Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/01/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Dwi eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Yr eitem gyntaf fydd y Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Economi Gydweithredol

1. Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo'r economi gydweithredol yn Nwyrain De Cymru? OQ63702

Mae 533 o fentrau cydweithredol yn gweithredu yng Nghymru, ac o'r rhain, mae 92 wedi'u lleoli yn Nwyrain De Cymru, gan adlewyrchu traddodiad cryf y rhanbarth o weithgarwch economaidd dan arweiniad y gymuned. Mae cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol yn hollbwysig ar gyfer creu economi gynhwysol a chynaliadwy sy'n angori cyfoeth yn lleol ac yn hyrwyddo lles. Rydym yn mynd ati'n weithredol i gefnogi twf mentrau cydweithredol drwy Busnes Cymdeithasol Cymru, sy'n cynnig cyllid a chyngor arbenigol i helpu i gychwyn ac ehangu busnesau cydweithredol.

Diolch yn fawr am yr ateb.

Diolch yn fawr. Yn fy ymweliadau o amgylch fy rhanbarth, canfûm fod cydweithredu'n aml yn nodwedd gynhenid mewn pobl sy'n byw yng Nghymru a'n cymunedau. Yn anffodus, nid yw ein cymunedau'n mwynhau'r un hawliau â chymunedau'r Alban neu Loegr, gan nad oes gennym hawl i brynu yma. Byddai deddfwriaeth o'r fath wedi rhoi hwb gwirioneddol i bentref bach Draethen yn fy rhanbarth, lle mae tafarn a fu unwaith yn boblogaidd yn dirywio'n araf ar ôl bod ar gau ers blynyddoedd. Mae gan Star Pubs, sy'n berchen ar yr adeilad, brynwr â diddordeb ar ôl blynyddoedd o stasis, ac maent wedi rhoi sicrwydd i'r bobl leol fod y gwerthiant yn dal i fynd rhagddo i'w ddefnyddio fel tafarn. Nid yw'r bobl leol a ddaeth ynghyd i sefydlu ymgyrch i achub y dafarn a dechrau ymgyrch gyllido torfol i'w phrynu yn gwbl hyderus mewn geiriau o sicrwydd o'r fath, gan nad yw'r prynwr posib wedi cysylltu eto. A ydych ch'n difaru peidio â chyflwyno deddfwriaeth hawl y gymuned i brynu yng Nghymru, fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod Luke Fletcher yn ei bapur ar yr economi, 'Gwneud i Gymru Weithio: Cynllun Economaidd Newydd Plaid Cymru', a fyddai'n grymuso ein cymunedau a'u pobl i achub asedau allweddol fel tafarn yr Hollybush yn Nraethen?

Wel, os caf ddechrau drwy gytuno bod yr ysbryd cydweithredol hwnnw'n sicr yn gynhenid. Pan fyddwn ni yn Llywodraeth Cymru’n sôn am wneud pethau yn y ffordd Gymreig, mae a wnelo â'r cydweithredu a'r gwaith partneriaeth hwnnw. Ac mewn gwirionedd, mae llawer ohonom yn Llywodraeth Cymru nid yn unig yn aelodau o Lafur Cymru, ond yn aelodau o'r blaid gydweithredol hefyd, ac rwyf innau'n un o'r rheini. Felly, rwy'n llwyr gydnabod y manteision y gall cydweithredu eu darparu.

Hoffwn gydnabod y gwaith da y mae Cwmpas wedi bod yn ei wneud ar ddatblygu eu prosiect gwydnwch, Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru. Mae'r prosiect hwnnw wedi cefnogi dros 500 o bobl mewn 18 cymuned i godi bron i £5 miliwn ledled Cymru i adfer canolfannau ac asedau cymunedol er budd y bobl leol, oherwydd, fel chi, rydym yn cydnabod y gall asedau sy'n eiddo i'r gymuned greu swyddi lleol a chefnogi busnesau bach, gan ddarparu'r mannau cynhwysol hynny sy'n hyrwyddo lles hefyd. Yn amlwg, rydym wedi darparu toreth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i gymunedau sydd â diddordeb yn hyn. Fodd bynnag, o ran y camau nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir ei bod yn ystyried yr hawl i brynu'n rhywbeth y byddem yn awyddus iawn i'w archwilio ymhellach yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy nghyd-Aelodau a minnau'n credu'n gryf mewn mentrau cymdeithasol, ac mae'n ddiddorol i mi fod prosiect Perthyn, a lansiwyd gennych yng ngogledd a gorllewin Cymru, yn cynnwys helpu cymunedau i achub asedau lleol, fel siopau a thafarndai. Mae hynny'n swnio'n gyfarwydd iawn i mi, fel Ceidwadwr, gan fod hynny hefyd yn Neddf Lleoliaeth 2011, y mae Llywodraethau Cymru olynol wedi gwrthod ei rhoi ar waith yma yng Nghymru. Gan fod Canghellor Llafur y DU bellach wedi ymosod ar dafarndai a'r diwydiant lletygarwch, gan arwain at gau tafarndai annibynnol poblogaidd yn fy ardal i, fel y Friendly Fox yn Nhŷ-du, pa gamau penodol y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau y gall mentrau cymdeithasol lleol helpu i achub yr asedau cymunedol hanfodol hyn ar draws de-ddwyrain Cymru hefyd? Diolch.

Mae prosiect Perthyn yn rhywbeth yr oedd Llywodraeth Cymru’n falch iawn o'i gyflwyno yn 2022. Yn wreiddiol, roedd yn darparu'r cymorth cynnar hwnnw i gymunedau Cymraeg eu hiaith yng ngogledd a gorllewin Cymru. Ym mis Tachwedd, agorodd rownd ddiweddaraf cynllun grant Perthyn i geisiadau ledled Cymru gyfan. Felly, ei nod yw cefnogi ein huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi cefnogi dros 76 o grwpiau cymunedol. Felly, mae'n enghraifft dda iawn o rywbeth yr ydym yn ei gyflwyno ledled Cymru nawr ac sy'n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn arbennig.

Ar y cwestiwn ehangach ynghylch cymorth i fentrau cymdeithasol, fel y dywedais, mae'r mentrau a'r cwmnïau cydweithredol hyn yn rhan bwysig iawn o'r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Yn nhymor y Senedd hon, rydym wedi gweithio'n agos iawn, drwy Busnes Cymdeithasol Cymru, i ddarparu'r cymorth hwnnw. Maent wedi cefnogi 29 o gwmnïau cydweithredol yn Nwyrain De Cymru, a llawer mwy ledled Cymru gyfan. Mewn gwirionedd, Cymru sy'n arwain y DU o ran twf dros bum mlynedd, gyda 2.6 o gwmnïau cydweithredol newydd am bob 100,000 o bobl, ac mae cyfanswm o 7 y cant o gwmnïau cydweithredol y DU wedi'u cofrestru yma yng Nghymru. Felly, yn sicr, nid oes diffyg uchelgais ar gyfer mentrau sy'n eiddo i'r gymuned ac a arweinir gan y gymuned yma yng Nghymru, ac mae gwaith Busnes Cymdeithasol Cymru yn helpu i wireddu'r uchelgais hwnnw.

13:35
Y Sector Twristiaeth a Lletygarwch

2. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith costau cynyddol ar y sector twristiaeth a lletygarwch? OQ63691

Mae costau cynyddol yn heriol, ond rydym yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru gyda chronfa buddsoddi mewn twristiaeth ar gyfer Cymru, sy'n werth £50 miliwn, a'n grantiau pethau pwysig a gwrthsefyll tywydd. Rydym yn darparu marchnata drwy gydol y flwyddyn ochr yn ochr â gwaith i wella sgiliau ac i helpu'r sector i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial. Ein ffocws yw sicrhau economi ymwelwyr sy'n wydn, yn gystadleuol ac yn gynaliadwy ledled Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gofyn y cwestiwn hwn sawl gwaith, ond bob tro rwy'n ei ofyn, mae cam yn ôl wedi'i i gymryd i'n busnesau a'n manwerthwyr lletygarwch a thwristiaeth. Erys y ffaith syml fod llawer ohonynt bellach yn mynd i'r wal. Rydym wedi colli tair siop yn nhref hardd Conwy, a enillodd wobr stryd fawr y DU yn eithaf diweddar. Rydym hefyd wedi colli gwesty o'r enw'r Marlborough yn Llandudno—mae wedi bod yno ers dros 100 mlynedd. Mae manwerthwyr a'r sector lletygarwch oll yn dweud mai dyma'r ergyd olaf nawr, gyda Llywodraeth Cymru’n tynnu cymorth ardrethi busnes yn ôl, costau bwyd uwch, prinder cwsmeriaid. Nid ydynt wedi adfer ers COVID, Ysgrifennydd y Cabinet. A wnewch chi ailystyried y ffigurau a rhoi'r rhyddhad yr oedd ein busnesau yn arfer ei gael yn ôl iddynt? Maent eisoes yn dioddef o gymharu â Lloegr. Fel y dywedaf, mae gennyf westai ar bromenâd Llandudno sy'n talu £600 neu £700, neu £1,000 y flwyddyn mewn ardrethi busnes. Nid yw'n bosib yn yr oes sydd ohoni. A wnewch chi fynd yn ôl ac edrych ar hyn?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Credaf fod angen inni gydnabod bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi sylweddol i fusnesau yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden, ac ar draws yr economi hefyd. Rydym yn darparu pecyn cymorth ardrethi annomestig gwerth £335 miliwn yn 2025-26—mae hynny'n draean o £1 biliwn. Credaf mai'r hyn sy'n aml yn cael ei golli yn y ddadl hon, mewn gwirionedd, yw bod hynny'n draean o £1 biliwn o arian trethdalwyr a fydd yn mynd i dalu biliau busnesau ledled Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Roedd hwnnw'n ddewis gwleidyddol a wnaethom. Mae'r Prif Weinidog wedi sefyll yma a dweud bod hynny'n cyfateb i oddeutu 6,000 o nyrsys yma yng Nghymru. Nid yw pobl bob amser yn derbyn, pan fydd busnes yn cael rhyddhad ardrethi llawn, fod yr arian hwnnw mewn gwirionedd yn dod gan y trethdalwr, ac mae'n rhaid inni ailgydbwyso hynny yn erbyn yr holl bwysau arall y mae'r Llywodraeth yn ei wynebu. Felly, nid yw traean o £1 biliwn yn swm ansylweddol o arian. Mae'n cynnwys ein cynllun rhyddhad ardrethi parhaol a'r cymorth a ddarparwn drwy'r cyfnod pontio nawr i'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt gan yr ailbrisio.

Wedi dweud hynny, rwyf am gydnabod, wrth gwrs, fod hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer o fusnesau ledled Cymru. Ond credaf hefyd fod angen inni fod yn realistig ynglŷn â'r hyn sy'n gymorth eithaf sylweddol i'r sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn benodol, gyda gwerth £1 biliwn o'r biliau hynny'n cael eu talu gan y trethdalwr dros y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn COVID. Roedd hynny'n anghynaliadwy fel cynllun llawn amser, ac wrth gwrs, mae busnesau wedi gwybod, ers inni ei ostwng i 75 y cant ac yna i 40 y cant, mai'r bwriad oedd dod â hynny i ben yn y pen draw. Wrth gwrs, bydd llawer o'r busnesau hyn yn dal i allu cael cymorth drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi parhaol. Nid yw oddeutu chwarter y tafarndai'n talu unrhyw ardrethi o gwbl, ac mae canran sylweddol arall yn cael cymorth gyda'r biliau hynny hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau'r llefarwyr nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r cyhoeddiadau a wnaed yr wythnos diwethaf fod prosiect fferm wynt arnofiol ar y môr Erebus a phrosiect fferm wynt ar y môr Awel y Môr wedi cael caniatâd i barhau. Rwyf wedi codi prosiect Erebus sir Benfro yn y Senedd ar nifer o achlysuron yn nhymor y Senedd hon. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau ynghylch y pris y cytunwyd arno, a allai gynyddu cost biliau ynni defnyddwyr ymhellach, ac nad yw rhannau allweddol o'r gadwyn gyflenwi, fel y gweithlu medrus a seilwaith porthladd, yno o gwbl. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd y cymunedau agosaf at y prosiectau hyn yn gweld y rhan fwyaf o'r budd, drwy swyddi, buddsoddiad a ffyniant, neu a fydd y prosiectau hyn yn cael eu hadeiladu a'u cydosod yn rhywle arall, ac yn cael eu gollwng yn y môr, gyda chymunedau lleol yn colli unrhyw fudd?

13:40

Wel, roeddem wrth ein boddau fod dau brosiect ynni gwynt ar y môr yng Nghymru wedi gallu sicrhau contractau yn arwerthiant diweddaraf y DU. Credaf fod hynny'n dangos yn glir fod Cymru mewn sefyllfa wych i adeiladu ar ei chapasiti presennol ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac i elwa o'r prosiectau hyn gan ddod â llawer o swyddi o ansawdd uchel a chyflogau uchel i Gymru.

Credaf ein bod eisoes mewn sefyllfa gref iawn, ar ôl gwneud yr holl waith ar y diwydiant ynni gwynt arnofiol ar y môr drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlais. Edrychodd y grŵp hwnnw ar y gwaith pwysig sydd angen ei wneud yn y porthladdoedd. Mae'n edrych ar y gwaith pwysig sydd angen ei wneud i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi. Felly, ar un ystyr, rydym eisoes ar y blaen, ar ôl dod â'r holl bartneriaid hynny ynghyd, a phawb yn deall pa gamau y mae angen iddynt eu cymryd.

O ran y pris, rwy'n deall y pryderon a godwyd, ond yn yr un modd, pan fyddwn yn cydnabod ein hamgylchiadau geowleidyddol, a'r angen hollbwysig i sicrhau diogeledd ynni domestig, rwy'n credu y bydd hynny hefyd yn rhan o'r ystyriaeth wrth inni asesu'r prosiect yn gyffredinol.

Fe sonioch chi am y grŵp gorchwyl a gorffen ar ynni gwynt ar y môr, a do, fe wnaethant adrodd yr haf diwethaf, ac un o'r argymhellion oedd grŵp gweithredu. Nid yw'r grŵp hwnnw wedi'i sefydlu eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, pa waith y gallant ei wneud os nad ydynt hyd yn oed wedi sefydlu grŵp gweithredu? A gwnaed y gwaith ar nodi rhai o'r cyfleoedd, yn enwedig mewn porthladdoedd rhydd, gan Lywodraeth flaenorol y DU, gyda, ie, Llywodraeth Lafur Cymru, a gall y rhain fod yn ysgogwyr defnyddiol ar gyfer buddsoddi yn y sectorau hyn, gan wybod y bydd y porthladdoedd yn allweddol i gyflawni a chynnal y prosiectau hyn. Felly, roedd hi'n siomedig iawn na soniwyd am borthladdoedd sir Benfro—Porthladd Penfro a harbwr Abergwaun—o gwbl yn argymhellion tasglu gwydnwch môr Iwerddon. Ysgrifennydd y Cabinet, bydd buddsoddi mewn porthladdoedd yn hollbwysig i sicrhau'r budd mwyaf i gymunedau lleol. Felly, sut y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn sicrhau buddsoddiad a twf yn ein porthladdoedd, neu a yw porthladdoedd eraill, fel y rhai yn Avonmouth, neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd, yn mynd i wneud y rhan fwyaf o'r gwaith ar gyfer y prosiectau hyn?

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi prosbectws porthladdoedd Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod honno'n ddogfen a gafodd groeso cynnes iawn, gan y porthladdoedd a chan y diwydiant yn ehangach. Mae'r prosbectws hwnnw'n nodi beth yw'r galluoedd a'r capasiti, a photensial ein porthladdoedd, ond mae hefyd yn cydnabod y buddsoddiad sy'n rhaid ei wneud yn y porthladdoedd hynny er mwyn gwireddu'r potensial. Felly, roedd y gwaith hwnnw—unwaith eto'n rhan o argymhellion cynllun gweithredu'r grŵp gorchwyl a gorffen ar ynni gwynt ar y môr—yn gam pwysig iawn ymlaen o ran dod â'r partneriaid hynny ynghyd.

Yn amlwg, rydym yn trafod gyda'r porthladdoedd, ond yn deall beth y gallai'r angen fod gan y Gronfa Gyfoeth Wladol, er enghraifft. Gallai hynny fod yn ffynhonnell gyllid bwysig iawn ar gyfer buddsoddi yn y porthladdoedd. Felly, yn sicr, mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Maent yn drafodaethau yr ydym yn awyddus i barhau â nhw.

Ar y porthladdoedd rhydd, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu darparu'r rhyddhadau treth nawr drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer y porthladdoedd rhydd hynny, ac edrychaf ymlaen hefyd at y gwerth £25 miliwn o gyllid sbarduno a fydd ar gael cyn bo hir.

Rydym wedi bod yn dadlau dros y cyfleoedd sy'n bodoli mewn ynni gwynt arnofiol ar y môr ers dros bum mlynedd. Nid yw'n fater o siarad mwyach; mae'n fater o weithredu. Mae angen inni ddechrau gweld rhawiau yn y ddaear, buddsoddiad yn ein seilwaith porthladdoedd, buddsoddiad yn ein seilwaith grid hefyd. Nid yw'r cyfle hwn yn mynd i fodoli mewn blwyddyn, 12 mis, 14 mis, dwy flynedd, gan fod y cyfle yma nawr, ac rydym ar ei hôl hi. Mae porthladd Avonmouth yn buddsoddi. Mae ein porthladdoedd yng Nghymru yn dal i aros i fwrw ymlaen â'r gwaith, felly mae hwn yn gyfle y dylid manteisio arno, ond mae'n anoddach oherwydd y rhethreg barhaus yn hytrach na chyflawni.

Ond diwydiannau eraill sy'n hanfodol i'n diogelwch economaidd a'n diogeledd ynni yw'r sectorau olew a nwy. Maent yn gyflogwyr allweddol. Maent yn cadw'r goleuadau ymlaen a'r olwynion yn troi. Ond y rhethreg gan Ed Miliband a'i griw yn San Steffan yw ei fod eisiau gweld diwedd y diwydiannau allweddol hyn cyn gynted â phosib. Mae hwnnw'n benderfyniad gwael yn strategol, ac yn benderfyniad a fydd yn ein gwneud yn dlotach ac yn fwy bregus. Felly, ni all Llywodraeth Cymru warantu y bydd manteision y prosiectau ynni gwynt ar y môr newydd hyn yn mynd i gymunedau. Mae eich cymheiriaid Llafur yn Llundain eisiau gweld diwedd ar ddiwydiannau olew a nwy allweddol. Mae chwyddiant a phrisiau ynni bellach yn uwch nag ar adeg yr etholiad cyffredinol. Nid yw'n ddarlun da iawn, ydy e, Ysgrifennydd y Cabinet?

13:45

Wel, rydym yn gweld pethau'n wahanol iawn yn Llywodraeth Cymru, gan y byddwch newydd nodi ein bod, yn ddiweddar iawn, wedi cael yr uwchgynhadledd fuddsoddi ryngwladol. Roedd rhan flaenllaw i ynni yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi honno, ochr yn ochr â nifer o'n sectorau strategol allweddol eraill. Yn y deuddydd hwnnw, cawsom ystod eang o gyfarfodydd gyda busnesau o'r sector ynni. Mae ynni glân yn enwedig yn ffocws i'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddatblygu'r weledigaeth, ond hefyd i ddatblygu'r prosiectau, ochr yn ochr ag eraill. Felly, mae ynni'n rhan flaenllaw iawn o ddull gweithredu'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Dyna pam y rhoddodd y Prif Weinidog yr economi, ynni a chynllunio mewn un portffolio. Byddwch wedi gweld, ddoe ddiwethaf, fy natganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i gyflymu penderfyniadau cynllunio. Roedd hynny mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y sector ynni, eu bod angen i benderfyniadau gael eu gwneud yn gyflymach, ac roeddent angen sicrwydd yn gyflymach er mwyn buddsoddi. Felly, rwy'n credu bod dod â'r holl bethau hyn ynghyd yn gwneud gwahaniaeth ac yn rhoi'r hyder y mae ei angen i ddiwydiant.

Diolch, Lywydd. Ac wrth gwrs, mae'r newyddion am ffermydd gwynt arnofiol ar y môr i'w groesawu, ond wrth wrando ar yr atebion a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i Sam Kurtz, ymddengys bod datgysylltiad rhwng y Llywodraeth a realiti. Y bore yma, yn sesiwn Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, codwyd rhai cwestiynau sylfaenol fel rhan o'n hymchwiliad i fewnfuddsoddi: cwestiynau ynghylch ein cadwyn gyflenwi, sgiliau a pharodrwydd porthladdoedd. Dywedir wrthym y bydd y ffermydd gwynt hyn yn arwain at 5,000 o swyddi yn y degawd nesaf. Pum mil o swyddi ymhle, yn union? Bydd yr amserlen ar gyfer cyflawni'n dynn, ac rydym wedi gweld porthladdoedd mewn mannau eraill yn gwneud y buddsoddiadau angenrheidiol hynny. Rydym wedi gweld tanfuddsoddi mewn prentisiaethau, ac rydym wedi gweld ein sylfaen weithgynhyrchu'n erydu. Enghraifft o hyn: yr hyn a ddigwyddodd ym Mhort Talbot. Felly, cwestiynau ynglŷn ag a yw'r cadwyni cyflenwi yn bodoli yng Nghymru mewn gwirionedd inni fanteisio'n llawn ar yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y môr Celtaidd. Ceir cryn amheuaeth a yw Cymru mewn sefyllfa i wireddu potensial y cyhoeddiad hwn yn llawn. Dyna oedd y canfyddiad flwyddyn yn ôl. Mae hynny'n prysur ddod yn realiti bellach. Dylai Aelodau ar draws y Siambr hon deimlo'n rhwystredig gyda'r sefyllfa hon, gan fod nifer o Aelodau, yn drawsbleidiol, wedi codi'r pryder hwn dro ar ôl tro. Mae datgysylltiad rhwng y Llywodraeth a realiti yma. Sut y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb?

Fel rhan o grŵp gorchwyl a gorffen y cynllun gweithredu ar gyfer ynni gwynt ar y môr, roedd gennym ffrwd waith benodol yn edrych ar sgiliau, ac roedd gennym ffrwd waith arall yn edrych yn benodol ar y gadwyn gyflenwi. Nawr, gyda phob ewyllys da yn y byd, ni fydd holl gydrannau'r ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn cael eu hadeiladu yma yng Nghymru. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud—[Torri ar draws.] Hynny yw, dylai hynny fod yn amlwg, felly ni ddylai pobl fod yn chwerthin yn y Siambr ar y datganiad hwnnw. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud a'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud yw edrych ar y gadwyn gyflenwi gyfan. Ble mae ein cryfderau yma yng Nghymru? Ble mae'r bylchau? Ac a oes pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i gefnogi'r gwaith o gau'r bylchau hynny? Ble mae'r cyfleoedd?

Yn yr un modd, ar yr ochr sgiliau, mae'r ffrwd waith wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'n colegau i ddeall ble mae'r sgiliau, beth fydd y sgiliau yn y dyfodol. Arweiniodd Jack Sargeant waith penodol i edrych ar sgiliau gwyrdd a mapio pa sgiliau y bydd eu hangen er mwyn cyflawni prosiectau fel ynni gwynt arnofiol ar y môr. Felly, mae'r gwaith yno. Mae'n mynd rhagddo. Mae'n cael ei wneud mewn partneriaeth â'r colegau a'r prifysgolion, ac mewn partneriaeth â'r gadwyn gyflenwi a chyrff cynrychiadol busnes a diwydiant yma yng Nghymru.

Rwyf wedi fy synnu'n fawr, mewn gwirionedd, gyda sylwadau agoriadol Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb i mi. Hynny yw, iawn, yn ddealladwy, mae'r sefyllfa rydym ynddi nawr yn golygu na fyddwn yn gallu cynhyrchu a chydosod y tyrbinau gwynt hynny'n llawn wrth iddynt ddod yn weithredol. Rwy’n derbyn yn llwyr mai dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd. Ond rydym wedi cael blynyddoedd o drafod mewn perthynas â hyn. Rwy’n cofio Aelodau o Blaid Lafur Cymru yn dadlau dros felin dur plât ym Mhort Talbot i fanteisio ar y sefyllfa yn y môr Celtaidd. Rydym wedi cael blynyddoedd. Felly, a dweud y gwir, mae hynny'n dangos diffyg uchelgais llwyr gan Lywodraeth Cymru. Enghraifft arall o reolwriaeth mewn sefyllfa lle gallem fod wedi gweld manteision enfawr i gymuned sy'n arbennig o fregus, yn enwedig o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd nawr gyda'r gwaith dur.

Fe sonioch chi am y grŵp gorchwyl a gorffen. Fel y dywedodd Sam Kurtz, mae angen inni symud y tu hwnt i rethreg bellach. Mae gennym 15 o argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw. Hyd y gwelaf, yr unig argymhelliad a roddwyd ar waith oedd y prosbectws porthladdoedd. Felly, mwy o siarad, dim cyflawni. Felly, o ddifrif, faint o argymhellion y mae'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw wedi bwrw ymlaen â nhw? A ble rydym arni ar hyn o bryd o ran manteisio'n llawn ar yr hyn sydd i ddod? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae'r hyder yn y sector yng ngallu Cymru i fanteisio ar y sefyllfa wedi'i erydu'n llwyr. Mae'r canfyddiad, fel y dywedais, wedi troi'n realiti.

13:50

Wel, nid dyna fy nghanfyddiad i pan fyddaf yn siarad â phobl sy'n ymwneud â'r diwydiant ac sy'n gweld y potensial a'r cyfleoedd. Maent yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Maent eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud hynny, ond maent yn cydnabod bod gan y diwydiant ei hun rôl i'w chwarae o ran manteisio ar y cyfleoedd. Ein cyfrifoldeb ni yw creu'r amgylchedd hwnnw lle gellir manteisio'n hawdd ar y cyfleoedd hynny a'u gwireddu. Felly, rydym yn gweithio, fel y dywedais, ar gyflawni'r cynllun gweithredu. Mae cryn dipyn o amser eto hyd nes y gwelwn y tyrbinau hynny'n cael eu cyflenwi'n llawn, ond yn amlwg, byddwn yn gweithio i sicrhau ein bod yn cadw cymaint o fudd ag y gallwn yma yng Nghymru.

Rydym yn gweithio ar hyn o bryd, mewn gwirionedd, ar fargen sector gyda'r sector ynni hefyd. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n dod i ben, gobeithio, cyn diwedd tymor y Senedd hon—rydym yn gobeithio cyflawni hynny oddeutu diwedd mis Mawrth. A bydd hwnnw'n nodi sut y bydd y diwydiant a'r Llywodraeth yn cydweithio er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posib, gan gadw cymaint o fudd ag y gallwn yma yng Nghymru, o ran y gadwyn gyflenwi, ond o ran sgiliau hefyd.

Iawn, parod i fanteisio ar y cyfle, ond fe ddywedoch chi eich hun, aros i'r Llywodraeth greu'r amgylchedd. Adroddodd y grŵp gorchwyl a gorffen flwyddyn yn ôl. Fe sonioch chi am y fargen sector, mae'r fargen sector wedi bod yn destun trafodaeth nawr ers dwy flynedd. Rydym yn llusgo ein traed ar y sefyllfa hon. Mae gennym enghraifft Avonmouth fel porthladd. Mae'n bryder gwirioneddol unwaith eto nawr, pan fydd y gwynt arnofiol ar y môr yn cael ei gyflwyno, y bydd gan borthladdoedd yn Lloegr fantais drosom ni ac y byddant yn elwa o'r manteision, ac yn osgoi Cymru yn gyfan gwbl. Nid canfyddiad yw hynny, nid chi a minnau'n gweld pethau'n wahanol, dyna realiti'r sefyllfa, ac rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i edrych ar y dystiolaeth a gawsom y bore yma ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Fe'i nododd yn glir iawn, a chredaf ei bod yn werth ystyried yr hyn a ddywedwyd yn y sesiwn honno. Fel y dywedais, rydym mewn perygl gwirioneddol o golli'r manteision hynny.

Nawr, rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet wedi gweld bod cynnig Plaid Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron wedi pasio Tŷ'r Arglwyddi. Un ffordd y gallwn gadw rhywfaint o'r elw hwnnw o'r datblygiadau diweddaraf yn y môr Celtaidd fyddai datganoli Ystad y Goron yn llawn. Mae'r Bil hwnnw bellach yn mynd ymlaen i Dŷ'r Cyffredin ac yn aros i'r Llywodraeth drefnu dadl. Felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn annog ASau Llafur Cymru i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i drefnu amser? Ac a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi pwysau ar ASau Llafur Cymru i gefnogi galwadau Plaid Cymru am ddatganoli Ystad y Goron drwy'r Bil hwnnw?

Byddaf yn edrych yn ofalus ar y dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi'i chael mewn perthynas â phorthladdoedd, ond wrth gwrs, bydd fy nghyd-Aelodau'n cydnabod mai'r porthladdoedd sy'n gyfrifol am wneud y buddsoddiad hwnnw. Felly, gall Llywodraeth Cymru weithio gyda nhw i nodi ffynonellau cyllid, broceru'r trafodaethau hynny gyda'r gronfa gyfoeth wladol, er enghraifft, ond yn y pen draw, bydd angen i'r porthladdoedd gael hyder i fuddsoddi. A chredaf y bydd y cyhoeddiadau diweddar ynghylch gwynt arnofiol ar y môr yn rhoi hyder i'r porthladdoedd hynny fuddsoddi.

Ond ar y pwynt ehangach ynghylch Ystad y Goron, ni chredaf fod unrhyw amwysedd o gwbl ym marn Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Ystad y Goron, ac fe fyddwch yn gyfarwydd â'r datganiad a wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog yn ddiweddar ynghylch sefydlu'r grŵp arbenigol i gynghori ar rai o'r manylion ynghylch sut y gallem fynd ati i ddatganoli Ystad y Goron a beth fyddai'r manteision economaidd i ni yng Nghymru. Oherwydd ni chredaf fod digon o welededd wedi bod i'r manteision ariannol. Mae'n haws yn yr Alban, gan y gall yr Alban a Llywodraeth yr Alban bwyntio at symiau penodol o arian y mae'r wlad yn elwa ohonynt o ganlyniad i'w dull gweithredu yn yr Alban a'r datganoli yno. Ni allwn wneud hynny yma yng Nghymru i ddangos budd Ystad y Goron. Felly yn sicr, yn y lle cyntaf, credaf y byddai mwy o welededd ar y cyllid yn ddefnyddiol iawn. Ond ni chredaf fod unrhyw ddryswch ynghylch ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at Ystad y Goron a'n hawydd i'w gweld yn cael ei datganoli.

Busnesau Bach

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach yng Ngogledd Cymru? OQ63681

Drwy werth £335 miliwn o gymorth ardrethi annomestig, cyngor a chyllid wedi'i dargedu gan Busnes Cymru, a buddsoddiad mewn cysylltedd digidol ac adfywio canol trefi, rydym yn helpu busnesau bach a chanolig yng ngogledd-ddwyrain Cymru i dorri costau, cael mynediad at arbenigedd a thyfu. Rydym yn cefnogi swyddi ac arloesedd, o fusnesau newydd i fusnesau'r stryd fawr, gyda chymorth ymarferol sy'n cryfhau economïau lleol nawr ac ar gyfer y dyfodol.

13:55

Wel, canlyniadau sy'n bwysig. Dyfynnwyd gwestywr o Wrecsam, Steven Hesketh, yn y cyfryngau y mis hwn yn rhybuddio bod y sector lletygarwch a gwestai yn cael ei ddinistrio'n llwyr a'i arwain i fethu oherwydd polisïau'r Llywodraeth gyda'i werth ardrethol yn mynd i neidio o £87,000 i £171,000 o fis Ebrill ymlaen, gan ddyblu i bob pwrpas. Ar ystafell £80 y noson, mae 20 y cant yn mynd ar dreth ar werth, 20 y cant ar gomisiwn i'r wefan archebu, 10 y cant ar ardrethi busnes, gan adael llai na £40 cyn talu costau, gan gynnwys cynnydd mewn biliau cyfleustodau, sydd oddeutu 10 y cant ar gyfartaledd. Mae gweithredwyr Llandudno yn nodi pwysau tebyg, ac mae UKHospitality Cymru yn amcangyfrif bod gwerthoedd ardrethol Cymru wedi codi 26 y cant, gan ychwanegu £131 miliwn at filiau.

Er bod Llywodraeth Cymru’n tynnu sylw at ryddhad hanesyddol a phecyn newydd sy'n cyflwyno'r cynnydd yn raddol ac yn lleihau'r lluosydd, mae lletygarwch a hamdden wedi'u heithrio o rannau o'r diwygiadau hynny, a fydd yn arwain at fethiant rhai busnesau a diswyddiadau posib mewn economïau lleol sy'n dibynnu ar dwristiaeth. Pryd, os o gwbl, y byddwch chi'n cynnull trafodaethau brys gyda busnesau lletygarwch a'r diwydiant lletygarwch, i gydgynllunio cymorth ymarferol sy'n cadw drysau ar agor a swyddi'n lleol?

Rwy'n cydnabod y pryderon ynghylch yr ailbrisio diweddar. Wrth gwrs, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, sy'n gwneud hynny, ond ar gais busnesau, fe wnaethom gyflwyno deddfwriaeth sy'n ein newid i drefn ailbrisio dreigl tair blynedd mewn perthynas ag eiddo annomestig. Mae hynny'n digwydd er mwyn cynnal tegwch yn y system drwy ailddosbarthu'r cyfanswm sy'n daladwy rhwng talwyr trethi i adlewyrchu'r newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo.

Yn wirioneddol bwysig, nid yw'n codi'r un geiniog ychwanegol drwy ardrethi annomestig. Y cyfan y mae'n ei wneud yw ailbrisio'r eiddo hynny mewn perthynas â'i gilydd ar draws y farchnad, felly nid yw'n codi unrhyw refeniw ychwanegol yn gyffredinol. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth nad wyf yn credu bod pobl yn ei ddeall yn iawn. Bydd trethi rhai talwyr ardrethi’n cynyddu, ond wrth gwrs, fe fydd yn gostwng i eraill, a bydd llawer na fyddant yn gweld unrhyw newid o gwbl, gan gydnabod y newidiadau cymharol ar draws y farchnad eiddo a'r sylfaen drethu yma yng Nghymru.

Felly, mewn ymateb i ddeall bod hyn wedi bod yn anodd iawn i rai busnesau, rydym yn darparu £116 miliwn ychwanegol o ryddhad trosiannol dros y ddwy flynedd nesaf yn dilyn yr ailbrisio, a bydd hynny'n dod i rym ar 1 Ebrill. Mae hynny'n ychwanegol at y rhyddhadau parhaol y soniais amdanynt. Unwaith eto, mae hwnnw'n gyllid sylweddol y daethom o hyd iddo gan Lywodraeth Cymru i dalu rhannau o filiau'r busnesau hynny sy'n gweld cynnydd. Rwy’n cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer o fusnesau, a dyna pam ein bod wedi darparu'r cymorth trosiannol dros y ddwy flynedd nesaf, ond rwyf hefyd yn cydnabod, yn gyffredinol, nad oes unrhyw arian ychwanegol yn cael ei godi o ganlyniad i'r ailbrisio.

Rydym wedi clywed gymaint o weithiau'n barod heddiw, onid ydym, am y pwysau dwys ar fusnesau lletygarwch, tafarndai ac ati. Mae llawer yn gofyn, yn amlwg, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi eithrio lletygarwch o'r lluosydd manwerthu is. Tybed a oeddech chi'n ymwybodol o'r canlyniadau? A allwch chi gadarnhau bod asesiad o effaith y polisi hwn wedi'i gynnal gan y Llywodraeth? A allwch chi ddweud wrthym, er enghraifft, fod y gwaith wedi'i wneud i ddeall faint o fusnesau a allai fod yn fusnesau hyfyw ar hyn o bryd na fyddent yn gallu parhau i fasnachu ar ôl cyflwyno'r polisi? Dyma'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn, felly a allwch chi roi sicrwydd i ni eich bod wedi gwneud eich gwaith cartref ar hyn mewn gwirionedd?

Roedd y lluosydd manwerthu is yno i gydnabod y pwysau sydd ar siopau bach ar ein strydoedd mawr, ac yn enwedig i gydnabod y pwysau sydd arnynt nawr o ran ymateb i'r cynnydd mewn gwerthiannau digidol a gwerthiannau ar-lein. Felly, yn amlwg, nid fi yw'r arweinydd yn y maes polisi hwn—yr Ysgrifennydd cyllid sy'n gyfrifol am ardrethi annomestig—ond y farn oedd nad yw'r sector lletygarwch yn wynebu'r un pwysau o ran gwerthiannau ar-lein o gymharu â safleoedd manwerthu bach. Felly, os ydych chi'n chwilio am esboniad pam mai dim ond y siopau bach hynny a gafodd eu cynnwys yn y lluosydd manwerthu is, wel, dyna'r esboniad. Rwy'n siŵr y byddai'r Ysgrifennydd cyllid yn fwy na pharod i roi mwy o fanylion i chi am y gwaith y byddai ei swyddogion wedi'i wneud ar fapio effaith hynny.

14:00

Trwy gydol fy 19 mlynedd fel Aelod o'r Senedd dros Wrecsam, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi llawer o fusnesau bach yn fy etholaeth, yn enwedig drwy Busnes Cymru. Mae'r cwmni arobryn Air Covers, sydd wedi'i leoli ar ystad ddiwydiannol Wrecsam, yn un o'r cwmnïau hyn. Mae'n cynllunio ac yn cynhyrchu gorchuddion amddiffynnol ar gyfer awyrennau sifil a milwrol, cychod a cherbydau. Heddiw, mae'r cwmni'n allforio i dros 50 o wledydd. Dechreuodd yn fach iawn yn ôl yn 2006.

Cafodd y llwyddiant hwnnw ei helpu gan gymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi mynychu nifer o deithiau masnach rhyngwladol, er enghraifft, ac mae hynny wedi bod yn hollol allweddol i dwf eu gweithgarwch allforio. Rwy'n falch iawn o'r cwmni. Mae'n gwmni lleol ac mae'n parhau i gynhyrchu cynhyrchion pwrpasol o'r radd flaenaf y mae galw amdanynt ar draws y byd. Hoffwn pe gallech ehangu ychydig ar beth yw eich cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer rhoi cefnogaeth bellach i fy etholaeth.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y disgrifiad o waith Air Covers, busnes gwych arall yn eich etholaeth. Roeddwn yn arbennig o falch o ymuno â chi yn Magellan yr wythnos diwethaf hefyd—rhan bwysig arall o'r gadwyn gyflenwi yn y diwydiant awyrofod—i ddarganfod mwy ynglŷn â sut y mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn helpu'r busnes hwnnw i dyfu. Rwy'n gwybod bod tîm Busnes Cymru wedi cael derbyniad da iawn ledled Cymru. Mae'r £22 miliwn y gwnaethom ei fuddsoddi yn y gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol hon yn sicr yn gwneud llawer o les mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru. Yn nhymor y Senedd hon, mae gwasanaeth Busnes Cymru wedi cefnogi creu neu ddiogelu dros 3,871 o swyddi, 996 o fusnesau newydd, ac wedi darparu cymorth i 7,285 o unigolion a busnesau yng ngogledd Cymru yn unig, felly rwy'n credu y bydd gan bob rhan o Gymru straeon gwirioneddol wych i'w hadrodd.

Rydym yn gwneud llawer iawn i gefnogi busnesau i allforio. Mae gennym ein digwyddiadau Archwilio Allforio—mae yna un neu ddau o'r rheini ar y gweill cyn diwedd tymor y Senedd hon—lle gall busnesau ddod at ei gilydd a chlywed gan fusnesau eraill sydd wedi llwyddo i gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru i allforio ledled y byd. Hefyd, rwyf am ddweud gair am bwysigrwydd ein swyddfeydd rhyngwladol. Mae gennym swyddfeydd mewn mwy na 10 gwlad ledled y byd, ac maent yn darparu cyflwyniadau pwysig iawn i fusnesau sy'n awyddus i allforio. Gallant gefnogi busnesau sydd eisiau teithio i'r marchnadoedd hynny a darganfod ychydig mwy am eu hanghenion. Maent yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi busnesau drwy eu helpu i allforio, yn ogystal â dod â mewnfuddsoddiad i Gymru.

Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau'r Llywodraeth i gefnogi cynhyrchu ynni domestig a chymunedol fel rhan o gynlluniau effeithlonrwydd ynni? OQ63698

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ynni lleol a chymunedol ers 15 mlynedd. Mae'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio wedi darparu dros £368 miliwn ers 2020 i wella perfformiad ynni cartrefi. Drwy Ynni Cymru, rydym wedi buddsoddi bron i £23 miliwn, gan gefnogi cynhyrchiant ynni cymunedol newydd gyda defnydd craffach o ynni, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni.

Dwi am dynnu sylw at enghraifft benodol o Wynedd sy'n dangos yn glir y potensial sydd gan gynhyrchu ynni domestig a chymunedol, o gael y gefnogaeth gywir. Yn Nhanygrisiau, ym Mlaenau Ffestiniog, fel mewn nifer o gymunedau ôl-ddiwydiannol ledled Cymru, mae tlodi tanwydd yn broblem ddofn a pharhaus. Mae'r stoc tai yn hen ac yn aneffeithlon, ac mae nifer fawr o gartrefi yn dibynnu ar danwydd drud fel olew, glo neu wresogyddion storio trydan. Ond mae'r gymuned yma hefyd yn enghraifft o'r cyfleoedd sydd ar gael.

Mae Cwmni Bro Ffestiniog, mewn partneriaeth ag Ynni Lleol, Cyngor Gwynedd a phartneriaid eraill, yn gweithio i sefydlu cwmni gwasanaethau ynni cymunedol. Nod y cynllun yw ôl-osod dros 250 o dai, datblygu system wresogi leol sy'n defnyddio adnoddau cynaliadwy lleol, a chydweithio efo cynhyrchwyr trydan lleol, gan gynnwys asedau hydro sylweddol sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal. Mi fyddai'r model hwn nid yn unig yn lleihau costau ynni i drigolion, ond hefyd yn cefnogi'r cyflogwr mwyaf yn lleol, sef REHAU, wrth iddo fo ddatgarboneiddio erbyn 2030, a hefyd, wrth gwrs, yn creu sgiliau a swyddi lleol. Ond mae yna ddiffyg eglurder ynglŷn â sut y bydd y cynlluniau newydd yn cael eu gweithredu, a diffyg eglurder ynglŷn ag unrhyw arian canlyniadol sydd i ddod yn sgil hynny.

Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad buan gan Lywodraeth Cymru am y goblygiadau i Gymru yn sgil cyhoeddiad Ed Miliband heddiw ar ei gynllun Cartrefi Cynnes?

14:05

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'n dda iawn clywed am yr enghraifft honno o'r gymuned yn dod at ei gilydd i chwilio am ffyrdd y gallant fynd i'r afael â thlodi tanwydd, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n ysgogi busnesau lleol ac yn gwneud y gorau o'ch asedau amgylcheddol naturiol yn yr ardal hefyd. Mae'n swnio fel prosiect gwirioneddol wych.

Nid ydym yn gwybod eto beth fydd y goblygiadau llawn i'r cynllun ynni cynnes y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio trwy hynny i ddeall ble mae'r cyfleoedd i ni yng Nghymru. Mae yna rai rhannau sy'n amlwg heb eu datganoli, ond mae yna rannau eraill y credaf y byddai angen trafodaeth a chydweithio agos rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Fel y dywedais, ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod unrhyw beth eto ynglŷn â pha gyllid canlyniadol a allai fod ar gael. Ond wedi dweud hynny, mae gennym gyllid sylweddol iawn eleni ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae honno, yn y flwyddyn ariannol hon, wedi darparu £107 miliwn i landlordiaid i'w helpu i gefnogi perfformiad ynni eu stoc dai. Mae hynny'n golygu bod y cyfanswm ers 2020 yn £338 miliwn.

Wrth gwrs, mae gennym y gwaith sy'n digwydd drwy raglen grant Ynni Cymru. Efallai y bydd hwnnw'n lle da i'r prosiect rydych chi wedi'i ddisgrifio'n lleol fynd i drafod hefyd, i weld a oes unrhyw gefnogaeth ar gael. Trwy'r prosiect hwnnw, hyd yma rydym wedi cefnogi 47 o brosiectau ynni clyfar lleol newydd. Mae'r cyfanswm yn 80 o brosiectau. Mae'n gynllun cymharol newydd, ond yn hynod boblogaidd yn lleol. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae wedi'i gyflwyno hyd yn hyn.

Ffordd Blaenau'r Cymoedd

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn alinio'r ddarpariaeth sgiliau a chreu swyddi i gymunedau lleol gyda'r buddsoddiad yn ffordd Blaenau'r Cymoedd? OQ63700

Er mwyn gwneud y mwyaf o'r effaith leol a chreu manteision parhaol o fuddsoddiad trafnidiaeth mawr fel yr A465, rydym yn sicrhau bod y seilwaith yn cael ei ategu drwy dargedu datblygu sgiliau, cymorth busnes ac adfywio yn seiliedig ar leoedd. Mae hyn yn cynnwys prentisiaethau, ymgysylltu STEM a chyfleusterau hyfforddiant uwch, ochr yn ochr â rhaglenni rhanbarthol fel y Cymoedd Technoleg a mentrau prifddinas-ranbarth Caerdydd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Mae'r Cymoedd wedi gweld dau o'r buddsoddiadau mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud erioed: uwchraddio ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465, ond hefyd y buddsoddiad mewn rheilffyrdd yn y prosiect metro. Ond yr hyn sy'n rhaid inni ei sicrhau, Weinidog, yw bod y buddsoddiadau hyn o fudd i'r cymunedau lleol. Ni allwn gael ffordd osgoi a rheilffordd sy'n tynnu pobl allan o'r Cymoedd. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw creu seilwaith sy'n gwreiddio busnesau a swyddi newydd yn y Cymoedd wedyn—ym Mlaenau'r Cymoedd, ac yn amgylchedd ehangach y Cymoedd. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gweithio gyda llywodraeth leol ac eraill i ddatblygu cynllun swyddi a chynllun pobl i sicrhau bod cymunedau'r Cymoedd, a Blaenau'r Cymoedd yn enwedig, yn gallu elwa o'r buddsoddiadau seilwaith enfawr hyn a wnaed gan Lywodraeth Cymru.

Diolch i Alun Davies am y cwestiwn hwnnw a diolch iddo am dynnu sylw at y buddsoddiadau mawr y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn ffordd Blaenau'r Cymoedd ac mewn gwasanaethau rheilffyrdd. Rwy'n cytuno ag ef, mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr fod cymunedau lleol a phobl leol yn elwa o'r buddsoddiadau hynny. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, Lywydd, na chewch chi neb sy'n hyrwyddo'r Cymoedd yn well yn y Senedd hon nag Alun Davies, ac roedd yn wych bod gydag Alun yn ei etholaeth yn agoriad y cyfleuster peirianneg uchel ei werth. Mae'n gampws peirianneg o'r radd flaenaf— [Torri ar draws.] Gallaf glywed llefarydd y Ceidwadwyr dros yr economi yn heclo'r ffaith bod gan Glyn Ebwy gampws peirianneg o'r radd flaenaf. Efallai mai'r rheswm am hynny yw nad yw'n gwybod beth ydyw. Buddsoddiad a ariannwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd ydoedd. Ond mae Alun Davies yn hollol gywir, mae angen inni wneud yn siŵr fod pobl leol a chymunedau lleol yn elwa. Edrychaf ymlaen at siarad yn lansiad y cynllun sgiliau newydd ar gyfer partneriaeth sgiliau prifddinas-ranbarth Caerdydd ymhen ychydig wythnosau. Bydd ganddo rôl allweddol iawn yn y gofod hwn i ddatblygu cyfleoedd i etholwyr Alun. Rwy'n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a minnau'n falch iawn o barhau â'r sgwrs gydag Alun i edrych ar gyfleoedd pellach i'w etholaeth, yn enwedig gyda'r gronfa twf lleol gwerth £547 miliwn.

14:10

Rwy'n ddiolchgar i Alun Davies am ofyn y cwestiwn. Rwy'n cytuno'n llwyr efo'i sylwadau fo ynglyn â phwysigrwydd cael cynllun i'n pobl a'n cymunedau ni. Yn amlwg, mae yna fanteision sylweddol wedi bod o'r buddsoddiad hwn. Ond mae nifer o drigolion sy'n byw yn agos at y ffordd, yn arbennig yn Hirwaun, wedi cael eu heffeithio gan lwch a sŵn. Mae'r lôn wedi'i chodi'n sylweddol yn fanna. Ac er gwaethaf misoedd o fonitro, llythyrau, e-byst di-ri, maen nhw'n dal yn dioddef sgileffeithiau—methu â bod yn eu gerddi gyda'r nos ac ati. Felly, er bod rhai pobl yn cael budd, i'r trigolion sydd agosaf at y lôn, maen nhw'n cael traffaeth mawr—a Future Valleys yn gwneud dim. Mae yna ffensys mewn rhai rhannau o'r lôn sy'n gwarchod rhai tai, a does yna ddim yn y rhan yma o'r ffordd. Fyddai'r Gweinidog yn fodlon gweithio gyda mi i weld os medrwn ni gael datrysiad i'r trigolion hyn sy'n teimlo eu bod nhw'n byw mewn tai mewn sefyllfa annioddefol, er yn gweld budd i eraill? Maen nhw hefyd eisiau gallu dal i fyw yn eu cymunedau yn Hirwaun.

Diolch am hynny, Heledd. Unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr y dylai pobl yn y gymuned leol deimlo budd buddsoddiadau mawr fel ffordd Blaenau'r Cymoedd, a theimlo'r budd o'r cyfleoedd gwaith lleol yno yn enwedig. Ar y pwyntiau a wnaed am drigolion lleol, fe ofynnaf i'r Ysgrifennydd trafnidiaeth fynd ar drywydd y sgwrs hon gyda chi'n uniongyrchol a bwrw ymlaen â hynny.

Maes Awyr Caerdydd

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Llywodraeth Cymru i Faes Awyr Caerdydd? OQ63682

Y llynedd, ar ôl ystyried yr adborth gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a'r holl bartïon â diddordeb, cafodd pecyn cymhorthdal a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd o hyd at £205.2 miliwn dros 10 mlynedd ei lanlwytho i gronfa ddata'r DU ar dryloywder cymhorthdaliadau, ac mae £20 miliwn o'r cymhorthdal wedi'i dynnu i lawr hyd yma.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wel, roedd £20 miliwn a dalwyd eisoes eleni o'r pecyn cymorth diweddaraf o £205 miliwn yn cyfeirio at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, her gyfreithiol gan Faes Awyr Bryste, a pherfformiad teithwyr ymhell islaw'r lefelau cyn COVID. Crafu'r wyneb yw hyn ar bopeth sydd o'i le gyda Maes Awyr Caerdydd a sut y caiff ei drin gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a minnau wedi bod yn gadarn: rhaid dychwelyd y maes awyr i'r sector preifat. Mae'r cymhorthdal, yn ychwanegol at y buddsoddiad blaenorol, wedi costio £286 ar gyfartaledd i bob aelwyd yng Nghymru hyd yma. Rydym i gyd yn deall bod camau cyfreithiol a chyfrinachedd masnachol ar waith, ond mae'r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu gwybod sut y caiff eu harian ei wario. Mae swyddogion wedi dweud wrth bwyllgorau fod y cynllun achub yn llwyddiannus, ond mae nifer y teithwyr yn parhau i ostwng.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymwybodol na allwch wneud sylwadau ar her gyfreithiol sydd ar y gweill, ac er y gall y cwestiwn hwn fod yn un academaidd i'r Llywodraeth hon, pryd fydd y cymhorthdal yn dod i ben? Pa bryd y bydd troi at berchnogaeth breifat yn digwydd, ac a ddylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol rheolaidd fel bod y cyhoedd yn cael y tryloywder y maent yn ei haeddu?

Fel y cydnabuwyd, cyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cymorth cymhorthdal i alluogi potensial twf economaidd Maes Awyr Caerdydd. O ganlyniad i'r achos cyfreithiol hwnnw, nid wyf yn mynd i allu ymateb yn fanwl i'r holl bwyntiau a godwyd. Credwn fod perchnogaeth y Llywodraeth ar Faes Awyr Caerdydd yn cynnig y cyfle gorau i wneud y mwyaf o fanteision economaidd ehangach y maes awyr a'r gallu i greu swyddi newydd. Rydym bob amser wedi dweud ein bod yn parhau i fod yn agored i ystyried gwahanol fodelau perchnogaeth ar adeg briodol yn y dyfodol.

O ran perfformiad, nid yw'r feirniadaeth a gafwyd nawr yn deg. Roedd perfformiad teithwyr yn gryf iawn yn 2025 mewn gwirionedd. Yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi, teithiodd 928,000 o deithwyr drwy'r maes awyr—mae hynny'n gynnydd o 5.3 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Deilliodd y twf hwnnw'n bennaf o deithiau amlach gan gwmnïau hedfan a llwybrau newydd. Amcangyfrifwyd y bydd y maes awyr yn cynhyrchu dros £200 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros bob blwyddyn, gan gefnogi miloedd o swyddi.

Pan edrychwn ar rai o'r llwyddiannau yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, cafodd Ryanair ei raglen haf fwyaf erioed yng Nghaerdydd yn 2025. Mae'r maes awyr bellach yn mwynhau llwybrau newydd i Salzburg a Fuerteventura gyda TUI ac i Alicante gyda Ryanair ar gyfer ei dymor 2025. Bydd haf 2026 yn gweld pedwaredd awyren ychwanegol gan TUI, a fydd yn agor llwybrau newydd. Wrth gwrs, bydd cyd-Aelodau wedi gweld y cyhoeddiad am lwybr awyr newydd WestJet o Gaerdydd i Toronto, a fydd yn agor gogledd America gyfan i deithwyr o Gymru, ond yn bwysig, fe fydd yn gyswllt busnes pwysig hefyd.

14:15

Rwy'n siarad â llawer o etholwyr sy'n gefnogol iawn i Faes Awyr Caerdydd. I'r rhan fwyaf ohonom, dyma'r maes awyr y byddwn ni'n ei ddewis, ac roeddwn i'n falch iawn o gael llyfryn yn nodi'r cynnydd yn nifer y cyrchfannau haf. Roedd yn llwyddiannus iawn pan gâi ei redeg gan dri o gynghorau sir Morgannwg, mor llwyddiannus nes i John Redwood orfodi'r cynghorau i'w werthu i'r sector preifat. Ar ôl i nifer y teithwyr ostwng tra oedd yn y sector preifat, prynodd Llywodraeth Cymru y maes awyr pan oedd cau yn unig opsiwn fel arall. Mae'n gyflogwr pwysig, yn sbarduno'r economi ac yn borth i dde Cymru. Fodd bynnag, mae ar dir adeiladu gwerthfawr iawn, a chan fod adeiladau arno, ni ddylai caniatâd cynllunio fod yn anodd ar gyfer cwmnïau manwerthu neu dai. Er fy mod i eisiau ei weld yn parhau fel maes awyr, a yw'r Ceidwadwyr wedi awgrymu i'r Gweinidog y dylid ei werthu ar gyfer manwerthu a thai?

Wel, rwyf wedi gallu nodi sut y mae perfformiad y maes awyr wedi bod yn gwella mewn gwirionedd—cryf iawn ar gyfer 2025. Rydym yn cydnabod yn llwyr y gwaith anhygoel y mae'r tîm yn y maes awyr wedi bod yn ei wneud hefyd. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am y gwaith eithriadol a wnânt. Mae'n werth cofio hefyd fod gennym weithgaredd cargo yn y maes awyr yn ogystal. Rydym yn gweld cargo sylweddol yn dod drwodd. Rydym yn awyddus i weld mwy fyth yn y dyfodol hefyd.

Mae'r tîm yn y maes awyr wedi bod yn gwneud gwaith da iawn ar hyrwyddo Maes Awyr Caerdydd. Ochr yn ochr â Croeso Cymru, fe wnaethant fynychu y digwyddiad Routes World yn Hong Kong ym mis Medi i hyrwyddo Cymru a'r maes awyr ar y llwyfan rhyngwladol. Cafwyd buddsoddiad pellach yn y maes awyr hefyd, er enghraifft, sganwyr diogelwch y genhedlaeth nesaf. Maent wedi gwella profiad y teithwyr yn fawr, ac mae'r maes awyr yn buddsoddi mewn fferm solar newydd i bweru ei weithgarwch o 2026 ymlaen. Rydym wedi nodi perfformiad cryf gan y maes awyr, buddsoddiad cryf yn y maes awyr, ac ni lwyddais i siarad am y gwaith a wnânt o ran y buddsoddiad BA, a phwysigrwydd y cyfleuster hwnnw.

Ymuno ag Undeb Tollau

7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r manteision economaidd i Gymru pe bai'r DU yn ymuno ag undeb tollau gyda'r UE? OQ63686

Mae Cymru yn genedl Ewropeaidd falch sy'n edrych tuag allan, ac mae'r UE yn parhau i fod yn bartner masnachu mwyaf sylweddol Cymru a'r ffynhonnell fwyaf o fewnfuddsoddiad. Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu hadlewyrchu'n llawn yn nhrafodaethau Llywodraeth y DU gyda'r UE ar gydweithredu gwell o dan y ddealltwriaeth gyffredin.

Diolch am yr ateb hwnnw. Mae'r golled i gynnyrch domestig gros y DU yn £100 biliwn y flwyddyn, aseswyd bod y gost i economi Cymru yn agos at £4 biliwn, a'r fasnach gyda'r Undeb Ewropeaidd—gostyngiad mewn allforion o oddeutu £1 biliwn. Mae'r argyfwng geowleidyddol sydd bellach yn effeithio ar Ewrop yn gwneud undod yn bwysicach nag erioed. Ond mae adroddiad gan Gymdeithas y Cyfansoddiad, sy'n dadansoddi'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a sefydliadau ariannol amrywiol, yn dweud y canlynol:

'O ystyried yr holl dystiolaeth, mae'r farn gonsensws—y byddai effaith economaidd Brexit yn negyddol ac yn fawr—wedi'i gwireddu. Cafodd trethi eu codi oddeutu £100 biliwn gan senedd y DU yn 2019-2024, ac os cymerwn ffigur colli cynhyrchiant y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o 4 y cant... roedd angen £40 biliwn o'r codiadau treth hynny oherwydd ein bod wedi gadael yr UE.'

A ydych chi'n cytuno â mi nawr ei bod yn angenrheidiol i ni ailymgysylltu, o leiaf, â'r undeb tollau, a rhoi masnach ar sail briodol, gan gydnabod bod camgymeriad difrifol wedi'i wneud—oherwydd camwybodaeth a chelwyddau a ddywedwyd yn ystod yr ymgyrch honno yn ôl pob tebyg—ond ei bod hi nawr yn bryd unioni'r niwed economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol a wnaed o ganlyniad i hynny?

Wel, roedd Brexit yn syniad gwael ar y pryd, ac mae'n parhau i fod yn syniad gwael heddiw. Mae Mick Antoniw wedi nodi peth o'r dadansoddiad o'r effaith economaidd y mae wedi'i chael arnom ni hefyd, sy'n nodi hynny'n glir.

Pan wnaethom adael yr Undeb Ewropeaidd cymerodd flynyddoedd i ddod i sefyllfa lle roeddem yn negodi sut fyddai pethau yn y dyfodol. Felly, hyd yn oed pe bai'r DU yn ceisio ailymuno ag undeb tollau'r UE a bod yr UE yn fodlon trafod hynny, byddai'n rhaid inni ddod i gytundeb pwrpasol. Byddai hynny, yn anochel, yn cymryd cryn dipyn o amser. Felly, ar hyn o bryd, mae ein blaenoriaethau'n ymwneud â gwaith ar ailosod yr UE, gwaith ar y ddealltwriaeth gyffredin a cheisio sicrhau bod blaenoriaethau Cymru'n cael lle blaenllaw yn y trafodaethau hynny. Mewn gwirionedd, mae gennym un o'n cyfarfodydd grŵp rhyngweinidogol heddiw lle mae cyfle arall i siarad â Llywodraeth y DU am hynny.

A hoffwn ddweud bod Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, Nick Thomas-Symonds, yn hynod bragmataidd. Mae'n deall pwysigrwydd ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd i Gymru, ac mae'r ymgysylltiad yno wedi bod yn eithriadol o dda, rwy'n credu, o ran helpu Llywodraeth y DU i sicrhau, pan fyddant yn cael trafodaethau, eu bod yn deall persbectif Llywodraeth Cymru a phrif flaenoriaethau Cymru ar draws pethau fel y cytundeb iechydol a ffytoiechydol, symudedd ieuenctid, Erasmus+ ac yn y blaen.

14:20
Busnesau yng Ngorllewin De Cymru

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi hwb i fusnesau ar draws Gorllewin De Cymru? OQ63690

Rydym yn darparu pecyn cryf o gymorth sydd wedi'i gynllunio i roi hwb i fusnesau ledled Cymru. Trwy Busnes Cymru, ein gwasanaeth un stop dwyieithog, gall entrepreneuriaid a chyflogwyr gael mynediad at gyngor arbenigol ac arweiniad clir pan fydd ei angen arnynt. Ochr yn ochr â hyn, mae ein timau'n darparu cyngor pwrpasol ar reoli cysylltiadau, cymorth arloesi ac arbenigedd allforio, gan helpu busnesau Cymru i gyflymu twf, cryfhau cystadleurwydd a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddom fod busnesau'r stryd fawr, yn enwedig ein tafarndai, o dan bwysau eithafol, gyda biliau ynni eisoes yn ofnadwy o uchel ac ar gynnydd, ardrethi busnes dan fygythiad gyda'r ailbrisio eiddo newydd sydd eisoes wedi'i drafod yn dod i rym, a chwyddiant ar gynnydd unwaith eto o dan Lywodraeth Lafur y DU. Er gwaethaf y pecyn cymorth ardrethi busnes a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, sydd wrth gwrs i'w groesawu, rwy'n ofni nad yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn mynd yn ddigon pell i helpu ein tafarndai. Wrth gwrs, mae'n galonogol fod y Trysorlys yn San Steffan bellach yn barod i edrych eto ar y cynnydd mewn ardrethi busnes i dafarndai, ond fe wyddom nad yw hynny o reidrwydd o fudd i fusnesau yma yng Nghymru. Yn fy marn i mae'n drueni fod y sector wedi dod yn agos at chwalu'n llwyr cyn i'r Trysorlys gymryd unrhyw sylw.

Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, adroddwyd bod perchennog tafarn ym Mhort Talbot wedi gorfod gofyn i'w blant ei hun weithio shifftiau am nad yw'n gallu fforddio talu am staff ar hyn o bryd. Mae hynny'n feirniadaeth ddamniol o ymagwedd wrth-dwf, wrth-economi y ddwy Lywodraeth Lafur yn San Steffan ac yma ym Mae Caerdydd. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn nawr i wneud yr un fath â Lloegr a chynnig y gefnogaeth ychwanegol honno, neu a wnewch chi'r hyn yr addawodd y Ceidwadwyr Cymreig ei wneud, sef dileu ardrethi busnes yn gyfan gwbl i fusnesau bach os enillwn yr etholiad nesaf?

Fe ddechreuaf gyda'r pwynt, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru'n rhoi pecyn cymorth sylweddol ar waith, a bydd bron i hanner y tafarndai'n parhau i elwa o'n rhyddhad ardrethi busnesau bach y flwyddyn nesaf. Mewn gwirionedd, ni fydd tua chwarter y tafarndai'n talu unrhyw ardrethi o gwbl gan mai'r trethdalwr sy'n talu'r ardrethi hynny ar eu rhan, ac mae hwnnw'n benderfyniad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wrth fynd ati i ddyrannu'r gyllideb.

Nawr, mae'r Ceidwadwyr wedi nodi y byddent yn cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach pe baent yn Llywodraeth, ond wedyn nid ydynt wedi nodi sut y byddent yn talu am hynny a dyna'r dilema yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod yn anghyfrifol ac yn anonest i wneud addewidion i'r etholwyr heb ddangos sut y byddech chi'n mynd ati i dalu am yr addewidion hynny. Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig ystod eang o addewidion treth, ym maes treth incwm, treth trafodiadau tir ac ardrethi annomestig, heb fod yr un ohonynt wedi'u costio'n briodol ac nid ydynt wedi dweud sut y byddent yn talu am yr un ohonynt.

Rydym yn edrych ar bron i £1 biliwn o doriadau i wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i addewidion Ceidwadol. Mae'n gwbl deg gwneud yr addewidion hynny, ond yn yr un modd, rwy'n credu bod rhaid cael lefel o dryloywder ynglŷn â sut y byddech chi'n mynd ati i dalu am y rheini. Nid ydym wedi cael gonestrwydd o'r fath eto ynglŷn â nifer y nyrsys a fyddai'n cael eu heffeithio, yr effeithiau ar lywodraeth leol, beth fyddai'r effeithiau mewn ysgolion ledled Cymru oherwydd y diffyg cyllid ac wrth gwrs, o ran y cymorth arall a allai fod ar gael i fusnesau. Felly, wrth wneud yr addewidion hyn, rwy'n credu bod rhaid i chi nodi sut y byddech chi'n talu amdanynt.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

14:25
Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddenedigol

1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno targedau i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, fel sy'n bodoli yn Lloegr? OQ63696

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol trwy sicrhau bod pob teulu yn cael gofal diogel o ansawdd uchel. Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gosod safonau cenedlaethol clir ar gyfer ymarfer cyson, sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Ochr yn ochr â hyn, mae'r rhwydwaith mamolaeth a newyddenedigol strategol yn gyrru gwelliannau ar draws y system i leihau marwolaethau ac atal niwed y gellir ei osgoi trwy ei raglen cymorth diogelwch.

Diolch am hynna.

Mae cyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na'r gyfradd ar gyfer gweddill y DU, ac mae elusennau colli babanod fel Sands yn tynnu sylw at y ffordd y mae angen gwneud mwy, yn eu barn nhw, i ostwng nifer y babanod sy'n marw'n fuan ar ôl genedigaeth. Rhaid bod colli babi a gaiff ei gario i'w gyfnod llawn yn un o'r pethau gwaethaf y bydd unrhyw riant yn ei wynebu yn eu bywyd. Mae fy nghalon yn gwaedu dros unrhyw un yr effeithiwyd arnynt gan golled mor greulon. Rwy'n credu y bydd pawb yn y Siambr hon yn cytuno.

Mae grŵp o rieni mewn profedigaeth wedi lansio deiseb i alw am weithredu i achub mwy o fabanod ac am well gofal i rieni ar ôl colli babi yn ystod beichiogrwydd neu wedi hynny. Maent wedi tynnu sylw at sut y mae targedau yn Lloegr i leihau cyfraddau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol wedi helpu i gadw ffocws, ac er efallai na fyddant yn cael eu cyrraedd, maent yn credu'n gryf y bydd hyn wedi arwain at achub bywydau. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith sydd i'w weld yn digwydd yn Llywodraeth Cymru ar hyn. Gallaf werthfawrogi faint o ffocws fydd i hyn, ond nid oes targedau o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd. A yw hynny'n rhywbeth y credwch y dylid ei newid, os gwelwch yn dda?

Wel, rwy'n ategu'r sylwadau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Mae colli babi ar unrhyw gam o feichiogrwydd yn brofiad anhygoel o ofidus i bawb yr effeithir arnynt. Mae cyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru wedi gostwng oddeutu 17 y cant ers 2010, ond maent wedi lefelu, i bob pwrpas, ers 2018. Ni fu fawr o newid ers hynny. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei roi i mi mewn perthynas â tharged yn gwestiwn pwysig. Nid ydym wedi gosod targedau rhifiadol ffurfiol hyd yn hyn, yn rhannol oherwydd y nifer fach o achosion a'r anwadalrwydd a ddaw yn sgil hynny wrth fesur perfformiad yn erbyn targed penodol. Ond rwy'n ddiolchgar iddi am gydnabod y gwaith arall sy'n digwydd mewn perthynas â mynd i'r afael â'r her hon. Mae'r holl fyrddau iechyd yn cyflawni gwaith gwella wedi'i dargedu drwy'r rhaglen gymorth diogelwch mamolaeth a newyddenedigol y soniais amdani yn fy ateb cychwynnol, gan gynnwys adolygiadau clinigol manylach, mabwysiadu systemau gwyliadwriaeth rhybudd cynnar cenedlaethol, bwndeli gofal cyn-enedigaeth mwy diogel a dysgu gwell o ddigwyddiadau trwy adolygiadau achos strwythuredig.

Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod wedi comisiynu adolygiad o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru, sydd i fod i adrodd yn gynnar eleni. Mae hwnnw yno i nodi risgiau a gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gallwn gryfhau gwasanaethau ymhellach, a byddaf eisiau mynd ar drywydd yr argymhellion y mae'r adolygiad hwnnw'n eu gwneud cyn gynted â phosib.

Diolch i Delyth am y cwestiwn pwysig yma. Dwi wedi sôn ar sawl achlysur am fy neiaint arbennig, Steffan, a fuodd farw ychydig wedi’i enedigaeth, ac Emrys, yn wyth diwrnod oed, yn ystod y pedwar blynedd diwethaf yma. Yn y ddau achlysur, doedd dim bai ar neb. Byddai targedau wedi gwneud dim gwahaniaeth o gwbl.

Beth hoffwn i ei godi, ac mae hwn hefyd yn addas i'r Gweinidog dros iechyd meddwl, yw'r cwnsela ar gyfer rhieni wedi colled mor ofnadwy. Yn achos Steffan, doedd dim cwnsela i'r rhieni wedi'r golled, oherwydd nad oedd Steffan ddim yn y NICU, am fod Steffan yn y ward mamolaeth, ac wedyn roedd yna restr aros o 24 wythnos i'r rhieni gael cymorth cwnsela gan elusen. Jest dychmygwch, rŷch chi'n mynd mewn i'r ysbyty, i'r uned mamolaeth, yn disgwyl mynd adref gyda phlentyn iach, yn disgwyl dechrau cyfnod mamolaeth hir, ac yn sydyn mae popeth yn chwalu. Mae disgwyl i chi fynd nôl i'r gwaith, a does dim cwnsela proffesiynol ar gael i chi.

Roedd profiad rhieni Emrys yn well—roedd yna seicolegydd ar gael yn yr ysbyty tra roedd Emrys dal gyda nhw. Ond, wedi hynny, roedd yna aros hir i gael cwnsela trwy elusen ac roedd y nyrs galar dim ond ar gael drwy ffôn—dim cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb gyda'r nyrs galar. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio â'r Gweinidog iechyd meddwl a byrddau iechyd i sicrhau bod rhieni, yng nghyfnod gwaethaf posib eu bywydau, yn cael y cymorth maen nhw'n ei haeddu? Diolch yn fawr.

14:30

Diolch i'r Aelod am rannu ei brofiad yn ei gyfraniad.

Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r dull o wneud gwelliannau yn y maes hwn yn gyffredinol, a chredaf ei fod yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chyfyngiadau targedau hefyd. Ac mae ein dull ni, yn sicr, wedi bod yn ddull sy'n rhoi gwelliannau'n gyntaf, gyda safonau cenedlaethol a sicrwydd annibynnol.

Fel y soniais yn fy ymateb i Delyth Jewell, mae profiad y rhieni a'r teulu ehangach o amgylch colli babi yn hynod drawmatig, yn y ffordd a ddisgrifiodd yn ei gwestiwn, ac efallai y byddant yn teimlo nad yw eu profedigaeth bob amser yn cael ei chydnabod na'i chefnogi, a'i bod weithiau hyd yn oed yn cael ei chuddio. Bwriad y fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal mewn profedigaeth yw sicrhau dull cyson o weithredu ledled Cymru, ac mae ganddo gyllid sy'n cael ei ddosbarthu i'r byrddau iechyd eu hunain ac i bartneriaid trydydd sector, sy'n chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o ddarparu rhai o'r gwasanaethau hyn.

Mae'n disgrifio diffygion clir ym mhrofiad y rhieni y cyfeiria atynt. Mae'r rhwydwaith mamolaeth a newyddenedigol wedi bod yn gweithio gyda Sands, y cyfeiriodd Delyth Jewell atynt yn ei chwestiwn gwreiddiol hefyd, i gefnogi gwaith ar bum llwybr profedigaeth, ac rydym yn gobeithio y bydd y llwybrau'n cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth eleni, ac rwy'n gobeithio y byddant yn cyfrannu at ddatrys rhai o'r heriau a nododd yn ei gwestiwn.

Hoffwn ategu'r hyn a ddywedodd Rhys ab Owen drwy ddweud bod gwasanaeth profedigaeth rhagorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n cael ei ddarparu gan o leiaf ddau aelod o staff ac sy'n sicrhau, hyd yn oed os bydd marwolaeth yn digwydd yng nghanol y nos, y bydd yn cael ei nodi yn ystod y dydd, ac yna mae'r unigolyn dan sylw'n cael cefnogaeth, ac mae hynny'n golygu pob unigolyn sy'n cael profedigaeth. Ymddengys i mi fod hwnnw'n fodel da iawn i bob bwrdd iechyd arall ei ddilyn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu sylw at y profiad cadarnhaol hwnnw yn y gwasanaeth y cyfeiria ato ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Un o ddulliau gweithredu'r asesiad sicrwydd mamolaeth a newyddenedigol sydd ar y gweill ar hyn o bryd, y soniais amdano eiliad yn ôl, yw nid yn unig nodi lle mae diffygion neu feysydd y mae angen inni ganolbwyntio'n well arnynt, ond hefyd nodi arferion da yn y system, a all arwain at welliant mewn mannau eraill. Felly, rwy'n ddiolchgar iddi am gyfrannu at ein dealltwriaeth ar hynny.

Ysbyty Tywysoges Cymru

2. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Ysbyty Tywysoges Cymru i adfer capasiti orthopedig ar ôl cwblhau'r gwaith atgyweirio toeau yn ddiweddar? OQ63704

Rydym wedi cefnogi'r bwrdd iechyd i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer orthopedeg. Mae'r holl lawdriniaethau orthopedig a gynlluniwyd o fewn y bwrdd iechyd bellach wedi'u canoli ar safle Ysbyty Tywysoges Cymru, gyda thair theatr bwrpasol a ward o 28 gwely ar gyfer llawdriniaethau a gynlluniwyd i gleifion mewnol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n croesawu'r buddsoddiad cyfalaf a wnaed yn y gwaith atgyweirio yn yr ysbyty. Wedi dweud hynny, mae gwasanaeth orthopedig yr ysbyty'n parhau i wynebu pwysau i adfer capasiti gweithredu llawn ar ôl atal llawdriniaethau a gynlluniwyd dros dro, sydd yn ei dro wedi cyfrannu at amseroedd aros estynedig ar draws yr arbenigedd.

Mae un o fy etholwyr bellach wedi bod yn aros dros flwyddyn am lawdriniaeth ar ei ben-glin, gan gael ei dderbyn i'r ysbyty dro ar ôl tro, heb ddyddiad wedi'i gadarnhau, er ei fod wedi'i flaenoriaethu am lawdriniaeth cyn gynted ag y bydd capasiti'r theatr yn caniatáu. Nawr, os yw'r sefyllfa hon yn parhau, bydd yn cael ei orfodi i ddod â'i fusnes i ben yn gyfan gwbl, gan adael saith o bobl, gan ei gynnwys ef ei hun, yn ddi-waith. Gwn fod llawer o achosion o'r fath, ac rwy'n sylweddoli pa mor anodd yw mynd i'r afael â'r ôl-groniad gyda'r un adnoddau a nifer o staff ar gael, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet, ond buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa gymorth pellach y gellid ei ddarparu i'r ysbyty i helpu i ymdopi â hyn, ac a ellid rhoi syniad bras o ba bryd y gallwn ddisgwyl i'r amseroedd aros hynny leihau.

14:35

Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Mae’n ddrwg gennyf glywed am brofiad ei etholwr. Rydym wedi cymryd camau penodol i gefnogi'r bwrdd iechyd i leihau rhestrau aros orthopedig, sydd wedi bod yn her yn hanesyddol, fel y noda'r Aelod. Mae £11 miliwn yn ychwanegol wedi'i ddyrannu i'r bwrdd iechyd mewn perthynas â lleihau amseroedd aros yn benodol, ac mae gwaith wedi'i wneud gan dîm gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf, ac wrth gwrs, gan grŵp cynghori'r gweinidog ar berfformiad a chynhyrchiant.

Mewn gwirionedd, bu gostyngiad o 19.4 y cant yn nifer y llwybrau orthopedig sy'n aros am fwy na dwy flynedd. Mae her o hyd, yn y ffordd y disgrifia'r Aelod, ond rwy'n disgwyl i'r rheini gael eu clirio erbyn diwedd eleni. Bu gostyngiad o fwy na 43 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf hefyd yn nifer y llwybrau dros 52 wythnos ar gyfer yr apwyntiad claf allanol cyntaf, sy'n fwy perthnasol i'r pwynt a wnaeth yn ei gwestiwn, mae'n debyg. Fel y gŵyr yr Aelod, efallai, yn y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus diweddar, tynnais sylw'r bwrdd iechyd at faterion yn ymwneud ag amseroedd aros a'r cynlluniau i glirio arosiadau mewn modd amserol. Cefais sicrwydd yn y cyfarfod hwnnw gan y bwrdd eu bod yn bwriadu dileu pob amser aros o ddwy flynedd, a phob amser aros diagnostig o wyth wythnos erbyn diwedd mis Mawrth eleni.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r gefnogaeth i Ysbyty Tywysoges Cymru a'r nod o greu canolfan ragoriaeth ar gyfer orthopedeg, gyda'i thair theatr a ward bwrpasol gydag 28 o welyau ar gyfer llawdriniaethau a gynlluniwyd i gleifion mewnol. Mae'r bwrdd iechyd yn datgan, ar gapasiti llawn, y byddant yn gallu cyflawni 60 o lawdriniaethau orthopedig yr wythnos. Fy mhryder i yw a fydd gennym staff â'r cymwysterau addas i ddefnyddio'r capasiti uwch hwn. Am ymhell dros flwyddyn, ni chynhaliwyd unrhyw lawdriniaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Beth a ddigwyddodd i'r llawfeddygon orthopedig yn y cyfnod hwnnw? Mae'n rhaid i ni lawfeddygon gyflawni nifer o lawdriniaethau yn ystod unrhyw flwyddyn galendr er mwyn cynnal ein sgiliau. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n fodlon fod pawb sy'n gweithio yn y ganolfan ragoriaeth hon ar gyfer orthopedeg wedi cynnal eu set sgiliau?

Wel, mae hynny'n fater i'r bwrdd iechyd fodloni ei hun yn ei gylch. Rwy'n siarad fel rhywun nad yw'n glinigydd yn ateb cwestiwn gan glinigydd, felly nid wyf yn hyderus sut i ateb. Ond mae'n gwneud pwynt pwysig. Yn fy ymweliadau â safleoedd ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rwyf wedi bod yn falch iawn o glywed am eu dulliau gweithredu o ran rhestrau dyletswyddau a staffio yn fwy cyffredinol. Drwy ganoli gwasanaethau yn y ffordd y byddai ef yn ei chroesawu hefyd rwy'n siŵr, mae hynny wedi darparu model mwy cadarn a hyblyg ar gyfer staffio, yn glinigol ac fel arall, i gyflawni'r ffigurau sylweddol a gydnabu yn ei gwestiwn. Y math hwnnw o addasu gwasanaethau, wedi'i lywio gan safonau gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf a safonau cydnabyddedig eraill, a fydd yn ein helpu nid yn unig i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau a wynebwn, ond i roi'r gwasanaeth ar sail gynaliadwy, lle nad yw'r ôl-groniadau hynny'n codi eto yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, arhosodd menyw 90 oed o Wyesham yn sir Fynwy, Iris Morgan, am fwy na 32 awr am ambiwlans ar ôl torri ei chlun yn ei chartref. Yn yr amser hwnnw, aeth yn gynyddol ddryslyd, datblygodd haint difrifol, a dywedwyd wrthi gan feddygon ymgynghorol yr ysbyty y gallai'r oedi hwnnw fod wedi bod yn ddigwyddiad angheuol. Gwnaeth ei theulu alwadau 999 dro ar ôl tro, cawsant amseroedd cyrraedd amcangyfrifedig na chawsant eu gwireddu, ac fe'u cynghorwyd i beidio â'i symud eu hunain, gan adael y fenyw oedrannus agored i niwed hon mewn poen, ar y llawr, mewn trallod, am fwy na diwrnod cyfan. Pan gyrhaeddodd y parafeddygon o'r diwedd, roeddent wedi'u syfrdanu gan faint o amser y bu'n rhaid i Iris fod ar y llawr, ac fe roesant y bai am hyn ar oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys yn ysbyty’r Faenor. A ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd iechyd, fod yr hyn a ddigwyddodd i Iris Morgan yn gwbl annerbyniol? A wnewch chi ymddiheuro iddi hi a'i theulu ac i eraill ledled Cymru sy'n wynebu oedi rhy hir wrth aros am ambiwlans? Ac a ydych chi'n derbyn bod hyn yn symptom o GIG sydd mewn argyfwng?

14:40

Ni chredaf fod ei phrofiad yn dderbyniol, ac mae'n ddrwg iawn gennyf am y profiad a gafodd a'r rhai yr effeithiwyd arnynt y tu hwnt i'w phrofiad personol ei hun. Nid dyna'r profiad rwyf am i unrhyw glaf yng Nghymru ei gael, byth.

Rwy'n credu ei fod yn symptom, fel y mae'n dweud, o heriau ar draws y gwasanaeth iechyd, a chredaf fod hyn yn mynd y tu hwnt i'r gwasanaeth ambiwlans. Fy mhrofiad i o weithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans yw eu bod yn arloesol ac yn hyblyg, ac yn mynd ati'n gyson i chwilio am ffyrdd newydd o ddarparu'r gwasanaeth pwysig y gallant ei ddarparu.

Rydym wedi ceisio mynd i'r afael â hyn fel Llywodraeth mewn nifer o ffyrdd. Yn gyntaf, drwy leihau nifer yr achosion o ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai am gyfnodau hir ledled Cymru. O flwyddyn i flwyddyn, bu gostyngiadau sylweddol yn nifer yr oriau a gollwyd—cleifion yn aros yng nghefn ambiwlansys, ambiwlansys heb fod ar gael felly i ofalu am gleifion fel yr un a ddisgrifiwyd ganddo yn ei gwestiwn. Felly, mae hwnnw'n gynnydd da. Rwyf am weld mwy o hynny ym mhob safle ysbyty. Mae gormod o amrywio. Ond yr hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthyf yw bod y system, pan fo'n canolbwyntio ar hynny, yn gallu gwneud cynnydd cyflym.

Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod wedi cyflwyno trefniadau newydd i fesur perfformiad y gwasanaeth ambiwlans, a bod y gwasanaeth ambiwlans ei hun wedi cyflwyno model brysbennu clinigol y gwyddom ei fod yn gwneud gwahaniaeth i gleifion. Credaf fod y rheini'n ddatblygiadau cadarnhaol. Yn amlwg, mae rhai o'r rheini'n ddiweddar, ac rydym am eu gweld yn cael eu hymgorffori ac yn darparu gwasanaeth gwell i gleifion ledled Cymru.

Wel, ni wnaethoch ateb y cwestiwn a ofynnais i chi, sef: a yw hyn yn symptom o GIG sydd mewn argyfwng? Rwy'n credu ei fod. Nid wyf yn credu bod GIG Cymru’n gweithio'n iawn. Yn sicr, ni weithiodd yn iawn i Iris, ac mae gan bob un ohonom enghreifftiau yn ein hetholaeth o bobl sy'n cysylltu â ni gydag enghreifftiau o oedi annerbyniol, ac weithiau, mae pobl yn marw am eu bod yn aros am ambiwlans, ac ni all hynny byth fod yn dderbyniol.

Gadewch imi roi rhai enghreifftiau eraill o pam y credaf fod GIG Cymru mewn argyfwng. Nid oes raid ichi edrych yn bell iawn—dim ond ar Ysbyty Athrofaol Cymru yma yng Nghaerdydd, ysbyty mwyaf blaenllaw ein cenedl. Ond mae'n enghraifft arall o'r GIG mewn argyfwng ac sy'n cael ei dorri. Adroddodd Wales Online fod gan glaf 77 oed haint yn eu hysgyfaint ac fe'u cadwyd yn rhynnu gan oerfel ar ôl i'r gwres fethu yn yr adeilad hwnnw, unigolyn 80 oed yn wlyb gan ddiferion o'r nenfwd mewn twnnel llawn colomennod—y ferch yn disgrifio ei hanwylyd yn cael eu cludo drwy dwneli ffiaidd, llawn dŵr mewn mannau, gydag eitemau meddygol a sbwriel, a baw adar ym mhobman. A gaf i ofyn i chi: pam nad yw Llywodraeth Cymru’n ymyrryd? Anfonwyd llythyr wedi'i lofnodi gan 300 o feddygon ymgynghorol o ysbyty Caerdydd a'r Fro at benaethiaid y bwrdd iechyd, yn nodi bod morâl staff ar ei lefel isaf erioed. Disgrifiodd y llythyr hwnnw ollyngiadau carthion parhaus, yn difwyno dŵr, a safonau glendid gwael. A dyma’r llinell allweddol yn y llythyr hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n eich annog i wrando’n ofalus iawn ar hyn a’i drafod yn eich ymateb:

'Mae blynyddoedd o gynnal a chadw a buddsoddiad cyfalaf annigonol wedi gwaethygu'r problemau hyn, ac ni cheir cynllun strategol clir wedi'i rannu i liniaru neu fynd i'r afael â'r risgiau cysylltiedig.'

Nawr, gwnaed addewid i'r bobl a gâi eu gwasanaethu gan yr ysbyty hwnnw yn ôl yn 2021 y byddech chi'n adeiladu cyfleuster newydd. Nid yw wedi'i gyflawni. A oes gennych chi gynllun i fynd i'r afael ag adeiladau dadfeiliedig fel yr un i lawr y ffordd yma yng Nghaerdydd, a pha gamau rydych chi'n eu cymryd mewn mannau eraill i fynd i'r afael â phroblemau ar ystad y GIG?

Wel, ar bwynt cyntaf yr Aelod, rwy'n credu bod y cyhoedd yng Nghymru, a chleifion yng Nghymru, yn cael eu gwasanaethu'n well gan ymateb i'w gwestiwn sy'n mynd i'r afael â sylwedd yr her, yn hytrach na chwilio am bennawd drwy ddisgrifiad un gair o'r GIG. Ac ers gormod o amser, rydym wedi caniatáu i ddadl barhau nad oes ganddi'r lefel honno o dryloywder a gonestrwydd yn sail iddi. Ac rwy'n ceisio cydnabod y pryderon yr ydych yn eu disgrifio'n deg, a rhoi fy nealltwriaeth i chi o pam eu bod yn codi. Credaf fod honno'n ffordd fwy defnyddiol o arwain trafodaeth gyda'r cyhoedd na dim ond chwilio am labeli ar y GIG sy'n symleiddio'r her.

Ar ei ail bwynt, mae'n newydd i'w gyfrifoldebau newydd, ond fe fydd yn gwybod fy mod wedi mynd i'r afael â'r cwestiwn yn y llythyr hwnnw. Ac unwaith eto, mae wedi'i gyflwyno i mi'n gwbl deg gan ei gyd-Aelodau ac eraill ar sawl achlysur. Un o'r heriau y mae'r GIG yng Nghymru yn eu hwynebu, fel mewn rhannau eraill o'r DU, yw nad yw wedi cael mynediad digonol at gyfalaf dros y 10 i 14 mlynedd diwethaf o ganlyniad i ddewisiadau polisi a wnaed gan Lywodraeth yn San Steffan y mae'n eu hamddiffyn yn gyson. Nid yw'r GIG a'r gwasanaethau cyhoeddus wedi cael mynediad at y cyfalaf sydd ei angen arnynt. Mae canlyniad i hynny. Yr hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud yw ceisio blaenoriaethu o fewn y cyfyngiadau y mae ei gymheiriaid yn San Steffan wedi'u gorfodi arnom ers dros ddegawd, ac rydym wedi gwneud ymrwymiadau o ran cynnal a chadw y tu hwnt i'r hyn y mae rhannau eraill o'r DU wedi'i wneud. Fel y gŵyr, rydym eisoes yn ariannu'r bwrdd iechyd i gynnal arolwg o ystad yr ysbyty hwnnw fel y gallwn dargedu cyllid yn well yn y dyfodol.

14:45

Felly, a gaf i gadarnhau hyn? Rydych chi'n gwrthod cydnabod bod yna argyfwng, ydych chi? Os nad ydych chi'n credu bod rhywbeth wedi torri, ni wnewch chi byth lunio cynllun i fynd i'r afael ag ef. Rydych chi'n beio hyn ar arian, felly pam gwneud yr addewid yn y lle cyntaf os ydych chi'n dweud nad oes digon o arian? Ac a gaf i eich atgoffa, Ysgrifennydd y Cabinet, am bob £1 a werir ar glaf yn Lloegr, fod cyllideb Llywodraeth Cymru’n cael £1.20 i'w wario ar glaf yma. Nid yw hynny'n swnio fel cyllid diffygiol i mi. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, wrth y Senedd hon, ac roedd fel pe bai'n brolio'n ei gylch, fod Llywodraeth Cymru’n gwario £1.12 am bob £1 a werir ar glaf yn Lloegr. Beth ydych chi'n ei wneud gyda'r 8c arall? Beth ydych chi'n ei wneud gyda'r 8 y cant arall y gallech fod yn ei ddefnyddio i wella cyllideb Llywodraeth Cymru? Felly, a gaf i eich herio unwaith eto? A gaf i eich herio unwaith eto? Pam ar y ddaear na wnewch chi sicrhau bod pob ceiniog sy'n dod i Gymru i'w gwario ar y GIG yn cael ei wario ar y GIG, fel y gallwn ddatrys yr argyfwng hwn unwaith ac am byth?

Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn fod gwahaniaeth rhwng y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog ddoe a'r pwynt rwy'n ei wneud heddiw. Nid oes unrhyw sylwebydd credadwy yn unman sy'n credu bod ei blaid ef yn San Steffan wedi darparu cyfalaf priodol i'r gwasanaeth iechyd mewn unrhyw ran o'r DU. Nid oes dadl am hynny. Mae iddo ganlyniadau. Bydd hefyd yn gwybod yn iawn—a bydd rhai o'i Aelodau doethach yn cydnabod hyn—fod y cyllid y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol uwch na'r hyn a ddarperir dros y ffin. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwneud y cymariaethau hynny, gyda llaw. Rydym am sicrhau bod y gwasanaeth yng Nghymru yn gweithio i'r graddau gorau posib i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae'n gwneud pwynt cwbl gamarweiniol am y ffigurau a ddarparwyd gan Lywodraeth San Steffan. Mae cyfalaf wedi bod yn brin iawn, ac mae'r Llywodraeth hon wedi blaenoriaethu'r cyllid hwnnw ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Y llynedd, fe addawodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai arosiadau o fwy na dwy flynedd yn cael eu dileu yn llwyr erbyn diwedd 2025. Yn dilyn ymchwiliad annibynnol i fylchau yn y data yn y bwrdd iechyd, rydyn ni bellach yn gwybod bod cyfanswm y llwybrau oedd yn aros dros ddwy flynedd wedi cyrraedd 4,679 ym mis Hydref 2025. Rydyn ni hefyd wedi derbyn gwybodaeth sy'n awgrymu bod dros 100 o gleifion wedi bod yn aros am fwy na thair blynedd am driniaeth. Beth aeth o'i le? Pam mae pobl yng ngogledd Cymru yn gorfod aros yn fwy nag unrhyw le arall am driniaethau? O ystyried mai'r Llywodraeth yma benododd y bwrdd, pam mae'r Llywodraeth wedi methu mor llwyr â dal y bwrdd i gyfrif?

Dwi ddim yn credu ein bod ni wedi methu â dal y bwrdd i gyfrif. Fel rydych chi'n gwybod, rydyn ni wedi bod yn glir iawn o ran ein disgwyliadau gyda'r bwrdd iechyd. Nid yw'n dderbyniol bod pobl yn aros am yr amserau rydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn eich cwestiwn. Dwi eisiau gweld pobl ym mhob rhan o Gymru yn cael gwasanaeth amserol, a'u bod nhw'n cael y driniaeth sydd ei hangen mor gyflym ag sydd yn bosibl. Dyw hi ddim yn dderbyniol nad yw hynny'n digwydd mewn unrhyw rhan o Gymru, gan gynnwys bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, lle rydyn ni wedi gweld bod angen mwy o gefnogaeth. Rydyn ni wedi gweithredu'n uniongyrchol. Cyn y Nadolig, fe wnaethom ni sicrhau fod tîm o bobl ar gael i'r bwrdd ac i'r arweinyddiaeth yno i'w cefnogi nhw yn eu gwaith, i sicrhau ein bod ni'n gweld y gwelliannau rydyn ni eisiau eu gweld. Mae'r rheini newydd ddechrau ar eu gwaith, ac rwy'n gobeithio y gwelwn ni gynnydd yn sgil hynny hefyd. 

Dim ond symptomau o broblem ehangach yw rhestrau aros hir a chamweithredu cronig bwrdd Betsi Cadwaladr, sef methiant Llafur dros 27 mlynedd i ailgynllunio sylfeini'r system iechyd i adlewyrchu'r boblogaeth fel y mae heddiw ac fel y bydd, yn hytrach na fel yr oedd. Yn aml, mae'r Llywodraeth, a'r Prif Weinidog yn enwedig, yn fframio eu perfformiad iechyd yn ôl nifer y cysylltiadau â'r GIG sy'n digwydd yng Nghymru bob dydd. Ond mae'n werth ailadrodd unwaith eto nad yw hyn yn arwydd o lwyddiant, mae'n arwydd o reoli salwch ac o system nad yw'n gweithredu mor effeithiol ag y dylai. Er enghraifft, mae cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu y bu 17,994 o ymweliadau ag adrannau brys ym mwrdd Betsi yn 2025. Mae hynny'n gyfartaledd o bron 50 y dydd, a arweiniodd yn y pen draw at y cleifion yn hunanryddhau heb gydsyniad clinigol. Mewn geiriau eraill, naill ai ni chawsant eu trin o gwbl, neu ni chawsant y lefel o ofal a argymhellwyd gan glinigydd. Nawr, yn ôl metrig y Llywodraeth, mae'n debyg y byddai'r derbyniadau hyn yn cyfrif fel cyswllt â'r system iechyd ac felly'n rhywbeth i'w ddathlu, er na wnaeth hynny wella eu canlyniadau.

Gŵyr pob un ohonom pam fod cleifion yn troi at gamau o'r fath. Mae'n digwydd am fod mynediad at apwyntiad meddyg teulu yn prysur ddod yn foethusrwydd prin. Mae'n digwydd am fod y broses o ehangu a diwygio gofal yn y gymuned wedi bod yn araf, ac mae'n digwydd am na fu digon o ffocws strategol ar alluogi pobl i fyw bywydau iachach. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod y ffigurau hyn rwyf newydd eu dyfynnu yn dangos y realiti fod sôn am gyfanswm y cysylltiadau â'r GIG fel mesur o berfformiad yn sylfaenol ddiffygiol, a'i fod yn arwydd o fethiant hirsefydlog Llywodraethau Cymru olynol i osod ein system iechyd ar sail gynaliadwy a gwydn?

14:50

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod wedi camddeall diben egluro'r pwynt hwnnw. Nid yw'n bwynt i'w ddathlu; mae'n bwynt sy'n dangos faint o weithgarwch sy'n mynd rhagddo yn y gwasanaeth iechyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig i'w amlygu. Mae pobl yn gweithio ddydd ar ôl dydd i ddarparu llawer iawn o gymorth i bobl bob dydd, ac mae profiad y rhan fwyaf o bobl o'r GIG, y rhan fwyaf o'r amser, yn gadarnhaol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig disgrifio faint o weithgarwch sy'n mynd rhagddo ledled y GIG. Mae'n gwneud pwynt pwysig: nid yw hynny'n rhywbeth sy'n ddathliad o lwyddiant, nid yw'n fesur perfformiad mewn gwirionedd; yn syml, mae'n dangos faint o weithgarwch sy'n digwydd, a chredaf y byddai yntau'n talu teyrnged i bawb sy'n cyfrannu at y lefel honno o weithgarwch hefyd.

Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r angen i symud gwasanaethau o leoliadau eilaidd i leoliadau sylfaenol ac yn fwy cyffredinol i leoliadau cymunedol. Buaswn yn dweud bod gan y Llywodraeth hanes da o wneud hynny. Mae angen i lawer mwy ddigwydd, ac mae angen iddo ddigwydd yn gyflymach. Ond fe gaiff ei galonogi, rwy'n siŵr, ein bod wedi gallu dod i gytundeb â meddygon teulu sy'n ymestyn dros fwy nag un flwyddyn, gan roi eglurder a gwelededd i'r system ynghylch y ffordd y gall gwasanaethau symud. Mae pob bwrdd iechyd wedi nodi eu lefel gyfredol o wariant ar ofal sylfaenol, ac wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer symud gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf i leoliadau sylfaenol a chymunedol. Felly, rwy'n credu bod newid sylweddol wedi bod. Yn amlwg, mae mwy i'w wneud.

Yn olaf, rwyf wedi codi pwysigrwydd ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sawl gwaith yn y Siambr hon. Maent yn hanfodol os ydym am ddatblygu gwasanaeth iechyd ataliol cynhwysfawr, sy'n allweddol i sicrhau bod pobl yn ailymuno â'r gweithlu, ac sy'n hanfodol i sicrhau bod llawer o'n hanwyliaid yn parhau i fyw bywyd boddhaus ac urddasol. Ac eto, fis Medi diwethaf, ysgrifennais atoch i ofyn pam nad oedd swydd y prif swyddog proffesiynau perthynol i iechyd wedi'i hysbysebu, ac fe ymateboch chi drwy ddweud y byddai'r swydd yn cael ei hailhysbysebu cyn bo hir. Mae hi bellach yn hwyr ym mis Ionawr, ac mae'r swydd yn parhau i fod yn wag, gan adael bwlch enfawr mewn arweinyddiaeth, a llais y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar goll o'r broses o wneud penderfyniadau. Ni chyhoeddwyd dyddiad ar gyfer ailhysbysebu'r rôl, yn dilyn y rownd gyntaf aflwyddiannus o recriwtio ddechrau'r haf, ac ni phenodwyd unrhyw brif swyddog proffesiynau perthynol i iechyd dros dro tan y gellid dod o hyd i un parhaol. A yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ystyried gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ddarparwyr gwasanaethau eilaidd? A phryd y gwelwn brif swyddog proffesiynau perthynol i iechyd newydd yn cael eu penodi?

Na. Gallaf gadarnhau nad yw'r Llywodraeth yn ystyried gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhan eilaidd o'r gweithlu. Y dystiolaeth gryfaf o hynny yw'r cynnydd o ran recriwtio a chomisiynu lleoedd hyfforddi ar draws ystod o arbenigeddau proffesiynol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae'n iawn i ddweud, heb yr amrywiaeth honno yn y gweithlu, na fyddwn yn gallu darparu'r math o wasanaethau y mae ef a minnau eisiau eu gweld, sef cryfhau gofal holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn lleoliadau cymunedol lle bynnag y bo hynny'n bosib. Ni fuaswn yn ystyried un swydd yn ddangosydd o ddull ehangach y Llywodraeth o weithredu. Mae'n swydd bwysig. Mae'n fy atgoffa o hynny o'i sedd. Rwy'n ei sicrhau, serch hynny, fy mod wedi cael nifer o sgyrsiau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r gweithlu gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn benodol, ac felly mae llais gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn sicr yn cael ei glywed, gan Weinidogion a'r gwasanaeth sifil.

14:55
Cyfraddau Sgrinio'r Fron

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau sgrinio'r fron yn Islwyn? OQ63697

Mae tîm ymgysylltu sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda'r sector gwirfoddol, y bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol, gan gynnwys drwy gysylltwyr cymunedol a swyddogion hybiau yn ardal Islwyn, i gynyddu ymwybyddiaeth o sgrinio drwy addysg a hyfforddiant cymunedol, a chyfranogiad yn y rhwydwaith ymgysylltu sgrinio.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl y Western Mail, nid yw 15,000 o fenywod a oedd i fod i gael eu sgrinio am ganser y fron yng Nghymru wedi cael hynny am nad ydynt wedi manteisio ar y cynnig i sgrinio'r fron. Clywodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd mai dim ond 69 y cant o'r menywod a wahoddwyd i gael eu sgrinio a fynychodd yr apwyntiadau hynny yn 2022-23, sy'n is na'r isafswm hwnnw o 70 y cant a'r targed o 80 y cant. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ichi gael eich dyfynnu mewn llythyr at y Pwyllgor Deisebau yn dweud y gall cyfraddau sgrinio amrywio ar draws y rhanbarthau, grwpiau oedran a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol, ac mae hynny'n gywir, oherwydd effaith bwysig menywod yn llawer rhy aml yn dewis peidio â chael eu sgrinio, beth, felly, yw eich asesiad o'r rhesymau, a beth yw'r mesurau lliniaru a gynllunnir? Ac a wnewch chi hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig i sgrinio'r fron ar gyfer Islwyn o fewn bwrdd Aneurin Bevan o gymharu â'r targedau cenedlaethol a'r niferoedd cymharol sy'n manteisio ar y cynnig ledled Cymru?

Yn sicr. O ran nifer y menywod sy'n cael eu sgrinio yn Islwyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn monitro'r niferoedd sy'n cael eu sgrinio yn ôl clwstwr meddygon teulu, yn ôl awdurdod lleol ac yn ôl ardal bwrdd iechyd. Felly, mae 71.2 y cant yn cael eu sgrinio ym mwrdeistref sirol Caerffili, a 70.5 y cant yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae'r ddau ffigur ychydig yn uwch na'r safon o 70 y cant. Mae'n llygad ei lle fod llawer o resymau pam nad yw menywod yn manteisio ar y cynnig i sgrinio'r fron. Gall hyn gynnwys diffyg ymwybyddiaeth, camwybodaeth weithiau, rhwystrau diwylliannol ac ieithyddol weithiau, pryder ynghylch y broses neu'r canlyniadau. Yn y pen draw, mae'n fater o ddewis personol, ond caiff ei siapio gan nifer o'r ffactorau hynny ac eraill. Mae Bron Brawf Cymru yn gwerthuso ac yn gweithredu strategaethau'n gyson i hyrwyddo cyfranogiad yn y rhaglen. Bob blwyddyn, mae dros 100,000 o fenywod yn manteisio ar y cynnig. Mae'r nifer sy'n cael eu sgrinio ar ei isaf yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Felly, er mwyn mynd i'r afael â hynny, mae'r rhaglen sgrinio yn darparu allgymorth wedi'i dargedu mewn cymunedau, yn cynnwys hyfforddi hyrwyddwyr cymunedol sydd yno i weithredu fel lleisiau dibynadwy i gefnogi pobl i fanteisio ar eu cynnig sgrinio. Mae'r nifer sy'n cael eu sgrinio hefyd yn is yn y grwpiau oedran iau, sy'n cyd-fynd â'r nifer is sy'n manteisio ar y cynnig ymhlith y rhai sy'n cael eu gwahodd i gael eu sgrinio am y tro cyntaf. Felly, mae'r rhaglen bellach wedi cynhyrchu deunydd fideo i helpu pobl i ddeall beth yw sgrinio'r fron a pham ei fod yn bwysig.

Weinidog, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bawb i sicrhau bod y targed o 80 y cant ar gyfer sgrinio'r fron yn cael ei gyrraedd. I mi, hwn oedd fy ail Bwyllgor Deisebau, a chefais fy synnu gan y ffigurau isel mewn rhai etholaethau. Ymddengys bod natur statig yr unedau symudol yn rhwystr sylweddol. Er enghraifft, dywedir wrthyf fod uned Ynys Môn yng Nghaergybi drwy'r amser, a bod yr un yn fy etholaeth i ym mhentref Ystradmynach drwy'r amser. Weinidog, a wnewch chi adolygu'r strategaeth ar gyfer gweithredu'r 11 uned symudol hyn i sicrhau eu bod yn ymweld â'r cymunedau a'r trefi mwy gwledig ac ynysig yn eu tro, a'r cymunedau tlotach yr ydych chi newydd sôn amdanynt, yn hytrach nag aros yn yr un mannau sefydlog drwy bob cylch? Mae angen inni gynyddu cwmpas yr unedau symudol hynny. Fe sonioch chi fod hyn ar ei waethaf ymhlith y cymunedau tlotaf. Os yw'n rhy bell i ffwrdd, ni all pobl fforddio teithio yno. Diolch.

Rwy'n cytuno ei bod yn gwbl hanfodol lleihau'r rhwystrau hynny i fynediad. Ar hyn o bryd, mae 11 uned symudol yng Nghymru, ac maent yn cylchdroi drwy fwy na 100 o leoliadau ar gylch tair blynedd. Bwriad y rhaglen yw eu bod yn cael eu lleoli o fewn lleoliadau hawdd eu cyrraedd, fel y dywed, a bydd wedi'u gweld mewn meysydd parcio archfarchnadoedd a mannau eraill. Mae yna strategaeth y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei hadnewyddu ar hyn o bryd, sef y strategaeth tegwch sgrinio, sydd wedi'i chynllunio i sicrhau bod gwasanaethau sgrinio ar gael i bob cymuned ac i bob unigolyn sydd eu hangen. Mae'r strategaeth honno'n cael ei hadnewyddu trwy gydol y flwyddyn hon, a bydd ymgysylltu sylweddol â rhanddeiliaid i lywio'r strategaeth newydd. Byddaf yn sicrhau bod ei sylwadau'n cael eu clywed yn rhan o hynny.

15:00

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf innau hefyd wedi cael gwybod am y ddeiseb hon, a wnaeth beri cryn syndod i mi, ac mae bellach wedi'i llofnodi gan 4,000 o bobl ac mae'r nifer hwnnw'n cynyddu. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cyrraedd y targed o 80 y cant, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, a'r Aelodau sydd eisoes wedi siarad, fod bron i 16,000 o fenywod heb gael eu sgrinio, ac y gallai 150 o'r rheini fod wedi dangos arwyddion cynnar o ganser, sy'n peri pryder mawr. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: pam nad yw'r menywod hyn wedi manteisio ar y cynnig i gael eu sgrinio? Pam y mae'r nifer sydd wedi derbyn y cynnig yn uwch mewn rhannau eraill o'r DU? Ac a fyddwch chi'n cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn ar y cyfryngau cymdeithasol a'r teledu? Diolch.

Fel yr atebais gyd-Aelodau blaenorol, mae yna amrywiaeth o resymau pam nad yw pobl yn manteisio ar y cynnig i gael eu sgrinio, mae rhai ohonynt yn bethau y gall y Llywodraeth weithredu arnynt, gyda'r gwasanaeth iechyd, i fynd i'r afael â nhw, mae eraill yn fwy cymhleth ac yn gyffredin mewn rhannau eraill o'r DU hefyd. Mae gan Bron Brawf Cymru raglen barhaus o werthuso'r strategaethau sydd gennym yn gyfredol i hyrwyddo cyfranogiad yn y rhaglen. Bydd hi wedi fy nghlywed yn dweud bod rhai o'r meysydd y buom yn edrych yn benodol arnynt yn targedu carfannau penodol o fenywod lle mae'r nifer sy'n manteisio ar y gwasanaeth yn isel, ac rwy'n gobeithio y gwelwn well cynnydd yn erbyn y targedau hynny yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Amseroedd Aros Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? OQ63680

Yr amser cyfartalog a dreuliwyd gan gleifion mewn adrannau brys ym mis Tachwedd oedd 2 awr a 53 munud. Fodd bynnag, mae'r amser a dreulir gan lawer o gleifion mewn adrannau cyn eu derbyn neu eu rhyddhau yn destun pryder. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi uwchgyfeirio byrddau iechyd yn sgil perfformiad gwael, rydym wedi buddsoddi £200 miliwn i gryfhau gofal cymunedol, ac wedi lansio rhaglen genedlaethol i gynorthwyo byrddau iechyd i wella eu perfformiad.

Diolch. Wel, hawdd y gallai'r Prif Weinidog ddweud ddoe, ar ôl 27 mlynedd mewn grym, eu bod yn cydnabod bod

'angen gwneud mwy i sicrhau nad ydym yn gweld y gofal hwnnw mewn coridorau sy'n peryglu preifatrwydd ac urddas cleifion.'  

Y mis hwn, dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng fod clinigwyr ledled Cymru yn rhybuddio bod adrannau brys o dan bwysau digynsail ac anniogel, gan ychwanegu, rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd 2025, fod bron i 112,000 o gleifion yng Nghymru wedi aros dros 12 awr mewn adrannau brys. Maent yn amcangyfrif bod 936 o farwolaethau ychwanegol yn 2024 yn gysylltiedig ag arosiadau hir mewn adrannau achosion brys. Yng ngogledd Cymru, mae'r sefyllfa'n arbennig o ddifrifol, gyda phumed yn aros 12 awr neu fwy yn adran achosion brys Ysbyty Gwynedd, chwarter yn Ysbyty Maelor Wrecsam a bron i draean yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae gofal mewn coridorau'n cael ei normaleiddio, wedi'i yrru gan brinder gwelyau cleifion mewnol ac oedi cyn rhyddhau yn gysylltiedig â phrinder capasiti gofal cymdeithasol a chymunedol. Sut ydych chi felly'n ymateb i alwad y coleg brenhinol am weithredu ar frys i wella llif cleifion drwy'r system gyfan, yn hytrach na phrif ffocws ar ailgyfeirio cleifion oddi wrth adrannau brys?

Wel, rwy'n credu ei bod yn werth cofio, er gwaethaf rhai o'r ffigurau y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt yn ei gwestiwn—mae'n werth cofio hefyd o safbwynt cyd-destun—mai'r amser canolrifol o gyrraedd adran achosion brys i frysbennu oedd 16 munud, sef y perfformiad gorau mewn pedair neu bum mlynedd. A'r amser canolrifol o gyrraedd i asesiad gan uwch-glinigydd oedd 79 munud. Rwyf eisoes wedi sôn am yr amser aros canolrifol i gael eich derbyn neu eich rhyddhau. Felly, mae'n bwysig cadw hynny mewn cof yn ogystal â mynd i'r afael â'r heriau y mae'r Aelod yn ddigon teg yn eu cyflwyno i mi.

Ni fuaswn yn dweud bod y ffocws wedi bod ar un rhan o'r system. Mae'n hollol iawn i ddweud, lle mae gofal yn digwydd mewn coridor—. Ac mae safbwynt y Llywodraeth yn glir iawn: nid ydym yn cymeradwyo hynny fel mesur arferol, er yn cydnabod, mewn rhai amgylchiadau lle mae lefelau'n codi'n lleol, fod hynny'n amlwg yn digwydd, fel y gwelwn ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â ffocws system gyfan ar well llif trwy'r ysbyty. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol ag oedi cyn rhyddhau, mae'n ymwneud yn rhannol hefyd â gwella perfformiad ysbyty ar ryddhau'n gynnar yn ystod y diwrnod ysbyty. Rydym wedi gweld ffocws ar hynny, yn enwedig yn y sbrint bythefnos a gyflawnwyd gennym cyn y Nadolig. Gwelsom welliant bryd hynny, a arweiniodd at welliannau i ostwng achosion o ofal mewn coridorau, ac mae'r ail o'r sbrintiau pythefnos hynny'n dechrau heddiw. Rwy'n gobeithio'n fawr y gwelwn welliant dros yr wythnosau nesaf. Yn allweddol, fodd bynnag, nid am gyfnodau ynysig o bythefnos yn unig yr ydym am weld y gwelliannau hyn; rydym eisiau gweld gwelliant systemig. Ond yr hyn y mae'n ei ddweud wrthym yw y gallwn weld gwelliannau o roi ffocws ar y mater o wahanol rannau o ysbyty a gwasanaethau o amgylch yr ysbyty.

15:05
Cyfraddau Sgrinio am Ganser

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella cyfraddau sgrinio am ganser? OQ63685

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am gydlynu a chyflwyno rhaglenni sgrinio yng Nghymru. Maent yn asesu ac yn gweithredu ymyriadau yn barhaus i gefnogi'r niferoedd sy'n manteisio ar bob rhaglen sgrinio, ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gweithio gyda chymunedau drwy'r tîm ymgysylltu sgrinio i ddeall a goresgyn rhwystrau i gyfranogiad.

Diolch. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, hoffwn dynnu eich sylw at ddeiseb ddiweddar a gyflwynwyd gan Breast Cancer Now. Clywsom hefyd, yn ystod y Pwyllgor Deisebau—wel, cyn y cyfarfod—gan Sheila o Ynys Môn. Dywedodd mai codi lwmp ac ymbelydredd yn unig oedd eu hangen arni gan i'w chanser gael ei ganfod yn gynnar, yn hytrach na'r cemotherapi mwy gwanychol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael menywod i dderbyn gwasanaeth sgrinio, ac fel y clywsoch yn gynharach, pe bai'r targed o 80 y cant yn cael ei gyrraedd, byddai 15,871 yn fwy o fenywod yn cael eu sgrinio a byddai 156 o achosion o ganser yn cael eu canfod. Fe ddaw adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, gydag argymhellion i chi, gan gynnwys cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd ynghylch gwella'r niferoedd sy'n manteisio ar y gwasanaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio bod hyn yn rhywbeth y byddwch chi'n helpu i fwrw ymlaen ag ef gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar sgrinio canser y fron. Ni allaf ofyn fy nghwestiwn am ei fod eisoes wedi'i ofyn gan yr Aelodau eraill yn y Siambr, felly diolch.

Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am ei waith, a byddaf yn awyddus iawn i weld pa argymhellion a chyngor y mae'r pwyllgor yn eu darparu. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod menywod yn cael mynediad at sgrinio a bod niferoedd mwy ohonynt yn manteisio ar y cynnig. Buaswn hefyd yn dweud, os caf, fel cyd-destun, fod hwn yn ddull yr ydym am ei weld mewn perthynas â mathau eraill o ganser yn ogystal, felly mae ymestyn yr ystod sgrinio ar gyfer canser y coluddyn a chyflwyno'r rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint newydd yng Nghymru i gyd yn amlygiadau o'n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gwneud sgrinio mor hygyrch â phosib i gymaint o bobl â phosib ym mhob rhan o Gymru.

Fferyllfeydd

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda fferyllfeydd i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu? OQ63692

Mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo gwasanaethau fferylliaeth drwy'r ymgyrch genedlaethol Helpwch Ni i'ch Helpu Chi. Mae'r dull effaith uchel hwn yn sicrhau ymwybyddiaeth gyhoeddus gref o sut y mae fferyllfeydd cymunedol yn darparu cyngor amserol, triniaeth a gofal hygyrch.

Diolch am yr ateb hwnnw. Rwy'n credu bod ein fferyllfeydd a'n fferyllwyr yn darparu gwasanaeth rhagorol, ond weithiau ni wneir defnydd digonol ohonynt am nad yw pobl yn ymwybodol o'r wybodaeth a'r gwasanaethau y gallant eu cael gan eu fferyllydd. Yn gynharach y mis hwn, cynhaliodd fferyllfa leol gynllun peilot ac fe agorodd ar ddydd Sul am chwe awr. Yr hyn a wnaethant oedd postio ar y cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu'r ffaith i weld pa ddiddordeb a fyddai ac i annog pobl i fynd yno, gofyn am gyngor a gweld pa wasanaethau oedd ar gael. Roedd yr adborth gan unigolion a aeth—. Rwy'n deall bod y fferyllfa'n brysur iawn y diwrnod hwnnw, ond yr adborth oedd bod pobl yn synnu bod cymaint ar gael yno.

Wrth gwrs, mae'r ddau ohonom yn gwybod y gall fferyllfeydd dynnu llawer iawn o bwysau oddi ar agweddau eraill ar y GIG, yn enwedig yn y sector gofal sylfaenol. Felly, tybed a allech chi ehangu ychydig mwy ar ba gyngor a chefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fferyllfeydd i wneud yn siŵr fod pob etholwr yn ymwybodol o'r pethau hyn.

Yn sicr. Mae'r ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi—lansiwyd y cylch hwn ar 1 Tachwedd—yno i ddarparu'r wybodaeth honno, fel y gall cleifion neu'r cyhoedd droi at eu fferyllfa yn gyntaf pan fydd hynny'n briodol. Wrth gwrs, mae gennym nifer fawr o bresgripsiynwyr annibynnol mewn fferyllfeydd nawr, a byddwn mewn sefyllfa yn fuan lle bydd pawb sy'n cymhwyso fel fferyllydd yng Nghymru yn cael darparu presgripsiwn. Ac felly mae cyfle enfawr o'n blaenau i sicrhau mwy fyth o gyfraniad, y tu hwnt i'r gwaith gwych y mae fferyllfeydd eisoes yn ei wneud.

Felly, mae'r ymgyrch ei hun yn amlwg yn canolbwyntio ar hyrwyddo fferyllfeydd ac mae'n rhedeg ar draws y teledu, radio a chyfryngau cymdeithasol hefyd, ac rydym wedi datblygu pecynnau cymorth i randdeiliaid, sydd wedi'u rhannu gyda byrddau iechyd a fferyllfeydd eu hunain, i sicrhau'r hyn y credaf eu bod yn bwysig, sef negeseuon cyson am y cynnig, fel bod y cyhoedd yn deall beth sydd ar gael a ble. Ers lansio'r ymgyrch, rydym wedi cael nifer go sylweddol o bobl yn cyrchu'r wybodaeth ac rwy'n credu y gallwn hefyd weld cynnydd yn y defnydd o'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin o ganlyniad i hynny. Yn 2023-24, cafwyd dros 340,000 o ymgynghoriadau gwasanaeth anhwylderau cyffredin mewn fferyllfeydd, ac yn 2024-25, roedd hynny wedi cynyddu i dros 0.5 miliwn. Felly, mae yna gynnydd cyson a sylweddol yn argaeledd ymgynghoriadau yn y modd hwnnw.

Yn amlwg, mae mwy y gallwn ei wneud, a'r hyn y credaf yw un o gryfderau'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yw ei fod wedi'i adeiladu fesul cam ac wedi ychwanegu nodweddion ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol flwyddyn ar ôl blwyddyn, a gallwn weld bod hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

15:10
Rhestrau Aros y GIG

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau rhestrau aros y GIG yn Nwyrain De Cymru? OQ63689

Un o fy mhrif flaenoriaethau yw sicrhau bod amseroedd aros ledled Cymru yn gostwng a bod pobl yn gallu cael mynediad at driniaethau mewn modd amserol. I wneud hyn, rydym wedi cefnogi byrddau iechyd gyda buddsoddiad ychwanegol, cymorth cenedlaethol a chlinigol, ac wedi blaenoriaethu gweithio rhanbarthol ar gyfer arbenigeddau fel cataractau a diagnosteg.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Er gwaethaf llawer o eiriau cynnes gan y Llywodraeth, mae rhestrau aros cywilyddus y GIG yn parhau, gyda thrigolion ledled Cymru, gan gynnwys fy etholwyr fy hun, yn cael eu gorfodi i aros mewn poen. Mae'n frawychus, ond efallai nad yw'n syndod, o ystyried y ffordd wael y mae Llafur wedi camreoli ein gwasanaeth iechyd dros y 27 mlynedd diwethaf. A gadewch inni beidio ag anghofio bod Plaid Cymru yr un mor euog, yn neidio i'r gwely gyda'r Llywodraeth dro ar ôl tro.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am dynnu sylw at sefyllfa ofnadwy y mae un o fy etholwyr wedi bod yn ei hwynebu o ran gofal iechyd yma yng Nghymru. Dywedwyd wrth fy etholwr ym mis Awst 2024 y byddai angen llawdriniaeth arno i gywiro fflap ar ei stumog, ac y gallai ddisgwyl aros 52 wythnos. Ym mis Mai 2025, gofynnodd fy etholwr am y sefyllfa ddiweddaraf gyda'r rhestr aros ac ar y pwynt hwnnw dywedwyd wrtho ei fod bellach yn wynebu amser aros o fwy nag 80 wythnos. Ym mis Rhagfyr 2025, gofynnodd am ddiweddariad arall a dywedwyd wrtho ei fod yn wynebu amser aros o 76 wythnos. Ym mis Ionawr eleni, 2026, dywedwyd wrtho y dylai wynebu amser aros o 105 i 110 wythnos. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gall amser aros gwreiddiol fy etholwr fod wedi mwy na dyblu o'r amser aros gwreiddiol o 52 wythnos i 110 wythnos? Roeddwn i'n meddwl bod y Llywodraeth hon yn mynd i'r afael â rhestrau aros, ond mae'n amlwg nad yw hynny'n wir.

Mae'n ddrwg gennyf glywed am brofiad ei hetholwr, ac yn amlwg ni allaf wneud sylwadau am y sefyllfa benodol honno, ond rwy'n gobeithio y gwnaiff hi ysgrifennu at ba bynnag fwrdd iechyd ydyw fel y gallant fynd i'r afael â'r pryderon y mae hi'n eu dwyn i fy sylw heddiw.

Fel cyd-destun, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod y buddsoddiad a'r ffocws ychwanegol y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig, ac y mae wedi bod yn ei gynnig ers peth amser, ar leihau amseroedd aros hir wedi golygu, dros y 12 mis diwethaf, ar draws byrddau iechyd yn rhanbarth y de-ddwyrain, fod y math o amseroedd aros hir y mae'n cyfeirio atynt—amser aros o dros ddwy flynedd—wedi gostwng yn sylweddol: gostyngiad o 76 y cant dros gyfnod o flwyddyn. Dros yr un cyfnod, mae nifer y cleifion—. Wel, mae hi'n ysgwyd ei phen, ond dyma'r ffeithiau, ac rwy'n gwybod bod y rheini anodd i'r Aelod eu derbyn weithiau, ond dyma'r ffeithiau. Dros yr un cyfnod, mae nifer y cleifion sy'n aros dros ddwy flynedd am apwyntiad cleifion allanol cyntaf wedi gostwng 95 y cant, ac rwy'n disgwyl i hynny gyrraedd sero cyn diwedd y flwyddyn.

Mae rhai o'r ffigurau hynny'n parhau i fod yn llawer rhy uchel, ond er mwyn cael dadl dryloyw am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig gweld y darlun ehangach, yn ogystal â chydnabod y sefyllfa y mae ei hetholwr ynddi.

Triniaeth Orthopedig

8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r amser aros am driniaeth orthopedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro? OQ63679

Mae gwella mynediad at ofal iechyd a lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Rydyn ni wedi cymryd camau uniongyrchol i gefnogi’r bwrdd iechyd i leihau ei restrau aros orthopedig. Mae hyn yn cynnwys cymorth gan gorff Perfformiad a Gwella GIG Cymru, y rhwydwaith orthopedig clinigol a’r tîm Cael Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Yn ôl y data diweddaraf, mae mwy na 1,500 o lwybrau cleifion yng Nghaerdydd a’r Fro yn aros mwy na dwy flynedd. Ond roeddwn i’n falch iawn i ddarllen am y datblygiadau ym Mharc Iechyd Llantrisant. Yno, mae’n braf gweld cydweithio rhwng tri bwrdd iechyd i fynd i’r afael â thriniaeth orthopedig drwy greu hyd at chwe theatr a 54 gwely yng ngham 2 o’r prosiect. Rhagwelir y bydd cyfanswm y costau cyfalaf pellach yn £123.6 miliwn, gyda £1.93 miliwn wedi'i ariannu hyd yma. Yn ôl y modelu, bydd gwerth £1.54 yn cael ei gyflawni am bob £1 sy’n cael ei fuddsoddi. Pryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi buddsoddiad pellach ym Mharc Iechyd Llantrisant er mwyn mynd i’r afael â’r rhestr aros orthopedig? Diolch yn fawr.

15:15

Diolch i'r Aelod am y croeso y mae'n ei roi i'r parc iechyd yn Llantrisant. Rwy'n credu y bydd yn gyfraniad sylweddol tuag at wella rhestrau aros o ran diagnosteg a llawdriniaeth yn y de-ddwyrain. Jest i ddweud o ran cyd-destun Caerdydd a'r Fro yn benodol, mae'r amserau aros hir yn syrthio yno hefyd. Dros y flwyddyn i fis Hydref diwethaf, roedd 69 y cant o leihad yn y rhai sy'n aros dros ddwy flynedd. Felly, mae arwyddion o gynnydd yn digwydd yn barod.

O ran amseru’r datblygiadau yn Llantrisant, mae'r achos busnes llawn ar gyfer y rhan gyntaf—hynny yw, yr hwb diagnosteg—ac amlinelliad yr achos busnes ar gyfer yr ail gam, sef yr elfen orthopedig, wedi cael eu cyflwyno i’r Llywodraeth am benderfyniad ar gyfer buddsoddiad. Maen nhw’n mynd drwy’r system ar hyn o bryd, ac rwy’n disgwyl cyngor yn fuan iawn ar hynny. Rwy’n awyddus i sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â hyn yn gyflym iawn, fel ein bod ni’n gallu gweld effaith y cynnydd yn Llantrisant ym mywydau pobl cyn gynted â phosibl.

Cafodd yr uned sterileiddio ysbyty yn ysbyty'r Mynydd Bychan ei beirniadu yr wythnos diwethaf mewn adroddiad gan WalesOnline, a ddatgelodd adroddiad cyfrinachol a wnaed gan y bwrdd iechyd nad yw wedi'i gyhoeddi, gyda chyhuddiadau damniol o fwlio, halogi offer llawfeddygol, a chwalfa gyffredinol yn yr adran honno. Mae gwasanaethau orthopedig yn dibynnu ar yr uned sterileiddio honno i ddarparu offer meddygol allweddol i'w galluogi i gyflawni'r swyddogaethau y maent yn eu gwneud pan fydd angen llawdriniaethau ar bobl.

A wnewch chi ymrwymo heddiw, Weinidog iechyd, i fynnu bod y bwrdd iechyd yn darparu'r adroddiad a gwblhawyd ym mis Awst 2024, yn dilyn adroddiad cynharach yn 2016 gyda datgeliadau tebyg? Cofiwch fod yr adroddiad hwn wedi dod yng ngoleuni'r adroddiad ar y theatrau llawdriniaeth, a'r perygl y gallai'r corffdy golli ei drwydded i weithredu oherwydd ymarfer gwael. Mae problemau go iawn yn ysbyty'r Mynydd Bychan. Rwyf wedi gofyn i chi ymyrryd yn uniongyrchol sawl gwaith. Ar y cais syml hwn, a wnewch chi'n ymrwymo i sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael?

Fel y bydd yr Aelod yn gwybod o fy ymatebion blaenorol i'w gwestiynau—ac mae'n her hollol deg—rwyf wedi ymyrryd yn uniongyrchol. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd wedi'i uwchgyfeirio oherwydd y themâu sy'n dod i'r amlwg o nifer o'r adolygiadau hyn, gan gynnwys yr un y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn i mi heddiw.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau bod ganddo gynllun gweithredu manwl a rhaglen newid ar waith mewn ymateb i bob un o'r adolygiadau, a bod gwaith ar y gweill yn erbyn y cynlluniau gweithredu hynny. Rwy'n bwriadu trafod y rheini'n fanwl gyda Chadeirydd y bwrdd iechyd yn ein cyfarfod yn yr wythnosau nesaf. Mae'r cynlluniau'n cwmpasu ymddygiad unigolion, newid diwylliannol, diwygiadau arweinyddiaeth a rheoli hefyd, cynllunio gweithredol, seilwaith, llywodraethu ansawdd, tegwch a chydraddoldeb, a monitro ar gyfer gwelliant parhaus.

Fe fydd yn gwybod bod y bwrdd iechyd wedi ymateb i'r pwynt a wnaeth yn benodol mewn perthynas â'r adolygiad. Mae'r bwrdd wedi ystyried yr adroddiadau. Rwy'n deall gan y bwrdd iechyd fod yr adroddiadau wedi cael eu rhannu â chynrychiolwyr staff, ac mae gwaith wedi bod ar y gweill ers i'r adroddiad gael ei roi i'r bwrdd iechyd ar weithredu'r argymhellion yn yr adroddiad hwnnw.

Rwy'n cytuno ag ef nad yw'r math o heriau diwylliant a rheoli y mae'r adroddiad hwnnw'n eu nodi, fel y gwelsom yn y sylw a roddwyd iddo, yn dderbyniol, ac nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r adroddiad hwnnw'n unig. Siaradais â'r bwrdd iechyd yn benodol yn y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus diweddaraf. Fe fyddwch wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Cadeirydd wrthyf yn y cyfarfod hwnnw ar y cwestiynau ehangach hyn.

15:20
3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Brif Weinidog a'i ofyn gan Mick Antoniw. 

Cyfraith Hillsborough

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y goblygiadau i Gymru yn sgil Cyfraith arfaethedig Hillsborough? TQ1429

Member
Huw Irranca-Davies 15:20:17
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Nod y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) yw cryfhau ymddygiad mewn swyddi cyhoeddus, gan gyflwyno dyletswydd gonestrwydd newydd, yn ei gwneud yn drosedd i gamarwain y cyhoedd, ac mae'n ehangu mynediad at gymorth cyfreithiol i deuluoedd mewn profedigaeth mewn cwestau y mae gan awdurdodau cyhoeddus ran ynddynt. Mae ei gymhwyso i Gymru yn sicrhau bod amddiffyniadau cyfreithiol yn berthnasol ledled y DU.

Diolch am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, roedd Hillsborough yn drasiedi ofnadwy. Dilynodd drasiedi arall, mater sy'n aros am ymchwiliad, sef digwyddiadau Orgreave wrth gwrs. Yr hyn sydd i'w nodi ynglŷn â'r ddyletswydd gonestrwydd yw, pe bai honno'n bodoli adeg digwyddiadau Orgreave, efallai na fyddai Hillsborough erioed wedi digwydd, ac yn sicr ni fyddai'r cuddio digwyddiadau a ffeithiau y bu'n rhaid eu datgelu dros sawl degawd wedi digwydd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad maniffesto i gyflwyno deddf Hillsborough, ond rhaid i'r ddyletswydd honno fod yn gymwys i bawb. Rwy'n falch iawn fod gwelliannau a oedd yn tanseilio'r egwyddor gyffredinol honno wedi'u tynnu'n ôl, er fy mod yn pryderu am awgrymiadau y gallent gael eu cyflwyno yn nes ymlaen. A ydych chi'n cytuno â mi fod pwysigrwydd y gyfraith hon ar draws ein buddiannau Cymreig penodol yn golygu bod rhaid sicrhau ei bod hi'n gymwys i bawb? Ni ddylai fod eithriadau i'r cysyniad o ddyletswydd gonestrwydd.

Mick, diolch yn fawr am hynny. Rwy'n cydnabod eich gwaith yn ymgyrchu ar y mater hwn a hefyd dros lowyr Orgreave a'u teuluoedd dros ddegawdau. Rydym yn edrych ar gymhwyso darn o ddeddfwriaeth a fydd yn darparu dyletswyddau newydd i ymateb i bryderon nid yn unig y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan drasiedi Hillsborough, ond gan drasiedi Tŵr Grenfell a phawb sy'n teimlo bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus wedi methu yn y gorffennol yn eu dyletswydd foesegol a moesol o onestrwydd a chymorth. Bydd yn rhoi'r ddyletswydd foesegol a moesol honno ar sail statudol. 

Rydych chi'n gywir i dynnu sylw at bryderon teuluoedd, gan gynnwys y rhai yng ngrŵp ymgyrchu Hillsborough Law Now, a dynnodd eu pryderon i sylw'r Llywodraeth ar welliant a gyflwynwyd yn canolbwyntio ar y gwasanaethau diogelwch. Mae'r Llywodraeth wedi oedi hynny ac wedi ceisio gweithio gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt a chydag ymgyrchwyr i gael hyn yn iawn. Rwy'n credu bod hynny'n iawn, oherwydd mae'r egwyddor gyffredinolrwydd y soniwch chi amdani yn gywir. Wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn amserol hwn heddiw, Lywydd, nodais fod y grŵp ymgyrchu—a dylem wrando ar eu barn—wedi dweud:

'Rydym yn croesawu'r ffaith bod y llywodraeth yn gwrando ar yr ymgyrch, teuluoedd, ASau a chefnogwyr drwy dynnu eu gwelliant gwasanaethau diogelwch yn ôl. Byddwn yn ymgysylltu ymhellach â'r llywodraeth i sicrhau bod y bil yn gwbl berthnasol i'r gwasanaethau diogelwch heb beryglu diogelwch cenedlaethol.'

Mae'r teuluoedd a'r ymgyrchwyr hynny'n cydnabod bod yna fater diogelwch cenedlaethol yn codi, ond maent eisiau gweithio gyda'r Llywodraeth i gael hyn yn iawn. Rydym yn croesawu hynny. Gyda llaw, Mick, rydym yn cytuno â'r pwyntiau a wnaethoch, ond hefyd â'r pwyntiau a wnaed gan gymheiriaid i ni fel Steve Rotheram o Lerpwl, Andy Burnham ac eraill, a ddywedodd fod y gwelliant blaenorol sydd bellach wedi'i dynnu'n ôl mewn perygl nid yn unig o danseilio ysbryd y ddeddfwriaeth, ond yn rhy eang mewn gwirionedd ynghylch gallu'r gwasanaethau diogelwch i optio allan. Felly, mae gwaith i'w wneud, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi'i dynnu'n ôl ac yn ceisio gweithio gyda nhw.

Rwy'n ailadrodd hefyd mai rhan o'r egwyddor gyffredinolrwydd yw cymhwyso hyn i Gymru. Bydd angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol a fydd yn cael ei gyflwyno yma. Bydd angen inni graffu ar hwnnw fel Llywodraeth ac yna ei gyflwyno ar gyfer ei graffu yma hefyd. Ond wrth gwrs, fel rhan o'r rhai a fu'n ymgyrchu ers amser maith i gefnogi deddf Hillsborough, rydym yn gefnogol i hyn, ac mae angen inni ei gael yn hollol iawn. 

Mae cymal 11 o'r Bil yn creu trosedd droseddol newydd o gamarwain y cyhoedd gan Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, nid yw'n berthnasol i Weinidogion Cymru nac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â swyddogaethau datganoledig. Dyna pam, yn eich memoranda cydsyniad deddfwriaethol, nad ydych chi wedi rhoi sylw i gymal 11. Ond ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gwelliannau 40 a 70, a fyddai'n dileu'r eithriad hwn i swyddogaethau datganoledig Cymru. Bydd cymal 11, os caiff ei basio, yn berthnasol nawr i Weinidogion Cymru.

A fyddwch chi felly yn cyflwyno memorandwm atodol, ac a fydd hynny'n cael ei adlewyrchu mewn cynnig cydsyniad deddfwriaethol, fel y gall y Senedd wneud ei safbwyntiau'n hysbys ar y mater hwn? A ydych chi'n cefnogi dileu'r eithriad hwn mewn perthynas â chymal 11? Ac ar fater arbennig a fydd o ddiddordeb i'r cyn-Gwnsler Cyffredinol, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, byddai'n berthnasol i drafodion yn y Senedd. Nid yw hyn yn wir yn San Steffan, wrth gwrs, gan fod braint absoliwt yn berthnasol yno. A yw hynny'n fater y gwnaethoch chi ei drafod gyda Llywodraeth y DU wrth drafod cymal 11?

15:25

Unwaith eto, Adam, diolch i chi am eich cefnogaeth hirsefydlog i'r egwyddorion sy'n sail i'r ddeddfwriaeth hon a chael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, a hefyd, gyda Mick Antoniw, am geisio sicrhau bod hyn yn gymwys yn gyffredinol ar draws y cyrff cyhoeddus. Yng Nghymru a Lloegr, mae yna feysydd datganoledig o gymhwysedd cyrff cyhoeddus a chymhwysedd cyhoeddus, a meysydd wedi'u cadw'n ôl. Rwy'n credu ei bod yn iawn ei fod yn gymwys ar draws hynny, fel y bydd pobl yn gwybod gyda sicrwydd llwyr, ni waeth ble y ceir digwyddiad, y bydd y ddeddfwriaeth hon yn gymwys iddynt. Ond rydym yn awyddus iawn i fod yn rhan o hyn, ac wedi bod o'r dechrau. Cafodd ei symud yn ei flaen yn gyflym—a phob clod iddynt—gan Lywodraeth Lafur newydd y DU, a olygodd eu bod wedi bwrw iddi'n gyflym dros ben.

Ers hynny, rydym wedi bod yn ymwneud yn agos â nhw. Gallaf gadarnhau, yn wir, fel y dywedwch, nad oedd cymal 11, sy'n cyfeirio at y drosedd o gamarwain y cyhoedd, yn gymwys i Gymru yn wreiddiol. Bellach, fe gaiff ei ymestyn. Rydym yn cytuno, ac rydym yn croesawu hynny. Mae hynny wedi bod yn rhan o'n trafodaeth, er mwyn sicrhau ei fod yn gymwys yn gyffredinol ledled Cymru a Lloegr, heb ystyried ffiniau. Mae diwygiadau i'r perwyl hwn wedi'u gwneud, a bydd hyn yn amodol ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol y byddwn yn ei gyflwyno. Rydym yn parhau i ymgysylltu ar yr holl agweddau ar hyn, oherwydd rydym am ei gael yn iawn i Gymru a Lloegr yn gyfan, oherwydd mae'n sicr yn ymwneud â Hillsborough, Grenfell, Orgreave, a diogelu rhag unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol lle dylai fod gennym droseddau o gamarwain y cyhoedd, dyletswydd gonestrwydd a dyletswydd cymorth hefyd, i'r rhai yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau o'r fath, neu pan gynhelir ymchwiliadau.

Diolch yn fawr, Dirprwy Brif Weinidog. Roedd fy nhad a ffrind da imi yn Hillsborough amser y drychineb, ac mae fy ffrind yn dweud nad yw ei fywyd ef erioed wedi bod yr un fath ers y drychineb. Rhan o'r trawma hynny oedd ymateb yr awdurdodau i'r drychineb.

Mae oedi ar y Bil yn San Steffan, a dwi'n cydnabod eu bod nhw wedi symud ymlaen, nawr yn rhoi cyfle inni edrych ar ba mor addas yw'r Bil. Ydy e'n ateb ein gofynion ni i gyd? Rŷn ni'n gweld bod nifer o gymalau y Bil yn ymwneud â materion datganoledig. Felly, mae hi yn siomedig iawn, ac efallai fod amser inni ddelio efo hyn, i ddarllen yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, a dwi'n dyfynnu, mai

'ychydig o ymgysylltu a chyfranogiad a fu wrth ddatblygu'r Bil'.

Gobeithio y bydd hyn yn newid nawr, Dirprwy Brif Weinidog, oherwydd ar hyn o bryd, dyma enghraifft arall o Fil yn cael ei greu i'r Cymry yn hytrach na gyda ni ac yn cydweithio gyda ni.

Llais pwysig Cymreig sydd angen cael ei glywed, yn fy marn i, ydy Nadine Marshall, sylfaenydd VOICE, Victims Oversight in Criminal Enforcement. Lladdwyd—llofruddiwyd—ei mab, Conner, yn 18 mlwydd oed gan droseddwr oedd ar gyfnod prawf ar y pryd. Mewn blwyddyn, cynhyrchwyd 872 o adroddiadau troseddau pellach difrifol, sy'n golygu bod 872 o deuluoedd o hyd yn aros am atebion. Yn anffodus, mae'r Bil, fel mae wedi cael ei ddrafftio ar hyn o bryd, yn fawr o gymorth i'r teuluoedd yma, ac rŷch chi'n gwybod barn teuluoedd Hillsborough am y rhan yma o'r Bil—bod y gyfraith ddim yn ôl-weithredol. A ydych chi'n fodlon cael trafodaeth gyda Llywodraeth Prydain i sicrhau bod y Bil yn ôl-weithredol? Diolch yn fawr.

15:30

Byddwn yn parhau i ymgysylltu nawr â Llywodraeth y DU ar hyn. Gwyddoch fy mod yn unigolyn ystyriol ac yn ceisio bod yn empathig tuag at eraill a deall pam mai cyfyngedig fu'r ymgysylltu cynnar. Ond rwy'n cydnabod eu bod eisiau symud ymlaen yn gyflym, ac roeddent yn gweithio gyda'r grwpiau ymgyrchu hynny a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn gynnar. Ond rydym yn parhau i ymgysylltu â'r teuluoedd nawr, ac ni ddylem danbrisio'r ffaith, mewn llawer o'r achosion hyn, fod y rhain wedi bod yn anghyfiawnderau sy'n mynd yn ôl ddegawdau ar ddegawdau—mae wedi bod yn anghyfiawnder parhaus. Nid yn unig y digwyddiad, nid yn unig y ffordd y deliwyd â'r teuluoedd a'r unigolion hynny ar y pryd, a'r cymunedau hefyd—y cymunedau eu hunain—ond roeddem mewn sefyllfa lle bu'n rhaid inni ddod â phersbectif dynol i hyn: swyddogion heddlu neu wasanaethau cuddwybodaeth yn dweud celwydd, yn newid datganiadau tystion i ddiogelu enw da pobl; prosesau cwestau, lle nad oedd cyllid ar gyfer cynrychiolaeth gyfreithiol, felly bu'n rhaid iddynt sefyll ar eu pen eu hunain ac amddiffyn eu buddiannau eu hunain; a chafodd yr ymchwiliad cyfan ei danseilio gan ddiffyg gonestrwydd, didwylledd, tryloywder, cadw gwybodaeth yn ôl ac yn y blaen.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ceisio rhoi mesurau ar waith, ar sail statudol, a fydd yn atal hynny rhag digwydd eto, ac a fydd yn dwyn pobl i gyfrif. Ond gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn parhau—nid yn unig ar ran dinasyddion Cymru, ond ar ran dinasyddion Cymru a Lloegr, gan nad oes ffiniau i rai o'r materion hyn—i gael hyn yn iawn, a byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn ei gylch.

Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog. Y cwestiwn amserol nesaf, i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ac i'w ofyn gan Heledd Fychan.

Y Tour de France yng Nghymru

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y gwaith gwaddol sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yng ngoleuni'r Tour de France yn dod i Gymru? TQ1431

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i wneud y mwyaf o waddol y Tour de France, gan ganolbwyntio ar hybu twristiaeth, hyrwyddo diwylliant a chwaraeon Cymru, gwella iechyd meddwl a llesiant a sicrhau manteision economaidd a chymunedol parhaol ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o glywed hynny. Dwi'n meddwl bod pawb ohonon ni'n gyffrous dros ben, ynghyd â chymunedau o'r Trallwng i Gaerdydd, y bydd y Tour de France yn dod i Gymru y flwyddyn nesaf. Dwi'n llongyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm â'r gwaith. Ac fel yr oedd y Gweinidog yn ei ddweud, mae'n gyfle aruthrol i Gymru gael ei gweld gan biliynau o bobl mewn gwledydd ledled y byd. Mae'n gyfle gwych hefyd o ran hyrwyddo seiclo yng Nghymru i bobl Cymru, ynghyd, wrth gwrs, â seiclwyr o dramor fel cyrchfan i dwristiaid.

Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfle cyffrous hwn a'r gwaddol y gall o ei greu i'n heconomi, ynghyd ag iechyd pobl Cymru. Mi fyddwch chi'n gwybod, Weinidog, ein bod ni wedi gofyn i chi nifer o weithiau ynglŷn â gwaddol, oherwydd dŷn ni wedi cael nifer o ddigwyddiadau mawr yma yng Nghymru. Pan fuoch chi a'ch swyddogion gerbron y pwyllgor, ym mis Tachwedd, mi oedd yna gydnabyddiaeth y gallai Llywodraeth Cymru weithiau bod yn gwneud mwy o ran gwaddol. Roeddech yn defnyddio'r enghraifft lle roeddech chi wedi gwneud mwy o waith efo golff y llynedd, a manteisio efo hynny, ond mi wnaeth un o'ch swyddogion chi ddweud bod hwn yn

'ddull gweithredu newydd i ni. Fel arfer, byddwn yn gwneud cais am ddigwyddiad, ac yna'n edrych ar waddol ar ôl y digwyddiad'.

Felly, dwi yn gobeithio bod y gwersi hynny wedi eu dysgu ar gyfer y Tour de France. Felly, yr hyn fyddwn ni'n hoffi gwybod ydy: oes yna fwy o fanylion y gallwch chi eu darparu? Er enghraifft, faint o arian sydd wedi ei roi tuag at edrych ar y gwaddol hwn? Oes yna dasglu? Oes yna dîm yn arwain ar y gwaith hwn? A beth ydy'r mesurau o lwyddiant dŷch chi wedi cytuno arnyn nhw, neu a ydych chi wedi cytuno ar y mesurau hynny eto, er mwyn inni sicrhau bod yr holl bethau a wnaethoch chi eu rhestru, ac mae'n rhestr dwi'n cytuno â hi, yn cael eu gwireddu?

Diolch am eich cwestiwn, Heledd. Rwy'n cytuno bod hyn yn gyffrous iawn i Gymru, a chredaf y bydd pob Aelod o'r Senedd yn cytuno ei bod yn wych dod â'r achlysur gwych hwn i Gymru. Mae'n newyddion gwych y byddwn ni, am y tro cyntaf, yn croesawu un o gymalau'r Tour de France. Ac rwy'n falch iawn ein bod yn dod â digwyddiad chwaraeon mawr arall i'n gwlad unwaith eto—y digwyddiad hwn am y tro cyntaf erioed. Rwy'n siŵr fod Aelodau o bob rhan o'r Siambr, fel fi, yn methu aros i weld y crys melyn, y crys melyn eiconig, yn beicio drwy dirwedd hardd Cymru—y golygfeydd gorau yn y byd, heb os, ar feic.

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at nifer o bethau o ran gwaddol. Rwy'n teimlo'n angerddol am hyn, fel y mae hithau. Rydym eisiau gweld gwaddol parhaol yn sgil cynnal un o gymalau'r Tour de France, ym maes twristiaeth ond hefyd o ran gwella chwaraeon, mynediad at chwaraeon, ac ar gyfer busnesau eraill hefyd. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn falch iawn o weld y cyhoeddiad am Geraint Thomas, a fydd yn llysgennad beicio Cymru. Fe fydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n genedl feicio o'r radd flaenaf. Felly, credaf fod hynny'n gam mawr ymlaen yn barod. Gallwch weld yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru cyn y bencampwriaeth i ddarparu'r gwaddol parhaol hwnnw, ac yna'r manteision a ddaw yn ei sgil i'r economïau lleol drwy ganolbarth Cymru, ar y daith i dde Cymru.

Mae'r Aelod hefyd yn tynnu sylw at lwyddiannau eraill a welsom. Felly, rydym wedi cael llwyddiant mawr gyda'n gwaith gwaddol gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, pan fo timau cenedlaethol Cymru wedi cyrraedd digwyddiadau mawr ledled y byd, a hefyd, yn fwy diweddar, yng nghronfa gwaddol golff Cymru, pan gynhaliwyd Pencampwriaeth Agored y Menywod yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Felly, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd hyn yn rhoi'r un cyfle i ni, ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Geraint Thomasiaid ac Emma Finucaneiaid.

Cyfeiriodd yr Aelod yn uniongyrchol at yr hyn y gallwn ei wneud ymlaen llaw. Wel, fel rhan o'r cyhoeddiad, cyhoeddodd trefnwyr y Tour de France raglen Joy hefyd. Mae'n effaith waddol, yn edrych ar effaith gymdeithasol. Rydym yn rhan fawr o'r sgyrsiau hynny, ond mae'r sgyrsiau hynny'n parhau. Felly, bydd yn edrych ar fynd i'r afael â'r rhwystrau i chwaraeon, bydd yn edrych ar wella iechyd meddwl a llesiant, a bydd yn edrych ar ddathlu diwylliant cymunedol lleol hefyd. Felly, maent yn sgyrsiau sydd ar y gweill. Rwy'n fwy na pharod i roi diweddariadau pellach i'r Senedd, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn cymryd rhan weithredol yn y sgyrsiau hynny. Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru, ac unwaith eto, fe fydd yn rhoi Cymru ar y llwyfan byd-eang. Mae'n ddiwrnod da i feicio yng Nghymru ac i Gymru fel cenedl.

15:35

Rwy'n rhannu'r teimladau a fynegwyd gan yr Aelod dros Ganol De Cymru—[Anghlywadwy.] Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i Gymru, ac roeddwn wrth fy modd yn darllen y cyhoeddiad. Gyda chymal 3 y ras yn dechrau yn y Trallwng ac yn gorffen yng Nghaerdydd, bydd llygaid y byd ar Gymru. Mae'n anrhydedd inni gynnal y bencampwriaeth feicio fwyaf a mwyaf uchel ei pharch yn y byd. Mae croesawu un o gymalau'r Tour de France am y tro cyntaf erioed yn enfawr i Gymru, a rhagwelir y bydd y digwyddiad yn dod â miliynau o bunnoedd i Gymru.

Ond mae gennyf ddiddordeb mewn clywed gan Lywodraeth Cymru sut y byddant yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn; rydych chi wedi codi rhan o hynny yn eich sylwadau, Weinidog. Ond gyda ffyrdd yn cau, byddai'n braf gweld Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithio i ehangu cynlluniau beicio yn sylweddol, i annog cymudo cynaliadwy, a chynnydd mawr mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, i ymdopi ag ymwelwyr a chymudwyr lleol. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cydgysylltu â chynghorau i sicrhau bod y seilwaith yn ddigon da ar gyfer y digwyddiad, a sut y bydd yn manteisio i'r eithaf ar y digwyddiad o safbwynt economaidd i wneud y mwyaf o'i effaith ar y pryd, ac yn wir, y gwaddol ar ei ôl hefyd?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i Gareth Davies am ei gwestiynau? Ddirprwy Lywydd, dyma'r digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf yn y byd sy'n rhad ac am ddim i'w wylio. Mae'n wych, ac mae Cymru'n mynd i fod yn rhan o hynny am y tro cyntaf. Felly, mae llygaid y byd yn sicr ar Gymru unwaith eto, ac rwy'n cytuno gydag ef am y cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig.

Pan ddywedais yn gynharach ein bod eisiau gwneud Cymru’n genedl feicio o'r radd flaenaf, roeddwn yn ei olygu. Dyna pam y gwnaethom benodi Geraint Thomas yn llysgennad beicio Cymru. Bydd ei waith gyda Croeso Cymru yn edrych ar ddod â phobl i'r wlad i ymuno â diwylliant Cymru a beicio ar y llwybrau hynny eu hunain. Ond rydym eisiau gweld pobl leol yn dechrau beicio hefyd. Rwyf eisoes wedi sôn wrth yr Aelod a gododd y cwestiwn y prynhawn yma ein bod yn y broses o gynllunio'r gwaddol a sut olwg sydd ar hynny. Byddwn eisiau cael gwared ar rwystrau fel y gall pobl fwynhau beicio fel camp ledled y wlad, ac rwy'n fwy na pharod i roi mwy o wybodaeth i'r Senedd pan fydd y cynlluniau hynny'n datblygu.

O ran ymgysylltiad penodol ag awdurdodau lleol sydd ar y llwybr, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod ein bod eisoes mewn trafodaethau â nhw. Rydym wedi bod mewn trafodaethau yn y cyfnod cyn y cyhoeddiad, a byddwn yn parhau â'r trafodaethau hynny gyda nhw, fel y gallant wneud y mwyaf o'u cyfle i groesawu'r digwyddiad, a bod yn rhan o Gymru wedyn fel cenedl feicio o'r radd flaenaf.

Lywydd, rwy' awyddus i sicrhau bod Cymru gyfan yn gweld y manteision o gynnal y digwyddiad hwn, yn union fel y gwelwyd pan oedd Cymru'n gartref i golff menywod a Phencampwriaeth Agored y Menywod yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Cafwyd cefnogaeth i glybiau golff ledled y wlad, a gobeithiwn y bydd pobl o gymunedau ledled y wlad yn gallu dathlu a chymryd rhan yn yr achlysur gwych hwn i Gymru yn 2027.

15:40

Mae'n newyddion cwbl wych fod y Tour de France yn dod i Gymru. Gwn y bydd hyn yn hwb i bobl ledled Cymru, ond rwy'n arbennig o falch y bydd y ras yn dod i lawr drwy Gaerdydd, drwy Ogledd Caerdydd, drwy fy etholaeth i, sy'n hynod gyffrous, a heibio i drac beicio Maendy, wrth gwrs, lle roedd Geraint Thomas yn hyfforddi, a hefyd ger cartref Geraint Thomas, a fagwyd yng Ngogledd Caerdydd ac a aeth i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Ac mae'n wych ei fod yn mynd i fod yn llysgennad ar gyfer y Tour de France yng Nghymru, ac rwy'n llongyfarch y rhai a fu'n rhan o'r broses o'i wneud yn llysgennad.

Felly, bydd hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod pobl ifanc yn enwedig yn cael pleser o feicio ac yn dechrau beicio, ac yn gyfle go iawn i hyrwyddo teithio llesol. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog—rwy'n gwybod y bydd—yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn cyrraedd yr holl blant ledled Cymru, ac yn enwedig y merched hefyd, gan fod y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y Tour de France, a'r enillwyr ar y cyfan, neu'n gyfan gwbl, rwy'n credu, wedi bod yn ddynion. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig, ein bod yn ceisio cyrraedd y merched hefyd, ac rwy'n credu bod hwn yn gyfle enfawr. Diolch.

A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei phwyntiau? Os wyf yn iawn hefyd, Lywydd, rwy'n credu bod y llwybr yn mynd heibio i dafarn leol Geraint Thomas, felly rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn gwylio'r ras gyda pheint yn eu llaw yn yr haf, ym mis Gorffennaf, ac efallai y byddaf yn ymuno ag ef ar gyfer yr achlysur hwnnw.

Mae'n ddigwyddiad gwych iawn, ac mae cynnal y digwyddiadau chwaraeon mawr hyn, neu lle mae ein gwlad yn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon o'r maint hwn, yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, ac mae cyfle i hyn wneud hynny. Rwy'n cytuno, rwyf am weld pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli ac yn cymryd rhan mewn beicio, wrth iddynt weld y Tour de France ar waith.

Ac mae Julie Morgan yn llygad ei lle o ran merched yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'n rhan o fenter Joy, y rhaglen effaith gymdeithasol y mae'r trefnwyr wedi'i chyhoeddi, ac mae Llywodraeth Cymru’n cymryd rhan yn y gweithgarwch hwnnw. Rwyf am weld y Geraint Thomas nesaf, ond rwyf hefyd am weld yr Emma Finucane nesaf, Cymraes sy'n bencampwr Olympaidd mewn beicio. Rydym yn hynod falch o'n hanes yn hynny o beth, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gweld rhagor o bobl fel Emma a Geraint yn y dyfodol oherwydd y—[Anghlywadwy.] Rwy'n falch iawn ein bod ni unwaith eto'n dod â digwyddiad chwaraeon mawr i Gymru, ac yn cynnal y math hwn o ddigwyddiad, ac yn rhoi llygaid y byd ar ein gwlad fendigedig.

Mae hwn yn gyfle gwych, yn enwedig i feicio yng Nghymru. Ac efallai y gallai'r Gweinidog egluro—pan ddywedodd y bydd yn ymuno â Geraint Thomas, a fydd yn ymuno â Geraint Thomas yn y dafarn leol neu ar y beic, neu efallai'r ddau? [Chwerthin.] Efallai y gallai ateb hynny i ni yn nes ymlaen.

Nawr, dyma gyfle i ddyrchafu pob canolfan feicio a felodrom ar draws ein cenedl falch. Mae Julie Morgan eisoes wedi sôn am felodrom Maendy. Nawr, ni ellir tanbrisio arwyddocâd diwylliannol felodrom Maendy. Ers i'r lleoliad agor ym 1951, mae'r ganolfan chwaraeon hon wedi datblygu eiconau chwaraeon Cymreig, gan gynnwys, fel y dywedodd Julie, Geraint Thomas ei hun, y mae ei effaith ar feicio fel camp yn hysbys iawn, ac mae'n dda ei weld yn cael ei gydnabod yma ac yn rhyngwladol.

Nawr, y ganolfan hon yw'r unig leoliad sydd ar ôl o Gemau'r Gymanwlad pan ddaethant i Gaerdydd ym 1958, ac mae'n dal i fod yn gartref i glwb beicio pobl ifanc y Maindy Flyers. Ac mae aelodau'r clwb hwnnw wedi mynd yn eu blaenau i ennill pedair medal aur Olympaidd—llwyddiannau unigolion a fu'n beicio ar drac Maendy. Nawr, er gwaethaf hyn oll, mae felodrom Maendy wedi bod dan fygythiad. Mae bygythiad wedi bod y bydd ysgol yn cael ei hadeiladu ar felodrom Maendy. Mae'r bygythiad hwnnw wedi diflannu bellach, ond mae gennym gyfle nawr i gydnabod cyfraniad felodrom Maendy, cyfraniad y Maindy Flyers. A wnaiff y Gweinidog ddefnyddio'r cyfle hwn i drafod gydag eraill, i gydnabod pwysigrwydd felodrom Maendy a Chanolfan Maendy yn ffurfiol i feicio yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac ystyried rhoi statws treftadaeth i felodrom Maendy? Diolch yn fawr.

15:45

Diolch i Rhys ab Owen am hynny, Lywydd. Credaf ei fod yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn cyntaf, ac rwy'n siŵr y bydd yno gyda mi. Pan fo'n tynnu sylw at felodrom Maendy, a grybwyllwyd gan Julie Morgan hefyd, mae'n llygad ei le yn tynnu sylw at yr hanes lleol a'i waddol lleol, nid yn unig i'r rhanbarth hwn, ond i Gymru. Rwy'n credu bod cynnal un o gymalau'r Tour de France yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddathlu felodrom Maendy a'r holl bethau y mae wedi'u cynnig ac sydd ganddo i'w cynnig yn y dyfodol hefyd. Rydym wedi cael cynnydd mewn cyllid cyfalaf gan Chwaraeon Cymru eleni, ac rwy'n siŵr y byddai Chwaraeon Cymru eisiau bod yn rhan o'r sgwrs ynglŷn â’r hyn y mae'r Tour de France yn ei olygu fel pwynt ynglŷn â gwaddol, a byddaf yn gofyn iddynt ystyried yr holl bwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud.

4. Datganiadau 90 eiliad
5. Dadl y Pwyllgor Cyllid: 'Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019'

Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, dadl y Pwyllgor Cyllid, 'Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths.

Cynnig NDM9110 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o allu siarad yn y ddadl yma heddiw. Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth. Cafodd ei datblygu yn sgil galwadau i gryfhau annibyniaeth a hygyrchedd swyddfa’r ombwdsmon ac i foderneiddio’r broses gwyno fel bod yr ombwdsmon yn gallu gwasanaethu’r cyhoedd yn well.

Cefais fy atgoffa mai Bil pwyllgor cyntaf y Senedd oedd hwn, a chafodd ei chymryd drwodd gan y cyn-Gadeirydd, Llyr Gruffydd. Roedd e eisiau i fi wneud yn siŵr ei fod yn cael name check yn y fan hyn—[Torri ar draws.] Ie, yn union. Ond diolch iddo fo ac i staff y pwyllgor am fynd â'r Bil drwodd.

Felly, cyflwynodd y Ddeddf bwerau newydd gyda’r nod o wella mynediad at gyfiawnder, gwella tryloywder, a hyrwyddo tegwch ledled gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er enghraifft, roedd yn galluogi’r ombwdsmon i dderbyn cwynion llafar fel mater o drefn, ac yn rhoi’r pŵer i’r ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Roedd y rhain yn gamau sylweddol ymlaen.

Roedd y Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal adolygiad statudol, a oedd yn galluogi ein pwyllgor i fyfyrio ar sut mae'r ddeddfwriaeth hon wedi gweithio'n ymarferol. Yn benodol, roedd yn ein caniatáu i ganolbwyntio ar gwestiynau allweddol, sef: a yw'r Ddeddf wedi cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd? A yw'r fframwaith yn parhau i fod yn addas at y diben? A yw’r ddeddfwriaeth wedi arwain at unrhyw ganlyniadau anfwriadol? Ac, yn bwysig i ni fel Pwyllgor Cyllid, a yw wedi darparu gwerth am arian?

Fel rhan o'r adolygiad, clywsom gan ystod eang o randdeiliaid ac arbenigwyr. Mae eu mewnwelediad wedi ein helpu i ddeall effaith y Ddeddf a nodi meysydd lle gallai fod angen eglurder, cymorth neu ddiwygio pellach. Hoffem ddiolch i bawb a roddodd amser i rannu eu barn gyda'r pwyllgor. Hoffem ddiolch hefyd i'r ombwdsmon a'i swyddfa am eu cydweithrediad drwy gydol yr adolygiad, a chroesawu ei hymrwymiad i gynnwys ein hargymhellion mewn strategaethau, cynlluniau a rhaglenni gwaith yn y dyfodol, fel yr amlinellwyd yn ei hymateb i'n hadroddiad.

At ei gilydd, mae'r pwerau newydd wedi cael croeso. Maent yn caniatáu i'r ombwdsmon fabwysiadu dull mwy rhagweithiol a chynhwysol o weithredu, gan ddarparu fframwaith statudol cadarn sy'n ategu ac yn cryfhau rôl hanfodol yr ombwdsmon ym mywyd cyhoeddus Cymru. Dywedodd nifer o randdeiliaid wrthym fod Deddf 2019 yn dal i adlewyrchu'r arferion gorau ar gyfer deddfwriaeth ombwdsmyn yn rhyngwladol, chwe blynedd ers iddi ddod i rym. Rydym yn falch fod y ddeddf hon gan y Senedd—a gyflwynwyd, fel y dywedais, gan y Pwyllgor Cyllid yn y bumed Senedd—yn parhau i fod yn esiampl o arferion da ac yn cael ei pharchu ymhlith cymuned yr ombwdsmyn.

Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynnydd a wnaed ar gryfhau hyder y cyhoedd yn y swydd ac yn ei gwaith allgymorth wedi'i dargedu. Rydym yn canmol yn arbennig y camau a gymerwyd nid yn unig i ddarparu adnoddau mewn ieithoedd eraill ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg, ond hefyd i dderbyn cwynion mewn mwy o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, er mwyn cynyddu cyrhaeddiad yr ombwdsmon. Ond rydym yn credu bod lle i adeiladu ar gynnydd, ac rydym yn argymell bod yr ombwdsmon yn parhau i adolygu ei strategaeth i sicrhau ei bod yn ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd, gan sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad cyfartal at wasanaethau'r ombwdsmon.

Fe wnaethom nodi meysydd hefyd lle mae angen mireinio i sicrhau bod yr ombwdsmon yn parhau i gyflawni ar ran y cyhoedd yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys adolygu'r prosesau sydd eisoes ar waith ar gyfer cwynion llafar, ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a'r Awdurdod Safonau Cwynion.

Ni allwn wneud sylwadau ar y pŵer newydd i ymchwilio i faterion yn ymwneud â gwasanaethau iechyd preifat sy'n gysylltiedig â chwyn mewn llwybr cyhoeddus/preifat, gan nad yw'r trothwy ar gyfer cwyn o'r fath wedi'i gyrraedd eto. O'r herwydd, credwn y dylid cadw'r pŵer hyd nes y daw tystiolaeth ddigonol i law i awgrymu bod angen newid.

Trafodwyd y posibilrwydd hefyd o ehangu awdurdodaeth yr ombwdsmon i gynnwys cwynion yn ymwneud ag ysgolion. Daethom i'r casgliad fod angen gwaith pellach yn y maes, ac rydym wedi argymell y dylai'r ombwdsmon gynnal ymarfer modelu i bennu'r effaith bosib ar wasanaethau presennol, yn ogystal â goblygiadau ymarferol gwneud hynny. Gofynnwyd i'r canfyddiadau gael eu rhannu erbyn yr hydref eleni. Rydym hefyd yn croesawu ymateb cadarnhaol Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'n hargymhelliad, ac rydym wedi ein calonogi gan y gwaith sy'n mynd rhagddo yn y maes hwn. O ystyried yr etholiad Senedd sydd ar y gorwel, bydd yn rhaid i'r pwyllgor sy'n ein holynu ni fonitro ac adolygu unrhyw waith a wneir yn y meysydd hyn fel rhan o'i waith craffu blynyddol ar yr ombwdsmon.

Rydym yn croesawu tystiolaeth fod Deddf 2019 wedi'i rhoi ar waith gyda'r costau lleiaf posib. Fel Pwyllgor Cyllid, mae hyn yn arbennig o bwysig i ni, ac rydym wedi ein calonogi ymhellach gan y dystiolaeth, sy'n dangos bod Deddf 2019 wedi sicrhau arbedion yng ngoleuni gwaith yr ombwdsmon ar ddatblygu a gweithredu'r Awdurdod Safonau Cwynion. Fodd bynnag, gan nad yw holl bwerau Deddf 2019 wedi'u defnyddio hyd yn hyn, ni allem benderfynu a yw'r Ddeddf wedi darparu gwerth am arian wrth gyflawni ei hamcanion. Dylid craffu ar y rhain yn ystod sesiynau cyllidebol a goruchwylio blynyddol gyda'r ombwdsmon ac rydym yn rhagweld y bydd hwn yn faes o ddiddordeb i'r pwyllgor sy'n ein holynu.

Ddirprwy Lywydd, mae'r gwaith hwn wedi ail-ddatgan egwyddorion sylfaenol, sef bod gwaith craffu ar ôl deddfu yn waith hanfodol. Mae'n sicrhau bod cyfreithiau sy’n cael eu pasio gan y Senedd yn parhau i wasanaethu'r cyhoedd yn effeithiol, gan gyflawni’r amcanion a fwriadwyd a chan ddarparu gwerth am arian. Credwn fod y darpariaethau statudol a geir yn Neddf 2019 parthed cynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol yn cynrychioli model arfer gorau ar gyfer yr holl ddeddfwriaeth a gyflwynir gerbron y Senedd. Dyna pam rydym ni wedi argymell y dylai pob Bil perthnasol a gyflwynir gerbron y Senedd gynnwys darpariaethau ar gyfer cynnal adolygiad ôl-weithredu. Mae'r adolygiad hwn yn dangos effaith adolygiadau ôl-ddeddfwriaethol. Mae gwaith craffu yn cryfhau atebolrwydd ac yn gwella ansawdd y broses ddeddfu yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan Aelodau yn ystod y ddadl yma i'w ddweud am y Bil. Diolch yn fawr.

15:50

Hoffwn adleisio sylwadau Cadeirydd y pwyllgor ynghylch gwaith y pwyllgor, a diolch hefyd am y cymorth gan y clercod a staff Comisiwn y Senedd yn y gwaith o lunio'r adroddiad hwn. Credaf ei bod yn werth i'r Aelodau fyfyrio ar y ffaith, ers 2019, fod cwynion i ombwdsmon y gwasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu 36 y cant, sy'n beth da ac yn beth drwg, am wn i. Felly, mae'n beth da fod mwy o bobl efallai'n teimlo eu bod yn gallu cael mynediad at ombwdsmon y gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod eu cwynion yn cael eu clywed, ond mae hynny hefyd yn rhoi pwysau ar ombwdsmon y gwasanaethau cyhoeddus a'i staff wrth reoli hynny. Ond ni allaf beidio â meddwl y gellid hyrwyddo'r gwaith da i gynnwys y gallu i gyflwyno cwynion llafar ymhellach fyth, a dyna un o'r argymhellion, rhwng argymhellion 2 a 3 gan y pwyllgor. Oherwydd, wrth gwrs, dylai cael mynediad at y gallu i gwyno fod mor hawdd a syml â phosib i bobl. Mae'n siŵr fod gormod o bobl yn dal i feddwl mai'r unig ffordd o wneud hynny yw drwy gŵyn ysgrifenedig. Felly, gwnaeth y pwyllgor argymhellion i sicrhau bod y gallu i bobl gwyno ar lafar mor hysbys â phosib. Rwy'n credu ei fod yn beth cadarnhaol iawn, o ran hygyrchedd, ond hefyd o ran y gwelliannau i wasanaethau y mae pob un ohonom eisiau eu gweld, gan mai diben cwynion yw gwella gwasanaethau yn y tymor hir hefyd yn ogystal â bodloni'r achwynydd ar y pryd. Ac wrth gwrs, mae gallu i gwyno mor hawdd â phosib yn rhoi sicrwydd i'n trethdalwyr ledled Cymru pan fyddant yn teimlo nad yw eu hanghenion wedi cael eu diwallu'n briodol.

Rwyf am wneud y pwynt hwnnw, ac rwy'n credu y byddai'n ddiddorol clywed barn Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n siŵr ei bod yn cytuno, fod y gallu i bobl gwyno mor hawdd â phosib, mewn ffordd mor syml â phosib, yn egwyddor bwysig iawn, ac rwy'n siŵr y byddai'n cytuno ag argymhellion y pwyllgor y dylai'r gallu i gwyno ar lafar fod mor hysbys â phosib.

Y thema arall a ddaeth drwy hyn, fel y nododd y Cadeirydd hefyd, oedd y pwerau sydd gan yr ombwdsmon i ymchwilio ar ei liwt ei hun. Daeth hynny drwodd yn bwerus yn y dystiolaeth a gawsom. Ond daeth drwodd yn glir ei bod hi'n broses hir ac yn broses fiwrocrataidd iawn i’r ombwdsmon gwblhau’r mentrau hynny’n effeithiol. Felly, mae’r pwyllgor, drwy argymhellion 4 i 9, wedi gwneud nifer o bwyntiau ynghylch sut y gellir cryfhau a gwella ymchwiliadau a gynhelir gan yr ombwdsmon ar ei liwt ei hun, a'u gwneud yn fwy effeithlon. A gobeithio—. I fynd yn ôl at y pwyntiau ynghylch gwella gwasanaethau a gwella canlyniadau i bobl ledled Cymru, credaf fod cael ffordd haws o ddelio ag ymchwiliadau ar ei liwt ei hun yn gadarnhaol iawn o ganlyniad i'r adroddiad hwn.

Elfen arall o fewn hynny, mewn gwirionedd, yw bod y gallu a'r egwyddor, mae'n debyg, i'r ombwdsmon rannu unrhyw argymhellion a wneir mewn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, gan eu rhannu gydag awdurdodau nad ydynt o reidrwydd wedi cael eu hymchwilio ond a allai gael eu heffeithio ganddynt, yn bwynt pwysig iawn hefyd, ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno.

Ond Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yno i'r Aelodau ei weld a'i nodi. Mae'n cynnwys rhestr o nifer o argymhellion, a fyddai'n helpu, gobeithio, i wella gwasanaethau i bobl ledled Cymru, ond hefyd, yn hollbwysig, yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd fod eu cwynion yn cael eu cymryd o ddifrif. Ond mae gwelliannau i'w gwneud hefyd. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Mi hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor am eich gwaith. Dwi'n meddwl bod yr adroddiad a'r argymhellion yn rhai synhwyrol iawn. Ac, yn amlwg, mae gwaith yr ombwdsman yn elfen hollbwysig yng nghyd-destun hawliau dinasyddion Cymru i ddal gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif. Ac mewn oes pan mae twyll a chelwydd yn bethau rydyn ni'n clywed yn aml pobl yn cael eu cyhuddo ohonyn nhw, mae llusgo safonau bywyd cyhoeddus trwy'r mwd yn rhywbeth rydyn ni'n ei weld tro ar ôl tro, ac mae'n bwysicach rŵan, mwy nag erioed, ein bod ni'n cael gwaith yr ombwdsman yna a gwell dealltwriaeth gan bobl Cymru o'u hawliau. Yn hyn o beth, rydyn ni'n croesawu'r casgliad yn yr adroddiad yma o ran effeithiolrwydd y Ddeddf fel sylfaen cyfreithiol, yn enwedig wrth gymharu â'r trefniadau ar draws gweddill y Deyrnas Unedig.

Rydyn ni hefyd yn croesawu'r ffaith bod hyder y cyhoedd yn yr ombwdsman wedi cynyddu ers cyflwyno'r Ddeddf, sy'n dyst i waith ymroddgar staff y swyddfa. Ond, er gwaetha'r llwyddiannau, yn amlwg mae'r adolygiad yma yn rhoi cyfle i adnabod mannau i wella. Rydyn ni wedi clywed am rai o'r rheini eisoes. Dwi'n cytuno'n llwyr efo'r hyn wnaethon ni ei glywed gan Sam Rowlands o ran yr hyn rydyn ni eisiau ei weld o ran pobl yn gallu cyflwyno cwynion ar lafar. Efo technoleg newydd, mae yna bob math o ffyrdd i bobl allu defnyddio hynny, a byddai hynny'n helpu o ran capasiti staff i ddelio â chwynion o'r fath.

O ran gwella ymwybyddiaeth rhai grwpiau, yn enwedig pobl hŷn a chymunedau ethnig lleiafrifol, o'u hawliau i godi cwynion, mae honno'n thema sydd yn dod ar draws yn gryf iawn yn yr adroddiad, ac rydyn ni'n cytuno, felly, gydag argymhelliad y pwyllgor am yr angen i adolygu prosesau'r swyddfa i estyn allan i'r grwpiau yma.

Rhywle lle mae'r Ddeddf yn syrthio'n fyr, o'i gymharu â modelau ym mannau eraill y Deyrnas Unedig, ydy trefniadau'r ombwdsman o ran y ffordd maen nhw'n gallu cynnal ymchwiliadau eu hunain. Felly, rydyn ni'n cytuno hefyd efo'r egwyddor o symleiddio'r broses ymgynghoriadol er mwyn cyflymu gallu'r ombwdsman i gynnal ymchwiliadau o'r fath, ac mi fyddwn i'n annog y Llywodraeth i ystyried sut mae swyddfeydd ombwdsmyn mewn gwledydd eraill, megis Iwerddon, wedi llwyddo i gadw'r cydbwysedd rhwng tryloywder a bod yn effeithiol.

Mae'r adroddiad hefyd yn gwneud achos da o ran rhoi ystyriaeth bellach i estyn dyletswyddau'r ombwdsmon i gynnwys cwynion yn ymwneud ag ysgolion, ac mae hyn yn arbennig o bwysig, dwi'n credu, wrth i ni ystyried yr angen i wella cysondeb safonau ledled Cymru. Felly, mi fyddwn i, wrth i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb, yn croesawu diweddariad gan y Llywodraeth ar os oes newid o'r fath o leiaf dan ystyriaeth, ac i ba raddau mae'r manteision o ddilyn esiampl Iwerddon yn y cyd-destun yma wedi cael eu hasesu.

16:00

Diolch yn fawr i'r pwyllgor am eu gwaith. Mae wir yn bwysig adolygu Deddfau, felly roeddwn i'n falch iawn o ddarllen y casgliad cyntaf, sef y dylai pob Bil cyhoeddus gynnwys darpariaeth ar gyfer adolygiad ôl-ddeddfwriaethol. Mae'r sgrwtini yna bron a bod mor bwysig â'r sgrwtini cyn pasio'r Ddeddf, felly diolch yn fawr am gynnwys hynny.

Nawr, wrth edrych yn benodol ar Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, er bod y broses graffu wedi dod i'r canlyniad bod y Ddeddf wedi'i gweithredu'n llwyddiannus, dwi'n meddwl ei bod yn deg nodi bod lle a bod modd i'r ombwdsmon newid a gwella.

Rŷn ni'n gwybod bod y cynnydd yn y llwyth achosion wedi arafu ers cyflwyno'r Ddeddf. Yn ôl yr ombwdsmon, maen nhw wedi gweld tua 9,800 o gwynion dros y pum mlynedd diwethaf, yn lle'r 12,000 roedden nhw wedi eu rhagweld. Mae hyn yn drueni oherwydd bwriad polisi'r Ddeddf oedd bod yn fwy atebol i ddinasyddion Cymru.

Mae'r Athro Naomi Creutzfeldt o'r farn y gallai'r ombwdsmon gynnal mwy o ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Dwi'n cytuno â hynny, felly mae'n drueni bod yr ombwdsmon ddim ond wedi cwblhau dau ymchwiliad o'r fath ers 2019. Yn amlwg, mae lle i ddiwygio'r ddeddfwriaeth i symleiddio'r broses o ddechrau ymchwiliad o'r fath.

Tra bod yr ombwdsmon yn ymfalchïo bod 79 y cant o hyder yng ngwaith y swyddfa, beth am y 21 y cant arall? Eto, fel soniodd yr Athro Naomi,

'er i chi ddweud fod pawb yng Nghymru yn gwybod am yr ombwdsmon, dydw i ddim yn siŵr a fyddai pobl hyd yn oed wedyn yn mynd atynt.'

Y syniad, felly, fod gan bobl ddim mo'r hyder, efallai, i fynd at yr ombwdsmon.

Cytunodd yr Athro Chris Gill hefyd fod cyrraedd grŵp demograffig llawer ehangach yn wirioneddol bwysig i'r ombwdsmon. Er bod gwaith wedi cael ei wneud yn y maes hwn—a dwi'n sylweddoli bod e ddim yn rhwydd—mae'r ombwdsmon yn cydnabod bod y data'n parhau i ddangos bod grwpiau yn llai tebygol o wneud cwynion, fel pobl iau; pobl o gefndiroedd ethnig a chenedlaethol amrywiol; pobl sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol; a phobl sy'n byw ag anableddau.

Rŷn ni i gyd yn cytuno bod swyddfa ombwdsmon Cymru ar gyfer pawb yng Nghymru, beth bynnag maen nhw'n ei wynebu. Mae'r ffaith bod pobl yn gallu cyflwyno cwyn ar lafar, i fi, yn hollol hanfodol. Mae'n drueni felly mai dim ond 700 o bobl sydd wedi gwneud hynny ers 2019. Wrth gwrs, mae gallu cyflwyno cwyn ar lafar yn gallu symleiddio'r broses yn fawr iawn. Beth fyddai'n symleiddio'r broses ymhellach fyddai petai'r rhai sydd wedi cwyno i gorff cyhoeddus, ar ddiwedd yr ymchwiliad gan y corff hwnnw, petai hawl wedyn iddyn nhw i ofyn i'r corff i basio, i drosglwyddo'r cwyn yn syth i'r ombwdsmon, yn uniongyrchol i'r ombwdsmon, a'u bod nhw ddim yn gorfod dibynnu ar yr unigolion i wneud hynny, ond bod y corff yn gallu gwneud hynny ar eu rhan. Byddai hynny'n lleihau'r drafferth yn fawr iawn i'r achwynydd—y rhai sy'n gorfod paratoi crynodeb o'r achos a'r hyn sydd wedi digwydd, a sut mae'r cwyn wedi cael ei ddelio ag ef hyd yn hyn, ac yn y blaen. Byddai'n gwneud pethau llawer yn haws i bobl.

Mae angen symleiddio'r broses, a gweld ymdrech sylweddol i sicrhau bod pob grŵp yng Nghymru yn cael eu cefnogi, yn cael eu cynorthwyo i ymwneud â swyddfa'r ombwdsmon. Dim ond wedi hynny, Dirprwy Lywydd, dwi'n credu y bydd swyddfa ombwdsmon Cymru yn cyrraedd ei llawn botensial. Diolch yn fawr.

16:05

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 16:05:22
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiad hwn, ac rydym yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am y ffordd drylwyr y gwnaethoch ymdrin â'r adolygiad a'r set gynhwysfawr a chytbwys o argymhellion a gynhyrchwyd gennych. Roeddem yn falch o'r cais i fwydo barn ar y cam casglu tystiolaeth, ac roeddwn yn falch o weld bod y pwyllgor wedi derbyn ein barn ac wedi cynnwys dyfyniadau o fy ymateb yn yr adroddiad.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn chwarae rôl hanfodol ar ran dinasyddion Cymru drwy helpu i wneud pethau'n iawn pan nad yw pobl wedi cael gwasanaeth o'r safon y mae ganddynt hawl i'w disgwyl gan gorff cyhoeddus. Mae gan Gymru stori gryfach i'w hadrodd yma, ond mae'n bwysig fod rôl a gweithgareddau'r ombwdsmon yn parhau i ddatblygu a'n bod yn dysgu o'r hyn sy'n gweithio'n dda mewn mannau eraill, fel rwy'n gobeithio bod eraill yn dysgu gennym ni.

Felly, fe wnaethom groesawu a chefnogi deddfwriaeth 2019 i ehangu rôl yr ombwdsmon, ac roeddem yn falch o weld bod y pwyllgor wedi canfod bod y Ddeddf yn llwyddiant yn gyffredinol. Credwn fod yr argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u cyflwyno yn ei adroddiad yn feddylgar, yn gytbwys ac yn adeiladol, ac rydym yn cefnogi pob un ohonynt. Ac rwy'n ddiolchgar am y cyfraniadau ychwanegol a wnaed gan yr Aelodau heddiw ac yn eich sicrhau eu bod hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer symud ymlaen i ystyried yr adolygiad.

Mae rôl i Lywodraeth Cymru ei chwarae yn gweithredu argymhelliad 16, sy'n argymell y dylai'r ombwdsmon weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall goblygiadau ymarferol ehangu awdurdodaeth yr ombwdsmon i gwmpasu cwynion yn ymwneud ag ysgolion, a rhannu'r canfyddiadau hyn erbyn hydref 2026. Ac rwy'n falch o ddweud bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo a thrafodaethau ar y gweill i ystyried y cynnig hwn yn fwy manwl. Mae gwaith ar y trywydd iawn i gwblhau'r dasg erbyn yr hydref, fel yr argymhellodd y pwyllgor.

Mae'r adroddiad hefyd yn cofnodi, fel un o gasgliadau'r Pwyllgor Cyllid, fod pob Bil cyhoeddus a gyflwynir i'r Senedd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer adolygiad ar ôl deddfu. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu'r dasg bwysig o edrych yn ôl ar ddarn o ddeddfwriaeth i werthuso pa mor dda y mae wedi gweithio a pha wersi sydd angen eu dysgu o'i gweithredu hyd yma. Ac rwy'n falch o'ch hysbysu bod adolygiad ar ôl deddfu wedi'i gynnwys ym mhob Bil newydd a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r gofyniad hwn yn sicrhau bod pob Bil yn nodi ei ddull arfaethedig o fonitro, adolygu a gwerthuso'r polisi sy'n sail i'r Bil, a bod yr adolygiadau hyn yn cael eu cyflwyno i'w hystyried gan y Senedd.

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yn enghraifft o'r gofyniad hwn, ac roedd yn cynnwys darpariaeth fod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno adolygiad o weithrediad ac effaith y Bil ger bron y Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd.

Ddirprwy Lywydd, mae hon wedi bod yn ddadl bwysig am ei bod yn ymdrin â materion sy'n effeithio ar ddinasyddion unigol a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu cael, ac mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae yna themâu gan y tri sydd wedi siarad, a'r Ysgrifennydd Cabinet, ynglŷn ag own-initiative powers, a sut y mae'r rheini yn cael eu defnyddio, a gwneud y rheini'n haws i gael eu defnyddio. A dwi'n meddwl mai hwnna oedd yn dod drwodd yn glir yn ein hargymhellion ni, yn dweud ei bod hi'n siom eu bod nhw ddim ond wedi cael eu defnyddio ddwywaith, yn enwedig pan oedden ni'n siarad efo ombwdsmyn o lefydd eraill, yn dweud bydden nhw'n gallu eu defnyddio nhw, yn enwedig yn Iwerddon, sydd wedi'u defnyddio nhw'n fwy eang. So, dwi'n meddwl bod hynny'n hynod o bwysig ac yn dod drwodd yn yr argymhellion, ac, wrth gwrs, dwi'n gobeithio bydd yr ombwdsmon rŵan yn edrych ar y ffyrdd y mae hi'n defnyddio ei phwerau yn hynny o beth.

Hefyd, defnyddio'r oral complaints yn well a'i gwneud hi'n haws i bobl allu eu defnyddio nhw. A'r pwynt sydd yn fwy sylfaenol ynglŷn â'r ffordd mae'r broses yma'n gweithio ydy, wrth gwrs, fod pobl yn gorfod cwyno i'r cyrff cyhoeddus yn gyntaf cyn mynd at yr ombwdsmon, a bosib bod y broses yna angen ei mireinio. Roedd y pwynt y gwnest ti, Rhys, yn ddifyr iawn ynglŷn ag ar ddiwedd y broses, os ydy pobl yn dal ddim yn hapus: oes yna ffordd i'w yrru fo'n syth at yr ombwdsmon? Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth inni ei ystyried efo'r ombwdsmon, yn y gwaith craffu a fydd yn mynd rhagddo.

Felly, dwi'n ymwybodol o'r amser, ond gwnaf i ddod i derfyn rŵan. Dwi'n falch iawn bod y Llywodraeth yn gweithio drwy argymhelliad 16 yn benodol, ac fel roeddwn i'n sôn yn gynharach, mae'r adolygiad ôl-weithredu yn hynod o bwysig mewn Deddfau. Felly, mae hynny yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano, fod y Llywodraeth yn mynd i wneud i hynny fynd yn ei flaen.

Felly, i ddod i derfyn, rydym ni'n falch bod y gwaith yma wedi cael ei wneud ac yn falch iawn o'r gwaith mae ein swyddogion ni o fewn y pwyllgor wedi ei wneud i ddod â hwn atom. Mi fydd y sylwadau yma sydd wedi cael eu gwneud heddiw yn cael eu cymryd ymlaen i mewn i'r gwaith craffu o flwyddyn i flwyddyn rydym ni yn ei wneud efo'r ombwdsmon, a dwi'n siŵr y bydd sylwadau yn cael eu cymryd o heddiw i mewn i waith legasi y pwyllgor ac i'r pwyllgor yn y seithfed Senedd. Felly, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am eich amynedd.

16:10

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Atal iechyd gwael—gordewdra'

Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Atal iechyd gwael—gordewdra'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Peter Fox.

Cynnig NDM9111 Peter Fox

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Atal iechyd gwael—gordewdra’ a osodwyd ar 8 Hydref 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar ordewdra, ac rwyf am ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth, a diolch i'n clercod a'n hymchwilwyr am y gwaith gwych o dynnu'r adroddiad pwysig hwn at ei gilydd.

Mae gordewdra'n broblem iechyd cyhoeddus sylweddol gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol i unigolion a chymdeithas. Mae'n gymhleth a gall nifer o ffactorau ddylanwadu arno. Mae yna hefyd gysylltiadau rhwng gordewdra ac iechyd meddwl, yn ogystal ag ystod o gyflyrau iechyd difrifol eraill. Nid oes unrhyw wlad yn y byd wedi gwrthdroi gordewdra eto, sy'n dangos maint yr her sy'n ein hwynebu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y gallwn fforddio bod yn hunanfodlon, yn enwedig gan fod yr achosion yng Nghymru ar gynnydd.

Mae'r ffigurau diweddaraf o'r arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru yn 2024-25 yn dangos bod 62 y cant o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew. Amcangyfrifwyd yn flaenorol fod y gost i'r GIG oddeutu £73 miliwn y flwyddyn. Ochr yn ochr â'r duedd gynyddol yn nifer y bobl sy'n byw gydag un neu fwy o afiechydon cronig a phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'r system iechyd a gofal yng Nghymru o dan bwysau sylweddol. 

'Pwysau Iach: Cymru Iach' yw strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra, ond clywsom nad yw'n cael fawr o effaith ar lawr gwlad. Clywsom hefyd fod yna amseroedd aros hir ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau i oedolion, ac nid oes darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc mewn nifer o fyrddau iechyd. Er bod yn rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau a chymorth teg ar waith i bobl sydd dros bwysau neu'n ordew, rhaid inni beidio â cholli golwg ar yr agenda atal hirdymor i wrthdroi'r duedd a lleihau nifer y bobl sydd angen cael mynediad at wasanaethau rheoli pwysau. Mae hyn yn mynd i alw am oruchwyliaeth a chyfarwyddyd clir, gyda chyfrifoldeb ac atebolrwydd traws-sector.

Fe wnaethom ddewis canolbwyntio ein sylw ar effeithiolrwydd strategaeth, rheoliadau a chamau cysylltiedig Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru. Fel y dywedais, rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd amser i rannu eu harbenigedd a'u profiad gyda ni. Mae ein hadroddiad yn gwneud 18 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb cadarnhaol, at ei gilydd. Yn yr amser sydd ar gael i mi y prynhawn yma, fe ganolbwyntiaf ar nifer fach o'n hargymhellion, er fy mod yn gwybod y gallai fod aelodau eraill o'r pwyllgor yn dymuno ymdrin â rhai o'r argymhellion eraill yn eu cyfraniadau nhw.

O ganlyniad i'r dystiolaeth a gawsom am ddiffyg effaith 'Pwysau Iach: Cymru Iach', credwn y bydd arweinyddiaeth gref a chlir yn hanfodol i sicrhau bod y strategaeth hon yn cael ei gweithredu'n llawn. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddangos yr arweinyddiaeth honno a gyrru'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau ar waith i gefnogi pobl sydd dros bwysau neu'n ordew.

Fe wnaethom hefyd alw am linellau cyfrifoldeb ac atebolrwydd clir ar gyfer cyflawni a monitro'r cynllun. Cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn. Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y cynllun cyflawni ar gyfer 2025-27 yn nodi trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd newydd a chliriach, ac ymrwymiadau gyda'r nod o gryfhau ac ymgorffori dulliau system gyfan pellach ar lefel gymunedol a chenedlaethol. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol i'r argymhelliad hwn, ac rwy'n annog unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i barhau i ddarparu'r arweinyddiaeth sydd ei hangen i fwrw ymlaen â'r agenda bwysig hon. 

Rwyf am siarad am blant a phobl ifanc. Mae'r nifer cynyddol o blant sydd dros bwysau neu'n ordew yng Nghymru yn bryderus iawn, gyda thua 25 y cant o blant dros bwysau neu'n ordew erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Mae hwn yn ystadegyn brawychus. Mae perthynas iach â bwyd a maeth yn dechrau ar oedran ifanc. Felly, rydym yn croesawu cyflwyno PIPYN, y cynlluniau peilot plant a theuluoedd yn Ynys Môn, Caerdydd a Merthyr, sy'n cefnogi teuluoedd i gyflawni pwysau iach heb stigma, drwy fwy o gyfleoedd i fwyta'n iach a bod yn egnïol. Credwn y gallai'r math hwn o ymyrraeth gael effaith gadarnhaol ar niferoedd y plant y mae angen eu cyfeirio at wasanaethau rheoli pwysau, ac edrychwn ymlaen, os caiff ei werthuso'n foddhaol, at ei weld yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.

Lle mae plant a phobl ifanc angen cymorth gwasanaethau rheoli pwysau, roedd yn destun pryder nad oedd y rhain ar gael ym mhob bwrdd iechyd. Ond yr hyn sy'n fwyaf pryderus mae'n debyg yw mai rhai o'r byrddau iechyd hynny oedd y rhai gyda'r lefelau uchaf o blant yng Nghymru sydd dros bwysau neu'n ordew. Fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu archwiliad o'r ddarpariaeth o wasanaethau rheoli pwysau i blant ym mhob bwrdd iechyd, i benderfynu ar y ddarpariaeth yn y dyfodol ar draws pob bwrdd iechyd. Rydym hefyd yn argymell bod yr archwiliad hwn yn cynnwys manylion yr amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau, a nifer y bobl sy'n aros am wasanaethau rheoli pwysau ym mhob bwrdd iechyd.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru y ddau argymhelliad, a dywedodd y bydd yn archwilio'r gwaith o ddatblygu llwybr clinigol newydd ar gyfer trin a rheoli gordewdra fel cyflwr cronig, gan gynnwys rôl cyffuriau colli pwysau. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau i blant. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu rhagor o fanylion am yr amserlen ar gyfer y gwaith hwn yn ei ymateb i'r ddadl.

Hoffwn ganolbwyntio ar un o'r argymhellion a wrthodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, sef argymhelliad 14. Fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar y newidiadau a wnaed i'r cynllun Cychwyn Iach yn yr Alban, a oedd wedi cynyddu gwerth eu talebau yn unol â chwyddiant ac wedi ehangu cymhwysedd i bob teulu sy'n cael credyd cynhwysol. Gwrthodwyd yr argymhelliad hwn ar y sail nad yw Cychwyn Iach wedi'i ddatganoli i Gymru.

Yng Nghymru, mae'r cyfraddau sy'n manteisio ar y cynllun Cychwyn Iach, sy'n darparu cymorth i'r teuluoedd ar yr incwm isaf, yn siomedig. Clywsom, fodd bynnag, fod y newidiadau a wnaed i'r cynllun yn yr Alban wedi cael effaith sylweddol, gan gynyddu'r defnydd hyd at 92 y cant. Felly, gwnaethom yr argymhelliad hwn ar y sail y gallai Llywodraeth Cymru ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i drafod newidiadau posib i'r cynllun. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried ei ymateb ar hyn.

Byddai'n anodd cynnal dadl ar ordewdra a pheidio â sôn am feddyginiaeth colli pwysau, o ystyried y cynnydd diweddar yn eu hargaeledd a'u defnydd. Pan gaiff ei defnyddio ochr yn ochr â deiet rheoli calorïau a mwy o weithgarwch corfforol, gall meddyginiaeth colli pwysau fod yn fuddiol i rai pobl. Fodd bynnag, nid yw'n ateb hirdymor. Nid yw'n mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n achosi i bobl fod dros bwysau neu'n ordew, ac nid yw'n fesur ataliol. Rydym yn pryderu y bydd unigolion yn cael eu denu i ddefnyddio meddyginiaethau colli pwysau heb gymorth priodol, heb ddealltwriaeth o'r sgil-effeithiau tebygol, a heb y newidiadau eraill i ffordd o fyw sy'n angenrheidiol ar gyfer newidiadau cynaliadwy hirdymor i'w pwysau. Hefyd, mae effeithiau hirdymor y meddyginiaethau'n anhysbys ar hyn o bryd.

Rydym yn pryderu hefyd am bobl sy'n cyrchu'r meddyginiaethau hyn y tu allan i wasanaethau rheoli pwysau, ar-lein neu drwy lwybrau eraill heb eu rheoleiddio, a allai fod yn risg ddifrifol i ddefnyddwyr. Er na wnaethom argymhelliad penodol yn y maes hwn, fe wnaethom ofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod yn monitro argaeledd y meddyginiaethau hyn trwy ddarparwyr ar-lein heb eu rheoleiddio. Hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r sicrwydd hwnnw yn ei ymateb i'r ddadl hon.

Yn olaf, rwyf am siarad am bwysigrwydd yr amgylchedd bwyd, a manteision bwyd a gynhyrchir yn lleol. Rydym i gyd yn gwybod bod bwyd ffres, lleol yn fwy maethlon na bwyd sydd wedi teithio hanner ffordd o amgylch y byd. Yn anffodus, dim ond rhan fach iawn o'r hyn sydd ei angen arnom a gynhyrchwn yng Nghymru. Dywedwyd wrthym fod 1,000 o galorïau o fwyd iach yn costio tua £8.80, o'i gymharu â 1,000 o galorïau o fwyd afiach sy'n costio £4.30. Clywsom hefyd fod astudiaeth gan Brifysgol Sheffield wedi canfod bod 1.2 miliwn o bobl yn y DU bellach yn byw mewn anialwch bwyd, lle mae'n rhaid i bobl siopa mewn siopau cyfleustra bach drutach, gyda stoc gyfyngedig o gynhyrchion ffres o werth da. Dangosodd yr astudiaeth hon hefyd fod y rhain yn fwy tebygol o fod mewn cymunedau difreintiedig.

Felly mae angen inni newid yr amgylchedd bwyd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig, fel bod bwydydd iachach ar gael yn llawer haws ac yn fforddiadwy i bobl. Mae angen inni hefyd gefnogi pobl i allu coginio prydau iach cytbwys iddynt eu hunain nad ydynt yn dibynnu ar fwydydd wedi'u prosesu'n drwm. Felly, rwy'n croesawu'r ffocws yng nghynllun cyflawni 'Pwysau Iach: Cymru Iach' ar wella fforddiadwyedd a hygyrchedd bwyd iachach, yn enwedig i deuluoedd yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Edrychaf ymlaen maes o law at glywed sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Diolch.

16:20

Rwy'n cytuno â bron bopeth y mae Peter Fox wedi'i ddweud, heblaw bod perthynas iach â bwyd yn dechrau ar enedigaeth, nid pan fyddant yn ifanc iawn. Fe ddof ymlaen at fwydo ar y fron mewn munud.

Roeddwn i'n falch o gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn pan oeddwn yn dirprwyo ar ran cyd-Aelod absennol, ond yn amlwg nid oeddwn yn rhan o'r gwaith helaeth a wnaethoch. Fy nheimlad yw nad yw eich argymhellion yn ddigon cryf, oherwydd rwy'n credu eich bod chi'n tincran ar yr ymylon. Rhaid inni sylweddoli nad oes unrhyw wlad yn y byd wedi llwyddo i wrthdroi cynnydd diwyro'r niferoedd o oedolion sydd dros bwysau neu'n ordew. Mae'r diwydiant fferyllol, yn gweithio ar y cyd â'r diwydiant bwyd heb amheuaeth, bellach wedi dod o hyd i gyffuriau i ffrwyno deietau pobl. Efallai y bydd hynny'n newid, ar bapur beth bynnag, ond gwyddom y bydd unrhyw un sy'n rhoi'r gorau i'r pigiadau hyn yn magu pwysau hyd yn oed yn gyflymach na'r rheini sydd wedi mynychu dosbarthiadau colli pwysau.

Un o beryglon gwirioneddol poblogrwydd y cyffuriau hyn sy'n atal archwaeth, sy'n amlwg ar gael yn anghymesur i'r rhai sy'n gallu fforddio eu prynu, ar wahân i'r canlyniadau anhysbys ar fetabolaeth y corff, yw y bydd pobl yn bwyta bwyd sydd hyd yn oed yn llai maethlon, am eu bod yn bwyta llai o fwyd. Os nad oes dim ohono'n faethlon, fe welwn gynnydd yn yr hyn sydd eisoes yn broblem sylweddol ymhlith plant ac oedolion. Rwy'n falch o weld Altaf Hussain, sy'n feddyg, yn cytuno â mi. Rwy'n credu bod yna broblemau difrifol iawn yn codi o hyn i gyd.

Yn yr un modd, nid yw gwahardd cynhyrchion bwyd sothach ar y teledu cyn 9 o'r gloch, mesur sydd wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth y DU, yn mynd i weithio, oherwydd yn anffodus nid oes angen i bobl weld y cynhyrchion apelgar, caethiwus, blasus ond niweidiol er mwyn cael yr adwaith cemegol o deimlo'n llwglyd ddim ond trwy weld logo'r cwmni sy'n hyrwyddo'r sothach hwn, am eu bod yn dominyddu ein hamgylchedd obesogenig yn llwyr. Bydd gweld y logo ynddo'i hun, nad yw'n mynd i gael ei wahardd, yn achosi iddynt rhuthro i'r gegin i nôl rhywbeth nad yw'n mynd i fod yn dda iddynt. Daw hynny'n glir o ymchwil a wnaed gan athro rhagorol iawn ym Mhrifysgol Lerpwl, y gallaf roi ei enw i chi eto.

Ni allwn fforddio dal ati fel hyn. Mae ofn gwleidyddion i fynd i'r afael â'r broblem rhag ofn eu bod i'w gweld yn ymyrryd mewn dewisiadau personol neu gyhuddiadau o faldodi yn colli golwg yn llwyr ar faint y broblem. Mae'r argyfwng gordewdra bellach yn ymestyn i'r rhan fwyaf o'r byd diwydiannol ac yn cael ei achosi gan ddifwyniad cynhwysion crai bywyd ar lefel enfawr yn gynhyrchion wedi'u prosesu'n helaeth, a'r cyfan er mwyn elw. Nid yw'r bobl hyn yn mynd i roi'r gorau i wneud hynny oni bai ein bod ni'n eu hatal rhag ein gwenwyno.

Ni allwn fforddio aros i Lywodraeth y DU ddeffro a gosod treth ar fwyd wedi'i brosesu'n helaeth, sydd, ochr yn ochr ag ysmygu, bellach yn brif achos marwolaeth gynnar ac sy'n rhoi baich ar y GIG gyda lefel o alw na chaiff ei ariannu i ymdopi â hi. Gellid defnyddio'r dreth honno wedyn i ostwng pris bwyd maethlon iach—sy'n cyfeirio at y pwynt a wnaed gan Peter Fox—sydd, fel y nododd tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, bron i dair gwaith yn ddrytach na bwyd sothach. Ac mae gennym yr ardaloedd  anial hyn, oherwydd, yn amlwg, ni fydd y rhan fwyaf o archfarchnadoedd yn mynd i'r ardaloedd tlotaf, am nad dyna lle mae'r arian i'w wneud.

Mae angen i Gymru ddechrau drwy gael gwared ar gynhyrchion wedi'u prosesu'n helaeth o systemau caffael bwyd cyhoeddus fel nad ydym yn defnyddio arian cyhoeddus i weini cynhyrchion, sy'n anfwytadwy a bod yn onest, mewn bwyd plant ac yn ein hysbytai. Os oes angen deddfwriaeth, yna mae angen deddfwriaeth frys. Os oes angen gosod dyddiad o'r fath rywbryd yn y dyfodol, mae angen inni osod y dyddiad hwnnw nawr. Ni fydd y diwydiant bwyd yn newid oni bai eu bod yn cael eu gorfodi i wneud hynny. Mae hon yn her fawr i les Cymru a'r byd. Mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus.

Lansiodd Llywodraeth Cymru—. Rwy'n mynd i ddod at yr hyn sy'n digwydd ar enedigaeth nawr—

16:25

O'r gorau. Dim ond dweud ein bod yn gwybod mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau gordewdra mewn plant, oherwydd mae Cynghrair Gordewdra Cymru yn dweud wrthym ei fod yn lleihau'r risg o fod dros bwysau neu'n ordew 25 y cant ac yn gosod y safonau da ar gyfer bwyta'n iach sydd eu hangen arnom i sicrhau bod pawb sy'n cefnogi teuluoedd newydd yn eu helpu i wneud.

Roedd hwn yn ymchwiliad arbennig o ddiddorol ac arbennig o dda, a dwi'n ddiolchgar iawn i bawb oedd yn rhan o'r ymchwiliad yma. Roedd o'n un oedd yn agor llygad. Dwi wedi defnyddio'r term sawl gwaith bellach fod gordewdra fel y rhinoseros llwyd sy'n dod lawr y ffordd tuag atom ni. Rydyn ni i gyd yn ei weld o, rydyn ni i gyd yn gwybod am yr her mae o'n ei gynnig, a'r cwestiwn i ni yma ydy beth ydyn ni'n mynd i'w wneud er mwyn datrys hyn a'i atal o rhag gwneud y niwed rydyn ni'n gwybod y bydd o'n ei wneud. Roedd clywed yn y dystiolaeth am y cyswllt rhwng gordewdra a chlefydau cronig megis clefyd y galon a chanserau, ymhlith eraill, yn dangos peryg peidio â mynd i'r afael â gordewdra.

Wrth gwrs, pan ydyn ni'n sôn am ofal iechyd, mae’n hawdd edrych ar ysbytai, ar restrau aros neu ar ganlyniadau clinigol, ond i unrhyw un sy’n treulio amser yn ymweld â chymunedau ar hyd a lled Cymru, mae’n gwbl amlwg fod iechyd yn cael ei lunio ymhell cyn i unrhyw un gyrraedd meddygfa neu adran damweiniau ac achosion brys. Fel rydyn ni wedi clywed gan Jenny rŵan, mae’n cael ei lunio gan y bwyd y gall pobl ei fforddio neu'r bwyd mae pobl yn ei gael ar enedigaeth yn syth ar ôl dod allan o'r groth. Mae'n cael ei lunio gan y cartrefi mae pobl yn byw ynddyn nhw, y strydoedd maen nhw'n cerdded ar eu hyd a'r cyfleoedd sydd gyda nhw i fyw bywyd iach.

Does unman lle mae hynny’n gliriach na stori gordewdra yng Nghymru. Heddiw, mae mwy na chwech o bob 10 oedolyn yn byw gyda gormod o bwysau. Mae hynny ar ei ben ei hun yn destun pryder dybryd, ond dim ond rhan o’r darlun ydy hyn. Mae pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o fyw gyda gormod o bwysau neu ordewdra na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac mae canlyniadau’r anghydraddoldeb yma yn hynod o ddifrifol. 

Mae dros un o bob chwe marwolaeth o glefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru yn gysylltiedig â mynegai màs y corff uchel. Yn 2024, roedd y gyfradd o farwolaethau cardiofasgwlaidd cynamserol yng Nghymru 17 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Mae clefyd coronaidd y galon yn parhau i fod yr ail brif achos o farwolaeth yng Nghymru, ac yn wir y prif achos o farwolaeth ledled y byd. Mae gordewdra eisoes yn costio £73 miliwn y flwyddyn i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond, erbyn 2050, rydyn ni'n rhagweld y bydd y ffigur hwnnw’n codi i bron £0.5 biliwn, gyda’r gost ehangach i economi Cymru yn fwy na £2 biliwn. [Torri ar draws.] Sori, Jenny.

Mae £73 miliwn yn swnio'n ffigur diddorol. O ble y cawsoch chi'r ffigur hwnnw? Oherwydd rwy'n siŵr ei fod yn amcangyfrif rhy isel. 

16:30

Papur ymchwil sy'n dangos £73 miliwn ar hyn o bryd, ond synnwn i ddim eich bod chi'n iawn ei fod o dan beth ydy'r brif gost pan ydych chi'n ystyried holl effaith gordewdra ar y gwasanaeth iechyd. Ffigur uniongyrchol ydy hynny, yn ôl y papur ymchwil, ond mae o'n mynd i gynyddu'n sylweddol i dros £2 biliwn, fel dwi'n dweud, erbyn 2050.

Os ydym o ddifrif am atal gordewdra, yna mae’n rhaid dechrau gyda phlant. Ledled Cymru, mae miloedd o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi, ac i lawer o deuluoedd, mae diet iach yn syml yn gwbl anfforddiadwy. Mae prydau ysgol yn cynnig un o’r cyfleoedd cliriaf sydd gennym ni i ymyrryd yn gynnar. Fe all pryd ysgol maethlon a chynnes gefnogi iechyd corfforol, gwella canolbwyntio, cynyddu presenoldeb a chryfhau llesiant yn y tymor hir. Ac er bod safonau bwyd ysgol statudol yn bodoli, maen nhw wedi dyddio a dydyn nhw ddim yn cael eu monitro’n rheolaidd. Mae maint yr her sy’n wynebu plant eisoes yn amlwg. Rydyn ni'n gwybod bod dros 10 y cant o blant yn byw gyda gordewdra, ac mae plant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn llawer mwy tebygol o gael eu heffeithio.

Mae gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn rhan hanfodol arall o atal, ond yn rhy aml, maen nhw'n cael eu trin fel pethau ychwanegol neu ddewisol. Fe dynnodd ymchwiliad y pwyllgor sylw penodol at hyn. Er hynny, nid yw’r gydnabyddiaeth hon wedi arwain at ehangu’r rhaglenni effeithiol yr ydyn ni'n gwybod sydd yn gweithio. Mae’r dystiolaeth yn gyson: mae pobl sy’n weithgar yn rheolaidd drwy chwaraeon yn llawer llai tebygol o fod yn ordew. Mae rhaglenni fel daily active, y rhaglen plant a theuluoedd a’r cynllun hamdden actif 60-plws yn dangos sut y gall presgripsiynau cymdeithasol gefnogi iechyd corfforol a meddyliol. Eto i gyd, mae cynnydd wedi arafu’n sylweddol ar y dulliau yma, gan gyfyngu ar gyrhaeddiad ymyriadau sydd eisoes wedi’u profi.

Mae'n rhaid inni hefyd wynebu gwirionedd anodd: dydy polisi sy’n dibynnu’n bennaf ar ewyllys unigol, ymgyrchoedd gwybodaeth ac anogaeth ddim wedi gweithio. Mae’r amgylchedd y mae pobl yn byw ynddo o bwys. Dyna pam mae Nesta wedi argymell targedau iechyd gorfodol i fanwerthwyr bwyd mawr, er mwyn annog cynnig bwydydd iach a digalonni modelau busnes sy’n seiliedig ar gynhyrchion uchel mewn braster a siwgr. Mae modelu’n awgrymu y gallai targedau o’r fath leihau pryniannau calorïau gan tua 80 o galorïau y pen y dydd a gostwng cyfraddau gordewdra gan tua 23 y cant.

Ond dwi'n mynd i fynd nôl i'r pwynt olaf—wrth wraidd hyn oll mae tlodi. Mae tlodi parhaus yn ystod plentyndod cynnar yn cynyddu’r risg o ordewdra ac afiechyd hirdymor wedi’i yrru gan straen cronig. Os nad ydyn ni'n mynd i'r afael â thlodi, yna fyddwn ni fyth yn mynd i'r afael â'r argyfwng yma. Diolch.

Fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwy'n falch iawn ein bod wedi ymgymryd â'r gwaith hwn, oherwydd, yn amlwg, gordewdra yw un o'r heriau iechyd mwyaf a wynebwn ar hyn o bryd—problem ar draws y byd ac un sy'n sylweddol iawn yma yng Nghymru. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn bron bob un o argymhellion y pwyllgor. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn glir iawn fod yn rhaid mynd i'r afael â gordewdra drwy atal ac ymyrraeth gynnar, a rhaid inni ganolbwyntio ar gyfleoedd bob dydd sy'n helpu plant yng Nghymru i dyfu i fyny i fod yn egnïol, yn hyderus ac yn iach.

Un o'r argymhellion, na wnaeth Llywodraeth Cymru ei dderbyn, oedd y dylai Llywodraeth Cymru archwilio dichonoldeb cyfeiriadur o gyfleusterau cymunedol hygyrch i gefnogi gweithgarwch corfforol ar lefel leol. Wrth wrthod yr argymhelliad hwnnw, mae gan Lywodraeth Cymru farn mai partneriaid lleol, yn hytrach, sydd yn y sefyllfa orau i gyfeirio at gyfleusterau cymunedol yn seiliedig ar wybodaeth leol ac angen y boblogaeth. Ddirprwy Lywydd, y naill ffordd neu'r llall, mae'n amlwg fod ymwybyddiaeth a mynediad anghyson yn parhau i fod yn rhwystrau allweddol, yn enwedig yn ein cymunedau mwy difreintiedig, ac rydym eisoes wedi clywed am y cysylltiad cryf rhwng gordewdra ac amddifadedd. I deuluoedd—[Torri ar draws.] Jenny.

Rwy'n credu bod hyn i gyd yn wir, ond nid yw chwech o bob 10 aelwyd byth yn coginio o gynhwysion craidd ac nid ydynt i gyd yn bobl dlawd. Byddai yna bobl yn yr ystafell hon, ac sy'n gweithio ar yr ystad, sydd yn y categori hwnnw, ac yn amlwg, maent yn gwneud niwed enfawr iddynt eu hunain. Felly, yn anffodus, mae'n llawn gymaint o broblem ddiwylliannol ynglŷn â phwysau'r propaganda a orfodir ar bobl—'Prynwch y bwyd tecawê hwn neu'r llall, prynwch y pryd parod hwn neu'r llall'—a dim digon o bobl sy'n gwybod sut i goginio pryd syml hyd yn oed.

16:35

Rwy'n cytuno'n gryf, Jenny. Mae'n ymwneud â materion ffordd o fyw sy'n gyffredinol ar draws ein cymunedau, y ffordd y mae'r diwydiant bwyd yn gweithredu a diffyg polisi a gweithredu digon cadarn gan y Llywodraeth i'w wrthsefyll. Ond mae'n broblem arbennig mewn cymunedau difreintiedig am lu o resymau a ffactorau.

Mae llawer o deuluoedd yn wynebu rhwystrau—amser, cost, trafnidiaeth—a phe baem yn dibynnu ar gyfeirio'n anffurfiol at y cyfleusterau cymunedol hyn a allai arwain at ffyrdd mwy egnïol o fyw, byddem mewn perygl o atgyfnerthu'r anghydraddoldebau hynny, yn hytrach na'u lleihau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael hwyluswyr ffurfiol y gall plant a theuluoedd ofyn iddynt am arweiniad i gyfleoedd gweithgarwch corfforol, boed hynny trwy awdurdodau lleol, fel y mae'r comisiynydd plant yn awgrymu, neu drwy ysgolion, y mae llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn yr adroddiad yn eu hystyried yn hwyluswyr lleol gorau. Oherwydd mae angen inni helpu a chefnogi ein teuluoedd, yn enwedig yn y cymunedau difreintiedig hynny, i ddeall sut y gall eu plant a nhw eu hunain gael ffyrdd mwy egnïol o fyw a'r budd a ddaw yn sgil hynny i ansawdd bywyd yn gyffredinol yn ogystal â mynd i'r afael â gordewdra.

I mi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gyfarwydd iawn â fy parkrun lleol, ac rwy'n cymryd rhan ynddynt, gyda channoedd o rai eraill, yn rheolaidd ar sail wythnosol ar fore Sadwrn. Rwyf hefyd yn gyfarwydd iawn â'n parkrun iau lleol y mae fy wyrion yn cymryd rhan ynddi o bryd i'w gilydd pan fydd gweithgareddau eraill yn caniatáu. Fel parkrun yn gyffredinol, mae'n ddigwyddiad rhedeg am ddim, wythnosol, cynhwysol, dan arweiniad gwirfoddolwyr. Mae wedi lansio parkrun iau—ledled Cymru a Lloegr—ac wedi lansio menter newydd i efeillio gyda 500 o ysgolion cynradd ledled Cymru a Lloegr, gan gysylltu ysgolion yn uniongyrchol â'u digwyddiadau parkrun iau lleol. Mae hynny wedi'i gynllunio i ymgorffori gweithgarwch corfforol am ddim, cynhwysol yn amserlen wythnosol plant, ac rwy'n credu bod honno'n fenter werthfawr iawn, Ddirprwy Lywydd, i ffurfioli cysylltiadau ac i estyn allan o ran amddifadedd ac anghydraddoldeb i annog y ffyrdd o fyw iachach hynny. Mae parkrun iau yn ymwneud â hyrwyddo symud mewn ffordd nad yw'n glinigol, yn feirniadol, nac yn creu stigma, sydd, wrth gwrs, yn thema bwysig arall yn yr adroddiad.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn i'r Llywodraeth feddwl yn galed iawn ynglŷn â sut y gallwn weithio i sicrhau cysylltiadau mwy ffurfiol rhwng grwpiau chwaraeon cymunedol lleol a'n sefydliadau, megis ysgolion ac awdurdodau lleol, i wella cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol ledled Cymru, oherwydd mae hynny'n rhan bwysig o'r ymateb y mae angen inni ei wneud i fynd i'r afael â gordewdra yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eu hadroddiad. Mae fy nghyd-Aelodau yma, fel bob amser, yn wych, ac mae mor dda gwrando arnynt. Fel y mae'r pwyllgor yn cydnabod yn gywir, gordewdra yw un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru, ac nid yw'r bygythiad yn un newydd. Yn gynnar yn fy ngyrfa yn y GIG, roeddwn i'n gweld mwy o gleifion gordew, a thynnais sylw at yr effaith yr oedd hyn yn ei chael ar iechyd y cymalau a'r angen cynyddol am lawdriniaeth.

Rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor fel ffordd o fynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru. Fel y mae'r pwyllgor yn nodi'n gywir, os cymhwyswn y fethodoleg a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU, gwir nifer yr oedolion gordew yw un o bob tri, nid yr un o bob pedwar a nodwyd yn ystadegau swyddogol Cymru. Mae ymchwil gan Nesta yn rhagweld y bydd bron i ddwy ran o dair o oedolion yn ordew yn y degawdau nesaf. Disgwylir i'r gost o drin gordewdra godi i bron i £0.5 biliwn, a chostio bron i £2.5 biliwn i'r economi ehangach. Rwy'n llwyr gefnogi casgliad y pwyllgor fod angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar. Felly, rwy'n croesawu argymhelliad 4, yn ogystal â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn.

Rwy'n gwybod o ohebiaeth, yn ogystal â siarad ag etholwyr yn uniongyrchol, nad yw'r rhai sy'n cael trafferth gyda'u pwysau yn cael llawer o gefnogaeth gan eu meddygon teulu. Dim ond pan fydd eu BMI yn parhau i godi, gan symud o fod dros bwysau i fod yn ordew, y bydd unrhyw un yn talu sylw iddynt. Mae hyn yn gwbl groes i ddull ataliol. Nid ydym yn aros nes bod clwyf yn troi'n septig cyn inni ei drin, felly pam ein bod ni'n aros nes bod problemau pwysau'n peryglu bywyd cyn cynnig help a chefnogaeth? Dylai cymorth i reoli pwysau fod ar gael i bawb sydd ei angen. Dyma un o'r ymyriadau iechyd cyhoeddus mwyaf y gallwn eu gwneud, a thrwy fuddsoddi nawr byddwn nid yn unig yn achub bywydau ond yn arbed biliynau o bunnoedd.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, buaswn ar fai fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes yn peidio â sôn am y cysylltiad rhwng gordewdra a diabetes math 2. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod y cyffuriau sy'n cael eu defnyddio i golli pwysau wedi'u datblygu i fynd i'r afael â diabetes. Mae deietau afiach sy'n arwain at bwysau afiach wedi arwain at gynnydd dramatig yn nifer y bobl ifanc sy'n datblygu diabetes math 2.

16:40

A ydych chi'n ymwybodol fod y diwydiant bwyd bellach yn ceisio ochrgamu heibio i effaith y cyffuriau hyn sy'n ffrwyno deiet er mwyn cynyddu gwerthiannau?

Maent bellach yn dioddef o lai o werthiannau ac yn ceisio trechu effeithiau'r cyffuriau.

Yn hollol, ac roeddwn i'n falch pan wnaethoch chi siarad am fwydo ffug, pan fyddwch chi'n hysbysebu bwyd, a sut y mae'n effeithio ar eich corff yn ei gyfanrwydd. Fe gawsom y pwnc hwn pan oeddwn i'n fyfyriwr meddygol, ac roedd yn rhaid inni ei ddarllen yn aml.

Felly, mae hyn wedi ysgogi Diabetes UK Cymru i alw am bolisïau 'Pwysau Iach: Cymru Iach' cryfach yn ogystal â chyllideb iechyd benodol ar gyfer atal. Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrando ar alwadau'r pwyllgor iechyd a grwpiau fel Diabetes UK Cymru ac yn gwneud mwy i ddileu gordewdra yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Rwyf am ddechrau trwy ddiolch i bawb, yr holl sefydliadau ac unigolion a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn. Mae manylion a chwmpas y dystiolaeth a ddaeth i law yn adlewyrchu cymhlethdod y mater, ac rydym wedi clywed hynny heddiw, ac am y sefyllfa argyfyngus a wynebwn. Mewn costau ariannol pur, er y gellid dadlau yn eu cylch, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod cost gordewdra i'r GIG yng Nghymru yn unig yn £73 miliwn, gan godi i £465 miliwn erbyn 2050. Wrth gwrs, mae cost ehangach i gymdeithas a'r economi, ac amcangyfrifir fod y ffigur hwnnw'n codi i £2.4 biliwn, felly nid yw'n ymwneud â chywirdeb y ffigurau; y gwir amdani yw ei fod yn mynd i gael effaith economaidd sylweddol ar ddelio â'r broblem hon, a delio â'r ffaith bod llawer o bobl wedyn yn gadael y gweithlu.

A beth yw'r gost i'r GIG? Ai'r straen iechyd meddwl y mae pobl yn ei theimlo o'r allgáu o ganlyniad i ordewdra afiachus? Mae hynny, wrth gwrs, yn anghynaliadwy. Rhaid ystyried y gost i'r unigolion, i'w hansawdd bywyd, hefyd. Rwyf am ganolbwyntio heddiw ar blant a phobl ifanc. O ran iechyd y cyhoedd, mae atal yn bendant yn well ac yn fwy costeffeithiol na gwella. Felly, er bod gweithredu wedi'i dargedu at oedolion yn bwysig—a chododd Jenny hyn y prynhawn yma—y gwir amdani yw bod y perygl o aros dros bwysau fel oedolyn yn sylweddol uwch os oeddech chi dros bwysau yn blentyn. Mae astudiaethau'n dangos bod rhwng 55 y cant ac 80 y cant o blant gordew yn dal i fod yn ordew pan fyddant yn eu harddegau ac yn oedolion, gyda'r risg yn dyblu y bydd plant cyn-ysgol sydd dros bwysau yn ordew fel oedolion.

Ar hyn o bryd, mae tua 25 y cant o blant yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew erbyn yr adeg y byddant yn dechrau yn yr ysgol, ac mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu. Mae'n ffigur anhygoel, pan feddyliwch am y peth. Mae'n chwarter yr holl blant. Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24, roedd 13.7 y cant o blant rhwng pedair a phump oed yn y dosbarth derbyn dros bwysau, ac roedd 11.8 y cant yn ordew.

16:45

O ystyried bod gennym bellach y cyfraddau gordewdra plant uchaf yn Ewrop, onid ydych chi'n meddwl y dylem wneud llawer mwy o ymdrech i gael mwy o bobl i fwydo ar y fron, ac i roi'r gefnogaeth y maent ei hangen iddynt? Oherwydd nid ydynt yn gallu fforddio prynu tuniau fformiwla babanod. Nid yw'n ymddangos ein bod wedi deall, yn ôl y dystiolaeth rydych chi wedi'i chael, y byddai bwydo ar y fron yn lleihau gordewdra plant 25 y cant. Yn sicr, mae peidio â darparu'r gefnogaeth honno i deuluoedd tlawd yn debygol o'u troseddoli, oherwydd bydd yn rhaid iddynt ddwyn fformiwla babanod.

Rwy'n cytuno'n llwyr y dylid annog pobl, a lle gallant, dylent fod o ddifrif ynglŷn â bwydo ar y fron i gynorthwyo nid yn unig pwysau eu plant ond yr imiwnedd y mae'n ei gynnig i'r plant hynny hefyd.

Felly, mae'n eithaf amlwg po ieuengaf ydych chi pan fyddwch chi dros bwysau neu'n ordew, y mwyaf yw'r perygl y byddwch chi'n aros felly fel oedolyn. Felly, ymyrraeth gynnar yw'r ffordd orau o leihau risgiau hirdymor. Dylai pob plentyn gael cyfle i fod yn iach, ble bynnag y maent yn byw. Mae cyfraddau plant sydd dros bwysau neu'n ordew, fel y clywsom eisoes, yn cydfodoli ag ardaloedd difreintiedig. Mae ganddynt hefyd lefelau is o ymddygiad iachach, fel gweithgarwch corfforol a bwyta'n iach, er ei bod yn hanfodol cydnabod, fesul calori, fod bwyd iach dair gwaith yn ddrytach na bwyd afiach—a dyna gydnabyddiaeth arall sydd wedi'i gwyntyllu heddiw. Felly, rhaid i'r diwydiant bwyd gael ei ddwyn i gyfrif am fynediad at fwyd fforddiadwy, iach a'r gormodedd o fwyd afiach mewn cymdeithas.

Nid labelu bwyd ac ymgyrchoedd addysgiadol sy'n anelu at annog newidiadau i ffordd o fyw yw'r ateb. Dywedais ar y dechrau fod cario gormod o bwysau a gordewdra yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae hanes yn dweud wrthym mai'r dull mwyaf effeithiol o weithredu ar iechyd y cyhoedd, o system garthffosiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg i wisgo gwregysau diogelwch, yw camau gweithredu llym, ysgubol. Mae hynny'n golygu cyfyngu ar hyrwyddo bwydydd afiach a mynediad atynt, a threthi sy'n cymell moron ac yn cosbi bwyd wedi'i brosesu'n helaeth sy'n glynu wrth y cluniau.

Mae strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru yn elfen ganolog, ac mae polisi prydau ysgol am ddim i bawb Llafur Cymru yn gyflawniad gwych.

Rwy'n gwneud. Dyma fy narn olaf ar y cyfrwng gorau i yrru'r newid hwnnw. Felly, rwy'n falch iawn fod yr argymhelliad i adolygu cyllid y pen wedi'i dderbyn mewn egwyddor, yn dilyn y cynnydd o £2.90 i £3.20 o fis Ionawr ymlaen, ynghyd â rhyddhau £3.3 miliwn ychwanegol o gyllid i gefnogi'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad ac am gyflwyno'r ddadl y prynhawn yma. Mae gordewdra a chario gormod o bwysau yn un o brif achosion salwch yng Nghymru, a rhagwelir y bydd yn goddiweddyd ysmygu fel yr achos mwyaf o salwch y gellir ei atal. Mae cyfraddau gordewdra yng Nghymru, fel mewn sawl rhan o'r byd, wedi codi'n raddol dros nifer o flynyddoedd. Heddiw, mae mwy na 60 y cant o oedolion yng Nghymru a bron i chwarter y plant sy'n dechrau yn yr ysgol dros bwysau neu'n ordew, ac mae'r effaith ar ein poblogaeth ac ar ein GIG yn sylweddol ac yn syfrdanol. Amcangyfrifir bod salwch sy'n gysylltiedig â gordewdra yn costio £365 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru. Dyna £1 filiwn am bob diwrnod o'r flwyddyn. Ac mae disgwyl i hyn, fel y clywsom, godi i £465 miliwn y flwyddyn erbyn 2050 os bydd y tueddiadau presennol yn parhau. Pan ystyriwn yr effaith ehangach ar unigolion, cymunedau a chymdeithas, gallai'r cyfanswm gyrraedd £3 biliwn.

Ein cymunedau mwyaf difreintiedig sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i fwyd iach, fforddiadwy, gweithgarwch corfforol ac amgylcheddau cefnogol. Fel y clywsom yn y ddadl eisoes, mae achosion gordewdra'n gymhleth ac yn gydgysylltiedig. Dros nifer o flynyddoedd, mae ein hamgylchedd bwyd wedi esblygu mewn ffyrdd sy'n blaenoriaethu cyfleustra dros iechyd. Mae bwydydd ynni-ddwys, sy'n aml yn uchel mewn braster, siwgr neu'r ddau, ar gael yn haws bellach; maent yn fwy fforddiadwy a chânt eu hyrwyddo'n fwy nag opsiynau iachach. Ar yr un pryd, mae ein hamgylchiadau ddyddiol wedi newid. Ni yw'r cenedlaethau cyntaf mewn sawl ffordd nad yw symud bellach yn rhan naturiol o'n bywydau bob dydd. Yn hytrach, rhaid inni wneud ymdrech ymwybodol i fod yn gorfforol egnïol.

Mae yna bethau y gallai ac y dylai'r Llywodraeth eu gwneud i fynd i'r afael â gordewdra a chynorthwyo pawb i fyw bywydau iachach, ond mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae. Yn union fel y mae achosion gordewdra yn gymhleth ac yn gydgysylltiedig, felly hefyd ein hymatebion. Nid oes un iachâd hud. Rwyf wedi darparu bron i £3 miliwn bob blwyddyn i helpu byrddau iechyd i ddatblygu ac ehangu gwasanaethau colli pwysau, i helpu i adeiladu cynnig mwy cyson ac effeithiol ledled y wlad. Rydym hefyd yn datblygu model gwasanaeth newydd i gynyddu capasiti gwasanaethau colli pwysau yn agosach at adref mewn cymunedau lleol ac mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Rydym hefyd wedi ehangu mynediad at gyffuriau colli pwysau yn y GIG, fel eu bod ar gael i bobl â chyflyrau penodol sy'n aros am driniaeth y gellir eu gwella trwy golli pwysau, yn ogystal â thrwy wasanaethau arbenigol. Ond fel y clywsom gan bob siaradwr rwy'n credu, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn, rhaid inni gryfhau ein ffocws ar atal.

Mae'r cynllun cyflawni newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a gyhoeddwyd ym mis Medi, yn gwneud hynny. Mae'n mabwysiadu dull system gyfan, gyda gweithredu ar lefel genedlaethol a chymunedol, ac mae'n cyfeirio cefnogaeth ac adnoddau at blant a phobl ifanc yn benodol, lle mae gennym y gobaith mwyaf o wneud newidiadau iach gydol oes. Mae gennym reswm i fod yn optimistaidd. Mae'r lefelau pwysau iach ymhlith plant yng Nghymru yn uwch nawr na'r hyn oeddent cyn y pandemig. [Torri ar draws.] Yn sicr.

16:50

Roeddwn i eisiau—. Mae'r ddogfen 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn un bwysig, ond nid wyf yn credu bod unrhyw sôn am rôl cynhwysion wedi'u prosesu'n helaeth mewn bwyd, ac roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaeth gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet ynglŷn â gwahardd, neu roi camau ar waith i ddileu cynhwysion wedi'u prosesu'n helaeth o brydau ysgol ein plant cynradd.

Wel, mae'r polisi yr ydym yn ei hyrwyddo drwy'r cynllun cyflawni wedi cael ei drafod yn y Cabinet, am resymau y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â nhw—y cyfraniad y gellir ei wneud ar draws bwrdd y Cabinet i gyrraedd yr amcanion yn y strategaeth. Un o'r meysydd lle rwy'n credu bod llawer o botensial, er enghraifft—ac rwy'n gwybod bod yr Aelod yn teimlo'n gryf am hyn—yw mewn perthynas â defnyddio liferi cynllunio'n fwy rhagweithiol ynghylch agosrwydd siopau tecawê i ysgolion, er enghraifft. Yn aml, mae'r rhain yn gynhyrchion wedi'u prosesu'n helaeth. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ganllawiau cynllunio sy'n effeithiol iawn yn hyn o beth. Hyd yma, dyma'r unig gyngor yng Nghymru, ond mae hyn wedi cael ei drafod yn y Cabinet am y rheswm hwnnw.

Soniodd yr Aelod, yn ei chyfraniad yn gynharach, am bwysigrwydd bwydo ar y fron, ac er mwyn helpu i gynnal y duedd sy'n dod i'r amlwg yr ydym wedi dechrau ei gweld, ac i gefnogi plant a theuluoedd, rydym yn bwriadu datblygu a chyflwyno cynllun gweithredu newydd ar fwydo babanod. Bydd hwn yn adeiladu ar y gwaith a nodwyd gan Lywodraeth Cymru—.

Roeddwn eisiau dweud bod yna rybudd iechyd y bydd yna genhedlaeth o blant Cymru a oroesir gan eu rhieni. Mae hynny'n bwysig iawn i'w ddeall—fod ein plant angen bwyd da.

16:55

Yn wir, ac mae'r ffocws yn 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn ymwybodol ac yn fwriadol yn cefnogi plant a phobl ifanc i osgoi gordewdra a rhag cario gormod o bwysau, am y rhesymau y mae'r Aelod yn eu nodi. Bydd y cynllun yn ehangu ein dull o weithredu ar ddeiet a maeth ym mlynyddoedd cynharaf bywyd, ac rwy'n credu mai rhan hanfodol o hynny yw cynnwys y teulu cyfan—oherwydd pan fydd rhieni'n mabwysiadu arferion iachach, mae plant yn llawer mwy tebygol o ddilyn eu harweiniad—a chreu amgylchedd cefnogol yn y cartref, lle mae newidiadau cadarnhaol i ffordd o fyw yn dod yn rhan o fywyd teuluol bob dydd.

Bydd aelodau'r pwyllgor wedi clywed am ein cynlluniau peilot plant a theuluoedd PIPYN a PIPYN Actif, sy'n treialu dulliau newydd ac arloesol o wneud hynny. Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgir o'r cynlluniau peilot hyn, byddwn yn cyflwyno model wedi'i ddiweddaru ledled Cymru, gan flaenoriaethu'r ardaloedd sydd â'r lefelau uchaf o ordewdra plant. Mewn manwerthu brics a morter, ac ar-lein, bydd rheoliadau newydd a basiwyd gan y Senedd sy'n cyfyngu ar hyrwyddo ac arddangos cynhyrchion sy'n cynnwys lefelau uchel o fraster dirlawn, halen a siwgr—y rhai sy'n fwyaf cysylltiedig â lefelau gordewdra yn ein plant—yn dod i rym ym mis Mawrth, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau a gefnogodd y rheoliadau.

Ond rhaid inni hefyd ganolbwyntio ar y sector y tu allan i'r cartref. Mae nifer y siopau bwyd tecawê poeth yng Nghymru, fel y soniais yn gynharach, wedi cynyddu'n sylweddol, ac mae cysylltiad rhwng dwysedd uchel o siopau bwyd tecawê ac ardaloedd difreintiedig, gan wneud dewisiadau bwyd iachach yn anos a gwaethygu anghydraddoldebau iechyd. Felly, byddaf yn bwrw ymlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus i osod cyfyngiadau ar siopau bwyd tecawê poeth, gan gynnwys o amgylch ysgolion, i gynyddu argaeledd opsiynau bwyd iachach ar y stryd fawr, ac i gefnogi busnesau bwyd lleol i ddatblygu dewisiadau bwyd iachach.

Rydym hefyd yn gwybod bod plant ac oedolion sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn cael eu targedu'n anghymesur gan hysbysebu awyr agored sy'n hyrwyddo bwyd sy'n cynnwys lefelau uchel o fraster dirlawn, halen a siwgr. Ac er bod awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn cael rhywfaint o ddylanwad ar yr hysbysebu sy'n ymddangos yn y mannau y maent yn berchen arnynt neu'n eu rheoli, mae'r rhan fwyaf o'r seilwaith yn eiddo preifat. Felly, rydym yn archwilio pa fesurau pellach sy'n bosib mewn mannau cyhoeddus a phreifat i ddiogelu plant a theuluoedd yn well rhag effaith niweidiol hysbysebu bwyd afiach yn ein mannau awyr agored. Byddwn yn ymgynghori ar opsiynau i gryfhau'r ddarpariaeth o fwyd iachach mewn lleoliadau sector cyhoeddus, gan gynnwys ar draws ystad Llywodraeth Cymru ac yn bwysig, ar safleoedd y GIG.

Er mwyn cyflawni newid parhaol, rhaid inni barhau i sicrhau bod symud yn cael ei blethu i wead bywyd bob dydd mewn cymunedau ledled Cymru. Mae symud mor bwysig. O pickleball a dringo i nofio, ioga, tai chi, grwpiau cerdded a dosbarthiadau gwella cryfder, mae ein cynllun hamdden egnïol 60+ yn helpu oedolion hŷn hefyd i gadw'n egnïol, mewn cysylltiad ac yn iach. Gan ddefnyddio grym pêl-droed i ymgysylltu â chymunedau, mae ein rhaglen Fit Fans wedi helpu pobl ag anghenion iechyd cymhleth i gyflawni gwelliannau sylweddol i'w lles. Ac mae ein cynlluniau peilot plant a theuluoedd yn cefnogi cannoedd o deuluoedd: pobl go iawn y mae eu bywydau'n cael eu trawsnewid yn araf er gwell. Drwy weithio ar draws y Llywodraeth ac ochr yn ochr â'n cymunedau, gallwn droi'r cynllun hwn yn newid gwirioneddol, parhaus, gan roi cyfle i bob person yng Nghymru fyw bywydau iachach a hapusach.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, a diolch i fy nghyd-Aelodau am gyfrannu hefyd a'r gwaith a wnaethant ar gyflwyno'r adroddiad hwn?

Jenny, a gaf i ddiolch i chi am eich angerdd parhaus ynghylch y pwnc hwn? Rydych chi'n iawn i herio'r system, fel rydych chi'n ei wneud yn aml. Mae'n glir iawn, ac mae'r pwynt am bwysigrwydd bwydo ar y fron yn un da iawn. Yn wir, roedd ar y radio y bore yma, y pwysigrwydd—os yw rhieni'n gallu bwydo eu plant ar y fron, sut y mae hynny'n debygol o'u hatal rhag mynd yn ordew yn ddiweddarach mewn bywyd. Nid yw pawb yn gallu, fe wyddom hynny, ond diolch am godi hynny.

Mabon, diolch am ein hatgoffa o'r ffaith bod cymaint o bobl yn ein cymunedau dros bwysau—chwech o bob 10—a'r marwolaethau cynamserol a phethau sy'n digwydd oherwydd afiechydon cysylltiedig.

Tynnodd John sylw at bwysigrwydd cyfeirio pobl at fannau lle gallant ddilyn ffordd o fyw iachach, a thynnodd sylw at rai o'r pethau fel y parkruns iau, a sut y mae'r prosiect hwnnw, y cynllun peilot hwnnw'n mynd i weithio gyda phlant ac ysgolion. Mae'n swnio'n gyffrous iawn.

Altaf, mae eich profiad yn hyn o beth yn cael ei groesawu'n fawr ac yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y cynnydd mewn diabetes math 2, sy'n gysylltiedig â gordewdra. Rhaid inni beidio ag anghofio hynny, ac yn enwedig pan welwn y cynnydd hwnnw mewn plant yn enwedig.

Joyce, diolch am dynnu sylw at y costau real iawn o wneud hyn, a phwysigrwydd atal i blant a phobl ifanc, sut y mae angen inni fuddsoddi yn ein plant a'n pobl ifanc. Nhw yw ein dyfodol. A'r neges sobreiddiol honno gan Altaf, lle gallai cenhedlaeth oroesi eu plant. Mae hwnnw'n bwynt emosiynol iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddiolch i chi am eich ymgysylltiad drwy gydol yr amser, ac am dderbyn llawer o'n hargymhellion, ac am gydnabod yn glir y problemau gwirioneddol sydd gennym yma yng Nghymru? Ond rwy'n credu bod angen inni roi mwy o bwysau ar ein byrddau iechyd lleol. Ni all fod yn iawn fod llawer o'n byrddau iechyd lleol, y byrddau iechyd hynny sydd â'r problemau mwyaf mewn rhai ardaloedd, heb fod yn darparu gwasanaethau rheoli pwysau ar gyfer plant. Rwy'n credu bod hynny'n broblem sylfaenol.

Rydym yn croesawu eich ffocws ar atal. Mae atal yn rhywbeth a glywn ym mhob ymchwiliad a wnawn ar hyn o bryd, ac mae'n gam mor bwysig sy'n rhaid inni ei gymryd i fuddsoddi mewn atal, fel y gallwn droi'r llanw ar lawer o feysydd—nid yn unig yn y maes hwn, ond mewn llawer o feysydd. Mae'n rhywbeth y gobeithiaf y bydd y Llywodraeth nesaf yn bwrw ymlaen ag ef yn iawn.

A gaf i orffen drwy ddiolch i bawb am gymryd rhan? Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig i bob un ohonom chwarae ein rhan a cheisio ysgogi agenda iachach, fel bod ein plant yn cael y cyfleoedd gwirioneddol y maent yn eu haeddu mewn bywyd. Diolch.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hosbisau

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 7 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hosbisau, a galwaf ar Paul Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9112 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith eithriadol y mae'r sector hosbis a gofal lliniarol yn ei wneud wrth ddarparu gofal a chymorth diwedd oes o ansawdd uchel i deuluoedd.

2. Yn cydnabod y pwysau ariannol digynsail ar hosbisau yng Nghymru o ganlyniad i gynnydd mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, prinder gweithlu, a'r galw cynyddol am eu gwasanaethau.

3. Yn gresynu bod arolwg diweddar o hosbisau yng Nghymru a gynhaliwyd gan Hospice UK wedi canfod:

a) bod 30 y cant eisoes yn lleihau gwelyau neu'n torri gwasanaethau;

b) bod dros 70 y cant sydd ag unedau cleifion mewnol yn disgwyl i o leiaf un gwely gau dros dro neu'n barhaol; ac

c) bod tri chwarter yr hosbisau yn ofni y byddant yn cael eu gorfodi i dynnu nôl y cymorth y maen nhw'n ei ddarparu ar hyn o bryd i ysbytai a chartrefi gofal.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu model ariannu cynaliadwy newydd ar gyfer hosbisau yng Nghymru, gan gynnwys £40 miliwn yn ychwanegol dros dymor y Senedd nesaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i.

Mae'r ddadl heddiw yn gyfle i ni gydnabod pwysigrwydd hosbisau yng Nghymru ac ystyried ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r sector yn well. Mae hosbisau a darparwyr gofal lliniarol ledled Cymru o dan fwy a mwy o bwysau wrth i'r galw am eu gwasanaethau gynyddu. Mae darparwyr hefyd yn wynebu prinder gweithlu difrifol ac wrth gwrs, mae mwy o bwysau o ganlyniad i gynnydd mewn costau byw, ac oherwydd polisïau fel y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr gan Lywodraeth y DU. O ganlyniad, heb fuddsoddiad sylweddol, bydd mwy a mwy o hosbisau yn ystyried lleihau eu gwasanaethau, ac efallai y bydd rhai hyd yn oed yn cael eu gorfodi i gau eu drysau yn y blynyddoedd i ddod.

Yn anffodus, mae'n rhy hwyr i Tŷ Shalom, hosbis a oedd wedi'i lleoli yn Nhyddewi yn fy etholaeth i. Caeodd hosbis Tŷ Shalom ei drysau ddiwedd mis Hydref y llynedd, ar ôl bron i ddau ddegawd o gefnogi cleifion â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, fel clefyd niwronau motor, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chlefyd Parkinson. Cefais y fraint fawr o gael y cyfle i ymweld â Tŷ Shalom sawl gwaith fel Aelod Senedd lleol a bob tro yr ymwelais, fe wnaeth ymroddiad a thosturi'r staff yno argraff arnaf. Ac nid fi oedd yr unig un. Yn adroddiad arolwg olaf Tŷ Shalom, canfu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod y tîm staff wedi ymrwymo i ddarparu gofal tosturiol, diogel ac effeithiol i gleifion. Felly, rwy'n credu ei bod yn drueni mawr, er gwaethaf yr holl waith anhygoel a oedd yn cael ei wneud i gefnogi a gofalu am gleifion, fod hosbis Tŷ Shalom wedi gorfod cau ei drysau oherwydd pwysau ariannol yn hytrach nag unrhyw ddiffygion yn ansawdd y gofal a ddarperid.

Yn fy marn i, dylai Llywodraeth Cymru deimlo cywilydd fod hosbis Tŷ Shalom wedi ei gorfodi i gau, ac yn sicr dylai deimlo cywilydd ynglŷn â rhai o ganfyddiadau arolwg Hospices UK y mae ein cynnig yn cyfeirio atynt. Canfu'r arolwg hwnnw fod bron i 30 y cant o hosbisau Cymru yn lleihau nifer y gwelyau cleifion mewnol neu wasanaethau ehangach o ganlyniad i gostau cynyddol a phwysau ar y gweithlu. Nid yw'n dderbyniol fod dros 70 y cant o hosbisau sydd ag unedau cleifion mewnol yn cytuno bod pwysau costau byw yn debygol o olygu na fydd un neu fwy o welyau cleifion mewnol ar gael dros dro neu'n barhaol. Mae'n amlwg fod angen i Lywodraeth Cymru fynd ati fel mater o frys i ddatblygu model ariannu cynaliadwy, fel nad yw hosbisau'n cael eu gorfodi i gau oherwydd pwysau ariannol. Yn ôl Hospices UK, ar gyfartaledd, mae 70 y cant o gostau gofal darparu gwasanaethau hosbis yn cael eu hariannu gan roddion elusennol, gyda'r 30 y cant sy'n weddill yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol. Mae'n drist iawn fod hosbisau'n gorfod dibynnu mor helaeth ar haelioni'r cyhoedd er mwyn gallu cynnal gwasanaethau, a bod eu dyfodol yn anghynaliadwy pan fo mwy a mwy o bobl angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Ac nid yw hon yn broblem newydd. Mae pryderon hirsefydlog wedi bod ynglŷn â chynaliadwyedd y sector, ac os na welwn fuddsoddiad ystyrlon a gweithredu nawr, bydd mwy o hosbisau'n lleihau gwasanaethau, a bydd yr effaith i'w theimlo yn ein cymunedau a'r GIG. Gellir gweld tystiolaeth o leihau gwasanaethau yng ngogledd Cymru, lle mae gwelyau Hosbis Dewi Sant yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi wedi cael eu cau dros dro oherwydd effaith costau rhedeg cynyddol a llai o incwm. Ac mae ofn gwirioneddol y gallem weld mwy o hyn yn digwydd ledled Cymru os na cheir ateb parhaol, cynaliadwy.

Wrth gwrs, cafodd y sefyllfa ei gwaethygu ymhellach pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol a chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Ac nid oes rhaid i chi gymryd fy ngair i. Ym mis Hydref, dywedodd prif weithredwr Gofal Hosbis Dewi Sant Casnewydd, Emma Saysell, yn glir fod y costau cynyddol hyn, ynghyd â diffyg cyllid cynaliadwy, wedi gwneud sefyllfa ariannol yr hosbis yn wan. Dywedodd, ac rwy'n dyfynnu,

'Rwy'n credu mai dyma'r amser gwaethaf yn ariannol inni ei wynebu erioed. Mae'r cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol wedi costio dros £100,000 i'r hosbis. Ychwanegwch hynny at y cynnydd i yswiriant gwladol, roedd hwnnw'n £180,000 arall.'

Ac mae darparwyr fel Gofal Hosbis Dewi Sant yn gorfod dod o hyd i gyllid ychwanegol i ddim ond cadw eu drysau ar agor. Nid yw rhoddion elusennol yn ddigon i redeg hosbis. Mae angen cyllid statudol digonol, cyson.

Nawr, wrth gwrs, un o ymrwymiadau rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yw adolygu cyllid gwirfoddol i hosbisau, ac i roi clod lle mae'n ddyledus, mae rhywfaint o waith eisoes wedi'i wneud. Yn ôl ym mis Gorffennaf 2021, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r bwrdd gofal diwedd oes adolygu cyllid i hosbisau. Nododd yr adolygiad hwnnw ystyriaethau pwysig ynghylch gofal hosbis yn y cartref a rôl hosbisau plant yn darparu gofal seibiant, ac o ganlyniad, cafwyd cynnydd yn y cyllid cylchol i'r sector. Ac er bod croeso i ddyraniadau ychwanegol o gyllid i'r sector wrth gwrs, hyd nes y gwneir penderfyniad clir ynglŷn â sut y caiff y sector ei gefnogi yn y tymor canolig a'r tymor hir, ni fyddwn yn gwneud cynnydd ystyrlon ar fynd i'r afael â'r heriau systemig hyn.

Felly, gadewch inni ystyried rhai o'r pethau y mae angen inni eu gweld mewn model cyllido cynaliadwy. Yn gyntaf, mae angen llawer mwy o gydraddoldeb rhwng y gwasanaethau a ddarperir gan hosbisau a'r GIG, a chydnabyddiaeth gliriach o'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Mae gofal hosbis yn cael ei ddarparu yn y gymuned ac mewn amrywiaeth o leoliadau, o gyfleusterau cleifion mewnol i ofal hosbis yn y cartref, ac mae'n lleddfu'r pwysau sylweddol ar y GIG trwy leihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty a galluogi cleifion i aros gartref, ac mae angen cydnabod hynny.

Yn ail, mae cyflawni model cyllido cynaliadwy yn galw am ymagwedd fwy cyson at gyllid statudol a chyllid y GIG. Byddai darparu mwy o sefydlogrwydd cyllidol yn rhoi hyder i ddarparwyr gynllunio gwasanaethau yn y tymor hir, buddsoddi mewn arloesedd a chryfhau eu gweithlu. Wrth gwrs, cydnabyddir yn eang fod y sector eisoes yn wynebu prinder gweithlu acíwt. Mae'r arbenigedd a gedwir o fewn timau hosbis yn unigryw ac yn arbenigol iawn, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddiogelu a datblygu hyn wrth ddatblygu model cyllido cynaliadwy.

Nawr, credaf hefyd fod yn rhaid i fodel cyllido cynaliadwy adlewyrchu'r ffordd y mae gwasanaethau hosbis yn cael eu darparu yn ymarferol. Er enghraifft, mae rhai darparwyr yn gweithredu ar draws ffiniau byrddau iechyd lluosog, a rhaid rhoi cyfrif am y gwaith trawsffiniol hwn yn deg ac yn dryloyw o fewn y model newydd. Mae rhai darparwyr yn gorfod darparu gwasanaethau mewn cymunedau gwledig, ac mae hynny'n creu costau ychwanegol y mae angen eu cyfrif hefyd.

Ac yn olaf, er mwyn i unrhyw fodel newydd fod yn wirioneddol addas i'r diben, rhaid iddo gael hyder a chefnogaeth y sector hosbisau ei hun. Mae eu profiad a'u mewnwelediad yn hanfodol i lunio model sy'n diwallu anghenion cleifion a darparwyr yn ddigonol. Yn wir, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y model yn cael cefnogaeth go iawn gan hosbisau Cymru.

Rwy'n derbyn nad yw datblygu model cynaliadwy yn fater syml, ac rwy'n gwybod bod bwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes wedi bod yn gweithio ar fframwaith comisiynu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau hosbis, ac mae angen inni weld mwy o gynnydd yn hyn o beth.

Mae Marie Curie wedi dweud yn gywir ddigon fod yn rhaid i'r fframwaith comisiynu sydd ar y ffordd ar gyfer gwasanaethau hosbis gefnogi darpariaeth gyson o wasanaethau a chynnwys safoni pris uned, hyd contract a thelerau ac ymrwymiadau i lefelau cyflog yr 'Agenda ar gyfer Newid'. Ac mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod Mark Isherwood ar y fframwaith comisiynu ym mis Tachwedd, sicrhaodd y Prif Weinidog Siambr y Senedd y byddai'r model comisiynu yn gynaliadwy ac yn gyson ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac eto nid ydym wedi clywed gair ers hynny ynglŷn â sut olwg sydd ar hynny mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn manteisio ar y cyfle heddiw i ddweud mwy wrthym am hyn wrth ymateb i'r ddadl.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd bod hosbisau'n ddarparwyr gofal lliniarol arbenigol a bod yn rhaid osgoi cau fel yn achos Tŷ Shalom lle bynnag y bo modd. Heb os, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o ofal hosbis rhagorol yn cael ei ddarparu yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, mae Sefydliad Paul Sartori yn darparu gofal nyrsio rhagorol yng nghartrefi pobl—ac rwy'n cyfeirio Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau Aelodau gan fy mod yn aelod balch o'r sefydliad hwnnw. Mae eu gwasanaeth hosbis yn y cartref ar gael 365 diwrnod y flwyddyn ac maent yn gweithredu gwasanaeth ar alwad 24/7.

Mae yna lawer o enghreifftiau o ofal pwysig o'r fath yn cael ei ddarparu mewn cymunedau ledled Cymru. Dyna pam y credaf fod buddsoddi mewn model cyllido cynaliadwy ar gyfer y sector yn fuddsoddiad mewn diogelu gwasanaethau hanfodol. Ni allwn ganiatáu i'r sector hosbisau barhau i ddibynnu ar chwistrelliadau o arian parod bob hyn a hyn gan Lywodraeth Cymru, oherwydd mae'n gwneud cynllunio hirdymor effeithiol bron yn amhosib.

Mae'n hanfodol nawr fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda bwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes i roi'r flaenoriaeth frys y mae'n ei haeddu i'r sector a datblygu model sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau darparu atebion parhaol fel y gall darparwyr gynllunio ar gyfer y dyfodol ac y gall pobl fod yn hyderus y bydd gwasanaethau gofal lliniarol o ansawdd uchel ar gael yn ein cymunedau am flynyddoedd i ddod. Fel y dywed Marie Curie yn gywir,

'Ni allwn fforddio gwastraffu amser wrth gael hyn yn iawn.'

Mae pobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'r rhai sy'n agos atynt yn haeddu gwell, ac mae angen i lunwyr polisi, byrddau iechyd a darparwyr gymryd y camau radical sydd eu hangen i drawsnewid gofal diwedd oes yng Nghymru. Felly, edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ynglŷn â sut y dylai model cyllido cynaliadwy edrych a sut y gallwn gefnogi hosbisau Cymru'n well, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.

17:10

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod canfyddiadau arolwg Hospice UK.

Yn croesawu:

a) y cynnydd o £21 miliwn i gyllid hosbisau gan Lywodraeth Cymru dros dymor y Senedd hon; a

b) y gwaith sydd ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector hosbisau i ddatblygu model cyllido cynaliadwy.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Rydym yn croesawu'r cynnig hwn am ei fod yn edrych ar y tymor hir. Mae'r lefel honno o flaengynllunio yn wych. Ac o ystyried digwyddiadau diweddar ar y meinciau gyferbyn, ni ellir ei gymryd yn ganiataol bob amser. Ac wrth feddwl am Reform: bydd Reform yn rhygnu ymlaen am yr angen i edrych ar ôl ein pobl ein hunain, am yr angen i roi'r gorau i ariannu rhai rhaglenni. Ond yn achos cynnig sy'n edrych ar argymhelliad cadarnhaol i gynyddu cyllid i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ble maent? Nid ydynt i'w gweld yn unman.

Ond gan roi hynny i gyd i'r naill ochr, mae'r sector hosbisau'n haeddu sylw llawn a difrifol y Senedd hon. Mae hosbisau'n darparu gofal; nid yn unig ar ddiwedd oes, ond ar yr eiliadau mwyaf dynol, gan gefnogi teuluoedd, gofalwyr a chymunedau pan fyddant o dan y straen fwyaf. Mae'r cynnig yn cydnabod y gwaith hwnnw'n gywir ddigon ac mae hefyd yn mynd i'r afael  â gwirionedd anghyfforddus, nad yw'r model cyllido presennol yn gynaliadwy mwyach.

Mae'r neges yn y cynnig yma yr un mor wir heddiw ag ydoedd pan wnes i gyflwyno dadl ar yr union bwnc yma ddwy flynedd yn union yn ôl. Ac mae'n werth ein hatgoffa o'r hyn a ddywedais i ddwy flynedd yn ôl.

Mae hosbisau yn rhan hollbwysig o'n system iechyd a gofal, gan ddarparu cefnogaeth arbenigol y mae degau o filoedd o bobl yn dibynnu arni bob blwyddyn, o fabanod newydd-anedig i bobl hŷn. Maen nhw'n cynnig ystod eang o wasanaethau: gofal yn y cartref, cymorth brys y tu allan i oriau a chefnogaeth i bobl sy'n galaru. Maen nhw'n sicrhau bod diwedd bywyd claf yn cael ei drin gyda'r urddas, y sensitifrwydd a'r cysur mwyaf. Dwi am dalu teyrnged yma i ymroddiad diflino’r staff sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r disgwyl i ddarparu’r gofal yma.

Mae hosbisau hefyd yn rhan allweddol o ofal cymunedol, gan gadw pobl allan o’r ysbyty a lleddfu’r pwysau ar y rheng flaen. Ond fel y mae’r cynnig yn ei gydnabod yn gywir, mae sefyllfa ariannol y sector hosbisau bellach yn anghynaladwy. Heddiw, mae dros ddwy ran o dair o gyllid hosbisau yn dod o roddion a gweithgareddau elusennol, ac mae hynny’n codi tua tri chwarter yn achos hosbisau plant. Gyda chostau ychwanegol cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, biliau ynni cynyddol, a gweithlu sy’n crebachu, rydym ni’n symud yn gyflym tuag at bwynt lle mae’n gwbl anghynaladwy. Mae hynny eisoes wedi arwain at gau gwelyau hosbisau, fel y gwelwyd ym Mhenrhos Stanley yng Nghaergybi.

Yn fy nadl ddwy flynedd yn ôl, fe amlinellais i dri chanlyniad posib i’r argyfwng yma. Mae dau o’r opsiynau yna yn gwbl annerbyniol: naill ai gadael pobl i ddioddef mewn poen, neu symud y baich cyfan ar fyrddau iechyd sydd eisoes dan bwysau enfawr. Felly, yr unig ateb synhwyrol yw cyd-fynd â geiriau da y Llywodraeth am ofal lliniarol a gofal diwedd oes, ond gyda chyllid go iawn sy’n adlewyrchu’r realiti ar lawr gwlad, gan roi’r sicrwydd a’r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar hosbisau i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau.

Yn ogystal â’r achos amlwg moesol dros weithredu, mae’r rhesymeg economaidd hefyd yn gadarn. Mi ydym ni i gyd yn ymwybodol o’r ffaith bod gennym ni boblogaeth sydd yn heneiddio, a bod costau cefnogaeth iechyd yn ystod blynyddoedd olaf bywyd yn sylweddol yn uwch ar gyfartaledd. Yn ôl asesiad Marie Curie, bydd y galw ar wasanaethau gofal diwedd oes yn tyfu yn sylweddol yn y degawdau i ddod. Erbyn y 2040au, mi fydd 37,000 o bobl yng Nghymru angen cymorth gofal diwedd oes bob blwyddyn, sef cynnydd o 5,000 o’r sefyllfa bresennol. Felly, nid mater o lenwi bylchau ariannol yn unig ydy’r alwad am setliad ariannol newydd i’r sector, ond buddsoddiad hirdymor yn anghenion iechyd ein poblogaeth.

Mae yna waith i’w wneud hefyd i fireinio trefniadau llywodraethol. Rydw i wedi sôn yn aml am yr angen i ddiwygio byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn gwella cydweithio rhwng y byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, a bydd ein cynlluniau ni yn y maes yma yn cynnwys penodi arweinydd penodol ar ofal diwedd oes ym mhob bwrdd.

Un o ddyletswyddau mwyaf sylfaenol cymdeithas ydy caniatáu y gallu i bawb, beth bynnag eu hamgylchiadau, i fyw bywyd mewn urddas, yn enwedig tuag at ddiwedd eu hoes. Dwi’n benderfynol, os bydd gan Plaid Cymru y fraint o arwain y Llywodraeth nesaf, y byddwn ni yn dyfalbarhau i drosi’r egwyddor graidd yma i mewn i ganlyniadau ymarferol.

17:15

Rwy'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl hon ar hosbisau a gofal lliniarol heddiw. Mae'r rhain yn faterion yr wyf i bob amser wedi teimlo eu bod mor bwysig i ni fel gwleidyddion. Mae gennyf berthynas hirsefydlog â Hosbis y Ddinas yn fy etholaeth, lle roeddwn yn is-lywydd am flynyddoedd lawer. Rwyf hefyd wedi bod â chysylltiad agos â Tŷ Hafan, un o'r unig ddwy hosbis i blant yng Nghymru. Y tro diwethaf i mi ymweld â Tŷ Hafan, cefais fy nhywys o gwmpas gan Tom, y dyn ifanc llawn ysbrydoliaeth sy'n aelod o 'sgwad' Tŷ Hafan, grŵp o bobl ifanc sydd, diolch i feddyginiaeth fodern a gofal rhagorol, wedi byw i fod yn oedolion.

Mae Hosbis y Ddinas, yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, wedi'i lleoli ar dir hen Ysbyty'r Eglwys Newydd, ac mae'n darparu ei gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Nid oes darpariaeth breswyl, ond maent yn defnyddio eu canolfan i ddarparu gwasanaethau dydd, grwpiau cwnsela, gwasanaethau profedigaeth, therapïau holistaidd, cyngor ariannol, a defnydd o'u gardd hardd, sy'n cyffinio â gwarchodfa natur Fferm Fforest.

Elusennau yw hosbisau, a chânt eu gwneud yn bosib gan haelioni enfawr y cyhoedd a gwirfoddolwyr. Rwy'n credu'n gryf iawn mai defnyddio'r sector gwirfoddol yn y ffordd a wnawn yw'r model cywir ar gyfer darparu gofal lliniarol. Yn hanesyddol, mae gofal lliniarol wedi datblygu yn y modd hwn yn y wlad hon, ac rwy'n credu bod gennym rai o'r enghreifftiau mwyaf rhagorol o ofal lliniarol yma, oherwydd gall y sector gwirfoddol ganolbwyntio ar y maes gwaith hwn heb y galwadau llethol y mae'r GIG yn eu profi.

Fe wyddom fod llawer o bobl yn marw mewn ysbytai, lle mae'n aml yn amhosib darparu'r gofal unigol y mae hosbisau'n gallu ei ddarparu. Felly, rwy'n credu bod y model yn iawn. Fodd bynnag, mae'r galw ar hosbisau'n cynyddu; mae hynny wedi cael ei godi yma heddiw eisoes. Dywedwyd wrthyf gan Hosbis y Ddinas fod cynnydd wedi bod yn nifer y cleifion dros y tair blynedd diwethaf, 5 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd, ac mae tua 1,800 o gleifion bellach yn cael eu gwasanaethu gan Hosbis y Ddinas. Ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys eu teuluoedd a'r gofalwyr hefyd.

Mae hosbisau'n darparu gwasanaethau statudol hanfodol, ac rwy'n credu bod y pwynt hwn wedi'i wneud yn dda gan yr hosbisau. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol eu bod yn cael eu had-dalu'n llawn gan y GIG fel bod y gwasanaethau statudol hanfodol yn cael eu hariannu'n llawn. Yna, defnyddir incwm gwirfoddol yr hosbisau i ddarparu'r holl bethau ychwanegol hynny sy'n hanfodol hefyd. Mae'r gofal lliniarol cyffredinol yn Hosbis y Ddinas yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl trwy roddion a'r gymuned.

Nid wyf yn credu ei bod yn beth drwg i ddweud bod rhywfaint o'n gofal hosbis a gofal lliniarol yn cael ei gefnogi gan gyhoedd sydd eisiau cyfrannu. Rwy'n credu bod hwnnw'n fodel sy'n dderbyniol. Ond dylai'r gofal hanfodol—y gwasanaethau statudol—gael ei ariannu gan y GIG. Rwy'n credu hefyd y dylai fod trefniadau mwy cyson ar waith ac y dylai fod cydraddoldeb cyflog gyda'r GIG, fel y gwn fod y mudiad hosbis yn galw amdano. Ond rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru a'r sector hosbisau'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu model cyllido cynaliadwy, oherwydd rwy'n credu bod angen model cyllido cynaliadwy arnom.

I orffen, gan fynd yn ôl at y ddwy hosbis plant yng Nghymru, mae'r ymchwil a wnaed gan Tŷ Hafan wedi dangos bod y teuluoedd sy'n defnyddio'r hosbisau hynny ar un o'r cyfnodau anoddaf oll yn eu bywydau. Maent hefyd o dan bwysau ariannol enfawr. O'r teuluoedd sydd â phlentyn difrifol wael, dywedodd 92 y cant eu bod wedi wynebu caledi ariannol. Fe wyddom na allant gael gwyliau, ni allant wneud yr holl bethau y mae teuluoedd yn gallu eu gwneud. Mae'r teuluoedd hyn sy'n mynd trwy rai o brofiadau anoddaf eu bywydau angen y canolbwyntio dwys a'r cymorth unigol y mae hosbisau plant yn gallu ei ariannu.

I gloi, rwy'n credu bod angen inni adeiladu ar y model a'r bartneriaeth sydd gennym. Mae'r mudiad hosbis yn rhywbeth y dylem i gyd ymlawenhau ynddo, y ffordd y mae wedi tyfu i fyny yn y wlad hon, ac rwy'n talu teyrnged i'r holl bobl sy'n gweithio ynddo.

17:20

Ni ellir gorbwysleisio gwerth gofal hosbis yng Nghymru. Mae'n anghenraid. Ledled Cymru, mae 15 hosbis elusennol yn gweithredu gydag ymroddiad diwyro, yn cefnogi mwy na 20,000 o oedolion a phlant sy'n byw gyda salwch terfynol bob blwyddyn. Mae eu gwaith yn mynd ymhell y tu hwnt i driniaeth glinigol, gan helpu pobl i fyw'n dda wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu hoes, eu galluogi i greu atgofion parhaol, mynegi eu dymuniadau a phrofi heddwch ac urddas yn eu dyddiau olaf, a darparu cymorth hanfodol i ofalwyr a theuluoedd, gan eu helpu i lywio'u ffordd drwy straen emosiynol, ansicrwydd a galar. Mae eu cefnogaeth yn holistaidd, yn dosturiol ac wedi'i deilwra i anghenion pob unigolyn.

Mae gwasanaethau hosbis yn ymestyn y tu hwnt i leoliadau sefydliadol, gan ganiatáu i bobl aros gartref wedi'u hamgylchynu gan yr hyn sy'n gyfarwydd a chan gariad. Maent hefyd yn cynnig mynediad at welyau cleifion mewnol mewn cymunedau lleol, gan sicrhau bod gofal hanfodol yn parhau i fod yn agos at adref, lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty, cefnogi rhyddhau amserol a lleddfu'r pwysau ar feddygon teulu, nyrsys ardal a thimau gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'r cyfraniad aruthrol hwn yn dibynnu'n helaeth, fel y clywsom, ar godi arian elusennol, gyda bron i 70 y cant o gostau gofal hosbis yn cael eu talu trwy roddion.

Mae hosbisau Cymru'n buddsoddi tua £30 miliwn o gyllid elusennol yn y system iechyd a gofal bob blwyddyn. Wrth edrych ymlaen, rhagwelir y bydd y galw am ofal hosbis a gofal lliniarol yn cynyddu tua 25 y cant dros y 25 mlynedd nesaf, wedi'i yrru gan boblogaeth sy'n heneiddio, cyflyrau meddygol cynyddol gymhleth ac anghydraddoldebau iechyd sy'n ehangu. Er iddynt gael addewid o gyfran o'r £3 miliwn a ddyrannwyd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, ym mis Tachwedd roedd dwy hosbis plant Cymru, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, yn dal i aros i gael cadarnhad o'u dyraniad, neu pryd y byddent yn ei dderbyn. Er mwyn ateb yr angen cynyddol, maent yn galw am gyllid cynaliadwy wedi'i glustnodi, gan godi i 30 y cant o'r costau gofal erbyn 2030, sy'n dal i fod yn is na'r cyfartaledd ar gyfer hosbisau oedolion.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer hosbisau oedolion a phlant yn Lloegr, sy'n llawer iawn mwy na chyllid hosbis Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru, lle mae gofal iechyd yn cael ei symud allan o'r gymuned i ysbytai, yn uniongyrchol groes i bolisi datganedig Llywodraeth Cymru. Bydd gwariant is ar gyllid hosbis yng Nghymru yn costio mwy i Lywodraeth Cymru. Erbyn y 2040au, amcangyfrifir y bydd angen gofal lliniarol neu ofal diwedd oes ar 37,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, gyda'r galw'n cynyddu'n sylweddol, ond mae hosbisau'n parhau i wynebu heriau cynaliadwyedd difrifol, gyda chostau staffio cynyddol yn cael eu gosod drwy'r 'Agenda ar gyfer Newid' a chynnydd i yswiriant gwladol, ynghyd â'r cynnydd mewn costau byw, gan adael hosbisau yn rhagweld diffygion ar gyfer 2025-26. Fel roeddent yn rhybuddio, mae llawer bellach yn wynebu penderfyniadau anodd, gan dynnu ar gronfeydd wrth gefn, lleihau nifer y gwelyau cleifion mewnol, torri gwasanaethau, oedi recriwtio, lleihau gwasanaethau presennol, gohirio cynlluniau i ehangu neu gyflwyno gwasanaethau newydd, neu hyd yn oed gau.

Dangoswyd hyn yn glir pan gaeodd pedwar gwely lloeren i gleifion mewnol yn Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi. Fe wnaethant ddweud wrthyf fod hyn wedi cael ei orfodi arnynt gan gostau cynyddol ac incwm sy'n gostwng, er eu bod wedi torri costau'n sylweddol, a'u bod bellach yn mynd i mewn i sefyllfa anghynaliadwy, gan roi'r elusen gyfan mewn perygl. Dywedodd Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam nad yw'r model cyllido presennol yn diogelu gofal hosbis yn y dyfodol, ac nad yw'r gwaith y mae hosbisau'n ei wneud yn cael ei gydnabod.

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno fframwaith comisiynu newydd erbyn mis Ebrill, fel y nodwyd, ond mae'n digwydd yn rhy hwyr, ar ddiwedd tymor y Senedd. Mae Marie Curie yn rhybuddio bod hosbisau'n rhan allweddol o system gofal lliniarol a gofal diwedd oes gymhleth sydd ar ymyl y dibyn. Adroddodd Hospice UK a Hosbisau Cymru fod dros 90 y cant o hosbisau yng Nghymru yn disgwyl llai o gymorth i ysbytai a chartrefi gofal, ac mae bron i dri chwarter sydd ag unedau cleifion mewnol yn rhagweld cau gwelyau. Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor yn dangos bod arhosiad 14 diwrnod mewn hosbis yn costio £5,708, o'i gymharu â £6,860 ar gyfer yr opsiwn rhataf mewn ysbyty, gan sicrhau arbedion sylweddol i wariant cyhoeddus, ond mae cyllid Llywodraeth Cymru oddeutu 30 y cant ar gyfartaledd o gostau hosbis ledled Cymru. Mae hosbisau yng Nghymru hefyd yn cael llai o gyllid craidd nag yn Lloegr, a'r Alban hefyd—

17:25

Er bod hosbisau'n parhau i fod yn ymrwymedig i godi arian elusennol, rhaid mynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn os yw eu gofal clinigol allweddol i barhau. Diolch yn fawr.

Cefais y fraint dros y blynyddoedd o weithio gyda hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd. Maent yn sefydliad hollol anhygoel. Mae ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu yn yr hosbis, gyda'u cyfleusterau gwelyau mewnol ac amrywiaeth o weithgareddau a therapïau cefnogol, yn ogystal ag yng nghartrefi pobl, yn hollbwysig, yn caniatáu i gymaint o bobl farw gydag urddas wedi'u hamgylchynu gan gariad a chysur amgylchedd cyfarwydd a theulu. Mae'n sefydliad hynod drawiadol ym mhob ffordd. Maent yn codi swm anhygoel o arian bob blwyddyn trwy amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau, gan gynnwys hanner marathon Casnewydd yr wyf wedi cymryd rhan ynddo bron bob blwyddyn y cafodd ei gynnal.

Rhaid i mi ddweud fy mod yn cydnabod y pwysau y mae eraill wedi'u crybwyll. Rwy'n adnabod Emma Saysell yn dda iawn, ac mae eu pwysau cyllidol presennol yn enfawr. Mewn gwirionedd, maent wedi gosod cyllideb ddiffyg o £250,000 ar gyfer eleni, a byddant yn gosod cyllideb ddiffyg arall ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27. Mae ganddynt amrywiaeth eang iawn o siopau manwerthu, nid yn unig yng Nghasnewydd ond yn yr ardal gyfagos, gan eu bod yn gwasanaethu ardal ddaearyddol ehangach, ac mae'r fasnach fanwerthu honno wedi dioddef. Nid yw'r siopau hynny'n perfformio cystal oherwydd costau cynyddol ac effaith llai o ymwelwyr â'r stryd fawr, a hefyd, wrth gwrs, mae llawer o aelodau o'r cyhoedd bellach yn gwerthu eu heitemau ar-lein, gyda gwahanol blatfformau ar-lein newydd yn annog ac yn caniatáu hynny. 

Maent yn ymwybodol hefyd, Ddirprwy Lywydd, y byddant yn gweld cynnydd yn nifer y cleifion, gan greu galw ychwanegol am eu gwasanaethau hanfodol, oherwydd y boblogaeth sy'n heneiddio sydd gennym, sy'n mynd i gynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae'n her enfawr i'r sector, yn cynnwys Hosbis Dewi Sant, allu ateb y galw cynyddol hwnnw tra bod ganddynt y costau cynyddol sy'n rhoi cymaint o bwysau ar eu model cyflawni.

Ac wrth gwrs, mae'r un peth yn wir i Tŷ Hafan, yr wyf hefyd yn gyfarwydd iawn ag ef. Mewn gwirionedd, mae gennyf deulu ar hyn o bryd sydd wedi cysylltu â mi i ddweud pa mor hanfodol yw'r gwasanaethau y mae Tŷ Hafan yn eu darparu i'w teulu. Mae gan eu mab Patrick, sy'n wyth oed, gyflwr genetig prin, rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn, caiff ei fwydo drwy diwb ac mae ganddo anawsterau dysgu difrifol a phroblemau synhwyraidd. Weithiau mae ei ymddygiad yn heriol ac yn aml nid yw'n cysgu am fwy na dwy awr y nos. Mae hyn yn golygu bod angen cefnogaeth ar rieni Patrick, Collette a Matt, ac ar ei frodyr, Vincent a Sam yn wir. Mae'n llawer mwy nag anghenion personol Patrick ei hun o ran y gefnogaeth sydd ei hangen ar y teulu, ac fe wnaethant ddarganfod bod Tŷ Hafan yn cydnabod hynny'n bendant ac yn darparu cefnogaeth i'r teulu cyfan. Mewn gwirionedd, mae Collette yn dweud wrthyf eu bod, bob hyn a hyn o fisoedd, yn cael cynnig gwely sydd wedi'i ganslo ar fyr rybudd yn Tŷ Hafan. Byddant yn cael galwad ffôn yn gofyn a fyddai Patrick yn hoffi dod i mewn yfory am rai dyddiau, ac mae hynny'n achubiaeth fawr i'w teulu. Mae ganddynt hyder llwyr yn y gwasanaethau meddygol sydd ar gael yno yn Tŷ Hafan, ac mae'n caniatáu iddynt dreulio peth amser gyda'u meibion eraill, Sam a Vincent, er mwyn galluogi'r teulu i wneud y pethau syml y mae teuluoedd eraill yn eu cymryd yn ganiataol ac sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae tad Patrick, Matt, yn dweud wrthym ei bod hi'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn ariannu gofal hosbis yng Nghymru yn briodol, gan gynnwys Tŷ Hafan, oherwydd mae'n achubiaeth fawr i deuluoedd sy'n wynebu'r gwaethaf oll. Mae'n bwysig dangos bod Cymru'n wlad dosturiol, ac mae cael cefnogaeth Tŷ Hafan yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac yn cadw cymaint o deuluoedd rhag methu ymdopi o gwbl. 

Felly, gyda'r holl gefndir y credaf yn onest fod yr Aelodau yma'n gwybod yn iawn amdano, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda hosbisau i ddatblygu'r model ariannu cynaliadwy allweddol a hanfodol y maent yn gweithio tuag ato.

17:30

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Yn ddiamau, byddwn yn crybwyll nifer o'r ystadegau a fydd yn cael eu hailadrodd, gan ei fod yn faes mor bwysig. Wrth gwrs, mae profiad gan lawer ohonom eisoes o'r gwasanaeth a ddarperir gan hosbisau ledled Cymru, felly mae'n faes mor bwysig i'w archwilio. A gaf i ddiolch i'r holl elusennau hynny sy'n gwneud cymaint o waith rhagorol yn y maes—elusennau yn fy ardal i, fel Hosbis Dewi Sant, Hosbis y Cymoedd, Helping Hands, Tŷ Hafan ac eraill sy'n gweithredu yn yr etholaeth, gan ddarparu cymorth amhrisiadwy i gleifion a'u teuluoedd yn y cyfnod anoddaf ym mywydau pobl?

Hoffwn dynnu sylw yn benodol at Tŷ Hafan, a grybwyllwyd eisoes gan Julie Morgan a John Griffiths—yr hosbis a'r elusen honno sy'n gofalu am blant a theuluoedd plant. Y llynedd, cefnogodd yr elusen 477 o deuluoedd, gyda 437 o deuluoedd eraill yn derbyn cymorth mewn profedigaeth. Cefnogodd dros 1,000 noson o seibiant a darparodd 280 noson o ofal diwedd oes a chymorth rheoli symptomau. Ddirprwy Lywydd, y gwir amdani, wrth i dechnolegau meddygol ddatblygu, yw ein bod yn byw'n hirach, a bydd hyn yn anochel yn cynyddu'r galw am ofal lliniarol ar ddiwedd oes. Ac eto, fel y mae Hospice UK yn amcangyfrif, nid yw un o bob pedwar o bobl yn cael y gofal lliniarol arbenigol sydd ei angen arnynt, yn aml o ganlyniad i gael eu hymyleiddio a'u hallgáu, sefyllfa a waethygir gan wasanaethau a chyllid anghyson a thameidiog.

Yn ogystal, mae'r sector hanfodol hwn wedi'i daro gan gostau cynyddol, fel y clywsom, megis y cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr a phrinder gweithlu. Ni allwn ganiatáu i ofal annigonol fod yn rheswm i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwthio i ystyried dod â'u bywydau i ben mewn anobaith, a'r gwir amdani yw bod hyn eisoes yn wir yn achos gormod o bobl. Canfu arolwg o 14 hosbis wirfoddol Cymru fod 30 y cant eisoes yn lleihau nifer y gwelyau neu'n torri gwasanaethau, tra bo dros 70 y cant o'r rhai ag unedau cleifion mewnol yn disgwyl i o leiaf un gwely gau, naill ai dros dro neu'n barhaol.

Nid wyf yma heddiw i roi fy marn ar y Bil marw â chymorth, sy'n ddadl ar gyfer adeg arall a lle arall, ond mae'n rhaid i'r sgwrs ynghylch marw â chymorth daflu goleuni ar sut rydym ni fel cymdeithas yn gofalu am y rhai sydd ar ddiwedd eu hoes a'r rhai sydd fwyaf angen cymorth. Yr hyn sydd ei angen arnom ar frys yw polisïau ariannol gwell i gynnal ein hosbisau. Mae angen model ariannu cynaliadwy hirdymor arnom ar gyfer hosbisau yng Nghymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn gyda'r brys y mae'n ei haeddu. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, fel y dywedasom, eisoes wedi addo rhoi hyn ar waith, yn ogystal â £40 miliwn ychwanegol dros dymor nesaf y Senedd, ac rwy'n annog pob plaid yma i wneud yr un peth.

Ddirprwy Lywydd, ni ddylai hwn fod yn fater gwleidyddol, ac yn sicr, nid wyf am ei wneud yn un. Rydym yn siarad am ofal ar adeg pan fo pobl ar eu mwyaf bregus. Mae'r sector hanfodol hwn yn darparu'r gofal a'r cymorth hanfodol hwnnw i gleifion a'u teuluoedd ac ni allwn danbrisio pa mor bwysig yw'r gwaith hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi'r cynnig hwn ac yn darparu'r cymorth hirdymor y maent ei angen mor daer i'n hosbisau. Diolch.

17:35

Mi ges i'r fraint o ymweld â hosbis Sant Cyndeyrn—St Kentigern—yn fy rhanbarth i ychydig cyn y Nadolig, a dweud y gwir. Mae'n gwasanaethu ardaloedd yn sir Ddinbych, sir y Fflint a sir Conwy, ac mi wnaeth yr ymweliad danlinellu, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i, y gwahaniaeth sylweddol y mae hosbisau o'r fath yn ei wneud i fywydau cymaint o bobl. Mi oedd hi mor ofidus i glywed staff yn dweud, i bob pwrpas, yn blwmp ac yn blaen, yn ystod yr ymweliad yna, fod y model o safbwynt darpariaeth hosbisau, i bob pwrpas, wedi torri. Dyw hynny ddim, efallai, yn rhywbeth newydd i nifer o bobl sy'n gyfarwydd â'r ddarpariaeth hosbisau yma yng Nghymru, ond maen nhw, fel rŷn ni'n gwybod, wedi gorfod gweithio mor, mor galed dros nifer o flynyddoedd jest i oroesi. Ond nawr, wrth gwrs, yn fwy diweddar, gyda'r pwysau sylweddol cynyddol ar y costau y maen nhw'n eu hwynebu, ynghyd â'r frwydr barhaus i godi arian—mae gwneud hynny nawr yng nghanol argyfwng costau byw yn ogystal yn gadael y sector mewn lle anodd eithriadol.

A gadewch inni fod yn glir, mae hosbisau'n hanfodol i'n gwasanaeth iechyd ehangach, fel y clywsom. Maent yn tynnu'r pwysau oddi ar ein GIG mewn cymaint o ffyrdd, ac rwy'n siŵr, pe baech chi'n gofyn i'r byrddau iechyd eu hunain ddisgrifio pwysigrwydd y sector hosbisau, ni fyddent yn ein gadael mewn unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r hyn y maent yn ei gyfrannu.

Nawr, nid yw ystadegau bob amser yn dweud y stori ddynol wrthym, ond maent yn amlwg yn dweud stori. Gwyddom fod mwy na 35,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru, a gallai hyd at 90 y cant o'r rheini elwa o ofal lliniarol y mae hosbisau'n rhagori ar ei ddarparu; mae 20,000 o blant ac oedolion yn cael eu cefnogi gan hosbisau bob blwyddyn; mae 800 o staff gofal clinigol yn cael eu cyflogi gan sefydliadau gofal hosbis. Nawr, dychmygwch pe na bai'r gwasanaethau hynny ar gael. Dyna un ffordd o danlinellu pa mor bwysig ydynt. Dychmygwch pe na byddent yno, a'r pwysau ychwanegol y byddai eu diflaniad, i bob pwrpas, yn ei roi ar ein hysbytai, ar ein practisau meddyg teulu a gwasanaethau cysylltiedig eraill, a dyna pam y mae'n hynod bryderus fod traean ohonynt, yn ôl Hosbisau Cymru, wedi gorfod lleihau eu gwasanaethau.

Nawr, staff a chyflogau, wrth gwrs, yw tri chwarter y costau, ac mae cynnydd Llywodraeth y DU i yswiriant gwladol y llynedd wedi gadael hosbis St Kentigern, er enghraifft, gyda bil ychwanegol o £65,000, heb unrhyw gymorth i adfer yr arian hwnnw. Mae hynny'n bryder enfawr. Wel, dyna'r realiti, ac maent yn ganlyniadau i benderfyniadau gwleidyddol. Maent wedi gorfod dibynnu ar y gymuned i godi arian; dim ond 30 y cant o'u cyllid sy'n dod gan y Llywodraeth. Ac yn bersonol, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Tŷ Gobaith hefyd, yn gwirfoddoli a chodi arian ar ambell achlysur. Mae gan hosbis St Kentigern, yn benodol, 10 siop, ac maent yn dibynnu ar 300 o wirfoddolwyr i gefnogi'r gwaith codi arian a wnânt. Mae y tu hwnt i resymeg fod gwasanaeth mor bwysig yn dibynnu i bob pwrpas ar foreau coffi a rafflau. Gwyddom nad yw ewyllys da yn talu'r biliau.

Ond gwyddom hefyd nad hosbis yn unig yw St Kentigern, mae'n ganolfan. Mae'r caffi y maent yn ei redeg yno yn ganolfan allweddol i'r gymuned ehangach. Mae yna ymweliadau allgymorth â chleifion hefyd, i'w galluogi i aros yn eu cartref yn hytrach na mynd i'r ysbyty. Mae cymaint o effeithiau na ellir eu cyfrif y mae'r sefydliadau cymunedol hyn yn eu cael ar fywydau miloedd o bobl bob dydd.

Nawr, yr hyn y mae'r hosbisau'n gofyn amdano yw cynllun ariannu cynaliadwy, a soniais fod yr argyfwng costau byw parhaus yn cael effaith wirioneddol ar eu ffrydiau incwm. Mae gennyf bryderon gwirioneddol fod rhai o'r gwasanaethau hanfodol hyn, ac maent yn hanfodol onid ydynt, nid pethau braf i'w cael yn unig—. Y perygl yw y byddant yn lleihau ac yn diflannu yn y pen draw. Mae ein GIG eisoes o dan straen enfawr, ac mae hosbisau'n allweddol i leddfu'r baich hwnnw.

Mae un o bob pump o'n gwelyau ysbyty mewn defnydd gan bobl yn 12 mis olaf eu bywyd. Mae gennym saith o bob 10 diwrnod gwely gofal dwys pediatrig mewn defnydd gan blentyn â chyflwr sy'n cyfyngu ar eu bywyd. O'r £610 miliwn a wariwyd ar ofal iechyd i bobl yng Nghymru ym mlwyddyn olaf eu bywydau, gwariwyd dros £500 miliwn ohono ar ofal ysbyty. Felly, wrth inni anelu—pob un ohonom, rwy'n gwybod—i newid i system fwy ataliol o iechyd a gofal cymdeithasol i atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf, gwyddom y bydd angen gwasanaethau hosbis bob amser. Y lleiaf y gallwn ei wneud yw rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt i allu gwneud hynny. Diolch.

17:40

Y cyn Is-arlywydd Hubert Humphrey a ddywedodd,

'prawf moesol llywodraeth yw sut y mae'r llywodraeth honno'n trin y rhai sydd yng ngwawr bywyd... yng nghyfnos bywyd... yng nghysgodion bywyd'.

Ein hosbisau sy'n cefnogi'r rheini yng nghyfnos bywyd ac yng nghysgodion bywyd. Yng ngoleuni dyfyniadau fel hyn y cyflwynwn y ddadl hon heddiw ar hosbisau.

Hoffwn gydnabod y gwaith gwych y mae hosbisau a darparwyr gofal lliniarol yn ei wneud ledled Cymru, ac yn enwedig yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru. Bob dydd, mae'r staff a'r gwirfoddolwyr ymroddedig hyn yn darparu gofal o ansawdd uchel i'r rhai sydd ar ddiwedd eu hoes, gan gynnig cysur, urddas a chefnogaeth hanfodol i'w teuluoedd. Yn aml, nid yw eu gwaith yn weladwy, ond fel y clywsom heddiw eisoes, mae'n amhrisiadwy.

Ni allwn siarad am ddathlu eu gwaith heb gydnabod y pwysau digynsail y maent yn ei wynebu. Rydym eisoes wedi clywed bod hosbisau'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau cynyddol, prinder gweithlu a galw cynyddol am eu gwasanaethau. Rydym wedi clywed am y cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr, biliau ynni cynyddol a chostau gweithredu eraill sy'n gorfodi sefydliadau sy'n bodoli'n bennaf i ofalu am bobl fregus i mewn i argyfwng ariannol.

Rwyf wedi clywed hyn yn uniongyrchol gan Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam, sydd wedi bod yn dathlu yn ddiweddar—deng mlynedd ar hugain o waith rhagorol yn Wrecsam yn cefnogi'r dref a'i chymunedau cyfagos. Fel pob hosbis yng Nghymru, maent yn wynebu pwysau ariannol, ac maent bellach yn gorfod cyllidebu diffyg ar gyfer y flwyddyn sy'n dod. Clywsom gan Peter Fox, a darllenais yr un arolwg gan Hospice UK ynglŷn â'r ffaith bod cymaint o hosbisau'n gorfod lleihau nifer y gwelyau a thorri gwasanaethau. Ond yn ogystal â'r hyn a ddywedodd Peter Fox, mae'r un arolwg yn dangos bod tri chwarter yr hosbisau'n ofni y byddant yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i ddarparu'r cymorth y maent yn ei ddarparu ar hyn o bryd i ysbytai ac i gartrefi gofal hefyd.

Mae'n bwysig pwysleisio nad y sector ei hun sy'n achosi'r pwysau hwn. Mae'n ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y lle hwn, a chan wleidyddion yn San Steffan hefyd, penderfyniadau sy'n cael eu gwneud i gynyddu cost cyflogaeth heb ddarparu cymorth i fynd law yn llaw â hynny, gan adael y sefydliadau hyn i ysgwyddo baich y galw cynyddol heb gyllid digonol. Dyna pam y credwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu'n gyfrifol ac ar frys i sicrhau bod y rhai sydd ar ddiwedd eu hoes yn derbyn y gofal a'r urddas y maent yn ei haeddu.

Gan fynd yn ôl at Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam, pan agorasant 30 mlynedd yn ôl, roedd ganddynt gostau rhedeg o oddeutu £1 filiwn y flwyddyn, gydag 80 y cant ohono'n gyllid statudol, ac roedd yn rhaid iddynt godi'r 20 y cant ychwanegol. Heddiw, mae gan yr un hosbis gostau rhedeg o oddeutu £5.6 miliwn, ac mae'r sefyllfa wedi'i throi ar ei phen. Mae bellach yn codi 80 y cant o'i harian, gyda dim ond 20 y cant yn dod o ffynonellau statudol. Mae hyn yn dangos y newid yn y cyfnod hwnnw o 30 mlynedd rhwng y ffordd y câi hosbisau eu hariannu a'r ffordd nad ydynt yn cael eu hariannu'n ddigonol heddiw.

Ac fel y mae eraill wedi awgrymu eisoes, gadewch inni beidio ag anghofio bod hosbisau'n gwneud mwy na darparu gofal tosturiol. Maent yn tynnu pwysau oddi ar y GIG drwy gefnogi cleifion yn eu cymuned, yn eu cartrefi eu hunain, ac mewn unedau cleifion mewnol. Mae hosbisau'n lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty, yn helpu cleifion i adael yr ysbyty yn gynt, ac yn caniatáu i staff y GIG ganolbwyntio ar ofal acíwt hollbwysig. Felly, pan fydd hosbisau'n ei chael hi'n anodd, mae'r effaith ganlyniadol i'w theimlo ar draws y gwasanaeth iechyd, gan gynyddu'r straen ar ysbytai a chartrefi gofal sydd eisoes o dan bwysau. A dyna pam ein bod ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn galw am fodel ariannu cynaliadwy newydd, gan gynnwys £40 miliwn ychwanegol dros dymor y Senedd nesaf, i roi sicrwydd a sefydlogrwydd i hosbisau. Mae hyn yn gydnabyddiaeth fod y sefydliadau hynny'n darparu gwasanaeth cyhoeddus o werth aruthrol, a bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau eu bod yn goroesi.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i sefyll dros hosbisau, eu staff a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Galwn ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i anwybyddu'r argyfwng hwn, cyflwyno model ariannu cynaliadwy, a darparu'r adnoddau sydd eu hangen ar y gwasanaethau hanfodol hyn i barhau â'u gwaith anhygoel. Diolch yn fawr iawn.

17:45

Diolch yn fawr i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig hwn, sy'n agos iawn at galon Paul Davies mae'n siŵr, oherwydd yr wythnos diwethaf, siaradais â rhywun o ogledd sir Benfro a ddywedodd pa mor ofnadwy oedd hi fod hosbis Shalom wedi cau, a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar unigolion a'u teuluoedd. Nawr, fe ŵyr pob un ohonom fod llawer o bobl yn dymuno marw gartref, ond wrth gwrs, nid yw hynny bob amser yn bosib. Mae astudiaethau wedi dangos mai gofal lliniarol yn y cartref yw'r model rhataf, ac mai gofal ysbyty yw'r model mwyaf costus, gyda gofal hosbis yn dir canol cwbl hanfodol. Er gwaethaf hyn, mae bron i un o bob pum gwely ysbyty yng Nghymru mewn defnydd gan bobl yn 12 mis olaf eu bywydau, yn ôl Marie Curie, ac yn anffodus, roeddwn wrth wely o'r fath bythefnos yn ôl.

Mae'r corff o dystiolaeth ac awgrymiadau polisi eisoes gennym o ran gofal hosbis. Cyhoeddwyd adroddiad gan Dŷ'r Arglwyddi yn 2024 ar gyllid y wladwriaeth i hosbisau yn Lloegr, lle codwyd llawer o'r materion a wynebwn yng Nghymru, gydag atebion yn cael eu cynnig. Bryd hynny, galwodd Hospice UK am strategaeth bum mlynedd ar gyfer y pedair gwlad. Byddai hynny'n cynnwys cyllid statudol, ymgyrch roddion genedlaethol, y mae Hospice UK eisoes wedi'i chychwyn, a syniadau eraill ynghylch ffrwd ariannu hirdymor i hosbisau, er mwyn osgoi cau hosbisau fel hosbis Shalom yn etholaeth Paul Davies. Byddai hyn hefyd yn atal y loteri cod post a welwn ar hyn o bryd, sy'n golygu bod ardaloedd cyfoethocach yn cael gwell gofal.

Pan ddarperir gofal hosbis a gofal lliniarol, mae o ansawdd uchel, ac yn newid bywydau unigolion a'u teuluoedd. Gwelais hynny â'm llygaid fy hun yn Holme Tower ym Mhenarth a Hosbis y Ddinas yn yr Eglwys Newydd. Rwyf hefyd wedi gweld pa mor wych yw Tŷ Hafan pan wnaethant gefnogi fy mrawd a fy chwaer-yng-nghyfraith yn nyddiau olaf bywyd fy nai, ac am flynyddoedd wedyn.

Gan gefnogi'r hyn y mae Julie Morgan eisoes wedi'i ddweud, mae tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan ar farw â chymorth yn dangos bod y DU wedi bod yn arweinydd byd-eang mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Dangosodd tystiolaeth fod gofal lliniarol arbenigol mor effeithiol am leddfu symptomau fel bod llawer sy'n mynd i hosbisau—ac rwyf wedi gweld hyn—gan feddwl eu bod yn mynd yno i farw wedi sefydlogi ac wedi byw bywydau boddhaus wedyn am fisoedd lawer i ddod. Mae cyfradd ryddhau anhygoel o 50 y cant o hosbisau. Nid ydynt o reidrwydd yn lle y byddwch yn mynd iddo i farw; yn aml, mae'n lle i fynd iddo i sefydlogi, ac i sefydlogi'r feddyginiaeth.

Rwy'n gwerthfawrogi gwelliant Llywodraeth Cymru, a gwn fod hosbisau'n croesawu'r cynnydd mewn cyllid a'r gwaith parhaus gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygu model cyllido cynaliadwy. Ond hyd yn oed pan gafwyd y cynnydd hwnnw i'r cyllid yn 2024, mae pob un ohonom yn cofio bod Hospice UK wedi nodi'n glir nad oedd y cyllid yn mynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol y mae hosbisau Cymru’n eu hwynebu. Dywedodd Marie Curie yr un peth. Pe bai'r hyn oedd Llywodraeth Cymru’n ei wneud yn ddigon, ni fyddai Hospice UK yn gofyn iddynt gymryd camau brys.

Nawr, byddai derbyn gwelliant y Llywodraeth yn golygu dileu pwynt 3—rhywbeth na allaf ei gefnogi. Byddai dileu pwynt 3 yn golygu dileu'r canlynol: fod '30 y cant'—o hosbisau Cymru—

'eisoes yn lleihau gwelyau neu'n torri gwasanaethau'.

Ni ddylem ddileu hynny. 'Fod dros 70 y cant'—o hosbisau Cymru—

'sydd ag unedau cleifion mewnol yn disgwyl i o leiaf un gwely gau dros dro neu'n barhaol'.

Ni ddylem ddileu hynny. Fod tri chwarter yr hosbisau yng Nghymru

'yn ofni y byddant yn cael eu gorfodi i dynnu nôl y cymorth y maen nhw'n ei ddarparu ar hyn o bryd i ysbytai a chartrefi gofal.'

A yw'r Aelodau Llafur o ddifrif eisiau dileu hyn o'r cynnig a chuddio y tu ôl i'r frawddeg:

'Yn cydnabod canfyddiadau arolwg Hospice UK'?

Ym mywydau'r rhan fwyaf ohonom, nid ydym yn cydnabod y ffaith ein bod yn mynd i farw. Mae'r arferiad hwnnw'n golygu weithiau y gallwn anwybyddu gwaith hosbisau. Ond fe ddaw amser i bawb yma pan fyddwn yn dymuno gweld gofal diwedd oes da ar ein cyfer ni neu ein hanwyliaid. Dim ond un cyfle sydd yna i gael gofal yn iawn pan fydd rhywun yn marw. Mae gennym gyfle yn y lle hwn i ddiogelu dyfodol hosbisau am flynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr.

17:50

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cael cyfle heddiw i drafod ac i gytuno ar y rôl bwysig y mae hosbisau yn ei chwarae, yn dilyn y ddadl fer eto ym mis Medi. Hoffwn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru heddiw ar ddyfodol hosbisau a gofal lliniarol yng Nghymru.

Ond hoffwn ddechrau drwy ailddatgan yr egwyddor y mae'r Senedd hon yn gytûn yn ei chylch. Mae hosbisau'n gwneud cyfraniad eithriadol a dihafal at ofal diwedd oes. Maent yn darparu cymorth tosturiol arbenigol ar yr adegau anoddaf ym mywydau pobl, a hynny gydag urddas, proffesiynoldeb a thrugaredd. Rydym yn cydnabod eu pwysigrwydd ac yn gweithio'n agos gyda'r sector, fel y mae llawer o'r Aelodau wedi'i gydnabod, i ddeall a chefnogi'r pwysau y maent yn ei wynebu.

Mae datblygiadau diweddar yn tanlinellu difrifoldeb yr heriau hynny. Mae cau Hosbis Tŷ Shalom a chau gwelyau cleifion mewnol dros dro yn Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi wedi achosi pryder gwirioneddol a dealladwy i gleifion, teuluoedd, staff a chymunedau. Mae'r digwyddiadau hyn, fel y clywsom yn y ddadl, yn dangos yr angen am ddull cynaliadwy hirdymor o ariannu a chomisiynu hosbisau sy'n diogelu gwasanaethau hanfodol ac yn sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y dyfodol. Mae'r ddadl hon heddiw'n canolbwyntio ar fframwaith ariannu sefydlog ar gyfer hosbisau.

Ddirprwy Lywydd, dros dymor y Senedd hon, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cynnydd o £21 miliwn i gyllid hosbisau. Mae hyn yn cynnwys £5.2 miliwn ychwanegol bob blwyddyn, ynghyd â mwy na £9.5 miliwn mewn grantiau untro i helpu'r sector i reoli costau cynyddol. Yn fwyaf diweddar, fel y clywsom yn y ddadl, rydym wedi darparu £3 miliwn mewn cyllid cylchol i gynorthwyo hosbisau gyda phwysau chwyddiant a phwysau ar y gweithlu. Daw hyn ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol gan fyrddau iechyd, sydd wrth gwrs yn chwarae rhan ganolog yn comisiynu a chefnogi gofal hosbis.

Fodd bynnag, mewn cyfnod pan fo cyllid cyhoeddus o dan bwysau gwirioneddol, mae hyd yn oed yn bwysicach ein bod, gyda'n gilydd, yn sicrhau bod yr adnoddau sydd gennym yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosib. Y nod a rannwn gyda'r sector yw y dylid cyfeirio cyllid tuag at ofal sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i gysur, urddas ac ansawdd bywyd pobl. Mae hyn yn golygu cefnogi gwasanaethau i weithio'n effeithlon a sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir yn y lle cywir, gan gynnwys, yn bwysig, fel y clywsom, lleihau derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi. Mae byrddau iechyd a hosbisau oll yn chwarae rhan hanfodol yn cyflawni hyn. Drwy archwilio dulliau arloesol, gwella cydgysylltu a gwreiddio'r arferion gorau y clywsom amdanynt heddiw, gallwn sicrhau y gall yr adnoddau sydd gennym fynd mor bell â phosib i gefnogi gwaith y sector. Bydd cydweithio yn y ffordd hon yn cryfhau gofal lliniarol a gofal diwedd oes o fewn y cyllidebau sydd ar gael i ni, gan gadw'r tosturi, yr arbenigedd a'r gefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn y mae cleifion a theuluoedd yn gywir i'w disgwyl.

Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r ffigurau a gyflwynwyd gan Hosbisau Cymru a Hospice UK mewn perthynas â phwysau costau uniongyrchol a rhagamcanol, a chyfarfûm â nhw'n ddiweddar i drafod rhywfaint o'r pwysau hwn yn uniongyrchol. Mae'r ffigurau hynny'n cael eu hystyried yn ofalus ochr yn ochr â phwysau arall ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, ac er na allwn ragweld penderfyniadau cyllidebol wrth gwrs, rydym yn parhau'n ymrwymedig i ymgysylltu'n barhaus â'r sector i sicrhau bod y risgiau dwysaf yn cael eu deall a bod cymorth yn cael ei dargedu lle gall gael yr effaith fwyaf. Ond fel y clywsom yn y ddadl heddiw, mae angen mwy na chynnydd blynyddol i'r cyllid i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda chyd-bwyllgor comisiynu'r GIG a'r rhaglen strategol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes i ddatblygu dull newydd o gomisiynu gwasanaethau hosbis. Bydd y dull hwn yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol newydd.

Fodd bynnag, dim ond y dechrau yw cyhoeddi. Bydd angen i'r sector barhau i weithio gyda chomisiynwyr i nodi'r model cyflawni cywir—un sy'n deg, yn dryloyw ac yn cyd-fynd ag anghenion y boblogaeth. Mae'r ffocws cychwynnol wedi bod ar sefydlu arferion da wrth gomisiynu, gan adlewyrchu, fel y clywsom heddiw, yr heriau y mae hosbisau a sefydliadau ariannu yn eu hwynebu. Bydd yn dod â thryloywder i lefelau ariannu ac i ddarpariaeth gwasanaethau. Bydd hefyd yn gwneud argymhellion ar gyfer gwaith pellach i sicrhau model ariannu a chyflawni wedi'i gydgynhyrchu, lle mae heriau ac atebion yn cael eu deall a'u rhannu ar y cyd.

Mae ein dull ehangach o ymdrin â gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cyfuno cydgysylltu strategol, cyllid gwell, datblygiad y gweithlu a chanllawiau ar gyfer darparu gwasanaethau cyson. Mae'r rhaglen genedlaethol gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn parhau i hybu gwelliant ledled Cymru, gyda chefnogaeth fframwaith cymhwysedd Cymru, sy'n nodi'r sgiliau craidd a'r wybodaeth sydd eu hangen ar staff, a'r fanyleb gwasanaeth genedlaethol, sy'n diffinio sut y dylai gofal lliniarol a gofal diwedd oes da edrych ar draws pob lleoliad. Bydd gweithredu pob un o'r rhain yn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n gyson, yn deg ac i safon uchel, ble bynnag y mae pobl yn byw.

Ddirprwy Lywydd, nid yw'r cynnydd a wnawn gyda'n gilydd ond yn bosib oherwydd y bobl sy'n darparu'r gofal hwn bob dydd. Mae staff a gwirfoddolwyr yn cefnogi unigolion a theuluoedd mewn amgylchiadau a all fod yn emosiynol ac yn gorfforol heriol. Maent yn gwneud hynny gyda medrusrwydd, caredigrwydd ac ymrwymiad diysgog i'w gwaith. Hoffwn fynegi ein gwerthfawrogiad am eu hymroddiad. Ac wrth inni gloi'r ddadl hon, mae'n bwysig cofio pam y mae hyn yn bwysig. Y tu ôl i'r strwythurau, y trafodaethau ynghylch ariannu, y fframweithiau polisi, mae unigolion a theuluoedd yn wynebu rhai o'r adegau anoddaf yn eu bywydau. Caiff effaith gofal hosbis ei theimlo drwy leddfu poen, yn y geiriau o gefnogaeth a roddir i anwyliaid, ac yn yr urddas a roddir i bobl ar ddiwedd eu hoes. Mae sut y cefnogwn y rheini sy'n fwyaf bregus yn dweud llawer am y math o genedl yr ydym yn awyddus i fod. Nid ydym o dan unrhyw gamargraff am y pwysau sy'n wynebu hosbisau a'r system gofal lliniarol ehangach. Mae'r heriau'n real, ac fel y clywsom, maent yn tyfu, ond mae ein hymrwymiad i weithio gyda'r sector i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy, teg a gwydn yn parhau'n gadarn. Ein blaenoriaeth yw diogelu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau y gall pawb yng Nghymru ddibynnu ar gefnogaeth dosturiol ar ddiwedd eu hoes.

17:55

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heno. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'r staff, y gwirfoddolwyr a'r teuluoedd anhygoel sy'n cefnogi hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol ledled Cymru. Mae pob un ohonom yn cymeradwyo eu tosturi a'u hymrwymiad, ond ni all tosturi'n unig gynnal system sydd mor amlwg o dan straen. Mae'r ddadl heddiw wedi datgelu bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru ar groesffordd hollbwysig. Mae bron i un o bob pum gwely yng Nghymru mewn defnydd gan rywun yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd, fel y nodwyd yn y ddadl, ac mae un o bob 14 ymweliad ag adran frys yn gysylltiedig â rhywun ar ddiwedd eu hoes. Ac eto, er bod llawer o bobl yn mynegi dymuniad i farw gartref neu'n agos at adref, mae gormod yn treulio eu dyddiau olaf yn yr ysbyty heb y gefnogaeth ddiwedd oes briodol sydd ei hangen arnynt. Nid am fod hosbisau'n methu y mae hynny'n digwydd, ond oherwydd bod y system o'u cwmpas yn methu. Mae hosbisau’n cefnogi oddeutu 20,000 o oedolion a phlant yng Nghymru bob blwyddyn, gan ddarparu gofal i gleifion mewnol, gofal yn y cartref, cymorth mewn profedigaeth a gwasanaethau hanfodol yn y gymuned.

Yn Nyffryn Clwyd, yn fy etholaeth i, rydym yn ffodus i gael hosbis wych St Kentigern yn Llanelwy, fel y soniodd Llyr Gruffydd yn y ddadl, ac y mae ei gwaith yn y gymuned a'r gefnogaeth a ddarperir i deuluoedd yn mynd ymhell y tu hwnt i ofal cleifion mewnol, ac fe wneuthum gyfarfod â nhw sawl gwaith i drafod y sefyllfa ariannol ddifrifol y mae hosbisau ledled Cymru yn ei hwynebu gyda fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar a Mark Isherwood, yn gynharach yn nhymor y Senedd hon.

Fel y mae eraill wedi sôn yn y ddadl, mae hosbisau oedolion yn cael eu gorfodi i godi, ar gyfartaledd, 70 y cant o'u costau rhedeg drwy roddion elusennol, sy'n cyfateb i oddeutu £30 miliwn y flwyddyn wedi ei godi drwy foreau coffi, siopau elusen a digwyddiadau cymunedol er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol yn unig. Nid yw'r model hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir. Mae chwyddiant, pwysau ar y gweithlu a galw cynyddol yn gwthio gwasanaethau i ymyl y dibyn. Rydym eisoes wedi gweld y canlyniadau: gwelyau'n cael eu cau, gwasanaethau'n lleihau, ac yn drasig, hosbisau fel hosbis Tŷ Shalom yn etholaeth Paul Davies yn cau'n gyfan gwbl. Yn erbyn y cefndir hwnnw, nid yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £3 miliwn ar gyfer 2025-26 yn ddigon i fynd i'r afael â maint yr her, ac nid yw'n agos at allu gwneud hynny.

Dyna pam y mae'r  Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir, ac rydym wedi bod yn uchelgeisiol. Rydym wedi ymrwymo y bydd Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn buddsoddi £40 miliwn ychwanegol dros dymor y Senedd nesaf mewn hosbisau a gofal lliniarol, gan ddarparu'r hwb mwyaf i ofal diwedd oes yn hanes Cymru. Rydym wedi addo clustnodi cyllid fel bod hosbisau plant Cymru'n cael 50 y cant o'u costau gweithredu. Addawodd datganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ei hun ofal sy'n ddiogel, yn amserol, yn effeithiol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn effeithlon ac yn deg. Mae'r dyheadau hynny i'w canmol, ond nid yw dyheadau'n unig yn ariannu gwelyau ac yn cadw staff. Mae Marie Curie a Hospice UK wedi dweud yn ddiamwys, heb weithredu brys, y bydd mwy o wasanaethau'n cau, y bydd staff arbenigol yn cael eu colli, ac y bydd teuluoedd yn cael eu gadael heb y gofal y maent ei angen mor daer. Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar bob teulu yng Nghymru, ac mae sut y gofalwn am bobl ar ddiwedd eu hoes yn fesur o'n gwerthoedd fel cenedl. Amcangyfrifir y bydd y galw am ofal lliniarol yn cynyddu 25 y cant dros y 25 mlynedd nesaf, felly mae buddsoddi mewn gofal lliniarol yn hanfodol.

Ddirprwy Lywydd, mae'r ddadl hon wedi dangos bod cytundeb eang ar draws y Siambr hon ynghylch gwerth hosbisau, ymroddiad y rhai sy'n gweithio ynddynt a'r pwysau cynyddol y maent yn eu hwynebu. Ond yr hyn sydd ar goll yw gweithredu. Mae'r cynnig hwn yn rhoi cyfle clir heno i'r Senedd hon gydnabod maint yr her ac i ymrwymo i ddyfodol cynaliadwy ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yr Aelodau ar bob ochr yn pleidleisio o blaid ein cynnig heb ei ddiwygio heno. Diolch yn fawr.

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw'r cwestiwn amserol ychwanegol, a fydd yn cael ei ofyn gan Rhun ap Iorwerth.

Pont Menai

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr oedi i waith cam 2 ar bont Menai? TQ1432

Heddiw, rhyddheais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi diweddariad ar waith cam 2 ar dirnod hanesyddol 200 oed pont Menai. Mae'n seilwaith hanfodol ac yn nodwedd eiconig o amgylchedd adeiledig gogledd Cymru, ond wrth gwrs, rhaid i sicrhau ei ddiogelwch a'i gadernid strwythurol ddod yn gyntaf bob amser.

18:05

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Roedd rhaid i fi wirio efo fy staff heddiw, 'Allwch chi wirio’n union pa bryd wnaeth y bont yma orfod cau? Ydyn ni'n siŵr mai diwedd 2022 oedd hyn?' Ac, ie, diwedd 2022 oedd o, ac mae'r cyhoeddiad heddiw am oedi pellach i'r gwaith yma yn mynd i gael ei dderbyn efo rhwystredigaeth sylweddol gan y gymuned leol. Mae'n annerbyniol bod gwaith o drwsio pont, a gaeodd yn 2022, rŵan yn cael ei ymestyn tan 2027. Mae'n ganran nid ansylweddol o oes y bont 200 mlwydd oed yma. Mae'r hyn sydd wedi cael ei brofi yn lleol wedi amharu ar fywydau pobl mewn sawl ffordd: busnesau pobl, wrth gwrs, wedi dioddef; grwpiau cymunedol wedi gobeithio gallu dathlu'r daucanmlwyddiant wythnos nesaf, a'r bont wedi'i chwblhau a sicrwydd y byddai hynny yn bosib—dydy o ddim; ac mi fydd y pryderon yn parhau, wrth gwrs, am allu gwasanaethau cyhoeddus i groesi ar draws y Fenai, ac ati.

Mi wnaf i ddweud fy mod i yn croesawu'r ffaith bod ein dadleuon ni ar yr angen i gyfyngu ar faint o anghyfleustra sydd yna o ran cau y bont am gyfnodau neu i gael rheolaeth traffig am gyfnodau wedi cael eu clywed. A thra bod yr amserlen yn cael ei hymestyn rŵan, dwi'n deall y bydd y cyfnodau o reolaeth traffig cyn lleied ag ychydig o ddyddiau bob hyn a hyn. Mae hynny yn gam i'w groesawu, dwi'n meddwl. Ond, wrth gwrs, mi oedden ni wedi cael sicrwydd y byddai'r gwaith wedi'i hen orffen erbyn hyn, ac mae pobl yn teimlo, drwy'r amser, fod gennym ni Lywodraeth sydd ddim yn deall a ddim yn gwerthfawrogi beth fu effaith hyn.

Felly, y cwestiynau gennyf i. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei fod o'n gwthio am sicrwydd nad oes mwy o oedi i ddod. Dwi ofn gofyn bron, ond pa mor hyderus ydy o na fydd hwn yn ddyddiad fydd yn newid eto? Yn ail, dwi wedi bod yn siomedig bod y Llywodraeth, dros amser, wedi methu â chynnig cefnogaeth ariannol i'r busnesau oedd yn cael eu heffeithio pan oedden nhw angen hynny. Ond gadewch i mi ofyn hyn: pa waith fydd y Llywodraeth yn ei wneud, neu ba gynlluniau sydd yna i roi cefnogaeth i fusnesau i ailsefydlu ac i ddod dros yr anawsterau maen nhw wedi eu cael ac i hybu economi Porthaethwy ac ardaloedd cyfagos? Ac yn drydydd, mi fyddwn i wir yn licio gwybod pryd rydyn ni'n debyg o dderbyn canfyddiadau ymchwiliad y Llywodraeth ar y gwaith i gynnal a chadw'r bont. Mae'r cwestiynau'n dwysáu, mae gen i ofn, o hyd. Mae pobl eisiau atebion am bam maen nhw'n gorfod dioddef yr holl darfu am gyn hired a sut mae hyn wedi gallu digwydd, ac mae'n bwysig bod y gwaith yna'n cael ei rannu yn gyhoeddus mor fuan â phosib.

Wel, a gaf i ddiolch i Rhun am ei gwestiynau pellach? Mae ailbroffilio'r gwaith yn golygu na fydd unrhyw gau, ac mae hynny o fudd i'r gymuned fusnes. Fe wnaethom wrando'n ofalus iawn arnynt, a'r dewis oedd: a ydym eisiau cau ffyrdd, cau pont neu a ydym eisiau cadw'r bont ar agor a chael y gwaith hwnnw wedi'i wneud mewn ffordd ddiogel ond gan gadw traffig i symud? Fe ddewisom yr olaf o'r rhain. Felly, er na chaiff ei gwblhau tan 2027, ni fydd ffyrdd yn cau. Bydd hynny o fudd i'r gymuned, bydd o fudd i fusnesau, bydd o fudd i'r sector cludo nwyddau sy'n dibynnu ar y pontydd dros y Fenai. Ac rwy'n credu ei bod yn werth nodi ar gyfer y cyd-destun fod hon yn bont 200 oed. Pan gafodd ei hadeiladu, fe wnaed hynny gyda'r nod o gario ceffylau a cherti’n unig. Ac mewn gwirionedd, os edrychwch chi o gwmpas y byd, mae pontydd ym mhobman ar hyn o bryd yn gorfod cael eu hadnewyddu, eu cynnal, eu hatgyweirio. Pont George Washington yn Efrog Newydd, er enghraifft, un o ddinasoedd cyfoethocaf y byd—caewyd honno yn 2025 ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Caewyd twnnel Mont Blanc yn llwyr hefyd, darn hanfodol o seilwaith rhwng Ffrainc a'r Eidal, rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd. Ac yn yr Alban, yn swydd Aberdeen, adroddodd y BBC ddoe ddiwethaf fod angen gwaith cynnal a chadw a thrwsio neu adnewyddu ar 200 o bontydd—200 o bontydd—yn swydd Aberdeen. Mae yna gymunedau wedi'u torri i ffwrdd oherwydd bod pontydd wedi'u cau'n llwyr ers 2023. Mae hon yn her i gymunedau a Llywodraethau ledled y byd, yn enwedig pan fo'n ymwneud â seilwaith pontydd y mae'n rhaid ei gynnal i'r safon uchaf.

Felly, rwy'n mynd i fod yn cyfarfod ag Equitix ddydd Gwener eto—nhw yw'r asiantau rheoli ar gyfer y bont hon—i geisio sicrwydd y bydd y gwaith o'r ansawdd uchaf yn cael ei wneud yn y misoedd i ddod ac na fydd unrhyw oedi. Rwy'n hyderus iawn na fydd unrhyw oedi pellach. Pam? Oherwydd ein bod ni'n buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen mewn cynnal a chadw ffyrdd. Rydym yn trwsio ein ffyrdd. O ganlyniad i'r gefnogaeth ariannol ychwanegol i gynghorau eleni, rydym yn mynd i gyrraedd carreg filltir hanesyddol: 200,000 o dyllau ffyrdd wedi'u hatgyweirio neu eu hatal; 500 km o ffyrdd wedi'u cynnal a'u trwsio o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Lafur Cymru. Mae hynny'n dangos pa mor bwysig i ni yw gwneud yn siŵr ein bod yn trwsio ein ffyrdd. Ac ar bontydd yn benodol, wrth gwrs, mae pont afon Dyfrdwy yn seilwaith hanfodol. Dyna fydd y prosiect mawr nesaf i fwrw ymlaen ag ef, adnewyddu honno. Hebddi, ni fyddai porthladd Caergybi yn bodoli yn ôl pob tebyg, oherwydd byddai'n ein torri i ffwrdd oddi wrth weddill Prydain. Mae hynny'n dangos pa mor bwysig i ni yw'r seilwaith ffyrdd yng ngogledd Cymru.

18:10

Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn hurt. Mae pobl ar Ynys Môn ac ar draws y Fenai wedi bod yn aros am bum mlynedd i'r atgyweiriadau hyn gael sylw. Rhaid eich bod yn teimlo embaras fan lleiaf am yr hyn sy'n digwydd yma. Rwy'n credu bod yna deimlad cynyddol gan bobl ar yr ynys ac ar y tir mawr nad ydych chi'n deall. Rwy'n credu bod y daith o amgylch pontydd y byd a gawsom gennych chi nawr yn dynodi hynny. Roeddwn i'n aros i glywed am bont y Golden Gate, sy'n digwydd bod wedi'i gefeillio â phont y Foryd yn y Rhyl ond ni wnaethoch sôn am honno. Ond mae yna gonsensws cynyddol nad ydych chi'n deall. Nid anghyfleustra bach yn unig mohono. Nid rhywbeth bach am hen bont sy'n rhaid ichi ddod i arfer ag ef. Mae'n fethiant i reoli prosiect, a dweud y lleiaf. Mae'n cael effaith wirioneddol ar gymunedau yn yr ardal ac ar draws y rhanbarth ehangach hefyd. Mae'r pontydd hyn yn cadw ein cymunedau mewn cysylltiad, yn cefnogi swyddi lleol, yn galluogi twristiaeth i ddigwydd yn llwyddiannus. Dro ar ôl tro yn y lle hwn rydym wedi trafod y problemau pan fo gwyntoedd cryfion a'r nerfusrwydd y mae'n ei achosi i bobl ar yr ynys, ac nid yw'n ymddangos eich bod o ddifrif o gwbl ynglŷn â hyn.

Felly, mae'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn yn gwestiynau sylfaenol: beth sy'n digwydd, pam y mae'n cymryd cymaint o amser, pam y mae'r amserlenni'n newid drwy'r amser, gan mai dyna sut y mae'n teimlo, pam y mae'r geiriau o sicrwydd mor amwys, a ble mae'r tryloywder ar hyn hefyd? Nid yw'r geiriau cynnes am gael sgyrsiau cryf gyda'r rheini sy'n gyfrifol ar lawr gwlad yn ddigon da hyn o bryd. Mae busnesau lleol yn dweud wrthym na allant gynllunio ymlaen llaw fel y byddent yn dymuno.

Felly, o ran cwestiynau yr hoffwn glywed ateb iddynt heddiw, pa wersi rydych chi'n eu dysgu nawr o fethiannau ar y prosiect hwn a fydd yn cael eu cywiro ar unwaith? Pryd y cawn ni amserlen glir, gredadwy y gallwn ddibynnu arni a pheidio â bod yn y lle hwn eto yn clywed am fethiant arall o ran yr amserlen? Beth yw'r costau oedi? Faint y mae hyn yn ei gostio i drethdalwyr yng Nghymru, yr oedi parhaus? Mae angen inni ddelio â hyn yn gyflym. Mae angen ei ddatrys yn fuan. Mae angen i bobl wybod eich bod chi o ddifrif yn ei gylch.

Rwy'n ofni mai'r hyn nad yw'r Torïaid yn ei ddeall yw'r angen i wneud yn siŵr fod iechyd a diogelwch yn cael ei roi yn gyntaf. Rydym yn clywed yn gyson gan y Torïaid am yr angen i anwybyddu safonau iechyd a diogelwch. Ni fyddwn ni byth yn gwneud hynny. Ni fyddwn byth yn gwneud hynny yn y gweithle. Ni fyddwn byth yn gwneud hynny gyda seilwaith trafnidiaeth chwaith, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cynnal ein pontydd a'n ffyrdd yn iawn. Mae wyneb gan y Ceidwadwyr, a orfododd gyni ariannol arnom, i bregethu wrthym ni ynghylch amserlen gynnal a chadw ein hasedau.

Soniais am swydd Aberdeen. Oherwydd cyni mae gan swydd Aberdeen 200 o bontydd bellach sydd angen gwaith atgyweirio a chynnal a chadw brys. Felly, ni chymeraf unrhyw bregethau gan y Ceidwadwyr ynglŷn â sut i gynnal seilwaith, o ystyried eu tanfuddsoddiad hanesyddol mewn pob math o seilwaith trafnidiaeth yn y DU. Ond byddwn yn sicrhau bod y darn eiconig hwn o amgylchedd adeiledig gogledd Cymru yn cael ei gwblhau, ei fod yn cael ei ailbaentio'n llawn i ddathlu ei ddau ganmlwyddiant, ac fe fyddwn yn dathlu'r foment hanesyddol allweddol honno yn hanes y bont. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ei ddathlu'n fawr, ac yn falch ohono, a byddwn yn parhau gyda'r dathliadau hynny.

18:15
9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

Mae'r unig bleidlais heddiw ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hosbisau. A galwaf am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig, yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, dau yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Hosbisau. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 24, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, dau yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Hosbisau. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM9112 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith eithriadol y mae'r sector hosbis a gofal lliniarol yn ei wneud wrth ddarparu gofal a chymorth diwedd oes o ansawdd uchel i deuluoedd.

2. Yn cydnabod y pwysau ariannol digynsail ar hosbisau yng Nghymru o ganlyniad i gynnydd mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, prinder gweithlu, a'r galw cynyddol am eu gwasanaethau.

3. Yn cydnabod canfyddiadau arolwg Hospice UK.

4. Yn croesawu:

a) y cynnydd o £21 miliwn i gyllid hosbisau gan Lywodraeth Cymru dros dymor y Senedd hon; a

b) y gwaith sydd ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector hosbisau i ddatblygu model cyllido cynaliadwy.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, dau yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Hosbisau. Cynnig wedi’i ddiwygio.: O blaid: 25, Yn erbyn: 21, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Yr angen am gynllun cenedlaethol i wella gwasanaethau syndrom Tourette

Nawr, byddwn yn symud ymlaen at y ddadl fer. 

Os ydych chi'n gadael, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda.

Galwaf ar Lee Waters i siarad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o amser i John Griffiths, Carolyn Thomas, Mabon ap Gwynfor a Mark Isherwood.

Mae syndrom Tourette yn gyflwr cymhleth sy'n cael ei gamddeall, ac eto mae'n gyflwr cyffredin. Anhwylder ar yr ymennydd ydyw sy'n effeithio ar un o bob 100 o bobl. Mae hynny'n golygu ei fod fwy neu lai yr un mor gyffredin ag awtistiaeth neu epilepsi mewn plant, ond nid yw'n cael yr un gydnabyddiaeth gan y cyhoedd na chan y gwasanaeth iechyd.

Os yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod unrhyw beth am syndrom Tourette o gwbl, y ffaith ei fod yn gwneud i bobl regi a gweiddi yn gyhoeddus yw honno. Ac mae'r ffilm newydd ardderchog a enwebwyd gan yr Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu, I Swear—y buaswn yn ei hargymell i bawb—yn atgyfnerthu'r stereoteip hwnnw i ryw raddau. Mewn gwirionedd, nid yw mwyafrif helaeth y bobl â syndrom Tourette yn teimlo gorfodaeth i regi, ond fel y mae'r ffilm hefyd yn ei ddisgrifio, maent yn dioddef poen, gorbryder ac unigrwydd. Ac eto mae pobl yn meddwl bod syndrom Tourette yn ddoniol ac nid yw hynny'n wir. Mae'n achosi trallod a phoen mawr.

Nid yw syndrom Tourette ynddo'i hun yn gyflwr seicolegol, nac yn un ymddygiadol, ac nid yw'n cael ei achosi gan rianta gwael. Mae'n gyflwr niwroddatblygiadol cymhleth sy'n achosi effaith seicolegol sylweddol. Ond mae'n dynodi amhariad yn yr ymennydd, gan achosi ticiau, symudiadau corfforol sydyn neu synau sy'n anodd eu rheoli: awydd cryf i glipian llygaid neu blycio, i wingo neu i neidio, i sniffian neu i beswch, neu i weiddi neu wneud synau.

Gall ticiau ddod a mynd, maent yn gwaethygu ac yn gwella. Efallai y bydd troelli mewn cylchoedd neu daflu eich pen yn ôl y mis hwn yn newid i fod yn gyffwrdd y llawr bob ychydig eiliadau y mis nesaf. Ac mae'r rhai sy'n ei ddioddef yn dweud bod y teimlad ychydig bach fel tisian. Gallwch ei deimlo'n dod a rhaid i chi ei adael allan. Bydd y rhan fwyaf yn ceisio atal eu ticiau am gyfnodau byr pan fyddant mewn lleoliadau cyhoeddus, fel yr ysgol neu waith neu gyfarfodydd, ond mae'n anodd iawn. Ceisiwch chi atal tisian. Mae'n wirioneddol anghyfforddus ac yn flinedig. Ac yn aml iawn, pan fydd y teimladau sydd wedi'u hatal yn cael eu rhyddhau, gallant fod yn fwy dwys byth. Mae llawer o bobl â syndrom Tourette yn disgrifio byw gyda blinder cyson ac anghysur corfforol o orfod dal popeth i mewn drwy gydol y dydd, ac yn boenus yn sgil y ticiau di-baid sy'n dod i'r amlwg pan fyddant yn ddiogel yn eu cartref eu hunain o'r diwedd.

Bydd rhieni plant â syndrom Tourette's yn aml yn dweud wrthych fod eu plant yn ei cholli hi ar ôl dod adref o'r ysgol—nid yw ffrwydradau o ddicter a thrais yn anghyffredin. 'Ond roeddent yn iawn drwy'r dydd', bydd athro neu berthynas yn dweud, ond ychydig a wyddant ac ychydig y maent yn ei ddeall. Mae hynny'n gwneud i rieni deimlo nad oes neb yn eu credu a'u bod yn fethiant, ac mae'r plant yn aml yn teimlo cywilydd ac euogrwydd am frifo eu hanwyliaid a'u teimladau.

Mewn tua 10 y cant o achosion—ni wyddys faint yn union—mae pobl yn cael awydd anorchfygol i regi a dweud pethau sy'n amhriodol yn gymdeithasol. Dychmygwch fyw gyda hynny: y stigma, y cywilydd a'r feirniadaeth. Mae astudiaethau a gyhoeddwyd gan y British Medical Journal yn dangos bod anhwylder tic yn creu gofid a phoen sylweddol. Ac yn amlwg, mae hyn yn cael effeithiau negyddol ar yr hyn a ddisgrifiant—mewn iaith na fyddech chi ond yn ei chael mewn cyfnodolyn meddygol—fel gweithrediad academaidd, cymdeithasol a galwedigaethol. Ond ei roi mewn ffordd arall: mae'n annifyr, mae'n flinedig, mae'n brifo, ac mae'n ymddangos yn rhyfedd iawn, sy'n achosi stigma ac unigrwydd.

Ac nid yw ticiau'n dod ar eu pen eu hunain. Mae gan bobl â syndrom Tourette gyflyrau sy'n cyd-ddigwydd a all effeithio ar fywyd bob dydd lawn cymaint, neu'n fwy, na'r ticiau: anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, cyffredin iawn; anhwylder obsesiynol-gorfodaethol; gorbryder ac iselder. Ac mae'n gallu bod yn anodd ei ddioddef. Mae astudiaethau'n dangos cynnydd bedair gwaith drosodd yn y risg o farwolaeth drwy hunanladdiad ymhlith pobl â syndrom Tourette.

Mae symptomau fel arfer yn dechrau dod i'r amlwg yn ystod plentyndod cynnar, a phan fyddwch chi'n gofyn am help, weithiau mae'r anobaith yn dyfnhau. Gallwch deimlo eich bod yn cael eich camddeall, oherwydd eich bod chi. Gallwch deimlo'n unig, oherwydd eich bod chi. Mae'r plentyn rydych chi'n ei garu'n fwy nag unrhyw beth arall mewn trallod dwfn, ac mae eich teulu a'ch perthnasoedd o dan straen enfawr. Rydych chi'n wynebu cythrwfl ac nid oes unrhyw help, unman i droi.

Mae lefel y ddealltwriaeth ymhlith athrawon, meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol yn eithaf isel at ei gilydd. Ac i fod yn deg â nhw, nid ydynt hwythau'n gwybod ble i droi chwaith. Nid oes llwybr clinigol i'w ddilyn ar gyfer syndrom Tourette. Ni cheir canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, nac unrhyw gynlluniau i greu rhai, na darpariaeth gyson o wasanaethau. Nid oes llwybr diagnostig na llwybr triniaeth ar gael gan unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru. A chofiwch, mae hwn yn anhwylder sy'n effeithio ar lawn cymaint o bobl ag sydd ag awtistiaeth neu epilepsi mewn plant.

Mae plant sydd ag anhwylder ticiau sylweddol yn cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gyda'r amseroedd aros hir y mae pawb ohonom yn gyfarwydd â nhw. Ond nid yw syndrom Tourette ynddo'i hun yn gyflwr iechyd meddwl, er bod cyflwr iechyd meddwl yn aml yn dod yn ei sgil. Os nad oes cyflyrau iechyd meddwl difrifol yn ymgyflwyno, bydd CAMHS yn amharod i gefnogi. Ac nid oes gan CAMHS na gwasanaethau pediatrig arbenigedd i gefnogi anhwylderau tic. Felly, yn aml iawn, bydd teuluoedd yn cael gwybod na ellir cefnogi eu plentyn, gan eu gadael heb unman i droi. Efallai y cânt feddyginiaeth ar bresgripsiwn yn y pen draw, a bydd y ffocws wedyn ar fonitro effaith y cyffuriau, ond heb fawr o bwyslais ar y therapïau siarad y dengys tystiolaeth fod eu hangen i gyd-fynd â'r cyffuriau. Anaml iawn y cynigir therapi, a ddylai fod yn gam cyntaf i driniaeth.

Mae llawer o rieni'n pwyso am ddiagnosis gan y clinig syndrom Tourette cenedlaethol yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Geilw hynny nid yn unig am atgyfeiriad gan CAMHS, ond yng Nghymru, mae gofyn cael cytundeb y bwrdd iechyd hefyd i'w ariannu y tu allan i'r wlad. Mae hynny'n anodd ei gael a gall gymryd blynyddoedd. Bydd llawer yn wynebu brwydr bum mlynedd o gael eu bownsio o amgylch y system, a cholli rhannau hanfodol o'u haddysg ar adeg hollbwysig yn eu bywydau. A hyd yn oed gyda diagnosis, nid oes unrhyw wasanaethau ar gael i'w cyfeirio atynt beth bynnag.

Mae'r elusen Tourettes Action yn dweud wrthyf fod pethau'n gwaethygu, nid yn gwella. A gadewch inni gofio, mae hyn yn effeithio ar un o bob 100 o bobl, ond ni chaiff fawr o sylw. Pam nad oes unrhyw ganllawiau NICE, na llwybr clinigol? Sut y mae hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl? Nid yn unig fod plant ac oedolion yn methu cael diagnosis a thriniaeth, ond yn absenoldeb unrhyw ganllawiau, caiff pobl eu bownsio o amgylch y system, gan dagu'r GIG hyd yn oed yn fwy. Mae astudiaethau yn y BMJ yn dangos bod pobl ifanc ag anhwylderau tic yn defnyddio adnoddau gofal iechyd sylweddol, wrth iddynt gael eu bownsio o amgylch y system.

Mae un fflach o obaith yn fy mwrdd iechyd fy hun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle ceir cynllun peilot ar gyfer llwybr syndrom Tourette yn seiliedig ar arferion da o Great Ormond Street. Nid yw'n berffaith. Nid yw'n cynnig triniaeth arbenigol ar gyfer anhwylderau tic, ond mae'n cynnwys mynediad at seico-addysg i bobl ifanc a'u gofalwyr, a all helpu gyda dealltwriaeth a gwydnwch. Mae Hywel Dda yn dweud wrthyf nad oes galw am ddatblygu adnoddau neu wasanaethau pellach. Rwy'n ei chael hi'n anodd credu hyn. Ond er hynny, mae'n darparu model ar gyfer llinell sylfaen ddefnyddiol, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth y bydd hi'n ei wneud nawr i gael byrddau iechyd eraill i fabwysiadu hyn. Oherwydd yr hyn y mae Hywel Dda wedi'i wneud yn syml iawn yw cymhwyso'r arfer da presennol o rywle arall, ac rwy'n croesawu hynny'n gryf. Felly, pam nad yw eraill yn gwneud yr un peth, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud am y peth?

Fel y mae astudiaethau ar syndrom Tourette a gyhoeddwyd gan y British Medical Journal yn nodi, nid yn unig nad yw anhwylderau tic yn cael eu blaenoriaethu, caiff y sefyllfa ei gwaethygu gan strwythur gofal iechyd nad yw'n cefnogi cyflwr cymhleth sy'n galw am ddull amlddisgyblaethol o weithredu. Mae angen cynllun arnom i fynd i'r afael â hyn. Rwy'n falch fod y Llywodraeth yn gwneud cynnydd ar ei llwybr niwroamrywiaeth ehangach, ond nid yw'r agwedd benodol hon arno'n dangos digon o gynnydd. Mae'n amlwg fod angen darparu canllawiau a gwasanaethau i gefnogi pobl ag anhwylderau tic, nid yn unig plant ond oedolion hefyd. Mae syndrom Tourette yn gyflwr gydol oes, ac mae angen inni wneud yn well i'r rhai sy'n byw gydag ef.

Felly, galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau syndrom Tourette, gan gynnwys comisiynu llwybrau clir ar gyfer diagnosis a thriniaeth ym mhob bwrdd iechyd. Fe fydd yn arbed arian sydd bellach yn cael ei wastraffu ar fownsio pobl o gwmpas y system. Ac rwyf am iddynt bwyso ar NICE i ddatblygu a chyhoeddi canllawiau clinigol. Rwyf am iddynt ddarparu hyfforddiant ac arweiniad i weithwyr proffesiynol addysg ac iechyd i wella dealltwriaeth a chymorth i'r rhai yr effeithir arnynt, a gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector, fel Tourettes Action, ac arbenigwyr i godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â stigma ar draws cymunedau, ysgolion a gweithleoedd. Rwyf am inni roi ystyriaeth ddifrifol i hyn, oherwydd nid yw syndrom Tourette yn ddoniol. Diolch.

18:25

Mae syndrom Tourette, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth yn gyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes gwahanol a all gyd-ddigwydd, gan rannu rhai symptomau a nodweddion sy'n gorgyffwrdd. Mae syndrom Tourette, fel y clywsom, wedi ei gamddeall yn eang, wedi'i gamddisgrifio gan un o'r mythau mwyaf parhaus mai mater syml o iaith anweddus anfwriadol yw syndrom Tourette. Mewn gwirionedd, dim ond lleiafrif bach o bobl â syndrom Tourette sydd â coprolalia, rhegi anwirfoddol, gydag amcangyfrifon yn ei osod ar oddeutu 10 y cant o'r rhai sydd â'r cyflwr. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn profi cyfuniad o anhwylderau tic echddygol a lleisiol, fel clipian llygad, clirio'r gwddf neu ailadrodd synau.

Yng Nghymru, mae syndrom Tourette ymhell o fod yn brin. Mae'n effeithio ar oddeutu un o bob 100 o blant, ond mae teuluoedd yn parhau i wynebu amseroedd aros hir am ddiagnosis a diffyg cymorth arbenigol cyson ar draws y byrddau iechyd. Heb lwybrau priodol, mae llawer o blant yn cael eu gadael i frwydro gyda gorbryder, ynysu cymdeithasol a chyflyrau niwroddatblygiadol ychwanegol. Drwy herio camsyniadau a gwella ymwybyddiaeth, gallwn sicrhau bod plant ac oedolion â syndrom Tourette yng Nghymru yn cael y ddealltwriaeth, yr urddas a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu.

[Anghlywadwy.]—y ddadl bwysig hon heddiw. Rwyf wedi bod yn cynorthwyo etholwr sydd wedi bod yn ceisio cael diagnosis a chymorth Tourette i'w mab, ond sydd wedi cael ei throsglwyddo rhwng gweithwyr proffesiynol heb fawr o gynnydd. Mae'n ymestyn ei wddf, yn clicio'i dafod, yn clipian llygad, yn crafu ac yn brathu ei hun, llawer o ailadrodd geiriau, byth yn llonydd, dim synnwyr o berygl, yn gwisgo dillad y tu chwith allan neu'r tu ôl ymlaen, ac yn obsesu am bobl. Mae'n flinedig iddo ef a'i deulu. A thrwy ohebiaeth gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r bwrdd iechyd, syndod i mi oedd darganfod nad oes llwybr cyson i gael diagnosis o syndrom Tourette ar draws y byrddau iechyd, fel y nododd Lee. Mae teuluoedd ledled Cymru yn teimlo'n rhwystredig ac wedi'u hynysu, ac mae fy etholwr wedi gorfod brwydro bob cam o'r ffordd, ac mae ei phlentyn yn dal i fod heb gael y cymorth sydd ei angen arno.

Hoffwn weld llwybr clir a chyson, ynghyd â'r cymorth sydd ei angen ar ddarparwyr addysg i roi cefnogaeth briodol i blant sy'n byw gyda syndrom Tourette. Mae yna gwrs e-ddysgu am ddim defnyddiol sydd wedi'i achredu gan ddatblygiad proffesiynol parhaus o'r enw 'Understanding Tourette Syndrome', gyda phrawf ar y diwedd. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Tourettes Action. Hoffwn annog pawb i gymryd rhan, ac rwy'n awgrymu y gallai hwn fod yn rhan o hyfforddiant gorfodol i weithwyr proffesiynol addysg ac iechyd. Diolch.

18:30

Hoffwn sôn am achos Harry wyth oed o Rogiet yn Nwyrain Casnewydd, a gafodd ddiagnosis o syndrom Tourette yn bum mlwydd oed. Cyn y ddadl hon heddiw, ysgrifennodd mam Harry, Katie, ataf am yr angen i wella gwasanaethau'r GIG. Nid yw Harry wedi cael fawr o help os o gwbl gan y GIG ers ei ddiagnosis, meddai Katie, oherwydd, yn ei barn hi, nid yw'n ymddangos bod gofal iechyd yn bodoli ar gyfer cyflyrau fel hyn. Cyfeiriodd hefyd at ddiffyg diddordeb cyffredinol gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn anffodus, roedd y teulu'n teimlo bod yn rhaid iddynt ddod o hyd i niwrolegydd pediatrig preifat yn y pen draw am na allent weld llwybr clir yn y GIG, fel y clywsom gan Lee a chyfranwyr eraill i'r ddadl hon. Mae ticiau'n peri trafferth i Harry, ac mae hynny wedi effeithio ar ei iechyd meddwl hefyd, ac mae ei deulu'n dweud yn gywir ddigon nad yw'n deg ei fod yn cael ei adael i ymdopi heb gefnogaeth na chymorth digonol. Wrth gwrs, nid yw troi at niwrolegydd pediatrig preifat yn opsiwn realistig i lawer o'n teuluoedd sydd dan bwysau yn yr argyfwng costau byw presennol, ac mae angen inni wneud yn well o ran darpariaeth y GIG.

Diolch i Lee am ddod â’r ddadl yma ger ein bron ni. Mae'n sicr yn bwnc nad ydyn ni ddim yn ei drafod yn ddigonol. Yn wir, roedd yna ddadl, os ydw i'n cofio'n iawn, ar lawr y Senedd nôl yn 2022. Roedd yna ddeiseb gerbron y Pwyllgor Deisebau yn galw am lwybr ar gyfer y cyflyrau yma, ac mae'n bechod gweld nad oes yna ddatblygiad wedi bod ar hyd y llwybr yna. Ond yr un frawddeg bwysig roeddwn i eisiau jest cyfeirio ato yn sydyn iawn oedd yr hyn oedd Lee wedi’i ddweud:

'mae'r rhai sy'n ei ddioddef yn dweud bod y teimlad ychydig bach fel tisian. Gallwch ei deimlo'n dod a rhaid i chi ei adael allan.'

Yn ôl beth dwi'n ei ddeall, mae yna gefnogaeth wyddonol i'r teimlad yna, ac mae yna gymorth mewn lle ar gyfer pobl sydd yn byw efo tics a Tourette's, a chymorth ydy o ar gyfer rheoli ymddygiad. Dwi eisiau gweld os ydy'r Llywodraeth yma wedi ystyried cyflwyno'r gefnogaeth yna i bobl â Tourette's er mwyn iddyn nhw gael y cymorth ar hyd eu bywyd, neu ar hyd eu llwybr byw, fel eu bod nhw'n medru rheoli’r angen yna i wneud y weithred, beth bynnag ydy'r weithred, pan fydd yn dod ger eu bron nhw. Felly, dwi’n edrych ymlaen at glywed beth bynnag mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn y maes yma.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl. Sarah Murphy.

Diolch yn fawr am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Hoffwn ddiolch i Lee, wrth gwrs, am gyflwyno'r ddadl fer hon, a'r holl Aelodau—Carolyn, Mabon, John a Mark—am ddod â'u cefnogaeth i'r rhai sydd â syndrom Tourette i'r Siambr heno.

Fel y dywedodd yr Aelod, mae syndrom Tourette yn gyflwr sy'n effeithio ar oddeutu un o bob 100 o blant yng Nghymru, ac mae'n fwy cyffredin mewn bechgyn a dynion. Rwy'n adleisio Lee Waters eto wrth ddweud ei bod yn bwysig nodi nad yw syndrom Tourette yn gyflwr prin. Mae nifer yr achosion ohono'n debyg i awtistiaeth. Rwy'n gwybod bod y cyflwr yn aml yn cael ei gamddeall, fel y clywsom heno, ac i lawer o bobl, y gwir amdani yw bod ticiau'n peri gofid ac yn flinedig. Dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod ein hagwedd at syndrom Tourette, ticiau a'r holl wasanaethau niwroddatblygiadol yn adlewyrchu gwir raddfa'r angen yn ein cymunedau.

Ond fel y clywsom heno, nid yw lefel y cymorth sydd ar gael i deuluoedd lle mae angen iddi fod. Nid yw pob bwrdd iechyd yn darparu llwybr diagnosis a thriniaeth Tourette penodol, sy'n golygu, yn anffodus, fod amrywio sylweddol yn y gwasanaeth a ddarperir, a gall lefel y gofal fod yn fater syml o ble mae pobl yn byw. Nid yw hyn yn dderbyniol.

Wrth wraidd hyn mae'r diffyg canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ynghylch ticiau neu syndrom Tourette. Fodd bynnag, fel y clywsom heno, mae NICE yn argymell ymyrraeth ymddygiadol ar-lein o bell ar gyfer ticiau, a elwir hefyd yn ORBIT, a Neupulse, sydd â'r nod o wella opsiynau triniaeth i bobl ag anhwylderau tic cronig. Ond mae diffyg canllawiau cyffredinol gan NICE yn golygu bod teuluoedd yn rhy aml yn gorfod brwydro am atgyfeiriad trwy CAMHS, ac mewn llawer o achosion, rhaid iddynt ddibynnu ar ganolfannau arbenigol y tu allan i Gymru i gael diagnosis. Mae'r sefyllfa wedi'i disgrifio, yn briodol ddigon, fel un sydd angen ei gwella.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth, sy'n nodi dyletswyddau cyfreithiol clir i awdurdodau lleol a byrddau iechyd wella llwybrau asesu, mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth ôl-ddiagnostig wedyn i bobl ag awtistiaeth. Yn y cod, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi pobl sydd â chyflyrau sy'n cyd-ddigwydd.

Mae syndrom Tourette yn aml yn ymgyflwyno ochr yn ochr â gwahaniaethau niwroddatblygiadol eraill, gan gynnwys awtistiaeth ac ADHD, er fy mod yn cytuno â Mark heno y gallant fod yn wahanol iawn i'w gilydd. Mae'r cod hwnnw wedi cryfhau'r disgwyliad fod yn rhaid i wasanaethau ymateb yn briodol i anghenion pobl awtistig â chyflyrau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys dyletswyddau sy'n gysylltiedig â chymorth iechyd meddwl, cynllunio amlasiantaethol a darparu mynediad cyfartal at ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r cod awtistiaeth presennol, megis mynediad cyfartal, canfod cynnar, llwybrau clir i gefnogi ac adnabod anghenion sy'n cyd-ddigwydd, yn egwyddorion a fydd yn llywio'r ffordd yr awn ati i wella gwasanaethau i'r rhai sy'n byw gyda syndrom Tourette.

Er nad yw syndrom Tourette ei hun yn elwa o fframwaith cynllunio penodol ar hyn o bryd, rydym yn datblygu cod ymarfer niwroamrywiaeth newydd a fydd yn destun ymgynghoriad yn yr haf. Cyfeirir yn benodol at syndrom Tourette ochr yn ochr ag awtistiaeth ac ADHD. Rydym yn gwybod bod angen mwy o gysondeb, gwell arweiniad clinigol a gwell mynediad at gymorth arbenigol. Bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar niwroamrywiaeth yn canolbwyntio nesaf ar syndrom Tourette a phrofiadau pobl yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cod ymarfer newydd.

Rwyf hefyd eisiau nodi a chydnabod, er bod syndrom Tourette yn cael ei ystyried yn gyflwr niwroamrywiol, mae'r effaith ar iechyd meddwl emosiynol unigolion yn sylweddol. Mae angen ymwneud amlbroffesiynol. Mae'n fusnes i bawb. Ni chaiff data ar nifer y plant â syndrom Tourette ei gasglu fel mater o drefn fel grŵp poblogaeth penodol a gall fod yn cyd-ddigwydd o fewn y data ar amseroedd niwroddatblygiadol plant, ond ni chaiff ei ddadgyfuno am fod y llwybr Tourette yn amhenodol. Fe ddylid ac fe fydd hyn yn cael ei ystyried yn y dyfodol, fel y dylai'r rhwystrau i gael diagnosis gan y clinig syndrom Tourette cenedlaethol yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain, na ddylent fod yno os oes angen clinigol clir na ellir ei ddiwallu'n lleol. Mae'n gwbl resymol i rieni fod eisiau mynediad at wasanaethau arbenigol a gydnabyddir yn genedlaethol lle credant y gallai hyn helpu eu plentyn, a byddaf yn edrych ar hyn.

Mewn ymateb i gwestiynau penodol Lee Waters, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun ar gyfer gwasanaethau syndrom Tourette. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr ymchwil i gomisiynu adolygiad cwmpasu i ddeall nifer yr achosion yn well ac i edrych ar arferion gorau, gan gynnwys yn rhyngwladol, o ran gwasanaethau gofal a chymorth a llwybrau i'r rhai sydd â syndrom Tourette.

Ar NICE, byddaf yn ysgrifennu at NICE ac yn gofyn iddynt barhau â'r gwaith o ddatblygu a chyhoeddi canllawiau clinigol ar gyfer syndrom Tourette, gan eu bod wedi agor cyfle i gydnabod gwerth datblygu crynodeb o wybodaeth glinigol yn dilyn eu gwaith gyda Tourettes Action.

Mewn perthynas â hyfforddiant, hoffwn ddiolch yn fawr i Hywel Dda am ddatblygu llwybr gofal a phecyn hyfforddiant, a staff Tourettes Action am eu cynnig hyfforddiant cynhwysfawr i weithwyr proffesiynol, sydd wedi'i deilwra i anghenion sefydliad. Mae'r tîm niwroamrywiaeth cenedlaethol yn gweithio gyda Tourettes Action nawr ar eu pecyn hyfforddiant, i'w gyfieithu i'r Gymraeg ac i godi ymwybyddiaeth yn ehangach o syndrom Tourette. Mae'r tîm niwroamrywiaeth cenedlaethol hefyd wedi trefnu sesiynau hyfforddi am syndrom Tourette i helpu i uwchsgilio pobl sy'n gweithio yn y GIG, mewn gofal cymdeithasol, yn y byd addysg ac yn y sector gwirfoddol.

Ac yn olaf, gan weithio gyda'r trydydd sector ac arbenigwyr, gallaf gadarnhau bod cydweithwyr yn uned perfformiad a gwella y GIG yn edrych ymlaen at gyfarfod â chyfarwyddwr y ganolfan ar gyfer ADHD ac anhwylderau niwroddatblygiadol ym Mhrifysgol Nottingham a phrif weithredwr Tourettes Action. Fel y gofynnodd Lee Waters yn ysgrifenedig yn ddiweddar, mae'r arbenigwyr hynny'n edrych ymlaen at ddysgu a gwella drwy eu gwybodaeth.

Rwyf am orffen drwy ddweud ein bod ni gyda'n gilydd yn awyddus iawn i sicrhau bod pob plentyn, unigolyn ifanc ac oedolyn sy'n byw gyda syndrom Tourette yn gallu cael mynediad at gymorth amserol, tosturiol ac effeithiol. Diolch yn fawr i chi i gyd heno am godi ymwybyddiaeth o hyn a rhoi hwb da iddo ar ran cymaint o bobl ledled Cymru. Diolch.

18:35

Diolch i'r Gweinidog. 

Diolch i Lee am gyflwyno pwnc mor bwysig heno.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Siwrnai ddiogel adref, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:39.