Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
17/03/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau am y Rheolau Sefydlog sydd yn ymwneud â threfn mewn Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini'n berthnasol i'r cyfarfod yma, wrth gwrs.
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yw'r eitem gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ychwanegol a ddyranwyd i'r portffolio addysg i gefnogi rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn Rhondda Cynon Taf? OQ56450
Rydym yn darparu £70 miliwn ychwanegol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglen band B y flwyddyn nesaf. Bydd yr arian hwn yn dod â'r cyfanswm a fuddsoddwyd dros oes rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i £3.7 biliwn, a bydd bron i £400 miliwn o hynny'n cael ei fuddsoddi yn Rhondda Cynon Taf.
Weinidog, erbyn diwedd eleni, a thros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyngor Llafur Rhondda Cynon Taf, gyda chymorth Llywodraeth Lafur Cymru, wedi buddsoddi neu ymrwymo bron i £0.75 biliwn yn ein seilwaith addysg lleol, yn adeiladu ysgolion newydd, adnewyddu adeiladau, a darparu'r cyfleusterau mwyaf modern i'n plant yn unrhyw le yng Nghymru a'r DU. Ac mae'r hyn y gallwn ei weld yn datblygu yn eithaf rhyfeddol: ysgol newydd gwerth £23 miliwn yn y Pant ym Mhont-y-clun; ysgol gymunedol newydd gwerth £43 miliwn i ddisgyblion tair i 19 oed yn Nhonyrefail; ysgolion newydd ym Mhenrhiwfer—£7.4 miliwn; Llwyncrwn yn y Beddau—£3.5 miliwn; buddsoddiad yng Ngholeg y Cymoedd; ac ysgolion newydd ar y gweill yn ysgol uwchradd Pontypridd, ysgol Hawthorn; cae 3G a thrac rhedeg ysgol gyfun Bryn Celynnog—£1.3 miliwn; a llawer iawn mwy. Weinidog, gallaf eisoes weld effaith y buddsoddiadau hyn ar ein myfyrwyr, eu morâl, eu hyder, a'u balchder yn eu hysgolion. A allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, yn y Senedd nesaf, yn parhau i fuddsoddi mewn addysg ac yn darparu'r cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf y mae ein myfyrwyr yn eu haeddu?
Yn sicr, gallaf ddarparu'r sicrwydd a'r hyder hwnnw i Mick Antoniw y prynhawn yma. Ac rwy'n credu bod dim ond rhestru'r buddsoddiad a wnaed yn Rhondda Cynon Taf yn dangos pa mor uchelgeisiol rydym wedi bod hyd yn hyn, ond mae hefyd yn rhoi syniad o'r math o fuddsoddiad y byddem yn awyddus i’w wneud yn y dyfodol. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn yr ystâd ysgolion drwy raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. O'r cyfanswm o £3.7 biliwn o fuddsoddiad, bydd £2.3 biliwn yn cael ei fuddsoddi ym mand B dros y blynyddoedd i ddod. A lansiwyd band B y rhaglen, wrth gwrs, ym mis Ebrill 2019, gyda chyfnod adrodd dangosol o bum mlynedd. Ac mae'r buddsoddiad o £2.3 biliwn yn gyfuniad o refeniw a chyfalaf traddodiadol o dan y model buddsoddi cydfuddiannol. Ei nod, wrth gwrs, yw darparu 200 o adeiladau newydd a phrosiectau adnewyddu mawr ledled Cymru, sydd, yn fy marn i, yn nodi lefel yr uchelgais ar gyfer y dyfodol, a chyfnod hynod gyffrous yn y blynyddoedd i ddod.
Weinidog, rwy'n siŵr y bydd yn rhyddhad ichi glywed nad wyf yn ymgeisydd yn yr etholiad, felly nid wyf am ddarllen fy anerchiad etholiadol; af ymlaen at gwestiwn priodol. Pan roddir symiau mawr o arian at ddefnydd y cyhoedd, credaf ein bod angen y gwerth mwyaf am y bunt Gymreig. Ac yma, rwy'n canmol cyngor RhCT am y ffordd y maent wedi defnyddio peth o'r arian hwn i hyrwyddo, drwy raglen yr ysgolion, cynefin ecolegol, y defnydd dychmygus o dechnolegau, cysylltedd â blaenoriaethau eraill fel lleoliadau gofal plant Cymraeg eu hiaith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â’r defnydd deublyg o gyfleusterau chwaraeon fel eu bod ar gael i'r gymuned hefyd. Ac mae angen inni ddefnyddio ein gwariant cyhoeddus yn y modd hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf posibl amdano.
Rwy'n cytuno'n llwyr â David Melding ar y pwynt hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, pan fyddwn yn buddsoddi yn ein hystâd ysgolion ac yn ein hystâd colegau, rydym yn buddsoddi yn nyfodol y bobl ifanc hynny, a dyna’n sicr yw’r flaenoriaeth. Ond mae cymaint yn fwy o fuddion rydym yn eu mwynhau hefyd—er enghraifft, y buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn datgarboneiddio, i gefnogi bioamrywiaeth, ac mae hynny oll yn ganolog i'n hymagwedd. A bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn bwysig iawn yng nghamau nesaf ein rhaglen adeiladu ysgolion yma yng Nghymru. Ac mae'r model hwnnw'n canolbwyntio'n gryf ar sicrhau’r buddion ychwanegol hynny—y buddion cymunedol hynny—boed yn dargedau datgarboneiddio neu fioamrywiaeth uchelgeisiol, neu'r buddion eraill hynny, gan gynnwys sicrhau bod cymunedau lleol yn gallu elwa ar gyfleoedd prentisiaeth a chyfleoedd dysgu. Felly, yn sicr, nid oes a wnelo hyn â brics a morter yn unig; mae'n ymwneud â phopeth sydd ynghlwm wrth hynny.
2. Beth yw goblygiadau cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 i Orllewin Casnewydd? OQ56464
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cael cynnydd o £12.8 miliwn yn ei setliad, y cynnydd mwyaf yng nghyllid unrhyw awdurdod lleol, sef 5.6 y cant. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £1.5 miliwn heddiw er mwyn bwrw ymlaen â buddsoddiad ar y cyd o £11.9 miliwn ar gyfer gwaith adnewyddu sylweddol ar bont gludo Casnewydd. [Chwerthin.] Rwy'n gyffrous iawn ynglŷn â hynny, fel y gallwch weld, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn cael trafferth ei ddweud.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n flwyddyn anhygoel o heriol, ac mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y pwysau sylweddol ar lywodraeth leol, ac yn benodol, Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn y setliad mwyaf yng Nghymru. Fel is-lywydd Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd, rwy'n wirioneddol falch o'r cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r diffyg yn y gwariant cyfalaf fel y gellir dechrau’r gwaith o adfer pont gludo werthfawr Casnewydd. Bydd y cynllun i ddiogelu'r bont yn creu canolfan dwristiaid newydd i groesawu ymwelwyr, ac mae ymweliad i deithio ar draws y gondola, neu gerdded dros ran uchaf y bont, yn un o'r pethau y mae’n rhaid eu gwneud wrth ymweld â Chymru. Mae hi wedi bod yn flwyddyn mor anodd i dreftadaeth a diwylliant, ond mae gweld yr ymrwymiad hwn i un o dirnodau mwyaf eiconig Casnewydd a Chymru yn gam gwych ymlaen, a hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Mae buddsoddi yn ein sectorau diwylliannol a threftadaeth mor bwysig, a bydd yn rhan o'n hadferiad economaidd. A all y Gweinidog roi sicrwydd i mi fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi er mwyn dod o hyd i ffyrdd creadigol o gefnogi prosiectau fel hyn er budd cymunedau lleol ac i hybu ein sector twristiaeth?
Rhannaf frwdfrydedd Jayne Bryant ynghylch y cyhoeddiad heddiw, ac rwy'n talu deyrnged hefyd i’r gwaith y mae hi a John Griffiths wedi’i wneud ar y cyd i sicrhau bod y prosiect penodol hwn yn parhau i fod ar frig yr agenda. Ac mae'n wych ein bod wedi gallu sicrhau bod hyn yn digwydd, gan y credaf fod y bont gludo yn darparu cyfle gwirioneddol i weithredu fel porth i dde-ddwyrain Cymru, gan gysylltu de-ddwyrain Cymru â mannau eraill, a symboleiddio treftadaeth a diwylliant y rhanbarth yn ogystal â'r bobl arloesol a’i datblygodd a'r arloesedd hefyd. A gwn ei bod yn rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer Casnewydd ac yn rhan sylweddol o gynllun y ddinas i greu mwy o hyder a chyffro o amgylch ei threftadaeth, a hefyd i ddatblygu ei chynnig hamdden a thwristiaeth. Felly, rhagwelir y bydd y gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd yn denu mwy na 46,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a chredaf y bydd hynny'n wych, o ran rhoi Casnewydd ar y map fel cyrchfan i dwristiaid, ond hefyd wrth greu swyddi a chyfleoedd i'r gymuned. Felly, cyhoeddiad gwych heddiw, ac wrth gwrs, mae pob un ohonom o’r farn fod diwylliant a thwristiaeth yn ganolog i'n hymdrechion i adfer wrth inni symud ymlaen wedi COVID.
Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Yn yr wythnosau diwethaf, mae cynghorau Cymru wedi bod yn gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â lefel treth cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, a hynny ar amser mor anodd i gymaint o bobl y maen nhw yn eu gwasanaethu. Ydy'r Gweinidog yn gallu dweud wrthyf i a ydy hi'n credu bod treth cyngor yn decach rŵan nag oedd hi pan ddaeth hi'n Weinidog cyllid yn 2018?
Mae'r dreth gyngor yn decach nag y bu drwy gydol y cyfnod datganoli oherwydd y gwaith aruthrol rydym wedi'i wneud i sicrhau bod yr agenda'n fwy teg. Rhoddaf rai enghreifftiau o sut rydym wedi cyflawni hynny. Er enghraifft, rydym wedi sicrhau bod pobl ifanc sy'n gadael gofal bellach wedi'u heithrio rhag talu’r dreth gyngor tan eu bod yn 25 oed. Rydym wedi sicrhau na fydd carchar yn gosb i bobl nad ydynt wedi talu’r dreth gyngor. Yn amlwg, nid yw methu talu’r dreth gyngor yn eich gwneud yn droseddwr; mae'n golygu eich bod mewn amgylchiadau anodd iawn. Rydym wedi gweithio gyda llywodraeth leol ledled Cymru i ddatblygu protocol sy'n golygu y byddant yn gweithio gyda phobl na allant dalu’r dreth gyngor yn hytrach gwŷs i'r llys fel cam cyntaf. Felly, rydym wedi cymryd y camau hynny. Rydym hefyd wedi sicrhau bod gennym gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor ar waith, sy'n gynllun llawer gwell na'r un sydd i’w gael dros y ffin, ac mae'n cefnogi mwy na 220,000 o aelwydydd ledled Cymru gyda biliau’r dreth gyngor.
Dwi'n gwerthfawrogi ymdrechion y Gweinidog i roi sglein ar bethau, ond beth dwi'n ei weld yn fanna ydy cyfaddefiad bod angen cymaint o gamau lliniaru mewn lle oherwydd nad yw treth cyngor yn deg yn sylfaenol. Yr ateb—os oes yna ffasiwn beth ag ateb cywir—ydy doedd treth cyngor ddim yn deg pan ddaeth hi i'r swydd, a dydy o'n dal ddim yn deg heddiw. Oherwydd y sefyllfa amhosib y mae cynghorau ynddyn nhw, a'r ffordd mae treth cyngor yn ffitio mewn i'r gwasgu cyffredinol sydd wedi bod ar gyllid cyhoeddus, mae biliau treth cyngor eto yn mynd i fyny i ddwbl chwyddiant a mwy eto ar draws Cymru, yn amrywio o ryw 2.65 y cant o gynnydd yn Rhondda Cynon Taf i bron 7 y cant yn Wrecsam. Dwi a Phlaid Cymru wedi dadlau y gallai ac y dylai hyn fod wedi cael ei osgoi eleni. Buasai gwario, o bosib, ryw £100 miliwn o arian sydd ddim wedi cael ei glustnodi i rewi treth cyngor i bawb ar yr amser anodd yma wedi bod yn gam gwerthfawr o ran helpu pobl efo'r ymateb i COVID. A gallaf i ddim honni ei fod o'n rhywbeth arloesol iawn gen i; mae Llywodraeth yr Alban yn gwneud hyn. Pam y gwnaeth Llywodraeth Lafur Cymru benderfynu peidio?
Wel, y cwestiwn a ofynnodd Rhun ap Iorwerth yn ei gwestiwn cyntaf oedd ‘A yw'r dreth gyngor yn decach nag yr oedd pan ddeuthum i'r swydd?’ a'r ateb i hynny, yn ddiymwad, yw ydy. Y cwestiwn na ofynnodd i mi oedd 'A yw treth gyngor yn deg?’, gan y byddwn wedi ateb drwy ddweud bod y dreth gyngor yn dreth atchwel mewn gwirionedd, a dyna pam ein bod wedi gweithio'n galed iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gyflawni cyfres o brosiectau ymchwil ar ddiwygio cyllid llywodraeth leol. Cyhoeddais ganfyddiadau’r gwaith hwnnw ar 24 Chwefror, ac roedd yn crynhoi’r holl waith rydym wedi bod yn ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i archwilio diwygiadau i’r dreth gyngor, ac mewn gwirionedd, i ardrethi annomestig a'r system lywodraeth leol ehangach. Mae'n ystyried dulliau amgen o godi refeniw yn lleol, megis treth gwerth tir a threth incwm leol, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer cadw’r systemau presennol a’u gwella’n sylweddol. Mae hefyd yn nodi dyheadau ar gyfer sut y dylai systemau cyllido weithio yn y dyfodol, ac mae'r rheini'n systemau a ddylai fod yn decach ac yn fwy blaengar, sy’n cryfhau atebolrwydd lleol ac yn darparu sylfaen gynaliadwy i wasanaethau lleol, ac wrth gwrs, dylent fod yn syml fel y gall pobl eu deall. Felly, yn amlwg, nid dyma ddiwedd y daith o ran sicrhau bod y dreth gyngor yn decach. Rydym wedi cychwyn gwaith ymchwil a fydd yn llywio’r Llywodraeth nesaf o ran y camau y gallai fod eisiau eu cymryd, ac mae rhai ohonynt yn gamau eithaf radical, ond serch hynny, maent yn darparu cyfle arwyddocaol i wella'r system yn fy marn i.
Diolch. Doedd yna ddim cyfeiriad at y rhewi treth cyngor yn y fan honno. Rydym ni wedi gwneud ein barn ni yn glir ar hynny. Cam dros dro ydy hynny, wrth gwrs, ac mae eisiau meddwl yn ofalus iawn sut i ddiwygio trethi lleol ar gyfer yr hirdymor. Dydy o ddim yn beth gwleidyddol hawdd i'w wneud, ond rydym ni yn sôn fan hyn am drio mynd i'r afael efo anghydraddoldebau mawr, a, hyd yn oed efo camau lliniaru, rydyn ni'n gwybod, yn ôl yr Institute for Fiscal Studies, fod 10 y cant tlotaf cymdeithas yn talu rhyw 8 y cant o'u hincwm mewn treth cyngor, trwch y boblogaeth—y 50 y cant wedyn—yn talu rhyw 5 y cant o'u hincwm, a'r 40 y cant cyfoethocaf dim ond yn talu rhyw 2 y cant. Rŵan, mae'r Gweinidog wedi dweud eu bod nhw wedi bod yn cael trafodaeth ynglŷn â hyn. Rydych chi mewn grym ers 1999. Sut mae Llywodraeth Lafur ar ôl Llywodraeth Lafur wedi bod mor barod i ganiatáu i'r anghydraddoldebau yma barhau?
Wel, yn fy ateb cyntaf, nodais rai o'r camau rydym wedi'u cymryd er mwyn gwneud y dreth gyngor yn decach, ac maent yn gamau sylweddol. Mae'r protocol, y gwnaethom gytuno arno gydag awdurdodau lleol, wedi bod yn hollbwysig i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt os na allant dalu’r dreth gyngor, neu os ydynt yn cael trafferth gwneud hynny. Buom yn gweithio gyda MoneySavingExpert.com i sicrhau bod pobl a chanddynt gyflyrau, a allai gynnwys dementia er enghraifft, yn gallu cael cymorth i dalu’r dreth gyngor. Felly, rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith i sicrhau bod y dreth gyngor yn decach yn ystod tymor y Senedd hon.
A gwn fod Rhun ap Iorwerth yn cydnabod pa mor sylweddol ac enfawr yw’r dasg o ddiwygio cyllid llywodraeth leol. Mae'n debyg y byddai'n cymryd tymor cyfan o bosibl i newid y system yn llwyr pe baem yn dilyn rhai o'r llwybrau anos rwyf wedi'u disgrifio ac a archwiliwyd gennym, megis y dreth gwerth tir, er enghraifft. Mae honno'n gryn fenter. Felly, yn amlwg, mae opsiynau i’w cael ar gyfer y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd y pleidiau’n nodi eu barn ar sut system y dylid ei chael yn y dyfodol. Ond nid oes un o'r pethau hyn yn hawdd i'w gwneud, a bydd angen cryn dipyn o waith er mwyn gwneud pob un ohonynt dros gyfnod hir o amser.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae adroddiad dadansoddi cyllid Cymru y mis hwn ar oblygiadau cyllideb y DU ar gyfer 2021 i Gymru a chyllideb Cymru yn nodi bod Llywodraeth Cymru,
wedi gadael £610 miliwn o wariant dydd i ddydd heb ei ddyrannu yng nghynlluniau’r Gyllideb Derfynol. Gyda chyllid canlyniadol ychwanegol o Gyllideb y DU a newidiadau i refeniw datganoledig rhagamcanol…golyga hyn fod gan Lywodraeth Cymru oddeutu £1.3 biliwn ar hyn o bryd i'w ddyrannu mewn cyllidebau atodol yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae eich datganiad ysgrifenedig ar 10 Mawrth, sy’n cyhoeddi £380 miliwn yn ychwanegol o ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan bandemig COVID-19 yn 2021-22 yn nodi bod hyn yn,
‘gwneud defnydd llawn o’r cyllid canlyniadol ar gyfer Cymru a ddeilliodd o Gyllideb y Canghellor ar 3 Mawrth.’
Sut rydych chi'n esbonio'r gwahaniaeth ymddangosiadol hwn felly, a pha ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ddarpariaeth ehangach i fusnesau o fewn cynllun ar gyfer dod allan o’r cyfyngiadau symud o'r gyllideb a gariwyd ymlaen sy'n weddill ac sydd ar gael i chi?
Gallaf egluro hynny'n hawdd iawn, oherwydd mae'r cyllid sydd ar gael i ni y flwyddyn nesaf yn cynnwys y cyllid a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth, yn ogystal â’r mwy na £600 miliwn y gallwn ei gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf o eleni, oherwydd y penderfyniadau da rydym wedi'u gwneud wrth reoli’r gyllideb. Felly, dros y ffin, fe fyddwch wedi gweld dull cwbl warthus Llywodraeth y DU o fynd ati i olrhain cysylltiadau. Yma yng Nghymru, mae wedi bod yn wasanaeth lleol a ddarperir gan fyrddau iechyd, gan awdurdodau lleol, gan sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru a sicrhau hefyd fod y gweithwyr hynny'n cael eu cyflogi ar delerau ac amodau da. Ac mae hynny wedi golygu bod ein system wedi bod yn rhatach o lawer ac yn fwy effeithiol o lawer, mae’n rhaid imi ddweud, a hefyd fod modd rhyddhau arian i ni ei wario y flwyddyn nesaf, gan roi’r sicrwydd y maent ei angen i awdurdodau lleol, a’r sicrwydd y mae ei angen i iechyd, ac yn bwysig, i ganiatáu imi glustnodi £200 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth i fusnesau.
Rwy'n fwy na pharod i drafod perfformiad cymharol y Llywodraethau ar faterion iechyd yn ystod y pandemig, ond roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â chymorth i fusnesau a'r bwlch ymddangosiadol rhwng eich datganiad, fod y cyllid canlyniadol i Gymru wedi'i ddefnyddio’n llawn, pan fo ffigurau Dadansoddi Cyllid Cymru yn awgrymu bod y ffigurau'n uwch o lawer.
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r meini prawf cymhwysedd diwygiedig ar gyfer grantiau i fusnesau llety hunanddarpar fis Ebrill diwethaf, dywedodd prif weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn wrthyf fod y newid yn y canllawiau wedi'i gynllunio i sicrhau nad oedd cynghorau'n talu grantiau i bobl a oedd wedi tynnu eu heiddo oddi ar gofrestr y dreth gyngor a newid i dalu ardrethi busnes er mwyn osgoi talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, a bod y cyngor yn defnyddio'r disgresiwn a ganiateir gan y canllawiau i sicrhau eu bod yn talu busnesau llety hunanddarpar dilys ac nad ydynt yn gwahardd ceisiadau yn awtomatig pan na all y busnesau ddangos bod yr eiddo'n cynhyrchu o leiaf 50 y cant o incwm blynyddol y perchennog.
Pan ysgrifennais atoch o'r blaen ynglŷn â chymhwysedd, fe wnaethoch gadarnhau yn ysgrifenedig hefyd nad oes rheidrwydd ar awdurdodau lleol i gadw taliadau yn ôl, os ydynt yn fodlon fel arall fod y cais wedi’i wneud gan fusnes llety hunanddarpar dilys. Fodd bynnag, mynegwyd barn wrthyf yn ddiweddar na ddylai awdurdodau lleol ddefnyddio disgresiwn ynglŷn â dyfarnu grant ai peidio heblaw bod busnes hunanddarpar yn gwneud cais sydd ond ychydig yn fyr o fodloni un o'r tri maen prawf, a byddent yn disgwyl i awdurdod lleol ddefnyddio ei ddisgresiwn mewn amgylchiadau o'r fath yn unig. Er eglurder, a wnewch chi gadarnhau felly nad yw eich ymateb gwreiddiol i mi ac ymateb prif weithredwr Ynys Môn wedi newid?
Holl bwynt y gronfa ddewisol yw ei bod yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol allu dyrannu grantiau i fusnesau nad ydynt wedi gallu cael cyllid drwy’r cynllun grantiau busnes ardrethi annomestig. Ac mae'n rhoi cryn dipyn o ddisgresiwn i awdurdodau lleol wneud y dyraniadau hynny i fusnesau y credant eu bod yn bwysig i'r gymuned leol ac y teimlant fod ganddynt sail ddilys dros gael cymorth ariannol. Nid lle Llywodraeth Cymru yw cyfarwyddo awdurdodau lleol ynglŷn â sut y maent yn arfer y disgresiwn rydym wedi'i roi iddynt o fewn y gronfa.
Na, yn hollol, ac nid oedd y cwestiwn yn ymwneud â chyfarwyddo awdurdodau lleol; dim ond cydnabod bod y disgresiwn ganddynt i’w arfer. Felly, diolch am gadarnhau hynny.
Nodais mewn cwestiwn i chi y mis diwethaf, er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn yn wreiddiol i gronfa argyfwng yr hosbisau, fod hyn yn llai hael na chronfeydd cyfatebol ym mhob un o wledydd eraill y DU ac yn sylweddol is na'r cyfanswm a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru mewn cyllid canlyniadol o gymorth Llywodraeth y DU i hosbisau yn Lloegr. Fodd bynnag, mae ein hosbisau a’n sector gofal lliniarol cymunedol wedi parhau i ddarparu gofal a gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig.
Roedd hosbisau yng Nghymru yn wynebu diffyg cyfunol o £4.2 miliwn erbyn y mis hwn, ond ar ôl imi arwain y ddadl ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yma fis diwethaf, dim ond £3 miliwn yn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i’w cefnogi. Yn ychwanegol at hynny, nid oedd unrhyw arwydd yn eich cyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22 o gymorth parhaus i hosbisau allu cynnal eu gwasanaethau hanfodol, er gwaethaf eu diffyg cyfunol amcangyfrifedig o £6.1 miliwn yn ystod 2021-22.
Mewn ymateb i AS Llafur y mis diwethaf, nododd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys fod y gwerth £249 miliwn o gyllid newydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer hosbisau wedi cynhyrchu £47 miliwn mewn cyllid canlyniadol ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys £15 miliwn i Lywodraeth Cymru. Pam, felly, nad ydych wedi dyrannu neu hyd yn oed wedi ychwanegu at y £5.7 miliwn coll ar gyfer hosbisau yng Nghymru, i ymateb i'w hanghenion cyllido brys a'u galluogi i gyflawni mwy, a chynhyrchu gostyngiadau mwy drwy hynny yn y costau i GIG Cymru?
Wel, mae Llywodraeth Cymru’n derbyn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU ym mhob maes gwariant sy’n rhan o’r cyd-destun datganoledig, ac er enghraifft, fe roddaf i chi'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu mwy o arian i fusnesau nag rydym wedi'i dderbyn mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU.
Hosbis.
Rwy'n dangos i Mark Isherwood nad blwch postio ar gyfer cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU ydym ni. Daw'r cyllid canlyniadol mewn bloc o gyllid y gallwn ei ddyrannu wedyn yn unol â'r anghenion yma yng Nghymru.
Nawr, dyrannwyd cyllid gennym i hosbisau yma yng Nghymru ar sail trafodaethau a gawsom gyda'r sector hosbisau i ddeall yr angen ariannol a nodwyd ganddynt, a dyrannwyd y pot o arian yn unol â hynny. A dyna'r trafodaethau a gafodd adran fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd gyda'r sector hosbis yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae ein sector hosbisau yma yng Nghymru yn llai na'r sector dros y ffin. Felly, nid yw'n wir fod pob ceiniog o gyllid canlyniadol a gawn yn mynd i'r un maes gwariant yn union.
Nawr, os yw’r hosbisau'n dweud wrthych nad yw'r cyllid y maent yn ei dderbyn yn diwallu eu hanghenion, yna yn amlwg, byddem yn awyddus i gael y trafodaethau hynny gyda'r sector hosbisau, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn trafod hynny gyda'r sector er mwyn deall eu hanghenion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ond fel y dywedaf, rhoddwyd pecyn cyllido ar waith gennym ar gyfer y sector drwy drafod ac ymgynghori â'r sector.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiddymu'n raddol band cyfradd sero y dreth trafodion tir ar drafodion eiddo preswyl hyd at £250,000? OQ56456
Gwnaf. Mae’r gostyngiad dros dro yn y dreth trafodiadau tir wedi'i ymestyn i 30 Mehefin i gynorthwyo trethdalwyr a allai fod wedi wynebu oedi wrth gwblhau pryniant eu cartrefi cyn 1 Ebrill. O 1 Gorffennaf, bydd cyfraddau safonol y dreth trafodiadau tir yn weithredol.
Cyfeiriaf at ddiddymu’n raddol, ond yn wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid oes gennym dapr yng Nghymru. Pam fod y Gweinidog wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, a pham ei bod yn meddwl ei bod yn iawn y dylai pobl sy'n prynu tai gwerth rhwng £180,000 a £250,000 yng Nghymru dalu 3.5 y cant ar y rhan honno o'r trafodiad, pan fyddai'r un pryniannau ar gyfradd sero yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon?
Wel, mae gennym farchnad dai wahanol yma yng Nghymru, ac rydym wedi dangos, o ran trafodiadau a refeniw o’r dreth trafodiadau tir, fod y farchnad yn llawer mwy bywiog yma nag y mae dros y ffin. Fel y dywedaf, bydd y cynnydd yn y band cyfradd sero ar gyfer y rheini sy'n talu'r prif gyfraddau preswyl rhwng £180,000 a £250,000 yn dod i ben ym mis Gorffennaf. Ond hyd yn oed wedyn, bydd gennym y ffurf fwyaf hael a blaengar ar gymorth i brynwyr tai, nad yw, wrth gwrs, wedi'i gyfyngu i brynwyr tro cyntaf yma yng Nghymru chwaith. Gwnaethom y penderfyniadau hynny am fod y farchnad dai'n wahanol yma yng Nghymru, ac rydym wedi adlewyrchu hynny yn y penderfyniadau rydym wedi'u gwneud. Mae prisiau tai yn Lloegr yn wahanol iawn, felly golyga hynny, ar gyfartaledd, y gall y budd fod hyd at, neu gynyddu hyd at neu'n uwch na £12,000, ond yma, yr uchafswm yw £2,500. Felly, credaf fod graddau'r her o ran prisiau tai yn wahanol iawn.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf fod Mark Reckless wedi codi pwynt da iawn o ran sut rydym yn bywiogi’r farchnad dai yng Nghymru. Clywaf yr hyn a ddywedwch ynglŷn â’r ffaith bod y farchnad dai yn wahanol yma i'r ochr draw i'r ffin, ond serch hynny, mae arni angen yr ysgogiad y mae Llywodraeth y DU yn ceisio'i sicrhau drwy gymhwyso’r band cyfradd sero tan ddiwedd 2021. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi edrych eto ar hyn a’i gadw dan arolwg a gweithredu'n unol â’r dystiolaeth? Oherwydd mewn rhai rhannau o Gymru yn sicr, rwy'n pryderu y gallai'r polisi hwn gael effaith fwy negyddol nag mewn rhannau eraill, a chredaf fod achos i’w wneud dros ymestyn y rhyddhad tan y bydd yr economi mewn gwell cyflwr.
Wel, mae'r holl gyfraddau a’r bandiau hyn yn nhrethi Cymru yn cael eu hadolygu'n gyson. Disgwylir i’r estyniad i’r gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir fod o fudd i oddeutu 4,000 yn ychwanegol o brynwyr cartrefi yma yng Nghymru, a hyd at a chan gynnwys mis Ionawr, mae oddeutu 10,000 o brynwyr cartrefi eisoes wedi elwa o'r gostyngiad dros dro a gyhoeddais y llynedd. Felly, mae nifer sylweddol o aelwydydd eisoes wedi elwa ohono, a dim ond oddeutu chwarter yr holl brynwyr tai ar hyn o bryd sy'n talu unrhyw dreth trafodiadau tir o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed y llynedd ar hyn. Ond fel rwy'n dweud, pan fydd y cyfraddau arferol—os mynnwch—yn dychwelyd, bydd gennym sefyllfa gymharol hael yma yng Nghymru o hyd.
4. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i'r sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru wrth ddyrannu cyllideb derfynol 2021-22? OQ56431
Mae dros £14 miliwn wedi'i ddyrannu i 870 o fusnesau yn y sectorau cyllid a gwasanaethau proffesiynol o'r gronfa cadernid economaidd yn 2020-21. Rydym hefyd yn buddsoddi £270 miliwn ym Manc Datblygu Cymru i gefnogi busnesau, a byddwn yn parhau i weithio gyda phob sector i ystyried pa gymorth sydd ei angen yn 2021-22.
Wel, mae Purple Shoots yn elusen sy'n rhoi cymorth i bobl yng Nghymru na allant gael gafael ar gyllid fforddiadwy sydd ei angen arnynt i ddechrau busnes. Maent hefyd yn gweithio gyda grwpiau hunanddibynnol, gan greu cyfleoedd i'r bobl sydd bellaf o gyflogaeth neu waith. Maent yn cefnogi neu wedi cefnogi cannoedd o fusnesau bach ledled Cymru. Fodd bynnag, er y byddai dim ond £2 filiwn o'r cannoedd o filiynau a ddarparwyd i Fanc Datblygu Cymru yn golygu y gallent barhau i fenthyca am chwe blynedd a chreu mwy na 1,500 o swyddi a 1,300 o fusnesau, maent yn dweud bod y cyllid hwnnw'n cau’r grŵp cleientiaid y maent yn gweithio gydag ef allan yn gyfan gwbl. Pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gennych felly i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer yr egin entrepreneuriaid dewr hyn, sydd fel arall wedi'u clymu yn y man cychwyn, ac fel y dywed Purple Shoots, 'Mae hi mor rhwystredig oherwydd rydym wedi gweld dewrder, gwytnwch a syniadau entrepreneuraidd mor anhygoel gan ein cleientiaid; maent wedi dal ati yn wyneb caledi anhygoel, a llawer ohonynt heb unrhyw gymorth o gwbl, ar wahân i ohirio ad-daliadau dros dro'?
Wel, heb wybod mwy am Purple Shoots na’r hyn rydych wedi'i ddisgrifio, byddwn yn awgrymu mai llwybr posibl i’w ystyried fyddai cronfa buddsoddi hyblyg Cymru, sydd wedi'i chynllunio i fuddsoddi a chynhyrchu arian newydd, gan gynnwys buddsoddiadau mewn cyllid a gwasanaethau proffesiynol. Ac mae'r gronfa honno wedi'i hymestyn yn ei gwerth i £0.5 biliwn, gyda chwistrelliad pellach o £270 miliwn, gan alluogi'r gronfa i gynnal buddsoddiad dros y 10 mlynedd nesaf. Felly, yn y lle cyntaf, byddwn yn awgrymu y dylai Purple Shoots archwilio hynny. Fodd bynnag, pe baech yn rhannu manylion cyswllt y sefydliad gyda mi, byddwn yn fwy na pharod i ofyn i gynrychiolydd o Busnes Cymru archwilio eu hanghenion yn fwy manwl.
Mae cwestiwn 5 [OQ56452] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 6, Paul Davies.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 yn sir Benfro? OQ56433
Gwnaf. Ein blaenoriaethau yw darparu sicrwydd ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, helpu i ailadeiladu economi fwy gwyrdd a gwneud newidiadau i sicrhau Cymru decach a mwy cyfartal. Mae hyn yn cynnwys setliad uwch o £179.4 miliwn i Gyngor Sir Penfro a £48.7 miliwn tuag at adeilad ysgol uwchradd newydd i ddisgyblion 11 i 19 oed ysgol uwchradd Hwlffordd.
Diolch am yr ymateb hwnnw. Nawr, Weinidog, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ei hadnoddau i gynnal bywydau a bywoliaeth pobl yn ystod y pandemig COVID. Rwyf wedi derbyn sylwadau gan fusnesau lleol ac unigolion yn Sir Benfro sydd wedi llithro drwy'r rhwyd o ran cael mynediad at gymorth y Llywodraeth, er gwaethaf, wrth gwrs, yr arian rydych newydd ddweud eich bod wedi'i ddyrannu i Sir Benfro. Mae'n hanfodol fod cronfeydd a ddynodwyd i gefnogi ein busnesau yn cyrraedd y busnesau hynny sydd angen cymorth mewn gwirionedd. Felly, Weinidog, pa brosesau rydych wedi'u rhoi ar waith yn eich rôl fel Gweinidog cyllid i fonitro effeithiolrwydd gwariant y Llywodraeth yn ystod y pandemig, a pha sicrwydd y gallwch ei gynnig i bobl Sir Benfro fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei chymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen mewn gwirionedd?
Sefydlodd Llywodraeth Cymru rai prosesau gwerthuso ffurfiol, yn enwedig y cymorth grant ardrethi annomestig, i sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd y busnesau y bwriadwyd iddo eu cyrraedd, ac rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau bod y pwyntiau monitro a gwerthuso hynny’n cael eu hymgorffori yn ein prosiectau. Ers dechrau'r pandemig, mae busnesau yn Sir Benfro wedi derbyn dros £91 miliwn o'r gronfa cadernid economaidd, a'n cronfeydd eraill sy'n seiliedig ar gyfyngiadau. Felly, er enghraifft, mae ein cronfa ddiweddaraf sy'n seiliedig ar gyfyngiadau wedi darparu 4,380 o grantiau i fusnesau yn Sir Benfro sy'n werth £14.1 miliwn. Rydym hefyd wedi darparu £10.1 miliwn o gefnogaeth i 628 o fusnesau o dan gamau 1 a 2 y gronfa cadernid economaidd, ac mae hynny wedi diogelu 4,585 o swyddi yn Sir Benfro yn unig, sy'n gyflawniad aruthrol yn fy marn i mewn cyfnod anodd iawn. Ac wrth gwrs, drwy'r cynllun benthyciadau, drwy Fanc Datblygu Cymru, rydym wedi darparu dros £5.4 miliwn i 80 o fusnesau yn Sir Benfro, gan helpu i ddiogelu 915 o swyddi eraill. Felly, yn sicr, mae arian sylweddol yn mynd i Sir Benfro, ond unwaith eto, bydd yna fusnesau nad ydym wedi gallu eu cyrraedd eto, ac mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn deall ble mae'r bylchau yn y ddarpariaeth. Os oes gwybodaeth bellach y gallwch ei rhannu â mi am fusnesau penodol, byddwn yn awyddus iawn i’w chael.
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa lefelu? OQ56458
Yr wythnos diwethaf, cyfarfu cyd-Weinidogion a minnau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol lle gwnaethant ailadrodd eu bwriad i weithredu cronfa gystadleuol o San Steffan, yn groes i’r hyn a gyhoeddwyd yn yr adolygiad o wariant ym mis Tachwedd.
Onid yw’n rhyfeddol? Mae’r gronfa codi’r gwastad yn sarhad uniongyrchol i setliad datganoli Cymru, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, ac mae'n mynd heibio i'n sefydliadau democrataidd. Nid yn unig y mae'r Senedd wedi'i heithrio o benderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud yn Whitehall, ond mae'r gronfa'n clymu llwyddiant prosiectau cymunedol â sylwadau a wnaed gan Aelodau Seneddol yn San Steffan, hyd yn oed wrth i Lywodraeth y DU dorri un rhan o bump oddi ar nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru. Does bosibl na ddylid gwneud penderfyniadau i Gymru yng Nghymru. Felly, o gofio y bydd Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Lloegr yn goruchwylio'r cynllun, pa sicrwydd a gawsoch y byddant yn gallu asesu cynigion Cymru yn gywir, o ystyried eu diffyg arbenigedd llwyr mewn meysydd datganoledig?
Wel, nid oes gennyf hyder o gwbl y bydd yr adran Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth y DU yn gwneud gwaith da o hyn. Rwy'n ffurfio'r farn honno oherwydd eu hanes yn y gorffennol. Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Llywodraeth y DU wedi rhyddhau ei adroddiad ar y gronfa drefi yn Lloegr ac maent wedi canfod diffyg tryloywder a chyhuddiadau o ragfarn wleidyddol yn y broses ddethol, diffyg ymgysylltiad cyson a thryloyw â rhanddeiliaid, diffyg capasiti ar lefel leol i weithredu'r cynigion hynny’n effeithiol ynghyd a risg bosibl i enw da'r gwasanaeth sifil am fod yn onest ac yn ddiduedd. O dan unrhyw Lywodraeth arall, byddai hynny'n gwbl ysgytwol, ond mae'n ymddangos bod hyn yn ymddygiad arferol a derbyniol. Felly, nid oes gennyf ffydd y bydd Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni dros Gymru.
Rydym newydd weld meini prawf y gronfa codi’r gwastad ac mae gennym bryderon gwirioneddol ynglŷn â'r methodolegau dethol ar gyfer y gronfa. Mae'r dewis o ddangosyddion yn hepgor pethau sy'n bwysig i ni yma yng Nghymru. Felly, nid ydynt yn edrych ar fynegeion amddifadedd er enghraifft, ac nid oes ganddynt ddiddordeb mewn edrych ar ddata trafnidiaeth. Bydd yr holl bethau hynny'n rhoi Cymru o dan anfantais pan fyddwn yn cael ein cymharu â rhanbarthau eraill mewn perthynas â'r cynigion sy'n cael eu gwneud i'r gronfa honno. Felly, y cyfan sydd gennym ar hyn o bryd, yn anffodus, yw rhesymau dros bryderu, yn hytrach na rhesymau dros fod yn optimistaidd.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2021 ac effaith debygol ei symiau canlyniadol Barnett ar etholaeth Caerffili? OQ56459
Er bod y refeniw ychwanegol o £735 miliwn i'w groesawu, mae'r mwyafrif yn gyllid COVID sy'n gyfyngedig o ran amser ac nid yw'n gwneud iawn am ddegawd o gyni. Mewn cyferbyniad llwyr â'r hwb cyfalaf o £224.5 miliwn a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, ac a fydd o fudd i bob rhan o Gymru gan gynnwys Caerffili, methodd Llywodraeth y DU ddarparu unrhyw gyfalaf ychwanegol.
Mae un ymholiad rwyf wedi'i gael yn ymwneud â'r grantiau ailgychwyn a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ei chyllideb ddiweddar, gan fod busnesau'n awyddus i wybod a fyddant yn berthnasol yng Nghymru neu a fydd rhywbeth tebyg yn cael ei gyflwyno. Hefyd, mae'r busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid a lletygarwch, nad ydynt yn gallu masnachu o hyd ond na allant hawlio'r cymorth grant ychwanegol sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan nad oes ganddynt eu safle eu hunain hefyd yn awyddus i wybod a fydd unrhyw grantiau dewisol pellach yn cael eu cyhoeddi. Rwyf wedi cael sawl un yn cysylltu â mi ynglŷn â hynny yn yr awr neu ddwy ddiwethaf. Felly, a wnaiff y Gweinidog drafod hyn gyda'i chyd-Aelod, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth, ond sicrhau hefyd fod mynediad gan y busnesau hynny at bob darn o gymorth busnes sydd ar gael, ac yn enwedig busnesau nad ydynt yn talu ardrethi annomestig?
Byddaf yn bendant yn cael trafodaethau pellach gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth. Gallaf ddweud ein bod eisoes wedi clustnodi £200 miliwn o gyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer busnesau yma yng Nghymru. Rydym yn dal i gael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU oherwydd, o ran y grant ailgychwyn, y cyfan y maent wedi'i gyhoeddi hyd yma yw'r ffaith y bydd hynny yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac maent wedi cyhoeddi enw'r cynllun. Mewn gwirionedd, nid ydym yn gwybod am unrhyw fanylion ar wahân i hynny, felly mae'n anodd iawn i fusnesau yng Nghymru wneud y gymhariaeth honno ar hyn o bryd, fel y gwn y byddent eisiau ei wneud. Ond o'n rhan ni, rydym yn ymrwymo'n llwyr i barhau i gefnogi busnesau drwy'r cyfnod anodd hwn, ar ôl clustnodi, fel y dywedais, £200 miliwn eisoes ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ac edrychwn ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau Llywodraeth y DU i ystyried y pecynnau cymorth sydd ar gael yno. Ond fel y dywedais, byddaf yn cael trafodaethau pellach gyda fy nghyd-Aelod Ken Skates er mwyn sicrhau ein bod yn gadael mewn sefyllfa dda ar ddiwedd y tymor hwn o ran rhoi'r hyder y maent ei angen i fusnesau.
9. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i godi mewn refeniw ers 2016 drwy ardrethi annomestig? OQ56445
Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2020, casglwyd £4.2 biliwn mewn refeniw ardrethi annomestig. Dros yr un cyfnod, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £900 miliwn ar gyfer cynlluniau rhyddhad ardrethi. Dosberthir yr holl refeniw o ardrethi annomestig yng Nghymru i awdurdodau lleol i ariannu gwasanaethau lleol yng Nghymru.
Diolch am yr atebion hynny, Weinidog. Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru, mae'r diwydiant wedi bod yn colli £100 miliwn mewn refeniw bob wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi na allwn danbrisio difrifoldeb y caledi economaidd y mae hyn wedi'i achosi i fusnesau bach—pobl sydd wedi treulio oes yn adeiladu eu mentrau, yn cyflogi staff lleol ac yn chwarae rhan fawr mewn cadwyni cyflenwi lleol. O ran adeiladu'n ôl yn well a sicrhau adferiad economaidd cryf, a wnewch chi edrych ar y sefyllfa ardrethi annomestig yn ei chyfanrwydd ac ystyried yn benodol a allech ddileu'r ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, gan dynnu'r baich hwnnw oddi ar ysgwyddau rhai o'r busnesau lleiaf yn ein heconomi, a rhoi mwy o arian iddynt fuddsoddi yn y dyfodol, buddsoddi mewn staff a helpu'r broses o adeiladu'n ôl yn well?
Diolch ichi am godi'r mater hwnnw. Credaf fod sawl peth pwysig yno, gan gynnwys ein hymateb uniongyrchol o ran ardrethi annomestig. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi rhewi'r lluosydd ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs mae hynny'n rhoi hwb i fusnesau bach. Hefyd, wrth gwrs, rwyf wedi darparu'r rhyddhad ardrethi o 100 y cant i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae'r cymorth hwnnw ynddo'i hun yn darparu dros £360 miliwn o ryddhad i drethdalwyr ledled Cymru. Wrth gwrs, rydym wedi eithrio'r archfarchnadoedd mawr, oherwydd mae'n amlwg nad oes angen y math hwnnw o gymorth arnynt hwy ar yr adeg hon. Mae gennym becyn parhaol o ryddhad ardrethi o dros £239 miliwn y flwyddyn ac mae dros ei hanner yn mynd tuag at y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, gan ostwng biliau i sero ar gyfer trethdalwyr mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000, ac ar sail tapr wedyn hyd at £12,000. Mae hwnnw'n becyn hael ac mae canran fawr o fusnesau'n elwa ohono drwy beidio â gorfod talu unrhyw ardrethi o gwbl. Ond fel roeddwn yn ei ddisgrifio yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth yn gynharach y prynhawn yma, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni cyfres bwysig o fentrau ymchwil ac wedi comisiynu ymchwil i sicrhau bod gennym yr wybodaeth rydym ei hangen i feddwl o ddifrif am ddyfodol cyllid lleol. Rydym yn edrych ar ardrethi annomestig a'r dreth gyngor a sut y dylai'r rheini fod yn y dyfodol er mwyn sicrhau, wrth inni symud ymlaen, fod y system mor flaengar â phosibl a sicrhau ei bod yn parhau, wrth gwrs, i ddod â chyllid i mewn i Lywodraeth Cymru ddarparu gwasanaethau lleol, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n flaengar ac yn deg.
10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i bolisi trethiant Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yn sgil pandemig COVID-19? OQ56462
Rydym wedi cymryd cyfres o fesurau treth i gefnogi busnesau yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn. Mae'r rhain wedi cynnwys darparu rhyddhad ardrethi annomestig, rhewi'r lluosydd ardrethi annomestig a chodi'r trothwy lle daw trafodiadau eiddo amhreswyl yn ddarostyngedig i dreth trafodiadau tir.
Diolch, Weinidog. Nododd Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb derfynol y bydd yn neilltuo £200 miliwn arall i fusnesau o'i chronfeydd wrth gefn ei hun. Unwaith eto, mae hyn yn ychwanegol at y gwariant ychwanegol blaenorol ar gyfer Cymru'n unig a wnaed o'i chyllideb ei hun, ac mae'n gadarnhad pellach mai Cymru sy'n darparu'r pecyn gorau o gymorth busnes yn y DU gyfan. Pa sylwadau felly y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i'r Canghellor Torïaidd yn San Steffan i alluogi Llywodraeth Cymru i gael hyblygrwydd i barhau i gefnogi busnesau Cymru yn y dyfodol?
Rydym wedi bod yn cyflwyno dadleuon i Lywodraeth y DU ar hyblygrwydd pellach i Lywodraeth Cymru ers peth amser, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Rhianon Passmore i'r gwaith y buom yn ei wneud yn y maes hwnnw. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae gan ei chyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb arbennig yn ei gefnogi hefyd. Credaf fod eleni wedi ein dysgu bod hyblygrwydd ariannol mor bwysig, o ran gallu targedu ein hadnoddau'n effeithiol, ond hefyd er mwyn rheoli ein sefyllfa canol blwyddyn mewn blwyddyn sydd wedi gweld cymaint o newid. Credaf ei bod yn bwysig fod gan Lywodraeth Cymru fynediad llawn at ei chronfa wrth gefn yn y dyfodol. Mae'n gronfa fach mewn sawl ffordd, ond byddai cael mwy o hyblygrwydd i gael mynediad at fwy ohoni'n ddefnyddiol i Lywodraeth yn y dyfodol yn fy marn i, yn ogystal â'r gallu i fenthyca mwy mewn un flwyddyn a benthyca mwy yn ei grynswth. Bydd hynny'n bwysig, yn enwedig yn awr, o ystyried y setliad cyfalaf gwael iawn a gawsom gan Lywodraeth y DU a bwriad Llywodraeth y DU hefyd i fynd heibio i Lywodraeth Cymru yn awr o ran gwariant cyfalaf drwy'r gronfa codi'r gwastad.
11. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fonitro'r asesiadau a gynhelir gan gyd-Weinidogion wrth ddyrannu gwariant o fewn eu portffolios? OQ56442
Mae pob Gweinidog yn gyfrifol am ystyried amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys asesiadau effaith ac ystyriaethau gwerth am arian, wrth bennu cynlluniau gwariant manwl. Caiff y cynlluniau hyn eu monitro drwy gydol y flwyddyn fel rhan o'n proses adrodd yn ystod y flwyddyn.
Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i fonitro'r gwariant gan Weinidogion unigol pan fyddwch yn edrych ar sectorau penodol rydych eisiau eu datblygu yng Nghymru. Er enghraifft, pe bai Cymru'n penderfynu ceisio dod yn uwch bŵer mewn gwyddoniaeth, a chredaf y dylem anelu at hynny, a phe baech eisiau buddsoddi llawer mwy mewn ymchwil a datblygu, ar gefnogi ein canolfannau ymchwil ac arloesi ffyniannus yn ein prifysgolion ac yn ein sefydliadau meddygol, sut y byddech wedyn yn dod â hynny'n ôl at yr egwyddor honno drwy sicrhau bod Gweinidogion a allai fod yn rhan o hynny—e.e. iechyd, addysg—yn darparu'r symiau cywir o arian i helpu i gefnogi'r nod llywodraethol hwnnw?
Rydym yn gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, sy'n aml yn cael eu hategu gan yr is-bwyllgorau gweinidogol rydym wedi'u sefydlu. Felly, mae rhai ohonynt yn is-bwyllgorau Cabinet ffurfiol ac mae eraill yn bwyllgorau nad ydynt wedi cael eu creu'n ffurfiol drwy'r Cabinet, ond sydd serch hynny'n gweithredu mewn ffordd bwysig. Un enghraifft fyddai'r gwaith rydym yn ei wneud yn y grŵp rhyng-weinidogol sy'n edrych ar y maes digidol a data—mae honno'n amlwg yn agenda draws-Lywodraethol, ac mae'n bwysig fod pob Gweinidog yn cyflwyno'r hyn sydd ei angen arnynt i ddatblygu hynny, er mwyn sicrhau bod Cymru'n rhoi ei hun ar y map fel cyrchfan ar gyfer sgiliau digidol, a hefyd i ddefnyddio'r holl fuddsoddiad rydym yn ei roi i'r maes digidol mewn ffordd sy'n trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus. Felly, credaf fod y strwythurau sydd gennym ar waith yn bwysig iawn, ac o safbwynt ariannol mae'n caniatáu imi sicrhau ein bod yn creu'r cyfleoedd ariannu cywir.
O fewn y maes digidol, rydym wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i gyfuno cyllidebau o wahanol rannau o'r Llywodraeth er mwyn sicrhau bod pob Gweinidog yn gweithio i gyflawni'r agenda bwysig honno. Mae gennym waith tebyg yn mynd rhagddo yn awr yn yr adran tir a ddatblygwyd yn ddiweddar—dywedaf 'yn ddiweddar'; mae'n flwyddyn bellach. Felly, mae hwnnw'n rhywbeth rwy'n ei gadeirio, ond mae'n edrych ar yr holl dir a ddelir gan Weinidogion mewn gwahanol bortffolios ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf arno at y dibenion a rennir gennym. Mae gennym ffocws arbennig o gryf ar hyn o bryd ar ryddhau tir ar gyfer tai cymdeithasol, felly rydym yn edrych yn benodol ar dir yn adran yr economi, pa dir yno sy'n addas ar gyfer tai cymdeithasol, a sut y gallwn fynd ati i ryddhau'r tir hwnnw ac adeiladu arno.
Felly, mae yna ffyrdd rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth mewn nifer o feysydd. Dyna ddau faes, byddai datgarboneiddio yn un arall, ac mae'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws y Llywodraeth ar gymorth i ynni adnewyddadwy hefyd yn rhywbeth sy'n elwa'n wirioneddol o'r strwythur rydym wedi'i roi ar waith i alluogi'r trafodaethau traws-weinidogol hynny, yn ogystal â gwaith ar y cyd mewn perthynas â'r gyllideb.
12. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i iechyd meddwl wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd meddwl, llesiant a'r Gymraeg? OQ56461
Yn ystod y pandemig, rydym wedi buddsoddi £9.9 miliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Gan adeiladu ar hyn, rydym yn buddsoddi £42 miliwn ychwanegol mewn iechyd meddwl y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm ein gwariant ar iechyd meddwl yn 2021-22 yn fwy na £780 miliwn.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, yn ystod y pandemig a chyn hynny, gwyddom fod gwasanaethau iechyd meddwl dan bwysau a'u bod yn aml wedi cael eu hystyried yn wasanaethau sinderela yn y gorffennol, ond gwn fod elfennau o hynny wedi newid, fel rydych wedi dangos yn eich ateb imi heddiw. Ond rwyf wedi gwneud llawer gydag anhwylderau bwyta dros y blynyddoedd, ac yn amlwg bydd angen buddsoddiad sylweddol ar argymhellion yr adolygiad gwasanaeth, ac rwyf hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ar iechyd meddwl mamau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd angen buddsoddiad sylweddol ar rai o'r newidiadau yno. Beth y byddech yn ei ddweud wrth Lywodraeth yn y dyfodol ynglŷn â dyrannu arian ar gyfer y meysydd datblygu pwysig hyn?
Yn ein trafodaethau pan oeddem yn datblygu'r gyllideb ar gyfer 2021-22, roeddem yn glir iawn yn gynnar iawn fod yn rhaid i iechyd barhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru o ran ein buddsoddiad, a dyna pam ein bod wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer y gyllideb iechyd graidd yn y flwyddyn ariannol nesaf. Nawr, mae'n amlwg y bydd cyfleoedd i Weinidog yn y dyfodol ystyried blaenoriaethu mewn meysydd fel y rhai rydych wedi'u disgrifio. Rwyf wedi bod yn glir iawn ac yn ofalus iawn i sicrhau bod ein cyllid craidd i'r GIG yn gallu gwneud ei waith o ddydd i ddydd, a'i fod ar wahân i'n cyllid ychwanegol ar gyfer yr ymateb i COVID. Mae hynny er mwyn sicrhau nad yw pethau fel anhwylderau bwyta, sy'n rhannau pwysig o'n hymateb, yn cael eu colli yn ein hymateb i COVID, sy'n amlwg ar feddyliau llawer o bobl ar hyn o bryd. Felly, mae'n bwysig fod Llywodraeth yn y dyfodol yn cael yr eglurder hwnnw rhwng yr ymateb i COVID, a'r gwaith y mae'n rhaid i ni barhau i'w wneud. Mae hynny'n berthnasol i'r gwaith ar anhwylderau bwyta, ond wrth gwrs mae'n berthnasol i ganser, diabetes a'r holl feysydd gwariant pwysig eraill hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Gwaith rhagorol—rydych wedi ateb eich holl gwestiynau yn eich sesiwn gwestiynau olaf yn y Senedd hon. Trown atoch chi yn awr, Weinidog Addysg—gadewch inni weld a allwch chi wneud cystal.
Cwestiynau, felly, i'r Gweinidog Addysg.
Y cwestiwn cyntaf, Jayne Bryant.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi llesiant meddyliol athrawon? OQ56460
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymorth ar gael i athrawon ledled Cymru yn ystod y pandemig hwn. Mae hyn yn cynnwys ariannu pecyn wedi'i deilwra o wasanaethau cymorth iechyd meddwl a llesiant i athrawon a staff cymorth, a darparu cyllid ychwanegol i gynyddu capasiti mewn ysgolion ledled Cymru.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r sector addysg wedi wynebu'r flwyddyn lle gwelwyd mwy o darfu arno na'r un flwyddyn arall yn ein hoes ni, a dro ar ôl tro bu'n ofynnol i athrawon ac uwch dimau arwain drawsnewid yn llwyr y modd y maent yn gweithredu: dysgu ar-lein, gwersi rhithwir, swigod grŵp blwyddyn, darpariaethau gweithwyr allweddol, graddio arholiadau, profi torfol, monitro llesiant ac addasu adeiladau. Maent wedi gwneud popeth y maent wedi'i wneud, ac maent wedi gwneud hynny a mwy ar ben eu hamgylchiadau personol. Mae rhai sydd wedi bod yn gwneud dosbarthiadau ar-lein hefyd wedi bod yn darparu addysg i'w plant eu hunain gartref. Mae'r gweithlu addysg wedi bod yn rhagorol, ond ni allwn anghofio'r effaith ar eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod athrawon a staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu swyddi dros y misoedd nesaf, a pha gymorth sydd ar gael iddynt i sicrhau bod eu llesiant meddyliol eu hunain yn cael blaenoriaeth?
Diolch, Jayne, am gydnabod ymdrech aruthrol y gweithlu addysg drwy gydol y pandemig. Maent wedi dangos arloesedd a chadernid gwirioneddol mewn cyfnod anodd, ac mae'n bwysig inni gydnabod bod angen inni eu cefnogi yn eu hiechyd meddwl a'u llesiant. Dyna pam ein bod wedi ymgysylltu â Cymorth Addysg, sefydliad elusennol sydd ag arbenigedd mewn cefnogi llesiant athrawon i gyflwyno rhaglen gymorth yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae hynny wedi cynnwys hwyluso cymorth rhwng cymheiriaid ar-lein i benaethiaid, cymorth un-i-un i benaethiaid a ddarperir gan gwnselwyr, sefydlu gwasanaeth ysgolion a llesiant pwrpasol, modiwlau dysgu ar-lein am ddim i'r staff eu hunain. Ac yn wir, heno, cynhelir gweminar ar-lein y mae dros 400 o staff addysg wedi cofrestru ar ei chyfer i baratoi ar gyfer sicrhau y gallant fwynhau eu gwyliau Pasg. Hoffwn ganmol gwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol hefyd sy'n cynnal sesiynau wythnosol sy'n caniatáu i grwpiau o ddau i dri phennaeth ddarparu cefnogaeth rhwng cymheiriaid, ac i drafod yr heriau y maent yn eu hwynebu mewn amgylchedd diogel.
Mae Jayne Bryant wedi nodi mater pwysig iawn. Weinidog, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd academyddion ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ganlyniadau arolwg ar y cyd. Buont yn siarad â thua 13,000 o bobl; roedd gan hanner y rheini rywfaint o broblemau iechyd meddwl, a dywedodd 20 y cant eu bod wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol i bobl iau a menywod ac wrth gwrs, mae'r ddau grŵp i'w gweld yn ein sector ysgolion cynradd lle mae nifer uwch o fenywod yn gweithio fel athrawon. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'r system addysg, gyda'r undebau llafur ynglŷn â ffyrdd y gellir mynd i'r afael â'r materion iechyd meddwl hyn yn y dyfodol? O ran recriwtio, a wnaed unrhyw asesiad o'r effaith bosibl ar recriwtio, oherwydd wrth inni ddod allan o'r pandemig, mae'n fy nharo i mai'r peth olaf rydym ei eisiau yw effaith negyddol ar recriwtio i'n hysgolion cynradd?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Nick. Mae fy swyddogion yn cael sgyrsiau wythnosol gyda'r undebau llafur i drafod ystod eang o faterion ac yn amlwg, mae llesiant staff ysgol a staff cymorth yn codi'n aml. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y gwasanaethau y mae'r elusen Cymorth Addysg wedi gallu eu rhoi ar waith eleni, a byddwn yn parhau i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r proffesiwn drwy gydol y pandemig, a'r cyfnod sy'n dilyn.
O ran recriwtio, yr hyn y gallaf ei ddweud, Nick, yw ein bod wedi gweld recriwtio cryf iawn eleni i'n rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon. Rwy'n credu bod y sbotolau sydd wedi bod ar bwysigrwydd addysg, a'r rôl hollbwysig y mae addysgwyr yn ei chwarae ym mywyd plant a phobl ifanc, ac yn cefnogi cymunedau yn wir, wedi ysbrydoli llawer iawn o bobl i feddwl am yrfa mewn addysgu, ac rwy'n falch iawn o weld hynny.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau cyfrwng Cymraeg i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru? OQ56437
Mae gan gyrff llywodraethu ran hanfodol i'w chwarae yn gwella perfformiad ysgolion. Mae awdurdodau lleol yn darparu cymorth uniongyrchol i lywodraethwyr drwy eu gwasanaethau cymorth i lywodraethwyr. O dan safonau'r Gymraeg, darperir yr holl wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn ddwyieithog. Mae awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i'r un ddyletswydd o dan y safonau.
Dwi'n lywodraethwr fan hyn yn Sir Ddinbych, ac fel sy'n ofynnol ac yn rhesymol, wrth gwrs, i mi wneud, fel pawb arall, mae angen DBS check bob hyn a hyn, i sicrhau fy mod i'n berson addas a chymwys i fod yn lywodraethwr. Nawr, mi ges i wahoddiad i wneud DBS check yn ddiweddar ar lein, ond os ydw i am wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n rhaid i fi ofyn am ffurflen bapur. Er fy mod i'n siaradwr Cymraeg, yn lywodraethwr ar ysgol gyfrwng Gymraeg â'r corff llywodraethol yn cynnal ei holl gyfarfodydd a'i gweinyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, mae'n rhaid i fi setlo am broses israddol. Nawr, mae yna wahaniaethu ar sawl ieithyddol yn fan hyn, a dwi'n deall hefyd bod ceisiadau ar lein fel arfer yn cymryd llai nag wythnos i'w prosesu, ond os ydw i'n gorfod gwneud cais ar bapur mae'n gallu cymryd o leiaf mis i chwe wythnos. Felly, ydych chi'n meddwl bod y math yma o wahaniaethu ar sail iaith yn dderbyniol, ac os nad ŷch chi, yna'r cwestiwn i fi, wrth gwrs, yw beth ŷch chi a'r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn ceisio cywiro hynny?
Wel, yn gyntaf, Llyr, a gaf fi ddiolch i chi am wasanaethu fel llywodraethwr? Maent yn rolau pwysig a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg i feddwl sut y gallant helpu ein plant a'n pobl ifanc drwy wneud yr hyn a wnewch chi a gwasanaethu yn rôl llywodraethwr. Yn amlwg, nid yw'r sefyllfa rydych newydd ei disgrifio yn dderbyniol. Rwy'n ddiolchgar i chi am dynnu fy sylw at y mater, a byddaf yn ei godi gyda'r awdurdodau angenrheidiol i sicrhau bod cydraddoldeb yn y gwasanaeth a gynigir i bobl sydd wedi rhoi amser ac ymdrech i gynnig eu hunain ar gyfer y rôl bwysig hon. Diolch yn fawr.
Weinidog, rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi bod yn rhoi diolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser a'u sgiliau i fod yn llywodraethwyr yn ein hysgolion, ac mae eu swyddi ar fin dod yn fwy beichus o dan y cwricwlwm newydd, a hyd yn oed yn fwy tebyg i roles ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr anweithredol elusennau neu fusnesau. Yn sicr, bydd yn rhaid i'w perthynas gyda chymunedau lleol ddod yn fwy agored hefyd oherwydd y cwricwlwm. Sut ydych chi'n sicrhau y bydd llywodraethwyr yn cael yr holl hyfforddiant sydd ei angen arnynt, a pha fesurau ydych chi'n eu cynnig i helpu dysgwyr a'u teuluoedd i ddwyn llywodraethwyr i gyfrif?
Wel, diolch am hynny, Suzy. A gaf fi eich sicrhau bod yr hyfforddiant hwnnw eisoes yn cael ei ddarparu? Er enghraifft, hyd yn oed ynghanol y pandemig, mae GwE, ein gwasanaeth cymorth rhanbarthol yng ngogledd Cymru, eisoes yn darparu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant i lywodraethwyr cyn diwygio nid yn unig y cwricwlwm, ond anghenion dysgu ychwanegol hefyd, ac mae honno'n rhaglen waith sy'n cael ei hailadrodd ledled Cymru. Mae'n hollbwysig fod gan lywodraethwyr y sgiliau angenrheidiol i ddarparu'r her gefnogol honno i benaethiaid ac i allu chwarae rhan lawn wrth ddatblygu cwricwla newydd yn eu hysgolion. Rydych yn iawn; mae hyn yn rhoi cyfle newydd inni allu esbonio i rieni wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd y rôl bwysig a fydd gan lywodraethwyr a sut y gall rhieni eu hunain ddylanwadu ar y broses honno, ac yn wir annog rhieni eraill i ymgymryd â rolau llywodraethwyr, nid yn unig yn y slot a gedwir ar gyfer rhieni, ond gan edrych ar ffyrdd y gallant hwythau hefyd gyfrannu mewn gwirionedd, naill ai yn ysgol eu plant eu hunain neu mewn ysgolion eraill yn eu hardal.
Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, a'r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Wel, dyma ni, Weinidog—ein sesiwn lefarwyr ddiwethaf gyda'n gilydd. Ddirprwy Lywydd, gobeithio y cawn gyfle—. Rwy'n credu y byddaf yn cael cyfle i ddiolch i Aelodau eraill yn y portffolio hwn yr wythnos nesaf, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn caniatáu imi ddweud ychydig eiriau wrth y Gweinidog ar y diwedd pan ddof at fy nhrydydd cwestiwn.
Ond rwyf am ddechrau drwy ofyn ynglŷn â hyn, sef bod Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cadarnhau bod cofrestriadau gyda hwy wedi gostwng 1,000 ers y llynedd. Mae athrawon cyflenwi wedi cysylltu â llawer o'r Aelodau i ddweud pa mor anodd y bu iddynt ddod o hyd i waith eleni, ac eto mae'n debyg bod eich rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau wedi dod o hyd i 1,800 o aelodau staff newydd i helpu i gyflawni ei bwriad. Mae hynny'n ddwywaith cymaint â'r nifer y gwnaethoch gyllidebu ar eu cyfer, ac yn arbennig o drawiadol o ystyried mai dim ond £17 miliwn rydych chi wedi'i wario eleni o'r £20 miliwn a glustnodwyd gennych ar gyfer hyn. Os yw nifer y staff cofrestredig wedi gostwng, pwy yw'r 1,800 aelod newydd o staff, a sut y gallwch eu fforddio am £17 miliwn? Pam mai dim ond yn ystod y 10 diwrnod diwethaf y llwyddoch chi i wrthdroi'r sefyllfa o ddarparu dim ond hanner yr arian dal i fyny i ddisgyblion Cymru y mae eu cyfoedion mewn rhannau eraill o'r DU wedi elwa arno drwy gydol y flwyddyn?
Wel, Ddirprwy Lywydd, ceisiodd yr Aelod gymell ymdeimlad ffug o ddiogelwch, rwy'n credu, cyn gofyn y cwestiwn hwnnw. Pe bai gennyf unrhyw obeithion y byddai'n fy arbed yn y sesiwn olaf hon, maent wedi cael eu chwalu'n greulon gan y cwestiwn hwnnw. A gaf fi ddweud bod llwyddiant y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau'n rhywbeth i'w ddathlu? Credaf ei bod yn deg dweud ein bod wedi rhagweld i ddechrau y byddai mwy o athrawon cymwysedig yn cael eu recriwtio o dan y system, ond mewn gwirionedd, mae ysgolion wedi cael rhyddid i recriwtio gweithwyr proffesiynol fel y gwelant orau, ac mae llawer o ysgolion wedi penderfynu recriwtio staff cymorth addysgu yn hytrach na staff statws athro cymwysedig. Mae rhai ysgolion wedi defnyddio'r adnodd i wrthbwyso diswyddiadau a oedd wedi'u cynllunio ac a oedd yn mynd drwy'r system, ac maent wedi gallu cadw staff ychwanegol a fyddai wedi'u colli. Mewn rhai ysgolion, maent wedi gallu cynyddu oriau unigolion. Felly, efallai fod yr ysgol wedi teimlo ei bod yn briodol, yn achos rhywun a oedd wedi'i gyflogi ar gontract rhan-amser, oherwydd eu bod yn gyfarwydd â'r ysgol—yn hytrach na dod ag aelodau ychwanegol o staff i mewn, roeddent yn hapus i gynyddu oriau aelodau staff rhan-amser. Felly, mae'r rhaglen wedi cael ei defnyddio mewn nifer o ffyrdd. Mae rhai ysgolion wedi edrych y tu hwnt i rolau staffio traddodiadol, ac er enghraifft, wedi recriwtio mentoriaid gweithwyr ieuenctid a rhai sy'n fedrus ym maes llesiant plant ac iechyd meddwl. Ar gyllid ychwanegol, rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu sicrhau arian ychwanegol i gefnogi'r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau. A byddwn yn dweud wrth yr Aelod fod y cronfeydd rydym wedi gallu eu sicrhau yn mynd y tu hwnt i'r swm canlyniadol Barnett y gwelodd ei chymheiriaid yn San Steffan yn dda i'w roi i ni.
Diolch am yr ateb hwnnw. Felly, yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw 1,800 o rai cyfwerth ag athrawon, yn hytrach nag aelodau newydd o staff. Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad. Ond nid oes amheuaeth o gwbl o hyd fod angen mwy o athrawon arnom, ac felly roeddwn yn falch o'i gael wedi'i gadarnhau y bydd athrawon o unrhyw le yn y byd yn cael gwneud cais i addysgu yng Nghymru yn awr. Bydd angen cymorth penodol ar athrawon newydd gymhwyso—rwy'n gwybod y byddwn yn cael rhai newydd, ond bydd angen cymorth newydd arnynt, wrth gwrs, oherwydd profiad ystafell ddosbarth cyfyngedig, a bydd angen i bob athro ddod o hyd i amser i gaffael gwybodaeth a sgiliau ar gyfer cynllunio ac addysgu'r cwricwlwm newydd. Nid oes yr un o'r targedau ANG, ar wahân i addysg gorfforol, rwy'n credu, wedi'u cyrraedd, ac ni chânt eu cyrraedd, er gwaethaf y diddordeb newydd a ddangoswyd mewn gyrfaoedd addysgu yn ystod COVID y cyfeirioch chi ato'n gynharach. A ydych yn credu efallai mai'r rheswm am hynny yw oherwydd bod y radd, neu'r radd ynghyd â TAR, ac opsiwn y llwybr Meistr i addysgu bellach wrth gwrs, yn gwthio talent allan, am fod y broses yn rhy hir ac yn rhy ddrud, ac efallai'n dal i roi pwyslais ar theori yn hytrach na phrofiad bywyd i ryw raddau? Ac er gwaethaf y prinder rydym newydd fod yn siarad amdano, rhan o bryder ymgeiswyr posibl yw na fydd gan ysgolion ddigon o arian i'w cyflogi a'u talu'n briodol?
Wel, Suzy, rwy'n ddiolchgar am eich cydnabyddiaeth fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno is-ddeddfwriaeth newydd sy'n caniatáu i athrawon o bob cwr o'r byd ddechrau proses, gyda'n Cyngor Gweithlu Addysg, i gael eu hachredu i addysgu yn y wlad hon. Rwy'n credu bod yr ymgeiswyr cyntaf eisoes wedi dechrau'r broses, gan gynnwys darpar athro mathemateg newydd a oedd wedi cymhwyso yn yr Unol Daleithiau, sy'n awyddus iawn i ymgymryd â rôl yma yn un o'n hysgolion uwchradd yn y brifddinas.
Mewn perthynas ag addysg gychwynnol i athrawon, rydym wedi ei diwygio i sicrhau ei bod yn rhoi'r dechrau gorau posibl i'n hathrawon mewn gyrfa broffesiynol. Ac rydym wedi cydnabod efallai fod y llwybrau mwy traddodiadol yn methu denu'r bobl a oedd â rhywbeth gwerthfawr iawn i'w gynnig i'n plant a'n pobl ifanc ond nad oedd y llwybrau traddodiadol yn briodol iddynt. A dyna pam ein bod wedi gweithio gyda'n partneriaid yn y Brifysgol Agored, er enghraifft, i ddatblygu llwybr dysgu o bell rhan-amser i statws athro cymwysedig. Mae hynny'n ei gwneud yn llawer haws, yn enwedig yn yr ardaloedd o Gymru lle rydych chi a fi'n byw, lle mae cael mynediad at brifysgol ar sail amser llawn yn heriol iawn mewn gwirionedd. Ac rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi gweld recriwtio da a chryf i'r llwybr dysgu o bell rhan-amser sydd bellach yn cael ei gynnig gan y Brifysgol Agored.
Diolch. Ydw, rwy'n eithaf hoff o'r llwybr hwnnw gan y Brifysgol Agored hefyd, fel rwy'n hoff o'r llwybr addysgu prentisiaethau; credaf fod llawer o ffyrdd yma, gwahanol lwybrau at ragoriaeth, y dylai'r Llywodraeth nesaf eu harchwilio, ac rwy'n gobeithio mai un Geidwadol fydd hi wrth gwrs.
Kirsty, pan gyfarfuom yn 2007, byddwn yn synnu pe bai'r naill neu'r llall ohonom yn meddwl y byddem yn gwneud hyn heddiw, er fy mod yn amau efallai eich bod bob amser wedi gobeithio y byddech yn cael cyfle i fod yn Weinidog addysg, oherwydd mae'n amlwg i bawb, hyd yn oed y rhai a allai fod yn anghytuno â chi—a fy mhlaid i'n llai aml nag y byddai'r cyhoedd yn ei ddychmygu o bosibl—fod cyfleoedd bywyd ein pobl ifanc yn wirioneddol bwysig i chi, a bod angen i addysg hygyrch, addysg holl ddinasyddion Cymru, ond yn enwedig plant a phobl ifanc, fod yn addysg y gallant ei chyrraedd a dal gafael ynddi eu hunain a chreu eu hunain drwyddi, ar y sail, wrth gwrs, os gallwch drawsnewid un plentyn, y gallwch drawsnewid y byd yn grwn.
Ond ar ôl i mi ymosod ar eich tiriogaeth yn gynnar yn ôl yn 2007, nid oeddwn yn siŵr pa dderbyniad a gawn pan gefais rôl llefarydd yr wrthblaid, ond yr hyn a welais oedd rhywun sydd â nodau, sy'n cael ei gyrru gan werthoedd, sy'n gwybod ei phethau, ac yn fwyaf o syndod na dim i bawb ohonom, rhywun sy'n agored i wrando ar farn pobl eraill. Ac felly roedd yn ddrwg gennyf na allwn ymuno â chi ar gyfer Cyfnod 4 y Bil cwricwlwm yr wythnos diwethaf i ddweud diolch am newidiadau penodol i'r Bil hwnnw, ond roeddwn hefyd am ddiolch i chi am y parch a ddangoswch tuag at y broses graffu yn gyffredinol, a'ch dealltwriaeth ohoni, eich parodrwydd i weithredu ar argymhellion pwyllgorau, heb geisio osgoi gormod o gwestiynau, a gweld craffu am yr hyn ydyw. Rwy'n credu bod hynny wedi creu argraff fawr iawn, oherwydd nid oes a wnelo craffu â diogelu brand y blaid yn wyneb cwestiynau anghyfleus; mae'n ymwneud â chydnabod bod y Senedd yn cynrychioli'r bobl, a'r Senedd sy'n deddfu ar eu cyfer. Ac felly rwy'n eich parchu am hynny. Ond mae'n fy ngadael gyda fy nghwestiwn olaf fel llefarydd, cwestiwn braidd yn ofnadwy er hynny, Kirsty: a yw cyfnod yn yr wrthblaid yn gwneud pobl yn Weinidogion gwell?
Wel, Suzy, a gaf fi ddweud diolch yn fawr am eich geiriau caredig, a diolch ichi am faddau i mi? Cofiaf gyfarfod cyhoeddus penodol yn Neuadd y Strand yn Llanfair-ym-Muallt—er mai iechyd oedd y pwnc y diwrnod hwnnw—pan gredaf fy mod wedi bod yn arbennig o gas, nid y byddai neb yn y Siambr byth yn fy nghofio'n bod yn gas neu'n finiog neu'n anodd gyda phobl, ond—. Felly, diolch ichi am hynny.
Rydych chi'n iawn; fy swydd ddelfrydol oedd dod yn Weinidog addysg, ac rwy'n tybio bod hynny'n syndod annisgwyl i bawb, gan gynnwys i mi fy hun. Mae wedi bod yn bleser dros y pum mlynedd diwethaf. Ac mae'n ddrwg gennyf nad oeddech yma yr wythnos diwethaf, oherwydd, pe baech chi wedi bod, byddech wedi fy nghlywed yn dweud bod y Bil y gwnaethom bleidleisio arno yr wythnos diwethaf yn Fil gwell oherwydd y gwaith craffu a'r broses ddeddfwriaethol. Ac roedd yn anrhydedd cael ei gyflwyno, nid yn unig fel Gweinidog, ond fel seneddwr. Ac rwy'n cytuno, Suzy: mae rhywbeth arbennig o ddiddorol am fod wedi croesi'r llawr, ar ôl treulio prentisiaeth hir iawn ar feinciau'r gwrthbleidiau. A'r cyfan y byddwn yn ei ddweud wrth unrhyw un sydd ar feinciau'r gwrthbleidiau ac yna efallai, neu efallai ddim, yn ddigon ffodus i fod mewn Llywodraeth yw ei fod yn llawer anoddach nag y mae'n edrych, ac nid yw mor hawdd ag yr awgrymwch y gallai fod pan fyddwch yn eistedd ar feinciau'r gwrthbleidiau.
Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Un o'r materion sy'n pryderu'r mwyafrif o athrawon ydy'r baich gwaith maen nhw'n gorfod delio ag o ar ben y gwaith maen nhw wedi'u hyfforddi i'w wneud, sef addysgu ac arwain addysgu. Yn ôl rhai, mae'r baich gwaith ychwanegol yma, y biwrocratiaeth dyddiol, wedi gwaethygu dros y bum mlynedd diwethaf. Beth ydy'ch ymateb chi i'r honiad hwnnw?
Rwy'n cydnabod ein bod yn gofyn llawer iawn gan ein haddysgwyr proffesiynol. Ac yn awr yn fwy nag erioed, mae angen inni gyflymu a rhoi mwy fyth o bwyslais ar waith y grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth. Mae'r grŵp hwnnw'n dal i weithio, er gwaethaf heriau'r pandemig, ar nodi'r pwysau sy'n wynebu athrawon a gweithredu atebion newydd. Mae'r siarter llwyth gwaith bellach wedi'i chyhoeddi, gyda'r dudalen llwyth gwaith a llesiant ar Hwb yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae'r elusen cymorth addysg y siaradais amdani'n gynharach hefyd yn cynhyrchu pecyn cymorth llesiant ar Hwb, a fydd yn cynnwys ystod ehangach o adnoddau a chyngor ymarferol, i'w gyhoeddi ym mis Ebrill, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y consortia rhanbarthol, mewn awdurdodau addysg lleol unigol, ac yn wir, gydag Estyn, i sicrhau bod y galwadau ar ysgolion gan sefydliadau allanol yn ymarferol, yn gymesur ac yn ychwanegu gwerth at ganlyniadau i blant.
Un mater sydd yn sicr yn ychwanegu'n sylweddol at y baich gwaith ydy gosod cyllidebau, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn. Beth sy'n creu cymhlethdod yw pan fo arian yn cyrraedd drwy grant yn hwyr iawn yn y dydd, fel sydd wedi digwydd wythnos yma. Dwi am ddyfynnu un pennaeth a gysylltodd efo fi ddoe. Dyma ddywedodd hi: 'Rydym ni yn treulio mwy o amser yn ysgrifennu am sut i wario'r grantiau nag ydym yn defnyddio'r grantiau yn y lle cyntaf.' Ac mi ddywedodd pennaeth arall wrthyf i, 'Tra dwi, wrth gwrs, ar bob cyfrif, yn croesawu unrhyw gyllid ychwanegol ar unrhyw achlysur, teimlaf fod diffyg cynllunio a threfniadaeth i gyfrif am ryddhau'r arian mor hwyr yn y dydd, ac efallai fod hyn, wrth gwrs, yn rhoi darlun annheg o gyllidebau ysgolion a'r swm sy'n cario drosodd o un flwyddyn i'r llall.'
Rŵan, dwi'n derbyn yn llwyr fod y sefyllfa hyd yn oed yn fwy ansefydlog nag arfer eleni oherwydd y pandemig, ond a ydych chi'n derbyn bod hyn broblem fawr—y grantiau yn cyrraedd yn hwyr iawn yn y dydd? A beth ddylai'r Llywodraeth nesaf ei wneud, yn eich barn chi, i leihau'r baich gwaith ariannol sydd ar ein hathrawon ni, a hynny er mwyn eu rhyddhau nhw i ganolbwyntio ar y dysgu?
Mae'r Aelod yn gywir: weithiau, gallwn ryddhau adnoddau ychwanegol i'r system addysg yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Nid yw'r heriau o weithredu cyllideb o'r maint sydd gennym heb eu hanawsterau, ond ni fyddaf byth yn gwrthod cyfle gan y Gweinidog cyllid i wario mwy o arian ar ysgolion.
O ran y fiwrocratiaeth a'r adrodd, byddwn yn dweud wrth Siân Gwenllian ei bod, drwy gydol fy nghyfnod fel Gweinidog addysg, yn aml wedi gofyn imi egluro i ble mae'r arian wedi mynd, ac yn wir, rydym newydd glywed gan Suzy Davies a oedd eisiau dadansoddiad manwl o sut y mae'r arian ychwanegol ar gyfer recriwtio, adfer a chodi safonau wedi'i wario. Ni allaf roi atebion i bobl fel chi, Siân, neu Suzy Davies, heb ofyn i athrawon adrodd yn ôl ar yr hyn y maent yn gwario arian arno, neu fel arall ni allaf ateb y cwestiynau rydych chi'n aml yn eu gofyn i mi.
Dwi'n derbyn y pwynt yna, wrth gwrs, ond mae yna ormodedd o lawer o ddata yn cael ei gasglu, a data yn aml iawn nad ydy'r athrawon eu hunain ddim yn deall pam rydych chi, fel Llywodraeth, eu hangen nhw.
A gaf i droi at fy nghwestiwn olaf i i chi—nid yn unig am heddiw, wrth gwrs—a gaf innau hefyd ddiolch yn fawr i chi am eich cydweithrediad parod yn ystod y Senedd yma, ac yn enwedig am ein cyfarfodydd rheolaidd ni yn ystod y pandemig? Rydym ni'n sicr yn rhannu'r un angerdd dros bwysigrwydd addysg ym mywydau ein plant a'n pobl ifanc, a diolch i chi am eich holl waith caled ar hyd y blynyddoedd, ac yn enwedig am fynnu sylw i blant difreintiedig Cymru. Dwi'n meddwl bod hwnnw wedi bod yn nodwedd amlwg o'ch cyfnod chi fel Gweinidog.
Mae Suzy wedi eich holi chi am brofiadau defnyddiol i ddarpar Weinidog. Dwi am ofyn i chi edrych ymlaen, ac edrych ymlaen tu draw i'r cyfnod COVID, os fedrwch chi. Beth, yn eich tyb chi, ydy'r her fwyaf fydd yn wynebu Gweinidog addysg newydd Cymru dros y blynyddoedd nesaf?
Yr her fwyaf sy'n wynebu unrhyw Weinidog addysg yw sylweddoli nad oes modd i ewyllys un Gweinidog yn unig yrru'r gwaith o ddiwygio a thrawsnewid addysg. Rhaid ei wneud mewn cydweithrediad â'r sector. Mae cydadeiladu ein cenhadaeth genedlaethol a'n cwricwlwm newydd wedi canolbwyntio ar feithrin y cysylltiadau cryf hynny. Credaf y bydd yn bwysig iawn i unrhyw Weinidog addysg newydd barhau i weithio yn yr ysbryd hwnnw a pheidio â gorchymyn o'r canol.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gwneud yn orfodol i blant ysgol wisgo masgiau? OQ56451
Mae ein canllawiau gweithredol yn nodi y dylai dysgwyr ysgol uwchradd wisgo gorchuddion wyneb ym mhob rhan o adeilad yr ysgol os na ellir cadw pellter cymdeithasol, ac ar gludiant ysgol dynodedig. Mae hwn yn un o ystod o fesurau i gadw ysgolion mor ddiogel â phosibl i staff a dysgwyr.
Diolch, Weinidog. Mae llawer o ymchwil yn bodoli ar afiachusrwydd gwisgo masg am amser hir heb oruchwyliaeth fel sydd i'w gael ar y manteision. Mae angen inni gael pob disgybl yn ôl i'r ystafell ddosbarth mewn amgylchedd dysgu cadarnhaol. Mae UsforThem Cymru yn enghraifft o rieni pryderus sydd am gael cyfeiriad clir ar y rhyddid i ddewis, oherwydd dywedir wrth lawer o ddisgyblion fod gwisgo masgiau yn yr ystafell ddosbarth am gyfnod hir yn orfodol, ac mae plismona ym mhob ystyr yn gweithio orau drwy gonsensws. Mae yna namau corfforol a meddyliol go iawn sy'n deillio o wisgo masgiau ac mae'r ffaith bod rhai penaethiaid yn mynnu bod masgiau'n cael eu gwisgo yn achosi pryder gwirioneddol, problemau iechyd posibl yn y dyfodol—yn dibynnu ar y masg a'r hyn a wneir gyda'r masg cyn ei wisgo—ac i lawer o ddisgyblion, mae'n rhwystr i ddysgu. Felly, yr hyn rwy'n chwilio amdano yma yw rhyw fath o gyfrifoldeb gan eich bod wedi osgoi mynd i'r afael â'r orfodaeth i ddisgyblion wisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth dros gyfnod hir. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud i gefnogi rhieni, disgyblion a staff sy'n dewis peidio â gwisgo masgiau neu sydd am beidio â gwisgo masgiau yn yr ystafell ddosbarth dros gyfnod estynedig? Beth a wnewch i gefnogi'r bobl hynny?
Nid wyf yn ymwybodol ein bod yn gofyn i blant wisgo masgiau mewn sefyllfa heb oruchwyliaeth o gwbl. Mae'r plant yn cael eu goruchwylio ar gludiant ysgol a phan fyddant mewn ystafelloedd dosbarth. Y cyngor a roddwn pan na ellir cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol, yw y dylid gwisgo masgiau am fod hynny'n cynnig lefel o ddiogelwch i staff a dysgwyr, fel y dywedais. Mae yna adegau pan nad yw masgiau'n briodol, megis adeg prydau bwyd, pan fyddant y tu allan, pan fo'n bosibl cadw pellter cymdeithasol, pan fydd dysgwyr yn rhedeg o gwmpas, yn chwarae gemau corfforol, a lle mae gan ddysgwyr reswm penodol go iawn pam na ddylent wisgo masg. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth rieni ac wrth ddisgyblion yw fy mod yn ddiolchgar iawn am eu parodrwydd parhaus i ymwneud yn weithredol â ni, fel Llywodraeth Cymru, a chyda phenaethiaid, a chydnabod y camau y gallwn i gyd eu cymryd i leihau tarfu ar addysg a chadw plant i ddysgu. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu parodrwydd i barhau i wneud hynny.
A gaf fi ddymuno'n dda i chi ar gyfer y dyfodol, Weinidog? Rydych wedi goroesi pum mlynedd ac wedi ffynnu, rwy'n credu, er i chi orfod dechrau o dan faich cymeradwyaeth gennyf fi—dyna fe, mae'n amlwg nad effeithiodd ar eich awdurdod na'ch perfformiad.
Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â phwynt Neil McEvoy yma, oherwydd credaf fod arnom angen dull hyblyg mewn rhai ffyrdd. Ac rwy'n pryderu'n arbennig am yr angen am gyfathrebu cymdeithasol effeithiol, yn enwedig i'r disgyblion sy'n drwm eu clyw a hefyd y disgyblion sydd ag anhawster dysgu iaith ac angen darllen wefusau o'r herwydd fel rhan o'u dull cyfathrebu. Felly, rwy'n gobeithio bod y canllawiau'n ddigon hyblyg i fynd i'r afael â'r problemau real iawn hyn sy'n effeithio ar leiafrif o'n disgyblion.
Diolch, David, a diolch am eich geiriau caredig. Maent yn werth cymaint mwy yn dod gennych chi, gan fy mod wedi gwerthfawrogi'r cyfle i weithio ochr yn ochr â chi fel un o aelodau criw 1999.
A gaf fi sicrhau'r Aelod fod yna hyblygrwydd? Os oes gan ddysgwyr rwystr penodol sy'n ei atal rhag gwisgo masg wyneb, dylai ysgolion gydnabod hynny. Gallai hynny ddigwydd yn achos dysgwyr niwroamrywiol neu lle mae gan ddysgwyr anhawster cyfathrebu. Rydym wedi rhoi cyngor i ysgolion ar y fanyleb briodol ar gyfer gorchuddion wyneb clir a lle dylid gwisgo'r rheini, yn enwedig yn achos plant y mae darllen gwefusau yn gwbl hanfodol iddynt allu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth. Ac rydym wedi rhoi cyngor ar fanyleb i ysgolion ynglŷn â sut y gellir cael gafael ar y rheini a phryd y dylid eu defnyddio.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i athrawon yn sir Benfro yn ystod pandemig COVID-19? OQ56432
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid a'n cyflogwyr i sicrhau bod cymorth ar gael i athrawon yn Sir Benfro a ledled Cymru yn wir yn ystod y pandemig. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys pecyn wedi'i deilwra o gymorth llesiant ac iechyd meddwl, a chyllid ychwanegol i greu capasiti o fewn gweithlu'r ysgol.
Nawr, Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon parhaus a wynebir gan athrawon cyflenwi lleol yn Sir Benfro, gyda llawer ohonynt yn teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu yn ystod y pandemig. Mae gan fframwaith athrawon cyflenwi'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol botensial i wella cyflog ac amodau athrawon cyflenwi, ond deallaf nad yw'n ofynnol i ysgolion ddefnyddio asiantaethau sydd wedi bodloni gofynion y fframwaith, sy'n golygu bod cymorth i athrawon cyflenwi'n dal i fod yn dameidiog, gan nad yw pob athro cyflenwi'n cael yr un lefel o gyflog gan asiantaethau. Rwy'n sylweddoli ein bod wedi gohebu ar y mater hwn dros y misoedd diwethaf, ond rwy'n dal i gael sylwadau gan athrawon cyflenwi. Felly, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr holl athrawon cyflenwi'n cael eu trin yn deg a'u bod yn cael eu cefnogi'n ddigonol yn ystod y pandemig hwn?
Diolch, Paul. Mae'r fframwaith yn bendant yn rhoi lefel o sicrwydd y bydd unigolion yn cael eu trin yn deg. Ac rydym wedi dod i gytundeb â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyfathrebu â'u hysgolion unwaith eto a'i gwneud yn glir iawn i'r ysgolion yn eu hawdurdodau lleol mai dim ond yr asiantaethau sy'n ymddangos yn y fframwaith y dylai ysgolion eu defnyddio. Paul, rwy'n ymrwymo i ofyn i CLlLC roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi am y gwaith hwnnw pan fyddaf yn cyfarfod â hwy nesaf, ond mae gennym gytundeb gyda CLlLC y byddant yn pwysleisio pa mor bwysig yw gwneud hynny wrth eu hysgolion eu hunain.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fuddsoddi mewn seilwaith ffisegol ysgolion yn Islwyn? OQ56463
Cafodd Caerffili dros £56 miliwn yn ystod y don gyntaf o gyllid rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, ac o'r swm hwn, gwariodd £28 miliwn yn etholaeth Islwyn. Bwriedir cael £110 miliwn arall ar gyfer yr ail don ariannu, ac rydym yn gweithio gyda Chaerffili i wireddu eu cynlluniau.
Diolch, Weinidog. Fel y dywedais ddoe yn y Siambr hon, addysg, ar wahân i gariad, yw'r rhodd fwyaf y gallwn ei rhoi i'n plant. Fel cymdeithas, mae'n dweud llawer am bwy ydym ni, beth ydym ni, yr hyn a flaenoriaethwn a phob dim sydd o werth i ni fel cenedl flaengar, fywiog a deinamig. Felly, hoffwn ddiolch i chi, Weinidog, am ein trafodaethau sy'n aml yn gadarn a hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r waddol ddiamheuol o gadarnhaol y byddwch yn ei gadael ar gyfer y dyfodol. Er hynny, rwy'n siŵr y byddwch yn cofio un drafodaeth am addysg cerddoriaeth.
Yn Islwyn, mae cyflwyno rhaglen arloesol a digynsail ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, rhaglen sy'n werth £3.7 biliwn, wedi arwain at newid trawsnewidiol. Mae prosiectau ar raddfa fawr wedi'u cyflawni, megis Ysgol Uwchradd Islwyn, buddsoddiadau mawr i ysgolion uwchradd yn Nhrecelyn a'r Coed Duon, a gwaith adnewyddu mawr y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a rhaid parhau i wneud gwaith adnewyddu o'r fath yn y dyfodol, ar ôl 6 Mai. Ond yn bwysig, mae'n iawn cofnodi arweinyddiaeth leol ein harweinwyr addysg gwych yn Islwyn, megis Keri Cole, Christina Harrhy a'r Cynghorydd, bellach, Ross Whiting. Yn yr un ffordd, heb ein penaethiaid a'n llywodraethwyr mwyaf anhygoel yn Islwyn, byddai partneriaeth awdurdod addysg lleol rhagorol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â Llywodraeth Cymru yn amhosibl, felly hoffwn ddiolch hefyd i'n teulu addysg.
Weinidog, yn fy rolau blaenorol ac fel aelod o'r cabinet addysg ac yn awr, mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd cael agor a theithio o amgylch ein hysgolion newydd a gweld y cyfleusterau gwych hynny â'm llygaid fy hun. Ond mae hyn hefyd yn gwrthgyferbynnu'n uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol, cyn datganoli, fel athro a llywodraethwr ysgol, pan orfodwyd ysgolion ledled Cymru i gael gwared ar athrawon ac roedd ein hysgolion yn pydru. Mae hyn yn cyferbynnu'n awr â chyflwyno'r ysgolion newydd sbon—
A wnaiff yr Aelod ddod at ei chwestiwn, os gwelwch yn dda?
Rwy'n dod ato. Weinidog, diolch. Sut, felly, y bydd cymunedau ac ysgolion Islwyn yn elwa yn y dyfodol o'r rhaglen arloesol hon sy'n werth £3.7 biliwn, a beth y teimlwch chi yw eich gwaddol?
Rhianon, rydych chi'n gywir—mae rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yn ddull partneriaeth ac ni fyddem wedi gallu gwireddu uchelgais y rhaglen heb y cydweithio a'r gweithio agos rhyngom ag awdurdodau addysg lleol. Fel y trafodwyd yn helaeth ddoe, ceir cronfa o arian gwerth biliynau o bunnoedd o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu hyd yn oed mwy o gyfleusterau gwych, boed ym mwrdeistref sirol Caerffili, neu yn unman arall yng Nghymru yn wir. Dyna sydd mor wych am raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; mae ei heffaith wedi cyffwrdd â phob cwr o'n gwlad.
6. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo llesiant disgyblion yn y cynlluniau dychwelyd i'r ysgol? OQ56453
Ar 15 Mawrth, cyhoeddwyd ein fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol. Mae'n gosod llesiant yn ganolog i ddysgu, a chyda chyllid o £2.8 miliwn i ddarparu cymorth llesiant i ddysgwyr yn y flwyddyn gyfredol, mae'n sicrhau bod dychwelyd at addysg yn union fel y dylai fod i'r dysgwyr hynny.
Diolch, Weinidog. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y fframwaith yn cael ei gyhoeddi ddoe. A gobeithiaf siarad yn y datganiad yr wythnos nesaf a dweud rhai geiriau amdanoch bryd hynny.
Fel y gwyddoch, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sesiwn wych yn ddiweddar ar effaith COVID ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc, a hoffwn ddiolch i'r Athro Ann John, yr Athro Alka Ahuja, yr Athro Adrian Edwards a Dr David Tuthill o Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant am eu tystiolaeth rymus iawn. Cawsom neges glir iawn ynglŷn â pha mor hanfodol yw'r ffocws ar lesiant wrth ddychwelyd i'r ysgol, ond hefyd pa mor hanfodol yw rhoi gobaith i blant a phobl ifanc. Mae peth o'r naratif sydd i'w weld mewn trafodaethau cyhoeddus am sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu dychwelyd i'r ysgol wedi bod yn negyddol iawn. Mae ymadroddion fel 'cenhedlaeth COVID', a hyd yn oed ymadroddion fel 'dal i fyny' yn arwydd o golled, pan gredaf y dylem fod yn dathlu gwydnwch aruthrol plant a phobl ifanc, o ystyried yr hyn y maent wedi bod drwyddo drwy gydol y cyfnod hwn. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Weinidog, ei bod yn gwbl gywir ein bod nid yn unig yn blaenoriaethu llesiant wrth i fwy a mwy o blant ddychwelyd i'r ysgol yn awr, ond hefyd ein bod yn gwrthod unrhyw ymgais i greu anobaith ac yn sicrhau ein bod yn dweud wrth ein plant a'n pobl ifanc, 'Fe wyddom beth rydych chi wedi bod drwyddo, a'n blaenoriaeth yn awr yw eich helpu i wella o hynny mewn ffordd gadarnhaol a gobeithiol'?
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Rwyf innau hefyd wrth fy modd fod y fframwaith bellach wedi'i gyhoeddi ac y bydd yno i gefnogi ysgolion yn yr agwedd wirioneddol bwysig hon ar eu gwaith, oherwydd os meddyliwn am y tarfu ar addysg rydym i gyd wedi'i weld ac y mae ein plant a'n pobl ifanc wedi'i brofi, ni fyddwn yn gallu symud ymlaen o hynny oni bai ein bod yn mynd i'r afael â llesiant, oherwydd gwyddom na all dysgu ddigwydd heb hynny. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi na fydd cyfeirio cyson at fodel diffyg yn helpu neb. Yn wir, bydd yn ychwanegu pwysau ychwanegol ar y proffesiwn addysgu. Bydd yn ychwanegu pwysau ychwanegol ar ein plant a'n pobl ifanc. Felly, torrwyd ar draws eu dysgu, do, ond ni fyddant yn colli dysgu. Deallaf pam y mae rhieni'n pryderu, a deallaf pam y byddai plant a myfyrwyr hŷn yn pryderu. Ond fel rydym wedi dangos, gyda'r buddsoddiad rydym eisoes yn ei wneud, mae gennym system addysg ac addysgwyr proffesiynol sy'n barod i sicrhau y gallant symud ymlaen gyda hyder gwirioneddol drwy gamau nesaf eu haddysg. Ac os byddwn yn ymroi'n barhaus i fantra anobaith, fel rydych wedi'i ddisgrifio, fe wireddir y broffwydoliaeth ohoni ei hun, oherwydd mae plant yn tyfu i fod yr hyn a ddywedir wrthynt, ac felly mae angen inni newid y ddeialog a gweithio gyda'n haddysgwyr proffesiynol i helpu ein plant i symud ymlaen yn hyderus.
Cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Lynne Neagle wedi bod yn ei ddweud am bwysigrwydd canolbwyntio ar rymuso pobl ifanc a rhoi gobaith iddynt. Mae gan bobl ifanc—. Rwy'n ceisio ailgyflunio'r ffordd rwy'n mynd i eirio hyn, mewn gwirionedd, oherwydd roeddwn yn mynd i ddweud, 'Maent wedi colli cynifer o brofiadau.' Ond mewn gwirionedd, mae gan bobl ifanc gymaint o brofiadau y mae angen iddynt eu hadennill, felly, ar ôl y pandemig. Amharwyd ar gyfeillgarwch a phatrwm dyddiol. Mae llawer o bobl ifanc wedi bod yn teimlo unigrwydd ac arwahanrwydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pryd fydd y canllawiau ar y dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant ac iechyd meddwl yn cael eu gweithredu mewn ysgolion a phryd y bydd pobl ifanc yn gallu teimlo manteision hynny? Rwy'n pryderu'n arbennig am blant ifanc iawn—y rhai a ddylai fod wedi dechrau yn yr ysgol yn ystod y pandemig, ond oherwydd bod ganddynt rieni sy'n gwarchod eu hunain, efallai nad ydynt wedi gallu mynd i'r ysgol. Mae'r blynyddoedd hynny—y dosbarthiadau derbyn, y dosbarthiadau meithrin—mor sylfaenol bwysig i ffurfio cwlwm rhwng plant. Felly, pa gymorth y credwch y gellid ei ddarparu i ailsefydlu cwlwm rhwng plant ifanc? Ac a fydd cymorth arbennig, yn enwedig i blant nad ydynt wedi gweld eu ffrindiau ers cymaint o amser?
Diolch, Delyth. Credaf eich bod wedi taro ar un o'r agweddau ar y tarfu ar addysg sydd wedi effeithio'n wirioneddol ar blant a phobl ifanc, sef y teimlad o arwahanrwydd ac anallu i dreulio amser gyda'u ffrindiau. A dyna pam y mae ysgolion ar hyd a lled Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar hynny wrth weld y cyfnod sylfaen yn dychwelyd. Ac yn wir, mae'r rhyngweithio a'r addysgeg honno'n ganolog i'n dull cyfnod sylfaen o weithredu, ac wrth chwarae gyda'i gilydd unwaith eto, bod gyda'i gilydd, sgwrsio gyda'i gilydd, mae plant yn dysgu ac yn caffael sgiliau y maent eu hangen ar gyfer dyfodol hyderus. Dyna pam ein bod wedi sicrhau bod amser a lle o fewn y cwricwlwm i hynny ddigwydd, a dyna pam ein bod wedi sicrhau bod arian ychwanegol ar gael gyda'n gilydd i sicrhau bod oedolion yno i gefnogi plant wrth iddynt ymroi eto i ddysgu wyneb yn wyneb ac ailsefydlu'r berthynas gyda'u cyfoedion a chyda'u hathrawon a'u cynorthwywyr addysgu.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau ysgolion yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56441
Diolch, Angela. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1,649,000 i awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar gyfer recriwtio, adfer a chodi safonau, er mwyn cefnogi dysgwyr ar gamau hanfodol yn eu haddysg. Yn ddiweddar, cyhoeddais £72 miliwn ychwanegol i gefnogi dysgwyr, gan ddod â chyfanswm ein cymorth ar gyfer—roeddwn am ddefnyddio'r gair 'adfer', ond ar ôl yr hyn rwyf newydd ei ddweud, byddai hynny'n esgeulus—ein cynllun dysgu ar gyfer 2021 i £112 miliwn.
Wel, diolch am hynny, ond y realiti yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro dros y degawd a mwy diwethaf yw mai un yn unig o'r pump ysgol uwchradd yn yr etholaeth honno sydd heb fod yn destun rhyw fath o fesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i thargedu neu angen ei gwella'n sylweddol. Nawr, gydag addysg yn cael ei heffeithio’n wael gan COVID dros y 12 mis diwethaf, mae'n anochel y bydd yr ysgolion a oedd eisoes yn cael trafferth yn ei chael hi’n anodd symud ymlaen. Rwy'n meddwl am ysgolion fel ysgol Greenhill, lle mae un adroddiad Estyn ar ôl y llall yn dweud bod angen gwelliannau, ac nid ydym yn gweld gwelliannau. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i allu eu rhoi ar waith yn benodol i ysgolion sy'n destun mesurau arbennig neu sydd angen rhyw fath o welliant sylweddol, i helpu i godi safonau eu cynnig addysgol i'w disgyblion? Oherwydd, yn ôl pob golwg, mae hon yn broblem sy’n anhygoel o anodd mynd i’r afael â hi.
Diolch, Angela. Er bod gweithgareddau arolygu wedi'u hatal yn ystod y pandemig, hoffwn roi sicrwydd i chi, ac i’r Aelodau eraill yn wir, fod Estyn yn parhau i ymgysylltu ag ysgolion y nodwyd yn flaenorol fod angen lefel ychwanegol o gymorth arnynt. Yn amlwg, gwnaed hynny o bell, ac fe’i gwnaed mewn ffordd sympathetig, sy'n cydnabod yr amodau y mae’r ysgolion hynny yn gweithio ynddynt, ond nid yw’r gwaith hwnnw wedi dod i ben o ganlyniad i’r pandemig, ac mae gwaith y consortia rhanbarthol hefyd yn parhau er mwyn sicrhau bod yr ysgolion y nodwyd eisoes bod angen cymorth ychwanegol arnynt yn parhau i'w dderbyn.
Mewn perthynas â'r ysgolion sy'n peri pryder, efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod, cyn COVID, wedi treialu dull amlasiantaethol newydd, gyda rôl barhaus i Estyn yn arwain y gwaith gwella ysgolion yn hytrach na'r rôl flaenorol, lle roedd Estyn yn dod i mewn, yn penderfynu beth oedd yn anghywir yn eu barn hwy, yn diflannu ac yna’n dychwelyd i roi eu barn unwaith eto. Roedd y model peilot newydd a dreialwyd mewn nifer o ysgolion cyn COVID, yn llwyddiannus iawn, ac yn fy llythyr diweddar i Estyn, rwyf hefyd wedi cytuno i ymestyn cyllid ar gyfer y rhaglen honno. Felly, bydd y rhaglen ar gael i Gymru gyfan, sydd, yn fy marn i, yn ddull gwahanol o geisio gwneud cynnydd cyflymach yn yr ysgolion lle gwyddom fod angen cymorth ychwanegol.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflogi athrawon cyflenwi yng Nghymru? OQ56429
Gellir cyflogi athrawon cyflenwi yng Nghymru naill ai'n uniongyrchol drwy awdurdodau lleol neu ysgolion, neu drwy asiantaethau cyflenwi masnachol. Penaethiaid a chyrff llywodraethu sy’n gyfrifol am yr holl benderfyniadau staffio ac am sicrhau bod ganddynt weithlu effeithiol o dan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Hynny yw, mae gennyf fi a llawer o bobl eraill rwy'n siŵr, bryderon difrifol ynglŷn â'r ffordd y mae athrawon cyflenwi’n cael eu trin a'u talu drwy asiantaethau. Gwn nad dyma'r ateb gorau, ond gallai cynghorau ail-greu'r gofrestr gyflenwi a chyflenwi athrawon fel eu bod yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan gynghorau, neu gonsortia o gynghorau, ac yna’n mynd i ysgolion yn hytrach na’u bod yn cael eu cyflogi gan yr asiantaeth sy'n mynd â chyfran o’u cyflog.
Yn wir. Mike, fel y dywedais yn fy nghwestiwn agoriadol, nid oes unrhyw beth i rwystro awdurdodau lleol rhag creu rhestr gyflenwi eu hunain, ac a gaf fi awgrymu efallai mai'r ffordd orau ymlaen yw drwy drafod hynny gyda'r Cynghorydd Jen Rayner yn eich awdurdod lleol? Rwy'n siŵr y bydd yn fwy na pharod i wneud hynny.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Bethan Sayed.
9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu effaith diwygiadau cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru ar addysg uwch ran-amser? OQ56454
Diolch, Bethan, ac mae'n debyg mai hwn yw'r cwestiwn olaf y bydd Bethan yn ei ofyn i mi, felly hoffwn ddymuno'r gorau i Bethan. Bethan, ers cyflwyno ein diwygiadau i gyllid myfyrwyr, sy'n unigryw yn Ewrop, mae cynnydd o 40 y cant wedi bod yn nifer y myfyrwyr rhan-amser sy’n astudio ar gyfer eu gradd gyntaf yng Nghymru, ac rydym hefyd wedi gweld cynnydd o 21 y cant yn nifer y myfyrwyr rhan-amser o Gymru sy'n dod o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig.
Diolch, a phob hwyl ar gyfer y dyfodol; bydd gennym fywydau y tu hwnt i wleidyddiaeth eto.
Mae'r Gweinidog wedi sicrhau bod cynyddu niferoedd myfyrwyr rhan-amser yn thema bwysig yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Ond a allwch gadarnhau i ni, pan nad yw’r cynnydd yn nifer myfyrwyr y Brifysgol Agored yn cael ei chyfrif, fod gostyngiad cyffredinol wedi bod yn nifer y myfyrwyr rhan-amser yn sector addysg uwch Cymru ers dechrau gweithredu diwygiadau ariannol Llywodraeth Cymru, yn benodol ers dechrau gweithredu argymhellion Diamond yn llawn, nid cyhoeddi’r polisi? Felly, a allwch gadarnhau nifer y myfyrwyr rhan-amser sy'n dechrau ym mhrifysgolion Cymru? Diolch.
Bethan, fel y dywedais, bu cynnydd o 40 y cant yn y graddau cyntaf sy'n cael eu hastudio'n rhan-amser yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Symudwn ymlaen at eitem 3, sef y cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd cwestiwn 1 y prynhawn yma’n cael ei ateb gan Joyce Watson—[Torri ar draws.]
Bydd yn rhoi ei chyfeiriad i chi, ac mae arni eisiau—
Janet Finch-Saunders, a ydych yn barod i ofyn eich cwestiwn?
A allwch wneud hynny nawr?
Iawn, mae'n amlwg nad yw Janet Finch-Saunders yn barod i ofyn ei chwestiwn, felly symudwn ymlaen at gwestiwn 2, sydd i'w ateb gan y Llywydd, a Huw Irranca-Davies sydd i’w ofyn.
Ni ofynnwyd cwestiwn 1 [OQ56466].
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac rwyf fi, yn wir, yn barod i ofyn fy nghwestiwn.
2. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i hyrwyddo pleidleisio ymysg pobl ifanc cyn etholiadau'r Senedd? OQ56436
Diolch am y cwestiwn. Mae elfen Pleidlais 16 ymgyrch yr etholiad yn cael ei chyflwyno ledled Cymru ac yn cynnwys talu am hysbysebion, gwaith hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau. Rydym yn hysbysebu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram ac YouTube, ac yn cynnal ystod o ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid, a bydd hyn yn parhau drwy fis Ebrill. Ac fe wnaethom ni, wrth gwrs, weithio gydag ystod eang o gyrff yn ystod wythnos olaf mis Chwefror ar gyfer Wythnos Pleidlais 16, a oedd yn cynnwys digwyddiadau fel gwasanaeth ysgol, hyfforddiant i weithwyr addysg proffesiynol, a ffug ddadl etholiad dan arweiniad Teleri Glyn Jones o'r BBC.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith rydych chi a Chomisiwn y Senedd yn ei wneud yn hyrwyddo'r etholiad i bleidleiswyr tro cyntaf a phleidleiswyr iau, ac wrth gwrs, bydd hwn yn gam mor ddramatig ymlaen i bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru. Mae'n gam ymlaen gwirioneddol i ddemocratiaeth. Ond mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod pleidleiswyr tro cyntaf, pleidleiswyr iau, yn deall y pŵer sydd ganddynt yn y blwch pleidleisio, yn ogystal ag ymarferoldeb sut i bleidleisio, fod ganddynt wybodaeth hawdd ei chyrchu ynghylch ymgeiswyr a pholisïau’r pleidiau, a'u bod yn hyderus gyda system etholiadol hybrid y Senedd, ond hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, eu bod yn deall, fel y dylai pob un ohonom ddeall, fod pleidleisio ynddo’i hun yn hawl werthfawr ac yn fraint a gryfheir o'i harfer yn rheolaidd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith sefydliadau fel Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, yr Urdd, y Blwch Democratiaeth, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru ac eraill sy'n gwneud eu gorau glas, ochr yn ochr â'r gwaith rydych chi'n ei wneud, i annog pleidleiswyr ifanc a phleidleiswyr tro cyntaf i gofrestru i bleidleisio ac i ddefnyddio eu pleidlais hefyd? Mae hwn yn amser cyffrous, a gadewch inni sicrhau bod lleisiau pob un o’n pleidleiswyr ifanc yn cael eu clywed.
Mae'n bendant yn amser cyffrous i'n pobl ifanc. Mae pobl ifanc, wrth gwrs, wedi cael eu heffeithio i raddau mwy nag unrhyw un, o bosibl, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a gobeithio y byddant yn defnyddio eu llais yn y blwch pleidleisio fel pobl ifanc 16 a 17 oed, ac yn gwneud hynny fel y bobl ifanc 16 a 17 oed cyntaf erioed yng Nghymru i wneud hynny. Ac rydych yn llygad eich lle hefyd: mae'r gwaith y mae'r Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyrwyddo’r bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed yn anuniongyrchol tuag at y bobl ifanc hynny; mae pobl eraill a all weithio gyda ni ac ar ein rhan i weithio'n uniongyrchol gyda'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy, ac mae'r bobl ifanc, wrth gwrs, yn ymddiried yn y ffynonellau hynny, boed hynny mewn ysgolion neu mewn sefydliadau allanol. Felly, rydym yn awyddus iawn, ac wedi bod yn awyddus i gefnogi ymdrechion trydydd partïon i'n cefnogi gyda’n hymdrechion i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu ynglŷn â'r hawliau newydd sydd ganddynt, a'u bod yn cael eu cymell i wneud hynny. Ac mae gan bob un ohonom sy'n sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiad ym mis Mai gyfrifoldeb hefyd, fel pleidiau gwleidyddol ac fel ymgeiswyr unigol, i sicrhau bod ein maniffestos a'n negeseuon a'n dulliau cyfathrebu yn ddigon diddorol i ennyn diddordeb pobl ifanc.
Mae hyn mor bwysig, i gael pobl ifanc yn gallu pleidleisio, ond mae fe'n bwysig hefyd ar gyfer y genhedlaeth sydd ar eu hôl nhw. Mae swyddfa'r comisiynydd plant yn rhedeg etholiad seneddol amgen ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 15 mlwydd oed. Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb fydd yn gallu pleidleisio yn yr etholiad yn 2026 i gael profiad realistaidd o'r profiad o bleidleisio. Mae 85 o ysgolion dros Gymru gyfan wedi arwyddo lan i fod yn rhan o Project Vote yn barod. So, a fyddech chi'n ymuno â fi i annog pob ysgol uwchradd i gymryd rhan yn y prosiect arloesol a hollbwysig yma?
Byddwn i wrth fy modd yn gweld mwy o ysgolion yng Nghymru yn cymryd yr arweiniad a'r cyngor a'r adnoddau sydd gan y comisiynydd plant i fod yn cynnal y digwyddiadau etholiadol yna, yr etholiadau ffug ar gyfer yr ystod oedran yna o bobl ifanc sydd ddim eto yn cael yr hawl i bleidleisio yn y Senedd ond a fydd yn yr etholiadau nesaf, ac o bosib hyd yn oed yn etholiad y cynghorau sir y flwyddyn nesaf wrth gwrs.
Cymryd rhan mewn ffug etholiad yn ysgol uwchradd Llanbed ym 1983 oedd fy mhrofiad cyntaf i yn y byd etholiadol, a dwi'n cofio hynny'n dda hyd heddiw. Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd y profiad yma y mae'r comisiynydd plant a'i swyddfa hi yn ei roi i bobl ifanc yn yr ysgolion uwchradd hynny yn ennyn diddordeb y bobl yna i bleidleisio ac i gymryd rhan yn ein bywyd democrataidd ni am y blynyddoedd i ddod. Felly, diolch yn fawr i'r comisiynydd plant a'r swyddfa a phawb sy'n gweithio ar y cynllun yma yn yr ysgolion yn hyrwyddo ein democratiaeth ac ymwneud â diddordeb pobl ifanc yn y drafodaeth ddemocrataidd honno.
Diolch. Cwestiwn 3, sydd hefyd i'w ateb gan y Llywydd, Vikki Howells.
3. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'i ymateb i bandemig parhaus y coronafeirws? OQ56444
Mae'r Comisiwn wedi cefnogi'r Senedd, ei phwyllgorau a'i Haelodau i gyflawni eu swyddogaethau yn ystod y pandemig, ac mae'r Comisiwn yn mynd ati yn rheolaidd i adolygu'r ymateb i faterion wrth iddynt godi ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys adborth gan Aelodau, arolygon staff rheolaidd ac adolygiadau llywodraethu a risg.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i staff y Comisiwn am y ffordd y maent wedi cefnogi Aelodau o'r Senedd yn ystod y pandemig, ac wrth gwrs, i staff cymorth yr Aelodau o'r Senedd, gan y gwn eu bod wedi mynd y tu hwnt i bob galw i gynorthwyo etholwyr i ymdrin ag ystod o ymholiadau pwysig. Pa asesiad a wnaed gan y Comisiwn o effaith y pandemig ar ein staff gwych dros y flwyddyn ddiwethaf?
Diolch am sicrhau bod ein staff yn gwybod—staff y Comisiwn a'r staff sy'n gweithio i ni fel cynrychiolwyr gwleidyddol—eich bod chi, a phob un ohonom gobeithio, yn ddiolchgar iawn am y gwaith arloesol a wnaed yn ymateb i'r pandemig, er mwyn galluogi’r Senedd hon i barhau â'i gwaith ac i'n galluogi ni fel Aelodau etholedig o bob rhan o Gymru i ddarparu gwasanaethau a gwybodaeth i'n hetholwyr. Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol, mae'r Comisiwn yn ceisio ymgysylltu â staff i ddysgu o'u profiadau ac i feddwl sut y gall y gwersi rydym wedi'u dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf barhau yn y dyfodol a galluogi dull mwy hyblyg o weithio, ac nad ydym yn colli golwg, wrth inni gefnu ar y pandemig hwn, gobeithio, o'r nifer o ffyrdd da o weithio rydym wedi eu profi yn ôl pob tebyg dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am eich diolch, ond hefyd am roi'r cyfle i mi yn fy nghwestiynau olaf fel Llywydd i ddiolch i staff y Comisiwn, yr holl staff sy'n gweithio i'n contractwyr a staff ein pleidiau gwleidyddol. Mae pawb wedi bod yn rhagorol ac wedi galluogi'r Senedd hon i barhau â’i gwaith yn yr amgylchiadau mwyaf heriol, ac i wneud hynny ar ran pobl Cymru.
Diolch. Mae cwestiwn 4 i'w ateb gan Joyce Watson, a dyma gwestiwn 4, Bethan Sayed.
4. Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i wella gweithio hyblyg a rhannu swyddi? OQ56455
Diolch am eich cwestiwn, Bethan. Cefnogir ein diwylliant gweithio hyblyg gan ystod o bolisïau sy'n cynnwys gweithio hyblyg, rhannu swyddi a gweithio gartref, sy'n galluogi staff i reoli eu horiau gwaith eu hunain, cydbwyso gwaith a hefyd ymrwymiadau yn y cartref. Mae gan 40 y cant o staff y Comisiwn gyfrifoldebau gofalu am blant ifanc, ac mae gan 15 y cant o staff gyfrifoldebau gofalu rheolaidd. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau diwylliant gwirioneddol hyblyg sy'n caniatáu i'r holl staff ffynnu. Mae'r Comisiwn wedi ennill gwobrau yn sgil yr ymdrechion hyn, ac mae wedi cael ei gydnabod fel un o 10 cyflogwr gorau teuluoedd sy'n gweithio ac un o 50 cyflogwr gorau i fenywod The Times. Gan adeiladu ar ein profiad yn ystod y pandemig, mae'r Comisiwn yn archwilio ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaethau i ymestyn y diwylliant hyblyg hwnnw ymhellach fyth.
Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am yr ateb cynhwysfawr yna. Fel rwyf wedi amlinellu yn ddiweddar yng nghyd-destun y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), mae rhannu swyddi yn rhywbeth sydd angen inni edrych arno i greu mwy o gyfleoedd ar gyfer cynrychiolaeth fwy amrywiol ac amgylchedd gwleidyddol sydd yn fwy cyfeillgar i deuluoedd. Gan nad yw hwn nawr ar yr agenda o ran etholiadau, gallai'r Comisiwn, yn wir, sefydlu arweiniad yn yr ardal yma o ran hybu gweithio yn y modd yma. Rydych chi'n sôn bod y Comisiwn yn gwneud gwaith o ran rhannu swyddi, ond dwi ddim wedi clywed unrhyw beth gennych chi o ran data a faint rydych chi'n ei wneud o ran swyddi sy'n cael eu hysbysebu sy'n cynnig yr opsiwn i rannu swyddi. A fydd hwn yn rhywbeth y byddwch chi'n ystyried ei wneud ac edrych i mewn iddo i'r Senedd nesaf er mwyn bod y Senedd yn fwy hyblyg ac yn fwy cyfranogol?
Diolch. Rwy'n cydnabod bod hyn yn bwysig i chi, ac rydych wedi nodi eich teimladau yn eich datganiad ar gael eich mab bach a’r heriau yn sgil hynny. Maent yn heriau go iawn, fel rydych wedi sylweddoli, ac maent, yn eich geiriau eich hun, wedi gwneud i chi ailystyried eich dyfodol. Ac mae’n flin iawn gennyf eich colli, fel sawl un arall, rwy'n siŵr, o'r sefydliad hwn.
Gwyddom na all Aelodau rannu swyddi ar hyn o bryd, a gwyddom hefyd mai mater i'r Senedd nesaf fyddai penderfynu ar ddeddfwriaeth i ganiatáu i hynny ddigwydd. A chredaf ei fod yn ehangach na hynny. Credaf fod angen cael sgwrs gyhoeddus fel bod pobl yn teimlo y gallant bleidleisio dros wleidyddion sy'n rhannu swyddi, ac nid wyf yn siŵr a ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto. Ond hoffwn ymuno â chi yn y sgwrs honno, gan y credaf ei bod yn sgwrs y mae'n rhaid ei chael. Mae’n fater llawer ehangach na hynny hefyd, wrth gwrs, a byddai'n rhaid i'r Comisiwn Etholiadol ganiatáu i ddau enw fod ar y papur ar gyfer un swydd. Ac eto, credaf fod honno'n sgwrs y dylid ei chychwyn. Rwy'n meddwl o ddifrif y bydd hyn ar frig agenda'r Comisiwn—y Comisiwn nesaf, wrth gwrs, ar ôl yr etholiad. Ond credaf y dylai fod ar frig agenda pob plaid wleidyddol, sefydliadau menywod a sefydliadau ehangach hefyd. Mae llawer o resymau pam fod angen i bobl rannu swyddi.
Mae gennym ffeithiau a ffigurau, ac maent yn niferus, o ran sut rydym yn cefnogi ein staff a phwy yw'r staff hynny, a cheir llawer iawn o ddata i ategu hynny. Credaf mai'r peth gorau o ran amser a dealltwriaeth o hynny fyddai i mi, nid eu darllen—maent yma gennyf o fy mlaen—ond i mi eu cynnwys mewn e-bost atoch. Ond cofiwch fod digon o chwiorydd o amgylch y bwrdd hwn heddiw a fydd yn eich cefnogi yn eich ymdrech.
Diolch yn fawr iawn.
Cwestiwn amserol yw eitem 4 ar yr agenda, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip. Delyth Jewell.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd y DU yn ei chael ar ddiogelwch menywod yng Nghymru? TQ548
Diolch i Delyth Jewell am ei chwestiwn. Derbyniodd Llywodraeth Cymru fersiwn derfynol y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd pan gafodd ei gyflwyno, ddydd Mawrth diwethaf, 9 Mawrth. Rydym yn ystyried y darpariaethau'n fanwl a sut y byddant yn effeithio ar Gymru, gan gynnwys diogelwch menywod a merched.
Diolch, Weinidog. Mae hwn yn fater personol iawn i mi, yn anad dim gan fy mod yr un oedran â Sarah Everard, a gafodd ei lladd mewn modd mor erchyll ger Llundain yn ddiweddar, ac y cafodd yr wylnos i gofio amdani ei drin mewn ffordd mor ofnadwy gan yr heddlu. Lladdwyd o leiaf saith o fenywod gan ddynion yng Nghymru eleni yn unig. Rydym yn dal i gyfrif menywod sydd wedi marw, gan gynnwys Wenjing Lin, a fu farw yn Nhreorci. Mae fy mhryder ynglŷn â'r Bil plismona'n deillio nid yn unig o gyd-destun yr ymosodiadau ar yr hawl i brotestio'n heddychlon, er bod y rheini'n peri pryder, ond mae gennyf bryderon dybryd ynglŷn â sut y caiff trais gan ddynion yn erbyn menywod ei drin. Nid yw'n Fil sy'n canolbwyntio ar oroeswyr; mae'n rhoi cosbau mwy i bobl sy'n ymosod ar gerfluniau na’r rheini sy'n ymosod ar fenywod. Byddai dedfrydau trymach yn cael eu rhoi am dipio anghyfreithlon nag am stelcio. Roeddwn yn rhan o’r ymchwiliad a’r ymgyrch yn 2012 a arweiniodd at gyflwyno deddfau newydd ar stelcio, a Weinidog, mae’r datblygiad hwn yn sarhad ar yr holl oroeswyr a chwaraeodd ran mor hanfodol yn yr ymgyrch honno.
Un peth rydym wedi’i ddysgu yn yr wythnos ddiwethaf yw bod llywio drwy ein hofnau ac addasu ein risg o drais yn weithred normal i fenywod yng Nghymru, fel ym mhob rhan o'r DU. Mae menywod a merched ifanc yn cael eu dysgu i beidio â gwneud rhai pethau penodol yn hytrach na mynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol pam fod trais gan ddynion yn digwydd. Drwy fethu mynd i’r afael ag atal trais gan ddynion yn erbyn menywod, mae’r Bil hwn yn fwy na chyfle a gollwyd; mae'n drychineb a fydd yn digwydd o flaen ein llygaid. Rydym angen dull iechyd y cyhoedd sy'n canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar, newidiadau i'r ffordd rydym yn addysgu merched a bechgyn ifanc, newidiadau i'r ffordd y caiff menywod eu portreadu yn y cyfryngau, mewn cylchgronau. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, faint o ddisgresiwn fydd gan heddluoedd Cymru ynglŷn â'r modd y maent yn gweithredu'r Bil hwn. Byddwn hefyd yn gofyn a ydych yn cytuno ag awgrymiadau Chwarae Teg ynglŷn â defnyddio’r cwricwlwm i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhywedd, sicrhau bod canllawiau cynllunio yn nodi diogelwch menywod fel ystyriaeth ganolog wrth gynllunio gofod trefol, a’r angen am fwy o gyllid ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth fel Ask for Angela, sy'n cynnig ffordd i fenywod mewn bariau ddianc rhag sefyllfaoedd peryglus.
Ac yn olaf, Weinidog, ar wahân i’r dull cwbl wahanol hwn y mae'n rhaid i ni ei weithredu yng Nghymru, onid yw'r ddeddfwriaeth hon yn San Steffan yn dangos pam fod angen datganoli plismona a chyfiawnder? Rwyf am gloi gyda hyn, Ddirprwy Lywydd: os na wnawn rywbeth radical, os nad yw'r erchylltra beunyddiol hwn yn ein cymdeithas yn cael ei unioni, fe fyddwn yn galaru am fwy fyth o fenywod nad ydym erioed wedi eu hadnabod.
Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell, am araith gref ac angerddol. Fel menyw yr un oedran â Sarah Everard, rydych wedi ein galluogi i gofio eto, fel y gwneuthum innau ddoe, llofruddiaeth ddiweddar—llofruddiaeth erchyll, ofnadwy Sarah Everard. Mae wedi bod yn ysgytwad i bob un ohonom, ac wedi ailgynnau’r sgwrs genedlaethol ynglŷn â diogelwch menywod, a byddwch wedi gweld hynny’n cael ei adlewyrchu yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe. Roedd yn ddatganiad ar ddiogelwch menywod yng Nghymru, ac mae'n ein hatgoffa, wrth gwrs, fel y dywedais yn fy natganiad, fod trais yn erbyn menywod a merched yn rhy gyffredin o lawer. Mae wedi amlygu unwaith eto yr effaith y mae trais a cham-drin yn ei chael ar fywydau bob dydd menywod. Ac felly, fy ailymrwymiad unwaith eto i'n deddfwriaeth arloesol—a diolch i Nick Ramsay; cododd hyn ddoe, fel y gwnaeth Aelodau eraill o bob rhan o’r Senedd—yw mai ein hymrwymiad yng Nghymru yw dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.
Credaf ei fod hefyd yn rhybudd i bob un ohonom fod yn rhaid inni anrhydeddu bywyd Sarah drwy wneud newidiadau i gymdeithas a diwylliant, a dyna a ddywedais yn fy natganiad. Ond credaf ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedais ddoe, fy mod wedi galw ar Lywodraeth y DU, ac ar Senedd y DU yn wir, i sicrhau bod y Bil hwn yn Fil a ddylai gryfhau diogelwch menywod a merched, ac wrth gwrs, dyma gyfle yn awr i wneud sylwadau ar hynny. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn cydnabod y dylai'r Bil a gyflwynir, y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, fynd ati i gryfhau'r system cyfiawnder troseddol i ddiogelu menywod a merched, a hefyd—i’r un graddau, byddwn yn dweud, a dywedais hyn ddoe—yn galluogi pobl i barhau i fynegi eu pryderon yn rhydd.
Rwy'n cytuno â chi hefyd fod hwn yn fater iechyd y cyhoedd, fel y gwnaeth ein cynghorydd cenedlaethol gwych, Yasmin Khan, ddydd Sul. Ar sawl achlysur, soniodd am yr angen i newid diwylliant, a chydnabu fod hwn yn fater iechyd y cyhoedd, fod yn rhaid inni ddwyn troseddwyr i gyfrif, fod yn rhaid inni gael system wedi'i llywio gan drawma, a hefyd na allwn gamu o'r neilltu a gwneud dim. Dyna pam fod gennym ymgyrch gref Paid Cadw'n Dawel fel rhan o'n deddfwriaeth a’n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwyf hefyd yn falch iawn o'r ffaith bod gennym bellach, yn ein cwricwlwm newydd, ym Mil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), ddyletswydd statudol i sicrhau bod codi ymwybyddiaeth o addysg cydberthynas iach a rhywioldeb yn rhan o'r cwricwlwm i blant hyd at 16 oed. Bydd yn helpu pobl ifanc i herio agweddau ac ymddygiad gwenwynig.
Rwyf am siarad, os caf, fel mab, brawd, gŵr, tad a thaid i fenywod a merched rwy'n malio amdanynt ac yn eu caru'n angerddol. Mae achosion trasig diweddar Sarah Everard a Wenjing Lin wedi tynnu sylw at fater trais yn erbyn menywod mewn ffordd wirioneddol ysgytwol. Credaf ein bod ni yn Senedd Cymru yn unedig ac yn benderfynol o sicrhau bod ein strydoedd a’n cymunedau mor ddiogel â phosibl i fenywod a merched. Nod y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd yw arfogi'r heddlu â'r pwerau a'r arfau sydd eu hangen arnynt i ddiogelu'r cyhoedd, gan newid deddfau dedfrydu i gadw troseddwyr rhywiol a threisgar difrifol yn y carchar am gyfnod hirach. Bydd y pwerau newydd arfaethedig yn atal troseddwyr sy'n beryglus i'r cyhoedd rhag cael eu rhyddhau’n awtomatig, yn rhoi diwedd ar ryddhau troseddwyr a ddedfrydwyd i rhwng pedair a saith mlynedd yn y carchar am droseddau treisgar a rhywiol difrifol hanner ffordd drwy eu dedfryd, ac yn diwygio rheolau datgelu cofnodion troseddol i leihau'r cyfnod o amser sydd gan bobl i ddatgan euogfarnau terfysgol neu euogfarnau rhywiol di-drais blaenorol i gyflogwyr. Mae'r Bil hefyd yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol, yr heddlu, asiantaethau cyfiawnder troseddol, iechyd, a’r gwasanaethau tân ac achub i fynd i'r afael â thrais difrifol drwy rannu data a gwybodaeth. A fyddech felly’n cytuno y dylai’r mesurau hyn, sy’n ategu’r rheini sydd wedi’u cynnwys yn y Bil Cam-drin Domestig a drafodwyd yma ddoe, wneud menywod yn fwy diogel yng Nghymru? Ac o ystyried bod Llywodraeth y DU yn ceisio barn pobl i’w helpu i lywio datblygiad ei strategaeth nesaf ar gyfer mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, pa ran fydd gennych yn y broses hon?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. A gaf fi ddiolch i chi hefyd am godi llais fel tad ac ar ran yr holl fenywod yn eich bywyd? Gwyddom fod dynion yn dangos eu cefnogaeth, fel y gwnânt flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ym mis Tachwedd yn ddigwyddiad pwysig. Cawn ein gwylnos bob blwyddyn, oni chawn? Cafodd ein rhith-wylnos eleni ei harwain gan Joyce Watson—dan arweiniad Joyce Watson bob amser—gydag ymateb trawsbleidiol, fel y dywedwch, Mark Isherwood. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl ddynion ar draws ein gwasanaethau sy'n llysgenhadon y Rhuban Gwyn. Credaf fod Jack yma heddiw; gwn ei fod yn llysgennad Rhuban Gwyn allweddol, fel cynifer o rai eraill, wrth gwrs, nid yn unig yma, ond ledled Cymru.
Hoffwn ddweud, o ran y Bil, ein bod wedi derbyn fersiwn derfynol o'r Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd yr wythnos diwethaf, fel y dywedais. Mae'n Fil Llywodraeth y DU, ac rydym yn ystyried ei ddarpariaethau'n fanwl a'i effaith ar Gymru, ond rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau'r Bil i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn diogelu menywod a merched, gan ein bod yn poeni am lawer o agweddau, o dderbyn y Bil fel y mae, ac yn ceisio cyngor ar y mesurau a'r darpariaethau hynny. Yn amlwg, fe fydd yn bwysig fod ein swyddogion cyfatebol yn Senedd San Steffan yn edrych, yn craffu arno, ac mae llawer o bryderon eisoes wedi’u codi am y Bil. Ond mae angen inni sicrhau eu bod yn craffu arno'n effeithiol. Ond byddwn yn dweud heddiw fod yn rhaid inni wneud, o fewn ein pwerau yng Nghymru, ac wrth gwrs, ceir pwerau o ran comisiwn Thomas—a gwnaeth Delyth y pwynt hwnnw—rydym yn awyddus i’w hystyried, gan eu bod yn bwerau y byddem yn cydnabod y gallent ein galluogi i gryfhau ein cyfrifoldebau yn y maes hwn. Ond rydym yn awyddus i weithio'n agos iawn yng Nghymru gyda'n pedwar heddlu, ein hawdurdodau lleol, yn ogystal â Llywodraeth y DU, a holl sefydliadau ein trydydd sector, i sicrhau y gall diogelwch menywod a merched fod ar y blaen o ran ein pwerau a’n darpariaethau, ein blaenoriaethau, a'n cyllidebau.
A dyna pam, wrth gwrs, fod ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ein deddfwriaeth arloesol, mor hanfodol bwysig, a bod gennym ein llinell gymorth Byw Heb Ofn. Ac rwyf am achub ar y cyfle eto i ddweud mai gwasanaeth 24/7 rhad ac am ddim i holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yw hwn. Ac nid yn unig ei fod wedi parhau i fod ar gael, wrth gwrs, drwy gydol y cyfyngiadau coronafeirws, sy’n golygu na ddylai’r cartref fod yn lle i fyw mewn ofn, ond mae wedi bod yn destun cryn bryder i bob un ohonom yn y Senedd mewn perthynas ag effaith COVID-19 ar bobl y cyfyngir arnynt oherwydd COVID-19. Ond rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol i Byw Heb Ofn, ac wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda'n darpariaethau hyfforddi 'gofyn a gweithredu’ a Paid Cadw'n Dawel, ac yn ariannu Prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n hyrwyddo cydberthynas iachach yn effeithiol yn ein hysgolion ac ymhlith ein pobl ifanc.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Eitem 5 ar yr agenda oedd y datganiadau 90 eiliad, ond ni ddaeth yr un i law.
Felly, symudwn at y cynnig i benodi Comisiynydd Safonau'r Senedd. A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i wneud y cynnig hwnnw, Jayne Bryant.
Cynnig NDM7654 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: 'Penodi'r Comisiynydd Safonau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021 ('yr adroddiad').
2. O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Douglas Bain CBE TD yn Gomisiynydd Safonau y Senedd o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2021.
3. O dan baragraffau 1 a 2 o'r Atodlen i Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009:
a) yn cytuno ar becyn taliadau'r Comisiynydd, yn unol â pharagraff 1(b) o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad;
b) yn dirprwyo, yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, y gwaith o wneud penderfyniadau ynghylch addasu pecyn taliadau’r Comisiynydd yn flynyddol i Glerc y Senedd; ac
c) yn dirprwyo, yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, y gwaith o bennu’r holl delerau eraill y mae penodiad o'r fath i gael effaith arnynt i Glerc y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r pwyllgor safonau yn argymell y dylid penodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau'r Senedd o 1 Ebrill 2021 am gyfnod o chwe blynedd. Mae'r comisiynydd yn ddeiliad swydd annibynnol sydd â'r rôl o hyrwyddo, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel ymhlith yr Aelodau o'r Senedd. Hwn fydd y trydydd penodiad i swydd comisiynydd.
Enwebwyd Douglas Bain yn dilyn proses ddethol agored, dryloyw a thrylwyr. Cadeiriwyd y panel dethol gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd, ac roedd yn cynnwys dau aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Rhun ap Iorwerth a minnau—ac aelod annibynnol o'r panel. Cynhaliwyd cyfweliad â nifer o ymgeiswyr o safon uchel; roedd y panel yn unfrydol yn ei ddewis o ymgeisydd—Douglas Bain. Mae Douglas Bain wedi bod yn gomisiynydd dros dro ers mis Tachwedd 2019. Cyn hynny, ef oedd Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon. Mynychodd Douglas Bain wrandawiad cyn penodi gyda'r pwyllgor safonau; holodd y pwyllgor safonau ef am ei ymagwedd at y rôl, a chroesawu ei uchelgais i godi proffil safonau ymddygiad. Nodwyd ei brofiad eang o ymdrin â chwynion, yn enwedig y rhai sy'n dod o dan y polisi urddas a pharch. Cymeradwyodd y pwyllgor enwebiad Douglas Bain yn unfrydol fel Comisiynydd Safonau'r Senedd. Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig.
Diolch. Nid oes siaradwyr yn y ddadl, ac felly'r cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld gwrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig hwnnw, Russell George.
Cynnig NDM7653 Russell George
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn fy enw i, Ddirprwy Lywydd. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn yr wythnos diwethaf. Mae goblygiadau newidiadau radical yn y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio yn rhywbeth y bydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru fynd i'r afael ag ef, a gobeithio y bydd ein hadroddiad yn helpu yn hynny o beth.
Yn gyntaf oll, roeddem eisiau gwybod a yw targed y Llywodraeth o 30 y cant ar gyfer gweithio o bell yn gyraeddadwy, ac awgrymodd y dystiolaeth yn gryf ei fod. Ond yn amlwg, mae cyfleoedd a risgiau i'w hystyried. Er enghraifft, clywsom sut y mae gweithio gartref wedi bod yn newid go iawn i rai pobl anabl, ond clywsom hefyd fod y posibilrwydd o weithio o bell yn creu gweithlu dwy haen, gan fod y rhai sy'n gallu gweithio o bell yn tueddu, neu fel arfer yn tueddu i feddu ar sgiliau uwch ac yn tueddu i ennill cyflog uwch. Mae angen i'r Llywodraeth ddefnyddio diffiniadau cadarn o weithio o bell i gasglu digon o ddata sy'n benodol i Gymru, ac mae angen ystyried yr holl effeithiau ar gydraddoldeb wrth asesu'r polisi hwn.
Nawr, mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw am strategaeth glir sy'n mapio sut y bydd camau polisi gweithio o bell yn cydgysylltu â meysydd polisi eraill. Nid yw'n ymwneud â chyflawni nodau lleihau carbon yn unig. Mae goblygiadau o ran darpariaeth gofal plant, cynllunio gofodol a chynlluniau seilwaith, adfywio a pholisi chydlyniant cymunedol, gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol a'r sector preifat a'r trydydd sector, felly mae llawer yno i'w gydgysylltu.
Nid wyf yn credu y byddai'r Aelodau'n disgwyl i mi ddweud unrhyw beth gwahanol ar y pwynt nesaf hwn, ond mae cau'r gagendor digidol yng Nghymru hefyd yn hanfodol i bawb, ni waeth beth fo'u lleoliad na'u cefndir, a'r cyfle i elwa o arferion gweithio mwy hyblyg.
Rydym i gyd yn ymwybodol, yn anffodus, o effeithiau gweithio o bell ar iechyd a llesiant yn yr amgylchiadau presennol, ac mae digon ar hynny yn ein hadroddiad hefyd. Bydd angen sgiliau rheoli gwahanol, wrth gwrs, i reoli gweithlu o bell, ac i helpu i liniaru rhai o'r effeithiau negyddol hyn.
Mae argymhellion 12 a 13 yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddi i ddiogelu hawliau gweithwyr. Mae tystion wedi mynegi llawer o bryderon yn y pwyllgor fod y rhai sy'n gweithio gartref yn gweithio oriau hwy, ac yn gweithio mewn amgylcheddau gwaeth. Ac rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom enghreifftiau, onid oes, o dderbyn negeseuon e-bost yn hwyr yn y nos, neu'n hwyr gyda'r nos, gan staff a chyrff eraill, i raddau gwahanol i'r hyn a fyddai wedi digwydd cyn y pandemig.
Rydym yn ddiolchgar i Dr Reuschke am ein helpu i ddeall y rhwydwaith presennol o arferion cydweithio yng Nghymru yn well, ac yn sicr credwn fod angen i Lywodraeth Cymru feddwl am hynny. Rydym yn argymell y dylid mapio'r ddarpariaeth bresennol yn well, ac y dylai'r Llywodraeth newydd ystyried addasu adeiladau at ddibenion gwahanol hefyd. Rydym wedi gweld newidiadau dramatig ynghanol ein trefi a'n dinasoedd, ac mae llawer o ansicrwydd o hyd yn anffodus, wrth gwrs, am ddyfodol manwerthu. Felly, rydym yn argymell bod gan Lywodraeth Cymru gynllun sy'n gallu addasu ac ymateb i dueddiadau gweithio o bell, gan osod llwybr clir ar gyfer y sector.
Nid oedd popeth yn anobeithiol yn hynny o beth chwaith. Gwelodd ein tystion gyfleoedd gwirioneddol i ailddychmygu canol ein dinasoedd a'n trefi. Mae'n amlwg bod targedau datgarboneiddio wedi llywio'r uchelgais 30 y cant, ond mae angen iddo gyd-fynd â mesurau eraill i gyflawni'r newid moddol hwn.
Nid Cymru yw'r unig wlad sy'n rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r normal newydd lle mae mwy o bobl yn gweithio o bell. Fe wnaethom ystyried arferion gorau yn rhyngwladol, a chredwn y dylai llunwyr polisi yma yng Nghymru ystyried y dystiolaeth o leoedd fel Milan, y Ffindir a'r Iseldiroedd.
Mae llawer iawn i feddwl amdano yn yr adroddiad hwn, Lywydd, ac rwyf wedi ceisio rhoi brasolwg arno yn yr amser byr sydd gennyf. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn gallu cyfrannu ac edrych yn fanylach ar agweddau penodol ar yr adroddiad hwn, ond wrth gwrs, rwy'n croesawu safbwyntiau o bob rhan o'r Siambr yn ogystal ag ymateb a sylwadau'r Dirprwy Weinidog ar ddiwedd y ddadl.
Yn hytrach na thrin gweithio o bell fel anomaledd, dylem ei weld fel y norm newydd. O edrych ar y meysydd canlynol o waith swyddfa, cyflogau ac adnoddau dynol, cyfrifon ac archwilio, yn y dyddiau cyn TGCh, roedd angen eu gwneud yn y swyddfa. Roedd yn rhaid diweddaru cyflogau a chofnodion personol â llaw a'u ffeilio'n gorfforol, gyda thâl yn cael ei gyfrifo, ei gyfrif, ei wirio â llaw a'i roi mewn amlenni. Roedd yn rhaid cofnodi incwm a gwariant yn y cyfriflyfrau, a phostio anfonebau a chasglu a bancio sieciau neu arian. Roedd archwilio'n cynnwys gwirio cyfriflyfrau yn gorfforol a chysoni â datganiadau banc. Gyda datblygiadau TGCh, daeth cofnodion yn electronig. Dilynwyd hyn gan fand eang cyflym, sef y rhwystr olaf i weithio gartref. Roedd y symudiad tuag at weithio gartref a chyfarfodydd ar-lein yn digwydd ymhell cyn COVID. Yr hyn y mae COVID wedi'i wneud yw cyflymu'r newid hwn. Rydym wedi gweld, dros y flwyddyn ddiwethaf, pa mor dda y mae Zoom a Teams yn gweithio, yn enwedig lle mae band eang cyflym ar gael.
Mae angen i Lywodraeth Cymru osod targed ar gyfer gweithio gartref iddi ei hun a chyrff eraill a ariennir yn gyhoeddus, ond pam newid yr hyn sydd wedi gweithio dros y 12 mis diwethaf? Bydd y sector preifat yn gwneud yr hyn sy'n gweithio i bob cwmni unigol. Nid yw pobl, yn gyffredinol, eisiau treulio oriau'n cymudo bob dydd. Bydd recriwtio cystadleuol yn golygu y bydd cynnig swydd lle gallwch weithio gartref yn bennaf yn fwy o demtasiwn nag un sy'n golygu cymudo sawl awr yr wythnos.
Bydd twf gweithio gartref yn cael ei benderfynu gan lawer o benderfyniadau unigol, a fydd, gyda'i gilydd, yn llunio'r cyfeiriad teithio. Peidiwch ag anghofio costau gofod swyddfa a gwasanaethu'r gofod hwnnw. Bydd hyn yn dylanwadu'n gryf ar benderfyniadau cwmnïau, a bydd arbed costau teithio yn dylanwadu'n gryf ar unigolion. Nid yw'r arbrawf gweithio gartref dros y flwyddyn ddiwethaf wedi digwydd o dan yr amodau gorau, gyda phobl yn gorfod dysgu eu plant gartref yn ogystal â gweithio gartref, ac nid oes unrhyw astudiaeth wedi dangos gostyngiad sylweddol mewn cynhyrchiant, gyda rhai'n dangos gwell cynhyrchiant.
Bydd y newid hwn i weithio gartref yn bennaf yn creu newidiadau a heriau enfawr. Mae gennym system drafnidiaeth sy'n seiliedig ar gymudo. Mae pobl sy'n gofyn am ffyrdd osgoi a ffyrdd lliniaru yn yr un sefyllfa â'r rheini yn y 1900au a ofynnai am fwy o gafnau ceffylau. Mae gennym dystiolaeth o sector gwasanaeth sy'n dibynnu ar gymudwyr a gweithwyr swyddfa am ran sylweddol o'u masnach. Ni fydd y newid yn ddi-boen, ond mae'n anochel. Yr her i lywodraethau, fel bob amser, yw ymateb i bethau fel y maent ac wrth iddynt ddigwydd, nid fel yr hoffent i bethau fod. Dyma ddechrau'r chwyldro ôl-ddiwydiannol, cylch cyflawn o'r cyntaf, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn ennill.
A gaf fi ddiolch i bawb ar y pwyllgor a'r tystion a roddodd dystiolaeth i ni? Mwynheais y sesiwn hon yn fawr, fel aelod cymharol newydd o'r pwyllgor. Rwy'n credu bod Mike yn iawn. Ni ellir dad-wneud hyn yn awr, er, fel y mae'r adroddiad yn ei ddweud, mae angen inni fod yn siŵr beth a olygwn pan fyddwn yn sôn am weithio o bell neu weithio hybrid, fel y mae'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn ei alw. Ac nid wyf yn credu y byddai—. Nid wyf yn cytuno â Mike pan awgrymodd y gallai hwn fod yn normal newydd ac y bydd llawer mwy ohonom yn gweithio mwy o adref. Yn amlwg, os ydych yn gweini bwyd mewn caffi ni allwch wneud hynny o adref, ond mae'n gweddu i rai swyddi. Os edrychwch ar yr hyn y mae Admiral wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar, mae ei weithlu cyfan yn y bôn wedi newid i weithio gartref—. Rwy'n argymell bod yr Aelodau'n darllen yr adroddiad hwn, a hoffwn dynnu eu sylw at yr argymhellion diweddarach, sy'n nodi'r modd y mae angen ystyried y posibilrwydd o weithio o bell fel rhan o bolisi jig-so mwy o faint, mewn gwirionedd. Ni ellir ymdrin ag ef ar ei ben ei hun.
Ond hoffwn ddechrau drwy ddweud ei bod yn rhy hawdd dweud y gallwn ni—a phwy ydym ni o dan yr amgylchiadau hyn—sefydlu hybiau gwaith mewn trefi a phentrefi ledled Cymru heb feddwl o ddifrif am hyn. Nid yw'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn siŵr mewn gwirionedd a oes yna alw penodol am weithio o hybiau beth bynnag. Er y byddai'r posibilrwydd o hyn yn ymwneud â lleihau erchyllterau a difrod amgylcheddol cymudo, mae angen inni fod yn glir na fydd y cymudo'n cael ei symud i rywle arall. Mae'n wir dweud y gallai teithio llesol chwarae rhan yma, ond byddai'n dipyn o naid, oni fyddai, i honni na fydd pobl yn dal i estyn am allweddi eu car a hwythau'n dal i orfod ymdopi â mynd a phlant i'r ysgol neu lenwi'r car â bagiau siopa.
Y peth arall rwyf am dynnu sylw ato yw y dylem wylio rhag canlyniadau anfwriadol y newid hwn, a gwelsom rai ohonynt yn ystod y cyfyngiadau symud, wrth gwrs. Oherwydd mae gweithio hyblyg yn swnio'n wych mewn egwyddor, ond yr hyn y mae wedi'i wneud yw gwneud i lawer o bobl sy'n gweithio gartref weithio'n hwyr gyda'r nos er mwyn gallu cyflawni rhagor o gyfrifoldebau domestig. A chan fod hynny'n golygu—nid yw'n syndod—menywod yn bennaf, mae'n rhaid inni ystyried yr effeithiau ar gydraddoldeb y gallai gweithio o bell eu hamlygu.
Yn fyr, mae'r adroddiad yn argymell bod yn rhaid cynllunio ar gyfer unrhyw newid mawr mewn arferion gweithio, yn seiliedig ar y dystiolaeth lawnaf, ac nid yw hynny'n bosibl mewn gwirionedd, fel roedd Russell yn ei ddweud yn ei sylwadau agoriadol, heb seilwaith digidol a seilwaith ffisegol priodol, felly bydd yn rhaid meddwl yn strategol am unrhyw newid sylweddol i'r ffordd y mae gennym fywydau gwaith. Diolch.
Fel arfer, dyma adroddiad cadarn a chynhwysfawr gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ac rwy'n llongyfarch Russell George, aelodau'r pwyllgor, a staff y Comisiwn, wrth gwrs, sydd wedi helpu i lunio'r adroddiad hwn. O ystyried yr amser cyfyngedig sydd gennyf, rwyf am ganolbwyntio ar yr egwyddorion trosfwaol a'r effeithiau ar weithio gartref, ond hoffwn ddweud fy mod yn cytuno ar yr argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn a byddwn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn y chweched Senedd yn ystyried yr argymhellion hyn.
Nid yw'r adroddiad yn crybwyll—efallai fy mod wedi'i golli—cyflwyno 5G, ond nid oes amheuaeth y bydd y dechnoleg newydd hon yn cael effaith esbonyddol ar y gallu i gyflawni tasgau o bell, yn enwedig yn y sector iechyd. Fel yr awgryma'r adroddiad, gall gweithio gartref neu weithio o bell ddigwydd ar sawl ffurf, ond deellir yn bennaf ei fod yn golygu gweithio o'ch man preswylio. Er bod hyn yn bosibl neu hyd yn oed yn ddymunol yn y rhan fwyaf o achosion, gall amgylchiadau cartref amrywio i'r fath raddau fel ei fod yn anodd i rai, neu'n amhosibl hyd yn oed. Gall plant, gwaith tŷ, gofynion bwyd effeithio i raddau mwy neu lai, nid yn unig ar ddynes sy'n gweithio gartref, er i raddau mwy mae'n debyg, ond hefyd ar weithwyr gwrywaidd. Felly, mae'n hanfodol nad ydym yn cyrraedd sefyllfa lle mae pobl yn cael eu gorfodi i weithio gartref ar sail barhaol. Mae astudiaethau i'w gweld yn dangos mai system hybrid o ychydig ddyddiau o weithio gartref a diwrnod neu ddau yn y swyddfa sy'n cynnig yr ateb gorau o ran osgoi problemau meddyliol sy'n deillio o arwahanrwydd parhaus.
Dylai'r strategaeth o agor hybiau gwaith, yn enwedig ynghanol trefi llai, greu nifer o effeithiau cadarnhaol: pellteroedd teithio byrrach, mwy o ymwelwyr â threfi, a'r posibilrwydd o gyfarfod â phobl eraill—agwedd sylfaenol ar weithgarwch dynol. Ceir y posibilrwydd o sefydlu nifer o swyddfeydd busnes lle mae gwahanol gwmnïau'n rhentu gofod swyddfeydd, ond lle ceir cyfleusterau a rennir. Mae'r rhain eisoes yn bodoli, wrth gwrs, ond mae bron bob un ohonynt yn cael eu rhedeg gan gwmnïau masnachol yn bennaf. Mae llawer o gyfle i'r rhain gael eu sefydlu gan lywodraeth leol neu genedlaethol, gyda rhenti ac ardrethi isel i ddechrau, ond yn codi'n araf dros amser. Mae llawer o sôn yn yr adroddiad am greu anghydraddoldebau gyda'r math hwn o weithio. Nid wyf yn rhannu'r farn hon. Credaf ei fod yn creu mwy o gyfleoedd i bobl anabl drwy ddileu rhwystr teithio, sydd, hyd yn oed gyda mwy o le i deithio, yn dal i greu anawsterau i bobl anabl. Byddai ffurf hybrid yn golygu y gellid lleihau'r anawsterau teithio hyn i unwaith yr wythnos efallai. Mae'r awgrym mai dim ond gweithwyr sgiliau uwch ar gyflogau uwch sy'n cael budd o weithio gartref yn anwybyddu'r ffaith y bydd pawb yn elwa o lai o draffig: adeiladwyr, gweithwyr dosbarthu a llawer mwy y mae eu gwaith yn golygu bod yn rhaid iddynt ddefnyddio'r rhwydwaith ffyrdd; bydd yn effeithio'n gadarnhaol ar bob un ohonynt.
Mae'r effaith ar yr amgylchedd a ddaw yn sgil llai o gymudo yn amlwg, ond ni ddylai gosod nodau a allai olygu bod pobl yn cael eu gorfodi i weithio gartref fod yn opsiwn. Dylai gweithio o bell fod yno ar gyfer y rhai sy'n dymuno gwneud hynny, ac nid yn ffordd orfodol o weithio. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi alw ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters?
Ie, diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n rhaid imi ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad ystyrlon a'r ffordd y gwnaethant gynnal yr ymchwiliad a phawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma.
Fel y mae Mike Hedges wedi'i roi, yr hyn y mae COVID wedi'i wneud yw cyflymu'r hyn a oedd eisoes yn digwydd. Ac nid ydym am ddychwelyd yn ddiofyn at lawer o'r hen arferion gwael a oedd gennym cyn COVID am nad ydym wedi rhoi dewis arall ar waith. Fel y nododd Mike hefyd, pam y byddem eisiau dychwelyd at sefyllfa lle'r oeddem yn cymudo am sawl awr yr wythnos? Ac rwy'n credu ein bod yn derbyn bod llawer o gyflogwyr, cyn COVID, o'r farn na fyddai gweithio gartref yn gynhyrchiol, na ellid ymddiried mewn gweithwyr, na ellid eu goruchwylio’n briodol, na fyddai'n ymarferol, neu na fyddai'r dechnoleg yn ddigonol. Ac at ei gilydd, profwyd nad oes sail i'r pryderon hynny. Fel y nododd Suzy Davies, mae gweithio gartref yn creu anfanteision sylweddol i lawer, a hynny'n enwedig o safbwynt cydraddoldeb. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn ein hamgylchiadau domestig wedi gweld y sefyllfaoedd y mae Suzy yn eu disgrifio o fod wedi gorfod gwneud mwy yn y pen draw ac amsugno'r gorchwylion domestig a'u symud o gwmpas, ac mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar fenywod, mae'n ddrwg gennyf ddweud, hyd yn oed ar aelwydydd goleuedig. Felly, mae angen inni fod yn effro i beryglon hyn a bod yn ymwybodol ohonynt yn sicr, felly gadewch inni geisio cadw'r elfennau da a bod yn effro hefyd i'r elfennau gwael a cheisio ymdrin â hwy.
Rwy'n falch o ddweud bod argymhellion yr adroddiad yn cyd-fynd yn fras â'r cynlluniau rydym eisoes yn eu datblygu o fewn y Llywodraeth, ac rydym yn gweithio ar gyfres o argymhellion ac adroddiad a fydd ar gael—strategaeth—ar gyfer y Llywodraeth nesaf ym mis Medi neu fis Hydref. Ac mae meddwl drwy'r holl wahanol elfennau ynddo yn waith cymhleth. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi a chyflwyno cyfres o brosiectau peilot i geisio profi rhai o'r ymyriadau hyn. Mae hyn yn cynnwys Costigan's yn y Rhyl a HaverHub yn Hwlffordd, a nod y ddau yw annog cyflogwyr a gweithwyr i geisio gweithio ynghanol eu trefi lleol. Bydd prosiect arall yn canolbwyntio ar sut y gallwn ddefnyddio gofodau mewn cymunedau gwledig ar draws cwm Tawe.
Mae hyn yn ychwanegol at nifer o fentrau ar draws ardal tasglu'r Cymoedd, megis gofodau lle gallwn weithio wedi ein hamgylchynu gan natur fel rhan o brosiect parc rhanbarthol y Cymoedd yn Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin, ac ym Mharc Bryn Bach yn Nhredegar, yn ogystal â gofod gweithio ar y cyd sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn swyddfeydd Cymdeithas Tai Rhondda ynghanol Tonypandy. Ac ar ben hynny, bydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu'r defnydd o ofod yn eu swyddfeydd newydd ym Mhontypridd er mwyn i bobl eraill nad ydynt yn gweithio iddynt dreialu gweithio ar y cyd.
Felly, byddwn yn defnyddio'r prosiectau hyn i fonitro ymarferoldeb a'r awydd i weithio'n lleol, gan roi'r dewis a'r modd i bobl weithio yng nghanol y dref, ac rwy'n credu bod hwn yn gyfle pwysig i gefnogi model economaidd newydd y tu allan i ganol dinasoedd mawr. Wrth gwrs, bydd dinasoedd yn parhau i fod yn bwysig, ond i ardaloedd fel Cymoedd De Cymru sydd wedi brwydro yn erbyn 40 mlynedd o ddad-ddiwydiannu—ac mae hynny'n wir mewn sawl rhan o Gymru—dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adeiladu model newydd ar gyfer trefi bach a'r stryd fawr mewn trefi y tu allan i'r dinasoedd mawr. Gyda niferoedd mwy a mwy amrywiol o ymwelwyr, daw â chyfleoedd yn ei sgil i ddenu swyddi, gwariant lleol a bywiogrwydd newydd yn ôl i'r ardaloedd hyn, sy'n arbennig o bwysig yn y cyd-destun fod COVID wedi cyflymu diwedd y model seiliedig ar fanwerthu yn unig a welwyd yn ein trefi. Ac mae ein menter Trawsnewid Trefi, buddsoddiad o tua £900 miliwn yn y chwe neu saith mlynedd ddiwethaf, yn dangos ein bod yn ymrwymedig iawn i hyn, ac mae'n gweithio gyda llawer o'r polisïau roeddem eisiau eu cyflawni eisoes.
Wrth gwrs, mae gweithio ar draws y Llywodraeth bob amser yn berthnasol yma, ac fel y crybwyllwyd eto yn y ddadl gan David Rowlands a chan Suzy Davies, mae'r angen am seilwaith i gefnogi hyn yn hollbwysig, a seilwaith digidol yn enwedig, fel rydym wedi'i ddweud sawl gwaith yn y Siambr ddigidol hon. Nid yw hyn yn gyfrifoldeb datganoledig, ond rydym yn edrych i weld pa werth y gallwn ei ychwanegu i sicrhau bod y gofodau gweithio ar y cyd a sefydlwyd gennym wedi'u galluogi'n ddigidol yn llawn. Ac rwy'n credu bod cyfle gwych, drwy ein cynllun band eang y sector cyhoeddus, i geisio cysylltu â rhwydweithiau rydym eisoes wedi'u creu i sicrhau bod yr agenda hon yn ystyrlon i gynifer o bobl â phosibl.
Felly, fel y dywedaf, 'dewis', rwy'n credu, yw'r gair pwysig yma. I'r rhan fwyaf o'r rhai a gyflogir yng Nghymru, gwyddom nad yw hwn yn ddewis y gallant ei wneud; nid ydynt yn gallu gweithio gartref. Felly, mae hwn yn fater i leiafrif sylweddol, ond lleiafrif serch hynny, a thrwy ei reoli'n briodol, gall ddod â manteision gwirioneddol i bobl—osgoi straen cymudo, cynyddu hyblygrwydd—i gymunedau, drwy ei ddefnyddio fel cyfle i adfywio'r stryd fawr, ac wrth gwrs, y manteision amgylcheddol a ddaw yn sgil cyfyngu ar dagfeydd a theithiau diangen. A phan fyddwn yn trafod ein strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru yr wythnos nesaf, Ddirprwy Lywydd, fe welwch fod ein targed o 30 y cant o bobl yn gweithio gartref ar sail barhaus yn rhan allweddol o'n cynllun i geisio lleihau ein hallyriadau carbon a chyrraedd ein targedau sero net erbyn 2050.
Felly, byddwn yn dweud i gloi fod hwn yn ymateb i argyfwng sydd wedi creu cyfleoedd ond sydd hefyd wedi cyflwyno cyfres o heriau. Rydym yn awyddus i gymryd ein hamser i ystyried y rhain, i brofi a threialu dulliau gweithredu, i fod yn ymwybodol iawn o'r effeithiau ar gydraddoldeb, a cheisio troedio'r tir newydd hwn mor ofalus ag y gallwn er mwyn sicrhau ein bod yn harneisio'r manteision ac yn lliniaru'r anfanteision. Diolch.
Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi nodi eu bod eisiau gwneud ymyriad. Felly, galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl. Russell.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn y Drenewydd yn ystod amser cinio heddiw yn prynu bwlb golau, ac roeddwn mewn siop yn gwisgo jîns a fy esgidiau ymarfer a dyma etholwr yn fy adnabod er fy mod yn gwisgo masg, a meddwl fy mod yn mynd am dro hamddenol yn hytrach na gwneud fy ngwaith. Dywedais, 'Na, na, rwyf allan yn prynu bwlb golau; rwyf angen y bwlb golau ar gyfer fy swyddfa, neu fel arall byddaf yn cyflwyno fy nadl yn y Senedd y prynhawn yma yn y tywyllwch.' Fe wnaeth imi feddwl pa mor rhyfedd y byddai'r sgwrs honno wedi bod cwta 12 mis yn ôl.
Ond edrychwch, diolch i'r Aelodau am eu cyfraniad y prynhawn yma. Fe'm trawyd gan rywbeth a ddywedodd Mike Hedges am yr arbrawf gweithio, yn y cyd-destun fod plant gartref hefyd ar hyn o bryd. Nid dyna fydd y norm, gobeithio, felly mae'n anodd gwybod ac asesu'r profiad yn briodol tra byddwn ynghanol y pandemig wrth gwrs. Pethau eraill y soniodd Mike amdanynt: fod cynnydd i'w bennu gan benderfyniadau unigol—yn hollol. A dywedodd Mike hefyd na fydd y newid yn ddi-boen—credaf ein bod ni'n cydnabod hynny fel pwyllgor hefyd.
Diolch, Suzy, am eich cyfraniad. Rydych yn hollol gywir, nid yw gweithio gartref yn gweddu i bawb, ac rwyf hefyd yn credu ei bod yn hollol gywir inni gwestiynu pa fath o alw a fydd am yr hybiau. Nid ydym yn gwybod eto sut y bydd hynny'n gweithio na sut y bydd yn cyd-fynd â gweithio o bell yn ehangach. Ac roedd Suzy hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y gall gweithio oriau hirach, yn enwedig, effeithio ar rai grwpiau o bobl hefyd, megis menywod, felly mae hynny'n rhywbeth i'w ystyried hefyd.
Diolch i David Rowlands am ei gyfraniad heddiw. Rwy'n credu bod y cyfle i Lywodraeth Cymru sefydlu hybiau gweithio ar y cyd wedi cael ei drafod hefyd, ac yn amlwg, rwy'n credu bod yna broblemau o ran traffig y soniodd David Rowlands amdanynt yn briodol hefyd.
Y Gweinidog—. Diolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd. Rwy'n credu eich bod yn iawn, Ddirprwy Weinidog, mae yna bwynt na ddylem ddychwelyd at yr hen ddyddiau gwael. Rwy'n credu eich bod hefyd yn iawn fod y rhwystrau a oedd yno yn y gorffennol i weithio gartref wedi'u profi'n anghywir o bosibl. Rwy'n cytuno â hynny. Roedd gennyf ddiddordeb yn eich cyhoeddiad yn gynharach heddiw ar gynlluniau peilot ar gyfer gweithio ar y cyd—felly, mae'n ddiddorol gweld y cynnydd yn hynny o beth—ac wrth gwrs rwy'n falch eich bod yn ystyried y goblygiadau ar gyfer canol trefi, y sonioch chi amdanynt hefyd.
Felly, ar wahân i hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud mai hon yw'r ddadl bwyllgor olaf y byddaf yn ei harwain, felly, fel y dywedodd Kirsty Williams yn gynharach am ei swydd ddelfrydol, rwyf wedi teimlo mai hon yw fy swydd ddelfrydol i. Rwyf wedi mwynhau cadeirio'r pwyllgor hwn yn fawr ac rydym wedi llunio adroddiadau ar faterion rwyf wedi teimlo'n angerddol yn eu cylch ac wedi bod â diddordeb ynddynt yn flaenorol, felly rwyf wedi mwynhau fy amser fel Cadeirydd y pwyllgor hwn yn fawr.
Ond yn olaf, diolch i'r tîm clercio a'r tîm integredig ehangach am eu cymorth—cymorth enfawr ganddynt—ac rydym yn ddyledus iddynt fel Aelodau, felly diolch iddynt; hoffwn gofnodi hynny. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Na, nid wyf yn gweld gwrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar ddeiseb P-05-1056, 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru', a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i gyflwyno'r cynnig—Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7652 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-05-1056 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru' a gasglodd 5,386 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Osian Jones ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ar ôl casglu 5,386 o lofnodion. Mae'n codi mater sy'n peri pryder sylweddol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru: argaeledd tai am brisiau sy'n fforddiadwy i bobl leol, yn enwedig i bobl ifanc sy'n ceisio dod o hyd i eiddo yn y gymuned y maent wedi'u magu ynddi. Dywed y deisebwyr mai'r cyd-destun i'r ddeiseb hon yw nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn llawer o ardaloedd gwledig a thwristaidd yng Nghymru, sy'n lleihau'r stoc dai sydd ar gael ac yn codi prisiau tai.
Mae hwn yn fater o bryder gwirioneddol mewn llawer o gymunedau, ac yn un y gwn ei fod wedi cael ei drafod yn aml yn y Senedd. Mae'r deisebwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod hon yn broblem arbennig o gronig mewn rhai mannau oherwydd lefel yr anghydraddoldeb rhwng incwm lleol, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n dymuno prynu cartref cyntaf, a gallu ariannol pobl sy'n ceisio prynu ail gartrefi, cartrefi gwyliau neu fuddsoddi mewn eiddo. Er bod hon yn duedd hirdymor, mae'r deisebwyr yn honni bod sawl ffactor wedi gwaethygu'r broblem yn ddiweddar. Mae'r rhain yn cynnwys twf Airbnb a gwasanaethau tebyg, yn ogystal â newidiadau mwy diweddar a achoswyd gan bandemig COVID-19. Mae'n ymddangos bod y newid i weithio gartref ar raddfa fwy eang yn debygol o gael effeithiau parhaol, gan gynnwys, fel y clywsom yn y ddadl flaenorol, newid hirdymor yn nifer y bobl sy'n gweithio o bell.
Mae'r deisebwyr yn cyfeirio at enghreifftiau o bentrefi fel Abersoch yng Ngwynedd, lle mae cymaint o eiddo bellach yn gartrefi gwyliau neu'n ail gartrefi fel ei fod yn cael sgil-effeithiau ar gynaliadwyedd ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Maent hefyd yn mynegi pryder am yr effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar y Gymraeg, a chymeriad a chynaliadwyedd cymunedau, yn enwedig oddi allan i'r tymor gwyliau.
Hoffwn bwysleisio bod y deisebwyr yn derbyn nad yw hwn yn fater syml i fynd i'r afael ag ef; maent wedi dweud wrth y Pwyllgor Deisebau eu bod yn deall nad oes atebion cyflym na syml i'r pryderon hyn. Yn eu gohebiaeth fanwl â'r pwyllgor, maent wedi cydnabod bod diwedd tymor y Senedd hon yn prysur agosáu ac y byddai angen ymgynghori a chraffu ar lawer o'u gofynion cyn y gellid eu gweithredu. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gwneud pwyntiau tebyg yn ei hymatebion ei hun i'r ddeiseb.
Fodd bynnag, mae'r deisebwyr yn pwysleisio bod angen ymdeimlad o frys i ddechrau mynd i'r afael â'r problemau hyn. Maent wedi amlinellu'r camau y credant eu bod yn angenrheidiol yn y tymor byr ac yn hirdymor. Yn hirdymor, maent yn galw am ddiwygio deddfwriaethol—Deddf eiddo i Gymru—a fyddai'n darparu rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai drwy gyfrwng yr awdurdodau lleol. Yn y cyfamser, maent yn galw am drafodaethau ystyrlon gydag awdurdodau lleol gyda'r nod o baratoi ar gyfer hyn ac i rannu arferion da. Mae'r deisebwyr yn cyfeirio at gynllun Simple Lettings yn Sir Gaerfyrddin fel un o'r rheini.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyfeirio at enghreifftiau, megis y ffordd y mae rhai cynghorau'n gwneud defnydd llawn o'r pŵer i godi premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi, er enghraifft, Cyngor Sir Penfro, sydd wedi defnyddio'r enillion i gefnogi ymddiriedolaethau tir cymunedol. Fodd bynnag, oherwydd eu barn am frys y sefyllfa, mae'r deisebwyr yn dadlau bod angen cymryd camau pellach ar unwaith. Maent yn croesawu'r cynnydd yng nghyfradd y dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi, ond yn cwestiynu pam nad yw'n fwy nag 1 y cant. Maent yn galw am ddiwygio'r rheolau ar gyfer cofrestru ail gartrefi fel eiddo masnachol, megis drwy gynyddu nifer y diwrnodau y mae'n rhaid eu gosod, er mwyn galluogi mwy o gynghorau i godi premiwm y dreth gyngor heb golli refeniw. Ac yn olaf, maent yn galw ar y Llywodraeth i roi cyngor brys i awdurdodau lleol ynghylch proses y cynllun datblygu lleol er mwyn pwysleisio eu hawliau i bennu amddiffyniadau mewn rhai cymunedau neu i ddefnyddio cymalau perchnogaeth leol.
Hoffwn nodi nifer o ddatganiadau diweddar a gwaith arall gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn sy'n ceisio cydnabod bod problem yn bodoli. Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog sy'n pennu cyfeiriad teithio, yn ogystal ag adroddiad diweddar gan Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe, sy'n craffu ar bolisi presennol ar ail gartrefi. Rwyf hefyd wedi cyfeirio o'r blaen at newidiadau i'r dreth trafodiadau tir a phremiymau'r dreth gyngor. Y brif ddadl a wneir gan y deisebwyr yw nad yw'r camau hyn yn mynd yn ddigon pell er gwaethaf y croeso sydd iddynt. Maent yn galw ar y Llywodraeth i wneud mwy i ddangos ei hawydd i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac i helpu i sicrhau bod pobl yn gallu fforddio cartref yn eu cymuned eu hunain.
I gloi, credaf y byddem i gyd yn cydnabod na fydd modd datrys y problemau sy'n cael sylw yn y ddeiseb hon drwy un ateb syml. Fodd bynnag, credaf fod y deisebwyr wedi argymell camau ymarferol i'w hystyried, ac rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon fod yn gam ymlaen tuag at ystyriaeth bellach o beth arall y gellir ei wneud. Diolch yn fawr.
Mae'r sefyllfa ail gartrefi mewn rhai mannau o Gymru yn argyfyngus. Mae hon yn ddadl rŷn ni wedi dod gerbron y Senedd ar gymaint o achlysuron dros y blynyddoedd a misoedd diwethaf, ac mae'r sefyllfa yn un sydd yn gwaethygu. Hyd yn hyn, yn rhy aml, ymateb Llywodraeth Cymru ydy dweud bod angen mwy o ymchwil. Wel, mae hen ddigon o ymchwil wedi digwydd erbyn hyn nes ein bod yn mynd bron yn flinedig. Heb os, y prawf cliriaf o'r angen i weithredu ydy'r dystiolaeth ar lawr gwlad ac effaith ddinistriol problem sydd heb ei daclo yn rhy hir. Mae'r prawf yn y 5,000 o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yma sydd yn gwybod yn iawn beth yw realiti y sefyllfa, a'r prawf ydy pobl sydd ddim yn gallu fforddio tai yn eu cymunedau nhw eu hunain. Dirprwy Lywydd, rwy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd hon, ac mae hon yn broblem ar gyfer trigolion fy ardal i hefyd. Dydw i ddim yn derbyn nad problem Cymru gyfan ydy hon. Mae gorddefnydd, di-reolaeth o ail gartrefi yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Symptom o wladwriaeth sy'n sylfaenol anghyfartal ydy hwn, ac mae Cymru yn gaeth i'r broblem.
Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r Ceidwadwyr gytuno, ond fe ddylai unrhyw Lywodraeth sosialaidd wybod bod sefyllfa lle mae 67,000 o bobl ar restr aros am dŷ, tra bod eraill yn gallu fforddio sawl tŷ, ddim yn iawn. Dylai hyn ein hysgogi ni i gyd i wneud rhywbeth ar frys, dim mwy o ymchwil. Beth sy'n syfrdanol yw nad yw Llywodraeth Cymru, er gwaetha'r geiriau cynnes rŷn ni wedi'u cael—dŷn nhw ddim wedi rhoi unrhyw arwydd clir o'r datrysiadau y byddan nhw'n eu rhoi ar waith. Mae gennym ni lawer o argymhellion, a chytunwn gyda deisebwr y ddeiseb hon bod yn rhaid rhoi rhagor o rymoedd i'n hawdurdodau lleol ym maes cynllunio—mae hynny'n rhywbeth allweddol—fel y mae Cyngor Gwynedd a sawl awdurdod lleol arall o dan arweiniad Plaid Cymru yn eu gwneud.
Ond gwaith Llywodraeth ydy gweithredu argymhellion a chreu newid, ac mae gan ddarpar-Lywodraeth Plaid Cymru gyfan gynllun gweithredu cynhwysfawr, wedi ei gyhoeddi ym mis Medi y llynedd, yn barod i fynd ar ôl yr etholiad ym mis Mai. Mae hynny'n cynnwys newid dosbarthiadau defnydd cynllunio, ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd cynllunio cyn trosi tŷ annedd yn ail gartref, dyblu'r premiwm ail gartrefi eto, a chau'r bylchau yn y gyfraith sy'n caniatáu i rai beidio talu'r un geiniog o dreth ar rai ail gartrefi, a dod â thai o fewn cyrraedd pobl leol. Aros fyddwn ni i'r Blaid Lafur wneud rhywbeth, unrhyw beth cadarnhaol am y peth, felly mae'n rhaid pleidleisio dros newid mewn Llywodraeth ym mis Mai. Allwn ni ddim aros i San Steffan rannu cyfoeth yn deg a chreu gwlad fwy cydradd. Dyw e ddim am ddigwydd.
Mae angen newid yn y ffordd rŷn ni'n ystyried tai, buaswn i'n ei ddweud, i gloi, Dirprwy Lywydd. Nid llefydd ydyn nhw. Nid adeiladau gwag. Nid buddsoddiad. Lloches ydy tŷ. Lle i atgyfnerthu cymunedau. Fe ymddengys taw dim ond un blaid sydd eisiau gwireddau dyheadau pobl am aros yn eu cymunedau, a Phlaid Cymru ydy'r blaid honno.
Diolch yn fawr i Osian Jones a Chymdeithas yr Iaith am drefnu'r ddeiseb ac i bawb ddaru ei llofnodi hi. Mae sicrhau tai addas yn y llefydd iawn ar gyfer pobl leol yn allweddol. Yng Ngwynedd ar hyn o bryd, mae yna tua 160 o unigolion, sy'n gyplau ac yn deuluoedd hefyd, wedi eu lleoli mewn llety dros dro anaddas am nad oes ganddyn nhw ddim cartref iawn. Mae dros 2,000 o drigolion Gwynedd wedi cofrestru cais am dŷ cymdeithasol. Mae'r amser cyfartalog sydd angen ei ddisgwyl cyn cael tŷ cymdeithasol yn gyson dros 400 diwrnod. Mae llawer iawn o fy ngwaith achos i yn ymwneud â phobl leol yn byw mewn tai a fflatiau anaddas a thamp, mewn tai lle mae yno ormod o bobl, teuluoedd ifanc yn gorfod rhannu cartrefi eu rhieni, a rhai, wrth gwrs, ar y stryd.
Ochr arall y geiniog ydy tai moethus sy'n wag am rannau helaeth o'r flwyddyn. Mae'r stoc tai lleol yn crebachu wrth i eiddo gael ei brynu fel ail gartrefi neu ar gyfer llety gwyliau byr. Yng Ngwynedd erbyn hyn, mae yna 7,000 o ail gartrefi neu lety gwyliau yn y sir—11 y cant o'r stoc. Ar gyfartaledd, pris tŷ yng Ngwynedd yw £155,000. Gydag incwm cyfartalog o £26,000, y gymhareb fforddiadwyedd incwm i brisiau tai yn y sir yw 5.9:1. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, fod 60 y cant o bobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.
Mae gan Blaid Cymru set o fesurau pwrpasol fyddai'n dechrau mynd i'r afael â'r argyfwng tai. Mae nifer o fudiadau, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, yn cyfeirio at fesurau priodol y gellid eu rhoi ar waith. Mae Simon Brooks hefyd wedi sôn am y math o bolisïau sydd angen eu rhoi ar waith. Mae yna gonsensws bod angen diwygiadau i bolisi a deddfwriaeth cyllid a diwygiadau i bolisi cynllunio, ond beth sydd yn gynyddol amlwg ydy mai dim ond un plaid sydd yn bwriadu gweithredu ar y polisïau yma. Geiriau gwag sydd yn dod gan Weinidogion Llafur. Mae'r broblem yn gymhleth, medden nhw. Wel, dydy'r ffaith bod rhywbeth yn gymhleth ddim yn esgus digon da dros beidio â gweithredu dros gymunedau.
Mae cynllun tai uchelgeisiol Cyngor Gwynedd yn dangos beth sy'n bosib dan arweiniad Plaid Cymru wrth i'r cyngor fwrw ati i greu stoc newydd o dai ar gyfer pobl y sir, efo premiwm yr ail gartrefi newydd yn cyfrannu at dalu am y cynllun yma. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud hyn: 'Nid yw'r farchnad agored yn gweithio er budd cymunedau Cymru, a dyma sydd wrth wraidd yr argyfwng. Yr unig fodd y gallwn ddatrys y broblem, mewn gwirionedd, fydd drwy ddeddfu i drawsnewid polisi tai fel ei fod yn blaenoriaethu cartrefi nid cyfalaf.' Cymdeithas yr Iaith sydd yn dweud hynny, a dwi'n cytuno.
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr neu fe fydd hi'n atal Aelodau eraill rhag siarad.
Dwi yn dod i ben, Dirprwy Lywydd. Mae yna fesurau y gellid eu rhoi ar waith yfory nesaf, efo'r ewyllys—
Na, na, rydych chi ymhell dros yr amser, felly os gallwch orffen gydag un frawddeg gyflym iawn, os gwelwch yn dda.
Yr ewyllys sydd ar goll ac, yn y cyfamser, mae'r argyfwng tai yn dwysáu a'n cymunedau ni yn gwegian.
Diolch. Mark Reckless.
Diolch, a diolch i'r Cadeirydd am gyflwyno'r ddadl. Rwy'n sicr yn meddwl, gyda chefndir y Cadeirydd, ei bod yn gwneud cryn dipyn i hyrwyddo byw mewn ardaloedd twristaidd yng Nghymru. Nid wyf yn siŵr a yw hynny ar gyfer ail gartrefi neu brif gartrefi, ond rhoddodd ddisgrifiad da iawn o'r ddeiseb hefyd yn fy marn i, sy'n fwy manwl nag a ddeallais o ddarllen y disgrifiad ysgrifenedig byrrach a gawsom. Siaradodd Siân yn awr am yr amgylchiadau penodol yng Ngwynedd a chyfeiriodd at gymhareb enillion a phrisiau tai o 5.9, ond y cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan yw 8. Clywsom gan Delyth am anawsterau penodol gydag ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn ne-ddwyrain Cymru a gynrychiolir gan y ddau ohonom, ond o edrych ar y data swyddogol, dim ond mewn nifer fach iawn o wardiau y ceir y berchnogaeth honno ar raddfa fawr yn ein rhanbarth.
Ac os edrychwch ar ardaloedd gwledig, byddwn yn dweud bod problem wedi bod ar draws rhannau helaeth o Ewrop mewn gwirionedd ers o leiaf ganrif o ran diboblogi gwledig, ac mae rhai o'r ardaloedd hynny wedi gweld lefelau cynyddol o berchnogaeth ail gartref, yn rhannol am fod rhai pobl yn gadael yr ardaloedd ond yn cadw eiddo yno, tra'n byw mewn mannau eraill hefyd. Ac rwy'n credu bod llawer o berchnogion ail gartrefi'n cael eu gwneud yn fychod dihangol, ac rydym wedi gweld rhywfaint o hynny yn ystod argyfwng COVID. Ond yma hefyd, mae geiriad y ddeiseb ysgrifenedig yn dweud bod prisiau y tu hwnt i gyrraedd pobl oherwydd bod yr holl berchnogion ail gartref hyn yn dod i mewn. Rwy'n siŵr bod hynny'n digwydd mewn rhai ardaloedd lleol penodol, ac rwy'n credu bod tai cymdeithasol, wedi'u gosod ar rent a rhanberchenogaeth, lle mae'n rhaid iddynt fod yn brif breswylfa, yn un ffordd o liniaru hynny. Ond mae ystod ehangach o faterion yn codi. Mae'n debyg bod y syniad y bydd awdurdodau lleol rywsut yn gallu rheoli'r farchnad dai yn dilyn trafodaethau brys gyda Llywodraeth Cymru yn afrealistig. Mae ystod eang o ddylanwadau economaidd yn digwydd ar y farchnad dai, ac mae llywodraeth leol ac eraill yn dylanwadu ar y farchnad honno mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yng Ngwynedd, yr enghraifft a roddwyd, lle rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r deisebwyr yn byw, mae llawer o bobl yn dweud yr hoffent gadw eu prif breswylfa, eu bod wedi tyfu i fyny yno, ond mewn gwirionedd, prinder cyfleoedd cyflogaeth sy'n arwain pobl, mewn llawer o achosion, i adael yr ardal, ac yna mae rhai o'r tai hynny wedyn yn cael eu prynu gan berchnogion ail gartrefi.
Yn yr un modd, yng Ngwynedd, ceir polisi addysg Gymraeg lle ceir 100 o ysgolion prif ffrwd, ac mae'n dweud eu bod i gyd yn ddwyieithog, ond mewn gwirionedd, pan fyddant yn dweud dwyieithog, dyna sut y maent yn ei ddisgrifio; mewn mannau eraill yng Nghymru credaf y byddem yn galw'r rheini'n ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae ganddynt bolisi o beidio â rhoi gwersi Saesneg i bobl nes eu bod yn saith neu wyth oed. Ac os ydych yn yr ardal honno a bod llawer o swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol mewn mannau eraill yng Nghymru, yna i raddau anghymesur bydd pobl sy'n dysgu Cymraeg yn yr ardaloedd hynny drwy'r ysgolion hynny—efallai y bydd nifer uwch o'r rheini'n symud i gymryd y swyddi hynny lle mae'r Gymraeg yn hanfodol mewn mannau eraill. Yn yr un modd, os oes gennych bobl sydd am gael addysg cyfrwng Saesneg i'w plant, ac nad ydynt yn gallu ei chael yng Ngwynedd—mae ganddynt eu prif breswylfa yno a chawsant eu dysgu drwy'r Saesneg eu hunain—bydd rhai o'r bobl hynny wedyn yn symud oddi yno, ac ni fydd ganddynt brif breswylfa yno mwyach, ac mae rhai o'r cartrefi hynny unwaith eto'n cael eu prynu gan berchnogion ail gartrefi. Bydd pobl eraill, sydd efallai'n symud i mewn o ardal drefol mewn mannau eraill, dros amser, yn awyddus i symud yno'n barhaol, ond mewn rhai achosion ni fyddant yn symud yno'n barhaol fel prif breswylfa nes bod eu plant wedi gorffen yr ysgol, oherwydd mae'n dipyn o rwystr i bobl ei oresgyn i'w plant orfod dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac rwy'n gwybod bod yna bum canolfan iaith Gymraeg lle mae pobl yn mynd am ddau i dri mis o drochi, ond nid yw hynny'n gweithio wedi blwyddyn 9, ac efallai y bydd llawer o bobl yn dewis peidio â gwneud hynny.
Felly, rwy'n credu bod angen i gyngor Gwynedd ac eraill hefyd edrych ar eu polisïau a'r effaith y maent yn ei chael—er yr hoffwn fod yn glir yn Diddymu ein bod yn credu y dylai awdurdodau lleol allu penderfynu ar eu polisïau ar gyfer y Gymraeg yn yr ysgol, ac rydym yn credu y dylid cael cyllid ar gyfer ysgolion rhydd i roi dewis i bobl a rhieni os ydynt yn dymuno gwneud penderfyniad gwahanol. Ond rwy'n credu bod hwn yn faes cymhleth. Rwy'n dymuno'n dda i'r deisebwyr, ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn inni wneud perchnogion ail gartrefi'n fychod dihangol, ac rwy'n amheus y bydd y sefyllfaoedd y maent yn poeni amdanynt yn cael eu datrys gan y polisïau a gynigir.
Diolch am roi munud neu ddwy imi wneud cyfraniad byr—ac a gaf fi ddiolch i Osian Jones am drefnu'r ddeiseb? Yr hyn rwyf am ei wneud yw tynnu sylw at un o'r problemau sy'n ein hwynebu, sef y bwlch yn y gyfraith rwyf wedi sôn amdano droeon yma ac mewn mannau eraill, bwlch sy'n caniatáu i berchnogion ail gartrefi gofrestru eu cartrefi fel busnesau, ac wrth wneud hynny, osgoi talu'r dreth gyngor, ac osgoi talu unrhyw beth o gwbl trwy'r system rhyddhad ardrethi busnes.
Yr hyn sydd gennyf yw copi o gylchlythyr y perchnogion ar gyfer Mawrth 2021 gan Menai Holiday Cottages Limited, sydd bellach yn eiddo i Sykes, un o'r cwmnïau llety gwyliau mwyaf yn y DU, ac mae un o'r penawdau'n sôn am godi'r dreth ar ail gartref yng Ngwynedd. Os darllenwch ymlaen, fe welwch hyn, 'Ym mis Ebrill 2021, bydd y premiwm treth ar ail gartrefi yng Ngwynedd yn codi i 100 y cant'. Wedyn mae'n esbonio bod 'yn awr yn adeg well na'r un i ystyried cofrestru eich ail gartref fel llety gwyliau wedi'i ddodrefnu er mwyn hawlio gostyngiad yn y dreth'. Nawr, nid yw'r e-bost hwnnw'n annog neb i dorri'r gyfraith; wedi'r cyfan, fel rwyf wedi dweud droeon, bwlch yn y gyfraith sy'n ei gwneud yn llawer rhy hawdd yn fy marn i, i eiddo gael ei gofrestru fel busnes llety gwyliau, gan arwain at dalu dim trethi lleol. A chofiwch, mae llawer o'r rhai sydd wedi mynd drwy'r broses honno wedi derbyn taliadau o filoedd lawer o bunnoedd o iawndal COVID eleni.
Rwy'n credu ei fod yn eithaf gwarthus; yma gwelwn un o fusnesau llety gwyliau mwyaf y DU yn mynd ati'n weithredol i annog perchnogion ail gartrefi i osgoi talu trethi lleol—y math o beth sy'n creu anghydraddoldebau cynyddol yn y sector tai. Fe'i gwnaf yn eithaf clir: mae llety gwyliau yn rhan bwysig o'n cynnig twristiaeth mewn lleoedd fel fy etholaeth i. Mae busnesau twristiaeth lleol sy'n cael eu rhedeg yn dda yn gwneud cyfraniad mawr i'r economi a dylid eu cefnogi. Yn wir, clywais am hyn gan berchennog busnes twristiaeth a oedd yn flin iawn am y peth. Mae bwlch yn y gyfraith, mae'n tanseilio ein stoc dai ac mae angen ei gau.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am y gwaith ar y mater yma. Wrth nodi'r cynnig, dwi'n ymwybodol iawn o'r teimladau cryf, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru, am ail gartrefi. Mae'n amlwg bod rhai o'r teimladau hyn yn fwy dwys o ganlyniad i Brexit, y pandemig ac, fel y nodwyd yn y ddeiseb, o ganlyniad i'r niferoedd sy'n rhentu trwy Airbnb.
Dwi'n siŵr y bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi yn ddiweddar adroddiad Dr Simon Brooks ar y mater yma, ac mae'r adroddiad yn rhannu ein safbwynt ni bod hwn yn faes cymhleth, dyw hi ddim syml, ac nad oes yna un ateb i fynd i'r afael â'r broblem. Rŷn ni wedi gweithredu eisoes yn y maes yma, a dwi'n meddwl ei bod hi'n annheg i Siân Gwenllian ddweud nad ydyn ni wedi. Enghraifft o hyn yw cynyddu'r dreth ar drafodiadau tir. Ond rŷn ni wedi gwneud pethau eraill hefyd. Mae sawl agwedd i'r heriau yma: yr economi, twristiaeth, maes cynllunio a pha mor gynaliadwy mae ein cymunedau ni, yn arbennig ein cymunedau Cymraeg eu hiaith. Ers y pandemig, rŷn ni wedi gweld a chlywed pryderon cynyddol am yr effeithiau y gallai nifer uchel o ail gartrefi eu cael ar rai o'n cymunedau ni, yn enwedig y cadarnleoedd Cymraeg yna.
Fe wnaeth adroddiad Dr Brooks nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond mae'r adroddiad hefyd yn annog awdurdodau lleol i ystyried y pwerau sydd eisoes ganddyn nhw ac i ddefnyddio'r darpariaethau presennol hynny. A dwi yn gobeithio, o ganlyniad i ddarllen yr adroddiad hwn, ein bod ni i gyd wedi cael gwell dealltwriaeth o'r pwerau sydd gyda ni. Gobeithio y bydd Delyth Jewell, er enghraifft, yn nodi yn adroddiad Dr Brooks y byddai fe'n anghytuno nad yw hon yn broblem sydd yn genedlaethol, ei bod hi yn nodweddiadol yn lleol, ac mae lot o ystadegau gydag e yn dangos hynny.
Mae pwerau cynllunio wedi eu cyfeirio atyn nhw yn y ddeiseb ac yn adroddiad Dr Brooks. Y cyfraniad allweddol mae ein system cynllunio yn ei wneud i'r ffordd mae marchnadoedd tai lleol yn gweithio yw sicrhau bod cyflenwad digonol o safleoedd ar gael ar gyfer cartrefi i bobl lleol. Mae hyn yn gyfrifoldeb ar yr awdurdodau i asesu anghenion tai eu cymunedau lleol ac i ymateb i'r amgylchiadau penodol yn eu hardaloedd lleol a sicrhau eu bod nhw'n cyflawni'r cyfrifoldebau hyn. Mae hyn yn cael ei wneud mewn rhai awdurdodau eisoes. Er enghraifft, mae gan gynghorau Gwynedd ac Ynys Môn bolisi yn eu cynlluniau datblygu lleol gyda'r bwriad o gyfyngu mynediad i dai marchnad newydd mewn aneddiadau penodedig i bobl lleol. Mae'r polisi yma yn rhan o nodau polisi cymdeithasol ehangach y cynghorau o gynnal a chryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Mae Dr Brooks yn argymell y dylai Gwynedd ac Ynys Môn ymestyn y cynlluniau hyn, a byddai gennym ddiddordeb mewn deall pam nad oes mwy o awdurdodau lleol yn datblygu polisïau lleol i fynd i'r afael â materion lleol, o ystyried y cyfeirio clir sydd yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.
Rydym yn ymwybodol iawn o alwadau am newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio i reoli materion sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi a llety gwyliau i'w gosod am gyfnodau byr. Er y gall y system gynllunio ddarparu mecanwaith cyflawni pellgyrhaeddol, mae arnaf ofn ei fod yn cyrraedd terfynau ei ddefnyddioldeb ar gyfer ail gartrefi, am fod y system cynllunio gwlad a thref yn rheoli'r defnydd o dir yn hytrach na pherchnogaeth, a gwn fod y Gweinidog llywodraeth leol wedi ymchwilio'n fanwl i hyn. Rwy'n gwybod ei bod wedi ystyried a oes gan y system cynllunio defnydd tir rôl yn rheoli nifer yr ail gartrefi fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, ond mae arnaf ofn fod yr adolygiad wedi nodi heriau ymarferol a chyfreithiol sylfaenol gyda diffinio ail gartrefi yn nhermau cynllunio.
Heb ddiffiniad clir o beth yw ail gartref, byddai gorfodaeth yn anodd iawn ac yn creu ansicrwydd, gan wneud deddfwriaeth gynllunio ar y mater hwn yn aneffeithiol, a dyna pam ein bod yn parhau i archwilio sut y gallwn ddiffinio ail gartrefi'n well. Ac mae arnaf ofn na fyddai newid y Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, rhywbeth y mae nifer o bobl wedi'i awgrymu, yn opsiwn ymarferol ar gyfer rheoli ail gartrefi—yn rhannol am fod angen i ni wahaniaethu rhwng ail gartrefi a ddefnyddir yn bennaf gan eu perchnogion ac eiddo gwyliau sy'n cael eu gosod ar sail fasnachol, oherwydd mae'r ddau ddefnydd gwahanol yn effeithio'n wahanol ar gymunedau lleol ac felly dylid eu hystyried ar wahân.
Mae'n bosibl y gellid rheoli llety gwyliau i'w osod am gyfnodau byr drwy'r system gynllunio, ond byddai hynny'n galw am newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae Llywodraeth yr Alban wedi newid ei phrif Ddeddf gynllunio i helpu i fynd i'r afael â mater gosod llety gwyliau am gyfnodau byr, ac rydym yn monitro hyn i weld beth y gallwn ei ddysgu ganddynt. Yn amlwg, mater i bleidiau gwleidyddol fydd penderfynu beth y maent am ei roi yn eu maniffestos a'r hyn a ddaw nesaf. O safbwynt cynllunio, rydym yn glir fod addasu deddfwriaeth sylfaenol i egluro pryd y mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn nhymor nesaf y Senedd.
Rwyf hefyd wedi gofyn i'r tîm twristiaeth yn Llywodraeth Cymru ystyried gofyn a allai'r Llywodraeth newydd fod eisiau ystyried sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried y syniad o grwpiau neu gynghorau cymunedol lleol yn prynu cartrefi gwyliau mewn ardaloedd sensitif, eiddo y gallent ei osod ar rent wedyn a rhoi'r arian yn ôl i'r cymunedau hynny drwy gynlluniau tai neu gynlluniau cymunedol, fel mai'r cymunedau eu hunain a fyddai'n elwa. Dyna syniad a grybwyllwyd gan Cynog Dafis yn ddiweddar. Mae'r newidiadau hyn rydym yn gweithio arnynt, gyda'r newid i'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd a chofrestru gorfodol ar gyfer eiddo i'w osod am gyfnodau byr, yn rhywbeth a allai helpu i reoli eiddo ar osod am gyfnodau byr yn ein barn ni. Ac er ein bod eisoes wedi darparu hyblygrwydd sylweddol i ymateb i'r llu o gwestiynau sy'n codi, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy yn hyn o beth. Ond rwy'n ailadrodd: nid oes un ateb hawdd i'r heriau sy'n ein hwynebu.
Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i adeiladu ar ein hanes cryf o feithrin atebion tai fforddiadwy a nodi'r camau gweithredu mwyaf cytbwys ac effeithiol, sy'n allweddol, i'r heriau presennol. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau y gall pobl ifanc barhau i fyw yn eu cymunedau lleol a chryfhau'r cymunedau hyn, a dyna pam mai un o'r pethau rydym wedi'i wneud yn ddiweddar, gan nodi'r pwynt a wnaeth Mark Reckless, yw sicrhau ein bod yn deall y cysylltiad rhwng pobl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol a'r economi. Dyna pam y cawsom gynllun gweithredu yn ein cyfarfod bwrdd crwn ar yr economi yr wythnos diwethaf sydd bellach wedi'i ddatblygu i fynd i'r afael â datblygu'r economi yn y cymunedau gwledig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Rydym eisoes wedi dechrau, ond mae'n amlwg bod mwy i'w wneud, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd am edrych ar hyn yn nhymor nesaf y Senedd. Diolch yn fawr.
Galwaf yn awr ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw a diolch i'r Gweinidog am ymateb. Hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebwyr am ddefnyddio'r broses ddeisebu i dynnu sylw at rywbeth sy'n fater pwysig ac yn destun pryder mawr mewn sawl rhan o Gymru.
O ystyried yr amser byr iawn sydd ar ôl yn y Senedd hon, pwyllgor deisebau yn y dyfodol fydd yn ystyried y ddeiseb yn dilyn y drafodaeth heddiw. Ac er gwybodaeth i'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd, dyma'r ddegfed ddeiseb ar hugain, a'r ddeiseb olaf i gael ei thrafod yn ystod tymor y Senedd hon. Mae llawer o'r rheini wedi digwydd ers cyflwyno'r trothwy ar gyfer cynnal dadl yn 2017. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwy'n gobeithio bod y gallu i drafod deisebau sy'n bwysig i bobl Cymru yn uniongyrchol wedi bod o rywfaint o werth i ddeisebwyr, pobl sydd wedi llofnodi deisebau ac Aelodau o'r Senedd dros y blynyddoedd diwethaf. Hoffwn gloi drwy gofnodi fy niolch ar ran y Pwyllgor Deisebau i bawb sydd wedi siarad yn y dadleuon hyn, ac i'r Pwyllgor Busnes am ein cynorthwyo i allu eu cyflwyno'n amserol. O ystyried pa mor brysur yw agendâu ein Senedd, gwn nad yw hyn bob amser yn hawdd.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r tîm clercio, yr holl dimau sydd wedi ein cynorthwyo yn ystod cyfnod COVID, yn staff y Comisiwn a TG, aelodau'r pwyllgor yn awr ac aelodau blaenorol o'r Pwyllgor Deisebau—fe wyddoch pwy ydych—ac yn olaf, diolch i bawb sydd wedi cyflwyno, llofnodi neu ddarparu tystiolaeth fel arall i'r Pwyllgor Deisebau. Hoffwn eich annog i barhau i wneud hyn. Rwy'n frwd iawn fy nghefnogaeth i'r Pwyllgor Deisebau; rwy'n credu ei fod yn fecanwaith gwych ar gyfer ymgysylltu â Senedd Cymru. Daliwch ati i wneud hynny. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld gwrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Mark Isherwood a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei dad-ddethol.
Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru, adolygiad o gyflogau'r GIG. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. Rhun.
Cynnig NDM7655 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG yn cefnogi galwadau penodol yr undebau llafur a chyrff eraill sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am godiad cyflog teg a haeddiannol i adlewyrchu'r aberth a wnaed yn ystod y pandemig.
3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal i ddod â'r gwahaniaeth presennol rhwng iechyd a gofal i ben.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl yma a chyflwyno'n ffurfiol y cynnig yn enw Siân Gwenllian. Faint ohonom ni sydd wedi dweud 'diolch' dros y flwyddyn ddiwethaf? Faint ohonom ni sydd wedi sefyll ar garreg drws yn curo dwylo?
Faint ohonom sydd wedi cofio dros y flwyddyn ddiwethaf pa mor bwysig yw dweud 'diolch' wrth y rhai sy'n gweithio mor anhunanol ar draws y sectorau iechyd a gofal i ofalu amdanom? Faint ohonom sydd wedi meddwl a sylweddoli nad digwydd ohono'i un y mae gofal? Rydym yn derbyn gofal oherwydd bod pobl—ein ffrindiau a'n cymdogion, pobl y cawsom ein magu gyda hwy, rhai yr aethom i'r ysgol gyda hwy—wedi penderfynu ymrwymo eu bywydau proffesiynol i ofalu fel nyrsys ac fel ffisiotherapyddion a gofalwyr yn y cartref a meddygon a therapyddion lleferydd ac iaith, ac mae'n rhestr mor hir, ni allwn byth mo'u henwi i gyd; llu o broffesiynau iechyd.
Ond mae'n rhaid i ddweud 'diolch' fod yn gymaint mwy na gweithred wrth fynd heibio. Ac felly, rydym yma heddiw yn sôn am rywbeth a ddylai fod yn cael ei dderbyn yn ganiataol. Dylai fod yn digwydd yn gyson: tâl ariannol teg am yr ymrwymiad, y gwaith caled, yr ymroddiad, y llafur, ac fel y dywedais, yr anhunanoldeb llwyr a ddangoswyd gan weithwyr iechyd a gofal ar unrhyw adeg, heb sôn am y flwyddyn COVID eithriadol hon a aeth heibio.
A gaf fi ddweud yma pa mor falch yr oeddwn o glywed y cyhoeddiadau hynod gyd-ddigwyddiadol yn gynharach heddiw gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag (a), sicrhau bod arian ar gael i gefnogi parhad talu'r cyflog byw gwirioneddol ar draws y GIG—unwaith eto, rhywbeth a ddylai fod yn digwydd yn ddigwestiwn; a (b), ariannu bonws i'r holl staff GIG a gofal, taliad net o tua £500 i'r rhan fwyaf, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw wobr a ddangosir am eu gwaith. Maent yn haeddu pob ceiniog. Ond gadewch imi fod yn glir y dylai tâl ariannol teg gael ei ymgorffori'n gadarn yn niwylliant ein gwasanaethau iechyd a gofal bob amser, ac na ddylent gael eu setlo drwy fonws untro. Ac er yn ddiolchgar am y cyhoeddiad, bydd blas braidd yn chwerw wedi'i adael ar ôl gan y ffaith bod hyn wedi'i wneud, a bod yn onest, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi'i gwthio i gornel—gan gynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd, fel y mae'n digwydd—ac felly'n teimlo rheidrwydd i wneud rhywbeth.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Does dim rhaid i mi egluro llawer am gynnwys y cynnig ei hun. Rydyn ni'n condemnio cynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi codiad cyflog pitw o 1 y cant i nyrsys—dwi'n gweld y Gweinidog yn chwerthin; o bosib gaiff o egluro yn y munud am beth mae o'n chwerthin. Rydyn ni'n condemnio cynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi codiad cyflog pitw o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y gwasanaeth iechyd, fyddai’n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau nhw, er mwyn ei gwneud hi'n gwbl glir na fyddwn ni'n derbyn setliad felly yma. Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau pellach i gorff adolygu cyflogau'r gwasanaeth iechyd, yn cefnogi cyflog teg i staff. Rydyn ni hefyd yn ehangu'r cynnig i gynnwys staff gofal. Mae Plaid Cymru eisiau integreiddio iechyd a gofal drwy wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol. Mi fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n siarad am hynny o'r blaen, ac mi wnaf i eto dros yr wythnosau nesaf, wrth i'r etholiad nesáu. Un o ganlyniadau hynny fydd dod â staff gofal i mewn i'r un graddfeydd cyflog â staff iechyd dros amser. Mae'r cynnig yma'n galw am wireddu cam cyntaf hynny o sicrhau uchafswm cyflog o £10 yr awr yn syth i weithwyr gofal i ddechrau cau'r gwahaniaeth.
Felly, mae'r nod yn fan hyn yn syml iawn. Mi fyddwch chi i gyd, dwi'n meddwl, wedi derbyn e-bost gan Goleg Brenhinol y Nyrsys heddiw yn dweud eu bod nhw'n croesawu'r ddadl yma heddiw. Felly, dwi eisiau diolch iddyn nhw am gydweithio â mi dros fy nghyfnod i fel llefarydd iechyd Plaid Cymru, a dwi eisiau diolch, wrth gwrs, i'w haelodau nhw i gyd am eu gwaith drwy'r cyfnod diweddar. Mae'r e-bost hwnnw'n gofyn i ni i gyd fel Aelodau: beth ydyn ni'n mynd i'w wneud er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad go iawn, a dangos ein cefnogaeth i setliad cyflog iawn ar gyfer ein staff iechyd a gofal ni? Un peth allwch chi wneud ydy cefnogi'r cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Angela Burns, felly, i gynnig gwelliannau 1 a 3 yn enw Mark Isherwood. Angela Burns.
Gwelliant 1—Mark Isherwood
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod cyflogau'r GIG wedi'u datganoli ac yn croesawu'r cynnydd ychwanegol o £2.1 biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022.
Gwelliant 3—Mark Isherwood
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl 'Lywodraeth nesaf Cymru' a rhoi yn ei le
'i:
a) gweithredu argymhellion y corff adolygu cyflogau;
b) cyflwyno setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol;
c) creu pecyn cymorth iechyd meddwl sylweddol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dioddef o effaith y pandemig.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.
Diolch i chi am eich ateb, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Mark Isherwood. Mae staff ein gwasanaeth iechyd gwladol, a'r rhai sy'n darparu gofal cymdeithasol i bobl Cymru, wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn lledaeniad COVID-19. Maent wedi cadw gwasanaethau hanfodol i fynd, wedi dal dwylo na allai teuluoedd eu cyrraedd, wedi gweld marwolaeth a dioddefaint ar raddfa sy'n gysylltiedig fel arfer â gwrthdaro, ac wedi cefnogi cleifion a chydweithwyr tra'u bod o dan y pwysau mwyaf dwys. Rwy'n cydnabod eu gwaith caled.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru allu i wobrwyo staff iechyd a gofal cymdeithasol yn briodol, a dyna pam fy mod yn ystyried gosodiad agoriadol y ddadl hon yn rhyfeddol gan Blaid Cymru, plaid y mae ei mantra'n dechrau ac yn diwedd gyda mynnu annibyniaeth oddi wrth y DU tra'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb cyllidol. Dylent dderbyn ein gwelliant cyntaf, a chydnabod bod cyflogau'r GIG yng Nghymru wedi'u datganoli, a bod Llywodraeth Cymru wedi cael cynnydd ychwanegol o £2.1 biliwn yn eu cyllideb ar gyfer 2021-22, a bod gan y Llywodraeth allu i'w wario fel y dymunant. Yn wir, yn gynharach heddiw, clywais y Gweinidog cyllid yn honni'n groch nad blwch post ar gyfer penderfyniadau gwariant Llywodraeth y DU oedd Llywodraeth Cymru. Mae £2.1 biliwn yn llawer o bunnoedd, ac rwy'n annog Lywodraeth Lafur Cymru i'w ddefnyddio i gefnogi cynnydd yn nhâl nyrsys. Cofiwch, mae £5.85 biliwn wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ers mis Mawrth y llynedd, gyda £602 miliwn arall eto i'w ddyrannu. Mae hynny'n llawer o arian, ac mae arian ar gael i ailgydbwyso cyflogau gweithwyr iechyd proffesiynol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi dweud y byddem yn gweithredu argymhellion y corff adolygu cyflogau yn llawn fel lleiafswm absoliwt, ond i'r rhai sy'n gwrthod clywed, gadewch imi ddweud hynny eto: os mai ni fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gweithredu argymhelliad y corff adolygu cyflogau fan lleiaf. Byddai hynny'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i gyflwyno setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys polisi recriwtio, cadw ac ailhyfforddi, a lleiafswm cyflog o £10 yr awr i staff gofal.
Nodaf y bonws arfaethedig i staff heddiw ac rwy'n llawenhau bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi dysgu sut i gyfrifo treth. A oes unrhyw obaith y bydd gweithwyr gofal cartref, nad ydynt wedi cael digon o dâl gan Lafur, yn cael arian ychwanegol? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymateb i'r bwrdd adolygu cyflogau eto? Mae hyn yn hanfodol, oherwydd mae bonws i'w groesawu, ond nid yw'n cynnwys codiad cyflog o flwyddyn i flwyddyn.
Ar ddechrau fy nghyfraniad, soniais am y gwasanaeth eithriadol a gyflawnwyd gan gynifer, ond mae'r gwasanaeth eithriadol hwnnw wedi achosi straen di-ben-draw, ac mae wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl. Rydym yn cydnabod hynny, a byddwn yn gweithio gyda'r staff, cyflogwyr, undebau a cholegau brenhinol i greu pecyn cymorth iechyd meddwl sylweddol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dioddef o effaith y pandemig.
Rwy'n cymeradwyo ein gwelliannau i'r Siambr, a Lywydd, os caf, gan mai hon fydd fy nadl olaf mae'n debyg ar y pwnc iechyd hwn, hoffwn ddweud diolch wrth y staff iechyd a gofal cymdeithasol allan yno. Rwy'n cydnabod eich ymrwymiad a'ch gwaith caled, ac rwyf am ddweud diolch o galon gennyf fi, gan y bobl rwy'n eu caru rydych wedi'u helpu eleni, gan fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a fy etholwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Diolch.
Dai Lloyd. Na, mae'n ddrwg gyda fi. Y Gweinidog yn gyntaf i symud yn ffurfiol y gwelliant yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr hyn y credant sy'n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i bennu.
Yn credu y dylai'r cyrff adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
Yn cydnabod bod GIG Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector.
Yn cydnabod bod un o themâu allweddol 'Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn deg.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol, Lywydd.
Diolch. Dai Lloyd nesaf.
Diolch, Lywydd. Codaf o blaid cynnig Plaid Cymru—dim syndod yno—yn enwedig pwynt 1, sydd:
'Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.'
Dyna bwynt 1 cynnig Plaid Cymru, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Ac ymhellach, rwy'n llwyr gondemnio gwelliant y blaid Geidwadol ac unoliaethol yma heddiw sy'n ceisio dileu'r pwynt 1 hwn yn gyfan gwbl. Yn amlwg, Lywydd, fe fyddwch yn ymwybodol o fy nghefndir meddygol—efallai fy mod wedi cyfeirio ato unwaith neu ddwy dros y blynyddoedd—ac mae gennyf aelodau o'r teulu sy'n gweithio yn y GIG heddiw. Mae cydweithwyr yng Nghymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i gyd wedi mynegi pryderon enfawr am y codiad cyflog gwarthus hwn, a phryderon enfawr hefyd am gyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU sy'n dadfuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn anwybyddu gofal cymdeithasol.
Ar ôl y flwyddyn bandemig rydym i gyd wedi'i chael, mae staff gofal a staff y GIG wedi blino, wedi ymlâdd, yn ddig ac yn brifo. Maent yn ysgwyddo cyfrifoldebau enfawr bob dydd dros faterion bywyd a marwolaeth, ac mae'n anodd amgyffred y lefel honno o gyfrifoldeb oni bai eich bod wedi teimlo'n bersonol eich hun yr arswyd llwyr hwnnw sy'n eich llyncu pan fydd eich penderfyniad meddygol—eich penderfyniad chi—wedi arwain at rywbeth yn mynd o'i le, gan niweidio person arall hyd at golli bywyd hyd yn oed. Ac mae mor eithriadol o brysur yn awr, ni allwch gynllunio'n ofalus na gofyn i'r rhai uwch eich pen os nad ydynt ar gael; nid oes gennych unrhyw reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd. Roedd y gwasanaethau iechyd dan bwysau cyn y pandemig. Mae nyrsys a meddygon yn cael eu gyrru gan ymdeimlad dwfn o wasanaeth a dyletswydd tuag at eu cleifion, ond gall clefyd galwedigaethol fel COVID fod yn brawf difrifol ar gymhelliant. Mae cannoedd o staff y GIG a staff gofal wedi marw ledled y DU, a channoedd yn rhagor wedi'u llorio gan COVID hir.
Ac roedd cyfarpar diogelu personol yn gwbl annigonol yn y dyddiau cynnar, ac roedd y staff yn gwisgo bagiau bin i'w diogelu, gan beryglu eu bywydau a bywydau cleifion. Pan fydd staff yn marw oherwydd eu bod wedi dal COVID yn y gweithle fel clefyd galwedigaethol, ni all eu teuluoedd hawlio eu costau angladd. A chynnig cyflog gwarthus ar ben hynny i gyd. Gan fod Llywodraeth y DU wedi stocio degau o filiynau o eitemau o gyfarpar diogelu personol na ellid eu defnyddio, wedi'u cynhyrchu gan gwmnïau heb unrhyw brofiad yn y maes, gyda chontractau gwerth miliynau'n cael eu cynnig i ffrindiau'r Llywodraeth heb eu craffu a heb brofiad mewn cyfarpar diogelu personol, canfu'r Uchel Lys fod Llywodraeth Geidwadol ac unoliaethol y DU wedi torri'r gyfraith, ac wedi anwybyddu cwmnïau â phrofiad a gallu i ddarparu cyfarpar diogelu personol.
A'r £37 biliwn a wariwyd ar system brofi ac olrhain y DU, system breifat a sefydlwyd o ddim ochr yn ochr â'r hyn sydd gennym eisoes a hynny ynghanol pandemig, gan ddefnyddio pobl heb unrhyw brofiad ym maes iechyd a gofal. Hynny yw, beth allai fynd o'i le? Nid yw'r system £37 biliwn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth yn ôl Aelodau Seneddol yn ddiweddar. Mae ystafell friffio newydd i'r wasg sy'n werth £2.6 miliwn newydd gael ei dadorchuddio yn Stryd Downing, a pheidiwch â sôn am gyflogau ac amodau staff gofal, oherwydd rwy'n dod at y diwedd, Lywydd—fe'ch gwelaf yn bryderus yno—oherwydd dyna bwynt 3 ein cynnig.
Yn olaf, mae staff iechyd yn gweld y cyfan rwyf wedi'i amlinellu. Maent yn gwybod hyn oll. Ni chânt eu twyllo gan glapio ffuantus Gweinidogion, ac mae'r codiad cyflog arfaethedig o 1 y cant yn dangos i staff cymaint y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn gwerthfawrogi eu haberth anghredadwy. Peidiwch â diystyru'r dicter cyfiawn—cytunwch ar godiad cyflog priodol.
Mae fy mywyd blaenorol fel swyddog Unsain yng Nghymru yn hysbys iawn, ac rwy'n dal i fod yn falch iawn o'r ffaith fy mod yn rhan o'r tîm negodi a weithiodd mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r cyflog byw i'r GIG yng Nghymru, cyn gweddill y DU, ar adeg pan oedd cymheiriaid yn y GIG yn Lloegr yn mynd ar streic yn erbyn Llywodraeth Dorïaidd anhyblyg y DU nad oedd am barchu argymhellion y corff adolygu cyflogau. Rwyf hefyd yn ddigon hen i gofio pam y sefydlwyd Corff Adolygu Cyflogau'r GIG. Daeth yn sgil anghydfod cyflog chwerw ar ddechrau'r 1980au ac roedd yn ymgais i edrych ar dâl yn annibynnol ac i dynnu gwleidyddiaeth allan ohono. A gweithiodd hynny'n dda, tan i Lywodraeth Dorïaidd y DU, unwaith eto, benderfynu ar bolisïau cyni a dod â gwleidyddiaeth yn ôl i mewn drwy ymyrryd ag annibyniaeth y corff adolygu cyflogau, a mynnu nad oeddent yn cynnig mwy nag 1 y cant, waeth beth fo'r dystiolaeth a allai eu harwain at gasgliad gwahanol. Wel, mae hanes yn ailadrodd ei hun, onid yw, oherwydd, unwaith eto, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi dweud ei bod ond yn barod i ariannu cynnydd o 1 y cant, ni waeth pa dystiolaeth a gyflwynir i'r corff adolygu cyflogau a'r hyn y mae'n ei argymell. Mae hyn yn warthus, o ystyried beth mae'r GIG a gweithwyr rheng flaen eraill wedi bod drwyddo dros y flwyddyn ddiwethaf, felly rwy'n falch bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi nodi'n glir iawn mewn tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau na ddylid cael cap mympwyol ar y cynnig a wneir i weithwyr y GIG; dylai fod yn gynnig sy'n adlewyrchu eu gwerth i'r wlad, a rhaid i Lywodraeth y DU ei ariannu'n llawn. Wedi'r cyfan, fel y mae Dai Lloyd eisoes wedi bod yn dweud wrthym, maent wedi dod o hyd i arian yn ystod y pandemig hwn ar gyfer llawer o bethau eraill: biliynau ar gyfer system olrhain wedi'i phreifateiddio ond sydd wedi methu i raddau helaeth; codiad cyflog sylweddol i Dominic Cummings; ac a yw'n dal i fod yn dri ffotograffydd swyddogol i'r Prif Weinidog? Ac wrth gwrs, £2 filiwn ar gyfer ystafell y wasg yn Stryd Downing. Ac ar y pryd, roedd gweithwyr y GIG yn gweithio ymhell y tu hwnt i'w dyletswydd yn achub bywydau ac yn ein cadw'n ddiogel. Gwnaethant achub bywyd y Prif Weinidog Boris Johnson hyd yn oed, ac fe fu yntau'n curo dwylo cyn cau'r drws yn glep arnynt. Mae cynnig cyflog o 1 y cant yn warth ar y rhai a wnaeth y penderfyniad hwnnw, ond rwy'n gobeithio y cânt eu cywilyddio i wneud yn well, oherwydd fe allwn ni wneud yn well, fel y mae ein Llywodraeth yng Nghymru wedi dangos heddiw drwy gyhoeddi bonws o £500 i holl staff y GIG a gofal cymdeithasol, i gydnabod eu hymdrechion yn ystod y pandemig.
Lywydd, a gaf fi ddweud hefyd fy mod yn falch nad yw Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth y DU, wedi anghofio'r gweithlu gofal cymdeithasol a'i bod yn gweithio gydag undebau llafur a'r sector i sicrhau gwelliannau i bobl sy'n gofalu am ein hanwyliaid pan fyddant fwyaf agored i niwed? Yn fy mhrofiad i, gwn y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, y Gweinidog iechyd a'r undebau llafur yn cydweithio i ddangos bod Cymru'n genedl decach, yn genedl a fydd yn gwobrwyo'r rhai a'n helpodd drwy'r adegau mwyaf tywyll yn diweddar. Ond gadewch inni beidio â'i gwneud yn hawdd i Lywodraeth y DU am un funud. Hwy sy'n dal llinynnau'r pwrs ar gyfer hyn, a rhaid eu dwyn i gyfrif a'u gwneud i dalu. Bydd gweithredu'n siarad yn llawer uwch nag unrhyw eiriau.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwyf am ddechrau drwy wneud rhywbeth nad wyf fel arfer yn ei wneud, sef dyfynnu geiriau person arall, ac rwy'n mynd i ddyfynnu geiriau Helen, sy'n nyrs o Lanelli. Rwy'n ei hadnabod hi a'i gwaith ers amser maith. Mae wedi anfon negeseuon e-bost ataf ynglŷn â nifer o faterion gofal iechyd, ond hoffwn ddyfynnu'n fyr rai o'r pethau y mae'n eu dweud am gyflogau nyrsys: 'Ar gyflogau nyrsys, mae angen herio gwybodaeth anghywir a ffugio ffeithiau am godiadau cyflog blaenorol a bod y mwyafrif llethol o nyrsys ar gyflogau o dros £30,000 fel y mae Llywodraeth San Steffan yn ei bedlera. Yn achos llawer o nyrsys, hwy yw'r prif enillwyr cyflog yn eu teulu, ac nid yw eu hincwm yn eilradd i un y gŵr. Nid dim ond yn ystod argyfwng COVID y mae'r rhai sy'n darparu iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau sylfaenol, eilaidd ac annibynnol wedi bod yn gwasanaethu ein cymuned' meddai. 'Mae sefyll y tu allan a chlapio cyn cynnig codiad cyflog is na chwyddiant yn sarhaus. Bydd cadw staff iechyd a gofal yn hanfodol i ddiwallu anghenion y rhai sydd wedi wynebu oedi mewn diagnosteg a thriniaethau, ac nid yw 1 y cant pitw yn cynnig llawer o gymhelliant i aros yn y byd nyrsio.' Mae hi'n dweud wedyn, 'Rwy'n ymddiheuro am ei dweud hi, ond mewn 40 mlynedd nid wyf erioed wedi gweld morâl mor isel ac nid wyf fi'n bersonol erioed wedi teimlo fy mod yn cael fy sarhau a fy niraddio i'r fath raddau.'
Nawr, fel y dywedais, rwy'n adnabod Helen, ac mae ei hymrwymiad a'i hymroddiad wedi bod yn ysbrydoledig, ac mae clywed cymaint y mae'n teimlo ei bod wedi'i diraddio a'i sarhau yn fy ngwneud yn gandryll. Ac mae cannoedd o Helenau ym mhob un o'n hetholaethau—miloedd ohonynt ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ledled Cymru. Nid yw recriwtio nyrsys, wrth gwrs, erioed wedi bod yn broblem fawr iawn. Mae cymaint o bobl sy'n barod i wasanaethu ac sy'n barod i hyfforddi, er bod yna heriau. Ond mae cadw nyrsys wedi bod yn broblem ers amser maith, ac mae nifer o resymau am hyn. Mae diffyg hyblygrwydd yn un ohonynt; mae prinder cyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa yn un arall. Ond mae cyflogau isel yn rhan o'r darlun hwn. Gan ychwanegu at y straen bron yn annioddefol o weithio o dan amodau COVID, rwy'n wirioneddol bryderus y byddwn yn gweld y nyrsys hyn a gweithwyr proffesiynol medrus eraill yn llifo allan o'n GIG i waith asiantaeth, neu allan o iechyd a gofal yn gyfan gwbl, wedi'i achosi gan amodau gwaith annioddefol a sarhad enfawr y cynnig cyflog hwn ar y diwedd. Mae hynny'n fy ngwneud yn wirioneddol bryderus ynghylch cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau. Gwyddom fod angen i ni ddarparu mwy o wasanaethau yn agos at gartrefi pobl, ond os nad yw'r gweithwyr proffesiynol gennym, sut y gallwn gadw ysbytai fel Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli neu Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro i fynd a darparu'r gwasanaethau rhagorol a gynigir ganddynt?
Felly, beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i hyn? Wel, y bonws—mae croeso mawr iddo, ond nid pat achlysurol ar y cefn y mae'r staff iechyd a gofal y siaradais â hwy yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli ei eisiau. Yr hyn y mae arnynt ei eisiau a'i angen yw cyflog teg am ddiwrnod teg o waith, wythnos ar ôl wythnos. Ac ymateb y Llywodraeth i'n cynnig? Wel, y 'dileu bron bopeth, ac mae popeth rydym yn ei wneud yn iawn' arferol. Wel, nid yw'n iawn. I mi, Lywydd, dyma enghraifft arall eto o pam y gallai datganoli fod yn well na dim byd o gwbl, ond pam hefyd nad yw'n ddigon. Credaf yn gryf fod y rhan fwyaf o bobl Cymru am weld ein staff iechyd a gofal yn cael eu talu'n briodol a hynny'n gyson.
Ond er bod iechyd a gofal wedi'u datganoli, mae ein gweithwyr iechyd a gofal yn dal i gael eu tristáu gan rethreg sarhaus Llywodraeth Geidwadol na wnaethom bleidleisio drosti. A hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru am ddarparu setliad cyflog mwy hael, efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd fforddio gwneud hynny. Mae Angela Burns yn iawn i ddweud, wrth gwrs, fod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond mae cwestiynau'n codi ynglŷn ag adnoddau. Mae ein staff iechyd a gofal a'r rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau—pob un ohonom, Lywydd—yn haeddu gwell. Yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, mae angen inni fod yn wlad annibynnol gyda Llywodraeth a all adlewyrchu ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau o ddifrif ac yn llwyr—penderfyniadau sy'n effeithio arnom ni a wnaed gennym ni.
Yn y cyfamser, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu, gan gynnwys talu o leiaf £10 yr awr i bob gweithiwr gofal. Ar ôl mis Mai, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud yn union hynny. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig heb ei ddiwygio i'r Senedd.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfrannu i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant Llywodraeth Cymru yn enw Rebecca Evans. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddewis y pwnc hwn ar gyfer dadl fer heddiw, gan ei bod yn caniatáu i mi ailadrodd barn glir Llywodraeth Cymru ar gyflogau'r GIG, a'r gwrthgyferbyniad uniongyrchol rhyngom ni a Llywodraeth Geidwadol y DU.
Fel y mae llawer ohonoch wedi sôn, rydym yn dweud yn rheolaidd gymaint y gwerthfawrogwn staff ein GIG am eu hymroddiad a'u tosturi, yn enwedig yn wyneb y feirws ofnadwy a diymwared hwn. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ddi-baid. Mae'r pandemig yn parhau i effeithio'n sylweddol ar gleifion a staff. Rwy'n cydnabod y gofynion corfforol ac emosiynol anhygoel a wynebir gan ein gweithlu o ganlyniad. Maent wedi wynebu niwed er mwyn cadw pob un ohonom yn ddiogel. Fe wnaethom beintio enfysau, fe wnaethom ddiolch ac fe wnaethom guro dwylo yn y strydoedd. Ac ymateb Llywodraeth Geidwadol y DU i gydnabod y gwasanaeth eithriadol hwnnw yw ymgais i gyfyngu codiad cyflog y GIG i 1 y cant. Mae'n anghredadwy. Gall Llywodraeth Geidwadol y DU ddod o hyd i arian trethdalwyr i'w chwistrellu dros ymgynghorwyr preifat ar brofi ac olrhain yn Lloegr; y cwestiynau heb eu hateb ar gyfarpar diogelu personol a'r llwybr i'r breintiedig; tîm o ffotograffwyr ar gyfer y Prif Weinidog; ac ystafell newydd ar gyfer briffio'r cyfryngau rydym eisoes wedi clywed amdani heddiw. Ac eto, o ran y GIG, mae'r coffrau'n wag. Ni ddylai neb fychanu'r ymdeimlad o ddicter a brad y mae staff y GIG yn ei deimlo. Mae'n gic yn y dannedd gan y Torïaid. Rwy'n deall cryfder teimladau staff a'u cynrychiolwyr yn yr undebau llafur. Cyfarfûm ag undebau llafur, fel y gwnaf yn rheolaidd, ddydd Gwener ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth y DU, a chlywais drosof fy hun pa mor siomedig a chlwyfedig y teimlant.
Rwyf wedi bod yn glir iawn ers y cyhoeddiad hwnnw gan y Torïaid nad yw'r Llywodraeth hon o dan arweiniad Llafur Cymru wedi gosod cap mympwyol ar gyflogau'r GIG. Ysgrifennais at gyrff adolygu cyflogau'r GIG ar 11 Mawrth i gadarnhau nad ydym wedi gosod cap ar gyflogau'r GIG. Rydym am gael cyngor annibynnol gan gyrff adolygu cyflogau ar godiad teg a fforddiadwy i weithwyr y GIG yma yng Nghymru, yn unol â'r cylch gorchwyl a osodais ym mis Ionawr. Mae'r cyrff adolygu cyflogau i fod i adrodd ym mis Mai, a bydd yn rhaid i staff y GIG a'r cyhoedd benderfynu a ydynt am gymeradwyo dirmyg y Torïaid tuag at ein GIG yn y blwch pleidleisio. Ni allai'r gwrthgyferbyniad â blaenoriaethau a gweithredoedd Llafur Cymru fod yn gliriach. A gwneir y taliadau bonws a gyhoeddwyd heddiw yn ychwanegol at ddyfarniad cyflog teg, nid i gymryd lle hynny. Roeddwn yn falch o gadarnhau'r taliad hwn heddiw ar ôl wythnosau o waith gyda'n rhanddeiliaid, ac mae'n amlwg yn chwerthinllyd i awgrymu bod y bonws rywsut yn ymateb munud olaf i'r cynnig hwn.
Rwyf yr un mor falch bod GIG Cymru yn gyflogwr cyflog byw, ac amlinellodd Dawn Bowden ei rôl fel swyddog undeb llafur yn negodi hynny gyda Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru, ac yn ddiweddar rwyf wedi penderfynu gweithredu'r gyfradd cyflog byw gwirioneddol newydd o £9.50 yr awr ar gyfer staff ein GIG o 1 Ebrill. Mesur dros dro yw cyllid Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn wrth i ni aros am argymhellion y corff adolygu cyflogau newydd. Mae gennym ymrwymiad ers amser maith i'r cyflog byw gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog ar gyfer ein gweithlu gofal cymdeithasol. Ddoe, nodais ein gwaith ar dalu am ofal a'n blaenoriaeth i godi cyflogau staff gofal cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliannau hirdymor i'r sector sy'n cynnwys datblygiad cyflog ac mae hwnnw'n mynd y tu hwnt i'r lleiafswm hwn.
Mae gofal cymdeithasol yn gymhleth, gyda dros 1,000 o gyflogwyr a gwasanaethau ar draws y sector preifat, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Mae cyflwyno gwelliannau hirdymor yn golygu bod angen i ni weithio mewn partneriaeth, a dyna pam y gwnaethom sefydlu fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Mae cyflog yn ystyriaeth allweddol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond felly hefyd y mae trefniadau, telerau ac amodau cytundebol da yn y broses o greu sector sefydlog lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Nid ydym am weld cyflwyno cyflog gwell a gaiff ei wrthbwyso wedyn gan delerau ac amodau gwaeth. Comisiynir y rhan fwyaf o'r gofal a'r cymorth, ac mae'r trefniadau presennol yn tueddu i arwain at gyflogau isel, lleiafswm cyflog ar gyfer ein gweithlu rheng flaen. Dyna pam ein bod yn cynnig dull gweithredu newydd yn ein Papur Gwyn, 'Ailgydbwyso gofal a chymorth'. Ac ynddo, rydym yn nodi sut y bydd fframwaith cenedlaethol newydd yn sicrhau y dylai ansawdd a gwerth, yn hytrach na phris, ddod yn benderfynyddion llwyddiant allweddol mewn marchnad sy'n darparu gofal.
Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw ac anfon neges glir i ddangos faint rydym yn gwerthfawrogi ein staff, a neges glir i'r Blaid Geidwadol hefyd.
Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddadl yma ac i bawb sydd wedi cymryd rhan—i Dai a Helen am atgyfnerthu'r hyn sydd yn y cynnig yma o'n blaenau ni heddiw. Diolch i Aelodau o bob plaid a Llywodraeth sydd wedi datgan, fel mater o egwyddor, pa mor bwysig ydy hi ein bod ni yn gwobrwyo ein staff yn iawn ac yn eu talu nhw yn iawn o fewn iechyd a gofal. Ond, wrth gwrs, beth rydym ni yn ei wneud sydd yn bwysig yn y pen draw, yn hytrach na beth rydym ni yn ei ddweud. Dwi'n croesawu geiriau llefarydd y Ceidwadwyr, eto, yn cefnogi cyflogau teg. Ond, ar yr un pryd, dwi yn sicr yn cytuno efo Dawn Bowden ynglŷn â track record gywilyddus y Ceidwadwyr yn San Steffan o ran cyflogau a thelerau ac amodau i staff iechyd a gofal, a'r cynnig 1 y cant pitw yma ar gyfer staff yn Lloegr, wrth gwrs, ydy'r cefndir ar gyfer y cynnig yma sydd o'n blaenau ni heddiw.
Tra'n cyfeirio at y sylwadau gan Angela Burns, hefyd mi lwyddodd hi i droi hyn yn rhywbeth ynglŷn â chyfansoddiad ac annibyniaeth, yn dweud ein bod ni'n chwilio am annibyniaeth i Gymru ond ddim yn fodlon cymryd cyfrifoldeb ffisgal. Os caf i gywiro a dweud, yn llythrennol, gofyn am gyfrifoldeb ffisgal ydym ni drwy fynnu annibyniaeth i Gymru, er mwyn gallu rhoi iechyd a gofal a'r holl wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru ar seiliau mwy cadarn.
Fel rydym ni'n ei ddweud, beth rydym ni'n ei wneud sy'n bwysig yn fan hyn, ac wrth gwrs mae gweithred fel cynnig bonws i staff iechyd a gofal yn rhywbeth mae Llywodraeth yn gallu ei wneud fel one-off, ac mae o'n dâl fydd yn cael ei werthfawrogi, heb os, gan staff sydd wedi blino ar draws iechyd a gofal. Ond fel dywedodd yr RCN y prynhawn yma:
Gadewch i ni fod yn glir: nid bonws COVID-19 untro yw'r codiad cyflog mawr a sylweddol y buom yn galw amdano ar gyfer ein staff nyrsio. Yr hyn rydym am ei gael gan Lywodraeth Cymru yw ymrwymiad i sicrhau cyflog teg am nyrsio, cyflog teg sy'n mynd i'r afael â'r 1,600+ o swyddi gwag yng Nghymru, cyflog teg sy'n annog nyrsys i aros yn y proffesiwn a chyflog teg sy'n sicrhau y darperir gofal rhagorol i gleifion.
Dyna yr ydym ni eisiau ei ddelifro o fewn iechyd a gofal yng Nghymru, ac rydym ni eisiau sicrhau bod ein staff gofal ni yn cael eu gwobrwyo am eu gwaith nhwythau. Mae gwelliannau'r Llywodraeth yn tynnu hynny allan o'r cynnig yma heddiw. Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw eisiau talu cyflog byw go iawn, ond yn tynnu oddi wrth ein cynnig ni yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud mewn Llywodraeth, o gynnig lleiafswm o £10 yr awr i weithwyr gofal. Peidiwch â phleidleisio, Aelodau Llafur, dros eich gwelliant chi heddiw. Wedi'r cyfan, wrth groesawu datganiadau o egwyddor gan Aelodau o bob plaid yn y Senedd heddiw ar wthio am gyflog gwell i staff iechyd a gofal, dwi'n eich gwahodd chi i gefnogi cynnig sydd yn mynnu hynny. Felly, dyma fi'n eich gwahodd chi unwaith eto: cefnogwch y cynnig yma heddiw, efallai.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe adawn ni y cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym ni'n cyrraedd yr amser pleidleisio nawr, ond fe gymerwn ni doriad byr cyn cychwyn y bleidlais er mwyn paratoi ar gyfer y dechnoleg o hynny. Toriad byr, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:01.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:06, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar adolygiad o gyflogau'r gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pedwar yn ymatal, 38 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 9 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 9, Yn erbyn: 38, Ymatal: 4
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf. Gwelliant 1, felly, yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, dau yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Eitem 9 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Mark Isherwood: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 yw'r gwelliant nesaf. Os bydd hwn yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 2 yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, mae pump yn ymatal, 19 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi'i gymeradwyo ac mae gwelliant 3 yn cwympo.
Eitem 9 - Gwelliant 2 - Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 27, Yn erbyn: 19, Ymatal: 5
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Felly, y bleidlais olaf ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7655 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.
2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr hyn y credant sy’n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i bennu.
3. Yn credu y dylai'r cyrff adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
4. Yn cydnabod bod GIG Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector.
5. Yn cydnabod bod un o themâu allweddol 'Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn deg.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, dau yn ymatal, 20 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 9 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 20, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar ein cyfnod pleidleisio ni, ond mae yna un eitem o fusnes yn weddill, a'r eitem hynny yw'r ddadl fer.
Y ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Efallai fod y pandemig coronafeirws wedi dechrau fel argyfwng iechyd corfforol, ond mae wedi dod yn argyfwng iechyd meddwl. Mae canlyniadau ymdrin â feirws SARS-CoV-2 wedi effeithio'n ddwfn ar iechyd meddwl pobl o bob oed ac o bob cefndir ym mhob cwr o Gymru. Ac nid ydym yn unigryw: mae astudiaethau wedi dangos yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl ar draws llawer o wledydd. Fodd bynnag, rydym wedi bod ymhlith y gwledydd yr effeithiwyd arnynt waethaf. Yn gynharach yr wythnos hon, lansiodd y prosiect Mental Health Million ei adroddiad ar yr effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar iechyd meddwl a llesiant ym mhob cwr o'r byd. Mae eu hadroddiad yn seiliedig ar astudiaethau o bobl o wyth gwlad Saesneg eu hiaith: yr Unol Daleithiau, Canada, y Deyrnas Unedig, Awstralia, Seland Newydd a phoblogaethau Saesneg eu hiaith sylweddol De Affrica, India a Singapôr. A gwelsant fod llesiant meddyliol wedi gostwng yn ddramatig yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mai'r DU a welodd y dirywiad mwyaf dramatig.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Yma yng Nghymru, rydym wedi cael rhai o'r cyfnodau hwyaf yn y byd o gyfyngiadau ar ein gweithgaredd cymdeithasol, felly nid yw'n syndod ein bod wedi profi rhai o'r effeithiau mwyaf. At ei gilydd, rydym yn anifeiliaid cymdeithasol, ac mae treulio amser gyda ffrindiau a theulu yn rhan hanfodol o'n llesiant emosiynol a meddyliol. Mae gorfod torri'r holl gyswllt wyneb yn wyneb am 212 diwrnod wedi gweld niferoedd llawer mwy o bobl yn dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd, ac mae'r rhai sy'n dioddef unigrwydd yn teimlo'n fwy ar wahân.
Mae atal ymweliadau â chartrefi gofal wedi golygu bod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd, ac mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd i gleifion dementia. Nid ydynt bob amser yn deall y rheswm dros y cyfyngiadau ac maent yn teimlo eu bod wedi eu hanghofio gan eu hanwyliaid. Mae hyn hefyd yn drawmatig i deuluoedd y rhai mewn gofal. Rhaid bod methu ymweld â'u hanwyliaid yn dorcalonnus, yn enwedig i'r rheini sy'n cael gofal lliniarol.
Nid yr henoed yn unig sydd wedi'u taro'n galed gan unigrwydd ac arwahanrwydd, maent wedi effeithio ar bobl ar draws y sbectrwm oedran, pobl o bob cefndir, a chyda llawer o bobl yn gweithio gartref neu ar ffyrlo, yn aml iawn, yr unig dro y gwelant fod dynol arall yw dros gyswllt fideo. Ond ni all cyfarfod Zoom cymryd lle rhyngweithio wyneb yn wyneb. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc—pobl ifanc sydd wedi gweld eu gallu i fynd allan a chwarae gyda'u ffrindiau wedi'i leihau, ond sydd hefyd wedi gweld eu haddysg a'u datblygiad wedi'u grebachu.
Yr hyn sydd wedi bod yn fwy niweidiol, fodd bynnag, yw'r dysgu wyneb yn wyneb ysbeidiol, yn ogystal â'r dull anghyson o weithredu ar draws yr ystodau oedran. Nid yw pobl yn deall pam y caiff eu brodyr a'u chwiorydd fynd i'r ysgol, ond bod yn rhaid iddynt hwy aros gartref. Dychwelodd rhai disgyblion ysgol i'r ystafell ddosbarth ychydig wythnosau'n ôl a dychwelodd mwy o garfannau yr wythnos hon, ond ni fydd eraill yn dychwelyd am fis arall. Mae plant wedi teimlo pryder ynglŷn â dychwelyd, ac mae rhieni'n dweud bod eu plentyn wedi datblygu problemau ymddygiad. Ac mae'n faich ofnadwy i bobl ifanc ei ysgwyddo. Mae pobl ifanc yn poeni am eu haddysg, am eu dyfodol, ac mae llawer o rieni wedi dweud eu bod wedi gweld eu plentyn yn crio oherwydd eu bod yn poeni ynglŷn â throsglwyddo'r feirws i'w rhieni neu neiniau a theidiau. Rwy'n ei chael yn dorcalonnus fod yn rhaid i blant ymdopi â phethau o'r fath a bod yn rhaid iddynt boeni am eu dyfodol, yn hytrach na gallu mwynhau'r presennol.
Ac eto, nid hwy yw'r unig rai sy'n poeni am y dyfodol. Felly, er mwyn ymladd y clefyd, fe wnaethom gau rhannau helaeth o'r economi, cau sectorau cyfan, gan arwain at lawer o bobl yn colli eu gwaith, a diolch byth, cawsom y cynllun cadw swyddi a welodd filiynau o bobl yn cael eu rhoi ar ffyrlo yn hytrach na'u diswyddo. Ond mae'r bobl hynny'n poeni a fydd y busnes y maent yn gweithio iddo yn goroesi ar ôl pandemig. Mae pryder am sefydlogrwydd economaidd yn y dyfodol wedi arwain at salwch meddwl i lawer o bobl. Arweiniodd llawer gormod o nosweithiau di-gwsg at bryderon ynglŷn â darparu bwyd a lloches iddynt hwy a'u teuluoedd.
Fodd bynnag, nid yw trawma meddyliol wedi'i gyfyngu i'r rhai sydd allan o waith yn unig. Mae gweithio yn ystod y pandemig wedi bod yn straen i lawer, yn enwedig y rhai na allent gadw pellter cymdeithasol. Mae swyddogion yr heddlu, swyddogion carchardai, diffoddwyr tân a phawb sydd ar y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi rhoi eu hunain mewn perygl o ddal clefyd marwol er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel. Ac mae'r rhai sy'n gweithio yn y GIG a chartrefi gofal hefyd wedi gorfod ymdopi â gweld eu cleifion, a'u cydweithwyr weithiau, yn colli eu bywydau i COVID-19. Felly, rydym wedi gweld hanesion dirdynnol am feddygon a nyrsys yn dweud bod nifer y marwolaethau wedi golygu bod gwaith yn ystod y pandemig yn debyg i fod ar faes y gad. Bu'n rhaid i nyrsys weithio am oriau mewn cyfarpar diogelu personol poenus, gan wneud tasgau corfforol heriol, fel troi cleifion COVID fel nad oeddent yn boddi yn yr hylif ar eu hysgyfaint. Yna bu'n rhaid iddynt eistedd gyda chleifion wrth iddynt farw, fel na fyddent yn wynebu eu diwedd ar eu pen eu hunain. Mae gweld pethau mor ofnadwy wedi gadael ei ôl, gyda staff yn methu cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i wella gan nad oes neb i gymryd eu lle.
Diolch byth, nid oes raid i'r rhan fwyaf o bobl brofi'r lefel honno o drawma meddyliol, ond ychydig iawn sydd wedi dod drwy'r 12 mis diwethaf heb unrhyw niwed. Efallai fod COVID-19 wedi dechrau fel yr her iechyd cyhoeddus fwyaf mewn mwy na chanrif, ond erbyn hyn dyma'r her iechyd meddwl fwyaf inni ei hwynebu erioed hefyd. Felly, beth y gallwn ei wneud yn ei gylch? Rwy'n croesawu'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gynnig therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein i bawb yng Nghymru dros 16 oed, ond mae'n rhaid inni wneud cymaint mwy. Mae angen inni gyflogi byddin o therapyddion a chwnselwyr. Mae'n rhaid i ni roi cwnselwyr ym mhob ysgol, annog pob cyflogwr i gynnig cymorth emosiynol ac iechyd meddwl i'w staff. Rhaid inni sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael pa gymorth bynnag sydd ei angen arnynt.
Mae angen inni annog landlordiaid i ganiatáu i denantiaid gadw eu hanifeiliaid anwes. Efallai fod hyn i'w weld yn gais rhyfedd, ond nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod perchnogaeth ar anifeiliaid anwes wedi codi i'r entrychion yn ystod y cyfyngiadau symud. Gall anifeiliaid anwes ein helpu i ymdopi ag unigrwydd ac arwahanrwydd, a gall cael ci sbarduno pobl i adael y soffa a mynd allan am dro, gan helpu i hybu iechyd meddwl. Yn anffodus, mae llawer o landlordiaid, ac yn enwedig landlordiaid cymdeithasol, yn atal perchnogaeth ar anifeiliaid anwes. Rwyf wedi bod yn ymdrin â Tai Tarian, a wrthododd ganiatáu i un o fy etholwyr gael ci. Diolch byth, clywais neithiwr ei bod wedi cael ci cymorth emosiynol, yn dilyn pwysau gan ei meddyg teulu. Ond ni ddylai pobl orfod brwydro am gymorth emosiynol. Rhaid inni fod yn hyblyg a darparu pa gymorth bynnag sydd ei angen. Nid yw Tai Tarian yn eithriad, ond mae'n braf nad yw pob landlord cymdeithasol yn negyddol tuag at berchnogaeth ar anifeiliaid anwes, fel yn achos Tai Hafod, sy'n edrych ar faint eich preswylfa a bydd hynny'n pennu maint y ci y gallwch ei gael.
Ddoe, galwodd Coleg Brenhinol y Meddygon ar Lywodraeth Cymru i gyflawni eu hymrwymiad i wneud iechyd a llesiant staff yn flaenoriaeth genedlaethol, ac rwy'n cytuno â hyn. Fe wnaeth staff iechyd a gofal ofalu amdanom ni, felly mae'n rhaid i ni ofalu am eu llesiant meddyliol hwy. Oni bai ein bod yn mynd i'r afael â niwed emosiynol a meddyliol y pandemig coronafeirws yn uniongyrchol ac ar unwaith, byddwn yn gweld llawer mwy nag un o bob pedwar ohonom yn dioddef o salwch meddwl. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i Caroline Jones am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc sydd mor bwysig.
Diolch yn fawr iawn, Caroline Jones, am gyflwyno'r ddadl mewn ffordd mor dosturiol; fe wnaethoch ei chyflwyno mewn ffordd ddyngarol iawn. Felly, diolch yn fawr iawn, oherwydd mae'n fater sy'n cyffwrdd â chymaint o fywydau ar hyn o bryd.
Rydyn ni'n aml yn siarad am yr angen i sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau iechyd meddwl a bod cymorth yn dal i fod ar gael bob amser, yn arbennig yn ystod adeg sydd mor heriol. Ond mae ein sylw heddiw ar gefnogi pobl sydd yn dioddef o orbryder a sut rydyn ni'n gallu mynd ymlaen ar ôl y pandemig, sut rydyn ni'n edrych i'r dyfodol. Ac er bod lefelau gorbryder wedi parhau'n uwch nag yr oedden nhw cyn y pandemig, rydyn ni wedi'u gweld nhw'n codi a syrthio hefyd. Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, mae lefelau gorbryder wedi gostwng. Wrth gwrs, mae hynny'n gwbl ddealladwy. Dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gweld lefelau gorbryder yn gostwng ymhellach os bydd pethau'n parhau i wella a'r cyfyngiadau yna'n cael eu codi.
Drwy weld ffrindiau a theulu, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rydyn ni'n eu mwynhau, gallwn ni i gyd warchod ein hiechyd meddwl. Ac i lawer o bobl, bydd iechyd meddwl a llesiant yn gwella wrth inni ddychwelyd i fywyd normal. Ond, i bobl eraill, mae effaith y pandemig i'w deimlo'n ddyfnach, a gallai hyn fod oherwydd y trawma mae'r unigolyn wedi ei brofi, efallai trwy salwch neu os bydd yr unigolyn efallai wedi colli aelod o'r teulu neu ffrind i COVID. Mae Caroline wedi sôn am y bobl sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd; wrth gwrs, maen nhw wedi dioddef trawma yn ystod y cyfnod yma hefyd. Rydym hefyd yn gwybod bod y pandemig yn mynd i gael ac wedi cael effaith ar ein heconomi a'n cymdeithas, nid jest yn y tymor byr, ond mae'n debygol o barhau i'r tymor canolig. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n deall yr effaith y bydd cyflogaeth, incwm a thai yn cael ar iechyd meddwl pobl, a deall yr amgylchiadau sydd wedi newid yn ystod y cyfnod yma.
Er mwyn adfer ein hiechyd meddwl ar ôl y pandemig, mae'n gwbl allweddol nad ydym yn ei ystyried fel mater i'w drin trwy ddulliau meddygol yn unig. Wrth gwrs ein bod ni wedi ymrwymo i gynnal gwasanaethau arbenigol i helpu gydag anghenion iechyd meddwl trwy gydol y pandemig sy'n galw am help y gwasanaeth iechyd, ond dwi yn meddwl y bydd angen mynediad at amrywiaeth o gymorth anghlinigol ar nifer o bobl hefyd. Dwi'n falch heddiw fy mod wedi cael y cyfarfod cyntaf o'r grŵp gorchwyl a gorffen ar ragnodi cymdeithasol, a dwi'n gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni edrych mewn iddo yn fwy yn y dyfodol. Dwi hefyd wedi cyflwyno papur i'r Cabinet yn ddiweddar sy'n amlinellu'r materion hyn, a dwi wedi bod yn gwbl glir bod angen mwy o ymdrech drawslywodraethol ac amlasiantaethol eto os ydyn ni am atal y twf sydyn rŷn ni'n ei ragweld o ran anghenion iechyd meddwl—anghenion sy'n seiliedig mewn gwirionedd ar faterion cymdeithasol a llesiant llawer ehangach.
O ran deall effeithiau COVID-19 ar iechyd meddwl, rydym yn parhau i gryfhau'r trefniadau a roddwyd ar waith gennym ar ddechrau'r pandemig. Mae'r rhain yn cynnwys cymorth dadansoddol i ganfod y dystiolaeth ddiweddaraf o ganlyniadau arolygon poblogaeth, yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach. Roedd Caroline yn llygad ei lle yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn ymddangos nad yw pobl Prydain wedi ymdopi â hyn cystal â rhai gwledydd eraill. Rwyf hefyd wedi cynnull grŵp bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog yn ddiweddar, i roi mwy o sicrwydd i mi ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar gyflawni ein rhaglen waith iechyd meddwl, gan gynnwys ein hymateb parhaus i COVID-19.
Cynrychiolir Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y bwrdd a bydd yn helpu i gryfhau'r cymorth dadansoddol hwnnw. Maent yn bwrw ymlaen â gwaith pwysig i archwilio effaith bresennol a pharhaus COVID-19, yn enwedig ar blant a phobl ifanc. Roedd Caroline yn llygad ei lle yn tynnu sylw at hyn, oherwydd gwyddom fod y comisiynydd plant yn ei harolwg 'Coronafeirws a Fi' wedi canfod bod 67 y cant o blant rhwng 12 a 18 oed wedi dweud eu bod yn drist rywfaint neu'r rhan fwyaf o'r amser. Meddyliwch am y ffigur hwnnw; mae'n ffigur enfawr, ac mae'n rhaid inni roi mesurau ar waith. Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog addysg wedi bod yn gwneud hynny gyda'i dull ysgol gyfan; rydym bellach wedi ehangu hynny i'r dull system gyfan, ac roedd hynny i gyd yn rhannol o ganlyniad i ymateb i'r adroddiad gwirioneddol wych a ysgrifennwyd gan y pwyllgor plant, 'Cadernid meddwl'. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fframwaith ar gyfer adnewyddu gwasanaethau iechyd meddwl gyda'r GIG, a fydd yn rhan o gyd-destun strategaeth adfer gyfan y GIG, a gyhoeddir yn fuan iawn.
Rydym yn parhau i gefnogi ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig i annog dynion i siarad am iechyd meddwl. Efallai fod rhai ohonoch wedi gweld y rhaglen honno neithiwr; roedd hi'n drawmatig iawn gwylio sut y mae dynion yn ei chael hi mor anodd siarad am faterion iechyd meddwl. Ac rydym hefyd yn cefnogi grwpiau yr effeithiwyd arnynt yn anghymesur gan y pandemig, gan gynnwys grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ar incwm isel, wrth inni geisio ymestyn y cymorth hwnnw. Caroline, fe sonioch chi am gyfrifoldeb cyflogwyr, ac wrth gwrs, byddant yn chwarae rhan allweddol yn y broses o gefnogi adferiad economaidd a gwella iechyd y boblogaeth oedran gweithio. Bydd ein rhaglen Cymru Iach ar Waith yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, a byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i ddeall yr anghenion presennol, gan gynnwys newidiadau posibl i batrymau gwaith, a fydd yn llywio dyfodol gwaith. Gwn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n cynnal amrywiaeth o gyfweliadau gyda gweithwyr yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus i lywio ein dull o weithredu ar hyn.
Rydym yn parhau i gydnabod effaith bosibl y pandemig ar gyflogaeth ac iechyd yn y dyfodol. Mae'r prif swyddog meddygol yn cadeirio grŵp i ystyried y materion hyn, a gwyddom fod effaith sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant, yn enwedig yn sgil llai o gyfleoedd cyflogaeth, a'r angen i gefnogi gweithredu ar draws ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid. Rwyf wedi siarad o'r blaen am y gwaith rydym wedi'i wneud ar gryfhau ein cynnig cyffredinol ar gyfer problemau iechyd meddwl lefel isel, ac fe gyfeirioch chi at gynnig SilverCloud, cymorth therapi gwybyddol ymddygiadol sydd bellach wedi'i ddefnyddio gan oddeutu 6,000 mewn chwe mis. Rwyf wedi ymrwymo £4 miliwn arall y flwyddyn nesaf i ehangu'r math hwn o gymorth, a chymorth arall—nid ar-lein yn unig, wrth gwrs. Mae'n rhan o gyllid ychwanegol o £42 miliwn y flwyddyn nesaf i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Gwyddom y bydd hyn yn cryfhau gwelliannau i wasanaethau o fewn byrddau iechyd, ac yn enwedig yr ymateb y tu allan i oriau, sy'n wirioneddol bwysig yng nghyd-destun cymorth iechyd meddwl.
Mae'n rhaid inni gofio bod yr arian ychwanegol hwn yn dod yn erbyn cefndir y gronfa lawer mwy o arian a ddyrannwn i fyrddau iechyd lleol bob blwyddyn. Er fy mod yn deall yr angen i ddiogelu cymorth arbenigol, rwyf wedi bod yn glir yr hoffwn yn fawr weld newid yn yr adnoddau tuag at atal a chymorth iechyd meddwl cynharach, ac yn arbennig tuag at anghenion plant a phobl ifanc, oherwydd gwyddom at ei gilydd fod 80 y cant o'r problemau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant a phobl ifanc.
I gloi, er bod cymorth iechyd meddwl wedi bod ar gael drwy gydol y pandemig, wrth inni ddod allan ohono, rwy'n glir fod angen inni adnewyddu ac ailadeiladu'r ddarpariaeth honno mewn ffordd sy'n llawer mwy ataliol ei natur, ac sy'n adlewyrchu'r anghenion yn ein poblogaeth. Drwy weithio'n agos gyda'r GIG a phartneriaid eraill, credaf y bydd y cyllid ychwanegol sylweddol rydym wedi'i sicrhau yn helpu i wneud hyn mewn ffordd a fydd yn ei wneud yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, diolch unwaith eto, Caroline, am ddod â'r mater pwysig hwn i sylw'r Siambr, ac yn sicr rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ceisio estyn am y cymorth sydd ar gael iddynt. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:27.