Y Cyfarfod Llawn
Plenary
29/04/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn.
Good afternoon and welcome to this Plenary meeting.
Some of us have just walked back in time, 20 years and more ago. It’s been quite a triggering experience for some of us.
Mae rhai ohonom ni newydd gerdded yn ôl mewn amser, 20 mlynedd a mwy yn ôl. Mae wedi bod yn brofiad eithaf atgofus i rai ohonom ni.
Mae rhai ohonoch chi yma am y tro cyntaf yn y Siambr yma y prynhawn yma. Mi gymeriff ychydig ddyddiau i ni ymgyfarwyddo â’r Siambr newydd, felly pawb â rhywfaint o amynedd tuag at ein gilydd wrth wneud hynny a dwi’n siŵr y down ni i gyd i ben.
Mi wnawn ni ddechrau yn yr un modd ag yr ydym yn dechrau bob prynhawn dydd Mawrth, gyda’r cwestiynau i’r Prif Weinidog. Ac mae’r Prif Weinidog yma i ateb y cwestiynau, a nawr mae’n rhaid i fi ffeindio Siân Gwenllian. Ble wyt ti? Siân Gwenllian, yn y cefn, i ofyn y cwestiwn cyntaf i’r Prif Weinidog.
Some of you will be here in this Chamber for the very first time this afternoon. It will take a few days to grow accustomed to our new Chamber, so please have some patience, and show some patience towards others, and I’m sure that we will all get by.
We will begin, as we always do on a Tuesday afternoon, with questions to the First Minister. The First Minister is here to answer the questions, and now I have to find Siân Gwenllian. Where are you? Siân Gwenllian, at the back, to ask the first question of the First Minister.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermydd teuluol? OQ62631
1. Will the First Minister make a statement on Welsh Government support for family farms? OQ62631

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth eang o gefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol—er enghraifft ein grantiau ar gyfer buddsoddi mewn offer, technoleg a gwelliannau ar ffermydd, y dysgu a'r datblygu sy’n cael ei gynnig gan Cyswllt Ffermio, a’r cyngor sydd ar gael gan ein gwasanaeth cyswllt fferm. Mae’r rhain i gyd yn dangos ein hymrwymiad i helpu’r byd amaeth yng Nghymru i gael dyfodol cynaliadwy.
The Welsh Government provides a wide range of direct and indirect support—for example, our grants for investment in on-farm improvements, equipment and technology, the learning and development on offer from Farming Connect, and the advice available from our own farm liaison service. These all demonstrate our commitment to supporting agriculture in Wales to have a sustainable future.
Un ffordd ymarferol o ddangos cefnogaeth i ffermydd teuluol fyddai i chi ddwyn pwysau ar y Llywodraeth Lafur yn Llundain i edrych eto ar y newidiadau i’r dreth etifeddiaeth sydd ar y gweill. Mae wedi dod i fy sylw i y bydd y newidiadau i ryddhad yn cael effaith anghymesur ar ferched—merched sydd yn weddwon ffermio—oherwydd ni fyddai ryddhad treth y gŵr sydd wedi marw yn trosglwyddo i’r weddw er mwyn darparu dwbl y rhyddhad ar farwolaeth y weddw. Rŵan, dwi’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod hynna’n sylfaenol annheg. Mae’r teuluoedd wedi colli allan ar gyfleon i gynllunio ystadau a llunio ewyllysiau a fyddai’n rhoi sicrwydd i’r plant ar gyfer y dyfodol. Felly, a wnewch chi fynd ar ôl y pwynt penodol hwn efo’r Canghellor Llafur yn San Steffan? Dwi’n siŵr eich bod chi'n cytuno bod hwn yn fater o gydraddoldeb i ferched Cymru sydd angen eich sylw chi a sylw y Llywodraeth yma.
One practical way of demonstrating support for family farms would be for you to urge the Labour Government in London to look again at the changes to inheritance tax that are proposed. It’s come to my attention that the changes to relief will have a disproportionate impact on women—women who are farmers' widows—because the relief of the husband who has passed away will not be transferred to the widow to provide double the relief. Now, I’m sure that you will agree that that is fundamentally unfair. The families have lost out on opportunities to plan their estates and to draw up wills that would provide certainty for children for the future. So, will you pursue this specific point with the Labour Chancellor in Westminster? I’m sure that you would agree that this is a matter of equality for women in Wales that requires your attention and that of the Government.

Diolch yn fawr. Fel rŷch chi’n ymwybodol, mae treth etifeddiant yn dreth sydd yn gyfrifoldeb i'r Deyrnas Unedig. Ac, wrth gwrs, roedd rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn. Ond dwi ddim wedi clywed yr ongl yna o’r blaen ac, felly, byddaf yn trafod gyda’r Gweinidog yma, cyn gweld os bydd angen trafod ymhellach, jest fel eu bod nhw yn ymwybodol o’r ongl yma i fater treth etifeddiant. Diolch yn fawr. Os oes unrhyw wybodaeth ychwanegol, byddai’n help pe gallech chi ei hanfon ataf fi.
Thank you very much. As you are aware, inheritance tax is the responsibility of the UK Government, and, of course, they did have to make some difficult decisions. But I haven’t heard that particular aspect referred to before and, therefore, I will have discussions with the Minister here before seeing if we need further discussion, just so that they are aware of that particular aspect on the inheritance tax. Thank you. If you do have any additional information, it would be helpful if you could send that to me.
First Minister, the farming sector is being brought to its knees and is under threat in many ways by Labour at either end of the M4, be it in the handling of the sustainable farming scheme, the water regulations, and, of course, TB, where we see a 23 per cent increase in slaughtered cattle over 2023 figures, and, of course, then, Labour in Westminster’s family farm tax. First Minister, I hope your Government comprehends just how these things, and others, like the fear of foot and mouth, are affecting our family farms and our rural communities, and the impact they are having on farmers’ mental well-being and that of their families. What local support is your Government putting into rural communities to support families and farmers who are struggling in many ways, including with their mental health? These people can’t just take time off until they feel better. They need to be able to access services that understand their unique situations.
Prif Weinidog, mae'r sector ffermio yn cael ei lorio ac mae o dan fygythiad mewn llawer o ffyrdd gan Lafur ar y naill ben a'r llall i'r M4, boed hynny o ran ymdrin â'r cynllun ffermio cynaliadwy, y rheoliadau dŵr, ac, wrth gwrs, TB, lle'r ydym ni'n gweld cynnydd o 23 y cant yn y gwartheg a laddwyd o gymharu â ffigurau 2023, ac, wrth gwrs, wedyn, treth ffermydd teuluol Llafur yn San Steffan. Prif Weinidog, rwy'n gobeithio bod eich Llywodraeth yn deall yn union sut mae'r pethau hyn, ac eraill, fel ofnau am glwy'r traed a'r genau, yn effeithio ar ein ffermydd teuluol a'n cymunedau gwledig, a'r effaith maen nhw'n ei chael ar lesiant meddyliol ffermwyr a llesiant meddyliol eu teuluoedd. Pa gymorth lleol mae eich Llywodraeth yn ei roi i gymunedau gwledig i gefnogi teuluoedd a ffermwyr sy'n ei chael hi'n anodd mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys gyda'u hiechyd meddwl? Ni all y bobl hyn gymryd amser i ffwrdd tan eu bod nhw'n teimlo'n well. Mae angen iddyn nhw allu cael mynediad at wasanaethau sy'n deall eu sefyllfaoedd unigryw.

Thanks very much. We’re very sensitive and very aware that some in the agricultural community are feeling under pressure, but the fact is that we invest £366 million a year in agriculture. That is not a small amount of money, and that budget has actually gone up. So, I do think it’s important that people listen to the facts in relation to this. And when it comes to different payments, of course, we’ve got all kinds of payments that support people, on top of the basic payment scheme, which amounts to £232 million. But you’re quite right, we have to think about how people live, how their mental health is affected, and at a time of insecurity, when you don’t know quite what’s coming, I get that people feel that they’re not sure what’s around the corner. We’re all feeling a bit like that, with Trump in the United States, I think, aren't we? So, that feeling of insecurity does add to people's anxieties, which is why we have been contributing in particular to mental health charities in the agricultural sector not an insignificant amount over a long period of time.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n sensitif iawn ac yn ymwybodol iawn bod rhai yn y gymuned amaethyddol yn teimlo o dan bwysau, ond y gwir yw ein bod ni'n buddsoddi £366 miliwn y flwyddyn mewn amaethyddiaeth. Nid yw hwnnw'n swm bach o arian, ac mae'r gyllideb honno wedi cynyddu mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gwrando ar y ffeithiau yn hyn o beth. Ac o ran gwahanol daliadau, wrth gwrs, mae gennym ni bob math o daliadau sy'n helpu pobl, ar ben cynllun y taliad sylfaenol, sy'n dod i gyfanswm o £232 miliwn. Ond rydych chi'n eithaf iawn, mae'n rhaid i ni feddwl am sut mae pobl yn byw, sut mae eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio, ac ar adeg o ansicrwydd, pan nad ydych chi'n gwybod yn iawn beth sydd i ddod, rwy'n deall bod pobl yn teimlo nad ydyn nhw'n siŵr beth sydd rownd y gornel. Rydym ni i gyd yn teimlo ychydig felly, gyda Trump yn yr Unol Daleithiau, rwy'n credu, onid ydym ni? Felly, mae'r teimlad hwnnw o ansicrwydd yn ychwanegu at bryderon pobl, a dyna pam rydym ni wedi bod yn cyfrannu'n benodol at elusennau iechyd meddwl yn y sector amaethyddol swm nad yw'n ddibwys dros gyfnod hir o amser.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thrais a materion eraill yn ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru? OQ62603
2. What is the Welsh Government doing to tackle violence and other behavioural issues in schools across Wales? OQ62603

Violence against staff and pupils in schools is completely unacceptable. We will be discussing these issues with schools, local authorities, the education unions and the police in May, agreeing a series of actions to support schools in tackling poor behaviour.
Mae trais yn erbyn staff a disgyblion mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol. Byddwn yn trafod y materion hyn gydag ysgolion, awdurdodau lleol, yr undebau addysg a'r heddlu ym mis Mai, gan gytuno ar gyfres o gamau gweithredu i gynorthwyo ysgolion i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.
Thank you very much, First Minister, for your answer. Obviously, yesterday we saw the conclusion of the trial into the awful incident that happened in Ysgol Dyffryn Aman, and I wanted to put on record, I think, the whole Senedd's admiration for the teaching staff, who spoke so bravely, I thought, coming out of the trial after the court case had taken place. I think one of the things that has struck me, speaking to teachers and teaching staff across Wales, is how almost routine violence and behavioural issues in our schools have become over the last few years. I spoke to a teacher just a few weeks ago whose arm was totally purple because she'd been punched repeatedly in school by a pupil. The kind of nonchalance, if you like, with which she told me that I found absolutely startling, and that is clearly unacceptable. Now, we need, don't we, solutions from the Welsh Government to tackle this issue. I'm sure the notes in front of you will tell you to mention a behavioural summit that's coming up, and, whilst that's welcome, that is not a substitute for action. We've heard about this summit for months; what we need is action today to prevent violence in our schools, going forward. So, what action is the Welsh Government taking now to tackle violence and other behavioural issues in our schools?
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn amlwg, ddoe fe welsom ni ddiweddglo'r treial ar y digwyddiad ofnadwy yn Ysgol Dyffryn Aman, ac roeddwn i eisiau rhoi ar gofnod, rwy'n credu, edmygedd y Senedd gyfan tuag at y staff addysgu, a siaradodd mor ddewr, yn fy marn i, yn dod allan o'r treial ar ôl i'r achos llys ddigwydd. Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi fy nharo i, wrth siarad ag athrawon a staff addysgu ledled Cymru, yw pa mor gyffredin y mae trais a phroblemau ymddygiadol wedi dod yn ein hysgolion dros y blynyddoedd diwethaf. Siaradais ag athrawes ychydig wythnosau yn unig yn ôl yr oedd ei braich yn hollol borffor gan ei bod hi wedi cael ei dyrnu drosodd a throsodd yn yr ysgol gan ddisgybl. Roedd y ffordd ddifraw, os mynnwch chi, y dywedodd hi hynny wrthyf i yn hollol syfrdanol, ac mae hynny'n amlwg yn annerbyniol. Nawr, mae angen atebion arnom, onid oes, gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy'n siŵr y bydd y nodiadau o'ch blaen yn dweud wrthych i sôn am uwchgynhadledd ymddygiadol sydd ar fin cael ei chynnal, ac, er bod hynny i'w groesawu, nid yw hynny'n cymryd lle gweithredu. Rydyn ni wedi clywed am yr uwchgynhadledd hon ers misoedd; yr hyn sydd ei angen arnom ni yw gweithredu heddiw i atal trais yn ein hysgolion, yn y dyfodol. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â thrais a materion ymddygiadol eraill yn ein hysgolion?

Thanks very much. Can I just make it absolutely clear that any form of violence against staff or pupils in schools is completely unacceptable under any circumstance? We're all terribly aware of the impact on staff and the pupils at Ysgol Dyffryn Aman. They've been through a harrowing time, and it's important that we stand with them and by them, which is why there's been a significant financial package put in place in order to make sure people have the support that they need in that school.
You're quite right—poor behaviour, it looks like things are getting worse, which is why this summit is being called. I can assure you that there will be a series of actions that come out of that summit. There are lots of things already in place. All education settings have a legal duty to provide safe learning environments. All schools should have robust behaviour policies in place, and they should be applying them consistently. So, we just need to make sure we know what works best, how we make sure we action them and roll them out across the country. That's what will come out of the summit, I'm sure. The key thing about this is that all they key players are involved, and it has been something that we've been working up to for a long period of time.
Diolch yn fawr iawn. A gaf ei gwneud hi'n gwbl glir bod unrhyw fath o drais yn erbyn staff neu ddisgyblion mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau? Rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r effaith ar staff a disgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman. Maen nhw wedi bod trwy gyfnod torcalonnus, ac mae'n bwysig ein bod ni'n sefyll gyda nhw ac yn gefn iddyn nhw, a dyna pam y rhoddwyd pecyn ariannol sylweddol ar waith er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn yr ysgol honno.
Rydych chi'n gwbl gywir—ymddygiad gwael, mae'n edrych fel bod pethau'n gwaethygu, a dyna pam mae'r uwchgynhadledd hon yn cael ei chynnal. Gallaf eich sicrhau chi y bydd cyfres o gamau yn dod allan o'r uwchgynhadledd honno. Mae llawer o bethau ar waith eisoes. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar bob lleoliad addysg i ddarparu amgylcheddau dysgu diogel. Dylai fod gan bob ysgol bolisïau ymddygiad cadarn ar waith, a dylen nhw fod yn eu rhoi ar waith yn gyson. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod beth sy'n gweithio orau, sut rydym ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n eu rhoi ar waith ac yn eu cyflwyno ledled y wlad. Dyna fydd yn dod allan o'r uwchgynhadledd, rwy'n siŵr. Y peth allweddol am hyn yw bod yr holl chwaraewyr allweddol yn cymryd rhan, ac mae wedi bod yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio tuag ato ers cyfnod hir.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Questions now from the party leaders. The leader of the Conservatives, Darren Millar.

Diolch, Presiding Officer. I'm sure that you will want to join me, before I go into my questions to the First Minister, in condemning the participation in a pro-independence rally in Barry over the weekend by the hip-hop band Kneecap, who have advocated for violence against elected representatives and, indeed, have allegedly also made comments in support of Hamas and Hezbollah—both proscribed terrorist organisations here in the United Kingdom.
First Minister, research by Coram Family and Childcare found that the parent of a child under two in Wales spends an average of £4,400 more per year to send their child to nursery on a part-time basis than over the border in England. That's £1,700 more per year than is currently the case in Scotland. Now, this is due to parents in Wales getting less support with childcare costs than anywhere else in Britain. Can you explain to us today, First Minister, why is it that the Labour Party in Wales does not support or value hard-working mums and dads by providing them with access to more support with free childcare?
Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi, cyn i mi ofyn fy nghwestiynau i'r Prif Weinidog, i gondemnio cyfranogiad mewn rali o blaid annibyniaeth yn y Barri dros y penwythnos y band hip-hop Kneecap, sydd wedi annog trais yn erbyn cynrychiolwyr etholedig ac, yn wir, yr honnir eu bod nhw hefyd wedi gwneud sylwadau yn cefnogi Hamas a Hezbollah—y mae'r ddau yn sefydliadau terfysgol gwaharddedig yma yn y Deyrnas Unedig.
Prif Weinidog, canfu gwaith ymchwil gan Coram Family and Childcare fod rhiant plentyn o dan ddwy oed yng Nghymru yn gwario £4,400 yn fwy y flwyddyn ar gyfartaledd i anfon ei blentyn i feithrinfa yn rhan-amser na thros y ffin yn Lloegr. Mae hynny'n £1,700 yn fwy y flwyddyn na'r sefyllfa yn yr Alban ar hyn o bryd. Nawr, mae hyn oherwydd bod rhieni yng Nghymru yn cael llai o gymorth gyda chostau gofal plant nag unrhyw le arall ym Mhrydain. Allwch chi esbonio i ni heddiw, Prif Weinidog, pam nad yw'r Blaid Lafur yng Nghymru yn cefnogi nac yn gwerthfawrogi mamau a thadau sy'n gweithio'n galed trwy roi mynediad iddyn nhw at fwy o gymorth gyda gofal plant am ddim?

Let's make sure that we have some facts in relation to this, okay? So, we've got the offer for three and four-year-olds: we provide 30 hours of early education and funded childcare for three and four-year-olds. That offer is available to working parents and, significantly, parents in training and education so that they can be reskilled. That is not an offer that is available in England. Also, it's worth underlining that it's available for 48 weeks a year, compared to England's 38 weeks a year. So, we are in a different place in relation to that. And, of course, what we did have as a result of our deal with the Liberal Democrats now is an extension to the Flying Start childcare programme for two-year-olds, and we are going to see now that phased expansion of early years provision to include all two-year-olds, with a particular emphasis on strengthening Welsh-medium provision. Now, let's not forget that your party voted against that budget, which wanted to extend that childcare support.
Gadewch i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ychydig o ffeithiau ynglŷn â hyn, iawn? Felly, mae gennym ni'r cynnig ar gyfer plant tair a phedair oed: rydym ni'n darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu i blant tair a phedair oed. Mae'r cynnig hwnnw ar gael i rieni sy'n gweithio ac, yn arwyddocaol, i rieni mewn hyfforddiant ac addysg fel y gellir eu hailsgilio. Nid yw hwnnw'n gynnig sydd ar gael yn Lloegr. Hefyd, mae'n werth pwysleisio ei fod ar gael am 48 wythnos y flwyddyn, o'i gymharu â 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr. Felly, rydym ni mewn sefyllfa wahanol yn hynny o beth. Ac, wrth gwrs, yr hyn a gawsom ni o ganlyniad i'n cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol nawr yw estyniad i'r rhaglen gofal plant Dechrau'n Deg i blant dyflwydd oed, ac rydym ni'n mynd i weld nawr yr ehangiad graddol hwnnw i'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn dyflwydd oed, gyda phwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nawr, gadewch i ni beidio ag anghofio bod eich plaid chi wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb honno, a oedd eisiau ymestyn y cymorth gofal plant hwnnw.
First Minister, I'm afraid your excuses won't wash. You've tried to point out the differences between England and Wales. Let me tell you one of the differences. In England, you can get free childcare support for babies from nine months old. You don't get that support if you live in Wales. In Wales, most people don't get any financial support with childcare costs until their child is three years old, and the financial gap between childcare costs in England and Wales is likely to increase significantly because they're going to extend the offer and double the number of free hours for under-threes in September of this year. Now, First Minister, your Welsh Government received £140 million in consequentials to allow you to extend your offer and to make it at least as equal—at least as equal—to the offer over the border in England. What have you done with that money, because you clearly haven't invested it in childcare?
Prif Weinidog, mae gen i ofn na wnaiff eich esgusodion mo'r tro. Rydych chi wedi ceisio tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr. Gadewch i mi ddweud wrthych chi un o'r gwahaniaethau. Yn Lloegr, fe allwch chi gael cymorth gofal plant am ddim i fabanod o naw mis oed. Nid ydych chi'n cael y cymorth hwnnw os ydych chi'n byw yng Nghymru. Yng Nghymru, nid yw'r mwyafrif o bobl yn cael unrhyw gymorth ariannol gyda chostau gofal plant nes bod eu plentyn yn dair oed, ac mae'r bwlch ariannol rhwng costau gofal plant yng Nghymru a Lloegr yn debygol o gynyddu'n sylweddol gan eu bod nhw'n mynd i ymestyn y cynnig a dyblu nifer yr oriau am ddim i blant dan dair oed ym mis Medi eleni. Nawr, Prif Weinidog, derbyniodd eich Llywodraeth Cymru £140 miliwn mewn cyllid canlyniadol i'ch caniatáu i ymestyn eich cynnig a'i wneud o leiaf yr un mor gyfartal—o leiaf yr un mor gyfartal—â'r cynnig dros y ffin yn Lloegr. Beth ydych chi wedi ei wneud gyda'r arian hwnnw, oherwydd mae'n amlwg nad ydych chi wedi ei fuddsoddi mewn gofal plant?

Well, you know, I can tell you that we did extend the offer, thanks to our work with Jane. I can't find Jane at the moment. There we are—Jane. We did extend the offer. You voted against it. Let's just not forget that you voted against that. And let's also be clear that, in England, there's a system that's based on vouchers. The system here, what we've done is to try and make sure that the provision is actually available. So, when we say, 'This is what the offer is', you can actually fulfil that offer. So, for example, one of the things we did in the budget was to increase the hourly rate for childcare settings from £5 to £6.40. So, that means that those childcare settings can actually afford to pay people to work in those settings. That is not necessarily the same situation as it is in England. And on top of that, of course, we've made the 100 per cent small business rates relief for registered childcare premises in Wales permanent, and that saves providers over £3 million a year. We're trying to get to the root of what it is that's stopping us from being able to give that provision, which theoretically exists in England, but, in practice—we're interested in the practice here—what is it that allows us to make that promise a reality?
Wel, wyddoch chi, gallaf ddweud wrthych chi ein bod ni wedi ymestyn y cynnig, diolch i'n gwaith gyda Jane. Allaf i ddim dod o hyd i Jane ar hyn o bryd. Dyna ni—Jane. Fe wnaethom ni ymestyn y cynnig. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Gadewch i ni beidio ag anghofio eich bod chi wedi pleidleisio yn erbyn hynny. A gadewch i ni hefyd fod yn glir bod system, yn Lloegr, sy'n seiliedig ar dalebau. Y system yma, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw ceisio gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth wir ar gael. Felly, pan fyddwn ni'n dweud, 'Dyma beth yw'r cynnig', gallwch chi wir wneud y cynnig hwnnw. Felly, er enghraifft, un o'r pethau a wnaethom ni yn y gyllideb oedd cynyddu'r gyfradd fesul awr ar gyfer lleoliadau gofal plant o £5 i £6.40. Felly, mae hynny'n golygu bod y lleoliadau gofal plant hynny yn gallu fforddio talu pobl i weithio yn y lleoliadau hynny. Nid yw hynny o reidrwydd yr un sefyllfa ag ydyw yn Lloegr. Ac ar ben hynny, wrth gwrs, rydym ni wedi gwneud y rhyddhad ardrethi busnesau bach 100 y cant ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn barhaol, ac mae hynny yn arbed dros £3 miliwn y flwyddyn i ddarparwyr. Rydym ni'n ceisio mynd at wraidd yr hyn sy'n ein hatal rhag gallu rhoi'r ddarpariaeth honno, sy'n bodoli yn ddamcaniaethol yn Lloegr, ond, yn ymarferol—mae gennym ni ddiddordeb yn yr ochr ymarferol yma—beth sy'n caniatáu i ni wireddu'r addewid hwnnw?
First Minister, I'm not proud of the fact that we have working parents from Wales who are deliberately relocating to England in order to get support with their finances in terms of childcare. It is wrong that parents here are having to pay, on average, thousands of pounds more than over the border. The reality is this: parents in Wales have the lowest wages, the highest childcare costs and the worst childcare offer in Great Britain. Under Labour, your childcare system is broken—it isn't working for parents who want to go to work. So, I'll ask you again: when will you listen to our calls, when will you take the action that's necessary in order to support hard-working families and give them the support with the childcare costs that they need?
Prif Weinidog, nid wyf i'n falch o'r ffaith bod gennym ni rieni sy'n gweithio o Gymru sy'n symud yn fwriadol i Loegr er mwyn cael cymorth gyda'u cyllid o ran gofal plant. Mae'n anghywir bod rhieni yma yn gorfod talu, ar gyfartaledd, miloedd o bunnoedd yn fwy na thros y ffin. Y gwir yw hyn: rhieni yng Nghymru sydd â'r cyflogau isaf, y costau gofal plant uchaf a'r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain Fawr. O dan Lafur, mae eich system gofal plant wedi torri—nid yw'n gweithio i rieni sydd eisiau mynd i weithio. Felly, fe wnaf i ofyn i chi eto: pryd wnewch chi wrando ar ein galwadau, pryd wnewch chi gymryd y camau sy'n angenrheidiol er mwyn cynorthwyo teuluoedd sy'n gweithio'n galed a rhoi'r cymorth gyda'r costau gofal plant sydd ei angen arnyn nhw?

We are delivering on what we said we were going to deliver. It's a practical response. I'd be very interested to hear the names of those people who are moving to a different country, because, of course, they will then forgo their free medicines, they'll forgo their cap on care for their elderly parents, they'll forgo their free bus passes for over-60s—all of those things that they receive now. It is important, I think, for us to recognise that we are committed to making sure that women can get back into the workplace. They have a contribution to make. We need to make that easy for them. We have managed to extend that offer in the budget, a budget that you voted against.
Rydym ni'n cyflawni'r hyn y gwnaethom ni ddweud ein bod ni'n mynd i'w gyflawni. Mae'n ymateb ymarferol. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed enwau'r bobl hynny sy'n symud i wahanol wlad, oherwydd, wrth gwrs, byddan nhw'n colli wedyn eu meddyginiaethau am ddim, byddan nhw'n colli'r cap ar ofal i'w rhieni oedrannus, byddan nhw'n colli eu pasys bws am ddim i bobl dros 60 oed—yr holl bethau hynny y maen nhw'n eu derbyn nawr. Mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni gydnabod ein bod ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod menywod yn gallu dychwelyd i'r gweithle. Mae ganddyn nhw gyfraniad i'w wneud. Mae angen i ni wneud hynny'n hawdd iddyn nhw. Rydym ni wedi llwyddo i ymestyn y cynnig hwnnw yn y gyllideb, cyllideb y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei herbyn.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. A dwi am ddweud gair bach o deyrnged ar y dechrau i’r canwr a’r ymgyrchydd canser Mike Peters, wedi ei farwolaeth o.
Thank you, Llywydd. And I want to pay a tribute to the singer and cancer campaigner Mike Peters, following his death.
It was a real honour to have been able to support Mike on a number of his campaigns. Through his own many battles he was always a happy and inspirational presence, and he leaves an enormous legacy in music and, of course, as a cancer campaigner. My thoughts are with Jules and the family.
Llywydd, today is my first opportunity to be able to question the First Minister after the emergency session at Westminster in the recess to safeguard, at least in the short term, virgin steelmaking in British Steel’s Scunthorpe plant. I visited Port Talbot in the days after and saw deep anger at Labour’s betrayal of the steelworkers there, who lost their jobs as their blast furnaces were closed. We even had Labour MPs from Wales having their pictures taken with 'saving British Steel' placards on the day of the Scunthorpe debate. But when it came to Port Talbot, nothing. Now, Labour and the Tories alike didn’t see it worth while to save the blast furnaces there. When Welsh communities came calling, Labour did nothing. When we, in Plaid Cymru, suggested solutions the First Minister scoffed and scorned. The least she can do today is apologise for her dismissive approach to nationalisation. Now, having waved the white flag the first time around, what will she do now? Can she tell us whether or not she has pressed the UK Government for further direct support for Port Talbot in light of the substantial package of support to save jobs at Scunthorpe?
Roedd yn anrhydedd go iawn gallu cefnogi Mike ar nifer o'i ymgyrchoedd. Trwy ei frwydrau niferus ei hun, roedd bob amser yn bresenoldeb hapus ac ysbrydoledig, ac mae'n gadael etifeddiaeth enfawr ym myd cerddoriaeth ac, wrth gwrs, fel ymgyrchydd canser. Mae fy meddyliau gyda Jules a'r teulu.
Llywydd, heddiw yw fy nghyfle cyntaf i allu holi'r Prif Weinidog ar ôl y sesiwn frys yn San Steffan yn y toriad i ddiogelu, o leiaf yn y byrdymor, cynhyrchu dur crai yng ngwaith Dur Prydain yn Scunthorpe. Ymwelais â Phort Talbot yn y dyddiau dilynol a gwelais ddicter dwys tuag at frad Llafur o'r gweithwyr dur yno, a gollodd eu swyddi wrth i'w ffwrneisi chwyth gael eu cau. Gwelsom Aelodau Seneddol Llafur o Gymru yn cael tynnu eu lluniau gyda phlacardiau 'achub Dur Prydain' ar ddiwrnod dadl Scunthorpe hyd yn oed. Ond pan ddaeth i Bort Talbot, dim byd. Nawr, nid oedd Llafur na'r Torïaid fel ei gilydd o'r farn ei bod hi'n werth chweil achub y ffwrneisi chwyth yno. Pan gafwyd galwadau gan gymunedau Cymru, ni wnaeth Llafur ddim. Pan wnaethom ni ym Mhlaid Cymru awgrymu atebion, fe wnaeth y Prif Weinidog wawdio ac wfftio. Y lleiaf y gall hi ei wneud heddiw yw ymddiheuro am ei hagwedd ddiystyriol at wladoli. Nawr, ar ôl chwifio'r faner wen y tro cyntaf, beth fydd hi'n ei wneud nawr? A all hi ddweud wrthym ni a yw wedi pwyso ar Lywodraeth y DU am gymorth uniongyrchol pellach i Bort Talbot yng ngoleuni'r pecyn sylweddol o gymorth i achub swyddi yn Scunthorpe?

Well, thanks. There'll be an opportunity to go into this in a lot more detail later. We have a statement that I'll be making on steel. Listen, let me make it clear that I understand the concerns of the local population. Port Talbot, Llanwern, other places, Shotton, have been going through a really tough time not just in the past year, but for a prolonged period of time. There has been a Damocles sword hanging over the steel sector for a very long time. The situation has changed, of course. Even recently, we've had the imposition of 25 per cent tariffs on steel, which is a fairly recent thing, which happened, obviously, after the situation in Tata emerged with the two blast furnaces. I met with Tata on Friday to speak to the management; I met with trade union leaders. And I have been making representations to the Conservative Government to make sure that they understand that—the Labour Government—to make sure they understand that there is an opportunity for them here to stand with the Welsh workforce and to make sure that we get a significant share of the green steel fund.
Wel, diolch. Bydd cyfle i drafod hyn yn llawer mwy manwl yn nes ymlaen. Mae gennym ni ddatganiad y byddaf i'n ei wneud ar ddur. Gwrandewch, gadewch i mi ei gwneud hi'n glir fy mod i'n deall pryderon y boblogaeth leol. Mae Port Talbot, Llanwern, mannau eraill, Shotton, wedi bod yn mynd trwy gyfnod anodd iawn nid yn unig yn y flwyddyn ddiwethaf, ond am gyfnod estynedig. Mae cleddyf Damocles wedi bod yn hongian dros y sector dur ers amser hir iawn. Mae'r sefyllfa wedi newid, wrth gwrs. Hyd yn oed yn ddiweddar, gosodwyd tariffau o 25 y cant ar ddur, sy'n rhywbeth eithaf diweddar, a ddigwyddodd, yn amlwg, ar ôl i'r sefyllfa yn Tata ddod i'r amlwg gyda'r ddwy ffwrnais chwyth. Cefais gyfarfod â Tata ddydd Gwener i siarad â'r rheolwyr; cefais gyfarfod gydag arweinwyr undebau llafur. Ac rwyf wedi bod yn gwneud sylwadau i'r Llywodraeth Geidwadol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall—y Llywodraeth Lafur—i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall bod cyfle iddyn nhw yn y fan yma i sefyll gyda gweithlu Cymru ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cyfran sylweddol o'r gronfa dur gwyrdd.
That was quite a slip of the tongue from the First Minister wasn’t it, betraying the fact that we have such a conservative Labour UK Government. And, of course, it simply isn’t true that there wasn’t time to save Port Talbot. Scunthorpe was saved, essentially, in a matter of days, and yet there were three months between the election and the blast furnaces in Port Talbot shutting down for good. Now, the First Minister chose to ridicule, remember, our constructive proposals, rather than give a reasoned response, and the communities won’t forget that, I don’t think. So, there’s one painful result of Labour in action, and I hope this Labour Welsh Government will learn lessons from that when it comes to another issue of high importance to people whose well-being is currently under threat. Next week, Cardiff will host the latest event in the UK Government’s consultation on its proposed welfare reforms. The consultancy, Policy in Practice, have found that nine of the 10 authorities most affected by disability benefit cuts are in the north of England or in Wales. Now, with so much at stake, can the First Minister update the Chamber on Welsh Government’s position on the following: (1) has it now received a Wales-specific impact assessment from UK Government; (2) which elements of the proposed changes does the Welsh Government actually object to; and (3) will the Welsh Government be submitting formal evidence as part of the consultation process?
Roedd hwnna'n dipyn o lithriad tafod gan y Prif Weinidog onid oedd, yn dangos y ffaith bod gennym ni Lywodraeth Lafur y DU mor geidwadol. Ac, wrth gwrs, nid yw'n wir o gwbl nad oedd amser i achub Port Talbot. Achubwyd Scunthorpe, yn y bôn, mewn mater o ddiwrnodau, ac eto roedd tri mis rhwng yr etholiad a'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn cau yn barhaol. Nawr, dewisodd y Prif Weinidog wawdio, cofiwch, ein cynigion adeiladol, yn hytrach na rhoi ymateb rhesymegol, ac ni fydd y cymunedau yn anghofio hynny, yn fy marn i. Felly, dyna un canlyniad poenus o Lafur ar waith, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn dysgu gwersi o hynny pan ddaw i fater arall o bwys mawr i bobl y mae eu llesiant o dan fygythiad ar hyn o bryd. Yr wythnos nesaf, bydd Caerdydd yn cynnal y digwyddiad diweddaraf yn ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ei diwygiadau lles arfaethedig. Mae'r ymgynghoriaeth, Policy in Practice, wedi canfod bod naw o'r 10 awdurdod sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan doriadau i fudd-daliadau anabledd yng ngogledd Lloegr neu yng Nghymru. Nawr, gyda chymaint yn y fantol, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y canlynol: (1) a yw bellach wedi derbyn asesiad effaith penodol i Gymru gan Lywodraeth y DU; (2) pa elfennau o'r newidiadau arfaethedig y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu mewn gwirionedd; a (3) a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno tystiolaeth ffurfiol yn rhan o'r broses ymgynghori?

Thanks very much. First of all, on the issue of nationalisation, again, we can go into this a bit later. I think it is important to recognise that one of the blast furnaces was shut actually on the day of the election. So, it was clearly too late to save that. The coke ovens had also been shut down and there was a commitment by Tata to co-invest in relation to the electric arc furnace, a very different situation from the situation in Scunthorpe. But I understand why people in those communities are frustrated and need a better understanding of what is ahead for them and how we're going to see support from the UK Government there.
You talked about welfare reforms. We're working our way through the Green Paper. We will be giving formal evidence to the UK Government and we have requested a meeting with the Secretary of State.
Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, ar fater gwladoli, eto, gallwn drafod hyn ychydig yn ddiweddarach. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod y caewyd un o'r ffwrneisi chwyth ar ddiwrnod yr etholiad a dweud y gwir. Felly, roedd yn amlwg yn rhy hwyr i achub honno. Roedd y ffyrnau golosg hefyd wedi cael eu cau ac roedd ymrwymiad gan Tata i gyd-fuddsoddi o ran y ffwrnais arc drydan, sefyllfa wahanol iawn i'r sefyllfa yn Scunthorpe. Ond rwy'n deall pam mae pobl yn y cymunedau hynny yn rhwystredig ac angen gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd o'u blaenau a sut rydym ni'n mynd i weld cymorth gan Lywodraeth y DU yno.
Fe wnaethoch chi sôn am ddiwygiadau lles. Rydym ni'n gweithio ein ffordd drwy'r Papur Gwyrdd. Byddwn ni'n rhoi tystiolaeth ffurfiol i Lywodraeth y DU ac rydym ni wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.
Okay. We still don't know, of course, what the objections of Welsh Government are. We need to know that—at least some of them. I did ask that, and I ask again, because we want a full response from Welsh Government to this consultation, and I remind the First Minister that, in 2015, Welsh Government did engage fully with the UK Government's consultation on their courts and tribunal service reform. It did again in 2022 on the Bill of rights, and they really have to fully engage here too.
Now, as proposed, the welfare reforms are punitive and they're counterproductive too, on one hand driving more and more people into poverty and on the other hand putting more pressure on the Welsh Government's own resources to fill the void. I urge her to rethink the pace at which Welsh Government's moving on this. But, when it does come to the final vote in the UK Parliament, can the First Minister give an assurance that no Labour MP from Wales will vote for any reforms that impoverish the vulnerable in Wales? And can she clarify whether, as the leader of the Labour Party in Wales, it will be her or Keir Starmer instructing Labour MPs from Wales how to vote?
Iawn. Dydyn ni ddim yn gwybod o hyd, wrth gwrs, beth yw gwrthwynebiadau Llywodraeth Cymru. Mae angen i ni wybod hynny—o leiaf rhai ohonyn nhw. Fe wnes i ofyn hynny, ac rwy'n gofyn eto, oherwydd rydym ni eisiau ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad hwn, ac rwy'n atgoffa'r Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru, yn 2015, wedi ymgysylltu'n llawn ag ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar eu diwygiadau i'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd. Gwnaeth hynny eto yn 2022 ar y Bil hawliau, ac mae'n rhaid iddyn nhw ymgysylltu'n llawn yma hefyd.
Nawr, fel y cynigiwyd, mae'r diwygiadau lles yn gosbol ac maen nhw'n wrthgynhyrchiol hefyd, ar y naill law yn gyrru mwy a mwy o bobl i dlodi ac ar y llaw arall yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau Llywodraeth Cymru ei hun i lenwi'r bwlch. Rwy'n ei hannog i ailystyried y cyflymder y mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen â hyn. Ond, pan ddaw i'r bleidlais derfynol yn Senedd y DU, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd na fydd unrhyw Aelod Seneddol Llafur o Gymru yn pleidleisio dros unrhyw ddiwygiadau sy'n gwthio'r rhai sy'n agored i niwed i dlodi yng Nghymru? Ac a all hi egluro ai hi, fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, neu Keir Starmer fydd yn cyfarwyddo Aelodau Seneddol Llafur o Gymru sut i bleidleisio?

Well, that's a daft question if ever I heard one. Look, we are going to engage seriously on the welfare reform issues. We think we've got a really good model when it comes to how welfare reform should work. I think we've proved that in relation to our youth unemployment approach and the fact that we have half the levels of youth unemployment compared to England. I think that there are some lessons there that can be learned. Look, I work with our Labour group in the Senedd. I do not control the Labour group in Westminster, and they will obviously make a decision that they think is appropriate, but I will be very clear that we will be doing what is right for the people of Wales and I'll be setting some of that out a bit more clearly in a speech I'll be giving next week.
Wel, mae hynna'n gwestiwn dwl os clywais un erioed. Edrychwch, rydym ni'n mynd i ymgysylltu o ddifrif ar y materion diwygio lles. Rydym ni'n meddwl bod gennym ni fodel da iawn o ran sut y dylai diwygio lles weithio. Rwy'n credu ein bod ni wedi profi hynny o ran ein dull o ymdrin â diweithdra ymhlith pobl ifanc a'r ffaith bod gennym ni hanner y lefelau o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc o gymharu â Lloegr. Rwy'n credu bod rhai gwersi yn y fan yna y gellir eu dysgu. Edrychwch, rwy'n gweithio gyda'n grŵp Llafur ni yn y Senedd. Nid wyf i'n rheoli'r grŵp Llafur yn San Steffan, a byddan nhw'n amlwg yn gwneud penderfyniad y maen nhw'n ei gredu sy'n briodol, ond byddaf yn glir iawn y byddwn ni'n gwneud yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru a byddaf yn nodi rhywfaint o hynny ychydig yn fwy clir mewn araith y byddaf i'n ei rhoi yr wythnos nesaf.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029? OQ62627
3. How is the Welsh Government supporting Wrexham's bid for City of Culture 2029? OQ62627

Well, thanks very much. Before we start, Lesley, I want to congratulate you, as the No. 1 fan of Wrexham, on the phenomenal advance of Wrexham football club to the Champions League. It really is quite an achievement—the third promotion in a row. They've made history. These are very exciting times for them. So, huge congratulations to them, and we won't be saying anything to the representatives from Cardiff today.
I just want to make it clear that we would support, and we would encourage, Wrexham and other parts of Wales to consider entering the 2029 competition in due course. I happened to be in the city when they made the announcement that, unfortunately, Wrexham hadn't made it, but I thought that it was a really strong bid. So, I do hope that they will put in another proposal. There are some really, really exciting things going on in Wrexham at the moment, and, of course, they'll be hosting the National Eisteddfod this year, and the Welsh Government have provided £1.25 million in support of that.
Wel, diolch yn fawr iawn. Cyn i ni ddechrau, Lesley, hoffwn eich llongyfarch chi, fel cefnogwr pennaf Wrecsam, ar ddyrchafiad anhygoel clwb pêl-droed Wrecsam i Gynghrair y Pencampwyr. Mae wir yn dipyn o gamp—y trydydd dyrchafiad yn olynol. Maen nhw wedi gwneud hanes. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn iddyn nhw. Felly, llongyfarchiadau enfawr iddyn nhw, ac ni fyddwn yn dweud dim wrth y cynrychiolwyr o Gaerdydd heddiw.
Hoffwn ei gwneud hi'n glir y byddem ni'n cefnogi, ac y byddem ni'n annog, Wrecsam a rhannau eraill o Gymru i ystyried gwneud cynnig yng nghystadleuaeth 2029 maes o law. Roeddwn i'n digwydd bod yn y ddinas pan wnaethon nhw'r cyhoeddiad, yn anffodus, nad oedd Wrecsam wedi llwyddo, ond roeddwn i'n meddwl ei fod yn gynnig cryf iawn. Felly, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gwneud cynnig arall. Mae pethau cyffrous dros ben yn digwydd yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, byddan nhw'n cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.25 miliwn i gefnogi honno.
Well, thank you very much, First Minister, and I'm sure all Members in the Chamber, including those Cardiff fans, will join me in congratulating Wrexham Association Football Club on the incredible achievement of back-to-back-to-back promotions under the management of Phil Parkinson. It is what footballing dreams are made of. But it is very clear to everyone that the words 'Wrexham', 'promotion' and 'success' currently sit very well together, and there is a huge amount of work going on in the background in Wrexham now making sure that that bid for city of culture in 2029 goes ahead, and I would be very grateful if Welsh Government could support that, going forward.
Wel, diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd yr holl Aelodau yn y Siambr, gan gynnwys y cefnogwyr Caerdydd hynny, yn ymuno â mi i longyfarch Clwb Pêl-droed Wrecsam ar y cyflawniad anhygoel o ddyrchafiadau olynol o dan reolaeth Phil Parkinson. Dyma beth yw gwir breuddwydion pêl-droed. Ond mae'n amlwg iawn i bawb fod y geiriau 'Wrecsam', 'dyrchafiad' a 'llwyddiant' yn cyd-fynd yn dda iawn â'i gilydd ar hyn o bryd, ac mae gwaith aruthrol yn cael ei wneud yn y cefndir yn Wrecsam nawr i wneud yn siŵr bod y cais hwnnw i fod yn ddinas diwylliant yn 2029 yn cael ei wneud, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gefnogi hynny, yn y dyfodol.

Well, thanks very much, and I do think that being a UK City of Culture brings enormous economic, cultural and social benefits. Look, we're going to have to keep our powder dry until we know whether any other towns in Wales will be competing. But, obviously, if we get to the same situation as we did last time, we will put our full support behind the winning proposal from Wales.
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwyf yn credu bod bod yn Ddinas Diwylliant y DU yn dod â manteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol enfawr. Edrychwch, bydd yn rhaid i ni gadw ein sylwadau i ni ein hunain tan y byddwn ni'n gwybod a fydd unrhyw drefi eraill yng Nghymru yn cystadlu. Ond, yn amlwg, os byddwn ni'n cyrraedd yr un sefyllfa ag y gwnaethom ni y tro diwethaf, byddwn ni'n rhoi ein cefnogaeth lawn y tu ôl i'r cynnig buddugol o Gymru.
I'm grateful to Lesley Griffiths for raising this question in the Chamber here today. Wrexham is clearly a city on the up, and I join you, First Minister, in congratulating Wrexham AFC in their back-to-back-to-back promotions, and I appreciate it was a slip of the tongue, mentioning Champions League, but I think it's a prophetic word, perhaps, from the First Minister, for future seasons, for the football club. But just as fitting for Wrexham would be the title of city of culture, which, as you've already said, has the potential for being transformative for the city at creating jobs, at attracting investment and leaving a legacy for the future as well. I'm really pleased to hear your support—in principle, at this point, of course—for a bid from Wrexham, but, of course, there would be an ask for some specific investment support from the Welsh Government in particular around, you'd expect, infrastructure, and especially infrastructure that Welsh Government would have responsibility for. So, I wonder if you could today further your commitment to that bid from the city of culture Wrexham for that type of investment, so that we can see this bid succeed in the future.
Rwy'n ddiolchgar i Lesley Griffiths am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr yma heddiw. Mae Wrecsam yn amlwg yn ddinas sy'n ffynnu, ac rwy'n ymuno â chi, Prif Weinidog, i longyfarch Clwb Pêl-droed Wrecsam ar eu dyrchafiadau olynol, ac rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn lithriad tafod, yn sôn am Gynghrair y Pencampwyr, ond rwy'n credu ei fod yn air proffwydol, efallai, gan y Prif Weinidog, ar gyfer tymhorau y dyfodol, i'r clwb pêl-droed. Ond yr un mor addas i Wrecsam fyddai teitl dinas diwylliant, sydd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes, â'r potensial i fod yn drawsnewidiol i'r ddinas o ran creu swyddi, o ran denu buddsoddiad a gadael etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol hefyd. Rwy'n falch iawn o glywed eich cefnogaeth—mewn egwyddor, ar hyn o bryd, wrth gwrs—i gais gan Wrecsam, ond, wrth gwrs, byddai gofyn am rywfaint o gymorth buddsoddi penodol gan Lywodraeth Cymru yn enwedig, byddech chi'n disgwyl, o ran seilwaith, ac yn enwedig seilwaith y byddai Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano. Felly, tybed a allech chi wthio eich ymrwymiad i'r cais hwnnw am y math hwnnw o fuddsoddiad gan ddinas diwylliant Wrecsam ymhellach heddiw, fel y gallwn ni weld y cais hwn yn llwyddo yn y dyfodol.

Well, thanks very much. It certainly is a city on the up. I can testify to that, because I was helping them fill potholes over Easter. Those are part of the 70,000 potholes that we'll be filling between now and the election next year.
Look, there are some great things happening in Wrexham. Of course, one of them is the football museum for Wales, and obviously we'll be contributing £6.4 million to the creation of that Wrexham museum, so there are real opportunities there. As I say, I can't commit at this point, because we don't know who else will be competing for the city of culture from Wales, but obviously we will continue the conversations between our officials and the appropriate officials locally when and if the situation arises.
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n sicr yn ddinas sy'n ffynnu. Gallaf dystio i hynny, gan fy mod i'n eu helpu nhw i lenwi tyllau yn y ffordd dros y Pasg. Mae'r rheini yn rhan o'r 70,000 o dyllau mewn ffyrdd y byddwn ni'n eu llenwi rhwng nawr a'r etholiad y flwyddyn nesaf.
Edrychwch, mae rhai pethau gwych yn digwydd yn Wrecsam. Wrth gwrs, un ohonyn nhw yw amgueddfa bêl-droed Cymru, ac yn amlwg byddwn ni'n cyfrannu £6.4 miliwn at greu'r amgueddfa honno yn Wrecsam, felly mae yna gyfleoedd gwirioneddol yno. Fel y dywedais, ni allaf ymrwymo ar hyn o bryd, oherwydd nid ydym ni'n gwybod pwy arall fydd yn cystadlu i fod yn ddinas diwylliant o Gymru, ond yn amlwg byddwn ni'n parhau â'r sgyrsiau rhwng ein swyddogion a'r swyddogion priodol yn lleol pan ac os bydd y sefyllfa'n codi.
Mae'n well i fi hefyd ategu'r llongyfarchion i grŵp pêl-droed Wrecsam. Fel dywedodd Tomi Caws ar Radio Wales yr wythnos yma, mae pethau'n mynd mor dda mae hyd yn oed yn bosib, efallai, enillan nhw'r Eurovision Song Contest y flwyddyn nesaf, ond cawn ni weld os aiff hi cystal â hynny, ontefe.
Ond yn ôl at ddinas diwylliant, gaf i ofyn pa drafodaethau rŷch chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â hyn? Oherwydd dwi wedi clywed gan nifer o gynghorwyr yn Wrecsam does yna ddim penderfyniad terfynol wedi cael ei gymryd eto y bydd yna ddinas diwylliant yn 2029. Yn wir, does yna ddim canllawiau wedi cael eu rhyddhau ar gyfer dinasoedd sydd â diddordeb i gymryd rhan, a bod hynny efallai'n llesteirio ychydig ar y gwaith paratoi yn lleol. Felly, a wnewch chi sicrhau ymrwymiad clir y bydd yna ddinas diwylliant, yn ogystal, wrth gwrs, â chefnogi cais Wrecsam?
I should also echo the congratulations to Wrexham football club. As Tomi Caws said on Radio Wales this week, things are going so well, they might even win the Eurovision Song Contest next year; we'll see if that actually comes about.
But back to the city of culture bid, can I ask you what discussions you've had with the UK Government on this issue? Because I've heard from a number of councillors in Wrexham that no final decision has been taken that there will be a city of culture in 2029. Indeed, no guidance has been released for cities who are interested in bidding, and that hampers the preparatory work at a local level. So, will you ensure that there will certainly be a city of culture, as well as supporting the Wrexham bid, of course?
Diolch yn fawr. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny. Gwnaf i fynd i weld os oes unrhyw wirionedd yn hynny. Ond, wrth gwrs, fy niddordeb i yw i gael dinas diwylliant. Mae'n hen bryd inni gael dinas diwylliant yng Nghymru.
Thank you very much. I wasn't aware of that. I will seek further information on that. But my interest is in getting a city of culture here in Wales. It's high time that we did.
4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu 80 mlynedd ers diwrnod VE? OQ62605
4. What plans does the Welsh Government have to commemorate the 80th anniversary of VE day? OQ62605

This is a UK-wide commemoration and celebration, with events from bank holiday Monday through to VE Day itself. In Wales, the Welsh Government will be holding a service of thanksgiving at Llandaff cathedral and I will represent Welsh Government at the UK commemoration on VE Day.
Mae hwn yn goffâd a dathliad drwy'r DU gyfan, â digwyddiadau o ddydd Llun gŵyl y banc hyd at Ddiwrnod VE ei hun. Yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal gwasanaeth diolchgarwch yn eglwys gadeiriol Llandaf a byddaf yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yng nghoffâd y DU ar Ddiwrnod VE.
I'd like to thank the many communities and local authorities up and down the country that have arranged a variety of activities to mark this historic event, ranging from street parties, picnics and afternoon teas, flag-raising and VE proclamations, beacon lighting, church services and many more. What I find most of all heartening about that is that it involves people of all generations to get involved, and it shows that VE Day is just as important now as it was 80 years ago, and that people continue to want to thank and also commemorate those individual men and women who made such a huge sacrifice over 80 years ago. First Minister, would you join with me in remembering all of those who either fought or supported the war effort, both men and women, from home and abroad, which ultimately secured the peace in Europe?
Hoffwn ddiolch i'r cymunedau a'r awdurdodau lleol niferus ar hyd a lled y wlad sydd wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau i nodi'r digwyddiad hanesyddol hwn, yn amrywio o bartïon stryd, picnics a digwyddiadau te prynhawn, codi baneri a chyhoeddiadau VE, goleuo begynau, gwasanaethau eglwys a llawer mwy. Yr hyn sydd fwyaf calonogol i mi am hynny yw ei fod yn cynnwys pobl o bob cenhedlaeth yn cymryd rhan, ac mae'n dangos bod Diwrnod VE yr un mor bwysig nawr ag yr oedd 80 mlynedd yn ôl, a bod pobl yn parhau i fod eisiau diolch a hefyd goffáu'r dynion a'r menywod unigol hynny a wnaeth aberth mor enfawr dros 80 mlynedd yn ôl. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gofio pawb a ymladdodd neu a gefnogodd yr ymdrech ryfel, dynion a menywod, o gartref a thramor, a sicrhaodd yr heddwch yn Ewrop yn y pen draw?

Thanks very much. We all, I think, look forward to next week, to remembering all of those people who came together and who secured peace in Europe. There are maybe some lessons for us there in this difficult world that we're living in today. I will be making an oral statement on VE Day on 6 June, and Senedd Members will have the opportunity to respond to that statement.
I'm very much looking forward to attending some of those community VE Day events next week. I remember when it was the seventy-fifth anniversary, it was in the middle of the COVID pandemic, and I was very reluctant to see this pass, but I also knew there were very strict rules. So, in my street, I printed out a whole load of war songs and delivered them along the street and encouraged everybody to come out and sing on VE Day, celebrating the seventy-fifth anniversary. I'm sure I'll be told off now by the former First Minister. I don't think I broke any rules. I think I was very, very careful. But it is something I think we should commemorate, and we will be flying the European flag outside the Welsh Government building on that day.
Diolch yn fawr. Rydym ni i gyd, rwy'n credu, yn edrych ymlaen at yr wythnos nesaf, at gofio'r holl bobl hynny a ddaeth at ei gilydd ac a sicrhaodd heddwch yn Ewrop. Efallai fod rhai gwersi i ni yno yn y byd anodd hwn yr ydym ni'n byw ynddo heddiw. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar Ddiwrnod VE ar 6 Mehefin, a bydd cyfle i Aelodau'r Senedd ymateb i'r datganiad hwnnw.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i rai o'r digwyddiadau Diwrnod VE cymunedol hynny yr wythnos nesaf. Rwy'n cofio adeg nodi saith deg pum mlynedd, roedd yng nghanol y pandemig COVID, ac roeddwn i'n amharod iawn i weld hyn yn mynd heibio, ond roeddwn i hefyd yn gwybod bod rheolau llym iawn. Felly, yn fy stryd i, fe wnes i argraffu llwyth o ganeuon rhyfel a'u danfon nhw ar hyd y stryd ac annog pawb i ddod allan a chanu ar Ddiwrnod VE, i ddathlu saith deg pum mlynedd ers y diwrnod hwnnw. Rwy'n siŵr y byddaf i'n cael fy ngheryddu nawr gan y cyn-Brif Weinidog. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi torri unrhyw reolau. Rwy'n credu fy mod i'n ofalus iawn, iawn. Ond mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni ei goffáu, a byddwn yn chwifio'r faner Ewropeaidd y tu allan i adeilad Llywodraeth Cymru ar y diwrnod hwnnw.
The eightieth anniversary commemoration of VE Day event in the Senedd on 8 May, marking 80 years since the end of world war two in Europe, hosted by the Royal British Legion and sponsored by Darren Millar MS, will pay tribute to the service and sacrifices made by British, Commonwealth and Allied forces. Working together with the Together Coalition, what action has the Welsh Government taken to involve communities in north Wales, noting, for example, the service of remembrance at St Giles' church, Wrexham, followed by a parade led by the Royal Welsh Fusiliers volunteer corps of drums, a salute and wreath-laying ceremony; the event at the Daniel Owen Centre in Mold, hosted by Mold Town Council; events in Flint, beginning with town council’s proclamation on St Mary and St David's parish church steps, and ending with a beacon on the Flintshire coastal path in Flint to symbolise the light of peace; concerts in Rhyl and Rhos-on-sea; beacons on Pensarn and Llandudno promenades; and flag-raising and beacon-lighting ceremonies on Ynys Môn?
Bydd digwyddiad coffáu wyth deg mlynedd ers Diwrnod VE yn y Senedd ar 8 Mai, yn nodi 80 mlynedd ers diwedd yr ail ryfel byd yn Ewrop, sy'n cael ei gynnal gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a'i noddi gan Darren Millar AS, yn talu teyrnged i'r gwasanaeth a'r aberth a wnaed gan luoedd Prydain, y Gymanwlad a'r Cynghreiriaid. Gan gydweithio â chynghrair Together, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gynnwys cymunedau yn y gogledd, gan nodi, er enghraifft, y gwasanaeth coffa yn eglwys San Silyn, Wrecsam, wedi'i ddilyn gan orymdaith dan arweiniad corfflu drymiau gwirfoddol Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, salíwt a seremoni gosod torchau; y digwyddiad yng Nghanolfan Daniel Owen yn yr Wyddgrug, a gynhelir gan Gyngor Tref yr Wyddgrug; digwyddiadau yn y Fflint, gan ddechrau gyda chyhoeddiad cyngor y dref ar risiau eglwys blwyf y Santes Fair a Dewi Sant, ac yn gorffen gyda begwn ar lwybr arfordirol Sir y Fflint yn y Fflint i symboleiddio goleuni heddwch; cyngherddau yn y Rhyl a Llandrillo-yn-Rhos; begynau ar bromenadau Pensarn a Llandudno; a seremonïau codi baneri a goleuo begynau ar Ynys Môn?

Thanks very much. Well, you've done your homework on where the events are occurring. I'm sure you'll be attending lots of those, as I will be in my region. It is important, I think, that we note this important time and also recognise that this may be the last major anniversary when many of those people who lived through those times are with us.
I was speaking to a 96-year-old the other day, and just trying to get information from her about what she was doing on VE Day, and she told me how she had come on a bus from St Davids to Swansea when she heard the news. And, of course, Swansea had been very badly hit during the war. But we should take the time to speak to our elderly relatives, our elderly neighbours, to try and make that connection, because it is because of their heroism, and the heroism of so many of those people, that we were able to defeat the Nazis.
Diolch yn fawr iawn. Wel, rydych chi wedi gwneud eich gwaith cartref ar le mae'r digwyddiadau yn digwydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n bresennol yn llawer o'r rheini, fel y byddaf innau yn fy rhanbarth i. Mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n nodi'r amser pwysig hwn a hefyd yn cydnabod efallai mai hwn fydd y pen-blwydd mawr olaf pan fo llawer o'r bobl hynny a wnaeth fyw drwy'r oes honno gyda ni.
Roeddwn i'n siarad â menyw 96 oed y diwrnod o'r blaen, ac yn ceisio cael gwybodaeth ganddi am yr hyn yr oedd hi'n ei wneud ar Ddiwrnod VE, a dywedodd wrthyf i sut roedd hi wedi dod ar fws o Dyddewi i Abertawe pan glywodd y newyddion. Ac, wrth gwrs, roedd Abertawe wedi cael ei tharo'n ddifrifol iawn yn ystod y rhyfel. Ond dylem ni gymryd yr amser i siarad â'n perthnasau oedrannus, ein cymdogion oedrannus, i geisio gwneud y cysylltiad hwnnw, gan mai oherwydd eu harwriaeth, ac arwriaeth cynifer o'r bobl hynny, yr oeddem ni'n gallu trechu'r Natsïaid.
5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r effaith bosibl ar ddyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot o ganlyniad i ymyrraeth Llywodraeth y DU yng ngwaith dur Scunthorpe? OQ62611
5. What consideration has the Welsh Government given to the possible impact on the future of steel making at Port Talbot of the UK Government’s intervention in Scunthorpe steelworks? OQ62611

Fel dwi'n dweud, byddaf i'n gwneud datganiad llafar ar Fil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) yn nes ymlaen heddiw.
As I say, I will be making an oral statement on the Steel Industry (Special Measures) Bill later today.
Diolch am yr ateb hynny, Prif Weinidog.
Thank you for that response, First Minister.
Of course, granted, there is a statement on steel later on, but there is serious concern in Port Talbot around what the decision in Scunthorpe will mean now in terms of Port Talbot's access to that £2.5 billion steel fund. In conversations with unions, they were very clear there's still a really bright future possible for the Port Talbot site. So, what conversations have you had with your UK Government colleagues around ensuring that Port Talbot gets more than its fair share of that £2.5 billion fund, now that those blast furnaces have been closed?
Wrth gwrs, digon teg, mae datganiad ar ddur yn ddiweddarach, ond mae pryder difrifol ym Mhort Talbot ynglŷn â'r hyn y bydd y penderfyniad yn Scunthorpe yn ei olygu nawr o ran mynediad Port Talbot at y gronfa ddur gwerth £2.5 biliwn honno. Mewn sgyrsiau gydag undebau, roedden nhw'n glir iawn bod dyfodol disglair iawn yn bosibl o hyd i safle Port Talbot. Felly, pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod Port Talbot yn cael mwy na'i chyfran deg o'r gronfa gwerth £2.5 biliwn honno, nawr bod y ffwrneisi chwyth hynny wedi cael eu cau?

Well, thanks very much, and I know how upset people are in the community, and that’s why we have got to make sure we fight for them, and that’s certainly what we’ve already been doing. The Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning has already written to the Secretary of State asking for a significant share of that £2.5 billion fund for the steel sector. We don’t want to see a situation where we don’t get what we expected from that fund. I have reiterated that in a letter that I have sent today to the Secretary of State, with a host of other measures that I have been asking for, in order to give the protection at a time when steel is under a huge amount of pressure.
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n gwybod pa mor flin yw pobl yn y gymuned, a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ymladd drostyn nhw, a dyna'n sicr yr ydym ni eisoes wedi bod yn ei wneud. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am gyfran sylweddol o'r gronfa £2.5 biliwn honno ar gyfer y sector dur. Dydyn ni ddim eisiau gweld sefyllfa lle nad ydym ni'n cael yr hyn yr oeddem ni'n ei ddisgwyl o'r gronfa honno. Rwyf wedi ail-bwysleisio hynny mewn llythyr a anfonais heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol, gyda llu o fesurau eraill yr wyf wedi bod yn gofyn amdanyn nhw, er mwyn rhoi'r amddiffyniad ar adeg pan fo dur o dan bwysau enfawr.
First Minister, I'd welcome the fact if you could release that letter that you just mentioned, to highlight to the Senedd as a whole what exactly it is you’re asking, because, as Luke Fletcher rightly pointed out, there is a bright future for steel making under an electric arc furnace in Port Talbot, given that it's part of the Conservative-backed free-port bid at the Celtic free port, both in Port Talbot and in my constituency as well. So, what work are you doing with the UK Government to advocate for the benefits of the Celtic free port in and around steel making as well? Knowing that the Tata Port Talbot site isn't directly within the free port area but adjacent to it, how are you working with the UK Government to ensure that that free port is one of the key significant drivers of future investment at the steelworks plant in Port Talbot?
Prif Weinidog, byddwn yn croesawu'r ffaith pe gallech chi gyhoeddi'r llythyr hwnnw yr ydych chi newydd ei grybwyll, i amlygu i'r Senedd gyfan beth yn union yr ydych chi'n gofyn amdano, oherwydd, fel y nododd Luke Fletcher yn briodol, mae yna ddyfodol disglair i gynhyrchu dur o dan ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot, o gofio ei bod yn rhan o'r cais porthladd rhydd a gefnogir gan y Ceidwadwyr yn y porthladd rhydd Celtaidd, ym Mhort Talbot ac yn fy etholaeth i hefyd. Felly, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth y DU i eirioli dros fanteision y porthladd rhydd Celtaidd ym maes cynhyrchu dur ac o'i gwmpas hefyd? Gan wybod nad yw safle Tata Port Talbot o fewn ardal y porthladd rhydd yn uniongyrchol ond nesaf ato, sut ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y porthladd rhydd hwnnw yn un o'r ysgogwyr sylweddol allweddol o fuddsoddiad yn y gwaith dur ym Mhort Talbot yn y dyfodol?

Thanks very much. I'm very aware of the potential around the Celtic free port and the link with steel and the opportunities and the skills available in the area, and the fact that the right kind of conditions exist in particular around the Port Talbot steelworks. That's why I spent two days of the Easter recess in Denmark, speaking to the WindEurope conference, meeting with potential investors into Wales, who are all very interested in what is happening in relation to the opportunities around the Celtic sea, and indeed the opportunities that the Celtic free port brings.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r potensial o amgylch y porthladd rhydd Celtaidd a'r cysylltiad â dur a'r cyfleoedd a'r sgiliau sydd ar gael yn yr ardal, a'r ffaith bod y math cywir o amodau yn bodoli yn arbennig o amgylch gwaith dur Port Talbot. Dyna pam y treuliais i ddau ddiwrnod o doriad y Pasg yn Nenmarc, yn siarad yng nghynhadledd WindEurope, yn cyfarfod â buddsoddwyr posibl yng Nghymru, y mae gan bob un ohonyn nhw ddiddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd o ran y cyfleoedd o gwmpas y môr Celtaidd, ac yn wir y cyfleoedd y mae'r porthladd rhydd Celtaidd yn eu cynnig.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi twf busnesau bach? OQ62630
6. What steps is the Welsh Government taking to support the growth of small businesses? OQ62630

Rŷn ni'n darparu sawl gwahanol fath o gefnogaeth i fusnesau bach. Mae hyn yn cynnwys Busnes Cymru, gwasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth busnes. Mae gyda ni hefyd wasanaeth cefnogi pwrpasol ar gyfer rheoli perthynas, arloesi ac allforio.
We provide a range of support for small businesses. This includes Business Wales, the Welsh Government's bilingual business support service, providing a single point of contact for businesses and entrepreneurs to seek information, advice and business support. We also have a dedicated relationship management, innovation and export support service.
Diolch am yr ateb.
Thank you very much for that response.
We know that small businesses are the beating heart of our brilliant Welsh villages and towns and communities, but data from the Novuna business finance business barometer this month shows that only 13 per cent of Welsh small businesses now predict growth, which is the lowest level it has been on record, and well below the UK average. We have seen a number of things happening to our Welsh businesses from many directions. They are being hammered. We've got the US tariff chaos. We've got the increase in national insurance. And, as we've heard on a number of occasions here this afternoon, in terms of the Port Talbot area and the businesses affected by that, we saw heaven and earth being moved for Scunthorpe for the sake of 2,700 jobs—absolutely imperative—and in Port Talbot, we've lost the potential of 2,800 jobs, as well as the knock-on of those jobs as well in the area. So, can you please tell us what immediate and concrete steps the Welsh Government is taking to restore confidence in businesses here in Wales? Diolch yn fawr iawn.
Rydym ni'n gwybod mai busnesau bach yw curiad calon ein pentrefi a'n trefi a'n cymunedau gwych yng Nghymru, ond mae data o faromedr busnes cyllid busnes Novuna y mis hwn yn dangos mai dim ond 13 y cant o fusnesau bach Cymru sydd bellach yn rhagweld twf, sef y lefel isaf a gofnodwyd erioed, ac yn llawer is na chyfartaledd y DU. Rydym ni wedi gweld nifer o bethau yn digwydd i'n busnesau yng Nghymru o sawl cyfeiriad. Maen nhw'n cael eu dyrnu. Mae gennym ni anhrefn tariffau'r Unol Daleithiau. Mae gennym ni'r cynnydd i yswiriant gwladol. Ac, fel yr ydym ni wedi ei glywed ar sawl achlysur yma y prynhawn yma, o ran ardal Port Talbot a'r busnesau sydd wedi'u heffeithio gan hynny, gwelsom bopeth yn cael ei wneud i Scunthorpe er mwyn achub 2,700 o swyddi—cwbl hanfodol—ac ym Mhort Talbot, rydym ni wedi colli'r potensial o 2,800 o swyddi, yn ogystal â sgil-effeithiau'r swyddi hynny hefyd yn yr ardal. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, pa gamau uniongyrchol a phendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adfer hyder mewn busnesau yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.

Thanks very much. Well, I'm very aware that we need to see better growth when it comes to SMEs. There is a real productivity issue in relation to businesses in Wales, and I know that the economy Secretary is very focused on this as an issue. I think that we have to take up the opportunities that artificial intelligence brings, and see how we can use that to enhance productivity, but obviously make sure that that is balanced off with workers' rights and other issues.
But we do give a huge amount of support to small businesses, not least the non-domestic rates support we give—£335 million is not a small amount of money—and almost 50 per cent of those businesses receive full rate relief. I think what we need to do is to make sure that we give them that support they need. There is plenty of support through Business Wales to help productivity, to stimulate growth, to support with skills. The Development Bank of Wales is also there. You mentioned the situation in Port Talbot. The good news is, and I had this confirmed with Tata on Friday, that the electric arc furnace will start to be built this July, and already those contracts to build have gone to local companies, and they are already using some of those people who have lost their jobs to help them with that building process.
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n ymwybodol iawn bod angen i ni weld gwell twf o ran busnesau bach a chanolig eu maint. Mae yna broblem gynhyrchiant wirioneddol o ran busnesau yng Nghymru, ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd yr economi yn canolbwyntio'n fawr ar hwn fel pwnc. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig, a gweld sut y gallwn ni ddefnyddio hwnnw i wella cynhyrchiant, ond yn amlwg gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gydbwyso â hawliau gweithwyr a materion eraill.
Ond rydym ni'n rhoi llawer iawn o gefnogaeth i fusnesau bach, yn enwedig y cymorth ardrethi annomestig yr ydym ni'n ei roi—nid yw £335 miliwn yn swm bach o arian—ac mae bron i 50 y cant o'r busnesau hynny yn derbyn rhyddhad ardrethi llawn. Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cymorth y maen nhw ei angen iddyn nhw. Mae yna ddigon o gymorth drwy Busnes Cymru i helpu cynhyrchiant, i ysgogi twf, i gynorthwyo gyda sgiliau. Mae Banc Datblygu Cymru yno hefyd. Fe wnaethoch chi sôn am y sefyllfa ym Mhort Talbot. Y newyddion da, a chefais gadarnhad o hyn gan Tata ddydd Gwener, yw y bydd y ffwrnais arc drydan yn dechrau cael ei hadeiladu ym mis Gorffennaf, ac mae'r contractau hynny i'w hadeiladu eisoes wedi mynd i gwmnïau lleol, ac maen nhw eisoes yn defnyddio rhai o'r bobl hynny sydd wedi colli eu swyddi i'w helpu gyda'r broses adeiladu honno.
First Minister, I just heard your answer, but many small businesses in my constituency and their employees feel under attack. With the rise of national insurance to 15 per cent, the lowering of the earning threshold, and the highest business rates in the whole of the United Kingdom, and the proposed visitor levy by this Government adding further pressure, First Minister, do you not accept that these policies that are being driven here in Cardiff and in Westminster by the Labour Party risk pushing small businesses to the wall, resulting in closures and job losses for many people across the country? I've been inundated during recess with people very concerned about the future of their jobs, so I'd be very interested to hear what further work you're doing to stand up to the UK Government and actually stand up for Welsh businesses here in our country.
Prif Weinidog, rwyf newydd glywed eich ateb, ond mae llawer o fusnesau bach yn fy etholaeth i a'u gweithwyr yn teimlo o dan ymosodiad. Gyda'r cynnydd i yswiriant gwladol i 15 y cant, y gostyngiad yn y trothwy enillion, a'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, a'r ardoll ymwelwyr arfaethedig gan y Llywodraeth hon yn ychwanegu rhagor o bwysau, Prif Weinidog, onid ydych chi'n derbyn bod y polisïau hyn sy'n cael eu hysgogi yma yng Nghaerdydd ac yn San Steffan gan y Blaid Lafur mewn perygl o wthio busnesau bach i'r wal, gan arwain at eu cau a cholledion swyddi i lawer o bobl ledled y wlad? Yn ystod y toriad, mae nifer mawr o bobl wedi mynegi pryder difrifol wrthyf am ddyfodol eu swyddi, felly byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed pa waith pellach yr ydych chi'n ei wneud i sefyll i fyny i Lywodraeth y DU a sefyll i fyny dros fusnesau Cymru yma yn ein gwlad.

Thanks very much. I just want to make it clear that we are very pro-business in terms of the Welsh Government. We know that that's where jobs come from, and we're keen in particular to see small businesses thrive, and as I mentioned, £335 million-worth of support is no small amount of money. But one of the biggest threats at the moment, frankly, in relation to small businesses, several small businesses in Wales, is the threat from US tariffs, and the impact on Wales will be significant. There is something that I've already discussed with Keir Starmer, because the export balance in Wales is mostly about goods, whereas in England, it's more about services. So, the impacts on us from these tariffs are likely to be greater than they are in England.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n sicr o blaid busnes o ran Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gwybod mai o dyna lle mae swyddi'n dod, ac rydym ni'n awyddus yn arbennig i weld busnesau bach yn ffynnu, ac fel y soniais i, nid yw gwerth £335 miliwn o gymorth yn swm bach o arian. Ond un o'r bygythiadau mwyaf ar hyn o bryd, a bod yn onest, o ran busnesau bach, sawl busnes bach yng Nghymru, yw'r bygythiad gan dariffau'r Unol Daleithiau, a bydd yr effaith ar Gymru yn sylweddol. Dyna rywbeth yr wyf eisoes wedi ei drafod gyda Keir Starmer, oherwydd mae'r balans allforio yng Nghymru yn ymwneud â nwyddau yn bennaf, ond mae'n ymwneud mwy â gwasanaethau yn Lloegr. Felly, mae'r effeithiau arnom ni o'r tariffau hyn yn debygol o fod yn fwy nag ydyn nhw yn Lloegr.
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU o'r diffiniad o fenyw? OQ62609
7. What assessment has the First Minister made of the impact on Wales of the UK Supreme Court's ruling on the definition of a woman? OQ62609

The Welsh Government respects the decision of the Supreme Court. We will take the time to consider the judgment carefully and take the steps that are required to meet our obligations under the Equality Act 2010 as clarified by the ruling.
Mae Llywodraeth Cymru yn parchu penderfyniad y Goruchaf Lys. Byddwn yn cymryd yr amser i ystyried y dyfarniad yn ofalus ac yn cymryd y camau sy'n ofynnol i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel yr eglurwyd gan y dyfarniad.
Diolch. First Minister, the UK Supreme Court's ruling is a vindication for all those like myself who have fought to raise genuine issues and concerns around safety and fairness, and safety in women-only spaces, services in prisons, and indeed fairness in sport. I hope you will join me in saying that this is a victory for women and girls across Wales, and for common sense. In the years I've tried, this has never been about anti-anybody, despite the smears; it is about protecting women and girls and ensuring fairness.
I note your written statement, which is a welcome turnaround from this Labour Government, albeit through gritted teeth, but I'm sad to say that I think it's a weak response to have a written statement on something that requires and demands an oral statement for something so important. It requires immediate leadership, urgency, and a strong Welsh Government willing to think for itself in response to this. It demands that oral statement, and I urge you to do this at the earliest opportunity, outlining when, where and how you're going to rectify some of the damaging decisions already made by the Welsh Government in the past, and what you will do now to protect women and girls going forward, referencing particularly schools, services and sport. Perhaps I could ask you to do that now, and whether you'd also outline whether you will be re-evaluating your relationship with Stonewall, and if you could finally respond to me—it was six months ago that I asked you—whether you can now acknowledge that a woman is a biological woman. Diolch.
Diolch. Prif Weinidog, mae dyfarniad Goruchaf Lys y DU yn gyfiawnhad i bawb fel fi sydd wedi brwydro i godi materion a phryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch a thegwch, a diogelwch mewn mannau i fenywod yn unig, gwasanaethau mewn carchardai, ac yn wir tegwch mewn chwaraeon. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i ddweud bod hon yn fuddugoliaeth i fenywod a merched ledled Cymru, ac i synnwyr cyffredin. Yn y blynyddoedd yr wyf i wedi ymdrechu, nid yw hyn erioed wedi bod yn ymwneud â bod yn wrth-unrhyw un, er gwaethaf y taflu baw; mae'n fater o ddiogelu menywod a merched a sicrhau tegwch.
Rwy'n nodi eich datganiad ysgrifenedig, sy'n dro pedol i'w groesawu gan y Llywodraeth Lafur hon, er ei fod wedi'i wneud drwy eich dannedd, ond rwy'n drist dweud fy mod i'n credu ei fod yn ymateb gwan i gael datganiad ysgrifenedig ar rywbeth sydd angen ac yn mynnu datganiad llafar ar gyfer rhywbeth mor bwysig. Mae'n gofyn am arweinyddiaeth ar unwaith, brys, a Llywodraeth Cymru gref sy'n barod i feddwl drosti'i hun mewn ymateb i hyn. Mae'n mynnu'r datganiad llafar hwnnw, ac rwy'n eich annog i wneud hyn cyn gynted â phosibl, gan amlinellu pryd, ble a sut rydych chi'n mynd i gywiro rhai o'r penderfyniadau niweidiol a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol, a beth fyddwch chi'n ei wneud nawr i amddiffyn menywod a merched yn y dyfodol, gan gyfeirio'n benodol at ysgolion, gwasanaethau a chwaraeon. Efallai y gallwn ofyn i chi wneud hynny nawr, a pha un a wnewch chi hefyd amlinellu a fyddwch chi'n ailwerthuso eich perthynas â Stonewall, ac a allech chi ymateb i mi o'r diwedd—chwe mis yn ôl y gofynnais i chi—a allwch chi gydnabod nawr mai menyw fiolegol yw menyw. Diolch.

Look, we're dealing here with incredibly sensitive issues and people have very strong feelings about them. I just want to be clear as a Government that we, in all our dealings, will be acting with respect, compassion and kindness. That is the most important thing, and I think we should heed the words of Lord Hodge when he gave his judgment: he counselled against reading this judgment as a triumph of one or more groups in our society at the expense of another. It is not. We will take our time now to work through the implications of this, and there are significant implications for public services. We'll work through that, and obviously, we will report later on in the summer.
Edrychwch, rydym ni'n ymdrin yma â materion eithriadol o sensitif ac mae gan bobl deimladau cryf iawn amdanyn nhw. Hoffwn fod yn glir fel Llywodraeth y byddwn ni, yn ein holl drafodion, yn ymddwyn gyda pharch, tosturi a charedigrwydd. Dyna'r peth pwysicaf, ac rwy'n credu y dylem ni wrando ar eiriau'r Arglwydd Hodge pan roddodd ei ddyfarniad: cynghorodd yn erbyn dehongli'r dyfarniad hwn fel buddugoliaeth i un neu fwy o grwpiau yn ein cymdeithas ar draul un arall. Nid dyna yw e. Byddwn yn cymryd ein hamser nawr i weithio trwy oblygiadau hyn, ac mae goblygiadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn gweithio drwy hynny, ac yn amlwg, byddwn yn adrodd yn ddiweddarach yn yr haf.
I welcome what you just said there, First Minister, around compassion. Can I start by imploring all colleagues within this Chamber and outside of it to consider how we conduct ourselves with compassion and consideration? Because at the end of the day, this is not about politics; this is about people's lives. I've been approached in the last week and a half by many members of the LGBTQ+ community who are both tearful and fearful as well about the consequences that this might mean for them, and I'm sure, Prif Weinidog, you'll recognise and understand that. So, can I just ask you today to simply, if you can make clear, give that reassurance that this Welsh Labour Government values and supports all of our LGBTQ+ community in Wales? Diolch.
Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn y fan yna, Prif Weinidog, ynglŷn â thosturi. A gaf i ddechrau trwy erfyn ar bob cydweithiwr yn y Siambr hon a'r tu allan iddi i ystyried sut rydym ni'n ymddwyn gyda thosturi ac ystyriaeth? Oherwydd yn y pen draw, nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth; mae hyn yn ymwneud â bywydau pobl. Mae llawer o aelodau'r gymuned LHDTC+ wedi cysylltu â mi yn ystod yr wythnos a hanner diwethaf sydd yn eu dagrau ac yn ofnus hefyd am y canlyniadau y gallai hyn eu golygu iddyn nhw, ac rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddwch chi'n cydnabod ac yn deall hynny. Felly, a gaf i ofyn i chi heddiw yn syml, os gallwch chi ei wneud yn glir, i roi'r sicrwydd hwnnw bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ein holl gymuned LHDTC+ yng Nghymru? Diolch.

Thanks. We acknowledge that there is a lot of fear and uncertainty in many places, and I want to give an assurance that the Welsh Government will always respect and value all communities. We are a Government that respects equality; it’s part of our statute. The Government of Wales Act 2006 is clear: equality and opportunity for all in Wales. That is fundamental to our core beliefs. So, we will always act with respect, compassion and kindness, but we will take this court judgment seriously.
Diolch. Rydym ni'n cydnabod bod llawer o ofn ac ansicrwydd mewn sawl man, a hoffwn roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn parchu ac yn gwerthfawrogi pob cymuned. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n parchu cydraddoldeb; mae'n rhan o'n statud. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn glir: cydraddoldeb a chyfle i bawb yng Nghymru. Mae hynny'n sylfaenol i'n credoau craidd. Felly, byddwn ni bob amser yn ymddwyn gyda pharch, tosturi a charedigrwydd, ond byddwn ni'n cymryd y dyfarniad llys hwn o ddifrif.
8. A wnaiff y Prif Weinidog rhoi diweddariad ar y cyllid o £1 miliwn ar gyfer lido Brynaman a ddynodwyd yng nghyllieb y Llywodraeth ar gyfer 2025-26? OQ62628
8. Will the First Minister provide an update on the £1 million funding for Brynamman lido that was earmarked in the Welsh Government budget for 2025-26? OQ62628

Roedden ni’n hapus i weithio ar y cyd gyda Jane Dodds i sicrhau bod y gyllideb derfynol yn cael ei phasio. Roedd hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi'r cam nesaf o ddatblygu lido Brynaman, ac mae swyddogion wrthi’n trefnu cyfarfod gyda'r sefydliad sy'n arwain y gwaith adnewyddu i drafod y camau nesaf.
We were happy to work collaboratively with Jane Dodds to secure the passage of the final budget, which included funding to support the next phase of developing the Brynamman lido, and officials are currently organising a meeting with the organisation leading the refurbishment work to discuss the next steps.
Diolch, Brif Weinidog. Fe adeiladwyd y lido yn wreiddiol, fel cymaint o bethau yn yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, gan gyfraniadau ariannol glowyr lleol ac wedyn gan waith gwirfoddol gan bobl di-waith yn y gymuned. Fe safodd e am bron canrif nes bod gaeaf caled yn dod, ac wedyn fe'i caewyd am y 15 mlynedd diwethaf. Ond nawr mae'r un ysbryd cymunedol gwaelod i fyny gyda chwmni cymunedol lleol eisiau ailadeiladu'r lido, neu'r baths fel mae'n cael ei adnabod yn lleol. Rwy'n croesawu'r newyddion yma, ond ydy'r Prif Weinidog jest yn gallu rhoi ychydig bach o fanylion inni? Ydych chi wedi cael cyfle i gael gair gyda'r cwmni cymunedol lleol eto? Pryd mae disgwyl i hynny ddigwydd? Oes yna hyblygrwydd hefyd o ran y dosraniad rhwng cyllid refeniw a chyllid cyfalaf, a hefyd o ran yr amlen amser? Hynny yw, os bydd e'n mynd i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf, oes yna hyblygrwydd hefyd ar gael o ran hynny?
Thank you, First Minister. The lido was originally built, like so many other things in the twentieth century in Wales, by financial contributions made by local miners and then by voluntary work done by the unemployed in the community. It stood for almost a century until a hard winter came and then it was closed for the past 15 years. But now there is that same community spirit, bottom up, with a local community company that is going to rebuild the lido, or 'baths' as it's known locally. I welcome this news, but could the First Minister just give us a bit more information and detail about whether you've had an opportunity to have a word with the local community company? When can we expect that that will happen? Is there also flexibility in terms of the distribution between revenue and capital funding, and also in terms of the time envelope? If it goes into the next financial year, is there flexibility in that respect as well?

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod hwn yn gyfle gwych i adfer a dod â defnydd i'r lleoliad hanesyddol yma o 1932—cyn yr ail ryfel byd. Dwi'n gwybod roedd e'n lleoliad oedd yn cael ei garu, ei ddefnyddio a'i edmygu, ac mae e'n grêt bod hwn yn dod nôl ar gyfer Brynaman. Fel dwi'n dweud, bydd swyddogion yn cwrdd gyda'r bobl sy'n gyfrifol am y gwaith adnewyddu, a dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn hapus i roi update i chi ar ôl i hynny ddigwydd.
Thank you very much. I think this is an excellent opportunity to bring back into use this historic location from 1932—that's before the second world war. I know it was much loved, widely used and much admired in the area, and it's great that it's being restored for Brynamman. As I say, officials will be meeting with those people responsible for that refurbishment work, and I'm sure that the Minister will be happy to provide you with an update once that has happened.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Thank you, First Minister.
Yr eitem nesaf y prynhawn yma bydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac mae'r datganiad hwnnw i'w wneud gan y Trefnydd. Y Trefnydd, felly, i wneud y datganiad busnes. Jane Hutt.
The next item this afternoon will be the business statement and announcement, and that statement is to be made by the Trefnydd. Therefore, I call on the Trefnydd to make the business statement. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon, fel y nodir ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.
Thank you very much, Llywydd. There are several changes to this week’s business, as set out on the Plenary agenda. Business for the next three weeks is shown on the business statement, which is available to Members electronically.
Trefnydd, I'd like to request a statement from the Welsh Government regarding digital connectivity, particularly in light of the ongoing switch from analogue to digital telephone systems. As you know, large parts of my constituency are rural and coastal, meaning that mobile coverage can often be limited. Indeed, during the storms we experienced last year, there were parts of Pembrokeshire that lost power for several hours, and, in some cases, several days. Many constituents were isolated, which is particularly troubling for vulnerable residents who rely on telephone services to contact people and services.
As the shift to digital services continues, there are understandable concerns from people who live in areas where mobile connectivity and power reliability are uncertain. Trefnydd, reliable connection networks are essential, and people must feel that they aren't at any further risk during an emergency because of the switch to digital telephone services. Therefore, given that the Welsh Government has responsibility for community safety, and some powers in relation to emergency services, I'd be grateful if we could have a statement on how it's ensuring that communities in Wales are reliably connected so that in the event of any emergency, residents are able to contact their loved ones, and, of course, vital emergency services.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chysylltedd digidol, yn enwedig yng ngoleuni'r newid parhaus oddi wrth systemau ffôn analog at systemau ffôn digidol. Fel y gwyddoch chi, mae yna rannau helaeth o fy etholaeth i sy'n wledig ac yn arfordirol, ac mae hynny'n golygu y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig yn aml. Yn wir, yn ystod y stormydd a gawsom ni'r llynedd, fe gollwyd y pŵer am rai oriau mewn rhai ardaloedd yn sir Benfro ac, mewn rhai achosion, am sawl diwrnod. Cafodd llawer o etholwyr eu hynysu, sy'n arbennig o bryderus i drigolion agored i niwed sy'n dibynnu ar wasanaethau ffôn i gysylltu â phobl a gwasanaethau.
Wrth i'r newid at wasanaethau digidol barhau, mae'n ddealladwy fod pryderon gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir ansicrwydd o ran gallu i ddefnyddio ffonau symudol a dibynadwyedd y cyflenwad ynni. Trefnydd, mae rhwydweithiau cyfathrebu dibynadwy yn hanfodol, ac mae'n rhaid i bobl deimlo nad ydyn nhw mewn unrhyw berygl pellach mewn argyfwng oherwydd y newid at wasanaethau ffôn digidol. Felly, o ystyried bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol, a rhai pwerau o ran y gwasanaethau brys, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad ar sut y mae'n sicrhau y bydd gan gymunedau yng Nghymru gysylltedd dibynadwy fel y bydd trigolion yn gallu cysylltu â'u hanwyliaid mewn unrhyw achos o argyfwng, ac, wrth gwrs, y gwasanaethau brys hanfodol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
Thank you very much, Paul Davies. Thank you for that really important question, and I will seek to respond to it. I won't be able to fully respond to it today, because this covers a range of responsibilities within and outside the Welsh Government as well. But I think your points are very relevant in terms of that switch to digital connectivity and the issues about power reliability and what this means for community safety. Also, part of my responsibility, as you know, is to promote digital inclusion, and this particularly affects older people. In fact, I was meeting with the Older People's Commissioner for Wales yesterday and this is an issue that we discussed. So, I will certainly take this back and seek a way to bring back to the Senedd an update on this situation.
Diolch yn fawr iawn i chi, Paul Davies. Diolch i chi am y cwestiwn pwysig iawn hwn, ac fe wnaf i geisio ymateb iddo. Ni fyddaf yn gallu ymateb yn llawn iddo heddiw, oherwydd mae'r mater hwn yn cwmpasu ystod o gyfrifoldebau yn Llywodraeth Cymru â'r tu allan hefyd. Ond rwyf i'n credu bod eich pwyntiau chi'n berthnasol iawn o ran y newid hwnnw at gysylltedd digidol a'r materion ynghylch dibynadwyedd y cyflenwad ynni a goblygiadau hynny i ddiogelwch y gymuned. Yn ogystal â hynny, mae hyrwyddo cynhwysiant digidol yn rhan o fy nghyfrifoldeb i, fel y gwyddoch chi, ac mae hynny'n effeithio ar bobl hŷn yn arbennig. Yn wir, roeddwn yn cwrdd â'r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ddoe ac fe wnaethom ni drafod y mater hwn. Felly, fe fyddaf yn sicr yn rhoi sylw i hyn ac yn ceisio dod â diweddariad yn ôl i'r Senedd ynglŷn â'r sefyllfa hon.
Trefnydd, I’d like to request a statement regarding the 'Period Proud Wales Action Plan' and progress on those actions. I’ve seen an increase in people getting in touch with me requesting period products, finding it much more difficult being able to access them. I know we’ve had numerous debates in the past around the consideration for, potentially, legislation to ensure that this is embedded. I know of the support of the Welsh Government and the investment made, but I just wondered in terms of that ongoing assessment in terms of accessibility, especially given that we see poverty rates continuing to increase, and foodbanks are also reporting to me that increasingly so they’re seeing a demand for period products. So, can we have that update, please, and also, if you have reflected further in terms of the need for legislation?
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ynglŷn â 'Chynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif' a'r cynnydd o ran y camau gweithredu hynny. Rwyf wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysylltu â mi yn gofyn am gynhyrchion mislif, gan ei chael yn llawer mwy anodd i gael gafael arnyn nhw. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi cael nifer o ddadleuon yn y gorffennol ynglŷn â'r ystyriaeth ar gyfer deddfwriaeth, o bosibl, i sicrhau bod hyn yn cael ei ymwreiddio. Rwy'n gwybod am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r buddsoddiad a wnaed, ond meddwl oeddwn i o ran yr asesiad parhaus hwnnw o ran gallu cael gafael arnyn nhw, yn enwedig o ystyried ein bod ni'n gweld cyfraddau tlodi yn dal i gynyddu, ac mae banciau bwyd hefyd yn dweud wrthyf eu bod nhw'n gweld galw cynyddol am gynhyrchion mislif. Felly, a gawn ni'r diweddariad hwnnw, os gwelwch chi'n dda, a chael gwybod hefyd a ydych chi wedi myfyrio ymhellach o ran yr angen am ddeddfwriaeth?
Thank you very much. Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Only just a couple of weeks ago, I attended a period poverty round-table. We have regular meetings that are attended by local authorities; local authorities are key, as you know, to delivering the substantial funding that we allocate to them to provide period products. Schools are crucial in terms of access, but it's not just schools where period products need to be available. The access in not just schools, indeed, in terms of education, further and higher education, but also in health services, in terms of access in leisure centres. So, I will do an update on this, because I think the period dignity initiative, which goes back several years now, has proved to be really important in terms of tackling poverty, but also linking to menstrual well-being, and that's key now in terms of our young people's mental health and well-being. Children need to feel confident in terms of access to period products, but also it's the dignity. And it is also really interesting when you meet—and I am sure you have done—in schools, where indeed school councils and boys, as well as girls, take an interest in what this means. So thank you for raising that, and I will provide an update.
Diolch yn fawr iawn i chi. Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn i'n bresennol mewn bwrdd crwn ar dlodi mislif. Rydyn ni'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd sy'n cynnwys yr awdurdodau lleol; mae'r awdurdodau lleol yn allweddol, fel y gwyddoch chi, o ran darparu'r cyllid sylweddol yr ydym ni'n ei ddyrannu iddyn nhw ar gyfer darparu cynhyrchion mislif. Mae'r ysgolion yn allweddol o ran cael gafael arnyn nhw, ond nid mewn ysgolion yn unig y mae angen i gynhyrchion mislif fod ar gael. Mae angen iddyn nhw fod ar gael nid yn unig mewn ysgolion, yn wir, o ran addysg, addysg bellach ac uwch, ond hefyd mewn gwasanaethau iechyd, ac mewn canolfannau hamdden hefyd. Felly, fe wnaf roi diweddariad ar hyn, oherwydd rwy'n credu bod y fenter urddas mislif, sy'n dyddio nôl sawl blwyddyn erbyn hyn, wedi dangos ei bod yn bwysig iawn o ran mynd i'r afael â thlodi, ond cysylltu â llesiant mislif hefyd, ac mae hynny'n allweddol nawr o ran iechyd meddwl a llesiant ein pobl ifanc. Mae angen i blant deimlo yn hyderus o ran mynediad at gynhyrchion mislif, ond mae hwn yn fater o ran urddas hefyd. Ac mae'n ddiddorol iawn hefyd pan fyddwch chi'n cwrdd—ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gwneud hynny—mewn ysgolion, lle yn wir mae cynghorau ysgol a bechgyn, yn ogystal â merched, yn cymryd diddordeb yn yr hyn y mae hyn yn ei olygu. Felly diolch i chi am godi hynna, ac fe wnaf roi diweddariad.
I would like to ask for two statements. Firstly, I am asking for a Government statement on support for live music. The number of live music venues has declined rapidly over the last several years, and it's incredibly important that we keep these live music centres. I am asking for a fan-led review of live and electronic music, and that action is taken to ensure that the industry upholds its commitment to a £1 grass-roots ticket levy on UK stadium and arena shows. Most successful musicians had their apprenticeships in clubs. Ed Sheeran, when he came to Swansea, said, 'This is the second time I have been here. The first time I came to Swansea, I appeared at Sin City', which is a very small venue in the city centre.
I am also asking for a Government statement on progress being made to bring in a community right to buy. A community right to buy for Wales would help protect the things that make our country special, boost community ownership and place power back in the hands of Welsh people by giving local communities the right to first refusal when vital community assets come up for sale. Too often, major community assets, such as chapels, pubs and clubs, are left to deteriorate and are bought by people from other parts of the world.
Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar gefnogaeth i gerddoriaeth fyw. Mae nifer y lleoliadau ar gyfer cerddoriaeth fyw wedi gostwng yn gyflym iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n hynod bwysig ein bod ni'n cadw'r canolfannau hyn ar gyfer cerddoriaeth fyw. Rwy'n gofyn am adolygiad dan arweiniad y rhai sy'n frwd dros gerddoriaeth fyw ac electronig, a bod camau yn cael eu cymryd i sicrhau bod y diwydiant yn cynnal ei ymrwymiad i ardoll tocynnau llawr gwlad o £1 ar sioeau stadiwm ac arena yn y DU. Fe wnaeth y rhan fwyaf o gerddorion llwyddiannus fwrw eu prentisiaethau mewn clybiau. Dywedodd Ed Sheeran, pan ddaeth ef i Abertawe, 'Dyma'r ail dro i mi fod yma. Y tro cyntaf yr oeddwn yn Abertawe, fe ymddangosais yn Sin City', sy'n lleoliad bach iawn yng nghanol y ddinas.
Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cynnydd sy'n cael ei wneud i gyflwyno hawl cymunedol i brynu. Fe fyddai hawl cymunedol i brynu ar gyfer Gymru yn helpu i ddiogelu'r pethau sy'n gwneud ein gwlad yn arbennig, yn rhoi hwb i berchnogaeth gymunedol a rhoi pŵer yn ôl yn nwylo pobl Cymru drwy roi'r hawl i gymunedau lleol fod â'r cynnig cyntaf pan fydd asedau cymunedol hanfodol yn cael eu rhoi ar werth. Yn rhy aml, mae asedau cymunedol mawr, fel capeli, tafarndai a chlybiau, yn cael eu gadael i ddirywio ac yn cael eu prynu gan bobl o rannau eraill o'r byd.
Diolch yn fawr, Mike Hedges. We've heard before of your great support for live music and recognising what this means in your city, in Swansea, in terms of support for music venues and businesses. This amounts to over £10 million since Creative Wales developed this in 2020, in terms of that support. Creative Wales does work very closely with Music Venues Trust, and we are also moving towards supporting grass-roots music venues. We're aware of the MVT UK-wide survey, and we've discussed with stakeholders and the Creative Wales non-executive board, and those findings echo what we've been hearing across the sector for the past 18 months. We do need consistency of information, so we would very much support this fan-led—and here we have a fan, in this Chamber; I'm sure we have many more—review of live and electronic music, and for that to be undertaken at a UK level in terms of MVT interest in this.
Your point about community assets is really important. You know we established the community asset commission in partnership with Ystadau Cymru, and that followed from the work of the Local Government and Housing Committee as well. So, the commission was reviewing current systems of community asset transfer to encourage innovative thinking to community ownership, and Ystadau Cymru have published a community asset transfer best practice guide. That was back in 2019, and there are some good case studies. But the work of the commission is nearing completion, and there will be a report and recommendations presented to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government before the end of this term, and publication planned in the autumn.
I saw some wonderful examples of community asset transfer when I went to Gwynedd earlier this year to see some of the results of that in Cymunedoli Cyf. I think our community facilities grant has also helped where community assets have been transferred. So, I think this is a really pertinent, relevant question. Thank you, Mike Hedges.
Diolch yn fawr, Mike Hedges. Rydym wedi clywed o'r blaen am eich cefnogaeth gref i gerddoriaeth fyw a chydnabod beth mae hynny'n ei olygu yn eich dinas chi, yn Abertawe, o ran cefnogaeth i leoliadau cerddoriaeth a busnesau. Mae hyn yn gyfystyr â dros £10 miliwn ers i Gymru Greadigol ddatblygu hyn yn 2020, o ran y cymorth hwnnw. Mae Cymru Greadigol yn gweithio yn agos iawn gyda'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, ac rydym ni'n symud hefyd tuag at gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad. Rydym ni'n ymwybodol o arolwg yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth ledled y DU, ac rydym ni wedi bod yn trafod gyda rhanddeiliaid a bwrdd anweithredol Cymru Greadigol, ac mae'r canfyddiadau hynny'n adleisio'r hyn a glywsom ar draws y sector dros y 18 mis diwethaf. Mae angen cysondeb arnom o ran gwybodaeth, ac felly fe fyddem yn cefnogi adolygiad dan arweiniad pobl sy'n frwd dros gerddoriaeth fyw ac electronig—ac mae gennym ni rywun brwd yma, yn y Siambr hon; rwy'n siŵr bod llawer mwy gennym ni yma—a chyflawni hwnnw ar lefel y DU o ran diddordeb yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth yn hyn.
Mae eich pwynt am asedau cymunedol yn un pwysig iawn. Fe wyddoch chi ein bod ni wedi sefydlu'r comisiwn asedau cymunedol mewn partneriaeth ag Ystadau Cymru, ac roedd hynny'n dilyn gwaith y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd. Felly, roedd y comisiwn yn adolygu'r systemau cyfredol o drosglwyddo asedau cymunedol i annog ystyriaeth arloesol i berchnogaeth gymunedol, ac mae Ystadau Cymru wedi cyhoeddi canllaw arfer gorau wrth drosglwyddo asedau cymunedol. Roedd hynny'n ôl yn 2019, ac fe geir rhai astudiaethau achos effeithiol. Ond mae gwaith y comisiwn yn dod yn agos at ei ddiwedd, ac fe fydd adroddiad ac argymhellion yn cael eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol cyn diwedd y tymor hwn, a bwriedir cyhoeddi yn yr hydref.
Fe welais i rai enghreifftiau gwych o drosglwyddo asedau cymunedol pan es i i Wynedd yn gynharach eleni i weld rhai o ganlyniadau hynny yn Cymunedoli Cyf. Rwyf i o'r farn bod ein grant cyfleusterau cymunedol wedi cynorthwyo hefyd pan oedd asedau cymunedol wedi cael eu trosglwyddo. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn perthnasol iawn. Diolch i chi, Mike Hedges.
Can I request a statement from the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs regarding litter and refuse collection across Wales? It comes after I was contacted by a constituent in Swansea who had raised the condition of his street, where he'd often put his bags out for their regular refuse collection only to find that the nature of the hessian bags that were put out meant that rubbish was strewn all over the street. He told me he'd had to resort to buying bags for himself to collect the rubbish that had blown across the street. I think we need to make sure that the provisions that councils make based on guidance by the Welsh Government ensures that the collection of refuse across Wales is robust enough to ensure that the refuse put out is the refuse that is ultimately collected by waste crews across the country. So, I'd be grateful for a statement to that effect.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â sbwriel a chasgliadau sbwriel ledled Cymru? Mae hynny ar ôl i etholwr yn Abertawe gysylltu â mi a oedd yn sôn am gyflwr ei stryd ef, lle roedd ef yn aml yn rhoi ei fagiau allan ar gyfer y casgliadau sbwriel rheolaidd dim ond i ganfod bod natur y bagiau hesian a oedd yn cael eu rhoi allan yn golygu bod sbwriel yn stremp ar hyd a lled y stryd. Roedd yn dweud wrthyf i y bu'n rhaid iddo brynu ei fagiau ei hun i gasglu'r sbwriel a oedd wedi chwythu ar draws y stryd. Rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr fod y darpariaethau y mae cynghorau yn eu gwneud yn seiliedig ar ganllawiau gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwaith o gasglu sbwriel ledled Cymru yn ddigon cadarn i sicrhau mai'r sbwriel sy'n cael ei roi allan yw'r sbwriel sy'n cael ei gasglu yn y pen draw gan griwiau gwastraff ledled y wlad. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad i'r perwyl hwnnw.
Thank you for that question. Of course, we are world leading in terms of our recycling provision, and waste collection is all part of that and part of the way in which we have reached that number too, hopefully to No. 1 in terms of our recycling rates. It's interesting that that was acknowledged today by the Future Generations Commissioner for Wales, Derek Walker, on the tenth anniversary of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, and seeing what we're doing in terms of delivering on sustainable development. But waste collection has to be well organised, it has to do the job, and, of course, local authorities learn from each other, with WLGA playing a key role, and the Welsh Government in terms of guidance. So, you've made your point about a particular situation where things have come to your attention, but I think this is something where indeed we are proud of our record in terms of waste collection, as well as recycling.
Diolch i chi am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rydym ni'n arwain yn fyd-eang o ran ein darpariaeth ar gyfer ailgylchu, ac mae casglu gwastraff i gyd yn rhan o hynny ac yn rhan o'r ffordd yr ydym ni wedi cyrraedd y safle hwnnw hefyd, hyd at Rif 1, rwy'n gobeithio, o ran ein cyfraddau ailgylchu. Mae hi'n ddiddorol i hynny gael ei gydnabod heddiw gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, ar ddathliad 10 mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac o ystyried yr hyn a wnaethom ni o ran cyflawni ar ddatblygu cynaliadwy. Ond mae'n rhaid trefnu casgliadau gwastraff yn iawn, mae'n rhaid i hwnnw wneud ei waith, ac, wrth gwrs, mae'r awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd, gyda swyddogaeth allweddol i'r CLlLC, a Llywodraeth Cymru o ran canllawiau. Felly, fe wnaethoch chi bwynt ynglŷn â sefyllfa benodol lle mae pethau wedi dod i'ch sylw chi, ond rwy'n credu bod hwn yn rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono, sef yr enw da sydd gennym ni o ran casglu gwastraff, yn ogystal ag ailgylchu.
I'd like a debate, please, to set out how the Welsh Government will mitigate the UK Government's benefits cuts. Westminster's benefit cuts will hit people in Wales hardest. We've had to guess about the extent of the distress that it will cause disabled people and those out of work, because the UK Government refused to conduct an assessment of how their cuts would affect Wales. But Policy in Practice has confirmed this now. Their research warns that these cuts will entrench deprivation in our communities. Caerphilly, Blaenau Gwent and Merthyr are singled out as being amongst the areas that will be most severely affected. In Blaenau Gwent, one in every 10 people will be affected. The rashness of these cuts and the recklessness with which Westminster has introduced them have been appalling. So, can we have a debate to address how Wales and the Government here will respond?
Fe hoffwn i gael dadl, os gwelwch chi'n dda, i nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru toriadau budd-daliadau gan Lywodraeth y DU. Bydd toriadau budd-daliadau o San Steffan yn taro pobl yng Nghymru galetaf. Rydym ni wedi gorfod dyfalu am faint y trallod y bydd yn ei achosi i bobl anabl a'r rhai sydd allan o waith, am fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynnal asesiad o sut y bydd eu toriadau nhw'n effeithio ar Gymru. Ond mae 'Policy in Practice' wedi cadarnhau hyn nawr. Mae eu hymchwil nhw'n rhybuddio y bydd y toriadau hyn yn peri i amddifadedd ymwreiddio yn ein cymunedau ni. Mae Caerffili, Blaenau Gwent a Merthyr ymhlith yr ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf. Ym Mlaenau Gwent, effeithir ar un o bob 10. Mae byrbwylltra a dihidrwydd y toriadau hyn a gyflwynwyd gan San Steffan wedi bod yn arswydus. Felly, a gawn ni ddadl i fynd i'r afael â'r dull y bydd Cymru a'r Llywodraeth yma yn ei ddefnyddio i ymateb i hyn?
Thank you very much, Delyth Jewell. This is very important. It is important to the Welsh Government, in terms of developing a robust response to the Green Paper, and, indeed, as the First Minister said earlier on, we will be producing that cross-Government response to the Green Paper. It has to reflect the views, not only of people with lived experience—. And on that point, I met with the disability rights taskforce during the recess and heard about their concerns about the welfare reforms in terms of every aspect of those. And I also have made the point, as you know, that the UK Government must come out and consult directly with disabled people in Wales as well.
So, we are seeking that cross-Government response. We will develop that cross-Government response, but also we’re looking to get that data that we need from the Department for Work and Pensions, and we’re working closely with officials to ensure that we can have a further understanding of the impact of the proposed welfare reforms on claimants in Wales.
Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Mae hyn yn bwysig iawn. Mae'n fater pwysig i Lywodraeth Cymru, o ran datblygu ymateb cadarn i'r Papur Gwyrdd, ac, yn wir, fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, fe fyddwn ni'n cynhyrchu'r ymateb trawslywodraethol hwnnw i'r Papur Gwyrdd. Mae'n rhaid iddo adlewyrchu safbwyntiau, nid yn unig pobl sydd â phrofiad bywyd—. Ac ynglŷn â'r pwynt hwnnw, fe gwrddais i â'r tasglu hawliau pobl anabl yn ystod y toriad ac fe glywais i am eu pryderon nhw am y diwygiadau lles o ran pob agwedd ar y rhain. Ac fe wnes i'r pwynt hefyd, fel gwyddoch chi, y bydd hi'n rhaid i Lywodraeth y DU ddod allan ac ymgynghori â phobl anabl yng Nghymru yn uniongyrchol hefyd.
Felly, rydym ni'n ceisio'r ymateb trawslywodraethol hwnnw. Fe fyddwn ni'n datblygu'r ymateb trawslywodraethol hwnnw, ond rydym ni'n bwriadu cael y data sydd ei angen arnom ni hefyd oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac rydym yn gweithio yn agos gyda swyddogion i sicrhau y gallwn ni fod â dealltwriaeth bellach o effaith y diwygiadau lles arfaethedig ar y rhai sy'n hawlio yng Nghymru.
Good afternoon, Cabinet Secretary. I’d like to request a statement from yourself, please, on the issue of how we protect and look after victims of domestic violence in Powys. Montgomeryshire Family Crisis Centre does an amazing job in terms of protecting our victims and survivors of domestic violence, and yet they’ve sadly had to look at the potential of cutting five jobs. And in a rural area that’s a huge impact. They deal day on day with, mostly, women who’ve come forward who are courageous and brave. And I’d like to take this opportunity to pay tribute to one brave woman who was sadly lost last week, and that’s Virginia Giuffre, who stood up to powerful and rich men in order to make sure that the voices of victims and survivors were heard. And it’s an absolute tragedy that she took her own life after decades of pressure and stress—a woman of sublime courage. And every single woman who comes forward has that courage, and we need to protect and support them. And so I’d like to make sure that services such as the Montgomeryshire Family Crisis Centre are protected in order to continue that service. Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad oddi wrthych chi, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â sut yr ydym ni'n amddiffyn ac yn gofalu am ddioddefwyr trais domestig ym Mhowys. Mae Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn yn gwneud gwaith anhygoel o ran amddiffyn y rhai sydd wedi dioddef a goroesi trais domestig yma, ond eto, yn anffodus, maen nhw wedi gorfod edrych ar y posibilrwydd o dorri pum swydd. Ac mewn ardal wledig mae honno'n ergyd enfawr. O ddydd i ddydd, maen nhw'n ymdrin, yn bennaf, â menywod eofn a dewr sydd wedi ymgyflwyno. Ac fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi teyrnged i un fenyw ddewr a gollwyd wythnos diwethaf, yn drist, sef Virginia Giuffre, a safodd yn wyneb dynion pwerus a chyfoethog er mwyn sicrhau bod lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu clywed. Ac mae'n drychineb mawr iddi gymryd ei heinioes ei hun wedi degawdau o bwysau a straen—menyw o ddewrder aruthrol. Ac mae gan bob menyw sy'n dod ymlaen ddewrder o'r fath, ac mae angen i ni eu hamddiffyn a'u cefnogi nhw. Ac felly fe hoffwn i sicrhau y bydd gwasanaethau fel Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn yn cael eu diogelu ar gyfer parhau â'r gwasanaeth hwnnw. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, and thank you also for allowing the whole Chamber to hear and recognise the tragedy and the loss of Virginia Giuffre—that absolute tragedy that she took her own life after everything that she had suffered. And, obviously, this is very linked to how do we in Wales, and as a Welsh Government, deliver and respond to violence against women, domestic abuse and sexual violence.
So, thank you for putting that in the context of Powys and the Montgomeryshire Family Crisis Centre, which does provide an indispensable service for families in the area. I was pleased that we’ve been able to recently offer additional revenue—I hope you’re aware of that—to the Montgomeryshire Family Crisis Centre.
This is something where we have put more funding into VAWDASV services this year, and whenever I have the opportunity, we also look regionally and locally to where there is specific need. We’ve supported the crisis centre with capital grants over the past two years, and, of course, this is part of the specialist sector across Wales that we support, in challenging financial times, but ensuring that services are fully supported too in the valuable work that they undertake. And thank you for bringing it to our attention again today—their valuable work in Montgomeryshire.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch hefyd am ganiatáu i'r Siambr gyfan glywed a chydnabod trasiedi a cholli Virginia Giuffre—y drasiedi lwyr honno iddi gymryd ei heinioes ei hun ar ôl popeth a ddioddefodd hi. Ac, yn amlwg, mae hyn yn gysylltiedig â sut yr ydym ni yng Nghymru, ac yn Llywodraeth Cymru, yn cyflawni ac yn ymateb i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.
Felly, diolch i chi am roi hynny yng nghyd-destun Powys a Chanolfan Argyfwng Teulu Maldwyn, sy'n darparu gwasanaeth anhepgor i deuluoedd yn yr ardal. Roeddwn i'n falch ein bod ni wedi gallu cynnig refeniw ychwanegol yn ddiweddar—gobeithio eich bod chi'n ymwybodol o hynny—i Ganolfan Argyfwng Teulu Maldwyn.
Mae hwn yn rhywbeth yr ydym wedi rhoi mwy o gyllid ynddo ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eleni, a phryd bynnag y caf i gyfle, rydym ni'n bwrw golwg yn rhanbarthol ac yn lleol i weld ble ceir angen penodol. Rydym ni wedi cefnogi'r ganolfan argyfwng gyda grantiau cyfalaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac, wrth gwrs, mae hwn yn rhan o'r sector arbenigol ledled Cymru yr ydym ni'n ei gefnogi, mewn amseroedd ariannol heriol, ond gan sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cefnogaeth lawn hefyd yn y gwaith gwerthfawr y maen nhw'n ei wneud. A diolch i chi am dynnu ein sylw ni at hyn eto heddiw—eu gwaith gwerthfawr nhw yn sir Drefaldwyn.
Trefnydd, in light of the Supreme Court judgement, I’d like to ask for a statement from the Welsh Government reaffirming their commitment to the LGBTQ+ action plan, and, crucially, many of those really important valuable actions in it. Because I know that, like me, you are a supporter of our community, and, as I said earlier, there’s a great deal of distress and uncertainty out there at the moment. So, I think it would really go a long way to have those assurances of the Welsh Government’s commitment to the work that we’ve already set in train here in Wales.
Trefnydd, yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ailddatgan ei hymrwymiad i'r cynllun gweithredu LHDTC+, ac, yn hollbwysig, i lawer o'r camau gwerthfawr gwirioneddol bwysig hynny sydd ynddo. Oherwydd fe wn i eich bod chi, fel minnau, yn gefnogwr ein cymuned ni, ac, fel dywedais i'n gynharach, mae yna lawer iawn o drallod ac ansicrwydd yn y maes ar y foment. Felly, rwy'n credu y byddai hi'n mynd yn bell iawn i fod â'r sicrwydd hwnnw o ran ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r gwaith a wnaethom ni ei roi ar waith eisoes yma yng Nghymru.
Thank you very much, Hannah Blythyn. The LGBTQ+ action plan for Wales does create the framework for LGBTQ+ policy development across Government, and with our partners. And I thank you for the leading role that you took in terms of bringing this plan forward, and through to launching it. It does set out the concrete steps we will take to strengthen equality for LGBTQ+ people, to challenge discrimination, and to create a society where LGBTQ+ people are safe to live and love authentically, openly and freely as themselves. In particular through this action plan, the Welsh Government commits to defend and promote the rights and dignity of trans and non-binary people, and to make those communities feel welcome and included in Welsh society.
Diolch yn fawr iawn i chi, Hannah Blythyn. Mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ ar gyfer Cymru yn rhoi'r fframwaith ar gyfer datblygu polisi LHDTC+ ar draws y Llywodraeth, a chyda'n partneriaid. Ac rwy'n diolch i chi am y gwaith blaenllaw a wnaethoch chi o ran dod â'r cynllun hwn yn ei flaen, a thrwy ei lansio ef. Mae'n nodi'r camau pendant y byddwn ni'n eu cymryd i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, i herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn ddilys, yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain. Yn benodol drwy'r cynllun gweithredu hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl drawsrywiol ac anneuaidd, a gwneud i'r cymunedau hynny deimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cynnwys yng nghymdeithas Cymru.
I call for two Welsh Government statements—the first on Welsh Government support for people with multiple sclerosis, a progressive neurological condition. More than 6,000 people in Wales are living with MS, and almost 300 people are diagnosed with MS in Wales every year. This week is MS Awareness Week 2025, from 28 April to 4 May. Next Wednesday I'm sponsoring an MS Society Cymru lunchtime event to celebrate this year's theme of 'MS conversations'—what it's like to live with MS, what services and research are making a difference in Wales today, what else we do need to be doing. People living with MS will be on hand to speak about their experiences living with the condition, and MS Society Cymru will showcase new data and new treatments in the pipeline for both forms of MS.
I also call for a Welsh Government statement on support for the deaf and hard of hearing during next week's UK Deaf Awareness Week 2025, 5 to 11 May. With the theme 'Beyond silence', this is focused on breaking down barriers to full accessibility for individuals with hearing loss, celebrating the diverse ways deaf people communicate and highlighting the richness of deaf culture, and aims to challenge misconceptions about deafness, promoting understanding and building a more inclusive world for all. The week promotes inclusivity by advocating for improved accessibility in workplaces, education and public spaces, and by encouraging understanding of the diverse communication methods used by deaf and hard-of-hearing people. Ahead of Deaf Awareness Week, I met with the Deaf and Sensory Network on Monday, to discuss their work as provider of the adult social care contracts for the deaf community in Wrexham and Flintshire. So, I'd welcome statements—one this week, one next week—on those two items.
Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru—y cyntaf ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl sydd â sglerosis ymledol, cyflwr niwrolegol sy'n gwaethygu. Mae mwy na 6,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag MS, ac mae bron i 300 o bobl yn cael diagnosis o MS yng Nghymru bob blwyddyn. Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth MS 2025, o 28 Ebrill hyd 4 Mai. Ddydd Mercher nesaf, fe fyddaf i'n noddi digwyddiad amser cinio Cymdeithas MS Cymru ar gyfer ddathlu thema eleni sef 'Sgyrsiau MS'—sut beth yw byw gydag MS, pa wasanaethau ac ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru heddiw, a'r hyn y mae angen i ni fod yn ei wneud fel arall. Bydd pobl sy'n byw gydag MS wrth law i siarad am eu profiadau nhw o fyw gyda'r cyflwr, ac fe fydd MS Society Cymru yn arddangos data newydd a thriniaethau newydd sydd yn yr arfaeth ar gyfer y ddau fath o MS.
Rwy'n galw hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i bobl fyddar a phobl drwm eu clyw yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod y DU 2025 yr wythnos nesaf, 5 Mai i 11 Mai. Gyda'r thema 'Tu hwnt i dawelwch', fe fydd hon yn canolbwyntio ar oresgyn y rhwystrau sy'n atal hygyrchedd llawn i unigolion sydd wedi colli eu clyw, dathlu'r ffyrdd amrywiol o bobl fyddar yn cyfathrebu ac amlygu cyfoeth diwylliant byddar, a'i nod yw herio camsyniadau ynglŷn â bod yn fyddar, hyrwyddo dealltwriaeth ac adeiladu byd mwy cynhwysol i bawb. Mae'r wythnos yn hyrwyddo cynhwysiant trwy eirioli dros wella hygyrchedd mewn gweithleoedd, ym myd addysg ac mewn mannau cyhoeddus, a hynny drwy annog dealltwriaeth o'r dulliau amrywiol o gyfathrebu sy'n cael eu defnyddio gan bobl fyddar a thrwm eu clyw. Cyn Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod, fe wnes i gyfarfod â'r Deaf and Sensory Network ddydd Llun, i drafod eu gwaith nhw fel darparwr contractau gofal cymdeithasol i oedolion ar gyfer y gymuned fyddar yn Wrecsam a Sir y Fflint. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiadau—un yr wythnos hon, un yr wythnos nesaf—ar y ddwy eitem yna.
Thank you very much, Mark Isherwood, for drawing our attention and the attention of the Senedd to both these important weeks—MS week, and also the week where we'll particularly be able to recognise and acknowledge what we need to do and the needs of deaf people and people with hearing loss. Of course, in terms of both the contributions you've made today, in terms of questions, you do draw attention to the needs of the people affected and, indeed, the services that we provide. I'm sure that Senedd Members will want to attend and engage, and of course the Cabinet Secretary for Health and Social Care will be particularly interested in the MS week, and we will look at any information that we need to share on that. I think it's important that we also recognise that we need to ensure that all deaf people and their carers know where they can access services, care and support in their local community, and provide assurance that they will have rapid access to services and support when they need it.
Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, am dynnu ein sylw ni a sylw'r Senedd at y ddwy wythnos bwysig hyn—wythnos MS, a hefyd yr wythnos lle byddwn ni'n rhoi ystyriaeth arbennig i anghenion pobl fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw, a chydnabod yr hyn y mae angen i ni ei wneud. Wrth gwrs, o ran y cyfraniadau a wnaethoch chi heddiw, o ran eich cwestiynau, fe wnaethoch chi dynnu sylw at anghenion y bobl yr effeithir arnyn nhw ac, yn wir, y gwasanaethau yr ydym ninnau'n eu darparu. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'r Senedd yn awyddus i fynychu ac ymgysylltu, ac wrth gwrs fe fydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiddordeb arbennig yn yr wythnos MS, ac fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth i unrhyw wybodaeth y bydd angen i ni ei rhannu hi yn hyn o beth. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod hefyd fod angen i ni sicrhau bod pob unigolyn byddar a'u gofalwyr nhw'n gwybod o ble y gallan nhw gael gafael ar wasanaethau, gofal a chefnogaeth yn eu cymuned leol, a chynnig sicrwydd y byddan nhw'n cael mynediad cyflym at wasanaethau a chefnogaeth pan fydd ei angen arnyn nhw.
I'd like to ask for a statement from the Government following the publication of the Royal National Institute for Deaf People report last week, entitled 'Still Ignored: the Fight for Accessible Healthcare'. The report does provide a pretty damning insight, really, into deaf and hard-of-hearing people's experience of accessing healthcare right across Wales. It was drawn to my attention by Cedric Moon, my constituent, who is a great campaigner for people who are deaf or hard of hearing, and he's also written about it in the Western Mail and the South Wales Echo today. The report states that the NHS is systematically discriminating against people who are deaf or having a hearing loss. This is by not meeting their communication needs, by a widespread lack of communication support, such as interpreters, note takers and speech-to-text reporters. This is an experience that I have found to be true in dealing with my constituents.
So, there are a number of recommendations to the Welsh Government, so I'm sure we'd all be very grateful for an update from the Welsh Government about how they will respond to this report and to these recommendations, and also on what further work is being done to better improve the lives of deaf and hard-of-hearing people here in Wales. I certainly support the points made by Mark Isherwood as well.
Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw'r wythnos diwethaf, o'r enw 'Still Ignored: the Fight for Accessible Healthcare'. Mae'r adroddiad yn rhoi mewnwelediad eithaf damniol, mewn gwirionedd, i brofiad pobl fyddar a thrwm eu clyw o ran mynediad at ofal iechyd ledled Cymru. Cedric Moon, fy etholwr i, sy'n ymgyrchydd gwych dros bobl fyddar neu drwm eu clyw, a dynnodd fy sylw i at yr adroddiad, ac mae ef wedi ysgrifennu am hwnnw yn y Western Mail a'r South Wales Echo heddiw hefyd. Mae'r adroddiad yn nodi bod y GIG yn gwahaniaethu mewn ffordd gyfundrefnol yn erbyn pobl sy'n fyddar neu sydd wedi colli eu clyw. Mae hynny'n digwydd trwy fethu â bodloni eu hanghenion nhw o ran cyfathrebu, trwy ddiffyg cefnogaeth wrth gyfathrebu sy'n eang, fel dehonglwyr, rhai sy'n cymryd nodiadau a gohebwyr lleferydd i destun. Mae hwn yn brofiad yr wyf i wedi canfod ei wirionedd wrth ymdrin â'm hetholwyr i.
Felly, mae yna nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, felly rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn ddiolchgar iawn am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru am sut y bydd yn ymateb i'r adroddiad hwn ac i'r argymhellion hyn, a hefyd ar ba waith pellach sy'n cael ei wneud i wella bywydau pobl fyddar a thrwm eu clyw yma yng Nghymru. Rwy'n sicr yn cefnogi'r pwyntiau a wnaeth Mark Isherwood hefyd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
Thank you very much. Yes, that very much follows on from Mark Isherwood's question. Julie Morgan, your constituent Cedric Moon must be thanked for his continued commitment and diligence in raising these issues with you through his experience and also the fact that he is advocating on behalf of others, on behalf of people who are deaf and hard of hearing.
I think what's important in terms of looking at this from a Welsh Government perspective is that 'A Healthier Wales', our long-term plan for health and social care, and those refreshed actions that came through when it was revised and updated last November, is underpinned by that principle of ensuring that, I quote,
'all citizens can receive timely health and care services equitably, regardless of the language or communication format they need'.
So, that's got to mean something. In collaboration with third sector organisations, we're developing a future approach to audiology in Wales to deliver the best services and support for citizens in Wales and, alongside this and most importantly, reviewing the effectiveness of the all-Wales standards for accessible communication and information for people with sensory loss, exploring the barriers faced by people when accessing healthcare.
And of course we have been working as a Welsh Government with stakeholders to develop renewed standards and robust and clear guidance in relation to commissioning interpretation and translation services for British Sign Language users. We're planning to publish the renewed standards this summer, and they'll now include patients whose main language is not English or Welsh, patients who have language and communication barriers, but also patients who have language and communication needs that may also be for their parents and carers as well. So, the renewed standards will be important, but also we have key recommendations aligning to this in the disabled people's rights plan, which I'll be launching next week for consultation.
Diolch yn fawr iawn. Ie, mae hynny'n dilyn ymlaen o gwestiwn Mark Isherwood i raddau helaeth iawn. Julie Morgan, mae'n rhaid rhoi diolch i'ch etholwr Cedric Moon am ei ymrwymiad a'i ddiwydrwydd parhaus ef wrth godi'r materion hyn drwy ei brofiad ei hun gyda chi a'r ffaith ei fod yn eiriol ar ran eraill hefyd, ar ran pobl fyddar a thrwm eu clyw.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig wrth edrych ar hyn o safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod 'Cymru Iachach', ein cynllun hirdymor ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a'r camau gweithredu adnewyddedig hynny a ddaeth drwodd pan gafodd hyn ei adolygu a'i ddiweddaru fis Tachwedd y llynedd, yn cael eu hategu gan yr egwyddor honno o sicrhau, rwy'n dyfynnu,
'y gall pob dinesydd gael gwasanaethau iechyd a gofal amserol yn deg, waeth beth fo’i anghenion o ran iaith neu fformat cyfathrebu'.
Felly, mae'n rhaid i hynny olygu rhywbeth. Mewn cydweithrediad â sefydliadau'r trydydd sector, rydym ni'n datblygu ymagwedd i'r dyfodol ar gyfer awdioleg yng Nghymru er mwyn darparu'r gwasanaethau a'r gefnogaeth orau i ddinasyddion yng Nghymru ac, yn gyfochrog â hyn ac yn bwysicaf un, adolygu effeithiolrwydd safonau ledled Cymru ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar eu synhwyrau, gan archwilio'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael gafael ar ofal iechyd.
Ac wrth gwrs rydym ni wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn Llywodraeth Cymru i ddatblygu safonau newydd a chanllawiau cadarn a chlir o ran comisiynu gwasanaethau dehongli a chyfieithu ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain. Rydym ni'n bwriadu cyhoeddi'r safonau newydd yn yr haf eleni, ac fe fydd y rhain yn cynnwys cleifion nawr nad Cymraeg na Saesneg yw eu prif iaith, cleifion sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu, ond cleifion sydd ag anghenion iaith a chyfathrebu yn ogystal â hynny a allai fodoli i'w rhieni a'u gofalwyr nhw hefyd. Felly, fe fydd adnewyddu'r safonau yn bwysig, ond mae gennym ni argymhellion allweddol hefyd i gyd-fynd â hyn yn y cynllun hawliau pobl anabl, y byddaf i'n ei lansio ar gyfer ymgynghoriad yr wythnos nesaf.
Leader of the house, could I ask for two statements, please—one on the job losses at Dow Corning in Barry, obviously an area you're very familiar with, with nearly 300 job losses potentially, subject to consultation? This is sadly another example of high energy costs here in the UK that is putting jeopardy into manufacturing jobs, and I haven't seen a statement come from the Welsh Government, which is surprising given this announcement was made yesterday. I will be pleased, and I'm sure many of the workers in the factory will be very pleased, to understand what action the Welsh Government is undertaking, along with interested parties, in trying to change this decision that Dow have taken to cease silicone production at the facility.
Secondly, could I seek a statement from the Minister for transport in relation to the A48? Just before we broke for the Easter recess, there were the tragic deaths of three individuals in one car accident on the A48. By my reckoning, in the last five years, there have been 10 deaths along the road of the A48 between Culverhouse Cross and Waterton. It needs a full engineering assessment made of that road, because it has been re-engineered many times over the last 30 years. There have been 17 new road traffic lights put in, there have been two new roundabouts installed, many new junctions, and the road, as was originally constructed, is now unrecognisable. With those sorts of tragic fatalities on that piece of road, it is vital that the department undertakes a piece of work that looks into the engineering safety aspects of it, and I would look to a statement from the Welsh Government to come forward to address that very serious issue. Thank you.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda—un ar golli swyddi yn ffatri Dow Corning yn y Barri, sy'n amlwg yn ardal yr ydych chi'n gyfarwydd iawn â hi, gyda bron i 300 o swyddi yn cael eu colli o bosibl, yn amodol ar ymgynghoriad? Yn anffodus, mae hon yn enghraifft arall o gostau ynni uchel yma yn y DU yn peryglu swyddi gweithgynhyrchu, ac ni welais i ddatganiad yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru, sy'n peri syndod o ystyried i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud ddoe. Fe fyddwn i'n falch, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o'r gweithwyr yn y ffatri yn falch iawn, o gael deall pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ynghyd â phartïon sydd â buddiant, i geisio newid y penderfyniad hwn a gymerodd Dow i orffen cynhyrchu silicon yn y ffatri.
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth o ran yr A48? Ychydig cyn i ni dorri ar gyfer toriad y Pasg, yn drist iawn bu tri unigolyn farw mewn un ddamwain ar yr A48. Hyd y gallaf i farnu, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, bu 10 o farwolaethau ar ffordd yr A48 rhwng Croes Cwrlwys a Thre-Dŵr. Mae angen asesiad peirianyddol llawn o'r ffordd honno, oherwydd fe gafodd ei hailweithio sawl tro dros y 30 mlynedd diwethaf. Cafodd 17 o oleuadau traffig ffyrdd newydd eu gosod, cafodd dwy gylchfan newydd eu gosod, mae llawer o gyffyrdd newydd, ac mae'r ffordd yn hollol wahanol erbyn hyn i'w dyluniad pan gafodd ei hadeiladu yn wreiddiol. Gyda'r mathau hynny o farwolaethau trist ar y tamaid hwnnw o ffordd, mae hi'n hanfodol y bydd yr adran yn ymgymryd â darn o waith a fydd yn ystyried yr agweddau diogelwch peirianyddol, ac fe fyddwn i'n disgwyl i ddatganiad gael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater difrifol iawn hwnnw. Diolch i chi.
Thank you for both those questions that you've raised, Andrew R.T. Davies, both of which actually relate to my constituency, as you acknowledged.
Yes, it was a tragic call that I got, and indeed our Cabinet Secretary and her officials, on 24 April from Dow chemical's head of government affairs UK and Ireland to say that they had confirmed their intention to shut down the base silicone manufacturing process plant at their Barry facility, resulting in the loss of up to 290 direct jobs. And, as you know, Dow has been part of the history of generations of people who've worked since the 1950s at Dow. So, this is very, very bad news for the local community, for the workforce, and, of course, it will have a wider impact on contractors working on site. Of the 600 workforce on site, they are being informed that a consultation process will begin with staff.
I've already had one meeting, and I'm having another meeting—I am having a meeting on the site with our MP, Kanishka Narayan, and meeting not only with the management, but also with the trade union, because Unite are also very engaged in the consultation process and have made very strong statements as well. So, we stand ready to support the workforce affected by this decision. But when we say 'the workforce' we are talking about the town, as you know, and so many families affected. I think it is important that they are going to—we understand—continue with an investment in the finishing specialist silicone manufacturing part of the site, that will in the future import base silicone products from other, overseas-based Dow facilities. I am giving more information today because we haven't—. I know that the Cabinet Secretary is responding to this and will want to update Members accordingly.
On your second point, yes, the situation on the A48 and tragic loss over the Easter recess—a death as a result of those road casualties—I raised it myself, and I think this is something where there has to be Welsh Government, local authority and community engagement to look at this. Thank you for raising it today.
Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna y gwnaethoch chi eu codi, Andrew R.T. Davies, y mae'r ddau ohonyn nhw'n ymwneud â'm hetholaeth i mewn gwirionedd, fel roeddech chi'n cydnabod.
Oedd, roedd honno'n alwad drist iawn a gefais i, ac yn wir i'n Hysgrifennydd Cabinet ni a'i swyddogion hi, ar 24 o fis Ebrill oddi wrth bennaeth materion llywodraethol Dow Chemicals yn y DU ac Iwerddon i ddweud eu bod nhw wedi cadarnhau eu bwriad nhw i gau'r ffatri broses weithgynhyrchu sylfaenol silicon yn eu cyfleuster nhw yn y Barri, a fyddai'n arwain at golli hyd at 290 o swyddi uniongyrchol. Ac, fel gwyddoch chi, mae Dow wedi bod yn rhan o hanes cenedlaethau o bobl sydd wedi bod yn gweithio yn y ffatri honno ers y 1950au. Felly, mae hyn yn newyddion drwg iawn, iawn i'r gymuned leol, i'r gweithlu, ac, wrth gwrs, fe fydd ag effaith ar gontractwyr sy'n gweithio yn fwy eang ar y safle. O'r 600 sydd yn y gweithlu ar y safle, maen nhw'n cael gwybod y bydd proses ymgynghori yn dechrau gyda staff.
Fe gefais i un cyfarfod eisoes, ac fe fyddaf i'n cael cyfarfod arall—fe fyddaf i'n cyfarfod ar y safle gyda'n AS ni, Kanishka Narayan, ac yn cyfarfod nid yn unig â'r rheolwyr, ond gyda'r undeb llafur hefyd, oherwydd mae Unite wedi ymwneud llawer â'r broses ymgynghori eisoes ac wedi gwneud datganiadau cadarn iawn hefyd. Felly, rydym ni'n barod i gefnogi'r gweithlu yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn. Ond pan fyddwn ni'n dweud 'y gweithlu' rydym yn siarad am y dref i gyd, fel gwyddoch chi, ac fe effeithir ar gymaint o deuluoedd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y byddan nhw—fel rydym ni'n deall—yn dal ati i fuddsoddi yn yr adran gorffennu arbenigol gweithgynhyrchu silicon ar y safle, a fydd yn mewnforio cynhyrchion silicon sylfaen o fannau eraill yn y dyfodol, o gyfleusterau Dow a leolir dramor. Rwy'n rhoi rhagor o wybodaeth heddiw oherwydd nad ydym ni wedi—. Rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymateb i hyn ac fe fydd yn awyddus i ddiweddaru'r Aelodau yn hynny o beth.
O ran eich ail bwynt chi, ie wir, y sefyllfa ar yr A48 a'r golled drist iawn dros doriad y Pasg—marwolaeth o ganlyniad i'r anafiadau hynny—fe wnes i godi hyn fy hunan, ac rwy'n credu bod hwn yn fater y bydd yn rhaid cael ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r cymunedau i'w ystyried. Diolch i chi am ei godi heddiw.
Trefnydd, I'd like to ask for a statement from the Cabinet Secretary for economy on the Western Gateway partnership having its funding withdrawn from the UK Government. I, like Peter Fox and many others in my region, am greatly disappointed by this decision. This cross-border initiative was worth £17 billion to the UK economy and offered economic growth for areas such as Newport and Monmouthshire and, indeed, the whole of South Wales East. Let's be clear, this is not about a funding cut. This is a deliberate withdrawal of support from a ambitious economic partnership. Trefnydd, this news serves as a massive loss for the whole of my region and I know that they would appreciate a statement on this. Diolch.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar benderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu cyllid yn ôl oddi wrth bartneriaeth Porth y Gorllewin. Rwy'n siomedig iawn oherwydd y penderfyniad hwnnw, fel mae Peter Fox a llawer o un arall yn fy rhanbarth i. Roedd y fenter drawsffiniol hon yn werth £17 biliwn i economi'r DU ac roedd hi'n cynnig twf economaidd i ardaloedd fel Casnewydd a Sir Fynwy ac, yn wir, y de-ddwyrain i gyd. Gadewch i ni fod yn eglur, nid yw hyn yn ymwneud â thorri cyllid. Mae'n golygu tynnu cefnogaeth yn ei hôl yn fwriadol oddi wrth o bartneriaeth economaidd uchelgeisiol. Trefnydd, mae'r newyddion hyn yn golled enfawr i'm rhanbarth i'n gyfan ac rwy'n gwybod y bydden nhw'n gwerthfawrogi datganiad ar hyn. Diolch.
Diolch, Laura Anne Jones. I will refer this to the Cabinet Secretary to ensure that you get an appropriate update.
Diolch, Laura Anne Jones. Fe fyddaf i'n cyfeirio hyn at yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau eich bod chi'n cael diweddariad priodol.
Can I firstly put on the record, if I may, my sadness at the passing of Mike Peters, the lead singer of The Alarm, who, sadly, passed away today after a three-decade battle with cancer? And my thoughts and prayers go out to his wife Jules, his two children and his wider family at this difficult time.
I'd like to call for a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care on the steps being taken to improve the quality and regulation of care in residential homes, with a particular focus on dementia awareness, staff training and language proficiency amongst staff and management. Recent evaluations have highlighted areas of concern. Care Inspectorate Wales's national review of care homes for people living with dementia found that, while many staff are warm and respectful, dementia training does not always translate into the best practices in care delivery. Moreover, there is a pressing need for better information about Welsh-speaking staff in care homes and an increase in the number of staff proficient in Welsh, and not only Welsh but staff also must be proficient in English, which isn't always the case. Ensuring that our most vulnerable citizens can receive the high-quality care and can communicate with care workers is paramount. Interim findings from the dementia action plan 2018-22 evaluation indicate that, whilst some progress has been made, challenges remain in the consistent implementation of person-centred care across all regions. So, can the Welsh Government provide a full statement, outlining the measures being implemented to enhance dementia awareness and training amongst care home staff, strategies to ensure all staff are proficient in English and increasing proficiency in Welsh, and plans to monitor and evaluate the effectiveness of these initiatives in improving care quality? Thank you.
A gaf i roi ar y cofnod yn gyntaf i gyd, gyda'ch caniatâd chi, pa mor drist yr oeddwn i o glywed am farwolaeth Mike Peters, prif ganwr The Alarm, a fu farw heddiw, yn anffodus, wedi brwydr gyda chanser am dri degawd? Ac mae ei wraig Jules, ei ddau blentyn, a'i deulu yn fwy eang yn fy meddyliau a'm gweddïau yn y cyfnod anodd hwn.
Fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y camau sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd a rheoleiddio'r gofal mewn cartrefi preswyl, gyda chanolbwyntio arbennig penodol ar ymwybyddiaeth o ddementia, hyfforddiant staff a hyfedredd iaith ymhlith staff a rheolwyr. Mae gwerthusiadau diweddar wedi tynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder. Roedd adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru o gartrefi gofal ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia yn canfod, er bod llawer o staff yn gynnes ac yn barchus, nad yw hyfforddiant dementia bob amser yn trosi i ymarfer gorau o ran y ddarpariaeth o ofal. Ar ben hynny, mae angen gwell gwybodaeth ynglŷn â staff sy'n medru'r Gymraeg mewn cartrefi gofal a gweld cynnydd yn nifer y staff sy'n gallu siarad Cymraeg yn iawn, ac nid yn unig y Gymraeg ond mae'n rhaid i staff allu siarad Saesneg yn iawn hefyd, ac nid yw hynny'n wir ym mhob achos. Mae sicrhau bod ein dinasyddion ni sy'n fwyaf agored i niwed yn gallu cael gofal o ansawdd uchel ac yn gallu cyfathrebu â gweithwyr gofal yn hollbwysig. Mae canfyddiadau interim y gwerthusiad cynllun gweithredu ar gyfer dementia 2018-22 yn nodi, er bod rhywfaint o gynnydd wedi digwydd, mae'r heriau yn aros o ran rhoi gofal ar waith sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda chysondeb ar draws pob rhanbarth. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu datganiad llawn, yn amlinellu'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i godi ymwybyddiaeth a gwella hyfforddiant dementia ymhlith staff cartrefi gofal, a'r strategaethau sy'n bodoli ar gyfer sicrhau bod y staff i gyd ym medru siarad Saesneg ac yn cynyddu hyfedredd yn y Gymraeg, yn ogystal â'r cynlluniau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y mentrau hyn o ran gwella ansawdd gofal? Diolch i chi.
Thank you for that question, Gareth Davies. Of course, the Minister for Children and Social Care will have heard that question as well. I think we can be very clear about the standards that we expect in the provision of care in our care homes, which, in terms of inspection and legislation, regulations, are very clear. But it is important that you mention this in the context of dementia awareness and the dementia action plan. So, I think that is the point where we would want to look at the expectations and also the developments and implementation of recommendations from that plan.
Diolch i chi am y cwestiwn yna, Gareth Davies. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi clywed y cwestiwn hwnnw hefyd. Rwy'n credu y gallwn ni fod yn eglur iawn o ran y safonau yr ydym ni'n eu disgwyl yn y ddarpariaeth o ofal yn ein cartrefi gofal ni , sydd, o ran arolygiaeth a deddfwriaeth, rheoliadau, yn eglur iawn. Ond mae hi'n bwysig eich bod chi wedi sôn am hyn yng nghyd-destun ymwybyddiaeth o ddementia a'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Felly, rwyf i o'r farn mai honno fyddai'r fan y byddem ni'n dymuno ystyried y disgwyliadau a'r datblygiadau a gweithredu'r argymhellion o'r cynllun hwnnw hefyd.
Diolch i'r Trefnydd.
I thank the Trefnydd.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig). Y Prif Weinidog, felly, i wneud y datganiad yma—Eluned Morgan.
The next item will be a statement by the First Minister on the Steel Industry (Special Measures) Bill. I call on the First Minister to make the statement—Eluned Morgan.

The UK Government introduced the Steel Industry (Special Measures) Bill following a recall of Parliament on Saturday 12 April. This was in response to the deepening concerns over the future of British Steel in Scunthorpe. Jingye, the Chinese owners of British Steel, had stopped orders for raw materials to the steelworks, without which the two blast furnaces would have had to be shut down, which would have ended primary steel making at the site. The Bill allows the Secretary of State for Business and Trade to direct the company and keep staff employed. With the passing of the Bill, the UK Government has moved swiftly to secure deliveries of raw materials to keep the blast furnaces running, enabling the steelworks to remain operational. The Bill allows the UK Government the additional time to further consider the options available to secure the future of British Steel. Global events mean that, now more than ever, we must do all we can to protect our steel industry, to guarantee the availability of steel to meet our domestic needs and to continue to provide good-quality jobs for steel communities.
The situation with Tata Steel was very different not only in terms of the global context, but also because of the relationship and intention of Tata Steel. Tata had a plan for transitioning the company to more sustainable steel making while moving to lower carbon steel production, and sought financial support from the UK Government to help enable that transition. Now, the Welsh Government wasn't party to the negotiations between Tata and the previous UK Government, despite our repeated requests to be involved in the discussions. But the deal secured in Wales was a deal not just for the here and now, but also for the future of steel. The current UK Government was able to negotiate a better deal for the Tata Steel plant in Port Talbot than the plan that had been announced in September 2023. And it may not have been the deal that we would have wished for, but, given the parameters and the time pressures to secure the build of the new electric arc furnace, it was an improved deal to keep steel making here in Wales.
Cafodd Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU yn dilyn adalw'r Senedd ar ddydd Sadwrn 12 o fis Ebrill. Roedd hynny mewn ymateb i'r pryderon cynyddol ynglŷn â dyfodol British Steel yn Scunthorpe. Roedd Jingye, perchnogion Tsieineaidd British Steel, wedi atal archebion am ddeunyddiau crai i'r gwaith dur, y byddai hi'n rhaid cau'r ddwy ffwrnais chwyth hebddyn nhw, ac a fyddai wedi dod â chynhyrchiant dur sylfaenol i ben ar y safle. Mae'r Bil yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach gyfarwyddo'r cwmni a chadw staff yn gyflogedig. Gyda phasio'r Bil, mae Llywodraeth y DU wedi symud yn gyflym i sicrhau danfoniad o ddeunyddiau crai i gadw'r ffwrneisi chwyth i fynd, a fydd yn caniatáu i'r gwaith dur ddal ati i weithio. Mae'r Bil yn caniatáu amser ychwanegol i Lywodraeth y DU ystyried y dewisiadau sydd ar gael ymhellach ar gyfer sicrhau dyfodol British Steel. Mae digwyddiadau byd-eang yn golygu, nawr yn fwy nag erioed, bod rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn ein diwydiant dur, a gwarantu argaeledd dur i ddiwallu ein hanghenion domestig a pharhau i ddarparu swyddi o ansawdd da i gymunedau dur.
Roedd y sefyllfa gyda Tata Steel yn un wahanol iawn nid yn unig o ran y cyd-destun byd-eang, ond oherwydd y berthynas gyda Tata Steel a bwriad y cwmni hefyd. Roedd gan Tata gynllun ar gyfer pontio i gynhyrchiant dur mwy cynaliadwy wrth symud at gynhyrchu dur carbon is, ac fe ofynnodd am gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU i helpu i ganiatáu'r pontio hwnnw. Nawr, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r trafodaethau rhwng Tata a Llywodraeth flaenorol y DU, er gwaethaf ein ceisiadau mynych i fod â rhan yn y trafodaethau. Ond roedd y cytundeb a sicrhawyd yng Nghymru yn gytundeb nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer dyfodol dur hefyd. Fe lwyddodd Llywodraeth bresennol y DU i drafod cytundeb gwell ar gyfer gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot na'r cynllun a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023. Efallai nad honno a fyddai'r fargen y byddem ni wedi dymuno ei gweld, ond, o ystyried y paramedrau a'r pwysau o ran amser i sicrhau adeiladu'r ffwrnais arc drydan newydd, roedd yn gytundeb gwell a fyddai'n cadw cynhyrchiant dur yma yng Nghymru.
Mae rhai wedi dadlau y gallai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig fod wedi cadw un ffwrnais i fynd yn hirach drwy berswadio Tata i ailagor y cytundeb yr oedd wedi’i wneud â’r Llywodraeth Geidwadol, ond fyddai hynny byth wedi bod yn bosibl gan fod Tata, o'r cychwyn cyntaf, wedi ei gwneud hi'n glir mai'r unig ddewis ymarferol oedd eu cynllun nhw a dim ond eu cynllun nhw. Mae eraill wedi dweud pe na bai Tata yn barod i aildrafod y cytundeb, yna dylai'r Llywodraeth Lafur newydd fod wedi deddfu a chymryd rheolaeth o weithfeydd Port Talbot, fel y mae wedi gwneud yn Scunthorpe. Ond byddai hynny wedi bod yn afrealistig ac yn anymarferol gan fod Tata mor wrthwynebus. Byddai wedi golygu achos cyfreithiol hir yn erbyn y cwmni a byddai'r ffwrnais oedd yn dal i weithio o bosibl wedi cael ei chau yn gynt, a byddai Tata wedi tynnu eu cyfraniad o £700 miliwn i adeiladu’r ffwrnais arc drydan yn ôl.
Drwy gydol y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad agos â'r undebau, a bydd yn dal i weithio gyda nhw i ddod o hyd i'r ateb gorau posibl i'r gweithwyr, busnesau lleol a chymunedau lleol. Mae rheolwyr Tata wedi sicrhau y bydd y gwaith o adeiladu'r ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot yn dechrau yr haf hwn, ac mae’n dda gweld bod contractau eisoes wedi cael eu llofnodi gyda thri chwmni o dde Cymru, a fydd yn diogelu 300 o swyddi crefftus i helpu’r newid yn Tata. Pan fydd y gwaith adeiladu hwnnw'n dechrau, bydd y broses o gyflawni dur gwyrdd ym Mhort Talbot yn dechrau troi’n realiti, a bydd yn gam adeiladol tuag at ddyfodol cynaliadwy a mwy disglair i Tata a safleoedd sy’n dibynnu arno ledled Cymru.
Dur yw’r sbardun i newid llawer mwy yng Nghymru. Mae gyda ni weledigaeth holistig ar gyfer trawsnewid rhanbarth de Cymru trwy seilwaith a buddsoddiad newydd. Mae hon yn weledigaeth sydd â chefnogaeth eang ein rhanddeiliaid ar gyfer trawsnewid y rhanbarth. Ond mae angen gweithio ar y cyd, gyda chefnogaeth Llywodraeth San Steffan. Y gobaith yw gweld hynny’n digwydd trwy waith parhaus ar strategaeth ddiwydiannol y Deyrnas Unedig.
Rŷn ni’n cydnabod bod y trawsnewid hwn yn cael effaith enfawr, bod y gweithwyr dur a’u teuluoedd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn, a bod yr effaith ar gontractwyr hefyd wedi bod yn fawr. Rŷn ni’n deall hefyd fod yna rai sy’n teimlo y dylai’r un mesurau fod wedi cael eu rhoi ar waith ym Mhort Talbot ag y cafodd eu rhoi ar waith yn Scunthorpe, ond, am y rhesymau dwi eisoes wedi esbonio, mae sefyllfa’r ddau le yn wahanol.
Some have argued that the incoming UK Labour Government could have prolonged the operations of the remaining blast furnace by persuading Tata to re-open the deal it had done with the previous Conservative administration, but this was never a credible possibility as Tata had made it clear from the outset that their plan and only their plan was the only viable option. Others have said that in the event of Tata refusing to reopen the deal, then the incoming UK Labour Government should have legislated to take control of the Port Talbot plant, as has been done in Scunthorpe. But that would have been unrealistic and unworkable because of the opposition from Tata. It would have led to prolonged legal conflict with the company, to the possible accelerated shutdown of the remaining blast furnace, and Tata could have withdrawn its contribution of £700 million to the construction of the electric arc furnace.
Throughout this period, the Welsh Government has remained in close contact with unions and will continue to work with them to ensure the best possible solution for workers, for local businesses and for local communities. Management at Tata have assured me that the construction of the electric arc furnace at Port Talbot will start in earnest this summer, and it's good to see that contracts have already been signed with three south Wales companies which will secure 300 skilled jobs to help with the Tata transition. And when that construction work begins, the delivery of green steel making at Port Talbot will start to become a reality, and will be a constructive step towards a sustainable and brighter future for Tata and its downstream sites across Wales.
Steel is the enabler for a much wider transition in Wales. We have a strong holistic vision of the transition of the south Wales region based on new infrastructure and investment. This is a vision that has broad stakeholder support for transformation of the region. However, we need to work collaboratively, with the support of the UK Government, and we hope to see that work progressing through continued work on the UK industrial strategy.
We recognise that this transition and transformation is having a significant impact, that the steelworkers and their families have been through a very difficult time, and that the impact on contractors has also been profound. We also understand that there are some who feel that Port Talbot should have been subject to the same measures as have been implemented in relation to Scunthorpe, but, for the reasons already outlined in my statement, the two situations are not comparable.
Now, through the continued work of all the partners on the Tata transition board, we're providing advice and support to those affected, and we will continue to do so. The board has brought all our collective support mechanisms together, including those provided by local community groups, to provide a holistic approach to helping those workers, their families and the wider communities impacted by Tata's transition. A webpage is available on the Neath Port Talbot council website, providing access to the support available, and the community hub located in Aberafan shopping centre provides support and a guidance drop-in centre for the community.
My colleague the Cabinet Secretary for economy has a seat on the UK Steel Council, which is overseeing work to develop the steel strategy, and we expect to see that published in the coming months. The UK Government's steel strategy is an important piece of work, investigating the policy issues our domestic steel sector continues to face as well as researching the best opportunities for capital investment.
The national wealth fund provides £2.5 billion of capital investment for the steel sector. The parliamentary debate on the Bill confirmed this is an addition to the £500 million going to Port Talbot, and will offer further opportunities for investment and innovation in the industry in Wales. It is absolutely critical that Welsh-based steel companies benefit from this fund through capital investments and through policy developments that can further secure the future of the industry and create meaningful jobs.
The Cabinet Secretary for economy has written to Jonathan Reynolds, the Secretary of State for Business and Trade, asking him to confirm a shared position and commitment to the whole of the steel sector in the UK and specifically to sites in Wales. But many of the critical issues facing the sector are not solely about capital investment. Crucially, the sector wants to see a truly competitive electricity pricing structure, greater leverage for using UK steel through public procurement, and robust trade remedies. We are going to work closely with all our partners to push for this support through the steel strategy.
We will continue to work closely with the UK Government to ensure that Wales gets its full share of investment and policy support so that the Welsh steel industry can thrive for the long term and our communities can recover and face a more certain and successful future.
Nawr, trwy waith parhaus y partneriaid i gyd sydd ar fwrdd pontio Tata, rydym ni'n darparu cyngor a chefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Mae'r bwrdd wedi dod â'n mecanweithiau cymorth ar y cyd i gyd at ei gilydd, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu darparu gan grwpiau cymunedol lleol, i ddarparu dull cyfannol o helpu'r gweithwyr hynny, eu teuluoedd nhw a'r cymunedau yr effeithir arnyn nhw'n fwy eang oherwydd pontio Tata. Mae tudalen we ar gael ar wefan cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n cynnig mynediad at y cymorth sydd ar gael, ac mae'r ganolfan gymunedol yng nghanolfan siopa Aberafan yn darparu cymorth a chanolfan galw heibio ar gyfer rhoi arweiniad i'r gymuned.
Mae gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, sedd ar Gyngor Dur y DU, sy'n goruchwylio'r gwaith i ddatblygu'r strategaeth ddur, ac rydym ni'n disgwyl gweld honno'n cael ei chyhoeddi yn y misoedd nesaf. Mae strategaeth ddur Llywodraeth y DU yn ddarn pwysig o waith, sy'n ymchwilio i'r materion o ran polisi y mae ein sector dur domestig ni'n eu hwynebu trwy'r amser yn ogystal ag ymchwilio i'r cyfleoedd gorau ar gyfer buddsoddi cyfalaf.
Mae'r gronfa gyfoeth genedlaethol yn darparu £2.5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer y sector dur. Roedd cadarnhad yn y ddadl seneddol ar y Bil mai ychwanegiad yw hwn at y £500 miliwn sy'n mynd i Bort Talbot, ac fe fydd yn cynnig cyfleoedd pellach ar gyfer buddsoddi ac arloesi yn y diwydiant yng Nghymru. Mae hi'n gwbl hanfodol fod cwmnïau dur yng Nghymru yn elwa ar y gronfa hon trwy gyfrwng buddsoddiadau cyfalaf a datblygiadau polisi a fydd yn gallu sicrhau dyfodol y diwydiant eto a chreu swyddi sy'n rhai ystyrlon.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi ysgrifennu at Jonathan Reynolds, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, yn gofyn iddo ef gadarnhau'r safbwynt cyffredin a'r ymrwymiad i'r sector dur cyfan yn y DU ac i safleoedd yng Nghymru yn benodol. Ond nid yw llawer o'r materion allweddol sy'n wynebu'r sector yn ymwneud yn unig â buddsoddiad cyfalaf. Yn allweddol, mae'r sector yn awyddus i weld strwythur prisio trydan sy'n wirioneddol gystadleuol, rhagor o ysgogiadau ar gyfer defnyddio dur o'r DU trwy gaffael cyhoeddus, a gwelliannau cadarn i fasnach. Fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda'n partneriaid i gyd ar gyfer gwthio am y gefnogaeth hon trwy gyfrwng y strategaeth ddur.
Fe fyddwn ni'n dal i weithio yn glòs gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn derbyn ei chyfran lawn o fuddsoddiad a chymorth polisi fel gall diwydiant dur Cymru ffynnu i'r hirdymor ac y gall ein cymunedau gael adferiad ac wynebu dyfodol sy'n fwy sicr a llwyddiannus.
Thank you, First Minister, for your statement. Obviously, I requested a recall of the Senedd so that we could have the opportunity to discuss this issue much sooner than today, but here we are, two weeks and a half later, and we're finally getting the statement through.
And I think the first thing that many people are very upset about is, obviously, the very different approach that's being taken to protecting the steel industry in Wales versus the steel industry in England by the Labour Government. Can I ask you, First Minister, were you consulted as a Welsh Government on the UK Government's approach to the steel industry being different in England versus the approach that has been taken here in Wales, and when you actually became aware of the different approach that was going to be taken in respect of Scunthorpe? I think those are important questions that people want to know the answers to. Do you support the UK Government's approach that it's taking in Scunthorpe and, if so, why do you support the approach being different there to the approach that's been taken in respect of Tata? Because people are upset, understandably, and furious about the fact that it seems to be a completely different attitude towards Welsh steel when compared to the steel industry in England.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad. Yn amlwg, fe ofynnais i am adalw'r Senedd er mwyn gallu cael cyfle i drafod y mater hwn yn gynt o lawer na heddiw, ond dyma ni, bythefnos a hanner yn ddiweddarach, ac rydym ni'n cael y datganiad drwodd o'r diwedd.
Ac rwy'n credu mai'r peth cyntaf y mae llawer o bobl yn flin iawn yn ei gylch, yn amlwg, yw'r dull gwahanol iawn sy'n cael ei fabwysiadu o ran amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru o'i gymharu â dull y Llywodraeth Lafur o amddiffyn y diwydiant dur yn Lloegr. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, a gafwyd unrhyw ymgynghoriad â chi yn Llywodraeth Cymru ar ddull gwahanol Llywodraeth y DU o ran y diwydiant dur yn Lloegr o'i gymharu â'r dull a fabwysiadwyd yma yng Nghymru, a phryd y daethoch chi'n ymwybodol o'r dull gwahanol a fyddai'n cael ei fabwysiadu ar gyfer Scunthorpe? Rwy'n credu bod y rhain yn gwestiynau pwysig y mae pobl yn awyddus i wybod yr atebion iddyn nhw. A ydych chi'n cefnogi'r dull y mae Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu yn Scunthorpe ac, os felly, pam ydych chi'n cefnogi dull sy'n wahanol i'r dull a fabwysiadwyd ar gyfer Tata? Oherwydd mae pobl yn ofidus, a hynny'n ddealladwy, ac yn grac oherwydd y ffaith ei bod hi'n ymddangos bod agwedd hollol wahanol tuag at ddur Cymru o'i gymharu â'r diwydiant dur yn Lloegr.
Many Labour Ministers have obviously begun to notice that the steel industry, in order to produce virgin steel, needs a lot of coal. [Interruption.] Wales is blessed—[Interruption.] Wales is blessed still to have quite a lot of coal in reserves, so can you tell us whether, given that we're reliant on coal still at the moment to produce virgin steel in the United Kingdom, the Welsh Government will take a different approach to the coal industry here in Wales and change your policy, which currently prevents coal from being taken out of the ground here in Wales for use in the steel industry, and instead supports coal being extracted in dirty mines with appalling environmental conditions elsewhere around the world and shipped into the United Kingdom in order to support virgin steel production? Because let me be clear: you cannot cheer for steel and sneer at coal in the same breath. It is impossible to do that, because coal is needed in terms of being able to produce the virgin steel that we need. So, will you review your planning policies to make sure that we can take the opportunity to revive our coal industry here in Wales in order to make sure that there is a clean and environmentally sound policy, going forward, on coal?
In terms of the situation at Port Talbot, I know you keep—[Interruption.] I know you keep turning your nose up at the deal that was arranged by the previous UK Conservative Government, exactly the same deal that had been implemented by the new UK Government—£500 million available to invest in order to turn that Tata Steel facility into one which produces environmentally sound steel from recycled steel products through the electric arc processes. The same number of jobs are being protected as was the case under the previous Conservative Government, and the same number of jobs, unfortunately, are being lost. Why is it that you continue to sneer at that previous deal from the UK Conservative Government when, actually, it's the same one that's been implemented by your current UK Labour Government? And let's not forget it's very different to the approach that was promised in advance of the last general election where, frankly, Labour MPs were promising the earth to people who were working at Tata, telling them that there would be billions of pounds more invested in their plant in order to save their jobs, complete works of fiction, which, of course—. A massive u-turn as soon as the Government was elected.
Now, you've rightly made reference to the national wealth fund that we have and the £2.5 billion that has been set aside for steel across the United Kingdom. You've said that you want to see some of that spent here in Wales. There was talk, of course—there was a pledge, in fact, given by Jo Stevens, saying—that there would be a direct reduced iron plant at Port Talbot in advance of the last general election. We're yet to see any developments on that front. Is that a project that you want to see this £2.5 billion invested in? Is that what you are proposing as a Government? I can't see any strategy other than warm words in terms of trying to make sure that we're taking advantage of the resources that are available, because I fear that what will happen, because we have a weak policy on steel here in Wales under your leadership in the Welsh Government, is that that £2.5 billion will go elsewhere and we won't see a penny more than the £500 million that was arranged by the previous UK Conservative Government, because of the weak strategy, the lack of policies, the lack of attention that you've given to this particular issue.
So, we want to know what additional support is going to be provided to Port Talbot as a result of the UK Government's announcement. I want to know what proportion of that £2.5 billion is going to come back to Wales, and I want to know what you're going to do to revive our coal industry here, to make sure that they can play a part in making sure that we have environmentally sound production of steel—virgin steel—here in the United Kingdom. Thank you.
Mae llawer o Weinidogion Llafur yn amlwg wedi dechrau sylwi bod angen llawer o lo ar y diwydiant dur er mwyn cynhyrchu dur crai. [Ymyriad.] Mae Cymru'n ffodus—[Ymyriad.] Mae Cymru'n dal yn ffodus bod ganddi lawer o lo mewn cronfeydd wrth gefn, felly a allwch chi ddweud wrthyn ni a fydd Llywodraeth Cymru, o ystyried ein bod ni'n dibynnu ar lo o hyd ar hyn o bryd i gynhyrchu dur crai yn y Deyrnas Unedig, yn cymryd agwedd wahanol tuag at y diwydiant glo yma yng Nghymru ac yn newid eich polisi, sydd ar hyn o bryd yn atal glo rhag cael ei gloddio o'r ddaear yma yng Nghymru i'w ddefnyddio yn y diwydiant dur, ac yn hytrach yn cefnogi glo yn cael ei gloddio mewn pyllau glo budr gydag amodau amgylcheddol ofnadwy, mewn mannau eraill ledled y byd, a'i gludo i'r Deyrnas Unedig er mwyn cefnogi cynhyrchu dur crai? Oherwydd gadewch i mi fod yn glir: allwch chi ddim cymeradwyo dur a gwawdio glo ar yr un pryd. Mae'n amhosibl gwneud hynny, oherwydd mae angen glo i allu cynhyrchu'r dur crai sydd ei angen arnon ni. Felly, a wnewch chi edrych eto ar eich polisïau cynllunio i wneud yn siŵr y gallwn ni fanteisio ar y cyfle i adfywio ein diwydiant glo yma yng Nghymru er mwyn sicrhau bod polisi glân ac amgylcheddol gadarn o ran glo wrth symud ymlaen?
O ran y sefyllfa ym Mhort Talbot, rwy'n gwybod eich bod chi'n dal—[Ymyriad.] Rwy'n gwybod eich bod chi'n dal i droi eich trwyn ar y cytundeb a gafodd ei drefnu gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, yr union gytundeb y gwnaeth Llywodraeth newydd y DU ei roi ar waith—£500 miliwn ar gael i'w fuddsoddi er mwyn troi'r cyfleuster Tata Steel hwnnw yn un sy'n cynhyrchu dur amgylcheddol gadarn o gynhyrchion dur wedi'u hailgylchu drwy'r prosesau arc trydan. Mae'r un nifer o swyddi yn cael eu diogelu ag yr oedd yn wir o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, ac mae'r un nifer o swyddi, yn anffodus, yn cael eu colli. Pam felly eich bod chi'n parhau i wawdio'r cytundeb blaenorol hwnnw gan Lywodraeth Geidwadol y DU pan, mewn gwirionedd, yr un un ydyw a'r cytundeb sydd wedi'i weithredu gan eich Llywodraeth Lafur bresennol y DU? A gadewch i ni beidio ag anghofio ei fod yn wahanol iawn i'r dull a gafodd ei addo cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf lle, a bod yn onest, roedd Aelodau Seneddol Llafur yn addo'r ddaear i bobl a oedd yn gweithio yn Tata, gan ddweud wrthyn nhw y byddai biliynau o bunnoedd yn fwy o fuddsoddi yn eu safle er mwyn achub eu swyddi, ffuglen lwyr, sydd, wrth gwrs—. Tro pedol enfawr cyn gynted ag y cafodd y Llywodraeth ei hethol.
Nawr, yn ddigon teg, rydych chi wedi cyfeirio at y gronfa gyfoeth wladol sydd gennym ni a'r £2.5 biliwn sydd wedi'i neilltuo ar gyfer dur ledled y Deyrnas Unedig. Rydych chi wedi dweud eich bod chi eisiau gweld rhywfaint o hynny'n cael ei wario yma yng Nghymru. Roedd sôn, wrth gwrs—roedd addewid, mewn gwirionedd, gan Jo Stevens, yn dweud—y byddai ffatri haearn gostyngol uniongyrchol ym Mhort Talbot cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rydyn ni eto i weld unrhyw ddatblygiadau o ran hynny. A yw hwnnw'n brosiect yr ydych chi eisiau gweld y £2.5 biliwn hwn yn cael ei fuddsoddi ynddo? Ai dyna'r hyn yr ydych chi'n ei gynnig fel Llywodraeth? Ni allaf weld unrhyw strategaeth heblaw am eiriau teg o ran ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael, oherwydd rwy'n ofni mai'r hyn fydd yn digwydd, oherwydd bod gennym ni bolisi gwan ar ddur yma yng Nghymru o dan eich arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru, yw y bydd y £2.5 biliwn hwnnw'n mynd i rywle arall ac ni fyddwn ni'n gweld ceiniog yn fwy na'r £500 miliwn a gafodd ei drefnu gan Lywodraeth Geidwadol blaenorol y DU, oherwydd y strategaeth wan, y diffyg polisïau, y diffyg sylw yr ydych chi wedi'i roi i'r mater penodol hwn.
Felly, rydyn ni eisiau gwybod pa gymorth ychwanegol fydd yn cael ei ddarparu i Bort Talbot o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU. Rwyf eisiau gwybod pa gyfran o'r £2.5 biliwn hwnnw sy'n mynd i ddod yn ôl i Gymru, ac rwyf eisiau gwybod yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud i adfywio ein diwydiant glo yma, i wneud yn siŵr y gallan nhw chwarae rhan wrth sicrhau bod gennym ni gynhyrchiad amgylcheddol gadarn o ddur—dur crai—yma yn y Deyrnas Unedig. Diolch.

I can't believe I'm getting lectures from the Tories, who had all the opportunities to step in, to do something constructive—
Ni allaf gredu fy mod i'n cael darlithoedd gan y Torïaid, a gafodd yr holl gyfleoedd i gamu i mewn, i wneud rhywbeth adeiladol—
They did.
Fe wnaethon nhw.

—and didn't. They didn't. They wouldn't even pick up the phone to the First Minister when he asked for a call. They wouldn't even pick up the phone. I think it's really important to note that.
We, on the other hand, as a Welsh Government, our powers in this area—. These are big decisions; we do have to work with the UK Government to do that. But I certainly flew out to Mumbai to speak to the people in Tata, to see what might be possible. The timing was not great. That is the truth of it: the timing was not great. One blast furnace was shut on the day of the elections. The coke ovens had also closed down. The geography of the site means that it's very difficult to keep a blast furnace open at the same time as developing an electric arc furnace.
And you talk about the need to address the issue around coal. Listen, I am concerned not just about steel, but I'm also concerned about the climate emergency that is upon us. And the point with an electric arc furnace is that we're going to see a 90 per cent reduction in carbon dioxide emissions. That is not an insignificant amount. And 75 per cent of the raw materials needed for the EAF will come from UK sources. So, that is something that I think is positive.
I am very keen to see a significant ring fence for Wales from that £2.5 billion steel fund, and I have pressed again today the Secretary of State to give us the assurance on that, as has the economic Secretary.
—ac ni wnaethon nhw. Ni wnaethon nhw. Nid oedden nhw'n fodlon hyd yn oed codi'r ffôn i'r Prif Weinidog pan ofynnodd am alwad. Nid oedden nhw hyd yn oed yn fodlon codi'r ffôn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi hynny.
Rydyn ni, ar y llaw arall, fel Llywodraeth Cymru, mae ein pwerau yn y maes hwn—. Mae'r rhain yn benderfyniadau mawr; mae'n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud hynny. Ond yn sicr fe wnes i hedfan allan i Mumbai i siarad â'r bobl yn Tata, i weld beth allai fod yn bosibl. Doedd yr amseru ddim yn wych. Dyna'r gwir amdani: doedd yr amseru ddim yn wych. Cafodd un ffwrnais chwyth ei chau ar ddiwrnod yr etholiadau. Roedd y ffyrnau golosg hefyd wedi cau. Mae daearyddiaeth y safle yn golygu ei bod hi'n anodd iawn cadw ffwrnais chwyth ar agor ar yr un pryd â datblygu ffwrnais arc drydan.
Ac rydych chi'n sôn am yr angen i ymdrin â'r mater sy'n ymwneud â glo. Gwrandewch, rwy'n poeni nid yn unig am ddur, ond rydw i hefyd yn pryderu am yr argyfwng hinsawdd sydd ar ein pennau. A'r pwynt gyda ffwrnais arc drydan yw ein bod ni'n mynd i weld gostyngiad o 90 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid. Nid yw hynny'n swm dibwys. A bydd 75 y cant o'r deunyddiau crai sydd eu hangen ar gyfer yr ffwrnais arc drydan yn dod o ffynonellau'r DU. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n gadarnhaol, rwy'n credu.
Rwyf i'n awyddus iawn i weld rhan sylweddol o'r gronfa ddur £2.5 biliwn honno yn cael ei chlustnodi ar gyfer Cymru, ac rwyf wedi pwyso eto heddiw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i roi'r sicrwydd i ni ar hynny, fel y mae Ysgrifennydd yr economi.
Now, ingrained in the heartlands of heavy industry in Wales are the stories of workers forgotten by Westminster. We became accustomed and programmed to expect it from Conservative Governments whose ambivalence towards Wales and their neglect of its workers contributed to the very existence of the institution that we stand in today. But what has become of a Labour Party unwilling to stand up for workers, or, to be precise, what's become of a Labour Party whose instincts to respond depend on the postcodes? Now, without hesitation, I say that the UK Labour Government did absolutely the right thing to step in to save those jobs at Scunthorpe, to protect a strategic interest and the livelihoods of 2,700 workers, remarkably similar to the total job losses at Port Talbot. But, Llywydd, the First Minister mocked Plaid Cymru for suggesting and pushing for everything to be on the table, including nationalisation, in order to protect blast furnace virgin steelmaking at Port Talbot. 'A pipe dream' she called it, patronisingly, which has become something of a trademark for this First Minister. But, of course, when the proposal is made in another Parliament for another steelworks in another nation, then she is more than happy to applaud that. It is blatant double standards at Wales's expense.
Nawr, wedi'u gwreiddio yng nghanolfannau’r diwydiant trwm yng Nghymru mae straeon gweithwyr y gwnaeth San Steffan anghofio amdanyn nhw. Fe wnaethon ni ddod i arfer â hynny gan gael ein rhaglennu i'w ddisgwyl gan Lywodraethau Ceidwadol y mae eu hamwysedd tuag at Gymru a'u hesgeulustod o'i gweithwyr wedi cyfrannu at fodolaeth y sefydliad yr ydyn ni'n sefyll ynddo heddiw. Ond beth sydd wedi digwydd i Blaid Lafur nad yw'n fodlon sefyll dros weithwyr, neu, i fod yn fanwl gywir, beth sydd wedi digwydd i Blaid Lafur y mae ei greddfau i ymateb yn dibynnu ar y codau post? Nawr, heb betruso, rwy'n dweud bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud y peth iawn i gamu i mewn i achub y swyddi hynny yn Scunthorpe, i amddiffyn buddiant strategol a bywoliaeth 2,700 o weithwyr, yn hynod debyg i gyfanswm y swyddi a gafodd eu colli ym Mhort Talbot. Ond, Llywydd, gwawdiodd y Prif Weinidog Blaid Cymru am awgrymu y dylai popeth fod ar y bwrdd ac am wthio amdano, gan gynnwys gwladoli, er mwyn diogelu gwneud dur crai o ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot. Fe alwodd hi hynny'n 'freuddwyd gwrach', yn nawddoglyd, sydd wedi dod yn rhyw fath o nodwedd arbennig i'r Prif Weinidog hwn. Ond, wrth gwrs, pan fydd y cynnig yn cael ei wneud mewn Senedd arall ar gyfer gwaith dur arall mewn gwlad arall, yna mae hi'n fwy na pharod i gymeradwyo hynny. Mae'n safonau dwbl amlwg ar draul Cymru.
Unwaith eto, mae safonau dwbl a diffyg gweithredu Llafur wedi gadael Cymru ar ei cholled, ac mae'r ffeithiau'n profi hynny. Fel y mae ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru yn dangos, does yna ddim gwybodaeth am faint o gyn-weithwyr Port Talbot sy'n ailsgilio; dim data ar gael mynediad at gefnogaeth; dim cofnod o i ble mae'r cyllid yn mynd. Does yna ddim syndod, felly, fod lleisiau'r trigolion lleol dwi wedi siarad â nhw ar strydoedd Port Talbot a'r cyffiniau dros yr wythnosau diwethaf yn llawn dicter a siom dwys yn y Llywodraethau Llafur yn fan hyn ac yn San Steffan. Does yna ddim syndod eu bod nhw'n gofyn rŵan: beth ydy pwrpas Llafur bellach? Pam mae gwerth gweithiwr ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn llai na gwerth gweithiwr yn Scunthorpe? Fel y dywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan:
Once again, double standards and the lack of action of the Labour Party have meant that Wales is losing out, and the facts prove that. Like the responses to freedom of information requests from Plaid Cymru demonstrate, there is no information about how many former Port Talbot workers are reskilling; no data on access to support; no record of where the funding is going. It's no surprise, therefore, that the voices of the local people that I've spoken to on the streets of Port Talbot and the surrounding area in the past few weeks are full of anger and intense disappointment in the Labour Governments both here and in Westminster. It's no surprise that they are now asking: what is the purpose of Labour now? Why is the value of a worker in Port Talbot considered to be less than the value of a worker in Scunthorpe? As Liz Saville-Roberts, the Plaid Cymru leader in Westminster, said:
'If this government can't explain how it's helping Port Talbot's laid-off workers to build a future through reskilling, why shouldn't those workers then come to the logical conclusion that Labour has abandoned them?'
'Os nad yw'r llywodraeth hon yn gallu esbonio sut mae'n helpu gweithwyr wedi'u diswyddo ym Mhort Talbot i ddatblygu dyfodol trwy ailsgilio, pam na ddylai'r gweithwyr hynny ddod i'r casgliad rhesymegol bod Llafur wedi troi ei chefn arnynt?'
Llywydd, it will take a long time to restore any respect Labour had amongst the communities. There are things we need in terms of action from UK Government. There has to be, on energy, a move to make sure that we are able to be in line with our European competitors. On the dumping of cheap steel from other countries, accelerating the removal of trade barriers with Europe makes economic common sense in the face of the US's protectionist policies. But we need to see a testing of the so-called partnership in power, don't we? Welsh Government has to be relentless now in pushing UK Government to ring-fence a significant amount of the £2.5 billion steel fund, specifically for future investment in Wales's steel industry.
Does the First Minister agree with me that, after this betrayal, we need cast-iron assurances that the UK Government's investment in Scunthorpe in no way compromises the promises made to Port Talbot? In fact, the least the UK Government should do now is begin to repair the damage by announcing a new and enhanced package of support in recognition of its two-tier approach to preserving virgin steel capacity.
Llywydd, bydd yn cymryd amser hir i adfer unrhyw barch a oedd gan Lafur ymhlith y cymunedau. Mae yna bethau sydd eu hangen arnon ni o ran gweithredu gan Lywodraeth y DU. O ran ynni, mae'n rhaid gweithredu i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyd-fynd â'n cystadleuwyr Ewropeaidd. O ran dympio dur rhad o wledydd eraill, mae cyflymu dileu rhwystrau masnach gydag Ewrop yn gwneud synnwyr cyffredin economaidd yn wyneb polisïau amddiffynnol yr Unol Daleithiau. Ond mae angen i ni weld prawf o'r bartneriaeth mewn grym honedig, onid oes? Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ddygn nawr wrth wthio Llywodraeth y DU i neilltuo swm sylweddol o'r gronfa ddur gwerth £2.5 biliwn, yn benodol ar gyfer buddsoddi yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, ar ôl y brad hwn, bod angen sicrwydd pendant arnon ni nad yw buddsoddiad Llywodraeth y DU yn Scunthorpe yn cyfaddawdu, mewn unrhyw ffordd, yr addewidion a gafodd eu gwneud i Bort Talbot? Mewn gwirionedd, y lleiaf y dylai Llywodraeth y DU ei wneud nawr yw dechrau atgyweirio'r difrod trwy gyhoeddi pecyn newydd a gwell o gefnogaeth i gydnabod ei dull dwy haen o gadw capasiti dur crai.

Well, thanks. I think there is a future for steel in Port Talbot and in Wales. The electric arc furnace provides that. We've had assurances, contracts have been signed. The situation was different in terms of the situation with Tata and in Scunthorpe. As I said, I think it was unrealistic to expect to step in at that point, because Tata would have taken on a legal case, and you take on a company like Tata—it is possible to do it, but people will not invest in your country after that. Just be absolutely clear about the implications of what that would look like. They would also have withdrawn the £700 million that they put on the table. I also think it's probably worth stating that the story in Scunthorpe is not over; we don't know what the end of this story will be. But what I can tell you is that we, as a Government, have been absolutely relentless in terms of our focus on this issue. Forty-two million pounds has already been spent with the transition board. You want some figures. There's been start-up support for 178 people; 65 people have registered interest with the resilience and growth fund; there have been over 1,500 people who have attended the centre at the Aberafan shopping centre, and, of those, 980 were individuals who were employed in Tata Steel. We've also as a Government set out the funding that we have through ReAct and Communities for Work, and we have £24 million for that pot of funding, and obviously some of that will be available to people in those areas.
Wel, diolch. Rwy'n credu bod dyfodol i ddur ym Mhort Talbot ac yng Nghymru. Mae'r ffwrnais arc drydan yn darparu hynny. Rydyn ni wedi cael sicrwydd, mae contractau wedi'u llofnodi. Roedd y sefyllfa yn wahanol o ran y sefyllfa gyda Tata ac yn Scunthorpe. Fel y dywedais i, rwy'n credu ei bod yn afrealistig disgwyl gallu camu i mewn ar y pwynt hwnnw, oherwydd byddai Tata wedi ymgymryd ag achos cyfreithiol, ac rydych chi'n herio cwmni fel Tata—mae'n bosibl gwneud hynny, ond ni fydd pobl yn buddsoddi yn eich gwlad ar ôl hynny. Byddwch yn hollol glir ynglŷn â goblygiadau sut fyddai hynny'n edrych. Bydden nhw hefyd wedi tynnu'r £700 miliwn nôl a gafodd ei roi ar y bwrdd. Rwy'n credu hefyd ei bod yn werth nodi nad yw'r stori yn Scunthorpe drosodd; nid ydyn ni'n gwybod beth fydd diwedd y stori hon. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn hollol ddi-ildio o ran ein ffocws ar y mater hwn. Mae £42 miliwn eisoes wedi'u gwario gyda'r bwrdd pontio. Rydych chi eisiau rhai ffigurau. Mae 178 o bobl wedi cael cefnogaeth i ddechrau busnes; mae 65 o bobl wedi cofrestru diddordeb gyda'r gronfa cydnerthedd a thwf; mae dros 1,500 o bobl wedi mynychu'r ganolfan yng nghanolfan siopa Aberafan, ac, o'r rheini, roedd 980 yn unigolion a oedd yn cael eu cyflogi yn Tata Steel. Rydyn ni hefyd fel Llywodraeth wedi nodi'r cyllid sydd gennym ni drwy ReAct a Cymunedau am Waith, ac mae gennym ni £24 miliwn ar gyfer y gronfa honno o gyllid, ac yn amlwg bydd rhywfaint o hynny ar gael i bobl yn yr ardaloedd hynny.
I very much welcome the statement by the First Minister. I speak as a former employee of the British Steel Corporation, as it then was. I agree with the First Minister that global events mean now, more than ever, we must do all we can to protect our steel industry, to guarantee the availability of steel to meet our domestic needs and to continue to provide good-quality jobs for steel communities.
This is not a battle between Port Talbot and Scunthorpe, even if some people are trying to make it such, but the opportunity to save the UK steel industry. An electric arc furnace can be turned on and off to meet demand, to deal with electricity costs or the shortage of raw materials. I would like to see us learning from European countries, such as Sweden, and also from Australia, on working to replace coke by hydrogen to produce iron in a blast furnace—rather than creating carbon dioxide, creating water vapour.
The cost of modernising iron and steel making needs Government control and financial support. It is too much for individual companies. Does the First Minister agree with me that the future of steel in Wales is via using hydrogen to produce iron by a publicly owned steel industry?
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Prif Weinidog. Rwy'n siarad fel cyn-weithiwr Corfforaeth Dur Prydain, fel yr oedd bryd hynny. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog bod digwyddiadau byd-eang yn golygu nawr, yn fwy nag erioed, bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein diwydiant dur, i warantu bod dur ar gael i ddiwallu ein hanghenion domestig ac i barhau i ddarparu swyddi o ansawdd da i gymunedau dur.
Nid brwydr rhwng Port Talbot a Scunthorpe yw hon, hyd yn oed os yw rhai pobl yn ceisio ei gwneud felly, ond y cyfle i achub diwydiant dur y DU. Mae'n bosibl cynnau a diffodd ffwrnais arc drydan i ateb y galw, i ymdrin â chostau trydan neu brinder deunyddiau crai. Hoffwn i ein gweld ni'n dysgu gan wledydd Ewrop, fel Sweden, a hefyd gan Awstralia, ar weithio i gyfnewid golosg â hydrogen i gynhyrchu haearn mewn ffwrnais chwyth—yn hytrach na chreu carbon deuocsid, creu anwedd dŵr.
Mae angen rheolaeth a chefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth ar y gost o foderneiddio gwneud haearn a dur. Mae'n ormod i gwmnïau unigol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai dyfodol dur yng Nghymru yw defnyddio hydrogen i gynhyrchu haearn gan ddiwydiant dur sy'n eiddo i'r cyhoedd?

Thanks very much. Look, I think there are opportunities that we need to explore, because there are real issues about how you switch on an electric arc furnace with the costs of energy as they are today, which is why one of the things that I've been pressing the UK Government on is to see whether anything can be done to reduce the costs of energy going to companies that are producing steel. There may be opportunities if we develop the offshore wind opportunities, which is why I spent part of the Easter break actually trying to lobby people to come and invest in our country to make sure that we have significant amounts of energy that can then, potentially, be turned into hydrogen. There are lots of opportunities here and, for me, the important thing is that we keep the focus on places like Port Talbot. There are big opportunities, there are lots of skills there, and there are lots of companies that have an interest in developing in those communities because of the significant skill sets that exist there.
Diolch yn fawr. Edrychwch, rwy'n credu bod yna gyfleoedd y mae angen i ni eu harchwilio, oherwydd mae yna faterion gwirioneddol ynglŷn â sut yr ydych chi'n cynnau ffwrnais arc drydan gyda chostau ynni fel y maen nhw heddiw, a dyna pam mai un o'r pethau yr ydw i wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU amdano yw gweld a oes modd gwneud unrhyw beth i leihau costau ynni sy'n mynd i gwmnïau sy'n cynhyrchu dur. Efallai y bydd cyfleoedd os ydyn ni'n datblygu'r cyfleoedd ynni gwynt alltraeth a dyna pam y treuliais i ran o'r gwyliau'r Pasg mewn gwirionedd yn ceisio lobïo pobl i ddod i fuddsoddi yn ein gwlad ni i wneud yn siŵr bod gennym ni faint sylweddol o ynni a all wedyn, o bosibl, gael ei droi'n hydrogen. Mae yna lawer o gyfleoedd yma ac, i mi, y peth pwysig yw ein bod ni'n cadw'r ffocws ar lefydd fel Port Talbot. Mae yna gyfleoedd mawr, mae yna lawer o sgiliau yno, ac mae yna lawer o gwmnïau sydd â diddordeb mewn datblygu yn y cymunedau hynny oherwydd y setiau sgiliau sylweddol sy'n bodoli yno.
Can I just say, of all those contributions on this particular item, I have to congratulate Darren Millar for his common-sense approach? At the end of the day, the Welsh Labour Government and Plaid Cymru have dithered, and we now know the difficulties facing Tata Steel.
The UK Government reported that more than 55,000 tonnes of coking coke has arrived in the UK this weekend to go to Scunthorpe steel plant. Coking coke has also been transported from Australia, with 66,000 tonnes of iron ore pellets and 27,000 tonnes of iron ore due to arrive from Sweden. This is hardly you as a Welsh Government showing true commitment to reducing our own carbon footprint when we're prepared to import this when we're sitting on loads and loads of coal. Now, even in the remediation of the disused tips, there will be found, in this remediation—. There will be found usable coal present. Does the First Minister agree with me that it is simply nonsensical for coal extracted here in Wales, or found even as part of any remediation scheme going forward, that we shouldn't be just leaving it there? It could be sold and it could have helped in keeping Tata Steel going. Diolch.
A gaf i ddweud, o'r holl gyfraniadau hynny ar yr eitem benodol hon, mae'n rhaid i mi longyfarch Darren Millar am ei ymagwedd synnwyr cyffredin? Ar ddiwedd y dydd, mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi petruso, ac rydyn ni, erbyn hyn, yn gwybod yr anawsterau sy'n wynebu Tata Steel.
Adroddodd Llywodraeth y DU fod mwy na 55,000 o dunelli o olosg wedi cyrraedd y DU y penwythnos hwn i fynd i safle dur Scunthorpe. Mae golosg hefyd wedi cael ei gludo o Awstralia, a disgwylir i 66,000 o dunelli o belenni mwyn haearn a 27,000 o dunelli o fwyn haearn gyrraedd o Sweden. Prin eich bod chi fel Llywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i leihau ein hôl troed carbon ein hunain pan yr ydyn ni'n barod i fewnforio hwn pan yr ydyn ni'n eistedd ar lwythi a llwythi o lo. Nawr, hyd yn oed wrth adfer y tipiau segur, byddwn yn darganfod, yn yr adferiad hwn—. Bydd glo defnyddiol yn bresennol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ei fod yn nonsens llwyr i lo sy'n cael ei gloddio yma yng Nghymru, neu y deuir o hyd iddo hyd yn oed fel rhan o unrhyw gynllun adfer yn y dyfodol, na ddylen ni fod yn ei adael yno? Gallai gael ei werthu a gallai fod wedi helpu i gynnal Tata Steel. Diolch.

God, you couldn't make it up, could you? We've got a Tory asking us to reopen coal mines in Wales after what they did in the 1980s. It's quite, quite remarkable. You couldn't make it up.
It is important, I think, for us to recognise that there are potential—. We have to look at what the future looks like. We have responsibilities in relation to climate change, but we also have responsibilities to those people who work in the steel sector and, if we can, we need to balance those. The electric arc furnace gives us the opportunity to do precisely that.
Duw, allech chi ddim gwneud y peth i fyny, allech chi? Mae gennym ni Dori yn gofyn i ni ailagor pyllau glo yng Nghymru ar ôl yr hyn wnaethon nhw yn y 1980au. Mae'n hollol, hollol ryfeddol. Allech chi ddim gwneud y peth i fyny.
Mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni gydnabod bod potensial—. Mae'n rhaid i ni edrych ar sut olwg sydd ar y dyfodol. Mae gennym ni gyfrifoldebau o ran newid yn yr hinsawdd, ond mae gennym ni hefyd gyfrifoldebau i'r bobl hynny sy'n gweithio yn y sector dur ac, os gallwn ni, mae angen i ni gydbwyso'r rheini. Mae'r ffwrnais arc drydan yn rhoi cyfle i ni wneud yn union hynny.
I have to say, it's a complete and utter bleak image the First Minister has just painted of the future of Welsh industry, that we're at the whims and mercy of multinational corporations, because if we challenge them, well they might challenge us back, and we can't have that, we can't do that, we can't stop them. That is managerialism at its worst, I have to say.
I do not want to dwell on the past, but I do take issue with the First Minister saying that Tata wouldn't have reopened the deal. You yourself, along with your Labour colleagues, with much fanfare, talked about the enhanced deal that the Labour Government were able to deliver once they got into power. Now, 'enhanced' suggests to me that you had to go back and talk to Tata, so they were open to renegotiating a deal, surely. Or have I got that wrong and, actually, it's what we suspected from the start, that that enhanced deal was actually just spin, and it is exactly the same, as Darren Millar said, as the Conservative Government's deal that was on the table?
Now, I will say that the First Minister is right, that the issues within the steel industry go beyond simple capital investment, and it's right that any steel strategy looks at electric prices, trade and procurement. I'd also add ownership on to that list. On procurement, in 2016, the Welsh Government produced the 'Public Procurement of Steel' report that identified potential projects that could be completed using Welsh steel. That then led to the Welsh Government signing up to the steel charter in 2019. So, looking ahead towards the Welsh Government's new steel strategy, can we expect a similar report to be produced by the Welsh Government, outlining where Welsh steel can be used within Wales, and then a commitment that actually it will do it?
Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n ddelwedd gwbl llwm y mae'r Prif Weinidog newydd ei phaentio o ddyfodol diwydiant Cymru, ein bod yn destun mympwyon a thrugaredd corfforaethau rhyngwladol, oherwydd os ydyn ni'n eu herio, wel efallai y byddan nhw'n ein herio ni nôl, ac nid yw hynny'n dderbyniol, ni allwn ni wneud hynny, ni allwn ni eu hatal. Dyna reolwriaeth ar ei gwaethaf, mae'n rhaid i mi ei ddweud.
Nid wyf i eisiau canolbwyntio ar y gorffennol, ond rwy'n anghytuno â'r Prif Weinidog yn dweud na fyddai Tata wedi ailagor y cytundeb. Fe wnaethoch chi eich hun, ynghyd â'ch cyd-Aelodau Llafur, gyda thipyn o ffanffer, sôn am y cytundeb gwell y gallai'r Llywodraeth Lafur ei chyflawni ar ôl iddyn nhw ddod i rym. Nawr, mae 'gwell' yn awgrymu i mi fod yn rhaid i chi fynd yn ôl a siarad â Tata, felly roedden nhw'n agored i aildrafod cytundeb, does bosib. Neu a ydw i wedi camddeall hynny ac, a dweud y gwir, yr hyn yr oedden ni'n ei amau o'r dechrau ydyw, sef bod y cytundeb gwell hwnnw mewn gwirionedd yn ddelwedd yn unig, ac mae yr union yr un fath, fel y dywedodd Darren Millar, â'r cytundeb a oedd ar y bwrdd gan y Llywodraeth Geidwadol?
Nawr, fe wna i ddweud bod y Prif Weinidog yn gywir, bod y materion yn y diwydiant dur yn mynd y tu hwnt i fuddsoddi cyfalaf syml, ac mae'n iawn bod unrhyw strategaeth ddur yn edrych ar brisiau trydan, masnach a chaffael. Byddwn i hefyd yn ychwanegu perchnogaeth at y rhestr honno. O ran caffael, yn 2016, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad 'Caffael Cyhoeddus o Ddur' a oedd yn nodi prosiectau posibl y byddai modd eu cwblhau gan ddefnyddio dur Cymru. Arweiniodd hynny wedyn at Lywodraeth Cymru yn arwyddo'r siarter ddur yn 2019. Felly, wrth edrych ymlaen tuag at strategaeth ddur newydd Llywodraeth Cymru, allwn ni ddisgwyl i adroddiad tebyg gael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu lle y byddai'n bosibl defnyddio dur Cymru yng Nghymru, ac yna ymrwymiad y bydd, mewn gwirionedd, yn gwneud hynny?

Thanks very much. Listen, it always fascinates me that nationalists want to nationalise, but they want England to pay. That is a very difficult situation. So, this week you want to nationalise steel. Last week, you wanted to nationalise Holyhead port. And you won't even support us in a £1.6 billion increase in funding for our public services.
Look, when it comes to public procurement, you're quite right, it is important that we work with the UK Government to see where the opportunities are for steel in the future, and that's why having our Cabinet Secretary responsible for the economy on that board will help to shape what the UK steel plan looks like, and hopefully those will be in them.
But I think one of the other things that's probably worth noting is that I've written to the Secretary of State, and one of the things I've asked him to do is to reduce the safeguard quotas because the situation at the moment, in particular with the tariffs that have been imposed by the Trump administration, means that there is dumping going on, and we do need to make sure that the quotas are adjusted, so that we can protect our industry at this very difficult time.
Diolch yn fawr iawn. Gwrandewch, mae hi bod amser o ddiddordeb mawr i mi fod cenedlaetholwyr eisiau gwladoli, ond maen nhw eisiau i Loegr dalu. Mae honno'n sefyllfa anodd iawn. Felly, yr wythnos hon, rydych chi eisiau gwladoli dur. Yr wythnos diwethaf, roeddech chi eisiau gwladoli porthladd Caergybi. Ac ni wnewch chi hyd yn oed ein cefnogi ni i sicrhau cynnydd o £1.6 biliwn mewn cyllid ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.
Edrychwch, pan ddaw'n fater o gaffael cyhoeddus, rydych chi'n hollol gywir, mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld lle mae'r cyfleoedd ar gyfer dur yn y dyfodol, a dyna pam y bydd cael ein Hysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am yr economi ar y bwrdd hwnnw yn helpu i lunio sut olwg fydd ar gynllun dur y DU, a gobeithio y bydd y rheini ynddo.
Ond rwy'n credu mai un o'r pethau eraill sy'n werth ei nodi yw fy mod i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, ac un o'r pethau yr ydw i wedi gofyn iddo'i wneud yw lleihau'r cwotâu diogelu oherwydd mae'r sefyllfa ar hyn o bryd, yn enwedig gyda'r tariffau sydd wedi'u gosod gan weinyddiaeth Trump, yn golygu bod dympio yn digwydd, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cwotâu yn cael eu haddasu, fel y gallwn ni amddiffyn ein diwydiant ar yr adeg anodd iawn hon.
First Minister, Gordon Brown and colleagues produced a very important report for an incoming UK Labour Government, now of course elected, around dealing with the regional economic inequalities in the UK, and part of that was about green steel making. So, now that we have this UK Government £2.5 billion fund in place and a steel strategy to go forward, I'm sure you will join me in making the case for Wales to get a fair share of that funding for that green steel making, partly to address the regional economic inequalities in the UK, but also recognising the strengths that we have here in Wales in terms of existing experience and industrial strength. Part of that, of course, has to be skills around green steel making, and for me in Newport it's very much about the Llanwern site, as you would know, First Minister, and there was a commitment from Tata in terms of the UK Government funding available on green steel making, to make sure that the downstream operations from Port Talbot are very much part of that ongoing investment and that ongoing picture. So, I am sure you would recognise that in terms of Llanwern and want to make sure that everything that Llanwern has to offer for the green steel making future in Wales and the UK is realised.
Cynhyrchodd y Prif Weinidog, Gordon Brown a'i gydweithwyr adroddiad pwysig iawn ar gyfer Llywodraeth Lafur y DU, sydd bellach wedi'i hethol wrth gwrs, ynglŷn ag ymdrin â'r anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol yn y DU, ac roedd rhan o hynny'n ymwneud â gwneud dur gwyrdd. Felly, nawr bod gennym ni gronfa £2.5 biliwn Llywodraeth y DU ar waith a strategaeth ddur wrth fynd ymlaen, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi i wneud yr achos dros Gymru'n cael cyfran deg o'r cyllid hwnnw ar gyfer y gwaith dur gwyrdd hwnnw, yn rhannol i ymdrin â'r anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol yn y DU, ond hefyd i gydnabod y cryfderau sydd gennym ni yma yng Nghymru o ran profiad presennol a chryfder diwydiannol. Mae'n rhaid i sgiliau gwneud dur gwyrdd fod yn rhan o hynny, wrth gwrs, ac i mi yng Nghasnewydd mae hi'n ymwneud yn fawr â safle Llanwern, fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, ac roedd ymrwymiad gan Tata o ran cyllid Llywodraeth y DU oedd ar gael o ran cynhyrchu dur gwyrdd, i wneud yn siŵr bod y gweithrediadau i lawr y gadwyn o Bort Talbot yn rhan fawr o'r buddsoddiad parhaus hwnnw a'r darlun parhaus hwnnw. Felly, rwy'n siŵr y byddech chi'n cydnabod hynny o ran Llanwern ac eisiau sicrhau bod popeth sydd gan Lanwern i'w gynnig ar gyfer dyfodol cynhyrchu dur gwyrdd yng Nghymru a'r DU yn cael ei wireddu.

Thanks very much, John, and thanks for your efforts on behalf of your constituents. I know that many of them are concerned about the situation in Llanwern and it was good to meet some of them on Friday as well, who made it clear that there are still real concerns in relation to what is going on. I think it is important that we address regional economic inequalities, which is why we do need to land investment. That is where the growth is likely to come from. We need to get our own companies growing. We need to improve productivity. We need to get quality jobs in. But you are quite right when it comes to the £2.5 billion clean steel fund. I have made it clear in the letter I have sent to the Secretary of State that we understood that the fund was intended to be for capital funding for transformation and not for revenue support. So, we will make sure that it is very clear that we do not want to see this funding going on supporting the revenue support of the Scunthorpe plant at the expense of the situation in Welsh steel.
Diolch yn fawr iawn, John, a diolch am eich ymdrechion ar ran eich etholwyr. Rwy'n gwybod bod llawer ohonyn nhw'n pryderu am y sefyllfa yn Llanwern ac roedd yn dda cwrdd â rhai ohonyn nhw ddydd Gwener hefyd, a gwnaethon nhw'n glir bod pryderon gwirioneddol o hyd o ran yr hyn sy'n digwydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol, a dyna pam mae angen i ni sicrhau buddsoddiad. Dyna lle mae'r twf yn debygol o ddod. Mae angen i ni sicrhau bod ein cwmnïau ein hunain yn tyfu. Mae angen i ni wella cynhyrchiant. Mae angen i ni ddenu swyddi o safon. Ond rydych chi'n hollol gywir o ran y gronfa dur glân gwerth £2.5 biliwn. Rwyf i wedi'i gwneud yn glir yn y llythyr yr anfonais i at yr Ysgrifennydd Gwladol ein bod yn deall bod y gronfa wedi'i bwriadu ar gyfer cyllid cyfalaf ar gyfer trawsnewid ac nid ar gyfer cymorth refeniw. Felly, byddwn ni'n sicrhau ei bod yn glir iawn nad ydyn ni eisiau gweld y cyllid hwn yn cael ei wario ar gefnogi cymorth refeniw ffatri Scunthorpe ar draul y sefyllfa ym maes dur yng Nghymru.
First Minister, throughout the statement and in answering questions, you have referenced a letter that you've sent to the Secretary of State for Wales. In my FMQ supplementary question to you earlier, I asked you to publish it, but you forgot to answer that question, so if you could answer that by publishing that letter, I would be very grateful.
But what concerns me is the contradiction in language I hear around the sadness of the blast furnaces in Port Talbot closing from this Labour Government, but then the optimism of the carbon dioxide that is being saved because of its closure. You can't have it both ways here. That's the reality of this. That is what happens when jobs are offshored. Tata are opening blast furnaces over in India because that is cheaper for them to do. That carbon dioxide is still going to be released, yet we are the ones losing jobs in this country. Is that an economic strategy that you sign up to?
Prif Weinidog, drwy gydol y datganiad ac wrth ateb cwestiynau, rydych chi wedi cyfeirio at lythyr yr ydych wedi'i anfon at Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn fy nghwestiwn atodol yn Cwestiynau i'r Prif Weinidog i chi yn gynharach, gofynnais i chi ei gyhoeddi, ond fe wnaethoch chi anghofio ateb y cwestiwn hwnnw, felly os gallech chi ateb hwnnw trwy gyhoeddi'r llythyr hwnnw, byddwn i'n ddiolchgar iawn.
Ond yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r gwrthgyferbyniad mewn iaith rwy'n ei chlywed ynglŷn â thristwch y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn cau o'r Llywodraeth Lafur hon, ond yna optimistiaeth ynghylch y carbon deuocsid sy'n cael ei arbed oherwydd iddyn nhw gau. Ni allwch chi ei chael hi'r ddwy ffordd yma. Dyna realiti hyn. Dyna sy'n digwydd pan fydd swyddi yn symud dramor. Mae Tata yn agor ffwrneisi chwyth draw yn India oherwydd mae'n rhatach iddyn nhw wneud hynny. Mae'r carbon deuocsid hwnnw'n dal i gael ei ryddhau, ond ni yw'r rhai sy'n colli swyddi yn y wlad hon. A yw honno'n strategaeth economaidd yr ydych chi'n ymrwymo iddi?

Look, just to be clear that I’m happy to release a copy of the letter that I’ve sent, but let me also be clear in relation to the electric arc furnace: I think this does provide a future, a sustainable future for steel in Wales. It is really difficult; there is a glut of steel in the world. These are massive global economic factors that are determining the situation in this country, and of course, we need to recognise this as a strategic industry, and we need to do what we can to make sure that as a Government we provide a home market for steel, so that they know that there will be somewhere for that to go, because there is so much steel in the world at the moment. China’s producing a hell of a lot of it, and I think we’ve got to just be aware, with our eyes wide open, that there’s a carbon adjustment situation that’s going to come in in the EU, and that will affect us as well, so there are a lot of moving parts here and none of it is straightforward. As far as I’m concerned, the key thing for us is to provide something that’s sustainable for the future of those communities. They’ve had a tough time, but they know that there is now some hope at the end of the line because of the electric arc furnace, and the jobs that potentially could be built around that provision.
Edrychwch, dim ond i fod yn glir fy mod i'n hapus i ryddhau copi o'r llythyr yr ydw i wedi'i anfon, ond gadewch i mi fod yn glir hefyd o ran y ffwrnais arc drydan: rwy'n credu bod hyn yn rhoi dyfodol, dyfodol cynaliadwy i ddur yng Nghymru. Mae'n anodd iawn; mae yna ormod o ddur yn y byd. Mae'r rhain yn ffactorau economaidd byd-eang enfawr sy'n pennu'r sefyllfa yn y wlad hon ac, wrth gwrs, mae angen i ni gydnabod hyn fel diwydiant strategol, ac mae angen i ni wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth, yn darparu marchnad gartref i ddur, fel eu bod yn gwybod y bydd rhywle i hynny fynd, oherwydd mae cymaint o ddur yn y byd ar hyn o bryd. Mae Tsieina yn cynhyrchu cryn dipyn ohono, ac rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn ymwybodol, gyda'n llygaid yn lled agored, bod yna sefyllfa addasu carbon sy'n mynd i gael ei chyflwyno yn yr UE, a bydd hynny'n effeithio arnon ni hefyd, felly mae yna lawer o ddarnau sy'n symud yma ac nid oes unrhyw un ohonyn nhw'n syml. O fy rhan i, y peth allweddol i ni yw darparu rhywbeth sy'n gynaliadwy ar gyfer dyfodol y cymunedau hynny. Maen nhw wedi cael amser anodd, ond maen nhw'n gwybod bod rhywfaint o obaith yn y pen draw erbyn hyn, oherwydd y ffwrnais arc drydan, a'r swyddi a allai gael eu datblygu o amgylch y ddarpariaeth honno.
What has happened at Port Talbot, though, has had effects across our communities. The workers at Port Talbot deserved better. Their jobs were just as important as those in Scunthorpe, but Labour in Westminster, they did choose not to fight for them as determinedly. Why didn’t Parliament sit on a Saturday to stop the last blast furnace shutting down in Port Talbot? Why were we in Plaid mocked for calling for the steelworks here to be nationalised? That has not been addressed. And First Minister, do you understand the anger that’s felt by Welsh workers now? Because it is a story we’ve seen unfold before, of our jobs being thrown on the scrapheap by an uncaring and aloof Westminster. Don’t you wish that your Labour colleagues there had fought harder for Welsh workers too?
Mae'r hyn sydd wedi digwydd ym Mhort Talbot, fodd bynnag, wedi cael effaith ar draws ein cymunedau. Roedd y gweithwyr ym Mhort Talbot yn haeddu gwell. Roedd eu swyddi yr un mor bwysig â'r rhai yn Scunthorpe, ond Llafur yn San Steffan, fe wnaethon nhw ddewis peidio ag ymladd mor benderfynol drostyn nhw. Pam na wnaeth y Senedd eistedd ar ddydd Sadwrn i atal y ffwrnais chwyth olaf rhag cau ym Mhort Talbot? Pam cawson ni, yn Plaid, ein gwawdio am alw am wladoli'r gwaith dur yma? Nid yw hynny wedi cael sylw. A Phrif Weinidog, ydych chi'n deall y dicter sy'n cael ei deimlo gan weithwyr Cymru nawr? Oherwydd mae'n stori yr ydyn ni wedi'i gweld yn digwydd o'r blaen, am ein swyddi yn cael eu taflu ar y domen sbwriel gan San Steffan ddiofal a ffroenuchel. Onid ydych chi'n dymuno bod eich cydweithwyr Llafur yno wedi brwydro'n galetach dros weithwyr Cymru hefyd?

Look: Jingye, owners of British Steel, they’d stopped their orders for raw materials for the steelworks and without those, the two blast furnaces would have had to be shut down, so there was an immediate issue there, which wasn’t the case with Tata; Tata were still discussing, they were still being constructive, they were still being active with the situation in Port Talbot. It is a different situation. Yes, I understand why people are frustrated. I understand that people want to see a future. As I say, I don’t think we’ve seen the end of the story in Scunthorpe yet, because some of these global pressures will come down to bear on us, which is why what we need to see is some clarity when it comes to what the future of steel looks like, and because we have the economy Secretary sitting on that board, we hopefully will be able to help shape it.
Edrychwch: Jingye, perchnogion Dur Prydain, roedden nhw wedi dod â'u harchebion am ddeunyddiau crai ar gyfer y gwaith dur i ben a heb y rheini, byddai'n rhaid cau'r ddwy ffwrnais chwyth, felly roedd problem ar unwaith yno, nad oedd yn wir gyda Tata; roedd Tata yn dal i drafod, roedden nhw'n dal i fod yn adeiladol, roedden nhw'n dal i fod yn weithgar gyda'r sefyllfa ym Mhort Talbot. Mae'n sefyllfa wahanol. Ydw, rwy'n deall pam mae pobl yn rhwystredig. Rwy'n deall bod pobl eisiau gweld dyfodol. Fel yr wyf i'n ei ddweud, nid wyf i'n credu ein bod ni wedi gweld diwedd y stori yn Scunthorpe eto, oherwydd bydd rhai o'r pwysau byd-eang hyn yn gwasgu arnon ni, a dyna pam mai'r hyn sydd angen i ni ei weld yw rhywfaint o eglurder o ran sut mae dyfodol dur yn edrych, ac oherwydd bod gennym ni Ysgrifennydd yr economi yn eistedd ar y bwrdd hwnnw, gobeithio y byddwn ni’n gallu helpu i'w lunio.
On 12 April, the UK’s emergency action confirmed what many of us here in Wales had already feared, that our workers are second-class citizens. When 2,800 jobs were on the line in Port Talbot, there was absolutely no recall of Parliament, no rapid intervention at all. Yet, for Scunthorpe’s 2,700, the Government moved heaven and earth in order to make sure that there was a plan in place. The truth is stark: they could have done the same for us, but they chose not to. Port Talbot was let down, not by circumstance but by political choices.
Labour came into power in July; the plant shut in September. There was enough time there to ensure that Parliament was recalled. There was a genuine need and a genuine desire to demonstrate the importance of Welsh jobs and Welsh communities to the Labour Government. And the Conservatives did absolutely nothing at all either. You didn’t recall Parliament in order to make sure that Port Talbot was protected, so please, do not stand there and say that you could have done better.
We have a crisis here, and the people of Port Talbot deserve better. You can understand—and you’ve mentioned this—that they don’t see why Scunthorpe was treated differently. So, what actions are you taking to make sure that the people of Port Talbot and the local community are clear that the Welsh Government is backing them and making sure that the jobs are there going forward? Diolch yn fawr iawn.
Ar 12 Ebrill, cadarnhaodd camau brys y DU yr hyn yr oedd llawer ohonon ni yma yng Nghymru eisoes wedi'i ofni, bod ein gweithwyr yn ddinasyddion ail ddosbarth. Pan oedd 2,800 o swyddi yn y fantol ym Mhort Talbot, nid oedd unrhyw adalw ar y Senedd, dim ymyrraeth gyflym o gwbl. Eto, ar gyfer 2,700 o swyddi Scunthorpe, gwnaeth y Llywodraeth ymdrech enfawr er mwyn gwneud yn siŵr bod cynllun ar waith. Mae'r gwir yn amlwg: gallen nhw fod wedi gwneud yr un peth ar ein cyfer ni, ond fe wnaethon nhw ddewis peidio â gwneud hynny. Cafodd Port Talbot ei siomi, nid gan amgylchiadau ond gan ddewisiadau gwleidyddol.
Daeth Llafur i rym ym mis Gorffennaf; caeodd y ffatri ym mis Medi. Roedd digon o amser yno i sicrhau bod y Senedd yn cael ei hadalw. Roedd angen gwirioneddol ac awydd gwirioneddol i ddangos pwysigrwydd swyddi Cymru a chymunedau Cymru i'r Llywodraeth Lafur. Ac ni wnaeth y Ceidwadwyr unrhyw beth o gwbl chwaith. Ni wnaethoch chi adalw'r Senedd er mwyn gwneud yn siŵr bod Port Talbot yn cael ei warchod, felly plîs, peidiwch â sefyll yno a dweud y gallech chi fod wedi gwneud yn well.
Mae gennym ni argyfwng yma, ac mae pobl Port Talbot yn haeddu gwell. Gallwch chi ddeall—ac rydych chi wedi sôn am hyn—nad ydyn nhw'n gweld pam y cafodd Scunthorpe ei drin yn wahanol. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i wneud yn siŵr bod pobl Port Talbot a'r gymuned leol yn glir bod Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn gwneud yn siŵr y bydd swyddi yno yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.

Thanks very much. I’ve explained why the situation was different. The timing was not great, and that was partly because we had to pick up the pieces of the difficult situation that was left to us by the Tory Government. But I understand why people are frustrated. I want to give you reassurance that, as the Welsh Government, we are spending a huge amount of time supporting the communities that have been affected by the job cuts. We are in constant touch with the company, the organisations that are impacted. We will move heaven and earth to make sure that there is a future for steel in Wales, and to make sure that we take advantage of the fact that there is a steel-making facility through building other initiatives around it.
Diolch yn fawr. Rydw i wedi esbonio pam roedd y sefyllfa yn wahanol. Nid oedd yr amseru yn wych, ac roedd hynny yn rhannol oherwydd bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â'r sefyllfa anodd y gwnaeth y Llywodraeth Dorïaidd ei gadael i ni. Ond rwy'n deall pam mae pobl yn rhwystredig. Rwyf i eisiau roi sicrwydd i chi ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn treulio llawer iawn o amser yn cefnogi'r cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan y swyddi'n cael eu dileu. Rydyn ni'n cysylltu'n gyson â'r cwmni, y sefydliadau y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod dyfodol i ddur yng Nghymru, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar y ffaith bod yna gyfleuster cynhyrchu dur drwy ddatblygu mentrau eraill o'i gwmpas.
The First Minister has said that she understands why people perceive, particularly in Port Talbot, that one community, one nation, has been treated differently to another. It’s blindingly obvious, I think, to most people that that is what has happened. Like all of us, I’m glad that the steel jobs of Scunthorpe have been saved and that that community has been helped, but in terms of the situation in Port Talbot, there was an integrated steelworks. If you’re talking about creating a strategic asset, then that’s where you should have invested.
You’ve said it yourself, First Minister—this is probably not the end of the story with Scunthorpe. So, if you’re just looking at it strategically and objectively, then the UK Government should have made the economic investment on the economic case in Port Talbot. The reality is they didn’t make the decision on the basis of the economics; they made the decision based on the politics, on the political expediency, because they know, 'Loyal Labour votes in Wales, we can take them for granted like we’ve always done, but, actually, the core of our political heartlands we’ve got to look after’. And that’s the real tragedy here. People feel that they’ve been lied to, and it’s no wonder that trust is falling in politics.
What do we do now, First Minister? I would appeal to you—Wales has political capital in the bank here, because we have been let down big time. Use that political capital, because this will not be the last time that we are facing an economic crisis in Wales. Enough is enough. Use that political capital. Use your voice. Stand up for Wales, and say that the people of Wales are owed big time, and we are fed up of being let down, time and time again, by successive Westminster Governments that have taken us for granted.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei bod yn deall pam mae pobl yn canfod, yn enwedig ym Mhort Talbot, bod un gymuned, un wlad, wedi cael ei thrin yn wahanol i'r llall. Mae'n hollol amlwg, rwy'n credu, i'r mwyafrif o bobl mai dyna sydd wedi digwydd. Fel pob un ohonon ni, rwy'n falch bod swyddi dur Scunthorpe wedi'u hachub a bod y gymuned honno wedi cael ei helpu, ond o ran y sefyllfa ym Mhort Talbot, roedd yna waith dur integredig. Os ydych chi'n siarad am greu ased strategol, yna dyna lle dylech chi fod wedi buddsoddi.
Rydych chi wedi dweud hynny eich hun, Prif Weinidog—mae'n debyg nad dyma ddiwedd y stori gyda Scunthorpe. Felly, os ydych chi'n edrych arno'n strategol ac yn wrthrychol yn unig, yna dylai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud y buddsoddiad economaidd ar yr achos economaidd ym Mhort Talbot. Y gwir amdani yw na wnaethon nhw'r penderfyniad ar sail yr economeg; fe wnaethon nhw'r penderfyniad yn seiliedig ar y wleidyddiaeth, ar yr hwylustod gwleidyddol, oherwydd maen nhw'n gwybod, 'Pleidleiswyr Llafur ffyddlon yng Nghymru, fe allwn ni eu cymryd nhw'n ganiataol fel yr ydyn ni wedi'i wneud bob tro, ond, mewn gwirionedd, ein canolfannau gwleidyddol, mae'n rhaid i ni ofalu amdanyn nhw'. A dyna'r drasiedi wirioneddol yma. Mae pobl yn teimlo eu bod wedi clywed celwydd, ac nid yw'n syndod bod ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn lleihau.
Beth ydyn ni'n ei wneud nawr, Prif Weinidog? Byddwn i'n apelio atoch chi—mae gan Gymru gyfalaf gwleidyddol yn y banc yma, oherwydd rydyn ni wedi cael ein siomi'n fawr. Defnyddiwch y cyfalaf gwleidyddol hwnnw, oherwydd nid dyma'r tro olaf y byddwn ni'n wynebu argyfwng economaidd yng Nghymru. Digon yw digon. Defnyddiwch y cyfalaf gwleidyddol hwnnw. Defnyddiwch eich llais. Sefwch dros Gymru, a dweud bod dyled fawr i'w thalu i bobl Cymru, a'n bod ni wedi cael llond bol o gael ein siomi, dro ar ôl tro, gan Lywodraethau olynol yn San Steffan sydd wedi ein cymryd yn ganiataol.

Thanks. I understand the frustration. I think the timing was difficult. I think Jingye and Tata were different organisations. I want to give you an assurance that we in Welsh Labour never take the public for granted. You’re quite right, I will be using the opportunity to use that political capital. I’ll be making a speech next week where I’ll be setting out our position in relation to how we work with the UK Government in future.
Diolch. Rwy'n deall y rhwystredigaeth. Rwy'n credu bod yr amseru yn anodd. Rwy'n credu bod Jingye a Tata yn sefydliadau gwahanol. Rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i chi nad ydyn ni yn Llafur Cymru byth yn cymryd y cyhoedd yn ganiataol. Rydych chi'n eithaf iawn, byddaf i'n defnyddio'r cyfle i ddefnyddio'r cyfalaf gwleidyddol hwnnw. Byddaf i'n rhoi araith yr wythnos nesaf lle byddaf i'n nodi ein safbwynt o ran sut yr ydyn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol.
It’s strange, the last time I spoke in this Chamber, it was actually when we were recalled to stop the closure of steel making in Port Talbot, nine years ago. The first time I’m back here, what are we talking about—steel making in Port Talbot once again. Thank you, first of all, First Minister, for actually coming to Port Talbot on Friday to meet with the unions and to listen yourself, first-hand, to what was being said, and to hear the anger, disillusionment and frustration that took place because of the decisions.
Everyone has said that they were all supportive of the decision to keep Scunthorpe, and they didn’t want to see Scunthorpe communities and workers and families go through the same challenges they faced, and are facing now. But what was clear was, as has been said, why didn’t it happen before? I’ve stood in this Chamber to call for a fair and just transition. Whilst I recognise what you said about the structure and layout of the site, we still could have seen blast furnace No. 4 keep going for a little bit longer, to allow that just transition to happen. But we are where we are, unfortunately, and we must now look to the future. It's important that we now make sure the future is safe and secure for steel making in Port Talbot.
To that end, you've already mentioned this letter you've sent, but I think we need to have confirmation from yourself that you're going to stand up for a fair and substantial share of that £2.5 billion and that it's not eaten away by Scunthorpe, that we do see that money coming in, that you stand up, ask and fight for a reduction in energy costs, because with an electric arc furnace and the way energy prices are at the moment, that's going to be hugely burdensome upon steel making. We need to have a fair transition so that they can compete competitively, because the tariffs coming in mean we're going to have more global inputs from steel from across the world.
Also, you've talked about the quotas. I understand at the moment that quotas actually are bigger than what we produce in the UK. So, they're actually putting all the quotas in to match our steel making. We need to see those quotas reduced, to make our steel competitive within the UK, let alone anywhere else.
Can you also ensure that Port Talbot gets its fair share of investment beyond steel? You talked about the wind, and that's important, but we want to make sure the FLOWMIS money comes so we can see the Celtic free port develop, so we can see other developments—maybe a plate mill in Port Talbot, to develop the steel making for offshore wind. We need those investments, we need to have commitments from the UK Government that that will happen. As Adam Price said, we've got it in the bank now, let's use it, let's make sure we're standing up for the people of Port Talbot, the workers in Port Talbot, and the communities that have so far struggled as a consequence of decisions to date.
Mae'n rhyfedd, y tro diwethaf i mi siarad yn y Siambr hon oedd pan gawsom ni ein hadalw i atal cynhyrchu dur ym Mhort Talbot rhag dod i ben, naw mlynedd yn ôl. Y tro cyntaf i mi fod nôl yma, am beth ydyn ni'n siarad—cynhyrchu dur ym Mhort Talbot unwaith eto. Diolch, yn gyntaf oll, Prif Weinidog, am ddod i Bort Talbot ddydd Gwener i gwrdd â'r undebau ac i wrando drosoch chi eich hun, yn uniongyrchol, ar yr hyn oedd yn cael ei ddweud, ac i glywed y dicter, y siom a'r rhwystredigaeth a ddigwyddodd oherwydd y penderfyniadau.
Mae pawb wedi dweud eu bod nhw i gyd yn gefnogol o'r penderfyniad i gadw Scunthorpe, ac nad oedden nhw eisiau gweld cymunedau a gweithwyr a theuluoedd Scunthorpe yn mynd trwy'r un heriau yr oedden nhw'n eu hwynebu, ac maen nhw'n eu hwynebu nawr. Ond yr hyn a oedd yn amlwg, fel sydd eisoes wedi'i ddweud, yw pam na ddigwyddodd hynny o'r blaen? Rwyf i wedi sefyll yn y Siambr hon i alw am bontio teg a chyfiawn. Er fy mod i'n cydnabod yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am strwythur a chynllun y safle, gallen ni fod wedi gweld ffwrnais chwyth Rhif 4 yn parhau am ychydig yn hirach, er mwyn caniatáu i'r pontio teg hwnnw ddigwydd. Ond rydyn ni yn y sefyllfa rydyn ni ynddi, yn anffodus, ac mae'n rhaid i ni nawr edrych i'r dyfodol. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn siŵr nawr bod y dyfodol yn ddiogel ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.
At y diben hwnnw, rydych chi eisoes wedi sôn am y llythyr hwn yr ydych chi wedi'i anfon, ond rwy'n credu bod angen i ni gael cadarnhad gennych chi'ch hun eich bod chi'n mynd i sefyll dros gyfran teg a sylweddol o'r £2.5 biliwn hwnnw ac nad yw'n cael ei lyncu gan Scunthorpe, ein bod ni'n gweld yr arian hwnnw'n dod i mewn, a'ch bod chi'n gofyn am ostyngiad mewn costau ynni ac yn sefyll ac yn ymladd drosto, oherwydd gyda ffwrnais arc drydan, a'r ffordd y mae prisiau ynni ar hyn o bryd, mae hynny'n mynd i fod yn faich sylweddol ar gynhyrchu dur. Mae angen i ni weld pontio teg fel y gallan nhw gystadlu'n gystadleuol, oherwydd mae'r tariffau sy'n cael eu cyflwyno yn golygu ein bod ni'n mynd i gael mwy o ddur yn dod o bob cwr o'r byd.
Hefyd, rydych chi wedi sôn am y cwotâu. Rwy'n deall ar hyn o bryd bod cwotâu mewn gwirionedd yn fwy na'r hyn yr ydyn ni'n ei gynhyrchu yn y DU. Felly, maen nhw mewn gwirionedd yn cyflwyno'r holl gwotâu i gyd-fynd â'n cynhyrchiad o ddur. Mae angen i ni weld y cwotâu hynny yn lleihau, i wneud ein dur yn gystadleuol yn y DU, heb sôn am unrhyw le arall.
Allwch chi hefyd sicrhau bod Port Talbot yn cael ei gyfran deg o fuddsoddiad y tu hwnt i ddur? Fe wnaethoch chi siarad am y gwynt, ac mae hynny'n bwysig, ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod arian y Cynllun Buddsoddi a Gweithgynhyrchu Ynni Gwynt Alltraeth Arnofiol yn dod, fel y gallwn ni weld y porthladd rhydd Celtaidd yn datblygu, fel y gallwn ni weld datblygiadau eraill—efallai melin blatiau ym Mhort Talbot, i ddatblygu'r gwaith dur ar gyfer gwynt alltraeth. Mae angen y buddsoddiadau hynny arnon ni, mae angen i ni gael ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU y bydd hynny'n digwydd. Fel y dywedodd Adam Price, mae gennym ni hwnnw yn y banc nawr, gadewch i ni ei ddefnyddio, gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll dros bobl Port Talbot, y gweithwyr ym Mhort Talbot, a'r cymunedau sydd hyd yn hyn wedi cael trafferth o ganlyniad i benderfyniadau hyd yn hyn.

Thanks very much, Dai. Thanks for the way you've spoken up for your community, and thanks for organising the meeting on Friday. It was a tough meeting, it was difficult to hear the frustration amongst many of the workers there. Since that meeting, I've responded through chasing up with that letter to the Secretary of State. You're quite right: this has got to be about a fair and just transition. We've seen enough unfair, unjust transitions in Wales over the years.
I have been clear that we want to see a substantial share of that clean steel fund coming to Wales, and also made it clear that we would like to see a reduction in the costs of energy for companies like Tata, because we simply won't be able to compete. That's the reality. The price of energy on the continent is significantly lower, which is why we have to do all of these other things by producing our homegrown energy as well. We have to see a reduction in quotas, and we need to see that happening soon, because in July, it will roll over and we’ll be locked into a situation for a long period of time.
It's not just about steel in Port Talbot. I think it's quite right that there are massive opportunities around the port there. There are people with a real interest in developing it, but we need the support from the UK Government to develop that through the release of the FLOWMIS funding that should be there to help us develop the proposition once we know what's happening in relation to the Celtic sea.
Diolch yn fawr iawn, Dai. Diolch am y ffordd rydych chi wedi siarad dros eich cymuned, a diolch am drefnu'r cyfarfod ddydd Gwener. Roedd yn gyfarfod anodd, roedd yn anodd clywed y rhwystredigaeth ymhlith llawer o'r gweithwyr yno. Ers y cyfarfod hwnnw, rydw i wedi ymateb trwy anfon y llythyr hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol. Rydych chi'n iawn: mae'n rhaid i hyn fod yn ymwneud â phontio teg a chyfiawn. Rydym wedi gweld digon o bontio annheg, anghyfiawn yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Rwyf wedi bod yn glir ein bod eisiau gweld cyfran sylweddol o'r gronfa ddur glân honno yn dod i Gymru, a hefyd wedi ei gwneud yn glir yr hoffem weld gostyngiad mewn costau ynni i gwmnïau fel Tata, oherwydd ni fyddwn yn gallu cystadlu. Dyna'r gwirionedd. Mae pris ynni ar y cyfandir yn sylweddol is, a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud yr holl bethau eraill hyn trwy gynhyrchu ein hynni ein hunain hefyd. Mae'n rhaid i ni weld gostyngiad mewn cwotâu, ac mae angen i ni weld hynny'n digwydd yn fuan, oherwydd ym mis Gorffennaf, bydd yn cael ei drosglwyddo ymlaen a byddwn yn cael ein cloi mewn sefyllfa am gyfnod hir.
Nid yw'n ymwneud â dur ym Mhort Talbot yn unig. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn bod yna gyfleoedd enfawr o gwmpas y porthladd yno. Mae yna bobl sydd â diddordeb gwirioneddol yn ei ddatblygu, ond mae angen cefnogaeth gan Lywodraeth y DU arnom i ddatblygu hwnnw trwy ryddhau cyllid FLOWMIS a ddylai fod yno i'n helpu i ddatblygu'r cynnig unwaith y byddwn yn gwybod beth sy'n digwydd mewn perthynas â'r Môr Celtaidd.
Diolch i'r Prif Weinidog.
I thank the First Minister.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n gwneud y datganiad yma—Julie James.
The next item will be the statement by the Counsel General and Minister for Delivery on the legislative programme. I call on the Counsel General to make that statement—Julie James.

Diolch, Llywydd. As Counsel General and Minister for Delivery, it is a great pleasure today to deliver the Government’s annual legislative statement and set out the final year of our legislative programme. I’d like to begin by reflecting on some of the significant reforms that we have taken forward through our legislative agenda over the last 12 months. I'm very proud that we continue to make laws here that will deliver positive and progressive change for the people of Wales.
In March 2025, the Health and Social Care (Wales) Act 2025 received Royal Assent. This is a landmark piece of legislation that will eliminate private profit from the care of looked-after children as part of our programme to transform children’s services. We are committed to ensuring effective, high-quality and sustainable health and social care to deliver better outcomes.
The Elections and Elected Bodies (Wales) Act 2024, which will remove barriers to democratic engagement and create a system of electoral administration fit for the twenty-first century, received Royal Assent in September 2024. In the same month, as part of our work to reform non-domestic rates and council tax, Royal Assent was given to the Local Government Finance (Wales) Act 2024. The Senedd is also considering several hugely important Bills that have been introduced since the last legislative statement.
Diolch, Llywydd. Fel Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyflawni, mae'n bleser mawr heddiw cyflwyno datganiad deddfwriaethol blynyddol y Llywodraeth a nodi blwyddyn olaf ein rhaglen ddeddfwriaethol. Hoffwn ddechrau trwy fyfyrio ar rai o'r diwygiadau sylweddol yr ydym wedi'u cyflwyno trwy ein hagenda ddeddfwriaethol dros y 12 mis diwethaf. Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i wneud deddfau yma a fydd yn cyflawni newid cadarnhaol a blaengar i bobl Cymru.
Ym mis Mawrth 2025, derbyniodd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 Gydsyniad Brenhinol. Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth a fydd yn dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal fel rhan o'n rhaglen i drawsnewid gwasanaethau plant. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gofal iechyd a chymdeithasol effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy i sicrhau canlyniadau gwell.
Derbyniodd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, a fydd yn dileu rhwystrau rhag ymgysylltu democrataidd ac yn creu system o weinyddiaeth etholiadol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2024. Yn yr un mis, fel rhan o'n gwaith i ddiwygio ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Mae'r Senedd hefyd yn ystyried nifer o Filiau hynod bwysig sydd wedi'u cyflwyno ers y datganiad deddfwriaethol diwethaf.
The First Minister has been clear that connecting communities and delivering a better bus network is a top priority for this Government, and to that end the bus Bill was introduced before the Easter recess. This will create a new system to reverse the deregulation of the sector that has existed since the 1980s, and enable public bodies to work together to plan and deliver the local bus network people need in Wales.
The Senedd will consider the general principles of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill later today and I commend this important piece of legislation to Members. The Bill will give greater security to people living in the shadow of disused tips and protect critical infrastructure.
The Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill, which will give local authorities powers to introduce a visitor levy, is currently at Stage 2. The levy will enable local authorities to raise revenue, encouraging a sustainable tourism approach, helping local areas to thrive and visitors to enjoy high-quality amenities. Through making a small contribution, visitors can support the destinations they enjoy.
We are also legislating to preserve and strengthen the language of our nation, through our Welsh language and education Bill, which the Senedd will consider at Stage 3 next week. This reflects our ambition that by 2025 every pupil in Wales will become a confident Welsh speaker by the time they leave school and places a responsibility on the entire education system to work towards that goal.
The Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Bill is the second Bill in our programme to improve the accessibility of Welsh law. These statute law repeal Bills have typically been a periodic feature in UK Parliament legislation and are a real sign of our maturing legislature.
Often, it is our primary legislative programme that captures the headlines, but this is underpinned by a significant programme of subordinate legislation. This includes legislation to ensure that our Acts, including the Health Service Procurement (Wales) Act 2024 and the Elections and Elected Bodies (Wales) Act 2024, have the intended effect, as well as legislation like the Food (Promotion and Presentation) (Wales) Regulations 2025, which will have a significant impact on the health of our nation for years to come.
Llywydd, we are a Government focused on delivery, and we will maintain the pace at which we introduce legislation as we bring forward the final Bills in our year 4 programme before summer recess.
We will introduce a Bill to transform our homelessness system, so it is accessible and person centred, enabling those who are homeless to obtain long-term housing quickly, increase their own self-sufficiency, and stay housed.
We will also bring forward a building safety Bill, which will fundamentally reform the building safety regime in Wales and address fire safety issues.
Llywydd, tackling the climate and nature emergency has been a priority of this Government and stakeholders and Members will be pleased to note that the environment principles, governance and biodiversity targets Bill will be introduced before the summer recess. The Bill will establish new environmental governance arrangements, including embedding environmental principles and the introduction of a new governance body to oversee the implementation of, and compliance with, environmental law and introduce a target-setting framework for biodiversity targets.
Llywydd, we intend to make full use of the available time to introduce new legislation this Senedd term. We will expand our legislative programme into the final year of the Senedd before the elections next May, and I appreciate the flexibility that will need to be part of the process.
I welcome the positive engagement with the Business Committee to consider how we can make the most of Senedd time through more flexible, tailored timetables for Government Bills, which is particularly important as we look towards future Senedd terms of four years.
We have also scheduled this annual legislative statement earlier than usual this year to allow Senedd committees and Members, as well as external stakeholders, as much advance notice as possible about the Bills we intend to bring forward in the final year of our legislative programme.
The Bills that we intend to introduce all relate to areas and commitment the Government has talked about publicly already and with which you will be familiar.
Following the two recent reports from the Standards of Conduct Committee on recall and deception, we will bring forward a Bill relating to the accountability of the Members of the Senedd.
Building on the provisions made in the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill to establish a register of visitor accommodation, we will bring forward a Bill to regulate visitor accommodation in Wales through a licensing regime. This will require visitor accommodation to meet a relevant set of standards to help give visitors confidence in their safety and enhance the visitor experience, supporting tourism, a vital part of the Welsh economy.
The Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs recently announced an intention to ban greyhound racing as soon as practically possible. The Government has seen the strength of feeling on this and legislation will be brought forward this Senedd term to deliver that commitment.
This Government recognises the importance of simplifying and modernising the law, and we will bring forward legislation to consolidate the law on planning, which will consolidate Welsh planning law into a single statute by bringing together provisions from various Acts. Planning legislation will also now be fully available in both English and Welsh for the first time.
We will also deliver on our commitment to remake a bilingual and consolidated conduct Order this term, ahead of the 2026 Senedd elections. This critical Order, which outlines the procedures for conducting elections to the Senedd, is larger than many Bills and has been subject to extensive consultation. This is an example of how the Government has implemented important legislation that the Senedd has agreed this term.
Llywydd, we continue to work with and respond to the UK Government’s legislative programme and are committed to achieving outcomes in Wales’s best interests, which will always include respect for devolution and our constitution.
There are a number of other areas where we remain committed to developing legislation in the future and where we will look to publish draft Bills or engage further with stakeholders this Senedd term. This includes reform of taxi and private hire vehicles, to modernise the sector and address the problems of cross-bordering. We will also continue to progress the development of reforms to unify and modernise devolved tribunals in Wales. We will also publish a Green Paper to meet our duty under the Welsh Tax Acts (Power to Modify) Act 2022 to publish a review of the Act by September 2026.
The final year of our legislative programme will improve the accountability of Members to their electorate, which is a key principle of a modern democracy; support the economy and enhance the visitor experience though regulating visitor accommodation in Wales; demonstrate again that Wales is prepared to take the lead by bringing forward a ban on greyhound racing, which has cross-party and considerable public support; and improve the accessibility of Welsh planning law, which is a vital component of our aim to accelerate planning decisions to grow the Welsh economy.
Llywydd, I look forward to continuing to work across the Chamber to make sure our legislation is the best it can be, and the remainder of our programme will focus on the things that matter most to the people of Wales. I commend this legislative programme to the Senedd.
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir bod cysylltu cymunedau a chyflawni rhwydwaith bysiau gwell yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac i'r perwyl hwnnw cyflwynwyd y Bil bysiau cyn toriad y Pasg. Bydd hwn yn creu system newydd i wrthdroi dadreoleiddio'r sector sydd wedi bodoli ers y 1980au, ac yn galluogi cyrff cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i gynllunio a chyflawni'r rhwydwaith bysiau lleol y mae ei angen ar bobl yng Nghymru.
Bydd y Senedd yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yn ddiweddarach heddiw ac rwy'n cymeradwyo'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth i'r Aelodau. Bydd y Bil yn rhoi mwy o ddiogelwch i bobl sy'n byw yng nghysgod tomenni nas defnyddir ac amddiffyn seilwaith hanfodol.
Mae'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr, ar hyn o bryd yng Nghyfnod 2. Bydd yr ardoll yn galluogi awdurdodau lleol i godi refeniw, gan annog dull twristiaeth gynaliadwy, yn helpu ardaloedd lleol i ffynnu a helpu ymwelwyr i fwynhau amwynderau o ansawdd uchel. Trwy wneud cyfraniad bach, gall ymwelwyr gefnogi'r cyrchfannau y maen nhw'n eu mwynhau.
Rydym hefyd yn deddfu i warchod a chryfhau iaith ein cenedl, drwy ein Bil addysg a'r Gymraeg, y bydd y Senedd yn ei ystyried yng Nghyfnod 3 yr wythnos nesaf. Mae hwn yn adlewyrchu ein huchelgais y bydd pob disgybl yng Nghymru erbyn 2025 yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn iddyn nhw adael yr ysgol ac yn rhoi cyfrifoldeb ar y system addysg gyfan i weithio tuag at y nod hwnnw.
Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) yw'r ail Fil yn ein rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae'r Biliau diddymiadau cyfraith statud hyn fel arfer wedi bod yn nodwedd gyfnodol yn neddfwriaeth Senedd y DU ac maent yn arwydd go iawn fod ein deddfwrfa'n aeddfedu.
Yn aml, ein prif raglen ddeddfwriaethol sy'n cipio'r penawdau, ond mae hyn yn cael ei ategu gan raglen sylweddol o is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth i sicrhau bod ein Deddfau, gan gynnwys Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, yn cael yr effaith a fwriadwyd, yn ogystal â deddfwriaeth fel Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, a fydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd ein cenedl am flynyddoedd i ddod.
Llywydd, rydym yn Llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni, a byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar yr un cyflymder wrth i ni gyflwyno'r Biliau terfynol yn ein rhaglen blwyddyn 4 cyn toriad yr haf.
Byddwn yn cyflwyno Bil i drawsnewid ein system ddigartrefedd, fel ei bod yn hygyrch ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan alluogi'r rhai sy'n ddigartref i gael tai tymor hir yn gyflym, cynyddu eu hunangynhaliaeth eu hunain, ac aros mewn cartref.
Byddwn hefyd yn cyflwyno Bil diogelwch adeiladau, a fydd yn diwygio'r drefn diogelwch adeiladau yng Nghymru yn sylfaenol ac yn mynd i'r afael â materion diogelwch tân.
Llywydd, mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur wedi bod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon a bydd rhanddeiliaid ac Aelodau yn falch o nodi y bydd y Bil egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth yn cael ei gyflwyno cyn toriad yr haf. Bydd y Bil yn sefydlu trefniadau llywodraethu amgylcheddol newydd, gan gynnwys ymgorffori egwyddorion amgylcheddol a chyflwyno corff llywodraethu newydd i oruchwylio gweithredu a chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol a chyflwyno fframwaith gosod targedau ar gyfer targedau bioamrywiaeth.
Llywydd, rydym yn bwriadu gwneud defnydd llawn o'r amser sydd ar gael i gyflwyno deddfwriaeth newydd yn nhymor y Senedd hon. Byddwn yn ehangu ein rhaglen ddeddfwriaethol i flwyddyn olaf y Senedd cyn yr etholiadau fis Mai nesaf, ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyblygrwydd y bydd ei angen fel rhan o'r broses.
Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad cadarnhaol â'r Pwyllgor Busnes i ystyried sut y gallwn wneud y mwyaf o amser y Senedd trwy amserlenni mwy hyblyg, wedi'u teilwra ar gyfer Biliau'r Llywodraeth, sy'n arbennig o bwysig wrth i ni edrych tuag at dymhorau pedair blynedd y Senedd yn y dyfodol.
Rydym hefyd wedi trefnu'r datganiad deddfwriaethol blynyddol hwn yn gynharach nag arfer eleni i ganiatáu i bwyllgorau'r Senedd ac Aelodau, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol, gael cymaint o rybudd ymlaen llaw â phosibl am y Biliau yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno ym mlwyddyn olaf ein rhaglen ddeddfwriaethol.
Mae'r Biliau yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno i gyd yn ymwneud â meysydd ac ymrwymiad y mae'r Llywodraeth wedi siarad amdanynt yn gyhoeddus eisoes ac y byddwch yn gyfarwydd â nhw.
Yn dilyn y ddau adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar adalw a dichell, byddwn yn cyflwyno Bil sy'n ymwneud ag atebolrwydd Aelodau'r Senedd.
Gan adeiladu ar y darpariaethau a wneir yn y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) i sefydlu cofrestr o lety ymwelwyr, byddwn yn cyflwyno Bil i reoleiddio llety ymwelwyr yng Nghymru drwy drefn drwyddedu. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i lety ymwelwyr fodloni set berthnasol o safonau i helpu i roi hyder i ymwelwyr yn eu diogelwch a gwella profiad ymwelwyr, gan gefnogi twristiaeth, rhan hanfodol o economi Cymru.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig fwriad i wahardd rasio milgwn cyn gynted â phosibl yn ymarferol. Mae'r Llywodraeth wedi gweld cryfder y teimlad ynghylch hyn a bydd deddfwriaeth yn cael ei dwyn ymlaen yn nhymor y Senedd hon i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.
Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod pwysigrwydd symleiddio a moderneiddio'r gyfraith, a byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gydgrynhoi'r gyfraith ar gynllunio, a fydd yn cydgrynhoi cyfraith gynllunio Cymru yn un statud drwy ddod â darpariaethau o wahanol Ddeddfau at ei gilydd. Bydd deddfwriaeth gynllunio hefyd bellach ar gael yn llawn yn Gymraeg a Saesneg am y tro cyntaf.
Byddwn hefyd yn cyflawni ein hymrwymiad i ail-wneud Gorchymyn cynnal etholiadau dwyieithog a chyfunol y tymor hwn, cyn etholiadau'r Senedd 2026. Mae'r Gorchymyn hanfodol hwn, sy'n amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer cynnal etholiadau i'r Senedd, yn fwy na llawer o Filiau ac mae wedi bod yn destun ymgynghoriad helaeth. Dyma enghraifft o sut mae'r Llywodraeth wedi gweithredu deddfwriaeth bwysig y mae'r Senedd wedi cytuno arni y tymor hwn.
Llywydd, rydym yn parhau i weithio gyda rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ac ymateb iddi ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni canlyniadau er budd gorau Cymru, a fydd bob amser yn cynnwys parch at ddatganoli a'n cyfansoddiad.
Mae yna nifer o feysydd eraill lle rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu deddfwriaeth yn y dyfodol a lle byddwn yn bwriadu cyhoeddi Biliau drafft neu ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid yn nhymor y Senedd hon. Mae hyn yn cynnwys diwygio tacsis a cherbydau llogi preifat, i foderneiddio'r sector a mynd i'r afael â phroblemau trawsffiniol. Byddwn hefyd yn parhau i fwrw ymlaen â datblygiad diwygiadau i uno a moderneiddio tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cyhoeddi Papur Gwyrdd i fodloni ein dyletswydd o dan Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 i gyhoeddi adolygiad o'r Ddeddf erbyn mis Medi 2026.
Bydd blwyddyn olaf ein rhaglen ddeddfwriaethol yn gwella atebolrwydd Aelodau i'w hetholwyr, sy'n egwyddor allweddol democratiaeth fodern; cefnogi'r economi a gwella profiad ymwelwyr drwy reoleiddio llety ymwelwyr yng Nghymru; dangos unwaith eto bod Cymru yn barod i gymryd yr awenau drwy gyflwyno gwaharddiad ar rasio milgwn, sydd â chefnogaeth drawsbleidiol a chefnogaeth sylweddol y cyhoedd; a gwella hygyrchedd cyfraith gynllunio Cymru, sy'n elfen hanfodol o'n nod i gyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru.
Llywydd, edrychaf ymlaen at barhau i weithio ar draws y Siambr i sicrhau mai ein deddfwriaeth yw'r gorau y gall fod, a bydd gweddill ein rhaglen yn canolbwyntio ar y pethau sydd bwysicaf i bobl Cymru. Rwy'n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Senedd.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.
After taking office in August last year, the First Minister stated that she would be a leader focused on delivery and on ambition for our nation and not some distant figure in Cardiff Bay, and that the people's priorities were, indeed, her priorities and that she wanted to lead a Government that listened and delivered. But let's face it, this Government is delivering everything but the people of Wales's priorities. So, let's take a look at this Welsh Labour Government's record.
In Wales, we have the highest NHS waiting lists in the whole of the United Kingdom, with over one in four of the Welsh population on a waiting list, and a staggering 15,500 people waiting two years or more, compared to virtually zero over the border in England. People's lives are literally on the line as a result of this Welsh Labour Government's record. In Wales, we also have the highest unemployment rate in the whole of the United Kingdom and the lowest take-home pay packets in Great Britain. Welsh Labour's policies are directly leading to the people of Wales taking home less money than our friends and our family over the border in England. And Counsel General, what has been the Welsh Government's response to this? Introducing 20mph speed limits up and down Wales, continuing to slow our country down, and creating 36 new and costly Senedd politicians, which the people of Wales do not want. Out of touch. Do you really think that you've been a Government that delivers? And looking at your Welsh Labour Government's legislative programme, it seems that you're not really doing very much at all.
Since 2021, Counsel General, the Scottish Government has delivered 58 Bills; the UK Government's legislative programme in Westminster delivered 178 Bills; but, since 2021 in Wales, you've delivered just 17. In comparison, in 2024 alone, the Scottish Government delivered 15. What on earth has this Welsh Government been doing, Counsel General? And delivery Minister, what exactly have you been delivering? Scotland has 129 MSPs, and they're producing about 0.45 Acts per politician, whilst in Wales it's just 0.28 Acts per politician. Moreover, Scotland has 2.15 times the number of politicians, yet it has produced 3.41 the number of Acts in the same time frame. So, Counsel General, when you inevitably say that we need more politicians to be more productive, we can make the case that our politicians are, per head, less productive than their counterparts elsewhere in the UK. So, more politicians won't solve that problem.
Now, of course, you do still have some legislation going through the Senedd—a whopping five Bills, actually—and one of the most widely discussed ones, of course, is the one that you call the visitor accommodation Bill, but known to everyone else as the toxic tourism tax. Your own regulatory impact assessment of the tourism tax Bill has found that this toxic tax will hit the Welsh economy by up to £576 million over the next decade. Counsel General, Wales's tourism sector contributes to over 150,000 jobs in Wales and is worth over £2 billion of Wales's gross domestic product. This crucially important sector needs our support, and the Welsh Conservatives will do all we can to support tourism in Wales. So, do you agree with me and the Welsh Conservatives when we say it's time to axe the tax?
Counsel General, when you look at the Bills you have left to introduce during this Senedd term, nothing is groundbreaking, nothing is anything we didn't already know, so it's clear that, after 26 years of this clapped-out Welsh Labour Government, you're out of ideas and have run out of steam. You're not just out of touch, Counsel General, you've completely run out of ideas.
On this side of these benches, we've been really clear that Welsh Conservatives will stand up to ensure hard-working families have more money in their pockets. We'll stand up for motorists and get Wales moving. We'll fight for farmers, because when we say, 'No farmers, no food', we mean it. We will support our vulnerable pensioners by introducing a Welsh winter fuel allowance. We'll cut Wales's inhumane NHS waiting lists, and we'll stand up for those pupils in Welsh schools who consistently underperform compared with their peers elsewhere in the UK. But most importantly, Counsel General, a Welsh Conservative Government will focus on the people's priorities, something this out-of-touch Labour Government continues to fail to do. So, Counsel General, isn't it now time that you and your Welsh Labour Government get out the way and let the Welsh Conservatives deliver for the people of Wales?
Ar ôl dechrau yn ei swydd ym mis Awst y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n arweinydd sy'n canolbwyntio ar gyflawni ac ar uchelgais i'n cenedl ac nid rhyw ffigwr pell ym Mae Caerdydd, ac mai blaenoriaethau y bobl oedd, yn wir, ei blaenoriaethau hithau a'i bod eisiau arwain Llywodraeth sy'n gwrando ac yn cyflawni. Ond y gwir amdani yw bod y Llywodraeth hon yn cyflawni popeth ond blaenoriaethau pobl Cymru. Felly, gadewch i ni edrych ar hanes Llywodraeth Lafur Cymru.
Yng Nghymru, mae gennym restrau aros uchaf y GIG yn y Deyrnas Unedig gyfan, gyda dros un o bob pedwar o boblogaeth Cymru ar restr aros, a 15,500, sy'n ffigur syfrdanol, o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy, o'i gymharu â bron i ddim dros y ffin yn Lloegr. Mae bywydau pobl yn llythrennol yn y fantol o ganlyniad i hanes Llywodraeth Lafur Cymru. Yng Nghymru, mae gennym hefyd y gyfradd ddiweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan a'r pecynnau cyflog isaf ym Mhrydain Fawr. Mae polisïau Llafur Cymru yn arwain yn uniongyrchol at bobl Cymru yn mynd â llai o arian adref na'n ffrindiau a'n teulu dros y ffin yn Lloegr. A Chwnsler Cyffredinol, beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i hyn? Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya ar hyd a lled Cymru, parhau i arafu ein gwlad, a chreu 36 o wleidyddion Senedd newydd a chostus, nad yw pobl Cymru eu heisiau nhw. Allan ohoni bellach. Ydych chi wir yn meddwl eich bod wedi bod yn Llywodraeth sy'n cyflawni? Ac wrth edrych ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Lafur Cymru, mae'n ymddangos nad ydych chi'n gwneud llawer o gwbl.
Ers 2021, Cwnsler Cyffredinol, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno 58 o Filiau; cyflwynodd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn San Steffan 178 o Filiau; ond, ers 2021 yng Nghymru, dim ond 17 rydych chi wedi eu cyflawni. Mewn cymhariaeth, yn 2024 yn unig, cyflawnodd Llywodraeth yr Alban 15. Beth ar y ddaear mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ei wneud, Cwnsler Cyffredinol? A chyflawni Gweinidog, beth yn union ydych chi wedi bod yn ei gyflawni? Mae gan yr Alban 129 o ASau, ac maen nhw'n cynhyrchu tua 0.45 o Ddeddfau fesul gwleidydd, ond yng Nghymru dim ond 0.28 Deddf fesul gwleidydd. Ar ben hynny, mae gan yr Alban 2.15 gwaith y nifer o wleidyddion, ond mae wedi cynhyrchu 3.41 o Ddeddfau yn yr un amser. Felly, Cwnsler Cyffredinol, pan fyddwch chi'n anochel yn dweud bod angen mwy o wleidyddion arnom i fod yn fwy cynhyrchiol, gallwn wneud yr achos bod ein gwleidyddion yn llai cynhyrchiol na'u cymheiriaid mewn mannau eraill yn y DU. Felly, ni fydd mwy o wleidyddion yn datrys y broblem honno.
Nawr, wrth gwrs, mae gennych rywfaint o ddeddfwriaeth yn mynd trwy'r Senedd o hyd—pum Bil, dyna glamp o ffigur—ac un o'r rhai a drafodwyd fwyaf eang, wrth gwrs, yw'r un rydych chi'n ei alw'n Bil llety ymwelwyr, ond sy'n cael ei adnabod gan bawb arall fel y dreth dwristiaeth wenwynig. Mae eich asesiad effaith rheoleiddiol eich hun o'r Bil treth dwristiaeth wedi canfod y bydd y dreth wenwynig hon yn taro economi Cymru hyd at £576 miliwn dros y degawd nesaf. Cwnsler Cyffredinol, mae sector twristiaeth Cymru yn cyfrannu at dros 150,000 o swyddi yng Nghymru ac mae'n werth dros £2 biliwn o gynnyrch domestig gros Cymru. Mae angen ein cefnogaeth ar y sector hanfodol bwysig hwn, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi twristiaeth yng Nghymru. Felly, ydych chi'n cytuno â mi a'r Ceidwadwyr Cymreig pan fyddwn ni'n dweud ei bod hi'n bryd dileu'r dreth?
Cwnsler Cyffredinol, pan edrychwch ar y Biliau sy'n weddill i'w cyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon, nid oes unrhyw beth yn arloesol, nid oes unrhyw beth nad oeddem eisoes yn ei wybod, felly mae'n amlwg, ar ôl 26 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, eich bod yn brin iawn o syniadau ac wedi chwythu'ch plwc. Nid ydych chi allan ohoni'n unig, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n hollol brin o syniadau.
Ar yr ochr hon i'r meinciau hyn, rydym wedi bod yn glir iawn y bydd Ceidwadwyr Cymru yn dadlau i sicrhau bod gan deuluoedd sy'n gweithio'n galed fwy o arian yn eu pocedi. Byddwn yn sefyll o blaid modurwyr ac yn cael Cymru i symud. Byddwn yn ymladd dros ffermwyr, oherwydd pan fyddwn ni'n dweud, 'Dim ffermwyr, dim bwyd', rydym o ddifrif. Byddwn yn cefnogi ein pensiynwyr agored i niwed drwy gyflwyno lwfans tanwydd gaeaf Cymru. Byddwn yn torri rhestrau aros annynol y GIG yng Nghymru, a byddwn yn sefyll o blaid y disgyblion hynny mewn ysgolion Cymru sy'n tanberfformio'n gyson o gymharu â'u cyfoedion mewn mannau eraill yn y DU. Ond yn bwysicaf oll, Cwnsler Cyffredinol, bydd Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r bobl, rhywbeth y mae'r Llywodraeth Lafur sydd allan ohoni yn parhau i fethu â'i wneud. Felly, Cwnsler Cyffredinol, onid yw'n bryd nawr i chi a'ch Llywodraeth Lafur yng Nghymru symud o'r neilltu a gadael i'r Ceidwadwyr Cymreig gyflawni dros bobl Cymru?
Well, that was really amusing. Thank you very much, it's always nice to be cheered up on a Tuesday. Just remind me how many MPs and councils you control while you get this enormously uncontroversial thing—[Interruption.]—through. Yes, I am absolutely being patronising. I'm responding to the patronising speech I just heard. It was entirely patronising.
Let me just outline for you, very simply, as you clearly didn't listen and came with a prepared speech, what I actually said we were doing. We are about to introduce the homelessness and social housing allocation (Wales) Bill. This is the most radical change to homelessness provision anywhere in western Europe. You've only got to ask any of the housing charities who have worked alongside us on that Bill, or any of the people with lived experience, what their view of that is. So, the very idea that that's not innovative, new and progressive is for the birds.
The environmental principles, governance and biodiversity targets (Wales) Bill will leapfrog the other nations of the UK and put us in pole position to protect both our climate and our nature, our very critical nature, alongside our cultural assets, actually. It will put in place a governance body with real teeth and real power, and I commend that to the Senedd, as I'd already said.
We will bring forward a building safety (Wales) Bill, as I've already said, which will put us into prime position across western Europe for safety in our high-rise buildings. We will consolidate our planning laws to make them accessible to Welsh people and make sure that they know what they're doing.
On the visitor accommodation regulation (Wales) Bill, I had the privilege over the Easter recess of speaking on behalf of the Government at the Commonwealth Law Conference, which was held in Malta, a place where I very happily paid treble about what we're currently proposing as a visitor levy to help that island really allow its tourism industry to thrive. I had meetings with the Minister for justice there, who told me how much that levy has done for Malta in terms of what they've been able to put forward in amenities and how much their tourism has grown as a result. So, it's always important to actually look at the evidence instead of the knee-jerk reactions that you have. There is evidence from across the cultural world that visitor levies enhance the experience for tourists for a very small price in order to give them the amenities that actually draw them there in the first place. So, you really are not at all in touch with the actual evidence here.
In terms of the NHS, of course, we've just had the biggest fall in waiting lists we've ever had, so I really suggest you update your statistics.
Wel, roedd hynna'n wirioneddol ddifyr. Diolch yn fawr iawn, mae bob amser yn braf cael rhywun i godi'ch calon chi ar ddydd Mawrth. Atgoffwch fi faint o ASau a chynghorau rydych chi'n eu rheoli tra byddwch chi'n cael y peth hynod annadleuol hwn—[Torri ar draws.]—drwodd. Ydw, rwy'n hollol nawddoglyd. Rwy'n ymateb i'r araith nawddoglyd yr wyf newydd ei chlywed. Roedd yn gwbl nawddoglyd.
Gadewch i mi amlinellu i chi, yn syml iawn, gan ei bod yn amlwg na wnaethoch chi wrando ac wedi dod ag araith wedi'i pharatoi, yr hyn a ddywedais yr oeddem yn ei wneud, mewn gwirionedd. Rydym ar fin cyflwyno'r Bil digartrefedd a dyrannu Tai cymdeithasol (Cymru). Dyma'r newid mwyaf radical i ddarpariaeth ddigartrefedd mewn unrhyw le yng ngorllewin Ewrop. Does ond rhaid gofyn i unrhyw un o'r elusennau tai sydd wedi gweithio ochr yn ochr â ni ar y Bil hwnnw, neu unrhyw un o'r bobl sydd â phrofiad bywyd, beth yw eu barn nhw am hynny. Felly, mae'r union syniad nad yw hynny'n arloesol, yn newydd ac yn flaengar yn ffwlbri llwyr.
Bydd y Bil egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth (Cymru) yn achub y blaen ar genhedloedd eraill y DU ac yn ein rhoi yn y sefyllfa orau i ddiogelu ein hinsawdd a'n natur, ein natur hanfodol iawn, ochr yn ochr â'n hasedau diwylliannol, mewn gwirionedd. Bydd yn rhoi corff llywodraethu ar waith sydd â dannedd go iawn a phŵer go iawn, ac rwy'n cymeradwyo hynny i'r Senedd, fel yr oeddwn eisoes wedi dweud.
Byddwn yn cyflwyno Bil diogelwch adeiladau (Cymru), fel y dywedais eisoes, a fydd yn ein rhoi yn y sefyllfa orau ledled gorllewin Ewrop o ran diogelwch yn ein hadeiladau uchel. Byddwn yn cydgrynhoi ein deddfau cynllunio i'w gwneud yn hygyrch i bobl Cymru a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud.
O ran y Bil rheoleiddio llety ymwelwyr (Cymru), cefais y fraint dros seibiant y Pasg o siarad ar ran y Llywodraeth yng Nghynhadledd Cyfraith y Gymanwlad, a gynhaliwyd ym Malta, lle roeddwn yn hapus iawn i dalu tair gwaith yr hyn yr ydym ni yn ei gynnig ar hyn o bryd fel ardoll ymwelwyr i helpu'r ynys honno alluogi ei diwydiant twristiaeth i ffynnu. Cefais gyfarfodydd gyda'r Gweinidog Cyfiawnder yno, a ddywedodd wrthyf faint mae'r ardoll honno wedi'i bod o fudd i Malta o ran yr hyn y maen nhw wedi gallu ei gyflwyno mewn amwynderau a faint mae eu twristiaeth wedi tyfu o ganlyniad. Felly, mae bob amser yn bwysig edrych ar y dystiolaeth yn hytrach na'r ymatebion difeddwl sydd gennych. Mae tystiolaeth o bob rhan o'r byd diwylliannol yn dangos bod ardollau ymwelwyr yn gwella'r profiad i dwristiaid am bris bach iawn er mwyn rhoi'r amwynderau iddynt sy'n eu tynnu yno yn y lle cyntaf. Felly, nid ydych mewn cysylltiad o gwbl â'r dystiolaeth wirioneddol yma.
O ran y GIG, wrth gwrs, rydym ni newydd gael y cwymp mwyaf mewn rhestrau aros a gawsom erioed, felly rwy'n awgrymu eich bod chi'n diweddaru eich ystadegau.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad heddiw. Dwi'n gwerthfawrogi'r ffordd adeiladol dŷch chi wedi bod yn trafod efo ni fel trefnwyr busnes hefyd, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gallu mynd rhagddi, a hefyd y ffaith fod hwn yn dod yn ei flaen yn gynt na'r arfer fel bod pwyllgorau hefyd—. Oherwydd, yn amlwg, mae yna rôl bwysig o ran y Siambr hon, yr holl bwyllgorau craffu, ac mae gallu paratoi, ynghyd â'r rhanddeiliaid hefyd i wybod, oherwydd mae yna lot fawr o waith o'n blaenau ni am y flwyddyn olaf hon—.
Yn amlwg, wrth gwrs, mae o'n anffodus dros ben ein bod ni wedi cael cyfnod o ansefydlogrwydd gan y Llywodraeth, sydd yn golygu bod yna nifer o'r pethau ddylai fod wedi bod yn digwydd wedi cael eu gwasgu i mewn i’r flwyddyn ddiwethaf yma, ac mae’n rhaid inni gydnabod hynny a’r straen mae hynny’n mynd i fod yn ei roi, rŵan, ar gynifer o’n pwyllgorau ni. Ond hefyd, mae yna bethau i’w croesawu yma, wrth gwrs. Mae gwaddol y cytundeb cydweithio yn amlwg o’r hyn dŷch chi wedi’i gyhoeddi heddiw, ac yn amlwg, dŷn ni’n mynd i fod yn falch iawn o fedru helpu i lywio a siapio’r Biliau hyn wrth iddyn nhw fynd drwy’r camau olaf.
Mae yna rai pethau, wrth gwrs, sydd yn ein tristáu ni ar feinciau Plaid Cymru, yn sicr y gohirio a fu o ran y diwygiadau hollbwysig i’r system treth cyngor. Mae hi’n system annheg, anghymesur, ac mae hi’n drueni mawr ein bod ni wedi peidio â gallu mynd â hwnnw rhagddo. Hefyd, wrth gwrs, creu Senedd fwy cyfartal o ran cynrychiolaeth rhywedd—bod hwnna wedi cael ei ollwng yn gyfan gwbl. Mae hwnna’n rhywbeth dŷn ni’n tristáu'n fawr ohono ac yn pryderu’n fawr beth fydd oblygiadau hynny o ran y seithfed Senedd. Felly, mae yna rai pethau y gellid fod yna.
Dwi yn falch o glywed yn eich datganiad heddiw y byddwch chi’n mynd ati o ran sicrhau bod y bylchau deddfwriaethol sydd yna o ran llywodraethiant amgylcheddol, sydd wedi ein gadael ni, wrth gwrs, fel yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb drefniadau o’r fath ers Brexit—bod hynny’n symud rhagddo. Hefyd, mi wnaethoch chi sôn ynglŷn â diwygio system Tribiwnlysoedd Cymru, a bod yna waith yn mynd i fod yn cael ei wneud. Dwi’n cymryd ein bod ni ddim yn mynd i weld y ddeddfwriaeth honno; byddwn i’n gwerthfawrogi cael y cadarnhad. Yn amlwg, mi oedd Adam Price yn glir iawn y mis diwethaf o ran yr angen ein bod ni’n moderneiddio ac uno hynny. Ydych chi’n gweld bod hynny’n mynd i fod yn bosib, neu ydy hynna’n rhywbeth dŷch chi’n rhagweld sydd ddim yn mynd i fod yn bosib oherwydd cyfyngiadau amser?
Mae yna bethau, wrth gwrs, y byddwn ni'n trafod yn hwyrach heddiw, o ran y Bil ar ddiogelwch tomenni glo. Mae hwn yn rhywbeth mae nifer o'n cymunedau ni wedi bod yn ysu a deisyfu i weld. Ond fel mae amryw o randdeiliaid wedi pwysleisio, mae sgôp y Bil yn ymddangos yn llawer mwy cul i gymharu â beth gafodd ei awgrymu'n wreiddiol yn y Papur Gwyn. Felly, mi fydd y broses graffu yn eithriadol o bwysig.
Felly, wrth roesawu rhai o'r pethau, ac yn amlwg, y rhai dŷn ni wedi bod yn cydweithio arnyn nhw, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni i gyd gydnabod faint o waith sydd o'n blaenau ni a'r pwyllgorau craffu er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth o fewn y Senedd hon yn mynd i fod y ddeddfwriaeth gorau posib, a'n bod ni'n dysgu gwersi hefyd pam fod sefydlogrwydd gwleidyddol yn eithriadol o bwysig, oherwydd ei fod o'n gallu amharu ar allu Senedd i allu ddeddfwriaethu.
Thank you to the Counsel General for this afternoon's statement. I appreciate the constructive way in which you've been discussing these issues with us as business managers too, in order to ensure that the legislation can progress, and also the fact that this statement has been brought forward earlier than usual because committees can play their part, too. Clearly, there's an important role for this Chamber, but also for scrutiny committees, and the ability to prepare, along with stakeholders too to know, because there's a great deal of work facing us over this final year—.
Clearly, it's very unfortunate that we have had a period of instability in Government, which does mean that many of the things that should have happened have had to be squeezed into this final year, and we have to recognise that and the pressure that that will now put on so many of our committees. But also, there are things to be welcomed here, of course. The legacy of the co-operation agreement is clear from what you've announced today, and, clearly, we will be very pleased to help steer and shape these Bills as they go through their final stages.
There are some things that do sadden us on the Plaid Cymru benches, certainly the postponement in terms of the crucial changes to the council tax system, which is an unfair and disproportionate system, and it is a great shame that we haven't been able to proceed with changes there. Also, of course, creating a more gender equal Senedd has been dropped entirely, and that is something that deeply saddens us and we are very concerned as to the implications of that in terms of the seventh Senedd. So, there are some things that could be there.
But I was pleased to hear in your statement today that you will be ensuring that the legislative gaps that exist in terms of environmental governance, which have left us as the only nation in the UK without such arrangements in place since Brexit, is progressing. Also, you mentioned reform to the tribunal system in Wales, and that there will be work done there. I assume that we are not going to see that legislation; I would appreciate confirmation of that. Clearly, Adam Price was very clear last month on the need for us to modernise and to bring that system together. Do you believe that that will be possible or is that something that you anticipate will not be possible because of time constraints?
There are things, of course, that we will be discussing today in terms of the coal tip safety Bill. This is something that many of our communities have been desperate to see for many years. But as many stakeholders have said, the scope of the Bill appears more narrow than was suggested originally in the White Paper. So, the scrutiny process will be extremely important.
So, whilst welcoming some of these things, and, clearly, some of the ones that we have been collaborating on, I do think that we must all recognise how much work is facing us and facing our committees in order to ensure that the legislation within this Senedd is the best possible legislation, and that we also learn lessons as to why political stability is so very important, because it can have an impact on the ability of the Senedd to legislate.
Diolch, Heledd. I agree with that. I will try and clarify a few of the things you said, but I broadly very much agree with where you're coming from. Certainly in terms of the co-operation agreement, we've done really good work, and I've got a long list here of the things that were passed legislatively because of it. I think a few of them are worth picking out, actually. The Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022, for example, is really groundbreaking and it happened because of the co-operation agreement. There's the Agriculture (Wales) Act 2023, of course, and there is the Senedd reform itself. We have got the Local Government Finance (Wales) Act 2024—one very undersung but actually a very good Act to have got through—and the social care one. We've currently got the Welsh Language and Education (Wales) Bill and the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill in. And, of course, we worked together during the co-operation agreement time period—in fact, Siân and I worked very specifically on some of the homelessness things and the environmental governance and biodiversity things. The building safety one—I remember several sessions on that during the co-operation agreement, which were really good. Of course, that has meant that we have been able to bring really radical, groundbreaking legislation forward, and I am really glad that that has been able to happen.
In terms of the tribunals Bill, we think we will be able to get a fully complete draft Bill in both languages, but we won't have time to get it through the Senedd. It is not part of my statement today, but I would very much hope that it is not controversial at all; it's about getting it absolutely right and then whoever the Government is after the next election will have an uncontroversial Bill to cut their teeth on, ready to go. I have already spoken to Sir Gary Hickinbottom, the President of the Welsh Tribunals, and after this statement today, I will write out to all the stakeholders and tell them that plan. I know that they will want all of the major parties across the piece to put that into their manifestos. I don't think it is at all controversial and we will have done all of the work necessary to introduce it. We just couldn't do it in the last year; there just wasn't the time. And that is actually the same for the taxi Bill as well, so we will get the draft Bill ready, but we just ran out of time in terms of getting it through the scrutiny processes and stuff. I don't think it's a bad thing to have some things on the stocks for the seventh Senedd that are not controversial, ready to go. The new Government will have something to cut its teeth on and we can—you know, we'll start in good stead. So, it's not where I would have liked to have been, but it's not the worst possible scenario.
And then, just on a few of the other things, we still have an enormous range of secondary legislation to get through. So, amongst the pieces of work that I'm actually doing—I was discussing with the Deputy First Minister only yesterday—I have a long list of things necessary to implement the Acts. That's part of your question. So, I have a long list of things that need to be done in order to make sure that the Acts we've passed are actually implemented, in action, because, obviously, there's no point in having an Act that isn't implemented. So, I've got a long, long list of secondary legislation. And of course, we've had to balance out the time spent doing that, which sometimes is as big if not bigger than the primary legislation, in order to make sure those Acts are actually in force—so, many of the ones I've just outlined there. It's been a balance about what to do, but in the end the Government has decided that it's better to implement the actual programme than it is to just keep putting Acts on and then leaving the implementation to drift off into the future.
Diolch, Heledd. Cytunaf â hynny. Fe wnaf geisio egluro rhai o'r pethau a ddywedoch, ond rwy'n cytuno â'r rhan helaeth o'r hyn rydych yn ei ddweud. Yn sicr o ran y cytundeb cydweithio, rydym wedi gwneud gwaith da iawn, ac mae gen i restr hir yma o'r pethau a basiwyd yn ddeddfwriaethol oherwydd hwnnw. Rwy'n credu bod rhai ohonyn nhw'n werth eu dewis, mewn gwirionedd. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, er enghraifft, yn wirioneddol arloesol ac fe ddigwyddodd oherwydd y cytundeb cydweithio. Mae yna Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, wrth gwrs, ac mae diwygio'r Senedd ei hun. Mae gennym Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024—un nad yw wedi cael ei gwerthfawrogi digon ond mewn gwirionedd mae'n Ddeddf dda iawn i ni ei chyflawni—a'r un gofal cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae gennym Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) a'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc (Cymru) i mewn. Ac, wrth gwrs, fe wnaethon ni weithio gyda'n gilydd yn ystod cyfnod y cytundeb cydweithio—mewn gwirionedd, gweithiodd Siân a minnau yn benodol iawn ar rai o'r pethau digartrefedd a'r pethau llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth. Yr un diogelwch adeiladau—rwy'n cofio sawl sesiwn ar hynny yn ystod y cytundeb cydweithio, a oedd yn dda iawn. Wrth gwrs, mae hynny wedi golygu ein bod wedi gallu cyflwyno deddfwriaeth radical ac arloesol iawn, ac rwy'n falch iawn bod hynny wedi gallu digwydd.
O ran Bil y tribiwnlysoedd, credwn y byddwn yn gallu cael Bil drafft cwbl gyflawn yn y ddwy iaith, ond ni fydd gennym amser i'w gael drwy'r Senedd. Nid yw'n rhan o fy natganiad heddiw, ond byddwn yn gobeithio yn fawr nad yw'n ddadleuol o gwbl; mae'n ymwneud â'i gael yn hollol iawn ac yna bydd pwy bynnag yw'r Llywodraeth ar ôl yr etholiad nesaf yn cael Bil annadleuol i dorri eu dannedd arno, yn barod i fynd. Rwyf eisoes wedi siarad â Syr Gary Hickinbottom, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac ar ôl y datganiad hwn heddiw, byddaf yn ysgrifennu at yr holl randdeiliaid ac yn dweud wrthynt am y cynllun hwnnw. Rwy'n gwybod y byddan nhw eisiau i'r holl brif bleidiau drwyddi draw roi hynny yn eu maniffestos. Nid wyf yn credu ei fod yn ddadleuol o gwbl a byddwn wedi gwneud yr holl waith angenrheidiol ar gyfer ei gyflwyno. Nid oedd yn bosib i ni ei wneud yn y flwyddyn ddiwethaf; 'doedd dim amser. Ac mae hynny'n wirioneddol yr un peth ar gyfer y Bil tacsis hefyd, felly byddwn yn paratoi'r Bil drafft, ond fe wnaethom ni redeg allan o amser o ran ei gael trwy'r prosesau craffu a phethau. Nid wyf yn credu ei fod yn beth drwg cael rhai pethau ar y gweill ar gyfer y seithfed Senedd nad ydynt yn rhai dadleuol, yn barod i fynd. Bydd gan y Llywodraeth newydd rywbeth i dorri ei dannedd arno a gallwn ni—wyddoch chi, byddwn ni'n dechrau mewn lle da. Felly, nid dyma lle y byddwn i wedi hoffi bod, ond nid dyma'r senario gwaethaf posibl.
Ac yna, dim ond ynghylch ychydig o'r pethau eraill, mae gennym ystod enfawr o ddeddfwriaeth eilaidd i'w gael drwyddo o hyd. Felly, ymhlith y darnau o waith rydw i'n ei wneud mewn gwirionedd—roeddwn i'n trafod gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ddoe yn unig—mae gen i restr hir o bethau sy'n angenrheidiol i weithredu'r Deddfau. Mae hynny'n rhan o'ch cwestiwn. Felly, mae gen i restr hir o bethau sydd angen eu gwneud er mwyn gwneud yn siŵr bod y Deddfau rydym ni wedi'u pasio yn cael eu gweithredu mewn gwirionedd, ar waith, oherwydd, yn amlwg, does dim pwynt cael Deddf nad yw'n cael ei gweithredu. Felly, mae gen i restr hir, hir o ddeddfwriaeth eilaidd. Ac wrth gwrs, rydym wedi gorfod cydbwyso'r amser a dreulir yn gwneud hynny, sydd weithiau mor fawr os nad yn fwy na'r ddeddfwriaeth sylfaenol, er mwyn sicrhau bod y Deddfau hynny mewn grym mewn gwirionedd—felly, llawer o'r rhai rydw i newydd eu hamlinellu yno. Mae wedi bod yn gydbwysedd o ran beth i'w wneud, ond yn y diwedd mae'r Llywodraeth wedi penderfynu ei bod hi'n well gweithredu'r rhaglen go iawn nag yw hi i barhau i gyflwyno Deddfau ac yna gadael i'r gweithredu ddigwydd rywbryd yn y dyfodol.
There is a lot to welcome here—people's priorities, as well as our priorities. The environment and biodiversity Bill—. I heard on the radio this morning the future generations commissioner saying we need to do more regarding biodiversity, and we've got this legislation coming through, really welcome, but also the bus Bill, the public services bus Bill—that's people's priority—and ending greyhound racing. We heard the public and you've put that in place now to happen before the end of the year. It's really welcome.
We also debated adopting the Pet Abduction Act 2024, which has been introduced in England—a lot of public support there, and the Senedd all supported it. I know that the Government had to abstain, because you've got a big logjam there of legislation to get through. Rhys ab Owen suggested changing the Theft Act 1968, or putting a line in, to recognise pet theft as more than just taking an object, you know. It's really emotional for people. So, is this something—you talked earlier about going forward to the next Senedd term—that we could put forward ready? We've debated it; we know people want it. Can we get it on so that it's an Act that can be taken through really quickly and easily in the next Senedd term? Thank you.
Mae llawer i'w groesawu yma—blaenoriaethau pobl, yn ogystal â'n blaenoriaethau ni. Bil yr amgylchedd a bioamrywiaeth—. Clywais ar y radio y bore yma gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn dweud bod angen i ni wneud mwy ynglŷn â bioamrywiaeth, ac mae gennym y ddeddfwriaeth hon yn dod drwodd, croeso mawr iddi, ond hefyd y Bil bysiau, y Bil bysiau gwasanaethau cyhoeddus—dyna flaenoriaeth pobl—a dod â rasio milgwn i ben. Fe wnaethom ni glywed y cyhoedd ac rydych chi wedi rhoi hynny ar waith nawr i ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn. Mae i'w groesawu'n fawr iawn.
Fe wnaethom hefyd drafod mabwysiadu Deddf Herwgipio Anifeiliaid Anwes 2024, sydd wedi'i chyflwyno yn Lloegr—llawer o gefnogaeth y cyhoedd yno, ac roedd y Senedd i gyd yn ei chefnogi. Rwy'n gwybod roedd yn rhaid i'r Llywodraeth ymatal, oherwydd mae gennych chi dagfa fawr o ddeddfwriaeth i fynd drwyddo. Awgrymodd Rhys ab Owen newid Deddf Dwyn 1968, neu roi llinell i mewn, i gydnabod bod dwyn anifeiliaid anwes yn fwy na dim ond cymryd gwrthrych, wyddoch chi. Mae'n emosiynol iawn i bobl. Felly, a yw hyn yn rhywbeth—fe wnaethoch chi siarad yn gynharach am fynd ymlaen i dymor nesaf y Senedd—y gallem ei chyflwyno yn barod? Rydym ni wedi ei thrafod; rydym ni'n gwybod bod pobl yn dymuno ei chael. A allwn ni ei chael yn barod fel ei bod yn Ddeddf y gellir ei gwthio drwodd yn gyflym iawn ac yn hawdd yn nhymor nesaf y Senedd? Diolch.
So, I think that one of the things that we'd be very keen to do as we go towards the election—and this, obviously, affects all of the parties here today—is to talk across party about a series of things that the Government can begin the preparation for in order to have them ready to go that are not controversial and would be likely to be included in all of the manifestos of the main parties. We'll be continuing that conversation. That, obviously, can go on the list of that, and then, obviously, it would be a matter for whoever the incoming Government is to pick that up. But we will be talking to all the major parties present in the Senedd about what that list might look like and to make sure that we're geared up for it.
We're going to a four-year Senedd term, so we can't really afford to not have legislation going through straight away, and so making sure that we have some consensual legislation ready to go—. And we're very happy to commit Government drafting time to some of that, to make sure that happens. So, I will be having those conversations across the piece, and, as the election approaches, obviously, everybody gets access to the civil servants to talk through what they need to do. And if we can find those consensual pieces across the Chamber—I think the tribunals Act is a very good example of them, but there are others—then we can obviously bring those forward—. Well, we can get them as ready as we can in order to make sure they happen.
Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau y byddem yn awyddus iawn i'w wneud wrth i ni fynd tuag at yr etholiad—ac mae hyn, yn amlwg, yn effeithio ar bob un o'r pleidiau yma heddiw—yw siarad ar draws pleidiau am gyfres o bethau y gall y Llywodraeth ddechrau paratoi ar eu cyfer er mwyn eu cael yn barod i fynd nad ydynt yn rhai dadleuol ac a fyddai'n debygol o gael eu cynnwys ym mhob un o faniffestos y prif bleidiau. Byddwn yn parhau â'r sgwrs honno. Gall hynny, yn amlwg, fynd ar y rhestr, ac yna, yn amlwg, byddai'n fater i bwy bynnag yw'r Llywodraeth newydd barhau â hynny. Ond byddwn yn siarad â'r holl brif bleidiau sy'n bresennol yn y Senedd am sut y gallai'r rhestr honno edrych ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi ar ei chyfer.
Rydym ni'n mynd i dymor Senedd pedair blynedd, felly ni allwn fforddio peidio â chael deddfwriaeth yn mynd drwodd ar unwaith, ac felly gwneud yn siŵr bod gennym rywfaint o ddeddfwriaeth gydsyniol yn barod i fynd—. Ac rydym yn hapus iawn i ymrwymo amser drafftio'r Llywodraeth ar gyfer rhywfaint o hynny, i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Felly, byddaf yn cael y sgyrsiau hynny drwyddi draw, ac, wrth i'r etholiad agosáu, yn amlwg, mae pawb yn cael mynediad at y gweision sifil i siarad trwy'r hyn sydd angen iddynt ei wneud. Ac os gallwn ddod o hyd i'r darnau cydsyniol hynny ar draws y Siambr—rwy'n credu bod Deddf y Tribiwnlysoedd yn enghraifft dda iawn ohonynt, ond mae yna rai eraill—yna gallwn yn amlwg gyflwyno’r rheini—. Wel, gallwn eu cael mor barod ag y gallwn er mwyn sicrhau eu bod yn digwydd.
Can I also thank you for the way that you've engaged with myself, just as Heledd did with Plaid Cymru? We really do welcome that approach. I've got to start with the ban on greyhound racing, on behalf of Arthur, who is no longer with us, and Wanda who is, and also I'd like to pay tribute to all those amazing animal charities who've worked so hard to get this in place. I look forward to the implementation group being in place very soon in order to take it forward.
I'm pleased at the legislation to eliminate profit, and the bus Bill as well, with the £1 bus fare for 21 and unders that we had in the deal. I am saddened that the gender quota Bill didn't go through. Many of us spent a lot of time on a committee hearing evidence from a lot of people and making recommendations, and that was a real sad day when we heard that it wasn't going to go through. But I just wanted to spend one minute—less than one minute; 10 seconds—talking about the Member accountability Bill and the deception part of that. My questions to you really are that, in order to restore public trust, we need some real principles in there, so I hope I'll be able to meet with you to talk a little bit more about it, but the issues really are about independence, about a judicial process, and about a process that is fair and accountable. Thank you—diolch.
A gaf i ddiolch i chi hefyd am y ffordd rydych chi wedi ymgysylltu â mi, yn union fel y gwnaeth Heledd gyda Phlaid Cymru? Rydym wir yn croesawu'r dull hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddechrau gyda'r gwaharddiad ar rasio milgwn, ar ran Arthur, sydd ddim gyda ni mwyach, a Wanda sydd gyda ni, a hefyd hoffwn dalu teyrnged i'r holl elusennau anifeiliaid anhygoel hynny sydd wedi gweithio mor galed i gael hwn yn ei le. Edrychaf ymlaen at y grŵp gweithredu yn fuan iawn er mwyn ei symud ymlaen.
Rwy'n falch o'r ddeddfwriaeth i ddileu elw, a'r Bil bysiau hefyd, gyda'r tocyn bws £1 ar gyfer rhai 21 oed ac iau a oedd gennym yn y fargen. Rwy'n drist nad oedd y Bil cwota rhywedd wedi mynd drwyddo. Mae llawer ohonom wedi treulio llawer o amser ar bwyllgor yn clywed tystiolaeth gan lawer o bobl ac yn gwneud argymhellion, ac roedd hwnnw'n ddiwrnod trist iawn pan glywsom nad oedd yn mynd i fynd drwodd. Ond roeddwn i eisiau treulio un funud—llai nag un funud; 10 eiliad—i siarad am y Bil atebolrwydd Aelodau a'r rhan am ddichell yn hwnnw. Fy nghwestiynau i chi mewn gwirionedd yw, er mwyn adfer ymddiriedaeth y cyhoedd, mae angen rhai egwyddorion go iawn yno, felly gobeithio y byddaf yn gallu cwrdd â chi i siarad ychydig mwy amdano, ond mae'r materion mewn gwirionedd yn ymwneud ag annibyniaeth, am broses farnwrol, ac am broses sy'n deg ac yn atebol. Diolch.
Thank you, Jane. I share the frustration on the gender quota Bill. We just weren’t able to do it in a way that meant that we were sure we could get it through. We had to sever it, as you remember, from the reform Bill itself because we were afraid that it would take the whole thing down, and then we haven’t been able to work out a way to do it. That does not mean it can’t be done in the future, but it was very challenging to do. I share your sadness at that. I am sure that will be a piece of work that comes forward again.
In terms of the Member accountability Bill, yes, I absolutely intend to speak to yourself and to Adam and to Lee, who were the three people who pushed it forward in the first place. But I also intend to engage properly with all of the parties in the Senedd about what we expect that Bill to look like and what’s possible. I have also had a conversation with the Chair of the standards committee about what they expect and what is achievable. But I'm absolutely committed to taking something through that we can get through this Senedd term. Whether we will be able to get all of the implementing regulations through is something we will need to discuss. We will have to have discussions with the Business Committee about an expedited timetable for that Bill, because there's no way we can get it ready before the half-term in the autumn term, and so we just will not be able to have a 12-week Stage 1 scrutiny period or it will time out. So, we will have to do a lot of work across the Senedd to make sure that that happens, but that does not mean we can’t do that, and I'm very much looking forward to it. There is a placeholder in the programme to make sure that it can stay there, so I'm very committed to that. It has the two bits in it. It has the recall provisions, as well as the Member accountability provisions, so we will need to make sure that we work very hard to put those in place.
The Deputy First Minister, I know, has been working hard on the implementation group for the greyhound ban, and I hope we’ll announce that very shortly. I'm sure I've seen a draft. So, yes, that should be any minute now, I think. That should be coming out. Then, as you know, we have the placeholder Bill in place for the backstop for that as well. So, we'll be convening some groups to make sure that we have the gist of that. I will be doing that alongside the drafters, so I will make sure that the legislative counsel who actually draft the Bill are part of that group as well, so that we kind of circumvent some of the iterative processes so that we can do it as fast as possible.
Diolch, Jane. Rwy'n rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch y Bil cwota rhywedd. Nid oeddem yn gallu gwneud hynny mewn ffordd a oedd yn golygu ein bod ni'n siŵr y gallwn ei gael drwodd. Roedd yn rhaid i ni ei dynnu, fel y cofiwch chi, oddi wrth y Bil diwygio ei hun oherwydd roeddem ni'n ofni y byddai'n dod â'r holl beth i lawr, ac yna nid ydym wedi gallu gweithio allan ffordd i'w wneud. Nid yw hynny'n golygu na ellir ei wneud yn y dyfodol, ond roedd yn heriol iawn i'w wneud. Rwy'n rhannu eich tristwch ynghylch hynny. Rwy'n siŵr y bydd hwnnw'n ddarn o waith a ddaw ymlaen eto.
O ran y Bil atebolrwydd Aelodau, ydw, rwy'n bwriadu siarad â chi ac ag Adam a Lee, sef y tri pherson a'i wthiodd ymlaen yn y lle cyntaf. Ond rwyf hefyd yn bwriadu ymgysylltu'n iawn â'r holl bleidiau yn y Senedd ynglŷn â sut rydym ni'n disgwyl y bydd y Bil hwnnw'n edrych a beth sy'n bosibl. Rwyf hefyd wedi cael sgwrs gyda Chadeirydd y pwyllgor safonau am yr hyn maen nhw'n ei ddisgwyl a'r hyn sy'n gyflawnadwy. Ond rwy'n gwbl ymrwymedig i fynd â rhywbeth drwyddo y gallwn ni ei gael trwyddo yn nhymor y Senedd hon. Mae p'un a fyddwn yn gallu cael yr holl reoliadau gweithredu drwodd yn rhywbeth y bydd angen i ni ei drafod. Bydd yn rhaid i ni gael trafodaethau gyda'r Pwyllgor Busnes ynglŷn ag amserlen gyflym ar gyfer y Bil hwnnw, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gallwn ei baratoi cyn hanner tymor yn nhymor yr hydref, ac felly ni fyddwn yn gallu cael cyfnod craffu Cyfnod 1 o 12 wythnos neu bydd yn dod i ben. Felly, bydd yn rhaid i ni wneud llawer o waith ar draws y Senedd i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, ond nid yw hynny'n golygu na allwn wneud hynny, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato. Mae yna dalfan yn y rhaglen i wneud yn siŵr ei fod yn gallu aros yno, felly rwy'n ymrwymedig iawn i hynny. Mae dau ddarn iddo. Mae'r darpariaethau adalw, yn ogystal â'r darpariaethau atebolrwydd Aelodau, felly bydd angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio'n galed iawn i roi'r rheini ar waith.
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, rwy'n gwybod, wedi bod yn gweithio'n galed ar y grŵp gweithredu ar gyfer y gwaharddiad milgwn, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cyhoeddi hynny yn fuan iawn. Rwy'n siŵr fy mod wedi gweld drafft. Felly dylai hynny fod unrhyw funud nawr, rwy'n meddwl. Dylai hwnnw fod yn dod allan. Yna, fel y gwyddoch, mae gennym y Bil dalfan ar gyfer cynllun wrth gefn ar gyfer hynny hefyd. Felly, byddwn yn cynnull rhai grwpiau i wneud yn siŵr ein bod yn deall hanfodion hwn. Byddaf yn gwneud hynny ochr yn ochr â'r drafftwyr, felly byddaf yn gwneud yn siŵr bod y cwnsler deddfwriaethol sy'n drafftio'r Bil mewn gwirionedd yn rhan o'r grŵp hwnnw hefyd, fel ein bod yn osgoi rhai o'r prosesau ailadroddol fel y gallwn ei wneud mor gyflym â phosibl.
Diolch. I thank the Cabinet Secretary for Social Justice and the Counsel General, yourself, for inviting me to a series of constructive meetings regarding my British Sign Language (Wales) Bill over the last few months. As you know, the Bill as now drafted will place a statutory duty on Welsh Ministers to promote, support and report on the use of BSL throughout Wales. The Act outlines a comprehensive framework, including the preparation of a BSL strategy, guidance for public bodies and the creation of BSL plans for key public institutions. It also requires the appointment of a statutory BSL adviser who will advise Welsh Ministers. Will the Counsel General confirm her agreement with the Cabinet Secretary for Social Justice and I that this adviser would be a BSL user themselves and they would have the power to appoint a BSL advisory panel, which would mean that this legislation would go further than any other BSL legislation in the UK?
The need for this legislation was once again highlighted by the reports last week of the deaf man living near Mold who died from cancer and whose daughter stated that his care was impacted by a severe lack of sign language provision. This language legislation will help make Wales a more inclusive place for BSL users, enabling them to participate in public life and access essential services. Finally, therefore, will the Counsel General also confirm that legislative time will be made available in the remainder of this Senedd term to allow my Bill to progress through the legislative stages? Does she agree that we must get this legislation right, with lived experience at the heart of the Bill, for the BSL and wider deaf community?
Diolch. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, eich hunan, am fy ngwahodd i gyfres o gyfarfodydd adeiladol ynglŷn â'm Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) dros y misoedd diwethaf. Fel y gwyddoch chi, bydd y Bil fel y'i drafftiwyd bellach yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo, cefnogi ac adrodd ar y defnydd o BSL ledled Cymru. Mae'r Ddeddf yn amlinellu fframwaith cynhwysfawr, gan gynnwys paratoi strategaeth BSL, canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus a chreu cynlluniau BSL ar gyfer sefydliadau cyhoeddus allweddol. Mae hefyd yn gofyn am benodi cynghorydd BSL statudol a fydd yn cynghori Gweinidogion Cymru. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau ei chytundeb gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol a minnau y byddai'r cynghorydd hwn yn ddefnyddiwr BSL ei hun a byddai ganddo'r pŵer i benodi panel cynghori BSL, a fyddai'n golygu y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn mynd ymhellach nag unrhyw ddeddfwriaeth BSL arall yn y DU?
Amlygwyd yr angen am y ddeddfwriaeth hon unwaith eto gan yr adroddiadau yr wythnos diwethaf am y dyn byddar a oedd yn byw ger yr Wyddgrug a fu farw o ganser ac y dywedodd ei ferch fod diffyg darpariaeth iaith arwyddion difrifol yn effeithio ar ei ofal. Bydd y ddeddfwriaeth iaith hon yn helpu i wneud Cymru yn lle mwy cynhwysol i ddefnyddwyr BSL, gan eu galluogi i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a chael mynediad at wasanaethau hanfodol. Yn olaf, felly, a fydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn cadarnhau y bydd amser deddfwriaethol ar gael yng ngweddill tymor y Senedd hon i ganiatáu i'm Bil symud ymlaen trwy'r cyfnodau deddfwriaethol? A yw hi'n cytuno bod yn rhaid i ni gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, gyda phrofiad bywyd wrth wraidd y Bil, ar gyfer y gymuned BSL a'r gymuned fyddar ehangach?
Thank you very much, Mark. I'm absolutely delighted to be able to confirm ‘yes’ to all of your questions. It isn't, obviously, in my statement today, because it's not a Government Bill—it's your Bill—but the Government will absolutely work with you to make sure that it goes through. We are in absolute agreement on it, and we will make sure that the legislative time is made available. We will help you speak with the Business Committee to make sure that the scrutiny arrangements are in place and we've got a placeholder for it in the programme, although it remains your Bill and not mine, so that's why it's not on my list. But we've been delighted to work with you; the Minister for social justice and myself have been delighted to be part of that, and I'm very grateful to you for having brought it forward.
Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwy'n falch iawn o allu ateb eich holl gwestiynau'n gadarnhaol. Nid yw, yn amlwg, yn fy natganiad heddiw, oherwydd nid yw'n Fil y Llywodraeth—eich Bil chi ydyw—ond bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr ei fod yn mynd drwodd. Rydym yn cytuno'n llwyr arno, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod yr amser deddfwriaethol ar gael. Byddwn yn eich helpu i siarad â'r Pwyllgor Busnes i wneud yn siŵr bod y trefniadau craffu ar waith ac mae gennym ddalfan ar ei gyfer yn y rhaglen, er ei fod yn parhau i fod yn Fil o'ch eiddo chi ac nid fy Mil i, felly dyna pam nad yw ar fy rhestr. Ond rydym wedi bod yn falch iawn o weithio gyda chi; mae'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a minnau wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ei gyflwyno.
Ac yn olaf, Mick Antoniw.
Finally, Mick Antoniw.
Counsel General, firstly, thank you for the statement. I was disappointed in the opposition's contribution to your statement. Normally, with oppositions, they set out some of the legislation they would have liked to have seen, and I don't think there was a single piece of legislation that was mentioned. It's no wonder they lost all the Members of Parliament in the last general election. Can I say also that what is clearly happening is that we are creating a growing body of Welsh law and legislation, and obviously issues around the devolution of justice, which we all want to see, will, hopefully, make progress.
Can I just say a couple of pieces of legislation that are really important? The consolidation planning Bill—I'm glad to see that is progressing. It may actually, although consolidation, be one of the most significant and important pieces of legislation that we've passed in terms of the economic benefits that there will be. On the tribunals Bill, I very much welcome the fact that the Government will be working, the legislative programme will be working, through to the very last minutes that are feasible within it, which is quite unique, and obviously reflects the fact that we'll need to do that time after time in the new Senedd, because, with a four-year programme, there is no time, there is no availability of time, to waste or to defer—so, to maximise legislation, and particularly shorter and focused pieces of legislation as well, and I very much welcome what was said in respect of the sign language Bill.
On tribunals, obviously a very, very important piece of legislation, but again it makes perfect sense to have legislation that is continuing from one Senedd to another on important matters of policy and operation of this Senedd, particularly within the justice sector.
Can I just add one further point, then? There are certain bits of legislation that clearly need reviewing. You referred earlier to the Agriculture (Wales) Act, and I know that, for example, Unite the Union, the agricultural workers section, are keen for there to be reviews of part of that. Do you have any plans in respect of the review of legislation and updating in terms of what we've learned as legislation progresses year after year? Thank you.
Cwnsler Cyffredinol, yn gyntaf, diolch am y datganiad. Roeddwn i'n siomedig yng nghyfraniad yr wrthblaid i'ch datganiad. Fel arfer, gyda gwrthwynebiadau, maen nhw'n nodi rhywfaint o'r ddeddfwriaeth y byddent wedi hoffi ei gweld, ac nid wyf yn credu bod un darn o ddeddfwriaeth wedi ei grybwyll. Nid yw'n syndod eu bod wedi colli'r holl Aelodau Seneddol yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. A gaf i ddweud hefyd mai'r hyn sy'n digwydd yn amlwg yw ein bod yn creu corff cynyddol o gyfraith a deddfwriaeth Cymru, ac yn amlwg bydd materion sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder, yr ydym i gyd eisiau ei weld, gobeithio, yn gwneud cynnydd.
A gaf i sôn am gwpl o ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n bwysig iawn? Y Bil cydgrynhoi cynllunio—rwy'n falch o weld bod hwnnw'n mynd rhagddo. Efallai ei fod yn un o'r darnau deddfwriaeth mwyaf arwyddocaol a phwysig yr ydym wedi'u pasio o ran y manteision economaidd y bydd yna. O ran Bil y tribiwnlysoedd, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith y bydd y Llywodraeth yn gweithio, bydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn gweithio, hyd at y munudau olaf sy'n ymarferol ynddi, sy'n eithaf unigryw, ac yn amlwg yn adlewyrchu'r ffaith y bydd angen i ni wneud hynny dro ar ôl tro yn y Senedd newydd, oherwydd, gyda rhaglen pedair blynedd, nid oes amser, nid oes amser ar gael, i'w wastraffu neu i ohirio—felly, i wneud y mwyaf o ddeddfwriaeth, ac yn enwedig darnau byrrach o ddeddfwriaeth sydd â ffocws hefyd, ac rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedwyd mewn perthynas â'r Bil iaith arwyddion.
O ran tribiwnlysoedd, yn amlwg mae'n ddarn pwysig iawn, iawn o ddeddfwriaeth, ond eto mae'n gwneud synnwyr perffaith i gael deddfwriaeth sy'n parhau o un Senedd i'r llall ar faterion pwysig o bolisi a gweithrediad y Senedd hon, yn enwedig o fewn y sector cyfiawnder.
A gaf i ychwanegu un pwynt arall? Mae yna rai darnau o ddeddfwriaeth sy'n amlwg angen eu hadolygu. Fe wnaethoch gyfeirio at Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn gynharach, ac rwy'n gwybod, er enghraifft, bod Unite the Union, yr adran gweithwyr amaethyddol, yn awyddus i gael adolygiadau o ran o hwnnw. A oes gennych unrhyw gynlluniau mewn perthynas ag adolygu deddfwriaeth a diweddaru o ran yr hyn rydym ni wedi'i ddysgu wrth i ddeddfwriaeth symud ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn? Diolch.
Thank you very much, Mick. So, I absolutely agree with your points there. As you know, as a Parliament, we haven't got a wash-up process, as they do in the UK Parliament, and it is one of the things that I think we should consider as a Senedd going forward, because there will be Bills that are consensual in that way that could fall into a wash-up process, and, if there was such a process, we might have got the tribunals Bill through. So, it's something we should really consider for future Senedd programmes.
I've also been discussing with the Business Committee—and, indeed, as a member of the Future Senedd Committee—some of the other things that we can do that would allow consensual, procedural-type legislation to go through. One of the things we intend to do, as I've said a number of times in this place to Members, is we intend to do an omnibus correction, repeal and tidying up, if you like, Bill. We would expect to see at least one of those per Senedd term, and I would very much like to see one every other year, actually, in which we improve the accessibility of the law by tidying up the various pieces. And there's a piece of work going on with all of the legislative counsels of the four nations around what is the primacy of the law. So, this is very technical. Apologies to everyone who isn't really into this, but at the moment in the UK—and I'm telling you something you already know, Mick, I know—it's the paper law that's the law, and the digital version is not the definitive law. In virtually every other jurisdiction in the world, it's the other way around. And you wouldn't, if it was the other way around, be able to give the King's Printer for Wales the ability to correct the digital record. So, for example, the example we give all the time is that, in much UK legislation, powers are given to the Secretary of State. It's not obvious which Secretary of State; you have to do a little bit of rummaging around to find out. But, because of the growth in Welsh law, 'the Secretary of State' can mean the Welsh Ministers; it can mean the Secretary of State in regard to England and the Welsh Ministers in regard to Wales. But, even more extraordinarily, that Act might be disapplied in England and it might only mean the Welsh Ministers. Good luck with figuring that out, if you're appearing in a court.
So, if we went to the digital law being the primary law, then the King's Printer could actually correct that, and they could do that as an administrative thing, whereas, at the moment, we would have to take amending legislation through, which is a huge palaver to do something pretty straightforward. So, I agree with you, I think there are a number of things that the maturing Senedd will be able to do that will improve the accessibility of law, and one of those is absolutely legislation that goes across Senedd terms or falls into a wash-up.
Diolch yn fawr iawn, Mick. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'ch pwyntiau yn y fan yna. Fel y gwyddoch, fel Senedd, nid oes gennym broses cau pen y mwdwl, fel sydd ganddynt yn Senedd y DU, ac mae'n un o'r pethau rwy'n credu y dylem ei ystyried fel Senedd yn y dyfodol, oherwydd bydd Biliau sy'n gydsyniol yn y modd hwnnw a allent syrthio i mewn i broses cau pen y mwdwl, a phe bai yna broses o'r fath, efallai y byddwn wedi cael y Bil tribiwnlysoedd drwodd. Felly, mae'n rhywbeth y dylem ei ystyried ar gyfer rhaglenni'r Senedd yn y dyfodol.
Rwyf hefyd wedi bod yn trafod gyda'r Pwyllgor Busnes—ac, yn wir, fel aelod o Bwyllgor Senedd y Dyfodol—rhai o'r pethau eraill y gallwn eu gwneud a fyddai'n caniatáu i ddeddfwriaeth gydsyniol, weithdrefnol fynd drwyddo. Un o'r pethau yr ydym yn bwriadu ei gwneud, fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith yn y lle hwn wrth yr Aelodau, yw ein bod yn bwriadu gwneud Bil cywiro, diddymu a thacluso omnibws, os dymunwch chi. Byddwn yn disgwyl gweld o leiaf un o'r rheiny ym mhob tymor y Senedd, a hoffwn weld un bob yn ail flwyddyn, mewn gwirionedd, lle rydym yn gwella hygyrchedd y gyfraith trwy dacluso y gwahanol ddarnau. Ac mae darn o waith yn mynd ymlaen gyda phob un o gynghorwyr deddfwriaethol y pedair gwlad ynghylch beth yw uchafiaeth y gyfraith. Felly, mae hyn yn dechnegol iawn. Ymddiheuriadau i bawb nad ydynt yn ymddiddori yn y maes hwn mewn gwirionedd, ond ar hyn o bryd yn y DU—ac rwy'n dweud wrthych rywbeth rydych chi eisoes yn ei wybod, Mick, rwy'n gwybod—y gyfraith bapur yw y gyfraith, ac nid yw'r fersiwn ddigidol yn gyfraith ddiffiniol. Ym mron pob awdurdodaeth arall yn y byd, mae'r gwrthwyneb yn wir. Ac ni fyddech chi, pe bai'r gwrthwyneb yn wir yma yn gallu rhoi'r gallu i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gywiro'r cofnod digidol. Felly, er enghraifft, yr enghraifft rydym ni'n ei roi drwy'r amser yw bod, mewn llawer o ddeddfwriaeth y DU, bwerau yn cael eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Nid yw'n amlwg pa Ysgrifennydd Gwladol; mae'n rhaid i chi wneud ychydig o chwilota o gwmpas i ganfod hynny. Ond, oherwydd y twf yng nghyfraith Cymru, gall 'yr Ysgrifennydd Gwladol' olygu Gweinidogion Cymru; gall olygu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru. Ond, hyd yn oed yn fwy rhyfeddol, efallai y byddai'r Ddeddf honno yn cael ei datgymhwyso yn Lloegr ac efallai byddai'n golygu dim ond Gweinidogion Cymru. Pob lwc gyda cheisio gwneud synnwyr o hynny, pe baech chi'n ymddangos mewn llys.
Felly, pe baem yn dweud bod y gyfraith ddigidol yn gyfraith sylfaenol, yna gallai Argraffydd y Brenin gywiro hynny mewn gwirionedd, a gall wneud hynny fel peth gweinyddol, ond ar hyn o bryd fe fyddai'n rhaid i ni fynd â deddfwriaeth ddiwygio drwodd, sy'n gybôl enfawr er mwyn gwneud rhywbeth eithaf syml. Felly, rwy'n cytuno â chi, rwy'n credu bod yna nifer o bethau y bydd y Senedd sy'n aeddfedu yn gallu eu gwneud a fydd yn gwella hygyrchedd y gyfraith, ac un o'r rheiny yw deddfwriaeth sy'n mynd ar draws tymhorau'r Senedd neu'n syrthio i mewn i broses cau pen y mwdwl.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
I thank the Counsel General.
Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar strategaeth bwyd cymunedol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.
Item 5 today is a statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on the community food strategy. I call on the Cabinet Secretary, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae bwyd wrth wraidd ein bywydau i gyd. Mae'r hyn rydym ni'n ei fwyta yn effeithio nid yn unig ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd ar ein hamgylchedd, ein diwylliant, a chryfder ein cymunedau.
Thank you, Dirprwy Lywydd. Food lies at the heart of all our lives. What we eat impacts not only our physical and mental health, but also our environment, our culture, and the strength of our communities.
This is why the community food strategy is a key commitment in our programme for government. It is not a top-down directive; it is a strategy built from the ground up, shaped by and for communities across Wales. We’ve listened to and drawn on the experience of grass-roots initiatives already working to strengthen food resilience, to promote healthier diets, and to build more sustainable local food systems. Through consultations, workshops and collaborative partnerships, we’ve ensured that the strategy reflects what our communities need and value. And my sincere thanks go to all those who've contributed.
As we all know, Wales is part of a global food system. Supermarkets offer convenience and affordability, but the reliance on global supply chains also comes at a cost: environmental impact and, indeed, impacts on people’s health and diet. The levels of fat, sugar and salt in ultra-processed foods are linked to a number of health concerns. These long-term impacts on people and communities’ well-being are why we’ve grounded this strategy in the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, and it complements the 'Cymru Can' strategy. This strategy complements the recommendations made by the Future Generations Commissioner for Wales in relation to food only earlier today. The community food strategy also integrates with the ‘Healthy Weight: Healthy Wales’ plan and the 2024 child poverty strategy, both of which promote community-led solutions and long-term wellbeing.
A stronger local food system depends on stronger links between supply and demand. Through this strategy, we are backing Welsh growers, farmers and food businesses with the investment in capacity, skills and infrastructure, and the access to procurement opportunities. We’re supporting public bodies to embed food into their well-being plans and to work closely with local food partnerships. In practice, this will help to increase the amount of locally produced food available through our public services, through initiatives such as Welsh Veg in Schools and the Rhondda Cynon Taf food partnership.
Food policy touches nearly every Government department, and last year, I published 'Food Matters: Wales' to demonstrate our joined-up strategic thinking in policy making. The cross-Government food policy forum continues to support this joined-up approach, making sure that we are making the most of every opportunity. To drive delivery and demonstrate our strategic leadership, I am very pleased to establish a new ministerial advisory group of key stakeholders and delivery partners. This group will help us stay focused, collaborative, and accountable against the objectives of the community food strategy.
We are committed to joined-up strategic thinking and leadership across all levels of government. Public bodies are increasingly embracing sustainable food procurement. Local authorities are exploring new uses for public assets—like land—to support food initiatives. Our target is bold: to increase public sector spend on Welsh food and suppliers by at least 50 per cent by 2030, increasing the market opportunities for those who grow and produce our food here in Wales. We’re supporting this shift with initiatives, including Buying Food Fit for the Future and Welsh Food on the Public Plate.
Since 2022, we have expanded local food partnerships from nine to 22 local authorities, now reaching every local authority across Wales. These crucial partnerships enable local food organisations to co-ordinate their actions, helping to maximise the positive impacts on food poverty, public health, green growth, and on education.
Universal primary free school meals are central to our whole-school approach, offering healthy food whilst also teaching children about their food and sustainability. And in 2024 alone, our Food and Fun programme reached 205 schools and supported over 13,000 children every day. Providing school-going children with nutritious and sustainably sourced food will help strengthen food resilience in our communities.
Food insecurity is a pressure on households right across the country. It undermines health and it contributes to obesity, disease, and indeed to malnutrition. The impact of food insecurity and food poverty are real, and they are lasting. That's why, since 2019, we've invested over £26 million to support those most in need, including through local authorities, Trussell Trust foodbanks, and FareShare Cymru. Initiatives such as Food Power, Healthy Start, Big Bocs Bwyd and the PIPYN pilot in Merthyr Tydfil are supporting people to make those healthier choices and improving food literacy. In February, I was delighted to visit Fareshare Cymru to see their work, and how they have made 15 million meals available since 2015. I'd like to take this opportunity to thank the staff and the volunteers at all such organisations for their continued support of these initiatives. The local food partnership funding will support making healthy, locally sourced food more accessible to more people across Wales.
As well as helping more people to buy and eat local food, we also need to support more people to grow that food. Small-scale horticulture brings big benefits: fewer food miles, healthier soil, more biodiversity, and support for rural jobs. So, we're providing grants, training and support networks to grow this sector, and I look forward to seeing it go from strength to strength.
Through Welsh Government support, social farms and gardens deliver the Community Land Advisory Service and are helping to tailor guidance for smaller horticultural enterprises to enable them to grow and become more established. We're also updating 'Planning Policy Wales' to enable community growing and horticulture. At the same time, we're addressing infrastructure gaps in local processing and packaging—essential steps to scale up regional food supply.
Community-supported agriculture brings producers and consumers together to share the rewards and the risks of sustainable farming. These models deliver lower emissions, better biodiversity, and stronger local ties, but they do face barriers like access to land and financial viability. So, to create cohesive food communities, we will support more CSA start-ups—community-supported agriculture start-ups—and we'll seek to make more land available to help them thrive.
This community food strategy is not just a Government initiative; this is a shared vision, developed by Welsh communities, for Welsh communities. Together, we can build a healthier, fairer, and more resilient approach to our food system and market structures, and one that helps us build that sustainable future.
Dyma pam mae'r strategaeth bwyd cymunedol yn ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu. Nid yw'n gyfarwyddeb o'r brig i lawr; mae'n strategaeth a adeiladwyd o'r gwaelod i fyny, wedi'i lywio gan gymunedau ledled Cymru ac ar eu cyfer. Rydym wedi gwrando ar brofiad mentrau ar lawr gwlad sydd eisoes yn gweithio i gryfhau gwytnwch bwyd ac wedi manteisio ar y profiad hwnnw i hyrwyddo deietau iachach, ac i adeiladu systemau bwyd lleol mwy cynaliadwy. Trwy ymgyngoriadau, gweithdai a phartneriaethau cydweithredol, rydym wedi sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu'r hyn sydd ei angen ar ein cymunedau a'r hyn maen nhw'n ei werthfawrogi. A hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi cyfrannu.
Fel rydym i gyd yn gwybod, mae Cymru yn rhan o system fwyd fyd-eang. Mae archfarchnadoedd yn cynnig cyfleustra a fforddiadwyedd, ond mae yna gost ynghlwm wrth y ddibyniaeth ar gadwyni cyflenwi byd-eang hefyd: effaith amgylcheddol ac, yn wir, effeithiau ar iechyd a deiet pobl. Mae lefelau braster, siwgr a halen mewn bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth yn gysylltiedig â nifer o bryderon iechyd. Yr effeithiau hirdymor hyn ar les pobl a chymunedau yw'r rheswm pam rydym wedi seilio'r strategaeth hon yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n ategu strategaeth 'Cymru Can'. Mae'r strategaeth hon yn ategu'r argymhellion a wnaed gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o ran bwyd yn gynharach heddiw. Mae'r strategaeth bwyd cymunedol hefyd yn integreiddio â chynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a strategaeth tlodi plant 2024, y mae'r ddau ohonynt yn hyrwyddo atebion a arweinir gan y gymuned a lles hirdymor.
Mae system fwyd leol gryfach yn dibynnu ar gysylltiadau cryfach rhwng cyflenwad a galw. Trwy'r strategaeth hon, rydym yn cefnogi tyfwyr, ffermwyr a busnesau bwyd Cymru gyda'r buddsoddiad mewn capasiti, sgiliau a seilwaith, a'r mynediad at gyfleoedd caffael. Rydym yn cefnogi cyrff cyhoeddus i ymgorffori bwyd yn eu cynlluniau lles ac i weithio'n agos gyda phartneriaethau bwyd lleol. Yn ymarferol, bydd hyn yn helpu i gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol sydd ar gael trwy ein gwasanaethau cyhoeddus, trwy fentrau fel Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a phartneriaeth bwyd Rhondda Cynon Taf.
Mae polisi bwyd yn cyffwrdd â bron pob adran o'r Llywodraeth, a'r llynedd, cyhoeddais 'Bwyd o Bwys: Cymru' i ddangos ein ffordd strategol a chydgysylltiedig o feddwl wrth lunio polisïau. Mae'r fforwm polisi bwyd traws-lywodraethol yn parhau i gefnogi'r dull cydgysylltiedig hwn, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau o bob cyfle. Er mwyn ysgogi cyflawniad a dangos ein harweinyddiaeth strategol, rwy'n falch iawn o sefydlu grŵp cynghori gweinidogol newydd o randdeiliaid allweddol a phartneriaid cyflawni. Bydd y grŵp hwn yn ein helpu i gadw ffocws, bod yn gydweithredol a chael ein dwyn i gyfrif yn erbyn amcanion y strategaeth bwyd cymunedol.
Rydym wedi ymrwymo i arwain a meddwl mewn ffordd strategol a chydgysylltiedig ar draws pob lefel o lywodraeth. Mae cyrff cyhoeddus yn croesawu ffyrdd cynaliadwy o gaffael bwyd fwyfwy. Mae awdurdodau lleol yn archwilio defnyddiau newydd ar gyfer asedau cyhoeddus—fel tir—i gefnogi mentrau bwyd. Mae ein targed yn feiddgar: cynyddu gwariant y sector cyhoeddus ar fwyd a chyflenwyr Cymru o leiaf 50 y cant erbyn 2030, gan gynyddu cyfleoedd y farchnad i'r rhai sy'n tyfu ac yn cynhyrchu ein bwyd yma yng Nghymru. Rydym yn cefnogi'r newid hwn gyda mentrau, gan gynnwys Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol a Bwyd o Gymru ar y Plât Cyhoeddus.
Ers 2022, rydym wedi ehangu partneriaethau bwyd lleol o naw i 22 o awdurdodau lleol, gan gyrraedd pob awdurdod lleol ledled Cymru. Mae'r partneriaethau hanfodol hyn yn galluogi sefydliadau bwyd lleol i gydlynu eu gweithredoedd, gan helpu i sicrhau'r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl ar dlodi bwyd, iechyd y cyhoedd, twf gwyrdd, ac addysg.
Mae prydau ysgol gynradd am ddim i bawb yn ganolog i'n dull ysgol gyfan, gan gynnig bwyd iach ac addysgu plant am eu bwyd a chynaliadwyedd ar yr un pryd. Ac yn 2024 yn unig, cyrhaeddodd ein rhaglen Bwyd a Hwyl 205 o ysgolion a chefnogi dros 13,000 o blant bob dydd. Bydd darparu bwyd maethlon a chynaliadwy i blant sy'n mynd i'r ysgol yn helpu i gryfhau gwytnwch bwyd yn ein cymunedau.
Mae ansicrwydd bwyd yn rhoi pwysau ar aelwydydd ledled y wlad. Mae'n tanseilio iechyd ac yn cyfrannu at ordewdra, clefydau ac, yn wir, diffyg maeth. Mae effaith ansicrwydd bwyd a thlodi bwyd yn real, ac mae'n barhaol. Dyna pam, ers 2019, rydym wedi buddsoddi dros £26 miliwn i gefnogi'r rhai sydd fwyaf mewn angen, gan gynnwys drwy awdurdodau lleol, banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, a FareShare Cymru. Mae mentrau fel Food Power, Cychwyn Iach, Big Bocs Bwyd a chynllun peilot PIPYN ym Merthyr Tudful yn cefnogi pobl i wneud y dewisiadau iachach hynny a gwella llythrennedd bwyd. Ym mis Chwefror, roeddwn i'n falch iawn o ymweld â Fareshare Cymru i weld y gwaith maen nhw'n ei wneud, a sut maen nhw wedi sicrhau bod 15 miliwn o brydau bwyd ar gael ers 2015. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr ym mhob sefydliad o'r fath am y gefnogaeth barhaus maen nhw'n ei rhoi i'r mentrau hyn. Bydd y cyllid ar gyfer partneriaethau bwyd leol yn helpu i sicrhau bod bwyd iach, lleol ar gael yn haws i fwy o bobl ledled Cymru.
Yn ogystal â helpu mwy o bobl i brynu a bwyta bwyd lleol, mae angen i ni hefyd gefnogi mwy o bobl i dyfu'r bwyd hwnnw. Mae garddwriaeth ar raddfa fach yn sicrhau manteision mawr: llai o filltiroedd bwyd, pridd iachach, mwy o fioamrywiaeth, a chefnogaeth ar gyfer swyddi gwledig. Felly, rydym yn darparu grantiau, hyfforddiant a rhwydweithiau cymorth i dyfu'r sector hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn mynd o nerth i nerth.
Trwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae ffermydd a gerddi cymdeithasol yn darparu'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol ac yn helpu i deilwra canllawiau ar gyfer mentrau garddwriaethol llai i'w galluogi i dyfu a dod yn fwy sefydledig. Rydym hefyd yn diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' i alluogi garddwriaeth a thyfu cymunedol. Ar yr un pryd, rydym yn mynd i'r afael â bylchau yn y seilwaith o ran prosesu a phecynnu lleol—camau hanfodol i gynyddu cyflenwad bwyd rhanbarthol.
Mae amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yn dod â chynhyrchwyr a defnyddwyr at ei gilydd i rannu'r gwobrau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â ffermio cynaliadwy. Mae'r modelau hyn yn darparu allyriadau is, gwell bioamrywiaeth, a chysylltiadau lleol cryfach, ond maen nhw yn wynebu rhwystrau fel mynediad at dir a hyfywedd ariannol. Felly, er mwyn creu cymunedau bwyd cydlynol, byddwn ni'n cefnogi mwy o fusnesau CSA newydd—busnesau amaethyddol newydd a gefnogir gan y gymuned—a byddwn yn ceisio sicrhau bod mwy o dir ar gael i'w helpu i ffynnu.
Nid menter y Llywodraeth yn unig mo'r strategaeth bwyd cymunedol hon; mae'n weledigaeth a rennir, a ddatblygwyd gan gymunedau yng Nghymru, ar gyfer cymunedau Cymru. Gyda'n gilydd, gallwn ni adeiladu dull iachach, tecach a mwy gwydn o ymdrin â'n system fwyd a strwythurau'r farchnad, ac un sy'n ein helpu ni i adeiladu'r dyfodol cynaliadwy hwnnw.
Nawr, rwy'n gwybod bod gwytnwch bwyd cymunedol yn fater o ddiddordeb personol i nifer o Aelodau ar draws y Siambr hon, ac rwyf am ddiolch i'r rhai ohonoch sydd wedi dangos diddordeb gweithredol yn y pwnc hwn ers blynyddoedd lawer. Felly, rwy'n eich annog i gefnogi'r strategaeth bwyd cymunedol a'r manteision y bydd ein gweithredoedd ar y cyd yn cyflwyno i bobl a chymunedau ledled Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Now, I know that community food resilience is a matter of personal interest to a number of Members across this Siambr, and I want to thank those of you who have shown an active interest in this topic for many years. As such, I encourage you to support the community food strategy and the benefits our collective actions will bring to people and communities across Wales. Thank you, Dirprwy Lywydd.
I suppose I'd better declare an interest because we do touch on farming within the strategy. Can I thank you, Cabinet Secretary, for not only your statement today and the community food strategy, but also for the conversation we had yesterday to give me an insight into your thinking? I welcome the community food strategy. I have some anxieties, as you know. It's been a long time coming—it's been over four years—but that doesn't matter if it arrives at the right outcomes. I'm hoping that some of the work that I've done myself has helped influence its direction in some ways. It feels similar in certain areas.
I welcome the six objectives—they are very important—and I welcome the cross-Government approach. It's going to be fundamental that this is embraced by every directorate that really can impact on the future of food, and not only the food, but the well-being of the people who will eat that food.
The dedicated ministerial advisory group is also going to be very important. I feel that it's going to be offering some sort of challenge, possibly even scrutiny, but I am concerned it's perhaps going to be a little lightweight in that scrutiny function and that challenge function, but I hope I can be proved wrong. I fear it may not have enough teeth to drive the change and to maintain the pressure on the importance of rolling out these objectives.
So, whilst welcoming the strategy, I'm left with concerns though over how, on the ground, the strategy will actually drive the scale of the change we need. What is clearly missing from the strategy is a reference to expected outcomes. There is no reference to deliverable targets for the six objectives, and they're going to be fundamental if we want to drive the change, so that we can measure how we are doing on this journey of our food strategy and driving our food security.
I still believe, though, as I did when I brought my food Bill forward, that these aspirations need to somehow be anchored in legislation, which can then span administrations, so that these things continue, because it's very good to bring these things forward, but unless they're embedded in the culture of the country, things will get lost or we will deviate from where we want to go. So, whilst there are objectives here that are welcome, I fear they won't enable the scale of change we need or give the confidence, perhaps, to allow that real commercial change for the farming industry.
We talk about some really great schemes that are happening and encouraging partnerships to do a lot more and celebrate what they’re already doing, but what I'm concerned about is the scale of what we need to secure food security and to drive more local food into our schools, our hospitals and our prisons. We need to be able to commercially scale this above and beyond what is happening in partnership arrangements within local communities. I think that's going to be really important.
And real food security also needs those producers who are going to satisfy the expectations to have access to the appropriate data. One of the things we really found was short when I was trying to develop the food Bill was access to the data that is needed, so that farmers and growers could know where the opportunities were, where the markets were, where the need was. And that's still, I think, a fundamental issue of access to data.
So, Cabinet Secretary, I really do hope there will be perhaps an addendum worked on for this community food strategy that starts putting some of the outcomes to these objectives and how the Government, or whatever committee scrutinises, will be able to monitor progress, so that we can give the weight to the advisory board to challenge the Government in the right direction. Without that thinking, I fear these will stay as fine words and won't translate into what I know you and I really want to see. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae'n debyg y byddai'n well i mi ddatgan diddordeb oherwydd ein bod ni'n cyffwrdd â ffermio o fewn y strategaeth. A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, nid yn unig am eich datganiad heddiw a'r strategaeth bwyd cymunedol, ond hefyd am y sgwrs a gawsom ddoe i roi cipolwg i mi ar eich ffordd o feddwl? Rwy'n croesawu'r strategaeth bwyd cymunedol. Mae gen i rai pryderon, fel y gwyddoch chi. Mae wedi bod yn amser hir yn dod—mae wedi bod dros bedair blynedd—ond does dim ots os yw'n cael y canlyniadau cywir. Rwy'n gobeithio bod rhywfaint o'r gwaith rwyf wedi'i wneud fy hun wedi helpu i ddylanwadu ar ei gyfeiriad mewn rhai ffyrdd. Mae'n teimlo'n debyg mewn rhai meysydd.
Rwy'n croesawu'r chwe amcan—maen nhw'n bwysig iawn—ac rwy'n croesawu'r dull traws-lywodraethol. Mae'n mynd i fod yn hanfodol bod hyn yn cael ei groesawu gan bob cyfarwyddiaeth a all gael effaith wirioneddol ar ddyfodol bwyd, ac nid yn unig y bwyd, ond lles y bobl a fydd yn bwyta'r bwyd hwnnw.
Mae'r grŵp cynghori'r Gweinidog pwrpasol yn mynd i fod yn bwysig iawn hefyd. Rwy'n teimlo ei fod yn mynd i gynnig rhyw fath o her, craffu hyd yn oed o bosibl, ond rwy'n pryderu efallai y bydd ychydig yn ddisylwedd o ran y swyddogaeth graffu honno a'r swyddogaeth her honno, ond rwy'n gobeithio y gallaf gael fy mhrofi'n anghywir. Rwy'n ofni efallai na fydd yn ddigon i ysgogi'r newid a chynnal y pwysau ar bwysigrwydd cyflwyno'r amcanion hyn.
Felly, er fy mod i'n croesawu'r strategaeth, rwyf hefyd yn pryderu serch hynny ynghylch sut y bydd y strategaeth mewn gwirionedd yn ysgogi graddfa'r newid sydd ei angen arnom ar lawr gwlad. Yr hyn sy'n amlwg ar goll o'r strategaeth yw cyfeiriad at ganlyniadau disgwyliedig. Does dim cyfeiriad at dargedau cyflawnadwy ar gyfer y chwe amcan, ac maen nhw'n mynd i fod yn hollbwysig os ydym am ysgogi'r newid, fel ein bod ni'n gallu mesur sut rydym yn ei wneud ar y daith hon o ran ein strategaeth fwyd ac ysgogi diogeledd bwyd.
Rwy'n dal i gredu, fodd bynnag, fel y gwnes i pan gyflwynais i fy Mil bwyd, bod angen i'r dyheadau hyn gael eu hangori mewn deddfwriaeth, a all wedyn rhychwantu gweinyddiaethau, fel bod y pethau hyn yn parhau, oherwydd mae'n beth da iawn cyflwyno'r pethau hyn, ond oni bai eu bod wedi'u hymgorffori yn niwylliant y wlad, bydd pethau'n mynd ar goll neu byddwn ni'n gwyro oddi wrth lle rydym eisiau mynd. Felly, er bod amcanion yn y fan yma sy'n cael eu croesawu, rwy'n ofni na fyddan nhw'n galluogi graddfa'r newid sydd ei angen arnom nac yn rhoi'r hyder, efallai, i ganiatáu'r newid masnachol go iawn hwnnw i'r diwydiant ffermio.
Rydym yn siarad am rai cynlluniau gwych sy'n digwydd ac yn annog partneriaethau i wneud llawer mwy a dathlu'r hyn maen nhw'n ei wneud eisoes, ond yr hyn rwy'n poeni amdano yw graddfa'r hyn sydd ei angen arnom i sicrhau diogeledd bwyd ac i sicrhau bod mwy o fwyd lleol yn cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion, ein hysbytai a'n carchardai. Mae angen i ni allu graddio hyn yn fasnachol y tu hwnt i'r hyn sy'n digwydd mewn trefniadau partneriaeth o fewn cymunedau lleol. Rwy'n credu bod hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn.
Ac er mwyn sicrhau diogeledd bwyd go iawn, mae angen y cynhyrchwyr hynny arnom sy'n mynd i fodloni'r disgwyliadau i gael mynediad at y data priodol hefyd. Un o'r pethau y gwnaethom ddarganfod oedd yn eisiau pan oeddwn i'n ceisio datblygu'r Bil bwyd oedd mynediad at y data sydd ei angen, fel bod modd i ffermwyr a thyfwyr wybod lle roedd y cyfleoedd, lle roedd y marchnadoedd, lle roedd yr angen. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn dal i fod yn fater sylfaenol o ran mynediad at ddata.
Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rwyf wir yn gobeithio y bydd gwaith yn cael ei wneud ar atodiad i'r strategaeth bwyd gymunedol hon a fydd yn dechrau nodi rhai o'r canlyniadau i'r amcanion hyn a sut y bydd y Llywodraeth, neu ba bwyllgor bynnag sy'n craffu, yn gallu monitro cynnydd, fel y gallwn ni sicrhau bod y bwrdd cynghori yn gallu herio'r Llywodraeth i'r cyfeiriad cywir. Heb y ffordd honno o feddwl, rwy'n ofni y bydd y rhain yn aros fel geiriau cynnes ac na fyddan nhw'n cael eu trosi i'r hyn rwy'n gwybod eich bod chithau a minnau wir eisiau ei weld. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Peter, first of all, can I just give my wholesome thanks to you for the challenge that you've provided to Government over the last few years in terms of driving forward this food agenda? And you're right in saying this doesn't sit in isolation; it sits alongside 'Food Matters: Wales', which brings together that strategic thinking across Government, of last year. But this very much focuses on the local supply chains, the community food initiatives, the procurement aspect of more food made in Wales on the plates in Wales as well, as well as those resilience pieces.
But you raised a number of good questions, and some of them do come back to this question of the monitoring, evaluation and assessment, and I think the ministerial advisory group will have a key role to play within this. I know that within the original Bill there was an idea we discussed yesterday around a commission, but we don't want to set up, let's say, another great beast of a commission when actually we know that when we've devised really good ministerial advisory groups here within the Senedd and we've put the right people on it, which would be the people who've brought forward this strategy and contributed to it, and it's well chaired, and you put Ministers in front of it—not just me, but other Ministers—from education, from health, and so on, then they will need to listen to the experiences of those on there, and they can provide ideas and so on.
It's worth me just flagging up some of the things that that group will be doing. We want that group to give us that push on joined-up strategic thinking and leadership, to drive forward local food system co-ordination and action, to strengthen food resilience in our communities, to create those cohesive food communities and to enable stronger diverse local supply chains and promote and enable community growing and horticulture. I think they will bring forward the challenge and the ideas to say to Ministers, 'Get on with this one, this is easy to do—these ones will take a bit more work.' But that's what we've seen in the best of these groups. So, rather than a large commission, I think this will monitor the delivery of the strategy, and also have a role in saying what are the key outcomes that we want to see as well, and that could be in things such as increased procurement. It could be an increased number of community growing initiatives, how they feed into procurement.
You are right in saying that we need this to be driven with data, and one of the advantages of a ministerial advisory group is that we can provide some of the substance through that through the work of our officials with some of the data and the evidence. But if we look at the procurement piece, for example, Caerphilly council—one good example here—used the guidance that we've now put forward, the revised guidance, to award their south Wales food frameworks last year. It resulted in a 70:30—this is very technical—quality-price split, a new Welsh lot, many more local options, and a Welsh wholesaler, Castell Howell, winning 100 out of 150 lots. And interestingly, Castell Howell are doing incredible work alongside Harlech on actually developing that local procurement, including small individual local suppliers, where they help them get into that procurement to land on Caerphilly council's tables. So, we can do a lot with that.
Finally, we also have the cross-Government food forum, which co-ordinates the work across Government. I've got no doubt, Peter, that Senedd committees will want to monitor the work of this going forward, and there should be a dynamic approach there with the ministerial advisory group, the cross-Government food forum, but also the work of committees here to say, 'Are you delivering on what you've set out to do?'
Peter, yn gyntaf oll, a allaf ddiolch yn fawr i chi am yr her rydych chi wedi'i darparu i'r Llywodraeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran gyrru'r agenda fwyd hon ymlaen? Ac rydych chi'n iawn i ddweud nad yw hyn yn eistedd ar wahân; mae'n eistedd ochr yn ochr â 'Bwyd o Bwys: Cymru', sy'n dwyn ynghyd y meddwl strategol hwnnw ar draws y Llywodraeth, y llynedd. Ond mae hyn yn canolbwyntio i raddau helaeth ar y cadwyni cyflenwi lleol, y mentrau bwyd cymunedol, yr agwedd gaffael ar sicrhau bod mwy o fwyd a wneir yng Nghymru ar blatiau yng Nghymru hefyd, yn ogystal â'r darnau gwytnwch hynny.
Ond fe wnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau da, ac mae rhai ohonyn nhw'n dod yn ôl at y cwestiwn hwn o fonitro, gwerthuso ac asesu, ac rwy'n credu y bydd gan y grŵp cynghori'r Gweinidog rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth. Rwy'n gwybod bod yna syniad o fewn y Bil gwreiddiol a drafodwyd gennym ddoe o amgylch comisiwn, ond dydyn ni ddim eisiau sefydlu, dyweder, gomisiwn mawr arall pan ydym yn gwybod mewn gwirionedd pan ydym wedi dyfeisio grwpiau cynghori gweinidogol da iawn yma yn y Senedd ac rydym wedi rhoi'r bobl iawn arno, sef y bobl sydd wedi cyflwyno'r strategaeth hon ac wedi cyfrannu ati, ac mae'n cael ei gadeirio'n dda, ac rydych chi'n rhoi Gweinidogion o'i flaen—nid dim ond fi, ond Gweinidogion eraill—o addysg, o iechyd, ac yn y blaen, yna bydd angen iddyn nhw wrando ar brofiadau'r rhai sydd arno, a gallan nhw ddarparu syniadau ac yn y blaen.
Mae'n werth i mi nodi rhai o'r pethau y bydd y grŵp hwnnw'n eu gwneud. Rydym eisiau i'r grŵp hwnnw ein gwthio ni ar arweinyddiaeth a meddwl strategol cydgysylltiedig, i ysgogi'r gwaith o gydlynu a gweithredu system fwyd leol, i gryfhau gwytnwch bwyd yn ein cymunedau, i greu'r cymunedau bwyd cydlynol hynny ac i alluogi cadwyni cyflenwi lleol amrywiol cryfach a hyrwyddo a galluogi garddwriaeth a thyfu cymunedol. Rwy'n credu y byddan nhw'n cyflwyno'r her a'r syniadau i ddweud wrth Weinidogion, 'Bwrwch ymlaen â'r un yma, mae'n hawdd gwneud hyn—bydd angen ychydig mwy o waith ar y rhain.' Ond dyna'r hyn rydym wedi'i weld yn y gorau o'r grwpiau hyn. Felly, yn hytrach na chomisiwn mawr, rwy'n credu y bydd hyn yn monitro'r ffordd y caiff y strategaeth ei chyflawni, ac yn chwarae rôl hefyd wrth ddweud beth yw'r canlyniadau allweddol rydym am eu gweld hefyd, a gallai hynny fod mewn pethau fel mwy o gaffael. Gallai fod yn nifer cynyddol o fentrau tyfu cymunedol, sut maen nhw'n bwydo i mewn i gaffael.
Rydych chi'n iawn i ddweud bod angen i hyn gael ei lywio gyda data, ac un o fanteision grŵp cynghori'r Gweinidog yw y gallwn ni ddarparu rhywfaint o'r sylwedd trwy hynny, trwy waith ein swyddogion gyda rhywfaint o'r data a'r dystiolaeth. Ond os edrychwn ni ar y darn caffael, er enghraifft, defnyddiodd cyngor Caerffili—un enghraifft dda yma—y canllawiau rydym wedi'u cyflwyno nawr, y canllawiau diwygiedig, i ddyfarnu eu fframweithiau bwyd de Cymru y llynedd. Fe arweiniodd at raniad o 70:30—mae hyn yn dechnegol iawn—rhwng ansawdd a phris, lot newydd yng Nghymru, llawer mwy o opsiynau lleol, a chyfanwerthwr o Gymru, Castell Howell, yn ennill 100 allan o'r 150 lot. Ac yn ddiddorol, mae Castell Howell yn gwneud gwaith anhygoel ochr yn ochr â Harlech i ddatblygu'r caffael lleol hwnnw mewn gwirionedd, gan gynnwys cyflenwyr lleol unigol bach, lle maen nhw'n eu helpu i gymryd rhan yn y caffael hwnnw i lanio ar fyrddau cyngor Caerffili. Felly, gallwn ni wneud llawer gyda hynny.
Yn olaf, mae gennym ni hefyd y fforwm bwyd traws-lywodraethol, sy'n cydlynu'r gwaith ar draws y Llywodraeth. Does gen i ddim amheuaeth, Peter, y bydd pwyllgorau'r Senedd eisiau monitro gwaith y fforwm hwn yn y dyfodol, ac fe ddylai fod ymagwedd ddeinamig yno gyda'r grŵp cynghori'r Gweinidog, y fforwm bwyd traws-lywodraethol, ond hefyd gwaith y pwyllgorau yma i ddweud, 'Ydych chi'n cyflawni'r hyn rydych chi wedi bwriadu ei wneud?'
Dwi eisiau dechrau drwy groesawu'r ffaith bod y strategaeth yma wedi cael ei chyhoeddi. Mae hi, wrth gwrs, yn deillio o'r cytundeb cydweithio roedd gennym ni gyda'r Llywodraeth. Tra ein bod ni yn ei chroesawu hi, dwi'n siwr byddai'r Dirprwy Brif Weinidog ei hun yn cyfaddef efallai ei bod hi wedi cymryd yn hirach na byddwn ni wedi dymuno inni gyrraedd y pwynt yma.
I'd like to start by welcoming the fact that this strategy has been published. Of course, it emerged from the co-operation agreement that we had with the Government. Whilst we do welcome it, I'm sure that the Deputy First Minister himself would admit that it's taken perhaps longer than he would have liked for us to reach this particular point.
I'm sure you will agree that it's taken longer than maybe we would have wished to get to this point, but hopefully now we have a joined-up coherent strategy that ultimately, I hope, brings together the many threads of food policy here in Wales. And this, of course, needs to be more than a list of aspirations. It needs to be rooted in the reality of climate impacts, of food insecurity, and an unequal food system, which is what we have at the minute. And as you've alluded to in your statement, the response needs to be local, needs to be community led, bottom up and built, of course, for resilience.
Food security in Wales, of course, isn't just a question of supply. It's a question of justice, sustainability and, indeed, sovereignty as well. The Welsh food and drink sector contributes billions to our economy, but we also know that it is subject to a great deal of vulnerability when supply chains falter. Climate change, as we know, has already begun to reshape our food landscape. We've seen one of the wettest 18-month periods on record, of late, and extreme weather, of course, has impacts on yield, it affects animal health and, of course, we see then, as a consequence, worsened food price inflation as well, all piling pressure onto families, very often, who are already struggling. So, the question really we need to ask is—and I'll be fair here, we only had a copy a few hours ago—whether the community food strategy actually goes far enough to build the resilient localised food system that we want to see that can withstand the climate shocks and the other disruptions that we know are happening, and indeed, others that are coming.
Just turning specifically to the ministerial advisory group that you touched on earlier, I don't know if you could share a bit more detail about not the membership in terms of persons, but in terms of the kinds of bodies and sectors that you'd like to see represented on that. Clearly, I'd imagine primary producers, processors maybe, supply chains, voluntary or community groups as well; just give us a flavour of what that might look like. And particularly how communities will shape the work that stems from maybe some of the suggestions and challenge that comes from the ministerial advisory group.
I'd also ask whether you've had an opportunity to review with the Wales-specific recommendations in Professor Tim Lang's report for the National Preparedness Commission, because that offers a practical framework for action, especially at a community level. For example, he raises concerns about over-reliance on emergency food provision, foodbanks, community cafes, and other social sticking plasters, if you like. Foodbank operators themselves are telling us clearly that ultimately they want to be phased out, but maybe the infrastructure behind them could be reimagined as co-operatives or social enterprises. I'm wondering what your vision for transforming this infrastructure maybe into something lasting and empowering might be. The report I referenced recommends as well a national audit of community food assets; that includes land, skills, equipment et cetera, and I'm just wondering if that's something that you might be willing to consider in terms of mapping out what we have so that we can maybe from there unlock the potential of community food infrastructure.
Another important point is the call to reject extreme individualism in favour of collective action; stockpiling food is not a resilient model. True resilience lies in shared skills, in mutual support and collective infrastructure, and I'm just wondering where the emphasis is in terms of the balance of priorities within the strategy that you've published. And of course, access to land—I think you touched on that briefly—is fundamental, but what's that going to look like? Are you charging public bodies with releasing land—and I'm thinking particularly in towns and cities—for those growing spaces, or those allotments, which I know are few and far between very often? How do you think that's going to happen?
While food policy often focuses on land-based production, I want to ask where fisheries and aquaculture sits here, because it doesn't appear in the strategy. I thought maybe a more seamless, comprehensive strategy would be best, rather than seeing a terrestrial and a marine context maybe in a different light, particularly given that so much of the Welsh population lives and works along our coast. The marine environment certainly offers real potential for low-carbon sustainable food production, which should be integral, I'd say, to any national food plan in a country with so much coast.
In conclusion, it's a welcome strategy—albeit long overdue—but if it is to deliver, then it really has to empower communities, build local capacity, and embed resilience across every level of our food system. The test, I think, will be whether we can create a food system in Wales that is truly fair, truly sustainable, and community led, not just in crisis, but by design.
Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ei fod wedi cymryd mwy o amser nag efallai y byddem wedi dymuno i gyrraedd y pwynt hwn, ond gobeithio nawr bod gennym ni strategaeth gydlynol, gydgysylltiedig a fydd, yn y pen draw, rwy'n gobeithio, yn dwyn ynghyd linynnau niferus polisi bwyd yma yng Nghymru. Ac mae angen i hyn, wrth gwrs, fod yn fwy na rhestr o ddyheadau. Mae angen iddi fod wedi ymwreiddio yn realiti effeithiau hinsawdd, ansicrwydd bwyd, a system fwyd anghyfartal, sef yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac fel rydych chi wedi sôn yn eich datganiad, mae angen i'r ymateb fod yn lleol, mae angen iddo gael ei arwain gan y gymuned, fod yn ymateb o'r gwaelod i fyny a chael ei adeiladu, wrth gwrs, ar gyfer gwytnwch.
Nid mater o gyflenwi yn unig yw diogeledd bwyd yng Nghymru, wrth gwrs. Mae'n fater o gyfiawnder, cynaliadwyedd ac, yn wir, sofraniaeth hefyd. Mae sector bwyd a diod Cymru yn cyfrannu biliynau i'n heconomi, ond rydym hefyd yn gwybod ei fod yn wynebu sefyllfa fregus iawn pan fydd cadwyni cyflenwi yn methu. Mae newid yn yr hinsawdd, fel y gwyddom, wedi dechrau ail-lunio ein tirwedd fwyd yn barod. Rydym wedi gweld un o'r cyfnodau 18 mis gwlypaf ar gofnod yn ddiweddar, ac mae tywydd eithafol, wrth gwrs, yn effeithio ar gynnyrch, mae'n effeithio ar iechyd anifeiliaid ac, wrth gwrs, o ganlyniad, rydym wedyn yn gweld mwy o chwyddiant o ran prisiau bwyd hefyd, sydd i gyd yn rhoi pwysau ar deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn aml iawn. Felly, y cwestiwn y mae angen i ni ei ofyn mewn gwirionedd yw—ac fe fyddaf yn deg yma, dim ond ychydig oriau yn ôl y cawson ni gopi—a yw'r strategaeth bwyd cymunedol yn mynd yn ddigon pell mewn gwirionedd i adeiladu'r system fwyd leol wydn rydym eisiau ei gweld sy'n gallu gwrthsefyll y siociau hinsawdd a'r aflonyddwch arall rydym yn gwybod eu bod yn digwydd, ac yn wir, eraill sy'n dod.
Gan droi'n benodol at y grŵp cynghori'r Gweinidog y gwnaethoch chi sôn amdano'n gynharach, fyddech chi'n gallu rhannu ychydig mwy o fanylion, nid am yr aelodaeth o ran unigolion, ond o ran y mathau o gyrff a sectorau yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cynrychioli ar hwnnw. Yn amlwg, byddwn i'n dychmygu cynhyrchwyr cynradd, proseswyr efallai, cadwyni cyflenwi, grwpiau gwirfoddol neu gymunedol hefyd; rhowch flas i ni o sut y gallai hynny edrych. Ac yn enwedig sut y bydd cymunedau yn llywio'r gwaith sy'n deillio efallai o rai o'r awgrymiadau a'r her sy'n dod o'r grŵp cynghori'r Gweinidog.
Byddwn i hefyd yn gofyn a ydych chi wedi cael cyfle i adolygu'r argymhellion sy'n benodol i Gymru yn adroddiad yr Athro Tim Lang ar gyfer y Comisiwn Parodrwydd Cenedlaethol, oherwydd mae hwnnw'n cynnig fframwaith ymarferol ar gyfer gweithredu, yn enwedig ar lefel gymunedol. Er enghraifft, mae'n codi pryderon am or-ddibyniaeth ar ddarpariaeth bwyd brys, banciau bwyd, caffis cymunedol, ac atebion cymdeithasol eraill sy'n debyg i blastrau glynu, os mynnwch chi. Mae gweithredwyr banciau bwyd eu hunain yn dweud wrthym yn glir eu bod nhw eisiau cael eu dileu'n raddol yn y pen draw, ond efallai y gellid ail-ddychmygu'r seilwaith y tu ôl iddyn nhw fel cwmnïau cydweithredol neu fentrau cymdeithasol. Rwy'n meddwl tybed beth allai eich gweledigaeth fod ar gyfer trawsnewid y seilwaith hwn yn rhywbeth parhaol a grymusol. Mae'r adroddiad y cyfeiriais ato yn argymell archwiliad cenedlaethol o asedau bwyd cymunedol hefyd; mae hynny'n cynnwys tir, sgiliau, offer ac ati, ac rwy'n meddwl tybed a yw hynny'n rhywbeth y byddech chi'n fodlon ei ystyried o ran mapio'r hyn sydd gennym fel y gallwn ni wedyn efallai ddatgloi potensial seilwaith bwyd cymunedol.
Pwynt pwysig arall yw'r alwad i wrthod unigoliaeth eithafol o blaid gweithredu ar y cyd; nid yw stocpeilio bwyd yn fodel gwydn. Mae gwir wydnwch yn dod o sgiliau a rennir, cefnogaeth gydfuddiannol a seilwaith cyfunol, ac rwy'n meddwl tybed lle mae'r pwyslais o ran cydbwysedd blaenoriaethau o fewn y strategaeth rydych chi wedi'i chyhoeddi. Ac wrth gwrs, mae mynediad at dir—rwy'n credu i chi sôn am hynny'n fyr—yn hollbwysig, ond sut mae hynny'n mynd i edrych? Ydych chi'n rhoi cyrff cyhoeddus yn gyfrifol am ryddhau tir—ac rwy'n meddwl yn enwedig mewn trefi a dinasoedd—ar gyfer y mannau tyfu hynny, neu'r rhandiroedd hynny, yr wyf yn gwybod eu bod yn brin yn aml iawn? Sut ydych chi'n meddwl bod hynny'n mynd i ddigwydd?
Er bod polisi bwyd yn aml yn canolbwyntio ar gynhyrchu ar y tir, rwyf am ofyn lle mae pysgodfeydd a dyframaethu yn eistedd yn y fan yma, oherwydd dydy e ddim yn ymddangos yn y strategaeth. Roeddwn i'n meddwl efallai mai strategaeth gynhwysfawr, fwy di-dor fyddai'r gorau, yn hytrach na gweld cyd-destun daearol a morol efallai mewn goleuni gwahanol, yn enwedig o ystyried bod cymaint o boblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio ar hyd ein harfordir. Yn sicr, mae'r amgylchedd morol yn cynnig potensial gwirioneddol ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy carbon isel, a ddylai fod yn rhan annatod, byddwn i'n ei ddweud, o unrhyw gynllun bwyd cenedlaethol mewn gwlad sydd â chymaint o arfordir.
I gloi, mae'n strategaeth i'w chroesawu—er ei bod yn hir ddisgwyliedig—ond os yw am gyflawni, yna mae'n rhaid iddi rymuso cymunedau, adeiladu capasiti lleol, ac ymwreiddio gwytnwch ar draws pob lefel o'n system fwyd. Y prawf, rwy'n credu, fydd a allwn ni greu system fwyd yng Nghymru sy'n wirioneddol deg, yn wirioneddol gynaliadwy, ac sy'n cael ei harwain gan y gymuned, nid yn unig mewn argyfwng, ond trwy ddyluniad.
Llyr, diolch yn fawr iawn. Thank you as well for reminding us that this flows from a great deal of work across the Chamber, including the co-operation agreement as well. I would have liked to have brought this forward earlier, but it's important that we get it right. Our commitment was that we bring it forward during this Senedd term. It's here now, and we can get the infrastructure up and running behind this strategy, get the membership of the ministerial advisory group up and running as well, which you touched on.
And you're right: the membership of that will reflect the people who've helped contribute to what the strategy looks like, so it will be all of those from the primary producers through the supply chain, but also the community growers, those people who are involved in the thinking behind a more local, community-based food approach in Wales that gives us that resilience as well as gets more Welsh food on Welsh plates and so on. So, the membership will very much look like that.
But we don't want a cast of thousands; what we want is the key people on there that can give us the real insight to what it feels like on the ground, from small-scale horticultural growing and where we get on that, through to people like the major distributors, who will all have a part to play. The great thing about this is the strategy has been brought forward by them and with them, informed by them. I think the work going forward, delivering on this, and the outcomes, need to be driven by them as well, to identify the barriers as well as the ways forward to ramp up what we want to do.
This is quite a sea change in the approach, I've got to say as well, and it does recognise, as you were saying, the nature and climate emergencies and the more that we can do in terms of local and community-based food solutions. It is not uncommon on the continent and it is starting to happen within Wales, but it's actually moving it at a pace now in that direction. Everybody has a part to play within that, including some of the bigger players within the supply chain like the distributors, who are really engaged in this, right down to grass-roots organisations, community growers that we will see as well, and others.
This has incorporated some of the thinking as well—although not all of it, because there's more to do on that—of Professor Tim Lang's work. Of course, he identifies the issue of food shocks to the system and the vulnerabilities with that. But I have to say that developing local food networks is a real assist against those shocks when you depend on a global food economy. We can't walk away from the fact that we have an international dependence with some of our food imports and exports, but, actually, the more that we can grow and put that resilience into local networks, it's good for the planet, good for climate, it's good to avoid having the food shocks when that system is threatened or jolted. But, certainly, we'd be keen to work with Professor Tim Lang and others as we take forward not only this work but also the wider work we have across Government in food as well.
The access to land is a fascinating one, because, undoubtedly, there will be instances where we can identify public land that will be available, but there is other creative thinking as well about those areas of land that are not used for any purpose whatsoever that are those bits of land within communities. So, there is some innovative thinking around what could be, going forward, and I'd be interested to see what the ministerial advisory group brings forward with their suggestions on that, because how do we enable every single community, including in the urban areas, to have access to good land? Some of it will be under traditional, more conventional routes that we know, such as allotments or community growing areas and so on, but there are other innovations within pockets of land, within handkerchief-sized pieces of land, as well as larger assets.
Finally, you mentioned fisheries as well. We haven't specifically drawn out fisheries within this, but we regard that as an important part of this as well. It would be good if we could get to the point where fisheries could play a more important role within local food chains as well. There's probably more work to do specifically within that that needs to be really targeted, and, indeed, much of our fisheries at the moment tend to go for export very often as well when the barriers aren't in place and so on, but there is work to do within that.
Thank you for your support, and Peter as well, for this in broad terms. As always with these, let's not make this a strategy that is written and then forgotten about. I think giving it that drive forward now and keeping sight on it is what is really important.
Llŷr, diolch yn fawr iawn. Diolch hefyd am ein hatgoffa bod hyn yn deillio o lawer iawn o waith ar draws y Siambr, gan gynnwys y cytundeb cydweithio hefyd. Byddwn i wedi hoffi cyflwyno hyn yn gynharach, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ei gael yn iawn. Ein hymrwymiad oedd ein bod ni'n cyflwyno hyn yn ystod tymor y Senedd hon. Mae yma nawr, a gallwn ni roi'r seilwaith y tu ôl i'r strategaeth hon ar waith, sicrhau bod aelodaeth y grŵp cynghori'r Gweinidog yn weithredol hefyd, y gwnaethoch chi sôn amdano.
Ac rydych chi'n iawn: bydd aelodaeth y grŵp hwnnw yn adlewyrchu'r bobl sydd wedi helpu i gyfrannu at sut mae'r strategaeth yn edrych, felly bydd yn cynnwys pob un o'r rheini o'r cynhyrchwyr cynradd drwy'r gadwyn gyflenwi, ond hefyd y tyfwyr cymunedol, y bobl hynny sy'n ymwneud â'r meddwl y tu ôl i ddull bwyd cymunedol, mwy lleol yng Nghymru sy'n rhoi'r gwytnwch hwnnw i ni yn ogystal â sicrhau bod mwy o fwyd o Gymru ar blatiau yng Nghymru ac yn y blaen. Felly, bydd yr aelodaeth yn edrych yn debyg iawn i hynny.
Ond dydyn ni ddim eisiau cast o filoedd; yr hyn rydym ei eisiau yw'r bobl allweddol ar y grŵp hwnnw a all roi mewnwelediad go iawn i ni o sut mae'n teimlo ar lawr gwlad, o dyfu garddwriaethol ar raddfa fach a lle rydym yn cyrraedd o ran hynny, i bobl fel y prif ddosbarthwyr, y bydd gan bob un ohonyn nhw ran i'w chwarae. Y peth gwych am hyn yw bod y strategaeth wedi cael ei chyflwyno ganddyn nhw a chyda nhw, ac wedi'i llywio ganddyn nhw. Rwy'n credu bod angen i'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gyflawni hyn, a'r canlyniadau, gael eu llywio ganddyn nhw hefyd, i nodi'r rhwystrau yn ogystal â'r ffyrdd ymlaen er mwyn sicrhau y gallwn ni gyflawni mwy.
Mae hyn yn dipyn o newid yn y dull gweithredu, mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, ac mae'n cydnabod, fel yr oeddech chi'n ei ddweud, yr argyfyngau natur a hinsawdd a'r mwyaf y gallwn ni ei wneud o ran atebion bwyd lleol a chymunedol. Nid yw'n anghyffredin ar y cyfandir ac mae'n dechrau digwydd yng Nghymru, ond mewn gwirionedd mae'n ei symud ar gyflymder nawr i'r cyfeiriad hwnnw. Mae gan bawb ran i'w chwarae o fewn hynny, gan gynnwys rhai o'r chwaraewyr mawr yn y gadwyn gyflenwi fel y dosbarthwyr, sy'n ymwneud i raddau helaeth â hyn, yr holl ffordd i lawr i sefydliadau ar lawr gwlad, tyfwyr cymunedol y byddwn ni'n eu gweld hefyd, ac eraill.
Mae hyn wedi ymgorffori rhywfaint o'r meddylfryd hefyd—er nad y cyfan, oherwydd mae mwy i'w wneud ar hynny—o waith yr Athro Tim Lang. Wrth gwrs, mae'n nodi'r mater o siociau bwyd i'r system a'r bregusrwydd o ran hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod datblygu rhwydweithiau bwyd lleol yn cynnig cymorth go iawn yn erbyn y siociau hynny pan fyddwch chi'n dibynnu ar economi fwyd fyd-eang. Allwn ni ddim cerdded i ffwrdd o'r ffaith bod gennym ddibyniaeth ryngwladol gyda rhai o'n mewnforion ac allforion bwyd, ond, mewn gwirionedd, po fwyaf y gallwn ni dyfu a pho fwyaf y gallwn ni roi'r gwytnwch hwnnw mewn rhwydweithiau lleol, mae'n dda i'r blaned, mae'n dda i'r hinsawdd, mae'n dda osgoi cael y siociau bwyd pan fo'r system honno dan fygythiad neu cael ei hysgwyd. Ond, yn sicr, byddem yn awyddus i weithio gyda'r Athro Tim Lang ac eraill wrth i ni fwrw ymlaen nid yn unig â'r gwaith hwn ond hefyd â'r gwaith ehangach sydd gennym ar draws y Llywodraeth ym maes bwyd hefyd.
Mae'r mynediad at dir yn un diddorol, oherwydd, heb os, fe fydd yna achosion lle byddwn ni'n gallu nodi tir cyhoeddus a fydd ar gael, ond mae ffyrdd eraill o feddwl yn greadigol hefyd am y darnau hynny o dir nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio at unrhyw ddiben o gwbl ac sy'n ddarnau o dir o fewn cymunedau. Felly, mae rhywfaint o feddwl arloesol ynghylch yr hyn a allai fod, yn y dyfodol, a byddai gen i ddiddordeb i weld beth mae'r grŵp cynghori'r Gweinidog yn ei gyflwyno gyda'u hawgrymiadau ar hynny, oherwydd sut ydym yn galluogi pob cymuned, gan gynnwys yn yr ardaloedd trefol, i gael mynediad at dir da? Bydd rhywfaint ohono o dan lwybrau traddodiadol, mwy confensiynol yr ydym yn gwybod amdanyn nhw, fel rhandiroedd neu ardaloedd tyfu cymunedol ac yn y blaen, ond mae yna ddatblygiadau arloesol eraill o fewn pocedi o dir, o fewn darnau o dir maint hances boced, yn ogystal ag asedau mwy.
Yn olaf, fe wnaethoch chi sôn am bysgodfeydd hefyd. Dydyn ni ddim wedi nodi pysgodfeydd yn benodol o fewn hyn, ond rydym yn ystyried hynny fel rhan bwysig o hyn hefyd. Byddai'n dda pe gallwn ni gyrraedd y pwynt lle gallai pysgodfeydd chwarae rhan bwysicach o fewn cadwyni bwyd lleol hefyd. Mae'n debyg bod mwy o waith i'w wneud yn benodol o fewn hynny y mae angen ei dargedu i raddau helaeth, ac, yn wir, mae llawer o'n pysgodfeydd ar hyn o bryd yn tueddu i fynd i allforio yn aml iawn hefyd pan nad yw'r rhwystrau yn eu lle ac yn y blaen, ond mae yna waith i'w wneud o fewn hynny.
Diolch i chi, ac i Peter hefyd, am gefnogi hyn yn fras. Fel bob amser gyda'r rhain, gadewch i ni beidio â gwneud hon yn strategaeth sy'n cael ei hysgrifennu ac yna'n mynd yn angof. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ei gyrru ymlaen nawr a chadw golwg arni.
Thank you very much for your remarks, particularly acknowledging the levels of salt, sugar and fat in ultra-processed food, which I'm afraid is the biggest driver of early death in Wales now. I know smoking is supposed to be the biggest cause of early death, but I think UPF is definitely overtaking it, because with six in 10 households never cooking from scratch, they are basically eating ultra-processed food. Once you start doing it, the outcomes for individuals' health is really devastating.
There's nothing to disagree with in your lovely little plan and all the people you've engaged with. It's all great, but there's a huge amount more to do, particularly as relying on global just-in-time food supplies is a fool's errand with the huge disruption to international trade that we're seeing since the election of Donald Trump. We absolutely have to become more self-sufficient and ensure that we do have the food security that, at the moment, we lack. We absolutely need to back Welsh farmers and growers and get Welsh veg in schools, but it’s in its infancy. I heard today that there are still only seven local authorities engaging with Food Sense Wales, with another five being added in the very near future. But what are the other 10 doing? They have local food partnerships; why are they not aspiring to ensure that local food is available in all our schools? At the moment, the demand hugely outstrips supply, but we absolutely have a lot of work to do on it. Things like I know that Monmouthshire insists on Red Tractor chicken; most local education authorities are using chicken reared in Thailand, and that’s absolutely not sustainable in terms of carbon emissions—
Diolch yn fawr iawn am eich sylwadau, ac am gydnabod yn benodol lefelau halen, siwgr a braster mewn bwyd wedi'i brosesu'n helaeth, sef sbardun mwyaf marwolaeth gynnar yng Nghymru erbyn hyn, mae arna' i ofn. Rwy'n gwybod mai ysmygu yw achos mwyaf marwolaeth gynnar yn ôl pob sôn, ond rwy'n credu bod bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn bendant yn ei oddiweddyd, oherwydd gyda chwech o bob 10 aelwyd byth yn coginio pryd o'r dechrau, bwyd wedi'i brosesu'n helaeth maen nhw'n ei fwyta yn y bôn. Unwaith y byddwch chi'n dechrau ei wneud, mae'r canlyniadau ar gyfer iechyd unigolion yn wirioneddol ddinistriol.
Does dim byd i anghytuno ag ef yn eich cynllun bach hyfryd a'r holl bobl rydych chi wedi ymgysylltu â nhw. Mae'r cyfan yn wych, ond mae llawer iawn mwy i'w wneud, yn enwedig gan fod dibynnu ar gyflenwadau bwyd byd-eang mewn union bryd yn siwrnai seithug gyda'r aflonyddwch enfawr i fasnach ryngwladol rydym yn ei weld ers ethol Donald Trump. Yn sicr, mae'n rhaid i ni ddod yn fwy hunangynhaliol a sicrhau bod gennym ni'r diogeledd bwyd nad oes gennym ni ar hyn o bryd. Mae angen i ni gefnogi ffermwyr a thyfwyr Cymru yn bendant a sicrhau bod llysiau o Gymru yn cael eu defnyddio mewn ysgolion, ond megis dechrau mae hynny. Fe glywais i heddiw mai dim ond saith awdurdod lleol sy'n ymwneud â Synnwyr Bwyd Cymru o hyd, gyda phump arall yn cael eu hychwanegu yn y dyfodol agos iawn. Ond beth mae'r 10 arall yn ei wneud? Mae ganddyn nhw bartneriaethau bwyd lleol; pam nad ydyn nhw'n anelu at sicrhau bod bwyd lleol ar gael ym mhob un o'n hysgolion? Ar hyn o bryd, mae'r galw yn llawer mwy na'r cyflenwad, ond yn sicr mae gennym ni lawer o waith i'w wneud arno. Pethau fel rwy'n gwybod bod Sir Fynwy yn mynnu bod y cyw iâr yn gyw iâr Tractor Coch; mae'r rhan fwyaf o awdurdodau addysg lleol yn defnyddio cyw iâr wedi'i fagu yng Ngwlad Thai, a dydy hynny ddim yn gynaliadwy o gwbl o ran allyriadau carbon—
Jenny, you need to conclude now.
Jenny, mae angen i chi orffen nawr.
So, No. 1, do you support the right to grow? In a place like an urban constituency like mine, we need to be using every single patch of land that’s not being used for something else. And what discussions have you had with Government about massively increasing cookery classes, not just in schools, family learning, but also in the wider community, so that people can understand how to look after themselves better so that they feel better?
Felly, yn gyntaf, ydych chi'n cefnogi'r hawl i dyfu? Mewn lle fel etholaeth drefol fel fy un i, mae angen i ni fod yn defnyddio pob darn o dir nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall. A pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Llywodraeth ynglŷn â chynyddu dosbarthiadau coginio yn sylweddol, nid dim ond mewn ysgolion, dysgu teuluol, ond hefyd yn y gymuned ehangach, fel bod pobl yn gallu deall sut i ofalu amdanyn nhw eu hunain yn well fel eu bod nhw'n teimlo'n well?
Jenny, thank you very much, and also for your championing of these issues as well. You are right in highlighting that ultra-processed foods—. The link is drawn daily, now, between that and increased mortality and increased poor health amongst—. And it is a social justice issue, very much, as well. I mentioned in my opening remarks that it’s not only issues of obesity and diabetes as a result of poor diet, but it’s also malnutrition as well, which is quite remarkable. This is a real twenty-first century phenomenon. So, the more that we can do right across the piste in that area, the better. And we note that, for example, the work that’s going on at the moment with the review of healthy eating in schools is going to be important, and this needs to feed into this: how can we get locally, freshly sourced food into schools? But there's also the education piece as well. So, it’s not only—. And this was one of the big takeaways that I’ve come across before, but also from my recent visit in February to FareShare Cymru—the work that they’re doing now, not purely in diverting what would be waste food, but actually diverting that into people’s menus, but then working with people to actually educate parents and children in cookery and in how to use some of these ingredients as well. So, we need to do all of that; we need to do it in schools but outside of schools as well, right across the piste.
The veg in schools, you rightly said, is a very laudable initiative, but we need to go further, so I’m keen that, as part of this community food strategy, we identify how we can roll out that good practice, that model, to other local authorities in other parts of Wales, because we can undoubtedly do it. And in so doing, we need to do the supply side as well, and we need to really work on what we have learnt from the existing veg in schools projects, so that we can make it easy for all to do it.
And you’re right, in fact, Monmouthshire schools, which you referred to as well there, are featured within the strategy as exemplars in certain work. How do we take what’s really good and make it common practice right across all areas of Wales? Because that will undoubtedly benefit health, diet, resilience, good lifestyles, connectivity with local food culture and also, I think, issues of affordability as well.
You asked me specifically on the right to grow. I'm interested in the concept of the right to grow. I think we need to analyse the impacts of that and the implications of that. But in response to Llyr earlier, I mentioned that we have many pockets of land in urban and rural environments that are not biodiversity rich, but are often scraps of land, often pieces of former wasteland. Now, I'm a great subscriber to the idea that you need unfinished edges on communities with a bit of wasteland around to play and enjoy in. But also, they could be used for the production of food, with local communities using them. And we've seen some good initiatives on that. So, I'm interested in the concept. I think we need to understand the full implications of it. And that could well be something, actually, that we take forward as part of this, with the work of the ministerial advisory group as well, because I'm sure there are some people on that group who would want to advocate for it. But thank you, again, for your support and championing of this.
Jenny, diolch yn fawr iawn, a diolch hefyd am hyrwyddo'r materion hyn hefyd. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth—. Mae'r cysylltiad yn cael ei nodi bob dydd nawr rhwng hynny a mwy o farwolaethau a chynnydd mewn iechyd gwael ymhlith—. Ac mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol, i raddau helaeth, hefyd. Fe soniais i yn fy sylwadau agoriadol nad yw'n fater o ordewdra a diabetes o ganlyniad i ddeiet gwael yn unig, mae'n fater o ddiffyg maeth hefyd, sy'n eithaf rhyfeddol. Mae hon yn ffenomen go iawn yn yr unfed ganrif ar hugain. Felly, po fwyaf y gallwn ni ei wneud yn gyffredinol yn y maes hwnnw, y gorau. Ac rydym yn nodi, er enghraifft, bod y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda'r adolygiad o fwyta'n iach mewn ysgolion yn mynd i fod yn bwysig, ac mae angen i hyn fwydo i mewn i hyn: sut allwn ni sicrhau bod bwyd lleol, ffres yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion? Ond mae'r darn addysg hefyd. Felly, nid yn unig—. A dyma un o'r pethau mawr rwyf wedi dod ar ei draws o'r blaen, ond hefyd o'm hymweliad diweddar ym mis Chwefror â FareShare Cymru—y gwaith maen nhw'n ei wneud nawr, nid yn unig yn dargyfeirio'r hyn a fyddai'n fwyd gwastraff, ond yn dargyfeirio hynny mewn gwirionedd i fwydlenni pobl, ond yna gweithio gyda phobl i addysgu rhieni a phlant am goginio a sut i ddefnyddio rhai o'r cynhwysion hyn hefyd. Felly, mae angen i ni wneud hynny i gyd; mae angen i ni ei wneud mewn ysgolion ond y tu allan i ysgolion hefyd, yn gyffredinol.
Mae llysiau mewn ysgolion, fel y dywedoch chi'n gywir, yn fenter ganmoladwy iawn, ond mae angen i ni fynd ymhellach, felly rwy'n awyddus, fel rhan o'r strategaeth bwyd cymunedol hon, ein bod ni'n nodi sut y gallwn ni gyflwyno'r arfer da hwnnw, y model hwnnw, i awdurdodau lleol eraill mewn rhannau eraill o Gymru, oherwydd does dim amheuaeth y gallwn ni wneud hynny. Ac wrth wneud hynny, mae angen i ni wneud yr ochr gyflenwi hefyd, ac mae angen i ni weithio ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu o'r prosiectau llysiau mewn ysgolion presennol, fel ein bod ni'n gallu ei gwneud hi'n hawdd i bawb ei wneud.
Ac, yn wir, rydych chi'n iawn, mae ysgolion Sir Fynwy, y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn y fan yna hefyd, yn cael eu cynnwys yn y strategaeth fel enghreifftiau da o ran gwaith penodol. Sut ydym ni'n cymryd yr hyn sy'n wirioneddol dda ac yn ei wneud yn arfer cyffredin ym mhob rhan o Gymru? Oherwydd bydd hynny'n ddi-os o fudd i iechyd, deiet, gwytnwch, ffyrdd o fyw da, cysylltedd â diwylliant bwyd lleol a hefyd, rwy'n credu, materion fforddiadwyedd hefyd.
Fe wnaethoch chi ofyn i mi'n benodol am yr hawl i dyfu. Mae gen i ddiddordeb yn y cysyniad o'r hawl i dyfu. Rwy'n credu bod angen i ni ddadansoddi effeithiau hynny a goblygiadau hynny. Ond mewn ymateb i Llŷr yn gynharach, fe soniais i fod gennym ni lawer o bocedi o dir mewn amgylcheddau trefol a gwledig sydd ddim yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth, ond sy'n aml yn ddarnau o dir, yn aml yn ddarnau o hen dir diffaith. Nawr, rwy'n gefnogwr brwd i'r syniad bod angen ymylon anorffenedig ar gymunedau gydag ychydig o dir diffaith o gwmpas i chwarae a mwynhau ynddo. Ond hefyd, gellid eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd, gyda chymunedau lleol yn eu defnyddio. Ac rydym wedi gweld rhai mentrau da o ran hynny. Felly, mae gen i ddiddordeb yn y cysyniad. Rwy'n credu bod angen i ni ddeall goblygiadau llawn y peth. Ac fe allai hynny fod yn rhywbeth, mewn gwirionedd, y byddwn ni'n ei gymryd ymlaen fel rhan o hyn, gyda gwaith y grŵp cynghori'r Gweinidog hefyd, oherwydd rwy'n siŵr bod rhai pobl ar y grŵp hwnnw a fyddai eisiau eirioli drosto. Ond diolch, eto, am eich cefnogaeth ac am hyrwyddo hyn.
Diolch am y cyhoeddiad yma. Un peth roeddwn i wedi sylwi oedd ddim yn y cyhoeddiad oedd sôn am gig gêm. Dwi'n ymwybodol eich bod chi'n ystyried hwnna ychydig yn wahanol, ond mae cig gêm yn cael ei gynhyrchu ar raddfa eithaf eang yma yng Nghymru. Mae e'n gig sydd yn gig iach, yn llawn protin, bron dim braster arno ac mewn niferoedd yma yng Nghymru. Mae e'n gig a fuasai'n medru cyfrannu at ddeiet plant yn ein hysgolion ni ac yn y sector cyhoeddus, trwy'r ysbytai ac yn y blaen. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i gig gêm, cig fel ffesant, neu gwningen hyd yn oed, sydd, fel dwi'n dweud, yn y niferoedd yma, a sut gallai hwnna gyfrannu at eich cynllun chi?
Thank you for this statement. One thing that struck me that wasn't in the statement was mention made of game. I am aware that you might be considering that in a different way, but game meat is produced on quite a wide scale here in Wales. It's healthy meat, it's full of protein, there's almost no fat on it and it's abundant here in Wales. It's meat that could contribute to the diet of children in our schools and in the public sector, in hospitals and so on. So, what consideration have you given to game meat, meat such as pheasant, or rabbit even, which is abundant here, and how could that contribute to your plan?
So, I deliberately haven't gone into the full menu options and menu choices within this. The focus has been very much on actually driving up locally sourced produce, and sustainably locally sourced produce as well. It is interesting that when you look at some of the species now that are under management not just within Wales, but in places like the New Forest and so on—deer and so on—they are increasingly being promoted as a very environmentally—. What's the right way of putting this? It's a good sustainable way of actually accessing affordable meat and protein, particularly within a managed regime. We deliberately don't in here enter into a thing of whether game is part of that and so on, but I think you'll understand that what we do focus on is on locally sourced, good produce, nutritious produce, and that also benefits local economies as well. That's the other thing.
Felly, dydw i ddim, yn fwriadol, wedi sôn am opsiynau llawn a dewisiadau llawn y fwydlen o fewn hyn. Mae'r ffocws wedi bod ar gynyddu cynnyrch lleol, a chynhyrchion lleol cynaliadwy hefyd i raddau helaeth. Mae'n ddiddorol, pan edrychwch chi ar rai o'r rhywogaethau sy'n cael eu rheoli nawr, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn llefydd fel y New Forest ac yn y blaen—ceirw ac yn y blaen—mae'n nhw'n cael eu hyrwyddo mwyfwy fel rhywbeth amgylcheddol iawn—. Beth yw'r ffordd iawn o roi hyn? Mae'n ffordd gynaliadwy dda o gael mynediad at gig a phrotein fforddiadwy, yn enwedig mewn cyfundrefn a reolir. Dydyn ni ddim, yn fwriadol, yn trafod a yw anifeiliaid hela yn rhan o hynny ac yn y blaen, ond rwy'n credu y byddwch chi'n deall mai'r hyn rydym yn canolbwyntio arno yw cynnyrch lleol da, cynnyrch maethlon, ac mae hynny hefyd o fudd i economïau lleol hefyd. Dyna'r peth arall.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
And finally, Carolyn Thomas.
I really welcome this strategy. It's really important, I think, for people to reconnect with food, where it's come from, especially young people, to get them to eat healthily. It doesn't just benefit people's health, but, as you said earlier, nature and biodiversity as well. How will Welsh farmers benefit from this as well? Do you think that it might help encourage them to diversity going forward, rather than just have monocrops?
Also, regarding planning as well, there aren't many areas in north Wales where you can grow vegetables, except in certain areas of Sealand, for example, and we've got a big solar farm proposed for there. So, could we feed this into that, as well, as part of the food strategy—that it needs to be weighed up as part of planning decisions? Thank you.
Rwy'n croesawu'r strategaeth hon yn fawr. Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, i bobl ailgysylltu â bwyd, o ble mae'n dod, yn enwedig pobl ifanc, i'w cael i fwyta'n iach. Mae'n fuddiol i iechyd pobl, ond, fel y dywedoch chi'n gynharach, mae'n fuddiol i natur a bioamrywiaeth hefyd. Sut bydd ffermwyr Cymru yn elwa ar hyn hefyd? Ydych chi'n meddwl y gallai helpu i'w hannog i arallgyfeirio yn y dyfodol, yn hytrach na thyfu un cnwd yn unig?
Hefyd, o ran cynllunio hefyd, does dim llawer o ardaloedd yng ngogledd Cymru lle gallwch chi dyfu llysiau, ac eithrio mewn rhai ardaloedd o Sealand, er enghraifft, ac mae fferm solar fawr wedi'i chynnig ar gyfer y fan yna. Felly, allwn ni fwydo hyn i mewn i hynny, hefyd, fel rhan o'r strategaeth fwyd—bod angen ei bwyso a'i fesur fel rhan o benderfyniadau cynllunio? Diolch.
Thank you very much. Look, I think there are great opportunities here for farmers and primary food producers in Wales, because the more that we can work right across the supply chain, not only into the public procurement space, which is increasingly happening in Wales, but also onto the supermarket shelves—. That has to be a benefit. So, part of this, beyond the technicalities of it, is actually a drive towards developing a culture that is based on locally sourced food, the pride in that locally sourced food. Now, that surely will have tangible benefits, then, economic benefits, for farmers.
And on your point on the land availability, yes, we're not creating more land, unlike the Dutch, who do have remarkable propensity to do this, and on that basis, we need to be very selective in where we grow produce and where we do other uses. And sometimes, they can be combined as well, but you are certainly right that where we've got good productive land that can grow crops, then we need to making use of that land. I've missed one of your points; I'm sure you had three points. But if I have missed it, I will come back to it, Carolyn. But thank you, again, for your support and championing of this.
Diolch yn fawr iawn. Edrychwch, rwy'n credu bod yna gyfleoedd gwych yma i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd cynradd yng Nghymru, oherwydd po fwyaf y gallwn ni weithio ar draws y gadwyn gyflenwi, nid yn unig i'r gofod caffael cyhoeddus, sy'n digwydd fwyfwy yng Nghymru, ond hefyd ar silffoedd archfarchnadoedd—. Mae'n rhaid i hynny fod yn fuddiol. Felly, rhan o hyn, y tu hwnt i'r manylion technegol, yw mynd ati i ddatblygu diwylliant sy'n seiliedig ar fwyd lleol, y balchder yn y bwyd lleol hwnnw. Nawr, bydd hynny'n sicr yn cael manteision diriaethol, wedyn, manteision economaidd, i ffermwyr.
Ac o ran eich pwynt ar argaeledd tir, ie, dydyn ni ddim yn creu mwy o dir, yn wahanol i bobl yr Iseldiroedd, sydd â thueddiad rhyfeddol i wneud hyn, ac ar y sail honno, mae angen i ni fod yn ddetholus iawn o ran lle rydym yn tyfu cynnyrch a lle rydym yn defnyddio tir at ddibenion eraill. Ac weithiau, gellir eu cyfuno hefyd, ond rydych chi'n sicr yn iawn, lle mae gennym ni dir cynhyrchiol da y gellir tyfu cnydau arno, yna mae angen i ni ddefnyddio'r tir hwnnw. Rwyf wedi colli un o'ch pwyntiau; rwy'n siŵr bod gennych chi dri phwynt. Ond os wyf wedi ei golli, fe ddof yn ôl ato, Carolyn. Ond diolch, eto, am eich cefnogaeth ac am hyrwyddo hyn.
Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog.
I thank the Deputy First Minister.
Eitem 6 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: adroddiad grŵp cynghori'r Gweinidog ar berfformiad a chynhyrchiant NHS Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Item 6 is a statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care on the report of the ministerial advisory group on NHS Wales performance and productivity. I call on the Cabinet Secretary, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Hydref diwethaf, fe wnes i apwyntio grŵp cynghori gweinidogol allanol i roi arolygiad annibynnol ar berfformiad a chynhyrchiant yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Fe wnes i apwyntio aelodau gydag arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol yn eu meysydd a gofyn iddyn nhw roi sicrwydd i mi ynglŷn ag effeithiolrwydd trefniadau cyfredol a chyngor ar sut y gellid eu cryfhau nhw. Cadeiriwyd y grŵp gan gyn-brif swyddog gweithredol NHS England, Syr David Sloman, a gofynnais iddyn nhw ffocysu ar ofal wedi'i gynllunio, diagnostics, perfformiad canser a gofal brys.
Thank you, Dirprwy Lywydd. Last October, I appointed an external ministerial advisory group to provide an independent review of performance and productivity in the NHS in Wales. I appointed members with national and international expertise in their respective fields, and I asked them to provide me with assurance about the effectiveness of current arrangements and advice about how these could be strengthened. The group was chaired by former NHS England chief operating officer Sir David Sloman, and I asked the group to focus on planned care, diagnostics, cancer performance and urgent and emergency care.
I would like thank all the members for their hard work and diligence in undertaking this rapid but detailed piece of work. I have today published the group's report and 29 recommendations, together with the Welsh Government's response. Earlier this morning I met NHS leaders and members of the ministerial advisory group to discuss the report and the recommendations. This was the second time that we have come together this month. At the start of April I met NHS chairs, chief executives and their senior teams to set out my priorities for the coming 12 months, including ambitious plans to continue to reduce the waiting list, eliminate two-year waiting times for planned treatment and restore a maximum eight-week wait for tests by March 2026.
Over the coming weeks I will be making further statements about the systemic changes we now need to see in the NHS this year, and how we will speed up delivery in some of our key priority areas. The recommendations from the ministerial advisory group will make an important contribution to how we will achieve this. Dirprwy Lywydd, the report's message is clear. When we look at planned care, at diagnostics, cancer and urgent and emergency care, we have a significant challenge in terms of performance and productivity. Despite the fact that we invest around half of the Welsh budget in health and social care, and that the NHS employs more people today than at any time in its history, the service is not performing at the levels, nor with the levels of productivity, that we would all want it to, and that the public needs and expects it to.
But the group's report and conclusions are optimistic, not least that it sets Wales the ambition of becoming a world leader in healthcare. Time and again it outlines the strength of our NHS staff, of the commitment and skill of clinical and managerial professionals, of good strategy and often of good practice. It's clear that, in a country of our size, with a comparatively small number of health bodies and a Government able to work closely with the NHS, we have an advantage that we can and we must make work better. If we are able to draw on the best of what we do in Wales and the best of what has worked elsewhere, we can improve performance and productivity to deliver better outcomes.
Dirprwy Lywydd, there are five major themes running through this report and its recommendations. In the time I have this afternoon I want to briefly touch on each. I will expand further on our plans in the weeks ahead.
The group makes a number of specific recommendations about out-patients and waiting list management. These will be essential to our plans for the year ahead as we continue to cut long waiting times and build on the improved planned care performance that we have seen over the last three months.
Secondly, it tells us to focus less on plans and strategies and more on delivering our existing commitments better. There are a series of recommendations about how we can use funding to unlock and drive performance. Members will recall that I provided an extra £50 million to health boards in November to fund their plans to reduce the longest waiting times. I have been clear with NHS leaders that, where those plans are not delivered in full, the funding will be returned to the Government to be used elsewhere in the NHS. However, I have also agreed to look at how we can use funding to incentivise and reward organisations to improve delivery and productivity. This is an area I am keen to develop further.
The next area is digital and data. The report is clear that a well-performing healthcare system is one that is digitally enabled. Digital transformation will be integral to every single decision we make from now on. I have tasked Digital Health and Care Wales with rapidly improving its capacity to plan, manage and deliver digital projects in our system. In the autumn, I will publish a transparency statement that will set out what data we will be making available and when.
The final theme is how we manage performance and hold organisations to account, including the role of the NHS executive.
The Welsh Government will be accepting all 29 recommendations, either in whole or in part. Where we are accepting in part, very often it's a question of timescales or resource choices, which may need to be made on a cross-Government basis or over more than one year, rather than a difference of policy intent. Our published response sets out further details about where work is already now under way to address some of these recommendations.
Dirprwy Lywydd, in the few minutes I have left, I want to say a few words about the chair. During the course of the group’s work, Sir David was appointed as the vice chair of Spire Healthcare. This appointment was disclosed to my officials. I have taken this appointment fully into account when considering the recommendations, which are made by all members of the group and not by one individual alone. I do not believe this appointment detracts from the strength of those recommendations.
Hoffwn ddiolch i'r holl aelodau am eu gwaith caled a'u diwydrwydd wrth ymgymryd â'r darn cyflym ond manwl hwn o waith. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad y grŵp a 29 o argymhellion, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru. Yn gynharach y bore yma cwrddais ag arweinwyr y GIG ac aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog i drafod yr adroddiad a'r argymhellion. Dyma'r ail dro i ni ddod at ein gilydd y mis hwn. Ar ddechrau mis Ebrill cyfarfûm â chadeiryddion y GIG, prif weithredwyr a'u huwch dimau i nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf, gan gynnwys cynlluniau uchelgeisiol i barhau i leihau'r rhestr aros, dileu amseroedd aros dwy flynedd ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio ac adfer uchafswm o wyth wythnos o aros am brofion erbyn mis Mawrth 2026.
Dros yr wythnosau nesaf byddaf yn gwneud datganiadau pellach am y newidiadau systemig y mae angen i ni eu gweld yn y GIG eleni, a sut y byddwn yn cyflymu'r gwaith cyflawni yn rhai o'n meysydd blaenoriaeth allweddol. Bydd yr argymhellion gan grŵp cynghori'r Gweinidog yn gwneud cyfraniad pwysig at sut y byddwn yn cyflawni hyn. Dirprwy Lywydd, mae neges yr adroddiad yn glir. Pan edrychwn ar ofal wedi'i gynllunio, ar ddiagnosteg, canser a gofal brys ac argyfwng, mae gennym her sylweddol o ran perfformiad a chynhyrchiant. Er gwaethaf y ffaith ein bod yn buddsoddi tua hanner cyllideb Cymru mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a bod y GIG yn cyflogi mwy o bobl heddiw nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, nid yw'r gwasanaeth yn perfformio ar y lefelau, na gyda'r lefelau cynhyrchiant, y byddem i gyd eisiau eu gweld, ac y mae'r cyhoedd ei angen ac y maent yn disgwyl iddo wneud hynny.
Ond mae adroddiad a chasgliadau'r grŵp yn optimistaidd, yn enwedig gan ei fod yn gosod uchelgais i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang ym maes gofal iechyd. Dro ar ôl tro mae'n amlinellu cryfder ein staff GIG, ymrwymiad a sgiliau gweithwyr proffesiynol clinigol a rheolaethol, strategaeth dda ac yn aml arfer da. Mae'n amlwg, mewn gwlad o'n maint ni, gyda nifer gymharol fach o gyrff iechyd a Llywodraeth sy'n gallu gweithio'n agos gyda'r GIG, bod gennym fantais y gallwn, ac mae'n rhaid i ni wneud gwaith yn well. Os ydym yn gallu manteisio ar y gorau o'r hyn a wnawn yng Nghymru a'r gorau o'r hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill, gallwn wella perfformiad a chynhyrchiant i sicrhau canlyniadau gwell.
Dirprwy Lywydd, mae pum prif thema sy'n rhedeg drwy'r adroddiad hwn a'i argymhellion. Yn yr amser sydd gen i'r prynhawn yma rydw i eisiau sôn yn fyr am bob un. Byddaf yn ymhelaethu ymhellach ar ein cynlluniau yn yr wythnosau i ddod.
Mae'r grŵp yn gwneud nifer o argymhellion penodol am reoli cleifion allanol a rhestrau aros. Bydd y rhain yn hanfodol i'n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod wrth i ni barhau i dorri amseroedd aros hir ac adeiladu ar y perfformiad gofal wedi'i gynllunio gwell a welsom dros y tri mis diwethaf.
Yn ail, mae'n dweud wrthym i ganolbwyntio llai ar gynlluniau a strategaethau a mwy ar gyflawni ein hymrwymiadau presennol yn well. Mae yna gyfres o argymhellion ynghylch sut y gallwn ddefnyddio cyllid i ddatgloi ac ysgogi perfformiad. Bydd yr Aelodau yn cofio fy mod wedi darparu £50 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd ym mis Tachwedd i ariannu eu cynlluniau i leihau'r amseroedd aros hiraf. Rwyf wedi bod yn glir gydag arweinwyr y GIG, lle nad yw'r cynlluniau hynny'n cael eu cyflawni'n llawn, bydd y cyllid yn cael ei ddychwelyd i'r Llywodraeth i'w ddefnyddio mewn mannau eraill yn y GIG. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi cytuno i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio cyllid i ysgogi a gwobrwyo sefydliadau i wella'r gwaith o gyflawni a chynhyrchiant. Mae hwn yn faes yr wyf yn awyddus i'w ddatblygu ymhellach.
Y maes nesaf yw digidol a data. Mae'r adroddiad yn glir bod system gofal iechyd sy'n perfformio'n dda yn un sydd wedi'i galluogi'n ddigidol. Bydd trawsnewid digidol yn rhan annatod o bob penderfyniad unigol a wnawn o hyn ymlaen. Rwyf wedi gosod tasg i Iechyd a Gofal Digidol Cymru i wella'n gyflym ei gapasiti i gynllunio, rheoli a chyflawni prosiectau digidol yn ein system. Yn yr hydref, byddaf yn cyhoeddi datganiad tryloywder a fydd yn nodi pa ddata bydd ar gael gennym a phryd.
Y thema olaf yw sut rydym yn rheoli perfformiad ac yn dal sefydliadau yn atebol, gan gynnwys rôl gweithrediaeth y GIG.
Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un o'r 29 argymhelliad, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol. Lle rydym ni'n derbyn yn rhannol, yn aml iawn mae'n fater o amserlenni neu ddewisiadau adnoddau, y gallai fod angen eu gwneud ar sail trawslywodraethol neu dros fwy na blwyddyn, yn hytrach na gwahaniaeth o fwriad polisi. Mae ein hymateb cyhoeddedig yn nodi rhagor o fanylion am ble mae gwaith eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â rhai o'r argymhellion hyn.
Dirprwy Lywydd, yn yr ychydig funudau sydd gennyf ar ôl, rwyf am ddweud ychydig eiriau am y cadeirydd. Yn ystod gwaith y grŵp, penodwyd Syr David yn is-gadeirydd Spire Healthcare. Datgelwyd y penodiad hwn i'm swyddogion. Rwyf wedi ystyried y penodiad hwn yn llawn wrth ystyried yr argymhellion, sy'n cael eu gwneud gan holl aelodau'r grŵp ac nid gan un unigolyn yn unig. Nid wyf yn credu bod y penodiad hwn yn tynnu oddi wrth gryfder yr argymhellion hynny.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
Llywydd, the ministerial advisory group has presented us with a challenging but constructive report, which lays out specific, concrete proposals for improving performance and productivity. It's also given us a practical set of recommendations and a pathway towards reaching the ambition of becoming one of the best-performing and most productive healthcare systems in the world. It is a bold ambition and one I expect that we must embrace and work towards together.
Llywydd, mae grŵp cynghori'r Gweinidog wedi cyflwyno adroddiad heriol ond adeiladol i ni, sy'n nodi cynigion penodol, pendant ar gyfer gwella perfformiad a chynhyrchiant. Mae hefyd wedi rhoi set ymarferol o argymhellion i ni a llwybr tuag at gyrraedd yr uchelgais o ddod yn un o'r systemau gofal iechyd sy'n perfformio orau a mwyaf cynhyrchiol yn y byd. Mae'n uchelgais feiddgar ac un rwy'n disgwyl y bydd rhaid i ni ei chofleidio a gweithio tuag ati gyda'n gilydd.
I'd like to thank the Cabinet Secretary for his statement today, and I think the Cabinet Secretary has to be honest with the people of Wales. This isn't anything new or nothing that we haven't been told before. What this is is a last-minute scramble. After 26 years of Labour running the NHS here in Wales, with just 12 months until an election, the Cabinet Secretary arrives here today with sweeping promises of urgency and ambition. But what this really reflects is a Government that's finally realised and woken up too late that actual delivery on the ground matters.
I know we've had this statement today but I did read the speech you gave to the NHS Confederation, and I know you had this report before then, so I'm going to focus a bit on that speech as well, because I think it does tie in together. I just want to say first I'd like to thank the chair and all the members of that group for pulling this together. So, this isn't anything new—this is something we've all heard before—but what the ministerial advisory group does lay bare is what patients, professionals and opposition Members here have been saying for years. Performance is down, productivity is poor and patients are suffering as a result, and the report does make clear the operational performance of the core NHS services is in need of urgent attention and turnaround.
And after 26 years of you in charge, now what you're trying to tell us is you want to create the best-performing and most productive healthcare system in the world, and I share that ambition. I think, for half of the Welsh Government budget spent on health, it is right that we have the best healthcare system in the world and not be propping up the bottom of all the league tables here in the United Kingdom. So, I'd actually like to ask you, Cabinet Secretary: what fundamental changes are you going to make to make us the best-performing healthcare system in the world, because people have waited far too long for this change? I think it's about time we actually had some concrete answers of how you're going to do that.
You spoke today about digital transformation; in that speech you gave to the NHS Confederation, you did admit that our digital journey has been marked by underdelivery and I agree with you, and many of us have been saying this for years. We've had Digital Healthcare Wales, and I must ask you, Cabinet Secretary: what have they been doing? Because our digital infrastructure here in Wales has fallen behind. Basic—basic—integration between health boards still doesn't exist. They still don't share information between each other and now, only years later, when we seem to have two Labour Governments at either end of the M4, you want the NHS Wales app to integrate with the NHS England app, which, to me, makes common sense. It's something that should have happened years ago—it just doesn't seem to have been driven forward. But another part we see in digital infrastructure is primary care, and certain elements of primary care and allied health professionals are still having to send letters and faxes up into district general hospitals, because they don't have access into their systems.
This isn't a twenty-first century healthcare service—it's a backlog of missed opportunities. So, Cabinet Secretary I'd like to know from you today how quickly can the people of Wales and the workforce in our NHS expect to see these digital changes actually delivered, because we've had warm words for years but no delivery. So, I'd like to know when that's going to happen, and also the integration of a single patient note so everybody across our healthcare system can see the notes of those patients.
You also referenced the £50 million allocated to health boards to bring down waiting lists, and, to give some credit, Cabinet Secretary, there are some signs that those lists are starting to fall. But you've also promised, as you said today, that eight-week diagnostic target by March 2026. I'd like you to explain a bit more detail about that, how that target will be met, given the current challenges and capacity issues within the NHS. Does this mean you're going to be investing more money in rapid diagnostic centres, or are you going to be employing more staff in the NHS? Because if we don't see that, we're not going to see those tests done.
On two-year waits, I want to raise the issue with you about Powys Teaching Health Board's decision to ask English health providers to delay treatment for two years for people waiting for treatment in England, because that goes completely contrary to what you're telling us on two-year waits. You're saying, 'We need to get two-year waits down', but you've got a health board going against what your wishes are and saying, 'You must make people wait, because we can't afford to pay for it.' I'd like to know why you're allowing this to continue and to go unchecked, because it does go against current Welsh Government policy.
And also the report does give a stark warning, Cabinet Secretary, about future uncertainty, and it does say that there is a high risk that instances of patient harm will increase and value for taxpayers' money will decrease. And I'm just concerned about how we're going to address that, because it does talk, in the report, about a rebrand of the NHS executive to create a new medical director for NHS Wales, with current stature to the chief medical officer. I'm just interested in how you think adding another layer of bureaucracy is going to sort these problems, because, clearly, we need to see delivery at pace, but is that delivery being all centralised within the NHS executive the right way to do it?
I know I'm over time, but I'll just come quickly to my conclusion, Llywydd. You've said, Cabinet Secretary, that we need to grasp—you've said this—we need to grasp the nettle, because we've become a system that's become quick to point the finger. And I don't disagree with that; the system has done that. But what I want to know is how will you grasp the nettle, and what specific challenges will you introduce to health board executives to make them truly accountable to you and truly accountable to the people of Wales. Because what I hear far too often is our health boards going contrary to Welsh Government policy and not delivering on that. So, I want to know what legislative changes you're going to make to ensure that you are actually accountable for the NHS in Wales, and health boards can actually report to you and not have the autonomy of what they do now. Thank you.
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, ac rwy'n credu bod yn rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet fod yn onest gyda phobl Cymru. Nid yw hwn yn rhywbeth newydd o gwbl nac yn ddim byd nad ydym wedi'i glywed o'r blaen. Sgrialfa funud olaf yw hon. Ar ôl 26 mlynedd o Lafur yn rhedeg y GIG yma yng Nghymru, gyda dim ond 12 mis tan etholiad, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cyrraedd yma heddiw gydag addewidion ysgubol o frys ac uchelgais. Ond beth mae hyn yn ei adlewyrchu mewn gwirionedd yw Llywodraeth sydd o'r diwedd wedi sylweddoli ac wedi deffro'n rhy hwyr bod cyflawni gwirioneddol ar lawr gwlad yn bwysig.
Rwy'n gwybod ein bod wedi cael y datganiad hwn heddiw ond darllenais yr araith a roddoch i Gydffederasiwn y GIG, ac rwy'n gwybod bod yr adroddiad hwn gennych cyn hynny, felly rydw i'n mynd i ganolbwyntio ychydig ar yr araith honno hefyd, oherwydd rwy'n credu eu bod yn cysylltu â'i gilydd. Hoffwn ddiolch i'r cadeirydd a holl aelodau'r grŵp hwnnw am dynnu hyn at ei gilydd. Felly, nid yw hyn yn unrhyw beth newydd—mae hyn yn rhywbeth rydym ni i gyd wedi'i glywed o'r blaen—ond yr hyn y mae grŵp cynghori'r gweinidog yn ei wneud yw datgelu'r hyn y mae cleifion, gweithwyr proffesiynol ac Aelodau'r wrthblaid yma wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd. Mae perfformiad i lawr, mae cynhyrchiant yn wael ac mae cleifion yn dioddef o ganlyniad, ac mae'r adroddiad yn gwneud yn glir bod perfformiad gweithredol gwasanaethau craidd y GIG angen sylw a newid brys.
Ac ar ôl 26 mlynedd ohonoch chi wrth y llyw, nawr yr hyn rydych chi'n ceisio ei ddweud wrthym yw eich bod chi eisiau creu'r system gofal iechyd sy'n perfformio orau a mwyaf cynhyrchiol yn y byd, ac rwy'n rhannu'r uchelgais honno. Rwy'n credu, ar gyfer hanner cyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei wario ar iechyd, mae'n iawn fod gennym y system gofal iechyd orau yn y byd yn hytrach nag un yn gorwedd ar waelod yr holl dablau cynghrair yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: pa newidiadau sylfaenol ydych chi'n mynd i'w gwneud i'r system gofal iechyd sy'n perfformio orau yn y byd, oherwydd mae pobl wedi aros yn llawer rhy hir am y newid hwn? Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni gael rhai atebion pendant ynghylch sut rydych chi'n mynd i wneud hynny.
Fe wnaethoch chi siarad heddiw am drawsnewid digidol; yn yr araith honno a roddoch i Gydffederasiwn y GIG, fe wnaethoch chi gyfaddef bod ein taith ddigidol ni wedi tangyflawni ac rwy'n cytuno â chi, ac mae llawer ohonom wedi bod yn dweud hyn ers blynyddoedd. Rydym wedi cael Gofal Iechyd Digidol Cymru, ac mae'n rhaid i mi ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: beth maen nhw wedi bod yn ei wneud? Oherwydd mae ein seilwaith digidol yma yng Nghymru ar ei hôl hi. Nid yw integreiddio sylfaenol—sylfaenol rhwng byrddau iechyd yn bodoli o hyd. Dydyn nhw dal ddim yn rhannu gwybodaeth rhwng ei gilydd a nawr, dim ond blynyddoedd yn ddiweddarach, pan fo'n ymddangos bod gennym ddwy Lywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4, rydych chi eisiau i ap GIG Cymru integreiddio ag ap GIG Lloegr, sydd, i mi, yn gwneud synnwyr cyffredin. Mae'n rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl—nid yw'n ymddangos ei fod wedi cael ei sbarduno. Ond rhan arall a welwn o fewn seilwaith digidol yw gofal sylfaenol, ac mae rhai elfennau o ofal sylfaenol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn dal yn gorfod anfon llythyrau a ffacsiau i ysbytai cyffredinol dosbarth, oherwydd nad oes ganddynt fynediad i'w systemau.
Nid gwasanaeth gofal iechyd yr unfed ganrif ar hugain yw hwn—mae'n ôl-groniad o gyfleoedd a gollwyd. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn wybod gennych chi heddiw pa mor gyflym y gall pobl Cymru a'r gweithlu yn ein GIG ddisgwyl gweld y newidiadau digidol hyn yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd, oherwydd rydym wedi cael geiriau caredig ers blynyddoedd ond dim cyflawni. Felly, hoffwn wybod pryd mae hynny'n mynd i ddigwydd, a hefyd integreiddio cofnod unigol claf fel y gall pawb ar draws ein system gofal iechyd weld nodiadau'r cleifion hynny.
Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at y £50 miliwn a ddyrannwyd i fyrddau iechyd er mwyn lleihau rhestrau aros, ac, i roi rhywfaint o glod, Ysgrifennydd Cabinet, mae rhai arwyddion bod y rhestrau hynny'n dechrau gostwng. Ond rydych chi hefyd wedi addo, fel y dywedoch heddiw, y targed diagnostig wyth wythnos hwnnw erbyn mis Mawrth 2026. Hoffwn i chi roi ychydig mwy o fanylion am hynny, sut y bydd y targed hwnnw'n cael ei gyflawni, o ystyried yr heriau presennol a'r problemau capasiti o fewn y GIG. A yw hyn yn golygu eich bod chi'n mynd i fuddsoddi mwy o arian mewn canolfannau diagnostig cyflym, neu a ydych chi'n mynd i gyflogi mwy o staff yn y GIG? Oherwydd os nad ydym yn gweld hynny, nid ydym yn mynd i weld y profion hynny'n cael eu gwneud.
Ar arosiadau dwy flynedd, rwyf eisiau codi'r mater gyda chi am benderfyniad Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ofyn i ddarparwyr iechyd yn Lloegr ohirio triniaeth am ddwy flynedd i bobl sy'n aros am driniaeth yn Lloegr, oherwydd mae hynny'n mynd yn gwbl groes i'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym am arosiadau dwy flynedd. Rydych chi'n dweud, 'Mae angen i ni leihau arosiadau dwy flynedd', ond mae gennych chi fwrdd iechyd sy'n mynd yn groes i'ch dymuniadau ac yn dweud, 'Mae'n rhaid i chi wneud i bobl aros, oherwydd ni allwn fforddio talu amdano.' Hoffwn wybod pam eich bod chi'n caniatáu i hyn barhau a heb ei wirio, oherwydd mae'n mynd yn groes i bolisi presennol Llywodraeth Cymru.
A hefyd mae'r adroddiad yn rhoi rhybudd llym, Ysgrifennydd Cabinet, am ansicrwydd yn y dyfodol, ac mae'n dweud bod risg uchel y bydd achosion o niwed i gleifion yn cynyddu a bydd gwerth am arian trethdalwyr yn gostwng. Ac rwy'n poeni ynghylch sut rydym ni'n mynd i fynd i'r afael â hynny, oherwydd mae'n sôn, yn yr adroddiad, am ail-frandio gweithrediaeth y GIG i greu cyfarwyddwr meddygol newydd ar gyfer GIG Cymru, gyda statws presennol y prif swyddog meddygol. Mae gen i ddiddordeb mewn deall sut rydych chi'n meddwl bod ychwanegu haen arall o fiwrocratiaeth yn mynd i ddatrys y problemau hyn, oherwydd, yn amlwg, mae angen i ni weld cyflawni ar gyflymder, ond a yw'r cyflawni hwnnw a fydd yn cael ei ganoli o fewn gweithrediaeth y GIG y ffordd iawn i wneud hyn?
Rwy'n gwybod fy mod dros amser, ond fe ddof at fy nghasgliad yn gyflym, Llywydd. Rydych chi wedi dweud, Ysgrifennydd Cabinet, bod angen i ni wasgu—rydych chi wedi dweud hyn—mae angen i ni wasgu'r danadl, oherwydd rydym ni wedi dod yn system sy'n barod yn gyflym i bwyntio bys. A dydw i ddim yn anghytuno â hynny; mae'r system wedi gwneud hynny. Ond yr hyn rydw i eisiau ei wybod yw sut y byddwch chi'n gwasgu'r danadl, a pha heriau penodol y byddwch chi'n eu cyflwyno i swyddogion gweithredol byrddau iechyd i'w gwneud yn wirioneddol atebol i chi ac yn wirioneddol atebol i bobl Cymru. Oherwydd yr hyn rwy'n ei glywed yn rhy aml yw bod ein byrddau iechyd yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru ac nad ydynt yn cyflawni hynny. Felly, rwyf eisiau gwybod pa newidiadau deddfwriaethol rydych chi'n mynd i'w gwneud i sicrhau eich bod yn atebol i'r GIG yng Nghymru, a gall byrddau iechyd adrodd i chi mewn gwirionedd a pheidio â bod â'r ymreolaeth sydd ganddyn nhw nawr. Diolch.
Well, I slightly regret the churlish tone that the Member has brought to the piece of work that we're debating and discussing in the Chamber today. I wasn't sure whether he was attaching weight to it or not. But I'll do my best to try and unpack that from the questions that he put to me.
He asked me what the specific steps are that we are planning to take, and I'm grateful to him for having taken the trouble of reading the speech that I gave on 7 April, which set out, as he will recall, a number of very specific steps that we're planning to take, which I think answer his question precisely. And this morning, we published not only the recommendations from the report, but I was keen that we take the decision to publish our response at the same time, so that it is clear precisely what steps the Welsh Government plans to take against each of those 29 recommendations. And that enabled the discussion this morning, both with the ministerial advisory group and with NHS leaders, so that those actions could be tested. Not all of them are actions that are in the hands of the Welsh Government, as he will appreciate, and I know he will appreciate that, given the last points that he made in his questions in relation to the balance of responsibility in the NHS.
So, between the statement that I made on 7 April and the statement that I published this morning, he will find a full description of the range of steps that we are planning to take. I'm grateful to the ministerial advisory group also for giving us a steer on the timescales within which they recommend that the various steps are taken. So, he will also see in the document this morning that reflection of the three-month time frame, the six-month time frame and so on, which will give, I hope, him and others a sense of the pace that we plan to bring in relation to the recommendations specifically.
He is right to say—and I've acknowledged that in both the speeches I have made in the last few weeks—that the state of development of digital infrastructure in the NHS is not where it needs to be. That is obviously problematic from the point of view of improving performance. We need to make sure that there is a clear digital underpinning to service improvement so that it can continue to be able to take advantage of the most recent developments in terms of digital applications, technology, the growing use of artificial intelligence and so on. He will have seen that over recent weeks I have taken the decision to escalate Digital Health and Care Wales
in recognition of the fact that they have a particular need for more support to be able to develop a stronger capacity for planning and for managing large-scale digital projects. But one of the tasks we have set this year in the remit letter, which he will, I think, have seen, is the outline planning of the integrated patient record, and I'm very optimistic that we will have, over the course of the next few weeks, some, I think, exciting announcements to be able to make in the digital space.
He makes the point about having two Governments working together, and I think was challenging me to say that those are the only circumstances in which I will be prepared to reflect on experiences from over the border. What I will say to him, in the digital space, while his Government was in power for the last 14 years, the absence of capital investment has been a significant impediment to developing digital infrastructure, and one of the many great benefits of having two Labour Governments interested in investing in public services is now that we have, over the course of the next year, access to significantly more capital than the £1 million his Government saw fit to offer Wales, I think, in the last two years of its Government. So, I hope he will welcome that changed approach.
He makes an important point about diagnostics. We are planning, over the course of the next year, on investing in that space quite significantly, on the basis of having that additional revenue as a consequence of the choices made by the Chancellor in the budget. So, I will be bringing forward further information in relation to that. I think it's a point that he's right to raise.
On the question of Powys health board and the choices it is making, I just want to be very clear that none of those choices are going to enable it or allow it not to apply the standards that every other health board is applying in relation to the time frames and the targets within which its residents need to be seen. So, that is absolutely not part of what the health board itself envisages doing, and I would not be prepared to tolerate that. But I think it exposes a tension in his view of how arrangements should be made. At the end of the day, I am accountable for the strategy set for the NHS in Wales, the expectation that I set of the health service on behalf of patients in Wales, and providing funding and resources to enable that to happen. But the decisions on how healthcare is delivered on the ground necessarily need to be taken closer to the people. The needs of a rural community in terms of the configuration of services are very different from that of an urban community, and there are other factors that come into play as well. So, I'm sure he would think it better for that to be reflecting the needs of local populations, which is what our system is designed to deliver.
Wel, rwyf braidd yn siomedig yn y naws anfoesgar y mae'r Aelod wedi'i gyflwyno i'r darn o waith yr ydym yn ei drin a'i drafod yn y Siambr heddiw. Doeddwn i ddim yn siŵr a oedd yn rhoi unrhyw bwys iddo neu beidio. Ond fe wnaf fy ngorau glas i geisio canfod hynny o'r cwestiynau a ofynnodd i mi.
Gofynnodd i mi beth yw'r camau penodol yr ydym yn bwriadu eu cymryd, ac rwy'n ddiolchgar iddo am fynd i drafferth i ddarllen yr araith a roddais ar 7 Ebrill, a oedd yn nodi, fel y bydd yn cofio, nifer o gamau penodol iawn yr ydym yn bwriadu eu cymryd, sy'n fy marn i yn ateb ei gwestiwn yn union. A'r bore yma, fe wnaethom gyhoeddi nid yn unig yr argymhellion o'r adroddiad, ond roeddwn yn awyddus i ni wneud y penderfyniad i gyhoeddi ein hymateb ar yr un pryd, fel ei bod yn glir yn union pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i bob un o'r 29 argymhelliad hynny. Ac roedd hynny'n galluogi'r drafodaeth y bore yma, gyda grŵp cynghori'r gweinidog a gydag arweinwyr y GIG, fel y gellid profi'r camau hynny. Nid yw pob un ohonynt yn weithredoedd sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru, fel y bydd yn gwerthfawrogi, ac rwy'n gwybod y bydd yn gwerthfawrogi hynny, o ystyried y pwyntiau olaf a wnaeth yn ei gwestiynau mewn perthynas â chydbwysedd cyfrifoldeb yn y GIG.
Felly, rhwng y datganiad a wnes ar 7 Ebrill a'r datganiad a gyhoeddais y bore yma, bydd yn gweld disgrifiad llawn o'r ystod o gamau yr ydym yn bwriadu eu cymryd. Rwy'n ddiolchgar i grŵp cynghori'r gweinidog hefyd am roi syniad i ni o'r amserlenni y maent yn argymell ar gyfer y gwahanol gamau. Felly, bydd hefyd yn gweld yn y ddogfen y bore yma yr adlewyrchiad hwnnw o'r ffrâm amser tri mis, y ffrâm amser chwe mis ac ati, a fydd yn rhoi, gobeithio, iddo ef ac eraill ymdeimlad o'r cyflymder yr ydym yn bwriadu ei fabwysiadu mewn perthynas â'r argymhellion yn benodol.
Mae'n iawn i ddweud—ac rydw i wedi cydnabod hynny yn y ddwy araith rydw i wedi'u gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf—nad yw cyflwr datblygiad seilwaith digidol yn y GIG yn y sefyllfa y mae angen iddo fod ynddi. Mae hynny'n amlwg yn broblem o safbwynt gwella perfformiad. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod sail ddigidol glir i wella gwasanaeth fel y gall barhau i allu manteisio ar y datblygiadau diweddaraf o ran cymwysiadau digidol, technoleg, y defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial ac ati. Bydd wedi gweld fy mod wedi gwneud y penderfyniad dros yr wythnosau diwethaf i uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gydnabod y ffaith bod ganddynt angen arbennig am fwy o gefnogaeth i allu datblygu capasiti cryfach ar gyfer cynllunio ac i reoli prosiectau digidol ar raddfa fawr. Ond un o'r tasgau rydym ni wedi'u gosod eleni yn y llythyr cylch gorchwyl, y bydd, rwy'n credu, wedi'i weld, yw cynllunio amlinellol y cofnod cleifion integredig, ac rwy'n optimistaidd iawn y bydd gennym ni, dros yr wythnosau nesaf, rai cyhoeddiadau cyffrous i'w gwneud yn y maes digidol.
Mae'n gwneud y pwynt am fod â dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, ac rwy'n credu ei fod yn fy herio i ddweud mai dyna'r unig amgylchiadau y byddaf yn barod i fyfyrio ar brofiadau o'r tu hwnt i'r ffin o danynt. Yr hyn a wnaf ddweud wrtho, yn y maes digidol, yw tra oedd ei Lywodraeth mewn grym am y 14 mlynedd diwethaf, mae absenoldeb buddsoddiad cyfalaf wedi bod yn rhwystr sylweddol i ddatblygu seilwaith digidol, ac un o'r manteision mawr niferus o gael dwy Lywodraeth Lafur sydd â diddordeb mewn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yw bod gennym ni nawr, dros y flwyddyn nesaf, fynediad at lawer mwy o gyfalaf na'r £1 miliwn a ystyriai ei Lywodraeth ef oedd yn addas i'w gynnig i Gymru, rwy'n credu, yn ystod dwy flynedd olaf ei Lywodraeth. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn croesawu'r dull newydd hwnnw.
Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â diagnosteg. Rydym yn bwriadu, dros y flwyddyn nesaf, fuddsoddi yn y maes hwnnw yn eithaf sylweddol, ar sail cael y refeniw ychwanegol hwnnw o ganlyniad i'r dewisiadau a wnaed gan y Canghellor yn y gyllideb. Felly, byddaf yn dod â rhagor o wybodaeth mewn perthynas â hynny. Rwy'n credu ei fod yn bwynt y mae'n iawn i'w godi.
Ar y cwestiwn o fwrdd iechyd Powys a'r dewisiadau y mae'n eu gwneud, rwyf eisiau bod yn glir iawn nad oes unrhyw un o'r dewisiadau hynny yn mynd i'w alluogi neu i ganiatáu iddo beidio â chymhwyso'r safonau y mae pob bwrdd iechyd arall yn eu cymhwyso mewn perthynas â'r amserlenni a'r targedau y mae eu hangen er mwyn gweld ei drigolion ynddynt. Felly, nid yw hynny'n rhan o'r hyn y mae'r bwrdd iechyd ei hun yn rhagweld y bydd yn ei wneud, ac ni fyddwn yn barod i oddef hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn datgelu tensiwn yn ei farn ar sut y dylid gwneud trefniadau. Ar ddiwedd y dydd, rwy'n atebol am y strategaeth a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru, y disgwyliad yr wyf yn ei osod o'r gwasanaeth iechyd ar ran cleifion yng Nghymru, a darparu cyllid ac adnoddau i alluogi hynny i ddigwydd. Ond mae angen cymryd y penderfyniadau ar sut mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad o reidrwydd yn agosach at y bobl. Mae anghenion cymuned wledig o ran cyfluniad gwasanaethau yn wahanol iawn i gymuned drefol, ac mae yna ffactorau eraill sy'n dod i rym hefyd. Felly, rwy'n siŵr y byddai'n meddwl y byddai'n well i hynny adlewyrchu anghenion poblogaethau lleol, a dyna'r hyn y mae ein system wedi'i chynllunio i'w gyflawni.
Diolch i'r grŵp ymgynghorol am yr adroddiad yma, sydd yn ddarllen defnyddiol. Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi cael digon o amser i brosesu'r adroddiad trylwyr yma'n llawn eto, ac, er mwyn cael trafodaeth fwy ystyrlon, efallai y byddai'n well rhoi mwy o amser rhwng cyhoeddi adroddiad a chael datganiad ar ei gynnwys. Ond rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi comisiynu'r darn yma o waith, sydd yn dangos parodrwydd i gynnal asesiad beirniadol o'r gwasanaeth iechyd er mwyn cymryd y camau angenrheidiol i wella pethau.
Does dim cuddio o'r ffaith bod yr adroddiad yn peintio darlun pryderus, ond gadewch inni beidio ag esgus bod yr adroddiad yn dweud unrhyw beth newydd. Mae cleifion yn profi'r gwendidau yma yn ddyddiol, ac fe ddangosodd arolwg barn diweddar y Nuffield Trust a'r King's Fund fod bron i dri chwarter o'r cyhoedd yng Nghymru yn anfodlon gyda chyflwr y gwasanaeth iechyd.
Thank you to the advisory group for this report, which makes for useful reading. Unfortunately, we haven't had enough time to process this very thorough report in full as of yet, and, in order to have a more meaningful discussion, it might have been better to give more time between the publication of the report and having a statement on its content. But I welcome the fact that the Cabinet Secretary has commissioned this piece of work, which demonstrates a willingness to hold a critical assessment of the health service in order to take the necessary steps to make improvements.
There's no hiding from the fact that the report does paint a concerning picture, but let's not pretend that the report says anything new. Patients are experiencing these weaknesses on a daily basis, and a recent survey of the Nuffield Trust and the King's Fund showed that almost three quarters of the public in Wales were dissatisfied with the state of the NHS.
So, it's vitally important that this report represents a watershed moment for the Government and that we see tangible efforts to implement lessons learnt. Here are some suggestions of what the Government could do to show it's serious about acting on this report.
As I've mentioned many times before, the NHS is nothing without its staff, but they are being let down by a lack of strategic leadership when it comes to issues of recruitment and retention. That's why we need a comprehensive NHS workforce plan, outlining practical steps to ensure that the workforce has the resilience and the resources to meet demand. This should be accompanied by an audit of health data sources in Wales, whose shortcomings are consistently cited by various stakeholders as a persistent barrier to more effective workforce planning.
We also need to see reforms to the governance architecture of the NHS, which is currently ill suited to fostering and embedding performance improvements on a pan-Wales basis. Now, in this respect, this report makes for very familiar reading, because last November Plaid Cymru published our plan that set out many of these recommendations: addressing a systematic lack of co-operation between health boards; clarifying and standardising performance metrics; simplifying targets with the aim of making them more aligned with resources; empowering the patient voice; and enhancing the transparency of accountability mechanisms. Yet, back then, the Cabinet Secretary claimed that the Government was already doing what we were recommending. Now we know that clearly wasn't the case, and six months have been wasted by this Government dragging its feet, when the problems and the potential solutions were being presented to them—solutions that were drawn together from clinicians and health managers. So, can the Cabinet Secretary explain why the Government failed to act on our report when it had the chance, and whether he now regrets the time that was lost in getting on with the job of initiating the urgent course correction that the NHS desperately needs?
We need to see a purposeful shift towards a more preventative model of healthcare resourcing, and away from the firefighting tendencies that we've seen. This includes advancing long-overdue reforms to social care, the impetus for which has been distinctly lacking over recent years, based on the feedback we've heard from the sector. So, will this Government take the bold action required, and establish a national care service without delay, so that people get the care they need, and we start to treat the sector with the respect it deserves?
Finally, I'm concerned at the proposal to ring-fence NHS funding for what is called 'the independent sector'. Whilst this shouldn't be surprising, coming from a chair so involved in the private sector, it is surprising to see the Government boast that it's already doing this. Can the Cabinet Secretary tell us where he will draw the line on this privatisation of our health service that is happening under this Labour Government?
Felly, mae'n hanfodol bwysig bod yr adroddiad hwn yn cynrychioli trobwynt i'r Llywodraeth a'n bod yn gweld ymdrechion diriaethol i weithredu gwersi a ddysgwyd. Dyma rai awgrymiadau o'r hyn y gallai'r Llywodraeth ei wneud i ddangos ei bod o ddifrif am weithredu ar yr adroddiad hwn.
Fel rydw i wedi sôn sawl gwaith o'r blaen, nid yw'r GIG yn ddim byd heb ei staff, ond maen nhw'n cael eu siomi gan ddiffyg arweinyddiaeth strategol pan ddaw i faterion recriwtio a chadw. Dyna pam mae angen cynllun gweithlu cynhwysfawr y GIG, sy'n amlinellu camau ymarferol i sicrhau bod gan y gweithlu y cydnerthedd a'r adnoddau i ateb y galw. Dylai hyn fod yn cyd-fynd ag archwiliad o ffynonellau data iechyd yng Nghymru, y mae eu diffygion yn cael eu nodi'n gyson gan wahanol randdeiliaid fel rhwystr parhaus i gynllunio'r gweithlu yn fwy effeithiol.
Mae angen i ni hefyd weld diwygiadau i bensaernïaeth lywodraethu'r GIG, sydd ar hyn o bryd yn anaddas i feithrin ac ymgorffori gwelliannau perfformiad ar sail Cymru gyfan. Nawr, yn hyn o beth, mae cynnwys yr adroddiad hwn yn gyfarwydd iawn, oherwydd fis Tachwedd diwethaf cyhoeddodd Plaid Cymru ein cynllun a oedd yn nodi llawer o'r argymhellion hyn: mynd i'r afael â diffyg cydweithrediad systematig rhwng byrddau iechyd; egluro a safoni metrigau perfformiad; symleiddio targedau gyda'r nod o'u halinio'n well ag adnoddau; grymuso llais y claf; a gwella tryloywder mecanweithiau atebolrwydd. Eto, bryd hynny, honnodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Llywodraeth eisoes yn gwneud yr hyn yr oeddem yn ei argymell. Nawr rydym ni'n gwybod nad oedd hynny'n wir, ac mae chwe mis wedi cael eu gwastraffu gan y Llywodraeth hon yn llusgo ei thraed, pan oedd y problemau a'r atebion posibl yn cael eu cyflwyno iddynt—atebion a dynnwyd at ei gilydd gan glinigwyr a rheolwyr iechyd. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam y methodd y Llywodraeth â gweithredu ar ein hadroddiad pan gafodd y cyfle, ac a yw bellach yn difaru'r amser a gollwyd wrth fynd ymlaen â'r gwaith o gychwyn y cywiriad trywydd brys sydd ei angen ar y GIG?
Mae angen i ni weld newid pwrpasol tuag at fodel mwy ataliol o adnoddau gofal iechyd, ac i ffwrdd o'r tueddiadau diffodd tân yr ydym wedi'u gweld. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo diwygiadau hir-ddisgwyliedig i ofal cymdeithasol, y mae'r ysgogiad wedi bod yn amlwg yn brin dros y blynyddoedd diwethaf, yn seiliedig ar yr adborth rydym ni wedi'i glywed gan y sector. Felly, a fydd y Llywodraeth hon yn cymryd y camau beiddgar sydd eu hangen, a sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol heb oedi, fel bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, ac rydym yn dechrau trin y sector gyda'r parch y mae'n ei haeddu?
Yn olaf, rwy'n pryderu am y cynnig i neilltuo cyllid y GIG ar gyfer yr hyn a elwir yn 'sector annibynnol'. Er na ddylai hyn fod yn syndod, gan iddo ddod oddi wrth gadeirydd sydd ag ymgysylltiad agos iawn â'r sector preifat, mae'n syndod gweld y Llywodraeth yn brolio ei bod eisoes yn gwneud hyn. A all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ble y bydd yn tynnu'r llinell o ran preifateiddio ein gwasanaeth iechyd sy'n digwydd o dan y Llywodraeth Lafur hon?
Well, I'm grateful to the Member for welcoming the work of the group, and for recognising it as a significant piece of work, which I'm sure will have been well received by those who've worked so hard to provide their insight to us in relation to these reforms. He's right to say there are some hard-hitting messages in the report, but I myself think it's also an optimistic report, because it also outlines the assets that we have, both in terms of staffing, strategy, good practice, within the NHS in Wales, and I at least celebrate that, and we ask all parts of the NHS in Wales to learn from each other, so that each can support the other in improving across the system. And I hope the Member would agree with that approach.
He makes an important point about the workforce plan. He will know from our previous exchanges that I also believe that we need to have a workforce plan that takes a strategic view across Wales, and I think he may also know that's already under way.
In relation to governance architecture, I myself do not believe that the main challenge that the NHS faces is one of structure. I note, I think I read in the context of his party conference, his thinking about dividing secondary and primary care, for example, or collapsing health boards together. My own view is that neither of those are the main challenge that we face in Wales, and the risk that we run with significant structural change is that we lose focus on what is the principal challenge, which is improving the performance, in the interests of people in Wales, of their health service. That's why I think the plan, which is set out both in my speech earlier this month and in the report today, is the right approach, and there are new things that are being proposed in both of those interventions that I think, together, represent the way forward.
I note and commend the Member for his ongoing advocacy of the Plaid Cymru plan, as he calls it. The reason I remember it so vividly was that it almost said exactly what I had said two or three weeks before that, so I was grateful to him then for the support that his plan showed for my plan, and I reiterate that support today. He made me a very specific challenge about what we've done in the meantime in relation to that. He will know that I published planning guidance at the end of last year, which set out very specifically a smaller number of priorities, a clearer accountability framework, and a set of expectations for the sector, which was one of the key asks that I set out in my plan, and which his plan also called for, and there are a number of other steps that we've taken in the meantime.
He made an important point about a national care service. During our time in the co-operation agreement, we were able to make good progress in relation to that. He will know that there is a plan that spans the best part of a decade, which we were working together on, I think, proactively, pragmatically and in agreement, and that work continues beyond the life of the co-operation agreement as well. I think he is right to say that bringing stability and long-term resilience to the social care service in Wales is critical for social care, but it is also critical in the way that he was absolutely right to say, for the resilience of the health service as well.
In relation to the independent sector, the response of the Government to the report is very clear. The principle upon which the Welsh Government commissions from the private sector, or rather the NHS commissions from the independent sector, is one of support for the public NHS, rather than competition with it, and so it is there to supplement areas of particularly challenging need and not to replace the public NHS. What I set out at the start of this month was that we would take more national control of aspects of independent commissioning, so that we can make sure that the value for money that the public purse can achieve is better and that that strategic view of a supporting role rather than a competitive role is maintained. I think the critical test is if there is a service that cannot get demand and provision into balance over a long period of time, despite the fact that the core service in the NHS and the service improvements that we've been talking about today are implemented, then in those circumstances, a temporary level of commissioning from the independent sector has always been something that Governments in Wales have undertaken, but again, to support the public NHS, not compete with it.
Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am groesawu gwaith y grŵp, ac am ei gydnabod fel darn sylweddol o waith, yr wyf yn siŵr y bydd wedi cael ei dderbyn yn gynnes iawn gan y rhai sydd wedi gweithio mor galed i roi eu mewnwelediad i ni mewn perthynas â'r diwygiadau hyn. Mae'n iawn i ddweud bod rhai negeseuon caled yn yr adroddiad, ond rwy'n credu ei fod hefyd yn adroddiad optimistaidd, oherwydd mae hefyd yn amlinellu'r asedau sydd gennym, o ran staffio, strategaeth, arfer da, o fewn y GIG yng Nghymru, ac rwy'n dathlu hynny o leiaf, ac rydym yn gofyn i bob rhan o'r GIG yng Nghymru ddysgu oddi wrth ei gilydd, fel y gall pob un gefnogi'r llall i wella ar draws y system. Ac rwy'n gobeithio y byddai'r Aelod yn cytuno â'r dull hwnnw.
Mae'n gwneud pwynt pwysig am gynllun y gweithlu. Bydd yn gwybod o'n sgyrsiau blaenorol fy mod hefyd yn credu bod angen i ni gael cynllun gweithlu sy'n cymryd golwg strategol ledled Cymru, ac rwy'n credu efallai y bydd hefyd yn gwybod bod hynny eisoes ar y gweill.
Mewn perthynas â phensaernïaeth lywodraethu, nid wyf fy hun yn credu mai'r brif her sy'n wynebu'r GIG yw strwythur. Rwy'n nodi, rwy'n credu fy mod wedi darllen yng nghyd-destun cynhadledd ei blaid, ei feddwl am rannu gofal eilaidd a sylfaenol, er enghraifft, neu gyfuno byrddau iechyd. Fy marn i fy hun yw nad y naill na'r llall yw'r brif her yr ydym yn ei hwynebu yng Nghymru, a'r risg yn sgil newid strwythurol sylweddol yw ein bod yn colli ffocws ar yr hyn yw'r brif her, sef gwella perfformiad, er budd pobl yng Nghymru, yn eu gwasanaeth iechyd. Dyna pam rwy'n credu mai'r cynllun, sydd wedi'i nodi yn fy araith yn gynharach y mis hwn ac yn yr adroddiad heddiw, yw'r dull cywir, ac mae yna bethau newydd sy'n cael eu cynnig yn y ddwy ymyrraeth hynny yr wyf yn credu, gyda'i gilydd, sy'n cynrychioli'r ffordd ymlaen.
Nodaf ac rwy'n canmol yr Aelod am ei eiriolaeth barhaus dros gynllun Plaid Cymru, fel y mae'n ei alw. Y rheswm pam rwy'n ei gofio mor glir oedd ei fod bron yn dweud yn union yr hyn yr oeddwn wedi'i ddweud bythefnos neu dair wythnos cyn hynny, felly roeddwn yn ddiolchgar iddo bryd hynny am y gefnogaeth a ddangosodd ei gynllun i'm cynllun i, ac rwy'n ailadrodd y gefnogaeth honno heddiw. Fe wnaeth fy herio'n benodol iawn ynghylch yr hyn rydym ni wedi'i wneud yn y cyfamser mewn perthynas â hynny. Bydd yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi canllawiau cynllunio ddiwedd y llynedd, a oedd yn nodi'n benodol iawn nifer llai o flaenoriaethau, fframwaith atebolrwydd cliriach, a set o ddisgwyliadau ar gyfer y sector, a oedd yn un o'r gofynion allweddol a nodais yn fy nghynllun, ac y galwodd ei gynllun amdano hefyd, ac mae yna nifer o gamau eraill rydym ni wedi'u cymryd yn y cyfamser.
Gwnaeth bwynt pwysig am wasanaeth gofal cenedlaethol. Yn ystod ein cyfnod yn y cytundeb cydweithio, roeddem yn gallu gwneud cynnydd da mewn perthynas â hynny. Bydd yn gwybod bod cynllun sy'n rhychwantu'r rhan orau o ddegawd, yr oeddem yn gweithio gyda'n gilydd arno, rwy'n credu, yn rhagweithiol, yn bragmatig ac yn gytûn, a bod y gwaith yn parhau y tu hwnt i oes y cytundeb cydweithio hefyd. Rwy'n credu ei fod yn iawn i ddweud bod dod â sefydlogrwydd a chydnerthedd hirdymor i'r gwasanaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond mae hefyd yn hanfodol yn y ffordd yr oedd yn hollol iawn i ddweud, er mwyn cydnerthedd y gwasanaeth iechyd hefyd.
Mewn perthynas â'r sector annibynnol, mae ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad yn glir iawn. Yr egwyddor y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn wrth gomisiynu o'r sector preifat, neu yn hytrach y GIG wrth gomisiynu o'r sector annibynnol, yw cefnogaeth i'r GIG cyhoeddus, yn hytrach na chystadlu ag ef, ac felly mae yno i ategu meysydd o angen arbennig o heriol ac nid i ddisodli'r GIG cyhoeddus. Yr hyn a nodais ar ddechrau'r mis hwn oedd y byddwn yn cymryd mwy o reolaeth genedlaethol ar agweddau ar gomisiynu annibynnol, fel y gallwn wneud yn siŵr bod y gwerth am arian y gall y pwrs cyhoeddus ei gyflawni yn well a bod y farn strategol honno o rôl gefnogol yn hytrach na rôl gystadleuol yn cael ei chynnal. Rwy'n credu mai'r prawf hanfodol yw os oes gwasanaeth na all gydbwyso'r galw a'r ddarpariaeth dros gyfnod hir o amser, er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth craidd yn y GIG a'r gwelliannau gwasanaeth yr ydym wedi bod yn siarad amdanynt heddiw yn cael eu gweithredu, yna o dan yr amgylchiadau hynny, mae lefel dros dro o gomisiynu gan y sector annibynnol bob amser wedi bod yn rhywbeth y mae Llywodraethau yng Nghymru wedi ymgymryd â nhw, ond eto, i gefnogi'r GIG cyhoeddus, nid cystadlu ag ef.
I welcome that waiting lists are now going down for the third month on the run. I also welcome the building of a new orthopaedic hub in north Wales, in Llandudno, and hopefully we can have investment in the Royal Alexandra as well in north Wales.
I have been having lots of conversations with people on their doorsteps during recess, including with NHS employees. What has been raised with me is that systems and processes need to be back in place, especially post COVID, and strengthened with training and consistency. A paramedic said to me that GPs are too often referring people to A&E when they need to just have antibiotics or maybe even a blood test. This happened to two 80-year-olds on Saturday—in England, this happened, though—where they spent 12 hours on a Saturday night in A&E, from 10 o'clock at night until 10 o'clock in the morning, just to be told that everything was fine.
So, I just wanted to know, really, how employees can feed into this, because they're the ones who've got this lived experience. I really think it does make a difference. I have given some feedback to Betsi as well, which they seem to be taking on board and talking to that person, but I just think it's really important. Thank you.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod rhestrau aros bellach yn mynd yn llai am y trydydd mis yn olynol. Rwyf hefyd yn croesawu adeiladu canolfan orthopedig newydd yn y gogledd, yn Llandudno, a gobeithio y gallwn gael buddsoddiad yn y Royal Alexandra hefyd yn y gogledd.
Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl ar stepen eu drws yn ystod y toriad, gan gynnwys gyda gweithwyr y GIG. Yr hyn sydd wedi'i godi gyda mi yw bod angen i systemau a phrosesau fod yn ôl yn eu lle, yn enwedig ar ôl COVID, a'u cryfhau gyda hyfforddiant a chysondeb. Dywedodd parafeddyg wrthyf fod meddygon teulu yn rhy aml yn cyfeirio pobl at adran damweiniau ac achosion brys pan fydd angen gwrthfiotigau arnynt neu efallai hyd yn oed prawf gwaed. Digwyddodd hyn i ddau ddyn 80 oed ddydd Sadwrn—yn Lloegr, digwyddodd hyn, fodd bynnag—lle gwnaethon nhw dreulio 12 awr ar nos Sadwrn mewn adran damweiniau ac achosion brys, o 10 o'r gloch y nos tan 10 o'r gloch y bore, dim ond i gael gwybod bod popeth yn iawn.
Felly, roeddwn i eisiau gwybod, mewn gwirionedd, sut y gall gweithwyr gyfrannu at hyn, oherwydd nhw yw'r rhai sydd wedi cael y profiad bywyd hwn. Rwy'n credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Rwyf wedi rhoi rhywfaint o adborth i Betsi hefyd, y mae'n ymddangos eu bod yn derbyn hynny ac yn siarad â'r person hwnnw, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Diolch.
Thank you, Carolyn Thomas, for those questions. In terms of the role of GPs in managing waiting lists, I think that is absolutely essential. One of the things that I hope we'll be able to do more of over the next year is, where we're providing additional funding to the system, that that isn't solely focused on the secondary care part of the system, that it's also supporting primary care practitioners to manage the waiting lists as well, and to ensure that there isn't more referral than there needs to be in the interests of the patient.
So, the work that we are doing to support health boards to manage waiting lists better can only prevail in the long term if we're also making sure that demand is managed in the interests of patients, and actually providing that holistic view, I think, is really important. So, I hope she will welcome those steps when we are able to set those out in the coming weeks.
I think she is absolutely right to say, and I was talking to colleagues in the NHS this morning, that thousands of people come to work every day in the NHS and they work hard and they're motivated by the care of the patients that they're responsible for. And what I want to see is an NHS where, as she said, the systems and processes support that effort, support that commitment, so that it can be as impactful as it can possibly be. And that's what this is all about at the end of the day. We are looking at introducing NHS skills academies over the course of the next year, which will help with some clinical skills, but also waiting list management skills to provide that sort of rounded support, which I agree with her is important.
She mentioned staffing, and she mentioned staffing in Betsi Cadwaladr. I’m conscious that the surveys that Betsi Cadwaladr University Health Board have been seeing recently have shown greater levels of staffing satisfaction, which I think is a very positive sign, notwithstanding the challenges that they face. And I think that she is absolutely right: in my experience, and I am sure that of all of us, you speak to somebody who works on the front line in the NHS and they will tell you quite quickly five or 10 things they think could benefit the system very quickly. I would commend to her the piece of work that Llais and the Bevan Commission are running at the moment, which is about how we can identify some processes, practices that may be obstacles to that improved performance. So, if she has constituents or colleagues that she knows might have suggestions to make, I think that that would be a useful way for that to be fed through.
Diolch, Carolyn Thomas, am y cwestiynau yna. O ran rôl meddygon teulu wrth reoli rhestrau aros, rwy'n credu bod hynny'n hollol hanfodol. Un o'r pethau yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu gwneud mwy ohono dros y flwyddyn nesaf yw, pan ydym ni'n darparu cyllid ychwanegol i'r system, nad yw hynny'n canolbwyntio'n unig ar y rhan gofal eilaidd o'r system, ei fod hefyd yn cefnogi ymarferwyr gofal sylfaenol i reoli'r rhestrau aros hefyd, ac i sicrhau nad oes mwy o atgyfeirio nag sydd ei angen er budd y claf.
Felly, gall y gwaith rydym ni'n ei wneud i gefnogi byrddau iechyd i reoli rhestrau aros yn well dim ond llwyddo yn y tymor hir os ydym hefyd yn gwneud yn siŵr bod y galw yn cael ei reoli er budd cleifion, ac mewn gwirionedd mae mabwysiadu'r farn gyfannol honno, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hi'n croesawu'r camau hynny pan fyddwn yn gallu cyflwyno'r rheini yn yr wythnosau nesaf.
Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn i ddweud, ac roeddwn i'n siarad â chydweithwyr yn y GIG y bore yma, fod miloedd o bobl yn dod i'r gwaith bob dydd yn y GIG ac maen nhw'n gweithio'n galed ac maen nhw'n cael eu hysgogi gan ofal y cleifion y maen nhw'n gyfrifol amdanynt. A'r hyn rydw i eisiau ei weld yw GIG lle, fel y dywedodd, mae'r systemau a'r prosesau yn cefnogi'r ymdrech honno, yn cefnogi'r ymrwymiad hwnnw, fel y gall fod mor effeithiol â phosibl. A dyna beth yw hyn ar ddiwedd y dydd. Rydym yn bwriadu cyflwyno academïau sgiliau y GIG yn ystod y flwyddyn nesaf, a fydd yn helpu gyda rhai sgiliau clinigol, ond hefyd sgiliau rheoli rhestrau aros i ddarparu'r math hwnnw o gefnogaeth gynhwysfawr, yr wyf yn cytuno â hi sy'n bwysig.
Soniodd am staffio, a soniodd am staffio yn Betsi Cadwaladr. Rwy'n ymwybodol bod yr arolygon y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi eu gweld yn ddiweddar wedi dangos lefelau uwch o foddhad staff, sy'n arwydd cadarnhaol iawn, er gwaethaf yr heriau y maent yn eu hwynebu. Ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn: yn fy mhrofiad i, ac rwy'n siŵr profiad bob un ohonom, rydych chi'n siarad â rhywun sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y GIG a byddant yn dweud wrthych yn eithaf cyflym am bump neu ddeg o bethau y maen nhw'n meddwl a allai fod o fudd i'r system yn gyflym iawn. Byddwn yn cymeradwyo darn o waith y mae Llais a Chomisiwn Bevan yn ei redeg ar hyn o bryd iddi, sy'n ymwneud â sut y gallwn nodi rhai prosesau, arferion a allai fod yn rhwystrau rhag y perfformiad gwell hwnnw. Felly, os oes ganddi etholwyr neu gydweithwyr y mae hi'n gwybod y gallent fod ag awgrymiadau i'w gwneud, rwy'n credu y byddai hynny'n ffordd ddefnyddiol i gyflwyno hynny.
The first thing I want to put on the record is a huge thanks for the work and dedication of all the NHS staff, at all levels, who deliver care to us day in, day out. One area that the public have focused on is the waiting times, and most of that focus is on the orthopaedic waiting times. But it’s also clear that, month on month, those waiting times are reducing, and at a faster rate than any other time before. It’s true also to say that there has been significant improvement made in the out-patients' appointments, and again that was due to staff working at weekends. It was to do with the £50 million investment that had been made to deliver that.
And in south Ceredigion, with same-day urgent care services, you had the 50-day challenge. It went down extremely well. It ended on 31 March, and it’s now being reviewed. I know it was also valued by those people who used it, because I have had lots of e-mails pertaining to that. So, it would be interesting to those people, and to me, to know how quickly that review will be worked through—I think it’s the health board who are doing it—and if it is the case, like people are saying to me, that it’s of huge value to them, that we would look to reinstate it. Thank you.
Y peth cyntaf rydw i eisiau ei roi ar gofnod yw diolch yn fawr am waith ac ymroddiad holl staff y GIG, ar bob lefel, sy'n darparu gofal i ni o ddydd i ddydd. Un maes y mae'r cyhoedd wedi canolbwyntio arno yw'r amseroedd aros, ac mae'r rhan fwyaf o'r ffocws hwnnw ar yr amseroedd aros orthopedig. Ond mae hefyd yn amlwg bod, mis ar ôl mis, yr amseroedd aros hynny yn lleihau, ac ar gyfradd gyflymach nag unrhyw adeg arall o'r blaen. Mae'n wir hefyd i ddweud bod gwelliant sylweddol wedi'i wneud yn yr apwyntiadau cleifion allanol, ac eto roedd hynny oherwydd staff yn gweithio ar benwythnosau. Roedd yn ymwneud â'r buddsoddiad o £50 miliwn a wnaed i gyflawni hynny.
Ac yn ne Ceredigion, gyda gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod, cawsoch yr her 50 diwrnod. Aeth i lawr yn dda iawn. Daeth i ben ar 31 Mawrth, ac mae bellach yn cael ei hadolygu. Rwy'n gwybod ei bod hefyd yn cael ei gwerthfawrogi gan y bobl hynny a'i defnyddiodd, oherwydd rydw i wedi cael llawer o negeseuon e-bost yn ymwneud â hynny. Felly, byddai'n ddiddorol i'r bobl hynny, ac i mi, gael gwybod pa mor gyflym bydd y gwaith yn cael ei wneud ar yr adolygiad hwnnw—rwy'n credu mai'r bwrdd iechyd sy'n ei wneud—ac os yw'n wir, fel mae pobl yn dweud wrthyf, ei fod o werth enfawr iddyn nhw, byddem yn ceisio ei adfer. Diolch.
Thank you to Joyce Watson for those remarks and questions, and we will all want to associate ourselves with the points that she made at the beginning about the incredible effort that NHS staff at all levels, in all roles, provide day in, day out. That's why making sure that the system overall is performing at its best is so important, so that all of that effort and commitment can have the biggest impact possible, which is what we all wish to see. I, as she does, welcome the reductions in waiting times over the last three months. We very much hope and expect that that will continue. That's certainly the task that I've been set and which I have set with the NHS as well. But she is right to say that we are seeing evidence of those waits coming down. She will know that, in May, we'll be able to publish the figures for March. The task that we had been set was to reduce those two-year waits down to around 8,000 patients. So, we will hopefully have some good news to be able to share in a few weeks' time.
I think she is right to point to the additional investment, which we were able to make at the end of last year. That has enabled us to provide just that little bit of extra flexibility, so that those new ways of working that we know are more effective at seeing more patients quickly can be embedded. What I would also say is that that has been accompanied by a very significant system-wide focus on a weekly basis on meeting those targets, with a very, very rigorous level of reporting and challenge that has gone with it. And I think that that has established a good way of working, whilst what we are trying to do is to get the system back into balance. We wouldn't want to run things in that way when one is back in balance, but I think for the time being, that is the right way of doing it.
She makes an important point, finally, about the 50-day challenge. That is being reviewed by each region, but we are currently working at a national level about understanding what the most impactful interventions have been, so that we can make sure that they continue. There was funding provided last year, she will know, for some of those interventions. Some of them actually aren't about funding; they're about different ways of more collaborative working, and I think those are now embedding in the system. We've seen reductions month on month in the numbers of patients ready to go home but delayed, and what we all want to see is that progress continuing as well.
Diolch i Joyce Watson am y sylwadau a'r cwestiynau yna, a byddwn i gyd eisiau cysylltu ein hunain â'r pwyntiau a wnaeth ar y dechrau am yr ymdrech anhygoel y mae staff y GIG ar bob lefel, ym mhob rôl, yn ei rhoi o ddydd i ddydd. Dyna pam mae gwneud yn siŵr bod y system yn gyffredinol yn perfformio ar ei orau mor bwysig, fel y gall yr holl ymdrech a'r ymrwymiad hwnnw gael yr effaith fwyaf posibl, a dyna beth rydym ni i gyd yn dymuno ei weld. Rwy'n croesawu'r gostyngiadau mewn amseroedd aros dros y tri mis diwethaf. Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd hynny'n parhau. Dyna'r dasg a osodwyd i mi ac rydw i wedi'i gosod gyda'r GIG hefyd. Ond mae hi'n iawn i ddweud ein bod yn gweld tystiolaeth o'r arosiadau hynny yn dod i lawr. Bydd hi'n gwybod y byddwn yn gallu cyhoeddi'r ffigurau ar gyfer mis Mawrth. Y dasg a osodwyd gennym oedd lleihau'r arhosiad dwy flynedd i tua 8,000 o gleifion. Felly, gobeithio y bydd gennym newyddion da i'w rannu mewn ychydig wythnosau.
Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i dynnu sylw at y buddsoddiad ychwanegol, yr oeddem yn gallu ei wneud ddiwedd y llynedd. Mae hynny wedi ein galluogi i ddarparu ychydig bach o hyblygrwydd ychwanegol, fel y gellir ymgorffori'r ffyrdd newydd hynny o weithio yr ydym yn gwybod eu bod yn fwy effeithiol wrth weld mwy o gleifion yn gyflym. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud hefyd yw bod hynny'n cyd-fynd â ffocws sylweddol iawn ar draws y system ar sail wythnosol ar gyrraedd y targedau hynny, gyda lefel trylwyr iawn, iawn o adrodd a her sydd wedi bod yn gysylltiedig ef. Ac rwy'n credu bod hynny wedi sefydlu ffordd dda o weithio, ar yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw cael cydbwysedd yn ôl yn y system. Ni fyddem eisiau rhedeg pethau yn y ffordd honno pan fydd cydbwysedd, ond rwy'n credu am y tro, dyna'r ffordd iawn o wneud hyn.
Mae hi'n gwneud pwynt pwysig, yn olaf, am yr her 50 diwrnod. Mae honno'n cael ei hadolygu gan bob rhanbarth, ond ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar lefel genedlaethol i ddeall beth yw'r ymyraethau mwyaf effeithiol, fel y gallwn wneud yn siŵr eu bod yn parhau. Roedd cyllid wedi'i ddarparu y llynedd, bydd hi'n gwybod, ar gyfer rhai o'r ymyraethau hynny. Nid yw rhai ohonynt mewn gwirionedd yn ymwneud â chyllid; maen nhw'n ymwneud â gwahanol ffyrdd o weithio mwy cydweithredol, ac rwy'n credu bod y rheini bellach yn cael eu hymgorffori yn y system. Rydym wedi gweld gostyngiadau o fis i fis yn nifer y cleifion sy'n barod i fynd adref ond wedi'u gohirio, a'r hyn rydym ni i gyd eisiau ei weld yw bod y cynnydd yn parhau hefyd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Mae'r datganiad o dan eitem 7 wedi cael ei ohirio tan 3 Mehefin.
The statement under item 7 has been postponed until 3 June.
Eitem 8 sydd nesaf, y cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil y Gymraeg ac Addysg. Yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno'r eitem.
Item 8 is next, the motion to vary the order of consideration of Stage 3 amendments to the Welsh Language and Education (Wales) Bill. The Cabinet Secretary to move.
Cynnig NDM8880 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 1-5;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 6-38;
d) Atodlen 2;
e) Adrannau 39-57;
f) Teitl Hir.
Motion NDM8880 Jane Hutt
To propose that Senedd Cymru in accordance with Standing Order 26.36:
Agrees to dispose of sections and schedules to the Welsh Language and Education (Wales) Bill at Stage 3 in the following order:
a) Sections 1-5;
b) Schedule 1;
c) Sections 6-38;
d) Schedule 2;
e) Sections 39-57;
f) Long title.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel bydd Aelodau yn gwybod, mae'n arferol gwaredu gwelliannau i Filiau yn y drefn y mae'r adrannau a'r Atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Yn ystod Cyfnod 2 ar gyfer y Bil hwn, gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y penderfyniad i amrywio’r drefn ystyried. Gweithiodd y dull hwn yn dda o ran grwpiau a thrafod gwelliannau. Mae’r drefn a gynigir gan y cynnig hwn yn dilyn y dull a ddefnyddiwyd yn ystod Cyfnod 2. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig.
Thank you, Llywydd. As Members will be aware, it is usual to dispose of amendments to Bills in the order in which the Schedules and sections that they refer to arise in that Bill. During Stage 2 proceedings for this Bill, the Children, Young People, and Education Committee made a decision to vary the order of consideration. This approach worked well in terms of groups and the discussion of amendments. This order proposed by this motion follows the approach taken at Stage 2. I urge Members to support the motion.
Does gyda fi ddim siaradwyr, ac felly dwi'n cymryd nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet ddim eisiau ymateb iddo'i hun. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 8 wedi ei dderbyn.
I have no speakers, therefore I take it that the Cabinet Secretary does not wish to reply to himself. So, the proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion under item 8 is therefore agreed.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitemau 9 a 10 fydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10 yn cael eu grwpio i'w trafod, gyda phleidleisiau ar wahân. Does dim gwrthwynebiad i wneud hynny.
Items 9 and 10 are next. In accordance with Standing Order 12.24, unless a Member objects, the two motions under items 9 and 10 will be grouped for debate, but with separate votes. There are no objections.
Dyma'r cynnig ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Yr Ysgrifennydd Cabinet Dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud y cynnig yma. Huw Irranca-Davies.
This is the motion on the general principles of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill. The Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs to move this motion. Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8878 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).
Motion NDM8878 Huw Irranca-Davies
To propose that Senedd Cymru in accordance with Standing Order 26.11:
Agrees to the general principles of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill.
Cynnig NDM8879 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Motion NDM8879 Huw Irranca-Davies
To propose that Senedd Cymru, for the purposes of any provisions resulting from the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill, agrees to any increase in expenditure of a kind referred to in Standing Order 26.69, arising in consequence of the Bill.
Cynigiwyd y cynigion.
Motions moved.

Move formally.
Cynnig yn ffurfiol.
Are you sure only formally, or do you want to speak to the debate and to the two items? You can try and get away without saying a thing, but I'm sure people will want you to speak.
Ydych chi'n siŵr yn ffurfiol yn unig, neu a ydych chi eisiau siarad yn y ddadl ac am y ddwy eitem? Gallwch geisio osgoi dweud unrhyw beth, ond rwy'n siŵr y bydd pobl eisiau i chi siarad.
Llywydd, mae’n bleser gen i agor y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni, Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru), a chyflwyno’r cynnig ar y penderfyniad ariannol. Hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu hadroddiadau manwl ar y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb arall am eu help wrth inni ddatblygu’r Bil, ac am eu syniadau defnyddiol wrth i’r pwyllgorau graffu arno. Byddwn yn gofyn eto am eu harbenigedd wrth inni lunio is-ddeddfwriaeth a chanllawiau ac wrth baratoi ar gyfer eu rhoi ar waith. Rwy’n croesawu argymhelliad y pwyllgor newid hinsawdd y dylai’r Senedd gefnogi egwyddorion y Bil.
Llywydd, it's my pleasure to open the debate on the general principles of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill, and to present the motion on the financial resolution. I would like to thank the Chairs and members of the Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee, the Finance Committee, and the Legislation, Justice and Constitution Committee for their detailed reports on the Bill. I would also like to thank everyone else for their help in developing this Bill and for the useful ideas that they provided as the committees carried out their scrutiny. I would request their expertise once again as we draw up subordinate legislation and guidance and as we prepare for implementation. I welcome the recommendation of the climate change committee that the Senedd should support the general principles of the Bill.
As Cabinet Secretary, Llywydd, it's a privilege and an honour to lead on this historic piece of legislation, which is world-leading in its approach and its focus on human welfare. This Bill fulfils a commitment in our programme for government to introduce legislation to deal with the legacy of centuries of mining and to ensure coal tip safety during this Senedd term.
I have considered very carefully the recommendations from the Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee, the Finance Committee and the Legislation, Justice and Constitution Committee. I have set out my responses to the recommendations in correspondence, which they have already received. Therefore, all three committees are aware of my position.
The Bill establishes a new public authority, the disused tips authority for Wales, which will be responsible for implementing the new regime established by the Bill. Fundamental to the Bill is the protection of human welfare, seeking to ensure that disused tips do not threaten human welfare by reason of their instability. This will be achieved by introducing a consistent and robust system of assessment, registration, management and monitoring of disused tips in Wales.
Fel yr Ysgrifennydd Cabinet, Llywydd, mae'n fraint ac yn anrhydedd arwain ar y darn hanesyddol hwn o ddeddfwriaeth, sy'n arwain y byd yn ei ddull a'i ffocws ar les dynol. Mae'r Bil hwn yn cyflawni ymrwymiad yn ein rhaglen ar gyfer y llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i ymdrin â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio ac i sicrhau diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon.
Rwyf wedi ystyried yn ofalus iawn yr argymhellion gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwyf wedi nodi fy ymatebion i'r argymhellion mewn gohebiaeth, y maent eisoes wedi'i derbyn. Felly, mae'r tri phwyllgor yn ymwybodol o fy safbwynt.
Mae'r Bil yn sefydlu awdurdod cyhoeddus newydd, yr awdurdod tomenni nas defnyddir Cymru, a fydd yn gyfrifol am weithredu'r drefn newydd a sefydlwyd gan y Bil. Yn sylfaenol i'r Bil y mae diogelu lles dynol, gan geisio sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles dynol oherwydd eu hansefydlogrwydd. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gyflwyno system gyson a chadarn o asesu, cofrestru, rheoli a monitro tomenni nas defnyddir yng Nghymru.
The Bill will bring about significant improvements to the current regime under the Mines And Quarries (Tips) Act 1969, in particular establishing a lower threshold for intervention and providing the authority with appropriate powers of entry to any land where necessary for the exercise of certain functions. It also places on a firm legislative footing the key elements of the new management regime, such as a register of categorised disused tips, which is the foundation upon which the rest of the provisions in the Bill are built.
The coal tip safety grant scheme will continue, and, in this Senedd term, we have made available £102 million to local authorities, Natural Resources Wales and the Mining Remediation Authority for the current programme of monitoring, maintenance and repair. This is inclusive of the £25 million that the Welsh Government was successful in securing in 2025-26 for disused coal tips from the UK Government in the most recent autumn budget. The Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, who's here in the Chamber with us today, recently requested confirmation of disused coal tips funding from the UK Government for the financial years 2026-27 and 2027-28, ahead of the second phase of the spending review, to enable officials to operate a multi-year grant scheme, which would allow applicants to undertake larger scale capital works programmes.
During the scrutiny of the Bill, I listened carefully and noted the discussions and the subsequent recommendations regarding key matters in the Bill, such as management plans, guidance and consultation, monitoring, categorisation and assessments. I want to strike the right balance between what is on the face of the Bill and the detail that should be included in guidance, and this will ensure the effective delivery of the new regime. Therefore, taking on board the committee's views, and the preference to have certain key areas set out on the face of the Bill, I have instructed my officials to draft several amendments to the Bill.
My officials have commenced work on an amendment that places a duty on the authority to prepare and maintain management plans for category 1 and 2 disused tips, and a power to prepare and maintain management plans for category 3 and 4 tips. In addition, the minimum content of management plans will be prescribed on the face of the Bill, including information relating to emergency planning. This addresses the recommendations of both the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee and the Legislation, Justice and Constitution Committee in relation to management plans, and it does strengthen the Bill in relation to emergency planning.
I'm keen to address the concerns of the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee and the Legislation, Justice and Constitution Committee regarding guidance, and so I intend to bring forward an amendment that will place a duty on Welsh Ministers to issue guidance to the authority in respect of the authority's exercise of its functions in certain key areas, including management plans, monitoring and assessments. There will be a corresponding duty on the authority to have regard to the guidance, and a duty on the Welsh Ministers to consult on this guidance. In the development of guidance, we will continue to engage with experts and relevant stakeholders, ensuring that those with the relevant expertise and experience will be involved in its preparation.
In its report, the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee recommended amending the Bill to require Welsh Ministers to make regulations on the monitoring and inspection of tips, and for such regulations to specify the minimum inspection frequency. I support the intention behind the recommendation, and I have asked my officials to prepare amendments to place a duty on the authority to inspect all category 1 tips twice in a 12-month period and all category 2 tips once in a 12-month period, with a discretionary power to undertake any other monitoring activities, including additional inspections, as determined by the authority. So, for example, this might be appropriate if there was an extreme weather event that necessitated an ad-hoc inspection.
The planned amendment will also include a regulation-making power, which allows the Welsh Ministers to amend the frequency of inspections, and in addition, an amendment will place a duty on Welsh Ministers to give guidance to the authority in relation to its duty to monitor registered tips and to consult again before giving that guidance. I believe these amendments will deliver the level of assurance that the committees have required.
I’ve also taken on board the recommendation of the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee to place a duty on the authority to consult on its proposed policy for categorisation. I can confirm that this is currently being drafted. Welsh Ministers will issue guidance on categorisation and I can confirm that the guidance will set out the expectation that, where people live in the vicinity of a disused tip, the authority will take steps to publicise any changes to the categorisation of disused tips to those local communities.
The Climate Change, Environment and Infrastructure Committee expressed support for the two-stage approach to assessment. Nonetheless, the committee remains concerned about the lack of detail on the face of the Bill about what will be assessed and how, and there were mixed views about this from stakeholders who gave evidence. In this instance, I remain steadfast in my view that guidance is the more sensible approach, as guidance provides the authority with that necessary flexibility to respond to change in an area that will see frequent technological advances. However, I am content to place a duty on Welsh Ministers to issue guidance to the authority in relation to the exercise of the authority’s functions in respect of assessments, and I confirm again that any guidance will need to be consulted on. I hope you will agree with me that this is a reasonable and proportionate response to the issues raised by the committee.
It was also clear, Llywydd, from evidence given during Stage 1 scrutiny, that there was a strong desire for the reports of preliminary and full assessments to be published. This was reflected in a recommendation from the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee, so I’m pleased to confirm that I have asked officials to begin drafting an amendment to give effect to this recommendation.
I listened with great interest to the views expressed during Stage 1 about the advantages of having a comprehensive register of all disused tips, and the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee’s views on this in its report. Picking up on the point from the committee about ensuring clarity and certainty for owners and the public, which I’m in agreement with, I’ve decided to bring forward an amendment to the Bill requiring the authority to prepare and to publish a list of all the disused tips that have been through the preliminary assessment process. I’m confident that this will deliver the necessary clarity and certainty to owners and to the communities that tips have been recorded by the authority and there is transparency around this.
Turning to the financial resolution, I’d like to take this opportunity to thank the Finance Committee for its scrutiny of the Bill and the committee’s interest in the cost methodologies and any potential impact upon funding to the Mining Remediation Authority, local authorities and statutory partners. The regulatory impact assessment confirms that the total cost of the Bill will be £99.1 million over the 15-year time span up until the financial year 2039-40. I'm pleased to confirm that I’ve accepted eight of the nine recommendations made by the Finance Committee and accepted in principle recommendation 8. I have also agreed to update the RIA following Stage 2 to reflect recommendations 4, 5 and 6. I ask the Senedd also to agree the financial resolution in respect of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill. Diolch yn fawr, Llywydd.
Bydd y Bil yn arwain at welliannau sylweddol i'r gyfundrefn bresennol o dan Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969, yn enwedig sefydlu trothwy is ar gyfer ymyrraeth a rhoi pwerau priodol i'r awdurdod i gael mynediad i unrhyw dir lle bo angen ar gyfer arfer swyddogaethau penodol. Mae hefyd yn gosod elfennau allweddol y drefn reoli newydd ar sail ddeddfwriaethol gadarn, megis cofrestr o domenni nas defnyddir wedi'u categoreiddio, sef y sylfaen y mae gweddill y darpariaethau yn y Bil wedi'u hadeiladu arni.
Bydd y cynllun grant diogelwch tomenni glo yn parhau, ac, yn y tymor hwn yn y Senedd, rydym ni wedi darparu £102 miliwn i awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ar gyfer y rhaglen bresennol o fonitro, cynnal a chadw ac atgyweirio. Mae hyn yn cynnwys y £25 miliwn y llwyddodd Llywodraeth Cymru i'w sicrhau yn 2025-26 gan Lywodraeth y DU yng nghyllideb ddiweddaraf yr hydref ar gyfer tomenni glo nas defnyddir. Yn ddiweddar, gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, sydd yma yn y Siambr gyda ni heddiw, am gadarnhad o gyllid ar gyfer tomenni glo nas defnyddir gan Lywodraeth y DU ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026-27 a 2027-28, cyn ail gam yr adolygiad gwariant, er mwyn galluogi swyddogion i weithredu cynllun grant aml-flwyddyn, a fyddai'n caniatáu i ymgeiswyr ymgymryd â rhaglenni gwaith cyfalaf ar raddfa fwy.
Yn ystod y broses o graffu ar y Bil, gwrandawais yn ofalus a nodais y trafodaethau a'r argymhellion dilynol ynghylch materion allweddol yn y Bil, megis cynlluniau rheoli, canllawiau ac ymgynghori, monitro, categoreiddio ac asesiadau. Rwyf eisiau sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r manylion y dylid eu cynnwys mewn canllawiau, a bydd hyn yn sicrhau cyflawni'r drefn newydd yn effeithiol. Felly, gan ystyried barn y pwyllgor, a'r ffafriaeth i gael rhai meysydd allweddol wedi'u nodi ar wyneb y Bil, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i ddrafftio sawl gwelliant i'r Bil.
Mae fy swyddogion wedi dechrau gweithio ar welliant sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdod i baratoi a chynnal cynlluniau rheoli ar gyfer awgrymiadau tomenni nas defnyddir categori 1 a 2, a phŵer i baratoi a chynnal cynlluniau rheoli ar gyfer tomenni categori 3 a 4. Yn ogystal, bydd isafswm cynnwys cynlluniau rheoli yn cael ei ragnodi ar wyneb y Bil, gan gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â chynllunio at argyfyngau. Mae hyn yn mynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad mewn perthynas â chynlluniau rheoli, ac mae'n cryfhau'r Bil mewn perthynas â chynllunio at argyfyngau.
Rwy'n awyddus i fynd i'r afael â phryderon y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad ynglŷn â chanllawiau, ac felly rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant a fydd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi canllawiau i'r awdurdod mewn perthynas â'r awdurdod yn arfer ei swyddogaethau mewn rhai meysydd allweddol, gan gynnwys cynlluniau rheoli, monitro ac asesiadau. Bydd dyletswydd gyfatebol ar yr awdurdod i roi sylw i'r canllawiau, a dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar y canllawiau hyn. Wrth ddatblygu canllawiau, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag arbenigwyr a rhanddeiliaid perthnasol, gan sicrhau y bydd y rhai sydd â'r arbenigedd a'r profiad perthnasol yn cael eu cynnwys wrth eu paratoi.
Yn ei adroddiad, argymhellodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ddiwygio'r Bil er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar fonitro ac arolygu tomenni, ac i reoliadau o'r fath bennu'r isafswm amlder arolygu. Rwy'n cefnogi diben yr argymhelliad, ac rwyf wedi gofyn i'm swyddogion baratoi gwelliannau i roi dyletswydd ar yr awdurdod i archwilio pob tomen categori 1 ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis a phob tomen categori 2 unwaith mewn cyfnod o 12 mis, gyda phŵer disgresiwn i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau monitro eraill, gan gynnwys arolygiadau ychwanegol, fel y penderfynir gan yr awdurdod. Felly, er enghraifft, gallai hyn fod yn briodol mewn achos o dywydd eithafol sy'n gofyn am archwiliad yn sgil hynny.
Bydd y diwygiad arfaethedig hefyd yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio amlder arolygiadau, ac yn ogystal, bydd gwelliant yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi arweiniad i'r awdurdod mewn perthynas â'i ddyletswydd i fonitro tomenni cofrestredig ac i ymgynghori eto cyn rhoi'r canllawiau hynny. Rwy'n credu y bydd y gwelliannau hyn yn cyflawni'r sicrwydd y mae'r pwyllgorau wedi gofyn amdano.
Rwyf hefyd wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i roi dyletswydd ar yr awdurdod i ymgynghori ar ei bolisi arfaethedig ar gyfer categoreiddio. Gallaf gadarnhau bod hyn yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd. Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar gategoreiddio a gallaf gadarnhau y bydd y canllawiau yn nodi'r disgwyliad y bydd yr awdurdod yn cymryd camau i hysbysu'r cymunedau lleol hynny o unrhyw newidiadau i gategoreiddio tomenni nas defnyddir.
Mynegodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith gefnogaeth i'r dull dau gam o asesu. Serch hynny, mae'r pwyllgor yn parhau i bryderu am y diffyg manylion ar wyneb y Bil ynglŷn â'r hyn a fydd yn cael ei asesu a sut, ac roedd safbwyntiau cymysg am hyn gan randdeiliaid a roddodd dystiolaeth. Yn yr achos hwn, rwy'n parhau i fod yn gadarn yn fy marn mai canllawiau yw'r dull mwy synhwyrol, gan fod canllawiau yn rhoi'r hyblygrwydd angenrheidiol hwnnw i'r awdurdod ymateb i newid mewn maes a fydd lle ceir datblygiadau technolegol aml. Fodd bynnag, rwy'n fodlon gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i'r awdurdod mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r awdurdod o ran ag asesiadau, ac rwy'n cadarnhau eto y bydd angen i unrhyw ganllawiau fod yn destun ymgynghori. Gobeithio y byddwch yn cytuno â mi bod hwn yn ymateb rhesymol a chymesur i'r materion a godwyd gan y pwyllgor.
Roedd hi hefyd yn glir, Llywydd, o'r dystiolaeth a roddwyd yn ystod proses graffu Cyfnod 1, bod awydd cryf i gyhoeddi adroddiadau asesiadau rhagarweiniol a llawn. Adlewyrchwyd hyn mewn argymhelliad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, felly rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi gofyn i swyddogion ddechrau drafftio gwelliant i weithredu'r argymhelliad hwn.
Gwrandawais gyda diddordeb mawr ar y safbwyntiau a fynegwyd yn ystod Cyfnod 1 am fanteision cael cofrestr gynhwysfawr o'r holl domenni nas defnyddir, a barn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar hyn yn ei adroddiad. I fynd i'r afael â'r sylw a wnaeth y pwyllgor ynghylch sicrhau eglurder a sicrwydd i berchnogion a'r cyhoedd, yr wyf yn cytuno ag ef, rwyf wedi penderfynu cyflwyno gwelliant i'r Bil sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi rhestr o'r holl domenni nas defnyddir sydd wedi bod trwy'r broses asesu rhagarweiniol. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn darparu'r eglurder a'r sicrwydd angenrheidiol i berchnogion ac i'r cymunedau bod tomenni wedi'u cofnodi gan yr awdurdod a bod tryloywder ynghylch hyn.
Gan droi at y penderfyniad ariannol, fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y Bil a diddordeb y pwyllgor yn y methodolegau costau ac unrhyw effaith bosibl ar gyllid i'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, awdurdodau lleol a phartneriaid statudol. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn cadarnhau y bydd cyfanswm cost y Bil yn £99.1 miliwn dros y cyfnod o 15 mlynedd hyd at flwyddyn ariannol 2039-40. Rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi derbyn wyth o'r naw argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid ac wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 8. Rwyf hefyd wedi cytuno i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol yn dilyn Cyfnod 2 i adlewyrchu argymhellion 4, 5 a 6. Gofynnaf i'r Senedd hefyd gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Diolch yn fawr, Llywydd.
Ydy hi'n iawn i mi eistedd i lawr?
Is it okay for me to sit down?
Mae'n iawn i chi eistedd i lawr, ydy, a gwnaf eich galw chi nôl i siarad ar ddiwedd y ddadl.
Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith nawr, Llyr Grufffydd.
It's fine for you to do so, yes, and I will call you back to reply to the debate.
The Chair of the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee now, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cyn troi at adroddiad y pwyllgor, hoffwn i gychwyn drwy ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni fel pwyllgor er mwyn llywio'n trafodaethau ni ar y Bil. Hoffwn i ddiolch yn arbennig hefyd i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei barodrwydd i fod â meddwl agored yn ystod y broses graffu Cyfnod 1. Fel rŷm ni wedi clywed, dwi'n meddwl, mae ei ymateb cadarnhaol yn sicr yn brawf o hynny, ac mi fydda i'n tynnu sylw at nifer o enghreifftiau o hyn, gobeithio, yn fy nghyfraniad.
Mae'r tirlithriad yn Tylorstown yn 2020, a'r tirlithriad mwy diweddar yng Nghwmtyleri, yn ein hatgoffa ni'n glir o'r risgiau sy'n gysylltiedig â threftadaeth mwyngloddio Cymru, a'r angen brys i amddiffyn cymunedau yn well rhagddyn nhw.
Thank you very much, Llywydd. Before turning to the committee's report, I would like to begin by thanking all of those who gave evidence to inform our consideration of the Bill. I would also like, in particular, to thank the Deputy First Minister for his willingness to remain open-minded during the Stage 1 scrutiny process. As we've heard, I think his positive response to our report is very much a testament to that, and I'll highlight several examples of this in my contribution.
The coal tip landslide in Tylorstown in 2020, and the more recent landslide in Cwmtillery, serve as a stark reminder of the risks posed by Wales's mining heritage, and the urgent need to better protect communities from them.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.
Mae adolygiad Comisiwn y Gyfraith o'r gyfraith bresennol sy'n llywodraethu diogelwch tomenni glo yn nodi achos cymhellol—achos compelling iawn—dros newid, ac mi gafodd canfyddiadau'r adolygiad eu dyfynnu gan gyfranwyr wrth iddyn nhw roi cefnogaeth i'r Bil. Fe ddywedon nhw wrthym ni fod y gyfraith bresennol, sy'n dyddio nôl i'r 1960au, fel y clywon ni gan y Dirprwy Brif Weinidog ar y cychwyn, yn henffasiwn ac yn annigonol i reoli'r risgiau a achosir gan domenni nas defnyddir, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried effaith gynyddol newid hinsawdd.
Fel yr amlinellwyd eisoes gan y Dirprwy Brif Weinidog, mae'r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu awdurdod newydd, pwrpasol i asesu, cofrestru, monitro a goruchwylio tomenni nas defnyddir. Yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw y gall yr awdurdod ymyrryd yn llawer cynharach na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran mynd i'r afael ag ansefydlogrwydd tomenni, a does dim amheuaeth ym marn y pwyllgor y bydd y gyfundrefn newydd hon yn welliant amlwg ar yr un bresennol. O ystyried hynny, felly, a'r angen hanfodol i sicrhau diogelwch cymunedau sy'n byw yng nghysgod tomenni nas defnyddir, mae'r pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil.
Wedi dweud hynny—ac mae'n rhaid imi ddweud hynny, onid oes e—mae rhai darpariaethau penodol rŷn ni'n credu y gellid eu gwella, ac mae rhai pethau penodol hefyd ar goll, ym marn y pwyllgor. O'n 30 argymhelliad ni, mae dros eu hanner nhw ar gyfer gwelliannau sydd â'r nod o sicrhau bod y gyfundrefn newydd yn glir, yn gadarn, yn effeithiol ac yn ennyn hyder y cyhoedd. Nawr, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi nodi hyd yn hyn ei fod e'n fodlon derbyn o leiaf wyth o'n hargymhellion ni ar gyfer gwelliannau, ac rŷn ni'n croesawu hynny'n fawr iawn, wrth gwrs, ac rŷn ni'n gobeithio y bydd hi'n parhau i fod yn bosib inni ei ddarbwyllo fe ynghylch gwelliannau eraill wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy gyfnodau eraill y broses graffu.
Thema sy’n ailgodi’n aml yn ein hadroddiad ni yw'r diffyg manylion yn y Bil o ran elfennau allweddol y gyfundrefn newydd. Rŷn ni wedi clywed gan y Dirprwy Brif Weinidog y bydd y manylion hyn yn cael eu nodi mewn canllawiau yn y dyfodol. Mae'r dull hwnnw yn anfoddhaol, yn ein barn ni, am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae'n golygu nad yw bwriadau polisi Llywodraeth Cymru yn glir. Er bod canllawiau cryno drafft wedi'u rhannu gyda'r pwyllgor, ac roeddem ni'n ddiolchgar am hynny, yn ymarferol, wrth gwrs, mi oedd hynny'n rhy hwyr inni ofyn am farn rhanddeiliaid arnyn nhw, a hefyd, wrth gwrs, yn rhy hwyr inni eu hystyried nhw mor llawn ag y byddem ni'n dymuno. Yn ail, fydd y gyfundrefn newydd ddim yn cael ei rhoi ar waith tan 1 Ebrill 2027, sydd bron i ddwy flynedd i ffwrdd. Felly, mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd hi i benderfynu ar rai o'r manylion polisi yma. Yn olaf, ac yn hollbwysig, mae gadael y manylion polisi i ganllawiau yn golygu y gellir gwneud newidiadau sylweddol gan Lywodraeth yn y dyfodol heb waith craffu priodol gan y Senedd yma. Wrth gwrs, mae gan ganllawiau rôl i'w chwarae wrth sicrhau y caiff y Bil ei weithredu’n effeithiol, ond dylai e ddim cael ei ddefnyddio i lenwi manylion polisi pwysig y byddem ni yn disgwyl eu gweld wedi'u nodi fel arfer mewn deddfwriaeth, er mwyn, wrth gwrs, darparu goruchwyliaeth ddemocrataidd briodol.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rŷn ni wedi argymell cynnwys pwerau gwneud rheoliadau i osod isafswm y gofynion ar gyfer asesiadau tomenni nas defnyddir, monitro ac archwiliadau. Fyddai hyn ddim yn gwneud y Bil yn llai diogel ar gyfer y dyfodol, ond mi fyddai'n diogelu rhag posibilrwydd gwanhau’r gyfundrefn, yn ein barn ni. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi gwrthod ein hargymhellion ni, ond fel cyfaddawd, mae e wedi cytuno i ddiwygio’r Bil i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ac i ymgynghori arnyn nhw. Mae yna ddadl i’w chael, efallai, ynglŷn ag a yw hynny'n gyfaddawd derbyniol, ond yn sicr mi fyddwn ni'n siŵr o ddychwelyd at y mater yma yn ystod Cyfnod 2.
Gan symud ymlaen at Ran 1 y Bil, sy'n darparu ar gyfer sefydlu'r awdurdod newydd, ar y cyfan, rŷn ni’n fodlon â'r darpariaethau yn y rhan hon, er y byddem ni wedi hoffi gweld yr awdurdod newydd yn cael ei sefydlu yn gynt o lawer. Rŷn ni'n disgwyl i'r awdurdod fod yn gwbl weithredol, felly, o'r diwrnod cyntaf, sy'n golygu y dylai'r holl ganllawiau fod ar waith ac y dylai'r holl reoliadau perthnasol fod mewn grym erbyn y dyddiad hwnnw. Mae argymhelliad 5 yn adlewyrchu hyn, a dwi'n falch o ddweud ei fod e wedi cael ei dderbyn.
Roedd llawer o'r dystiolaeth a gawson ni yn canolbwyntio ar Ran 2 y Bil, sy'n cwmpasu asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir. Yn seiliedig ar y dystiolaeth gan arbenigwyr, gan gynnwys yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, rŷn ni wedi galw am gofrestr gynhwysfawr o’r holl domenni nas defnyddir, nid dim ond y tomenni hynny sydd wedi'u categoreiddio. Byddai hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i gymunedau, ac yn ennyn hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn newydd. Unwaith eto, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i gyflwyno gwelliant sy’n dal hanfod ein hargymhelliad ni, ac felly rŷn ni yn croesawu hynny.
Dwi eisoes wedi tynnu sylw at ein hargymhellion allweddol ar gyfer pwerau gwneud rheoliadau mewn perthynas ag asesiadau, monitro ac archwiliadau, felly byddaf i ddim yn eu hailadrodd nhw. Rŷn ni hefyd wedi argymell i bob asesiad rhagarweiniol gynnwys archwiliad ffisegol, ac i adroddiadau o asesiadau rhagarweiniol a llawn fod ar gael i'r cyhoedd. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn ein hargymhellion ar gyhoeddi adroddiadau, gan ganiatáu, felly, ar gyfer rhagor o dryloywder.
I droi at gynlluniau rheoli, yng ngeiriau'r Dirprwy Brif Weinidog ei hun, yn ystod y dystiolaeth y derbynion ni, mae'r cynlluniau hyn yn 'hollol hanfodol' i'r gyfundrefn newydd. Ond, wrth gwrs, dyw’r Bil ddim yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer nhw. Gwnaethom ni dynnu sylw at hyn fel gwendid allweddol yn y Bil a’r gyfundrefn reoli gyffredinol. Felly, eto, rŷn ni'n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn ein hargymhelliad i osod y cynlluniau hyn ar sail statudol.
Mae Rhan 3 y Bil yn ymdrin ag ansefydlogrwydd tomen a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Ymhlith pethau eraill, mae'n galluogi'r awdurdod newydd i ymyrryd os oes perygl bod methiant tomen ar fin digwydd. Fodd bynnag, fe glywon ni y gall rhwymedigaethau o dan gyfraith amgylcheddol a chynllunio atal yr awdurdod rhag gweithredu'n gyflym i osgoi argyfwng pe bai angen.
Fel pwyllgor, rŷn ni’n cefnogi dulliau cryf iawn, wrth gwrs, i ddiogelu'r amgylchedd, ond o ran osgoi llithriad arall yn debyg i un Tylorstown, mae'n rhaid i'r flaenoriaeth fod ar sicrhau diogelwch cymunedol. Er bod y mater hwn wedi'i amlygu nôl yn 2022 gan Gomisiwn y Gyfraith, dyw Llywodraeth Cymru yn dal heb ganfod ateb cyfreithiol priodol i fynd i'r afael â hyn. Mae argymhelliad 26 yn ei hannog i wneud yn union hynny, felly. Fodd bynnag, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith cynllunio at argyfwng yn elfen orfodol o gynllunio rheoli statudol, sydd yn sicr yn galonogol.
Dirprwy Lywydd, rŷn ni yn awyddus i weld y Bil yn symud ymlaen drwy'r Senedd yma. Mae gennym ni gyfle i sicrhau bod y drefn ddeddfwriaethol newydd ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir yn glir, yn gadarn ac yn effeithiol—cyfundrefn sy'n rhoi tawelwch meddwl i gymunedau sy'n byw yng nghysgod tomenni eu bod nhw yn cael eu diogelu a'u bod nhw yn saff.
Unwaith eto, felly, hoffwn ddiolch i’r Dirprwy Brif Weinidog am ei ymateb cadarnhaol i’n hadroddiad ni ac am ei barodrwydd i ystyried ein pryderon ni. Rŷn ni yn edrych ymlaen, wrth gwrs, at ddychwelyd at lawer o’r materion a godwyd gen i heddiw a, dwi'n siŵr, gan eraill yn ystod y ddadl yma yn ystod cyfnodau diwygio’r Bil. Diolch.
The Law Commission’s review of the current law governing the safety of coal tips sets out a compelling case—a very compelling case—for change, and the findings of the review were cited by contributors in providing support for the Bill. They told us that the current law, which dates back to the 1960s, as we heard from the Deputy First Minister at the beginning, is outdated and is insufficient for managing the risks posed by disused tips, particularly, of course, given the increasing impact of climate change.
As already outlined by the Deputy First Minister, the Bill provides for the establishment of a new, dedicated authority to assess, register, monitor and oversee disused tips. Importantly, of course, the authority will be able to intervene at a much earlier stage than is currently the case to address tip instability, and there is no doubt in the committee's mind that this new regime will be a marked improvement on the existing one. Given this, therefore, and the imperative to ensure the safety of communities living in the shadow of disused tips, the committee recommends that the Senedd agrees the general principles of the Bill.
That said—and I did have to say that, didn't I—there are certain provisions that we believe could be improved upon, and there are certain things missing, in the committee's view. Of our 30 recommendations, over half are for amendments aimed at ensuring that the new regime is clear, robust, effective and instils public confidence. The Deputy First Minister has so far indicated he is willing to accept at least eight of our recommendations for amendments, and we very much welcome that, and I hope that it will remain possible for us to convince him about the other amendments as the Bill makes its way through the remaining stages of the scrutiny process.
A recurring theme in our report is the lack of detail in the Bill in terms of key components of the new regime. We’ve heard from the Deputy First Minister that this detail will be set out in future guidance, but this approach is unsatisfactory, in our view, for several reasons. Firstly, it means that the Welsh Government’s policy intentions are not clear. Although draft summary guidance was shared with the committee, and we were grateful for that, in practical terms, of course, that was too late for us to seek stakeholders’ views on the guidance, and also, of course, too late for us to consider the guidance as fully as we would have wished. Secondly, the new regime will not be put in place until 1 April 2027, which is almost two years away. So, it will be a matter for the next Welsh Government to determine some of the policy details here. Finally, and crucially, leaving the policy detail to guidance means that significant changes could be made by a future Government without proper Senedd scrutiny. Of course, guidance does have a role to play in ensuring that the effective implementation of the Bill takes place, but it should not be used to fill in important policy details that we would expect ordinarily to be set out in legislation, in order to, of course, provide proper democratic oversight.
To address this, we have recommended the inclusion of regulation-making powers to set out minimum requirements for disused tip assessments, monitoring and inspections. This would not make the Bill any less futureproof, but it would safeguard against a potential weakening of the regime, in our view. The Deputy First Minister has rejected our recommendations to that end, but by way of compromise, he has agreed to amend the Bill to place a duty on the Welsh Ministers to issue guidance and to consult on that guidance. There is a debate to be had, perhaps, about whether this is an acceptable compromise or not, but we'll certainly wish to return to this issue during Stage 2.
Moving on to Part 1 of the Bill, which provides for the establishment of the new authority, overall, we are content with the provisions within this part, although we would have liked to see the new authority established much sooner. We expect the authority to be fully operational, therefore, from day one, which means that all guidance should be in place and all relevant regulations should be in force by that date. Recommendation 5 reflects this, and I’m pleased to say that it has been accepted.
Much of the evidence we received focused on Part 2 of the Bill, which covers assessment, registration and the monitoring of disused tips. Based on the evidence we received from experts, including the Mining Remediation Authority, we have called for a comprehensive register of all disused tips, not just those tips that have been categorised. This would provide clarity and certainty for communities, and would promote public confidence in the new regime. Again, the Deputy First Minister has agreed to bring forward an amendment that captures the essence of our recommendation, and we therefore very much welcome that.
I've already highlighted our key recommendations for regulation-making powers in relation to assessments, monitoring and inspections, so I won't repeat those recommendations. We've also recommended for all preliminary assessments to include a physical inspection, and for reports of both preliminary and full assessments to be made publicly available. The Deputy First Minister has accepted our recommendation on the publication of reports, thereby allowing for greater transparency.
Turning to management plans, in the Deputy First Minister's own words, during the evidence that we received, these plans are ‘absolutely crucial’ to the new regime. But, of course, the Bill does not make provision for them. We highlighted this as a key weakness of the Bill and with the overall management regime. So, again, we are pleased, therefore, that the Deputy First Minister has accepted our recommendation to place these plans on a statutory footing.
Part 3 of the Bill deals with tip instability and threats to tip instability. Amongst other things, it enables the new authority to intervene if a tip is at risk of imminent failure. However, we heard that obligations under environmental and planning law may prevent the authority from acting swiftly to avoid an emergency, should it need to.
As a committee, we fully support very strong environmental protections, of course, but when it comes to avoiding another slip, such as the one we saw in Tylorstown, the priority must be ensuring the safety of communities. Despite this issue being highlighted back in 2022 by the Law Commission, the Welsh Government has yet to identify an appropriate legal solution to address it. Recommendation 26 urges it to do just that, therefore. However, the Deputy First Minister has committed to ensuring emergency planning is a mandatory element of statutory management plans, which is encouraging.
Deputy Presiding Officer, we are keen to see the Bill progressing through the Senedd. We have an opportunity to ensure that the new legislative regime for disused tip safety is clear, robust and effective—a regime that provides peace of mind to communities living in the shadow of tips that they are protected and that they are safe.
Again, I'd like to thank the Deputy First Minister for his positive response to our report and for his willingness to take on board our concerns. We look forward, of course, to returning to many of the matters that I've raised today and, I'm sure, by others during the debate during the amending stages of the Bill. Thank you.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee was supportive of the general principles of the Disused Mine and Quarry Tips (Wales) Bill. The committee’s report drew three conclusions and made 22 recommendations. Our main concern with the Bill, as expressed in conclusions 2 and 3, is that the Welsh Government is relying too heavily on the use of guidance to deliver the Bill’s objectives. We therefore concluded that there was an inappropriate balance between provisions that will be on the face of the Bill or left to regulations versus what is to be left to guidance. We therefore welcome the positive response to our report from the Cabinet Secretary, as evidenced by his accepting, in full or in part, 14 of our 22 recommendations. They include acceptance of eight recommendation that proposed changes to the Bill to address our concerns.
In response to recommendations 5 and 6 about section 10, which relates to tip monitoring, the Cabinet Secretary indicated that he will be tabling amendments to place the minimum frequency of inspections on the face of the Bill for category 1 and 2 tips, as he indicated earlier today. In addition, a duty will be placed on the Welsh Ministers to consult on and issue guidance to the authority on its monitoring functions under that section. We believe that this will not only strengthen the Bill, but also provide clarity and greater certainty for stakeholders.
Another important issue for us concerns the absence in the Bill of a requirement to produce management plans and to rely on guidance provided by Welsh Ministers for their delivery instead. We are pleased, therefore, that the Cabinet Secretary has listened to our concerns and has accepted recommendations 18 and 19 in full, and recommendation 20 in part.
We believe that including a duty on the face of the Bill for the new authority to produce management plans for categories 1 and 2 tips, with a discretion to prepare plans for those disused tips in categories 3 or 4, will strengthen the Bill and again provide clarity and certainty for stakeholders. In tabling appropriate amendments, we also acknowledge and welcome the Cabinet Secretary’s intention to go further than recommendation 19 by describing on the face of the Bill the minimum content that is to be set out in a management plan.
We also note the Cabinet Secretary’s intention that this will include information that the authority considers may be relevant in an emergency involving a disused tip. This addresses recommendation 8 of our report. We agree with the Cabinet Secretary’s view that this will not only strengthen the Bill but will mean that provisions dealing with emergency preparedness are easily identifiable.
We also welcome the acceptance of recommendation 13 that the Bill should be amended to place a duty on Welsh Ministers to produce guidance following consultation.
I would like to briefly highlight some of the recommendations in our report that were rejected. First, our report stated that we are unclear why a disused tip has to be defined in the Bill by reference to the Quarries Regulations 1999 or the Mines Regulations 2014. We felt the definition is not accessible, which is a concern given its fundamental importance to the operation of the new regime. We recommended the inclusion of a free-standing definition to assist communities’ understanding of what constitutes a disused tip and help build public confidence in the new regime. We note the Cabinet Secretary’s comments, but a layperson may not realise from a reading of section 81(3) that the two sets of regulations I referred to apply to active tips. We do note, however, that while rejecting our three recommendations on section 81, the Cabinet Secretary is to include a duty to consult in relation to regulations to be made under section 81(5), which is welcome.
As regards the Cabinet Secretary’s comments about our recommendation to make separate provision about certain criminal sanctions in section 38, rather than through regulations, we would highlight our long-standing view that provision for criminal offences should be made on the face of a Bill.
In closing, I would like to reiterate our thanks to the Cabinet Secretary and his officials for the positive and constructive way in which they have engaged with our report.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gefnogol i egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Daeth adroddiad y pwyllgor i dri chasgliad a gwnaeth 22 argymhelliad. Ein prif bryder gyda'r Bil, fel y'i mynegir yng nghasgliadau 2 a 3, yw bod Llywodraeth Cymru yn dibynnu'n rhy drwm ar y defnydd o ganllawiau i gyflawni amcanion y Bil. Felly, fe wnaethom ni ddod i'r casgliad bod cydbwysedd amhriodol rhwng darpariaethau a fydd ar wyneb y Bil neu wedi'u gadael i reoliadau o'i gymharu â'r hyn sy'n destun canllawiau. Rydym ni felly yn croesawu'r ymateb cadarnhaol i'n hadroddiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, fel y dangosir drwy iddo dderbyn, yn llawn neu'n rhannol, 14 o'n 22 argymhelliad. Maen nhw'n cynnwys derbyn wyth argymhelliad sy'n cynnig newidiadau i'r Bil i fynd i'r afael â'n pryderon.
Mewn ymateb i argymhellion 5 a 6 ynglŷn ag adran 10, sy'n ymwneud â monitro tomenni, nododd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yn cyflwyno gwelliannau i roi'r nifer lleiaf o arolygiadau'n mae'n rhaid eu cynnal ar wyneb y Bil ar gyfer tomenni categori 1 a 2, fel y nododd yn gynharach heddiw. Yn ogystal, rhoddir dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar, a chyhoeddi canllawiau i'r awdurdod ar ei swyddogaethau monitro o dan yr adran honno. Credwn y bydd hyn nid yn unig yn cryfhau'r Bil, ond hefyd yn darparu eglurder a mwy o sicrwydd i randdeiliaid.
Mae mater pwysig arall i ni yn ymwneud â'r diffyg gofyniad yn y Bil i gynhyrchu cynlluniau rheoli ac i ddibynnu ar ganllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru i'w cyflwyno yn lle hynny. Rydym yn falch, felly, bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrando ar ein pryderon ac wedi derbyn argymhellion 18 a 19 yn llawn, ac argymhelliad 20 yn rhannol.
Credwn y bydd cynnwys dyletswydd ar wyneb y Bil i'r awdurdod newydd gynhyrchu cynlluniau rheoli ar gyfer tomenni categorïau 1 a 2, gyda disgresiwn i baratoi cynlluniau ar gyfer y tomenni hynny nas defnyddir yng nghategorïau 3 neu 4, yn cryfhau'r Bil ac eto yn darparu eglurder a sicrwydd i randdeiliaid. Wrth gyflwyno gwelliannau priodol, rydym ni hefyd yn cydnabod ac yn croesawu bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd ymhellach nag argymhelliad 19 trwy ddisgrifio ar wyneb y Bil yr hyn sydd i'w nodi mewn cynllun rheoli fel lleiafswm.
Rydym ni hefyd yn nodi bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth y mae'r awdurdod yn ystyried a allai fod yn berthnasol mewn argyfwng sy'n cynnwys tomen nas defnyddir. Mae hyn yn mynd i'r afael ag argymhelliad 8 o'n hadroddiad. Rydym yn cytuno â barn yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd hyn nid yn unig yn cryfhau'r Bil ond bydd yn golygu bod darpariaethau sy'n ymwneud â pharatoi at argyfwng yn hawdd eu hadnabod.
Rydym ni hefyd yn croesawu derbyn argymhelliad 13 y dylid diwygio'r Bil i roi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynhyrchu canllawiau ar ôl ymgynghori.
Fe hoffwn i dynnu sylw yn fyr at rai o'r argymhellion yn ein hadroddiad a wrthodwyd. Yn gyntaf, nododd ein hadroddiad nad ydym yn glir pam fo'n rhaid diffinio tomen nas defnyddir yn y Bil drwy gyfeirio at Reoliadau Chwareli 1999 neu Reoliadau Mwyngloddiau 2014. Roeddem yn teimlo nad yw'r diffiniad yn hygyrch, sy'n bryder o ystyried ei bwysigrwydd sylfaenol i weithrediad y gyfundrefn newydd. Fe wnaethom ni argymell cynnwys diffiniad annibynnol i gynorthwyo dealltwriaeth cymunedau o'r hyn sy'n gyfystyr â thomen nas defnyddir a helpu i feithrin hyder y cyhoedd yn y drefn newydd. Nodwn sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet, ond efallai na fydd lleygwr yn sylweddoli o ddarllen adran 81(3) bod y ddwy gyfres o reoliadau y cyfeiriais atyn nhw yn berthnasol i domenni a ddefnyddir. Rydym ni yn nodi, fodd bynnag, wrth wrthod ein tri argymhelliad ar adran 81, y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynnwys dyletswydd i ymgynghori mewn perthynas â rheoliadau sydd i'w gwneud o dan adran 81(5), sy'n cael ei groesawu.
O ran sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'n hargymhelliad i wneud darpariaeth ar wahân am sancsiynau troseddol penodol yn adran 38, yn hytrach na thrwy reoliadau, byddem yn tynnu sylw at y farn yr ydym ni wedi ei harfer ers amser maith y dylid gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau ar wyneb Bil.
I gloi, fe hoffwn i ailadrodd ein diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion am y ffordd gadarnhaol ac adeiladol maen nhw wedi ymgysylltu â'n hadroddiad.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
And I call on the Chair of the Finance Committee, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Yn ein hadroddiad, daethom ni i un casgliad a gwneud naw argymhelliad. Rwy’n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn pob un o’r argymhellion, gydag un wedi’i dderbyn mewn egwyddor. Rydym ni’n croesawu ac yn cefnogi pwrpas cyffredinol y Bil ac yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil. Fodd bynnag, rydym ni wedi codi materion penodol gyda’r nod o wella’r wybodaeth ariannol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Bil hwn.
Thank you, Dirprwy Lywydd. I welcome the opportunity to participate in today’s debate. In our report, we came to one conclusion and made nine recommendations. I'm pleased that the Deputy First Minister has accepted all of our recommendations, with one accepted in principle. We welcome and support the Bill’s overall purpose and are broadly content with the financial implications of the Bill. However, we have raised specific issues with the aim of improving the financial information published alongside the Bill.
We have a general concern that the evidence used to inform parts of the Bill aren't included within the RIA. This includes data informing the costs of the Bill and benefits arising from the Bill, and the cost savings of the Bill. Whilst we accept in principle the Deputy First Minister's assurances that these are evidence based, we are disappointed that this information was not shared with us either through the RIA or during the scrutiny of the Bill. As a result, it is difficult for the committee to assess if these costs are robust. We have recommended that the information is shared with us ahead of the Stage 1 debate, and to update the RIA after Stage 2 proceedings. I am glad that the Deputy First Minister has responded positively to these requests ahead of today's debate.
Although we heard assurances from the Deputy First Minister that there are sufficient funds to undertake all the work required to make land that contains a disused tip safe, we are concerned that these funds might be allocated on a first come, first served basis. We ask the Deputy First Minister to confirm that the funds will be allocated to those areas of greatest risk and based on need, and we are grateful to him for stating in his response that applications made for higher rated tips are prioritised over those for lower rated tips, if the proposed works are feasible and deliverable.
Turning now to another issue, as mentioned earlier in the debate, the Bill creates a new body, the disused tips authority, and we would welcome clarification on a number of issues. In particular, we requested further information regarding the funding for bodies who would be losing some of their responsibilities as they are transferred to the authority. From the evidence we considered, it wasn't clear if these bodies would be losing a proportion of their funding to reflect the change in responsibilities, and we are grateful to the Deputy First Minister for confirming these funding arrangements in response to our recommendation.
We are also concerned regarding the impact the new authority would have on the workforce of the Welsh Local Government Association, should staff choose to seek employment at the new authority. We therefore welcome assurances from the Deputy First Minister that the Welsh Government has undertaken a capability assessment with the WLGA to assist work in this area. We also have concerns regarding the contingency estimated for non-staff costs associated with the new body. Whilst the Deputy First Minister explained contingencies are based on experience of establishing other bodies, once again we found the evidence supporting this was missing from the RIA. Although the Deputy First Minister has accepted this recommendation in principle, it is disappointing that further changes won’t be made to the RIA, as this would be beneficial in terms of transparency.
Lastly, on the remuneration of the new authority’s staff, whilst we accept that a number of the roles within the authority will require specialist skills, we asked for a further breakdown of staff costs to ensure that remuneration is appropriate and demonstrates value for money. I am very pleased that the Deputy First Minister has responded positively to this request.
Mae gennym ni bryder cyffredinol nad yw'r dystiolaeth a ddefnyddir yn sail i rannau o'r Bil yn cael ei chynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Mae hyn yn cynnwys data sy'n sail i gostau'r Bil a'r buddion sy'n deillio o'r Bil, ac arbedion cost y Bil. Er ein bod yn derbyn mewn egwyddor sicrwydd y Dirprwy Brif Weinidog bod y rhain yn seiliedig ar dystiolaeth, rydym ni'n siomedig nad yw'r wybodaeth hon wedi'i rhannu gyda ni naill ai trwy'r asesiad effaith rheoleiddiol nac wrth graffu ar y Bil. O ganlyniad, mae'n anodd i'r pwyllgor asesu a yw'r costau hyn yn gadarn. Rydym ni wedi argymell bod y wybodaeth yn cael ei rhannu gyda ni cyn dadl Cyfnod 1, ac i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol ar ôl trafodion Cyfnod 2. Rwy'n falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i'r ceisiadau hyn cyn y ddadl heddiw.
Er ein bod ni wedi clywed sicrwydd gan y Dirprwy Brif Weinidog bod digon o arian i ymgymryd â'r holl waith sydd ei angen i wneud tir sy'n cynnwys tomenni nas defnyddir yn ddiogel, rydym ni'n pryderu y gallai'r arian hwn gael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Gofynnwn i'r Dirprwy Brif Weinidog gadarnhau y caiff yr arian ei ddyrannu i'r meysydd hynny o risg fwyaf ac yn seiliedig ar angen, ac rydym ni'n ddiolchgar iddo am ddatgan yn ei ymateb bod ceisiadau a wneir am domenni â sgôr uwch yn cael eu blaenoriaethu dros y rhai ar gyfer tomenni â sgôr is, os yw'r gwaith arfaethedig yn ymarferol a bod modd ei gyflawni.
Gan droi nawr at fater arall, fel y soniwyd yn gynharach yn y ddadl, mae'r Bil yn creu corff newydd, yr awdurdod tomenni nas defnyddir, a byddem yn croesawu eglurhad ar nifer o faterion. Yn benodol, gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r cyllid ar gyfer cyrff a fyddai'n colli rhai o'u cyfrifoldebau wrth iddynt gael eu trosglwyddo i'r awdurdod. O'r dystiolaeth a ystyriwyd gennym ni, nid oedd yn glir a fyddai'r cyrff hyn yn colli cyfran o'u cyllid i adlewyrchu'r newid mewn cyfrifoldebau, ac rydym yn ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog am gadarnhau'r trefniadau cyllido hyn mewn ymateb i'n hargymhelliad.
Rydym ni hefyd yn pryderu am yr effaith y byddai'r awdurdod newydd yn ei chael ar weithlu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, pe bai staff yn dewis ceisio gwaith yn yr awdurdod newydd. Felly, rydym ni'n croesawu sicrwydd gan y Dirprwy Brif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad gallu gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynorthwyo gwaith yn y maes hwn. Mae gennym ni bryderon hefyd ynghylch yr amcangyfrif wrth gefn ar gyfer costau nad ydynt yn staff sy'n gysylltiedig â'r corff newydd. Er bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi esbonio bod yr amcangyfrif hwn yn seiliedig ar brofiad o sefydlu cyrff eraill, unwaith eto fe welsom ni fod y dystiolaeth sy'n cefnogi hyn ar goll o'r asesiad effaith rheoleiddiol. Er bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, mae'n siomedig na fydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i'r asesiad effaith rheoleiddiol, gan y byddai hyn yn fuddiol o ran tryloywder.
Yn olaf, o ran talu staff yr awdurdod newydd, er ein bod yn derbyn y bydd nifer o'r swyddi yn yr awdurdod yn gofyn am sgiliau arbenigol, bu inni ofyn am ddadansoddiad pellach o gostau staff er mwyn sicrhau bod tâl yn briodol ac yn dangos gwerth am arian. Rwy'n falch iawn bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i'r cais hwn.
Dirprwy Lywydd, mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â'r adolygiad ôl-weithredu, sy’n thema gyffredin i'n pwyllgor ni. Hoffwn ailbwysleisio pwysigrwydd adolygiad o’r fath i sicrhau bod amcanion y ddeddfwriaeth yn cael eu cyflawni yn unol â’r disgwyliadau a bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau.
Rydyn ni felly’n croesawu cynnwys yr adolygiad ôl-weithredu yn y Bil ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i asesu cost cyffredinol y Bil yn ystod y cyfnod adolygu, yn enwedig o ran tomenni nad ydyn nhw’n domenni glo, lle mae angen rhagor o wybodaeth i ddarparu amcangyfrifon cost llawn. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ymrwymo i wneud hyn ac yn edrych ymlaen at weld canlyniad yr adolygiad ar ôl i’r Bil gael ei roi ar waith. Diolch yn fawr.
Dirprwy Lywydd, our final recommendation relates to the post-implementation review, which is a common theme for our committee. I would like to reiterate the importance of such reviews to ensure that the objectives of the legislation are being delivered in line with expectations, and that value for money is being achieved.
We therefore welcome the inclusion of the post-implementation review in the Bill and the Welsh Government’s commitment to assess the overall cost of the Bill during the review period, in particular with regard to non-coal tips, where further information is needed to provide full-cost estimates. We welcome the fact the Deputy First Minister has committed to doing this and look forward to seeing the outcome of the review once the Bill has been implemented. Thank you.
First off, I'd like to thank the Cabinet Secretary for bringing this forward. This Bill does provide a genuine opportunity for this, the Parliament of Wales, to develop the most robust legislation possible to ensure tip and mine safety. And, where possible, our group look forward—and me in particular—to working with Members across this Siambr on this legislation. I will be upfront, though, and state right at the beginning that whilst I agree with the vast majority of what is already in the Bill, major changes are needed, and I know that we have that scope, as the Bill progresses, in terms of us tabling amendments. It is fair to say, from all the committee Chairs that have spoken, that whilst you've been very generous in accepting some of the amendments, there's quite a number, if you times it by the numbers of committees, of amendments that you haven't actually in principle accepted. We don't believe the Bill goes far enough, but we will, the Conservative group, be supporting the fundamental principles of this Bill, and we will be looking to bring forward amendments that I hope—and it's not always been the case—will be looked upon in the spirit that they are put forward, and not the fact that they are being put forward by the official opposition.
For instance, the Bill does not consider all environmental factors, if any, during the assessment and categorising process. The new regime provided for in the Bill focuses on disused tip instability, which, obviously, a major risk it could be, but there are also other risks that this Bill could and should be covering. There are other risk factors such as pollution, combustion and flooding, and they will not be taken into account as part of the assessment and categorisation process when they are independent of instability. Now, the Law Commission itself highlighted that this is a deviation from its own recommendation. The British Geological Survey said
'explicit consideration is given to risks of environmental contamination (of soil, surface water and groundwater bodies) from disused tips in the event of collapse or changes to drainage conditions, including for "stable" tips.'
The Bill also focuses on direct human effect, but what about also—and we acknowledge that—threats to our habitats, our biodiversity, our landscapes and our watercourses? The UK Environmental Law Association asserted to our Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee that, importantly, threats to habitats, biodiversity, landscapes, watercourses et cetera, while exhibiting indirect effects on individuals and communities, may not be caught by the definition of threat to human welfare. For this reason, the extent and scope of the threats arising from the disused tips should be wider and should go beyond direct human threats. The National Sheep Association highlighted that the Bill should consider the risk posed to animal health, and this Welsh Parliament has declared not only a climate crisis, but a nature crisis. The Bill does not contain any detail to address the aftermath of tip failure. UKELA said it was surprising that the Bill does not cover actions to address the aftermath of a tip failure. Therefore, we should be looking at introducing a chapter specifically on what the legal requirements are when dealing with the aftermath of such a catastrophe.
Many contributors emphasised that, in order for the authority to deliver its functions effectively, it does need suitably qualified staff across a range of disciplines. During our evidence hearing, it was abundantly clear that we don't actually have many of those skills here in Wales. They suggested staff recruitment could be a key challenge for the authority, highlighting a lack of skills and expertise in the existing workforce. The Mineral Products Association raised concerns that the establishment of the authority will exacerbate these challenges, so we should therefore ensure that this authority has a key role in helping to tackle the challenges. So, I would like to see a chapter on the authority's responsibility to encourage skill development in the sector, such as through apprenticeships, liaising with colleges and universities.
There is a double standard on coal, and I and my colleague and, indeed, our Welsh leader, Darren Millar, stated there's a double standard on coal. At present, planning policy only allows coal extraction in wholly exceptional circumstances. Despite our country still needing coal, we are too heavily reliant on imports. The UK imports approximately 3.4 million tonnes of coal annually. Wouldn't it be better to source that during our remediation of our disused coal tips to help our economic growth in Wales?
Yn gyntaf oll, fe hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno hyn. Mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni yma, Senedd Cymru, ddatblygu'r ddeddfwriaeth fwyaf cadarn bosibl i sicrhau diogelwch tomenni a mwyngloddiau. Ac, lle bo hynny'n bosibl, mae ein grŵp yn edrych ymlaen—a fi yn arbennig—at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr hon ar y ddeddfwriaeth hon. Byddaf yn onest, fodd bynnag, ac yn dweud ar y dechrau, er fy mod i'n cytuno â'r mwyafrif helaeth o'r hyn sydd eisoes yn y Bil, mae angen newidiadau mawr, ac rwy'n gwybod bod gennym ni'r cwmpas hwnnw, wrth i'r Bil fynd yn ei flaen, o ran ein bod ni'n cyflwyno gwelliannau. Mae'n deg dweud, gan yr holl Gadeiryddion pwyllgorau sydd wedi siarad, er y buoch chi'n hael iawn wrth dderbyn rhai o'r gwelliannau, mae yna gryn dipyn, os ydy'ch chi'n ei luosi gyda nifer yr ymrwymiadau, o welliannau nad ydych chi wedi derbyn mewn egwyddor mewn gwirionedd. Nid ydym yn credu bod y Bil yn mynd yn ddigon pell, ond byddwn ni, y grŵp Ceidwadol, yn cefnogi egwyddorion sylfaenol y Bil hwn, a byddwn yn edrych i gyflwyno gwelliannau yr wyf yn gobeithio—ac nid yw bob amser wedi bod yn wir—yn cael eu hystyried yn yr ysbryd y cânt eu cyflwyno, ac nid y ffaith eu bod yn cael eu cyflwyno gan yr wrthblaid swyddogol.
Er enghraifft, nid yw'r Bil yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, os unrhyw rai o gwbl, yn ystod y broses asesu a chategoreiddio. Mae'r drefn newydd a ddarperir ar ei chyfer yn y Bil yn canolbwyntio ar ansefydlogrwydd tomen nas defnyddir, sydd, yn amlwg, yn risg fawr bosib, ond mae yna hefyd risgiau eraill y gallai'r Bil hwn fod yn eu cwmpasu. Mae yna ffactorau risg eraill fel llygredd, hylosgi a llifogydd, ac ni fyddant yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses asesu a chategoreiddio pan fyddant yn annibynnol ar ansefydlogrwydd. Nawr, amlygodd Comisiwn y Gyfraith ei hun fod hyn yn wyriad o'i argymhelliad ei hun. Dywedodd Arolwg Daearegol Prydain
'Rhoddir ystyriaeth benodol i risgiau o halogi amgylcheddol (o bridd, dŵr wyneb a chyrff dŵr daear) o domen nas defnyddir yn achos cwympo neu newidiadau i amodau draenio, gan gynnwys ar gyfer tomenni "sefydlog."'
Mae'r Bil hefyd yn canolbwyntio ar effaith dynol uniongyrchol, ond beth am fygythiadau i'n cynefinoedd, ein bioamrywiaeth, ein tirweddau a'n cyrsiau dŵr? Honnodd Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU i'n Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith nad yw bygythiadau i gynefinoedd, bioamrywiaeth, tirweddau, cyrsiau dŵr ac ati, er eu bod yn effeithio'n anuniongyrchol ar unigolion a chymunedau, yn cael eu cwmpasu gan y diffiniad o fygythiad i les dynol. Am y rheswm hwn, dylai maint a chwmpas y bygythiadau sy'n deillio o'r tomenni nas defnyddir segur fod yn ehangach a dylai fynd y tu hwnt i fygythiadau dynol uniongyrchol. Tynnodd y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol sylw at y dylai'r Bil ystyried y risg sy'n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid, ac mae Senedd Cymru wedi datgan nid yn unig argyfwng hinsawdd, ond argyfwng natur. Nid yw'r Bil yn cynnwys unrhyw fanylion i fynd i'r afael â chanlyniadau methiant tomen. Dywedodd UKELA ei bod yn syndod nad yw'r Bil yn cwmpasu camau gweithredu i fynd i'r afael â chanlyniadau methiant tomen. Felly, dylem fod yn edrych ar gyflwyno pennod yn benodol ar beth yw'r gofynion cyfreithiol wrth ddelio â chanlyniadau trychineb o'r fath.
Pwysleisiodd llawer o gyfranwyr, er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol, fod angen staff cymwys priodol ar draws ystod o ddisgyblaethau. Pan oeddem yn gwrando ar y dystiolaeth, roedd yn hollol amlwg nad oes gennym ni lawer o'r sgiliau hynny yma yng Nghymru. Awgrymwyd y gallai recriwtio staff fod yn her allweddol i'r awdurdod, gan dynnu sylw at ddiffyg sgiliau ac arbenigedd yn y gweithlu presennol. Cododd y Gymdeithas Cynhyrchion Mwynau bryderon y bydd sefydlu'r awdurdod yn gwaethygu'r heriau hyn, felly fe ddylem ni sicrhau bod gan yr awdurdod hwn le allweddol wrth helpu i fynd i'r afael â'r heriau. Felly, fe hoffwn i weld pennod ar gyfrifoldeb yr awdurdod i annog datblygiad sgiliau yn y sector, megis trwy brentisiaethau, cysylltu â cholegau a phrifysgolion.
Mae safon ddwbl ar lo, ac fe wnes i a fy nghyd-Aelod ac, yn wir, ein harweinydd yma yng Nghymru, Darren Millar, ddweud bod safon ddwbl ar lo. Ar hyn o bryd, mae polisi cynllunio yn caniatáu echdynnu glo yn unig mewn amgylchiadau cwbl eithriadol. Er bod ein gwlad yn dal i fod angen glo, rydym yn rhy ddibynnol ar fewnforion. Mae'r DU yn mewnforio tua 3.4 miliwn tunnell o lo bob blwyddyn. Oni fyddai'n well cael hynny wrth adfer ein tomenni glo nas defnyddir i helpu ein twf economaidd yng Nghymru?
You need to conclude now, please, Janet.
Mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch yn dda, Janet.
Okay. Finally, and most importantly, the legislation simply does not go far enough to ensure that the voice of local communities are championed and that locals are kept informed. So, I'll be looking to work with you to create a section based on the duties of the authority and the Welsh Government to the communities local to tips.
Dirprwy Lywydd, there are going to be many, many presentations made here now on this, going forward, and I can assure you that the Welsh Conservatives are committed to the fundamental principles, but we want to make sure that this Bill does exactly what the people of Wales need. Thank you.
Iawn. Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, nid yw'r ddeddfwriaeth yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod llais cymunedau lleol yn cael ei hyrwyddo a bod pobl leol yn cael eu hysbysu. Felly, gobeithiaf weithio gyda chi i greu adran yn seiliedig ar ddyletswyddau'r awdurdod a Llywodraeth Cymru i'r cymunedau ger y tomenni.
Dirprwy Lywydd, bydd llawer iawn o gyflwyniadau yn cael eu gwneud yma yn awr ar hyn, yn y dyfodol, a gallaf eich sicrhau bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i'r egwyddorion sylfaenol, ond fe hoffem ni wneud yn siŵr bod y Bil hwn yn gwneud yn union yr hyn sydd ei angen ar bobl Cymru. Diolch.
Mae'r Bil hwn yn cynrychioli cam pwysig ymlaen, a hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Brif Weinidog a hefyd i'r gweision sifil sydd wedi gweithio arno. Hoffwn i groesawu yn arbennig y newidiadau sydd wedi cael eu gosod mas y prynhawn yma gan y Dirprwy Brif Weinidog. Dwi'n meddwl, fel pwyllgor, y byddwn ni'n croesawu'r ffaith ei fod e wedi gwrando arnom gyda hynny.
This Bill represents an important step forward, and I'd like to thank the Deputy First Minister and the civil servants who've worked on the Bill. I'd like to welcome, in particular, the changes set out this afternoon by the Deputy First Minister. I think that we, as a committee, would welcome the fact that he has listened to us in that regard.
The need for action on coal tips goes back decades, to a time before the Senedd even existed. The coal tips are the legacy of an industry that shaped and scarred our communities. What happened to us in our past should compel us to ensure that every coal tip in Wales is made safe and no community has to live with that fear again. I look forward to scrutinising this Bill in greater depth in committee. There are some issues that I would raise now. Many people, I'm sure, will ask why they will have to wait until 2027 for the authority to be fully operational. I welcome some of the changes that have been outlined this afternoon, which I hope, in terms of interim measures, will be making people safe, and also, crucially, making them feel safe in the interim, and that's something I know that we will be coming back to at further stages.
I do welcome the clear focus in the Bill on human welfare as the paramount consideration, though I am concerned that environmental welfare has been left out. Many of these tips are located in ecologically sensitive areas. Biodiversity loss is a fundamental consequence to our health, of course, and to our environment, and to our long-term resilience, so I will be asking the Government to reconsider this gap.
Now, of course, legislation alone is not enough to make our communities safe. Adequate and long-term funding is absolutely essential. It's clear that a significant amount of funding will be needed, perhaps £600 million. Much of that must come from Westminster. I would ask, and I will continue to ask, what steps the Welsh Government is taking to secure that necessary funding from them. A lot of the pledges laid out in the White Paper originally, like risk assessments, monitoring responsibilities and management plans—it’s been outlined already—have been delegated to guidance rather than, even, to secondary legislation. Now, with the changes that have been set out notwithstanding, which I do welcome on this, that lack of statutory pressure could leave communities still feeling exposed. So, I would still ask the Government to reconsider and to strengthen further those elements of the Bill so that there is greater reassurance given to the public.
Now, finally, I am deeply concerned that the Bill could stimulate private interests in remediating coal tips as a guise for new coal extraction. Now, I agree with organisations like Coal Action Network that existing legislation is not robust enough to prevent this from happening. So, this Bill must be amended to prevent it. The Deputy First Minister has said that he can’t envisage a scenario in which the extraction and burning of coal will arise as the result of the Bill. I’m afraid I don’t share that feeling and that reassurance. I am fearful that this Bill could encourage just this scenario, perhaps by landowners who have concerns about ongoing maintenance costs. We need to see the Bill amended so that there is a guarantee that any coal extracted during remediation work cannot be sold where there is any possibility of that coal being combusted, because that would contribute to the very climate change that the Bill acknowledges would increasingly threaten the stability risk of coal tips.
We cannot allow coal tips to become new coal mines, to allow our valleys to be plundered again for coal, to turn our landscapes into a parade of profit, making public safety an afterthought to money. These tips are scars on our mountains, covering the wounds of our yesterdays. We can’t allow companies to cleave open those wounds again, to turn attempts at restoration into a mockery of mining. These tips must be cleared, and the expense must be met by Westminster. Private profit should not come anywhere near these operations. What an insult to our yesterdays that would be. What our insult to our towns’ tomorrows. There is a live example of this, of course, in Bedwas, where there is a real possibility we could see a private company remediating coal tips and financing it through coal extraction. The leader of Rhondda Cynon Taf County Borough Council has also said that the council is regularly contacted by private companies with offers to remediate disused tips owned by the council. I would ask the Government again to reconsider—and I will finish on this point, Dirprwy Lywydd—including amendments on the face of the Bill to prevent this from happening. It would be supported in that not only by committee members, but also by civic society, by residents, and I will continue to pursue this point. Now is the opportunity to prevent this happening once and for all.
Mae'r angen am weithredu ar domenni glo yn mynd yn ôl degawdau, i gyfnod cyn i'r Senedd fodoli hyd yn oed. Mae'r tomenni glo yn waddol diwydiant a luniodd ac a greithiodd ein cymunedau. Dylai'r hyn a ddigwyddodd i ni yn ein gorffennol ein gorfodi i sicrhau bod pob tomen lo yng Nghymru yn cael ei wneud yn ddiogel ac nad oes rhaid i unrhyw gymuned fyw gyda'r ofn hwnnw eto. Edrychaf ymlaen at graffu ar y Bil hwn yn fwy manwl yn y pwyllgor. Mae yna rai materion y byddwn i'n eu codi nawr. Bydd llawer o bobl, rwy'n siŵr, yn gofyn pam y bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan 2027 i'r awdurdod fod yn gwbl weithredol. Rwy'n croesawu rhai o'r newidiadau sydd wedi'u hamlinellu y prynhawn yma, yr wyf yn gobeithio, o ran mesurau dros dro, a fydd yn gwneud pobl yn ddiogel, a hefyd, yn hollbwysig, yn gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel yn y cyfamser, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n gwybod y byddwn yn dod yn ôl ato ar gamau pellach.
Rwyf yn croesawu'r pwyslais clir yn y Bil ar les dynol fel y brif ystyriaeth, er fy mod i'n bryderus fod lles amgylcheddol wedi ei hepgor. Mae llawer o'r tomenni hyn wedi'u lleoli mewn ardaloedd ecolegol sensitif. Mae colli bioamrywiaeth yn ganlyniad sylfaenol i'n hiechyd, wrth gwrs, ac i'n hamgylchedd, ac i'n gwytnwch hirdymor, felly byddaf yn gofyn i'r Llywodraeth ailystyried y bwlch hwn.
Nawr, wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon i wneud ein cymunedau yn ddiogel. Mae cyllid digonol a hirdymor yn gwbl hanfodol. Mae'n amlwg y bydd angen swm sylweddol o gyllid, efallai £600 miliwn. Mae'n rhaid i lawer o hynny ddod o San Steffan. Byddwn yn gofyn, a byddaf yn parhau i ofyn, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau'r cyllid angenrheidiol hwnnw ganddyn nhw. Mae llawer o'r addewidion a nodwyd yn y Papur Gwyn yn wreiddiol, fel asesiadau risg, cyfrifoldebau monitro a chynlluniau rheoli—mae wedi'i amlinellu eisoes—wedi'u dirprwyo i ganllawiau yn hytrach na, hyd yn oed, i is-ddeddfwriaeth. Nawr, gyda'r newidiadau sydd wedi'u nodi er gwaethaf hynny, yr wyf yn ei groesawu ar hyn, gallai'r diffyg pwysau statudol adael cymunedau'n dal i deimlo'n bryderus. Felly, byddwn yn dal i ofyn i'r Llywodraeth ailystyried ac i gryfhau ymhellach yr elfennau hynny o'r Bil fel y rhoddir mwy o sicrwydd i'r cyhoedd.
Nawr, yn olaf, rwy'n bryderus iawn y gallai'r Bil ysgogi buddiannau preifat wrth adfer tomenni glo fel esgus ar gyfer echdynnu glo newydd. Nawr, rwy'n cytuno â sefydliadau fel y Rhwydwaith Gweithredu Glo nad yw deddfwriaeth bresennol yn ddigon cadarn i atal hyn rhag digwydd. Felly, rhaid diwygio'r Bil hwn i'w atal. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud na all ragweld sefyllfa lle bydd echdynnu a llosgi glo o ganlyniad i'r Bil. Rwy'n ofni nad ydw i'n rhannu'r teimlad hwnnw a'r sicrwydd hwnnw. Rwy'n ofni y gallai'r Bil hwn annog y sefyllfa hon, efallai gan dirfeddianwyr sydd â phryderon am gostau cynnal a chadw parhaus. Mae angen i ni weld y Bil yn cael ei ddiwygio fel bod gwarant na ellir gwerthu unrhyw lo sy'n cael ei dynnu yn ystod gwaith adfer lle mae unrhyw bosibilrwydd y bydd y glo hwnnw'n cael ei losgi, oherwydd byddai hynny'n cyfrannu at yr union newid hinsawdd y mae'r Bil yn cydnabod y byddai'n bygwth fwyfwy risg sefydlogrwydd tomenni glo.
Ni allwn ni ganiatáu i domenni glo fod yn byllau glo newydd, caniatáu i'r cymoedd gael eu hysbeilio eto am lo, troi ein tirwedd at ofynion elw, gwneud lles y cyhoedd yn ail ystyriaeth i arian. Mae'r tomenni hyn yn greithiau ar ein mynyddoedd, sy'n gorchuddio clwyfau ein ddoe. Ni allwn ni ganiatáu i gwmnïau ailagor y clwyfau hynny eto, i droi ymdrechion i adfer yn wawd ar fwyngloddio. Rhaid clirio'r tomenni hyn, a rhaid i San Steffan dalu'r gost. Ni ddylai elw preifat ddod yn agos at y gweithrediadau hyn. Am sarhad ar ein hanes fyddai hynny. Am sarhad i yfory ein trefi. Mae enghraifft fyw o hyn, wrth gwrs, ym Medwas, lle mae posibilrwydd gwirioneddol y gallem ni weld cwmni preifat yn adfer tomenni glo a'i ariannu trwy echdynnu glo. Mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd wedi dweud bod cwmnïau preifat yn cysylltu â'r cyngor yn rheolaidd gyda chynigion i adfer tomenni segur sy'n eiddo i'r cyngor. Byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth eto ailystyried—a byddaf yn gorffen ar y pwynt hwn, Dirprwy Lywydd—gan gynnwys gwelliannau ar wyneb y Bil i atal hyn rhag digwydd. Byddai'n cael ei gefnogi yn hynny nid yn unig gan aelodau'r pwyllgor, ond hefyd gan gymdeithas ddinesig, gan drigolion, a byddaf yn parhau i fynd ar drywydd y pwynt hwn. Nawr yw'r cyfle i atal hyn rhag digwydd unwaith ac am byth.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
I call on the Cabinet Secretary to reply to the debate.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Llywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Aelodau hefyd.
Thank you very much, Dirprwy Lywydd, and thank you very much to Members too.
Now, let me just make sense of some of my notes here in responding to a lot of contributions, and a lot of detailed contributions as well. Llyr, can I just begin with your contribution? You rightly reminded us about the need to look back to the events of Tylorstown, but also more recent events as well, such as Cwmtillery and elsewhere. That is why we are bringing this legislation forward, within all the technicalities and the engagement that we are having. And my intention, as I’ve shown today, in reflecting on the committee’s report, is to engage very collaboratively to improve this Bill. We can’t forget, in amongst all of that, that what we’re trying to do here is deal with instability of tips and the welfare of those communities that live with this industrial legacy. And I think it is worth reminding us all that that is what it’s about—this legislation will take this forward significantly from the previous legislation that’s on the book that does not deal with this legacy in this way.
You referred there, Llyr, to the fact that this is quite a sea change in the way we will deal with this, because this is to do with assessment, early intervention, monitoring, evaluation—a proactive approach, but also based on collaboration with landowners, and with authorities, to make sure that we’re ahead of the game here; we’re not waiting for events to happen, we are ahead of the game. And that is quite a sea change in itself.
Nawr, gadewch i mi wneud synnwyr o rai o'm nodiadau yma wrth ymateb i lawer o gyfraniadau, a llawer o gyfraniadau manwl hefyd. Llyr, a gaf i ddechrau gyda'ch cyfraniad chi? Fe wnaethoch chi ein hatgoffa'n briodol o'r angen i edrych yn ôl ar ddigwyddiadau Tylorstown, ond hefyd digwyddiadau mwy diweddar hefyd, fel Cwmtyleri ac mewn mannau eraill. Dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, gyda'r holl agweddau technegol a'r ymgysylltiad rydym yn ei gael. A fy mwriad i, fel yr wyf wedi dangos heddiw, wrth fyfyrio ar adroddiad y pwyllgor, yw i ymgysylltu ar y cyd mewn difrif i wella'r Bil hwn. Ni allwn ni anghofio, ymhlith hynny i gyd, mai'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yma yw ymdrin ag ansefydlogrwydd tomenni a lles y cymunedau hynny sy'n byw gyda'r gwaddol diwydiannol hwn. Ac rwy'n credu ei bod hi'n werth ein hatgoffa ni i gyd mai dyna ddiben hyn oll—bydd y ddeddfwriaeth hon yn datblygu hyn yn sylweddol o'r ddeddfwriaeth flaenorol sy'n bodoli nad yw'n ymdrin â'r gwaddol hwn yn y modd hwn.
Fe wnaethoch chi gyfeirio yn y fan yna, Llyr, at y ffaith bod hyn yn dipyn o newid yn y ffordd y byddwn yn ymdrin â hyn, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag asesu, ymyrraeth gynnar, monitro, gwerthuso—dull rhagweithiol, ond hefyd yn seiliedig ar gydweithredu â thirfeddianwyr, ac awdurdodau, i wneud yn siŵr ein bod ni gam ar y blaen yma; dydyn ni ddim yn aros i bethau ddigwydd, rydym ni gam ar y blaen. Ac mae hynny'n dipyn o newid ynddo'i hun.
And if I could turn to the matter that you raised on environmental law you touched on, now the proposal to actually carve out, somehow, environmental law is an interesting one. There have been calls to take some sweeping powers to switch off, in effect, environmental and planning laws where the authority—the new authority—considers that emergency works are required. Just to make it clear, as in my response to the committee, this would set quite a challenging precedent and real practical difficulties, given the wide range of the legislative framework in those areas. No detail has been given as to which laws should be switched off, the circumstances in which they would be turned off or for how long they would remain switched off, only that Welsh Ministers should be given a wide-ranging power of direction. It raises a number of issues. Switching off planning and environmental law in the way suggested is, as far as we're aware, unprecedented. It would be constitutionally significant, because it's not only areas of devolved law but areas of reserved competence as well. And, in addition, in practical terms, we'd need to do a considerable amount of work to fully understand the implications of giving the authority or Ministers the ability to switch off legislation in this way. In the remaining Bill timetable that we have, we have a year ahead of us. To work up, to fully develop, a policy to switch off environmental and planning legislation and to understand the wider impact, for example the impact on the wider planning system and local decision making, is quite a task. However, we are preparing amendments to ensure that emergency planning is a mandatory element of management plans, and the expectation is that those plans will include how to identify and mitigate potential environmental and planning issues, and for public authorities to agree on an approach in the event of an emergency. And in collaboration with statutory partners, including NRW, the WLGA and the Mining Remediation Authority, work is well under way on developing a protocol and working arrangements to assist the authority to work together and to expedite any consenting. So, there is a different way through this, and it's actually a way, by the way, that is well known, because it's the approach that's taken in terms of reservoirs. And it works. And it doesn't require carving out or derogation from planning or environmental powers.
If I could, Mike, also thank you as well. There were many points. I can't refer to all of them, but thank you, and others who have spoken, for the welcome of the thrust of this and the approach we've taken, the constructive approach, to the recommendations of your committee, not least the balance between what's on the face of the Bill and what can come through in guidance. And it is a judgment on this, but we do want to give the authority as well the flexibility to respond in the right way through guidance rather than bolt them into something on the face of the Bill. But we're bringing forward amendments, as we've said, in those areas.
And Pred, thank you as well, again, for your response and for responding positively to our willingness to bring forward additional information before Stage 1 on the finances, clarification on matters like prioritisation of funds, and other ways in which we've responded constructively to the recommendations of your committee as well.
Janet, if I could pick up very briefly on the point you made, you said that you agree with the vast majority of the Bill. That's a good starting point. I'll take that as a starting point. And we will look at all suggestions and amendments that are brought forward in the spirit of collaboration, scrutiny and improvement of the Bill. That's always been my hallmark as a Minister. But I would just implore you to think as well, in bringing forward amendments, not to seek to expand the scope of the Bill. The vast majority of people want this Bill to proceed to protect the welfare of these communities, to deal with the instability of our coal-tips legacy, want it to focus on the matter in hand and not to expand it to be a Christmas tree of all things hanging off it. And we have one year to do this in. Colleagues, we have one year to do this in. It is this year ahead. So, if we can focus very much on the substance that people are asking us to deliver within this, I can give you the guarantee that I'll engage with all amendments brought forward—but focus on what the scope of this Bill is meant to be, not on what is not there.
And on skills, Janet, when I appeared in front of committee, I went into some detail about the work we're doing with colleges at the moment. But also, by the way, because these are hydrological skills, civil engineering skills, this has great potential, with this authority and local authorities and contractors, to really boost, to give back to these communities in dealing with this legacy through employing and training young people in well-paid jobs to actually make good this legacy. Now, we're well advanced on that, and including that we recognise that we will, to fill some of the capacity gaps, as I mentioned in committee, need to draw in some international expertise as well, and there is good work that we're doing on that front as well, but more than happy to—.
And just to turn to the issue of coal and coal policy, which has been referred to in two different ways, one person—Janet—asking me, 'Can we exploit more coal?', and one saying, 'Can we keep it locked in the ground?'—. So, let me tell you where we actually are, and it's been long established within Welsh Government. And we did look at the committee's thoughts on how we would deal with this going forward. So, let me make it absolutely clear that the Welsh Labour Government's proposals within this Bill do not include any proposal that would enable generic remediation for the recovery of coal for commercial purposes exploitation, such as being sold for burning. It simply does not do that. The Welsh Government's policy remains that we are firmly against coal extraction, and our moratorium on mining for the purposes of commercial benefit remains in place. That is our existing coal policy.
The proposed Bill, this Bill—this Bill—is entirely focused on the stability of disused mine and quarry tips and on protecting the welfare of those communities impacted by the presence of these disused mine and quarry tips. So, the Government's coal policy statement states very clearly, and I'll quote, 'Coal is a non—'. Sorry, my apologies, I'm doing my classic of trying to respond in detail and I've gone over time.
Ac os caf i droi at y mater a godwyd gennych chi ar gyfraith amgylcheddol y gwnaethoch chi ei grybwyll, nawr mae'r cynnig i lunio, rywsut, cyfraith amgylcheddol yn un diddorol. Bu galwadau i gymryd rhai pwerau ysgubol i hepgor, mewn gwirionedd, deddfau amgylcheddol a chynllunio lle mae'r awdurdod—yr awdurdod newydd—o'r farn bod angen gwaith brys. Er mwyn ei gwneud hi'n glir, fel yn fy ymateb i'r pwyllgor, byddai hyn yn gosod cynsail eithaf heriol ac anawsterau ymarferol gwirioneddol, o ystyried ystod eang y fframwaith deddfwriaethol yn y meysydd hynny. Nid oes unrhyw fanylion wedi'u rhoi ynglŷn â pha gyfreithiau y dylid eu hepgor, yr amgylchiadau y cânt eu hepgor, neu am ba hyd y byddent yn aros wedi'u hepgor, dim ond y dylid rhoi pŵer cyfarwyddyd eang i Weinidogion Cymru. Mae'n codi nifer o faterion. Mae hepgor cyfraith cynllunio ac amgylcheddol yn y ffordd a awgrymwyd sydd, hyd y gwyddom ni, yn un ddigynsail. Byddai'n gyfansoddiadol arwyddocaol, oherwydd byddai'n ymwneud nid yn unig â meysydd cyfraith ddatganoledig ond meysydd cymhwysedd neilltuedig hefyd. Ac, yn ogystal, yn ymarferol, byddai angen i ni wneud cryn dipyn o waith i ddeall yn llawn y goblygiadau o roi'r gallu i'r awdurdod neu'r Gweinidogion hepgor deddfwriaeth yn y modd hwn. Yn yr amserlen sy'n weddill gennym i weithio ar y Bil, mae gennym ni flwyddyn o'n blaenau. Mae cynllunio, datblygu'n llawn, polisi i hepgor deddfwriaeth amgylcheddol a chynllunio ac i ddeall yr effaith ehangach, er enghraifft yr effaith ar y system gynllunio ehangach a gwneud penderfyniadau lleol, yn dipyn o dasg. Fodd bynnag, rydym yn paratoi gwelliannau i sicrhau bod cynllunio at argyfyngau yn elfen orfodol o gynlluniau rheoli, a'r disgwyliad yw y bydd y cynlluniau hynny'n cynnwys sut i adnabod a lliniaru materion amgylcheddol a chynllunio posibl, ac i awdurdodau cyhoeddus gytuno ar ddull gweithredu mewn argyfwng. Ac mewn cydweithrediad â phartneriaid statudol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Awdurdod Adfer Mwyngloddio, mae gwaith ar y gweill ar ddatblygu protocol a threfniadau gweithio i gynorthwyo'r awdurdod i weithio gyda'i gilydd ac i brysuro unrhyw ganiatâd. Felly, mae ffordd wahanol o ymdrin â hyn, ac mae'n ffordd mewn gwirionedd, gyda llaw, sy'n adnabyddus, oherwydd ymdrinnir fel hyn â chronfeydd dŵr. Ac mae'n gweithio. Ac nid oes angen cynllunio na rhanddirymu pwerau cynllunio neu amgylcheddol.
Pe gallwn i, Mike, ddiolch i chi hefyd. Roedd yna lawer o bwyntiau. Ni allaf gyfeirio at bob un ohonyn nhw, ond diolch i chi, ac i eraill sydd wedi siarad, am groesawu byrdwn hyn a'r ffordd yr aethom ni ati, yr ymagwedd adeiladol, at argymhellion eich pwyllgor, yn enwedig y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn y gellir ei gyfleu mewn canllawiau. Ac mae'n farn ar hyn, ond fe hoffem ni roi'r hyblygrwydd i'r awdurdod hefyd ymateb yn y ffordd gywir trwy ganllawiau yn hytrach na'u hasio at rywbeth ar wyneb y Bil. Ond rydyn ni'n cyflwyno gwelliannau, fel y dywedom ni, yn y meysydd hynny.
A Pred, diolch i chi hefyd, eto, am eich ymateb ac am ymateb yn gadarnhaol i'n parodrwydd i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol cyn Cyfnod 1 ar y cyllid, eglurhad ar faterion fel blaenoriaethu cronfeydd, a ffyrdd eraill yr ydym ni wedi ymateb yn adeiladol i argymhellion eich pwyllgor hefyd.
Janet, pe gallwn i grybwyll yn fyr iawn y pwynt a wnaethoch chi, fe ddywedoch chi eich bod yn cytuno â'r mwyafrif helaeth o'r Bil. Mae hynny'n fan cychwyn da. Byddaf yn cymryd hynny fel man cychwyn. A byddwn yn edrych ar yr holl awgrymiadau a gwelliannau sy'n cael eu cyflwyno yn ysbryd cydweithio, craffu a gwella'r Bil. Dyna fu fy nodwedd fel Gweinidog erioed. Ond byddwn yn erfyn arnoch chi i feddwl hefyd, wrth gyflwyno gwelliannau, i beidio â cheisio ehangu cwmpas y Bil. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl eisiau i'r Bil hwn fynd rhagddo i amddiffyn lles y cymunedau hyn, i ymdrin â'r ansefydlogrwydd rydym ni wedi ei etifeddu gan y diwydiant glo, eisiau iddo ganolbwyntio ar y mater dan sylw a pheidio â'i ehangu i fod yn goeden Nadolig o bopeth sy'n hongian oddi arno. Ac mae gennym ni flwyddyn i wneud hyn. Gyd-aelodau, mae gennym flwyddyn i wneud hyn. Mae'n eleni o'n blaenau. Felly, os gallwn ni ganolbwyntio'n fawr ar y sylwedd y mae pobl yn gofyn i ni gyflawni hyn o'i fewn, gallaf roi'r sicrwydd i chi y byddaf yn rhoi sylw â'r holl welliannau a gyflwynir—ond canolbwyntiwch ar beth yw cwmpas y Bil hwn i fod, nid ar yr hyn nad yw wedi ei gynnwys.
Ac o ran sgiliau, Janet, pan ymddangosais o flaen y pwyllgor, soniais am rai o fanylion y gwaith rydym ni'n ei wneud gyda cholegau ar hyn o bryd. Ond hefyd, gyda llaw, oherwydd bod y rhain yn sgiliau hydrolegol, sgiliau peirianneg sifil, mae gan hyn botensial mawr, gyda'r awdurdod hwn ac awdurdodau lleol a chontractwyr, i roi hwb gwirioneddol i'r cymunedau hyn wrth ymdrin â'r gwaddol hwn trwy gyflogi a hyfforddi pobl ifanc mewn swyddi â chyflog da i wneud y gwaddol hwn yn beth da. Nawr, rydym ni wedi gwneud cynnydd da ar hynny, gan gynnwys ein bod yn cydnabod y bydd angen inni, er mwyn llenwi rhai o'r bylchau capasiti, fel y soniais yn y pwyllgor, fanteisio ar rywfaint o arbenigedd rhyngwladol hefyd, ac mae gwaith da rydym ni'n ei wneud yn hynny o beth hefyd, ond byddwn yn fwy na hapus i—.
A dim ond i droi at fater glo a pholisi glo, y cyfeiriwyd atyn nhw mewn dwy ffordd wahanol, gofynnodd un person— Janet—imi, 'A allwn ni gloddio mwy o lo?', ac un yn dweud, 'A allwn ni ei gadw dan glo yn y ddaear?'—. Felly, gadewch i mi ddweud wrthych chi ble rydym ni arni mewn gwirionedd, a dyma'r farn ers tro byd yn Llywodraeth Cymru. Ac fe wnaethom ni edrych ar feddyliau'r pwyllgor ynghylch sut y byddem yn ymdrin â hyn yn y dyfodol. Felly, gadewch imi ei gwneud hi'n gwbl glir nad yw cynigion Llywodraeth Lafur Cymru o fewn y Bil hwn yn cynnwys unrhyw gynnig a fyddai'n galluogi adfer generig ar gyfer adfer glo at ddibenion manteision masnachol, megis cael ei werthu i'w losgi. Nid yw'n gwneud hynny. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gryf yn erbyn echdynnu glo, ac mae ein moratoriwm ar fwyngloddio at ddibenion budd masnachol yn parhau i fod ar waith. Dyna ein polisi glo presennol.
Mae'r Bil arfaethedig, y Bil hwn—y Bil hwn—yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar sefydlogrwydd mwyngloddiau a chwareli nas defnyddir ac ar amddiffyn lles y cymunedau hynny yr effeithir arnyn nhw gan bresenoldeb y mwyngloddiau a'r chwareli hyn nas defnyddir. Felly, mae datganiad polisi glo y Llywodraeth yn nodi'n glir iawn, a byddaf yn dyfynnu, 'Nid yw glo yn—'. Mae'n ddrwg gennyf, ymddiheuriadau, rwy'n gwneud fy hen arfer o geisio ymateb yn fanwl ac rwyf wedi mynd dros fy amser.
I appreciate that, but, according to my time, you're way over.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond, yn ôl fy amser i, rydych chi ymhell drosto.
Okay. Just very, very briefly, our policy states:
'Coal is a non-renewable energy source.'
I say, to all members of the climate change committee:
'All proposals for the extraction of coal, including any secondary coal products produced during mining operations, which are destined for energy markets, must clearly demonstrate why they are needed in the context of climate change emission reduction targets.'
You can't be clearer than that. You may disagree with it, Janet, but I cannot be clearer. This Government cannot be clearer.
Now I realise I haven't now responded to all of my colleagues, Dirprwy Lywydd. Delyth, why 2027 for the authority? Because this is, based on previous experience, how long it takes to set up a new authority, with things like IT systems, procurement, recruitment, development of guidance and so on. That is a reasonable timescale.
Multi-annual funding—I mentioned that my Cabinet Secretary colleague for finance and the Welsh language has already engaged with the UK Government and has made clear our request for the additional funding that would allow multi-annual funding of larger scale projects going forward as well. And on coal extraction, I've just answered it in terms of our coal policy.
But to all the points that I haven't responded to, can I just thank colleagues for their support for this in terms of this debate on the principle of it? I'm looking forward to engaging with all Members as this goes forward. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; thank you for your patience.
O'r gorau. Yn fyr iawn, iawn, mae ein polisi yn nodi:
'Mae glo yn ffynhonnell ynni anadnewyddadwy.'
Rwy'n dweud, wrth holl aelodau'r pwyllgor newid hinsawdd:
'Rhaid i bob cynnig ar gyfer echdynnu glo, gan gynnwys unrhyw gynhyrchion glo eilaidd a gynhyrchir yn ystod gweithrediadau cloddio, sydd ar gael ar gyfer marchnadoedd ynni, ddangos yn glir pam y mae eu hangen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd.'
Allwch chi ddim bod yn gliriach na hynny. Efallai y byddwch chi'n anghytuno â hynny, Janet, ond ni allaf fod yn gliriach. Ni all y Llywodraeth hon fod yn gliriach.
Nawr rwy'n sylweddoli nad wyf wedi ymateb i'm holl gyd-Aelodau, Dirprwy Lywydd. Delyth, pam 2027 i'r awdurdod? Oherwydd dyma, yn seiliedig ar brofiad blaenorol, pa mor hir mae'n ei gymryd i sefydlu awdurdod newydd, gyda phethau fel systemau TG, caffael, recriwtio, datblygu canllawiau ac yn y blaen. Mae hynny'n amserlen resymol.
Cyllid amlflynyddol—soniais fod fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid a'r Gymraeg eisoes wedi bod yn trafod â Llywodraeth y DU ac wedi gwneud yn glir ein cais am y cyllid ychwanegol a fyddai'n caniatáu cyllid aml-flwyddyn ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy yn y dyfodol hefyd. Ac o ran echdynnu glo, rydw i newydd ateb hynny o ran ein polisi glo.
Ond o ran yr holl bwyntiau nad wyf wedi ymateb iddyn nhw, a gaf i ddiolch i gyd-Aelodau am eu cefnogaeth i hyn o ran y ddadl hon o ran ei hegwyddor? Rwy'n edrych ymlaen at drafod â'r holl Aelodau wrth i hyn fynd ymlaen. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch am eich amynedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion under item 9. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The next proposal is to agree the motion under item 10. Does any Member object? No. That motion is also agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.
And that brings today's proceedings to a close. Thank you very much.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:23.
The meeting ended at 18:23.