ac roedden ni'n gwybod hynny. Cawsom drafodaeth amdano. Rwy'n cofio'n glir iawn, iawn. Roedden ni eisiau iddo fynd ymlaen yn hirach ac ni chawsom yr arian, y sicrwydd, oherwydd roedd yn rhaid i'r arian hwnnw ddod oddi wrth Lywodraeth y DU.

Rydych chi'n sôn am fod yn rhy araf yn ymateb. Gadewch i mi ddweud wrthych fod y swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd o'r dechrau. Ac wrth gwrs mae yna benderfyniadau y byddem wedi eu gwneud yn wahanol. Ond gadewch i mi ofyn i chi, Darren: a ydych chi'n onest yn dadlau y dylem fod wedi dilyn Llywodraeth y DU gyda'r anhrefn a oedd yn digwydd yn Rhif 10 ar y pryd, gyda phartïon? Pobl yn cael partïon tra bod pobl yn marw. Dydw i ddim eisiau gwneud pwyntiau gwleidyddol gyda hyn, ond mae'n bwysig iawn i ni gydnabod bod hyn yn ddifrifol iawn. Mae hyn yn ddifrifol iawn. Mae'n rhaid i ni ddysgu ohono.

Fel Llywodraeth, ni allaf ddweud wrthych pa mor ddifrifol rydym ni wedi cymryd yr ymchwiliad hwn. Rydym wedi treulio oriau, cannoedd a channoedd o oriau, ar yr ymchwiliad hwn. Rydym wedi gwario miliynau o bunnau yn ceisio dysgu ohono. Rydym ni wedi gwrando ar bobl. Mae saith deg o wahanol bobl wedi bod yn rhoi datganiadau. Mae hwn yn rhywbeth rydym ni wedi'i gymryd o ddifrif, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod yna bobl sydd wedi dioddef, sy'n parhau i ddioddef. Mae'r teuluoedd hynny mewn profedigaeth, maen nhw'n dal i frifo. Maen nhw'n dal i gyfri'r gost. Mae yna blant â phroblemau iechyd meddwl sy'n dal i addasu, yn ei chael hi'n anodd. Pobl â COVID hir. Mae yna fusnesau a aeth i'r wal. Mae'r holl bethau hyn yn rhesymau pam mae'n rhaid i ni gymryd yr ymchwiliad hwn o ddifrif, ac rydym yn ei gymryd o ddifrif. Rydym ni'n dysgu'r hyn y gallwn, ac mae'n hanfodol ein bod yn dysgu'r gwersi hynny ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, gan ddeall y byddwn ni, ar adegau, yn gwneud yn siŵr mai'r hyn sy'n briodol i ni yng Nghymru yw'r hyn sy'n cael ei wneud, ac ar adegau eraill, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, cyn belled ag y bo modd, ein bod yn cydlynu. Rydym ni'n cydnabod mai dyna beth roedden ni eisiau ei wneud, ond os ydyn nhw'n ddiofal yn eu dull gweithredu, yna does dim siawns y byddwn ni'n eu dilyn i lawr y llwybr hwnnw.

15:25
5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Eitem 5 sydd nesaf, y Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM9213 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'm cyd-Aelodau sydd yma heddiw i drafod Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026, yr wyf yn eu cyflwyno ger eich bron heddiw. Mae'r rheoliadau hyn yn gam bach ond pwysig tuag at foderneiddio a symleiddio prosesau etholiadol i'r cyhoedd yng Nghymru. Tan nawr, gallai pleidleiswyr Cymru wneud cais ar-lein am bleidleisiau post neu ddirprwy yn etholiadau cyffredinol y DU ac etholiadau comisiynydd heddlu a throseddu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid dilyn unrhyw gais ar-lein gyda chais ysgrifenedig ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru. Nid yn unig mae hyn yn ddiflas ac yn ddiangen i'r cyhoedd ac yn faich gweinyddol i'r timau etholiadol, mae'n creu anghysondebau anfwriadol mewn cofnodion pleidleiswyr. Mae'n cynyddu'r risgiau bod pleidleiswyr yn ddryslyd ynghylch y dull y byddant yn ei ddefnyddio i bleidleisio mewn etholiad, ac o bosibl yn colli eu cyfle i bleidleisio yn gyfan gwbl.

Rydym eisiau ymestyn y system bresennol i bob etholiad yng Nghymru. Bydd hyn yn symleiddio'r broses ymgeisio i bob pleidleisiwr yn fawr, iawn yn arbed llawer o amser i dimau etholiadol, ac yn creu sicrwydd ynghylch dewisiadau pleidleiswyr. Mae awydd cryf ymhlith y cyhoedd am y gwasanaeth hwn. Yn union cyn etholiad cyffredinol y DU 2024, cododd cymhareb y ceisiadau ar-lein i 90 y cant. Mae peidio â darparu'r system ar gyfer etholiadau Cymru yn anghyson â'n hegwyddorion hygyrchedd, annog cyfranogiad, hyrwyddo symlrwydd a gwella profiad dinasyddion. Gall aelodau ofyn am sefydlu proses ymgeisio ar-lein ar wahân. Yn ogystal â'r gost fawr, byddai'n cadw'r dryswch a'r aneffeithlonrwydd presennol i bleidleiswyr Cymru, a fyddai angen gwneud ceisiadau ar wahân o hyd.

Er mwyn cyfrif am y symudiad i geisiadau ar-lein, mae'r rheoliadau yn cyflwyno proses gwirio hunaniaeth sy'n gofyn yn bennaf am rif yswiriant gwladol neu ddewisiadau amgen pan nad yw hwn ar gael. Mae hefyd yn alinio'r cylchoedd adnewyddu pleidleisiau post gydag etholiadau a gedwir yn ôl. Bydd yn ofynnol i bleidleiswyr ailymgeisio am eu pleidlais bost bob tair blynedd, yn hytrach nag adnewyddu eu cofnodion llofnodion bob pum mlynedd. Mae'r addasiad hwn yn sicrhau cysondeb ac yn galluogi pleidleiswyr i gyflwyno un cais ar gyfer pob etholiad y maent yn bwriadu cymryd rhan ynddo.

Mae'r rheoliadau yn nodi'r broses y bydd angen i swyddogion cofrestru ei dilyn yn ystod y broses weithredu. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â phleidleiswyr yr effeithir arnynt, diweddaru cofnodion coch ac, mewn nifer fach o amgylchiadau, gofyn i bleidleiswyr ailymgeisio ar gyfer pleidleisio absennol. Disgwylir i nifer gyffredinol y pleidleiswyr yr effeithir arnynt fod yn fach iawn, ac mae pob ymdrech wedi'i wneud i leihau amhariad.

Mae'r dull hwn yn cael ei gefnogi'n gryf gan y gymuned etholiadol. Mae Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol wedi ymateb o'r blaen eu bod yn cefnogi'r cynigion yn gryf a bod y system bresennol wedi arwain at ddryswch etholiadol a baich gweinyddol. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi croesawu'r newidiadau mewn sawl ymgynghoriad ac wedi nodi'r dryswch parhaus a'r symlrwydd y bydd ymestyn y system hon yn ei gynnig. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:30

A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y rheoliadau drafft ddoe. Mae'r adroddiad yn cynnwys 10 pwynt adrodd craffu technegol ac un pwynt adrodd craffu ar rinweddau. Byddaf yn tynnu sylw at y rhai a allai fod o ddiddordeb arbennig i'r Aelodau, ac yn crynhoi'r lleill.

Mae pwynt adrodd 2 yn tynnu sylw at gyfres o wallau croesgyfeirio o fewn testun y rheoliadau, gydag is-baragraffau a pharagraffau yn cael eu camddisgrifio. Mae pwynt adrodd 5 yn cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r term 'cofnod' yn fwriadol mewn perthynas â'r ddyletswydd sydd gan swyddog cofrestru i gadw rhestr o bleidleiswyr drwy'r post. Mae adroddiad y pwyllgor yn awgrymu y gallai'r term 'rhestr' fod yn fwy priodol. Mae pwynt adrodd 8 yn ceisio eglurhad ar y diffiniadau o dermau allweddol nad ydynt wedi'u diffinio yn y rheoliadau eu hunain, megis 'cofrestr', 'cofnod dienw' ac 'etholwr'. Ac mae pwynt adrodd 9 yn nodi bod cyfeiriad at baragraff 16 o Orchymyn 2025 yn anghyflawn, oherwydd ei fod yn methu â nodi'r Atodlen y ceir y paragraff hwnnw ynddi.

O'r pwyntiau technegol sy'n weddill, mae un yn ymwneud â drafftio diffygiol, tri yn ceisio esboniad pellach am ffurf neu ystyr, a dau yn ymwneud ag anghysondebau rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg. Nid wyf yn dal y Gweinidog yn gyfrifol am beidio â gwybod bod y testunau Cymraeg a Saesneg yn dweud pethau gwahanol. Rwy'n dal ei gweision sifil yn gyfrifol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o bwyntiau adrodd y pwyllgor ac eithrio un, a bydd yn ystyried gwneud y diwygiadau hynny fel rhan o gynnal Gorchymyn 2025 yn barhaus.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae pwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn nodi bod y rheoliadau yn cynyddu'r trothwy adrodd am roddion. Nid oes angen rhoi gwybod mwyach am roddion o dan £500 i ymgeiswyr unigol. Mae'r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru esbonio pam ei bod wedi cynyddu'r trothwy hwn, a oedd yn £50 yn flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi, ar hyn o bryd, fod yn rhaid i ymgeiswyr adrodd am bob rhodd dros £50, er y bydd y rhai sy'n llai na £500 yn cael eu diystyru o'u treuliau etholiadol. Felly, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y newid yn weinyddol, gan nad yw'n cael ei ystyried yn angenrheidiol i ymgeiswyr unigol adrodd am roddion nad ydynt yn cyfrif tuag at eu treuliau etholiadol.

Diolch. A hoffwn ddiolch i Mike Hedges a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth fanwl o'r rheoliadau hyn. 

Rwy'n credu bod gan bleidleiswyr Cymru ddisgwyliad ynghylch moderneiddio a symlrwydd yn y broses etholiadol, ac rwy'n credu bod y rheoliadau hyn yn gwneud y system yn fwy hygyrch ac yn fwy tryloyw, sy'n adeiladu'r ymddiriedaeth hanfodol sydd angen i ni ei datblygu. Ac felly gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026

Eitem 6 yw'r Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford. 

Cynnig NDM9212 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau ar y mater hwn.

Dirprwy Lywydd, yn 2022, pasiodd y Senedd Ddeddf Deddfau Trethi Cymru (Pŵer i Addasu). Rhoddodd y pŵer i Weinidogion Cymru, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, ddiwygio'r Ddeddf mewn nifer fach o amgylchiadau penodol a chyfyngedig, a'r pwysicaf yw ymateb i newidiadau i dreth ragflaenol sy'n effeithio ar refeniwiau Llywodraeth Cymru neu a allai effeithio arnynt. Mae gan y Ddeddf gymal machlud a dyddiad dod i ben, y gellir ei ymestyn unwaith yn unig, ac i ddim hwyrach na 30 Ebrill 2031. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer yr estyniad hwnnw.

Dirprwy Lywydd, cytunaf â'r Pwyllgor Cyllid bod angen trefniant gwell a pharhaol i fodloni'r amgylchiadau a gwmpesir gan y Ddeddf ar hyn o bryd. Mae'r pwyllgor yn argymell sefydlu grŵp yn y seithfed Senedd i fwrw ymlaen â datblygu'r mecanwaith newydd. Byddai'r rheoliadau heddiw yn rhoi'r amser sydd ei angen i'r Senedd nesaf a Llywodraeth Cymru ddatblygu ac ystyried y mecanweithiau newydd hynny. Wrth gwrs, er bod y rheoliadau hyn yn ymestyn pwerau Deddf Trethi Cymru i 2031, gallai Llywodraeth newydd weithredu ar unrhyw adeg cyn hynny i ddisodli'r Ddeddf a'i diddymu yn nhymor y Senedd nesaf.

Cyn i'r rheoliadau hyn gael eu gosod, roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi casgliadau eu hadolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf. Cyhoeddwyd yr adolygiad hwnnw ar 13 Chwefror, ac roedd yn cynnwys asesiad o fecanweithiau amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddf Trethi Cymru. Yn ystod fy ymgynghoriad â'r Senedd, gwnes ddatganiad llafar ar 16 Medi y llynedd, mynychais y Pwyllgor Cyllid, a chyfarfu swyddogion Trysorlys Cymru â'r Pwyllgor Cyllid ac Aelodau unigol, ac rwy'n falch bod yr ymgysylltiad hwn wedi parhau ers cyhoeddi'r adolygiad. Rwy'n ddiolchgar, fel erioed, am yr holl gyfraniadau a wnaed wrth i ni ystyried y mater hwn gyda'n gilydd.

Dirprwy Lywydd, mae'r estyniad o'r dyddiad dod i ben a ddarperir gan y rheoliadau hyn yn rhyddhau dwylo ein holynwyr pan, fel arall, byddent yn cael eu clymu. Mae'n rhoi'r amser sydd ei angen arnynt i ddatblygu'r mecanweithiau newydd ar gyfer gwneud newidiadau treth, gan barhau i ddiogelu'r refeniwiau sydd ar gael i'r Senedd. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Clywsom ni dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar y rheoliadau hyn fel rhan o'r gwaith craffu ar yr ail gyllideb atodol yn gynharach yn y mis. Yn ystod taith ddeddfwriaethol y Ddeddf wreiddiol, mynegodd pwyllgorau'r Senedd bryderon sylweddol ynghylch ehangder y pŵer a'r effaith a gafodd ar y cydbwysedd rhwng hyblygrwydd gweithredol a gwaith craffu seneddol. Gwnaeth y pryderon hynny helpu i liwio'r Ddeddf fel y mae'n sefyll heddiw, gan gynnwys cyflwyno'r cymal machlud a'r gofyniad am adolygiad statudol. Bwriad y Ddeddf, fel y'i pasiwyd, oedd gweithredu fel mecanwaith dros dro ac eithriadol, gan roi pŵer eang i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth ym maes trethi ar fyrder mewn ymateb i ddigwyddiadau allanol.

Fel yr esboniodd yr Ysgrifennydd Cabinet eisoes, mae'r rheoliadau hyn yn cynnig ymestyn y pŵer gwneud rheoleiddiadau dros dro a gynhwysir yn adran 1 o'r Ddeddf tan 30 Ebrill 2031, y dyddiad hwyraf a ganiateir. Er nad yw'r pŵer wedi'i ddefnyddio, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym y gallai ymestyn y pŵer i'w gyfnod mwyaf a ganiateir helpu i osgoi rhoi pwysau diangen ar Lywodraeth sy'n dod i mewn yn gynnar yn nhymor y Senedd nesaf. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn credu bod y dull presennol yn darparu'r cydbwysedd mwyaf cymesur rhwng craffu ac ymateboldeb, o ystyried y nifer presennol o drethi datganoledig Cymru. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn glir na all y fframwaith dros dro hwn barhau i fod y fframwaith diofyn hirdymor ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddf trethi Cymru. Amlygodd adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun o Ddeddf 2022 bryderon sylweddol ymhlith yr Aelodau ynghylch y cyfleoedd cyfyngedig sydd ar gael i ddiwygio cynigion trethi a gyflwynir drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r adolygiad hefyd yn cydnabod bod fersiwn newydd o Ddeddf 2022 yn annhebygol o ddenu cefnogaeth o fewn y Senedd, gan atgyfnerthu ein barn nad yw'r pŵer presennol yn ateb hirdymor cynaliadwy.

Yn gryno, felly, rydym yn cydnabod y sail resymegol ar gyfer ymestyn y pŵer dros dro presennol, ond hoffem bwysleisio bod arnom angen model deddfwriaethol sy'n fwy gwydn ac yn fwy addas yn gyfansoddiadol. Dylai hyn warchod yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymateb ar fyrder i ddigwyddiadau allanol sy'n effeithio ar drethi datganoledig, tra hefyd yn cryfhau rôl ganolog y Senedd wrth graffu ar ddeddfwriaeth a'i llunio. Am y rheswm hynny, rydym ni hefyd wedi argymell yn ein hadroddiad bod Llywodraeth nesaf Cymru yn sefydlu gweithgor yn gynnar yn y seithfed Senedd i ddatblygu mecanwaith sydd yn fwy addas ar gyfer diwygio Deddfau trethi Cymru, gan gynnwys defnyddio deddfwriaeth sylfaenol, a sicrhau bod lleisiau pwyllgorau'r Senedd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith hwnnw. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y rheoliadau drafft yr wythnos diwethaf. Mae pwynt adrodd craffu ar rinweddau sengl yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau'n gwthio dyddiad dod i ben y pŵer gwneud rheoliadau yn adran 1 o Ddeddf Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 yn ôl hyd at 30 Ebrill 2031. Mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau hyn yn dadlau y bydd gwneud hynny'n golygu bod y pŵer yn parhau i fod ar gael tra bod Llywodraeth Cymru a'r Senedd nesaf yn sefydlu'r dull y maent yn dymuno ei fabwysiadu i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth dreth ddatganoledig. Mae hefyd yn dweud y bydd oedi'r dyddiad pan ddaw pŵer i ben yn rhoi'r gallu parhaus i Lywodraeth nesaf Cymru wneud newidiadau i ddeddfwriaeth dreth benodol yn gyflym ac yn hyblyg os bydd angen. Ni ofynnodd y pwyllgor am ymateb gan Lywodraeth Cymru.

15:40

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio heddiw at Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022. Pan ystyriwyd y Ddeddf honno yn wreiddiol gan y Senedd, codwyd pryderon nad oedd yn briodol i is-ddeddfwriaeth gael ei defnyddio fel cyfrwng i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth trethiant sylfaenol. Nawr, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Peter Fox hi'n glir ar y pryd, credwn y dylai deddfwriaeth dreth gael ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac mae defnyddio is-ddeddfwriaeth i wneud y newidiadau hyn yn codi cwestiynau sylfaenol am y Senedd fel deddfwrfa a'i pherthynas â'r Weithrediaeth.

Nawr, rwy'n clywed yr hyn mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud am fân newidiadau, ond mae'r pwerau hyn yn caniatáu i Weinidogion ddiwygio elfennau sylweddol o fframwaith trethi Cymru heb yr un lefel o graffu ag y mae deddfwriaeth sylfaenol lawn yn ei darparu. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dadlau bod angen hyblygrwydd, y gwir amdani yw bod craffu yn sylfaenol i lywodraethu da ac i weithrediad priodol y Senedd hon. Mae craffu yn rhan greiddiol o sut mae unrhyw ddeddfwrfa yn dal y Llywodraeth i gyfrif.

Ar ben hynny, ers i'r Ddeddf ddod i rym yn 2022, fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, nid yw'r pwerau hyn wedi'u defnyddio. Os nad yw'r Llywodraeth wedi gweld ei bod yn angenrheidiol i'w defnyddio dros sawl blwyddyn, mae hynny'n codi cwestiynau difrifol am yr angen i'w hymestyn nawr. Os oes angen newidiadau i gyfraith drethi Cymru, yna dylent ddod gerbron y Senedd yn y ffordd briodol, trwy ddeddfwriaeth sylfaenol, gyda thrafodaeth, craffu ac atebolrwydd llawn. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gynharach, mae'n amlwg bod angen model llawer gwell arnom i ymdrin â hyn yn y dyfodol. Felly, am y rhesymau hynny, bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn y prynhawn yma.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mewn sawl ffordd, nid wyf yn anghytuno â'r pwyntiau y mae Paul Davies wedi'u gwneud. Fel y dywedodd, nid yw'r pwerau hyn wedi cael eu defnyddio, gan ddangos, rwy'n credu, bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando'n astud ar y negeseuon a roddwyd yn ystod pasio'r Ddeddf y dylid eu defnyddio yn gynnil a phan oedd yn gwbl angenrheidiol, ac rydym wedi osgoi'r angen i'w defnyddio hyd yn hyn.

Ond mae'r pedwar diben y gellid defnyddio'r pwerau hyn ar eu cyfer yn rhai hollol ddifrifol. Pe bai Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa lle roedd angen i ni weithredu'n gyflym er mwyn i'r Senedd gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, ni allwn ddibynnu ar ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol i wneud hynny. Os yw'r llysoedd yn gwneud dyfarniad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gyfraith yng Nghymru gael ei diwygio, ni fyddech eisiau i ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol gael ei ddwyn gerbron y Senedd, gyda'r holl oedi y mae hynny'n ei olygu, ac ni fyddech yn dymuno i Lywodraeth Cymru golli arian oherwydd nad oeddem yn gallu gweithredu i wrthsefyll pŵer i fesurau osgoi gael eu cymryd.

Yn bwysicaf oll, a dyma lle rydym ni wedi dod agosaf at ddefnyddio'r pwerau hyn, pe bai Llywodraeth y DU yn newid un o'r trethi rhagflaenol—treth dir y dreth stamp, treth gwarediadau tirlenwi—mewn ffordd sy'n effeithio'n andwyol ar y refeniwiau sydd ar gael i'r Senedd, rwy'n credu y byddai angen i Lywodraeth gyfrifol a Gweinidog cyllid cyfrifol weithredu'n gyflym i osgoi colli'r refeniwiau hynny.

Dyna beth mae'r pwerau yn y rheoliadau yn caniatáu ar eu cyfer. Mae eu hymestyn am gyfnod o bum mlynedd yn rhoi cyfle i Lywodraeth sy'n dod i mewn i roi rhywbeth gwell ar waith mewn ffordd drefnus, nid tra bod y cloc yn ticio'n daer yng nghyfnod cynnar iawn tymor Senedd newydd. Dyna'r cyfan y mae hyn yn ei wneud. Mae'n darparu'r amser sydd ei angen i roi system well ar waith.

Ac rwy'n cytuno—cytunais â'r Pwyllgor Cyllid—bod angen system well na hyn yn y tymor hir. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwahanol opsiynau ar gyfer sut y gellid sefydlu system well. Nid oes yr un ohonynt yn berffaith. Mae gan bob un ohonynt fanteision ac anfanteision. Bydd Llywodraeth newydd eisiau meddwl drosti'i hun ynghylch pa un o'r opsiynau hynny y byddai eisiau eu rhoi ger bron y Senedd, ac os bydd y rheoliadau'n cael eu pasio heddiw, bydd gan y Llywodraeth sy'n dod i mewn yr amser i wneud hynny, gydag ystyriaeth briodol ac mewn ffordd drefnus. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnig y dylid gwneud hynny yn gynnar yn y tymor, ac rwy'n cytuno â hynny hefyd. Ond nid wyf yn credu ei bod yn synhwyrol i roi Llywodraeth sy'n dod i mewn o dan bwysau i weithredu ar y mater hwn, gyda'r holl bethau y byddant yn dymuno ymdrin â nhw yn dilyn etholiad, pan ellir rhoi mwy o amser iddyn nhw ac fe ddarperir ar gyfer hynny yn y ddeddf wreiddiol. Dyna'r cyfan y mae'r rheoliadau hyn yn ceisio ei wneud, Llywydd, a gobeithio y byddan nhw'n llwyddo ar lawr y Senedd y prynhawn yma.

15:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.  

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2025-26

Eitem 7 yw'r ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2025-26. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford. 

Cynnig NDM9186 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Dirprwy Lywydd, mae'r ail gyllideb atodol ar gyfer 2025-26 yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Yn y bôn, mae cyllidebau atodol yn edrych yn ôl ac, fel sy'n arferol, mae'r ail gyllideb atodol hon yn rheoleiddio nifer o newidiadau a dyraniadau a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'n gosod y terfynau y bydd alldro terfynol cyfrifon Llywodraeth Cymru yn cael ei fesur yn eu herbyn.

Yn yr ail gyllideb atodol, mae'r adnoddau sydd ar gael i'r Senedd yn cynyddu £427.9 miliwn. Mae'r swm hwnnw'n cynnwys £370.6 miliwn mewn refeniw, £52.7 miliwn mewn cyfalaf cyffredinol, a £4.5 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol. Mae'r llinell sylfaen adnoddau anghyllidol—ac i fod yn glir gyda chyd-Aelodau, dyna arian na all y Senedd ei wario, ond sy'n yswiriant a ddarperir gan y Trysorlys at ddibenion anghyllidol—mae'r llinell sylfaen honno wedi cynyddu £2.5 biliwn, yn bennaf o ganlyniad i gynnydd o £2.4 biliwn yn y gyllideb ar gyfer benthyciadau myfyrwyr a neilltuwyd. Mae hyn yn dilyn newid i'r model prisio benthyciadau myfyrwyr, sy'n golygu bod y model yng Nghymru yn cyd-fynd â'r model a ddefnyddir gan Adran Addysg Llywodraeth y DU, ac, yn wir, mae'r model hwnnw bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob un o'r pedair gwlad yn y DU. Mae biliynau o bunnau mewn yswiriant anghyllidol eisoes wedi'u darparu yn yr Alban a Lloegr yn dilyn yr un ymarfer.

Ar ochr wariant yr hafaliad, Dirprwy Lywydd, mae'r ail gyllideb atodol yn tynnu ynghyd £370.7 miliwn mewn gwariant refeniw cynyddol, £55.9 miliwn mewn cynnydd mewn buddsoddiad cyfalaf cyffredinol, gyda gostyngiad o £24 miliwn i'n cyllidebau cyfalaf trafodiadau ariannol. Ymhlith y dyraniadau allweddol yn yr ail gyllideb atodol hon mae £125.8 miliwn i dalu am effaith dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus. Ynghyd â'r £220 miliwn y cytunwyd arnynt at y dibenion hyn yn y gyllideb atodol gyntaf, mae'r dyraniadau hyn i gyd bellach yn llinell sylfaen ar gyfer 2026-27.

Mae cefnogaeth i'r gwasanaeth iechyd yn amlwg yn y penderfyniad y gofynnir i aelodau ei wneud heddiw. Mae £200 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i'r prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG. Mae hyn wedi helpu i reoli pwysau annisgwyl, sydd, yn ei dro, yn caniatáu i'r GIG gynnal cynnydd wrth leihau rhestrau aros ac amseroedd aros yn 2025-26.

Y tu hwnt i'r gwasanaeth iechyd, mae'r ail gyllideb atodol yn adlewyrchu'r buddsoddiad ychwanegol mawr yr ydym wedi gallu ei wneud mewn addysg yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda £60.5 miliwn cronnol mewn cyfalaf ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer y portffolio addysg.

Mae trafnidiaeth a'r agenda teithio llesol hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb atodol hon, gyda £70.2 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf wedi'i ddyrannu i'r prif grŵp gwariant trafnidiaeth i dalu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â cherbydau ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Bydd hyn yn cefnogi'r gwaith i ddadaddasu a datgarboneiddio fflyd trenau Trafnidiaeth Cymru ac osgoi'r angen i ddarparu'n ddrytach at yr un diben hwn yn 2026-27. Mae £25.7 miliwn arall mewn cyfalaf cyffredinol wedi'i ddyrannu i gefnogi pwysau yn ystod y flwyddyn a gweithgarwch ychwanegol ar brosiect trawsnewid llinellau craidd y Cymoedd, y buddsoddiad mwyaf o'i fath yn unrhyw le yn Ewrop.

Dirprwy Lywydd, er gwaethaf y gwariant sylweddol a adlewyrchir yn yr ail gyllideb atodol hon, mae'r ymarfer yn parhau i fod yn dechnegol ei natur yn y bôn. Y tu ôl i'r penawdau mae dyraniadau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, diwygiadau i'r addasiad grant bloc, diwygiadau i ragolygon trethi datganoledig a newidiadau a wnaed o ganlyniad i amcangyfrifon atodol Llywodraeth y DU. Mae'r gyllideb hon hefyd yn rheoleiddio trosglwyddiadau cymeradwy o fewn a rhwng portffolios gweinidogol Llywodraeth Cymru i alinio adnoddau â chyflawni blaenoriaethau, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol. Yr hyn y mae'r ail ymarfer atodol yn ei wneud yw tynnu'r holl benderfyniadau hynny—penderfyniadau a wnaed eisoes—i mewn un lle, gan eu gwneud yn fwy gweladwy a chaniatáu i newidiadau unigol gael eu gweld yng nghyd-destun ehangach rheoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn. Yn dilyn newidiadau a wnaed yn yr ail gyllideb atodol, bydd cyfanswm o £87 miliwn ar ôl mewn cronfeydd wrth gefn: £42 miliwn mewn refeniw, £30 miliwn mewn cyfalaf a £15 miliwn mewn cyfalaf trafodiadau ariannol.

Rwy'n arbennig o ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'i Gadeirydd am yr ystyriaeth ofalus sydd y tu ôl i'r adroddiad ac am ei barodrwydd i ymgysylltu, nid yn unig â'r manylion sylweddol a adlewyrchir yn y ddogfennau, ond hefyd â'r dadleuon a'r penderfyniadau ehangach y mae llinynnau unigol yn eu hadlewyrchu. Gwnaeth y pwyllgor, Dirprwy Lywydd, bedwar argymhelliad, mae pob un ohonynt yn faterion a fydd, fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cyllid, i'r Llywodraeth newydd eu hystyried.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Buom yn craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 5 Mawrth a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion am fod yn bresennol. Mae ein hadroddiad yn gwneud pedwar argymhelliad ac yn dod i un casgliad. 

Mae'r gyllideb atodol hon yn dangos cynnydd sylweddol o £3.2 biliwn i ddyraniadau adrannol ers y gyllideb atodol gyntaf, sy'n cynrychioli cynnydd o tua 12 y cant. Fel y nododd yr Ysgrifennydd Cabinet, mae £2.6 biliwn o'r cynnydd hwn yn addasiad nad yw'n arian parod i'r prif grŵp gwariant addysg, sy'n deillio o newidiadau i'r model prisio benthyciadau myfyrwyr ledled y DU. Rydym yn cydnabod nad yw hyn mewn gwirionedd yn gyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario, fodd bynnag, rydym yn pryderu bod addasiadau technegol o'r fath yn aml yn cael eu camddeall fel capasiti gwario ychwanegol ar gyfer gwasanaethau pan nad yw hyn yn wir. Felly, fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwella eglurder dogfennau'r gyllideb drwy gynnwys esboniadau clir o eitemau mawr nad ydynt yn rhai arian parod er mwyn atal dryswch ymhlith rhanddeiliaid.

Clywsom gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod goruchwylio'r Trysorlys ar drefniadau benthyciadau myfyrwyr wedi tynhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda rheolau cliriach a llymach bellach ar waith. Rydym yn deall y bydd y Trysorlys yn parhau i ariannu cynlluniau benthyciadau myfyrwyr, ar yr amod bod eu cost yn parhau i fod yn unol â chynlluniau cyfatebol mewn mannau eraill yn y DU. O ganlyniad, bydd angen i Lywodraeth Cymru fonitro'n fanwl pa un a yw ei chynllun yn dod yn fwy hael na'r rhai mewn rhannau eraill o'r DU, gan y gallai gwahaniaeth arwain at gostau sylweddol yn disgyn yn uniongyrchol ar gyllideb refeniw Cymru. Dyna pam yr ydym wedi argymell bod Llywodraeth nesaf Cymru yn adolygu hyfywedd hirdymor y model cyllid myfyrwyr, gyda'i ryngweithio â chyllid addysg ehangach.

Dirprwy Lywydd, er bod y pwyllgor drwy gydol y Senedd wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at y pryderon hirsefydlog am gyfyngiadau'r fframwaith cyllidol, rydym yn parhau i fod yn siomedig ynghylch y cynnydd araf o ran sicrhau gwelliannau i derfynau benthyca i faint a gweithrediad cronfa wrth gefn Cymru, ac i'r capiau tynnu i lawr blynyddol sy'n parhau i gyfyngu ar bwerau cyllidol Llywodraeth Cymru. Rydym yn arbennig o rwystredig gan amharodrwydd y Trysorlys i gael gwared ar derfynau tynnu i lawr blynyddol cronfa Cymru yn gyfan gwbl, yn enwedig o ystyried bod terfynau cyfatebol eisoes wedi'u diddymu ar gyfer Llywodraeth yr Alban. Yn ein barn ni, mae dadl glir a chymhellol dros roi'r un lefel o ymreolaeth ariannol i Gymru ac rydym yn argymell bod Llywodraeth nesaf Cymru yn parhau i fynd ar drywydd diwygiadau ac yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'n pwyllgor olynol ar gynnydd.

Er gwaethaf ein rhwystredigaethau, rwyf eisiau cofnodi ein diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymdrechion personol wrth geisio sicrhau gwelliannau parhaol i'r fframwaith cyllidol. Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru barhau i bwyso'r achos hwn gyda'r un penderfyniad.

Rydym yn croesawu'r cytundeb diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU i gynnal ymgynghoriad ar y cyd ar ddatganoli pwerau i gyflwyno treth ar dir gwag. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y cynnydd ar hynny wedi bod yn araf iawn yn ymarferol, er gwaethaf y pwerau a ddarperir yn Neddf Cymru 2014. Serch hynny, mae'r cytundeb yn gam ystyrlon ymlaen ac rydym yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i gynnal momentwm, gan sicrhau bod yr ymgynghoriad yn cael ei gwblhau'n gyflym ar ôl etholiad y Senedd.

I gloi, gan mai hwn ydy'r tro olaf imi gyfrannu fel Cadeirydd y pwyllgor yn y Senedd hon, hoffwn ddiolch i aelodau eraill y pwyllgor am eu cefnogaeth yn ystod y chweched Senedd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i ragflaenydd am eu hymgysylltiad cadarnhaol drwy gydol y tymor. Hoffwn hefyd ddiolch i'r clercod a'r tîm ymchwil, sydd yn gweithio'n ddiflino ar y gwaith yn cadw'r pwyllgor i fynd. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb a diolch, Dirprwy Lywydd.

15:55

Hoffwn ddiolch, yn gyntaf, i'r Ysgrifennydd Cabinet am fy ngwahodd i gyfarfod yn gynharach heddiw er mwyn fy mriffio i ar y prif newidiadau o ran y gyllideb atodol hon. Hoffwn hefyd ategu'r diolch sydd eisoes wedi bod am waith y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n meddwl bod hwn yn adroddiad pwysig; mae'r argymhellion yn rhai synhwyrol ac yn bethau, gobeithio, y bydd y Senedd newydd yn gallu mynd ati ar unwaith i fynd rhagddo efo nhw. Felly, yn hytrach nag ailadrodd nifer o'r galwadau hynny, dwi jest eisiau rhoi ar record bod nifer o'r pwyntiau yna'n rhai y dylem ni i gyd fod yn adlewyrchu arnyn nhw ac yn trio gweld sut ydyn ni'n gallu symud cymaint cynt o ran yr hyn sydd ei angen.

Dwi'n meddwl un o'r pethau sydd hefyd yn glir ydy bod sefyllfa gyllidol Cymru yn parhau i fod yn anhygoel o heriol, ac mi fydd y Llywodraeth nesaf yn etifeddu amgylchiadau fydd yn gwneud pethau'n dynn iawn. Mae'r gyllideb atodol hon yn dangos lle mae'n bosib rhoi arian ychwanegol a faint o angen sydd yna, os ydyn ni'n edrych o ran addysg ac ystâd ysgolion, ac ati. Dwi'n croesawu'r ffaith bod yr arian hwnnw wedi gallu mynd yn ychwanegol, ond rydyn ni'n gwybod bod cymaint mwy ei angen hefyd.

Hefyd, os ydyn ni'n edrych ar adolygiad gwariant y flwyddyn diwethaf, rydyn ni'n gwybod bydd twf yn y gyllideb Gymreig yn hanesyddol isel dros y blynyddoedd nesaf, gyda gwariant dydd i ddydd yn cynyddu gan ddim ond 1 y cant mewn termau real, a'r gyllideb caffael yn crebachu hyd at 3.8 y cant erbyn diwedd y cyfnod. Rydyn ni'n dechrau gweld yr effaith niweidiol yma yng nghyd-destun y gyllideb caffael eisoes, gyda gostyngiad o dros £600,000 yn y waelodlin ers mis Mehefin. Dyma un o'r pethau sy'n realiti ac sy'n mynd i fod yn anodd iawn i bwy bynnag fydd yn llunio'r Llywodraeth nesaf.

Rydyn ni hefyd, wrth gwrs, wedi bod yn adlewyrchu eisoes heddiw, ac wythnos diwethaf, ar beth fydd y goblygiadau i Gymru o ran rhyfel anghyfreithlon Trump yn y dwyrain canol. Mae yna ragor o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd am fod, ac yn enwedig o ran chwyddiant dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn llygad agored o ran beth fydd hyn yn ei olygu o ran creu pwysau ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus.

Os caf i ofyn un cwestiwn penodol o edrych ar rai o fanylion y gyllideb atodol, dwi'n sylwi bod gostyngiad y waelodlin caffael wedi ei achosi'n rhannol oherwydd taliad i'r Trysorlys ar gyfer ffiniau, a byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi mwy o fanylion os oes gan hyn unrhyw berthnasedd â'r isadeiledd Brexit a adeiladwyd at gost i Lywodraeth Cymru, ac os felly, os medrwch chi gadarnhau, oherwydd mae'n ymddangos bod yna arian wedi mynd i'r Trysorlys o ran ffiniau. Byddai'n dda deall beth yn union ydy hynny ac os oes yna unrhyw gynnydd wedi bod o ran trio cael ad-daliad llawn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, oherwydd yn amlwg mi oedd yn rhaid gwario, ond nid oedd angen peth o'r gwariant hwnnw yn y pen draw.

Ac yn sgil y memorandwm a gafodd ei rannu yn y cyfryngau'r wythnos diwethaf, byddwn i yn ddiolchgar hefyd os medrwch chi gadarnhau os ydy'r gyllideb atodol yma'n adlewyrchu unrhyw benderfyniadau gwariant o ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn meysydd datganoledig a oedd yn mynd yn groes i'ch agenda polisi chi eich hunan. Yn amlwg, mae yna waith diwygio angen ei wneud o ran sefyllfa bensaernïol gyllidol y Senedd, ac mae'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid yn gwneud hwnna'n glir. Felly, gyda hynny o sylwadau, mi wnaf i ei gadael hi yn fanna. Diolch.

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Nawr, mae'r ail gyllideb atodol ar gyfer 2025-26 yn dwyn ynghyd benderfyniadau a wnaed ers y gyllideb atodol gyntaf ac yn rhoi rhywfaint o eglurder ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bwysau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Fel y dywedwyd eisoes, mae'r gyllideb atodol hon yn adlewyrchu cynnydd sylweddol o £3.2 biliwn mewn dyraniadau adrannol, er ei bod yn bwysig cofio, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, nad yw £2.6 biliwn ohono yn gyfystyr â phŵer gwario newydd. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn gynharach, mae'n addasiad nad yw'n arian parod i'r model prisio benthyciadau myfyrwyr, sy'n alinio Cymru â gofynion cyfrifyddu wedi'u diweddaru ledled y DU. Felly, er bod y ffigurau yn ymddangos yn fawr, nid arian newydd i ysgolion neu wasanaethau rheng flaen yw hwn, ac mae'n hanfodol ein bod yn deall hynny.

Ochr yn ochr â'r addasiad hwn, mae rhywfaint o fuddsoddiad pwysig wedi'i dargedu. Er enghraifft, mae'r gyllideb yn darparu £363.5 miliwn i brif grwpiau gwariant iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys defnyddio £200 miliwn ychwanegol wedi'i dargedu i fynd i'r afael â gorwariant byrddau iechyd, pwysau cronfa risg Cymru a chyllid i fynd i'r afael â'r anghydfod bandio 'Agenda ar gyfer Newid'. Mae hyn yn parhau â'r gwaith a ddechreuwyd yn y gyllideb atodol gyntaf, lle mae dyraniadau blaenorol eisoes wedi darparu apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol a gwell capasiti triniaeth.

Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu'r dyraniadau a wnaed i gefnogi cynnal a chadw hanfodol ar draws ysgolion, colegau a phrifysgolion, a'r dyraniadau i'r portffolio trafnidiaeth, a fydd yn helpu i addasu a datgarboneiddio cerbydau a chynnal momentwm ar brosiectau seilwaith rheilffyrdd allweddol. Mae'r dyraniadau hyn yn angenrheidiol iawn a byddant yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Fodd bynnag, mae materion strwythurol sylweddol yn y meysydd portffolio hyn yn parhau, ac felly, er bod dyraniadau sylweddol wedi'u gwneud, nid ydym yn credu eu bod yn mynd yn ddigon pell.

Nawr, mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid i'r ail gyllideb atodol hefyd yn codi pryderon am y diffyg cyllid i ddigolledu sefydliadau sector cyhoeddus am gyfraniadau yswiriant gwladol. Gwnaeth y pwyllgor hi'n glir ei fod yn siomedig nad oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwn, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd ar drywydd y mater, ac rwy'n deall y bydd y Pwyllgor Cyllid yn parhau i fonitro'r mater hwn.

Yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon yn cynnig amrywiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Nawr, mae Comisiwn y Senedd wedi dychwelyd cyllid yn dilyn ad-daliad ardrethi, ac mae'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus hefyd wedi lleihau ei gyllideb lle mae ymrwymiadau wedi gostwng.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei drosolwg, a'r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar y gyllideb atodol hon? Er bod y gyllideb atodol hon yn gwneud rhai dyraniadau pwysig, mae'n methu â mynd i'r afael â'r pwysau gwirioneddol sy'n cynyddu ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, ac felly byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn. Diolch.

16:00

Mae'r ail gyllideb atodol yn ddigwyddiad pwysig, ond bach, yn y cylch cyllidebol, ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod ni'n ei drafod. Mae'r gyllideb atodol hon yn adlewyrchu newidiadau cyllidebol ers y gyllideb atodol gyntaf ym mis Hydref. Mae'r gyllideb atodol yn rheoleiddio dyraniadau yn ôl ac ymlaen o gronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios, ac yn cynnwys addasiadau i gyllideb Cymru i adlewyrchu effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU. Argymhellodd y Pwyllgor Cyllid unwaith eto y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet weithio gyda Llywodraeth y DU i ddod i gasgliad ar y materion o ran y fframwaith cyllidol, yn enwedig ynghylch uwchraddio benthyca a therfynau cronfa wrth gefn Cymru yn unol â chwyddiant, a dileu'r terfyn tynnu i lawr blynyddol o gronfa wrth gefn Cymru. Rwy'n gofyn eto pam na all Llywodraeth Cymru fod â'r un gallu ag awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru i ychwanegu a thynnu arian o gronfeydd wrth gefn i fenthyca'n ddoeth. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl bod gan Gyngor Abertawe y gallu i wneud hynny ac nid oes gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r gyllideb atodol hefyd yn cynnwys addasiadau i'r gyllideb ar gyfer Comisiwn y Senedd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, fel sydd wedi'u hystyried gan y Pwyllgor Cyllid. Ni chyflwynodd Archwilio Cymru gyllideb atodol.

Nododd y Pwyllgor Cyllid y pwysau sylweddol sy'n wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru, a chroesawodd y £25.5 miliwn i gefnogi'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach gyda thrawsnewid cyfalaf buddsoddi i arbed a chynnal a chadw cyfalaf. Mae'r cyllid hwn yn annhebygol o liniaru'r anawsterau ariannol enfawr sy'n wynebu'r sector, o ystyried bod y materion sy'n ei wynebu yn ymddangos yn fwy seiliedig o lawer ar refeniw na chyfalaf. Byddai cymorth refeniw ychwanegol i addysg uwch ar gyfer y flwyddyn nesaf yn rhoi cyfle i sefydliadau fel Prifysgol Abertawe ail-werthuso'u newidiadau staffio arfaethedig.

Mae un peth yn y gyllideb atodol yr wyf i eisiau tynnu sylw ato. Mae'r gyllideb atodol yn dyrannu £2.6 miliwn o adnoddau anariannol i'r gyllideb benthyciadau i fyfyrwyr wedi'i neilltuo. Mae hyn yn adlewyrchu newid i'r model prisio benthyciadau i fyfyrwyr, gan wneud y dull yng Nghymru yn gydnaws â'r model y mae Lywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu. Mae'r dyraniad hwn dim ond yn ymwneud â darpariaeth nad yw'n arian parod ac nid yw ar gael i'w wario. Mae model newydd y DU cyfan ar gyfer prisio benthyciadau i fyfyrwyr, a gafodd ei weithredu'n llawn yn 2025-26, yn adlewyrchu lefelau ad-dalu is na'r disgwyl o'i gymharu â'r rhagdybiaethau yn y model blaenorol. Rwy'n disgwyl i hynny barhau i fod yn is na'r disgwyl. Nid yw hwn yn gyllid gwirioneddol y byddai Lywodraeth Cymru yn ei gael ac, felly, nid yw'n bosibl ei wario. Rwy'n pryderu y gallai'r addasiad £2.6 biliwn hwn nad yw'n arian parod gael ei gamddeall fel capasiti gwariant ychwanegol ar gyfer gwasanaethau addysg, ac rwy'n disgwyl cael penaethiaid ysgolion yn dweud wrthyf i, 'Mae gennych chi £2.6 biliwn yn ychwanegol ar gyfer addysg; pam nad ydyn ni'n cael rhywfaint ohono?' Dylai'r mathau hyn o addasiadau gael eu hesbonio'n gliriach mewn dogfennau cyllideb er mwyn osgoi dryswch. O ganlyniad, mae'r Trysorlys wedi gorfod rhoi lefel uwch o ddarpariaeth nad yw’n arian parod i'r pedair gwlad i gyfrif am y newid hwn. Er bod yr addasiad yn cynnwys swm mawr, fe wnaethon ni glywed bod cynnydd tebyg yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Nid yw'r model benthyciadau i fyfyrwyr yn gweithio. Mae'n cynnwys graddedigion newydd yn talu llawer mwy na graddedigion cyn cyflwyno benthyciadau i fyfyrwyr. Ni fydd y rhan fwyaf o fenthyciadau byth yn cael eu talu ac yn y pen draw bydd yn rhaid eu dileu.

16:05

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y gyllideb, sy'n codi nifer o gwestiynau am benderfyniadau ar dreth a gwariant. Roedd dyrannu £4.3 miliwn o refeniw o'r gronfa wrth gefn i gefnogi pwysau costau gwasanaethau canolog a staff gweinyddol o ddiddordeb i mi. Ar adeg pan fo'n hetholwyr yn cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw, rwy'n credu ei bod yn rhesymol ceisio eglurhad ynglŷn â'r cynnydd sylweddol hwnnw. Pa bwysau sydd wedi bod, Ysgrifennydd Cabinet, nad oedden nhw wedi'u rhagweld?

Mae angen mwy o fanylion o ran pwyntiau eraill hefyd. Rhoddwyd saith deg miliwn o bunnau i gronfeydd wrth gefn yn dilyn gwerthiant eiddo eithriadol, ac mae'r arian ohono wedi'i addasu at wahanol ddibenion i gefnogi blaenoriaethau eraill ar draws Llywodraeth Cymru. Byddai eglurder ynghylch pa eiddo sydd wedi'i werthu a pham na chafodd yr arian hwnnw ei gadw o fewn llinell y gyllideb yn ddefnyddiol. Mae £37.9 miliwn o gyfalaf cyffredinol wedi'i ddychwelyd i gronfeydd wrth gefn yn gyfnewid am ddefnyddio tanwariant cyfalaf trafodiadau ariannol. Yng nghanol argyfwng tai, Ysgrifennydd Cabinet, lle mae angen gwariant cyfalaf yn gyffredinol i ariannu cartrefi i'r digartref, pam na chafodd y cyfalaf ei gadw o fewn llinell gyllideb tai a llywodraeth leol?

O ran tai, credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cael tua £850,000 gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gyfer y gronfa Cartrefi i Wcráin. Pe bai rhai pleidiau yn cael eu ffordd, bydden nhw'n gwrthod symiau o'r fath ac yn dychwelyd bron i £1 miliwn i Lundain oherwydd eu bod yn gwrthwynebu bod Cymru yn genedl noddfa. Yn bersonol, diolchaf i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am dderbyn y taliad pwysig iawn hwnnw a chreu cartrefi diogel i ddioddefwyr rhyfeloedd. Gan gofio mai cyfiawnder cymdeithasol eisoes yw'r prif grŵp gwariant lleiaf ac mewn gwirionedd mae symudiad adnoddau cyllidol net negyddol wedi bod allan o'r portffolio, rwy'n argyhoeddedig nad oes digon yn cael ei wneud i hyrwyddo cyfiawnder. Mae'n debyg eich bod chi wedi fy nghlywed i o'r blaen, Ysgrifennydd Cabinet, yn dweud fy mod i'n credu mai un o'r dadleuon cryfaf dros ddatganoli cyfiawnder yw dangos ein bod ni'n cyflawni'n dda yr hyn sydd eisoes wedi'i ddatganoli o fewn y sector cyfiawnder.

O 78 argymhelliad yng nghomisiwn Thomas, dim ond tri sydd wedi'u cyflawni, ac mae traean o'r rheini o fewn grym a phŵer Llywodraeth Cymru. Mae llawer un heb ddigwydd oherwydd diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i wedi clywed yr Ysgrifennydd Cabinet ar sawl achlysur yn gofyn yn briodol ble ydych chi'n dod o hyd i'r arian ar gyfer prosiectau o'r fath, ond mae Peredur Owen Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, eisoes wedi gwneud y pwynt. Rwy'n credu bod dwy elfen arall o gyllid Llywodraeth Cymru: yn gyntaf, ardoll ar ynni sy'n cael ei allforio o Gymru er budd y tlotaf yn ein gwlad; ac, fel y mae Peredur bob amser wedi'i ddweud, y dreth ar dir gwag gorddyledus. Fel y gwelaf i, mae diffyg cydweithredu cadarnhaol a hwylus rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU yn ein hatal ni rag codi mwy o arian i Gymru a phobl Cymru. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddechrau trwy ddweud diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei sylwadau e? Dwi'n cytuno gyda'r casgliadau mae'r pwyllgor wedi eu tynnu ac yn rhoi cyngor pwysig i'r Llywodraeth nesaf.

Mae argymhellion y Pwyllgor Cyllid i gyd yn rhai yr wyf i'n credu y bydd yn rhan o agenda Llywodraeth y Senedd sy'n dod i mewn. Mae'r pwyllgor yn hollol gywir i dynnu sylw at yr angen i edrych yn ofalus ar ein system o gymorth i fyfyrwyr, ond dyna'n union beth mae'r Gweinidogion yn ei wneud yn y maes hwn. Mae ganddyn nhw alwad am dystiolaeth eisoes, lle bydd gwybodaeth yn dod i Lywodraeth Cymru i helpu i lunio iteriadau o gymorth i fyfyrwyr yn y dyfodol.

O ran y fframwaith cyllidol, rwy'n credu y dylwn ni gydnabod y ffaith, ar ôl yr holl flynyddoedd hynny o Lywodraethau Ceidwadol a wrthododd wneud unrhyw newidiadau i'r fframwaith cyllidol, bod Llywodraeth bresennol y DU wedi uwchraddio'r ffigurau ynddo, nid cymaint ag y gallen ni fod wedi'i ddymuno, ond i'r un lefel ag y mae'r Alban yn ei fwynhau. Yn bwysig iawn, maen nhw erbyn hyn, wedi cytuno i uwchraddio'r ffigurau hynny'n flynyddol yn unol â chwyddiant, fel na fyddan nhw'n colli eu gwir werth yn y dyfodol. Ac er nad oes ymrwymiad eto i ddileu terfynau tynnu i lawr yn barhaol, nid oes terfynau tynnu i lawr eleni, ac ni fydd terfynau tynnu i lawr y flwyddyn nesaf, a fy ngobaith i yw y bydd y Trysorlys yn dysgu, erbyn i ni gael dwy flynedd o'r profiad hwnnw, nad oes unrhyw beth i'w ofni o ganiatáu i Lywodraeth Cymru reoli ein hadnoddau ein hunain yn y modd hwnnw.

Rwy'n ddiolchgar i Paul Davies am ei gyfraniad, Dirprwy Lywydd. Sylwais i fod Mr Davies wedi siarad am funud a 50 eiliad cyn iddo ddweud unrhyw beth yr oeddwn i'n anghytuno ag ef. [Chwerthin.] Felly, os oes unrhyw un yn nodi recordiau ar lawr y Senedd, efallai y byddai honno'n werth sôn amdani, ac roedd llawer yn yr hyn y dywedodd Paul Davies y byddai'r Llywodraeth yn eu cydnabod ac yn cytuno â nhw.

Cododd Heledd Fychan nifer o bwyntiau penodol. Tynnodd sylw at yr her y bydd y Llywodraeth nesaf yn ei hwynebu wrth reoli cyllideb o bron i £28 biliwn. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ail gyllideb atodol yn ei ddangos yw faint o weithgarwch manwl yn y flwyddyn sy'n mynd ymlaen a faint mae'n rhaid i Weinidog cyllid ymdopi â'r holl benderfyniadau hynny sy'n digwydd dros y 12 mis. Nid mater o ddod â chyllideb i'r Senedd yn unig a chredu bod y gwaith wedi'i wneud. Mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r hyn sy'n digwydd, ond yna mae gennych chi flwyddyn gyfan o'ch blaen i reoli'r penderfyniadau hynny, i wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau.

O ran y cwestiwn ffiniau y gwnaeth Heledd ei godi, mae'r arian sydd wedi mynd yn ôl i Lywodraeth y DU oherwydd nad ydyn ni erbyn hyn yn mynd ar drywydd safleoedd rheoli ar y ffin yn ne-orllewin Cymru, a hynny oherwydd y trafodaethau parhaus y mae Llywodraeth y DU yn eu cael gyda gwledydd Ewrop yn y gobaith y bydd cytundeb yn osgoi'r angen am hynny. Rydyn ni eisoes wedi adeiladu safle rheoli ar y ffin yng Nghaergybi sy'n cael ei roi o'r neilltu, ac roedden ni'n awyddus i osgoi gwariant gwastraffus. Felly, mae'r arian hwnnw wedi mynd yn ôl, ar y ddealltwriaeth y bydd yr arian hwnnw'n dod yn ôl i Gymru eto.

Mae'r ail gyllideb atodol yn adlewyrchu penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn unig, nid unrhyw Lywodraeth arall. Diolch i Mike Hedges am y pwyntiau a wnaeth ef. Mae bob amser wedi cadw llygad barcud ar y cynllun benthyciadau i fyfyrwyr. Rwy'n gobeithio y bydd yn falch bod yr arian cyfalaf yr ydyn ni wedi gallu ei ddarparu i addysg uwch, ac, yn wir, yn rhannol i addysg bellach eleni, er nad yw'n refeniw ynddo'i hun, mae'r cyfan wedi bod ar gyfer y math o gynlluniau buddsoddi i arbed y mae Mike bob amser wedi'u hyrwyddo ar lawr y Senedd. Felly, nid yw wedi'i ddarparu at ddibenion cyfalaf cyffredinol; mae wedi cael ei ddarparu ar gyfer y buddsoddiadau cyfalaf hynny sy'n rhyddhau refeniw yn ôl i gyllidebau y sefydliadau pwysig hynny.

Ac yn olaf, o ran y pwyntiau a gafodd eu codi gan Rhys ab Owen, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu  y byddwch chi'n gweld, Rhys, bod yr arian sy'n ymwneud â'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol dim ond yn cael ei symud i bortffolios eraill, oherwydd bod cyfrifoldebau wedi newid. Nid yw'n fater o golli arian i'r dibenion hynny. Diolch am yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud o ran Wcráin, yr wyf i'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae'r arian sydd wedi dod i gronfeydd wrth gefn o ganlyniad i werthu tir yng Nghasnewydd—hynny yw, i fuddsoddwr mawr newydd yng Nghasnewydd. Mae derbyniadau mawr iawn yn anarferol iawn. Mae derbyniadau cyfalaf llawer llai drwy gydol y flwyddyn mewn sefydliad fel Llywodraeth Cymru—mae £70 miliwn mewn un dderbynneb yn anarferol, a dyna pam ei fod yn cael ei amlygu'n benodol yn y ddogfennaeth ar gyfer y gyllideb atodol. Mae'r £4.3 miliwn i wasanaethau canolog yn rhannol yn cydnabod rhai cyfrifoldebau newydd. Nid yw'r gyllideb honno yn cynnwys staff Llywodraeth Cymru yn unig; mae'n cynnwys rhai taliadau i gomisiynwyr. Mae'n cynnwys, oherwydd fy nghyfrifoldebau, yr holl gyllideb sydd gennyf i ar gyfer y Gymraeg.

Mae'n rhaid i ni fyw o fewn ein modd, yn union fel y mae'n rhaid i unrhyw sefydliad arall ei wneud. Mae llai o bobl yn gweithio i Lywodraeth Cymru heddiw nag a weithiodd i ni yn 2010. Rydyn ni'n hollol unigryw yn y Deyrnas Unedig o ran lleihau nifer y bobl sy'n gweithio i ni fel Llywodraeth. Mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y bobl yn yr Alban ac yn y DU. Er hynny, mae'n rhaid i ni fyw o fewn ein modd, ac mae yna gynllun, gyda'n cydweithwyr yn y gwasanaeth sifil, i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny dros gyfnod o dair blynedd, ac mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu i ni wneud mwy o gynnydd ar y daith honno.

Dirprwy Lywydd, gyda'r eglurhadau hynny, gobeithio y bydd yr Aelodau yn fodlon caniatáu i'r gyllideb atodol gael ei phasio y prynhawn yma.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Plant ac Ysgolion

Eitem 8 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Lynne Neagle.

Cynnig NDM9211 Lynne Neagle

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau ym Mil Lles Plant ac Ysgolion i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.

Yn gyntaf, rwyf i eisiau cydnabod y newid yn y ddadl o fis Chwefror i nawr. Oherwydd gwelliannau yn y cyfnod hwyr, dewisais i ohirio'r dyddiad er mwyn galluogi Aelodau i ystyried fersiwn fwy cyflawn o'r Bil. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr ystyriaeth y maen nhw wedi'i rhoi i'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil hwn. Fe wnaf i ymateb yn ffurfiol i ymholiadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a gafodd eu codi ddoe ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Rhif 5, ond fe wnaf i egluro nawr bod Llywodraeth y DU yn gytûn bod angen caniatâd y Senedd ar y gwelliannau o fewn memorandwm cydsyniad deddfwriaethol 5, a'n barn ni, a barn Llywodraeth y DU, yw mai materion a gedwir yn ôl yw'r gwelliannau yn lle. Yn ogystal, nid oes unrhyw ddiwygiadau ychwanegol o dan gymal 39 ar wahân i'r un y cyfeiriwyd ato yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.

Dirprwy Lywydd, mae'r Bil hwn yn eang ac yn gymhleth, ac rwy'n gwybod y gallai fod rhai pryderon ynglŷn â'r hyn y bydd y darpariaethau yn ei wneud a sut y byddan nhw'n effeithio ar deuluoedd yng Nghymru. Rwyf i eisiau ymdrin â'r pwyntiau hyn heddiw a nodi pam mae'r darpariaethau yr ydyn ni wedi gofyn amdanyn nhw'n hanfodol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod mwyafrif y Bil yn berthnasol i Loegr yn unig. Rwyf i wedi gofyn bod nifer fach o gymalau yr un mor berthnasol i Gymru, ac mae hyn oherwydd eu bod yn amlwg yn cyd-fynd â'n hagenda a'n huchelgeisiau ni. Mae'r cymalau hyn yn rhoi cyfleoedd clir i wneud newidiadau cadarnhaol a hanfodol i blant yng Nghymru a chael gwared ar nifer o fylchau yn y ddeddfwriaeth gyfredol. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud â chyflogaeth plant, amddifadu o ryddid, cam-drin ac esgeulustod bwriadol, ac, yn hanfodol, plant nad ydyn nhw yn yr ysgol.

Mae'r rhan fwyaf o'r cymalau sy'n berthnasol i Gymru yn ymwneud â phlant nad ydyn nhw yn yr ysgol, ac rwyf i eisiau canolbwyntio ar hyn heddiw. Yn y pen draw, mae'r mesurau hyn yn rhoi plant yn gyntaf. Maen nhw'n ymwneud â diogelu a sicrhau bod pob plentyn yn cael hawl i addysg, ble bynnag mae hynny'n digwydd. Dyma fy mhrif flaenoriaethau, a dyna fuon nhw erioed, ers i mi ymgymryd â'r rôl hon, ac rwy'n credu'n gryf y dylen nhw fod wrth wraidd popeth yr ydyn ni'n ei wneud. Mae'r Bil yn cynnwys gofynion cofrestru clir ar gyfer rhieni a darparwyr addysg y tu allan i'r ysgol, a phŵer newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi caniatâd cyn ei bod yn bosibl symud rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru o'r ysgol.

Rwyf i bob amser wedi bod yn glir y byddwn i'n bachu ar y cyfle cyntaf i sicrhau bod y mesurau diogelu ychwanegol hyn yn cael eu gwneud, a dyma'r hyn yr ydw i wedi'i wneud. Nid yw hyn yn golygu nad yw'r mesurau hyn wedi'u hystyried yn ofalus, neu fod y cynigion hyn yn hollol newydd. Rydyn ni wedi cynnal gwaith datblygu polisi helaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus o ran addysg yn y cartref yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn wedi rhoi sylfaen dystiolaeth sylweddol a gwybodus. Fodd bynnag, mae ein mesurau hyd yma wedi methu â chyflwyno'r ddeddfwriaeth sy'n hanfodol i ymdrin â phryderon nad yw awdurdodau lleol yn gwybod am bob plentyn sy'n cael ei addysgu yn y cartref, neu os ydyn nhw'n cael addysg.

Er nad yw addysg yn y cartref ynddo'i hun yn risg diogelu, mae achosion wedi bod yng Nghymru lle mae addysg yn y cartref wedi bod yn ffactor sy'n cyfrannu at farwolaeth plentyn. Galwodd Comisiynydd Plant Cymru a'r bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer addysg yn y cartref o ganlyniad uniongyrchol i adolygiad  ymarfer o farwolaeth Dylan Seabridge yn 2011. Nid yw'r galwadau hynny am newid wedi diflannu. Cafodd adolygiad ymarfer plant o farwolaeth plentyn saith oed a gafodd addysg yn y cartref ei gyhoeddi gan fwrdd diogelu de-orllewin Cymru yr haf diwethaf. Fel Dylan, cafodd y plentyn ei addysgu gartref a chafodd gwendidau yn ein system a'n prosesau presennol eu defnyddio i gadw awdurdodau lleol draw. Roedd hyn yn cynnwys symud yn rheolaidd rhwng Cymru a Lloegr.

Bydd aelodau'n ymwybodol hefyd o achos erchyll Sara Sharif yn Surrey, y mae ei marwolaeth wedi bod yn un o'r ffactorau penderfynol yn natblygiad y darpariaethau. Un o'r sylwadau gwrthwynebol yr ydw i wedi'i glywed yw na fyddai'r Bil wedi helpu Sara oherwydd ei bod yn hysbys i'w hawdurdod lleol, mai methiant system oedd hyn. Nid oes dadlau wedi bod ynghylch hynny. Yr hyn sy'n glir, fodd bynnag, wrth ddarllen yr adolygiad i farwolaeth Sara, a'r adolygiad i farwolaeth y plentyn saith oed a gafodd addysg yn y cartref yn 2024, yw nid nad oedden nhw'n hysbys; ond yn hytrach, nid oedd unrhyw ganlyniad cyfreithiol uniongyrchol pe bai cais i weld y plentyn yn cael ei wrthod. Nid oedd yr awdurdodau yn gallu ymweld â nhw gartref na siarad â nhw i benderfynu ar addasrwydd eu haddysg. Nid oes unrhyw bwerau i atal y plant agored i niwed hyn rhag cael eu cymryd allan o'r ysgol yn y lle cyntaf oherwydd bod y pwerau hyn ar goll o Ddeddf Addysg 1996 ar hyn o bryd. Nid oes gan rieni hawl absoliwt i addysgu yn y cartref. Dylai hawliau'r plentyn bob amser ddod yn gyntaf. Dyna'r gwahaniaeth y bydd y Bil hwn yn ei wneud.

Rwy'n cydnabod y pryderon ynglŷn â defnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu dros Gymru, ond rwyf i eisiau tawelu meddyliau Aelodau nad wyf i wedi gwneud y penderfyniad hwn yn ysgafn. Mae'r Bil yn cynnwys nifer o bwerau dirprwyedig, gan gynnwys pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, pwerau cychwyn ar wahân i Gymru, a phwerau i wneud is-ddeddfwriaeth drwy'r Senedd i ategu'r cofrestrau plant nad ydyn nhw yn yr ysgol. Credaf yn gryf bod y mesurau ar wyneb y Bil yn diwallu ein hanghenion yma, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig nad yw Cymru a Lloegr yn gwahanu ar fater mor bwysig. Byddai gwneud hynny yn creu bylchau diogelu yn y system, gan arwain at lai o ddiogelu i blant yng Nghymru, gyda deddfwriaeth sylweddol wannach o'i chymharu ag ardaloedd ychydig dros y ffin. Hyd yn oed pe bai hyn am gyfnod byr o amser, gallai'r canlyniadau fod yn drychinebus.

Er mai bod yn gydnaws â Lloegr ar y darpariaethau ar wyneb y Bil yw'r peth cywir i'w wneud, rwy'n cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod manylion y mesurau a sut y bydden nhw'n gweithredu yn cael eu penderfynu yma yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y gofynion ar gyfer cofrestru plant nad ydyn nhw yn yr ysgol, eu cwmpas, a sut y byddan nhw'n gweithredu. Bydd y manylion hyn yn cael eu nodi mewn rheoliadau ac yn amodol ar ymgynghoriad. Ni fydd y mesurau yn dod i rym yng Nghymru nes bod y rheoliadau hynny wedi'u cwblhau.

Rwy'n gwybod bod rhai grwpiau cymorth addysg gartref yn anghytuno â'r darpariaethau yn y Bil hwn, ond nid ymosodiad ar addysg yn y cartref yw hwn. Nid yw'r mesurau yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref, cyn belled â'u bod yn darparu addysg addas i'w plant. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cydnabod bod addysg wedi newid dros y blynyddoedd, a bydd yn ymdrin â'r bylchau yn Neddf Addysg 1996 er mwyn adlewyrchu'n well y ffaith nad yw miloedd o blant yng Nghymru yn mynd i'r ysgol. Mae'n bwysig bod Cymru a Lloegr wedi'u halinio ar y materion hyn a bod diwygiadau i'r Ddeddf addysg drwy gyfrwng y Bil yn cael eu cymhwyso i Gymru. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, gan arwain at bwerau cyfatebol i wneud darpariaeth ganlyniadol yn cael eu hymgorffori yn y Bil.

Dirprwy Lywydd, bydd y mesurau yr ydyn ni'n eu ceisio yn y Bil Lles Plant ac Ysgolion yn cael effaith anfesuradwy ar ein gallu ni i sicrhau bod plant yng Nghymru yn derbyn eu hawl i addysg a'u bod yn ddiogel. Drwy geisio darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil hwn, rwy'n sicrhau nad oes bwlch diogelu rhwng Cymru a Lloegr, ac rwy'n credu'n gryf y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar blant, teuluoedd ac asiantaethau sy'n cefnogi teuluoedd ledled Cymru. Rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn rhoi ei chydsyniad. Diolch yn fawr.

16:25

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad heddiw ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, oherwydd, yn anffodus, nid yw'r Cadeirydd ar gael. Rydyn ni wedi ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r tri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol dilynol yn ein pwyllgor. Rydyn ni'n adrodd arnyn nhw dros ddau adroddiad. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau amser, nid oedden ni wedi gallu ystyried a darparu adroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 5. 

Fe wnaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar ran y pwyllgor ar y darpariaethau sy'n ymwneud â phlant sy'n cael eu haddysgu heblaw am yn yr ysgol. Fe wnaethon ni glywed safbwyntiau gwahanol am y darpariaethau hyn. Fe wnaethon ni glywed am bryderon gan unigolion a gan Home Ed Cymru. Gwnaeth y pryderon hyn ganolbwyntio ar amrywiaeth o bryderon a beirniadaethau, gan gynnwys y lefelau craffu a gafodd eu defnyddio ar gyfer y Bil yn San Steffan a'r Senedd, y rhyngweithio rhwng y cynigion hyn a deddfwriaeth a pholisi sy'n benodol i Gymru, diffyg ymgynghori honedig â phlant ac addysgwyr yn y cartref, a'u beirniadaeth ynghylch cyfreithlondeb posibl y cynigion a lefelau casglu data. Fe wnaethon ni nodi'r pryderon hyn, ynghyd â'r safbwyntiau a gafodd eu cyflwyno gan y comisiynydd plant ac eraill.

Galwodd Comisiynydd Plant Cymru y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn gam sylweddol tuag at gryfhau diogelu plant yng Nghymru. Galwodd hefyd am gyhoeddi asesiad effaith ar hawliau plant ochr yn ochr â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r comisiynydd plant presennol a'i rhagflaenydd, mewn gwirionedd, wedi annog yn gryf cymryd camau yn y maes hwn, sy'n dyddio'n ôl blynyddoedd lawer, gan gynnwys adolygiad o swyddogaethau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a gosod tri phrawf y mae'r comisiynwyr plant olynol hynny'n credu y dylai polisi eu dilyn.

Y profion hyn, yn gyntaf, yw y dylai fod yn bosibl cyfrif am bob plentyn ac nid yw neb yn anweledig; yn ail, bod pob plentyn yn cael addysg addas a'u hawliau dynol eraill, gan gynnwys iechyd, gofal a diogelwch; ac yn drydydd, bod pob plentyn yn cael ei weld a bod eu barn a'u profiadau yn cael eu clywed. Er mwyn i'r ddau brawf cyntaf gael eu bodloni, mae'r prawf terfynol hwn yn hanfodol. Wrth ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol, rydyn ni'n cytuno â safbwynt Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad. Rydym hefyd yn cytuno fel pwyllgor y dylai'r Senedd roi'r cydsyniad hwnnw.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y tri memorandwm cyntaf ym mis Medi 2025 a'r pedwerydd memorandwm yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, oherwydd y cyfnod byr rhwng y ddadl a'r ddadl heddiw, nid oes amser i adrodd ar femorandwm Rhif 5. Fe wnaethon ni ystyried yn y cyfarfod ddoe, a gwnaethon ni ysgrifennu neithiwr i geisio eglurder ar rai materion, fe wnaf i ddod dod yn ôl atyn nhw yn nes ymlaen.

Yn adroddiad cyntaf y pwyllgor, fe wnaethon ni nodi'r ymgysylltu rhagweithiol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddatblygu darpariaethau datganoledig o fewn Bil Llywodraeth y DU. Gwnaeth y pwyllgor sylw cyffredinol mai'r ffordd i gyflawni canlyniadau er budd gorau Cymru yw deddfu drwy gyfrwng Bil wedi'i gyflwyno i'r Senedd hon yng Nghymru a'i bod yn craffu arno. Byddai hyn, er enghraifft, wedi galluogi'r pwyllgor hwn i roi ystyriaeth fanwl i'r holl bwerau gwneud rheoliadau sy'n cael eu dirprwyo i Weinidogion Cymru i'w defnyddio yn y seithfed Senedd, ac i wneud argymhellion ar gyfer diwygiadau i'r Bil lle bo angen. Byddai'r broses hon yn cynnwys ystyried lefel y manylder ar wyneb y Bil sy'n berthnasol i'r pwerau hynny ac ehangder y pwerau sy'n cael eu dirprwyo, gan gynnwys sut y byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu eu defnyddio ac asesiad o sut y byddai modd eu defnyddio.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym ni y byddai gweithredu'r Bil drwy is-ddeddfwriaeth yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer ymgynghori a chraffu yn y Senedd. Fodd bynnag, bydd y Senedd a'i haelodau etholedig yn wynebu pleidleisio ar offerynnau sy'n destun y weithdrefn gymeradwyo ar sail y cyfan neu ddim byd, oherwydd nid yw is-ddeddfwriaeth yn destun craffu llinell wrth linell ac nid yw'n bosibl ei diwygio. Ar ben hynny, mae'r amser sydd ar gael ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth o'r fath gan bwyllgorau'r Senedd ac Aelodau'r Senedd yn gyfyngedig.

O ganlyniad, dywedodd y pwyllgor, o leiaf, y dylai fod wedi bod yn bosibl deddfu ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, er mwyn galluogi Aelodau'r Senedd i gael mwy o lais ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â phlant yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried bod y materion hyn wedi bod yn cael eu hystyried yng Nghymru ers dros ddegawd. Er hynny, fe wnaeth y pwyllgor ddeall a chydnabod ymrwymiad personol yr Ysgrifennydd Cabinet i'r materion sy'n destun y memoranda hyn a'r rhesymeg gynhwysfawr dros y dull sydd wedi cael ei fabwysiadau.

Ar ddechrau mis Chwefror, fe wnaethon ni ysgrifennu at yr Ysgrifennydd  Cabinet gan ofyn am eglurhad ar nifer o faterion sy'n ymwneud â memorandwm Rhif 4. Mae ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i gynnwys yn atodiad 1 ein hadroddiad ar y pedwerydd memorandwm hwnnw. Yn ei llythyr yn ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym ni fod gwelliant nad yw'n welliant y llywodraeth wedi'i gytuno yn Nhŷ'r Arglwyddi nad oedd yn berthnasol yn llawn i Gymru, ond a oedd yn effeithio ar welliant Llywodraeth y DU yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi. Eglurodd fod ei swyddogion yn siarad â swyddogion yn Llywodraeth y DU, gan gyfleu safbwynt Llywodraeth Cymru a goblygiadau posibl y gwelliant nad yw'n welliant y llywodraeth i Gymru. Esboniodd llythyr yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd y byddai angen pumed memorandwm.

Amlygodd sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet y gallai achos o Lywodraeth Cymru yn defnyddio Bil sy'n mynd rhagddo drwy Senedd y DU achosi anawsterau i Lywodraeth Cymru wrth ymdrin â hynny, na fyddai'n codi pe bai'n cyflwyno ei Bil ei hun i'r Senedd. Mae'r sefyllfa anodd hon i Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r anfanteision sydd wedi'u rhoi ar Aelodau'r Senedd, rhanddeiliaid a dinasyddion yng Nghymru ac wedi'u hachosi gan y dull hwn.

Fel y soniais i ar ddechrau fy nghyfraniad, gwnaethon ni ysgrifennu neithiwr at yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am eglurhad ar safbwynt Llywodraeth y DU ar y darpariaethau y mae memorandwm Rhif 5 yn cyfeirio atyn nhw, am y cydsyniad sy'n cael ei geisio ar gyfer cymal 39 o'r Bil, ac, yn bwysig, am oblygiadau gwelliannau yn mynd nôl a mlaen rhwng Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Atebodd y Gweinidog hynny'n rhannol yn ei rhagymadrodd. Yn benodol, bydden ni'n croesawu rhywfaint o eglurhad ynglŷn ag effaith y gwelliannau yn lle sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein ar Gymru ac ar y broses gydsynio deddfwriaethol ynghylch y Bil.

16:30

Yn gyntaf oll, rwyf i eisiau'i gwneud hi'n hollol glir bod Plaid Cymru wir yn cymryd diogelu plant ledled Cymru o ddifrif. Mae'n rhaid bod sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel ac yn cael ei gefnogi wrth wraidd y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn y Siambr hon bob amser. Mae addysg yn hawl sylfaenol ac mae gan y wladwriaeth gyfrifoldeb i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel ac yn cael addysg addas, ble bynnag y bo'r addysg honno'n digwydd.

Ar hyn o bryd, un o'r heriau i awdurdodau lleol yw y gall rhai plant nad ydyn nhw yn yr ysgol aros yn anhysbys iddyn nhw. Heb wybodaeth glir, mae'n dod yn llawer anoddach i gynghorau wneud yn siŵr bod plant yn ddiogel a bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at y cymorth y gallai fod ei angen arnyn nhw. Bwriad darpariaethau yn y Bil hwn, megis cyflwyno cofrestr plant nad ydyn nhw yn yr ysgol a phrosesau cliriach ynghylch dadgofrestru plant o'r ysgol, yw ymdrin â'r bwlch hwnnw. Nod mesurau fel ei gwneud yn ofynnol i rieni roi gwybod i awdurdodau lleol, neu ofyn am ganiatâd ganddyn nhw cyn dadgofrestru plentyn yw cryfhau diogelu, a sicrhau nad yw plant yn syrthio trwy'r bylchau.

Mae addysg yn y cartref yng Nghymru wedi codi i 7,176 o ddisgyblion yn 2024-25, ac mae sefydliadau fel y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen gwybodaeth glir ar awdurdodau lleol i ddeall amgylchiadau plant a nodi pryderon diogelu lle maen nhw'n codi. Mae comisiynwyr plant olynol hefyd wedi galw am ddarpariaeth gryfach yn y maes hwn. Ysgrifennodd Comisiynydd Plant presennol Cymru, Rocio Cifuentes, fel yr ydyn ni eisoes wedi'i glywed, at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y llynedd yn cefnogi defnyddio'r Bil hwn yng Nghymru.

Ond, Llywydd, mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cydnabod y pryderon sydd wedi eu codi, yn enwedig gan deuluoedd sy'n addysgu'u plant yn y cartref. Mae teuluoedd yn dewis addysg yn y cartref am lawer o wahanol resymau. I rai, mae'n rhoi amgylchedd lle y gall eu plant ddysgu a datblygu mewn ffordd sy'n gweddu orau iddyn nhw. Ar gyfer rhai teuluoedd, yn enwedig y rhai sydd â phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, nid yw addysg yn y cartref weithiau yn ddewis syml, ond yn hytrach yn rhywbeth maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gwthio tuag ato oherwydd nad yw'r system addysg bresennol yn diwallu anghenion eu plentyn. Weithiau, mae hynny oherwydd y diffyg cymorth addysg cyfrwng Cymraeg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi'r teuluoedd hynny hefyd, ac nad yw unrhyw newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn rhoi beichiau anghymesur arnyn nhw.

Felly, byddwn i'n croesawu sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref yn cael eu cefnogi drwy'r newidiadau hyn, ac y bydd gweithredu'r mesurau hyn yn gymesur ac yn ymwybodol o'r gwahanol resymau pam y mae teuluoedd yn dewis addysg yn y cartref.

Fodd bynnag, un pryder arbennig a gafodd ei godi gan y gymuned addysgu yn y cartref yw y byddai gan awdurdodau lleol bwerau anghymesur i wrthwynebu dadgofrestru plant o'r ysgol. Felly, a wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, esbonio o dan ba amgylchiadau y byddai gan awdurdodau lleol y pwerau i beidio â chydsynio i dynnu plentyn o'r ysgol, a'ch ymateb i leddfu pryderon llawer o rieni ynghylch y mater penodol hwn?

Felly, i orffen, Dirprwy Lywydd, yn y pen draw, mae'n rhaid i ddiogelu aros wrth wraidd y ddadl hon. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu bod yn ddiogel ac wedi'i gefnogi ble bynnag y mae'n cael ei addysg. A dyna pam, gyda hynny mewn golwg, bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Diolch.

16:35

Rwy'n pryderu, Ysgrifennydd Cabinet, mai dim ond 30 munud byr sydd gennym ni i drafod y Bil hwn a'i effaith bosibl ar addysg Cymru. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai enw Keir Starmer yn ymddangos ar y papur pleidleisio ar gyfer etholiadau Cymru, ond dyma eich Llywodraeth yn rhoi rhwydd hynt i bolisi ei Lywodraeth ac yn osgoi ein proses craffu ni. Mae'n syfrdanol.

Nawr, Ysgrifennydd Cabinet, rydw i a fy nghyd-Aelodau yn cytuno â rhai rhannau o nodau'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, gan gynnwys cofrestru, diogelu a chefnogi plant mewn gofal. Ond mae'n rhaid i ni, ac rwy'n ailadrodd, mae'n rhaid i ni gael yr amser a'r lle i allu sicrhau bod hyn yn addas i Gymru. Mae'n rhaid i ni hefyd gael yr amser i ystyried pryderon y rhai sydd yn erbyn y Bil, ac rwy'n nodi hefyd fod barn gan sawl Cwnsler y Brenin yn nodi anghyfreithlondeb posibl yn nifer o feysydd y Bil. Mae yna hefyd debygolrwydd y gallai camau cyfreithiol gael eu cymryd yn erbyn unrhyw genedl, gan gynnwys Cymru, sy'n ceisio gweithredu elfennau o'r Bil. Mae pryderon hefyd ynglŷn â'r broses o gymhwyso'r Bil i Gymru, na allwn ni eu hystyried mewn un ddadl fer. Cafodd ei godi â mi fod craffu ar y Bil yn San Steffan wedi bod yn annigonol, gyda beirniadaeth am yr asesiadau risg sydd wedi cael eu cyhoeddi, ac rwy'n dyfynnu, 'nid ydyn nhw'n addas i'r diben'. Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n dymuno gwneud Cymru yn agored i gamau cyfreithiol drwy roi rhwydd hynt i'r Bil hwn?

Mae gennyf i lawer o enghreifftiau a fyddai'n cyfeirio at y ffaith y gallai meysydd y Bil fod yn niweidiol i ddiogelwch plant, gan gynnwys sylwadau gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, a llythyr agored gan arbenigwyr ym maes diogelu plant, addysg a gwaith cymdeithasol, gan gynnwys Sefydliad Victoria Climbié, sy'n amlinellu eu pryderon. Rwy'n nodi hefyd bryderon y comisiynydd plant ynglŷn â'r diffyg asesiad effaith ar hawliau plant o ran effaith y Bil ar Gymru, yn ogystal â'r angen am ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru. Ysgrifennydd Cabinet, beth yw eich ymateb iddyn nhw? Hoffwn i wir glywed hynny heddiw.

Beth ydych chi hefyd yn ei ddweud, Ysgrifennydd Cabinet, wrth y rhai sy'n tynnu sylw at y ffaith bod y polisi o gofrestru gorfodol addysgwyr yn y cartref yn groes i ddatganiad blaenorol eich Llywodraeth i Senedd Cymru y byddai cofrestru gorfodol yn niweidiol i les plant? Er nad yw'r mater o gofrestru ynddo'i hun o reidrwydd yn un niweidiol, sut mae eich Llywodraeth yn teimlo am gasglu data helaeth a thracio plant Cymru? Rydyn ni i gyd yn gwybod bod casglu data yng Nghymru yn wael, felly sut fyddai hyn yn cael ei reoli a'i ariannu yn y tymor hir? Ac o ystyried y diwygiadau sylweddol yr ydych chi newydd eu gweithredu o ran anghenion dysgu ychwanegol, Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n credu bod y Bil hwn a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy'n deillio o hynny yn taro'r cydbwysedd cywir i blant a phobl ifanc sy'n byw gydag ADY yma yng Nghymru?

Hoffwn i wybod beth yw eich barn ar welliannau a allai gael effaith ar wahaniaethu ar sail anabledd a'r hawl i fywyd preifat hefyd. Mae wedi dod i fy sylw y bydd cydsyniad ar gyfer lleoliad addysgol yn cael ei roi yn nwylo awdurdodau lleol ar sail anabledd plentyn yn unig, yn enwedig pan fo plentyn yn destun ymchwiliad gan wasanaethau gofal cymdeithasol yn y gorffennol, ni waeth pa un a gafodd unrhyw risg ei nodi neu a oedd yr atgyfeiriad yn drallodus. Mae pryderon hefyd wedi cael eu cyfleu i mi fod yna botensial i'r wladwriaeth rwystro dewis pan fo iechyd meddwl plentyn yn wynebu risg yn yr ysgol. Felly, sut ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn bwriadu sicrhau bod cydbwysedd yn cael ei gyflawni, yn enwedig pan fo 12 i 18 y cant o hunanladdiadau ymhlith plant yn ymwneud â materion sy'n gysylltiedig â'r ysgol? Unwaith eto, Ysgrifennydd Cabinet, ble mae'r cydbwysedd o dan y ddeddfwriaeth rhwng dyletswyddau cyfreithiol rhieni o ran darparu addysg, diogelu a diogelu lles eu plentyn a dyletswyddau'r Llywodraeth?

Gan droi at ein craffu cyfyngedig ein hunain o'r Bil yng Nghymru, rwy'n bryderus iawn bod gan y Bil hwn welliannau munud olaf gan Lywodraeth y DU nad oedden ni, fel sefydliad democrataidd, wedi cael gwybod amdanyn nhw nes iddo gyrraedd ei gamau terfynol yn San Steffan y llynedd. Roedd yr hyn a oedd i fod yn ddarn o ddeddfwriaeth Lloegr yn unig, rywsut ar y funud olaf hefyd yn mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer Cymru. Nid yw hynny'n arfer cyfreithiol neu ddemocrataidd da gan eich partneriaid yn San Steffan. Mae hefyd yn dangos diffyg parch tuag atoch chi, a bod yn onest, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, mae hyn ar gefn Bil San Steffan. Er y gallaf i ddeall eich pwynt am beidio â chael digon o amser i ddeddfu, rwy'n dyfynnu eto o'u hadroddiad,

'y dylai fod wedi bod yn bosibl, o leiaf, i ddeddfu ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i alluogi Aelodau o’r Senedd i gael mwy o lais ar ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried bod y materion hyn wedi bod o dan ystyriaeth yng Nghymru ers dros ddegawd.

Diwedd y dyfyniad. Rwy'n ailadrodd, bawb: degawd. Rwy'n gweld hynny'n rhyfeddol.

Ysgrifennydd Cabinet, mae'r ddeddfwriaeth hon yn bennaf yn goresgyn lle yr ydyn ni'n gallu deddfu ein hunain a lle dylen ni fod eisoes wedi cael amser seneddol i wneud hynny. Mae bron fel ein bod ni wedi cael ein dal yn ddiarwybod yma dros y polisi hwn. Yn y pen draw, fodd bynnag, pobl Cymru a'r sefydliad hwn sy'n talu'r pris am gyfraith sy'n destun craffu gwael. Ysgrifennydd Cabinet, ble mae'r pwerau neu'r mecanweithiau ar gyfer atebolrwydd? Ble mae'r prosesau annibynnol i ymdrin â chwynion, apeliadau a chyflafareddu neu gyfryngu os bydd rhywbeth yn mynd o'i le—a gall rhywbeth bob amser fynd o'i le? Efallai y bydd hyn yn ymddangos yn rhywbeth bach i bawb yma, ond pan fydd rhieni yn cael eu dirwyo, mae'n eithaf sylfaenol bod y prosesau hyn ar waith.

Dirprwy Lywydd, gadewch i mi fod yn glir, mae gennyf i rai meysydd lle rwy'n cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, ond ar y sail bod hwn yn gais munud olaf nad yw wedi cael y craffu priodol gan y Senedd ac mae wedi cael ei feirniadu'n hallt gan nifer o grwpiau, sefydliadau ac unigolion, ni allaf o ran cydwybod gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.

16:40

Diolch am eich datganiad ar hyn, Ysgrifennydd Cabinet. Er, wrth gwrs, yr ydyn ni'n cytuno â rhywfaint o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw, bydd Reform yn gwrthwynebu ac yn pleidleisio yn erbyn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol heddiw ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion. Yn ôl pob tebyg, bwriad y Bil hwn yw gwella diogelu plant, cryfhau cefnogaeth i blant agored i niwed a diwygio rhai rhannau o'r system ysgolion yn Lloegr, ond yma yng Nghymru, mae'r Bil yn effeithio ar amddiffyn plant a diogelu plant ifanc.

Mae Reform yn cefnogi synnwyr cyffredin, rydyn ni'n cefnogi dewis rhieni ac rydyn ni'n cefnogi plant sy'n cael eu hamddiffyn gan ffeithiau biolegol, ond ein pryder sylfaenol ynghylch amddiffyn plant a diogelu plant yma yng Nghymru yw gangiau grŵmio'n gweithredu camfanteisio rhywiol ar blant. Mae plant ifanc ledled Cymru wedi cael eu siomi ac maen nhw'n haeddu cyfiawnder. Mae'n hanfodol bod gennym ni ymchwiliad penodol i Gymru i adrodd o fewn yr amserlen fyrraf posibl, ond hefyd, fel sydd wedi'i amlinellu gan Wellbeing in Education Wales, nid oes unrhyw asesiadau effaith wedi bod ar fesurau'r Bil hwn a sut y byddan nhw'n effeithio ar blant yma yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweld diffyg llwyr asesiadau effaith llawn o ran hawliau plant o ran goblygiadau'r Bil i Gymru—ac addysg yn y cartref yn un ohonyn nhw. Nid oes asesiad effaith wedi bod chwaith ar yr effaith y byddai hyn yn ei chael ar gynghorau, sut y bydd yn cael ei gostio a sut y bydd yn cael ei ariannu.

Heddiw mae gofyn i'r Senedd roi cydsyniad i'r Bil hwn heb gael rhesymeg lawn a'i effaith, felly sut mae modd pleidleisio drosto? Yng ngoleuni hyn, bydd Reform yn pleidleisio yn erbyn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Heddiw mae gofyn i ni ystyried deddfwriaeth a fyddai'n effeithio'n ddwfn ar fywydau plant a theuluoedd ledled Cymru. Eto, yn wreiddiol, fel y gwnaethon ni ei glywed, roedd y ddeddfwriaeth hon ar gyfer Lloegr yn unig ac erbyn hyn mae'n ymddangos bod Cymru yn barod i fynd ar gefn fframwaith nad oedd erioed wedi'i ddatblygu gyda theuluoedd Cymru, gwasanaethau Cymru na gwirioneddau Cymru mewn golwg.

Fel y gwnaethon ni ei glywed, mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Senedd Cymru eisoes wedi tynnu sylw at oblygiadau cyfansoddiadol defnyddio'r Bil hwn i ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Dylai hyn, ar ei ben ei hun, roi achos i ni oedi. Ond eto, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud hynny gyda Bil hynod broblemus, fel y mae tystiolaeth sy'n dod yn uniongyrchol gan nifer o deuluoedd Cymru yn ei wneud yn glir. Mae arolwg rhagarweiniol adroddiad Wellbeing in Education Wales o brofiadau a safbwyntiau addysgwyr yn y cartref yng Nghymru a gafodd ei gyhoeddi'r mis hwn yn dystiolaeth bod llawer o blant yn cael eu haddysgu yn y cartref, nid oherwydd ideoleg ond oherwydd bod addysg brif ffrwd wedi methu â diwallu eu hanghenion, yn enwedig plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu gyflyrau niwroamrywiol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gamddefnyddio pwerau presennol gan awdurdodau lleol, rhagfarn sefydliadol a gwahaniaethu yn erbyn addysg yn y cartref gan staff y cyngor, a diffyg gallu staff y cyngor i wneud penderfyniadau o'r fath. Mae'n disgrifio teuluoedd sy'n troi at addysg yn y cartref oherwydd nad yw amgylcheddau ysgol erbyn hyn yn cefnogi lles eu plentyn neu'n ei niweidio'n llwyr. Mae hefyd yn amlinellu bod llawer o rieni yn creu llwybrau dysgu pwrpasol ar gyfer anghenion eu plentyn. Mae hyn yn ymwneud â lles eu plant, cydnabod a diwallu eu hanghenion dysgu a sgiliau bywyd.

Ochr yn ochr â hyn, mae'r adroddiad 'Fabricated or Induced Illness: Finding a Fair Way forward', a ddaeth yn sgil ymgynghoriad arbenigol yn St George's House, castell Windsor fis Mawrth diwethaf, a oedd yn cynnwys uwch academyddion, clinigwyr, cyfreithwyr, cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, a'r Disabled Children's Partnership, teuluoedd a minnau, yn tynnu sylw at wirionedd pwysig arall. Fel y mae fy ngwaith achos yng Nghymru yn cadarnhau dro ar ôl tro, er eu bod yn hanfodol, nid yw systemau diogelu yn anffaeledig ac mae teuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â phlant neu rieni niwroamrywiol, yn aml yn cael eu camddeall o fewn ein systemau proffesiynol. Mewn system sydd, ar adegau, i'w gweld wedi'i hymestyn i'r eithaf, gall cyflyrau meddygol neu ddatblygiadol cymhleth gael eu camddehongli ac yn rhy aml, gall eiriolaeth rhieni dros anghenion plentyn gael ei gweld trwy lens amheuaeth yn hytrach na chefnogaeth.

Mae tystiolaeth yn adroddiad Wellbeing in Education Wales yn nodi, ar gyfer bron i 90 y cant o blant, y byddai mwy o fonitro yn achosi pryder, yn tanseilio'r cartref fel lle diogel ac yn tarfu'n amlwg ar eu preifatrwydd. Mae'r canfyddiadau hyn yn bwysig pan fyddwn ni'n ystyried deddfwriaeth sy'n cynnig monitro estynedig, mwy o rannu data a phwerau ehangach y wladwriaeth dros fywyd teuluol. Mae rhai rhieni wedi disgrifio profiadau lle mae eiriolaeth gref dros anghenion plentyn heb eu diwallu yn cynyddu'r risg o gael eu beio neu eu camddeall gan yr union systemau sydd wedi'u cynllunio i'w cefnogi.

Wrth rannu ei brofiad o salwch ffug neu wneuthuredig, nododd pediatregydd ei fod wedi ymwneud ag un achos dilys o niwed a 17 cyhuddiad ar gam, gan dynnu sylw at yr achosion o honiadau anwir o fewn systemau diogelu. Mae cynigion sy'n ehangu gwyliadwriaeth, cynyddu rhannu gwybodaeth a symud pŵer gwneud penderfyniadau ymhellach tuag at sefydliadau felly yn codi pryderon sylweddol.

Mae diogelu plant yn hanfodol, ond rhaid i ddiogelu fod yn gytbwys, yn gymesur ac yn seiliedig ar ymddiriedaeth—ymddiriedaeth rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, gan ymddiried yng ngwybodaeth rhieni am eu plant eu hunain, gan gydnabod nad yw'r wladwriaeth bob amser yn hollwybodus. Yn anffodus, mae'r Bil hwn yn methu'r nod yn llwyr, gan dybio bod y wladwriaeth yn gwybod yn well na rhieni, gan drin teuluoedd gydag amheuaeth, nid ymddiriedaeth. Mae'n rhoi pŵer i rieni camdriniol neu absennol ac awdurdodau dros addysg plant, hyd yn oed pan nad oes risg. Mae'n tanseilio cyfrifoldeb rhieni, yn gwahaniaethu yn erbyn plant anabl ac yn bygwth eu hangen am breifatrwydd. Mae'n rhaid i rieni gael eu grymuso i ddiogelu ac addysgu eu plant eu hunain, nid eu rhwystro gan fiwrocratiaeth ddiwahân.

At ei gilydd, mae'r mesurau hyn yn codi cwestiynau difrifol am gymesuredd a chyfreithlondeb, ac yn gadael agweddau ar y ddeddfwriaeth yn agored i her gyfreithiol, fel y gwnaethon ni ei glywed, gyda phedair barn Cwnsler y Brenin yn nodi anghyfreithlondeb tebygol mewn amrywiaeth o feysydd yn y Bil hwn ac, er enghraifft, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yn beirniadu meysydd allweddol y Bil am niweidio, yn hytrach na diogelu, diogelwch plant.

Mae teuluoedd Cymru yn adnabod eu plant yn well nag y gallai unrhyw gronfa ddata, unrhyw algorithm neu unrhyw awdurdod pell erioed. Yn ei hanfod, mae'r ddadl hon yn ymwneud â rhywbeth dyfnach na deddfwriaeth; mae'n ymwneud â sut yr ydyn ni'n gweld y berthynas rhwng teuluoedd a'r wladwriaeth. Ydyn ni'n cefnogi diogelu neu wyliadwriaeth? Ydyn ni'n gweld rhieni fel partneriaid neu fel pobl i'w gwylio?

16:45

Ydyn ni'n gweld teuluoedd fel ffynonellau gofal neu fel problemau i'w rheoli? Mewn cymdeithas sydd wir yn gwerthfawrogi plant, ydyn ni'n cychwyn gydag ymddiriedaeth neu amheuaeth? Bydd yr atebion hyn yn llunio nid yn unig ein cyfreithiau, ond y genedl a fydd Cymru yn y dyfodol.

Mae'r Senedd yn gwybod fy marn am gynigion cydsyniad deddfwriaethol. Dwi'n cytuno gyda'r pwyllgor deddfwriaeth mai'r ffordd orau i gyflawni canlyniadau sydd â budd gorau i Gymru yw deddfu trwy gyfrwng Bil a gyflwynir i Senedd Cymru ac a gaiff ei graffu gan Senedd Cymru. Mae gormod o ddeddfwriaeth yn pasio yn y lle yma ar faterion pwysig a fydd yn effeithio ar nifer fawr o bobl Cymru gyda chraffu cyfyngedig a dadl fer. Roedd yr LCM ar gymorth i farw yn enghraifft berffaith o hynny.

Mae'r Bil Lles Plant ac Ysgolion yn codi nifer o gwestiynau am faterion mawr iawn dwi ddim yn credu sydd wedi cael y sylw digonol yn y Senedd yma a'n bod ni wedi cael amser digonol i'w hystyried. Gyda dim ond un cartref plant diogel yng Nghymru, ac 13 yn Lloegr, mae'n amlwg nad oes digon o leoliadau yng Nghymru i ateb y galw. Yn wir, mae hon yn hen, hen broblem. Nawr, tra byddwn i'n gwerthfawrogi eglurhad yn y Siambr heddiw, ni ddylai methiant y Llywodraeth i ddelio â'r broblem yma ein rhoi ni mewn sefyllfa heno lle rydym ni'n teimlo bod yn rhaid i ni gefnogi cymal 11.

Yn amlwg, dwi ddim am gyfrannu at greu risg o rwystro'r cyfleoedd i blant ag anghenion penodol o Gymru rhag cael yr un mynediad i'r llety perthnasol â phlant awdurdod lleol yn Lloegr, ond mae diffyg craffu wedi arwain heno at ddiffyg manylion. Mae'r comisiynydd plant wedi nodi pryderon am sut y bydd math newydd o ddarpariaeth yn gweithredu. Wrth gwrs, rydym ni wedi cymryd camau mawr ymlaen at ddileu elw o wasanaethau gofal plant, ac roedd hwn yn ymateb uniongyrchol i beth oedd plant a phobl ifanc Cymru yn ei ddweud wrthyn nhw: eu bod nhw'n teimlo bod trefniadaeth o'r fath yn eu trin nhw fel nwyddau. Ond, wrth ystyried hyn, dyw e ddim yn glir i fi o gwbl a fydd y trefniadau newydd trwy gymal 11 yn cynnwys elfen o elw. Byddwn i'n gwerthfawrogi ymateb am y pwynt yma a sut bydd y Bil yn cyd-fynd â nodau deddfwriaethol a pholisi Llywodraeth Cymru.

Mae cymal 25 yn y Bil gwreiddiol, a 31 yn y fersiwn diweddaraf, yn hynod o heriol hefyd. Fel y gwyddech, bydd y cymal yn ei gwneud yn ofynnol i rieni geisio cydsyniad awdurdod lleol i blant penodol gael addysg heblaw yn yr ysgol. Wrth gwrs, yn barod yng Nghymru, mae mecanwaith cydsyniad awdurdod lleol eisoes ar waith ar gyfer plant sy'n mynychu ysgolion arbennig, ond bydd y darpariaethau yma yn gweld carfan ehangach o blant yn dod o dan y mecanwaith cydsyniad ac felly yn rhoi mwy o rôl i awdurdodau lleol Cymru, yn hytrach nag i rieni. Ac fel dywedodd Cefin a Mark yn barod, mae sawl rheswm pam mae plant yn cael eu haddysgu adref, ac mae'n rhaid inni ystyried hyn yn bellach. Mae'r un peth yn wir am gymal 32. Dwi'n cytuno gyda'r pwyllgor deddfwriaeth y dylai bod Bil Cymreig yn mynd i'r afael â sut rydyn ni'n cefnogi plant sydd ddim yn yr ysgol. Er fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith ac wedi ystyried eu hadroddiad ac argymhellion yn ofalus, allaf i ddim cefnogi'r bleidlais heddiw.

Yn y tymor yma, mae gormod o ddeddfwriaeth wedi ei basio heb ddigon o graffu a heb ddigon o ymgynghori. Mae'r ffaith bod pwyllgorau wedi methu craffu'r pumed memorandwm yn dangos hynny yn glir. Gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth nesaf yn adlewyrchu ar hyn. Diolch yn fawr.

16:50

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau? A gaf i ddiolch i Vaughan am ei ymateb ar ran Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? Ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y pwyllgor i'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn. Dim ond i sicrhau Vaughan a'r Aelodau eraill sydd wedi codi asesiadau effaith ar hawliau plant, yr wyf i wedi ymrwymo'n llwyr iddyn nhw, mae asesiad effaith ar hawliau plant drafft. Ni fydden ni fel arfer yn gwneud asesiad effaith tan yr amser pan fyddwn ni'n barod i gyflwyno rheoliadau ac ymgynghori pellach. Gwnaeth Llywodraeth y DU asesiad effaith hefyd, a oedd yn cynnwys hawliau plant.

Diolch hefyd, Mike am yr holl waith y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi'i wneud ar hyn, ac rwyf i eisiau cydnabod yr heriau y mae hyn wedi'u cyflwyno i'r pwyllgor—rwy'n gwerthfawrogi'ch gwaith yn fawr—a hefyd i gydnabod amseriadau'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol diweddaraf a'r hyn y mae hynny wedi'i olygu i'r pwyllgor. Rwyf i wedi anfon llythyr atoch chi, ond fe wnaethoch chi godi'r mater yn benodol am y ddadl ar y gwelliant ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly, gwelliant Tŷ'r Arglwyddi oedd hwnnw, a gafodd ei gyflwyno o ran gwahardd y cyfryngau cymdeithasol i bobl dan 16 oed. Pan ddychwelodd hwnnw i'r Tŷ Cyffredin, cafodd y gwelliant hwnnw ei ddileu gan roi gwelliant yn lle, a fydd yn rhoi pwerau mwy hyblyg i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, a fydd yn arferadwy yn dilyn yr ymgynghoriad byw presennol. Ond dylwn i ddweud mai barn Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw, yn gyfreithiol, bod y rheini'n bwerau a gedwir yn ôl, felly nid ydyn nhw'n feysydd lle mae gennym ni gyfle i ddeddfu ar hyn o bryd.

A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am ei ymgysylltiad cadarnhaol iawn ar y ddeddfwriaeth hon, a diolch i grŵp Plaid Cymru am eu cefnogaeth i hyn heddiw, ac am eu hymrwymiad i ddiogelu, yr wyf i'n ei rannu? Roeddwn i'n ddiolchgar i Cefin am dynnu sylw at rôl llywodraeth leol. Mae llywodraeth leol yn gefnogol iawn i'r ddeddfwriaeth hon. Maen nhw wedi cyhoeddi datganiad heddiw. Pryd bynnag y byddaf i'n cwrdd â llywodraeth leol, maen nhw'n dweud wrthyf i fod angen mwy o bwerau arnyn nhw yn y maes hwn, ac yn wir mae'r gwerthusiad yr ydyn ni wedi'i gyhoeddi yn ddiweddar am ganllawiau statudol yn cadarnhau nad yw'r pwerau yn ddigonol.

Fe wnaethoch chi godi rhai pwyntiau ynglŷn â sut y byddai hyn yn gweithio o ran gorfodi awdurdodau lleol. Yn amlwg, bydd hynny'n cael ei nodi yn y rheoliad, ond mae yna ddarpariaethau ar wyneb y Bil y byddai'n rhaid i rieni geisio cydsyniad gan yr awdurdod lleol os yw plentyn wedi bod yn rhan o achosion amddiffyn plant dros y pum mlynedd diwethaf. Mae yna hefyd ddarpariaeth i geisio cydsyniad i blant sydd mewn ysgolion arbennig, ond, fel y dywedodd Rhys, mae hynny'n bodoli eisoes, bod gan awdurdodau lleol y pŵer hwnnw o ran bod angen ceisio cydsyniad i dynnu plentyn o'r ysgol, felly mae hyn ond yn rheoleiddio'r sefyllfa honno mewn gwirionedd. Ac rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud ynghylch y dylai addysg yn y cartref fod yn ddewis cadarnhaol. Ni ddylai fod yn rhywbeth y mae teuluoedd yn teimlo ei fod yn cael eu gorfodi arnyn nhw oherwydd nad ydyn nhw'n gallu diwallu eu hanghenion yn yr ysgol. Rwy'n cydnabod bod gennym ni fwy o waith i'w wneud o ran hynny, yn enwedig o ran ADY, ac mae gennym ni ganllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi ar ADY a theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref cyn bo hir.

Natasha—beth allaf i ei ddweud, mewn gwirionedd? Nid oes neb yn rhoi rhwydd hynt i unrhyw beth. Rydw i a fy nghyd-Aelod Dawn Bowden wedi gweithio ar y ddeddfwriaeth hon ers misoedd lawer bellach. Mae swyddogion wedi cwrdd â Llywodraeth y DU yn wythnosol. Mae'r pwyntiau yr ydych chi ac eraill ar feinciau Torïaidd wedi'u gwneud am Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain y byddech chi'n gwybod eu bod yn anwir pe baech chi wedi darllen y nodyn briffio y gwnes i ei anfon atoch chi. Nid yw'r cymalau y mae Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain wedi cwyno amdanyn nhw'n berthnasol i Gymru. Maen nhw'n ymwneud â'r gweithdrefnau amddiffyn plant yn y Bil a phethau fel y dynodwr unigryw plant. Nid ydyn nhw'n berthnasol i Gymru.

Fe wnaethoch chi dynnu sylw at ba mor hir y mae hyn wedi cymryd ac, ydy, mae wedi cymryd tipyn o amser i gyrraedd y pwynt hwn, ond, o fy rhan i, pan oeddwn i'n Gadeirydd y pwyllgor, roedd hyn yn rhywbeth y gwnaethon ni ei godi'n rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru. Fel rydyn ni wedi clywed, roedd y comisiynydd plant, yr un blaenorol, eisiau i hyn ddigwydd. Galwodd hi am ddeddfwriaeth sylfaenol, ac rwyf i wedi bachu ar y cyfle cyntaf i mi ei gael. Roeddwn i yn fy swydd ym mis Mawrth, ac yna cawson ni Araith y Brenin y Llywodraeth newydd ym mis Gorffennaf, ac roeddwn i'n awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle hwnnw

Rhys, gwnaethoch chi bwyntiau ar y darpariaethau gofal cymdeithasol. Roeddwn i ond eisiau tawelu'ch meddwl bod hyn ond i sicrhau os ydyn ni'n gwneud hynny—. Mae'n nifer fach iawn o blant—tua phump ar hyn o bryd—a fyddai mewn sefyllfa i ddefnyddio'r ddarpariaeth honno, ond nid ydyn ni eisiau peidio â bod mewn sefyllfa, os oes angen y lleoliad arbenigol hwnnw ar blentyn, i allu gosod plentyn yno. Ac af i ar drywydd hynny gyda chi yn ysgrifenedig o ran y pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud ynglŷn â bod yn gydnaws â'n deddfwriaeth ni o ran elw a gofal cymdeithasol plant.

Felly, diolch am eich hyblygrwydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai'r Senedd yn cefnogi'r Bil hwn. Rydyn ni bob tro'n siarad yma am hawliau plant. Dyma hawliau plant ar waith. Mae gennym ni gyfle i amddiffyn nid yn unig eu hawl i addysg, ond eu hawl i fod yn ddiogel. Ni allwn ni gael unrhyw blant yn syrthio trwy'r bylchau. Diolch yn fawr.

16:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 6, Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Bydd y bleidlais nesaf ar eitem 7, ail gyllideb atodol 2025-26. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 21 yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

17:00

Eitem 7. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2025-26. : O blaid: 26, Yn erbyn: 3, Ymatal: 21

Derbyniwyd y cynnig

Bydd y bleidlais olaf, ar hyn o bryd, ar eitem 8, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion, a galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Lynne Neagle. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Plant ac Ysgolion. : O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Bydd egwyl fer nawr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn i ni ailymgynnull. Byddwn yn annog Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:01.

17:10

Ailymgynullodd y Senedd am 17:13, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

10. Dadl: Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yw'r eitem gyntaf.

Grŵp 1: Digwyddiad sbardun A: y llysoedd i hysbysu’r Llywydd, a therfynu pôl adalw yn gynnar (Gwelliannau 1, 2, 4)

Y grŵp cyntaf o welliannau ar y Bil yma yw'r grŵp sydd yn ymwneud â digwyddiad sbardun A: y llysoedd i hysbysu'r Llywydd, a therfynu pôl adalw yn gynnar. Gwelliant 1 yw'r prif welliant. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n cynnig y prif welliant. Julie James.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Julie James).

Diolch, Llywydd. Mae'r tri gwelliant yn y grŵp hwn i gyd yn eglurhaol. Mae gwelliant 1 yn egluro'r diffiniad o 'ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl' fel y'i nodir yn adran 4 o'r Bil. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol, os bydd Aelod yn cael ei ddedfrydu i gael ei gadw yn gaeth am gyfnod o hyd at flwyddyn, yna bydd digwyddiad sbardun A yn cael ei fodloni, ac mae'r Aelod hwnnw'n dod yn destun pôl adalw. Ar hyn o bryd mae adran 4 yn darparu, os yw euogfarn Aelod yn cael ei wrthdroi ar apêl cyn i'r pôl adalw hwnnw ddigwydd, yna mae'r darpariaethau terfynu'n gynnar yn cael eu defnyddio, ac mae'r pôl yn cael ei ganslo. Mae'r gwelliant yn ceisio rhoi'r sefyllfa bresennol hon y tu hwnt i amheuaeth. Mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud hi'n glir, os, ar apêl, bod euogfarn Aelod yn cael ei gadarnhau ond bod ei ddedfryd neu ei orchymyn yn cael ei amrywio neu ei ostwng i un na fyddai wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer digwyddiad sbardun A, yna mae'r darpariaethau terfynu'n gynnar hynny hefyd yn cael eu gweithredu ac mae'r pôl adalw arfaethedig yn cael ei ganslo. Mae'r gwelliant hefyd yn gwneud yn glir, mewn sefyllfaoedd lle mae dedfryd Aelod yn cael ei hamrywio neu ei lleihau, fod y ddyletswydd a roddir ar lysoedd Cymru a Lloegr i hysbysu'r Llywydd o ddigwyddiad o'r fath hefyd yn berthnasol.

Mae gwelliant 2 yn sicrhau bod y diffiniad o apêl yn adran 4 hefyd yn gymwys i adran 8, sy'n ymwneud â therfynu'n gynnar. Mae gwelliant 4 yn cynnwys y diffiniad newydd o 'ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl' a ddarperir gan welliant 1 yn adran 16 o'r Bil. Mae hyn yn sicrhau bod yr un diffiniad yn berthnasol trwy gydol y Rhan honno.

Fel y nodais yn fy llythyr at y Llywydd ar 10 Mawrth, gyda chopi i'r holl Aelodau, yr wyf wedi derbyn cydsyniad angenrheidiol Gweinidog y Goron mewn perthynas â'r darpariaethau yn adran 4 o'r Bil sy'n gosod y ddyletswydd hysbysu ar lysoedd Cymru a Lloegr os dyfernir Aelod o'r Senedd yn euog o drosedd yng Nghymru a Lloegr a chael ei ddedfrydu neu gael gorchymyn i'w garcharu.

17:15

Does gyda fi ddim siaradwyr ar y grŵp yma. Dwi'n cymryd bod y Cwnsler Cyffredinol heb unrhyw beth ychwanegol i'w ddweud. Os gwrthodir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 4 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Digwyddiad sbardun B: canllawiau adalw (Gwelliannau 20, 10)

Grŵp 2 o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â digwyddiad sbardun B, canllawiau adalw. Gwelliant 20 yw'r prif welliant. Paul Davies sy'n cynnig y prif welliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 20 (Sam Rowlands).

Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliant 20 yn enw fy nghyd-Aelod Sam Rowlands, fel y caniateir o dan Reol Sefydlog 26.65.

Mae gwelliant 20 yn ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau adalw gael eu cymeradwyo gan y Senedd cyn eu cyhoeddi, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i unrhyw benderfyniad o dan adran 5(8) o'r Bil gael ei gymeradwyo gan fwyafrif o ddwy ran o dair o'r Senedd. Mae'r ddeddfwriaeth ar hyn o bryd yn nodi na chaiff y Pwyllgor Safonau Ymddygiad gyhoeddi canllawiau adalw oni bai bod drafft o'r canllawiau wedi'u cymeradwyo gan benderfyniad y Senedd, ac rydym yn credu y dylai'r mwyafrif hwnnw fod o leiaf dwy ran o dair o'r pleidleisiau a fwriwyd. Fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Sam Rowlands yn glir yn ystod trafodion Cyfnod 2 y Bil hwn, credwn y byddai'r gwelliant hwn yn cryfhau'r gweithdrefnau ac yn cyd-fynd ag unrhyw newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog yn y Senedd. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei hun yng Nghyfnod 1, ac rwy'n dyfynnu:

'Ar hyn o bryd mae angen mwyafrif o ddwy ran o dair ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog, ac felly mae'r Bil yn syml yn adlewyrchu barn y Comisiwn seneddol presennol ar sut y dylai hynny ddigwydd.'

Rwy'n gwerthfawrogi nad oedd gan Lywodraeth Cymru farn gadarn ar hyn, ond o ystyried difrifoldeb sefyllfa sy'n gofyn am ganllawiau adalw, credwn y dylid ceisio mwyafrif o ddwy ran o dair. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi ein gwelliant.

Hoffwn i ddechrau drwy ddatgan yn glir gefnogaeth Plaid Cymru i’r Bil hwn. Rŷn ni'n byw drwy gyfnod heriol iawn i’n democratiaeth. Des i i mewn i wleidyddiaeth oherwydd fy mod i'n credu yn ei photensial i wneud daioni, i wella bywydau pobl ac i wasanaethu’r cyhoedd. Rwy’n gobeithio bod hynny'n wir am bob un ohonom ni yma.

Ond rhaid cydnabod hefyd pam fod cymaint o bobl heddiw yn teimlo wedi eu dadrithio ac yn gwbl sinigaidd ynghylch gwleidyddiaeth. Nid yw’r teimlad hwnnw wedi ymddangos o unman; mae’n deillio o’r canfyddiad cynyddol nad yw gwleidyddion bob amser yn cael eu dal i’r un safonau â gweddill y gymdeithas.

Mae ymddygiad Llywodraethau San Steffan dilynol—rhai coch a rhai glas—wedi cadarnhau y canfyddiadau hynny, yn anffodus. Dwi'n meddwl bod hynny’n her i bob un ohonom yn y Siambr hon. Mae bod yn gynrychiolydd etholedig yn fraint. Ond gyda’r fraint honno daw cyfrifoldeb clir: i ymddwyn yn onest, i fod yn atebol, ac i haeddu ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae'r Bil hwn yn ceisio tanlinellu y cyfrifoldeb hwnnw a'i ymgorffori mewn deddfwriaeth. 

Cyn troi at y gwelliannau, hoffwn ddiolch i Lewis Owen, uwch-ymchwilydd grŵp Plaid Cymru, ac i'm cyd-Aelod Adam Price, am eu gwaith manwl ar y Bil hwn, ac i glercod a staff cefnogi y pwyllgor am eu cymorth.

Pwrpas fy ngwelliant i yn y grŵp yma yw ei gwneud yn ofynnol bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ystyried darparu, yn eu canllawiau, enghreifftiau penodol o ymddygiad a fyddai’n arwain at argymell pôl adalw. Y gobaith yw y bydd hyn yn darparu eglurder o ran disgwyliadau a safonau o ymddygiad annerbyniol, ac felly yn sicrhau na all amwysedd amharu ar effeithlonrwydd mecanweithiau atebolrwydd y Bil.

Tra doedd hi ddim yn bosib, yn ymarferol, i gynnwys enghreifftiau penodol ar wyneb y Bil, byddwn yn mawr obeithio y bydd y pwyllgor yn cynnwys esiamplau fel aflonyddu a thrais rhywiol yn eu canllawiau, yn enwedig wrth ystyried yr heriau sy’n parhau i wynebu menywod mewn gwleidyddiaeth, a sut mae agweddau misogynistaidd yn parhau i fod yn ein rhwystro ni rhag cynyddu cynrychiolaeth benywaidd yn ein sefydliadau democrataidd.   

Rwy’n ddiolchgar yn hyn o beth am yr ymgysylltiad adeiladol gyda’r Cwnsler Cyffredinol ar y gwelliant yma ers Cyfnod 2, ac rwy’n falch ein bod ni wedi llwyddo dod i gytundeb ar eiriad sy'n cyflawni'r nod. Rwy'n gofyn felly i Aelodau gefnogi'r gwelliant.

17:20

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu hymgysylltiad adeiladol iawn ar welliannau yn dilyn trafodion Cyfnod 2. Fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith yn ystod hynt y Bil hwn, credaf ei bod yn bwysig sicrhau, cyn belled ag y bo modd, ein bod yn dod i gonsensws ar sut y dylai'r darpariaethau hyn weithredu.

Mewn perthynas â gwelliant 20, rwy'n deall yn llwyr safbwynt Paul Davies y dylai'r canllawiau adalw gael eu cymeradwyo gan fwyafrif o ddwy ran o dair yn y Senedd. Mewn gwirionedd, fel y dywedodd, dyna oedd y sefyllfa yn y Bil fel y'i cyflwynwyd. Fodd bynnag, ar ôl cymryd tystiolaeth yng Nghyfnod 1, daeth y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau i'r casgliad trwy fwyafrif bod mwyafrif syml yn drothwy mwy priodol. Rwyf wedi derbyn casgliad y pwyllgor bod gofyniad mwyafrif syml yn cyd-fynd yn agosach â'r prosesau sydd ar waith i ddiwygio neu adolygu'r cod ymddygiad.

Fel gyda'r mwyafrif o'r argymhellion a wnaed yng Nghyfnod 1, gweithiais gydag aelodau'r pwyllgor i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i weithredu'r newid hwnnw, a chytunwyd ar y gwelliannau hynny gan y pwyllgor. Yng ngoleuni'r safbwyntiau a fynegwyd gan y Senedd ar ddau gyfnod y Bil hwn hyd yn hyn, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn i ailsefydlu'r gofyniad mwyafrif o ddwy ran o dair.

Byddai gwelliant 10 yn gosod gofyniad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyried, gan gynnwys o fewn y canllawiau adalw, enghreifftiau neu fathau o ymddygiad a allai arwain at y pwyllgor yn argymell sancsiwn adalw. Rwy'n credu bod y dull hwn yn taro'r cydbwysedd cywir. Mae'n creu disgwyliad y bydd enghreifftiau o'r fath yn cael eu hystyried, ond mae hefyd yn sicrhau nad yw'r pwyllgor yn cael ei gyfyngu o ran yr hyn y mae'n ei gynnwys yn y canllawiau adalw. Bydd y pwyllgor yn gallu defnyddio ei ddisgresiwn wrth ddyfarnu ar yr amgylchiadau unigol ynghylch ymddygiad Aelod, gan gynnwys wrth argymell i'r Senedd unrhyw sancsiwn posibl. Rwy'n ddiolchgar iawn i Sioned am weithio gyda mi ar y gwelliant hwn, a byddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn yn enw Sioned Williams. Diolch. 

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i Sioned Williams a'r Cwnsler Cyffredinol am eu cyfraniadau. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwyd, ond nid ydym ar yr ochr hon o'r Siambr yn credu bod mwyafrif syml yn ddigonol, o ystyried difrifoldeb cyhoeddi canllawiau adalw, ac felly rwy'n bwriadu cynnig gwelliant 20 a gyflwynwyd yn enw Sam Rowlands. Byddwn hefyd yn cefnogi gwelliant 10 yn enw Sioned Williams.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Cymerwn ni bleidlais, felly, ar welliant 20. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Gwelliant 20: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 10 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud gan Sioned Williams? Ydy e'n cael ei symud yn ffurfiol, Sioned Williams?

Cynigiwyd gwelliant 10 (Sioned Williams).

Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw Aelod yn gwerthwynebu? Nac oes. Mae gwelliant 10 wedi ei dderbyn, felly. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2. Yn cael ei symud? 

Ydy e'n cael ei gynnig, Cwnsler Cyffredinol?

Cynigiwyd gwelliant 2 (Julie James).

Ydy, mae e.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? Unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Rheoliadau ynghylch polau adalw (Gwelliant 3)

Grŵp 3 o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â rheoliadau ynghylch polau adalw. Gwelliant 3 yw'r prif welliant. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n cynnig y gwelliant yma. 

Cynigiwyd gwelliant 3 (Julie James).

Diolch, Llywydd. Ar ôl ei gyflwyno, roedd y Bil yn cynnwys darpariaethau a fyddai wedi caniatáu i Weinidogion Cymru osod swyddogaethau ar, neu mewn perthynas ag, unrhyw gyrff a gedwir yn ôl, drwy'r rheoliadau a wneir o dan adran 11. Roedd y dull hwn yn gofyn am gydsyniad gan Lywodraeth y DU i fod o fewn cymhwysedd y Senedd, a geisiais cyn cyflwyno'r Bil. Yn dilyn ymgysylltu â Llywodraeth y DU, rhoddwyd cydsyniad Gweinidog y Goron ar sail ychydig yn wahanol, a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth a fyddai'n gosod swyddogaethau ar, neu mewn perthynas â chyrff penodol a gedwir yn ôl. Felly, rwyf wedi cyflwyno gwelliant 3 i weithredu'r dull hwn, sy'n cyd-fynd â'r cydsyniad a roddwyd.

Rhagwelir y bydd y rheoliadau sydd i'w gwneud o dan adran 11 yn ailadrodd i raddau helaeth y swyddogaethau a roddir ar hyn o bryd ar gyrff a gedwir yn ôl ynghylch gweinyddu etholiadau cyffredinol y Senedd, fel y nodir o dan Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. Ar y sail honno, wrth ddatblygu'r rhestr o gyrff a gedwir yn ôl a nodir yn y gwelliant hwn, rwyf wedi adolygu'r Gorchymyn cynnal etholiadau yn fanwl ac wedi nodi'r awdurdodau a gedwir yn ôl sydd â swyddogaethau wedi'u gosod arnynt neu mewn perthynas â nhw.

Hoffwn gofnodi fy niolch i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r swyddogion yn Swyddfa Cymru am eu dull cydweithredol yn y trafodaethau sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y sefyllfa hon. Rhaid i mi wneud yr Aelodau yn ymwybodol, fodd bynnag, bod y cydsyniad a dderbyniais yn cael ei roi ar yr amod y cytunir ar y gwelliant hwn. Os na chytunir ar y gwelliant hwn, nid oes gennym gydsyniad i'r darpariaethau sydd ar hyn o bryd yn adran 11 fel y'u cyflwynwyd. Felly, os na chytunir ar welliant 3, byddai darpariaeth o'r Bil hwn y tu allan i gymhwysedd ac ni fyddwn yn gallu symud i Gyfnod 4. Gofynnaf felly i'r Aelodau gefnogi gwelliant 3.

17:25

Does gyda fi ddim siaradwyr yn y grŵp yma. Felly, fe wnawn ni symud i'r bleidlais. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e wedi'i dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 4: Anghymhwyso yn dilyn diswyddo Aelod o’r Senedd yn dilyn pôl adalw (Gwelliant 11)

Grŵp 4 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag anghymhwyso yn dilyn diswyddo Aelod o’r Senedd yn dilyn pôl adalw. Gwelliant 11 yw'r brif welliant y tro yma, a Sioned Williams sy'n cynnig y prif welliant. 

Cynigiwyd gwelliant 11 (Sioned Williams).

Diolch, Llywydd. Pwrpas y gwelliant hwn yw sicrhau bod Aelod sy'n cael ei ddiswyddo o ganlyniad i bleidlais adalw yn cael ei anghymwyso rhag sefyll mewn etholiad eto am gyfnod penodol. Mae pleidlais adalw yn gam difrifol iawn, felly mae'n rhesymol disgwyl bod colli pleidlais o'r fath yn arwain at ganlyniadau sylweddol. Fel y soniais i yng Nghyfnod 2, mae Plaid Cymru yn teimlo nad yw'r Bil fel mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd ddim yn diogelu'n ddigonol yn erbyn y posibilrwydd y gallai Aelod sydd wedi'i ddiswyddo o ganlyniad i bôl adalw geisio sefyll eto bron yn syth. Ddylem ni ddim creu sefyllfa lle mae yna ryw fath o revolving door i unigolion sydd eisoes wedi'u barnu gan eu hetholwyr am gamymddwyn, a allai olygu wedyn eu bod nhw'n gallu dychweled yn syth i swydd etholedig. Byddai hynny'n peryglu ac yn gwanhau'r mecanweithiau atebolrwydd y mae'r Bil yma yn ceisio eu sefydlu. Dyna pam rŷn ni'n cynnig cyfnod anghymwyso o bedair blynedd, sy'n adlewyrchu tymor arferol y Senedd. Mae'r gwelliant yma, felly, yn ceisio sicrhau bod ymddygiad annerbyniol yn arwain at ganlyniadau difrifol ac yn diogelu hygrededd y system sydd yn y Bil yma i sicrhau atebolrwydd i'r cyhoedd.

Yng Nghyfnod 2, gwrthwynebodd y Cwnsler Cyffredinol y gwelliant hwn ar y sail y byddai'n rhaid i'r etholwyr benderfynu a ddylai Aelod a oedd wedi'i ddiswyddo'n flaenorol gael ei ailethol yn y pen draw pe bai'n sefyll eto. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r rhesymeg hon yn llawn, credaf ei fod yn adlewyrchu safbwynt braidd yn idealistig, sy'n cymryd yn ganiataol y bydd gan yr etholwyr yr wybodaeth berthnasol ynghylch yr amgylchiadau sy'n ymwneud â diswyddo'r Aelod hwnnw. Nid yw'n rhoi ystyriaeth lawn i'r ffaith bod goddefgarwch troseddau a allai arwain at adalw, yn enwedig y rhai sy'n deillio o safbwyntiau misogynistaidd neu hiliol, yn anffodus yn cael ei normaleiddio gan rai safbwyntiau gwleidyddol.

Yn anffodus, cymaint ag yr hoffwn i pe byddem, nid ydym yn byw yn y byd delfrydol hwn, a'r realiti hefyd yw bod ein hecosystem cyfryngau, rhannau helaeth ohoni yn cael eu rheoli gan biliwnyddion a'r rhai sydd â buddiannau gwleidyddol sy'n elyniaethus i atebolrwydd, ac nad oes ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi democratiaeth, wedi dangos ei hun yn rhy aml yn analluog i sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu cael mynediad i'r ystod lawn o ffeithiau. Gwyddom hefyd na fydd rhai pleidiau gwleidyddol asgell dde sydd wedi llunio eu harddull gyfathrebu ar ddelwedd eu heneidiau hoff cytûn ideolegol ym Moscow a Washington yn oedi o gwbl wrth arfogi twyllwybodaeth er mwyn creu dryswch pe bai eu haelodau yn cael eu diswyddo.

Ar ben hynny, mae'r system rhestr gaeedig, ac fe hoffwn atgoffa Aelodau nad hwn oedd y model etholiadol yr oedd Plaid Cymru yn ei ffafrio yng nghyd-destun diwygio'r Senedd, ac mae hefyd yn golygu y bydd pleidleiswyr bellach yn gwneud eu penderfyniadau i raddau helaeth yn seiliedig ar eu dewis o bleidiau yn hytrach nag ymgeiswyr, ac felly y gwir yw y gallai'r system hon ei gwneud hi'n fwy tebygol y gall Aelodau a gafodd eu hadalw yn flaenorol fynd i mewn eto i'r arena wleidyddol gyda llai o graffu unigol. Rwy'n credu hefyd fod barn y Cwnsler Cyffredinol yn tanbrisio sut y gall y mecanwaith adalw weithredu fel ataliad cryf yn erbyn camymddwyn yn y dyfodol a gorfodi pleidiau gwleidyddol i fod yn llawer mwy cadarn yn eu prosesau fetio. Fel y gwelsom dros y misoedd diwethaf, gall canlyniadau bod yn hunanfodlon yn y maes hwn fod yn drychinebus.

Byddwn felly yn annog y Cwnsler Cyffredinol a'i chyd-Aelodau Llafur i ailystyried eu gwrthwynebiad blaenorol a gofyn i bob Aelod gefnogi'r gwelliant hwn. 

17:30

Rwy'n siarad am y gwelliant hwn yn unig. Rwy'n teimlo ei bod mor bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar beth yw'r canlyniadau mewn perthynas ag adalw. Ond rwyf eisiau dechrau hefyd trwy ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei hamser gyda mi, a hefyd, yn y cyfnodau cynnar, Adam Price a Lee Waters am ddechrau fy nhaith gyda'r Bil hwn.

Rwyf wedi sefyll sawl gwaith yn y Siambr hon a siarad am yr argyfwng ymddiriedaeth sydd gennym yn ein gwleidyddiaeth, am y ffordd y mae twyllwybodaeth, dichell ac erydiad ymddiriedaeth yn gwenwyno'r amgylchedd lle mae ein democratiaeth yn gweithredu. Dim ond 15 y cant o bobl bellach sy'n ymddiried mewn gwleidyddion, gan ein gwneud ni i gyd yma y proffesiwn â'r ymddiriedaeth leiaf ym mynegai dibynadwyedd byd-eang Ipsos. Mae pedwar deg pump y cant yn credu bod gwleidyddion yn fwy tebygol o ddweud celwydd nawr nag yn y gorffennol, ac yn ôl y Comisiwn Etholiadol, dim ond 62 y cant o bobl ifanc yng Nghymru sy'n teimlo bod ganddynt ddealltwriaeth dda o ddemocratiaeth, gyda llai na hanner yn mynegi unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth o gwbl. Mae colli ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn adlewyrchu'r colli hyder yr ydym yn ei weld yn ehangach yn ein sefydliadau ac yn ein gilydd.

Rydym ni wedi siarad o'r blaen am flychau tân a choelcerthi, am gymunedau sy'n chwalu dan bwysau. Mae'r Bil hwn i fod i ymateb i'r argyfwng ymddiriedaeth hwnnw, ein datganiad ni yw na fydd y Senedd yn goddef Aelodau y mae eu hymddygiad yn tanseilio ein sefydliad. Oherwydd hynny, rhaid i bob mecanwaith a luniwn gael canlyniadau, a dyna beth mae gwelliant 11 yn ei wneud. Mae'n rhoi'r ystyr y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl o ran y broses adalw. Heb y gwelliant hwn, gallai Aelod sy'n cael ei ddiswyddo gan ei etholwyr sefyll yn yr isetholiad o fewn wythnosau, ac rydym wedi gweld hynny yma yng Nghymru. Byddai'r holl ddeisebu, ymgyrchu a phleidleisio, yr holl ymdrech y mae'r cyhoedd yn ei roi yn ddiystyr pe bai'r person a ddiswyddwyd yn gallu dychwelyd ar unwaith.

Mae'n werth atgoffa ein hunain pam y mae adalw yn bwysig yn y lle cyntaf. Mae adalw yn ymwneud â rhoi pŵer yn ôl yn nwylo'r bobl rhwng etholiadau. Mae'n ymwneud â sicrhau nad yw etholwyr yn cael eu gadael yn disgwyl am gyfle i weithredu pan fydd ymddiriedaeth yn cael ei dorri. Mae'n falf ddiogelu ddemocrataidd, ffordd o gynnal hyder yn y system pan fydd pethau'n mynd o'i le. Pan fydd y cyhoedd yn darganfod ein bod wedi adeiladu drws cylchdroi yn lle allanfa, bydd nid yn unig yn gwneud i'r mecanwaith adalw edrych yn wan, bydd yn cadarnhau pob amheuaeth sydd ganddynt eisoes bod gwleidyddion fel ni yn dylunio systemau atebolrwydd gyda llwybrau dianc ynddynt. Ac mae angen i ni edrych y tu hwnt i Gymru, fel y dywedwyd, a thu hwnt i'n hanes diweddar ein hunain i ddeall beth sydd yn y fantol. Y sgandal treuliau, Brexit, partygate, tâl am ofyn cwestiynau, tâl am lobïo, triniaeth ofnadwy a ddioddefodd aelodau staff ac Aelodau o'r Senedd a Seneddau eraill—pob un yn rhoi ergyd newydd i hyder y cyhoedd.

Mae gwelliant 11 yn gymesur ac yn egwyddorol. Pedair blynedd—tua hyd tymor y Senedd—pan fydd Aelod sy'n cael ei adalw yn wynebu canlyniadau ei weithredoedd. Nid yw'n barhaol. Nid yw'n gosb y tu hwnt i reswm, ond mae'n sicrhau bod atebolrwydd yn real. Nid yw'r gwelliant hwn yn tynnu unrhyw un o fywyd cyhoeddus yn barhaol. Nid yw'n atal Aelod sy'n cael ei adalw rhag ceisio swydd etholedig eto. Mae'n parchu'r egwyddor ddemocrataidd sylfaenol y dylai unigolion gadw'r hawl i sefyll mewn etholiad yn y pen draw. Ond mae'n sicrhau bod y broses adalw yn cario pwysau gwirioneddol, rhywbeth na ellir ei ddadwneud ar unwaith, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn golygu rhywbeth i'r cyhoedd. Pan fyddwn yn pasio'r Bil hwn, byddwn yn dweud wrthynt ein bod wedi creu system ystyrlon o atebolrwydd Aelodau. Nid wyf eisiau sefyll yma ac esbonio i etholwyr pam y mae Aelod wedi'i adalw yn gallu sefyll eto ar unwaith. Mae gwelliant 11 yn atal hynny. Mae'n gynllun wrth gefn rhag i ni wangalonni. Felly, rwy'n annog Aelodau'r Siambr i'w gefnogi. Diolch yn fawr iawn.

Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Nid wyf yn credu y dylai Aelod sydd wedi ei adalw gan ei etholwyr gael ei anghymhwyso am gyfnod o bedair blynedd, a fyddai, mewn gwirionedd, yn ei atal rhag sefyll yn yr etholiad nesaf, fel y mae'r ddau siaradwr blaenorol wedi nodi. Mae system adalw wedi'i chynllunio i lenwi'r bwlch yn y system sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng ymddygiad sydd mor ddifrifol fel ei bod yn iawn fod person yn cael ei anghymhwyso'n awtomatig, a'r ymddygiad hwnnw y mae'n briodol i ymdrin ag ef drwy atal neu gerydd. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol cyfuno'r ddwy system o anghymhwyso ac adalw yn y modd hwn.

Byddai'r gwelliant hwn hefyd yn arwain at anghysondeb yn y drefn anghymhwyso. Pe bai'r gwelliant yn cael ei basio, ni fyddai Aelod sy'n cael ei garcharu am lai na blwyddyn ac sy'n cael ei adalw gan ei etholwyr yn gallu sefyll dros y Senedd am bedair blynedd, ond byddai Aelod sy'n cael ei garcharu am fwy na blwyddyn ac felly'n cael ei anghymhwyso'n awtomatig yn rhydd i sefyll ar ôl ei ryddhau. Ni all hynny fod yn iawn.

Beth bynnag, pwrpas craidd system adalw yw rhoi'r penderfyniad yn nwylo'r pleidleiswyr a bleidleisiodd dros yr Aelod hwnnw yn y lle cyntaf. Mae'n iawn fod gwneud penderfyniadau o'r fath wedyn yn parhau ac yn parhau yn nwylo pleidleiswyr yn yr etholiad nesaf. Rwy'n deall y pryderon a amlinellwyd, ond rydym ni'n byw mewn democratiaeth. Os yw plaid yn dewis ymgeisydd sydd wedi'i adalw o'r blaen, ac mae'r etholwyr yn dewis pleidleisio dros y rhestr honno o ymgeiswyr gan wybod hynny, yna mae'n benderfyniad cyfiawn i'r etholwyr ei wneud.

Pan fo ymddygiad mor ddifrifol fel ein bod yn credu ei bod yn iawn y dylai person gael ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod neu'n ymgeisydd, yna ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod ymddygiad o'r fath yn cael ei ychwanegu'n uniongyrchol at y meini prawf anghymhwyso. Er fy mod yn cydymdeimlo â'r pwynt a wnaeth y ddau siaradwr blaenorol am ddiffyg gwybodaeth ac ati, rwy'n dal i gadw at y pwynt mai pleidiau sy'n penderfynu pwy y maen nhw'n eu dewis fel eu hymgeiswyr, a byddwn yn disgwyl y bydd pob ymgeisydd yn destun craffu gan y cyhoedd, y cyfryngau ac, yn wir, y pleidiau eraill sy'n sefyll yn yr etholiad. Diolch.

17:35

Diolch. Hoffwn i ddiolch yn fawr i Jane Dodds am ei chefnogaeth ac am y pwyntiau pwysig y gwnaeth hi yn ei chyfraniad.

Mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â chynnal hyder. Rwy'n credu mai dyma holl ysbryd y Bil ger ein bron, y ffordd rydych chi'n rhoi hynny, y dylai'r drws cylchdroi fod yn allanfa, fel arall, mae'n cadarnhau'r amheuon yr ydym yn gwybod eu bod yn eang mewn cymdeithas, a'r sinigiaeth honno sy'n tanseilio'r union ddemocratiaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud bod angen i ni ddal yn gadarn iddi. Felly, rwy'n credu bod y ddau beth hyn yn gysylltiedig â'i gilydd a dylai fod canlyniadau difrifol, a bod yn rhaid i'r atebolrwydd, fel y dywed Jane Dodds, fod yn real.

Wrth werthfawrogi'r pwyntiau am yr anghysondebau a amlinellwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, gallwn gywiro'r rheini, gallwn alinio'r anghysondebau hynny os dewiswn hynny. Dyma'r Bil sydd ger ein bron, ac rwy'n credu y dylem ystyried y dadleuon yr wyf i a Jane Dodds wedi'u gwneud ynglŷn â'r gwelliant hwn. Felly, byddwn yn gofyn i'r Aelodau ystyried cefnogi'r gwelliant. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais, felly, ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 11: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 5: Adolygu Rhan 1 (Gwelliant 21)

Grŵp 5 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag adolygu Rhan 1. Gwelliant 21 yw'r prif welliant. Paul Davies sy'n cynnig y gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Sam Rowlands).

Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliant 21 yn enw fy nghyd-Aelod Sam Rowlands, eto fel y caniateir o dan Reol Sefydlog 26.65. Nawr, mae gwelliant 21 yn mewnosod adran newydd yn y ddeddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adolygu'r system adalw a llunio adroddiad ar weithrediad ac effaith y system. Mae'r gwelliant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gynnwys asesiad o'r costau cysylltiedig a gafwyd ac ymgynghori gyda'r Senedd ac unrhyw bersonau eraill yr ystyrir eu bod yn briodol. Ar ôl ei gwblhau, rhaid i'r adroddiad wedyn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei osod. Credwn fod hwn yn welliant angenrheidiol er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y system adalw, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn.

Fel y clywodd yr Aelodau, byddai gwelliant 21 yn gosod gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ran 1 o'r Bil hwn, ac rwyf eisiau bod yn glir fy mod yn cytuno y dylid cynnal adolygiad o'r system newydd ar ôl iddi gael ei defnyddio. Fodd bynnag, mae'r system adalw a'r Bil hwn yn ehangach, yn ei hanfod, yn bolisi sy'n eiddo i'r Senedd. Felly, credaf ei bod yn fwyaf priodol i'r Senedd gynnal unrhyw adolygiad ôl-ddeddfwriaethol, ac felly ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn. 

Mae hwn yn bwynt y mae'r Llywodraeth wedi bod yn gyson arno o ran rhaglen ddiwygio'r Senedd yn ei chyfanrwydd, ac mae darpariaethau a nodir yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn gweithredu hyn. Fodd bynnag, byddwn yn rhybuddio rhag pennu amser pryd dylid cynnal adolygiad o'r fath. Mae amseriad pôl adalw yn ansicr, ac nid yw'n glir a fyddai'r profiad cyntaf o bôl adalw yn darparu sail ddigonol ar gyfer adolygiad. Mae'r rhain yn faterion y gall y Senedd eu hystyried ar y pryd, i benderfynu pryd y byddai'n fwyaf priodol cynnal adolygiad o'r fath. Dylwn hefyd ychwanegu y bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Bil eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weinyddu unrhyw bôl adalw, ac felly, yn fy marn i, dylai unrhyw adolygiad a gynhelir gan y Senedd fod yn ymwybodol o'r gwaith hwnnw. Felly, gofynnaf i'r Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliant hwn. Diolch.

17:40

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am nodi ei safbwynt. Fel y dywedais i wrth agor y ddadl ar y gwelliant hwn, credwn ei bod yn angenrheidiol i adolygiad o'r system ddigwydd, ac felly rwy'n bwriadu cynnig gwelliant 21 a gyflwynwyd yn enw Sam Rowlands.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni bleidleisio ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 21 wedi ei wrthod.

Gwelliant 21: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Amendment 4. A yw'n cael ei gynnig yn ffurfiol, Cwnsler Cyffredinol?

Cynigiwyd gwelliant 4 (Julie James).

Gwelliant 4. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 4? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 6: Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Gwelliannau 12, 18, 5, 6, 7, 8, 16)

Grŵp 6 yw'r grŵp o welliannau sydd nesaf. Mae'r chweched grŵp yma yn ymwneud â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Gwelliant 12 yw'r prif welliant. Sioned Williams sy'n cyflwyno'r gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Sioned Williams).

Diolch, Llywydd. Diben gwelliant 12 yw cynnwys o fewn Rheolau Sefydlog y pwyllgor safonau ddarpariaeth i alluogi sefydlu is-bwyllgor, sef is-bwyllgorau o aelodau lleyg, i ystyried achosion lle honnir bod Aelod o'r Senedd wedi bod yn anonest. Y diheintydd gorau ar gyfer y ddichell a'r anonestrwydd sydd wedi cyrydu ein tirwedd wleidyddol mor wael yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw tryloywder, a pha ffordd well o sicrhau hygrededd y ddeddfwriaeth hon yng ngolwg y cyhoedd na rhoi rôl ffurfiol gyfreithiol iddynt wrth graffu ar achosion o ymddygiad dichellgar yn y Senedd. Ni allwn ganiatáu i'r prosesau a nodir yn y Bil hwn gael eu hystyried fel ffordd i Aelodau'r Senedd farcio eu gwaith cartref eu hunain, ac rydym yn credu bod y gwelliant hwn yn ogystal â gwelliannau tebyg eraill yn y grŵp hwn y byddwn yn eu cefnogi yn mynd rhywfaint tuag at fynd i'r afael â'r risg hon.

Diben gwelliant 18 yw cynnwys gofyniad y dylai is-bwyllgor a ffurfiwyd at ddibenion adran 30A(6)(c), sef is-bwyllgor sy'n gyfrifol am gynnal apeliadau neu adolygiadau o drafodion pwyllgor neu is-bwyllgor sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau'r Senedd—dylai o leiaf un person a benodir yn aelod lleyg i'r pwyllgor hwn fod â chymwysterau cyfreithiol. Rwy'n ddiolchgar am waith fy nghyd-Aelod Adam Price ar y gwelliant penodol hwn ac am ymgysylltu'n helaeth â'r Llywodraeth ar ffurf dderbyniol o ran geiriad.

Y cyd-destun yma yw'r angen i ymdrin â materion cymhleth a sensitif mewn ffordd gadarn a theg i bawb sy'n cymryd rhan. Gallai hyn fod yn berthnasol i achosion o ddichell, ond hefyd i achosion a mathau eraill o gamymddwyn a allai elwa ar arbenigedd arbenigol annibynnol, heb fod yn gyfyngedig i arbenigedd cyfreithiol, er mwyn sicrhau y byddai'r broses apeliadau ac adolygiadau yn un sy'n gynhwysfawr, yn dryloyw ac yn ddigonol i fodloni'r difrifoldeb, y cymhlethdod a'r angen am fframwaith cadarn yn seiliedig ar y cysyniadau cyfreithiol profedig sy'n gysylltiedig â'r system gyfiawnder, gan arwain at broses deg a gwrthrychol y gall y cyhoedd ymddiried ynddi.

Diolch, Llywydd. Credaf y byddai'n ddefnyddiol i'r Aelodau pe bawn yn darparu cyd-destun fy ngwelliannau yn y grŵp hwn yn gyntaf a sefyllfa bresennol adrannau 18 a 20 o'r Bil cyn i mi nodi'r hyn y mae fy ngwelliannau yn darparu ar ei gyfer. Mae'n werth nodi bod cysylltiad rhwng y grŵp hwn a grŵp 8 y byddwn yn ei drafod yn nes ymlaen. Mae'r grŵp hwnnw'n ymdrin â chymhwysedd ar gyfer rôl y comisiynydd safonau.

Yn ystod y ddadl ar y gwelliannau perthnasol yng Nghyfnod 2, cytunais â'r pwyllgor y byddwn yn edrych eto ar y meini prawf anghymhwyso ac yn arbennig rôl cynghorwyr sir a'r cynghorwyr cymuned ac yna trafod ymhellach gydag aelodau'r pwyllgor. Felly, wrth graffu ar y Bil, fy safbwynt i yw y dylem fod yn ceisio sicrhau cysondeb priodol rhwng y meini prawf anghymhwyso ar gyfer aelodau lleyg a'r comisiynydd safonau. Er mwyn caniatáu i'r meini prawf anghymhwyso gael eu hystyried ymhellach, yn ystod Cyfnod 2 gofynnais i welliant a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths ar y meini prawf anghymhwyso ar gyfer y comisiynydd, beidio â chael ei gynnig, ac felly ni chafodd ei basio.

Ers Cyfnod 2, rwyf wedi ailystyried y meini prawf ar gyfer rôl y comisiynydd ac, o ganlyniad, y meini prawf ar gyfer rôl aelodau lleyg, gan ystyried rôl cynghorwyr sir a chymuned. Hoffwn ddweud yn arbennig ar yr adeg hon fy mod yn ddiolchgar iawn i aelodau'r pwyllgor, Sam Rowlands, Sioned Williams, Lesley Griffiths ac eraill, a hefyd Adam Price a Jane Dodds, am y trafodaethau helaeth a gawsom ar hyn. Dywedais yng Nghyfnod 2 y byddwn yn edrych yn benodol ar ba un a ddylid gwahaniaethu rhwng cynghorwyr sir a chynghorwyr cymuned sydd wedi dal rôl weithredol a'r rhai nad ydynt. Fodd bynnag, rwyf wedi dod i'r casgliad na fyddai dim ond anghymhwyso cynghorwyr ar y sail eu bod yn dal neu wedi dal rôl weithredol yn darparu ar gyfer y lefel o annibyniaeth a ddymunir ar gyfer rôl aelod lleyg. Er enghraifft, ni fyddai'n cynnwys y rhai sydd wedi dal rôl arweinydd grŵp gwrthblaid ar gyngor, a fyddai hefyd yn cael ei ystyried yn gynhenid wleidyddol. Felly, rwy'n credu mai'r gwahaniaeth cywir i'w wneud yw rhwng rôl cynghorydd sir a chynghorydd cymuned. Wrth gyflwyno fy ngwelliannau 6, 7 ac 8 rwyf wedi gwneud y dull hwn yn weithredol.

Mae'r gwahaniaeth hwn ar gyfer y meini prawf anghymhwyso yn taro'r cydbwysedd cywir, oherwydd rôl cynghorydd cymuned yw'r un fwyaf lleol o'r holl gynrychiolaeth etholedig ac mae'n cynnwys cefnogi prosiectau lleol i raddau helaeth, gan gynnwys rheoli a phenderfynu ar sut mae grantiau bach yn cael eu dosbarthu. Nid yw felly'n cynnwys gwneud penderfyniadau mewn perthynas â materion gwleidyddol arwyddocaol, megis darparu gofal cymdeithasol neu sut mae cyllidebau mawr yn cael eu gwario. O ystyried gweithgareddau'r rôl, mae'n denu unigolion sy'n meddwl yn ddinesig, yn hytrach nag o reidrwydd yn wleidyddiaeth plaid. Mae'r dull hwn hefyd yn cyflawni'r cydbwysedd cywir rhwng yr angen i sicrhau cronfa ddigonol o ymgeiswyr ar gyfer rôl aelod lleyg gan sicrhau bod y meini prawf anghymhwyso yn cyflawni safon isafswm o annibyniaeth wleidyddol. I grynhoi, mae gwelliant 6 yn anghymhwyso'n barhaol y rhai sydd ar hyn o bryd, neu sydd wedi bod o'r blaen, yn gynghorydd sir rhag gallu cael eu penodi fel aelod lleyg. Mae fy ngwelliannau 6 ac 8 yn darparu ar gyfer y gallu i gyn-gynghorwyr cymuned allu cael eu penodi fel aelodau lleyg. Wrth ailystyried y meini prawf anghymhwyso ar gyfer rôl cynghorwyr, rwyf hefyd wedi ailystyried, er mwyn cyflawnrwydd, a ddylai cyn-Aelodau Tŷ'r Arglwyddi hefyd gael eu heithrio yn barhaol rhag ymgymryd â'r naill rôl neu'r llall. Rwyf wedi dod i'r casgliad y dylid eu heithrio ac felly mae gwelliant 6 hefyd yn gweithredu hyn.

Yn olaf, rwyf hefyd wedi cyflwyno gwelliant 5, sy'n ganlyniadol i'm gwelliannau 6, 7 ac 8.

O ran y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, rwy'n cefnogi gwelliant 16, a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, i ymestyn y dyddiad cau erbyn pryd y mae angen i'r Senedd benodi aelodau lleyg, o ystyried y rhesymeg a nodwyd gan y Cadeirydd.

Nid wyf o'r farn bod gwelliant 12 Sioned Williams yn angenrheidiol. Pwrpas yr is-bwyllgor, a all fod yn gyfan gwbl yn aelodau lleyg, yw at ddibenion darparu mecanwaith apêl neu adolygu ar gyfer y broses safonau. Nid wyf yn credu bod yr achos wedi'i wneud yn ddigonol y dylai fod dull gwahanol o ddyfarnu ar gamymddwyn ar ffurf anonestrwydd gan Aelod o'i gymharu ag unrhyw gamymddwyn arall. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'r comisiynydd safonau wedi dweud o'r blaen nad yw'r pwyllgor yn dymuno gweld hierarchaeth o gamymddygiad, ac felly dylai'r broses fod yr un fath ni waeth beth yw natur yr honiadau yr ymchwilir iddynt a'u dyfarnu gan y pwyllgor.

Yn olaf, rwy'n cefnogi gwelliant 18 Sioned Williams. Rwy'n ddiolchgar iawn am y drafodaeth rydw i wedi'i chael ar hyn gydag Adam Price yn dilyn Cyfnod 2. Credaf fod y gwelliant yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau bod gan y gronfa o aelodau lleyg y sgiliau cywir gan ddarparu disgresiwn priodol i'r Senedd wrth allu pennu manylion ei threfniadau ei hun, gan gynnwys strwythur a rôl y pwyllgor safonau ymddygiad ac unrhyw is-bwyllgor a sefydlir. Yn adran 18 o'r Bil, mae'r Llywodraeth wedi ceisio cynnal y disgresiwn hwnnw trwy ddeddfu dim ond pan fo angen darpariaethau er mwyn darparu ar gyfer strwythur effeithiol ar gyfer yr hyn a fydd yn bwyllgor safonau ymddygiad statudol, a threfniadau addas ac effeithiol ar gyfer penodi aelodau lleyg iddo. Diolch.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r canlyniad yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw, felly, yn erbyn y gwelliant, sy'n golygu bod y canlyniad yn 25 o blaid, un yn ymatal a 26 yn erbyn. A'r gwelliant yn methu.

Gwelliant 12. : O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 1

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

17:50

Y gwelliant nesaf fydd gwelliant 18. Ydy e'n cael ei gyflwyno gan Sioned Williams?

Cynigiwyd gwelliant 18 (Sioned Williams).

Ydy, mae'n cael ei gynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 18. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, un yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 18 wedi ei basio.

Gwelliant 18. : O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Amendment 5. A yw'n cael ei gynnig, Cwnsler Cyffredinol? 

Cynigiwyd gwelliant 5 (Julie James).

Ydy.

A oes gwrthwynebiad i welliant 5? Nac oes. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Julie James).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 6? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Julie James).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 7? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Julie James).

Ydy, gan y Cwnsler Cyffredinol. Oes gwrthwynebiad i welliant 8? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 16. Ydy e'n cael ei symud yn ffurfiol, neu ydy e'n cael ei symud, gan Hannah Blythyn?

Cynigiwyd gwelliant 16 (Hannah Blythyn).

Ydy, mae'n cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 16. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 16 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 16. : O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 7: Adroddiad ar gymhwyso cod ymddygiad i ymddygiad pan oedd Aelod o’r Senedd yn ymgeisydd mewn etholiad (Gwelliant 19)

Grŵp 7 o welliannau sydd nesaf. Mae'r seithfed grŵp yma yn ymwneud ag adroddiad ar gymhwyso cod ymddygiad i ymddygiad pan oedd Aelod o’r Senedd yn ymgeisydd mewn etholiad. Gwelliant 19 yw'r prif welliant. Alun Davies sy'n cynnig y gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Alun Davies).

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwyf yn cynnig gwelliant 19, a gyflwynwyd yn fy enw i. Dylwn i ddweud ar y dechrau fy mod yn ddiolchgar iawn i'r Llywodraeth ac i'r Cwnsler Cyffredinol am eu cymorth a'r gefnogaeth wrth ddrafftio'r gwelliant hwn. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r ffaith pan wnaethom drafod y materion hyn mewn cyfnod blaenorol, ein bod wedi cael sgwrs, ddywedwn ni, am y gallu i ddiffinio trosedd ond hefyd a yw'n briodol creu trosedd trwy is-ddeddfwriaeth yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'm pryder dwfn iawn y gallem fod yn creu trosedd nad ydym yn gallu ei diffinio, ac ni fyddai unrhyw un ohonom sy'n pleidleisio heddiw, neu ar unrhyw adeg, ar y mater hwn yn ymwybodol nac yn gwybod beth rydym ni'n pleidleisio drosto mewn gwirionedd. Nid yw hynny'n arfer seneddol da, a beth bynnag yw cymhellion ac ysgogiadau pobl, yr wyf yn cytuno'n llwyr â nhw, nid yw'n iawn i greu cyfraith yn y modd hwnnw, a dylai'r Senedd hon, rwy'n credu, gynnal y safonau uchaf, nid yn unig o ran y materion dan sylw, ond sut rydym yn mynd i'r afael â'r materion dan sylw hefyd.

Rwy'n ddiolchgar i Lee Waters ac i Adam Price am y cyfle i drafod y materion hyn gyda nhw. Trwy'r trafodaethau hyn—er fy mod yn derbyn cyfrifoldeb llwyr am y gwelliant—y daeth y syniad efallai y byddwn yn bwriadu nid yn unig mynd i'r afael â dichell fwriadol yn y ffordd y disgrifiodd Adam Price yn ein sgwrs ddiwethaf ar y mater hwn, ond edrych ar y meysydd ehangach o ymddygiad a'r ffyrdd ehangach y mae ymgeiswyr ar gyfer swydd, ymgeiswyr am le yma, yn cynnal eu hymgyrchoedd ac yn ymddwyn eu hunain. Fel yna, mae'n mynd i'r afael â rhai o'r materion y mae Sioned Williams wedi mynd i'r afael â nhw mewn cyfraniadau blaenorol heno.

Beth y mae hyn yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod gennym broses safonau ar waith a fframwaith sydd nid yn unig yn bodoli o'r adeg pan ydym yn cael ein hethol, ond ar yr adeg pan ydym yn cael ein henwebu'n ffurfiol. Fel arfer, cawn ein henwebu am gyfnod o bedair wythnos, a thrwy gydol y cyfnod hwnnw mae'n bosibl rhagweld rhai o'r materion a ddisgrifiodd Sioned Williams yn gynharach. Mae hefyd yn bosibl rhagweld ymddygiadau a fyddai'n arwain at bryderon difrifol ac at geryddu pe bai'r ymddygiadau hynny wedi'u harddangos gan Aelod presennol. Felly, mae'n mynd y tu hwnt i'r materion a godwyd yn y ddeddfwriaeth wreiddiol, a'r pwyntiau gwreiddiol a wnaed gan Adam Price a Lee Waters, ac mae'n ceisio rhoi fframwaith cynhwysfawr o safonau ar waith ar gyfer ymgeiswyr yn ogystal ag Aelodau. Fodd bynnag—a dyma lle rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei help gyda hyn—yr hyn y mae hyn yn ei wneud yw sicrhau ein bod yn gwneud hynny, ein bod yn creu'r fframwaith hwn mewn ffordd ystyriol, ac nad ydym yn brysio wrth ei roi ar y llyfr statud yn yr wythnos olaf cyn y seibiant, a phythefnos cyn i'r Senedd hon gael ei diddymu.

Felly, yr hyn y mae hyn yn ei wneud yw rhoi cyfle i ni, yn gyntaf oll, bleidleisio i sicrhau ein bod yn creu'r fframwaith, ac rydym yn gwneud achos clir iawn dros greu'r fframwaith yr wyf wedi'i ddisgrifio, ond ein bod, wrth wneud hynny, yn gwneud hynny mewn ffordd fwy ystyriol, a'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw rhoi cyfle i'r Senedd nesaf ystyried yr holl faterion sy'n ymwneud â'r mater hwn, ond i wneud hynny o fewn fframwaith.

Nawr, bydd yr Aelodau yn gwybod o'm sgyrsiau blaenorol fy mod yn wyliadwrus iawn o gynsail y gellid ei gosod drwy'r Senedd hon yn ceisio rhwymo'r Senedd nesaf, a'r rhai ohonom sy'n Aelodau presennol heddiw yn ceisio gorfodi ymddygiad yn y Senedd nesaf. Rwy'n credu bod yna fater o egwyddor seneddol yna. Fodd bynnag, rydym eisoes, ac rydym wedi trafod hyn heno i ryw raddau, wedi'i nodi yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 mewn perthynas ag adolygu'r ddeddfwriaeth honno ac ystyried rhannu swyddi, er enghraifft—rydym eisoes wedi dweud ein bod yn barod i geisio rhwymo camau gweithredu a phenderfyniadau'r Senedd nesaf. Felly, er bod fy mhryderon ar y materion hyn yn parhau, mae gennym gynsail wedi'i gosod ar gyfer sut y bydd y Senedd hon yn ceisio sicrhau bod y ddeddfwriaeth yr ydym yn ceisio ei deddfu yn cael ei hystyried yn y Senedd nesaf.

Felly, byddai'n rhaid i'r pwyllgor y bydd y Llywydd nesaf yn ei sefydlu, os derbynnir y gwelliant hwn heno, gynnal ymchwiliad a dod i'r casgliad a yw dull o'r fath yn offeryn priodol i reoleiddio ymddygiad Aelodau etholedig am y cyfnod pan oeddent yn ymgeiswyr etholiad. Byddai'r gwelliant, pe bai'n cael ei dderbyn, hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod datganiad mewn ymateb i unrhyw adroddiad gan y pwyllgor yn dilyn ymchwiliad o'r fath.

Felly, rwy'n gobeithio, wrth fabwysiadu'r dull hwn, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw creu cydbwysedd. Rydym yn gwneud datganiad clir iawn, ac mae'r Senedd hon yn gwneud y datganiad hwnnw heno, am y mathau o ymddygiadau y byddem yn eu disgwyl, nid yn unig gan Aelodau, ond gan y rhai sy'n ceisio swydd hefyd, a'n bod yn gwneud hynny wrth amddiffyn uniondeb ein hetholiadau a'n proses etholiadol, ond rydym hefyd yn cydnabod er mwyn gwneud hyn yn iawn bydd angen llawer mwy o ystyriaeth fanwl a bydd rhaid i ni wneud y penderfyniadau pendant hyn yn y Senedd nesaf. Diolch.

17:55

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i Alun Davies am gyflwyno'r gwelliant hwn i'w drafod heddiw? Fel y gwelsom trwy gydol y datblygiad a'r gwaith craffu ar y Bil hwn, mae pob un ohonom ar draws y Siambr hon yn credu'n gryf yn yr angen i wella atebolrwydd ein sgyrsiau gwleidyddol, ac mae'n iawn bod pob mecanwaith posibl yn y maes hwn yn cael yr ystyriaeth fanwl y mae'n ei haeddu. 

Os bydd y darpariaethau presennol yn y Bil hwn yn pasio, bydd gennym system o atebolrwydd go iawn ar gyfer Aelodau presennol. Bydd gennym system adalw sy'n rhoi mwy o ddewis yn nwylo'r pleidleiswyr, ochr yn ochr â system safonau gryfach a mwy annibynnol. Byddwn yn y dyfodol yn cael darpariaeth ar waith sy'n gwahardd ymgeiswyr rhag gwneud datganiadau o ffeithiau anwir. Byddwn hefyd, os cytunir ar y gwelliant hwn, wedi gosod y fframwaith ar waith i ystyried yn iawn a yw ymestyn cod ymddygiad yr Aelod i gwmpasu ymddygiad Aelod tra bydd yn ymgeisydd yn ychwanegiad priodol ac effeithiol i'r pecyn cymorth hwnnw.

Credaf fod y pecyn hwn o fesurau ar y cyd yn cyflawni ein hymrwymiad i wella atebolrwydd, ac yn dangos bod y Senedd hon yn trin uniondeb prosesau democrataidd â difrifoldeb.

Rwy'n ymwybodol bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn debygol o gael rhaglen waith sylweddol yn gynnar yn y Senedd nesaf. Mae'r Bil yn gofyn am ddatblygu'r canllawiau adalw a recriwtio ac ymsefydlu aelodau lleyg y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod deiliadaeth y comisiynydd safonau presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2027 a bydd angen cynnal proses i benodi olynydd. Rwy'n falch, felly, y byddai sylwedd y gwelliant hwn yn gadael y cwestiwn yn agored ynghylch a ddylid trosglwyddo ymchwiliad yn y dyfodol i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad neu unrhyw bwyllgor arall. Bydd hyn yn caniatáu i'r cynnig sy'n dod ymlaen asesu'n briodol lle y dylid gwneud gwaith o'r fath yng ngoleuni pwysau eraill. Os bydd y Senedd, yn y dyfodol, yn penderfynu cynnal ymchwiliad ar y sail a nodir yn y gwelliant hwn, bydd yn hanfodol bod unrhyw ryngweithio â chyfundrefnau presennol yn cael ei ystyried yn ofalus. Mae ymddygiad ymgeiswyr mewn etholiad eisoes wedi'i reoleiddio drwy'r Gorchymyn cynnal etholiadau. Bydd angen ystyried sut y gallai cod ymddygiad yr Aelod fod yn berthnasol i ymgeiswyr ochr yn ochr â darpariaethau'r Gorchymyn cynnal etholiadau.

Bydd hefyd yn bwysig sicrhau nad yw unrhyw estyniad o'r cod i ymddygiad Aelod tra bod yr Aelod yn ymgeisydd yn arwain at sefyllfa lle gellir ymgyfreitha canlyniad etholiad drwy system safonau'r Senedd. Mae proses sefydledig o ddeisebau etholiadol, a glywir gan lysoedd etholiadol, sy'n darparu proses briodol a chadarn ar gyfer herio canlyniad etholiad. Byddai angen datblygu unrhyw estyniad o'r cod mewn ffordd nad yw'n torri ar draws nac yn tanseilio'r system bresennol. Bydd angen ystyried hefyd y rhyngweithio rhwng y gwaith a ragwelir gan y gwelliant hwn a datblygu darpariaeth i wahardd datganiadau o ffeithiau anwir o dan y ddyletswydd yn adran 22 o'r Bil, gan y bydd hynny hefyd yn nodwedd o'r Gorchymyn cynnal etholiadau yn y dyfodol ac yn rhan o reoleiddio ymddygiad ymgeiswyr.

Dyma'r mathau o faterion sydd angen ystyriaeth gynhwysfawr, a'r ystyriaeth gynhwysfawr honno y mae'r gwelliant hwn yn ceisio ei chyflawni trwy waith pwyllgor y Senedd. Ac ar y sail honno, rwy'n fwy na pharod i gadarnhau bod y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwn ac yn annog Aelodau i bleidleisio o'i blaid. Diolch.

18:00

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei sylwadau. Esboniodd yn llawer gwell na fi, rwy'n credu, rhai o'r materion y mae angen i ni eu hystyried. Felly, hoffwn i fod y gwelliant yn cael ei roi i bleidlais. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Nac oes, mae gwelliant 19—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gyda fi, oes, mae yna wrthwynebiad, sori. Mae yna wrthwynebiad, felly rhown ni welliant 19 i bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 19. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 19 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 19. : O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 8: Comisiynydd Safonau y Senedd: cymhwystra (Gwelliant 9)

Y grŵp nesaf yw grŵp 8. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â Chomisiynydd Safonau y Senedd a chymhwystra. Gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n cyflwyno'r gwelliant yma. Julie James.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Julie James).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 9 yn diwygio'r meini prawf anghymhwyso ar gyfer Comisiynydd Safonau'r Senedd. Mae'r dewisiadau polisi sy'n sail i'r gwelliant hwn i raddau helaeth yr un fath â'r rhai o ran anghymhwyso aelodau lleyg, a gafodd ei drafod yn flaenorol yng ngrŵp 6. Nid wyf i'n bwriadu ailadrodd fy mhwyntiau a wnaed yn gynharach yn fanwl, ond fe wnaf nodi, yn gryno, effaith y darpariaethau anghymhwyso ychwanegol, pe bai'r gwelliant hwn yn cael ei gytuno arno.

Ni fyddai'n bosibl penodi person yn gomisiynydd safonau os yw erioed wedi bod yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin, yn Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, yn Aelod o Senedd yr Alban, yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru neu Loegr, neu'n aelod o gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru. Ni fyddai'n bosibl penodi person yn gomisiynydd safonau tra'i fod yn aelod o gyngor cymuned yng Nghymru neu am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl peidio â bod yn aelod o gyngor cymuned yng Nghymru.

Mae hyn yn amrywio ychydig o'r darpariaethau o ran aelodau lleyg, lle mae cynghorwyr cymuned yn cael eu hanghymhwyso dim ond tra'u bod yn aelod, er ei bod yn agored i'r Senedd ymestyn unrhyw ddarpariaeth o'r fath ar gyfer aelodau lleyg mewn Rheolau Sefydlog. Mae hyn er mwyn cyd-fynd â'r cyfnod anghymhwyso o ddwy flynedd sydd wedi'i nodi ym Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 o ran swyddi eraill. Bydd cytuno ar y gwelliant hwn yn sicrhau bod meini prawf anghymhwyso'r comisiynydd safonau ac aelodau lleyg y pwyllgor safonau yn cael eu gwneud yn gydnaws â'i gilydd, cyn belled ag y bo modd. Diolch.

Does gyda fi ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes gwrthwynebiad? Na. Felly, mae gwelliant 9 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 9: Comisiynydd Safonau y Senedd: ymchwiliadau (Gwelliant 17)

Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â Chomisiynydd Safonau y Senedd ac ymchwiliadau. Gwelliant 17 yw'r prif welliant a Hannah Blythyn sy'n cynnig y gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Hannah Blythyn).

Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, ei swyddogion o Lywodraeth Cymru, a hefyd i'r swyddogion o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud i ddod â ni at y pwynt hwn heddiw?

Nod y gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i yw cryfhau gallu'r comisiynydd safonau i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol. Mae'r cynigion hyn wedi'u datblygu mewn ymgynghoriad â'r comisiynydd a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac maen nhw'n adlewyrchu materion sydd wedi codi o achosion sydd wedi'u hystyried yn diweddar, ac yn y gorffennol, yn ystod y Senedd hon a'r un flaenorol.

Ar hyn o bryd, nid yw'r comisiynydd yn gallu cadarnhau unrhyw wybodaeth am gŵyn barhaus, hyd yn oed pan fo'r wybodaeth honno eisoes yn gyhoeddus. Mae hyn yn ein gwneud yn anghydnaws â deddfwrfeydd eraill. Er enghraifft, yn Nhŷ'r Cyffredin, gall y comisiynydd gyhoeddi enwau'r Aelodau y mae ymchwiliad iddyn nhw, ynghyd â disgrifiad byr o'r mater. Byddai'r gwelliant hwn yn dod â mwy o eglurder a thryloywder i'n prosesau ni ein hunain, a byddai'n caniatáu i'r Comisiwn ryddhau gwybodaeth gyfyngedig lle bo hynny'n briodol, gan hefyd alluogi'r Senedd i bennu categorïau ar gyfer cwynion na ddylai cael eu datgelu, gan sicrhau bod y mesurau diogelu cywir yn parhau i fod ar waith.

Gan droi at foderneiddio darpariaethau cyfathrebu. Mae'r nod yma'n syml: caniatáu i ymchwiliadau ddigwydd mewn ffordd amserol ac effeithlon. Byddai'r gwelliant yn caniatáu i hysbysiadau gael eu cyhoeddi'n electronig ac i gyfweliadau gael eu cynnal trwy gyswllt fideo neu sain. Mae hyn yn adlewyrchu arferion cyfoes mewn cyrff eraill, megis Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a thribiwnlysoedd statudol amrywiol. Yn gyffredinol, mae'n rhoi mwy o hyblygrwydd i'r comisiynydd ac mae'n cefnogi dull gweithredu mwy effeithlon ar gyfer eu gwaith.

Mae'r gwelliant ynghylch gweinyddu llw cyfieithwyr yn cyflwyno pŵer i'r comisiynydd weinyddu llw cyfieithwyr wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu. Mae llw tebyg yn arfer safonol mewn llysoedd a lleoliadau ffurfiol eraill. Maen nhw'n helpu i sicrhau bod cyfieithiadau'n gywir ac yn wir. Ar hyn o bryd, pan fydd tyst yn dewis rhoi tystiolaeth dan lw mewn iaith nad yw'r comisiynydd yn ei siarad, nid oes unrhyw ffordd i roi'r cyfieithydd o dan lw. Mae'r gwelliant hwn yn cau'r bwlch hwnnw trwy ganiatáu i'r comisiynydd weinyddu llw neu gadarnhad i'r cyfieithydd ei hun. Byddai'r cyfieithydd wedyn ond yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid am gynnwys tystiolaeth y tyst. Mae hyn yn ddiogeliad pwysig a bydd yn gwella hygyrchedd i'r rhai sy'n dymuno rhoi tystiolaeth yn eu dewis iaith Diolch.

18:05

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad am gyflwyno ei gwelliant 17, a fyddai'n gwella'n fawr y ffordd y mae'r comisiynydd safonau yn cyflawni ei swyddogaethau, sydd wedi'u nodi ym Mesur safonau 2009. Mae'r newidiadau y byddai'r gwelliant hwn yn eu gweithredu, yn ychwanegol at newidiadau i'r Mesur y darparodd y Llywodraeth ar eu cyfer yn y Bil wrth ei gyflwyno, ar gais y Cadeirydd. Rwy'n nodi bod y gwelliant unigol hwn yn gweithredu pedwar o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Cadeirydd ar gyfer Cyfnod 2. Yn ystod y trafodion hynny, ymrwymais i weithio gyda'r Cadeirydd i baratoi gwelliannau y byddai modd eu cefnogi yng Nghyfnod 3. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod ni wedi gallu gwneud hynny'n gyfeillgar iawn, ac felly, rydyn ni'n cefnogi'r gwelliant hwn fel y mae wedi'i gyflwyno.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor safonau am nodi'r hyn y mae'r gwelliant yn ei weithredu, ac felly wnaf i ddim ailadrodd yr holl bwyntiau y mae hi wedi'u gwneud, ond hoffwn dynnu sylw at rai agweddau pwysig. Mae i'w groesawu bod y gwelliant yn sicrhau bod y comisiynydd safonau yn gallu cyflawni ei swyddogaethau mewn oes o dechnoleg ddigidol fodern, gan gynnwys gallu cyhoeddi hysbysiadau tystion yn electronig, casglu gwybodaeth yn electronig, a chymryd tystiolaeth gan dystion gan ddefnyddio dolen fideo a sain. Bydd hyn yn osgoi unrhyw oedi diangen a allai ddigwydd wrth i'r comisiynydd gynnal ymchwiliad.

Fel y nododd y Cadeirydd, mae'r gwelliant hefyd yn sicrhau bod y comisiynydd yn gallu gweinyddu llw i gyfieithydd, os bydd angen gwasanaethau o'r fath ar y comisiynydd wrth gymryd tystiolaeth gan dyst. Mae hyn yn ymddangos yn briodol ac yn cyd-fynd â gallu'r comisiynydd i weinyddu llw neu gadarnhad ar gyfer tystion a chyfieithwyr.

Yn olaf, mae'r gwelliant hefyd yn sicrhau bod y comisiynydd yn gallu cyhoeddi gwybodaeth gyfyngedig am ymchwiliad cyn iddo gwblhau a chyhoeddi adroddiad terfynol. Rwy'n credu bod yr adran 10B newydd, y mae'r gwelliant yn darparu ar ei chyfer, yn taro'r cydbwysedd cywir, gan ei bod yn cyfyngu ar yr wybodaeth y mae'n bosibl ei datgelu ac yn gwneud yn glir bod yn rhaid i'r comisiynydd ystyried tegwch, yr angen i osgoi niwed i berson a'r angen i osgoi rhagfarn i unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol posibl. Ni ddylid cyhoeddi gwybodaeth y byddai modd adnabod yr achwynydd ohoni, a fyddai'n datgelu tystiolaeth sydd wedi'i chasglu yn ystod yr ymchwiliad, neu a fyddai'n rhoi unrhyw arwydd ynghylch a oes sail dda i gŵyn—mesurau diogelu pwysig i ddiogelu uniondeb y broses ymchwilio. Mae'r gwelliant yn darparu ar gyfer lefel ychwanegol o dryloywder ynghylch y broses safonau, tra'n cadw cyfrinachedd priodol a sicrhau bod yna degwch o ran Aelod sy'n destun ymchwiliad, ac nad yw'r canlyniad yn cael ei ragfarnu gan ddatgeliad, ac rwy'n annog Aelodau i'w gefnogi. Diolch.

Hannah Blythyn i ymateb. Does dim ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni rhoi gwelliant 17 i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Mae gwelliant 17 wedi ei dderbyn.

18:10

Gwelliant 17. : O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 10: Comisiynydd Safonau y Senedd: darpariaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg (Gwelliannau 14, 15)

Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â Chomisiynydd Safonau y Senedd a'r ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Gwelliant 14 yw'r prif welliant. Sioned Williams sy'n cyflwyno'r gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Sioned Williams).

Diolch, Llywydd. Dywedodd Cymdeithas yr Iaith wrth y pwyllgor, yn eu hymateb i ymgynghoriad Cyfnod 1, a dwi'n dyfynnu:

'Mae Comisiynydd Safonau’r Senedd o reidrwydd yn ymwneud â materion sensitif ac mae gallu trafod y materion hynny yn Gymraeg os dyna dymuniad—neu, yn wir, angen—yr achwynydd, y sawl sy’n ymateb i honiadau, neu dystion perthnasol, yn hanfodol.'

Wrth ddadlau o blaid rhoi dyletswydd statudol ar y comisiynydd safonau o ran defnyddio'r Gymraeg—rhywbeth sydd ddim bodoli ar hyn o bryd—ychwanegodd Cymdeithas yr Iaith y byddai gwneud hynny, a dwi'n dyfynnu,

'yn symud o sefyllfa lle mae unigolion, yn enwedig achwynwyr allai fod yn fregus yn codi cwyn yn erbyn rhai o’r bobl fwyaf bwerus yng Nghymru, â’r hyder i wneud hynny fel mater o hawl yn Gymraeg, fel y dylent, nid ar ddisgresiwn ac ewyllys da y Comisiynydd Safonau o bryd i’w gilydd fel y sefyllfa cwbl ddiffygiol sydd ohoni.'

Byddem ni i gyd yn cytuno bod sefyllfa o'r fath, hyd yn oed fel ag y mae hi ar hyn o bryd, yn annerbyniol ac yn anomali, yn wir, o'i gymharu â'r hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cymharol ac mewn sefyllfaoedd cymharol yng Nghymru, hawliau mae'r Senedd hon yn briodol yn eu disgwyl gan eraill. Wrth ehangu sgôp y gyfundrefn safonau a phwerau'r comisiynydd safonau, dylem ni felly sicrhau bod ein gweinyddiaeth ni ein hunain yn gwarantu'r un egwyddorion sylfaenol.

Yn ein hadroddiad Cyfnod 1 fel pwyllgor, daethom i'r casgliad ar sail y dystiolaeth mai cam cadarnhaol ymlaen fyddai gweld swyddfa'r comisiynydd safonau yn dod yn ddarostyngedig i safonau iaith. Fe wnaethom ni argymhelliad unfrydol i'r perwyl hwn, a oedd yn cynnwys dau gam ymarferol ac allweddol y dylai'r Cwnsler Cyffredinol eu cymryd. Yn gyntaf, dywedom ni y dylai'r cwnsler ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gynnwys Comisiynydd Safonau y Senedd yn y rhestr o gyrff cyhoeddus a restrir yn Atodlen 6 i’r Mesur; ac yn ail, y dylid cynnwys Comisiynydd Safonau y Senedd mewn set o reoliadau safonau Cymraeg perthnasol. Yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor, derbyniodd y Cwnsler Cyffredinol gasgliad y pwyllgor. Ond, fel nodais i yn ystod Cyfnod 2, fe gyflwynwyd gwelliant gan y Llywodraeth oedd ond yn ymateb yn rhannol i argymhelliad y pwyllgor, gan nad oedd mesur i gynnwys Comisiynydd Safonau y Senedd mewn set o reoliadau safonau Cymraeg perthnasol.

Rwy'n ddiolchgar, felly, fod y Cwnsler Cyffredinol wedi adlewyrchu ymhellach ar y bwlch a adawyd gan welliant y Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2, a'i bod hi wedi cytuno, ar ôl trafodaethau pellach gyda Chomisiynydd y Gymraeg, i gefnogi ein gwelliant ni yng Nghyfnod 3, a fydd yn rhestru Comisiynydd Safonau y Senedd ym man priodol Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

Pwrpas gwelliant 9 yw ei gwneud yn ofynnol bod y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ystyriaeth benodol yng nghyd-destun penodiad y comisiynydd. Bydd hwn yn cyfrannu at y nod ehangach o hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn y system safonau ymddygiad yn y Senedd hon drwyddi draw, a sicrhau bod cynllunio capasiti'r system i ymateb i ddewis ac angen iaith yn digwydd yn drefnus ac yn systemataidd ar bob lefel, gan gynnwys wrth wneud penodiadau allweddol.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi mynegi yng Nghyfnod 2 y byddai hyn efallai yn atal ymgeiswyr cymwys rhag gwneud cais am rôl y comisiynydd safonau. Dwi ddim yn cytuno. Dwi’n meddwl ei fod yn bwysig pwysleisio’r angen i’r broses recriwtio sicrhau cymhwysedd yn y Gymraeg, yn enwedig o ystyried natur sensitif y rôl a'r ymchwiliadau. Os bydd y Cwnsler Cyffredinol yn dal i wrthwynebu sicrhau hyn drwy ei osod ar wyneb y Bil, yna efallai y gallai gadarnhau yn ei hymateb y bydd gallu ymgeiswyr ar gyfer y rôl yn yr iaith Gymraeg yn elfen ffurfiol o’r broses recriwtio.    

Dwi'n cytuno'n llwyr y dylai'r Senedd hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn weithredol drwy gydol y broses safonau, a dwi'n gweld pam bod yr Aelod dros Orllewin De Cymru wedi cyflwyno gwelliant 14. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd yn cadarnhau bod gan unrhyw berson a benodir yn gomisiynydd wybodaeth ddigonol am y Gymraeg a hyfedredd ynddi i arfer swyddogaethau'r comisiynydd. Ond dyw'r gwelliant ddim yn glir wrth benderfynu beth mae 'hyfedredd' yn ei olygu o ran y Gymraeg, ac nid yw'n glir sut y dylid asesu comisiynwyr. Wrth gwrs, rhaid i swyddfa'r comisiynydd fod â'r gallu yn y Gymraeg i sicrhau y gellir cynnal unrhyw gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ond mae 'hyfedredd' yn derm goddrychol, ac, felly, nid yw'n glir pa lefel o sgil neu arbenigedd y byddai disgwyl i'r comisiynydd ei gael. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl hon, y byddai Sioned Williams yn garedig iawn i egluro pa lefel o wybodaeth a hyfedredd y byddai disgwyl i'r comisiynydd ei chael a sut y byddai'n cael ei hasesu.

O ran gwelliant 15, rŷn ni'n cytuno y dylid ychwanegu Comisiynydd Safonau y Senedd at y rhestr o gyrff sy'n dod o dan Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016, ac fe fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliant yma. Diolch, Llywydd.

18:15

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gennyf ddweud, yn dilyn trafodaethau gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Safonau'r Senedd, fy mod i'n gallu cefnogi gwelliant 15 Sioned Williams, a fyddai'n cymhwyso Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016 i Gomisiynydd Safonau'r Senedd. Yng Nghyfnod 2, fel y dywedodd Sioned, nodais fod angen ystyried yn fanwl pa set o reoliadau oedd fwyaf priodol i'w defnyddio ar gyfer y comisiynydd safonau ac nad oeddwn i'n gallu cefnogi'r gwelliant yn y cyfnod hwnnw. Ar ôl cael amser ers Cyfnod 2 i ystyried hyn, ochr yn ochr â Chomisiynydd y Gymraeg, rwy'n fodlon bod rheoliadau Rhif 2 yn briodol. Rwy'n ddiolchgar am y gwaith a'r trafodaethau sydd wedi digwydd i roi'r sicrwydd angenrheidiol y bydd y gyfres gywir o reoliadau yn berthnasol.

Ochr yn ochr â'r gwelliant a gyflwynais yng Nghyfnod 2 a ychwanegodd y comisiynydd safonau at y rhestr o awdurdodau cyhoeddus y gellid defnyddio safonau'r Gymraeg mewn perthynas â nhw, mae'r Bil hwn, os cytunir ar y gwelliant hwn, yn rhoi'r cam nesaf ar waith i alluogi Comisiynydd y Gymraeg i gyhoeddi hysbysiad cydymffurfio ar ôl ymgynghori â'r comisiynydd safonau, gan sicrhau bod y rôl yn ddarostyngedig i'r safonau Cymraeg priodol. Credaf mai'r dull hwn yw'r ffordd fwyaf priodol o sicrhau bod Comisiynydd Safonau'r Senedd a'u swyddfa yn arfer eu swyddogaethau yn unol â safonau'r Gymraeg. Felly, ni fyddaf yn cefnogi gwelliant arall Sioned Williams yn y grŵp hwn, a fydd yn gofyn am hyfedredd yn y Gymraeg gan yr unigolyn sy'n ymgymryd â swydd Comisiynydd Safonau'r Senedd. Nid wyf yn credu bod angen gwelliant o'r fath, yn enwedig yng ngoleuni'r gwelliant blaenorol yr wyf wedi ymrwymo i'w gefnogi. Bydd cymhwyso rheoliadau Rhif 2 yn golygu y gall Comisiynydd y Gymraeg, ar ôl ymgysylltu â'r comisiynydd safonau, nodi a gofyn am gydymffurfiaeth ar gyfer y safonau Cymraeg priodol. Yn fy marn i, gallu'r swyddfa yn hytrach na'r unigolyn penodol i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau sy'n hanfodol, ac felly ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Nid oes gofyniad deddfwriaethol o'r fath ar waith ar gyfer rôl comisiynwyr eraill yng Nghymru, fel y comisiynydd plant, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r comisiynydd pobl hŷn, y mae gan bob un ohonyn nhw rôl llawer ehangach yng nghymdeithas ddinesig Cymru na'r comisiynydd safonau. Nodaf fod Comisiynydd y Gymraeg yn eithriad i hyn, ond mae hynny am resymau amlwg, o ystyried natur ei rôl. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid gwelliant 15 ac yn erbyn gwelliant 14. Diolch.

Diolch, Llywydd, a diolch am gyfraniadau'r Cwnsler Cyffredinol a Paul Davies.

'Hyfedredd' yw'r term arferol sy'n cael ei ddefnyddio i gyfleu rhuglder neu feistrolaeth o iaith. Mae e'n rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio, er enghraifft, yn fframwaith CEFR, o ran lefel C1 neu C2. Mae e'n rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio o fewn y cwricwlwm ac ar wefannau dysgu Cymraeg, ac yn y blaen. Felly, dwi'n meddwl bod y ddealltwriaeth o'r term yn eithaf eglur o edrych ar ddogfennau sy'n berthnasol i'r maes o ran dysgu iaith.

O ran yr hyn a oedd gan y Cwnsler Cyffredinol i'w ddweud, dwi yn meddwl, eto, ein bod ni wedi pwysleisio yn ystod y ddadl yma sensitifrwydd y materion sy'n cael eu trafod ac sy'n cael eu hystyried gan y comisiynydd safonau. Dwi'n meddwl bod gwneud yn siŵr bod rhywun sydd yn y rôl yna yn medru trafod yn y Gymraeg â phobl sy'n cael eu cymell gan y lle yma i ddefnyddio eu Cymraeg yn bwysig iawn. Fe soniodd y Cwnsler Cyffredinol, o ran y comisiynwyr eraill, nad yw e, ar wahân i Gomisiynydd y Gymraeg, yn ofyniad ar hyn o bryd i gael hyfedredd yn y Gymraeg. Wel, efallai y dylai e fod, ac efallai y gallwn ni, wrth inni nawr edrych ar rôl y comisiynydd drwy gyfrwng y Bil yma, osod marc i lawr, ac, fel rydym ni'n dweud, yn enwedig gan ei fod e'n berthnasol yn uniongyrchol i'r rôl. Efallai y byddwn i'n croesawu cael hyfedredd yn rhan o ofyniad swydd y comisiynwyr eraill hefyd, ond yn sicr o ran y rôl yma a'r hyn rŷn ni wedi ei drafod heddiw am swyddogaethau'r rôl.  

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cymerwn ni bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 14 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 14: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf yw gwelliant 15. Ydy e'n cael ei symud, Sioned Williams? 

Cynigiwyd gwelliant 15 (Sioned Williams).

Ydy, mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 15? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 15. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 15: O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 11: Rhedeg Etholiadau Senedd Cymru (Gwelliant 13)

Grŵp 11 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â rhedeg etholiadau Senedd Cymru. Gwelliant 13 yw'r prif welliant. Sioned Williams sy'n cyflwyno gwelliant 13. 

Cynigiwyd gwelliant 13 (Sioned Williams).

Diolch, Llywydd. Byddai gwelliant 13 yn gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaethau ar wahardd dichell fwriadol o fewn cyfnod o ddwy flynedd ar ôl etholiad y Senedd sydd i ddod. Yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei ddarparu yw sylfeini'r gwaith hwnnw—sylfeini pwysig, ie, ond gyda llawer o'r manylion ymarferol i'w datblygu eto. Ac rwy'n credu, o'r ddadl heddiw ac o'r dystiolaeth y gwnaethom ei chlywed yn y pwyllgor, rydym wedi deall bod deddfu yn y maes hwn yn gymhleth. Ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn glir am raddfa a brys y bygythiad sy'n wynebu ein democratiaeth heddiw, a byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant.

Diolch, Llywydd. Rwy'n deall yn llwyr y bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwn. Rydyn ni i gyd eisiau gweld cynnydd ar y mater hwn cyn gynted â phosibl, ac rydyn ni i gyd yn ymwybodol o'r risgiau democrataidd y mae datganiadau anwir yn eu chwarae o ran ein hetholiadau. Mae hefyd yn bwysig bod y rhai y byddai'r ddarpariaeth hon yn berthnasol iddyn nhw yn cael digon o rybudd ei bod yn dod i rym.

Fodd bynnag, nid wyf yn credu ei bod yn briodol gosod amserlen fympwyol ar gyfer arfer y ddyletswydd hon. Fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith yng nghyd-destun craffu ar y Bil hwn, mae'n hanfodol bod ystyriaeth ofalus a manwl yn cael ei rhoi i ddatblygu unrhyw drosedd i sicrhau ei fod yn ymdrin yn benodol â'r datganiadau rydym yn ceisio eu gwahardd. Ac eithrio etholiad cyffredinol eithriadol, mae natur unrhyw drosedd yn golygu na fyddai'n dod i rym tan etholiad cyffredinol nesaf y Senedd yn 2030. O ganlyniad, nid oes unrhyw fudd gweladwy i'r drosedd fod ar y llyfr statud ddwy flynedd o nawr, yn hytrach nag, er enghraifft, mewn tair blynedd. Dim ond risg negyddol sydd y byddwn ni'n cyfyngu'n artiffisial ar yr amser sydd ar gael i ddatblygu, asesu ac ymgynghori ar ddatblygu trosedd newydd.

Fodd bynnag, byddwn i'n ailadrodd nad yw'r diffyg terfyn amser penodol yn golygu na allai Gweinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau i fodloni'r ddyletswydd. Bydd y ddyletswydd yn dod i rym ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, pan fydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau i gyflawni'r ddyletswydd mewn modd amserol wrth baratoi ar gyfer etholiad dilynol y Senedd.

Nid yw'r ddyletswydd yn golygu bod yn rhaid i ddarpariaeth o'r math sy'n ofynnol gan adran 13(2A) gael ei chynnwys ym mhob Gorchmynion diwygio sy'n cael ei wneud o dan adran 13 yn y dyfodol, ond bydd angen bod y ddyletswydd wedi'i bodloni erbyn etholiad nesaf y Senedd ar ôl 2026, a bydd yn rhaid i ddarpariaeth o'r math sy'n ofynnol fod yn nodwedd o'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym. Byddai disgwyl i Weinidogion Cymru hefyd gydymffurfio â chonfensiwn Gould, sy'n nodi bod yn rhaid i ddeddfwriaeth etholiadol gael ei gwneud o leiaf chwe mis cyn etholiad. Ac am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi gwelliant 13. Diolch. 

Diolch. Dydyn ni ddim yn gwybod pa Lywodraeth sy'n mynd i fod mewn grym, ydyn ni? Ond rydyn ni'n gwybod bod—. Rwy'n deall o'r hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddweud y bydd yna ddyletswydd ddeufis ar ôl i'r Cydsyniad Brenhinol gael ei roi.

Rwy'n credu hefyd ein bod ni'n gweld bod angen gweithredu ar frys yma a dyna'r hyn sy'n sail i'r gwelliant hwn, oherwydd, ar draws y byd democrataidd, rydyn ni'n gweld ymgyrchoedd o gamwybodaeth yn cael eu trefnu, yn aml wedi'u cefnogi gan fuddiannau pwerus ac anatebol, fel yr ydyn ni wedi sôn amdanyn nhw yn y ddadl hon sawl gwaith ac y mae llawer o Aelodau wedi sôn amdanyn nhw, ac mae llawer iawn o adnoddau ar gael iddynt. Byddwn i'n dweud bod y grymoedd twyll hynny eisoes wrth giatiau ein democratiaeth yma yng Nghymru, a nawr yw'r amser i gryfhau'r amddiffynfeydd hynny, oherwydd os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth, rhaid i ni hefyd fod o ddifrif am amddiffyn egwyddorion gwirionedd, gonestrwydd a thryloywder yn y Senedd hon, a rhaid i'r difrifoldeb hwnnw gael ei ategu gan frys. Felly, trwy roi amserlen, er mai un mympwyol ydyw, mae'n sail i'r brys y mae'n rhaid ei weld wrth ymdrin â'r gwaith hwn. Diolch.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 13. Pleidlais ar welliant 13—agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 13 wedi'i wrthod.

Gwelliant 13: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rydyn ni nawr wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi'u derbyn. 

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.

11. Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Mae hynny'n caniatáu i ni fynd ymlaen i eitem 11, sef Cyfnod 4, a hwn yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Cyn i'r Senedd wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid pasio'r Bil, mae'n rhaid i fi nodi ar y cofnod yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nad yw darpariaethau Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn ymwneud â phwnc gwarchodedig yn fy marn i. 

Y Cwnsler Cyffredinol, felly, sy'n gwneud y cynnig ar Gyfnod 4—Julie James. 

Cynnig

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.48, yn cymeradwyo Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'n anrhydedd mawr gallu cynnig y cynnig hwn, yr wyf yn ei wneud yn ffurfiol, a phe bai cytundeb arno, byddai'n gweld y Senedd hon yn cymryd camau sylweddol i wella atebolrwydd Aelodau'r Senedd a rhoi fframwaith ar waith i gryfhau'r broses o reoleiddio ymddygiad ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd. Yn gyntaf, ac er eglurder, nawr bod cytundeb wedi bod ar welliant 3, rwy'n fodlon bod yr holl gydsyniadau sydd eu hangen gan Weinidog y Goron y DU wedi dod i law o ran y Bil hwn fel y mae wedi'i ddiwygio.

Llywydd, rhaid i mi achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl cael y Bil hwn i'r man hwn. Fel y nodais sawl gwaith yn ystod taith y Bil hwn, er mai ar ran y Llywodraeth y cyflwynais y ddeddfwriaeth hon, polisïau'r Senedd yw'r rhai y mae'n ceisio eu gweithredu. Tarddiad y darpariaethau yn y Bil hwn yw'r ddau adroddiad ar adalw a dichell fwriadol a luniwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, yr Aelodau a thîm clercio'r pwyllgor hwnnw nid yn unig am eu gwaith ar y ddau adroddiad hynny, ond am eu hymgysylltiad cynhwysfawr parhaus ar y Bil ei hun, a arweiniodd at y gwelliannau a gyflwynwyd gan y Cadeirydd ac a gytunwyd gan y Senedd yng Nghyfnod 3.

Yn ystod taith y Bil hwn, rwyf wedi ceisio dod o hyd i gonsensws ymhlith yr Aelodau ynghylch y ffordd fwyaf priodol o gryfhau ein prosesau safonau a gwella ymddiriedaeth yn ein system wleidyddol. Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r cyn Bwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau am eu gwaith diwyd yn nhrafodion Cyfnod 1 a Chyfnod 2 y Bil hwn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelodau hynny am eu hamser a'u hymgysylltiad cyn trafodion Cyfnod 3. Rwy'n arbennig o falch o fod wedi gallu cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gan Sioned Williams heddiw ac o fod wedi cyflwyno gwelliannau yn fy enw fy hun yn dilyn trafodaeth gyda Sam Rowlands ar y dull mwyaf priodol o ymdrin â'r meini prawf anghymhwyso ar gyfer Aelodau lleyg a Chomisiynydd Safonau'r Senedd. Hoffwn ddiolch i'r Comisiwn Etholiadol a'r bwrdd rheoli etholiadol am eu dull cadarnhaol o ddatblygu'r Bil hwn, ac yn arbennig am sefydlu'r goblygiadau cost posibl. Wrth i ni ddatblygu'r rheoliadau angenrheidiol i weithredu manylion system adalw, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau ei bod yn gwneud y defnydd gorau o'u harbenigedd.

Llywydd, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi ac i staff Comisiwn y Senedd am y cymorth rydych wedi'i roi ar y darpariaethau yn y Bil hwn a fyddai'n creu a rheoleiddio rôl hanfodol Aelodau lleyg mewn Seneddau yn y dyfodol, a hefyd am hwyluso'r trafodaethau gyda Chomisiynydd Safonau'r Senedd.

Mae gennym ni gyfle heddiw i sicrhau, pan fydd y seithfed Senedd yn cael ei sefydlu mewn ychydig wythnosau, ei bod yn Senedd sy'n cydnabod ac yn dangos pa mor bwysig yw atebolrwydd yr Aelodau i'r rhai sydd wedi'u rhoi nhw yma. Byddwn ni wedi rhoi system adalw ar waith sy'n rhoi'r pŵer i wneud penderfyniadau yn nwylo'r pleidleiswyr. Byddwn ni wedi cryfhau annibyniaeth y prosesau safonau, gan orchymyn penodi aelodau lleyg i'r pwyllgor safonau ymddygiad, a sicrhau y gall y comisiynydd safonau ymgymryd â'i rôl yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddwn ni wedi gosod y sylfeini i sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn cyflwyno darpariaeth i wahardd gwneud datganiadau anwir gan ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd, a byddwn ni wedi sefydlu'r dull y gall y Senedd ei ddefnyddio i ystyried a ddylid ymestyn cod ymddygiad yr Aelodau i ymddygiad ymgeiswyr. Llywydd, rwy'n credu ei bod yn nodedig y gallai un o Ddeddfau deddfwriaethol terfynol y Senedd hon fod yn un sy'n gadael y lle hwn mewn sefyllfa gryfach o lawer na phan ddaethon ni i mewn iddo am y tro cyntaf bum mlynedd yn ôl. Rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid y Bil. Diolch.

18:30

Wrth inni symud i gyfnod newydd yn hanes datganoli, lle mae ein democratiaeth ni yn aeddfedu ac yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros ei dyfodol ei hun, mae gennym gyfle pwysig iawn gyda'r Bil hwn i fynnu ac i sicrhau atebolrwydd gan y rhai sy'n cael eu hethol, neu sydd am gael eu hethol, i'r lle hwn. Dyna pam ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn gweld y Bil hwn fel cam pwysig a chadarnhaol ymlaen. Mae'n cryfhau hyder y cyhoedd yn y safonau ymddygiad yn y Senedd ac felly'n cryfhau ein democratiaeth. Mae hefyd yn ceisio atal dichell fwriadol mewn gwleidyddiaeth—cam arloesol sy'n rhoi Cymru ar y blaen. Hoffwn i dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau ein bod ni yn cyrraedd y pwynt hwn o ran hynny, yn enwedig fy nghyd-Aelod Plaid Cymru, Adam Price, sydd wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu'r syniad hwn ers cyfnod hir. 

Ond mae natur arloesol y Bil hwn o ran hynny hefyd yn dweud rhywbeth pwysig wrthym ni am yr amser rŷn ni'n byw ynddo. Os yw democratiaeth am oroesi, rhaid iddo allu amddiffyn ei hun drwy fod yn ddigon hyderus i osod safonau uchel iddo'i hun. Os ydym o ddifrif am warchod ein democratiaeth, yna mae'n rhaid i'r Senedd hon fod yn barod i weithredu gyda safonau clir, atebolrwydd go iawn a pharodrwydd i ddweud yn ddiamwys nad oes lle i dwyll na dichell mewn democratiaeth yng Nghymru. A thra bod natur arloesol y Bil yn destun dathlu, sy'n dangos y posibiliadau radical a chadarnhaol y gallwn ni eu cyflawni fel Senedd, mae hefyd yn adlewyrchu maint yr her sydd o'n blaenau ni i amddiffyn datganoli a democratiaeth. Mae'r Bil hwn felly yn gam cyntaf ac yn gosod sail gadarn i'r gwaith hwnnw, ac mae Plaid Cymru yn falch o chwarae ein rhan yn y gorchwyl hollbwysig hwnnw.

Mae cwestiwn yn wynebu democratiaethau ledled y byd nawr ac nid oes yr un ohonynt wedi ei ateb yn llawn eto. Beth ydych chi'n ei wneud pan fydd y rhai sy'n ceisio mandad y bobl yn berffaith rhydd yn gyfreithiol i dwyllo'r bobl maen nhw'n ceisio eu llywodraethu? Heno, mae Cymru yn rhoi ateb, nid gydag arweiniad, nid gyda dyhead, ond gyda chyfraith. Mae adran 22 o'r Bil hwn yn gwneud rhywbeth nad oes unrhyw ddeddfwrfa wedi'i wneud o'r blaen. Mae'n ei gwneud yn ofynnol—nid yn caniatáu, ond yn ei gwneud yn ofynnol—i Weinidogion Cymru gyflwyno rheolau, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, a fydd yn ei gwneud yn anghyfreithlon yn gyffredinol i roi anwiredd bwriadol gerbron pleidleiswyr mewn etholiad.

Nid yw'r gyfraith bresennol yn y Deyrnas Unedig ac mewn mannau eraill yn dawel; mae eisoes yn drosedd gwneud datganiadau anwir am gymeriad personol ymgeisydd. Mewn rhai awdurdodaethau, mae'n drosedd cyhoeddi hysbysebion etholiadol camarweiniol. Mewn llawer o ddemocratiaethau, mae'n drosedd dweud celwydd ynglŷn â ble, pryd neu sut i bleidleisio. Ond mae'r rhain yn ddarnau, yn ddarpariaethau cul â chwmpas cyfyngedig sydd wedi'u cyfyngu i ymylon y broblem. Nid oes unrhyw Senedd wedi'i gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth yn ôl y gyfraith wahardd anwiredd bwriadol ar draws ehangder areithiau etholiadol. Dyna'r cam y mae Cymru yn ei gymryd heno.

Ystyriwch y byd yr ydyn ni'n deddfu ynddo. Yn Marseille y mis hwn, cafodd ymgeisydd ei dargedu gan ymgyrch twyllwybodaeth gydgysylltiedig, hunaniaethau ffug, honiadau troseddol ffug, cynnwys wedi'i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial—ymgyrch ddifenwi synthetig wedi'i chynllunio i wenwyno ymddiriedaeth cyn i'r un bleidlais gael ei bwrw. Yn yr Almaen, gwnaeth mwy na 100 o wefannau a oedd yn gysylltiedig â Rwsia esgus bod yn gyfryngau cyfreithlon i ystumio etholiad ffederal. Yn Romania, cafodd etholiad arlywyddol ei ddiddymu oherwydd bod yr wybodaeth a oedd yn cyrraedd pleidleiswyr wedi cael ei llygru cymaint. Yn yr Unol Daleithiau, cafodd pleidleiswyr alwadau gan robotiaid yn defnyddio llais ymgeisydd wedi'i glonio gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn dweud wrthyn nhw i beidio â phleidleisio. Mae anwiredd bellach yn teithio'n gyflymach na gwirionedd. Mae celwydd yn rhatach na pherswâd. Mae technoleg wedi ei gwneud yn bosibl twyllo ar raddfa fawr, mewn ffordd wedi'i thargedu, ac mewn ffordd sy'n golygu ei bod yn fwyfwy anodd nodi'r gwahaniaeth rhwng twyll a realiti.

Nid yw'r hen ragdybiaeth y byddai'r farchnad syniadau yn cywiro ei hun wedi goroesi cysylltiad â'r oes sydd ohoni. Mae pob democratiaeth yn chwilio am ymateb, ond dim ond cwestiwn rhannol y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ei ofyn. Maen nhw'n gofyn sut allwn ni lanhau'r amgylchedd gwybodaeth. Rydyn ni'n gofyn rhywbeth dyfnach, rhywbeth sylfaenol: pa safon o onestrwydd sydd gan ddemocratiaeth ei hun yr hawl i ofyn amdani gan y rhai sy'n ceisio pŵer? Ac mae ein hateb yn glir: os ydych chi'n cyflwyno rhywbeth fel ffaith, gan wybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol er mwyn dylanwadu ar etholiad, nid yw hynny'n areithio gwleidyddol cyfreithlon, mae'n dwyll ar yr etholwyr.

Rhaid i ni gydnabod pryderon dilys. Bydd y manylion yn bwysig, ac mae'r Bil yn cydnabod hynny. Mae'n rhoi'r hyblygrwydd i Weinidogion Cymru a'r Senedd ddiffinio beth yw datganiad o ffaith, nodi safon y bwriad, gosod y cwmpas a'r eithriadau. Rhaid tynnu'r llinell rhwng ffaith a barn yn ofalus. Rhaid i'r drosedd fod yn gul, yn gymesur ac yn deg. Ond mae hynny'n ddadl dros gael hyn yn iawn, nid dros wneud dim byd.

Rwy'n dweud wrth y rhai sy'n amau a all Cymru arwain ar gwestiwn mor fawr â hyn, rydyn ni wedi gwneud hyn o'r blaen. Ni oedd y Senedd gyntaf yn y byd i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003. Fe wnaethon ni basio'r ddeddfwriaeth gyntaf unrhyw le yn y byd sy'n ei gwneud yn ofynnol i'n cyrff cyhoeddus ddiogelu llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn 2015. Nid yw arloesi democrataidd yn rhywbeth y mae Cymru yn dyheu amdano, mae'n rhywbeth y mae Cymru'n ei wneud. Ac rydyn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd. Mae pob plaid sydd wedi'i chynrychioli yma wedi chwarae rhan wrth gyrraedd y pwynt hwn: Peter Fox a James Evans wrth gefnogi fersiwn wreiddiol o'r cynnig hwn ar y pwyllgor, Lee Waters wrth gymryd ran yn y trafodaethau a gawsom gyda'r Llywodraeth, y cyn Gwnsler Cyffredinol a'r Cwnsler Cyffredinol presennol wrth weithio gyda ni i gyrraedd y pwynt hwn, a Jane Dodds am wneud hyn yn flaenoriaeth iddi. Ac mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers 20 mlynedd. Rydyn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd.

Nid ydym yn honni bod gennym ni bob ateb heno, ond rydym yn datgan egwyddor bod gan ddemocratiaeth yr hawl i amddiffyn ei hun rhag dichell fwriadol, ac rydyn ni'n rhoi grym y gyfraith i'r egwyddor honno. Felly, Llywydd, gadewch i ni basio'r Bil hwn, gadewch i ni ddatblygu'r model gyda'r gofal a'r cywirdeb manwl y mae'n ei fynnu, a gadewch i ni ddangos unwaith eto y gall y genedl fach hon arwain pan fo'r foment ddemocrataidd yn gofyn am hynny.

18:35

Mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands wedi gofyn i mi gofnodi ei ddiolch i gyd-aelodau o bwyllgor Bil atebolrwydd y Senedd, yn ogystal â'r Cwnsler Cyffredinol, am y ffordd gadarnhaol y maen nhw wedi ymgysylltu drwy gydol y broses hon. Dymuna hefyd ddiolch i glercod y pwyllgor, y cynghorwyr cyfreithiol, a'r holl staff sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Bil hwn.

Er bod gennym rai amheuon o hyd ynghylch rhai agweddau ar y ddeddfwriaeth hon, byddwn ni'n cefnogi'r cynnig hwn. Wrth gwrs, rydyn ni'n siomedig na chafodd ein gwelliannau eu derbyn. Ein bwriad oedd cryfhau'r Bil a sicrhau bod yna gyfle ystyrlon i'r system adalw gael ei hadolygu'n drylwyr yn y tymor seneddol nesaf. Wrth edrych yn ôl, mae'n anffodus bod y ddeddfwriaeth hon wedi'i chyflwyno mor gyflym ac mor hwyr yn yr amserlen seneddol. Yn fy marn i, fe wnaeth hyn, yn anorfod, gyfyngu ar ddyfnder y gwaith craffu ac ymgysylltu sy'n bosibl trwy broses y pwyllgorau. Er hynny, mae'n rhaid i ni weithio nawr gyda'r ddeddfwriaeth fel y mae'n sefyll.

Mae cyflwyno system adalw yn gam pwysig a hirddisgwyliedig ymlaen, un yr ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn ei groesawu'n fawr. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rydyn ni wedi bod yn pwyso am system adalw ers i'r diwygiadau i'r Senedd gael eu trafod am y tro cyntaf, ac fe wnaethon ni hyd yn oed ceisio sicrhau bod un yn cael ei rhoi ar waith wrth graffu ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Felly, rydyn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn falch o weld y mecanwaith hwn yn cael ei gyflwyno o'r diwedd.

Rhaid i'r cyhoedd allu adalw Aelodau mewn amgylchiadau lle ceir euogfarn neu gamymddwyn difrifol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer gwella atebolrwydd, ac mae'n rhybudd clir i unrhyw un sy'n ceisio tanseilio safonau democrataidd neu uniondeb y sefydliad hwn.

Rydyn ni'n cytuno ag adran 2 o'r Bil o ran safonau ymddygiad ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y pwyllgor safonau a'r comisiynydd mor gadarn ac mor effeithiol â phosibl. O ran adran 3, rydyn ni ar yr ochr hon yn cydnabod bod angen amddiffyn pleidleiswyr rhag camwybodaeth fwriadol. Fodd bynnag, fel y nododd Sam Rowlands ar ddechrau'r broses hon, mae risg o hyd y gallai'r Bil gyfyngu'n anfwriadol ar ddadl gyfreithlon a mynegiant gwleidyddol. Am y rheswm hwnnw, mae'n gwbl hanfodol bod adolygiad ôl-ddeddfwriaethol cadarn yn cael ei gynnal yn y Senedd nesaf i asesu effaith y mesurau hyn yn y byd go iawn.

Ac yn olaf, Llywydd, rwyf eisiau pwysleisio pwysigrwydd y Bil hwn wrth wella atebolrwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru. Er ein bod ni'n gefnogol, ar yr un pryd mae'n bwysig bod unrhyw system newydd yn gymesur, yn ymarferol ac yn gallu cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd. Amser a ddengys a fydd y ddeddfwriaeth hon yn llwyddo i gryfhau atebolrwydd gwleidyddion yma yng Nghymru. Diolch.

18:40

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau dweud am y tro olaf fy mod i'n croesawu'n fawr yr holl sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan yr Aelodau heddiw, a'r ffordd y maen nhw wedi'u gwneud. Yn ddi-au, mae hon yn ddeddfwriaeth arloesol. Nid dyma'r tro cyntaf ac nid dyma'r tro olaf y bydd y Senedd yn creu record byd yn ei deddfwriaeth arloesol. Yn bersonol, rwy'n falch o'r ffaith ein bod ni wedi llwyddo i lunio'r Bil fel ag y mae. Hoffwn ddiolch yn arbennig i dîm y Bil, y swyddogion sydd wedi gweithio'n hollol ddiflino a di-baid y tu ôl i'r llenni i fy helpu i gael y Bil i'r pwynt lle'r ydyn ni wedi cael consensws i raddau helaeth ar draws y Siambr, sy'n rhywbeth nad oeddwn i wir yn credu y byddwn i'n ei ddweud yn sefyll yma heddiw. Mae'n foment bwysig iawn i Lywodraeth Cymru ei bod wedi llwyddo i gael y ddeddfwriaeth hon i'r fan hon, ond yn fwy felly i Senedd Cymru, y Senedd, sydd wedi cryfhau ei systemau, ar gyfer safonau ac ar gyfer adalw, ac wedi cymryd y cam arloesol i gychwyn y broses o wneud dichell fwriadol yn drosedd, a fydd yn hollol sylfaenol i wleidyddiaeth Cymru yn y seithfed Senedd. Llywydd, rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i'n annog Aelodau i basio'r Bil hwn. Diolch.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Bydd y bleidlais ar y cynnig yma yn cael ei chymryd yn ystod y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Dadl: Cyfnod Adrodd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Eitem 12 sydd nesaf, y Cyfnod Adrodd ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). 

Grŵp 1: Cymhwyso’r Ddeddf i achosion arbennig (Gwelliannau 1, 2)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau ar yr eitem yma yn ymwneud â chymhwyso'r Ddeddf i achosion arbennig. Yr Ysgrifennydd Cabinet sydd yn cyflwyno'r gwellianau yma. 

Cynigiwyd gwelliant 1 (Mark Drakeford).

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod erbyn hyn, yn ystod trafodion Cyfnod 3, ni chafodd un o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth ei roi i bleidlais. Felly, diben y trafodion heddiw yw sicrhau y gall y Senedd benderfynu ar y gwelliant hwnnw yn y modd arferol. 

Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ailadrodd gwelliannau 76 a 78 a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3. Maen nhw'n rhan allweddol o becyn o welliannau y cytunwyd arnynt yn flaenorol i gryfhau'r darpariaethau yn y Bil i wneud rheoliadau o ran trosglwyddo safleoedd a busnesau sydd erbyn hyn yn adran 50, ac sy'n ymdrin yn y bôn â throsglwyddo busnes darparwr llety ymwelwyr fel busnes gweithredol.

Mae gwelliant 1 yn ailadrodd ac yn disodli gwelliant 76, fel y'i cyflwynwyd yng Nghyfnod 3. Mae'n mewnosod paragraff newydd yn adran 50(2) er mwyn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth bod modd i'r ddarpariaeth ym mharagraffau presennol (a) i (e) gael ei gwneud mewn rheoliadau o dan is-adran 1. Mae hyn hefyd yn gosod y cyd-destun ar gyfer y materion sydd wedi'u cynnwys yn y paragraffau hynny, sef eu bod yn ymwneud â throsglwyddo safle lle mae llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu. Mae gwelliant 2 yn ailadrodd ac yn disodli gwelliant 78, fel y'i cyflwynwyd yng Nghyfnod 3. Mae'n fân welliant technegol, o ganlyniad i welliant 1, sy'n ymdrin â'r angen am groesgyfeiriad ym mharagraff (3)(a).  

Llywydd, hoffwn gofnodi fy niolch i'r rheini ledled y Senedd, gan gynnwys chi eich hun, y Trefnydd, y clercod a'r staff cymorth, sydd wedi gweithio'n gyflym i sicrhau ein bod ni'n gallu datrys y mater hwn ar fyr rybudd iawn, ac, wrth gwrs, i Aelodau'r Senedd, sydd wedi sicrhau bod modd i'r trafodion ddigwydd heddiw. Gofynnaf i chi nawr gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.

Ar gyfer y cofnod, dydw i ddim yn credu bod angen diolch i mi o ran y mater penodol hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

18:45

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Drakeford).

A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 2? Nac oes. Felly, mae gwelliant 2 hefyd wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyna ni. Dyna ddiwedd ein hystyriaeth ar y Cyfnod Adrodd o'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.

13. Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi

Dyna'r Cyfnod Adrodd yn dod i ben ar y Bil yna, sy'n ein caniatáu ni i symud ymlaen i'r Cyfnod 4 ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Yn gyntaf, mae'r—. Na, nid Cyfnod 4. Yn gyntaf, mae angen yr hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi, a'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig yr hysbysiad yma—Mark Drakeford.

Llywydd, mae gennyf orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin i hysbysu'r Senedd fod Ei Fawrhydi, ar ôl cael gwybod am ddiben y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), wedi rhoi ei gydsyniad i'r Bil hwn.

14. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Mae hynny'n ein caniatáu ni nawr i symud i Gyfnod 4 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Felly, cyn i'r Senedd wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid pasio'r Bil, mae'n rhaid i fi nodi ar gofnod, yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nad yw darpariaethau'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, yn fy marn i. Wedi dweud hynny nawr, fe allaf i alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig o dan Gyfnod 4. Mark Drakeford.

Cynnig

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.48, yn cymeradwyo'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Fe hoffwn i ddechrau drwy roi ar y cofnod fy niolch i bawb fu â rhan yn natblygiad a hynt y Bil hwn drwy'r Senedd. Mae'r broses graffu ar gyfer y Bil hwn wedi bod yn drylwyr ac yn heriol. Diolch i Gadeiryddion, Aelodau a staff cymorth y tri phwyllgor am fynd ati mor ofalus a phwyllog ac am eu hargymhellion adeiladol yng Nghyfnod 1, gan gynnwys swyddogaeth y Senedd yn y dyfodol wrth ystyried yr is-ddeddfwriaeth a'r canllawiau sydd i'w gwneud o dan y Bil hwn, yn ogystal â'i weithredu a'i adolygu.

Mae'r Bil wedi cael ei wella'n sylweddol drwy'r gwelliannau a wnaed mewn ymateb i argymhellion pwyllgorau ac i faterion a godwyd gan gynrychiolwyr y sector ac Aelodau'r Senedd. Er enghraifft, mae trefniadau ar gyfer trwyddedau dros dro bellach wedi'u nodi ar wyneb y Bil a bydd y cynllun trwyddedu yn gallu darparu ar gyfer trosglwyddiadau pan fo darparwr yn marw neu pan fo mangre neu fusnes yn cael ei werthu. Bydd y Bil nawr yn ei gwneud hi'n haws i Lywodraeth y dyfodol gynnwys ystafelloedd sbâr yn y cynllun trwyddedu, os yw hynny'n rhywbeth y mae'n dymuno ei gyflwyno. Mae gennym ni bellach amod trwyddedu sy'n ymwneud â niwsans, a fydd yn helpu i leihau'r effeithiau negyddol ar gymdogion rhai llety ymwelwyr, yn enwedig mewn ardaloedd preswyl. Ac yn olaf, rydym ni wedi egluro'r gofynion hysbysebu a marchnata ar gyfer llwyfannau trydydd parti, sydd wedi'i groesawu gan gynrychiolwyr y sector.

Llywydd, mae'r newidiadau hyn yn dangos y gwerth cadarnhaol sgwrs adeiladol wrth sicrhau bod y ddeddfwriaeth a wnawn yn y Senedd hon mor dda ag y gall fod. Yn yr ysbryd hwnnw, fe hoffwn i estyn diolch yn arbennig i Luke Fletcher, Sam Kurtz, Rhys ab Owen a Jenny Rathbone am eu rhan wrth sicrhau bod y gwelliannau yr wyf newydd eu rhestru yn cael eu hadlewyrchu yn fersiwn derfynol y Bil hwn. Rwy'n diolch hefyd i'r rhai sydd wedi ymgysylltu â'r Llywodraeth ar ran y sector twristiaeth yng Nghymru. Maen nhw wedi helpu sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cefnogi'r rhai yn y sector sydd wedi ymrwymo i ddiwydiant twristiaeth o ansawdd uchel a chynaliadwy, gan ar y llaw arall adnabod, annog a, lle bo angen, dwyn i gyfrif y gweithredwyr hynny nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau gofynnol.

Bydd y ddeddfwriaeth hon, ar y cyd â Deddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) ac ati (Cymru) 2025, yn sicrhau bod twristiaeth Cymru yn cadw ei henw da byd eang a bod ein heconomi ymwelwyr yn parhau i dyfu mewn ffordd sy'n cefnogi ac yn gwella'r cymunedau hynny y mae'n dibynnu arnyn nhw.

Yn olaf, Llywydd, fel y soniais i yr wythnos diwethaf, rwy'n arbennig o falch y bydd pasio'r Bil hwn yn dwyn ffrwyth, yn ystod yr wythnosau olaf hyn o dymor y Senedd, ac rwy'n ei gymeradwyo i'r Senedd.

18:50

Fe wnaf ddechrau trwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am weithio gyda ni trwy gydol y Bil hwn, o'i gychwyn yn y cytundeb cydweithio hyd heddiw. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddfa wedi bod yn gyflym i ymgysylltu a wastad wedi bod yn barod i drafod a chydweithio, i wneud yn siŵr bod y Bil hwn yn adlewyrchu'r hyn mae arnom ni i gyd eisiau ei weld ar gyfer datblygiad ein diwydiant twristiaeth, sef ei fod yn gweithio i'r sector ac yn gweithio i'n cymuned. Byddwn hefyd yn estyn fy niolch i dîm Plaid Cymru, a wnaeth lawer o waith ar y Bil hwn. Mae tri ohonyn nhw ar fy ochr chwith i, ond hefyd i fyny yn swyddfa grŵp y Blaid, Gwion Jones a Kiera Marshall—Kiera yn codi hyn hanner ffordd trwy fywyd y Bil pan ddaeth yn ôl o fod ar gyfnod mamolaeth.

Nawr, fel yr wyf wedi nodi yng nghamau blaenorol y Bil hwn, mae twristiaeth yn rhan annatod o economi ein gwlad ac felly mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gennym ni safonau uchel ar draws y sector, yn ogystal â gwneud yn siŵr ei bod yn gweithio gyda'n cymunedau ac nid yn eu gwrthwynebu. Mae'r ddwy gred hyn wedi bod yn greiddiol i'n gwelliannau a'n trafodaethau dros y mis blaenorol. Rydym ni'n hapus bod y gwelliannau hyn wedi pasio a bod y Senedd yn cydnabod pwysigrwydd ein cymunedau yn y mater hwn, yn ogystal â'r ffaith y gall ein gwelliannau hefyd helpu i gael gwared ar y bobl amheus hynny yn y sector.

Mae'n bwysig hefyd nodi'r teimlad cyffredinol o gydweithredu a adlewyrchwyd, rwy'n credu, yn y ddadl yng Nghyfnod 3, gan ddangos bod awydd gwirioneddol i wella ein llety ymwelwyr a phrofiad ymwelwyr, ac mae aeddfedrwydd y ddadl honno drwyddi draw wedi ei chroesawu. Fel y dywedais i, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau safonau uchel yn y sector ac y gallwn ni wella profiadau pobl sy'n ymweld â'n gwlad ac adeiladu ar y gwaith anhygoel y mae pobl ledled y diwydiant yn ei wneud o ddydd i ddydd. Nawr, rwy'n credu bod y Bil hwn yn gwneud hynny ac mae'n rhoi sylfaen wych i ni ei wella ymhellach. Edrychaf ymlaen at weld sut mae'r Llywodraeth nesaf yn adeiladu ar y gwaith hwn.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yng nghyfnod olaf y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety i Ymwelwyr (Cymru). Mae'r sector twristiaeth yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru. Mae'n cynhyrchu 5.1 y cant o werth ychwanegol gros Cymru, tua £3.8 biliwn, ac yn cefnogi dros 11 y cant o swyddi. Mae hynny'n gyfraniad enfawr ac mae lle iddi wneud cymaint mwy. Yn 2024 gwariant ymwelwyr yn sir Benfro oedd £639 miliwn. Ar gyfer yr un flwyddyn, gwariant ymwelwyr ar gyfer Cernyw oedd £2 biliwn; Dyfnaint, £2.3 biliwn; ac yn Cumbria, £4.6 biliwn. Gallai sector twristiaeth Cymru fod yn gwneud cymaint mwy i helpu ein heconomi i dyfu pe bai'n cael yr amgylchedd cywir i wneud hynny.

Mae'r sector wedi bod o dan bwysau gwirioneddol ers y pandemig. Mae chwyddiant a'r costau byw cynyddol yn ychwanegu straen pellach, a hynny cyn i unrhyw effaith y rhyfel yn y dwyrain canol gael ei theimlo'n llawn. Yna mae'r blinder deddfwriaethol y bydd y sector yn ei deimlo, o ystyried y buont yn derbyn rheolau a rheoliadau newydd trwy gydol y tymor hwn yn y Senedd. Nawr mae angen amser ar y sector i anadlu, a lle i wneud yr hyn y mae'n ei wneud orau, gan groesawu pobl i'n gwlad, rhoi profiad cadarnhaol iddyn nhw a gadael atgofion hapus o Gymru i ymwelwyr.

Fe hoffwn i ddiolch ar goedd am y ffordd adeiladol a chydweithredol y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymgysylltu â mi trwy gydol y broses hon. Er nad oedd llawer o'm gwelliannau yng Nghyfnod 2 wedi'u derbyn, maen nhw wedi dylanwadu ar y newidiadau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3, ac mae'r Bil yn well o'r herwydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Luke Fletcher a Rhys ab Owen am y ffordd adeiladol rydym ni wedi gweithio gyda'n gilydd fel gwrthbleidiau i wella'r ddeddfwriaeth hon. Ac yn olaf diolch i Gymdeithas Broffesiynol yr Hunan-Arlwywyr, Airbnb ac eraill sydd wedi gweithio'n galed i gynrychioli barn y sector trwy gydol hynt y Bil. Rhaid diolch hefyd i dîm clercio a chyfreithiol y Senedd am eu cefnogaeth ac i Tom Livesey yn swyddfa grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.

Llywydd, nid yw'r Bil yn berffaith, ond fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, diolch i graffu a gwelliannau, mae'n llawer gwell na'r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol, a dylid croesawu hynny. Felly, er bod amheuon o hyd, yng ngoleuni'r cynnydd a wnaed a'r datblygiadau ar faterion allweddol rydym ni wedi'u codi, gallaf gadarnhau y byddwn yn cefnogi'r Bil yn ei gyfnod terfynol. Diolch.

Roeddwn i'n falch iawn o glywed y datganiad olaf yna rŵan i ni gael consensws yn y Senedd yma ar gyfer y Bil pwysig yma. Fe fydd y gofrestr llety ymwelwyr newydd fydd yn dod i fodolaeth o hydref eleni yn rhoi darlun clir i ni o'r sector twristiaeth yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf erioed. Mae'r Bil yn rhan o becyn o fesurau sydd wedi eu cymeradwyo gan y Senedd yma, sy'n golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru ystyried effaith gymdeithasol twristiaeth, ynghyd â'r effaith economaidd dŷn ni i gyd yn gwybod amdano fo. Ond mae'r effaith gymdeithasol hefyd angen cael ei ystyried, ynghyd â'r effaith y gallai twristiaeth gael ar yr amgylchedd a'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg. Hynny ydy, mae pasio'r Bil yma a'r pecyn o fesurau yn ein symud ni tuag at sefyllfa lle mae modd i'r dyfodol greu cydbwysedd derbyniol rhwng anghenion cymunedau ac anghenion y diwydiant ymwelwyr, a dyna ydy craidd twristiaeth gynaliadwy.

Mi fydd y gofrestr yn ffynhonnell ddata pwysig i ni ar gyfer y dyfodol i bawb fydd yn ymwneud efo creu polisi, i sicrhau cynnal yr egwyddor bwysig yma o dwristiaeth cynaliadwy, ac mi fydd o hefyd wrth gwrs yn hwyluso'r ffordd ar gyfer yr ardoll ymwelwyr. Yn ogystal, drwy gyflwyno cyfundrefn drwyddedu sy'n canolbwyntio ar lety hunanarlwyo i ddechrau, fe fydd y ddeddfwriaeth newydd yn ceisio sicrhau bod safon y llety hwnnw yn cyd-fynd yn agosach â'r safonau cyfatebol sydd eisoes yn gymwys i'r sector rhentu preifat.

Roeddwn i'n falch iawn o weld gwelliant Luke Fletcher yn cael ei dderbyn. Mae angen rhoi llais i bobl leol sydd yn dioddef gwahanol fathau o amharu ar eu bywydau gan ymwelwyr sydd ddim bob tro yn ystyriol o'r bobl sydd yn byw yn barhaol yn y cymunedau lle mae twristiaeth yn flaenllaw.

Ysgrifennydd Cabinet, dwi yn diolch i chi am y cydweithio adeiladol fu ar y gwelliant, ond hefyd ar y Bil yma'n gyffredinol, ac am yr holl fesurau cysylltiedig sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn ystod oes y chweched Senedd yma drwy'r cytundeb cydweithio. Mi fyddan nhw yn gwneud gwahaniaeth i gynnal cymunedau, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r iaith Gymraeg yn gryf. Diolch yn fawr.

18:55

Mae wedi bod yn braf cydweithio unwaith eto gyda chyfreithwyr a chlercod y Senedd, gyda PASC, a hefyd gyda'r Ysgrifennydd Cabinet a'i dîm, sydd wedi ymdrechu nid yn unig i wrando, ond i weithredu ar y cyd i wella'r Bil. Pa well dystiolaeth o hynny na'r ffaith fod Aelodau a'r Llywodraeth wedi cefnogi gwelliannau yn fy enw i yn ystod Cyfnodau 2 a 3, a gweithredu ar fy sylwadau i a sylwadau Samuel Kurtz yn y pwyllgor i ddod â newidiadau llwyddiannus gerbron y Senedd wythnos diwethaf? Felly, diolch yn fawr i chi am hynny.

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod fy mod i'n gryf o'r farn nad ydy'r Bil yma wedi mynd yn ddigon pell i sicrhau bod gwahanol fath o ddarparwyr llety yn cael eu trin yn gyfartal. Yn benodol, dwi'n meddwl ei fod e'n siomedig na fydd y system drwyddedu yn cynnwys rhai defnyddwyr Airbnb. Dwi'n cytuno gyda Travel Chapter a Sykes Holiday Cottages fod llofftydd sbâr yn fwy o risg na darparwyr llety traddodiadol. Mae'r rhai sydd wedi gwneud arian trwy lofftydd sbâr yn yr Alban yn gorfod cael trwydded, ac er fy mod i'n cydnabod bod Holyrood wedi creu deddfwriaeth wahanol iawn i'r Bil rŷn ni'n ei drafod heddiw, mae'n siomedig nad ydym ni wedi gallu adeiladu ar eu gwaith nhw ac felly sicrhau gwell cydraddoldeb ymysg y sector o'r diwrnod cyntaf. Er hynny, dwi'n cydnabod y gwaith a'r ymdrech y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud yn ystod Cyfnod 3 i symleiddio'r llwybr i gynnwys llofftydd sbâr yn y dyfodol, a dwi'n gobeithio y bydd y Senedd nesaf yn edrych yn ddifrifol ar hynny. 

I orffen, fel mae'r Aelodau oedd yn bresennol yng Nghyfnod 2 yn ymwybodol, dwi o'r farn bod modd i ni wneud camau hyd yn oed yn bellach i gryfhau'r sector dwristiaeth yng Nghymru, fel, er enghraifft, gwneud Croeso Cymru yn gorff annibynnol a mynd i'r afael â'r ffaith fod darparwyr llety yn colli arian i blatfformau bwcio rhyngwladol. Ond dwi'n gobeithio bod y gwaith o gefnogi’r sector yn mynd i barhau nawr yn y Senedd nesaf, a'n bod ni wedi cymryd cam pwysig i'r cyfeiriad hwnnw heddiw. Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn glou, a gaf i ddweud 'diolch' i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ac at ddatblygiad y Bil? Gaf i ddweud gair o ddiolch yn enwedig i Siân Gwenllian am y gwaith roedd hi wedi'i wneud pan oedd y Bil yn cael ei ystyried yn wreiddiol, pan oeddem ni'n datblygu'r syniadau sydd o flaen y Senedd y prynhawn yma, ac am y pwyntiau mae Siân wedi eu gwneud y prynhawn yma?

Mae'r Bil yn rhan o becyn o bethau rŷn ni wedi eu gwneud yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'n cyd-fynd â'r Ddeddf sydd ar y llyfr statudol yn barod, ac mae'n rhan o'r pethau ehangach rŷn ni wedi eu gwneud i warchod yr iaith Gymraeg yn y cymunedau yn y cadarnleoedd.

A phwrpas cydymaith y Bil hefyd, sicrhau bod y cymunedau hynny'n cael ystyriaeth ofalus yn y gwaith a wnawn, yw'r ffaith, fel y dywed y Bil, ei fod yn ymwneud â chefnogi datblygiad twristiaeth yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r rhai yn y diwydiant yn y blynyddoedd i ddod wrth i'r ddeddfwriaeth hon gael ei gweithredu.

Ac mae llawer iawn i'w wneud, Llywydd. Mae is-ddeddfwriaeth i'w gwneud, canllawiau i'w datblygu, systemau, prosesau, hyfforddiant a chymorth newydd i'w cyflwyno. Yn hynny i gyd, byddwn yn dibynnu ar waith caled Croeso Cymru, Awdurdod Refeniw Cymru a'n partneriaid awdurdodau lleol, sydd â rhan mor hanfodol wrth wneud i'r fframwaith deddfwriaethol newydd hwn lwyddo.

Fe hoffwn i ddiolch yn olaf, fel y gwnaeth Julie James yn gynharach y prynhawn yma, i'r tîm o weision sifil sy'n gefn i bob Gweinidog sy'n siarad ar lawr y Siambr hon ac sy'n gweithio mor galed i wneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth sy'n dod o flaen yr Aelodau yma mor dda ag y gall fod. Maen nhw wedi bod yn rhagorol yn y gwaith maen nhw wedi'i wneud ar y Bil hwn, nid yn unig y Bil fel y'i cyflwynwyd yn wreiddiol, ond, fel y dywedodd Aelodau eraill y prynhawn yma, o ran pa mor gyflym maen nhw wedi gallu fy helpu i ymateb i'r awgrymiadau niferus ar gyfer gwelliannau sydd wedi dylanwadu ar y Bil hwn trwy'r holl broses graffu. Ac unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i ddod â'r Bil hwn i'r cyfnod olaf yn ei daith ddeddfwriaethol.

19:00

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

15. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)

Eitem 15 sydd nesaf, y ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) yw hwn. Cyn cychwyn—

—Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y mater hwn yn destun achos adolygiad barnwrol ar hyn o bryd ac felly mae Rheol Sefydlog 13.15 yn berthnasol. Mae'r Rheolau Sefydlog yn glir na ddylai'r rheol is-farnwriaeth olygu na all y Senedd ddeddfu neu y dylid atal y broses o ddeddfu.

Gofynnwyd i mi am gyngor pellach o ran adrodd yn y cyfryngau ynghylch cyngor gweinidogol mewn perthynas â'r Bil hwn. Yn unol â Rheol Sefydlog 13.15 a'r canllawiau ar gynnal trafodion y Senedd yn briodol, mae darpariaethau is-farnwriaeth yn dal i fod yn berthnasol mewn perthynas â'r achosion adolygiad barnwrol eu hunain. Fodd bynnag, yn y ddadl hon, gallaf ganiatáu cyfeiriadau at y cyngor gweinidogol fel yr adroddwyd. Cynghorir yr Aelodau i fod yn ofalus a pheidio â gwneud sylwadau'n uniongyrchol ar y trafodion, na gwneud unrhyw sylwadau am rinweddau neu beth fydd neu beth ddylai fod canlyniad yr achos.

 hynny mewn golwg felly, dwi'n galw ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig o dan Cyfnod 4— Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9221 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 19:04:14
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser mawr gen i gyflwyno'r cynnig yn y Senedd heddiw yng Nghyfnod 4 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).

Mae hon yn ddeddfwriaeth y bu disgwyl mawr amdani, y bu cefnogaeth gref iddi, ac sy'n hanfodol i gyflawni'r safonau lles anifeiliaid y mae pobl Cymru yn eu disgwyl.

Mae teimlad y cyhoedd a rhanddeiliaid wedi bod yn glir ac yn gyson ac yn rymus. Mae miloedd o bobl wedi siarad trwy ymgyrchoedd, deiseb a thystiolaeth bersonol, gan rannu eu pryderon am les milgwn a ddefnyddir i rasio. Mae eu neges wedi bod yn ddigamsyniol: mewn Cymru fodern, dosturiol, ni ellir cyfiawnhau'r peryglon a'r niwed sy'n gysylltiedig â rasio milgwn mwyach.

Er gwaethaf ymdrechion yn y diwydiant, mae anafiadau a marwolaethau a chanlyniadau gwael ar ôl rasio yn parhau. Felly, mae'r Bil hwn yn adlewyrchu ein cyfrifoldeb moesegol i weithredu ac mae wedi'i wreiddio'n gadarn yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i les anifeiliaid. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn mynd i'r afael â'r broblem yn ei gwraidd. Trwy wahardd rasio milgwn yng Nghymru yn uniongyrchol, mae'n dileu'r amgylchedd lle mae niwed y gellir ei osgoi yn parhau i ddigwydd. Mae'n atal parhau arfer nad yw'n cyd-fynd â'n gwerthoedd mwyach. Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n drosedd i rywun sy'n rhedeg stadiwm neu leoliad tebyg yng Nghymru ei ddefnyddio neu ganiatáu yn ymwybodol iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer rasio milgwn, neu i rywun fod yn rhan o rasio milgwn trefnedig sy'n digwydd yng Nghymru neu y bwriedir iddo gael ei gynnal yng Nghymru. Mae'n cynnwys diffiniad clir o rasio milgwn, ac mae'r troseddau yn cael eu cefnogi gan fecanweithiau gorfodi ymarferol y mae modd eu gweithredu.

Mae ffenestr tair blynedd ar gyfer cychwyn y ddeddfwriaeth wedi'i chynnwys i sicrhau pontio cyfrifol a rheoli'n dda. Mae'n rhoi amser i'r diwydiant ddod â'i weithgareddau i ben, yn cryfhau trefniadau ailgartrefu ar gyfer milgwn sy'n ymddeol, yn sicrhau bod cyrff gorfodi ac awdurdodau lleol wedi'u paratoi'n llawn ac yn caniatáu inni ddarparu'r gefnogaeth gywir i gymunedau lleol wrth i'r newidiadau ddod i rym. Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau yn darparu eglurder, gan ganiatáu i weithgarwch rasio presennol ddirwyn i ben mewn ffordd a reolir yn dda ac yn gyfrifol cyn i'r gwaharddiad ddod i rym.

Trwy'r Bil hwn, rydym yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynnal y safonau uchaf o les anifeiliaid, gyda'r ddeddfwriaeth gywir i gynnal y safonau hynny. Fe hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon: Aelodau'r Senedd o bob barn, ond gan gynnwys yn enwedig y rhai sydd wedi hyrwyddo lles milgwn ers cymaint o amser, a'r pwyllgorau, y rhanddeiliaid, yr ymgyrchwyr a'r unigolion niferus sydd wedi rhannu eu harbenigedd a'u craffu a'u profiad byw yn hael. Rwy'n fodlon bod gennym ni Fil o'n blaenau sydd wedi elwa o'r safbwyntiau cyfunol a gyflwynwyd i ni, Bil sy'n glir ac yn gymesur ac y mae modd ei gyflwyno. Mae arnaf i hefyd eisiau diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r grŵp gweithredu. Mae disgwyl i'w gwaith barhau a bydd yn hanfodol wrth lywio'r trawsnewidiad ac wrth liniaru effeithiau posibl. Bydd ganddyn nhw le hanfodol wrth ddiogelu lles, cefnogi'r sectorau yr effeithir arnyn nhw a'n helpu i sicrhau diweddglo diogel a chyfrifol i weithgarwch rasio pe bai'r Bil yn cael ei basio heno. Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd, i gyfreithwyr y Senedd ac i staff y Comisiwn am eu proffesiynoldeb drwy gydol y broses hon. Ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'm swyddogion, arbenigwyr polisi, drafftwyr cyfreithiol ac eraill mewn tîm bach iawn am eu proffesiynoldeb a'u harbenigedd a'u hagwedd gadarnhaol. Rydw i wedi cael fy mendithio gan bobl gadarnhaol, sef y fendith fwyaf y gall unrhyw Weinidog y Llywodraeth ei chael.

Yn olaf, diolchaf eto i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol ac y mae eu hymgysylltiad yn bendant wedi cryfhau'r Bil. Mae dau welliant wedi'u gwneud ers cyflwyno sy'n gwella eglurder ac yn atgyfnerthu hyder wrth gyflawni. Mae llawer o Aelodau o bob plaid wedi ymgyrchu dros y newid hwn ers blynyddoedd lawer ac fe hoffwn i gydnabod a thalu teyrnged i'r ymrwymiad hwnnw.

Felly, rwy'n annog pob plaid yn y Senedd i gefnogi'r Bil hwn heddiw. Mae'n dangos bod Cymru'n genedl flaengar, wedi'i ymrwymo i safonau moesegol, lles anifeiliaid a deddfwriaeth flaengar, gan gryfhau enw da Cymru fel gwlad sy'n arwain ar safonau lles anifeiliaid. Diolch.

19:05

Gaf i hefyd ategu'r diolchiadau i bawb sydd wedi bod ynghlwm â'r ddeddfwriaeth yma, yn enwedig clercod y pwyllgor diwylliant a'r tîm cyfreithiol, y tîm ymchwil hefyd, a thîm ymchwil grŵp Plaid Cymru, wrth gwrs, sydd wedi cefnogi sawl Aelod o'r grŵp yma, a dweud y gwir, yng nghwrs y trafodaethau ar y Bil yma? Ac fel rhai o'r pleidiau eraill yn y Siambr yma, bydd gan Aelodau Plaid Cymru bleidlais rydd ar y mater yma.

Dwi jest eisiau dweud ar y dechrau bod pob Aelod o'r Senedd yma yn teimlo'n gryf ynglŷn â lles milgwn. Dyw hynny ddim yn cael ei gwestiynu. Y pwynt dwi wedi ei wneud yn gyson yng nghwrs cynnydd y Ddeddf yma yw bod y sail moesegol cryf yna mae nifer o bobl wrth gwrs yn ei ddal, dyw hynny ar ben ei hun, wrth gwrs, ddim o reidrwydd yn mynd i roi deddfwriaeth dda i chi.

Fe wyddom ni fod yn rhaid i ddeddfwriaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur ac yn effeithiol, ac, ar yr achlysur hwn, fe wnaeth y pwyllgor ein hatgoffa yng Nghyfnod 1, ac eraill yng Nghyfnodau 2 a 3, y bu cryn herio ar y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Bil hwn. Yn sicr, o'm safbwynt i, mae'r ansicrwydd hwnnw wedi tanseilio fy hyder yn y darn hwn o ddeddfwriaeth. Nawr, o ran y data, derbyniodd y pwyllgor, fel y gwyddom ni, dystiolaeth helaeth a chyferbyniol ar les o fewn y diwydiant rasio—cynrychiolwyr y diwydiant, ar y naill law, ac elusennau lles anifeiliaid, ar y llaw arall, yn herio ffigyrau ei gilydd dro ar ôl tro, a'r Llywodraeth yn cael ei thynnu i mewn weithiau i'r ddadl.

Nawr, fe ddylai'r Llywodraeth fod wedi cynnal gwerthusiad trylwyr o'r data hwnnw cyn penderfynu deddfu. Yn hytrach, wrth gwrs, cyflwynwyd y Bil heb y sylfaen dystiolaeth gadarn honno, a nawr, fel y clywsom ni gyfeiriad ato yn gynharach, rydym ni'n dysgu bod cyngor gweinidogol a gyhoeddwyd y diwrnod cyn i'r penderfyniad i wahardd rasio milgwn gael ei gyhoeddi yn dweud cymaint wrthym ni, mewn gwirionedd. Dim ond i ddyfynnu, ac mae hyn yn y parth cyhoeddus:

'Byddai ymrwymo i waharddiad graddol, yn awgrymu bod gennym ni dystiolaeth sy'n cefnogi'r angen am waharddiad ar sail lles,'

meddai'r dystiolaeth a ddarparwyd i'r Gweinidog.

'Fodd bynnag, nid oes gennym y dystiolaeth hon heb adolygiad cynhwysfawr o safonau lles a materion canfyddedig.

'Nid ydym ni wedi ymgynghori ar osod gwaharddiad graddol, nag ar hyd a lled perchnogaeth milgwn nac arferion bridio, hyfforddi a rasio yng Nghymru.

'Efallai y bydd angen i ni ymgymryd ag ymarfer o'r fath er mwyn cael mwy o ddata i gefnogi datblygiad polisi a mesurau priodol i weithredu gwaharddiad graddol.'

Yn seiliedig ar—[Torri ar draws.] Na, wnaf i ddim. Mae'r rhain yn sylwadau terfynol, ac rydw i'n mynd i wneud y pwynt, ac yna byddaf yn eistedd i lawr.

'Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael,'

meddai'r cyngor,

'gan gynnwys yr ymgynghoriad a'r dadansoddiad diweddar',

mae swyddogion y Swyddfa ar gyfer y Prif Swyddog Milfeddygol,

'yn credu mai'r dewis sy'n cynnig y cydbwysedd gorau o ran buddiannau lles yw trwyddedu'r rhai sy'n berchen ar ac yn rasio milgwn i helpu i sicrhau nad yw lles bywyd cyfan cŵn yn cael ei gyfaddawdu.

'Byddai'r dewis hwn yn caniatáu ystyried gwaharddiad ymhellach yn y blynyddoedd i ddod, wrth gasglu'r dystiolaeth sy'n ofynnol i gyfiawnhau'n rhesymol, neu fel arall.'

Ac wrth gwrs, dyna'n union rydw i wedi bod yn eiriol drosto yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor, a dyna sydd wedi'i gadarnhau fel y dull a ffefrir yn y cyngor a roddwyd i'r Llywodraeth. Nid yw'r gwaharddiad hwn yn atal bridio milgwn yng Nghymru ar gyfer rasio. Nid yw'n atal hyfforddi milgwn yng Nghymru ar gyfer rasio. Gellir cadw cŵn yng Nghymru o hyd, a'u rasio yn Lloegr. Nawr, mae yna lawer i'w ddweud am ystyried bywyd cyfan milgwn, o fridio hyd at ymddeol, ac ni fydd gwaharddiad ar rasio ar ei ben ei hun, wrth gwrs, yn cyflawni hynny.

Felly, fel rydw i wedi dweud trwy'r amser, fy ffafriaeth bersonol i yw y dylai rheoleiddio neu drwyddedu cadarnach fod wedi cael ei gyflwyno yn gyntaf, ac y gallai'r dull graddol hwnnw wedyn fod wedi profi cydymffurfiaeth. Ac ie, pe byddai'n amlwg ar ôl amser nad oedd hynny'n gweithio neu nad oedd hynny'n ddigonol, yna byddai'r dewis o waharddiad llwyr yn dal i fod ar gael, ac wrth gwrs byddai'n haws ei gyfiawnhau bryd hynny. Felly, yn bersonol, ni allaf gefnogi'r Bil hwn, nid oherwydd fy mod i'n gwrthwynebu gwella lles milgwn, ond oherwydd fy mod i'n credu mewn llunio'r gyfraith yn y ffordd iawn, y ffordd effeithiol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ymgynghori a pholisi cadarn, sy'n rhywbeth y mae cyngor y Llywodraeth ei hun yn awgrymu nad yw wedi'i gyflawni yn yr achos hwn.

19:10

Cyn iddo gael ei adrodd gan y BBC, cefais hefyd gopi o'r cyngor gweinidogol a anfonwyd at y Dirprwy Brif Weinidog ar 17 Chwefror 2025, y dywedwyd wrthyf ei fod un diwrnod cyn i'r penderfyniad i wahardd rasio milgwn gael ei gyhoeddi. Ac mewn perygl o ailadrodd rhywfaint o'r hyn rydym ni newydd ei glywed gan Llyr Gruffydd, roedd y cyngor gweinidogol yn cynnwys, ac rwy'n dyfynnu:

'Byddai ymrwymo i waharddiad graddol, yn awgrymu bod gennym ni dystiolaeth sy'n cefnogi'r angen am waharddiad ar sail lles.

'Fodd bynnag, nid oes gennym y dystiolaeth hon heb adolygiad cynhwysfawr o safonau lles a materion canfyddedig.

'Nid ydym ni wedi ymgynghori ar osod gwaharddiad graddol, nag ar hyd a lled perchnogaeth milgwn nac arferion bridio, hyfforddiant a rasio yng Nghymru.

'Efallai y bydd angen i ni ymgymryd ag ymarfer o'r fath er mwyn cael mwy o ddata i gefnogi datblygiad polisi a mesurau priodol i weithredu gwaharddiad graddol.

'Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys yr ymgynghoriad a'r dadansoddiad diweddar'—

a rydw i'n mynd i ailadrodd yr hyn rydym ni newydd ei glywed—

'mae swyddogion yn credu mai'r opsiwn sy'n cynnig y cydbwysedd gorau o ran buddiannau lles yw trwyddedu'r rhai sy'n berchen ar ac yn rasio milgwn i helpu sicrhau nad yw lles cŵn yn cael ei gyfaddawdu.

'Byddai'r dewis hwn yn caniatáu ystyried gwaharddiad ymhellach yn y blynyddoedd i ddod, wrth gasglu'r dystiolaeth sy'n ofynnol i gyfiawnhau'n rhesymol, neu fel arall.'  

19:15

Ac nid ydym ni'n deddfu yn seiliedig ar gyngor gweinidogol, ydym ni? Yn union fel na wnaethom ni pan wnaethom ni basio'r Bil iaith arwyddion. Rydym ni'n deddfu ar sail barn Senedd, ac mae'r rhai sy'n gwneud dadleuon ar faterion eilaidd—am y dystiolaeth a'r data—yn aml yn annidwyll. Maen nhw'n gwrthwynebu hyn mewn egwyddor ac yn dod o hyd i resymau eraill i'w wrthwynebu. Mae'r Senedd hon o'r farn fwyafrifol mai dyma'r peth anghywir i'w wneud, caniatáu i anifeiliaid gael eu rasio ar gyfer chwaraeon, ac mae'r creulondeb a'r anafiadau maen nhw'n eu dioddef yn anghyfiawn. Dyna sail ein dadl, nid cyngor gweinidogol.

Rwy'n hyderus bod cyngor gweinidogol, fel sy'n ymddangos yn wir yma, yn seiliedig ar dystiolaeth dda ac ar waith ymchwil da. Ac rwy'n hyderus, yn y rhan fwyaf o achosion, er na allan nhw ddweud wrthym ni, bod Gweinidogion yn derbyn y cyngor maen nhw'n ei dderbyn, yn llawn, neu'n rhannol. 

Dydych chi erioed wedi bod yn Weinidog, ydych chi?

Ac ymhellach, yn ôl y ddogfen, cytunwyd ar y cyngor gan brif swyddog milfeddygol Cymru, a rhybuddiodd swyddogion am ddiffyg democrataidd pe bai Gweinidogion yn bwrw ymlaen. Awgrymaf y dylid bod wedi rhoi sylw i gyngor o'r fath, a'r angen am dystiolaeth bellach dros amser o fewn y cyngor hwnnw.

Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y casgliadau o fewn y cyngor gweinidogol yn gwrth-ddweud honiadau gan y Dirprwy Brif Weinidog yn ystod proses y Bil bod tystiolaeth briodol i fynd ar drywydd gwaharddiad. Er enghraifft, mewn gwrandawiad pwyllgor diwylliant ar 6 Tachwedd y llynedd, dywedodd y Gweinidog,

'Mewn gwirionedd, mae gennym ni dystiolaeth gadarn iawn, iawn ynghylch pam mae angen y ddeddfwriaeth hon.'

Nid yw hyn yn cyd-fynd â'r cyngor gweinidogol a roddwyd cyn y penderfyniad i fynd ar drywydd gwaharddiad. Ni ddylid gofyn i unrhyw Senedd bleidleisio ar ddeddfwriaeth mewn amgylchiadau o'r fath.

Wel, mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol. Rwy'n falch iawn mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wahardd rasio milgwn. Bydd yr Alban yn dilyn yfory. Ychydig iawn o wledydd sydd yn y byd lle caniateir y gweithgaredd annynol hwn o hyd. Milgwn yw'r cŵn mwyaf ufudd, addfwyn, sydd wedi cael eu hecsbloetio oherwydd eu cyflymder. Fe'u magwyd yn wreiddiol ar gyfer cwmnïaeth a hela, nid rasio; dyna ddywedodd Luke wrthym ni y tro diwethaf. Mae elusennau lles anifeiliaid a cyfranwyr, sydd wedi ymdrin ag achosion ofnadwy o greulondeb gan ddiwydiant sy'n trin cŵn fel gwastraff, wedi arwain at hyn, gan weithio gydag Aelodau o'r Senedd gyda gwahanol bleidiau ar draws y Siambr hon.

Llofnododd tri deg pum mil o bobl ddeiseb i wahardd rasio milgwn. Ac fe gychwynnwyd y ddeiseb honno gan Vanessa Waddon o Hope Rescue. Fe'i henwwyd—. Sefydlwyd Hope Rescue ar ôl Last Hope. Roedd Last Hope yn filgi o stadiwm Valley Greyhounds yn Ystrad Mynach. Cafodd ei ddarganfod ar y mynydd yn ôl yn 2004, wedi'i saethu â gwn bollt caeth, a gyda'i glustiau wedi'u torri i ffwrdd, fel na ellid ei adnabod gan ei datŵs. Ond trwy'r amser roedd ei gynffon yn dal i siglo trwy'r boen honno.

Amser cinio, cyfarfûm â chi a achubwyd o drac y Fali. Roedd ganddi anafiadau rasio. Roedd ei chynffon wedi bod yn sownd mewn giât. Ac fe wnes i gwrdd â chi dyflwydd oed o'r fan honno y cafwyd gwared arni oherwydd nad oedd hi'n gallu rasio'n ddigon cyflym yn ei holl rasys.

Dros y blynyddoedd, yn ystod yr ymgyrch hon, rydw i wedi bod i wahanol ganolfannau achub. Rydw i wedi cwrdd â chŵn gydag aelodau ar goll, gyda chreithiau ac anafiadau emosiynol ofnadwy, yn ogystal â chorfforol. Mae bywydau rasio y rhan fwyaf o gŵn yn dod i ben yn ddwy i bum mlwydd oed ac yna mae'n rhaid iddyn nhw gael eu hailgartrefu. Mae canolfannau achub yn llawn. Ni ddylid dibynnu arnyn nhw i gymryd y cŵn hyn sy'n cael eu defnyddio a'u dynodi fel gwastraff. Ac mae cŵn wedi colli eu hoedran datblygu cynnar, lle maen nhw'n tyfu, lle maen nhw'n dod i arfer â phobl a synau. Mae'n cymryd llawer mwy o amser iddyn nhw ymgartrefu, yn y cartref cariadus hwnnw, pan fyddant wedi cael eu taflu o'r neilltu—y cartref hwnnw maen nhw'n ei haeddu gan eu bod y cŵn mwyaf addfwyn.

O ran data, mae tua 25,000 o filgwn bach yn cael eu cofrestru bob blwyddyn yn ynysoedd Prydain. Mae llawer mwy yn cael eu geni a ddim yn cael eu cofrestru. Mae torllwythi cyfan o gŵn bach yn cael eu difa. Mae llawer wedi tynnu eu tatŵs clust i atal eu holrhain. Mae dros 10,000 o filgwn yn diflannu bob blwyddyn, wedi'u lladd, yn aml gan wn bollt, wedi'u gwaredu, wedi'u hallforio i'r fasnach gig. Mae 7,000 ar gyfartaledd yn cael eu lladd ledled Prydain Fawr ac Iwerddon bob blwyddyn. Mae data a gyhoeddwyd yn ystod 2023 gan GBGB ar gyfer 2022 yn dangos: cyfanswm nifer yr anafiadau a gaffwyd ar draciau GBGB, 4,354; cyfanswm nifer y marwolaethau ar draciau GBGB, 99; a chyfanswm nifer y marwolaethau, 306.

Diolch i bawb sy'n ymwneud â gwireddu hyn—i'r cynghrair Cut the Chase, pawb sy'n caru anifeiliaid ac yn gwirfoddoli gyda nhw, a'm cyd-Aelodau yma, sy'n siarad dros anifeiliaid na allan nhw siarad drostyn nhw eu hunain. Rwyf mor falch bod lles anifeiliaid wedi'i roi yn uchel ar yr agenda ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yma heddiw, ac y bydd llawer o gŵn yn cael eu hachub rhag wynebu anafiadau a marwolaeth ofnadwy o'r gamp greulon hon, sydd angen ei thraddodi i'r llyfrau hanes. Diolch.

19:20

Ni chyrhaeddodd y foment hon dros nos. Mae wedi cymryd blynyddoedd o ymdrech dawel, benderfynol gan bobl a oedd yn gwrthod derbyn bod y dioddefaint hwn yn anochel. Mae elusennau bach, gwirfoddolwyr mewn canolfannau achub, gwirfoddolwyr mewn siopau, gwirfoddolwyr ar y trac, llawer ohonyn nhw yn berchen ar filgwn eu hunain, i gyd wedi treulio eu penwythnosau yn helpu cŵn sydd wedi eu hanafu i wella.

Fe hoffwn i dalu teyrnged i'r cynghrair Cut the Chase. Maen nhw yma heno, ac fe hoffwn i chi glywed hyn yn glir: dyma eich buddugoliaeth chi. Fe wnaethoch chi wrthod troi cefn ar yr hyn oedd yn digwydd ac, oherwydd eich bod wedi gwrthod, mae Cymru bellach wedi gweithredu. Gadewch i ni fod yn glir am yr hyn roeddech chi'n ei wynebu. Mae rasio milgwn yn rhan o ddiwydiant gamblo llawer mwy, un gydag adnoddau sylweddol, lobïwyr, cyfreithwyr a'r gallu i herio pob cam o broses fel hyn. Dadleuodd y diwydiant rasio milgwn fod y sefyllfa fel y mae hi yn dderbyniol, bod yr anafiadau yn cael eu rheoli, bod y cannoedd o gŵn sy'n marw mewn stadia rheoledig yn ganlyniad cynnal y busnes. I lawer ohonom ni, nid oedd hynny erioed yn dderbyniol, a heddiw rwy'n falch bod y Senedd hon wedi cydnabod hynny ac wedi dewis llwybr gwahanol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i dîm am gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon ac am ei gefnogaeth barhaus yn y gwaith hwn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'm tîm bach iawn sef Ieuan Parry a Tomos Roberts-Young am eu cefnogaeth a'u cymorth gyda'r ddeddfwriaeth hon. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i gyd-Aelodau ar draws y Siambr hon, o wahanol bleidiau, sydd wedi ymgysylltu â'r Bil yn feddylgar ac yn adeiladol trwy gydol ei hynt.

Mae heno yn perthyn i'r rhai ledled Cymru sydd wedi bod yn paratoi'n dawel ac yn benderfynol ar gyfer y foment hon ers blynyddoedd. Roedden nhw'n barod cyn i'r gyfraith fod, ac mae hynny'n dweud popeth am bwy ydyn nhw. Ac fe hoffwn i ddweud rhywbeth wrth y rhai sy'n dal i fod yng nghanol eu brwydr eu hunain, y rhai nad heddiw eto yw eu dydd, oherwydd weithiau mae'r amryfal rymoedd yn eich erbyn yn fwy nag ydych chi. Yr adnoddau, y lobïo, y pwysau sefydliadol—gall deimlo, weithiau, yn amhosibl dal ati.

Er gwaethaf safbwynt Mark ar hyn, rwy'n meddwl amdanoch chi, Mark Isherwood, a'r blynyddoedd rydych chi wedi'u treulio yn hyrwyddo Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), yn ymladd dros gymuned y mae ei hiaith a'i hunaniaeth wedi cael ei hanwybyddu am lawer rhy hir. Mae'r Bil hwnnw bellach wedi pasio, a bu iddo basio oherwydd ichi wrthod rhoi'r gorau iddi. Mae'r ymgyrchoedd hir hyn yn llwyddo, ac rwy'n gwybod hynny oherwydd, 13 mlynedd yn ôl, roeddwn i ar stondin yng nghanol tref y Trallwng gyda milgwn wrth fy ymyl, yn meddwl tybed a allai unrhyw agwedd ar hyn fyth newid. 

Dim ond mewn perthynas â hynny, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth gyson a ddarparwyd gennych chi i'r ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain, ond ar ddechrau'r broses ni allwn i gael cyngor gweinidogol, ond cefais gyngor cyfreithiol ar yr hyn y gallem ni ei wneud, beth oedd yn gyraeddadwy, a beth oedd o fewn y trothwyon tystiolaeth. Ac, ar y sail honno, fe wnaethom ni fwrw ymlaen. Nid oedd yr hyn y gwnes i sylwadau arno yn gynharach yn ymwneud ag agweddau cywir neu anghywir y mater hwn; roedd yn ymwneud â'r sail y dylem ni fod yn deddfu i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sydd gennym ni yn gadarn ac yn gynaliadwy ac yn seiliedig ar ffeithiau a thystiolaeth, nid yn seiliedig ar fwriadau da rhai seneddwyr yn unig.

19:25

Diolch am eich ymyrraeth, ac nid wyf yn mynd i wneud sylwadau pellach arno. Mae'r dystiolaeth yn amlwg yno. Tystiolaeth o gŵn yn marw, tystiolaeth o gŵn yn cael eu hanafu. Mae gen i fy nghŵn fy hun ac rydw i wedi siarad yn ddi-baid am y trawma maen nhw wedi'i brofi. Ond gadewch i mi orffen.

Rwy'n falch iawn o weld hyn yn dod yma heddiw. Mae'r newid yr oeddwn i eisiau yn rhoi gobaith i mi—ac, rwy'n gobeithio, i eraill—y gall pobl, pan fyddant yn dal at rywbeth, newid pethau. Rwyf wedi dweud sawl gwaith yn ystod y broses hon nad wyf eisiau mwy o gŵn fel Arthur. Does arnaf i ddim eisiau i fwy o filgwn gyrraedd cartrefi ledled Cymru yn cario pwysau eu bywydau rasio. Mae'r rhain yn anifeiliaid anhygoel ac maen nhw'n haeddu bywydau wedi'u llunio gan gariad a diogelwch, nid gan draciau rasio. Heddiw, bydd Cymru yn tynnu llinell ac yn pasio Bil nodedig arall. Trwy basio'r Bil hwn, byddwn yn dweud, fel cenedl, na ellir cyfiawnhau niwed y mae modd ei ragweld a'i osgoi i anifeiliaid yn enw chwaraeon neu i wneud arian i'r diwydiant gamblo. I Arthur, Wanda a phob milgi a redodd o'u blaenau, mae Cymru wedi dewis llwybr caredig. Diolch yn fawr iawn.

Fe hoffwn i fynd i'r afael â'r mater rydym ni wedi'i glywed yn cael ei godi yma heddiw ac y tu allan i'r fan yma ynghylch diffyg democrataidd pan ddaw i'r Bil hwn. Dydw i ddim yn gwybod ble mae pobl yn meddwl eu bod nhw ar hyn o bryd, ond y tro diwethaf i mi wirio, mae'r Senedd yn sefydliad democrataidd. Pan fyddwn yn pasio Biliau ac yn gwneud ein gwaith fel Aelodau'r Senedd, dyna ddemocratiaeth ar waith. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gyfeirio at Filiau lle, pe baem ni wedi dilyn cyngor cyfreithiol gan y gwasanaeth sifil, ni fyddem ni wedi rhoi'r Biliau hynny ar waith. Fe allwn ni i gyd gyfeirio at enghreifftiau o hynny. Felly, mewn gwirionedd, weithiau, yr hyn sydd ei angen yw arweinyddiaeth ac ewyllys wleidyddol, ac rwy'n credu bod hwn yn un o'r Biliau hynny lle mae hynny wedi disgleirio a lle mae hynny wedi'i ddarparu. Oherwydd rwy'n credu mai'r cwestiwn sylfaenol sydd o'n blaenau heddiw yw: ydym ni'n gyfforddus gyda chŵn yn cael eu hanafu wrth rasio yn enw elw?

Nawr, os ydym ni eisiau'r data ynglŷn â hynny, nid oes angen i ni reoleiddio yng Nghymru, fe allwn ni edrych dros y ffin, lle mae traciau rheoledig ar waith. Mae anafiadau yn digwydd yno. Felly, os mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw ynghylch a ydym ni'n gyfforddus gyda chŵn yn cael eu hanafu yw, 'Nac ydym, nid ydym ni'n gyfforddus', yna byddwn i'n dweud, 'Pleidleisiwch dros y Bil hwn.' Oherwydd, heno, mae gennym ni gyfle i gymryd cam cadarnhaol go iawn ymlaen ar les milgwn, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn falch ohono.

Pe bai'n cael ei basio, byddai'n arwydd o ddechrau'r diwedd ar gyfer defnyddio milgwn er elw—yn aml ar gost lles y ci hwnnw. I lawer, mae'r Bil hwn yn ganlyniad oes o ymgyrchu, ac rwy'n talu teyrnged iddyn nhw—rhai ohonyn nhw yn yr oriel gyda ni heddiw. Ac, wrth gwrs, fe ddechreuodd rai ohonom ni yn y Siambr hon ein tymor yn gofyn cwestiynau a chodi pryderon am les milgwn mewn rasio, a nawr rydym ni'n gorffen ein tymor gyda'r Bil hwn. Unwaith eto, democratiaeth ar waith.

Nawr, wrth gwrs, rwy'n cydnabod na fydd pawb, wrth i ni edrych y tu hwnt i heno, yn hapus os bydd y Bil hwn yn pasio, ond wrth i ni edrych y tu hwnt i heno, rhaid blaenoriaethu lles milgwn yn y dyfodol. Ac ni waeth ar ba ochr rydych chi'n digwydd bod heno, beth bynnag yw'r canlyniad heno, bydd gwaith i'w wneud o hyd. Ac yn hynny, mae'n siŵr y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog am newid ei feddwl ar yr angen am adolygiad ôl-ddeddfwriaethol, ond ni wrandawyd ar rybuddion eraill. Ac rwy'n ofni fy mod i'n mynd i ymbellhau o natur orfoleddus y ddadl hon, oherwydd yng Nghyfnod 2 ac yng Nghyfnod 3, rwyf wedi codi pryderon bod y Bil hwn yn llawn diffygion. Mae'r teitl hir yn darllen, ac rwy'n dyfynnu:

'Deddf gan Senedd Cymru i wahardd rasio milgwn yng Nghymru.'

Ond a fydd y Bil hwn yn cyflawni hynny mewn gwirionedd? Rydw i'n mynd i grybwyll y diffygion gyda chi nawr, oherwydd bydd angen edrych ar hyn eto. Diffyg 1: beth yw milgi? Pan godwyd pryderon nad yw 'milgi' yn cael ei ddiffinio yn y Bil, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor deddfwriaeth, ac rwy'n dyfynnu,

'Milgi yw milgi yw milgi.'

Yn bersonol, rwy'n credu ei bod hi'n gamgymeriad peidio â chael diffiniad cyfreithiol o 'milgi' yn y Bil. Mae'n cael ei ddiffinio'n gyfreithiol mewn awdurdodaethau eraill, fel Gogledd Iwerddon. Fel y mae hi, sut y byddwn ni'n profi trosedd mewn llys yng Nghymru? Dydw i ddim yn meddwl y bydd dweud 'Milgi yw milgi yw milgi' yn ddadl lwyddiannus. Mae'n berffaith ymarferol y gellid rasio milgi wedi'i groesi, fel gydag unrhyw gi golwg arall, yn gyfreithlon yng Nghymru.

Diffyg rhif 2: beth yw trac? Er bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi honni o'r blaen y bu Llywodraeth Cymru yn glir iawn yn y ddeddfwriaeth ynglŷn â'r hyn maen nhw'n ei olygu wrth 'drac', nid oes diffiniad o 'trac' yn y Bil. Dywedwyd wrthym ni, ac rwy'n dyfynnu,

'yr hyn rydym ni'n ei wneud yw canolbwyntio ar y weithred o rasio ei hun.'

Fodd bynnag, nid yw'r Bil hyd yn oed yn disgrifio hynny'n ddigonol.

Ac mae hynny'n dod â mi at ddiffyg rhif 3, ystyr 'rasio milgwn'. Rhybuddiais yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3 bod disgrifio rasio fel 'o amgylch' yn sylfaenol ddiffygiol. Nid wrandawodd Lywodraeth Cymru, ni wrandawodd mwyafrif y Senedd. Mae'n gamgymeriad difrifol ac yn ddiffyg enfawr nad yw'r Bil yn darllen 'ar' yn hytrach nag 'o amgylch'.

Mae diffyg 4 yn ymwneud ag ystyr rasio milgwn hefyd. Mae adran 2 yn cyfeirio at

'llith sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol'.

Fel yr eglurwyd yng Nghyfnod 2, nid oes angen cynnwys 'ei actifadu’n fecanyddol'. Mae'n creu sefyllfa arall o fethu â diogelu'r Bil hwn i'r dyfodol. Fel yr wyf yn gobeithio y bydd yn glir i bob un ohonoch chi nawr—ac mae'n amlwg nad yw hi—er fy mod i'n cefnogi'r ddeddfwriaeth hon a bod arnaf i eisiau gwahardd rasio milgwn yng Nghymru, mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydym ni'n pleidleisio ar yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Mae angen i ni bleidleisio i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ar gyfer y dyfodol. Rwy'n bryderus iawn na fydd hwn yn ddarn effeithiol o ddeddfwriaeth os caiff ei ddwyn gerbron llys troseddol. Yn wir, y gwirionedd yw bod y Bil yn gwahardd rasio rhywbeth nad yw'n cael ei ddiffinio'n gyfreithiol, hynny yw ar rywbeth nad yw'n cael ei ddiffinio'n gyfreithiol ond mae'n rhaid iddo fod yn grwn neu'n hirgrwn.

Efallai y bydd y ddeddfwriaeth o drwch blewyn yn llwyddo i gau'r stadiwm sy'n weddill yng Nghymru fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yn y tymor hwy, mae perygl sylweddol y bydd yn methu â gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun yn y pen draw, a hynny yw gwahardd rasio milgwn yng Nghymru. Diolch byth, mae adolygiad ôl-ddeddfwriaethol ar wyneb y Bil, oherwydd rwy'n credu y bydd ei angen ar y ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr.

19:30
Member
Huw Irranca-Davies 19:32:54
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr, Llywydd. Gadewch i mi, yn gyntaf oll, ymateb yn fyr i'r pwyntiau a godwyd mewn perthynas ag erthygl y BBC a'r achosion llys sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd, gan gydnabod eich geiriau yn gynharach hefyd, Llywydd. Bydd yr Aelodau'n deall bod yr achos cyfreithiol yn parhau, ac ni fyddai'n briodol i mi wneud sylwadau pellach ar hyn tra byddwn ni'n aros am y dyfarniad. Ond, o ran gwneud penderfyniadau gweinidogol yn gyffredinol, mae Gweinidogion, wrth gwrs, dan rwymedigaeth gyfansoddiadol a gweithdrefnol i ystyried cyngor gweinidogol—yn wir maen nhw—ac i roi sylw dyledus i'r cyngor gweinidogol hwnnw. Ond gadewch i mi wneud yn glir, mae gwahaniaeth rhwng Gweinidog a gwas sifil yn y ffordd y down ni i'n penderfyniadau, yn y ffordd rydym ni weithiau'n herio cyngor a gyflwynir inni. Ac, ydy, yn hollbwysig, fodd bynnag, nawr mae o flaen y Senedd hon i wneud ei phenderfyniad. Dyma galon ddemocrataidd y ddeddfwrfa yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r Senedd hon, yma yng nghanol ein democratiaeth Gymreig, wneud ei safbwynt democrataidd ei hun yn glir iawn. Yr hyn y gallaf ei ddweud yn glir iawn, ac yr wy'n ei ailadrodd yn glir iawn, yw bod y Bil hwn yn adlewyrchu ein cyfrifoldeb moesegol i weithredu. Rwyf wedi cydnabod bod y diwydiant wedi cymryd camau i geisio lleihau risg. Fodd bynnag, mae'r anafiadau hynny, y marwolaethau hynny, y canlyniadau gwael hynny ar ôl rasio yn parhau i fod yn realiti. Mae cydnabyddiaeth gynyddol yng Nghymru bod defnyddio anifeiliaid ar gyfer adloniant yn cael ei ystyried yn annerbyniol. Ac ar y sail honno, Llywydd, yr wyf yn annog pob Aelod ar draws y Siambr i roi eu cefnogaeth i'r Bil hwn yn y cyfnod olaf hwn, fel y gallwn ni gymryd y cam pwysig hwn gyda'n gilydd ac fel bod y Senedd hon, y ddeddfwrfa hon, yn dangos ei barn a'i hymrwymiad.

Fe hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl yng Nghyfnod 4, ac i'r holl randdeiliaid a swyddogion am eu cyfraniad wrth ddatblygu'r Bil hwn i wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Os caiff ei basio, ac yn amodol, wrth gwrs, ar gydsyniad Brenhinol, edrychaf ymlaen at weld y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth, gyda gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru wedi'i weithredu'n llwyddiannus. Felly, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Senedd mewn difrif calon.

A gaf i, gyda mymryn bach o ryddid gennych chi, Llywydd, fanteisio ar yr ennyd yma i atgoffa'r Siambr hon o'r hyn rydym ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd, hefyd, oherwydd dyma'r darn olaf o'r ddadl ddeddfwriaethol sylfaenol rydym ni wedi'i drefnu ar gyfer tymor hwn yn y Senedd? Nid yw'r gwaith rydym ni wedi ei wneud yn ansylweddol. Mae'r gwaith rydym ni wedi ei wneud yn glod i'r craffu a ddigwyddodd o fewn y Siambr hon. Mae cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol ar y raddfa yr ydym ni wedi gwneud yn y tymor hwn yn y Senedd yn eithaf syfrdanol. Mae'n gynhenid gymhleth. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i gyflwyno 27 Bil yn nhymor y Senedd. Mae hyn yn cwblhau'r rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae hyn yn cynnwys, dim ond i atgoffa Aelodau sy'n meddwl tybed beth rydym ni wedi bod yn ei wneud, yn eistedd yma, awr wrth awr, mewn pwyllgorau ac yn y Siambr hon, Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir(Cymru) 2025, sy'n ddarn nodedig o ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau rheolaeth effeithiol hirdymor o domenni nas defnyddir ledled Cymru ac yn lleihau'r bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd. Cafodd diwygiadau unwaith mewn cenhedlaeth, fel y nodwyd yn gynharach, i gryfhau democratiaeth yng Nghymru eu pasio'n gyfraith pan gytunodd y Senedd ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Deddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc (Cymru) 2025 yw treth gyntaf Cymru sydd wedi'i chynllunio'n lleol ers 500 mlynedd, gan alluogi cynghorau i fuddsoddi enillion mewn seilwaith twristiaeth fel toiledau a llwybrau troed a thraethau a chanolfannau ymwelwyr. Bydd Deddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026 yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran gwella gwasanaethau bysiau yn y Deyrnas Unedig a bydd yn rhoi bysiau mewn dwylo cyhoeddus. [Torri ar draws.] Bydd Deddf, hanesyddol iawn, y Gymraeg ac Addysg, Llywydd—[Torri ar draws.]

19:35

Gallwch ofyn am gael ymyrryd, os ydych chi eisiau, Darren Millar.

Rwy'n sylweddoli, Llywydd, bod rhai o'r rhain yn cael eu herio, ond mae'n glod i'r Senedd. Bydd Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Ac, yn fy mhortffolio fy hun, mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), sy'n sefydlu'r fframwaith newydd hwnnw ar gyfer diogelu'r amgylchedd, corff gwarchod annibynnol, ac yn grymuso Gweinidogion Cymru i osod targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol gyfrwymol.

Llywydd, wnaf i ddim mynd ymlaen—wnaf i ddim mynd ymlaen. Wnaf i ddim sôn yn fanwl am y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), na'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), na'r uchafbwyntiau niferus eraill. Ond yr hyn rydw i eisiau ei ddweud, Llywydd, yw ein bod ni, drwy gydol y Senedd hon, wedi gweithio'n agos gyda'r Senedd, gyda phwyllgorau busnes, i wella'r ddeddfwriaeth a'r broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys amserlenni. Mae'r berthynas broffesiynol a ffurfiwyd rhwng y Llywodraeth ac Aelodau'r Senedd, yn ogystal â rhwng swyddogion y Llywodraeth a Chomisiwn y Senedd, wedi bod yn allweddol wrth hwyluso'r gwaith o gyflawni'r rhaglen hon, mewn ffordd sydd wedi sicrhau cymaint o amser craffu â phosibl. Felly, fe hoffwn i ddiolch i bawb yma am eu hymrwymiad yn y broses graffu honno. Mae wedi dangos y gall y ddeddfwriaeth a basiwyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru, ac mae cyflawni democratiaeth yma, yn agosach at bobl Cymru, yn rhywbeth sy'n glod i ni i gyd. Diolch yn fawr iawn.

Bydd yn rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar y cynnig yma o dan Gyfnod 4. Felly, rwy'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch.

16. Cyfnod Pleidleisio

Mae gyda ni, felly, y tri darn yma o ddeddfwriaeth i bleidleisio'n derfynol arnynt. Eitem 11 yw'r un cyntaf i bleidleisio arno—Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) wedi ei gymeradwyo.

19:40

Eitem 11. Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar Gyfnod 4 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Galw am bleidlais ar y cynnig yma. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 14. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 15 yw'r Cyfnod 4 ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, dau yn ymatal, 10 yn erbyn. Ac felly, mae'r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 15. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru): O blaid: 39, Yn erbyn: 10, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch i chi i gyd. 

Daeth y cyfarfod i ben am 19:41.