Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/04/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn.  

Mae rhai ohonom ni newydd gerdded yn ôl mewn amser, 20 mlynedd a mwy yn ôl. Mae wedi bod yn brofiad eithaf atgofus i rai ohonom ni.

Mae rhai ohonoch chi yma am y tro cyntaf yn y Siambr yma y prynhawn yma. Mi gymeriff ychydig ddyddiau i ni ymgyfarwyddo â’r Siambr newydd, felly pawb â rhywfaint o amynedd tuag at ein gilydd wrth wneud hynny a dwi’n siŵr y down ni i gyd i ben.

Mi wnawn ni ddechrau yn yr un modd ag yr ydym yn dechrau bob prynhawn dydd Mawrth, gyda’r cwestiynau i’r Prif Weinidog. Ac mae’r Prif Weinidog yma i ateb y cwestiynau, a nawr mae’n rhaid i fi ffeindio Siân Gwenllian. Ble wyt ti? Siân Gwenllian, yn y cefn, i ofyn y cwestiwn cyntaf i’r Prif Weinidog.

Ffermydd Teuluol

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermydd teuluol? OQ62631

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth eang o gefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol—er enghraifft ein grantiau ar gyfer buddsoddi mewn offer, technoleg a gwelliannau ar ffermydd, y dysgu a'r datblygu sy’n cael ei gynnig gan Cyswllt Ffermio, a’r cyngor sydd ar gael gan ein gwasanaeth cyswllt fferm. Mae’r rhain i gyd yn dangos ein hymrwymiad i helpu’r byd amaeth yng Nghymru i gael dyfodol cynaliadwy.

Un ffordd ymarferol o ddangos cefnogaeth i ffermydd teuluol fyddai i chi ddwyn pwysau ar y Llywodraeth Lafur yn Llundain i edrych eto ar y newidiadau i’r dreth etifeddiaeth sydd ar y gweill. Mae wedi dod i fy sylw i y bydd y newidiadau i ryddhad yn cael effaith anghymesur ar ferched—merched sydd yn weddwon ffermio—oherwydd ni fyddai ryddhad treth y gŵr sydd wedi marw yn trosglwyddo i’r weddw er mwyn darparu dwbl y rhyddhad ar farwolaeth y weddw. Rŵan, dwi’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod hynna’n sylfaenol annheg. Mae’r teuluoedd wedi colli allan ar gyfleon i gynllunio ystadau a llunio ewyllysiau a fyddai’n rhoi sicrwydd i’r plant ar gyfer y dyfodol. Felly, a wnewch chi fynd ar ôl y pwynt penodol hwn efo’r Canghellor Llafur yn San Steffan? Dwi’n siŵr eich bod chi'n cytuno bod hwn yn fater o gydraddoldeb i ferched Cymru sydd angen eich sylw chi a sylw y Llywodraeth yma.

Diolch yn fawr. Fel rŷch chi’n ymwybodol, mae treth etifeddiant yn dreth sydd yn gyfrifoldeb i'r Deyrnas Unedig. Ac, wrth gwrs, roedd rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn. Ond dwi ddim wedi clywed yr ongl yna o’r blaen ac, felly, byddaf yn trafod gyda’r Gweinidog yma, cyn gweld os bydd angen trafod ymhellach, jest fel eu bod nhw yn ymwybodol o’r ongl yma i fater treth etifeddiant. Diolch yn fawr. Os oes unrhyw wybodaeth ychwanegol, byddai’n help pe gallech chi ei hanfon ataf fi.

Prif Weinidog, mae'r sector ffermio yn cael ei lorio ac mae o dan fygythiad mewn llawer o ffyrdd gan Lafur ar y naill ben a'r llall i'r M4, boed hynny o ran ymdrin â'r cynllun ffermio cynaliadwy, y rheoliadau dŵr, ac, wrth gwrs, TB, lle'r ydym ni'n gweld cynnydd o 23 y cant yn y gwartheg a laddwyd o gymharu â ffigurau 2023, ac, wrth gwrs, wedyn, treth ffermydd teuluol Llafur yn San Steffan. Prif Weinidog, rwy'n gobeithio bod eich Llywodraeth yn deall yn union sut mae'r pethau hyn, ac eraill, fel ofnau am glwy'r traed a'r genau, yn effeithio ar ein ffermydd teuluol a'n cymunedau gwledig, a'r effaith maen nhw'n ei chael ar lesiant meddyliol ffermwyr a llesiant meddyliol eu teuluoedd. Pa gymorth lleol mae eich Llywodraeth yn ei roi i gymunedau gwledig i gefnogi teuluoedd a ffermwyr sy'n ei chael hi'n anodd mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys gyda'u hiechyd meddwl? Ni all y bobl hyn gymryd amser i ffwrdd tan eu bod nhw'n teimlo'n well. Mae angen iddyn nhw allu cael mynediad at wasanaethau sy'n deall eu sefyllfaoedd unigryw.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n sensitif iawn ac yn ymwybodol iawn bod rhai yn y gymuned amaethyddol yn teimlo o dan bwysau, ond y gwir yw ein bod ni'n buddsoddi £366 miliwn y flwyddyn mewn amaethyddiaeth. Nid yw hwnnw'n swm bach o arian, ac mae'r gyllideb honno wedi cynyddu mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gwrando ar y ffeithiau yn hyn o beth. Ac o ran gwahanol daliadau, wrth gwrs, mae gennym ni bob math o daliadau sy'n helpu pobl, ar ben cynllun y taliad sylfaenol, sy'n dod i gyfanswm o £232 miliwn. Ond rydych chi'n eithaf iawn, mae'n rhaid i ni feddwl am sut mae pobl yn byw, sut mae eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio, ac ar adeg o ansicrwydd, pan nad ydych chi'n gwybod yn iawn beth sydd i ddod, rwy'n deall bod pobl yn teimlo nad ydyn nhw'n siŵr beth sydd rownd y gornel. Rydym ni i gyd yn teimlo ychydig felly, gyda Trump yn yr Unol Daleithiau, rwy'n credu, onid ydym ni? Felly, mae'r teimlad hwnnw o ansicrwydd yn ychwanegu at bryderon pobl, a dyna pam rydym ni wedi bod yn cyfrannu'n benodol at elusennau iechyd meddwl yn y sector amaethyddol swm nad yw'n ddibwys dros gyfnod hir o amser.

13:35
Trais mewn Ysgolion

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thrais a materion eraill yn ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru? OQ62603

Mae trais yn erbyn staff a disgyblion mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol. Byddwn yn trafod y materion hyn gydag ysgolion, awdurdodau lleol, yr undebau addysg a'r heddlu ym mis Mai, gan gytuno ar gyfres o gamau gweithredu i gynorthwyo ysgolion i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn amlwg, ddoe fe welsom ni ddiweddglo'r treial ar y digwyddiad ofnadwy yn Ysgol Dyffryn Aman, ac roeddwn i eisiau rhoi ar gofnod, rwy'n credu, edmygedd y Senedd gyfan tuag at y staff addysgu, a siaradodd mor ddewr, yn fy marn i, yn dod allan o'r treial ar ôl i'r achos llys ddigwydd. Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi fy nharo i, wrth siarad ag athrawon a staff addysgu ledled Cymru, yw pa mor gyffredin y mae trais a phroblemau ymddygiadol wedi dod yn ein hysgolion dros y blynyddoedd diwethaf. Siaradais ag athrawes ychydig wythnosau yn unig yn ôl yr oedd ei braich yn hollol borffor gan ei bod hi wedi cael ei dyrnu drosodd a throsodd yn yr ysgol gan ddisgybl. Roedd y ffordd ddifraw, os mynnwch chi, y dywedodd hi hynny wrthyf i yn hollol syfrdanol, ac mae hynny'n amlwg yn annerbyniol. Nawr, mae angen atebion arnom, onid oes, gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy'n siŵr y bydd y nodiadau o'ch blaen yn dweud wrthych i sôn am uwchgynhadledd ymddygiadol sydd ar fin cael ei chynnal, ac, er bod hynny i'w groesawu, nid yw hynny'n cymryd lle gweithredu. Rydyn ni wedi clywed am yr uwchgynhadledd hon ers misoedd; yr hyn sydd ei angen arnom ni yw gweithredu heddiw i atal trais yn ein hysgolion, yn y dyfodol. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â thrais a materion ymddygiadol eraill yn ein hysgolion?

Diolch yn fawr iawn. A gaf ei gwneud hi'n gwbl glir bod unrhyw fath o drais yn erbyn staff neu ddisgyblion mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau? Rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r effaith ar staff a disgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman. Maen nhw wedi bod trwy gyfnod torcalonnus, ac mae'n bwysig ein bod ni'n sefyll gyda nhw ac yn gefn iddyn nhw, a dyna pam y rhoddwyd pecyn ariannol sylweddol ar waith er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn yr ysgol honno.

Rydych chi'n gwbl gywir—ymddygiad gwael, mae'n edrych fel bod pethau'n gwaethygu, a dyna pam mae'r uwchgynhadledd hon yn cael ei chynnal. Gallaf eich sicrhau chi y bydd cyfres o gamau yn dod allan o'r uwchgynhadledd honno. Mae llawer o bethau ar waith eisoes. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar bob lleoliad addysg i ddarparu amgylcheddau dysgu diogel. Dylai fod gan bob ysgol bolisïau ymddygiad cadarn ar waith, a dylen nhw fod yn eu rhoi ar waith yn gyson. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod beth sy'n gweithio orau, sut rydym ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n eu rhoi ar waith ac yn eu cyflwyno ledled y wlad. Dyna fydd yn dod allan o'r uwchgynhadledd, rwy'n siŵr. Y peth allweddol am hyn yw bod yr holl chwaraewyr allweddol yn cymryd rhan, ac mae wedi bod yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio tuag ato ers cyfnod hir.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi, cyn i mi ofyn fy nghwestiynau i'r Prif Weinidog, i gondemnio cyfranogiad mewn rali o blaid annibyniaeth yn y Barri dros y penwythnos y band hip-hop Kneecap, sydd wedi annog trais yn erbyn cynrychiolwyr etholedig ac, yn wir, yr honnir eu bod nhw hefyd wedi gwneud sylwadau yn cefnogi Hamas a Hezbollah—y mae'r ddau yn sefydliadau terfysgol gwaharddedig yma yn y Deyrnas Unedig.

Prif Weinidog, canfu gwaith ymchwil gan Coram Family and Childcare fod rhiant plentyn o dan ddwy oed yng Nghymru yn gwario £4,400 yn fwy y flwyddyn ar gyfartaledd i anfon ei blentyn i feithrinfa yn rhan-amser na thros y ffin yn Lloegr. Mae hynny'n £1,700 yn fwy y flwyddyn na'r sefyllfa yn yr Alban ar hyn o bryd. Nawr, mae hyn oherwydd bod rhieni yng Nghymru yn cael llai o gymorth gyda chostau gofal plant nag unrhyw le arall ym Mhrydain. Allwch chi esbonio i ni heddiw, Prif Weinidog, pam nad yw'r Blaid Lafur yng Nghymru yn cefnogi nac yn gwerthfawrogi mamau a thadau sy'n gweithio'n galed trwy roi mynediad iddyn nhw at fwy o gymorth gyda gofal plant am ddim?

Gadewch i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ychydig o ffeithiau ynglŷn â hyn, iawn? Felly, mae gennym ni'r cynnig ar gyfer plant tair a phedair oed: rydym ni'n darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu i blant tair a phedair oed. Mae'r cynnig hwnnw ar gael i rieni sy'n gweithio ac, yn arwyddocaol, i rieni mewn hyfforddiant ac addysg fel y gellir eu hailsgilio. Nid yw hwnnw'n gynnig sydd ar gael yn Lloegr. Hefyd, mae'n werth pwysleisio ei fod ar gael am 48 wythnos y flwyddyn, o'i gymharu â 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr. Felly, rydym ni mewn sefyllfa wahanol yn hynny o beth. Ac, wrth gwrs, yr hyn a gawsom ni o ganlyniad i'n cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol nawr yw estyniad i'r rhaglen gofal plant Dechrau'n Deg i blant dyflwydd oed, ac rydym ni'n mynd i weld nawr yr ehangiad graddol hwnnw i'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn dyflwydd oed, gyda phwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nawr, gadewch i ni beidio ag anghofio bod eich plaid chi wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb honno, a oedd eisiau ymestyn y cymorth gofal plant hwnnw.

13:40

Prif Weinidog, mae gen i ofn na wnaiff eich esgusodion mo'r tro. Rydych chi wedi ceisio tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr. Gadewch i mi ddweud wrthych chi un o'r gwahaniaethau. Yn Lloegr, fe allwch chi gael cymorth gofal plant am ddim i fabanod o naw mis oed. Nid ydych chi'n cael y cymorth hwnnw os ydych chi'n byw yng Nghymru. Yng Nghymru, nid yw'r mwyafrif o bobl yn cael unrhyw gymorth ariannol gyda chostau gofal plant nes bod eu plentyn yn dair oed, ac mae'r bwlch ariannol rhwng costau gofal plant yng Nghymru a Lloegr yn debygol o gynyddu'n sylweddol gan eu bod nhw'n mynd i ymestyn y cynnig a dyblu nifer yr oriau am ddim i blant dan dair oed ym mis Medi eleni. Nawr, Prif Weinidog, derbyniodd eich Llywodraeth Cymru £140 miliwn mewn cyllid canlyniadol i'ch caniatáu i ymestyn eich cynnig a'i wneud o leiaf yr un mor gyfartal—o leiaf yr un mor gyfartal—â'r cynnig dros y ffin yn Lloegr. Beth ydych chi wedi ei wneud gyda'r arian hwnnw, oherwydd mae'n amlwg nad ydych chi wedi ei fuddsoddi mewn gofal plant?

Wel, wyddoch chi, gallaf ddweud wrthych chi ein bod ni wedi ymestyn y cynnig, diolch i'n gwaith gyda Jane. Allaf i ddim dod o hyd i Jane ar hyn o bryd. Dyna ni—Jane. Fe wnaethom ni ymestyn y cynnig. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Gadewch i ni beidio ag anghofio eich bod chi wedi pleidleisio yn erbyn hynny. A gadewch i ni hefyd fod yn glir bod system, yn Lloegr, sy'n seiliedig ar dalebau. Y system yma, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw ceisio gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth wir ar gael. Felly, pan fyddwn ni'n dweud, 'Dyma beth yw'r cynnig', gallwch chi wir wneud y cynnig hwnnw. Felly, er enghraifft, un o'r pethau a wnaethom ni yn y gyllideb oedd cynyddu'r gyfradd fesul awr ar gyfer lleoliadau gofal plant o £5 i £6.40. Felly, mae hynny'n golygu bod y lleoliadau gofal plant hynny yn gallu fforddio talu pobl i weithio yn y lleoliadau hynny. Nid yw hynny o reidrwydd yr un sefyllfa ag ydyw yn Lloegr. Ac ar ben hynny, wrth gwrs, rydym ni wedi gwneud y rhyddhad ardrethi busnesau bach 100 y cant ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn barhaol, ac mae hynny yn arbed dros £3 miliwn y flwyddyn i ddarparwyr. Rydym ni'n ceisio mynd at wraidd yr hyn sy'n ein hatal rhag gallu rhoi'r ddarpariaeth honno, sy'n bodoli yn ddamcaniaethol yn Lloegr, ond, yn ymarferol—mae gennym ni ddiddordeb yn yr ochr ymarferol yma—beth sy'n caniatáu i ni wireddu'r addewid hwnnw?

Prif Weinidog, nid wyf i'n falch o'r ffaith bod gennym ni rieni sy'n gweithio o Gymru sy'n symud yn fwriadol i Loegr er mwyn cael cymorth gyda'u cyllid o ran gofal plant. Mae'n anghywir bod rhieni yma yn gorfod talu, ar gyfartaledd, miloedd o bunnoedd yn fwy na thros y ffin. Y gwir yw hyn: rhieni yng Nghymru sydd â'r cyflogau isaf, y costau gofal plant uchaf a'r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain Fawr. O dan Lafur, mae eich system gofal plant wedi torri—nid yw'n gweithio i rieni sydd eisiau mynd i weithio. Felly, fe wnaf i ofyn i chi eto: pryd wnewch chi wrando ar ein galwadau, pryd wnewch chi gymryd y camau sy'n angenrheidiol er mwyn cynorthwyo teuluoedd sy'n gweithio'n galed a rhoi'r cymorth gyda'r costau gofal plant sydd ei angen arnyn nhw?

Rydym ni'n cyflawni'r hyn y gwnaethom ni ddweud ein bod ni'n mynd i'w gyflawni. Mae'n ymateb ymarferol. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed enwau'r bobl hynny sy'n symud i wahanol wlad, oherwydd, wrth gwrs, byddan nhw'n colli wedyn eu meddyginiaethau am ddim, byddan nhw'n colli'r cap ar ofal i'w rhieni oedrannus, byddan nhw'n colli eu pasys bws am ddim i bobl dros 60 oed—yr holl bethau hynny y maen nhw'n eu derbyn nawr. Mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni gydnabod ein bod ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod menywod yn gallu dychwelyd i'r gweithle. Mae ganddyn nhw gyfraniad i'w wneud. Mae angen i ni wneud hynny'n hawdd iddyn nhw. Rydym ni wedi llwyddo i ymestyn y cynnig hwnnw yn y gyllideb, cyllideb y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei herbyn.

13:45

Diolch, Llywydd. A dwi am ddweud gair bach o deyrnged ar y dechrau i’r canwr a’r ymgyrchydd canser Mike Peters, wedi ei farwolaeth o.

Roedd yn anrhydedd go iawn gallu cefnogi Mike ar nifer o'i ymgyrchoedd. Trwy ei frwydrau niferus ei hun, roedd bob amser yn bresenoldeb hapus ac ysbrydoledig, ac mae'n gadael etifeddiaeth enfawr ym myd cerddoriaeth ac, wrth gwrs, fel ymgyrchydd canser. Mae fy meddyliau gyda Jules a'r teulu.

Llywydd, heddiw yw fy nghyfle cyntaf i allu holi'r Prif Weinidog ar ôl y sesiwn frys yn San Steffan yn y toriad i ddiogelu, o leiaf yn y byrdymor, cynhyrchu dur crai yng ngwaith Dur Prydain yn Scunthorpe. Ymwelais â Phort Talbot yn y dyddiau dilynol a gwelais ddicter dwys tuag at frad Llafur o'r gweithwyr dur yno, a gollodd eu swyddi wrth i'w ffwrneisi chwyth gael eu cau. Gwelsom Aelodau Seneddol Llafur o Gymru yn cael tynnu eu lluniau gyda phlacardiau 'achub Dur Prydain' ar ddiwrnod dadl Scunthorpe hyd yn oed. Ond pan ddaeth i Bort Talbot, dim byd. Nawr, nid oedd Llafur na'r Torïaid fel ei gilydd o'r farn ei bod hi'n werth chweil achub y ffwrneisi chwyth yno. Pan gafwyd galwadau gan gymunedau Cymru, ni wnaeth Llafur ddim. Pan wnaethom ni ym Mhlaid Cymru awgrymu atebion, fe wnaeth y Prif Weinidog wawdio ac wfftio. Y lleiaf y gall hi ei wneud heddiw yw ymddiheuro am ei hagwedd ddiystyriol at wladoli. Nawr, ar ôl chwifio'r faner wen y tro cyntaf, beth fydd hi'n ei wneud nawr? A all hi ddweud wrthym ni a yw wedi pwyso ar Lywodraeth y DU am gymorth uniongyrchol pellach i Bort Talbot yng ngoleuni'r pecyn sylweddol o gymorth i achub swyddi yn Scunthorpe?

Wel, diolch. Bydd cyfle i drafod hyn yn llawer mwy manwl yn nes ymlaen. Mae gennym ni ddatganiad y byddaf i'n ei wneud ar ddur. Gwrandewch, gadewch i mi ei gwneud hi'n glir fy mod i'n deall pryderon y boblogaeth leol. Mae Port Talbot, Llanwern, mannau eraill, Shotton, wedi bod yn mynd trwy gyfnod anodd iawn nid yn unig yn y flwyddyn ddiwethaf, ond am gyfnod estynedig. Mae cleddyf Damocles wedi bod yn hongian dros y sector dur ers amser hir iawn. Mae'r sefyllfa wedi newid, wrth gwrs. Hyd yn oed yn ddiweddar, gosodwyd tariffau o 25 y cant ar ddur, sy'n rhywbeth eithaf diweddar, a ddigwyddodd, yn amlwg, ar ôl i'r sefyllfa yn Tata ddod i'r amlwg gyda'r ddwy ffwrnais chwyth. Cefais gyfarfod â Tata ddydd Gwener i siarad â'r rheolwyr; cefais gyfarfod gydag arweinwyr undebau llafur. Ac rwyf wedi bod yn gwneud sylwadau i'r Llywodraeth Geidwadol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall—y Llywodraeth Lafur—i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall bod cyfle iddyn nhw yn y fan yma i sefyll gyda gweithlu Cymru ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cyfran sylweddol o'r gronfa dur gwyrdd.

Roedd hwnna'n dipyn o lithriad tafod gan y Prif Weinidog onid oedd, yn dangos y ffaith bod gennym ni Lywodraeth Lafur y DU mor geidwadol. Ac, wrth gwrs, nid yw'n wir o gwbl nad oedd amser i achub Port Talbot. Achubwyd Scunthorpe, yn y bôn, mewn mater o ddiwrnodau, ac eto roedd tri mis rhwng yr etholiad a'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn cau yn barhaol. Nawr, dewisodd y Prif Weinidog wawdio, cofiwch, ein cynigion adeiladol, yn hytrach na rhoi ymateb rhesymegol, ac ni fydd y cymunedau yn anghofio hynny, yn fy marn i. Felly, dyna un canlyniad poenus o Lafur ar waith, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn dysgu gwersi o hynny pan ddaw i fater arall o bwys mawr i bobl y mae eu llesiant o dan fygythiad ar hyn o bryd. Yr wythnos nesaf, bydd Caerdydd yn cynnal y digwyddiad diweddaraf yn ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ei diwygiadau lles arfaethedig. Mae'r ymgynghoriaeth, Policy in Practice, wedi canfod bod naw o'r 10 awdurdod sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan doriadau i fudd-daliadau anabledd yng ngogledd Lloegr neu yng Nghymru. Nawr, gyda chymaint yn y fantol, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y canlynol: (1) a yw bellach wedi derbyn asesiad effaith penodol i Gymru gan Lywodraeth y DU; (2) pa elfennau o'r newidiadau arfaethedig y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu mewn gwirionedd; a (3) a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno tystiolaeth ffurfiol yn rhan o'r broses ymgynghori?

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, ar fater gwladoli, eto, gallwn drafod hyn ychydig yn ddiweddarach. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod y caewyd un o'r ffwrneisi chwyth ar ddiwrnod yr etholiad a dweud y gwir. Felly, roedd yn amlwg yn rhy hwyr i achub honno. Roedd y ffyrnau golosg hefyd wedi cael eu cau ac roedd ymrwymiad gan Tata i gyd-fuddsoddi o ran y ffwrnais arc drydan, sefyllfa wahanol iawn i'r sefyllfa yn Scunthorpe. Ond rwy'n deall pam mae pobl yn y cymunedau hynny yn rhwystredig ac angen gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd o'u blaenau a sut rydym ni'n mynd i weld cymorth gan Lywodraeth y DU yno. 

Fe wnaethoch chi sôn am ddiwygiadau lles. Rydym ni'n gweithio ein ffordd drwy'r Papur Gwyrdd. Byddwn ni'n rhoi tystiolaeth ffurfiol i Lywodraeth y DU ac rydym ni wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

13:50

Iawn. Dydyn ni ddim yn gwybod o hyd, wrth gwrs, beth yw gwrthwynebiadau Llywodraeth Cymru. Mae angen i ni wybod hynny—o leiaf rhai ohonyn nhw. Fe wnes i ofyn hynny, ac rwy'n gofyn eto, oherwydd rydym ni eisiau ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad hwn, ac rwy'n atgoffa'r Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru, yn 2015, wedi ymgysylltu'n llawn ag ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar eu diwygiadau i'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd. Gwnaeth hynny eto yn 2022 ar y Bil hawliau, ac mae'n rhaid iddyn nhw ymgysylltu'n llawn yma hefyd.

Nawr, fel y cynigiwyd, mae'r diwygiadau lles yn gosbol ac maen nhw'n wrthgynhyrchiol hefyd, ar y naill law yn gyrru mwy a mwy o bobl i dlodi ac ar y llaw arall yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau Llywodraeth Cymru ei hun i lenwi'r bwlch. Rwy'n ei hannog i ailystyried y cyflymder y mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen â hyn. Ond, pan ddaw i'r bleidlais derfynol yn Senedd y DU, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd na fydd unrhyw Aelod Seneddol Llafur o Gymru yn pleidleisio dros unrhyw ddiwygiadau sy'n gwthio'r rhai sy'n agored i niwed i dlodi yng Nghymru? Ac a all hi egluro ai hi, fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, neu Keir Starmer fydd yn cyfarwyddo Aelodau Seneddol Llafur o Gymru sut i bleidleisio?

Wel, mae hynna'n gwestiwn dwl os clywais un erioed. Edrychwch, rydym ni'n mynd i ymgysylltu o ddifrif ar y materion diwygio lles. Rydym ni'n meddwl bod gennym ni fodel da iawn o ran sut y dylai diwygio lles weithio. Rwy'n credu ein bod ni wedi profi hynny o ran ein dull o ymdrin â diweithdra ymhlith pobl ifanc a'r ffaith bod gennym ni hanner y lefelau o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc o gymharu â Lloegr. Rwy'n credu bod rhai gwersi yn y fan yna y gellir eu dysgu. Edrychwch, rwy'n gweithio gyda'n grŵp Llafur ni yn y Senedd. Nid wyf i'n rheoli'r grŵp Llafur yn San Steffan, a byddan nhw'n amlwg yn gwneud penderfyniad y maen nhw'n ei gredu sy'n briodol, ond byddaf yn glir iawn y byddwn ni'n gwneud yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru a byddaf yn nodi rhywfaint o hynny ychydig yn fwy clir mewn araith y byddaf i'n ei rhoi yr wythnos nesaf. 

Cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029? OQ62627

Wel, diolch yn fawr iawn. Cyn i ni ddechrau, Lesley, hoffwn eich llongyfarch chi, fel cefnogwr pennaf Wrecsam, ar ddyrchafiad anhygoel clwb pêl-droed Wrecsam i Gynghrair y Pencampwyr. Mae wir yn dipyn o gamp—y trydydd dyrchafiad yn olynol. Maen nhw wedi gwneud hanes. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn iddyn nhw. Felly, llongyfarchiadau enfawr iddyn nhw, ac ni fyddwn yn dweud dim wrth y cynrychiolwyr o Gaerdydd heddiw. 

Hoffwn ei gwneud hi'n glir y byddem ni'n cefnogi, ac y byddem ni'n annog, Wrecsam a rhannau eraill o Gymru i ystyried gwneud cynnig yng nghystadleuaeth 2029 maes o law. Roeddwn i'n digwydd bod yn y ddinas pan wnaethon nhw'r cyhoeddiad, yn anffodus, nad oedd Wrecsam wedi llwyddo, ond roeddwn i'n meddwl ei fod yn gynnig cryf iawn. Felly, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gwneud cynnig arall. Mae pethau cyffrous dros ben yn digwydd yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, byddan nhw'n cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.25 miliwn i gefnogi honno.

Wel, diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd yr holl Aelodau yn y Siambr, gan gynnwys y cefnogwyr Caerdydd hynny, yn ymuno â mi i longyfarch Clwb Pêl-droed Wrecsam ar y cyflawniad anhygoel o ddyrchafiadau olynol o dan reolaeth Phil Parkinson. Dyma beth yw gwir breuddwydion pêl-droed. Ond mae'n amlwg iawn i bawb fod y geiriau 'Wrecsam', 'dyrchafiad' a 'llwyddiant' yn cyd-fynd yn dda iawn â'i gilydd ar hyn o bryd, ac mae gwaith aruthrol yn cael ei wneud yn y cefndir yn Wrecsam nawr i wneud yn siŵr bod y cais hwnnw i fod yn ddinas diwylliant yn 2029 yn cael ei wneud, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gefnogi hynny, yn y dyfodol. 

Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwyf yn credu bod bod yn Ddinas Diwylliant y DU yn dod â manteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol enfawr. Edrychwch, bydd yn rhaid i ni gadw ein sylwadau i ni ein hunain tan y byddwn ni'n gwybod a fydd unrhyw drefi eraill yng Nghymru yn cystadlu. Ond, yn amlwg, os byddwn ni'n cyrraedd yr un sefyllfa ag y gwnaethom ni y tro diwethaf, byddwn ni'n rhoi ein cefnogaeth lawn y tu ôl i'r cynnig buddugol o Gymru.

Rwy'n ddiolchgar i Lesley Griffiths am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr yma heddiw. Mae Wrecsam yn amlwg yn ddinas sy'n ffynnu, ac rwy'n ymuno â chi, Prif Weinidog, i longyfarch Clwb Pêl-droed Wrecsam ar eu dyrchafiadau olynol, ac rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn lithriad tafod, yn sôn am Gynghrair y Pencampwyr, ond rwy'n credu ei fod yn air proffwydol, efallai, gan y Prif Weinidog, ar gyfer tymhorau y dyfodol, i'r clwb pêl-droed. Ond yr un mor addas i Wrecsam fyddai teitl dinas diwylliant, sydd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes, â'r potensial i fod yn drawsnewidiol i'r ddinas o ran creu swyddi, o ran denu buddsoddiad a gadael etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol hefyd. Rwy'n falch iawn o glywed eich cefnogaeth—mewn egwyddor, ar hyn o bryd, wrth gwrs—i gais gan Wrecsam, ond, wrth gwrs, byddai gofyn am rywfaint o gymorth buddsoddi penodol gan Lywodraeth Cymru yn enwedig, byddech chi'n disgwyl, o ran seilwaith, ac yn enwedig seilwaith y byddai Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano. Felly, tybed a allech chi wthio eich ymrwymiad i'r cais hwnnw am y math hwnnw o fuddsoddiad gan ddinas diwylliant Wrecsam ymhellach heddiw, fel y gallwn ni weld y cais hwn yn llwyddo yn y dyfodol.

13:55

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n sicr yn ddinas sy'n ffynnu. Gallaf dystio i hynny, gan fy mod i'n eu helpu nhw i lenwi tyllau yn y ffordd dros y Pasg. Mae'r rheini yn rhan o'r 70,000 o dyllau mewn ffyrdd y byddwn ni'n eu llenwi rhwng nawr a'r etholiad y flwyddyn nesaf. 

Edrychwch, mae rhai pethau gwych yn digwydd yn Wrecsam. Wrth gwrs, un ohonyn nhw yw amgueddfa bêl-droed Cymru, ac yn amlwg byddwn ni'n cyfrannu £6.4 miliwn at greu'r amgueddfa honno yn Wrecsam, felly mae yna gyfleoedd gwirioneddol yno. Fel y dywedais, ni allaf ymrwymo ar hyn o bryd, oherwydd nid ydym ni'n gwybod pwy arall fydd yn cystadlu i fod yn ddinas diwylliant o Gymru, ond yn amlwg byddwn ni'n parhau â'r sgyrsiau rhwng ein swyddogion a'r swyddogion priodol yn lleol pan ac os bydd y sefyllfa'n codi.

Mae'n well i fi hefyd ategu'r llongyfarchion i grŵp pêl-droed Wrecsam. Fel dywedodd Tomi Caws ar Radio Wales yr wythnos yma, mae pethau'n mynd mor dda mae hyd yn oed yn bosib, efallai, enillan nhw'r Eurovision Song Contest y flwyddyn nesaf, ond cawn ni weld os aiff hi cystal â hynny, ontefe.

Ond yn ôl at ddinas diwylliant, gaf i ofyn pa drafodaethau rŷch chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â hyn? Oherwydd dwi wedi clywed gan nifer o gynghorwyr yn Wrecsam does yna ddim penderfyniad terfynol wedi cael ei gymryd eto y bydd yna ddinas diwylliant yn 2029. Yn wir, does yna ddim canllawiau wedi cael eu rhyddhau ar gyfer dinasoedd sydd â diddordeb i gymryd rhan, a bod hynny efallai'n llesteirio ychydig ar y gwaith paratoi yn lleol. Felly, a wnewch chi sicrhau ymrwymiad clir y bydd yna ddinas diwylliant, yn ogystal, wrth gwrs, â chefnogi cais Wrecsam?

Diolch yn fawr. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny. Gwnaf i fynd i weld os oes unrhyw wirionedd yn hynny. Ond, wrth gwrs, fy niddordeb i yw i gael dinas diwylliant. Mae'n hen bryd inni gael dinas diwylliant yng Nghymru.

Diwrnod VE

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu 80 mlynedd ers diwrnod VE? OQ62605

Mae hwn yn goffâd a dathliad drwy'r DU gyfan, â digwyddiadau o ddydd Llun gŵyl y banc hyd at Ddiwrnod VE ei hun. Yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal gwasanaeth diolchgarwch yn eglwys gadeiriol Llandaf a byddaf yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yng nghoffâd y DU ar Ddiwrnod VE.

Hoffwn ddiolch i'r cymunedau a'r awdurdodau lleol niferus ar hyd a lled y wlad sydd wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau i nodi'r digwyddiad hanesyddol hwn, yn amrywio o bartïon stryd, picnics a digwyddiadau te prynhawn, codi baneri a chyhoeddiadau VE, goleuo begynau, gwasanaethau eglwys a llawer mwy. Yr hyn sydd fwyaf calonogol i mi am hynny yw ei fod yn cynnwys pobl o bob cenhedlaeth yn cymryd rhan, ac mae'n dangos bod Diwrnod VE yr un mor bwysig nawr ag yr oedd 80 mlynedd yn ôl, a bod pobl yn parhau i fod eisiau diolch a hefyd goffáu'r dynion a'r menywod unigol hynny a wnaeth aberth mor enfawr dros 80 mlynedd yn ôl. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gofio pawb a ymladdodd neu a gefnogodd yr ymdrech ryfel, dynion a menywod, o gartref a thramor, a sicrhaodd yr heddwch yn Ewrop yn y pen draw?

Diolch yn fawr. Rydym ni i gyd, rwy'n credu, yn edrych ymlaen at yr wythnos nesaf, at gofio'r holl bobl hynny a ddaeth at ei gilydd ac a sicrhaodd heddwch yn Ewrop. Efallai fod rhai gwersi i ni yno yn y byd anodd hwn yr ydym ni'n byw ynddo heddiw. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar Ddiwrnod VE ar 6 Mehefin, a bydd cyfle i Aelodau'r Senedd ymateb i'r datganiad hwnnw.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i rai o'r digwyddiadau Diwrnod VE cymunedol hynny yr wythnos nesaf. Rwy'n cofio adeg nodi saith deg pum mlynedd, roedd yng nghanol y pandemig COVID, ac roeddwn i'n amharod iawn i weld hyn yn mynd heibio, ond roeddwn i hefyd yn gwybod bod rheolau llym iawn. Felly, yn fy stryd i, fe wnes i argraffu llwyth o ganeuon rhyfel a'u danfon nhw ar hyd y stryd ac annog pawb i ddod allan a chanu ar Ddiwrnod VE, i ddathlu saith deg pum mlynedd ers y diwrnod hwnnw. Rwy'n siŵr y byddaf i'n cael fy ngheryddu nawr gan y cyn-Brif Weinidog. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi torri unrhyw reolau. Rwy'n credu fy mod i'n ofalus iawn, iawn. Ond mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni ei goffáu, a byddwn yn chwifio'r faner Ewropeaidd y tu allan i adeilad Llywodraeth Cymru ar y diwrnod hwnnw.

14:00

Bydd digwyddiad coffáu wyth deg mlynedd ers Diwrnod VE yn y Senedd ar 8 Mai, yn nodi 80 mlynedd ers diwedd yr ail ryfel byd yn Ewrop, sy'n cael ei gynnal gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a'i noddi gan Darren Millar AS, yn talu teyrnged i'r gwasanaeth a'r aberth a wnaed gan luoedd Prydain, y Gymanwlad a'r Cynghreiriaid. Gan gydweithio â chynghrair Together, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gynnwys cymunedau yn y gogledd, gan nodi, er enghraifft, y gwasanaeth coffa yn eglwys San Silyn, Wrecsam, wedi'i ddilyn gan orymdaith dan arweiniad corfflu drymiau gwirfoddol Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, salíwt a seremoni gosod torchau; y digwyddiad yng Nghanolfan Daniel Owen yn yr Wyddgrug, a gynhelir gan Gyngor Tref yr Wyddgrug; digwyddiadau yn y Fflint, gan ddechrau gyda chyhoeddiad cyngor y dref ar risiau eglwys blwyf y Santes Fair a Dewi Sant, ac yn gorffen gyda begwn ar lwybr arfordirol Sir y Fflint yn y Fflint i symboleiddio goleuni heddwch; cyngherddau yn y Rhyl a Llandrillo-yn-Rhos; begynau ar bromenadau Pensarn a Llandudno; a seremonïau codi baneri a goleuo begynau ar Ynys Môn?

Diolch yn fawr iawn. Wel, rydych chi wedi gwneud eich gwaith cartref ar le mae'r digwyddiadau yn digwydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n bresennol yn llawer o'r rheini, fel y byddaf innau yn fy rhanbarth i. Mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n nodi'r amser pwysig hwn a hefyd yn cydnabod efallai mai hwn fydd y pen-blwydd mawr olaf pan fo llawer o'r bobl hynny a wnaeth fyw drwy'r oes honno gyda ni.

Roeddwn i'n siarad â menyw 96 oed y diwrnod o'r blaen, ac yn ceisio cael gwybodaeth ganddi am yr hyn yr oedd hi'n ei wneud ar Ddiwrnod VE, a dywedodd wrthyf i sut roedd hi wedi dod ar fws o Dyddewi i Abertawe pan glywodd y newyddion. Ac, wrth gwrs, roedd Abertawe wedi cael ei tharo'n ddifrifol iawn yn ystod y rhyfel. Ond dylem ni gymryd yr amser i siarad â'n perthnasau oedrannus, ein cymdogion oedrannus, i geisio gwneud y cysylltiad hwnnw, gan mai oherwydd eu harwriaeth, ac arwriaeth cynifer o'r bobl hynny, yr oeddem ni'n gallu trechu'r Natsïaid.

Cynhyrchu Dur ym Mhort Talbot

5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r effaith bosibl ar ddyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot o ganlyniad i ymyrraeth Llywodraeth y DU yng ngwaith dur Scunthorpe? OQ62611

Fel dwi'n dweud, byddaf i'n gwneud datganiad llafar ar Fil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) yn nes ymlaen heddiw.

Diolch am yr ateb hynny, Prif Weinidog.

Wrth gwrs, digon teg, mae datganiad ar ddur yn ddiweddarach, ond mae pryder difrifol ym Mhort Talbot ynglŷn â'r hyn y bydd y penderfyniad yn Scunthorpe yn ei olygu nawr o ran mynediad Port Talbot at y gronfa ddur gwerth £2.5 biliwn honno. Mewn sgyrsiau gydag undebau, roedden nhw'n glir iawn bod dyfodol disglair iawn yn bosibl o hyd i safle Port Talbot. Felly, pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod Port Talbot yn cael mwy na'i chyfran deg o'r gronfa gwerth £2.5 biliwn honno, nawr bod y ffwrneisi chwyth hynny wedi cael eu cau?

Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n gwybod pa mor flin yw pobl yn y gymuned, a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ymladd drostyn nhw, a dyna'n sicr yr ydym ni eisoes wedi bod yn ei wneud. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am gyfran sylweddol o'r gronfa £2.5 biliwn honno ar gyfer y sector dur. Dydyn ni ddim eisiau gweld sefyllfa lle nad ydym ni'n cael yr hyn yr oeddem ni'n ei ddisgwyl o'r gronfa honno. Rwyf wedi ail-bwysleisio hynny mewn llythyr a anfonais heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol, gyda llu o fesurau eraill yr wyf wedi bod yn gofyn amdanyn nhw, er mwyn rhoi'r amddiffyniad ar adeg pan fo dur o dan bwysau enfawr.

Prif Weinidog, byddwn yn croesawu'r ffaith pe gallech chi gyhoeddi'r llythyr hwnnw yr ydych chi newydd ei grybwyll, i amlygu i'r Senedd gyfan beth yn union yr ydych chi'n gofyn amdano, oherwydd, fel y nododd Luke Fletcher yn briodol, mae yna ddyfodol disglair i gynhyrchu dur o dan ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot, o gofio ei bod yn rhan o'r cais porthladd rhydd a gefnogir gan y Ceidwadwyr yn y porthladd rhydd Celtaidd, ym Mhort Talbot ac yn fy etholaeth i hefyd. Felly, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth y DU i eirioli dros fanteision y porthladd rhydd Celtaidd ym maes cynhyrchu dur ac o'i gwmpas hefyd? Gan wybod nad yw safle Tata Port Talbot o fewn ardal y porthladd rhydd yn uniongyrchol ond nesaf ato, sut ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y porthladd rhydd hwnnw yn un o'r ysgogwyr sylweddol allweddol o fuddsoddiad yn y gwaith dur ym Mhort Talbot yn y dyfodol?

14:05

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r potensial o amgylch y porthladd rhydd Celtaidd a'r cysylltiad â dur a'r cyfleoedd a'r sgiliau sydd ar gael yn yr ardal, a'r ffaith bod y math cywir o amodau yn bodoli yn arbennig o amgylch gwaith dur Port Talbot. Dyna pam y treuliais i ddau ddiwrnod o doriad y Pasg yn Nenmarc, yn siarad yng nghynhadledd WindEurope, yn cyfarfod â buddsoddwyr posibl yng Nghymru, y mae gan bob un ohonyn nhw ddiddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd o ran y cyfleoedd o gwmpas y môr Celtaidd, ac yn wir y cyfleoedd y mae'r porthladd rhydd Celtaidd yn eu cynnig.

Busnesau Bach

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi twf busnesau bach? OQ62630

Rŷn ni'n darparu sawl gwahanol fath o gefnogaeth i fusnesau bach. Mae hyn yn cynnwys Busnes Cymru, gwasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth busnes. Mae gyda ni hefyd wasanaeth cefnogi pwrpasol ar gyfer rheoli perthynas, arloesi ac allforio.

Diolch am yr ateb.

Rydym ni'n gwybod mai busnesau bach yw curiad calon ein pentrefi a'n trefi a'n cymunedau gwych yng Nghymru, ond mae data o faromedr busnes cyllid busnes Novuna y mis hwn yn dangos mai dim ond 13 y cant o fusnesau bach Cymru sydd bellach yn rhagweld twf, sef y lefel isaf a gofnodwyd erioed, ac yn llawer is na chyfartaledd y DU. Rydym ni wedi gweld nifer o bethau yn digwydd i'n busnesau yng Nghymru o sawl cyfeiriad. Maen nhw'n cael eu dyrnu. Mae gennym ni anhrefn tariffau'r Unol Daleithiau. Mae gennym ni'r cynnydd i yswiriant gwladol. Ac, fel yr ydym ni wedi ei glywed ar sawl achlysur yma y prynhawn yma, o ran ardal Port Talbot a'r busnesau sydd wedi'u heffeithio gan hynny, gwelsom bopeth yn cael ei wneud i Scunthorpe er mwyn achub 2,700 o swyddi—cwbl hanfodol—ac ym Mhort Talbot, rydym ni wedi colli'r potensial o 2,800 o swyddi, yn ogystal â sgil-effeithiau'r swyddi hynny hefyd yn yr ardal. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, pa gamau uniongyrchol a phendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adfer hyder mewn busnesau yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n ymwybodol iawn bod angen i ni weld gwell twf o ran busnesau bach a chanolig eu maint. Mae yna broblem gynhyrchiant wirioneddol o ran busnesau yng Nghymru, ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd yr economi yn canolbwyntio'n fawr ar hwn fel pwnc. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig, a gweld sut y gallwn ni ddefnyddio hwnnw i wella cynhyrchiant, ond yn amlwg gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gydbwyso â hawliau gweithwyr a materion eraill.

Ond rydym ni'n rhoi llawer iawn o gefnogaeth i fusnesau bach, yn enwedig y cymorth ardrethi annomestig yr ydym ni'n ei roi—nid yw £335 miliwn yn swm bach o arian—ac mae bron i 50 y cant o'r busnesau hynny yn derbyn rhyddhad ardrethi llawn. Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cymorth y maen nhw ei angen iddyn nhw. Mae yna ddigon o gymorth drwy Busnes Cymru i helpu cynhyrchiant, i ysgogi twf, i gynorthwyo gyda sgiliau. Mae Banc Datblygu Cymru yno hefyd. Fe wnaethoch chi sôn am y sefyllfa ym Mhort Talbot. Y newyddion da, a chefais gadarnhad o hyn gan Tata ddydd Gwener, yw y bydd y ffwrnais arc drydan yn dechrau cael ei hadeiladu ym mis Gorffennaf, ac mae'r contractau hynny i'w hadeiladu eisoes wedi mynd i gwmnïau lleol, ac maen nhw eisoes yn defnyddio rhai o'r bobl hynny sydd wedi colli eu swyddi i'w helpu gyda'r broses adeiladu honno.

Prif Weinidog, rwyf newydd glywed eich ateb, ond mae llawer o fusnesau bach yn fy etholaeth i a'u gweithwyr yn teimlo o dan ymosodiad. Gyda'r cynnydd i yswiriant gwladol i 15 y cant, y gostyngiad yn y trothwy enillion, a'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, a'r ardoll ymwelwyr arfaethedig gan y Llywodraeth hon yn ychwanegu rhagor o bwysau, Prif Weinidog, onid ydych chi'n derbyn bod y polisïau hyn sy'n cael eu hysgogi yma yng Nghaerdydd ac yn San Steffan gan y Blaid Lafur mewn perygl o wthio busnesau bach i'r wal, gan arwain at eu cau a cholledion swyddi i lawer o bobl ledled y wlad? Yn ystod y toriad, mae nifer mawr o bobl wedi mynegi pryder difrifol wrthyf am ddyfodol eu swyddi, felly byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed pa waith pellach yr ydych chi'n ei wneud i sefyll i fyny i Lywodraeth y DU a sefyll i fyny dros fusnesau Cymru yma yn ein gwlad.

14:10

Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n sicr o blaid busnes o ran Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gwybod mai o dyna lle mae swyddi'n dod, ac rydym ni'n awyddus yn arbennig i weld busnesau bach yn ffynnu, ac fel y soniais i, nid yw gwerth £335 miliwn o gymorth yn swm bach o arian. Ond un o'r bygythiadau mwyaf ar hyn o bryd, a bod yn onest, o ran busnesau bach, sawl busnes bach yng Nghymru, yw'r bygythiad gan dariffau'r Unol Daleithiau, a bydd yr effaith ar Gymru yn sylweddol. Dyna rywbeth yr wyf eisoes wedi ei drafod gyda Keir Starmer, oherwydd mae'r balans allforio yng Nghymru yn ymwneud â nwyddau yn bennaf, ond mae'n ymwneud mwy â gwasanaethau yn Lloegr. Felly, mae'r effeithiau arnom ni o'r tariffau hyn yn debygol o fod yn fwy nag ydyn nhw yn Lloegr.

Dyfarniad y Goruchaf Lys

7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU o'r diffiniad o fenyw? OQ62609

Mae Llywodraeth Cymru yn parchu penderfyniad y Goruchaf Lys. Byddwn yn cymryd yr amser i ystyried y dyfarniad yn ofalus ac yn cymryd y camau sy'n ofynnol i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel yr eglurwyd gan y dyfarniad.

Diolch. Prif Weinidog, mae dyfarniad Goruchaf Lys y DU yn gyfiawnhad i bawb fel fi sydd wedi brwydro i godi materion a phryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch a thegwch, a diogelwch mewn mannau i fenywod yn unig, gwasanaethau mewn carchardai, ac yn wir tegwch mewn chwaraeon. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i ddweud bod hon yn fuddugoliaeth i fenywod a merched ledled Cymru, ac i synnwyr cyffredin. Yn y blynyddoedd yr wyf i wedi ymdrechu, nid yw hyn erioed wedi bod yn ymwneud â bod yn wrth-unrhyw un, er gwaethaf y taflu baw; mae'n fater o ddiogelu menywod a merched a sicrhau tegwch.

Rwy'n nodi eich datganiad ysgrifenedig, sy'n dro pedol i'w groesawu gan y Llywodraeth Lafur hon, er ei fod wedi'i wneud drwy eich dannedd, ond rwy'n drist dweud fy mod i'n credu ei fod yn ymateb gwan i gael datganiad ysgrifenedig ar rywbeth sydd angen ac yn mynnu datganiad llafar ar gyfer rhywbeth mor bwysig. Mae'n gofyn am arweinyddiaeth ar unwaith, brys, a Llywodraeth Cymru gref sy'n barod i feddwl drosti'i hun mewn ymateb i hyn. Mae'n mynnu'r datganiad llafar hwnnw, ac rwy'n eich annog i wneud hyn cyn gynted â phosibl, gan amlinellu pryd, ble a sut rydych chi'n mynd i gywiro rhai o'r penderfyniadau niweidiol a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol, a beth fyddwch chi'n ei wneud nawr i amddiffyn menywod a merched yn y dyfodol, gan gyfeirio'n benodol at ysgolion, gwasanaethau a chwaraeon. Efallai y gallwn ofyn i chi wneud hynny nawr, a pha un a wnewch chi hefyd amlinellu a fyddwch chi'n ailwerthuso eich perthynas â Stonewall, ac a allech chi ymateb i mi o'r diwedd—chwe mis yn ôl y gofynnais i chi—a allwch chi gydnabod nawr mai menyw fiolegol yw menyw. Diolch.

Edrychwch, rydym ni'n ymdrin yma â materion eithriadol o sensitif ac mae gan bobl deimladau cryf iawn amdanyn nhw. Hoffwn fod yn glir fel Llywodraeth y byddwn ni, yn ein holl drafodion, yn ymddwyn gyda pharch, tosturi a charedigrwydd. Dyna'r peth pwysicaf, ac rwy'n credu y dylem ni wrando ar eiriau'r Arglwydd Hodge pan roddodd ei ddyfarniad: cynghorodd yn erbyn dehongli'r dyfarniad hwn fel buddugoliaeth i un neu fwy o grwpiau yn ein cymdeithas ar draul un arall. Nid dyna yw e. Byddwn yn cymryd ein hamser nawr i weithio trwy oblygiadau hyn, ac mae goblygiadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn gweithio drwy hynny, ac yn amlwg, byddwn yn adrodd yn ddiweddarach yn yr haf.

Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn y fan yna, Prif Weinidog, ynglŷn â thosturi. A gaf i ddechrau trwy erfyn ar bob cydweithiwr yn y Siambr hon a'r tu allan iddi i ystyried sut rydym ni'n ymddwyn gyda thosturi ac ystyriaeth? Oherwydd yn y pen draw, nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth; mae hyn yn ymwneud â bywydau pobl. Mae llawer o aelodau'r gymuned LHDTC+ wedi cysylltu â mi yn ystod yr wythnos a hanner diwethaf sydd yn eu dagrau ac yn ofnus hefyd am y canlyniadau y gallai hyn eu golygu iddyn nhw, ac rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddwch chi'n cydnabod ac yn deall hynny. Felly, a gaf i ofyn i chi heddiw yn syml, os gallwch chi ei wneud yn glir, i roi'r sicrwydd hwnnw bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ein holl gymuned LHDTC+ yng Nghymru? Diolch.

Diolch. Rydym ni'n cydnabod bod llawer o ofn ac ansicrwydd mewn sawl man, a hoffwn roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn parchu ac yn gwerthfawrogi pob cymuned. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n parchu cydraddoldeb; mae'n rhan o'n statud. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn glir: cydraddoldeb a chyfle i bawb yng Nghymru. Mae hynny'n sylfaenol i'n credoau craidd. Felly, byddwn ni bob amser yn ymddwyn gyda pharch, tosturi a charedigrwydd, ond byddwn ni'n cymryd y dyfarniad llys hwn o ddifrif.

14:15
Lido Brynaman

8. A wnaiff y Prif Weinidog rhoi diweddariad ar y cyllid o £1 miliwn ar gyfer lido Brynaman a ddynodwyd yng nghyllieb y Llywodraeth ar gyfer 2025-26? OQ62628

Roedden ni’n hapus i weithio ar y cyd gyda Jane Dodds i sicrhau bod y gyllideb derfynol yn cael ei phasio. Roedd hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi'r cam nesaf o ddatblygu lido Brynaman, ac mae swyddogion wrthi’n trefnu cyfarfod gyda'r sefydliad sy'n arwain y gwaith adnewyddu i drafod y camau nesaf.

Diolch, Brif Weinidog. Fe adeiladwyd y lido yn wreiddiol, fel cymaint o bethau yn yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, gan gyfraniadau ariannol glowyr lleol ac wedyn gan waith gwirfoddol gan bobl di-waith yn y gymuned. Fe safodd e am bron canrif nes bod gaeaf caled yn dod, ac wedyn fe'i caewyd am y 15 mlynedd diwethaf. Ond nawr mae'r un ysbryd cymunedol gwaelod i fyny gyda chwmni cymunedol lleol eisiau ailadeiladu'r lido, neu'r baths fel mae'n cael ei adnabod yn lleol. Rwy'n croesawu'r newyddion yma, ond ydy'r Prif Weinidog jest yn gallu rhoi ychydig bach o fanylion inni? Ydych chi wedi cael cyfle i gael gair gyda'r cwmni cymunedol lleol eto? Pryd mae disgwyl i hynny ddigwydd? Oes yna hyblygrwydd hefyd o ran y dosraniad rhwng cyllid refeniw a chyllid cyfalaf, a hefyd o ran yr amlen amser? Hynny yw, os bydd e'n mynd i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf, oes yna hyblygrwydd hefyd ar gael o ran hynny?

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod hwn yn gyfle gwych i adfer a dod â defnydd i'r lleoliad hanesyddol yma o 1932—cyn yr ail ryfel byd. Dwi'n gwybod roedd e'n lleoliad oedd yn cael ei garu, ei ddefnyddio a'i edmygu, ac mae e'n grêt bod hwn yn dod nôl ar gyfer Brynaman. Fel dwi'n dweud, bydd swyddogion yn cwrdd gyda'r bobl sy'n gyfrifol am y gwaith adnewyddu, a dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn hapus i roi update i chi ar ôl i hynny ddigwydd. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf y prynhawn yma bydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac mae'r datganiad hwnnw i'w wneud gan y Trefnydd. Y Trefnydd, felly, i wneud y datganiad busnes. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:18:12
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon, fel y nodir ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chysylltedd digidol, yn enwedig yng ngoleuni'r newid parhaus oddi wrth systemau ffôn analog at systemau ffôn digidol. Fel y gwyddoch chi, mae yna rannau helaeth o fy etholaeth i sy'n wledig ac yn arfordirol, ac mae hynny'n golygu y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig yn aml. Yn wir, yn ystod y stormydd a gawsom ni'r llynedd, fe gollwyd y pŵer am rai oriau mewn rhai ardaloedd yn sir Benfro ac, mewn rhai achosion, am sawl diwrnod. Cafodd llawer o etholwyr eu hynysu, sy'n arbennig o bryderus i drigolion agored i niwed sy'n dibynnu ar wasanaethau ffôn i gysylltu â phobl a gwasanaethau. 

Wrth i'r newid at wasanaethau digidol barhau, mae'n ddealladwy fod pryderon gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir ansicrwydd o ran gallu i ddefnyddio ffonau symudol a dibynadwyedd y cyflenwad ynni. Trefnydd, mae rhwydweithiau cyfathrebu dibynadwy yn hanfodol, ac mae'n rhaid i bobl deimlo nad ydyn nhw mewn unrhyw berygl pellach mewn argyfwng oherwydd y newid at wasanaethau ffôn digidol. Felly, o ystyried bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol, a rhai pwerau o ran y gwasanaethau brys, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad ar sut y mae'n sicrhau y bydd gan gymunedau yng Nghymru gysylltedd dibynadwy fel y bydd trigolion yn gallu cysylltu â'u hanwyliaid mewn unrhyw achos o argyfwng, ac, wrth gwrs, y gwasanaethau brys hanfodol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi, Paul Davies. Diolch i chi am y cwestiwn pwysig iawn hwn, ac fe wnaf i geisio ymateb iddo. Ni fyddaf yn gallu ymateb yn llawn iddo heddiw, oherwydd mae'r mater hwn yn cwmpasu ystod o gyfrifoldebau yn Llywodraeth Cymru â'r tu allan hefyd. Ond rwyf i'n credu bod eich pwyntiau chi'n berthnasol iawn o ran y newid hwnnw at gysylltedd digidol a'r materion ynghylch dibynadwyedd y cyflenwad ynni a goblygiadau hynny i ddiogelwch y gymuned. Yn ogystal â hynny, mae hyrwyddo cynhwysiant digidol yn rhan o fy nghyfrifoldeb i, fel y gwyddoch chi, ac mae hynny'n effeithio ar bobl hŷn yn arbennig. Yn wir, roeddwn yn cwrdd â'r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ddoe ac fe wnaethom ni drafod y mater hwn. Felly, fe fyddaf yn sicr yn rhoi sylw i hyn ac yn ceisio dod â diweddariad yn ôl i'r Senedd ynglŷn â'r sefyllfa hon.

14:20

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ynglŷn â 'Chynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif' a'r cynnydd o ran y camau gweithredu hynny. Rwyf wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysylltu â mi yn gofyn am gynhyrchion mislif, gan ei chael yn llawer mwy anodd i gael gafael arnyn nhw. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi cael nifer o ddadleuon yn y gorffennol ynglŷn â'r ystyriaeth ar gyfer deddfwriaeth, o bosibl, i sicrhau bod hyn yn cael ei ymwreiddio. Rwy'n gwybod am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r buddsoddiad a wnaed, ond meddwl oeddwn i o ran yr asesiad parhaus hwnnw o ran gallu cael gafael arnyn nhw, yn enwedig o ystyried ein bod ni'n gweld cyfraddau tlodi yn dal i gynyddu, ac mae banciau bwyd hefyd yn dweud wrthyf eu bod nhw'n gweld galw cynyddol am gynhyrchion mislif. Felly, a gawn ni'r diweddariad hwnnw, os gwelwch chi'n dda, a chael gwybod hefyd a ydych chi wedi myfyrio ymhellach o ran yr angen am ddeddfwriaeth?

Diolch yn fawr iawn i chi. Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn i'n bresennol mewn bwrdd crwn ar dlodi mislif. Rydyn ni'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd sy'n cynnwys yr awdurdodau lleol; mae'r awdurdodau lleol yn allweddol, fel y gwyddoch chi, o ran darparu'r cyllid sylweddol yr ydym ni'n ei ddyrannu iddyn nhw ar gyfer darparu cynhyrchion mislif. Mae'r ysgolion yn allweddol o ran cael gafael arnyn nhw, ond nid mewn ysgolion yn unig y mae angen i gynhyrchion mislif fod ar gael. Mae angen iddyn nhw fod ar gael nid yn unig mewn ysgolion, yn wir, o ran addysg, addysg bellach ac uwch, ond hefyd mewn gwasanaethau iechyd, ac mewn canolfannau hamdden hefyd. Felly, fe wnaf roi diweddariad ar hyn, oherwydd rwy'n credu bod y fenter urddas mislif, sy'n dyddio nôl sawl blwyddyn erbyn hyn, wedi dangos ei bod yn bwysig iawn o ran mynd i'r afael â thlodi, ond cysylltu â llesiant mislif hefyd, ac mae hynny'n allweddol nawr o ran iechyd meddwl a llesiant ein pobl ifanc. Mae angen i blant deimlo yn hyderus o ran mynediad at gynhyrchion mislif, ond mae hwn yn fater o ran urddas hefyd. Ac mae'n ddiddorol iawn hefyd pan fyddwch chi'n cwrdd—ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gwneud hynny—mewn ysgolion, lle yn wir mae cynghorau ysgol a bechgyn, yn ogystal â merched, yn cymryd diddordeb yn yr hyn y mae hyn yn ei olygu. Felly diolch i chi am godi hynna, ac fe wnaf roi diweddariad.

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar gefnogaeth i gerddoriaeth fyw. Mae nifer y lleoliadau ar gyfer cerddoriaeth fyw wedi gostwng yn gyflym iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n hynod bwysig ein bod ni'n cadw'r canolfannau hyn ar gyfer cerddoriaeth fyw. Rwy'n gofyn am adolygiad dan arweiniad y rhai sy'n frwd dros gerddoriaeth fyw ac electronig, a bod camau yn cael eu cymryd i sicrhau bod y diwydiant yn cynnal ei ymrwymiad i ardoll tocynnau llawr gwlad o £1 ar sioeau stadiwm ac arena yn y DU. Fe wnaeth y rhan fwyaf o gerddorion llwyddiannus fwrw eu prentisiaethau mewn clybiau. Dywedodd Ed Sheeran, pan ddaeth ef i Abertawe, 'Dyma'r ail dro i mi fod yma. Y tro cyntaf yr oeddwn yn Abertawe, fe ymddangosais yn Sin City', sy'n lleoliad bach iawn yng nghanol y ddinas.

Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cynnydd sy'n cael ei wneud i gyflwyno hawl cymunedol i brynu. Fe fyddai hawl cymunedol i brynu ar gyfer Gymru yn helpu i ddiogelu'r pethau sy'n gwneud ein gwlad yn arbennig, yn rhoi hwb i berchnogaeth gymunedol a rhoi pŵer yn ôl yn nwylo pobl Cymru drwy roi'r hawl i gymunedau lleol fod â'r cynnig cyntaf pan fydd asedau cymunedol hanfodol yn cael eu rhoi ar werth. Yn rhy aml, mae asedau cymunedol mawr, fel capeli, tafarndai a chlybiau, yn cael eu gadael i ddirywio ac yn cael eu prynu gan bobl o rannau eraill o'r byd.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Rydym wedi clywed o'r blaen am eich cefnogaeth gref i gerddoriaeth fyw a chydnabod beth mae hynny'n ei olygu yn eich dinas chi, yn Abertawe, o ran cefnogaeth i leoliadau cerddoriaeth a busnesau. Mae hyn yn gyfystyr â dros £10 miliwn ers i Gymru Greadigol ddatblygu hyn yn 2020, o ran y cymorth hwnnw. Mae Cymru Greadigol yn gweithio yn agos iawn gyda'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, ac rydym ni'n symud hefyd tuag at gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad. Rydym ni'n ymwybodol o arolwg yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth ledled y DU, ac rydym ni wedi bod yn trafod gyda rhanddeiliaid a bwrdd anweithredol Cymru Greadigol, ac mae'r canfyddiadau hynny'n adleisio'r hyn a glywsom ar draws y sector dros y 18 mis diwethaf. Mae angen cysondeb arnom o ran gwybodaeth, ac felly fe fyddem yn cefnogi adolygiad dan arweiniad pobl sy'n frwd dros gerddoriaeth fyw ac electronig—ac mae gennym ni rywun brwd yma, yn y Siambr hon; rwy'n siŵr bod llawer mwy gennym ni yma—a chyflawni hwnnw ar lefel y DU o ran diddordeb yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth yn hyn.

Mae eich pwynt am asedau cymunedol yn un pwysig iawn. Fe wyddoch chi ein bod ni wedi sefydlu'r comisiwn asedau cymunedol mewn partneriaeth ag Ystadau Cymru, ac roedd hynny'n dilyn gwaith y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd. Felly, roedd y comisiwn yn adolygu'r systemau cyfredol o drosglwyddo asedau cymunedol i annog ystyriaeth arloesol i berchnogaeth gymunedol, ac mae Ystadau Cymru wedi cyhoeddi canllaw arfer gorau wrth drosglwyddo asedau cymunedol. Roedd hynny'n ôl yn 2019, ac fe geir rhai astudiaethau achos effeithiol. Ond mae gwaith y comisiwn yn dod yn agos at ei ddiwedd, ac fe fydd adroddiad ac argymhellion yn cael eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol cyn diwedd y tymor hwn, a bwriedir cyhoeddi yn yr hydref.

Fe welais i rai enghreifftiau gwych o drosglwyddo asedau cymunedol pan es i i Wynedd yn gynharach eleni i weld rhai o ganlyniadau hynny yn Cymunedoli Cyf. Rwyf i o'r farn bod ein grant cyfleusterau cymunedol wedi cynorthwyo hefyd pan oedd asedau cymunedol wedi cael eu trosglwyddo. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn perthnasol iawn. Diolch i chi, Mike Hedges.

14:25

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â sbwriel a chasgliadau sbwriel ledled Cymru? Mae hynny ar ôl i etholwr yn Abertawe gysylltu â mi a oedd yn sôn am gyflwr ei stryd ef, lle roedd ef yn aml yn rhoi ei fagiau allan ar gyfer y casgliadau sbwriel rheolaidd dim ond i ganfod bod natur y bagiau hesian a oedd yn cael eu rhoi allan yn golygu bod sbwriel yn stremp ar hyd a lled y stryd. Roedd yn dweud wrthyf i y bu'n rhaid iddo brynu ei fagiau ei hun i gasglu'r sbwriel a oedd wedi chwythu ar draws y stryd. Rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr fod y darpariaethau y mae cynghorau yn eu gwneud yn seiliedig ar ganllawiau gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwaith o gasglu sbwriel ledled Cymru yn ddigon cadarn i sicrhau mai'r sbwriel sy'n cael ei roi allan yw'r sbwriel sy'n cael ei gasglu yn y pen draw gan griwiau gwastraff ledled y wlad. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad i'r perwyl hwnnw.

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rydym ni'n arwain yn fyd-eang o ran ein darpariaeth ar gyfer ailgylchu, ac mae casglu gwastraff i gyd yn rhan o hynny ac yn rhan o'r ffordd yr ydym ni wedi cyrraedd y safle hwnnw hefyd, hyd at Rif 1, rwy'n gobeithio, o ran ein cyfraddau ailgylchu. Mae hi'n ddiddorol i hynny gael ei gydnabod heddiw gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, ar ddathliad 10 mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac o ystyried yr hyn a wnaethom ni o ran cyflawni ar ddatblygu cynaliadwy. Ond mae'n rhaid trefnu casgliadau gwastraff yn iawn, mae'n rhaid i hwnnw wneud ei waith, ac, wrth gwrs, mae'r awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd, gyda swyddogaeth allweddol i'r CLlLC, a Llywodraeth Cymru o ran canllawiau. Felly, fe wnaethoch chi bwynt ynglŷn â sefyllfa benodol lle mae pethau wedi dod i'ch sylw chi, ond rwy'n credu bod hwn yn rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono, sef yr enw da sydd gennym ni o ran casglu gwastraff, yn ogystal ag ailgylchu.

Fe hoffwn i gael dadl, os gwelwch chi'n dda, i nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru toriadau budd-daliadau gan Lywodraeth y DU. Bydd toriadau budd-daliadau o San Steffan yn taro pobl yng Nghymru galetaf. Rydym ni wedi gorfod dyfalu am faint y trallod y bydd yn ei achosi i bobl anabl a'r rhai sydd allan o waith, am fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynnal asesiad o sut y bydd eu toriadau nhw'n effeithio ar Gymru. Ond mae 'Policy in Practice' wedi cadarnhau hyn nawr. Mae eu hymchwil nhw'n rhybuddio y bydd y toriadau hyn yn peri i amddifadedd ymwreiddio yn ein cymunedau ni. Mae Caerffili, Blaenau Gwent a Merthyr ymhlith yr ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf. Ym Mlaenau Gwent, effeithir ar un o bob 10. Mae byrbwylltra a dihidrwydd y toriadau hyn a gyflwynwyd gan San Steffan wedi bod yn arswydus. Felly, a gawn ni ddadl i fynd i'r afael â'r dull y bydd Cymru a'r Llywodraeth yma yn ei ddefnyddio i ymateb i hyn?

14:30

Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Mae hyn yn bwysig iawn. Mae'n fater pwysig i Lywodraeth Cymru, o ran datblygu ymateb cadarn i'r Papur Gwyrdd, ac, yn wir, fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, fe fyddwn ni'n cynhyrchu'r ymateb trawslywodraethol hwnnw i'r Papur Gwyrdd. Mae'n rhaid iddo adlewyrchu safbwyntiau, nid yn unig pobl sydd â phrofiad bywyd—. Ac ynglŷn â'r pwynt hwnnw, fe gwrddais i â'r tasglu hawliau pobl anabl yn ystod y toriad ac fe glywais i am eu pryderon nhw am y diwygiadau lles o ran pob agwedd ar y rhain. Ac fe wnes i'r pwynt hefyd, fel gwyddoch chi, y bydd hi'n rhaid i Lywodraeth y DU ddod allan ac ymgynghori â phobl anabl yng Nghymru yn uniongyrchol hefyd.

Felly, rydym ni'n ceisio'r ymateb trawslywodraethol hwnnw. Fe fyddwn ni'n datblygu'r ymateb trawslywodraethol hwnnw, ond rydym ni'n bwriadu cael y data sydd ei angen arnom ni hefyd oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac rydym yn gweithio yn agos gyda swyddogion i sicrhau y gallwn ni fod â dealltwriaeth bellach o effaith y diwygiadau lles arfaethedig ar y rhai sy'n hawlio yng Nghymru.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad oddi wrthych chi, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â sut yr ydym ni'n amddiffyn ac yn gofalu am ddioddefwyr trais domestig ym Mhowys. Mae Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn yn gwneud gwaith anhygoel o ran amddiffyn y rhai sydd wedi dioddef a goroesi trais domestig yma, ond eto, yn anffodus, maen nhw wedi gorfod edrych ar y posibilrwydd o dorri pum swydd. Ac mewn ardal wledig mae honno'n ergyd enfawr. O ddydd i ddydd, maen nhw'n ymdrin, yn bennaf, â menywod eofn a dewr sydd wedi ymgyflwyno. Ac fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi teyrnged i un fenyw ddewr a gollwyd wythnos diwethaf, yn drist, sef Virginia Giuffre, a safodd yn wyneb dynion pwerus a chyfoethog er mwyn sicrhau bod lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu clywed. Ac mae'n drychineb mawr iddi gymryd ei heinioes ei hun wedi degawdau o bwysau a straen—menyw o ddewrder aruthrol. Ac mae gan bob menyw sy'n dod ymlaen ddewrder o'r fath, ac mae angen i ni eu hamddiffyn a'u cefnogi nhw. Ac felly fe hoffwn i sicrhau y bydd gwasanaethau fel Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn yn cael eu diogelu ar gyfer parhau â'r gwasanaeth hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch hefyd am ganiatáu i'r Siambr gyfan glywed a chydnabod trasiedi a cholli Virginia Giuffre—y drasiedi lwyr honno iddi gymryd ei heinioes ei hun ar ôl popeth a ddioddefodd hi. Ac, yn amlwg, mae hyn yn gysylltiedig â sut yr ydym ni yng Nghymru, ac yn Llywodraeth Cymru, yn cyflawni ac yn ymateb i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.

Felly, diolch i chi am roi hynny yng nghyd-destun Powys a Chanolfan Argyfwng Teulu Maldwyn, sy'n darparu gwasanaeth anhepgor i deuluoedd yn yr ardal. Roeddwn i'n falch ein bod ni wedi gallu cynnig refeniw ychwanegol yn ddiweddar—gobeithio eich bod chi'n ymwybodol o hynny—i Ganolfan Argyfwng Teulu Maldwyn.

Mae hwn yn rhywbeth yr ydym wedi rhoi mwy o gyllid ynddo ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eleni, a phryd bynnag y caf i gyfle, rydym ni'n bwrw golwg yn rhanbarthol ac yn lleol i weld ble ceir angen penodol. Rydym ni wedi cefnogi'r ganolfan argyfwng gyda grantiau cyfalaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac, wrth gwrs, mae hwn yn rhan o'r sector arbenigol ledled Cymru yr ydym ni'n ei gefnogi, mewn amseroedd ariannol heriol, ond gan sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cefnogaeth lawn hefyd yn y gwaith gwerthfawr y maen nhw'n ei wneud. A diolch i chi am dynnu ein sylw ni at hyn eto heddiw—eu gwaith gwerthfawr nhw yn sir Drefaldwyn.

Trefnydd, yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ailddatgan ei hymrwymiad i'r cynllun gweithredu LHDTC+, ac, yn hollbwysig, i lawer o'r camau gwerthfawr gwirioneddol bwysig hynny sydd ynddo. Oherwydd fe wn i eich bod chi, fel minnau, yn gefnogwr ein cymuned ni, ac, fel dywedais i'n gynharach, mae yna lawer iawn o drallod ac ansicrwydd yn y maes ar y foment. Felly, rwy'n credu y byddai hi'n mynd yn bell iawn i fod â'r sicrwydd hwnnw o ran ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r gwaith a wnaethom ni ei roi ar waith eisoes yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn i chi, Hannah Blythyn. Mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ ar gyfer Cymru yn rhoi'r fframwaith ar gyfer datblygu polisi LHDTC+ ar draws y Llywodraeth, a chyda'n partneriaid. Ac rwy'n diolch i chi am y gwaith blaenllaw a wnaethoch chi o ran dod â'r cynllun hwn yn ei flaen, a thrwy ei lansio ef. Mae'n nodi'r camau pendant y byddwn ni'n eu cymryd i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, i herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn ddilys, yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain. Yn benodol drwy'r cynllun gweithredu hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl drawsrywiol ac anneuaidd, a gwneud i'r cymunedau hynny deimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cynnwys yng nghymdeithas Cymru.

14:35

Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru—y cyntaf ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl sydd â sglerosis ymledol, cyflwr niwrolegol sy'n gwaethygu. Mae mwy na 6,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag MS, ac mae bron i 300 o bobl yn cael diagnosis o MS yng Nghymru bob blwyddyn. Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth MS 2025, o 28 Ebrill hyd 4 Mai. Ddydd Mercher nesaf, fe fyddaf i'n noddi digwyddiad amser cinio Cymdeithas MS Cymru ar gyfer ddathlu thema eleni sef 'Sgyrsiau MS'—sut beth yw byw gydag MS, pa wasanaethau ac ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru heddiw, a'r hyn y mae angen i ni fod yn ei wneud fel arall. Bydd pobl sy'n byw gydag MS wrth law i siarad am eu profiadau nhw o fyw gyda'r cyflwr, ac fe fydd MS Society Cymru yn arddangos data newydd a thriniaethau newydd sydd yn yr arfaeth ar gyfer y ddau fath o MS.

Rwy'n galw hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i bobl fyddar a phobl drwm eu clyw yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod y DU 2025 yr wythnos nesaf, 5 Mai i 11 Mai. Gyda'r thema 'Tu hwnt i dawelwch', fe fydd hon yn canolbwyntio ar oresgyn y rhwystrau sy'n atal hygyrchedd llawn i unigolion sydd wedi colli eu clyw, dathlu'r ffyrdd amrywiol o bobl fyddar yn cyfathrebu ac amlygu cyfoeth diwylliant byddar, a'i nod yw herio camsyniadau ynglŷn â bod yn fyddar, hyrwyddo dealltwriaeth ac adeiladu byd mwy cynhwysol i bawb. Mae'r wythnos yn hyrwyddo cynhwysiant trwy eirioli dros wella hygyrchedd mewn gweithleoedd, ym myd addysg ac mewn mannau cyhoeddus, a hynny drwy annog dealltwriaeth o'r dulliau amrywiol o gyfathrebu sy'n cael eu defnyddio gan bobl fyddar a thrwm eu clyw. Cyn Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod, fe wnes i gyfarfod â'r Deaf and Sensory Network ddydd Llun, i drafod eu gwaith nhw fel darparwr contractau gofal cymdeithasol i oedolion ar gyfer y gymuned fyddar yn Wrecsam a Sir y Fflint. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiadau—un yr wythnos hon, un yr wythnos nesaf—ar y ddwy eitem yna.

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, am dynnu ein sylw ni a sylw'r Senedd at y ddwy wythnos bwysig hyn—wythnos MS, a hefyd yr wythnos lle byddwn ni'n rhoi ystyriaeth arbennig i anghenion pobl fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw, a chydnabod yr hyn y mae angen i ni ei wneud. Wrth gwrs, o ran y cyfraniadau a wnaethoch chi heddiw, o ran eich cwestiynau, fe wnaethoch chi dynnu sylw at anghenion y bobl yr effeithir arnyn nhw ac, yn wir, y gwasanaethau yr ydym ninnau'n eu darparu. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'r Senedd yn awyddus i fynychu ac ymgysylltu, ac wrth gwrs fe fydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiddordeb arbennig yn yr wythnos MS, ac fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth i unrhyw wybodaeth y bydd angen i ni ei rhannu hi yn hyn o beth. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod hefyd fod angen i ni sicrhau bod pob unigolyn byddar a'u gofalwyr nhw'n gwybod o ble y gallan nhw gael gafael ar wasanaethau, gofal a chefnogaeth yn eu cymuned leol, a chynnig sicrwydd y byddan nhw'n cael mynediad cyflym at wasanaethau a chefnogaeth pan fydd ei angen arnyn nhw.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw'r wythnos diwethaf, o'r enw 'Still Ignored: the Fight for Accessible Healthcare'. Mae'r adroddiad yn rhoi mewnwelediad eithaf damniol, mewn gwirionedd, i brofiad pobl fyddar a thrwm eu clyw o ran mynediad at ofal iechyd ledled Cymru. Cedric Moon, fy etholwr i, sy'n ymgyrchydd gwych dros bobl fyddar neu drwm eu clyw, a dynnodd fy sylw i at yr adroddiad, ac mae ef wedi ysgrifennu am hwnnw yn y Western Mail a'r South Wales Echo heddiw hefyd. Mae'r adroddiad yn nodi bod y GIG yn gwahaniaethu mewn ffordd gyfundrefnol yn erbyn pobl sy'n fyddar neu sydd wedi colli eu clyw. Mae hynny'n digwydd trwy fethu â bodloni eu hanghenion nhw o ran cyfathrebu, trwy ddiffyg cefnogaeth wrth gyfathrebu sy'n eang, fel dehonglwyr, rhai sy'n cymryd nodiadau a gohebwyr lleferydd i destun. Mae hwn yn brofiad yr wyf i wedi canfod ei wirionedd wrth ymdrin â'm hetholwyr i.

Felly, mae yna nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, felly rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn ddiolchgar iawn am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru am sut y bydd yn ymateb i'r adroddiad hwn ac i'r argymhellion hyn, a hefyd ar ba waith pellach sy'n cael ei wneud i wella bywydau pobl fyddar a thrwm eu clyw yma yng Nghymru. Rwy'n sicr yn cefnogi'r pwyntiau a wnaeth Mark Isherwood hefyd.

14:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn. Ie, mae hynny'n dilyn ymlaen o gwestiwn Mark Isherwood i raddau helaeth iawn. Julie Morgan, mae'n rhaid rhoi diolch i'ch etholwr Cedric Moon am ei ymrwymiad a'i ddiwydrwydd parhaus ef wrth godi'r materion hyn drwy ei brofiad ei hun gyda chi a'r ffaith ei fod yn eiriol ar ran eraill hefyd, ar ran pobl fyddar a thrwm eu clyw.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig wrth edrych ar hyn o safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod 'Cymru Iachach', ein cynllun hirdymor ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a'r camau gweithredu adnewyddedig hynny a ddaeth drwodd pan gafodd hyn ei adolygu a'i ddiweddaru fis Tachwedd y llynedd, yn cael eu hategu gan yr egwyddor honno o sicrhau, rwy'n dyfynnu,

'y gall pob dinesydd gael gwasanaethau iechyd a gofal amserol yn deg, waeth beth fo’i anghenion o ran iaith neu fformat cyfathrebu'.

Felly, mae'n rhaid i hynny olygu rhywbeth. Mewn cydweithrediad â sefydliadau'r trydydd sector, rydym ni'n datblygu ymagwedd i'r dyfodol ar gyfer awdioleg yng Nghymru er mwyn darparu'r gwasanaethau a'r gefnogaeth orau i ddinasyddion yng Nghymru ac, yn gyfochrog â hyn ac yn bwysicaf un, adolygu effeithiolrwydd safonau ledled Cymru ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar eu synhwyrau, gan archwilio'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael gafael ar ofal iechyd.

Ac wrth gwrs rydym ni wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn Llywodraeth Cymru i ddatblygu safonau newydd a chanllawiau cadarn a chlir o ran comisiynu gwasanaethau dehongli a chyfieithu ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain. Rydym ni'n bwriadu cyhoeddi'r safonau newydd yn yr haf eleni, ac fe fydd y rhain yn cynnwys cleifion nawr nad Cymraeg na Saesneg yw eu prif iaith, cleifion sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu, ond cleifion sydd ag anghenion iaith a chyfathrebu yn ogystal â hynny a allai fodoli i'w rhieni a'u gofalwyr nhw hefyd. Felly, fe fydd adnewyddu'r safonau yn bwysig, ond mae gennym ni argymhellion allweddol hefyd i gyd-fynd â hyn yn y cynllun hawliau pobl anabl, y byddaf i'n ei lansio ar gyfer ymgynghoriad yr wythnos nesaf.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda—un ar golli swyddi yn ffatri Dow Corning yn y Barri, sy'n amlwg yn ardal yr ydych chi'n gyfarwydd iawn â hi, gyda bron i 300 o swyddi yn cael eu colli o bosibl, yn amodol ar ymgynghoriad? Yn anffodus, mae hon yn enghraifft arall o gostau ynni uchel yma yn y DU yn peryglu swyddi gweithgynhyrchu, ac ni welais i ddatganiad yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru, sy'n peri syndod o ystyried i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud ddoe. Fe fyddwn i'n falch, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o'r gweithwyr yn y ffatri yn falch iawn, o gael deall pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ynghyd â phartïon sydd â buddiant, i geisio newid y penderfyniad hwn a gymerodd Dow i orffen cynhyrchu silicon yn y ffatri.

Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth o ran yr A48? Ychydig cyn i ni dorri ar gyfer toriad y Pasg, yn drist iawn bu tri unigolyn farw mewn un ddamwain ar yr A48. Hyd y gallaf i farnu, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, bu 10 o farwolaethau ar ffordd yr A48 rhwng Croes Cwrlwys a Thre-Dŵr. Mae angen asesiad peirianyddol llawn o'r ffordd honno, oherwydd fe gafodd ei hailweithio sawl tro dros y 30 mlynedd diwethaf. Cafodd 17 o oleuadau traffig ffyrdd newydd eu gosod, cafodd dwy gylchfan newydd eu gosod, mae llawer o gyffyrdd newydd, ac mae'r ffordd yn hollol wahanol erbyn hyn i'w dyluniad pan gafodd ei hadeiladu yn wreiddiol. Gyda'r mathau hynny o farwolaethau trist ar y tamaid hwnnw o ffordd, mae hi'n hanfodol y bydd yr adran yn ymgymryd â darn o waith a fydd yn ystyried yr agweddau diogelwch peirianyddol, ac fe fyddwn i'n disgwyl i ddatganiad gael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater difrifol iawn hwnnw. Diolch i chi.

Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna y gwnaethoch chi eu codi, Andrew R.T. Davies, y mae'r ddau ohonyn nhw'n ymwneud â'm hetholaeth i mewn gwirionedd, fel roeddech chi'n cydnabod.

Oedd, roedd honno'n alwad drist iawn a gefais i, ac yn wir i'n Hysgrifennydd Cabinet ni a'i swyddogion hi, ar 24 o fis Ebrill oddi wrth bennaeth materion llywodraethol Dow Chemicals yn y DU ac Iwerddon i ddweud eu bod nhw wedi cadarnhau eu bwriad nhw i gau'r ffatri broses weithgynhyrchu sylfaenol silicon yn eu cyfleuster nhw yn y Barri, a fyddai'n arwain at golli hyd at 290 o swyddi uniongyrchol. Ac, fel gwyddoch chi, mae Dow wedi bod yn rhan o hanes cenedlaethau o bobl sydd wedi bod yn gweithio yn y ffatri honno ers y 1950au. Felly, mae hyn yn newyddion drwg iawn, iawn i'r gymuned leol, i'r gweithlu, ac, wrth gwrs, fe fydd ag effaith ar gontractwyr sy'n gweithio yn fwy eang ar y safle. O'r 600 sydd yn y gweithlu ar y safle, maen nhw'n cael gwybod y bydd proses ymgynghori yn dechrau gyda staff.

Fe gefais i un cyfarfod eisoes, ac fe fyddaf i'n cael cyfarfod arall—fe fyddaf i'n cyfarfod ar y safle gyda'n AS ni, Kanishka Narayan, ac yn cyfarfod nid yn unig â'r rheolwyr, ond gyda'r undeb llafur hefyd, oherwydd mae Unite wedi ymwneud llawer â'r broses ymgynghori eisoes ac wedi gwneud datganiadau cadarn iawn hefyd. Felly, rydym ni'n barod i gefnogi'r gweithlu yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn. Ond pan fyddwn ni'n dweud 'y gweithlu' rydym yn siarad am y dref i gyd, fel gwyddoch chi, ac fe effeithir ar gymaint o deuluoedd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y byddan nhw—fel rydym ni'n deall—yn dal ati i fuddsoddi yn yr adran gorffennu arbenigol gweithgynhyrchu silicon ar y safle, a fydd yn mewnforio cynhyrchion silicon sylfaen o fannau eraill yn y dyfodol, o gyfleusterau Dow a leolir dramor. Rwy'n rhoi rhagor o wybodaeth heddiw oherwydd nad ydym ni wedi—. Rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymateb i hyn ac fe fydd yn awyddus i ddiweddaru'r Aelodau yn hynny o beth.

O ran eich ail bwynt chi, ie wir, y sefyllfa ar yr A48 a'r golled drist iawn dros doriad y Pasg—marwolaeth o ganlyniad i'r anafiadau hynny—fe wnes i godi hyn fy hunan, ac rwy'n credu bod hwn yn fater y bydd yn rhaid cael ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r cymunedau i'w ystyried. Diolch i chi am ei godi heddiw. 

14:45

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar benderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu cyllid yn ôl oddi wrth bartneriaeth Porth y Gorllewin. Rwy'n siomedig iawn oherwydd y penderfyniad hwnnw, fel mae Peter Fox a llawer o un arall yn fy rhanbarth i. Roedd y fenter drawsffiniol hon yn werth £17 biliwn i economi'r DU ac roedd hi'n cynnig twf economaidd i ardaloedd fel Casnewydd a Sir Fynwy ac, yn wir, y de-ddwyrain i gyd. Gadewch i ni fod yn eglur, nid yw hyn yn ymwneud â thorri cyllid. Mae'n golygu tynnu cefnogaeth yn ei hôl yn fwriadol oddi wrth o bartneriaeth economaidd uchelgeisiol. Trefnydd, mae'r newyddion hyn yn golled enfawr i'm rhanbarth i'n gyfan ac rwy'n gwybod y bydden nhw'n gwerthfawrogi datganiad ar hyn. Diolch.

Diolch, Laura Anne Jones. Fe fyddaf i'n cyfeirio hyn at yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau eich bod chi'n cael diweddariad priodol. 

A gaf i roi ar y cofnod yn gyntaf i gyd, gyda'ch caniatâd chi, pa mor drist yr oeddwn i o glywed am farwolaeth Mike Peters, prif ganwr The Alarm, a fu farw heddiw, yn anffodus, wedi brwydr gyda chanser am dri degawd? Ac mae ei wraig Jules, ei ddau blentyn, a'i deulu yn fwy eang yn fy meddyliau a'm gweddïau yn y cyfnod anodd hwn.

Fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y camau sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd a rheoleiddio'r gofal mewn cartrefi preswyl, gyda chanolbwyntio arbennig penodol ar ymwybyddiaeth o ddementia, hyfforddiant staff a hyfedredd iaith ymhlith staff a rheolwyr. Mae gwerthusiadau diweddar wedi tynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder. Roedd adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru o gartrefi gofal ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia yn canfod, er bod llawer o staff yn gynnes ac yn barchus, nad yw hyfforddiant dementia bob amser yn trosi i ymarfer gorau o ran y ddarpariaeth o ofal. Ar ben hynny, mae angen gwell gwybodaeth ynglŷn â staff sy'n medru'r Gymraeg mewn cartrefi gofal a gweld cynnydd yn nifer y staff sy'n gallu siarad Cymraeg yn iawn, ac nid yn unig y Gymraeg ond mae'n rhaid i staff allu siarad Saesneg yn iawn hefyd, ac nid yw hynny'n wir ym mhob achos. Mae sicrhau bod ein dinasyddion ni sy'n fwyaf agored i niwed yn gallu cael gofal o ansawdd uchel ac yn gallu cyfathrebu â gweithwyr gofal yn hollbwysig. Mae canfyddiadau interim y gwerthusiad cynllun gweithredu ar gyfer dementia 2018-22 yn nodi, er bod rhywfaint o gynnydd wedi digwydd, mae'r heriau yn aros o ran rhoi gofal ar waith sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda chysondeb ar draws pob rhanbarth. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu datganiad llawn, yn amlinellu'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i godi ymwybyddiaeth a gwella hyfforddiant dementia ymhlith staff cartrefi gofal, a'r strategaethau sy'n bodoli ar gyfer sicrhau bod y staff i gyd ym medru siarad Saesneg ac yn cynyddu hyfedredd yn y Gymraeg, yn ogystal â'r cynlluniau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y mentrau hyn o ran gwella ansawdd gofal? Diolch i chi.

14:50

Diolch i chi am y cwestiwn yna, Gareth Davies. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi clywed y cwestiwn hwnnw hefyd. Rwy'n credu y gallwn ni fod yn eglur iawn o ran y safonau yr ydym ni'n eu disgwyl yn y ddarpariaeth o ofal yn ein cartrefi gofal ni , sydd, o ran arolygiaeth a deddfwriaeth, rheoliadau, yn eglur iawn. Ond mae hi'n bwysig eich bod chi wedi sôn am hyn yng nghyd-destun ymwybyddiaeth o ddementia a'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Felly, rwyf i o'r farn mai honno fyddai'r fan y byddem ni'n dymuno ystyried y disgwyliadau a'r datblygiadau a gweithredu'r argymhellion o'r cynllun hwnnw hefyd. 

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig)

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig). Y Prif Weinidog, felly, i wneud y datganiad yma—Eluned Morgan. 

Cafodd Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU yn dilyn adalw'r Senedd ar ddydd Sadwrn 12 o fis Ebrill. Roedd hynny mewn ymateb i'r pryderon cynyddol ynglŷn â dyfodol British Steel yn Scunthorpe. Roedd Jingye, perchnogion Tsieineaidd British Steel, wedi atal archebion am ddeunyddiau crai i'r gwaith dur, y byddai hi'n rhaid cau'r ddwy ffwrnais chwyth hebddyn nhw, ac a fyddai wedi dod â chynhyrchiant dur sylfaenol i ben ar y safle. Mae'r Bil yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach gyfarwyddo'r cwmni a chadw staff yn gyflogedig. Gyda phasio'r Bil, mae Llywodraeth y DU wedi symud yn gyflym i sicrhau danfoniad o ddeunyddiau crai i gadw'r ffwrneisi chwyth i fynd, a fydd yn caniatáu i'r gwaith dur ddal ati i weithio. Mae'r Bil yn caniatáu amser ychwanegol i Lywodraeth y DU ystyried y dewisiadau sydd ar gael ymhellach ar gyfer sicrhau dyfodol British Steel. Mae digwyddiadau byd-eang yn golygu, nawr yn fwy nag erioed, bod rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn ein diwydiant dur, a gwarantu argaeledd dur i ddiwallu ein hanghenion domestig a pharhau i ddarparu swyddi o ansawdd da i gymunedau dur.

Roedd y sefyllfa gyda Tata Steel yn un wahanol iawn nid yn unig o ran y cyd-destun byd-eang, ond oherwydd y berthynas gyda Tata Steel a bwriad y cwmni hefyd. Roedd gan Tata gynllun ar gyfer pontio i gynhyrchiant dur mwy cynaliadwy wrth symud at gynhyrchu dur carbon is, ac fe ofynnodd am gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU i helpu i ganiatáu'r pontio hwnnw. Nawr, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r trafodaethau rhwng Tata a Llywodraeth flaenorol y DU, er gwaethaf ein ceisiadau mynych i fod â rhan yn y trafodaethau. Ond roedd y cytundeb a sicrhawyd yng Nghymru yn gytundeb nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer dyfodol dur hefyd. Fe lwyddodd Llywodraeth bresennol y DU i drafod cytundeb gwell ar gyfer gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot na'r cynllun a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023. Efallai nad honno a fyddai'r fargen y byddem ni wedi dymuno ei gweld, ond, o ystyried y paramedrau a'r pwysau o ran amser i sicrhau adeiladu'r ffwrnais arc drydan newydd, roedd yn gytundeb gwell a fyddai'n cadw cynhyrchiant dur yma yng Nghymru.

Mae rhai wedi dadlau y gallai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig fod wedi cadw un ffwrnais i fynd yn hirach drwy berswadio Tata i ailagor y cytundeb yr oedd wedi’i wneud â’r Llywodraeth Geidwadol, ond fyddai hynny byth wedi bod yn bosibl gan fod Tata, o'r cychwyn cyntaf, wedi ei gwneud hi'n glir mai'r unig ddewis ymarferol oedd eu cynllun nhw a dim ond eu cynllun nhw. Mae eraill wedi dweud pe na bai Tata yn barod i aildrafod y cytundeb, yna dylai'r Llywodraeth Lafur newydd fod wedi deddfu a chymryd rheolaeth o weithfeydd Port Talbot, fel y mae wedi gwneud yn Scunthorpe. Ond byddai hynny wedi bod yn afrealistig ac yn anymarferol gan fod Tata mor wrthwynebus. Byddai wedi golygu achos cyfreithiol hir yn erbyn y cwmni a byddai'r ffwrnais oedd yn dal i weithio o bosibl wedi cael ei chau yn gynt, a byddai Tata wedi tynnu eu cyfraniad o £700 miliwn i adeiladu’r ffwrnais arc drydan yn ôl.

Drwy gydol y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad agos â'r undebau, a bydd yn dal i weithio gyda nhw i ddod o hyd i'r ateb gorau posibl i'r gweithwyr, busnesau lleol a chymunedau lleol. Mae rheolwyr Tata wedi sicrhau y bydd y gwaith o adeiladu'r ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot yn dechrau yr haf hwn, ac mae’n dda gweld bod contractau eisoes wedi cael eu llofnodi gyda thri chwmni o dde Cymru, a fydd yn diogelu 300 o swyddi crefftus i helpu’r newid yn Tata. Pan fydd y gwaith adeiladu hwnnw'n dechrau, bydd y broses o gyflawni dur gwyrdd ym Mhort Talbot yn dechrau troi’n realiti, a bydd yn gam adeiladol tuag at ddyfodol cynaliadwy a mwy disglair i Tata a safleoedd sy’n dibynnu arno ledled Cymru.

Dur yw’r sbardun i newid llawer mwy yng Nghymru. Mae gyda ni weledigaeth holistig ar gyfer trawsnewid rhanbarth de Cymru trwy seilwaith a buddsoddiad newydd. Mae hon yn weledigaeth sydd â chefnogaeth eang ein rhanddeiliaid ar gyfer trawsnewid y rhanbarth. Ond mae angen gweithio ar y cyd, gyda chefnogaeth Llywodraeth San Steffan. Y gobaith yw gweld hynny’n digwydd trwy waith parhaus ar strategaeth ddiwydiannol y Deyrnas Unedig.

Rŷn ni’n cydnabod bod y trawsnewid hwn yn cael effaith enfawr, bod y gweithwyr dur a’u teuluoedd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn, a bod yr effaith ar gontractwyr hefyd wedi bod yn fawr. Rŷn ni’n deall hefyd fod yna rai sy’n teimlo y dylai’r un mesurau fod wedi cael eu rhoi ar waith ym Mhort Talbot ag y cafodd eu rhoi ar waith yn Scunthorpe, ond, am y rhesymau dwi eisoes wedi esbonio, mae sefyllfa’r ddau le yn wahanol.

Nawr, trwy waith parhaus y partneriaid i gyd sydd ar fwrdd pontio Tata, rydym ni'n darparu cyngor a chefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Mae'r bwrdd wedi dod â'n mecanweithiau cymorth ar y cyd i gyd at ei gilydd, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu darparu gan grwpiau cymunedol lleol, i ddarparu dull cyfannol o helpu'r gweithwyr hynny, eu teuluoedd nhw a'r cymunedau yr effeithir arnyn nhw'n fwy eang oherwydd pontio Tata. Mae tudalen we ar gael ar wefan cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n cynnig mynediad at y cymorth sydd ar gael, ac mae'r ganolfan gymunedol yng nghanolfan siopa Aberafan yn darparu cymorth a chanolfan galw heibio ar gyfer rhoi arweiniad i'r gymuned.

Mae gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, sedd ar Gyngor Dur y DU, sy'n goruchwylio'r gwaith i ddatblygu'r strategaeth ddur, ac rydym ni'n disgwyl gweld honno'n cael ei chyhoeddi yn y misoedd nesaf. Mae strategaeth ddur Llywodraeth y DU yn ddarn pwysig o waith, sy'n ymchwilio i'r materion o ran polisi y mae ein sector dur domestig ni'n eu hwynebu trwy'r amser yn ogystal ag ymchwilio i'r cyfleoedd gorau ar gyfer buddsoddi cyfalaf.

Mae'r gronfa gyfoeth genedlaethol yn darparu £2.5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer y sector dur. Roedd cadarnhad yn y ddadl seneddol ar y Bil mai ychwanegiad yw hwn at y £500 miliwn sy'n mynd i Bort Talbot, ac fe fydd yn cynnig cyfleoedd pellach ar gyfer buddsoddi ac arloesi yn y diwydiant yng Nghymru. Mae hi'n gwbl hanfodol fod cwmnïau dur yng Nghymru yn elwa ar y gronfa hon trwy gyfrwng buddsoddiadau cyfalaf a datblygiadau polisi a fydd yn gallu sicrhau dyfodol y diwydiant eto a chreu swyddi sy'n rhai ystyrlon.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi ysgrifennu at Jonathan Reynolds, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, yn gofyn iddo ef gadarnhau'r safbwynt cyffredin a'r ymrwymiad i'r sector dur cyfan yn y DU ac i safleoedd yng Nghymru yn benodol. Ond nid yw llawer o'r materion allweddol sy'n wynebu'r sector yn ymwneud yn unig â buddsoddiad cyfalaf. Yn allweddol, mae'r sector yn awyddus i weld strwythur prisio trydan sy'n wirioneddol gystadleuol, rhagor o ysgogiadau ar gyfer defnyddio dur o'r DU trwy gaffael cyhoeddus, a gwelliannau cadarn i fasnach. Fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda'n partneriaid i gyd ar gyfer gwthio am y gefnogaeth hon trwy gyfrwng y strategaeth ddur.

Fe fyddwn ni'n dal i weithio yn glòs gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn derbyn ei chyfran lawn o fuddsoddiad a chymorth polisi fel gall diwydiant dur Cymru ffynnu i'r hirdymor ac y gall ein cymunedau gael adferiad ac wynebu dyfodol sy'n fwy sicr a llwyddiannus.

14:55

Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad. Yn amlwg, fe ofynnais i am adalw'r Senedd er mwyn gallu cael cyfle i drafod y mater hwn yn gynt o lawer na heddiw, ond dyma ni, bythefnos a hanner yn ddiweddarach, ac rydym ni'n cael y datganiad drwodd o'r diwedd.

Ac rwy'n credu mai'r peth cyntaf y mae llawer o bobl yn flin iawn yn ei gylch, yn amlwg, yw'r dull gwahanol iawn sy'n cael ei fabwysiadu o ran amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru o'i gymharu â dull y Llywodraeth Lafur o amddiffyn y diwydiant dur yn Lloegr. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, a gafwyd unrhyw ymgynghoriad â chi yn Llywodraeth Cymru ar ddull gwahanol Llywodraeth y DU o ran y diwydiant dur yn Lloegr o'i gymharu â'r dull a fabwysiadwyd yma yng Nghymru, a phryd y daethoch chi'n ymwybodol o'r dull gwahanol a fyddai'n cael ei fabwysiadu ar gyfer Scunthorpe? Rwy'n credu bod y rhain yn gwestiynau pwysig y mae pobl yn awyddus i wybod yr atebion iddyn nhw. A ydych chi'n cefnogi'r dull y mae Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu yn Scunthorpe ac, os felly, pam ydych chi'n cefnogi dull sy'n wahanol i'r dull a fabwysiadwyd ar gyfer Tata? Oherwydd mae pobl yn ofidus, a hynny'n ddealladwy, ac yn grac oherwydd y ffaith ei bod hi'n ymddangos bod agwedd hollol wahanol tuag at ddur Cymru o'i gymharu â'r diwydiant dur yn Lloegr.

Mae llawer o Weinidogion Llafur yn amlwg wedi dechrau sylwi bod angen llawer o lo ar y diwydiant dur er mwyn cynhyrchu dur crai. [Ymyriad.] Mae Cymru'n ffodus—[Ymyriad.] Mae Cymru'n dal yn ffodus bod ganddi lawer o lo mewn cronfeydd wrth gefn, felly a allwch chi ddweud wrthyn ni a fydd Llywodraeth Cymru, o ystyried ein bod ni'n dibynnu ar lo o hyd ar hyn o bryd i gynhyrchu dur crai yn y Deyrnas Unedig, yn cymryd agwedd wahanol tuag at y diwydiant glo yma yng Nghymru ac yn newid eich polisi, sydd ar hyn o bryd yn atal glo rhag cael ei gloddio o'r ddaear yma yng Nghymru i'w ddefnyddio yn y diwydiant dur, ac yn hytrach yn cefnogi glo yn cael ei gloddio mewn pyllau glo budr gydag amodau amgylcheddol ofnadwy, mewn mannau eraill ledled y byd, a'i gludo i'r Deyrnas Unedig er mwyn cefnogi cynhyrchu dur crai? Oherwydd gadewch i mi fod yn glir: allwch chi ddim cymeradwyo dur a gwawdio glo ar yr un pryd. Mae'n amhosibl gwneud hynny, oherwydd mae angen glo i allu cynhyrchu'r dur crai sydd ei angen arnon ni. Felly, a wnewch chi edrych eto ar eich polisïau cynllunio i wneud yn siŵr y gallwn ni fanteisio ar y cyfle i adfywio ein diwydiant glo yma yng Nghymru er mwyn sicrhau bod polisi glân ac amgylcheddol gadarn o ran glo wrth symud ymlaen?

O ran y sefyllfa ym Mhort Talbot, rwy'n gwybod eich bod chi'n dal—[Ymyriad.] Rwy'n gwybod eich bod chi'n dal i droi eich trwyn ar y cytundeb a gafodd ei drefnu gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, yr union gytundeb y gwnaeth Llywodraeth newydd y DU ei roi ar waith—£500 miliwn ar gael i'w fuddsoddi er mwyn troi'r cyfleuster Tata Steel hwnnw yn un sy'n cynhyrchu dur amgylcheddol gadarn o gynhyrchion dur wedi'u hailgylchu drwy'r prosesau arc trydan. Mae'r un nifer o swyddi yn cael eu diogelu ag yr oedd yn wir o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, ac mae'r un nifer o swyddi, yn anffodus, yn cael eu colli. Pam felly eich bod chi'n parhau i wawdio'r cytundeb blaenorol hwnnw gan Lywodraeth Geidwadol y DU pan, mewn gwirionedd, yr un un ydyw a'r cytundeb sydd wedi'i weithredu gan eich Llywodraeth Lafur bresennol y DU? A gadewch i ni beidio ag anghofio ei fod yn wahanol iawn i'r dull a gafodd ei addo cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf lle, a bod yn onest, roedd Aelodau Seneddol Llafur yn addo'r ddaear i bobl a oedd yn gweithio yn Tata, gan ddweud wrthyn nhw y byddai biliynau o bunnoedd yn fwy o fuddsoddi yn eu safle er mwyn achub eu swyddi, ffuglen lwyr, sydd, wrth gwrs—. Tro pedol enfawr cyn gynted ag y cafodd y Llywodraeth ei hethol.

Nawr, yn ddigon teg, rydych chi wedi cyfeirio at y gronfa gyfoeth wladol sydd gennym ni a'r £2.5 biliwn sydd wedi'i neilltuo ar gyfer dur ledled y Deyrnas Unedig. Rydych chi wedi dweud eich bod chi eisiau gweld rhywfaint o hynny'n cael ei wario yma yng Nghymru. Roedd sôn, wrth gwrs—roedd addewid, mewn gwirionedd, gan Jo Stevens, yn dweud—y byddai ffatri haearn gostyngol uniongyrchol ym Mhort Talbot cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rydyn ni eto i weld unrhyw ddatblygiadau o ran hynny. A yw hwnnw'n brosiect yr ydych chi eisiau gweld y £2.5 biliwn hwn yn cael ei fuddsoddi ynddo? Ai dyna'r hyn yr ydych chi'n ei gynnig fel Llywodraeth? Ni allaf weld unrhyw strategaeth heblaw am eiriau teg o ran ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael, oherwydd rwy'n ofni mai'r hyn fydd yn digwydd, oherwydd bod gennym ni bolisi gwan ar ddur yma yng Nghymru o dan eich arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru, yw y bydd y £2.5 biliwn hwnnw'n mynd i rywle arall ac ni fyddwn ni'n gweld ceiniog yn fwy na'r £500 miliwn a gafodd ei drefnu gan Lywodraeth Geidwadol blaenorol y DU, oherwydd y strategaeth wan, y diffyg polisïau, y diffyg sylw yr ydych chi wedi'i roi i'r mater penodol hwn.

Felly, rydyn ni eisiau gwybod pa gymorth ychwanegol fydd yn cael ei ddarparu i Bort Talbot o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU. Rwyf eisiau gwybod pa gyfran o'r £2.5 biliwn hwnnw sy'n mynd i ddod yn ôl i Gymru, ac rwyf eisiau gwybod yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud i adfywio ein diwydiant glo yma, i wneud yn siŵr y gallan nhw chwarae rhan wrth sicrhau bod gennym ni gynhyrchiad amgylcheddol gadarn o ddur—dur crai—yma yn y Deyrnas Unedig. Diolch.

15:05

Ni allaf gredu fy mod i'n cael darlithoedd gan y Torïaid, a gafodd yr holl gyfleoedd i gamu i mewn, i wneud rhywbeth adeiladol—

—ac ni wnaethon nhw. Ni wnaethon nhw. Nid oedden nhw'n fodlon hyd yn oed codi'r ffôn i'r Prif Weinidog pan ofynnodd am alwad. Nid oedden nhw hyd yn oed yn fodlon codi'r ffôn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi hynny.

Rydyn ni, ar y llaw arall, fel Llywodraeth Cymru, mae ein pwerau yn y maes hwn—. Mae'r rhain yn benderfyniadau mawr; mae'n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud hynny. Ond yn sicr fe wnes i hedfan allan i Mumbai i siarad â'r bobl yn Tata, i weld beth allai fod yn bosibl. Doedd yr amseru ddim yn wych. Dyna'r gwir amdani: doedd yr amseru ddim yn wych. Cafodd un ffwrnais chwyth ei chau ar ddiwrnod yr etholiadau. Roedd y ffyrnau golosg hefyd wedi cau. Mae daearyddiaeth y safle yn golygu ei bod hi'n anodd iawn cadw ffwrnais chwyth ar agor ar yr un pryd â datblygu ffwrnais arc drydan.

Ac rydych chi'n sôn am yr angen i ymdrin â'r mater sy'n ymwneud â glo. Gwrandewch, rwy'n poeni nid yn unig am ddur, ond rydw i hefyd yn pryderu am yr argyfwng hinsawdd sydd ar ein pennau. A'r pwynt gyda ffwrnais arc drydan yw ein bod ni'n mynd i weld gostyngiad o 90 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid. Nid yw hynny'n swm dibwys. A bydd 75 y cant o'r deunyddiau crai sydd eu hangen ar gyfer yr ffwrnais arc drydan yn dod o ffynonellau'r DU. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n gadarnhaol, rwy'n credu.

Rwyf i'n awyddus iawn i weld rhan sylweddol o'r gronfa ddur £2.5 biliwn honno yn cael ei chlustnodi ar gyfer Cymru, ac rwyf wedi pwyso eto heddiw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i roi'r sicrwydd i ni ar hynny, fel y mae Ysgrifennydd yr economi.

Nawr, wedi'u gwreiddio yng nghanolfannau’r diwydiant trwm yng Nghymru mae straeon gweithwyr y gwnaeth San Steffan anghofio amdanyn nhw. Fe wnaethon ni ddod i arfer â hynny gan gael ein rhaglennu i'w ddisgwyl gan Lywodraethau Ceidwadol y mae eu hamwysedd tuag at Gymru a'u hesgeulustod o'i gweithwyr wedi cyfrannu at fodolaeth y sefydliad yr ydyn ni'n sefyll ynddo heddiw. Ond beth sydd wedi digwydd i Blaid Lafur nad yw'n fodlon sefyll dros weithwyr, neu, i fod yn fanwl gywir, beth sydd wedi digwydd i Blaid Lafur y mae ei greddfau i ymateb yn dibynnu ar y codau post? Nawr, heb betruso, rwy'n dweud bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud y peth iawn i gamu i mewn i achub y swyddi hynny yn Scunthorpe, i amddiffyn buddiant strategol a bywoliaeth 2,700 o weithwyr, yn hynod debyg i gyfanswm y swyddi a gafodd eu colli ym Mhort Talbot. Ond, Llywydd, gwawdiodd y Prif Weinidog Blaid Cymru am awgrymu y dylai popeth fod ar y bwrdd ac am wthio amdano, gan gynnwys gwladoli, er mwyn diogelu gwneud dur crai o ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot. Fe alwodd hi hynny'n 'freuddwyd gwrach', yn nawddoglyd, sydd wedi dod yn rhyw fath o nodwedd arbennig i'r Prif Weinidog hwn. Ond, wrth gwrs, pan fydd y cynnig yn cael ei wneud mewn Senedd arall ar gyfer gwaith dur arall mewn gwlad arall, yna mae hi'n fwy na pharod i gymeradwyo hynny. Mae'n safonau dwbl amlwg ar draul Cymru.

Unwaith eto, mae safonau dwbl a diffyg gweithredu Llafur wedi gadael Cymru ar ei cholled, ac mae'r ffeithiau'n profi hynny. Fel y mae ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru yn dangos, does yna ddim gwybodaeth am faint o gyn-weithwyr Port Talbot sy'n ailsgilio; dim data ar gael mynediad at gefnogaeth; dim cofnod o i ble mae'r cyllid yn mynd. Does yna ddim syndod, felly, fod lleisiau'r trigolion lleol dwi wedi siarad â nhw ar strydoedd Port Talbot a'r cyffiniau dros yr wythnosau diwethaf yn llawn dicter a siom dwys yn y Llywodraethau Llafur yn fan hyn ac yn San Steffan. Does yna ddim syndod eu bod nhw'n gofyn rŵan: beth ydy pwrpas Llafur bellach? Pam mae gwerth gweithiwr ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn llai na gwerth gweithiwr yn Scunthorpe? Fel y dywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan:

'Os nad yw'r llywodraeth hon yn gallu esbonio sut mae'n helpu gweithwyr wedi'u diswyddo ym Mhort Talbot i ddatblygu dyfodol trwy ailsgilio, pam na ddylai'r gweithwyr hynny ddod i'r casgliad rhesymegol bod Llafur wedi troi ei chefn arnynt?'

Llywydd, bydd yn cymryd amser hir i adfer unrhyw barch a oedd gan Lafur ymhlith y cymunedau. Mae yna bethau sydd eu hangen arnon ni o ran gweithredu gan Lywodraeth y DU. O ran ynni, mae'n rhaid gweithredu i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyd-fynd â'n cystadleuwyr Ewropeaidd. O ran dympio dur rhad o wledydd eraill, mae cyflymu dileu rhwystrau masnach gydag Ewrop yn gwneud synnwyr cyffredin economaidd yn wyneb polisïau amddiffynnol yr Unol Daleithiau. Ond mae angen i ni weld prawf o'r bartneriaeth mewn grym honedig, onid oes? Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ddygn nawr wrth wthio Llywodraeth y DU i neilltuo swm sylweddol o'r gronfa ddur gwerth £2.5 biliwn, yn benodol ar gyfer buddsoddi yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, ar ôl y brad hwn, bod angen sicrwydd pendant arnon ni nad yw buddsoddiad Llywodraeth y DU yn Scunthorpe yn cyfaddawdu, mewn unrhyw ffordd, yr addewidion a gafodd eu gwneud i Bort Talbot? Mewn gwirionedd, y lleiaf y dylai Llywodraeth y DU ei wneud nawr yw dechrau atgyweirio'r difrod trwy gyhoeddi pecyn newydd a gwell o gefnogaeth i gydnabod ei dull dwy haen o gadw capasiti dur crai.

15:10

Wel, diolch. Rwy'n credu bod dyfodol i ddur ym Mhort Talbot ac yng Nghymru. Mae'r ffwrnais arc drydan yn darparu hynny. Rydyn ni wedi cael sicrwydd, mae contractau wedi'u llofnodi. Roedd y sefyllfa yn wahanol o ran y sefyllfa gyda Tata ac yn Scunthorpe. Fel y dywedais i, rwy'n credu ei bod yn afrealistig disgwyl gallu camu i mewn ar y pwynt hwnnw, oherwydd byddai Tata wedi ymgymryd ag achos cyfreithiol, ac rydych chi'n herio cwmni fel Tata—mae'n bosibl gwneud hynny, ond ni fydd pobl yn buddsoddi yn eich gwlad ar ôl hynny. Byddwch yn hollol glir ynglŷn â goblygiadau sut fyddai hynny'n edrych. Bydden nhw hefyd wedi tynnu'r £700 miliwn nôl a gafodd ei roi ar y bwrdd. Rwy'n credu hefyd ei bod yn werth nodi nad yw'r stori yn Scunthorpe drosodd; nid ydyn ni'n gwybod beth fydd diwedd y stori hon. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn hollol ddi-ildio o ran ein ffocws ar y mater hwn. Mae £42 miliwn eisoes wedi'u gwario gyda'r bwrdd pontio. Rydych chi eisiau rhai ffigurau. Mae 178 o bobl wedi cael cefnogaeth i ddechrau busnes; mae 65 o bobl wedi cofrestru diddordeb gyda'r gronfa cydnerthedd a thwf; mae dros 1,500 o bobl wedi mynychu'r ganolfan yng nghanolfan siopa Aberafan, ac, o'r rheini, roedd 980 yn unigolion a oedd yn cael eu cyflogi yn Tata Steel. Rydyn ni hefyd fel Llywodraeth wedi nodi'r cyllid sydd gennym ni drwy ReAct a Cymunedau am Waith, ac mae gennym ni £24 miliwn ar gyfer y gronfa honno o gyllid, ac yn amlwg bydd rhywfaint o hynny ar gael i bobl yn yr ardaloedd hynny.

Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Prif Weinidog. Rwy'n siarad fel cyn-weithiwr Corfforaeth Dur Prydain, fel yr oedd bryd hynny. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog bod digwyddiadau byd-eang yn golygu nawr, yn fwy nag erioed, bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein diwydiant dur, i warantu bod dur ar gael i ddiwallu ein hanghenion domestig ac i barhau i ddarparu swyddi o ansawdd da i gymunedau dur.

Nid brwydr rhwng Port Talbot a Scunthorpe yw hon, hyd yn oed os yw rhai pobl yn ceisio ei gwneud felly, ond y cyfle i achub diwydiant dur y DU. Mae'n bosibl cynnau a diffodd ffwrnais arc drydan i ateb y galw, i ymdrin â chostau trydan neu brinder deunyddiau crai. Hoffwn i ein gweld ni'n dysgu gan wledydd Ewrop, fel Sweden, a hefyd gan Awstralia, ar weithio i gyfnewid golosg â hydrogen i gynhyrchu haearn mewn ffwrnais chwyth—yn hytrach na chreu carbon deuocsid, creu anwedd dŵr.

Mae angen rheolaeth a chefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth ar y gost o foderneiddio gwneud haearn a dur. Mae'n ormod i gwmnïau unigol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai dyfodol dur yng Nghymru yw defnyddio hydrogen i gynhyrchu haearn gan ddiwydiant dur sy'n eiddo i'r cyhoedd?

Diolch yn fawr. Edrychwch, rwy'n credu bod yna gyfleoedd y mae angen i ni eu harchwilio, oherwydd mae yna faterion gwirioneddol ynglŷn â sut yr ydych chi'n cynnau ffwrnais arc drydan gyda chostau ynni fel y maen nhw heddiw, a dyna pam mai un o'r pethau yr ydw i wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU amdano yw gweld a oes modd gwneud unrhyw beth i leihau costau ynni sy'n mynd i gwmnïau sy'n cynhyrchu dur. Efallai y bydd cyfleoedd os ydyn ni'n datblygu'r cyfleoedd ynni gwynt alltraeth a dyna pam y treuliais i ran o'r gwyliau'r Pasg mewn gwirionedd yn ceisio lobïo pobl i ddod i fuddsoddi yn ein gwlad ni i wneud yn siŵr bod gennym ni faint sylweddol o ynni a all wedyn, o bosibl, gael ei droi'n hydrogen. Mae yna lawer o gyfleoedd yma ac, i mi, y peth pwysig yw ein bod ni'n cadw'r ffocws ar lefydd fel Port Talbot. Mae yna gyfleoedd mawr, mae yna lawer o sgiliau yno, ac mae yna lawer o gwmnïau sydd â diddordeb mewn datblygu yn y cymunedau hynny oherwydd y setiau sgiliau sylweddol sy'n bodoli yno.

15:15

A gaf i ddweud, o'r holl gyfraniadau hynny ar yr eitem benodol hon, mae'n rhaid i mi longyfarch Darren Millar am ei ymagwedd synnwyr cyffredin? Ar ddiwedd y dydd, mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi petruso, ac rydyn ni, erbyn hyn, yn gwybod yr anawsterau sy'n wynebu Tata Steel.

Adroddodd Llywodraeth y DU fod mwy na 55,000 o dunelli o olosg wedi cyrraedd y DU y penwythnos hwn i fynd i safle dur Scunthorpe. Mae golosg hefyd wedi cael ei gludo o Awstralia, a disgwylir i 66,000 o dunelli o belenni mwyn haearn a 27,000 o dunelli o fwyn haearn gyrraedd o Sweden. Prin eich bod chi fel Llywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i leihau ein hôl troed carbon ein hunain pan yr ydyn ni'n barod i fewnforio hwn pan yr ydyn ni'n eistedd ar lwythi a llwythi o lo. Nawr, hyd yn oed wrth adfer y tipiau segur, byddwn yn darganfod, yn yr adferiad hwn—. Bydd glo defnyddiol yn bresennol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ei fod yn nonsens llwyr i lo sy'n cael ei gloddio yma yng Nghymru, neu y deuir o hyd iddo hyd yn oed fel rhan o unrhyw gynllun adfer yn y dyfodol, na ddylen ni fod yn ei adael yno? Gallai gael ei werthu a gallai fod wedi helpu i gynnal Tata Steel. Diolch.

Duw, allech chi ddim gwneud y peth i fyny, allech chi? Mae gennym ni Dori yn gofyn i ni ailagor pyllau glo yng Nghymru ar ôl yr hyn wnaethon nhw yn y 1980au. Mae'n hollol, hollol ryfeddol. Allech chi ddim gwneud y peth i fyny.

Mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni gydnabod bod potensial—. Mae'n rhaid i ni edrych ar sut olwg sydd ar y dyfodol. Mae gennym ni gyfrifoldebau o ran newid yn yr hinsawdd, ond mae gennym ni hefyd gyfrifoldebau i'r bobl hynny sy'n gweithio yn y sector dur ac, os gallwn ni, mae angen i ni gydbwyso'r rheini. Mae'r ffwrnais arc drydan yn rhoi cyfle i ni wneud yn union hynny.

Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n ddelwedd gwbl llwm y mae'r Prif Weinidog newydd ei phaentio o ddyfodol diwydiant Cymru, ein bod yn destun mympwyon a thrugaredd corfforaethau rhyngwladol, oherwydd os ydyn ni'n eu herio, wel efallai y byddan nhw'n ein herio ni nôl, ac nid yw hynny'n dderbyniol, ni allwn ni wneud hynny, ni allwn ni eu hatal. Dyna reolwriaeth ar ei gwaethaf, mae'n rhaid i mi ei ddweud.

Nid wyf i eisiau canolbwyntio ar y gorffennol, ond rwy'n anghytuno â'r Prif Weinidog yn dweud na fyddai Tata wedi ailagor y cytundeb. Fe wnaethoch chi eich hun, ynghyd â'ch cyd-Aelodau Llafur, gyda thipyn o ffanffer, sôn am y cytundeb gwell y gallai'r Llywodraeth Lafur ei chyflawni ar ôl iddyn nhw ddod i rym. Nawr, mae 'gwell' yn awgrymu i mi fod yn rhaid i chi fynd yn ôl a siarad â Tata, felly roedden nhw'n agored i aildrafod cytundeb, does bosib. Neu a ydw i wedi camddeall hynny ac, a dweud y gwir, yr hyn yr oedden ni'n ei amau o'r dechrau ydyw, sef bod y cytundeb gwell hwnnw mewn gwirionedd yn ddelwedd yn unig, ac mae yr union yr un fath, fel y dywedodd Darren Millar, â'r cytundeb a oedd ar y bwrdd gan y Llywodraeth Geidwadol?

Nawr, fe wna i ddweud bod y Prif Weinidog yn gywir, bod y materion yn y diwydiant dur yn mynd y tu hwnt i fuddsoddi cyfalaf syml, ac mae'n iawn bod unrhyw strategaeth ddur yn edrych ar brisiau trydan, masnach a chaffael. Byddwn i hefyd yn ychwanegu perchnogaeth at y rhestr honno. O ran caffael, yn 2016, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad 'Caffael Cyhoeddus o Ddur' a oedd yn nodi prosiectau posibl y byddai modd eu cwblhau gan ddefnyddio dur Cymru. Arweiniodd hynny wedyn at Lywodraeth Cymru yn arwyddo'r siarter ddur yn 2019. Felly, wrth edrych ymlaen tuag at strategaeth ddur newydd Llywodraeth Cymru, allwn ni ddisgwyl i adroddiad tebyg gael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu lle y byddai'n bosibl defnyddio dur Cymru yng Nghymru, ac yna ymrwymiad y bydd, mewn gwirionedd, yn gwneud hynny?

Diolch yn fawr iawn. Gwrandewch, mae hi bod amser o ddiddordeb mawr i mi fod cenedlaetholwyr eisiau gwladoli, ond maen nhw eisiau i Loegr dalu. Mae honno'n sefyllfa anodd iawn. Felly, yr wythnos hon, rydych chi eisiau gwladoli dur. Yr wythnos diwethaf, roeddech chi eisiau gwladoli porthladd Caergybi. Ac ni wnewch chi hyd yn oed ein cefnogi ni i sicrhau cynnydd o £1.6 biliwn mewn cyllid ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.

Edrychwch, pan ddaw'n fater o gaffael cyhoeddus, rydych chi'n hollol gywir, mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld lle mae'r cyfleoedd ar gyfer dur yn y dyfodol, a dyna pam y bydd cael ein Hysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am yr economi ar y bwrdd hwnnw yn helpu i lunio sut olwg fydd ar gynllun dur y DU, a gobeithio y bydd y rheini ynddo.

Ond rwy'n credu mai un o'r pethau eraill sy'n werth ei nodi yw fy mod i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, ac un o'r pethau yr ydw i wedi gofyn iddo'i wneud yw lleihau'r cwotâu diogelu oherwydd mae'r sefyllfa ar hyn o bryd, yn enwedig gyda'r tariffau sydd wedi'u gosod gan weinyddiaeth Trump, yn golygu bod dympio yn digwydd, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cwotâu yn cael eu haddasu, fel y gallwn ni amddiffyn ein diwydiant ar yr adeg anodd iawn hon.

15:20

Cynhyrchodd y Prif Weinidog, Gordon Brown a'i gydweithwyr adroddiad pwysig iawn ar gyfer Llywodraeth Lafur y DU, sydd bellach wedi'i hethol wrth gwrs, ynglŷn ag ymdrin â'r anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol yn y DU, ac roedd rhan o hynny'n ymwneud â gwneud dur gwyrdd. Felly, nawr bod gennym ni gronfa £2.5 biliwn Llywodraeth y DU ar waith a strategaeth ddur wrth fynd ymlaen, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi i wneud yr achos dros Gymru'n cael cyfran deg o'r cyllid hwnnw ar gyfer y gwaith dur gwyrdd hwnnw, yn rhannol i ymdrin â'r anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol yn y DU, ond hefyd i gydnabod y cryfderau sydd gennym ni yma yng Nghymru o ran profiad presennol a chryfder diwydiannol. Mae'n rhaid i sgiliau gwneud dur gwyrdd fod yn rhan o hynny, wrth gwrs, ac i mi yng Nghasnewydd mae hi'n ymwneud yn fawr â safle Llanwern, fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, ac roedd ymrwymiad gan Tata o ran cyllid Llywodraeth y DU oedd ar gael o ran cynhyrchu dur gwyrdd, i wneud yn siŵr bod y gweithrediadau i lawr y gadwyn o Bort Talbot yn rhan fawr o'r buddsoddiad parhaus hwnnw a'r darlun parhaus hwnnw. Felly, rwy'n siŵr y byddech chi'n cydnabod hynny o ran Llanwern ac eisiau sicrhau bod popeth sydd gan Lanwern i'w gynnig ar gyfer dyfodol cynhyrchu dur gwyrdd yng Nghymru a'r DU yn cael ei wireddu.

Diolch yn fawr iawn, John, a diolch am eich ymdrechion ar ran eich etholwyr. Rwy'n gwybod bod llawer ohonyn nhw'n pryderu am y sefyllfa yn Llanwern ac roedd yn dda cwrdd â rhai ohonyn nhw ddydd Gwener hefyd, a gwnaethon nhw'n glir bod pryderon gwirioneddol o hyd o ran yr hyn sy'n digwydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol, a dyna pam mae angen i ni sicrhau buddsoddiad. Dyna lle mae'r twf yn debygol o ddod. Mae angen i ni sicrhau bod ein cwmnïau ein hunain yn tyfu. Mae angen i ni wella cynhyrchiant. Mae angen i ni ddenu swyddi o safon. Ond rydych chi'n hollol gywir o ran y gronfa dur glân gwerth £2.5 biliwn. Rwyf i wedi'i gwneud yn glir yn y llythyr yr anfonais i at yr Ysgrifennydd Gwladol ein bod yn deall bod y gronfa wedi'i bwriadu ar gyfer cyllid cyfalaf ar gyfer trawsnewid ac nid ar gyfer cymorth refeniw. Felly, byddwn ni'n sicrhau ei bod yn glir iawn nad ydyn ni eisiau gweld y cyllid hwn yn cael ei wario ar gefnogi cymorth refeniw ffatri Scunthorpe ar draul y sefyllfa ym maes dur yng Nghymru.

Prif Weinidog, drwy gydol y datganiad ac wrth ateb cwestiynau, rydych chi wedi cyfeirio at lythyr yr ydych wedi'i anfon at Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn fy nghwestiwn atodol yn Cwestiynau i'r Prif Weinidog i chi yn gynharach, gofynnais i chi ei gyhoeddi, ond fe wnaethoch chi anghofio ateb y cwestiwn hwnnw, felly os gallech chi ateb hwnnw trwy gyhoeddi'r llythyr hwnnw, byddwn i'n ddiolchgar iawn.

Ond yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r gwrthgyferbyniad mewn iaith rwy'n ei chlywed ynglŷn â thristwch y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn cau o'r Llywodraeth Lafur hon, ond yna optimistiaeth ynghylch y carbon deuocsid sy'n cael ei arbed oherwydd iddyn nhw gau. Ni allwch chi ei chael hi'r ddwy ffordd yma. Dyna realiti hyn. Dyna sy'n digwydd pan fydd swyddi yn symud dramor. Mae Tata yn agor ffwrneisi chwyth draw yn India oherwydd mae'n rhatach iddyn nhw wneud hynny. Mae'r carbon deuocsid hwnnw'n dal i gael ei ryddhau, ond ni yw'r rhai sy'n colli swyddi yn y wlad hon. A yw honno'n strategaeth economaidd yr ydych chi'n ymrwymo iddi?

Edrychwch, dim ond i fod yn glir fy mod i'n hapus i ryddhau copi o'r llythyr yr ydw i wedi'i anfon, ond gadewch i mi fod yn glir hefyd o ran y ffwrnais arc drydan: rwy'n credu bod hyn yn rhoi dyfodol, dyfodol cynaliadwy i ddur yng Nghymru. Mae'n anodd iawn; mae yna ormod o ddur yn y byd. Mae'r rhain yn ffactorau economaidd byd-eang enfawr sy'n pennu'r sefyllfa yn y wlad hon ac, wrth gwrs, mae angen i ni gydnabod hyn fel diwydiant strategol, ac mae angen i ni wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth, yn darparu marchnad gartref i ddur, fel eu bod yn gwybod y bydd rhywle i hynny fynd, oherwydd mae cymaint o ddur yn y byd ar hyn o bryd. Mae Tsieina yn cynhyrchu cryn dipyn ohono, ac rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn ymwybodol, gyda'n llygaid yn lled agored, bod yna sefyllfa addasu carbon sy'n mynd i gael ei chyflwyno yn yr UE, a bydd hynny'n effeithio arnon ni hefyd, felly mae yna lawer o ddarnau sy'n symud yma ac nid oes unrhyw un ohonyn nhw'n syml. O fy rhan i, y peth allweddol i ni yw darparu rhywbeth sy'n gynaliadwy ar gyfer dyfodol y cymunedau hynny. Maen nhw wedi cael amser anodd, ond maen nhw'n gwybod bod rhywfaint o obaith yn y pen draw erbyn hyn, oherwydd y ffwrnais arc drydan, a'r swyddi a allai gael eu datblygu o amgylch y ddarpariaeth honno.

15:25

Mae'r hyn sydd wedi digwydd ym Mhort Talbot, fodd bynnag, wedi cael effaith ar draws ein cymunedau. Roedd y gweithwyr ym Mhort Talbot yn haeddu gwell. Roedd eu swyddi yr un mor bwysig â'r rhai yn Scunthorpe, ond Llafur yn San Steffan, fe wnaethon nhw ddewis peidio ag ymladd mor benderfynol drostyn nhw. Pam na wnaeth y Senedd eistedd ar ddydd Sadwrn i atal y ffwrnais chwyth olaf rhag cau ym Mhort Talbot? Pam cawson ni, yn Plaid, ein gwawdio am alw am wladoli'r gwaith dur yma? Nid yw hynny wedi cael sylw. A Phrif Weinidog, ydych chi'n deall y dicter sy'n cael ei deimlo gan weithwyr Cymru nawr? Oherwydd mae'n stori yr ydyn ni wedi'i gweld yn digwydd o'r blaen, am ein swyddi yn cael eu taflu ar y domen sbwriel gan San Steffan ddiofal a ffroenuchel. Onid ydych chi'n dymuno bod eich cydweithwyr Llafur yno wedi brwydro'n galetach dros weithwyr Cymru hefyd?

Edrychwch: Jingye, perchnogion Dur Prydain, roedden nhw wedi dod â'u harchebion am ddeunyddiau crai ar gyfer y gwaith dur i ben a heb y rheini, byddai'n rhaid cau'r ddwy ffwrnais chwyth, felly roedd problem ar unwaith yno, nad oedd yn wir gyda Tata; roedd Tata yn dal i drafod, roedden nhw'n dal i fod yn adeiladol, roedden nhw'n dal i fod yn weithgar gyda'r sefyllfa ym Mhort Talbot. Mae'n sefyllfa wahanol. Ydw, rwy'n deall pam mae pobl yn rhwystredig. Rwy'n deall bod pobl eisiau gweld dyfodol. Fel yr wyf i'n ei ddweud, nid wyf i'n credu ein bod ni wedi gweld diwedd y stori yn Scunthorpe eto, oherwydd bydd rhai o'r pwysau byd-eang hyn yn gwasgu arnon ni, a dyna pam mai'r hyn sydd angen i ni ei weld yw rhywfaint o eglurder o ran sut mae dyfodol dur yn edrych, ac oherwydd bod gennym ni Ysgrifennydd yr economi yn eistedd ar y bwrdd hwnnw, gobeithio y byddwn ni’n gallu helpu i'w lunio.

Ar 12 Ebrill, cadarnhaodd camau brys y DU yr hyn yr oedd llawer ohonon ni yma yng Nghymru eisoes wedi'i ofni, bod ein gweithwyr yn ddinasyddion ail ddosbarth. Pan oedd 2,800 o swyddi yn y fantol ym Mhort Talbot, nid oedd unrhyw adalw ar y Senedd, dim ymyrraeth gyflym o gwbl. Eto, ar gyfer 2,700 o swyddi Scunthorpe, gwnaeth y Llywodraeth ymdrech enfawr er mwyn gwneud yn siŵr bod cynllun ar waith. Mae'r gwir yn amlwg: gallen nhw fod wedi gwneud yr un peth ar ein cyfer ni, ond fe wnaethon nhw ddewis peidio â gwneud hynny. Cafodd Port Talbot ei siomi, nid gan amgylchiadau ond gan ddewisiadau gwleidyddol.

Daeth Llafur i rym ym mis Gorffennaf; caeodd y ffatri ym mis Medi. Roedd digon o amser yno i sicrhau bod y Senedd yn cael ei hadalw. Roedd angen gwirioneddol ac awydd gwirioneddol i ddangos pwysigrwydd swyddi Cymru a chymunedau Cymru i'r Llywodraeth Lafur. Ac ni wnaeth y Ceidwadwyr unrhyw beth o gwbl chwaith. Ni wnaethoch chi adalw'r Senedd er mwyn gwneud yn siŵr bod Port Talbot yn cael ei warchod, felly plîs, peidiwch â sefyll yno a dweud y gallech chi fod wedi gwneud yn well.

Mae gennym ni argyfwng yma, ac mae pobl Port Talbot yn haeddu gwell. Gallwch chi ddeall—ac rydych chi wedi sôn am hyn—nad ydyn nhw'n gweld pam y cafodd Scunthorpe ei drin yn wahanol. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i wneud yn siŵr bod pobl Port Talbot a'r gymuned leol yn glir bod Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn gwneud yn siŵr y bydd swyddi yno yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.   

15:30

Diolch yn fawr. Rydw i wedi esbonio pam roedd y sefyllfa yn wahanol. Nid oedd yr amseru yn wych, ac roedd hynny yn rhannol oherwydd bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â'r sefyllfa anodd y gwnaeth y Llywodraeth Dorïaidd ei gadael i ni. Ond rwy'n deall pam mae pobl yn rhwystredig. Rwyf i eisiau roi sicrwydd i chi ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn treulio llawer iawn o amser yn cefnogi'r cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan y swyddi'n cael eu dileu. Rydyn ni'n cysylltu'n gyson â'r cwmni, y sefydliadau y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod dyfodol i ddur yng Nghymru, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar y ffaith bod yna gyfleuster cynhyrchu dur drwy ddatblygu mentrau eraill o'i gwmpas.

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei bod yn deall pam mae pobl yn canfod, yn enwedig ym Mhort Talbot, bod un gymuned, un wlad, wedi cael ei thrin yn wahanol i'r llall. Mae'n hollol amlwg, rwy'n credu, i'r mwyafrif o bobl mai dyna sydd wedi digwydd. Fel pob un ohonon ni, rwy'n falch bod swyddi dur Scunthorpe wedi'u hachub a bod y gymuned honno wedi cael ei helpu, ond o ran y sefyllfa ym Mhort Talbot, roedd yna waith dur integredig. Os ydych chi'n siarad am greu ased strategol, yna dyna lle dylech chi fod wedi buddsoddi.

Rydych chi wedi dweud hynny eich hun, Prif Weinidog—mae'n debyg nad dyma ddiwedd y stori gyda Scunthorpe. Felly, os ydych chi'n edrych arno'n strategol ac yn wrthrychol yn unig, yna dylai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud y buddsoddiad economaidd ar yr achos economaidd ym Mhort Talbot. Y gwir amdani yw na wnaethon nhw'r penderfyniad ar sail yr economeg; fe wnaethon nhw'r penderfyniad yn seiliedig ar y wleidyddiaeth, ar yr hwylustod gwleidyddol, oherwydd maen nhw'n gwybod, 'Pleidleiswyr Llafur ffyddlon yng Nghymru, fe allwn ni eu cymryd nhw'n ganiataol fel yr ydyn ni wedi'i wneud bob tro, ond, mewn gwirionedd, ein canolfannau gwleidyddol, mae'n rhaid i ni ofalu amdanyn nhw'. A dyna'r drasiedi wirioneddol yma. Mae pobl yn teimlo eu bod wedi clywed celwydd, ac nid yw'n syndod bod ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn lleihau.

Beth ydyn ni'n ei wneud nawr, Prif Weinidog? Byddwn i'n apelio atoch chi—mae gan Gymru gyfalaf gwleidyddol yn y banc yma, oherwydd rydyn ni wedi cael ein siomi'n fawr. Defnyddiwch y cyfalaf gwleidyddol hwnnw, oherwydd nid dyma'r tro olaf y byddwn ni'n wynebu argyfwng economaidd yng Nghymru. Digon yw digon. Defnyddiwch y cyfalaf gwleidyddol hwnnw. Defnyddiwch eich llais. Sefwch dros Gymru, a dweud bod dyled fawr i'w thalu i bobl Cymru, a'n bod ni wedi cael llond bol o gael ein siomi, dro ar ôl tro, gan Lywodraethau olynol yn San Steffan sydd wedi ein cymryd yn ganiataol.

Diolch. Rwy'n deall y rhwystredigaeth. Rwy'n credu bod yr amseru yn anodd. Rwy'n credu bod Jingye a Tata yn sefydliadau gwahanol. Rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i chi nad ydyn ni yn Llafur Cymru byth yn cymryd y cyhoedd yn ganiataol. Rydych chi'n eithaf iawn, byddaf i'n defnyddio'r cyfle i ddefnyddio'r cyfalaf gwleidyddol hwnnw. Byddaf i'n rhoi araith yr wythnos nesaf lle byddaf i'n nodi ein safbwynt o ran sut yr ydyn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol.

Mae'n rhyfedd, y tro diwethaf i mi siarad yn y Siambr hon oedd pan gawsom ni ein hadalw i atal cynhyrchu dur ym Mhort Talbot rhag dod i ben, naw mlynedd yn ôl. Y tro cyntaf i mi fod nôl yma, am beth ydyn ni'n siarad—cynhyrchu dur ym Mhort Talbot unwaith eto. Diolch, yn gyntaf oll, Prif Weinidog, am ddod i Bort Talbot ddydd Gwener i gwrdd â'r undebau ac i wrando drosoch chi eich hun, yn uniongyrchol, ar yr hyn oedd yn cael ei ddweud, ac i glywed y dicter, y siom a'r rhwystredigaeth a ddigwyddodd oherwydd y penderfyniadau.

Mae pawb wedi dweud eu bod nhw i gyd yn gefnogol o'r penderfyniad i gadw Scunthorpe, ac nad oedden nhw eisiau gweld cymunedau a gweithwyr a theuluoedd Scunthorpe yn mynd trwy'r un heriau yr oedden nhw'n eu hwynebu, ac maen nhw'n eu hwynebu nawr. Ond yr hyn a oedd yn amlwg, fel sydd eisoes wedi'i ddweud, yw pam na ddigwyddodd hynny o'r blaen? Rwyf i wedi sefyll yn y Siambr hon i alw am bontio teg a chyfiawn. Er fy mod i'n cydnabod yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am strwythur a chynllun y safle, gallen ni fod wedi gweld ffwrnais chwyth Rhif 4 yn parhau am ychydig yn hirach, er mwyn caniatáu i'r pontio teg hwnnw ddigwydd. Ond rydyn ni yn y sefyllfa rydyn ni ynddi, yn anffodus, ac mae'n rhaid i ni nawr edrych i'r dyfodol. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn siŵr nawr bod y dyfodol yn ddiogel ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

At y diben hwnnw, rydych chi eisoes wedi sôn am y llythyr hwn yr ydych chi wedi'i anfon, ond rwy'n credu bod angen i ni gael cadarnhad gennych chi'ch hun eich bod chi'n mynd i sefyll dros gyfran teg a sylweddol o'r £2.5 biliwn hwnnw ac nad yw'n cael ei lyncu gan Scunthorpe, ein bod ni'n gweld yr arian hwnnw'n dod i mewn, a'ch bod chi'n gofyn am ostyngiad mewn costau ynni ac yn sefyll ac yn ymladd drosto, oherwydd gyda ffwrnais arc drydan, a'r ffordd y mae prisiau ynni ar hyn o bryd, mae hynny'n mynd i fod yn faich sylweddol ar gynhyrchu dur. Mae angen i ni weld pontio teg fel y gallan nhw gystadlu'n gystadleuol, oherwydd mae'r tariffau sy'n cael eu cyflwyno yn golygu ein bod ni'n mynd i gael mwy o ddur yn dod o bob cwr o'r byd.

Hefyd, rydych chi wedi sôn am y cwotâu. Rwy'n deall ar hyn o bryd bod cwotâu mewn gwirionedd yn fwy na'r hyn yr ydyn ni'n ei gynhyrchu yn y DU. Felly, maen nhw mewn gwirionedd yn cyflwyno'r holl gwotâu i gyd-fynd â'n cynhyrchiad o ddur. Mae angen i ni weld y cwotâu hynny yn lleihau, i wneud ein dur yn gystadleuol yn y DU, heb sôn am unrhyw le arall.

Allwch chi hefyd sicrhau bod Port Talbot yn cael ei gyfran deg o fuddsoddiad y tu hwnt i ddur? Fe wnaethoch chi siarad am y gwynt, ac mae hynny'n bwysig, ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod arian y Cynllun Buddsoddi a Gweithgynhyrchu Ynni Gwynt Alltraeth Arnofiol yn dod, fel y gallwn ni weld y porthladd rhydd Celtaidd yn datblygu, fel y gallwn ni weld datblygiadau eraill—efallai melin blatiau ym Mhort Talbot, i ddatblygu'r gwaith dur ar gyfer gwynt alltraeth. Mae angen y buddsoddiadau hynny arnon ni, mae angen i ni gael ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU y bydd hynny'n digwydd. Fel y dywedodd Adam Price, mae gennym ni hwnnw yn y banc nawr, gadewch i ni ei ddefnyddio, gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll dros bobl Port Talbot, y gweithwyr ym Mhort Talbot, a'r cymunedau sydd hyd yn hyn wedi cael trafferth o ganlyniad i benderfyniadau hyd yn hyn.

15:35

Diolch yn fawr iawn, Dai. Diolch am y ffordd rydych chi wedi siarad dros eich cymuned, a diolch am drefnu'r cyfarfod ddydd Gwener. Roedd yn gyfarfod anodd, roedd yn anodd clywed y rhwystredigaeth ymhlith llawer o'r gweithwyr yno. Ers y cyfarfod hwnnw, rydw i wedi ymateb trwy anfon y llythyr hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol. Rydych chi'n iawn: mae'n rhaid i hyn fod yn ymwneud â phontio teg a chyfiawn. Rydym wedi gweld digon o bontio annheg, anghyfiawn yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Rwyf wedi bod yn glir ein bod eisiau gweld cyfran sylweddol o'r gronfa ddur glân honno yn dod i Gymru, a hefyd wedi ei gwneud yn glir yr hoffem weld gostyngiad mewn costau ynni i gwmnïau fel Tata, oherwydd ni fyddwn yn gallu cystadlu. Dyna'r gwirionedd. Mae pris ynni ar y cyfandir yn sylweddol is, a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud yr holl bethau eraill hyn trwy gynhyrchu ein hynni ein hunain hefyd. Mae'n rhaid i ni weld gostyngiad mewn cwotâu, ac mae angen i ni weld hynny'n digwydd yn fuan, oherwydd ym mis Gorffennaf, bydd yn cael ei drosglwyddo ymlaen a byddwn yn cael ein cloi mewn sefyllfa am gyfnod hir.

Nid yw'n ymwneud â dur ym Mhort Talbot yn unig. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn bod yna gyfleoedd enfawr o gwmpas y porthladd yno. Mae yna bobl sydd â diddordeb gwirioneddol yn ei ddatblygu, ond mae angen cefnogaeth gan Lywodraeth y DU arnom i ddatblygu hwnnw trwy ryddhau cyllid FLOWMIS a ddylai fod yno i'n helpu i ddatblygu'r cynnig unwaith y byddwn yn gwybod beth sy'n digwydd mewn perthynas â'r Môr Celtaidd.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n gwneud y datganiad yma—Julie James.

Diolch, Llywydd. Fel Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyflawni, mae'n bleser mawr heddiw cyflwyno datganiad deddfwriaethol blynyddol y Llywodraeth a nodi blwyddyn olaf ein rhaglen ddeddfwriaethol. Hoffwn ddechrau trwy fyfyrio ar rai o'r diwygiadau sylweddol yr ydym wedi'u cyflwyno trwy ein hagenda ddeddfwriaethol dros y 12 mis diwethaf. Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i wneud deddfau yma a fydd yn cyflawni newid cadarnhaol a blaengar i bobl Cymru.

Ym mis Mawrth 2025, derbyniodd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 Gydsyniad Brenhinol. Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth a fydd yn dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal fel rhan o'n rhaglen i drawsnewid gwasanaethau plant. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gofal iechyd a chymdeithasol effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy i sicrhau canlyniadau gwell.

Derbyniodd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, a fydd yn dileu rhwystrau rhag ymgysylltu democrataidd ac yn creu system o weinyddiaeth etholiadol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2024. Yn yr un mis, fel rhan o'n gwaith i ddiwygio ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Mae'r Senedd hefyd yn ystyried nifer o Filiau hynod bwysig sydd wedi'u cyflwyno ers y datganiad deddfwriaethol diwethaf.

Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir bod cysylltu cymunedau a chyflawni rhwydwaith bysiau gwell yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac i'r perwyl hwnnw cyflwynwyd y Bil bysiau cyn toriad y Pasg. Bydd hwn yn creu system newydd i wrthdroi dadreoleiddio'r sector sydd wedi bodoli ers y 1980au, ac yn galluogi cyrff cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i gynllunio a chyflawni'r rhwydwaith bysiau lleol y mae ei angen ar bobl yng Nghymru.

Bydd y Senedd yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yn ddiweddarach heddiw ac rwy'n cymeradwyo'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth i'r Aelodau. Bydd y Bil yn rhoi mwy o ddiogelwch i bobl sy'n byw yng nghysgod tomenni nas defnyddir ac amddiffyn seilwaith hanfodol.

Mae'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr, ar hyn o bryd yng Nghyfnod 2. Bydd yr ardoll yn galluogi awdurdodau lleol i godi refeniw, gan annog dull twristiaeth gynaliadwy, yn helpu ardaloedd lleol i ffynnu a helpu ymwelwyr i fwynhau amwynderau o ansawdd uchel. Trwy wneud cyfraniad bach, gall ymwelwyr gefnogi'r cyrchfannau y maen nhw'n eu mwynhau.

Rydym hefyd yn deddfu i warchod a chryfhau iaith ein cenedl, drwy ein Bil addysg a'r Gymraeg, y bydd y Senedd yn ei ystyried yng Nghyfnod 3 yr wythnos nesaf. Mae hwn yn adlewyrchu ein huchelgais y bydd pob disgybl yng Nghymru erbyn 2025 yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn iddyn nhw adael yr ysgol ac yn rhoi cyfrifoldeb ar y system addysg gyfan i weithio tuag at y nod hwnnw.

Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) yw'r ail Fil yn ein rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae'r Biliau diddymiadau cyfraith statud hyn fel arfer wedi bod yn nodwedd gyfnodol yn neddfwriaeth Senedd y DU ac maent yn arwydd go iawn fod ein deddfwrfa'n aeddfedu.

Yn aml, ein prif raglen ddeddfwriaethol sy'n cipio'r penawdau, ond mae hyn yn cael ei ategu gan raglen sylweddol o is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth i sicrhau bod ein Deddfau, gan gynnwys Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, yn cael yr effaith a fwriadwyd, yn ogystal â deddfwriaeth fel Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, a fydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd ein cenedl am flynyddoedd i ddod.

Llywydd, rydym yn Llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni, a byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar yr un cyflymder wrth i ni gyflwyno'r Biliau terfynol yn ein rhaglen blwyddyn 4 cyn toriad yr haf.

Byddwn yn cyflwyno Bil i drawsnewid ein system ddigartrefedd, fel ei bod yn hygyrch ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan alluogi'r rhai sy'n ddigartref i gael tai tymor hir yn gyflym, cynyddu eu hunangynhaliaeth eu hunain, ac aros mewn cartref.

Byddwn hefyd yn cyflwyno Bil diogelwch adeiladau, a fydd yn diwygio'r drefn diogelwch adeiladau yng Nghymru yn sylfaenol ac yn mynd i'r afael â materion diogelwch tân.

Llywydd, mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur wedi bod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon a bydd rhanddeiliaid ac Aelodau yn falch o nodi y bydd y Bil egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth yn cael ei gyflwyno cyn toriad yr haf. Bydd y Bil yn sefydlu trefniadau llywodraethu amgylcheddol newydd, gan gynnwys ymgorffori egwyddorion amgylcheddol a chyflwyno corff llywodraethu newydd i oruchwylio gweithredu a chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol a chyflwyno fframwaith gosod targedau ar gyfer targedau bioamrywiaeth.

Llywydd, rydym yn bwriadu gwneud defnydd llawn o'r amser sydd ar gael i gyflwyno deddfwriaeth newydd yn nhymor y Senedd hon. Byddwn yn ehangu ein rhaglen ddeddfwriaethol i flwyddyn olaf y Senedd cyn yr etholiadau fis Mai nesaf, ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyblygrwydd y bydd ei angen fel rhan o'r broses.

Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad cadarnhaol â'r Pwyllgor Busnes i ystyried sut y gallwn wneud y mwyaf o amser y Senedd trwy amserlenni mwy hyblyg, wedi'u teilwra ar gyfer Biliau'r Llywodraeth, sy'n arbennig o bwysig wrth i ni edrych tuag at dymhorau pedair blynedd y Senedd yn y dyfodol.

Rydym hefyd wedi trefnu'r datganiad deddfwriaethol blynyddol hwn yn gynharach nag arfer eleni i ganiatáu i bwyllgorau'r Senedd ac Aelodau, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol, gael cymaint o rybudd ymlaen llaw â phosibl am y Biliau yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno ym mlwyddyn olaf ein rhaglen ddeddfwriaethol.

Mae'r Biliau yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno i gyd yn ymwneud â meysydd ac ymrwymiad y mae'r Llywodraeth wedi siarad amdanynt yn gyhoeddus eisoes ac y byddwch yn gyfarwydd â nhw. 

Yn dilyn y ddau adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar adalw a dichell, byddwn yn cyflwyno Bil sy'n ymwneud ag atebolrwydd Aelodau'r Senedd. 

Gan adeiladu ar y darpariaethau a wneir yn y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) i sefydlu cofrestr o lety ymwelwyr, byddwn yn cyflwyno Bil i reoleiddio llety ymwelwyr yng Nghymru drwy drefn drwyddedu. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i lety ymwelwyr fodloni set berthnasol o safonau i helpu i roi hyder i ymwelwyr yn eu diogelwch a gwella profiad ymwelwyr, gan gefnogi twristiaeth, rhan hanfodol o economi Cymru. 

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig fwriad i wahardd rasio milgwn cyn gynted â phosibl yn ymarferol. Mae'r Llywodraeth wedi gweld cryfder y teimlad ynghylch hyn a bydd deddfwriaeth yn cael ei dwyn ymlaen yn nhymor y Senedd hon i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.

Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod pwysigrwydd symleiddio a moderneiddio'r gyfraith, a byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gydgrynhoi'r gyfraith ar gynllunio, a fydd yn cydgrynhoi cyfraith gynllunio Cymru yn un statud drwy ddod â darpariaethau o wahanol Ddeddfau at ei gilydd. Bydd deddfwriaeth gynllunio hefyd bellach ar gael yn llawn yn Gymraeg a Saesneg am y tro cyntaf.

Byddwn hefyd yn cyflawni ein hymrwymiad i ail-wneud Gorchymyn cynnal etholiadau dwyieithog a chyfunol y tymor hwn, cyn etholiadau'r Senedd 2026. Mae'r Gorchymyn hanfodol hwn, sy'n amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer cynnal etholiadau i'r Senedd, yn fwy na llawer o Filiau ac mae wedi bod yn destun ymgynghoriad helaeth. Dyma enghraifft o sut mae'r Llywodraeth wedi gweithredu deddfwriaeth bwysig y mae'r Senedd wedi cytuno arni y tymor hwn.

Llywydd, rydym yn parhau i weithio gyda rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ac ymateb iddi ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni canlyniadau er budd gorau Cymru, a fydd bob amser yn cynnwys parch at ddatganoli a'n cyfansoddiad.

Mae yna nifer o feysydd eraill lle rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu deddfwriaeth yn y dyfodol a lle byddwn yn bwriadu cyhoeddi Biliau drafft neu ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid yn nhymor y Senedd hon. Mae hyn yn cynnwys diwygio tacsis a cherbydau llogi preifat, i foderneiddio'r sector a mynd i'r afael â phroblemau trawsffiniol. Byddwn hefyd yn parhau i fwrw ymlaen â datblygiad diwygiadau i uno a moderneiddio tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cyhoeddi Papur Gwyrdd i fodloni ein dyletswydd o dan Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 i gyhoeddi adolygiad o'r Ddeddf erbyn mis Medi 2026. 

Bydd blwyddyn olaf ein rhaglen ddeddfwriaethol yn gwella atebolrwydd Aelodau i'w hetholwyr, sy'n egwyddor allweddol democratiaeth fodern; cefnogi'r economi a gwella profiad ymwelwyr drwy reoleiddio llety ymwelwyr yng Nghymru; dangos unwaith eto bod Cymru yn barod i gymryd yr awenau drwy gyflwyno gwaharddiad ar rasio milgwn, sydd â chefnogaeth drawsbleidiol a chefnogaeth sylweddol y cyhoedd; a gwella hygyrchedd cyfraith gynllunio Cymru, sy'n elfen hanfodol o'n nod i gyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru.

Llywydd, edrychaf ymlaen at barhau i weithio ar draws y Siambr i sicrhau mai ein deddfwriaeth yw'r gorau y gall fod, a bydd gweddill ein rhaglen yn canolbwyntio ar y pethau sydd bwysicaf i bobl Cymru. Rwy'n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Senedd.

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Ar ôl dechrau yn ei swydd ym mis Awst y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n arweinydd sy'n canolbwyntio ar gyflawni ac ar uchelgais i'n cenedl ac nid rhyw ffigwr pell ym Mae Caerdydd, ac mai blaenoriaethau y bobl oedd, yn wir, ei blaenoriaethau hithau a'i bod eisiau arwain Llywodraeth sy'n gwrando ac yn cyflawni. Ond y gwir amdani yw bod y Llywodraeth hon yn cyflawni popeth ond blaenoriaethau pobl Cymru. Felly, gadewch i ni edrych ar hanes Llywodraeth Lafur Cymru.

Yng Nghymru, mae gennym restrau aros uchaf y GIG yn y Deyrnas Unedig gyfan, gyda dros un o bob pedwar o boblogaeth Cymru ar restr aros, a 15,500, sy'n ffigur syfrdanol, o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy, o'i gymharu â bron i ddim dros y ffin yn Lloegr. Mae bywydau pobl yn llythrennol yn y fantol o ganlyniad i hanes Llywodraeth Lafur Cymru. Yng Nghymru, mae gennym hefyd y gyfradd ddiweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan a'r pecynnau cyflog isaf ym Mhrydain Fawr. Mae polisïau Llafur Cymru yn arwain yn uniongyrchol at bobl Cymru yn mynd â llai o arian adref na'n ffrindiau a'n teulu dros y ffin yn Lloegr. A Chwnsler Cyffredinol, beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i hyn? Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya ar hyd a lled Cymru, parhau i arafu ein gwlad, a chreu 36 o wleidyddion Senedd newydd a chostus, nad yw pobl Cymru eu heisiau nhw. Allan ohoni bellach. Ydych chi wir yn meddwl eich bod wedi bod yn Llywodraeth sy'n cyflawni? Ac wrth edrych ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Lafur Cymru, mae'n ymddangos nad ydych chi'n gwneud llawer o gwbl.

Ers 2021, Cwnsler Cyffredinol, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno 58 o Filiau; cyflwynodd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn San Steffan 178 o Filiau; ond, ers 2021 yng Nghymru, dim ond 17 rydych chi wedi eu cyflawni. Mewn cymhariaeth, yn 2024 yn unig, cyflawnodd Llywodraeth yr Alban 15. Beth ar y ddaear mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ei wneud, Cwnsler Cyffredinol? A chyflawni Gweinidog, beth yn union ydych chi wedi bod yn ei gyflawni? Mae gan yr Alban 129 o ASau, ac maen nhw'n cynhyrchu tua 0.45 o Ddeddfau fesul gwleidydd, ond yng Nghymru dim ond 0.28 Deddf fesul gwleidydd. Ar ben hynny, mae gan yr Alban 2.15 gwaith y nifer o wleidyddion, ond mae wedi cynhyrchu 3.41 o Ddeddfau yn yr un amser. Felly, Cwnsler Cyffredinol, pan fyddwch chi'n anochel yn dweud bod angen mwy o wleidyddion arnom i fod yn fwy cynhyrchiol, gallwn wneud yr achos bod ein gwleidyddion yn llai cynhyrchiol na'u cymheiriaid mewn mannau eraill yn y DU. Felly, ni fydd mwy o wleidyddion yn datrys y broblem honno.

Nawr, wrth gwrs, mae gennych rywfaint o ddeddfwriaeth yn mynd trwy'r Senedd o hyd—pum Bil, dyna glamp o ffigur—ac un o'r rhai a drafodwyd fwyaf eang, wrth gwrs, yw'r un rydych chi'n ei alw'n Bil llety ymwelwyr, ond sy'n cael ei adnabod gan bawb arall fel y dreth dwristiaeth wenwynig. Mae eich asesiad effaith rheoleiddiol eich hun o'r Bil treth dwristiaeth wedi canfod y bydd y dreth wenwynig hon yn taro economi Cymru hyd at £576 miliwn dros y degawd nesaf. Cwnsler Cyffredinol, mae sector twristiaeth Cymru yn cyfrannu at dros 150,000 o swyddi yng Nghymru ac mae'n werth dros £2 biliwn o gynnyrch domestig gros Cymru. Mae angen ein cefnogaeth ar y sector hanfodol bwysig hwn, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi twristiaeth yng Nghymru. Felly, ydych chi'n cytuno â mi a'r Ceidwadwyr Cymreig pan fyddwn ni'n dweud ei bod hi'n bryd dileu'r dreth?

Cwnsler Cyffredinol, pan edrychwch ar y Biliau sy'n weddill i'w cyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon, nid oes unrhyw beth yn arloesol, nid oes unrhyw beth nad oeddem eisoes yn ei wybod, felly mae'n amlwg, ar ôl 26 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, eich bod yn brin iawn o syniadau ac wedi chwythu'ch plwc. Nid ydych chi allan ohoni'n unig, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n hollol brin o syniadau.

Ar yr ochr hon i'r meinciau hyn, rydym wedi bod yn glir iawn y bydd Ceidwadwyr Cymru yn dadlau i sicrhau bod gan deuluoedd sy'n gweithio'n galed fwy o arian yn eu pocedi. Byddwn yn sefyll o blaid modurwyr ac yn cael Cymru i symud. Byddwn yn ymladd dros ffermwyr, oherwydd pan fyddwn ni'n dweud, 'Dim ffermwyr, dim bwyd', rydym o ddifrif. Byddwn yn cefnogi ein pensiynwyr agored i niwed drwy gyflwyno lwfans tanwydd gaeaf Cymru. Byddwn yn torri rhestrau aros annynol y GIG yng Nghymru, a byddwn yn sefyll o blaid y disgyblion hynny mewn ysgolion Cymru sy'n tanberfformio'n gyson o gymharu â'u cyfoedion mewn mannau eraill yn y DU. Ond yn bwysicaf oll, Cwnsler Cyffredinol, bydd Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r bobl, rhywbeth y mae'r Llywodraeth Lafur sydd allan ohoni yn parhau i fethu â'i wneud. Felly, Cwnsler Cyffredinol, onid yw'n bryd nawr i chi a'ch Llywodraeth Lafur yng Nghymru symud o'r neilltu a gadael i'r Ceidwadwyr Cymreig gyflawni dros bobl Cymru?

15:50

Wel, roedd hynna'n wirioneddol ddifyr. Diolch yn fawr iawn, mae bob amser yn braf cael rhywun i godi'ch calon chi ar ddydd Mawrth. Atgoffwch fi faint o ASau a chynghorau rydych chi'n eu rheoli tra byddwch chi'n cael y peth hynod annadleuol hwn—[Torri ar draws.]—drwodd. Ydw, rwy'n hollol nawddoglyd. Rwy'n ymateb i'r araith nawddoglyd yr wyf newydd ei chlywed. Roedd yn gwbl nawddoglyd.

Gadewch i mi amlinellu i chi, yn syml iawn, gan ei bod yn amlwg na wnaethoch chi wrando ac wedi dod ag araith wedi'i pharatoi, yr hyn a ddywedais yr oeddem yn ei wneud, mewn gwirionedd. Rydym ar fin cyflwyno'r Bil digartrefedd a dyrannu Tai cymdeithasol (Cymru). Dyma'r newid mwyaf radical i ddarpariaeth ddigartrefedd mewn unrhyw le yng ngorllewin Ewrop. Does ond rhaid gofyn i unrhyw un o'r elusennau tai sydd wedi gweithio ochr yn ochr â ni ar y Bil hwnnw, neu unrhyw un o'r bobl sydd â phrofiad bywyd, beth yw eu barn nhw am hynny. Felly, mae'r union syniad nad yw hynny'n arloesol, yn newydd ac yn flaengar yn ffwlbri llwyr.

Bydd y Bil egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth (Cymru) yn achub y blaen ar genhedloedd eraill y DU ac yn ein rhoi yn y sefyllfa orau i ddiogelu ein hinsawdd a'n natur, ein natur hanfodol iawn, ochr yn ochr â'n hasedau diwylliannol, mewn gwirionedd. Bydd yn rhoi corff llywodraethu ar waith sydd â dannedd go iawn a phŵer go iawn, ac rwy'n cymeradwyo hynny i'r Senedd, fel yr oeddwn eisoes wedi dweud.

Byddwn yn cyflwyno Bil diogelwch adeiladau (Cymru), fel y dywedais eisoes, a fydd yn ein rhoi yn y sefyllfa orau ledled gorllewin Ewrop o ran diogelwch yn ein hadeiladau uchel. Byddwn yn cydgrynhoi ein deddfau cynllunio i'w gwneud yn hygyrch i bobl Cymru a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud.

O ran y Bil rheoleiddio llety ymwelwyr (Cymru), cefais y fraint dros seibiant y Pasg o siarad ar ran y Llywodraeth yng Nghynhadledd Cyfraith y Gymanwlad, a gynhaliwyd ym Malta, lle roeddwn yn hapus iawn i dalu tair gwaith yr hyn yr ydym ni yn ei gynnig ar hyn o bryd fel ardoll ymwelwyr i helpu'r ynys honno alluogi ei diwydiant twristiaeth i ffynnu. Cefais gyfarfodydd gyda'r Gweinidog Cyfiawnder yno, a ddywedodd wrthyf faint mae'r ardoll honno wedi'i bod o fudd i Malta o ran yr hyn y maen nhw wedi gallu ei gyflwyno mewn amwynderau a faint mae eu twristiaeth wedi tyfu o ganlyniad. Felly, mae bob amser yn bwysig edrych ar y dystiolaeth yn hytrach na'r ymatebion difeddwl sydd gennych. Mae tystiolaeth o bob rhan o'r byd diwylliannol yn dangos bod ardollau ymwelwyr yn gwella'r profiad i dwristiaid am bris bach iawn er mwyn rhoi'r amwynderau iddynt sy'n eu tynnu yno yn y lle cyntaf. Felly, nid ydych mewn cysylltiad o gwbl â'r dystiolaeth wirioneddol yma.

O ran y GIG, wrth gwrs, rydym ni newydd gael y cwymp mwyaf mewn rhestrau aros a gawsom erioed, felly rwy'n awgrymu eich bod chi'n diweddaru eich ystadegau.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad heddiw. Dwi'n gwerthfawrogi'r ffordd adeiladol dŷch chi wedi bod yn trafod efo ni fel trefnwyr busnes hefyd, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gallu mynd rhagddi, a hefyd y ffaith fod hwn yn dod yn ei flaen yn gynt na'r arfer fel bod pwyllgorau hefyd—. Oherwydd, yn amlwg, mae yna rôl bwysig o ran y Siambr hon, yr holl bwyllgorau craffu, ac mae gallu paratoi, ynghyd â'r rhanddeiliaid hefyd i wybod, oherwydd mae yna lot fawr o waith o'n blaenau ni am y flwyddyn olaf hon—.

Yn amlwg, wrth gwrs, mae o'n anffodus dros ben ein bod ni wedi cael cyfnod o ansefydlogrwydd gan y Llywodraeth, sydd yn golygu bod yna nifer o'r pethau ddylai fod wedi bod yn digwydd wedi cael eu gwasgu i mewn i’r flwyddyn ddiwethaf yma, ac mae’n rhaid inni gydnabod hynny a’r straen mae hynny’n mynd i fod yn ei roi, rŵan, ar gynifer o’n pwyllgorau ni. Ond hefyd, mae yna bethau i’w croesawu yma, wrth gwrs. Mae gwaddol y cytundeb cydweithio yn amlwg o’r hyn dŷch chi wedi’i gyhoeddi heddiw, ac yn amlwg, dŷn ni’n mynd i fod yn falch iawn o fedru helpu i lywio a siapio’r Biliau hyn wrth iddyn nhw fynd drwy’r camau olaf.

Mae yna rai pethau, wrth gwrs, sydd yn ein tristáu ni ar feinciau Plaid Cymru, yn sicr y gohirio a fu o ran y diwygiadau hollbwysig i’r system treth cyngor. Mae hi’n system annheg, anghymesur, ac mae hi’n drueni mawr ein bod ni wedi peidio â gallu mynd â hwnnw rhagddo. Hefyd, wrth gwrs, creu Senedd fwy cyfartal o ran cynrychiolaeth rhywedd—bod hwnna wedi cael ei ollwng yn gyfan gwbl. Mae hwnna’n rhywbeth dŷn ni’n tristáu'n fawr ohono ac yn pryderu’n fawr beth fydd oblygiadau hynny o ran y seithfed Senedd. Felly, mae yna rai pethau y gellid fod yna.

Dwi yn falch o glywed yn eich datganiad heddiw y byddwch chi’n mynd ati o ran sicrhau bod y bylchau deddfwriaethol sydd yna o ran llywodraethiant amgylcheddol, sydd wedi ein gadael ni, wrth gwrs, fel yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb drefniadau o’r fath ers Brexit—bod hynny’n symud rhagddo. Hefyd, mi wnaethoch chi sôn ynglŷn â diwygio system Tribiwnlysoedd Cymru, a bod yna waith yn mynd i fod yn cael ei wneud. Dwi’n cymryd ein bod ni ddim yn mynd i weld y ddeddfwriaeth honno; byddwn i’n gwerthfawrogi cael y cadarnhad. Yn amlwg, mi oedd Adam Price yn glir iawn y mis diwethaf o ran yr angen ein bod ni’n moderneiddio ac uno hynny. Ydych chi’n gweld bod hynny’n mynd i fod yn bosib, neu ydy hynna’n rhywbeth dŷch chi’n rhagweld sydd ddim yn mynd i fod yn bosib oherwydd cyfyngiadau amser?

Mae yna bethau, wrth gwrs, y byddwn ni'n trafod yn hwyrach heddiw, o ran y Bil ar ddiogelwch tomenni glo. Mae hwn yn rhywbeth mae nifer o'n cymunedau ni wedi bod yn ysu a deisyfu i weld. Ond fel mae amryw o randdeiliaid wedi pwysleisio, mae sgôp y Bil yn ymddangos yn llawer mwy cul i gymharu â beth gafodd ei awgrymu'n wreiddiol yn y Papur Gwyn. Felly, mi fydd y broses graffu yn eithriadol o bwysig.

Felly, wrth roesawu rhai o'r pethau, ac yn amlwg, y rhai dŷn ni wedi bod yn cydweithio arnyn nhw, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni i gyd gydnabod faint o waith sydd o'n blaenau ni a'r pwyllgorau craffu er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth o fewn y Senedd hon yn mynd i fod y ddeddfwriaeth gorau posib, a'n bod ni'n dysgu gwersi hefyd pam fod sefydlogrwydd gwleidyddol yn eithriadol o bwysig, oherwydd ei fod o'n gallu amharu ar allu Senedd i allu ddeddfwriaethu.

15:55

Diolch, Heledd. Cytunaf â hynny. Fe wnaf geisio egluro rhai o'r pethau a ddywedoch, ond rwy'n cytuno â'r rhan helaeth o'r hyn rydych yn ei ddweud. Yn sicr o ran y cytundeb cydweithio, rydym wedi gwneud gwaith da iawn, ac mae gen i restr hir yma o'r pethau a basiwyd yn ddeddfwriaethol oherwydd hwnnw. Rwy'n credu bod rhai ohonyn nhw'n werth eu dewis, mewn gwirionedd. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, er enghraifft, yn wirioneddol arloesol ac fe ddigwyddodd oherwydd y cytundeb cydweithio. Mae yna Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, wrth gwrs, ac mae diwygio'r Senedd ei hun. Mae gennym Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024—un nad yw wedi cael ei gwerthfawrogi digon ond mewn gwirionedd mae'n Ddeddf dda iawn i ni ei chyflawni—a'r un gofal cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae gennym Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) a'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc (Cymru) i mewn. Ac, wrth gwrs, fe wnaethon ni weithio gyda'n gilydd yn ystod cyfnod y cytundeb cydweithio—mewn gwirionedd, gweithiodd Siân a minnau yn benodol iawn ar rai o'r pethau digartrefedd a'r pethau llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth. Yr un diogelwch adeiladau—rwy'n cofio sawl sesiwn ar hynny yn ystod y cytundeb cydweithio, a oedd yn dda iawn. Wrth gwrs, mae hynny wedi golygu ein bod wedi gallu cyflwyno deddfwriaeth radical ac arloesol iawn, ac rwy'n falch iawn bod hynny wedi gallu digwydd.

O ran Bil y tribiwnlysoedd, credwn y byddwn yn gallu cael Bil drafft cwbl gyflawn yn y ddwy iaith, ond ni fydd gennym amser i'w gael drwy'r Senedd. Nid yw'n rhan o fy natganiad heddiw, ond byddwn yn gobeithio yn fawr nad yw'n ddadleuol o gwbl; mae'n ymwneud â'i gael yn hollol iawn ac yna bydd pwy bynnag yw'r Llywodraeth ar ôl yr etholiad nesaf yn cael Bil annadleuol i dorri eu dannedd arno, yn barod i fynd. Rwyf eisoes wedi siarad â Syr Gary Hickinbottom, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac ar ôl y datganiad hwn heddiw, byddaf yn ysgrifennu at yr holl randdeiliaid ac yn dweud wrthynt am y cynllun hwnnw. Rwy'n gwybod y byddan nhw eisiau i'r holl brif bleidiau drwyddi draw roi hynny yn eu maniffestos. Nid wyf yn credu ei fod yn ddadleuol o gwbl a byddwn wedi gwneud yr holl waith angenrheidiol ar gyfer ei gyflwyno. Nid oedd yn bosib i ni ei wneud yn y flwyddyn ddiwethaf; 'doedd dim amser. Ac mae hynny'n wirioneddol yr un peth ar gyfer y Bil tacsis hefyd, felly byddwn yn paratoi'r Bil drafft, ond fe wnaethom ni redeg allan o amser o ran ei gael trwy'r prosesau craffu a phethau. Nid wyf yn credu ei fod yn beth drwg cael rhai pethau ar y gweill ar gyfer y seithfed Senedd nad ydynt yn rhai dadleuol, yn barod i fynd. Bydd gan y Llywodraeth newydd rywbeth i dorri ei dannedd arno a gallwn ni—wyddoch chi, byddwn ni'n dechrau mewn lle da. Felly, nid dyma lle y byddwn i wedi hoffi bod, ond nid dyma'r senario gwaethaf posibl.

Ac yna, dim ond ynghylch ychydig o'r pethau eraill, mae gennym ystod enfawr o ddeddfwriaeth eilaidd i'w gael drwyddo o hyd. Felly, ymhlith y darnau o waith rydw i'n ei wneud mewn gwirionedd—roeddwn i'n trafod gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ddoe yn unig—mae gen i restr hir o bethau sy'n angenrheidiol i weithredu'r Deddfau. Mae hynny'n rhan o'ch cwestiwn. Felly, mae gen i restr hir o bethau sydd angen eu gwneud er mwyn gwneud yn siŵr bod y Deddfau rydym ni wedi'u pasio yn cael eu gweithredu mewn gwirionedd, ar waith, oherwydd, yn amlwg, does dim pwynt cael Deddf nad yw'n cael ei gweithredu. Felly, mae gen i restr hir, hir o ddeddfwriaeth eilaidd. Ac wrth gwrs, rydym wedi gorfod cydbwyso'r amser a dreulir yn gwneud hynny, sydd weithiau mor fawr os nad yn fwy na'r ddeddfwriaeth sylfaenol, er mwyn sicrhau bod y Deddfau hynny mewn grym mewn gwirionedd—felly, llawer o'r rhai rydw i newydd eu hamlinellu yno. Mae wedi bod yn gydbwysedd o ran beth i'w wneud, ond yn y diwedd mae'r Llywodraeth wedi penderfynu ei bod hi'n well gweithredu'r rhaglen go iawn nag yw hi i barhau i gyflwyno Deddfau ac yna gadael i'r gweithredu ddigwydd rywbryd yn y dyfodol.

16:00

Mae llawer i'w groesawu yma—blaenoriaethau pobl, yn ogystal â'n blaenoriaethau ni. Bil yr amgylchedd a bioamrywiaeth—. Clywais ar y radio y bore yma gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn dweud bod angen i ni wneud mwy ynglŷn â bioamrywiaeth, ac mae gennym y ddeddfwriaeth hon yn dod drwodd, croeso mawr iddi, ond hefyd y Bil bysiau, y Bil bysiau gwasanaethau cyhoeddus—dyna flaenoriaeth pobl—a dod â rasio milgwn i ben. Fe wnaethom ni glywed y cyhoedd ac rydych chi wedi rhoi hynny ar waith nawr i ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn. Mae i'w groesawu'n fawr iawn. 

Fe wnaethom hefyd drafod mabwysiadu Deddf Herwgipio Anifeiliaid Anwes 2024, sydd wedi'i chyflwyno yn Lloegr—llawer o gefnogaeth y cyhoedd yno, ac roedd y Senedd i gyd yn ei chefnogi. Rwy'n gwybod roedd yn rhaid i'r Llywodraeth ymatal, oherwydd mae gennych chi dagfa fawr o ddeddfwriaeth i fynd drwyddo. Awgrymodd Rhys ab Owen newid Deddf Dwyn 1968, neu roi llinell i mewn, i gydnabod bod dwyn anifeiliaid anwes yn fwy na dim ond cymryd gwrthrych, wyddoch chi. Mae'n emosiynol iawn i bobl. Felly, a yw hyn yn rhywbeth—fe wnaethoch chi siarad yn gynharach am fynd ymlaen i dymor nesaf y Senedd—y gallem ei chyflwyno yn barod? Rydym ni wedi ei thrafod; rydym ni'n gwybod bod pobl yn dymuno ei chael. A allwn ni ei chael yn barod fel ei bod yn Ddeddf y gellir ei gwthio drwodd yn gyflym iawn ac yn hawdd yn nhymor nesaf y Senedd? Diolch.

Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau y byddem yn awyddus iawn i'w wneud wrth i ni fynd tuag at yr etholiad—ac mae hyn, yn amlwg, yn effeithio ar bob un o'r pleidiau yma heddiw—yw siarad ar draws pleidiau am gyfres o bethau y gall y Llywodraeth ddechrau paratoi ar eu cyfer er mwyn eu cael yn barod i fynd nad ydynt yn rhai dadleuol ac a fyddai'n debygol o gael eu cynnwys ym mhob un o faniffestos y prif bleidiau. Byddwn yn parhau â'r sgwrs honno. Gall hynny, yn amlwg, fynd ar y rhestr, ac yna, yn amlwg, byddai'n fater i bwy bynnag yw'r Llywodraeth newydd barhau â hynny. Ond byddwn yn siarad â'r holl brif bleidiau sy'n bresennol yn y Senedd am sut y gallai'r rhestr honno edrych ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi ar ei chyfer.

Rydym ni'n mynd i dymor Senedd pedair blynedd, felly ni allwn fforddio peidio â chael deddfwriaeth yn mynd drwodd ar unwaith, ac felly gwneud yn siŵr bod gennym rywfaint o ddeddfwriaeth gydsyniol yn barod i fynd—. Ac rydym yn hapus iawn i ymrwymo amser drafftio'r Llywodraeth ar gyfer rhywfaint o hynny, i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Felly, byddaf yn cael y sgyrsiau hynny drwyddi draw, ac, wrth i'r etholiad agosáu, yn amlwg, mae pawb yn cael mynediad at y gweision sifil i siarad trwy'r hyn sydd angen iddynt ei wneud. Ac os gallwn ddod o hyd i'r darnau cydsyniol hynny ar draws y Siambr—rwy'n credu bod Deddf y Tribiwnlysoedd yn enghraifft dda iawn ohonynt, ond mae yna rai eraill—yna gallwn yn amlwg gyflwyno’r rheini—. Wel, gallwn eu cael mor barod ag y gallwn er mwyn sicrhau eu bod yn digwydd.

A gaf i ddiolch i chi hefyd am y ffordd rydych chi wedi ymgysylltu â mi, yn union fel y gwnaeth Heledd gyda Phlaid Cymru? Rydym wir yn croesawu'r dull hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddechrau gyda'r gwaharddiad ar rasio milgwn, ar ran Arthur, sydd ddim gyda ni mwyach, a Wanda sydd gyda ni, a hefyd hoffwn dalu teyrnged i'r holl elusennau anifeiliaid anhygoel hynny sydd wedi gweithio mor galed i gael hwn yn ei le. Edrychaf ymlaen at y grŵp gweithredu yn fuan iawn er mwyn ei symud ymlaen.

Rwy'n falch o'r ddeddfwriaeth i ddileu elw, a'r Bil bysiau hefyd, gyda'r tocyn bws £1 ar gyfer rhai 21 oed ac iau a oedd gennym yn y fargen. Rwy'n drist nad oedd y Bil cwota rhywedd wedi mynd drwyddo. Mae llawer ohonom wedi treulio llawer o amser ar bwyllgor yn clywed tystiolaeth gan lawer o bobl ac yn gwneud argymhellion, ac roedd hwnnw'n ddiwrnod trist iawn pan glywsom nad oedd yn mynd i fynd drwodd. Ond roeddwn i eisiau treulio un funud—llai nag un funud; 10 eiliad—i siarad am y Bil atebolrwydd Aelodau a'r rhan am ddichell yn hwnnw. Fy nghwestiynau i chi mewn gwirionedd yw, er mwyn adfer ymddiriedaeth y cyhoedd, mae angen rhai egwyddorion go iawn yno, felly gobeithio y byddaf yn gallu cwrdd â chi i siarad ychydig mwy amdano, ond mae'r materion mewn gwirionedd yn ymwneud ag annibyniaeth, am broses farnwrol, ac am broses sy'n deg ac yn atebol. Diolch.

16:05

Diolch, Jane. Rwy'n rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch y Bil cwota rhywedd. Nid oeddem yn gallu gwneud hynny mewn ffordd a oedd yn golygu ein bod ni'n siŵr y gallwn ei gael drwodd. Roedd yn rhaid i ni ei dynnu, fel y cofiwch chi, oddi wrth y Bil diwygio ei hun oherwydd roeddem ni'n ofni y byddai'n dod â'r holl beth i lawr, ac yna nid ydym wedi gallu gweithio allan ffordd i'w wneud. Nid yw hynny'n golygu na ellir ei wneud yn y dyfodol, ond roedd yn heriol iawn i'w wneud. Rwy'n rhannu eich tristwch ynghylch hynny. Rwy'n siŵr y bydd hwnnw'n ddarn o waith a ddaw ymlaen eto.

O ran y Bil atebolrwydd Aelodau, ydw, rwy'n bwriadu siarad â chi ac ag Adam a Lee, sef y tri pherson a'i wthiodd ymlaen yn y lle cyntaf. Ond rwyf hefyd yn bwriadu ymgysylltu'n iawn â'r holl bleidiau yn y Senedd ynglŷn â sut rydym ni'n disgwyl y bydd y Bil hwnnw'n edrych a beth sy'n bosibl. Rwyf hefyd wedi cael sgwrs gyda Chadeirydd y pwyllgor safonau am yr hyn maen nhw'n ei ddisgwyl a'r hyn sy'n gyflawnadwy. Ond rwy'n gwbl ymrwymedig i fynd â rhywbeth drwyddo y gallwn ni ei gael trwyddo yn nhymor y Senedd hon. Mae p'un a fyddwn yn gallu cael yr holl reoliadau gweithredu drwodd yn rhywbeth y bydd angen i ni ei drafod. Bydd yn rhaid i ni gael trafodaethau gyda'r Pwyllgor Busnes ynglŷn ag amserlen gyflym ar gyfer y Bil hwnnw, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gallwn ei baratoi cyn hanner tymor yn nhymor yr hydref, ac felly ni fyddwn yn gallu cael cyfnod craffu Cyfnod 1 o 12 wythnos neu bydd yn dod i ben. Felly, bydd yn rhaid i ni wneud llawer o waith ar draws y Senedd i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, ond nid yw hynny'n golygu na allwn wneud hynny, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato. Mae yna dalfan yn y rhaglen i wneud yn siŵr ei fod yn gallu aros yno, felly rwy'n ymrwymedig iawn i hynny. Mae dau ddarn iddo. Mae'r darpariaethau adalw, yn ogystal â'r darpariaethau atebolrwydd Aelodau, felly bydd angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio'n galed iawn i roi'r rheini ar waith.

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, rwy'n gwybod, wedi bod yn gweithio'n galed ar y grŵp gweithredu ar gyfer y gwaharddiad milgwn, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cyhoeddi hynny yn fuan iawn. Rwy'n siŵr fy mod wedi gweld drafft. Felly dylai hynny fod unrhyw funud nawr, rwy'n meddwl. Dylai hwnnw fod yn dod allan. Yna, fel y gwyddoch, mae gennym y Bil dalfan ar gyfer cynllun wrth gefn ar gyfer hynny hefyd. Felly, byddwn yn cynnull rhai grwpiau i wneud yn siŵr ein bod yn deall hanfodion hwn. Byddaf yn gwneud hynny ochr yn ochr â'r drafftwyr, felly byddaf yn gwneud yn siŵr bod y cwnsler deddfwriaethol sy'n drafftio'r Bil mewn gwirionedd yn rhan o'r grŵp hwnnw hefyd, fel ein bod yn osgoi rhai o'r prosesau ailadroddol fel y gallwn ei wneud mor gyflym â phosibl.

Diolch. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, eich hunan, am fy ngwahodd i gyfres o gyfarfodydd adeiladol ynglŷn â'm Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) dros y misoedd diwethaf. Fel y gwyddoch chi, bydd y Bil fel y'i drafftiwyd bellach yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo, cefnogi ac adrodd ar y defnydd o BSL ledled Cymru. Mae'r Ddeddf yn amlinellu fframwaith cynhwysfawr, gan gynnwys paratoi strategaeth BSL, canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus a chreu cynlluniau BSL ar gyfer sefydliadau cyhoeddus allweddol. Mae hefyd yn gofyn am benodi cynghorydd BSL statudol a fydd yn cynghori Gweinidogion Cymru. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau ei chytundeb gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol a minnau y byddai'r cynghorydd hwn yn ddefnyddiwr BSL ei hun a byddai ganddo'r pŵer i benodi panel cynghori BSL, a fyddai'n golygu y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn mynd ymhellach nag unrhyw ddeddfwriaeth BSL arall yn y DU?

Amlygwyd yr angen am y ddeddfwriaeth hon unwaith eto gan yr adroddiadau yr wythnos diwethaf am y dyn byddar a oedd yn byw ger yr Wyddgrug a fu farw o ganser ac y dywedodd ei ferch fod diffyg darpariaeth iaith arwyddion difrifol yn effeithio ar ei ofal. Bydd y ddeddfwriaeth iaith hon yn helpu i wneud Cymru yn lle mwy cynhwysol i ddefnyddwyr BSL, gan eu galluogi i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a chael mynediad at wasanaethau hanfodol. Yn olaf, felly, a fydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn cadarnhau y bydd amser deddfwriaethol ar gael yng ngweddill tymor y Senedd hon i ganiatáu i'm Bil symud ymlaen trwy'r cyfnodau deddfwriaethol? A yw hi'n cytuno bod yn rhaid i ni gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, gyda phrofiad bywyd wrth wraidd y Bil, ar gyfer y gymuned BSL a'r gymuned fyddar ehangach?

Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwy'n falch iawn o allu ateb eich holl gwestiynau'n gadarnhaol. Nid yw, yn amlwg, yn fy natganiad heddiw, oherwydd nid yw'n Fil y Llywodraeth—eich Bil chi ydyw—ond bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr ei fod yn mynd drwodd. Rydym yn cytuno'n llwyr arno, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod yr amser deddfwriaethol ar gael. Byddwn yn eich helpu i siarad â'r Pwyllgor Busnes i wneud yn siŵr bod y trefniadau craffu ar waith ac mae gennym ddalfan ar ei gyfer yn y rhaglen, er ei fod yn parhau i fod yn Fil o'ch eiddo chi ac nid fy Mil i, felly dyna pam nad yw ar fy rhestr. Ond rydym wedi bod yn falch iawn o weithio gyda chi; mae'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a minnau wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ei gyflwyno. 

16:10

Cwnsler Cyffredinol, yn gyntaf, diolch am y datganiad. Roeddwn i'n siomedig yng nghyfraniad yr wrthblaid i'ch datganiad. Fel arfer, gyda gwrthwynebiadau, maen nhw'n nodi rhywfaint o'r ddeddfwriaeth y byddent wedi hoffi ei gweld, ac nid wyf yn credu bod un darn o ddeddfwriaeth wedi ei grybwyll. Nid yw'n syndod eu bod wedi colli'r holl Aelodau Seneddol yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. A gaf i ddweud hefyd mai'r hyn sy'n digwydd yn amlwg yw ein bod yn creu corff cynyddol o gyfraith a deddfwriaeth Cymru, ac yn amlwg bydd materion sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder, yr ydym i gyd eisiau ei weld, gobeithio, yn gwneud cynnydd.

A gaf i sôn am gwpl o ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n bwysig iawn? Y Bil cydgrynhoi cynllunio—rwy'n falch o weld bod hwnnw'n mynd rhagddo. Efallai ei fod yn un o'r darnau deddfwriaeth mwyaf arwyddocaol a phwysig yr ydym wedi'u pasio o ran y manteision economaidd y bydd yna. O ran Bil y tribiwnlysoedd, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith y bydd y Llywodraeth yn gweithio, bydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn gweithio, hyd at y munudau olaf sy'n ymarferol ynddi, sy'n eithaf unigryw, ac yn amlwg yn adlewyrchu'r ffaith y bydd angen i ni wneud hynny dro ar ôl tro yn y Senedd newydd, oherwydd, gyda rhaglen pedair blynedd, nid oes amser, nid oes amser ar gael, i'w wastraffu neu i ohirio—felly, i wneud y mwyaf o ddeddfwriaeth, ac yn enwedig darnau byrrach o ddeddfwriaeth sydd â ffocws hefyd, ac rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedwyd mewn perthynas â'r Bil iaith arwyddion.

O ran tribiwnlysoedd, yn amlwg mae'n ddarn pwysig iawn, iawn o ddeddfwriaeth, ond eto mae'n gwneud synnwyr perffaith i gael deddfwriaeth sy'n parhau o un Senedd i'r llall ar faterion pwysig o bolisi a gweithrediad y Senedd hon, yn enwedig o fewn y sector cyfiawnder.

A gaf i ychwanegu un pwynt arall? Mae yna rai darnau o ddeddfwriaeth sy'n amlwg angen eu hadolygu. Fe wnaethoch gyfeirio at Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn gynharach, ac rwy'n gwybod, er enghraifft, bod Unite the Union, yr adran gweithwyr amaethyddol, yn awyddus i gael adolygiadau o ran o hwnnw. A oes gennych unrhyw gynlluniau mewn perthynas ag adolygu deddfwriaeth a diweddaru o ran yr hyn rydym ni wedi'i ddysgu wrth i ddeddfwriaeth symud ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Mick. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'ch pwyntiau yn y fan yna. Fel y gwyddoch, fel Senedd, nid oes gennym broses cau pen y mwdwl, fel sydd ganddynt yn Senedd y DU, ac mae'n un o'r pethau rwy'n credu y dylem ei ystyried fel Senedd yn y dyfodol, oherwydd bydd Biliau sy'n gydsyniol yn y modd hwnnw a allent syrthio i mewn i broses cau pen y mwdwl, a phe bai yna broses o'r fath, efallai y byddwn wedi cael y Bil tribiwnlysoedd drwodd. Felly, mae'n rhywbeth y dylem ei ystyried ar gyfer rhaglenni'r Senedd yn y dyfodol.

Rwyf hefyd wedi bod yn trafod gyda'r Pwyllgor Busnes—ac, yn wir, fel aelod o Bwyllgor Senedd y Dyfodol—rhai o'r pethau eraill y gallwn eu gwneud a fyddai'n caniatáu i ddeddfwriaeth gydsyniol, weithdrefnol fynd drwyddo. Un o'r pethau yr ydym yn bwriadu ei gwneud, fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith yn y lle hwn wrth yr Aelodau, yw ein bod yn bwriadu gwneud Bil cywiro, diddymu a thacluso omnibws, os dymunwch chi. Byddwn yn disgwyl gweld o leiaf un o'r rheiny ym mhob tymor y Senedd, a hoffwn weld un bob yn ail flwyddyn, mewn gwirionedd, lle rydym yn gwella hygyrchedd y gyfraith trwy dacluso y gwahanol ddarnau. Ac mae darn o waith yn mynd ymlaen gyda phob un o gynghorwyr deddfwriaethol y pedair gwlad ynghylch beth yw uchafiaeth y gyfraith. Felly, mae hyn yn dechnegol iawn. Ymddiheuriadau i bawb nad ydynt yn ymddiddori yn y maes hwn mewn gwirionedd, ond ar hyn o bryd yn y DU—ac rwy'n dweud wrthych rywbeth rydych chi eisoes yn ei wybod, Mick, rwy'n gwybod—y gyfraith bapur yw y gyfraith, ac nid yw'r fersiwn ddigidol yn gyfraith ddiffiniol. Ym mron pob awdurdodaeth arall yn y byd, mae'r gwrthwyneb yn wir. Ac ni fyddech chi, pe bai'r gwrthwyneb yn wir yma yn gallu rhoi'r gallu i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gywiro'r cofnod digidol. Felly, er enghraifft, yr enghraifft rydym ni'n ei roi drwy'r amser yw bod, mewn llawer o ddeddfwriaeth y DU, bwerau yn cael eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Nid yw'n amlwg pa Ysgrifennydd Gwladol; mae'n rhaid i chi wneud ychydig o chwilota o gwmpas i ganfod hynny. Ond, oherwydd y twf yng nghyfraith Cymru, gall 'yr Ysgrifennydd Gwladol' olygu Gweinidogion Cymru; gall olygu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru. Ond, hyd yn oed yn fwy rhyfeddol, efallai y byddai'r Ddeddf honno yn cael ei datgymhwyso yn Lloegr ac efallai byddai'n golygu dim ond Gweinidogion Cymru. Pob lwc gyda cheisio gwneud synnwyr o hynny, pe baech chi'n ymddangos mewn llys.

Felly, pe baem yn dweud bod y gyfraith ddigidol yn gyfraith sylfaenol, yna gallai Argraffydd y Brenin gywiro hynny mewn gwirionedd, a gall wneud hynny fel peth gweinyddol, ond ar hyn o bryd fe fyddai'n rhaid i ni fynd â deddfwriaeth ddiwygio drwodd, sy'n gybôl enfawr er mwyn gwneud rhywbeth eithaf syml. Felly, rwy'n cytuno â chi, rwy'n credu bod yna nifer o bethau y bydd y Senedd sy'n aeddfedu yn gallu eu gwneud a fydd yn gwella hygyrchedd y gyfraith, ac un o'r rheiny yw deddfwriaeth sy'n mynd ar draws tymhorau'r Senedd neu'n syrthio i mewn i broses cau pen y mwdwl.

16:15
5. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Strategaeth Bwyd Cymunedol

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar strategaeth bwyd cymunedol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 16:15:40
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae bwyd wrth wraidd ein bywydau i gyd. Mae'r hyn rydym ni'n ei fwyta yn effeithio nid yn unig ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd ar ein hamgylchedd, ein diwylliant, a chryfder ein cymunedau.

Dyma pam mae'r strategaeth bwyd cymunedol yn ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu. Nid yw'n gyfarwyddeb o'r brig i lawr; mae'n strategaeth a adeiladwyd o'r gwaelod i fyny, wedi'i lywio gan gymunedau ledled Cymru ac ar eu cyfer. Rydym wedi gwrando ar brofiad mentrau ar lawr gwlad sydd eisoes yn gweithio i gryfhau gwytnwch bwyd ac wedi manteisio ar y profiad hwnnw i hyrwyddo deietau iachach, ac i adeiladu systemau bwyd lleol mwy cynaliadwy. Trwy ymgyngoriadau, gweithdai a phartneriaethau cydweithredol, rydym wedi sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu'r hyn sydd ei angen ar ein cymunedau a'r hyn maen nhw'n ei werthfawrogi. A hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi cyfrannu.

Fel rydym i gyd yn gwybod, mae Cymru yn rhan o system fwyd fyd-eang. Mae archfarchnadoedd yn cynnig cyfleustra a fforddiadwyedd, ond mae yna gost ynghlwm wrth y ddibyniaeth ar gadwyni cyflenwi byd-eang hefyd: effaith amgylcheddol ac, yn wir, effeithiau ar iechyd a deiet pobl. Mae lefelau braster, siwgr a halen mewn bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth yn gysylltiedig â nifer o bryderon iechyd. Yr effeithiau hirdymor hyn ar les pobl a chymunedau yw'r rheswm pam rydym wedi seilio'r strategaeth hon yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n ategu strategaeth 'Cymru Can'. Mae'r strategaeth hon yn ategu'r argymhellion a wnaed gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o ran bwyd yn gynharach heddiw. Mae'r strategaeth bwyd cymunedol hefyd yn integreiddio â chynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a strategaeth tlodi plant 2024, y mae'r ddau ohonynt yn hyrwyddo atebion a arweinir gan y gymuned a lles hirdymor.

Mae system fwyd leol gryfach yn dibynnu ar gysylltiadau cryfach rhwng cyflenwad a galw. Trwy'r strategaeth hon, rydym yn cefnogi tyfwyr, ffermwyr a busnesau bwyd Cymru gyda'r buddsoddiad mewn capasiti, sgiliau a seilwaith, a'r mynediad at gyfleoedd caffael. Rydym yn cefnogi cyrff cyhoeddus i ymgorffori bwyd yn eu cynlluniau lles ac i weithio'n agos gyda phartneriaethau bwyd lleol. Yn ymarferol, bydd hyn yn helpu i gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol sydd ar gael trwy ein gwasanaethau cyhoeddus, trwy fentrau fel Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a phartneriaeth bwyd Rhondda Cynon Taf.

Mae polisi bwyd yn cyffwrdd â bron pob adran o'r Llywodraeth, a'r llynedd, cyhoeddais 'Bwyd o Bwys: Cymru' i ddangos ein ffordd strategol a chydgysylltiedig o feddwl wrth lunio polisïau. Mae'r fforwm polisi bwyd traws-lywodraethol yn parhau i gefnogi'r dull cydgysylltiedig hwn, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau o bob cyfle. Er mwyn ysgogi cyflawniad a dangos ein harweinyddiaeth strategol, rwy'n falch iawn o sefydlu grŵp cynghori gweinidogol newydd o randdeiliaid allweddol a phartneriaid cyflawni. Bydd y grŵp hwn yn ein helpu i gadw ffocws, bod yn gydweithredol a chael ein dwyn i gyfrif yn erbyn amcanion y strategaeth bwyd cymunedol.

Rydym wedi ymrwymo i arwain a meddwl mewn ffordd strategol a chydgysylltiedig ar draws pob lefel o lywodraeth. Mae cyrff cyhoeddus yn croesawu ffyrdd cynaliadwy o gaffael bwyd fwyfwy. Mae awdurdodau lleol yn archwilio defnyddiau newydd ar gyfer asedau cyhoeddus—fel tir—i gefnogi mentrau bwyd. Mae ein targed yn feiddgar: cynyddu gwariant y sector cyhoeddus ar fwyd a chyflenwyr Cymru o leiaf 50 y cant erbyn 2030, gan gynyddu cyfleoedd y farchnad i'r rhai sy'n tyfu ac yn cynhyrchu ein bwyd yma yng Nghymru. Rydym yn cefnogi'r newid hwn gyda mentrau, gan gynnwys Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol a Bwyd o Gymru ar y Plât Cyhoeddus.

Ers 2022, rydym wedi ehangu partneriaethau bwyd lleol o naw i 22 o awdurdodau lleol, gan gyrraedd pob awdurdod lleol ledled Cymru. Mae'r partneriaethau hanfodol hyn yn galluogi sefydliadau bwyd lleol i gydlynu eu gweithredoedd, gan helpu i sicrhau'r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl ar dlodi bwyd, iechyd y cyhoedd, twf gwyrdd, ac addysg.

Mae prydau ysgol gynradd am ddim i bawb yn ganolog i'n dull ysgol gyfan, gan gynnig bwyd iach ac addysgu plant am eu bwyd a chynaliadwyedd ar yr un pryd. Ac yn 2024 yn unig, cyrhaeddodd ein rhaglen Bwyd a Hwyl 205 o ysgolion a chefnogi dros 13,000 o blant bob dydd. Bydd darparu bwyd maethlon a chynaliadwy i blant sy'n mynd i'r ysgol yn helpu i gryfhau gwytnwch bwyd yn ein cymunedau.

Mae ansicrwydd bwyd yn rhoi pwysau ar aelwydydd ledled y wlad. Mae'n tanseilio iechyd ac yn cyfrannu at ordewdra, clefydau ac, yn wir, diffyg maeth. Mae effaith ansicrwydd bwyd a thlodi bwyd yn real, ac mae'n barhaol. Dyna pam, ers 2019, rydym wedi buddsoddi dros £26 miliwn i gefnogi'r rhai sydd fwyaf mewn angen, gan gynnwys drwy awdurdodau lleol, banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, a FareShare Cymru. Mae mentrau fel Food Power, Cychwyn Iach, Big Bocs Bwyd a chynllun peilot PIPYN ym Merthyr Tudful yn cefnogi pobl i wneud y dewisiadau iachach hynny a gwella llythrennedd bwyd. Ym mis Chwefror, roeddwn i'n falch iawn o ymweld â Fareshare Cymru i weld y gwaith maen nhw'n ei wneud, a sut maen nhw wedi sicrhau bod 15 miliwn o brydau bwyd ar gael ers 2015. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr ym mhob sefydliad o'r fath am y gefnogaeth barhaus maen nhw'n ei rhoi i'r mentrau hyn. Bydd y cyllid ar gyfer partneriaethau bwyd leol yn helpu i sicrhau bod bwyd iach, lleol ar gael yn haws i fwy o bobl ledled Cymru.

Yn ogystal â helpu mwy o bobl i brynu a bwyta bwyd lleol, mae angen i ni hefyd gefnogi mwy o bobl i dyfu'r bwyd hwnnw. Mae garddwriaeth ar raddfa fach yn sicrhau manteision mawr: llai o filltiroedd bwyd, pridd iachach, mwy o fioamrywiaeth, a chefnogaeth ar gyfer swyddi gwledig. Felly, rydym yn darparu grantiau, hyfforddiant a rhwydweithiau cymorth i dyfu'r sector hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn mynd o nerth i nerth.

Trwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae ffermydd a gerddi cymdeithasol yn darparu'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol ac yn helpu i deilwra canllawiau ar gyfer mentrau garddwriaethol llai i'w galluogi i dyfu a dod yn fwy sefydledig. Rydym hefyd yn diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' i alluogi garddwriaeth a thyfu cymunedol. Ar yr un pryd, rydym yn mynd i'r afael â bylchau yn y seilwaith o ran prosesu a phecynnu lleol—camau hanfodol i gynyddu cyflenwad bwyd rhanbarthol.

Mae amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yn dod â chynhyrchwyr a defnyddwyr at ei gilydd i rannu'r gwobrau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â ffermio cynaliadwy. Mae'r modelau hyn yn darparu allyriadau is, gwell bioamrywiaeth, a chysylltiadau lleol cryfach, ond maen nhw yn wynebu rhwystrau fel mynediad at dir a hyfywedd ariannol. Felly, er mwyn creu cymunedau bwyd cydlynol, byddwn ni'n cefnogi mwy o fusnesau CSA newydd—busnesau amaethyddol newydd a gefnogir gan y gymuned—a byddwn yn ceisio sicrhau bod mwy o dir ar gael i'w helpu i ffynnu.

Nid menter y Llywodraeth yn unig mo'r strategaeth bwyd cymunedol hon; mae'n weledigaeth a rennir, a ddatblygwyd gan gymunedau yng Nghymru, ar gyfer cymunedau Cymru. Gyda'n gilydd, gallwn ni adeiladu dull iachach, tecach a mwy gwydn o ymdrin â'n system fwyd a strwythurau'r farchnad, ac un sy'n ein helpu ni i adeiladu'r dyfodol cynaliadwy hwnnw. 

Nawr, rwy'n gwybod bod gwytnwch bwyd cymunedol yn fater o ddiddordeb personol i nifer o Aelodau ar draws y Siambr hon, ac rwyf am ddiolch i'r rhai ohonoch sydd wedi dangos diddordeb gweithredol yn y pwnc hwn ers blynyddoedd lawer. Felly, rwy'n eich annog i gefnogi'r strategaeth bwyd cymunedol a'r manteision y bydd ein gweithredoedd ar y cyd yn cyflwyno i bobl a chymunedau ledled Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:20

Mae'n debyg y byddai'n well i mi ddatgan diddordeb oherwydd ein bod ni'n cyffwrdd â ffermio o fewn y strategaeth. A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, nid yn unig am eich datganiad heddiw a'r strategaeth bwyd cymunedol, ond hefyd am y sgwrs a gawsom ddoe i roi cipolwg i mi ar eich ffordd o feddwl? Rwy'n croesawu'r strategaeth bwyd cymunedol. Mae gen i rai pryderon, fel y gwyddoch chi. Mae wedi bod yn amser hir yn dod—mae wedi bod dros bedair blynedd—ond does dim ots os yw'n cael y canlyniadau cywir. Rwy'n gobeithio bod rhywfaint o'r gwaith rwyf wedi'i wneud fy hun wedi helpu i ddylanwadu ar ei gyfeiriad mewn rhai ffyrdd. Mae'n teimlo'n debyg mewn rhai meysydd.

Rwy'n croesawu'r chwe amcan—maen nhw'n bwysig iawn—ac rwy'n croesawu'r dull traws-lywodraethol. Mae'n mynd i fod yn hanfodol bod hyn yn cael ei groesawu gan bob cyfarwyddiaeth a all gael effaith wirioneddol ar ddyfodol bwyd, ac nid yn unig y bwyd, ond lles y bobl a fydd yn bwyta'r bwyd hwnnw.

Mae'r grŵp cynghori'r Gweinidog pwrpasol yn mynd i fod yn bwysig iawn hefyd. Rwy'n teimlo ei fod yn mynd i gynnig rhyw fath o her, craffu hyd yn oed o bosibl, ond rwy'n pryderu efallai y bydd ychydig yn ddisylwedd o ran y swyddogaeth graffu honno a'r swyddogaeth her honno, ond rwy'n gobeithio y gallaf gael fy mhrofi'n anghywir. Rwy'n ofni efallai na fydd yn ddigon i ysgogi'r newid a chynnal y pwysau ar bwysigrwydd cyflwyno'r amcanion hyn.

Felly, er fy mod i'n croesawu'r strategaeth, rwyf hefyd yn pryderu serch hynny ynghylch sut y bydd y strategaeth mewn gwirionedd yn ysgogi graddfa'r newid sydd ei angen arnom ar lawr gwlad. Yr hyn sy'n amlwg ar goll o'r strategaeth yw cyfeiriad at ganlyniadau disgwyliedig. Does dim cyfeiriad at dargedau cyflawnadwy ar gyfer y chwe amcan, ac maen nhw'n mynd i fod yn hollbwysig os ydym am ysgogi'r newid, fel ein bod ni'n gallu mesur sut rydym yn ei wneud ar y daith hon o ran ein strategaeth fwyd ac ysgogi diogeledd bwyd.

Rwy'n dal i gredu, fodd bynnag, fel y gwnes i pan gyflwynais i fy Mil bwyd, bod angen i'r dyheadau hyn gael eu hangori mewn deddfwriaeth, a all wedyn rhychwantu gweinyddiaethau, fel bod y pethau hyn yn parhau, oherwydd mae'n beth da iawn cyflwyno'r pethau hyn, ond oni bai eu bod wedi'u hymgorffori yn niwylliant y wlad, bydd pethau'n mynd ar goll neu byddwn ni'n gwyro oddi wrth lle rydym eisiau mynd. Felly, er bod amcanion yn y fan yma sy'n cael eu croesawu, rwy'n ofni na fyddan nhw'n galluogi graddfa'r newid sydd ei angen arnom nac yn rhoi'r hyder, efallai, i ganiatáu'r newid masnachol go iawn hwnnw i'r diwydiant ffermio.

Rydym yn siarad am rai cynlluniau gwych sy'n digwydd ac yn annog partneriaethau i wneud llawer mwy a dathlu'r hyn maen nhw'n ei wneud eisoes, ond yr hyn rwy'n poeni amdano yw graddfa'r hyn sydd ei angen arnom i sicrhau diogeledd bwyd ac i sicrhau bod mwy o fwyd lleol yn cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion, ein hysbytai a'n carchardai. Mae angen i ni allu graddio hyn yn fasnachol y tu hwnt i'r hyn sy'n digwydd mewn trefniadau partneriaeth o fewn cymunedau lleol. Rwy'n credu bod hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn.

Ac er mwyn sicrhau diogeledd bwyd go iawn, mae angen y cynhyrchwyr hynny arnom sy'n mynd i fodloni'r disgwyliadau i gael mynediad at y data priodol hefyd. Un o'r pethau y gwnaethom ddarganfod oedd yn eisiau pan oeddwn i'n ceisio datblygu'r Bil bwyd oedd mynediad at y data sydd ei angen, fel bod modd i ffermwyr a thyfwyr wybod lle roedd y cyfleoedd, lle roedd y marchnadoedd, lle roedd yr angen. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn dal i fod yn fater sylfaenol o ran mynediad at ddata.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rwyf wir yn gobeithio y bydd gwaith yn cael ei wneud ar atodiad i'r strategaeth bwyd gymunedol hon a fydd yn dechrau nodi rhai o'r canlyniadau i'r amcanion hyn a sut y bydd y Llywodraeth, neu ba bwyllgor bynnag sy'n craffu, yn gallu monitro cynnydd, fel y gallwn ni sicrhau bod y bwrdd cynghori yn gallu herio'r Llywodraeth i'r cyfeiriad cywir. Heb y ffordd honno o feddwl, rwy'n ofni y bydd y rhain yn aros fel geiriau cynnes ac na fyddan nhw'n cael eu trosi i'r hyn rwy'n gwybod eich bod chithau a minnau wir eisiau ei weld. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:25

Peter, yn gyntaf oll, a allaf ddiolch yn fawr i chi am yr her rydych chi wedi'i darparu i'r Llywodraeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran gyrru'r agenda fwyd hon ymlaen? Ac rydych chi'n iawn i ddweud nad yw hyn yn eistedd ar wahân; mae'n eistedd ochr yn ochr â 'Bwyd o Bwys: Cymru', sy'n dwyn ynghyd y meddwl strategol hwnnw ar draws y Llywodraeth, y llynedd. Ond mae hyn yn canolbwyntio i raddau helaeth ar y cadwyni cyflenwi lleol, y mentrau bwyd cymunedol, yr agwedd gaffael ar sicrhau bod mwy o fwyd a wneir yng Nghymru ar blatiau yng Nghymru hefyd, yn ogystal â'r darnau gwytnwch hynny.

Ond fe wnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau da, ac mae rhai ohonyn nhw'n dod yn ôl at y cwestiwn hwn o fonitro, gwerthuso ac asesu, ac rwy'n credu y bydd gan y grŵp cynghori'r Gweinidog rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth. Rwy'n gwybod bod yna syniad o fewn y Bil gwreiddiol a drafodwyd gennym ddoe o amgylch comisiwn, ond dydyn ni ddim eisiau sefydlu, dyweder, gomisiwn mawr arall pan ydym yn gwybod mewn gwirionedd pan ydym wedi dyfeisio grwpiau cynghori gweinidogol da iawn yma yn y Senedd ac rydym wedi rhoi'r bobl iawn arno, sef y bobl sydd wedi cyflwyno'r strategaeth hon ac wedi cyfrannu ati, ac mae'n cael ei gadeirio'n dda, ac rydych chi'n rhoi Gweinidogion o'i flaen—nid dim ond fi, ond Gweinidogion eraill—o addysg, o iechyd, ac yn y blaen, yna bydd angen iddyn nhw wrando ar brofiadau'r rhai sydd arno, a gallan nhw ddarparu syniadau ac yn y blaen.

Mae'n werth i mi nodi rhai o'r pethau y bydd y grŵp hwnnw'n eu gwneud. Rydym eisiau i'r grŵp hwnnw ein gwthio ni ar arweinyddiaeth a meddwl strategol cydgysylltiedig, i ysgogi'r gwaith o gydlynu a gweithredu system fwyd leol, i gryfhau gwytnwch bwyd yn ein cymunedau, i greu'r cymunedau bwyd cydlynol hynny ac i alluogi cadwyni cyflenwi lleol amrywiol cryfach a hyrwyddo a galluogi garddwriaeth a thyfu cymunedol. Rwy'n credu y byddan nhw'n cyflwyno'r her a'r syniadau i ddweud wrth Weinidogion, 'Bwrwch ymlaen â'r un yma, mae'n hawdd gwneud hyn—bydd angen ychydig mwy o waith ar y rhain.' Ond dyna'r hyn rydym wedi'i weld yn y gorau o'r grwpiau hyn. Felly, yn hytrach na chomisiwn mawr, rwy'n credu y bydd hyn yn monitro'r ffordd y caiff y strategaeth ei chyflawni, ac yn chwarae rôl hefyd wrth ddweud beth yw'r canlyniadau allweddol rydym am eu gweld hefyd, a gallai hynny fod mewn pethau fel mwy o gaffael. Gallai fod yn nifer cynyddol o fentrau tyfu cymunedol, sut maen nhw'n bwydo i mewn i gaffael.

Rydych chi'n iawn i ddweud bod angen i hyn gael ei lywio gyda data, ac un o fanteision grŵp cynghori'r Gweinidog yw y gallwn ni ddarparu rhywfaint o'r sylwedd trwy hynny, trwy waith ein swyddogion gyda rhywfaint o'r data a'r dystiolaeth. Ond os edrychwn ni ar y darn caffael, er enghraifft, defnyddiodd cyngor Caerffili—un enghraifft dda yma—y canllawiau rydym wedi'u cyflwyno nawr, y canllawiau diwygiedig, i ddyfarnu eu fframweithiau bwyd de Cymru y llynedd. Fe arweiniodd at raniad o 70:30—mae hyn yn dechnegol iawn—rhwng ansawdd a phris, lot newydd yng Nghymru, llawer mwy o opsiynau lleol, a chyfanwerthwr o Gymru, Castell Howell, yn ennill 100 allan o'r 150 lot. Ac yn ddiddorol, mae Castell Howell yn gwneud gwaith anhygoel ochr yn ochr â Harlech i ddatblygu'r caffael lleol hwnnw mewn gwirionedd, gan gynnwys cyflenwyr lleol unigol bach, lle maen nhw'n eu helpu i gymryd rhan yn y caffael hwnnw i lanio ar fyrddau cyngor Caerffili. Felly, gallwn ni wneud llawer gyda hynny.

Yn olaf, mae gennym ni hefyd y fforwm bwyd traws-lywodraethol, sy'n cydlynu'r gwaith ar draws y Llywodraeth. Does gen i ddim amheuaeth, Peter, y bydd pwyllgorau'r Senedd eisiau monitro gwaith y fforwm hwn yn y dyfodol, ac fe ddylai fod ymagwedd ddeinamig yno gyda'r grŵp cynghori'r Gweinidog, y fforwm bwyd traws-lywodraethol, ond hefyd gwaith y pwyllgorau yma i ddweud, 'Ydych chi'n cyflawni'r hyn rydych chi wedi bwriadu ei wneud?'

16:30

Dwi eisiau dechrau drwy groesawu'r ffaith bod y strategaeth yma wedi cael ei chyhoeddi. Mae hi, wrth gwrs, yn deillio o'r cytundeb cydweithio roedd gennym ni gyda'r Llywodraeth. Tra ein bod ni yn ei chroesawu hi, dwi'n siwr byddai'r Dirprwy Brif Weinidog ei hun yn cyfaddef efallai ei bod hi wedi cymryd yn hirach na byddwn ni wedi dymuno inni gyrraedd y pwynt yma.

Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ei fod wedi cymryd mwy o amser nag efallai y byddem wedi dymuno i gyrraedd y pwynt hwn, ond gobeithio nawr bod gennym ni strategaeth gydlynol, gydgysylltiedig a fydd, yn y pen draw, rwy'n gobeithio, yn dwyn ynghyd linynnau niferus polisi bwyd yma yng Nghymru. Ac mae angen i hyn, wrth gwrs, fod yn fwy na rhestr o ddyheadau. Mae angen iddi fod wedi ymwreiddio yn realiti effeithiau hinsawdd, ansicrwydd bwyd, a system fwyd anghyfartal, sef yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac fel rydych chi wedi sôn yn eich datganiad, mae angen i'r ymateb fod yn lleol, mae angen iddo gael ei arwain gan y gymuned, fod yn ymateb o'r gwaelod i fyny a chael ei adeiladu, wrth gwrs, ar gyfer gwytnwch.

Nid mater o gyflenwi yn unig yw diogeledd bwyd yng Nghymru, wrth gwrs. Mae'n fater o gyfiawnder, cynaliadwyedd ac, yn wir, sofraniaeth hefyd. Mae sector bwyd a diod Cymru yn cyfrannu biliynau i'n heconomi, ond rydym hefyd yn gwybod ei fod yn wynebu sefyllfa fregus iawn pan fydd cadwyni cyflenwi yn methu. Mae newid yn yr hinsawdd, fel y gwyddom, wedi dechrau ail-lunio ein tirwedd fwyd yn barod. Rydym wedi gweld un o'r cyfnodau 18 mis gwlypaf ar gofnod yn ddiweddar, ac mae tywydd eithafol, wrth gwrs, yn effeithio ar gynnyrch, mae'n effeithio ar iechyd anifeiliaid ac, wrth gwrs, o ganlyniad, rydym wedyn yn gweld mwy o chwyddiant o ran prisiau bwyd hefyd, sydd i gyd yn rhoi pwysau ar deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn aml iawn. Felly, y cwestiwn y mae angen i ni ei ofyn mewn gwirionedd yw—ac fe fyddaf yn deg yma, dim ond ychydig oriau yn ôl y cawson ni gopi—a yw'r strategaeth bwyd cymunedol yn mynd yn ddigon pell mewn gwirionedd i adeiladu'r system fwyd leol wydn rydym eisiau ei gweld sy'n gallu gwrthsefyll y siociau hinsawdd a'r aflonyddwch arall rydym yn gwybod eu bod yn digwydd, ac yn wir, eraill sy'n dod.

Gan droi'n benodol at y grŵp cynghori'r Gweinidog y gwnaethoch chi sôn amdano'n gynharach, fyddech chi'n gallu rhannu ychydig mwy o fanylion, nid am yr aelodaeth o ran unigolion, ond o ran y mathau o gyrff a sectorau yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cynrychioli ar hwnnw. Yn amlwg, byddwn i'n dychmygu cynhyrchwyr cynradd, proseswyr efallai, cadwyni cyflenwi, grwpiau gwirfoddol neu gymunedol hefyd; rhowch flas i ni o sut y gallai hynny edrych. Ac yn enwedig sut y bydd cymunedau yn llywio'r gwaith sy'n deillio efallai o rai o'r awgrymiadau a'r her sy'n dod o'r grŵp cynghori'r Gweinidog.

Byddwn i hefyd yn gofyn a ydych chi wedi cael cyfle i adolygu'r argymhellion sy'n benodol i Gymru yn adroddiad yr Athro Tim Lang ar gyfer y Comisiwn Parodrwydd Cenedlaethol, oherwydd mae hwnnw'n cynnig fframwaith ymarferol ar gyfer gweithredu, yn enwedig ar lefel gymunedol. Er enghraifft, mae'n codi pryderon am or-ddibyniaeth ar ddarpariaeth bwyd brys, banciau bwyd, caffis cymunedol, ac atebion cymdeithasol eraill sy'n debyg i blastrau glynu, os mynnwch chi. Mae gweithredwyr banciau bwyd eu hunain yn dweud wrthym yn glir eu bod nhw eisiau cael eu dileu'n raddol yn y pen draw, ond efallai y gellid ail-ddychmygu'r seilwaith y tu ôl iddyn nhw fel cwmnïau cydweithredol neu fentrau cymdeithasol. Rwy'n meddwl tybed beth allai eich gweledigaeth fod ar gyfer trawsnewid y seilwaith hwn yn rhywbeth parhaol a grymusol. Mae'r adroddiad y cyfeiriais ato yn argymell archwiliad cenedlaethol o asedau bwyd cymunedol hefyd; mae hynny'n cynnwys tir, sgiliau, offer ac ati, ac rwy'n meddwl tybed a yw hynny'n rhywbeth y byddech chi'n fodlon ei ystyried o ran mapio'r hyn sydd gennym fel y gallwn ni wedyn efallai ddatgloi potensial seilwaith bwyd cymunedol.

Pwynt pwysig arall yw'r alwad i wrthod unigoliaeth eithafol o blaid gweithredu ar y cyd; nid yw stocpeilio bwyd yn fodel gwydn. Mae gwir wydnwch yn dod o sgiliau a rennir, cefnogaeth gydfuddiannol a seilwaith cyfunol, ac rwy'n meddwl tybed lle mae'r pwyslais o ran cydbwysedd blaenoriaethau o fewn y strategaeth rydych chi wedi'i chyhoeddi. Ac wrth gwrs, mae mynediad at dir—rwy'n credu i chi sôn am hynny'n fyr—yn hollbwysig, ond sut mae hynny'n mynd i edrych? Ydych chi'n rhoi cyrff cyhoeddus yn gyfrifol am ryddhau tir—ac rwy'n meddwl yn enwedig mewn trefi a dinasoedd—ar gyfer y mannau tyfu hynny, neu'r rhandiroedd hynny, yr wyf yn gwybod eu bod yn brin yn aml iawn? Sut ydych chi'n meddwl bod hynny'n mynd i ddigwydd?

Er bod polisi bwyd yn aml yn canolbwyntio ar gynhyrchu ar y tir, rwyf am ofyn lle mae pysgodfeydd a dyframaethu yn eistedd yn y fan yma, oherwydd dydy e ddim yn ymddangos yn y strategaeth. Roeddwn i'n meddwl efallai mai strategaeth gynhwysfawr, fwy di-dor fyddai'r gorau, yn hytrach na gweld cyd-destun daearol a morol efallai mewn goleuni gwahanol, yn enwedig o ystyried bod cymaint o boblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio ar hyd ein harfordir. Yn sicr, mae'r amgylchedd morol yn cynnig potensial gwirioneddol ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy carbon isel, a ddylai fod yn rhan annatod, byddwn i'n ei ddweud, o unrhyw gynllun bwyd cenedlaethol mewn gwlad sydd â chymaint o arfordir.

I gloi, mae'n strategaeth i'w chroesawu—er ei bod yn hir ddisgwyliedig—ond os yw am gyflawni, yna mae'n rhaid iddi rymuso cymunedau, adeiladu capasiti lleol, ac ymwreiddio gwytnwch ar draws pob lefel o'n system fwyd. Y prawf, rwy'n credu, fydd a allwn ni greu system fwyd yng Nghymru sy'n wirioneddol deg, yn wirioneddol gynaliadwy, ac sy'n cael ei harwain gan y gymuned, nid yn unig mewn argyfwng, ond trwy ddyluniad.

16:35

Llŷr, diolch yn fawr iawn. Diolch hefyd am ein hatgoffa bod hyn yn deillio o lawer iawn o waith ar draws y Siambr, gan gynnwys y cytundeb cydweithio hefyd. Byddwn i wedi hoffi cyflwyno hyn yn gynharach, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ei gael yn iawn. Ein hymrwymiad oedd ein bod ni'n cyflwyno hyn yn ystod tymor y Senedd hon. Mae yma nawr, a gallwn ni roi'r seilwaith y tu ôl i'r strategaeth hon ar waith, sicrhau bod aelodaeth y grŵp cynghori'r Gweinidog yn weithredol hefyd, y gwnaethoch chi sôn amdano.

Ac rydych chi'n iawn: bydd aelodaeth y grŵp hwnnw yn adlewyrchu'r bobl sydd wedi helpu i gyfrannu at sut mae'r strategaeth yn edrych, felly bydd yn cynnwys pob un o'r rheini o'r cynhyrchwyr cynradd drwy'r gadwyn gyflenwi, ond hefyd y tyfwyr cymunedol, y bobl hynny sy'n ymwneud â'r meddwl y tu ôl i ddull bwyd cymunedol, mwy lleol yng Nghymru sy'n rhoi'r gwytnwch hwnnw i ni yn ogystal â sicrhau bod mwy o fwyd o Gymru ar blatiau yng Nghymru ac yn y blaen. Felly, bydd yr aelodaeth yn edrych yn debyg iawn i hynny. 

Ond dydyn ni ddim eisiau cast o filoedd; yr hyn rydym ei eisiau yw'r bobl allweddol ar y grŵp hwnnw a all roi mewnwelediad go iawn i ni o sut mae'n teimlo ar lawr gwlad, o dyfu garddwriaethol ar raddfa fach a lle rydym yn cyrraedd o ran hynny, i bobl fel y prif ddosbarthwyr, y bydd gan bob un ohonyn nhw ran i'w chwarae. Y peth gwych am hyn yw bod y strategaeth wedi cael ei chyflwyno ganddyn nhw a chyda nhw, ac wedi'i llywio ganddyn nhw. Rwy'n credu bod angen i'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gyflawni hyn, a'r canlyniadau, gael eu llywio ganddyn nhw hefyd, i nodi'r rhwystrau yn ogystal â'r ffyrdd ymlaen er mwyn sicrhau y gallwn ni gyflawni mwy.

Mae hyn yn dipyn o newid yn y dull gweithredu, mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, ac mae'n cydnabod, fel yr oeddech chi'n ei ddweud, yr argyfyngau natur a hinsawdd a'r mwyaf y gallwn ni ei wneud o ran atebion bwyd lleol a chymunedol. Nid yw'n anghyffredin ar y cyfandir ac mae'n dechrau digwydd yng Nghymru, ond mewn gwirionedd mae'n ei symud ar gyflymder nawr i'r cyfeiriad hwnnw. Mae gan bawb ran i'w chwarae o fewn hynny, gan gynnwys rhai o'r chwaraewyr mawr yn y gadwyn gyflenwi fel y dosbarthwyr, sy'n ymwneud i raddau helaeth â hyn, yr holl ffordd i lawr i sefydliadau ar lawr gwlad, tyfwyr cymunedol y byddwn ni'n eu gweld hefyd, ac eraill.

Mae hyn wedi ymgorffori rhywfaint o'r meddylfryd hefyd—er nad y cyfan, oherwydd mae mwy i'w wneud ar hynny—o waith yr Athro Tim Lang. Wrth gwrs, mae'n nodi'r mater o siociau bwyd i'r system a'r bregusrwydd o ran hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod datblygu rhwydweithiau bwyd lleol yn cynnig cymorth go iawn yn erbyn y siociau hynny pan fyddwch chi'n dibynnu ar economi fwyd fyd-eang. Allwn ni ddim cerdded i ffwrdd o'r ffaith bod gennym ddibyniaeth ryngwladol gyda rhai o'n mewnforion ac allforion bwyd, ond, mewn gwirionedd, po fwyaf y gallwn ni dyfu a pho fwyaf y gallwn ni roi'r gwytnwch hwnnw mewn rhwydweithiau lleol, mae'n dda i'r blaned, mae'n dda i'r hinsawdd, mae'n dda osgoi cael y siociau bwyd pan fo'r system honno dan fygythiad neu cael ei hysgwyd. Ond, yn sicr, byddem yn awyddus i weithio gyda'r Athro Tim Lang ac eraill wrth i ni fwrw ymlaen nid yn unig â'r gwaith hwn ond hefyd â'r gwaith ehangach sydd gennym ar draws y Llywodraeth ym maes bwyd hefyd.

Mae'r mynediad at dir yn un diddorol, oherwydd, heb os, fe fydd yna achosion lle byddwn ni'n gallu nodi tir cyhoeddus a fydd ar gael, ond mae ffyrdd eraill o feddwl yn greadigol hefyd am y darnau hynny o dir nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio at unrhyw ddiben o gwbl ac sy'n ddarnau o dir o fewn cymunedau. Felly, mae rhywfaint o feddwl arloesol ynghylch yr hyn a allai fod, yn y dyfodol, a byddai gen i ddiddordeb i weld beth mae'r grŵp cynghori'r Gweinidog yn ei gyflwyno gyda'u hawgrymiadau ar hynny, oherwydd sut ydym yn galluogi pob cymuned, gan gynnwys yn yr ardaloedd trefol, i gael mynediad at dir da? Bydd rhywfaint ohono o dan lwybrau traddodiadol, mwy confensiynol yr ydym yn gwybod amdanyn nhw, fel rhandiroedd neu ardaloedd tyfu cymunedol ac yn y blaen, ond mae yna ddatblygiadau arloesol eraill o fewn pocedi o dir, o fewn darnau o dir maint hances boced, yn ogystal ag asedau mwy.

Yn olaf, fe wnaethoch chi sôn am bysgodfeydd hefyd. Dydyn ni ddim wedi nodi pysgodfeydd yn benodol o fewn hyn, ond rydym yn ystyried hynny fel rhan bwysig o hyn hefyd. Byddai'n dda pe gallwn ni gyrraedd y pwynt lle gallai pysgodfeydd chwarae rhan bwysicach o fewn cadwyni bwyd lleol hefyd. Mae'n debyg bod mwy o waith i'w wneud yn benodol o fewn hynny y mae angen ei dargedu i raddau helaeth, ac, yn wir, mae llawer o'n pysgodfeydd ar hyn o bryd yn tueddu i fynd i allforio yn aml iawn hefyd pan nad yw'r rhwystrau yn eu lle ac yn y blaen, ond mae yna waith i'w wneud o fewn hynny.

Diolch i chi, ac i Peter hefyd, am gefnogi hyn yn fras. Fel bob amser gyda'r rhain, gadewch i ni beidio â gwneud hon yn strategaeth sy'n cael ei hysgrifennu ac yna'n mynd yn angof. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ei gyrru ymlaen nawr a chadw golwg arni.

16:40

Diolch yn fawr iawn am eich sylwadau, ac am gydnabod yn benodol lefelau halen, siwgr a braster mewn bwyd wedi'i brosesu'n helaeth, sef sbardun mwyaf marwolaeth gynnar yng Nghymru erbyn hyn, mae arna' i ofn. Rwy'n gwybod mai ysmygu yw achos mwyaf marwolaeth gynnar yn ôl pob sôn, ond rwy'n credu bod bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn bendant yn ei oddiweddyd, oherwydd gyda chwech o bob 10 aelwyd byth yn coginio pryd o'r dechrau, bwyd wedi'i brosesu'n helaeth maen nhw'n ei fwyta yn y bôn. Unwaith y byddwch chi'n dechrau ei wneud, mae'r canlyniadau ar gyfer iechyd unigolion yn wirioneddol ddinistriol.

Does dim byd i anghytuno ag ef yn eich cynllun bach hyfryd a'r holl bobl rydych chi wedi ymgysylltu â nhw. Mae'r cyfan yn wych, ond mae llawer iawn mwy i'w wneud, yn enwedig gan fod dibynnu ar gyflenwadau bwyd byd-eang mewn union bryd yn siwrnai seithug gyda'r aflonyddwch enfawr i fasnach ryngwladol rydym yn ei weld ers ethol Donald Trump. Yn sicr, mae'n rhaid i ni ddod yn fwy hunangynhaliol a sicrhau bod gennym ni'r diogeledd bwyd nad oes gennym ni ar hyn o bryd. Mae angen i ni gefnogi ffermwyr a thyfwyr Cymru yn bendant a sicrhau bod llysiau o Gymru yn cael eu defnyddio mewn ysgolion, ond megis dechrau mae hynny. Fe glywais i heddiw mai dim ond saith awdurdod lleol sy'n ymwneud â Synnwyr Bwyd Cymru o hyd, gyda phump arall yn cael eu hychwanegu yn y dyfodol agos iawn. Ond beth mae'r 10 arall yn ei wneud? Mae ganddyn nhw bartneriaethau bwyd lleol; pam nad ydyn nhw'n anelu at sicrhau bod bwyd lleol ar gael ym mhob un o'n hysgolion? Ar hyn o bryd, mae'r galw yn llawer mwy na'r cyflenwad, ond yn sicr mae gennym ni lawer o waith i'w wneud arno. Pethau fel rwy'n gwybod bod Sir Fynwy yn mynnu bod y cyw iâr yn gyw iâr Tractor Coch; mae'r rhan fwyaf o awdurdodau addysg lleol yn defnyddio cyw iâr wedi'i fagu yng Ngwlad Thai, a dydy hynny ddim yn gynaliadwy o gwbl o ran allyriadau carbon—

16:45

Felly, yn gyntaf, ydych chi'n cefnogi'r hawl i dyfu? Mewn lle fel etholaeth drefol fel fy un i, mae angen i ni fod yn defnyddio pob darn o dir nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall. A pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Llywodraeth ynglŷn â chynyddu dosbarthiadau coginio yn sylweddol, nid dim ond mewn ysgolion, dysgu teuluol, ond hefyd yn y gymuned ehangach, fel bod pobl yn gallu deall sut i ofalu amdanyn nhw eu hunain yn well fel eu bod nhw'n teimlo'n well?

Jenny, diolch yn fawr iawn, a diolch hefyd am hyrwyddo'r materion hyn hefyd. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth—. Mae'r cysylltiad yn cael ei nodi bob dydd nawr rhwng hynny a mwy o farwolaethau a chynnydd mewn iechyd gwael ymhlith—. Ac mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol, i raddau helaeth, hefyd. Fe soniais i yn fy sylwadau agoriadol nad yw'n fater o ordewdra a diabetes o ganlyniad i ddeiet gwael yn unig, mae'n fater o ddiffyg maeth hefyd, sy'n eithaf rhyfeddol. Mae hon yn ffenomen go iawn yn yr unfed ganrif ar hugain. Felly, po fwyaf y gallwn ni ei wneud yn gyffredinol yn y maes hwnnw, y gorau. Ac rydym yn nodi, er enghraifft, bod y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda'r adolygiad o fwyta'n iach mewn ysgolion yn mynd i fod yn bwysig, ac mae angen i hyn fwydo i mewn i hyn: sut allwn ni sicrhau bod bwyd lleol, ffres yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion? Ond mae'r darn addysg hefyd. Felly, nid yn unig—. A dyma un o'r pethau mawr rwyf wedi dod ar ei draws o'r blaen, ond hefyd o'm hymweliad diweddar ym mis Chwefror â FareShare Cymru—y gwaith maen nhw'n ei wneud nawr, nid yn unig yn dargyfeirio'r hyn a fyddai'n fwyd gwastraff, ond yn dargyfeirio hynny mewn gwirionedd i fwydlenni pobl, ond yna gweithio gyda phobl i addysgu rhieni a phlant am goginio a sut i ddefnyddio rhai o'r cynhwysion hyn hefyd. Felly, mae angen i ni wneud hynny i gyd; mae angen i ni ei wneud mewn ysgolion ond y tu allan i ysgolion hefyd, yn gyffredinol.

Mae llysiau mewn ysgolion, fel y dywedoch chi'n gywir, yn fenter ganmoladwy iawn, ond mae angen i ni fynd ymhellach, felly rwy'n awyddus, fel rhan o'r strategaeth bwyd cymunedol hon, ein bod ni'n nodi sut y gallwn ni gyflwyno'r arfer da hwnnw, y model hwnnw, i awdurdodau lleol eraill mewn rhannau eraill o Gymru, oherwydd does dim amheuaeth y gallwn ni wneud hynny. Ac wrth wneud hynny, mae angen i ni wneud yr ochr gyflenwi hefyd, ac mae angen i ni weithio ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu o'r prosiectau llysiau mewn ysgolion presennol, fel ein bod ni'n gallu ei gwneud hi'n hawdd i bawb ei wneud.

Ac, yn wir, rydych chi'n iawn, mae ysgolion Sir Fynwy, y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn y fan yna hefyd, yn cael eu cynnwys yn y strategaeth fel enghreifftiau da o ran gwaith penodol. Sut ydym ni'n cymryd yr hyn sy'n wirioneddol dda ac yn ei wneud yn arfer cyffredin ym mhob rhan o Gymru? Oherwydd bydd hynny'n ddi-os o fudd i iechyd, deiet, gwytnwch, ffyrdd o fyw da, cysylltedd â diwylliant bwyd lleol a hefyd, rwy'n credu, materion fforddiadwyedd hefyd.

Fe wnaethoch chi ofyn i mi'n benodol am yr hawl i dyfu. Mae gen i ddiddordeb yn y cysyniad o'r hawl i dyfu. Rwy'n credu bod angen i ni ddadansoddi effeithiau hynny a goblygiadau hynny. Ond mewn ymateb i Llŷr yn gynharach, fe soniais i fod gennym ni lawer o bocedi o dir mewn amgylcheddau trefol a gwledig sydd ddim yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth, ond sy'n aml yn ddarnau o dir, yn aml yn ddarnau o hen dir diffaith. Nawr, rwy'n gefnogwr brwd i'r syniad bod angen ymylon anorffenedig ar gymunedau gydag ychydig o dir diffaith o gwmpas i chwarae a mwynhau ynddo. Ond hefyd, gellid eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd, gyda chymunedau lleol yn eu defnyddio. Ac rydym wedi gweld rhai mentrau da o ran hynny. Felly, mae gen i ddiddordeb yn y cysyniad. Rwy'n credu bod angen i ni ddeall goblygiadau llawn y peth. Ac fe allai hynny fod yn rhywbeth, mewn gwirionedd, y byddwn ni'n ei gymryd ymlaen fel rhan o hyn, gyda gwaith y grŵp cynghori'r Gweinidog hefyd, oherwydd rwy'n siŵr bod rhai pobl ar y grŵp hwnnw a fyddai eisiau eirioli drosto. Ond diolch, eto, am eich cefnogaeth ac am hyrwyddo hyn.

Diolch am y cyhoeddiad yma. Un peth roeddwn i wedi sylwi oedd ddim yn y cyhoeddiad oedd sôn am gig gêm. Dwi'n ymwybodol eich bod chi'n ystyried hwnna ychydig yn wahanol, ond mae cig gêm yn cael ei gynhyrchu ar raddfa eithaf eang yma yng Nghymru. Mae e'n gig sydd yn gig iach, yn llawn protin, bron dim braster arno ac mewn niferoedd yma yng Nghymru. Mae e'n gig a fuasai'n medru cyfrannu at ddeiet plant yn ein hysgolion ni ac yn y sector cyhoeddus, trwy'r ysbytai ac yn y blaen. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i gig gêm, cig fel ffesant, neu gwningen hyd yn oed, sydd, fel dwi'n dweud, yn y niferoedd yma, a sut gallai hwnna gyfrannu at eich cynllun chi?

16:50

Felly, dydw i ddim, yn fwriadol, wedi sôn am opsiynau llawn a dewisiadau llawn y fwydlen o fewn hyn. Mae'r ffocws wedi bod ar gynyddu cynnyrch lleol, a chynhyrchion lleol cynaliadwy hefyd i raddau helaeth. Mae'n ddiddorol, pan edrychwch chi ar rai o'r rhywogaethau sy'n cael eu rheoli nawr, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn llefydd fel y New Forest ac yn y blaen—ceirw ac yn y blaen—mae'n nhw'n cael eu hyrwyddo mwyfwy fel rhywbeth amgylcheddol iawn—. Beth yw'r ffordd iawn o roi hyn? Mae'n ffordd gynaliadwy dda o gael mynediad at gig a phrotein fforddiadwy, yn enwedig mewn cyfundrefn a reolir. Dydyn ni ddim, yn fwriadol, yn trafod a yw anifeiliaid hela yn rhan o hynny ac yn y blaen, ond rwy'n credu y byddwch chi'n deall mai'r hyn rydym yn canolbwyntio arno yw cynnyrch lleol da, cynnyrch maethlon, ac mae hynny hefyd o fudd i economïau lleol hefyd. Dyna'r peth arall.

Rwy'n croesawu'r strategaeth hon yn fawr. Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, i bobl ailgysylltu â bwyd, o ble mae'n dod, yn enwedig pobl ifanc, i'w cael i fwyta'n iach. Mae'n fuddiol i iechyd pobl, ond, fel y dywedoch chi'n gynharach, mae'n fuddiol i natur a bioamrywiaeth hefyd. Sut bydd ffermwyr Cymru yn elwa ar hyn hefyd? Ydych chi'n meddwl y gallai helpu i'w hannog i arallgyfeirio yn y dyfodol, yn hytrach na thyfu un cnwd yn unig?

Hefyd, o ran cynllunio hefyd, does dim llawer o ardaloedd yng ngogledd Cymru lle gallwch chi dyfu llysiau, ac eithrio mewn rhai ardaloedd o Sealand, er enghraifft, ac mae fferm solar fawr wedi'i chynnig ar gyfer y fan yna. Felly, allwn ni fwydo hyn i mewn i hynny, hefyd, fel rhan o'r strategaeth fwyd—bod angen ei bwyso a'i fesur fel rhan o benderfyniadau cynllunio? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Edrychwch, rwy'n credu bod yna gyfleoedd gwych yma i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd cynradd yng Nghymru, oherwydd po fwyaf y gallwn ni weithio ar draws y gadwyn gyflenwi, nid yn unig i'r gofod caffael cyhoeddus, sy'n digwydd fwyfwy yng Nghymru, ond hefyd ar silffoedd archfarchnadoedd—. Mae'n rhaid i hynny fod yn fuddiol. Felly, rhan o hyn, y tu hwnt i'r manylion technegol, yw mynd ati i ddatblygu diwylliant sy'n seiliedig ar fwyd lleol, y balchder yn y bwyd lleol hwnnw. Nawr, bydd hynny'n sicr yn cael manteision diriaethol, wedyn, manteision economaidd, i ffermwyr.

Ac o ran eich pwynt ar argaeledd tir, ie, dydyn ni ddim yn creu mwy o dir, yn wahanol i bobl yr Iseldiroedd, sydd â thueddiad rhyfeddol i wneud hyn, ac ar y sail honno, mae angen i ni fod yn ddetholus iawn o ran lle rydym yn tyfu cynnyrch a lle rydym yn defnyddio tir at ddibenion eraill. Ac weithiau, gellir eu cyfuno hefyd, ond rydych chi'n sicr yn iawn, lle mae gennym ni dir cynhyrchiol da y gellir tyfu cnydau arno, yna mae angen i ni ddefnyddio'r tir hwnnw. Rwyf wedi colli un o'ch pwyntiau; rwy'n siŵr bod gennych chi dri phwynt. Ond os wyf wedi ei golli, fe ddof yn ôl ato, Carolyn. Ond diolch, eto, am eich cefnogaeth ac am hyrwyddo hyn.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru

Eitem 6 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: adroddiad grŵp cynghori'r Gweinidog ar berfformiad a chynhyrchiant NHS Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Hydref diwethaf, fe wnes i apwyntio grŵp cynghori gweinidogol allanol i roi arolygiad annibynnol ar berfformiad a chynhyrchiant yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Fe wnes i apwyntio aelodau gydag arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol yn eu meysydd a gofyn iddyn nhw roi sicrwydd i mi ynglŷn ag effeithiolrwydd trefniadau cyfredol a chyngor ar sut y gellid eu cryfhau nhw. Cadeiriwyd y grŵp gan gyn-brif swyddog gweithredol NHS England, Syr David Sloman, a gofynnais iddyn nhw ffocysu ar ofal wedi'i gynllunio, diagnostics, perfformiad canser a gofal brys.

Hoffwn ddiolch i'r holl aelodau am eu gwaith caled a'u diwydrwydd wrth ymgymryd â'r darn cyflym ond manwl hwn o waith. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad y grŵp a 29 o argymhellion, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru. Yn gynharach y bore yma cwrddais ag arweinwyr y GIG ac aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog i drafod yr adroddiad a'r argymhellion. Dyma'r ail dro i ni ddod at ein gilydd y mis hwn. Ar ddechrau mis Ebrill cyfarfûm â chadeiryddion y GIG, prif weithredwyr a'u huwch dimau i nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf, gan gynnwys cynlluniau uchelgeisiol i barhau i leihau'r rhestr aros, dileu amseroedd aros dwy flynedd ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio ac adfer uchafswm o wyth wythnos o aros am brofion erbyn mis Mawrth 2026.

Dros yr wythnosau nesaf byddaf yn gwneud datganiadau pellach am y newidiadau systemig y mae angen i ni eu gweld yn y GIG eleni, a sut y byddwn yn cyflymu'r gwaith cyflawni yn rhai o'n meysydd blaenoriaeth allweddol. Bydd yr argymhellion gan grŵp cynghori'r Gweinidog yn gwneud cyfraniad pwysig at sut y byddwn yn cyflawni hyn. Dirprwy Lywydd, mae neges yr adroddiad yn glir. Pan edrychwn ar ofal wedi'i gynllunio, ar ddiagnosteg, canser a gofal brys ac argyfwng, mae gennym her sylweddol o ran perfformiad a chynhyrchiant. Er gwaethaf y ffaith ein bod yn buddsoddi tua hanner cyllideb Cymru mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a bod y GIG yn cyflogi mwy o bobl heddiw nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, nid yw'r gwasanaeth yn perfformio ar y lefelau, na gyda'r lefelau cynhyrchiant, y byddem i gyd eisiau eu gweld, ac y mae'r cyhoedd ei angen ac y maent yn disgwyl iddo wneud hynny.

Ond mae adroddiad a chasgliadau'r grŵp yn optimistaidd, yn enwedig gan ei fod yn gosod uchelgais i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang ym maes gofal iechyd. Dro ar ôl tro mae'n amlinellu cryfder ein staff GIG, ymrwymiad a sgiliau gweithwyr proffesiynol clinigol a rheolaethol, strategaeth dda ac yn aml arfer da. Mae'n amlwg, mewn gwlad o'n maint ni, gyda nifer gymharol fach o gyrff iechyd a Llywodraeth sy'n gallu gweithio'n agos gyda'r GIG, bod gennym fantais y gallwn, ac mae'n rhaid i ni wneud gwaith yn well. Os ydym yn gallu manteisio ar y gorau o'r hyn a wnawn yng Nghymru a'r gorau o'r hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill, gallwn wella perfformiad a chynhyrchiant i sicrhau canlyniadau gwell.

Dirprwy Lywydd, mae pum prif thema sy'n rhedeg drwy'r adroddiad hwn a'i argymhellion. Yn yr amser sydd gen i'r prynhawn yma rydw i eisiau sôn yn fyr am bob un. Byddaf yn ymhelaethu ymhellach ar ein cynlluniau yn yr wythnosau i ddod.

Mae'r grŵp yn gwneud nifer o argymhellion penodol am reoli cleifion allanol a rhestrau aros. Bydd y rhain yn hanfodol i'n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod wrth i ni barhau i dorri amseroedd aros hir ac adeiladu ar y perfformiad gofal wedi'i gynllunio gwell a welsom dros y tri mis diwethaf.

Yn ail, mae'n dweud wrthym i ganolbwyntio llai ar gynlluniau a strategaethau a mwy ar gyflawni ein hymrwymiadau presennol yn well. Mae yna gyfres o argymhellion ynghylch sut y gallwn ddefnyddio cyllid i ddatgloi ac ysgogi perfformiad. Bydd yr Aelodau yn cofio fy mod wedi darparu £50 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd ym mis Tachwedd i ariannu eu cynlluniau i leihau'r amseroedd aros hiraf. Rwyf wedi bod yn glir gydag arweinwyr y GIG, lle nad yw'r cynlluniau hynny'n cael eu cyflawni'n llawn, bydd y cyllid yn cael ei ddychwelyd i'r Llywodraeth i'w ddefnyddio mewn mannau eraill yn y GIG. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi cytuno i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio cyllid i ysgogi a gwobrwyo sefydliadau i wella'r gwaith o gyflawni a chynhyrchiant. Mae hwn yn faes yr wyf yn awyddus i'w ddatblygu ymhellach.

Y maes nesaf yw digidol a data. Mae'r adroddiad yn glir bod system gofal iechyd sy'n perfformio'n dda yn un sydd wedi'i galluogi'n ddigidol. Bydd trawsnewid digidol yn rhan annatod o bob penderfyniad unigol a wnawn o hyn ymlaen. Rwyf wedi gosod tasg i Iechyd a Gofal Digidol Cymru i wella'n gyflym ei gapasiti i gynllunio, rheoli a chyflawni prosiectau digidol yn ein system. Yn yr hydref, byddaf yn cyhoeddi datganiad tryloywder a fydd yn nodi pa ddata bydd ar gael gennym a phryd.

Y thema olaf yw sut rydym yn rheoli perfformiad ac yn dal sefydliadau yn atebol, gan gynnwys rôl gweithrediaeth y GIG.

Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un o'r 29 argymhelliad, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol. Lle rydym ni'n derbyn yn rhannol, yn aml iawn mae'n fater o amserlenni neu ddewisiadau adnoddau, y gallai fod angen eu gwneud ar sail trawslywodraethol neu dros fwy na blwyddyn, yn hytrach na gwahaniaeth o fwriad polisi. Mae ein hymateb cyhoeddedig yn nodi rhagor o fanylion am ble mae gwaith eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â rhai o'r argymhellion hyn.

Dirprwy Lywydd, yn yr ychydig funudau sydd gennyf ar ôl, rwyf am ddweud ychydig eiriau am y cadeirydd. Yn ystod gwaith y grŵp, penodwyd Syr David yn is-gadeirydd Spire Healthcare. Datgelwyd y penodiad hwn i'm swyddogion. Rwyf wedi ystyried y penodiad hwn yn llawn wrth ystyried yr argymhellion, sy'n cael eu gwneud gan holl aelodau'r grŵp ac nid gan un unigolyn yn unig. Nid wyf yn credu bod y penodiad hwn yn tynnu oddi wrth gryfder yr argymhellion hynny.

17:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Llywydd, mae grŵp cynghori'r Gweinidog wedi cyflwyno adroddiad heriol ond adeiladol i ni, sy'n nodi cynigion penodol, pendant ar gyfer gwella perfformiad a chynhyrchiant. Mae hefyd wedi rhoi set ymarferol o argymhellion i ni a llwybr tuag at gyrraedd yr uchelgais o ddod yn un o'r systemau gofal iechyd sy'n perfformio orau a mwyaf cynhyrchiol yn y byd. Mae'n uchelgais feiddgar ac un rwy'n disgwyl y bydd rhaid i ni ei chofleidio a gweithio tuag ati gyda'n gilydd.

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, ac rwy'n credu bod yn rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet fod yn onest gyda phobl Cymru. Nid yw hwn yn rhywbeth newydd o gwbl nac yn ddim byd nad ydym wedi'i glywed o'r blaen. Sgrialfa funud olaf yw hon. Ar ôl 26 mlynedd o Lafur yn rhedeg y GIG yma yng Nghymru, gyda dim ond 12 mis tan etholiad, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cyrraedd yma heddiw gydag addewidion ysgubol o frys ac uchelgais. Ond beth mae hyn yn ei adlewyrchu mewn gwirionedd yw Llywodraeth sydd o'r diwedd wedi sylweddoli ac wedi deffro'n rhy hwyr bod cyflawni gwirioneddol ar lawr gwlad yn bwysig.

Rwy'n gwybod ein bod wedi cael y datganiad hwn heddiw ond darllenais yr araith a roddoch i Gydffederasiwn y GIG, ac rwy'n gwybod bod yr adroddiad hwn gennych cyn hynny, felly rydw i'n mynd i ganolbwyntio ychydig ar yr araith honno hefyd, oherwydd rwy'n credu eu bod yn cysylltu â'i gilydd. Hoffwn ddiolch i'r cadeirydd a holl aelodau'r grŵp hwnnw am dynnu hyn at ei gilydd. Felly, nid yw hyn yn unrhyw beth newydd—mae hyn yn rhywbeth rydym ni i gyd wedi'i glywed o'r blaen—ond yr hyn y mae grŵp cynghori'r gweinidog yn ei wneud yw datgelu'r hyn y mae cleifion, gweithwyr proffesiynol ac Aelodau'r wrthblaid yma wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd. Mae perfformiad i lawr, mae cynhyrchiant yn wael ac mae cleifion yn dioddef o ganlyniad, ac mae'r adroddiad yn gwneud yn glir bod perfformiad gweithredol gwasanaethau craidd y GIG angen sylw a newid brys.

Ac ar ôl 26 mlynedd ohonoch chi wrth y llyw, nawr yr hyn rydych chi'n ceisio ei ddweud wrthym yw eich bod chi eisiau creu'r system gofal iechyd sy'n perfformio orau a mwyaf cynhyrchiol yn y byd, ac rwy'n rhannu'r uchelgais honno. Rwy'n credu, ar gyfer hanner cyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei wario ar iechyd, mae'n iawn fod gennym y system gofal iechyd orau yn y byd yn hytrach nag un yn gorwedd ar waelod yr holl dablau cynghrair yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: pa newidiadau sylfaenol ydych chi'n mynd i'w gwneud i'r system gofal iechyd sy'n perfformio orau yn y byd, oherwydd mae pobl wedi aros yn llawer rhy hir am y newid hwn? Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni gael rhai atebion pendant ynghylch sut rydych chi'n mynd i wneud hynny.

Fe wnaethoch chi siarad heddiw am drawsnewid digidol; yn yr araith honno a roddoch i Gydffederasiwn y GIG, fe wnaethoch chi gyfaddef bod ein taith ddigidol ni wedi tangyflawni ac rwy'n cytuno â chi, ac mae llawer ohonom wedi bod yn dweud hyn ers blynyddoedd. Rydym wedi cael Gofal Iechyd Digidol Cymru, ac mae'n rhaid i mi ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: beth maen nhw wedi bod yn ei wneud? Oherwydd mae ein seilwaith digidol yma yng Nghymru ar ei hôl hi. Nid yw integreiddio sylfaenol—sylfaenol rhwng byrddau iechyd yn bodoli o hyd. Dydyn nhw dal ddim yn rhannu gwybodaeth rhwng ei gilydd a nawr, dim ond blynyddoedd yn ddiweddarach, pan fo'n ymddangos bod gennym ddwy Lywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4, rydych chi eisiau i ap GIG Cymru integreiddio ag ap GIG Lloegr, sydd, i mi, yn gwneud synnwyr cyffredin. Mae'n rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl—nid yw'n ymddangos ei fod wedi cael ei sbarduno. Ond rhan arall a welwn o fewn seilwaith digidol yw gofal sylfaenol, ac mae rhai elfennau o ofal sylfaenol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn dal yn gorfod anfon llythyrau a ffacsiau i ysbytai cyffredinol dosbarth, oherwydd nad oes ganddynt fynediad i'w systemau.

Nid gwasanaeth gofal iechyd yr unfed ganrif ar hugain yw hwn—mae'n ôl-groniad o gyfleoedd a gollwyd. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn wybod gennych chi heddiw pa mor gyflym y gall pobl Cymru a'r gweithlu yn ein GIG ddisgwyl gweld y newidiadau digidol hyn yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd, oherwydd rydym wedi cael geiriau caredig ers blynyddoedd ond dim cyflawni. Felly, hoffwn wybod pryd mae hynny'n mynd i ddigwydd, a hefyd integreiddio cofnod unigol claf fel y gall pawb ar draws ein system gofal iechyd weld nodiadau'r cleifion hynny.

Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at y £50 miliwn a ddyrannwyd i fyrddau iechyd er mwyn lleihau rhestrau aros, ac, i roi rhywfaint o glod, Ysgrifennydd Cabinet, mae rhai arwyddion bod y rhestrau hynny'n dechrau gostwng. Ond rydych chi hefyd wedi addo, fel y dywedoch heddiw, y targed diagnostig wyth wythnos hwnnw erbyn mis Mawrth 2026. Hoffwn i chi roi ychydig mwy o fanylion am hynny, sut y bydd y targed hwnnw'n cael ei gyflawni, o ystyried yr heriau presennol a'r problemau capasiti o fewn y GIG. A yw hyn yn golygu eich bod chi'n mynd i fuddsoddi mwy o arian mewn canolfannau diagnostig cyflym, neu a ydych chi'n mynd i gyflogi mwy o staff yn y GIG? Oherwydd os nad ydym yn gweld hynny, nid ydym yn mynd i weld y profion hynny'n cael eu gwneud.

Ar arosiadau dwy flynedd, rwyf eisiau codi'r mater gyda chi am benderfyniad Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ofyn i ddarparwyr iechyd yn Lloegr ohirio triniaeth am ddwy flynedd i bobl sy'n aros am driniaeth yn Lloegr, oherwydd mae hynny'n mynd yn gwbl groes i'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym am arosiadau dwy flynedd. Rydych chi'n dweud, 'Mae angen i ni leihau arosiadau dwy flynedd', ond mae gennych chi fwrdd iechyd sy'n mynd yn groes i'ch dymuniadau ac yn dweud, 'Mae'n rhaid i chi wneud i bobl aros, oherwydd ni allwn fforddio talu amdano.' Hoffwn wybod pam eich bod chi'n caniatáu i hyn barhau a heb ei wirio, oherwydd mae'n mynd yn groes i bolisi presennol Llywodraeth Cymru.

A hefyd mae'r adroddiad yn rhoi rhybudd llym, Ysgrifennydd Cabinet, am ansicrwydd yn y dyfodol, ac mae'n dweud bod risg uchel y bydd achosion o niwed i gleifion yn cynyddu a bydd gwerth am arian trethdalwyr yn gostwng. Ac rwy'n poeni ynghylch sut rydym ni'n mynd i fynd i'r afael â hynny, oherwydd mae'n sôn, yn yr adroddiad, am ail-frandio gweithrediaeth y GIG i greu cyfarwyddwr meddygol newydd ar gyfer GIG Cymru, gyda statws presennol y prif swyddog meddygol. Mae gen i ddiddordeb mewn deall sut rydych chi'n meddwl bod ychwanegu haen arall o fiwrocratiaeth yn mynd i ddatrys y problemau hyn, oherwydd, yn amlwg, mae angen i ni weld cyflawni ar gyflymder, ond a yw'r cyflawni hwnnw a fydd yn cael ei ganoli o fewn gweithrediaeth y GIG y ffordd iawn i wneud hyn?

Rwy'n gwybod fy mod dros amser, ond fe ddof at fy nghasgliad yn gyflym, Llywydd. Rydych chi wedi dweud, Ysgrifennydd Cabinet, bod angen i ni wasgu—rydych chi wedi dweud hyn—mae angen i ni wasgu'r danadl, oherwydd rydym ni wedi dod yn system sy'n barod yn gyflym i bwyntio bys. A dydw i ddim yn anghytuno â hynny; mae'r system wedi gwneud hynny. Ond yr hyn rydw i eisiau ei wybod yw sut y byddwch chi'n gwasgu'r danadl, a pha heriau penodol y byddwch chi'n eu cyflwyno i swyddogion gweithredol byrddau iechyd i'w gwneud yn wirioneddol atebol i chi ac yn wirioneddol atebol i bobl Cymru. Oherwydd yr hyn rwy'n ei glywed yn rhy aml yw bod ein byrddau iechyd yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru ac nad ydynt yn cyflawni hynny. Felly, rwyf eisiau gwybod pa newidiadau deddfwriaethol rydych chi'n mynd i'w gwneud i sicrhau eich bod yn atebol i'r GIG yng Nghymru, a gall byrddau iechyd adrodd i chi mewn gwirionedd a pheidio â bod â'r ymreolaeth sydd ganddyn nhw nawr. Diolch.

17:05

Wel, rwyf braidd yn siomedig yn y naws anfoesgar y mae'r Aelod wedi'i gyflwyno i'r darn o waith yr ydym yn ei drin a'i drafod yn y Siambr heddiw. Doeddwn i ddim yn siŵr a oedd yn rhoi unrhyw bwys iddo neu beidio. Ond fe wnaf fy ngorau glas i geisio canfod hynny o'r cwestiynau a ofynnodd i mi.

Gofynnodd i mi beth yw'r camau penodol yr ydym yn bwriadu eu cymryd, ac rwy'n ddiolchgar iddo am fynd i drafferth i ddarllen yr araith a roddais ar 7 Ebrill, a oedd yn nodi, fel y bydd yn cofio, nifer o gamau penodol iawn yr ydym yn bwriadu eu cymryd, sy'n fy marn i yn ateb ei gwestiwn yn union. A'r bore yma, fe wnaethom gyhoeddi nid yn unig yr argymhellion o'r adroddiad, ond roeddwn yn awyddus i ni wneud y penderfyniad i gyhoeddi ein hymateb ar yr un pryd, fel ei bod yn glir yn union pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i bob un o'r 29 argymhelliad hynny. Ac roedd hynny'n galluogi'r drafodaeth y bore yma, gyda grŵp cynghori'r gweinidog a gydag arweinwyr y GIG, fel y gellid profi'r camau hynny. Nid yw pob un ohonynt yn weithredoedd sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru, fel y bydd yn gwerthfawrogi, ac rwy'n gwybod y bydd yn gwerthfawrogi hynny, o ystyried y pwyntiau olaf a wnaeth yn ei gwestiynau mewn perthynas â chydbwysedd cyfrifoldeb yn y GIG.

Felly, rhwng y datganiad a wnes ar 7 Ebrill a'r datganiad a gyhoeddais y bore yma, bydd yn gweld disgrifiad llawn o'r ystod o gamau yr ydym yn bwriadu eu cymryd. Rwy'n ddiolchgar i grŵp cynghori'r gweinidog hefyd am roi syniad i ni o'r amserlenni y maent yn argymell ar gyfer y gwahanol gamau. Felly, bydd hefyd yn gweld yn y ddogfen y bore yma yr adlewyrchiad hwnnw o'r ffrâm amser tri mis, y ffrâm amser chwe mis ac ati, a fydd yn rhoi, gobeithio, iddo ef ac eraill ymdeimlad o'r cyflymder yr ydym yn bwriadu ei fabwysiadu mewn perthynas â'r argymhellion yn benodol.

Mae'n iawn i ddweud—ac rydw i wedi cydnabod hynny yn y ddwy araith rydw i wedi'u gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf—nad yw cyflwr datblygiad seilwaith digidol yn y GIG yn y sefyllfa y mae angen iddo fod ynddi. Mae hynny'n amlwg yn broblem o safbwynt gwella perfformiad. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod sail ddigidol glir i wella gwasanaeth fel y gall barhau i allu manteisio ar y datblygiadau diweddaraf o ran cymwysiadau digidol, technoleg, y defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial ac ati. Bydd wedi gweld fy mod wedi gwneud y penderfyniad dros yr wythnosau diwethaf i uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gydnabod y ffaith bod ganddynt angen arbennig am fwy o gefnogaeth i allu datblygu capasiti cryfach ar gyfer cynllunio ac i reoli prosiectau digidol ar raddfa fawr. Ond un o'r tasgau rydym ni wedi'u gosod eleni yn y llythyr cylch gorchwyl, y bydd, rwy'n credu, wedi'i weld, yw cynllunio amlinellol y cofnod cleifion integredig, ac rwy'n optimistaidd iawn y bydd gennym ni, dros yr wythnosau nesaf, rai cyhoeddiadau cyffrous i'w gwneud yn y maes digidol.

Mae'n gwneud y pwynt am fod â dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, ac rwy'n credu ei fod yn fy herio i ddweud mai dyna'r unig amgylchiadau y byddaf yn barod i fyfyrio ar brofiadau o'r tu hwnt i'r ffin o danynt. Yr hyn a wnaf ddweud wrtho, yn y maes digidol, yw tra oedd ei Lywodraeth mewn grym am y 14 mlynedd diwethaf, mae absenoldeb buddsoddiad cyfalaf wedi bod yn rhwystr sylweddol i ddatblygu seilwaith digidol, ac un o'r manteision mawr niferus o gael dwy Lywodraeth Lafur sydd â diddordeb mewn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yw bod gennym ni nawr, dros y flwyddyn nesaf, fynediad at lawer mwy o gyfalaf na'r £1 miliwn a ystyriai ei Lywodraeth ef oedd yn addas i'w gynnig i Gymru, rwy'n credu, yn ystod dwy flynedd olaf ei Lywodraeth. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn croesawu'r dull newydd hwnnw.

Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â diagnosteg. Rydym yn bwriadu, dros y flwyddyn nesaf, fuddsoddi yn y maes hwnnw yn eithaf sylweddol, ar sail cael y refeniw ychwanegol hwnnw o ganlyniad i'r dewisiadau a wnaed gan y Canghellor yn y gyllideb. Felly, byddaf yn dod â rhagor o wybodaeth mewn perthynas â hynny. Rwy'n credu ei fod yn bwynt y mae'n iawn i'w godi.

Ar y cwestiwn o fwrdd iechyd Powys a'r dewisiadau y mae'n eu gwneud, rwyf eisiau bod yn glir iawn nad oes unrhyw un o'r dewisiadau hynny yn mynd i'w alluogi neu i ganiatáu iddo beidio â chymhwyso'r safonau y mae pob bwrdd iechyd arall yn eu cymhwyso mewn perthynas â'r amserlenni a'r targedau y mae eu hangen er mwyn gweld ei drigolion ynddynt. Felly, nid yw hynny'n rhan o'r hyn y mae'r bwrdd iechyd ei hun yn rhagweld y bydd yn ei wneud, ac ni fyddwn yn barod i oddef hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn datgelu tensiwn yn ei farn ar sut y dylid gwneud trefniadau. Ar ddiwedd y dydd, rwy'n atebol am y strategaeth a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru, y disgwyliad yr wyf yn ei osod o'r gwasanaeth iechyd ar ran cleifion yng Nghymru, a darparu cyllid ac adnoddau i alluogi hynny i ddigwydd. Ond mae angen cymryd y penderfyniadau ar sut mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad o reidrwydd yn agosach at y bobl. Mae anghenion cymuned wledig o ran cyfluniad gwasanaethau yn wahanol iawn i gymuned drefol, ac mae yna ffactorau eraill sy'n dod i rym hefyd. Felly, rwy'n siŵr y byddai'n meddwl y byddai'n well i hynny adlewyrchu anghenion poblogaethau lleol, a dyna'r hyn y mae ein system wedi'i chynllunio i'w gyflawni.

17:10

Diolch i'r grŵp ymgynghorol am yr adroddiad yma, sydd yn ddarllen defnyddiol. Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi cael digon o amser i brosesu'r adroddiad trylwyr yma'n llawn eto, ac, er mwyn cael trafodaeth fwy ystyrlon, efallai y byddai'n well rhoi mwy o amser rhwng cyhoeddi adroddiad a chael datganiad ar ei gynnwys. Ond rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi comisiynu'r darn yma o waith, sydd yn dangos parodrwydd i gynnal asesiad beirniadol o'r gwasanaeth iechyd er mwyn cymryd y camau angenrheidiol i wella pethau.

Does dim cuddio o'r ffaith bod yr adroddiad yn peintio darlun pryderus, ond gadewch inni beidio ag esgus bod yr adroddiad yn dweud unrhyw beth newydd. Mae cleifion yn profi'r gwendidau yma yn ddyddiol, ac fe ddangosodd arolwg barn diweddar y Nuffield Trust a'r King's Fund fod bron i dri chwarter o'r cyhoedd yng Nghymru yn anfodlon gyda chyflwr y gwasanaeth iechyd.

Felly, mae'n hanfodol bwysig bod yr adroddiad hwn yn cynrychioli trobwynt i'r Llywodraeth a'n bod yn gweld ymdrechion diriaethol i weithredu gwersi a ddysgwyd. Dyma rai awgrymiadau o'r hyn y gallai'r Llywodraeth ei wneud i ddangos ei bod o ddifrif am weithredu ar yr adroddiad hwn.

Fel rydw i wedi sôn sawl gwaith o'r blaen, nid yw'r GIG yn ddim byd heb ei staff, ond maen nhw'n cael eu siomi gan ddiffyg arweinyddiaeth strategol pan ddaw i faterion recriwtio a chadw. Dyna pam mae angen cynllun gweithlu cynhwysfawr y GIG, sy'n amlinellu camau ymarferol i sicrhau bod gan y gweithlu y cydnerthedd a'r adnoddau i ateb y galw. Dylai hyn fod yn cyd-fynd ag archwiliad o ffynonellau data iechyd yng Nghymru, y mae eu diffygion yn cael eu nodi'n gyson gan wahanol randdeiliaid fel rhwystr parhaus i gynllunio'r gweithlu yn fwy effeithiol.

Mae angen i ni hefyd weld diwygiadau i bensaernïaeth lywodraethu'r GIG, sydd ar hyn o bryd yn anaddas i feithrin ac ymgorffori gwelliannau perfformiad ar sail Cymru gyfan. Nawr, yn hyn o beth, mae cynnwys yr adroddiad hwn yn gyfarwydd iawn, oherwydd fis Tachwedd diwethaf cyhoeddodd Plaid Cymru ein cynllun a oedd yn nodi llawer o'r argymhellion hyn: mynd i'r afael â diffyg cydweithrediad systematig rhwng byrddau iechyd; egluro a safoni metrigau perfformiad; symleiddio targedau gyda'r nod o'u halinio'n well ag adnoddau; grymuso llais y claf; a gwella tryloywder mecanweithiau atebolrwydd. Eto, bryd hynny, honnodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Llywodraeth eisoes yn gwneud yr hyn yr oeddem yn ei argymell. Nawr rydym ni'n gwybod nad oedd hynny'n wir, ac mae chwe mis wedi cael eu gwastraffu gan y Llywodraeth hon yn llusgo ei thraed, pan oedd y problemau a'r atebion posibl yn cael eu cyflwyno iddynt—atebion a dynnwyd at ei gilydd gan glinigwyr a rheolwyr iechyd. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam y methodd y Llywodraeth â gweithredu ar ein hadroddiad pan gafodd y cyfle, ac a yw bellach yn difaru'r amser a gollwyd wrth fynd ymlaen â'r gwaith o gychwyn y cywiriad trywydd brys sydd ei angen ar y GIG?

Mae angen i ni weld newid pwrpasol tuag at fodel mwy ataliol o adnoddau gofal iechyd, ac i ffwrdd o'r tueddiadau diffodd tân yr ydym wedi'u gweld. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo diwygiadau hir-ddisgwyliedig i ofal cymdeithasol, y mae'r ysgogiad wedi bod yn amlwg yn brin dros y blynyddoedd diwethaf, yn seiliedig ar yr adborth rydym ni wedi'i glywed gan y sector. Felly, a fydd y Llywodraeth hon yn cymryd y camau beiddgar sydd eu hangen, a sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol heb oedi, fel bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, ac rydym yn dechrau trin y sector gyda'r parch y mae'n ei haeddu?

Yn olaf, rwy'n pryderu am y cynnig i neilltuo cyllid y GIG ar gyfer yr hyn a elwir yn 'sector annibynnol'. Er na ddylai hyn fod yn syndod, gan iddo ddod oddi wrth gadeirydd sydd ag ymgysylltiad agos iawn â'r sector preifat, mae'n syndod gweld y Llywodraeth yn brolio ei bod eisoes yn gwneud hyn. A all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ble y bydd yn tynnu'r llinell o ran preifateiddio ein gwasanaeth iechyd sy'n digwydd o dan y Llywodraeth Lafur hon?

17:15

Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am groesawu gwaith y grŵp, ac am ei gydnabod fel darn sylweddol o waith, yr wyf yn siŵr y bydd wedi cael ei dderbyn yn gynnes iawn gan y rhai sydd wedi gweithio mor galed i roi eu mewnwelediad i ni mewn perthynas â'r diwygiadau hyn. Mae'n iawn i ddweud bod rhai negeseuon caled yn yr adroddiad, ond rwy'n credu ei fod hefyd yn adroddiad optimistaidd, oherwydd mae hefyd yn amlinellu'r asedau sydd gennym, o ran staffio, strategaeth, arfer da, o fewn y GIG yng Nghymru, ac rwy'n dathlu hynny o leiaf, ac rydym yn gofyn i bob rhan o'r GIG yng Nghymru ddysgu oddi wrth ei gilydd, fel y gall pob un gefnogi'r llall i wella ar draws y system. Ac rwy'n gobeithio y byddai'r Aelod yn cytuno â'r dull hwnnw.

Mae'n gwneud pwynt pwysig am gynllun y gweithlu. Bydd yn gwybod o'n sgyrsiau blaenorol fy mod hefyd yn credu bod angen i ni gael cynllun gweithlu sy'n cymryd golwg strategol ledled Cymru, ac rwy'n credu efallai y bydd hefyd yn gwybod bod hynny eisoes ar y gweill.

Mewn perthynas â phensaernïaeth lywodraethu, nid wyf fy hun yn credu mai'r brif her sy'n wynebu'r GIG yw strwythur. Rwy'n nodi, rwy'n credu fy mod wedi darllen yng nghyd-destun cynhadledd ei blaid, ei feddwl am rannu gofal eilaidd a sylfaenol, er enghraifft, neu gyfuno byrddau iechyd. Fy marn i fy hun yw nad y naill na'r llall yw'r brif her yr ydym yn ei hwynebu yng Nghymru, a'r risg yn sgil newid strwythurol sylweddol yw ein bod yn colli ffocws ar yr hyn yw'r brif her, sef gwella perfformiad, er budd pobl yng Nghymru, yn eu gwasanaeth iechyd. Dyna pam rwy'n credu mai'r cynllun, sydd wedi'i nodi yn fy araith yn gynharach y mis hwn ac yn yr adroddiad heddiw, yw'r dull cywir, ac mae yna bethau newydd sy'n cael eu cynnig yn y ddwy ymyrraeth hynny yr wyf yn credu, gyda'i gilydd, sy'n cynrychioli'r ffordd ymlaen.

Nodaf ac rwy'n canmol yr Aelod am ei eiriolaeth barhaus dros gynllun Plaid Cymru, fel y mae'n ei alw. Y rheswm pam rwy'n ei gofio mor glir oedd ei fod bron yn dweud yn union yr hyn yr oeddwn wedi'i ddweud bythefnos neu dair wythnos cyn hynny, felly roeddwn yn ddiolchgar iddo bryd hynny am y gefnogaeth a ddangosodd ei gynllun i'm cynllun i, ac rwy'n ailadrodd y gefnogaeth honno heddiw. Fe wnaeth fy herio'n benodol iawn ynghylch yr hyn rydym ni wedi'i wneud yn y cyfamser mewn perthynas â hynny. Bydd yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi canllawiau cynllunio ddiwedd y llynedd, a oedd yn nodi'n benodol iawn nifer llai o flaenoriaethau, fframwaith atebolrwydd cliriach, a set o ddisgwyliadau ar gyfer y sector, a oedd yn un o'r gofynion allweddol a nodais yn fy nghynllun, ac y galwodd ei gynllun amdano hefyd, ac mae yna nifer o gamau eraill rydym ni wedi'u cymryd yn y cyfamser.

Gwnaeth bwynt pwysig am wasanaeth gofal cenedlaethol. Yn ystod ein cyfnod yn y cytundeb cydweithio, roeddem yn gallu gwneud cynnydd da mewn perthynas â hynny. Bydd yn gwybod bod cynllun sy'n rhychwantu'r rhan orau o ddegawd, yr oeddem yn gweithio gyda'n gilydd arno, rwy'n credu, yn rhagweithiol, yn bragmatig ac yn gytûn, a bod y gwaith yn parhau y tu hwnt i oes y cytundeb cydweithio hefyd. Rwy'n credu ei fod yn iawn i ddweud bod dod â sefydlogrwydd a chydnerthedd hirdymor i'r gwasanaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond mae hefyd yn hanfodol yn y ffordd yr oedd yn hollol iawn i ddweud, er mwyn cydnerthedd y gwasanaeth iechyd hefyd.

Mewn perthynas â'r sector annibynnol, mae ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad yn glir iawn. Yr egwyddor y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn wrth gomisiynu o'r sector preifat, neu yn hytrach y GIG wrth gomisiynu o'r sector annibynnol, yw cefnogaeth i'r GIG cyhoeddus, yn hytrach na chystadlu ag ef, ac felly mae yno i ategu meysydd o angen arbennig o heriol ac nid i ddisodli'r GIG cyhoeddus. Yr hyn a nodais ar ddechrau'r mis hwn oedd y byddwn yn cymryd mwy o reolaeth genedlaethol ar agweddau ar gomisiynu annibynnol, fel y gallwn wneud yn siŵr bod y gwerth am arian y gall y pwrs cyhoeddus ei gyflawni yn well a bod y farn strategol honno o rôl gefnogol yn hytrach na rôl gystadleuol yn cael ei chynnal. Rwy'n credu mai'r prawf hanfodol yw os oes gwasanaeth na all gydbwyso'r galw a'r ddarpariaeth dros gyfnod hir o amser, er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth craidd yn y GIG a'r gwelliannau gwasanaeth yr ydym wedi bod yn siarad amdanynt heddiw yn cael eu gweithredu, yna o dan yr amgylchiadau hynny, mae lefel dros dro o gomisiynu gan y sector annibynnol bob amser wedi bod yn rhywbeth y mae Llywodraethau yng Nghymru wedi ymgymryd â nhw, ond eto, i gefnogi'r GIG cyhoeddus, nid cystadlu ag ef.

17:20

Rwy'n croesawu'r ffaith bod rhestrau aros bellach yn mynd yn llai am y trydydd mis yn olynol. Rwyf hefyd yn croesawu adeiladu canolfan orthopedig newydd yn y gogledd, yn Llandudno, a gobeithio y gallwn gael buddsoddiad yn y Royal Alexandra hefyd yn y gogledd.

Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl ar stepen eu drws yn ystod y toriad, gan gynnwys gyda gweithwyr y GIG. Yr hyn sydd wedi'i godi gyda mi yw bod angen i systemau a phrosesau fod yn ôl yn eu lle, yn enwedig ar ôl COVID, a'u cryfhau gyda hyfforddiant a chysondeb. Dywedodd parafeddyg wrthyf fod meddygon teulu yn rhy aml yn cyfeirio pobl at adran damweiniau ac achosion brys pan fydd angen gwrthfiotigau arnynt neu efallai hyd yn oed prawf gwaed. Digwyddodd hyn i ddau ddyn 80 oed ddydd Sadwrn—yn Lloegr, digwyddodd hyn, fodd bynnag—lle gwnaethon nhw dreulio 12 awr ar nos Sadwrn mewn adran damweiniau ac achosion brys, o 10 o'r gloch y nos tan 10 o'r gloch y bore, dim ond i gael gwybod bod popeth yn iawn.

Felly, roeddwn i eisiau gwybod, mewn gwirionedd, sut y gall gweithwyr gyfrannu at hyn, oherwydd nhw yw'r rhai sydd wedi cael y profiad bywyd hwn. Rwy'n credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Rwyf wedi rhoi rhywfaint o adborth i Betsi hefyd, y mae'n ymddangos eu bod yn derbyn hynny ac yn siarad â'r person hwnnw, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Diolch.

Diolch, Carolyn Thomas, am y cwestiynau yna. O ran rôl meddygon teulu wrth reoli rhestrau aros, rwy'n credu bod hynny'n hollol hanfodol. Un o'r pethau yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu gwneud mwy ohono dros y flwyddyn nesaf yw, pan ydym ni'n darparu cyllid ychwanegol i'r system, nad yw hynny'n canolbwyntio'n unig ar y rhan gofal eilaidd o'r system, ei fod hefyd yn cefnogi ymarferwyr gofal sylfaenol i reoli'r rhestrau aros hefyd, ac i sicrhau nad oes mwy o atgyfeirio nag sydd ei angen er budd y claf.

Felly, gall y gwaith rydym ni'n ei wneud i gefnogi byrddau iechyd i reoli rhestrau aros yn well dim ond llwyddo yn y tymor hir os ydym hefyd yn gwneud yn siŵr bod y galw yn cael ei reoli er budd cleifion, ac mewn gwirionedd mae mabwysiadu'r farn gyfannol honno, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hi'n croesawu'r camau hynny pan fyddwn yn gallu cyflwyno'r rheini yn yr wythnosau nesaf.

Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn i ddweud, ac roeddwn i'n siarad â chydweithwyr yn y GIG y bore yma, fod miloedd o bobl yn dod i'r gwaith bob dydd yn y GIG ac maen nhw'n gweithio'n galed ac maen nhw'n cael eu hysgogi gan ofal y cleifion y maen nhw'n gyfrifol amdanynt. A'r hyn rydw i eisiau ei weld yw GIG lle, fel y dywedodd, mae'r systemau a'r prosesau yn cefnogi'r ymdrech honno, yn cefnogi'r ymrwymiad hwnnw, fel y gall fod mor effeithiol â phosibl. A dyna beth yw hyn ar ddiwedd y dydd. Rydym yn bwriadu cyflwyno academïau sgiliau y GIG yn ystod y flwyddyn nesaf, a fydd yn helpu gyda rhai sgiliau clinigol, ond hefyd sgiliau rheoli rhestrau aros i ddarparu'r math hwnnw o gefnogaeth gynhwysfawr, yr wyf yn cytuno â hi sy'n bwysig.

Soniodd am staffio, a soniodd am staffio yn Betsi Cadwaladr. Rwy'n ymwybodol bod yr arolygon y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi eu gweld yn ddiweddar wedi dangos lefelau uwch o foddhad staff, sy'n arwydd cadarnhaol iawn, er gwaethaf yr heriau y maent yn eu hwynebu. Ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn: yn fy mhrofiad i, ac rwy'n siŵr profiad bob un ohonom, rydych chi'n siarad â rhywun sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y GIG a byddant yn dweud wrthych yn eithaf cyflym am bump neu ddeg o bethau y maen nhw'n meddwl a allai fod o fudd i'r system yn gyflym iawn. Byddwn yn cymeradwyo darn o waith y mae Llais a Chomisiwn Bevan yn ei redeg ar hyn o bryd iddi, sy'n ymwneud â sut y gallwn nodi rhai prosesau, arferion a allai fod yn rhwystrau rhag y perfformiad gwell hwnnw. Felly, os oes ganddi etholwyr neu gydweithwyr y mae hi'n gwybod y gallent fod ag awgrymiadau i'w gwneud, rwy'n credu y byddai hynny'n ffordd ddefnyddiol i gyflwyno hynny.

17:25

Y peth cyntaf rydw i eisiau ei roi ar gofnod yw diolch yn fawr am waith ac ymroddiad holl staff y GIG, ar bob lefel, sy'n darparu gofal i ni o ddydd i ddydd. Un maes y mae'r cyhoedd wedi canolbwyntio arno yw'r amseroedd aros, ac mae'r rhan fwyaf o'r ffocws hwnnw ar yr amseroedd aros orthopedig. Ond mae hefyd yn amlwg bod, mis ar ôl mis, yr amseroedd aros hynny yn lleihau, ac ar gyfradd gyflymach nag unrhyw adeg arall o'r blaen. Mae'n wir hefyd i ddweud bod gwelliant sylweddol wedi'i wneud yn yr apwyntiadau cleifion allanol, ac eto roedd hynny oherwydd staff yn gweithio ar benwythnosau. Roedd yn ymwneud â'r buddsoddiad o £50 miliwn a wnaed i gyflawni hynny.

Ac yn ne Ceredigion, gyda gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod, cawsoch yr her 50 diwrnod. Aeth i lawr yn dda iawn. Daeth i ben ar 31 Mawrth, ac mae bellach yn cael ei hadolygu. Rwy'n gwybod ei bod hefyd yn cael ei gwerthfawrogi gan y bobl hynny a'i defnyddiodd, oherwydd rydw i wedi cael llawer o negeseuon e-bost yn ymwneud â hynny. Felly, byddai'n ddiddorol i'r bobl hynny, ac i mi, gael gwybod pa mor gyflym bydd y gwaith yn cael ei wneud ar yr adolygiad hwnnw—rwy'n credu mai'r bwrdd iechyd sy'n ei wneud—ac os yw'n wir, fel mae pobl yn dweud wrthyf, ei fod o werth enfawr iddyn nhw, byddem yn ceisio ei adfer. Diolch.

Diolch i Joyce Watson am y sylwadau a'r cwestiynau yna, a byddwn i gyd eisiau cysylltu ein hunain â'r pwyntiau a wnaeth ar y dechrau am yr ymdrech anhygoel y mae staff y GIG ar bob lefel, ym mhob rôl, yn ei rhoi o ddydd i ddydd. Dyna pam mae gwneud yn siŵr bod y system yn gyffredinol yn perfformio ar ei orau mor bwysig, fel y gall yr holl ymdrech a'r ymrwymiad hwnnw gael yr effaith fwyaf posibl, a dyna beth rydym ni i gyd yn dymuno ei weld. Rwy'n croesawu'r gostyngiadau mewn amseroedd aros dros y tri mis diwethaf. Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd hynny'n parhau. Dyna'r dasg a osodwyd i mi ac rydw i wedi'i gosod gyda'r GIG hefyd. Ond mae hi'n iawn i ddweud ein bod yn gweld tystiolaeth o'r arosiadau hynny yn dod i lawr. Bydd hi'n gwybod y byddwn yn gallu cyhoeddi'r ffigurau ar gyfer mis Mawrth. Y dasg a osodwyd gennym oedd lleihau'r arhosiad dwy flynedd i tua 8,000 o gleifion. Felly, gobeithio y bydd gennym newyddion da i'w rannu mewn ychydig wythnosau.

Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i dynnu sylw at y buddsoddiad ychwanegol, yr oeddem yn gallu ei wneud ddiwedd y llynedd. Mae hynny wedi ein galluogi i ddarparu ychydig bach o hyblygrwydd ychwanegol, fel y gellir ymgorffori'r ffyrdd newydd hynny o weithio yr ydym yn gwybod eu bod yn fwy effeithiol wrth weld mwy o gleifion yn gyflym. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud hefyd yw bod hynny'n cyd-fynd â ffocws sylweddol iawn ar draws y system ar sail wythnosol ar gyrraedd y targedau hynny, gyda lefel trylwyr iawn, iawn o adrodd a her sydd wedi bod yn gysylltiedig ef. Ac rwy'n credu bod hynny wedi sefydlu ffordd dda o weithio, ar yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw cael cydbwysedd yn ôl yn y system. Ni fyddem eisiau rhedeg pethau yn y ffordd honno pan fydd cydbwysedd, ond rwy'n credu am y tro, dyna'r ffordd iawn o wneud hyn.

Mae hi'n gwneud pwynt pwysig, yn olaf, am yr her 50 diwrnod. Mae honno'n cael ei hadolygu gan bob rhanbarth, ond ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar lefel genedlaethol i ddeall beth yw'r ymyraethau mwyaf effeithiol, fel y gallwn wneud yn siŵr eu bod yn parhau. Roedd cyllid wedi'i ddarparu y llynedd, bydd hi'n gwybod, ar gyfer rhai o'r ymyraethau hynny. Nid yw rhai ohonynt mewn gwirionedd yn ymwneud â chyllid; maen nhw'n ymwneud â gwahanol ffyrdd o weithio mwy cydweithredol, ac rwy'n credu bod y rheini bellach yn cael eu hymgorffori yn y system. Rydym wedi gweld gostyngiadau o fis i fis yn nifer y cleifion sy'n barod i fynd adref ond wedi'u gohirio, a'r hyn rydym ni i gyd eisiau ei weld yw bod y cynnydd yn parhau hefyd.

17:30
7. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Addysg Ryngwladol

Mae'r datganiad o dan eitem 7 wedi cael ei ohirio tan 3 Mehefin.

8. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Eitem 8 sydd nesaf, y cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil y Gymraeg ac Addysg. Yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno'r eitem.

Cynnig NDM8880 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adrannau 1-5;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 6-38;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 39-57;

f) Teitl Hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel bydd Aelodau yn gwybod, mae'n arferol gwaredu gwelliannau i Filiau yn y drefn y mae'r adrannau a'r Atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Yn ystod Cyfnod 2 ar gyfer y Bil hwn, gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y penderfyniad i amrywio’r drefn ystyried. Gweithiodd y dull hwn yn dda o ran grwpiau a thrafod gwelliannau. Mae’r drefn a gynigir gan y cynnig hwn yn dilyn y dull a ddefnyddiwyd yn ystod Cyfnod 2. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig.

Does gyda fi ddim siaradwyr, ac felly dwi'n cymryd nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet ddim eisiau ymateb iddo'i hun. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 8 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Eitemau 9 a 10 fydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10 yn cael eu grwpio i'w trafod, gyda phleidleisiau ar wahân. Does dim gwrthwynebiad i wneud hynny. 

9. & 10. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)

Dyma'r cynnig ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Yr Ysgrifennydd Cabinet Dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud y cynnig yma. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8878 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).

Cynnig NDM8879 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Member
Huw Irranca-Davies 17:32:51
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Cynnig yn ffurfiol.

Ydych chi'n siŵr yn ffurfiol yn unig, neu a ydych chi eisiau siarad yn y ddadl ac am y ddwy eitem? Gallwch geisio osgoi dweud unrhyw beth, ond rwy'n siŵr y bydd pobl eisiau i chi siarad. 

Llywydd, mae’n bleser gen i agor y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni, Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru), a chyflwyno’r cynnig ar y penderfyniad ariannol. Hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu hadroddiadau manwl ar y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb arall am eu help wrth inni ddatblygu’r Bil, ac am eu syniadau defnyddiol wrth i’r pwyllgorau graffu arno. Byddwn yn gofyn eto am eu harbenigedd wrth inni lunio is-ddeddfwriaeth a chanllawiau ac wrth baratoi ar gyfer eu rhoi ar waith. Rwy’n croesawu argymhelliad y pwyllgor newid hinsawdd y dylai’r Senedd gefnogi egwyddorion y Bil.

Fel yr Ysgrifennydd Cabinet, Llywydd, mae'n fraint ac yn anrhydedd arwain ar y darn hanesyddol hwn o ddeddfwriaeth, sy'n arwain y byd yn ei ddull a'i ffocws ar les dynol. Mae'r Bil hwn yn cyflawni ymrwymiad yn ein rhaglen ar gyfer y llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i ymdrin â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio ac i sicrhau diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon.

Rwyf wedi ystyried yn ofalus iawn yr argymhellion gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwyf wedi nodi fy ymatebion i'r argymhellion mewn gohebiaeth, y maent eisoes wedi'i derbyn. Felly, mae'r tri phwyllgor yn ymwybodol o fy safbwynt.

Mae'r Bil yn sefydlu awdurdod cyhoeddus newydd, yr awdurdod tomenni nas defnyddir Cymru, a fydd yn gyfrifol am weithredu'r drefn newydd a sefydlwyd gan y Bil. Yn sylfaenol i'r Bil y mae diogelu lles dynol, gan geisio sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles dynol oherwydd eu hansefydlogrwydd. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gyflwyno system gyson a chadarn o asesu, cofrestru, rheoli a monitro tomenni nas defnyddir yng Nghymru.

Bydd y Bil yn arwain at welliannau sylweddol i'r gyfundrefn bresennol o dan Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969, yn enwedig sefydlu trothwy is ar gyfer ymyrraeth a rhoi pwerau priodol i'r awdurdod i gael mynediad i unrhyw dir lle bo angen ar gyfer arfer swyddogaethau penodol. Mae hefyd yn gosod elfennau allweddol y drefn reoli newydd ar sail ddeddfwriaethol gadarn, megis cofrestr o domenni nas defnyddir wedi'u categoreiddio, sef y sylfaen y mae gweddill y darpariaethau yn y Bil wedi'u hadeiladu arni.

Bydd y cynllun grant diogelwch tomenni glo yn parhau, ac, yn y tymor hwn yn y Senedd, rydym ni wedi darparu £102 miliwn i awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ar gyfer y rhaglen bresennol o fonitro, cynnal a chadw ac atgyweirio. Mae hyn yn cynnwys y £25 miliwn y llwyddodd Llywodraeth Cymru i'w sicrhau yn 2025-26 gan Lywodraeth y DU yng nghyllideb ddiweddaraf yr hydref ar gyfer tomenni glo nas defnyddir. Yn ddiweddar, gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, sydd yma yn y Siambr gyda ni heddiw, am gadarnhad o gyllid ar gyfer tomenni glo nas defnyddir gan Lywodraeth y DU ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026-27 a 2027-28, cyn ail gam yr adolygiad gwariant, er mwyn galluogi swyddogion i weithredu cynllun grant aml-flwyddyn, a fyddai'n caniatáu i ymgeiswyr ymgymryd â rhaglenni gwaith cyfalaf ar raddfa fwy.

Yn ystod y broses o graffu ar y Bil, gwrandawais yn ofalus a nodais y trafodaethau a'r argymhellion dilynol ynghylch materion allweddol yn y Bil, megis cynlluniau rheoli, canllawiau ac ymgynghori, monitro, categoreiddio ac asesiadau. Rwyf eisiau sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r manylion y dylid eu cynnwys mewn canllawiau, a bydd hyn yn sicrhau cyflawni'r drefn newydd yn effeithiol. Felly, gan ystyried barn y pwyllgor, a'r ffafriaeth i gael rhai meysydd allweddol wedi'u nodi ar wyneb y Bil, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i ddrafftio sawl gwelliant i'r Bil.

Mae fy swyddogion wedi dechrau gweithio ar welliant sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdod i baratoi a chynnal cynlluniau rheoli ar gyfer awgrymiadau tomenni nas defnyddir categori 1 a 2, a phŵer i baratoi a chynnal cynlluniau rheoli ar gyfer tomenni categori 3 a 4. Yn ogystal, bydd isafswm cynnwys cynlluniau rheoli yn cael ei ragnodi ar wyneb y Bil, gan gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â chynllunio at argyfyngau. Mae hyn yn mynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad mewn perthynas â chynlluniau rheoli, ac mae'n cryfhau'r Bil mewn perthynas â chynllunio at argyfyngau.

Rwy'n awyddus i fynd i'r afael â phryderon y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad ynglŷn â chanllawiau, ac felly rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant a fydd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi canllawiau i'r awdurdod mewn perthynas â'r awdurdod yn arfer ei swyddogaethau mewn rhai meysydd allweddol, gan gynnwys cynlluniau rheoli, monitro ac asesiadau. Bydd dyletswydd gyfatebol ar yr awdurdod i roi sylw i'r canllawiau, a dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar y canllawiau hyn. Wrth ddatblygu canllawiau, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag arbenigwyr a rhanddeiliaid perthnasol, gan sicrhau y bydd y rhai sydd â'r arbenigedd a'r profiad perthnasol yn cael eu cynnwys wrth eu paratoi.

Yn ei adroddiad, argymhellodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ddiwygio'r Bil er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar fonitro ac arolygu tomenni, ac i reoliadau o'r fath bennu'r isafswm amlder arolygu. Rwy'n cefnogi diben yr argymhelliad, ac rwyf wedi gofyn i'm swyddogion baratoi gwelliannau i roi dyletswydd ar yr awdurdod i archwilio pob tomen categori 1 ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis a phob tomen categori 2 unwaith mewn cyfnod o 12 mis, gyda phŵer disgresiwn i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau monitro eraill, gan gynnwys arolygiadau ychwanegol, fel y penderfynir gan yr awdurdod. Felly, er enghraifft, gallai hyn fod yn briodol mewn achos o dywydd eithafol sy'n gofyn am archwiliad yn sgil hynny.

Bydd y diwygiad arfaethedig hefyd yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio amlder arolygiadau, ac yn ogystal, bydd gwelliant yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi arweiniad i'r awdurdod mewn perthynas â'i ddyletswydd i fonitro tomenni cofrestredig ac i ymgynghori eto cyn rhoi'r canllawiau hynny. Rwy'n credu y bydd y gwelliannau hyn yn cyflawni'r sicrwydd y mae'r pwyllgorau wedi gofyn amdano.

Rwyf hefyd wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i roi dyletswydd ar yr awdurdod i ymgynghori ar ei bolisi arfaethedig ar gyfer categoreiddio. Gallaf gadarnhau bod hyn yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd. Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar gategoreiddio a gallaf gadarnhau y bydd y canllawiau yn nodi'r disgwyliad y bydd yr awdurdod yn cymryd camau i hysbysu'r cymunedau lleol hynny o unrhyw newidiadau i gategoreiddio tomenni nas defnyddir.

Mynegodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith gefnogaeth i'r dull dau gam o asesu. Serch hynny, mae'r pwyllgor yn parhau i bryderu am y diffyg manylion ar wyneb y Bil ynglŷn â'r hyn a fydd yn cael ei asesu a sut, ac roedd safbwyntiau cymysg am hyn gan randdeiliaid a roddodd dystiolaeth. Yn yr achos hwn, rwy'n parhau i fod yn gadarn yn fy marn mai canllawiau yw'r dull mwy synhwyrol, gan fod canllawiau yn rhoi'r hyblygrwydd angenrheidiol hwnnw i'r awdurdod ymateb i newid mewn maes a fydd lle ceir datblygiadau technolegol aml. Fodd bynnag, rwy'n fodlon gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i'r awdurdod mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r awdurdod o ran ag asesiadau, ac rwy'n cadarnhau eto y bydd angen i unrhyw ganllawiau fod yn destun ymgynghori. Gobeithio y byddwch yn cytuno â mi bod hwn yn ymateb rhesymol a chymesur i'r materion a godwyd gan y pwyllgor.

Roedd hi hefyd yn glir, Llywydd, o'r dystiolaeth a roddwyd yn ystod proses graffu Cyfnod 1, bod awydd cryf i gyhoeddi adroddiadau asesiadau rhagarweiniol a llawn. Adlewyrchwyd hyn mewn argymhelliad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, felly rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi gofyn i swyddogion ddechrau drafftio gwelliant i weithredu'r argymhelliad hwn.

Gwrandawais gyda diddordeb mawr ar y safbwyntiau a fynegwyd yn ystod Cyfnod 1 am fanteision cael cofrestr gynhwysfawr o'r holl domenni nas defnyddir, a barn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar hyn yn ei adroddiad. I fynd i'r afael â'r sylw a wnaeth y pwyllgor ynghylch sicrhau eglurder a sicrwydd i berchnogion a'r cyhoedd, yr wyf yn cytuno ag ef, rwyf wedi penderfynu cyflwyno gwelliant i'r Bil sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi rhestr o'r holl domenni nas defnyddir sydd wedi bod trwy'r broses asesu rhagarweiniol. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn darparu'r eglurder a'r sicrwydd angenrheidiol i berchnogion ac i'r cymunedau bod tomenni wedi'u cofnodi gan yr awdurdod a bod tryloywder ynghylch hyn.

Gan droi at y penderfyniad ariannol, fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y Bil a diddordeb y pwyllgor yn y methodolegau costau ac unrhyw effaith bosibl ar gyllid i'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, awdurdodau lleol a phartneriaid statudol. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn cadarnhau y bydd cyfanswm cost y Bil yn £99.1 miliwn dros y cyfnod o 15 mlynedd hyd at flwyddyn ariannol 2039-40. Rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi derbyn wyth o'r naw argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid ac wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 8. Rwyf hefyd wedi cytuno i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol yn dilyn Cyfnod 2 i adlewyrchu argymhellion 4, 5 a 6. Gofynnaf i'r Senedd hefyd gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Diolch yn fawr, Llywydd.

Ydy hi'n iawn i mi eistedd i lawr?

17:40

Mae'n iawn i chi eistedd i lawr, ydy, a gwnaf eich galw chi nôl i siarad ar ddiwedd y ddadl.

Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith nawr, Llyr Grufffydd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cyn troi at adroddiad y pwyllgor, hoffwn i gychwyn drwy ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni fel pwyllgor er mwyn llywio'n trafodaethau ni ar y Bil. Hoffwn i ddiolch yn arbennig hefyd i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei barodrwydd i fod â meddwl agored yn ystod y broses graffu Cyfnod 1. Fel rŷm ni wedi clywed, dwi'n meddwl, mae ei ymateb cadarnhaol yn sicr yn brawf o hynny, ac mi fydda i'n tynnu sylw at nifer o enghreifftiau o hyn, gobeithio, yn fy nghyfraniad.

Mae'r tirlithriad yn Tylorstown yn 2020, a'r tirlithriad mwy diweddar yng Nghwmtyleri, yn ein hatgoffa ni'n glir o'r risgiau sy'n gysylltiedig â threftadaeth mwyngloddio Cymru, a'r angen brys i amddiffyn cymunedau yn well rhagddyn nhw.

17:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae adolygiad Comisiwn y Gyfraith o'r gyfraith bresennol sy'n llywodraethu diogelwch tomenni glo yn nodi achos cymhellol—achos compelling iawn—dros newid, ac mi gafodd canfyddiadau'r adolygiad eu dyfynnu gan gyfranwyr wrth iddyn nhw roi cefnogaeth i'r Bil. Fe ddywedon nhw wrthym ni fod y gyfraith bresennol, sy'n dyddio nôl i'r 1960au, fel y clywon ni gan y Dirprwy Brif Weinidog ar y cychwyn, yn henffasiwn ac yn annigonol i reoli'r risgiau a achosir gan domenni nas defnyddir, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried effaith gynyddol newid hinsawdd.

Fel yr amlinellwyd eisoes gan y Dirprwy Brif Weinidog, mae'r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu awdurdod newydd, pwrpasol i asesu, cofrestru, monitro a goruchwylio tomenni nas defnyddir. Yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw y gall yr awdurdod ymyrryd yn llawer cynharach na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran mynd i'r afael ag ansefydlogrwydd tomenni, a does dim amheuaeth ym marn y pwyllgor y bydd y gyfundrefn newydd hon yn welliant amlwg ar yr un bresennol. O ystyried hynny, felly, a'r angen hanfodol i sicrhau diogelwch cymunedau sy'n byw yng nghysgod tomenni nas defnyddir, mae'r pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil.

Wedi dweud hynny—ac mae'n rhaid imi ddweud hynny, onid oes e—mae rhai darpariaethau penodol rŷn ni'n credu y gellid eu gwella, ac mae rhai pethau penodol hefyd ar goll, ym marn y pwyllgor. O'n 30 argymhelliad ni, mae dros eu hanner nhw ar gyfer gwelliannau sydd â'r nod o sicrhau bod y gyfundrefn newydd yn glir, yn gadarn, yn effeithiol ac yn ennyn hyder y cyhoedd. Nawr, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi nodi hyd yn hyn ei fod e'n fodlon derbyn o leiaf wyth o'n hargymhellion ni ar gyfer gwelliannau, ac rŷn ni'n croesawu hynny'n fawr iawn, wrth gwrs, ac rŷn ni'n gobeithio y bydd hi'n parhau i fod yn bosib inni ei ddarbwyllo fe ynghylch gwelliannau eraill wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy gyfnodau eraill y broses graffu.

Thema sy’n ailgodi’n aml yn ein hadroddiad ni yw'r diffyg manylion yn y Bil o ran elfennau allweddol y gyfundrefn newydd. Rŷn ni wedi clywed gan y Dirprwy Brif Weinidog y bydd y manylion hyn yn cael eu nodi mewn canllawiau yn y dyfodol. Mae'r dull hwnnw yn anfoddhaol, yn ein barn ni, am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae'n golygu nad yw bwriadau polisi Llywodraeth Cymru yn glir. Er bod canllawiau cryno drafft wedi'u rhannu gyda'r pwyllgor, ac roeddem ni'n ddiolchgar am hynny, yn ymarferol, wrth gwrs, mi oedd hynny'n rhy hwyr inni ofyn am farn rhanddeiliaid arnyn nhw, a hefyd, wrth gwrs, yn rhy hwyr inni eu hystyried nhw mor llawn ag y byddem ni'n dymuno. Yn ail, fydd y gyfundrefn newydd ddim yn cael ei rhoi ar waith tan 1 Ebrill 2027, sydd bron i ddwy flynedd i ffwrdd. Felly, mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd hi i benderfynu ar rai o'r manylion polisi yma. Yn olaf, ac yn hollbwysig, mae gadael y manylion polisi i ganllawiau yn golygu y gellir gwneud newidiadau sylweddol gan Lywodraeth yn y dyfodol heb waith craffu priodol gan y Senedd yma. Wrth gwrs, mae gan ganllawiau rôl i'w chwarae wrth sicrhau y caiff y Bil ei weithredu’n effeithiol, ond dylai e ddim cael ei ddefnyddio i lenwi manylion polisi pwysig y byddem ni yn disgwyl eu gweld wedi'u nodi fel arfer mewn deddfwriaeth, er mwyn, wrth gwrs, darparu goruchwyliaeth ddemocrataidd briodol.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rŷn ni wedi argymell cynnwys pwerau gwneud rheoliadau i osod isafswm y gofynion ar gyfer asesiadau tomenni nas defnyddir, monitro ac archwiliadau. Fyddai hyn ddim yn gwneud y Bil yn llai diogel ar gyfer y dyfodol, ond mi fyddai'n diogelu rhag posibilrwydd gwanhau’r gyfundrefn, yn ein barn ni. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi gwrthod ein hargymhellion ni, ond fel cyfaddawd, mae e wedi cytuno i ddiwygio’r Bil i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ac i ymgynghori arnyn nhw. Mae yna ddadl i’w chael, efallai, ynglŷn ag a yw hynny'n gyfaddawd derbyniol, ond yn sicr mi fyddwn ni'n siŵr o ddychwelyd at y mater yma yn ystod Cyfnod 2.

Gan symud ymlaen at Ran 1 y Bil, sy'n darparu ar gyfer sefydlu'r awdurdod newydd, ar y cyfan, rŷn ni’n fodlon â'r darpariaethau yn y rhan hon, er y byddem ni wedi hoffi gweld yr awdurdod newydd yn cael ei sefydlu yn gynt o lawer. Rŷn ni'n disgwyl i'r awdurdod fod yn gwbl weithredol, felly, o'r diwrnod cyntaf, sy'n golygu y dylai'r holl ganllawiau fod ar waith ac y dylai'r holl reoliadau perthnasol fod mewn grym erbyn y dyddiad hwnnw. Mae argymhelliad 5 yn adlewyrchu hyn, a dwi'n falch o ddweud ei fod e wedi cael ei dderbyn.

Roedd llawer o'r dystiolaeth a gawson ni yn canolbwyntio ar Ran 2 y Bil, sy'n cwmpasu asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir. Yn seiliedig ar y dystiolaeth gan arbenigwyr, gan gynnwys yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, rŷn ni wedi galw am gofrestr gynhwysfawr o’r holl domenni nas defnyddir, nid dim ond y tomenni hynny sydd wedi'u categoreiddio. Byddai hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i gymunedau, ac yn ennyn hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn newydd. Unwaith eto, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i gyflwyno gwelliant sy’n dal hanfod ein hargymhelliad ni, ac felly rŷn ni yn croesawu hynny. 

Dwi eisoes wedi tynnu sylw at ein hargymhellion allweddol ar gyfer pwerau gwneud rheoliadau mewn perthynas ag asesiadau, monitro ac archwiliadau, felly byddaf i ddim yn eu hailadrodd nhw. Rŷn ni hefyd wedi argymell i bob asesiad rhagarweiniol gynnwys archwiliad ffisegol, ac i adroddiadau o asesiadau rhagarweiniol a llawn fod ar gael i'r cyhoedd. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn ein hargymhellion ar gyhoeddi adroddiadau, gan ganiatáu, felly, ar gyfer rhagor o dryloywder.

I droi at gynlluniau rheoli, yng ngeiriau'r Dirprwy Brif Weinidog ei hun, yn ystod y dystiolaeth y derbynion ni, mae'r cynlluniau hyn yn 'hollol hanfodol' i'r gyfundrefn newydd. Ond, wrth gwrs, dyw’r Bil ddim yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer nhw. Gwnaethom ni dynnu sylw at hyn fel gwendid allweddol yn y Bil a’r gyfundrefn reoli gyffredinol. Felly, eto, rŷn ni'n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn ein hargymhelliad i osod y cynlluniau hyn ar sail statudol.

Mae Rhan 3 y Bil yn ymdrin ag ansefydlogrwydd tomen a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Ymhlith pethau eraill, mae'n galluogi'r awdurdod newydd i ymyrryd os oes perygl bod methiant tomen ar fin digwydd. Fodd bynnag, fe glywon ni y gall rhwymedigaethau o dan gyfraith amgylcheddol a chynllunio atal yr awdurdod rhag gweithredu'n gyflym i osgoi argyfwng pe bai angen.

Fel pwyllgor, rŷn ni’n cefnogi dulliau cryf iawn, wrth gwrs, i ddiogelu'r amgylchedd, ond o ran osgoi llithriad arall yn debyg i un Tylorstown, mae'n rhaid i'r flaenoriaeth fod ar sicrhau diogelwch cymunedol. Er bod y mater hwn wedi'i amlygu nôl yn 2022 gan Gomisiwn y Gyfraith, dyw Llywodraeth Cymru yn dal heb ganfod ateb cyfreithiol priodol i fynd i'r afael â hyn. Mae argymhelliad 26 yn ei hannog i wneud yn union hynny, felly. Fodd bynnag, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith cynllunio at argyfwng yn elfen orfodol o gynllunio rheoli statudol, sydd yn sicr yn galonogol.

Dirprwy Lywydd, rŷn ni yn awyddus i weld y Bil yn symud ymlaen drwy'r Senedd yma. Mae gennym ni gyfle i sicrhau bod y drefn ddeddfwriaethol newydd ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir yn glir, yn gadarn ac yn effeithiol—cyfundrefn sy'n rhoi tawelwch meddwl i gymunedau sy'n byw yng nghysgod tomenni eu bod nhw yn cael eu diogelu a'u bod nhw yn saff.

Unwaith eto, felly, hoffwn ddiolch i’r Dirprwy Brif Weinidog am ei ymateb cadarnhaol i’n hadroddiad ni ac am ei barodrwydd i ystyried ein pryderon ni. Rŷn ni yn edrych ymlaen, wrth gwrs, at ddychwelyd at lawer o’r materion a godwyd gen i heddiw a, dwi'n siŵr, gan eraill yn ystod y ddadl yma yn ystod cyfnodau diwygio’r Bil. Diolch.

17:50

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gefnogol i egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Daeth adroddiad y pwyllgor i dri chasgliad a gwnaeth 22 argymhelliad. Ein prif bryder gyda'r Bil, fel y'i mynegir yng nghasgliadau 2 a 3, yw bod Llywodraeth Cymru yn dibynnu'n rhy drwm ar y defnydd o ganllawiau i gyflawni amcanion y Bil. Felly, fe wnaethom ni ddod i'r casgliad bod cydbwysedd amhriodol rhwng darpariaethau a fydd ar wyneb y Bil neu wedi'u gadael i reoliadau o'i gymharu â'r hyn sy'n destun canllawiau. Rydym ni felly yn croesawu'r ymateb cadarnhaol i'n hadroddiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, fel y dangosir drwy iddo dderbyn, yn llawn neu'n rhannol, 14 o'n 22 argymhelliad. Maen nhw'n cynnwys derbyn wyth argymhelliad sy'n cynnig newidiadau i'r Bil i fynd i'r afael â'n pryderon.

Mewn ymateb i argymhellion 5 a 6 ynglŷn ag adran 10, sy'n ymwneud â monitro tomenni, nododd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yn cyflwyno gwelliannau i roi'r nifer lleiaf o arolygiadau'n mae'n rhaid eu cynnal ar wyneb y Bil ar gyfer tomenni categori 1 a 2, fel y nododd yn gynharach heddiw. Yn ogystal, rhoddir dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar, a chyhoeddi canllawiau i'r awdurdod ar ei swyddogaethau monitro o dan yr adran honno. Credwn y bydd hyn nid yn unig yn cryfhau'r Bil, ond hefyd yn darparu eglurder a mwy o sicrwydd i randdeiliaid.

Mae mater pwysig arall i ni yn ymwneud â'r diffyg gofyniad yn y Bil i gynhyrchu cynlluniau rheoli ac i ddibynnu ar ganllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru i'w cyflwyno yn lle hynny. Rydym yn falch, felly, bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrando ar ein pryderon ac wedi derbyn argymhellion 18 a 19 yn llawn, ac argymhelliad 20 yn rhannol.

Credwn y bydd cynnwys dyletswydd ar wyneb y Bil i'r awdurdod newydd gynhyrchu cynlluniau rheoli ar gyfer tomenni categorïau 1 a 2, gyda disgresiwn i baratoi cynlluniau ar gyfer y tomenni hynny nas defnyddir yng nghategorïau 3 neu 4, yn cryfhau'r Bil ac eto yn darparu eglurder a sicrwydd i randdeiliaid. Wrth gyflwyno gwelliannau priodol, rydym ni hefyd yn cydnabod ac yn croesawu bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd ymhellach nag argymhelliad 19 trwy ddisgrifio ar wyneb y Bil yr hyn sydd i'w nodi mewn cynllun rheoli fel lleiafswm.

Rydym ni hefyd yn nodi bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth y mae'r awdurdod yn ystyried a allai fod yn berthnasol mewn argyfwng sy'n cynnwys tomen nas defnyddir. Mae hyn yn mynd i'r afael ag argymhelliad 8 o'n hadroddiad. Rydym yn cytuno â barn yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd hyn nid yn unig yn cryfhau'r Bil ond bydd yn golygu bod darpariaethau sy'n ymwneud â pharatoi at argyfwng yn hawdd eu hadnabod.

Rydym ni hefyd yn croesawu derbyn argymhelliad 13 y dylid diwygio'r Bil i roi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynhyrchu canllawiau ar ôl ymgynghori.

Fe hoffwn i dynnu sylw yn fyr at rai o'r argymhellion yn ein hadroddiad a wrthodwyd. Yn gyntaf, nododd ein hadroddiad nad ydym yn glir pam fo'n rhaid diffinio tomen nas defnyddir yn y Bil drwy gyfeirio at Reoliadau Chwareli 1999 neu Reoliadau Mwyngloddiau 2014. Roeddem yn teimlo nad yw'r diffiniad yn hygyrch, sy'n bryder o ystyried ei bwysigrwydd sylfaenol i weithrediad y gyfundrefn newydd. Fe wnaethom ni argymell cynnwys diffiniad annibynnol i gynorthwyo dealltwriaeth cymunedau o'r hyn sy'n gyfystyr â thomen nas defnyddir a helpu i feithrin hyder y cyhoedd yn y drefn newydd. Nodwn sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet, ond efallai na fydd lleygwr yn sylweddoli o ddarllen adran 81(3) bod y ddwy gyfres o reoliadau y cyfeiriais atyn nhw yn berthnasol i domenni a ddefnyddir. Rydym ni yn nodi, fodd bynnag, wrth wrthod ein tri argymhelliad ar adran 81, y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynnwys dyletswydd i ymgynghori mewn perthynas â rheoliadau sydd i'w gwneud o dan adran 81(5), sy'n cael ei groesawu.

O ran sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'n hargymhelliad i wneud darpariaeth ar wahân am sancsiynau troseddol penodol yn adran 38, yn hytrach na thrwy reoliadau, byddem yn tynnu sylw at y farn yr ydym ni wedi ei harfer ers amser maith y dylid gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau ar wyneb Bil.

I gloi, fe hoffwn i ailadrodd ein diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion am y ffordd gadarnhaol ac adeiladol maen nhw wedi ymgysylltu â'n hadroddiad.

17:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Yn ein hadroddiad, daethom ni i un casgliad a gwneud naw argymhelliad. Rwy’n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn pob un o’r argymhellion, gydag un wedi’i dderbyn mewn egwyddor. Rydym ni’n croesawu ac yn cefnogi pwrpas cyffredinol y Bil ac yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil. Fodd bynnag, rydym ni wedi codi materion penodol gyda’r nod o wella’r wybodaeth ariannol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Bil hwn.

Mae gennym ni bryder cyffredinol nad yw'r dystiolaeth a ddefnyddir yn sail i rannau o'r Bil yn cael ei chynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Mae hyn yn cynnwys data sy'n sail i gostau'r Bil a'r buddion sy'n deillio o'r Bil, ac arbedion cost y Bil. Er ein bod yn derbyn mewn egwyddor sicrwydd y Dirprwy Brif Weinidog bod y rhain yn seiliedig ar dystiolaeth, rydym ni'n siomedig nad yw'r wybodaeth hon wedi'i rhannu gyda ni naill ai trwy'r asesiad effaith rheoleiddiol nac wrth graffu ar y Bil. O ganlyniad, mae'n anodd i'r pwyllgor asesu a yw'r costau hyn yn gadarn. Rydym ni wedi argymell bod y wybodaeth yn cael ei rhannu gyda ni cyn dadl Cyfnod 1, ac i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol ar ôl trafodion Cyfnod 2. Rwy'n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i'r ceisiadau hyn cyn y ddadl heddiw.

Er ein bod ni wedi clywed sicrwydd gan y Dirprwy Brif Weinidog bod digon o arian i ymgymryd â'r holl waith sydd ei angen i wneud tir sy'n cynnwys tomenni nas defnyddir yn ddiogel, rydym ni'n pryderu y gallai'r arian hwn gael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Gofynnwn i'r Dirprwy Brif Weinidog gadarnhau y caiff yr arian ei ddyrannu i'r meysydd hynny o risg fwyaf ac yn seiliedig ar angen, ac rydym ni'n ddiolchgar iddo am ddatgan yn ei ymateb bod ceisiadau a wneir am domenni â sgôr uwch yn cael eu blaenoriaethu dros y rhai ar gyfer tomenni â sgôr is, os yw'r gwaith arfaethedig yn ymarferol a bod modd ei gyflawni.

Gan droi nawr at fater arall, fel y soniwyd yn gynharach yn y ddadl, mae'r Bil yn creu corff newydd, yr awdurdod tomenni nas defnyddir, a byddem yn croesawu eglurhad ar nifer o faterion. Yn benodol, gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r cyllid ar gyfer cyrff a fyddai'n colli rhai o'u cyfrifoldebau wrth iddynt gael eu trosglwyddo i'r awdurdod. O'r dystiolaeth a ystyriwyd gennym ni, nid oedd yn glir a fyddai'r cyrff hyn yn colli cyfran o'u cyllid i adlewyrchu'r newid mewn cyfrifoldebau, ac rydym yn ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog am gadarnhau'r trefniadau cyllido hyn mewn ymateb i'n hargymhelliad.

Rydym ni hefyd yn pryderu am yr effaith y byddai'r awdurdod newydd yn ei chael ar weithlu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, pe bai staff yn dewis ceisio gwaith yn yr awdurdod newydd. Felly, rydym ni'n croesawu sicrwydd gan y Dirprwy Brif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad gallu gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynorthwyo gwaith yn y maes hwn. Mae gennym ni bryderon hefyd ynghylch yr amcangyfrif wrth gefn ar gyfer costau nad ydynt yn staff sy'n gysylltiedig â'r corff newydd. Er bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi esbonio bod yr amcangyfrif hwn yn seiliedig ar brofiad o sefydlu cyrff eraill, unwaith eto fe welsom ni fod y dystiolaeth sy'n cefnogi hyn ar goll o'r asesiad effaith rheoleiddiol. Er bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, mae'n siomedig na fydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i'r asesiad effaith rheoleiddiol, gan y byddai hyn yn fuddiol o ran tryloywder.

Yn olaf, o ran talu staff yr awdurdod newydd, er ein bod yn derbyn y bydd nifer o'r swyddi yn yr awdurdod yn gofyn am sgiliau arbenigol, bu inni ofyn am ddadansoddiad pellach o gostau staff er mwyn sicrhau bod tâl yn briodol ac yn dangos gwerth am arian. Rwy'n falch iawn bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i'r cais hwn.

Dirprwy Lywydd, mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â'r adolygiad ôl-weithredu, sy’n thema gyffredin i'n pwyllgor ni. Hoffwn ailbwysleisio pwysigrwydd adolygiad o’r fath i sicrhau bod amcanion y ddeddfwriaeth yn cael eu cyflawni yn unol â’r disgwyliadau a bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau.

Rydyn ni felly’n croesawu cynnwys yr adolygiad ôl-weithredu yn y Bil ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i asesu cost cyffredinol y Bil yn ystod y cyfnod adolygu, yn enwedig o ran tomenni nad ydyn nhw’n domenni glo, lle mae angen rhagor o wybodaeth i ddarparu amcangyfrifon cost llawn. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ymrwymo i wneud hyn ac yn edrych ymlaen at weld canlyniad yr adolygiad ar ôl i’r Bil gael ei roi ar waith. Diolch yn fawr.

18:00

Yn gyntaf oll, fe hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno hyn. Mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni yma, Senedd Cymru, ddatblygu'r ddeddfwriaeth fwyaf cadarn bosibl i sicrhau diogelwch tomenni a mwyngloddiau. Ac, lle bo hynny'n bosibl, mae ein grŵp yn edrych ymlaen—a fi yn arbennig—at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr hon ar y ddeddfwriaeth hon. Byddaf yn onest, fodd bynnag, ac yn dweud ar y dechrau, er fy mod i'n cytuno â'r mwyafrif helaeth o'r hyn sydd eisoes yn y Bil, mae angen newidiadau mawr, ac rwy'n gwybod bod gennym ni'r cwmpas hwnnw, wrth i'r Bil fynd yn ei flaen, o ran ein bod ni'n cyflwyno gwelliannau. Mae'n deg dweud, gan yr holl Gadeiryddion pwyllgorau sydd wedi siarad, er y buoch chi'n hael iawn wrth dderbyn rhai o'r gwelliannau, mae yna gryn dipyn, os ydy'ch chi'n ei luosi gyda nifer yr ymrwymiadau, o welliannau nad ydych chi wedi derbyn mewn egwyddor mewn gwirionedd. Nid ydym yn credu bod y Bil yn mynd yn ddigon pell, ond byddwn ni, y grŵp Ceidwadol, yn cefnogi egwyddorion sylfaenol y Bil hwn, a byddwn yn edrych i gyflwyno gwelliannau yr wyf yn gobeithio—ac nid yw bob amser wedi bod yn wir—yn cael eu hystyried yn yr ysbryd y cânt eu cyflwyno, ac nid y ffaith eu bod yn cael eu cyflwyno gan yr wrthblaid swyddogol.

Er enghraifft, nid yw'r Bil yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, os unrhyw rai o gwbl, yn ystod y broses asesu a chategoreiddio. Mae'r drefn newydd a ddarperir ar ei chyfer yn y Bil yn canolbwyntio ar ansefydlogrwydd tomen nas defnyddir, sydd, yn amlwg, yn risg fawr bosib, ond mae yna hefyd risgiau eraill y gallai'r Bil hwn fod yn eu cwmpasu. Mae yna ffactorau risg eraill fel llygredd, hylosgi a llifogydd, ac ni fyddant yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses asesu a chategoreiddio pan fyddant yn annibynnol ar ansefydlogrwydd. Nawr, amlygodd Comisiwn y Gyfraith ei hun fod hyn yn wyriad o'i argymhelliad ei hun. Dywedodd Arolwg Daearegol Prydain

'Rhoddir ystyriaeth benodol i risgiau o halogi amgylcheddol (o bridd, dŵr wyneb a chyrff dŵr daear) o domen nas defnyddir yn achos cwympo neu newidiadau i amodau draenio, gan gynnwys ar gyfer tomenni "sefydlog."'

Mae'r Bil hefyd yn canolbwyntio ar effaith dynol uniongyrchol, ond beth am fygythiadau i'n cynefinoedd, ein bioamrywiaeth, ein tirweddau a'n cyrsiau dŵr? Honnodd Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU i'n Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith nad yw bygythiadau i gynefinoedd, bioamrywiaeth, tirweddau, cyrsiau dŵr ac ati, er eu bod yn effeithio'n anuniongyrchol ar unigolion a chymunedau, yn cael eu cwmpasu gan y diffiniad o fygythiad i les dynol. Am y rheswm hwn, dylai maint a chwmpas y bygythiadau sy'n deillio o'r tomenni nas defnyddir segur fod yn ehangach a dylai fynd y tu hwnt i fygythiadau dynol uniongyrchol. Tynnodd y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol sylw at y dylai'r Bil ystyried y risg sy'n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid, ac mae Senedd Cymru wedi datgan nid yn unig argyfwng hinsawdd, ond argyfwng natur. Nid yw'r Bil yn cynnwys unrhyw fanylion i fynd i'r afael â chanlyniadau methiant tomen. Dywedodd UKELA ei bod yn syndod nad yw'r Bil yn cwmpasu camau gweithredu i fynd i'r afael â chanlyniadau methiant tomen. Felly, dylem fod yn edrych ar gyflwyno pennod yn benodol ar beth yw'r gofynion cyfreithiol wrth ddelio â chanlyniadau trychineb o'r fath.

Pwysleisiodd llawer o gyfranwyr, er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol, fod angen staff cymwys priodol ar draws ystod o ddisgyblaethau. Pan oeddem yn gwrando ar y dystiolaeth, roedd yn hollol amlwg nad oes gennym ni lawer o'r sgiliau hynny yma yng Nghymru. Awgrymwyd y gallai recriwtio staff fod yn her allweddol i'r awdurdod, gan dynnu sylw at ddiffyg sgiliau ac arbenigedd yn y gweithlu presennol. Cododd y Gymdeithas Cynhyrchion Mwynau bryderon y bydd sefydlu'r awdurdod yn gwaethygu'r heriau hyn, felly fe ddylem ni sicrhau bod gan yr awdurdod hwn le allweddol wrth helpu i fynd i'r afael â'r heriau. Felly, fe hoffwn i weld pennod ar gyfrifoldeb yr awdurdod i annog datblygiad sgiliau yn y sector, megis trwy brentisiaethau, cysylltu â cholegau a phrifysgolion.

Mae safon ddwbl ar lo, ac fe wnes i a fy nghyd-Aelod ac, yn wir, ein harweinydd yma yng Nghymru, Darren Millar, ddweud bod safon ddwbl ar lo. Ar hyn o bryd, mae polisi cynllunio yn caniatáu echdynnu glo yn unig mewn amgylchiadau cwbl eithriadol. Er bod ein gwlad yn dal i fod angen glo, rydym yn rhy ddibynnol ar fewnforion. Mae'r DU yn mewnforio tua 3.4 miliwn tunnell o lo bob blwyddyn. Oni fyddai'n well cael hynny wrth adfer ein tomenni glo nas defnyddir i helpu ein twf economaidd yng Nghymru?

18:05

Mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch yn dda, Janet.

Iawn. Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, nid yw'r ddeddfwriaeth yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod llais cymunedau lleol yn cael ei hyrwyddo a bod pobl leol yn cael eu hysbysu. Felly, gobeithiaf weithio gyda chi i greu adran yn seiliedig ar ddyletswyddau'r awdurdod a Llywodraeth Cymru i'r cymunedau ger y tomenni.

Dirprwy Lywydd, bydd llawer iawn o gyflwyniadau yn cael eu gwneud yma yn awr ar hyn, yn y dyfodol, a gallaf eich sicrhau bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i'r egwyddorion sylfaenol, ond fe hoffem ni wneud yn siŵr bod y Bil hwn yn gwneud yn union yr hyn sydd ei angen ar bobl Cymru. Diolch.

Mae'r Bil hwn yn cynrychioli cam pwysig ymlaen, a hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Brif Weinidog a hefyd i'r gweision sifil sydd wedi gweithio arno. Hoffwn i groesawu yn arbennig y newidiadau sydd wedi cael eu gosod mas y prynhawn yma gan y Dirprwy Brif Weinidog. Dwi'n meddwl, fel pwyllgor, y byddwn ni'n croesawu'r ffaith ei fod e wedi gwrando arnom gyda hynny.

Mae'r angen am weithredu ar domenni glo yn mynd yn ôl degawdau, i gyfnod cyn i'r Senedd fodoli hyd yn oed. Mae'r tomenni glo yn waddol diwydiant a luniodd ac a greithiodd ein cymunedau. Dylai'r hyn a ddigwyddodd i ni yn ein gorffennol ein gorfodi i sicrhau bod pob tomen lo yng Nghymru yn cael ei wneud yn ddiogel ac nad oes rhaid i unrhyw gymuned fyw gyda'r ofn hwnnw eto. Edrychaf ymlaen at graffu ar y Bil hwn yn fwy manwl yn y pwyllgor. Mae yna rai materion y byddwn i'n eu codi nawr. Bydd llawer o bobl, rwy'n siŵr, yn gofyn pam y bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan 2027 i'r awdurdod fod yn gwbl weithredol. Rwy'n croesawu rhai o'r newidiadau sydd wedi'u hamlinellu y prynhawn yma, yr wyf yn gobeithio, o ran mesurau dros dro, a fydd yn gwneud pobl yn ddiogel, a hefyd, yn hollbwysig, yn gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel yn y cyfamser, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n gwybod y byddwn yn dod yn ôl ato ar gamau pellach.

Rwyf yn croesawu'r pwyslais clir yn y Bil ar les dynol fel y brif ystyriaeth, er fy mod i'n bryderus fod lles amgylcheddol wedi ei hepgor. Mae llawer o'r tomenni hyn wedi'u lleoli mewn ardaloedd ecolegol sensitif. Mae colli bioamrywiaeth yn ganlyniad sylfaenol i'n hiechyd, wrth gwrs, ac i'n hamgylchedd, ac i'n gwytnwch hirdymor, felly byddaf yn gofyn i'r Llywodraeth ailystyried y bwlch hwn.

Nawr, wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon i wneud ein cymunedau yn ddiogel. Mae cyllid digonol a hirdymor yn gwbl hanfodol. Mae'n amlwg y bydd angen swm sylweddol o gyllid, efallai £600 miliwn. Mae'n rhaid i lawer o hynny ddod o San Steffan. Byddwn yn gofyn, a byddaf yn parhau i ofyn, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau'r cyllid angenrheidiol hwnnw ganddyn nhw. Mae llawer o'r addewidion a nodwyd yn y Papur Gwyn yn wreiddiol, fel asesiadau risg, cyfrifoldebau monitro a chynlluniau rheoli—mae wedi'i amlinellu eisoes—wedi'u dirprwyo i ganllawiau yn hytrach na, hyd yn oed, i is-ddeddfwriaeth. Nawr, gyda'r newidiadau sydd wedi'u nodi er gwaethaf hynny, yr wyf yn ei groesawu ar hyn, gallai'r diffyg pwysau statudol adael cymunedau'n dal i deimlo'n bryderus. Felly, byddwn yn dal i ofyn i'r Llywodraeth ailystyried ac i gryfhau ymhellach yr elfennau hynny o'r Bil fel y rhoddir mwy o sicrwydd i'r cyhoedd.

Nawr, yn olaf, rwy'n bryderus iawn y gallai'r Bil ysgogi buddiannau preifat wrth adfer tomenni glo fel esgus ar gyfer echdynnu glo newydd. Nawr, rwy'n cytuno â sefydliadau fel y Rhwydwaith Gweithredu Glo nad yw deddfwriaeth bresennol yn ddigon cadarn i atal hyn rhag digwydd. Felly, rhaid diwygio'r Bil hwn i'w atal. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud na all ragweld sefyllfa lle bydd echdynnu a llosgi glo o ganlyniad i'r Bil. Rwy'n ofni nad ydw i'n rhannu'r teimlad hwnnw a'r sicrwydd hwnnw. Rwy'n ofni y gallai'r Bil hwn annog y sefyllfa hon, efallai gan dirfeddianwyr sydd â phryderon am gostau cynnal a chadw parhaus. Mae angen i ni weld y Bil yn cael ei ddiwygio fel bod gwarant na ellir gwerthu unrhyw lo sy'n cael ei dynnu yn ystod gwaith adfer lle mae unrhyw bosibilrwydd y bydd y glo hwnnw'n cael ei losgi, oherwydd byddai hynny'n cyfrannu at yr union newid hinsawdd y mae'r Bil yn cydnabod y byddai'n bygwth fwyfwy risg sefydlogrwydd tomenni glo.

Ni allwn ni ganiatáu i domenni glo fod yn byllau glo newydd, caniatáu i'r cymoedd gael eu hysbeilio eto am lo, troi ein tirwedd at ofynion elw, gwneud lles y cyhoedd yn ail ystyriaeth i arian. Mae'r tomenni hyn yn greithiau ar ein mynyddoedd, sy'n gorchuddio clwyfau ein ddoe. Ni allwn ni ganiatáu i gwmnïau ailagor y clwyfau hynny eto, i droi ymdrechion i adfer yn wawd ar fwyngloddio. Rhaid clirio'r tomenni hyn, a rhaid i San Steffan dalu'r gost. Ni ddylai elw preifat ddod yn agos at y gweithrediadau hyn. Am sarhad ar ein hanes fyddai hynny. Am sarhad i yfory ein trefi. Mae enghraifft fyw o hyn, wrth gwrs, ym Medwas, lle mae posibilrwydd gwirioneddol y gallem ni weld cwmni preifat yn adfer tomenni glo a'i ariannu trwy echdynnu glo. Mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd wedi dweud bod cwmnïau preifat yn cysylltu â'r cyngor yn rheolaidd gyda chynigion i adfer tomenni segur sy'n eiddo i'r cyngor. Byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth eto ailystyried—a byddaf yn gorffen ar y pwynt hwn, Dirprwy Lywydd—gan gynnwys gwelliannau ar wyneb y Bil i atal hyn rhag digwydd. Byddai'n cael ei gefnogi yn hynny nid yn unig gan aelodau'r pwyllgor, ond hefyd gan gymdeithas ddinesig, gan drigolion, a byddaf yn parhau i fynd ar drywydd y pwynt hwn. Nawr yw'r cyfle i atal hyn rhag digwydd unwaith ac am byth.

18:10
Member
Huw Irranca-Davies 18:13:27
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Llywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Aelodau hefyd. 

Nawr, gadewch i mi wneud synnwyr o rai o'm nodiadau yma wrth ymateb i lawer o gyfraniadau, a llawer o gyfraniadau manwl hefyd. Llyr, a gaf i ddechrau gyda'ch cyfraniad chi? Fe wnaethoch chi ein hatgoffa'n briodol o'r angen i edrych yn ôl ar ddigwyddiadau Tylorstown, ond hefyd digwyddiadau mwy diweddar hefyd, fel Cwmtyleri ac mewn mannau eraill. Dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, gyda'r holl agweddau technegol a'r ymgysylltiad rydym yn ei gael. A fy mwriad i, fel yr wyf wedi dangos heddiw, wrth fyfyrio ar adroddiad y pwyllgor, yw i ymgysylltu ar y cyd mewn difrif i wella'r Bil hwn. Ni allwn ni anghofio, ymhlith hynny i gyd, mai'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yma yw ymdrin ag ansefydlogrwydd tomenni a lles y cymunedau hynny sy'n byw gyda'r gwaddol diwydiannol hwn. Ac rwy'n credu ei bod hi'n werth ein hatgoffa ni i gyd mai dyna ddiben hyn oll—bydd y ddeddfwriaeth hon yn datblygu hyn yn sylweddol o'r ddeddfwriaeth flaenorol sy'n bodoli nad yw'n ymdrin â'r gwaddol hwn yn y modd hwn.

Fe wnaethoch chi gyfeirio yn y fan yna, Llyr, at y ffaith bod hyn yn dipyn o newid yn y ffordd y byddwn yn ymdrin â hyn, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag asesu, ymyrraeth gynnar, monitro, gwerthuso—dull rhagweithiol, ond hefyd yn seiliedig ar gydweithredu â thirfeddianwyr, ac awdurdodau, i wneud yn siŵr ein bod ni gam ar y blaen yma; dydyn ni ddim yn aros i bethau ddigwydd, rydym ni gam ar y blaen. Ac mae hynny'n dipyn o newid ynddo'i hun.

Ac os caf i droi at y mater a godwyd gennych chi ar gyfraith amgylcheddol y gwnaethoch chi ei grybwyll, nawr mae'r cynnig i lunio, rywsut, cyfraith amgylcheddol yn un diddorol. Bu galwadau i gymryd rhai pwerau ysgubol i hepgor, mewn gwirionedd, deddfau amgylcheddol a chynllunio lle mae'r awdurdod—yr awdurdod newydd—o'r farn bod angen gwaith brys. Er mwyn ei gwneud hi'n glir, fel yn fy ymateb i'r pwyllgor, byddai hyn yn gosod cynsail eithaf heriol ac anawsterau ymarferol gwirioneddol, o ystyried ystod eang y fframwaith deddfwriaethol yn y meysydd hynny. Nid oes unrhyw fanylion wedi'u rhoi ynglŷn â pha gyfreithiau y dylid eu hepgor, yr amgylchiadau y cânt eu hepgor, neu am ba hyd y byddent yn aros wedi'u hepgor, dim ond y dylid rhoi pŵer cyfarwyddyd eang i Weinidogion Cymru. Mae'n codi nifer o faterion. Mae hepgor cyfraith cynllunio ac amgylcheddol yn y ffordd a awgrymwyd sydd, hyd y gwyddom ni, yn un ddigynsail. Byddai'n gyfansoddiadol arwyddocaol, oherwydd byddai'n ymwneud nid yn unig â meysydd cyfraith ddatganoledig ond meysydd cymhwysedd neilltuedig hefyd. Ac, yn ogystal, yn ymarferol, byddai angen i ni wneud cryn dipyn o waith i ddeall yn llawn y goblygiadau o roi'r gallu i'r awdurdod neu'r Gweinidogion hepgor deddfwriaeth yn y modd hwn. Yn yr amserlen sy'n weddill gennym i weithio ar y Bil, mae gennym ni flwyddyn o'n blaenau. Mae cynllunio, datblygu'n llawn, polisi i hepgor deddfwriaeth amgylcheddol a chynllunio ac i ddeall yr effaith ehangach, er enghraifft yr effaith ar y system gynllunio ehangach a gwneud penderfyniadau lleol, yn dipyn o dasg. Fodd bynnag, rydym yn paratoi gwelliannau i sicrhau bod cynllunio at argyfyngau yn elfen orfodol o gynlluniau rheoli, a'r disgwyliad yw y bydd y cynlluniau hynny'n cynnwys sut i adnabod a lliniaru materion amgylcheddol a chynllunio posibl, ac i awdurdodau cyhoeddus gytuno ar ddull gweithredu mewn argyfwng. Ac mewn cydweithrediad â phartneriaid statudol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Awdurdod Adfer Mwyngloddio, mae gwaith ar y gweill ar ddatblygu protocol a threfniadau gweithio i gynorthwyo'r awdurdod i weithio gyda'i gilydd ac i brysuro unrhyw ganiatâd. Felly, mae ffordd wahanol o ymdrin â hyn, ac mae'n ffordd mewn gwirionedd, gyda llaw, sy'n adnabyddus, oherwydd ymdrinnir fel hyn â chronfeydd dŵr. Ac mae'n gweithio. Ac nid oes angen cynllunio na rhanddirymu pwerau cynllunio neu amgylcheddol.

Pe gallwn i, Mike, ddiolch i chi hefyd. Roedd yna lawer o bwyntiau. Ni allaf gyfeirio at bob un ohonyn nhw, ond diolch i chi, ac i eraill sydd wedi siarad, am groesawu byrdwn hyn a'r ffordd yr aethom ni ati, yr ymagwedd adeiladol, at argymhellion eich pwyllgor, yn enwedig y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn y gellir ei gyfleu mewn canllawiau. Ac mae'n farn ar hyn, ond fe hoffem ni roi'r hyblygrwydd i'r awdurdod hefyd ymateb yn y ffordd gywir trwy ganllawiau yn hytrach na'u hasio at rywbeth ar wyneb y Bil. Ond rydyn ni'n cyflwyno gwelliannau, fel y dywedom ni, yn y meysydd hynny.

A Pred, diolch i chi hefyd, eto, am eich ymateb ac am ymateb yn gadarnhaol i'n parodrwydd i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol cyn Cyfnod 1 ar y cyllid, eglurhad ar faterion fel blaenoriaethu cronfeydd, a ffyrdd eraill yr ydym ni wedi ymateb yn adeiladol i argymhellion eich pwyllgor hefyd.

Janet, pe gallwn i grybwyll yn fyr iawn y pwynt a wnaethoch chi, fe ddywedoch chi eich bod yn cytuno â'r mwyafrif helaeth o'r Bil. Mae hynny'n fan cychwyn da. Byddaf yn cymryd hynny fel man cychwyn. A byddwn yn edrych ar yr holl awgrymiadau a gwelliannau sy'n cael eu cyflwyno yn ysbryd cydweithio, craffu a gwella'r Bil. Dyna fu fy nodwedd fel Gweinidog erioed. Ond byddwn yn erfyn arnoch chi i feddwl hefyd, wrth gyflwyno gwelliannau, i beidio â cheisio ehangu cwmpas y Bil. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl eisiau i'r Bil hwn fynd rhagddo i amddiffyn lles y cymunedau hyn, i ymdrin â'r ansefydlogrwydd rydym ni wedi ei etifeddu gan y diwydiant glo, eisiau iddo ganolbwyntio ar y mater dan sylw a pheidio â'i ehangu i fod yn goeden Nadolig o bopeth sy'n hongian oddi arno. Ac mae gennym ni flwyddyn i wneud hyn. Gyd-aelodau, mae gennym flwyddyn i wneud hyn. Mae'n eleni o'n blaenau. Felly, os gallwn ni ganolbwyntio'n fawr ar y sylwedd y mae pobl yn gofyn i ni gyflawni hyn o'i fewn, gallaf roi'r sicrwydd i chi y byddaf yn rhoi sylw â'r holl welliannau a gyflwynir—ond canolbwyntiwch ar beth yw cwmpas y Bil hwn i fod, nid ar yr hyn nad yw wedi ei gynnwys.

Ac o ran sgiliau, Janet, pan ymddangosais o flaen y pwyllgor, soniais am rai o fanylion y gwaith rydym ni'n ei wneud gyda cholegau ar hyn o bryd. Ond hefyd, gyda llaw, oherwydd bod y rhain yn sgiliau hydrolegol, sgiliau peirianneg sifil, mae gan hyn botensial mawr, gyda'r awdurdod hwn ac awdurdodau lleol a chontractwyr, i roi hwb gwirioneddol i'r cymunedau hyn wrth ymdrin â'r gwaddol hwn trwy gyflogi a hyfforddi pobl ifanc mewn swyddi â chyflog da i wneud y gwaddol hwn yn beth da. Nawr, rydym ni wedi gwneud cynnydd da ar hynny, gan gynnwys ein bod yn cydnabod y bydd angen inni, er mwyn llenwi rhai o'r bylchau capasiti, fel y soniais yn y pwyllgor, fanteisio ar rywfaint o arbenigedd rhyngwladol hefyd, ac mae gwaith da rydym ni'n ei wneud yn hynny o beth hefyd, ond byddwn yn fwy na hapus i—.

A dim ond i droi at fater glo a pholisi glo, y cyfeiriwyd atyn nhw mewn dwy ffordd wahanol, gofynnodd un person— Janet—imi, 'A allwn ni gloddio mwy o lo?', ac un yn dweud, 'A allwn ni ei gadw dan glo yn y ddaear?'—. Felly, gadewch i mi ddweud wrthych chi ble rydym ni arni mewn gwirionedd, a dyma'r farn ers tro byd yn Llywodraeth Cymru. Ac fe wnaethom ni edrych ar feddyliau'r pwyllgor ynghylch sut y byddem yn ymdrin â hyn yn y dyfodol. Felly, gadewch imi ei gwneud hi'n gwbl glir nad yw cynigion Llywodraeth Lafur Cymru o fewn y Bil hwn yn cynnwys unrhyw gynnig a fyddai'n galluogi adfer generig ar gyfer adfer glo at ddibenion manteision masnachol, megis cael ei werthu i'w losgi. Nid yw'n gwneud hynny. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gryf yn erbyn echdynnu glo, ac mae ein moratoriwm ar fwyngloddio at ddibenion budd masnachol yn parhau i fod ar waith. Dyna ein polisi glo presennol.

Mae'r Bil arfaethedig, y Bil hwn—y Bil hwn—yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar sefydlogrwydd mwyngloddiau a chwareli nas defnyddir ac ar amddiffyn lles y cymunedau hynny yr effeithir arnyn nhw gan bresenoldeb y mwyngloddiau a'r chwareli hyn nas defnyddir. Felly, mae datganiad polisi glo y Llywodraeth yn nodi'n glir iawn, a byddaf yn dyfynnu, 'Nid yw glo yn—'. Mae'n ddrwg gennyf, ymddiheuriadau, rwy'n gwneud fy hen arfer o geisio ymateb yn fanwl ac rwyf wedi mynd dros fy amser.

18:20

Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond, yn ôl fy amser i, rydych chi ymhell drosto.

O'r gorau. Yn fyr iawn, iawn, mae ein polisi yn nodi:

'Mae glo yn ffynhonnell ynni anadnewyddadwy.'

Rwy'n dweud, wrth holl aelodau'r pwyllgor newid hinsawdd:

'Rhaid i bob cynnig ar gyfer echdynnu glo, gan gynnwys unrhyw gynhyrchion glo eilaidd a gynhyrchir yn ystod gweithrediadau cloddio, sydd ar gael ar gyfer marchnadoedd ynni, ddangos yn glir pam y mae eu hangen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd.'

Allwch chi ddim bod yn gliriach na hynny. Efallai y byddwch chi'n anghytuno â hynny, Janet, ond ni allaf fod yn gliriach. Ni all y Llywodraeth hon fod yn gliriach.

Nawr rwy'n sylweddoli nad wyf wedi ymateb i'm holl gyd-Aelodau, Dirprwy Lywydd. Delyth, pam 2027 i'r awdurdod? Oherwydd dyma, yn seiliedig ar brofiad blaenorol, pa mor hir mae'n ei gymryd i sefydlu awdurdod newydd, gyda phethau fel systemau TG, caffael, recriwtio, datblygu canllawiau ac yn y blaen. Mae hynny'n amserlen resymol. 

Cyllid amlflynyddol—soniais fod fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid a'r Gymraeg eisoes wedi bod yn trafod â Llywodraeth y DU ac wedi gwneud yn glir ein cais am y cyllid ychwanegol a fyddai'n caniatáu cyllid aml-flwyddyn ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy yn y dyfodol hefyd. Ac o ran echdynnu glo, rydw i newydd ateb hynny o ran ein polisi glo.

Ond o ran yr holl bwyntiau nad wyf wedi ymateb iddyn nhw, a gaf i ddiolch i gyd-Aelodau am eu cefnogaeth i hyn o ran y ddadl hon o ran ei hegwyddor? Rwy'n edrych ymlaen at drafod â'r holl Aelodau wrth i hyn fynd ymlaen. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch am eich amynedd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:23.