Y Cyfarfod Llawn
Plenary
13/11/2024Cynnwys
Contents
Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg sydd gyntaf y prynhawn yma ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.
1. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynglŷn a sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn derbyn cyllid digonol i barhau i ddarparu gwasanaethau? OQ61844
Wel, Llywydd, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â holl gyd-weithwyr y Cabinet, yn unigol ac ar y cyd, yn ystod y broses o osod cyllideb ddrafft. Mynychais yr is-grŵp cyllid gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar 22 Hydref, i glywed gan awdurdodau lleol yn uniongyrchol am eu pwysau a'u blaenoriaethau. A chwrddais i eto ag arweinwyr y cyngor a phrif swyddogion ddydd Llun diwethaf.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n fuddiol iawn gwybod eich bod chi yn cyfarfod mor rheolaidd, ac, yn amlwg, dwi'n siŵr y bydd arweinyddion llywodraeth leol wedi pwysleisio efo chi y ffaith eu bod nhw'n pryderu'n fawr ynglŷn â'u gallu nhw i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn benodol oherwydd yr heriau ariannol. Yn fy rhanbarth i, ac yn benodol yn Rhondda Cynon Taf, mae'r cyngor yn ymgynghori ynglŷn â chau dau gartref gofal er mwyn gwneud arbedion ar y funud: Cae Glas a Ferndale House. Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod yna drigolion mewn gwelyau yn yr ysbytai lleol sy'n barod i gael eu rhyddhau ond yn aros am le mewn cartref gofal, weithiau am wythnosau.
Sut, felly, ydych chi'n gweithio gyda’r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol i sicrhau nad oes yna unrhyw benderfyniadau byrbwyll, megis cau cartrefi gofal, yn digwydd nes bod y darlun cyllid yn gliriach ar gyfer y flwyddyn nesaf? Ac onid ydy hi'n bwysig, o ran sefyllfa gyllidol y gwasanaeth iechyd, fod y cartrefi hyn yn parhau ar agor fel nad ydyn ni'n rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau amgen?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn atodol yna. Rŷch chi'n iawn—mae arweinwyr cynghorau lleol yn sôn bob tro rwy'n cwrdd â nhw am y pwysau y maen nhw'n ei wynebu yn y maes gofal cymdeithasol, ond ar draws eu cyfrifoldebau nhw i gyd.
Wrth gwrs, mae’r berthynas rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn un bwysig ac rŷn ni'n gwybod bod pobl mewn ysbytai yn awr sy'n ddigon da i fynd yn ôl adref neu i gael gofal y tu fas i'r ysbyty. Dwi ddim yn siŵr os yw’n wir i ddweud mai jest mater o arian yw e pan fydd cynghorau lleol yn symud i gau rhai cartrefi preswyl. Fel dwi'n deall, yn RhCT, mae gwelyau yn wag nawr yn y cartrefi gofal sydd ganddyn nhw. So, ar un ochr, mae arian, wrth gwrs, yn bwysig a dyna beth dwi'n ei drafod gyda nhw, ond hefyd mae'r galw am wasanaethau i bobl yn y gymuned yn newid a dyna beth mae awdurdodau lleol yn ei wynebu hefyd.
Diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater pwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r holl sôn wedi bod am fwy o arian i’r GIG er mwyn mynd i’r afael ag amseroedd aros. Mewn gwirionedd, y prif reswm pam fod Cymru’n cael cymaint o arian ychwanegol yw oherwydd yr arian y mae Llywodraeth y DU yn ei wario ar fynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG yn Lloegr. Fodd bynnag, nid pwmpio biliynau ychwanegol i iechyd yw'r ateb i fynd i’r afael ag amseroedd aros. Mae angen inni gyfeirio gwariant at ofal cymdeithasol, ac mae hynny’n golygu cyfeirio arian at awdurdodau lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu’n briodol er mwyn dileu oedi wrth drosglwyddo gofal, a grybwyllwyd gennych yn gynharach?
Wel, Lywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â’r Aelod fod buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn rhan o'r ateb i fynd i'r afael â’r pwysau cyffredinol ar ein system. O safbwynt yr unigolyn, nid oes ots a yw’r arian yn cael ei wario yn y gwasanaeth iechyd neu mewn gofal cymdeithasol, ar yr amod eu bod yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt hwy eu hunain.
Credaf fod pwynt ehangach, serch hynny, na’r un y mae Altaf Hussein wedi’i wneud y prynhawn yma, sef yn hanesyddol, ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, ein bod yn canolbwyntio ar ddarparu—rydym yn darparu mwy o wasanaethau, rydym yn creu mwy o hyn, rydym yn darparu mwy o'r llall—tra bo angen inni edrych, mewn gwirionedd, ar y galw mewn gwasanaethau hefyd. Pam fod pobl yn ymgyflwyno am ofal yn y GIG, yn enwedig pan fo’r cyflyrau y maent yn ymgyflwyno â hwy yn gyflyrau y gellir eu hosgoi os gwneir dewisiadau gwahanol, ac os oes ffynonellau cymorth gwahanol ar gael i bobl yn gynharach yn natblygiad y broblem sy’n golygu, yn y pen draw, mai gwasanaeth gofal eilaidd sydd ei angen arnoch? Felly, mae a wnelo ag ailgydbwyso'r ffordd y mae ein gwasanaethau cyhoeddus nid yn unig yn cael eu hariannu, ond y ffordd y maent yn mynd ati i wneud y gwaith a wnânt fel bod mwy o bwyslais ar helpu i ymdrin â galw, yn hytrach na dim ond ymdrin â chanlyniadau'r galw pan fydd y galw hwnnw wedi crisialu.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddom yn iawn fod blynyddoedd o gyni wedi cael effaith ddinistriol ar wasanaethau cyhoeddus, ac rydym wedi dweud o'r blaen yn y lle hwn ei bod yn mynd i gymryd mwy na chyllideb y mis diwethaf i drawsnewid y sefyllfa honno. Ond fe wyddom hefyd, fel rydym eisoes wedi'i glywed y prynhawn yma, fod ein hawdurdodau lleol yn wynebu cyfres o heriau uniongyrchol, a'r heriau a deimlir yn fwyaf difrifol yn fy nghornel i o'r wlad, boed hynny ym maes gofal cymdeithasol, effaith deddfwriaeth, neu faterion bara menyn fel atgyweirio ffyrdd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn, yng nghyd-destun yr hinsawdd sydd ohoni, pa ystyriaeth a roddwyd ac y gellid ei rhoi i unrhyw atebion ariannu tymor byrrach, boed hynny’n refeniw a chyfalaf, neu'r posibilrwydd o wneud pethau, unrhyw beth, yn wahanol—mae un o'r pethau a awgrymwyd i mi yn ymwneud ag edrych ar gronfeydd wrth gefn—ond ffordd o bontio'r bwlch hwnnw, efallai, i ddyfodol ariannol mwy disglair, gobeithio?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae'n llygad ei lle am y pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, ond 14 mlynedd i mewn i gyfnod o gyfyngiadau ar adnoddau, mae gwasanaethau cyhoeddus o bob math yn wynebu'r mathau hynny o heriau. Fy nod yn y gyllideb y flwyddyn nesaf yw cynorthwyo ein hawdurdodau lleol i gamu'n ôl o'r dibyn o ran yr heriau gwaethaf y maent yn eu hwynebu a chaniatáu llwybr iddynt y tu hwnt i hynny tuag at ddyddiau pan fydd ganddynt, gobeithio, yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion eu poblogaethau lleol. Yn y tymor byr, rwyf mewn trafodaethau, wrth gwrs, gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet ynglŷn â chyllideb eleni. Mae cynnydd yn yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn gyfredol. Ac yn y tymor byr iawn, mae camau y gobeithiwn allu eu cymryd i liniaru rhywfaint o'r pwysau y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu. Rwy’n awyddus iawn, yn ysbryd y cwestiwn blaenorol, i annog cyd-Aelodau o'r Cabinet a’n gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio buddsoddiadau tymor byr fel llwybr at gynaliadwyedd mwy hirdymor. Ac mae ffyrdd y gellir defnyddio gwariant cyfalaf, yn arbennig, i wneud yr adnoddau refeniw sydd gan awdurdod i'w defnyddio yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon. Ac rydym yn canolbwyntio ar y mathau hynny o gamau tymor byr fel rhan o’r llwybr pellach tuag at gyfnod pan fydd gan ein gwasanaethau cyhoeddus y buddsoddiadau y cawsant eu hamddifadu ohonynt ers cyhyd.
2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn a chyllideb hydref Llywodraeth y DU? OQ61856
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gwestiwn. Lywydd, cafwyd cyfres o drafodaethau cydweithredol gyda Gweinidogion y DU, yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru, cyn cyllideb y DU. Bydd y rhain yn parhau wrth inni symud ymlaen at ail gam adolygiad o wariant y DU, a fydd yn cael ei gwblhau yn y gwanwyn.
Diolch, Weinidog cyllid. Mae'n teimlo fel yr un hen stori yn sefyll yma'n gofyn cwestiynau i chi. Yn amlwg, un o’r mesurau a ddaeth o gyllideb Llywodraeth y DU oedd y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol i gyflogwyr. Mae hynny, o bosibl, yn cael effaith ddinistriol ar allu cwmnïau i gyflogi. Byddai cwmni sy’n cyflogi rhywun ar y cyflog canolrifol yn talu £900 yn ychwanegol mewn yswiriant gwladol yn y pen draw, ac ar yr isafswm cyflog, byddai’n £770. Rydych wrthi'n llunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, Ysgrifennydd cyllid. Ni fuaswn yn gofyn ichi ddatgelu beth sydd yn y gyllideb honno, gan na fyddech yn dweud wrthyf. Ond a oes gallu gennych chi, fel Gweinidog cyllid, i edrych ar allu’r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i adfer y rhyddhad ardrethi busnes ar y gwerth llawn o 75 y cant i fusnesau Cymru, fel yr oedd cyn cyllideb Llywodraeth Cymru y llynedd, gan y byddai hwnnw’n arf defnyddiol iawn o ran caniatáu i arian gael ei gadw o fewn y busnesau hynny, ac i wrthbwyso’r costau cynyddol y mae’r busnesau hynny’n eu hwynebu wrth gyflogi pobl yn y dyfodol?
Lywydd, diolch i Andrew R.T. Davies. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn rhoi iawndal i wasanaethau cyhoeddus am y cyfraniadau yswiriant gwladol ychwanegol y bydd cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus yn eu hysgwyddo. Y diffiniad a ddefnyddiant o weithiwr sector cyhoeddus yw’r un a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth ddiwethaf ac a nodir yn nosbarthiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Byddaf yn trafod gydag Aelodau o Lywodraeth y DU yr effaith y mae’r newid yn ei chael ar y rheini y tu allan i’r cwmpas hwnnw. Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i adfer lefel y rhyddhad ardrethi dros dro i fusnesau twristiaeth, hamdden a lletygarwch. Mae hynny bellach yn ei bumed flwyddyn o ryddhad dros dro. Mae’n amlwg i mi o gyllideb y DU na fydd y rhyddhad hwnnw’n cael ei ailadrodd ar ôl y flwyddyn ariannol nesaf, gan i'r Canghellor gyhoeddi dull newydd o ymdrin â'r lluosyddion ar gyfer y sectorau hynny. Rydym ar lwybr llithro allan o’r cymorth a roddwyd i helpu’r sector i adfer ar ôl pandemig COVID, a chredaf fod y llwybr llithro rydym wedi’i sefydlu yng Nghymru yn un a fydd yn helpu’r sector i ymdrin â’r ffaith nad yw'r cymorth yn mynd i fod yno yn y tymor hir ac na fwriadwyd erioed iddo fod.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe ŵyr pob un ohonom fod gwasanaethau’r sector cyhoeddus yn dibynnu’n helaeth ar y darparwyr preifat hynny—fel y mae Heledd Fychan eisoes wedi'i nodi, cartrefi gofal, ond darparwyr gofal cartref hefyd. O ganlyniad i’r gyllideb ddiweddar a’r costau cynyddol, yn sicr mewn perthynas ag yswiriant gwladol, a’r trothwyon yn gysylltiedig â hynny, rydym yn mynd i weld y darparwyr hynny’n ei chael hi'n wirioneddol anodd. Ac maent yn hollbwysig i ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar gyfer y daith adfer y mae angen inni fod arni mewn sawl ffordd.
Nawr, fe welsom Gymru yn cynnig, neu'n mynd i gynnig rhyddhad ardrethi annomestig o 100 y cant ar gyfer darparwyr gofal plant ledled Cymru, ac roedd hynny i'w groesawu'n fawr. O gofio rhai o’r pethau yr oedd Heledd yn eu dweud yn gynharach, tybed pa gymorth y gellid ei roi i’r sector gofal ehangach i’w galluogi i sicrhau eu bod yn wydn, ac y gallant barhau i gefnogi ein sector cyhoeddus yn y ffordd rydym angen iddynt ei wneud. Rydym yn gweld cymaint o oriau o angen nas diwallwyd mewn gofal cartref, ac os bydd y busnesau sy’n darparu hynny'n erydu ymhellach, ni fydd hynny’n helpu’r system bresennol rydym ynddi.
Wel, Lywydd, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fod anghenion y sector gofal yn cael eu trafod yn weithredol fel rhan o’r broses o osod y gyllideb. Cefais sgwrs gyda’r Gweinidog iechyd a’r Gweinidog gofal cymdeithasol y bore yma ynglŷn â hynny. Mae’r gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf yn golygu y byddwn mewn sefyllfa i ailfuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Nid i'r graddau yr hoffem, ond bydd y sector gofal yn bendant iawn yn ein meddyliau wrth wneud hynny. Ers dechrau tymor y Senedd hon, rydym wedi rhoi cymorth i’r sector dalu costau’r cyflog byw gwirioneddol i’r rheini sy’n cael eu cyflogi mewn gofal cartref, a bydd yn uchelgais gennym i barhau i wneud hynny.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a chredaf fod pob un ohonom yn dymuno gweld y gwasanaethau hyn yn cael eu diogelu, gan fod hyn yn bwysicach na gwleidyddiaeth am ei fod mor sylfaenol i'r gymdeithas gyfan, ac mae angen inni wneud cynnydd ar hynny.
Soniodd Andrew R.T. Davies am rai o’r pethau roeddwn yn mynd i ganolbwyntio arnynt yn fy ail gwestiwn, gan gynnwys ceisio rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r sectorau sy’n ei chael hi’n anodd ac sy’n ofni efallai na fydd rhyddhad ardrethi annomestig yn parhau yn y dyfodol yng Nghymru, lle gwyddom ei fod yn mynd i barhau yn Lloegr. Ond gwyddom eu bod yn rhewi eu lluosydd yno hefyd. Nawr, mae'r gallu gennym i ddefnyddio lluosydd, neu i roi lluosydd ar waith nawr yng Nghymru—. Nid ydym wedi gwneud hynny eto. A ydych chi'n credu bod cyfle nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, i ni ddefnyddio’r lluosydd i leihau’r effaith ar y busnesau llai yn ein cymunedau?
Lywydd, y peth cyntaf i'w ddweud yw nad yw hanner busnesau bach Cymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Felly, nid yw’r lluosydd yn cael unrhyw effaith arnynt hwy am nad ydynt yn talu unrhyw beth mewn ardrethi busnes. Mae dros 30 y cant yn fwy o fusnesau yng Nghymru yn cael rhyddhad rhag o leiaf rywfaint o’u hardrethi busnes. Dim ond 20 y cant o fusnesau yng Nghymru sy’n talu ardrethi busnes llawn.
Credaf ei bod yn bryd diwygio'r system yn sylweddol pan fyddwch yn cyrraedd sefyllfa lle nad oes ond un o bob pum busnes yn talu'r ardrethi busnes fel y’u gosodwyd. Credaf fod hynny'n dweud wrthych fod y system, dros y blynyddoedd, wedi cynnwys rhyddhad fan hyn, cymorth ychwanegol fan draw, a'i bod yn bryd edrych arni'n agosach.
Cawsom bwerau newydd yn y Bil a aeth drwy’r Senedd yn gynharach eleni i allu ymateb yn fwy hyblyg o ran lluosydd. Ni fydd y pwerau hynny ar gael yng Nghymru tan 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Felly, mae’r gyllideb a fydd yn dod gerbron y Senedd ar 10 Rhagfyr yn adlewyrchu’r pwerau presennol sydd gennym, ond bydd posibiliadau newydd i ni o ganlyniad i benderfyniad y Senedd o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Diolch am eich ateb. Gwn ei bod yn rhwystredig pan fyddwn yn sôn yn aml am ardrethi annomestig, ond pan oeddwn gyda chymheiriaid o’r Ffederasiwn Busnesau Bach ddoe, roeddent yn pwysleisio unwaith eto y pwysau y mae busnesau sy'n talu ardrethi annomestig yn ei wynebu. Felly, nid yw'r naratif yn cyfateb i'r profiad y mae busnesau'n ei gael.
Gan symud ymlaen at fy mhwynt olaf, sy'n mynd â ni i faes ychydig yn wahanol, fe wyddom fod awdurdodau lleol yn wynebu gwerth oddeutu £560 miliwn o bwysau ariannol—rydym wedi clywed hyn yn aml—ar wasanaethau plant, gofal cymdeithasol ac addysg, ond credaf fod gennym fom amser arall, sef ein seilwaith bregus yma yng Nghymru, boed yn ffyrdd llawn tyllau neu'n hen bontydd gwan. Ac mae cannoedd o bontydd, miloedd o bontydd, y mae angen gwario arian enfawr arnynt. Wrth inni symud i mewn i'r gaeaf, dim ond cynyddu a wnaiff y pwysau hwn, yn enwedig gyda'r tywydd garw a welsom dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny’n cynyddu pethau fel llifogydd, ond hefyd llawer o dirlithriadau ac ati. Rydym wedi gweld llawer o’r rheini, ac maent yn para blynyddoedd weithiau gan ei bod yn ymddangos na all cynghorau fynd i’r afael â hwy. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod digon o wytnwch o fewn llywodraeth leol i’w galluogi i ymdopi a chadw ein cymunedau’n ddiogel ac wedi'u cysylltu?
Diolch i Peter Fox am ei drydydd cwestiwn. Dylwn ddweud, yn syml, mai dim ond datganiad o ffaith oedd yr hyn a ddisgrifiodd fel 'y naratif' ar ardrethi annomestig. Dyna'r ffeithiau. Nid yw hanner busnesau Cymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl, ac mae biliau 30 y cant arall ohonynt yn cael eu lleihau gan y cyhoedd, gan mai talwyr eraill y dreth gyngor a thalwyr treth incwm eraill sy’n darparu’r cymorth hwnnw i’r busnesau hynny.
Ar seilwaith, fodd bynnag, mae'n gwneud rhai pwyntiau pwysig. Dyma lle mae cyllideb 30 Hydref yn nodi newid sylweddol i wasanaethau cyhoeddus. Oherwydd bydd yn cofio i Jeremy Hunt, yn ei gyllideb ym mis Mawrth, roi £1 filiwn o fuddsoddiad cyfalaf i ni, ac ar 30 Hydref, darparodd y Canghellor £235 miliwn. Mae hynny'n golygu ein bod mewn sefyllfa wahanol yn mynd i mewn i'r flwyddyn nesaf, a chyda chyllideb y gwanwyn, a fydd yn rhoi tair blynedd arall o gyllidebau cyfalaf i ni, byddwn mewn sefyllfa wahanol eto i drefnu'r buddsoddiad sydd ei angen i atgyweirio'r difrod a wnaed yn sgil diffyg adnoddau dros y degawd blaenorol.
Rwy’n awyddus i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cyfran deg o'r gyfres newydd honno o bosibiliadau, ac rwy’n barod i weithio’n ddychmygus gydag awdurdodau lleol, fel rydym wedi'i wneud yn y gorffennol, i feddwl sut y gallem ddefnyddio rhai o’r cyfleoedd y gallant eu creu er mwyn parhau i fuddsoddi yn eu ffyrdd, mewn cynnal a chadw ysgolion, a’r ôl-groniadau eraill y gwyddom eu bod wedi cronni tra bo adnoddau wedi bod mor brin.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, os caf i ddychwelyd at bwyntiau roeddech chi wedi'u gwneud bach yn gynharach yn eich ymateb i Andrew R.T. Davies, jest o ran yswiriant gwladol yn benodol, roeddech chi'n sôn ynglŷn â diffiniad ONS, a bod yna bosibilrwydd o ddefnyddio'r un un ar hyn o bryd, ond yn amlwg mae yna ffigurau gwahanol iawn ynglŷn â pha ddiffiniad ONS sy'n cael ei ddefnyddio, wrth gwrs. Mae'r mesur sy'n cael ei ddefnyddio gan Stats Wales, sef y labour force survey, yn lot mwy ffafriol o ran Cymru. Gaf i ofyn, felly, pa ddiffiniad y byddwch chi'n pwyso amdano fo efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig?
Wel, mae'r posibiliadau yn dod ataf i achos dwi'n bwriadu bod yn Llundain nid yr wythnos nesaf, ond yr wythnos ar ôl hynny, i gael cyfleon i gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb â'r Gweinidogion yn y Trysorlys. Wrth gwrs, rydw i yna i roi gwybodaeth a thystiolaeth iddyn nhw am y sefyllfa yma yng Nghymru—rhai o'r pwyntiau rydyn ni wedi eu clywed yn barod am yr effaith ar y maes gofal, ac yn y blaen. So, dyna pam dwi'n mynd, jest i fod yn glir gyda'r Trysorlys am bethau ar lawr gwlad yn fan hyn, a thrwy hynny, a thrwy bopeth arall y bydd y Trysorlys yn ei glywed gan bobl yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd, jest iddyn nhw gael y wybodaeth lawn am y sefyllfa rydyn ni'n ei hwynebu yn y sector cyhoeddus, ond hefyd gyda'r asiantaethau rydyn ni'n gweithio â nhw tu fas y sector cyhoeddus.
Diolch. Mi fydd yn hynod o fuddiol, a gobeithio eich bod chi'n gallu rhoi'r achos gerbron, oherwydd mi fyddwch chithau hefyd wedi derbyn, dwi'n siŵr, llu o gyfathrebiadau gan sefydliadau o'r trydydd sector sy'n hynod o bryderus ynglŷn â'r sefyllfa. Gwnes i sôn wythnos diwethaf am Cyngor ar Bopeth. Yn amlwg, rydyn ni hefyd wedi clywed gan hosbisau, ac mae Platfform wedi amcangyfrif cost ychwanegol o £0.25 miliwn; St John Ambulance, £50,000; Mirus, mudiad yn y sector gofal, cost ychwanegol o £1.6 miliwn. Mae un arweinydd cyngor wedi dweud wrthyf y bydd yn costio £2.5 miliwn i'r holl fudiadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor hwnnw. Felly, yr hyn dwi'n ei ofyn ydy: o ran y pwynt yswiriant gwladol yn benodol, beth fyddwch chi'n gofyn i'r diffiniad ONS fod? Oherwydd gan ein bod ni'n derbyn bod yna wahanol ddiffiniadau, beth fyddwn i'n hoffi ei wybod yn union ydy: beth fyddwch chi'n galw ar y Canghellor i'w wneud er mwyn unioni'r sefyllfa hon?
Wel, Lywydd, nid fi yw Canghellor y Trysorlys, ac nid yw’r penderfyniadau ar gyfraniadau yswiriant gwladol yn rhai a wneir gan Lywodraeth Cymru. Ond pe bawn i'n Ganghellor, rwy’n siŵr y buaswn yn dweud wrthych fod yn rhaid talu am yr £1 biliwn ychwanegol sydd gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf rywsut, ac mai’r hyn y mae wedi’i wneud yw newid lefel y cyfraniadau yswiriant gwladol gan gyflogwyr yn ôl i beth oeddent am 13 o 14 mlynedd y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Sonnir am hyn weithiau fel pe bai wedi gwneud rhywbeth cwbl eithriadol yn cynyddu cyfraniadau cyflogwyr, ond nid yw ond wedi eu newid yn ôl i'r hyn oeddent 12 mis yn gynharach. Nawr, byddaf yn dadlau’r achos, nid dros ddiffiniad gwahanol yn union, ond byddaf yn egluro i Weinidogion y Trysorlys yr effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr yn ei chael yma yng Nghymru ar y sefydliadau yr ydym yn dibynnu arnynt am wasanaethau cyhoeddus, a'r tu hwnt i hynny hefyd. Oherwydd fy ngwaith i yw sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mor wybodus ag y gallant fod am amgylchiadau Cymru ac anghenion Cymru, a dyna fyddaf i'n ei wneud.
Diolch am yr ymateb. Yn amlwg, y pryder ydy, o ran y penderfyniad hwn gan y Canghellor, efallai ei bod hi heb gymryd i ystyriaeth beth fyddai'r oblygiadau ehangach o'r codiad hwn, oherwydd yn amlwg, mae o yn wyneb toriadau i gyllidebau hefyd. Felly, dwi'n gwybod eich bod chi'n sôn am fesur 12 mis, ond mae'r sefyllfa wedi dirywio i nifer o'r sefydliadau hyn ac maen nhw dan straen aruthrol. Gaf i ofyn, felly, os na fydd yna gefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael iddyn nhw yn y gyllideb, beth ydy'r plan B o ran Llywodraeth Cymru? Oherwydd byddwch chi wedi clywed o'ch trafodaethau chi gyda llywodraeth leol pa mor bryderus ydyn nhw o ran y trydydd sector a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu—mae cymaint o gynlluniau Llywodraeth Cymru, er enghraifft, i fynd i'r afael â thlodi ac ati, sydd mor allweddol, gan y trydydd sector hwn. Felly, beth ydy'r cynllun gan Lywodraeth Cymru os nad ydy'r diffiniad yn newid?
Wel, wrth gwrs, Lywydd, fy mwriad, gyda fy nghyd-Aelodau, yw defnyddio’r arian ychwanegol sydd gennym i allu parhau i gefnogi’r trydydd sector a sefydliadau eraill y gallwn eu hariannu yng Nghymru. Rwy’n hyderus y byddant yn cael arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid ichi aros i gael cyllideb ddrafft i weld yn union faint, ac yna bydd yn rhaid i'r sefydliadau hynny, fel unrhyw sefydliad arall, edrych ar y gofynion y mae'n rhaid iddynt eu bodloni a sut y maent yn blaenoriaethu'r cyllid sydd ar gael iddynt. Ond bydd y ffaith y bydd gennym £1 biliwn nad oedd gennym cyn 30 Hydref yn golygu y bydd y sectorau hynny'n cael budd o hynny, hyd yn oed os oes ganddynt, ar yr un pryd, gostau ychwanegol y mae angen iddynt eu talu.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer yr arian ychwanegol a ddyrannwyd iddi yng nghyllideb Llywodraeth y DU? OQ61848
Lywydd, bydd y blaenoriaethau gwariant ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael eu nodi yn y gyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr.
Diolch am yr ateb byr hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o’r blaenoriaethau y mae pobl yn fy etholaeth i, ac yn wir, cymunedau ehangach Conwy a sir Ddinbych, am ei weld ar eich rhestr yw darparu ysbyty cymunedol newydd ar gyfer pobl gogledd sir Ddinbych. Mae wedi cael ei addo ers tro, ond hyd yma, yn anffodus, ni fu digon o gynnydd ar gyflawni’r addewid hwnnw. Mae 11 mlynedd ers eich cyhoeddiad y byddai ysbyty newydd yn agor gyda gwelyau ychwanegol i fynd â pheth o'r pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd i lawr y ffordd. Pryd y gall pobl ddisgwyl gweld cyhoeddiad ar y cyllid sydd ar gael i gyflawni’r prosiect hwnnw, fel y gallwn fynd ati i ymdrin unwaith ac am byth â rhywfaint o’r pwysau acíwt ar safle ein hysbyty acíwt?
Wel, Lywydd, rwy’n cydnabod y rhwystredigaeth y mae Darren Millar yn ei mynegi, yn union fel rwy'n cydnabod ei gysondeb yn dadlau’r achos dros y buddsoddiad hwnnw. Fe fydd yn gwybod, yn yr 11 mlynedd ers imi allu nodi’r gwaith hwnnw gyntaf fel rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno ei gefnogi, fod yr 11 mlynedd hynny wedi bod yn 11 mlynedd o gostau cynyddol a llai o adnoddau, sy'n golygu, erbyn i'r achos busnes llawn diwethaf gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2021, fod y costau wedi codi i dros £100 miliwn.
Fodd bynnag, dau ddarn o newyddion gwell i’r Aelod: yn gyntaf oll, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo, a gwn y bydd yn ymwybodol o hyn, gan fod amrywiaeth eang o bartneriaid wedi bod ynghlwm wrtho, i adolygu cwmpas y datblygiad ac i nodi ffordd realistig ymlaen. Bydd y cynllun, rwy’n siŵr, yn ceisio cymorth gan gronfa cyfalaf iechyd Llywodraeth Cymru a chan y gronfa gyfalaf ailgydbwyso sydd gennym rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn disgwyl y bydd yr achos busnes hwnnw’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei ystyried yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, dyna un darn o—. Rwy'n gobeithio y byddwch yn meddwl bod hynny'n newyddion da, ei bod yn ymddangos bod gennym ddyddiad ar gyfer gweld y cynllun newydd hwnnw. A'r ail ddarn o newyddion da yw, gyda £235 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gael i ni yng Nghymru y flwyddyn nesaf, bydd anghenion y gwasanaeth iechyd yn bendant iawn yn fy meddwl wrth imi gael trafodaethau ar draws Llywodraeth Cymru gyfan, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweld, o gymharu â’r hyn rydym wedi’i gael, cynnydd sylweddol yn y cyfalaf sydd ar gael i’r GIG yng Nghymru, fel y gellir bwrw ymlaen â chynlluniau fel yr un yn Ysbyty Brenhinol Alexandra.
Mae llawer ohonom dros y blynyddoedd, gan gynnwys arweinydd y cyngor Jason McLellan, yr aelod o'r cabinet Elen Heaton, a’r aelod lleol Barry Mellor, wedi bod yn lobïo am fuddsoddiad yn Ysbyty Brenhinol Alexandra. Roeddwn yn falch o fynychu cyfarfod gyda’r bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf a chlywed bod cynigion wedi’u diweddaru fel y gellir mynd i’r afael â’r angen gofal iechyd cymdeithasol, ynghyd â’r uned mân anafiadau, a dywedwyd wrthyf y bydd cynllun wedi’i gostio’n llawn yn cael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf i’r bwrdd iechyd ac i Lywodraeth Cymru. Ond gwn na ellir cyflawni hyn heb y cyllid y bûm yn galw'n gyson amdano, a diwedd ar y cyni Torïaidd sydd wedi amddifadu Cymru o gyllid, ac roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth y DU yn deall hyn ac yn awyddus i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa wahaniaeth y bydd y £553 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol—250 gwaith yn fwy na Llywodraeth flaenorol y DU—yn ei wneud i sicrhau y bydd prosiectau fel yr un hynod bwysig hwn yn mynd yn eu blaenau?
Diolch i Carolyn Thomas, ac rwy'n cydnabod bod y datblygiad hwn wedi bod yn un sydd wedi cael cefnogaeth eang iawn gan ein hawdurdodau lleol, yn ogystal â’r bwrdd iechyd ei hun. Nid gyda'r gefnogaeth i’r cynllun y mae'r rhwystredigaeth wedi bod; mae’r rhwystredigaeth wedi bod ynghylch y diffyg adnoddau inni allu bwrw ymlaen â chymaint o’r buddsoddiadau angenrheidiol ledled Cymru. Bydd y cynnydd mewn cyfalaf y flwyddyn nesaf yn ein galluogi i ddechrau mynd i'r afael â'r ôl-groniadau sydd wedi cronni dros y cyfnod o gyni, a bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol yn y cynlluniau sydd bellach yn aeddfedu ar gyfer y ddarpariaeth gymunedol a'r rhyngwyneb rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ar safle'r Rhyl ac mewn cymaint o agweddau eraill ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Clywsom yn gynharach gan Peter Fox, a wnaeth bwyntiau cwbl deg am y galw ar awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth. Ym mhob man yr edrychwch chi yng Nghymru, mae 14 mlynedd o fod heb y buddsoddiadau sydd eu hangen arnom wedi gadael gofynion na allwn eu bodloni mewn un flwyddyn. Ond y flwyddyn nesaf, yn sicr, byddwn yn gallu dechrau ar y daith honno mewn ffordd na ellid ei dychmygu yn ôl ym mis Mawrth.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ61835
Diolch, Joyce Watson. Mae cyllideb y DU yn rhoi hwb mawr ei angen i bobl sy'n gweithio ac yn cymryd y camau cyntaf i ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar Gymru, gan gynnwys darparu £25 miliwn tuag at ddiogelwch tomenni glo a chynnydd o £1.7 biliwn yn ein setliad dros ddwy flynedd ariannol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, roedd derbyn y setliad gorau a gawsom erioed yn dda i ni. Dywedodd Gweinidog y DU y bydd y gyllideb yn galluogi buddsoddiad mewn ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill, er enghraifft. Ysgrifennydd y Cabinet, heb ddatgelu gormod—oherwydd rwy'n gwybod na wnewch chi—a ydych chi'n gallu rhoi unrhyw fanylion i ni am y gwahaniaeth y gallai'r symiau canlyniadol ei gael ar addysg yma yng Nghymru, yn enwedig ar y sector anghenion dysgu ychwanegol?
Diolch i Joyce Watson am hynny. Rhoddais un enghraifft yn unig iddi o'r materion Cymreig penodol yn y gyllideb y mae hi ei hun wedi tynnu sylw atynt yma ar sawl achlysur ar lawr y Senedd. Mae yna rai eraill hefyd; mae buddsoddiad y porthladd rhydd Celtaidd, a'r prosiect hydrogen yn Aberdaugleddau, yn ddim ond dau yn ardal uniongyrchol yr Aelod ei hun, ar ben yr holl fuddsoddiadau y mae'r Aelod wedi'u nodi mewn perthynas â gofalwyr, a gofalwyr di-dâl hefyd.
Ar addysg, o fy sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, rwy'n ymwybodol iawn o'r cynnydd rhyfeddol yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae cyllid wedi cael ei ychwanegu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, ond mae'r alwad am y cymorth ychwanegol hwnnw wedi bod yn llawer uwch nag amcangyfrifon blaenorol o beth fyddai'r alwad honno. Felly, yn fy sgyrsiau gyda hi wrth baratoi'r gyllideb, mae'r galwadau newydd hynny wedi cael eu nodi'n amlwg ganddi.
O ran cyfalaf y soniodd Joyce Watson amdano, wrth gwrs, yma yng Nghymru, mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn golygu ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn, bron i ddegawd i mewn i'r rhaglen honno, nag y mae ysgolion yn Lloegr yn ei wynebu. Ond o'r pwyntiau a wnaethpwyd i mi gan Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol wrth imi eu cyfarfod dros yr wythnosau diwethaf, rwy'n ymwybodol o'r broblem gydag atgyweirio ar lefel ysgol—nid ysgolion newydd nawr, ond cadw adeiladwaith presennol adeiladau ar y safon y mae angen iddynt fod. Ac ar yr ochr gyfalaf, mae hynny hefyd wedi bod yn rhan fawr iawn o fy sgyrsiau gyda Lynne Neagle.
Yn dilyn un o'ch atebion yn gynharach, un o ganlyniadau niweidiol cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU oedd y codiad i'r yswiriant gwladol i elusennau a chyrff trydydd sector. Mae ffigurau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y bydd y cynnydd treth blynyddol cyfartalog i gyflogwyr yn fwy na £800 y gweithiwr. Gyda thua 134,500 o bobl yn gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, hyd yn oed gyda gwaith rhan-amser, byddai hyn yn awgrymu cynnydd o oddeutu £100 miliwn y flwyddyn ym mil yswiriant gwladol y sector. Fel y dywed llythyr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru atoch:
'Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn gweithredu o dan gyfyngiadau ariannol tynn ac yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu gwasanaethau hanfodol ochr yn ochr â’r sector cyhoeddus, ond dim ond cyflogwyr y sector cyhoeddus sy’n mynd i gael eu had-dalu am y costau cynyddol hyn.
'Mae’r cynnydd hwn...yn gost newydd sylweddol na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.'
Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn, felly beth, os o gwbl, y byddwch chi'n ei ddarparu i'r sector elusennol i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn a lliniaru'r polisi annoeth hwn?
Roedd y Canghellor yn wynebu twll du gwerth £22 biliwn yn yr incwm a oedd ganddi ar gael iddi a'r gwariant a oedd eisoes wedi'i ymrwymo gan y Llywodraeth Geidwadol a oedd yn gadael. Mae'r twll du £22 biliwn hwnnw yn cyfateb bron yn union i'r toriad treth anghyfrifol yn y cyfraniadau yswiriant gwladol gan y Canghellor blaenorol. Felly, y broblem sy'n wynebu'r sectorau yma yng Nghymru yw gwaddol y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth flaenorol honno. Rwyf eisoes wedi ateb cwestiynau y prynhawn yma, Lywydd, am y camau y gobeithiaf y gallwn eu cymryd i gefnogi'r sectorau y mae'r penderfyniad hwnnw'n effeithio arnynt, ac nid wyf yn credu bod unrhyw beth pellach y gallaf ei gynnig i'r Aelod y prynhawn yma.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i ddiwygio ardrethi busnes? OQ61841
Diolch i Luke Fletcher am hynny. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyflawni'r diwygiadau a gyhoeddwyd ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn gwneud gwelliannau sylweddol, gan gynnwys ailbrisiadau amlach, camau i fynd i'r afael ag osgoi trethi, ac o'r flwyddyn nesaf ymlaen, pŵer i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Gwrandawais â diddordeb mawr ar y dadleuon ar draws y Siambr yn gynharach yn y sesiwn hon. Rwy'n cymryd pwynt Ysgrifennydd y Cabinet nad yw hanner busnesau Cymru yn talu ardrethi busnes, ond nid wyf yn siŵr a yw hynny'n amharu ar botensial amrywio'r lluosydd ar gyfer ardrethi busnes, oherwydd, hyd y gwelaf, yr hyn y gallai'r lluosydd ei wneud yw symud baich pwy sy'n talu'r ardrethi busnes hynny, ac a ydynt yn talu digon o gyfran o'r pot cyffredinol ai peidio. Os edrychwn ar hynny, a'n bod yn newid y baich hwnnw, mae potensial yno i ryddhau rhywfaint o'r arian a ddefnyddiwn er mwyn i ryddhad ardrethi busnes gael ei fuddsoddi mewn mannau eraill. A yw'n deg dweud hynny? Wrth ragweld y bydd y Llywodraeth yn ennill y gallu i ddefnyddio'r pwerau yn y Ddeddf cyllid llywodraeth leol, pa waith paratoi sy'n cael ei wneud yng nghyd-destun diwygio'r system yn ehangach?
Diolch i Luke Fletcher am hynny, ac rwy'n ymddiheuro bod fy amser wedi dod i ben cyn ateb y pwynt a wnaeth yn y ddadl a gawsom ar y materion hyn yr wythnos diwethaf. Mae'n hollol gywir, dyna'n union sut y mae'r lluosydd yn gweithredu: mae'n symud baich ardrethi busnes o fusnesau llai i fusnesau mwy.
Yr hyn sy'n eich wynebu yng Nghymru yw bod patrwm ein busnesau'n wahanol iawn i'r patrwm yn Lloegr. Yno, mae'n llawer haws symud y baich i gyflogwyr mawr iawn, gan fod nifer y cyflogwyr mawr iawn yn Lloegr yn wahanol iawn i nifer y cyflogwyr mawr yn economi Cymru. Y gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru yw £19,000, a'r cyfartaledd yn Lloegr yw £34,000. Mae strwythurau ein heconomi yn golygu nad oes modd defnyddio rhai o'r ysgogiadau polisi sydd ar gael dros y ffin mor hawdd yma yng Nghymru.
Nid yw hynny'n golygu na ellir eu defnyddio o gwbl, a dyna pam y mae'r pwerau yn Neddf 2024 yn bwysig. Yn ystod hynt y Ddeddf honno, aethom ati i ymgynghori ar unrhyw gynigion i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol yma yng Nghymru, felly mae gwaith yn mynd rhagddo ar fapio beth fyddai effaith symud i'r cyfeiriad hwnnw. Ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau y bydd pa bynnag gynigion a ddaw gerbron yn ddarostyngedig i'r ymgynghoriad llawn yr oedd y Senedd yn awyddus i'w weld yn ystod hynt y Bil hwnnw.
Rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedwyd eisoes, ond mae'r newidiadau arfaethedig hyn i ardrethi busnes yng Nghymru wedi cael eu gyrru gan Lywodraeth Lafur Cymru sydd eisoes wedi torri rhyddhad busnesau bach o 75 y cant i 40 y cant, ac o ganlyniad, mae busnesau bach teuluol fel ein tafarndai a'n bwytai lleol bellach yn talu ardrethi sydd gryn dipyn yn uwch na'u cymheiriaid yn Lloegr, fel rydych chi wedi'i ddweud. Rwyf wedi siarad â llawer o berchnogion busnes sy'n teimlo'r straen ac yn credu nad yw'r Llywodraeth hon yn deall nac yn malio am fusnes. Y mentrau hyn yw asgwrn cefn ein cymunedau. Fel y dywedoch chi, nid oes rhaid i rai dalu ardrethi busnes, ond er hynny, mae yna lawer sy'n gwneud. Felly, fel rhan o'r diwygiadau honedig hyn, a wnewch chi ymrwymo heddiw y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ystyried adfer y rhyddhad o 75 y cant i fusnesau bach yng Nghymru, i'r rhai sy'n dal i gael eu heffeithio?
Rwyf eisoes wedi dweud nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i'w adfer. Rydym yn buddsoddi £78 miliwn ychwanegol eleni i ddarparu pumed flwyddyn olynol o gefnogaeth dros dro i'r sectorau hynny. Dywed yr Aelod nad yw 'rhai' busnesau yn talu ardrethi busnes—nid yw 50 y cant o fusnesau yn talu unrhyw ardrethi busnes yng Nghymru. Nid 'rhai' yn unig mohono; nid yw bron eu hanner yn gwneud hynny. Ac o'r rhai sy'n gwneud, mae 30 y cant arall—mwy na 30 y cant—yn cael help, ar raddfa gynyddol, gyda'r biliau hynny. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym yn buddsoddi dros £300 miliwn o arian trethdalwyr i ddarparu rhyddhad i fusnesau yma yng Nghymru. Rydym yn falch o'i wneud, oherwydd mae'n caniatáu i'r busnesau hynny greu'r amodau y gallant fod yn llwyddiannus ynddynt. Ond nid yw'r syniad fod busnesau yng Nghymru yn cael cam gan y system sydd gennym yn dal dŵr.
6. Sut y mae polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau yn ne-ddwyrain Cymru? OQ61847
Diolch i Peter Fox. Rydym yn canolbwyntio ar gadw ein trethi'n glir, yn syml ac yn sefydlog. Drwy hyn a phethau fel ein pecyn cymorth ardrethi annomestig, rydym yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi busnesau yng Nghymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn bo hir, bydd y Senedd hon yn gwneud gwaith craffu ar yr ardoll twristiaeth yma yng Nghymru—dimensiwn newydd i'ch polisi trethiant, os caiff ei basio. Fel y gwyddoch, mae fy nghyd-Aelodau a minnau yn gwrthwynebu gweithredu ardoll o'r fath yn gryf, a gwn fod gan fusnesau ledled Cymru bryderon dwfn ynghylch ei heffaith. Nid ydynt hwy na ninnau'n credu y bydd yn cefnogi'r diwydiant—i'r gwrthwyneb, credwn y bydd yn niweidio ein heconomi.
Rydym yn gwybod mai awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am reoli'r ardoll hon. Fodd bynnag, yn rhy aml, gwelwn gynghorau'n cael eu gorfodi i ddibynnu ar godi refeniw i wneud iawn am bwysau cynyddol nad yw'r setliad llywodraeth leol bob amser wedi bod yn ddigon i fynd i'r afael ag ef. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, os caiff y dreth hon ei chyflwyno, pa fesurau diogelwch y gellir eu rhoi i'r sector twristiaeth y caiff ei defnyddio fel buddsoddiad ychwanegol ac nid ei sianelu i gefnogi gwasanaethau eraill sy'n ei chael hi'n anodd?
Edrychaf ymlaen at ddod â'r Bil ardoll ymwelwyr i lawr y Senedd. Rwy'n anghytuno'n llwyr â safbwynt y Blaid Geidwadol; mae'n ffordd o ymdrin ag effaith twristiaeth yn y rhannau o Gymru sy'n dibynnu fwyaf arni sy'n helpu i sicrhau bod y lleoedd hynny'n dal ati i fod yn ddeniadol i ymwelwyr yn y dyfodol. Ar draws y byd, mae hyn wedi cael ei ddefnyddio ac nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn arwain at effaith niweidiol, oherwydd bydd yr arian a godir yn cael ei ailfuddsoddi i sicrhau bod y pethau sy'n dod â thwristiaid i ardal yn parhau i fod ar gael iddynt. Pan gyflwynir y Bil, bydd yr Aelod yn gweld ei fod yn defnyddio diffiniad a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol sy'n dewis cael ardoll ymwelwyr—. Oherwydd nid gweinyddu'r ardoll yn unig fydd awdurdodau lleol, mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a yw hwn yn offeryn defnyddiol yn eu harfogaeth ai peidio. Mae'n rhan o ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddatganoli nid yn unig i Gymru ond o fewn Cymru. Bydd y ffordd y caiff yr arian a gesglir gan ardoll ymwelwyr ei ddefnyddio hefyd yn destun ymgynghoriad blynyddol gyda busnesau twristiaeth yn yr ardal honno. Felly bydd gan y busnesau dan sylw lais uniongyrchol yn y ffordd y caiff y refeniw hwnnw ei ddefnyddio. Os ydynt yn dewis ei godi, rwy'n hyderus y bydd ein hawdurdodau lleol yn defnyddio'r arian mewn ffyrdd sy'n gwneud y diwydiant, sy'n bwysig iawn yn nifer o'n hawdurdodau lleol yng Nghymru, yn ddiwydiant sy'n parhau i fod yn llwyddiannus ac yn ddeniadol i'r dyfodol.
7. Ydy'r Llywodraeth yn bwriadu diweddaru Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 i ymgorffori ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn dilyn argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg? OQ61833
Diolch yn fawr, wrth gwrs, am y cwestiwn, Llywydd. Rŷn ni wrthi’n llunio ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar hyn o bryd. Pan fyddwn ni’n adolygu 'Cymru’r Dyfodol', byddwn ni’n ystyried pob tystiolaeth, gan gynnwys argymhellion y comisiwn.
Ddoe, wrth drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg a'i rôl hi mewn datblygu polisi, fe wnes i grybwyll pwysigrwydd sicrhau nad yw un agwedd o waith polisi'r Llywodraeth yn tanseilio gwaith polisi arall.
Un arall o'r meysydd lle mae potensial am wrthdaro mawr yw gyda'r cynllun datblygu cenedlaethol 'Cymru'r Dyfodol', a'r gwaith o ddatblygu cynlluniau datblygu strategol drwy'r cydbwyllgorau corfforedig. Byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth ailystyried yr egwyddorion sydd yn gyrru'r gwaith, oherwydd bod peryg i'r cynlluniau strategol rhanbarthol filwrio yn erbyn gwaith polisi pwysig sy'n digwydd drwy'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a hefyd ym milwrio yn erbyn cynllun Arfor, sydd yn uno ardaloedd gorllewin ein gwlad.
Beth, felly, ydy'ch gweledigaeth chi, fel Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg, o safbwynt yr ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uchel, a beth ydy'ch gweledigaeth chi ar gyfer Arfor 3, sef y cam nesaf synhwyrol i'w gymryd efo'r cynllun arloesol hwn?
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Llywydd, fe wrandawais i'n ofalus ar y pwyntiau roedd hi wedi'u gwneud yn y ddadl ddoe, a dwi'n barod wedi siarad gyda swyddogion y bore yma i gael mwy o gyngor ar y pwynt roedd hi'n codi am ble mae un polisi yn gwrthdaro â pholisïau eraill. So, diolch yn fawr am godi'r pwyntiau yna.
Rŷn ni'n aros, fel dwi'n siŵr mae Siân Gwenllian yn gwybod, am adroddiad penodol oddi wrth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn y maes cynllunio, a oedd yn rhan o gam cyntaf y comisiwn, ond maen nhw wedi penderfynu rhoi adroddiad ar wahân i ni ym mis Rhagfyr, gobeithio, am eu hargymhellion nhw yn y maes cynllunio. So, fe allwn ni ddefnyddio hwnnw. A'm huchelgais i yw defnyddio'r profiadau rŷn ni wedi'u cael yn barod gydag Arfor 1 ac Arfor 2 i adeiladu ar rai o'r argymhellion yn yr adroddiad rŷn ni wedi'i weld yn barod a gafodd ei lansio yn yr Eisteddfod. Dwi'n edrych ymlaen at ddod yn ôl at lawr y Senedd yn y flwyddyn nesaf gydag ymatebion y Llywodraeth i bob un o'r argymhellion yn yr adroddiad cyntaf, ac ystyried y pwyntiau mae Siân Gwenllian wedi'u codi y prynhawn yma drwy'r broses o ymateb i'r argymhellion.
Yn olaf, cwestiwn 8, Rhys ab Owen.
8. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei gael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a gyda awdurdodau lleol ynglŷn a hybu y Gymraeg ymysg pobl o leiafrifoedd ethnig? OQ61830
Llywydd, yn ogystal â’n gwaith ledled Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg i helpu sicrhau ei bod yn iaith i bawb, rydyn ni’n gofyn i bob awdurdod lleol roi gwybodaeth yn eu hadroddiadau blynyddol cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar sut maen nhw’n hyrwyddo’r Gymraeg ymysg cymunedau ethnig lleiafrifol.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Pam oeddwn i'n mynychu ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd yn y 1990au, un plentyn o leiafrif ethnig oedd yn y flwyddyn o 70 o blant, ac un teulu Mwslemaidd mewn ysgol o dros 400 o blant. Nawr, mae pethau wedi gwella, ond mae lot fawr i'w wneud o hyd, ac rŷn ni'n sicr yn methu denu plant o gartrefi lle nad y Gymraeg a'r Saesneg yw'r iaith gyntaf—mae hynny'n amlwg pan rŷch chi'n mynd i ymweld ag ysgolion yng Nglan yr Afon a Threganna.
Nawr, dwi wedi gofyn cwestiwn tebyg i chi yn ddiweddar, ond mae'r ffigurau gyda fi nawr, a'r ffigurau ar draws Cymru—2.5 y cant o blant o gartrefi lle nad ydy'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf sy'n cael addysg Gymraeg. Tynnwch mas Gwynedd ac mae'n syrthio lawr canran arall i 1.6 y cant. Dyw'r rhain ddim yn ffigurau bach, chwaith, o ran nifer y plant—1.6 y cant o blant o gartrefi lle nad ydy'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf sy'n derbyn addysg Gymraeg. Rwy'n siŵr ein bod ni'n deall beth yw'r rheswm—mae'r rhieni eisiau i'w plant siarad Saesneg, ond mae hynny'n bosib trwy addysg Gymraeg. Rŷn ni'n gwybod hynny. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i wneud ymgyrch penodol i ddenu plant o leiafrifoedd ethnig i addysg cyfrwng Cymraeg? Diolch yn fawr.
Wel, Llywydd, dwi'n cytuno gyda Rhys ab Owen am y pwysigrwydd o dynnu mwy o blant mas o gymunedau BAME i mewn i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n cofio yn y flwyddyn gyntaf o Ysgol Treganna, doedd neb, neb o gwbl, o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn yr ysgol, a nawr mae'r ysgol yn hollol wahanol.
Dwi eisiau gweld mwy o bosibiliadau i dynnu pobl i mewn, a'r ffordd i'w wneud e, dwi'n meddwl—un o'r ffyrdd i'w wneud e—yw trwy ddefnyddio'r profiadau rŷn ni wedi'u cael nawr yn barod gyda theuluoedd o'r cymunedau yna, i esbonio i bobl eraill—word of mouth, fel rŷn dweud yn Saesneg—a'u perswadio nhw fod plentyn sy'n mynd i ysgol lle mae'r addysg yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs yn deall, ac yn dysgu Saesneg ar yr un pryd, ond nawr maen nhw'n gallu siarad Cymraeg hefyd.
So, rŷn ni wedi llwyddo, ond ddim wedi gwneud digon eto. Ond nawr, gyda'r teuluoedd sydd wedi cael y profiad yn barod, rŷn ni'n gallu defnyddio popeth y maen nhw wedi'i weld, a phopeth maen nhw wedi'i ddysgu, a'r profiadau maen nhw wedi'u cael, i berswadio pobl eraill.
Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 2 fydd y cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith amddiffyn rhag llifogydd parhaus yn y Mwmbwls? OQ61826
Gwnaf. Mae cynllun adeiladu'r rhaglen rheoli risg arfordirol yn y Mwmbwls yn mynd rhagddo'n gyflym. Mae'r awdurdod rheoli risg wedi cadarnhau y bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill 2025.
Diolch yn fawr am y diweddariad, Ddirprwy Brif Weinidog. Mae'r gwaith hwn ar ddiogelu arfordir y Mwmbwls i'w groesawu'n fawr, ac mae ei angen yn fawr i ddiogelu'r pentref, ymhell i'r dyfodol gobeithio. Nid oes angen egluro atyniad ac apêl y Mwmbwls. Rwy'n credu bod llawer ohonom yn deall hynny. Ond hefyd yr hyn sy'n gwneud y Mwmbwls yr hyn ydyw yw'r busnesau lleol sy'n ffynnu ac yn gweithredu yn y pentref. Ond mae'r gwaith wedi achosi tarfu sylweddol iddynt yn yr ystyr fod yna lai o lefydd parcio a llai o ymwelwyr yn ystod y misoedd diwethaf. Siaradais â chynghorwyr lleol y Mwmbwls, Francesca O'Brien, Will Thomas ac Angela O'Connor, sy'n dweud wrthyf nad yw'r busnesau hynny'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi tra bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, ac nid ydynt wedi cael unrhyw gymorth ariannol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi edrych ar y cymorth sydd ar gael i gefnogi busnesau sy'n dioddef tarfu ar eu busnes pan fydd gwaith fel yr amddiffynfeydd llifogydd hyn yn digwydd?
Diolch, mae'n bwynt pwysig iawn, ac rydych chi, fel fi, sy'n caru'r Mwmbwls, yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn, a'i gael wedi'i wneud mewn modd amserol hefyd. Mae'n waith sylweddol ac mae'n achosi tarfu i ryw raddau. Yn wir, rydym yn deall bod yr awdurdod rheoli risg a'r contractwyr wedi cydnabod effaith y gwaith adeiladu o fewn y gymuned, ac maent yn gweithio gyda'r swyddog cyswllt cymunedol i geisio lleihau'r effeithiau.
Nawr, mae'r gwaith adeiladu wedi'i raglennu i geisio lleihau'r effaith ar fusnesau lleol, hyd yn oed a derbyn fy sylwadau yno eu bod yn cydnabod bod yna effaith, a hefyd i leihau'r effaith ar breswylwyr. Felly, dywedir wrthyf fod mynediad at fusnesau yn parhau i fod ar agor drwy gydol y gwaith adeiladu, a chaiff danfoniadau eu rhaglennu hefyd i leihau tarfu ar weithrediad y busnesau hynny. Dywedir wrthyf fod y contractwyr hefyd yn darparu sesiynau galw heibio misol i fusnesau ac i breswylwyr, ond hoffwn annog unrhyw drigolion neu fusnesau i gymryd rhan yn y sesiynau galw heibio rheolaidd hyn ac i fwydo'u safbwyntiau trwy'r awdurdod rheoli risg ac i'r contractwyr.
Ond os caf ddweud yn ogystal, Tom, fel chi—roedd hi'n dda clywed eich bod chi'n croesawu'r gwaith sy'n digwydd oherwydd mae ei angen yn fawr. Mae'n diogelu 126 eiddo ar gost o £26.5 miliwn, gydag 85 y cant yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Fel y gwyddoch chi a minnau, mae iddo fanteision ehangach, yn cynnwys adfywio mannau agored cyhoeddus hyfryd ar yr arfordir a'r amcanion, wrth gwrs, yw rhai Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, anogwch eich etholwyr i barhau i fwydo eu safbwyntiau am unrhyw darfu, ond rwy'n clywed bod y contractwr a'r awdurdod rheoli risg yn awyddus iawn i'w leihau a gweithio gyda thrigolion a busnesau.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ffermio gwymon yng Nghymru? OQ61829
Mae diddordeb sylweddol mewn ffermio gwymon yng Nghymru at amryw o ddibenion. Rydym yn cefnogi twf a arweinir gan ddiwydiant y sector dyframaeth a byddem yn croesawu unrhyw gynigion gan ddiwydiant sy'n sicrhau twf yn ein cymunedau arfordirol gan gydymffurfio â pholisïau cynllun morol cenedlaethol Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae'r farchnad wymon fyd-eang yn werth dros £7 biliwn ac mae ganddi gyfradd twf flynyddol o tua 12 y cant. Fe'i defnyddir fwyfwy mewn cynhyrchion bwyd, bwyd anifeiliaid, colur, biodanwydd, bioblastigau a gwrtaith, ond er gwaethaf ein potensial yn y DU i dyfu a chynaeafu gwymon, rydym yn dibynnu'n fawr ar wymon wedi'i fewnforio o Asia, sy'n 95 y cant o gyfanswm y cyflenwadau. Mae ffermio gwymon yn cael ei lesteirio yn y DU am nad oes digon o gyflenwadau hadu, problemau logistaidd a diffyg cyfleusterau prosesu, sy'n atal twf posibl y diwydiant.
Mae ardal y cynllun morol o amgylch Cymru yn 32,000 km sgwâr, ac mae 50 y cant ohoni'n addas ar gyfer tyfu lludwymon, ac mae potensial enfawr inni ddatblygu mentrau tyfu gwymon masnachol, yr amcangyfrifir y byddai'n werth dros £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Rwy'n cydnabod bod gwaith yn cael ei wneud ar helpu i gynhyrchu'r diwydiant hwn, ond mae'n llawer rhy araf ac mae angen inni weithredu. Mae angen i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, nodi cynllun cadarn a blaengar ar gyfer tyfu'r diwydiant hwn yng Nghymru. Pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld cynllun o'r fath yn cael ei gyflwyno? Diolch.
Diolch, Joel, ac rwy'n nodi eich bod yn hyrwyddo potensial y sector gwymon yn gyson i'r holl ddefnyddiau amrywiol hynny, sydd â photensial cyffrous iawn. Rydym wedi nodi bod diddordeb sylweddol ym manteision posibl ffermio gwymon, ond—ac mae'n 'ond' mawr, Joel—nid ydym eto wedi gweld hyn yn cael ei droi'n brosiectau hyfyw a chynigion masnachol. Ac wrth gwrs, mae angen inni allu dadansoddi hynny yng nghyd-destun yr amgylchedd morol ehangach a chynlluniau morol hefyd, pe baent yn cael eu datblygu.
Ond un peth a allai fod o gymorth ac y gallech chi ei annog, Joel, yw i bobl fwydo i mewn—. Byddaf yn nodi dull strategol o ymdrin â physgodfeydd a dyframaethu Cymru—drwy ddatganiad ysgrifenedig, Lywydd, gyda'ch cydsyniad chi—o fewn yr wythnosau nesaf. Felly, yn y cyfamser, rwy'n disgwyl i'n cyfeiriad yn y dyfodol aros fel rydym eisoes wedi'i nodi gyda chyflawni rheolaeth gynaliadwy wrth ei wraidd, a ffocws ar gyflawni cynlluniau rheoli pysgodfeydd a mesurau rheoli wedi'u haddasu. Mae angen i hyn i gyd gael ei gefnogi gan y wyddoniaeth ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid. Felly, byddwn yn parhau i gyflawni hyn yn unol â'n dyletswyddau statudol ar bysgodfeydd a dyframaethu. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd a mentrau i gefnogi'r diwydiant i ddatblygu a thyfu, ond mae angen inni weld y cynigion hynny'n cael eu cyflwyno a'u hyfywedd masnachol, a'u bod yn cyd-fynd â chynaliadwyedd ehangach yr amgylchedd morol.
Ar bwynt olaf, Joel, bydd ein rowndiau ariannu rheolaidd trwy gynllun môr a physgodfeydd Cymru yn cael eu cynllunio i danategu'r blaenoriaethau sy'n helpu i gyflawni'r canlyniadau yr ydym i gyd am eu gweld.
Yn ddiweddar, manteisiais ar y cyfle i ymweld â fferm wymon a physgod cregyn adfywiol Câr-y-Môr yn Nhyddewi—wel, nid yn Nhyddewi mewn gwirionedd; yn y dŵr oddi ar Dyddewi—ac maent yn mynd i adeiladu cyfleuster prosesu gwymon newydd, a hwn fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Fel y gwyddoch, mae gan wymon biosymbylyddion ac mae'n cynnwys sylweddau organig yn bennaf. Mae'r rhain yn ysgogi prosesau naturiol planhigion ar gyfer twf, blodeuo, ffrwytho a gwrthsefyll sychder, gwres ac oerfel. A allwch chi edrych ar y posibiliadau, ac fe sonioch chi am rai ohonynt, o gefnogi hyn fel ffordd o ffermio cynaliadwy? Oherwydd mae'r biosymbylyddion yn atebion amgen yn lle gwrteithiau a phlaladdwyr synthetig, felly maent yn bwydo i mewn yn dda i'r agenda ffermio cynaliadwy sydd gennych.
Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn mewn gwirionedd yw, mae treialon a phrofion yn cael eu cynnal arnynt ar hyn o bryd—oherwydd rydych chi'n iawn, mae hyfywedd y prosiect yn allweddol—ond a wnewch chi eu cefnogi i fynd drwy'r weithdrefn brofi honno, ac os yw mor hyfyw ag y gobeithiwn y bydd, gall gynnal ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol, a gall gynnal ffermio ar gyfer y dyfodol a thyfu ar gyfer y dyfodol hefyd?
Joyce, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw ac, unwaith eto, rwy'n cydnabod eich cefnogaeth barhaus i botensial y sector hwn ac yn enwedig i Câr-y-Môr. Ac yn wir, Câr-y-Môr, y fferm wymon fasnachol gyntaf yng Nghymru, wedi'i lleoli oddi ar Swnt Dewi yn Nhyddewi, yn ddiddorol iawn, mae'n gymdeithas budd cymunedol ac mae ganddi botensial cyffrous o ran cynhyrchu biowrtaith gwymon ac ychwanegion bwyd da byw, a photensial hynny i leihau methan hefyd. Felly, mae'n wirioneddol gyffrous, ond mae'n ddyddiau cynnar ac mae heriau o ran datblygu hyn.
Rwy'n deall y gall fod potensial hefyd i ddod â chynnyrch pysgod cregyn i'r farchnad ddomestig, gyda chapasiti cyfredol i brosesu oddeutu pedair tunnell y dydd o wymon ffres, ac maent yn awyddus i ehangu ymhellach. Felly, byddem yn bendant yn annog mentrau fel hyn. Mae heriau o ran cael y rhain yn weithredol a mynd â hwy o'r camau cynnar a'u tyfu. Ond rydym yn awyddus i gefnogi lle mae potensial, fel y dywedais yn fy ateb i Joel, i'w hannog a'u cefnogi i fynd heibio i'r rhwystrau hynny ac i dyfu yn y cyd-destun hwnnw yn ogystal â'r amgylchedd morol ehangach a chynlluniau morol hefyd. Felly, mae angen iddynt fod yn fasnachol hyfyw—rydym yn sicr yn eu hannog—a chyd-fynd â'n dull cynaliadwyedd ar gyfer pysgodfeydd ac amaethyddiaeth.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Mae'r risg a'r gost o fwy o law oherwydd newid hinsawdd yn codi'n ddiau, gyda digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn fwy aml. Y gaeaf diwethaf, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru 483 o rybuddion llifogydd—cynnydd o 16 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae gaeafau'r Deyrnas Unedig 10 y cant yn fwy gwlyb erbyn hyn.
Fodd bynnag, mae glaw cynyddol yn rhoi mwy o bwysau ar ein cronfeydd dŵr. Yn gynharach eleni, methodd Argae Rapidan yn sir Blue Earth, Minnesota, oherwydd llifogydd dwys, gan arwain at symud trigolion cyfagos ar frys. Yn yr un modd, yma yn y DU yn 2019, cafodd miloedd o bobl eu symud o Whaley Bridge oherwydd bod rhan o wal cronfa ddŵr wedi cwympo, a ddegawd yn ôl, bu'n rhaid symud pentref cyfan yng Ngwynedd oherwydd tirlithriad a achosodd grac mewn cronfa ddŵr gyfagos.
Nawr, mae llawer o sôn wedi bod am ddiogelwch tomenni glo, ac mewn gwirionedd, yr hyn rwy'n bryderus iawn yn ei gylch—. Gwelodd fy etholaeth fy hun drychineb ofnadwy yn Nolgarrog. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddoch chi drwy ddatganiad ysgrifenedig y byddwch chi'n cydweithio â Llywodraeth y DU i ddiwygio diogelwch cronfeydd dŵr. O gofio bod dros 20 o gronfeydd dŵr preifat a risg uchel yng Nghymru, pam na ddaeth hyn gerbron ein Senedd ni i'w graffu?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Janet. Mae diogelwch cronfeydd dŵr yn fater allweddol i Lywodraeth Cymru ac mae'r cyfle wedi codi i weithio gyda Llywodraeth y DU ar sail Cymru a Lloegr i adolygu tirwedd gyfan rheoleiddio cronfeydd dŵr ledled Cymru a Lloegr. Ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw oherwydd, lle mae ewyllys i weithio ar draws Llywodraethau ac i wneud yn siŵr fod gennym rywbeth sy'n addas i'r diben nawr ac i'r dyfodol, pan ydym, fel rydych chi'n gywir i ddweud, yn wynebu, nid yn unig glawiadau cynyddol ond llifogydd—. Wrth inni ystyried cyngor y Swyddfa Dywydd, rydym nid yn unig yn gweld lefelau cynyddol o law, ond glaw sy'n oedi dros ardaloedd, fel yr hyn a welsom yn ddiweddar, ond nid yn unig, yn y trychinebau sy'n datblygu yn Sbaen a rhannau eraill o ganolbarth Ewrop. Nawr, mae hyn yn achosi problemau mawr i'n holl seilwaith, gan gynnwys cronfeydd dŵr. Felly, rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn ar y cyd. Mae'n arwydd o'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu gan fod gennym Lywodraeth ar ben arall yr M4 bellach sy'n fodlon gweithio gyda ni yn ei gylch. Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd cyfleoedd, heb os, i'r Senedd hefyd ystyried y ffordd ymlaen. Rydym wedi dechrau ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ond byddwn yn sicrhau bod y cyfleoedd hynny yma hefyd, i'r pwyllgor, ac i Aelodau'r Senedd, Janet.
Nawr, amlinellodd y datganiad ysgrifenedig yr uchelgais i greu dull modern o reoli peryglon a diweddaru gwaith rheoleiddio a gorfodi. Fodd bynnag, mae pryderon o ran cyllid. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig 20 cronfa ddŵr risg uchel, ac maent eisoes wedi gwario £2.68 miliwn yn 2019-20, a £3.72 miliwn yn 2020-21 ar 10 yn unig, ac roeddent yn brosiectau diogelwch hanfodol. Ar gyfartaledd, mae hynny'n oddeutu £600,000 i bob cronfa ddŵr. O gofio'r costau syfrdanol a all fod yn gysylltiedig â gwneud ein cronfeydd dŵr yn fwy solet, a ydych chi'n cadw at eich sylwadau i'r Senedd y mis diwethaf fod angen i bob perchennog cronfa ddŵr breifat wybod nawr fod ganddynt y cyfrifoldebau hyn, a chyda hynny, yr atebolrwydd?
Diolch, Janet. Rwy'n cadw at hynny'n llwyr. Mae angen i unrhyw un sy'n berchen ar gronfa ddŵr ar eu tir, yn fawr neu'n fach, sy'n rhwym i'r rheoliadau fod yn glir iawn ynghylch eu cyfrifoldebau. Mae'n gyfrifoldeb beichus i ymgymryd â'r agweddau ar gynnal a chadw a diogelwch y cyhoedd o gael cronfa ddŵr ar eich tir. Nawr, dylai pob tirfeddiannwr fod yn ymwybodol o'r rheini—dylent fod yn ymwybodol ohonynt. Ond os nad ydynt, mae angen i chi a finnau, ac eraill, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, eu hysbysu'n uniongyrchol, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o hynny a'r hyn y mae hynny'n ei olygu. Oherwydd mae hwn yn fater sy'n ymwneud â mwy nag arian trethdalwyr cyhoeddus yn mynd tuag at yr asedau mawr sy'n cael eu rheoli mewn gwahanol rannau o Gymru a Lloegr, mae hefyd yn ymwneud â'r cwmnïau mawr, fel Dŵr Cymru ac eraill, sydd ag asedau cronfa ddŵr mawr. Maent yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd. Ond hefyd mae'n ymwneud â'r tirfeddianwyr llai hynny sydd â chronfeydd dŵr. Nodais gyda diddordeb yn ddiweddar fod hysbyseb am gronfa ddŵr ar werth—un y mae'r rhai ohonom yn ardal de Cymru yn eithaf cyfarwydd â hi. Fe'i cyflwynwyd fel cynnig eiddo tirol deniadol iawn. Byddem yn gobeithio—beth ydym ni'n eu galw yn y wlad hon; nid ydym yn eu galw'n asiantau eiddo tirol—[Torri ar draws.]—ie, yn wir—fod y bobl hynny sy'n gwerthu'r tir hefyd yn ei gwneud yn glir i'r darpar brynwyr eu bod yn ymwybodol o'r atebolrwydd sy'n dod yn sgil ymgymryd ag eiddo gyda chronfa ddŵr arno. Oherwydd mae cyfrifoldebau sylweddol ynghlwm wrth hynny.
Rwy'n ymwybodol o ddulliau trawsgludo lle nad ydynt, weithiau, bob amser yn hysbysu, pan fyddwch yn prynu tir, o'ch rhwymedigaethau mewn perthynas â chwlfertau, ffosydd a beth bynnag, ond hefyd gyda chronfeydd dŵr. Nawr, rhwng 2019 a 2021, gwariwyd £0.5 miliwn o arian trethdalwyr ar gronfeydd dŵr amddifad. Rwy'n gweld hyn yn ddiddorol, oherwydd mae'n fy rhyfeddu sut y gall pobl osgoi cyfrifoldebau, ac mae'r cronfeydd hyn yn cael eu hystyried yn gronfeydd dŵr amddifad. Mae'n fy mhoeni pam, o dan reolau'r Gofrestrfa Tir, na allwch chi ddod o hyd i bwy sy'n berchen arnynt. A hefyd, dim ond £20,000 sydd wedi'i ddyrannu i dîm rheoleiddio cronfeydd dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer eu gwaith mewn perthynas â'r cronfeydd dŵr preifat. Nid oes un geiniog o gefnogaeth i berchnogion cronfeydd dŵr preifat, er gwaethaf y costau a allai fod yn gysylltiedig, ac yn fwy na hynny, y risg sylweddol i gymunedau cyfan. Rwy'n credu y gallai'r sefyllfa hon fod yr un mor beryglus â diogelwch tomenni glo. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gydag oddeutu 20 o gronfeydd dŵr preifat yng Nghymru yn cael eu hystyried yn risg uchel, oni fyddai'n ddoethach mabwysiadu dull rhagweithiol nawr yn rhan o'r dull newydd ar gyfer cronfeydd dŵr y byddwch yn ei ddatblygu gyda Llywodraeth y DU, lle mae'r wladwriaeth a'r perchnogion preifat yn cydweithredu â'i gilydd? Nid yw'n rhywbeth y bydd tirfeddianwyr preifat yn ei wneud neu'n gallu ei wneud ar eu pen eu hunain. Ac yna mae gennym y cronfeydd dŵr amddifad, ac yna mae gennym gronfeydd dŵr eraill, sy'n eiddo i Dŵr Cymru a phethau felly. Felly, a ydych chi'n meddwl y gallech gael grŵp gorchwyl a—nid wyf yn hoffi 'grŵp gorchwyl a gorffen', ond tasglu, i wneud yn siŵr fod yna ddull cydlynol o ymdrin â hyn?
Diolch, Janet. Rwy'n poeni, Lywydd, na fydd gennym ddigon o bobl i lenwi'r grwpiau gorchwyl a gorffen hyn. Efallai na fydd gennym ddigon o ewyllys wych Gymreig i weithio gyda ni arno, mewn gwirionedd. Ond edrychwch, rwy'n derbyn y pwynt difrifol y tu ôl i hyn. Dyma'r union reswm pam ein bod yn mabwysiadu'r dull cydgysylltiedig hwn o edrych arno, oherwydd mae'r un materion, gyda llaw, yn digwydd dros y ffin, ar yr ochr arall i Glawdd Offa. Fel cyn-Weinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a oedd â chyfrifoldeb am y maes hwn, nefoedd, 15 mlynedd yn ôl erbyn hyn, rwy'n ymwybodol iawn ein bod yn wynebu'r un heriau. Felly, rwy'n credu mai'r gwaith rheoleiddio ar y cyd a wnawn yw'r ffordd iawn o'i wneud. Rwy'n edrych ymlaen, os yw'r Senedd neu'r pwyllgor yn edrych ar sut rydym ni'n ariannu hyn, at y syniadau a gaiff eu cyflwyno. Ond gadewch imi ei gwneud hi'n glir iawn: ni all hyn fod yn gyfrifoldeb i'r trethdalwr yn gyfan gwbl ac ni ddylai fod. Pe bawn yn berchen ar ddarn o dir gyda chronfa ddŵr arno, yn fawr neu'n fach, fy nghyfrifoldeb i fyddai hynny. Nawr, mae yna ffyrdd y gallwn helpu, wrth edrych ar hyn wrth symud ymlaen.
Y sicrwydd arall rwyf am ei roi, oherwydd mae yna berygl yn hyn, yn enwedig pan ydym wedi gweld rhai o'r digwyddiadau bron yn drychinebus mewn rhannau eraill o'r DU, yw rhoi'r sicrwydd fod Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau rheoli risg yn monitro cyflwr y cronfeydd dŵr hyn yn agos, felly nid ydym yn edrych ar berygl neu ddifrod sydd ar fin digwydd i unrhyw un o'r cronfeydd dŵr bach neu fawr hyn; maent yn asesu'r risg yn agos. Dyna pam ein bod yn gwybod, gyda llaw, lle mae'r peryglon, yr un fath â chyda thomenni glo—y gwaith a wnaethom o fewn Llywodraeth Cymru. Ond nawr mae angen inni edrych yn iawn ar, wel, sut i sicrhau bod y cyfrifoldebau a'r atebolrwydd sy'n dod o gael cronfa ddŵr ar eich tir—yn fawr a bach—yn cael eu hysgwyddo'n iawn. Ac rydych yn codi'r pwynt pwysig o ran cronfeydd dŵr amddifad, lle cânt eu gadael yn amddifad nid fel asedau ond fel atebolrwydd. Wel, mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ei ystyried hefyd, sut i ymdrin â hynny. Ac rwy'n edrych ymlaen at gael cyfle gerbron y Senedd neu gerbron pwyllgorau i gymryd rhan fwy manwl yn hyn.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Mae'r arwyddion rhybudd o chwalfa hinsawdd yn fflachio'n goch, gyda llifogydd, stormydd, tywydd poeth yn dwysáu. Mae arweinyddiaeth ar yr hinsawdd gan Gymru a'r DU yn fwy hanfodol nag erioed. Ond mae Trump, sy'n wadwr hinsawdd amlwg, ar fin dychwelyd, sy'n golygu bod y posibilrwydd y bydd yr Unol Daleithiau unwaith eto yn cefnu ar gytundeb Paris yn fawr iawn. Mae dadansoddwyr yn rhagweld y gallai agenda Trump bwmpio biliynau yn fwy o dunelli o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. Yn y cyd-destun hwnnw, mae addewid Keir Starmer i dorri allyriadau'r Deyrnas Unedig 81 y cant erbyn 2035 yn gam i'r cyfeiriad cywir. Rhaid ei weld fel llinell sylfaen nid terfyn, serch hynny. A allwch chi egluro, os gwelwch yn dda, pa sgyrsiau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU am yr addewid newydd hwnnw, ac yn hollbwysig, i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o lunio'r nod hwnnw? A allwch chi ein sicrhau bod anghenion penodol Cymru, ein safbwyntiau ni, yn cael eu hystyried wrth inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd brys, cynyddol frawychus hwn?
Gallaf, yn sicr. Diolch am godi hyn ar y llawr heddiw yng nghanol y cannoedd o sgyrsiau hinsawdd yr ydym yn eu cael ledled Cymru yr wythnos hon, gyda phobl ifanc, pobl hŷn, grwpiau cymunedol, busnes, masnach, academyddion ac ati. Rwyf wedi bod yn ddwfn yn y sgyrsiau hynny yr wythnos hon, ac mae cydnabyddiaeth ddifrifol ar draws cymdeithas ddinesig Cymru o'r ffordd y mae angen i ni, yn unigol ac ar y cyd, fel Llywodraeth a dinasyddion unigol, gamu i'r adwy fel y gallwn fynd i'r afael â'r hyn sydd eisoes wedi'i gloi i mewn yno, sef tua 1.5 gradd a gostwng hynny mewn gwirionedd, a gwneud yn siŵr y gallwn achub y blaen ar hyn. Ac fe allwn wneud hynny.
Roeddwn yn siarad â phobl ifanc, fel rhan o'n COP ni, os mynnwch, gyda phobl ifanc, yn y deml heddwch ym Mharc Cathays heddiw—cannoedd o blant ifanc o bob rhan o Gymru; mae digwyddiad arall yn Wrecsam yn ddiweddarach yr wythnos hon—ac maent yn ein gyrru ni, yn yr un ffordd, Delyth, ag y cefais y sgyrsiau hynny gyda Gweinidogion y DU i ddweud, 'Byddwn yn eich cefnogi i ddangos arweiniad, i fynd ymhellach.' Rwy'n falch iawn o weld hynny—. Rwy'n deall eich bod wedi ei ddisgrifio fel 'cam'; rwy'n credu ei fod yn newid sylweddol o'r hyn a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf, i ddweud toriad o 81 y cant mewn allyriadau, a bydd, fe fydd Cymru nid yn unig wrth y bwrdd gyda Gweinidogion y DU yn sicrhau bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn a wnawn. Rydym yn gwybod mai'r tair her fwyaf i ni yng Nghymru yw gweithgynhyrchu a diwydiant—ac rydym am gael gweithgynhyrchu a diwydiant, ond—eu helpu i bontio tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach; mae'n ymwneud â thrafnidiaeth, wrth gwrs, ac mae angen inni gyflwyno'r Bil bws hwnnw, mae angen inni fuddsoddi mewn rheilffyrdd ac mae angen inni fuddsoddi mewn cerdded a beicio hefyd a'r holl newidiadau eraill i ddulliau teithio; ac mae'n ymwneud ag amaethyddiaeth, a'r gwaith a wnawn gyda ffermwyr, nid i ffermwyr, fel y gallwn eu helpu i ymgorffori gwytnwch hinsawdd. Ond mae angen inni ostwng yr allyriadau. Rydym yn dawel hyderus ein bod ar y trywydd iawn i ddod â Chymru o fewn cyllideb garbon 2, o ran lle rydym arni, ond bydd cyllideb garbon 3, yr ydym eisoes yn gweithio arni—a bydd angen eich cefnogaeth i gyd arnom—fel Eryri o'i gymharu â'r bryn rwy'n ei gerdded ar y ffordd adref bob nos. Bydd yn llawer mwy serth.
Diolch am hynny ac am nodi'r her honno. Mae'n deg disgwyl, o ystyried yr ymrwymiad newydd hwn ar lefel y DU i gyflymu targedau allyriadau, y bydd hyn yn dod â mwy o gefnogaeth gan y Llywodraeth i bontio teg, ac rydych chi newydd egluro hynny. Nawr, mae hynny'n creu cyfle hanfodol inni fwrw ymlaen â'r holl uchelgeisiau a nodwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru wedi darparu llwybrau clir ar gyfer cyflawni sero net erbyn 2035. Nawr, fel rydych chi newydd ei amlinellu, bydd y Senedd yn penderfynu ar dargedau cyllideb garbon 4 cyn bo hir. Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn amlinellu ei strategaeth ar gyfer cyllideb garbon 3. Mae angen dybryd i Gymru gyflymu ochr yn ochr â hynny. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i fabwysiadu llwybrau Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2035 oherwydd yr ymrwymiad cyflymach sydd ei angen?
Diolch, Delyth. Roedd fy rhagflaenydd yn falch iawn, gyda chefnogaeth cyd-Aelodau, o sefydlu'r grŵp her 2035 hwnnw. Maent wedi gwneud gwaith gwirioneddol anhygoel. Ond maent hwy hyd yn oed yn cydnabod—ac rwy'n talu teyrnged i Jane Davidson am gadeirio hwnnw, ond hefyd yr holl unigolion a ddaeth â'u syniadau at ei gilydd—fod rhannau o'u cynigion i gyrraedd sero net 2035 a fydd yn hynod heriol nid yn unig i'r Llywodraeth, ond i unigolion. Felly, rydym yn mynd i roi ystyriaeth ddifrifol i bopeth sydd o fewn yr adroddiad hwnnw.
Ond o ran pontio teg, a dod â phobl gyda ni, rwy'n credu bod angen inni feddwl hefyd nid yn unig am y dystiolaeth wyddonol sy'n sail i sut y cyrhaeddwn yno, yn y data sy'n ysgogi lleihau allyriadau a datgarboneiddio ac yn y blaen, mae angen hefyd inni ddefnyddio'r gwyddorau ymddygiad a sut y down â phobl gyda ni, a lle mae'r ysgogiadau, rheoliadau a phethau eraill hynny yn ei gwneud hi'n hawdd i bobl wneud y dewisiadau cywir. Fe euthum y trên y diwrnod o'r blaen er mwyn mynd i'r Iseldiroedd—y trên, dyna ddewis; nid awyren, trên. Ond pan gyrhaeddais y trên yng Nghaerdydd y peth cyntaf yn y bore, fe brynais goffi o'r ciosg y mae pawb ohonom yn gwybod amdano yno. Euthum ar y trên, gyda'r coffi o'm blaen a dweud wrth y cyfaill a oedd yn teithio gyda mi, 'Edrychwch ar hwn. Pam y mae hwn yn bwysig?' Oherwydd ein bod ni yng Nghymru, gyda chefnogaeth dinasyddion yng Nghymru, wedi newid ein dull o ymdrin â phlastigau untro. Nid oedd unrhyw blastig ynddo. Roedd y cyfan yn ddeunydd brand, ailgylchadwy. Nid oedd yn rhaid imi feddwl am hynny; fe brynais baned o goffi, a dyna lle roedd Cymru'n gwneud gwahaniaeth. A yna lle mae'r neges yr wythnos hon hefyd, oherwydd mae'n wythnos yr hinsawdd, oherwydd bydd rhai o'r rhai sy'n gwadu newid hinsawdd yn dweud, 'Beth y gall Cymru ei wneud?' Wel, gallwn newid y byd. Mae'n rhaid inni ddangos arweiniad, dyna i gyd.
Yn sicr, gallwn newid y byd. Ac un o elfennau mwy tawel hynny o bosibl—elfen dawel o newid ein byd natur, ond elfen sydd serch hynny yn sylfaenol bwysig—yw mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Yn eich sesiwn ddiweddar gyda'r pwyllgor newid hinsawdd ar hyn, fe nodoch chi y gallai'r targedau bioamrywiaeth o dan y Bil llywodraethu amgylcheddol gymryd hyd at dair blynedd ar ôl i'r Bil gael ei basio. O ystyried ein bod yn disgwyl i'r Bil basio yn 2026, gallai hynny olygu oedi tan 2029. Nawr, mae hynny'n bryder difrifol oherwydd mae'r ddeddfwriaeth yn allweddol i gyfrifoldeb Cymru i atal colli bioamrywiaeth, ac ie, i newid byd natur. A chlywais rai o ran arall o'r Siambr yn chwerthin pan ddywedom hynny, ond dyna yn ei hanfod y ceisiwn ei wneud. A allwch chi ein sicrhau eich bod yn gweithio i fyrhau'r amserlen honno cymaint â phosibl, i ddechrau datblygu'r targedau hynny ochr yn ochr â hynt y Bil, fel y gallwn ateb her ddybryd gwrthdroi colli bioamrywiaeth erbyn 2030, oherwydd po hwyaf yw'r oedi, y mwyaf o golledion na ellir eu gwrthdroi a welwn, a'r mwyaf o bethau na fydd modd inni eu cael yn ôl yn ein byd natur?
Ie, Delyth, rydych chi'n hollol gywir. Ac mae adfer bioamrywiaeth yn mynd law yn llaw ag addasu i newid hinsawdd a gwytnwch. Mae'n rhaid inni wneud y ddau gyda'i gilydd. Cefais her sylweddol gan y pwyllgor hwnnw pan osodais ein hamserlen waith ar gyflwyno'r targedau'n gynharach. Mae sail resymegol iddo, ac rwy'n awyddus i'w rhannu gyda'r pwyllgor, ond rwyf hefyd yn awyddus i ddychwelyd o flaen y pwyllgor a gweld—a dyma'r cwestiwn a ofynnais i fy swyddogion—a allwn gyflymu'r cynnydd tuag at ddod â'r targedau'n gynharach, gan gael y targedau cywir a gwneud yn siŵr mai'r rheini yw'r targedau cywir a'u bod wedi'u seilio ar y dystiolaeth hefyd. Felly, gadewch inni barhau â'r drafodaeth honno. Roeddwn yn falch o'r ymateb, oddi wrthych chi a'r Cadeirydd ac eraill. Felly, gadewch inni weld lle byddwn yn cyrraedd. Mae'n Fil sydd ar y gweill. Rwyf bob amser yn Weinidog sy'n hoffi gweithio gyda phwyllgorau i weld a allwn wneud gwelliannau.
3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU am effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar ffermydd teuluol yng Nghymru? OQ61849
Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu cyllideb ar 30 Hydref, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau niferus gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos hon, clywais gan ffermwr lleol yn sir Fynwy sy'n ofni y bydd ffermydd teuluol bach fel ei hun hi yn cael eu dinistrio gan newidiadau Llafur i'r dreth etifeddiant, gan droi ffermydd a oedd ar un adeg yn ffynnu yn ysglyfaeth i ddatblygwyr a rhwygo'r galon o'n cymunedau gwledig. Gadewch inni ei alw yr hyn ydyw: cipio tir gwledig wedi'i ysgogi gan Lafur. Ond mae'n mynd yn waeth, yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y cyn uwch-gynorthwyydd Llafur, John McTernan, ac rwy'n dyfynnu,
'nid oes angen ffermwyr bach arnom',
ac mae hwn yn
'ddiwydiant y gallwn wneud hebddo'.
Mae'n warthus, a gofynnaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw barn Mr McTernan yn adlewyrchu'r dirmyg sydd gan Lafur tuag at weithwyr cefn gwlad sy'n gweithio'n ddiflino i fwydo ein cenedl? A wnewch chi herio Llywodraeth Lafur y DU, sy'n aberthu asgwrn cefn ein cymunedau amaethyddol tra bod ffigyrau Llafur blaenllaw'n awgrymu bod ein ffermydd bach yn bethau y gellir cael gwared arnynt?
Laura, diolch am y cwestiwn hwnnw. Gadewch imi ddweud yn union lle rwy'n sefyll. Yn gyntaf oll, credaf y dylem ymfalchïo yn y ffaith bod Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, wedi cyflwyno cyllideb gyntaf erioed y DU gan Ganghellor benywaidd ar 30 Hydref. Rhaid imi ddweud, Laura, mae'n cynrychioli'r camau cyntaf tuag at atgyweirio 14 mlynedd o niwed a achoswyd i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Ond bu'n rhaid i'r Llywodraeth wneud penderfyniadau anodd iawn, gan fynd i'r afael â heriau a etifeddwyd gan y weinyddiaeth flaenorol.
Nawr, er bod pryderon am effeithiau newidiadau i'r dreth etifeddiant, yn fwyaf penodol y rhyddhad eiddo amaethyddol, ac mae'r rheini'n ddealladwy, yn sicr, nid yw'n ddefnyddiol dyfalu ynghylch nifer y ffermydd yr effeithir arnynt o ystyried y nifer o ffactorau cymhleth sy'n gysylltiedig. Mae'r rheini'n cynnwys strwythurau perchnogaeth fferm, y cynlluniau etifeddiant, y rhyddhadau cymwys a allai fod yn berthnasol, sydd i gyd yn effeithio ar y modd y cymhwysir y rhyddhad eiddo amaethyddol. Mae gwerthoedd ffermydd eu hunain hefyd yn amrywio, gan ei gwneud hi'n eithaf anodd amcangyfrif faint a gaiff eu prisio dros drothwy treth etifeddiant ar unrhyw bwynt penodol. Ond yn syml, mae hwn yn fater a gadwyd yn ôl, ond rwy'n ymwybodol iawn, ac roeddwn yng nghynhadledd NFU Cymru yr wythnos diwethaf a siaradais nid yn unig ar y platfform, gan ateb cwestiynau ar hyn a llawer o faterion eraill, fel y cynllun ffermio cynaliadwy a llawer o bethau eraill, ond fe siaradais â ffermwyr yn uniongyrchol yn ei gylch hefyd. Mae gennyf ffermwyr yn fy nheulu estynedig y cefais drafodaethau â hwy yn ogystal. Byddant yn cael cyngor ar hyn i weld a yw'n effeithio arnynt hwy ai peidio.
Ond yn absenoldeb ffigurau penodol, oherwydd yr holl gymhlethdodau hynny, rwy'n credu bod ffigurau'r Trysorlys sydd wedi eu cyflwyno am eu hamcangyfrif o faint o ffermydd yr effeithir arnynt—. A chofiwch, mae yna strwythur gwahanol, ar y cyfan, i ffermydd yng Nghymru. Pan fyddwn yn sôn am ffermio teuluol yng Nghymru, y ffermydd bach a chanolig hynny, mae'n wahanol iawn o ran nodweddion i'r hyn a allai fod ar gyfartaledd ar yr ochr arall i'r ffin yn Lloegr. Felly, mae'n rhaid inni weld sut y bydd hyn yn gweithio. Rwy'n deall y bydd NFU Cymru ac eraill yn cyflwyno sylwadau i'r Canghellor, ac rwy'n dymuno'n dda iddynt gyda hynny, i gyflwyno'r data a'r dystiolaeth ar eu dadansoddiad. Ond yn y cyfamser, mae'n fater a gadwyd yn ôl, Lywydd.
A'r cwestiwn yw: a wnewch chi gyflwyno'r sylwadau hynny hefyd?
Nawr, rydych chi'n iawn—mae natur ffermydd yn wahanol iawn rhwng Cymru a Lloegr. Rwyf wedi bod yn edrych ar rai o ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun. Mae asesiad effaith economaidd y cynllun ffermio cynaliadwy, a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd, yn ystyried y ffermydd sy'n gyfrifol am oddeutu 84 y cant o gyfanswm yr arwynebedd amaethyddol a ddefnyddir yng Nghymru, 89 y cant o allbwn safonol amaethyddol Cymru, a 93 y cant o gyfanswm y da byw sy'n pori—felly, yn y bôn, ffermydd gweithiol yng Nghymru. Mae arwynebedd y ffermydd sydd dan ystyriaeth yn yr adroddiad hwnnw'n cyfateb i werth fferm gyfartalog sydd ymhell dros ddwbl y trothwy arfaethedig o £1 filiwn ar gyfer rhyddhad eiddo amaethyddol, sy'n cyfateb i fil treth etifeddiant a allai fod dros chwe gwaith incwm blynyddol cyfartalog ffermwyr da byw yng Nghymru. Felly, mae'r Prif Weinidog yn dweud mai cyfran fach iawn o ffermydd Cymru fydd yn cael eu heffeithio. Rydych chi wedi dweud nad oes gennych ffigurau i allu mesur hynny, felly nid wyf yn siŵr o ble y cafodd y Prif Weinidog y ffigur. Ond mae eich ffigurau chi, a gyhoeddwyd lai na 12 mis yn ôl, yn awgrymu darlun gwahanol iawn—y byddai nifer helaeth o ffermydd yng Nghymru nid yn unig yn cael eu heffeithio, ond na fyddant mewn sefyllfa i allu fforddio talu'r bil treth. Felly, y cwestiwn yma yw: a fydd Llywodraeth Cymru, felly, yn ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad cynhwysfawr o effeithiau posibl trothwy rhyddhad eiddo amaethyddol newydd ar gyfer pob maint a chategori fferm i ateb y cwestiwn yr ydych chi wedi'i ofyn yma eich hun? Ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y tyddynnod a'r daliadau eraill a anwybyddwyd gan eich Llywodraeth eich hun o'ch asesiad effaith economaidd ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy.
Felly, Llyr, edrychwch—diolch am y cwestiwn hwnnw—am y rhesymau a amlinellais o'r blaen, fod pob fferm, fel y gwyddom, yn wahanol iawn, ac yn wahanol o ran sut y cânt gyngor treth, a ydynt yn gwneud rhodd, a oes cytundeb priodasol hefyd, bydd cymhwyso hyn yn wahanol iawn ar gyfer pob daliad tir unigol. Felly, i wneud yr hyn y mae rhai wedi bod yn gofyn amdano, sef, 'A allwch chi roi nifer penodol y ffermydd a fydd yn cael eu heffeithio?', nid yw'n bosibl—[Torri ar draws.] Nid yw'n bosibl ei wneud, Llyr. [Torri ar draws.]
Gadewch i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r ymateb nawr.
Felly, yr hyn roedd y Prif Weinidog yn ei wneud, yn briodol, oedd cyfeirio at ddata Trysorlys Ei Fawrhydi a gyhoeddwyd. Nawr, mae ffigurau Trysorlys Ei Fawrhydi yn dangos na fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd. Maent yn dangos, ar gyfer 2021-22, yn y data diweddaraf sydd ar gael, ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, mai dim ond 462 o hawliadau am ryddhad amaethyddol oedd yn fwy nag £1 filiwn, ac mae pobl wedi gwneud allosodiadau am yr hyn y mae hynny'n ei olygu i Gymru. Ond gadewch imi ychwanegu at hynny. Mae Paul Johnson, cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol, wedi dod i'r casgliad y dylai'r newidiadau effeithio ar nifer fach o'r ffermydd mwyaf gwerthfawr yn unig. Fodd bynnag, fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn cychwynnol, os yw rhanddeiliaid fel undebau ffermio yn gallu cynhyrchu data amgen, fe hoffwn edrych ar hynny, ond mae angen iddynt gyflwyno hynny, fel y deallaf y byddant yn ei wneud, i Ganghellor y Trysorlys yn Llundain; nid i fy nghyd-Aelod yma, ond i Rachel Reeves.
Ac mae'n bwysig fod pob aelod o'r undebau ffermio, ond hefyd y rhai nad ydynt yn aelodau o'r undebau ffermio, a fydd yn gwrando ar y twrw ynglŷn â hyn nawr, yn edrych ar y manylion ac yn cael cyngor da, cadarn. Gyda llaw, Lywydd, mae Cyswllt Ffermio yn un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â hyn, ond gwn y bydd rhai ffermwyr yn cael cyngor annibynnol eu hunain hefyd, y byddant yn talu amdano, ac yn y blaen. Ond mae manylion y newidiadau i gyd ar wefan Trysorlys Ei Fawrhydi.
Ac os caf ddweud, ar un agwedd na ofynnwyd imi amdani heddiw ond sy'n bwysig iawn yn hyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ffermwyr Cymru sy'n ymuno â'r gwaith yr ydym yn dal i'w wneud ar y cynllun ffermio cynaliadwy o dan anfantais mewn unrhyw ffordd yn sgil cynigion y rhyddhad eiddo amaethyddol. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod hynny yno hefyd. Felly, yn y cyfamser, hoffwn ddweud hefyd fod gennyf bryder, Lywydd—rhywfaint o bryder—y bydd peth o'r sŵn dealladwy o gwmpas hyn yn dwysáu pryderon a gofidiau allan yno, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cyfeirio unrhyw un sy'n pryderu am hyn nid yn unig i gael cyngor da ac i wneud y peth economaidd a chyllidol resymegol ar gyfer eu fferm, ond hefyd i wybod bod cefnogaeth allan yno hefyd gan lawer o elusennau ffermio, megis Sefydliad DPJ, Tir Dewi, y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol a Rhwydwaith y Gymuned Ffermio. Felly, unrhyw un sy'n poeni am hyn, y tu hwnt i'r mesurau ariannol, 'Codwch y ffôn; mae yna bobl ar gael i siarad â hwy ynglŷn â hyn hefyd.'
4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â llifogydd yn ardal Caerdydd? OQ61831
Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.7 miliwn i Gyngor Caerdydd ar gyfer tri chynllun cyfalaf a £119,000 ar gyfer tri phrosiect ar raddfa fach o dan y rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Rydym hefyd wedi darparu dros £32 miliwn i Gyngor Caerdydd i adeiladu cynllun diogelu'r arfordir o dan y rhaglen rheoli risgiau arfordirol.
Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Bydd rhai yn y Siambr yn cofio'r llifogydd mawr ar ddechrau'r 1980au. Dim ond lluniau ohonynt a welais i, pan oedd Heol y Gadeirlan a sawl rhan o Bontcanna a Threganna dan ddŵr. Ond mae Caerdydd yn dal dan fygythiad oherwydd llifogydd. Mae glaw eleni yn unig wedi gadael llawer o strydoedd dan ddŵr, a bu'n rhaid achub cwpl o'u car—yn y brifddinas. Oherwydd mae Caerdydd yn ymladd llifogydd ar dair ffrynt: ni yw'r bedwaredd ddinas sydd fwyaf mewn perygl yn sgil lefelau'r môr yn codi; mae gennym dair afon yn llifo trwy Gaerdydd; ac maent yn llifo i aber Afon Hafren wedyn, yr aber llanw ail uchaf yn y byd i gyd. Amcangyfrifir bod llifogydd yn costio cyfanswm o £200 miliwn mewn difrod bob blwyddyn, heb yr effaith bersonol ar unigolion. Oherwydd y risg uchel o lifogydd yng Nghaerdydd, a fydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n haws i'r fframwaith llifogydd helpu i adeiladu gallu i wrthsefyll llifogydd yn y brifddinas yn y dyfodol? Diolch yn fawr.
Diolch am eich cwestiwn dilynol, Rhys. Rydym yn awyddus i wneud popeth a allwn, gan gynnwys rhywfaint o'r swm sylweddol o gyllid a nodais yn fy ymateb cychwynnol i chi, rydym yn ei roi i Gaerdydd at amryw o ddibenion. Ac rydych chi'n llygad eich lle: mae'n ymwneud â llifogydd afonol wedi'u cyfuno â dilywiau, a llifogydd dŵr wyneb, ynghyd â llifogydd o’r môr a chynnydd yn lefel y môr. Yn yr wythnos hon lle rydym yn cael sgyrsiau ynghylch gweithredu ar yr hinsawdd, mae angen inni gael y sgyrsiau hynny â chymunedau yng Nghaerdydd, ac rydym yn eu cael hefyd, ynglŷn â'u syniadau ynghylch sut i unioni'r sefyllfa. Ond byddwn yn cynnal, ac yn wir, rydym wedi cynnal, y llynedd ac eleni wrth symud ymlaen, y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn atal a lliniaru llifogydd.
Nid amddiffynfeydd caled yw'r unig ateb. Mae rhywfaint o hyn, gan gynnwys mewn rhannau o Gaerdydd, yn ymwneud ynglŷn â'r defnydd o rywbeth sy'n diflasu llawer o bobl yma, ond mae gennyf i ddiddordeb mawr ynddo, sef systemau draenio cynaliadwy. Felly, pan fydd gennych y datblygiadau newydd hynny, nid ydych yn gollwng yn syth i'r afonydd, a allai orlifo, ond rydych chi'n arafu'r dŵr. Mae a wnelo â phlannu'r goeden iawn yn y lle iawn hefyd. Mae a wnelo â'r holl bethau hynny. Ac mae angen inni gynnwys cymunedau. Mae gan Lywodraeth Cymru ei rhan i'w chwarae, gyda'r cyllid a ddarparwn. Mae angen i'r awdurdodau rheoli perygl yn yr ardaloedd hynny fynd ati hefyd i ddefnyddio'r cyllid hwnnw, a chyflawni'r prosiectau ar lawr gwlad, y bydd rhai ohonynt yn fach, yn berthnasol i nifer fach o ddeiliaid tai, yn ymwneud â gwydnwch ac ati; bydd rhai yn fawr, fel y byddant yng Nghaerdydd. Oherwydd fe wyddom, o'r gwaith mapio, os na chymerwn y camau cywir nawr i arafu’r cynnydd a welwn yn y tymheredd, a lefel y môr yn codi, nid yw’r mapio ar gyfer Caerdydd yn dda. Ond byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn mesurau i amddiffyn Caerdydd, peidiwch â phoeni.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y clywsom, mae llifogydd yn digwydd yn amlach yng Nghaerdydd, ac mae'r cyngor wedi datgan bod y broblem yn cael ei hachosi'n rhannol gan ddraeniau wedi'u blocio, problem y maent yn gobeithio ei hunioni cyn gynted â phosibl, ond hefyd gan y system garthffosiaeth, nad yw'n gallu ymdopi â faint o ddŵr sy’n disgyn yn ein prifddinas. Nid yw’r sefyllfa ond yn mynd i waethygu wrth i law trymach barhau i gael ei ddarogan ar gyfer y wlad hon, sy'n destun pryder. Pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael, neu pa sgyrsiau rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi’u cael, gyda Dŵr Cymru, i fynd i’r afael â hyn a chynyddu capasiti carthffosiaeth y ddinas? Diolch.
Ydy, mae hon yn broblem yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru hefyd, y pwysau ar system a oedd yn addas ar gyfer y ganrif ddiwethaf gyda charthffosydd cyfun a gollyngiadau dŵr, lle gellid cludo’r llwyth yn ddiogel ar y pryd, gyda phoblogaeth o'r maint hwnnw, drwy’r pibellau hyn. Mae'r system bellach wedi dyddio ac yn cael ei gorlwytho, a Joel, dyna’n union pam ein bod ni nawr ar flaen y gad yng Nghymru. Mewn gwirionedd, yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal digwyddiad DU gyfan, mewn swyddfeydd 50 llath yn unig o’r fan hon, a ddaeth â pheirianwyr systemau draenio cynaliadwy o bob rhan o’r DU ynghyd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, y clod a roddwyd i Gymru, am symud ymlaen yn gyflym gyda systemau draenio trefol cynaliadwy—. Ac i'r rhai nad ydynt yn gwybod beth yw'r rhain, maent yno i osgoi sefyllfa lle mae'r holl ollyngiadau oddi ar doeau a'r system ddŵr ehangach yn mynd i lawr y pibellau'n uniongyrchol ac yn gorlwytho capasiti'r pibellau hynny. Y syniad yma yw eich bod yn defnyddio prosesau naturiol yn lle hynny, ac mae awdurdodau lleol yn gweithio ar hyn yng Nghymru, i'w gynnwys yn eu gwaith cynllunio trefol a strydoedd newydd, y cartrefi newydd y maent yn eu codi, fel nad ydym yn gollwng yn syth i mewn i'r rhwydwaith carthffosydd cyfun, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn gollwng i mewn i brosesau naturiol ac yn arafu'r llif i mewn i afonydd. Felly, Joel, byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol, gan gynnwys Caerdydd, i wneud hynny. Ac mewn gwirionedd, mae gan Gaerdydd gynlluniau gwych y gwnaethant eu dangos i gynrychiolwyr yn y digwyddiad hwnnw, i ddangos beth y maent yn ei wneud mewn datblygiadau tai newydd.
Wel, bydd fy swyddfa, fy nghartref a chartrefi'r rhan fwyaf o fy etholwyr o dan ddŵr oni bai bod pob un ohonom yn newid ein ffyrdd. Felly, hoffwn eich holi ynglŷn â phrosiect Grangetown Werddach, gan ei bod yn enghraifft wirioneddol dda o ddraenio trefol cynaliadwy, sydd wedi arbed llawer iawn o ddŵr glaw rhag mynd i mewn i'r system garthffosiaeth, gan arbed arian ar ynni, a gwella'r amgylchedd wrth gwrs. Felly, hoffwn archwilio nid yn unig pam nad oes gennym fwy o systemau tebyg i Grangetown Werddach ar waith ar draws y ddinas, lle gwyddom fod llifogydd eisoes yn digwydd, fel y nodwyd eisoes gan Rhys ab Owen, ond hefyd sut rydym yn mynd i fanteisio ar y system ddŵr glaw, ac yn wir, lle rydym yn golchi ein dwylo, i'w defnyddio ar gyfer fflysio'r toiled. Oherwydd mae'n warthus ein bod yn defnyddio dŵr yfed ar gyfer fflysio'r toiled, ac nid oes gennym ddigon o ddŵr glaw wedi'i gasglu i ddyfrio gerddi hyd yn oed, lle nad dŵr yfed yw'r opsiwn gorau. Felly, mae'n rhaid inni feddwl yn hollol wahanol mewn perthynas â lleihau defnydd, ailddefnyddio ac ailgylchu a sut y gwnawn hynny. Ai diffyg arian yw'r broblem, neu ai diffyg dychymyg a brys mewn perthynas â hyn?
Jenny, diolch am eich cwestiwn atodol. A gaf i gymeradwyo, gan imi sôn am y gynhadledd systemau draenio cynaliadwy ac fe aethant i weld menter Grangetown Werddach, a gwnaeth argraff enfawr arnynt, ac roeddent yn meddwl, 'Wel, sut y gallwn wneud hyn yn brif ffrwd yn Lloegr hefyd?' Mae angen inni wneud mwy ohono yng Nghymru. Nawr, mae'n golygu ffordd wahanol o feddwl i beirianwyr, sy'n draddodiadol yn meddwl, 'Wel, plymiwch ef i mewn i'r pibellau. Defnyddiwch beirianneg galed draddodiadol', ond erbyn hyn, mae gennym garfan o beirianwyr systemau draenio cynaliadwy gwybodus iawn ledled Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac maent ym mhob awdurdod lleol ac yn dechrau meddwl yn wahanol iawn am y peth.
Rydych chi'n siarad hefyd, yn gywir ddigon, am fater y cyfeirir ato weithiau fel, 'Sut y defnyddiwn systemau dŵr coch?' Rwy’n datgan buddiant yma, Lywydd, oherwydd 15 mlynedd yn ôl, pan adeiladais fy nhŷ, mae gennym long danfor o dan yr ardd. Mae'n beth maint llong danfor sy'n casglu'r holl ddŵr coch. Rydym yn fflysio ein toiledau gydag ef; rydym yn gwneud defnydd arall ohono. Os nad ydym yn defnyddio'r casgenni dŵr yn yr ardd i ddyfrio'r tomatos, rydym yn defnyddio'r system ddŵr coch i'w wneud, ac yn y blaen. Ond rywsut, mae angen inni weithio ar draws y Llywodraeth a llywodraeth leol i wneud hyn yn fwy normal ac i arloesi yn y gofod hwnnw, fel y gall datblygiadau tai wneud mwy o hynny hefyd. Systemau draenio cynaliadwy ar un llaw, casglu dŵr glaw ar y llall, y gellir ei ddefnyddio at ddibenion eraill.
A'r peth syml arall, Lywydd, yw dweud wrth bobl, 'Peidiwch â gwastraffu dŵr.' Nid ydym erioed wedi cael gwerth priodol, os mynnwch, wedi'i roi ar ddŵr, felly bydd pobl yn llenwi'r bath, byddant yn defnyddio dŵr glân sydd wedi'i drin at ystod o ddibenion nad oes angen ei ddefnyddio ar eu cyfer, ac mae angen inni gyfleu'r neges honno iddynt eto. Mae’n rhaid inni wneud hyn yn gyson, dweud wrth bobl, 'Gwerthfawrogwch eich dŵr, gan nad yw’n rhad nac am ddim mewn gwirionedd. Mae cost i hyn, ac mae a wnelo rhai o'r costau hynny â'r hyn y buom yn sôn amdano yma heddiw, sef newid hinsawdd.'
5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb hydref Llywodraeth y DU ar amaethyddiaeth Cymru? OQ61855
Mae'n rhy gynnar i fod wedi gwneud asesiad manwl, ond bydd Gweinidogion Cymru, gyda chymeradwyaeth y Senedd, yn penderfynu sut i ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru i adlewyrchu ein blaenoriaethau cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y cynnydd o £1.7 biliwn i setliad y gyllideb, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein holl gymunedau.
Weinidog, diolch am eich ateb. Rwy’n cofio’r Prif Weinidog yn dweud yr wythnos diwethaf yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud dadansoddiad, ond credaf ichi nodi, mewn ymateb i gwestiwn Llyr Gruffydd, ei fod yn fwy o asesiad cyffredinol yr oeddech wedi’i wneud o ffigurau Cyllid a Thollau EF ynghylch diddymu rhyddhad eiddo amaethyddol. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud gwaith manwl penodol ar amaethyddiaeth Cymru, fel y gallwn ddeall yn llawn y goblygiadau y mae’r cynigion hyn yn eu cynrychioli i hyfywedd amaethyddiaeth Cymru? Oherwydd os cymerwch ffigurau’r Trysorlys ei hun, bydd hyn yn effeithio ar oddeutu 2,000 o ffermydd ledled y Deyrnas Unedig gyfan, ac mewn tymor seneddol o bum mlynedd, mae hynny'n 10,000 o ffermydd. Mae hynny’n nifer fawr o fusnesau a allai gael eu heffeithio ar lefel y DU, ond ar lefel Cymru, rydym yn sôn am rai cannoedd, a fyddai’n cael effaith ddramatig ar dirwedd, cynhyrchiant a hyfywedd amaethyddiaeth Cymru. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwneud gwaith a fyddai'n cefnogi'r honiad a wnaeth y Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fod gwaith ar y gweill?
Andrew, diolch am eich cwestiwn dilynol. Roeddwn yn rhagweld y byddai’n ymwneud â’r gyllideb ehangach mewn perthynas â Chymru, ond mae’n canolbwyntio ar dreth etifeddiant a’r rhyddhad eiddo amaethyddol, ac rwy'n fwy na pharod i'w trafod eto. Mewn dau ateb blaenorol arall, rwyf wedi egluro bod cymhlethdod hyn yn golygu ei bod bron yn amhosibl pennu un ffigur oherwydd strwythurau perchnogaeth ffermydd; cynlluniau neu ddiffyg cynlluniau etifeddiaeth; y rhyddhadau perthnasol y gellir eu cymhwyso neu beidio; i briod neu beidio; gwneud rhoddion i blant neu beidio, ac yn y blaen. Bydd y defnydd o ryddhad eiddo amaethyddol yn amrywio'n fawr ac felly hefyd yr elfen o werth ffermydd. Felly, mae'n anodd iawn cyrraedd un pwynt lle rydych chi'n dweud, 'Dyna'r effaith.' Felly, o ganlyniad, yr hyn y dibynnwn arno yw’r dadansoddiad a wnaed gan y Trysorlys, fel yr eglurais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, ond hefyd peth o’r dadansoddiadau annibynnol a gafwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ac eraill, sydd hefyd wedi cytuno â dadansoddiad y Trysorlys na fydd yr effaith ar y raddfa y mae rhai yn ei honni—bydd yn llawer llai.
Ond gadewch imi nodi yma ar y gyllideb pa mor anodd yw hi i Ganghellor presennol y Trysorlys lenwi’r bwlch wrth gerdded i mewn i’r swyddfa honno—ac mae effaith yma yng Nghymru hefyd—a chanfod nad oedd yr hyn yr oeddem o dan yr argraff ei fod wedi'i ymrwymo'n ariannol wedi'i ymrwymo mewn gwirionedd, ac yna bu'n rhaid iddi ddod o hyd i ffyrdd o lenwi'r bwlch hwnnw. Wel, bydd ffermwyr hefyd, llawer o’r ffermwyr rwy’n eu hadnabod, yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus da, byddant yn dibynnu ar y GIG i weithredu’n dda, ac eto, mae’r 14 mlynedd diwethaf o doriadau dwfn drwy flwyddyn ar ôl flwyddyn o gyni, nad ydym erioed wedi cael ymddiheuriad amdanynt yn y Siambr hon—. Mae’n teimlo i mi, Lywydd, fel pe bai'r bobl a daniodd y fatsien, a feginodd y tân, a geisiodd losgi’r economi a gwasanaethau cyhoeddus, bellach yn cwyno am y difrod wrth gynhesu eu dwylo ar y cols. Mae eisiau gwasanaethau cyhoeddus, GIG a gofal iechyd cyhoeddus da ar ffermwyr a’u teuluoedd hefyd, ac mae pob un o’r rhain wedi bod dan ymosodiad parhaus ers degawd a mwy o Lywodraethau Ceidwadol. Felly, yn sail i hyn mae: i ba raddau rydym yn barod i gyfrannu at gyfoeth cyhoeddus y deyrnas hon? Ac rwy'n credu, ac rwy’n dweud hyn yn hyderus oherwydd y sgyrsiau a gefais, fod ffermwyr hefyd yn cydnabod eu bod yn dibynnu ar y gwasanaethau cyhoeddus hyn, fod arnynt eisiau talu’r swm dyledus i sicrhau bod gennym wasanaethau cyhoeddus da, ac maent yn edrych yn ôl ar y 14 mlynedd hyn fel ymosodiad cyson gan y bobl a geisiodd losgi ein heconomi.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant amaethyddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ61846
Rydym yn darparu ystod eang o gymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i ffermwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae ein grantiau ar gyfer buddsoddi mewn gwelliannau ar y fferm, offer a thechnoleg, a’r dysgu a’r datblygu a gynigir gan Cyswllt Ffermio oll yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru.
Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Un peth a aeth o dan y radar i raddau yn y gyllideb oedd y ffaith bod y Canghellor, yn ddiangen a heb fod rhaid, wedi penderfynu ailddiffinio cyllid amaethyddol ar gyfer y gwledydd datganoledig drwy fformiwla Barnett, a oedd yn gwbl ddiangen. Yn y gorffennol, rwyf wedi gofyn i chi a’ch rhagflaenydd, mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy, ysgrifennu at y Trysorlys i ofyn am swm mesuradwy o arian y byddai ei angen i roi'r cynllun ar waith yng Nghymru. Gan ddefnyddio cyfrifiannell cyfradd llog Banc Lloegr, byddai hynny oddeutu £500 miliwn. A allwch chi gadarnhau ar lawr y Siambr hon pa un a wnaethoch chi neu’ch rhagflaenydd ysgrifennu at y Canghellor neu’r Trysorlys ynglŷn â hynny, ac a ydych chi wedi cael gohebiaeth â hwy yn gofyn iddynt beidio â newid neu ailddiffinio taliadau amaethyddol drwy fformiwla Barnett?
Diolch am eich cwestiwn, Sam, a dylwn nodi bod y trafodaethau gyda Thrysorlys y DU wedi’u harwain, wrth gwrs, gan fy nghyd-Aelod, a oedd yma funud yn ôl, yr Ysgrifennydd cyllid, ond mewn trafodaeth gyda fi a fy swyddogion hefyd. Er ein bod yn croesawu cael gwared ar gyllid amaethyddol a glustnodwyd yn lle cyllid yr UE, rydym wedi dadlau ers tro, ers amser maith, ac yn dal i fod o'r farn, y dylid dyrannu adnoddau ledled y DU ar sail angen cymharol, fel y nodir yn 'Diwygio ein Hundeb'. Bydd angen i’r pedair gwlad gytuno ar y diwygiad hwnnw, a’i osod o fewn cytundeb cyllidol newydd, wedi’i oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU. Byddai hyn yn llawer mwy effeithlon, yn llawer mwy effeithiol. Byddai'n helpu i leihau'r aflunio a'r aneffeithlonrwydd sy'n codi yn y system bresennol. Byddai’n galluogi dyraniad mwy rhesymegol a thryloyw o wariant cyhoeddus ar draws y DU. Ein blaenoriaeth wrth symud ymlaen yw sicrhau, fodd bynnag, fod y fformiwla ariannu bresennol yn cyflawni ar gyfer Cymru, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw. Mewn ymateb i ateb blaenorol, Sam, nodais yn glir ein boddhad na fyddai unrhyw un o’r newidiadau yng nghyllideb y DU yn effeithio ar ddyfodol y cynllun ffermio cynaliadwy i Gymru. Fe wnaethom nodi hynny'n glir, ac rwy'n falch fod hynny wedi'i glywed.
7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith economaidd bosibl Llywodraeth y DU yn newid treth etifeddiant ar Gymru wledig? OQ61842
Mae treth etifeddiant yn dreth a gedwir yn ôl ac a reolir gan Lywodraeth y DU, ac mae’n gymwys ledled y DU. Mae ffigurau Trysorlys EF yn awgrymu na fydd y rhan fwyaf o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.
Diolch yn fawr iawn. Gan ddilyn trywydd rhai o'r materion a godwyd y prynhawn yma, mae'n ddiddorol iawn eich clywed yn dweud mai ychydig iawn o ffermydd yr effeithir arnynt, gan fod angen y ffigurau hynny arnom, os mai dyna yw eich barn. Mae arnom angen y dystiolaeth i ategu hynny. Er bod trothwy o £1 filiwn yn swnio'n sylweddol, mae mwy o asedau nag arian yn aml gan ffermydd teuluol Cymru. Mae’r teuluoedd hyn yn byw’n gynnil ac yn gweithio’n ddiflino ar yr un tir, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac eto maent bellach yn wynebu ymosodiad o bwysau ariannol, a dysgais fwy am ddau wahanol fath o bwysau yn sgil cyllideb Llywodraeth y DU. O fis Ebrill nesaf, bydd cerbydau gwaith fel tryciau codi cab dwbl, y mae ein ffermwyr yn dibynnu arnynt bob dydd i gludo deunyddiau ac offer, yn cael eu hailddosbarthu at ddibenion treth. Gallai’r newid hwn arwain at gynnydd sylweddol mewn taliadau budd mewn nwyddau, gyda rhai ffermydd yn wynebu cynnydd 11 gwaith y flwyddyn. Bydd cyflwyno’r mecanwaith addasu pris carbon ar draws ffiniau yn 2027 yn rhoi rhagor o bwysau ar ein ffermydd. Felly, unwaith eto, yn dilyn rhai o'r materion a godwyd y prynhawn yma, pa asesiad a wnaethpwyd gennych o effaith y newidiadau hyn yng nghyllideb y DU ar ffermydd Cymru? Diolch yn fawr iawn.
Jane, diolch yn fawr iawn. Rwyf mewn perygl o ailadrodd fy hun, ond hoffwn fod yn glir iawn ar hyn. Er bod y pryderon ynghylch effaith y newidiadau yn ddealladwy, ac mae llawer o bobl—llawer o ffermwyr unigol a'u teuluoedd—bellach yn gofyn, 'A yw hyn yn berthnasol i mi? Beth y mae'n ei olygu?' ac yn y blaen, a buaswn yn eu cynghori'n gryf i edrych arno'n iawn, i edrych ar y manylion ar wefan Trysorlys EF, a gweithio drwyddo hefyd, a gweld a yw'n berthnasol, nid yw dyfalu ynghylch union nifer y ffermydd yr effeithir arnynt naill ai’n ddefnyddiol nac yn bosibl o ran pennu ffigur, oherwydd cymhlethdod y materion y soniais amdanynt ynghynt. Felly, ar y sail honno, rydym yn defnyddio'r data a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Ond rwyf am ddweud yn gryf iawn, ac yn eich sgyrsiau â ffermwyr yn eich ardal, os yw ffermwyr yn gallu cyflwyno dadansoddiadau amgen neu ddata amgen, fod angen iddynt gyflwyno’r dadleuon hynny i Ganghellor y Trysorlys.
Byddai gennyf innau ddiddordeb mewn gweld hynny hefyd, ond mae cymhlethdod hyn, oherwydd gwerth y ffermydd, y cynlluniau etifeddiant a allai fod ganddynt neu beidio, strwythurau perchnogaeth gwahanol ffermydd, a yw rhyddhad perthnasol yn gymwys ai peidio—. Mae pob un o’r pethau hynny, a mwy, yn ei gwneud yn anodd iawn pennu un ffigur pan fydd busnesau fferm unigol yn gwneud penderfyniadau ar gyfer busnes fferm unigol. Ond o ddifrif, buaswn yn cynghori pawb i edrych ar yr hyn y mae'n ei ddweud ar wefan Trysorlys EF. Gofynnwch am gyngor, gan gynnwys gan gynghorwyr ariannol unigol os oes gennych rai, ond gan Cyswllt Ffermio hefyd. Ac yna, os oes gan yr undebau ffermio neu eraill ddadansoddiad amgen, dylech gyfleu hynny i Drysorlys EF ac i Ganghellor y Trysorlys. Rwy’n fodlon edrych ar hynny hefyd, gan fy mod yn awyddus i sicrhau bod gennym yr hyfywedd yn y dyfodol, yn enwedig wrth inni fwrw ymlaen â’r cynllun ffermio cynaliadwy. Er bod hynny'n waith caled, rydym yn gwneud cynnydd da a chyson, ond hoffwn wneud yn siŵr, gyda’n ffocws ar ffermydd bach a chanolig, y gellir sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yn ariannol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny o gymorth mewn rhyw ffordd, ond mae ceisio ei gyfyngu i un ffigur yn mynd i fod bron yn amhosibl.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Heledd Fychan.
8. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau’r risg o lifogydd yng Nghanol De Cymru, gan ystyried effeithiau newid hinsawdd a llifogydd dinistriol diweddar ledled Ewrop? OQ61845
Yn gyntaf oll, rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar yn Ewrop, yn enwedig yn Sbaen. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i adeiladu cymunedau mwy gwydn wrth inni frwydro yn erbyn bygythiad newid hinsawdd, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon bellach wedi buddsoddi £60 miliwn yng Nghanol De Cymru ers 2021, a fydd o fudd i 2,800 eiddo.
Diolch am eich ymateb, Ddirprwy Brif Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o’n hymweliadau diweddar â Theras Clydach yn Ynys-y-bwl o effaith ddinistriol llifogydd 2020. Yn ffodus, ni chollwyd unrhyw fywydau, ond fe wyddom, yn 2020, fod ardaloedd fel Canol De Cymru wedi dioddef gwerth tri mis a hanner i bedwar mis o law oherwydd y storm honno. Nid oes ond angen edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Sbaen i weld gwerth blwyddyn o law mewn cyfnod mor fyr. A gaf i ofyn, felly, pa wersi a ddysgwyd gennych o’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill i ddeall yr effaith bosibl ar gymunedau yma yng Nghymru, a hefyd y sicrwydd y gallwn ei roi i gymunedau a oedd eisoes yn dioddef ac yn bryderus ar ôl 2020 ond sy’n gwylio’r newyddion yn awr, gan wybod eu bod mewn perygl ac y bydd eu bywydau mewn perygl pe bai sefyllfa debyg i storm Dennis yn digwydd, ond sy'n gofyn, 'Beth os yw'n waeth y tro nesaf?'?
Diolch am eich cwestiwn atodol ac am eich cefnogaeth chi a Vikki ac eraill i'r trigolion. Credaf fod hynny wedi bod yn bwysig iawn. A diolch am y cyfle i gyfarfod â thrigolion Teras Clydach hefyd, i geisio archwilio ffyrdd ymlaen iddynt, ond hefyd, rydych chi'n llygad eich lle, i ofyn beth rydym wedi'i ddysgu.
Yr hyn rydym wedi’i ddysgu yw hyn: amser maith yn ôl yn 2008 adeg llifogydd Cumbria, pan welwyd dinistr llwyr drwy lawer o drefi Cumbria, pan newidiwyd tirweddau, ailgyfeiriwyd afonydd, grym hynny, yr hyn a welsom bryd hynny gyda chymorth y Swyddfa Dywydd oedd un o’r enghreifftiau cynnar nid yn unig o dywydd trawmatig, ond lle symudodd y ffrynt tywydd ac oedi uwchben cymuned. Os edrychwch chi nawr ar y digwyddiadau trasig yn Sbaen, mae'n sefyllfa debyg; mewn rhannau eraill o Ewrop, yr un peth.
Cawsom gyflwyniad yr wythnos hon yn rhan o’r sgyrsiau hinsawdd gan un o uwch swyddogion y Swyddfa Dywydd a ddangosodd hynny: yr hyn sydd wedi newid yw bod y ffryntiau hyn yn oedi uwchben cymunedau bron fel trolif uwch eu pennau, ac yna’n creu dilyw yn y cymunedau hynny. Mae hynny’n bwysig i’w nodi. Mae pethau'n newid. Nid yn unig fod cynnydd yn y dŵr sy'n cael ei ollwng gyda newid hinsawdd; ond mae ffryntiau'n oedi mewn rhai mannau uwchben cymunedau. Felly, mae angen inni feddwl yn greadigol ac mae angen inni feddwl yn wahanol.
Rwy'n cydymdeimlo â'r rheini yn Nheras Clydach, a llawer o gymunedau eraill hefyd, am ein bod yn darganfod bod cymunedau nad oeddent yn meddwl y caent lifogydd bellach yn cael llifogydd. Mae cymunedau ar ben bryniau'n cael fflachlifoedd. Felly, mae angen inni achub y blaen ar hyn a pharatoi ar gyfer hyn yn y ffordd y symudwn ymlaen.
A gaf i ddiolch hefyd am y sylwadau a wnaethoch chi a Vikki o ran y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol? Clywais yn y cyfarfod hwnnw pa mor bwysig ydynt. Rwy'n credu efallai eich bod wedi cael fy llythyr yn cadarnhau ein bod wedi ymestyn cyllid i'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i weithio gyda thrigolion Teras Clydach am weddill y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n credu y bydd hynny’n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddynt hefyd, gan y gwn pa mor ddefnyddiol y mae’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol wedi bod wrth weithio gyda hwy.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn wedi eu cytuno heddiw. Mae'r cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau ac unigolion sydd wedi'u heffeithio gan y tân yn y Fenni? TQ1239
Rydym yn cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt gan y tân. Rydym yn ymgysylltu â phartneriaid plismona a diogelwch cymunedol ar unrhyw faterion ehangach sy'n effeithio ar y gymuned mewn perthynas â'r digwyddiad. Mewn ymateb i’r difrod a’r tarfu ar fusnesau yn sgil y tân, gall Busnes Cymru ddarparu cymorth i fusnesau adfer ar ôl y tân.
Diolch am yr ateb yna.
Mae'r tân a welwyd yn y Fenni dros y penwythnos wedi difrodi rhan hanesyddol o ganol y dref. Hoffwn dalu teyrnged i ymateb y gwasanaethau brys a sicrhaodd ddiogelwch trigolion lleol ac a frwydrodd yn ddewr i atal y tân i'r graddau mwyaf posibl. Pan fydd ymchwiliad i'r achos wedi'i gwblhau, bydd sylw'n troi at ailadeiladu bywoliaeth y bobl yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n bryderus hefyd ynglŷn â'r effaith y mae’r tân wedi’i chael ar elusen The Magic Cottage, sy’n cefnogi plant a phobl ifanc o dan 25 oed ag anghenion ychwanegol a salwch cronig a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Maent yn gweithio ar draws pedair sir—sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen a Phowys. Maent wedi dweud wrth y cyfryngau eu bod wedi colli popeth yn y tân, ond yn dyst i haelioni'r cyhoedd, mae llawer o stoc wedi'i roi i The Magic Cottage ers y tân. Maent bellach yn chwilio am eiddo newydd i storio'r stoc. I roi syniad o raddfa, roedd oddeutu 10,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu yn y siop yn y Fenni, sef y siop elusen fwyaf yng Nghymru, mae'n debyg. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa arbenigedd, canllawiau a chymorth ariannol y gall y Llywodraeth hon eu darparu i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y tân yn y Fenni, a pha gymorth y gallwch chi ei ddarparu i sicrhau y ceir cyn lleied â phosibl o darfu a bod bywydau, busnesau a chanol y dref a gwaith yr elusen hynod bwysig hon yn gallu dychwelyd i'r hyn yr arferai fod cyn gynted â phosibl? Diolch.
Hoffwn eilio’r sylwadau a wnaed gan Peredur Owen Griffiths mewn perthynas â chanmol gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac wrth gwrs, y gwasanaethau brys a’r asiantaethau eraill am eu hymateb cyflym ac effeithiol iawn. Mewn perthynas â’r cymorth y gellir ei ddarparu, mae Banc Datblygu Cymru ar gael i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt ac a allai elwa o gronfa micro fenthyciadau Cymru sy’n cynnig benthyciadau carlam o rhwng £1,000 a £50,000. Felly, buaswn yn annog unrhyw fusnes, yn y lle cyntaf, i gysylltu â llinell gymorth Busnes Cymru. Byddant yn gallu darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol, neu gallant gyfeirio at asiantaethau a sefydliadau perthnasol a allai roi cymorth.
Gallent hefyd gyfeirio at gynghorydd Busnes Cymru penodol, a all helpu gyda chynlluniau adfer manylach hefyd. Gallai’r rheini gynnwys llif arian, hylifedd ac effeithiau tarfu ar fasnachu. Efallai y gallant eu helpu i ddod o hyd i ofod busnes amgen. Gallai hynny fod ar ffurf swyddfeydd neu warysau, er enghraifft, i helpu'r busnesau i barhau i fasnachu ac ymadfer wedi'r difrod tân. Felly, fel y dywedaf, yn y lle cyntaf, dylid ffonio Busnes Cymru, a all sôn am y cymorth adfer sydd ar gael.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel cymaint o rai eraill yn y Siambr hon, cefais fy niflasu'n fawr gan y golygfeydd gwirioneddol ofnadwy a welsom yn y Fenni nos Sul. Yn ddealladwy, mae’r gymuned mewn sioc, gyda chartrefi wedi'u colli, busnesau wedi’u dinistrio, ac yn amlwg, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths yn gynharach, elusen plant The Magic Cottage yn colli popeth.
Lywydd, rwy'n hynod ddiolchgar na fu unrhyw anafusion, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r 100 a mwy o ddiffoddwyr tân a fu'n ymladd y fflamau, a phob unigolyn sydd wedi chwarae rhan yn cefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt. Yn naturiol, mae gan y Fenni ysbryd cymunedol anhygoel, ac mae wedi bod yn galonogol gweld pobl leol yn dod ynghyd i wneud yr hyn a allant i helpu, gan gynnwys lansio llu o ymdrechion codi arian ar-lein.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwerthfawrogi eich atebion blaenorol i fy nghyd-Aelod yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru, gan y credaf fod gan bob un ohonom gyfle diffuant i helpu. Felly, hoffwn wybod pa sgyrsiau y mae Gweinidogion, a chi'n enwedig, wedi’u cael gyda Chyngor Sir Fynwy i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau bosibl i ddarparu cymorth a chefnogaeth. Fel y sonioch chi yn eich ateb blaenorol, mae yna wahanol grwpiau a sefydliadau, ond mae hefyd yn hollbwysig ein bod yn cefnogi busnesau, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig. Felly, a wnaiff y Llywodraeth weithio gyda’r rhanddeiliaid allweddol, hyd yn oed y rhai y sonioch chi amdanynt yn eich ateb blaenorol, i weld beth y gellir ei wneud i helpu'r unigolion a’r busnesau hynny allu ymadfer yn iawn? Diolch.
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, ac unwaith eto, am gydnabod dewrder yr ymatebwyr, a haelioni'r gymuned hefyd, sydd wedi dod ynghyd, ac sy’n gwbl wych. Roedd y cwestiwn a ofynnwyd yn ymwneud yn benodol â chymorth i fusnesau, felly, fel y dywedais, y pwynt cyswllt allweddol fyddai drwy Busnes Cymru i archwilio gyda chynghorydd Busnes Cymru pa fath o gynllun y gellir ei roi ar waith i adfer wedi'r digwyddiad. Ond o ran y sgyrsiau ehangach hynny, byddai’r rheini’n cael eu harwain gan gyd-Aelodau eraill sydd â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, a hefyd y gwasanaeth tân ac achub. Ond hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau, fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol i'r cwestiwn, ein bod yn ymgysylltu â phartneriaid plismona a diogelwch cymunedol ar yr effeithiau ehangach mewn perthynas â'r gymuned yn fwy cyffredinol.
Laura Anne Jones.
Diolch am y cyfle i siarad. Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd y tân diweddar yn y Fenni, fel y dywedwyd eisoes gan fy nghyd-Aelodau—ac rwy’n cytuno â’r holl sylwadau a wnaed—effaith ddinistriol ar y gymuned leol a busnesau lleol yno, gan gynnwys Cable News, siop boblogaidd sydd wedi cael ei rhedeg gan Paul Cable ers dros 30 mlynedd bellach, a siop elusen The Magic Cottage, y mae ei pherchnogion wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi pobl ifanc mewn angen. Felly, rwy'n cytuno â’r sylwadau a wnaethoch, a diolch am nodi'r cymorth y credwch y gall fod ar gael iddynt hwy ac eraill i ailadeiladu, ac yn enwedig o ran cefnogi’r grwpiau agored i niwed hynny yn ein cymuned. Fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr, mae hyn o'r pwys mwyaf. Ac a ydych chi'n cytuno â mi mai un peth y gallem ei wneud nawr yw gweithio'n galed gyda'n gilydd, ar y cyd, i sicrhau bod pobl yn ymweld â'r Fenni yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn cefnogi ein busnesau lleol?
Yn sicr, rwy'n annog pobl i ymweld â'r Fenni yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond drwy gydol y flwyddyn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n lle prydferth iawn i ymweld ag ef—cymaint o siopau annibynnol na fyddech chi'n gallu dod o hyd iddynt mewn mannau eraill. Ac mae'n rhywle y byddem yn annog pobl i ymweld ag ef am bob math o resymau, ond yn enwedig nawr, i brofi peth o'r ysbryd cymunedol gwych y soniodd eich cyd-Aelod Natasha amdano yn ei chyfraniad.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn amserol nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr her 50 diwrnod newydd i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty? TQ1244
Mae her 50 diwrnod y gaeaf yn nodi 10 cynllun arfer gorau i helpu pobl i aros yn iach gartref a gadael yr ysbyty pan fydd anghenion clinigol wedi'u diwallu. Mae'n herio partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i dargedu cymorth at y 2 y cant o gleifion sy'n destun oedi wrth ryddhau, a rhoi cynlluniau ar waith i'w cynorthwyo i ddychwelyd adref.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cydnabod yr angen o'r diwedd am agwedd newydd tuag at broblem hirsefydlog oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai, ond rwy'n poeni bod sylwedd y cynllun yn bell o gyrraedd y nod. Yn gyntaf, mae'n amlwg y bydd yn seiliedig i raddau helaeth ar adnoddau presennol yn hytrach nag adnoddau newydd. Rhoddwyd y gronfa integreiddio rhanbarthol, er enghraifft, ar waith yn ôl ym mis Ebrill 2022, gyda'r nod penodol o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well. Felly, rhaid gofyn y cwestiwn: os nad yw wedi bod yn effeithiol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, pam y dylem ddisgwyl canlyniadau gwahanol nawr?
Yn ail, mae'n anodd gweld lle mae hyn yn cyd-fynd â thueddiad y Llywodraeth Lafur o fynd ar drywydd atebion byrdymor ar draul gweledigaeth drosfwaol gydlynol ar gyfer trawsnewid y GIG. Mae'n werth cyfeirio at ddyfarniad Cydffederasiwn y GIG yn hyn o beth:
'Oni bai bod heriau ehangach y galw a'r capasiti ar draws y system iechyd a gofal gyfan yn cael sylw, ni fydd her 50 diwrnod a chynllun gweithredu yn ddigon i sicrhau system iechyd a gofal gynaliadwy yn y tymor hir.'
Rwy'n rhannu amheuaeth ddealladwy Cydffederasiwn y GIG ynghylch potensial y cynllun hwn i gyflawni ar ei ben ei hun. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â dadansoddiad Cydffederasiwn y GIG?
Yn olaf, fel rydym wedi sôn mor aml mewn perthynas â chynlluniau Llywodraeth Cymru, mae yna ddiffyg targedau amlwg. Felly, hoffwn orffen gyda chwestiwn syml iawn i Ysgrifennydd y Cabinet: ym mis Medi 2024, y dyddiad adrodd diweddaraf, gwelwyd 1,596 achos o oedi wrth ryddhau o ysbytai ledled Cymru; pa ffigur y mae'n disgwyl ei weld ar ddiwedd cyfnod yr her 50 diwrnod?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hyn. Carwn awgrymu mai'r adeg i asesu llwyddiant y fenter hon yw ar ôl iddi gael ei chwblhau yn hytrach na chyn iddi ddechrau. Ond ar y pwynt y mae'n ei roi yn benodol i mi, mae hon yn enghraifft o'r dull y bûm yn ei argymell, fel y mae'n gwybod, ers i mi ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn, sef nodi'n gyflym o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol yr ymyriadau hynny y mae sawl rhan o'r system eisoes yn eu cyflawni ac sydd wedi cael llwyddiant amlwg a sicrhau bod y rheini'n cael eu nodi a'u lledaenu'n gyflym drwy'r system. Felly, dyma enghraifft o hyn yn digwydd yn weithredol. O'r 10 peth sydd ar y rhestr weithredu, mae'r rhan fwyaf ohonynt eisoes yn cael eu gweithredu mewn rhai rhannau o Gymru. Yr her nawr yw ad-drefnu gwasanaethau fel bod pob rhan o Gymru yn cynnig cymaint o'r rheini â phosibl.
Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn ag adnoddau. Yn y trafodaethau a gawsom gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid awdurdodau lleol, cafwyd cydnabyddiaeth fod y gronfa integreiddio rhanbarthol, ynghyd â'r gronfa Ymhellach, yn Gyflymach ac eraill, yn y system ac yn gallu cael eu defnyddio i gefnogi rhai o'r mentrau hyn. Mae llawer ohonynt yn niwtral o ran cost mewn gwirionedd ac mae eraill yn cynnwys ailddyrannu adnoddau presennol. Yr hyn sy'n newydd yma, rwy'n credu, yw cydnabyddiaeth o'r ymyriadau mwyaf effeithiol a'r parodrwydd i ad-drefnu gwasanaethau i adlewyrchu'r rheini ym mhob ardal bwrdd iechyd. Ac rwy'n credu bod honno wedi bod yn her y mae partneriaid wedi ymgymryd â hi gydag ymroddiad gwirioneddol dros yr wythnosau diwethaf. Mae arnaf ofn na chlywais yr hyn a oedd gan Gydffederasiwn y GIG i'w ddweud, ond rwy'n gwybod ein bod yn gweithio'n uniongyrchol gyda'u haelodau sy'n cyflawni ar lawr gwlad. Ac rwy'n ddiolchgar iddynt i gyd, oherwydd maent wedi ymgysylltu'n adeiladol iawn â ni mewn perthynas â'r gwaith hwn.
Roedd yr Aelod yn y Siambr ddoe pan gafodd y pwynt ei roi i'r Prif Weinidog ynglŷn â'r targed. Wrth gwrs, fe atebodd fel y gwneuthum innau yn fy nghwestiwn cychwynnol, fod y gefnogaeth wedi'i hanelu at 25 y cant o'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf, sef oddeutu 350 o bobl. Felly, mae'r her hon yn ymwneud â ffyrdd newydd o weithio a thargedu cefnogaeth at y 25 y cant, a sicrhau y gellir rhyddhau cymaint â phosibl o'r rheini adref. Ond yn hollbwysig, y pwynt yma yw sicrhau bod y llwyddiant yn cael ei gynnal. Mae'n bwysig i'r unigolion hynny fynd adref, ond rydym am sicrhau bod cyfraddau oedi'n dod i lawr ar draws y system. Ac mae sicrhau bod hynny'n cael ei gynnal yn bwysig, felly rydym yn cael sgyrsiau â phartneriaid yn ystod y 50 diwrnod ynglŷn â pha adnoddau y gallai fod eu hangen i wneud yr ymyrraeth yn gynaliadwy yn y tymor hwy. A bydd hynny'n cael ei ystyried yn sgil y profiad dros yr wythnosau nesaf.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am ddod â'r cwestiwn hwn i'r Senedd heddiw. Rwy'n ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymateb i Mabon ap Gwynfor nawr hefyd. Roeddwn eisiau diolch eto i'r gweithwyr iechyd a gofal sy'n mynd i wynebu pwysau'r gaeaf a'r heriau o'u blaenau. Ac rydym i gyd yn gwybod yn y Siambr hon eu bod yn gwneud eu gorau, ac eisiau gwneud eu gorau, i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau ar yr adeg fwyaf priodol, a gobeithio, i fwy o bobl, y bydd hynny'n gyflymach nag y bu dros y blynyddoedd diwethaf.
Clywais eich sylwadau ynghylch yr elfennau o fewn y cynllun 10 pwynt, ac rwy'n deall, Ysgrifennydd y Cabinet, mai'r awydd yma yw sicrhau rhywfaint o gysondeb, nid o reidrwydd ailddyfeisio'r olwyn ledled Cymru. Ond tybed a allech chi wneud sylwadau ar ba rai o'r 10 pwynt y credwch chi y byddant yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r targed 50 diwrnod a osodwyd gennych. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol i ni ddeall yr elfennau o fewn y cynllun 10 pwynt, a pha rai a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Hoffwn ddeall hefyd o ble y daw'r ffigur o 50 diwrnod, ac a wnaethoch chi ystyried niferoedd eraill o ddyddiau fel rhai a allai fod yn dargedau mwyaf effeithiol i anelu atynt—boed yn dystiolaeth glinigol neu'r dystiolaeth sydd gennych chi i sicrhau bod y targed 50 diwrnod hwnnw'n rhywbeth sydd naill ai'n gyraeddadwy neu'n realistig i fyrddau iechyd yn gweithio gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Roeddwn yn cytuno â phwynt Mabon ap Gwynfor ynghylch y risg y byddai hon yn cael ei hystyried yn foment dymor byr. A'r hyn sydd angen inni ei weld, wrth gwrs—ac rwy'n meddwl y byddech chi'n cytuno â hyn—yw cynllun mwy hirdymor, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn yr ysbyty'n hwy na sydd angen iddynt fod. Felly, hoffwn wybod, ar ddiwedd yr her darged hon a roddwyd ar waith gennych—rwy'n credu ei bod yn weithredol hyd at ddiwedd y flwyddyn, dyna sut y'i disgrifiwyd—sut y bydd y byrddau iechyd, awdurdodau lleol ac eraill yn cael eu dwyn i gyfrif ac yn cael eu cefnogi i sicrhau bod rhyddhau cleifion yn digwydd mewn modd amserol.
A fy nghwestiwn olaf—mae'n ddrwg gennyf, Lywydd—yw yr hoffwn ddeall beth yw eich disgwyliadau ynghylch yr effaith ar restrau aros yn ehangach. Oherwydd fe ddylai, ac fe fydd hyn yn creu mwy o gapasiti yn ein hysbytai, i sicrhau bod pobl sydd ar restrau aros ar hyn o bryd yn cael eu trin. Yn eich dadansoddiad, sut rydych chi'n disgwyl i restrau aros gael eu lleihau o ganlyniad i'r her 50 diwrnod. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Sam Rowlands am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod pob un o'r 10 cam yn chwarae rôl wahanol, mewn gwirionedd, yn cefnogi'r system yn gyffredinol. Felly, mae rhai, os mynnwch, yn ymyriadau yn yr ysbyty. Felly, mae'r gwasanaeth rhyddhau integredig a welodd y Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau ar waith yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, ond sydd hefyd yn weithredol mewn rhannau eraill o Gymru, yn ymwneud â sut y gellir cydleoli adnoddau presennol mewn lleoliad ysbyty, i sicrhau bod taith y claf, yn ddelfrydol, o'r eiliad y croesant y trothwy neu gael eu derbyn, yn cael ei ddeall yn gynyddol ac yr ymatebir iddi. Felly, mae rhai ymyriadau mewn ysbytai, os mynnwch, ac mae eraill yn y cynllun, fel y bydd wedi'i weld, sy'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod, er enghraifft, yn gwneud mwy o ddefnydd o welyau cartrefi gofal a chymunedol ar gyfer asesiadau gofal iechyd parhaus. Nid oes rhaid i'r rhain ddigwydd mewn ysbyty. Felly, mae rhywfaint ohono'n ymwneud â'r lleoliad lle mae'r ymyrraeth yn digwydd, ond mae rhywfaint ohono'n ymwneud â'r gefnogaeth ategol, os mynnwch, yn y system ar gyfer yr ystod hon o ymyriadau. Felly, mae ffocws ar ailalluogi yn hanfodol er mwyn i hynny lwyddo. Pa bynnag ymyriadau a roddwch ar waith, byddant i gyd yn y bôn yn elwa o ailalluogi gwell. Felly, nid wyf yn credu bod eu graddio'n ffordd wyddonol o edrych arno; rwy'n credu eu bod yn chwarae rhan wahanol yn yr ystyr honno.
Pam 50 diwrnod? Wel, fe wyddom mai'r gaeaf yw'r cyfnod pan fo'r GIG a gofal o dan y pwysau mwyaf dwys, ac felly mae 50 diwrnod rhwng nawr a diwedd y flwyddyn, ac fel arfer fe welwn y pwysau dwysaf ar ddechrau'r flwyddyn newydd. Felly, mae'r cyfnod, os mynnwch, wedi ei bennu gan yr amserlen sydd ar gael. Rydym wedi ceisio taflunio faint o unigolion y credwn ei bod hi'n rhesymol ceisio eu cefnogi o fewn y cyd-destun hwnnw.
Ond mewn ffordd, rwy'n credu mai cwestiwn olaf yr Aelod yw'r pwysicaf. Yn allweddol, fel roeddwn i'n dweud wrth Mabon ap Gwynfor, yr hyn yr hoffem ei weld—. Nid yw'n ddull 50 diwrnod a dyna ni, mae'n gyfnod o 50 diwrnod i roi'r darpariaethau hyn ar waith. A gwneud hynny'n llwyddiannus yw'r hyn sy'n mynd i roi'r cyfle gorau i ni sicrhau bod y manteision, i gleifion unigol ac i'r system, yn cael eu cynnal, sef yr hyn yr hoffem ei weld wrth gwrs. Felly, mae'r cyfnod o 50 diwrnod, os mynnwch, yn gyfnod o weithio dwys i roi'r trefniadau newydd ar waith a helpu cymaint o'r garfan 25 y cant â phosibl. Ond caiff y llwyddiant ei farnu yn ôl y graddau y caiff y cynnydd hwnnw ei gynnal yn y tymor canolig a'r tymor hwy y tu hwnt i hynny.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Hoffwn ofyn cwestiwn penodol i chi am fy rhanbarth, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai eich bod yn ymwybodol fod ymgynghoriad yng nghyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd ynghylch y posibilrwydd o gau dau gartref gofal, Tŷ Glynrhedyn a Chae Glas. Rwyf wedi cael staff sy'n gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cysylltu â mi yn bryderus am fod derbyniadau i gartrefi gofal wedi eu rhewi tra bo'r ymgynghoriad hwn yn mynd rhagddo, sy'n golygu, am eu bod yn ansicr ynghylch dyfodol y rheini, fod yna bobl a ddylai fod yn mynd i gartrefi gofal preswyl mewn gwelyau ysbyty ar hyn o bryd. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau sy'n digwydd gydag awdurdodau lleol yng ngoleuni'r cyhoeddiad hwn i sicrhau bod ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r sefyllfa gyllidebol y gwyddom amdani ac na fydd yn gwaethygu'r sefyllfa mewn gwirionedd? Siaradais yn uniongyrchol â phreswylwyr yn Nhŷ Glynrhedyn. Maent yn iach ac yn heini, ond nid ydynt yn ddigon da i fyw gartref. Dywedodd sawl un wrthyf, yn uniongyrchol eu hunain, eu bod yn teimlo na fyddent yn fyw nawr pe na baent mewn cartref gofal. Roeddent wedi ceisio byw gartref, ond wedi methu ac yn anffodus nid yw hynny'n gynaliadwy iddynt, ac maent yn bryderus iawn y bydd symud o'r cartref hwnnw'n eu lladd, mai eu hunig opsiwn fydd blocio gwelyau mewn ysbyty, am na fydd pecynnau gofal ar gael; maent wedi gorfod gwerthu eu cartrefi hefyd, nid oes cartrefi iddynt ddychwelyd iddynt. Felly, pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â rhewi'r nifer sy'n cael eu derbyn a sut y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr her 50 diwrnod hon?
Nid wyf yn gwybod beth yw amgylchiadau'r preswylwyr unigol, yn naturiol, ac ni fyddai'r Aelod yn disgwyl hynny, ac nid wyf yn gwybod ble mae'r ymgynghoriadau mewn perthynas â'r cartrefi gofal penodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw bod cyngor Rhondda Cynon Taf, fel pob cyngor, wedi bod yn ymwneud yn drwyadl iawn â datblygu a bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn. Mae'r Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau wedi cyfarfod â phob un o ranbarthau'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol mewn partneriaeth i drafod eu cynlluniau yn gyffredinol, ond yn benodol mewn perthynas â'r her 50 diwrnod, ac mae rhan o'r drafodaeth wedi ymwneud ag argaeledd a chapasiti'r sector cartrefi gofal ym mhob un o'r rhanbarthau hynny, felly gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynglŷn â hynny. Yn amlwg, mewn gwahanol rannau o Gymru, bydd lefel sylfaenol wahanol o gapasiti a dewisiadau a phenderfyniadau'n cael eu gwneud yn y ffordd y mae'n disgrifio enghreifftiau yn ei rhanbarth ei hun. Ond os caf ei sicrhau, mae'r holl ddata mewn perthynas ag argaeledd lleoedd mewn cartrefi gofal yn cael ei ystyried yn llawn yn y trafodaethau a gawsom gyda'n partneriaid.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi am ddefnyddio'r cyfle yma i longyfarch clybiau ffermwyr ifanc Cymru ar eu llwyddiant yn eisteddfod y ffermwyr ifanc a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf. Fe ddaeth nifer o gystadleuwyr i’r brig, yn cynnwys llawer un o’m rhanbarth i yn y gogledd, mewn meysydd mor amrywiol â’r ensemble lleisiol, lle cipiodd Clwb Rhosybol yn Ynys Môn y wobr gyntaf, Hawys Grug o Glwyd yn ennill yr unawd ieuenctid, a Mared Edwards o Fôn yn ennill y gystadleuaeth adrodd digri.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Mared Fflur Jones o Ynys Môn ar ennill y gadair, ac i Elain Iorwerth, sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, ar ennill y goron. Mae llwyddiant ysgubol yr eisteddfod unwaith eto eleni yn deyrnged i rôl hanfodol y mudiad fel un o gonglfeini cefn gwlad, diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg.
Ond y tu hwnt i Gymru hefyd, fe ddaeth llwyddiant i’r ffermwyr ifanc yng ngwobrau cymunedol Prydeinig clybiau'r ffermwyr ifanc, a gynhaliwyd yn Birmingham yn ddiweddar. Un o sêr ffermwyr ifanc ardal Uwchaled, Ceridwen Edwards, a ddaeth i’r brig yng nghategori 'Calon y CFfI', gyda'r beirniaid wrth eu bodd efo egni a gwaith di-flino Ceridwen dros ei chlwb.
Un arall o lwyddiannau mawr y noson oedd Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon yng Ngheredigion. Nhw enillodd wobr 'Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc', gyda chanmoliaeth am rôl y clwb wrth helpu i achub y neuadd bentref leol, a'u cyfraniad at hyfywedd yr iaith Gymraeg.
Mae gan glybiau ffermwyr ifanc Cymru dros 5,500 o aelodau, a'r rheini yn cyflawni dros filiwn o oriau gwaith gwirfoddol yn flynyddol. Gadewch i ni, felly, ddathlu'r holl lwyddiannau yma, a chyfraniad amhrisiadwy'r mudiad i gymunedau ar hyd a lled y wlad.
Mae gennyf 90 eiliad i nodi 90 mlynedd ers agor neuadd les y glowyr yn Ystradgynlais. Adeiladwyd y neuadd wych hon â cheiniogau'r glowyr ac fe gostiodd £9,000 ar y pryd. Dilynwyd y seremoni agoriadol gan wythnos o ddathliadau, gan gynnwys cynhyrchiad mawreddog o 'The Bells of Beaulieu' gan Gymdeithas Operatig Ieuenctid Ystradgynlais, a gynhyrchwyd gan Mr Cynlais Davies.
Ers 1934, mae'r neuadd wedi mynd drwy drawsnewidiadau amrywiol, a heddiw, mae'n ganolfan gelfyddydol fywiog ac yn ganolfan gymunedol. Weithiau, mae'n orsaf radio hefyd, weithiau'n stiwdio deledu. Mae ganddi sinema, sy'n dangos yr holl ffilmiau diweddaraf, ac mae'n cynnal digwyddiadau fel—credwch neu beidio—band teyrnged Abba byw, ac mae ganddi amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau. Mae hefyd yn gartref i Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, sy'n ymroddedig i hyrwyddo gwerthfawrogiad o fywyd a gwaith Josef Herman, sydd wedi arddangos gwaith yn y Tate Britain.
Yn wir, mae'r neuadd les yn falch o'r ffaith ei bod yn un o'r ychydig neuaddau lles ledled y wlad gyfan sydd wedi cadw ei phwrpas gwreiddiol o fod yn lle o ddiwylliant ac addysg. Mae'r neuadd hon gan ac ar gyfer cymuned gyfan Ystradgynlais. Diolch i'r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi bod yno dros y 90 mlynedd diwethaf, ac rydym yn dymuno'n dda iddynt ar gyfer y 90 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr iawn.
Item 5 this afternoon is a debate on the Children, Young People and Education Committee report, 'Do disabled children and young people have equal access to education and childcare?' And I call on the Chair of the committee to move the motion—Buffy Williams.
Cynnig NDM8718 Buffy Williams
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024, a'r fersiwn hawdd ei deall a osodwyd hefyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yng ngwanwyn 2023, lansiodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg un o'n hymchwiliadau mwyaf uchelgeisiol hyd yma: archwiliad manwl o brofiadau gofal plant ac addysg plant anabl a niwrowahanol a'u teuluoedd. Roedd ein gwaith yn ymdrin â darpariaeth blynyddoedd cynnar a darpariaeth cyn ysgol, gan gynnwys cyllid, staffio a digonolrwydd. Roedd yn cynnwys clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol a darpariaeth gwyliau.
Fe wnaethom edrych yn fanwl ar y diwrnod ysgol ei hun—ysgolion arbennig, ysgolion prif ffrwd, gweithgareddau allgyrsiol ac adeiladau ysgol. Fe wnaethom archwilio cyllid ysgolion, trefniadau staffio, capasiti, hyfforddiant, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a mwy. Fe wnaethom hefyd archwilio effeithiau darpariaeth anghyfartal ar blant a'u teuluoedd, a yw teuluoedd yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ac a gânt eu clywed.
Yn ystod ein hymchwiliad, cynhaliwyd 13 sesiwn dystiolaeth lafar. Cawsom dros 80 darn gwahanol o dystiolaeth ysgrifenedig, a llawer ohonynt gan deuluoedd yn uniongyrchol. Ymwelwyd â phum ysgol a thri lleoliad gofal plant a chymorth. Fe wnaethom ategu ein tystiolaeth ysgrifenedig â gohebiaeth ag ystod o gyrff gwahanol.
Ochr yn ochr â hyn, cynhaliodd y tîm cysylltu â dinasyddion dros 40 o gyfweliadau teuluol ar ein rhan gyda rhieni, gofalwyr a phlant, a phobl ifanc hefyd o bob rhan o Gymru.
Fe wnaethom sefydlu grŵp cynghori ar-lein gyda dros 15 o rieni, gofalwyr a phobl ifanc. Fe wnaeth eu profiadau personol helaeth siapio a llywio ein gwaith.
Mae'r holl dystiolaeth hon a mwy wedi bwydo i mewn i'n hadroddiad. Roedd yn ymchwiliad cadarn, cynhwysfawr a thrylwyr, ac wrth ei wraidd mae profiadau personol trallodus llawer o deuluoedd, tystiolaeth sy'n sicr wedi gadael argraff arnaf i, ac rwy'n tybio, ar aelodau eraill y pwyllgor yn y gorffennol a'r presennol a oedd yn rhan o'r ymchwiliad hwn.
Rwy'n dweud hyn i gyd i gadarnhau pwysau'r dystiolaeth a gawsom sy'n sail i'n canfyddiadau, oherwydd nid ydym yn dod i gasgliadau fel y rhai yn yr adroddiad hwn yn ysgafn. Deuwn i'r casgliad yn ein hadroddiad fod nifer sylweddol o hawliau plant a phobl ifanc i addysg yn cael eu torri yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r plant a'r bobl ifanc hyn yn cael cam sylfaenol.
Deuwn i'r casgliad y gall gwadu hawl plant a phobl ifanc i addysg gael effaith sylweddol ar eu llesiant emosiynol a meddyliol, yn ogystal â'u hiechyd corfforol. Nid y plentyn yn unig sy'n gorfod byw gyda'r effeithiau hyn, ond rhieni, gofalwyr, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau ac aelodau eraill o'r teulu a'r gymuned ehangach. Unwaith eto, gall yr effeithiau hyn fod yn sylweddol ac yn barhaol.
Gwnaeth ein hadroddiad 32 o argymhellion. Nid oes digon o amser i'w trafod i gyd heddiw, felly fe ganolbwyntiaf ar flaenoriaethau ein grŵp cynghori ar-lein. Fel pwyllgor, rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i wrando ar bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o'r materion rydym yn eu harchwilio, felly mae'n briodol fod pobl sydd â phrofiad bywyd yn siapio'r ddadl ar yr adroddiad hwn. Hwy yw'r arbenigwyr ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru mewn gwirionedd, ni waeth pa ddogfennau canllawiau, datganiadau polisi, neu hyd yn oed yr hyn y mae ein deddfau'n ei ddweud. Felly, beth oeddent hwy'n ei feddwl o ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad? Dyma farn gynrychiadol gan un aelod o'r grŵp:
'Nid wyf yn credu bod yr ymateb yn cydnabod maint a difrifoldeb y problemau i deuluoedd, na'u bod yn faterion brys. Nid wyf yn gweld cydnabyddiaeth o'r anawsterau y mae teuluoedd yn eu hwynebu yn yr ymateb, heb sôn am y gwaith sydd ei angen i fynd i'r afael â hwy.'
Maent wedi gofyn inni ganolbwyntio ar rai materion penodol yn y ddadl heddiw. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gallwch ymateb i'r pryderon hyn yn benodol yn eich ymateb. Er fy mod yn cydnabod bod rhai o'r materion hyn yn ymestyn y tu hwnt i'ch portffolio addysg, fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru sy'n ymateb i'r ddadl heddiw, hoffwn i chi siarad ar ran y Llywodraeth ar bob mater heddiw.
Yn gyntaf, y diffyg darpariaeth gofal plant ar gyfer plant anabl a niwrowahanol. Yn yr ymateb i argymhelliad 4, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod darpariaeth gofal plant yn cael ei gweithredu i raddau helaeth gan unigolion neu fusnesau preifat, felly mae awdurdodau lleol yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallant ei wneud i sicrhau gofal plant cynhwysol i blant anabl a niwrowahanol. Ond mae problem fawr gyda'r ddadl hon, fel y nododd un aelod o'n grŵp cynghori yn glir:
'Mae'r farchnad wedi methu darparu gwasanaeth gofal plant i deuluoedd ac mae'n ymddangos nad oes cynigion polisi i fynd i'r afael â hynny.'
Ysgrifennydd y Cabinet, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod prinder sylweddol o ofal plant cynaliadwy, cynhwysol, fel y mae'r ymateb yn awgrymu? A oes gan Lywodraeth Cymru gynllun neu fwriadau i ddatblygu cynllun i gynyddu capasiti gofal plant cynhwysol?
Yn ail, ein hargymhelliad 15, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r cyflyrau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar blant anabl a niwrowahanol, a datblygu a chyflwyno cefnogaeth i ysgolion i'w helpu i ymateb i'r cyflyrau hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, gan ddadlau bod gwaith eisoes ar y gweill yn y maes hwn gyda gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru, ond fel y gwyddom i gyd, mae gwahaniaeth pwysig rhwng cynnwys y cwricwlwm a'r ffordd y caiff y cwricwlwm ei gyflwyno. Mae mor bwysig ein bod yn canolbwyntio ein dadl ar sut y gall ysgolion gyflwyno eu cwricwla i ddysgwyr anabl a niwrowahanol, nid sut y mae'r cwricwlwm yn galluogi ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Fel y dywedodd un o aelodau ein grŵp cynghori wrthym:
'Heb ddeall y gwahaniaethau yn y ffordd y mae'r plant hynny'n dysgu, beth bynnag am y cysyniad newydd hwn o gwricwlwm newydd, rydych chi'n dal i'w gyflwyno yn yr un modd.'
Rydym yn cytuno'n llwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi esbonio'n gliriach sut y credwch y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn helpu ysgolion i ddeall a diwallu anghenion eu dysgwyr anabl a niwrowahanol?
Nesaf, ein hargymhelliad 19. Galwn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu modiwl hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth o anabledd i holl staff ysgolion. Fe wrthodwyd yr argymhelliad hwn gennych, gan ddadlau bod ymgysylltu gwirfoddol mewn dysgu proffesiynol yn fwy effeithiol na hyfforddiant gorfodol. Fodd bynnag, mae eich ymateb hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gallu ac yn hyrwyddo dysgu proffesiynol mewn meysydd blaenoriaeth. Rwy'n cymryd bod hyn yn golygu y gallech chi hyrwyddo hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd hefyd, pe baech chi'n teimlo ei fod yn flaenoriaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i staff addysg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru?
Yn olaf, mewn nifer o leoedd mae'n ymddangos bod ymateb Llywodraeth Cymru yn dirprwyo'r cyfrifoldeb am gydraddoldeb mewn gofal plant ac addysg i awdurdodau lleol. Dyma ychydig o enghreifftiau. Argymhellion 4, 10 a 32: roedd yr argymhellion hyn yn canolbwyntio ar fylchau yn strategaethau a chynlluniau hygyrchedd gofal plant awdurdodau lleol ac ysgolion, a bylchau mewn swyddi addysgu arbenigol. Cafodd pob un o'r rhain eu gwrthod, gyda chyfrifoldeb yn cael ei daflu'n ôl i'r awdurdodau lleol. Ond fel y mae ein hadroddiad yn nodi mor glir, mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd darparu mynediad cyfartal at ofal plant ac addysg yn gyson. Er gwaethaf yr ymdrechion gorau, gan ddefnyddio'r cyllid, y staff a'r adnoddau sydd ar gael iddynt ledled Cymru gyfan, nid yw awdurdodau lleol yn darparu mynediad cyfartal i ofal plant ac addysg. Beth arall y mae'n mynd i'w gymryd i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy i roi'r cymorth sydd ei angen arnynt mor glir i awdurdodau lleol, fel yr amlinellir yn ein hargymhellion?
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth yn eich ymateb i'n hadroddiad fod yn rhaid gwneud mwy i sicrhau bod hawliau plant i addysg yn cael eu cynnal yn gyson ledled Cymru. Ond nid ydym yn teimlo bod eich ymateb yn ymrwymo i newid sylweddol yng nghyflymder a graddau'r camau sydd eu hangen i wneud hynny. Mae ein pwyllgor, fel y grŵp cynghori ar-lein, yn poeni efallai nad ydych chi'n rhoi'r flaenoriaeth y maent yn ei haeddu i'r materion hyn. Y bore yma, ymwelais ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda i weld eu darpariaeth ADY newydd. Nid oes modd gwadu o gwbl fod staff addysg, fel eu cymheiriaid gofal plant, yn gwneud eu gorau gyda'r hyn sydd ganddynt. Mae aelodau'r pwyllgor, fel finnau, yn argyhoeddedig na allai ein staff addysg a gofal plant fod yn gwneud rhagor. Ond nid wyf wedi fy argyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli faint o waith sydd angen ei wneud i wella mynediad at ofal plant ac addysg i blant anabl a niwrowahanol, ac nid wyf yn argyhoeddedig fod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod yn deall y brys sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith.
Edrychaf ymlaen at glywed eich safbwyntiau a safbwyntiau'r Aelodau ar draws y Siambr yn y ddadl heddiw.
Rwy'n falch o fod yn trafod rhai o'r canfyddiadau pwysig iawn yn adroddiad y pwyllgor hwn y prynhawn yma, ac rwy'n awyddus i glywed ymateb Llywodraeth Cymru i gasgliadau'r adroddiad, fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eisoes wedi eu nodi wrth agor y ddadl.
I ddechrau gyda gofal plant, canfu'r adroddiad fod darpariaeth gofal plant gynhwysol a hygyrch yn dameidiog, yn amrywio a heb fod yn bodoli o gwbl mewn rhai mannau, ac mae hyn ar unwaith yn gosod rhai plant dan anfantais o'r oedran cynharaf. Mae'r ddarpariaeth gofal plant i bob plentyn yn gynyddol ddrud, ac mae lleoedd yn brin. Felly, i rieni plant niwrowahanol, mae lleoedd hyd yn oed yn anos dod o hyd iddynt. Dywedodd y comisiynydd plant mai ychydig iawn o ddarpariaeth arbenigol blynyddoedd cynnar a geir a bod y bwlch yn cael ei gydnabod yn eang. Mae cymhlethdodau anghenion plant yn cynyddu ac ar sail anecdotaidd, rwy'n ymweld â llawer o feithrinfeydd yn fy etholaeth yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog blynyddoedd cynnar yr wrthblaid, ac rwyf bob amser yn clywed gan berchnogion meithrinfeydd fod plant yn dod atynt a chanddynt broblemau dysgu ac ymddygiad mwy cymhleth na'r hyn y maent wedi eu hyfforddi i ymdrin â hwy a bod diffyg cefnogaeth ddiagnostig i blant yr oedran hwnnw.
Ategwyd hyn yn yr adroddiad, sy'n nodi bod y pwyllgor wedi clywed gan deuluoedd a rhanddeiliaid y gall sicrhau gofal plant cynhwysol fod yn gymhleth, am mai dim ond dechrau dod yn amlwg y mae'r anghenion, ac efallai na ddaw'r anghenion hynny'n amlwg hyd nes y bydd plentyn yn cael gofal plant, ac yna mae'n rhaid i deuluoedd wynebu amseroedd aros am asesiad. Felly, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae'n bwriadu parhau i ymateb i dueddiadau newidiol mewn niwrowahaniaeth yng Nghymru, a sicrhau cydnabyddiaeth i'r cymorth sydd angen i blant niwrowahanol ei gael.
Yn yr un modd â'r ddarpariaeth gofal plant, amlygodd yr adroddiad fod darpariaeth gynhwysol, ledled Cymru, yn dameidiog ac yn anghyson; mae ysgolion yn brwydro i gael digon o gyllid, staff ac arbenigedd i ddarparu addysg gynhwysol. Wrth gwrs, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n ofynnol i ysgolion wneud addasiadau rhesymol ar gyfer disgyblion anabl a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol yn ôl yn 2018, gyda'r nod o wella mynediad at addysg.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru eu bod yn ymwybodol nad yw'r gofyniad statudol i ysgolion ymgynghori â phlant a phobl ifanc ar gynlluniau hygyrchedd bob amser yn digwydd, gyda Whizz Kids hefyd yn tynnu sylw at y ffordd nad ymgynghorir â hwy fel mater o drefn. Mae'n bwysig hefyd fod y strategaethau a'r cynlluniau hygyrchedd yn cael eu gwerthuso a'u diwygio ar sail dreigl dair blynedd, ac yn ystyried pob agwedd ar addysg. Rhaid ymgynghori â'r plant eu hunain a bydd y diwygio i sail dreigl yn sicrhau bod strategaethau'n parhau i ymateb i dueddiadau sy'n newid. Felly, rwy'n awyddus i wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod canllawiau statudol yn cael eu dilyn, oherwydd, mor aml, dywedir yr hyn y maent am ei glywed wrth bobl; caiff y canllawiau eu cyhoeddi ac nid yw'r canlyniadau byth yn cael eu gweld. Nid oes unrhyw ddarpariaeth nac adnoddau wedi'u rhoi tuag at gyflwyno a gweithredu'r canllawiau newydd, felly mae'n hanfodol fod strategaethau hygyrchedd yn cael eu diwygio'n gyson, gan ymgynghori â phlant a phobl ifanc a bod y strwythurau gwneud penderfyniadau sy'n dyrannu'r adnoddau yn cyd-fynd yn llwyr â gofynion disgyblion.
O ystyried ei bod hi'n Wythnos Gwrth-fwlio, hoffwn dynnu sylw hefyd at rai o'r rhwystrau i addysg y mae disgyblion anabl yn eu hwynebu o ganlyniad i fwlio, a phwysigrwydd llesiant disgyblion. Yn syfrdanol, yn ôl arolwg Gobeithion i Gymru o dros 10,000 o blant, pobl ifanc a rhieni, dywedodd ychydig o dan 60 y cant o bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed a nododd eu bod yn anabl eu bod wedi dioddef bwlio. Nododd gweithwyr proffesiynol hefyd mai pobl ifanc anabl sy'n wynebu'r risg fwyaf o fwlio, gyda dros 17 y cant o bobl ifanc anabl yn dweud nad ydynt byth yn teimlo'n ddiogel yn yr ysgol. Wrth gwrs, mae hyn yn gwaethygu mater diffyg hygyrchedd addysgol, mae'n gwaethygu ynysigrwydd cymdeithasol ac yn arwain at gyrhaeddiad addysgol gwaeth.
Dylem dderbyn bod bod ag anabledd yn arwain o reidrwydd at ganlyniadau addysgol gwaeth a bod pob plentyn yn haeddu mynediad cyfartal at addysg o ansawdd da, ac mae'n bwysig cydnabod nad yw'r rhwystrau bob amser yn ariannol. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) wrth y pwyllgor nad yw digwyddiadau bob amser yn cael eu labelu fel bwlio ac felly nid yw strategaethau bwlio yn dod yn weithredol. Felly, mae'n amlwg o'r ystadegau fod disgyblion anabl yn profi bwlio ar lefelau anghymesur mewn ysgolion a bod angen gweithredu mesurau diogelu gwell i nodi bwlio yn gynt.
Hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod ysgolion yn dilyn canllawiau, fod strategaethau anabledd yn cael eu hadolygu'n aml gan ymgynghori'n rheolaidd â phlant, a sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gwella mesurau diogelwch rhag bwlio i blant anabl a chydnabod y rôl bwysig y mae llesiant meddyliol yn ei chwarae yn y drafodaeth ynghylch rhwystrau i addysg lwyddiannus. Diolch yn fawr.
Mae’n anrhydedd cymryd rhan yn y ddadl hon; roedd yn anrhydedd bod yn rhan o’r pwyllgor tra bo'r ymchwiliad hwn yn mynd rhagddo. Hoffwn dalu teyrnged i’r tîm clercio. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i fy holl gyd-aelodau o’r pwyllgor, yn ogystal â phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hynod bwysig hwn. Roedd yn emosiynol. Roedd yn dorcalonnus. Roedd yn galonogol, ar adegau, gweld rhai o’r enghreifftiau gwych pan fo plant yn cael eu cefnogi’n briodol a phan fydd eu teuluoedd yn cael eu cefnogi’n iawn, sut y maent yn ffynnu, pa mor hapus ydynt, sut y maent yn mynd ymlaen i wneud pethau gwych. Ond pan fydd methiannau, mae'n rhaid inni gydnabod pa mor ddinistriol y gall yr effeithiau hynny fod.
Gwn na chymerodd y tîm clercio, pob Aelod, yn ogystal â’r rhai a roddodd eu hamser i’r ymchwiliad hwn, yr argymhellion yn ysgafn. O ddifrif, fe wnaethom geisio gwneud llai o argymhellion; fe wnaethom geisio cael adroddiad byrrach na hwn. Ond roedd faint o dystiolaeth a gawsom yn golygu bod yn rhaid inni gynnwys y cyfraniadau a’r lleisiau pwysig hynny, ac nid oes ond angen ichi edrych ar nifer y cyfeirnodau i ddeall ein bod wedi cael llawer iawn o dystiolaeth ysgrifenedig hefyd. Fe wnaeth yr ymweliadau gyfoethogi ein dealltwriaeth yn fawr. A phan feddyliwch am rai o’r teuluoedd, fe wnaethant roi eu hamser mewn cyfnod pan fônt yn ei chael hi'n anodd, a rhoi eu hamser nid unwaith, ond droeon, i helpu i’n cynghori. Fy mhryder i yw’r hyn sy’n digwydd nesaf, oherwydd pan fydd pobl yn rhoi eu hamser mewn ffordd mor ystyrlon ac mor onest, maent yn disgwyl i hynny arwain at newid.
Gŵyr pob un ohonom am yr anawsterau sy’n wynebu awdurdodau lleol, y sector addysg a Llywodraeth Cymru, ond dywedwyd wrthym yr wythnos diwethaf fod cyni ar ben a bod pethau'n mynd i wella nawr. Yn amlwg, roedd rhywfaint o newyddion da yn y gyllideb, ond mae angen inni gydnabod maint y problemau, ac rwy’n falch fod y Cadeirydd wedi tynnu sylw at rai o’r heriau allweddol hynny, gan ei bod yn anodd deall pam fod rhai o’r argymhellion wedi’u gwrthod gan Lywodraeth Cymru. Unwaith eto, hoffwn annog, fel y gwnaeth Cadeirydd y pwyllgor, o ran argymhelliad 19, ar hyfforddiant gorfodol—hoffwn ddeall barn Llywodraeth Cymru ar hyn a gofyn ichi ailystyried.
Oherwydd yr holl waith achos a gaf fel Aelod rhanbarthol sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc anabl, a’u mynediad, neu ddiffyg mynediad, at addysg a gofal plant, penderfynais gynnal arolwg, a gyflwynais wedyn fel rhan o'r gwaith hwn fel gwybodaeth. Mae'r gwaith achos yn dal i gynyddu, felly er ein bod wedi gwneud y gwaith hwn ac wedi ymgysylltu, mae'r problemau'n dal i fodoli.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y broblem y credaf y byddwn yn ei gweld lle bydd rhai pobl wedi'u trawmateiddio gan system addysg nad yw wedi gweithio iddynt hyd yn hyn, ac wedi'u colli o'r system addysg, yn bum mlwydd oed neu'n chwe blwydd oed efallai. Ar hyn o bryd—wel, maent yn cael eu categoreiddio fel plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref. Nid ydynt yn derbyn eu haddysg yn y cartref; maent wedi cael cam gan system addysg, ac nid oes unrhyw gymorth, gan y caiff ei ystyried yn ddewis gan rieni. Nid yw'n ddewis pan nad yw ysgolion wedi gallu cefnogi eu plentyn, ac os ydynt wedi cael eu trawmateiddio gan yr ysgol. Felly, beth fydd y cymorth parhaus iddynt hwy tra byddwn ni, gobeithio, yn sicrhau y bydd unrhyw blentyn sy'n dod i mewn i'r system addysg o hyn ymlaen yn cael eu cefnogi ac na fydd addysg yn achosi trawma iddynt? Beth am y plant sydd wedi cael eu trawmateiddio am nad ydynt wedi cael y cymorth sydd ei angen arnynt?
Hefyd, o ran teuluoedd, mae menywod yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan y methiannau a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn sgil methu gweithio, ac mae’r effaith, felly, ar economi Cymru yn ddwys. Roedd diffyg argaeledd gofal plant yn rhywbeth yr oeddwn yn wirioneddol siomedig nad oedd rhai o’r cynrychiolwyr awdurdodau lleol a siaradodd â ni fel pwyllgor hyd yn oed yn cydnabod ei bod yn broblem. Byddech wedi meddwl, o glywed ganddynt, nad oedd unrhyw broblem yma. Oni bai ein bod yn cydnabod bod problem, ni allwn unioni pethau. Felly, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, i ganolbwyntio ar sut rydym yn cael y gydnabyddiaeth honno a'r darlun cywir o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, fel y gallwn unioni hynny, oherwydd os oes gennym uwch swyddogion mewn awdurdodau lleol yn dweud, 'Nid oes problem', a bod gennym bobl yn eu dagrau yn dweud wrthym eu bod yn teimlo'n hunanladdol oherwydd y methiannau, mae rhywbeth o'i le yn fy marn i.
Diolch am waith y pwyllgor. Hoffwn glywed gan y Cadeirydd, yn eich sylwadau clo, sut rydych chi'n bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Nid wyf ar y pwyllgor mwyach. Mae'n bwysig iawn ein bod nid yn unig yn gwrando, ond yn gweithredu. Mae dyletswydd arnom i’r rheini sydd wedi rhoi eu hamser i sicrhau bod y newidiadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn ac yn yr argymhellion hyn yn cael eu rhoi ar waith.
Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Roedd y pwyllgor am imi dynnu sylw at rai deisebau pwysig a ystyriwyd gennym yn ddiweddar, lle mae’r dystiolaeth gan ddeisebwyr wedi helpu i lywio’r ymchwiliad hwn. Mae hyn yn cynnwys pum deiseb yn ymwneud â chymorth a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, a’r diwygiadau i’r cod ADY. Fe wnaethom drafod y materion hyn ar 8 Mai, ac fe wnaethom ystyried y deisebau eto yn ein cyfarfod ar 14 Hydref. Mae’r manylion wedi’u rhannu gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nifer enfawr o ddeisebau a llofnodion yn amlygu cryfder y teimladau. Mae rhai o’r deisebwyr wedi gallu ymgysylltu â’r pwyllgor, ac Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion, ac mae hynny, wrth gwrs, i’w groesawu’n fawr.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyfarfod â deisebydd a gefnogwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar. Roedd yn galw am fwy o athrawon plant byddar, a chefnogaeth i blant byddar a'u teuluoedd ac athrawon. Mae’r deisebydd yn addysgwr profiadol ac yn rhiant i ddau o blant byddar, a dywedodd wrthym ei bod yn siomedig iawn fod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad 32 yn yr adroddiad hwn. Mae argymhelliad 32 yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflawni clir ar gyfer mynd i’r afael â bylchau mewn swyddi addysgu arbenigol, ar gyfer athrawon plant byddar, ac athrawon plant ag amhariad ar eu golwg, er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad at y cymorth hwn pan fydd ei angen arnynt. Dylai’r cynllun cyflawni hwn gynnwys targedau, amcanion ac amserlenni clir fel y gellir ei fonitro a chraffu arno. Addewais i'r deisebydd y buaswn yn ei godi heddiw. Gofynnwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg edrych eto ar yr argymhelliad hwn, a byddwn hefyd yn ysgrifennu ati cyn bo hir gyda mwy o fanylion ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen ym marn y deisebwyr, ar ôl eu cyfarfod yr wythnos diwethaf. Sylwaf fod gan y ddeiseb gefnogaeth lawn grŵp trawsbleidiol y Senedd ar faterion byddar.
Mae ein dadl ddiweddar yn y Siambr ar fynediad at arian parod i oedolion agored i niwed hefyd yn tynnu sylw at faint o waith sydd ei angen o hyd i warantu bod gan bobl anabl yr un hawliau mynediad â phawb arall. Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd, ond mae'r perygl o lithro'n ôl yn real.
Mae cludiant ar fysiau a theithio gan ddysgwyr yn faes arall sy’n peri pryder i ddeisebwyr. Yn ein cyfarfod ar 4 Tachwedd, cawsom y wybodaeth ddiweddaraf am bedair deiseb yn ymwneud â chludiant i blant ysgol a chludiant ar fysiau yn fwy cyffredinol. Mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnwys tri argymhelliad ar deithio gan ddysgwyr: argymhellion 21, 22 a 23, sy'n ymwneud â sicrhau arferion gorau, diweddaru canllawiau a hyfforddiant i ddarparwyr trafnidiaeth er mwyn darparu gwell cymorth i bobl ifanc. Mae llawer o waith wedi’i gynllunio yn y maes hwn, ond roedd y pwyllgor yn awyddus imi dynnu sylw heddiw at ba mor bwysig yw’r materion hyn, fel y nodir yn adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, y cawsom ddadl yn ei gylch ym mis Hydref.
Diolch am y cyfle i dynnu sylw at y deisebau hyn fel rhan o’r ddadl heddiw. Yn bersonol, hoffwn ddweud yn y funud sy'n weddill fy mod yn deall, a minnau'n arfer gweithio mewn awdurdodau lleol, ein bod wedi cael toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol, fod y galw'n cynyddu, fod angen inni edrych ar Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, a gwn fod cost darparu trafnidiaeth i blant wedi cynyddu 40 y cant. Felly, rwy’n deall y cefndir o gyni yr ydym wedi bod yn ei wynebu, ond roeddwn yn awyddus i sicrhau bod y pwyntiau hyn, ar ran y Pwyllgor Deisebau, yn cael eu codi heddiw. Diolch.
Fel cyn-Aelod o’r pwyllgor fy hun, a gaf i hefyd ddechrau drwy ddiolch i’r clerc, holl staff y pwyllgor a’r holl Aelodau sydd wedi gwasanaethu ar y pwyllgor, ac sydd wedi mynd drwy’r adolygiad hwn i gyd, ac wrth gwrs, i'n Cadeirydd gwych, Buffy Williams, a’r cyn-Gadeirydd, Jayne Bryant, sydd wedi bod yn gwbl ymroddedig a gweithgar wrth gynnal adolygiad trylwyr o hyn? Roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan allweddol o'r gwaith o ddod â hyn i sylw’r pwyllgor i ddechrau, ac rwy'n diolch o waelod calon i chi am wneud hyn yn iawn. Rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar y rhain nawr, ac yn ailedrych, efallai, ar rai o'r argymhellion a wnaethom fel pwyllgor—y pwyllgor presennol.
Cymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yw un o’r materion mwyaf enbyd sy’n effeithio ar deuluoedd yng Nghymru heddiw, ac mae bod yn rhan o’r adolygiad hwn, fel y dywedwyd eisoes, wedi bod yn dorcalonnus ac yn addysgiadol. Er gwaethaf blynyddoedd o alwadau am ddiwygio, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fethu ar ran y plant hyn a’u teuluoedd, gan eu gadael i frwydro heb y cymorth na’r adnoddau angenrheidiol.
Mae staff ysgolion yn gwneud eu gorau glas â’r hyn sydd ganddynt, fel y dywedwyd eisoes gan ein Cadeirydd. Mae’n warthus nad yw cymaint o athrawon a chynorthwywyr addysgu wedi cael yr hyfforddiant safonol sylfaenol ar niwrowahaniaeth o hyd, heb sôn am achosion arbenigol, fel syndrom Angelman, sy’n aml yn gallu codi. Mae hyn yn achosi nifer o broblemau, gan gynnwys, os nad yw rhywun yn gwbl barod i ofalu am a bod yn ymwybodol o ymddygiadau a'r anghenion penodol a allai fod gan ddysgwyr ag ADY, a heb ddealltwriaeth o sut i ymdrin â hwy, yn aml, gellir camddiagnosio’r ymddygiadau hyn fel ymddygiad gwael.
Ddoe, tynnodd etholwr fy sylw at achos mewn ysgol gyfun lle cafodd plentyn ei wahardd am ei fod yn gweiddi’r atebion yn y dosbarth. Roedd ei ymddygiad yn cael ei ystyried yn ymddygiad gwael, ond mae'r plentyn ei hun yn mynd adref yn crio bob nos am na all atal ei hun rhag gwneud hynny. A dyma'r ADY lefel is sy'n anffodus yn mynd o dan y radar gyda—a pheidiwch â'm camddeall, mae i'w chroesawu'n fawr—y Ddeddf ADY newydd hon. Mae’n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ag ef ar frys, ynghyd â'r ffaith bod y Ddeddf yn cael ei dehongli mewn 22 o wahanol ffyrdd gan 22 awdurdod lleol, gan arwain at loteri cod post o ran sut y caiff ADY eu trin ledled Cymru.
Nid yw ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 7 yn ddigon da. Mae angen cyflwyno canfyddiadau'r adolygiad cyn haf 2025. Mae hyn yn fater brys. Fel arall, bydd llawer mwy o blant yn cael eu heffeithio os na fyddwn yn cymryd camau brys ar hyn. Bydd yr amrywiaeth o ffyrdd y mae’r Ddeddf ADY yn cael ei dehongli yn parhau i ddwysáu'r anghydraddoldebau y mae dysgwyr ag ADY yn eu hwynebu bob dydd. Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 19, a alwai am hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth o anabledd i holl staff ysgolion. Sut y gallwn ddisgwyl cynhwysiant pan nad ydym yn rhoi sgiliau i’n hathrawon ddeall a chefnogi’r plant yn eu gofal? Mae argymhelliad 15 yn galw am ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer cyflyrau cyffredin fel dyslecsia, a fyddai wedi sicrhau y gallai pob ysgol, ni waeth beth fo’i lleoliad neu ei hadnoddau, ddarparu cymorth, ac eto, mae Llywodraeth Cymru wedi ei wrthod. Mae hwn yn gyfle a gollwyd i greu tegwch a chysondeb ar draws y system addysg.
Mae argymhelliad 11 yn galw am ganllawiau ymarferol ar y model cymdeithasol o anabledd yn yr ysgol. Heb y canllawiau hollbwysig hyn, bydd ysgolion yn cael eu gadael i ofalu amdanynt eu hunain, gan arwain at ddulliau anghyson ac annigonol o ymdrin â chynhwysiant. Yn ogystal â’r addasiadau ymarferol y mae angen eu gwneud mewn ysgolion ar gyfer anableddau corfforol, mae’n hanfodol fod addasiadau ar gyfer plant byddar a phlant dall yn dod yn norm pendant ar gyfer ysgolion ledled Cymru, gan fod y rhan fwyaf o blant byddar, er enghraifft, yn cael eu haddysgu mewn addysg brif ffrwd. Nid oes ysgol i blant byddar yng Nghymru. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn argymhelliad 12, ond mae eich ymateb yn eithaf gwan. Mae cynorthwywyr addysgu yn gwbl hanfodol. Hebddynt yn yr ystafell ddosbarth, mae'r athro yn gorfod ymdrin â nifer o blant â nifer o wahanol anghenion, sy'n effeithio ar addysg pob plentyn yn yr ystafell ddosbarth honno. Nid yw’r brwydrau a wynebir gan deuluoedd yn gorffen wrth gatiau’r ysgol wrth gwrs, gyda phroblemau teithio yn aml yn faich ariannol enfawr ar deuluoedd. Nid yn unig hynny, ond nid oes gan rieni unrhyw ddewis ond aberthu eu gyrfaoedd a'u lles personol eu hunain er mwyn sicrhau bod eu plant yn cael addysg deilwng.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion hollbwysig yma. Mae arnom angen system sy’n blaenoriaethu plant, sy'n gwarantu'r cymorth angenrheidiol ac sy'n sicrhau nad oes unrhyw deulu yn cael ei adael ar ôl. Nid moethusrwydd yw addysg gynhwysol, ond hawl, ac felly mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar hyn. Mae’n gwbl hanfodol fod plant a phobl ifanc yn cael eu nodi'n gynt er mwyn atal pobl rhag colli addysg y maent yn ei haeddu. Mae angen i ysgolion a meithrinfeydd fod yn gwbl barod i addysgu pawb â phob lefel o ADY ac anableddau eraill. Mae ysgolion arbennig, fel y gwyddom, yn llawn dop, ac ni allant gynnig lle i bawb y byddem fel arfer yn eu gweld yn y lleoliad hwnnw. Maent yn dod i mewn i addysg brif ffrwd, felly mae angen inni ddarparu ar gyfer hynny. Rwy'n annog—
Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Rwy’n annog Ysgrifennydd y Cabinet—mae’n ddrwg gennyf—i wneud popeth yn ei gallu, gan ailedrych ar yr argymhellion efallai, i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu, ym mha bynnag iaith a ddewisant a ble bynnag y maent yn ei ddewis. Diolch.
Fel bob amser, rwy'n datgan buddiant fel tad i blentyn anabl ag anghenion dysgu ychwanegol, a fydd mewn ysgol arbennig ac sydd mewn canolfan adnoddau ar hyn o bryd. Felly, mae hyn yn adlewyrchu fy mhrofiad bywyd fy hun i raddau helaeth, ond mae gennyf rai safbwyntiau a allai fod yn wahanol i rai o'r Aelodau sydd wedi siarad hyd yn hyn.
Yn gyntaf, gadewch inni roi hyn yn ei gyd-destun. Yn y 1970au a’r 1980au, byddai fy merch wedi bod mewn sefydliad, a byddai wedi bod mewn sefydliad am y rhan fwyaf o’i bywyd cynnar. Byddai wedi treulio ei holl amser yno. Y Ddeddf gofal yn y gymuned a’r Deddfau dilynol a arweiniodd at y ddarpariaeth sydd gennym heddiw, ac adeiladwyd ar hynny ac fe'i datblygwyd. Weithiau, nid yw wedi datblygu'n yn ddigon cyflym, ond mae cynnydd yn sicr wedi’i wneud yn y ffyrdd y mae ein plant ifanc ag ADY, plant awtistig, plant dyspracsig yn cael eu trin yn well heddiw nag erioed o’r blaen. Credaf fod bod yn besimistaidd ynghylch rhai o’r pethau hyn yn dibrisio profiadau'r rheini a ddioddefodd yn y 1970au a’r 1980au.
Rwy’n cyfaddef fy mod wedi bod yn Aelod absennol o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am wahanol resymau, yn anad dim oherwydd gwrthdaro buddiannau, ac rwy’n mynd i fod yn gadael y pwyllgor hwnnw, ond credaf ei bod yn broblemus gwneud 32 o argymhellion i'r Llywodraeth. Credaf fod hynny'n ormod. Credaf na fydd o fudd i'r bobl a gynrychiolwn a’r Llywodraeth am fod adnoddau’n brin. Os ydych chi'n ceisio taenu’r adnoddau prin hynny ar draws cymaint o argymhellion, mae’n anochel y caiff rhai argymhellion eu gwrthod.
Gallaf weld un argymhelliad a fyddai'n galw am adnoddau enfawr ar ei ben ei hun, ac fe'i hategwyd gan benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i gynnal adolygiad o’r Ddeddf ADY. Credaf fod angen adnoddau llawn ar hynny ynddo’i hun, a deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal cyfarfodydd gyda’r Gweinidog cyllid ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i’r Gweinidog cyllid ymrwymo'r cyllid canlyniadol Barnett llawn i’r adolygiad ADY hwnnw er mwyn sicrhau bod y Ddeddf ADY yn cael ei datblygu a’i gwella’n llawn. Ond gallaf ddeall hefyd pam y byddai’r Llywodraeth yn ei chael hi’n anodd darparu adnoddau ar gyfer popeth y mae’r pwyllgor wedi’i fynnu, ac rwy’n tybio y bydd pwyllgorau sy’n cynhyrchu cymaint â hyn o argymhellion yn parhau i wynebu’r broblem honno mewn dadl awr o hyd.
Hoffwn edrych ar argymhelliad 24:
'Dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor o waith i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu symleiddio er mwyn mabwysiadu dull dim drws anghywir yn llawn ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, ond gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhyngweithio rhwng gwasanaethau iechyd ac addysg. Dylai’r gwaith hwn nodi’r rhwystrau i gydgysylltu gwasanaethau’n effeithiol, yn ogystal â nodi arferion gorau, a mecanweithiau ar gyfer rhannu’r arferion gorau hyn.'
Hoffwn ddweud fy mod wedi bod yn rhan o'r dull 'dim drws anghywir' hwn yn fy etholaeth. Fel rhywun sy’n rhan o’r gymuned awtistiaeth yn fy etholaeth i, rwyf wedi cyfarfod â rhieni, rwyf wedi cynnal cyfarfodydd yng nghanolfan Autistic Minds, ac rwy’n aelod o grŵp anghenion dysgu ychwanegol Sparrows lle mae fy mhlant yn mynd i chwarae, a thrwy hynny, rwyf wedi cyfarfod â llawer o rieni sy'n rhieni i blant awtistig. Rwyf wedi canfod bod ffordd o ddatblygu rhyngweithiadau a all weithio rhwng ysgolion ac iechyd, a hoffwn awgrymu’r dull hwn i Ysgrifennydd y Cabinet.
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Dr Sarah Ellis yw’r pennaeth cynhwysiant, felly os bydd rhywun yn dod ataf ac yn dweud, 'Nid yw’r ysgol yn gweithio i fy merch neu fy mab—nid ydym yn cael ein trin yn gywir’, gallaf fynd at Sarah Ellis a threfnu cyfarfod. Gall ymyrryd yn yr ysgol ar eu rhan, ac nid yw'r llwybr yn gorffen yno. Os oes gwelliannau pellach y mae angen eu gwneud yn yr ysgol, bydd yr ysgol yn gwneud y gwelliannau ac yn gallu cysylltu â’r gwasanaeth iechyd drwy fy swyddfa i. Credaf y gellir efelychu hyn ar raddfa fwy am gost fach iawn. O ystyried bod cyngor Caerffili yn ei wneud, credaf y gall ddigwydd ar draws awdurdodau yng Nghymru, ac rwy’n fwy na pharod i helpu Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu cynllun ar gyfer beth y gellid ei wneud. Ond yn sicr, mae'r hyn sy'n digwydd yno yn effeithiol, ac yn seiliedig ar egwyddor 'dim drws anghywir'—gallwch fynd i mewn mewn unrhyw fan a sicrhau bod eich taith drwy'r system yn llyfn, a'ch bod yn cyrraedd y lle iawn ar yr amser iawn yn yr amgylchiadau iawn.
Ond yn hollbwysig, mae hyn yn fater o adnoddau; er fy mod wedi ceisio lleihau faint o adnoddau rwy'n eu hawgrymu ar gyfer yr argymhelliad hwnnw, mae'n fater o adnoddau. Ac os na fydd yr adolygiad o’r Ddeddf ADY a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer yr argymhellion a dderbyniwyd yn cael ei roi ar waith na'i ystyried gan y Gweinidog cyllid, mae arnaf ofn y byddwn mewn sefyllfa anodd iawn. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Ysgrifennydd y Cabinet gyda chael y cyllid llawn ar gyfer ei hadran.
Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr adroddiad pwysig hwn. Roeddwn i yn aelod o'r pwyllgor ar ddechrau'r ymchwiliad, ac rwyf wedi bod yn dilyn y gwaith ar ei hyd. Fi yw llefarydd Plaid Cymru ar hawliau plant, a dwi'n credu mai hawliau plant sydd wrth graidd yr adroddiad hwn. Mae Cymru’n ymfalchïo yn y ffaith inni arwain y ffordd o ran ystyried hawliau plant wrth greu polisïau. Roedd mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i ymgorffori wedyn ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gamau blaengar a oedd yn gosod arwydd clir bod ein cenedl yn ymgeisio i ddiogelu ein dinasyddion ieuengaf a mwyaf diamddiffyn, nid yn unig rhag niwed ond hefyd rhag cael eu hanwybyddu, eu diystyru, a’u hatal rhag datblygu i’w llawn botensial. Yr hyn dwi'n meddwl sydd wrth wraidd yr adroddiad swmpus yma yw bod Llywodraeth Cymru yn tramgwyddo hawliau plant anabl wrth beidio â sicrhau mynediad cyfartal i addysg a gofal plant, a bod hynny yn cael effaith sylweddol.
Mae effaith hyn oll, wrth gwrs, hefyd yn taro eu teuluoedd hefyd. Hoffwn ddiolch i un o'm hetholwyr, Betsan Gower Gallagher o Gwm Tawe, am roi tystiolaeth i'r pwyllgor am ei phrofiad hi fel mam efeilliaid ag awtistiaeth. Dywedodd hi bod ei phlant yn ddieiriau ond bod yr ymchwiliad wedi rhoi llais iddyn nhw. Disgrifiodd ei brwydr ddiddiwedd i gael y gefnogaeth y mae gan ei phlant hawl iddi. Rwyf wedi gweld â'm llygaid fy hunan y pwysau a'r rhwystredigaeth sy'n cael eu hachosi gan hyn ar Betsan, a hoffwn dalu teyrnged iddi hi a'r holl dystion rannodd eu profiadau â'r pwyllgor. Achos maen nhw wedi blino'n lân yn brwydro, ysgrifennu llythyron at bobl fel ni, at eu cynghorau, at swyddogion, at yr ysgolion, ffonio, e-bostio, aros a chael eu hanwybyddu neu eu troi i ffwrdd. Clywodd y pwyllgor dro ar ôl tro bod y brwydro parhaus yma dros hawliau sylfaenol yn effeithio ar eu hiechyd a'u gallu i weithio. Cafodd Betsan wybod gan swyddog yn ei chyngor hi y dylai hi efallai ystyried rhoi lan gwaith.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol, hoffwn hefyd dynnu sylw yn benodol at y ffaith bod yr hawl i addysg nid yn unig yn hawl dynol sylfaenol, ond mae hefyd yn fodd hanfodol o leihau tlodi, yn fodd o alluogi bod pawb yn medru chwarae rhan mewn cymdeithas. Heb fynediad at yr un addysg a gofal, mae plant anabl yn cael eu hanfanteisio yn sylweddol, gan osod rhwystrau i'r dewisiadau sy'n cwrdd â'u hanghenion a'u dyheadau wrth dyfu'n oedolion. Mae'r hyn a ddadlennodd y pwyllgor o ran diffyg mynediad at ofal plant addas a chynhwysol wedi ei gadarnhau hefyd a'i danlinellu gan dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ystod ein hail ymchwiliad i ddarpariaeth gofal plant. Mae'r dystiolaeth yn ddamniol ac yn dorcalonnus. Clywodd ein hymchwiliad ni fod yr arolwg blynyddol diweddaraf gan Coram Family and Childcare o ddigonolrwydd gofal plant awdurdodau lleol yn dangos mai dim ond 5 y cant o awdurdodau lleol Cymru oedd â digon o ofal plant ar gyfer plant ag anableddau ym mhob ardal.
Mae argymhelliad 5 yn enwedig yn un sy'n adleisio casgliadau ein hadroddiad ni ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sef yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu i symleiddio’r amrywiol ffrydiau ariannu sydd ar gael i ddarparwyr gofal plant. Heb gymryd camau pendant i greu system ddi-dor, hygyrch a chyson drwy Gymru, fydd yna ddim datrysiad i'r cwestiwn o sicrhau darpariaeth ddigonol. Hoffwn i hefyd adleisio yr hyn glywsom ni gan Carolyn Thomas o ran argymhelliad 32. Mae Guide Dogs Cymru hefyd yn bryderus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad yma. Maen nhw'n teimlo'n gryf bod y bwlch cyrhaeddiad sy'n cael ei brofi gan blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg angen cynllun clir gyda thargedau wedi'u gosod allan, a bod modd wedyn monitro a chraffu ar hynny.
Yn ei hymateb i gasgliad 1, mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r gwariant sydd wedi bod i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ac i greu darpariaeth arbenigol newydd. Hoffwn i, wrth orffen, nodi ymateb un arall o'm hetholwyr i sydd â mab sydd ag awtistiaeth. Gwnaeth e fy e-bostio i am ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad. 'Fy mhryder mwyaf', meddai, 'yw bod Llywodraeth Cymru yn hoffi taflu ffigyrau mawr at y rhaglen ADY, ond fel rhieni a phobl sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y rhaglen, dŷn ni ddim yn gweld cynllun manwl ynglŷn â sut yn union mae'r arian yn cael ei wario, beth yw'r allbynnau a sut y maen nhw'n gwella. Oes yna werthusiad wedi ei wneud eto o gynnydd hyd yma, er mwyn cynnig gobaith a thystiolaeth gadarn i rieni fel fi?' Rhaid inni wrando ar leisiau'r teuluoedd sydd wrth galon yr ymchwiliad hwn, ac ar y llais sydd wedi cael ei roi gan yr adroddiad hwn, fel dywedodd Betsan Gower Gallagher, i'r plant hynny sydd heb lais.
Yn gyntaf, a gaf innau ddiolch i’r pwyllgor am ei waith, aelodau'r pwyllgor a’r tîm clercio, ynghyd â phawb a roddodd dystiolaeth ac a gymerodd ran yn yr ymarfer? Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau’n arbennig ar blant a phobl ifanc ag anafiadau i’r ymennydd a gafwyd yn ystod plentyndod a grŵp diddordeb arbennig, N-ABLES, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r materion hyn mewn addysg. Mewn gwirionedd, fe wnaethant gynnal arolwg i archwilio dealltwriaeth addysgwyr o anafiadau i'r ymennydd a gafwyd yn ystod plentyndod, a chanfod diffyg dealltwriaeth a hyder cyffredinol ynghylch gofal ac addysg y plant hyn. Fe wnaethant ddarganfod bylchau hyfforddi ymhlith addysgwyr, dim llawer o gynnwys mewn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon, a diffyg dealltwriaeth a hyder o ran sut i gefnogi’r plant hyn, ynghyd ag ansicrwydd ynghylch gweithredu polisi mewn ysgolion.
Mae miloedd o blant yn cael eu heffeithio gan y cyflyrau hyn, ac mae cyfran sylweddol yn gymedrol i ddifrifol, ac yn aml iawn, mae’r rhain yn anableddau cudd, ac o ganlyniad, nid yw'r ymddygiad sy’n deillio o’r anafiadau hyn yn cael ei weld yn y goleuni hwnnw am fod yr effeithiau'n aml yn gudd, ac yna nid yw’r adwaith, y ffordd yr ymdrinnir â’r problemau hyn mewn ysgolion, yn ddigonol. Mae'r anafiadau hyn yn arwain at ganlyniadau gwybyddol, emosiynol ac ymddygiadol sy'n effeithio ar addysg a dysgu plant, ac mae hyn yn aml yn ei gwneud yn anodd ac yn rhwystredig i'r disgyblion hyn. Gallant ddangos anniddigrwydd, adweithedd emosiynol, gorbryder, iselder, a thrafferth gyda'r cof a sylw a chanolbwyntio. Ac unwaith eto, os nad ystyrir y cyflyrau hyn yng nghyd-destun yr anafiadau, mae hynny'n mynd i effeithio ar y ffordd y mae athrawon a staff ysgol eraill yn ymdrin â'r materion hynny. Felly, mae diffyg dealltwriaeth athrawon mewn ysgolion yn arwain yn rhy aml at gamddehongli’r ymddygiadau ac at ymatebion amhriodol.
Felly, wrth edrych ar hynny oll, Ddirprwy Lywydd, mae N-ABLES wedi cyflwyno argymhellion ynghylch gwella’r nifer sy’n cael hyfforddiant yng Nghymru i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth mewn lleoliadau addysgol, ffyrdd o nodi cymorth, hyfforddiant a'r adnoddau sydd eu hangen ar addysgwyr i roi hyder iddynt ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc gyda’r anafiadau caffaeledig hyn i’r ymennydd, yn ogystal â ffyrdd o rannu arferion gorau i wella gweithrediad polisi anafiadau caffaeledig i’r ymennydd mewn ysgolion.
Felly, credaf fod hon yn rhan bwysig o'r darlun cyffredinol o anabledd ac addysg yn ein hysgolion, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir, i Gadeirydd y pwyllgor edrych ar yr agweddau penodol hynny o fewn y darlun cyffredinol, am fod hynny'n amlwg yn bwysig iawn i’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd yr effeithir arnynt.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith caled yn ystod yr ymchwiliad pwysig hwn? Rydym i gyd yn rhannu'r nod o sicrhau'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r rhieni, gofalwyr a'r plant a siaradodd â'r pwyllgor. Roedd darllen nodiadau'r trafodaethau gyda rhieni yn sobreiddiol a gofidus, ac mae'n wir ddrwg gennyf fod y teuluoedd wedi cael y profiadau hyn, ac rwy'n dweud ar ran y Llywodraeth nad yw'n ddigon da.
Fy swydd gyflogedig gyntaf ar ôl gadael y brifysgol oedd gweithio gyda, ac ar ran rhieni plant anabl. Clywais bryd hynny pa mor galed y bu'n rhaid iddynt frwydro am y gwasanaethau a'r gefnogaeth yr oeddent eu hangen. Effeithiodd yn ddwfn arnaf, ac rwyf am gydnabod nad oes digon wedi newid i ddigon o deuluoedd. Fe allwn, ac mae'n rhaid i ni wneud yn well.
Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pum casgliad a 32 o argymhellion. Mae'n amhosibl i mi wneud cyfiawnder â hwy mewn wyth munud, ond fe geisiaf ymdrin â chymaint o bwyntiau ag y gallaf, gan ddechrau gyda'r meysydd rwy'n uniongyrchol gyfrifol amdanynt.
Mae gweithredu ein diwygiadau ADY yn llwyddiannus wedi bod yn brif flaenoriaeth i mi ers dod i'r swydd ym mis Mawrth. Rwy'n gwybod pa mor galed y mae pawb mewn ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn gweithio i ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc, ac rwy'n ddiolchgar i Heledd am gydnabod ei fod yn gweithio'n dda i rai plant yng Nghymru, er nad i bob plentyn, ac rwy'n cydnabod bod gennym fwy o waith i'w wneud i gael hyn yn iawn.
Rwyf am i'r fframwaith deddfwriaethol fod yn glir a chael ei ddeall yn gyson. Mewn ymateb i dystiolaeth a phryderon, gan gynnwys gan y pwyllgor, fod rhai rhannau'n gymhleth ac yn aneglur, rwyf eisoes wedi cyhoeddi adolygiad o'r fframwaith deddfwriaethol. Rwy'n cadarnhau i'r pwyllgor y bydd cwmpas yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau'r adolygiad erbyn haf 2025. Ac rwy'n falch iawn ein bod yn gofyn i Dribiwnlys Addysg Cymru ddarparu tystiolaeth arbenigol i gefnogi'r gwaith hwn.
A Laura, fe wnaethoch chi godi pryderon am yr amserlenni. Mae hwn yn waith cymhleth, ac mae'n rhaid i ni ei gael yn iawn. Ac mae'n well gennyf gael pethau'n iawn na rhuthro. Ond ar yr un pryd, ochr yn ochr â hyn, rydym yn cymryd camau i wella gweithredu nawr, gan gydgynhyrchu atebion gyda rhieni a phartneriaid cyflawni. Rwyf wedi cytuno ar gynllun gwaith cynhwysfawr gyda swyddogion i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd. Rydym wedi cryfhau monitro a chymorth, gan gynnwys cyfarfodydd tymhorol gydag awdurdodau lleol unigol i yrru'r gwaith, ac rydym yn datblygu setiau data cenedlaethol newydd a mecanweithiau casglu data addysg, awdurdodau lleol ac iechyd, fel y gallwn yrru'r gwelliannau gronynnol sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd. Ac rwy'n cadw mewn cof, pan fyddwn yn siarad am ddata, ein bod yn siarad am blant unigol a theuluoedd.
Rydym wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor ar ADY. Rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor ar gryfhau'r gofynion ynghylch anabledd ac ADY mewn addysg gychwynnol i athrawon. Ddoe ddiwethaf cyfarfûm â phartneriaethau addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru i drafod sut y gallant gymhwyso athrawon yfory yn y ffordd orau i gefnogi dysgwyr ag ADY. Ond mae'n ymwneud â mwy nag addysg gychwynnol athrawon yn unig, mae'n hanfodol fod gan ein gweithlu presennol ddealltwriaeth dda hefyd, ac rydym yn datblygu dysgu proffesiynol newydd ar ddatblygiad plant, niwrowahaniaeth a llesiant i gefnogi amgylcheddau mwy cynhwysol, addysgu a dysgu o ansawdd uchel, ac ymarfer cyfannol. Ac rydym yn dilyn y dystiolaeth y dylai athrawon allu dewis yr hyfforddiant hwnnw, a'u hannog i wneud yr hyfforddiant hwnnw, yn hytrach na'i wneud yn orfodol.
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn ADY, gyda dros £107 miliwn mewn refeniw, a mwy na £170 miliwn mewn cyfalaf ers 2020, a byddwn yn buddsoddi dros £750 miliwn dros y naw mlynedd nesaf mewn darpariaeth gyfalaf ADY. Ac fe wnaethom dderbyn argymhelliad y pwyllgor ar yr adolygiad cyllido ysgolion. Mae ein hadolygiad o fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer ADY, bron wedi'i gwblhau, ac rwy'n hapus i rannu gwybodaeth am hyn gyda'r pwyllgor pan fydd wedi'i gwblhau.
Rwy'n gwybod bod ein gweithlu addysg yn gweithio'n eithriadol o galed i alluogi plant anabl i gael mynediad at addysg drwy ein diwygiadau addysg, gan gynnwys ein cwricwlm newydd, sy'n ceisio chwalu'r rhwystrau i bob dysgwr. Ac rwy'n credu bod cadeirydd y pwyllgor yn camddeall natur y Cwricwlwm i Gymru ac ymateb y Llywodraeth i hynny. Mae hyn yn ymwneud â mwy nag ysgolion yn datblygu eu cwricwlwm eu hunain, mae a wnelo â theilwra dysgu i ddysgwyr unigol, beth bynnag sydd ei angen arnynt, a gweithio gyda hwy ar eu cynnydd.
Mae cymaint o arfer da i'w rannu, o ran gweithredu diwylliant cynhwysol a gwella'r ddarpariaeth ADY, ac rwyf wedi ymrwymo'n bersonol i yrru'r ddarpariaeth ADY yn ei blaen. Rwyf am gefnogi'r gwaith da sy'n digwydd mewn ysgolion, a rhoi cymaint o help â phosibl i staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar sut i ymgorffori dealltwriaeth o'r model cymdeithasol o anabledd mewn gwasanaethau addysg, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd yn fuan. Ond rhaid wrth ymdrech drawslywodraethol i gael hyn yn iawn.
Mae'r gwaith yn dechrau yn y 1,000 diwrnod cyntaf, gan fod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn cymryd camau pendant i wella bywydau plant anabl drwy ganolbwyntio ar sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Rydym yn gyfrifol ar y cyd am ddatblygu a gweithredu ein dull chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar. Drwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn sicrhau bod babanod a phlant ifanc yn cael cyfleoedd i chwarae, dysgu a datblygu.
Rwy'n gwybod y gall teithio i'r ysgol ac o'r ysgol fod yn rhwystr. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae wedi ymrwymo i gynnal uwchgynhadledd ar gludiant i ddysgwyr, y byddaf yn ei mynychu, a byddaf yn sicrhau bod argymhellion y pwyllgor yn cael eu hystyried yn y digwyddiad hwnnw.
Thema glir a glywaf yw'r heriau sy'n bodoli mewn perthynas ag iechyd ac addysg yn gweithio gyda'i gilydd. Unwaith eto, rwy'n cydnabod bod gennym fwy o waith i'w wneud fel Llywodraeth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio i wella mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol i blant anabl, gan gynnwys gweithredu i fynd i'r afael â'r bylchau ledled Cymru mewn perthynas â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Mae amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwrowahaniaeth yn rhy hir. Rydym wedi gweld cynnydd o 59 y cant yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n gofyn am asesiad. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn glir ddoe, mae angen inni ddechrau gwneud pethau'n wahanol. Ar gefn y gwaith y mae gweithrediaeth y GIG wedi'i wneud ar edrych ar alw a chapasiti niwrowahaniaeth, mae gennym ddigwyddiad mawr ar ailgynllunio gwasanaethau ddiwedd y mis hwn, gyda fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy. Bydd hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer sicrhau gwasanaethau cynaliadwy i ddiwallu anghenion plant, ac mae ein grŵp cydweithredol ADY, gydag iechyd, addysg ac awdurdodau lleol, yn datblygu dangosyddion perfformiad allweddol er mwyn inni allu gweld yn union ble mae'r rhwystrau i blant a sicrhau eu bod yn cael eu chwalu. Ac mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi ymrwymo i gyflawni'r cynllun gweithredu hawliau anabledd, a gydgynhyrchwyd gyda phobl anabl.
Ddirprwy Lywydd, mae gan Gymru ymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant. Mae'r ymrwymiad hwnnw'n rhywbeth sy'n golygu llawer iawn i mi, ac rwy'n croesawu'n fawr y ffocws ar hawliau plant yn adroddiad y pwyllgor ger ein bron heddiw. Ond nid yw hawliau ar eu pen eu hunain yn ddigon, rhaid eu troi'n weithredu, yn effeithiau diriaethol go iawn ar fywydau plant a phobl ifanc. Rwy'n gwybod bod gormod o blant a theuluoedd wedi bod yn aros yn rhy hir i'w hawliau ddod yn weithredol. Fel hwythau, rwy'n ysu am newid. Fel Llywodraeth, ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi nes inni ei gael yn iawn i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Soniodd Gareth am gost gofal plant, a chlywsom, dro ar ôl tro trwy gydol y gwaith hwn, pa mor anodd yw cael mynediad at ofal plant ar unrhyw gost. Fel y dywedodd Heledd, roedd pob darn o dystiolaeth a gawsom yn bwysig ac angen ei gynnwys, ac mae'n llawn haeddu bod yn yr adroddiad hwn. Ac yn ein camau nesaf byddwn yn bendant yn myfyrio ar y ddadl heddiw, ac rwy'n eich sicrhau nad ydym am ildio ar hyn.
Soniodd Carolyn am deithio gan ddysgwyr. Mae hyn yn rhywbeth a gododd yn gyson yn ystod yr adroddiad, gan godi llawer o gwestiynau ynddo'i hun. Soniodd Laura am blant yn cael diagnosis anghywir. Clywsom hyn gan rieni a oedd angen cefnogaeth yn ddybryd. Cefais un rhiant mewn un lleoliad yn crio wrth siarad â mi, yn dweud nad oedd hi'n gwybod faint mwy y gallai hi ei gymryd. Ac mae Hefin bob amser yn siarad mor angerddol a huawdl am ei brofiad bywyd, ac rydym yn gwerthfawrogi ei fewnbwn. Ac rydych chi'n gwybod fy mod i bob amser yn gwrando pan fyddwch chi'n siarad, oherwydd rwy'n gwybod am y profiad bywyd hwnnw a pha mor bwysig a pha mor anodd y mae wedi bod a faint rydych chi wedi gorfod brwydro i sicrhau bod eich merch yn cael yr union addysg sydd ei hangen arni. Rwy'n deall hynny'n llwyr, ond rydym hefyd yn gwybod bod yna rieni nad ydynt yn cael yr addysg iawn i'w plant. Roedd Sioned yn iawn pan ddywedodd fod hawliau plant yn ganolog i'r ymchwiliad hwn, a hoffwn ddiolch hefyd i'w hetholwr Betsan, y cyfarfûm â hi ar sawl achlysur ac sy'n berson cryf ar y naw yn fy marn i. A John, mae'r pwyllgor yn amlwg yn cytuno â'ch sylwadau ar uwchsgilio staff, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn derbyn eich holl sylwadau.
Ddirprwy Lywydd, mae ein pwyllgor yn credu mewn gofal plant ac addysg gynhwysol, lle mae anghenion pob plentyn, boed yn anabl ai peidio, yn niwrowahanol ai peidio, yn cael eu diwallu o fewn yr un sefydliad, lle gall pob plentyn gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Dyma hefyd yw gweledigaeth Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Ond nid y weledigaeth honno yw realiti'r sefyllfa yng Nghymru heddiw. Pe baem yn onest, byddem yn cyfaddef ein bod yn bell o wireddu'r weledigaeth honno. Mae ein hymchwiliad wedi dweud wrthym fod llawer o deuluoedd plant anabl a niwrowahanol, heddiw, yn ei chael hi'n anodd cael darpariaeth o ansawdd da. Mae ein hymchwiliad wedi dweud wrthym fod llawer o deuluoedd plant anabl a niwrowahanol yn ei chael hi'n anodd cael unrhyw ddarpariaeth o gwbl. Yn y bôn, mae ein hymchwiliad wedi dweud wrthym fod hawliau llawer o blant a phobl ifanc i addysg yn cael eu torri ar hyn o bryd.
Rwy'n gobeithio y bydd dyfodol gofal plant ac addysg yng Nghymru yn fwy cynhwysol. Mae'n rhaid i hynny fod yn nod tymor hir i ni. Ond nid yw gweithio tuag at system gwbl gynhwysol yn ein hatal rhag gwella argaeledd ac ansawdd y ddarpariaeth sy'n bodoli eisoes. Nid yw'n ein hatal rhag cymryd camau nawr i roi'r cyfleoedd a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu i bob plentyn, ac mae angen i'r newidiadau hyn ddigwydd nawr. Mae amser plant a phobl ifanc mewn addysg mor fyr. Gall fod yn anodd iawn atgyweirio niwed mynediad anghyfartal, yn addysgol, ond yn feddyliol hefyd. Heb newid sylweddol, byddwn yn parhau i wneud cam â gormod o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Gwn na fydd Ysgrifennydd y Cabinet, fel ni, fel cyn-aelod o'r pwyllgor, eisiau bod yma mewn 20 mlynedd neu 10 mlynedd yn cael yr un ddadl o ganlyniad i'r un problemau. Ond rydym yn pryderu y daw hyn yn realiti llwm os bydd y Llywodraeth hon a Llywodraethau yn y dyfodol yng Nghymru yn bwrw ymlaen fel y nodwyd gennych yn eich ymateb i'n hadroddiad. Mae'n rhaid i rywbeth sylfaenol newid.
Hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi rhoi amser i gyfrannu at yr ymchwiliad hwn, y sefydliadau a gyflwynodd dystiolaeth i ni, aelodau'r cyhoedd a anfonodd eu straeon personol atom, y bobl y gwnaethom gyfarfod â hwy trwy gydol ein gweithgareddau ymgysylltu, ac yn bennaf oll, aelodau ein grŵp cynghori ar-lein, a roddodd gymaint o amser i gefnogi ac arwain ein gwaith. Fe wyddom pa mor brin yw eich amser. Mae eich angerdd, cariad ac ymrwymiad i wella pethau, nid yn unig i'ch plant eich hun, ond i bob plentyn, yn ysbrydoledig. Dywedwyd wrthym yn aml eu bod yn teimlo'n anweledig, nad oedd pobl yn malio. Heddiw, rwyf am ei gwneud hi'n glir iawn ein bod ni'n malio.
Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn siomedig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Rydym yn rhannu'r siom hwnnw. Fel chithau, byddwn yn parhau i frwydro dros fynediad cyfartal at ofal plant ac addysg trwy gydol y Senedd hon a thu hwnt, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i wneud yr un peth. Diolch.
Y cynnig yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd, a Seilwaith, 'Adfer safleoedd glo brig', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM8720 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adfer safleoedd glo brig', a osodwyd ar 8 Awst 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch o galon, Dirprwy Lywydd. Mae’r ddadl hon, wrth gwrs, yn gyfle inni ystyried perthynas gymhleth Cymru â glo. Er bod y diwydiant yn hanesyddol wedi dod â rhai manteision economaidd i ni, mae wedi gadael, wrth gwrs, creithiau dwfn ar ein tirwedd a hefyd ar ein cymunedau ni. Roedd cau Ffos-y-frân ddiwedd y llynedd yn nodi diwedd y bennod ddiweddaraf honno yn yr hanes hwn. Fel safle glo brig olaf Cymru, mae wedi bod yn destun cryn ddiddordeb gan y cyhoedd ac mae’n un o’r prif bethau y mae adroddiad y pwyllgor wedi canolbwyntio arno fe.
Fel pwyllgor, fe wnaethom ni ymweld â'r safle’r wythnos diwethaf ac mi roddodd hynny well dealltwriaeth i ni o’r materion y buon ni'n eu trafod yng nghwrs yr ymchwiliad. Y prif beth dwi'n siŵr fydd yn aros gyda fi, a dwi'n siŵr nifer o gyd-aelodau'r pwyllgor, yw gwerthfawrogiad o faint y safle. Pan oedd yn gwbl weithredol, mi oedd hyd at filiwn o dunelli o lo yn cael ei symud bob blwyddyn o’r safle i Aberddawan ac yna'n ddiweddarach i’r gwaith dur ym Mhort Talbot. A dwi'n ddiolchgar i weithredwyr y safle am ein croesawu ni ar ein hymweliad.
Er bod rhan fawr o’n hadroddiad ni yn ymdrin ag adfer Ffos-y-frân, bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn gwybod bod yr un stori wedi’i hailadrodd mewn safle ar ôl safle yn ne Cymru. Ym mhob un o’r achosion y gwnaethon ni edrych arnyn nhw, nid yw’r gwaith adfer wedi bod yn agos at yr hyn a addawyd. Rŷn wedi gweld cwmnïau—yr un cwmni weithiau—yn ei heglu hi dro ar ôl tro heb gadw at eu hochr nhw o’r fargen. Mae methiannau adfer wedi golygu colledion i'r pwrs cyhoeddus sy’n cyfateb i gannoedd o filiynau o bunnoedd ac mae hynny wedi cael effaith sylweddol, wrth gwrs, hefyd, ar breswylwyr lleol.
Yn anffodus, mae'n rhy hwyr i lawer o'r safleoedd glo brig a drafodir yn yr adroddiad hwn; mae'r difrod wedi’i wneud. Felly, rŷn ni wedi ceisio gwneud dau beth yn ein hadroddiad. Yn gyntaf, rŷn ni wedi edrych yn ôl ar y camgymeriadau a wnaed i wneud yn siŵr nad yw’r rheini yn cael eu hailadrodd a cheisio helpu'r preswylwyr lleol sy’n dal i fyw gyda’r canlyniadau. Yn ail, mae ein hadroddiad ni yn edrych tua’r dyfodol. Gyda chyfleoedd a thechnolegau newydd yn dod i’r amlwg, sut y gallwn ni sicrhau nad yw’r patrwm o ecsbloetio cymunedau lleol yn cael ei ailadrodd?
Felly, beth yw'r sefyllfa bresennol? Wel, yn gyntaf oll, hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud nawr i helpu preswylwyr sy'n dal i fyw gyda'r safleoedd hyn. Nododd grwpiau trigolion a rhanddeiliaid ddiffyg atebolrwydd clir fel un o'r prif broblemau a wynebwyd ganddynt wrth ymdrin â gweithredwyr safleoedd, ac awdurdodau cyhoeddus hefyd. Dywedwyd wrthym gan drigolion eu bod yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu pasio o bared i bost.
Mae mynd i'r afael â'r dryswch ynghylch rolau a chyfrifoldebau yn gofyn am ganllawiau clir i egluro pwy sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y broses. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar y mater hwn, ond rwy'n ansicr a yw'n ymwybodol o sylwedd, efallai, yr argymhelliad. Mae hyn yn ymwneud â'r cyrff dan sylw yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb, yn enwedig pan fydd pethau'n mynd o chwith, a hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn ehangu ychydig yn ei ymateb i hynny.
Nawr, roedd ymgysylltu â'r gymuned a thryloywder, wrth gwrs, yn fater allweddol arall i drigolion. Fe wnaethom alw am ddynodi swyddog penodol yn yr awdurdod lleol i weithio fel pwynt cyswllt i'r gymuned leol. Nodwn o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y dylai gweithredwr y safle benodi swyddog cyswllt safle. Nawr, mae hynny'n iawn, ond efallai nad gweithredwyr y safle sydd yn y sefyllfa orau ar gyfer rôl o'r fath, a gadewch inni fod yn onest, maent yn annhebygol o roi barn y preswylwyr ar flaen eu meddyliau, yn yr un ffordd, efallai, ag y byddai'r awdurdod lleol yn ei wneud.
Pwysleisiodd ein hadroddiad yr angen i ymgysylltu â'r gymuned, yn enwedig pan fydd cynlluniau adfer yn cael eu diwygio, fel y gwelwyd yn digwydd yn rhy aml o lawer. Mae cymunedau ger y safleoedd hyn yn deall yr effeithiau'n well nag unrhyw un a dylent fod â rôl ganolog wrth gynllunio gwaith adfer. Mae'r argymhelliad hwn wedi'i dderbyn mewn egwyddor, ond nid yw'r ymateb yn fy argyhoeddi. Gwyddom y bydd angen cynllun adfer diwygiedig ar gyfer Ffos-y-frân, a byddwn yn disgwyl y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion.
Fe ganolbwyntiaf yn fyr ar Ffos-y-frân, a oedd, fel y soniais yn gynharach, yn rhan fawr o'n gwaith. Dylwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i nodi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymgysylltu'n adeiladol â gwaith y pwyllgor ac wedi ymateb i'r adroddiad hefyd, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Roeddwn yn falch o weld y cyngor yn cadarnhau eu bod yn disgwyl i'r cynllun adfer diwygiedig adlewyrchu amcanion cynllun adfer 2015. Fodd bynnag, maent yn nodi y bydd rhai nodweddion fel twmpathau gorlwyth a chorff dŵr yn debygol o aros. Maent hefyd yn cadarnhau, mewn ymateb i argymhelliad 22 yn ein hadroddiad, y bydd unrhyw gyrff dŵr ar y safle yn cael eu gwneud yn ddiogel ac y byddant yn darparu budd cymunedol. Bydd cynnig hefyd ar gyfer trac rasio motocross.
Dyna'n union y mae llawer o drigolion wedi ei ofni. Ac maent wedi cael eu profi'n iawn, wrth gwrs. Y gwir plaen yw bod y cyngor wedi ei wthio i gornel. Nid oes llawer y gall ei wneud, ond rwy'n gobeithio ac rwy'n disgwyl i'r cyngor wneud y peth iawn a sicrhau yr ymgynghorir â thrigolion ar unrhyw gynigion a gyflwynir yn ystod y misoedd nesaf.
Felly, i ble rydym ni'n mynd o'r fan hon? Wel, wrth edrych tua'r dyfodol, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i'n hargymhelliad cyntaf un yn yr adroddiad, wedi cadarnhau mai dim ond mewn amgylchiadau cwbl eithriadol y dylid cymeradwyo cloddio glo newydd. Yn ei ymateb, dywed Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd Bil tomenni glo nas defnyddir Llywodraeth Cymru mewn grym, y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu dull strategol manylach o ymdrin â mwyngloddio a'r waddol ddiwydiannol yng Nghymru, a fydd yn cynnwys adfer tomenni nas defnyddir a rheoli cloddio glo brig.
Rwy'n falch o glywed hyn, ond fel sy'n digwydd yn aml, wrth gwrs, rwy'n poeni am y diffyg brys. Gwyddom fod y problemau mewn safleoedd fel Ffos-y-frân wedi codi am fod rheoleiddwyr a'r Llywodraeth yn rhy hwyr yn gweithredu. Drwy gydol ein hadroddiad, rydym yn gwneud argymhellion i sicrhau nad yw'r camgymeriadau a brofwyd gyda chynifer o'r safleoedd hyn yn cael eu hailadrodd. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng ngoleuni'r datblygiadau newydd arfaethedig ar gyfer adfer tomenni glo. Yn ei ymateb y prynhawn yma felly, hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet dreulio peth amser yn egluro wrth y Senedd a yw'n credu bod y polisïau sydd ar waith yn ddigonol i fynd i'r afael â'r pryderon yng nghyd-destun y datblygiadau newydd hyn.
Yn olaf, mae ein hadroddiad yn ystyried cyllid ar gyfer adfer tomenni glo. Roeddwn yn falch o nodi bod £25 miliwn wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth y DU ar gyfer adfer tomenni glo yng nghyllideb Llywodraeth newydd y DU yn ddiweddar. Mae'n annhebygol o fod yn ddigon, fel y gwyddom i gyd, ond mae'n ddechrau. A hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro sut y mae'n disgwyl symud y mater hwn yn ei flaen, oherwydd, yn y darlun mawr, £25 miliwn ydyw wedi'r cyfan.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl rai a gyfrannodd at adroddiad y pwyllgor, yn enwedig grwpiau preswylwyr, y mae eu profiadau wedi bod yn amhrisiadwy i helpu ein dealltwriaeth o'r materion sy'n codi. Mae'r rhestr o safleoedd a gofnodir yn ein hadroddiad yn hir—Nant Helen, Margam, Pwll y Dwyrain a Glan Lash, Selar, Tower, ac yn olaf, wrth gwrs, Ffos-y-frân—ac mae ganddynt un peth yn gyffredin: safleoedd mwyngloddio glo brig ydynt, ie, lle cafodd llawer ei addo i'r cymunedau lleol, ond wrth gwrs, ym mhob achos, ni wnaethant gyflawni'r hyn a addawyd. Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn i osgoi ailadrodd yr hyn sydd wedi digwydd yn y safleoedd hyn, ac ni ddylid ychwanegu mwy o enwau at y rhestr honno. Diolch.
Fel y soniwyd eisoes, roedd ein pwyllgor yn lwcus iawn yr wythnos diwethaf i ymweld â gwaith glo brig Ffos-y-frân uwchben Merthyr Tudful. Roedd hwn yn ymweliad hynod addysgiadol a phleserus mewn gwirionedd, lle cawsom ein tywys drwy'r gwaith anhygoel sydd eisoes yn mynd rhagddo ar adfer y gwaith glo brig yn ôl yn safle o werth hanesyddol, ond hefyd yn un lle bydd manteision amgylcheddol a bioamrywiaeth hefyd. Diolch o galon i Chris Barber, rheolwr gweithrediadau Merthyr (South Wales), am ein croesawu ar y safle ac i Jon Stoddard, prif bensaer tirwedd Richards, Moorhead and Laing Ltd, sy'n gyfrifol am wneud y gwaith helaeth hwn. Cyn hynny, mae'n deg dweud, yn ystod y pwyllgor, ein bod wedi cymryd tystiolaeth, ac roeddwn yn bryderus iawn pan oedd sôn am lygredd ar y safle, gyda'r dyfroedd a oedd wedi ymgasglu yn y pyllau y maent wedi dechrau eu gwella—y pyllau dwfn, dylwn ddweud.
Gan gloddio peth o'r glo o'r ansawdd uchaf yn y byd, cloddiwyd 11 miliwn tunnell o hwn yn ofalus ers 2008 i ddarparu glo glanach ar gyfer ynni a gwneud dur. Caewyd y gwaith ar ôl i estyniad o naw mis gael ei wrthod, gan arwain at y realiti trist fod yn rhaid i Gymru fewnforio glo amhur a brwnt o dramor bellach, gan achosi mwy o niwed i'n hamgylchedd nawr nag y byddai wedi'i wneud fel arall, pe bai Ffos-y-frân wedi parhau'n weithredol. Fodd bynnag, wrth siarad ar y safle, mae'n deg dweud na allwn fynd yn ôl nawr; byddai'n costio gormod i godi cymaint o lo, i ddod â'r holl offer yn ôl i'w gloddio, felly mae'n fater o ba mor dda y caiff y safle ei adfer. Ac unwaith eto, fel y dywedodd Llyr, mae'n bwysig fod y gymuned yn cymryd rhan.
Felly, mae angen iddynt adfer y safle. Rwy'n deall bod ffigur o £15 miliwn wedi'i ddyrannu gan y cwmni ar gyfer gwneud hyn. Fodd bynnag, mae'n deg dweud bod angen i'r cyngor, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gymryd rhan trwy gefnogi'r prosiect hwn a gweithio gyda pherchnogion y gwaith. Mae cydweithredu'n allweddol ar safleoedd fel hyn. Maent yn cytuno ei bod yn bwysig sicrhau bod polisïau sy'n ymwneud â gweithgareddau mwyngloddio yn gadarn ac rwy'n falch o weld ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn ystyried derbyn rhai o'n prif argymhellion. Mae angen inni sicrhau bod y rhain yn gadarn, yn gyfredol ac yn cynnig amddiffyniadau priodol i awdurdodau lleol a'r cymunedau, gyda'r nod o atal effeithiau negyddol cloddio glo brig rhag cael eu hailadrodd. Fodd bynnag, rwy'n siomedig o weld bod hyn, wrth wrthod argymhelliad 4, yn syrthio'n fyr o wneud argymhellion canllawiau ymarfer gorau'r Awdurdod Glo yn ofynion statudol, gan sicrhau nad ydynt hwy eu hunain yn dod yn gyfrifol yn ariannol. Yn amlwg, bydd hyn yn dod faen tramgwydd am flynyddoedd lawer i ddod. Mae cyllideb hydref y DU wedi cynnig swm bach o £25 miliwn i Gymru ar gyfer diogelwch tomenni glo—gwell na dim—ond ni chafwyd unrhyw beth ar gyfer gwaith adfer glo brig. Yn y pen draw, nid yw'n ddigon.
Disgwylir i'r cynllun adfer yn yr un gwaith hwn gostio tua £15 miliwn, a phrif amcan y cynllun yw gweithredu cynllun adfer blaengar, costeffeithiol a chynaliadwy. Bydd yn ddiddorol gweld pwy sy'n cymeradwyo hyn. Ond rwyf wedi gweld arbenigedd ac ymroddiad y rhai sy'n cyflawni'r gwaith hwn, ac maent yn ei olygu gydag ewyllys da. Yr hyn a oedd yn ddiddorol i ni fel pwyllgor oedd dysgu, lle maent wedi gwneud peth o'r gwaith adfer, eu bod yn gweld madfallod dŵr cribog a bioamrywiaeth arall; mae glaswellt newydd diddorol yn tyfu ac yn hirdymor, mae hebogau tramor yn nythu yno nawr.
Hoffwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am eu hymateb i'n hadroddiad. Maent wedi cytuno, yn hollbwysig, i argymhelliad 22, sy'n ymwneud â dŵr gwastraff. Ar hyn, hoffwn ddweud bod Ffos-y-frân wedi dweud yn glir wrthym fod pryderon ynghylch dŵr halogedig yn gollwng yn ddi-sail. Maent wedi ymrwymo i holl reoliadau a chytundebau Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y dywedwyd wrthym, nid ydynt ar ei hôl hi gydag unrhyw beth, felly efallai y dylid ystyried hyn yn arfer da wrth adfer y safleoedd hyn. Mae'r cynllun hwn wedi dangos i mi, gyda'r bobl iawn a chydag ymroddiad, y gellir troi ein gweithfeydd glo brig yn amgylcheddau newydd a chyfleoedd newydd i fflora a ffawna ffynnu.
Mae angen ichi orffen nawr, os gwelwch yn dda, Janet.
Iawn. Diolch i dîm y pwyllgor unwaith eto—y clerc a phawb a drefnodd yr ymweliad i ni—gan iddo dangos persbectif gwahanol i mi ar beth o'r dystiolaeth a gawsom yng nghanfyddiadau ein pwyllgor. Diolch.
Hoffwn i ddechrau drwy roi ar y record fy niolch i Gadeirydd y pwyllgor, y tîm ymchwil a'r tîm clercio am ddod â'r ymchwiliad hwn ger ein bron.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r tystion i'n hymchwiliad, yn enwedig yr unigolion a siaradodd â ni am sut y mae byw ger safle cloddio glo brig wedi effeithio ar eu bywydau. Rhoddodd Chris ac Alyson Austin a Sue ac Owen Jordan dystiolaeth bwerus, ac rwy'n canmol eu hymrwymiad parhaus. Mae'r adroddiad heddiw yn dangos yn glir sut y mae cymunedau fel eu rhai hwy wedi cael cam, gan gwmnïau mwyngloddio ac awdurdodau cyhoeddus, a'u gadael i ymdopi â'r creithiau amgylcheddol ac addewidion a dorrwyd yn sgil cloddio glo brig.
Mae argymhellion yr adroddiad yn rhoi darlun clir o'r hyn sy'n rhaid newid, ac fe dynnaf sylw at rai o'r prif faterion sy'n codi. Mae argymhelliad 8 yn nodi'r angen i egluro'r cyfrifoldebau sydd gan awdurdodau lleol, CNC a'r Awdurdod Glo yn y broses adfer. Mae llanast Ffos-y-frân wedi datgelu cyfrifoldebau dryslyd sy'n gorgyffwrdd ymhlith y cyrff hynny. Mae wedi golygu nad y rhai sy'n byw ger y gwaith yw'r unig bobl a adawyd i rythu i'r gwagle. Mae yna wagle hefyd o ran absenoldeb strwythurau atebolrwydd clir. Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, amlinellu'r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â hynny, er mwyn sicrhau bod atebolrwydd yn cael ei orfodi, ac nid ei egluro'n unig.
Mae argymhelliad 1 yn galw am i bolisïau'r Llywodraeth ar fwyngloddio glo brig fod yn gadarn ac i ddarparu amddiffyniadau go iawn i gymunedau lleol. Mae'r gwaith cloddio parhaus yn Ffos-y-frân ar ôl i'r drwydded ddod i ben yn dangos sut y mae angen gorfodaeth gryfach ar frys. Mae argymhelliad 21 yn cynnig mecanweithiau gorfodi cryfach yn benodol i fynd i'r afael â thorri rheolaeth gynllunio. Mae hynny'n hanfodol.
Yn gefndir i hyn oll, ceir risg sylweddol o hanes yn ailadrodd oherwydd bylchau i'r Llywodraeth allu osgoi cyfrifoldeb. Mae argymhelliad 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r meini prawf ar gyfer pryd y bydd yn caniatáu cloddio glo o dan 'amgylchiadau cwbl eithriadol'. Mae'r safon eithaf annelwig hon wedi galluogi prosiectau hynod niweidiol i symud ymlaen heb eu hatal i raddau helaeth. Tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet nodi sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud y meini prawf hynny'n fwy llym, a hoffwn fynd ymhellach: buaswn i'n dadlau bod cloddio am lo yn mynd yn groes i'n datganiadau o argyfwng hinsawdd a natur—fe ddylai fod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.
Mae argymhelliad 26 yn galw am newidiadau systemig i atal materion tebyg rhag digwydd yn y dyfodol, gan gynnwys mewn perthynas â safleoedd adfer tomenni glo. Nawr, yn ei hymateb i hyn, mae Llywodraeth Cymru yn honni, ac rwy'n dyfynnu yma:
'dim ond o dan amgylchiadau cwbl eithriadol y bydd cynigion datblygu yn cael eu cymeradwyo. Felly, ychydig iawn o gynlluniau fydd yn cael eu cyflwyno'.
Rwy'n dadlau ei fod newydd weld 640,000 tunnell o gloddio glo anghyfreithlon; gwnaethpwyd cais arall i ymestyn gwaith glo brig Glan Lash; ac mae disgwyl i gais a fydd yn cynnwys cloddio dau o'r tomenni glo ym Medwas gael ei gyflwyno y mis hwn. Os mai dyna a olygir wrth 'ychydig iawn o gynlluniau'—[Torri ar draws.]—fe wnaf ar ôl hyn—rhaid bod gennym safbwyntiau hollol wahanol ynglŷn â sut y dylai'r byd hwn weithio. Yr hyn sydd ei angen arnom, fel y mae'r Rhwydwaith Gweithredu Glo, Climate Cymru ac eraill wedi bod yn ei ddweud, yw safbwynt cryfach, cliriach yn erbyn parhau i gloddio glo yng Nghymru. Ac fe wnaf dderbyn yr ymyriad.
Nid wyf yn siŵr fy mod i'n rhannu barn obeithiol Janet Finch-Saunders ar sefyllfa Ffos-y-frân, ond hoffwn ddweud hefyd nad cloddio unrhyw lo o'r ddaear yw'r prosiect arfaethedig ym Medwas; dim ond mynd â'r hyn sydd ar yr wyneb. Rwy'n credu bod hwnnw'n wahaniaeth pwysig.
Diolch am hynny, Hefin. Yn yr adroddiad hwn nid ydym yn ceisio honni bod yr hyn sy'n cael ei gynnig ym Medwas, er enghraifft, yr un fath â Ffos-y-frân. Mae'n ymwneud mwy â'r perygl y gallai arwain at gloddio am lo bron yn ddiarwybod, hyd yn oed os nad dyna'r diben a fwriadwyd, er mwyn ariannu gwaith adfer tomenni glo preifat, mai dyna fyddai'r ffordd y câi ei ariannu, a fyddai'n golygu ein bod yn parhau gyda chloddio am lo drwy'r drws cefn, a dyna pam rwy'n dadlau bod angen i San Steffan dalu—
Fe ymatebaf i'r pwynt hwnnw yn fy araith.
—yn llawn. Rwy'n siŵr y gwnewch. Ond mae angen i San Steffan dalu am hyn yn llawn, oherwydd ni ddylai cwmnïau preifat wneud hynny, oherwydd fe fydd hynny ar draul ein hamgylchedd, unwaith eto. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn cymryd y camau angenrheidiol o'r diwedd i gau'r bylchau yn ein polisi.
Mae yna argymhellion eraill nad oes gennyf amser i ymdrin â hwy'n fanwl mewn perthynas â thryloywder, i helpu preswylwyr i gael gafael ar wybodaeth sy'n ymwneud â chyfranogiad cymunedol yn haws. Mae argymhelliad 7 yn galw am adolygiad annibynnol o faint o arian sydd ei angen ar gyfer adfer safle glo brig. Mae'n sicr yn hanfodol i ni ddeall gwir raddfa'r hyn sydd ei angen i atgyweirio'r difrod a wnaed. Fel y mae'r Cadeirydd wedi dweud, mae'n rhy hwyr i atal yr hyn sydd wedi digwydd mewn safleoedd fel Ffos-y-frân; serch hynny, ni ddylai fod yn rhy hwyr i sicrhau nad yw cymunedau'n colli gwerth degau o filiynau o bunnoedd o waith adfer.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod a oes unrhyw ymchwiliad annibynnol wedi digwydd, ac i weld a all Merthyr (South Wales) Ltd fforddio ariannu'r cynllun adfer gwreiddiol y cytunwyd arno yn llawn. Nid wyf wedi gweld tystiolaeth o'r fath. Buaswn yn croesawu cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet i drafod hynny ymhellach, os gwelwch yn dda, er lles y cymunedau yr effeithir arnynt.
Ni ddylid caniatáu—ac fe ddywedaf hyn wrth gau, Ddirprwy Lywydd—i'r adroddiad hwn hel llwch. Mae'n rhaid iddo nodi moment pan fo pethau'n newid, er mwyn ein planed, ein cymunedau a bywydau'r bobl rydym yn byw ochr yn ochr â hwy. Mae angen newid, a hynny ar frys.
Diolch i Delyth Jewell am ateb adeiladol iawn i fy ymyriad, ac fe ddeuaf ato mewn eiliad. Mae'n werth nodi bod data a gyhoeddwyd y llynedd gan Lywodraeth Cymru wedi nodi chwe thomen lo nas defnyddir categori D yn fy etholaeth i—dyna'r risg uchaf. Ond mae'n werth pwysleisio hefyd fod hynny'n golygu nad ydynt mewn unrhyw berygl uniongyrchol o lithriad. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet am wneud y pwynt hwnnw hefyd.
Ond mae'r tomenni uwchben Bedwas a Threthomas wedi bod yn bryder i'r gymuned leol. Cafwyd cynnig gyda'r cyngor dan arweiniad Plaid Cymru i adeiladu ar ardaloedd y tomenni hynny, ac rwy'n credu bod llawer o brotestio bryd hynny, ac ni ddaeth dim ohono, sef y peth iawn mae'n debyg. Ond mae cwmni o'r enw ERI Reclamation wedi cyflwyno cynnig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i adfer y safle a defnyddio'r glo oddi ar wyneb y domen sy'n cael ei thynnu—dim ond o'r wyneb, o'r domen—i ariannu'r prosiect, a gwneud elw o hynny hefyd, ond ni chaniateir iddynt godi unrhyw lo o'r ddaear. Rwy'n credu mai'r pwynt a wnaethoch chi oedd bod angen plismona hynny'n ofalus iawn, oherwydd aeth yr hyn ddigwyddodd yn Ffos-y-frân o chwith, oni wnaeth? Rwy'n rhannu eich barn yn llwyr y gallai pethau fynd o chwith, ac felly mae angen ei reoli'n gadarn iawn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Felly, yr hyn sy'n fy mhoeni i gyda Ffos-y-frân a chyda'r cynnig hwnnw yw nad oes ganddynt gyllid i adfer, ac yn Ffos-y-frân hefyd, maent yn awyddus i ddefnyddio arian o'r cyfrif ysgrow—£15 miliwn—a pheidio â rhoi unrhyw arian i mewn eu hunain o'r busnes hwnnw, ac mae'n fy mhoeni y gallai hynny ddigwydd eto. Felly, byddant yn gwneud y gwaith, yn codi'r glo, ond ni fydd arian i'w adfer ar ei ddiwedd.
Iawn. Felly, mewn ymateb i hynny, rwyf wedi holi ERI yn ofalus iawn, ac fe wnaeth y Caerphilly Observer hynny hefyd. I ddechrau, roedd y Caerphilly Observer yn eithaf amheus, ond yn dilyn cysylltiadau a thrafodaethau gydag ERI, maent yn dechrau teimlo'n fwy cadarnhaol am y peth. Ac mae ERI wedi dweud wrthym y byddant yn adfer y tir wrth iddynt fynd yn eu blaenau, felly nid yw'n rhywbeth lle maent yn codi'r glo, a'ch bod chi'n gweld tomenni du, ac yna ymhen pum mlynedd eu bod yn dechrau adfer. Mae'r broses adfer yn digwydd wrth iddynt symud ymlaen. Felly, i ddechrau, maent yn plannu glaswellt sy'n tyfu'n gyflym dros yr ardaloedd y maent yn eu hadfer, ac yna ar ôl iddynt symud i lawr i'r domen nesaf, maent yn plannu glaswellt sy'n tyfu dros amser hwy, glaswellt mwy hirdymor, dros hwnnw, sy'n rhan o'r broses honno.
Un peth yr hoffwn ei ychwanegu at hynny yw, pe baech chi'n rhoi arian diderfyn i'r sector cyhoeddus wneud y gwaith hwn, byddai'n rhaid iddynt ei osod ar gontract allanol beth bynnag, felly byddai'n dal i fod angen iddynt ddod o hyd i gontractwr am na fyddai gan y sector cyhoeddus yr adnoddau eu hunain i adfer tomen mewn ffordd broffesiynol a chymwys ac wedi'i hardystio'n broffesiynol. Felly, byddai'n rhaid i chi roi'r gwaith hwnnw i rywun, rhyw gwmni preifat, i'w wneud, ac nid oes unrhyw reswm dros amau y gallai unrhyw beth gwahanol o ran y cyfyngiadau a'r trwyddedu ddigwydd yn yr amgylchiadau hynny. Gallech ddisgwyl hefyd, pe bai'r cwmni yn dweud wrth y sector cyhoeddus, 'Gallwn arbed arian os gwnewch chi adael inni werthu'r glo a godwn', y byddent yn dweud, 'Iawn, os yw hynny'n arbed arian i'r pwrs cyhoeddus, fe gymerwn hynny.'
A fyddech chi'n cytuno â'r egwyddor, serch hynny, oherwydd bod gwaddol cloddio glo—ac rwy'n sylweddoli ein bod ni'n crwydro ychydig bach yma y tu allan i gyfyngiadau llym yr adroddiad hwn, ond mae'n berthnasol iawn—mae gwaddol mwyngloddio'n rhagflaenu datganoli, ac felly y dylai San Steffan fod yn ariannu hyn, a chawn ein gadael yn y sefyllfa hon lle rydym yn gorfod meddwl, 'O mawredd, a allwn ni ymddiried yn y cwmni hwn?' Nid ein bod ni'n gwrthwynebu'r cwmni hwnnw'n unigol, ond yn hytrach, na ddylem orfod bod yn y sefyllfa hon o gwbl.
Yn bendant, rwy'n cytuno'n llwyr, yn enwedig â'r pwynt ei fod yn deillio o'r adeg cyn datganoli, ac nid mater i Lywodraeth Cymru yw gwario'r arian hwn. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond un o'r pethau yr hoffwn ei ychwanegu, i bwysleisio'r pwynt, yw nad oes cwmni sector cyhoeddus wedi'i sefydlu a fyddai'n gallu gwneud y gwaith hwn ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddai'n rhaid i chi gael—. Byddech chi naill ai'n sefydlu cwmni wedi'i wladoli neu byddai'n rhaid i chi roi'r gwaith ar gontract i gwmni allanol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth nad yw wedi'i ystyried mewn rhannau o'r ddadl mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod y mesurau diogelwch y mae'r pwyllgor yn galw amdanynt yn ddefnyddiol iawn pan fydd y gwaith hwnnw'n cael ei wneud. Rwy'n credu y byddai hynny'n arwyddocaol iawn, ac rwyf wedi sylwi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion ar hynny, yn enwedig mewn perthynas â MTAN 2.
Felly, rwy'n credu bod problem sylweddol ynghylch yr hyn rydym yn ei ddisgwyl. Byddai'r tarfu a fyddai'n digwydd i gymunedau ar y naill ochr a'r llall i'r mynydd o ganlyniad i waith sector cyhoeddus bron yn union yr un fath, heblaw am olchi glo efallai, pe na bai'n digwydd—. Byddai bron yn union yr un fath â'r hyn a fyddai'n digwydd pan fydd contractwyr preifat yn gwneud y gwaith. Felly, rwy'n credu y byddai'n gamarweiniol awgrymu y byddai'r sector cyhoeddus yn gallu cyflawni popeth mewn ffordd fwy cydymdeimladol na'r sector preifat. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n opsiwn realistig. Felly, fel y dywedais yr wythnos diwethaf mewn dadl arall, ac rwyf wedi siarad mewn cymaint o ddadleuon nawr ni allaf gofio pa un, ond fel y dywedais mewn dadl yr wythnos diwethaf, nid wyf yn gwrthwynebu cael partneriaeth breifat gyda'r sector cyhoeddus i ddatblygu'r pethau hyn, ar yr amod, fel y gwyddoch, Delyth Jewell, fod y mesurau diogelwch hynny ar waith. Ac rwy'n credu bod y mesurau diogelwch hynny'n rhan o'r broses gynllunio ar hyn o bryd.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am gynnal eu hymchwiliad manwl i adfer hen weithfeydd glo brig. Mae hwn yn fater sy'n bwysig i fy etholwyr, er bod llawer o'r ffocws wedi bod ar Ffos-y-frân. Nid trigolion Merthyr Tudful yn unig sy'n poeni am waddol mwyngloddio brig. Rwy'n cofio codi adfer safleoedd glo brig Pwll y Dwyrain a Margam pan gefais fy ethol gyntaf yn 2015, 10 mlynedd yn ôl. Ac eto dyma ni, ddegawd yn ddiweddarach, ac mae'r safleoedd hyn yn dal i achosi pryder mawr i drigolion sy'n byw ger y safleoedd, yn enwedig y 40 miliwn metr ciwbig o ddŵr sydd wedi llenwi'r gwagle ym Mhwll y Dwyrain. Mae trigolion yn ofni bod caniatáu cymaint o ddŵr yn yr ardal ddaearegol ansefydlog yn peryglu eu cartrefi, hyd yn oed eu bywydau. Felly, er fy mod yn cymeradwyo'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn, rwy'n siomedig na chafodd cymunedau eraill ar draws maes glo de Cymru yr un ystyriaeth â'r rhai a oedd yn byw yng nghysgod Ffos-y-frân. Mae argymhellion 21 i 26 yr un mor berthnasol i safleoedd Pwll y Dwyrain a Margam. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â'r materion hyn pan fydd yn ymateb i'r ddadl hon. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor yn fawr, a'i argymhellion cadarn ynghylch adfer yng Nghymru, wrth inni lunio llwybr blaengar tuag at ddyfodol carbon isel. Ac fel cynrychiolydd Llafur yr ardal hon yn Islwyn, rwy'n gadarn fy nghefnogaeth i'n targedau hinsawdd blaengar. Nid nod polisi yn unig yw mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd—mae'n rheidrwydd moesol, ac yn her i bob un ohonom yn yr oes hon.
Mae'r ddadl heddiw yn arbennig o bwysig i'r cymunedau a gynrychiolaf yng Nghwmfelin-fach, Ynys-ddu ac ar draws Islwyn lle mae gwaddol mwyngloddio glo yn hir, ac yn waddol iechyd diwydiannol rwy'n ei gario yng nghyflwr ysgyfaint y glowyr yn fy nheulu i. Fodd bynnag, mae effeithiau amgylcheddol mwyngloddio brig wedi'u cofnodi'n dda—llwch, llygredd, sŵn a cholli cynefinoedd yn effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles ein trigolion, sy'n disgwyl, yn briodol ddigon, i'w cymunedau gael eu diogelu. Mae'r materion hyn yn arbennig o amlwg heddiw mewn ardaloedd fel Cwmfelin-fach ac Ynys-ddu lle mae trigolion lleol heddiw yn byw gyda chanlyniadau gweithgareddau cloddio'r gorffennol, ac yn parhau i fod yn ymwybodol iawn o'r angen am arferion cynaliadwy wrth symud ymlaen.
Mae adfer tomen Bedwas yn ymgymeriad heriol. Byddai'r cynlluniau adfer arfaethedig presennol sy'n ddibynnol ar godi glo wyneb yn galw am symud lorïau cymalog HGV lluosog. Nodir gan y datblygwyr eu hunain y byddai 10 yr awr am hyd at 10 mlynedd trwy barc gwledig Sirhywi, gan amharu ar ofod naturiol gwerthfawr ac effeithio ar gymunedau cyfagos ar hyd y llwybr hwnnw. Mae lleihad canolfannau hamdden yn gyffredinol yn golygu bod parciau gwledig hyd yn oed yn fwy hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant mewn cymunedau. Fel cynrychiolydd ar ran yr ardaloedd hyn, rwy'n amlwg yn pryderu am unrhyw niwed amgylcheddol y gallai gwaith adfer ei achosi, o lygredd pridd ac aer i aflonyddwch sŵn a fydd yn effeithio ar fywyd gwyllt ac yn lleihau ansawdd bywyd trigolion. Mae pobl Cwmfelin-fach ac Ynys-ddu eisoes yn cario pwysau hanes glofaol Cymru. Mae'r cymunedau hyn yn gwisgo creithiau blynyddoedd o weithgareddau mwyngloddio a'r canlyniadau hirdymor i'w hiechyd a'u hamgylchedd.
Mae'n rhaid i adfer fod yn ddatrysiad sy'n achosi llai o ddifrod a risg ac nid mwy, datrysiad a fydd o fudd i'n tirwedd yn hytrach nag achosi niwed pellach iddi. Mae'r adroddiad pwyllgor pwysig hwn yn nodi'n glir yr effaith ddinistriol ar gymunedau pan fydd pethau'n mynd o chwith a bod cwmnïau'n cael parhau gydag arferion annheg ac anghyfreithlon mewn safleoedd mwyngloddio. Mae trigolion Islwyn yn iawn i bryderu am gynsail o ran gwaith adfer arfaethedig yn gysylltiedig â chodi glo. Mae'n hanfodol yn Islwyn fod yn rhaid i'r goedwig goffa COVID lle plannodd y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, y goeden gyntaf gael ei chynnal ar gyfer y gymuned ochr yn ochr â mynediad at fferm gymunedol ffyniannus Ynys Hywel mewn tirwedd arbennig ac unigryw iawn sydd mor bwysig i fy nghymunedau. Rwyf wedi ymweld sawl gwaith â pharc gwledig Sirhywi ac ar sawl achlysur wedi cyfarfod â phreswylwyr, amgylcheddwyr ac ecolegwyr sydd oll eisiau'r gorau ar gyfer y parc a'r ardaloedd cyfagos. Maent hwy, fel finnau, yn teimlo'n angerddol ac yn benderfynol o ddiogelu'r ardal wych hon o fywyd gwyllt, natur a llesiant.
Mae adroddiad y pwyllgor yn argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried gwneud rhywfaint o berchnogaeth gymunedol yn ofyniad ar gyfer safleoedd glo brig a datblygiadau tebyg, gan gynnwys safleoedd adfer tomenni glo. Byddai perchnogaeth gymunedol yn caniatáu i leisiau lleol brwdfrydig a gwybodus gael eu clywed yn iawn mewn proses adfer. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr argymhelliad hwn yn gadarnhaol.
Yn olaf, mae argymhelliad 1 yn adroddiad y pwyllgor yn nodi:
'Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod polisïau sy’n ymwneud â chloddio glo brig a gweithgareddau cloddio eraill yn rhai cadarn a chyfredol, a’u bod yn darparu amddiffyniadau priodol i awdurdodau lleol a chymunedau.'
Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando ar breswylwyr, i ddeall effeithiau llawn gwaith adfer glo ac agregau, a sicrhau nad ailadroddir yr hyn a ddigwyddodd yn Ffos-y-frân yn Islwyn a Chaerffili. Diolch.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu gwaith yn cyflwyno'r adroddiad hanfodol hwn, a hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Delyth Jewell, fy mod yn credu y dylai hwn fod yn drobwynt. Mae'n fater o bwys mawr i lawer o fy etholwyr. Hoffwn ategu'r galwadau a wnaed gan Altaf Hussain ynghylch Pwll y Dwyrain a Margam, oherwydd ers cael fy ethol, rwyf wedi derbyn gohebiaeth reolaidd gan, ac wedi cael trafodaethau aml, gyda grwpiau o drigolion Cwmllynfell a Thairgwaith ynghylch y pryderon am Bwll y Dwyrain. Rwyf wedi rhannu'r pryderon hyn mewn dadleuon blaenorol ar hyn, a materion cysylltiedig, wedi gofyn cwestiynau i aelodau perthnasol o'r Llywodraeth, a gallodd rhai o'r trigolion hyn roi tystiolaeth i'r pwyllgor.
Rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd y sefyllfa yno. Y cynllun oedd mynd ati i lenwi'r gwagle a adawyd gan y mwynglawdd brig, wrth i'r gwaith ddirwyn i ben, ond cafodd y cynlluniau hynny eu disodli gan gynllun adfer helaeth a fyddai'n cynnwys cyrchfan hamdden. Soniodd y Cadeirydd fod y cynlluniau hyn yn newid yn aml. Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r cynlluniau hynny gael eu datgelu, a gallaf eich sicrhau na fu fawr o symud arnynt. Darparwyd estyniadau i weithgareddau mwyngloddio, ond yn y blynyddoedd mwy diweddar, daeth y gweithgaredd i ben ac yna dechreuodd y gwagle lenwi â dŵr. Erbyn hyn mae oddeutu 40 miliwn metr ciwbig o ddŵr ynddo—corff mawr o ddŵr yn gorwedd 150 metr uwchben llawr y dyffryn, heb argae wedi'i adeiladu i ddal y dŵr. A dylwn ddweud, fel y clywsom gan Altaf Hussain, mae gan yr ardal hon ffawt daeargryn actif, a chafwyd daeargryn yn mesur 4.6 ar raddfa Richter yn 2018.
Nid craith hanesyddol hen waith diwydiannol yn unig yw hwn, oherwydd mae'n glwyf sy'n dal yn agored iawn, ac yn achosi poen a phryder i gynifer yn y cymunedau cyfagos. Ac i adleisio'r iaith yn yr adroddiad, darparodd mwyngloddiau brig fuddion enfawr i gwmnïau preifat ar draul awdurdodau cyhoeddus a chymunedau. Yn gyntaf, fe wnaeth y cwmnïau eu helw, yna gwnaethant eu haddewidion, ond pan ddaeth yn amser iddynt gyflawni eu rhwymedigaethau, fe wnaethant adael. A nawr, i'r trigolion sy'n cael eu gadael gyda'r hyn sy'n weddill, nid oes llwybr clir yn bodoli iddynt geisio sicrwydd. Maent wedi troi at amryw o gyrff cyhoeddus, a gofyn am arolygon ac adroddiadau gan beirianwyr siartredig cymwys wedi'u hindemnio a hydrolegwyr, ond, ac rwy'n dyfynnu un o fy etholwyr, maent yn teimlo 'eu bod wedi cael eu pasio o bared i bost a neb yn fodlon derbyn cyfrifoldeb'. Dyna pam, fel y mae'r adroddiad yn ei argymell, ei bod mor hanfodol egluro cyfrifoldebau'r holl gyrff perthnasol, er mwyn sicrhau bod yr holl bryderon diogelwch angenrheidiol yn cael eu hasesu'n briodol ac yn annibynnol, a bod camau priodol yn cael eu hariannu'n llawn ac yna'n cael eu cyflawni'n gyflym.
Yn ei hymateb i argymhelliad 6, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a llywodraeth leol i benderfynu sut i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid ar gyfer adfer safleoedd, mae'r Llywodraeth yn datgan ei safbwynt fod angen rhaglen barhaus o fuddsoddi i wneud safleoedd yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyfrannu at raglen adfer hirdymor.
'Gyda dwy lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd,'
mae'n dweud,
'mae cyfle bellach i ddatblygu cynllun a rennir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.'
Dechreuwyd arni yng nghyllideb ddiweddar y DU, gyda £25 miliwn wedi'i ddyrannu, felly a fydd modd cyllido asesiad annibynnol o ddiogelwch y gwagle llawn dŵr ym Mhwll y Dwyrain o'r cyllid cychwynnol hwn? Fel y dywedais o'r blaen, mae'n fater o gyfiawnder hanesyddol a chymdeithasol dwfn pe bai gofyn i'r cymunedau hyn a roddodd gymaint barhau i ddioddef peryglon amgylcheddol a risgiau diogelwch. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar leisiau'r cymunedau yr effeithir arnynt a dod o hyd i atebion sy'n blaenoriaethu eu diogelwch a'u llesiant, oherwydd cawsant eu diystyru'n rhy hir. Dywedodd y cyn-Weinidog newid hinsawdd wrthyf, mewn dadl ar y pwnc hwn, mai
'Cyfrifoldeb moesol Llywodraeth y DU yw adfer gwaddol treftadaeth ddiwydiannol y DU gyfan'.
Os yw Llywodraeth Cymru'n credu bod Llywodraeth newydd y DU wedi derbyn y cyfrifoldeb hwnnw, mae'n rhaid i bobl Cwmllynfell a Thairgwaith weld tegwch a chyfiawnder ar waith, fel y maent yn ei haeddu a'i angen ers amser maith. Diolch.
Rwy'n falch iawn fy mod wedi ymuno â'r pwyllgor mewn pryd i fod yn rhan o'r ymchwiliad hwn, er nad oeddwn yn bresennol ar gyfer yr holl sesiynau. Cyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor, ar y dechrau, yn ei gyflwyniad, at berthynas gymhleth de Cymru â glo. Os cawsoch eich geni yn ne Cymru, mae'n debygol iawn fod gennych chi rywun yn y teulu sydd â chysylltiad mawr â mwyngloddio, â glo, neu rywfaint o hanes yn gysylltiedig â glo. Cyfeiriodd Rhianon ato yn ei chyfraniad, ac yn fy achos fy hun roedd fy nhad-cu yn löwr yn Senghennydd ac yn wyrthiol, nid oedd yn y gwaith pan ddigwyddodd y ffrwydrad. Ond roedd hi'n stori sydd wedi cael ei hadrodd yn aml yn fy nheulu ynglŷn â sut y gwnaeth y lluniau ar y silff ben tân ysgwyd pan ddigwyddodd y ffrwydrad, a dyna'r peth cyntaf a wyddai'r teulu amdano.
Ac wrth gwrs, am flynyddoedd lawer, ni soniwyd am y bobl a gollodd eu bywydau oherwydd y trawma cyfunol a brofwyd gan y gymuned gyfan, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio'r ymdeimlad enfawr o gymuned sydd wedi bod yno erioed mewn cymunedau glofaol. Mae'r ffaith nad ydym am i lo gael ei ddefnyddio mwyach, nad ydym am gloddio glo, yn newid enfawr yng nghyfansoddiad de Cymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio hynny. Oherwydd erbyn 1913, roedd traean o'r bobl a oedd yn gweithio yng Nghymru yn gweithio yn y pyllau glo ac roedd yna ymdeimlad gwych o gymuned a diwylliant yn y rhanbarth, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig parhau i gofio'r effaith y mae cau pyllau glo yn ei chael o hyd ar gymunedau heddiw.
Yn sicr, roeddwn i'n teimlo bod glo wedi dod â chyfoeth i dde Cymru, ond rydym hefyd yn gwybod am niwed enfawr defnyddio tanwyddau ffosil, felly mae'n rhaid i ni wneud y newid hwn, sy'n anodd iawn i'w wneud ond sy'n gwbl hanfodol ar gyfer ein dyfodol ni i gyd. Gwelodd pawb ohonom y creithiau a adawyd gan safleoedd mwyngloddio brig, fel y gwelsom yr wythnos diwethaf pan ymwelodd y pwyllgor â Ffos-y-frân. Mae'n rhaid imi ddweud bod yr ymweliad wedi cael effaith enfawr arnaf i, ac rwy'n siŵr ei fod wedi cael effaith ar aelodau eraill y pwyllgor a aeth yno. Nid wyf erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg i faint y dinistr. Roedd yn hollol enfawr. Roedd yn teimlo fel pe baem wedi cyrraedd diwedd y byd, bron iawn, ac yn fwy dramatig oherwydd y tarth trwchus a'r niwl a ddaeth i lawr wrth inni edrych i lawr ar y gwagleoedd yr oedd y cwmni'n cydnabod na fyddant yn gallu cael gwared arnynt. Fe wnaethant ddweud wrthym am yr hyn y bwriadant ei wneud i'w wneud yn fwy diogel a chodi rhwystrau, ond nid oes unrhyw amheuaeth eu bod yn dweud na fyddant yn gallu adfer yr ardal i'r hyn ydoedd yn flaenorol. Ac o edrych arno, mae'n anodd dychmygu sut y gellid ei adfer, rhaid imi ddweud.
Dyna pam rwy'n credu bod argymhelliad 3 yr adroddiad mor bwysig, oherwydd dylai cau Ffos-y-frân fod yn ddiwedd cyfnod, ond mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn dal i ddweud y gellir caniatáu cloddio glo, mewn amgylchiadau cwbl eithriadol, rwy'n gwybod, ond lle mae'r cynigion yn dangos pam fod eu hangen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau newid hinsawdd, ac am resymau diogeledd ynni cenedlaethol. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, oherwydd mae'r rhain yn feini prawf eang iawn a dylid eu hegluro a dylid eu hogi, oherwydd nid ydym am adael unrhyw gyfle i gael mwy o fwyngloddiau glo ac i unrhyw beth sy'n datblygu glo gael ei adael yno yn y dyfodol.
Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig iawn. Rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw at y camau sydd angen eu cymryd i ddiogelu'r safleoedd. Mae angen inni ddwyn y cwmnïau i gyfrif ac i ddilyn eu cytundebau. Yn arbennig, rwy'n croesawu camau i dynhau'r canllawiau, a hefyd mwy o gefnogaeth i'r cymunedau lleol yr effeithir arnynt. Cawsom dystiolaeth gan bobl sy'n byw yn yr ardal, cymunedau lleol, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod unrhyw gynlluniau adfer yn cynnwys y cymunedau lleol yn llawn, ac nid wyf yn gweld bod hynny'n digwydd. O'r hyn a welais, nid wyf yn gweld bod hynny'n digwydd, felly rwy'n credu bod yn rhaid cael ymdrech fawr iawn i sicrhau bod pobl sydd wedi dioddef drwy'r datblygiadau hyn yn rhan o'r cynllunio ar gyfer y dyfodol. Rwy'n cefnogi galwadau am fecanweithiau gorfodi cryfach mewn achosion lle mae torri rheolaethau cynllunio wedi digwydd, ac edrychaf ymlaen yn fawr at glywed ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion hyn.
Rydw i'n galw nawr ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu gwaith i gynhyrchu’r adroddiad cynhwysfawr hwn ar adfer safleoedd glo brig, ac i bawb a gyfrannodd yn ystod y camau casglu tystiolaeth. Mae Cymru’n falch o'i threftadaeth lofaol, ond mae'n hanfodol bellach fod gennym ddull strwythuredig o ymdrin â’r safleoedd sy'n cael eu gadael ar ôl. Ein tasg, ar unwaith, yw sicrhau bod gennym y seilwaith ar waith i sicrhau bod tomenni yn ddiogel ac nid yn fygythiad i gymunedau.
Nawr, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau, Ddirprwy Lywydd, ac mae’n dod yn ei flaen yn dda. Y cam nesaf ar ôl hyn fydd datblygu cynllun hirdymor i adfer y safleoedd hynny fel eu bod yn ddefnyddiol i bobl Cymru, ac mae hynny’n cynnwys tir comin, safleoedd amgylcheddol amrywiol, lle gall bywyd gwyllt unigryw ffynnu, neu fel rhan o gynllun ehangach ar gyfer twf economaidd. Ac mae'n rhaid i'r dull hwn gynnwys safleoedd fel safle Margam, Ddirprwy Lywydd, sydd yn etholaethau'r ddau ohonom.
Fel yr amlinellwyd yn adroddiad y pwyllgor, mae’r gwaith hwn yn deillio o bryder ynghylch cynllun adfer tir Ffos-y-frân. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â’r awdurdod lleol a sefydliadau partner. Rydym wedi dweud yn glir bob amser mai diogelu ac adfer y safle yw ein hamcan, ochr yn ochr â’n dyhead i weld y safle’n cael ei adfer yn llawn yn unol â chaniatâd cynllunio sy'n bodoli.
Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’n ofalus y 22 o argymhellion a gyfeiriwyd atom yn yr adroddiad. Nawr, nid mater i Lywodraeth Cymru yw gwneud sylwadau ar y pedwar argymhelliad sy'n weddill, a gyfeiriwyd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ond nodaf fod cynnig y ddadl yn cydnabod eu hymateb eu hunain, yn ogystal â'r ymateb gan drigolion Abertawe.
O ran argymhellion Llywodraeth Cymru, rwy’n falch ein bod wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor 14 o’r 22 argymhelliad. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r wyth argymhelliad a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhesymeg dros bob ymateb i bob un o’r 22 argymhelliad, y rhai a dderbyniwyd a'r rhai a wrthodwyd, wedi’i nodi’n fanwl yn ein dogfen ymateb ffurfiol, sydd ar gael i’r cyhoedd ar wefan y pwyllgor. Gyda hynny mewn golwg, byddaf yn canolbwyntio yn fy ymateb heddiw ar y themâu allweddol yn yr adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru, ac mae llawer ohonynt wedi’u codi gan Aelodau. Cyn imi barhau, er fy mod yn ymateb i'r ddadl hon ar ran Llywodraeth Cymru heddiw, mae'n werth nodi bod y cyfrifoldeb strategol am y gwaith hwn yn rhan o bortffolios sawl Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig portffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.
Y thema glir gyntaf sy’n dod i’r amlwg o adroddiad y pwyllgor yw’r angen am fwy o eglurder ynghylch y polisïau a’r prosesau sy’n gysylltiedig ag adfer safleoedd mwyngloddio brig. Nawr, nid oes un polisi adfer unigol ar gyfer pob un o'r safleoedd hyn. Yn hytrach, mae adfer yn ganlyniad nifer o bolisïau a phrosesau a systemau sy'n croestorri ac sy'n gorfod gweithio gyda'i gilydd. Felly, er enghraifft, mae ein polisi glo yn nodi'n glir mai amcan Llywodraeth Cymru yw rhoi diwedd ar godi a defnyddio glo. Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd hefyd i sicrhau bod y gwaith o gau ac adfer seilwaith mwyngloddio presennol a hanesyddol yn digwydd yn ddiogel. Felly, efallai y bydd angen codi glo mewn amgylchiadau cwbl eithriadol, a bydd pob cynnig yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Ond gadewch imi ddweud yn glir, bydd y rhagdybiaeth bob amser yn erbyn codi glo yn y lle cyntaf. Yn y cyfamser, mae ein polisi ar adfer tomenni glo yn parhau i ganolbwyntio ar droi tomenni glo nas defnyddir yn asedau buddiol i gymunedau drwy ddull wedi'i deilwra ar gyfer pob tomen unigol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn wir.
Diolch. Felly, y broblem yw: pwy fydd yn gorfodi'r gwaith adfer hefyd? Nid yw'r gost bob amser yn cael ei hariannu am nad oes arian wedi'i roi o'r neilltu, nid yw'r arian yn y cyfrif ysgrow yn ddigon. Ac yna CNC, yr awdurdod lleol, yr Awdurdod Glo—maent yn taflu'r baich bob tro, am nad oes ganddynt yr adnoddau eu hunain i orfodi ychwaith. Felly, dyna’r broblem wrth symud ymlaen.
Carolyn, diolch am hynny. Rwy'n sicr yn derbyn, allan yn y byd go iawn, y gall edrych yn ddryslyd a chymhleth, a’r gwir amdani yw, mae’n gymhleth, am fod rhai cyfrifoldebau’n gorgyffwrdd. Ond i fod yn glir iawn, mae awdurdodau cynllunio lleol yn monitro'r gwaith adfer. Mae'r Awdurdod Glo yn rheoli’r adnoddau glo o dan ei reolaeth, ac mae CNC yn rhoi’r caniatâd a’r trwyddedau. Felly, mae'r drefn yn glir, ond mae gwahanol asiantaethau yn ymdrin â gwahanol agweddau.
Gadewch imi ddychwelyd at fy sylwadau. Yn fwy cyffredinol, mae'n rhaid i’r polisi glo a’r polisi adfer tomenni glo fod yn ystyriol o’r system gynllunio, ac mae sawl agwedd ar y canllawiau cynllunio y mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol gadw atynt bob amser. Nawr, mae’r dogfennau canllaw hyn yn cael eu hadolygu’n barhaus, a dyma pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 4 yng nghanllawiau arferion gorau’r Awdurdod Glo, ac argymhelliad 14 ar y nodyn cyngor technegol mwynau. Roedd y pwynt ynglŷn ag eglurder cyfrifoldebau sydd newydd gael ei godi gan Carolyn yn thema sy’n dod i’r amlwg, ac yn y pen draw, mae’n rhaid inni nodi'n glir mai’r gweithredwr a’r tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am adfer ac am ôl-ofal y safleoedd mwyngloddio brig hyn. Ond mae gan eraill gyfrifoldeb am fonitro ac ati. Nawr, mae'n rhaid iddynt sicrhau hefyd fod cyllid digonol yn cael ei neilltuo i'w galluogi i gyflawni'r rhwymedigaethau adfer ac ôl-ofal. Delyth.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. A fyddech chi'n cydnabod, er—? Rwy’n derbyn eich bod wedi nodi beth yw'r gwahanol gyfrifoldebau sydd gan y gwahanol gyrff hyn. A ydych chi'n cydnabod, hyd yn oed rhwng y gwahanol gyrff hynny, gan fod meysydd sy'n gorgyffwrdd, mai’r perygl bob amser—ac mae’n digwydd hefyd—yw bod y baich yn cael ei daflu ac felly, yn y pen draw, pan aiff rhywbeth mawr o’i le, fel gyda Ffos-y-frân, nid yw'n glir pwy sy'n camu i'r adwy ac yn dweud, 'Iawn, nid ydym yn mynd i adael i'r gwagle hwn lenwi â dŵr'?
Yn wir. A dyna pam, Delyth, ar y pwynt hwnnw, y gwnaethom dderbyn argymhelliad 8 i egluro rolau priodol awdurdodau lleol, yr Awdurdod Glo a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym wedi nodi hynny'n fanwl yn y ddogfen ymateb. Felly, er bod cyfrifoldebau clir, rydym yn awyddus iawn i egluro ble mae'r rolau hynny.
Nawr, mae'n rhaid i'r awdurdodau cyhoeddus hyn ymgysylltu â chymunedau lleol hefyd drwy'r broses adfer, ac rydym yn cydnabod y gallai swyddog cyswllt dynodedig fod o fudd i gyflawni'r ddyletswydd hon, fel y nodir yn argymhelliad 18. Rydym hefyd yn annog y cyhoedd i gymryd rhan ym mhob cam o'r broses gynllunio, ond nid yw'r ddeddfwriaeth yn ein galluogi i fandadu cyfranogiad. Fodd bynnag, mae’n bwysig egluro—pwynt a godwyd yn gynharach yn y ddadl—nad yw’r ymgysylltiad cymunedol hwn yn ymestyn i gynnwys perchnogaeth gymunedol. Gallai perchnogaeth o’r fath, gadewch inni fod yn glir, gyflwyno cymhlethdodau sylweddol i’r cymunedau lleol hynny, o ran cyllid ac atebolrwydd, felly rydym yn awyddus i archwilio modelau eraill o ymgysylltu â’r gymuned a rhannu buddion.
Nawr, gadewch inni droi at rôl deddfwriaeth. Yn fwy cyffredinol, mae’r diogelwch hirdymor y mae ein cymunedau tomenni glo yn ei haeddu yn seiliedig ar yr angen mawr i foderneiddio'r ddeddfwriaeth tomenni nas defnyddir yng Nghymru, sydd wedi dyddio. Nawr, mae hon yn flaenoriaeth wirioneddol i’r Llywodraeth hon. Fe’i nodwyd gennym yn ein rhaglen lywodraethu, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sefydlu trefn ragweithiol hirdymor i sicrhau diogelwch parhaus cymunedau sy’n byw ochr yn ochr â chanlyniadau gorffennol diwydiannol Cymru. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at gyflwyno'r Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni Nas Defnyddir) (Cymru) i'r Senedd cyn y Nadolig.
A nodaf argymhelliad 15 y pwyllgor ar gyfer ehangu cwmpas y Bil sydd ar y ffordd i gynnwys mwyngloddio brig. Nawr, mae hyn yn rhywbeth y mae Aelodau wedi'i godi sawl gwaith yn y Siambr hon o'r blaen, Ddirprwy Lywydd, felly mae'n rhaid imi ailadrodd y safbwynt yr wyf i a fy nghyd-Weinidogion wedi'i fynegi o'r blaen, sef nad yw cynnwys darpariaethau'n ymwneud ag adfer hen safleoedd mwyngloddio brig yn ymarferol ar hyn o bryd. Byddai gwneud hynny’n ehangu cyrhaeddiad deddfwriaethol Bil sydd eisoes yn gymhleth wrth inni ddod at gamau olaf tymor y Senedd hon, a gallai arwain at oblygiadau sylweddol a allai wneud y Bil yn anghyflawnadwy. Nod y Bil yw lleihau’r tebygolrwydd o dirlithriadau mewn tomenni glo nas defnyddir, a thomenni nas defnyddir nad ydynt yn domenni glo, drwy sefydlu corff cyhoeddus newydd a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu a chofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir. Mae hwn yn gam enfawr, a dyma mae'r Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i'w gyflawni. Felly, ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n deall bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar sicrhau bod tomenni nas defnyddir yn ddiogel, i ddarparu trefn reoleiddiol fodern sy’n addas i’r diben, a phan fydd y Bil yn weithredol—. Ddirprwy Lywydd, rwy'n sylweddoli bod fy amser newydd ddod i ben, ond gwn y byddwch yn deall. Fe dderbyniais ychydig o ymyriadau.
[Anghlywadwy.]
Diolch yn fawr, Ddirprwy Llywydd. Pan fydd y Bil yn weithredol, fe fydd yn bwysig canolbwyntio wedyn ar ddatblygu’r capasiti adnoddau a’r gallu—rhywbeth a gododd y pwyllgor yma mewn gwirionedd—drwy ystyried adolygiad annibynnol o anghenion cyllido, yn ogystal â datblygu dull strategol manylach o reoli canlyniadau gorffennol diwydiannol Cymru.
Nawr, serch hynny, mae llawer y gallwn ac yr ydym yn ei wneud yn y cyfamser, i osod y sylfaen ar gyfer y dyfodol. Agwedd arwyddocaol ar y gwaith diogelu at y dyfodol hwn, yn wir, yw gweithio gyda Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dyrannu oddeutu £65 miliwn ers 2020 i wella diogelwch tomenni glo, ond gan edrych tua'r dyfodol, mae’r achos dros weld Llywodraeth y DU yn cyfrannu cyllid i wneud ein tomenni'n ddiogel yn glir iawn ac yn gymhellol iawn, ac i’r perwyl hwnnw, rwy’n falch iawn fod cyllideb yr hydref y Canghellor ar 30 Hydref yn dangos ei bod wedi gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar Gymru. Mae wedi cydnabod bygythiad posibl tomenni glo nas defnyddir i ddiogelwch, ac wedi darparu £25 miliwn yn 2025-26—[Torri ar draws.]—fe wnaf ateb eich cwestiwn mewn eiliad.
Na wnewch, ni wnewch ateb y cwestiwn gan fod eich amser wedi hen ddod i ben bellach.
Ac ni chaf dderbyn ymyriad arall?
Ochr yn ochr â’r buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru—ymddiheuriadau, ond rwy'n credu—. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU cyn ail gam yr adolygiad o wariant i sicrhau bod anghenion Cymru ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn cael eu hystyried yn llawn ac i helpu i wneud y tomenni hyn yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. A wyf i'n trethu'ch amynedd?
Rydych chi wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r amser bellach.
Iawn. Nid yw hyn yn golygu ein bod wedi anghofio am yr angen i adfer tomenni nas defnyddir; mae'n rhaid i hynny fod yn nod hirdymor, ond mae'n rhaid inni fod yn realistig a chydnabod nad yw'n ymarferol ar hyn o bryd yn yr hinsawdd economaidd bresennol, o ystyried y gall gymryd hyd at £30 miliwn i adfer un domen. Ond gallaf roi sicrwydd i chi y bydd y cynlluniau mwy hirdymor hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i’w godi gyda Llywodraeth y DU.
Ddirprwy Lywydd, mae'n debygol iawn fy mod wedi trethu eich amynedd, ond hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i adroddiad y pwyllgor, aelodau'r pwyllgor ac eraill a siaradodd heddiw hefyd ac a gododd bwyntiau dilys iawn. Credaf fod gennym yr un genhadaeth yma o ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud ar gyfer y cymunedau hyn sy'n byw yng nghysgod ein gorffennol diwydiannol, a'i gwneud yn ddiogel iddynt a sicrhau rhai o'r buddion pan fyddwn yn adfer yn effeithiol, fel y gwelsom, yn wir, mewn rhannau o safle Parc Slip yn fy etholaeth. Diolch yn fawr iawn.
A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Roedd cymaint o siaradwyr, a chredaf fod hynny’n adlewyrchu cryfder y teimladau ar draws y Siambr ac ar draws llawer o gymunedau yr effeithir arnynt gan y gweithgareddau hyn. Rwyf am fynd yr holl ffordd yn ôl at y cyfraniad cynnar gan lefarydd y Ceidwadwyr: rydych chi'n llygad eich lle yn dweud bod cydweithio’n allweddol ar gyfer adfer, ond hoffwn ddweud bod cadw eich addewidion yn allweddol ar gyfer adfer hefyd, a dyna graidd y mater yma, a dweud y gwir. Mae addewidion wedi’u gwneud ac addewidion wedi’u torri, ac nid yw cyrff cyhoeddus wedi gallu dwyn pobl i gyfrif.
Disgrifiodd Delyth Jewell y sefyllfa fel llanast, diffyg atebolrwydd clir. Wel, wyddoch chi—. Ac fel y dywedwch, nid yn unig fod angen egluro atebolrwydd, mae angen ei orfodi. Ac i ateb rhai o'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelodau, yn sicr, nid yw'r pwyllgor wedi anwybyddu safleoedd mwyngloddio brig eraill. Rydym yn ymwybodol iawn fod heriau tebyg wedi bod yn gyffredin a bod methiannau tebyg wedi bod, ac yn wir, cawsom gynrychiolwyr o Fargam i gyflwyno tystiolaeth lafar i ni yn y pwyllgor, ond roedd Ffos-y-frân, wrth gwrs, yn digwydd mewn amser real o flaen ein llygaid o ran gweithgarwch y tu hwnt i’w trwydded, ac yn sicr, credaf mai dyna oedd y sbardun a barodd i’r pwyllgor benderfynu bod hwn yn faes yr oedd yn rhaid ei ystyried.
Ac mae Sioned Williams yn llygad ei lle: dylai hwn fod yn drobwynt. Mae cynlluniau wedi newid ac esblygu dros amser, ac mae pryder y cyhoedd ynglŷn â chyrff dŵr, ynglŷn â chyflwr a diogelwch rhai o'r safleoedd hyn—nid ydynt yn teimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Ac felly mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol i'r un graddau ag unrhyw beth arall, ar ôl rhoi cymaint dros y blynyddoedd, i ganiatáu i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo. Maent yn teimlo nawr, wrth gwrs, eu bod yn cael eu diystyru, fel y dywedwch, ac mae'n dal i ddigwydd. Fe’n hatgoffwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ei fod am weld dull strwythuredig ond wedyn, wrth gwrs, cawsom ein hatgoffa bod gennym yr Awdurdod Glo, mae gennym Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gennym lywodraeth leol, y cymunedau eu hunain, y cwmnïau sy'n ymwneud â hyn, y Llywodraeth—ac wrth gwrs, fe wnaethoch ein hatgoffa, nid un Gweinidog, ond dau, tri, efallai mwy o Weinidogion hefyd. Felly, mae’n anodd gweld y dull unedig, cydgysylltiedig hwnnw, ac mae'n gadarnhaol eich bod yn rhoi rhywfaint o eglurder ar hynny yn eich ymateb i argymhelliad Rhif 8. Er hynny, mewn cyd-destun arall, nid yw'r rhif 8 mor gadarnhaol, gan ichi wrthod wyth o'n hargymhellion, sy'n fwy na'r hyn rydym wedi arfer ag ef, mae'n rhaid imi ddweud. Felly, yn hynny o beth, mae hynny braidd yn siomedig. Ond rwy’n nodi ac yn croesawu eich cyfeiriad at gyflwyno'r ddeddfwriaeth diogelwch tomenni glo cyn y Nadolig. Wel, wyddoch chi beth arall a fyddai'n dda cyn y Nadolig, efallai? Rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt i’r cymunedau sy’n teimlo eu bod wedi cael eu twyllo mewn perthynas â gwaith adfer, ac mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i fynd ar ei drywydd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog. A galwaf ar Andrew Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8721 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.
2. Yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog wedi sefyll dros Gymru a sicrhau'r gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn ffurfiol, ac rwyf hefyd yn gwrthod y ddau welliant a ychwanegwyd gan yr wrthblaid a’r blaid lywodraethol mewn perthynas â’r cynnig. Ymddengys bod obsesiwn gan y rhan fwyaf o wleidyddion â'r 100 diwrnod cyntaf o gyfnod rhywun mewn swydd, ac nid ceryddu’r Prif Weinidog na’r Llywodraeth am y camau y maent wedi’u cymryd yw diben y cynnig hwn heddiw, mae a wnelo â nodi lle credwn fod y penderfyniadau a wnaethoch wedi bod yn anghywir a heb fod er budd Cymru. Oherwydd nid wyf yn diystyru—[Torri ar draws.]—nid wyf yn diystyru’r cyfrifoldeb sydd ynghlwm wrth fod yn Weinidog yn y Llywodraeth, neu’n Brif Weinidog yn wir, a’r pwysau sydd ar eich ysgwyddau. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny o gwbl, a’r ymrwymiad, fod meinciau’r Llywodraeth yma ac mewn unrhyw Senedd yn cymryd eu swydd o ddifrif.
Ond mae'n siŵr fod pobl wedi sylwi, yn ystod y 100 diwrnod cyntaf o gyfnod y Prif Weinidog yn ei swydd, y gwnaed rhai penderfyniadau arwyddocaol, yma yng Nghaerdydd ac yn San Steffan hefyd, yn enwedig mewn perthynas â'r gyllideb a goblygiadau rhai o’r penderfyniadau cynnar a wnaeth y Blaid Lafur mewn Llywodraeth yn San Steffan, yn enwedig diddymu lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr. Oherwydd mae a wnelo â—[Torri ar draws.] Mae a wnelo â sefyll dros Gymru a sicrhau, lle nad yw buddiannau Cymru'n cael eu gwasanaethu orau, fod hynny'n cael ei nodi ac y tynnir sylw at yr hyn sy'n niweidiol i lawer o ddinasyddion yma yng Nghymru. Pan fyddwch yn meddwl am lwfans tanwydd y gaeaf, mae 570,000 o bensiynwyr yn mynd i gael eu heffeithio gan ddiddymu'r budd-dal gwerthfawr hwn. Ni wnaed unrhyw ymrwymiad maniffesto, rwy’n derbyn hynny, ond mae llawer o ymrwymiadau maniffesto yn bodoli’n hanesyddol mewn dogfennau maniffesto Llafur, ac roedd eu dogfennau briffio eu hunain yn etholiad 2017 yn nodi’n glir y byddai diddymu’r budd-dal hwn yn arwain at 4,000 o farwolaethau cynamserol—4,000 o farwolaethau cynamserol yn sgil diddymu'r budd-dal hwn. Nid yw'n afresymol disgwyl i Brif Weinidog Cymru sefyll dros bensiynwyr Cymru a nodi y bydd gwrthdroi polisi mewn ffordd mor eithafol gan y Blaid Lafur yn cael cymaint o effaith ar bensiynwyr yma yng Nghymru.
Ac yna, edrychwn ar godiadau yswiriant gwladol yma yng Nghymru a'r ymrwymiadau a wnaed gan y Blaid Lafur pan oeddent yn wrthblaid ei bod yn dreth ar swyddi os byddwch chi'n codi cyfraniadau yswiriant gwladol ac nid oedd unrhyw gynlluniau yn y maniffesto i godi cyfraniadau yswiriant gwladol, pan wyddom yn iawn am yr effaith andwyol y bydd yn ei chael ar niferoedd swyddi yma yng Nghymru. Dangosodd y niferoedd a gyhoeddwyd ddoe fod gennym y lefel ddiweithdra uchaf mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig eisoes, sef 5.3 y cant, ac mae'n codi. Rydym eisoes wedi gweld nifer cynyddol o fusnesau'n tynnu sylw at yr effaith ddramatig y bydd y cynnydd hwn mewn yswiriant gwladol yn ei chael ar eu busnes.
Nid wyf yn rhoi llawer o fusnes i siopau trin gwallt, fel llawer o bobl, yn debyg iawn i’r Dirprwy Lywydd a minnau, sydd â’r un cyflwr. Ond nodwyd ddoe fod salonau a siopau barbwr ledled y wlad, drwy eu cymdeithas fasnach, wedi dweud bod 40 y cant o siopau barbwr a salonau yn anhyfyw gyda’r cynnydd hwn mewn cyfraniadau yswiriant gwladol.
I'w roi yn ei gyd-destun, y cyfraniad yswiriant gwladol ar gyfer rhywun ar gyflog canolig o £33,000, fe fydd yn costio £900 ychwanegol i gyflogwr gyflogi'r unigolyn hwnnw gyda'r cynnydd hwn mewn yswiriant gwladol. Bydd rhywun ar yr isafswm cyflog yn costio £770 i gyflogwr. Mae hwnnw'n arian go iawn, ac rwy’n sylweddoli bod gan y Llywodraeth gyllideb y mae’n rhaid iddi ei chyflawni, ond pan fyddwch wedi bod drwy ymgyrch etholiad cyffredinol a’r gwleidyddion wedi dweud, 'Nid oes gennym unrhyw fwriad i godi cyfraniadau yswiriant gwladol,’ nid yw’n afresymol i chi fod yn hynod siomedig pan fydd y gyllideb gyntaf a osodir yn cael effaith mor ddramatig ar gyfleoedd cyflogaeth, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig. Ac mae hwnnw’n fater mawr o ymddiriedaeth y mae pobl wedi’i cholli yn y Llywodraeth yn San Steffan, ac yn wir, yn y Blaid Lafur.
Ond yn nes at adref, gosododd Prif Weinidog Cymru darged clir i leihau amseroedd aros, a chodais hyn ddoe yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, gan dynnu sylw at yr her 50 diwrnod a gyflwynwyd gan y Gweinidog iechyd. Ac eto, yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog yn ei swydd, bu cynnydd o 9,000 o lwybrau ar y rhestrau aros, ychwanegwyd 4,000 o gleifion at y rhestrau aros, ac mae bron i 1,000 o gleifion ychwanegol yn aros am ddwy flynedd neu fwy. Sut y gallwn fod yn hyderus, yn gyffredinol, fod gan y Prif Weinidog reolaeth a bod gan y Llywodraeth reolaeth ar yr argyfwng amseroedd aros y mae Cymru'n ei wynebu, yn enwedig pan fo 614,000 o gleifion ar restr aros, ac 800,000 o lwybrau, ffigur sy'n cynyddu bob dydd, am na all ysbytai ateb y galw?
Rwy'n derbyn bod y galw'n ddigynsail—rwy'n derbyn hynny’n llwyr—ond yn anffodus, mae gennym ni yng Nghymru gyfran uwch o’r boblogaeth ar restr aros nag unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig. Pan edrychwch ar Loegr, er enghraifft, mae’r amseroedd aros dwy flynedd i lawr i lai na 150 o bobl yn aros am ddwy flynedd neu fwy. Yng Nghymru, mae’n 24,000 ac yn codi. Mae hynny’n gondemniad o fethiant y Llywodraeth yma yng Nghymru, ac yn y pen draw, roedd gan y Prif Weinidog, sef y Gweinidog iechyd o'r blaen, reolaeth ar hyn yn ei chyfnod cynnar yn y swydd honno, ond cafodd pob targed a osododd iddi ei hun ei fethu gan y Llywodraeth. Nid sefyll dros gleifion yma yng Nghymru yw hynny, nid sefyll dros glinigwyr, ac yn bwysig, nid sefyll dros y gweithlu sy’n mynd i'w gwaith bob dydd i wynebu eu cleifion a cheisio darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf. A dyna sy'n rhaid i ni ei gofio. Mae’r penderfyniadau a wneir yma, ym Mharc Cathays neu yn y Senedd, yn effeithio ar gleifion a staff fel ei gilydd.
Ac yna, rydych chi'n edrych ar fargen Tata. Dywedwyd wrthym, pe bai Llafur mewn Llywodraeth, yn y pen draw, y byddai gwell bargen wedi cael ei chynnig gan y Llywodraeth yn San Steffan, ac roedd Llywodraeth Cymru yn dweud, 'Gadewch inni gael yr etholiad cyffredinol nawr. Gadewch inni gael etholiad cyffredinol cynnar a newid y naratif.' Wel, ni ddaeth unrhyw fargen, a chollwyd yr un faint o swyddi yn Tata, yn anffodus, ag a ragwelwyd yn wreiddiol gan Tata yn ôl yn 2023 ym mis Medi. Nawr, ble roedd y fargen honno lle dywedwyd wrthym, pe byddech chi mewn grym, y gallech sicrhau bargen well i bobl Cymru a'r diwydiant cynhyrchu dur yma yng Nghymru? Unwaith eto, methiant i sefyll dros bobl Cymru, ac yn enwedig y gweithwyr ym Mhort Talbot.
Ac yna, boed eich bod yn cytuno â'r cynigion rhyddhad eiddo amaethyddol a gyflwynwyd gan y Canghellor neu beidio, unwaith eto, mae'n frad o ran yr ymrwymiadau a wnaeth Keir Starmer yn 2023 a Steve Reed yn yr etholiad cyffredinol eleni, pan ddywedasant nad oedd unrhyw gynlluniau ganddynt i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol. Does bosibl na fyddai Prif Weinidog Cymru am sefyll dros ran bwysig o’n heconomi, rhan bwysig o’n gwead cymdeithasol a rhan bwysig o’r gwead gwledig sydd mor bwysig yma i Gymru. Ond yn anffodus, ar yr holl agweddau a grybwyllais yn fy sylwadau agoriadol, mae’r Prif Weinidog wedi bod yn dawel ac wedi methu sefyll dros Gymru ar y materion pwysig hynny, boed yn ddiddymu taliadau tanwydd y gaeaf, boed yn gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol, boed yn rhyddhad eiddo amaethyddol, neu fapio llwybr clir i wella’r GIG yma yng Nghymru a sicrhau bod amseroedd aros yn gostwng, rhywbeth yr hoffai pob un ohonom ei weld.
Dyna ddiben y cynnig heddiw, sy’n tynnu sylw at y modd y mae’r Prif Weinidog, yn ei 100 diwrnod cyntaf, wedi methu sefyll dros bobl Cymru ac wedi methu cyflawni’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl gan Brif Weinidog yma yng Nghymru: i ddarparu’r hyn sy’n fuddiol i bobl Cymru. A dyna pam fy mod yn edrych ar draws y Siambr ac yn edrych am gefnogaeth gan bob plaid i gefnogi’r cynnig hwn, nad wyf yn credu fy mod yn mynd i’w chael gan y blaid lywodraethol, a gallaf weld Hefin yn barod wrth ei ddarllenfwrdd, felly rydym yn mynd i wrando ar Hefin yn nes ymlaen yn amddiffyn safbwynt y Llywodraeth, yn ôl pob tebyg. Ond pan fyddwch yn gwrando ar yr hyn rwyf wedi'i ddweud heddiw, rwyf wedi cynnig y dystiolaeth ac rwyf wedi cynnig yr atebion, mewn rhai achosion, drwy safbwyntiau polisi'r Ceidwadwyr yr ydym wedi'u datgan yn glir. A phan fydd pobl yn cyflwyno maniffesto ac yna’n torri’r maniffesto hwnnw o fewn dyddiau i fod mewn Llywodraeth, mae hynny’n erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddion ac ymddiriedaeth mewn pleidiau. A dyna pam fy mod yn galw am gefnogaeth i’r cynnig sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y caiff gefnogaeth a bod y Prif Weinidog yn gwneud yn well yn ystod ei 100 diwrnod nesaf yn ei swydd i gyflawni ar ran pobl Cymru.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi amlinellu gweledigaeth newydd gynhwysfawr ar gyfer ei Llywodraeth.
Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi llwyddo i wneud yr achos yn ddigon cryf gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros:
a) cyflwyno fformiwla cyllido teg i gymryd lle fformiwla Barnett;
b) datganoli Ystad y Goron;
c) digolledu Cymru’n llawn am wariant ar HS2;
d) gwrthdroi’r penderfyniad i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i rai pensiynwyr; ac
e) cael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Maen nhw'n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth—mae lot yn gallu digwydd mewn amser byr iawn—ond i'r rhai a oedd yn gobeithio y byddai'r Prif Weinidog yn golygu newid cywair go iawn, newid cyfeiriad go iawn, wrth inni edrych yn ôl dros 100 niwrnod cyntaf y Prif Weinidog Llafur diweddaraf, prin ydy'r dystiolaeth sy'n cefnogi'r hen ddihareb honno.
Mi gymerodd y Prif Weinidog, wrth gwrs, rai wythnosau i benderfynu beth oedd ei blaenoriaethau hi a setlo ar y rhain: torri hyd restrau aros yr NHS; creu swyddi gwyrdd i daclo'r argyfwng hinsawdd; cynyddu safonau addysgiadol; a chysylltu cymunedau. Rŵan, dwi'n ddigon cymodlon i gydnabod byddai hi'n afresymol disgwyl i'r Prif Weinidog fod wedi trawsnewid bob un o'r meysydd yna o flaenoriaeth, ond mae hi'n deg gofyn lle mae'r weledigaeth a lle mae'r cynllun all arwain at newid. Does yna ddim cynllun i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd; yr unig gyhoeddiad hyd yma, o lwyfan y gynhadledd Lafur, am berthynas drawsffiniol newydd wnaeth droi allan i beidio â bod yn berthynas drawsffiniol newydd o gwbl, wedi bod yn destun gwawd a gwrth-ddweud am yn ail. Ac, yn y cyfamser, mae rhestrau aros ar eu lefel uchaf erioed.
Felly, dim newid cyfeiriad ar iechyd. Yn yr un modd, dim cynllun ar gyfer—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Agorodd y Prif Weinidog yr ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru, rhywbeth sydd i'w groesawu’n fawr, ac rwy’n deall bellach fod Ysbyty Brenhinol Alexandra, y buom yn edrych ymlaen at gynigion arno—y byddant yn cael eu cyflwyno y flwyddyn nesaf. Ac yn olaf, bydd yna gyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU—250 gwaith yn fwy o arian cyfalaf nag o'r blaen, o dan y Llywodraeth flaenorol. Felly, mae hyn oll yn dangos newid a symudiad i helpu yng ngogledd Cymru.
Rwy’n sicr yn croesawu unrhyw gyfeiriad at ymgyrch lwyddiannus Plaid Cymru i agor yr ysgol feddygol honno ym Mangor. Ni chredaf, serch hynny, y gallwn gyfeirio at y ffaith bod hynny wedi digwydd—yn digwydd bod wedi digwydd—yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog newydd yn ei swydd fel arwydd o gynnydd arwyddocaol gan y Prif Weinidog.
Felly, dim newid cyfeiriad ar iechyd. Yn yr un modd, dim cynllun ar gyfer swyddi gwyrdd neu dwf. Mae’r Blaid Lafur wedi ei galw’n berthynas, yn bartneriaeth pŵer rhwng Llafur yng Nghymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall? Dim ond un arall, dim ond un bach.
Achos rwy'n ymarfer. Dim swyddi—gwn fod Eren Holding, unwaith eto, wedi agor yn ddiweddar yng ngogledd Cymru. Roedd y Prif Weinidog yno—Llywodraeth Cymru yn ymyrryd hefyd, gan greu, bellach, 400 o swyddi undebol, sy'n wirioneddol wych ac sydd i'w groesawu'n fawr yn y gogledd.
Unwaith eto, rydym yn sôn am ble y ceir newid cyfeiriad, newid cywair, o dan Brif Weinidog newydd. Nid wyf yn gweld hynny. Gallwn gyfeirio at bethau sydd wedi digwydd yn y 100 diwrnod diwethaf; nid yw hynny’n golygu newid cyfeiriad o dan Brif Weinidog newydd.
Ond rydym yn ei galw'n bartneriaeth—. Rydym wedi clywed cyfeirio ati fel partneriaeth pŵer, ond mae'n rhaid ichi haeddu'r disgrifiad hwnnw; ni allwch ei briodoli i chi'ch hun yn ddiamod. Er mwyn ei gyfiawnhau, mae’n rhaid inni weld sut y mae partneriaeth pŵer o fudd i Gymru. Y peth lleiaf roeddem yn ei ddisgwyl oedd i’r Prif Weinidog, er enghraifft, frwydro dros weithwyr dur ym Mhort Talbot.
Nawr, ar addysg, yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf, cyhoeddwyd adroddiad damniol ar sut y mae disgyblion yn cael eu haddysgu i ddarllen yng Nghymru a sut y bu diffyg difrifol yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Nawr, mae hyn yn mynd yn groes i honiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf, a dyfynnaf, mai:
'Y darlun mawr yn 2024 yw bod ysgolion yn cael y pethau sylfaenol yn iawn.'
Mae'n amlwg nad ydynt.
Pan ddaeth y Prif Weinidog yn arweinydd Llafur yng Nghymru, addawodd newid pethau—'gwneud pethau’n wahanol', meddai. Ond mae ei hymagwedd at ymdrin â Phrif Weinidog y DU wedi bod, mewn sawl ffordd, yn gam yn ôl. Ar yr achos dros fformiwla ariannu sy'n seiliedig ar anghenion, datganoli Ystad y Goron a chyllid canlyniadol llawn yn sgil HS2, mae Llywodraeth Cymru, ar wahanol adegau, wedi cytuno â safbwyntiau Plaid Cymru. Ond nawr, gyda Llafur yn Llywodraeth y DU, mae’r Prif Weinidog wedi methu newid unrhyw beth o gwbl.
Mae ein gwelliant yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog newydd wedi llwyddo i ddadlau achos Cymru ar y materion hynny, a'r toriad ofnadwy i lwfans tanwydd y gaeaf, a'r cap budd-dal dau blentyn. Mae arnaf ofn mai'r hyn a welsom yw Llafur yn Llywodraeth Cymru, o dan y Prif Weinidog newydd, yn llithro i batrwm o amddiffyn eu meistri yn San Steffan. Oes, mae arnom angen i Weinidogion Cymru ymgysylltu’n gadarnhaol â Llywodraeth y DU, fel y byddai Gweinidogion Plaid Cymru yn ei wneud, ond nid ydym yn ennill unrhyw beth trwy fod yn gaeth iddynt. Gwahaniaeth sylfaenol rhwng Plaid Cymru a Llafur yw na fyddwn byth yn gadael i ddictad San Steffan lesteirio ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru.
Mae blaenoriaethau datganedig y Prif Weinidog yn gymeradwy—oes, mae’n rhaid inni leihau rhestrau aros; oes, mae’n rhaid inni flaenoriaethu'r gwaith o greu swyddi gwyrdd; oes, mae’n rhaid inni godi safonau yn ein hysgolion a chysylltu ein cymunedau'n well. Ond wedi 100 diwrnod yn y swydd, y gwir amdani yw nad oes cynllun, nac unrhyw arwydd o gynllun.
Rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud na fydd eironi gwelliant Llafur wedi ei golli ar y meinciau hyn—rhestr o bethau a ddigwyddodd groesi’r llinell, fel y dywedaf, yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog yn ei swydd, gan gynnwys syniadau a ddaeth gan Blaid Cymru ac y mae Llafur, yn y gorffennol, wedi ceisio eu hatal neu bleidleisio yn eu herbyn. Rydym wrth ein boddau fod y pethau hynny wedi'u cyflawni, ond ni fyddwn yn cefnogi cynnig sy’n datgan y cynnydd sylweddol a wnaed gan y Prif Weinidog newydd pan nad oes unrhyw beth, yn ôl unrhyw fesur gwrthrychol, wedi newid yn sylfaenol yn y 100 diwrnod hynny.
Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:
a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;
b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac
c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Hoffwn longyfarch y Prif Weinidog ar 100 diwrnod cyntaf rhagweithiol a chynhyrchiol yn dilyn camreolaeth annirnadwy y Torïaid, argyfwng costau byw llethol, gwasanaethau cyhoeddus ar chwâl, diffyg buddsoddiad ledled y DU a lefelau uchel o ddiffyg diogeledd ynni. Mae arweinyddiaeth ein Prif Weinidog, a'r bartneriaeth gref rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU, yn golygu y gall y Gymru ddatganoledig symud ymlaen nawr, ond wedi’i halinio mewn cydweithrediad, broceriaeth a chyda’r egwyddorion cyffredin hynny sy’n hollbwysig.
Yn fwyaf arbennig ar gyfer y ddadl hon, hoffwn dynnu sylw at y bartneriaeth eithriadol a chalonogol rhwng y ddwy Lywodraeth Lafur ar yr argyfwng hinsawdd. Mae ynni a hinsawdd yn ganolog i agenda’r Llywodraeth Lafur, ac nid ydym yn gwastraffu eiliad yn cyflawni ein hymrwymiadau. Cymru oedd y genedl gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd—moment anferthol a balch, gobeithio, i bob un ohonom.
Y tu hwnt i hyn, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn sgiliau, arloesedd a seilwaith, gan greu swyddi gwyrdd, a chyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys rolau mewn ynni adnewyddadwy, rheoli tir yn gynaliadwy ac adfer yr amgylchedd. Rhain yw swyddi gwyrdd y dyfodol, a fydd yn helpu i ddiogelu ein planed, nid ei difa, a darparu sicrwydd ariannol a sefydlogrwydd i deuluoedd Cymru, ynghyd â swyddi sy’n talu’n dda. Bydd y sylfaen a osodwyd ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy yn diogelu ein hamgylchedd naturiol, gan ddiogelu pob rhan o Gymru ar yr un pryd. Yn ychwanegol at hynny, mae’r Prif Weinidog a Llywodraeth Lafur Cymru wedi nodi eu hymrwymiad clir i symleiddio’r broses gynllunio, gan alluogi penderfyniadau cyflymach ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, seilwaith gwyrdd a datblygiadau tai newydd. Polisïau yw’r rhain—polisïau rhagweithiol—sydd â’r nod o sicrhau manteision uniongyrchol i gymunedau lleol, gan osod y sylfaen ar yr un pryd ar gyfer twf cynaliadwy hirdymor.
Yn ogystal â hyn oll, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi codi gwaharddiadau ynni gwynt ar y tir, wedi cydsynio i werth 1.3 GW o brosiectau ynni solar, wedi cyhoeddi cynlluniau i ddod ag 1 filiwn o rentwyr allan o dlodi tanwydd, ac wedi cadarnhau cyllid ar gyfer 11 o brosiectau hydrogen newydd. Ac mae rhagor. Ddoe, yn COP29, dywedodd Prif Weinidog y DU fod
'y Deyrnas Unedig yn benderfynol o gydsefyll â’r gwledydd ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd heddiw, ac achub ar gyfleoedd yfory, gan mai gweithredu ar yr hinsawdd nawr yw’r llwybr tuag at dwf economaidd, diogeledd ynni, swyddi gwell a diogelwch cenedlaethol yn y tymor hir.'
Ar ôl 14 mlynedd hir o reolaeth y Torïaid, mae ein DU a’n Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, a’n Prif Weinidog, er ein bod wedi ein datganoli, yn sefyll gyda'n gilydd, yn cydweithio i roi ein cymunedau, ein heconomi a’n hamgylchedd yn gyntaf, a dyma Lafur yn cyflawni ei haddewidion i greu dyfodol cynaliadwy, tecach i bawb, ac rwyf i, yn sicr, yn falch iawn o gefnogi hynny. Diolch yn fawr.
Hoffwn longyfarch y Prif Weinidog ar ddod yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru. Ond ar ôl 25 mlynedd a 100 diwrnod o'r drydedd Lywodraeth Lafur eleni, beth a welwn? Addewidion wedi'u torri, problemau diddiwedd a Llywodraeth sydd allan o gysylltiad yn llwyr â phobl weithgar Cymru. Dywedodd y Prif Weinidog ei bod wedi gwrando ar y cyhoedd a phobl Cymru, ac mae'n drueni ei bod wedi cymryd 25 mlynedd i'r Llywodraeth yma ddeall bod angen ichi wrando ar y cyhoedd. Felly, gadewch inni weld—[Torri ar draws.]. Felly, gadewch inni weld effaith—[Torri ar draws.]
Hoffwn glywed cyfraniad yr Aelod—
Mae mwy i ddod.
—ac rwy'n disgwyl i bawb ganiatáu i hynny ddigwydd. Ac rwy'n golygu pawb.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae llawer mwy i ddod. Felly, gadewch inni weld effaith 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon, a gadewch inni weld beth nad ydych chi wedi bod yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion mwyaf pwysig i bobl Cymru.
Gadewch inni siarad am iechyd. Addawodd y Prif Weinidog, a oedd unwaith yn Weinidog iechyd, na fyddai unrhyw un yng Nghymru yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad erbyn diwedd 2022. Wel, dyma ni, bron i ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, miloedd o bobl ar restr aros, pobl yn aros yng nghefn ambiwlansys, a phobl yn aros mewn ysbytai am ofal cymdeithasol i allu mynd adref, a'r cyfan y maent ei eisiau gan y Llywodraeth hon yw atebion, arweinyddiaeth ac atebolrwydd. Yn y gogledd, mae Betsi Cadwaladr wedi cael ei roi mewn mesurau arbennig. Yn y de, mae cleifion yn ysbyty'r Faenor yn aros am oriau mewn ambiwlansys yn gaeth mewn baeau mor orlawn fel bod yn rhaid iddynt ddefnyddio ffaniau diwydiannol i glirio'r mygdarth o'r cerbydau. A chau gwasanaethau lleol ym Mhowys, bwrdd iechyd sydd â diffyg ariannol difrifol. Ai dyma'r gwasanaeth iechyd yr ydym eisiau ei weld ar ôl 100 diwrnod a 25 mlynedd o Lafur? Nid wyf yn credu hynny. Ond er gwaethaf yr holl heriau hyn, mae staff ein GIG yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal eithriadol ac yn mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd.
A gadewch inni droi at addysg. Tra bo plant yn Lloegr yn symud ymlaen, mae ein myfyrwyr ni yng Nghymru yn llithro ymhellach ar ôl. Mae sgoriau PISA mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth ar y gwaelod, gan roi dyfodol ein pobl ifanc mewn perygl. Mae ein hathrawon gweithgar a'n cynorthwywyr addysgu yn gwneud eu gorau mewn amgylchiadau cynyddol anodd, wedi'u gorlwytho â llwyth gwaith enfawr, ac mae'n amlwg eu bod yn cael cam gan Lywodraeth Cymru. Ac ar y nawfed diwrnod a deugain o'r Llywodraeth hon, cawsom ein hatgoffa gan ITV fod llawer o fyfyrwyr o dan y Llywodraeth hon yn dechrau'r ysgol uwchradd yn anllythrennog.
Yna, o fewn y 100 diwrnod cyntaf, daw'r brad yn erbyn ein pensiynwyr. Ni ddaeth llawer o'r Gweinidogion, na'r Prif Weinidog, na llawer o'r Aelodau Llafur, i'r ddadl a gynhaliwyd gennym yma ar daliadau tanwydd y gaeaf. Fe wnaethant adael ein pensiynwyr allan yn yr oerfel, eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi a bwyta, a chefnogi Llywodraeth Lafur y DU yn ddigywilydd.
Ac yna daw'r brad yn erbyn ein busnesau. Mae ein busnesau dan warchae. Mae Cymru eisoes yn wynebu'r gyfradd ddiweithdra uchaf ar draws y Deyrnas Unedig. Mae ein busnesau'n cael eu taro'n galed. Ac mae cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth y DU, a gefnogir yn llawn gan Lywodraeth Cymru yma, yn mynd i wneud pethau'n anos: treth gorfforaeth yn codi, yswiriant gwladol yn codi, isafswm cyflog yn codi, ac enillion cyfalaf wedi'u torri.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mewn eiliad, Joyce.
A Bil yn cael ei gyflwyno nawr yn ymosod ar ein heconomi ymwelwyr. Mae'r gynghrair wrth-dwf ar ei hanterth yma yng Nghaerdydd, a chânt eu cynorthwyo nawr gan San Steffan.
Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad, Joyce.
Hoffwn ofyn i chi, ar ran eich holl etholwyr, a fy etholwyr i, a ydych chi'n dweud wrthyf nad ydych chi'n credu bod y bobl sy'n gweithio'n galed ac sydd ar gyflogau isel yn haeddu'r codiad hwnnw, gan eich bod chi newydd ei grybwyll fel rhywbeth negyddol, yn yr isafswm cyflog a'r cyflog byw? Diddordeb, dyna i gyd, gan i chi ei grybwyll fel rhywbeth negyddol.
Os ydych chi'n mynd i godi'r isafswm cyflog, Joyce, ni allwch godi trethi eraill i fusnesau hefyd, oherwydd mae angen iddynt gael arian i gyflogi pobl, i roi arian yn ôl i mewn i'r gymuned, i gefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen arnom i gyd.
Ond gadewch inni fod yn glir, nid yw'r Llywodraeth hon yma yn Llywodraeth i'r bobl. Mae'n Llywodraeth i'w meistri undebol. Nid yw'n cefnogi pobl sy'n gweithio'n galed. Yn y cyfamser, er bod angen mynd i'r afael â'r holl faterion y soniais amdanynt, beth oedd blaenoriaethau Llafur dros y 25 mlynedd diwethaf, ar gyfer tymor y Senedd hon, a'r 100 diwrnod diwethaf? Mae ganddynt obsesiwn â diwygiadau etholiadol a chyfansoddiadol, gan ychwanegu mwy o Aelodau Senedd sy'n costio £120 miliwn. Mae ganddynt obsesiwn â gostwng terfynau cyflymder a chynnal sefydliadau sy'n methu. Mae materion ymylol yn mynd â'u sylw, maent wedi gweld ein gwasanaethau cyhoeddus yn llithro i'r gwter ac wedi esgeuluso'r cymunedau a'r bobl sy'n teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl ledled Cymru.
Brif Weinidog, fe wnaethoch chi addo y byddai eich Llywodraeth yn blaenoriaethu cyflawniad. Fe wnaethoch chi benodi Gweinidog hyd yn oed—
Rhaid i chi orffen nawr, James, os gwelwch yn dda.
—sydd wedi bod yn dawel drwy'r ddadl. Fodd bynnag, rydym eto i weld cynnydd ar y materion y mae pobl Cymru'n malio amdanynt. Mae'r bobl wedi bod yn gwylio'n agos ar y 100 diwrnod hyn, a ninnau hefyd, ac rydym wedi cael digon. Yn 2026, bydd llais y bobl—
James, mae angen ichi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—bydd llais y bobl yn ei wneud yn glir. Byddant yn dweud bod yr amser ar ben i'r Llywodraeth hon. Mae'n bryd gwneud Cymru'n wych unwaith eto. Digon ydy digon. Mae'n bryd newid, ac ni all newid yn ddigon buan.
Yn ei thaith dros yr haf, mi wnaeth y Prif Weinidog ymweld â Phontypridd, sy'n rhan o fy rhanbarth i, a dwi'n gwybod ei bod hi wedi cael nifer o sgyrsiau difyr, dwi'n siŵr, a wnaeth helpu i lywio'r blaenoriaethau a glywsom ni gan Rhun ap Iorwerth yn gynharach. Rydw innau hefyd yn mynd i farchnad Pontypridd yn rheolaidd ac yn siarad â phobl. Maen nhw wrth eu bodd yn siarad am wleidyddiaeth. Mi oedd gyda nhw farn bendant iawn am nifer o bethau sydd wedi bod yn mynd ymlaen yma.
Ond dwi hefyd wedi bod yn trafod efo nhw sut maen nhw'n credu mae pethau'n mynd ar ôl yr etholiad cyffredinol diwethaf a beth yw eu hadlewyrchiadau nhw ar y sefyllfa yn y Senedd hon, a'r gyllideb newydd, ac ati. Yn sicr, maen nhw eisiau gweld y Llywodraeth Llafur hon yn mynd ati i fod yn blaenoriaethu'r pethau y clywon nhw gymaint amdanyn nhw cyn yr etholiad cyffredinol hwnnw. Maen nhw wedi mynegi siom efo fi fod yna newid tôn wedi bod o ran y Senedd hon, dan arweiniad y Prif Weinidog, o ran mynnu rhai o'r pethau yr oedden nhw mor daer am fynnu pan oedd yna Lywodraeth o liw arall wrth y llyw.
I dynnu sylw o ran y cap budd-dal dau blentyn, mae hwn yn cael effaith anferthol ar bobl yn ein cymunedau ni rŵan. Mae'n bolisi creulon. Mae hwn yn cael ei barhau gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig. Dwi eisiau clywed ein Prif Weinidog ni yn datgan hynny, yn herio Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
O ran lwfans tanwydd gaeaf i rai pensiynwyr, mae hwn yn bryder gwirioneddol i bobl yn ein cymdeithas ni. Maen nhw eisiau i bob un ohonom ni fod yn gyfan gwbl unedig. Does dim dwywaith, petai Llywodraeth Dorïaidd yn dal i fod mewn grym ac wedi cyflwyno hyn, y byddech chi wedi bod yn unedig gyda ni yn galw i wyrdroi hynny. A dyma'r pethau mae pobl yn adlewyrchu arnyn nhw: a ydy ein Prif Weinidog ni'n gwrando, a ydy hi'n ein blaenoriaethu ni dros ei haelodaeth o blaid wleidyddol, ac a ydy ei Gweinidogion hi'n cytuno? Mi wnaeth Mick Antoniw, fel yr Aelod lleol dros Bontypridd, siarad allan yn erbyn y lwfans tanwydd gaeaf, ond, o ran pleidleisio, mae wedi bod yn wahanol iawn ers y newid a fu yn San Steffan. Felly, dyna un o'r pethau dwi'n adlewyrchu arnyn nhw.
Yn amlwg, mae pethau wedi newid o gael Llywodraeth wahanol yn San Steffan— Llywodraeth Lafur yno hefyd.
Heledd, a wnewch chi dderbyn ymyriad gan Cefin Campbell?
Mi wnaf i. Wrth gwrs y gwnaf i.
Cefin Campbell. Cefin, roeddech chi wedi codi eich llaw i ofyn am ymyriad. A oeddech chi eisiau gwneud ymyriad? Na. O'r gorau.
Diolch yn fawr iawn am gytuno efo bob gair roeddwn i'n ei ddweud, Cefin Campbell—falch iawn o'r gefnogaeth o bell. [Chwerthin.]
O ran y blaenoriaethau hynny, dwi'n meddwl mai dim ond angen sicrhau ydym ni nad ydyn ni'n colli golwg ar y blaenoriaethau hynny. Un o'r pethau sydd wedi bod yn anffodus iawn, dwi'n credu, ydy mai un o'r mwyaf nodedig sydd wedi digwydd yn y 100 diwrnod cyntaf ydy o ran rhestrau ymgeiswyr etholiadol, a'n bod ni wedi newid hynny i fod yn ganllawiau yn hytrach na Bil. Rydyn ni mor falch o weld dynes yn y rôl o fod yn Brif Weinidog, ond, fel mae WEN Wales wedi dweud yn glir, mae cael canllawiau gymaint gwannach na chael Bil. Ac roeddem ni'n gobeithio y byddai cael dwy Lywodraeth Lafur yn golygu y byddai unrhyw rwystrau o ran y Bil hwnnw yn mynd o'r neilltu, a'n bod ni'n gallu gweld newid. Mae cymaint ohonom ni oedd yn trafod ddoe yn y Siambr hon yn ofni'n fawr, heb gael y Bil hwnnw, na welwn ni'r newid sydd ei angen yma. Mi oedd y dystiolaeth glywsom ni fel pwyllgor ar ddiwygio'r Senedd, o ran edrych ar yr elfen hon, yn hollol, hollol sicr bod y Bil hwn yn allweddol. Felly, dwi eisiau adlewyrchu pa mor siomedig ydy nifer o bobl fod y Bil hwnnw wedi diflannu yn y 100 diwrnod cyntaf.
Un o'r pethau mwyaf anffodus, dwi'n meddwl—. Dŷn ni gyd wedi dweud pethau anffodus mewn cyfweliadau—dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn euog o hynny—ond un o'r pethau sydd wedi adlewyrchu fwyaf gennyf fi ydy'r cyfweliad gan y Prif Weinidog ar Byd ar Bedwar, lle cymharwyd ei dylanwad ar Keir Starmer gyda'i dylanwad ar Donald Trump. Efallai, gyda Donald Trump bellach wedi dod unwaith eto yn Arlywydd, y byddai'n dda gwybod faint o ddylanwad sydd ganddi hi ar Donald Trump bellach, ond mae'r math yna o bethau'n pryderu pobl ym Mhontypridd a ledled Cymru. Dŷn ni eisiau Prif Weinidog fydd yn mynnu'r gorau i Gymru, fydd yn mynnu'r holl bwyntiau roeddem ni mor groch yn eu mynnu cyn yr etholiad. Ddylai o ddim gwneud gwahaniaeth i Gymru pa blaid sydd wrth y llyw yn San Steffan. Mi ddylem ni fod yn blaenoriaethu pobl Cymru a'r hyn wnaiff wahaniaeth i'n cymunedau ni.
Wel, gadewch i ni beidio â malu awyr yma—nid wyf i byth yn gwneud hynny. Clywais beth eironi oddi ar feinciau Aelodau eraill heddiw a pheth rhagrith hefyd, rhaid dweud. Mae Llafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru dros y 25 mlynedd diwethaf, wedi arwain at restrau aros syfrdanol o uchel, canlyniadau addysgol gwael, system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n chwalu, a'n ffyrdd mewn cyflwr gwael—gallwn barhau. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi eu tanariannu'n llwyr. Felly, mae gobaith newydd bob amser pan fydd arweinydd ffres a newydd yn cymryd yr awenau, y trydydd mewn llai na phedair blynedd. Rwyf bob amser yn cofio, Brif Weinidog, fod eich araith i'r gynhadledd Lafur ym mis Medi 2024 yn dweud eich bod yn mynd i fod yn gatalydd ar gyfer newid. Felly, ie, dim ond ers 100 diwrnod rydych chi wedi bod yn y swydd, ac mae'n deg dweud—ac nid yw Llywodraeth y DU wedi bod mewn grym ers llawer mwy na hynny—mae'n deg dweud eich bod chi wedi gwneud llai o niwed nag a wnaethant hwy, ond fe wnaethoch chi gefnogi Llywodraeth y DU i fynd â thaliadau tanwydd oddi wrth ein pensiynwyr. Felly, am hynny, rwy'n teimlo eich bod chi wedi gwneud cam â phobl Cymru. Ond rydym yn chwilio am newid nawr, am y catalydd ar gyfer newid.
Er gwaethaf eich addewidion i ailddyfeisio Llafur Cymru, mae ein hamseroedd aros wedi gwaethygu. Mae Cymru bellach yn wynebu argyfwng gofal iechyd gwaeth nag erioed, gyda dros 800,000 o bobl yn aros am driniaeth, sy'n cyfateb i un o bob pedwar o'r boblogaeth. Mae arosiadau dwy flynedd yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel, targedau heb eu cyrraedd ym mhob canlyniad iechyd, mae targedau triniaeth canser ar ei hôl hi'n druenus, ac mae hygyrchedd meddygon teulu wedi dirywio—rydym wedi colli 100 o bractisau ers 2012. Mae arolygon barn bellach yn datgelu nad oes gan bron i dri chwarter y bobl ymddiriedaeth yng ngallu eich Llywodraeth, na chithau rwy'n tybio, i ddarparu gofal iechyd yng Nghymru. O ystyried y problemau parhaus ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, a chamdrafod materion gofal iechyd yn fynych, nid yw'n syndod fod hyder y cyhoedd yn parhau i fod mor isel. Rhoddais gais rhyddid gwybodaeth i mewn ynglŷn â faint o esgeulustod meddygol a welwyd dros y 12 mis diwethaf, a dim ond ar achosion ombwdsmon yn unig, heb achosion dim llwyddiant, dim ffi, heb achosion cyfreithiol, roedd yn £75,000—arian a allai fod wedi mynd yn ôl i'r bwrdd iechyd.
Rydym yn edrych ar ein ffermwyr sydd wedi cael eu cosbi unwaith eto gan Lywodraeth Lafur y DU, ac rydych chi'n cefnogi hynny, ac rydych chi wedi gwneud hynny o fewn eich 100 diwrnod. Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi hyd yma mai chi yw'r catalydd ar gyfer newid sydd ei angen ar Gymru. Canfu arolwg gan Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru mai dim ond 3 y cant o ffermwyr sy'n ymddiried yn Llywodraeth Cymru erbyn hyn, tra bod 87 y cant yn credu na fydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cefnogi eu busnesau nac yn cyflawni nodau amgylcheddol. Mae'r ffordd y mae Llafur Cymru yn mynnu cael targed gorchudd coed o 10 y cant yn diystyru pryderon ffermwyr yn llwyr. Pam nad ydych chi'n gwrando? Rhaid imi ddweud, pan oeddech chi'n Weinidog iechyd, roeddech chi yn gwrando, ac roedd hi'n braf gallu dod at Weinidog iechyd lle roeddech chi'n gwrando. Rydym am i chi wrando nawr. Rydym am i chi fod yn gatalydd ar gyfer newid. Peidiwch â chamddeall, byddai'n well gennyf gael Andrew R.T. Davies yn y swydd i allu bod yn gatalydd go iawn ar gyfer newid, ond chi sydd yno, chi yw'r Prif Weinidog etholedig.
Mae ystadegau diweddar Llywodraeth Cymru yn datgelu cyfradd gyflogaeth o ddim ond 69 y cant yng Nghymru, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 75 y cant. Fe wyddom fod y cyflog canolrifol yn llawer is yng Nghymru na'r hyn ydyw yn Lloegr. Mae anweithgarwch economaidd yn parhau i fod yn uchel ar 26 y cant. Nid ydych wedi gwneud unrhyw beth yn ystod eich 100 diwrnod i atal y gwariant cynyddol ar lety dros dro. Bellach mae gennym 140,000 o bobl ar restrau aros am dai cymdeithasol, a dros 11,000 mewn llety dros dro. Mae rhai ohonynt yn blant a Brif Weinidog, bydd rhai ohonynt yn treulio dydd Nadolig mewn ystafell wely mewn gwesty.
Felly, gallwch weld, o'm rhan i, mae angen imi wybod ble rydych chi wedi bod yn gwrando. Rydych chi wedi bod o gwmpas ar ymarfer drwy Gymru gyfan yn gwrando ar etholwyr. Nid wyf yn gwybod am lawer o bobl sy'n dweud eu bod wedi eich gweld chi. Nid wyf yn gwybod faint gostiodd yr ymarfer hwnnw, beth y gwnaethoch chi wrando arno, a sut y bwriadwch fynd i'r afael ag ef. Dyna pam fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at eich ymateb i'r ddadl hon heddiw, oherwydd, a dweud y gwir, nid wyf wedi gweld unrhyw beth o fewn y 100 diwrnod diwethaf sy'n dweud wrthyf fod pethau'n mynd i wella yng Nghymru. Credwch fi, ymhen 18 mis—
Mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch yn dda, Janet.
Iawn. O'r gorau, fe wnaf. Mae etholiad ar gyfer y Senedd yn 2026, ymhen llai na 18 mis. Yr unig gatalydd go iawn ar gyfer newid—i unrhyw un sy'n gwylio hyn, a'r pleidleiswyr allan yno—fydd pleidleisio i'r Ceidwadwyr Cymreig, a gadewch inni weld Andrew Davies—[Torri ar draws.] Gadewch inni weld Andrew Davies—
Mae angen ichi orffen, Janet, os gwelwch yn dda.
Iawn, rwy'n credu eich bod chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu. Diolch. [Chwerthin.]
Pam y mae'n rhaid imi ddilyn Janet Finch-Saunders bob tro? [Chwerthin.] Nid wyf yn gwbl argyhoeddedig ynglŷn â mesur 100 diwrnod FDR. Fe weithiodd iddo ef; nid wyf yn siŵr y bydd yn gweithio cystal ar draws gwleidyddiaeth fodern, sy'n symud mor gyflym ac mor wahanol i gyfnod Franklin Delano Roosevelt. Ond yr hyn y buaswn i'n ei ddweud yw mai dim ond ers, beth oedd hi, mis Gorffennaf y bu gennym Lywodraeth Lafur yn y DU ac mae angen rhoi mesur 100 diwrnod y Prif Weinidog yn y cyd-destun hwnnw hefyd, a'r ffaith mai dim ond yn y mis diwethaf y cawsom y gyllideb drawsnewidiol.
Un o'r pethau rwyf eisiau eu dweud am Eluned Morgan—rydym wedi adnabod ein gilydd ers amser maith nawr—yw mai hi yw'r unig Brif Weinidog sy'n rhoi cwtsh i mi bob tro rwy'n ei gweld. Gallaf weld Mark Drakeford yn boenus braidd. [Chwerthin.] Nid wyf yn disgwyl dim, Weinidog cyllid, ond rwy'n credu ei fod yn dangos cynhesrwydd Eluned Morgan; a'r ffaith bod ei chefndir yn Nhrelái, un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig, ei bod wedi llwyddo yn erbyn yr ods, a bod ganddi bob hawl i fod yn falch o'i statws, yn Nhŷ'r Arglwyddi ac fel ein Prif Weinidog benywaidd cyntaf. Daeth i mewn gyda chefnogaeth unfrydol y grŵp Llafur, ac yn yr etholiad nesaf, fe fydd wedi cael mwy na 100 diwrnod, ond 18 mis i brofi beth y gall ei wneud. Rwy'n credu y bydd ei hymarfer gwrando'n fanteisiol iddi, ac wrth arwain at etholiad nesaf y Senedd, yn profi bod ganddi boblogrwydd o'i phlaid, o ganlyniad i'r gweithgareddau y mae wedi'u cyflawni ac y bydd yn eu cyflawni ym mlwyddyn nesaf y Senedd hon.
Rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi sôn am y pedair blaenoriaeth. Roeddwn i eisiau edrych ar gysylltu cymunedau. Yn fy nghymuned i, mae gennym y cerbydau rheilffordd mwyaf newydd, y cerbydau trên mwyaf newydd, yn y DU gyfan ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd, ac ni fuaswn yn synnu pe baent yn rhai o'r cerbydau o'r ansawdd gorau a mwyaf newydd yn Ewrop gyfan. Mae hynny wedi parhau, a bydd hynny'n cael ei dyfu yn y 18 mis nesaf ledled Cymru, ar draws rheilffyrdd y Cymoedd. Bydd rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn gweld stoc newydd sbon, ac yna fe welwn Fil bysiau'n cael ei gynllunio i gyflwyno masnachfreinio i gysylltu'r bysiau â'r rhwydweithiau rheilffyrdd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyflawniad sylweddol iawn i gysylltu cymunedau, oherwydd pan gefais fy ethol gyntaf—. Mae Natasha Asghar yn edrych yn amheus iawn arnaf. Pan gefais fy ethol gyntaf yn 2016, cefais e-byst am drenau Arriva a phobl yn cael eu gwasgu i mewn fel sardîns—
Maent yn dal i fod.
Nac ydynt. Nac ydynt.
Ydynt, wir. Dylech fynd allan i'r byd.
Nac ydynt. Dylech deithio ar reilffordd Rhymni o bryd i'w gilydd.
Nid wyf am gael sgyrsiau ar draws y Siambr, os gwelwch yn dda.
Dylech deithio ar reilffordd Rhymni o bryd i'w gilydd. Mae ansawdd y trenau'n anhygoel. Ond yr hyn y mae angen inni ei wneud nesaf yw ei gysylltu â thrafnidiaeth bysiau, a dyna pam y mae'r Prif Weinidog yn grymuso Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth i gyflwyno Bil gwasanaethau bysiau a fydd yn gwella'r gwasanaethau hynny. Mabon.
Rwy'n hapus dros y bobl a gynrychiolwch fod gennych chi drenau newydd, ond, yn fy ardal i, rydym wedi gweld teithiau trên yn cael eu torri, ac rydym wedi gweld teithiau bws yn cael eu torri. Dyna gyflawniad y 100 diwrnod cyntaf; dyna gyflawniad y Llywodraeth Lafur hon. A yw hynny'n rhywbeth rydych chi'n falch ohono?
Rwy'n credu bod angen inni roi mwy o glod i Trafnidiaeth Cymru. Yr hyn rydych chi'n mynd i'w weld—. Rwy'n aml wedi cymharu Trafnidiaeth Cymru â blodyn yn blodeuo, blodyn yn blodeuo ar draws Cymru, ac yn digwydd bod, mae'r blodyn hwnnw'n egino yng Nghaerffili. A hoffwn awgrymu y byddwch yn gweld trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol well ledled Cymru wrth inni weld y cerbydau hynny'n dod ar y rheilffordd: cerbydau a wnaed yng Nghymru ac a wnaed yn Ewrop. Fe fyddwch yn ei weld, fe fydd yn digwydd, a bydd yn digwydd yn raddol, ond mae hyn eto'n arwydd arall o pam y mae'r 100 diwrnod cyntaf yn ffordd anghywir o edrych arno.
Peth arall yr hoffwn ei ddweud, wyddoch chi, yw ein bod yn siarad am derfynau cyflymder a 20 mya. Rydym wedi cael ymarfer gwrando clir ac rwyf wedi gweld pobl yn fy etholaeth yn dod ataf a dweud, 'Diolch am wrando nawr mewn ffordd na ddigwyddai o'r blaen', ac mae'r Prif Weinidog yn Brif Weinidog sy'n gwrando. Os cawn ei disgrifio mewn unrhyw ffordd benodol, Prif Weinidog sy'n gwrando yw'r disgrifiad hwnnw. Rwy'n falch iawn o gefnogi Eluned Morgan, ac rwy'n falch iawn o sefyll gyda hi, os caf fy newis, yn 2026, pan gaiff cyflawniadau ei gweinyddiaeth eu cydnabod gan y cyhoedd yn yr etholiad.
Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwyf bob amser yn ymwybodol pan fyddaf yn un o'r siaradwyr olaf ar y rhestr na ddylwn ailadrodd pethau sydd eisoes wedi'u dweud, ond rwy'n credu na fyddai'r sylwadau a ddrafftiais heddiw mewn unrhyw berygl o wneud hynny, o gofio nad wyf yn credu bod y pwnc wedi'i godi yn iawn drwy gydol y chweched Senedd hyd yma.
Yr hyn yr hoffwn ganolbwyntio arno yw pwynt 2 o gynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, sy'n nodi ein bod yn gresynu
'nad yw'r Prif Weinidog wedi sefyll dros Gymru a sicrhau'r gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu.'
A'r maes yr hoffwn ganolbwyntio arno, sy'n berthnasol i ran 2 o'n cynnig, fyddai diffyg sylwebaeth neu gydnabyddiaeth gan y Prif Weinidog mewn ymateb i gynlluniau Llywodraeth Lafur y DU i osod TAW o 20 y cant ar ysgolion preifat ledled y DU, a chael gwared ar eu statws elusennol presennol. Er fy mod yn cydnabod nad yw'r maes penodol hwn wedi'i ddatganoli i Gymru, o ystyried ei fod yn fater treth ar werth, mae ganddo effaith ar systemau addysg yng Nghymru yr un fath, effaith a fydd ar ryw bwynt, heb os, yn cyrraedd eich bwrdd chi, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'i dirprwyon hefyd.
Er bod y Blaid Lafur yn gwrthwynebu bodolaeth ysgolion preifat yn ideolegol, mae ganddynt broffil a llais o hyd o fewn y cyd-destun Cymreig. A'r hyn a welsom dros amser ers datganoli a'r wladwriaeth un blaid ag yw Cymru bellach, yw gostyngiad sylweddol yn y ddarpariaeth o ysgolion preifat yng Nghymru ers y 1990au, gyda llu o ysgolion yn cau, ysgolion a oedd â phresenoldeb hirsefydlog yn hanesyddol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Yn bersonol, yn anffodus rwy'n ddigon hen, ond yn ddigon ifanc i gofio ac i fod yn un o fuddiolwyr cynllun cymorth lleoedd yr 1980au a'r 1990au, lle talai Llywodraeth Geidwadol y DU ffioedd ysgolion preifat i blant a basiai arholiad mynediad, a'r cyfle a roddai i blant dawnus o gefndiroedd llai cyfoethog, gan gyflawni symudedd a hylifedd cymdeithasol i bobl o gefndiroedd na fyddent wedi cael cyfle i ffynnu fel arall.
Nid wyf yn dadlau dros droi'r cloc yn ôl a mynd yn ôl i'r adegau hynny o gwbl, mae'n ymwneud mwy â thynnu sylw at gyflymder newid cymdeithasol, wedi'i yrru gan y chwith, i ddileu cyfleoedd i blant o gefndiroedd llai cyfoethog ffynnu, trwy ddiddymu ysgolion gramadeg newydd ym 1998 a digalondid a chyffredinrwydd yr hyn y mae system addysg Cymru wedi datblygu i fod ers datganoli, trwy greu bwrdd arholi unigol y mae'n rhaid i bob ysgol wladol gadw ato, ni waeth beth yw eu hanghenion na'u lleoliad. Efallai y byddai beirniad llym yn dweud ei bod yn egalitariaeth orfodol y byddai Lenin ei hun yn falch ohoni.
Ond rwyf wedi dod yn fwyfwy pryderus ynghylch diffyg cydnabyddiaeth y Prif Weinidog a'i Llywodraeth mewn ymateb i'r newyddion hwn, a beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y mater, oherwydd ni waeth sut yr edrychwch chi arno, mae'r polisi ar ysgolion preifat yng Nghymru a ledled y DU wedi mynd o un pegwn i'r llall mewn llai na 30 mlynedd. Ac mae'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw sylwebaeth ar y mater yn destun pryder, o ystyried statws hanesyddol a phresenoldeb ysgolion preifat yng Nghymru, a'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae mewn cymdeithas, er bod hynny drwy fframwaith wedi'i lastwreiddio o'i gymharu â'r dyddiau dedwydd 30 i 40 mlynedd yn ôl.
Pa asesiad effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn ymateb i'r newyddion am yr effaith bosibl y bydd penderfyniadau o'r fath yn ei chael ar system ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru? A pha mor gadarn yw system ysgolion y wladwriaeth yn wyneb y posibilrwydd y bydd llu o bobl yn troi at y system hon, o gofio y bydd y penderfyniad i gymhwyso TAW o 20 y cant yn effeithio fwyaf ar y rhieni, y plant a'r teuluoedd sy'n aberthu'n boenus yn eu bywydau personol er mwyn rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'w plant? Ni fydd y cyfoethogion a'r cyfoethog iawn yn cael eu heffeithio, na'r ysgolion preifat a gefnogir gan Tsieina, y mae gennym lawer ohonynt yng Nghymru a'r DU. Y darparwyr addysg preifat a'r teuluoedd a fydd yn byw o'r llaw i'r genau—fel Rydal Penrhos ym Mae Colwyn, Coleg Dewi Sant yn Llandudno, a St Gerard's ym Mangor—fydd yn dioddef fwyaf.
Felly, mewn 100 diwrnod ers i'r Farwnes Morgan o Drelái gymryd yr awenau yn Llywodraeth Cymru, nid ydym wedi cael datganiad cyfeiriadol ganddi nac unrhyw un o'i dirprwyon na'i swyddogion ar ddyfodol addysg yng Nghymru, o ystyried y polisïau ideolegol sylweddol—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, yn sicr, Mark.
Fe rannaf y pryder a fynegwyd wrthyf ar fy ymweliadau â'r ysgolion hyn mai'r plant a gaiff eu taro waethaf yw plant ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi'u lleoli yno am eu bod angen yr amgylchedd—y dosbarthiadau bach, yr heddwch, y tawelwch—sy'n diwallu eu hanghenion, na allant eu cael ac nad ydynt wedi'u cael yn sector y wladwriaeth.
Yn bendant, Mark, ie, a nodais yn arbennig ysgol Dewi Sant yn Llandudno, sydd â hanes cyfoethog o ddarparu cymorth ychwanegol i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol, ac rwy'n nodi'r gwerth y mae'r sector preifat yn ei gyfrannu yn hynny o beth.
Ond nid ydym wedi gweld unrhyw ddatganiad cyfeiriadol ganddi hi nac unrhyw un o'i dirprwyon na'i swyddogion ar ddyfodol addysg yng Nghymru, o ystyried polisïau sylweddol Llywodraeth Lafur newydd y DU, polisïau sy'n cael eu gyrru gan ideoleg. Mae arnom angen Llywodraeth yng Nghymru sy'n cynrychioli pawb yng Nghymru, ni waeth o ble y deuant na ble maent yn byw, yn hytrach nag eistedd yma yng nghyfforddusrwydd Bae Caerdydd—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Gareth, tybed a oes angen i chi, a rhai o'ch cyd-Aelodau, ddechrau gwrando ychydig bach mwy. Rwyf wedi rhoi sylw i'r materion hyn, dro ar ôl tro, yn y Siambr, wedi gwneud datganiadau ar sawl achlysur am flaenoriaethau. Dewch wir, cymerwch sylw.
Rwy'n cymryd sylw, oherwydd ni welsom unrhyw ddatganiad gennych chi ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r TAW o 20 y cant ar ysgolion preifat. Mae yna lawer o ysgolion preifat ledled Cymru, ac ni chafwyd unrhyw datganiad nac unrhyw sylw gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl, ac rwy'n cymryd sylw. [Torri ar draws.] Na, rwyf wedi derbyn digon o ymyriadau.
Felly, ar ôl 25 mlynedd o ddirywiad wedi'i reoli yng Nghymru o dan y Blaid Lafur, mae'n bryd cael newid mawr o'r status quo yn y wlad hon. Gorau po gyntaf y daw 2026, rwy'n dweud, er mwyn inni gael cyfle i ddraenio'r gors o'r diwedd yma yng Nghaerdydd a gwneud i ddatganoli weithio i'r bobl ar hyd a lled y wlad hon.
Mae wedi bod yn ddadl ddiddorol. Rwyf wedi cael fy addysgu go iawn, os caf fynd ar drywydd yr addysg breifat na chefais mohoni fel un o wyth o blant. Ond y pwynt yma yw hyn: rwy'n meddwl bod gan rai pobl wyneb, a dweud y gwir. Rydym wedi cael 14 mlynedd o reolaeth Dorïaidd, a faint o ddadleuon a gyflwynwyd gan y Torïaid, a sawl gwaith y gwnaethant ofyn i ni ariannu beth bynnag y ffansïent eu nodi yr wythnos honno? Ond ni wnaethant ofyn un waith i'w meistri yn San Steffan am setliad tecach i bobl Cymru. Ni wnaethoch hynny un waith. [Torri ar draws.] Mewn munud.
Ac yna, ar yr ochr arall, mae'n rhaid i mi bwyntio at Blaid Cymru, sydd yr un mor awyddus i gael llawer o bethau, ond yr hyn y maent ei eisiau'n fwy na dim yw annibyniaeth. A phan siaradwn am fod yn anonest, nid wyf erioed wedi'u clywed yn dweud sut y bwriadant ei ariannu. Yr hyn rwy'n eu clywed yn dweud yw y dylai San Steffan roi mwy o arian iddynt. Wel, os nad oes ganddynt ddigon o arian nawr, sut ar y ddaear y dychmygant gael digon o arian pan nad yw'r nant honno'n dod iddynt? [Torri ar draws.]
Mae'n ymddangos fy mod wedi cyffwrdd â nerf, gan fod gennyf ddau berson eisiau ymyrryd—tri, nawr. Fe dderbyniaf eich ymyriad, James.
Diolch, Joyce. Roeddech chi'n sôn am sefyll dros Gymru. Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn yn gadarn iawn am weld symiau canlyniadol HS2 yn dod i Gymru. Ers i Lywodraeth Lafur ddod i rym yn San Steffan, mae'n ymddangos bod eich plaid chi wedi anghofio eich bod chi wedi galw am hynny hefyd.
Dyna un eitem unigol rydych chi'n sôn amdani. Rydym yn sôn am 14 mlynedd. Ac mae'r drafodaeth honno, gyda llaw, yn parhau, i chi gael gwybod. Mae hon yn un gyllideb o fewn llai na 100 diwrnod, sef holl bwynt y sgwrs hon, wrth gwrs.
Felly, gadewch inni edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Rydym yn siarad am seilwaith, ac rwyf wedi clywed llawer ohonoch chi'n dweud yn y Siambr fod angen inni ailwampio adeiladwaith ein hadeiladau. Rydym wedi cael setliad 155 gwaith yn fwy yn ein cyllideb gyfalaf nag a gawsom y llynedd—£1 filiwn—[Torri ar draws.] Rwy'n eich clywed, roedd yn ychwanegol. Gadewch inni gymharu hynny â'r £1 filiwn arall rydych chi wedi'i grybwyll 100 o weithiau, ond na sonioch chi unwaith amdano pan gawsom £1 filiwn yn unig yn y gyllideb honno.
Gadewch inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd. Mae rhai ohonoch chi'n gwybod imi fod ar Sharp End, ac mae rhai ohonoch chi'n gwybod bod Plaid Reform—sy'n sôn am dargedu'r Torïaid, yn enwedig pobl Cymru—yn dadlau, os ydych chi eisiau gofal iechyd, eu bod hwy'n mynd i symud i system lle rydych chi'n mynd i orfod talu amdano. Ond fe fyddant yn dweud, 'Fe fyddwch chi'n prynu yswiriant iechyd', rwy'n siŵr. Roeddent yn sôn am y rhai sy'n gallu ei fforddio—dim trothwy. Os oes unrhyw un erioed wedi ceisio cael yswiriant gofal iechyd a bod ganddynt gyflwr sy'n bodoli eisoes, fe fyddwch chi'n gwybod na fydd yn cael ei gynnwys. Felly, os oes gennych gyflwr gofal iechyd mawr sy'n bodoli eisoes, mae hynny'n golygu nad ydych chi wedi'ch diogelu o gwbl, oherwydd gellir priodoli popeth i'r un cyflwr hwnnw.
Y peth arall yw bod unrhyw un sy'n cyrraedd tua 60 oed, gan ragweld y gallai fod ganddynt anghenion gofal iechyd ychwanegol—ac fe fyddwch chi'n gwybod hyn os oes gennych chi anifeiliaid anwes—wrth iddynt fynd yn hŷn, bydd y premiwm yn codi dair gwaith yn fwy na'r un rydych chi eisoes yn ei dalu wrth ragweld y bydd hynny'n digwydd. Hefyd, fe welwch na allwch fynd at y meddyg teulu oherwydd bydd yn rhaid i chi dalu am hynny hefyd. Felly os yw pobl Cymru yn gwrando o gwbl, dyna rywbeth y mae angen iddynt fod yn ofnus iawn ohono, pan fydd pobl yn dechrau siarad am dalu am eich anghenion mwyaf sylfaenol.
Ni fydd gennych y buddsoddiad yr ydym eisoes wedi'i roi i mewn. Ni fydd gennych y prawf sgrinio coluddion am ddim i bawb dros 50 oed, er enghraifft. Ni fydd gennych y £250 miliwn ychwanegol sydd wedi'i roi tuag at ofal cartref i helpu pobl hŷn i gael gofal yn eu cartrefi ac osgoi miloedd o arosiadau diangen yn yr ysbyty. Ni fydd gennych—[Torri ar draws.] Na.
Na, ni fydd unrhyw ymyriadau nawr. Mae'r Aelod wedi mynd dros yr amser ac mae hi ar fin dod i ben.
Ni fydd gennych y £28 miliwn i helpu i dorri rhestrau aros hir mewn ysbytai, ac ni fydd gennych y £7.7 miliwn sydd wedi'i fuddsoddi yn yr uned losgiadau yn Ysbyty Treforys.
Felly, dyma rwy'n ei ddweud wrth bobl: os ydych chi eisiau buddsoddiad mewn gofal iechyd, heb fod cost bersonol i chi, na fydd gennych arian ar ei gyfer beth bynnag, mae gwir angen ichi ystyried—
Mae angen ichi ddod i ben nawr, Joyce, os gwelwch yn dda.
Yr hyn a wnaethom mewn 100 diwrnod, yw'r hyn y methoch chi ei wneud mewn 14 mlynedd. Ac o ran eich syniadau hurt chi ynglŷn â sut y gwnewch ei ariannu gydag annibyniaeth, rwyf eto i glywed yr ateb.
Galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Pan ddeuthum yn Brif Weinidog gyntaf, 100 diwrnod yn ôl i yfory, fe wneuthum addo cyflawni go iawn i Gymru, a heddiw gallaf ddangos i'r Senedd yn union sut y mae Llafur Cymru yn cyflawni nid yn unig addewidion, ond gweithredu pendant ar gyfer ein cymunedau. Rwy'n falch iawn fod y Torïaid wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, oherwydd gallaf nodi'r hyn sydd, a'r hyn nad yw yn fy ngallu i i'w gyflawni. Mae'n bwysig imi nodi unwaith eto sut y mae datganoli'n gweithio. Rwy'n gyfrifol am y pethau lle mae gennym gyfrifoldebau datganoledig. Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig eu cyfrifoldebau hwy.
Fe wneuthum addo hyrwyddo'r lleisiau sy'n rhy aml wedi eu gwthio i'r cyrion, sefyll dros rannau o Gymru sy'n rhy aml wedi eu hanghofio, ac i fod yn Brif Weinidog sy'n gwrando bob amser. Ond yn fwy na hynny, addewais fod yn Brif Weinidog sy'n canolbwyntio ar gyflawni, a dyna pam y mae fy Nghabinet yn canolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Cymru, a gyrru cynnydd yn ei flaen gyda ffocws manwl ar gyflawni. Bydd y blaenoriaethau hyn yn llywio cyfeiriad ac uchelgais fy Llywodraeth ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon. Nid ydym wedi bod yn segur ers mis Awst. Gadewch imi fod yn glir ynghylch maint yr hyn a gyflawnwyd gennym mewn cwta 100 diwrnod.
Yn y GIG, er ein bod yn parhau i ymdopi â chanlyniad 14 mlynedd o gyni ac ymchwydd enfawr yn y galw, mae Llafur Cymru yn buddsoddi mewn atebion. Rydym wedi darparu cyflogau sector cyhoeddus sydd wedi codi'n uwch ac yn gyflymach na phrisiau, gan helpu dros 100,000 o ddinasyddion Cymru sy'n darparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnaethom fuddsoddi £28 miliwn i leihau amseroedd aros a £13 miliwn ar well gofal diwedd oes. Rydym wedi lansio Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, gan hyfforddi meddygon yfory yng Nghymru ar gyfer Cymru. Rydym wedi buddsoddi £7.7 miliwn mewn canolfan llosgiadau a llawfeddygaeth blastig i Gymru yn Nhreforys, sy'n gwasanaethu 10 miliwn o bobl o Aberystwyth i Rydychen. Rydym wedi gostwng oedran dechrau sgrinio canser y coluddyn sy'n achub bywydau i 50 oed ar gyfer dynion a menywod yng Nghymru. Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth cyswllt toresgyrn Cymru ledled Cymru. Rydym wedi cefnogi Bil Tybaco a Fêps Llywodraeth y DU i greu cenhedlaeth ddi-fwg yng Nghymru ac i fynd i'r afael â phroblem fepio ymhlith pobl ifanc. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â gweithwyr y GIG a ddywedodd wrthyf fod y buddsoddiad hwn, ar y rheng flaen, yn golygu cefnogaeth real, gwelliannau real, gwahaniaeth real i fywydau cleifion.
I weithwyr Cymru—[Torri ar draws.] Fe wnaf rywfaint o gynnydd, os nad oes ots gennych chi. I weithwyr Cymru a'n heconomi, rydym hefyd yn cyflawni, gan weithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur newydd y DU a sefyll dros yr hyn y gwyddom sydd bwysicaf i fusnesau a gweithwyr Cymru. Gan weithio gyda'n cymheiriaid yn Llafur y DU, rydym wedi helpu i sicrhau buddsoddiad pwysig o £1 biliwn yn Shotton Mill, gan ddiogelu 147 o swyddi a chreu 220 yn rhagor. Drwy weithio mewn partneriaeth, fe wnaethom sicrhau bargen well i weithwyr dur Tata yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn werth atgoffa'r Torïaid eich bod chi wedi dweud y byddech yn buddsoddi £80 miliwn, ond nid oeddech wedi ei roi yn y gyllideb. Nawr, dyna rwy'n ei alw'n frad. Ac mae ein dull o weithredu ar y cyd wedi darparu codiadau cyflog uwch na chwyddiant, fel y dywedaf, i gannoedd o filoedd o weithwyr y sector cyhoeddus, gan ddarparu cymorth mawr ei angen yn ystod y cyfnod heriol hwn. Dyna sut beth yw cyflawniad Llafur Cymru.
Rŷm ni wedi cymryd camau i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio'n galed ac i amddifyn a chysylltu'r rhai sydd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau: £1.5 miliwn ar gyfer canolfannau cynnes ar draws Cymru, llefydd fydd yn cadw pobl yn gynnes ac yn ddiogel y gaeaf yma; £10 miliwn ar gyfer systemau egni lleol clyfar, yn helpu cymunedau i gymryd rheolaeth dros eu dyfodol egni; £12 miliwn yn ychwanegol—[Torri ar draws.]
Os gadewch imi gyrraedd diwedd y rhestr hon, oherwydd mae yna lawer o restrau yma ar gyfer 100 diwrnod; mae gennyf ffordd bell i fynd. Roeddech chi eisiau gwybod beth a wneuthum yn ystod y 100 diwrnod cyntaf; rwy'n mynd i ddweud wrthych. Chi ofynnodd am y ddadl hon.
Un deg dau miliwn o bunnoedd ychwanegol ar gyfer gwell cysylltedd band eang; cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, yn torri biliau a charbon; a Phapur Gwyn ar dai digonol a rhentu teg, achos mae pawb yn haeddu cartref fforddiadwy.
Nawr rwy'n hapus i dderbyn ymyriad, ond byddaf yn parhau gyda fy rhestr, i fod yn glir.
Ar bob cyfrif. Roeddech chi'n siarad am ganolfannau clyd. A ydych chi'n falch eich bod yn aelod o blaid a dynnodd lwfans tanwydd y gaeaf yn ôl ac sydd wedi amddifadu 570,000 o bensiynwyr yma yng Nghymru ohono, gan arwain at 4,000 o farwolaethau cynamserol? A ydych chi'n falch fel Prif Weinidog nad ydych chi wedi dweud dim i amddiffyn pensiynwyr Cymru?
A ydych chi'n falch o'r ffaith eich bod chi wedi addo £80 miliwn i weithwyr Tata nad oeddech wedi cyllidebu ar ei gyfer? Ac ni wnaethoch roi unrhyw arian ar y bwrdd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd ein bod yn edrych ar y blaenoriaethau hynny ac yn canolbwyntio arnynt.
Rŷm ni wedi cynnig codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon, gan fynd ymhellach nag argymhelliad y corff adolygu cyflogau. Rŷm ni wedi buddsoddi £1.1 miliwn mewn llythrennedd a rhifedd. Rŷm ni wedi cwblhau cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgol gynradd, achos ni ddylai unrhyw blentyn orfod dysgu ar stumog wag. Rŷm ni wedi parhau i ddangos ein hymrwymiad i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd, gan gydnabod gwerth ein cymunedau gwledig a chyflawni ein haddewidion yn gynt na'r amserlen. Rŷm ni wedi buddsoddi £280,000 mewn sgiliau coedwigaeth. Rŷm ni wedi lansio ein comisiwn dŵr annibynnol. Rŷm ni wedi cyrraedd ein targedau adfer mawndir, peatland, 12 mis yn gynnar, a rŷm ni wedi sicrhau bod £14 miliwn ar gael i ffermwyr ar gyfer ffermio cynaliadwy. Ac rŷm ni yn sefyll lan dros Gymru, gan gryfhau ein democratiaeth a hyrwyddo i'r byd popeth mae Cymru yn sefyll drosto. Ni yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cofrestru awtomatig i bleidleiswyr. Dyna Llafur Cymru unwaith eto yn arwain y ffordd. Rŷm ni wedi gweld setliad ariannol gwell i Gymru ac wedi sicrhau £25 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer diogelwch ein tomenni glo.
Mae'n debyg ei bod yn werth atgoffa'r Torïaid unwaith eto fod ein swyddogion wedi ceisio siarad â Llywodraeth ddiwethaf y DU am bedair blynedd am yr angen iddynt ein cynorthwyo i gael gwared ar y tomenni glo. Dim byd, dim byd am bedair blynedd. Nid oeddent hwy'n barod i lofnodi'r llythyr na gofyn y cwestiwn hyd yn oed.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod hefyd ein bod wedi meithrin cysylltiadau cryfach ag Iwerddon, gan ein bod yn gwybod am gysylltiadau rhyngwladol.
Ydy, mae'r rhestr yma yn hir, ond fe allai fod yn hirach, a bydd hi yn hirach wrth i ni barhau i gyflawni.
Gadewch imi orffen lle dechreuais i. Mae'r 100 diwrnod cyntaf hyn yn dangos sut mae Llafur Cymru yn cyflawni: buddsoddiadau go iawn, swyddi go iawn, cefnogaeth wirioneddol i gymunedau—nid addewidion yn unig, ond cyflawni. Dwi mor falch o bopeth y mae'r Llywodraeth yma'n barod wedi'i gyflawni ers imi fod yn Brif Weinidog, a dwi'n optimistaidd am beth y gallwn ni ei gyflawni wrth inni symud ymlaen.
Rydym wedi bod yn byw drwy gyfnod anodd iawn—mae'r argyfwng costau byw wedi brifo pobl, ac mae'n rhaid inni fod yn sensitif i'r anghenion yn ein cymunedau. Mae'n rhaid inni fod yn sensitif i'r ffaith bod pobl ar reng flaen ein gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo dan bwysau, ac roedd rhoi codiad cyflog iddynt yn bwysig ac yn arwyddocaol iddynt, oherwydd dywedodd pobl wrthyf yn yr ymarfer gwrando eu bod yn poeni am ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, roedd buddsoddi yn y bobl rheng flaen hynny'n gwbl hanfodol.
Brif Weinidog, wnewch chi orffen, os gwelwch chi'n dda?
Nawr, gadewch imi ddweud wrthych nad yw'r llwybr sydd o'n blaenau yn hawdd ac rydym yn wynebu heriau. Ond fe'u hwynebwn gyda'n gilydd, fel un Gymru. Mae ein Llywodraeth yn uchelgeisiol ar ran ein cenedl, wedi ei gyrru gan flaenoriaethau'r bobl ac mae'n canolbwyntio'n llwyr ar gyflawni. Dyna ffordd Llafur Cymru, dyna sut yr adeiladwn Gymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus, a dyna pam ein bod ni'n gobeithio y bydd etholwyr Cymru yn pleidleisio drosom unwaith eto yn 2026. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw nawr ar Tom Giffard i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn ein dadl heddiw. Mae Prif Weinidog newydd yn gyfle i adnewyddu, i osod blaenoriaethau newydd er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Ac mae 100 diwrnod yn foment bwysig i fyfyrio ar y cyfeiriad teithio tuag at y nod hwnnw. Dywedodd y Prif Weinidog, pan ddaeth i'w swydd, ac fe glywsom hynny eto heddiw, y byddai hi, ac rwy'n dyfynnu, yn 'ailddyfeisio' Llafur Cymru ac
'yn canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl'.
Rwy'n parhau:
'Rwy'n tybio y byddant am i wasanaethau cyhoeddus fod yn flaenoriaethau iddynt'.
Felly, gadewch inni farnu'r Prif Weinidog yn ôl y paramedrau a osododd iddi hi ei hun.
Nawr, yr hyn a welsom ac a glywsom gan Rhun ap Iorwerth, yw bod rhestrau aros y GIG yng Nghymru wedi dringo i'r lefel uchaf erioed am y seithfed mis yn olynol. Clywsom gan James Evans fod pob bwrdd iechyd yng Nghymru mewn rhyw ffurf ar fonitro estynedig neu fesurau arbennig. Mae arosiadau—. Rwy'n clywed ochneidio oddi ar feinciau'r Blaid Lafur—pobl go iawn yw'r rhain ar restrau aros yng Nghymru, yn aros mewn poen, ac maent yn haeddu gwell na record y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. [Torri ar draws.] Mae nifer yr arosiadau dwy flynedd wedi cynyddu am bum mis yn olynol. [Torri ar draws.]
Tom, fe gewch chi siarad, am mai chi yw'r siaradwr. Dylai eich cyd-Aelodau gadw'n dawel, ac Aelodau o feinciau'r Llywodraeth Lafur hefyd. Gadewch inni wrando ar y cyfraniad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae 24,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth yng Nghymru, a dim ond 124 yn Lloegr. Dyna ofal iechyd. A diolch, Joyce, am eich cyfraniad ar ofal iechyd preifat—nid wyf yn rhy siŵr pa mor berthnasol oedd hynny i'r ddadl hon.
Ar yr economi, rydym wedi gweld ystadegau brawychus. Mae diweithdra'n uwch nawr nag yn unman arall yn y DU, a chyfradd anweithgarwch economaidd yn ail uchaf yn y DU. Mae anweithgarwch economaidd yn brifo pawb. Nid yw'n cynhyrchu cyfoeth, cyfoeth sydd ei angen arnom i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae'n amddifadu ein pobl ifanc o'u potensial. Ac fel Ceidwadwyr Cymreig, fe wnaethom alw ar i'r Prif Weinidog ddiddymu ardrethi busnes i fusnesau bach ac adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden. Anwybyddwyd hynny, gan lesteirio'r twf economaidd sydd ei angen arnom i droi cefn ar y ffigurau economaidd enbyd hynny.
Yn olaf, clywsom hefyd am wasanaethau cyhoeddus, gan Gareth Davies, a wnaeth gyfraniad da iawn heddiw yn fy marn i ar gyflwr ein system addysg. A beth a welsom? Adroddiad damniol ar safonau ac addysgu darllen yng Nghymru, gan barhau i ddefnyddio arferion a wrthbrofwyd yn ein hysgolion. Nodaf fod gwelliant Llafur heddiw yn sôn am brydau ysgol fel pe bai'n rhyw fath o lwyddiant. Ond soniodd y comisiynydd plant yn gynharach eleni fod 80 y cant o blant yn dal i fod yn llwglyd yn ysgolion Cymru ar ôl un o'r prydau ysgol hynny. Nid yw honno'n record i fod yn falch ohoni. Mewn ymateb, clywsom gan y Gweinidog addysg, mewn ymyriad, yn sôn am wahanol ddatganiadau a safbwyntiau polisi a wnaed. Ond yr hyn rwy'n ei gofio yw tri safbwynt polisi gwahanol ar ddarllen o fewn tair wythnos—Llywodraeth ddryslyd ac anhrefnus wrth wraidd ein system addysg yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod pobl hefyd yn disgwyl i'w Prif Weinidog ddadlau dros ein gwlad, sefyll dros Gymru, ac yn hynny o beth hefyd, mae'r 100 diwrnod wedi bod yn fethiant. Oherwydd, fel y clywsom gan Heledd Fychan, pan gynigiodd Llywodraeth y DU bolisïau a fyddai'n gwneud niwed i Gymru, dywedodd y Prif Weinidog fod ganddi yr un faint o ddylanwad ar Keir Starmer â'r hyn a oedd ganddi ar Donald Trump, a gwelwyd bod hynny'n wir. Pan wnaeth Llywodraeth y DU y penderfyniad dideimlad i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf—penderfyniad a allai gostio 4,000 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf hwn—ni ddywedodd y Prif Weinidog air. Methodd sefyll dros Gymru. Pan wrthododd Llywodraeth y DU ariannu'r £4 biliwn o swm canlyniadol HS2 yn llawn, fe wnaeth y Prif Weinidog ostwng yr uchelgais a galw am £350 miliwn, efallai, ar ryw adeg yn y dyfodol. Methodd sefyll dros Gymru. A phan gafodd Llywodraeth y DU wared ar y dreth etifeddiant i bobl yn y sector amaethyddol, gan fygwth dyfodol ffermydd teuluol, anadl einioes cefn gwlad Cymru, beth a wnaeth hi am y peth? Ni wnaeth unrhyw beth. Methodd sefyll dros Gymru. Siaradodd Rhianon Passmore yn ganmoliaethus am y bartneriaeth rhwng dwy Lywodraeth Lafur. A fyddech chi'n falch o record fel honno mewn gwirionedd? Mike.
Diolch am eich datganiad ar lwfans tanwydd y gaeaf. Fel rhywun na fydd yn ei gael eleni, y tro cyntaf imi ddod yn gymwys i'w gael, rwy'n credu y gallaf ddweud wrthych nad oes ei angen arnaf, ac mae yna lawer o bobl fel fi nad ydynt ei angen. Ac i ddyfynnu—[Torri ar draws.]—ac i ddyfynnu un o'ch cyd-Aelodau, Darren Millar: pam ydym ni'n rhoi'r pethau hyn i filiwnyddion? Yr un cwestiwn: pam ydym ni'n rhoi'r pethau hyn i filiwnyddion?
Wel, rwy'n credu bod yna lawer iawn mwy o bobl a fydd yn mynd yn oer y gaeaf hwn, Mike, o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf.
Nawr, rydym wedi clywed llawer yn dweud na ellir priodoli rhai o'r methiannau Llywodraeth Cymru hyn yn uniongyrchol i'r Prif Weinidog, ac rwy'n cytuno â hynny. Wedi'r cyfan, roedd gennym restrau aros hiraf y GIG yn y DU cyn i'r Prif Weinidog presennol ddod i rym, gennym ni oedd y canlyniadau addysgol gwaethaf yn unrhyw le yn y DU cyn i'r Prif Weinidog presennol ddod i rym, a ni oedd â'r economi wannaf yn economi'r DU cyn i'r Prif Weinidog presennol ddod i'w swydd. Efallai na fydd y rhain yn symptomau 100 diwrnod y Prif Weinidog presennol, ond maent yn symptomau 25 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Cafodd y Prif Weinidog gyfle i olrhain cwrs newydd, i ddewis llwybr newydd, ond y cyfan a welsom yw mwy o'r un peth. Dyna pam y cyflwynwyd y ddadl hon heddiw, am ei bod yn rhoi cyfle i'r Senedd newid cwrs. Ac os yw'r Senedd yn dewis peidio â gwneud hynny heddiw, gall pobl Cymru wneud rhywbeth yn ei gylch ymhen 540 diwrnod, yn etholiadau nesaf y Senedd.
Felly, gyda hynny mewn golwg, rwy'n dweud wrth bobl Cymru: os ydych chi eisiau newid, mae'n rhaid ichi bleidleisio drosto. Peidiwch â phleidleisio dros y blaid sydd â hanes treuliedig o fethiant ers chwarter canrif. Ac yn sicr peidiwch â phleidleisio dros y blaid sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'r amser hwnnw'n eu cynnal. A byddwch yn wyliadwrus o'r pleidiau ar y cyrion sydd â sloganau bachog ond heb unrhyw bolisi y tu ôl i'r honiadau gwarthus a wnânt. Cefnogwch y blaid sy'n gallu cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru, y blaid sydd â chynllun i sicrhau dyfodol gwell: y Ceidwadwyr Cymreig. Ac mae'r newid hwnnw'n dechrau trwy gefnogi ein cynnig ni heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Nac oes.
Felly, bydd pleidlais ar eitem 7 heddiw, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 yn awr, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
We will now vote on amendment 2. I call for a vote on amendment 2, tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 28, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 2 is agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 28, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
A galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8721 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.
2. Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:
a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;
b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac
c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
A daw hynny â'r phleidleisio i ben. Mae gennym ddadl fer, felly a wnewch chi adael yn dawel os ydych chi'n gwneud hynny.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'r ddadl fer, felly, yn cael ei chyflwyno gan Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi rhoi, neu'n cynnig rhoi, o leiaf, munud o fy amser i Joyce Watson a Sioned Williams, a diolch iddyn nhw am gymryd diddordeb yn y ddadl yma.
Mae cartref i fod yn le hapus—aelwyd gyda sŵn chwerthin ac arogl bwyd yn y popty yn llonni’r ffroenau. Ond i ormod o bobl, mae’r cartref yn hunllef byw, ble mae sŵn allwedd yn troi yn y drws yn destun ofn. I eraill, mae cartref hefyd yn hafan ddiogel rhag yr ofn sy’n codi wrth orfod brysio adref, gan obeithio nad yw’r camau sy’n atseinio y tu ôl yn dod yn agosach.
Mae achos erchyll Sarah Everard wedi gadael clwyf ar ein cydwybod, ac mae’r bygythiad yna yn parhau i fod yn llawer rhy gyffredin i bobl heddiw. Ond mae gennym ni dueddiad i gredu bod ein hardaloedd gwledig yng Nghymru yn eithriad i droseddau erchyll fel hyn, gan feddwl bod camdriniaeth a phroblemau o’r fath yn gyfyngedig i ardaloedd trefol yn unig. Ond mae’r dystiolaeth yn dangos yn wahanol. Mae cyfraddau camdrin domestig yng ngogledd Cymru yn uwch nag yn ninas Llundain. Mae gogledd Cymru, hyd yn oed, yn wynebu’r un lefel o droseddau rhywiol ag y mae Greater Manchester yn ei wneud, sydd â phoblogaeth bum gwaith maint gogledd Cymru.
Dwi am rannau stori fach gyda chi heddiw. Dwi wedi cael caniatâd merch arbennig iawn, sydd wedi bod yn rhan o’m mywyd i ers rhyw dair blynedd erbyn hyn. A hi sydd wedi cyflyru'r cyflwyniad yma heddiw. Felly, dyma ychydig funudau o eiriau'r ferch yma cyn fy mod yn mynd ymlaen i weddill fy nghyfraniad.
'Roeddwn yn saith oed pan ddaeth dyn i mewn i fy mywyd, dyn a fyddai'n dod yn llystad i mi. Dim ond blwyddyn a aeth heibio cyn imi ddechrau sylwi ar y marciau dyrnu ar y drysau. Erbyn pan oeddwn yn naw oed, fe welais y weithred gyntaf o drais, golygfa a fyddai'n dod yn rhy gyfarwydd o lawer. Fe gafodd fy mam, menyw gref a gwydn, ei tharo, torrwyd ei hysbryd, a chwalwyd diniweidrwydd fy mhlentyndod. Erbyn pan oeddwn yn ddeuddeg oed, roeddwn innau hefyd wedi dod yn darged. Dysgais fyw mewn ofn yn fy nghartref fy hun.
'Roedd yr awdurdodau'n gwybod, ond roedd eu hymyriadau'n aml yn aneffeithiol. Yn ddioddefwr ei hun, brwydrodd fy mam yn ddiflino i ddianc o grafangau camdriniaeth, ond fe gostiodd y frwydr iddi. Collodd ein cartref, ei diogelwch ariannol, a bron iddi golli dau o'i phlant.
'Pan oeddwn yn 17 oed, roeddwn yn meddwl fy mod wedi cyfarfod â dyn a oedd yn ateb i fy ngorffennol cythryblus, dim ond i ddarganfod ei fod yr un fath â'r dyn roedd fy nheulu wedi dianc rhagddo. Byddai'n fy ngwthio, yn ymosod arnaf yn gorfforol, ac yn ceisio fy nhagu. Roeddwn yn teimlo'n ddi-rym. Bob tro y ceisiais adael, cefais fy hudo'n ôl gan yr addewidion gwag a'r ymddiheuriadau. O'r diwedd cefais gymorth a rhoddais fy holl ffydd yn y system gyfiawnder. Fodd bynnag, ar 23 Rhagfyr, fis ar ôl i'w orchymyn atal ddod i ben, cerddodd i mewn i fy nghartref a dal fy mhlant a minnau'n gaeth, a dioddefais drais ac ymosodiad rhywiol. Llwyddais i recordio cyfran o'r ymosodiad ar fy ffôn. Cefais lun o'i wyneb, ei lais a'i gyfaddefiad o euogrwydd.
'Ond y noswyl Nadolig honno, yn lle dathlu gyda fy mhlant, treuliais 16 awr rhwng cyfweliadau heddlu ac yn y ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol. Yn y cyfamser, roedd fy ymosodwr wedi cael ei arestio a'i ryddhau. Nid oedd yr hyn y credais yn naïf y byddai'n ddiwedd ar y cyfan yn ddim ond dechrau mewn gwirionedd.
'Yr hyn a ddigwyddodd wedyn oedd brwydr yn erbyn y system gyfreithiol. Dywedwyd wrthyf y byddai fy hanes o faddeuant a thrawma fy mhlentyndod yn cael ei ddefnyddio yn fy erbyn. Roedd yr union bethau a oedd wedi fy ngwneud i'n fregus bellach yn cael eu defnyddio i gwestiynu fy hygrededd. Roeddwn i'n crefu am therapi, ond dywedwyd wrthyf y byddai therapi'n tanseilio fy hygrededd. Er gwaethaf y dystiolaeth yn ei erbyn, cefais gam gan y system gyfiawnder.
'Rwyf am ysbrydoli eraill i godi llais, chwalu'r stigma a'r cywilydd sydd ynghlwm wrth ddioddef trais yn erbyn menywod a merched. Nid mater i fenywod yn unig mohono; mae'n fater i bawb. Fe welwn yr ystadegau, ond y tu ôl i'r ffigurau mae mamau, merched, chwiorydd, ffrindiau, y mae eu bywydau wedi'u chwalu, y mae eu dyfodol wedi'u dwyn oddi arnynt.
'Rwy'n gobeithio na ddaw fy merch byth i wybod am y boen o ddod yn rhan o'r ystadegau, ond os daw, rwy'n gobeithio y bydd y system yn wahanol. Rwy'n gobeithio y bydd yn ei chredu, ac yn rhoi'r gefnogaeth, yr amddiffyniad a'r cyfiawnder, yn y pen draw, y mae'n ei haeddu iddi.'
Mae'r addewid y mae'r Llywodraeth yma wedi ei roi droeon o adeiladu gwlad ddiogel yn swnio yn wag iawn pan fo rhywun yn clywed tystiolaeth fel hyn.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn ddychrynllyd, ac, fel y dywedodd y ferch ddewr y dyfynnais ynghynt, nid rhifau ydy'r ffigurau yma, ond pobl. Fe gofnododd heddlu Cymru dros 45,000 o achosion cam-drin domestig yn y flwyddyn 2022-23, a bron i 10,000 o droseddau rhywiol y flwyddyn cynt. A dyma'r achosion sydd wedi cael eu cofnodi'n swyddogol; meddyliwch faint yn fwy ydy'r ffigurau mewn gwirionedd.
Mae yma broblemau sylfaenol yn ein system ac yn ein cymdeithas—problemau sydd angen llawer iawn mwy na geiriau gwag. Mae misogyny gwaelodol yn greiddiol i hyn, ac mae arnaf ofn fod ethol yr Arlywydd Trump yn yr Unol Daleithiau am wneud pethau'n llawer gwaeth wrth iddo wneud agweddau misogynistaidd yn dderbyniol unwaith eto.
Ond fe all y Llywodraeth yma wneud llawer iawn mwy, hyd yn oed oddi fewn i'r fframwaith deddfwriaethol datganoledig presennol, ac mae'n rhaid cael ymyrraeth.
Mae yna ffactorau anochel sy'n dylanwadu ar debygrwydd rhywun o brofi camdriniaeth—iechyd, addysg, tai—ond erys yr un elfen sy'n gyffredin mewn cymaint o'n problemau cymdeithasol, sef tlodi.
Mae'r materion yma, i raddau fwy neu lai, o dan reolaeth y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Felly, wrth ystyried fod llawer o hyn o fewn ein gallu datganoledig ni yma, pam nad ydy'r sefyllfa yn gwella?
Mi fyddaf i'n rhyddhau adroddiad cyn bo hir fydd yn edrych i fanylder ar y materion yma, ac yn edrych ar rai o'r pethau y gallwn ni eu gwneud o fewn ein galluoedd presennol. Ond yr hyn a ddaeth i'r amlwg wrth lunio'r adroddiad oedd bod yna ddiffyg cefnogaeth arbenigol i ddioddefwyr y troseddau yng Nghymru. Mae 94 y cant o'r unigolion sy'n profi troseddau rhywiol yn datblygu PTSD o fewn pythefnos. Ond mae yna restrau aros o fisoedd er mwyn cael cwnsela ar ôl profi trais neu gamdriniaeth.
Ac ar ben hynny, does yna ddim safoni rhwng rhanbarthau. Tra bo'n rhaid i ddioddefwyr ddisgwyl blwyddyn gyfan am gefnogaeth yng Nghaerdydd neu Ferthyr Tydfil, dim ond pedwar mis y mae'n rhaid aros yn Abertawe. Sut allwn ni felly cyfiawnhau bod trawma rhywun yn ddibynnol ar loteri cod post?
Ac yn waeth fyth, os taw plentyn ydy'r dioddefwr, dim ond canolfannau Bae Colwyn a Chaerdydd sydd â’r capasiti i drin plant heddiw. Mae gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o blant yn cael eu gweld yn ein canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol. Mae yna 16 o bob 1,000 plentyn yng ngogledd Cymru yn cael eu gweld. Cymharwch hyn â Llundain, lle mae’r gyfradd yn ddim ond 2.9 plentyn o bob 1,000.
Ac mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos trais domestig ar blant yn arwain at effeithiau lles ac iechyd meddwl niweidiol, gan arwain at anghenion dysgu ychwanegol neu blant yn gwlychu eu gwelyau gan arwain at gynnydd mewn bwlio, hunan niweidio neu feddyliau am hunan-laddiad, ac effeithio ar ymddygiad y plant yna. Yn wir, mae’r NSPCC wedi canfod bod un o bob 5 o blant wedi profi trais domestig, a bod Childline Caerdydd wedi ymgymryd â dros 4,000 sesiwn cwnsela yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ar ymweliad diweddar â chanolfan gymorth trais a cham-drin rhywiol ym Mangor yn y gogledd, soniwyd wrthyf i eu bod nhw wedi gweld cynnydd anferthol yn yr ymosodiadau rhyw ar blant, yn enwedig plant 11 oed ar blant 11 oed. Ond, yn anffodus, mae yna ddiffyg darpariaeth ar gyfer plant sydd yn goroesi trais domestig, er gwaethaf y ffaith bod deddfwriaeth gennym ni yma yn adnabod plant fel dioddefwyr i drais a bod dyletswydd ar y sector gyhoeddus i ymateb.
Wrth gwrs, dylai hyn ddim bod yn sioc i ni. Wedi’r cyfan mae’r mater yma wedi cael ei godi yn y Siambr hon sawl gwaith. Ond ble mae’r gweithredu o du'r Llywodraeth? Mae yna gamau y gallwn ni eu cymryd. Fe allwn ni sicrhau bod pob ysgol yn ysgol trauma informed; fe allwn ni sicrhau bod yna gynghorydd annibynnol ar drais domestig ym mhob ysbyty a bod meddygon teulu yn adnabod symptomau trais domestig er mwyn gweithredu ar y symptomau hynny; fe allwn ni ehangu prosiectau llwyddiannus y tu hwnt i dde Cymru yn unig ac allan i ardaloedd eraill yng Nghymru; fe allwn ni fynnu cael data Cymreig, nid data Cymru a Lloegr, er mwyn datblygu polisi Cymreig a dosrannu'r adnoddau’n fwy effeithiol; fe allwn ni gysoni'r gwasanaethau therapyddol angenrheidiol i blant ar draws Cymru; ac fe allwn ni sicrhau bod gan ddioddefwyr y cymorth a'r sefydlogrwydd maen nhw eu hangen er mwyn torri’r cylch seithug. Mae yna gymaint o bethau y gallwn ni eu gwneud o fewn ein galluoedd yma ond nad ydyn ni'n eu gweithredu.
Ond, wrth gwrs, mae yna wendidau sylfaenol y tu hwnt i’r Llywodraeth hon, yn enwedig y diffygion yn ein system gyfiawnder, o fewn plismona a’r llysoedd. Mae’n gwbl argyfyngus. Ystyriwch fod achosion cam-drin a throseddau rhywiol yn cael eu gollwng oherwydd diffyg capasiti yn y llysoedd a‘r carchardai. Yn wir, mae’r ystadegau erlyn erbyn hyn yn awgrymu bod trais rhywiol, i bob pwrpas, wedi cael ei gyfreithloni yma. Mae dioddefwyr yn cael eu siomi, ac mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn erydu. Mae'n rhaid felly mynnu bod y system gyfiawnder a’r adnoddau i’w gweithredu yn cael eu datganoli ar fyrder.
Nid braint ydy diogelwch, ond hawl—hawl sylfaenol, ond hawl sydd yn cael ei wadu i lawer gormod o’n pobl, ein merched a'n plant yn enwedig. Rwy’n deall nad oes gan ein Llywodraeth nag ein Senedd yr ystod gyfan o alluoedd er mwyn medru cael gwared yn llwyr ar drais domestig a thrais rhywiol, ond mae gennym ni yma y gallu i wneud llawer iawn mwy na beth sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Gadewch i ni, felly, ddefnyddio'r grymoedd sydd gennym ni i’w llawn botensial er mwyn sicrhau bod merched a phlant Cymru yn cael y cymorth angenrheidiol.
Diolch i chi, Mabon, am gyflwyno dadl bwysig iawn, a'i chyflwyno cyn y diwrnod rhyngwladol i ddod â thrais yn erbyn menywod a phlant i ben, neu Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, ar 25 Tachwedd. Ac rwyf am estyn gwahoddiad agored i bawb o'r Senedd, pawb sydd yn yr ystafell hon, i ymuno â ni yn yr wylnos y byddwn yn ei chynnal nos Lun nesaf y tu allan i'r Senedd. Ac mae hynny'n digwydd gyda chefnogaeth Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, lle deuwn at ein gilydd bob blwyddyn—ac mae'n cael ei gefnogi'n dda—i fyfyrio ar yr hyn yr oeddech chi'n ei alw, yn gywir ddigon, yn bla trais a gyflawnir gan ddynion yn erbyn menywod. Ac mae'n fygythiad cenedlaethol, ac mae'n epidemig. Nid oes unrhyw ddianc rhag hynny. Mae wedi'i wreiddio'n ddwfn, mae'n bellgyrhaeddol, ac rydych chi wedi codi'r mater yn huawdl yma heddiw. A ddydd Llun, byddwn yn clywed gan, ac yn sefyll mewn undod gyda phobl sy'n profi, neu sy'n oroeswyr ar ôl dioddef cam-drin domestig, ac mae'n galw am gryfder cymeriad enfawr. Ond hefyd yn anffodus, byddwn unwaith eto'n galaru ar ôl y menywod sydd wedi colli eu bywydau, a rhaid i ni addo—pob un ohonom—na fyddwn byth yn defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod.
Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud a'u hymrwymiad i'r pwnc hwn, ac rydym wedi clywed bod gan Lywodraeth y DU genhadaeth i haneru cyfraddau trais yn erbyn menywod. Felly, rwy'n gobeithio dysgu pa drafodaethau sydd ar y gweill gyda Gweinidogion y DU i sicrhau bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth hanfodol sy'n achub bywydau a gwaith atal yng Nghymru yn cael ei ddiogelu i'r perwyl hwnnw, ond diolch.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, hoffwn i ddiolch i Mabon am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron. Mae'n rhaid inni gadw i siarad am drais domestig ac mae'r hyn sy'n cael ei ddadlennu yn yr adroddiad yn dorcalonnus ac yn annerbyniol. Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad cyfan. Hoffwn eich gwahodd chi i ddod i'r grŵp trawsbleidiol efallai i gyflwyno casgliadau ac argymhellion yr adroddiad.
Ac rwy'n falch i chi godi'r effaith ar blant. Roedd yr hyn yr oeddech chi'n sôn amdano fe o ran y diffyg darpariaeth—mae hynny hefyd yn deillio yn rhannol o'r ffaith does yna ddim cyllido hirdymor cynaliadwy ar gyfer y gwasanaethau arbenigol sydd yna i roi cymorth i oroeswyr sy'n blant. Felly, mae'r NSPCC wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru, a hoffwn i glywed ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i hyn, i ymrwymo i gyllid cynaliadwy hirdymor ar gyfer y gefnogaeth arbenigol yma i blant a phobl ifanc sy'n oroeswyr o drais domestig, achos bod y diffyg darpariaeth yn hysbys yng Nghymru. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn dweud bod y gyllido ar gyfer y math hanfodol yma o gefnogaeth yn anghyson iawn dros Gymru. Felly, diolch Mabon.
Diolch i Mabon am gyflwyno'r ddadl fer hon. Rwy'n credu ei bod yn ddadl hynod bwysig ac roeddwn yn falch iawn o gynrychioli Plaid Cymru yn yr wylnos y llynedd. Yn anffodus, ni fyddaf yn gallu dod i'r wylnos eleni, ond wrth gwrs, rwy'n dymuno'r gorau i Joyce a'r rhai a fydd yno a gobeithio y bydd yn wylnos lwyddiannus a fydd yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, mewn gwirionedd, mai dynion, i raddau helaeth, sy'n gorfod cydnabod ein hymddygiad a newid y patrymau ymddygiad hynny. Ac rwyf eisiau cyffwrdd yn arbennig ar ddiwylliant a'i rôl yn hyn. Hynny yw, edrychwch, nid oes neb yn berffaith, ac rwy'n cyfaddef—weithiau mae'n rhaid imi gwestiynu fy hun ynghylch rhai o'r pethau y gallwn fod yn eu hystyried yn ddifyr a chwerthin yn eu cylch, yn debyg i'r ffordd y mae angen i fy ffrindiau hefyd ystyried eu hymddygiad hwy ynghylch yr hyn y gallent fod yn chwerthin yn ei gylch neu'n ei ystyried yn ddifyr. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni'n fawr yw effaith gyrydol y cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n rhywbeth nad wyf yn credu ein bod yn ei ddeall yn ddigonol eto. Gallwn godi fy ffôn nawr ac edrych ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn syth, boed ar YouTube, Twitter, Facebook, fe ddowch ar draws rhywbeth sy'n amlwg wedi ei dargedu at ddynion ifanc fy oedran i, o fy nghefndir i, sy'n hollol wreig-gasaol. Rwy'n credu ein bod wedi gweld hynny yn enwedig dros y misoedd diwethaf gyda'r etholiadau yn America. Nid yw cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r math hwnnw o gynnwys sy'n cael ei wthio ar bobl fy oed i a thudalennau cyfryngau cymdeithasol fy rhywedd.
Mae sut yr awn i'r afael â hynny mewn gwirionedd yn gwestiwn arall. I fod yn deg â Llywodraeth Cymru, nid wyf yn hollol siŵr beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud am hynny, ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried fel cymdeithas ac yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried wrth ymdrin â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol, oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw wedi ei reoleiddio, ac maent yn rhydd i wneud fel y mynnant.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyfiawnder nawr i gyfrannu—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn falch iawn o weld y ddadl hon yn cael ei chyflwyno heddiw, ac rwy'n diolch i Mabon ap Gwynfor am ei chyflwyno ac am ei galw'n 'Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—pla Cymru heddiw'.
Mae'n rhoi cyfle inni edrych ar ffyrdd y gall y Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb, neu ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol nid yn unig ar flaen ein meddyliau unwaith eto—mae'r ddadl hon yn ei osod yno—ond hefyd fod y camau a gymerwn yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Mae'n amserol iawn wrth inni nesáu at Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. A diolch am ein hatgoffa am yr wylnos ddydd Llun, Joyce Watson, gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, ac am eich arweinyddiaeth yn yr ymgyrch hon, fel rydym i gyd yn cydnabod ar draws y Siambr.
Rydym yn credu bod Cymru wedi gwneud cynnydd ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod angen gwneud llawer mwy. Mae'r ystadegau'n ddychrynllyd. Amcangyfrifodd dadansoddiad cenedlaethol yn y DU o raddfa trais yn erbyn menywod a merched a ryddhawyd ym mis Gorffennaf gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu fod 2 filiwn o fenywod yn ddioddefwyr trais gan ddynion bob blwyddyn, epidemig mor ddifrifol nes ei fod yn argyfwng cenedlaethol. Ar gyfartaledd, caiff menyw ei lladd gan ddyn yn y DU bob tri diwrnod, ac mae nifer y troseddau a gofnodwyd wedi cynyddu 37 y cant yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ac nid oes unrhyw le—ni ddylai fod unrhyw le—yn ein cymdeithas i wreig-gasineb, aflonyddwch na chamdriniaeth wedi'u hanelu at fenywod a merched, a dyna pam y gwnaethom gyhoeddi ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn 2022. Ac mae'r materion cymdeithasol yn ddiddorol—mae'n rhaid iddo fod yn ddull cymdeithas gyfan. Mae'n rhaid cael ymdeimlad o berchnogaeth i fynd i'r afael â thrais a cham-drin ar sail rhywedd. Caiff y strategaeth a gyhoeddwyd gennym yn 2022 ei chyflawni drwy ddull glasbrint mewn partneriaeth â phlismona yng Nghymru, ac mae'r dull gweithredu yn cael ei arwain gan fwrdd partneriaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy'n falch iawn o'i gyd-gadeirio gyda chomisiynydd heddlu a throseddu de Cymru, Emma Wools, a chyn hynny gyda Dafydd Llywelyn o Ddyfed-Powys. Mae Emma yn eiriolwr ymroddedig dros fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a rhoi diwedd arno, ac mae'n enghraifft o arweinyddiaeth ac ohonom ni gyda'n gilydd yn gwneud ymrwymiad cydlynol i fynd i'r afael â'r materion hyn.
A gwnaeth Luke Fletcher sylw ar ddiwylliant. Mae diwylliant yn cwmpasu gwerthoedd, credoau, egwyddorion cymdeithas, sut rydym yn cyfathrebu, sut rydym yn ymddwyn tuag at ein gilydd, ac yn wir, mae ein nodau llesiant cyffredin a chenedlaethau'r dyfodol yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu Cymru gyfartal a chymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, beth bynnag yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau. Mae chwe amcan wedi'u nodi yn y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r pedwerydd ohonynt yw gwneud ymyrraeth gynnar ac atal yn flaenoriaeth, yn unol â dull iechyd y cyhoedd. Rydym wedi ehangu ein hymgyrchoedd peilot ar gyfer hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth 'Paid cadw'n dawel' gyda'r bwriad o greu newidiadau gwirioneddol a pharhaol mewn agweddau cymdeithasol tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac rwy'n falch o rannu bod sesiynau wedi'u cyflwyno bellach i dros 250 o gyfranogwyr. Mae'r peilot ar y gweill tan fis Mawrth 2026, ac rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi gwerthusiad o effeithiolrwydd yr offeryn hwn. Mae angen inni wybod beth sy'n gweithio. Sut y gallwn atal hyn? Mae 'Paid cadw'n dawel' yn offeryn pwysig.
Ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig o ran pwy sy'n rhaid inni ddylanwadu arnynt. Fe fyddwch yn ymwybodol o'n hymgyrch Iawn, sydd wedi ennill sawl gwobr eleni, fel enghraifft o sut y gallwn ymgysylltu'n effeithiol â dynion a bechgyn ledled Cymru yn y drafodaeth i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae'r ymgyrch yn defnyddio modelau rôl gwrywaidd adnabyddus cadarnhaol a dylanwadol i dynnu sylw at ymddygiad cadarnhaol, canolbwyntio ar batrymau ymddygiad problemus, camdriniaeth fel bomio â chariad, dibwyllo, ac ymddygiadau rheolaethol a gorfodaethol. Unwaith eto, diolch i Luke am godi'r pwynt hwn oherwydd, yn amlwg, mae llysgenhadon y Rhuban Gwyn yn ddynion. Fe wnaethant arwain yr ymgyrch honno, ac rwy'n gwybod bod gennym rai ar draws y Siambr hon. Mae cam 2 yr ymgyrch Iawn a lansiwyd ym mis Mai eleni yn cynnwys rhaglen ddogfen Sound Lad. Mae negeseuon craidd am ymgysylltu a chyfathrebu yn allweddol i newid agweddau cymdeithasol tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd cam 3 yn canolbwyntio ar ymddygiad a niwed sy'n gysylltiedig ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.
Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cyfarfod â Gweinidog y DU dros ddioddefwyr o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Alex Davies-Jones, yn Llywodraeth newydd y DU. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn dysgu mwy am y cyd-destun Cymreig mewn perthynas â'r pwnc hwn, a hithau'n AS Cymreig, ond y prynhawn yma, cyfarfûm â Gweinidog y DU dros ddioddefwyr yn y Swyddfa Gartref, Jess Phillips, ac rwy'n credu y byddwch i gyd yn ymwybodol o'i hanes o ymgyrchu yn erbyn trais yn erbyn menywod. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i haneru cyfraddau trais yn erbyn menywod a merched yn y 10 mlynedd nesaf. Maent hefyd eisiau dysgu oddi wrthym ni, o'r hyn y buom ni'n ei wneud, oherwydd ni chafwyd yr ymrwymiad hwnnw'n flaenorol, yn Llywodraeth flaenorol y DU. Felly, rydym bellach yn ymgysylltu'n llawn â Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd yn ddatganoledig ac yn annatganoledig.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig, Mabon, eich bod wedi codi mater y cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol a'r cynghorwyr annibynnol ar drais domestig. Trafodwyd hynny y prynhawn yma, ynglŷn â deall y sylfaen ariannu a'r cysondeb sydd ei angen arnom. Mae'n rhywbeth lle y credaf y gallwn symud ymlaen i fynd i'r afael â hynny. Dylai fod yn gyson ledled Cymru beth yw'r gwasanaethau arbenigol y mae ein cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol a'n cynghorwyr annibynnol ar drais domestig yn gallu eu darparu, ac yn wir pa ddarpariaeth y gall yr heddlu a'r system gyfiawnder ei chynnig. Mae gennym rwydwaith gwych o wasanaethau cymorth rhanbarthol ac arbenigol i ddioddefwyr ledled Cymru, a gwn eich bod yn cydnabod hyn yn arbennig, a'r gwasanaethau arbenigol. Mae angen inni edrych ar hyn mewn perthynas â'n cyllidebau a'r cyfrifoldebau sydd gennym.
Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu ugain mlynedd ers sefydlu llinell gymorth Byw Heb Ofn, a ariannwyd o'r cychwyn gan Lywodraeth Cymru, a'i darparu gan Cymorth i Fenywod Cymru, gwasanaeth 24/7 am ddim i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Yn ystod y tri mis diwethaf yn unig, cysylltodd dros 3,500 o oroeswyr â'r llinell gymorth—yn ystod y tri mis diwethaf yn unig.
A hefyd, diolch i chi, Mabon, am yr hanes pwerus gan y fenyw ifanc honno, nid yn unig am y gamdriniaeth a ddioddefodd, ond yn drist iawn, am fethiannau'r system gyfiawnder. A dweud y gwir, yn ddiddorol, roeddwn i'n bwydo'n ôl i Jess Phillips heddiw fod gennym dystiolaeth gan oroeswyr ynghylch methiannau'r system gyfiawnder. Felly, gallwch fod yn sicr—. Dywedais fy mod yn ymateb i'r ddadl hon heno, ac roedd hi'n dymuno'n dda i ni. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwrando ar leisiau a phrofiad goroeswyr, a byddwn yn gwneud hynny ddydd Llun. Felly, yn ein strategaeth a'n bwrdd partneriaeth, mae gennym banel craffu llais goroeswyr, dan arweiniad ein cynghorwyr cenedlaethol Yasmin Khan a Johanna Robinson, ac rwy'n eich annog i edrych ar eu hadroddiad, sy'n cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf. Mae'r goroeswyr yn grŵp amrywiol sy'n cwmpasu'r sbectrwm cyfan o gamdriniaeth a thrais, ac mae'r panel yn eu galluogi i helpu i lunio cyfeiriad polisi, i graffu ar y strategaeth genedlaethol, y glasbrint, a chynnydd y ffrydiau gwaith. Rwy'n credu mai hwy yw'r bobl bwysicaf i wrando arnynt, gan gydnabod a pharchu'r craffu ar y gwaith a wnawn wrth gwrs.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn, Sioned Williams, eich bod chi wedi siarad am blant a phobl ifanc, fel yn y brif ddadl gan Mabon. Mae gennym ffrwd waith ar anghenion plant a phobl ifanc, gan roi cydnabyddiaeth drwyadl i brofiad cynnar o effeithiau sylweddol cam-drin a thrais ar bob agwedd ar fywydau plant a phobl ifanc, ac yn enwedig o ran cyrhaeddiad addysgol a'u rhagolygon yn y dyfodol. Felly, diolch am godi hynny. Mae'r ffrwd waith yn edrych ar yr holl faterion hyn ac yn ymgysylltu â'r gwasanaethau arbenigol hynny, hefyd.
Yng Nghymru, ac fe drafodwyd hyn heddiw gyda'n cymheiriaid gweinidogol yn Llywodraeth y DU, gydag addysg cydberthynas a rhywioldeb, rwy'n credu y bydd y ffaith ein bod yn torri tir newydd gyda'r gofyniad statudol yn y cwricwlwm, gan ei wneud yn orfodol i bob dysgwr a datblygu perthnasoedd iach o oedran cynnar yn helpu i newid ein diwylliant er gwell. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiect Sbectrwm Stori Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach. Os na allwn fynd i'r afael â hyn yn ddigon cynnar mewn ysgolion gyda'n plant a'n pobl ifanc, yn ogystal â'u cefnogi gyda hynny, o ran newid agweddau ac ymwybyddiaeth, yn ogystal â'u cefnogi os ydynt yn profi camdriniaeth yn eu cartrefi—. Hynny yw, dyma lle mae'n rhaid inni gamu ymlaen a gweithio gyda'n gilydd.
Yn olaf, Lywydd, mae angen gweithlu ledled Cymru, y sector cyhoeddus cyfan, sy'n deall eu rôl a'r ymyriadau sydd ar gael iddynt i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy'n credu eich bod chi, fel ninnau ar draws y Siambr yn ein grwpiau, wedi cael hyfforddiant 'Paid cadw'n dawel', ac fe wyddom fod llawer y gall pawb ei wneud, nid o ran y cyhoedd, ond o ran ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn estyn allan at y rhai mewn gwasanaethau rheng flaen, mewn swyddi â chyfrifoldeb, gydag adnoddau hyfforddi i ddarparu ymyriadau effeithiol. Ers 2016, mae gennym fwy na 307,000 o weithwyr proffesiynol ledled Cymru yn manteisio ar yr hyfforddiant hwnnw, felly mae'r gweithwyr proffesiynol hynny bellach yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus i ymateb i'r rhai sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ond wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod angen inni sicrhau bod ein holl wasanaethau cyhoeddus yn cymryd rhan yn hynny.
Yn olaf, mae dod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben mewn cenhedlaeth yn gofyn i ni edrych ar y system gyfan, sy'n adlewyrchu profiad dioddefwyr a goroeswyr yn well, a phrofiad cyflenwyr. Mae'n gofyn am ymdrechion o bob rhan o gymdeithas. Diolch yn fawr, Llywydd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Dyna ddod â'r ddadl fer am heddiw i ben a'r cyfan o'n gwaith ni. Felly, daw'r cyfarfod i ben. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:26.