Y Cyfarfod Llawn

Plenary

26/04/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr, ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. A bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells. 

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o botensial y gronfa ffyniant gyffredin i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru? OQ57939

Llywydd, mae'r gronfa yn methu â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd oherwydd cyfres o ddiffygion sylfaenol. Mae'n torri addewid allweddol gan y Ceidwadwyr na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Mae'n dyrannu ei symiau is drwy fformiwla sy'n tangynrychioli anghydraddoldeb dwys yn fwriadol ac mae'n symud y broses o wneud penderfyniadau o Gymru i Whitehall.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. O dan fanylion y gronfa ffyniant gyffredin a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac y bu disgwyl amdanyn nhw ers amser maith, mae'n amlwg bod Cymru ar fin colli dros £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf. Bydd cyllid hefyd yn cael ei frigdorri i gefnogi'r gwaith o gyflawni hoff brosiectau Llywodraeth y DU, a bydd y ddarpariaeth bresennol yng Nghymru yn cael ei dyblygu. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y dyblygu hwn, ac a ydych chi o'r farn y bydd y dull hwn yn golygu nad yw anghydraddoldebau economaidd dwfn yn cael sylw?

Wel, Llywydd, mae Vikki Howells yn gwneud pwynt atodol pwysig am y ffordd y mae'r symiau gostyngedig a ddaw i Gymru, beth bynnag, yn cael eu brigdorri gan Lywodraeth y DU ar gyfer ei phrosiectau ei hun, y bydd yn ceisio eu rhedeg yma yng Nghymru. Felly, rhaglen Multiply fydd yr enghraifft amlycaf o hynny—dros £100 miliwn a ddylai fod yn nwylo'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn hytrach yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Llywodraeth y DU yng Nghymru. Mae rhaglen Multiply—gadewch i mi egluro i arweinydd yr wrthblaid—nid yw rhaglen Multiply yn nwylo arweinwyr llywodraeth leol o gwbl. Mae'n gynllun a ddyfeisiwyd gan Lywodraeth y DU; a grëwyd yn Whitehall; dim cyfeiriad at Gymru o gwbl; dim un frawddeg gan unrhyw un o Weinidogion y DU cyn iddi gael ei chyhoeddi; dim synnwyr o gwbl ei fod yn deall y cyd-destun Cymreig y bydd yn ceisio gweithredu ynddo. Os edrychwch chi ar y ddewislen o ddewisiadau y dywedir bod yn rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â nhw, maen nhw'n canolbwyntio yn llwyr—yn llwyr—ar Loegr. Maen nhw'n adlewyrchu'r dirwedd sydd yng Nghymru yn unig. Nid oes yr un cyfeiriad at y rhwydwaith dysgu oedolion yma yng Nghymru, dim un cyfeiriad at ddarpariaeth addysg bellach yng Nghymru, dim un cyfeiriad at blatfform Hwb, sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r adnoddau a fydd yn angenrheidiol ar gyfer unrhyw raglen effeithiol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, Llywydd, nid yw'r gwrthwynebiad i wario arian ym maes rhifedd; mae'n fater o arian yn cael ei wario yn aneffeithiol, arian a fydd bellach mewn perygl o ddyblygu darpariaeth yma yng Nghymru, a fydd yn cael ei wario mewn ffyrdd nad oes ganddyn nhw unrhyw berthynas â'r cyd-destun y mae'n cael ei wario ynddo, ac a fydd, mae arnaf ofn, yn golygu y gellid bod wedi defnyddio'r arian hwnnw, y gellid bod wedi ei ddefnyddio yn llawer mwy effeithiol, mewn ffyrdd sy'n gweithio gyda graen y dirwedd yma yng Nghymru yn hytrach na'i hanwybyddu yn llwyr, yn syml, ni fydd yn cyflawni'r canlyniadau y byddai wedi eu cyflawni pe bai wedi cael ei wario mewn ffyrdd a oedd yn parchu'r setliad datganoli ac yn parchu'r ffordd y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yma yng Nghymru. 

Prif Weinidog, fel rŷch chi'n ymwybodol, bydd Pwyllgor Cyllid y Senedd yn edrych ar y gronfa ffyniant gyffredin, ac, fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, dwi am ei gwneud hi'n glir y bydd fy mhwyllgor i hefyd yn archwilio'r trefniadau ariannu newydd yma, ac effaith y trefniadau yma ar Gymru, unwaith bydd y Pwyllgor Cyllid yn adrodd ar y mater hwn. Nawr, rŷch chi a'ch cyd-Aelodau wedi datgan yn glir eich bod chi'n credu bod Cymru £1 biliwn ar ei cholled o ganlyniad i gyhoeddiadau diweddar. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y ffigur hwn o £1 biliwn, ac a wnewch chi gyhoeddi dadansoddiad o sut yn union rŷch chi wedi gweithio mas y ffigur yma?

13:35

Wel, wrth gwrs, Llywydd, rŷn ni'n hapus i esbonio sut rŷn ni wedi dod at y ffigurau, a rŷn ni'n hapus i gyhoeddi'r ffigurau hefyd, achos maen nhw'n amlwg—maen nhw'n amlwg—a does dim amheuaeth o gwbl amdanyn nhw. Rŷn ni'n mynd i golli £0.75 biliwn oherwydd y system y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei defnyddio—y term yw structural funds yn Saesneg. Ac rŷn ni'n mynd i golli £243 miliwn mas o'r arian a oedd yn dod i Gymru o raglenni'r Undeb Ewropeaidd yn y maes gwledig hefyd. So, mae'r ffigurau gyda ni, mae dadansoddiad gyda ni ac rŷn ni'n hapus i'w gyhoeddi e jest i ddangos beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei wneud, ac wedi torri beth roedden nhw wedi ei ddweud yma, ar lawr y Cynulliad—

—sicrwydd pendant na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Wel, nid £1 biliwn yw'r cyfan, Llywydd; dim ond rhan o'r ffordd y byddwn ni'n waeth ein byd yw hon.

Gwleidyddiaeth hen ffasiwn o wario er mwyn ennill pleidleisiau yw hyn, onid yw? Clywsom yn ddiweddar y byddai Ynys Môn yn cael tua £16 miliwn o'r gronfa ffyniant gyffredin fel y'u gelwir. Ac er bod unrhyw gyllid i'w groesawu, wrth gwrs—a byddaf yn gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr y bydd prosiectau ar Ynys Môn yn elwa cystal â phosibl—nid oes dianc rhag y ffaith bod hyn yn ffracsiwn o'r cyllid a oedd ar gael o dan gronfeydd strwythurol yr UE, a'i fod ymhell o gyflawni addewid Llywodraeth y DU na fyddem ni'n colli ceiniog ar ôl Brexit, y mae'n amlwg nad oes ots gan y Ceidwadwyr amdano o gwbl. Nawr, mae'n llanastr, ond mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r ffaith bod hwn yn llanastr anstrategol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno nad oes unrhyw feddwl cydgysylltiedig yma gan Lywodraeth y DU, dim cynllun hirdymor? Ac a all ef ddweud wrthyf i pa bwysau y gall Gweinidogion Cymru geisio ei roi ar eu cymheiriaid yn y DU i geisio gwneud rowndiau ariannu dilynol o leiaf ychydig yn fwy strategol eu natur?

Llywydd, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Roedd hon yn gronfa a gyhoeddwyd yn 2017, mewn maniffesto gan y Blaid Geidwadol. Cymerodd tan ddechrau'r mis hwn—Ebrill 2022—cyn i ni gael unrhyw drafodaethau sylweddol gyda Gweinidogion y DU am y ffordd y maen nhw'n bwriadu i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio yng Nghymru. Ac hynny oll wedi'i gywasgu i bythefnos oherwydd eu penderfyniad i ruthro cyhoeddiad cyn etholiadau llywodraeth leol, at yr union fathau o ddibenion y mae Rhun ap Iorwerth wedi eu nodi. Nawr, yn y pythefnos hwnnw, fe wnaethom ni lwyddo i sicrhau rhai consesiynau gan Lywodraeth y DU, fel y bydd o leiaf y ffordd y caiff cyllid ei ddefnyddio yng Nghymru yn adlewyrchu'r ôl troed rhanbarthol yr ydym ni wedi ei ddefnyddio ar gyfer mentrau eraill ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yng Nghymru—ôl troed y fargen ddinesig. Ac rydym ni wedi sicrhau rhai cytundebau ynghylch sut y gellir dod â chyfres ehangach o fuddiannau o amgylch y bwrdd i helpu i benderfynu sut y gellir gwneud ceisiadau yng Nghymru. Gadewch i ni fod yn eglur, nid oes unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud yng Nghymru. Gwahoddir awdurdodau lleol i lunio cynigion, a fydd yn cyrraedd desg Gweinidog yn Whitehall yn y pen draw, a nhw fydd yn gwneud y penderfyniadau.

Cawsom gyfres o drafodaethau, Llywydd, gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â'r fformiwla i'w defnyddio ar gyfer dosbarthu'r cronfeydd hyn. Dim ond ar y pwynt y dechreuodd Rhun ap Iorwerth ag ef, byddai'r fformiwla a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at wario mwy o arian ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, neu Fro Morgannwg, er enghraifft, y mae gan y ddau ohonyn nhw Aelodau Seneddol Ceidwadol. Felly, nid oedd y fformiwla a gynigiwyd gennym ni yn un bleidiol; roedd yn un a oedd â'r nod o gysoni cyllid â lle mae'r angen mwyaf. Nid wnaethom ni lwyddo i berswadio Llywodraeth y DU o hynny—mae ganddyn nhw wrthrychau eraill mewn golwg—a'r canlyniad, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, yw y bydd gennym ni gyfres o geisiadau brysiog. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol roi popeth at ei gilydd—yr holl broses. Mae'n rhaid iddyn nhw wahodd ceisiadau, mae'n rhaid iddyn nhw asesu'r ceisiadau hynny, mae'n rhaid iddyn nhw ddangos yr allbynnau y byddan nhw'n eu cyflawni, mae'n rhaid iddyn nhw ddangos y trefniadau llywodraethu a fydd ar waith, mae'n rhaid iddyn nhw ddangos sut y byddan nhw'n gallu ymgynghori, a hynny i gyd cyn 1 Awst. Y siawns y bydd cydlyniad yn y cyllid hwnnw, y siawns y bydd yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl—. Nid yw'n golygu ein bod ni'n cael llai o arian yn unig, mae'n cael ei wario'n llai da. Rwy'n credu mai dyna'r gwrthwynebiad sylfaenol iddo.

13:40
Cymorth Ariannol i Awdurdodau Lleol

2. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o gymorth ariannol i gyflawni eu dyletswyddau a'u rhwymedigaethau? OQ57945

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym ni'n gwneud hynny trwy flaenoriaethu gwasanaethau llywodraeth leol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn cael £5.1 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w buddsoddi mewn gwasanaethau allweddol yn y flwyddyn ariannol hon, ynghyd ag £1.8 biliwn ychwanegol mewn grantiau refeniw a chyfalaf penodol.

Diolch yn fawr. O siarad ag arweinwyr cynghorau yn fy rhanbarth i, mae'n deg dweud bod llawer wedi eu synnu ar yr ochr orau gan y setliad ariannol diweddaraf. Felly, mae'n rhaid ei bod hi'n siomedig, o'ch safbwynt chi, i weld cyd-aelodau yn eich plaid ym mwrdeistref sirol Caerffili yn eistedd ar gronfa wrth gefn o £180 miliwn, cynnydd o £40 miliwn rhwng blynyddoedd ariannol 2019 a 2021. Mae hyn £22 miliwn yn fwy na'r hyn sydd gan Gyngor Caerdydd, sy'n llawer mwy, yn ei gronfeydd wrth gefn. Tra bod yr arian hwn yn cael ei gelcio, rydym ni'n gweld cyfleusterau hamdden yn cau, goleuadau stryd wedi'u diffodd a darpariaeth canolfannau gofal dydd ar gyfer oedolion ag anableddau dwys yn cael ei thorri'n sylweddol. Nid arian parod yw'r unig ateb i'r problemau hyn, ond, ym mhob achos bron, byddai'n helpu i leddfu'r sefyllfa ac adfer rhai gwasanaethau. Prif Weinidog, a ydych chi'n teimlo'n rhwystredig pan fyddwch chi'n darparu setliadau ariannol digonol i gyd-aelodau yn eich plaid mewn llywodraeth leol dim ond iddyn nhw eistedd ar y pentyrrau hyn o arian parod, fel rhyw fersiwn cyngor o Scrooge?

Wel, Llywydd, mae cyfres o resymau pam mae cynghorau yn dal arian wrth gefn. Bydd llawer iawn o'r arian hwnnw mewn cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi. Mewn geiriau eraill, nid yw'n arian sydd ar gael i'r cyngor ei wario. Mae yno oherwydd bod ganddyn nhw raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, er enghraifft, ac mae'r arian hwnnw eisoes wedi'i ddyrannu i wneud yn siŵr y gall y rhaglen honno fynd yn ei blaen. Ceir arian, oherwydd bod Llywodraeth y DU yn darparu setliadau i ni mor hwyr yn y flwyddyn, y mae'n rhaid i ni ei drosglwyddo i awdurdodau lleol yn ddiweddarach yn y flwyddyn hefyd yn y pen draw, ac, yn hytrach na'i ddefnyddio mewn ffordd aneffeithiol yn debyg i'r gronfa ffyniant gyffredin, maen nhw'n ei gadw fel y gallan nhw gynllunio i wneud y defnydd gorau o'r gwariant hwnnw. Felly, mae rhesymau pam mae awdurdodau lleol yn cadw arian wrth gefn, ac mae hynny yn wir am awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol mewn sawl gwahanol ran o Gymru.

Rwy'n gweld bod y Pwyllgor Cyllid, y mae'r Aelod, wrth gwrs, yn Gadeirydd arno, yn dymuno cael adolygiad o'r cronfeydd wrth gefn sydd gan lywodraeth leol, ac, wrth gwrs, rydym ni'n hapus i wneud yn siŵr bod llywodraeth leol yn cadw'r cronfeydd wrth gefn sydd eu hangen arni yn unig at y mathau priodol o ddibenion. Yr hyn nad wyf i'n credu sy'n synhwyrol, Llywydd, ac rwyf i wedi edrych ar faniffesto Plaid Cymru ar gyfer ardal Caerffili, ac roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yng Nghaerffili ddoe—. Rwy'n gweld bod y maniffesto yn ymrwymo cyngor Caerffili, sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru, i rewi'r dreth gyngor y flwyddyn nesaf—cam gweithredu gwirioneddol anghyfrifol fel y mae'n ymddangos i mi—ac yna i droi at gronfeydd wrth gefn ar gyfer gwariant rheolaidd ar wasanaethau ieuenctid. Eto, nid yw'n gam gweithredu yr oeddwn i'n meddwl y byddai unrhyw Gadeirydd Pwyllgor Cyllid yn fodlon ei argymell i'w gydweithwyr.

Wrth gwrs, un o'r dyletswyddau a'r rhwymedigaethau allweddol y bydd cynghorau yn ymgymryd ag ef nawr yw'r prydau ysgol am ddim, sy'n rhan o'r cytundeb cydweithredu, wrth gwrs, Prif Weinidog, sydd gennych chi gyda Phlaid Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Ond, wrth gwrs, dim am flwyddyn neu ddwy y mae'r cyllid refeniw ar gyfer hynny wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru, ac, fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, mae eich cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi awgrymu efallai y dylai trethu twristiaid a threthu busnesau twristiaeth fod yn ffordd o ehangu prydau ysgol am ddim yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pa un a yw'n bolisi gan Lywodraeth Cymru i ystyried trethu twristiaid a busnesau twristiaeth i ariannu prydau ysgol am ddim ai peidio?

13:45

Llywydd, polisi Llywodraeth Cymru yw'r un a nodir yn y cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid i a Phlaid Cymru, sef gwneud yn siŵr, yn ystod cyfnod y cytundeb hwnnw, ein bod ni'n gallu darparu pryd ysgol am ddim i bob plentyn mewn dosbarthiadau oedran cynradd yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o'r ymrwymiad hwnnw, a bydd yn ymrwymiad sy'n gofyn am lawer iawn o ymdrech ar ran ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol i wneud yn siŵr y gellir ei gyflawni. Ac mae'r cyllid a nodir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, sydd ar gyfer tair blynedd lawn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, yn rhoi sicrwydd y bydd y cyllid yno i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.

Mae'n siomedig dros ben gweld Plaid Cymru yn defnyddio cwestiynau i'r Prif Weinidog ar gyfer eu hymgyrch etholiadau lleol. Mae islaw urddas y Siambr hon i wneud hynny. Mae Peredur Owen Griffiths yn y fan yna yn darllen cwestiwn y mae'n amlwg iddo gael ei ysgrifennu gan arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Gall wneud yn well na hynny. Rwy'n gwybod ei fod yn well na hynny. Ond nawr ei fod wedi fy nhynnu i mewn i hyn, gadewch i ni egluro yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerffili. Mae eu cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio i adeiladu ac ailadeiladu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, maen nhw'n cael eu defnyddio i adeiladu tai cyngor ac maen nhw'n cael eu defnyddio i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd sero net erbyn 2030, a hefyd, i ddweud, bod rhaglen ail-lunio trefi o'r radd flaenaf yn cael ei gweld yng Nghaerffili, Bargoed a thu hwnt. Dyna pam mae Caerffili yn cadw cronfeydd wrth gefn. Ac rydym ni'n gwybod bod defnyddio cyfalaf i'w wario ar refeniw yn gamgymeriad ac y bydd yn arwain at gyni cyllidol. Yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei wneud yng Nghaerffili yw ymddwyn fel Ceidwadwyr. Yr unig wir bleidlais y byddwch chi'n ei chael yw drwy bleidleisio dros Lafur yng Nghaerffili. Roedd y Prif Weinidog yno gyda mi ddoe, a wnaiff ef gefnogi'r farn honno?

Llywydd, roedd hi'n bleser mawr cael bod allan ar strydoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda Hefin David ddoe. Mae'n ergyd greulon y mae'n ei wneud tuag at Aelodau Plaid Cymru. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrtho, o'r sgyrsiau yr oeddwn i'n eu cael ac y gallwn i ei glywed ef yn eu cael gyda phobl ar garreg y drws ddoe, yw mai'r peth sydd bwysicaf i bobl yng Nghaerffili yw'r buddsoddiadau hynny y soniodd amdanyn nhw. Dro ar ôl tro, pan fyddwch chi'n cael sgyrsiau gyda phobl, y ffaith bod ganddyn nhw bobl ifanc yn eu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael y tai sydd eu hangen arnyn nhw y cyfeirir ati. Mae rhaglen adeiladu tai cyngor Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a chynghorau eraill a reolir gan Lafur ledled Cymru yn un o'r pethau sy'n cynnig gobaith i'r teuluoedd hynny, a chlywsom hynny yn gwbl eglur ar garreg y drws ddoe.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Felly, arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr, Llywydd. Feiddia i grwydro i faterion llywodraeth leol, Prif Weinidog, yn enwedig gan fod rhywbeth yn digwydd ddydd Iau nesaf? Ond gofynnaf y cwestiwn i chi am y Bil amaethyddol. Mae hwn yn Fil nad yw wedi gweld golau dydd eto. Fe'i haddawyd i ni yn y gwanwyn eleni; fe'i haddawyd i ni ar ffurf gychwynnol cyn etholiadau diwethaf y Senedd hyd yn oed. Dywedodd y Gweinidog sy'n eistedd wrth eich ymyl wrth y pwyllgor sy'n craffu ar y materion hyn ychydig cyn toriad y Pasg y bydd yn cael ei ohirio tan y Nadolig ar y cynharaf bellach. A allech chi ddweud wrthyf i pam mae'r Bil wedi cael ei ohirio eto?

Bydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn yr hydref, Llywydd, ac mor gynnar yn yr hydref ag y gallwn ni wneud i hynny ddigwydd. Rhan o'r rheswm pam mae'r Bil wedi ei ohirio yw rhai o'r rhesymau y mae'r Aelod ei hun wedi cyfeirio atyn nhw ar lawr y Senedd, ac yn gwbl briodol. Rwy'n ei gofio yn gofyn cwestiwn i mi nid wythnosau lawer yn ôl am y ffordd y mae'n rhaid i ni ailystyried rhai o'n huchelgeisiau ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yng nghyd-destun y rhyfel yn Wcráin a'r hyn y mae hynny yn ei olygu am ddiogelwch bwyd mewn lleoedd fel y Deyrnas Unedig. Felly, rydym ni'n achub ar y cyfle i wneud yn siŵr bod y Bil yr ydym ni'n ei gyflwyno yn Fil sy'n tynnu ynghyd y ddau faes allweddol hynny—cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan y sector amaethyddiaeth yma yng Nghymru ac yna'r nwyddau cyhoeddus eraill hynny yr ydym ni'n gwybod y gall ffermwyr a rheolwyr tir eu cynhyrchu—a'n bod ni'n dod â'r ddau beth hynny at ei gilydd mewn ffordd gytbwys yn y Bil y byddwn ni'n ei roi gerbron y Senedd.

Diolch am yr esboniad yna, Prif Weinidog, oherwydd pan holais y Gweinidog am yr argyfwng bwyd yr wyf i'n ei weld yn esblygu nawr mae sefyllfa Wcráin yn gwaethygu a'r niwed y mae'n ei wneud i'r cyflenwad bwyd ar y farchnad, dywedodd y Gweinidog nad oedd argyfwng ac nad oedd angen dod â'r proseswyr, y cynhyrchwyr bwyd a'r manwerthwyr at ei gilydd yn yr union gwestiynau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw a drefnais gyda chi rai wythnosau yn ôl yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Felly, mae'n syndod darganfod nawr—ac rwy'n croesawu hyn—bod y Llywodraeth wedi newid ei meddwl i ystyried defnyddio'r Bil amaethyddol i wella elfen diogelu'r cyflenwad bwyd y Bil hwnnw mewn gwirionedd, ac mae hynny yn rhywbeth i'w groesawu. Ond a gaf i hefyd holi am yr agwedd ddeddfwriaethol hefyd, oherwydd fe wnaethoch chi gyfeirio at fethu â chyflawni ymrwymiadau maniffesto—? Fe wnaethoch chi sôn am faniffesto'r Ceidwadwyr yn 2017. Wel, soniodd eich maniffesto arweinyddiaeth chi am y Ddeddf aer glân yn 2018 a'r ffaith ei bod yn rhan hanfodol o'ch mandad pe baech chi'n dod yn arweinydd ac yna'n Brif Weinidog Cymru. Rydym ni bellach yn 2022. Rydym ni'n gwybod bod 1,400 o farwolaethau cynamserol yn digwydd y flwyddyn yng Nghymru oherwydd aer budr. Nid ydym ni hyd yn oed wedi gweld drafft o Fil aer glân yn dod gan y Llywodraeth ac allwn ni weld dim ar y gorwel sy'n deillio o Barc Cathays pan ddaw i'r Ddeddf aer glân. Felly, beth yw'r amserlen i chi gyflawni'r ymrwymiad maniffesto hwn, oherwydd mae eich amser eich hun yn y swydd, Prif Weinidog, yn mynd heibio, tuag at eich ymddeoliad yr ydych chi wedi ei drefnu eich hun?

13:50

Llywydd, a gaf i yn gyntaf fod yn eglur gydag arweinydd yr wrthblaid—nid oes argyfwng yn y cyflenwad bwyd yng Nghymru? Mae pwysau mewn marchnadoedd bwyd byd-eang oherwydd y rhyfel yn Wcráin, ac rydym ni'n gweld rhai mesurau dros dro y mae'n rhaid i archfarchnadoedd eu cymryd er mwyn diogelu rhai—ac mae'n nifer fach—nwyddau, fel y gellir eu dosbarthu'n deg. Ond nid oes argyfwng yn y sector bwyd ac mae fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths yn cyfarfod ag ystod eang o fuddiannau perthnasol yn rheolaidd iawn. Llywydd, byddwn yn cyhoeddi'r Papur Gwyn ar aer glân eleni. Rydym ni ar y trywydd iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n deddfu yn ystod tymor y Senedd hon ac edrychaf ymlaen, fel yr wyf i wedi dweud wrtho o'r blaen, at y gefnogaeth gadarnhaol gan y Blaid Geidwadol yma i wneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth honno cystal ag y gallwn ni ei gwneud hi. 

Prif Weinidog, mae yna argyfwng. Mae gwrtaith, sydd ei angen arnoch chi i dyfu cnydau, bellach yn £900 i £1,000 y dunnell; fel arfer mae tua £300 i £350 y dunnell. Mae gwenith, yr elfen allweddol o wneud bara, yn uwch na £300 y dunnell; fel arfer mae'n masnachu am £140 i £150 y dunnell. Mae cig eidion yn £440 y cilogram; mae fel arfer yn masnachu am £340 i £360. Gallwn barhau; rwy'n hoffi meddwl bod gen i fy llaw ar y pwls ar yr un yma. Ac mae storm gynyddol yn digwydd, ac os nad yw'r Llywodraeth yn ymateb, byddwn ni'n cael cynhaeaf llwm dros ben, a bydd hynny yn cael ei adlewyrchu ar silffoedd y wlad hon. Mae angen i ni weld y Llywodraeth yn gweithredu pan ddaw'n fater o'r eitem agenda benodol hon. Nid ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd; rydym ni'n gweld oedi cyn cyflwyno'r Bil hwn. Fel y dywedais, rwy'n croesawu'r gohiriad os mai ei ddiben yw gwneud y Bil yn fwy ymwybodol o ran diogelu'r cyflenwad bwyd, ond o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud yn ei datganiadau blaenorol, nid yw hynny'n ymddangos yn wir. Felly, a allwch chi gadarnhau heddiw y bydd cynhyrchu bwyd yn elfen bwysig o'r Bil ac y bydd cynhyrchu bwyd yn ddaioni i'r cyhoedd y gellir ei gefnogi o'r pwrs cyhoeddus?

Llywydd, mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy wedi bod yn un o bileri sylfaenol y dyfodol yr ydym ni'n ei weld ar gyfer amaethyddiaeth yma yng Nghymru erioed, a cheir llawer iawn o fanteision i ffermwyr Cymru yn y maes cynhyrchu bwyd cynaliadwy hwnnw. Ceir llawer o drafferthion y mae'r sector amaethyddiaeth yn eu hwynebu yng Nghymru. Rydym ni wedi rhoi sylw i effaith y rhyfel yn Wcráin, ond mae hefyd yn wynebu'r trafferthion a grëwyd gan gytundebau masnach a wnaed gan Lywodraeth y DU yn Awstralia, er enghraifft, na fydd, fel y gwyddom, yn sicrhau chwarae teg i ffermwyr yr ucheldir yma yng Nghymru.

Does dim argyfwng bwyd yn ein siopau. Ceir rhai materion arwyddocaol iawn y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw—o ran gwrtaith, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am hynny—a dim ond ar sail pedair gwlad y gellir mynd i'r afael â'r pethau hynny yn briodol. Dyna pam mae fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths yn cael cyfarfodydd mor rheolaidd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, George Eustice a chymheiriaid yn yr Alban a phan fydd gweinyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon hefyd. Rwy'n credu bod cyfarfod o'r math hwnnw wedi'i drefnu ar gyfer yfory a bydd llawer o'r materion y mae arweinydd yr wrthblaid wedi tynnu sylw atyn nhw yn cael eu trafod yno ar y sail pedair gwlad honno.

13:55

Diolch yn fawr. Bu gan Gymru gyfraddau goroesi canser gwael yn gyson o'i chymharu â gwledydd datblygedig eraill tebyg. Pam mae hynny?

Wel, mae cyfraddau goroesi am flwyddyn a chyfraddau goroesi am bum mlynedd o ganser yng Nghymru wedi gwella yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Efallai nad ydyn nhw yn yr un sefyllfa ag y gall gwledydd eraill gyflawni pethau drwy eu system iechyd o hyd, ond mae'r system yng Nghymru wedi bod yn ennill tir o ran cyfraddau goroesi dros nifer o flynyddoedd. Mae llawer o resymau pam nad yw cyfraddau goroesi lle y byddem ni'n dymuno iddyn nhw fod yng Nghymru. Mae hynny yn cynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol a'i heffaith ar iechyd pobl, mae'n cynnwys, yn benodol, mynd at y meddyg yn hwyr. Mae'n anodd iawn cael y cyfraddau goroesi yr hoffem ni eu gweld pan ddaw cynifer o ganserau yng Nghymru i'r amlwg dim ond pan fyddan nhw eisoes wedi datblygu i bwynt lle mae'r technegau ymyrryd a fyddai ar gael yn gynnar eisoes wedi mynd heibio. Mae yna resymau eraill hefyd y gellid eu dyfynnu gan bobl sy'n gwneud hyn eu hastudiaeth gydol oes.

Dyna'r rheswm, wrth gwrs, pam rydym ni yng Nghymru, yn fwy nag unrhyw wlad arall hyd yn oed, angen pwyslais yn ein strategaeth canser ar ddiagnosis cynnar. Y mis hwn, canfu astudiaeth arloesol yn The Lancet y sicrhawyd diagnosis o dros 30 y cant o ganserau yng Nghymru o ganlyniad i fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Cymru oedd â'r trydydd ffigur uchaf ymhlith y 14 gwlad a rhanbarth a astudiwyd. Ar gyfer canser yr afu, rydym ni'n un o ddwy system iechyd yn unig lle caiff y rhan fwyaf o ganserau'r afu eu canfod trwy dderbyniadau brys, ond yn Alberta yng Nghanada, er enghraifft, mae'r ffigur cyfatebol yn llai na thraean. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar ôl i iechyd unigolyn waethygu i bwynt lle y gallai fod angen ei ruthro i'r ysbyty y caiff llawer mwy o achosion o ganser yng Nghymru eu canfod. A ydych chi'n derbyn mai lefelau uwch o gyflwyniadau brys yw un o'r rhesymau am y gyfradd goroesi canser cymharol is yng Nghymru?

Wel, rwy'n credu bod hynny'n sicr yn wir, Llywydd. Dyna'r pwynt yr oeddwn i'n ceisio ei wneud pan ddywedais i mai un o'r rhesymau pam mae gennym ni gyfraddau goroesi o'r math sydd gennym ni yw oherwydd bod pobl yn cyflwyno gyda'u canser yn hwyr. Ac mae pobl sy'n cael diagnosis o'u canser yn y pen draw gan eu bod nhw'n dod i adran achosion brys—ac fel y dengys erthygl The Lancet, dydyn nhw ddim yn cyflwyno yn yr adran achosion brys oherwydd eu cyflwr canser—maen nhw wedi cyrraedd yno am ryw reswm arall ac yna mae'r ymchwiliadau a gynhelir yn datgelu'r ffaith eu bod nhw'n dioddef o ganser.

Mae gennym ni rai rhannau stoicaidd iawn o boblogaeth Cymru nad ydyn nhw eisiau trafferthu'r meddyg ac sy'n byw gyda phethau sydd, yn eu barn nhw, ddim ond yn gyflyrau cronig sy'n rhan, er enghraifft, o'r broses o heneiddio. Byrdwn y system yng Nghymru yw ceisio perswadio pobl i gyflwyno'n gynnar ac yna gwneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi ein poblogaeth meddygon teulu i allu adnabod yr arwyddion cynnar iawn hynny—nid yw'n hawdd ei wneud. Rydym ni'n gwybod, o ran llawer o ganserau, bod yr arwyddion a fyddai'n eich arwain i adnabod canser yn arwyddion a fyddai hefyd yn gwneud i chi feddwl mai cyflwr arall mwy cyffredin yw'r hyn yr ydych chi'n ei weld o'ch blaen. Felly, nid yw'n beth hawdd i'n meddygon teulu allu ei wneud, ond dyna pam rydym ni'n buddsoddi cymaint i wneud yn siŵr eu bod nhw wedi eu harfogi cystal ag y gallan nhw fod a bod y system yn eu gwobrwyo am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i geisio cael diagnosis mor gynnar â phosibl pan fydd rhywun yn dioddef o'r cyflwr hwnnw.

Byddai'r holl elusennau canser yng Nghymru yn cytuno â chi ein bod ni angen pwyslais brys newydd ar ddiagnosis a chanfod cynnar, ond maen nhw'n dweud bod angen gwneud hynny yn ganolog i strategaeth ganser gynhwysfawr newydd i Gymru, yn unol ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd. Nawr, fe'ch clywais chi'n dweud o'r blaen bod y gwahanol ddogfennau presennol sy'n bodoli, ac fe allech chi ddadlau y gallwch chi ychwanegu at hynny y rhaglen ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, yr ydych chi'n ei chyhoeddi heddiw, sy'n codi'r targed 62 diwrnod o 75 y cant i 80 y cant—mae hyn i gyd, byddech chi'n dweud, efallai'n gyfystyr â strategaeth. Ond siawns nad oedd y ffaith nad oedd y targed hwnnw, hyd yn oed cyn y pandemig, yn cael ei fodloni gan y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, y ffaith bod y bwlch marwolaethau canser yng Nghymru rhwng ardaloedd difreintiedig a chyfoethog yn waeth nawr nag yr oedden nhw 20 mlynedd yn ôl, y ffaith bod pobl â chanser yng Nghymru yn cael eu gorfodi i fynd yn breifat, fel y tystiodd adroddiad diweddar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros, gyda'i gilydd yn awgrymu, onid yw, hyd yn oed os byddwch chi'n cynnal, yn erbyn popeth y mae pob elusen ganser yng Nghymru yn ei ddweud, bod gennym ni strategaeth canser, bod y strategaeth yn methu a bod angen ei disodli ar frys os ydym ni'n mynd i osgoi, yn y dyfodol, miloedd o farwolaethau y gellir eu hatal a marwolaethau cynamserol ymhlith cleifion canser yng Nghymru.

14:00

Wel, Llywydd, nid cymryd mwy o amser yn strategeiddio ymhellach yw'r ffordd yr ydym ni'n gwneud y marwolaethau hynny yn rhai y gellir eu hatal yn fy marn i. Mae hynny i gyd ar waith gennym ni. Y lle yr wyf i eisiau i egni'r system ganolbwyntio yw ar ddarparu'r triniaethau y mae'r strategaeth bresennol eisoes yn dweud wrthym ni fod angen iddyn nhw fod yno. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n synhwyrol awgrymu bod pobl yng Nghymru mewn niferoedd mawr yn gorfod cael triniaeth breifat: cafodd 11,300 o bobl yng Nghymru fis diwethaf yn unig y newyddion da nad oedden nhw'n dioddef o ganser, ar ôl cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu oherwydd bod amheuaeth o ganser. Rydym ni'n gwybod bod tua un o bob 100 o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio mewn gwirionedd yn dioddef o ganser, ac, felly, y mis diwethaf, fel y dywedais i, cafodd 11,300 o bobl y newyddion da nad oedden nhw'n dioddef o ganser o gwbl ar ôl cael eu hatgyfeirio, a'u hatgyfeirio yn gynnar gobeithio. Nawr, yr hyn yr wyf i eisiau i'r system ei wneud yw canolbwyntio ar y pethau y mae eisoes wedi ymrwymo i'w gwneud: nodi cynnar, atgyfeirio cyflym, diagnosis cyflym ac yna, i'r nifer fach honno o bobl y canfyddir eu bod nhw'n dioddef o'r cyflwr, eu bod nhw'n symud i'r cyfnod triniaeth cyn gynted â phosibl yn y cyflwr. Dyna'r ffordd, yn fy marn i, y byddwn ni'n gallu osgoi marwolaethau a fyddai fel arall yn digwydd, ac rwy'n credu mai dyna lle dylid cyfeirio egni'r system, nid at gael pobl ymhellach i ffwrdd o wneud y gwaith o drin cleifion ac ysgrifennu mwy o gynlluniau a strategaethau.

Biliau Cynyddol yr Aelwyd

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd yn Nwyrain Casnewydd gyda biliau cynyddol yr aelwyd? OQ57943

Llywydd, bydd teuluoedd Dwyrain Casnewydd yn cael eu cynorthwyo gan becyn £380 miliwn Llywodraeth Cymru y bwriedir iddo helpu teuluoedd ledled Cymru gyda biliau aelwyd cynyddol. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu o fewn ein pwerau i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed, ac rydym ni angen Llywodraeth y DU sy'n barod i wneud yr un fath.

Prif Weinidog, y bore yma, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dlodi, cadeiriais gyfarfod ar y cyd â'n cymheiriaid yn Seneddau'r DU a'r Alban, a chlywsom gan sefydliadau ac elusennau ledled y DU am raddfa'r argyfwng costau byw presennol a thlodi cynyddol. Yn amlwg, mae'r sefydliadau hyn yn bryderus dros ben, fel yr ydym ni i gyd, rwy'n credu. Prif Weinidog, gwaethygodd COVID yr anghydraddoldeb presennol yng Nghymru a'r DU, a bellach mae gennym ni'r costau ynni aelwydydd a'r biliau bwyd cynyddol hyn, ynghyd â llawer o bethau eraill. Gwn mai'r ymateb y gwnaethoch chi gyfeirio ato, Prif Weinidog, yw cyrraedd 75 y cant o'n haelwydydd yng Nghymru a'i fod yn cael ei dargedu yn gymesur at y rhai sydd â'r angen mwyaf, fel y dylai fod, gyda bron ddwywaith cymaint yn mynd i aelwydydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm o'u cymharu â'r rhai yn yr hanner uchaf, a thair gwaith cymaint i'r rhai yn y pumed isaf o'u cymharu â'r rhai yn y pumed uchaf. Mae hyn i'w groesawu yn fawr, Prif Weinidog. A allwch chi fy sicrhau i heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol wrth gynorthwyo cymunedau yn Nwyrain Casnewydd a ledled Cymru ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i symud oddi wrth eu dull atchweliadol traddodiadol a mabwysiadu cyfres deg o bolisïau ar gyfer y dyfodol, o ystyried maint yr argyfwng hwn?

Wel, Llywydd, diolch i John Griffiths am hynna. Rwy'n credu mai'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid a ddaeth i'r casgliad nad yw'r pecyn cymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu yn Lloegr yn cynnwys llawer o dargedu adnoddau yn uniongyrchol ar gyfer y tlotaf neu'r rhai mwyaf anghenus. Ac mae John Griffiths yn iawn, Llywydd, bod y pecyn cymorth a ddarperir yma yng Nghymru, sef y pecyn cymorth mwyaf helaeth sydd ar gael yn unrhyw un o bedair gwlad y DU, yn cael ei dargedu fel bod y rhan fwyaf o'r cymorth yn mynd i'r bobl hynny ar waelod y dosbarthiad incwm. Ac, wrth gwrs, dyna'n union y byddwn ni'n parhau i'w wneud.

Rwyf i wedi cael trafodaethau yr wythnos hon gyda fy nghyd-Weinidog Jane Hutt am y taliad tanwydd gaeaf o £200 a sut y gallwn ni ymestyn hwnnw ar gyfer y gaeaf a fydd yn dechrau yn ddiweddarach eleni. Roeddwn i'n falch iawn o weld, Llywydd, bod y £150 sy'n cael ei dalu nid yn unig i'r bobl hynny sy'n talu'r dreth gyngor ond i'r bobl hynny sydd wedi eu heithrio o'r dreth gyngor gan eu bod yn gymwys i gael budd-dal y dreth gyngor—mae hynny'n rhywbeth nad yw'n digwydd dros ein ffin—bod y taliadau hynny eisoes yn cael eu gwneud: mae 138,000 o aelwydydd eisoes wedi cael y £150 hwnnw yng Nghymru; £6 miliwn wedi'i roi yn nwylo trigolion Caerdydd yn unig ers dechrau'r mis hwn. Mae hynny, rwy'n credu, yn arwydd eglur o'r ffordd yr ydym ni eisiau i'r £380 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei sicrhau fynd i bocedi'r rhai sydd ei angen fwyaf a gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Rydym ni'n dibynnu ar ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol i'n helpu i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, a hoffwn longyfarch cyngor bwrdeistref sirol Casnewydd, Llywydd, ar y £100,000 y mae wedi ei ganfod o'i gyllideb ei hun i gefnogi banciau bwyd yn y ddinas—eto, gwasanaeth yr hoffem ni nad oedd ei angen ond a fydd yn dod yn rhan fwy angenrheidiol fyth o'r dirwedd wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu.

14:05

Yn gyflym iawn, Prif Weinidog, Cyngor Dinas Casnewydd yw ef, nid cyngor bwrdeistref. Prif Weinidog, ar hyn o bryd mae ein hetholwyr ni i gyd yn wynebu argyfwng costau byw byd-eang, lle disgwylir i filiau gynyddu dim ond yn ystod y misoedd nesaf. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod mwy o gymorth nag erioed yn cyrraedd pocedi ein pobl sy'n gweithio'n galed yng Nghymru. Roeddech chi'n ddigon digywilydd yn dilyn cwestiwn blaenorol i sefyll yma a dweud eich bod chi'n anhapus gyda Llywodraeth y DU a sut y mae wedi bod yn gwario ei harian yn helpu pobl Cymru ar lefel leol. Gyda pharch, mae honno'n un dda, Prif Weinidog. Meddyliwch am yr holl filiynau y gwnaethoch chi eu gwastraffu ar ffordd liniaru'r M4, y ffordd liniaru y mae mawr ei hangen y cefnwyd arni, a thra'r oeddech chi'n aros, yn penderfynu a oeddech chi ei heisiau ai peidio, y miliynau a wastraffwyd gennych chi a allai fod wedi mynd yn ôl i bocedi pobl Cymru sy'n gweithio'n galed—. Yn hytrach na helpu pobl Cymru, y cwbl y gallwch chi ganolbwyntio arno ar hyn o bryd yw gwario miliynau yn fwy o bunnoedd ar fwy o wleidyddion yma yn y bae a threth twristiaeth. Ai dyma mewn gwirionedd yw'r cyfan sydd gan eich Llywodraeth i'w gynnig i bobl Cymru ar adeg pan fo pawb yn ei chael hi'n anodd? I mi, mae'n ymddangos bod eich blaenoriaethau i gyd yn anghywir.

Wel, mae hyn braidd yn anobeithiol, Llywydd, onid yw? Edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn ôl ar ei thraed ymhen pythefnos, pan all wneud sylwadau ar ddigywilydd-dra pobl yng Nghymru a fydd yn mynd i'r papur pleidleisio i wneud eu dyfarniad ar ei Llywodraeth hi. Gadewch i ni weld beth sydd ganddi i'w ddweud amdano bryd hynny.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OQ57938

Llywydd, cyhoeddwyd y gronfa ffyniant gyffredin yn 2017, ond dim ond ddechrau'r mis hwn y dechreuodd trafodaethau ystyrlon gyda Llywodraeth y DU. Safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw na allwn ni gymeradwyo dull sy'n cymryd cyllid a phenderfyniadau oddi wrth Cymru.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn amlwg, rydych chi eisoes wedi dweud y gallai Cymru fod ar ei cholled o dros £1 biliwn o ganlyniad i weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae hynny'n £1 biliwn y gellid bod wedi ei ddefnyddio i dyfu economi Cymru ac i gynorthwyo rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i. Nid yw'n teimlo fel codi'r gwastad. A yw hyn, felly, yn enghraifft arall o beidio â disodli cyllid yr UE yn llawn, ac yn enghraifft arall eto o Lywodraeth y DU yn torri ei haddewid na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd ar ôl Brexit?

Llywydd, addewais yn gynharach y byddwn yn cynorthwyo Paul Davies ymhellach gyda ffigurau sy'n dangos i ba raddau y mae Cymru ar ei cholled o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed gan ei Lywodraeth. Rhoddaf ragolwg iddo nawr. Y llynedd, £328 miliwn oedd y diffyg rhwng yr hyn y byddem ni wedi ei gael pe baem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd a'r hyn a gawsom gan Lywodraeth y DU. £286 miliwn yw'r ffigur yn y flwyddyn ariannol gyfredol, bydd yn £222 miliwn yn y flwyddyn ariannol ganlynol, a bydd yn £32 miliwn yn 2024-25 pan fo Llywodraeth y DU yn honni y bydd wedi cael y gronfa ffyniant gyffredin i'w huchafswm. Nid yw hynny yn cynnwys, wrth gwrs, brigdorri'r arian hwnnw, y £101 miliwn a fydd yn cael ei gymryd ar gyfer cynllun Multiply Llywodraeth y DU, ac nid yw'n cynnwys y £243 miliwn y byddwn ni'n ei golli o ran cyllid gwledig. Ac nid yw'n cynnwys chwaith, Llywydd, yr holl gynlluniau eraill yr oedd dinasyddion Cymru yn gallu cymryd rhan ynddyn nhw yn y gorffennol ac y byddan nhw'n eu colli yn y dyfodol. Felly, nid yw'n cynnwys yr hyn y byddwn ni'n ei golli gan na ddisodlwyd rhaglen Erasmus+ gan Lywodraeth y DU i'r graddau yr oedd Erasmus+ yn gweithredu yng Nghymru; nid yw'n cynnwys yr arian a fydd yn cael ei golli i sefydliadau addysg uwch Cymru, gan na sicrhawyd cyfranogiad yn rhaglen Horizon; ac nid yw'n cynnwys y ffaith y byddwn ni'n colli'r €100 miliwn a oedd ar gael i Gymru pan oedd gennym ni raglen gydweithredu ryngdiriogaethol gyda Gweriniaeth Iwerddon, rhaglen a oedd yn arbennig o ddefnyddiol yn etholaeth Paul Davies ei hun. Ni fydd honno gennym ni chwaith, rhan arall eto yr addawyd i ni y byddai'n cael ei disodli. Ni fyddem ni, cofiwch, geiniog yn waeth ein byd. Wel, dyna €100 miliwn ar y rhaglen honno yn unig na fydd ar gael i bobl yng Nghymru, sy'n dangos yn union y gwir am yr hyn a ddywedodd Ken Skates yn ei gwestiwn atodol.

14:10

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae llywodraeth leol wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol yng Nghymru fel ysgogwr economaidd allweddol, sy'n gallu nodi anghenion a meithrin perthynas â phartneriaid. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ar wario eu dyraniadau o dan y gronfa ffyniant gyffredin? Ac a yw'n rhannu fy nghyffro ein bod ni'n cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran arwain adnewyddu'r economi yn seiliedig ar anghenion lleol? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd awdurdodau lleol. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu sicrhau, yn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, yn hwyr fel yr oedden nhw, gydnabyddiaeth mai'r ffordd orau o wario'r swm llai hwn o arian yng Nghymru lle mae awdurdodau lleol yn cydweithredu ar sail ranbarthol ac ar yr ôl troed yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw yn flaenorol gyda Llywodraeth y DU. Felly, rwy'n credu bod hynny yn gam ymlaen hefyd.

Rwy'n falch o ddweud, drwy ein trafodaethau, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a thrwy'r gwaith y mae fy nghyd-Weinidog Huw Irranca-Davies yn ei wneud wrth arwain pwyllgorau yn y maes hwn, ein bod ni'n sicrhau cytundebau gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol na fydd y dull gweithredu yng Nghymru yn arwain at gael gwared ar y lleisiau a oedd wedi bod o gwmpas y bwrdd yn y pwyllgor monitro rhaglenni o'r blaen o'r broses o wneud penderfyniadau. Felly, busnesau, sefydliadau'r trydydd sector a phrifysgolion. Yn y gorffennol, byddai'r arian y dywedir ei fod yn cael ei ddisodli gan y gronfa ffyniant gyffredin wedi bod ar gael i'r sectorau hynny hefyd: mae cynllun Busnes Cymru yn cael ei ariannu yn y modd hwnnw ac mae'n bwysig iawn i fusnesau yng Nghymru; sicrhawyd £103 miliwn yn flaenorol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru, a defnyddiwyd dros £400 miliwn gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o'r union gronfeydd hynny.

Nawr, mae pwysigrwydd llywodraeth leol yn bwynt da, ond mae'r sectorau eraill hynny hefyd yn bwysig iawn o ran gwneud yn siŵr bod yr arian a ddaw i Gymru yn cael ei wario yn y ffordd orau bosibl, ac rwy'n falch, o ganlyniad i'r trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, bod sicrwydd y bydd y lleisiau hynny yn parhau i fod yn ddylanwadol yn y ffordd y mae ceisiadau ac yna cynigion ariannu ar gyfer gronfa ffyniant gyffredin yng Nghymru yn cael eu datblygu.

14:15
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57944

Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn. Llywydd, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bodloni'r addewid i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw ychwaith wedi bodloni'r addewid na fyddai Cymru yn colli unrhyw bwerau. Bydd llai o lais gan gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru a bydd llai o arian ar gael. Ni fydd yr ardaloedd hynny sydd mewn y mwyaf o angen yn cael digon o gymorth, felly.

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae'n amlwg rŷch chi wedi cael digon o gyfle i rihyrsio'r ateb i'r cwestiwn yma yn barod, ond mae angen pwysleisio, wrth gwrs, fod yr arian Ewropeaidd wedi cael ei roi i'r ardaloedd mwyaf anghenus yng Nghymru, ac mae Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi elwa yn sylweddol iawn ar hyd y blynyddoedd o'r arian o wahanol gronfeydd Ewropeaidd—er enghraifft, £2.8 miliwn i ddatblygu canol tref Llanelli a miliynau ar gyfer datblygu porthladdoedd yn Aberdaugleddau a Doc Penfro. Felly, er gwaethaf yr addewidion, fel rŷn ni wedi clywed, na fyddai ceiniog yn llai yn cael ei rhoi i ni yma yng Nghymru, mae'ch dadansoddiad chi yn awgrymu yn glir fod rhyw £1 biliwn yn mynd i gael eu colli i'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Felly, gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud yn Llundain, mae yna ddau gwestiwn, mewn gwirionedd, yn un. Pa sgyrsiau ŷch chi wedi eu cael gyda San Steffan er mwyn sicrhau bod mwy o lais gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn y penderfyniadau? A pha asesiad ŷch chi wedi'i wneud o ran llenwi'r bylchau ariannol yna lle mae cymunedau difreintiedig a sefydliadau, yn aml trydydd sector, wedi colli arian oherwydd y diffygion yn y gwariant yma gan y Torïaid?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiynau ychwanegol yna. Gaf i ddweud wrtho fe, pan oeddwn i wedi bod yn sgwrsio gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, dwi ddim yn fodlon jest i gael llais mewn penderfyniadau y maen nhw'n mynd i'w gwneud. Dydy hwnna ddim yn adlewyrchu datganoli yma yng Nghymru, pwerau'r Senedd, na'r ffaith mai'r Llywodraeth yma yng Nghymru sy'n gyfrifol am y pynciau rŷn ni'n siarad amdanyn nhw. Beth dwi eisiau ei weld yw cydweithio gyda'n gilydd i wneud y penderfyniadau; nid jest llais, ond pwerau yma i ni eu defnyddio.

Nawr, dwi'n fodlon i bara ymlaen i gael mwy o sgyrsiau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond ar ddiwedd y dydd, cyn roedden nhw wedi cyhoeddi popeth am y gronfa, doedden ni ddim wedi cytuno ar sut y gallai hi gael ei rhoi yn ei lle. Dydy e jest ddim yn ddigonol i'r Senedd hon i fod jest yn rhan o bethau, yn un o'r cyrff mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig jest yn clywed beth sydd gennym i'w ddweud. Dydy hwnna jest ddim yn adlewyrchu beth sydd wedi digwydd dros y cyfnod o ddatganoli i gyd.

Ar y pwynt arall, am lenwi'r bylchau, mae'n bwysig i fi ddweud yn glir, Llywydd, does dim arian gyda ni fel Llywodraeth i lenwi pob bwlch mae penderfyniadau San Steffan yn mynd i'w creu. Rŷn ni'n gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio'r rhaglenni sydd gyda ni yn barod, i gydweithio â'r awdurdodau lleol ac yn y blaen, ond pan fydd Cymru yn colli mas o fwy na £1 biliwn, mae'n amhosibl meddwl y bydd y Llywodraeth yma yng Nghymru jest yn gallu ffeindio arian ar y lefel yna.

Gofal mewn Cartrefi Preswyl Arbenigol

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc mewn cartrefi preswyl arbenigol? OQ57940

Llywydd, y ffordd orau o ddarparu gofal o'r fath yw fel gwasanaeth cyhoeddus ac mor agos i gartrefi pobl â phosibl. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi darparu £3.5 miliwn o gyllid refeniw i fyrddau partneriaethau rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau preswyl arbenigol i blant ag anghenion cymhleth, ac rydym ni wedi ategu'r cyllid refeniw hwnnw gyda dros £14 miliwn mewn cyllid cyfalaf hefyd.

14:20

Diolch, Prif Weinidog. Mae plant a phobl ifanc sydd mewn gofal preswyl angen cymaint o gariad, tosturi a chefnogaeth â phosibl, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hynny. Yng Nghasnewydd, rydym ni'n dechrau gweld manteision prosiect Perthyn, rhaglen hirdymor uchelgeisiol sy'n bwriadu dod â phlant yn ôl i'r ddinas, o le maen nhw'n dod, fel y gallan nhw dderbyn safonau gofal gwell yn nes at amgylchedd cyfarwydd. O fewn y ddinas, sefydlwyd tri chartref pwrpasol gan Gyngor Dinas Casnewydd. Yn y cartrefi hyn, nid oes unrhyw swyddfeydd na drysau wedi'u cloi, a'r nod yn y pen draw yw creu awyrgylch cyfeillgar, cartrefol a chyfforddus i'r plant. Mae rhai o'r bobl ifanc sydd wedi dychwelyd i Gasnewydd wedi gallu symud yn ôl i fyw gyda'u teuluoedd ar ôl cael y cymorth pontio priodol yn y cartrefi. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cyngor Dinas Casnewydd, dan arweiniad Jane Mudd, ar hyn, ac yn arbennig Paul Cockeram, sef yr aelod cabinet a oedd yn gyfrifol ac y mae ei genhadaeth a'i benderfyniad personol i leihau nifer y lleoliadau y tu allan i'r sir drwy ddod â'r bobl ifanc hyn yn ôl i gartrefi tosturiol o ansawdd da wedi bod yn eithriadol?

Wel, diolch yn fawr iawn i Jayne Bryant am y cwestiwn yna, ac rwy'n croesawu'n fawr y fenter Prosiect Perthyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd. Mae'n flaenoriaeth polisi cyhoeddus gwbl bendant i'r Llywodraeth hon weld mwy o blant yn derbyn gofal yn nes at eu cartrefi a'r cymunedau lle cawson nhw eu magu. Mae gormod o blant yng Nghymru yn derbyn gofal y tu allan i Gymru; mae gormod o blant yng Nghymru yn derbyn gofal y tu allan i'r sir sydd â chyfrifoldeb rhiant drostyn nhw. Ac mae cyngor Casnewydd, gan weithio gydag awdurdodau lleol eraill yng Ngwent, wedi bod yn enghraifft flaenllaw, rwy'n credu, o'r ffordd, cyn belled â'n bod ni'n buddsoddi yn y math iawn o gyfleusterau, gyda staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol, ei bod hi'n gwbl bosibl i'r plant hynny dderbyn gofal yn llwyddiannus yn nes at eu teuluoedd ac yn nes at eu cartrefi, gyda gwell rhagolygon hirdymor i'r plant hynny eu hunain a gwell elw o'r buddsoddiad y mae'r trethdalwr yn ei wneud mewn gofalu amdanyn nhw.

Rwy'n sicr yn talu teyrnged i'r Cynghorydd Paul Cockeram, Llywydd. Mae'n rhywun yr wyf i wedi ei adnabod ers dros ddegawd ac y mae ei waith nid yn unig ym maes gwasanaethau plant, ond yn defnyddio rhai o'r un syniadau yn y gwasanaethau i oedolion, yn golygu fy mod i'n gwybod, yng Nghasnewydd, bod yr awdurdod lleol wedi gallu dod â rhai hen gartrefi preswyl sy'n cael eu rhedeg yn breifat yn ôl i wasanaeth uniongyrchol yr awdurdod lleol, sy'n ffordd fwy effeithiol yn ariannol o ddefnyddio adnoddau'r awdurdod lleol a gwneud yn siŵr bod y gofal sy'n cael ei ddarparu yn cael ei ddarparu fel gwasanaeth cyhoeddus.

Gwasanaethau Deintyddol y GIG

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG? OQ57911

Llywydd, mae buddsoddiad ychwanegol, diwygio contractau a chanllawiau newydd yn gysylltiedig â COVID ymhlith y mesurau sy'n cael eu cymryd y mis yma i gynyddu mynediad diogel at wasanaethau deintyddol y GIG.

Diolch, Prif Weinidog. Cysylltwyd â mi—rwy'n siŵr y cysylltwyd â llawer ohonom ni yma—gan nifer o etholwyr sy'n ei chael yn anodd cael gafael ar wasanaethau deintyddol y GIG. Yn sicr, yn fy etholaeth i, un enghraifft oedd lle cysylltodd rhiant â mi yn ddiweddar y cafodd ei blant eu gweld gan ddeintydd ddiwethaf adeg Pasg 2019. Roedden nhw wedi llwyddo i gael eu gweld gan hylenydd yn unig ers hynny, gan fod yr etholwr yn mynnu bod eu plant yn cael eu gweld mewn rhyw ffordd gan y practis. Dywedwyd wrth etholwr arall nad oedd ei bractis yn derbyn cleifion GIG sy'n oedolion mwyach, a gwn am ddeintydd lleol yn agos ataf i lle nad ydyn nhw'n fodlon derbyn pobl newydd. Fodd bynnag, os gwnewch chi gyfrannu at Denplan, mae llawer iawn o gapasiti yn sydyn ac yn wyrthiol.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gwasanaethau deintyddol yn dal i fod mewn cyfnod adfer oren ac felly mae cleifion yn dal i gael eu gweld yn ôl angen clinigol, ond rwy'n teimlo mai'r hwyaf y mae pobl yn mynd heb gael archwiliad rheolaidd, y mwyaf y bydd iechyd deintyddol pobl yn dirywio, sy'n golygu y bydd mwy o alw am driniaeth gymhleth sy'n llesteirio adferiad gwasanaethau. Prif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod archwiliadau rheolaidd wedi'u trefnu yn ailddechrau, a sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda darparwyr i ehangu capasiti gwasanaethau, y mae'n amlwg sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r rhestr aros sy'n ymestyn yn barhaus am apwyntiadau a thriniaeth? Diolch.

14:25

Llywydd, rwy'n diolch i Peter Fox am y cwestiynau atodol yna. Nid oes amheuaeth bod cyflyrau COVID wedi effeithio yn fwy sylweddol fyth ar ddeintyddiaeth na rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, oherwydd natur triniaethau sy'n cynhyrchu aerosolau, fel y bydd yn gwybod, sy'n rhan annatod o'r ffordd y mae'n rhaid i ddeintyddion ymgymryd â'u proffesiwn. Nawr, llwyddais i siarad ddoe â'r Prif Swyddog Deintyddol Cymru newydd, Andrew Dickenson, a thrafod gydag ef rai o'r union bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi: sut gallwn ni greu llwybr lle gallwn ni weld gwasanaethau deintyddol y GIG yn ailddechrau ar lefel a oedd ar gael cyn pandemig COVID, a sut gallwn ni adeiladu ar hynny ymhellach?

Felly, yn ogystal â'r arian ychwanegol y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei ddarparu ar gyfer deintyddiaeth yn y flwyddyn ariannol hon, ac yn ogystal â'r diwygio contractau a drafodwyd gennym ni ar lawr y Senedd rai wythnosau yn ôl, ac rwy'n falch o ddweud bod arwyddion addawol o ran nifer y practisau deintyddol sy'n cofrestru ar gyfer y contract newydd, siaradais hefyd â'r prif swyddog deintyddol newydd am newid i'r ffordd y mae'n credu y dylem ni fod yn ffrydio cleifion i ddeintyddiaeth. Felly, y cynnig yw y byddai pob claf sy'n mynd at ddeintydd yn darparu hanes anadlol cyn ei apwyntiad. I bobl sydd â hanes o salwch anadlol, bydd rhai o'r amddiffyniadau COVID sy'n weithredol ar hyn o bryd yn parhau i fod yn angenrheidiol, ond i bobl sydd â hanesion nad ydynt yn rhai anadlol, gellir diddymu rhai o'r cyfyngiadau ar y ffordd y mae deintyddion yn gweithredu oherwydd COVID, a'u diddymu yn ddiogel. A bydd hynny yn golygu y bydd deintyddion yn gallu gweld mwy o gleifion mewn sesiwn nag y maen nhw wedi gallu ei wneud tra eu bod nhw wedi bod yn gweithredu o dan yr amodau oren y cyfeiriodd Peter Fox atyn nhw.

Felly, roeddwn i eisiau rhoi sicrwydd iddo o leiaf bod cynlluniau gweithredol iawn yn cael eu datblygu o dan arweinyddiaeth y prif swyddog deintyddol newydd i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn ni adfer deintyddiaeth y GIG yn ddiogel i amodau gweithredu, lle mae'n ddiogel gwneud hynny, i gleifion lle mae'n ddiogel gwneud hynny, yn nes at y rhai a gafwyd cyn i'r pandemig ddechrau.

Yr Ymwchiliad i COVID-19 yng Nghymru

8. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o allu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i arwain ar yr ymwchiliad i COVID-19 yng Nghymru? OQ57921

Llywydd, ni fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain yr ymchwiliad. Cyfrifoldeb y cadeirydd annibynnol, y Farwnes Heather Hallett, fydd gwneud hynny. Roedd y Farwnes Hallett yn arfer bod yn uwch-farnwr uchel ei pharch. Mae ganddi hi brofiad helaeth o gynnal ymchwiliadau sensitif, cymhleth ac uchel eu proffeil, gan gynnwys mewn cyd-destun datganoledig.

Mi oeddech chi'n glir pan ddaeth y newydd bod Boris Johnson wedi derbyn dirwy am dorri'r rheolau y dylai ymddiswyddo fel Prif Weinidog, a minnau yn cytuno 100 y cant â chi. Ac yntau wedi gwrthod gwneud hynny a chymaint o bobl eraill hefyd wedi eu dirwyo yn Stryd Downing am dorri'r rheolau, onid ydy hi'n amser i ailfeddwl, gan mai nhw sydd wedi comisiynu’r ymchwiliad annibynnol yma sydd yn berthnasol i Gymru? Mae'n glir o'r holl ddatganiadau gan bawb a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig pa mor flin ydyn nhw fod y rhai a wnaeth y rheolau wedi bod yn torri'r rheolau, a'u bod nhw wedi colli pob ffydd yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r ymchwiliad hwn. Pam eich bod chi'n parhau i ymddiried yn Boris Johnson o ran yr ymchwiliad i COVID-19? Dydw i ddim yn ymddiried ynddo fo.

Mae arnaf ofn bod yr Aelod yn methu'r pwynt. Mae llawer o feirniadaethau dilys sydd i'w gwneud o Lywodraeth y DU, ond nid yw'r honiad y dylai Llywodraeth y DU fod yn gyfrifol am yr ymchwiliad cyhoeddus yn un ohonyn nhw. Fel yr eglurais yn fy ateb cychwynnol, mae'r cyfrifoldeb am yr ymchwiliad wedi symud i ddwylo'r barnwr annibynnol a benodwyd i'w arwain. Ac o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, mae hynny'n golygu nad yw'r holl benderfyniadau allweddol am yr ymchwiliad bellach yn nwylo Downing Street o gwbl, ond yn nwylo'r ymchwiliad ei hun, a fydd yn gwbl annibynnol, ar Lywodraeth y DU ac ar Lywodraeth Cymru, ac ar Lywodraethau eraill y DU y bydd yn craffu ar eu gwaith. 

Rwy'n falch o weld bod arwyddion cryf eisoes y bydd yr ymchwiliad dan arweiniad y Barnwr Heather Hallett wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn ffordd sy'n hygyrch i bobl yng Nghymru, ac yn rhoi'r atebion y maen nhw eu heisiau iddyn nhw. Y lle cyntaf yr ymwelodd yr ymchwiliad ag ef, yn rhan o'i ymgysylltiad â'r cyhoedd ar ei gylch gorchwyl, oedd ymweliad â Chymru ac i gynnal sesiynau yma yng Nghymru, y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig lle y cynhaliodd sgyrsiau o'r fath. Rwy'n falch o ddweud, os ewch i wefan yr ymchwiliad, y byddwch yn canfod ei fod eisoes ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. 

Mae hyn i gyd yn dweud wrthyf i fod annibyniaeth yr ymchwiliad yn cael ei harfer mewn ffordd sy'n benderfynol o roi hyder i bobl yng Nghymru y bydd eu llais yn cael ei glywed, y bydd eu pryderon yn cael sylw, y bydd yn gwneud ei waith mewn ffordd sy'n rhoi'r atebion gorau posibl i'r cwestiynau sydd yno yn deg iddo ymchwilio iddyn nhw, ac y bydd yn gwneud hynny yn gyfan gwbl bellach ar sail ei awdurdod ei hun, a heb ymyrraeth gan unrhyw Lywodraeth, o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, ac felly dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:31:52
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi gwneud y newidiadau canlynol i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, rwyf i wedi tynnu'r datganiad yn ôl ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar COVID-19, ac yn ail, yn amodol ar atal y Rheolau Sefydlog, byddwn ni'n trafod Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ddiweddariad y mae mawr ei angen ar y corff gwarchod llais dinasyddion, a gweithredu swyddogaeth newydd y sefydliad hwnnw. Dros y blynyddoedd, mae gwaith cyngor iechyd cymuned y gogledd wedi gwneud argraff fawr ar lawer o bobl yn y gogledd, fel y gŵyr Aelodau yn y Siambr hon, ac un peth yr wyf i'n angerddol yn ei gylch yn bersonol, yw fy mod i'n credu y dylai'r corff gwarchod llais y dinesydd newydd gael ei leoli yn y gogledd, nid yng Nghaerdydd, nac unrhyw ran arall o'r wlad. Nid oes gan y gogledd lawer o bencadlysoedd y gwahanol gyrff sydd wedi'u sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu y byddai hyn mewn gwirionedd yn creu cynsail dda i'r rhanbarth. 

Mae'r ail ddatganiad yr wyf i eisiau'i glywed gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â'r wybodaeth ddiweddaraf ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Roedd gan Y Byd ar Bedwar, y rhaglen a gafodd ei darlledu ar S4C neithiwr, rai datgeliadau ysgytwol. Roedd aelodau o staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn uned Hergest, yn dweud bod arnyn nhw ofn dod i'r gwaith, eu bod yn ofni codi eu llais oherwydd sgil-effeithiau posibl ynghylch gwasanaethau, eu bod yn teimlo bod diffyg cefnogaeth gan reolwyr, bod problemau staffio ar y wardiau hynny, a bod yr amgylchedd gwaith yn wenwynig. Yn ogystal â hynny, roedd cleifion yn honni na chawson nhw y driniaeth i gleifion mewnol yr oedd ei hangen arnyn nhw. Ac, wrth gwrs, daw hyn ar ben adroddiad yr wythnos diwethaf a ddaeth i'r amlwg am atal dros dro aelod o staff yn ysbyty eich etholaeth chi eich hun, yn Wrecsam Maelor, yn ôl yr honiadau o ran negeseuon WhatsApp a gafodd eu dosbarthu ynghylch claf â dementia a oedd wedi trochi gwely. 

Mae'n amlwg nad yw hyn yn awgrymu bod y problemau yng ngwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u datrys. Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi a oedd â phryderon a pherthnasau a gafodd eu heffeithio gan sgandal Tawel Fan i ddweud eu bod yn teimlo eu bod wedi'u siomi'n wael gan Lywodraeth Cymru a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr bod y mathau hyn o bethau'n dal i ddigwydd. Pryd fydd y diwylliant yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd yn newid? Mae angen i bobl wybod, ac mae angen iddyn nhw wybod pa gamau y mae Gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd er mwyn newid y sefyllfa hon. 

14:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynglŷn â'r corff gwarchod llais y dinesydd, hyd y gwn i—ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr i glywed eich cwestiwn—nid oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch ble y bydd yn cael ei leoli. Rwy'n cytuno â chi; fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y gogledd, mae'n dda iawn gweld sefydliadau wedi'u lleoli yn y gogledd—Banc Datblygu Cymru, er enghraifft, sydd, unwaith eto, yn fy etholaeth i. Ond mae'n dda iawn gweld pencadlys, ac rwy'n credu bod angen hynny arnom ni ledled Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, pan ddaw at y penderfyniad hwnnw, yn ystyried y pwynt hwnnw hefyd.FootnoteLink

O ran y rhaglen, ni welais i'r rhaglen fy hun neithiwr, ond gwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i Dirprwy Weinidog dros iechyd meddwl ei gweld hi. Rydych chi'n codi dau bwynt o'r rhaglen honno. Yn sicr, mae'r digwyddiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn ysbyty Maelor yr wythnos diwethaf yn destun ymchwiliad gan yr heddlu. Mae'r bwrdd iechyd yn cymryd rhan lawn yn yr ymchwiliad hwnnw, felly nid yw'n briodol gwneud sylw arall ar hyn o bryd. O ran y mater ehangach yr ydych chi'n ei godi ynghylch iechyd meddwl, yn amlwg, mae'r bwrdd iechyd dan amodau ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl. Unwaith eto, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl yn cyfarfod yn rheolaidd â'r bwrdd iechyd, fel y mae eu swyddogion. Mae camau gweithredu clir sydd wedi eu cytuno ar waith, ac, unwaith eto, o fy nhrafodaethau fy hun gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o safbwynt Gweinidog dros y gogledd, gwn ei bod hi'n edrych ar yr amserlen ac a oes angen iddi dod â honno ymlaen, i weld y gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau'u gweld.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar gymorth i ddarparwyr cludiant ysgol. Yn ddiweddar mae Pencoed Travel a Cresta Coaches wedi cysylltu â mi, sydd wedi codi pryderon ynghylch y cynnydd mewn costau tanwydd. Ers i'w contractau gael eu tendro'n wreiddiol, ym mis Mehefin y llynedd, mae costau tanwydd Pencoed Travel, er enghraifft, wedi codi 40 y cant. Mae Cresta Coaches a Pencoed Travel wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gofyn am gymorth i dalu'r costau hyn sy'n cynyddu'n gyflym, ond bu hynny'n ofer. Dywedodd BCBC eu bod yn aros am gyngor gan Lywodraeth Cymru cyn iddyn nhw geisio datrys y mater, gan eu bod yn credu mai mater i Lywodraeth Cymru ac nid iddyn nhw yw hyn. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o awdurdodau lleol eraill sy'n cynnig datrysiad. Byddwn i'n ddiolchgar am rywfaint o eglurder ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddatrys y mater hwn.

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, oherwydd, yn amlwg, rydym ni'n gweld y cynnydd hwn yng nghostau tanwydd, a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Gwn fod y Gweinidog addysg a'r Gweinidog llywodraeth leol yn ymwybodol o hyn. Rwy'n credu y bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cael trafodaethau eraill, ac, os oes angen canllawiau, bydd modd eu rhoi ar yr adeg briodol.

Prynhawn da, Gweinidog. Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd. Daw'r datganiad cyntaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd o ran hyfforddeion meddygon teulu rhyngwladol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi tua 160 o feddygon teulu dan hyfforddiant y flwyddyn, ac rwy'n deall bod GIG Cymru wedi nodi na fydd 80 o hyfforddeion—hanner y garfan honno—yn gymwys i aros yn y DU pan ddaw eu hyfforddiant i ben eleni, oherwydd ni fyddan nhw wedi bod yma'n ddigon hir eto i wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y camau y mae hi'n eu cymryd yn y tymor byr i gadw'r meddygon teulu hyn yng Nghymru, ac, yn fwy hirdymor, ar y cymorth y gallai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ei ddarparu i helpu practisau meddygon teulu unigol i gadw'r meddygon teulu hyn?

Daw'r ail ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am ddiogelwch adeiladau. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod nifer o ddatblygwyr tai ar raddfa fawr wedi gwneud ymrwymiadau ariannol i helpu i unioni methiannau o ran diogelwch adeiladau, y mae llawer ohonyn nhw'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, ond nad ydyn nhw ond yn cyfrannu at waith adfer yn Lloegr. Mae yna hefyd nifer o amddiffyniadau statudol sydd wedi'u rhoi i lesddeiliaid yn Lloegr, drwy'r Bil Diogelwch Adeiladau, nad ydyn nhw wedi'u hymestyn i Gymru. A all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, ac, yn hollbwysig, i lesddeiliaid, am gynlluniau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ei hun? Diolch.

Diolch. O ran yr ail ddatganiad yr ydych chi'n gofyn amdano, ynghylch diogelwch adeiladau, gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r ardoll diogelwch adeiladau ar sail Lloegr yn unig, er enghraifft. Gwn yr oedd galwadau o Gymru a'r Alban iddo fod yn fesur i'r DU gyfan. O ran ein deddfwriaeth ein hunain yr ydym ni wedi'i chynnig, gwyddom ni fod angen newid sylfaenol a chynhwysfawr i'r fframwaith diwylliant a deddfwriaethol yng Nghymru. Byddwn i'n cynnal ymgynghoriad papur gwyn, i'w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, a bydd y diwygiadau'n cynnwys cyflwyno categori newydd o bersonau atebol, newidiadau i gofrestru a thrwyddedu a sefydlu tîm arolygu ar y cyd newydd, a bydd hynny'n dechrau yn y flwyddyn ariannol hon.

Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei godi ynghylch hyfforddeion meddygon teulu rhyngwladol yn un pwysig iawn. Rydym ni eisiau cadw cymaint o hyfforddeion meddygon teulu â phosibl. Rydym ni wir wedi gwerthu Cymru fel lle gwych i ddod, i ddysgu, i hyfforddi, i fyw, i weithio ynddo, ac felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cadw nhw. Gwn fod y Gweinidog yn cael trafodaethau gyda'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny. 

14:40

Ddoe, roedd y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl ac iechyd y cyhoedd a minnau yn bresennol mewn digwyddiad gwych yn y Senedd, lansiad  Forever Flowers Hosbis y Ddinas, sy'n galluogi pobl i noddi blodyn haul i goffáu rhywun sydd wedi marw o ganser, ac yna caiff ei arddangos yng nghastell Caerdydd yn ystod  pythefnos cyntaf mis Awst, syniad calonogol yn ogystal â ffordd effeithiol iawn o godi arian. Disgrifiodd un o'r siaradwyr rhagorol iawn yn y digwyddiad hwn y gofal rhagorol a gafodd ef a'i wraig gan Hosbis y Ddinas a'r ffordd nad oedd yn rhaid iddyn nhw adrodd eu stori dro ar ôl tro. I'r gwrthwyneb, bob tro yr oedd ganddyn nhw arbenigwr GIG gwahanol, roedd yn rhaid iddyn nhw adrodd yr holl wybodaeth ddiweddaraf. Felly, yn yr un modd ag y mae gan fenywod beichiog ac, yn wir, y rhai sy'n cael gofal parhaus gartref eu nodiadau eu hunain gyda nhw, meddwl oeddwn i tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch pa gynnydd y gallwn ni ei wneud o ran sicrhau bod gan gleifion eu nodiadau electronig eu hunain, ac, yn achos cleifion canser yn benodol, eu galluogi nhw i sicrhau bod pawb yn gwybod yn union pa lefel o driniaeth y maen nhw'n ei chael gan wahanol arbenigwyr fel bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran yr hyn y maen nhw'n ei gael, yn hytrach na gofyn i bobl adrodd hanes poenus eu triniaeth eto ac eto. 

Yn ail, rwyf eisiau gofyn am gonfensiwn Istanbul ar ymdrin â thrais yn y cartref. Ar 8 Mehefin, bydd yn 10 mlynedd ers i Lywodraeth y DU lofnodi confensiwn Istanbul Cyngor Ewrop, ond, 10 mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym ni eto wedi'i gadarnhau. Roedd yn 2015 pan wnaethom ni ddeddfu ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru). Gwn i fod Llywodraeth y DU y tu ôl i'r gromlin o ran peidio â deddfu tan y llynedd ar y mater hwn, ond beth nawr sy'n atal Llywodraeth y DU rhag cadarnhau'r confensiwn pwysig iawn hwn? Tybed a gawn ni ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y rhwystrau a'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gael gwared arnyn nhw. 

Diolch. Mae'n braf iawn clywed am y digwyddiad yr oeddech chi'n bresennol ynddo ddoe a'r blodau haul. Rwy'n credu y gallwn ni ddysgu llawer iawn gan ein hosbisau, nid yn unig yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ati o ran profiad cleifion, ond hefyd o ran codi arian. Yr wythnos diwethaf, gofynnodd fy hosbis leol, Tŷ'r Eos yn Wrecsam, i ni anfon lluniau o flodau ysgorpionllys i wneud rhywbeth tebyg iawn. Rwy'n credu y gallwn ni ddysgu llawer ganddyn nhw. Mae'r Gweinidog yn gwneud datganiadau rheolaidd ynghylch y gwasanaethau y mae hosbisau yn eu darparu, ac fe wnaf weld a all hi ychwanegu'r hyn y gwnaethoch chi ei gyfeirio ato at un o'r datganiadau hynny. 

O ran confensiwn Istanbul, mae'n un o'r blaenoriaethau allweddol o ran amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref ledled y byd, ac fel Llywodraeth rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i weld Llywodraeth y DU yn cadarnhau hyn cyn gynted â phosibl. Fel y dywedwch chi, mae wedi cymryd amser hir. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, sydd yma ac sydd wedi clywed eich cwestiwn, wedi ysgrifennu at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Victoria Atkins, tua chwe mis yn ôl, yn rhannu ei siom o ddifrif am drafferthion menywod mudol, er enghraifft, sy'n dioddef cam-drin domestig. Ni chafodd ei gydnabod ar wyneb eu Bil sydd nawr yn Ddeddf. Gofynnaf i'r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelodau, os oes ganddi unrhyw beth arall y gall hi roi gwybod i ni amdano. 

14:45

Rwy'n galw am un datganiad ar gyllid i achub y gylfinir rhag diflannu ar lefel gwlad sydd ar fin digwydd. Dydd Iau diwethaf, 21 Ebrill, oedd Diwrnod Gylfinir y Byd, i amlygu'r peryglon y mae'r gylfinir yn eu hwynebu o ganlyniad i ffactorau sy'n newid, colli cynefin o ansawdd yn bennaf ac ysglyfaethu cynyddol. Dydd Iau diwethaf hefyd oedd diwrnod gwledd Sant Beuno, nawddsant y gylfinir yn y calendr traddodiadol Cymreig. Mae'r gylfinir a'u galwad etheraidd yn eiconig yng Nghymru, yn ganolog i ddiwylliant, hanes a chred. Pan ddes i'n gefnogwr rhywogaeth Cymru ar gyfer y gylfinir, fodd bynnag, gwnes i rybuddio yma mai dim ond 15 mlynedd oedd gennym ni ar ôl i'w hatal rhag diflannu fel poblogaeth fridio yng Nghymru, ac mae chwech o'r blynyddoedd hynny nawr wedi mynd heibio ac wedi'u colli. Wel, ar Ddiwrnod Gylfinir y Byd ddydd Iau diwethaf, ysgrifennodd Mick Green—Cymdeithas Adaregol Cymru ac aelod o Gylfinir Cymru/Gylfinir Cymru—hefyd at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bersonol ac yn gyhoeddus yn gofyn iddi wireddu ei haddewid wrth lansio cynllun gweithredu Cymru ar gyfer adfer y gylfinir ym mis Tachwedd y llynedd, pan addawodd hi weithio gyda Gylfinir Cymru i sicrhau y gallwn ni ei ariannu a'i roi ar waith—i ddyfynnu—cynllun gweithredu gyda manteision niferus ac aml-rywogaeth. Parhaodd Mr Green, 'Dim ond naw tymor bridio sydd gennym ni ar ôl erbyn hyn i achub y rhywogaeth eiconig hon rhag diflannu yn ôl y rhagamcanion. Rhowch gyfarwyddyd i'ch swyddogion i weithio gyda Gylfinir Cymru i ddod o hyd i ffordd frys o gael cyllid yn uniongyrchol i Curlew Action.' Daeth i'r casgliad, 'Os gwelwch yn dda, ar Ddiwrnod Gylfinir y Byd, a allwch chi roi sicrwydd i mi y bydd cyllid uniongyrchol ar gael i achub y gylfinir rhag diflannu a bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw ei phrosiectau ei hun yn peryglu'r rhywogaeth hon ymhellach?' Mae'r amser i siarad ar ben. Os nad ydym ni'n gweithredu, maen nhw wedi mynd. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

Diolch. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu o ran gwarchod a sicrhau bod y gylfinir yn goroesi. Roeddwn i'n ffodus iawn o fod ar fferm dair wythnos yn ôl, mae'n siŵr, lle y clywais i un, felly mae'r gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn y sector amaethyddol yn amlwg yn dechrau gweithio. Gwn fod y Gweinidog yn ystyried yr holl gynlluniau sydd ganddi o fewn rhan bioamrywiaeth ei phortffolio i sicrhau bod cyllid yn mynd i'r mannau cywir i sicrhau bod—. Mae gennym ni argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Felly, byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni os oes yna unrhyw beth newydd y gall hi sôn wrthym ni amdano o fewn y cynlluniau sydd ganddi.

Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf: gaf i ofyn am ddatganiad ar unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella atebolrwydd democrataidd yn ein byrddau iechyd? Byddwch chi'n gwybod bod yna newidiadau sylweddol wedi bod yn y byrddau iechyd tua 10 mlynedd yn ôl. Fe ddaru ni weld, er enghraifft, cartref gofal Dryll y Car yn Llanaber yn cau, yn colli wyth o welyau ar gyfer cleifion iechyd meddwl oedrannus. O ganlyniad, does yna ddim digon o welyau ar gyfer pobl efo anghenion iechyd meddwl oedrannus yn Nwyfor Meirionnydd ac maen nhw wedi gorfod mynd i Hergest, ac wrth gwrs rydyn ni i gyd yn ymwybodol o'r sefyllfa yno. Rŵan, pe buasai llywodraeth leol neu'r Llywodraeth yma neu'r Senedd yma'n gwneud penderfyniad o'r fath, buasai pwyllgor craffu yn edrych ar y penderfyniad er mwyn gweld os oedd yna unrhyw beth y medrid ei wneud yn wahanol. Ond does yna ddim gallu i graffu ar ein byrddau iechyd. Mae'r cyngor iechyd cymuned yn gwneud gwaith clodwiw, ond does ganddyn nhw ddim y gallu na'r dannedd i wneud yr hyn sydd ei angen. Felly, dwi eisiau gweld, os yn bosib, unrhyw ddatganiad, unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau y gallu i graffu ar ein byrddau iechyd yn well. 

Yn ail, gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog llywodraeth leol, os gwelwch yn dda, ynghylch pa gamau rydych chi am eu cymryd i fynd i'r afael â'r hyn sy'n ymddangos fel argyfwng yn ein cynghorau cymuned, tref a dinas ni? Edrychwch ar Wynedd, er enghraifft. Mae yna 139 ward ar gyfer cynghorau cymuned, a dim ond wyth ohonyn nhw, dwi'n meddwl, sydd efo cystadleuaeth, sydd efo etholiad. Ond mae hyn yn wir ar draws Cymru. Yn Ogwr, er enghraifft, mae yna ddwy ward heb ddim un ymgeisydd ar gyfer yr etholiadau cyngor cymuned sy'n dod i fyny. Dydy hyn ddim yn gynaliadwy. Mae yna newidiadau wedi bod mewn cynghorau cymuned a thref dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn amlwg dydyn nhw ddim wedi gweithio. Felly, pa gamau ydych chi am eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr haen yma o lywodraeth leol yn hyfyw?

Diolch. Rwy'n credu bod yr ail bwynt y gwnaethoch chi ei godi, ynghylch yr etholiadau llywodraeth leol a chynghorau cymuned sydd gennym ni yng Nghymru yr wythnos nesaf, yn un pwysig iawn. Rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn gweld cynifer o seddi'n mynd heb etholiad, a chymaint o ymgeiswyr nad ydyn nhw'n camu ymlaen yn y ffordd y byddem ni'n dymuno. Rwy'n credu ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi gwneud llawer iawn o waith i geisio cynyddu ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw hi fod pobl yn gallu gwneud dewis yn y blwch pleidleisio, a gwn fod hwn yn ddarn parhaus o waith y mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ei wneud.

O ran craffu ar fyrddau iechyd, wrth gwrs, mae unrhyw un sy'n mynd ar un o'r byrddau iechyd yn mynd drwy'r broses penodiadau cyhoeddus, sy'n ofalus iawn. Yn amlwg, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol am benodi Cadeiryddion drwy'r broses hefyd, a thrwy'r Cadeirydd hwnnw, mae wedyn yn gallu craffu ar y bwrdd iechyd yn ei gyfanrwydd. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw waith arall sy'n digwydd, ond eto, os yw'r Gweinidog yn gwybod am unrhyw beth, gallai ysgrifennu atoch chi.  

14:50

Hoffwn i dynnu sylw'r Trefnydd at y ffaith bod digwyddiad yn cael ei gynnal o'r enw 'Next steps for waste, recycling and the circular economy in Wales' sy'n cael ei gynnal gan sefydliad sy'n galw ei hun yn Policy Forum for Wales Online Conference. Yn wir, nid yw'n unrhyw beth o'r fath. Mae'n gwmni o Bracknell. Mae'n codi £210 ynghyd â TAW ar y sector cyhoeddus yng Nghymru, y pen, i'w fynychu. Mae'r holl arian hwnnw'n mynd allan o Gymru, ac mae'r cyfarwyddwyr yn tynnu miliynau allan o'r cwmni. Dau o'r prif siaradwyr sy'n cael eu hysbysebu—ac rwy'n siŵr eu bod nhw'n gwneud hyn gyda phob ewyllys da; dydw i ddim yn credu eu bod nhw'n ymwybodol o'r ffordd y maen nhw'n cael eu hecsbloetio—yw Bettina Gilbert, pennaeth darparu rhaglenni WRAP, a Dr Andy Rees, pennaeth yr is-adran strategaeth wastraff, effeithlonrwydd adnoddau ac economi gylchol, Llywodraeth Cymru. Nawr, gwn i fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn boicotio hwn. Mae'n benderfyniad y rhoddodd y Prif Weinidog wybod i mi amdano y tymor diwethaf. A fyddai posibilrwydd y gallai'r Siambr hon graffu ar Lywodraeth Cymru ynghylch a oes unrhyw ymgysylltu arall yn digwydd gan Lywodraeth Cymru? Ac a fyddai hi'n cymryd camau i annog ein sector cyhoeddus i beidio ag ymgysylltu â'r hyn y gellid ond ei ddisgrifio fel criw o gowbois? 

Rwy'n ymwybodol i chi godi hyn gyda'r Prif Weinidog yn flaenorol. Rwy'n credu yr oedd tua thair blynedd yn ôl, mae'n debyg, erbyn hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu pob math o ddadl ar faterion polisi cyhoeddus yng Nghymru. Ond, fel y dywedwch chi, fel Gweinidogion, rydym ni'n ystyried yn ofalus iawn y digwyddiadau yr ydym ni'n siarad ynddyn nhw—a ydym ni'n derbyn gwahoddiadau i siarad mewn digwyddiadau sy'n codi ffioedd ac sydd wedi'i drefnu'n fasnachol. Rhaid i ni wneud llawer o benderfyniadau ynghylch y rheini, gan ystyried llawer o bethau. Mae ein swyddogion yr un fath. Rhaid iddyn nhw ystyried gwahoddiadau hefyd ar y sail honno, os oes digwyddiad sy'n codi ffioedd. Mae angen iddyn nhw sicrhau eu hunain bod budd amlwg i'r cyhoedd o gymryd rhan. Unwaith eto, efallai eich bod chi'n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Parhaol blaenorol wedi ysgrifennu ynghylch hynny, yn dilyn ateb y Prif Weinidog i chi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn amlwg, os bydd swyddog yn cymryd rhan mewn digwyddiad—os bydd gwas sifil yn cymryd rhan mewn digwyddiad—nad oes unrhyw achos canfyddedig o dorri didueddrwydd gwleidyddol. Ond yn sicr, fel Gweinidogion, rydym ni'n gwneud y penderfyniadau hynny ar sail yr effaith y byddai'n ei chael. 

Gweinidog, rwyf i bob amser wedi bod yn falch o Ben-y-bont ar Ogwr fel lle cyffrous a bywiog i fyw ynddo. Ond, mae wedi dod yn amlwg bod canol y dref yn ei chael hi'n anodd, a chymaint o siopau ac adeiladau gwag yn rhoi ymdeimlad o roi'r gorau iddi. Mae llawer o fusnesau wedi cael trafferth mynd yn ôl ar eu traed ers y pandemig. Mae llawer wedi troi at werthu ar-lein, ond mae canol y dref yn parhau i fod yn bwysig er mwyn cadw'r ymdeimlad hwnnw o gymuned. A wnaiff y Gweinidog drefnu dadl i ni ystyried strategaeth y Llywodraeth ar gyfer adnewyddu canol trefi, ac i'r Llywodraeth gyhoeddi pa fuddsoddiad sydd wedi mynd i ganol ein trefi ni ers y pandemig i gynnau eu hadfywiad? Diolch yn fawr, Gweinidog.

Diolch. Wel, nid wyf i'n credu ei bod yn rhy hir ers i ni gael datganiad am adfywio canol ein trefi, ac mae'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod canol ein trefi mor fywiog ag y gallan nhw fod. Rwy'n credu, fel y dywedwch chi, fod y pandemig wedi arwain at lawer mwy o fusnesau mewn sefyllfa o frwydro nag a fu, ond rwy'n credu ein bod ni wedi gweld newid yn ymddygiad pobl o ran siopa cyn y pandemig a llawer o'n siopau'n mynd ar-lein. Ond mae'n bwysig iawn, fel y dywedwch chi, i'r ymdeimlad hwnnw o gymuned. Rydym ni'n gweld canol ein trefi'n newid ac yn dod yn llawer mwy preswyl, rwy'n credu; yn sicr yn fy etholaeth i, rwy'n gweld fflatiau'n mynd uwchben siopau mewn ffordd nad oeddem ni efallai wedi'i wneud o'r blaen. Ond nid wyf i'n meddwl ei bod hi'n rhy hir ers i ni gael datganiad. 

14:55

Diolch i chi. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r broses apêl gynllunio yng Nghymru. Dim ond wythnos diwethaf, fe roddodd ein hawdurdod lleol ni gymeradwyaeth amodol i adeiladu 49 o gartrefi y tu ôl i Ysgol y Gogarth. Roedd hwnnw'n gais cynllunio dadleuol iawn, gydag aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd ar bob lefel yn ei wrthwynebu, a'r swyddfa gynllunio ei hun yn ei wrthwynebu hefyd. Ynglŷn â chais arall a roddwyd gerbron y pwyllgor yr wythnos diwethaf, gwelwyd tro pedol gan swyddogion, ac fe wnaethon nhw benderfynu cefnogi hwnnw, ac un o'r rhesymau a nodwyd oedd eu bod nhw'n pryderu llawer am y costau sy'n gysylltiedig ag unrhyw broses apelio. Fe ofynnwyd i mi ers hynny, a chan etholwyr dros y blynyddoedd, yn wir, pam y mae gan ddatblygwyr sy'n gallu fforddio bargyfreithwyr a phethau o'r fath broses apelio ar gyfer achos lle gwrthodwyd cais, ac eto nid oes proses apelio ar gyfer ceisiadau fel hwn, sydd, yn fy marn i, os edrychwch ar 'Bolisi Cynllunio Cymru', yn torri rhai o ganllawiau Polisi Cynllunio Cymru, mewn gwirionedd. Ac felly rwyf i wedi gofyn i'r Gweinidog cyn heddiw a fyddai hi'n bosibl i ni gael system fwy cyfiawn, fel bydd y broses apelio yn gweithio'r ddwy ffordd—nid yn unig i'r datblygwr, ond i'r cymunedau ac, yn wir, mewn gwirionedd, i'r aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd, fel gall lleisiau'r gymuned wirioneddol gael ail gynnig yn hyn o beth, oherwydd fe wn i fod llawer o etholwyr yn cael eu tramgwyddo gan lawer o geisiadau cynllunio pryd mae swyddogion cynllunio o'r farn fod rheidrwydd arnyn nhw i ganiatáu i gais fynd drwodd oherwydd eu bod nhw'n gofidio am gostau unrhyw broses apelio. Diolch i chi.

Diolch i chi. Nid oes cymaint o amser â hynny ers i'r polisi cynllunio gael ei ddiweddaru yma yng Nghymru; rwy'n credu i hynny ddigwydd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gyflwyno proses apelio yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei hawgrymu. Byddwn i yn ei chynghori hi i ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol efallai, i ofyn y cwestiwn arbennig hwnnw.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Felly, eitem 4, datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—diweddariad ar Wcráin. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Dirprwy Lywydd, diolch i chi am y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus ni i gefnogi pobl o Wcráin sy'n dianc rhag y dinistr ofnadwy yn eu gwlad nhw. Nid oes unrhyw arwydd bod y rhyfel na'r trais yn Wcráin yn tawelu, ac, ychydig dros wythnos yn ôl, fe lansiodd Putin ymosodiad newydd ar raddfa eang yn rhanbarth Donbas. Ac yn y cyfamser, ychydig o gynnydd sydd wedi bod o ran sefydlu coridorau dyngarol i alluogi pobl i ymadael â'r wlad neu symud i ardaloedd mwy diogel ymhell o faes y gad.

Erbyn hyn, mae dros 5 miliwn o bobl wedi ffoi o Wcráin ers diwedd mis Chwefror, pan ddechreuodd lluoedd Putin yr ymosodiad, a thua 10 y cant o'r boblogaeth yw hynny. Mae'r data diweddaraf gan Lywodraeth y DU yn dangos bod ychydig dros 107,000 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl sy'n ffoi rhag yr ymladd, a rhoddwyd mwy na hanner y rhain i bobl o Wcráin sy'n gwneud cais i ddod i'r DU drwy gynllun nawdd Cartrefi i Wcráin. Maen nhw'n dangos hefyd bod 21,600 o bobl o Wcráin wedi cyrraedd y DU hyd yn hyn. O'r rhain, mae'r mwyafrif llethol—tua 15,000 o bobl—wedi dod drwy lwybr cynllun ar gyfer teuluoedd o Wcráin i fyw gydag aelodau o'u teuluoedd estynedig nhw yn y DU.

Hyd yma, cafodd 1,500 o fisâu eu rhoi i bobl drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin sydd â noddwr yng Nghymru. Mae cyfanswm o 390 o'r rhain ar lwybr uwch-noddi Llywodraeth Cymru. Mae nifer y fisâu sy'n cael eu caniatáu yn parhau i gynyddu bob dydd. Er hynny, nid yw pawb yn teithio cyn gynted ag y caiff fisa ei chyflwyno, ac fe allai hynny fod am nifer o resymau. Efallai mai'r rheswm yw nad yw eu dogfennau nhw ar gyfer caniatâd i deithio ar gael iddyn nhw eto neu am nad ydyn nhw ar gael i bawb yn eu grŵp nhw. Efallai hefyd fod pobl wedi trefnu i deithio ychydig yn hwyrach, ond fe wyddom ni fod yna deuluoedd nad ydyn nhw wedi cael eu fisâu a'u dogfennau wedi'u cymeradwyo ar yr un pryd sy'n teimlo'n rhwystredig oherwydd y fiwrocratiaeth y maen nhw'n ei hwynebu. Rwyf i'n parhau i godi'r materion hyn yn fy nghyfarfodydd â Llywodraeth y DU i helpu i wella'r system a'i gwneud hi mor ddiogel â phosibl i bobl sy'n teithio i'r DU.

Cafodd llwybr uwch-noddi Llywodraeth Cymru ei sefydlu i leihau cymhlethdod a biwrocratiaeth pobl a oedd yn dymuno dod i Gymru a lleihau'r perygl o weld camfanteisio o'r fath. Fe fydd pawb sy'n cael eu noddi gennym ni'n cysylltu â ni'n uniongyrchol i'w helpu nhw i gyrraedd Cymru yn y ffordd hwylusaf bosibl. Ac rwy'n awyddus i fynegi ar goedd fy niolch i awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector a chysylltiadau gwirfoddol. Gyda'n gilydd, rydym ni wedi gweithio yn ddiflino i sicrhau bod y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl o Wcráin ar gael ledled Cymru.

Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r busnesau, y sefydliadau, a llawer o noddwyr unigol sydd wedi cynnig helpu, gan agor eu cartrefi nhw a chynnig cymorth ymarferol gyda rhoddion o ddillad a nwyddau eraill, cynigion o swyddi a chymorth cyfieithu. Rydym ni'n dal i gael ein syfrdanu gan faint ymateb y cyhoedd i'r argyfwng dyngarol hwn, yn enwedig ar adeg pan ydym ni'n wynebu ein hargyfwng ein hunain o ran costau byw. Fe geir llawer iawn o ffyrdd y gall pobl helpu, o gynnig noddi rhywun o Wcráin, hyd at gyfrannu arian neu nwyddau, neu wirfoddoli i helpu. Yn y Llywodraeth, rydym ni wedi rhoi £1 miliwn at gronfa Croeso Cenedl Noddfa, a £4 miliwn i apêl Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Mae'r bobl gyntaf bellach yn cael eu lletya yn ein rhwydwaith ni o ganolfannau croeso, lle maen nhw'n derbyn cymorth cofleidiol i'w helpu nhw i wneud eu nyth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau iechyd, cymorth gyda sgiliau iaith os oes angen hynny, cymorth i agor cyfrif banc a chael budd-daliadau, addysg i blant a chymorth i ddod o hyd i swydd. Fe fydd pawb sy'n cyrraedd Cymru, mewn canolfannau croeso neu wrth fyw ar aelwyd noddwr unigol, yn gallu manteisio ar wasanaethau iechyd. Mae hyn yn cynnwys arbenigwyr iechyd meddwl a thrawma.

Dirprwy Lywydd, ers i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ddiwethaf, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau pellach, canllawiau a ddiweddarwyd, i awdurdodau lleol a noddwyr unigol, i'w helpu nhw gyda'u cyfrifoldebau niferus. Mae'r canllawiau diweddaraf i noddwyr yn ymdrin â chyngor a gwybodaeth bellach ynglŷn â llety, gan gynnwys y defnydd gwirfoddol o gytundebau tenantiaeth a thrwyddedu enghreifftiol, pa wiriadau y mae angen eu cynnal, cyngor ynglŷn â chaethwasiaeth fodern a'r ystod o gymorth sydd ar gael gan y sector gwirfoddol. Rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau diogelu manwl hefyd ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, a chanllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant.

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd gyda Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban, Neil Gray, a Gweinidog ffoaduriaid Llywodraeth y DU, Arglwydd Harrington. Mae'r rhain yn gyfleoedd pwysig i bwyso am welliannau i'r broses fisa ar gyfer cyfyngu ar unrhyw oedi. Ynghyd â'm cyd-Weinidog yn yr Alban, rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ariannu cynllun teuluoedd Wcráin, a sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, fel bydd pawb sy'n cyrraedd yma o Wcráin yn cael eu cefnogi mewn ffordd sy'n addas. Mae hi'n iawn i'r un gyfradd o gyllid a oedd ar gael ar gyfer cynllun ailsefydlu pobl o Affganistan fod ar gael i gefnogi pobl o Wcráin. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi bod yn cwrdd â swyddogion cyfreithiol y DU i drafod amrywiaeth o faterion hefyd, gan gynnwys ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel a gyflawnwyd yn Wcráin.

Felly, Dirprwy Lywydd, rwyf i am gloi'r datganiad hwn heddiw drwy ddweud unwaith eto fod cymorth, cyngor a chefnogaeth ar gael drwy ein llinell gymorth rhad ac am ddim ni i noddwyr a phobl sy'n dod o Wcráin. Fe all noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0808 175 1508 i gael cyngor. Ar gyfer gwladolion Wcráin a'u teuluoedd nhw, os ydyn nhw y tu allan i'r DU, fe allan nhw ffonio am ddim ar +44 808 164 8810, neu os ydyn nhw yn y DU, fe allan nhw ffonio 0808 164 8810. Mae croeso cynnes yn aros amdanyn nhw yng Nghymru, sy'n genedl noddfa. Diolch.

15:00

Diolch yn fawr i chi am y datganiad. Rwy'n ceisio cysoni—mae cymaint o ffigurau yn hedfan o gylch y lle gan wahanol bobl ac o wahanol fannau. Os byddaf i'n gwneud rhai camgymeriadau o ganlyniad i hynny, mae'n siŵr y byddwch chi'n gallu fy nghywiro i yn hynny o beth. Ond roedd eich datganiad ysgrifenedig chi ynglŷn â'r cynllun Cartrefi i Wcráin ar 21 Ebrill yn dweud bod y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU bryd hynny'n dangos bod 1,500 o fisâu wedi cael eu rhoi pryd yr oedd y noddwr o Gymru, 1,100 a noddwyd gan unigolion yng Nghymru a 390 a noddwyd gan Lywodraeth Cymru fel uwch-noddwr. Ddoe, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref fod 40,000 o fisâu wedi cael eu rhoi yn unol â chynllun Cartrefi i Wcráin, ond fe ddywedodd Gweinidog Swyddfa Gartref yr wrthblaid, eich plaid chi mai dim ond 6,600 o Wcrainiaid a oedd wedi cyrraedd y DU mewn gwirionedd, er eich bod chi'n cyfeirio at y data diweddaraf sy'n dangos bod 21,600 o bobl o Wcráin wedi cyrraedd y DU hyd yn hyn. A ydych chi'n credu felly mai'r rheswm am y gwahaniaeth hwnnw yw bod y 21,600 yn cynnwys pob cynllun, gan gynnwys y cynllun ar gyfer teuluoedd? A beth yw eich dealltwriaeth chi ynglŷn â nifer y bobl sydd wedi cyrraedd Cymru mewn gwirionedd, ac nid newydd gael eu fisâu yn unig?

Wrth ymateb i honiadau na all teuluoedd y mae angen iddyn nhw deithio gyda'i gilydd wneud felly oherwydd oedi o ran fisa i un aelod o'r teulu, plentyn yn aml, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ddoe fod y Gweinidog Ffoaduriaid, yr Aelod anrhydeddus Arglwydd Harrington, wedi mynd i'r rhanbarth dim ond 10 diwrnod yn ôl i ganfod pam a beth arall y gellid ei wneud i ddod â theuluoedd sydd wedi cael eu fisâu i'r wlad hon. Yn bennaf oll, fel clywsom ni'n fynych gan Lywodraeth Wcráin, fel dywedodd hithau, a chan Lywodraethau yn y rhanbarth hefyd, mae'r teuluoedd hynny'n dymuno aros yn y rhan honno o'r byd, ac mae hynny'n peri dryswch i mi. Rwy'n tybio bod hynny hefyd yn golygu pobl nad oedden nhw efallai wedi gwneud cais am fisa yn y lle cyntaf, ond nid wyf i'n gwybod. Felly, diolch i chi eto am yr alwad ffôn a gefais i oddi wrthych chi ddoe. Yn ystod honno, roeddech chi'n dweud eich bod mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidog Ffoaduriaid y DU,  Arglwydd Harrington, y gwnaethoch chi gyfeirio at hynny, unwaith eto, yn eich datganiad heddiw, a bod mwy o fisâu yn cael eu rhoi ond bod yr oedi yn parhau a'ch bod chi'n pwyso am ffurflenni symlach a mwy o gefnogaeth i deuluoedd.

Wel, wedi i mi dynnu eich sylw chi at Link International ychydig wythnosau nôl, rwy'n falch fod yr elusen, o dan ei rhaglen gyswllt Wcráin, yn gweithio gydag awdurdodau lleol y gogledd erbyn hyn mewn cydweithrediad ag asiantaethau statudol eraill a Llywodraeth Cymru ac yn dod â grwpiau cymunedol a ffydd a sefydliadau'r trydydd sector at ei gilydd i gefnogi pobl o Wcráin sy'n cyrraedd gogledd Cymru. Pan euthum i'w cyfarfod Zoom nhw i ymateb i Wcráin yn y gogledd ddoe, fe glywsom ni, er bod 256 o fisâu wedi cael eu rhoi ar gyfer y gogledd, mai dim ond gan 60 o Wcrainiaid mewn 30 o gartrefi lletyol a 150 yng nghanolfan groeso'r rhanbarth y mae ceisiadau wedi dod. Beth, felly, yw eich dealltwriaeth chi o'r rheswm am y bwlch rhwng nifer y fisâu a ganiatawyd, nifer y ceisiadau a gafwyd a'r niferoedd sy'n cyrraedd wedi hynny? Ac a oes gennych chi unrhyw dystiolaeth yn hyn o beth y gallwch ei rannu â ni, neu a yw eich sylwadau yn eich datganiad chi fel arall yn ymdrin â hynny, sy'n dangos eich bod yn dal i geisio datrys y dirgelwch eich hunan wrth i chi ymgysylltu â Llywodraeth y DU?

At hynny, pa drafodaethau a gawsoch chi gydag Arglwydd Harrington ynglŷn â hyn yn ogystal â'r ffyrdd o fynd i'r afael â hyn? Ac eto, roeddech chi'n crybwyll hynny, ond tybed a oes unrhyw bwyntiau penodol pellach y gallech chi eu rhannu nhw gyda ni.

Yn ystod cyfarfod ymateb y gogledd ar Zoom ddoe, fe glywsom ni hefyd oddi wrth sefydliad sy'n gwrthsefyll masnachu mewn pobl yn Romania yr amcangyfrifir bod dros 5 miliwn o Wcrainiaid wedi gadael Wcráin erbyn hyn, gyda thua hanner yn mynd i Wlad Pwyl a 700,000 yn uniongyrchol i Romania, yn ogystal â mwy yn cyrraedd Romania drwy Moldofa sy'n ffinio â'r wlad honno. Fe glywsom ni hefyd ganddyn nhw mai pobl a ddadleolwyd yw'r bobl fwyaf agored i niwed ac felly mae'r canolbwyntio erbyn hyn ar ddiogelu. Yn ystod ein galwad ni ddoe, roeddech chi'n dweud wrthyf i fod pedair Llywodraeth y DU yn cydweithio o ran diogelu erbyn hyn. Sut, felly, ydych chi'n ymgysylltu â sefydliadau sy'n gwrthsefyll masnachu mewn pobl fel yr un a glywsom ni oddi wrtho ddoe, gan weithio ar lawr gwlad gyda ffoaduriaid Wcrainaidd yn y gwledydd y maen nhw wedi ffoi iddyn nhw?

Yn olaf, fe gefais i e-bost gan etholwr yr wythnos diwethaf yn gofyn am gymorth i Wcrainiaid a'u gwesteiwyr DU yn sir y Fflint. Roedd hwnnw'n mynegi, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'r cynllun Cartrefi i Wcráin yn datgan mai gwesteion yw Wcrainiaid. Mae'r canllawiau yn eglur. Mae gofyn 53 cwestiwn i faban oherwydd rhesymau diogelwch yn dangos yn amlwg iawn pa mor eithafol yw hyn i gyd. Nawr mae cael awdurdod lleol sy'n honni ei fod yn gwneud cais am wiriadau gofal maeth a hepgoriadau preifatrwydd llawn gan noddwyr o'r DU a'u gwesteion Wcrainaidd nhw, ar gyfer dogfennau meddygon teulu, ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a hanes chwiliadau rhyngrwyd, gan gynnwys storio, am 10 mlynedd, yn annibendod. Rwy'n pwyso arnoch chi i roi terfyn ar hyn ar unwaith, sy'n gwneud i westeiwyr deimlo bygythiad a gormes oherwydd methiant posibl wrth ennill cymeradwyaeth i fod yn westeiwyr os na wnân nhw gydymffurfio â'r drefn'.

Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw'r broses ar gyfer ymgeiswyr lletyol a'u gwesteion Wcrainaidd nhw, fel yr oedd fy etholwr i'n ei disgrifio hi, yn cael ei phennu gan Lywodraeth y DU, gan Lywodraeth Cymru neu gan yr awdurdodau lleol unigol? A sut ydych chi am sicrhau y bydd yr angen am ddiogelu, sy'n hanfodol, wrth gwrs, yn cael ei gydbwyso yn erbyn yr angen i gefnogi gwesteiwyr cyfreithlon yn eu brwdfrydedd gwirioneddol nhw i gynnig noddfa i ffoaduriaid o Wcráin ar eu haelwydydd?

15:10

Diolch yn fawr iawn, Mark, a diolch i chi am y cwestiynau pwysig yna, sydd i raddau helaeth iawn, fel buom ni'n ei ddweud ddoe, yn ymwneud â'r ffordd y mae cynllun Cartrefi i Wcráin, y cynllun uwch-noddwyr, yn ymsefydlu erbyn hyn o ran ei gyflawniad a'i weithrediad. Nid oes amheuaeth ynglŷn ag oedi, oedi amlwg, y gwnaeth y Gweinidog, Arglwydd Richard Harrington, ei gydnabod pan wnes i gyfarfod ag ef ddydd Mercher diwethaf, ar yr un pryd â Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Neil Gray. Fe geir oedi amlwg o ran dyfodiadau, ac oedi rhwng, mewn gwirionedd, cymeradwyo fisâu a gallu cael caniatâd i deithio wedyn. Felly, mae angen caniatâd i deithio ar gyfer cymryd y cam nesaf wedyn i allu dod i un o'n canolfannau croeso ni sydd ar lwybr uwch-noddwyr Cartrefi i Wcráin, neu, yn wir, i allu teithio wedyn i gwrdd â'r teulu sy'n rhoi nawdd, ar yr aelwyd, ac mae llawer yn disgwyl yn bryderus ac yn cyfathrebu â'r rhai y maen nhw wedi cael eu paru â nhw ac wedi cysylltu â nhw.

Mae hynny'n iawn o ran y ffigurau, a ddoe, yn amlwg, bu dadl a datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin, ond fe gawn ni ein ffigurau ni, sy'n cael eu rhannu ar sail pedair gwlad, ar ddydd Iau, a dyna pryd y cyflwynais fy natganiad ysgrifenedig i. Felly, o'r 1,500 o fisâu a ddyrannwyd, mae 390 yn cael eu huwch-noddi, sef pobl a allai ddod i'n canolfannau croeso ni, ac fe fyddai'r gweddill nid yn unig drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, ond mae llawer hefyd yn dod drwy gynllun teuluoedd Wcráin. Ac rwy'n credu bod y niferoedd yr ydych chi'n holi amdanyn nhw'n ymwneud mewn gwirionedd â'r cynllun teuluol hefyd. Yn wir, ar 20 Ebrill, roedd cynllun teuluoedd Wcráin wedi cael ceisiadau am fisâu gan 41,200, a rhoi 32,500 ohonyn nhw. Un o'r problemau sydd gennym ni yng Nghymru yw nad ydym ni mewn gwirionedd yn ystyried nifer y bobl sydd wedi dod drwy'r cynllun ar gyfer teuluoedd. Mae honno'n anfantais enfawr. Mewn gwirionedd, nid yw Llywodraeth y DU yn gallu cyfaddef na allan nhw roi'r ffigurau hynny i ni. Ac mae eu hangen nhw arnom ni'n wirioneddol oherwydd, wrth gwrs, y llwybr mwyaf llwyddiannus drwodd sydd wedi bod ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yw'r cynllun ar gyfer teuluoedd. Y rhain oedd llawer iawn o'r dyfodiaid yma, ac fe lwyddon nhw i ddod yma ar gam cynnar iawn wrth ffoi rhag yr ymosodiad o Rwsia. Ond y cynllun ar gyfer teuluoedd ydyw hwnnw. Nid yw'r ffigurau ar gyfer Cymru ar gael; niferoedd ar gyfer y DU gyfan ydyn nhw.

Felly, mae honno'n broblem wirioneddol ynghylch y bwlch rhwng nid yn unig y cais, yr aelwyd gyfan neu'r teulu'n cael y fisâu—. Rwy'n credu, nid myfi yw'r unig un, rwy'n siŵr, yn y Senedd heddiw, sydd ag achosion yn f'etholaeth o bobl lle nad oes fisa gan un unigolyn. Efallai fod hyd yn oed—. Mae achos gennyf i o deulu cyfan, ar wahân i'r tad, wedi cael eu fisâu, ond nid y tad. Mewn achosion eraill, fe allai plentyn fod heb gael fisa. Mae'r rhain yn faterion gwirioneddol. Ac fe siaradais i â'r Gweinidog Ffoaduriaid ynglŷn â'i ymweliad ef â Gwlad Pwyl. Fe drafododd ef y sefyllfa yn y fan honno hefyd, y rhwystredigaeth sydd yno ac, wrth gwrs, yr erchyllter y mae pobl wedi byw drwyddo. Mae gwneud eu ffordd i Wlad Pwyl wedi bod—wyddoch chi, yr archoll, gadael eu tadau, eu gwŷr, a'u meibion ar ôl. Mae rhai ohonyn nhw mewn llety dros dro, ond mae'r fiwrocratiaeth a'r rhwystrau llethol sy'n eu hatal rhag mynd oddi yno a dod yma, i'n cenedl noddfa ni, mae'n rhaid i mi ddweud, yn rhywbeth gwirioneddol, ac fe fydd llawer wedi clywed am y pethau hynny. Ac, yn wir, mae ein canolfan gyswllt ni wedi clywed yr hanesion hynny hefyd, ac mae'n rhaid i ni ymdrin â nhw. Felly, rwy'n codi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU. Fe fyddaf i'n cyfarfod â Gweinidog yr Alban yfory hefyd, ac rydym ni'n gweithio cymaint â phosibl ar sail pedair gwlad i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Yn gyflym iawn, rwy'n ddiolchgar iawn unwaith eto am ddiweddariad gan Link International yn y gogledd. Rwyf i wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd â nhw, ynghyd â chysylltiadau eraill â'r trydydd sector ledled Cymru fel hyn, ac fe geir mwy o gyfarfodydd gan grwpiau Wcrainaidd â'i gilydd erbyn hyn. Yn wir, rydym ni'n ystyried ffyrdd y gallwn ni gefnogi lleisiau Wcráin ynddyn nhw, y bobl sy'n dod i'n canolfannau croeso ni a chartrefi noddwyr hefyd, oherwydd eu bod nhw'n awyddus i weithio gyda'i gilydd, maen nhw'n awyddus i wirfoddoli, yn awyddus i gydlynu eu profiadau, y gwersi a ddysgwyd a rhannu'r profiad o'r croeso cynnes yng Nghymru gan deuluoedd sy'n eu noddi nhw, a sôn am rai o'r anawsterau hefyd, ac, wrth gwrs, rydych chi'n codi ychydig o faterion pwysig iawn: y gwaith i wrthwynebu masnachu mewn pobl, sy'n hynod bwysig, ac rwyf i wedi dysgu am y gwaith a wnaethpwyd ganddyn nhw yn y gogledd—. Wrth gwrs, mae gennym ni gysylltiad agos iawn, rwy'n dweud wrthych chi, â'r sefydliadau hynny, ac rwy'n dymuno dweud bod hyn yn gysylltiedig iawn â'r hyn a wnawn ni o ran diogelu a gwiriadau.

Felly, mae gan yr awdurdodau lleol swyddogaeth hollbwysig o ran sicrhau nad ydym yn rhoi cefnogaeth yn unig i'r bobl sy'n cyrraedd yma, ond ein bod ni'n sicrhau eu bod nhw'n cael eu diogelu hefyd. Felly, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân ynglŷn â diogelu a chaethwasiaeth fodern ar gyfer awdurdodau lleol a noddwyr. Maen nhw i'w gweld ar y wefan noddfa. Roedd gennym ni gyngor ar gyfer staff y ganolfan groeso a'r ganolfan gyswllt ac, mewn gwirionedd, fe gaiff trydydd fersiwn o ganllawiau diogelu a chaethwasiaeth fodern eu cyhoeddi'r wythnos nesaf, ac fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael hwnnw.

Mae hi'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn cynnal y gwiriadau lleol hyn. Rydym ni'n cyfarfod â phrif weithredwyr yr awdurdodau lleol, ar hyn o bryd, yn rheolaidd, a mater i'r awdurdodau lleol eu hunain yw cynnal y gwiriadau hyn ynghylch safonau tai, ond, yn hollbwysig, o ran diogelu. Mae'n rhaid i ni gydnabod ein bod ni, mewn gwirionedd, wedi gweld achosion y gallaf i sôn amdanyn nhw wrthych chi o faterion difrifol na fydden nhw'n dod i'r amlwg oni bai fod y gwiriadau hynny wedi digwydd, felly fe hoffwn i sicrhau pobl, ein Haelodau ni yn y Senedd heddiw, fod proses y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy'n digwydd yn gyfochrog â'r gwiriadau hyn yn hanfodol bwysig. Wrth gwrs, hyfryd o beth yw'r rhan fwyaf o'r croeso a roddir gan aelwydydd a noddwyr a pheth hyfryd yw eu bod nhw'n cydweithio yn agos ag awdurdodau lleol a llawer o'r grwpiau hyn sy'n estyn cymorth hefyd, ond mae hi'n hanfodol ein bod yn ymgymryd â'r gwiriadau hyn.

Nawr, rydym ni'n datblygu ein canllawiau ein hunain, ond wrth weithio yn ddyfal ar sail pedair gwlad i raddau helaeth iawn, gan ddatblygu polisi ac arweiniad, a gweithio drwy faterion gweithredol ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys swyddogion sy'n gweithio yn agos iawn gyda'r Swyddfa Gartref a'r adran ar gyfer codi'r gwastad a thai a chynrychiolwyr o fforymau cydnerthedd lleol, y trydydd sector ac arweinyddion yr awdurdodau lleol.

15:15

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Fore Sadwrn diwethaf, rôn i mewn digwyddiad yn Resolfen i nodi cefnogaeth pobl y gymuned i Wcráin. Roedd y digwyddiad ar iard yr ysgol gynradd leol yn ysgol Ynysfach, â phobl o bob oed wedi troi mas i gydsefyll gyda phobl Wcráin. Casglwyd arian at yr apêl gymorth gan y gangen leol o Sefydliad y Merched oedd wedi coginio teisennau hyfryd, ac roedd nifer o'r trigolion wedi fy holi am y cynllun noddi, a nifer yn datgan eu hawydd i fod yn rhan ohono.

Tra ein bod ni'n gweld y dinistr yn Wcráin yn dwysau yn ddyddiol, y rhyfela yn ffyrnigo a'r gost ddynol yn sgil ymosodiad anghyfreithiol ac annynol Putin yn codi'n uwch ac yn uwch, mae parodrwydd ac ymdrechion pobl Cymru i geisio estyn croeso a chymorth i'r rhai sydd wedi ffoi am eu bywydau yn cynnig gobaith mewn cyfnod tywyll iawn.

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o drefn, mwy o sicrwydd a mwy o gefnogaeth i ffoaduriaid o Wcráin drwy'r cynllun uwch-noddwr yn cyferbynnu'n llwyr â'r anhrefn aneffeithiol ac aneffeithlon sy'n nodweddi ymateb Llywodraeth San Steffan. Mae'r niferoedd o fisas sydd wedi cael eu dyfarnu i ffoaduriaid o Wcráin o dan y cynllun yn dal i fod yn hynod ac yn siomedig o isel. Mae'n gwbl warthus, bron union i fis yn ddiweddarach ers inni drafod y sefyllfa fisas yn y Siambr gyda chi ddiwethaf, Weinidog, ein bod ni'n dal i wynebu'r un rhwystrau, yr un rhwystredigaeth, wrth geisio estyn cymorth a chartref a chroeso i bobl sydd wedi colli popeth, sydd wedi gorfod gadael eu heiddo, eu bro, eu cenedl ac, yn aml iawn, eu ceraint.

Rydym wedi darllen adroddiadau yn y wasg dros y dyddiau diwethaf gan staff sy'n gweithio ar linell cymorth fisas Llywodraeth San Steffan, yn dweud bod y cynllun wedi'i ddylunio i fethu, bod staff heb dderbyn hyfforddiant digonol, a bod unrhyw awgrym i wella'r system yn cael ei anwybyddu. Fe soniwyd am addewid gan Lywodraeth San Steffan y byddai'r broses fisas yn cael ei chyflymu yn eich datganiad ysgrifenedig diwethaf, ond mae straeon yn y wasg yn ddyddiol am bobl yn aros am wythnosau i glywed am hynt eu cais, a rhai cannoedd wedi cael eu colli'n gyfan gwbl. Felly, beth yw'r wybodaeth ddiweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael am y broses fisas? A yw Llywodraeth San Steffan am gadw at ei gair a gwella'r broses?

Hefyd, a oes modd i chi gadarnhau bod cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth San Steffan i gefnogi pob agwedd ar y cynllun fisas? Ydy pob teulu sy'n noddi teuluoedd yn uniongyrchol yn derbyn taliadau yn yr un modd â'r rhai sy'n noddi ffoaduriaid drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin? A yw cynllun Llywodraeth Cymru i fod yn uwch-noddwr yn derbyn cefnogaeth ariannol ddigonol gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol? Ac, os felly, pa effaith y mae diffyg cyllid yn ei chael ar y cynlluniau fisas? 

Dwi wedi eich holi chi yn y Siambr hefyd ynglŷn â sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi ein prifysgolion i fedru creu a chydlynu cynllun i fyfyrwyr ac academyddion sy'n ffoi o Wcráin. Fe ysgrifennais atoch rai wythnosau yn ôl am achos myfyriwr oedd am ddod i Brifysgol Abertawe i barhau a'i hastudiaethau, ond iddi gael ateb ei bod yn gorfod gwneud cais fel unrhyw un arall o wlad dramor, ac nad oedd unrhyw gymorth na chefnogaeth benodol nac ystyriaeth arbennig o'i sefyllfa hi ar gael. Oes modd i chi ein diweddaru ar unrhyw gynlluniau i newid hyn, o ystyried y budd dynol i'r unigolion hyn ac i'n sefydliadau ni fel cenedl o'u cael yn rhan o'n cymuned academaidd? Diolch.

15:20

Diolch, Sioned. Diolch. Mae hi'n hyfryd clywed am y croeso hwnnw a gawsoch chi heddiw ac a welsoch chi, a'r ffaith bod y gymuned a buarth yr ysgol, bod rhieni, y gymuned, yn eiddgar i ymgysylltu ac wedi bod â rhan mor adeiladol. Mae tua 10,000 o unigolion yng Nghymru wedi mynegi eu diddordeb nhw ar restr i fod â rhan yn y cynllun Cartrefi i Wcráin ers i'r gofrestr agor ar 14 o fis Mawrth ac mae 800 o aelwydydd wedi cyflwyno ceisiadau erbyn hyn. Nod hyn yw cefnogi 1,800 o Wcrainiaid yng Nghymru, ac mae'r dewis hwnnw'n dal i fod ar gael o ran y llwybr drwy gynllun teuluoedd Wcráin—y llwybr drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin. Efallai mai cynllun teuluoedd Wcráin, wrth gwrs, fel dywedais i, yw'r ffordd fwyaf llwyddiannus o gael fisa, drwy gynllun teuluoedd Wcráin, ac mae hi'n bwysig cydnabod nad yw cynllun teuluoedd Wcráin yn cael ei ariannu o gwbl. Nid oes cyllid ar gael ar gyfer y teuluoedd estynedig hynny ledled Cymru—ac rydym ni'n gwybod amdanyn nhw—nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gyllid, o'i gymharu â'r cyllid a roddir ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin, oherwydd mae'r cynllun Cartrefi i Wcráin yn cael ei ariannu ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod nad yw'r cynllun uwch-noddwyr yn cael ei ariannu i'r un graddau ag y cefnogir cyllid Cartrefi i Wcráin. Rwyf i o'r farn bod angen i ni gael cefnogaeth y Senedd iddo heddiw yn fy nhrafodaethau i a'm trafodaethau i gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae hi'n hanfodol bod y rhai sy'n cefnogi eu teuluoedd nhw'n cael cyllid a chefnogaeth addas, ac yn wir y llwybr uwch-noddwyr.

I atgoffa pobl, mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod £10,500 y pen ar gael i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau, oherwydd gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer cefnogi Wcrainiaid sy'n cyrraedd yn eu hardaloedd nhw yn unol â chynllun Cartrefi i Wcráin. Nid yn yr un ffordd, fel dywedais i yn fy natganiad—nid yw'r cyllid yr ydym ni'n ei gael ar gyfer cynlluniau ffoaduriaid o Wcráin ar yr un gyfradd â'r hyn a oedd i'w gael i ni ar gyfer cynllun ffoaduriaid o Affganistan. Nid yw'n cynnwys y taliad o £850 ar gyfer hyfforddiant iaith Gymraeg a Saesneg na'r taliad o £2,600 ar gyfer gwasanaethau iechyd. Cafodd y rheiny eu darparu o dan gynllun ailsefydlu Affganistan yn ddiweddar. Felly, nid yw hyd yn oed y cynllun nawdd Cartrefi i Wcráin yn cael ei ariannu ar yr un gyfradd â honno, ond y gwir amdani yw nad ydym ni'n cael yr arian hwnnw o ran y cynllun uwch-noddwyr.

Mae angen i'r taliad o £350 y mis sy'n cael ei ddarparu o dan y cynllun Cartrefi i'r Wcráin fod ar gael i ni yn Llywodraeth Cymru ar gyfer pob teulu o Wcráin sy'n cael ei letya o dan y rhaglen uwch-noddwyr. Ac rwy'n dymuno dweud rhywbeth i gefnogi'r rhaglen uwch-noddwyr, oherwydd mae hi'n cynnwys ymrwymiad i ni gefnogi 1,000 o bobl yng Nghymru. Mae hynny'n anwybyddu'r angen i nodi noddwr unigol yn y DU. Mae'n golygu eu bod nhw'n cael eu noddi yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru; mae hynny'n ei gwneud hi'n haws i bobl o Wcráin nad oes ganddyn nhw gysylltiadau teuluol i gael noddfa yma yng Nghymru. Ond hefyd, yn bwysig iawn, mae hynny'n anwybyddu'r oedi a'r pryderon o ran diogelu a welsom ni'n codi ynghylch Wcrainiaid sydd ag angen iddyn nhw nodi eu noddwyr yn y DU. Dyna fyddai'n sicrhau y gellir rhoi gwasanaethau priodol ar waith i'w croesawu nhw. Ac rydym ni'n ariannu hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu hyn, sef y gallu i ddefnyddio'r gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol yn y canolfannau croeso—gwasanaethau cyfieithu sydd ar gael, y gwasanaethau iechyd sydd ar gael, plant yn dechrau gwersi, cyngor i bobl ynglŷn â dulliau o ymdopi mewn gwlad ddieithr, cymorth gydag arian a budd-daliadau lles, a chyngor ynglŷn â dod o hyd i waith.

Fe fyddaf i, unwaith eto, yn edrych ar y materion sy'n ymwneud â mynediad i brifysgolion, oherwydd mae hynny'n hollbwysig o ran addysg. Rydym ni'n arbennig o bryderus ynghylch sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynd i'r ysgol mewn ffordd briodol, ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar geisiadau i dderbyn plant i ysgolion, sydd ar ein gwefan noddfa ni. Ond rydym ni hefyd wedi cael ymatebion cadarnhaol iawn gan brifysgolion ac addysg bellach, ac felly rwyf i am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny hefyd.

Ond mae hi'n hanfodol ein bod yn cyfleu'r neges hon—. Ac rwy'n siŵr, fel roeddech chi'n ei ddweud, fod llawer o oedi wedi bod, oedi annerbyniol, rhwng cael y fisa, y teulu i gyd neu'r aelwyd gyfan yn cael y visa, ac yna cael caniatâd i deithio. Felly, rydym ni'n edrych ar faterion fel trafnidiaeth hefyd, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd ei chyfrifoldeb hi o ran gwneud hon yn broses symlach er mwyn cael pobl, ffoaduriaid, i ddianc rhag arswyd eu profiad a'u bywydau nhw yn Wcráin ar hyn o bryd.

15:25

Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n croesawu eich datganiad chi heddiw. Mae Amy, sy'n etholwraig i mi, wedi rhannu fideo yn ddiweddar o'i gwesteion hi o Wcráin yn cyrraedd Maes Awyr Bryste, sydd wedi cael ei wylio dros 3.2 miliwn o droeon ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fe wnaeth hi hyn i ddangos i bobl Wcráin a phobl ledled y byd fod Cymru yn wir genedl noddfa. Mae hi'n drist iawn, mewn gwirionedd, fod gwestai Amy i fod i deithio gyda'i ffrind a'i mab wyth oed, ond fe wnaethon nhw benderfynu peidio â dod am eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn pryderu o ran y derbyniad y bydden nhw'n ei gael yma, ond dyna pam mae Amy wedi rhannu'r fideo hwn, ac rwy'n falch iawn o ba mor bell y mae hwnnw wedi treiddio, ac rwy'n credu ei fod wedi gwneud llawer o les.

Mae Amy a noddwyr eraill yn parhau i fynd yr ail filltir i sicrhau bod eu gwesteion yn cyrraedd yma'n ddiogel. Serch hynny, mae hi a llawer un arall wedi rhannu eu profiad nhw gyda mi o gynllun nawdd Llywodraeth y DU. Fe geir camdybiaeth o ran bod Llywodraeth y DU yn cysylltu noddwyr â gwladolion o Wcráin. Nid yw hyn yn wir. Mae pobl yn dibynnu ar grwpiau Facebook i wneud hyn. Mae pobl o Wcráin yn rhoi hysbysiadau o'u gwybodaeth a'u hamgylchiadau personol nhw, ac yna mae noddwyr yn ymateb yn y sylwadau gan gynnig eu cartrefi. Er bod llawer o bobl sy'n llawn bwriadau da yn cynnig cymorth ni chaiff y broses ei rheoleiddio na'i monitro ac mae hynny'n codi nifer o bryderon posibl o ran diogelwch pobl sy'n ffoi o Wcráin, yn ogystal ag o ran diogelwch y noddwyr. Rwyf i wedi clywed nifer o straeon hollol erchyll, hunllefus yn barod.

Mae camdybiaeth yn bod hefyd o ran y bydd trefniadau yn cael eu gwneud iddyn nhw deithio yma. Unwaith eto, nid yw hynny'n wir. Fe ofynnodd fy etholwr i ffrindiau sy'n byw yng Ngwlad Pwyl i yrru cerbyd at y ffin ag Wcráin ar gyfer cynnig cludiant i fam a'i phlentyn, a'u gyrru nhw i'r maes awyr wedyn er mwyn gallu mynd ar awyren i'r DU. Fe wariodd fy etholwraig i ei chynilion i dalu am gost y tocynnau iddyn nhw allu hedfan yma oherwydd mae'r rhai rhad ac am ddim wedi dod i ben erbyn hyn.

Nid oes proses olrhain ychwaith i weld a ydyn nhw'n cyrraedd yma. Mae'r Swyddfa Gartref yn cymeradwyo'r cais am fisa a dyna i gyd. Felly, beth pe bydden nhw'n cyrraedd yma ac yn mynd ar goll wedyn? Pwy fyddai'n gwybod? Pwy sy'n gwirio?

Fy nghwestiwn i'r Gweinidog felly—. Fe hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i chi, oherwydd rydych chi wedi ymgysylltu mewn gwirionedd â'r holl faterion a'r ymholiadau a ofynnais i chi. Rydych chi wir yn gwrando ar y noddwyr a'r gwesteion. Fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw: os gwelwch chi'n dda, a wnewch chi barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r materion hyn o ran diogelu yr wyf i'n pryderu llawer yn eu cylch nhw? Ac, yn ddelfrydol, rwyf i o'r farn fod angen cyllid penodol ar gyfer cydgysylltwyr cymunedol, er mwyn gallu cofleidio'r gwesteion Wcrainaidd â'r gwasanaethau hyn a chaniatáu iddyn nhw fyw yn annibynnol cyn gynted â phosibl.

Diolch yn fawr, Sarah Murphy, ac a gawn ninnau ddiolch i Amy hefyd am y gwaith a wnaeth hi a'r hyn a rannodd hi ag eraill? Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gwylio'r fideo hwnnw ac yn ei llongyfarch hi. Felly, anfonwch ein llongyfarchiadau ni iddi hi am ei hymrwymiad, ei chefnogaeth ac, yn wir, am rannu'r profiadau hollbwysig hyn y mae angen i ni ddysgu ohonyn nhw.

Rwy'n credu fy mod i wedi gwneud sylwadau yn flaenorol ynglŷn â rhai o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi, yn enwedig o ran gwella a chyflymu'r broses o gymeradwyo fisâu, a sicrhau bod y cyfathrebu â'r rhai sy'n ffoi ac yn aml, nawr, yn aros dros ffin y gwledydd cyfagos—weithiau mewn llety dros dro, yn cael eu noddi, yn cael eu hariannu ar gyfer eu teithio ac, yn wir, yn cael eu llety gan noddwyr o Gymru sy'n awyddus i roi'r croeso cynnes hwnnw—fe fyddem ni'n sicrhau ein bod ni'n edrych ar y materion hynny eto. Fe fyddaf i'n codi'r materion hyny eto gyda'r Gweinidog Ffoaduriaid yn ein cyfarfod nesaf ni, ynglŷn â'r peryglon sy'n bodoli lle ceir trefniadau noddi anffurfiol a pharu, sy'n beryglus. Hyd nes y bydd awdurdod lleol—y mae'n rhaid iddo wirio noddwyr mewn ffordd briodol, ffurfiol ar gyfer Cartrefi i Wcráin—nes iddyn nhw ymgysylltu â hynny, fe wyddom ni fod rhai sefyllfaoedd peryglus wedi digwydd eisoes. Felly, fe fyddwn i'n dweud bod yr wybodaeth a ddarparwn ni o ran diogelu yn hollbwysig.

Yn olaf, rwyf i am ddweud bod gennym ni bryderon sylweddol ynglŷn â'r diffyg o ran mesurau diogelu ar waith drwy gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU. Mae'r cynllun yn estyn mwy o gyfleoedd, ond fe geir ambell un, mae arnaf i ofn, sydd â bwriad i gymryd mantais ar rai agored iawn i niwed fel gall ffoaduriaid sy'n chwilio am noddfa fod. Fe wyddom ni fod mwyafrif llethol o noddwyr Cartrefi i Wcráin yn llawn cefnogaeth ac yn haelfrydig, ond mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gwirio a'n bod ni'n rhoi cefnogaeth ac yn atal troseddwyr rhag cymryd mantais ar hynny. Felly, fe fyddwn i'n dweud mai dyna pam yr ydym ni mor awyddus i gefnogi nid yn unig y cysylltiadau yr ydych chi'n eu disgrifio nhw heddiw, ond y llwybr uwch-noddwr, oherwydd fe fydd hwnnw'n cyflymu'r broses o gael fisâu ac yn diogelu'r rhai sy'n dianc rhag y gyflafan hon hefyd yn ogystal â'r profiadau treisgar yr ydym ni'n clywed amdanyn nhw hefyd ac yn eiddgar i ymdrin â nhw. Mae'r modd gennym ni yma yng Nghymru i wneud hynny.

15:30

Prynhawn da, Gweinidog. A gaf i ddiolch i chi a'ch swyddogion chi unwaith eto am eich gwaith caled ar y rhaglen hon, ac am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i minnau hefyd? Rwy'n ddiolchgar iawn.

Fel gwyddoch chi, mae yna breswylydd, Sarah, yn fy rhanbarth i, sydd, gyda thîm yng Ngwlad Pwyl, wedi gweithio i wneud ceisiadau am dros 400 o fisâu ar gyfer pobl o Wcráin sydd wedi ffoi i Wlad Pwyl. Roedd hyn mewn ymateb i'r broses araf, gymhleth a gor-fiwrocrataidd i baru llety parod yma yng Nghymru â ffoaduriaid truenus o Wcráin. Ond ni ddylid bod ag angen fisâu. Pobl druenus yw'r rhain sy'n ffoi oddi wrth ryfel. Fe fyddai llawer o ffoaduriaid yma, nawr, oni bai fod Llywodraeth y DU yn mynnu bod pobl yn cael fisâu. Cywilydd o beth.

Fy nghwestiwn i yw a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y gall awdurdodau lleol gynnal gwiriadau diogelu. Rydym ni wedi clywed llawer y prynhawn yma ynglŷn â hynny, ac mae gennyf i ddiddordeb arbennig yn eu gallu nhw, ac a ellir cynyddu hyn, ac a gafodd ei gynyddu, i ganiatáu iddyn nhw gynnal y gwiriadau ar gyflymder, yn ddiogel ac yn effeithlon. Diolch.

Diolch, Jane, a diolch i chi hefyd am fy nghyflwyno i Sarah, sydd eto'n un arall—fel Amy—yn ddinesydd anhygoel o Gymru sydd â rhan hanfodol fel hyn wrth wneud y cysylltiadau hynny, nid yn unig yng Nghymru, gyda'r holl wirfoddolwyr a theuluoedd sy'n noddi, ond yn Wcráin ac yn Ewrop. Diolch iddi hi am ein grymuso ni. Maen nhw'n cysylltu nawr, mae Sarah yn cysylltu â chysylltiadau'r gogledd, gyda'r holl grwpiau sy'n weithgar yng Nghymru gyda'i gilydd. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth—. Rwy'n credu bod Sarah wedi gwneud y pwynt ynglŷn â sut y gallwn ni gydgysylltu nawr yn well, efallai, ar lefel ranbarthol. Rydym ni'n edrych ar hynny, ac yn arbennig felly o ran cysylltiadau o Wcráin hefyd i'r rhai sydd wedi dod. Mae yna lawer sydd wedi dod yn awyddus i wirfoddoli nawr, yn awyddus am waith a swyddi, sydd mewn gwirionedd yn awyddus i gefnogi ei gilydd, ac wrth gwrs mae Voices for Ukraine, sef sefydliad sydd eisoes yn bodoli yr ydym ni'n gysylltiedig ag ef.

Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n estyn cymorth yn ogystal â rhoi canllawiau i awdurdodau lleol o ran eu swyddogaeth nhw o ran diogelu. Mae'r gwiriadau hynny'n bwysig. Ystyr hyn yw diogelu, rhannu data, llety, cymorth cofleidiol o ran gallu cael gwasanaethau'r trydydd sector hefyd. Ond, a gaf i atgoffa pobl o'n canolfan gyswllt ni hefyd? Rwyf i wedi rhoi'r rhifau, fe welsoch chi hynny yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, a'r cyngor a roddir yn ein canolfannau croeso ni hefyd. Rydym ni'n rhoi cefnogaeth wirioneddol i'n gweithwyr cymdeithasol ni, i'n swyddogion tai ni, ac yn yr awdurdodau lleol. Maen nhw wedi arfer, wrth gwrs, â threfnu gwiriadau, yn enwedig gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ond mae'n golygu mwy o waith, mae'n waith ychwanegol y mae'n rhaid iddyn nhw ei gymryd. Unwaith eto, rwyf i am ddychwelyd at y ffaith nad oes gennym ni'r arian y dylem ni fod wedi ei gael gan Lywodraeth y DU i sicrhau y gallwn ni gefnogi ein hawdurdodau lleol ni. Ie, o ran Cartrefi i Wcráin, maen nhw'n cael cymorth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ond ni chafodd hynny ei gymhwyso i'r cynllun teuluoedd, fel dywedais i hefyd, ac rydym ni'n wynebu diffyg cyllid i'n cefnogi ni i ddarparu'r gwasanaethau hynny ar gyfer y cynllun uwch-noddwr. Felly, mae datganiad heddiw yn bwysig, i gofnodi'r anghenion sydd gennym ni ac yn fy marn i, unwaith eto, i drafod hyn a sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yn ein cenedl noddfa ni.

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, yn yr un modd, wrth rannu profiadau fy etholwyr i, o ran methu â chael fisâu i aelodau olaf y teulu, a dyna pam bu oedi cyn dod yma, a derbyn galwadau hefyd o bob rhan o'r rhanbarth am anawsterau o ran sicrhau lleoedd mewn ysgolion i rai sy'n dod i Gymru, ac nid yw pob awdurdod lleol yn gyson o ran sicrhau eu bod nhw'n ymateb i ymholiadau am dderbyniadau i ysgolion, na chadarnhau trefniadau o ran trafnidiaeth. Ac roeddwn i'n meddwl tybed sut y gallwn ni sicrhau cysondeb ar draws pob awdurdod lleol wrth gymhwyso'r canllawiau a nodir yn eglur gan Lywodraeth Cymru.

Yn yr un modd, rwyf i o'r farn y byddai hi'n esgeulus i mi beidio â chodi rhywbeth heddiw a gododd yn ystod cyfnod y toriad, wrth gwrs, o ran Llywodraeth y DU, o ran cynlluniau i anfon mewnfudwyr i Rwanda. Rwy'n gwybod mai ar Wcráin yr ydym ni'n canolbwyntio, ond, yn yr un modd, yn genedl noddfa, fe wn i ein bod ni'n condemnio dull fel hwnnw, ac fe ddisgrifiodd Mark Drakeford y cynlluniau fel rhai creulon ac annynol ac nid yn ffordd weddus i drin pobl sy'n chwilio am ddiogelwch a noddfa. Felly, yn ystod eich trafodaethau chi gyda Llywodraeth y DU, a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau penodol ynglŷn â hyn, ac a oes cyfle i ni gefnogi camau cyfreithiol o bosibl, gan weithio gyda Llywodraethau eraill—megis Llywodraeth yr Alban—i atal y cynlluniau creulon hyn, gan eu bod nhw'n hollol groes i'r gefnogaeth gyhoeddus ryfeddol i'r bobl sy'n ffoi o Wcráin?

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Ac, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am yr enghreifftiau a roddwch chi o ran etholwyr a theuluoedd sy'n noddi, a'r rhai y maen nhw'n dymuno eu noddi—y ffoaduriaid—a bod â'r rhwystrau a'r anawsterau hyn; dyna fwy o dystiolaeth bwysig i mi. Ond mae angen i ni fynd i'r afael â hyn, mae angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hyn. Rydym ni'n gyfrifol am sicrhau bod plant yn gallu mynd i'r ysgolion—ein cyfrifoldeb ni yw hwnnw. Ac rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau, fel gwyddoch chi, ynglŷn â cheisiadau i dderbyn plant i ysgolion. Yn amlwg, mae angen i ni edrych ar y trefniadau i dderbyn mewn ysgolion, o ran y cod derbyn i ysgolion, ond rwy'n credu bod—. Ac fe fydd yna rai materion yn codi ynghylch swyddi gwag mewn ysgolion lleol, fe wyddom ni hynny, felly mae hi'n rhaid i awdurdodau lleol edrych ar yr holl faterion hynny ac ystyried cadw dysgwyr yn ddiogel. Ond, unwaith eto, mater i'r awdurdodau lleol yw hwn ac mae'r canllawiau yn eglur iawn ar y wefan noddfa yn hyn o beth, ond rwy'n hapus iawn i gael unrhyw enghreifftiau o anhawster ynglŷn â'r materion hyn.

Nawr, rwy'n deall yn llwyr pam yr ydych chi wedi codi'r mater hwn, yr hyn yr wyf i'n ei deimlo yw arswyd y cyhoeddiad a ddaeth yn ystod cyfnod o argyfwng am y sefyllfa gyda Rwanda, sydd ymhlith y 25 o wledydd tlotaf y byd, ac o un o'r gwledydd cyfoethocaf, ein gwlad ni, yn ei rhoi hi yn y sefyllfa hon. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn llwyr gefnogi'r farn bod y mesurau yn y Bil—o'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y daw hyn—bod allforio gwaith prosesu ceiswyr lloches, yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, a lofnodwyd gan y DU. Dull didrugaredd yw hwn ac mae'n tanseilio ein statws ni yn y byd. Cenedl sy'n rhoi noddfa ydym ni.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio

Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.

Dirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i amlinellu sut yr ydym ni'n bwriadu trawsnewid a moderneiddio'r ffordd y mae'r GIG yn darparu Gofal a Gynlluniwyd yma yng Nghymru. Heddiw, rwy'n cyhoeddi cynllun a fydd yn helpu i leihau'r amseroedd aros hir sydd, yn anffodus, wedi cronni yn ystod y pandemig. Fe fydd hwn yn sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth iawn ar y tro cyntaf ac yn sicrhau eu bod nhw'n cael gofal mor agos i'w haelwyd â phosibl, â llai o ymweld ag ysbytai.

Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar ein gwasanaethau iechyd a gofal ni. Mae wedi ymestyn y GIG i'r eithaf, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y DU. Mae'r GIG wedi bod yn wych yn y ffordd y mae wedi ymateb i'r pandemig. Mae wedi darparu gofal anhygoel o dan amgylchiadau eithriadol o anodd ac, ar ben hynny, mae wedi cyflawni'r rhaglen frechu COVID-19 sy'n achub bywydau. Rydym ni wedi gweld y gorau o'r GIG a'i staff yn ystod y pandemig. Maen nhw wedi gweithio yn ddiflino i gynnal cymaint o wasanaethau â phosibl. Y nhw yw'r rheswm yr aethom ni i sefyll ar garreg y drws i gymeradwyo bob wythnos ar ddechrau'r pandemig.

Ond fe ddaeth y pandemig â llawer o newidiadau i'r GIG. Ar ddechrau'r pandemig, fe wnaethom ni'r penderfyniad anodd i ganslo apwyntiadau a thriniaethau a gynlluniwyd i ganiatáu staff i ganolbwyntio ar ofalu am yr holl bobl sâl iawn hynny oherwydd COVID-19. Mae pob ton ddilynol o heintiau wedi golygu bod y GIG wedi gorfod canolbwyntio ar COVID-19 yn hytrach na gallu darparu'r gymysgedd lawn ac arferol o apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau a gynlluniwyd. Bu'n rhaid i wasanaethau addasu hefyd oherwydd y nifer fawr o weithdrefnau ac arferion i reoli heintio, a'r holl fesurau angenrheidiol i helpu i gadw cleifion a staff yn ddiogel. Mae'r rhain hefyd wedi cyfyngu ar niferoedd y bobl y gellir eu gweld ac sy'n gallu cael triniaeth ar unrhyw amser arbennig.

Wrth i ni ddechrau symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig, mae'r GIG yn darparu mwy o ofal a gynlluniwyd nawr nag ar unrhyw amser arall yn ystod y pandemig. Ond, hyd yn oed heddiw, mae bron i 1,400 o gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19 mewn gwelyau ysbyty, er mai dim ond tua 16 y cant o'r rhain sy'n cael eu trin yn weithredol oherwydd COVID. Ar y lefel hon, mae pwysau'r pandemig hwn yn parhau i effeithio ar faint a math y gofal a gynlluniwyd y gall y GIG ei ddarparu.

Cyn y pandemig, roedd amseroedd aros yn gostwng yn gyson ledled Cymru, yn anffodus, heddiw mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir o lawer am driniaeth, a honno yw'r sefyllfa ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae bron i 700,000 o lwybrau agored, gyda llawer o bobl yn aros am fwy na 52 wythnos. Fe fydd y rhifau hyn yn parhau i gynyddu wrth i bobl, yn briodol felly, barhau i fynd i weld eu meddygon teulu. Fe fydd hi'n cymryd tymor Senedd llawn a llawer o waith caled i adfer wedi effaith y pandemig. Honno yw fy mlaenoriaeth i erbyn hyn a blaenoriaeth y gwasanaeth iechyd.

Mae'r cynllun i adfer Gofal a Gynlluniwyd yn cael ei gefnogi gan £170 miliwn ychwanegol y flwyddyn o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Fe fydd yn ailgychwyn ac yn trawsnewid gwasanaethau Gofal a Gynlluniwyd ac fe gafodd ei ddatblygu gyda mewnbwn gan glinigwyr. Mae'n nodi ystod eang o gamau gweithredu i ailgynllunio gwasanaethau ac, mewn llawer o achosion, ailgynllunio'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl gan y GIG wrth gael eu hatgyfeirio gan eu meddygon teulu neu weithiwyr gofal iechyd proffesiynol arall ar gyfer triniaeth a gynlluniwyd. I'r rhai sydd eisoes yn disgwyl, fe fyddwn ni'n sicrhau bod y gefnogaeth ar gael. I'r rhai sy'n dod i mewn i'r system, fe fyddwn ni'n eu helpu nhw i reoli eu cyflyrau eu hunain a, lle bynnag y bo hynny'n briodol, fe fyddwn ni'n darparu mwy o ddewisiadau triniaeth amgen fel nad llawdriniaeth yw'r unig ddewis sydd ar gael. Fe fyddwn ni'n gwneud mwy hefyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn gofal.

Heddiw, rwyf i'n gwneud pedwar ymrwymiad i bobl, i'w helpu nhw i gael gafael ar y cyngor a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw mewn da bryd. Fe fyddwn ni'n cynyddu gallu'r gwasanaethau iechyd. Fe fydd hi'n haws cael mynd at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn nes adref, felly mae pobl yn cael y gofal cywir gan yr unigolyn cywir. Fe fyddwn ni'n blaenoriaethu diagnosis a thriniaeth. Fe fydd triniaethau a gweithdrefnau diagnostig ar gael yn gynt. Fe fyddwn ni'n blaenoriaethu pobl a allai fod â chanser a chyflyrau brys eraill ac fe fyddwn ni'n blaenoriaethu plant. Fe fydd clinigwyr yn gweithio gyda phobl i wneud yn siŵr mai dewis triniaeth yw'r peth gorau iddyn nhw.

Fe fyddwn ni'n trawsnewid y ffordd rydym ni'n darparu gofal sy'n cael ei gynllunio. Fe fydd mwy o ofal a chymorth ar gael gan amrywiaeth ehangach o wasanaethau lleol a gweithwyr proffesiynol i helpu pobl i gadw'n iach ac i aros adref. Fe fyddwn ni'n sefydlu cyfleusterau llawfeddygol pwrpasol ac yn gwahanu gofal a gynlluniwyd oddi wrth ofal brys a gofal argyfwng, pan fo hynny'n bosibl. Fe fyddwn ni'n darparu gwell gwybodaeth a chymorth i bobl, yn enwedig y rhai sy'n aros am driniaeth.

Dwi hefyd wedi gosod targedau clir ac uchelgeisiol i leihau amseroedd aros. Erbyn diwedd 2022, eleni, ni fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf. Erbyn gwanwyn 2024, fe fyddwn ni wedi cyflymu profion ac adroddiadau diagnostig i wyth wythnos ac i 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi. Erbyn gwanwyn 2025, ni fydd neb yn aros am fwy na blwyddyn am lawdriniaeth yn y rhan fwyaf o feysydd arbenigol. Erbyn 2026, fe fydd 80 y cant o'r bobl sy'n cael diagnosis canser yn dechrau'r driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod o’r pwynt cyntaf pan amheuir fod canser. Fe fyddwn ni'n gwneud yn siŵr mai'r rhai sydd â'r angen mwyaf sydd yn cael eu gweld gyntaf. Ond, gadewch i mi fod yn glir, mae'r dasg o'n blaenau ni yn enfawr. 

Mae'r gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd o dan bwysau di-baid yn sgil y pandemig a'r gaeaf. Mae'n staff iechyd yn flinedig ar ôl gweithio o dan bwysau enfawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cynyddu nifer y staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru 54 y cant yn rhagor, ond mae angen mwy arnom ni. Rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i hynny drwy gyllideb gwerth £0.25 biliwn i hyfforddi mwy o arbenigwyr. Fe fyddwn ni'n cefnogi’r gwasanaeth iechyd wrth inni ofyn iddo roi'r cynllun hwn ar waith. Fe fyddwn ni'n parhau i recriwtio staff medrus i ymuno â'r gweithlu ac yn parhau i hyfforddi'r to nesaf o weithwyr gofal iechyd.

Fe fydd gan ofal sylfaenol ran hanfodol i’w chwarae yn llwyddiant y cynllun hwn. Rydyn ni wedi cyflwyno gwasanaeth e-gyngor i feddygon teulu, i’w helpu i gael cyngor cynnar gan dimau arbenigol i gefnogi penderfyniadau a rheoli gofal cleifion. Fe fyddwn ni hefyd yn gwneud defnydd ehangach a gwell o sgiliau ac arbenigedd ein staff nyrsio a'n gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i gefnogi pobl tra maen nhw'n aros am apwyntiad a thra maen nhw'n adfer ar ôl llawdriniaeth. Does dim ateb sydyn i leihau amseroedd aros hir. Fe fydd angen gwaith caled, fe fydd angen cefnogaeth pobl ar draws Cymru a'r gwasanaeth iechyd, ac fe fydd angen amser i weld canlyniadau gwirioneddol a pharhaol. Gyda'n gilydd, fe wnawn ni adfer o'r pandemig yma. Diolch.

15:45

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ategu sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â gweithlu'r GIG a'r gwaith aruthrol y maen nhw wedi'i wneud? Ni allwn ailadrodd hynny ddigon, sef ein diolch am eu holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynllun i leihau amseroedd aros, a diolch hefyd i'r Gweinidog, wrth gwrs, am y sesiynau briffio technegol y mae wedi'u darparu hefyd? Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Byddaf yn dechrau drwy groesawu'r cynllun hwn yn fawr. Rwyf i yn croesawu'n fawr y ffaith bod gan y cynllun hwn dargedau. Mae hynny'n gwbl hanfodol, ac mae hynny'n elfen gadarnhaol o'r hyn yr wyf wedi'i ddarllen heddiw. Rwy'n bryderus iawn ynghylch gosod targed nad oes neb yn aros mwy na blwyddyn, mor bell i ffwrdd â 2025. Ychydig iawn o gysur y bydd hynny'n ei roi, wrth gwrs i'r rhai sy'n aros, yn aml mewn poen ac anesmwythder. Rydym yn 2022 yn awr, ac maen nhw'n edrych ac yn gweld y flwyddyn 2025—mae hynny'n mynd i fod yn anodd iddyn nhw ei dderbyn. Rwyf hefyd yn pryderu nad yw'r targed o 80 y cant ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod erbyn 2026 yn ddigon uchelgeisiol. Mae pobl eisoes, wrth gwrs, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn troi at ofal preifat.

Sut a phryd, Gweinidog, y byddwch yn sicrhau bod byrddau iechyd Cymru'n cyfathrebu'n effeithiol â'r cannoedd ar filoedd o'r rhai hynny sy'n aros am gymorth ar restrau aros—y rhai hynny y mae eu hiechyd corfforol a meddyliol, efallai, yn dirywio yn y cyfnod hwnnw hefyd? Sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod byrddau iechyd yn cyfathrebu'n effeithiol â'r bobl hyn sy'n aros am wybodaeth? Oherwydd eu bod yn cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw aros sawl blwyddyn cyn cael triniaeth. Sut caiff y targedau hyn eu monitro? A fydd adroddiad blynyddol? Rwy'n gwybod, Gweinidog, y byddwch yn dwyn eich swyddogion i gyfrif am lawer o'r targedau hyn yr ydych wedi'u cyflwyno; sut ydym ni yn y Senedd hon yn mynd i'ch dwyn chi i gyfrif? Sut y gallwn ni wneud hynny? A fyddwch yn cael adroddiad blynyddol? Dywedwch ychydig mwy wrthym am sut y gallwn fonitro cynnydd. 

Rwyf i yn croesawu'r defnydd o dechnoleg i fynd i'r afael â rhai o'r pwysau ar weithlu'r GIG, ond mae wedi bod yn bedair blynedd ers i'r cyn Weinidog iechyd gynnig cynlluniau tebyg, ac ers hynny dim ond newydd weld y cynlluniau amlinellol ar gyfer e-bresgripsiynau ydym ni, a allai fod wedi codi llawer o'r baich biwrocrataidd oddi ar feddygon a fferyllwyr. Mae technoleg yn ddefnyddiol, wrth gwrs ei bod, ond nid yw'n mynd i fynd i'r afael â sut y bydd gweithlu'r GIG sydd eisoes dan bwysau a dan straen, yn ymdopi, ac ni fydd ychwaith yn darparu gweledigaeth gyflawn ar gyfer GIG mwy hyblyg ac ymgysylltiol. Sut bydd eich cynllun yn canolbwyntio ar gadw? Pa dargedau ydych chi'n eu rhoi ar waith ar gyfer recriwtio? Sut ydych chi'n meddwl y bydd apwyntiadau rhithwir yn helpu rhywun sydd angen llawdriniaeth ar glun sydd wedi bod yn aros am sawl blwyddyn mewn poen, neu rywun sydd wedi bod yn colli ei olwg? Sut bydd eich gwasanaethau ar-lein yn helpu'r rhai nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd? Sut byddwch chi'n sicrhau bod apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda meddygon yn ddewis?

A bod yn deg, Gweinidog, mae rhai uchelgeisiau cadarnhaol, uchel iawn yn eich cynllun. Nid wyf yn amau hynny am eiliad. Mae rhai targedau heriol wedi'u gosod yn eich cynllun, mewn rhai agweddau. Ond, ar y darlleniad cyntaf, i mi, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd bod y cynllun hwn yn fwy nag ateb dros dro yn unig. Nid yw'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau hirdymor yr ydym wedi eu hwynebu o fewn GIG Cymru. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod eisiau i ni ailgodi'n gryfach, onid ydym, yng Nghymru, ar ôl y pandemig. Nid ydym yn dymuno dychwelyd i'r man lle'r oeddem ni cyn i'r pandemig ddechrau, rydym eisiau bod mewn gwell sefyllfa. Felly, sut bydd eich cynllun yn gwneud hynny? Rhowch rywfaint o sicrwydd i ni nad ateb dros dro i broblemau cyfredol yn unig ydyw.

Ydy, mae COVID, wrth gwrs, wedi effeithio ar ein gwasanaethau. Rwy'n gwybod eich bod wedi dechrau eich datganiad heddiw, Gweinidog, drwy ddweud eich bod wedi cyhoeddi eich cynllun i helpu i leihau'r amseroedd aros hir sydd, yn anffodus, wedi cronni yn ystod y pandemig. Mae hynny'n ffeithiol gywir. Ond, yr hyn sy'n bwysig ei ddweud hefyd yw yr oeddem ni mewn sefyllfa anodd iawn cyn i'r pandemig ddechrau. Roedd nifer y bobl ar y rhestrau aros wedi dyblu hyd yn oed cyn i'r pandemig daro Cymru. Roedd gennym ni ddwywaith yn fwy o bobl yn aros am fwy na blwyddyn o'i gymharu â Lloegr gyfan ym mis Mawrth 2020. Mae hynny'n ystadegyn eithaf syfrdanol o ystyried maint Cymru o'i chymharu â phoblogaeth Lloegr.

15:50

Mae angen i'r Aelod ddod i ben nawr, oherwydd bod gennym ni gryn dipyn o siaradwyr. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe af i drwyddyn nhw'n gyflym felly.

A gaf i ofyn, Gweinidog, am ganolfannau rhanbarthol sy'n rhydd o COVID? Rwyf wedi sôn am hyn droeon—fe wn i fy mod wedi sôn am hyn droeon, a gwnaeth fy rhagflaenydd yn y swydd hon yr un peth hefyd. Dywedwch wrthym pryd maen nhw'n mynd i ddigwydd. Dywedwch pryd fyddan nhw yn eu lle, oherwydd hoffwn wybod yr ateb i hynny heddiw, Gweinidog.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros, ac mae chwarter ohonyn nhw yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth. Mae gennym amseroedd aros cyfartalog sydd 10 gwaith yn uwch na'r rhai yn Lloegr. Mae gennym yr amseroedd aros gwaethaf ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys a welsom erioed yng Nghymru, a'r ffigurau gwaethaf ond un o ran amseroedd ymateb ambiwlansys erioed wedi'u cyhoeddi. Mae'r rhain i gyd yn recordiau arwyddocaol sy'n cael eu torri i'r cyfeiriad anghywir. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pryd y bydd y Llywodraeth Lafur yn mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn ac yn rhoi'r gorau i dorri'r holl dargedau anghywir a sicrhau bod eich cynllun yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru mewn gwirionedd?

Diolch, Russell, am eich cyfraniad. Rwy'n falch eich bod yn cytuno ei bod yn bwysig cael targedau. Rydych yn llygad eich lle bod ein targedau'n glir na ddylai neb aros mwy na blwyddyn erbyn 2025, ond mae targed interim, a hynny yw y dylem weld diwedd ar y nifer sy'n aros am fwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023. Felly, mae hynny'n ffordd y gallwch ein dwyn i gyfrif yr adeg hon y flwyddyn nesaf, a gofynnaf i chi fy nwyn i gyfrif yn yr ystyr y byddaf yn dwyn fy swyddogion i gyfrif, a byddwn yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif. Rwy'n credu ei fod yn gwbl glir. Rydym wedi adeiladu'r targedau hyn ochr yn ochr â'r byrddau iechyd. Maen nhw'n dweud wrthym ni y gallan nhw gyrraedd y targedau hyn. Mae'n bwysig iawn nawr ein bod ni'n cynnal y pwysau arnyn nhw o ran hyn.

Gofynnoch chi am strategaeth gyfathrebu. Byddwch yn gwybod bod strategaeth gyfathrebu weithgar iawn wedi bod eisoes, yn enwedig gyda'r rhai sy'n aros hiraf. Mae eich pwyllgor wedi ysgrifennu adroddiad diddorol iawn, a byddwch yn gwybod o hynny fod y rhaglen Byw'n Dda yn rhoi cyngor i bobl ar sut y gallan nhw fyw'n dda tra byddan nhw'n aros am eu llawdriniaethau. Yn amlwg, bydd gennym ddiddordeb mewn gweld a fydd byrddau iechyd eraill yn cymryd sylw o hynny a phryd. Byddaf yn gofyn am sesiynau briffio misol gan fy nhîm, ond rwy'n siŵr y byddan nhw'n monitro mewn amser real yr hyn sydd wedi bod yn digwydd. Os oes cyfleusterau nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio—yn enwedig rhwng 9 a.m. a 5 p.m. llawn amser, drwy'r amser—byddaf eisiau gwybod pam, ac rwy'n siŵr y bydd gennych ddiddordeb mewn gwybod pam hefyd. Mae targed hefyd y gallwch fy nal i at fy addewid ar ddiwedd y flwyddyn hon, mewn gwirionedd, sef ein bod yn dweud y dylai pobl gael eu hapwyntiad cyntaf erbyn diwedd eleni. Rydym yn gwybod bod llawer—tua 50 y cant, os nad mwy—yn aros am yr apwyntiad cychwynnol cyntaf hwnnw. Felly, gobeithio y bydd hynny'n ein helpu.

O ran e-ragnodi, fe wyddoch chi fy rhwystredigaeth ynghylch hyn, Russell. Byddwch chi'n gwybod fy mod i wedi rhoi arian ar y bwrdd, ond gallaf eich sicrhau fy mod ar drywydd hwn. Cefais gyfarfod ddoe i fynd drwy'r ffordd y gallwn gyflymu'r broses, oherwydd, fel y gwyddoch, nid wyf yn fodlon aros am dair blynedd i hynny ddigwydd, ac rwy'n credu y gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr o bosibl o ran amser pobl.

Rydych yn llygad eich lle wrth ganolbwyntio nid yn unig ar recriwtio, gan fy mod i'n credu bod gennym biblinellau recriwtio parhaus. Mae gennym tua 78 y cant yn fwy o nyrsys dan hyfforddiant nag a oedd gennym o'r blaen. Mae gennym tua 97 y cant yn fwy o fydwragedd dan hyfforddiant nag a oedd gennym o'r blaen. Y broblem wirioneddol i mi yw cadw—sut ydym yn cadw pobl yn y system. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni gymell, mae angen i ni sicrhau bod cyfleoedd iddyn nhw wneud mwy o arian, efallai, drwy weithio oriau hwy. Felly, mae'r holl bethau hynny'n gyfleoedd iddyn nhw.

Rydych yn llygad eich lle wrth ofyn pa gymorth y gall ymgynghoriad rhithwir ei roi. Yr hyn y gall ei wneud yw'r gwaith paratoi. Yn amlwg, nid yw'n mynd i helpu ar gyfer y llawdriniaeth ei hun, ond mae llawer o waith cyn llawdriniaeth y gellir ei wneud yn rhithwir, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod hynny'n cael ei wneud. Ond hefyd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael pobl i ddeall nad llawdriniaeth yw'r unig ddewis bob tro na'r dewis gorau bob tro. Rwy'n edrych ar eich cyd-Aelod y tu ôl i chi sy'n arbenigwr yn y maes hwn, felly rwyf bob amser yn ymwybodol iawn o'r ffordd rwy'n siarad pan fydd gen i arbenigwr o'r fath yn y Siambr. Roeddwn i'n siarad â rhywun yr wythnos hon a gafodd wybod i ddechrau y gallai fod angen llawdriniaeth ar ei ysgwydd, a nawr, mewn gwirionedd, mae rhywfaint o ffisiotherapi dwys wedi cywiro'r broblem. Rwy'n credu bod angen i ni gael pobl i ddeall bod dewisiadau eraill heblaw llawdriniaeth.

Wrth i chi sôn am ailgodi'n gryfach, roeddwn i'n aros am eich canolfannau llawfeddygol, roeddwn i'n aros am eich cwestiwn ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran canolfannau sy'n rhydd o COVID, a gallaf ddweud wrthych fod rhai o'r rhain eisoes ar waith. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae gennym theatr cataract lle byddwn, rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn gweld 600 o bobl y mis. Mae honno eisoes ar waith. Byddwn yn gweld canolfan trawma ac orthopedeg newydd yn cael ei datblygu yn Aneurin Bevan yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd honno'n cael £1 miliwn, a bydd yn gweld tua 3.650 o bobl yn rheolaidd. Bydd uned lawfeddygol orthopedig ac asgwrn cefn newydd yn Abertawe a Hywel Dda. Bydd honno'n ardal werdd a fydd ar wahân, felly ni fydd gofal brys sy'n dod i mewn drwy'r drws yn torri ar ei thraws. Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae llawfeddygon wedi bod yn gofyn amdano. Rydym yn mynd i geisio sicrhau ein bod yn gwahanu'r llwybrau hyn gymaint â phosibl. Mae'n eithaf anodd pan fydd yr holl welyau'n llawn. Mae'n bwysig i ni geisio cynnal y llif hwnnw drwy'r system, ond hefyd fod gennym welyau wrth gefn, os gallwn, er mwyn i lawdriniaeth allu parhau.

Yna, o ran rhestrau aros, yn amlwg, mae'r pandemig wedi difetha ein holl gynlluniau. Roeddem mewn gwirionedd yn gwella wrth i ni fynd i mewn i'r pandemig. Yn 2019 dim ond 9,000 o bobl oedd yn aros am 36 wythnos. A byddwn yn gofyn i chi, Russell, roi'r gorau i gymharu afalau a gellyg. Mae'r ffordd yr ydym yn cyfrif yng Nghymru yn wahanol iawn i'r ffordd y maen nhw'n cyfrif yn Lloegr. Yn gyntaf, nid yw'n ymwneud â nifer y bobl yn unig. Felly, pan welwn ni 700,000 o bobl—

16:00

Mae angen i ni fod yn dryloyw gyda'r cyhoedd. Rydym ni'n credu, er enghraifft, ei bod yn bwysig cynnwys pethau fel diagnosteg a therapïau yn ein hamseroedd rhestrau aros oherwydd, mewn gwirionedd, mae miloedd o bobl yn aros amdanyn nhw. Nid ydyn nhw wedi'u cynnwys yn ffigurau Lloegr, felly gofynnaf i chi roi'r gorau i gymharu afalau a gellyg.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Y peth cyntaf y dywedaf i yw dwi ddim yn meddwl bod posib imi ofyn pob cwestiwn dwi eisiau ei ofyn heddiw yma, ac a bod yn deg, does dim modd i'r Gweinidog roi bob ateb heddiw yma. Ond heddiw ydy dechrau proses ar ddal y Llywodraeth i gyfri ar y dasg fwyaf pwysig, am wn i, sydd gan y Llywodraeth o'i blaen ar hyn o bryd.

Hefyd, peth pwysig iawn i'w ddweud ar y dechrau fel hyn, wrth ymateb i gyhoeddiad y cynllun hirddisgwyliedig yma ydy mai'r problemau dŷn ni'n siarad amdanyn nhw rŵan yw'r un problemau yn union â'r rhai a oedd yn bodoli cyn y pandemig. Ydyn, maen nhw'n waeth, ac mae'r ffigurau cymaint â hynny'n waeth—y rhestrau aros yn hirach a'r amseroedd aros yn fwy—ond yr un problemau ydy'r rhain. Fel y dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon mewn datganiad heddiw:

mae'r pandemig wedi gwaethygu'r broblem yr oeddem eisoes yn ei hwynebu. 

Dyna ydy gwirionedd y sefyllfa, ac mae hynny'n dweud cymaint, onid ydy hi, am fethiant Gweinidogion, un ar ôl y llall, i roi y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar y seiliau cynaliadwy dŷn ni eu hangen. Beth mae'r pandemig wedi'i wneud ydy dangos pa mor anghynaladwy oedd pethau cynt. Os mai bwriad y Gweinidog ydy mynd â ni nôl i sut oedd pethau cyn i'r pandemig daro, wel, dyn â'n helpo ni.

Mi af i drwy rai o wahanol elfennau'r datganiad heddiw yma. Dwi'n falch bod hwn gennym ni o'r diwedd, y cynllun yma. Dwi'n cytuno efo llawer o'r naratif dŷn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog—yr angen i roi'r driniaeth gywir yn y lle cyntaf; yr angen i gynnig gofal mor agos at gartref â phosib—ond mae yna lawer o gwestiynau yn codi ynglŷn â sut yn union mae rhai o'r addewidion yn mynd i gael eu cyflawni.

Os ydyn ni'n sôn am roi blaenoriaeth i gynyddu capasiti o fewn y gwasanaeth iechyd, mae o'n bryder mawr i mi nad sôn am gynyddu capasiti o fewn gwasanaethau iechyd a gofal dŷn ni yn fan hyn, achos mae'n rhaid meddwl am y ddau fel un. Mi ddywedodd un prif weithredwr bwrdd iechyd wrthyf i yn ystod y pandemig, pan oedd y Gweinidog yn rhoi tipyn o arian ar gael i'r gwasanaeth iechyd, 'Mi fyddai'n well gen i pe bai'r arian yma yn mynd i wasanaethau gofal, oherwydd yn y fan honno y mae'r broblem.' Hynny ydy, mae'n rhaid meddwl am y gwaith o godi nôl ar ein traed ar ôl y pandemig yma fel her i'r gwasanaethau iechyd a gofal.

Blaenoriaethu diagnosis a thriniaeth, a chyflwyno rhai targedau newydd—dwi'n croesawu'r ffaith bod yna dargedau. Dwi'n hynod o siomedig efo lefel yr uchelgais o ran targedau canser. A bod yn deg, mae'r lefel o uchelgais yn adlewyrchu'r sefyllfa dŷn ni ynddi hi, ond dŷn ni erioed wedi cyrraedd y targed o 75 y cant i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod hyd yma. Y cwbl sy'n digwydd ydy cynyddu hynny o 75 i 80, a dwi'n methu â deall sut mae'r Gweinidog yn credu y gall hi gyrraedd y targed hwnnw, hyd yn oed, heb gael cynllun canser, fel mae pawb heblaw Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos, yn galw amdano fo.

O ran y targedau ehangach—

Rwyf wedi cael rhai sylwadau heddiw gan Cymru Versus Arthritis, yn poeni am y targedau sy'n ymwneud â thorri amseroedd aros ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau, yn hytrach na phob un. O ystyried pa mor hir yw amseroedd aros orthopedig, dyma dipyn o esgus i beidio â gwneud rhywbeth gan Lywodraeth Cymru: 'Byddwn yn rhoi trefn ar amseroedd aros ac eithrio'r bobl hynny sy'n aros hwyaf'. Byddwn yn gwerthfawrogi ymrwymiad i gyhoeddi targedau ar gyfer pob arbenigedd, ond gan gydnabod bod yr her yn fwy i rai arbenigeddau, ond, unwaith eto, mae'n ymwneud â gwybod i ble y mae angen i ni fynd.

Technoleg, yn fyr iawn—roeddwn i am bwyso arnoch chi i sôn dipyn am dechnoleg a defnyddio technoleg. Dwi'n falch o'r ymrwymiadau i ddatblygu'r portal i gleifion gael gwybod lle maen nhw arni o fewn y system. Mae ambell i gwestiwn yn codi yn sgil hynny. Pa bryd fydd y portal yma yn barod? A fyddwch chi'n defnyddio staff rheng flaen i helpu datblygu'r cynllun hwnnw? A hefyd, fydd e'n caniatáu cyfathrebu rhwng gofal sylfaenol a gofal eilradd, achos mae'n rhaid inni gael y cyfathrebu di-ffin yma rhwng gwahanol rannau'r gwasanaeth iechyd?

Dwi'n ymwybodol bod fy amser i yn rhedeg allan; mi adawn ni o yn fanna, oherwydd, fel dwi'n dweud, dechrau'r broses ydy hyn o ddal y Llywodraeth i gyfri. A dwi wedi eu dyfynnu unwaith, ac mi wnaf i unwaith eto—Coleg Brenhinol y Meddygon: mae yna syniadau da yma, medden nhw, ond beth sydd ddim yn glir ydy sut mae gwireddu y syniadau yma, yn cynnwys ar beth mor sylfaenol â chynllunio gweithlu. Dŷn ni'n clywed am yr angen i gynllunio gweithlu; wel, dŷn ni'n gwybod bod yna angen i gynllunio gweithlu, ond beth dŷn ni eisiau ei wybod ydy sut mae'r gwaith hwnnw'n mynd i gael ei wneud. Mae yna her enfawr o flaen y Llywodraeth.

16:05

Diolch yn fawr, Rhun. Yn sicr, mae pethau wedi newid ers i'r pandemig fwrw. Mae'r ffaith ein bod ni i gyd yn defnyddio technoleg mewn ffordd hollol wahanol i'r ffordd roedden ni cyn y pandemig yn golygu bod yna bosibiliadau nawr nad oedd yna cyn y pandemig. Ac felly rŷn ni eisiau manteisio ar y rheini er mwyn newid y system ymlaen. Ond rŷch chi'n eithaf reit, beth sydd angen arnon ni yw datblygu gwasanaethau sy'n gynaliadwy am y tymor hir a dyna pam taw beth rŷn ni'n bwriadu ei wneud fan hyn yw cynyddu capasiti. Ac rŷch chi'n sôn am drawsnewid; dyna beth rŷn ni'n trial gwneud yw trawsnewid, ond mae eisiau i'r cyhoedd ddod gyda ni ar hwn hefyd, i ddeall bod rhaid inni wneud pethau'n wahanol a bod y ffordd rŷn ni wedi gwneud popeth yn y gorffennol—pobl yn jest cymryd yn ganiataol mai yn yr ysbyty fyddan nhw'n cael gofal—mae hwnna'n mynd i newid. Rŷn ni eisiau i'r gofal fod yn agos at bobl, rŷn ni eisiau i'r diagnostics ddigwydd yn ein cymunedau ni, a dim ond mynd i'r ysbyty os oes wirioneddol angen gwneud hynny. Felly, mae blaenoriaeth gyda ni o ran diagnosis a thriniaeth, ac mae hwnna yn bwysig, achos mae yna lot o bobl yn aros am eu diagnosis cyntaf. Mae eisiau inni wybod pwy sy'n aros, er mwyn gwybod os yw hwnna'n mynd i fod yn broblem ddifrifol neu beidio, ac felly dyna pam rŷn ni'n canolbwyntio ar hynny yn ystod y misoedd cyntaf.

Mae, fel y gwyddoch chi, arian mawr eisoes wedi mynd mewn i'r gwasanaeth gofal. Bydd angen mwy, yn sicr, ond fel rŷch chi'n ymwybodol, rŷn ni am y tro cyntaf yn talu'r real living wage i'r bobl sy’n gweithio yn y sector yma. A dyna yw'r her fwyaf, dwi'n meddwl, o ran gofal—talu cyflog sy'n deg i bobl, achos yn y ffordd yna y byddwn ni'n denu mwy o bobl i mewn i'r system. Ond rŷn ni yn gweithio gyda Plaid Cymru i ddod lan â rhaglen ar sut y byddwn ni'n mynd ati i edrych ar ofal yn y tymor hir.

Beth rŷn ni wedi ceisio ei wneud fan hyn yw rhoi mesurau a thargedau mewn lle sy'n realistig, ond sydd hefyd yn rhoi gobaith i bobl, ac mae hynny'n hollbwysig. Ar hyn o bryd, dyw pobl ddim yn gwybod beth i ddisgwyl, ond gyda'r targedau yma, dwi'n gobeithio y byddan nhw'n cael gwell syniad. Ac mae e'n rili bwysig, a dwi eisiau ei gwneud hi'n glir, yn enwedig gyda orthopaedics, er enghraifft—mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol, rŷn ni'n dal mewn sefyllfa sydd yn eithaf argyfyngus. Does dim ond angen ichi fynd i A&E ar nos Wener, fel y gwnes i ddydd Gwener diwethaf, jest i weld y pwysau arnyn nhw, ac mi allwch chi weld pam fod pobl yn canslo operations, achos bod yna gymaint o bwysau wrth y drws cefn. Felly, mae cael gwelyau yn hollbwysig os ydych chi'n mynd i barhau.

Dyna pam, o ran orthopaedics, er enghraifft, beth fyddwn ni'n ei wneud yw newid y ffordd rŷn ni'n gwneud hyn, i sicrhau bod yna wasanaethau yn cael eu darparu, lle byddwn ni'n gweld lot o cataracts yn cael eu gwneud mewn ffyrdd cyflym; yr un peth gydag orthopaedics, fel rŷn ni'n bwriadu datblygu, er enghraifft, yn Abertawe. Ond mae'n bwysig hefyd fod pobl yn deall mai'r median wait ar hyn o bryd yw 42 o wythnosau. Felly, er bod rhai pobl yn aros yn hir, y median wait yw 42 o wythnosau. Felly, mae hi'n bwysig bod pobl yn deall hynny.

Mae technoleg a'r ffordd mae'r systemau'n siarad gyda'i gilydd—unwaith eto, rŷn ni wedi bod yn trafod hwn yr wythnos yma. Unwaith eto, mae'n anodd troi hwnna ymlaen dros nos, ond mae yna gynlluniau mewn lle a dwi wedi trio rhoi pwysau ymlaen i weld os gallwn ni symud yn gyflymach yn y system yna.

Ac o ran cynllunio'r gweithlu, byddwch chi'n ymwybodol bod rhaglen gyda ni, ond beth sy'n bwysig yw bod yna action plan i'r rhaglen yna. Dyna pam rŷn ni'n gweithio gyda HEIW. A rhan o beth rŷn ni'n mynd i'w roi mewn lle fan hyn yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n hollol glir ynglŷn â beth yw'r gweithlu sydd angen ei roi mewn lle. Ac felly dwi'n siŵr byddai gan y pwyllgor ddiddordeb gweld beth rŷn ni'n bwriadu ei wneud yn y maes yna.

16:10

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod eisoes wedi mynd y tu hwnt i'r amser a neilltuwyd. Gofynnaf i'r holl Aelodau sy'n weddill—byddaf yn eich galw—i gadw'ch cyfraniadau'n gryno ac o fewn yr amser a neilltuir, ac i'r Gweinidog hefyd fod yn gryno yn ei hatebion, os gwelwch yn dda. Jenny Rathbone.

Diolch. Rwy'n eich llongyfarch am beidio â cheisio trwsio system sydd wedi torri, ond yn hytrach i gael newid system gyfan. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r gwaith yr ydych yn ei amlinellu yn eich cynllun.

Cataractau, cluniau a phengliniau yw'r materion mwyaf yr wyf i'n ei chael yn anodd iawn cynghori etholwyr arnyn nhw, gan eu bod nhw'n amlwg yn bethau y mae angen i arbenigwyr eu gwneud. Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, fod llawfeddyg orthopedig ymgynghorol yn y gogledd wedi arloesi llawdriniaeth ben-glin gofal dydd. Pa mor dda y mae'r gwaith arloesol hwnnw'n ymledu i sicrhau bod pobl eraill hefyd yn gwneud y math hwnnw o lawdriniaeth ben-glin, sy'n cynnwys, yn amlwg, dîm amlddisgyblaethol o nyrsys ac eraill, i sicrhau bod pobl, gan gynnwys teulu'r claf, yn gwybod sut i wneud yr ymarferion i alluogi hynny i gyd ddigwydd?

Mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn meddwl am bethau ein hunain. Clywais Peter Fox yn gynharach yn difrïo'r ffaith mai dim ond yr hylenydd yr oedd plant ei etholwr wedi cael ei weld, pan mai'r hylenydd, oni bai fod gan y plentyn anghenion arbennig, yw'r person gorau i roi archwiliad i blentyn a rhoi archwiliad arferol iddyn nhw.

Yn yr un modd, mae'n sicr bod yr optometrydd sy'n darparu gwasanaeth manylach yn mynd i'n helpu i sicrhau y bydd y rhai hynny sydd â'r angen mwyaf brys i weld yr offthalmolegydd yn cael eu gweld. Ond mae'n rhaid i'r offthalmolegydd edrych ar y lluniau y mae'r optometrydd wedi eu hanfon ato. Rwy'n gwybod bod hyn yn digwydd ym mwrdd iechyd Bae Abertawe, a dyna pam mae ganddyn nhw lefel mor isel o amseroedd aros. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod y math hwnnw o arfer da yn cael ei ymgorffori ar draws y system fel bod pobl, y rhai y mae angen triniaeth cataract gwirioneddol frys arnyn nhw, yn mynd i frig y rhestr?

Diolch yn fawr iawn, Jenny. Ac, yn sicr, mae cataractau yn faes yr ydym yn canolbwyntio'n fanwl arno, oherwydd, fel y dywedwch, mae miloedd o bobl yn aros, yn llythrennol. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn ymdrin â nhw mewn system o flaenoriaeth, felly mae'r rhai sy'n fwy tebygol o golli eu golwg yn mynd i flaen y ciw. Cefais brawf llygaid y bore yma ac roedd fy optegydd wrth ei fodd o glywed ein bod yn mynd i fod yn newid y gyfraith i sicrhau eu bod yn gallu gwneud llawer mwy na phrofion llygaid yn unig. Ac rydym yn gobeithio, drwy newid y gyfraith, y byddwn yn gallu lleihau'r rhestrau aros i ddwy ran o dair o'r hyn yr oedden nhw. Felly, mae arbenigwyr nad ydym yn eu defnyddio i'w llawn gapasiti ar hyn o bryd, a dyna yr ydym yn bwriadu ei wneud.

Ac rydych yn llygad eich lle i hysbysu, mae arnaf ofn, Mr Fox ein bod, mewn gwirionedd, yn mynd i fod yn gwneud pethau'n wahanol. Efallai na fyddwch yn gweld deintydd yn y dyfodol. Efallai y byddwch yn gweld rhywun gwahanol sydd yr un mor abl i ddarganfod a oes angen triniaeth fwy arbenigol arnoch ai peidio. Mae hyn yn ymwneud â newid gwahanol iawn, dull gwahanol, ac rwy'n falch o weld eich bod wedi cydnabod hynny. Felly, byddwn yn gwneud pethau'n wahanol.

O ran gofal dydd, rydych yn llygad eich lle. Treuliais ddiwrnod diddorol iawn yn Ysbyty Glan Clwyd yr wythnos diwethaf gyda'r pennaeth clinigol yno—diddorol iawn o ran yr hyn y maen nhw yn ei wneud, gofal dydd. [Torri ar draws.] A hefyd y math o—. Beth sy'n bwysig i mi, os nad oes ots gennych roi'r gorau i'r grwgnach ar yr ochr yna—. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod ni—[Torri ar draws.] A wnewch chi roi'r gorau iddi, Darren, os gwelwch yn dda?

16:15

Gweinidog—. Darren, mae yn deg. Mae ein hamser eisoes ar ben. Rwyf eisiau clywed yr atebion ac rwyf eisiau i siaradwyr eraill gael gofyn eu cwestiynau.

Rwy'n fwy na pharod i'ch ateb chi, Darren. Ond gadewch i ni ei wneud mewn ffordd ffurfiol. 

I mi, y peth pwysig yw ein bod yn edrych ar effeithlonrwydd ond hefyd ar y costau. Felly, gall Cwm Taf osod clun newydd yn rhad iawn o'i gymharu â rhai o'r ardaloedd eraill, felly mae'n rhaid i ni ddysgu oddi wrthyn nhw ac mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â gofal dydd. Felly, yn sicr, byddai hynny'n osgoi'r broblem o ran gwelyau, sy'n cyfyngu ar y system. Felly, mae llawer i'w ddysgu a dyna beth fyddwn ni'n ysgogi'r system i'w wneud yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae gen i dri chwestiwn a byddaf yn gyflym iawn. Gweinidog, rydych chi'n sôn am recriwtio. Mae'n eithriadol o anodd recriwtio deintyddion a nyrsys, yn enwedig mewn lleoedd fel Aberhonddu a Sir Faesyfed, felly a ydych yn credu bod prentisiaethau gradd y GIG yn rhywbeth y byddech yn ei gyflwyno i geisio cael mwy o bobl i mewn i'r GIG? Hoffwn gael sylw ar hynny, os gwelwch yn dda. Mae'r arian ychwanegol sy'n mynd i gymorth iechyd meddwl i'w groesawu, ond hoffwn wybod i ba feysydd penodol y mae'r arian hwnnw'n mynd i sicrhau nad yw'n cael ei lyncu mewn biwrocratiaeth ond yn mynd i'r rheng flaen i gefnogi pobl sy'n dioddef. Ac yn olaf, fe wnaethoch chi sôn am ddatblygu canolfan lawfeddygol orthopedig yn Abertawe, a hoffwn wybod pa mor gyflym y mae honno'n cael ei datblygu a lle yr ydym ni, heddiw o ran sefydlu honno. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch. Dyna'r ffordd i ofyn cwestiynau, James. Diolch yn fawr. [Chwerthin.] Fe gawn ni weld os gallaf ateb mewn ffordd sydd yr un mor effeithlon. Yn gyntaf, o ran deintyddion, edrychwch, rydym eisoes ar drywydd hyn o ran prentisiaethau. Felly, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym yn gofyn iddyn nhw edrych yn wirioneddol ar beth arall y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw, lle rydym yn defnyddio technegwyr yn hytrach na deintyddion. O ran iechyd meddwl, gwn fod fy nghyd-Aelod Lynne yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn rhoi'r pwyslais ar atal, gan atal y broblem rhag datblygu yn y lle cyntaf. Dyna pam yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion, gan sicrhau bod ymyrraeth gynnar a sicrhau bod gennym fwy o bethau fel rhagnodi cymdeithasol i'n helpu ni. Ac o ran canolfannau orthopedig, rwy'n gwybod bod Abertawe wrthi'n ymdrin â hyn o ran datblygu eu canolfan orthopedig a byddan nhw'n gwneud hynny o ganlyniad i'r £250 miliwn y gwnaethom ei fuddsoddi y llynedd, ac rwy'n gwybod eu bod yn awyddus iawn i ddatblygu honno, rwy'n credu yn ardal Castell-nedd, oherwydd ei bod i ffwrdd o'r adran damweiniau ac achosion brys.

Gweinidog, rwy'n credu iddo ofyn am nyrsys gradd mewn gwirionedd, yn hytrach na phrentisiaethau gradd mewn deintyddiaeth.

Does dim ots. [Chwerthin.] Gadewch i ni symud ymlaen—[Anghlywadwy.]

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fel y gwnaethom ni drafod yn y Siambr hon yn ystod mis endometriosis, mae'r clefyd yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr. Mae un o fy etholwyr wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod wedi cael gwybod gan ei meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddoe nad yw'r GIG yn gwneud unrhyw lawdriniaethau o gwbl i fenywod ag endometriosis—felly, dim laparosgopïau diagnostig, dim trychiadau, dim abladiad thermol. Roedd hi i fod i gael llawdriniaeth wythnos cyn y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020 a chwe mis yn ôl cafodd alwad gan yr ysgrifennydd meddygol yn gofyn a fyddai hi'n barod i fynd i Spire am driniaeth y byddai'r GIG yn talu amdani, a dywedodd, 'wrth gwrs.' Ond ddoe dywedwyd wrthi am roi'r gorau i obeithio cael llawdriniaeth—dim amserlenni o gwbl. Mae'n rhaid iddi gael pigiad bob mis i ysgogi'r menopos yn gemegol a bydd yn cael ei rhoi ar therapi adfer hormonau, rhywbeth y mae'n pryderu'n fawr amdano oherwydd yr holl adroddiadau yn y wasg am brinder HRT ar hyn o bryd, a hefyd am ei bod wedi cael y driniaeth hon 15 mlynedd yn ôl a oedd wedi ei gwneud yn sâl iawn. Dywedodd wrthyf, 'Rwy'n teimlo'n gwbl anweledig.' Sut mae sicrhau nad yw hi ac eraill fel hi yn teimlo'n anweledig?

Diolch yn fawr. A gaf i ddweud wrthych fod endometriosis yn faes yr wyf i wedi ceisio canolbwyntio arno mewn gwirionedd, gan fy mod i'n credu ei fod yn faes sydd wedi'i esgeuluso am lawer gormod o amser? A dyna un o'r rhesymau pam, erbyn diwedd y tymor hwn, y byddaf yn llunio cynllun iechyd menywod, gan fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar iechyd menywod. Mae cymaint o feysydd y mae angen i ni eu deall. Beth yw diabetes mewn menywod? Sut mae hynny'n effeithio ar fenywod? Asthma mewn menywod, awtistiaeth mewn menywod, pob un o'r gwahanol feysydd hyn—mae angen i ni osod lens menywod ar bob un o'r cyflyrau gwahanol hyn. Ond mae endometriosis yn faes lle mae gennym ni grŵp gweithredu'r menywod eisoes, sydd wedi'i sefydlu ers nifer o flynyddoedd, ac maen nhw wedi dechrau cyflawni mewn gwirionedd. Felly, rwy'n falch iawn bod gennym ni arbenigwyr eisoes, erbyn hyn, o ran nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd. Wrth gwrs, mae angen mwy o lawfeddygon arnom sy'n gallu ymdrin â hyn, ond mae hyn i gyd yn rhan o gynllun. Ni allwn ei droi ymlaen dros nos, ond mae'r nyrsys hynny yn eu lle. Rwyf wedi bod i'w clywed ac wedi bod i gyflwyniadau gyda nhw, yn esbonio ac yn disgrifio sut i ddweud wrth gleifion sut i reoli poen. Rwy'n falch iawn ein bod ni eisoes wedi penodi dau arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer rheoli poen, un yn Aneurin Bevan ac un ym Mhowys, a gobeithio y bydd y bobl hynny sy'n byw ag endometriosis yn gallu defnyddio eu gwasanaethau nhw hefyd. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud ar endometriosis, ond rwy'n falch iawn o'r cynnydd yr ydym eisoes yn ei wneud.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac fe wnaf gadw fy nghwestiwn yn fyr iawn yn wir. Yn gyntaf oll, rydw i'n croesawu'r cynllun, oherwydd mae'n rhoi gobaith, yn enwedig gyda'r targedau, ond mae'n rhaid i'r rheini bellach fod nid yn unig yn gyraeddadwy ond maen rhaid iddyn nhw gael eu cyflawni hefyd. Oherwydd mae llawer ohonom ni sy'n credu'n gryf, hyd ddydd ein marwolaeth, yn y GIG yn gwybod bod yn rhaid i ni roi hyder yn ôl nad yw'r system wedi torri. Mae wedi crymu, ond gallwn ni drwsio hyn a gallwn ni ei gael yn ôl ar ei draed. A fy nau gwestiwn sy'n ymwneud â hyn yw'r rhain: yn gyntaf oll—ac mae'n myfyrio ar y 10 mlynedd diwethaf—rydym ni'n rhoi'r arian rydym ni'n gallu i'r GIG sy'n dod o symiau canlyniadol Barnett. Mae dadansoddiad trylwyr sydd wedi'i wneud wedi dangos, dros y 10 mlynedd cyfartalog yn arwain at ddechrau'r pandemig, fod y cynnydd tua 1.4 y cant y flwyddyn o'i gymharu â 3.7 y cant. Roedd £37 biliwn yn brin, Dirprwy Lywydd. Felly, ydy'r cwantwm sydd gennym ni yn awr wrth symud ymlaen? Ac yn ail, sut mae'r staff yn barod i gyflawni hyn? Ar ôl dod allan o bandemig, yn yr holl amodau creulon mae staff wedi eu profi, nawr i wneud hyn—. A ellir ei wneud? Pa gymorth fyddwn ni'n ei roi i'r staff i'w wneud, ac a oes digon o arian yn y system yn awr i'w wneud hefyd? Ond rwy'n croesawu'r ffaith nad oes dim wedi'i ddiystyru o hyn. Rydych chi wedi taflu popeth dan haul ato.

Wel, rydym ni'n sicr yn ceisio taflu popeth dan haul ato, a gallaf i ddweud wrthych chi nad wyf i'n credu bod y system wedi torri. Dydw i ddim yn meddwl fod system sy'n gweld 200,000 o bobl y mis yn system sydd wedi torri. Ac rwy'n credu y dylem ni werthfawrogi'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud yn wythnosol gan yr arwyr sydd yn ein system, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n bychanu'r system yn ormodol. Rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl yn aros, ond gadewch i ni hefyd ganmol y system am y pethau anhygoel maen nhw wedi gallu eu cyflawni.

O ran y gyllideb, yr hyn rwy'n gallu ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni'n gwario tua £10 biliwn y flwyddyn ar y GIG, sy'n fwy na hanner cyllideb Cymru. Felly, mae'n llawer o arian, a'r hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw, os edrychwch chi ar y swm rydym ni'n ei wario ar iechyd a gofal, yna rydym ni'n gwario mwy na Lloegr. I mi, nid faint yr ydym ni'n ei wario yw'r peth pwysig ond a ydym ni'n ei wario'n dda. Mae'n rhaid i ni ddechrau gwneud yn siŵr nad yw'n ymwneud â thaflu arian ato; mae'n wir yn, 'Ydy e'n gwneud gwahaniaeth?' Mae'n rhaid iddo fod ynghylch effeithlonrwydd. A rhan o'r hyn rydw i'n bwriadu ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi hwb i effeithlonrwydd drwy'r rhaglen hon ac yn gwneud newid enfawr o ran cael y gwerth mwyaf am ein harian.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, cyflawni ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, a galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â gwireddu ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru.

Ar 24 Awst 2021, cyhoeddais £3.7 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ledled Cymru, a daeth hyn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn 2021-22 i dros £22 miliwn a bodloni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu.

Mewn digwyddiad lansio ar gyfer y 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol hyn, ymwelodd y Prif Weinidog a minnau â chanol tref Castell-nedd, ynghyd â'r comisiynydd heddlu a throseddu Alun Michael. Fe wnaethom gyfarfod â nifer o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a siarad am y ffordd yr oedden nhw'n ymgysylltu â phobl leol yn eu cymunedau. Roedd yn gyfle i ddeall yn uniongyrchol beth mae'n ei olygu i fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol a'r rhan bwysig maen nhw'n ei chwarae yn eu cymunedau. Ac fel y gŵyr llawer ohonoch chi, rydym ni wedi ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru ers dros ddegawd. Dechreuodd fel rhan o'r rhaglen lywodraethu 2011-16, gan ddangos ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau diogel a chryf yng Nghymru yn ystod cyfnod o gyni. Fe wnaethom y penderfyniad i fynd i'r afael â'r effaith enfawr y cafodd cyni ar gyllidebau plismona a sicrhau bod swyddogion ychwanegol ar waith cyn gynted â phosibl. Fe wnaethom ni gynnal yr ymrwymiad hwn drwy ein rhaglen Llywodraeth ar gyfer 2016-21, gan barhau â'n cefnogaeth i ddiogelwch cymunedol ledled Cymru.

Rydym ni’n gwneud hyn, wrth gwrs, er nad oes gennym ni gyfrifoldeb dros blismona. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i'r arian ar gyfer hyn o gyllidebau nad ydynt wedi'u cynllunio at y dibenion hyn. Fodd bynnag, mae'n arwydd o'n blaenoriaethau a sut y byddai pethau'n wahanol pe bai plismona'n cael ei ddatganoli, fel yr argymhellwyd, nid dim ond gan gomisiwn Thomas, ond comisiwn Silk o'i flaen. Mae hon yn sgwrs rwy'n siŵr y byddwn ni’n dychwelyd ati yn dilyn ein cyhoeddiad arfaethedig ar ddyfodol cyfiawnder yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwch yn cofio i ni gynnal dadl yn y Senedd ar ddatganoli plismona ar 9 Mawrth, a phleidleisiodd y Senedd o blaid y cynnig hwn.

Mae llwyddiant ein cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, a'r effaith gadarnhaol maen nhw’n ei chael yn eu cymunedau, yn dangos gwerth buddsoddi mewn plismona lleol. Roedd hefyd yn cefnogi ein penderfyniad i gynyddu eu nifer o 100 o fewn y rhaglen lywodraethu bresennol. Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn hanfodol i amrywiaeth enfawr o waith, gan ddiogelu pobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru. Maen nhw wrth wraidd ein timau plismona yn y gymdogaeth, gan weithredu fel cyswllt rhwng cymunedau a gwasanaethau'r heddlu sy'n eu diogelu. Maen nhw’n defnyddio dull datrys problemau, gan ddatblygu atebion hirdymor sy'n lleihau effeithiau andwyol ar gymunedau lleol. Maen nhw’n glustiau a llygaid ychwanegol ar y strydoedd, yn adeiladu perthnasoedd ac yn cryfhau gwybodaeth leol.

Yn ogystal â mynd i'r afael â materion sy'n codi ar lawr gwlad, mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn bresenoldeb gweladwy mewn cymunedau, gan roi hyder a balchder yn ein hardaloedd lleol. Maen nhw’n aml yn gweithio gyda'r rhai mwyaf agored i niwed, gan roi cyngor a chymorth i'r cyhoedd am amrywiaeth eang o faterion diogelwch cymunedol, gan gynnwys diogelu eiddo a sut i nodi a delio â sgamiau. Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru yn cynnal perthynas â'r gymuned drwy fentrau amrywiol. Cynhelir digwyddiadau 'Paned gyda Phlismon’ yn rheolaidd, gan gasglu barn trigolion lleol a chaniatáu iddyn nhw gyfarfod â swyddogion mewn amgylchedd llai ffurfiol. Mae mentrau llwyddiannus eraill yn cynnwys sesiynau galw heibio iechyd meddwl, grwpiau pensiynwyr henaint, cyfarfodydd arweinwyr cymunedol a seminarau atal troseddu gydag ysbytai a chartrefi gofal. 

Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu hefyd yn allweddol wrth ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog. Mae'r gweithgareddau'n amrywio o gynllun clwb bocsio dargyfeiriol yn Nyfed Powys i gyflwyno rhaglen ysgolion heddlu Cymru. Mae'r mathau hyn o fentrau ataliol yn ffordd wych ac effeithiol o ddargyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol.

Rwyf eisiau tynnu sylw'n benodol at ba mor bwysig mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedi bod yn yr ymateb i bandemig COVID-19. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn her na welwyd ei thebyg o'r blaen, gan roi pwysau difrifol ar wasanaethau cyhoeddus ac effeithio mewn ffyrdd sylfaenol ar ein bywydau bob dydd. Er ein bod bellach wedi symud tuag at ddull hunanreoleiddio yn bennaf, ar ddechrau'r pandemig, rhoddwyd rheolau diogelwch cyhoeddus llym ar waith. Roedd dod o hyd i ffordd adeiladol o gyfleu'r rheolau hyn a sicrhau eu bod yn cael eu dilyn yn her hynod bwysig. Chwaraeodd ein partneriaid plismona, gan gynnwys swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, rôl hanfodol wrth ymateb i'r her hon a chadw pobl yng Nghymru'n ddiogel.

Drwy gydol y pandemig, roedd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn cymryd rhan weithredol mewn ymgysylltu, esbonio ac annog pobl i gydymffurfio â'r rheolau iechyd cyhoeddus a roddwyd mewn deddfwriaeth, gan gyflwyno negeseuon hanfodol ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn bersonol. I roi un enghraifft yn unig, cynhaliodd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu gyfarfodydd o bell yn Wrecsam i wrando ar bryderon COVID-19 gan drigolion ac i roi sicrwydd a chyngor ymarferol ar ddiogelwch. Hoffwn ddiolch i'n swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu am eu dull hyblyg a phragmatig, sydd wedi helpu i ddiogelu bywydau ledled Cymru yn ystod y cyfnod digynsail hwn.   

Mae ein hymrwymiad i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn rhan o'n dull ehangach o weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr plismona yng Nghymru. Rydym ni’n gweithio ochr yn ochr â'n pedwar pennaeth heddlu a phedwar comisiynydd heddlu a throseddu, gan gydnabod y rhyngwyneb allweddol rhwng plismona a gwasanaethau datganoledig ar faterion fel mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, tai, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Hyd nes y bydd y system plismona a chyfiawnder troseddol wedi'i datganoli'n llawn i Gymru, gan hwyluso'r gwaith o sicrhau gwell canlyniadau i bobl y wlad hon, byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU mor effeithiol ag y gallwn ni o dan y trefniadau presennol, sydd yn llai na delfrydol.

Ond mae'r buddsoddiad sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedi caniatáu i heddluoedd ddarparu wynebau hygyrch a chyfarwydd mewn cymunedau, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chyfreithlondeb gyda'u heddlu lleol. Mae hyn yn cael ei gefnogi ar bob lefel gan ein trefniadau partneriaeth cryf. O ganlyniad i'r bartneriaeth gref honno a'n hymrwymiad ariannol, rydw i’n falch o allu dweud wrthych chi heddiw fod y rhan fwyaf o'r 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn eu swyddi erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2021-22, gan wneud gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy nag o'r blaen i'n strydoedd a'n cymunedau. 

Hoffwn ddiolch i bartneriaid plismona am gefnogi'r gwaith cyflym hwn yn cynyddu nifer y PCSOs a hefyd i bob PCSO sy'n gweithio yng Nghymru am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i gymunedau. Dwi'n siŵr y bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno gwneud yr un peth.

16:30

Diolch. Wel, mae hwn yn fater arall rydym ni’n cytuno arno. Fel y dywedodd ein maniffesto Ceidwadwyr Cymreig yn 2016, byddem yn:

'Cefnogi rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, a gweithio i wireddu eu potensial i fynd i'r afael â throseddu.'

Ac, fel y dywed ein maniffesto yn 2021, byddem yn:

'Cynyddu'r cyllid ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu bob blwyddyn, ac ehangu'r gronfa Strydoedd Saffach'.

A wnewch chi felly gydnabod nawr fod yr honiad a wnaed yma gan y Prif Weinidog ar 16 Mawrth 2021 y byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn cael gwared ar gyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn anwybodus ar y gorau, ac ar ei waethaf yn fwriadol gamarweiniol? 

O ran y gronfa strydoedd saffach, ym mis Ionawr, croesawodd Sarah Atherton AS y newyddion bod y prosiect strydoedd saffach yn Wrecsam yn mynd rhagddo'n dda, ar ôl i Lywodraeth y DU ddyfarnu £339,000 i Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer y prosiect. Mae'r gronfa strydoedd saffach yn fenter gan Lywodraeth y DU sy'n ceisio mynd i'r afael â throseddu, ac mae'r cylch ariannu diweddaraf yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â thrais a throseddu yn erbyn menywod a merched. Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd £150 miliwn o gyllid ar gael ym mhedwaredd rownd y gronfa strydoedd mwy diogel, ar sail dreigl dros y tair blynedd ariannol nesaf ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu ac awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr, yn ogystal â rhai sefydliadau cymdeithas sifil. Mae hynny ar ben y £70 miliwn sydd eisoes wedi'i ymrwymo gan Lywodraeth y DU i'r gronfa strydoedd saffach.

O gofio bod y gronfa strydoedd saffach yn amlwg yn ganolog i waith swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, sut y byddech chi’n annog ac yn cefnogi ceisiadau am hyn o Gymru ac yn sicrhau bod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn rhan o'r ceisiadau hyn ac wrth gyflwyno'r rhaglenni a fydd, gobeithio, yn arwain at ganlyniadau yn ein cymunedau? A sut y byddwch chi’n sicrhau bod hyn yn adlewyrchu realiti trawsffiniol lle, er enghraifft, dywedodd uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol y gogledd wrthyf i fod 95 y cant neu fwy o droseddu yn y gogledd yn lleol neu'n gweithredu ar sail drawsffiniol rhwng y dwyrain a'r gorllewin?

Mae'r gronfa strydoedd saffach yn adeiladu ar y mesurau presennol gan Lywodraeth y DU i gadw ein strydoedd yn ddiogel, gan gynnwys dros 11,000 o swyddogion yr heddlu wedi’u recriwtio ledled Cymru a Lloegr fel rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i gael 20,000 yn fwy o swyddogion yr heddlu ar y strydoedd erbyn 2023, sy'n golygu bod 147 o swyddogion yr heddlu wedi cael eu recriwtio yn y gogledd erbyn mis Hydref diwethaf ers mis Medi 2019, gan ddod â'r cyfanswm i 1,654, bron yn gyfartal â'r nifer uchaf ar gofnod, nid 10 mlynedd yn flaenorol, ond 16 mlynedd yn flaenorol, yn 2005, ac i 139,908 ledled Cymru a Lloegr. 

Mae mwy na phedwar o bob 10 o'r swyddogion heddlu newydd sydd wedi’u recriwtio ers mis Ebrill 2020 yn fenywod. Sut, felly, y byddwch chi’n sicrhau bod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a gaiff eu recriwtio yng Nghymru hefyd yn cynrychioli'r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu? A pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda heddluoedd yng Nghymru ynghylch sut y caiff swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu eu neilltuo a chael gorchwyl i ategu gwaith swyddogion heddlu â gwarant wrth fynd i'r afael â throseddu a chadw cymunedau'n ddiogel?

Yn olaf, pam ydych chi’n dweud eich bod wedi ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu er nad oes gennych chi gyfrifoldeb dros blismona, pan fo gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig clir dros ddiogelwch cymunedol, sy’n cael ei ddiffinio fel pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu hardal leol, a bod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn gweithredu

'Fel pwynt cyswllt allweddol rhwng cymunedau lleol a phlismona'?

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac mae’n dda cael eich cefnogaeth i'r hyn oedd ein hymrwymiad arloesol, rhaid i mi ddweud, sy'n mynd â ni ymhell yn ôl cyn eich ymrwymiadau chi. Mae'n dda cael eich cefnogaeth, Mark—rwy’n dweud hynny gyda phob ewyllys da heddiw—ond mae'n mynd â ni'n ôl i 2011, pan oeddem ni, fel Llywodraeth Cymru, yn enwedig—. Ydych chi'n cofio 2011, dechrau cyni, toriadau i'r heddluoedd ledled y DU, ac yn sicr yr effaith yma yng Nghymru? Ac fe wnaethom ni ddweud, 'Ie, nid yw wedi'i ddatganoli, nid ein cyfrifoldeb ni ydy hyn, ond rydym ni’n mynd i ariannu'r gyfran newydd hon o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu', a hynny’n effeithiol iawn. Rydw i’n siŵr eich bod chi’n cytuno, o'ch profiad ac o fy natganiad, eu bod nhw wedi bod yn gaffaeliad aruthrol o ran ein cymunedau mwy diogel, a hefyd ein hewyllys a'n hysbryd i fod â'r ymgysylltiad plismona lleol hwnnw.

Rwy’n cofio’n glir iawn, o'n dadleuon gwleidyddol, dros flwyddyn yn ôl yn awr, o'n hymgyrchoedd etholiadol, eich bod chi wedi bod yn glir iawn nad oeddech chi am ariannu gwasanaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli yn eich cyllideb. Wel, roeddem ni’n glir iawn yn ein maniffesto ein bod ni nid yn unig am barhau i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, ond ein bod ni’n mynd i gynyddu nifer y swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, a dyna yw hanfod bod mewn llywodraeth—cyflawni ymrwymiad gwirioneddol. Mae'n flaenoriaeth. Mae bellach dros £22 miliwn yn ychwanegol rydym ni wedi bod yn ei ddarparu er mwyn gwneud yr ymrwymiad ychwanegol hwnnw. Mae'n bwysig ein bod ni’n cydnabod ei bod yn flaenoriaeth, bod yn rhaid i ni wneud y dewis hwnnw o ran y 100 swyddog cymorth cymunedol ychwanegol rydym ni’n eu cefnogi. Felly, mae hyn dros £22 miliwn o ran yr ymrwymiad 2021-22 hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Ond mi ddywedaf fod y cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth yn glir iawn, ac rydw i yn cefnogi'r gronfa strydoedd saffach. Rwy’n meddwl, yn enwedig, am ein perthynas waith agos. Rydw i’n cadeirio’r bwrdd partneriaeth plismona, fel y gwyddoch chi, ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, ac mae'r prif gwnstabliaid yn adrodd ar eu datblygiadau a'r gwaith yn eu heddluoedd, ochr yn ochr â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, ac mae'r gronfa strydoedd saffach wedi bod yn arbennig o bwysig i'w chodi dros y flwyddyn ddiwethaf pan ydym ni wedi bod yn edrych ar ddiogelwch menywod a merched ar y stryd, a'r ffyrdd mae hwnnw wedi dylanwadu ar y mathau o benderfyniadau, y mathau o brosiectau sydd wedi'u cyflwyno. Felly, rydw i’n falch iawn, Mark, eich bod chi wedi cyfeirio at y gronfa strydoedd saffach, oherwydd er nad ein cyllid ni yw hwnnw, mae'n amlwg y gallwn ni weithio'n agos iawn gyda'n heddluoedd a'n hawdurdodau lleol. Dyna pam mae datganoli plismona mor bwysig, oherwydd mae'n ymwneud mewn gwirionedd â beth yw'r adborth gan y gymuned, beth yw'r adborth gan yr awdurdodau lleol am strydoedd mwy diogel a chymunedau mwy diogel, ac y dylem ni fod yn dylanwadu ar y cyllidebau hynny ac yn rheoli'r cyllidebau hynny hefyd, o ran, yn y pen draw, cymryd cyfrifoldeb, fel rydym ni am ei wneud, o ran plismona.

Rydw i’n cefnogi eich pwynt am recriwtio yn fawr. Mae amrywiaeth yn allweddol i recriwtio. Ac o ran yr ymatebion rydym ni’n eu cael gan heddluoedd am y recriwtio maen nhw wedi bod yn ymgymryd ag ef, rwy’n credu ei fod yn gadarnhaol iawn, ac rydym ni hefyd yn gweld bod hyn yn cael ei adlewyrchu'n fawr o ran y canlyniadau yn yr heddlu ar ein strydoedd, o ran swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a'r swyddogion maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â nhw a gyda nhw. Ac, wrth gwrs, mae llawer o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedyn yn symud ymlaen i'r heddluoedd, ac yn symud ymlaen yn y fath fodd oherwydd eu profiad wrth wraidd eu cymunedau.

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma.

Mae plismona'n newid yn gyflym. Mewn sgyrsiau diweddar gydag uwch swyddogion, mae'n amlwg bod seiber-droseddu, yn ei holl ffurfiau, yn meddiannu amser pob heddlu ledled y wlad. Bellach mae angen i recriwtiaid newydd feddu ar y sgiliau TG i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol hwn. Wedi dweud hynny, mae lle o hyd i'r mathau mwy traddodiadol o blismona; bydd patrolio'r strydoedd ac ymgysylltu'n rheolaidd â'r gymuned yn parhau i fod â rhan i'w chwarae wrth gadw ein strydoedd yn ddiogel am flynyddoedd i ddod. Mae'r math hwn o blismona yn arbennig o galonogol i aelodau hŷn o'n cymuned sy'n siarad yn hoffus am weld plismyn ar y strydoedd yn y blynyddoedd a fu.

Dylid ymdrechu i recriwtio'r swyddogion cymorth cymunedol newydd o gefndir amrywiol er mwyn adlewyrchu'n well y cymunedau maen nhw’n gweithredu ynddyn nhw. Mae'n ffaith bod lleiafrifoedd ethnig yn cael eu tangynrychioli yn ein heddluoedd. Felly, byddwn i’n hoffi gwybod mwy am sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu newydd yn ficrocosm o gymdeithas yn gyffredinol.

Ni ddylem anwybyddu'r cysylltiad rhwng euogfarnau a thlodi. Nid yw hyn yn golygu bod pobl dlawd yn cyflawni mwy o droseddau, ond mae systemau cyfiawnder troseddol ieuenctid ac oedolion yn aml yn cosbi'r tlawd. Mae rhai o'n cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed yn aml yn cael eu gor-blismona. Rydym ni’n gwybod nad yw tlodi ond yn mynd i gynyddu o ystyried yr argyfwng costau byw, felly rwy'n awyddus i glywed pa fentrau lleihau tlodi sy'n cael eu hystyried i fynd i'r afael ag achos sylfaenol pam mae cynifer o bobl ifanc mewn cymunedau difreintiedig yn mynd i drafferthion gyda'r heddlu. Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi cau Cymunedau yn Gyntaf, ac nid ydym eto wedi gweld cynllun gwrth-dlodi yn cael ei gyflwyno yn ei le.

Mae'n anomaledd syfrdanol bod Cymru'n dal i aros am bwerau dros blismona—pwerau sydd eisoes yn cael eu mwynhau gan wledydd eraill yn y DU, a hyd yn oed gan Fanceinion. Cymru sydd â'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, sy'n dystiolaeth gymhellol bod y system gosbi wedi siomi'r wlad hon. Y tu ôl i'r ystadegyn hwn mae llawer o fywydau wedi'u dinistrio, ac mae wedi achosi dioddefaint di-ben-draw. Fel rydw i wedi dweud o'r blaen yn y Siambr, mae datganoli plismona nid yn unig yn rhoi'r gallu i ni lunio system gyfiawnder fwy effeithiol a thosturiol; mae ganddo hefyd fanteision sylweddol. Byddai datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru yn ein gweld yn cael £25 miliwn ychwanegol i'w wario ar blismona a chyfiawnder—sy'n cyfateb i 900 o swyddogion yr heddlu ychwanegol. Byddai hyn yn cyfrannu rhywfaint at adfer capasiti plismona ar ôl y toriadau llym a wnaed gan Lywodraethau Torïaidd olynol. Gyda hynny mewn golwg, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fywiogi'r ymgyrch i gael San Steffan i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru? Diolch yn fawr.

16:40

Diolch yn fawr, Peredur, a hefyd, fel rydych chi’n ei ddweud, mae cymaint o sgiliau newydd mae'n rhaid i'n heddluoedd eu cwmpasu o ran troseddau traddodiadol a newydd, yn enwedig troseddau seiber rydych chi wedi tynnu sylw atynt, ond hefyd yr ymateb, fel rydym ni wedi sôn amdano, mae’r heddlu lleol yn y gymuned, ymgysylltu â'r gymuned, yn gofyn am ymateb ac ymgysylltiad mwy traddodiadol ar y stryd mewn grwpiau cymunedol yn y ffyrdd rydw i wedi'u disgrifio. Ledled Cymru mae enghreifftiau mor dda, y maen nhw wedi bod mor awyddus i'w rhannu â ni o ran effaith swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu fel grym gwirioneddol er lles—grym er lles y cyhoedd ac er lles pawb.

Rydych chi’n gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn am y ffaith ein bod ni angen mwy o amrywiaeth a chydnabyddiaeth yn ein heddluoedd yn gyffredinol. Rwy’n falch ein bod ni, yn ein cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, wedi dewis gwneud hynny ac fe wnaethom ni gytuno y dylem ni gynnwys agweddau cyfiawnder troseddol y cynllun gweithredu gwrth-hiliol. Felly, rydym ni’n gweithio ar hynny a byddaf yn gwneud datganiad yn fuan ar y ffordd ymlaen gyda'n cynllun gweithredu gwrth-hiliol, oherwydd cydnabyddir bod gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig or-gynrychiolaeth yn ein system cyfiawnder troseddol, ond dim digon o amrywiaeth o fewn y gweithlu. Ac rwy'n falch ein bod ni’n gweithio gyda'n gilydd ac yn edrych ar hynny, ond yn adeiladu i raddau helaeth ar brofiad byw pobl.

Fe wnaethoch chi sôn, wrth gwrs, am y ffaith bod rhai o'r bobl dlotaf yn aml hefyd yn wynebu'r risg fwyaf, ac rydw i’n cydnabod bod hyn yn rhywbeth mae angen i ni edrych arno, gan fynd yn ôl at fentrau diogelwch cymunedol ac ymgysylltu fel pwyntiau pwysig iawn. Ond rwy'n credu, yn olaf, fod hyn yn ymwneud â dull ataliol. Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedi datblygu'r ymgysylltiad ataliol, ymyrraeth gynnar hwn, sy'n ymwneud ag atal troseddu, ond sydd hefyd yn rhoi gobaith a chyfle i bobl ifanc, yn enwedig. Dyna pam y dylid ei ddatganoli, fel rydych chi’n ei ddweud, Peredur, oherwydd mae'r cyfan yn gysylltiedig â'r gwasanaeth ieuenctid, mae'n gysylltiedig â'r rhaglen ysgolion, ac mae'n gysylltiedig â'r ffyrdd mae ein gwasanaethau tai yn gweithredu. Dylai'r cyfan ddod at ei gilydd a, phan fyddwn ni’n cyhoeddi ein papur cyfiawnder yn fuan iawn, byddwch chi’n gweld ein hymrwymiadau o ran mynd i'r afael â'r materion hyn, yn enwedig o ran cyflwyno'r achos yn glir iawn fel gwnaeth yr Arglwydd Thomas, dros ddatganoli plismona, yn y papur hwnnw.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ddiweddaru'r Siambr heddiw? Bydd trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn falch y byddwn ni'n cyflawni'r ymrwymiad hwn o'r rhaglen lywodraethu. Mae'n amserol iawn, oherwydd mae trigolion Cei Conna yn arbennig yn rhwystredig ar hyn o bryd oherwydd achosion diweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r ymddygiad hwn yn golygu, weithiau, nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau eu hunain. Gweinidog, byddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi siarad droeon yn Siambr y Senedd hon am effaith toriadau Torïaidd i'r heddlu. Rydw i am nodi'r realiti a nodi'r sefyllfa yma. Gadewch i ni ddweud hyn yn syml iawn, Gweinidog: mae llai o swyddogion yr heddlu yn awr nag yn 2010. Bydd trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn falch bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni eu haddewidion. Yr addewid a wnaeth y Torïaid yn ôl yn 2019 yn ystod ymgyrch yr etholiad, pan ddaeth Boris Johnson i Lannau Dyfrdwy, oedd bod â 62 o swyddogion heddlu ychwanegol yn benodol ar gyfer Glannau Dyfrdwy; nid yw hyn wedi digwydd, Gweinidog. Rydw i'n croesawu'r datganiad hwn heddiw. Rydw i'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru a'u cefnogaeth barhaus i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, a'r gwaith mae Andy Dunbobbin yn ei wneud fel comisiynydd heddlu a throseddu'r gogledd. Ond a gaf i ofyn i chi heddiw, Gweinidog, pa asesiad rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau Torïaidd i'r heddlu ar gymunedau fel Cei Conna?

16:45

Diolch yn fawr iawn i chi, Jack Sargeant, a diolch i chi am eich ymrwymiad hirsefydlog i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac am gynrychioli eich etholwyr, sydd yn aml yn y rheng flaen, am lawer o'r rhesymau y soniodd Peredur amdanyn nhw hefyd o ran cymorth annigonol a'r plismona cryf rydym ni ei angen i ddiogelu'r cymunedau hynny. Mae ein swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn hanfodol bwysig, oherwydd maen nhw'n camu i mewn i'r adwy. Mae'n dadlau'r achos, onid yw, ar gyfer datganoli plismona, oherwydd maen nhw yno ar flaen y gad o ran ymyrryd, atal ac ymgysylltu, ac yna sicrhau bod cyfiawnder troseddol yn cael ei ddarparu i'ch etholwyr yn eich cymunedau.

Oes, mae llai o swyddogion yr heddlu nag yr oedd yn 2010, pan ddechreuodd cyni. Ac ie, hefyd, ble mae'r 20,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yng Nghymru a Lloegr? Byddwch chi'n cofio, ac rydych chi wedi gwneud sylwadau arno, Ymgyrch Uplift. Dyna oedd cynllun y Swyddfa Gartref i gyflogi'r 20,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol. Rydw i newydd wirio, ac erbyn 2023, bydd niferoedd yr heddlu'n parhau i fod yn is na'r lefelau cyn cyni. Yn 2010, roedd 7,369 o swyddogion yr heddlu yng Nghymru; erbyn 2019, roedd wedi gostwng i 6,898. Collwyd 471 o swyddogion yr heddlu, ac eto dim ond 302 sydd gennym ni wedi'u recriwtio. Beth sydd wedi digwydd i'r 20,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol hyn yng Nghymru a Lloegr? Mae hon yn flaenoriaeth wirioneddol bwysig i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Byddwn yn bwrw ymlaen gyda hyn gyda'r gefnogaeth sydd gennym ni yma i ddatganoli plismona a sicrhau bod plismona'n cyrraedd ein cymunedau sydd ar flaen y gad yn yr argyfwng costau byw a ddaw yn sgil y Llywodraeth Dorïaidd hon, gan sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r diogelwch maen nhw eu hangen. 

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Therapi Trosi

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar therapi trosi. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad. Hannah Blythyn. 

Diolch. Dirprwy Lywydd, roeddwn i eisiau achub ar y cyfle cyntaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar ddechrau toriad y Pasg mewn ymateb i safbwynt newidiol Llywodraeth y DU ar wahardd therapi trosi LHDT. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ymrwymiadau dro ar ôl tro i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi sydd wedi ei wrthod—yn Araith y Frenhines, gan y Prif Weinidog, gan Weinidogion Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriadau diweddar a thrwy gyhoeddiadau cyhoeddus. Roedd hefyd yn ymrwymiad a wnaed yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, ac fe wnaethom ni weithredu yn ddidwyll fod yr ymrwymiad hwn yn ymgais ddiffuant i unioni anghyfiawnder clir iawn. Fe wnaethon nhw ddweud y byddai eu cynigion yn gyffredinol ac yn amddiffyn pawb beth bynnag fo'u cyfeiriadedd rhywiol a p’un a ydynt yn drawsrywiol ai peidio.

Pan ddaeth dogfen yn amlinellu dull arfaethedig Llywodraeth y DU i roi heibio’r gwaharddiad cyfreithiol ar therapi trosi yn gyhoeddus, roedd yn disgrifio’r dicter tebygol a fyddai'n dod o'n cymuned LHDTQ+ fel 'sŵn', a phenderfynodd fod ein lleisiau, fel ers cenedlaethau, yn rhywbeth i'w ddiystyru, ei anwybyddu a'i leihau. Ond nid oedd y sŵn hwnnw mor hawdd ei reoli gan i’r Prif Weinidog wneud tro pedol cyflym ar gynlluniau i ddileu deddfwriaeth yn gyfan gwbl i wahardd therapi trosi. Yn gywilyddus, ar Ddiwrnod Gwelededd Trawsrywedd, dewisodd y Prif Weinidog Boris Johnson droi cefn ar bob un person trawsryweddol yng Nghymru a Lloegr.

Mae eithrio pobl draws o gynigion gohiriedig Llywodraeth y DU ar roi terfyn ar yr arfer aneffeithiol a niweidiol hwn yn achosi trallod gwirioneddol ac eang iawn. Nid oes sail resymegol glir dros eithrio pobl draws o'r amddiffyniadau a ddarperir gan y gwaharddiad arfaethedig; yn wir, mae'r gwrthwyneb yn wir, gan fod arolwg LHDT Llywodraeth y DU ei hun wedi canfod bod pobl draws bron ddwywaith mor debygol â phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol o fod yn destun therapi trosi. Mae'n mynd yn groes i gyngor arbenigwyr annibynnol, y proffesiwn meddygol a'r Eglwys Anglicanaidd.

Mae therapi trosi fel y'i gelwir, sy'n ceisio newid neu newid cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhyw person, yn arfer annormal, didostur a hollol annerbyniol sy'n seiliedig ar homoffobia a thrawsffobia dwfn na ddylai fod â lle yn ein cymunedau a'n gwlad. Mae’n cael ei gynnal o dan esgus ffug 'therapi', mae'n achosi poen a dioddefaint difrifol i bobl LHDTQ+, ac yn aml yn achosi niwed corfforol a seicolegol hirdymor. Pan mai'r hyn sydd ei angen fwyaf ar rywun yw cymorth, i'w grymuso a chael eu caru am bwy ydyn nhw, maen nhw’n cael eu gwneud i gredu bod pwy ydyn nhw’n anghywir a'i fod yn rhywbeth i'w wella.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl wrthwynebus i'r arfer hwn, ac mae'n gwneud popeth o fewn ein gallu i'w wneud yn hanes, yn ogystal â’r niwed mae’n ei achosi. Fe wnaethom ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i wahardd pob agwedd ar therapi trosi LHDTQ+, a cheisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol. Rydw i’n falch y byddwn ni’n mynd ar drywydd hyn gyda Phlaid Cymru fel rhan o'n cytundeb cydweithredu. Yma yng Nghymru, rydym ni’n sefyll gyda'n gilydd mewn undod â'n cymunedau LHDTQ+ ac oddi mewn iddynt. Does yr un ohonom ni'n gyfartal tra bod unrhyw un o'n hawliau'n cael eu trafod neu eu cyfnewid.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi cwrdd â llawer o aelodau o'n cymunedau LHDTQ+, yn enwedig y rheini o gymunedau traws, i ddeall eu pryderon a'u hofnau yn well, yn ogystal â'u hymdeimlad cyfiawn o ddicter yn y bradychiad hwn gan Lywodraeth y DU. Heddiw, rwyf am ailddatgan ymhellach a chynnig sicrwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wahardd arferion trosi i bawb yn ein cymunedau LHDTQ+. Byddwn yn gwneud popeth posibl o fewn ein pwerau datganoledig ac yn ceisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol i gyflawni hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn gwerthfawrogi pob person LHDTQ+. Mae gweithredu'n fwy effeithiol na geiriau, ac mae'n amlwg na allwn ni ymddiried yn Llywodraeth y DU i gyflawni'r amddiffyniadau mae pob aelod o'r gymuned LHDTQ+ yn eu haeddu.  

Heddiw, gallaf gyhoeddi'r camau nesaf mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ac y byddaf i’n eu cymryd, tuag at wneud therapi trosi yn rhywbeth o'r gorffennol, drwy gomisiynu cyngor cyfreithiol i bennu'r holl ddulliau sydd gennym ni yng Nghymru i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi yn llwyr. Rydw i eisiau gwybod beth allwn ni ei wneud, nid yr hyn na allwn ni ei wneud yn unig. Byddwn yn addysgu ac yn codi ymwybyddiaeth o erchyllterau ac aneffeithiolrwydd arferion therapi trosi drwy sefydlu ymgyrch bwrpasol yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at wasanaethau cymorth presennol ar gyfer goroeswyr therapi trosi, ond ochr yn ochr â hyn byddwn yn cynllunio ac yn comisiynu ymchwil i ddeall yn well effaith therapi trosi ar oroeswyr er mwyn gwella hygyrchedd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cymorth. Byddwn yn sefydlu gweithgor o arbenigwyr, i gynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ffydd, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a chynrychiolwyr plant a phobl ifanc, ochr yn ochr â phobl LHDTQ+, i helpu gyda'r gwaith hwn a chynghori ar elfennau allweddol wrth i waharddiad gael ei ddatblygu a bwrw ymlaen â hwnnw.

Yn ogystal â hyn, rwy'n falch o allu cyhoeddi bod GIG Cymru wedi ymrwymo i'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar wahardd therapi trosi. Mae sefydliadau sy'n llofnodi'r memorandwm ac yn gweithio i ddarparu neu gomisiynu iechyd meddwl neu seicolegol, fel y GIG, yn ymrwymo i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi drwy sicrhau nad ydynt yn comisiynu nac yn darparu therapi trosi. Rydym ni wedi ymrwymo i adeiladu ar y camau hyn ac i roi'r gorau i therapi trosi yng Nghymru. Mae cefnogaeth eang i waharddiad, ac rydw i wedi cael negeseuon o gefnogaeth gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau, o'r sector iechyd i leoliadau ffydd. Gyda'n gilydd, gallwn wneud therapi trosi yn hanes. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTQ+ yn Ewrop, lle na all neb neu lle na fydd neb yn cael ei adael allan na'i adael ar ôl. 

16:50

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Nid yw bod yn aelod o'r gymuned LHDT+ yn salwch i'w wella, a rhaid croesawu unrhyw gam y gallwn ni ei gymryd i wahardd therapi trosi er lles. Mae gwahardd therapi trosi yn gam enfawr tuag at ddarparu cydraddoldeb i'r gymuned LHDT. Mae therapi trosi yn wenwynig a gall gael effaith enfawr ar les meddyliol a chorfforol pobl sy'n mynd drwyddo. Ni ddylid gwneud i neb deimlo cywilydd i fod yn bwy ydyn nhw. Er bod y rhai sydd â chyfyng-gyngor hunaniaeth rhyw hawl gyfartal i ddisgwyl yr un urddas a diogelwch â phobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol, mae'r mater hwn yn gofyn am ddull gweithredu gwahanol. Gall hunaniaeth o ran rhywedd arwain at nifer o newidiadau corfforol a meddyliol a fyddai'n newid bywydau'n llwyr ym mhob ffordd. Yn hytrach na llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i wahardd therapi trosi, pam nad yw'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi mynd i'r afael ag ef a'i wahardd? Rwy'n ofni mai enghraifft arall yw hon o Llafur yn gwneud yr holl synau cywir, yn enwedig gydag etholiad ychydig dros wythnos i ffwrdd, ond heb wneud dim byd ystyrlon yn ei gylch. Mae angen dull gwahanol o weithredu er mwyn sicrhau bod person yn cael y cymorth a'r broses gywir maen nhw eu hangen yn ystod cyfnod pontio i gyrraedd y pwynt lle mae'n teimlo'n fwyaf cyfforddus. Eu corff nhw, eu dewis nhw, eu hunaniaeth nhw. Diolch yn fawr iawn. 

16:55

A gaf i ddechrau drwy groesawu Altaf Hussain yn ôl? Dyma'r tro cyntaf i mi gael y cyfle i'ch croesawu'n ôl i'r Siambr hon ac i'ch gweld chi yma, yn edrych mor dda. Rwy'n croesawu eich geiriau o gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth na ddylai neb fod â chywilydd o fod yn bwy ydyn nhw ac y dylid eu gorfodi i newid pwy ydyn nhw. 

Rydw i'n gresynu'n fawr at y dôn y gwnaethoch chi ei chymryd wedyn i'n cyhuddo o chwarae gwleidyddiaeth plaid. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid na gwleidyddiaeth o unrhyw fath. [Torri ar draws.] Peidiwch â chwerthin. Mae hyn yn ymwneud â bywydau pobl. Mae hyn yn ymwneud â bywydau pobl, mae hyn yn ymwneud â gwneud y peth iawn, a gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ac amddiffyn pobl sy'n aelodau o'r gymuned LHDTQ+ mewn cymunedau ledled Cymru. Rwy'n gwrthod y cyhuddiad hwnnw'n llwyr, ac rwy'n credu ei fod yn dangos diffyg chwaeth.

Fe wnaethoch chi ofyn pam rydym ni'n llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar therapi trosi yn unig. Wel, petaech chi'n gwrando ar y datganiad heddiw, nid dyna rydym ni'n ei wneud. Rwy'n dod ar draws y pethau hyn fel gweithredydd yn ôl fy natur, yn ôl cefndir. Er ein bod ni mewn gwirionedd yn paratoi i bennu'r hyn y gallwn nu ei wneud, sut rydym ni'n bwrw ymlaen â'r gwaharddiad hwnnw ac yn sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn, ac yn archwilio'r dulliau eraill y gallem ni fod eu angen i ni allu gwneud popeth rydym ni am ei wneud, byddwn yn cymryd y camau y gallwn ni eu cymryd yn awr—fel y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a fel sut yr ydym ni'n gweithio gyda chymunedau i godi ymwybyddiaeth dros yr arfer annormal hwn, ond hefyd sut y gallwn ni arfarnu'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael. 

Rydw i am ddweud wrth gloi, Dirprwy Lywydd, fy mod i'n croesawu'n fawr gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i wahardd therapi trosi LHDT, ac os byddwn ni'n cyrraedd y pwynt lle mae angen i ni alw am ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru, mae croeso mawr i chi ymuno â ni yn yr alwad honno.  

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad cadarn y prynhawn yma. Hoffwn uniaethu fy hun a'm plaid yn llwyr gyda'r hyn rŷch chi wedi'i fynegi am agwedd warthus Llywodraeth San Steffan ar y mater hwn. Mae cael y grymoedd i wella bywydau pobl draws yng Nghymru, a'u diogelu, yn hollbwysig os ydym am sicrhau tegwch ac i roi diwedd ar ragfarn ac anghydraddoldeb.

Mae'r mater yma wedi dangos yn glir pam na allwn ymddiried yn Llywodraeth San Steffan i warchod buddiannau pobl Cymru. Mae gennym Senedd i wasanaethu pobl Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu a galw am yr holl rymoedd sydd eu hangen gan San Steffan fel mater o frys, fel y gallwn wireddu ein huchelgais o sicrhau mai Cymru fydd y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.

Heb y grymoedd perthnasol, rydym yn parhau i fod ar drugaredd San Steffan a Llywodraethau adweithiol fel yr un sydd gennym dan lyw Torïaid Boris Johnson ar hyn o bryd, nad oes modd ymddiried ynddi o gwbl o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau tegwch. Mae'n amlwg bod hwn yn un o nifer o fygythiadau i, ac ymosodiadau ar, hawliau y gymuned LHDTC+, ac yn rhan o agenda ideolegol ehangach Torïaid Johnson i dargedu grwpiau lleiafrifol am resymau gwleidyddol. Mae'n gwbl, gwbl warthus, ac ni ddylem dderbyn y sefyllfa hon.

Mae'r setliad datganoli yn cyfyngu ar ein gallu i amddiffyn y gymuned LHDTC+ yn llawn yma yng Nghymru. Gyda grymoedd llawn dros gyfiawnder, byddwn yn gallu gwireddu'r nod heb fod angen gorfod pwyso a dylanwadu a dadlau, heb fod angen canfod ffyrdd amgen o sicrhau tegwch a chydraddoldeb i'n pobl. Rwy'n croesawu datganiad y Dirprwy Weinidog, ac mae Plaid Cymru yn cefnogi'n llwyr safiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ymarferion trosi yn cael eu gwahardd yn llwyr, a sicrhau nad oes unrhyw un yn dod o dan bwysau i guddio neu newid yr hyn ydyn nhw, o ran eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rhywedd, neu y ddau. Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r camau sydd wedi'u hamlinellu i geisio gwahardd ymarferion trosi yng Nghymru, a thrwy gytundeb Plaid Cymru gyda'r Llywodraeth, rŷn ni'n croesawu'r cyfle i gydweithio ar y mater hwn.

Mae'n dda hefyd clywed am y mesurau i godi ymwybyddiaeth am erchyllter ac aneffeithioldeb ymarferion trosi, ac i wella hygyrchedd gwasanaethau cefnogi. Hoffwn ofyn felly a allai'r Dirprwy Gweinidog esbonio'n fanylach sut y bydd modd cyflawni'r nod rydym yn ei rhannu o ran sicrhau gwaharddiad llwyr, cyflawn i ymarferion trosi a diogelu pob person LHDTC+ yng Nghymru rhag y niwed a'r trawma maent yn achosi, a hynny unwaith ac am byth. Pa ddulliau neu brosesau deddfwriaethol sy'n cael eu hystyried fydd yn medru cyflawni hyn, a beth yw'r amserlen y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei rhagweld? Beth yw bwriad y Llywodraeth os nad oes modd cyflawni ei nod, wedi derbyn y cyngor cyfreithiol y mae hi wedi'i gomisiynu? Diolch.

17:00

Diolch, a diolch am eich cefnogaeth.

Rydw i'n croesawu ac yn gwerthfawrogi'n fawr y safbwynt a'r gefnogaeth a gymerir gan gyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru ar y mater gwirioneddol bwysig hwn ac un sydd, fel rydych chi wedi'i ddweud, yn creu niwed ac erchyllterau gwirioneddol. Dyna pam mae'n bwysig iawn, ochr yn ochr â'r camau rydym ni'n eu cymryd tuag at wahardd therapi trosi, ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r erchyllterau a'r niwed mae'n ei achosi, ar yr un pryd â sicrhau bod y gwasanaethau sydd yno i gefnogi pobl yn ddigonol, ac y gellir eu gwella lle mae angen hynny. A'r ffordd y dylem ni fod yn gwneud hynny mewn gwirionedd—bydd swyddogion a swyddogion polisi yn siarad, a byddaf i hefyd yn siarad yn uniongyrchol â goroeswyr therapi trosi, oherwydd mae'n 'ddim byd amdanom ni hebom ni', ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn, nid yn unig bod y gymuned LHDTQ+ yn rhan o'r gweithgor hwn tuag at weithredu'r gwaharddiad, ond fod profiadau pobl wir yn llywio'r hyn rydym ni'n ei wneud, yn enwedig i daro deuddeg gyda'r arswyd sy'n therapi trosi. Un o'r pethau a'm trawodd pan ddaeth hyn i'r amlwg wythnosau'n ôl, ac roedd llawer o sylw'r wasg o'i gwmpas, oedd pobl yn dweud wrthyf i eu bod nhw wedi'u syfrdanu i sylweddoli y gallai hyn ddigwydd o hyd yn y gymdeithas heddiw, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gwneud pobl yn ymwybodol mai dyma pam mae angen i ni weithredu, a'r canlyniadau dinistriol mae'n eu cael ar y gymuned LHDTQ.

Hoffwn sôn am y pwyntiau rydych chi newydd eu gwneud, Sioned, ynghylch y peth gwenwynig hwnnw—dydw i ddim am ddefnyddio'r gair 'dadl', oherwydd rwy'n credu ei bod yn gwbl anghywir defnyddio'r gair hwnnw, oherwydd rydyn ni'n siarad am fywydau pobl; nid yw'n ddadl. Ond y naratif gwenwynig hwnnw, lle mae wedi cael ei ddefnyddio i ymosod ar bobl, a dydw i ddim yn beio unrhyw blaid wleidyddol yn unig, ond yn y cyfryngau hefyd, ac yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol—. Rydych chi'n poeni bod hanes yn ailadrodd ei hun, oherwydd mae llawer o'r ymosodiadau hynny'n debyg iawn i'r difenwad roedd y gymuned hoyw yn ei wynebu 40 mlynedd yn ôl ar anterth yr epidemig AIDS, ac rwy'n credu mai'r unig wahaniaeth yma yw bod gennym ni, yn y Siambr hon, yn y Llywodraeth hon, ddyletswydd i ddangos arweiniad a siarad dros y cymunedau sy'n cael eu hymosod, ac nid dim ond sefyll mewn undod, ond i weithredu fel rydym ni'n ei wneud gwaharddiad therapi trosi.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am fod yn hyrwyddwr unigol fel Aelod o'r Senedd, ond hefyd yn ei rôl fel Dirprwy Weinidog. Mae'r gwaith y mae hi'n ei wneud yn eithriadol, ac, yn sicr, rydw i eisiau rhoi fy enw iddo, a dweud, 'Rydych chi'n fy nghynrychioli i yn yr hyn rydych chi'n ei wneud'.

Rhoddais ateb i gwestiwn ar Twitter ychydig ddyddiau'n ôl. Gofynnodd rhywbeth o'r enw Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru gwestiwn i mi: 'Beth yw menyw?' Roedd y cwestiwn hwnnw'n cael ei ofyn i greu llinellau rhannu, ac roedd yn cael ei ddefnyddio i ymosod ar bobl draws. A dywedais mewn ymateb:

'Rydw i wedi gwneud gwaith achos ar ran pobl draws sydd wedi wynebu heriau anhygoel yn eu bywydau.'

Mae'n dorcalonnus pan fyddwch chi'n clywed rhai o'r straeon mae pobl draws wedi'u hwynebu.

'Maen nhw'n haeddu llawer gwell na chwestiynau ystrydebol fel hyn. Mae bywyd yn gymhleth. Deliwch â hynny.'

Y rheswm y gwnes i ddweud hynny yn y ffordd y gwnes i oedd oherwydd bod y cwestiwn hwnnw wedi'i gynllunio'n glir i rannu, a gallwch chi fod yn sicr y byddai'r bobl hynny y tu ôl i'r cwestiwn hwnnw'n cefnogi therapi trosi, sy'n anghredadwy yn yr oes sydd ohoni. Dyna pam rwy'n cefnogi hyn heddiw. Felly, wrth groesawu hynny, hoffwn ofyn hefyd, mewn cwestiwn cysylltiedig, pryd y gallem ni weld diweddariad ar gynllun gweithredu LHDTQ+ Llywodraeth Cymru? Fyddwn ni'n gweld hynny cyn bo hir? Oherwydd rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gweithio ar hynny hefyd, sy'n gweithio'n dda ochr yn ochr â hyn. Ond, diolch, am y gwaith rydych chi'n ei wneud, Dirprwy Weinidog.

17:05

A gaf i ddiolch i Hefin David am eich geiriau caredig a chefnogol, a diolch hefyd i chi am leisio barn a siarad i amddiffyn nid yn unig eich etholwyr chi, ond y gymuned draws yng Nghymru? Ac rydych chi'n iawn, mae llawer o'r pethau hyn, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi'u dylunio i rannu. Ac rwy'n credu bod gennym gyfrifoldeb, waeth pa mor anodd y gallai fod, i dynnu sylw at hynny ac i herio, yn y ffordd orau y gallwn, heb  roi mwy o lwyfan i hynny ar yr un pryd. Felly, rwyf yn croesawu'n fawr eich cefnogaeth a phopeth yr ydych yn ei wneud, yn enwedig i gefnogi eich etholwyr eich hun, oherwydd gwn y bydd gennym ni i gyd straeon, mae'n debyg, am ba mor anodd y mae wedi bod i bobl a'r boen y mae pobl wedi'i hwynebu.

Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwyf wedi siarad â chynrychiolwyr o'r gymuned draws yng Nghymru, ac roedd yn wirioneddol ofnadwy gwrando ar yr effaith a gaiff geiriau pobl a'r effaith, y neges y mae'n ei hanfon i eithrio grŵp o waharddiad ar therapi trosi, a phobl yn dweud, 'A yw'n ddiogel bod yma mwyach?', yn y DU, ac mae pobl, yn amlwg, yn poeni am eu hiechyd meddwl. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth, fel y dywedaf i, mae'n ymwneud â phobl ac mae'n ymwneud â gwneud y peth iawn gan bawb. Felly, rwy'n croesawu'n fawr gefnogaeth Hefin David. 

Ac yn fyr iawn, ar y cynllun gweithredu LGBTQ+, rwy'n gobeithio'n fawr y byddaf yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd cyn toriad yr haf ar hynny a'n cynnydd arno. Ond rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni yn ei wneud heddiw a'r camau yr ydym yn eu cymryd o gwmpas gweithio tuag at waharddiad ar therapi trosi yn rhan fawr o'r cynllun hwnnw. Rwyf bob amser wedi dweud o'r cychwyn nad yw'n ymwneud â'r cynllun yn unig, mae'n ymwneud â'r gweithredu, yn bwysicach oll, sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac rwyf eisiau cyflwyno'r cynllun hwnnw mewn ffordd lle y gallwn eisoes ddangos lle mae'r camau hynny'n cael eu cymryd. 

Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog

Y cynnig nesaf yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i eitemau 8 a 9 gael eu trafod. Dwi'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig.

Cynnig NNDM7985 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7983 a NNDM7984 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ebrill 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig, felly, yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu'r cynnig hynny? Nac oes. Ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022

Mae hynny'n caniatáu inni symud ymlaen i eitem 8, felly, a'r eitem honno yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022. A dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma, sef Lee Waters.

Cynnig NNDM7983 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ebrill 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rheolau mewnfudo newydd ar gyfer pobl y mae'r rhyfel yn Wcráin yn effeithio arnynt. Bydd y rhain yn darparu caniatâd cyfyngedig i aros i bobl sy'n cael caniatâd i ddod i'r DU o Wcráin, a'r rhai a oedd yma cyn i'r rhyfel ddechrau. Byddan nhw, felly, yn osgoi gofynion arferol rheoli mewnfudo. Mae hyn yn golygu nad oes cost i wneud cais, ac nid oes angen dangos annibyniaeth ariannol, Saesneg, llythrennedd na bwriad sefydlog i aros yn y DU drwy'r prawf preswylio arferol. Gan fod Cymru'n genedl noddfa, mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi'r dull hwn.

Mae gan hyn ganlyniadau dilynol i'r ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw wedi'u cynllunio i helpu pobl sy'n ffoi o Wcráin i gael gafael ar dai neu gymorth tai pan fyddant yn cyrraedd. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n deall pam yr ydym wedi cyflwyno rheoliadau'n gyflymach drwy brosesau'r Senedd nag arfer. Mae llawer o bobl sy'n ffoi o Wcráin eisoes yn y wlad, ac rydym eisiau sicrhau bod eglurder a sicrwydd yn y gyfraith i'w cefnogi.

Rydym yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau mewn llai o amser nag a gymerir fel arfer. Nid yw hwn yn gais yr ydym wedi'i gymryd heb ystyriaeth briodol, ond mae brys y sefyllfa'n mynnu bod y dull hwn yn osgoi anfantais bosibl i'r rhai a allai wynebu oedi wrth ddod o hyd i gartref neu gymorth pe baen nhw'n dod yn ddigartref.

Bydd Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn rhoi cymhwysedd i bobl sy'n gwneud cais llwyddiannus i gynlluniau Wcráin Llywodraeth y DU gael cymorth tai a thai. Mae cynlluniau Wcráin yn cwmpasu aelodau teuluol uniongyrchol ac estynedig gwladolion Prydeinig sy'n dod o Wcráin i aros yn y DU, unrhyw berson sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i gynllun noddi Cartrefi i Wcráin, a'r rhai sydd eisoes wedi cael caniatâd i fod yn y DU cyn 18 Mawrth eleni sydd wedi cael caniatâd i ymestyn eu harhosiad yn y DU o dan gynllun ymestyn Wcráin. 

Bydd y rheoliadau'n hepgor y prawf preswylio arferol ar gyfer pobl o Wcráin sy'n dod i Gymru ac yn gwneud yr un peth ar gyfer dychwelyd gwladolion Prydeinig a phobl nad ydynt yn destun rheolaeth fewnfudo sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Bydd hyn yn golygu y gallant gael budd-daliadau a gwasanaethau, gan gynnwys tai neu gymorth tai, o'r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd yn hytrach na gorfod aros un i dri mis i fodloni'r prawf. 

Llywydd, mae cymdogion Wcráin wedi dangos haelioni eithriadol o ran y croeso y maen nhw wedi'i roi i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel. Bydd y rhan fwyaf o bobl o Wcráin eisiau dychwelyd cyn gynted â phosibl ac aros mor agos ag y gallan nhw i'w cartrefi. Ond mae maint y gwrthdaro yn golygu bod yn rhaid i bob gwlad yn Ewrop gynnig eu cefnogaeth a'u cysur. Byddwn yn gwneud hyn hefyd. Mae Cymru'n genedl noddfa, felly drwy'r rheoliadau hyn, gadewch i ni ei gwneud yn glir i bobl Wcráin sy'n dod i Gymru ac sydd angen ein cymorth y byddan nhw'n ei gael. Diolch.

17:10

Diolch. Does gen i ddim cyfranwyr eraill ar gyfer y ddadl yma, a dwi'n cymryd nad yw'r Dirprwy Weinidog eisiau cyfrannu ymhellach. Felly, fe wnaf i ofyn, a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad i hynny. Felly, fe dderbynnir y cynnig yma o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022

Eitem 9 sydd nesaf, a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 yw'r eitem yma. Y Gweinidog iechyd sydd i'w cyflwyno nhw. Dyw'r Gweinidog iechyd ddim yma i gyflwyno'r eitem yma. Felly, fe wnaf i bwyllo ar hynny ac arafu i lawr yn ddifrifol, fel rŷch chi'n gallu gweld, wrth siarad, yn y gobaith ei bod hi'n ymddangos, ond dyw hi ddim yn ymddangos. Felly, nid yw'r eitem yna'n cael ei chyflwyno na'i chynnig ar hyn o bryd.

Eitem 10, felly, yw'r eitem nesaf, y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol—[Torri ar draws.] Gan fod y Gweinidog Jane Hutt ddim wedi cynnig yr eitem yma yn ffurfiol, fe af i nôl, felly, i'r Gweinidog iechyd, os ydy hi'n barod nawr, i gyflwyno'r cynnig i'r Senedd ac i ymddiheuro am beidio â bod yma ar yr union bryd yr oedd hi i fod, ond i ymddangos o fewn ychydig eiliadau wedi hynny. Felly, fe wnaf i alw ar y Gweinidog iechyd i gyflwyno'r rheoliadau coronafeirws. Eluned Morgan.

Cynnig NNDM7984 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ebrill 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Ymddiheuriadau i'r Llywydd, a hefyd i'r Senedd. 

Llywydd, cynigiaf y cynnig sydd ger ein bron.

Er fy mod yn gobeithio bod yr Aelodau wedi mwynhau toriad y Pasg, ni fyddan nhw wedi anghofio bod coronafeirws yn dal i fod gyda ni, ac rwy'n falch o gyhoeddi bod y niferoedd yn yr ysbytai wedi sefydlogi dros yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, mae'r niferoedd yn parhau i fod yn uchel. Yn ei gyd-destun, ar 22 Ebrill 2022, roedd 1,360 o gleifion yn gysylltiedig â COVID yn yr ysbyty—ychydig dros 1,070 yn uwch nag ar yr un pryd y llynedd. Mae canlyniadau diweddaraf astudiaeth heintiau coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gan un o bob 15 o bobl yng Nghymru COVID-19 ar gyfer yr wythnos hyd at 16 Ebrill. Mae hyn yn ostyngiad yng nghanran y bobl sy'n profi'n bositif o'i gymharu â'r wythnos flaenorol. Mae'r cyfraddau'n parhau i fod yn uchel ar draws pob rhan o'r Deyrnas Unedig, ond mae canran y bobl sy'n profi'n bositif wedi gostwng ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Byddwn yn adolygu'r ffigurau'n ofalus dros yr wythnosau nesaf, oherwydd y cynnydd mewn cymysgu cymdeithasol dros wyliau'r Pasg. Ger ein bron heddiw mae'r rheoliadau diwygio diweddaraf, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022. Er ei bod yn ymddangos bod sefyllfa'r coronafeirws yn sefydlogi, mae'r cyfraddau heintio yn parhau i fod yn uchel ac mae'r pwysau ar y GIG yn dal i fod yn sylweddol iawn. Am y rheswm hwn, cytunodd y Cabinet i gadw'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol am dair wythnos arall. Nod hyn yw helpu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed a staff sy'n gweithio yn y lleoliadau risg uwch hyn.

O 18 Ebrill 2022, nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol bellach i fusnesau a sefydliadau gynnal asesiad risg coronafeirws penodol a chymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddal y feirws. Gyda gofynion cyfreithiol ar fusnesau wedi'u dileu, cytunodd y Cabinet hefyd nad yw pwerau ychwanegol awdurdodau lleol i gau neu reoli safleoedd a digwyddiadau bellach yn gymesur. Felly, daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 i ben hefyd ar 18 Ebrill 2022.

Nid yw dileu'r gofynion cyfreithiol yn golygu nad oes angen i fusnesau a chyflogwyr ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Fodd bynnag, mae'n bryd iddynt asesu'r risgiau hyn ochr yn ochr â chlefydau trosglwyddadwy eraill, gan gynnwys y ffliw a norofeirws. Rydym wedi diwygio cyngor iechyd y cyhoedd i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau i'w helpu i barhau i weithredu mesurau rheoli effeithiol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Bydd hyn yn diogelu eu busnesau, eu gweithwyr a'u hymwelwyr.

Mae cyngor i'r cyhoedd yn parhau i argymell gorchuddion wyneb ym mhob lleoliad dan do prysur neu gaeedig. Mae ein canllawiau yn cynghori amrywiaeth o fesurau rheoli eraill y gall pobl a sefydliadau eu cymryd i helpu i leihau trosglwyddiad y coronafeirws ac i ddiogelu Cymru. Mae rhai o'r mesurau hyn yn cynnwys cael eich brechu, ymarfer hylendid dwylo da, profi a hunanynysu pan fydd gennych chi symptomau, gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau dan do prysur neu mewn llefydd caeedig, cwrdd ag eraill yn yr awyr agored, a, phan fyddwch chi dan do, cynyddu'r awyru a gadael awyr iach i mewn. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu hadolygu eto erbyn 5 Mai.

Fel rydym yn ei wneud bob amser, byddwn ni'n parhau i wneud penderfyniadau i ddiogelu iechyd pobl Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor iechyd y cyhoedd sydd ar gael i ni. Dwi'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynigion.

17:15

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Dim ond ychydig iawn o sylwadau gen i. Yn gyntaf, dwi'n croesawu'r ffaith bod y cyngor sy'n cael ei roi i'r Llywodraeth yn dal i gynnig ein bod ni'n gallu symud yn raddol tuag at godi'r mesurau diogelwch sydd wedi bod mewn lle. Mae eisiau ystyried bod yna bobl sy'n nerfus o hyd, serch hynny. Felly, un cwestiwn: wrth i'r gofynion am asesiadau risg mewn gweithleoedd gael eu tynnu nôl, pa warchodaeth mae'r Llywodraeth yn gallu ei rhoi i weithlu sydd, o bosib, yn bryderus nad oes yna ddigon o gefnogaeth iddyn nhw, na chamau diogelwch, os oes yna, er enghraifft, nifer uchel o achosion o fewn ardal benodol neu o fewn y gweithlu hwnnw? Mae'r ffaith bod angen gorchudd wyneb o hyd mewn amgylchiadau iechyd a gofal yn rhywbeth dwi'n ei groesawu. Mae'r cyngor i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn llefydd prysur yn dal yn bwysig tu hwnt. Mae hynny eto yn ein hatgoffa ni o'r angen i feddwl am y bobl hynny sydd yn nerfus oherwydd eu bod nhw yn fregus, o bosib, ac o bosib yn y gweithle hwnnw mae angen gair neu ddau o gadarnhad gan y Llywodraeth bod eu lles nhw yn dal dan sylw gennych chi. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r newid yma heddiw. Un cais arall os caf i: gawn ni ddiweddariad ar ble rydym ni arni o ran gwthio'r haen nesaf o frechiadau allan? Mae'r rhaglen wedi bod yn un llwyddiannus tu hwnt, ond mae pobl yn eiddgar i wybod pa bryd mae eu brechiad nesaf nhw'n dod, ac o bosib mae hyn yn gyfle i'r Gweinidog roi diweddariad sydyn inni ar hynny.

Diolch yn fawr, Rhun, ac yn sicr rŷn ni yn ymwybodol iawn bod yna bobl sy'n nerfus iawn o hyd ac sydd yn pryderu, a dyna pam mae'n bwysig bod pobl yn dilyn y cyngor, efallai, rŷn ni wedi'i roi gerbron, a gwnes i restru'r rheini ar y diwedd, a sicrhau bod pobl yn cael eu brechu—hwnna yw'r peth pwysicaf, wrth gwrs. Ond ar wahân i hynny, rŷn ni i gyd yn gwybod beth sydd angen ei wneud i'n cadw ein hunain yn ddiogel, ac mae eisiau atgoffa pobl o wneud hynny. Mae eisiau i gyflogwyr annog pobl i wneud hynny. Dwi'n falch o weld bod y Senedd yn dal i'n cynghori ni i wisgo gorchudd wyneb pan ŷn ni dan do hefyd. Felly, mae hwnna'n bwysig, ac yn sicr dyna beth rŷn ni eisiau ei weld o safbwynt y Llywodraeth.

O ran brechiadau, wel, wrth gwrs, mae lot o bobl eisoes wedi cael brechiadau mewn cartrefi gofal, felly mae targed rŷn ni'n gweithio tuag ati. Mae lot o bobl dros 75 eisoes wedi cael y brechiad. Dŷn ni ddim wedi gweld cymaint o blant, efallai, yn dod ymlaen ag yr oedden ni'n ei ddisgwyl—o bump i 11—ond beth rŷn ni'n edrych arno nawr yw paratoi ar gyfer beth sy'n dod nesaf yn yr hydref. Rŷn ni'n aros i glywed wrth y JCVI. Bydd yna gyngor interim yn dod cyn hir. Beth rŷn ni wedi gofyn i'r gwasanaeth ei wneud yw paratoi ar gyfer y grwpiau 1 i 9. Felly, os na fyddan nhw'n cynghori'r rheini, wedyn mae'n haws inni dorri nôl yn hytrach na phigo lan, felly dyna yw'r cyngor rŷn ni wedi gofyn i'r gwasanaethau iechyd ei ystyried.

17:20

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig yma? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 9 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain

Eitem 10 sydd nesaf, memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig yma. Jane Hutt.

Cynnig NDM7981 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Iaith Arwyddion Prydain i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac rwy'n hapus i gynnig y cynnig hwn ac esbonio pam rwy'n credu y dylai'r Senedd gytuno arno. I lawer o bobl yng Nghymru, Iaith Arwyddion Prydain yw'r iaith y maen nhw'n ei defnyddio mewn bywyd bob dydd, ond gwyddom i lawer eu bod wedi'u hanablu oherwydd nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cyfathrebu â nhw neu'n methu â chyfathrebu â nhw drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain. I'r gymuned fyddar, dim ond un nodwedd nodedig o'u diwylliant yw iaith. Mae Cymru fwy cyfartal yn un sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Mae hefyd yn un o'n hamcanion llesiant cenedlaethol cyfunol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae hyn yn seiliedig ar ymrwymiad hirsefydlog i'r model cymdeithasol o anabledd.

I ddefnyddwyr BSL, mae'r gallu i barhau â'u bywydau heb eu hatal gan rwystrau cyfathrebu yn sylfaenol, a phan fabwysiadodd Llywodraeth Cymru BSL fel iaith swyddogol yn 2004, roedd yn cydnabod y gwirionedd hwn, ac rwy'n falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud ar y cyd yng Nghymru o ran hyrwyddo'r defnydd o BSL yn y ffordd yr ydym yn cyfathrebu, ac rwy'n cydnabod yn llwyr fod llawer mwy i'w wneud.

Bydd y Bil hwn, er ei fod yn gyfyngedig i hyrwyddo a hwyluso BSL wrth i gyrff Llywodraeth y Du gyfathrebu â'r cyhoedd, pan gaiff ei weithredu, yn gwneud cyfraniad pwysig i fywydau defnyddwyr BSL a'n hamcanion ar gyfer Cymru fwy cyfartal. Felly, bydd yn gwella cyfle cyfartal i bobl yng Nghymru, a dyna pam mae angen cydsyniad y Senedd a pham yr wyf i'n cefnogi'r cynnig cydsyniad hwnnw.

Mae tair darpariaeth weithredol i'r Bil. Mae'n gwneud BSL yn iaith swyddogol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac mae'r statws hwn yn dod i rym drwy'r darpariaethau eraill yn y Bil, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU adrodd ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL wrth gyfathrebu â'r cyhoedd o adrannau Llywodraeth y DU, a'r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi canllawiau cysylltiedig.

Nid yw'r Bil yn atal y Senedd rhag deddfu yn y maes hwn pe bai'n dewis gwneud hynny. Mae eithriadau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus datganoledig ac ar gyfer Gweinidogion Cymru yn y Bil, ac mae'n iawn i ni allu penderfynu ar ddull gweithredu cynhwysfawr i Gymru sy'n addas i'n dull gweithredu ein hunain. Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda'n tasglu anabledd i ddatblygu dull gweithredu, yn dilyn archwiliad Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain a gomisiynwyd gennym ym mis Chwefror 2021, a dywedaf ein bod wedi comisiynu hynny mewn ymateb i'r Bil Aelod preifat a gyflwynwyd gan Mark Isherwood bryd hynny. Fe wnaethom ni ddweud bryd hynny ein bod eisiau bwrw ymlaen â hyn fel hyn, gan gynnal yr archwiliad hwn gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, ac yn awr mae gennym y tasglu hawliau anabledd i helpu i symud hyn yn ei flaen.

Felly, bydd y darpariaethau yn y Bil hwn yr ydym ni'n eu trafod y prynhawn yma o ran yr LCM yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau defnyddwyr BSL, y dylem ei groesawu ochr yn ochr â'n dull gweithredu yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am graffu ar y Bil a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Yn amlwg, rwyf yn derbyn bod llawer mwy i'w wneud, ond mae hwn yn gyfraniad cadarnhaol, ac anogaf y Senedd i gytuno i'w gymhwyso i Gymru. Diolch.

Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone. 

17:25

Diolch yn fawr iawn. Trafodwyd y cynnig hwn yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddoe, ac nid wyf yn credu bod unrhyw anghydweld ynghylch pwysigrwydd pasio'r mesur hwn, er fy mod yn credu bod rhywfaint o anghydweld ynglŷn â'r ffordd yr ydym yn gwneud hynny. Ni allaf gredu y byddai unrhyw un yn ei wrthwynebu, ond credaf ei bod yn bwysig deall pwy sydd angen defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, oherwydd nid oes diben i ni basio deddfwriaeth dim ond er mwyn gwneud hynny; rhaid i ni ystyried sut y dylai newid ein hymddygiad.

Felly, mae dros 0.5 miliwn o bobl fyddar a thrwm eu clyw yn byw yng Nghymru, ond yn amlwg gall y rhan fwyaf ohonyn nhw oresgyn y byddardod hwnnw drwy ddefnyddio cymhorthion clyw. Ond mae tua 4,000 o bobl yr ydym yn gwybod amdanyn nhw sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain oherwydd bod eu byddardod mor ddwys fel nad oes ganddynt y gallu i gaffael ieithoedd llafar fel Cymraeg, Saesneg nac unrhyw iaith arall. Felly, mae Iaith Arwyddion Prydain yn hynod bwysig iddyn nhw ac mae hefyd yn bwysig iawn i bobl sydd ag anawsterau cyfathrebu eraill ac mae Iaith Arwyddion Prydain yn arf defnyddiol iawn iddynt.

Bu gostyngiad yn nifer y plant byddar sydd yn yr ysgol, ond rwyf wedi gweld iaith arwyddion yn cael ei haddysgu mewn mannau eraill, er enghraifft mewn darpariaeth feithrin neu gynradd, i bob plentyn, fel y gall yr ysgol gynhwysol sicrhau bod y plant i gyd yn gallu cyfathrebu â'i gilydd, gan gynnwys plentyn y mae angen iddo ddefnyddio iaith arwyddion.

Rwy'n credu bod mater hefyd i Gomisiwn y Senedd: os ydym ni o ddifrif am Iaith Arwyddion Prydain, pa mor aml y dylem ni fod yn sicrhau bod hynny ar gael yn ein trafodion fel bod pobl y mae angen iddyn nhw ddefnyddio iaith arwyddion yn gallu dilyn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ar eu rhan? Felly, gobeithiaf y byddwn i gyd yn unfrydol eisiau pasio'r mesur hwn ar y cyd â Senedd y DU, ond credaf fod angen i ni fyfyrio ar sut y gallwn estyn allan at y gymuned eithaf agored i niwed ac ynysig hon, ac fe wnes i gwrdd ag un ohonyn nhw ddoe mewn tipyn o gyd-ddigwyddiad ac roeddwn yn teimlo'n chwithig nad oedd gennyf gymaint o iaith arwyddion ag y byddwn wedi'i hoffi. Felly, gobeithio y byddwn ni i gyd yn cefnogi'r mesur hwn. 

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nesaf. Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Llywydd. Gwnaethom ni ystyried y memorandwm yn ein cyfarfod ar 28 Mawrth ac adroddwyd ar y memorandwm ddoe. Nid ydym yn troi at faterion polisi; mae hynny wedi'i wneud yn fedrus gan fy nghyd-Gadeirydd Jenny Rathbone a'i phwyllgor, ond cytunaf â'r sylwadau yn y fan yna: pwy fyddai'n gwrthwynebu hyn? 

Nid ydym yn gwneud unrhyw argymhellion yn ein hadroddiad, ond rydym yn gwneud ychydig o sylwadau. Mae un o'r rhain yn cyffwrdd â sylw yr ydych newydd ei wneud, Jenny. Yn gyntaf oll, rydym yn nodi ac yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, ac yn ail nodwn farn y Gweinidog ei bod yn briodol i'r Bil wneud darpariaeth ar gyfer Cymru ac nad yw'n cynnig unrhyw ymyrraeth uniongyrchol â swyddogaethau datganoledig.

Ond, yn olaf, ein trydydd sylw: rydym yn achub ar y cyfle i dynnu sylw at yr hyn sydd, yn ein barn ni, yn fater pwysig sy'n ymwneud â'r ffordd y gall meincwyr cefn yn y Senedd gyflwyno Biliau Aelodau. Er bod Aelodau'r Senedd wedi nodi cynnig deddfwriaethol Aelod ar y pwnc pwysig hwn, nid oes cyfle i Aelod gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn wedi codi ac rydym wedi'n tristáu gan hynny oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn gyfle a gollwyd i wneud deddfwriaeth yng Nghymru ar gyfer Cymru. Nawr, mae eraill a fyddai'n hyrwyddo swyddogaeth y meinciau cefn a allai ddadlau bod parodrwydd y Senedd ac yn wir y Llywodraeth i gefnogi deddfwriaeth a gychwynwyd gan y meinciau cefn yn arwydd o ddeddfwrfa a democratiaeth hyderus ac aeddfed hefyd. Gallai hyn fod o ddiddordeb i'r Aelodau yma, a dyna pam yr ydym ni'n mynd i ddangos hynny i'r Pwyllgor Busnes hefyd, a bydd yn sicr o ddiddordeb i'r bobl hynny sydd wedi hyrwyddo hyn, yn enwedig ein cyd-Aelod Mark Isherwood, ond eraill hefyd sydd wedi ceisio'r cyfle i gyflwyno Bil meinciau cefn o fewn hyn. Ond pwy fyddai'n gwrthwynebu hyn? Ond rwy'n gwneud y sylwadau hynny. Diolch yn fawr iawn.

Fel y clywsom ni, ym mis Chwefror y llynedd, cafodd fy nghynnig yn cynnig bod y Senedd yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n

'gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL'

ei basio yma gyda chefnogaeth drawsbleidiol, ni wnaeth yr un Aelod bleidleisio yn ei erbyn, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymatal fel mater o drefn. Fel y dywedais bryd hynny, 

'mae'n amlwg bod awydd am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws siambr y Senedd. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hyn ar ran y gymuned B/byddar'.

Er fy mod wedi parhau i gyflwyno ceisiadau am Fil Aelod preifat yn y Senedd hon yn unol â hynny, nid wyf wedi bod yn llwyddiannus eto.

Nododd fy nghynnig y byddai fy Mil arfaethedig yn sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Cysylltodd llawer o bobl fyddar a grwpiau dan arweiniad pobl fyddar ledled Cymru â mi i gefnogi hyn, gan ddweud wrthyf, er bod Llywodraeth Cymru yn datblygu siarter BSL newydd i Gymru, fod fy Mil arfaethedig yn gam enfawr ymlaen. Dim ond un person a ysgrifennodd i wrthwynebu.

Roeddwn, felly, wrth fy modd o glywed yr AS Llafur Rosie Cooper yn cael ei chyfweld ar y radio y llynedd am ei Bil Iaith Arwyddion Prydain yn Senedd y DU, a noddir ar y cyd gan yr Arglwydd Holmes Ceidwadol o Richmond. Yn dilyn ei Ddarlleniad Cyntaf ar 16 Mehefin 2021, cafodd Bil Iaith Arwyddion Prydain i roi statws cyfreithiol llawn i BSL a phobl fyddar fynediad at wasanaethau a gwybodaeth hanfodol yn eu hiaith gyntaf Ail Ddarlleniad diwrthwynebiad yn Nhŷ'r Cyffredin ar 28 Ionawr, ar ôl sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y DU, ac fe'i pasiwyd ar ôl ei Drydydd Darlleniad ar 18 Mawrth.

Wel, yn ôl 'Adolygiad Annibynnol o'r Ddarpariaeth BSL i Oedolion yng Nghymru' yn 2020, mae tua 7,500 o bobl yn defnyddio BSL yng Nghymru, gan gynnwys tua 4,000 B/byddar. Ac mae 151,000, gan gynnwys dros 87,000 o bobl fyddar y mae BSL yn ddewis iaith iddynt, yn defnyddio'r iaith ledled y DU. Er bod Bil y DU yn creu dyletswydd ar Lywodraeth y DU i baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL yn disgrifio'r hyn y mae adrannau'r Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL wrth gyfathrebu â'r cyhoedd, mae Bil y DU yn eithrio'n benodol adroddiadau ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban, gyda chymalau 2 a 3 o'r nodiadau esboniadol yn datgan bod

'Y setliadau datganoli ar gyfer Cymru a'r Alban yn darparu bod "hyrwyddo cyfle cyfartal" yn fater a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, mae eithriadau sylweddol i hyn, sydd yn ymarferol yn golygu bod annog cyfle cyfartal yn fater sydd wedi'i ddatganoli.'

Nid yw'r Bil yn ymestyn y ddyletswydd adrodd na chanllawiau i'r gweinyddiaethau datganoledig, h.y. Llywodraethau, yr Alban a Chymru.

Gosododd Llywodraeth Cymru y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar 8 Mawrth, o dan Reol Sefydlog 29.2, sy'n nodi:

'mae'n briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn ar gyfer y DU gan fod y Bil yn hybu cyfle cyfartal mewn ffordd sy’n gymesur â'n safbwynt ni ac nad yw'n cynnig unrhyw ymyrraeth uniongyrchol â swyddogaethau datganoledig. Felly, rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i gynnwys y darpariaethau hyn yn y Bil.

Aiff ymlaen i ddweud,

'Nid yw'r Bil yn effeithio ar weithrediad unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol ac nid yw'n gosod unrhyw rwymedigaethau ar Lywodraeth Cymru nac ar Awdurdodau datganoledig eraill yng Nghymru.....Mae'r Bil yn rhoi effaith gyfreithiol i Iaith Arwyddion Prydain fel iaith yng Nghymru drwy osod dyletswyddau a rhwymedigaethau ar awdurdodau a gadwyd yn ôl'—

h.y. heb ei ddatganoli—

'ac ni fyddai dim i atal y Senedd rhag deddfu mewn ffordd debyg i osod dyletswyddau a rhwymedigaethau tebyg ar Awdurdodau datganoledig Cymru.'

Mewn ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ar ba gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyflwyno Bil BSL yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog ar 11 Mawrth:

'Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cydnabod Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel iaith Cymru o 2004 ymlaen. Mae'r Bil BSL yn cynnwys darpariaethau i gydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.'

Gan ychwanegu,

'Comisiynwyd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (BDA) i gynnal archwiliad o bolisïau BSL Llywodraeth Cymru a'r gwasanaethau a ddarperir gyda'r bwriad o ymrwymo i'w Siarter BSL. Arweiniodd yr archwiliad at Adroddiad yn darparu argymhellion lefel uchel. Mae'r BDA a'r swyddogion yn trafod y canfyddiadau a byddant yn cwblhau'r Adroddiad yn derfynol.'

Ac, yn allweddol i hyn:

'Bydd ystyried yr angen am ddeddfwriaeth benodol i Gymru yn rhan o'r trafodaethau hyn.'

Felly, gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol, yn debyg o bosibl i Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain yr Alban (Yr Alban) 2015 neu'r Ddeddf sy'n cael ei hystyried yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.

Cysylltais â chadeirydd y BDA a'u holi am y datganiad hwnnw, ac mae wedi dweud wrthyf heddiw—. Gwnaf orffen drwy ei ddyfynnu:

Rydym wedi gweithio'n galed i ymgysylltu ag Adrannau Llywodraeth Cymru ac aelodau o Gymuned Byddar Cymru. Gwnaeth Llywodraeth Cymru rai sylwadau ar adroddiad drafft terfynol Archwiliad BSL ac felly, byddant yn cywiro ac yn ailgyflwyno adroddiad terfynol Archwiliad BSL cyn bo hir. Rwyf yn deall y bydd yr adroddiad yn mynd at y Gweithlu Hawliau Anabledd ar gyfer ystyriaethau ac argymhellion. Cyflwynodd BDA Cymru gynnig newydd ar gyfer y cam nesaf ar Siarter BSL yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y byddant yn ffafrio'r cynnig. Unwaith eto, rydym yn credu yn gryf fod Cymuned Pobl Fyddar Cymru eisiau Deddf BSL (Cymru), felly byddai'n wych pe gallen nhw gael gwybod gan Adran Cymunedau Gogledd Iwerddon pa gynnydd y maen nhw'n ei wneud ar y ddeddfwriaeth BSL ac ISL—Iaith Arwyddion Iwerddon—yno.

Hoffai BDA Cymru barhau i weithio gyda Mark, ASau eraill a swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried y posibilrwydd o gyflwyno Bil BSL (Cymru) trawsbleidiol'.

A wnaiff y Gweinidog ddweud felly a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bil BSL (Cymru) yn ystod tymor y Senedd hon pan fydd y BDA, fel y gwn yn awr y byddan nhw'n ei wneud, yn argymell i chi eich bod yn gwneud hynny?

17:35

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl yma. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae hwn yn ddarn bach ond pwysig o ddeddfwriaeth, ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael y ddadl hon wrth gynnig yr LCM hwn—cyfle i drafod pwysigrwydd BSL. Diolch i Jenny Rathbone ar ran y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a hefyd i Huw Irranca-Davies o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—nodwn eich sylwadau hefyd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cyfeirio ac yn cydnabod cyfraniad gwybodus iawn Mark Isherwood, dim ond yn dilyn ymlaen o'r gwaith yr ydych chi wedi'i wneud a hyrwyddo eich Bil yn ôl yn 2021.

Dim ond i ddweud, o ran pwysigrwydd yr archwiliad hwn gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, mae'n amlwg eich bod wedi cael gair gyda nhw am yr archwiliad hefyd, sy'n gwbl gywir—dyma'r profiad byw, dyma'r cyfle i ymgysylltu â'n partneriaid drwy gyd-gynhyrchu, a gwyddom ein bod yn rhannu'r weledigaeth honno o'r ffordd ymlaen. Felly, rydym yn adolygu sut yr ydym yn gwella'r defnydd o BSL o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â'r cyhoedd. Mae mor bwysig inni gael hynny o ran ein cynadleddau i'r wasg ar y pandemig, drwyddi draw. Mae wedi bod mor bwysig cael y cyfle gweladwy hwnnw i gyfathrebu, ond y cyfleoedd addysg hefyd, ac wrth ddarparu'r holl wasanaethau cyhoeddus. Ond byddwn ni mewn gwirionedd yn bwrw ymlaen ag archwiliad y BDA yn y gwaith drwy'r tasglu hawliau anabledd.

Credaf, fel yr ydym ni wedi dweud—ac, Mark, dim ond i gydnabod—yn eu hadroddiad maen nhw'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth ar BSL, ac felly bydd yr ymateb i'r argymhelliad hwn yn cael ei ddatblygu'n awr gyda'r tasglu hawliau anabledd, er mwyn rhoi cyfle i ni sicrhau cyfle priodol i unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru, ac mae'r ystyriaeth honno, wrth gwrs, ar gyfer deddfwriaeth yng Nghymru yn rhan o'r ymateb sy'n datblygu i'r archwiliad BSL. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

Eitem 11 sydd nesaf, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal yw eitem 11, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig yma. Eluned Morgan.

Cynnig NDM7982 Eluned Morgan

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal sy’n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i'w trawsblannu: troseddau ailldiriogaethol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y cynnig, ac rwyf heddiw'n argymell bod y Senedd yn cydsynio i gynnig cydsyniad deddfwriaethol Rhif 4 ar Fil Iechyd a Gofal y DU. Mae'r gwelliant hwn yn benodol iawn ei natur ac mae'n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i'w trawsblannu dramor—fel y'i gelwir yn dwristiaeth organau. Bydd Aelodau'n cofio bod cydsyniad eisoes wedi'i roi ar gyfer y cymalau eraill yn y Bil sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, felly, nid yw hwn yn gyfle i ailagor unrhyw feysydd eraill y cytunwyd arnyn nhw eisoes, ond sydd wedi'u cyfyngu i ystyried y gwelliant penodol hwn.

Cafodd cymal ei gynnwys yn y Bil ar 16 Mawrth gan yr Arglwydd Hunt i fynd i'r afael â thwristiaeth organau. Mae hwn yn arfer gwarthus lle mae pobl o wledydd datblygedig yn teithio dramor i gael trawsblaniadau organau gan bobl sydd mewn sefyllfa anobeithiol, neu mewn gwledydd sydd â record hawliau dynol amheus. Mae'r Arglwydd Hunt wedi bod yn bryderus ers cryn amser am yr arfer hwn, ac mae'n dymuno ei weld yn cael ei wahardd yn y Deyrnas Unedig.

Er y credir bod nifer y bobl sy'n teithio dramor i gael trawsblaniadau fel hyn yn isel, yn enwedig yng Nghymru, cytunaf â'r Arglwydd Hunt fod yn rhaid i ni wneud ein rhan i geisio atal y fasnach wrthun hon o ddioddefaint dynol. Bydd angen gofal y GIG ar bobl sy'n cael trawsblaniadau yn y mathau hyn o amgylchiadau pan fyddant yn dychwelyd, a gellid eu gwneud yn anos oherwydd diffyg gwybodaeth am amgylchiadau'r trawsblaniad. Mae risg ychwanegol hefyd y gallent ddatblygu heintiau, gyda'r angen am ofal dilynol. Mae hyn yn rhoi beichiau ychwanegol ar y gwasanaeth. Felly, rydym yn atal y math hwn o arfer er budd pawb ac yn sicrhau bod pobl yn mynd drwy'r prosesau priodol.

Mae'r bwriad y tu ôl i welliant yr Arglwydd Hunt i atal yr arferion hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr yr ydym ni i gyd yn ei gefnogi. Fodd bynnag, fel y'i drafftiwyd, teimlwyd bod y gwelliant yn rhy gymhleth ac anweithredol yn ymarferol gan ei fod yn gofyn am brawf bod cydsyniad penodol i roi organau wedi'i roi gan y rhoddwr neu ei deulu agos. Mae hefyd yn gosod beichiau sylweddol eraill ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac eraill. Felly, cyflwynodd Llywodraeth y DU welliant amgen ar 28 Mawrth, a basiwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 30 Mawrth ac a gadarnhawyd gan Dŷ'r Arglwyddi ar 5 Ebrill.

Pwrpas y gwelliant hwn, y gofynnir am gydsyniad y Senedd ar ei gyfer heddiw, yw i gael yr un effaith â’r gwelliant gwreiddiol ond mewn ffordd fwy syml drwy ei wneud yn drosedd i wladolyn o’r Deyrnas Unedig neu berson sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr gyflawni gweithred y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n ymwneud ag organ ddynol ac sydd eisoes yn drosedd mewn perthynas â masnachu deunydd dynol i’w drawsblannu pe bai hynny’n cael ei wneud o fewn y Deyrnas Unedig. Mae hwn, i bob pwrpas, yn ymestyn y troseddau presennol yn adran 32 Deddf Meinweoedd Dynol 2004 i weithredoedd sy’n cael eu cyflawni y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mae trawsblannu, sef prif bwnc y gwelliant, yn faes sydd wedi ei ddatganoli i’r Senedd, a dwi’n siŵr bod Aelodau’n ymwybodol iawn o hyn o ystyried ein deddfwriaeth arloesol a olygodd mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Serch hynny, y tro hwn, dwi’n fodlon i’r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu ar ran Cymru. Mae’r gwelliant sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl synhwyrol ac yn delio â rhywbeth sydd wedi peri pryder ers peth amser. Felly, yn fy marn i, nid oes angen i Gymru geisio deddfu ar wahân ar y mater hwn, yn enwedig yn sgil y cyfleoedd amserol sy’n cael eu cynnig gan y gwelliant hwn i Fil sydd eisoes yn bodoli. Felly, dwi’n fodlon y gall y Senedd roi cydsyniad i’r gwelliant.

17:40

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Russell George. 

Cyfeiriwyd LCM atodol Rhif 4 at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i graffu arno ar 29 Mawrth, er na osodwyd yr LCM ei hun tan 5 Ebrill. Fel pwyllgor, cytunwyd bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymal 181 gan fod y ddarpariaeth yn ymwneud ag iechyd. Gan fod yr LCM wedi'i osod yn ystod y toriad, gyda therfyn amser adrodd o dair wythnos yn unig, ychydig iawn o gyfle a gawsom, yn amlwg, i graffu ar y ddarpariaeth neu ddod i unrhyw gasgliadau fel pwyllgor. A diolch i'r Gweinidog am gyfarfod â mi yn rhithwyr yr wythnos diwethaf. 

Fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, o ganlyniad i'r gwelliant sy'n cael ei wneud yn hwyr iawn yn San Steffan, dyna'r rheswm pam yr ydym ni yma i drafod yr elfen hon heddiw. Serch hynny, yn ein hadroddiad ar yr LCM, a gyhoeddwyd ddoe, rydym wedi ailadrodd ein pryderon parhaus ynghylch y defnydd cynyddol o LCM fel dull o ddeddfu ar faterion datganoledig. Wrth gwrs, mae ceisio cytundeb y Senedd i Senedd y DU ddeddfu ar faterion datganoledig ar ein rhan yn hytrach na deddfu yma yng Nghymru yn cyfyngu ar y potensial i graffu'n fanwl ac yn ystyrlon ar unrhyw oblygiadau sy'n codi. Felly, mae'r dull nid yn unig yn peryglu tanseilio swyddogaeth y Senedd fel corff deddfu sylfaenol, mae hefyd yn cynyddu'r risg y bydd canlyniadau anfwriadol yn codi. Diolch yn fawr, Llywydd. 

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. 

Rydyn ni wedi llunio tri adroddiad sy’n ymdrin â’r pedwar memoranda cydsynio a osodwyd gan y Gweinidog ar y Bil hwn. O ystyried mai dim ond ar ddechrau toriad y Pasg y gosodwyd memorandwm Rhif 4, gosodwyd ein trydydd adroddiad brynhawn ddoe, yn union ar ôl i ni ystyried y memorandwm yn ein cyfarfod cyntaf y tymor newydd hwn.

Ac rwy'n croesawu sylwadau fy nghyd-Gadeirydd yn y fan yna ar y mater o ddefnyddio'r dull hwn o gynnig LCMs ar gyfer gwneud deddfwriaeth.

Llywydd, byddaf yn datgan ar gyfer y cofnod y dylid darllen ein hadroddiad diweddaraf ar y cyd â'n hadroddiadau cynharach, rhai ohonyn nhw yn sôn am yr union faterion hyn. Yn ein hadroddiad diweddaraf a osodwyd ddoe ar femorandwm Rhif 4, rydym wedi nodi safbwynt y Gweinidog o ran y gwelliant a wnaed i'r Bil, ac rydym yn cytuno ag asesiad y Gweinidog bod y cymal newydd sy'n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i'w trawsblannu yn ymwneud â phwrpas datganoledig. Rydym hefyd wedi nodi safbwynt y Gweinidog o ran ei rhesymau dros wneud darpariaeth bellach i Gymru yn y Bil.

Yn ystod y ddadl flaenorol a gawsom ar y cynnig cydsyniad cynharach ar gyfer y Bil hwn, tynnais sylw at y ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn bod risg gyfansoddiadol i fynd ar drywydd a chytuno ar ddarpariaethau i Gymru yn y Bil hwn. Mae'r risg gyfansoddiadol hon yn ymwneud â'r darpariaethau a fyddai'n galluogi Gweinidogion y DU i ddefnyddio pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gofynnais i'r Gweinidog roi ymateb llawnach i'm pwyllgor ynglŷn â'i hasesiad o'r risg hon. Manteisiwn ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei llythyr dilynol, pan ddywedodd fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau'n benodol nad oes ganddi gynllun i ddefnyddio'r pwerau sy'n deillio o'r Bil i ddiwygio Deddf 2006, a bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr ymrwymiadau hyn. Ond, mae'n dod â ni'n ôl at y cwestiwn pam, Gweinidog, yn wahanol i sefyllfaoedd eraill gyda Gweinidogion eraill, nad ydych chi wedi ceisio gwelliant i'r Bil fel na ellir defnyddio'r pwerau i ddiwygio Deddf 2006.

Erys y pwynt pwysig hwn o egwyddor y gallai'r modd y mae un Llywodraeth yn bwriadu defnyddio pwerau ar unrhyw un adeg fod yn wahanol iawn i'r ffordd y gallai Llywodraeth yn y dyfodol eu defnyddio yn y blynyddoedd i ddod. Codwyd y mater hwn gennym gyda'r Cwnsler Cyffredinol, felly hefyd ein pryderon ar y pwynt hwn o egwyddor. Diolchwn iddo am ei ymateb, ac mae'n dda ei weld yn y Siambr yma heddiw. Er budd holl Aelodau'r Senedd yma y prynhawn yma, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fod peidio â bod â chonsesiynau mewn rhannau eraill o'r Bil hwn yn fwy o risg i Gymru na'r risg a gyflwynir gan y diwygiadau canlyniadol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym hefyd, er bod dull cyson o ymdrin â chymalau tebyg ar draws Biliau'r DU wedi'i anelu, bod pob Bil yn ei gwneud yn ofynnol i faterion gwahanol gael eu cydbwyso a'u trafod. Mae'n ddadl, rydym yn caniatáu hynny, ond byddem yn dadlau'n barchus, ar faterion pwysig megis addasu ein prif statud datganoli, fod angen un llinell gyson, barhaus a chadarn.

Bydd fy mhwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn gyda Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd, ond edrychaf ymlaen yn awr at ymateb y Gweinidog yma heddiw.

17:45

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb. Eisiau gwneud hi'n glir ydw i, fel efo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol blaenorol, nad gwrthwynebu egwyddor yr hyn sydd dan sylw o'n blaenau ni yn fan hyn heddiw ydyn ni yng ngrŵp Plaid Cymru wrth wrthwynebu'r cynigion cydsyniad yma, ond gwneud pwynt unwaith eto na allwn ni anwybyddu'r ffaith bod y cynigion yma yn cael eu gwneud yng nghyd-destun nifer gynyddol o gynigion sydd yn tanseilio datganoli, sydd yn torri corneli o ran ein gallu ni fel deddfwrfa i sgrwtineiddio. Mi wnaiff Plaid Cymru wastad warchod integriti'r Senedd hon, ac unwaith eto heddiw, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud datganiad drwy'r bleidlais yma, er ei bod hi'n amlwg pa ffordd mae'r bleidlais yn mynd i fynd, er mwyn datgan unwaith eto nad ydyn ni yn fodlon dro ar ôl tro ar ôl tro gweld ein cymhwyster ni yn cael ei danseilio mewn ffordd ffwrdd-â-hi, yn amlach na pheidio, gan Lywodraeth yn San Steffan.  

Diolch yn fawr. Rwy'n derbyn bod yr hyn yr ydym ni'n cychwyn arno yn y fan yma yn risg gyfansoddiadol; rwyf wedi gwneud hynny'n glir drwy gydol y drafodaeth ar y Bil Iechyd a Gofal. Rwyf yn credu, er hyn, o ran llawer o adrannau o'r Bil yr ydym eisoes wedi'u trafod, fod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi symud cryn dipyn i'n cyfeiriad ni ac wedi gwneud rhai consesiynau sylweddol iawn i'n cyfeiriad ni. Rhaid i chi lunio barn wleidyddol rywbryd. A ydych chi'n mynd i dderbyn y consesiynau a symud pethau ymlaen i'n cyfeiriad ni, neu a ydych yn mynd i sefyll yn gadarn a dweud, 'A dweud y gwir, na, peidiwch â chamu ar ein tiriogaeth ni'? Mae'n farn wleidyddol, ac mae'n anodd iawn, iawn. Rydym ni wedi llunio barn sydd ychydig yn wahanol. Fel y dywedwch chi, mae gwahanol agweddau ar y Llywodraeth yn cymryd safbwyntiau ychydig yn wahanol. Pe baem yn mynd am ddull gweithredu cyffredinol, yna weithiau efallai y byddwn ni ar ein colled o ran pwerau sy'n cael eu rhoi i ni, i bob pwrpas—nid cymaint cael eu rhoi i ni, ond pethau a fyddai'n ddefnyddiol i ni; pethau yr ydym ni eisiau eu gweld yn digwydd mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid i ni fod, rwy'n credu—. Y ffordd yr ydym ni wedi ymdrin â'r Bil hwn, lle'r ydym wedi llwyddo i gael llawer o gonsesiynau mewn gwirionedd—. Maen nhw wedi dod yn bell, ar ôl llawer o drafodaethau, i'n cyfeiriad ni. Rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr i ni ddal ein trwynau, mae arnaf i ofn, a derbyn mai dyma'r sefyllfa. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi'r cynnig, ac rwy'n diolch, yn benodol, i Aelodau'r pwyllgor cyfansoddiadol a'r pwyllgor iechyd am eu sylwadau. Diolch yn fawr.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Eitemau 12 ac 13 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 12 ac 13, sef yr egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol ar y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda pleidleisiau ar wahân. A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad.

12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Mi wnawn ni symud ymlaen i'r cynigion. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynigion hynny—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7986 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

1. Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).

Cynnig NDM7987 Lesley Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynigion. Mae'n fraint agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), a chynnig y cynnig a'r penderfyniad ariannol. Fel y mae Aelodau wedi dweud droeon yn y Siambr hon, mae treth yn faes pwysig a chynyddol yn y setliad datganoli. Fel Llywodraeth Cymru, mae angen arnom ni, fel pob gweithrediaeth, gyfres gymesur ac effeithiol o ddulliau i reoli'r pwerau trethu hynny'n strategol ac yn effeithiol er mwyn diogelu trethdalwyr a chyllid cyhoeddus. Mae angen i'r Senedd hon, fel pob senedd, oruchwylio'n gryf ac yn gadarn ddefnydd y dulliau hynny a all roi cydsyniad a chyfreithlondeb i'r pwerau hynny. Mae hynny mor hanfodol i'r broses ddemocrataidd. Er y bydd angen mwy na'r Bil hwn i'n cael ni i'r sefyllfa honno, rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn gam cyntaf pwysig ar hyd y ffordd at y system gydlynol a thryloyw y mae ei hangen arnom i gefnogi datganoli trethi yng Nghymru.

Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeiryddion ac Aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu'n drylwyr ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, ac am eu hadroddiadau cynhwysfawr. Byddaf yn dweud ychydig mwy mewn munud am y ffyrdd yr wyf yn credu y gallwn ni gydweithio'n gadarnhaol i gryfhau'r Bil yn ystod ei daith drwy'r Senedd. Hoffwn i ddiolch hefyd i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni ac sydd wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu'r Bil, gan ddarparu eu harbenigedd, eu her a'u safbwynt. Mae hynny wedi cyfrannu at ein ffordd o feddwl wrth i ni ddatblygu'r Bil. Mae'r ddau bwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion pwysig, ac rwy'n falch o dderbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw. O ystyried natur fanwl adroddiadau'r ddau bwyllgor, a nifer yr argymhellion a wnaed, nid yw'n bosibl ymateb i bob un ohonyn nhw'n unigol heddiw. Felly, byddaf i'n ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau yn dilyn y ddadl.  

Byddaf yn dechrau gyda'r hyn sydd, yn fy marn i, yn dir cyffredin i bob un ohonom ni—hynny yw, sicrhau bod gennym ni drefniadau effeithiol i ddiogelu refeniw o ganlyniad i newidiadau sy'n effeithio ar ein trethi datganoledig. Bwriad y Bil yw rhoi'r amddiffyniad amserol hwnnw wrth barchu'r Senedd a'i swyddogaeth oruchwylio briodol. Nid y Bil hwn yw'r gair olaf nac ateb tymor hwy i'r ffordd yr ydym ni'n gwneud newidiadau brys i ddeddfwriaeth treth. Yn hytrach, mae'n gam pragmatig i'w gymryd yn awr wrth i ni weithio drwy oblygiadau llawn datganoli trethi yng Nghymru. Fel y dywedais, mae datganoli trethi ei hun yn newid cyfansoddiadol cymharol ddiweddar, gyda threthi datganoledig ond yn dechrau gweithredu bedair blynedd yn ôl. Wrth i'r datganoli hwnnw aeddfedu, hoffwn i weithio gyda'r Senedd hon i'n symud tuag at fframwaith ar gyfer gwneud newidiadau treth sy'n iawn i ni yma yng Nghymru. Yn y pen draw, gallai hyn edrych yn debycach i drefniadau'r DU o Fil cyllid blynyddol, er na fyddai hyn ynddo'i hun yn cynnig ateb llawn. Mater i ni drwy weithio gyda'n gilydd fydd penderfynu pa drefniadau ac offerynnau sy'n iawn i Gymru.

Rwyf wedi gwrando ac wedi myfyrio'n ofalus ar y pwyntiau cyfansoddiadol pwysig a gafodd eu gwneud o ran y Bil hwn, ac yn enwedig y rhai hynny gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar wahanu'r pwerau rhwng y ddeddfwrfa a'r weithrediaeth. Mae'r ystyriaeth honno wedi dylanwadu'n sylweddol ar y gwelliannau yr wyf i'n bwriadu eu cyflwyno yn y camau craffu sydd ar ddod. Rwy'n credu bod modd ystyried y ddeddfwriaeth hon yn gyfrwng tymor byrrach pwysig wrth ini ystyried yr atebion tymor hwy hynny y mae'n rhaid ymchwilio iddyn nhw a'u gwerthuso'n drylwyr—gwaith rwy'n credu y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd fel Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r Senedd hon a'i phwyllgorau, yn enwedig yng nghyd-destun Senedd fwy. Felly, rwy'n falch o dderbyn argymhellion y ddau bwyllgor i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi'r adroddiad hwn ar ddechrau tymor nesaf y Senedd.

Yn ogystal, rwy'n barod i fynd ymhellach. Fy mwriad yw cyflwyno gwelliant yn ystod hynt y Bil na cheir gwneud unrhyw reoliadau newydd drwy ddefnyddio'r pŵer hwn i wneud rheoliadau ar ôl pum mlynedd o'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, rwyf i yn credu ei bod yn bwysig rhoi cyfle i'r Senedd ymestyn oes y Ddeddf hyd at bum mlynedd arall os yw'r Senedd honno o'r farn y dylai'r pwerau barhau mewn grym ar gyfer y cyfnod estynedig terfynol hwnnw. Caiff hyn ei gyflawni wrth i Aelodau bleidleisio i gymeradwyo Gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru. Bwriad y camau hyn yw sicrhau ein bod ni'n barod i gymryd cam nesaf y cytunwyd arno ar ein taith ddatganoli ar adeg benodol yn y dyfodol. Yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd rhwng nawr a phryd hynny, os bydd nifer y trethi datganoledig yn cynyddu neu os oes mwy o welliannau i ddeddfwriaeth treth, yna mae'n ddigon posibl y bydd achos dros Fil cyllid rheolaidd. Fodd bynnag, mae angen o hyd i ni ystyried dull ar gyfer gwneud newidiadau brys y tu allan i unrhyw gylch Bil cyllid Cymru. Yn hollbwysig, rwy'n ymrwymo heddiw i weithio gyda phwyllgorau i feddwl drwy'r cwestiynau a'r heriau pwysig hyn.

Hoffwn i droi at faes allweddol arall y mae'r Llywodraeth yn cytuno sy'n arwain at yr angen am welliant. Rwyf i wedi ystyried yn ofalus farn y pwyllgorau a'r rhanddeiliaid ynglŷn â'r gallu i gyfyngu ar newidiadau ôl-ddeddfwriaethol yn ôl i ddyddiad y cyhoeddiad cychwynnol. Rwy'n falch o dderbyn yr egwyddor arweiniol ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i gyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i ddeddfu'n ôl-weithredol hyd at ddyddiad cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mewn achosion lle gallai newid, ac mae hynny'n gost ariannol, effeithio'n negyddol ar drethdalwyr. Fodd bynnag, rwyf o'r farn y dylai unrhyw gyfyngiad o'r fath barhau i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer i wneud newidiadau gydag effaith ôl-weithredol ymhellach yn ôl na dyddiad unrhyw gyhoeddiad lle mae'r newid hwnnw'n lleihau'r dreth a godir, er enghraifft pe bai ymateb i newid yng nghyllideb y DU yn sicrhau y gall ein trethdalwyr elwa ar ostyngiad ar yr un pryd â threthdalwyr yn Lloegr. Yn gyffredinol, rwyf i wedi ystyried yn ofalus ac wedi derbyn argymhellion allweddol adroddiadau'r pwyllgor ac rwy'n bwriadu gwneud gwelliannau pwysig i'r Bil o ganlyniad i hynny.

Gan symud at yr argymhellion na allaf eu derbyn, rwyf i yn bwriadu ysgrifennu mewn ymateb i bob un o'r rhain yn dilyn y ddadl. Rwy'n credu y byddai rhai o'r argymhellion hynny'n tresmasu ar nod sylfaenol y ddeddfwriaeth i ddarparu dull hyblyg ac ystwyth o ymateb yn gyflym i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein Deddfau trethi Cymru. Mae eraill yr wyf i wedi ymateb iddyn nhw mewn ffyrdd eraill; yn benodol, nodais i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid enghreifftiau o sut y mae modd defnyddio'r pŵer ar gyfer Deddfau trethi Cymru o ran profion y pedwar diben, er enghraifft. I gloi, Llywydd, rwy'n derbyn nad oes modd ac na ddylid ystyried y Bil hwn fel y gair olaf am y fframwaith sydd ei angen arnom i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth treth. Fodd bynnag, mae'r cynigion yr wyf i wedi'u hamlinellu heddiw yn ceisio sicrhau y gallwn ni ddarparu ateb deddfwriaethol pragmatig ar gyfer yr amgylchiadau presennol ar ein taith ddatganoli wrth i ni fynd i'r afael â'r cwestiynau tymor hwy hyn. Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil. Diolch.

17:55

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw er mwyn amlinellu prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r Bil. Gan mai unig ddiben y Bil yw dirprwyo pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth ar drethi Cymru o dan rai amgylchiadau, mae ei ddarpariaethau wedi cael eu hystyried yn llawn gan y Pwyllgor Cyllid  a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda'r ddau bwyllgor wedi dod i gasgliad tebyg.

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfarfod ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau a'n hargymhellion. Rwy'n croesawu'n fawr ei dull adeiladol o weithredu.

Dechreuaf gyda'n barn ni ar yr egwyddorion cyffredinol. Fel pwyllgor, rydym yn llwyr gefnogi'r egwyddor bod  angen y gallu i ymateb i ddigwyddiadau allanol i ddiogelu refeniw Cymru sy'n cael ei godi drwy drethi datganoledig. Fodd bynnag, mae llawer o'n trafodaethau wedi canolbwyntio ar briodoldeb dirprwyo pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion i gyflawni'r amcan hwn, gan ei fod yn arwain at lai o graffu ac yn ildio swyddogaeth ddeddfwriaethol y Senedd.

Roedd y dystiolaeth a gawsom yn canolbwyntio ar yr egwyddorion allweddol y dylai cyfraith trethi gael ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, dylai fod yn destun ystyriaeth a thrafodaeth fanwl, a dylai roi sicrwydd i drethdalwyr. Ac er bod y Gweinidog wedi bod yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod y Senedd wedi rhoi pwerau  i Weinidogion ddiwygio deddfwriaeth trethi drwy reoliadau o'r blaen, nid yw hynny ynddo'i hun yn cyfiawnhau'r dull ac sydd wedi'i gynnig yn y Bil sydd ger ein bron yn y Senedd hon. Rydym ni wedi ein siomi nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddatblygu ffyrdd amgen o ddiwygio deddfwriaeth trethi ddatganoledig yn gyflym. Yn benodol, gallai'r Gweinidog fod wedi dilyn dull ar gyfer gwneud newidiadau brys i'r gyfraith dros dro drwy benderfyniad gan y Senedd, gyda deddfwriaeth sylfaenol ddilynol yn cael effaith barhaol. Byddai dull o'r fath yn caniatáu i Weinidogion ymateb yn gyflym i ddiogelu refeniw treth a sicrhau cydbwysedd teg rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru. Byddai hyn hefyd wedi bod yn waith paratoi defnyddiol ar gyfer cyflwyno proses cyllideb ddeddfwriaethol yn y dyfodol. Er bod y Gweinidog o'r farn bod proses cyllideb ddeddfwriaethol yn anghymesur ar hyn o bryd, mae angen sicrwydd arnom ni na fydd oedi cyn gweithio i'w datblygu os bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, ac rydym yn credu y dylai rhagor o drethi datganoledig gael eu cynllunio gyda phroses cyllideb ddeddfwriaethol mewn golwg.

Ni ddaethom i benderfyniad unfrydol, gyda thri o'n pedwar Aelod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Nid oedd Peter Fox yn cefnogi'r Bil yn mynd y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y bydd yn amlinellu ei resymau dros hyn yn ei gyfraniad. Roedd rhai ohonom yn rhannu pryderon Peter ond, ar y cyfan, daethom i'r casgliad nad oedd y pryderon hyn yn cyfiawnhau'r ffaith bod y pwyllgor yn argymell y dylai'r Bil ddisgyn ar hyn o bryd. Er hynny, gwnaethom nodi nifer o feysydd lle y dylid gwneud gwelliannau i'r Bil. Yn gyntaf, roeddem ni'n ei chael hi'n anodd dod i gasgliadau ar y pedwar prawf diben pwrpasol arfaethedig. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni fod cwmpas y pŵer wedi'i gyfyngu'n fwriadol a'i fod wedi'i nodi'n gwbl glir o dan ba amgylchiadau y byddai'n cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, cafodd pryderon difrifol eu codi gyda ni ynghylch ehangder agweddau ar y pŵer, a chawsom ein cynghori y gallai fod yn agored i gael ei gam-drin.

Bydd y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn Neddfau trethi Cymru ac eithrio'r darpariaethau sy'n ymwneud â sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a rheoliadau sy'n diwygio cyfraddau treth a bandiau trethi datganoledig. Yn ystod ein gwaith craffu, roeddem yn disgwyl i'r Gweinidog ddarparu enghreifftiau penodol i ddangos sut y byddai modd defnyddio'r pŵer i addasu Deddfau trethi Cymru yn ymarferol. Fodd bynnag, cawsom wybod nad oedd yn ymarferol rhagweld pob un o'r amgylchiadau yn y dyfodol a allai arwain at welliant. Nid oedd hyn yn rhoi llawer o gyfle i ni graffu'n ddigonol, ac felly buom ni'n pwyso eto am enghreifftiau i lywio'r ddadl heddiw. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi darparu enghreifftiau erbyn hyn, a nodi ei bod hi bellach yn ystyried eithrio Rhan 9 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 o gwmpas y Bil. Byddai'r wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol ar y dechrau i alluogi craffu priodol, ond dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi.

Yr ystyriaeth allweddol fu'r ddarpariaeth yn adran 2 o'r Bil sy'n caniatáu i Weinidogion wneud rheoliadau gydag effaith ôl-weithredol. Mynegodd tystion bryderon bod hyn yn tanseilio egwyddor sylfaenol y dylai'r gyfraith fod yn sicr. Er ein bod ni'n derbyn y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru liniaru'r risgiau i arian cyhoeddus, mae angen gofal mawr ac achos cymhellol i ddeddfu'n ôl-weithredol. Er mwyn amddiffyn trethdalwyr, rydym yn argymell bod y gallu i wneud rheoliadau gydag effaith ôl-weithredol wedi'i gyfyngu ar wyneb y Bil i dri o'r pedwar diben. Rwy'n nodi bwriadau'r Gweinidog i gyflwyno'r gwelliannau sy'n cyfyngu ar y gallu i ddeddfu'n ôl-weithredol ac edrychaf i ymlaen at weld manylion ei chynigion.

Nawr rwyf i eisiau symud ymlaen at gymeradwyaeth y Senedd i reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan y Bil. Mae hyn yn cynnwys y weithdrefn gwneud yn gadarnhaol, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd o fewn cyfnod o 60 diwrnod ar y mwyaf. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf dros gyfiawnhau'r angen i hepgor craffu a chymeradwyo ymlaen llaw, yn enwedig yn achos rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol. O ystyried ein pryderon ynghylch natur eang y pŵer sy'n cael ei geisio a'r gallu i newid cyfreithiau trethi Cymru yn ôl-weithredol, rydym yn annog y Gweinidog i gryfhau'r broses gymeradwyo drwy gynnwys cyfnod byrraf o amser ar gyfer craffu ar unrhyw reoliadau gan y Senedd.

Fe wnaethom ni hefyd ystyried goblygiadau ariannol y Bil ac roeddem ni wedi ein siomi gyda'r diffyg gwybodaeth ariannol a gafodd ei gyflwyno. Heb unrhyw gostau uniongyrchol wedi'u nodi a chostau anuniongyrchol yn cael eu disgrifio gan y Gweinidog yn aneglur, nid oeddem yn gallu dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon ar effaith ariannol y ddeddfwriaeth hon. Byddwn ni'n disgwyl i unrhyw reoliadau yn y dyfodol gael eu hategu gan asesiad effaith rheoleiddiol llawn a chadarn.

Yn olaf, rydym ni'n croesawu parodrwydd y Gweinidog i adolygu'r ddeddfwriaeth. Rydym yn argymell y dylai'r darpariaethau yn y Bil gael eu hadolygu ar ôl cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd ac adolygiad cyfnodol bob pum mlynedd. Mae adolygiad cynnar yn arbennig o bwysig o ystyried yr wybodaeth gyfyngedig sydd gennym i allu craffu arni ac ansicrwydd ynghylch sut y byddai modd defnyddio'r pŵer yn y Bil. Bydd hefyd yn cynorthwyo'r Senedd i barhau i ganolbwyntio ar p'un a yw'r datblygiad hwn yn ein cyfraith trethi yn briodol.

Llywydd, arhosodd Cymru 800 mlynedd am bwerau i godi trethi. Ni ddylai'r Siambr hon ildio'r pwerau hynny heb feddwl ac ystyried yn briodol.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynegi barn er mwyn ceisio ein cynorthwyo gyda'r gwaith pwysig hwn. Rwyf hefyd yn hynod o ddiolchgar am y cyngor a'r arweiniad a gawsom gan Charlotte Barbour, ein cynghorydd arbenigol, wrth inni drafod y maes cymhleth hwn. Edrychaf ymlaen at gael ymateb ffurfiol i'n hargymhellion. Diolch yn fawr.

18:05

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies, sydd nesaf.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol ail Fil Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Daeth ein hadroddiad i bedwar casgliad a gwnaethom 18 argymhelliad.

Hoffwn i, yn fy sylwadau agoriadol, ddiolch i aelodau fy mhwyllgor a'r tîm clercio am y sylw y maen nhw wedi'i roi i'r Bil penodol hwn. Ond hoffwn i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am drefnu cyfarfod gyda mi a gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau perthnasol. Roeddem ni'n meddwl bod hynny'n ddefnyddiol ac yn adeiladol, ac rwy'n croesawu'n fawr, unwaith eto, y dull adeiladol y gwnaethoch ei fabwysiadu yn y cyfarfod hwnnw a hefyd eich bod wedi dweud eto yn eich sylwadau agoriadol yma heddiw eich bod yn derbyn rhai o'n hargymhellion, yn wir, a oedd â'r nod o wella'r Bil. Yn benodol, Gweinidog, bydd derbyn argymhelliad 16 yn gwarantu bod gan bwyllgorau 28 diwrnod i graffu ar reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gwneud yn gadarnhaol.

Rydym ni hefyd yn croesawu ymateb y Gweinidog i ymdrin ag un o'n pryderon mwyaf am y Bil, sef adran 2(1)(c), sy'n caniatáu i reoliadau o dan adran 1 wneud darpariaeth sy'n cael effaith ôl-weithredol—mater y gwnaeth fy nghyd-Gadeirydd ddwyn sylw'r Siambr iddo. Er i ni ddod i'r casgliad y dylai cyfraith sydd ag effaith ôl-weithredol ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol, mae ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno gwelliant i gyfyngu ar y pŵer hwn, fel y mae hi wedi'i amlinellu, yn wir, yn gwella'r Bil presennol hwn.

Fodd bynnag, mae rhai pwyntiau pwysig y mae angen tynnu sylw atyn nhw o hyd. Daethom i'r casgliad nad yw'r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Roeddem ni o'r farn bod lefel y pŵer dirprwyedig yn y Bil yn amhriodol ac nid ydym wedi ein hargyhoeddi bod graddau'r pŵer hwnnw wedi'i gyfyngu'n ddigonol drwy gynnwys y pedwar prawf diben. Rydym ni yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu'n brydlon er mwyn osgoi canlyniadau negyddol i gyllid cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn credu bod y cydbwysedd yn y Bil hwn yn ormodol o blaid awydd Llywodraeth Cymru i ymateb yn gyflym ac mae perygl y bydd yn ymyleiddio mandad democrataidd y Senedd. Felly, rydym ni yn credu, fel mater o egwyddor, y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol i ddiwygio Deddfau trethi Cymru, er enghraifft drwy Fil cyllid, yn flynyddol neu fel arall, neu Fil at ddiben arbennig, sy'n destun gweithdrefn hwylus. Rydym ni hefyd yn credu bod y Gweinidog wedi bod ychydig yn rhy gyflym i ddiystyru dull sy'n debyg i'r defnydd o Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 yn Nhŷ'r Cyffredin, sy'n cynnwys cynnig o'r Senedd, sydd wedyn yn cael effaith barhaol drwy ddefnyddio Bil sy'n ddarostyngedig i weithdrefn ddeddfwriaethol hwylus neu weithdrefn ddeddfwriaethol bwrpasol arall. Nid ydym yn gweld unrhyw reswm pam nad oedd yn bosibl datblygu gweithdrefn ddeddfwriaethol briodol ochr yn ochr â Bil cysylltiedig wrth iddo fynd drwy'r Senedd. Felly, fel y mae ein hadroddiad yn dangos, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddull gweithredu o'r fath o ran Biliau cydgrynhoi. Digwyddodd y broses o ddatblygu gweithdrefn, dan arweiniad y Pwyllgor Busnes, ochr yn ochr â gwaith craffu'r Senedd ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru). Byddai wedi bod modd datblygu dull sy'n cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth sylfaenol mewn modd sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau allanol a diogelu cyllid cyhoeddus, fel y dymuna'r Gweinidog, gan barchu goruchafiaeth ddeddfwriaethol y Senedd ar yr un pryd. Yn sicr, byddai wedi bod yn well na Bil galluogi, gan ddirprwyo pŵer helaeth Harri VIII i Weinidogion Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol ar dreth a gafodd ei gwneud gan Seneddau blaenorol.

Felly, am y rhesymau hyn, awgrymodd ein hargymhelliad cyntaf y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i'w gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad statudol o'r pŵer i wneud rheoliadau yn y Bil o fewn dwy flynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. Awgrymodd ein hail argymhelliad y dylai darpariaeth machlud briodol gael ei chynnwys, fel nad oes modd gwneud unrhyw reoliadau newydd o dan y pŵer yn adran 1 ar ôl mis Gorffennaf 2027. Felly, rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adrodd ar weithrediad y Ddeddf, fel y mae'r Gweinidog wedi sôn amdani heddiw, ac i gynnwys darpariaeth machlud, er ei bod i wahanol amserlen. Gobeithiwn y bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu, o leiaf, dull gwell o ddiwygio deddfwriaeth trethi ddatganoledig, a allai fod yn gysylltiedig â Deddf 1968 a, gobeithio, heb yr angen i ymestyn y ddarpariaeth machlud hyd at 2032.

Roedd un o themâu allweddol ein hargymhellion eraill yn canolbwyntio ar newidiadau i'r Bil a fyddai'n cyfyngu ar faint y pŵer sy'n cael ei roi i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Felly, er enghraifft, gwnaethom argymell y dylid cyfyngu ar ystyr 'osgoi trethi' drwy gyfeirio at y ddarpariaeth gwrth-osgoi gyffredinol, sydd wedi'i nodi yn Rhan 3(a) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Heb welliant o'r fath, bydd Llywodraeth Cymru yn ennill y gallu i benderfynu am beth y mae eisiau deddfu ar ei gyfer o ran unrhyw weithgarwch i osgoi trethi.

Rwy'n dod i gasgliad, Llywydd. Rwy'n ymddiheuro am fynd drosodd ychydig. Mae'r Bil yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru addasu Deddfau trethi Cymru wrth ymateb i 'benderfyniad llys neu dribiwnlys'—y diben o dan adran 1(1)(d). Mae'r diben hwn yn peri pryder gwirioneddol i'r pwyllgor, yn anad dim oherwydd dywedwyd wrthym fod y pŵer yn eang yn fwriadol i gynnwys pob posibilrwydd, oherwydd na allwn ni ragweld ar hyn o bryd y sefyllfaoedd yn y dyfodol lle y byddai modd defnyddio'r ddarpariaeth. Nawr, rydym ni'n credu y dylai'r newidiadau i'r gyfraith y gallai fod eu hangen o ganlyniad i benderfyniad gan lys neu dribiwnlys gael eu cyflawni drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, ac rydym ni wedi ein siomi, felly, nad yw ein hargymhelliad—sef dileu'r diben hwn o'r Bil—wedi'i dderbyn eto.

I gloi, rwy'n croesawu rhai o'r camau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i ymdrin â'n pryderon, ac rwy'n croesawu cynnig y Gweinidog i ysgrifennu at y pwyllgor ynghylch ein pryderon sy'n weddill ac i weithio'n adeiladol gyda'r ddau bwyllgor. Rydym yn gobeithio, yn y dyfodol agos, y bydd gan Aelodau'r Senedd y gallu i graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol pan fydd angen gwneud newidiadau'n gyflym i Ddeddfau trethi Cymru. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

18:10

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac rwy'n croesawu'r negeseuon cadarnhaol yr ydych wedi'u rhoi i ni y prynhawn yma ac awgrym o symud ar welliannau. Llywydd, yn anffodus, serch hynny, nid yw grŵp y Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa i gefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau trethi Cymru, ac felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn y ddau gynnig gerbron y Senedd heddiw.

Pan gyflwynwyd y Bil y llynedd, dywedais fod gen i rywfaint o gydymdeimlad â'r Gweinidog—mae prosesau cyllidebol a threthiant wrth gwrs yn bethau cymhleth iawn, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r cymhlethdod hwn ond wedi cynyddu. Fodd bynnag, wrth ystyried y Bil hwn yn helaeth, ac rwyf i wedi bod yn ddigon ffodus i eistedd ar y ddau bwyllgor, o dan arweiniad gwych ein dau Gadeirydd, mae wedi dod yn amlwg i mi fod y Bil fel y mae wedi'i ddrafftio yn codi rhai cwestiynau a heriau sylweddol ynghylch rhan y Senedd wrth ddatblygu deddfwriaeth trethiant. Fel y nodwyd gan y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mae'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddewis

'yn groes i arferion ac egwyddorion seneddol sefydledig sy'n gysylltiedig â deddfu da.'

Dywedodd y sefydliad siartredig trethiant mai eu

'man cychwyn yw y dylai cyfraith trethi gael ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol',

gan ei fod yn destun mwy o graffu a dadlau nag is-ddeddfwriaeth, yn ogystal â rhoi'r gallu i randdeiliaid fod yn rhan briodol o'r broses graffu mewn modd mwy tryloyw. Ydw, rwy'n deall bod angen cyflwyno newidiadau'n gyflym ar adegau i ymateb i ddigwyddiadau allanol, ond nid wyf i'n credu bod modd defnyddio cyfiawnhad o'r fath i wanhau pwerau'r Senedd wrth benderfynu ar bolisi treth.

Mae'r Gweinidog wedi pwysleisio dro ar ôl tro y pedwar prawf yn y Bil, sy'n ceisio cyfyngu ar ei ddarpariaethau a sut y mae Gweinidogion yn eu defnyddio, ond, yn ystod y broses graffu, cafodd cwestiynau eu codi ynghylch priodoldeb rhai o'r profion hyn. Er enghraifft, awgrymodd Dr Sara Closs-Davies fod angen diffinio'r term 'osgoi treth' yn y Bil gan fod ganddo ddiffiniad eang sy'n broblem. Dywedodd yr Athro Emyr Lewis hefyd fod y drafftio o ran osgoi trethi

'yn llawer ehangach na dim ond darpariaeth cau bylchau',

gan dynnu sylw at y ffaith y byddai modd defnyddio'r ddarpariaeth, yn ogystal ag at ddibenion ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys, i wneud newidiadau llawer ehangach na'r hyn sydd wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd yr Athro Lewis sylw at y ffaith y gallai'r prawf diben fel y mae wedi'i ddrafftio ganiatáu i Weinidogion

'gyflawni newidiadau polisi rheolaidd, sylweddol neu fel arall',

gan gynnwys y potensial i gyflwyno cyfradd dreth newydd o dan ddiben (c).

Yn y cyfamser, cododd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr bryderon am y pwerau yn y Bil sy'n caniatáu i Weinidogion osod neu ymestyn yr atebolrwydd o gosb o dan adran 2(1)(b). Maen nhw'n cwestiynu beth mae'r pŵer yn

'mynd i wneud sy'n wahanol i'r hyn sydd gennym eisoes yn ein deddfwriaeth sylfaenol? Nid yw'n glir o gwbl'.

Yn syml, Llywydd, a ydym ni mewn perygl o wneud maes cymhleth o gyfreithiau hyd yn oed yn fwy aneglur ac yn fwy anodd ei ddilyn? Y thema gyffredinol, yr wyf i'n ei synhwyro, yw bod angen i'r Bil hwn fod yn fwy cyfyngedig, ac rwy'n croesawu'r awgrymiadau ar gyfer cynnwys cymal machlud yn y Bil i ganiatáu i ddull mwy priodol gael ei ddatblygu yn ogystal â'r angen am adolygiad statudol o'r pwerau i wneud rheoliadau yn y Bil hwn.

Mae'n rhaid cael mwy o bwyso a gwrthbwyso hefyd wrth ddefnyddio'r ddarpariaeth i newid cyfraith trethiant yn ôl-weithredol, sy'n mynd yn groes i'r egwyddor allweddol o sicrwydd wrth ddatblygu deddfwriaeth o'r fath. O leiaf, mae angen i unrhyw ddefnydd o'r pwerau ôl-weithredol hyn gael ei gymeradwyo gan y Senedd ac mae wedi'i gyfyngu i ddim cynharach na dyddiad gweithredu'r newid i'r dreth flaenorol.

I gloi, Llywydd, rwy'n credu y gallai'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio agor nyth cacwn o ganlyniadau anfwriadol nid yn unig i ddeddfwriaeth trethi Cymru, ond i oruchafiaeth y Senedd wrth ddeddfu'n ehangach. Rwy'n credu ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymgysylltu'n adeiladol â'r gyfres lawn o argymhellion a gafodd eu gwneud gan y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r pwyllgor cyllid. Mae'n bwysig, os yw'r Llywodraeth yn dymuno cefnogaeth y Senedd gyfan yn wirioneddol, ei bod yn gweithio gydag Aelodau o bob ochr i gryfhau swyddogaeth y Senedd o ran datblygu cyfraith trethiant. Diolch.

18:15

Bydd Plaid Cymru hefyd yn pleidleisio yn erbyn y Bil yma y prynhawn yma. Rŷn ni fel grŵp yn deall y rhesymeg sydd tu ôl i'r Bil yma a'r pwysigrwydd i ymateb yn sydyn pan fo angen ar faterion cymhleth trethiant, a dwi'n falch iawn i glywed parodrwydd y Gweinidog i drafod a gwrando ar bryderon y ddau bwyllgor a hefyd ymateb yn gadarnhaol i hynny.

Serch hynny, mae'r pryderon dal yn ormodol inni gefnogi'r Bil, y pryderon bod y Bil yma'n tanseilio pwerau'r Senedd. Er bod y Bil yn ymddangos fel darn digon ymarferol o ddeddfwriaeth, mae yn tynnu pwerau ar ôl craffu llawn oddi wrth ein Senedd, ac yn hynny o beth dwi'n credu y gallem ni dynnu paralel gyda'r defnydd cynyddol o LCMs yn y Senedd, sydd yn destun cymaint o bryder i Blaid Cymru, y pwyllgor deddfwriaeth a phwyllgorau eraill y Senedd. Er mor gyfleus, o bosib, yw LCMs, er mor gyfleus y maen nhw'n ymddangos, maent yn tanseilio rôl y Senedd yma. Ac yn yr un ffordd, mae'r Bil yma yn tanseilio grym a rôl ein deddfwrfa.

Mae arnaf i ofn, Gweinidog, fod y Bil hwn yn dod â stamp tebyg i'r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. Dylem ni ddod at ein gilydd fel Senedd i atal pwerau'r ddeddfwrfa rhag cael eu neilltuo fel sydd wedi'i gynnwys yn y Bil hwn.

Oherwydd cwestiwn o egwyddor yw hyn. Fel Senedd, fel Aelodau o'r Senedd, mae angen inni holi ein gilydd i ba raddau yr ydym yn fodlon ymyrryd â mecanweithiau democrataidd deddfwrfa sydd mor ifanc. Dwi'n deall pwynt y Gweinidog pan fydd hi'n sôn am ddeddfwrfa sy'n aeddfedu o hyd, ond rŷn ni'n ddeddfwrfa ifanc—mor gynnar yn hanes ein deddfwrfa ni, ein bod ni'n fodlon ymyrryd â phwerau a mecanweithiau democrataidd ein Senedd ni.

Fel dywed y pwyllgor deddfwriaeth, fel dywedodd y Cadeirydd gynnau, ni ddylai newidiadau i gyfraith trethi gael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth mewn ffordd ôl-weithredol. Mae hyn yn hollol groes i ymarfer da cydnabyddedig yn yr ynysoedd hyn ac yn rhyngwladol. Y ffordd gydnabyddedig yw y dylid ymdrin â materion o'r fath drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, oherwydd fel gyda'r LCMs, bydd newid ôl-weithredol, retrospectively, i gyfraith trethi yn destun i graffu yn llawer iawn mwy cyfyngedig. Er enghraifft, does dim modd diwygio darpariaethau perthnasol drwy is-ddeddfwriaeth. Bydd modd gwneud hynny drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.

Mae'r Bil yma, felly, yn mynd yn erbyn un o gonglfeini cyfansoddiadol yr ynysoedd hyn. Dylai pwerau trethi fod yng ngofal y ddeddfwrfa, nid yng ngofal y Llywodraeth, ac mae pobl ar hyd y canrifoedd wedi brwydro dros yr hawl sylfaenol yma. Bydd y Bil yma'n caniatáu i Ddeddfau trethi Cymreig, sydd eisoes wedi'u pasio gan y Senedd, gael eu diwygio drwy is-ddeddfwriaeth—hyn yn mynd yn hollol groes i arferion seneddol a deddfu da ledled y byd.

Pryder allweddol arall, wrth gwrs, yw'r cynnig i Weinidogion Cymru wneud newidiadau ôl-weithredol i ddeddfwriaeth trethi. Mae hyn yn arfer gwael iawn yn gyfreithiol. Byddai unrhyw fyfyriwr blwyddyn gyntaf y gyfraith yn dweud hynny wrthoch chi, ac mae pwerau o'r fath yn effeithio ar sicrwydd y gyfraith. Fel dywedodd yr Athro Emyr Lewis:

'Os oes modd newid y gyfraith yn ôl-weithredol, yna mae'n golygu bod modd gwneud rhywbeth a oedd yn gyfreithlon ar yr adeg honno yn anghyfreithlon, a gall rhywun ddioddef canlyniadau na fydden nhw wedi disgwyl eu dioddef. Mae hynny'n creu ansicrwydd yn y gyfraith.'

Ac mae hyn, Llywydd, yn hollol groes i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud cyfraith Cymru yn accessible i bawb.

Mae rhai o feddylwyr mawr cyfreithiol a chyfansoddiadol Cymru wedi codi pryderon, wedi codi amheuon sylfaenol yn erbyn y Bil yma. Nid yw gwella neu ddiwygio'r Bil sydd ger ein bron ni yn ddigonol, mae angen atal y Bil fel y mae. Mae angen inni bleidleisio yn ei erbyn a, thrwy hynny, sicrhau bod y Llywodraeth yn ailystyried y ddeddfwriaeth a'r mecanweithiau maen nhw eu hangen i gyflawni y nod maen nhw ei eisiau. Diolch yn fawr.

18:20

Fel aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd, hoffwn i ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Peredur Owen Griffiths, am ei stiwardiaeth, ac i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, Mike Hedges a Peter Fox, am eu gwaith cadarn ar y pwyllgor. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gofnodi fy niolch i fy nghyd-Aelodau Jack Sargeant, Carolyn Thomas ac Alun Davies, sydd wedi dirprwyo'n fedrus ar fy rhan i ar adegau yn ystod ein cyfnod o graffu ar y Ddeddf hon.

Rwy'n cytuno â'r Gweinidog pan amlinellodd yr angen cyffredinol am y Bil. Dywedodd y Gweinidog wrth y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:

'mae natur fregus Gweinidogion Cymru, mewn gwirionedd, o ran gallu ymateb yn briodol i newidiadau polisi treth sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU yn eithaf clir, a dylai Gweinidogion Cymru fod mewn sefyllfa i ddarparu ymatebion sydyn iawn i ddigwyddiadau allanol penodol'.

Rydym ni wedi gweld bod Canghellor y DU yn fedrus wrth wneud newidiadau helaeth i bolisi treth, newidiadau gydag ystyriaeth brin o'r canlyniad ar fesurau trethu Cymru. Felly, roeddwn i'n falch bod y Gweinidog wedi egluro'n glir yn ei llythyr mai dim ond i ymateb i amgylchiadau allanol penodol y byddai'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio, ac nad oedden nhw'n rhagweld y byddai'r pwerau'n cael eu defnyddio'n rheolaidd. Fodd bynnag, rwyf i hefyd yn nodi ac yn croesawu'n fawr y gwelliannau arfaethedig, fel y nododd y Gweinidog heddiw. Mae'n rhaid i ni bob amser gofio'r cydbwysedd rhwng pŵer y Weithrediaeth a phwerau'r ddeddfwrfa—y cydbwysedd mân hwn, wedi'i amrywiaethu ymhellach mewn Deyrnas Unedig gyda strwythur llywodraethu datganoledig aeddfed. Roedd y pwyllgor, rwy'n gwybod, yn awyddus i gael sail tystiolaeth, ac rwy'n croesawu llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor Cyllid ar 22 Ebrill, sy'n amlinellu'r wybodaeth fanwl helaeth a phenodol yr oedd y pwyllgor yn gofyn amdani, a hynny'n briodol. Nodais i'r pennawd o ymateb y Sefydliad Siartredig Trethiant i adroddiad y pwyllgor, a nododd fod y pwyllgor yn rhoi 'cefnogaeth ofalus' i Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)—yn ei hanfod, llywodraethu da. Ymatebodd Llywodraeth Lafur Cymru yn ystwyth ac yn hyblyg i ddigwyddiadau allanol, wrth i swyddogaethau a phwyllgor craffu'r Senedd wneud eu gwaith a'u dadansoddiadau yn fforensig.

Llywydd, gyda'r gwelliannau sydd wedi'u nodi, rwyf i yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), a hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn, yn olaf, i ddiolch i'r Gweinidog, Rebecca Evans, am y modd y mae wedi cyflwyno'r mesur hwn, ei dull addasol ac adeiladol yn ystod y broses hon. Diolch yn fawr.

18:25

Y Gweinidog cyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd, a diolch i'r holl gyd-Aelodau am y sylwadau y maen nhw wedi'u gwneud yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu, yn ddi-os, fod rhai pwyntiau manwl iawn, wrth i ni symud ymlaen drwy'r broses graffu—ac rwyf i yn gobeithio y gallwn ni, ar ôl heddiw, symud ymlaen i Gyfnod 2—bydd angen i ni drafod ymhellach a gweithio ac ystyried gyda'n gilydd.

Rwyf i wedi nodi heddiw pam yr wyf i'n credu bod y Bil yn bwysig, ac yn arbennig i ddiogelu bregusrwydd ein trethi datganoledig a chyllideb Llywodraeth Cymru. Rwyf i wedi gwrando'n ofalus iawn ar farn pwyllgorau ac Aelodau eraill mewn ymateb i hyn, ac wedi nodi'r newidiadau sylweddol, yn fy marn i, sy'n cyfyngu ar effaith a hirhoedledd y ddeddfwriaeth.

Rwy'n credu bod gwerth adlewyrchu hefyd fy mod hefyd wedi symud yn sylweddol ers i ni hyd yn oed gyflwyno'r cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth. Gwnes i ymateb i ganlyniad yr ymgynghoriad drwy ailysgrifennu cwmpas y pŵer i wneud rheoliadau i gynnwys pedwar prawf diben, y mae nifer o gyd-Aelodau wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma. Fe wnaeth hynny, rwy'n credu, yn wirioneddol ein symud ni dipyn o ffordd yn y lle cyntaf o'n cynigion cyntaf, sef cyflwyno pŵer gwneud rheoliadau eithaf eang gyda phŵer eang i wneud rheoliadau. Ond mae'r pedwar prawf diben yn lleihau hynny erbyn hyn. Mae wedi'i gyfyngu i unrhyw un o'r pedwar diben penodol, sy'n cynnwys sicrhau nad yw'r dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth trafodiadau tir yn cael eu gosod lle byddai gwneud hynny'n arwain at beidio â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; i ddiogelu rhag osgoi treth o ran gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir; ymateb i newidiadau yn nhrethi blaenorol y DU—hynny yw, treth dir y dreth stamp a threth tirlenwi—a allai effeithio ar y swm sy'n cael ei dalu i gronfa gyfunol Cymru; ac yna, yn olaf, i ymateb i benderfyniadau'r llysoedd neu'r tribiwnlysoedd sy'n effeithio ar Ddeddfau trethi Cymru, neu a allai effeithio arnyn nhw, neu'r rheoliadau a gaiff eu gwneud oddi tanyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi symud yn sylweddol drwy'r broses graffu hyd yma i geisio ymdrin â phryderon. Ac wrth gwrs, dim ond pan fydd Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol gwneud hynny y mae modd defnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau hyn, ac rwy'n gwybod y cawsom ni ddadl dda yn y pwyllgor ar y pwynt penodol hwnnw. Efallai ar adegau penodol y bydd angen gwneud y rheoliadau hyn, ond, mewn gwirionedd, efallai y bydd adegau eraill pan fydd yn briodol gwneud hynny. Felly, efallai na fydd angen rhoi manteision i drethdalwyr Cymru, ond efallai y byddai'n briodol gwneud hynny, a dyna un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r prawf penodol hwnnw. Ond rwy'n gwybod y bydd trafodaethau eraill gyda phwyllgorau, gobeithio, os gallwn ni symud ymlaen i'r trafodaethau hynny.

Rwy'n credu bod gwerth i ni dynnu sylw hefyd at yr hyn a fydd yn digwydd ac ystyried beth fydd yn digwydd os na chaniateir i'r Bil fynd yn ei flaen, ac nad oes gennym ni'r pwerau hyn. Rwy'n credu bod y mwyafrif llethol o gyd-Aelodau o leiaf yn cydnabod bod problem yma a bod angen i Lywodraeth Cymru allu ymateb mewn ffordd ystwyth. Mae'r Bil yn hanfodol er mwyn rhoi'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru a'r Senedd ymdrin â'r digwyddiadau allanol hynny. Ac mewn gwirionedd, maen nhw'n ddigwyddiadau allanol wrth gwrs na fyddai angen i Lywodraeth y DU ei hun ymdrin â nhw oherwydd eu bod yn gysylltiedig â phenderfyniadau trethi Llywodraeth y DU y maen nhw'n eu gwneud eu hunain. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn agwedd ar y setliad datganoli sy'n arwyddocaol ac mae'n rhaid i ni gael yr arfau i allu mynd i'r afael â nhw mewn modd cyflym ac ystwyth. A gadewch i ni gofio hefyd fod y Bil hwn yn ymwneud â diogelu cyllideb Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi manteision i drethdalwyr Cymru mewn modd amserol, ac rwy'n credu y byddai trethdalwyr Cymru yn disgwyl i ni allu gwneud hynny ar eu cyfer.

Felly, mae angen dull arnom yn awr, rwy'n credu, o ymateb i'r sefyllfaoedd allanol hynny wrth iddyn nhw godi, a rhai a allai effeithio ar y cyllidebau. A heb y ddeddfwriaeth, a bod yn onest, bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ymateb, ac mae'n debygol y bydd cost gysylltiedig a phryderon eraill o ran hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai hynny'n golygu y byddai'n rhaid i ni ymateb gan ddefnyddio deddfwriaeth frys, ac mae nifer o anfanteision i'r dull hwnnw. Ar hyn o bryd yng Nghymru, nid oes mecanwaith cyfatebol i Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 yng nghyfraith Cymru, ond, wrth gwrs, gan ein bod ni'n cael y sgyrsiau eraill hyn am y fframwaith a allai fod gennym ni yn y dyfodol, yna gallai hynny'n sicr fod yn rhywbeth y gallem ni fod yn ei ystyried gyda'n gilydd yn hynny o beth.

Os na allwn ni gael y pwerau yn y Bil hwn, ac os na all y Bil hwn fynd yn ei flaen, mae'n golygu bod yn rhaid i ni fyw, o bosibl, gyda rhai newidiadau a fydd wedi eu gorfodi ar Lywodraeth Cymru, a allai arwain at effaith sylweddol ar ein cyllidebau. Neu, fel arall, gallai olygu ymateb i newid dros gyfnod hwy o amser, gan ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol. Neu, os oes gan Weinidogion Cymru bwerau is-ddeddfwriaeth yn Neddfau trethi Cymru y mae'n bosibl i ni eu defnyddio, gallwn ni eu defnyddio nhw, ond maen nhw'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft i raddau helaeth ac ni fyddan nhw, wrth gwrs, yn ymdrin â'r holl newidiadau posibl y gallai fod eu hangen. Y sefyllfa fwyaf tebygol, rwy'n credu, yw y byddai angen i ni ymateb gan ddefnyddio deddfwriaeth frys. Ac, wrth gwrs, mae anfanteision i'r dull hwnnw hefyd. Ac rwyf i yn clywed yr hyn y mae cyd-Aelodau'n ei ddweud ynghylch pwysigrwydd deddfwriaeth sylfaenol, ond rwyf i yn credu bod rhywfaint o werth hefyd mewn ystyried a yw deddfwriaeth sylfaenol, ym mhob achos, o reidrwydd yn rhoi'r craffu gorau posibl. Gall Biliau Brys, er enghraifft, basio mewn un diwrnod, ac rwyf i yn credu bod cymhariaeth rhwng y craffu a wnaed ar y ddeddfwriaeth sylfaenol i weithredu gwyliau treth dir y dreth stamp dros y ffin yn Lloegr yn ystod y pandemig a'r craffu a wnaeth y Senedd ar ein newidiadau ni i'r cyfraddau a'r bandiau, a gafodd eu gwneud drwy reoliadau cadarnhaol tua'r un pryd, yn ddarluniol.

Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth treth dir y dreth stamp ar 13 Gorffennaf, er y bu'n destun penderfyniad Deddf Casglu Trethi Dros Dro ar 8 Gorffennaf, a chafodd ei phasio ar 17 Gorffennaf. Ond cafodd ein his-ddeddfwriaeth ni ei gwneud ar 24 Gorffennaf, daeth i rym ar 27 Gorffennaf, a chafodd ei chymeradwyo, i raddau helaeth oherwydd toriad yr haf, gan y Senedd ar 29 Medi 2020. Ac fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid graffu ar hynny. Rhoddais dystiolaeth i'r pwyllgor ac, wrth gwrs, roedd y Pwyllgor Cyllid yn gallu galw ar arbenigedd yn allanol, i gymryd tystiolaeth allanol ac yn y blaen, pe bai wedi dymuno gwneud hynny hefyd. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ddweud am y craffu sy'n cael ei ganiatáu gan is-ddeddfwriaeth hefyd. Ond mae'r rhain yn ddadleuon rwy'n credu y byddwn yn parhau i'w cael ac rwy'n gobeithio y gallwn ni eu cael. A byddwn i'n annog fy nghyd-Aelodau i ganiatáu i'r Bil hwn fynd ymlaen i'r cam nesaf, i Gyfnod 2. Rwyf i wedi ymrwymo, wrth gwrs, i gymryd camau gyda'r pwyllgorau i ddod o hyd i ddatrysiad deddfwriaethol tymor hwy priodol i'r materion y mae'r Bil yn ceisio'u darparu, a hoffwn i gadarnhau i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid fy mod i'n ymrwymo na fyddai'r gwaith hwnnw'n cael ei ohirio o gwbl os gall y Bil hwn symud ymlaen.

Ac yn olaf, unwaith eto, Llywydd, gofynnaf i fy nghyd-Aelodau ganiatáu i'r Bil hwn fynd i Gyfnod 2 fel y gallwn ni barhau i weithio mewn ffordd wirioneddol adeiladol, rhwng Llywodraeth Cymru a phwyllgorau, i sicrhau bod gennym ni'r gallu i ddiogelu cyllid Cymru a hefyd i sicrhau bod trethdalwyr Cymru'n cael manteision amserol, a hefyd wrth wneud hynny wrth gwrs, yn sicrhau yn bwysig ein bod ni'n parchu rhan y Senedd yn llawn. A gofynnaf eto i fy nghyd-Aelodau ganiatáu i hyn fynd ymlaen i Gyfnod 2. Diolch yn fawr.

18:30

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar eitem 12 tan y cyfnod pleidleisio.

18:35

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn nesaf felly yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 13? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes eto, felly gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian.

Eitem 14 sydd nesaf, a'r eitem yma yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn am y flwyddyn 2020-21, a dwi'n galw ar Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig. Jeremy Miles. 

Cynnig NDM7980 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.

2. Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.

3. Yn croesawu'r ffaith y 'rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr' a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.

4. Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch Llywydd, ac a gaf i agor y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Claire Morgan, prif arolygydd dros dro addysg a hyfforddiant yng Nghymru ar y pryd, am ei hadroddiad blynyddol? Mae'r adroddiad annibynnol hwn yn gofnod pwysig o'r ffordd yr ymatebodd ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill i'r heriau a gododd ym mlwyddyn academaidd 2020-21 o ganlyniad i'r pandemig. Mae hefyd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o effaith y coronafeirws ar ddysgwyr a'r gweithlu addysg. Er bod yr effaith hon yn anochel, yn aml yn negyddol, mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn tynnu sylw at rai o'r agweddau cadarnhaol a welwyd gan Estyn. Er enghraifft, mae dysgwyr a staff wedi addasu ac arloesi, gan adeiladu sgiliau digidol newydd, tra bod ysgolion yn gyffredinol wedi cryfhau eu perthynas gyda'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. 

Rwy'r un mor falch bod yr adroddiad yn cydnabod gwytnwch a dyfalbarhad aruthrol y gweithlu addysg. Mae'n disgrifio sut maen nhw wedi bod yn hyblyg, yn greadigol, ac wedyn addasu'n barhaus mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr. Roedd hyn yn hollbwysig yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond gallai fod o fudd i'r system addysg yn y dyfodol hefyd. Rwyf am achub ar y cyfle heddiw i ystyried y negeseuon hyn, ac i ddiolch o waelod calon i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg am eu holl waith i wneud y mwyaf o'r dysgu, ac i leihau'r aflonyddwch i'n dysgwyr. Rhaid inni adeiladu ar y cryfderau y mae Estyn wedi eu nodi wrth inni barhau i gyflawni ein diwygiadau addysg trawsnewidiol. 

Hoffwn i gymryd peth amser, Llywydd, i ganolbwyntio ar lesiant. Rwy'n cytuno na ddylem ni danamcangyfrif yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael ar lesiant ein dysgwyr, ein staff a'n harweinwyr. Felly, roeddwn i'n falch o ddarllen yn yr adroddiad sut roedd darparwyr yn blaenoriaethu llesiant dysgwyr yn gyson. Mae llesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i mi. Rwy'n benderfynol felly o adeiladu ar y pwyslais hwn ar lesiant drwy'r Cwricwlwm i Gymru. Rwy'n credu pan fydd dysgwyr yn hapus, gyda chefnogaeth gweithlu diogel a bodlon, maen nhw'n fwy tebygol o fod yn hyderus ac yn barod i ddysgu ac i gyflawni eu potensial.

Dyma pam mai un o elfennau allweddol y cwricwlwm yw datblygu fframwaith i helpu ysgolion i ddatblygu dull ysgol gyfan eu hunain ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Mae hyn yn rhoi'r arfau i ysgolion ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn mynd i'r afael â phroblemau, adeiladu ar y cryfderau, ac wedyn i werthuso llwyddiant y gwaith hwn. Mae'r fframwaith dull ysgol gyfan yn rhoi pwyslais gwirioneddol ar hyrwyddo amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, lle mae pobl ifanc yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial personol ac academaidd.  

Rwy'n gwybod bod llawer o ysgolion eisoes wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu'r fframwaith hwn a rhoi strategaethau ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc drwy ddull ysgol gyfan cynhwysol o ymdrin â'u hiechyd a'u lles. Er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach, rydym wedi comisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu pecyn cymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn eu helpu i nodi'r hyn sy'n gweithio i hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol yn yr ysgol. Bydd hyn yn creu ffynhonnell annibynnol o gyngor ar yr ystod o ymyraethau, rhaglenni a hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy'n cael eu marchnata i ysgolion. Rydym hefyd yn dymuno cefnogi pobl ifanc yn uniongyrchol â'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol. Dyna pam yr ydym wedi creu'r pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc i hyrwyddo a chyfeirio pobl ifanc i'r offer digidol niferus sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar eu cyfer nhw.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd angen cymorth mwy uniongyrchol ar unigolion o hyd mewn rhai achosion. Am y rheswm hwn, rydym yn cynyddu ein dyraniadau i awdurdodau lleol ar gyfer cwnsela, ymyraethau a hyfforddiant i blant ac oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw ledled Cymru o £3.8 miliwn i £6.5 miliwn yn 2024-25.

Mae lles ein gweithlu addysg yn flaenoriaeth arall. Mae adroddiad Estyn yn glir ynghylch y pwysau aruthrol a wynebwyd gan arweinwyr ysgolion a'r gweithlu ehangach yn ystod y pandemig. Gan gydnabod hyn, bydd cyllid ar gyfer cymorth iechyd a lles meddwl i staff ysgolion yn cael ei dreblu yn y flwyddyn ariannol newydd. Am yr ail flwyddyn, rydym hefyd yn ariannu pecyn pwrpasol wedi'i deilwra o wasanaethau cymorth iechyd a lles meddwl i athrawon a staff cymorth drwy'r elusen Cymorth Addysg.

Llywydd, un canlyniad cadarnhaol a amlygwyd yn yr adroddiad yw gwella sgiliau digidol gan ddysgwyr ac athrawon. Mae gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol o fewn addysg yn sicr yn rhoi cyfle i ni gyfoethogi dysgu ac addysgu a helpu i godi cyrhaeddiad a dyheadau ein plant a'n pobl ifanc. Rydym eisoes wedi cymryd camau i sicrhau bod ysgolion yn gallu croesawu a gwireddu'n llawn y manteision y mae datblygiadau digidol yn eu cynnig. Drwy ein rhaglen Hwb, rydym yn darparu sylfeini cenedlaethol i gefnogi a chyflawni trawsnewid gwirioneddol o fewn y sector addysg.

Yn ddiamau, mae technoleg ddigidol wedi ein cefnogi ni i gyd drwy gydol y pandemig i raddau nad ydym erioed wedi'u profi o'r blaen. Roedd Cymru mewn sefyllfa dda i gefnogi ysgolion i bontio i ddysgu o bell ac i sefydlu cymorth yn gyflym ar gyfer dysgwyr a oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Gyda chymaint ohonom yn treulio mwy o amser ar-lein, mae hefyd wedi tynnu sylw at ba mor hanfodol yw parhau â'n gwaith cydnerthedd digidol i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel. Rwy'n benderfynol bod Cymru'n dod yn arweinydd rhyngwladol wrth groesawu'r byd digidol a thechnoleg mewn addysg, gan ei roi wrth wraidd y cwricwlwm i Gymru. Mae'n rhaid i ni bellach adeiladu ar y gwersi yr ydym wedi'u dysgu a pharhau i fabwysiadu cyfleoedd arloesi digidol fel ein bod yn sicrhau llwyddiant y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.

Llywydd, mae rhai o ganfyddiadau mwyaf gofidus yr adroddiad blynyddol yn ymwneud â'n dysgwyr mwyaf difreintiedig ac, mewn rhai achosion, effaith anghymesur y pandemig ar eu dysgu a'u lles. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod presenoldeb disgyblion ysgol uwchradd o gefndiroedd difreintiedig yn ystod y pandemig yn llawer is na disgyblion eraill. Roedd y staff yn pryderu'n arbennig am yr ymgysylltiad isel â dysgu o gartref gan ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gyffredinol, a daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Nid yw'r canfyddiadau hyn ond yn pwysleisio pwysigrwydd y datganiad i'r Senedd a wnes i fis diwethaf, gan amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan roi hyn wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol mewn addysg a cheisio cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb.

Llywydd, wrth gloi, rwyf wedi dewis rhai o'r rhannau mwyaf amlwg o adroddiad blynyddol Estyn ac wedi ystyried yr hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthym am agweddau allweddol ar ein rhaglen o ddiwygio a thrawsnewid addysg. Rwy'n ddiolchgar unwaith eto i Estyn am lunio'r adroddiad hwn. Dim ond drwy gasglu a rhannu dysgu o'r fath, deall yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a'r hyn nad yw wedi gweithio'n dda, y byddwn yn parhau i adeiladu system addysg sy'n addas ar gyfer heriau yfory yn ogystal ag ymdrin â'r rhai a wynebir gan ddysgwyr heddiw.

18:40

Dwi wedi dethol un gwelliant i'r cynnig, a'r gwelliant hwnnw yn enw Siân Gwenllian. Dwi'n galw ar Heledd Fychan i gyflwyno'r gwelliant hwnnw.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y 'daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig.'

Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant yn ffurfiol.

Fel y gwyddom i gyd, ac fel y mae'r adroddiad yn amlwg yn ei grybwyll ac wedi ei amlinellu gan y Gweinidog, efallai mai blwyddyn academaidd 2020-21 oedd yr un fwyaf heriol i ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru a ledled y byd. Mae'r pandemig wedi amharu'n aruthrol ar y system ac mae'n parhau i wneud hynny, gan effeithio ar holl staff yr ysgol, disgyblion a'u teuluoedd. Er, fel y gwelsom gyda'r adroddiad, nid oedd yr effeithiau'n cael eu teimlo'n gyfartal. Roedd darparwyr addysg yn wynebu pwysau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn ystod y pandemig, ac eto roedden nhw'n dal i reoli sefyllfaoedd heriol yn effeithiol ac yn sicrhau eu bod ar gael mwyfwy i ddysgwyr a'u teuluoedd. 

Rydym yn gwybod am athrawon yn ceisio cadw cydbwysedd wrth geisio addysgu eu plant o'u cartrefi, ac yn gorfod ynysu, a'r holl heriau yna hefyd. Ac eto, nid oedd eu hymdrechion heb eu canlyniadau. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod staff wedi teimlo lefelau uwch o bryder, gydag arweinwyr a staff fel ei gilydd yn teimlo'n ynysig ac wedi blino. Roedd darparwyr addysg yn gydnerth ac yn rhagweithiol yn eu hymateb i'r aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig, a dylid eu canmol am flaenoriaethu lles eu dysgwyr yn ystod cyfnod mor heriol. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod darparwyr wedi sefydlu systemau cynhwysfawr i gadw mewn cysylltiad â'u dysgwyr er mwyn iddyn nhw allu nodi materion yn gyflym a mynd i'r afael â nhw pan oedden nhw'n codi.

Wrth i ni ddechrau dod allan o'r pandemig, er bod yr effeithiau'n dal i fod yno, gyda niferoedd yn dal i fod yn her i athrawon a disgyblion fel ei gilydd, gwelwn ddarparwyr addysg yn dal i wynebu'r heriau sylweddol o weithredu diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol a'r cwricwlwm newydd, yng nghyd-destun effeithiau tymor hwy y pandemig ar addysg a lles, yn ogystal â chael effaith ar faterion recriwtio a chadw staff. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod anghenion lles y sector yn cael eu cefnogi, a bod adferiad addysg ystyrlon yn digwydd, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r rhai y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw fwyaf.

Mae ein gwelliant yn nodi ein gofid bod Estyn wedi canfod bod y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn fwy amlwg, gyda'r grŵp cyntaf yn llai tebygol o gael mynediad at Wi-Fi, dyfeisiau digidol a chymorth gyda'u gwaith ysgol gartref, a'r pandemig yn debygol o effeithio'n ariannol ar eu teuluoedd, wrth i deuluoedd mwy orfod hunanynysu'n amlach. Ac er fy mod i'n croesawu pwyslais y Gweinidog o ran arloesi digidol, sydd yn sicr wedi arwain at wahanol ffyrdd o weithio, gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â disgyblion, ni allwn danbrisio'r effaith yr ydym yn ei gweld o ran y rhaniad digidol hwnnw, a'r effaith y mae hyn wedi bod yn ei chael o ran gwneud y gwahaniaeth hwnnw hyd yn oed yn fwy amlwg.

Gadewch i ni fod yn glir: cyn y pandemig, roeddem yn gwybod bod tua 195,000 o blant yn byw mewn cartrefi islaw'r llinell dlodi, a bydd y ffigur hwn, rydym yn gwybod, wedi tyfu oherwydd yr argyfwng presennol, yn ogystal â'r pandemig. Ac rydym yn gwybod, fel yr amlinellwyd gan y Gweinidog, fod tlodi'n cael effaith sylweddol ar addysg plentyn. Fel y dywedodd un Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru: 'Mae addysg i fod am ddim, ond mae llawer o bethau yn yr ysgol nad ydyn nhw am ddim.' Felly, gofynnir i deuluoedd gyfrannu'n rheolaidd at gost gwisg ysgol, teithiau, codi arian elusennol, prydau ysgol a byrbrydau, a darparu offer ac adnoddau ar gyfer gwahanol bynciau. Ac nid oes gan lawer o deuluoedd tlawd arian i'w wario ar ôl iddyn nhw dalu am dai a biliau hanfodol, sy'n gwneud plant yn agored i'r risg o stigma a chywilydd pan nad ydyn nhw'n gallu fforddio taliadau bach hyd yn oed i gael cymryd rhan.

Rwy'n gwybod o siarad â theuluoedd yn fy rhanbarth i, sef Canol De Cymru, am eu gofid pan fydd ysgolion yn casglu ar gyfer banciau bwyd, a'u plant yn gorfod egluro eu bod nhw eu hunain yn dibynnu ar gyfraniadau'r banciau bwyd. Rwy'n gwybod bod rhai ysgolion yn gwneud hyn yn sensitif iawn, ond nid yw pobl bob amser yn gwybod beth yw'r effaith ar deulu, teulu nad yw erioed wedi bod mewn argyfwng o'r blaen, sydd bellach mewn argyfwng ac yn gorfod mynd i fanc bwyd am y tro cyntaf. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn sensitif i hyn i gyd, ac mae wedi'i amlinellu yn yr adroddiad o ran y gwahaniaeth hwnnw yr ydym yn ei weld.

Rydym yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn gwaethygu ymhellach yn sgil yr argyfwng costau byw, felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Mae nifer o enghreifftiau o atebion posibl lle gallwn gymryd mwy o gamau ar fforddiadwyedd a darparu rhagor o gymorth i deuluoedd, er enghraifft, sy'n ei chael yn anodd talu am wisg, neu ar gyfer teithiau a gweithgareddau allgyrsiol, i sicrhau arfer cyson ledled Cymru. Dylid rhoi dulliau ariannu, arweiniad ac atebolrwydd ar waith.

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth o dlodi ar gyfer ysgolion. Mae'n bwysig bod gan staff ysgolion ddealltwriaeth glir o achosion a chanlyniadau tlodi plant yn eu hardal, er mwyn iddyn nhw allu gweithredu polisïau ac arferion sy'n gynhwysol i bawb. Felly, gobeithiwn y byddwch yn cefnogi ein gwelliant heddiw. Diolch.

18:50

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Estyn am yr adroddiad hwn. Mae'n ddiddorol darllen adroddiad annibynnol Estyn ar gyfer 2020-21 ac mae'n peri pryder mawr mewn rhai meysydd, fel yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno, sydd wrth gwrs yn adlewyrchu'r pandemig, ac mewn rhai meysydd mae'r hyn a welwn yn ddealladwy. Ond mae problemau hefyd wedi'u hamlygu a oedd yn gynhenid cyn y pandemig, wedi'u gwaethygu gan y pandemig, ac nid ydyn nhw mor anfaddeuol. Cyn i mi fanylu ar yr adroddiad, hoffwn gofnodi eto fod y Ceidwadwyr Cymreig yn canmol holl arweinwyr a staff ysgolion, sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed a diflino yn ystod cyfnod anodd iawn—yn y rhan fwyaf o achosion, aethon nhw y tu hwnt i'r disgwyl.

Gan symud at yr adroddiad, plant Cymru sydd wedi colli'r mwyaf o ddysgu yn y Deyrnas Unedig gyfan, gyda phlant Cymru yn colli traean o'u dysgu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, gyda chanlyniadau PISA Cymru yn gyfartal â chyn-wladwriaethau y bloc Sofietaidd, mae hyn yn bryder. Fel y dywedir yn yr adroddiad, cododd bron pob ysgol, arweinydd ac athro bryderon ynghylch cynnydd disgyblion yn ystod effaith y pandemig. Arweiniodd tarfu ar ddysgu drwy gyfnodau o gyfyngiadau symud a hunanynysu at gynnydd gwaeth yn sgiliau llythrennedd a rhifedd llawer o ddisgyblion. Er bod ysgolion yn darparu gweithgareddau darllen i ddisgyblion ar-lein ac awgrymiadau ar gyfer ymarfer eu darllen gartref, roedd ymgysylltiad disgyblion â'r cyfleoedd hyn yn amrywio'n sylweddol, fel y gwelsom yn gyffredinol. Ac roedd hyn yn wir am ddysgu ar-lein ar bob lefel o addysg. Yn anffodus, fel y dywed yr adroddiad, ychydig iawn o gynnydd a wnaeth y rhai nad oedden nhw'n darllen yn rheolaidd yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd hyn yn golygu, pan ddychwelon nhw i'r ysgol, fod disgyblion hŷn, fel y dywed yr adroddiad, weithiau'n ei chael hi'n anodd darllen y tu hwnt i ystyr llythrennol testun, a bod disgyblion iau yn aml yn ei chael hi'n anodd dadgodio geiriau anghyfarwydd a gwneud synnwyr o'r hyn yr oedden nhw'n ei ddarllen. Hefyd, amcangyfrifodd y Sefydliad Polisi Addysg fod disgyblion mewn ysgolion cynradd, ar gyfartaledd, wedi colli tua thri mis o ddysgu o ran mathemateg. Nododd athrawon ddirywiad yn sgiliau gwrando, siarad a chymdeithasol disgyblion, yn enwedig disgyblion sy'n agored i niwed a'r rhai yn y cyfnod sylfaen. Yn y cyfnod sylfaen, y pryder mwyaf oedd bod disgyblion yn colli datblygiad allweddol a cherrig milltir meddyliol, fel y gwnaeth fy mhlentyn fy hun, a allai effeithio ar eu lles emosiynol, eu cyfathrebu a'u datblygiad dysgu.

Gweinidog, pan ddarllenais yr adroddiad, yr oedd un dyfyniad yn yr adroddiad wedi gadael ei farc arnaf, fel y gwnaeth, yn amlwg ar Blaid Cymru, fel y crybwyllwyd yn eu gwelliant, y byddwn ni yn ei gefnogi: daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Rwy'n credu mai dyna'r peth allweddol i'w dynnu o'r adroddiad hwn, a dyna'r peth sy'n peri'r pryder mwyaf, ac ni ellir ei waethygu ymhellach. Yn anffodus, mae effaith y pandemig wedi'i hamlygu'n glir i bawb yn y ddogfen hon, a'r effaith andwyol ar ddisgyblion yn peidio â chael eu haddysgu wyneb yn wyneb yn ein hysgolion. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar y gwersi yr ydym wedi'u dysgu, fel y mae'r Gweinidog newydd ei amlinellu, a'n harlwy digidol, a'r gefnogaeth ar-lein i fynd gyda hynny.

Ym mron pob ysgol, methodd cyfran o ddisgyblion ag ymgysylltu â'r holl ddysgu gartref, ac roedd hyn yn fater arbennig i ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau mwy difreintiedig. Dywedodd fod uwch arweinwyr yn credu nad oedd hyd at draean o'r disgyblion yn ymgysylltu â gwaith a osodwyd. Mae hyn yn peri pryder mawr, yn enwedig o ran pobl ifanc o oedran arholiad. Ac, fel yr amlygwyd gan fy nghyd-Aelod Tom Giffard, mae'r disgyblion hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn wynebu'r risg fwyaf o gael eu gadael ar eu hôl pan nad ydyn nhw yn yr ysgol yn gorfforol.

Mae presenoldeb disgyblion, fel yr amlinellodd y Gweinidog, yn peri pryder am lu o resymau. Arhosodd yn gyson yn is na 90 y cant, hyd yn oed ar gyfer tymor yr haf, o'i gymharu â phresenoldeb cyfartalog o dan 94 y cant ar gyfer blwyddyn lawn olaf addysg, 2018-19. Roedd presenoldeb disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn llawer is na phresenoldeb disgyblion eraill. Mewn rhai achosion, fel y nodir yn yr adroddiad hwn, nid oedd disgyblion blwyddyn 11 hyd yn oed yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol, a oedd yn eu gadael mewn perygl o adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Roedd hyn am sawl rheswm, ond mae methiannau amlwg gan y Llywodraeth hon i helpu ysgolion, helpu plant a phobl ifanc a welodd effaith ar eu hiechyd meddwl. Byddwn yn annog y Gweinidog i gyflwyno'n gyflym y gefnogaeth a amlinellodd yn gynharach ar gyfer helpu gydag iechyd meddwl.

Er bod amrywiaeth sylweddol, ledled Cymru, yn yr amser ysgol a gollodd disgyblion ysgol uwchradd oherwydd eu bod yn gorfod hunanynysu, mewn rhai ysgolion collodd grwpiau blwyddyn cyfan 12 wythnos o ddarpariaeth wyneb yn wyneb yn nhymor yr hydref. Yn fy rhanbarth i, sef Dwyrain De Cymru, gwelais ysgol leol â dim ond dau grŵp blwyddyn ar un adeg.

Mae'r adroddiad yn nodi bod llawer o ysgolion, yn dilyn y cyfyngiadau symud, wedi nodi dirywiad yn sgiliau cymdeithasol disgyblion, a bod bron pob ysgol wedi canfod bod y cyfyngiadau symud wedi effeithio'n andwyol ar les disgyblion i ryw raddau. Mae'n amlwg bellach fod cael eu cadw i ffwrdd o amgylchedd ysgol yn cael effaith fawr ar ddisgyblion yn gyffredinol, nid ar eu haddysg yn unig. Mae'r ysgol yn chwarae rhan enfawr, fel y gwyddom i gyd erbyn hyn, o ran cymdeithasu plant, o ran gwella eu hiechyd meddwl drwy chwarae a dysgu gydag eraill. Mae angen i ni weld mwy o adnoddau wedi'u targedu'n cael eu darparu i sicrhau bod plant yn gallu gwella, addasu a dal i fyny'n iawn, er nad ydym yn hoffi defnyddio'r gair hwnnw, ar ôl effeithiau'r pandemig. Mae'n destun pryder bod yr adroddiad hefyd wedi canfod bod bylchau cyffredinol o ran dysgu disgyblion yn cyd-fynd â bylchau yn y ddarpariaeth.

Yn gyflym iawn, roedd iechyd meddwl gwael y staff yn gyffredin yn bennaf mewn ysgolion uwchradd, oherwydd eu bod yn gorfod cymryd y cyfrifoldeb dros raddau a bennwyd gan ganolfannau ac roedd y cyfrifoldeb wedi ei roi arnyn nhw yn hytrach nag ar fyrddau arholi. Cafodd y pwysau ychwanegol hwn effaith andwyol iawn ar lawer o athrawon a oedd dan fwy o bwysau ac na chawson nhw eu gwobrwyo'n ariannol.

Y cwricwlwm, yn gyflym: mae'r cynnydd o ran cynllunio ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm—mae'n rhaid bod pob un ohonom yn poeni amdano—mor ysbeidiol ar draws ein hysgolion, ac, fel y dywedodd Heledd, ochr yn ochr â rhoi'r ADY newydd ar waith hefyd. Mae eisiau i ni sicrhau, Gweinidog, fod y cymorth yn cael ei dargedu i'r ysgolion hynny y mae gwir ei angen arnyn nhw.

Mae cyfathrebu Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig yn cael ei amlygu yn yr adroddiad fel un 'gresynus', gyda chyhoeddiadau a rheoliadau neu ganllawiau'n cael eu rhoi heb fawr o rybudd neu ddim o gwbl. Clywais y pryderon hynny'n barhaus yn ystod y pandemig. Felly, hoffwn i wybod sut y mae'r Gweinidog yn mynd i wella'r cyfathrebu hwnnw, ei wella rhwng awdurdodau lleol, yr ysgolion a Llywodraeth Cymru.

Gweinidog, mae angen i ni sicrhau bod addysg yn cael ei diogelu ar gyfer y dyfodol rhag unrhyw ddigwyddiad posibl wrth symud ymlaen: sgiliau digidol, dysgu proffesiynol, cyflwyno band eang, peryglon disgyblion ar-lein. Gallwn fynd ymlaen. Yn anffodus, nid oes gen i ddigon o amser i fynd drwy'r adroddiad cyfan hwn, gan ei fod mor fawr. Mae'r adroddiad hwn yn ddamniol, ond oherwydd y pandemig a'r dystiolaeth yr ydym wedi ei thrafod yn y pwyllgor, nid yw'n syndod. Mae angen i les disgyblion fod ar frig ein hagenda. Rwy'n credu mai dyna'r peth sy'n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro gan blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn gondemniad damniol o arweinyddiaeth addysgol Llafur yng Nghymru dros y 23 mlynedd diwethaf, ac, yn gwbl amlwg, mae angen cymryd camau yn awr i wrthdroi'r dirywiad hwnnw a gyflwynwyd ganddyn nhw eu hunain ac mae hynny wedi'i waethygu gan y pandemig hwn.

18:55

Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i Claire Morgan am ei gwaith yn ystod ei chyfnod fel prif arolygydd dros dro, a hoffwn hefyd estyn croeso cynnes i Owen Evans, a ddechreuodd yn y swydd barhaol ym mis Ionawr 2022, ac mae'n dda iawn gweld Owen yma yn yr oriel heddiw. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gydag Owen, Claire a'u cydweithwyr drwy gydol y chweched Senedd.

Nid yw'n syndod mai'r pandemig yw thema ganolog adroddiad Estyn ar gyfer 2020-21. Er i ysgolion ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb ym mis Medi 2020, parhaodd disgyblion, staff a theuluoedd i wynebu aflonyddwch sylweddol drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r rhagair i adroddiad Estyn yn dweud wrthym,

'mae'r gweithlu wedi ymateb unwaith eto i'r heriau hyn.'

Mae'n ein hannog i

'gydnabod a gwerthfawrogi'r athrawon, yr hyfforddwyr, y staff cymorth a'r arweinwyr a ddaeth o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu ar gyfer anghenion addysgol a llesiant eu dysgwyr a chefnogi ei gilydd drwy gyfnodau anodd.'

Ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, hoffwn gofnodi ein diolch i Estyn, y dysgwyr, y staff, y teuluoedd a'r llu o broffesiynau a staff cymorth eraill am bopeth y maen nhw wedi'i wneud ar gyfer addysg a lles plant drwy gydol y pandemig.

Buom yn craffu ar Estyn a'u hadroddiad blynyddol ym mis Rhagfyr 2021. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth honno ac yn yr adroddiad ei hun, nododd Claire a'i chydweithwyr sut yr oedd Estyn yn mynd ati i weithio yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21. Roedd Estyn wedi bwriadu cefnogi ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd a'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol. Yn hytrach, canolbwyntiodd ar sut yr oedd ysgolion yn ymateb i'r pandemig, lles dysgwyr, lles y gweithlu, addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth. Rhoddodd Estyn mwy o bwyslais ar weithio mewn partneriaeth, gan gyfarfod yn rheolaidd â rhanddeiliaid, undebau athrawon a'i grŵp cyfeirio penaethiaid. Cynhaliodd gyfres o adolygiadau thematig, a oedd yn cynnwys ymgysylltu â dysgwyr, rhieni a staff. Cawsom ein calonogi hefyd o glywed bod Estyn yn parhau â'i raglen ddysgu broffesiynol ar gyfer ei arolygwyr, yn enwedig yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd a'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol, a bod Estyn yn parhau i fonitro ysgolion sy'n peri pryder. Ar y cyfan, roeddem yn teimlo bod dull gweithredu Estyn yn briodol. Gwnaethom gefnogi ei ymdrechion i helpu ysgolion i barhau i gefnogi lles eu dysgwyr a'u staff, a chyflwyno'r cwricwlwm craidd.

Ond nid oes amheuaeth beth yw goblygiadau'r pandemig i Estyn ac i addysg a lles plant. Fe wnaeth y pandemig amharu ar addysg pob plentyn yng Nghymru. I rai, fel dysgwyr sy'n agored i niwed, y rhai ag anghenion ychwanegol neu'r rhai y mae Saesneg yn ail iaith iddyn nhw, roedd yr aflonyddwch yn arbennig o ddifrifol. Gwaethygodd y pandemig yr anghydraddoldebau presennol rhwng dysgwyr difreintiedig a'u cyfoedion. Nid oedd Estyn yn gallu darparu'r lefel o gymorth yr oedd wedi gobeithio ei roi i sefydliadau mewn cysylltiad â'r cwricwlwm newydd a'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n destun pryder bod Estyn yn adrodd bod y cynnydd o ran cynllunio ar gyfer gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn amrywio'n fawr ar draws y sector. Mae sgiliau Cymraeg dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg gartref wedi dirywio.

Er gwaethaf rhai ymylon arian, roeddem yn pryderu am lawer o'r hyn a nodwyd gan Estyn yn ei adroddiad blynyddol ac am yr hyn a glywsom yn y pwyllgor ac rydym yn dal i bryderu am hynny. Cymaint felly, mewn gwirionedd, fod ein gwaith craffu blynyddol ar Estyn wedi bod yn sbardun allweddol i ddau ymchwiliad pwyllgor. Ysgogwyd y cyntaf, i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr, gan gyhoeddi adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol ymhlith disgyblion ysgol uwchradd ym mis Rhagfyr. Disgwylir i'n hadroddiad terfynol ar y broblem hon sy'n peri gofid mawr ac sy'n endemig gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Bydd yr ail, y byddwn yn ei lansio'n fuan iawn, yn ymchwilio i absenoldeb parhaus o'r ysgol ymhlith rhai plant—ein mwyaf agored i niwed yn aml—sydd wedi'i waethygu gan gyfyngiadau symud pandemig COVID-19.

Byddwn ni hefyd yn defnyddio gwaith Estyn i lywio darn o waith yn y Senedd i fonitro'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd a gweithredu'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. Mae hyn yn dangos pam y mae gwaith Estyn, ein gwaith craffu blynyddol ar adroddiadau blynyddol Estyn a'n perthynas barhaus ag Estyn mor hanfodol i allu'r Senedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif o ran lles ac ansawdd yr addysg y mae'n ei darparu i blant a phobl ifanc. Fel y mae adroddiad Estyn yn ei gwneud yn gwbl glir, mae craffu'n bwysicach yn awr nag y bu erioed.

19:00

Hoffwn i ychwanegu at yr hyn a ddywedodd llefarydd y Torïaid am y cyfnod sylfaen a'r ysgolion cynradd. Hoffwn i edrych ar y sector pwysicaf, yn fy marn i, sef y sector blynyddoedd cynnar, oherwydd dyna pryd y gallwch chi wneud y gwahaniaeth mwyaf o ran anfantais.

Mae'n debyg mai'r peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw fy mod i'n pryderu am y gostyngiad mewn addysg feithrin anstatudol o'r penllanw o 700 o ddarparwyr i ychydig dros 500 ym mis Gorffennaf y llynedd. Efallai nad yw hynny'n peri cymaint o bryder os yw wedi arwain at gynnydd yn y sector statudol o ddarpariaeth addysg feithrin, ac efallai y gallai'r Gweinidog addysg egluro hynny, ond yng nghyd-destun ein huchelgais i ehangu'r sector blynyddoedd cynnar a chynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant dwy flwydd oed yn ogystal â phlant tair a phedair oed, gallai hynny fod yn fater eithaf difrifol.

Rwy'n pryderu hefyd, yn amlwg, fel y mae eraill yn ei wneud, am effaith y pandemig, yn enwedig ar y plant ieuengaf nad ydyn nhw'n byw mewn tai sydd â llawer o le gardd hyfryd, oherwydd byddai'r canlyniadau wedi bod yn ddinistriol iddyn nhw. Ceisio addysgu a darparu addysg amgen drwy sgrin i blant dwy, tair a phedair oed—wel, pob lwc gyda hynny, gan ei bod yn anodd iawn cadw eu sylw ar-lein am fwy nag ychydig funudau. Rwy'n credu mai un o'r pryderon mwyaf yw'r dirywiad mewn ymddygiad, y sgiliau corfforol a'r anawsterau iaith a lleferydd, sydd wrth gwrs yn arwain at rwystredigaeth, gan fod unrhyw blentyn na all fynegi ei hun yn sicr o adlewyrchu hyn drwy ymddygiad gwael.

Mae rhai pethau cadarnhaol o adroddiad Estyn, sydd bob amser yn wych i ddarllen amdanyn nhw, sef gwneud yr angen i gael mwy o addysg yn yr awyr agored yn rhinwedd, oherwydd yn amlwg, mae cael addysg yn yr awyr agored yn lleihau'r risg o ddal COVID yn aruthrol. Roedd yn wych darllen am y gwaith da sy'n cael ei wneud yn sir Ddinbych, Wrecsam a Llanidloes i gynyddu'n wirioneddol y ddealltwriaeth gyfoethog y gall pobl ifanc ei chael o'r awyr agored, yn ogystal ag annog, yn ystod y cyfyngiadau symud, ddysgu rhieni drwy ddarparu'r offer cywir i annog rhieni i fynd â'u plant allan a helpu eu dysgu, dim ond drwy sefyll ar y glaswellt gyda thraed noeth.

Rwy'n credu bod pryder hefyd mewn cysylltiad â'r blynyddoedd cynnar, sef nad oedd llawer o leoliadau'n derbyn myfyrwyr coleg na phrentisiaid eleni, sy'n amlwg yn arwain at fwy byth o heriau o ran cael staff sydd â chymwysterau priodol ar gyfer ein hymdrechion i ehangu'r sector blynyddoedd cynnar. Mae'r rhain yn amlwg yn faterion sy'n peri cryn bryder ac yn creu heriau sylweddol i ni wrth symud ymlaen.

19:05

Diolch, Llywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Er bod yr hyn sydd yn adroddiad Estyn yn dangos bod llawer gyda ni i fod yn falch ohono fe yn ein system addysg, mae'r adroddiad hefyd, wrth gwrs, yn taflu goleuni ar rai o'r elfennau hynny sydd yn rhaid inni barhau i ddelio â nhw. Rwy'n cytuno bod hyn yn cynnwys rhai o'r pethau a wnaeth Heledd Fychan sôn amdanyn nhw yn ei chyfraniad hi.

Byddwn ni'n cefnogi gwelliant Plaid, y soniodd Heledd Fychan amdano. Mae'n adlewyrchu ein pwyslais a'n blaenoriaeth fel Llywodraeth, ac ymdrechion y gweithlu addysg cyfan, yn wir. Gwnaeth rai pwyntiau pwysig mewn cysylltiad â chostau'r diwrnod ysgol. Bydd yn ymwybodol o'r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud gyda phartneriaid i roi arweiniad i ysgolion mewn cysylltiad â hynny, a gwn y bydd wedi croesawu ymestyn cyllid mynediad y Grant Datblygu Disgyblion, o ran bod ar gael i bob blwyddyn ysgol a'r cyfraniad ychwanegol yn ystod y flwyddyn yr ydym wedi gallu ei wneud fel Llywodraeth i'r teuluoedd hynny sy'n ei chael yn anodd eleni.

Gwnaeth Laura Anne Jones gyfres o bwyntiau pwysig. Rwy'n cytuno â hi fod y pwynt allweddol yn yr adroddiad, mae'n debyg, yn ymwneud â'r beichiau anghyfartal yr oedd gwahanol ddysgwyr yn eu teimlo, ac yn enwedig y rhai hynny o gefndir difreintiedig. Rhoddodd groeso cynnes i'r datganiad a wnes i yn y Senedd ddiwedd y tymor diwethaf mewn cysylltiad â'r gwaith yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi'r dysgwyr hynny. Gwnaeth bwynt pwysig am bresenoldeb, sy'n cael ei amlygu'n glir iawn yn bryder yn yr adroddiad, a byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd yn fuan iawn ar ein dull o ymdrin â phresenoldeb, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu o adolygiad yr ydym wedi'i gynnal sy'n mynd y tu hwnt i'r data, os mynnwch chi, i geisio rhoi hynny yn ei gyd-destun ehangach.

Gwnaeth Jayne Bryant bwynt pwysig iawn ynglŷn â'r effaith ar y Gymraeg.

Mae'r gwaith mae awdurdodau lleol mewn mannau yng Nghymru yn ei wneud i aildrochi rhai o'n dysgwyr ni sydd wedi cael y profiad o golli rywfaint ar eu Cymraeg yn y cyfnod hwn yn bwysig, a hoffwn i ddiolch hefyd i'r partneriaid, fel RhAG ac eraill, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i wneud ein gorau glas i leihau'r impact andwyol hynny ar yr iaith.

Gwnaeth Jenny Rathbone gyfres bwysig o bwyntiau mewn cysylltiad â'r effaith ar y sector nas cynhelir. Mae'r adroddiad yn sôn am nifer o leoliadau sy'n fregus yn ariannol. Bydd yn gwybod ein bod wedi ymrwymo £8 miliwn rhwng mis Mawrth 2020 a 2021 drwy'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Estyn, i ddeall i ble y gellid cyfeirio cymorth orau yn y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau iaith a lleferydd, y tynnodd sylw atyn nhw yn ei chwestiwn. Yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, rydym yn cynyddu'r cyllid i awdurdodau lleol fel y gallan nhw gefnogi lleoliadau sy'n darparu addysg gynnar yn well i adlewyrchu'r pwyntiau pwysig a wnaeth yn ei chyfraniad.

Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, Llywydd, hoffwn sôn yn fyr am swyddogaeth Estyn ei hun. Roedd yr adroddiad blynyddol yr ydym wedi'i drafod heddiw yn cwmpasu blwyddyn academaidd pan ataliwyd arolygiadau craidd bron yn llwyr oherwydd y pandemig. Yn lle hynny, ymgysylltodd arolygwyr Estyn ag ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant i drafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys effaith y pandemig, ac, yn bwysig, i gynnig cymorth. Fel y dywedodd Jayne Bryant yn ei chyfraniad, mae Estyn yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos ag ysgolion a lleoliadau mewn gwaith dilynol. Ailddechreuodd monitro ffurfiol ar ysgolion sydd angen mesurau arbennig neu welliant sylweddol yn nhymor yr haf 2021, ac rwy'n falch o ddweud bod cyfran dda o'r ysgolion hyn, hyd yma, wedi gwneud cynnydd digonol ac wedi eu tynnu o'r categori.

Mae arweinwyr ein hysgolion a'r gweithlu addysgol ehangach wedi wynebu pwysau sylweddol ac yn parhau i'w hwynebu. Dyna pam yr oedd yn bwysig i mi gytuno â'r prif arolygydd blaenorol yr haf diwethaf i barhau i atal rhaglen arolygu graidd Estyn am dymor arall, ochr yn ochr â nifer o fesurau eraill a gyhoeddais i wneud lle i ysgolion. Wedi hynny, dechreuodd Estyn dreialu trefniadau arolygu newydd gydag ysgolion gwirfoddol ac unedau cyfeirio disgyblion yn nhymor y gwanwyn eleni, ac yn ystod tymor yr haf, maen nhw'n ymestyn eu cynllun treialu gyda sampl mwy o ysgolion, y byddan nhw'n eu dewis eu hunain, i brofi'r trefniadau newydd mewn amrywiaeth ehangach o leoliadau. Byddan nhw'n parhau i ddychwelyd i arolygiadau ar draws sectorau eraill, gan gynnwys ar gyfer ein lleoliadau ôl-16.

O fis Medi ymlaen, mae Estyn yn bwriadu ailddechrau rhaglen arolygu arferol ar draws pob sector. Bydd yr wybodaeth wrthrychol ac annibynnol a ddarperir gan arolygiadau yn rhoi tystiolaeth hanfodol i ni o sut y mae ysgolion yn gweithredu diwygiadau'r cwricwlwm ac ADY, y mae nifer o siaradwyr wedi cyfeirio atyn nhw, yn ogystal â gwybodaeth ehangach am y system addysg. Dyna pam yr ydym wedi cynyddu'r dyraniadau cyllid i Estyn i alluogi'r arolygiaeth i gwblhau'r arolygiad o bob ysgol yn y cylch presennol erbyn mis Gorffennaf 2024, er gwaethaf yr oedi mewn arolygiadau yn ystod y pandemig.

Yn olaf, byddwch i gyd yn gwybod bod prif arolygydd newydd wedi'i benodi ers cyhoeddi'r adroddiad blynyddol, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag Owen Evans dros y misoedd nesaf a gwrando ar ei farn ar sut y gall arolygu a gweithgareddau ehangach Estyn helpu i gefnogi ein system addysg i gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb.

19:10

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 1? Nac oes, dim gwrthwynebiad, ac felly derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig wedi ei ddiwygio? 

Cynnig NDM7980 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.

2. Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.

3. Yn croesawu'r ffaith y 'rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.

4. Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.

5. Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y 'daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig.'

6. Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

A oes unrhyw wrthwynebiad i dderbyn y cynnig wedi ei ddiwygio? Nac oes, felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio ar gyfer y pleidleisiau eraill, ac felly mi wnawn ni gymryd toriad byr nawr, tra'n bod ni'n paratoi ar gyfer y bleidlais yn dechnegol.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:12.

19:15

Ailymgynullodd y Senedd am 19:18, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

15. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yr eitem gyntaf i bleidleisio arni yw eitem 10, a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain yw'r bleidlais honno. Dwi'n galw am y bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain: O blaid: 43, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal sydd nesaf—y bleidlais yn eitem 11. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Eluned Morgan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Mae'r cynnig o dan eitem 11 wedi ei gymeradwyo.

19:20

Eitem 11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal: O blaid: 43, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 12 sydd nesaf—y cynnig ar y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, un yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig o dan eitem 12 wedi ei gymeradwyo.

Eitem 12. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu): O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 13 sydd nesaf—y cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, un yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig o dan eitem 13 hefyd wedi ei gymeradwyo.

Eitem 13. Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu): O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio am y prynhawn yma.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:22.