Y Cyfarfod Llawn
Plenary
18/03/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf. Y cwestiwn cyntaf, Laura Anne Jones.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yn y sector amddiffyn yng Nghymru? OQ62487

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth busnes cynhwysfawr i gwmnïau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yn y sector amddiffyn. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys arloesi, allforio a datblygu sgiliau.
Diolch. Yn ystod y tensiynau byd-eang cynyddol, mae'n hanfodol, wrth gwrs, bod Cymru yn chwarae ei rhan yn strategaeth amddiffyn y DU. Yr wythnos diwethaf, ochr yn ochr â fy arweinydd, Darren Millar, ymwelais â Sierra Nevada Corporation Misson Systems UK yn Sain Tathan, stori lwyddiant yng Nghymru sy'n datblygu ac yn darparu galluoedd amddiffyn hanfodol i'r DU a'i chynghreiriaid. Yr hyn yr oeddwn i'n meddwl—yn fy swydd portffolio newydd—oedd mor wych oedd bod 60 y cant o'i weithlu wedi'i gyfansoddi o gyn-filwyr, yn ogystal â chyfleoedd gwych i raddedigion gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg hefyd, i gyd gael swyddi uwch-dechnoleg, â chyflogau uchel, ac i gael eu hyfforddi yn y swydd, o ran y cyn-filwyr. Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i feithrin cysylltiadau a rhoi mwy o gyn-filwyr mewn swyddi â chyflogau uchel ledled Cymru? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn. Ac mae hynny'n newyddion da iawn eu bod nhw'n defnyddio rhai o'r sgiliau a'r doniau y maen nhw wedi eu datblygu wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog, i ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy hynny i helpu i gefnogi swyddi a'r economi yn lleol. Felly, mae hynny'n newyddion da iawn. Ac rydym ni'n gobeithio, wrth gwrs, y bydd cyfleoedd. Rydym ni'n gwybod y bydd cynnydd sylweddol i'r swm a fydd yn cael ei wario ar amddiffyn gan Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig iawn ein bod ni, yng Nghymru, yn cael ein cyfran deg o'r cyllid hwnnw. Ceir 285 o gwmnïau yng Nghymru sy'n gysylltiedig ag amddiffyn, ac mae gan wyth o'r 11 o gwmnïau awyr ac amddiffyn byd-eang gorau bresenoldeb sylweddol yng Nghymru. Felly, ceir cyfle gwirioneddol, ond mae hynny'n rhywbeth y mae hi, efallai, yn werth mynd ar ei drywydd hyd yn oed ymhellach, dim ond o ran gwneud yn siŵr ein bod ni'n cysylltu cyn-filwyr y lluoedd arfog â'r swyddi newydd posibl hynny.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r ateb yna. Rwyf innau hefyd wedi ymweld â nifer ac wedi cyfarfod â nifer o gwmnïau amddiffyn yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac maen nhw'n edrych tuag at ehangu ar hyn o bryd. Hoffwn eich gwahodd i ymweld â ffatri gyda mi yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd i siarad am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo'n rhagweithiol cwmnïau sy'n bwriadu buddsoddi mewn amddiffyn y wlad hon, yn ein democratiaeth a'n gwerthoedd ar yr adeg fwyaf tyngedfennol i'r byd, a hefyd sicrhau bod cwmnïau yn gallu cydweithio fel clwstwr, gan atgyfnerthu llinellau cyflenwi a chadwyni cyflenwi, buddsoddi mewn hyfforddiant i bobl leol, a buddsoddi mewn seilwaith sy'n golygu bod y buddsoddiadau yr ydym ni'n bwriadu eu gwneud heddiw yn fuddsoddiadau ar gyfer yr hirdymor ac nid y byrdymor yn unig.

Wel, diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir—rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n chwilio am y cyfleoedd hyn, a'r cynnydd sylweddol hwnnw sy'n mynd i gael ei wneud gan Lywodraeth y DU. Rwy'n benderfynol, fel y mae, rwy'n gwybod, Ysgrifennydd yr economi, sydd wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith ar hyn eisoes, gan nodi pa gwmnïau yw'r rheini sydd gennym ni a allai gynnig i gynorthwyo Llywodraeth y DU yn ei hymdrechion, ond hefyd gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda'r strategaeth ddiwydiannol amddiffyn sy'n deillio o strategaeth ddiwydiannol y DU, a sut y gall hynny fod o fudd i Gymru. Felly, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd yr economi yn awyddus iawn nid yn unig i edrych ar weithgynhyrchu a chydrannau a phethau, ond hefyd i wneud yn siŵr bod ein prifysgolion yn weithredol yn y maes hwn hefyd. Ond byddwn yn fwy na pharod i fynd ar ymweliad gyda chi yn eich etholaeth.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i wella’r ddarpariaeth iechyd a llesiant ar gyfer trigolion dyffryn Nantlle? OQ62472

Rŷn ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau iechyd a llesiant ledled Cymru. Mae’r camau gweithredu ar gyfer 'Cymru Iachach' wedi cael eu diweddaru, ac maen nhw’n cynnwys mynediad cyfartal at y system iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau canlyniadau teg.
Dwi yn bryderus am ddiffyg cynnydd sylweddol efo cynllun i wella’r cyfleusterau iechyd a llesiant yn nyffryn Nantlle yn fy etholaeth i. Er gwaethaf sawl addewid ac ymgynghoriad, ers o leiaf saith mlynedd, mae’r safle a glustnodwyd ar gyfer canolfan iechyd a llesiant Lleu yn parhau i fod yn wag. Does yna ddim sôn am y newidiadau mawr a addawyd ac mae pobl leol yn hynod siomedig, a dwi'n rhannu eu rhwystredigaeth. Mi fyddaf i'n cadeirio cyfarfod cymunedol, sy'n cael ei drefnu ar gyfer Ebrill 7, ym Mhen-y-groes. Fedrwch chi fy nghefnogi i, felly, os gwelwch yn dda, wrth ymuno yn y galwadau am ddiweddariad ar y sefyllfa gan y bwrdd iechyd a gan grŵp Cynefin? Rydyn ni wir angen diweddariad llawn erbyn y cyfarfod ar 7 Ebrill, ac mi fyddai cael cefnogaeth gan Brif Weinidog Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn gan y bobl dwi'n eu cynrychioli yn nyffryn Nantlle.

Diolch yn fawr i chi, Siân. Dwi'n gwybod bod yna frwdfrydedd aruthrol i ddatblygu prosiect o'r math yma yn nyffryn Nantlle. Dŷch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi £1.2 miliwn i grŵp Cynefin i ddatblygu'r syniad yma, felly dyw hwnna ddim yn swm bach o arian i ddatblygu cynllun. Mi oedden nhw, tra'u bod nhw'n datblygu hwn, yn edrych ar nifer o ffynonellau ariannol annibynnol a gwahanol, yn cynnwys Cyngor Gwynedd a'r Loteri Genedlaethol. Ond y ffaith yw bod yna nifer o bartneriaid wedi tynnu allan o'r prosiect, ac nid bai Llywodraeth Cymru yw hwnna. Nawr, dwi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â Cynefin ym mis Chwefror, eu bod nhw'n ailasesu'r model gwreiddiol oedd wedi cael ei gynnig, ac mi fydd yna ddiweddariad ddiwedd y mis yma. Dwi'n meddwl bod Betsi'n cydnabod bod y feddygfa angen cael ei hadnewyddu, ond dwi'n gwybod bod y Gweinidog iechyd wedi trafod gyda chadeirydd y bwrdd iechyd ddoe ar y mater yma, ond rŷn ni'n aros i gael y diweddariad yna rŷn ni'n ei ddisgwyl erbyn diwedd y mis.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n bum mlynedd y penwythnos hwn ers cyflwyno cyfyngiadau symud yn ystod pandemig COVID a ysgubodd Gymru. Roedd gan bob un ohonom ni ffrindiau, cymdogion neu hyd yn oed berthnasau a oedd yn ddifrifol wael. Collodd rhai eu bywydau oherwydd pandemig COVID-19. Felly, mae'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod ni'n dysgu pob gwers bosibl o'r hyn a ddigwyddodd. I'r perwyl hwn, mae fy mhlaid wedi galw yn gyson am ymchwiliad cyhoeddus llawn, penodol i Gymru i'r ymateb i'r pandemig yma—rhywbeth y gwrthododd eich rhagflaenydd, y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford. A ydych chi'n rhannu ei farn?

Ydw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n caniatáu i'r ymchwiliad cyhoeddus, sydd wedi treulio nifer enfawr o oriau ac sydd wedi cymryd tystiolaeth gan Weinidogion ar draws Llywodraeth Cymru—. Ni allaf ddweud wrthych chi faint o oriau o waith sydd wedi mynd i mewn i hyn gan, yn sicr, Gweinidogion y Llywodraeth, a swyddogion yn sicr, ac nid wyf i'n credu y byddai ailadrodd y gwaith hwnnw yn gwneud synnwyr i unrhyw un. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw dweud os oes unrhyw fylchau nad ydyn nhw wedi cael sylw gan yr ymchwiliad swyddogol, yna bydd y pwyllgor a sefydlwyd yn y Senedd yn edrych ar y rheini. Rwy'n gwybod yr hoffwn ddiolch i ddau Gadeirydd y pwyllgor am y gwaith y maen nhw'n yn ei wneud o ran hynny.
Wel, mae hynny yn brin iawn, a dweud y gwir, o'r hyn y mae'r cyhoedd eisiau ei weld, ac yn sicr yr hyn y mae'r comisiynydd pobl hŷn, y teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth COVID a phob plaid arall yn y Senedd hon eisiau ei weld, sef ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru. Nawr, fe wnaeth eich plaid atal darpariaeth ymchwiliad penodol i Gymru, ond yr hyn y cytunwyd arno oedd y sefyllfa gyfaddawd hon, gyda phwyllgor ymchwiliad COVID-19 pwrpas arbennig yma yng Nghymru, i ystyried y bylchau hynny, fel yr ydych chi newydd ei nodi. Nawr, er mwyn i'r pwyllgor hwnnw gael ei gymryd o ddifrif, mae'n rhaid iddo gael y pwerau sydd eu hangen arno a rhoi hyder i'r cyhoedd ei fod yn gwneud ei waith yn iawn. Dyna pam, ym mis Ionawr, yr ysgrifennodd y pwyllgor at Bwyllgor Busnes y Senedd i ofyn am y grym i allu ei gwneud yn ofynnol i dystion, fel Gweinidogion ac uwch swyddogion, a chyn-Weinidogion ac uwch swyddogion, roi tystiolaeth o dan lw. Byddai hynny yn rhoi hyder i'r cyhoedd yn eu gwaith. Felly, pam wnaeth eich rheolwr busnes y bore yma rwystro'r cais penodol hwnnw gan y pwyllgor?

Yr ateb yw oherwydd nad yw'n ymchwiliad cyhoeddus. Dyna sut mae'r system yn gweithio. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur iawn ynglŷn â sut rydym ni'n mynd i drefnu hyn. Mae llawer iawn o arian cyhoeddus wedi cael ei wario ar hyn eisoes, mae llawer iawn o waith cyfreithiol wedi cael ei wneud ar hyn eisoes. Rwy'n cydnabod bod pobl a ddioddefodd yn ystod y pandemig eisiau atebion. Maen nhw'n cael atebion. Mae'n ddiddorol iawn edrych ar y mater penodol y maen nhw'n canolbwyntio arno ar hyn o bryd, sef y system cyfarpar diogelu personol. Ac rydym ni wedi ei gwneud yn eglur iawn, o ran cyfarpar diogelu personol yng Nghymru, ein bod ni wedi gwneud gwaith llawer iawn gwell na'r gwastraff gwbl gywilyddus y gwnaeth eich plaid chi ei dderbyn, a'r anonestrwydd llwyr, lle'r oedd gennych chi ffrindiau yn cael contractau gwerth miliynau ar filiynau o bunnoedd ar gyfer cyfarpar diogelu personol nad oedd modd ei ddefnyddio. Mae'n sgandal ac rwy'n falch ei fod yn dod i'r amlwg yn yr ymchwiliad cyhoeddus. Ni fyddwch chi'n canfod hynny yng Nghymru.
Rwy'n siomedig iawn gyda'r atebion hyn, Prif Weinidog. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi'r gallu i'r Senedd hon alw tystion dan lw i roi tystiolaeth i'n pwyllgorau. Prin fydd y rhai sy'n cael eu perswadio gan eich dadl na ddylid tyngu llw oherwydd nad yw hwn yn ymchwiliad cyhoeddus. Pam ydych chi'n rhwystro ei gwneud yn ofynnol i dystion ddweud y gwir drwy ofyn iddyn nhw dyngu llw? Heddiw, yn San Steffan, cyhoeddodd eich cydweithwyr gyfraith Hillsborough, a fydd yn cael ei phasio eleni i'w gwneud yn ofynnol i swyddogion sy'n rhoi tystiolaeth i ymchwiliadau ddweud y gwir. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y byddem ni ar yr ochr hon i'r Siambr a, gobeithio, pawb yn y Siambr hon, yn ei gefnogi'n llawn. Felly, pam ydych chi'n rhwystro cais syml am ofyniad i dyngu llw cyn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor pwrpas arbennig hwn yn y Senedd hon? Rydym ni'n gwybod bod pandemig COVID wedi dinistrio bywydau, ei fod wedi dinistrio bywoliaethau, ac mae ei ganlyniadau i iechyd pobl, i'w haddysg ac i'w busnesau, yn anffodus, yn dal i gael eu teimlo ledled Cymru. Felly, os na wnaiff eich Llywodraeth gytuno i ganiatáu i'r pwyllgor hwnnw gymryd tystiolaeth dan lw, a wnewch chi o leiaf gytuno i ganiatáu'r Senedd hon, yn amser y Llywodraeth, ystyried y mater hwn a rhoi'r gallu i'r Senedd hon gael pleidlais ar ba un a ddylid rhoi'r pwerau hyn i'r pwyllgor penodol hwnnw, oherwydd dyna mae pobl yn galw amdano?

Edrychwch, mae gennym ni ymchwiliad cyhoeddus sydd yng nghanol y broses o adrodd. Mae'n llawer iawn o waith. Rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr i ni adael i'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw gyflawni ei waith. A'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw edrych ar y gwahanol fodiwlau, un ar y tro, i weld ble mae'r bylchau, a dyna'n union y mae'r pwyllgor pwrpas arbennig yn ei wneud. Pe baech chi'n dechrau cyflwyno gwahanol ffurf, byddai'n golygu y byddai llawer o bobl yn cael eu heithrio rhag gallu rhoi eu datganiadau tyst. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod y cyhoedd yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r dull gofalus hwnnw a fabwysiadwyd yng Nghymru yn fawr, a dyna pam wnaethon nhw bleidleisio'r Blaid Lafur yn ôl i mewn gyda phleidlais sylweddol yn yr etholiad diwethaf. Fe ddywedaf wrthych chi'r hyn na wnaethon nhw ei wneud, doedden nhw ddim yn gwerthfawrogi'r ffordd y gwnaeth y Blaid Geidwadol gael parti yn Downing Street ar y diwrnod yr oedd y Frenhines yn galaru ei gŵr. Roedd hynny'n gywilyddus. Dyna'r math o beth y mae angen ei ddatgelu a doedd dim o hynny yn digwydd yma yng Nghymru.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU heddiw wedi cyhoeddi toriadau cosbol i les a fydd, heb amheuaeth, yn arwain at ddwyn ymdeimlad o urddas oddi wrth llawer o bobl anabl ac at ddal mwy o bobl mewn tlodi. Mae dadl i'w gwneud bob amser dros wella'r system les, ond nid torri achubiaeth ariannol sy'n caniatáu i'r rhai mwyaf agored i niwed ymgymryd â thasgau sylfaenol yw hynny. Yr wythnos diwethaf, rhoddais ddau gyfle i'r Prif Weinidog gondemnio gweithredoedd Llywodraeth y DU yn hyn o beth, yn enwedig o ystyried yr effaith uniongyrchol y bydd yn ei chael ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ei hun. Gwrthododd wneud hynny ddwywaith. Nawr ei bod wedi gweld rhywfaint o'r manylion, a wnaiff hi hynny heddiw?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod y bu pobl ledled Cymru gyfan sydd wedi bod yn bryderus iawn am y dyfalu sydd wedi bod yn digwydd dros y diwrnodau diwethaf, ac rwy'n cydnabod y pryder hwnnw. Dyna pam y siaradais yn bersonol â Rhif 10 yr wythnos diwethaf, i amlinellu rhai o'n pryderon o ran yr effaith bosibl ar rai o'n cymunedau yng Nghymru. Ac rwy'n falch iawn o weld bod llawer o'r pryderon hynny wedi cael eu cymryd i ystyriaeth ac y bydd y rhai mwyaf agored i niwed yn parhau i gael eu diogelu. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod angen diwygio'r system. Fe wnaethoch chi siarad eich hun am bobl yn cael eu dal mewn tlodi. Mae budd-daliadau yn dal pobl mewn tlodi. Mae angen i ni roi ysgol i bobl allan o fudd-daliadau ac allan o dlodi. Mae angen i chi wneud hynny drwy adennill ymddiriedaeth a thegwch, ac rwy'n falch y bydd hynny, yn arbennig, yn cael sylw.
Eto heddiw rydym ni'n clywed y Prif Weinidog yma yng Nghymru yn amddiffyn gweithredoedd Llywodraeth y DU a fydd yn cael effaith niweidiol ar y bobl y mae'n eu gwasanaethu. Pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan, dywedodd y Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu:
'mae hyn yn anodd iawn i ni tra bod y Torïaid mewn grym yn San Steffan yn gwneud y mathau hynny o doriadau.... Rwy'n credu bod y toriadau sy'n cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth Dorïaidd yn gwbl annerbyniol.'
Pam mae Andy Burnham, maer Llafur Manceinion, yn gallu canfod y nerth i feirniadu gweithredoedd y Llywodraeth Lafur, tra ei bod hi'n dewis peidio? Fel y dywedais i yr wythnos diwethaf, ac rwy'n ailadrodd heddiw, bydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn cael effaith uniongyrchol ar bobl Cymru ac yn arwain heb amheuaeth at fwy o bwysau ar gyllidebau Cymru.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn aelod o grwpiau rhyngweinidogol rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur o'r enw 'Lliniaru effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU'. Felly, mae'n rhaid i'r Prif Weinidog roi'r gorau i esgus nad yw hwn yn fater iddi hi, neu nad yw penderfyniadau Llafur yn San Steffan yn cael effaith uniongyrchol ar ei Llywodraeth.
Soniodd am rai trafodaethau anffurfiol a gafodd yr wythnos diwethaf. A wnaeth Liz Kendall ymgynghori'n ffurfiol â Llywodraeth Cymru cyn y cyhoeddiad heddiw? Ac os na wnaeth, a wnaeth y Prif Weinidog, ac eithrio'r sgyrsiau anffurfiol hynny yr wythnos diwethaf, gyflwyno sylwadau ffurfiol i Lywodraeth y DU ar ran y rhai a fydd yn dioddef o ganlyniad i amgylchedd lles gelyniaethus Llafur?

Do, mi wnes i. Siaradais yn uniongyrchol â Rhif 10 fy hun, ac ysgrifennais at Liz Kendall yn gwneud yn siŵr ei bod yn asesu sut y gallai unrhyw newidiadau effeithio ar Gymru a phobl yng Nghymru. Mae Papur Gwyrdd, fel yr wyf i'n ei deall, a fydd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Bydd cyfle i ymateb i hwnnw. Fel y gallwch chi ddychmygu, nid ydym wedi cael amser i edrych drwy fanylion yr hyn a gynigiwyd. Ond un peth yr wyf i'n falch o'i ddweud yw ein bod ni wedi gallu dangos sut mae sefyll gyda phobl ac ochr yn ochr â phobl yn eu hymdrechion i ddychwelyd i waith, fel yr ydym ni wedi ei wneud gyda'n gwarant i bobl ifanc, yn gwneud gwahaniaeth. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yn arbennig o ran diweithdra ymhlith pobl ifanc yw bod diweithdra yng Nghymru hanner yr hyn y mae yn Lloegr o ganlyniad i'r mentrau y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'u cyflwyno ac yn eu darparu. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn dysgu o'n profiad ni ac roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn copïo'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yma yng Nghymru gyda'r canlyniadau hynny.
Eto, heb amheuaeth, bydd cefnogwyr Llafur, pobl sydd wedi bod yn ffyddlon i Lafur dros y blynyddoedd, yn siomedig bod y Prif Weinidog unwaith eto yn gwrthod manteisio ar y cyfle i feirniadu'r penderfyniadau hyn, a fydd yn cael effaith drom ar bobl yng Nghymru.
Dros y penwythnos, roeddwn i'n rhoi'r cyffyrddiadau olaf i'm haraith gynhadledd ar gyfer y penwythnos hwn. Nid wyf i'n eiddigeddus o'r Prif Weinidog, yr wyf i'n tybio bod yn rhaid iddi ofyn am farn Prif Weinidog y DU ar ei un hi hefyd. Ond pe bawn i'n dweud yn fy araith fy mod i'n anghytuno'n chwyrn â thoriadau Llafur i les, bod gwrthodiad Llafur i ddatganoli Ystad y Goron a darparu cyllid canlyniadol HS2 yn anesgusodol, a phe bawn i'n dweud y bydd Cymru ar ei hennill pan fydd gennym ni Brif Weinidog sy'n barod i wrthwynebu San Steffan ar ran pobl Cymru, sut mae'r Prif Weinidog yn dychmygu y bydd y gynulleidfa yn ymateb?

Fe ddywedaf i wrthych chi'r hyn y bydden nhw'n ymateb iddo: bydden nhw'n ymateb i'r math o flaenoriaethau a nodwyd gennym ni ac a fu gennym ni fel blaenoriaethau yn ein cyllideb—y gwnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid arno wythnos neu ddwy yn ôl, yn erbyn £4 biliwn yn dod i mewn i'r gwasanaethau rheng flaen hynny.
Gadewch i ni fod yn gwbl eglur: rydym ni'n cydnabod bod effaith o ran newidiadau lles ar Gymru, a dyna pam wnes i gysylltu fy hun yn bersonol â'r mater hwn gyda Rhif 10. Fel y dywedais i, rwy'n falch iawn bod rhai o'r pwyntiau hynny wedi cael eu cymryd i ystyriaeth. Rwy'n falch y byddwn ni'n gweld cynnydd uwch na chwyddiant parhaol i gredyd cynhwysol, na fyddwn ni'n gweld pobl ar gredyd cynhwysol ag anableddau gydol oes difrifol yn gorfod wynebu ailasesiad budd-daliadau. Hefyd, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd hawl i roi cynnig ar waith heb ofni peryglu budd-daliadau. Y gwir amdani yw bod angen diwygio'r system. Nid wyf i eisiau gweld pobl yn cael eu dal ar fudd-daliadau.
Roedd yn ddiddorol iawn darllen yr adroddiad pwyllgor rhyfeddol hwn, 'Mynd i'r afael â'r Bwlch Cyflogaeth Anabledd'. Dyma'r hyn y dylem ni fod yn canolbwyntio arno: sut ydym ni'n cael pobl sy'n ysu i ddechrau gweithio i mewn i waith? Rydym ni'n falch iawn bod gennym ni gynllun hawliau pobl anabl, a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan, yn edrych yn union ar sut rydym ni'n sefyll gyda ac ochr yn ochr â phobl sy'n ysu i ddechrau gweithio. Dyna mae'r Blaid Lafur yn ei wneud yng Nghymru.
3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu ei hadolygiad ei hun o'r diwydiant dŵr i asesu rhinweddau dod ag ef i berchnogaeth gyhoeddus? OQ62486

Rŷn ni wedi ymrwymo’n llawn i’r adolygiad annibynnol presennol o’r sector dŵr, a gafodd ei gomisiynu ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd yr adolygiad yma’n asesu heriau systemig ac yn gwneud argymhellion ar gyfer dyfodol Cymru. Ar ôl cael yr adroddiad terfynol, bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn amlinellu camau nesaf Llywodraeth Cymru.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae prif gwmni dŵr Cymru wedi bod yn ymddwyn yn fwyfwy tebyg i gwmnïau sector preifat ar draws y ffin, pa un ai trwy dalu bonysys anferth neu ollwng carthion i'n hafonydd, tra bod biliau yn cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu bod model ar sail perchnogaeth gyhoeddus yn dod â chanlyniadau gwell, ond mae'r comisiwn rydych chi newydd gyfeirio ato fe, Brif Weinidog, wedi cau mas yr opsiwn o wladoli oherwydd y gost y byddai yna o ran iawndal i gyfranddalwyr. Ond yn achos Dŵr Cymru, dyw hynny ddim yn codi achos bod yna ddim cyfranddalwyr. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn fodlon, yn gyfochrog â gwaith y comisiwn annibynnol, comisiynu cyngor annibynnol ynglŷn â'r model o greu awdurdod dŵr i Gymru a fyddai'n atebol nid i fwrdd o unigolion ond i Senedd a phobl Cymru?
Diolch yn fawr. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor sensitif yw pwnc dŵr yng Nghymru, ac mae'n bwysig ein bod ni'n ei drin yn briodol. Mae gennym ni hanes o weld pethau fel Tryweryn ac mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydym ni'n gweld y mathau hynny o bethau yn cael eu hailadrodd. Dyma un o'r adolygiadau annibynnol mwyaf helaeth o'r sector dŵr o ran rheoleiddio ers preifateiddio. Felly, mae hwn yn adolygiad cynhwysfawr. Bydd y pwyslais ar adfer iechyd afonydd, llynnoedd a moroedd, a hefyd ar ysgogi twf economaidd. Nid yw gwladoli yn cael ei ystyried oherwydd y costau uchel, ond hefyd yr oedi y byddai'n ei achosi o ran sicrhau canlyniadau gwell i ddefnyddwyr a'r amgylchedd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed y bydd Deddf Dŵr newydd y DU (Mesurau Arbennig) 2025 yn rhoi pwerau i Ofwat wahardd gwneud taliadau bonws i benaethiaid dŵr os byddan nhw'n methu â bodloni safonau uchel o ran diogelu'r amgylchedd, defnyddwyr a chyllid eu cwmnïau.
Yn adroddiad ar berfformiad 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd Dŵr Cymru yn gyfrifol am 107 o ddigwyddiadau llygredd carthffosiaeth. Bu gwelliannau i ddigwyddiadau llygredd hunan-adroddedig a adroddwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru, ond ar 70 y cant, mae'n dal i fod yn brin o'r targed o 80 y cant. Fodd bynnag, mae Dŵr Cymru yn atebol i Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi rhybudd llym i'r cwmni bod angen iddo weddnewid ei duedd o berfformiad sy'n gwaethygu. Mae Dŵr Cymru hefyd yn cymryd camau i fuddsoddi £780 miliwn yn 2025-26 i wella gwasanaethau ac i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn cyfateb i tua £4 biliwn dros y pum mlynedd nesaf, a bydd y lefel hon o gyllid yn anodd ei hailadrodd os yw'r diwydiant dŵr yn cael ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus. Gyda hyn mewn golwg, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai cadw'r diwydiant dŵr yng Nghymru ym mherchnogaeth breifat Dŵr Cymru, cyn belled â'u bod nhw'n dangos gwelliannau, yw'r ffordd orau ymlaen i weld gwelliannau i'n gwasanaethau dŵr, a phryd ydych chi'n rhagweld y bydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi?

Yng Nghymru, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol bod y prif gwmni dŵr yn fodel nid-er-elw, felly mae'n wahanol i'r hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd Syr Jon Cunliffe yn cyflwyno ei ganfyddiadau ym mis Mehefin, felly dyna'r amser i gadw llygad amdano. Ond y peth arall yr wyf i'n meddwl ei bod hi'n werth ei nodi yn ôl pob tebyg, yw bod ansawdd dŵr yng Nghymru yn gwella a bod 40 y cant o'n cyrff dŵr bellach yn cyrraedd statws da neu well. Mae ffordd bell i fynd, gadewch i ni fod yn eglur am hynny, ac rydym ni eisiau gweld y buddsoddiad sylweddol hwnnw. Rydym ni'n gwybod, fodd bynnag, bod perfformiad gwael o ran gollyngiadau, defnydd y pen, ymyriadau â'r gyflenwad, ansawdd dŵr yfed, atgyweirio prif bibellau, digwyddiadau llygredd a chydymffurfiad gwaith trin. Felly, mae ffordd bell i fynd ac rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn helpu i ysgogi'r gwelliannau hynny.
Mae preifateiddio, boed yn drydan, nwy, rheilffyrdd neu ddŵr, wedi bod yn drychineb lwyr i'r rhan fwyaf o bobl. Er nad oedd popeth yn berffaith pan oedd y rhain mewn perchnogaeth gyhoeddus, mae wedi gwaethygu llawer ers preifateiddio. Roedd dŵr yn arfer cael ei redeg yn bennaf gan awdurdodau lleol, yn llwyddiannus iawn, ond crëwyd y corff dŵr cenedlaethol yn gyntaf, ac yna Dŵr Cymru. Yr hyn sydd heb amheuaeth yw bod y gost wedi cynyddu o fod yn rhan fach o'r bil ardrethi llywodraeth leol i fod yn fil dŵr a charthffosiaeth sylweddol, ac mae llawer o bobl yn cysylltu â mi yn wythnosol yn cwyno amdano. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei gredu yw anfanteision cwmni dŵr sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu os edrychwch chi ar y model dros y ffin, sy'n un o breifateiddio, fe welwch chi mewn gwirionedd bod pethau cywilyddus sydd wedi digwydd o ran diffyg buddsoddiad, o ran pobl yn elwa ar draul y cyhoedd. Nid dyna'r sefyllfa yng Nghymru, lle mae gennym ni wahanol fath o fodel, sy'n fodel dielw. Ond mae'n wir dweud bod angen buddsoddiad pellach, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni wrando ar y pryderon. Mae'r adolygiad annibynnol hwnnw yn gychwyn proses i sicrhau bod y sector dŵr yn perfformio'n well i ddefnyddwyr Cymru, yn blaenoriaethu cynaliadwyedd ac yn darparu prisiau teg.
4. Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddiant mewn swydd a chyflogaeth â chymorth? OQ62482

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw darparu cymorth hyfforddwr swyddi arbenigol cynhwysfawr i unigolion sydd ei angen, yn enwedig y rhai ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a dyna un o'u casgliadau: darparu hyfforddiant swyddi. Rhoddodd Engage to Change dystiolaeth i'r pwyllgor ac maen nhw'n bartneriaeth rhwng Canolfan Genedlaethol Iechyd y Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd ac Anabledd Dysgu Cymru. Ers 2016, maen nhw wedi gweithio ledled Cymru i gynorthwyo pobl ag anableddau dysgu ac anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth rhwng 16 a 25 oed. Y newyddion da yw eu bod nhw wedi darparu hyfforddiant swyddi ledled Cymru ac wedi gweithio gyda dros 1,300 o bobl ifanc ac 800 o gyflogwyr. Maen nhw wedi sicrhau cyfradd llwyddiant cyflogaeth o 41 y cant, o'i gymharu â 4.8 y cant yn genedlaethol, lle nad yw hyfforddiant swyddi yn cael ei ddarparu yn yr un modd. Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi ymweld, a ddydd Iau, bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn ymweld, ond yn anffodus, bydd Engage to Change yn cau ei ddrysau ar 31 Mawrth. Bydd eu gwaith yn parhau ar ffurfiau eraill, ond hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyfforddiant swyddi yn llawn, gan sicrhau bod hyfforddi swyddi yn parhau, a bod eu hetifeddiaeth yn cael ei pharhau ledled Cymru. A all y Prif Weinidog sicrhau bod hynny'n digwydd?

Diolch yn fawr iawn, Hefin. Mae'r rhain yn ganlyniadau wirioneddol syfrdanol. Yn amlwg, mae angen i ni ddysgu o'r rheini a gwneud yn siŵr ein bod ni'n eu prif ffrydio. Dyna pam mae'r gwersi a ddysgwyd o'r prosiect Engage to Change hwnnw yn hollbwysig i lunio arferion a pholisïau hyfforddiant swyddi yng Nghymru yn y dyfodol. O 2027, bydd rhaglen cymorth cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwasanaethau hyfforddiant swyddi arbenigol. Mae gennym ni eisoes, hyd yn oed yn rhai o'n rhaglenni presennol, fel Twf Swyddi Cymru a rhannu prentisiaeth â chymorth, system o wasanaethau hyfforddiant swyddi yn rhan o'r cynnig yno. Rydym ni hefyd yn treialu gweithgareddau ar ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy.
Mae cwestiwn 5 [OQ62485] wedi'i dynnu'n ôl.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltedd ffyrdd yn Sir Ddinbych? OQ62465

Mae ein rhestr bresennol o welliannau i seilwaith y rhwydwaith ffyrdd strategol wedi'i chynnwys yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Rydym ni hefyd yn datganoli'r broses o wneud penderfyniadau i'r gogledd trwy ei gynllun trafnidiaeth rhanbarthol.
Does dim rhyfedd bod y diffyg strategaeth o 26 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru barhaol wedi arwain at ddim atebion i fodurwyr yn Nyffryn Clwyd. Mae o bosibl yn rheswm pam y collodd Llafur yr etholaeth yn 2021. Ers datganoli, bu'r nesaf peth at ddim buddsoddiad yn ein ffyrdd. Roedd y prosiect mawr diwethaf ym 1997, pan agorwyd ffordd osgoi Rhuddlan. Mae'r boblogaeth leol wedi cynyddu, sydd i'w groesawu, ond nid yw'r seilwaith ffyrdd lleol wedi cynyddu, gyda phroblemau'n cael eu gwaethygu gan eich polisi 20 mya, â dim ond 0.6 y cant o'r ffyrdd wedi'u heithrio ar hyn o bryd, eich methiant hirsefydlog i ddarparu pont Llanerch, er gwaethaf pedair blynedd a hanner ohonof yn gofyn, a'r 'troeon gwyllt' sy'n cysylltu'r Rhyl a Phrestatyn ddim yn ehangu nac yn dod yn fwy diogel ers dyddiau ceffyl a chert. Felly, pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi i'm hetholwyr bod gan Lywodraeth Cymru syniadau strategol ar gyfer y dyfodol o ran dyfodol trafnidiaeth breifat i bobl yn Nyffryn Clwyd, neu a oes yn rhaid i ni ddioddef blynyddoedd i ddod o fwy o fethiannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y maes hwn, sy'n cadw troed ar wddf pobl sydd eisiau mynd o A i B yn ddigonol a symud ymlaen yn eu bywydau?

Wel, diolch yn fawr iawn, Gareth. Edrychwch, pe bai'n cael ei adael i chi, byddai llai o arian wedi mynd i ffyrdd eleni—dyna'r gwir amdani—ac fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn arian yn mynd i'ch union etholaeth chi. Felly, pan fyddwch chi'n mynd yn ôl at eich etholwyr, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n gwybod beth wnaethoch chi. Rydych chi'n gallu siarad yn iawn, ond dydych chi ddim yn gallu gweithredu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gydnabod ein bod ni o ddifrif ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwella ein ffyrdd, a dyna un o'r rhesymau pam, eleni, yr ydym ni'n mynd i roi £5 miliwn mewn refeniw i allu datgloi £60 miliwn mewn benthyciadau fel y gallwn ni lenwi 70,000 o dyllau mewn ffyrdd.
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit ar Bontypridd? OQ62457

Yr UE yw ein partner masnachu pwysicaf. Mae'r ffigurau'n amrywio, ond rydym ni'n gwybod bod Brexit wedi cael effaith negyddol a niweidiol ar Gymru. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn llywodraethu ein perthynas â'r UE, ond ni all ddisodli'r mynediad at y farchnad yr oedd gennym ni gynt, ac mae'n creu rhwystrau i fusnesau Cymru.
Prif Weinidog, diolch am yr ateb yna. Mae'n amlwg iawn mai'r arwyddion cynnar o Brexit yw ei fod wedi cael canlyniad ac effaith ofnadwy ar economi Cymru. Tybed a allech chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddadansoddi'r effaith economaidd, fel bod gennym ni'r ffeithiau llawn ynglŷn â gwir faint effaith Brexit ar economi Cymru, a hefyd i ddeall beth allai'r manteision fod i economi Cymru o fod yn rhan o'r farchnad sengl.

Diolch yn fawr iawn. Dywedodd Nigel Farage a'i griw o gefnogwyr Brexit, ynghyd â'r rhan fwyaf o'r Torïaid, wrth bobl Cymru na fydden nhw'n waeth eu byd pan fydden nhw'n gadael yr UE, ond nawr rydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi cael eu twyllo. Addawyd mwy o arian iddyn nhw ar gyfer y GIG, addawyd iddyn nhw y byddai gennym ni gytundebau masnach anhygoel a fyddai'n rhoi hwb i fasnach gyda gweddill y byd. Fe wnaethon nhw ddweud y gallem ni reoli ein ffiniau ein hunain a lleihau mewnfudo. Wel, beth gawsom ni? Fe gawsom ni ostyngiad o 8 y cant i allforion, fel bod busnesau Cymru, sy'n cyflogi miloedd o bobl, yn waeth eu byd. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 17 y cant i allforion bwyd a diod. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 29 y cant i fewnforion o'r UE, ac mae hynny cyn i ni ddechrau ar y diffyg o £772 miliwn o ran cyllid strwythurol, ac mae hynny cyn, peidiwch ag anghofio, y £243 miliwn nad ydym ni'n ei gael o ran cyllid gwledig yr UE. Ac ar y mater mawr hwnnw o, 'O, ie, mae hyn i gyd yn ymwneud ag atal y mewnfudwyr', wel, rydym ni wedi cael mwy o bobl yn mudo i'r wlad hon nag erioed o'r blaen, ac mae croeso mawr iawn i lawer ohonyn nhw, gan eu bod nhw'n cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.
Maen nhw'n ceisio ailadrodd yr un gêm gyda'r cyhoedd eto ym mhlaid Reform sydd wedi'i hail-becynnu, gan gynnig atebion syml iawn i gwestiynau cymhleth sy'n mynd i adael pobl yn waeth eu byd. Rydym ni angen perthynas llawer agosach na'r un sydd gennym ni nawr, ac mae cyfle i wneud i hynny ddigwydd yn yr uwchgynhadledd rhwng y DU a'r UE ym mis Mai.
Prif Weinidog, fel y byddwch chi'n cofio, roedd ardaloedd fel fy nhref enedigol, Pontypridd, yn derbyn cyllid cenedliadol ar raddfa fawr gan yr Undeb Ewropeaidd, fel y cyllid Amcan 1. Ystyrir yn eang bod yr arian hwn wedi cael ei weinyddu'n wael ac yn y pen draw wedi methu â chreu digon o swyddi a seilwaith i godi Pontypridd a chymunedau eraill y Cymoedd allan o dlodi. A dweud y gwir, Prif Weinidog, ar ôl y ddwy rownd gychwynnol o gyllid, daeth Cymoedd y de yn dlotach yn gymharol. Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ynghyd â Malta, dau ranbarth o Bortiwgal a phedwar rhanbarth yn ne yr Eidal, yw'r unig ardaloedd a ddaeth yn dlotach er gwaethaf y buddsoddiad. Ac os cofiaf yn iawn, Gorllewin Cymru a'r Cymoedd oedd yr unig ranbarth a oedd yn gymwys yn barhaus ar gyfer y cyllid Amcan 1 o'i sefydlu. Mae'n ddrwg gen i, Gweinidog; mae gen i ychydig o annwyd.
Y gwastraff cyffredinol a'r diffyg gweledigaeth hwn ar gyfer ardaloedd fel Pontypridd oedd y prif reswm pam y gwrthodwyd yr UE ganddyn nhw. Prif Weinidog, roeddwn i'n falch o fod yn gynrychiolydd etholaeth Pontypridd dros Vote Leave, ac roeddwn i yno ar y noson pan wnaeth bob un o'r dair etholaeth—Pontypridd, Cwm Cynon a'r Rhondda—gyhoeddi dros 'adael'. Does gen i ddim amheuaeth y bydden nhw'n ei wneud eto. Prif Weinidog, yn hytrach na chodi hen newyddion i fyny o bron i 10 mlynedd yn ôl, beth mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud mewn gwirionedd i ddod â ffyniant i Bontypridd a Chymoedd y de?

Fe wnaf i ddweud wrthych beth rydym ni'n ei wneud i ddod â ffyniant i Bontypridd. Rydym ni wedi buddsoddi dros £800 miliwn mewn system reilffyrdd newydd, ac wyddoch chi beth? Mae rhywfaint o'r arian hwnnw yn dod o'r UE. Felly, peidiwch â dweud wrthyf i, mewn gwirionedd, na wnaeth cyllid yr UE helpu. Mae wedi trawsnewid y mecanweithiau trafnidiaeth yng nghymunedau'r Cymoedd. Roeddwn i'n ffodus iawn o gael mynd ar un o'r trenau newydd sbon hynny yr wythnos diwethaf. Am brofiad. Trenau sy'n cael eu gwneud—mae hanner ohonyn nhw'n cael eu gwneud—yma yng Nghymru, swyddi wedi'u creu yng Nghymru. Rydych chi eisiau siarad am y berthynas honno gyda'r UE. Mae hynny'n hanfodol. Fe glywsoch chi'r rhifau y gwnes i eu dyfynnu i Mick Antoniw yn gynharach. Mae'n amlwg ein bod ni'n waeth ein byd o ganlyniad i'r ffaith ein bod ni wedi gadael yr UE.
Rydych chi'n gofyn beth rydym ni wedi ei wneud ym Mhontypridd—cafodd arian ei dywallt i Bontypridd o ganlyniad i gyllid datblygu rhanbarthol Ewrop, a hefyd i gynorthwyo pobl i mewn i waith trwy gyllid strwythurol Ewropeaidd. Mae'n anghredadwy bod gennych chi'r hyfdra i ofyn beth mae Ewrop wedi ei wneud i Bontypridd. 'Llawer iawn, iawn' yw'r ateb, ac nawr bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i'r arian hwnnw ein hunain.
8. A fydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, 'Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024? OQ62484

Rŷn ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth wrth baratoi ymateb i argymhellion yr adroddiad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg eisoes wedi datgan ei fwriad i gyhoeddi ein hymateb i'r adroddiad yn ystod Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai eleni.
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch i glywed bod yna ddyddiad clir wedi cael ei nodi, achos fe gofiwch chi, saith mis yn ôl, fe wnaethoch chi dderbyn adroddiad terfynol y comisiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. Rŷch chi'n gwybod hefyd ei fod e'n ddarn o waith pwysig iawn sydd yn cynnwys nifer o argymhellion mewn meysydd allweddol o bwysig fel tai, addysg, cynllunio, yr economi, ac yn y blaen. Ac mae hyn yn dilyn, wrth gwrs, argyfwng yn y cadarnleoedd yna lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad fel iaith bob dydd, ardaloedd rŷch chi a fi yn eu cynrychioli yn rhanbarth Gorllewin a Chanolbarth Cymru. Ac o ran sir Gaerfyrddin, rŷn ni wedi gweld cwymp, wrth gwrs, o 50 y cant yn 2001 yn medru siarad Cymraeg, i 43.9 y cant yn 2011 a 39.9 y cant yn 2021. Felly, mae hi yn argyfwng.
Rŷch chi wedi ateb y cwestiwn yr oeddwn i yn bwriadu gofyn ar y diwedd, sef pryd yn union mae'r adroddiad yma yn mynd i gael ymateb gan y Llywodraeth, a'r cwestiwn ychwanegol felly yw: a fydd argymhellion yr adroddiad yn debygol o gael eu gweithredu yn ystod oes y Senedd hon?

Diolch yn fawr. Dwi'n cofio derbyn yr adroddiad yma yn ffurfiol. Dyna oedd y digwyddiad ffurfiol cyntaf i fi fel Prif Weinidog, ac roeddwn i mewn tipyn bach o sioc ar y pryd. Dwi'n meddwl ei fod e'n adroddiad pwysig dros ben, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd amser nawr i fynd trwyddo a gweld pa argymhellion rŷn ni'n gallu eu derbyn.
Beth dwi yn gallu dweud yw y bydd isafswm o £100,000 y flwyddyn nesaf i bob menter iaith fel canlyniad i'r gyllideb—cyllideb rŷch chi wedi pleidleisio yn ei herbyn. Ond hefyd rŷn ni wedi dyrannu £1 miliwn i gefnogi Cymraeg yn sir Gâr. Rwy'n ymwybodol iawn ei fod e'n bwysig ein bod ni'n cadw lefel y Gymraeg yn ein cadarnleoedd. Bydd adroddiad arall yn dod yn dilyn yr un yma a fydd yn edrych ar y Gymraeg ar draws Cymru ymhellach. Ond mi fyddwch chi yn cael ymateb gan y Gweinidog yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Un o'r pethau mae'r adroddiad hyn yn nodi yw pwysigrwydd pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg os ydyn nhw yn moyn eu defnyddio nhw. Dwi'n cofio—dwi'n credu y flwyddyn ddiwethaf, neu efallai'r flwyddyn cyn hynny—HSBC yn cau ei llinell cymorth bancio yn yr iaith Gymraeg, a llawer o sgyrsiau am hynny yn y Senedd ar y pryd. Ond un o'r rhesymau y gwnaeth HSBC ddweud pam eu bod nhw wedi cael gwared arno fe oedd bod neb yn gwybod amdano fe. Felly, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda gwasanaethau, nid dim ond yn y sector cyhoeddus ond y sector preifat a'r trydydd sector hefyd, i hysbysebu'r ffaith fod gwasanaethau ar gael yn yr iaith Gymraeg ac i helpu pobl i'w defnyddio nhw?

Diolch yn fawr. Mae'n rili bwysig a dwi'n meddwl y dylem ni ddiolch i'r busnesau yna sydd yn gwerthfawrogi'r iaith Gymraeg ac yn defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu gwasanaethau. Wrth gwrs, mae e i fyny iddyn nhw wneud y gwaith o sicrhau bod eu cwsmeriaid nhw yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael o ran gwasanaethau Cymraeg. Ond, wrth gwrs, mae gyda ni adran y Gymraeg yma yn Llywodraeth Cymru sydd yn gwneud gwaith aruthrol o hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau goruchwylio cwmnïau sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru? OQ62483

Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli'r fframwaith trosolwg ar gyfer ei holl gwmnïau trwy ddogfennau fframwaith, llythyrau cylch gwaith a threfniadau swyddogion cyfrifyddu, y cytunwyd arnyn nhw gyda chwmnïau ac wedi'u monitro gan y timau partneriaeth yn Llywodraeth Cymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae yna lu o gwmnïau erbyn hyn sydd wedi cael eu sefydlu dros y degawd diwethaf gan Lywodraeth Cymru. Un bach ond pwysig yw Diwydiant Cymru sydd wedi cael bron i £10 miliwn o arian cyhoeddus dros y degawd diwethaf. Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad yr wythnos diwethaf yn dweud nad oedd yn gallu cadarnhau'r cyfrifon, ac mai prif ased y cwmni penodol hwn oedd llinell bacio. Nid wyf i'n hollol siŵr pam mae'r cwmni sydd yno i hyrwyddo busnes yn berchen ar linell bacio ynddo'i hun, ac mae'r llinell bacio honno yn sefyll yn y cyfrifon ar £0.75 miliwn. Ni allaf glywed y Dirprwy Weinidog yn clebran o'r ochr yn y fan yna. Rwy'n sylweddoli efallai ei fod eisiau cyfrannu. [Torri ar draws.] Cyn, mae'n ddrwg gen i, cyn. Os yw eisiau cyfrannu, gwnewch hynny â chroeso, ond rwy'n ceisio cael atebion—
[Anghlywadwy.] Nid ef yw'r Prif Weinidog.
Rwy'n ceisio cael atebion i'r archwilydd cyffredinol nad yw'n gallu cael ymateb gan y cwmni hwn. A ydych chi'n gallu darparu atebion sy'n dweud sut y cyrhaeddwyd y sefyllfa druenus hon, lle mae'r archwilydd cyffredinol yn cael ei hun yn y sefyllfa o fethu â gallu cadarnhau cyfrifon cwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cywiro rhai o'r materion adrodd o ran hyn. Rwy'n credu nad yw'n wir dweud mai £9.7 miliwn oedd yr hyn yr oedd yr archwilydd cyffredinol yn bryderus amdano. Roedd yn pryderu am dri ased sefydlog gwerth tua £1 filiwn. Fy nealltwriaeth i yw bod y rheini ar gyfer llinellau yn ymwneud ag ymateb cyflym iawn i'n paratoi a'n cynorthwyo o ran COVID a'r pandemig. Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod ni'n cael y datganiadau ariannol yn gywir. Fy nealltwriaeth i yw na fu unrhyw bryderon o ran gweddill y datganiadau ariannol. Fy nealltwriaeth i hefyd yw bod Diwydiant Cymru wedi gweithredu'r holl argymhellion yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol a'i fod yn hyderus yn ei weithdrefnau cyfrifon cadarn ar gyfer y dyfodol.
10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae cynigion ynni gwynt yn effeithio arnynt ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ62454

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy newydd i hybu diogelwch ynni'r DU, i greu swyddi gwerthfawr ac i ddenu diwydiannau gwyrdd newydd i Gymru. Mae angen i ddatblygwyr gynnwys cymunedau i ddarparu prosiectau ac effeithiau ar gymunedau a'r amgylchedd, ac maen nhw'n cael eu hystyried drwy'r system gynllunio.
Prif Weinidog, mae llawer o fy etholwyr yn bryderus iawn am gynigion Green GEN Cymru i godi peilonau yr holl ffordd drwy fy etholaeth i ac etholaethau Aelodau eraill yn y Siambr hon. Sefydlodd Llywodraeth Cymru gorff cynghori annibynnol i edrych ar ddadansoddiad costau trosddaearu a thanddaearu ceblau. Byddai llawer o bobl wedi meddwl, mewn gwirionedd, y byddai'r dadansoddiad wedi cael ei gynnal erbyn hyn ac y byddai'r data wedi cael eu cyhoeddi. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynghylch pryd y bydd y data hynny yn cael eu cyhoeddi? A phan fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi, a fydd y Llywodraeth yn ei anfon ar gyfer dadansoddiad academaidd annibynnol, i wneud yn siŵr bod popeth wedi cael ei ystyried yn annibynnol, i wneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn cael ei ogwyddo un ffordd i un cynnig dros un arall?

Diolch yn fawr i chi. Fe wn i fod llawer o bryder mewn rhai cymunedau ynghylch cynigion o ran gridiau ynni. Dyna un o'r rhesymau pam y gwnaethom ni sefydlu'r bwrdd cynghori hwn ar gyfer gridiau, ac fe fyddan nhw'n adrodd yn fuan iawn. Un o'r pethau y maen nhw wedi bod yn eu hystyried, yn amlwg, yw'r ffaith y bydd angen i ni weld cynnydd yn y swm o ynni a gynhyrchir yng Nghymru. Y gwir amdani yw bod amcangyfrifon yn awgrymu y bydd angen tair gwaith cymaint o drydan arnom ni erbyn 2050 nag sydd arnom ni heddiw. Ac mae'n rhaid i hwnnw ddod o rywle, a bydd yn rhaid ei gludo mewn un ffordd neu'r llall.
Nawr, mae hi'n gwbl briodol ein bod yn edrych ar y ffordd orau bosibl o gludo'r ynni hwn, ac mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n arddangos dealltwriaeth. Rydym ni'n gweithio gyda—. Fe gefais i sgwrs gyda WindEurope yw wythnos diwethaf, i drafod sut y maen nhw'n gwneud hyn ar y cyfandir, felly fe fyddwn ni'n cynnal astudiaethau pellach ynglŷn â hynny. Ond rydych chi yn llygad eich lle; fe siaradais i â'r cwmni ei hun hefyd, a phwysleisio, mewn gwirionedd, y rheidrwydd i gael gwirhad annibynnol o ran unrhyw ddadansoddiad y byddan nhw'n ei wneud.
11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wasanaethau gofal llygaid i blant? OQ62488

Mae pob plentyn yng Nghymru hyd at 16 oed yn gallu cael gafael ar wasanaethau gofal llygaid drwy GIG Cymru, ac mae hynny'n cynnwys prawf golwg. Mae plant sydd ag angen sbectol i gywiro eu golwg yn ei chael am ddim drwy'r GIG, yn dilyn newidiadau i'r ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2023.
Diolch ichi am hynny. Mae e wedi, serch hynny, dod i'm sylw i fod plant yng Nghymru yn gallu bod o dan anfantais o'u chymharu â phlant yn Lloegr a'r Alban pan fo'n dod i'r cynllun Vouchers at a Glance. Mae hon yn daleb sy'n cael ei rhoi i rieni lle mae angen prynu sbectol, ond dyw hi ddim ond hanner gwerth yr hyn yw hi yn y ddwy wlad arall. Nawr, yn amlwg, mae'r rhieni hynny yn ymwybodol hefyd, fel rŷn ni i gyd, fod gyda ni lefel gymharol uwch o dlodi plant yng Nghymru—30 y cant, wrth gwrs, o blant yn byw mewn tlodi fan hyn—ac mae yna nifer o deuluoedd yn poeni, wrth gwrs, yn sgil hynny, efallai, dyw'r plant ddim yn gallu cael mynediad i'r sbectol sydd eu hangen arnyn nhw, neu, yn wir, y sbectol y maen nhw angen eu cael. Wedyn, y cwestiwn yw: beth ŷch chi'n ei wneud i ddysgu oddi wrth gwledydd eraill yn y cyd-destun yma er mwyn sicrhau bod y plant yng Nghymru nid yn unig yn cael rhyw fath o faes chwarae gwastad, ond eu bod nhw'n cael y gofal gorau posib pan fo'n dod i anghenion gofal llygaid?

Diolch yn fawr, ac rŷch chi'n ymwybodol bod y ddeddfwriaeth yng Nghymru yn wahanol i weddill y Deyrnas Unedig.
Yng Nghymru, rydym ni'n gorfodi practisau optometreg i ddarparu sbectol heb gost, o dan y GIG, i blant ac oedolion cymwys ym mhob ystod o bresgripsiwn. Nawr, mae'n rhaid i sbectol sylfaenol fod yn addas o ran presgripsiwn a ffrâm sy'n ffitio'r unigolyn a bod o fewn pris y daleb y mae'r unigolyn â hawl iddi. Yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw sicrhau y bydd unigolyn cymwys â hawl i gael teclyn sylfaenol heb gost ychwanegol, gan sicrhau gan hynny y bydd tegwch o ran argaeledd ar draws pob ystod o bresgripsiwn, a sicrhau eu bod yn dal i fod ar gael i'r rhai mwyaf agored i niwed. Nawr, nid dyna'r achos fan arall yn y DU, lle defnyddir taleb fel cyfraniad at gost sbectol, ond nid oes gofyniad cyfreithiol i ddarparu sbectol heb gost ychwanegol.
Diolch i'r Prif Weinidog. Mae'r Prif Weinidog wedi llwyddo i ateb pob un o'r cwestiynau oedd wedi cael eu gosod iddi hi, ac mae hynny siŵr o fod yn dipyn bach o record.
Eitem 2 fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd, Jane Hutt, i wneud y datganiad hwnnw.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar y camau nesaf ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd ac ar gyfer y rhaglen porthladdoedd rhydd yn fwy cyffredinol. Fe fydd y porthladd rhydd Celtaidd ag effaith enfawr ar fy etholaeth i ac, yn wir, ar draws y de, ac yn creu miloedd o swyddi gan ddenu biliynau o bunnau mewn buddsoddiad cyhoeddus a phreifat. Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth sylweddol yn natblygiad y porthladd rhydd, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gwybod pa waith sy'n cael ei wneud y tu ôl i'r llenni i ddatblygu'r porthladd rhydd er mwyn gallu deall sefyllfa'r porthladd rhydd yn well o ran materion fel caniatâd cynllunio a chreu swyddi, yn wir. Felly, fe fyddwn yn ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y prosiect trawsnewidiol hwn, ac yn wir y rhaglen porthladd rhydd yn ei chyfanrwydd, i ni allu olrhain y cynnydd ar hyn o bryd a dysgu mwy am y camau nesaf ymlaen. Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Wel, rwy'n gwybod bod y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio hefyd yn gyfle priodol i godi'r mater hwn, ond rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, sydd wedi clywed y cwestiwn yna heddiw, yn barod iawn, fel roeddech chi'n sôn, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r datblygiad trawsnewidiol hwn o ran y porthladd rhydd Celtaidd ac yn wir y datblygiadau mwy eang o ran y porthladd rhydd.
Trefnydd, mi hoffwn ofyn am ddatganiad ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd mi oedd ddoe yn nodi 10 mlynedd ers i'r Senedd hon basio'r Ddeddf honno. Wrth gwrs, ers hynny, mae yna gryn sylw rhyngwladol wedi bod, lot mawr o ddiddordeb, ond eto rydym ni'n gwybod bod yna'n dal rhai heriau o ran gweithredu'r Ddeddf. Rydym ni'n ei gweld hi'n cael ei herio weithiau o ran achosion cynllunio, er enghraifft. Rydym ni'n dal i weld, wrth gwrs, fod tlodi plant yn dal i gynyddu yma yng Nghymru, er bod gennym ni'r Ddeddf yma, ddegawd ymlaen. Felly, dwi'n meddwl ei fod o'n gyfle inni adlewyrchu fel Senedd ar rai o'r llwyddiannau, ond hefyd efallai i edrych ar y ddegawd nesaf o ran y Ddeddf bwysig hon.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich cwestiwn pwysig iawn i ni i gyd yn y Siambr.
Fe fyddwn i'n hapus iawn i gyflwyno—canfod dull ac amser i gyflwyno—datganiad llafar, oherwydd rydym ni'n falch iawn fod Cymru wedi arwain y ffordd ar Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol a'r ymrwymiad i lesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni'n amlwg yn gweithio—. Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn annibynnol iawn, ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r annibyniaeth honno, fel gwna pobl Cymru, ond fe fyddwn ni'n nodi deng mlynedd y comisiwn drwy gydol 2025. Yn wir, mae digwyddiadau yn digwydd drwy'r amser. Ddydd Iau, fe fyddaf i'n ymgysylltu â Goleuo'r Dyfodol, sef y wedd a fydd ar Ddeddf Llesiant cenedlaethau'r dyfodol i'r dyfodol. Ac rwy'n credu, gyda'i fenter ef 'Cymru Can', fod Derek Walker wedi bod yn berthnasol ac yn ysbrydoledig iawn i Gymru a thrwy'r byd. Felly, byddwn, fe fyddwn ni'n dod o hyd i ddyddiad i gyflwyno'r datganiad hwnnw.
Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros dai ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda datblygwyr tai i sicrhau bod tai yng Nghymru yn cael eu hadeiladu hyd at y safonau priodol? Stad o dai newydd yn fy etholaeth i yw stad Edeyrn Sant sydd â thros 1,000 o dai, ysgol gynradd newydd a rhai unedau manwerthu; mae hi'n gymuned hyfryd iawn yng ngogledd Caerdydd. Ond, dros y blynyddoedd diwethaf, mae etholwyr wedi dod ataf i'n gyson i ofyn am gymorth oherwydd nad oes digon o finiau, nid yw'r ffyrdd yn cael eu mabwysiadu gan y cyngor lleol o hyd, nid yw'r palmentydd na'r ffyrdd wedi cyrraedd y safon briodol, ac fe adroddwyd hefyd nad yw'r gwaith plymio wedi ei osod yn iawn yn y tai, Ac, mewn un achos, fe ddefnyddiwyd bobl gwallt fel wasier yn rhan o'r gwaith plymio. Felly, a gawn ni ddatganiad i fynegi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod datblygwyr yn cael eu dal at safon uchel iawn?
Fe hoffwn i ofyn hefyd am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y ffyrdd yr ydym ni'n cefnogi undebau credyd yng Nghymru i geisio lleddfu effaith cyfraddau llog dyledion ofnadwy a ddatgelwyd gan Michael Sheen yn ei raglen, Michael Sheen's Secret Million Pound Giveaway. Fe wn i fod Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro yn gwneud gwaith ardderchog, ac fe hoffwn i eu llongyfarch nhw ar ennill y wobr glodfawr i ddefnyddwyr, ond fe wyddom ni mai'r bobl sy'n cael eu taro galetaf gan gyfraddau llog uchel iawn, yw'r rhai sy'n aml yn gweithio yn galed iawn, mewn sawl swydd yn aml. Felly, rwyf i o'r farn y dylem ni wneud popeth sydd yn ein gallu i gefnogi pobl sydd ag angen am undebau credyd, ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad gan Lywodraeth Cymru am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gefnogi undebau credyd.
Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan, a diolch i chi am y cwestiwn yna am y ffordd y mae tai yn cael eu datblygu. Mae angen mwy o dai, fel rydych chi'n dweud, yng Nghymru, nawr ac i'r dyfodol, ond mae'n rhaid iddi fod yn egwyddor allweddol—mae hi'n egwyddor allweddol—o'n polisi cynllunio cenedlaethol na ddylid aberthu ansawdd y datblygiad o ganlyniad i hynny. Ac mae hynny'n ymwneud a'r safle y caiff y tai eu hadeiladu arni; mae angen dyluniad da arnom ni, ond mae angen safleoedd cynaliadwy lle gall pobl fyw, gweithio a chymdeithasu yno ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom ni ar draws y Siambr hon yn ymwybodol iawn o achosion lle nad yw'r ymgysylltiad hwnnw yn bodoli rhwng yr amgylcheddau naturiol ac adeiledig, na rhwng pobl a lleoedd. Fe fyddwch chi'n falch o glywed ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig eraill ar ddatblygu gwasanaeth statudol newydd ar gyfer ombwdsmon cartrefi ledled y DU a fydd yn ceisio datrys anghydfodau rhwng prynwyr a datblygwyr adeiladau newydd. Ond rydym ni'n awyddus i hyn gael ei ymgorffori yn nyluniad polisi cynllunio o ran sut mae adeiladau newydd a'r maes cyhoeddus yn cyd-fynd gyda'i gilydd o ran y berthynas â'r ardal gyfagos. Felly, diolch i chi am y cwestiwn pwysig yna.
A diolch i chi am y cwestiwn am undebau credyd a'u swyddogaeth nhw. Mae hi'n ddiddorol ein bod ni wedi darparu cyllid i sicrhau bod undebau credyd yn gallu cefnogi'r rhai nad ydyn nhw wedi gallu cael credyd o unrhyw fan arall, a dyna'r hyn y gwnaeth rhaglen Michael Sheen, wrth gwrs, ei ddatgelu o ran y sefyllfaoedd erchyll y gall pobl fod ynddyn nhw pan fyddan nhw'n mynd at fenthycwyr y farchnad dyled eilaidd sydd â chyfradd llog uchel ac mae'r cyfraddau llog yn cynyddu fwyfwy. Felly, rydym ni'n falch iawn fod Caerdydd a'r Fro yn un enghraifft sydd wedi ymgymryd â'r ffyrdd yr ydym ni'n cefnogi undebau credyd drwy'r trefniadau hyn ar gyfer benthyciadau, a hefyd, nid yn unig y maen nhw wedi helpu'r bobl hynny i gael cymorth ar gyfer credyd, ac efallai mai credyd sydd ei angen ar gyfer rhywbeth annisgwyl, ac mae pethau o'r fath yn digwydd ym mywydau pobl, o ran cyflogaeth, amgylchiadau personol, anghenion aelwydydd.
Ond diolch i chi hefyd am longyfarch Caerdydd a'r Fro, a enillodd y wobr dyletswydd i ddefnyddwyr am arweinyddiaeth mewn cyllid i ddefnyddwyr. Ac rwy'n credu bod hynny'n dystiolaeth wirioneddol o natur foesegol undebau credyd, sy'n rhoi cwsmeriaid yn gyntaf, yn mynd i'r afael ag anghenion cwsmeriaid ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau adeiladol i gwsmeriaid.
A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sydd â'r cyfrifoldeb am y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru? Yn anffodus, ar yr A494 yn sir Ddinbych, mae yna brosiectau rhagorol a gafodd eu gohirio a'u rhoi o'r neilltu o ganlyniad i'r moratoriwm ar fuddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf newydd. Roedd cyffordd Lôn Fawr/Ffordd Corwen yn un ohonyn nhw, ac fe ymwelodd y cyn-Brif Weinidog â honno i weld y peryglon ar y safle penodol hwnnw, yn Rhuthun, â'i lygaid ei hun. Ac un arall yw cyffordd Maesgamedd yng Ngwyddelwern, a gafodd ei rhoi o'r neilltu hefyd, er iddi fod ar yr amserlen ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ers degawdau.
Yn ogystal â hynny, fe welwyd damwain angheuol arall ar yr A494 yn Llanferres dros y penwythnos, rhwng Llanferres a Thafarn y Celyn. Mae hi'n ffordd beryglus; mae yna faterion o ran diogelwch y mae angen mynd i'r afael â nhw. Mae etholwyr yn gofyn am flaenoriaethu'r cyffyrdd hyn, a lleihau'r terfyn cyflymder, yn enwedig yn Llanferres yr holl ffordd drwodd i Dafarn y Celyn, a gosod camerâu cyflymder cyfartalog i atal y mathau hyn o ddamweiniau erchyll—damweiniau sy'n newid bywydau ac yn lladd—a welsom ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Diolch yn fawr iawn i chi, Darren Millar, am dynnu sylw, yn eich cwestiwn, at y materion penodol hynny o ran rheolaeth ar ein cefnffyrdd. Fe wn i y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, gan ddod at ei gilydd ynglŷn â'r pwyntiau hynny, yn dymuno rhoi ymateb i chi a chlywed y dystiolaeth am y materion penodol sy'n effeithio ar bobl ar hyn o bryd.
Ysgrifennydd Cabinet, sawl wythnos yn ôl, fe gododd fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, fater y cynllun gwaed halogedig ac fe gododd hi nifer o bryderon ynghylch yr hyn a oedd yn ymddangos fel methiant o ran Llywodraeth y DU i weithredu argymhellion Syr Brian Langstaff mewn ffordd briodol gyda'r cynllun ac annibyniaeth hwnnw, ond hefyd o ran pa mor gyflym yr oedd taliadau yn cael eu gwneud, ac fe wnaethoch chi nodi ar yr adeg honno y byddai datganiad yn dod gan y Llywodraeth. A gaf i ofyn a yw hi'n bosibl i'r datganiad hwnnw gan y Llywodraeth ddod yn gynt? Fe geir llawer o bryder ymhlith y grŵp Hemoffilia Cymru yn hyn o beth.
Diolch i chi, Mick Antoniw, am godi'r cwestiwn yna. Ac, yn wir, fe allaf i adrodd yn ôl fod yr Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles, ar 3 Mawrth, wedi cwrdd â Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, Nick Thomas-Symonds, a Gweinidogion o'r Alban a Gogledd Iwerddon, i drafod y trefniadau i gefnogi pobl a gafodd eu heintio ac yr effeithiwyd arnyn nhw gan sgandal y gwaed heintiedig. Ac, wrth gwrs, fe anogir pawb a gafodd eu heintio ac yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal ofnadwy hwn o ran gofal iechyd i gofrestru ar wefan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig i gael diweddariadau rheolaidd, sy'n cynnwys gwybodaeth am y camau nesaf.
Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pryderon wedi codi ynglŷn ag amseroldeb, fel roeddech chi'n dweud, gan y rhai yr effeithiwyd arnynt. Ac, yn wir, mae cadeirydd yr ymchwiliad gwaed heintiedig, Syr Brian Langstaff, wedi casglu tystiolaeth ychwanegol erbyn hyn, ac mae ef yn bwriadu cyhoeddi adroddiad pellach, ac fe fydd hwnnw'n ystyried amseroldeb a digonolrwydd ymateb Llywodraeth y DU o ran iawndal.
Ac a gawn ni gydnabod Hemoffilia Cymru hefyd? Ac, wrth gwrs, mae Julie Morgan gyda ni yma hefyd, a chwithau, Hefin David ac fe geir eraill ar draws y Siambr, sydd wedi codi'r materion hyn. Ac rwy'n cydnabod bod Hemoffilia Cymru, gyda Lynne Kelly, y cadeirydd, yn un o'r 27 sefydliad i gyflwyno datganiad.
A gaf i awgrymu, pan fydd yr adroddiad hwn ar y diweddariad yn barod, gan fod Syr Brian Langstaff yn gwneud y gwaith hwnnw, ein bod ni'n dod â hyn yn ei ôl gerbron y Senedd wedyn mewn datganiad wedi'i ddiweddaru?
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r sefyllfa barhaus yn Unol Daleithiau America ynghylch menyw sydd wedi cael ei chadw yn y ddalfa yn y wlad honno oherwydd afreoleidd-dra ynglŷn â'i fisa? Nawr, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r sefyllfa hynod annheg sy'n wynebu'r fenyw ifanc hon o'm hetholaeth i, o'r un pentref â mi, mewn gwirionedd, sydd wedi cael ei dal yn yr Unol Daleithiau oherwydd yr afreoleidd-dra hwn gyda'i fisa. Mae hwn yn achos gresynus, ac mae hi'n hanfodol fod popeth posibl yn cael ei wneud i'w chefnogi hi.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal sawl swyddfa dramor yn UDA i feithrin cysylltiadau da a hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd. O ystyried hynny, mae'n rhaid i mi ofyn: a oes unrhyw un o'r swyddfeydd hyn wedi codi'r achos hwn gyda'r awdurdodau perthnasol, i ymyrryd a chynorthwyo'r fenyw ifanc hon mewn unrhyw ffordd y gellir gwneud hynny? Rwy'n deall yn llwyr fod materion yn ymwneud â fisâu yn rhai a gedwir yn ôl i'r Swyddfa Gartref, a bod materion ynglŷn â dinasyddion y DU dramor yn gyfrifoldeb i'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, ond o ystyried bod y presenoldeb hwn gan Gymru yn America, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan y Prif Weinidog i ganfod a oes unrhyw gamau wedi cael eu cymryd hyd yn hyn, a gofyn beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r fenyw ifanc hon a chyflwyno, os yn bosibl, achos ar ei rhan.
Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Peter Fox, am godi'r cwestiwn hwn ynglŷn â'r sefyllfa anffodus iawn hon, lle cafodd y fenyw hon ei dal yn yr Unol Daleithiau. A diolch i chi am godi hyn yn y Siambr. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn archwilio hyn gyda'r Prif Weinidog a'n swyddogion cysylltiadau rhyngwladol, i weld a ydyn nhw'n ymwybodol o'r mater. Wrth gwrs, mae hwn yn fater a gedwir yn ol i Lywodraeth y DU ac i'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, ond gyda'r cysylltiadau sydd gennym ni, wrth gwrs, â Llywodraeth y DU, fe fyddwn ni'n mynd ar ôl hyn.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn amlinellu'r hyn a gyflawnodd grŵp gweithredu iechyd menywod mewn gwirionedd cyn iddo gael ei ddiddymu yn 2024, yn ogystal â diweddariad ar yr hyn a ddaeth yn ei le, sef y rhwydwaith strategol iechyd menywod.
Rwy'n bryderus ynglŷn â thystiolaeth menywod sydd â chyflwr endometriosis, nid yn unig y rhai sy'n byw yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, ond yn gyffredinol drwy Gymru. Mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Endometriosis UK a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, fe glywais i'n uniongyrchol pa mor rhwystredig yr oedd llawer o fenywod gydag amser diagnosis cyfartalog o naw mlynedd, 11 mis, sy'n cael ei waethygu gan y ffaith fod y cyfnodau aros cyn cael apwyntiad yn gwbl annerbyniol. Rydym ni'n gorfodi menywod i fyw am flynyddoedd mewn poen difrifol.
Felly, Trefnydd, a gawn ni ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar sut y bydd y rhwydwaith strategol iechyd menywod yn helpu i leihau'r cyfnodau aros cwbl annerbyniol hyn am ofal endometriosis? Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi, Altaf Hussain, am godi'r cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn arwain arno nawr, sef ein cynllun iechyd menywod. Mae endometriosis yn ogystal â mynd i'r afael ag anghenion, anghenion clinigol, ac anghenion mwy eang y menywod hynny sydd â phrofiad ac yn dioddef oherwydd endometriosis yn uchel ar yr agenda. Fel gwyddoch chi, fe fydd hynny'n arwain at benodi mwy o nyrsys gofal endometriosis. Ond byddaf yn rhannu eich pryderon o ran rhwydwaith strategol iechyd menywod gyda hi o ran yr amgylchiadau, a sut y bydd hynny ag effaith ar y gwaith yr ydym ni yn awyddus i'w wneud—ac fe wn i y bydd hyn yn cael cefnogaeth fawr ar draws y Siambr hon—ar gyfer cefnogi'r rhai sy'n cael profiad o endometriosis. Ac wrth gwrs, mae'n rhywbeth lle mae'r bilsen newydd hon yn dod i ystyriaeth, ac mae angen i ni edrych ar hynny wrth gwrs. Felly, diolch i chi am godi hynna.
Trefnydd, bydd Cyngor Sir Fynwy yn cwtogi ar ei ddarpariaeth o fysiau ysgol i blant, gan ddechrau ym mis Medi, sy'n golygu y bydd yn rhaid i lawer o ddysgwyr mewn ardaloedd gwledig ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar geir eu rhieni. Ond, yn anffodus, yn sir Fynwy, rydym ni mewn sefyllfa lle mae llawer o fysiau cyhoeddus yn hwyr yn aml, ac weithiau nid ydyn nhw'n troi i fyny hyd yn oed, sy'n achosi i lawer o bobl ifanc sy'n ceisio mynd i'r ysgol aros am oriau ar ddechrau a diwedd diwrnod ysgol yn y gwlybaniaeth a'r oerfel. Nid wyf i'n gwybod a oes raid i mi ddatgan buddiant: mae fy mab i'n gynwysedig yn hyn. Mae llawer o rieni wedi cysylltu â mi eisoes gyda phryderon mawr am lesiant a diogelwch eu plant, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi nad yw'n ddechrau da i ddiwrnod ysgol. Rwy'n credu bod cyfrifoldeb arnom ni i ddarparu cludiant diogel, dibynadwy i ysgolion, ac yn enwedig ar adeg pan ydym ni'n ceisio mynd i'r afael ag absenoldeb cynyddol, nid yw cludiant annibynadwy o unrhyw gymorth. Rwy'n ymwybodol iawn o'r uchelgais i arbed arian sydd gan y cyngor, ond mae gan Lywodraeth Cymru a'r cyngor gyfrifoldeb i sicrhau bod plant yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac mewn da bryd. Fe ddylai lles plant fod yn flaenoriaeth bennaf i ni. Felly, Trefnydd, a gaf i ddatganiad i ddiweddaru'r Senedd ar bolisi teithio dysgwyr, yn enwedig yng ngoleuni'r pryderon hyn? Diolch.
Wel, rwy'n credu y byddwch chi'n falch iawn o glywed—ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld hynny yn y datganiad busnes—y byddwn ni'n cael dadl yr wythnos nesaf, Laura Anne Jones, ar deithio gan ddysgwyr.
Rwyf i am ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar Ddŵr Cymru—enghraifft arall o fethiant preifateiddio. Ar hyn o bryd, y brif broblem yr wyf i'n ei chlywed gan etholwyr mewn e-byst yw'r cynnydd mewn biliau dŵr, sy'n cael eu disgrifio gan lawer fel 'crocbris'. A all y datganiad amlinellu unrhyw ddylanwad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael ar filiau dŵr a Dŵr Cymru? Yn 2021, fe dderbyniodd y prif weithredwr Peter Perry gyfanswm tâl o £892,000. Roedd prif weithredwr blaenorol yn mynegi mai honno fyddai'r gyfradd arferol yn y sector preifat. Fel gofynnodd Vincent Kane i'r prif weithredwr blaenorol, 'At bwy arall yr af i am ddŵr?'
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar fioamrywiaeth a chyflwyniad ysglyfaethwyr ar ben y gadwyn fwyd? Ar ben pob cadwyn fwyd mae ysglyfaethwyr o'r fath. Y creaduriaid arswydus hyn yw'r prif ysglyfaethwyr yn yr ecosystem, sy'n golygu nad oes gelynion naturiol ganddyn nhw ac mae rhan hanfodol ganddyn nhw o ran cynnal cydbwysedd ecolegol. Mae nifer yr ysglyfaethwyr hyn wedi gostwng. Lle nad oes gennym ysglyfaethwyr fel hyn, mae llygod mawr, gwylanod, ac, yn Awstralia, cwningod, yn cynyddu yn gyflym iawn, sy'n achosi problemau amgylcheddol aruthrol.
Diolch yn fawr, Mike Hedges, am eich cwestiynau hefyd.
Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn, gyda'r mater ynghylch biliau dŵr, ac rydych chi wedi mynd i'r afael â hynny heddiw, wrth i ni geisio cefnogi'r rhai sydd mewn aelwydydd incwm isel. Fe fyddwn i'n dweud, ac mae rhywfaint o drafodaeth wedi bod ynglŷn â hyn eisoes y prynhawn yma, fod Dŵr Cymru yn rhedeg tariff cymdeithasol. Rydym ni wedi bod yn galw am dariff cymdeithasol o ran ein cyflenwyr ynni, ac fe fyddaf i'n cwrdd â'n cyflenwyr ynni ni'r wythnos nesaf. Felly, rwy'n credu bod ffyrdd i'w cael er mwyn i ni sicrhau bod cwsmeriaid yn ymwybodol o'r tariff cymdeithasol ac, mewn gwirionedd, maen nhw wedi bod yn treialu ffyrdd ehangach o roi cefnogaeth i gwsmeriaid agored i niwed. Ond diolch i chi am godi hyn eto, ac fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet, y Dirprwy Brif Weinidog, yn ymwybodol o'r materion hyn hefyd yn rhinwedd ei berthynas gyswllt â'r cwmnïau dŵr sy'n gwasanaethu Cymru.
Ac rydych chi'n codi materion pwysig sy'n ymwneud â bioamrywiaeth a'r ysglyfaethwyr ar ben y gadwyn fwyd. O ran yr ysglyfaethwyr ar ben y gadwyn, rwy'n deall bod hyn yn ymwneud â sicrhau cydbwysedd gofalus iawn wrth adfer ecosystemau a'n bod ni'n cydbwyso hynny â phryderon y cyhoedd, fel bydd unrhyw ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gynaliadwy. Ac mae hynny'n cynnwys sut y byddwn ni'n helpu i ymdrin â rheoli llygod mawr, mewn gwirionedd, ac rydych chi wedi sôn am boblogaethau gwylanod, a all fod yn broblem hefyd. Fe wyddom ni y bydd llai o lygod mawr yn cael eu denu i safle os bydd ffynonellau o fwyd, megis pethau sydd wedi eu colli ar lawr o gwmpas ardaloedd casglu sbwriel, yn cael eu symud a bod cyflenwadau yn cael eu diogelu trwy eu storio yn sownd mewn cynwysyddion. Mae yna lawer o ffyrdd yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw, o ran dim ond rheoli ein gwastraff, fel rhoi bagiau sbwriel awyr agored mewn biniau metel lle gallai hynny fod yn briodol i atal llygod mawr, a chadw gerddi yn rhydd o falurion. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gan berchnogion eiddo, wrth gwrs, gyfrifoldeb cyfreithiol dros gymryd camau o fewn y gyfraith i reoli cnofilod. Ond mae hyn yn bwysig o ran bioamrywiaeth a sicrhau, wrth i ni gydbwyso'r gwaith i adfer yr ecosystem, ein bod ni'n cydnabod y materion hyn.
A gaf i dynnu sylw at raglen Rhwydweithiau Natur? Mae cronfa Rhwydweithiau Natur wedi bod ag effaith gadarnhaol sylweddol, gyda 90 o brosiectau yn cael eu hariannu a thros £54 miliwn wedi ei ddyfarnu ers 2021, gan weithio gyda CNC a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae hyn yn bwysig o ran cydnerthedd, diogelu tir gwarchodedig a safleoedd morol, ond o ran bioddiogelwch hefyd, gan ymgysylltu â'r sefydliadau trydydd sector pwysig hynny, fel yr RSPB, a chan edrych ar ysglyfaethwyr mamalaidd goresgynnol anfrodorol, llygod mawr yn arbennig. Hefyd, mae'r prosiect yn cynnwys Jinx, cocker spaniel, ci gwaith tair oed sy'n gi canfod cadwraeth cyntaf yn y DU.
Mae rasio ceffylau yn rhan hanfodol o ddiwylliant, economi a threftadaeth chwaraeon Cymru. Mae ein tri chwrs rasio—Cas-gwent, Ffos Las a Bangor is-Coed yn y gogledd—yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, sy'n cefnogi busnesau lleol, yn creu swyddi ac yn hybu twristiaeth. Mae cyfraniad Cymru at y gamp wedi bod yn fawr iawn eleni, gyda'r Cymro Lorcan Williams yn ennill y ras glwydi i bencampwyr gyda Golden Ace yn Cheltenham yr wythnos diwethaf, a Rebecca Curtis a Sean Bowen yn dod adref i Gymru yn fuddugol hefyd.
Mae'r diwydiant yn cyfrannu miliynau at ein heconomi a rasio ceffylau sy'n drydydd, ar ôl pêl-droed a rygbi, ymhlith ein chwaraeon mawr ac eto mae rasio ceffylau yn wynebu heriau o ran cystadlu ag awdurdodaethau rasio eraill oherwydd costau cynyddol. Yn ystod y pandemig, rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol i helpu'r sector i oroesi a hynny'n briodol ond, wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae'n rhaid i ni sicrhau ei ffyniant. Fe fyddai mwy o fuddsoddiad mewn cyfleusterau, arian gwobr a seilwaith yn helpu i sicrhau ei gynaliadwyedd a chynnal safle Cymru yn y byd rasio.
Mae'r cyhoeddiad diweddar ar wahardd rasio milgwn wedi achosi llawer o bryder rhesymol yn y diwydiant y gallen nhw fod yn nesaf. Felly, o ystyried y pwysigrwydd diwylliannol ac economaidd, a fydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei chefnogaeth barhaus i rasio ceffylau a'i ddiwydiant sy'n tyfu yng Nghymru? Diolch i chi.
Wel, fe allaf i eich sicrhau chi bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd rasio ceffylau yng Nghymru, ac a gawn ni longyfarch y marchogion hynny o Gymru ar eu llwyddiant diweddar? Ond yn amlwg mae angen i ni ystyried hynny wedyn yng nghyd-destun pob un o'r safonau lles y byddem ni'n eu disgwyl.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol 2025-26. Huw Irranca-Davies, felly, i wneud y datganiad.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer 2025-26. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi sicrhau bod dros £75 miliwn ar gael i arwain awdurdodau rheoli perygl llifogydd, yr Awdurdodau Rheoli Risg (RMAs), ledled Cymru. Eleni, fe fyddwn ni'n gwneud yr un peth eto ar gyfradd o £77 miliwn, ein cyfradd uchaf o fuddsoddiad erioed, wrth i ni barhau i gyflawni yn unol â'n hymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i liniaru perygl llifogydd ar gyfer dros 45,000 o dai.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ond, dangosodd y gaeaf hwn unwaith eto realiti llym newid hinsawdd i ni. Nid oes angen i mi atgoffa'r Aelodau am effaith storm Bert ym mis Tachwedd, a effeithiodd ar dros 700 eiddo ledled Cymru, na'r dinistr a ddilynodd storm Darragh ym mis Rhagfyr.
Roedd y Prif Weinidog a minnau'n falch iawn o gadarnhau'r grantiau o £500 a £1,000 drwy'r cynllun cymorth ariannol brys i aelwydydd yr effeithiwyd arnynt, ac rwy'n croesawu'r cyfle yn fawr i ddod ag asiantaethau ac ymatebwyr allweddol ynghyd yn dilyn y stormydd hynny i fyfyrio ar yr hyn a fu'n effeithiol a'r gwersi a gafodd eu dysgu. Yn gynnar ym mis Ionawr, fe wnes i gadarnhau hefyd y byddai at £8.1 miliwn o gyllid cyfalaf pellach ar gael i'r awdurdodau rheoli perygl llifogydd i ymgymryd â gwaith atgyweirio brys.
Dirprwy Lywydd, dyma sut wedd sydd ar gyflawni mewn argyfwng: cefnogaeth gyflym, ymarferol, pan fydd ei angen fwyaf ar bobl. Mae'r digwyddiadau hyn yn atgyfnerthu sut y mae'n rhaid i'n rhaglen llifogydd fod, ac felly y mae hi'n wir: yn rhaglen sy'n ddigon cadarn i gyflawni llif o waith a gynllunir ac ar gyfer rheoli gofynion unrhyw ymateb brys sydd ei angen. Yn fuan, fe fyddaf i'n amlinellu sut yr ydym ni am gyflawni eto eleni. Ond yn gyntaf, serch hynny, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig rhoi teyrnged i'r awdurdodau rheoli perygl llifogydd sy'n parhau â'u gwaith, ddydd ar ôl dydd, i'n helpu ni wrth leihau'r perygl o lifogydd yn wyneb her sylweddol. Mae ein hawdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal i ddatblygu a llunio amddiffynfeydd newydd, rhoi rhybuddion, ymateb i ddigwyddiadau a chynnal nifer helaeth o asedau, asedau sydd o'r golwg yn aml, ledled Cymru. Mewn gwirionedd, mae llwyddiant rheoli perygl llifogydd yn ymwneud mor aml â'r hyn nad ydym ni'n ei weld, o ran lleihau'r digwyddiadau llifogydd eu hunain, ac yn aml trwy gyfrwng seilwaith ac offer anweledig. Fe allai hynny fod yn gwlfer tanddaearol, yn arglawdd glaswellt bach mewn parc, neu bant ar fin ffordd. Mae pob ased unigol yn gofyn am fuddsoddiad, monitro a chynnal a chadw. Nid yw hynny'n digwydd ar hap a damwain; mae'n digwydd oherwydd ein bod ni'n ei gwneud hi'n flaenoriaeth barhaus, ac rydym ni'n ei hariannu, ac mae'r awdurdodau rheoli risg yn parhau â'u gwaith yn ddiflino.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, yn wir, mae ein hawdurdodau rheoli risg wedi cyflawni yn wirioneddol, gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru. Cymerwch chi gynllun £6 miliwn Cyfoeth Naturiol Cymru yn Rhydaman er enghraifft, ac roedd y Prif Weinidog a minnau'n falch iawn o'i agor yn swyddogol ym mis Medi. Fe ddyluniwyd y cynllun gyda newid hinsawdd mewn golwg, mae'n diogelu dros 380 o dai yn erbyn y risg o lifogydd. Ac yna mae cynllun amddiffyn arfordirol Bae Hirael, ac fe gefais i'r pleser o agor hwnnw fis Mai'r llynedd. Mae'r cynllun yn lleihau'r risg o lifogydd arfordirol i 186 o gartrefi ac wyth busnes, gan adnewyddu'r promenâd ar yr un pryd â hynny a darparu llwybrau teithio llesol i'r gymuned leol ac ymwelwyr. Fe welsom ni adeiladu'r tri chynllun olaf o dan y rhaglen rheoli risg arfordirol hefyd. Rydym ni'n buddsoddi £14.1 miliwn ym Mae Cinmel, £3.4 miliwn yn Llandudno, a £3.4 miliwn yng ngerddi traphont Abermaw. Mae'r rhaglen hon wedi gweld buddsoddiad o £291 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros bum mlynedd erbyn hyn, a phan fydd yr holl gynlluniau wedi eu cwblhau, fe fyddan nhw o fudd i bron i 14,000 o gartrefi a busnesau.
Ac mae'r cynlluniau hyn i gyd yn dwyn manteision ehangach i gymunedau, gan gynnwys, gyda llaw, gyfleoedd ar gyfer gweithio. Er enghraifft, roedd cynllun rheoli risg arfordirol canol y Rhyl ar ei ben ei hun yn darparu cyfleoedd ar gyfer saith o brentisiaethau a dau hyfforddai graddedig. Ac yn ystod fy ymweliad diweddar â'r cynllun arfordirol gwerth £26.8 miliwn yn Aberaeron, fe wnes i gyfarfod â phrentisiaid sy'n cymryd rhan weithredol o ran dysgu a datblygu sgiliau a dulliau i sicrhau dulliau cynaliadwy o adeiladu. Ymwelodd y cwmni adeiladu ag ysgolion lleol hefyd i godi ymwybyddiaeth ac annog myfyrwyr i fod yn beirianwyr sifil yn y dyfodol.
Ac, wrth gwrs, mae mwy o waith yn digwydd a fydd o fudd i gymunedau ledled Cymru. Er enghraifft, fe ymwelais i â chynllun Stryd Stephenson CNC yng Nghasnewydd yn ddiweddar. Bydd y cynllun blaenllaw hwn sy'n werth £21 miliwn, y dylid ei gwblhau ar ddechrau'r haf, o fudd i 2,000 o gartrefi a busnesau yn ôl yr amcangyfrif—2,000 o gartrefi a busnesau. Dyma'r cynllun mwyaf a adeiladodd CNC erioed, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod eu dull arloesol wedi gwneud argraff arna' i hefyd. Er enghraifft, Dirprwy Lywydd, fe ddefnyddiwyd dur carbon isel gan CNC ar gyfer y 700m o seilbyst llen yr oedd eu hangen ar gyfer y cynllun. Arbedwyd dros 350 tunnell o CO2. Cafodd y rhain eu gosod drwy ddefnyddio peiriant tawel i osod y seilbyst llen, ac roedd hynny'n cyfyngu ar y sŵn a'r aflonyddwch i bobl a busnesau lleol a'r bywyd gwyllt hefyd, gyda llaw.
Ond, wedi dweud hynny, nid yw llwyddiant ein rhaglen llifogydd ni'n ymwneud yn unig â phrosiectau adeiladu cyfalaf mawr. Mae rhybudd a gwybodaeth yn hanfodol o ran sicrhau bod cymunedau yn barod i weithredu. Yn ôl ym mis Gorffennaf 2024, fe lansiodd CNC eu gwasanaeth gwybodaeth newydd ar gyfer rhybuddion llifogydd i Gymru, a gafodd bron i £6 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Roedd hwn yn brosiect buddsoddi cyfalaf hanfodol i fusnesau, sydd wedi caniatáu iddyn nhw ddarparu gwasanaeth wedi'i deilwra i anghenion pobl yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth newydd wedi darparu gwelliannau i gynnwys negeseuon rhybuddio ac effeithlonrwydd sy'n lleihau'r pwysau ar y swyddogion sydd ar ddyletswydd yn ystod digwyddiadau llifogydd, gan ganiatáu iddyn nhw ganolbwyntio ar y peryglon mwyaf. Ac mae hyn yn mynd i'r afael hefyd â'r hyn a ddysgwyd o'r llifogydd ym mis Chwefror 2020. Ers ei lansio ym mis Gorffennaf 2024, mae'r gwasanaeth rhybuddion llifogydd newydd wedi cyhoeddi 553 o rybuddion llifogydd, 197 o rybuddion llifogydd a dau rybudd o lifogydd difrifol, ac mae'r rhybuddion a'r larymau hyn wedi cael eu hanfon i dros 42,000 o gwsmeriaid.
Eleni, gyda'r cyfraddau uchaf erioed o wariant, rydym ni'n buddsoddi £36 miliwn mewn cyllid cyfalaf, sy'n cynnwys £22 miliwn i CNC a £14 miliwn i'r awdurdodau lleol. Felly, rydym ni'n ariannu cynlluniau lliniaru llifogydd ledled Cymru, fel ym Montnewydd yng Ngwynedd, Pentre yn RhCT, Gurnos ym Mhowys, a Havens Head yn sir Benfro. Yn ogystal â hynny, fe fyddwn ni'n dyrannu dros £24 miliwn mewn refeniw i CNC a bron i £16 miliwn i'n hawdurdodau lleol, sy'n gynnwys £11 miliwn i gefnogi'r gwaith parhaus o adeiladu cynlluniau yn unol â'r rhaglen rheoli risg arfordirol.
Ac fel gwyddom ni, yn ogystal ag adeiladu amddiffynfeydd caled, mae gweithio gyda natur yn hanfodol er mwyn helpu i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel rhag llifogydd. Enghraifft o hyn yw cynllun Parc Cwm Darren, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a oedd yn cynnwys plannu 18,000 o goed dros 2.6 hectar i hybu atafaelu carbon, gwella ansawdd y pridd ac arafu llif afonydd Nant Bargoed a Rhymni. Nawr, wrth symud ymlaen, rydym ni'n buddsoddi £2 filiwn ychwanegol i gefnogi 23 o brosiectau tebyg ledled Cymru, gyda'r nod o wella'r amgylchedd naturiol a lleihau'r perygl o lifogydd ar gyfer hyd at 2,800 o dai.
Mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi ymrwymo i helpu i gadw cymunedau’n ddiogel rhag llifogydd, a bydd yn parhau i ymrwymo i hynny. Rydyn ni’n ategu ein geiriau gyda'r buddsoddiad mwyaf erioed a gweithredu gwirioneddol i ddiogelu cymunedau ledled Cymru, o'r Rhyl i Aberdaugleddau, i Gasnewydd. Pan fyddwn ni’n gwneud addewidion, rydyn ni’n eu cyflawni, a gall y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu weld y gwahaniaeth.
Dyma sut wedd, Dirprwy Lywydd, sydd ar Lywodraeth sy'n cyflawni. Nid dim ond siarad am gydnerthedd hinsawdd yr ydym ni, rydym ni'n ei adeiladu. Nid dim ond cydymdeimlo â dioddefwyr llifogydd yr ydym ni, rydym ni'n eu helpu nhw i gael adferiad. Ac nid dim ond cynllunio i'r dyfodol yr ydym ni, rydym yn diogelu'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw. Bwriad y prosiectau cyfalaf sy'n cael eu cyflawni gan yr RMAs yw cyflawni nodau'r strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru ac ymrwymiad y rhaglen lywodraethu. Er hynny, fe wyddom ni i gyd yma—rydym ni i gyd wedi bod yn dystion yn y blynyddoedd diwethaf—fod Cymru wedi dioddef effeithiau dinistriol oherwydd llifogydd, fel effeithiau ar gartrefi, seilwaith rheilffyrdd a busnesau. Fe welsom ni'r hyn a ddigwyddodd yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn storm Dennis, gydag enghreifftiau mwy diweddar yn deillio o stormydd Bert a Darragh, a ddilynodd ei gilydd bron ar unwaith. Daeth Storm Bert â glawogydd a oedd rhwng 50 y cant a 100 y cant o'r cyfanswm disgwyliedig ym mis Tachwedd yn unig ac, o ganlyniad i hynny, cyrhaeddodd lefelau rhai afonydd hyd at eu huchaf erioed ar gofnod. Cafodd dros 700 o dai eu boddi yn ystod storm Bert ac fe adawyd tua 95,000 o dai heb ynni yn ystod storm Darragh. Ac roedd storm Darragh yn frawychus iawn, a dweud y gwir, wrth siarad gyda'r Swyddfa Feteorolegol a'r Grid Cenedlaethol, ynglŷn â'r ffordd y newidiodd y storm honno o fod yn un lle roedden nhw'n disgwyl llawer o law i gynhyrchu'r gwyntoedd a'r tyrfedd aruthrol ac enfawr a welsom ni. Fe ddifrodwyd pier Llandudno yn Aberconwy yn ddifrifol. Cafodd nifer o gabanau eu rhwygo o'u sylfeini, gan achosi gwerth £250,000 o ddifrod.
Nawr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adrodd bod 272,817 eiddo mewn perygl oherwydd lifogydd yng Nghymru erbyn hyn, ac mae hynny'n un ym mhob saith. Felly, mae hynny'n dangos cynnydd gwirioneddol o 132,817 eiddo a fydd mewn perygl ymhen 20 mlynedd. Nawr, fe wyddom ni oherwydd ymchwil a wnaethpwyd y bydd y lefelau hyn o lifogydd a stormydd yn cynyddu, ac y byddan nhw'n cynyddu ar fwy o gyflymder. Roeddech chi'n rhyfeddu'n gynharach at CNC a'r arian a roesoch chi i mewn i hynny, am rybuddion llifogydd, ond fe fu yna bryderon hefyd—wyddoch chi, Ysgrifennydd Cabinet—pan wnaethom ni gymryd tystiolaeth ar y rhain yn ein pwyllgor, mai fel storm categori oren y cyhoeddwyd Darragh pan, mewn termau gwirioneddol, y dylasai'r categori fod yn goch. Felly, mae gwir angen i ni fod yn sicr, pan fydd y rhybuddion hyn yn cael eu cyhoeddi, eu bod nhw'n gywir ac nad ydyn nhw'n caniatáu unrhyw hunanfodlonrwydd yn y system.
Nawr, gyda digwyddiadau tywydd eithafol yn digwydd yn amlach, ac fe fydd llifogydd yn cynyddu drwyddi draw, nid taflu arian at CNC yw'r ateb o reidrwydd. Fe wyddom ni, oni wnawn ni, fod angen dros 70 aelod o staff dim ond i ymdrin â'n cyfrifoldebau ni o ran llifogydd, wrth symud ymlaen. Beth yw'r rhifau nawr? Beth yw'r sefyllfa o ran recriwtio pobl i weithio yn y maes hwnnw?
Fe wn i fod fy nghyd-Aelod Carolyn wedi sôn am hyn yn aml, sef am berchnogion glannau afon a chyrsiau dŵr cyffredin ledled Cymru. Weithiau nid yw'r perchnogion glannau hyn yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau eu hunain. Felly, sut allwch chi dynnu sylw at hyn? A wnewch chi egluro hefyd pa orfodaeth y gellir ei defnyddio yn erbyn tirfeddianwyr sy'n berchnogion glannau afon nad ydyn nhw'n cymryd unrhyw gyfrifoldeb? A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet egluro pwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb pryd nad oes tirfeddiannwr wedi ei nodi?
Ac yn olaf, yn y pwyllgor newid hinsawdd yn ddiweddar roeddem ni'n ystyried y problemau a achosir gan ddiffyg cofrestr unigol o bobl agored i niwed neu bobl sydd ag anghenion blaenoriaethol. Yn ystod y pall yn y cyflenwad dŵr a brofodd fy nghyd-Aelod Darren Miller a minnau'n ddiweddar, roedd honno'n drefn reoli aur fel roedd hi'n digwydd, ond roedd yr holl ymatebwyr amrywiol a'r gwasanaethau brys yn defnyddio rhestrau gwahanol. Mae gan Dŵr Cymru 3,500 ar eu rhestr eu hunain. Ar ddiwedd yr argyfwng o ychydig ddyddiau, roedd hyd at 7,500, sy'n dweud wrthyf i fod y ffigurau hynny'n anghywir ar y dechrau. Felly, sut allwn ni sicrhau bod un gofrestr hollgynhwysol gennym ni? Rwy'n ymwybodol o'r materion GDPR, ond, mewn adegau o argyfwng, mae'n rhaid i honno fod yn flaenoriaeth, bod angen i'r bobl hynny sy'n agored i niwed a'r bobl hynny sy'n cael eu hystyried yn flaenoriaeth gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
A hefyd, yn olaf, a gawn ni, yn Aelodau o'r sefydliad etholedig hwn, gael gwybod pan fydd digwyddiad o argyfwng yn digwydd a'i bod yn drefn reoli aur neu efydd neu arian? Mae cynghorwyr sir etholedig yn cael gwybod, ond nid ydym ni'n cael gwybod, ac rydym ni ar y rheng flaen pan fydd y digwyddiadau hyn yn digwydd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Janet. Diolch i chi, yn gyntaf i gyd, am yr hyn yr wyf i'n ei ystyried yn gefnogaeth i'r lefel o fuddsoddiad a roddwn ni. Mae angen i ni ddal ati gyda'r buddsoddiad hwn, ond, i wneud y pwynt yn unig, mae angen i ni bleidleisio dros y buddsoddiad hwn hefyd, pan fydd y gyllideb o'n blaenau ni, oherwydd mae hwnnw'n fater gwirioneddol. Os ydym ni'n dymuno ysgogi cannoedd o filiynau o bunnoedd ar y raddfa a ddisgrifiais i, yna, ar gyfer pob un o'r Aelodau, mae hi'n ddyletswydd arnyn nhw i sicrhau bod y modd yno yn ogystal â'r ewyllys, ac mae hynny'n golygu pleidleisio dros y gyllideb.
Ond o ran rhybuddion llifogydd, rydych chi'n codi pwynt pwysig yma, oherwydd un o'r pethau, yn fy nghyfnod byr yn y swydd, ar ôl storm Bert, storm Darragh, ac ar ôl y digwyddiadau o ran colli cyflenwad dŵr hefyd yn y gogledd, yr hyn a wnaethom ni oedd cael ôl-drafodaeth gryno a chyflym iawn, ac rwyf i o'r farn mai hwnnw oedd y peth iawn i'w wneud.
A'r broblem o ran y stormydd, y system rhybuddion llifogydd, a'r angen i ddysgu gwersi, rwy'n falch fod y pwyllgor yn edrych ar hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at unrhyw argymhellion y bydd yn eu cyflwyno. Nid yw hynny'n tynnu oddi wrth y ffaith fod ein buddsoddiad ni yn honno wedi bod yn sylweddol erbyn hyn. Os oes angen ei mireinio yn fanwl a mynd i'r afael â hi, sut y caiff ei defnyddio, yn enwedig pan welwn ni fflachlifogydd sydyn ar afonydd, er enghraifft, yna rwy'n siŵr y bydd CNC a'r asiantaethau eraill yn dymuno ei mireinio er mwyn gwneud hynny'n iawn.
O ran y bobl ag anghenion blaenoriaethol, roedd hwnnw'n rhywbeth arall a darddodd allan o'r ôl-drafodaeth a gafwyd yn y fforwm cydnerthedd ei hun. Ond hefyd, mae'r ôl-drafodaethau a gawsom ni wedi nodi ei bod hi'n ymddangos bod gan wahanol gwmnïau restrau ychydig yn wahanol o ran pa gwsmeriaid sydd i'w blaenoriaethu. Cofiwch chi y gall pobl ystyried eu hunain eu bod nhw ar y rhestri hyn, a'r hyn a welsom ni yn esiampl y gogledd oedd nifer y bobl yn ymgyflwyno yn ystod y digwyddiad hwnnw, o awr i awr, ddwywaith, deirgwaith y nifer o bobl yn dod ymlaen gan ddweud, 'Fe hoffwn innau fod ar y rhestr hefyd', ac roedden nhw'n yn ceisio ymateb mewn amser real i bobl yn eu rhoi eu hunain ar y rhestr. Mae rhywbeth ynglŷn â'r cydlyniad a welsom ni yn sgil digwyddiadau diweddar yr ydym ni'n gweithio arnyn nhw, ac rwy'n obeithiol y gallwn ni ddod yn ôl i'r Siambr rywbryd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny, oherwydd rwyf i o'r farn fod yna ffyrdd o ymdrin â hyn, ond mae'n golygu mynd trwy rai o'r cyfyngiadau o ran data hefyd, er mwyn i ni, heb beryglu hawliau dynol unrhyw un, sicrhau y gallwn ni rannu gwybodaeth, lle bod angen, pan fernir bod pobl yn agored i niwed am ryw reswm neu'i gilydd.
O ran mater recriwtio, rydym ni wedi cynnull bwrdd crwn i drafod y mater gydag aelodau'r pwyllgor llifogydd ar gyfer trafod sgiliau. Mae'r mater ynglŷn â sgiliau yn cwmpasu CNC, contractwyr, awdurdodau lleol a mwy. Mae angen i ni wneud pethau gyda'n gilydd er budd pawb yn hyn o beth a denu mwy o'r bobl alluog hynny. Rwyf i wedi ymrwymo adnoddau Llywodraeth Cymru er mwyn bwrw ymlaen â hyn. Rwyf i wedi rhoi arian y tu ôl i hyn o ganlyniad i'r gyllideb ddiweddar mewn cynllun i ddatblygu'r sylfaen sgiliau hefyd.
Ac er mwyn bod yn eglur o ran perchnogion glannau afon—Janet, rwy'n falch eich bod chi wedi codi hyn, ac mae Carolyn yn codi hyn yn rheolaidd hefyd—mae gan awdurdodau lleol bwerau yn unol â Deddf Draenio Tir 1991 i orfodi cyfrifoldebau o ran perchnogion glannau afon. Mae llawer o bobl, mae'n rhaid i mi ddweud, nad ydyn nhw'n ymwybodol o'u cyfrifoldebau. Rydym ni'n sôn am hyn yn aml, ac yn aml fe fyddaf i'n dweud yma ar y llawr fod gan y tirfeddiannwr gyfrifoldebau fel perchnogion glannau afon. Mae gan CNC, gyda llaw, wybodaeth am y rheolau a'r cyfrifoldebau. Fe allech chi edrych ar eu gwefan. Ac fe fyddwn i'n gofyn i'r Aelodau i gyd gynorthwyo gyda lledaenu'r gair hwnnw, oherwydd nid mater i'n hasiantaethau ni yw trin hyn ar eu pennau eu hunain; mae angen i dirfeddianwyr ddod i'r adwy hefyd.
Diolch am y datganiad heddiw.
Byddwch yn gwybod bod llifogydd yn broblem fawr yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, ond yn amlwg, mae hefyd yn bryder mawr i gymaint o Aelodau. Nid yn unig rydym wedi gweld achosion difrifol o lifogydd, ond hefyd nifer o achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Cael a chael oedd hi ym mis Chwefror yn fy rhanbarth. Byddwch yn adnabod Rhes Clydach yn dda iawn yn Ynysybwl: mae'n un o'r cynlluniau rhestredig hynny. Ond yn amlwg, byddwch hefyd yn gwybod yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol gan lifogydd yn 2020, unwaith eto i raddau llai y llynedd yn ystod storm Bert, bron iawn yn dioddef llifogydd difrifol fis diwethaf, ond ni fydd ateb yn ei le tan o leiaf 2029. Mae hynny'n naw mlynedd o fod â'r risg uchaf i fywyd o'i gymharu ag unrhyw le yng Nghymru, naw mlynedd o wylio'r afon honno bob tro y mae glaw trwm.
Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r buddsoddiad, ond gwyddom y bydd rhywfaint ohono yn cymryd amser er mwyn gallu achub bywydau, nid yn unig i amddiffyn eiddo rhag y llifogydd. Ond bydd llawer o gymunedau yn parhau o hyd lle na ellir lliniaru'r risg honno. Hefyd, wrth edrych ar adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun y llynedd, fe wnaethon nhw ddweud yn glir iawn, gan edrych ar y gofyniad buddsoddi hirdymor ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru, y bydd 24 y cant yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd afonydd, 47 y cant yn fwy yn sgil llifogydd llanw, a 34 y cant yn fwy o eiddo yn sgil llifogydd dŵr wyneb hefyd. Dyna'r ffigur hefyd os na fyddwn ni'n adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru.
Rwy'n gwybod eich bod chi'n gwybod hyn, Ysgrifennydd Cabinet, ond er mwyn i ni gadw i fyny o ran yr holl amddiffynfeydd llifogydd presennol, bydd angen 3.4 gwaith y lefel ariannu bresennol, felly mae'n sefyllfa hynod ddifrifol, ac yn amlwg, gyda thywydd mwy eithafol hefyd, mae'n anodd iawn cadw'r gwaith i fynd ar gyflymder. Rydym yn gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod trwy gyfnod hynod anodd a heriol yn ariannol ar adeg pan fyddem eisiau iddynt allu canolbwyntio'n llwyr ar y gwaith hwn ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Yn amlwg, maen nhw hefyd wedi gorfod edrych ar ailstrwythuro. Soniodd Janet Finch-Saunders am y 70 o swyddi a amlygwyd ar ôl storm Dennis. Hoffwn eglurder o ran ble rydym ni o ran niferoedd staff ac adnoddau, oherwydd yr arwyddion yw eu bod yn dal i fod yn anobeithiol ynghylch eu staff o ran gallu parhau. Felly, hoffwn eglurder ar hynny.
O ran adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, hoffwn wybod pryd mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i hwnnw, oherwydd y cydnerthedd hwnnw o ran llifogydd sydd ei angen. Rwy'n amlwg yn gwerthfawrogi eich bod wedi sôn am y cyllid sydd ar gael i fusnesau a thrigolion ar ôl iddynt ddioddef llifogydd. Nid yw'n hanner digon, fel y gwyddoch chi, i'r rhai sy'n methu â chael yswiriant, yn enwedig busnesau, oherwydd nid oes yswiriant ar gael ar gyfer rhai busnesau pan fyddan nhw mewn perygl. Mae'n cael ei groesawu. Ond pan fyddwch chi, efallai, yn dioddef llifogydd bedair gwaith mewn blwyddyn, nid yw'r costau yn rhai ariannol yn unig—mae yna gost emosiynol hefyd. Mae llawer o drigolion yn fy rhanbarth wedi dweud wrthyf eu bod bellach yn dibynnu ar wrth-iselyddion a meddyginiaeth lleihau gorbryder. Felly, mae yna gostau i'r GIG—mae rhai wedi sôn am iechyd yn dirywio, mae rhai wedi datblygu cyflyrau ar y galon. Yn amlwg, ni allant ddweud ei fod oherwydd hyn, ond mae meddygon yn ofnus. Felly, rwy'n ofni nad ydym yn deall yr effaith holistaidd y mae'n ei chael ar ein cymunedau.
Roeddwn hefyd yn bryderus iawn yn ystod tywydd mis Chwefror fod pobl yn ein cymunedau yn ysu am fynd allan i helpu eraill mewn perygl, ond bod risg iddyn nhw wedyn o roi eu hunain mewn perygl, oherwydd nad oes gennym systemau ffurfiol i gael fforymau llifogydd yn lleol lle mae gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i ddeall y risg. Roedd yn rhaid i mi annog pobl i beidio â mynd allan pan oedd yr afon ar fin gorlifo. Rydym yn gwybod pa mor beryglus yw dŵr sy'n llifo'n gyflym. Felly, sut allwn ni sicrhau bod pobl a gwirfoddolwyr yn deall y risgiau hynny ac yn cael eu hyfforddi er mwyn peidio â rhoi eu hunain mewn perygl?
Yn yr un modd, soniodd Janet Finch-Saunders am rai o'r rhai mwyaf agored i niwed. Roedd gennyf i achosion lle nad oedd neb yn gallu cyrraedd pobl, ac, pe bai yna lifogydd, byddent wedi bod mewn perygl o farw yn eu cartrefi. Felly, mae'n ddrwg gennyf am yr holl gwestiynau, ond dim ond i ddeall y—. Mae hyn yn amlwg yn fuddsoddiad i'w groesawu, ond fel y dywed pob adroddiad, ni fydd yn achub pob cartref, pob busnes. Hoffwn ddeall sut rydym ni'n cefnogi cymunedau i sicrhau nad oes bywyd yn cael ei golli wrth geisio helpu'r rhai sy'n dioddef llifogydd, neu fod pobl yn marw yn eu cartrefi oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod sut i gadw eu hunain yn ddiogel.
Heledd, diolch yn fawr iawn, a diolch am eich ymgysylltiad parhaus â hyn, nid yn unig gyda Rhes Clydach, ond ar y mater cyffredinol. Rydych chi'n hollol gywir y bydd graddfa'r her rydym ni'n ei hwynebu a'r risgiau i gartrefi ac eiddo ac, o bosibl, bywydau yn cynyddu wrth i'r blynyddoedd fynd heibio. Rydym ni'n gwybod bod hyn yn dod. Cynhesu byd-eang yw hwn, yn real iawn, gyda lefelau'r môr yn codi a hefyd y digwyddiadau tywydd trawmatig cynyddol sydd gennym. Bydd yn amlygu ei hun mewn ffyrdd gwahanol iawn, ond rydym ni'n gwybod ei fod yn mynd i waethygu. Felly mae angen i ni barhau â'r swm hwnnw o fuddsoddiad, ac mae angen i ni dyfu'r buddsoddiad hwnnw, mewn gwirionedd, wrth i ni fynd ymlaen hefyd.
Gadewch i mi droi at rai o'r cwestiynau penodol a godwyd gennych. Ar staffio, mewn ymateb i gwestiwn cynharach gan Janet, soniais fy mod wedi comisiynu gwaith i edrych ar y sgiliau hynny, oherwydd mae cadw'r buddsoddiad i fynd yn un peth, mae angen gweld y bobl fedrus hefyd yn dod drwodd. Rydym yn wynebu her nad yw'n annhebyg mewn meysydd peirianneg sifil/hydroleg eraill hefyd. Felly, er enghraifft, cynyddu'r gwaith y mae angen i ni ei wneud ar domenni glo hefyd. Mae angen i ni hefyd dyfu'r cnewyllyn hwnnw o bobl. Mae rhai ohonyn nhw'n sgiliau sy'n gorgyffwrdd, ond yr hyn sydd angen i ni ei wneud, ac mae'n dod yn ôl i'r pwynt hwn, yw gwneud pethau gyda'n gilydd er budd pawb, awdurdodau lleol, CNC ac eraill. Felly, rydw i wedi comisiynu rhywfaint o waith ar hynny. Y peth da am hyn yw os gallwn dyfu'r gronfa sgiliau honno, mae'r rhain yn swyddi sy'n cael eu talu'n dda, ac maen nhw'n swyddi sydd yn ein cymunedau lleol, yn gweithio yn ein cymunedau lleol ac yn recriwtio o'n hysgolion, colegau a phrifysgolion lleol hefyd. Felly, rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy a chyffroi pobl o ran y cyfleoedd wrth ymateb i heriau newid hinsawdd.
O ran yswiriant, dim ond i ddweud fy mod i'n cwrdd cyn bo hir ag yswirwyr i drafod ystod o bethau gyda nhw. Byddaf yn trafod sut mae Flood Re yn mynd o ran y cynnig i ddeiliaid cartrefi. Ond, wrth gwrs, rydych chi'n iawn i nodi nad oes cynnig tebyg o ran busnesau. Mae yna resymau pam y mae'r diwydiant yswiriant yn dweud na ellir gwneud hynny, ond rwyf eisiau archwilio hynny gyda nhw ac rwyf eisiau siarad ynghylch a oes ffyrdd ymlaen, naill ai ar lefel Cymru neu ar lefel y DU. Mae hwn yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno. Ond yn y cyfamser, mae rhywfaint o'r buddsoddiad hwn yn rhan o'r fargen, os hoffech chi, gyda'r diwydiant yswiriant ehangach, i ddweud, 'Byddwn yn cadw ein buddsoddiad i fynd cyn belled ag y gallwch hefyd ddarparu'r yswiriant hwnnw i bobl'.
Fe wnaethoch chi sôn am ymateb i addasu i'r hinsawdd, ac mae fy swyddogion wedi cael ymgysylltiad da iawn â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar hynny. Gwyddom fod angen i ni gyflwyno'r ymateb yn fuan iawn, iawn. Felly, rydym ni'n gweithio arno. Mae'n dda gweld y disgwyliad yma bod y gwaith hwnnw yn dod ymlaen.
Yn olaf, o ran Rhes Clydach—pwysig iawn, iawn—rwy'n aml yn gweld mai'r ffordd orau o ddysgu ynghylch sut deimlad yw dioddef llifogydd yw cwrdd â phobl wyneb yn wyneb. Rwy'n gwybod eich bod chi a minnau, ac Andrew Morgan a Vikki, wedi bod yno ynghyd â thrigolion Rhes Clydach yn ôl ym mis Medi. Maen nhw'n dal i fod yn fy meddwl. Rwy'n gwybod, fel y gwyddoch chi, bod y gwaith ar yr achos busnes amlinellol sy'n datblygu i fod i gael ei gyhoeddi y gwanwyn hwn. Bydd angen iddo nodi o leiaf opsiwn posibl ar gyfer mynd i'r afael â'r perygl o lifogydd i'r gymuned. Mae angen i ni gael yr achos busnes hwnnw wedi'i gwblhau fel y gall pobl ei weld. Ond gwyddom fod yna heriau penodol go iawn; nodweddion y gymuned honno—bod mewn dalgylch byr, serth iawn, gyda thuedd i fflachlif ddigwydd yn gyflym iawn yn yr afon yno—sy'n golygu bod yr opsiynau peirianyddol ar gyfer y gymuned honno yn eithaf cyfyngedig. Ond rydym ni eisiau gweld hynny'n dod ymlaen.
Dim ond i fod yn glir, rwyf am barhau i ymgysylltu â chi ac eraill ar hyn wrth i ni fynd ymlaen. Mae'n anodd cyfiawnhau'r hyn sydd wedi'i gynnig fel dichonoldeb posibl pryniant heb ystyried yn gyntaf yr holl opsiynau posibl eraill i leihau'r risg i'r gymuned. Rwyf wedi cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol i drafod Rhes Clydach. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a Vikki a chynrychiolwyr lleol eraill, gan gynnwys Andrew Morgan, maes o law. Rydym ni'n ceisio meddwl trwy hyn. Nid oes cynsail ar gyfer y math o fenter sydd wedi cael ei chrybwyll gan rai, ond rydym yn archwilio pa opsiynau y gallai fod ar gael i'r gymuned benodol honno.
Yr un peth y gallwn fod yn sicr yn ei gylch yw nad yw newid hinsawdd bellach yn fygythiad pell i ffwrdd; mae yma ac mae'n digwydd nawr. Mae erydiad arfordirol yn cyflymu ac yn ail-lunio ein cymunedau, ac mae hynny'n cynnwys y rhan fwyaf o fy ardal i sef Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb, ac fe wnaethoch chi sôn am y buddsoddiad uchaf erioed o £75 miliwn eleni yn unig a £300 miliwn ers 2021. Roeddwn i yn Aberaeron ddydd Sadwrn, ac mae'n anhygoel gweld y gwaith sy'n digwydd yno, y gymuned a'r ysgolion yn cymryd rhan. Ac mae £26.8 miliwn yn arwyddocaol, yn ogystal â'r £3.4 miliwn ar gyfer Gerddi'r Draphont, Abermaw a hefyd y £6 miliwn yn Rhydaman. Ond yr hyn y gallwn fod yn sicr ohono yw na fyddwn yn gwybod ble mae'r llifogydd nesaf yn mynd i ddigwydd.
Rwy'n pryderu, yr wythnos hon yn unig, bod y tymheredd yn codi'n gyflym. Mae'n ymwneud ag edrych ar y patrymau tywydd hynny nawr, oherwydd yn aml iawn, ar ôl cynnydd sydyn yn y tymheredd, yr wythnos ganlynol mae gennych law a fydd yn disgyn yn annisgwyl a llifogydd annisgwyl. Felly, fy nghwestiwn i chi, Dirprwy Brif Weinidog, yw ein bod yn gweithio gyda'r holl asiantaethau i ddarparu, lle bo hynny'n bosibl, yr holl offer sydd ar gael yn y blwch offer, ac nid y cynlluniau hynny yr ydym wedi'u crybwyll o ran seilwaith yn unig—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda, Joyce.
Mae hefyd yn ymwneud â'r atebion naturiol, oherwydd y peth arall sy'n digwydd, wrth gwrs, yw dirywiad bioamrywiaeth.
Yn wir. Diolch yn fawr. Rydych chi wedi mynd â ni i gyfeiriad gwahanol pwysig iawn yma. Mae dau bwynt penodol a godwyd gennych. Un yw ein bod ni'n dod yn llawer gwell nawr ar wybod, er enghraifft, ble mae'r bygythiadau o lifogydd o'r môr: cyfuniad o lanw uchel, ymchwyddiadau stormydd a digwyddiadau tywydd trawmatig. Byddwch chi'n gwybod ein bod wedi cyflwyno, i'r cyhoedd eu gweld, y mapiau hynny, ond yr hyn rydym ni hefyd wedi'i wneud—oherwydd gall hynny fod yn frawychus—yw dweud, 'A dyma sut y gallwn eu lliniaru ar sail blaenoriaeth.' Felly, rydym ni'n nodi'r cymunedau hynny lle mae'r achos busnes yn gryf, oherwydd mae yna gartrefi, mae yna fusnesau ac mae bywydau i'w diogelu ac ati. Mae hynny'n golygu efallai na fydd gan ardaloedd eraill amddiffyniadau cadarn, ond efallai y byddwn yn gweithio gyda phrosesau naturiol yno hefyd. Felly, rwy'n credu bod yr arfer o ddefnyddio prosesau naturiol, fel rheoli dalgylchoedd, yr hyn rydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, yr hyn rydym ni'n ei wneud gyda ffyrdd eraill o reoli tir, plannu, creu coetiroedd—mae ein grantiau coetir yn dal i fod ar waith ac ati—. Rydym yn arafu llif yr afonydd hefyd, wrth i ni, ar yr un pryd, wella bioamrywiaeth, atafaelu carbon ac ati. Mae gan bob un o'r pethau hyn rôl i'w chwarae. Fel y dywedwch chi, mae angen defnyddio pob offeryn yn y blwch offer.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'n bwysig ein bod yn troi at y mater hwn yn rheolaidd. Ym mis Chwefror fe wnaethom nodi pymtheg ar hugain o flynyddoedd ers llifogydd Tywyn, a brofais i, ynghyd â miloedd o bobl eraill, pan dorrodd amddiffynfeydd y môr yn Nhywyn yn ôl ym mis Chwefror 1990. Dyma'r gwacâd mwyaf ers yr ail ryfel byd, gyda miloedd o bobl yn gorfod cael eu hailgartrefu ar ôl i'r môr lifo i mewn. Ac, yn hollol gywir, mae Llywodraeth Cymru bellach yn buddsoddi yn ardal Tywyn a Bae Cinmel gyda'r amddiffynfeydd arfordirol hynny. Fodd bynnag, mae'r risg fwyaf o lifogydd, ar ôl i'r amddiffynfeydd hynny weld y buddsoddiad yn digwydd, yn mynd i ddod o gyfeiriad Afon Clwyd, a glan orllewinol Afon Clwyd, sydd hefyd angen ei gwella'n sylweddol. Tybed pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a rhanddeiliaid eraill, ynglŷn â sicrhau bod yr amddiffynfeydd hynny'n addas i'r diben, a bod y system ddraenio yn ardal Morfa Rhuddlan hefyd yn cael ei gwella, oherwydd mae honno'n achosi, mae gennyf ofn, lifogydd, pryd bynnag y bydd glaw trwm, mewn llefydd fel Belgrano, Abergele, Pensarn ac, yn anffodus, Tywyn hefyd.
Darren, diolch yn fawr am hynna, a diolch hefyd am groesawu'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud ym Mae Cinmel. Rydych chi'n ein hatgoffa'n gywir ein bod wedi gweld, dros y degawdau ac i lawr y cenedlaethau, ddigwyddiadau llifogydd erchyll o amgylch Cymru, a Lloegr hefyd. Mae angen i ni barhau i ddysgu oddi wrthynt ac rydym yn gwybod bod angen i ni barhau â lefel uchel o fuddsoddiad, a'r holl offer hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, gan gyfeirio'n ôl at gwestiwn Joyce, gan gynnwys rheoli llifogydd naturiol hefyd.
Yr hyn y byddwn yn eich annog yn gryf i'w wneud, ac Aelodau eraill sy'n edrych ar eu hardaloedd lleol eu hunain, a'u cyrsiau dŵr lleol, patrymau draenio traddodiadol, ffosydd ac ati, yw ymgysylltu â'r Awdurdod Rheoli Risg, RMA, y mae angen iddo gyflwyno cynlluniau sydd wedi'u cydgysylltu'n gywir ac yn gyfannol, ac mae pob ased mewn gwirionedd yn chwarae rhan o fewn hyn. Byddant bob amser yn ei wneud ar sail achos busnes. Byddant bob amser yn gwneud hynny ar sail yr hyn maen nhw'n credu y gall yr asedau hynny gyfrannu at liniaru llifogydd, ac atal llifogydd hefyd. Felly, yn hytrach na minnau'n dyfalu beth ddylai ddigwydd ar lawr gwlad, oherwydd mae'r hyn sydd gennyf, yn aml iawn, wedi ei roi i mi—y cyngor sy'n dweud, 'Dyma'r cyngor gan yr RMA, gan CNC a gan fy swyddogion hefyd'—ymgysylltu'n uniongyrchol â nhw, oherwydd weithiau mae gwybodaeth leol yn bwysig iawn hefyd.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Gydag un o bob saith eiddo, rwy'n credu—un o bob saith neu un o bob wyth—mewn perygl o lifogydd, mae'n ystadegyn brawychus iawn, ac mae'r cyllid hwn yn cael ei groesawu'n fawr. Cerddais o'r Rhyl i Brestatyn rhyw benwythnos yn ôl a gweld yr amddiffyniad arfordirol enfawr—yr arfogaeth graig honno yn cael ei rhoi ar waith. Rwy'n gweld bod clwb golff newydd yn cael ei adeiladu hefyd, fel rhan o hynny, sy'n cael ei groesawu'n fawr. Ond un o'r problemau mwyaf sydd gennym yw llifogydd dŵr wyneb, a phan fydd yn digwydd, mae'n digwydd yn gyflym iawn ac mae'n wirioneddol frawychus. Felly, rydw i eisiau gwybod beth ydych chi'n ei wneud ynglŷn â'i ddal yn yr ucheldiroedd i'w atal.
Ac wrth fynd yn ôl at berchnogaeth glannau'r afon, mae angen i ni gael pobl ar ein hochr ni, i wneud yn siŵr eu bod yn gydnerth, ond mae angen i bobl ar lawr gwlad wybod pwy sy'n gyfrifol am y ffosydd hynny, cwlferi ac ati. Mae awdurdodau lleol yn gofyn, felly, os gwelwch yn dda, allwch chi eu cefnogi, pan fyddant yn mynd allan i ddweud wrth dirfeddianwyr, 'Chi sy'n gyfrifol, nid ni, nid y cyngor, nid CNC'? Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud bod gwybodaeth ar wefan CNC, ond nid yw tirfeddianwyr yn mynd i droi at honno. Felly, rwy'n gofyn, a allwch chi gynhyrchu taflen neu rywbeth y gall cynghorau ei ddosbarthu, a hefyd er mwyn i drigolion wybod eu hunain pwy sy'n gyfrifol, fel y gallant gymryd rhan a bod yn fwy cydnerth? Diolch.
Carolyn, diolch yn fawr iawn. A wyddoch chi, rwy'n dweud faint rydym ni wedi symud ymlaen nawr o ran mapio pethau fel llifogydd o'r môr, ac mae ein hymgysylltiad â'r Swyddfa Dywydd a rhagolygon tywydd yn caniatáu i ni fod yn llwyddiannus wrth edrych i weld pryd mae'r digwyddiadau trawmatig yn symud i—nid 100 y cant yn hollol, ond llawer mwy nag yr oeddem ni. Ond dŵr wyneb yw un o'r heriau mwyaf, oherwydd gyda dŵr wyneb, ni allwch fapio yn gywir sut y bydd stryd benodol, treflun, yn ymddwyn.
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gweithio nawr gyda chynllunwyr, o ran ôl-osod ac addasu dylunio strydoedd, ond hefyd wrth i gymunedau newydd gael eu dylunio, i wneud yn siŵr eu bod yn well. Felly, un enghraifft yw'r draeniad trefol cynaliadwy a welwn nawr mewn llefydd fel Caerdydd ac mewn mannau eraill, yn fy nghymuned fy hun, gan ddefnyddio'r asedau naturiol, defnyddio dŵr ffo i gwlferi a hidlo, sydd hefyd yn amwynder braf, a bod yn onest, i bobl hefyd. Ond, ie, dŵr wyneb—dyna pam mae angen i bob partner ymgysylltu â hyn.
Ac ar reolaeth a pherchnogaeth glannau afon, y tirfeddianwyr sydd â chyfrifoldeb. Soniais fod gan CNC wybodaeth dda iawn, ddealladwy iawn ar eu gwefan. Fe af yn ôl at CNC a gofyn iddyn nhw a oes ganddyn nhw daflenni ac ati ac y gallant hefyd ymgysylltu ag Awdurdodau Rheoli Risg ac awdurdodau lleol, oherwydd mae angen i ni hyrwyddo hyn. Ond i fynd at dirfeddiannwr a dweud, 'Wel, edrychwch, mae gennych chi rôl hefyd'—dyna beth ddylem ni fod yn ei wneud. Ni allwn ddisgwyl i'r wladwriaeth ddod i mewn a gwneud popeth. Os oes gennych gwrs dŵr, os oes gennych fwnd neu arglawdd sy'n rhan o'r asedau llifogydd, beth bynnag, yna mae angen iddynt gael eu cynnal gennych chi hefyd. Ond byddaf yn edrych ar hynny yn y man.
Ond rydych chi'n dweud yn gywir, Dirprwy Lywydd, fel y mae llawer wedi dweud, oherwydd graddfa'r hyn yr ydym yn ei wynebu nawr mae'n rhaid i ni sicrhau bod y buddsoddiad a'r arbenigedd a'r sgiliau hyn yn parhau: 273,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd gan afonydd, y môr a dŵr wyneb; 400 eiddo mewn perygl o erydiad arfordirol. Wrth i'r hinsawdd newid, bydd y risgiau hyn yn cynyddu, felly mae angen i ni ymdrechu'n well i ymdrin â hyn hefyd, ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn falch o wneud hynny.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: diwygio deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd gwladol. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaeth cyfyngiadau'r coronafeirws effeithio yn fawr iawn ar ddeintyddiaeth y gwasanaeth iechyd. Mae wedi bod yn araf i adfer yn llwyr o effaith y pandemig. Mae'r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn heriol i'r gwasanaeth hwn. Mae dros filiwn o bobl nawr yn cael triniaeth reolaidd bob blwyddyn. Mae cleifion newydd, yn oedolion ac yn blant, yn cael eu gweld, diolch i'n gwaith i ehangu mynediad drwy amrywio’r contract.
Ond mae gormod o bobl yn dal i’w chael hi’n anodd dod o hyd i ddeintydd dan y gwasanaeth iechyd mewn rhai rhannau o Gymru. Rwy'n benderfynol o'i wneud yn haws cael mynediad at ddeintyddiaeth y gwasanaeth iechyd, a'r nod yw y bydd pawb sydd eisiau cael eu gweld gan ddeintydd dan y gwasanaeth iechyd yn gallu gwneud hynny.
Wrth wraidd hyn mae'r contract newydd ar gyfer gwasanaethau deintyddol cyffredinol. Mae e'n newid pethau yn sylfaenol. Mae'r model presennol wedi ei seilio ar gyflawni unedau o weithgarwch deintyddol, neu'r treadmill, fel mae'n cael ei alw. Cafodd y model hwn ei gyflwyno bron i 20 mlynedd yn ôl yn 2006. Ers y pandemig, rŷn ni wedi cyflwyno amrywiadau blynyddol i'r contract i ddelio gyda rhai o'r anawsterau yn y contract unedau o weithgarwch deintyddol. Ond heb gontract newydd, allwn ni ddim mynd yn ddigon pell i ddelio gyda’r holl broblemau unedau o weithgarwch deintyddol fel dull mesur.
Yn lle galw pawb yn ôl yn awtomatig bob chwe mis i gael apwyntiad arferol, bydd y contract newydd wedi ei seilio ar atal ac ar ddarparu triniaeth ddeintyddol yn ôl risg ac anghenion. Bydd hefyd yn cynnig tâl gyda chydnabyddiaeth deg a deniadol i'r proffesiwn deintyddol. Bydd hyn yn sicrhau bod deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn ddeniadol.
Nid ar chwarae bach mae gwneud newid sylfaenol fel hwn, a rhaid mynd ati mewn ffordd sy'n cynnwys pawb gyda diddordeb yn y mater.
Cynhaliwyd trafodaethau teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, y GIG a Phwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, sy'n cynrychioli'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru, rhwng Medi 2023 a Hydref 2024 i ddylunio a datblygu'r contract newydd. Fel sy'n digwydd ym mhob trafodaeth, mae yna agweddau y gall pob parti gytuno arnynt yn hawdd; mae yna rai pwyntiau a allai fod yn fwy dadleuol. Nid yw pawb yn cael popeth y maen nhw ei eisiau, ond mae'n welliant i bawb.
Mae'r contract newydd arfaethedig yn nodi newid sylweddol i hen gontract 2006. Mae rhai o'r agweddau allweddol sy'n newid yn cynnwys: creu un llwybr mynediad i bobl gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG; gweithredu system gydnabyddiaeth ariannol wahanol sy'n decach ac yn fwy tryloyw; datgymell rhag archwiliadau rheolaidd diangen; addasu taliadau a godir ar gleifion oherwydd newidiadau yn y system gydnabyddiaeth ariannol, a newid yn y ffordd y mae'r taliadau hyn i'w casglu; newidiadau i delerau ac amodau'r contract, megis ynghylch absenoldeb rhiant. Felly, o ystyried graddfa'r newidiadau sy'n effeithio ar y cyhoedd a'r proffesiwn deintyddol, byddaf yn cyflwyno'r contract arfaethedig newydd ar gyfer ymgynghoriad, er mwyn i'r proffesiwn deintyddol ehangach yng Nghymru a'r cyhoedd gael cyfle i ddweud eu dweud. Gallaf gyhoeddi heddiw, Dirprwy Lywydd, y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio cyn diwedd y mis hwn, a byddwn yn annog pawb sydd â buddiant yn neintyddiaeth y GIG yng Nghymru i ystyried y cynigion yn ofalus ac i ymateb i'r ymgynghoriad hwn cyn gynted â phosibl.
Mae'r contract wedi cymryd amser hir i'w ddatblygu i'r cam hwn, ac rwyf eisiau gweld y contract newydd yn cael ei weithredu o fis Ebrill 2026. Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i gynyddu mynediad i ddeintyddiaeth y GIG o fewn terfynau'r contract presennol. Ers mis Ebrill 2022, rydym wedi cynnig contract ag amrywiad i bob practis, sy'n cynnwys gofyniad i weld cleifion newydd. Yn sgil hyn mae tua wyth allan o 10 practis yn dewis gweithio o dan y trefniadau hyn, sy'n sicrhau bod pobl sydd â'r angen mwyaf ac nad oes ganddynt berthynas bresennol â deintydd y GIG yn cael eu gweld.
Dirprwy Lywydd, mae gwybodaeth gan reolwyr yn dweud wrthym fod y trefniadau'r amrywiad eisoes wedi arwain at fwy na 445,000 o gleifion newydd yn derbyn cwrs llawn o driniaeth ddeintyddol y GIG ers mis Ebrill 2022. Mae 163,000 o apwyntiadau eraill ar gyfer cleifion newydd hefyd wedi'u darparu ers mis Ebrill 2023. Mae llawer mwy i'w wneud ond mae'r amrywiad hwn yn helpu i hwyluso mynediad i ddeintyddiaeth y GIG.
Rydym yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i ddeintydd y GIG. Fis diwethaf, gwnaethom lansio'r porth mynediad digidol ledled Cymru, sy'n caniatáu i bobl gofrestru eu diddordeb mewn derbyn deintyddiaeth y GIG os nad ydyn nhw wedi cael mynediad at ddeintydd GIG yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Mae hyn yn newid yn sylfaenol y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, ac nid oes angen bellach i unrhyw un ffonio sawl practis i ddod o hyd i un a allai fod yn derbyn cleifion newydd.
Mae pobl sydd wedi cofrestru ar y porth yn cael apwyntiad gyda deintydd y GIG pan fyddant ar gael. Mae'n darparu un gwasanaeth rhestr aros genedlaethol i'r cyhoedd nad oes ganddynt fynediad at wasanaeth gofal deintyddol ar hyn o bryd ac a fydd, am y tro cyntaf, yn rhoi darlun clir o wir raddfa'r galw am wasanaethau deintyddol y GIG ledled Cymru. Gall unrhyw un sydd ag angen deintyddol brys gysylltu â GIG 111 i gael cymorth.
Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau cloi drwy ailadrodd yr hyn a ddywedais i ym mis Ionawr. Rydym wedi cymryd cyfres o gamau bach ond pwysig i wneud newidiadau er gwell wrth i ni ddod allan o'r pandemig dros y blynyddoedd diwethaf, ond rydym bellach yn canolbwyntio ar gyflawni'r hyn fydd y newid mwyaf i wasanaethau deintyddol y GIG mewn bron i 20 mlynedd. Rwy'n ymrwymedig i gyflwyno contract deintyddol newydd sy'n wirioneddol ymatebol i anghenion cleifion ac yn eu blaenoriaethu, ac sy'n deg ac yn ddeniadol i'r proffesiwn deintyddol, ac i wneud hynny erbyn Ebrill 2026.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n nodi bod dros 1 miliwn o bobl yn derbyn triniaeth ddeintyddol y GIG bob blwyddyn. Ond mae ffigurau eich Llywodraeth eich hun yn dangos bod nifer y cleifion yn parhau i fod 30 y cant yn is na'r hyn oeddent yn 2019, ac mae llawer o bobl ledled Cymru yn dal i gael trafferth cael mynediad at ddeintydd y GIG, gyda rhai yn aros am flynyddoedd am apwyntiad. Felly, hoffwn wybod: a yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o bobl sy'n aros ar restr aros am apwyntiad deintyddol?
Rydych wedi cyhoeddi porth mynediad digidol, yr ydych yn honni y bydd yn ei gwneud yn haws i gleifion gael triniaeth y GIG. Fodd bynnag, y cyfan y mae hwn yn ei wneud yw cofrestru'r galw; nid yw'n cynyddu nifer yr apwyntiadau GIG sydd ar gael mewn gwirionedd. Felly, mae gennyf ddiddordeb, Ysgrifennydd Cabinet: i wybod faint o gleifion sydd wedi llwyddo i gael gafael ar ddeintydd y GIG drwy'r system hon ers ei lansio? Ac a wnewch chi gydnabod, heddiw, oni bai bod mwy o ddeintyddion y GIG yn cael eu recriwtio a'u cadw, y bydd y system dim ond yn gwasanaethu fel rhestr aros yn hytrach na datrysiad go iawn i'r broblem?
Rydych chi'n nodi y bydd y contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol newydd hwn yn darparu taliadau cydnabyddiaeth ariannol tecach, mwy tryloyw. Ond, gadewch i ni fod yn glir, daeth trafodaethau i ben heb gytundeb llawn rhwng y Llywodraeth a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain. Ers 2022, mae 189 o ddeintyddion y GIG wedi gadael y gwasanaeth yng Nghymru. Mae hynny'n cynrychioli 13 y cant o'r gweithlu, ac mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi rhybuddio, yn 2025, y gallem weld y nifer fwyaf mewn hanes o gontractau yn cael eu dychwelyd, gyda mwy o ddeintyddion yn lleihau eu hymrwymiadau GIG oherwydd pwysau ariannol.
Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod: sut ydych chi'n bwriadu atal mwy o ddeintyddion rhag gadael, pan nad yw'r contract wedi'i gytuno'n llawn â'r proffesiwn, a pha sicrwydd allwch chi ei roi i ddeintyddiaeth y GIG ledled Cymru y byddant yn parhau i fod yn hyfyw yn ariannol ar gyfer practisau o dan y contract newydd hwn? A sut y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r heriau cyflog sy'n wynebu deintyddion dan hyfforddiant, gyda'r problemau ynghylch ôl-daliadau yn eu cyflogau?
Ysgrifennydd Cabinet, mae eich datganiad yn amlinellu bod yr amrywiadau contract newydd wedi helpu i wella mynediad. Fodd bynnag, mae practisau'n wynebu pwysau ariannol difrifol, gan gynnwys codiadau mewn yswiriant gwladol cyflogwyr sydd wedi eu tanariannu a chostau cyflog byw, sy'n cael eu gorfodi gan eich Llywodraeth yn San Steffan, a chodiad contract o 6 y cant y mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dweud ei fod yn doriad cyflog mewn termau real, oherwydd chwyddiant dau ddigid. Mae'r Llywodraeth hon wedi dweud bod ei dwylo wedi'u clymu, ond eto mae wedi sicrhau cynnydd o 11 y cant i feddygon teulu, tra bod deintyddion y GIG dim ond yn cael 6 y cant, gydag amodau ychwanegol. Hoffwn wybod: pam y mae Llywodraeth Cymru yn methu â darparu setliad ariannol teg i ddeintyddion y GIG ledled Cymru, a pha gymorth ar unwaith y byddwch yn ei gynnig i bractisau deintyddol sy'n cael trafferth gyda chostau cynyddol i atal rhagor o gontractau rhag cael eu dychwelyd?
Rydych chi'n dweud bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wella mynediad, ond mae buddsoddiad mewn deintyddiaeth y GIG mewn gwirionedd yn gostwng. Mae eich ffigurau eich hun yn dangos y llynedd cafodd lai ei wario ar ddeintyddiaeth y GIG yn 2023-24 nag yn y flwyddyn flaenorol, er gwaethaf cynnydd yn y galw o ran cleifion. Ar yr un pryd, mae costau cleifion wedi saethu i fyny. Mae taliadau gofal brys wedi mwy na dyblu, ac mae llawer o gleifion bellach yn talu hyd at 85 y cant o gost eu triniaeth. Hoffwn wybod, Ysgrifennydd Cabinet: sut ydych chi'n cyfiawnhau cynnydd hanesyddol mewn taliadau a godir ar gleifion, pan fo gwariant cyffredinol ar ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru yn gostwng mewn gwirionedd? Ac a wnewch chi ymrwymo i rewi neu adolygu'r taliadau hyn i sicrhau nad yw cleifion yn cael eu prisio allan o ofal hanfodol y GIG?
Rydych chi'n dweud y bydd y contract newydd hwn yn diwygio'r model yn sylfaenol i symud i ffwrdd o'r system uned o weithgaredd deintyddol sydd wedi dyddio. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi rhybuddio bod y broses negodi yn ddiffygiol gyda diffyg amlen ariannol i gyflawni newid go iawn. Maent yn dadlau nad yw'r contract hwn yn ddiwygiad sylfaenol i'r proffesiwn a addawyd iddynt, ac a addawyd i gleifion. Felly, a allwch chi gadarnhau a fydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i gefnogi'r contract newydd hwn y tu hwnt i'r gyllideb bresennol, a sut y byddwch chi'n sicrhau nad yw'r contract hwn yn symud costau a'u rhoi ar ysgwyddau deintyddion a chleifion, yn hytrach na thrwsio'r problemau ariannol dwfn sydd yn y system?
Ysgrifennydd Cabinet, mae deintyddiaeth y GIG mewn argyfwng. Mae cleifion yn talu mwy ac yn derbyn llai. Mae deintyddion yn gadael yn y niferoedd uchaf erioed, ac mae practisau'n ei chael hi'n anodd aros mewn busnes. Yr hyn sydd angen iddynt ei weld yw gweithredu, nid geiriau caredig, ac ymrwymiad go iawn—ymrwymiad go iawn—i fuddsoddi a diwygio. Er iddo gael ei gyflwyno fel cynnydd, ni chytunwyd yn llawn ar y contract newydd, gyda'r proffesiwn. Nid oes ganddo'r cyllid sydd ei angen i'w wneud yn fwy cynaliadwy ledled Cymru. Fel y dywedais, mae taliadau a godir ar gleifion ar ei lefel uchaf erioed, tra bod buddsoddiad y Llywodraeth yn gostwng. Mae practisau'n gwegian o dan gostau cynyddol, a heb ymyrraeth frys, byddant i gyd yn dychwelyd eu contractau, gan wthio deintyddiaeth y GIG yn agosach at y dibyn. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi weithredu nawr i ariannu deintyddiaeth y GIG yn iawn, cadw'r gweithlu, amddiffyn cleifion rhag costau cynyddol, neu a wnewch chi sefyll i'r ochr, fel y mae Ysgrifenyddion Cabinet eraill wedi'i wneud o'r blaen, a dim ond edrych ar y system yn methu?
Wel, nid oes gan gwestiynau'r Aelod unrhyw gysylltiad â realiti nac â'r datganiad yr wyf newydd ei roi heddiw. Y gwir amdani yw—[Torri ar draws.] Rwy'n cymryd o'r ffaith na heriodd bron dim o'r hyn a ddywedais i am y contract newydd, ei fod o leiaf yn derbyn yr egwyddorion yr ydym yn ceisio eu cyflawni trwy'r diwygiadau. Gofynnodd nifer o gwestiynau, a gwnaf fy ngorau i ateb rhai ohonynt.
Mae'r porth mynediad deintyddol wedi bod ar waith ers pedair wythnos erbyn hyn rwy'n credu. Felly, mae'n amlwg na fydd ei wir effaith yn cael ei theimlo eto, fel na fyddai'r Aelod yn disgwyl i hynny ddigwydd ychwaith. Mae'n ein helpu i ddeall gwir lefel y galw am ddeintyddiaeth y GIG yn y system yng Nghymru. Mae'n borth, ac, felly, yn amlwg, nid yw ar ei ben ei hun yn darparu mynediad i fwy o ddeintyddiaeth y GIG yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae'n bwysig—rwy'n tybio mai dyna pam yr argymhellodd y pwyllgor ein bod yn archwilio hyn—i ddarparu un pwynt mynediad a ffordd fwy cyfleus i'r aelodau hynny o'r cyhoedd sy'n ceisio deintyddiaeth y GIG i gael mynediad ati heb orfod ffonio nifer o bractisau, sef yr hyn yr oedd angen i rywun ei wneud o'r blaen. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen. Rydym yn gwybod bod gan hanner y boblogaeth fynediad at ddeintyddiaeth y GIG, ac rydym yn deall yn llwyr fod mwy o alw na sydd o gyflenwad y gwasanaeth ar hyn o bryd.
Mae'n gwneud y pwynt am y newid yn nifer y deintyddion. Mae fy ffigurau yn dweud wrthyf fod nifer y deintyddion sy'n darparu triniaeth y GIG wedi aros yn gyson yn gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf. Felly, yn 2023-24, roedd 1,398 o ddeintyddion a gofnododd weithgaredd GIG, sydd tua 40 yn llai na 10 mlynedd yn ôl. Mae'n amlwg bod mwy o alw nag na sydd o cyflenwad, ond rwy'n credu nad yw'r sefyllfa yn union fel y disgrifiodd yr Aelod. Yr hyn yr ydym eisiau sicrhau yw bod gwneud mwy o weithgaredd GIG yn ddeniadol i fwy o ddeintyddion. Felly, diben y contract yw ceisio gwella hynny, o safbwynt deintyddion, fel eu bod yn cael pecyn tecach o gydnabyddiaeth ariannol—a bydd yn gweld, pan fydd yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi, y bydd rhai o'r pwyntiau a wnaeth am hynny wedi cael sylw yn y contract—gan hefyd sicrhau ein bod yn ymestyn deintyddiaeth y GIG i fwy o'r cyhoedd.
Gwnaeth rai pwyntiau am ffioedd a godir ar gleifion. Rwy'n siŵr, bydd yn falch o wybod mai effaith gyffredinol y contract newydd fydd y bydd mwy o bobl yn talu llai am eu triniaethau deintyddol nag y byddai'n wir o dan y drefn bresennol. Felly, mae hynny'n gadarnhaol.
Gwnaeth bwynt am gyflog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio bod y trefniadau a gyflwynais yn unochrog ar ddechrau'r flwyddyn hon, ychydig wythnosau yn ôl, yn cynrychioli'r cynnydd mwyaf mewn cyflog ymarferwyr annibynnol deintyddol erioed. Felly, gall wneud pa bynnag sylwadau y mae ei eisiau am hynny; dyna mewn gwirionedd yw'r sefyllfa. Nid oeddwn yn barod i oedi ymhellach—[Torri ar draws.]—rhag rhoi i'r deintyddion y cyllid sydd ei angen arnynt, a dyna pam y gwnes y penderfyniad hwnnw—[Torri ar draws.]—ychydig wythnosau yn ôl.
Anwybyddwch sylwadau'r Aelod ar ei eistedd.
Rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud hynny. Roedd deintyddiaeth angen yr arian, ac roeddem yn falch ein bod wedi gallu ei ddarparu. Safbwynt y Llywodraeth, ac nid wyf yn ymddiheuro o gwbl drosto, yw pan fyddwn yn darparu cynnydd sylweddol i gontractau contractwyr annibynnol, rydym bob amser, a byddwn bob amser yn gofyn am addasiadau a diwygiadau yn gyfnewid am hynny. Mae hwnnw'n safbwynt gwbl resymol i ni ei gymryd, ac mae'n gwbl gyson â stiwardiaeth ddoeth o gyllid cyhoeddus, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. A gyda llaw, rwy'n credu bod fy mhrofiad hyd yma yn awgrymu bod y pecyn eang hwnnw wedi'i groesawu'n gyffredinol gan y proffesiwn, ac rwy'n credu bod hynny'n beth cadarnhaol.
Mae'n gwneud pwynt pwysig am hyfywedd practis deintyddol. Yn amlwg, mae angen i ni sicrhau bod y contract yn ddeniadol i ddeintyddion, oherwydd yr hyn yr ydym eisiau ei weld yw mwy o aelodau o'r cyhoedd yn cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, a byddwn dim ond yn cyflawni hynny os yw deintyddion yn dewis derbyn y contract GIG. Mae'r amrywiadau yr ydym wedi'u gweld hyd yn hyn wedi cael eu derbyn mewn niferoedd mawr iawn. Nid ydynt, mewn unrhyw fodd, yn datrys yr holl heriau. Ac er ei bod yn wir nad yw pob agwedd ar y contract y byddaf yn ymgynghori arnynt o'r wythnos nesaf ymlaen wedi'u cytuno gyda'r Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig, mae rhannau helaeth ohono wedi'u cytuno; byddwn i'n dadlau bod y rhannau pwysicaf ohono wedi'u cytuno. Ac rwyf wedi gwneud cynnig i'r Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig sef y byddaf yn parhau i drafod gyda nhw a mireinio'r elfennau hynny nad ydynt wedi'u cytuno eto, ond yn syml, nid oeddwn yn barod i aros yn hwy. Mae'n amlwg bod angen diwygio'r contract; mae'n amlwg bod deintyddion yn disgwyl, ac mae hawl ganddynt, gael amser rhagarweiniol ar gyfer rhoi'r trefniadau hynny ar waith. Ac felly rwy'n gwbl glir ein bod eisiau i'r contract newydd fod ar waith erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly rydym yn ymgynghori arno, byddwn yn cymryd barn y proffesiwn a'r cyhoedd, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Os ydym ni i gredu sbin y Llywodraeth yma, ac, yn wir, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yna ddeintyddiaeth ydy’r un lle ble mae Cymru yn rhagori o ran darpariaeth iechyd. Mae pawb yma yn cofio’r datganiad a wnaed yng nghynhadledd hydref y Blaid Lafur yn Lerpwl, wrth i Lywodraeth newydd Llafur San Steffan ddweud eu bod nhw am gymryd ysbrydoliaeth o arferion da Llywodraeth Cymru ar ddeintyddiaeth. Ac ers hynny, mae’r Prif Weinidog yma wedi ail-adrodd sawl gwaith bod Cymru o flaen Lloegr pan fo’n dod at ddatgloi apwyntiadau deintyddol y gwasanaeth iechyd yma. Ond pan fo’r BDA yn cyhuddo’r Llywodraeth o beidio â bod yn onest am niferoedd apwyntiadau, gan ddweud bod yna anialwch deintyddol yn lledaenu ar draws Cymru, ac ein bod ni yn clywed am gleifion yn gorfod tynnu eu dannedd eu hunain, yna mae’n amlwg bod yna rywbeth yn bwdr o fewn deintyddiaeth yma yng Nghymru.
Mae'r problemau hyn wedi bod yn amlwg ers peth amser. Yn ôl yn 2019, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y pryd ymchwiliad ar ddeintyddiaeth, lle rhybuddiodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain a chadeirydd pwyllgor deintyddol cyffredinol Cymru y byddai'r gweithlu yn gwangalonni o ganlyniad i ddiwygiadau contractau gydag anfodlonrwydd eang, yn arbennig, gyda metrigau uned o weithgaredd deintyddol a bennwyd yn fympwyol sydd yn y bôn, wedi datgymell deintyddion y GIG rhag derbyn cleifion newydd. Ond, yn hytrach nag ymgysylltu'n adeiladol â'r pryderon hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen ar yr un llwybr i ddistryw ac, mewn modd nodweddiadol, wedi cau llygad ar argyfwng sy'n datblygu'n gyflym yn y sector. Gadawyd y mater hwn heb ei ddatrys ers blynyddoedd lawer, ac o ganlyniad mae pethau wedi gwaethygu i'r graddau nad yw gwaith ar gyfer y GIG bellach yn ariannol hyfyw ac mae deintyddion yn dychwelyd eu contractau mewn niferoedd. Felly, pan fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn siarad am well cydnabyddiaeth ariannol, a yw hyn yn golygu sgrapio'r uned o weithgaredd deintyddol yn llwyr? A pha system y mae'n bwriadu ei rhoi yn ei le i wneud gwaith ar gyfer y GIG mor ddeniadol â'r sector preifat?
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn disgrifio diwygio'r contract fel canlyniad i negodi teirochrog, ond mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi cael eu cadw yn y tywyllwch ers mis Medi. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain fel rhanddeiliad allweddol—wedi'r cyfan, mae deddfwriaeth y Llywodraeth ei hun yn pwysleisio pwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol—ac a yw'n hyderus y bydd eu haelodau, yn gyffredinol, yn cefnogi'r cynigion newydd hyn? Mae'n ymddangos bod y berthynas rhwng y Llywodraeth a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi torri i lawr. Ar un llaw, dywed y Llywodraeth hon ei bod yn datgloi cannoedd o filoedd o apwyntiadau ychwanegol, ond mae'r Gymdeithas yn eu cyhuddo o gamdrafod ffigurau, gan ddweud nad yw datganiadau'r Llywodraeth yn adlewyrchiad gwirioneddol o ddarpariaeth well yn y gwasanaethau deintyddol. Felly, mae arnom angen gonestrwydd a thryloywder gan y Llywodraeth. A all yr Ysgrifennydd Cabinet gyfrif am yr anghysondeb hwn? Ac a allwn ni fod yn ffyddiog fod eich ffigurau—y ffigurau y bydd y contract hwn yn seiliedig arnyn nhw—yn ffeithiol gywir?
Gan symud ymlaen at y manylion cyfyngedig a gyhoeddwyd, cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at gyfnod o ymgynghori. Yn gyntaf, a all gadarnhau bod y pwyntiau a wnaeth wedi cael eu trafod yn ddidwyll ac nad ydynt yn cael eu gorfodi ar y sector? A sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod y broses ymgynghori 12 wythnos yn wirioneddol gynhwysol ac y gwrandewir ar bryderon gweithwyr proffesiynol deintyddol, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi tynnu allan o'r ymgynghoriad â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, fel y soniais i yn gynharach? Gyda data'n dangos bod 35 o 55 o bractisau yn y gogledd wedi methu â chwrdd â metrigau presennol yn 2023-24, pam y mae yna symudiad i wneud y metrigau hyn hyd yn oed yn fwy heriol ar gyfer y flwyddyn i ddod?
Mae practisau deintyddol eisoes yn llawn ac yn cael trafferth gyda chapasiti. Felly, pa fesurau cyllido ychwanegol sy'n cael eu cyflwyno i gefnogi practisau i gyrraedd targedau cleifion newydd ac i sicrhau nad yw practisau yn cael eu cosbi'n ariannol am gymryd mwy o waith? Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu diogelu dewis cleifion yn y system porth mynediad deintyddol, gan sicrhau nad yw cleifion yn cael eu dyrannu ar hap i bractisau yn erbyn eu dewisiadau? Yn olaf, unwaith y bydd y contract hwn, ar ôl ymgynghori, yn weithredol, pa mor hyderus yw'r Ysgrifennydd Cabinet y bydd y diwygiadau hyn yn rhoi deintyddiaeth y GIG ar sail fwy cynaliadwy ac yn atal y pydredd sydd wedi cael ei ganiatáu i ymsefydlu dros y degawd diwethaf?
Mae'r contract yn gyfraniad at ddatrys yr her gyffredinol, fel y gwnes yn glir yn fy ateb i James Evans. Nid wyf yn credu y bydd yn datrys yr holl heriau yn y system, ond mae'n bwriadu ymestyn mynediad i ddeintyddiaeth y GIG a gwneud hynny trwy ei wneud yn fwy deniadol i ddeintyddion ac i ddarparu'r cydnerthedd hwnnw i bractisau deintyddol. Rwy'n credu fy mod wedi nodi ein safbwynt mewn perthynas â hynny.
Gofynnodd rai cwestiynau penodol i mi mewn perthynas ag unedau o weithgaredd deintyddol, ac mae'n wir y bydd mecanwaith newydd ar gyfer codi tâl a chydnabyddiaeth ariannol yn y contract newydd, a fydd yn adlewyrchu'r gweithgaredd yn well ac yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae deintyddion wedi dweud wrthyf eu hunain eu bod yn eu hwynebu gyda'r bandio eang presennol o weithgareddau. Felly, bydd yn mynd at galon hynny. Dyna un o'r agweddau pwysicaf y cytunwyd arnynt.
I fod yn glir, bu trafodaethau teirochrog. Dywedais yn fy atebion i'r cwestiwn blaenorol pam yr oedd rhaid cwblhau'r trafodaethau hynny yn hydref y llynedd, ond fe wnaethant ymestyn dros 13 mis ac roeddent yn fanwl iawn, iawn. Y cyfan a wyddom oddi wrth y proffesiwn yw eu bod eisiau contract newydd yn ei le sy'n mynd i'r afael â'r heriau yr ydym i gyd wedi'u mynegi'n berffaith resymol yn y Siambr hon ers peth amser. Mae'r contract hwn yn ymdrin â'r rhan fwyaf o'r heriau mwyaf hynny.
Byddwn yn gwrando ar ymateb y proffesiwn deintyddol yn gyffredinol, ac yn bwysig, ar y cyhoedd, a byddwn yn ystyried y sylwadau a'r ymatebion hynny fel y gwnawn mewn unrhyw ymgynghoriad. Rydym eisoes wedi cael rhai digwyddiadau ymgynghori gyda deintyddion, i'w gwneud yn ymwybodol bod hyn yn dod, fel bod pobl yn barod ac yn ymgysylltu â'r broses. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn gwneud hynny.
Rwy'n credu mai'r ffordd orau o ddatblygu trafodaethau ynghylch cyflog a thelerau ac amodau eraill yw mewn partneriaeth gymdeithasol. Rydym ni wedi cyflawni gwerth dwy flynedd o drafodaethau yn yr ysbryd hwnnw, yn sicr—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i?
Gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain?
Gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain. Rydym ni wedi gwneud hynny dros ddwy flynedd mewn perthynas â'r setliadau dwy flynedd ddiwethaf. Fe wnaethom gwblhau'r flwyddyn gyntaf mewn cytundeb; yr ail, fel y dywedais i, nid oeddem yn gallu dod i gytundeb, a gwnes benderfyniad unochrog yn gynharach eleni i gynyddu cyflog deintydd contractwr annibynnol drwy'r taliad sengl mwyaf erioed, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud hynny.
Mae rhai materion nad ydynt wedi'u datrys mewn perthynas â'r contract yn y trafodaethau dros y 13 mis gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, a phan wnes i gyfarfod â nhw ddiwethaf, ac rwy'n credu yn ôl pob tebyg, tua thair neu bedair wythnos yn ôl, fe wnes i'r cynnig i gael fy arwain ganddynt ynghylch a oeddent yn dymuno parhau â'r trafodaethau hynny mewn partneriaeth gymdeithasol, ochr yn ochr â'r ymgynghoriad, neu a oeddent yn dymuno cadw pellter hyd braich a dim ond gwneud sylwadau ar ddatblygiadau. Mae'n gyfan gwbl yn eu dwylo nhw pa un fyddai'n well ganddynt. Rwy'n sicr yn fy meddwl mai dull partneriaeth gymdeithasol yw'r dull gorau. Rwyf wedi eirioli dros hynny mewn rolau blaenorol yn y Llywodraeth gyda rhywfaint o lwyddiant, ac rwy'n ymrwymedig i hynny, fel y mae'r Llywodraeth, ond ar ddiwedd y dydd, byddwn yn symud ymlaen ym mha bynnag ffordd sy'n gweithio i'r ddau barti.
Mae cyfnod o'n blaenau pan fyddwn yn gwrando ar y proffesiwn, y cyhoedd, a'r sylwadau y bydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dymuno eu cyflwyno i ni, naill ai mewn partneriaeth gymdeithasol neu mewn rhyw ffordd arall, a byddwn yn myfyrio ar y rheini ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Byddwn yn annog pobl i ymgysylltu â hyn. Mae'n un o'r newidiadau mwyaf, mae'n debyg y newid mwyaf mewn deintyddiaeth o fewn y GIG mewn bron i chwarter canrif, felly mae'n bwysig ein bod ni'n clywed yr holl leisiau hynny.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Cyn COVID, gadawodd nifer fawr o ddeintyddion y GIG oherwydd gallent wneud llawer mwy o arian mewn practis preifat. Roedd y rhai a adawyd ar ôl wedi ymrwymo i egwyddorion y GIG. Ar ôl ymadael a'r Undeb Ewropeaidd, rhoddodd deintyddion dwyrain a de Ewrop y gorau i ddod i ymarfer yng Nghymru yn y niferoedd a oedd yn dod yn flaenorol. Rwy'n siarad fel rhywun a oedd â deintydd o dde Ewrop a dwyrain Ewrop yn fy mhractis lleol. Mae gormod o bobl wedi profi anawsterau wrth ddod o hyd i ddeintydd y GIG. Doeddwn i byth yn deall pam roedd angen archwiliadau chwe misol, neu'n waeth na hynny, pam yr oedd angen deintydd cymwys i lanhau fy nannedd ar ddiwedd yr archwiliad.
Mae contractau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn or-gymhleth ac nid ydynt wedi gwasanaethu cleifion na'r rhai sy'n rhedeg practisau deintyddol yn dda. A gaf i annog Llywodraeth Cymru i greu system sy'n ariannu triniaethau unigol yn hytrach na'r hyn oedd yn digwydd ar un adeg, sef talu'r un faint am un neu dri llenwad i'r un claf? Os ydym eisiau i ddeintyddiaeth y GIG barhau, mae arnom angen system gydnabyddiaeth ariannol deg, sy'n dderbyniol i ddeintyddion, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gael cyngor gan ddeintyddion presennol neu flaenorol sydd wedi gweithio mewn practisau cymunedol ac sy'n gwybod yn union sut beth yw rhedeg y practisau hynny.
Diolch i Mike Hedges am hynna. Rwy'n credu fy mod i'n cytuno â hynna i gyd. Yn sicr, rwyf eisiau sicrhau ein bod yn clywed llais ymarferwyr deintyddol mewn ystod o wahanol leoliadau mewn ymateb i'r ymgynghoriad. Rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwerus mewn perthynas â sut yr ydym yn talu cydnabyddiaeth ariannol, ac mae'r trefniadau bandio presennol yn heriol o safbwynt deintydd, ac felly rwy'n credu y bydd yr Aelod yn hapus pan fydd yn gweld yr ymgynghoriad pan gaiff ei gyhoeddi cyn diwedd y mis hwn. A bydd yn gwybod mai sefyllfa bresennol y Llywodraeth yw y bydd symud i ffwrdd o archwiliadau arferol ond diangen yn rhyddhau capasiti ar gyfer gwasanaeth sy'n seiliedig yn fwy ar anghenion, sydd wedi'r cyfan yr hyn y mae'r GIG cyfan wedi'i seilio arno, ac felly dylai hynny fod yn berthnasol mewn deintyddiaeth fel mewn mannau eraill. A fy nealltwriaeth yw, gyda'r camau yr ydym wedi gallu eu cymryd, fel petai, o fewn fframwaith y trefniadau cytundebol presennol, a fydd yn cael eu disodli gan y contract newydd, ein bod wedi gallu gwneud rhai newidiadau i ddatgymell, os hoffech chi, rhag yr archwiliadau diangen hynny, i gymhwyso canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n ein symud i gyfeiriad gwahanol, ond byddwn yn gallu gwneud llawer mwy o hynny gyda'r darpariaethau yn y contract newydd wrth i ni gynllunio i ymgynghori ar hynny.
'Ers gormod o amser mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig sbin, hanner gwirioneddau neu siarad dwbl ar ddeintyddiaeth.'
Dyna eiriau Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, nid fy ngeiriau i. Roedd hynny o'r diwydiant ei hun, yn ei lythyr agored fis diwethaf. A byddwn yn awgrymu bod angen i chi gael y diwydiant ar eich ochr chi. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno. Ond, yn amlwg, bu methiant rhwng Llywodraeth Cymru a'r diwydiant eu hun. Sut ydych chi'n mynd i fynd i'r afael â hynny? Rwy'n gwerthfawrogi, yn eich datganiad, eich bod yn siarad am y negodi sy'n digwydd, a bydd gwahanol safbwyntiau, ond heb os nac oni bai mae'n rhaid i chi adeiladu'r ymddiriedaeth honno gyda'r diwydiant, a tybed sut rydych chi'n mynd i wneud hynny.
Yn eich contract newydd, tybed pa sicrwydd y gallwch ei roi o ran trafodaethau'r dyfodol ynghylch ymdrin â phwysau costau, costau cynyddol a chadw'r gweithlu, oherwydd o ran costau cynyddol, mae'n bwysau mawr ar bractisau, yn enwedig y cyfraniadau yswiriant gwladol. Sut ydych chi'n mynd i ystyried hynny yn eich trafodaethau a'r contract newydd?
Ac yn olaf, dim ond y prynhawn yma, cysylltodd etholwr â mi. Ar gyfer archwiliadau rheolaidd, cafodd ei apwyntiad ei ganslo bedair gwaith, a'r prynhawn yma cafodd ei ganslo eto gyda dim ond 15 munud o rybudd. Bum gwaith mae archwiliad rheolaidd yr etholwr wedi cael ei ganslo. A allwch amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau rhanbarthol parhaus sy'n bodoli o ran cael mynediad at ddeintydd y GIG, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig? Mae 'na broblem ym mhob man, ond yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sut ydych chi'n mynd i gynnal a denu deintyddion i ddod i weithio ac aros mewn ardaloedd fel y canolbarth?
Diolch i Russell George am y cwestiynau yna. Felly, bu trafodaethau ffrwythlon gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain dros gyfnod o fwy na 12 mis i'n cael i'r man lle rydym ni nawr mewn perthynas â'r contract newydd. Mae yna bwysau amser y byddai pawb yn y system yn ei gydnabod fel rhywbeth pwysig. Mae angen rhoi trefniadau cytundebol ar waith. Ni fyddant yn rhoi popeth rydym ni ei eisiau, ni fyddant yn rhoi popeth i'r GIG nac i'r proffesiwn deintyddol yr ydym yn dymuno ar wahân; dyna yn amlwg yw natur trafodaeth. Roedden nhw'n drafodaethau cynhyrchiol am 13 mis. Cefais gyfarfod fy hun gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain ychydig wythnosau yn ôl i archwilio'r cyfnod nesaf o ran yr ymgynghoriad a'r dull yr oeddent eisiau ei gymryd, gan gydnabod, fel y mae'r ddau ohonom yn ei wneud, bod rhai agweddau nad ydynt wedi'u negodi, ond mewn gwirionedd mae hyn ar gyfer ymgynghoriad gyda'r cyhoedd. Felly, mae'n bwysig clywed gan y cyhoedd a'r proffesiwn ehangach ynghylch sut mae'r cynigion yn gweithio iddyn nhw hefyd, yn y ffordd y mae unrhyw ymgynghoriad yn gobeithio ei gyflawni.
Felly, o fy safbwynt i, nid oes unrhyw gwestiwn o ymddiriedaeth. Rwy'n ceisio gwneud pethau'n syml iawn o ran y pethau hyn. Rydw i wedi ceisio nodi heddiw yr hyn rwy'n credu y dylem fod yn ceisio ei gyflawni, ac rydw i wedi nodi, o fy safbwynt i, fy null i o ran sut rydym ni wedi mynd i'r afael ag amrywiadau contract hyd yn hyn. P'un a yw pobl yn cytuno â nhw, wel mae i fyny iddyn nhw, ond rwy'n credu ei fod yn safbwynt hollol resymol i'w gymryd.
Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn am bwysau costau ac, wyddoch chi, hyfywedd, mae'n debyg, yn yr ystyr ehangach hwnnw, a threfniadau'r contract newydd, y cynigion, maent wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â rhai o'r rheini. Felly, mae materion yn ymwneud â llif arian ac adfachu yn y system, ac rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol ohonynt, a bydd rhai addasiadau i hynny, a fydd, gobeithio, yn ddeniadol, o safbwynt ymarferydd. Mae'r rheini'n bethau na fydd yn effeithio ar y cyhoedd a'u profiad, ond bydd, rwy'n gobeithio, yn ddefnyddiol ac yn gadarnhaol o safbwynt ymarferydd.
Mae'n gwneud pwynt pwysig am anghydraddoldebau rhanbarthol, neu sicrhau bod darpariaeth ar gael ym mhob rhan o'r DU. Felly, o safbwynt y galw, mae'r porth mynediad deintyddol yn borth cenedlaethol, felly mae hynny'n ein galluogi i gael dealltwriaeth gliriach o'r galw mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae gennym eisoes gymhellion i annog deintyddion i hyfforddi mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys yn y canolbarth, felly rydym yn bwriadu parhau â hynny. Ond wrth wraidd y peth, mewn gwirionedd, mae ceisio gwneud yn siŵr bod mwy a mwy o'r proffesiwn sydd gennym yn treulio mwy a mwy o'u hamser, ble bynnag maen nhw yng Nghymru, yn darparu gwasanaethau drwy'r GIG, a dyna pam y mae hi'n bwysig iawn cael trefniadau sy'n ddeniadol. Byddwn i'n dweud, ym Mhowys, er enghraifft, maen nhw wedi bod yn arloesol iawn, mewn gwirionedd, o safbwynt y bwrdd iechyd, wrth ddefnyddio rhywfaint o'r cyllid o enillion contractau. Felly, maen nhw'n ariannu therapydd deintyddol sy'n gweithio trwy'r rhestr aros, gan nodi plant sydd angen eu blaenoriaethu ar gyfer eu triniaeth. Felly, mae gwaith eithaf arloesol yn digwydd yn y canolbarth, ym Mhowys yn benodol, ym maes triniaeth ddeintyddol, hyd yn oed o fewn cyfyngiadau'r trefniadau presennol.
Y gwir yw, wrth gwrs, ŷn ni yng ngogledd Cymru, ŷn ni wedi colli saith practis deintyddol sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n rhoi'r cytundebau NHS yn ôl a'u bod yn symud i'r sector breifat: ym Mwcle, y Fali, Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos, Dinbych, Coed-poeth a Bae Colwyn. Mae yna filoedd wedi colli mynediad at wasanaethau deintyddol ar yr NHS. Nawr, ŷch chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi'n gobeithio y bydd y cytundeb newydd yn weithredol o Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, wel, mae hynny'n 12 mis arall, onid yw e, o bobl efallai yn fotio gyda'u traed, y deintyddion yn cael digon ac yn gadael yr NHS. Ydych chi'n rhagweld, o dan y cytundeb newydd ŷch chi'n gobeithio y bydd yn dod i rym ymhen blwyddyn, y bydd rhai o'r rheini'n dod nôl? Ydych chi wir yn disgwyl, unwaith y byddan nhw wedi mynd i'r sector breifat, y bydd y cytundeb y byddwch chi'n gallu ei gynnig iddyn nhw yn eu denu nhw nôl i'r sector gyhoeddus? Ac a gaf i hefyd ofyn—? Dwi'n ymwybodol o un etholwraig sydd wedi cychwyn gwaith deintyddol ar yr NHS, ond sydd nawr yn mynd i orfod talu'n breifat i orffen y gwaith hwnnw, oherwydd bod y practis wedi mynd i'r sector breifat. Ydych chi'n cytuno â fi fod gwaith deintyddol sydd wedi'i gychwyn ar yr NHS angen ei orffen ar yr un telerau, er tegwch i'r claf?
Wel, dyna beth hoffwn i weld yn digwydd. O ran y rhestr wnaeth yr Aelod ei rhoi o'r practisys sydd wedi rhoi'r contract yn ôl, bydd e hefyd yn gwybod, o ran y gwaith caffael sydd wedi digwydd gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fod gweithgarwch NHS wedi ymestyn yn Amlwch, yng Nghei Connah—mae syrjeri newydd yng Nghei Connah; mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben, ond mae yno. Yn Nolgellau, yng Nghaernarfon, ym Mae Colwyn, mae estyniad wedi bod i waith deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd. Felly, mae hwnna'n beth calonogol. Dwi'n siŵr bod yr Aelod yn croesawu'r datblygiadau hynny, oherwydd mae'n dangos, er gwaethaf y cyfyngiadau ar y cytundeb presennol, fod pobl yn awyddus i wneud mwy o waith gwasanaeth iechyd hefyd.
Dwi ddim yn amau'r ffigurau mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw, y colledion hynny, ond mae hefyd galw ymhlith practisys i wneud mwy o waith gwasanaeth iechyd, ac ŷn ni'n gweld hynny'n beth positif, wrth gwrs. Byddwn i yn cytuno y byddem ni eisiau gweld bod y cytundeb newydd yn denu deintyddion sydd wedi symud allan o'r gwasanaeth iechyd nôl i'r ddarpariaeth gyhoeddus honno; dyna sydd wrth wraidd y diwygiadau yw sicrhau bod y cytundeb yn apelgar i'r cyhoedd, ond i'r proffesiwn hefyd.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn a'r cyfan rydych chi'n ceisio ei wneud i wella'r sefyllfa o ran deintyddiaeth. Ar hyn o bryd, mae llawer o ddeintyddion dim ond yn cynnig apwyntiad GIG mewn argyfwng, felly, a fydd hyn yn wir yn y dyfodol, bod angen i rywun fod â'r ddannoedd er mwyn gallu cael apwyntiad? A beth am atal, a yw hynny'n rhan o hyn hefyd, yn y dyfodol? Rwy'n croesawu y bydd porth, fel na fydd pobl yn gorfod ffonio i ddod o hyd i ddeintydd y GIG. A fydd y penodiadau hynny'n lleol? Ai'r nod yw bod y rhain yn lleol i bobl, fel nad oes rhaid iddynt deithio yn bell iawn? Yn ddiweddar, cynigiodd deintydd lleol apwyntiadau'r GIG unwaith eto, ac roedd croeso mawr iddo. Fe wnaeth rhywun lleol ei hysbysebu ar Facebook, ac o fewn diwrnod, roedden nhw'n llawn. Roeddwn i ond eisiau mynegi hynny. Felly, mae rhai apwyntiadau GIG newydd wedi dod i'w amlwg, ond maen nhw wedi cael eu cymryd yn gyflym iawn, iawn. Ond rwy'n croesawu'r datganiad. Diolch.
Mae'r porth yn bodoli eisoes; mae wedi bod yn weithredol ers tua mis. Cafodd ei dreialu'n flaenorol mewn rhannau o Gymru, ond mae bellach yn cael ei gynnig yn genedlaethol. Mae hynny wedi bod ar gael ers 12 Chwefror, rwy'n credu, felly mae eich etholwyr eisoes yn gallu cofrestru eu diddordeb mewn deintyddiaeth y GIG. Fel y dywed yr Aelod, y bwriad yw gallu eu cyfeirio at y ddarpariaeth gyfleus agosaf. Rwy'n credu mai rhan o'r amcan yw ceisio osgoi'r senario a ddisgrifiwyd ganddi yn ei chwestiwn, yr wyf yn ei gydnabod: pan fo lleoedd newydd ar gael, yn amlwg mae yna lefel o alw am y lleoedd hynny sy'n aml yn cael ei weld yn syth iawn. Bydd y porth, gobeithio, yn dod â rhyw elfen o drefn i rai o'r sefyllfaoedd hynny.
Gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig o ran triniaeth frys ac o ran atal. Mae rhai o'r heriau o ran y trefniadau presennol wedi bod yn gysylltiedig â sicrhau bod practisau'n gallu darparu triniaeth fwy brys a'i bod yn ofynnol iddynt wneud hynny, ond mewn ffordd sydd hefyd yn rhagweladwy o'u safbwynt nhw. Mae dod o hyd i'r cydbwysedd hwnnw wedi bod yn hanfodol. Rwy'n credu y bydd hi'n falch o glywed, yn y trefniadau newydd, pan fydd hi'n gweld yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi, fod elfen o'r contract sy'n bwrpasol ar gyfer triniaeth frys i gleifion newydd, ac elfen o'r cyllid sydd wedi'i neilltuo'n benodol i atal hefyd—boed hynny o amgylch cydymffurfiaeth â 'Darparu iechyd y geg gwell' neu ymgyngoriadau sy'n ymwneud yn benodol ag atal. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n tawelu ei phryderon.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: y rhaglen trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol plant. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Dawn Bowden.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw yw fy nghyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gyflawni ein rhaglen drawsnewid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru. Mae gan y rhaglen drawsnewid fframwaith o wyth ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu a thair thema allweddol: diwygio radical, darparu gwasanaethau yn y dyfodol, a'r system gyfan yn gweithio gyda'i gilydd. Yn ganolog iddi mae llais plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae ein huwchgynadleddau profiad gofal blynyddol a'r datganiad canlyniadol, y cyntaf o'i fath yn y DU, wedi galluogi Gweinidogion i glywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal am eu profiadau a'u meddyliau. Yn yr uwchgynhadledd ddiwethaf, ym mis Mawrth 2024, fe wnaethom fwydo'n ôl ar gynnydd tuag at y weledigaeth yn natganiad yr uwchgynhadledd, a byddwn yn diweddaru cyfranogwyr ar gyflawni pellach yn ein huwchgynhadledd nesaf ym mis Mai.
Mae ein grŵp cyflawni trawsnewid yn ymwneud ag ysgogi newid. Gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, ac, yn bwysicaf oll, pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, mae'n canolbwyntio ar hyn o bryd ar ddata a metrigau, a chymorth cynnar ac atal, gan gydnabod yr angen am gymorth dwys i leihau'r risg y bydd plant yn dod i ofal.
Rydym yn gweithio'n galed i gyflawni'r hyn y cyfeiriwyd ato'n flaenorol fel y fframwaith ymarfer cenedlaethol i wella cysondeb ymarfer, gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol, iechyd, y trydydd sector, yr heddlu a byrddau diogelu i gasglu barn a thystiolaeth am sut y gall ychwanegu gwerth fwyaf. Rydym wedi rhannu drafftiau ac rydym wedi gwrando ar adborth sydd wedi arwain at fwy o bwyslais strategol ar ymarfer amlasiantaeth. Byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith ymarfer amlasiantaeth, y teitl newydd a roddwyd iddo, ym mis Ebrill.
Cwblhaodd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gam olaf proses graffu'r Senedd ar 4 Chwefror, a disgwylir Cydsyniad Brenhinol yn ddiweddarach y mis hwn. Mae gweithredu'r darpariaethau dileu elw cyn gynted â phosibl, mewn ffordd sy'n lleihau aflonyddwch i'r sector ac i leoliadau plant unigol, yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel iawn i'r Llywodraeth hon. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y sector i sicrhau cynnydd cyflym a byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar weithredu.
Rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn datblygu llety preswyl therapiwtig a gwasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth trwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Eleni, mae saith cartref preswyl newydd i blant ag anghenion cymhleth eisoes wedi agor, gyda 14 o gartrefi eraill yn cael eu datblygu y disgwylir iddynt gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Yn unol â'u strategaethau comisiynu lleoliadau, mae awdurdodau lleol wedi cychwyn ar gamau cynllunio a dylunio wyth cartref arall i'w cwblhau y flwyddyn nesaf.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd bregus i aros gyda'i gilydd drwy ymyrraeth gynnar a chymorth, ac rydym yn parhau i gasglu a dadansoddi gwybodaeth am berfformiad y gwasanaethau ar ffiniau gofal a ariennir drwy'r gronfa integreiddio ranbarthol. Yn hanner cyntaf 2024-25, gwnaeth gwasanaethau arbenigol ar ffiniau gofal gefnogi bron i 1,800 o deuluoedd a 3,300 o blant.
Rydym yn gwybod, wrth gwrs, am fanteision eiriolaeth rhieni, sy'n cefnogi rhieni i ymgysylltu'n gadarnhaol â gweithwyr cymdeithasol, sefydliadau trydydd sector, llysoedd teulu a gweithwyr proffesiynol eraill i ddatrys materion sy'n cael effaith negyddol ar eu teulu. Gydag £1.6 miliwn wedi'i fuddsoddi yn nhymor y Senedd hon, mae prosiectau rhanbarthol eiriolaeth rhieni sy'n bodoli eisoes bellach wedi'u cyflwyno ar sail ranbarthol. Mae'r prosiectau hyn yn cefnogi rhieni y mae eu plant ar ffiniau gofal, gan helpu i osgoi cynnwys gwasanaethau cymdeithasol statudol, atal anghenion rhag gwaethygu, a lleihau'r risg y bydd plant yn mynd i mewn i'r system ofal.
Rwyf hefyd yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda'r Rhwydwaith Maethu i gyflwyno'r cynllun peilot Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yng Nghymru dros gyfnod o dair blynedd yn ardaloedd awdurdodau lleol sir Benfro a Phowys i gefnogi plant i aros gyda'u teuluoedd. Fe ymwelais â Gogledd Iwerddon yn ddiweddar i weld drosof fi fy hun sut mae'n cyflawni'r dull arloesol hwn i leihau nifer y plant sy'n mynd i mewn i ofal. Mae'r prosiect wedi cael llwyddiant mawr trwy gynnig dull hyblyg, meithringar sy'n ystyriol o drawma o gefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd. Rwy'n edrych ymlaen nawr at weld sut y gall y dull ataliol newydd hwn fod o fudd i deuluoedd sydd ar ffiniau gofal yma yng Nghymru.
Yng Nghymru, rydym yn trin pob plentyn digwmni sy'n ceisio lloches fel plentyn sy'n derbyn gofal. Rydym yn falch o fabwysiadu ymagwedd 'plentyn yn gyntaf', sy'n cynnal y buddiannau gorau a'r hawliau i ddarparu gofal a chymorth i bob plentyn yng Nghymru.
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein cynllun maethu cenedlaethol, Maethu Cymru, i wella gallu gwasanaethau maethu awdurdodau lleol i recriwtio a chadw gofalwyr maeth. Rydym yn gweld effaith gadarnhaol o'n buddsoddiad, gyda chynnydd yn nifer yr ymholiadau gan ddarpar ofalwyr maeth, ynghyd â chynnydd yn nifer yr aelwydydd gofalwyr maeth.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr maeth sy'n berthnasau yn derbyn yr un gefnogaeth â gofalwyr maeth prif ffrwd a, thrwy ymrwymiad cenedlaethol Maethu Cymru, rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod pecyn o hyfforddiant, cymorth a gwobrau y cytunwyd arno ar gael yn gyson i bob gofalwr maeth drwy bob un o'r 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o'r cynnydd y mae ein siarter rhianta corfforaethol wedi'i wneud, gyda 64 o sefydliadau wedi cofrestru hyd yma, gan gynnwys yr holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Rydym yn parhau i annog pob corff cyhoeddus, yn ogystal â chyrff preifat a'r trydydd sector, i gofrestru a dod yn rhieni corfforaethol. Y mis diwethaf, fe agorais y digwyddiad ymarfer gorau rhianta corfforaethol cenedlaethol cyntaf, gyda dros 100 yn bresennol. Roedd yna egni gwirioneddol yn yr ystafell, ac roedd pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu rhannu'r hyn maen nhw'n gofyn amdano gan rieni corfforaethol yn uniongyrchol â'r sefydliadau hynny sydd wedi cofrestru neu'r rhai oedd eisiau mwy o wybodaeth. Cyn diwedd tymor y Senedd hon, byddwn yn cryfhau canllawiau cyfredol ar rianta corfforaethol gyda phennod benodol ar rianta corfforaethol yng nghod ymarfer Rhan 6 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud o hyd, a byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni am weddill tymor y Senedd hon a thu hwnt. Diolch yn fawr.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu fy mod i'n siarad ar ran pob un ohonom yma pan fyddaf yn dweud bod darparu'r gwasanaeth gorau posibl i blant mewn gofal yn hollbwysig. Er bod gennym ni farn wahanol ar sut y gellir cyflawni hyn, gobeithio eich bod chi'n cytuno, serch hynny, fod angen craffu cadarn bob amser, nid er budd gwleidyddol, ond er budd y plant hynny mewn gofal.
Yn flaenorol, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau bod y model preifat yn fwy addas ar gyfer darparu gwasanaethau gofal plant, ac ni fyddaf yn llafurio ar y pwynt hwn ymhellach. Yn y pen draw, eich uchelfraint chi fel Llywodraeth yw nodi sut rydych chi'n credu y gellir gwella'r gwasanaethau hyn. Fodd bynnag, mae gennyf, serch hynny, rai cwestiynau ar sut mae'r darpariaethau dileu elw yn mynd i weithio, a sut rydych chi'n credu y bydd yn gwella'r sefyllfa bresennol.
Ar hyn o bryd, mae pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn aelodau o Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru, sydd, fel y gwyddoch chi, yn eu cefnogi i gydymffurfio â'u dyletswyddau o ddigonolrwydd, fforddiadwyedd a chynaliadwyedd. Mae hyn drwy ddadansoddi'r angen i nodi bylchau yn y farchnad ac arwain datblygiadau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i ymateb i anghenion nas diwallwyd. Fodd bynnag, hyd yn oed pan ragwelir anghenion yn y dyfodol, mae awdurdodau lleol wedi dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd trosi'r ddealltwriaeth hon i ddarparwyr gofal presennol, sydd, drwy'r model elw, yn cael eu cymell eu hunain i ddeall cystal ag y gallant yr hyn y bydd ei angen ar awdurdodau lleol yn y dyfodol.
Sut mae'r model nid-er-elw rydych chi'n ei gynnig yn mynd i helpu i wella hyn? Sut fyddwch chi'n sicrhau bod cartrefi gofal nid-er-elw yn cael eu cymell i edrych tuag at ofynion yn y dyfodol? Rwy'n gofyn hyn oherwydd, yn fy marn i, nid yw'r model nid-er-elw yn ddigon cymhellol i ddeall anghenion yn y dyfodol, a chan mai dim ond am y gwasanaethau a gynigir y byddai awdurdodau lleol yn talu, ni fydd gan ddarparwyr nid-er-elw, yn wahanol i ddarparwyr er elw, yr incwm ychwanegol i feithrin gallu, hyd yn oed os ydynt yn gwybod pa allu sydd ei angen arnynt.
Mater pwysig arall sy'n ein hwynebu yng Nghymru ar draws sawl sector yw nad oes gennym ddigon o bobl wedi'u hyfforddi ar gyfer rolau arbenigol. Mae'n cymryd blynyddoedd i hyfforddi pobl, ac, yn gyffredinol, mae pobl yn cael mynediad at gyrsiau yn seiliedig ar ragolygon swyddi yn y dyfodol. Mae gan y model er elw y gallu i ariannu ymlaen llaw bersonél i ddarparu gwasanaeth yn y dyfodol, sy'n golygu y gallwch chi ddechrau cynllunio ar gyfer swyddi a hyfforddi pobl ar gyfer y swyddi y bydd eu hangen arnoch yn y dyfodol. Ni fydd y darparwr nid-er-elw yn gallu gwneud hyn, sy'n golygu y gallai fod mwy o brinder o weithwyr arbenigol mewn gwasanaethau plant yn y dyfodol, oherwydd bydd pobl yn cael mynediad at gyrsiau a hyfforddiant cyn y galw. Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n mynd i annog darparwyr nid-er-elw i fuddsoddi'n barhaus mewn pobl i gael mynediad at hyfforddiant arbenigol ar gyfer gwasanaethau plant yn y dyfodol os nad oes ganddynt y gallu ariannol i wneud hynny?
Fel y gwyddoch chi, un o'r prif faterion sy'n wynebu'r sector hwn ar hyn o bryd yw bod tua 31 y cant o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael eu lleoli y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol, gan gynnwys 5 y cant sy'n cael eu lleoli y tu allan i Gymru ac i ffwrdd oddi wrth rwydweithiau teuluol. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar gynnal perthnasoedd teuluol bregus. Y rheswm y tu ôl i hyn, mae'n debyg, yw ei bod yn anodd iawn dod o hyd i leoliadau ar gyfer plant hŷn ac ar gyfer plant ag anghenion gofal mwy cymhleth. Rydych chi wedi sôn bod saith cartref preswyl newydd i blant ag anghenion cymhleth eisoes wedi agor, gyda 14 o gartrefi eraill yn cael eu datblygu y disgwylir iddynt gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, ac wyth cartref arall i'w cwblhau y flwyddyn nesaf. A yw'r cartrefi hyn wedi'u lleoli'n strategol fel nad yw plant ag anghenion cymhleth sy'n derbyn gofal yn cael eu lleoli y tu allan i'w hawdurdod lleol? A fydd rhai plant yn dal i gael eu lleoli y tu allan i Gymru? Rwy'n gofyn hyn oherwydd tybed a ydych wedi ystyried gorfodi gofyniad sylfaenol ar gyfer pellter i ffwrdd o'r teulu.
Mae hefyd wedi bod bron i ddwy flynedd a hanner ers cyhoeddi'r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Logan Mwangi, a wnaeth hi'n hollol glir bod newid yn gwbl angenrheidiol a bod angen gwella arferion diogelu. Er bod rhywfaint o welliant wedi bod o ran y cydweithio rhwng byrddau diogelu rhanbarthol, mae'r rhai sy'n gweithio ar lawr gwlad yn dal i deimlo nad yw arferion wedi gwella. Maen nhw'n credu, yn hytrach na gwell dull 'dysgu o gamgymeriadau', mae newid systematig sydd ei angen yn y ffordd y mae plant agored i niwed yn cael eu hadnabod a'r gofal a roddir iddynt, sy'n sicrhau bod plant agored i niwed yn cael cynnig llawn o gefnogaeth, o gyffredinol i ffiniau gofal. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, yn enwedig adolygu iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, cofnodi'r heddlu, casglu gwybodaeth a'r gallu i rannu gwybodaeth? Ar hyn o bryd, mae yna lawer gormod o systemau gwybodaeth o hyd, sy'n atal penderfyniadau rhag cael eu gwneud.
Mae hyn yn dod â mi at fy mhwynt olaf, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, mae'n fater hirdymor yng Nghymru ein bod ni wedi gweld gwahanol raddau o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol. Er bod rhywfaint o gydweithredu rhanbarthol yn cael ei ystyried yn fuddiol, mae awdurdodau lleol yn dal i'w chael hi'n anodd cydweithio'n llwyddiannus, oherwydd osgoi mentro, cyfyngiadau cyllidebol, gwahaniaethau mewn llywodraethu a'r anawsterau wrth alinio blaenoriaethau a rhannu costau. O ran gwasanaethau plant, mae hyn yn golygu nad yw adrannau o fewn y 22 o awdurdodau lleol yn gweithio'n dda gyda'i gilydd. Nid yw Llywodraeth Cymru, hyd y gwelaf, wedi gwneud unrhyw gynnydd clir wrth eu hannog i wneud hynny. Felly, gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, pa gynlluniau sydd gennych i osod isafswm lefel o weithgarwch yng ngwasanaethau plant awdurdodau lleol y mae'n rhaid ei gynnal ar y cyd? Diolch.
A gaf i ddiolch i Joel James am y gyfres yna o gwestiynau? Ac mae'n gwbl iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith ein bod ni'n cymryd ymagwedd wahanol iawn at lle rydym yn credu y dylid datblygu'r gofal y mae plant sy'n derbyn gofal yn ei gael, ond rydym ni lle'r ydym ni, ac rwy'n credu bod rheidrwydd arnaf, fwy na thebyg, i ymateb i'r cwestiynau hynny er mwyn nodi hynny mewn ychydig mwy o fanylder.
Rydych chi'n eithaf iawn i nodi, Joel, bod yn rhaid i bob awdurdod lleol gynnal ei asesiad digonolrwydd i nodi beth yw'r gofyniad ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, nodi'r bylchau yn y farchnad, ac roeddech chi'n gofyn y cwestiwn yn benodol: sut y bydd sefydliadau nid-er-elw yn helpu gyda hynny? Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud, fwy na thebyg, nad yw'r hyn rydym yn siarad amdano yma yn ddisodli tebyg am debyg lle mae darpariaeth er elw bresennol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn trosglwyddo i ddarpariaeth nid-er-elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, er mai dyna fydd y sefyllfa derfynol unwaith y byddwn ni'n cyrraedd diwedd y cyfnod pontio. Ond mae'r holl raglen trawsnewid gwasanaethau plant yn ymwneud â lleihau nifer y plant y bydd angen iddynt gael gofal yn y pen draw, ac mae'r holl ddarpariaeth ynghylch symud o elw i nid-er-elw, mewn gwirionedd, yn gwbl wahanol i'r senario rydych chi'n ei nodi, gyda sefydliadau er elw yn cael elw i allu buddsoddi mewn hyfforddiant a staffio ac yn y blaen.
Yr hyn rydym yn ei ddweud yw nad yw symud i fodel nid-er-elw yn awgrymu na fydd unrhyw un o'r sefydliadau hynny yn gwneud elw; bydd yn rhaid iddyn nhw ail-fuddsoddi'r elw hwnnw yn ôl i'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, yn hytrach na thalu allan i bocedi'r cyfranddalwyr. Felly, bydd y sefydliad nid-er-elw, unwaith y bydd yn tynnu ei gostau gweithredu a'r costau rhedeg y bydd eu hangen arno i ddarparu'r gwasanaeth y mae'n rhaid iddo ei ddarparu, yn gallu ail-fuddsoddi'r holl elw hwnnw sy'n weddill yn y gwasanaeth er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i'r plant sy'n derbyn gofal. Ac mae hynny, yn sicr, yn ymwneud â phennu angen, a bydd hynny'n cynnwys buddsoddi mewn hyfforddiant a chymorth a recriwtio'r staff priodol.
Felly, rydych chi'n gofyn hefyd am ddiogelu a sut rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella'r sefyllfa yn dilyn achos trasig iawn Logan Mwangi. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig i'w nodi yma yw, yn dilyn hynny, roeddem yn edrych ar yr adolygiad diogelu cenedlaethol. Rydym wedi gwneud dau beth, mewn gwirionedd. Un yw ein bod wedi cyflwyno adolygiad diogelu unedig sengl nawr, sy'n ymdrin mewn gwirionedd â'r pwynt penodol iawn a nodwyd nid yn unig yn achos Mwangi ond mewn achosion diogelu eraill hefyd, lle rydym yn gwybod nad yw'r asiantaethau'n rhannu gwybodaeth, dydyn nhw ddim yn siarad â'i gilydd, ac o ganlyniad i hynny, mae cyfleoedd i ddiogelu'r plentyn wedi cael eu colli. Felly, mae'r adolygiad diogelu unedig sengl yn ymwneud â cheisio mynd i'r afael â hynny fel bod gennym un adolygiad diogelu sy'n cynnwys nifer o asiantaethau, a byddwn ni'n cyflwyno, fel y dywedais yn fy natganiad, y fframwaith amlasiantaeth yn ystod y flwyddyn hon, a fydd yn nodi'r ffordd y bydd yn rhaid i'r holl asiantaethau weithio gyda'i gilydd ar yr adolygiad diogelu unedig sengl a'r ffordd maen nhw'n datblygu arferion diogelu ac yn ymchwilio i'r meysydd diogelu hynny.
A gaf i ddechrau trwy ddatgan budd? Mae fy ngwraig yn gweithio i elusen yn y sector.
Mae pob un ohonon ni am weld y gorau i’n plant, ac rydyn ni'n gwybod bod gweithwyr cymdeithasol a’r rhai hynny sydd yn gweithio mewn gwasanaethau plant yn gwneud gwaith hanfodol eithriadol o anodd a'u bod hwythau hefyd am weld y gorau i’r plant a phobl ifainc sydd o dan eu gofal, ond mae angen y systemau cywir, yr adnoddau cywir a’r arweiniad cywir i wneud hynny yn effeithiol. Ac fel y saif pethau, dydy’r sylfeini hynny ddim yn ddigon cadarn. Yn y degawd diwethaf, mae nifer y plant mewn gofal wedi cynyddu bron i 30 y cant, ond y tu ôl i’r ystadegau mae plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma a cholled. Maen nhw am weld gweithredu yn y maes yma, nid geiriau ac addewidion yn unig.
Mae felly angen newid radical. Mae pobl â phrofiad gofal wedi bod yn gwbl glir: maen nhw am weld newid. Maen nhw am wybod bod y plant fydd yn dod ar eu holau nhw yn cael profiadau gwell na’r hyn y cawson nhw. Fe wnaeth y Llywodraeth yma addewid iddyn nhw, gan lofnodi y datganiad. Mae’r bobl ifanc yma yn haeddu gweld newid, felly, er gwell, a gweld byw i fyny i’r datganiad, ond eto mae’r camau ymlaen wedi bod yn fychain ac yn araf.
Mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Os nad nawr, pryd?', yn rhoi argymhellion clir ar sut i wella canlyniadau i blant mewn gofal. Er gwaethaf hyn, mae'r cynnydd wedi bod yn rhwystredig o gyfyngedig, ac mae'r oedi wrth gyhoeddi fframwaith clir yn ein gadael ni'n ansicr ynghylch sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur. Rhaid i ddiwygiadau go iawn gael eu cefnogi gan ganlyniadau clir, neu sut allwn ni sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol? Er bod rhai gwelliannau wedi bod wrth gydweithredu ar faterion diogelu, mae gwasanaethau rheng flaen yn dal i fethu gormod o blant, felly mae angen newid systemig arnom sy'n sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael eu cefnogi ar bob cam, o wasanaethau cyffredinol i ymyriadau dwys pan fo angen.
Felly, mae gosod y ddyletswydd rhianta corfforaethol ar sail statudol yn un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru ysgogi cynnydd gwirioneddol. Eto i gyd, maen nhw'n parhau i wrthsefyll hyn. Sut allwn ni ddisgwyl i bob awdurdod lleol godi safonau os nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnyn nhw i wneud hynny?
Yn olaf, mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cymorth i ofalwyr sy'n berthnasau a'r rhai sydd â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig i'w groesawu. Ond mae'n rhaid iddo gael ei ariannu'n iawn. Heb y gyllideb i gyd-fynd â'r ymrwymiadau hyn, mae risg y bydd addewidion yn dod yn eiriau gwag. Rydym i gyd eisiau i Gymru fod y lle gorau i blant dyfu i fyny, ond er mwyn gwneud i hynny ddigwydd, rhaid i'r Llywodraeth hon droi addewidion yn gamau gweithredu. All ein plant ddim fforddio aros yn hirach. Diolch yn fawr.
Diolch, Mabon, am y sylwadau hynny, ac rwyf wedi dweud droeon pan ydym wedi bod ar draws y Siambr yma nad ydym ar wahanol dudalennau o ran hyn. Rydym wedi nodi'n glir iawn trwy ein rhaglen lywodraethu yr hyn rydym yn ceisio ei wneud i drawsnewid gwasanaethau plant. Mae gennym wyth ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu sy'n canolbwyntio ar y weledigaeth newydd honno ar gyfer gwasanaethau plant. Mae hynny'n ymwneud â gwneud diwygiadau radical, system gyfan. Nawr, dydy e ddim yn digwydd dros nos. Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud dechrau da ar hynny, ond fel y dywedais yn fy natganiad, mae gennym ffordd bell i fynd yn sicr.
Rydym yn gwybod—. Mae'n ddrwg gennyf, Joel, fe ddylwn i fod wedi ateb eich cwestiwn pellach hefyd am gydweithio; mae Mabon wedi ei godi hefyd. Yr hyn rydym yn ei weld gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd yw arferion da iawn ledled Cymru mewn ardaloedd penodol. Felly, mae gennym enghreifftiau ardderchog o gydweithio a'r hyn y mae angen i ni ei wneud, ac mae rhan o'r broses o drawsnewid gwasanaethau plant yn ymwneud â chynyddu'r arferion da hynny.
Y canolfannau preswyl newydd rydym yn eu cyflwyno ar gyfer y plant hynny sydd â'r anghenion mwyaf heriol a chymhleth—byddwn yn disgwyl cael y canolfannau rhanbarthol hynny yr holl ffordd ar draws Cymru, yn agos at lle mae'r plant hynny'n byw a lle mae eu teuluoedd a'u cysylltiadau a'u chymunedau. Bydd ambell achlysur lle bydd yr angen mor arbenigol fel na fydd ar gael yng Nghymru, ac efallai y bydd ambell achlysur lle bydd plentyn yn dal i orfod cael ei leoli yn Lloegr, ond rydym yn disgwyl i hynny leihau wrth i ni ddatblygu'r canolfannau rhanbarthol pellach rydym yn eu cyflwyno.
Fel y dywedais i, does dim amheuaeth bod y rhain yn amseroedd heriol iawn, ac mae'r elfen ariannol o hyn i gyd yn heriol iawn hefyd. Ond i fod yn glir iawn, iawn, yn enwedig o ran ein gwaith ar y rhaglen dileu, dydy'r opsiwn o wneud dim ddim yn opsiwn. Os byddwn ni'n cario ymlaen yn yr un ffordd, o ystyried faint mae'n ei gostio i ofalu am blant, yn enwedig y plant hynny sydd â'r anghenion mwyaf heriol a chymhleth, yna bydd y prisiau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu talu yn mynd drwy'r to. Felly, mae symud tuag at fodel newydd lle rydym yn sicrhau bod angen i lai o blant fod mewn gofal yn sicr yn rhywbeth sy'n bwysig i ni ei wneud. A thrwy'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn, yr hyn rydym wedi'i weld yw gwaith arbenigol iawn, y math o waith cofleidiol rydym wedi bod yn ei wneud gyda phlant a'u teuluoedd, ac rydym wedi gweld tua 360 o blant y llwyddwyd i sicrhau nad oedd angen iddyn nhw fynd i mewn i ofal. Felly, mae hyn yn waith gyda phlant ar ffiniau gofal y byddem, fwy na thebyg, wedi'u gweld yn mynd i mewn i ofal yn y pen draw pe na bai'r ymyriadau hynny wedi bod ar gael i ni. Felly, rwy'n awyddus i weld nifer y plant sydd gennym mewn gofal yn lleihau ac rydym yn gweld symudiad bach iawn o gwmpas hynny ar hyn o bryd; dydy e ddim yn ddigon cyflym ac mae angen i ni wneud mwy o waith o gwmpas hynny o hyd. Ond pe na baem wedi bod yn gwneud y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud, byddai'r 360 o blant hynny y soniais i amdanyn nhw yn cael eu hychwanegu hefyd at y ffigurau hynny o ran plant sy'n derbyn gofal. Felly, rydym yn gweld cynnydd o gwmpas hynny.
O ran—
Rhianta corfforaethol?
Mae'n ddrwg gen i?
Rhianta corfforaethol.
Rhianta corfforaethol—rwyf ar fin sôn amdano. Felly, o ran rhianta corfforaethol, rydym yn bwriadu cryfhau'r canllawiau, ac roedd rheswm da iawn pam na wnaethon ni ei roi mewn deddfwriaeth—fe ddof i at hynny yn y man, am yr hyn rydym yn ei wneud. Ond fe wnaethom ni ei wneud yn wirfoddol oherwydd roeddem am i'r sefydliadau hynny a oedd yn cofrestru i ddod yn rhieni corfforaethol ddeall ac ymrwymo i'r hyn roedden nhw'n ei wneud a pheidio â theimlo eu bod yn cael eu gorfodi i'w wneud a pheidio wedyn â chymryd y cam hwnnw'n wirfoddol a chyda'r ymrwymiad yr oedd ei angen. Rydym wedi cael y sgyrsiau hyn o'r blaen am rai pethau y gallwch chi eu rhoi mewn deddfwriaeth, y cynnig o eiriolaeth statudol i blant sy'n derbyn gofal, asesiadau gofalwyr, ac rydym yn gwybod bod llawer iawn o anghysondeb a gwaith i'w wneud gyda'r rheini o hyd. A'r hyn mae hynny'n ei ddangos i mi yw nad yw'r weithred o roi rhywbeth mewn darn o ddeddfwriaeth, ynddo'i hun, yn cyflawni'r amcan. Yr hyn sy'n cyflawni'r amcan i ni, o ran rhianta corfforaethol, yw cael sefydliadau i gofrestru gan wybod bod ganddyn nhw ddarn o waith i'w wneud a'u bod yn barod i wneud hynny.
Ond rydym yn mynd i gryfhau'r canllawiau iddynt, ac rydym yn rhoi pennod bwrpasol ar rianta corfforaethol yn Rhan 6, y cod ymarfer, o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mae'r bennod honno'n mynd i nodi beth yw dyletswyddau awdurdodau lleol, fel rhieni corfforaethol. A bydd hynny'n helpu i gefnogi ymagwedd fwy strategol at hynny. Felly, mae hynny'n waith sydd ar y gweill a bydd hynny'n datblygu. Ond yn sicr, mae'r 64 o sefydliadau, gan gynnwys yr holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd, yn gwbl hapus i wneud yr hyn rydym yn ei wneud. Ond nid yw hynny'n golygu na fyddwn yn archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth wrth i ni gynyddu nifer y sefydliadau sy'n dod yn rhieni corfforaethol.
Y mater arall y gwnaethoch chi ei godi gyda mi oedd gofalwyr maeth a pherthnasau ac rwy'n ymwybodol iawn—ac rydym wedi comisiynu darn o waith o gwmpas hyn—nid yn unig y mae angen i ni wneud llawer o waith arno—. A byddai'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n credu bod gofalwyr maeth, yn gyffredinol, yn mynd i mewn i ofal maeth oherwydd yr arian sydd ar gael iddyn nhw am wneud hynny; dydw i ddim yn credu bod hynny'n wir o gwbl. Ond nid yw hynny'n golygu na ddylem ni roi tâl teg iddyn nhw am wneud hynny, oherwydd mae'n beth hynod o bwysig, yr hyn maen nhw'n ei wneud. Ond un o'r pethau rwy'n arbennig o bryderus amdano yw nad yw gofalwyr sy'n berthnasau yn cael yr un tâl â gofalwyr maeth, sydd wedi'u cofrestru drwy Maethu Cymru ac yn y blaen. Felly, rydym yn edrych ar hynny, oherwydd rwy'n hollol benderfynol y dylai fod tegwch yno, oherwydd p'un a ydych chi'n ofalwr sy'n berthynas neu'n ofalwr maeth cofrestredig, mae eich treuliau wrth ofalu am blentyn yn union yr un fath. Alla i ddim esgus i chi fod gennym yr ateb ar unwaith i hynny eto, ond rydym wedi gwneud y darn hwn o waith, rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid a dyma ein huchelgais. Ond fe fyddwch chi'n gwerthfawrogi pan ddywedaf wrthych fod honno'n uchelgais drud iawn hefyd, ac mae'n debyg ei fod yn rhywbeth y byddai'n rhaid i ni ystyried ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod o amser. Ond mae'n rhywbeth rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'w wneud.
Rwy'n falch o weld bod pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd wedi cofrestru ar gyfer y siarter rhieni corfforaethol, a nifer o sefydliadau preifat a thrydydd sector hefyd, a'u bod nhw i gyd wedi ymrwymo'n wirfoddol i ledaenu egwyddorion rhianta corfforaethol y tu hwnt i'w sefydliadau eu hunain. Rwy'n credu y bydd hyn yn ein helpu i adeiladu Cymru lle rydym yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phobl ifanc eraill yng Nghymru, sy'n bwysig iawn.
Roedd cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel rhiant corfforaethol yn un o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu, felly rwy'n falch iawn o weld y cynnydd hwn nawr. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir, fe gawsom ni hyfforddiant rhiant corfforaethol, ac fe fynychais i ddigwyddiad blynyddol lle buom yn dathlu llwyddiannau'r plant oedd yn derbyn gofal, a oedd yn ddigwyddiad hyfryd. Ond, pan siaradais i â'r bobl ifanc yn y digwyddiad, yr hyn roedden nhw'n gofyn amdano fwyaf oedd parhad gofal, p'un a yw'n weithiwr cymdeithasol neu'n aros gyda'r un teulu. A allai'r Gweinidog ddweud rhywbeth am sut y bydd trawsnewid gwasanaethau plant yn helpu i wella'r parhad hwnnw i'n pobl ifanc sy'n derbyn gofal? Diolch.
Diolch, Carolyn Thomas, am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn. Yr holl syniad o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, y canlyniadau gorau, ac ni ddylai'r ffaith bod ganddyn nhw brofiad o fod mewn gofal ymyrryd â'u cyfleoedd bywyd. Ac felly mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud.
Un o'r pethau a'm trawodd—. Fe gawson ni ein digwyddiad siarter rhianta corfforaethol cyntaf gyda'r holl sefydliadau a oedd wedi cofrestru a nifer o sefydliadau a oedd eisiau darganfod mwy am yr hyn mae bod yn rhiant corfforaethol yn ei olygu. Fe gawson ni'r digwyddiad hwn ychydig yn ôl ym mis Chwefror, felly nid yn bell iawn yn ôl, ac fe gawson ni'r digwyddiad hwn gyda llysgenhadon sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ac os ydych chi erioed wedi cael y cyfle i siarad â rhai o'r bobl ifanc hyn, maen nhw'n eithaf ysbrydoledig. Fe ddywedodd un ohonyn nhw rywbeth wrth y gynulleidfa a oedd wedi casglu yno, a oedd, fel y dywedais i, yn rhieni corfforaethol ac yn ddarpar rieni corfforaethol; pan ofynnwyd beth ddylsen nhw ei wneud, a beth fyddai rhiant corfforaethol yn edrych i'w wneud, yr hyn a ddywedodd, yr hyn a ddywedodd un ohonyn nhw, ac fe arhosodd hynny gyda mi, yw: 'Beth fyddech chi ei eisiau ar gyfer eich plentyn eich hun?' Os dechreuwch chi o'r sail honno bod gennych chi, fel rhiant corfforaethol, y cyfrifoldeb cyffredinol hwn, ac efallai ei fod yn ymddangos yn enfawr o ran yr hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud, ond, mewn gwirionedd, os gwnewch chi sianelu hynny a dweud, fel rhywun sy'n gyfrifol am hyn, 'Beth fyddwn i eisiau i fywyd fy mhlentyn fy hun i fod fel?', ac os yw popeth rydych chi'n ei wneud yn cael ei arwain gan hynny, yna dylech chi fod yn cael y canlyniadau sydd eu hangen arnoch. A'r canlyniadau rydym ni eu heisiau yw dylai plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal ddim cael y profiadau gwahanol hynny a dylen nhw ddim cael eu rhwystro yn y cynnydd a wnawn.
Mae parhad gofal, Carolyn, yn broblem, oherwydd mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol gwahanol, ac maen nhw'n gwneud pethau'n wahanol. Ond mae'r gwaith sy'n digwydd ar yr olion traed rhanbarthol a thrwy'r byrddau partneriaeth ranbarthol yn newid hynny, ac rydym yn gweld, fel y dywedais i yn yr ateb i Mabon yn gynharach, arferion da iawn mewn rhai ardaloedd. Mae'n gwestiwn o sut rydym yn cynyddu'r arferion da er mwyn sicrhau bod hynny'n cael ei gyflwyno ac nad yw'n dod yn dipyn o loteri cod post o ran lle rydych chi sy'n penderfynu eich bod chi'n cael y gofal gorau.
Gweinidog, mae gen i ddau fater yr hoffwn eu codi gyda chi heddiw—rwyf wedi codi un gyda chi o'r blaen, ynglŷn â'r lwfans treuliau personol y mae pobl ifanc mewn cartrefi preswyl awdurdodau lleol yn ei gael. Roeddwn i mewn cysylltiad ag unigolyn ifanc iawn a ddywedodd wrthyf mai dim ond swm penodol o arian mae'n ei gael bob wythnos i dalu am bethau ymolchi, cynhyrchion glanweithiol a threuliau bach. Mae'n cael tua £39 yr wythnos i dalu am hynny. Mae plant sydd mewn gofal maeth yn cael llawer mwy o arian nag y maen nhw os ydyn nhw'n byw mewn gofal preswyl. Mae gwahaniaeth yn y fan yna. Felly, hoffwn ddeall pam mae'r gwahaniaeth a beth y gellid ei wneud i ddod â nhw'n fwy cyson â'i gilydd.
Ac mae fy ail gwestiwn, Gweinidog, yn ymwneud â'r bobl ifanc hynny sy'n cael plant sydd wedi bod mewn gofal o'r blaen. Oherwydd yr hyn rydym yn ei wybod yw bod y bobl hynny sy'n cael plant yn tueddu i wynebu gwahaniaethu gan y sector gofal cymdeithasol, ac mae pobl yn cael eu rhoi yn awtomatig dan orchmynion gofal oherwydd eu bod nhw wedi bod o dan achosion gofal eu hunain o'r blaen pan oedden nhw'n blant. Mae hynny'n wahaniaethu yn erbyn y bobl hynny. Mae'n rhywbeth a godwyd yn yr adroddiad a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac mae gen i ddiddordeb ym mha waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud o amgylch y maes hwn, oherwydd dydw i ddim yn credu yng Nghymru y dylai fod unrhyw le ar gyfer y math hwnnw o wahaniaethu yn erbyn plant sydd wedi bod mewn gofal.
Rydych chi wedi codi mater y lwfans treuliau personol, ac rwy'n credu fy mod wedi ysgrifennu atoch amdano. Wnes i ddim ysgrifennu atoch chi amdano? Rwy'n ymddiheuro, James. Efallai fy mod wedi siarad â chi amdano te, yn hytrach nag ysgrifennu atoch chi amdano. Felly, fe wna i ysgrifennu atoch amdano, oherwydd y safbwynt swyddogol yw na ddylai fod gwahaniaeth, ac os yw hynny'n digwydd, mae'n debyg bod angen i ni gael ychydig mwy o wybodaeth am ble mae hynny'n digwydd er mwyn i ni allu gwneud rhywfaint o archwilio pellach ar hynny. Felly, diolch am godi hynny eto.
Ac o ran rhieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal, rydym yn gwybod yn rhy dda, fel rydych chi'n ei ddweud yn iawn, os oes gan fam yn arbennig brofiad o fod mewn gofal ei hun, yna mae mwy o risg y bydd ei phlant hefyd yn cael eu cymryd i mewn i ofal. Ond dyna'n union yw pwrpas y rhaglen hon o drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol plant.
Ac wrth ateb y cwestiwn gan Mabon yn gynharach, gyda'r math yna o waith rydym wedi bod yn ei wneud gyda phlant ar ffiniau gofal, a dyma beth rydym yn sôn amdano yma—. Felly, mae'r rhain yn blant sy'n cael eu geni mewn perygl o fynd i mewn i'n system derbyn gofal, ac mae'r gwasanaethau sydd ar waith gennym nawr i gofleidio'r teuluoedd hynny wedi atal 360 o blant dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rhag mynd i mewn i'r system ofal. Felly, mae'n ymwneud â'r ymyrraeth gynnar honno, a dyna'n union yw pwrpas y rhaglen hon. Nid yw'n gwneud rhagdybiaeth awtomatig y dylai plentyn a anwyd i fam sydd â phrofiad o fod mewn gofal ei hun fod mewn gofal, ond yn amlwg mae'n cydnabod bod ffactorau penderfynu yn yr achosion hynny sydd angen ymyrraeth gynnar ac uniongyrchol. Ond gweithio gyda'r teuluoedd hynny yn gynnar yw'r union beth rydym yn ceisio ei wneud i atal y plentyn hwnnw rhag cael ei gymryd i mewn i ofal. Gyda nifer o blant mae'n gweithio allan yn llwyddiannus iawn; i rai, nid yw'n gweithio, a'r asesiad yn y pen draw bob amser fydd diogelwch plentyn ac a all y plentyn hwnnw aros gyda'i deulu'n ddiogel, a dyna'r gwaith rydym yn ei wneud i geisio sicrhau bod hynny'n digwydd.
Ac yn olaf, Lee Waters.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwyf am gydnabod pa mor bwysig yw'r gyfres o ddiwygiadau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad, a diolch i chi am ddod â nhw ymlaen, a chydnabod didwylledd eich ymrwymiad ac ymrwymiad eraill sydd wedi dod o'ch blaen, yn enwedig y cyn-Brif Weinidog, y cyn Ddirprwy Weinidog plant, Julie Morgan, ond eraill hefyd, pobl fel David Melding, a arweiniodd y bwrdd cynghori gweinidogol, Sally Holland fel y comisiynydd plant, pwyllgorau'r Cynulliad hwn, y pwyllgor plant a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn nhymor diwethaf y Senedd. Felly, mae'n wych gweld y canolfannau preswyl therapiwtig hyn nawr yn dechrau cymryd pobl ifanc i mewn iddynt.
O ran y camau nesaf y sonioch chi amdanyn nhw ynghylch y canllawiau statudol rhianta corfforaethol, rwy'n ymwybodol iawn mai'r cam nesaf y mae pobl ifanc yn ei wneud ar ôl y cartrefi hyn yn aml yw'r trawsnewidiad sydyn hwnnw o wasanaethau cymdeithasol plant i wasanaethau cymdeithasol oedolion, a phan fyddwch chi'n siarad â phobl sy'n gweithio yn y system a'r plant sydd wedi mynd trwyddi, mae'n drawsnewidiad trawmatig a sydyn iawn yn aml. Felly, o ran yr uwchgynadleddau hyn rydych chi wedi bod yn eu cynnal a'r arferion da a gasglwyd, allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd yr eir i'r afael â'r trawsnewidiad hwn fel rhan o'r canllawiau nesaf rydych chi'n eu datblygu?
A allaf ddiolch i chi, Lee, am y cwestiwn hwnnw? A hoffwn ychwanegu fy niolch i hefyd i'm rhagflaenwyr, y cyn-Brif Weinidog, Julie Morgan, David Melding ac eraill a arweiniodd y ffordd ar gyfer y newidiadau pwysig iawn, iawn hyn sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau rhai o'r bobl ifanc mwyaf heriol mewn cymdeithas—neu, yn hytrach, y bobl ifanc sydd â'r setiau mwyaf heriol o amgylchiadau, ie.
Mae'r union bwynt rydych wedi'i godi, mewn gwirionedd, yn bwynt rwyf wedi'i godi yn ddiweddar, oherwydd rwyf wedi gweld hyn yng ngwaith achos fy etholaeth fy hun, lle mae plant yn trosglwyddo o wasanaethau cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion, ac mae'n drawmatig iawn pan fydd yr holl berthnasoedd a'r gwasanaethau sydd wedi'u hadeiladu o amgylch y plentyn yn cael eu tynnu i ffwrdd wrth iddyn nhw gael eu symud wedyn i wasanaethau oedolion. Rwyf eisiau gweld darn o waith yn cael ei ddatblygu—a dyma'r hyn rwyf wedi bod yn ei drafod gyda swyddogion—lle mae gennym y trosglwyddiad meddalach hwnnw o wasanaethau cymdeithasol plant i rai oedolion. Yr hyn sydd gennym, yn anffodus, yw system lle mae gennym weithwyr cymdeithasol plant a gweithwyr cymdeithasol oedolion a dim yn y canol, a dydy e ddim yn ymddangos bod gennym ni weithwyr cymdeithasol trosiannol a all helpu i leddfu'r llwybr hwnnw drwodd. Nawr, dydw i ddim yn gwybod pa mor anodd yw hynny. Dydy e ddim yn ymddangos i mi fel y dylai hynny fod mor anodd ag y mae'n cyflwyno ei hun i fod i'r system. Ond, mewn gwirionedd, o ystyried bod popeth rydym yn ceisio ei wneud yn ymwneud â'r broses hon yn canolbwyntio ar y plentyn neu'n canolbwyntio ar yr unigolyn, dylai fod mai anghenion y person sy'n mynd drwy'r system ac sy'n gorfod ei phrofi sy'n penderfynu mewn gwirionedd sut mae'r cyfeiriad polisi yn mynd. Felly, mae'n ddarn o waith sydd ar fy radar, yn sicr, ac mae'n rhywbeth rwy'n credu fydd yn un o'r camau nesaf o ran sut y gallwn gyflawni'r gwelliannau mewn gwasanaethau plant.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 6 heddiw yw dadl ar yr ail gyllideb atodol, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8831 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r gyllideb atodol yn cyflwyno cynlluniau gwario terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'r ail gyllideb atodol hon yn rheoleiddio nifer o newidiadau a dyraniadau a gafodd eu gwneud yn ystod 2024-25. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddiwedd mis Hydref.
O ganlyniad, Dirprwy Lywydd, mae ein terfynau gwariant cyffredinol wedi cynyddu £629 miliwn mewn refeniw a £256 miliwn mewn cyfalaf. Y buddsoddiad newydd mwyaf sydd wedi'i adlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol hon yw'r £264 miliwn sydd wedi’i ddyrannu i dalu am effaith dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus a gafodd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae'r cyllid ychwanegol yn talu yn llawn y gwahaniaeth rhwng y rhagdybiaethau cynllunio cyllideb gwreiddiol a'r dyfarniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer staff yn y gwasanaeth iechyd, athrawon a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus.
Ac fel y byddech chi'n disgwyl, mae buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd yn nodwedd amlwg yn y penderfyniad y mae gofyn i'r Aelodau ei wneud heddiw: £25 miliwn ar gyfer cyfraniadau blwydd-daliadau; £50 miliwn i leihau amseroedd aros; £27 miliwn i gefnogi'r her 50 diwrnod; £31 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf ar gyfer offer digidol a diagnostig; £26 miliwn i fuddsoddi mewn ymarfer cyffredinol; a £15 miliwn i ymdrin â diffyg yn y cyllid gordal iechyd mewnfudo.
Y tu hwnt i'r gwasanaeth iechyd, mae'r ail gyllideb atodol hon yn adlewyrchu'r buddsoddiad ychwanegol mawr yr ydyn ni wedi gallu'i wneud mewn addysg yn y flwyddyn ariannol hon: £63.5 miliwn i wella safonau ysgolion, cefnogi'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac i gefnogi addysg ar bob lefel, a £53.5 miliwn arall ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion a cholegau a chostau digidol.
Dirprwy Lywydd, mae trafnidiaeth a theithio llesol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Cymru. Mae'r ffigurau sydd ar gael i'r Aelodau heddiw yn cynnwys £167 miliwn arall mewn buddsoddiad i gefnogi rheilffyrdd ac i sicrhau llif o gynlluniau teithio llesol yn y dyfodol; mae £147 miliwn o'r gwariant ychwanegol hwnnw wedi'i fuddsoddi yn rheilffyrdd craidd y Cymoedd, y buddsoddiad mwyaf o'i fath unrhyw le yn Ewrop.
Dirprwy Lywydd, nid dim ond bygwth cenedlaethau'r dyfodol mae newid hinsawdd; mae'n effeithio ar y ffordd rydym ni'n byw heddiw. Dyna pam mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydym ni'n teithio a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn eto eleni i helpu awdurdodau lleol i ymateb i stormydd Bert a Darragh. Mae £10 miliwn o gymorth brys wedi ei adlewyrchu yn y penderfyniadau sydd o'ch blaen.
Er bod yr ail gyllideb atodol yn cynnwys gwariant sylweddol, cam technegol yw hwn yn y bôn. Tu ôl i'r penawdau, mae dyraniadau symiau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, diwygio'r addasiad grant bloc, diwygio rhagolwg trethi datganoledig, amcangyfrif atodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig a throsglwyddo o fewn a rhwng adrannau.
Pwrpas yr ail gyllideb atodol yw dod â phenderfyniadau at eu gilydd mewn un lle, fel eu bod yn fwy amlwg ac fel bod modd gweld newidiadau unigol yng nghyd-destun y gwaith mwy eang o reoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn. Ac rwy'n arbennig o ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Cadeirydd, Peredur Owen Griffiths, am yr ystyriaeth ofalus sydd y tu ôl i'w hadroddiad nhw. Diolch iddynt hefyd am fod yn barod i drin a thrafod nid yn unig y manylion sylweddol sydd yn y dogfennau, ond hefyd y dadleuon a'r penderfyniadau ehangach sydd y tu ôl i'r elfennau unigol.
Rwy'n gofyn i'r Aelodau nodi casgliad y pwyllgor fod y gyllideb atodol hon yn debyg i gyllidebau atodol blaenorol, gan ei bod yn rheoleiddio gwariant o fewn Llywodraeth Cymru ac yn esbonio lle mae symudiadau wedi digwydd. Mae'r pwyllgor wedi gwneud naw o argymhellion, a dwi'n edrych ymlaen at ymateb iddynt cyn hir. Rwy'n gofyn, Llywydd, i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid nawr i gyfrannu. Peredur Owen Griffiths.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser cael siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Bu’r pwyllgor yn craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 6 Mawrth, a hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet a’i swyddogion am fod yn bresennol. Mae ein hadroddiad yn gwneud naw o argymhellion ac yn dod i un casgliad.
Mae’r pwynt cyntaf yn un cyffredinol, sef bod y pwyllgor yn croesawu’r cynnydd a welir yn y cyllid yn y gyllideb atodol hon. Serch hynny, rydym wedi nodi meysydd a fyddai’n elwa o ragor o eglurder. Yn benodol, er ein bod yn ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am egluro sut y mae’n rheoli tanwariant adrannol wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, gofynnwn iddo rannu manylion am y mecanweithiau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru wrth benderfynu sut y caiff tanwariant o’r fath ei ddyrannu. Rydym hefyd o’r farn y dylid ystyried gwneud dyraniadau ychwanegol i gyrff sydd â’r gallu i ddwyn cyllid ymlaen i 2025-26, a hynny er mwyn helpu gyda phwysau ariannu, megis awdurdodau lleol. Gofynnwn i’r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i’r awgrym hwn.
O ran cyllid cyfalaf, rydyn ni'n rhannu pryderon yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â gallu cyllidebau'r sector cyhoeddus i amsugno'r cynnydd yn y maes hwn cyn diwedd y flwyddyn, ac rydyn ni wedi galw am sicrwydd o ran sut mae hyn yn cael ei fonitro. Rydyn ni hefyd yn croesawu bod cyllid sy'n ymwneud â blaenoriaethau'r Prif Weinidog yn amlwg i'w gweld yn y gyllideb atodol. Fodd bynnag, nid yw'n gwbl amlwg i ni p'un ai'r Prif Weinidog neu aelod arall o'r Cabinet sy'n atebol am y meysydd hyn, ac rydyn ni wedi gofyn am eglurder pellach ar hyn.
Llywydd, gan droi yn awr at feysydd eraill yn ein hadroddiad, rydyn ni'n croesawu'r trefniadau sydd ar waith o fewn Llywodraeth Cymru i fonitro gwariant yn ystod y flwyddyn ar draws cyllidebau a chydnabod bod cael mynediad at ddata cywir sydd ar gael yn rhwydd yn hanfodol at y diben hwn. Er ein bod yn croesawu esboniad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r dulliau hyn sydd ar gael ar hyn o bryd i gasglu data, rydyn ni'n gofyn am fwy o wybodaeth am y mentrau sy'n bodoli o fewn Llywodraeth Cymru i wella'r prosesau presennol.
O ran dyraniadau penodol, rydyn ni'n credu bod angen sylw penodol ar wariant yn y prif grŵp gwariant trafnidiaeth ac rydyn ni'n arbennig o bryderus am y pwysau annisgwyl o £100 miliwn yn y MEG hwnnw. Dyna pam yr ydyn ni wedi gofyn am ddadansoddiad o gostau sy'n ymwneud â'r pwysau hyn, fel y gallwn ni gael syniad cadarn o'r rhesymau y tu ôl iddyn nhw. Rydyn ni hefyd yn pryderu y gallai gorwariant yn y maes hwn ddangos gwendidau ehangach mewn prosesau cynllunio ariannol o fewn y MEG trafnidiaeth, ac rydyn ni wedi gofyn am fwy o wybodaeth am y rhagolwg gwariant i dalu costau sy'n ymwneud â Trafnidiaeth Cymru.
Roedd hefyd yn ddiddorol clywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU o ran cydnabod cyflwr asedau'r rheilffyrdd a drosglwyddwyd i Gymru, ac y bydd trafodaethau ynghylch cyllid ar gyfer gwelliannau i linellau craidd y Cymoedd yn rhan o adolygiad gwariant y DU, ac rydyn ni wedi gofyn am y diweddaraf ar y pwyntiau hyn. Roedd y pwyllgor hefyd eisiau eglurder pellach ynglŷn â'r £25 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i'r MEG gwasanaethau canolog a gweinyddu. Er ein bod ni'n nodi esboniad yr Ysgrifennydd Cabinet bod y dyraniad hwn yn cynnwys cyflogau staff yn ogystal â chostau tribiwnlys, rydyn ni'n credu eu bod yn cyfiawnhau dadansoddiad pellach, ac rydyn ni wedi gofyn i hyn gael ei ddarparu.
Yn olaf, mae’r pwyllgor yn croesawu’r manylion a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch adolygiadau o wariant y Deyrnas Unedig a Chymru, a’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyfleoedd i lywio hynt ymarfer y Deyrnas Unedig cyn i'r adolygiad gael ei gyhoeddi ar 11 Mehefin. Roeddem hefyd yn falch bod y berthynas rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru wedi gwella, ac yn croesawu'n benodol y ffaith bod camau'n cael eu cymryd i sefydlu llyfr rheolau i godeiddio'r broses o rannu gwybodaeth rhwng Llywodraethau. Fel pwyllgor, rydym wedi galw am hyn ers tro, ac rydym yn falch o weld cynnydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, rydym yn galw am ddiweddariad ar y trafodaethau hyn, gan gynnwys manylion yr hyn a gaiff ei godeiddio.
Fel bob amser, rydym yn croesawu ymgysylltiad parhaus y Gweinidog â ni fel rhan o’n gwaith craffu parhaus ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a gofynnwn fod gwaith ar y meysydd yr ydym wedi’u nodi yn ein hadroddiad yn cael ei ddatblygu.
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad yma y prynhawn yma. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar am yr ymgysylltu parhaus â mi ac eraill drwy'r broses hon. Rwy'n ymwybodol iawn mai hon yw'r gyllideb atodol gyntaf i mi wneud sylwadau arni yn fy rôl yn yr wrthblaid. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod gan y gyllideb atodol benodol hon symudiadau ar raddfa fwy na'r arfer. Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi, mae rheswm dros hynny, gyda dyraniad pellach o gyllid o fewn y flwyddyn ariannol hon.
Ond rwy'n credu bod yna gwpl o feysydd a fyddai, efallai, yn cyfiawnhau ychydig mwy o sylwadau. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid eisoes wedi tynnu sylw at y cynnydd yn y gyllideb gwasanaethau canolog a gweinyddu. Ar ben y cynnydd o £117 miliwn yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae yna gyllideb ychwanegol o £25 miliwn ar gyfer y gyllideb gwasanaethau canolog a gweinyddu honno. Felly, byddwn i'n cefnogi galwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a galwadau'r pwyllgor am yr eglurder hwnnw ynghylch sut mae'r £25 miliwn ychwanegol hwnnw yn debygol o gael ei wario—neu wedi ei wario—trwy'r cyfnod hwn. Rwy'n derbyn bod yna esboniadau ynghylch cynyddu ffioedd tribiwnlysoedd, fel sydd wedi'i ddisgrifio eisoes, ond byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud sylwadau ar hynny'n benodol yn ei ymateb ar ddiwedd hwn.
Rwy'n rhannu'r pryderon am yr hyn sy'n edrych fel gofyniad ymyrraeth reolaidd o ran cyllid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n credu mai fy nghwestiwn i i'r Ysgrifennydd Cabinet yw i ddeall y sicrwydd sydd ganddo ynglŷn â'r rheolaethau sydd ar waith o fewn Trafnidiaeth Cymru i allu rheoli eu cyllideb yn gywir flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, byddwn i'n ddiolchgar os gallai'r Ysgrifennydd Cabinet wneud sylwadau ar y pwynt hwnnw hefyd.
O ran blaenoriaethau'r Prif Weinidog, rydyn ni wedi clywed yn glir bod swm sylweddol o'r ailddyraniad cyllid eleni o ganlyniad i flaenoriaethau'r Prif Weinidog. Yn ogystal â chael rhywfaint o eglurder ynghylch pwy y dylai craffu arno ar gyfer gwario'r arian hwnnw, p'un ai'r Prif Weinidog ydyw, deiliad y portffolio y mae'n berthnasol iddo, p'un ai'r Gweinidog cyflenwi ydyw, neu rywun arall, byddwn i'n ddiolchgar o glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet a yw'n credu, o ganlyniad i'r symudiad hwnnw mewn arian o fewn blaenoriaethau'r Prif Weinidog, y byddwn ni'n gweld gwelliannau pendant a pharhaus yn y meysydd hynny yn yr amser sydd gennym ni o'n blaenau yn nhymor y Senedd hwn.
Rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig bod yr archwilydd cyffredinol, fel y byddwch yn ymwybodol, wedi galw eisoes am newid dull gweithredu o'r hyn y disgrifiodd yn ymladd tân di-baid i, yn hytrach, weithredu darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy. Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn: a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn credu bod blaenoriaethau'r Prif Weinidog a'r ail gyllideb atodol yn eu cyfanrwydd, a mesurau cyllidol eraill wrth law, yn croesawu'r ymgyrch honno i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn gynaliadwy ac ymdrin â'r heriau hirdymor mewn meysydd cyfrifoldeb, yn enwedig iechyd ac addysg? Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am roi diweddariad yn gynharach heddiw hefyd? Mae'n dda ein bod ni wedi bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd er mwyn deall yr arian ychwanegol hwn. Yn amlwg, pan gawson ni drafodaeth, rai misoedd yn ôl erbyn hyn, ynglŷn â'r gyllideb ddrafft atodol gyntaf, mi wnaeth Plaid Cymru, wrth gwrs, groesawu'r buddsoddiad o ran cyflogau sector cyhoeddus. Mi oedden ni'n gwybod bod hynny'n gyfan gwbl angenrheidiol, ac mae o’n hollbwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n gallu parhau i fuddsoddi o ran tâl cyhoeddus. Mi fyddwch chi'n gwybod bod hi'n anodd edrych ar y gyllideb atodol hon heb, wrth gwrs, edrych ar beth fydd yn digwydd nesaf. A thra bod yna bethau, wrth gwrs, i'w croesawu o ran tâl cyhoeddus, byddwch chi yn gwybod, wrth gwrs, fod yna bryderon o ran beth fydd yn bosib yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig o ystyried y sefyllfa o ran yswiriant gwladol.
Gan gynrychioli Canol De Cymru, wrth gwrs, rwyf i wedi gweld y buddsoddiad yn rheilffordd graidd y Cymoedd. Rwy'n credu bod pawb a ddaeth i Bontypridd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol wedi gweld y buddsoddiad hwnnw, ac yn amlwg, mae i'w groesawu'n fawr. Wrth gwrs, rwy'n rhannu rhai o'r pryderon y gwnaeth y Pwyllgor Cyllid a llefarydd yr wrthblaid y Ceidwadwyr eu codi, o ran y gwariant hwnnw gyda Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n credu bod ceisio deall pam mae gwahaniaeth mor enfawr o ran yr hyn sydd wedi'i gyllidebu a'r hyn sydd angen ei ddyrannu er mwyn gwireddu prosiectau mor uchelgeisiol yn rhywbeth yr wyf i'n credu y byddem ni i gyd yn gwerthfawrogi eglurder arno.
Wrth gwrs, rwyf i hefyd yn croesawu'r cyllid a'r cymorth brys a ddarparwyd o ran stormydd. Tybed, yn y blynyddoedd i ddod, o gofio ein bod ni'n gweld hyn yn gorfod digwydd mor aml a mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol—. Cawsom ni drafodaeth yn gynharach o ran cyllid sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer mesurau amddiffyn rhag llifogydd, ond tybed sut yr ydych chi'n gweld, neu'n rhagweld yn y blynyddoedd i ddod, sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer y digwyddiadau tywydd annisgwyl hynny sydd, yn anffodus, yn dod yn fwy aml o lawer, a deall sut mae'r buddsoddiad hwnnw'n werth am arian.
Wrth edrych ar y buddsoddiad o ran £20 miliwn o gyllid cyfalaf wedi'i ddyrannu i adeiladau ysgol, wrth gwrs rydyn ni'n croesawu'r buddsoddiad, ond yn ddiweddar cwestiynodd Cefin Campbell Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, am yr ôl-groniad cynnal a chadw sy'n wynebu ysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd, a oedd yn dangos gwerth £543 miliwn o ôl-groniadau. Felly, mewn gwirionedd, mae hyn i ddeall sut yr ydyn ni'n sicrhau'r buddsoddiad parhaus hwnnw.
O ran blaenoriaethau'r Prif Weinidog, rydyn ni'n nodi'r buddsoddiad hwnnw. Yn amlwg, rwy'n credu y byddai pob Aelod o'r Senedd yn croesawu unrhyw beth sy'n ymdrin â rhestrau aros, ond un o'r pethau a godwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid—ac a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith manwl a'i adroddiad ar hyn—oedd y cwestiynau ynghylch data. Ac rwy'n nodi, yn eich ymatebion, eich bod chi wedi sôn, Ysgrifennydd Cabinet, am sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad a gafodd ei ychwanegu, o ran y gyllideb atodol honno, yn rhywbeth yr oeddech chi'n ei fonitro'n ofalus iawn, yn ogystal a'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, o ran pa mor effeithiol oedd yr ymyraethau hynny. Rwy'n tybio, felly, o'r dyraniadau yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, bod y cyllid hwnnw wedi profi i fod yn effeithiol. Rwy'n credu mai dyna un o'r pethau y byddem ni i gyd eisiau'i weld.
O ran y cwestiwn ar ddata, fodd bynnag, a gafodd ei godi'n ehangach gan y Pwyllgor Cyllid, rwy'n credu mai un o'r pethau y mae llawer ohonom ni wedi bod yn galw amdano, o ran yr agenda atal honno a lle byddwn ni'n gallu gweld mesur, yw bod data yn codi dro ar ôl tro mewn gwahanol feysydd nad yw'n hollol glir ble mae'r cysylltedd hwnnw rhwng y buddsoddiad hwnnw a'r allbwn a'r canlyniadau. Felly, tybed, o ran y gwariant ychwanegol hwnnw ym maes iechyd, sydd wedi bod yn sylweddol ac sydd wedi bod yn gyson sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni'n dal i fethu â chyflawni targedau'r Llywodraeth ei hun yn y meysydd hyn. Felly, mae'n ymwneud â deall a ydych chi'n credu bod hyn wedi bod yn effeithiol. A yw wedi cyflawni'r hyn yr oeddech chi'n gobeithio y byddai pan gafodd yr arian hwnnw ei ddyrannu?
Gan mai arian sydd wedi'i wario'n barod yw hwn, bydd Plaid Cymru yn atal ein pleidlais ar y gyllideb heddiw. Fel y dywedais i, mae yna bethau yr ydyn ni'n eu croesawu ac, wrth gwrs, os byddai'r cyfle gennym ni, mae yna feysydd lle byddem ni'n gwario'n wahanol, ond rwy'n credu y byddai eglurhad ar rai pwyntiau i'w groesawu, ac yn benodol o ran pa effaith y mae'r buddsoddiad pellach hwnnw wedi'i gael.
Byddaf i'n cefnogi'r ail gyllideb atodol hon ac yn gofyn cwestiwn i'r rhai sy'n ei gwrthwynebu: beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol? Mae'n hawdd dweud, 'Byddem ni'n ei wario'n wahanol.' Ble? Ar beth na fyddech chi'n ei wario? Mae hon bob amser yn ddadl ryfedd, yn dilyn yn fuan ar ôl y prif ddigwyddiad, sef cyllideb 2025-26. Roeddwn i'n aelod o'r Pwyllgor Cyllid a graffodd ar y gyllideb hon a diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion am roi'r esboniadau a'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau a wnaed.
Rwy'n croesawu'r cynnydd yn yr arian yn yr ail gyllideb atodol hon. Dyma sut mae cael Llywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4 yn gweithio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r gyllideb atodol hon yn unioni dyraniadau i, ac o, gronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios, ac mae'n cynnwys addasiadau i gyllideb Cymru i adlewyrchu effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU. Yn yr ail gyllideb atodol, mae'r arian, neu bron yr holl arian, wedi cael ei wario. Mae'r cyfan wedi'i ddyrannu. Mae'r rhan fwyaf wedi cael ei wario. Nid wyf i'n siŵr beth sy'n digwydd os yw cyllideb atodol yn cael ei gwrthod. Ydych chi'n mynd i dynnu arian oddi ar bobl? Ydych chi'n mynd i ddweud wrth ysbytai bod yn rhaid iddyn nhw roi'r gorau i wneud unrhyw beth yn ystod y pythefnos nesaf, er mwyn rheoli'r gyllideb? Rwy'n credu weithiau ein bod ni'n cael rhai o'r dadleuon hyn a dim ond un ateb posibl sydd yna, ac weithiau mae pobl sy'n pleidleisio yn erbyn neu'n atal eu pleidlais yn falch iawn, a dweud y gwir, bod y Llywodraeth yn ennill.
Mae gennyf i nifer o bwyntiau. Dylai symud arian i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, a refeniw i gyfalaf, neu gyfalaf i refeniw, fod yn benderfyniad gan Lywodraeth Cymru, nid yn benderfyniad gan y Trysorlys. Mae'r arian wedi ei ddyrannu i Gymru; dylai sut yr ydym ni'n ei wario fod yn benderfyniad gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Senedd, nid i'w benderfynu gan y Trysorlys, nad yw, mae'n ymddangos, wedi deall y ffaith nad yw'n adran arall y Llywodraeth, mae'n sefydliad datganoledig ac yn Llywodraeth ynddo'i hun. Mae hon yn broblem yr ydyn ni wedi'i chael gyda'r Trysorlys am yr holl amser yr wyf i wedi bod yma, ac rwy'n disgwyl iddo barhau. Nid wyf i'n argyhoeddedig bod angen cymeradwyo symudiadau o fewn cyllidebau adrannau. Byddai adroddiad ysgrifenedig ar symudiadau o'r fath yn ddigonol. Fodd bynnag, mae angen mwy o fanylion ar sut mae tanwariant adrannau yn cael eu hailddyrannu i adrannau eraill, gan gynnwys achos y tanwariant, ac esboniad o pam mae ei angen ar adrannau eraill.
Fe ofynnaf rai cwestiynau i'r Gweinidog. A all y Gweinidog cyllid ein sicrhau ni na fydd unrhyw arian yn cael ei dalu'n ôl i'r Trysorlys? Os nad yw'n bosibl rhoi'r sicrwydd hwnnw, a gaf i awgrymu bod yr arian yn cael ei wario? Byddwn i'n awgrymu ei roi i lywodraeth leol, sydd bob amser angen arian ychwanegol. Gallem ni dalu unrhyw sefydliad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyllido nad yw'n rhan o gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru. Pam nad oes modd rhoi diweddariadau ar wariant yn fwy rheolaidd i'r Senedd, hyd yn oed os mai dim ond ar ffurf ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid?
Hoffwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid am ei ddiweddariad heddiw. Mae mater yr wyf i eisiau'i godi, Ysgrifennydd Cabinet, yn rhywbeth yr ydw i wedi'i godi o'r blaen, ac mae'n ymwneud â'r amser yr ydyn ni'n ei roi i ystyried popeth sy'n ymwneud â'r gyllideb yma yn y Senedd. Mae'n gyllideb o £23 biliwn, ac rydyn ni'n ei drafod dros gwpl o oriau. Yn bersonol, rwy'n credu y dylem ni edrych, efallai gyda'r Pwyllgor Busnes a'r Llywodraeth, ar sut yr ydyn ni'n neilltuo mwy o amser yn y Senedd hon i ystyried materion polisi unigol. Yn San Steffan, er enghraifft, maen nhw'n treulio pedwar diwrnod cyfan yn mynd dros wahanol feysydd polisi, sy'n rhoi cyfle i bob Aelod sydd â buddiant mewn meysydd eraill, heblaw am y pwyllgorau maen nhw'n eistedd arnyn nhw, holi Gweinidogion a'r Ysgrifennydd Cyllid yn uniongyrchol am faterion y maen nhw eisiau'u gweld yn cael eu codi yn y gyllideb, neu sut y byddai modd gwella'r gyllideb. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried wrth fynd ymlaen, yn enwedig yng nghyd-destun diwygio'r Senedd—[ymyriad.] Gwnaf, fe wnaf gymryd yr ymyriad, Mike.
Rwyf i wedi codi sawl gwaith ein bod ni'n trin cytuno ar y gyllideb yma â'r un lefel o bwysigrwydd â dadl awr yr wrthblaid.
Nid ydw i'n anghytuno â chi, Mike—rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n credu, o safbwynt personol, mai pennu y gyllideb yma yw'r peth pwysicaf yr ydyn ni'n ei wneud. Mae'n gosod y naws ar gyfer sut yr ydyn ni'n ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rwy'n credu pan oeddwn i nôl yn y cyngor, roeddem ni wedi rhoi bron mwy o amser i drafod cyllideb ein cyngor na'r hyn yr ydyn ni wir yn ei wneud i'r gyllideb sy'n pennu blaenoriaethau strategol Cymru. Felly, rwy'n credu bod angen ei ystyried.
Mae un peth olaf yr hoffwn i ei godi gyda'r Ysgrifennydd Cabinet. Cyn cyhoeddiadau cyllideb gwanwyn Llywodraeth y DU, sy'n dod, rwy'n credu, yr wythnos nesaf, mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda'r Canghellor neu'r Prif Ysgrifennydd Cyllid ynghylch rhai o'r materion yswiriant gwladol sy'n wynebu rhai o'r cyrff sector cyhoeddus ledled Cymru—yn bennaf y trydydd sector, ein deintyddion, ein practisau meddygon teulu, sydd i gyd yn cael trafferth gyda chostau cynyddol yswiriant gwladol. Rwyf i eisiau gwybod pa sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud cyn y datganiad hwnnw ynglŷn â hynny. A hefyd ynghylch hynny, a ydych chi'n gweld unrhyw effeithiau ar gyfer Cymru cyn y datganiad hwnnw, ac os oes yna, sut ydych chi'n cynnwys hynny yn y trafodaethau ar y gyllideb yma? Diolch, Llywydd.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Diolch yn enwedig i Gadeirydd y pwyllgor. Dwi'n cytuno, wrth gwrs. Bob tro, rŷn ni'n edrych am ffyrdd i symleiddio pethau sy'n gymhleth, sy'n dechnegol, a ble mae lot o bethau yn symud, yn enwedig pan ŷn ni'n dod at ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Byddaf i'n ymateb, fel bob amser, i gynigion adeiladol y Pwyllgor Cyllid i weld sut y gallwn ni wneud mwy o gynnydd yn y maes hwnnw.
Mae nifer o gyd-Aelodau, Llywydd, wedi sôn am y MEG Trafnidiaeth, a hoffwn i hefyd, fel yr Ysgrifennydd Cyllid, fod mewn sefyllfa fwy sefydlog nag yr ydyn ni o ran buddsoddi mewn rheilffyrdd. Byddwn i'n gofyn i'r Aelodau ochel rhag bod â golwg rhy syml ar sut mae'r MEG trafnidiaeth, a rheilffyrdd yn arbennig, yn gweithredu. Bydd Aelodau yma'n gwybod—fel y dywedodd Heledd Fychan—bod buddsoddiad enfawr wedi bod mewn cerbydau rheilffyrdd i wneud yn siŵr bod gennym ni drenau modern y gall pobl deithio arnynt. Nid yw Trafnidiaeth Cymru bob amser yn rheoli pryd mae'r cerbydau hynny'n eu cyrraedd nhw. Mae hynny yn nwylo'r gweithgynhyrchwyr yn fwy na dim, ac weithiau gallwch chi fod yn disgwyl bil eithaf mawr i gyrraedd mewn un flwyddyn ariannol, dim ond i ddarganfod bod y cerbydau yn cyrraedd ychydig wythnosau'n hwyrach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, ac nawr mae'r bil yn ymddangos mewn blwyddyn ariannol arall. Felly, nid yw rhai o'r symudiadau mawr hyn o reidrwydd yn ymwneud â'r ffordd y mae Trafnidiaeth Cymru yn rheoli ei gyllideb; mae'n ymwneud â lle mae gwariant penodol yn digwydd disgyn.
Rwy'n cytuno â Sam Rowlands, wrth gwrs, nad yn y swyddogaeth y mae'n ei chyflawni y mae'r gwahaniaeth allweddol rhwng y gyllideb atodol hon ac eraill, ond yng ngraddfa'r buddsoddiad y mae'n ei gynrychioli, ac mae hynny, fel y mae Mike Hedges yn ei ddweud, oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur erbyn hyn yn San Steffan, ac roedd yr arian ychwanegol a ddyrannwyd i ni o fewn y flwyddyn yn sylweddol uwch nag y byddai wedi bod yn y blynyddoedd cynharach. O ganlyniad, mae gennym ni fwy o lif cyllid trwy'r ail gyllideb atodol hon.
Gofynnodd Sam Rowlands i mi hefyd am y £25 miliwn ym MEG gwasanaethau canolog a gweinyddu; unwaith eto, byddwn yn gofyn i gyd-Aelodau sicrhau eu bod wedi edrych ar fanylion rhai o'r symudiadau hyn, oherwydd nid Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn unig ydw i, ond Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg. Mae'r holl gyllidebau sy'n gysylltiedig â'r Gymraeg erbyn hyn wedi'u symud i MEG gwasanaethau canolog a gweinyddu o rywle arall, felly er ei bod yn ymddangos bod un gyllideb yn cynyddu, nid yw'n gynnydd gwirioneddol, dim ond cyllid yn symud rhwng prif grwpiau gwariant i adlewyrchu cyfrifoldebau gweinidogol.
Yn fwy cyffredinol, gadewch i mi ddweud, Llywydd, ei bod hi wedi bod yn rheol i mi mewn blynyddoedd cynharach, pan oedd ein cyllidebau dan straen sylweddol iawn, ac nad oedden ni bob amser yn gallu ariannu'r rhai sy'n dibynnu ar Lywodraeth Cymru i'r graddau y bydden ni wedi hoffi'i wneud, na fyddwn i byth yn ariannu Llywodraeth Cymru yn well nag yr oeddwn i'n gallu ariannu, gadewch i ni ddweud, y gwasanaeth iechyd neu lywodraeth leol. I'r gwrthwyneb, pan fyddwn mewn blwyddyn well, ac mae mwy o arian i'w fuddsoddi yn y gwasanaethau eraill hynny, nid wyf i'n credu y dylai Llywodraeth Cymru gael ei thrin yn waeth nag unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall. Rwyf wedi wynebu cwynion ar lawr y Senedd yma o'r blaen bod yna bethau yr ydyn ni eisiau'u gwneud fel Senedd ond nad oes gennym ni'r capasiti o fewn Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r pethau hynny. Mae hynny'n adlewyrchiad o fwy na degawd o gyni ac o beidio â thrin ein hunain yn wahanol i'r ffordd y byddem ni'n trin unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall.
O ran mater y £50 miliwn a gafodd ei darparu i'r gwasanaeth iechyd ar gyfer amseroedd aros—cododd Heledd Fychan hyn, yn ogystal â Sam Rowlands—rwy'n credu y gallwn ni weld effaith hynny. Fe wnes i gwrdd yn ddiweddar â'r Ysgrifennydd iechyd. Mae ganddo'r cyfrifon wythnosol mwyaf manwl o sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud. Gwnaeth eistedd yn un o'r cyfarfodydd hynny i glywed yr adroddiadau hynny roi hyder sylweddol i mi, ac mae hi o ganlyniad i'r dystiolaeth honno bod yr arian a gafodd ei fuddsoddi yn gwneud gwahaniaeth ac y byddwn ni'n mynd ymlaen i fuddsoddi yn y ffordd honno y flwyddyn nesaf.
O ran y pwyntiau y cododd Heledd Fychan am arian i awdurdodau lleol yn dilyn stormydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn ddywedodd Heledd. Byddwn yn cael mwy o hyn yn y dyfodol, nid llai. Mae dau fath o help yn cael ei ddarparu. Roedd y £10 miliwn o ganlyniad i'r hyn a arferai gael ei alw'n fformiwla Bellwin, sydd ar gyfer gweithredu ar unwaith ac mewn argyfwng. Bydd angen rhywfaint o gyllid ychwanegol ar gyfer effeithiau tymor hir difrod stormydd, ac yn ddiweddar rwyf wedi bod mewn trafodaethau gyda CLlLC ynglŷn â hynny i gyd.
Yn olaf, Llywydd, gofynnodd Mike Hedges i mi roi cadarnhad na fydd unrhyw arian yn cael ei dalu'n ôl i'r Trysorlys eleni. Rwy'n rhoi'r sicrwydd hwnnw i chi. Rydyn ni wedi llwyddo i reoli diwedd y flwyddyn mewn ffordd lle y gall cronfa wrth gefn Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf gynnwys arian yr wyf i'n awyddus i'w ddarparu i gyd-Aelodau i reoli pwysau yn ystod y flwyddyn nesaf ac nid oes angen, wrth reoli'r gyllideb, i roi arian yn ôl i Whitehall. Gyda hynny i gyd, Llywydd, unwaith eto, gofynnaf i gyd-Aelodau ganiatáu i'r ail gyllideb atodol fynd yn ei blaen.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni adael y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 7 sydd nesaf. Dadl ar adroddiad blynyddol Estyn 2023-24 yw hon. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig. Lynne Neagle.
Cynnig NDM8856 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025.
2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i agor y ddadl hon drwy ddiolch i Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, am ei adroddiad blynyddol. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchiad hanfodol, annibynnol o sut mae ein hysgolion a'n darparwyr addysg a hyfforddiant yn perfformio ac yn helpu ein dysgwyr i symud ymlaen. I ni'r Llywodraeth, ac yn wir pawb sy'n buddsoddi mewn addysg, mae'n darparu sylfaen dystiolaeth hanfodol. Mae'n ein helpu i ddeall nid yn unig ble rydym ni arni, ond beth sydd angen i ni ei wneud i wneud cynnydd mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.
Llywydd, fe hoffwn i eto ddiolch o galon i holl arweinwyr ysgolion ac athrawon yng Nghymru. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad diwyro i ddysgwyr yn gwbl amlwg. Mae gen i'r fraint yn fy swyddogaeth yn Ysgrifennydd Cabinet o gwrdd â llawer o arweinwyr ac athrawon, ac mae gweld eu hangerdd yn uniongyrchol yn ysbrydoli rhywun ac yn gwneud ichi deimlo'n wylaidd iawn.
Rwy'n rhannu barn gyffredinol y prif arolygydd: mae gennym ni gryfderau sylweddol yn ein sectorau addysg a hyfforddiant. Mae hynny i'w weld mewn nifer o astudiaethau achos y mae Estyn yn eu hamlygu yn yr adroddiad hwn sy'n arddangos llawer o'r cryfderau ar draws ein sectorau addysg a hyfforddiant. Ond rwy'n gwybod hefyd bod angen i ni fynd i'r afael â'r heriau rydym ni'n dal i'w hwynebu.
Rwy'n croesawu ymagwedd Estyn at gyhoeddi'r adroddiad mewn dau gam, fel y mae wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r adroddiad cryno am y sector a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf yn cynnig cipolwg cynnar ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a lle mae angen gwella. Mae'r adroddiad blynyddol llawn a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn rhoi dadansoddiad manylach, gan gynnwys themâu trawsbynciol sy'n darparu dirnadaeth werthfawr am ein system.
Mae'r adroddiad yn nodi rhai heriau allweddol: presenoldeb, datblygu sgiliau, dilyniant disgyblion, ansawdd addysgu ac asesu, recriwtio a hunanwerthuso. Mae'r rhain yn gyson â'r materion y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â nhw. Fel y dywedais ar sawl achlysur, os nad yw dysgwyr yn yr ysgol neu mewn darpariaeth amgen, dydyn nhw ddim yn mynd i ddysgu. Er nad yw ysgol brif ffrwd yn iawn i bob plentyn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob person ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i ddysgu. Mae ein ffigurau presenoldeb yn dangos arwyddion o welliant, ond mae cynnydd wedi bod yn rhy araf ac mae mwy i'w wneud.
Fe hoffwn i weld lefelau cyn y pandemig yn cael eu hadfer o fewn tymor y Senedd hon. Bydd hynny'n gofyn am ymdrech gydweithredol, barhaus, gan gefnogi dysgwyr unigol wrth fynd i'r afael â gwahaniaethau ar draws awdurdodau lleol, grwpiau blwyddyn a rhwng dysgwyr o wahanol gefndiroedd. Mae'r swm sylweddol o ddysgu a gollir gan y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn bryder arbennig ac mae'n rhaid gwella. Rwy'n gwneud buddsoddiadau sylweddol i gefnogi'r gwelliant hwn, yn enwedig mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, y mae eu gwaith yn hanfodol i gadw plant a'u teuluoedd mewn cysylltiad â'u haddysg.
Yn gysylltiedig â phresenoldeb mae'r mater o ymddygiad mewn ysgolion. Mae trafodaethau a digwyddiadau diweddar wedi atgyfnerthu ein pryderon am amgylcheddau ysgol a diogelwch staff. Fel y dywedais o'r blaen, rhaid i ysgolion fod yn fannau diogel. Ni ddylai unrhyw un fynd i'r gwaith na mynychu gwersi gan ofni am eu llesiant neu eu diogelwch. Ond mae angen i ni gyd gydnabod bod materion ymddygiad yn gymhleth, yn aml wedi'u gwreiddio mewn heriau cymdeithasol ehangach na all ysgolion fynd i'r afael â nhw ar eu pennau eu hunain. Bydd adolygiad thematig Estyn ar ymddygiad a ddisgwylir ym mis Mai a'n huwchgynhadledd ymddygiad sydd ar ddod yn archwilio'r cymhlethdodau hyn ac yn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Llythrennedd a rhifedd yw sylfeini dysgu ac maen nhw'n allweddol i wella system addysg Cymru. Byddwn yn ymgynghori yn ddiweddarach eleni ar fframwaith llythrennedd a rhifedd diwygiedig a fydd yn rhoi'r offer i athrawon ddatblygu'r sgiliau hyn ar draws y cwricwlwm ni waeth beth fo'u harbenigedd. Bydd hyn yn ganllaw statudol sy'n adlewyrchu ei bwysigrwydd o ran ymgyrraedd at welliannau. Ochr yn ochr â newidiadau i'r canllawiau, rwyf wedi buddsoddi £1.1 miliwn ychwanegol eleni mewn rhaglenni llwyddiannus i gefnogi llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth. Mae hyn yn cynnwys ymestyn yr ymchwil ar raglen addysgu iaith gyda llythrennedd, sydd eisoes wedi gweld dysgwyr yn gwella eu sgiliau darllen hyd at 20 y cant. Mae'r ffrydiau gwaith ychwanegol yn cynnwys prosiect y Rhaglen Iaith a Llythrennedd dosbarth cyfan ar gyfer plant saith i naw oed, datblygu rhaglen iaith a llythrennedd i blant iau ar gyfer dysgwyr iau rhwng pump a saith oed ac ehangu dysgu proffesiynol ynghylch gwyddor darllen a sillafu mewn hyd at 40 o ysgolion.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu pecyn o gymorth cenedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd a fydd yn sicrhau bod gan bob ymarferydd fynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel i wella ansawdd addysgu yn y meysydd hyn. Bydd hyn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch sut mae dysgwyr yn datblygu a sut beth yw ymarfer effeithiol. Rwyf wedi dyrannu £10 miliwn arall i gefnogi hyn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Cyhoeddais yn ddiweddar y bydd Cymru nawr yn cymryd rhan mewn asesiadau rhyngwladol ar gyfer llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr blwyddyn 5. Bydd cyfranogiad yn PIRLS—cynnydd mewn astudiaeth llythrennedd darllen rhyngwladol—a TIMSS—tueddiadau mewn astudiaeth mathemateg a gwyddoniaeth ryngwladol—yn cynnig cyfle i ddarparu sicrwydd ar lefel genedlaethol ynghylch cyflawniad dysgwyr yn gynharach ac i gefnogi addysgu a dysgu.
Nid yw dysgu o ansawdd uchel yn bosibl heb addysgu o ansawdd uchel. Mae angen i athrawon allu manteisio ar y dysgu proffesiynol gorau i ddiwallu anghenion eu dysgwyr. O fis Medi eleni bydd corff cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu ac arweinyddiaeth broffesiynol yn cael ei sefydlu i symleiddio a chyflymu cefnogaeth i ysgolion. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi yn ddiweddar y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, undebau llafur, Estyn a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu cynllun gweithlu addysg strategol. Bydd mynd i'r afael â sut rydym ni'n gwella ansawdd addysgu yn rhan allweddol o'r cynllun hwn.
Fel y mae'r adroddiad blynyddol yn tynnu sylw ato, mae anawsterau wrth recriwtio athrawon mewn rhai pynciau uwchradd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym yn darparu cymhelliant penodol i raddedigion mewn meysydd pwnc blaenoriaeth. Mae hyn yn cynnig hyd at £15,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i ddysgu'r pynciau hyn. Cynigir cymhellion pellach i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Unwaith eto, bydd recriwtio a chadw yn allweddol i'n cynllun gweithlu strategol.
Cadarnhaodd ein hadolygiad o drefniadau gwella ysgolion ledled Cymru swyddogaeth ac ymrwymiad allweddol arweinwyr ysgolion ac athrawon i arwain system o hunan-wella trwy gydweithredu o ansawdd uchel. Mae hyn yn cyd-fynd â phwyslais parhaus Estyn ar hunanwerthuso a'r cyfle i ddarparu'r offer i'n holl ysgolion wella'n gyson ledled Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gydag Estyn i sicrhau ein bod yn rhoi'r gefnogaeth i ymarferwyr ysgol ac awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â'r model newydd hwn o wella. Bydd awdurdodau lleol nawr yn arwain ar drefniadau gwella ysgolion lleol, gan eu galluogi i ddatblygu system wella leol gyfannol sy'n diwallu anghenion unigryw eu cymunedau. Mae hyn yn darparu atebolrwydd a pherchnogaeth glir ar gyfer yr ystod lawn o bolisi addysg, o'r cwricwlwm, anghenion dysgu ychwanegol, gwelliant, a thegwch a llesiant. Rydym yn gwybod bod ar rai ysgolion angen cymorth ac ymyrraeth fwy dwys gan eu hawdurdodau lleol. Dyna pam, yn 2024-25, rwyf wedi rhoi £5 miliwn i awdurdodau lleol ddarparu cymorth mwy penodol i ysgolion sy'n achosi pryder.
Ar yr un pryd, mae arweinyddiaeth genedlaethol yn hanfodol. Er mwyn cryfhau ein hymdrechion ar y cyd, rydym ni wedi sefydlu tîm gwella addysg newydd o fewn Llywodraeth Cymru i weithio'n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol. Bydd hyn yn rhoi pwyslais ar flaenoriaethau ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion, ac ymrwymiad cenedlaethol i rannu arfer da ledled Cymru.
Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth annibynnol o'r system, mae Estyn bellach yn ymgymryd â gweithgarwch arolygu amlach—arolygiad craidd ac ymweliad interim o fewn cyfnod o chwe blynedd i bob ysgol yng Nghymru. Mae hyn yn darparu cyngor annibynnol rheolaidd a her i'r system. Bydd yr ymweliad interim yn cefnogi darparwyr gyda chynlluniau hunanwerthuso a gwella.
Rwyf eisoes wedi trafod yr adroddiad yn fanwl gyda'r prif arolygydd ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgysylltu ag Estyn ar eu gwaith. Llywydd, nid yw'n bosibl i mi ymdrin â phob agwedd ar yr adroddiad yn yr araith agoriadol hon, ond rwyf wedi canolbwyntio ar feysydd lle mae'r Llywodraeth yn gweithredu, ac y bydd yn parhau i weithredu. Rwy'n benderfynol o adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes i hyrwyddo gwelliant a darparu'r system addysg orau i Gymru, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau yr Aelodau. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Tom Giffard, yn gyntaf, i gynnig gwelliannau 1 a 2.
Gwelliant 1—Paul Davies
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-25 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â phresenoldeb is, ymddygiad gwael disgyblion a heriau o ran recriwtio staff, sy'n cael effaith negyddol ar addysg yng Nghymru.
Gwelliant 2—Paul Davies
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg, darllen ac ysgrifennu yw'r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cyn dechrau, roedd arna i eisiau dim ond datgan buddiant, fel ei fod ar gofnod, bod aelod o'm teulu yn gwneud gwaith achlysurol i Estyn, ond nid oedd yn rhan o gynhyrchu'r adroddiad hwn.
Yr adroddiad, rwy'n credu, yw'r diweddaraf, ynte, mewn cyfres hir o adroddiadau digalon sy'n datgelu cyflwr ofnadwy addysg yng Nghymru ar ôl 26 mlynedd hir o Lafur digyfaddawd. Dywedodd adroddiad y Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol wrthym ni fod gennym ni'r canlyniadau addysgol gwaethaf o'u cymharu ag unrhyw le yn y DU. Roedd adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn glir nad oedd methiannau'r system addysg yng Nghymru yn ymwneud â'n demograffeg na'n tlodi, ond â phenderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. A nawr, heddiw, mae adroddiad Estyn yn dangos Llywodraeth Cymru yn cysgu wrth y llyw, yn methu â chefnogi staff addysgu ac yn methu â chymryd o ddifrif y problemau yn ein system addysg. Llywydd, mae angen Llywodraeth sy'n blaenoriaethu'r dystiolaeth dros yr ideoleg mewn addysg, i ddilyn yr hyn sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o'r byd, yn hytrach na dull canolog 'rydym ni'n gwybod orau'. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw chwyldro addysg, ac mae hynny'n golygu bod angen Llywodraeth Geidwadol arnom ni yng Nghymru yn yr etholiad nesaf.
Un o'r meysydd pryder y mae'r adroddiad yn ei nodi yw recriwtio a chadw ein staff addysgu, ac mae'n un yr wyf yn gwybod fy mod i ac Aelodau eraill wedi sôn wrthych chi amdano sawl gwaith yn y Siambr hon, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r adroddiad yn nodi bod y gostyngiad mewn recriwtio yn 'bryder sylweddol', gydag ysgolion uwchradd yn arbennig yn dioddef yn sylweddol, gan fod nifer y myfyrwyr addysg gychwynnol athrawon wedi gostwng bron i hanner ers 2014. Mae hynny'n gwymp bron y tu hwnt i ddealltwriaeth ac yn rhywbeth nad ydym ni hyd yn oed wedi teimlo'i effaith yn llawn hyd yn hyn. Yn ogystal, cyfeiriodd y prif arolygydd at bryderon ynghylch effaith y materion recriwtio hyn ar feysydd pwnc penodol, fel mathemateg, gwyddoniaeth a Chymraeg. Ac o ystyried mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg oedd yr isaf yn y DU, mae hynny'n gwneud y pryderon hynny hyd yn oed yn fwy brys.
Ac er bod recriwtio a chadw athrawon Cymraeg yn fater sy'n cael sylw cyson drwy'r adroddiad, nid oes gennym ni gynllun gweithlu digonol i gyd-fynd â'r Bil Iaith ac Addysg Gymraeg (Cymru). Mae'r Bil yn uchelgeisiol ac mae'n un sydd wedi cael ei gefnogi mewn egwyddor gan fy mhlaid i, ond rydym ni, yn ogystal â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, wedi codi pryderon na fydd modd cyflawni'r holl beth oni bai ei fod yn cyd-fynd â chynllun gweithlu digonol sy'n darparu'r staff addysgu sydd eu hangen arnom ni i'w gyflawni mewn gwirionedd. Yn hytrach, rhoddwyd llawer gormod o gyfrifoldeb ar ein hysgolion i ddatrys prinder gweithlu drostynt eu hunain, heb i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd yr un iot o gyfrifoldeb i gyflawni hynny.
Mae'r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar ddau faes arall yr oeddwn am gyfeirio atyn nhw: y cwricwlwm a phresenoldeb. O ran y cwricwlwm, gwyddom fod y dull hwn sy'n seiliedig ar sgiliau yn un sydd wedi methu bron ym mhob man y mae wedi'i gyflwyno, ac eto, dyma'r union fodel y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gopïo. Pan gyflwynodd gwledydd fel yr Alban a Seland Newydd y model hwn, fe wnaethon nhw orfod cefnu arno oherwydd ei fod wedi siomi eu plant. Ac rydym ni'n gwybod y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, ryw bryd, yn gorfod gwneud yr un peth. Serch hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod angen, ac rwy'n dyfynnu, mwy o gefnogaeth i helpu athrawon i ddeall y cwricwlwm yn y lle cyntaf. Pam y mae model diffygiol yn cael ei gopïo a'i fabwysiadu, a hyd yn oed wedyn nad yw ein gweithlu yn ei ddeall yn ddigonol? Mae'n anghrediniol.
Yn olaf, o ran presenoldeb, mae'r adroddiad yn tynnu sylw fod canran y disgyblion oedran uwchradd sy'n absennol am fwy nag 20 y cant o'r sesiynau wedi mwy na threblu o 4.6 y cant i 16.3 y cant rhwng 2018-19 a 2022-23. Rydym ni wedi gweld Llywodraeth Cymru o'r blaen yn croesawu'r cynnydd bach yn niferoedd presenoldeb yng Nghymru o'i gymharu â'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, ond unwaith eto yn anwybyddu'n llwyr y ffaith bod ein niferoedd yn llawer is na gweddill y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr arolygydd nad oes gan ysgolion ac awdurdodau lleol y gallu i ymdopi â chynnydd sylweddol mewn absenoldebau parhaus, felly lle Llywodraeth Cymru yw cynnig arweiniad. Ond dro ar ôl tro, boed hynny'n bresenoldeb y gweithlu, y cwricwlwm, safonau addysgol, mae gennym ni Lywodraeth yma yng Nghymru nad oes arni eisiau ysgwyddo cyfrifoldeb. Flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn gweld presenoldeb, recriwtio, cadw disgyblion a chefnogaeth gyda'r cwricwlwm yn cael sylw, gyda phryderon sylweddol, ac eto flwyddyn ar ôl blwyddyn nid ydym yn gweld unrhyw gynllun go iawn i ddatrys unrhyw un o'r pryderon hynny. Mae'n bryd i ni weithredu dull radical, ffres sydd ei angen mor ddybryd yn ein hysgolion, y math o ymagwedd a welodd addysg o dan Lywodraeth Geidwadol y DU a weithredodd ar y dystiolaeth, edrych ar yr hyn a weithiodd mewn gwirionedd, a weithredodd ar y dystiolaeth honno wrth roi'r polisi hwnnw ar waith, a gwylio canlyniadau'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn o ganlyniad.
Dyma ddyfodol ein plant, nid arbrawf ideolegol Llafur Cymru. Maen nhw'n haeddu gwell, ynghyd â'n hathrawon Cymraeg, sy'n gweithio'n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i'w helpu i adeiladu'r dyfodol hynny. Mae'n amlwg, ar ôl cael 26 mlynedd i symud ymlaen ym maes addysg, nad oes gan y Llywodraeth Lafur lipa hon gynllun na chyfeiriad o ran addysg yng Nghymru. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â'r cynllun hwnnw. Mae'n ddull a brofwyd sy'n gweithio o ran trwsio rhywbeth, a dyna beth fyddwn ni'n eiriol yn daer amdano o nawr tan etholiad nesaf y Senedd ymhen blwyddyn.
Cefin Campbell i gynnig gwelliant 3.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi:
a) ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig;
b) bod recriwtio athrawon i bynciau sydd â phrinder neu’n medru darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn parhau i beri pryder arbennig; ac
c) mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon da.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi'n hapus i gynnig y gwelliant yna. Ar yr un pwynt, mae'n braf cael cyfle i drafod adroddiad Estyn y prynhawn yma. Gaf i ddiolch, yn yr un ffordd ag y mae eraill wedi gwneud, i'r prif arolygydd a staff Estyn am eu gwaith caled yn paratoi'r adroddiad yma, ac i athrawon a staff yn ein hysgolion ar draws Cymru hefyd am y gwaith aruthrol maen nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd er lles plant a phobl ifanc Cymru?
Nawr, mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyd-destun heriol mae ysgolion wedi'i wynebu dros y cyfnod diwethaf, gyda'r sialensiau o weithredu newidiadau a diwygiadau i'r system addysg tra bod cyllidebau ysgolion yn crebachu ar yr un pryd. Er gwaethaf yr holl waith caled mae nifer o athrawon a disgyblion yn ei wneud, mae'r heriau yn parhau, fel rŷn ni wedi clywed eisoes, ac mae hynny o ganlyniad i ddiffyg gweithredu pwrpasol gan y Llywodraeth Lafur hon. Dyna pam mae ein gwelliant ni yn debyg i welliant y Ceidwadwyr, ac yn tynnu sylw yn benodol at yr heriau hyn.
Gaf i ddechrau â rhai pwyntiau allan o adroddiad Estyn? Presenoldeb: rŷn ni wedi clywed yn barod fod lefelau presenoldeb mewn ysgolion ers y pandemig wedi syrthio. Mae adroddiad Estyn yn dweud hyn:
'Ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig.'
Mae data diweddaraf y Llywodraeth yn dangos bod y gyfradd presenoldeb yn 2023-4 yn 90.5 y cant. Roedd hwnna'n bedwar pwynt canran i lawr ar bum mlynedd yn ôl. Ac i'r rhai sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim, y gyfradd yw 84.8 y cant. Mae hynny yn ostyngiad o dros chwe phwynt mewn pum mlynedd.
Rŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw presenoldeb mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad llawn at y cwricwlwm a chael cyfle hefyd i wella eu sgiliau a'u gwybodaeth, sydd yn sail ac yn sylfaen bwysig ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol, yn broffesiynol a hefyd yn bersonol. Allwn ni ddim caniatàu i'r genhedlaeth nesaf yn enwedig, a'r rhai mwyaf difreintiedig yn arbennig, aros mor hir â degawd nes gweld gwelliannau. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a ydy hi'n gallu rhoi sicrwydd i ni fod pethau yn mynd i wella ynghynt na'r 10 mlynedd y mae Estyn yn ei nodi o ran lefelau presenoldeb yn ein hysgolion, yn arbennig ysgolion uwchradd?
Y pwynt nesaf o ran recriwtio athrawon—mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o bethau sy'n peri pryder, ac, dwi'n dyfynnu,
'mae recriwtio athrawon cymwys priodol yn parhau i fod yn risg i’r system addysg.'
Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod yr heriau recriwtio yn fwy amlwg ar gyfer addysg ysgol uwchradd, yn arbennig mewn pynciau fel mathemateg a gwyddoniaeth. Ond, o bryder i ni i gyd, mae'r diffyg athrawon cymwys sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn broblem benodol, ac yn bryder mawr wrth i ni weld taith Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) drwy'r Senedd yma, sydd yn gosod nodau uchelgeisiol iawn o ran datblygu sgiliau dwyieithog ein plant ni ar gyfer y dyfodol, a hefyd y nod, wrth gwrs, o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae diffyg recriwtio athrawon i mewn i hyfforddiant athrawon hefyd yn broblem.
Felly, wrth ystyried hyn i gyd, beth rŷn ni'n gweld yn digwydd yn rhy aml yw bod athrawon sydd ddim yn athrawon mewn pwnc penodol yn gorfod dysgu'r pwnc hwnnw oherwydd does yna ddim athrawon arbenigol yn yr ysgol. A does dim rhyfedd wedyn bod adroddiad Estyn yn dweud hyn:
'Mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon uchel.'
Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid ailedrych ar y cymhelliant sydd yn cael ei roi i ddenu athrawon i mewn i'r proffesiwn, ac i ddenu pobl ifanc yn arbennig i mewn i gael eu hyfforddi i fod yn athrawon. Mae hyn yn rhywbeth mae arbenigwyr o Brifysgol Met Caerdydd wedi ei nodi yn ddiweddar. Felly, dwi am ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: a ydy'r ddwy ffrwd waith y mae hi wedi cyfeirio atynt sawl gwaith yn y Senedd yma yn mynd i gael eu gweithredu, sef yr ymchwil ar y system cymhelliant sy'n mynd i gael ei gyhoeddi cyn diwedd y tymor yma, ac a fyddwn ni'n gweld ffrwyth gwaith y cynllun strategol yn ei gyfanrwydd cyn yr etholiad nesaf?
Jest i gloi, Llywydd, un pwynt bach am safonau. Rŷm ni wedi clywed yn barod am y safonau gwaethaf yn hanes Cymru. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi sicrwydd i ni fod cynlluniau yn eu lle i sicrhau cynnydd mewn safonau dros y blynyddoedd nesaf? Diolch yn fawr.
Darllenais adroddiad gwahanol i Tom Giffard, oherwydd roeddwn i'n meddwl bod llawer iawn i'w ddathlu yn hyn, ac rwy'n credu y dylem ni ganmol gwaith ein holl broffesiynau addysgu am y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Mae yna lawer o heriau wedi'u cyflwyno; yn arbennig, bydd llawer ohonoch chi wedi gweld Panorama neithiwr am y problemau a grëwyd i blant yn ystod pandemig COVID, ar ôl gwarafun i blant lawer o'r ffyrdd y maen nhw fel arfer yn dysgu drwy beidio â chaniatáu iddyn nhw fynd allan, methu cwrdd â'u neiniau a theidiau, methu mynd i'r parc a'r holl fathau hynny o bethau. Mae'r plant hyn bellach yn y dosbarthiadau derbyn a blwyddyn 1, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny a rhai o'r problemau y mae'n eu creu i'n hysgolion.
Yn enwedig yn yr ysgol lle rydw i'n llywodraethwr, rwy'n gwybod bod rhai pobl ifanc wedi colli'r arfer o godi yn y bore, ac maen nhw'n treulio'r nos yn gwylio'r teledu neu raglenni eraill sy'n cael eu sgrinio. Yn amlwg, maen nhw'n flinedig y peth cyntaf yn y bore ac nid ydyn nhw'n cyrraedd yr ysgol ar amser, ac mae hynny'n fater heriol iawn ac mae angen i ni barhau i geisio gweithio arno.
O ran ymddygiad, fe hoffwn i ailadrodd canlyniadau'r treial hapsamplu rheolyddedig dall a gynhaliwyd yn y sefydliad troseddwyr ifanc yn Aylesbury, sydd yn llyfr diweddaraf Kevin Morgan, lle mae pobl sy'n bwyta deiet maethlon yn lleihau eu hymddygiad troseddol, yn achos y troseddwyr mwyaf treisgar, 37 y cant. Rwy'n gobeithio, yn y gynhadledd y byddwch chi'n ei chynnal ym mis Mai, y byddwch chi'n edrych ar hyn yng nghyd-destun ein hysgolion uwchradd, oherwydd rwy'n ofni bod y ddarpariaeth gaffeteria mewn ysgolion uwchradd yn annog pobl i fwyta'r holl bethau anghywir, ac mae hynny'n amlwg yn effeithio ar eu hymddygiad.
Rwy'n credu bod y cwricwlwm newydd yn gweithio'n dda, ac rwy'n credu y dylem ni ddathlu hynny. Roedd dyfyniad gwych mewn adroddiad ar Feithrinfa Chuckles ym Metws, yng Nghasnewydd:
'Mae'r Cwricwlwm Newydd... yn awr yn caniatáu i blant fod yn blant ac i dyfu a dysgu mewn ffordd sy'n hwyl, sy'n golygu eu bod mor barod i arbrofi ac ystyried pethau newydd.'
Dyna'n union beth sydd ei angen arnom ni, ac mae'r feithrinfa honno wedi'i chynllunio i sicrhau bod hynny'n digwydd, ac maen nhw'n gweld y canlyniadau bob dydd. Maen nhw'n treulio amser ar greu gweithgareddau i'w plant sy'n herio'r plant ac nid ydyn nhw wedi'u claddu mewn gwaith papur diystyr. Felly, mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid i ni eu dathlu mewn gwirionedd. Mae hynny'n newyddion gwych i'r plant ac i'r athrawon sy'n gwneud gwaith mor wych.
Fe hoffwn i ddychwelyd yn fyr at bwysigrwydd prydau ysgol gynradd cyffredinol am ddim, oherwydd rwy'n credu y byddai'n wych gweld hynny'n fwy ymgorfforedig yn y cwricwlwm cyfan, yr holl gysyniad o beth yw bwyd, beth sy'n dda i chi, o ble mae'n dod, tymhoroldeb, yn ogystal â phethau amlwg fel sut i gyfrif, faint mae pethau'n ei gostio, o ble maen nhw'n dod, beth yw'r gost carbon, beth yw'r gost i'r amgylchedd, a dim ond i gydnabod bod rhai awdurdodau lleol yn bellach ar hyd y llwybr o ran caffael bwyd lleol, sy'n amlwg yn fwy ffres, mwy maethlon, nag eraill. Cefais sioc o glywed bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn dal i gaffael cyw iâr Thai, yn hytrach na Red Tractor.
Ond, heddiw, cwrddais â disgyblion blwyddyn 2 o Ysgol Gynradd Glyncoed ym Mhentwyn, a phan ofynnais iddyn nhw a oedden nhw'n tyfu unrhyw lysiau a ffrwythau, fe roeson nhw restr hir enfawr i mi, a oedd yn hollol wych—disgyblion blwyddyn 2 oedd y rhain. Dywedodd un ohonyn nhw wrthyf ei bod hi'n tyfu melonau dŵr, ac roeddwn i'n meddwl, 'Hmm, efallai ddim.' Dywedais, 'Wel, bydd yn rhaid i mi ddod i weld hynny.' Ond rwy'n credu bod cymaint o fanteision mewn ysgolion sydd mewn gwirionedd â darpariaeth awyr agored dda i allu tyfu bwyd, ac mae'n cael effaith wych o ran tawelu plant pryderus, os ydyn nhw'n ymdopi â rhywfaint o drawma yng ngweddill eu bywydau. Ac mae hefyd yn cefnogi dysgu teuluol. Roedd Chuckles Nursery yn dda iawn am gynnal gweithdai bwyd iach, diwrnodau coginio, darparu cardiau bwyd a bwydlen i deuluoedd eu defnyddio gartref. Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn ffyrdd da iawn lle mae dysgu teuluol, ynghyd â dysgu ysgol, mor bwysig, oherwydd dim ond am chwe awr y mae'r plentyn yno yn yr ysgol; mae gweddill ei amser deffro yn y cartref, ac felly mae'n rhaid i ni gael partneriaeth.
Gwelaf fod amser wedi cario'r dydd arnaf, ond rwy'n credu bod yna fater allweddol iawn ynghylch anghenion dysgu ychwanegol. Mae gennym ni lai o blant ag anghenion dysgu ychwanegol ond mwy o blant sydd ar y lefel uchaf o gynllun statudol, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob ysgol yn dda am ymyrryd yn gynnar er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y byddant byth yn cyrraedd cam lle mae'n rhaid cael cynllun statudol.
Wel, rwy'n croesawu'r adroddiad. Mae'n allweddol i roi cipolwg i ni ar iechyd ein system addysg ac yn argoel o'r cynnydd rydym ni'n gwybod y mae ei angen yn ddirfawr. Mae gwella addysgol yn sylfaenol i sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu potensial llawn. Dim ond un addysg ffurfiol gaiff blant, ac, os na chaiff honno ei chyflwyno'n dda, mae'r effeithiau'n bellgyrhaeddol nid yn unig i'r plentyn unigol ond i'r gymdeithas gyfan. Felly, rwy'n croesawu'r pethau positif yn yr adroddiad, yn enwedig y gofal a'r gefnogaeth a gynigir yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd; rwy'n croesawu bod cryn bwyslais ar ddiogelu a llesiant a bod y blynyddoedd cynnar yn perfformio'n dda—yn hollol allweddol wrth osod y sylfeini ar gyfer yr hyn sydd ar y gorwel. Fodd bynnag, roedd yn bryderus darllen bod anghysondeb rhwng ysgolion mewn llawer o feysydd, gan gynnwys presenoldeb a datblygu cwricwlwm. Roedd hefyd yn bryderus darllen y canfuwyd fod ansawdd yr addysgu a'r asesu yn is na'r disgwyl, gan arwain at ddiffygion mewn addysgu a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar ddysgwyr. Mae gwella ysgolion mewn modd cadarn a chyson yn gwbl angenrheidiol i gynyddu safonau. Os na cheir prosesau hunanasesu a rheoli perfformiad cadarn, ni fydd safonau yn gwella. Yn fy mhrofiad blaenorol, lle rydw i wedi gweld y pethau hyn yn ddiffygiol, mae cysylltiad clir wedi bod yn aml ag arweinyddiaeth ysgol. Heb arweinyddiaeth gref—mewn unrhyw wasanaeth—mae gwelliant yn annhebygol.
Yn anffodus, mae'r adroddiad hwn yn dangos bod gormod o feysydd pryder ac anghysondeb o hyd. Rydym ni i gyd yn gwybod goblygiadau beth mae system addysg wan yn ei gynnig; does ond angen i ni edrych ar ein canlyniadau PISA ein hunain yng Nghymru, yn ogystal â'r nifer syfrdanol o ddisgyblion sy'n gadael ein hysgolion yn anllythrennog.
Heriau sy'n wynebu ein hysgolion: fel yr ydym ni eisoes wedi clywed ambell waith, un o'r materion allweddol hynny yw cadw athrawon. Mae'r un peth yn wir yn y gwasanaeth iechyd: mae cadw pobl broffesiynol a recriwtio mewn gwirionedd yn eithaf sylfaenol. Ac fel rydym ni wedi clywed—ac, eto, does arna i ddim eisiau ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud—yn amlwg, mae wedi bod yn anodd recriwtio staff i'r meysydd pwnc cywir, gan arwain at athrawon yn cyflwyno pynciau y tu allan i'w prif feysydd profiad, a all achosi problem.
Nawr, fe glywsom ni hefyd am Estyn yn awgrymu'r cymhellion hynny i athrawon. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn am rai o'r ymyriadau posib o ran hynny, felly rydych chi wedi ateb rhai o'm cwestiynau yno'n rhannol. Ond fe hoffwn i hefyd ddeall ymhellach pa ymyriadau pellach y gall y Llywodraeth eu rhoi ar waith i gynyddu safonau addysgu yn ein hysgolion—ac fe glywsom ni rywfaint o hynny, rwy'n gwybod—yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, lle mae pethau wedi bod yn llawer rhy amrywiol, gydag ansawdd addysgu ac asesu ddim yn ddigon da.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut y derbyniodd tua thraean o'r ysgolion a arolygwyd argymhelliad i fynd i'r afael ag anghysondebau yn ansawdd yr addysgu. Yn aml, yn yr ysgolion hyn, nid oedd athrawon yn darparu adborth pwrpasol i ddisgyblion i'w helpu i ddeall sut a pham roedden nhw'n dysgu, yn ogystal â beth. Mae'r adborth a'r asesiad hwn yn allweddol er mwyn caniatáu i'n disgyblion herio eu hunain ac i wella eu dysgu eu hunain.
Mae safon wael addysg yn un o'r rhesymau pam mae gormod o bobl yn gadael Cymru mewn ymgais i sicrhau bod eu plant yn cael yr addysg orau. Felly, ni allwn ni fforddio i'n plant syrthio ymhellach y tu ôl i weddill y DU os ydym ni wir eisiau'r gorau iddyn nhw. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â chyflwr addysg yma yng Nghymru. Ni all pethau fynd ymlaen fel hyn. Efallai y byddai'n well fyth pe baen nhw'n camu o'r neilltu a gadael i'r Ceidwadwyr Cymreig roi cynnig arni. Diolch.
Byddaf yn gwneud cyfraniad byr heddiw yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rydym yn gwerthfawrogi'r ymgysylltiad agored ac adeiladol gan y prif arolygydd a'i dîm, ac fe hoffem ni ddiolch iddyn nhw am eu hamser gyda ni yn y pwyllgor ar 5 Mawrth.
Fe glywsom ni, ers imi ddechrau ar y swydd, y bu arolygiadau ysgol amlach yn flaenoriaeth. Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24, defnyddiodd Estyn yr ymweliadau hyn i ddwyn arweinwyr ysgolion i gyfrif ac i gynnig cefnogaeth ymarferol i ysgolion. Rydym yn croesawu'r dull hwn. Mae gwella presenoldeb, cynyddu safonau, gweithredu diwygiadau a chefnogi llesiant disgyblion a staff i gyd yn heriau sylweddol anodd i'n hysgolion. Mae angen cefnogaeth rheng flaen Estyn ar y system ysgol i ddatblygu atebion, ochr yn ochr ag atebolrwydd cadarn, i oresgyn yr heriau hynny.
Mae adroddiad Estyn yn nodi rhai enghreifftiau o arfer da, ond mae hefyd yn amlwg, mewn rhai meysydd, nad yw'r system ysgolion yng Nghymru yn perfformio fel y dylai. Fe hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau at ddau ddarn o waith pwyllgor sydd ar ddod sy'n tynnu'n helaeth ar ganfyddiadau Estyn. Bydd y cyntaf yn ystyried recriwtio a chadw athrawon. Mae'r prif arolygydd wedi pwysleisio bod prinder athrawon yn cael effaith ddiriaethol ar ansawdd addysgu a dysgu, yn enwedig mewn rhai meysydd pwnc. Fe wyddom ni fod dysgu effeithiol yn amhosibl heb addysgu effeithiol, felly bydd canlyniadau dysgwyr yn dioddef os bydd ysgolion yn parhau i gael trafferth recriwtio a chadw athrawon o ansawdd uchel.
Bydd yr ail yn canolbwyntio ar wella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ddatgymalu'r consortia rhanbarthol a rhoi gwasanaethau gwella ysgolion yn ôl yn nwylo awdurdodau lleol. Mae hyn yn newid mawr, gan fod consortia rhanbarthol wedi'u sefydlu dim ond degawd yn ôl, a bydd goblygiadau sylweddol i ysgolion yn sgil hyn. Byddwn yn ystyried a yw awdurdodau lleol mewn sefyllfa ddigon da i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion, ochr yn ochr â'r cyrff cenedlaethol newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u sefydlu yn ddiweddar i'w helpu. A byddwn yn edrych yn fanylach ar bryderon Estyn am ansawdd addysgu a dysgu, yn enwedig ymhlith ysgolion uwchradd.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, Estyn, ac amrywiaeth o randdeiliaid i graffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Fel bob amser, rwy'n gobeithio y gall ein gwaith, sy'n cael ei wneud ar sail drawsbleidiol, nodi camau ymarferol i helpu'r system ysgol i gyflawni ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Diolch.
Dwi’n croesawu'r cyfle i ni gael trafodaeth ar yr adroddiad pwysig hwn heddiw. Hoffwn innau ategu fy niolch i Estyn a hefyd, wrth gwrs, i'n holl ddarparwyr addysg ni. Dwi'n gwybod bod yna ganolbwyntio wedi bod heddiw ar ysgolion, ac, wrth gwrs, mae honno'n un elfen, ond yn amlwg mae hwn yn adroddiad sy'n edrych ar addysg yn ei chyfanrwydd gydol oes, ac mae yna sylwadau pwysig iawn, dwi'n meddwl, y mae angen i ni adlewyrchu arnyn nhw o ran hynny hefyd.
Mi oeddwn i eisiau gofyn yn benodol, Ysgrifennydd Cabinet, o ran y sylwadau o ran y Gymraeg. Yn amlwg, mae hwn yn ffocws pendant o ran yr adroddiad hwn. Wrth gwrs, mae yna rai astudiaethau achos sydd yn wych i'w gweld, yn ysbrydoledig, ond mae yna bryderon amlwg y mae sylw wedi'i dynnu atyn nhw yn yr adroddiad hwn—yr anghysondeb, yn arbennig, felly, o ran ysgolion sydd ddim yn rhai cyfrwng Cymraeg. Byddwn i'n hoffi gwybod beth ydy rhai o'r camau rydych chi wedi eu cymryd yn sgil rhai o'r pethau hyn. Yn amlwg, mae gennym ni Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), ond mae yna bryderon mawr yn dod drwodd mewn rhai meysydd fan hyn.
Dwi'n gwybod fy hun o waith achos yn fy rhanbarth i, mewn rhai ysgolion cyfrwng Saesneg nad ydyn nhw'n rhedeg lefel A yn y Gymraeg, er bod yna ddysgwyr eisiau gwneud lefel A yn y Gymraeg. Felly, sut ydym ni'n sicrhau bod y ddarpariaeth honno ar gael? Dwi hefyd yn gwybod am rai ysgolion cyfrwng Cymraeg, lle mae'r niferoedd sydd eisiau cymryd lefel A yn y Gymraeg wedi bod yn isel, lle mae yna anogaeth wedi bod iddyn nhw beidio â rhedeg y cwrs hwnnw. Dwi'n meddwl bod hynny yn gyfan gwbl annerbyniol. Rydyn ni'n gwybod, o ran sicrhau parhad, o ran y rheini efo’r Gymraeg, o ran recriwtio athrawon yn y dyfodol, pa mor bwysig ydy lefel A Cymraeg fel pwnc. Felly, byddwn i'n hoffi cael rhai adlewyrchiadau gan y Llywodraeth ar hynny.
Un o'r elfennau eraill oedd yn tynnu sylw oedd, os caf i ddyfynnu'r adroddiad fan hyn:
'Yn aml, roedd cysylltiad disgyblion â hanes a diwylliant Cymru wedi’i gyfyngu i ddigwyddiadau cul, fel eisteddfod yr ysgol.'
Dwi'n meddwl, unwaith eto, rydyn ni'n dod yn ôl i'r anghysondeb hwnnw o ran profiadau. Felly, mi ydw eisiau gofyn, o ran rhai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd, o ran dysgu hanes yn ein hysgolion ni: sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiad hwnnw’n gyson i bawb?
Byddwn i'n hoffi tynnu sylw at un llwyddiant o ran y Gymraeg, sef y sector Cymraeg i oedolion, lle mae'r adroddiad yn tynnu sylw bod y sector hwn yn dangos cryfder sylweddol unwaith eto. Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn cael canmoliaeth hefyd, a'r bartneriaeth efo Llywodraeth Cymru, felly mae'n bwysig tynnu sylw at hynny.
Dwi'n meddwl, o ran ein carchardai ni, fod yr anghysondeb yn parhau o ran profiadau addysgu. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig ydy hynny. Felly, efallai rhai o'r sylwadau byddwn i'n gofyn i chi adlewyrchu arnyn nhw, y tu hwnt i ysgolion: sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiadau hynny yn gyson? Sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiadau hynny hefyd ar gael yn y Gymraeg? A sut ydyn ni'n parhau efo'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud o ran y sector Cymraeg i oedolion, ond ein bod ni'n sicrhau ein bod ni ddim yn methu ein pobl ifanc ni yn y maes hwn? Dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw aros tan eu bod nhw'n oedolion i gael y cyfleoedd i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, felly cysondeb mwy na dim.
Gaf i hefyd adlewyrchu o ran rhai o'r sylwadau ar anghenion dysgu ychwanegol? Mae hynny hefyd yn dod drosodd yn yr adroddiad hwn. Dwi'n gwybod bod yna fuddsoddi wedi ei wneud, ond yr un peth fyddwn i'n meddwl byddem ni i gyd eisiau ei weld fyddai bod yr astudiaethau achos arbennig yma ddim yn rhai sy'n haeddu cael sylw wedi'i dynnu atyn nhw, gan fod y profiadau yma yn gyson ledled Cymru. Ddylai fo ddim fod yn loteri cod post o ran eich hawl chi i gael y math o addysg sydd yn gadael ichi allu cyflawni'r hyn rydych chi'n gallu ei gyflawni i'r gorau y gallwch. Mae'r un peth yn wir, wrth gwrs, o ran y Gymraeg. Felly, gaf i ofyn o ran yr heriau sydd fan hyn, sut ydyn ni am sicrhau'r arferion da hyn, bod athrawon ledled Cymru yn cael y cyfle i fynd ati i roi'r math yma o astudiaethau achos ar waith yn eu hysgolion nhw, a chael yr amser hefyd o ran dyblygu rhai o'r pethau rydyn ni wedi eu gweld sydd yn gweithio'n dda?
Fe hoffwn i ganolbwyntio ar bobl ifanc 14 i 19 oed, sydd yn fy marn i angen rhywfaint o bwyslais a mwy o sylw a gwelliant. Rwyf wedi sôn o'r blaen, sawl gwaith mewn dadleuon a chwestiynau yn y Cyfarfod Llawn, fy mod yn aml yn cael cwynion gan rieni a disgyblion eu bod eisiau cynnig mwy galwedigaethol nag sydd ar gael yn eu hysgol. Ond, wrth gwrs, nid yw'r colegau addysg bellach yn cael eu hariannu i ddarparu'r addysg alwedigaethol honno yn yr oedran hwnnw, ac mae'r ysgolion yn awyddus iawn, yn ddealladwy, i gadw eu cyllideb ar gyfer y disgyblion hynny, ac mae hynny'n effeithio wedyn ar ansawdd yr addysg y mae rhai o'r disgyblion hyn yn ei derbyn, ac yn wir eu presenoldeb. Weithiau, maen nhw'n colli diddordeb yn yr ysgol ac yn diflasu, oherwydd nad ydyn nhw'n cael y dewisiadau maen arnyn nhw eu heisiau a'r addysg mae arnyn nhw ei eisiau. Ac os bydd eu presenoldeb yn gostwng, yna wrth gwrs pan fyddant yn barod ac yn gallu ymgymryd â chwrs galwedigaethol yn 16, ac yn mynd ymlaen i'w coleg addysg bellach, efallai nad oes ganddyn nhw'r safonau gofynnol mewn Saesneg neu fathemateg a fyddai'n eu galluogi i wneud y cyrsiau galwedigaethol hynny y maen nhw'n dymuno eu dilyn. Felly, yna, mae'n rhaid iddyn nhw geisio cyrraedd y safonau hynny cyn mynd ymhellach. Weithiau, maen nhw'n colli diddordeb yn llwyr ac yn disgyn i'r categori NEET—ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gyfres bwysig iawn o faterion i'r dysgwyr hynny, y teuluoedd hynny, y cymunedau hynny, ac yn wir ein heconomi. Ac mae'n gofyn am lawer mwy o gydweithrediad rhwng ein hysgolion a'n colegau addysg bellach. Mae'n gofyn am gyngor llawer gwell o ran gyrfaoedd ac elfen fwy annibynnol o gyngor i'r disgyblion ysgol hynny. Rwy'n credu bod llawer o'r materion hyn wedi cael eu cydnabod ers amser maith, ond nid ydym ni wedi gweld lefel y cynnydd sydd ei angen os ydym ni am wneud cynnydd mawr i ddarparu atebion neu o leiaf wneud cynnydd. Ac rwy'n credu y byddai'r mathau hyn o faterion yn rhan bwysig o strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol a fyddai'n edrych ar bob agwedd ar fwrw ymlaen â'r dewisiadau galwedigaethol hynny, gan ymestyn dewis a chyfleoedd. Felly, rwy'n gobeithio y gwelwn ni fwy o bwyslais gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol ar y materion hyn a chynnydd sylweddol yn y dyfodol agos.
Y mater arall roedd arnaf i eisiau ei grybwyll heddiw yw adroddiad Estyn ar Ysgol Gynradd Langstone yn Nwyrain Casnewydd, sy'n dda iawn i'w weld, o ystyried eu bod yn cael eu dyfynnu fel enghreifftiau o arfer da wrth weithredu'r cwricwlwm newydd a darparu math o addysg safonol a dychmygus sy'n ei wneud yn gam mawr ymlaen i'n dysgwyr yma yng Nghymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys yr arweinwyr mewn ysgol yn canfod y ffyrdd effeithiol hyn o ennyn sylw a dychymyg dysgwyr. Ac rwyf yn credu ei bod hi'n hollol briodol ein bod yn cydnabod arfer da pan gaiff ei weld a phan ydym ni'n gwybod am hynny, oherwydd mae'n bwysig gwneud yn siŵr y caiff ei gydnabod a'i ledaenu. Ac wrth gwrs, mae'r ysgolion hynny, y timau ysgol hynny, y disgyblion hynny a'r teuluoedd sy'n eu cefnogi, yn haeddu cydnabyddiaeth ac yn haeddu'r anogaeth o'u crybwyll mewn adroddiadau, fel adroddiad blynyddol Estyn eleni.
Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny, Llywydd, ac rwy'n gwybod bod yna lawer o arferion da iawn eraill ar draws Dwyrain Casnewydd ac ar draws Cymru, a gwneud yn siŵr bod yr holl safonau o'r gwerth arbennig hwnnw fyddai'n fodd o ddatblygu addysg yma yng Nghymru.
Fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy sylwadau ar un maes penodol, a hynny'n ymwneud â thlodi plant. Mae adroddiad Estyn mewn gwirionedd yn tynnu sylw at effaith tlodi plant ar addysg. Fe wyddom ni mai'r amcanestyniad yw y gallai tlodi plant yng Nghymru effeithio ar dros 34 y cant o'n plant erbyn diwedd y degawd hwn, felly mae'n rhaid i ni gymryd y camau beiddgar sydd eu hangen arnom ni i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol isel. Yn yr adroddiad, mae arweinyddiaeth ac ymroddiad ysbrydoledig mewn llawer o ysgolion ledled Cymru, ac maen nhw'n mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir i gefnogi plant sy'n wynebu caledi, ond er gwaethaf ymroddiad ein harweinwyr ysgolion, ni allwn ni anwybyddu'r tueddiadau pryderus sy'n parhau i effeithio ar ein disgyblion tlotaf.
Fel y nododd Cefin Campbell, un o'r rhai mwyaf pryderus yw ynghylch presenoldeb ysgol is. Ers y pandemig, rydym ni wedi gweld dim ond cynnydd bach, 0.5 y cant, mewn presenoldeb, ac mae llawer o'r plant hynny o gefndiroedd tlotach. Felly, tybed a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa gynlluniau sydd ganddi i leihau absenoldeb ac, yn benodol, i gau'r bwlch hwnnw rhwng plant difreintiedig a'u cyfoedion.
Un o'r rhwystrau mawr eraill rhag mynychu'r ysgol yw cost ariannol addysg. Canfu arolwg blynyddol Plant yng Nghymru 2024 ar dlodi plant a theuluoedd fod 25 y cant o rieni wedi cadw eu plant gartref oherwydd caledi ariannol. Roedd llawer yn teimlo nad oedd ganddyn nhw ddewis ond gwneud hynny i arbed eu plant rhag y cywilydd o beidio â chael y dillad neu'r offer cywir, gan effeithio ar hyder, datblygiad ac ymdeimlad o berthyn eu plant yn y pen draw.
Mae gwisgoedd ysgol, fel y gwyddom ni, yn gost arbennig o drwm. Mae dros 80 y cant o rieni yn teimlo mai dyma'r gost anoddaf i'w rheoli, gyda 73 y cant yn gorfod prynu gwisgoedd gan fanwerthwyr arbenigol, sy'n llawer drutach na dewisiadau amgen y stryd fawr. Mae'r grant hanfodion ysgol yn cynnig cymorth ariannol hanfodol i lawer o deuluoedd, ac mae'n dda gweld bod y cymhwysedd wedi ehangu. Fodd bynnag, fel y mae'r arolwg yn tynnu sylw ato, mae meini prawf y grant yn parhau i fod yn bur gyfyng ac mae'r swm a ddarperir yn dal i fod yn annigonol. I deuluoedd incwm isel, gall hyd yn oed diffyg o ddim ond £12 neu £20 wneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, a allai Llywodraeth Cymru amlinellu'r hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud gydag ysgolion o ran y plant hynny sy'n gorfod prynu eu gwisgoedd gan y manwerthwyr arbenigol hynny, a hefyd a ydych chi'n mynd i gynyddu'r grant hanfodion ysgol yn unol â chwyddiant?
Ac yn olaf fe hoffwn i ganolbwyntio ar addysg blynyddoedd cynnar. Mae adolygiad thematig Estyn yn tynnu sylw at yr effaith barhaus y mae tlodi ac anfantais yn ei chael ar ein plant ieuengaf, sy'n anodd iawn ei wrth-droi. Mae'r canfyddiadau'n anffodus yn gyfarwydd: mae mynediad at addysg gynnar yn parhau i fod yn anghyson, gyda gwahaniaethau enfawr rhwng rhanbarthau. Mae Estyn yn adrodd am system hynod annheg, lle nad oes gan lawer o rieni ddewis ble i anfon eu plant ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar. Maen nhw'n adrodd bod lleoliadau blynyddoedd cynnar wedi'u llethu, gan ddarparu bwyd, dillad a chymorth ymarferol i deuluoedd sy'n profi caledi ar lefelau llawer gwaeth nag a welwyd o'r blaen. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â thlodi, yn enwedig yn ein lleoliadau blynyddoedd cynnar? Diolch yn fawr iawn.
Mae angen adroddiadau arolygwyr arnom ni sy'n cyflwyno cipolwg cynhwysfawr ar ein system addysg yn ei holl ffaeleddau. Fe ddylem ni groesawu hynny; ni ddylem ni fod yn amddiffynnol mewn ymateb iddo. Mae'n ddefnyddiol bod her onest yn cael ei chyflwyno ynglŷn â chyflwr yr ysgolion yn ein gwlad, ac mae'n amlwg o'r adroddiad bod arfer rhagorol ledled Cymru—mentrau i wella presenoldeb yn Ysgol Gyfun Pontarddulais, diwygio'r cwricwlwm yn ysgol gynradd Langstone yng Nghasnewydd, a mentrau ailweithio rhifedd sy'n arwain y sector yn Ysgol y Creuddyn yng Nghonwy. Mae yna ymarfer rhagorol, ond mae hefyd yn amlwg bod yna ymarfer proffesiynol anghyson iawn hefyd. Mae Estyn yn adrodd nad yw dros hanner yr holl ysgolion uwchradd yn ddigon da yn eu haddysgu a'u hasesu—dros hanner. Mae'n dweud bod gormod o amrywiaeth ar addysgu mathemateg a phroblem wirioneddol gyda recriwtio athrawon, yn enwedig o ran dysgu mathemateg, gwyddoniaeth, digidol, daearyddiaeth ac ieithoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn targedu ystod o gymhellion at feysydd pwnc blaenoriaeth lle mae prinder—mewn gwirionedd, swm o £15,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i ddysgu mathemateg, cemeg, ffiseg, bioleg, dylunio, technoleg, TG, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern, yn ogystal ag ystod o fesurau eraill penodol, ac mae angen hynny oherwydd bod gennym ni broblem amlwg. Dywed Estyn, ers 2014, fod nifer y myfyrwyr sy'n hyfforddi i fod yn athrawon ysgol uwchradd wedi gostwng bron i hanner ac, yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae recriwtio, yr hyn maen nhw'n ei ddweud, 'ymhell islaw’r lefelau cyn y pandemig'—yn 'bryder sylweddol', meddai'r adroddiad. Ac mae'r penaethiaid yn adrodd wrth Estyn
yn rhy aml...nad yw ansawdd ymgeiswyr yn cyrraedd y safon ofynnol.'
Ac mae hynny'n rhoi pwysau ar y gweithlu presennol, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw addysgu'n aml y tu allan i'w maes arbenigedd ac mae hynny'n ychwanegu at broblemau cadw staff. Gadewch i mi ddyfynnu adran fer iawn o adroddiad y prif arolygydd. Dywed:
'Er gwaethaf y cynnydd diweddar i gyflog cychwynnol newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn, mae sawl mater sylfaenol sy’n llesteirio recriwtio effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys anhyblygrwydd cymharol amodau gwaith athrawon, gostyngiad yn nifer y bobl rhwng 20 a 25 oed a chanfyddiad gwael y cyhoedd o addysgu fel proffesiwn.'
Ac rwy'n credu y dylem ni fyfyrio ar hyn:
'canfyddiad gwael y cyhoedd o addysgu fel proffesiwn'.
Pan fyddwch chi'n ystyried y ddadl gyhoeddus am addysgu a gawsom ni dros genhedlaeth neu fwy, mae wedi bod yn un negyddol iawn, ac rydym ni i gyd yn gwybod beth yw grym addysgu da, a beth y gall fod, ac rydym ni'n adnabod athrawon sy'n gweld y swydd fel galwedigaeth, fel galwad. Roeddwn i'n ffodus i gael nifer o athrawon a wnaeth effaith arnaf, un yn arbennig yn Amman Valley Comprehensive fel y'i gelwid ar y pryd, fy athro gwleidyddiaeth Safon Uwch, Adrian Phillips—ac rwy'n siŵr y gall cyd-Aelodau ddychmygu sut oeddwn i yn 17 oed; yn union fel rydw i heddiw, i fod yn onest, ond ychydig yn arwach, credwch neu beidio—ac roedd yn rhywun a harneisiodd hynny, a heriodd hynny, a sianelodd hynny, a gafodd effaith ddofn arnaf, sydd, dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn rhywbeth rwy'n dal i'w werthfawrogi a'i drysori ac yn meddwl amdano yn aml, ac rwy'n dal i fod mewn cysylltiad ag ef. Mae athrawon da yn newid bywydau. Mae athrawon da yn ysbrydoli cenhedlaeth o bobl, ac nid wyf yn argyhoeddedig y byddwn yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athrawon trwy fynd ati o safbwynt gwahanol offerynnau. Nid ydym yn siarad digon am athrawon fel gweision cyhoeddus, athrawon fel ffigyrau ysbrydoledig, athrawon fel pobl sy'n gallu dyrchafu eraill, a dyna beth rwy'n credu y dylem ni ddechrau siarad amdano eto fel cymhelliant i gael pobl i'r proffesiwn addysgu ac i'w cadw yno.
Dydw i ddim yn poeni gormod am bobl sy'n gadael y byd addysg; rwy'n credu bod hynny'n beth da. Mae'n swydd anodd ac rydym ni i gyd yn adnabod pobl sydd wedi cael digon, ac mae'n dda iddyn nhw ac mae'n dda i'r system eu bod nhw'n symud i wneud pethau eraill, ond mae angen i ni fod yn denu cenhedlaeth newydd.
Ac rwy'n meddwl a byddaf yn gorffen ar hyn, Llywydd: mae'n beryglus myfyrio ar straeon, ond, fel tad plant yn y system addysg, rwyf wedi cael fy nharo gan ba mor ddigalon rydym wedi troi rhai pynciau i'w haddysgu a pha mor ddigalon rydym ni wedi troi rhai pynciau i ddysgu amdanyn nhw, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod, hyd yn oed mewn pynciau efallai nad ydym ni o reidrwydd yn cael ein hysbrydoli ganddyn nhw, gall athro da ddod ag ef yn fyw a gall athro drwg ei fygu i farwolaeth. Rwy'n credu ein bod ni wedi creu system lle rydym ni'n addysgu i brofi, rydym ni'n gwthio am gyfres o ganlyniadau a metrigau, ac mae wedi lladd gormod ar lawenydd dysgu ac ysbryd ymchwilio. Felly, rwy'n credu, fel rhan o ymgysylltu â mwy o bobl yn y byd addysgu, mae angen i ni siarad mwy am ei rym i ysbrydoli a'i rym i newid. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb—Lynne Neagle.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn amlwg, roedd yna lawer o bwyntiau yn y fan yna rwyf wedi gwrando arnyn nhw'n ofalus. Dydw i ddim yn mynd i allu ymateb iddyn nhw i gyd, ond fe wna i geisio ymdrin â'r prif rai.
Tom, fel y dywedodd Jenny Rathbone, rwy'n credu eich bod chi wedi darllen adroddiad gwahanol, ac a gaf i ddweud wrthych chi'n glir iawn, i mi, mae adroddiad Estyn a fy araith i gyd yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb, ac fe fyddaf i byth yn osgoi'r cyfrifoldeb sydd arnom i ddarparu'r addysg orau bosibl i'n plant a'n pobl ifanc? Rwyf wir yn gresynu, yn wahanol i Peter Fox, nad oeddech chi wedi canolbwyntio ar asesiad llawer mwy cytbwys o'r adroddiad a'ch bod wedi dewis nodi'r pwyntiau arferol rydych chi'n eu gwneud, sy'n anghywir mewn gwirionedd. Nid yw'n gwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau yn unig; mae'n gwricwlwm sy'n cynnwys sgiliau a gwybodaeth, a'r gwir yw bod angen y ddau beth hynny er mwyn i blant a phobl ifanc lwyddo.
Cefin Campbell, diolch am eich cyfraniad a'ch cydnabyddiaeth o waith y proffesiwn addysgu. Yn amlwg, rwy'n bryderus iawn am y negeseuon yn yr adroddiad am bresenoldeb, a gallaf ddweud wrthych chi'n sicr nad ydym yn aros 10 mlynedd i adfer ein lefelau presenoldeb i'r hyn y mae angen iddyn nhw fod. Dyna pam y cyhoeddais £8.8 miliwn i fynd i'r afael â'r heriau presenoldeb rydym yn eu hwynebu. Bydd llawer o'r arian hwnnw yn mynd ar swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a fydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny rhag addysg. Mae gennym lawer ohonyn nhw eisoes, ac rydym yn gweld tystiolaeth dda iawn o'u gwaith, a bydd y cyllid ychwanegol hwnnw'n ein galluogi ni i adeiladu ar y gwaith hwnnw a'i wella.
Mae sawl Aelod wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn ynglŷn â recriwtio a chadw, ac roeddwn i eisiau dweud fy mod i'n cymryd y materion hynny o ddifrif. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi nad materion sy'n unigryw i Gymru yn unig ydyn nhw. Mae hon yn broblem rydym yn ei gweld ledled y byd, mewn gwirionedd. Rydym yn gwneud yn dda o ran recriwtio cynradd. Mae recriwtio uwchradd yn llawer mwy heriol, i'r pynciau arbenigol hynny yn arbennig, ac rydym hefyd yn wynebu heriau o ran recriwtio i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw yn sicr.
Rwyf wedi cyhoeddi'r cynllun gweithlu strategol newydd, yr ydym yn mynd i fod yn gweithio arno mewn ffordd gyfannol i edrych ar yr ystod o heriau rydym yn eu hwynebu drwyddi draw, ac maen nhw i gyd yn bwydo i mewn i hyn. Mae'n ymwneud â llesiant, mae'n ymwneud ag ymddygiad, mae'n ymwneud â phresenoldeb. Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn a ddywedodd Lee am statws y proffesiwn addysgu a'r gwahaniaeth a gaf rhwng yr hyn rydym yn ei glywed yn y Siambr hon am yr agweddau negyddol ar hyn a'r hyn rwy'n ei gael pan fyddaf yn mynd allan i siarad ag arweinwyr ysgol ac athrawon. Mae cryn dipyn o athrawon a phenaethiaid wedi dweud wrthyf, 'Y swydd orau yn y byd,' ac mae'n wirioneddol ysbrydoledig. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio hynny, oherwydd rwy'n credu bod addysgu yn alwedigaeth. Mae wedi newid—nid yw'n ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth i blant a phobl ifanc yn unig mwyach; mae'n ymwneud â'r ystod honno o gymorth cofleidiol i blant a phobl ifanc. Mae gennym yr ymchwil ar y taliadau cymhelliant, ac, yn amlwg, mae angen i ni werthuso'r rheini, ond byddwn ni hefyd yn edrych ar beth mwy y gallwn ni ei wneud yn y maes hwn ac edrych ar arferion da rhyngwladol i fynd i'r afael â'r heriau hyn hefyd.
Cefin, fe wnaethoch chi godi pryderon penodol, fel y gwnaeth Heledd, ynglŷn â'r Gymraeg, ac, o ran y Gymraeg, roedd yna bryderon yn yr adroddiad a oedd yn bwysig iawn, y mae angen eu hystyried o ddifrif, yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae gennym waith i'w wneud yno. Mae gwella'r hyn rydym yn ei gynnig trwy Hwb yn rhan allweddol o'n cwricwlwm newydd. Rydym hefyd yn buddsoddi llawer i wella sgiliau ein hymarferwyr i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd yn rhaid i ni gael newid sylweddol i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno, ac rydym i gyd wedi ymrwymo i weithio ar hynny.
Gwnaeth Peter a nifer o Aelodau eraill bwyntiau am ansawdd addysgu, a diolch eto, Peter, am eich cyfraniad cytbwys, ac am groesawu'r pethau cadarnhaol am lesiant, ac mae nifer o Aelodau wedi sôn am y pethau cadarnhaol ynghylch y blynyddoedd cynnar hefyd. Ar hyn o bryd, mae Estyn yn cynnal adolygiad thematig sy'n ystyried pa mor dda mae ysgolion yn addysgu. Bydd hwnnw'n rhoi mwy o wybodaeth i ni i helpu gyda'n gwaith yn y maes hwn. Rydym yn parhau i fuddsoddi tua £35 miliwn bob blwyddyn yn natblygiad proffesiynol y gweithlu, ac yn y flwyddyn sydd i ddod, bydd £13.5 miliwn yn cael ei roi'n uniongyrchol i ysgolion i fuddsoddi mewn dysgu proffesiynol. Ac fel y dywedais yn fy araith, rydym yn sefydlu corff cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu ac arweinyddiaeth broffesiynol, yr wyf yn gobeithio y bydd yn helpu gyda chynnig mwy cydlynol yn y maes hwnnw. Ac ar ben hynny, mae gennym ein rhaglenni cymorth cenedlaethol. Rwyf wedi cyflwyno cymorth cenedlaethol ar ddylunio ac asesu'r cwricwlwm, sy'n ymateb i'r pryderon y mae rhai ysgolion wedi'u codi am ddatblygu'r cwricwlwm, ac mae gennym hefyd raglenni cenedlaethol ar gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd hefyd.
Os gallaf droi at bwyntiau Jane Dodds am dlodi, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych chi'n teimlo'n angerddol iawn amdano. Rwy'n credu bod gennym ni hanes da yng Nghymru o ran cefnogi plant sy'n byw mewn tlodi mewn ysgolion, ac, fel y byddwch wedi'i weld yn adroddiad Estyn, mae'r gwaith mae ysgolion yn ei wneud yn y maes hwnnw yn cael ei ganmol. Rydym eisoes yn buddsoddi dros £13 miliwn yn y grant hanfodion ysgol. Mae hwnnw'n grant sy'n cael ei arwain gan alw ac rydym yn hyrwyddo'r defnydd o'r grant hwnnw, yn ogystal â'n cynnig o ran bwyd ysgol, sy'n bwysig iawn. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi ariannu cynlluniau treialu diogelu rhag tlodi i weithio mewn ysgolion, ac rydym yn cefnogi gwaith Plant yng Nghymru o ran hyfforddiant ar effaith tlodi mewn ysgolion. Ond mae hynny'n mynd ochr yn ochr, wedyn, â'n cyllid ar gyfer y grant datblygu disgyblion, sy'n cael ei ddiogelu i wneud yn siŵr y gallwn ni ganolbwyntio'n benodol ar y disgyblion hynny, ac mae gennym ni hefyd bartneriaeth â'r Sefydliad Gwaddol Addysgol i fynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â thlodi. Ond mae hynny, yn amlwg, yn mynd i barhau i fod yn ffocws i ni wrth i ni anelu at gau'r bwlch cyrhaeddiad.
A gallaf weld, Llywydd, fod fy amser ar ben. Fe wnes i geisio ymateb i rai o'r pwyntiau. Os gallaf ddiolch i bawb am eu cyfraniadau, ac rwy'n croesawu ein bod ni'n cael ein dwyn i gyfrif ar yr adroddiad hwn. Fel y dywedodd Lee, mae'n bwysig ein bod ni'n cael yr adborth hwnnw, y da a'r drwg, ac rwy'n cymryd hynny o ddifrif a byddaf yn parhau i weithio gydag Estyn, gyda'n hawdurdodau lleol a chyda'n harweinwyr ysgol a'n hathrawon i fynd i'r afael â'r materion hyn. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1. Felly, mi wnawn ni ohirio'r holl bleidleisiau o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, mi wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf, ac mae'r bleidlais honno ar eitem 6, y ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2024-25. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 23 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, mae'r gyllideb yna wedi ei chymeradwyo.
Eitem 6. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2024-2025: O blaid: 24, Yn erbyn: 0, Ymatal: 23
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 7 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn 2023-24. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 22, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 sydd nesaf, a gyflwynwyd eto yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 22, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 3 sydd nesaf, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24. Cynnig: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio a diwedd ar ein gwaith ni am heno. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.