Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/07/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Wrth i ni gychwyn, hoffwn gymryd y cyfle i groesawu dirprwyaeth o Senedd Sudan, sy'n ymweld â'n Senedd ni heddiw. Croeso i chi.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Y Diwydiant Ffermio

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant ffermio yng Nghymru? OAQ(5)0726(FM)

Gwnaf, byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'n ffermwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill i gyflawni ein gweledigaeth ar y cyd o ddiwydiant amaethyddiaeth ffyniannus a chydnerth.

Diolch. Mae 'Panorama' yr wythnos hon yn edrych ar sut y gallai Brexit effeithio ar ein ffermwyr ni yma yng Nghymru. Nawr, fel y dywedodd Mr Jacob Anthony o'ch etholaeth chi ar y rhaglen, mae gan yr UE

un polisi amaethyddol sydd i fod yn addas i bob un o’r 28 gwlad...gwledydd sy’n ffermio ceirw yng Nghylch yr Arctig yr holl ffordd i lawr i ffermwyr ym Môr y Canoldir yn tyfu olifau.

Sut ydych chi, felly, yn gweithio gydag Ysgrifennydd amgylchedd y DU, ac eraill, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru, tuag at ddatblygu’r cytundeb gorau posibl i’n ffermwyr sy'n fwy addas i Gymru, ac a wnewch chi egluro eich ymateb i ddogfen bolisi Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ‘The Vision for the Future of Farming: A New Domestic Agricultural Policy’?

Wel, nid yw'n gywir i ddweud bod un ateb i bawb yn Ewrop a dweud y gwir; ceir amrywiadau ar draws Ewrop, wrth gwrs. Ac ni ddylai fod yn wir ychwaith y dylai fod un ateb i bawb, ac ni ddylai fod yn wir y dylai fod un ateb i bawb yn y DU o ran hynny, gan fod ein ffermio yn dra gwahanol. Mae strwythur ein ffermio yn dra gwahanol, er enghraifft, i’r strwythurau mewn sawl rhan o Loegr. Byddem yn fwy na pharod i weithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig pe byddai ond yn trafferthu i gyfarfod â ni, oherwydd un o'r pethau a wnaeth oedd canslo ei gyfarfodydd pedrochr gyda Lesley Griffiths, y Gweinidog, a chyda’r Alban, ar gyfer y mis diwethaf a’r mis hwn. Felly, byddem yn fwy na pharod i gyfarfod ag ef. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn edrych ymlaen at wneud hynny. Rwy'n deall y bydd yn y Sioe Frenhinol. Efallai y gwnaiff ef gyfarfod â ni bryd hynny. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud, yn gwbl eglur, yw nad yw'n argoeli'n dda pan mai cam cyntaf Ysgrifennydd Gwladol DEFRA yw canslo cyfarfodydd gyda gweinyddiaethau datganoledig, ac, yn ail, mae'n hynod bwysig, pan fydd y Bil diddymu yn cael ei gyhoeddi, bod cydnabyddiaeth na ddylai Llywodraeth y DU gymryd y pwerau a ddylai ddod i Gymru oddi wrth Frwsel a’u cadw nhw yn Llundain. Ni fyddwn yn cefnogi hynny o dan unrhyw amgylchiadau.

A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno y dylid archwilio mewn i’r posibilrwydd o benodi diwydiannwr profiadol i sicrhau, os bydd rhwystredigaethau i ffermio ar ffurf tariffs uchel i gael mynediad i’r Undeb Ewropeaidd, y gallwn ni achub beth gallwn ni o amaeth Cymru trwy sicrhau bod llawer mwy o fwyd Cymru yn cael ei ‘procure-io’ i’n hysgolion a’n hysbytai, hyd yn oed os bydd hynny’n costio ychydig yn fwy o arian, ac y gallai’r diwydiannwr yma hefyd fod yn gyfrifol am ddatblygu gwell cydweithrediad rhwng ffermwyr i sicrhau bod bwyd Cymru sydd o ansawdd uchel yn gallu cael ei gyflenwi mewn ffordd ddibynadwy i archfarchnadoedd dros Brydain i gyd?

Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, byddai unrhyw fath o dariff yn wael i ffermwyr Cymru. Yn ail, byddai unrhyw fath o rwystredigaeth ynglŷn â chael mynediad i’r farchnad Ewropeaidd yn wael i ffermwyr Cymru. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr a hefyd gwmnïau bwyd er mwyn sicrhau bod mwy o gyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn prynu bwyd o Gymru, ac, wrth gwrs, nid oes rhaid i awdurdodau lleol na chyrff eraill brynu beth bynnag sy’n tsiepach. Rydym ni wedi gweld cynnydd dros y blynyddoedd o gig yn mynd mewn, er enghraifft, i’r gwasanaeth iechyd o Gymru o achos y ffaith ein bod ni’n gweithio gyda chynhyrchwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu sicrhau bod bwyd ar gael dydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos. Ond mae’n rhaid pwysleisio’r ffaith nad yw hynny’n rhywbeth sy’n mynd i wneud lan am golli neu weld rhwystredigaeth ynglŷn â’r farchnad Ewropeaidd.

Rwy’n siŵr bydd y Prif Weinidog am ymuno gyda fi i longyfarch Hufenfa De Arfon, cwmni cydweithredol, am wneud yr elw gorau erioed yn eu hanes hir nhw. Bues i’n ymweld â’r safle yn ddiweddar iawn a gweld bod dyfodol ar gyfer y math yma o gydweithio yn y sector amaeth. Roedd hefyd yn wir bod yr elw yna yn seiliedig ar fuddsoddiad—buddsoddiad sylweddol o arian Ewropeaidd—a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Nawr, wrth fynd ymlaen, mae eich Ysgrifennydd Cabinet chi dros gyllid wedi sicrhau y bydd targed mewnol o ran gwario o’r cronfeydd strwythurol gan Lywodraeth Cymru o 80 y cant, er mwyn trio diwallu angen a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau ohono fe. A wnewch chi osod targed tebyg ar gyfer eich gwariant chi, os gwelwch yn dda, ar y rhaglen datblygu gwledig, fel bod cwmnïau fel Hufenfa De Arfon yn gallu buddsoddi at y dyfodol, a phawb arall yng Nghymru hefyd?

Wel, mae’r arian yn mynd mas ar y rât y byddwn i’n ei erfyn ynglŷn â’r cynllun datblygu gwledig. Mae gyda ni, wrth gwrs, lan i 2023 i hala’r arian, ac nid oes rheswm i feddwl y byddai’r arian yna ddim yn cael ei hala. A gaf i ymuno â’r Aelod ynglŷn â llongyfarch Hufenfa De Arfon? Dyna’r lle cyntaf y gwnes i fynd iddo pan oeddwn i’n Weinidog—beth amser yn ôl nawr. Rwy’n cofio, wrth gwrs, yr hanes—nôl ym 1933, rwy’n credu, y cafodd yr hufenfa ei sefydlu. Felly, mae hynny’n dangos, wrth gwrs, pa mor llwyddiannus mae e wedi bod.

Ond, rwyf wedi dweud o’r blaen bod yn rhaid, wrth gwrs, sicrhau mwy o grwpiau neu gwmnïau cydweithredol yn y byd ffermio yng Nghymru. Nid yw’n farn sydd wedi cael ei chroesawu bob tro gan ffermwyr nac eraill yn y diwydiant. Ond mae’n hollbwysig i sicrhau bod ffermwyr yn gallu cael pris teg am eu cynnyrch, ac un ffordd o wneud hynny, wrth gwrs, yw sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn iddyn nhw beidio gorfod, felly, werthu fel unigolion. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, y byddai hynny’n golygu mai gyda’r prynwyr y byddai’r cryfder.

Diswyddiadau Staff ym Mhrifysgolion Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiswyddiadau staff ym mhrifysgolion Cymru? OAQ(5)0727(FM)[W]

Rydym ni’n ymwybodol bod nifer o sefydliadau wrthi’n adolygu eu strwythurau staffio ar hyn o bryd. Rydym ni’n disgwyl iddyn nhw gynnal trafodaethau ystyrlon gydag aelodau staff a’r undebau llafur, a hefyd gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, er mwyn archwilio’r goblygiadau i sefydliadau unigol a’u myfyrwyr.

Buaswn i’n hoffi llongyfarch fy mhrifysgol leol, Bangor, gan mai hi ydy’r unig brifysgol yng Nghymru i ennill gwobr aur fframwaith rhagoriaeth dysgu Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd yn ganlyniad ardderchog, yn cadarnhau bod Prifysgol Bangor yn cynnal safonau dysgu ac addysgu rhagorol yn gyson ar gyfer ei myfyrwyr, a bod y ddarpariaeth ym Mangor o’r safon uchaf a welir yn y Deyrnas Gyfunol heddiw.

Ond, ar yr un pryd, rwy’n nodi bod Prifysgol Bangor, ynghyd â bron bob prifysgol yng Nghymru, wrthi’n ymgynghori ynglŷn â diswyddiadau posib—117 o ddiswyddiadau posib gorfodol ym Mangor yn unig. Yn anffodus, mae cynifer o’n prifysgolion ni’n cael eu gorfodi i gymryd y camau yma ar hyn o bryd. A ydych chi’n cytuno ei bod hi’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ystyried y sefyllfa o ddifrif a darparu adnoddau ariannol ychwanegol ar gyfer ein prifysgolion fel mater o frys?

Wel, mae’r prifysgolion, wrth gwrs, yn annibynnol. Ac, wrth gwrs, mae hi lan iddyn nhw i wneud eu penderfyniadau. Nid ydym ni, wrth gwrs, yn croesawu unrhyw sefyllfa lle mae pobl efallai yn mynd i golli eu swyddi. Ond nid dim ond o’r Llywodraeth y dylai arian ddod. Mae yna ddyletswydd ar brifysgolion i sicrhau bod mwy o gyllid yn dod o’r tu fas i’r sector cyhoeddus, o’r tu fas i’r pwrs cyhoeddus—edrych am arian ynglŷn ag ymchwilio, er enghraifft, edrych am arian ynglŷn â’r byd masnachol. Ac felly, wrth gwrs, mae yna ddyletswydd arnyn nhw i wneud hynny. Ond nid ydym ni’n moyn gweld neb yn colli eu swyddi, mewn unrhyw brifysgolion. A byddwn i, wrth gwrs, yn dweud wrth brifysgolion ei bod hi’n hynod o bwysig i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y sefyllfa yna ddim yn digwydd, a taw hynny ddylai fod y ‘last resort’ ac nid rhywbeth y maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw’n ystyried hwn am y tro cyntaf.

Wel, mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru; mae tua 5 y cant o economi Cymru o ganlyniad i weithgarwch prifysgolion yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, os ydych chi’n colli staff o brifysgol, staff profiadol a drud y mae'r brifysgol yn ceisio eu symud ymlaen yn gyntaf yn aml iawn. Pa sicrwydd ydych chi wedi ei gael gan y sector prifysgolion na fydd hynny’n tanseilio'r cyfle i'r sector berfformio'n arbennig o dda o ran ei gyfraniad at economi Cymru, yn enwedig os yw nifer sylweddol o staff yn mynd i gael eu diswyddo o ganlyniad i ostyngiadau o ran cyrsiau penodol ac incwm?

Wel, rwy’n credu ei bod hi’n hynod bwysig nad yw ein prifysgolion yn rhwystro eu hunain, o ran y ffordd y maen nhw’n cystadlu nid yn unig gyda'i gilydd— marchnad fach iawn yw Cymru—ond ar draws y byd. Ac mae'n rhaid i brifysgolion ystyried pa un a fyddai colli staff yn golygu nad ydynt yn gallu darparu gwasanaeth i’w myfyrwyr mwyach, a ddim bellach yn gallu denu incwm ychwanegol o ganlyniad o bosibl. Fel y dywedais wrth ateb yr Aelod dros Arfon, dylid ystyried dileu swyddi fel y dewis olaf ac nid cyntaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd yr adroddiad interim gan y comisiwn ar iechyd a gofal cymdeithasol ei ganfyddiadau heddiw. Y Llywodraeth sefydlodd y comisiwn hwn, yn amlwg, a disgwylir yr adroddiad terfynol ddiwedd y flwyddyn hon. Nid oes gan Lywodraethau Llafur blaenorol hanes da iawn pan ddaw i weithredu canfyddiadau manwl gan gomisiynau, fel comisiwn Williams er enghraifft. A allwch chi roi syniad i ni o ba bwys y mae’r Llywodraeth yn ei neilltuo i’r canfyddiadau gan y comisiwn, ac ai’r rhain fydd yr elfen ganolog i'r Llywodraeth hon, wrth symud ymlaen yn y Cynulliad hwn, yn y ffordd y mae'n llunio iechyd a gofal cymdeithasol—yr argymhellion y mae'r adroddiad yn eu gwneud?

Wel, ni fyddem wedi sefydlu'r adolygiad ar sail drawsbleidiol pe na byddem ni’n mynd i’w gymryd o ddifrif; yn amlwg. Rydym ni’n edrych ymlaen at yr adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi, a dyna fydd sail ein hystyriaethau ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n credu mai’r hyn sy'n bwysig i ni ei ddeall, er tegwch—. Ac rwy’n eich canmol am sefydlu'r adolygiad seneddol, oherwydd mae rhai o'r canfyddiadau y maen nhw wedi eu rhoi ar gael heddiw yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth, gan ddangos, yn amlwg, yn y ddwy flynedd nesaf, y byddwn yn gweld cynnydd o 44 y cant i nifer y bobl dros 65 oed, ac eto gostyngiad o 5 y cant i nifer y bobl o oedran gweithio, sy'n dangos bod heriau gwirioneddol i'w hwynebu. A phan y gellir wynebu’r heriau hynny yn drawsbleidiol, yn amlwg, bydd yr atebion hynny yn dod yn llawer haws. Ond mae'n hanfodol deall pa un a fydd y comisiwn hwn a'i argymhellion yn dioddef yr un ffawd â llawer o gomisiynau eraill y mae'r Llywodraeth wedi eu comisiynu—ac rwy’n defnyddio enghraifft comisiwn Williams eto—neu ai’r canfyddiadau hyn fydd elfen ganolog ystyriaethau’r Llywodraeth mewn gwirionedd wrth symud at ddiwedd y Cynulliad hwn yn 2022.

Mae'n rhaid i ni gofio, wrth gwrs—. Mae'n crybwyll comisiwn Williams. Gwrthwynebwyd comisiwn Williams gan bleidiau eraill yn y Siambr hon; nid oedd fel pe byddai'r Llywodraeth wedi penderfynu ar ei liwt ei hun, er gwaethaf cefnogaeth pobl eraill, y byddai'r argymhellion yn symud yn eu blaenau.

O ran iechyd, mae hwn yn ymrwymiad mawr i ni ei wneud. Fe’i gwnaed gennym, wrth gwrs, yn rhan o'n rhaglen lywodraethu, ac mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gallu gwneud cymaint ag y gallwn i ddod o hyd i dir cyffredin o ran iechyd ar draws y pleidiau, er mwyn deall beth yw’r heriau, gan fod yr heriau yr un fath beth bynnag fo’r wleidyddiaeth, ac yna gweld sut y gellir ymateb i’r heriau hynny. Mae hynny'n sicr yn rhan o'n hystyriaethau. Fel y dywedais, byddwn yn edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad ac yn edrych ymlaen at weithredu ar gymaint ohono ag y gallwn.

Rwy’n meddwl mai’r hyn a fyddai wedi rhoi mwy o ffydd i ni yw pe gallem ni fod wedi cael ateb mwy eglur a fyddai wedi dweud, 'Bydd, mi fydd hyn yn rhan o’n hystyriaethau yn y dyfodol—yr argymhellion', a’ch bod chi’n edrych ymlaen at gyflawni’r argymhellion hynny yn y pen draw, yn hytrach na dim ond yn edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad, ac yna penderfynu beth i'w wneud, gan fod amser yn brin. Fel y mae Mansel Aylward yn ei nodi, mae’r fom amser ddemograffig eisoes wedi ffrwydro. Mae rhan arall yr adroddiad yn sôn am yr argyfwng sgiliau yn y GIG a maes gofal cymdeithasol y mae angen rhoi sylw iddo nawr—mae'n sôn am nawr, nid yn y dyfodol, ond sydd yn digwydd mewn gwirionedd gyda'n gwaith cynllunio’r gweithlu ar hyn o bryd. Ac, yn bwysig, mae'n sôn am strwythurau a’r ffordd y bydd strwythurau yn— ac rwy'n meddwl mai’r geiriau y maen nhw’n eu defnyddio yw:

Mae maint yr heriau yn golygu bod y system yn dod yn ansefydlog, na ellir ei ddatrys trwy newidiadau bach, cam wrth gam.

Felly, ar y sail hon, felly, a ydych chi’n credu bod hynny'n arwain at y casgliad amlwg y bydd yn rhaid cael newid strwythurol llwyr yn y GIG yma yng Nghymru a'r sector gofal cymdeithasol, neu a ydych chi’n credu y gall dull mwy graddol ddarparu’r atebion y mae’r adroddiad interim yn cyfeirio atynt ac y bydd yr argymhellion terfynol yn awgrymu angen i Lywodraeth Cymru roi sylw iddynt?

Mae'n rhaid cael newid—mae'n amlwg. Ni fyddwn yn defnyddio'r gair 'llwyr'. Rwy'n amharod i fynegi barn heb weld argymhellion yr adroddiad, am resymau amlwg, ond byddem yn dymuno rhoi cymaint ohono ar waith ag y gallwn a cheisio consensws ar draws y Siambr er mwyn gwneud hynny.

O ran sgiliau, nid oes amheuaeth y bydd unrhyw fath o gyfyngiad ar fudo yn gwneud y sefyllfa o ran sgiliau yn waeth oherwydd, wrth gwrs, mae’r sector gofal cymdeithasol yn recriwtio’n helaeth o'r tu allan i'r DU, fel, wrth gwrs, y mae’r proffesiynau meddygol a nyrsio. Mae honno’n effaith na allwn ei rheoli yn uniongyrchol yma. Ond os yw’n gofyn y cwestiwn i mi, 'Ai dim ond ymarfer yw hwn yr ydym ni’n ei gynnal heb fod terfyn eglur?', Yr ateb i hynny yw 'nage'. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, gan weithio gyda phleidiau eraill ar draws y Siambr hon, y gallwn roi cymaint o'r argymhellion ar waith â phosibl. Mae'n rhaid i ni eu gweld nhw yn gyntaf er mwyn gwneud dyfarniad ynghylch pa un a allwn ni wneud hynny ar gyfer pob un o'r argymhellion, neu'r rhan fwyaf ohonynt.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae pob un o'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi galw am ymchwiliad annibynnol llawn i'r penderfyniadau yn ymwneud â phrosiect Cylchffordd Cymru. Yn wir, mae rhai ar eich meinciau cefn eich hun wedi dweud bod cwestiynau difrifol i'w hateb. Y cam cyntaf yn y broses honno fydd cyhoeddi eich adroddiad diwydrwydd dyladwy allanol eich hun, ac rydych chi wedi cytuno i gyhoeddi hwn, ond dim ond pan fydd y Cynulliad ar doriad. Nawr, i lawer ohonom ni, mae hyn yn edrych fel Llywodraeth sy'n ceisio gohirio craffu ar benderfyniad a ohiriwyd ei hun tan ar ôl yr etholiad. A all y Prif Weinidog ddweud a yw ei Lywodraeth wedi gofyn i'r cwmni a'r ymgynghorwyr allanol eto a ydynt yn hapus i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi? Ac o ran yr un darn o wybodaeth a roddwyd ar gael i'r cyhoedd, a ddisgrifiwyd gennych chi fel bod yn 'anffodus', a all y Prif Weinidog ein sicrhau ni nad oedd unrhyw un sy’n gysylltiedig â'r Llywodraeth yn gysylltiedig â’i ddatgeliad?

Mae ymchwiliad i ddatgeliad heb ganiatâd wedi cael ei gychwyn gan yr Ysgrifennydd Parhaol; bydd yn rhaid i hwnnw ddilyn ei gwrs. Yn ail, mae'r broses o siarad â'r sefydliadau dan sylw sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad diwydrwydd dyladwy wedi dechrau, gyda’r nod o’i gyhoeddi. Rydym ni eisiau cyhoeddi cymaint ohono â phosibl.

Un o'r rhesymau y galwyd am ymchwiliad annibynnol yw oherwydd cyfres o ddatganiadau camarweiniol a wnaed gan y Llywodraeth, yn ystod ymgyrchoedd etholiadol yn aml. Rwy'n siŵr mai cyd-ddigwyddiad oedd hynny, Prif Weinidog.

Gofynnwyd i chi ar 7 Ebrill 2016 pam y gwrthodwyd y cynnig y diwrnod cynt, a dywedasoch, ac rwy'n dyfynnu, 'Yr hyn a ddigwyddodd yn wreiddiol oedd eu bod nhw eisiau gwarant o £30 miliwn gennym ni, ac yna aeth i fyny i £357 miliwn.' Pan ofynnwyd i chi pryd y digwyddodd hynny, dywedasoch, a dyfynnaf: 'Yn y diwrnodau diwethaf' Dywedasoch, unwaith eto, wrth Wales Online ar 11 Ebrill, ac rwy’n dyfynnu eto:

Roedd yn ystod y diwrnodau diwethaf cyn hynny. Nid oeddem yn gwybod y byddai'r warant yn cael ei chwyddo.

Ac eto mae un o uwch-gyfarwyddwr Aviva investors, Mark Wells, yn mynd yn groes i'r hyn a ddywedasoch. Gwadodd fod Aviva wedi gofyn am danysgrifeniad o 100 y cant ychydig ddyddiau cyn y gwrthodiad. Dywed ac, unwaith eto, rwy’n dyfynnu:

lluniwyd y cytundeb hwn gyda Llywodraeth Cymru (trwy weision sifil) dros fisoedd lawer ac ni newidiodd unrhyw beth yn ein strwythur ariannu yn ystod y cyfnod cyn y cyhoeddiad hwn.

Prif Weinidog, dim ond un o'r ddau ohonoch chi all fod yn iawn. A allwch chi ddweud wrthym ni heddiw pa un ohonoch chi sy’n iawn a pha un ohonoch chi sy’n anghywir?

Dywedwyd wrthyf ar 5 Ebrill 2016.

Felly, nid oedd honno'n drafodaeth hirdymor, ai dyna ydych chi’n ei ddweud, nad oeddech chi wedi bod mewn trafodaethau hirdymor gyda'r cwmni hwnnw? A ydych chi’n gwadu hynny nawr? Dywedasoch ar BBC Wales ar 26 Ebrill eleni, yn y cyfnod cyn yr etholiad, dim ond ychydig ddyddiau ymlaen llaw, 'Rwyf eisiau i Gylchffordd Cymru weithio, dyna’i diwedd hi.' Ychwanegwyd gennych fod y model cyllido wedi newid ers y llynedd, yn eich geiriau chi: 'Mae hynny'n newid nawr; mae'r model yn well', meddech.

A allwch chi egluro beth newidiodd rhwng y datganiad hwnnw cyn yr etholiad, ac yna’r gwrthodiad fis yn ddiweddarach, ar ôl yr etholiad? Rydych chi wedi dweud wrthym yn y 10 diwrnod diwethaf, eich bod wedi eich hysbysu am y broblem ynghylch dosbarthiad y fantolen. Mae’n ymddangos bod llawer o bryderon wedi codi i chi, Prif Weinidog, yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae eich Llywodraeth wedi bod yn ystyried y prosiect hwn ers chwe blynedd gyfan. Pam na chodwyd y broblem ddosbarthu hon gennych chi unwaith ar y llawr hwn? Pam na chafodd ei chodi yn y 28 o wahanol gyfarfodydd a gawsoch chi gyda’r datblygwyr? Ac o ystyried y £10 miliwn neu fwy o arian cyhoeddus a roddwyd i’r prosiect hwn, gallai hynny gynyddu gan fod y cwmni y tu ôl i'r prosiect yn dweud bod hawliad cyfreithiol am gael ei wneud yn erbyn y Llywodraeth hon?

Prif Weinidog, penderfynasoch ohirio’r penderfyniad hwn tan ar ôl etholiad. Penderfynasoch ohirio’r cyhoeddiad diwydrwydd dyladwy hyd at adeg pan roedd y Cynulliad hwn mewn toriad. Pam na wnaethoch chi benderfynu gohirio'r penderfyniad terfynol fel y gallech chi o leiaf fod wedi cael Aviva a phawb arall o gwmpas y bwrdd i weld a ellid fod wedi datrys y problemau hyn a nodwyd yn ystod y dyddiau diwethaf?

Wel, yn gyntaf oll, mae'n ddrwg gennyf fy mod wedi rhoi ateb uniongyrchol i gwestiwn a ofynnodd; cafodd ei tharo’n ôl ganddo yn llafar, yn amlwg. Ond gadewch i mi roi mwy o atebion uniongyrchol i chi: nid yw'r prosiect chwe blynedd yn ôl yr un prosiect â’r prosiect i ni ymdrin ag ef. Mae wedi newid sawl gwaith o ran ei strwythur ariannol. Roedd y prosiect a ystyriwyd gennym ni yn brosiect yr oeddem ni wedi ei weld yn ddiweddar yn ystod y misoedd diwethaf. Mae'n brosiect, wrth gwrs, a oedd yn seiliedig ar y warant sy'n allan yna’n gyhoeddus. Fe wnaethom edrych ar y strwythur ariannol a gynigiwyd, aethom drwy'r diwydrwydd dyladwy, a datgelodd y diwydrwydd dyladwy bod risg uchel iawn y byddai’r gost neu’r warant yn cael ei ystyried fel bod ar y fantolen. Nid wyf yn gwybod os yw hi'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu, ond mae ‘ar y fantolen’ yn golygu y bydd yn cael ei drin fel pe byddem ni wedi rhoi arian i’r cwmni nawr. Byddai'n golygu y byddem ni’n dod o hyd i werth £157 miliwn o ostyngiadau cyfalaf yn y flwyddyn ariannol hon—dyna'r risg a gymerwyd gennym. Fe wnaethom ni weithio gyda'r cwmni i weld beth allem ni ei wneud i helpu. Bu cyfarfod rhwng y cwmni a swyddogion ar ôl y penderfyniad. Eglurwyd i'r cwmni beth oedd y problemau, ac fe wnaethant dderbyn hynny. Maen amlwg nad ydynt wedi siarad â hi gan fod y cwmni wedi derbyn y mater o ran y broblem o fod ar y fantolen a'r risgiau yr oedd hynny’n eu peri i ni—ni wnaethant ddadlau â hynny. A gaf i awgrymu ei bod hi, efallai, yn siarad gyda’r cwmni i gael eu safbwynt nhw ar hyn?

Un peth nad yw Plaid Cymru erioed wedi ei ddweud yw pa un a oeddent yn cytuno â'r penderfyniad ai peidio. Tan y byddwn ni’n gwybod a ydyn nhw’n cytuno ai peidio, fel y gallwn ni asesu a ydyn nhw’n meddwl y dylid cymryd risgiau uchel gyda gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yna, wrth gwrs, ni allaf dderbyn pregeth gan arweinydd Plaid Cymru.

Llywydd, rwy’n cytuno 100 y cant gyda phopeth y mae arweinydd Plaid Cymru newydd ei ddweud— [Torri ar draws.] Ceir adegau pan all UKIP fod yn eciwmenaidd. Er budd pobl Cymru, mae hon yn un ohonynt, ac mae'n rhywbeth y gallwn, o bosibl, barhau i’w drafod yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, os nad mewn ymchwiliad cyhoeddus, os na chaiff hynny ei ganiatáu.

Ond hoffwn ofyn am y cyfarfod y mae’r Prif Weinidog ar fin ei gael gyda Michel Barnier, prif drafodwr yr UE ar Brexit, yr wyf yn deall sy’n digwydd ddydd Iau. A yw’n mynd i fanteisio ar y cyfle hwn i ategu strategaeth negodi Llywodraeth y DU neu i geisio ei thanseilio? Credaf fod y Prif Weinidog yn derbyn ein bod ni’n mynd i adael y farchnad sengl, ac mae'r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn mynd i adael yr undeb tollau. Mae hynny'n rhywbeth nad wyf yn credu sy’n agored i’w negodi. Rwy’n darllen ei fod yn mynd i ddweud wrth Michel Barnier ei bod yn hanfodol er budd swyddi yng Nghymru ein bod ni’n parhau, os nad yn aelodau o'r farchnad sengl, â mynediad dilyffethair ati o leiaf, ond onid yw'n derbyn, pan fyddwch chi’n dechrau negodi, fel Michel Barnier ei hun, y dylech chi chwarae gêm galed, nid gêm feddal. Os byddwch chi’n mynd i mewn i drafodaeth gan dderbyn amcanion sylfaenol dadleuon yr ochr arall, yna nid ydych chi’n debygol o gael y cytundeb yr ydych chi ei eisiau, ond un gwaeth. Felly, yr hyn y dylai ei esbonio i Michel Barnier ddydd Iau yw manteision cydfuddioldeb yma, i'r Ewropeaid ac i’r Prydeinwyr, o gael y fasnach rydd fwyaf posibl rhyngom ni. Mae ei ddefnyddio dim ond fel cyfle i sefyll yn erbyn strategaeth negodi Llywodraeth y DU yn debygol o fethu beth bynnag, ond ni fydd ychwaith yn gwneud unrhyw ddaioni i Lywodraeth Cymru wrth iddi ymwneud â Llywodraeth y DU gartref.

Wel, rwy’n ddiolchgar am ei arddangosiad o delepathi, yn dweud wrthyf beth rwy'n mynd i'w ddweud ddydd Iau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ei gyngor ar hynny. Gallaf ddweud nad wyf i'n mynd yno i negodi; rwy’n mynd yno i esbonio’r safbwynt yr ydym ni wedi ei gymryd fel Llywodraeth yn ein Papur Gwyn, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, ac mae ein safbwynt yn eglur iawn yn gyhoeddus, sef, er ein bod yn gadael yr UE, mae’r telerau yr ydym ni’n gadael yr UE yn unol â nhw yn hynod bwysig. O ran tanseilio strategaeth negodi y DU, nid oes gennyf unrhyw syniad beth yw honno. Tan y bydd gennym ni well syniad o beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ei hun ar y pethau hyn, yn hytrach na gwahanol leisiau—Boris Johnson eto heddiw, Michael Gove yn dweud rhywbeth gwahanol, David Davis yn dweud rhywbeth gwahanol, Y Prif Weinidog yn dweud rhywbeth y mae hi wedi ei ailadrodd sawl gwaith y mae hi wedi ei weld ar ddarn o bapur—. Rydym ni angen gwybod beth yn union yw safbwynt Llywodraeth y DU. Nid ydym ni’n gwybod hynny.

Mae’r Prif Weinidog yn cymylu pethau yma. Mae'n gwybod yn iawn bod nod Llywodraeth y DU yr un fath â nod Llywodraeth Cymru, sef sicrhau’r graddau mwyaf posibl o fasnach rydd rhwng y DU a'r UE. Ond proses ddwyochrog yw hon. Os nad ydym yn cael masnach rydd gydag Ewrop, ni fyddwn yn caniatáu i’r UE gael masnach rydd gyda ni, ac, o ystyried bod ganddyn nhw ddiffyg masnach o £61 biliwn y flwyddyn gyda ni, mae gymaint er eu lles nhw ag y mae er ein lles ni—fel y mae o ran masnach fyd-eang—ein bod ni’n lleihau rhwystrau i gyfnewid nwyddau a gwasanaethau yn rhydd. Felly, os bydd yn defnyddio'r cyfle hwn ddydd Iau i atgyfnerthu'r neges honno, efallai y bydd yn gwneud ychydig o ddaioni iddo’i hun gyda Llywodraeth y DU trwy fynd gyda'r graen. Rwy’n cytuno’n llwyr â'r hyn a ddywedodd yn gynharach am Weinidogion DEFRA ddim yn cyfarfod â Gweinidogion Cymru. Rwy’n credu bod hynny'n amharchus ac yn ddi-fudd, ond mae'n bosibl bod agwedd Llywodraeth y DU tuag at Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr agwedd y mae ef a’i gydweithwyr wedi ei chymryd at y trafodaethau Brexit. Efallai eu bod nhw’n meddwl, 'Beth yw’r pwynt cyfarfod â nhw, oherwydd y cwbl maen nhw’n mynd i’w wneud yw anghytuno â ni?'

Wel, aeth Prif Weinidog y DU i mewn i'r etholiad cyffredinol ar sail cael mandad i adael y farchnad sengl, gadael yr undeb tollau a gadael awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop. Methodd ar bob un o'r pwyntiau hynny. Fe fethodd. Nid oedd pobl Prydain yn cefnogi'r farn honno, ac felly mae'n ddyletswydd arnom ni nawr i ddod o hyd i ffordd sy'n cynnig y lefel fwyaf o gonsensws. Ydym, rydym ni’n gadael. Nac oes, does neb eisiau i reolau WTO gael eu defnyddio, ond byddant yn cael eu defnyddio oni bai fod cyfnod pontio o leiaf, oherwydd ni fydd cytundeb erbyn mis Mawrth 2019. Ni all neb, does bosib, gredu hynny, o ystyried—. Rwyf i wedi siarad â negodwyr masnach ac maen nhw’n dweud wrthyf ei bod hi’n cymryd 18 mis i gytuno ar yr hyn yr ydych chi’n mynd i siarad amdano, heb sôn am gael cytundeb. Mae'r pethau hyn, o ran eu natur, yn gymhleth dros ben, felly mae'n hynod bwysig ein bod ni’n edrych ar drefniadau pontio.

Rydym ni wedi cyflwyno ein barn: mae yn y Papur Gwyn. Mae'n eglur iawn. Pa un a yw pobl yn cytuno ag ef ai peidio, gall pobl weld ei fod yno o leiaf. Does gen i ddim syniad beth yw safbwynt presennol Llywodraeth y DU erbyn hyn. Nid yw hynny o fudd i neb, ac mae'n hynod bwysig eu bod nhw’n gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gyrraedd yno. Nid ydym yn dechrau o sefyllfa o geisio tanseilio Llywodraeth y DU. Byddwn yn huawdl, yn gyhoeddus, os ydym ni’n anghytuno â'r hyn y maen nhw’n ei ddweud, ond nid dyna lle’r ydym ni’n dechrau. Ond, yn anffodus, ni allwn hyd yn oed gyrraedd y pwynt hwnnw oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi cau’r siop i ni a'r Alban ar hyn o bryd. Nawr, nid yw honno'n ffordd synhwyrol ymlaen os ydym ni’n mynd i gael cytundeb Brexit sy'n denu cefnogaeth ar draws y DU.

Wel, rwyf i wedi gwneud fy mhwynt ar hynny, ond mae 27 o aelod-wladwriaethau eraill yn y DU. Mae gennym ni ddiffyg masnach gyda bron pob un ohonyn nhw. Yn achos yr Almaen, er enghraifft, mae gennym ni ddiffyg masnach sy'n gyfystyr â £25 biliwn y flwyddyn. Mae un o bob 10 car sy’n cael ei wneud yn yr Almaen yn cael ei allforio i'r Deyrnas Unedig. Mae budd enfawr i’r Almaen mewn cadw'r fasnach rydd fwyaf posibl gyda Phrydain. Ceir diffyg enfawr yn y rhan fwyaf o gynhyrchion amaethyddol yn y DU, ac felly, unwaith eto, ceir cydfuddioldeb o gynnal y rhyddid mwyaf posibl, er enghraifft, i allforio gwin Ffrainc gan fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad lleiaf posibl. Felly, rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog a wnaiff ef gymryd camau, ynghyd â'i gydweithwyr, i fynd at daith o gwmpas prifddinasoedd Ewrop i siarad â Llywodraethau’r aelod-wladwriaethau unigol, oherwydd ni fyddan nhw yn cymryd rhan uniongyrchol yn y broses o drafod Brexit, er mwyn gweld pa gydfuddioldeb allwn ni ei feithrin yno er mwyn helpu i roi pwysau ar Gomisiwn yr UE, sydd, wrth gwrs, yn anetholedig, i gymryd yr agwedd fwyaf ryddfrydol tuag at fasnach rydd rhwng ein priod wledydd.

Wel, yn gyntaf oll, fe’i gwnaed yn gwbl eglur, ac nid oes unrhyw wrthwynebiad ymhlith 27 yr UE am hyn, na all trefniant y DU yn y dyfodol fod mor fuddiol ag aelodaeth o'r UE. Am resymau amlwg, maen nhw o’r farn na allwch chi ei chael hi bob ffordd, i ddefnyddio’r ymadrodd hwnnw. Dyna'r peth cyntaf i'w gofio. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn gryfach ac yn fwy unedig erbyn hyn nag y bu erioed, mae’n debyg. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus dros ben nad yw hwnnw'n undod yn erbyn y DU, ac mae'n rhaid defnyddio diplomyddiaeth i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Nid trafodaeth rhwng dwy ochr gyfartal yw hon. Mae'r UE wyth gwaith yn fwy na’r DU. Mae ei farchnad yn llawer, llawer mwy. Mae'n llawer mwy deniadol i fuddsoddwyr tramor ac allforwyr nag y mae’r DU, oherwydd bod ganddo lawer mwy o ddefnyddwyr nag yn y DU. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried hyn o safbwynt realistig.

Mae'n gwneud y pwynt am yr UE yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn ei wneud i'r UE o ran niferoedd. Wel, byddai'n rhyfedd pe na byddai, o ystyried y ffaith ei fod wyth gwaith yn fwy; wrth gwrs ei fod yn mynd i allforio mwy o ran arian a niferoedd. Ond, os edrychwch chi ar ganrannau, rydym ni, mewn gwirionedd, yn allforio llawer mwy o'n hallforion i mewn i'r farchnad Ewropeaidd na chynhyrchion UE sy'n dod i mewn i'r DU. Rwy'n credu bod tua 8 y cant o allforion y 27 yr UE yn mynd i mewn i'r DU. O safbwynt Cymru, mae'n 67 y cant y ffordd arall. Felly, mewn gwirionedd, fel canran, rydym ni’n sefyll i golli llawer mwy nag y mae Ewrop. Cofiwch, wrth gwrs, bod yr UE newydd lofnodi cytundeb masnach rydd gyda Japan. Bydd gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn llygadu hynny’n farus dros ben, gan y byddant yn edrych ar y cytundeb masnach rydd hwnnw gyda Japan fel cyfle enfawr iddyn nhw mewn marchnad sydd ddwywaith maint y DU, dyna’r gwir plaen—ddwywaith maint y DU. Mae gwneuthurwyr ceir yr Almaen eisoes wedi dweud, o’u safbwynt nhw, y byddent yn dymuno i'r DU aros i mewn. Nid ydyn nhw’n mynd i bwyso ar eu Llywodraeth eu hunan am ryw fath o gytundeb arbennig i’r DU, ac mae'r Almaenwyr yn gwerthfawrogi'r UE a'i undod yn fwy na dim byd arall. Mae hynny wedi bod yn eglur iawn yn ystod y misoedd diwethaf. Nid yw BMW yn un o aelod-wladwriaeth’r UE, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei gofio.

Rydym ni yn realistig. Mae cydfuddioldeb yn bwysig. Mae cytundeb da i bawb yn bwysig, ond, wrth gwrs, rydym ni’n wynebu sefyllfa nawr gyda Phrif Weinidog y DU a aeth i mewn i etholiad gyda rhaglen eglur o'r hyn yr oedd hi eisiau ei wneud a cholli, neu fethu—methodd ag ennill yr etholiad o ganlyniad i hynny. A dyna pam mae hi mor bwysig bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i ddod i safbwynt ar Brexit y gallwn ni i gyd geisio ei gefnogi. Ond hyd yn hyn, caewyd y drws.

Plant a Phobl Ifanc yng Nghwm Cynon

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yng Nghwm Cynon yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol? OAQ(5)0715(FM)

Rydym ni’n darparu £500,000 ar gyfer 2017-18 i gyflymu'r broses o gyflwyno rhaglen gwyliau haf Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae Ysgol Gynradd Penywaun yn Aberdâr yn un o'r safleoedd sy'n elwa ar y cyllid.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn ystod blwyddyn 2015-16, roedd dros 8,300 o blant a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu bod mwy nag un o bob 10 o'r holl blant yng Nghymru sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn byw yn fy mwrdeistref sirol i. Mae gwaith ymchwil newydd gan Ymddiriedolaeth Trussell yn awgrymu, ac rwy’n dyfynnu,

mae rhieni unigol a'u plant yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio banciau bwyd, sy’n awgrymu, hyd yn oed o'u cymharu â'r boblogaeth incwm isel, bod rhieni unigol a'u plant yn arbennig o agored i fod angen banciau bwyd.

Mae hon yn broblem arbennig mewn teuluoedd mwy ac yn cael ei gwaethygu’n sylweddol yn ystod gwyliau'r ysgol, pan nad oes unrhyw brydau ysgol am ddim ar gael i’r teuluoedd hyn. Rydym ni’n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer system estynedig o glybiau cinio a hwyl, felly hoffwn i ofyn: sut mae’r paratoadau’n mynd cyn gwyliau’r ysgol, sy’n dechrau ymhen dim ond ychydig wythnosau, a pha werthusiad o’r cynllun ar gyfer mynd i'r afael â phlant llwglyd yn ystod y gwyliau fydd yn cael ei gynnal?

Rydym ni’n gweithio gyda CLlLC er mwyn symud y cynllun yn ei flaen, wrth gwrs, yn ystod y gwyliau'r haf sydd ar ddod. Mae proses werthuso ar waith. Cynhaliwyd gwerthusiad, er enghraifft, o’r cynllun blaenorol—y cynllun arbrofol, yn hytrach—ac fe’i cyhoeddwyd, yn wir, ym mis Chwefror 2017, ac mae'r canfyddiadau a wnaed o ran canlyniadau iechyd, cymdeithasol ac addysg, a'r canfyddiadau a welsom o’r cynllun arbrofol, yn galonogol iawn.

Prif Weinidog, mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwy’n cymeradwyo cyhoeddiad yr Ysgrifennydd dros Addysg, yn gynharach eleni, i dreialu’r clybiau cinio a hwyl hyn ar gyfer ysgolion cynradd yn gyntaf. Ond roeddwn i’n meddwl tybed a yw'n mynd i fod yn gynllun y byddwch chi’n ei ystyried ar gyfer y sector ysgolion uwchradd, oherwydd mae helpu'r rhai sy'n cael cinio ysgol am ddim, o ran maethiad iach, bwyta’n iach, a rhaglen iach o weithgareddau, cyrhaeddiad addysgol—mae’r holl bethau hyn yn bwysig dros ben. Mae gan y grŵp hwnnw rywfaint o’r cyrhaeddiad addysgol gwaethaf o unrhyw rai sy'n mynd i'r ysgol, rhywfaint ohono oherwydd nad yw’r gwyliau ysgol ei hunan yn ffafriol iawn i barhau eu patrwm o ddysgu. Felly, mae hwn yn faes, rwy’n credu, y mae angen ei ystyried yn ofalus.

Wrth gwrs, rydym ni’n—. Mae arian yn cyfyngu’r hyn y gallem ni fod yn dymuno ei wneud, ond, gyda'r rhaglen yn cael ei chyflwyno dros yr haf hwn, wrth gwrs, bydd gwerthusiad ohoni, fel y dywedais, ac mewn blynyddoedd i ddod, wrth gwrs, byddwn yn cadw dan ystyriaeth sut y gallai'r rhaglen gael ei hymestyn, pan ac os bydd y cyllid ar gael.

Prif Weinidog, mae eich plaid wedi bod yn rhedeg Llywodraeth Cymru ers 18 mlynedd, ac eto mae plant yn llwglyd o hyd—mae 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Onid ydych chi’n credu ei bod yn warthus bod yn rhaid i aelod o'ch plaid eich hun sefyll ar ei draed yn y fan yma a gofyn i chi am blant sy’n llwglyd yng nghwm Cynon, pan eich bod chi wedi cael cymaint o amser i wneud rhywbeth ynghylch hynny? Pam ydych chi wedi methu? Pam ydych chi wedi methu?

Beth mae e'n ei wneud, fel dirprwy arweinydd Caerdydd, tybed, o ran bwrw ymlaen â hyn? Dim llawer, rwy’n amau, ond mae bob amser yn awyddus, wrth gwrs, i bwyntio’r bys at bobl eraill. Edrychwch, mae e'n iawn i nodi y ceir plant sy’n llwglyd. Mae llawer o hynny’n ymwneud â’r polisïau presennol o gyni ariannol sy’n cael eu dilyn gan Lywodraeth y DU, y mae gennym ychydig neu ddim dylanwad drostynt, ond gallwn weld bod mwy a mwy o blant sy'n canfod eu hunain mewn teuluoedd nad ydynt yn gallu ymdopi yn ariannol, a dyna pam yr ydym ni’n cyflwyno’r rhaglen hon, fel bod gennym ni, yng Nghymru, raglen sy'n helpu plant ifanc drwy'r haf, ac yn sicrhau y gallant gael bwyd yn eu boliau dros yr haf. Mae hynny, yn fy marn i, yn sosialaeth go iawn—sosialaeth go iawn—a rhywbeth, yn wir, y dylem ni fod yn falch ohono o ran yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yng Nghymru.

Rhaglenni Cyflogadwyedd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglenni cyflogadwyedd yng Nghymru? OAQ(5)0713(FM)

Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn gwneud datganiad yn nodi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â chyflogadwyedd yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd hwnnw’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiad 'Symud Cymru Ymlaen' i ad-drefnu cymorth cyflogadwyedd er mwyn galluogi unigolion i gaffael a chadw cyflogaeth gynaliadwy.

Diolch i chi am hynna. Fel y byddwch yn gwybod, mae Rhaglen Gwaith ac Iechyd Llywodraeth y DU yng Nghymru yn destun proses dendro ar hyn o bryd, a rhagwelir y bydd yn cyrraedd 16,000 o bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd, neu'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers mwy na dwy flynedd, er bod 270,000 o bobl economaidd anweithgar yng Nghymru, ac eithrio myfyrwyr a phensiynwyr, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru. Sut y gwnewch chi roi sylw i bryderon a fynegwyd i mi na ragwelir y bydd rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, y byddwn yn clywed mwy amdanynt yn ddiweddarach, ar hyn o bryd, rydym yn deall, yn dechrau tan fis Ebrill 2019, ar ôl llithro flwyddyn ar ei hôl hi, ac, ymhellach, mai dim ond un prif gontractwr sy’n gweithredu fydd ar ôl yng Nghymru, er gwaethaf datganiad Llywodraeth Cymru ei bod eisiau defnyddio cyflenwyr lluosog, ac os na fydd yn gweithredu nawr, y bydd yn cael ei gorfodi i ddibynnu ar gwmnïau allanol yn dod i mewn i Gymru i ddarparu’r gwasanaethau hynny? Yn olaf, yn y cyd-destun hwn, i roi sylw i'r datganiad i'r grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol heddiw gan Sefydliad Bevan fod, o ran cyflogadwyedd, angen siop un stop arnom, gyda chynlluniau wedi eu trefnu y tu ôl i'r llenni mewn gwasanaeth di-dor, pa un a ydynt yn rhai DU, Cymru, neu’r trydydd sector.

Bydd y Gweinidog, fel y dywedais, yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma. Mae'n iawn i ddweud ein bod ni’n bwriadu dechrau gweithredu ein rhaglen newydd ym mis Ebrill 2019. Wrth i ni drosglwyddo i’r rhaglen—y rhaglen newydd, yn hytrach—rydym ni’n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud nawr i gynorthwyo unigolion yn well i gael gwaith. Bydd y trefniadau pontio hynny yn canolbwyntio ar wneud diwygiadau i'r rhaglenni cyflogadwyedd presennol ar gyfer y cyfnod interim hyd at Ebrill 2019 er mwyn cael mwy o effaith. Rydym ni’n profi ac yn treialu’r dulliau hyn i gefnogi agenda tasglu’r Cymoedd. Unwaith eto, bydd datganiad ar hynny, os cofiaf yn iawn, y prynhawn yma, a bydd hwnnw’n llywio datblygiad wedyn y cynllun cyflawni cyflogadwyedd.

Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn cynnwys ymrwymiad i ad-drefnu cymorth cyflogadwyedd i unigolion sy'n barod am swyddi ac i’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Mae'n bwysig cydnabod nad yw cyflogadwyedd yn golygu swyddi a sgiliau yn unig, mae'n ymwneud â chael pob agwedd ar bolisi addysg y Llywodraeth—addysg, iechyd, tai, cymunedau—yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo pobl i mewn i swyddi cynaliadwy. Prif Weinidog, beth mae cymeradwyaeth pobl Cymru i Lafur Cymru yn yr etholiadau Cynulliad, lleol a chyffredinol dros y flwyddyn ddiwethaf yn ei ddweud am farn pobl ar ein cynlluniau ar gyfer cynyddu cyflogadwyedd yn ein gwlad?

Wel, a gaf i ddweud ei fod yn dangos bod pobl Cymru yn ymddiried yn Llafur Cymru i gyflawni’n economaidd, yn gymdeithasol, ac ar gyfer eu cymunedau? Ac, wrth gwrs, gwelsom hynny eto y mis diwethaf.

Dinas-ranbarth Bae Abertawe

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0712(FM)

Wel, rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol i gefnogi twf busnes, i wella seilwaith, ac i greu amgylchedd economaidd mwy deniadol ar draws y rhanbarth.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn darparu £20 miliwn ychwanegol ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd. A fydd dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cael yr un cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru pan fydd ei angen?

Bydd. Mae cytundeb dinas Abertawe wedi'i strwythuro ar sail 11 o gynigion prosiect mawr. Ceir proses a gyflwynwyd sy'n sbarduno’r arian sy’n mynd i Abertawe yn yr un modd â Chaerdydd. Nid yw’n union yr un fath, ond mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymrwymo i fuddsoddi ar y cyd, yn amodol ar gyflwyno a chymeradwyo achosion busnes llawn o ran yr 11 prosiect a nodwyd a chytundeb trefniadau llywodraethu ar gyfer y cytundeb, swm o hyd at £241 miliwn ar ymyraethau penodol.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bu dros dri mis nawr ers i’r cytundeb gael ei lofnodi rhyngoch chi a Phrif Weinidog y DU, ond, hyd y deallaf, nid yw’r strwythur llywodraethu wedi ei ddatrys o hyd. Rwy'n credu bod angen i waith symud ymlaen nawr ar gyflawni’r prosiectau hynny sydd werth £1.3 biliwn i'r ardal leol a thu hwnt, gyda phwyslais cryf ar fasnacheiddio a datblygiad economaidd syniadau, yn ogystal â'r nodau cymdeithasol a llesiant, wrth gwrs. Rwy'n meddwl tybed: a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gyflwyno goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o hyn drwy adran yr economi a seilwaith yn hytrach na thrwy'r adran cyllid a llywodraeth leol?

Nac ydym, nid oes unrhyw gynlluniau i newid hynny. Y rheswm pam nad yw'r trefniadau llywodraethu wedi eu cytuno eto yw oherwydd bod yr etholiad cyffredinol wedi tarfu, a gwnaeth hynny, wrth gwrs, oedi’r amserlen. Ond rydym ni’n awyddus, wrth gwrs, i gyrraedd sefyllfa lle mae'r trefniadau llywodraethu wedi eu cytuno er mwyn gweld y cytundeb yn cael ei gyflwyno'n llwyddiannus.

Pa neges y byddai'n ei anfon i'r rhai sy'n cymryd rhan yng nghytundeb dinas-ranbarth bae Abertawe pe byddem ni’n colli prosiect buddsoddi adnewyddadwy enfawr yn y morlyn llanw oherwydd petruso ac oedi gan Lywodraeth San Steffan? Ac a ydych chi wedi cael unrhyw arwydd o gwbl eu bod nhw’n mynd i wneud penderfyniad am hyn?

Pa argraff mae'n ei roi? Un wael. A ydym ni wedi cael unrhyw awgrym eu bod nhw’n agos at wneud penderfyniad? Naddo. Unwaith eto, nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r prosiect hwn fynd yn ei flaen. Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw rwy’n meddwl, ei fod yn cefnogi morlyn llanw bae Abertawe. Wel, os yw e’n dweud ei fod yn ei gefnogi, mae’n rhaid iddo ei gyflawni. Fe yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ni all ddweud ei fod yn cefnogi rhywbeth, ac yna dweud, 'Wel, wrth gwrs, ni allaf helpu i’w gyflawni'. Mae wedi dweud hynny, ac mae'n hynod bwysig wedyn ei fod yn gallu gwneud yn siŵr bod ei lais yn cael ei glywed o gwmpas bwrdd Cabinet y DU. Os na fydd y morlyn llanw yn dod, pa asesiad ydym ni’n ei wneud o lais Ysgrifennydd Gwladol Cymru o amgylch y bwrdd hwnnw? Felly, ydym, rydym ni’n gwybod y bydd 1,000 o swyddi'n cael eu creu gan y morlyn llanw. Rydym ni’n gwybod bod angen i Lywodraeth y DU benderfynu nawr o ran y trefniadau ariannol sy’n ymwneud â’r morlyn. Rydym ni’n gwybod y bu adolygiad. Rydym ni’n gwybod nad oes unrhyw reswm nawr pam na ddylai ddigwydd. Os gellir rhoi gwerth £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, nid oes unrhyw reswm pam na all y morlyn fynd yn ei flaen.

Prif Weinidog, mae gan y ddinas-ranbarth y potensial nid yn unig i weddnewid rhanbarth bae Abertawe, ond hefyd i sicrhau manteision ehangach i Gymru gyfan. Gallai'r rhyngrwyd gwyddorau bywyd a llesiant helpu i ad-drefnu’r ffordd yr ydym ni’n darparu gofal iechyd yn y dyfodol. Mae’r cebl trawsatlantig yn allweddol i lwyddiant gweledigaeth arfordir rhyngrwyd y ddinas-ranbarth. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, Prif Weinidog, am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran dod â chebl ffibr-optig o Efrog Newydd i fae Oxwich, sydd yn fy rhanbarth i?

Wel, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod am hynny, ond, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o ddatblygiad parhaus achosion busnes yn rhan o'r fargen ddinesig. Ond byddaf yn ysgrifennu ati gyda mwy o fanylion o ran y prosiect penodol hwnnw.

Rwy’n croesawu'n fawr y newyddion heddiw yr ydym ni wedi ei gael y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, Greg Clark, yn cyfarfod â dirprwyaeth drawsbleidiol o Gadeiryddion pwyllgorau blaenllaw yma i hyrwyddo’r achos, unwaith eto, dros y morlyn llanw. Diolchaf iddo am y cwrteisi y mae wedi ei ymestyn i’r ddirprwyaeth drawsbleidiol honno. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod ein bod wedi cael dadl yma cyn yr etholiad cyffredinol lle cafwyd cefnogaeth gyffredinol i'r morlyn llanw ac i ganfyddiadau adolygiad Hendry yma yn y Siambr hon. Mae ganddo hefyd gefnogaeth y sector addysg uwch, y sector adeiladu, y sector busnes, y CBI, busnesau unigol, yr undebau, llywodraeth leol, trawsbleidiol, gan bawb yn wir. Felly, byddwn yn croesawu'r cyfle o fynd â’r ddirprwyaeth honno a phwysleisio'r ymrwymiad cryf. A yw ef yn cytuno â mi na allai fod unrhyw arwydd gwell o Lywodraeth y DU yn cymryd diddordeb uniongyrchol ymarferol yng Nghymru o ran ynni, ond hefyd o ran seilwaith cenedlaethol, na rhoi sêl ei bendith i’r morlyn llanw yn Abertawe?

Yn sicr. Mae'n pwyso’r holl fotymau cywir, os maddeuwch chi’r defnydd o’r ymadrodd hwnnw, o ran creu swyddi, o ran cynaliadwyedd, o ran yr amgylchedd, o ran y ffaith ei fod yn ffynhonnell lân o ynni, o ran dibynadwyedd a rhagweladwyedd. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r prosiect hwn fynd yn ei flaen. Mae angen y penderfyniad hwnnw arnom ni’n fuan, fel y gall Llywodraeth y DU ddangos y gall y swm o arian y mae eisoes wedi ei ymrwymo i Ogledd Iwerddon gael ei gyfateb yn rhannol i’r arian y mae'n barod i’w ymrwymo i Gymru.

Dysgu Ieithoedd Newydd

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog unigolion i ddysgu ieithoedd newydd? OAQ(5)0724(FM)

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar addysgu a dysgu pob iaith: Cymraeg, Saesneg, neu ieithoedd tramor modern. Fel enghraifft o hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Dyfodol Byd-eang, cynllun pum mlynedd i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern mewn ysgolion.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol o ffair iaith yr Alban, sydd am ddim i’r cyhoedd ac yn derbyn cefnogaeth swyddogol gan Lywodraeth yr Alban. Cynhelir y digwyddiad ar gyfer unrhyw un sydd yn ymddiddori mewn ieithoedd ac mae’n cynnwys seminarau, dosbarthiadau blasu iaith, a pherfformiadau diwylliannol mewn dathliad anhygoel o ieithoedd y byd. Mae’n ddathliad bywiog, egnïol, a chyffrous, sy’n gosod ieithoedd lleiafrifol ochr yn ochr ag ieithoedd mawr honedig y byd. Yn dilyn y llwyddiant yma, a ydy Llywodraeth Cymru yn agored i’r syniad o gynnal a chefnogi ffair ieithoedd yma yng Nghymru?

Wel, mae’n wir i ddweud y byddem ni’n agored i’r syniad. Byddai’n rhaid, wrth gwrs, ystyried ym mha ffordd mae hynny’n gweithio yn yr Alban. A gaf i ddweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, un o’r pethau sy’n mynd i ddigwydd yn yr hydref yw bod sefydliadau ieithoedd Ffrainc, yr Almaen, a Sbaen yn mynd i agor swyddfeydd yng Nghymru? Mae hwnnw’n gam mawr ymlaen achos, wrth gwrs, bod yn rhaid inni sicrhau bod digon o athrawon ar gael i ddysgu ieithoedd modern hefyd. So, mae hynny’n hollbwysig. Ond mae’r syniad yn un sy’n werth ei ystyried.

Canfu adroddiad diweddaraf 'Tueddiadau Iaith Cymru' bod yr athrawon yn hynod bryderus am ddyfodol ieithoedd tramor modern. Mae gan fwy na thraean o ysgolion Cymru lai na 10 y cant o bobl ifanc 14 i 15 oed sy'n astudio iaith dramor fodern erbyn hyn. Yr ystadegyn yw bod gan 44 y cant o ysgolion lai na phum disgybl sy'n astudio ieithoedd tramor ar safon UG, a bod gan 61 y cant lai na phum disgybl iaith dramor ar Safon Uwch. O gofio mai effaith gyfyngedig y mae Dyfodol Byd-eang yn ei chael, pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal y dirywiad difrifol o ran dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Wel, mae 'Dyfodol Byd-eang', cofiwch, yn gynllun pum mlynedd sydd â'r nod o wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern. Felly, bydd y dyfarniad ar hwnnw ar ôl pum mlynedd. Nid oes unrhyw gwestiwn y bydd angen i'n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ieithoedd tramor yn y dyfodol. Un o'r materion sy'n gysylltiedig â Brexit nad yw wedi cael ei ddeall na’i archwilio’n llawn eto yw mai Saesneg, fel y cyfryw, yw ail iaith pobl yn yr Undeb Ewropeaidd. Os bydd y DU yn gadael, mae dylanwad y Saesneg yn dechrau lleihau. Beth mae hynny’n ei olygu? Gallai olygu dim byd, ond nid ydym yn gwybod beth fydd hynny’n ei olygu o ran ieithoedd eraill yn dod yn fwy blaenllaw wedyn o fewn Ewrop a'r angen i’n plant a’n pobl ifanc ein hunain ddysgu’r ieithoedd hynny o ganlyniad. Dyna pam, wrth gwrs, y cyhoeddwyd 'Dyfodol Byd-eang' ym mis Hydref 2015 gyda’r nod, wrth gwrs, o wella'r sefyllfa yn sylweddol erbyn 2020.

Ieithoedd Modern mewn Ysgolion Uwchradd

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr addysgu ieithoedd modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru? OAQ(5)0725(FM)[W]

Wel, nid wyf yn hoff iawn o ddweud, ‘A gaf i gyfeirio Aelod i’r ateb roddais i funud yn ôl?’, ond mae’r ateb, wrth gwrs, ar hyd yr un llinellau, sef bod yna strategaeth gyda ni er mwyn sicrhau bod mwy o athrawon ar gael a hefyd bod mwy o ddisgyblion yn astudio ieithoedd modern yn y pen draw.

Mae wedi bod yn bleser croesawu disgyblion o dair ysgol gynradd o Ynys Môn i’r Cynulliad heddiw: Porthaethwy; Ysgol Corn Hir, Llangefni; a Pharc y Bont, Llanddaniel. Mi fues i’n trafod dysgu iaith ychwanegol efo disgyblion Parc y Bont a Chorn Hir, ac mae disgyblion Corn Hir eisoes yn y gynradd yn cael gwersi Ffrangeg yn wythnosol. Mi oedden nhw, fel disgyblion dwyieithog, wrth gwrs, yn eiddgar iawn i weld cyfleon i wthio eu ffiniau ieithyddol. Ond, wrth gwrs, mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym ni fod cwymp mawr wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n dysgu iaith dramor yn ysgolion uwchradd Cymru, ac mae’r adroddiad diweddaraf gan y British Council ar dueddiadau ieithoedd yng Nghymru yn dangos cwymp o bron iawn i hanner y disgyblion sy’n sefyll arholiad TGAU a lefel A rŵan mewn iaith dramor fodern o’u cymharu â 15 mlynedd yn ôl.

Mae cyfres o Weinidogion addysg Llafur wedi methu ag atal y llithro hwnnw, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno rŵan â galwad diweddar y grŵp trawsbleidiol Cymru Ryngwladol ar i’r siarad am yr uchelgais yma o greu Cymru ddwyieithog ‘plws 1’ droi’n weithredu ar hynny, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith bod cwricwlwm newydd ar y ffordd?

Byddai hynny’n rhywbeth hollbwysig i’w ystyried yn y pen draw. Mae yna bwyslais heddiw, wrth gwrs, yn y Siambr hon, a hefyd y tu fas, ynglŷn ag ym mha ffordd rŷm ni’n cael y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond, wrth gwrs, fel mae’r Aelod wedi sôn, nid yw hynny’n meddwl ein bod ni’n mynd i anghofio am ieithoedd eraill. Ac, wrth gwrs, un o’r pethau y byddwn ni’n sicrhau ei wneud yw clymu’r strategaeth sydd gyda ni am yr iaith Gymraeg gyda’r strategaeth sydd yno’n barod, sef ‘Global Futures’, er mwyn sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ddysgu mwy na dwy iaith yn y dyfodol.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar i arweinydd y tŷ i wneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ychwanegu tri datganiad llafar i agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad am adroddiad interim yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gwneud datganiadau llafar ar y strategaeth iaith Gymraeg ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y tasglu gweinidogol ar Gymoedd y De. Ac yn olaf, rwyf wedi lleihau hyd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a geir ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Arweinydd y tŷ, dau beth, os caf. Yn gyntaf, bûm i ddiwrnod gwobrwyo yn Ysgol Trefynwy ddydd Sadwrn—ysgol sy'n cyflawni canlyniadau sy’n gynyddol dda. Yn y cyfamser, ychydig i fyny'r ffordd, mae adeilad ysgol newydd Ysgol Gyfun Trefynwy yn cael ei adeiladu, a ariennir yn rhannol gan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru. Dwy ysgol ragorol, ac ysgolion sy'n cydweithio'n agos. Tybed a fyddai modd clywed gan yr Ysgrifennydd Addysg ynghylch sut mae'r sector ysgolion annibynnol yng Nghymru a’r sector gwladol yn gweithio gyda'i gilydd a sut maent yn cael eu hannog i weithio gyda'i gilydd. Rwy'n credu bod llawer o groesbeillio a all ddigwydd rhwng y ddau. Rwy'n gwybod, yn draddodiadol, y caniateir i’r sector annibynnol fynd ymlaen a gwneud ei beth ei hun, ond rwy’n credu bod gwersi i’w dysgu. Yn sicr mae hynny’n digwydd yn Nhrefynwy, a chredaf fod gwaith da y gellir ei wneud ar draws Cymru.

Yn ail, hoffwn ddiolch i Julie James, y Gweinidog dros fand eang cyflym iawn—neu ddim yn gyflym iawn mewn rhai achosion, mewn rhai rhannau o Gymru. Bu mewn cyfarfod yn fy etholaeth i neithiwr a daeth nifer dda ynghyd. Sicrhaodd fy etholwyr fod gobaith gan fan gwan amlwg y tu allan i Gas-gwent yn nyffryn Gwy o gysylltiad ar ryw adeg yn y dyfodol yn y tymor canolig. Deallaf fod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fand eang yn dod i ben yn fuan, o bosibl yn ddiweddarach yr wythnos hon, ac mae'n bwysig iawn, rwy’n siŵr y cytunwch, arweinydd y tŷ, bod cymaint o bobl a busnesau â phosibl yn cyfrannu at yr ymgynghoriad, fel bod Llywodraeth Cymru yn gwybod lle mae’r mannau gwan, a'r math o wasanaethau fydd eu hangen—pwrpasol mewn sawl achos—i lenwi'r mannau gwan hynny yn y dyfodol. Nid ymdriniwyd â nhw yn ystod cam 1 cyflwyno band eang, ond mae'n bwysig nawr bod pobl ledled Cymru yn cyfrannu i'r ymgynghoriad hwnnw fel eich bod yn cael y darlun llawnaf posibl ar gyfer symud ymlaen.

Diolch i chi, Nick Ramsay, am ddau gwestiwn cadarnhaol iawn ar y datganiad busnes. Yn amlwg, rwy’n cofio ymweld ag Ysgol Gyfun Trefynwy, fel Gweinidog Addysg ar y pryd, a gallu helpu i sicrhau cyllid drwy ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Byddwn mewn gwirionedd yn hoffi ail ymweld, efallai pan fyddaf yn pasio heibio, gan fy mod i'n siŵr fod ganddi adeiladau ysblennydd erbyn hyn sy'n cael effaith ar ddysgu, ond hefyd, yn amlwg, yn gweithio yn y gymuned addysg yn Nhrefynwy. Rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Addysg wedi clywed eich pwynt am y rhyngweithiadau hynny, wrth gwrs, sy’n cael eu meithrin rhwng y sector annibynnol a’r sector sy’n cael arian cyhoeddus mewn addysg. Mae hynny’n ymwneud â rhannu cyfleusterau, weithiau, yn ogystal â dysgu ar y cyd.

Ar eich ail bwynt, rwy'n siŵr y bydd Julie James yn croesawu'n fawr iawn y ffaith eich bod wedi atgoffa Aelodau’r Cynulliad i sicrhau eu bod yn cael eu pwyntiau gan eu hetholwyr o ran band eang cyflym iawn, o ran y mannau cryf a’r mannau gwan hynny a’r ardaloedd penodol hynny lle’r ydym yn cael anawsterau. Rwy'n credu mai’r ymgynghoriad ar y cam nesaf yw, fel y dywedwch, yr ychydig ganran terfynol o safleoedd nad oedd wedi eu cynnwys pan gyflwynwyd Cyflymu Cymru, neu yn wir gan gynlluniau'r cwmnïau telathrebu eu hunain. Rydym am wneud yn siŵr bod pawb sydd heb fynediad yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, ac mae honno’n neges yr wyf yn siŵr sydd angen ei rhannu eto. Diolch i chi, Nick Ramsay, am hynny heddiw.

Cyfarfûm â thrigolion o gymdeithas dai ym Mhen-y-bont yn ddiweddar, Tai Hafod, ac roeddwn yn meddwl a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer tai mewn cysylltiad â rhai o'r materion y maent wedi eu codi gyda mi ynglŷn â sut mae cymdeithasau tai yn cael eu monitro gan Lywodraeth Cymru, pa wiriadau sy’n cael eu gwneud i sicrhau bod cymdeithasau tai yn cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru, ac a oes unrhyw sancsiynau ar gyfer y rhai sy'n methu â chydymffurfio. A allai Llywodraeth Cymru edrych i weld pa gymdeithasau tai sy’n codi tâl ar denantiaid am eu gwasanaethau? Er enghraifft, mae rhai o'r tenantiaid y siaradais i â nhw yn Tai Hafod yn dweud nad oes angen rhai o'r gwasanaethau y maent yn talu amdanynt o fewn y taliadau gwasanaeth penodol, ac mae’r union bwynt hwnnw yn peri gofid i mi. Deallaf ein bod yn brin o amser oherwydd ein bod yn dod i ddiwedd y tymor, ond pe gallem gael datganiad am y berthynas rhwng y Llywodraeth a chymdeithasau tai a monitro eu cynnydd, byddwn yn ddiolchgar iawn.

Yr ail ddatganiad yr oeddwn eisiau gofyn amdano gan Lywodraeth Cymru oedd un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg mewn cysylltiad ag addysg ariannol. Nodaf o newyddion heddiw bod yr adroddiad gan Estyn—ei adolygiad thematig—wedi ymddangos, a dywed fod angen gwneud mwy i hyfforddi athrawon ar addysg ariannol. Unwaith eto, fel y nodais trwy fy Mil Aelod preifat, mae'n anghyson iawn o ardal i ardal, gydag ysgolion uwchradd yn llai effeithiol wrth addysgu addysg ariannol nag ysgolion cynradd. Felly, byddwn yn croesawu datganiad am hyn er mwyn deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adweithio i’r adolygiad thematig penodol hwn, a sut y gallwn symud ymlaen ar yr agenda benodol hon drwy argymhellion Donaldson.

Diolch i chi, Bethan Jenkins. Ar eich pwynt cyntaf, credaf efallai y bydd materion penodol y byddwch o’r farn sy’n briodol ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet amdanynt, o ran eich cyfarfod a’ch ymweliad â chymdeithas dai benodol. Mae eich pwyntiau cyffredinol yn bwysig o ran y trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r sector cymdeithasau tai, yn enwedig o ran cynnydd i safon ansawdd tai Cymru.

O ran eich ail bwynt, oes, mae cyfleoedd y gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn awyddus i’w datblygu a mynd i'r afael â nhw mewn cysylltiad â'r cwricwlwm a chyfrifoldebau eraill, ac yn wir Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol arfaethedig lle bydd cyfle i graffu arno gan bwyllgor i ystyried yr effaith ar Gymru hefyd.

Arweinydd y tŷ, hoffwn ddatganiad ar daliadau tai yn ôl disgresiwn, os gwelwch yn dda. Mae ffigurau gan Shelter Cymru wedi dangos yn glir fod £100,000 o'r arian hwn, a oedd yno yn benodol i helpu pobl nad oedd eu budd-dal tai yn talu cost eu rhent, wedi cael ei anfon yn ôl gan awdurdodau lleol i San Steffan y llynedd. Roedd pum cyngor, tri o'r rheini yn fy etholaeth i, yn cyfrif am 75 y cant o'r arian a anfonwyd yn ôl; y rhain oedd Caerfyrddin, Gwynedd a Cheredigion. Mae hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â chynghorau eraill, gan gynnwys Torfaen, Sir Fynwy, Caerdydd, Bro Morgannwg, ac Ynys Môn, a wariodd yr holl ddyraniad ac, fel yn achos Torfaen, a gafodd hwb gyda rhywfaint o'u harian eu hunain. Mae'r gronfa taliad tai yn ôl disgresiwn yn hynod bwysig ar gyfer helpu'r rhai sy'n cael trafferth gyda'u rhent i allu aros yn eu cartrefi ac i'w hatal rhag naill ai gael eu troi allan neu fod yn ddigartref. Felly, rwy'n awyddus i ddeall a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau o gwbl gydag awdurdodau lleol ynghylch yr arian hwn yn cael ei anfon yn ôl, er mwyn deall pam mae rhai cynghorau nid yn unig yn gwario'r dyraniad ond yn ychwanegu ato, tra bod eraill, yn fy marn i, yn siomi eu tenantiaid yn llwyr.

Mae Joyce Watson yn iawn wrth ddweud pa mor bwysig yw taliadau tai yn ôl disgresiwn. Yn wir, amlygwyd hynny yn glir iawn yn ymgyrch Shelter Cymru, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi clywed am yr wythnos ddiwethaf—yr ymgyrch Waste Not Want Not—yn tynnu sylw at eu pryderon a chodi ymwybyddiaeth y gallai pobl fod â hawl i help ychwanegol trwy'r cynllun taliadau tai yn ôl disgresiwn. Yn amlwg, o'r cychwyn cyntaf, o ran fy ymateb i, mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw’r taliadau tai yn ôl disgresiwn wedi eu datganoli ac maent yn cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol Cymru, rydym wedi cyflwyno canllawiau gwell, gan sicrhau dull mwy cyson o ymdrin â cheisiadau, gan dargedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, ac wrth gwrs, rhaid i hynny gynnwys dealltwriaeth—. Yn amlwg, mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyfle yma i ledaenu'r arfer da gan yr awdurdodau hynny y mae’r Aelod wedi tynnu sylw ato, a oedd nid yn unig yn gwario at y terfyn, ond rai ohonynt yn gwario mwy ac yn penderfynu bod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth, fel Caerdydd a Bro Morgannwg.

Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond i ddilyn ymlaen o’r hyn a ddywedodd Joyce Watson, a gawn ni ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y drefn a ddilynir gan awdurdodau lleol ynghylch rhoi tystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon yn eu hardaloedd? Gwnaeth etholwr imi, sydd wedi bod yn rhedeg busnes teuluol ers dros 30 mlynedd yn yr un ardal yng Nghasnewydd, gais i Gyngor Dinas Casnewydd am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd presennol ar gyfer yr un busnes. Talodd £380 am hyn, tra bod y taliad cychwynnol yn £190 yn unig. Ar ôl cyfarfod â'r swyddog a chael craffu ar y cais, roedd yn rhaid iddo dalu yn ychwanegol i’r £190 i gael cyflwyno ei gais i'r cyngor. Ar ôl dau fis, oherwydd gwall bach yn y cais, cafodd ei wrthod ar y sail nad oedd yn gallu cael ei gymeradwyo ar gyfer defnydd cyfreithlon gan nad oedd wedi gallu sicrhau'r cyfnod lleiaf sydd ei angen—am 10 mlynedd yn yr un ardal yn yr un busnes. Ond, fel y dywedais yn gynharach, bu’n rhedeg y busnes ers 30 mlynedd, ac mae’r adran ardrethi wrth ymyl yr adran drwyddedu—a thalodd £380. Yr ateb a gafodd yr wythnos diwethaf yw, os oes rhaid iddo gael y drwydded hon eto, mae'n rhaid iddo dalu i ailymgeisio eto a thalu £380 eto. A oes modd gofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch p ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dosbarthu i'r awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod synnwyr cyffredin yn rhagori ar fiwrocratiaeth mewn sefyllfaoedd o'r fath? Diolch.

Wel, rwy’n credu bod yr Aelod yn amlwg yn gwrando ar ei etholwr lleol, sef busnes, ac yn ei gynrychioli. Ond rwy’n credu eich bod wedi egluro, yn wir, o ran adrodd am y profiad y mae’r busnes hwnnw, etholwr lleol, wedi’i gael, pam ei fod ef neu hi wedi cael ei hun yn y sefyllfa honno. Mae hwn yn fater i'r awdurdod lleol, ac mae'n fater, nid yn unig o ran rheoleiddio a sail statudol, mae'n fater o ddisgresiwn ar sawl achlysur, ond hefyd o ran cydymffurfiaeth. Ac mae angen i fusnesau gydymffurfio.

Bythefnos yn ôl, cafodd gyrrwr motor-beic ei ladd ar yr hyn sy’n cael ei alw, yn anffodus, yn ‘“Evo” triangle’—cyfres o ffyrdd neu rwydwaith o ffyrdd yn ardal Pentrefoelas a Cherrigydrudion, sydd wedi cael ei hyrwyddo gan y cylchgrawn ceir ‘Evo’ fel man da i fynd i brofi’ch sgiliau gyrru ac i wthio’ch car i’r eithaf. Nawr, mae hyn i gyd wedi creu, dros gyfnod, ddiwylliant lle gallwch chi nawr brynu sticeri ceir, crysau-T ac yn y blaen sy’n hyrwyddo hwn fel rhyw fath o ‘destination’. Mae'n cael ei ddisgrifio fel ‘life-size Scalextric track’. Mae'n cael ei ddisgrifio fel ‘Disney World for driving enthusiasts’. Ond y canlyniad, wrth gwrs, yw bod pobl yn cael eu lladd. Ddydd Sul yma, buodd dwy ddamwain angheuol ar yr A5, nid nepell o’r ardal honno hefyd.

Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd yr economi i esbonio beth mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud i daclo hyn, oherwydd mae angen ‘approach’ aml-asiantaeth i fynd i’r afael â hyn mewn gwirionedd, neu fel arall, rwy’n ofni na fyddwn yn gweld hyn yn stopio? Ond mi fyddwn i hefyd yn gofyn i’r Llywodraeth ystyried a yw’r cylchgrawn ‘Evo’ wedi croesi ffin fan hyn ynglŷn â’r modd y maen nhw wedi bod yn hyrwyddo yr ‘“Evo” triangle’ yma? Ac oes yna le i gyfeirio’r cylchgrawn at IPSO, sef sefydliad annibynnol safonau’r wasg, oherwydd nid ffyrdd rasio yw ffyrdd cyhoeddus Cymru, ac mae'n rhaid inni roi stop ar hyn, unwaith ac am byth?

I’m also aware that the communities Secretary has made a series of statements around fire safety recently, but following the terrible tower fire that, of course, we all know about of late, could we also have a statement from the Cabinet Secretary explaining what the Government is going to do to ensure that the fire service in north Wales doesn’t face further cuts after what has been a decade of cutting back on services? We know that 20 per cent of Welsh firefighters have been lost over the last 10 years, and that there are now proposals as well to cut around 24 of our firefighters in north Wales—that’s one in six of all the firefighters that we have—and also to scrap one of the two fire engines that serve the Wrexham area. It’s austerity that’s driving this agenda, whereas our priority, of course, should be saving lives. So, do you not agree that cutting front-line services like this is wholly unacceptable, and we need a statement explaining exactly what the Government is going to do about it?

Diolch i Llyr Gruffydd am y ddau gwestiwn. O ran y cwestiwn cyntaf, sydd, fel y dywedwch, nid yn unig yn fater o ddiogelwch ar y ffyrdd, y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ystyried yn flaenoriaeth uchel wrth gwrs, ond yn ymwneud ag ardal benodol yn y gogledd lle bu’r atyniad hwn, ac, yn amlwg, lle caiff cymryd risgiau, fe ymddengys, ei annog, a marwolaethau o ganlyniad i hynny, a soniasoch am y diweddaraf gyda'r beiciwr modur. Mae hynny'n rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu, yn sicr yn edrych arno, ond gall fod yn ddefnyddiol pe gallech hefyd roi hynny yn ysgrifenedig i Ken Skates, dim ond er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa benodol a'r digwyddiadau a ddisgrifiwyd gennych chi.

O ran eich ail bwynt, yn amlwg mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau yn gweithio'n agos iawn gyda'r grŵp cynghori Cymru ar ddiogelwch tân a gafodd ei sefydlu. Mae'n bwysig iawn, o ran y cyfrifoldebau hynny sydd gan awdurdodau tân ac achub o ran eu dyletswyddau cyfreithiol i hyrwyddo diogelwch tân, a chydnabod eu cyfrifoldebau enfawr. Ac, unwaith eto, gallwn ddweud bod cydnabod eu cyfrifoldebau, ond eu dewrder a'u sgiliau hefyd, yn hanfodol bwysig. Ond, wrth gwrs, daw hyn yn ôl at y pwynt lle y byddem yn dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Wel, mae'n amlwg iawn bod y bobl, y cyhoedd, ac yn sicr y cyhoedd yng Nghymru, a’r Llywodraeth hon, yn dymuno iddynt gamu at y marc, o ran gwrth-gyni, a rhoi'r adnoddau i ni gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.

Mae dau fater yr oeddwn yn awyddus i’w codi. Yn gyntaf oll, roeddwn wedi bod yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r sgandal gwaed halogedig, yn dilyn y llythyr gan holl arweinwyr y gwrthbleidiau yn San Steffan, ac, wrth gwrs, gefnogaeth gan bob plaid yma yn y Cynulliad hwn. Ond mae'n newyddion gwych bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi o'r diwedd, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, y cynhelir ymchwiliad cyhoeddus. Ac rwy’n credu ei fod yn deyrnged i'r holl gleifion a theuluoedd hynny sydd wedi ymgyrchu ers degawdau i gael yr ymchwiliad cyhoeddus hwn, oherwydd, yng Nghymru, bu farw 70 o bobl, ac mae bywydau llawer mwy o deuluoedd wedi cael eu difetha’n llwyr, ac maent yn haeddu atebion. Felly, mae croeso mawr i’r ymchwiliad cyhoeddus hwn.

Ond, wrth gwrs, mae llawer o gwestiynau yn awr am yr ymchwiliad cyhoeddus—am ei ffurf, pwy fydd yn ei arwain, sut y bydd pobl yng Nghymru yn cymryd rhan. Felly, a gaf i alw am ddatganiad, cyn gynted ag y bo modd, gan y Llywodraeth, am y ffordd y maent yn gweld y caiff yr ymchwiliad cyhoeddus hwn ei sefydlu, a sut y bydd Cymru yn cymryd rhan ynddo? Mae'n gwbl hanfodol bod dioddefwyr Cymru yn cael gwneud sylwadau yn y broses. Felly, rwy’n gofyn am ddatganiad, cyn gynted ag y bo modd, i edrych ar beth sy’n fuddugoliaeth i'r holl bobl hynny sydd wedi ymgyrchu cyhyd. Ond rydym am wneud yn siŵr nawr bod yr ymchwiliad cyhoeddus hwn yn ateb yr holl gwestiynau hyn.

Yn awr, yr ail bwynt yr oeddwn am ei godi, sy'n gysylltiedig â hyn, gan ei fod yn ymwneud â hepatitis C, wrth gwrs, a oedd hefyd, mewn rhai achosion, wedi ei gael trwy waed halogedig—cawsom ddadl lwyddiannus iawn yma ar hepatitis C ar 14 Mehefin, a chytunodd pawb mai’r her fawr yw cael mwy o bobl i gael prawf, i ddod ymlaen. Ac mae digwyddiad heno i lansio ymgyrch 'Rwy'n werth...', i dynnu sylw at y mater hwn. Ond sut y byddem yn gallu cael diweddariadau rheolaidd gan y Llywodraeth ynghylch a yw’r ymgyrchoedd y mae’r Llywodraeth, a'r GIG ac eraill yn eu gwneud i gael mwy o bobl i ddod ymlaen—sut ydym ni’n gallu cadw golwg ar sut mae hynny’n gweithio mewn gwirionedd? Hoffwn i ofyn i arweinydd y tŷ a oes rhai ffyrdd o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ar sut y mae hyn wedi bod mor llwyddiannus—wyddoch chi, Llywodraeth Cymru yn talu am y cyffuriau hyn, cyfradd llwyddiant 95 y cant o ran gwella pobl, datblygiadau hollol aruthrol, ac mae pawb yr ydym yn gwybod amdanynt yn cael eu trin, er bod o leiaf 50 y cant o’r bobl sydd â hep C ddim yn gwybod hynny.

Diolch i chi, Julie Morgan, am y cwestiynau hynny. A Julie Morgan a arweiniodd y ddadl ar y mater hwn—o ran eich cwestiwn cyntaf—yma yn y Senedd. Ac roedd cefnogaeth unfrydol gan Aelodau Cynulliad ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd o ran pwyso am ymchwiliad cyhoeddus llawn. Ac rydym, wrth gwrs, yn awr yn croesawu cadarnhad y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r sgandal gwaed halogedig.

Ac rwy’n meddwl ei fod yn bwysig, fel y dywedodd Julie Morgan, y bydd ymgynghori â theuluoedd, yn enwedig y rhai a gollodd eu hanwyliaid yn sgil y gwaed halogedig, ynghylch y ffurf y bydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. Deallaf ei fod wedi cael ei fynegi—mae’r dymuniad hwnnw i ymgynghori â theuluoedd eisoes wedi ei fynegi. Mae'n briodol ein bod nawr—. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a ychwanegodd ei gefnogaeth i'r alwad am ymchwiliad y DU, yn gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddweud ein bod yn falch, fel Llywodraeth Cymru, bod Llywodraeth y DU o’r diwedd yn mynd i gydnabod cryfder teimladau'r rhai yr effeithir arnynt, a'u teuluoedd, ond y byddant hefyd yn egluro'r hyn a ddigwyddodd iddynt, ac yn parchu’n llawn ac yn ymgysylltu â hwy, o ran y ffurf y bydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. A hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r rhan y mae Julie Morgan wedi’i chwarae wrth fwrw ymlaen â hyn.

Hefyd, o ran eich ail gwestiwn, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau nid dim ond â’r gwaith trawsbleidiol, yr ydych yn ei arwain, Julie, ond hefyd, fel Llywodraeth, ein bod yn ymateb o ran bwrw ymlaen ag ymwybyddiaeth o hepatitis C, gan alluogi pobl i ddod ymlaen. Mae lansiad yr ymgyrch yn bwysig iawn. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet am roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ymgysylltiad Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran y cyfle hwnnw.

A gaf i alw am ddatganiad unigol ar ddiagnosis o gyflyrau sbectrwm awtistiaeth? Dim ond heddiw, rwyf wedi cael llythyr oddi wrth Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch merch i etholwr nad oedd wedi derbyn diagnosis o awtistiaeth drwy ei gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed, ond a gafodd ddiagnosis gan feddyg annibynnol, profiadol—clinigydd, sydd mewn gwirionedd mor uchel ei pharch yn y proffesiwn fel ei bod yn cyfrannu at ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, mae’n rhan o gymuned mewnwelediad NICE ac yn rhan o grŵp astudio ar y rhyngrwyd Sefydliad Iechyd y Byd o ran y meini prawf diagnostig, sydd i fod yn berthnasol yn y wlad hon. Ac yn bryderus iawn—wrth gwrs, roedd hwnnw’n ddiagnosis ei bod ar y sbectrwm, ond, yn bryderus, roedd y llythyr gan y bwrdd iechyd yn dweud nad oedd y ddau asesiad yn awgrymu gwahaniaethau sylweddol, dim ond gwahaniaeth mewn label, ac nid yw'n broblem oherwydd nid yw CAMHS Sir y Fflint yn gweithio yn unig ar label diagnostig ac nid oes angen diagnosis penodol ar y rhan fwyaf o'r ymyriadau a gynigir. Fodd bynnag, fel yr ydych yn sicr yn ymwybodol ohono, ddoe, ar draws Cymru, rhoddwyd sylw eang yn y cyfryngau y gallai methu â gwneud diagnosis cywir o blant awtistig arwain at hunan-niweidio; roedd mam yn dweud pe byddai ei merch wedi cael diagnosis syndrom Asperger yn gynharach y byddai wedi arbed llawer o ofid iddi; ac roedd academig o ysgol feddygol Prifysgol Abertawe yn rhybuddio bod rhieni yn ofni bod plant yn dioddef problemau iechyd meddwl gan nad yw cyflyrau sbectrwm awtistiaeth yn cael eu hadnabod. Dywedodd:

Yr hyn sy’n gyson ar draws yr ymchwil yw bod mwy o risg, os oes gennych awtistiaeth, o feddwl am hunanladdiad neu o ymddygiadau hunan-niweidio. Mae'n arbennig o amlwg mewn merched ac yn arbennig o amlwg mewn merched sydd wedi aros heb gael diagnosis nes eu bod yn oedolion.

O ystyried bod gwasanaeth awtistiaeth newydd Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gyflwyno drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn mynd i gymryd peth amser i gyrraedd y gogledd ac yn parhau i fod yn anstatudol, a bod Bil hir-ddisgwyliedig Paul Davies yn mynd i gymryd peth amser i basio drwy'r Cynulliad—gobeithio, gyda chymorth cyffredinol—mae angen i ni wybod pa ganllawiau a pha ryngweithio fydd yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a’n byrddau iechyd a gwasanaethau CAMHS i sicrhau nad yw sefyllfa o'r math hwn yn dal i ddigwydd.

Wel, Mark Isherwood, fe wyddoch, fel Llywodraeth Cymru, rydym yn ymrwymo i gyflawni'r gwelliannau y mae pobl ag awtistiaeth a'u rhieni a’u gofalwyr yn dweud wrthym eu bod eisiau eu gweld. Yn wir, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dechrau trawsnewid y ffordd y mae pobl yn derbyn gofal a chefnogaeth. Rydym ni hefyd yn cyflawni ar flaenoriaethau ein cynllun strategol anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth newydd, gan fuddsoddi £13 miliwn mewn gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd. Yn awr, mae hyn yn hanfodol bwysig—mae'n ymwneud â’r llwybr asesu Cymru gyfan unigol hwnnw. Wrth gwrs, rydych yn adlewyrchu pryderon ynghylch sut y gellir ei ddatblygu a sut y gall fod yn ystyrlon i blant—gan ei fod yn llwybr asesu Cymru gyfan unigol newydd, bydd yn gwneud y system yn llawer cliriach ar gyfer teuluoedd. Mae'n cynnwys targed amser aros o 26 wythnos ar gyfer plant a gaiff eu cyfeirio ar gyfer ASD neu ADHD posibl. Hefyd, gellir gwneud atgyfeiriadau at CAMHS ar draws gwahanol feysydd. Felly, mae'n bwysig bod rhieni sydd â phryderon am eu plant yn cysylltu â'u meddygon teulu, ond mae'r trefniadau strategol ehangach a buddsoddiad yn glir iawn.

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan adolygiad Taylor o weithwyr yn yr economi gig ac rwy'n credu ei fod yn deg dweud bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn dipyn o siom. Does dim byd concrid ar ddileu contractau dim oriau. Mae hawl i ofyn am oriau gwarantedig gan gyflogwr, ond, wrth gwrs, mewn oes lle mae'n rhaid i weithwyr dalu £1,200 i fynd i dribiwnlys, mae'n anodd iawn gweld sut y mae hawliau bondigrybwyll o’r fath yn mynd i gael eu gorfodi. Ond pryder arbennig yw'r awgrym y dylid cyflwyno categori newydd o weithiwr yng nghyfraith cyflogaeth y DU—contractwr dibynnol. Mae hyn yn edrych fel canlyniad pledio arbennig gan y cwmnïau hynny nad ydynt yn hoffi talu trethi ac nad ydynt yn hoff iawn o dalu'r isafswm cyflog chwaith. Tybed a allai'r categori contractwr dibynnol fod yn rhywbeth sy'n cynyddu dros y blynyddoedd, yn enwedig wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ac wrth i hawliau gweithwyr gael eu disodli gan fframweithiau’r DU. A allem gael datganiad gan Lywodraeth Cymru fel mater o frys, yn enwedig o gofio bod y wlad hon yn awr yn gynyddol yn dod yn brifddinas y DU o ran gweithwyr sy’n cael eu hecsbloetio?

Mae'n bwysig bod yr adroddiad hwn wedi cael ei godi. Mae'n adroddiad annibynnol, fel y dywedodd Steffan Lewis. Rwy'n credu, yng Nghymru, ein bod wedi siarad am bwysigrwydd sut yr ydym yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae gennym ymgynghoriad ar hyn o bryd ac, yn wir, mae Rebecca Evans yn bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad am gontractau dim oriau o ran y sector gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Ond rwy'n credu hefyd, yn bwysig iawn, o ran mynd i'r afael â'r economi gig yn god ymarfer ein Llywodraeth ar gaffael moesegol, ac o edrych ar y ffyrdd yr ydym ni yng Nghymru o ran gwaith tecach—. Ac, wrth gwrs, mae’r gwaith yr ydym wedi bod yn ei ddatblygu fel Llywodraeth Lafur Cymru cyn belled ag y mae hynny yn y cwestiwn—ein partneriaeth gweithlu, yn enwedig gydag undebau llafur—yn hanfodol i ni fwrw ymlaen â’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau, a hefyd gamddefnyddio’r economi'r hwn, yr ydym, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn ohono.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Nid wyf yn ymddiheuro am ofyn am un ar y morlyn llanw. Gwn fod y morlyn llanw wedi cael ei grybwyll ddwywaith y prynhawn yma yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond rwy'n credu ei fod mor hynod bwysig i'r rhai ohonom sy'n byw yn ninas-ranbarth bae Abertawe fel fy mod yn credu yr hoffem gael datganiad arno, i gwmpasu dau bwynt: un yw’r drwydded forol y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdani; ac, yn ail, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth San Steffan am roi ei sêl bendith. Mae hyn mor bwysig, ac rwy’n meddwl am sut y mae Aarhus yn Nenmarc wedi creu diwydiant cyfan o ran tyrbinau gwynt, oherwydd ei bod y cyntaf i wneud hynny. Mae gennym gyfle yn ne-orllewin Cymru i fod y cyntaf i wneud morlynnoedd llanw a chael yr holl fanteision o hynny.

Mae’r ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano yn dilyn yr hyn yr oedd Steffan Lewis yn ei ofyn. Mae’r gweithlu dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei throi i fod yn weithlu o swyddi dros dro i raddau helaeth. Rydym wedi mynd o’r dyddiau pan oedd pobl yn ciwio y tu allan i’r dociau i gael eu galw, i dderbyn neges destun, ond mae'r egwyddor yn union yr un fath. Nid yw swyddi dros dro yn dda ar gyfer y gweithlu, nid yw'n dda ar gyfer y wlad ac nid yw'n dda ar gyfer y system drethi. Felly, rwy’n credu y byddwn yn ychwanegu fy llais at un Steffan Lewis wrth ofyn am ddatganiad ar yr hyn y gallwn ni ei wneud. Gwn fod yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn gyfyngedig oherwydd yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi’i ddatganoli, ond mae angen i ni geisio lleihau nifer y bobl sy'n cael eu hecsbloetio’n amlwg o fewn y system hon.

Rwy'n falch fod Mike Hedges wedi manteisio ar y cyfle i ofyn cwestiwn arall ar forlyn llanw Abertawe. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud, rydym yn parhau i fod yn gefnogol i fanteision morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe, ac rydym yn aros am ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Hendry—yn aros gyda diffyg amynedd, byddwn yn dweud, gan ei fod mor araf yn dod. Mae'n ddiddorol bod y Prif Weinidog yn gofyn am syniadau ac ymgysylltu â phleidiau eraill. Wel, o leiaf mae ganddi rywbeth ar ei stepen drws y gallai ddweud 'ie' wrtho ar unwaith o ran ymgysylltu. Wrth gwrs, mae cefnogaeth drawsbleidiol gan y Cynulliad hwn ar gyfer y morlyn llanw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyfarfod â Tidal Lagoon Power ar y prosiect arfaethedig yn Abertawe ers nifer o flynyddoedd ar draws ystod o feysydd er mwyn sicrhau bod busnesau Cymru a'r economi leol yn cael y budd mwyaf. Yn wir, yn ei adolygiad, roedd Hendry yn cydnabod y dull integredig yr ydym wedi’i gymryd ar sgiliau a datblygu'r gadwyn gyflenwi i gefnogi'r sector pwysig hwn. Ac, yn wir, rydym yn cydnabod y rhan y mae’r sector preifat a buddsoddwyr wedi’i chwarae wrth fwrw ymlaen â hyn, at y pwynt lle’r ydym yn awr yn aros am ymateb gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu fod Huw Irranca-Davies yn gynharach wedi adrodd ar y ffaith y bydd cyfarfod trawsbleidiol, rwy'n credu, gyda Greg Clark fel cadeirydd. Felly, credaf fod hynny i’w groesawu’n fawr. Byddem yn awyddus i glywed am hynny, ond, unwaith eto, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gael ymateb cyflym.

Ni allaf ond dweud, ‘Ydy, mae Mike Hedges yn hollol gywir'. Rwy'n credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud llawer iawn i fynd i'r afael â swyddi dros dro ac annhegwch contractau dim oriau, yn enwedig mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol. Felly, byddaf yn gofyn am ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar bob agwedd ar y gwaith hwnnw.

Rydym dros amser ar y datganiad hwn, ond byddaf yn galw ar ychydig o siaradwyr ychwanegol os ydynt yn addo bod yn gryno yn eu cwestiynau, a chawn atebion cryno hefyd. Darren Millar.

A gaf i eilio'r galwadau gan Llyr Huws Gruffydd am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar y triongl Evo yn fy etholaeth i? Rwy'n bryderus iawn bod diogelwch yn dirywio o ganlyniad i wneud y llwybr hwn mor ddeniadol i fodurwyr anghyfrifol. Un o’r nodweddion eraill, nad oedd Llyr yn gallu sôn amdanynt yn ei gyfraniad i ofyn am ddatganiad, oedd y ffaith fod y rhyngrwyd yn cael ei defnyddio i wneud hyn mor ddeniadol. Mae fideos ar YouTube yn annog pobl i fynd i ymweld â’r safle ac i garwyr ceir ymgasglu yno er mwyn gwibio o gwmpas y llwybr hwn. Ac, yn wir, mae cwmnïau hapchwarae hefyd yn gwneud fersiynau o hyn o fewn eu gemau er mwyn annog pobl i ymweld â’r safle. Rydym wedi cael rhai gwelliannau hanesyddol o ran diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn sicr, nid wyf am i bethau fynd i'r cyfeiriad arall oherwydd ein bod wedi methu ag ymdrin â'r broblem arbennig hon yn fy etholaeth i. Tybed a oes modd cael rhywfaint o symudiad tuag at gael nid yn unig orfodaeth ymweld, ond rhai camerâu cyflymder ar hyd y llwybr hwn oherwydd byddai hynny yn atal y broblem hon unwaith ac am byth.

Diolch. Mae Darren Millar wedi cryfhau'r achos dros ganolbwyntio ar y triongl Evo a'r ffordd y mae wedi cael ei hyrwyddo. Yn wir, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd—ac y maent wedi gwneud hynny heddiw—dynnu sylw at y peryglon, a gallwch hefyd godi'r pwyntiau hynny eich hunain gyda chylchgronau sy’n ei hyrwyddo ac, yn wir, ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond, GanBwyll—roedd Ysgrifennydd y Cabinet allan yno yn y gwanwyn gyda GanBwyll, ac mae'n glir iawn yn uchel ar ei agenda.

Arweinydd y siambr, datganiad sydyn yn unig yw hwn ar rywbeth a gododd heddiw yn y Pwyllgor Deisebau. Rhoddodd Beth Baldwin ddewr iawn dystiolaeth wirioneddol wefreiddiol ynghylch diabetes 1 ac ymgyrch ei theulu i wella canfod yn gynnar trwy bolisi. Mae gan bedwar cant ar ddeg o blant yng Nghymru y cyflwr hwn, ac mae angen i rieni gadw golwg am y pedwar T: syched, blinder, mynd i'r toiled yn aml, a mynd yn deneuach neu golli pwysau. Collodd y teulu Baldwin eu mab, Peter, oherwydd y cyflwr hwn, ac roedd ei fam yn ddewr iawn, iawn heddiw.

Ysgrifennodd y Pwyllgor Deisebau at Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ôl ym mis Chwefror yn gofyn am gyfarfod gyda'r teulu—roeddent yma heddiw. Atebodd Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd nad oedd yn gallu—ddim yn gallu—cwrdd â'r teulu. Felly, o fis Chwefror tan heddiw nid yw wedi gallu cwrdd â’r teulu hwn sydd â rhywbeth mor bwysig i’w drafod. A wnewch chi roi datganiad ynghylch a fyddai Vaughan Gething o bosibl, efallai, ar gael i ffitio’r teulu hwn i mewn i’w amserlen brysur?

Diolch i Neil McEvoy am dynnu sylw at yr hyn sy'n amlwg yn ddeiseb bwysig iawn a ddaeth gerbron y Pwyllgor Deisebau am ddiabetes 1. Yn wir, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru—ac rwy'n cofio pan oeddwn i’n Weinidog iechyd, yn ymgysylltu’n fawr yn enwedig ynghylch sut yr effeithir ar blant, ac, yn wir, ymyrraeth a diagnosis cynnar a phob un o’r pwyntiau pwysig a wnaed gan y teulu hwn a roddodd dystiolaeth. Yn amlwg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol erbyn hyn o'r angen penodol hwnnw ac o gais y teulu.

Hoffwn godi gydag arweinydd y tŷ y posibilrwydd o gael datganiad. Er nad yw yn fy etholaeth i, rwyf wedi bod yn cysylltu â gweithwyr sy'n ofidus iawn gan y newyddion am Coilcolor heddiw a'r potensial y gallai 50 o swyddi gael eu colli erbyn diwedd yr wythnos yng Nghasnewydd. Ymddengys bod anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a’r cwmni penodol hwn. Nid wyf yn arbennig o awyddus i niweidio unrhyw drafodaethau a negodi sy'n mynd rhagddynt, ond ymddengys mai craidd y mater yw hawliad yn erbyn Llywodraeth Cymru sydd bellach yn rhoi marc cwestiwn dros hyfywedd tymor hir y busnes ac, yn benodol, y 50 o swyddi sydd o fewn y busnes. Ymddengys fod ganddynt lyfr archebion cryf, o'r hyn y gallaf ei gasglu ar ôl siarad â rhai o'r gweithwyr y bore yma. I egluro'r darlun sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr awr neu ddwy ddiwethaf, a gaf i annog Ysgrifennydd y Cabinet sy’n eistedd nesaf atoch chi i wneud datganiad ac i roi cymaint o wybodaeth ag y bo modd yn y parth cyhoeddus, fel y dywedaf, heb niweidio unrhyw hawliadau a allai fod o flaen y Llywodraeth, er mwyn i weithwyr ac, yn wir, berchennog y cwmni hwn allu cael eglurder ynghylch yr union sefyllfa o ran datrys yr anghydfod a'r goblygiadau ariannol i’r cwmni hwn. Oherwydd yn fy marn i, y peth olaf y mae unrhyw un ohonom eisiau deffro iddo fore dydd Sadwrn—h.y. diwedd yr wythnos hon—yw bod 50 o bobl allan o waith yng Nghasnewydd oherwydd anghydfod yr ymddengys iddo fod wedi para am rai misoedd.

Diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu mai’r peth mwyaf priodol fyddai i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu at yr holl Aelodau, o ystyried y materion a godir gennych o ran peidio rhagfarnu’r canlyniad. Rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau ei fod yn ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn llawn i’r Aelodau am y sefyllfa cyn gynted ag y bo modd—rwy'n siŵr yn ystod y 24 awr nesaf.

Diolch, Llywydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth cyn diwedd y tymor, gan fod dim amser am drafodaethau neu ddadleuon bellach? Yn gyntaf oll, pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi ei wneud o bwysigrwydd Euratom ynglŷn â’r gwaith sydd ar gael yng Nghymru? Yn benodol, wrth gwrs, mae gennym ni ddau safle niwclear, ond mae hefyd gwastraff niwclear yn cael ei storio mewn safleoedd yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mae defnydd o ddeunydd niwclear tu fewn i’r gwasanaeth iechyd hefyd ynghlwm â’r rheoliadau sy’n cael eu trafod a’u cytuno ar lefel Ewropeaidd drwy ddulliau Euratom. Roedd y llythyr i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, llythyr enwog cymal 50, yn sôn am dynnu allan o Euratom hefyd, er bod y cytundeb hwnnw yn hŷn o lawer na’r cytundeb i fynd i mewn i’r Undeb Ewropeaidd. Erbyn hyn, rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei safiad yn glir ynglŷn â’r asesiad y mae hi wedi ei wneud o berthynas Euratom i’n gwaith ni yng Nghymru a sut mae parhau yn y broses yna wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

A’r ail ddatganiad yr hoffwn i ei glywed, yn enwedig gyda’r sioe amaethyddol ar y gorwel—wel, gyda llawer o sioeau amaethyddol ar y gorwel, ond y Sioe Fawr yn benodol mewn rhyw bythefnos—yw datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â phryd ydym ni’n debygol o weld y cynllun datblygu gwledig yn agor ar gyfer ffermio a throsi i ffermio organig. Ni, nawr, bellach, yng Nghymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Gyfunol sydd heb gynllun trosi i ffermio organig mewn lle. Mae cynnydd mewn ffermio organig a gwerthiant organig yn 7 y cant y flwyddyn. Mae pob punt sy’n cael ei buddsoddi o arian cyhoeddus yn creu elw o £21 o fasnach yn y maes organig, ac mae’n edrych yn chwithig iawn i mi ein bod ni angen gwario’r arian sydd gennym ni o hyd cyn inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a bod y Llywodraeth wedi bod yn eistedd ar eu dwylo cyn belled ag y mae agor cynllun ar gyfer ffermio organig yn y cwestiwn. Nid wyf i eisiau i hynny barhau dros yr haf heb ateb ar ryw fath o ganllawiau pendant gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â phryd fydd y cynllun hwn yn cael ei agor yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Simon Thomas. Yn sicr, byddwn yn edrych ar yr ymateb mwyaf priodol ar asesu ein perthynas ag Euratom o ran yr effaith ar Gymru. Fel y dywedwch—ac rwy’n credu ei fod wedi bod yn y newyddion bod radiolegwyr yn pryderu—mae'n feddygol yn ogystal ag yn amgylcheddol, a byddwn yn sicr yn edrych ar y datganiad mwyaf priodol i gael ei wneud ac ar ba bwynt ar yr asesiad hwn.

O ran eich ail bwynt, ie, yn wir, ar drothwy Sioe Frenhinol Cymru, rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl cwestiynau am hyn a bydd yn awyddus i wybod—a byddwn yn gwneud yn siŵr ei bod yn gwybod—bod y cwestiwn wedi cael ei godi heddiw am unrhyw gynlluniau pontio i droi'n organig yng Nghymru drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig.

4. 3. Datganiad: Cymorth i Fyfyrwyr yn 2018-19 a Chyhoeddi Crynodeb o Ganlyniadau'r Ymgynghoriad ar Weithredu Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Diamond

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gymorth i fyfyrwyr yn 2018-19 a chyhoeddi crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriad ar weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Diamond, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Kirsty Williams.

Yn wir, mae’n deitl hir, Llywydd, ac mae'n mynd i fod yn ddatganiad eithaf hir hefyd. Llywydd, rwy'n falch iawn, heddiw, y gallwn gadarnhau ein bod ni yng Nghymru yn gallu trosi egwyddorion tegwch a rhagoriaeth yn ddiwygiadau radical a rhesymegol o gymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch.

Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais ymateb y Llywodraeth i adroddiad terfynol Diamond a lansiais ymgynghoriad ar ein dull gweithredu. Rwyf bellach yn gallu cyhoeddi adroddiad cryno o'r ymatebion hynny i'r ymgynghoriad a chadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru; cadarnhau'r pecyn cymorth sydd ar gael i israddedigion amser llawn, israddedigion rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig o ddechrau blwyddyn academaidd 2018-19; cadarnhau uchafswm lefelau'r ffioedd dysgu y gall sefydliadau yng Nghymru eu codi am gyrsiau israddedig amser llawn; ac amlygu ymdrechion prifysgolion Cymru wrth i’n sector gadarnhau mai hwn fydd y cyntaf yn y DU i fod yn sector cyflog byw.

Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol am ein bwriad i gyflwyno, gyda dim ond mân addasiadau, y pecyn Diamond llawn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad, ac i'n rhanddeiliaid sydd wedi bod yn awyddus i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau yr wyf yn credu fydd yn feincnod ar gyfer cenhedloedd a systemau eraill. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod gwaith i'w wneud wrth gyfathrebu’r system newydd. Yn benodol, mae'n rhaid i ni roi sicrwydd i rieni bod y newid sylfaenol i gefnogi myfyrwyr gyda chostau o ddydd i ddydd, yn hytrach nag ad-dalu ffioedd ar ôl graddio, yn mynd i'r afael â'r union bryderon y maent yn aml yn eu codi. Bydd angen i ni weithio'n agos gyda'r prifysgolion, awdurdodau cyllid myfyrwyr ac eiriolwyr allweddol ar y mater hwn. Byddaf yn lansio ymgyrch gyfathrebu i hyrwyddo system newydd o gymorth yn yr hydref a byddwn hefyd yn gobeithio y bydd yr Aelodau yma yn derbyn yr her honno. Mae copi o'r adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, sydd hefyd yn cynnwys cadarnhad o’n cynigion terfynol, wedi cael ei roi yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ar ôl trafod ein cynigion gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a Thrysorlys Ei Mawrhydi, rwy’n falch o gadarnhau, yn amodol ar reoliadau a wneir, y byddwn yn cyflwyno’r pecynnau canlynol o gymorth i fyfyrwyr sy'n cychwyn blwyddyn gyntaf eu cwrs yn y flwyddyn academaidd 2018-19. I fyfyrwyr israddedig amser llawn a rhan-amser, bydd system newydd decach a chynaliadwy o gymorth yn cael ei chyflwyno. Bydd cymorth ychwanegol ar gael i sicrhau bod myfyrwyr yn cael digon o arian i dalu am eu costau byw o ddydd i ddydd. Bydd gan bob myfyriwr yr hawl i gael cymorth sy’n gyfwerth â'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio. Bydd hyn yn golygu y bydd myfyrwyr llawn amser cymwys yn derbyn cymorth cynhaliaeth o £11,250 os ydynt yn astudio yn Llundain a £9,100 y flwyddyn yng ngweddill y DU.

Bydd cymorth grant yn cael ei dargedu at y rhai sydd â'r angen mwyaf, er y bydd pob myfyriwr yn cael isafswm grant o £1,000 waeth beth yw incwm y cartref. Bydd myfyrwyr o’r cartrefi incwm isaf yn derbyn y grant uchaf: hyd at £10,250 yn Llundain a £8,100 yng ngweddill y DU. Mae amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y bydd un rhan o dair o fyfyrwyr amser llawn yn gymwys am y grant llawn. Incwm y cartref ar gyfartaledd i fyfyriwr yn y system bresennol yw tua £25,000.  Dan y system newydd, bydd myfyriwr o'r fath yn derbyn oddeutu £7,000 y flwyddyn mewn grantiau nad ydynt yn ad-daladwy. Am y tro cyntaf, bydd myfyrwyr israddedig rhan-amser yn derbyn yr un cymorth ar gyfer costau cynhaliaeth ar sail pro rata i'w cymheiriaid llawn amser.

Hoffwn ddiolch i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am eu gwaith caled, eu diwydrwydd a’u dychymyg wrth inni gyrraedd y pwynt lle’r ydym wedi gallu cyflawni'r rhaglen sylweddol hon o ddiwygio. Rwy'n hyderus ein bod wedi sefydlu perthynas gref sy'n cyflawni dros Gymru a'n dinasyddion.

Fel y cyhoeddais yn flaenorol, rydym hefyd wedi derbyn argymhellion adolygiad Diamond ar gymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig. Bydd y system newydd o gymorth, a fydd yn dod â’r un cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig, yn cael ei chyflwyno yn y flwyddyn academaidd 2019-20. Fodd bynnag, er mwyn cydnabod y bydd y newidiadau ôl-raddedig yn cael eu cyflwyno yn hwyrach na’r newidiadau ar gyfer myfyrwyr israddedig, byddaf yn darparu cymorth gwell yn 2018-19, yn amodol ar y rheoliadau angenrheidiol yn cael eu gwneud. Bydd hyn yn cael ei ffurfio o fenthyciad uwch o £13,000, a fydd ar gael i fyfyrwyr lle bynnag y maent yn dewis astudio yn y DU. Yn ogystal â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i sefydliadau yng Nghymru, drwy CCAUC, i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n dewis astudio yng Nghymru, a disgwylir y bydd hyn yn cyfateb i tua £4,000 fesul myfyriwr.

Mae UCMC i'w longyfarch am roi’r ddadl dros fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig, ac nid dim ond y myfyrwyr traddodiadol 18 oed. Mae'n amlwg i mi mai dilyniant i astudiaethau ôl-raddedig yw her gyfoes ein difrifoldeb wrth ehangu mynediad. Mae'n anffodus bod gostyngiad o 14 y cant wedi bod yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf. Wrth i ni nesáu’n gyflym at ddyfodol a gaiff ei ffurfio gan arloesi a diwydiant uwch-dechnoleg, mae'n ddyletswydd arnom i wella cyfleoedd rhan-amser ac ôl-raddedig.

Felly, ac yn unol â'r cyhoeddiad a gynhwysir yng nghyllideb Llywodraeth y DU, rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun benthyciadau doethuriaeth ôl-raddedig o 2018-19 ymlaen. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru yn gallu benthyg hyd at £25,000 fel benthyciad heb brawf modd. Ond, yn union fel yr wyf yn ddigon pragmatig i geisio manteision o fentrau Lloegr pan fydd yn gwneud synnwyr i wneud hynny, rwyf hefyd yn gwybod bod datblygiadau ar draws y ffin yn dod â chanlyniadau eraill i’n hamgylchedd gweithredu. Mae angen setliad cyllido addysg uwch sefydlog, cynaliadwy a blaengar ar Gymru sy'n cefnogi myfyrwyr pan fydd ei angen fwyaf arnynt, ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu yn ddomestig ac yn rhyngwladol.

Gallaf felly gadarnhau oherwydd y gostyngiad yng ngwerth termau real ffioedd dysgu, y rhagolygon ar gyfer cyllidebau Llywodraeth Cymru, a'r pwysau ariannol a chystadleurwydd cymharol ein prifysgolion, y byddwn yn dychwelyd at y polisi a oedd yn bodoli cyn 2012 o uchafswm lefel y ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf. Bydd hyn, wrth gwrs, yn parhau i gael ei dalu drwy system benthyciad a gefnogir yn gyhoeddus gydag ad-daliadau sy'n amodol ar incwm yn cael eu gwneud dim ond ar ôl graddio.

Bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod wedi gosod her flaenorol i brifysgolion ar y cyflog byw a’u synnwyr o gyfrifoldeb dinesig. Felly, ar ôl cadarnhau bellach y bydd myfyrwyr yn cael cymorth sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol, mae'n bleser gennyf gydnabod cyhoeddiad Prifysgolion Cymru y bydd holl brifysgolion Cymru yn dod yn gyflogwyr cyflog byw, ac maent hefyd wedi cadarnhau y byddant yn ymrwymo i god ymarfer y Llywodraeth ar gaffael moesegol a chyflogaeth. Mae hyn yn dangos yn glir bod ein system addysg yn seiliedig ar werthoedd ecwiti, rhagoriaeth a chyfrifoldeb dinesig, ac rwy'n disgwyl gweld datblygiadau pellach yn ymrwymiad y sector i genhadaeth ddinesig dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Llywydd, mae ein system newydd flaengar a theg yn cynrychioli newid sylfaenol yn y ffordd yr ydym yn cefnogi myfyrwyr a'n sefydliadau. Drwy fuddsoddi yn llwyddiant myfyrwyr amser llawn, rhan-amser ac ôl- raddedig, Cymru fydd yr unig wlad yn Ewrop i fod wedi gallu cymryd y cam mawr hwn ymlaen. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau ein bod yn dal potensial, a gwneud y mwyaf o botensial ein holl ddinasyddion a phob cwr o’n gwlad.

A gaf i ddweud diolch wrth Ysgrifennydd y Cabinet am roi rhybudd ymlaen llaw am ei datganiad, ac am gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, hefyd, i'r ymgynghoriad ar safbwynt Llywodraeth Cymru? Mae'n amserol iawn fod hyn yn cael ei wneud, yn enwedig cyn toriad yr haf, oherwydd, wrth gwrs, bydd pobl ifanc eisiau paratoi ar gyfer blynyddoedd academaidd y dyfodol, ac yn meddwl am eu dyfodol, ac rwy'n ddiolchgar bod rhywfaint o eglurder wedi’i ddarparu heddiw o safbwynt Llywodraeth Cymru ar nifer o faterion, yn enwedig ynghylch cychwyn y drefn newydd yn 2018. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r uchelgais o allu cyflwyno'r system gymorth newydd erbyn y dyddiad penodol hwnnw.

A gaf i groesawu, hefyd, y gydnabyddiaeth barhaus fod angen yr un cymorth yn gyfan gwbl i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr amser llawn? Mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, na chafwyd o'r blaen, ac rwy’n gwybod bod llawer o bobl, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a sefydliadau eraill, gan gynnwys darparwyr addysg uwch fel y Brifysgol Agored, wedi bod yn galw am yr eglurder a’r cydraddoldeb hwnnw. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny hefyd.

Rwyf hefyd yn awyddus i groesawu’n fawr iawn y gefnogaeth sydd yn mynd i fod ar waith ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn hwyr iawn yn egluro ei threfniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ym mis Medi. Dim ond mis Chwefror eleni oedd hi, credaf, pan wnaethoch egluro’r trefniadau hynny, a oedd yn gwbl annerbyniol, â dweud y gwir, i bobl sydd am wneud cynlluniau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. Felly mae'n braf gwybod bod ychydig yn fwy o eglurder, yn sicr am sefyllfa 2018-19, ac y gall pobl ddechrau gwneud eu cynlluniau mewn cysylltiad â hynny. Ond tybed pam mae’r system newydd o gymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig yn mynd i gael ei rhoi ar waith yn hwyrach nag i fyfyrwyr eraill. Pam ei bod 12 hyn hwyrach? Nid ydych yn esbonio hynny yn eich datganiad, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cael y rheswm am hynny ar gofnod.

Credaf na ddylai fod yn syndod i ni ein bod wedi gweld gostyngiad o 14 y cant yn y nifer o ôl-raddedigion a addysgir yng Nghymru. Mae hynny oherwydd na fu unrhyw gefnogaeth iddynt hyd nes y flwyddyn academaidd hon. Ac, wrth gwrs, rydym wedi cael y diffyg eglurder hwnnw, fel yr wyf newydd ei nodi. Gwn nad yw hynny i gyd yn ystod eich gwyliadwriaeth chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n ffaith, ac felly nid yw'n syndod i mi ein bod yn colli ôl-raddedigion—neu rydym wedi bod yn eu colli yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n gobeithio y bydd eich cyhoeddiad heddiw yn golygu bod modd newid y sefyllfa, er fy mod yn credu y gall gymryd peth amser.

Rwyf hefyd yn falch iawn nad ydych yn syml yn gwrthod pethau sy'n digwydd dros y ffin, ond pan fydd pethau synhwyrol yn digwydd rydych hefyd yn ceisio eu hefelychu. Felly, roeddwn yn falch iawn o weld hynny hefyd.

Yn fy marn i mae’n bwysig cael rhywfaint o sefydlogrwydd i'r sefyllfa ffioedd dysgu. Sylwaf eich bod wedi dweud eich bod am fynd yn ôl at y polisi cyn 2012 o gysylltu ffioedd â chwyddiant. Ond tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych wedi meddwl am oblygiadau posibl hynny, pe digwydd bod newid sylweddol i ffioedd mewn mannau eraill yn y DU, naill ai i fyny neu i lawr—ac rwy’n amau mai i fyny sydd fwy tebygol. Ond os mai dyna fydd eich sefyllfa am dair blynedd, a ydych yn dal yn mynd i fod yn ymrwymedig i hynny os oes newid sylweddol mewn mannau eraill, a allai, wrth gwrs, yn y pen draw fod yn anfantais i brifysgolion Cymru?

Nodais yn sylwadau’r ymgynghoriad fod awgrym y gallai'r drefn newydd edrych ar hoelio’r system cymorth cynhaliaeth, nid i'r cyflog byw cenedlaethol ond o bosibl i ffigur y Living Wage Foundation o ran cefnogaeth. Tybed a allech chi egluro a oedd hynny'n rhywbeth yr ydych wedi’i ystyried fel rhan o'ch swydd; ac os ydych, pam nad ydych yn ceisio symud tuag at hynny dros gyfnod o amser?

Yn ogystal â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu bod rhai pethau nad ydych wedi cyfeirio atynt, ac rwy’n credu ei bod hi'n bwysig cael rhywfaint o eglurder arnynt. Roedd llawer o ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn cyfeirio at y canol gwasgedig—yr unigolion a allai fod ar yr ymylon o ran y lefel o incwm sydd ganddynt, ychydig dros y trothwy incwm efallai, neu'r unigolion hynny a allai fod â mwy nag un plentyn yn mynd drwy'r system brifysgolion ar yr un pryd, a'r anawsterau a'r heriau y gallai hynny beri iddynt hwy o ran cefnogi eu dibynyddion. Tybed a allech ddweud unrhyw beth ynghylch eich ystyriaeth o bobl yn y sefyllfa honno, ac a all fod cyfle i edrych eto ar y system gymorth, fel ei bod yn cydnabod yr anawsterau y gallai’r teuluoedd hynny fod ynddynt.

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae llawer o bobl wedi cyfeirio at yr unigolion hynny a allai fod wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni a'u teuluoedd, ac felly byddai'n amhriodol rhoi ystyriaeth i’w hincwm teuluol nhw er mwyn penderfynu pa lefel o gymorth y gallai’r unigolion hynny ei chael. Nid ydych wedi cyfeirio at hynny o gwbl yn eich datganiad heddiw. Nid ydych wedi egluro eich safbwynt ar sut yr ydych yn bwriadu sicrhau y gallai unigolion sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd gael mynediad at addysg uwch drwy gyfrwng y drefn newydd, a byddai o gymorth pe gallech roi rhywfaint o eglurhad ar hynny inni.

Hefyd, cafwyd galwad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i chi ystyried pa gymorth y gallech fod yn gallu ei roi i bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n tangyflawni sydd â chynrychiolaeth isel a chyfran isel o unigolion sy'n mynd i'r brifysgol, a’r gymuned Sipsiwn / Teithwyr. Tybed a allech roi sylwadau ynghylch a allai fod cefnogaeth benodol wedi ei neilltuo y gallech chi fel Llywodraeth ei sicrhau fydd ar gael i unigolion yn y sefyllfaoedd hynny.

Grŵp arall sydd dan anfantais dan y system bresennol, wrth gwrs, yw'r rhai dros 60 oed, sy'n wynebu gwahaniaethu o ran eu gallu i gael gafael ar gymorth. Os ydynt yn mynd i fod yn cwblhau eu cyrsiau ar ôl eu pen-blwydd yn drigain oed, nid oes cymorth ar gael iddynt o gwbl. Tybed a allwch chi ddweud a ydych yn mynd i wneud unrhyw beth i fynd i'r afael â’r gwahaniaethu hwnnw yn erbyn pobl hŷn. Ac, yn olaf, mae’r cwestiwn am fwrsariaethau. Unwaith eto, roedd llawer iawn o sylwadau yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch bwrsariaethau y mae modd eu cael, yn enwedig bwrsariaethau nyrsio. Ond, wrth gwrs, rwy’n gwybod eich bod wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet yn edrych ar fwrsariaethau eraill y gallech fod yn gallu eu hymestyn. Tybed a allwch roi unrhyw eglurhad ar hirhoedledd bwrsariaethau nyrsio a pha fwrsariaethau eraill y gallech fod yn ystyried eu cyflwyno i'r drefn newydd. Diolch.

Dyna restr hir o gwestiynau, Llywydd, felly byddaf yn ceisio mynd drwyddynt mor gyflym â phosibl. Rwy'n credu mai’r cydraddoldeb rhwng y dulliau o astudio yw’r hyn sy'n gwneud y pecyn cymorth hwn mor bwysig ac unigryw, ac rwy’n credu y bydd yn destun y bydd cenhedloedd eraill yn edrych arno i weld beth mae Cymru wedi ei wneud. Yn wir, mae’r Alban eisoes wedi ymrwymo i adolygu eu system eu hunain ac yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru. O ran pam mae’r rhaglen ôl-raddedig yn digwydd flwyddyn yn ddiweddarach, mae hynny oherwydd, er gwaethaf gwaith caled a diffuant iawn sydd wedi cael ei wneud ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, nid ydynt wedi gallu gwneud yr holl newidiadau angenrheidiol mewn pryd. Felly, mae cefnogaeth ôl-raddedig yn dod ar-lein i'r system ffurfiol flwyddyn yn ddiweddarach. Ond byddwch yn gweld o fy natganiad nad oeddwn yn barod i adael myfyrwyr ôl-raddedig mewn ansicrrwydd. Bydd benthyciadau ar gael o’r flwyddyn academaidd newydd, 2017, i fynd i'r afael â'r mater na fu dim cefnogaeth o'r blaen, a bod hynny wedi rhoi myfyrwyr Cymru dan anfantais. Rwyf wedi defnyddio'r cyfle cyntaf posibl, gan ymgymryd â’r swydd hon, i fynd i'r afael â hynny. Ond, ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn 2018-19, bydd arian yn cael ei gyfeirio drwy CCAUC i brifysgolion Cymru i gefnogi astudio ôl-raddedig. Yn bwysig iawn, bydd hynny ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis astudio mewn sefydliad yng Nghymru, a byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar yr effaith y bydd y polisi hwnnw yn ei chael ar beth arall yr hoffem ei wneud efallai i gymell myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau yng Nghymru.

Mae hynny'n dod yn ôl at y pwynt y cyfeiriwyd ato gennych yn briodol wrth gloi, o ran bwrsariaethau. Byddwch yn ymwybodol fy mod i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi gweithio'n galed iawn i greu system bwrsariaeth ar gyfer nyrsys sy'n gwobrwyo’r bobl hynny sy'n astudio yng Nghymru, ond sydd hefyd yn ymrwymo i weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddwn yn ceisio adeiladu ar yr enghraifft honno. Er enghraifft, rwy'n awyddus iawn i edrych ar fater llwybrau ADY i addysgu, os ceir ymrwymiad i hyfforddi yng Nghymru, ac yna i aros a gweithio yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio'r flwyddyn interim hon o gymorth ôl-raddedig i edrych ar y dystiolaeth ac i adeiladu ar yr hyn y gallem ei wneud yn hynny o beth.

Mae'n wir dweud, Darren, na allwn weithredu ar wahân i benderfyniadau sy'n cael eu cymryd ar draws y ffin, oherwydd y llif myfyriwr yn ôl ac ymlaen. Byddai’n dda gennyf pe byddai’n wahanol, ond mae'n rhaid i mi ymdrin â'r realiti yr wyf ynddo. Os oes newidiadau sylweddol i systemau cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch ar draws y ffin, yna, yn amlwg, byddaf yn cymryd hynny i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau am sefyllfaoedd yma. Ond byddai'n rhyfygus i feddwl nad ydym yn gweithredu yn y sector AU ar draws ffin Cymru a Lloegr, ac, mewn gwirionedd, yn cystadlu yn rhyngwladol, oherwydd natur y sector.

Mae’r cyflog byw—y math o gyflog byw a fydd yn cefnogi’r myfyrwyr—yn unol ag argymhellion Diamond. Dyna lle’r ydym yn symud ymlaen yn hynny o beth. Myfyrwyr annibynnol—os ydynt yn wirioneddol annibynnol ar eu teuluoedd, byddant yn cael eu barnu ar eu hincwm eu hunain. Bydd angen iddynt ddangos eu bod yn wirioneddol annibynnol. Ni fydd unrhyw gymorth penodol ar gyfer agweddau ar y gymuned BME neu'r Sipsiwn / Teithwyr ar hyn o bryd. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae hon yn system sy'n seiliedig, yn gyffredinol, ar incwm y cartref. Fel y dywedais yn fy natganiad, rydym yn rhagweld y bydd traean o fyfyrwyr Cymru, waeth o ble maent yn dod yng Nghymru, â’r hawl i gael taliad grant llawn. Yn wir, oherwydd y cyflogau cymharol isel yng Nghymru, bydd y myfyriwr Cymreig ar gyfartaledd yn derbyn grant o £7,000 y flwyddyn i'w helpu gyda'i gostau byw, na fydd yn rhaid iddo ei ad-dalu. Gyda golwg ar bobl dros 60 oed, mae’r polisi yn unol â'r hyn a ddilynir yn Lloegr.

Diolch, Ysgrifennydd, am eich datganiad chi. Nid ydw i’n meddwl ei fod yn mynd â ni i gyfeiriad annisgwyl. Mae llawer o’r hyn rŷch chi wedi ei ddweud yn gadarnhad efallai o’r hyn rŷch chi wedi ei amlinellu i ni yn flaenorol. Ac mae yn dda cael y cadarnhad yna, yn enwedig gan fod prifysgolion a myfyrwyr, wrth gwrs, wedi bod yn chwilio am yr eglurder yna mewn pryd ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y misoedd sydd i ddod.

Wrth gwrs, y cyhoeddiad mwyaf arwyddocaol fan hyn yw’r ffaith bod uchafswm y ffioedd dysgu nawr yn mynd i fod yn codi gyda chwyddiant, ac rŷch chi’n gwneud y cyhoeddiad yna er ei fod yn rhywbeth rŷch chi wedi ei wrthod yn y gorffennol, a byddwn i’n licio gofyn i chi felly esbonio beth sydd wedi newid, oherwydd, dim ond rhyw fis neu ddau yn ôl, roeddech chi’n dweud mai dyna oedd y polisi fan hyn yn y Siambr, a byddwn i’n licio gwybod beth sydd wedi newid eich meddwl chi. Oherwydd canlyniad hyn yw y bydd dyledion myfyrwyr yn cynyddu o’r lefelau echrydus o uchel rŷm ni’n eu gweld yn barod, ac rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod lefel y llog sy’n cael ei dalu ar y benthyciadau yma yn uwch nag unrhyw log mae nifer ohonom ni’n ei dalu ar forgeisi ar hyn o bryd.

Mae’r penderfyniad yma’n cael ei wneud ar adeg pan fo’r drafodaeth ynglŷn â holl ddyfodol y ffioedd dysgu yma yn fyw iawn, gyda’r Arglwydd Adonis hyd yn oed yn dweud bod ffioedd dysgu yn wleidyddol farw, yn ‘politically dead’, yn ei eiriau fe—wel, yn amlwg, nid yng Nghymru. Er bod gennym ni faniffesto gan y Blaid Lafur rai wythnosau yn ôl a oedd yn dweud y buasen nhw’n sgrapio ffioedd, mae nawr gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd yn cydsynio i weld lefel y ffioedd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae meddwl eich bod chi’n hapus i roi’r baich ychwanegol yna ar fyfyrwyr yn siomedig a dweud y lleiaf. Rydw i’n nodi ac yn rhannu siom Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn hynny o beth, yn enwedig o gofio, wrth gwrs, fod yr IFS hefyd yn dweud wrthym ni fod dyledion mor uchel nawr na fydd tri chwarter o’r graddedigion fyth yn talu yn ôl yn llawn y ddyled. Felly, mae yna gwestiynau ehangach, rydw i’n meddwl, sydd angen eu hystyried yn fan hyn hefyd.

Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth roesoch chi i opsiynau amgen, yn hytrach na thaflu’r baich ychwanegol yma ar y myfyrwyr? Onid oedd yna unrhyw bosibilrwydd y byddai modd defnyddio HEFCW efallai i gwrdd â chostau cyrsiau drutach yn lle, fel rydw i’n dweud, daflu’r bach ar ysgwyddau’r myfyrwyr? Ac a gawn ni hefyd eglurder ynglŷn â phryd a phwy a fydd yn gorfod talu’r ffioedd ychwanegol yma? A ydyw e’n gynnydd a fydd yn cychwyn fel y bydd myfyrwyr yn cychwyn eu cyrsiau o 2018 ymlaen, neu a ydy hwn yn rhywbeth a fydd yn daladwy gan fyfyrwyr sydd eisoes yn y system ac eisoes yn ymgymryd â’u hastudiaethau? Mi fyddai eglurder yn help.

Rydw i’n croesawu’r ymrwymiad i gyflogau byw, wrth gwrs, yn ein prifysgolion ni, ond mae yna bach o eironi fan hyn, oherwydd dyma un o’r sectorau gyda’r bwlch mwyaf mewn cyflogau oddi mewn iddo fe, a thra ei bod hi’n iawn ein bod ni’n edrych ar lefel cyflogau’r rhai sydd ar waelod y ‘scale’, rydw i yn meddwl bod yn rhaid inni edrych ar ben arall y ‘scale’ hefyd a bod angen gwneud mwy i gau’r bwlch yna, a byddwn i yn licio clywed eich barn chi ynglŷn â hynny.

Rŷch chi wedi sôn yn flaenorol am ryw fath o beilot o safbwynt y gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr i sicrhau ei bod hi’n ‘portable’ ac yn drosglwyddadwy o fewn y Deyrnas Unedig, ond hefyd y tu hwnt, yn yr Undeb Ewropeaidd a’r tu hwnt i hynny. Mi fyddwn i’n falch o ddiweddariad ynglŷn â lle rŷm ni arni ar hynny.

Nid oes cyfeiriad at y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fan hyn. Rydw i’n gwybod bod yna gymhellion, wrth gwrs, yn Diamond, ac rydw i’n gwybod bod yna waith yn digwydd ar y ffrynt yna, a byddwn i’n licio eglurder ynglŷn â phryd a gawn ni wybod mwy am newidiadau posibl o safbwynt ColegauCymru ac yn sicr cynaladwyedd ariannol—sori, Coleg Cymraeg ddylwn i ddweud, nid ColegauCymru.

Ac, wrth gwrs, ni fyddai dim un datganiad ynglŷn â Diamond yn gyflawn heb fy mod i’n holi ynglŷn â’r argymhelliad o fod â chynlluniau gerbron i annog graddedigion i aros neu ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio er mwyn sicrhau y gwerth gorau i economi Cymru o fuddsoddiad y trethdalwyr. A allwch chi roi diweddariad i ni o ba ystyriaethau pellach rŷch chi wedi eu rhoi i hyn, a phryd y cawn ni fwy o fanylion mewn ymateb i’r argymhelliad a oedd yn Diamond ar y mater yma?

Diolch yn fawr iawn, Llyr, am y cwestiynau yna. O ran pennu lefelau ffioedd, yr hyn yr wyf bob amser wedi’i ddweud yn gyson yn y Siambr hon yw y byddaf yn cymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth wrth fynd i'r afael â’r pwynt hwnnw. Mae’r ffactorau hynny wedi cynnwys sefyllfa cyllid Llywodraeth Cymru ei hun, yr effaith ar fyfyrwyr, ac, yn wir, sefyllfa cyllid y sector yn ei gyfanrwydd. Dim ond yn gynharach heddiw, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, cawsom un o'ch cydweithwyr yn siarad am yr heriau ym Mangor, a’r posibilrwydd o golli swyddi ym Mangor. Mae eich cydweithiwr sy’n eistedd nesaf atoch chi, Simon Thomas, yn aml yn pryderu—yn briodol felly—am golledion swyddi yn y sector addysg uwch yn ei ardal ei hun, ac rwyf wedi gorfod ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys penderfyniadau a wnaed ar draws y ffin yn Lloegr, gyda golwg ar lefelau ffioedd. Ond yr hyn sy'n bwysig ei gofio, yn fy marn i, yw bod benthyciadau ffioedd ond yn daladwy ar ôl graddio, a dim ond pan fydd y graddedigion yn ennill £21,000, ac y cânt yn wir eu dileu ar ôl 30 mlynedd. Felly, y bobl hynny sy'n elwa fwyaf yn economaidd o fynd ymlaen i gwrs addysg uwch sy’n talu'r mwyaf yn ôl. Mae myfyrwyr o Gymru hefyd yn unigryw yn yr ystyr eu bod yn gymwys i hyd at £1,500 i gael ei ddileu oddi ar falans eu benthyciadau pan fyddant yn dechrau ar raglen ad-dalu. Mae hynny’n unigryw i Gymru, ac mae'n fwriad gennyf barhau i wneud hynny.

Ond gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch gwaith yr UCM gyda golwg ar ‘Y Bunt yn Eich Poced', a'r pryderon y mae myfyrwyr wedi’u mynegi, teuluoedd wedi’u mynegi, mai’r costau byw o ddydd i ddydd yw’r rhwystr pennaf i’r rheini sy'n mynd ymlaen i astudio ar lefel addysg uwch ac, yn hollbwysig, yn aros mewn addysg uwch. Os ydych yn edrych ar y sefyllfa ar draws y ffin yn Lloegr, lle nad oes grantiau ar gael—waeth beth yw eich cefndir, nid oes unrhyw gymorth ariannol ar gyfer costau byw o ddydd i ddydd—myfyrwyr o gefndir tlotach sy'n anghymesur yn gadael ar ôl eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Nid wyf i byth—byth—eisiau gweld myfyriwr Cymraeg sy'n gallu cynnal i hunan yn academaidd ar gwrs addysg uwch yn gorfod rhoi’r gorau iddi oherwydd costau byw o ddydd i ddydd. Rydym yn unigryw—yn unigryw—yn y system yr ydym yn ei chyflwyno i fyfyrwyr o Gymru heddiw.

O ran y maniffesto Llafur, nid yw'n fater i mi i amddiffyn maniffesto’r Blaid Lafur. Ond roedd maniffesto Llafur Cymru yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd yn dweud na fyddai myfyrwyr o Gymru yn cael eu rhoi dan anfantais ac y byddent yn well eu byd na myfyrwyr yn Lloegr, ac mae’r ymrwymiad maniffesto hwnnw, ynghyd ag ymrwymiad maniffesto ein plaid ni, yn cael ei anrhydeddu yma heddiw. Bydd ffioedd Cymru yn dal i fod yn is mewn prifysgolion yng Nghymru na'r rhai y mae myfyrwyr o Gymru yn eu talu mewn sefydliadau yn Lloegr ac y mae myfyrwyr o Gymru yn eu talu i fynychu prifysgolion yr Alban. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch hynny.

Llyr, fe wnaethoch chi ddyfynu’r IFS. Wel, gadewch i mi fod yn glir ynghylch yr hyn y mae'r IFS wedi'i ddweud am gyllid i fyfyrwyr, a dyfynnaf:

byddai dod â grantiau cynhaliaeth yn ôl yn fantais gan y byddai’n caniatáu i’r llywodraeth dargedu myfyrwyr neu gyrsiau penodol sydd â manteision ehangach i gymdeithas ... dylai’r llywodraeth—

roeddent yn cyfeirio at San Steffan—

roi mwy o bwysau ar yr olaf yn hytrach na'r cyntaf,

h.y. lleihau ffioedd. Dyna'r dull y dylent ei gymryd wrth lunio polisïau. Rydym yn gwneud yn union yr hyn y mae’r arbenigwyr annibynnol yn dweud y mae angen i ni ei wneud yn y wlad hon.

Gyda llaw, o ran ffioedd cysylltiedig â chwyddiant, dyna'n union yr hyn a wnaeth eich plaid pan oeddech chi mewn Llywodraeth yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyna'n union yr hyn a wnaethoch. [Torri ar draws.] Mae'n union yr hyn—[Torri ar draws.] Mae'n union yr hyn a wnaethoch. [Torri ar draws.] Gwir, Simon. Gwir. Gwir iawn, Simon. Mae'n wir iawn, iawn. Y lefel ffi— [Torri ar draws.] Ac rwy'n siŵr, Simon, pan oeddech chi’n gynghorydd arbennig yn y Llywodraeth, gwnaethoch chi hynny am yr un rhesymau ag yr wyf fi’n ei wneud heddiw, i gefnogi'r sector.

Bydd y ffioedd— [Torri ar draws.] Bydd y ffioedd— [Torri ar draws.]Pe cawn fwrw ymlaen i ateb gweddill cwestiynau Llyr, bydd y ffioedd yn berthnasol i'r garfan gyfan o 2018-19 ymlaen. O ran y cyflog byw, a gaf i ddweud fy mod yn falch iawn o gyhoeddiad Prifysgolion Cymru ddoe mai Cymru fydd y sector addysg uwch cyntaf i fod yn gyflogwr cyflog byw? Mae hyn yn bwysig iawn, oherwydd, hyd yn hyn, ac eithrio Prifysgol Caerdydd a'r Brifysgol Agored, nid oedd hynny'n wir. Mae hyn yn newyddion da i'r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y sector sy'n gweithio yn y sefydliadau ar hyd a lled Cymru, ac nid yw ond yn iawn ein bod yn gwneud hynny. Ni allwn ddadlau dros gyflog byw ar gyfer myfyrwyr pan nad yw’r bobl sy'n glanhau’r darlithfeydd, y neuaddau preswyl a’r toiledau yn cael eu trin yn yr un ffordd. Rwyf wrth fy modd—rwyf wrth fy modd, wrth fy modd—bod Prifysgolion Cymru wedi gwneud cynnydd yn y maes hwn pan nad ydynt wedi bod yn barod i wneud hynny. Ond mae rhagor i'w wneud—mae rhagor i'w wneud yn ddiamod—o ran tryloywder â'r lefelau cyflog uwch yn y sefydliadau, ac rwy’n dal i gael deialog gynhyrchiol iawn â Phrifysgolion Cymru am bwysigrwydd y mater hwn, tryloywder ar y mater hwn, ac rwy’n gobeithio y byddaf yn ôl yn y Siambr cyn bo hir i wneud cyhoeddiad cadarnhaol arall yn hynny o beth. Byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda nhw.

Mae’r Aelod yn sôn am ddyfodol y coleg. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, rwyf wedi tynnu’r gyllideb ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol allan o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru eleni er mwyn diogelu cyllid ar gyfer y gwaith pwysig iawn y mae’r coleg yn ei wneud, oherwydd fy mod yn poeni, yn sgil y pwysau ar gyllid AU, efallai y gallai gwaith y coleg gael ei danseilio. Felly, rydym wedi cymryd camau penodol i ddiogelu’r arian hwnnw yn y flwyddyn hon, ac rwy’n disgwyl yn eiddgar am adroddiad Delyth Evans a fydd yn rhoi cyngor annibynnol i’r Llywodraeth hon ar ddyfodol y coleg, a sut y dylai swyddogaeth y coleg gael ei datblygu yn y dyfodol.

Gyda golwg ar y mater hwn o gael pobl i ddod yn ôl i Gymru, mae pethau y tu allan i fy mhortffolio y mae angen i ni eu gwneud. Mae angen cyfleoedd swyddi fel y gall y bobl hynny ddod yn ôl i Gymru. Mae angen tai fforddiadwy mewn rhannau o Gymru, fel y gall pobl ddod yn ôl a fforddio prynu tai a magu eu teuluoedd yno. Ond mae ein hymrwymiad i hyn yn gwbl glir wrth inni sefydlu ein mesurau benthyciadau ôl-raddedig interim. Bydd y benthyciadau ôl-raddedig—. Nid benthyciadau, mae’n ddrwg gen i; gall pawb gael benthyciad. Bydd y mesurau grantiau ôl-raddedig ar gael yn unig i'r bobl hynny sy'n dod yn ôl i astudio yng Nghymru. Ac mae hynny’n ymrwymiad ac yn arwydd o sut yr wyf yn dymuno gallu defnyddio adnoddau cyhoeddus i gymell y rhai a fydd yn dod yn ôl ac yn cyfrannu. Fel y dywedais wrth ateb Darren Millar, rydym eisoes yn gweithio gyda Vaughan Gething yn hynny o beth o ran nyrsys. Rwy’n bwriadu edrych i mewn i hyn o ran anghenion dysgu ychwanegol a chyfleoedd eraill.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi cyhoeddi y caiff myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn eu trin yr un fath, a hefyd israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig.  Hoffwn fynegi fy niolch i hefyd, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am ymladd y frwydr gyfiawn ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig am gyfnod mor hir. Rwyf hefyd yn croesawu'r cynnig y dylid cefnogi astudiaethau doethuriaeth. Fodd bynnag, ni allaf weld sut mae cynnig £1,000 am bob myfyriwr, waeth beth yw’r incwm, yn gam cadarnhaol ymlaen. Efallai fod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y gallwn fod yn siarad am swm cymharol fach o arian yma, ond gellid gwario’r arian hwnnw mewn mannau eraill yn y system addysg, fel gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i ysgol wledig. Mae Llywodraeth Cymru yn cwyno yn gyson nad ydynt yn cael digon o arian, eto gallwch ddod o hyd i'r arian i roi'r rhodd hon i fyfyrwyr o deuluoedd ar incwm uwch. Er nad wyf o reidrwydd yn erbyn yr egwyddor o system fenthyciadau i fyfyrwyr, rwy’n gochel rhag rhoi baich dyled ar fyfyrwyr Cymreig ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae graddedigion bellach yn wynebu dyledion sydd ar yr un lefel â fy morgais cyntaf. Ai dyma’r hyn yr ydym ei eisiau ar gyfer myfyrwyr Cymru?

Byddwn yn croesawu eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet o sut mae hi'n sicrhau bod myfyrwyr a graddedigion yn llwyddo i gael gwasanaeth gyrfa o ansawdd a fydd yn eu helpu i wneud y penderfyniadau gorau ynghylch pa gwrs i'w astudio a faint o ddyled i’w hysgwyddo. Ar ddiwedd y dydd, bydd y bobl hyn yn ysgwyddo dyledion. Mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn deall lefel y ddyled, pa mor hir y bydd yn ei gymryd i dalu’r ddyled, a bod hynny mewn gwirionedd yn fuddsoddiad priodol a theilwng yn eu dyfodol, cyn eu bod yn mynd i ddyled. Heb gyngor gyrfaoedd o ansawdd, rydym mewn perygl o weld myfyrwyr Cymru yn mynd i ddyled heb reswm da, fel y dywedais. Rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi colli'r cyfle i gymell myfyrwyr i astudio pynciau fel gwyddoniaeth a pheirianneg, y mae eu gwir angen yn ein heconomi, drwy ddarparu hyfforddiant am ddim a grantiau prawf modd ar gyfer y pynciau hynny.

Rwyf hefyd yn pryderu am y chwyddiant posibl i gostau myfyrwyr, o ran rhenti ac ati, wrth i landlordiaid ac eraill ddeall bod gan fyfyrwyr fenthyciadau a mwy o arian o bosib. Gwelsom hyn yn digwydd pan gyflwynwyd benthyciadau i fyfyrwyr eu yn y 1990au. Aeth y rhent ar gyfer llety myfyrwyr i’r entrychion i ddechrau. Felly, beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet am y chwyddiant o ran costau i fyfyrwyr, yn sgil y mesurau a gyhoeddwyd heddiw? Diolch.

Llywydd, a gaf i ddiolch i Michelle am ei chwestiwn? Rwy’n credu bod addysg uwch yn ymdrech ar y cyd, yn un lle mae’r unigolyn yn cael budd, ond hefyd lle’r ydym ni fel cymdeithas yn cael budd hefyd. A dyna pam y byddwn yn bwrw ymlaen â’r grant cyffredinol o £1,000, a gafodd ei argymell gan Diamond yn ei adolygiad annibynnol. Mae'r Llywodraeth yn credu yn yr egwyddor o roi’r un manteision i bawb o fewn y system flaengar honno, a dyna pam y byddwn yn cyflawni'r argymhelliad gan Diamond. Mae'n amhriodol fod yr Aelod yn dadlau ar y naill law na ddylai’r £1,000 gael ei dalu, ond ar y llaw arall, wedyn yn siarad am faterion ynghylch dyled myfyrwyr a benthyciadau dysgu. Yr hyn a wyddom yw bod diddymu benthyciadau dysgu, ac nid cefnogi costau cychwynnol myfyriwr unigol, yn fwy o fudd i'r dosbarth canol a'r mwyaf cefnog. Ni allwch ei chael hi bob ffordd.

Mae’r Aelod yn gywir, er hynny—a dylwn fod wedi ymdrin â hyn wrth ateb Llyr Gruffydd, ac ymddiheuraf am beidio â gwneud hynny, Llyr—am y mater ynghylch y cyfraddau llog. Rwy’n pryderu am gyfraddau llog, a sut y maent yn cael eu cymhwyso i fenthyciadau myfyrwyr. O ganlyniad i'r pryder hwnnw, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwnnw, ac wedi mynegi fy nghefnogaeth i adolygiad o’r cyfraddau llog a chadw’r cyfraddau mor isel â phosibl. Ac rwyf wedi egluro i Jo Johnson, y Gweinidog yn Llywodraeth San Steffan, fod angen i ni weithio gyda'n gilydd ar y mater penodol hwn. Felly, nid wyf wedi anghofio am y pwynt hwn; mae’n bwynt pwysig, ac rydym yn cymryd camau i geisio mynd i'r afael â hyn ar lefel y DU.

Mae’r Aelod hefyd yn iawn i siarad am gyngor gyrfaoedd, a byddwn yn annog pawb sy’n ystyried gwneud cais i fynd i brifysgol i edrych ar yr arolwg deilliannau addysg hydredol diweddaraf. Bydd yr arolwg hwn yn dweud wrthych beth yw’r tebygolrwydd y bydd yr hyn yr ydych yn ei astudio yn arwain at swydd, a chyfraddau cyflog y swyddi hynny. Mae'n ddiddorol iawn. Ac os ydych yn gwneud hynny, rwy’n tybio y byddwn yn gweld myfyrwyr yn rhuthro i wneud cais am le ar y cwrs cyfrifiadureg yn Abertawe, gan fod y cwrs yn arwain at lefelau uchel o gyflogaeth, gyda lefelau da iawn o gyflog. Felly, rydych chi'n iawn; mae angen i ni wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael cyngor gyrfaoedd priodol cyn gwneud cais i fynd i brifysgol. Ac mae angen i’r athrawon sy'n eu cynghori fod yn ymwybodol o'r holl wybodaeth sydd yno ar gael i fyfyrwyr, i'w helpu i wneud y dewisiadau hynny.  Oherwydd nid yw ymgymryd â chwrs gradd yn rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn. Mae'n rhywbeth sydd angen ei ystyried o ddifrif, ac mae edrych ar y rhagolygon ar y diwedd yn ffactor pwysig i'w ystyried.

O ran cymorth i bynciau penodol, rwy’n deall bod hynny yn bolisi gan UKIP. Edrychodd Diamond ar gymorth i bynciau penodol, yn hytrach na system gyffredinol, a phenderfynodd ochri â’r system gyffredinol, a gwrthod y cynigion am gymorth i bynciau penodol.

5. 4. Datganiad: Adroddiad Interim yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd ar adroddiad interim yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 15:37:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch i chi, Llywydd. Mae sefydlu'r adolygiad seneddol o ddyfodol hirdymor iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ymrwymiad allweddol yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Cyhoeddais y bydd panel annibynnol o arbenigwyr yn cael ei sefydlu ym mis Tachwedd 2016, a heddiw mae’r adroddiad interim yn cael ei gyhoeddi. Bydd yr adolygiad yn dod i ben ym mis Rhagfyr eleni, wrth i adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae’r panel adolygu annibynnol yn cael ei gadeirio gan Dr Ruth Hussey, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru, ac mae'n cynnwys arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. I ddechrau, hoffwn ddiolch i Ruth a'i chyd-aelodau o’r panel, ac, yn wir, i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r panel, am eu hymrwymiad i'r gwaith pwysig hwn. Rwyf hefyd yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer yr adolygiad, a’r modd y mae llefarwyr y gwrthbleidiau, a chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, wedi ymwneud ag ef. Mae hyn wrth gwrs yn dod o gytundeb cychwynnol rhwng fy mhlaid i a Phlaid Cymru ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn.

Mae’r cylch gorchwyl a gytunwyd ar gyfer yr adolygiad yn heriol. Rhoddwyd i’r panel y dasg o asesu a gwneud argymhellion ar: sut y gallai’r system iechyd a gofal ddarparu gwell canlyniadau iechyd a lles i bobl ledled Cymru; lleihau anghydraddoldebau sy'n bodoli rhwng grwpiau penodol o’r boblogaeth; a’r ffordd orau o alluogi system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan i fod yn gynaliadwy dros y pump i 10 mlynedd nesaf.

Mae’n hanfodol creu newid yn y system er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol. Yn ôl y Sefydliad Iechyd, os na cheir gweithredu effeithiol i leihau pwysau costau, cynyddu effeithlonrwydd, neu leihau'r galw am wasanaethau, bydd angen i wariant y GIG yng Nghymru godi ar gyfartaledd o 3.2 y cant y flwyddyn hyd at 2030-31 mewn termau real, dim ond i allu cynnal y gwasanaeth. Rhagwelir y bydd pwysau costau ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn codi hyd yn oed yn gyflymach na’r rhai ar gyfer y GIG, ar raddfa o 4.1 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd.

Rwy'n falch bod y panel wedi ymateb ar y cam cynnar hwn gydag adroddiad interim craff. Dros y sawl mis nesaf, bydd y panel adolygu yn cynnal trafodaethau ar draws Cymru, gan ymgysylltu â grwpiau allweddol, a gweithio gyda rhanddeiliaid ar fodelau gofal integredig. Byddant hefyd yn edrych yn fanylach ar rai materion allweddol ac yn gwneud argymhellion clir ar faterion allweddol ar gyfer yr adroddiad terfynol.

Mae'r panel yn cydnabod yn briodol ymrwymiad aruthrol y gweithlu iechyd a gofal a'i gyflawniadau arwyddocaol. Fodd bynnag, ni allai'r achos dros newid y modd y dylai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gael eu trefnu yn y dyfodol fod yn fwy clir. Fel y mae'r adroddiad yn dangos, mae'r newid yng nghyfansoddiad y boblogaeth yn cyflwyno her arbennig. Cymru sydd â'r gyfran fwyaf ac sy’n tyfu gyflymaf o bobl hŷn yn y DU. Er bod hynny, wrth gwrs, yn achlysur i’w ddathlu, bydd poblogaeth gynyddol hŷn gydag amodau ac anghenion iechyd mwy cymhleth hefyd yn arwain at fwy o alw am ofal. Ar yr un pryd, bydd y gyfran o bobl o oedran gweithio yn crebachu, gan ddarparu cronfa lai o drethdalwyr, gofalwyr answyddogol a darpar weithwyr ym maes iechyd a gofal.

Er gwaethaf ein llwyddiannau diweddar wrth recriwtio, mae Cymru—fel llawer o wledydd eraill —yn dioddef o brinder mewn meysydd proffesiynol penodol. Yn ogystal â llawer o gymdeithasau ôl-ddiwydiannol, mae Cymru eisoes yn wynebu anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd a llesiant. Mae'r panel wedi rhannu'r farn a fynegwyd gan weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd fel ei gilydd, nad yw gofal iechyd bob amser yn cael ei ddarparu yn effeithiol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. Fodd bynnag, gellid achub ar gyfleoedd cadarnhaol drwy sicrhau bod technolegau yn cael eu mabwysiadu’n gyflymach a thrwy sicrhau ymagwedd fwy systematig tuag at arloesi, a allai helpu i ddarparu gofal mwy effeithiol.

Bydd llawer o bobl, wrth gwrs, yn cydnabod y darlun hwn. Yr hyn sydd wedi’i amlygu’n glir yn yr adroddiad interim hwn yw pa mor gyflym y mae ffactorau cymdeithasol a thechnolegol sy’n newid yn gyflym yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir. Mae'r adroddiad yn glir na fydd gwasanaethau iechyd a gofal yn gynaliadwy os bydd trefniadau gwasanaeth a ffyrdd o weithio traddodiadol yn parhau. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod angen modelau newydd o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol.

Ond canfu’r panel gonsensws sylweddol ymysg rhanddeiliaid iechyd a gofal o ran y nodweddion a ddylai berthyn i system iechyd a gofal integredig yn y dyfodol. Y nodweddion hyn yw: gwasanaeth iechyd sylfaenol cyffredinol, sy'n hyrwyddo llesiant y boblogaeth; mwy o bwyslais ar ofal ataliol; unigolion i gael cefnogaeth i reoli eu cyflyrau eu hunain lle bo hynny'n bosibl ac yn ddiogel; sicrhau bod mwy o gymorth ar-lein ar gael; lle bynnag y bo'n bosibl, darparu gwasanaethau yn y cartref yn gyntaf neu yn y gymuned, gan ddefnyddio gwasanaeth gofal mewn ysbyty dim ond ar gyfer gwasanaethau y gellid eu darparu gan gyfleuster ysbyty yn unig; model o ofal a chefnogaeth yn y cartref mwy hyblyg sy'n galluogi'r unigolyn i gael rheolaeth dros bryd, ac am ba hyd, y mae’n defnyddio gwasanaeth; cydgysylltiad cyson rhwng gwahanol fathau o ofal; sicrhau bod diwylliant gofal yn canolbwyntio ar y canlyniadau y mae’r dinesydd eu heisiau ac yn gallu eu cyflawni; a phwyslais di-baid ar ansawdd ac effeithlonrwydd, gan sicrhau bod gan aelodau staff amgylchedd gwaith cefnogol ac ymroddgar.

Gellir gwella pob un o'r materion uchod hynny drwy dechnoleg newydd a’u llywio gan ddata a dadansoddiadau wedi’u rhannu. Fodd bynnag, er bod yna, wrth gwrs, gonsensws eang ar y weledigaeth, mae'r panel yn adrodd bod sefydliadau iechyd a gofal yn chwilio am gyngor a chymorth ymarferol ar sut y mae hyn i’w gyflwyno’n gyson ar draws ein system. I ymdrin â hyn, mae'r panel yn awgrymu mai’r camau nesaf i Gymru yw nodi’r modelau system gyfan bras a mwyaf addawol o iechyd a gofal cymdeithasol gan dynnu ar dystiolaeth ryngwladol, ac yna y dylid defnyddio modelau newydd ar raddfa i gyflwyno newid gweddnewidiol i’r system gyfan.

Dylai'r modelau gofal newydd hyn gynnwys cyfuniad o ofal mewn ysbyty, darparwyr gofal sylfaenol a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol. Dylen nhw weithio mewn gwahanol leoliadau, megis lleoliadau trefol a gwledig, ac wrth gwrs dylen nhw ystyried anghenion iaith Gymraeg. Mae'r panel yn rhagweld y gallai nifer cyfyngedig o fodelau gael eu treialu, eu datblygu a'u gwerthuso’n eang. Bydd y panel yn sefydlu fforwm rhanddeiliaid i weithio gyda nhw i ddatblygu’r modelau newydd hyn a'r egwyddorion y dylid eu defnyddio i gynllunio datblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol.

Bydd gwneud y gwaith hwn yn awr yn creu momentwm ac amgylchedd ar gyfer cynnydd ar ôl i'r adolygiad ddod i ben. Ochr yn ochr â hyn, barn y panel yw na fydd y modelau newydd ar eu pennau eu hunain yn ddigon i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy heb weithredu yn gyfochrog ar nifer o ddulliau galluogi. Caiff y rhain eu hamlinellu yn yr adroddiad yn feysydd lle bydd y panel yn ceisio datblygu argymhellion. Hynny yw: deialog gyhoeddus; y gweithlu; dulliau digidol a seilwaith; arloesedd; ac, yn hanfodol, ei gwneud yn bosibl i newid ddigwydd yn gyflymach.

Mae hwn yn adroddiad interim cadarn ac rwy'n croesawu'r dull gweithredu ymarferol y mae'r panel adolygu yn bwriadu ei fabwysiadu tuag at ei waith. Rwy’n galw ar sefydliadau iechyd a gofal ac aelodau o'r cyhoedd i ymateb â’r un egni, gan weithio'n adeiladol gyda’r adolygiad seneddol dros y misoedd nesaf.

Rwyf wrth fy modd i allu siarad am y datganiad hwn ac fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i Dr Ruth Hussey ac aelodau'r panel am eu gwaith ar hyn. Rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr y ffordd agored a thryloyw y mae'r cadeirydd a'r panel wedi ymgysylltu â mi ac, rwy’n gwybod, ag Aelodau’r Cynulliad eraill a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Credaf fod hwn yn foment arloesol i Lywodraeth Cymru—ar gyfer pob gwleidydd, mewn gwirionedd—i’r GIG a’r sector gofal, a chredaf fod yr adroddiad y maen nhw wedi ei gynhyrchu—yr adroddiad interim—yn glir iawn iawn, ac yn gosod nid yn unig maint yr her sy'n ein hwynebu, ond rhai o'r llwybrau posibl y gallem ni eu dilyn i ddatrys rhai o'r heriau hynny. Rwy'n credu nad oes llawer yn yr adroddiad hwn nad oedd neb ohonom yn gwybod amdano, ond weithiau mae’n rhaid i chi ofyn i rywun o’r tu allan i ddweud wrthych chi yr hyn sy'n amlwg, oherwydd eich bod yn ei wybod, ond mae'n rhaid i chi ei glywed eto. Rwy'n credu iddyn nhw nodi unwaith eto yn ofalus iawn lawer o'r problemau, llawer o'r materion, llawer o’r heriau yr ydym ni i gyd yn eu hadnabod mor dda. Ond maen nhw wedi ei wneud mewn ffordd ddigynnwrf a phwyllog iawn ac maen nhw wedi ei osod yn glir iawn. Felly, dyma’r seinfwrdd yr oedd ei angen arnom ni a dyma ni wedi cael hynny.

Credaf fod yr adroddiad yn glir iawn, unwaith eto, ar nifer o bethau. Un peth yw bod yn rhaid i gyflymder y newid gynyddu—nid yw gwneud dim yn opsiwn y gallwn fforddio ei gymryd, ac ni ddylem ni ei gymryd. Roedd yn drawiadol iawn i mi pa mor eglur yr esboniwyd bod yna eisoes lawer o weithgarwch o fewn cyfundrefn y GIG eisoes yn dwyn ffrwyth—mae yna fodelau gwych o arloesedd i’w cael yna, ond rywsut mae yna rwystr sy’n atal y modelau arloesol hynny rhag ymwreiddio a ffynnu a chael eu trawsblannu i feysydd eraill er mwyn gallu ennill hygrededd ar draws y GIG cyfan. Felly, i mi, mae'r adroddiad hwn wedi nodi'n glir iawn ein bod ni i gyd yn gwybod y cyfeiriad teithio, ond nid yw'r map ffordd yn glir i lawer iawn o sefydliadau y mae angen i ni weithio gyda nhw. Felly, fel bob amser, y cwestiwn yw: beth yw'r rhwystrau hynny i’r broses o wella? Rwy'n edrych ymlaen at ail gam yr adroddiad. Cyfarfûm â Ruth Hussey y bore yma ac roedd hi’n glir iawn eu bod nhw’n dymuno canolbwyntio ar rywfaint o'r manylion hynny yn ail gam yr adroddiad.

Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy’n credu bod yna rai gwersi clir y gallwn ni ddechrau dysgu ohonyn nhw yn awr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ychydig o'r cwestiynau hynny, gan fod yna gymaint y gallech chi siarad amdano yn yr adroddiad hwn—mae'n anodd iawn, mewn gwirionedd, i ddirnad y darnau gorau i siarad amdanyn nhw yn yr amser a roddir. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ei chael hi’n anodd gwthio rhai polisïau da yn eu blaenau. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw hyn: sut y byddwch chi’n rhoi rhagor o sgiliau i’ch adran a'ch swyddogion, fel bod ganddynt fwy o allu i arwain ac argyhoeddi ar gyfer newid? Fy ail gwestiwn yw, o ystyried y cyntaf: sut y byddwch chi’n mynd ati i reoli'r tensiynau a grëwyd gan y penderfyniadau hyn ar gyfer Cymru y mae’r adroddiad yn sôn amdanynt, ac rwy’n gallu deall yr angen hwnnw yn llwyr? A pha fath o benderfyniadau yr ydych chi’n rhagweld y gallen nhw fod—mawr, mân—a pha fath o raddfa? Ac o ystyried y tensiynau hynny o'r cwestiwn cyntaf a'r ail: sut y byddwch chi’n ymgysylltu â chymunedau lleol ac yn eu denu i’ch ochr chi? Gan fy mod yn sylwi mai’r un peth nad ydych yn sôn amdano yn eich datganiad yw ymgysylltu â'r cyhoedd ar unrhyw lefel sylweddol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r adroddiad hwn yn ei bwysleisio’n gryf iawn, iawn, iawn, ac rwy'n poeni nad ydych chi’n sôn amdano yn eich datganiad. Hoffwn i gael sicrwydd gennych chi y byddwch yn ymgysylltu â'r cyhoedd, ac y bydd llais y claf, llais y defnyddiwr, a llais y rhai nad ydynt eto wedi defnyddio'r GIG yn cael ei glywed yn hyn i gyd.

Mae'r adroddiad yn nodi meysydd sydd eisoes angen gwaith ac nid wyf yn credu bod angen i ni aros am ail adroddiad i ddod i’r casgliad bod angen i ni edrych ar sut yr ydym yn dod â chyd-gynhyrchu i iechyd a gofal cymdeithasol; sut yr ydym yn trawsnewid a throsglwyddo gwybodaeth. Tybed a wnewch chi amlinellu pa gamau yr ydych yn credu y gallech chi eu cymryd yn barod; sut y gallech chi gefnogi'r sector gofal hynod fregus; sut y gallech chi gefnogi—ac rwy’n dwlu ar yr ymadrodd hwn—y llu gofalu: y bobl sy'n rhoi gofal gwirfoddol i bob un o'r teuluoedd hynny yn y cartref ac i'r rhai hynny y maen nhw’n eu caru, a beth y gallwn ni ei wneud yn awr i'w cefnogi? Byddai gennyf ddiddordeb mawr i wybod beth y gallem ei wneud nawr i edrych ar anghenion hyfforddi a thâl ac amodau gwaith ein llu gofalu, y sector gofal cyflogedig, gan fy mod yn credu eu bod yn cael eu gadael ar ôl yn y ras i geisio gwella ein GIG ar hyn o bryd.

Roeddwn i’n falch iawn o weld bod yr adroddiad hwn yn sôn yn helaeth am dai a sut y byddwn ni’n derbyn iechyd a gofal cymdeithasol yn ein cartrefi yn y dyfodol. Hoffwn i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi gynlluniau i siarad â'ch cydweithwyr am sut y gallwn ni ddechrau mynd i'r afael â rhai o’u hanghenion o ran tai. Er enghraifft, rwy’n gwybod yn fy etholaeth fy hun bod yr holl dai sy'n cael eu hadeiladu, pa un a ydyn nhw yn cael eu hadeiladu yn breifat, gan y cyngor sir neu gan gymdeithasau tai, mai canran fach iawn sy’n cael ei hadeiladu i fod yn gartref i bobl ag anableddau, neu i fod yn gartref i bobl â dementia, yr henoed, i osod lifftiau grisiau—beth bynnag y byddai angen ei wneud—ac eto mae'n ymddangos i mi, ar ôl darllen yr adroddiad hwn, bod yn rhaid i ni sicrhau bod mwy o'n stoc tai cyhoeddus a phreifat yn gallu gofalu amdanom ni. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn glir iawn ynghylch faint o bobl yn mynd i fod ag angen mwy a mwy o gefnogaeth yn eu cartrefi.

Rwyf wedi sylwi ar eich sylw neu eich amnaid hynaws iawn, iawn yn y fan yna, Dirprwy Lywydd; fe af i’n gyflym iawn drwy'r darn bach diwethaf, ac, mewn gwirionedd, dim ond i ofyn un peth arall. Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i'r Prif Weinidog heddiw ai hwn fyddai cyfeiriad y daith ai peidio. Nawr, rwy’n credu bod hwn yn gonglfaen gwych ar gyfer dechrau adeiladu dyfodol ar gyfer ein GIG. Rwy'n credu bod gweithlu'r GIG, rwy'n credu bod y gwleidyddion ac rwy'n credu bod y cleifion i gyd wedi blino ar yr hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd, a bod angen i ni gael dyfodol cliriach, mwy disglair. A byddwn wir yn hoffi deall pa ymrwymiad sydd gennych i fwrw ymlaen â’r adroddiad hwn. Rwy'n siwr y byddwn ni’n dadlau dros y blynyddoedd, ynghylch y modd o ddarparu rhannau ohono, ac ynghylch pa un a ddylai un peth neu beth arall fod yn flaenoriaeth. Ond rwy’n credu bod yr amlinelliad sydd wedi ei lunio yma yn gryf iawn, iawn, a hoffwn i wybod a chael sicrwydd gennych chi—gan nad wyf yn credu i ni gael yr ateb cywir gan y Prif Weinidog—bod hyn mewn gwirionedd yn mynd i gael ei fabwysiadu a’i ddefnyddio ac nad yw’n mynd i gael ei adael ar silff i hel llwch, fel y digwyddodd i gymaint o adroddiadau eraill yn y gorffennol.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Ac rwy’n croesawu eich cydnabyddiaeth ar y dechrau bod y panel wedi bod yn agored ac yn dryloyw, ond hefyd bod hyn wedi, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, dod o ymgysylltiad trawsbleidiol gwirioneddol. Dechreuodd fel cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, ond fe fu, nid yn unig gan y ddau barti ond gan bawb yn y Siambr hon, parodrwydd i eistedd i lawr a chytuno ar y cylch gorchwyl, a’r panel i ymgymryd â’r adroddiad penodol hwn. Felly, roedd yna her y gwnaeth pob un ohonom ei derbyn drwy ddechrau ar y broses hon, ac rwy’n gobeithio eich bod o’r farn bod y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymgysylltu â phob un o'r pleidiau hynny wedi bod yn wirioneddol agored hefyd, oherwydd mae hwn yn fater i bob un ohonom, nid dim ond i un blaid benodol fynd i'r afael ag ef. Rwy'n credu y bu’n ddefnyddiol iawn cael grŵp gwirioneddol annibynnol o arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol i ddilysu'r pryderon, yr heriau a'r rheidrwydd i newid yr ydym wedi dadlau a thrafod yn eu cylch yn nhymhorau blaenorol y Cynulliad, ac rwyf yn meddwl tybed a wnaiff Cadeirydd y pwyllgor ddweud rhywfaint wrthym am ei swyddogaeth flaenorol yn Aelod Cynulliad pan grybwyllwyd materion tebyg.

Ond yr her sydd gennym erbyn hyn yw bod yr her yn fwy difrifol. Mae hyd yn oed mwy o alw ar ein system. Mae hyd yn oed mwy o alw yn sgil oedran y boblogaeth, heriau iechyd y cyhoedd, galw a gaiff ei ysgogi gan ymddygiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, ond hefyd yn sgil y realiti bod yr arian yn prinhau o hyd. Felly, bydd esgus y gallwn gynnal yr un system sydd gennym yn awr ymhen pump a 10 mlynedd yn arwain at gyfaddawdu ar ran ein holl etholwyr a'u buddiannau. Ac rwy’n croesawu'r gydnabyddiaeth o’r newid a’r arloesi sydd eisoes ar y gweill.

Rwy'n credu bod y pwynt y gwnaethoch ddechrau ei wneud am y cydbwysedd rhwng arweinyddiaeth ac arloesi lleol a rhanbarthol sy’n dechrau o'r gwaelod ac yn gweithio i fyny, a chyfrifoldebau grwpiau lleol, boed yn glystyrau gofal sylfaenol, yn fyrddau iechyd neu yn sefydliadau yn y canol, ond hefyd y pwynt am yr arweinyddiaeth ganolog a wneir yn yr adroddiad, ond hefyd yn yr adroddiad OECD blaenorol—. Ac mae Aelodau'r Siambr hon yn gofyn yn rheolaidd ynghylch bod eisiau i'r Llywodraeth ymyrryd a darparu arweinyddiaeth ganolog a chyfarwyddyd ar amrywiaeth gyfan o faterion, gan gynnwys yr hyn sy'n digwydd mewn ward benodol, meddygfa benodol a heriau sy’n effeithio ar y bwrdd iechyd cyfan. Mae angen i ni gael cydbwysedd o ran sicrhau y darperir cyfarwyddyd canolog i helpu i leddfu rhai o'r heriau sydd wedi atal newid rhag digwydd yn y gorffennol, heb ddweud yn syml wedyn y bydd y Llywodraeth, yn ganolog, yn penderfynu ar bopeth sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. A dyna’r her y gwnaethom ei chydnabod o'r blaen, ac, yn yr un modd, y mae wedi’i nodi ar ein cyfer yn eglur iawn yn yr adroddiad interim. Edrychaf ymlaen at y cam nesaf a'r modelau gofal a ddylai roi rhagor o atebion ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud hynny. Ond wrth i ni aros pump, chwe mis arall i hynny ddigwydd, mae busnes i'w wneud o hyd yn awr i geisio gwella ein system. Yr hyn y mae'r adroddiad interim yn ei wneud, fel yr ydych chi’n ei gydnabod, yw ein galluogi i wneud rhywfaint o'r cynnydd hwnnw yn awr i ddilysu cyfeiriad y teithio, ac i feddwl am sut yr ydym yn darparu'r camau ychwanegol, y cynnydd cychwynnol, yr hoffem ei wneud, a grymuso pobl yn lleol ac yn genedlaethol hefyd.

Ac rwy’n derbyn o ddifrif eich pwynt ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd. Pan fyddwn yn sôn am yr adroddiad interim sy’n cael ei ddefnyddio erbyn hyn i siarad â rhanddeiliaid. Wel, y cyhoedd yw'r grŵp mwyaf o randdeiliaid, ac rwy’n gobeithio bod cael adroddiad yn awr sy'n amlinellu, unwaith eto, natur dros dro yr adroddiad hwn i ymgysylltu ar ac ynghylch, nid dim ond y cwestiwn mawr 'Beth yw eich barn am iechyd a gofal cymdeithasol?', ond dyma adroddiad sy'n dweud, 'Dyma’r heriau mawr yr ydym ni’n eu hwynebu; dyma’r sbardun ar gyfer newid; dyma’r angen a'r rheidrwydd i newid; dyma’r hyn sy’n gweithio eisoes; dyma’r hyn y mae angen i ni ei wella', a dylai hynny arwain at sgwrs fwy goleuedig, nid yn achlysurol yn unig wrth i’n digwyddiadau cyhoeddus gael eu cynnal, ond yn ffordd fwriadol wedi’i chynllunio o ymgysylltu â dinasyddion hefyd, ac mae hynny'n bwysig, yr un mor bwysig â siarad â grwpiau staff a'r trydydd sector yn uniongyrchol hefyd. Felly, rwy'n glir iawn, ac rwy'n credu bod y panel hefyd yn glir bod hynny'n rhan o'u cenhadaeth yn ystod yr haf.

Ond yr hyn sydd hefyd wedi’i gynnwys, ac rwy’n troi at eich cyfeiriad at ofal iechyd darbodus, wel, rydym yn gweld eisoes yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, y cynllun yn hynny, ond hefyd ym maes gofal iechyd darbodus, camau sy’n cynnwys ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd fel dinasyddion sy'n gwneud eu dewisiadau eu hunain, yn hytrach na bod dewisiadau yn cael eu gwneud ar eu cyfer. Mae hynny'n glir iawn ac wedi’i nodi yn yr adroddiad, ond hefyd yn y gwaith yr ydym yn ceisio ei wneud i'w gyflwyno ar draws ein system gyfan. Mae hynny hefyd yn arwain at eich pwynt am y sector gofal, lle mae Rebecca Evans eisoes yn arwain y gwaith yr ydym wedi dweud yn gyson yr ydym yn dymuno ei weld yn y sector gofal cyflogedig—i godi statws y proffesiwn, ac mae hynny'n cynnwys yr hyfforddiant a'r buddsoddiad a wnawn yn y gweithle. Rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud am dai fel ffactor allweddol o ran canlyniadau iechyd, yn ogystal â mannau lle y darperir iechyd a gofal cymdeithasol.

Rwyf am gloi gyda’r pwynt hwn, Dirprwy Lywydd, ond mae eich pwynt ynghylch cyfeiriad y teithio yn y dyfodol—. Rwy'n falch o gadarnhau mai’r sgwrs aeddfed a arweiniodd at ddechrau’r adolygiad hwn yn y lle cyntaf yw'r man yr wyf yn dymuno symud ymlaen ohono heddiw a phan fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i ni. Oherwydd os ydym yn credu bod yr heriau yn rhy bwysig i'w hanwybyddu, mae her i bawb yn yr ystafell hon a'r tu hwnt o ran sut yr ydym wedyn yn siarad ynghylch, yn trafod ac yn cytuno ar yr hyn y byddwn yn ei wneud nesaf. Rwy’n disgwyl y bydd yr adolygiad hwn ac ymateb y Llywodraeth iddo yn ffurfio cyfeiriad y teithio ar gyfer rhyw ddegawd arall, ac i wneud hynny, dylem ymgysylltu yn gyfan gwbl ar draws pleidiau ynghylch sut yr ydym yn dymuno dod o hyd i'r meysydd mwyaf ar gyfer consensws a chytundeb ar symud ymlaen. Yr hyn na allaf ei wneud, fodd bynnag, yr hyn na all unrhyw un yn yr ystafell hon ei wneud, yw dweud y bydd yn derbyn popeth ac unrhyw beth y dywed yr adroddiad. Mae'n rhaid i ni gynnal prawf synnwyr ar yr hyn sy’n dod yn ôl am hynny, ac mae'n rhaid i ni ymateb yn agored ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud a pha mor gyflym yr ydym yn credu y gallwn ni wneud hynny gyda'n gilydd. Ond bydd hyn yn sicr yn rhan allweddol o osod y cyfeiriad ar gyfer y dyfodol, a sut y mae pob un ohonom yn ymateb yn y Siambr hon, gan gynnwys, wrth gwrs, y Llywodraeth.

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma, ac fe wnaf innau hefyd ddefnyddio’r cyfle yma i ddiolch i Ruth Hussey a’i thîm am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud hyd yma. Rydw i’n falch iawn ein bod ni mewn sefyllfa rŵan lle rydym ni yn gallu cael y datganiad yma, ac rydw i’n falch o weld y sylw yn y wasg ac ati heddiw i’r adroddiad yma, ond mae’r Ysgrifennydd Cabinet, rydw i’n meddwl, yn iawn i’n hatgoffa ni mai cynnar ydym ni mewn difri yn y gwaith mae’r panel yn ei wneud, ac mai adroddiad interim ydy hwn.

Rydw i’n croesawu nifer o’r canfyddiadau sydd wedi cael eu dwyn i’n sylw ni—mae llawer ohonyn nhw, fel dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr yn eithaf amlwg, ond beth sydd yn bwysig rŵan ydy beth sy’n cael ei wneud o’r canfyddiadau yma wrth i waith y panel barhau, pa fath o argymhellion fydd yn cael eu gwneud ar sail y canfyddiadau, a pha fath o fodelau fydd yn cael eu datblygu. Rydw i’n edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd dros y misoedd nesaf, ond dyna fo.

Er mai adroddiad interim ydy hwn, rydw i’n meddwl bod rhai o’r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn rŵan yn ymwneud â’r camau a all gael eu cymryd rŵan gan y Llywodraeth mewn difri, o ystyried yr hyn glywsom ni gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, yn dweud bod yr achos dros newid yn sut mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu trefnu yn y dyfodol yn gwbl glir erbyn hyn. Wel, os ydy o’n glir, siawns bod yna rai camau y gall y Llywodraeth fod yn eu cymryd rŵan, heb ddisgwyl am yr adroddiad ei hun yn y pen draw.

Mae’r adroddiad, unwaith eto, yn pwysleisio gwerth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol—mi fyddwn i’n ychwanegu at hynny fod integreiddio adrannau tai llywodraeth leol i mewn i hynny yn bwysig hefyd. Ac rydym ni’n gwybod bod yna sylweddoliad o werth integreiddio, ond bod hynny ddim yn digwydd. Felly, er bydd yr adroddiad terfynol yn rhoi rhagor o gig ar yr asgwrn, tybed a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno nad oes rhaid inni efallai aros i’r Llywodraeth ddechrau edrych ar sut y gall y canllawiau, y ‘protocols’, y camau gweithredu i sefydliadau, er mwyn eu galluogi nhw i weithio efo’i gilydd, gael eu tynhau rhywfaint a bod y gwaith yna yn digwydd rŵan.

Ynghlwm â hyn y mae’r broblem o sefydliadau unigol yn cymryd penderfyniadau ynglŷn â’u cyllidebau, sy’n rhai synhwyrol iddyn nhw eu hunain, ond sydd weithiau yn arwain at roi pwysau ychwanegol ar gyllidebau gwasanaethau eraill. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddechrau newid diwylliant o fewn y gwasanaethau cyhoeddus fel bod hyn yn stopio, oherwydd mae hynny’n mynd i fod yn gam pwysig tuag at wireddu’r syniad o integreiddio?

Mae’r adroddiad interim hefyd yn cefnogi llawer mwy o fuddsoddiad mewn gofal sylfaenol—‘primary care’. Rydym ni’n cytuno’n llwyr â hynny. Felly, pa newidiadau i’w adran o all yr Ysgrifennydd Cabinet eu gwneud rŵan er mwyn sicrhau ein bod ni’n dechrau meddwl mwy yn nhermau rhoi gofal sylfaenol yn gyntaf?

Ac yn olaf, mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod gwerth technoleg. Weithiau, nid ydy technoleg, ac yn arbennig y cyflymder newid rydym ni’n ei weld mewn technoleg a’r posibiliadau newydd mewn technoleg, yn cael eu deall yn ddigon da gan reolwyr a chomisiynwyr iechyd, ac o bosib bod hynny wedi golygu nad ydy’r sylw priodol wedi cael ei roi i’r maes yma yn y gorffennol. O ystyried hynny, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn meddwl y dylem ni ddechrau meddwl am bobl broffesiynol ym maes IT a phobl broffesiynol ym maes technolegau eraill—y dylem ni ddechrau eu gweld nhw fel gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n chwarae rôl gwbl allweddol mewn delifro gwasanaethau, gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau yn gweithio a sicrhau bod technoleg yn cael ei chynnwys i’r eithaf mewn llwybrau gofal i gleifion yng Nghymru?

Mi adawaf i’r cwestiynau yn y fan yna. Adroddiad interim, ie. Cam pwysig, ond rydw i’n meddwl bod yna gamau y gall y Llywodraeth fod yn eu cymryd mor gynnar â hyn yn y broses.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at y modelau gofal—y modelau newydd o ofal integredig—y bydd y tîm adolygu yn eu cyflwyno i ni yn eu hadroddiad terfynol, ac rwy'n siwr y byddant yn heriol i ni mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Dyna ran o'r pwynt o sefydlu'r broses. Mae i fod yn heriol ac yn anodd. Mae i fod i ofyn cwestiynau lletchwith i ni.

Mae nifer wedi dod yn ôl at y pwyntiau yr ydych chi ac Andrew wedi eu gwneud ynghylch sicrhau newid a’r anawsterau yn sgil gwneud hynny, yn rhannol oherwydd ei bod yn system fawr a chymhleth. Hyd yn oed yn y sector preifat—roeddwn i’n arfer gweithio mewn cwmni â rhyw 20 o swyddfeydd ledled y wlad—wrth gyflwyno newid o fewn system lle’r oedd pawb wedi’u cyflogi gan yr un sefydliad, byddech yn gweld bod y diwylliant yn wahanol mewn gwahanol swyddfeydd. Roedd cyflwyno un system, i reoli achosion er enghraifft, yn anoddach mewn gwirionedd nag y byddech yn meddwl y byddai. Felly, bydd cyflawni rhywbeth ar draws ein sector iechyd a gofal cymdeithasol—nid iechyd yn unig, ond iechyd a gofal cymdeithasol—yn anodd, wrth reswm, ond yr her i ni yw cydnabod, fel y dywedais yn gynharach, y rheidrwydd i newid a'r ffaith nad ydym wedi gwneud cymaint ag y byddem wedi dymuno ei wneud cyn hyn.

Dylem ni fod yn onest am y ffaith, hyd yn oed ar sail tystiolaeth wirioneddol, fod pob un ohonom yn cael ein tynnu i wahanol gyfeiriadau gan bwysau lleol. Bob tro y mae cynnig gwasanaeth sylweddol ar gyfer newid, wrth reswm, bydd pwysau ar Aelodau o bob plaid i ymladd yn lleol ac i ddweud bod rheswm gwahanol pam na allai neu pam na ddylai newid ddigwydd. Nawr, mae'n rhaid i ni fod yn barod i gydnabod hynny, a phan fydd y modelau gofal newydd hynny yn cael eu cyflwyno i’w hystyried, a'r awgrym ac argymhelliad gan y panel adolygu eu bod yn wedyn yn cael eu treialu ac wedyn eu cyflwyno’n sylweddol ac yn gyflym ledled y wlad, bydd hynny’n anodd i bob plaid, nid dim ond i un yn y Siambr hon, ac i bobl leol mewn amrywiaeth o wahanol ardaloedd. Ond yr her fel arall yw ein bod yn mynd yn ôl i, 'Wel, mewn gwirionedd, rydym yn arafu cyflymdra y newid ac rydym yn caniatáu i newid ddigwydd i ni yn hytrach na gwneud dewis goleuedig am yr hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yn wahanol'. Mae hynny'n mynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi wedyn.

Rwy'n credu bod gennych bwynt diddorol ynghylch sut yr ydym yn cymell neu’n mynnu integreiddio yn y system iechyd—mewn gwirionedd, rhwng gwahanol rannau o'r gwasanaethau eilaidd a gwasanaethau aciwt eraill, yn ogystal â gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond hefyd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill hefyd. Mae rhywfaint o hynny eisoes yn digwydd. Mae gennym gyllidebau cyfun yn dod i mewn i’r cynllun yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf mewn nifer o wasanaethau. Mae gennym fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau rhanbarthol sydd eisoes yn cydweithio fel partneriaethau ac yn gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud, os mynnwch chi, â’r ymagwedd o'r gwaelod i fyny fwy real, lle mae pobl yn eistedd gyda'i gilydd ac yn sylweddoli y gallent ac y dylent wneud mwy gyda'i gilydd, a bod mwy o werth i'w gael wrth i’r amryw gyllidebau hynny yn y sector cyhoeddus weithio ar y cyd â’r broses o wneud penderfyniadau.

Yr hyn y mae'r adolygiad hefyd yn ei nodi yw bod hynny, ar ei ben ei hun, yn annhebygol o fod yn ddigon. Felly, mae digon yn gyffredin yn y fframwaith canlyniadau, y cymwyseddau a'r dangosyddion perfformiad allweddol yr ydym yn eu gosod i bobl ar draws gwahanol sectorau i alluogi a gorfodi pobl i gydweithio ar yr un pryd. Mae gennym hefyd yr her o weithio gyda'r heddlu—y grŵp amlycaf sydd heb ei ddatganoli sydd â buddiant gwirioneddol mewn canlyniadau iechyd a gofal, ac sy’n effeithio arnynt. Felly, mae hynny hefyd yn cyfrannu at rai o'r camau yr ydym eisoes wedi eu cymryd wrth, er enghraifft, gymell gofal sylfaenol i gydweithio'n wahanol. Rydym wedi ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gyda'i gilydd mewn clystyrau. Cawsom bwyntiau a oedd yn dibynnu ar gyfraniad y fframwaith ansawdd a chanlyniadau, ond hefyd arian a oedd yn gysylltiedig â hynny. Felly, yr oedd yna gymhelliant hefyd i ddweud, 'Dyma’r arian. Cewch chi ddewis sut yr ydych yn ei wario yn lleol i ddiwallu anghenion eich poblogaeth leol.’ Felly, mae rhywfaint o hynny eisoes yn digwydd ac mae'r tîm adolygu yn gadarnhaol am waith y clystyrau. Yr her unwaith eto yw: sut ydych chi wedyn yn deall beth yw arloesi lleol, ac yna sut ydych chi'n cyrraedd y pwynt o werthuso hynny a phenderfynu beth i'w wneud, beth y dylid gwneud mwy ohono, ac yna beth i beidio â buddsoddi ynddo, hefyd? Dyna’r dewis mwy anodd y mae’n rhaid i ni ei wneud yn aml.

Yn olaf, ynglŷn â’r maes arbennig hwn, rwyf eisoes wedi gwneud gofynion, ac yn disgwyl i rai pethau ddigwydd. Rydym yn gwybod ein bod wedi cael her o ran gweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd. Dyna pam y mae Hywel Dda ac ABM yn cydweithio. Maen nhw wedi cael cyfarfod cydgynllunio eisoes ac maen nhw wedi bod yn gall ac yn ddoeth iawn, gan dderbyn fy ngwahoddiad i gwrdd yn rheolaidd i gydgynllunio gwasanaethau—ac mae'r un peth yn wir yn y de-ddwyrain hefyd, gyda Cwm Taf, Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro. Oherwydd bod yna wasanaethau, mewn gwirionedd, nid yn unig yn y rhai arbenigol, ond yn y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau dewisol arferol hefyd, lle y gellid ac y dylid cynllunio ar draws y ffiniau hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn gwneud synnwyr. Ac os na allwn ni ysgogi’r math hwnnw o waith yn ein gwasanaeth, rydym yn annhebygol o weld y math o newid sylweddol yr ydym yn dymuno ei weld, ac yr ydych chi a fi a phawb arall yn yr ystafell hon yn credu ei fod yn angenrheidiol ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.

Mae hynny’n rhan o sut a pham yr ydym yn buddsoddi mewn gofal sylfaenol, y dewis yr ydym eisoes wedi ei wneud, ond mae angen mwy o hynny gan fod y pwysau bron bob tro i fuddsoddi mewn staff a gwasanaethau drud mewn ysbytai. Mae angen i ni wneud mwy i gynnal llinell a gweld y buddsoddiad hwnnw yn dod i ofal sylfaenol a gofal yn y gymuned. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed yn dda gennych yn tynnu sylw at dechnoleg a'r gallu nid yn unig i gael dull ‘unwaith i Gymru’ mewn systemau allweddol, nid yn unig i gael system lle gallwch chi drosglwyddo gwybodaeth rhwng y sector gofal sylfaenol a gofal eilaidd a gofal cymdeithasol, ond hefyd i’r dinasyddion eu hunain gael mwy o reolaeth dros eu gwybodaeth a mynediad at sut i ddefnyddio'r system. Rydym eisoes yn gallu gwneud hynny mewn cynifer o wahanol elfennau o fywyd. Gallwch fancio ar-lein a chael mynediad at wybodaeth sensitif iawn. Yr her i ni yw: sut ydym ni’n galluogi dinasyddion i gael mynediad at eu gwybodaeth gofal iechyd eu hunain mewn ffordd a ddylai eu helpu i reoli eu cyflyrau eu hunain a gwneud dewisiadau mwy goleuedig? Mae potensial gwirioneddol yno, ond unwaith eto, mae angen i ni fodloni llawer yn well y disgwyliadau o ran sut y mae pobl eisoes yn byw eu bywydau ac rwy’n dymuno galluogi hynny i ddigwydd yn gyson ledled y wlad hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn fynd ar drywydd y pwynt ar ymgysylltu â'r cyhoedd. Nid ydym wedi bod yn brin o ddadansoddiad arbenigol dros y degawd diwethaf, mwy neu lai, ar yr heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru, ond un o'r pethau y mae'r system wedi ei weld yn heriol dros ben i’w wneud yw ymgysylltu â chymunedau. Mae Llanelli yn astudiaeth achos enwog ar sut i beidio â gwneud hynny, wrth ail-lunio'r gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip, a, gan roi clod mawr i'r tîm yno, maen nhw’n astudiaeth achos ar sut i wneud hynny, o ran y ffordd y gwnaethon nhw wedyn fynd yn ôl i’r dechrau, a gwrando ar y clinigwyr a'r gymuned wrth ddod o hyd i ateb newydd, sydd bellach yn cael ei weld fel model ar gyfer lleoedd eraill.

Rwyf wedi fy synnu’n arw yn yr wythnosau diwethaf gan y newidiadau yr ydym yn eu gweld mewn gofal sylfaenol, lle mae meddygfeydd yn gorfod cau rhestrau neu orfod rhoi eu contractau yn ôl, ac mae'r ffordd y mae hynny’n cael ei gyfleu i’r cleifion yn gadael cryn le i wella. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â phrif weithredwr Hywel Dda i drafod, ac mae ef yn deg yn nodi mai busnesau sy’n cael eu rhedeg yn breifat yw’r rhain—pwynt nad yw wedi ei ddeall yn dda iawn, yn fy marn i, ymhlith y cyhoedd—a does dim llawer y gall y bwrdd iechyd ei wneud os nad yw’r busnesau preifat hyn yn fodlon cydweithredu. Y meddygfeydd hyn sydd yn aml yn cyfathrebu’r negeseuon anodd hyn drwy ddulliau amherffaith. Felly, er enghraifft, poster ar y drws fel rhybudd i bobl bod y feddygfa ar gau i gleifion newydd.

Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym am gam nesaf y gwaith, sut mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn mynd i fod yn rhan annatod o’r dull sydd ei angen, a hefyd a yw’r modelau yr ydym yn gweithio â nhw yn mynd i gael eu hadolygu yn rhan o hynny, oherwydd os oes gennym ni fodel gofal sylfaenol sy'n dibynnu ar fusnesau preifat, a fyddent neu efallai na fyddent yn awyddus i gydweithredu â'r agenda hon, a yw hi'n bryd i edrych eto ar y model hwnnw?

Diolch i chi am y cwestiwn; mae'n un yr wyf wedi ei drafod yn flaenorol gyda'r Aelod dros Lanelli, ac nid, i fod yn deg, o ran ei etholaeth ei hunan yn unig—nid ynglŷn ag Ysbyty’r Tywysog Philip yn unig, lle, fel y gwnaethoch gydnabod, yr oedd enghraifft dda o’r hyn i beidio â’i wneud, yn ogystal â'r ffordd y cafodd hynny wedyn ei gyflawni'n llwyddiannus, ac mae'r un peth yn wir yng Nghydweli hefyd, mewn rhai ffyrdd. Mae yna neges bwysig iawn yma, yn fy marn i, am fod yn gallu siarad â'r cyhoedd yn ddigon cynnar, ond mewn ffordd sy’n golygu bod ganddyn nhw ffydd yn nharddiad y neges. Mae gennyf i gyfrifoldebau cenedlaethol nad wyf yn bendant yn ceisio cerdded i ffwrdd oddi wrth gontract i’w hosgoi. Rwy'n hapus iawn i ysgwyddo’r cyfrifoldebau hynny; dyna yw braint y swydd. Ond yn yr un modd, os nad yw clinigwyr yn rhan o hynny, mae'n ei gwneud yn anodd iawn i bobl ymddiried yn y wybodaeth a'r hanfodion ar gyfer newid, ac mae gwir angen sgwrs sydd nid yn unig rhwng y gwasanaeth iechyd ar ffurf pobl sydd yn brif weithredwyr ac aelodau gweithredol o’r bwrdd. Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i wneud hynny, oes, ond mewn gwirionedd, clinigwyr lleol y mae pobl yn gyfarwydd â’u gweld ac yn ymddiried ynddynt. Oherwydd fel arall, nid wyf yn credu bod pobl yn ymddiried yn y rheswm a'r rhesymeg.

Mae'n hawdd deall pam mae aelodau o'r cyhoedd yn reddfol amheus a bron bob amser yn meddwl mai’r rheswm cyntaf yw, 'Mae hyn yn ymwneud ag arian, ac nid ydych yn fodlon gwario arian ar y gwasanaeth,' yn hytrach na’i fod yn ymwneud â llawer iawn mwy nag arian, ac mae yna bethau hyd yn oed pe byddem ni mewn cyfnod o ddigonedd o ran gwariant gwasanaethau cyhoeddus, byddai angen newid rhai o'r ffyrdd yr ydym yn darparu gofal, ac mae hynny'n rhan o'r her y byddwn yn ei hwynebu. Os na allwn ymgysylltu â’n cymunedau clinigol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol i fod yn rhan o'r sgwrs honno, rydym yn annhebygol o weld newid ar y cyflymder a’r raddfa y dywedir wrthym, unwaith eto, sy’n gwbl hanfodol i ddyfodol ein system iechyd a gofal.

Dyna pam mae hi’n bwysig, fel y dywedais wrth ymateb i Angela Burns, yn y cam nesaf, mai’r grŵp mwyaf a phwysicaf o randdeiliaid fydd y cyhoedd—ymgysylltu dinasyddion eu hunain cymaint â phosib yn y sgwrs. Rwy'n credu bod y ffordd y mae hyn wedi ei drafod heddiw wedi bod yn ddefnyddiol yn hynny o beth, ond gadewch i ni beidio ag esgus mai hon fydd yr eitem gyntaf ar yr agenda newyddion am y chwe mis nesaf. Fe fydd her o ran sut yr ydym yn gwneud yn siwr bod ymgysylltu yn real ac yn ystyrlon, hyd yn oed os ydym yn onest yn derbyn nad yw pob person yng Nghymru sydd â budd heddiw yn ymgysylltu yn yr un ffordd pan ddaw, dyweder, mis Tachwedd, pan fydd yr adroddiad yn cael ei lunio a’i baratoi i ddod yn ôl atom ni, ond nid yw honno'n ddadl a all ddod i ben bryd hynny. Nid yw’n syml yn fater o gael yr adroddiad a dweud, 'Iawn, dyna ni. Nid oes gennym ddiddordeb mewn unrhyw un arall.’ Mae rhaid i’r ymgysylltu fod yn broses barhaus, ac mae hyn yn mynd yn ôl i’ch pwynt chi am y ffordd y mae pobl yn cymryd rhan mewn newid ar lefel leol, ac yn aml mae pobl yn synnu clywed bod newid yn ofynnol neu'n angenrheidiol neu wedi ei gynnig, a'r ymateb cyntaf yw brwydro yn erbyn y newid hwnnw, ac eto, rwy’n deall hynny’n llwyr. Mae'n ymateb a geir ym mhob un cymuned ym mhob rhan o’r wlad.

Os nad ydym yn llwyddo i gael clinigwyr i ymgysylltu mewn ffordd fwy agored i drafod a dadlau’r materion hyn gyda'r cyhoedd, nid ydym yn mynd i weld y newid hwnnw o gwbl, ac o ran eich pwynt am y model gofal sylfaenol, mae newid eisoes yn digwydd. Mae rhai ohonoch chi’n gweld hyn fel tipyn o fygythiad i'r model contractwyr annibynnol. Wel, mewn gwirionedd, mae’r newid mwyaf i'r model hwnnw yn dod oherwydd newydd ddyfodiaid i'r proffesiwn, llawer ohonynt nad ydyn nhw eisiau dilyn y ffordd honno o weithio, naill ai oherwydd nad ydyn nhw’n dymuno prynu i mewn i adeilad a rhwymedigaethau posibl hynny ar gyfer y dyfodol, neu oherwydd eu bod yn syml eisiau bod yn fwy hyblyg ynghylch eu gyrfa. Nid yw pob person sy'n dod allan o hyfforddiant i fod yn feddyg, neu unrhyw fath arall o broffesiwn gofal iechyd, yn awyddus i ddweud, 'Rwy'n ymrwymedig i fod mewn un gymuned am weddill fy mywyd gwaith fwy neu lai.’ Mae angen i ni gydnabod y newid hwnnw a dod o hyd i ffordd i ganiatáu i’r modelau gwahanol hynny o ofal weithio. Ac i fod yn deg, rwy’n credu mewn gwirionedd fod Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a'r BMA yn bod yn ymarferol iawn ynghylch y drafodaeth honno, gan gefnogi eu haelodau sydd eisiau cynnal y model contractwyr annibynnol, ac ar yr un pryd, galluogi’r aelodau eraill hynny o’u cyrff aelodaeth i ddod o hyd mewn gwirionedd i ffyrdd gwahanol o weithio gyda byrddau iechyd yn y tîm amlddisgyblaethol ehangach hwnnw. Felly, rwyf wir yn credu bod achos am rywfaint o obaith, ond nid yw hynny'n golygu y bydd hynny'n gwneud pethau’n hawdd.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i Dr Ruth Hussey a'r panel am roi diweddariadau rheolaidd i mi a fy nhîm ar gynnydd yr adolygiad. Mae'r adroddiad interim yn nodi'n blaen yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym ar hyn o bryd mewn cyfnod o esblygu gyda'n systemau iechyd a gofal: rydym yn addasu neu rydym yn marw. Nid yw hon yn broblem y gellir ei datrys drwy daflu arian ati. Fel y mae Dr Hussey yn nodi’n gywir, mae'n rhaid i ni wneud newidiadau systemig brys i'r ffordd yr ydym yn darparu gofal. Mae'n rhaid i ni weithio’n gallach. Mae'n rhaid i ni wario’n gallach. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu'r adroddiad interim hwn a'r canfyddiadau a nodir gan Dr Hussey a'i thîm. Erbyn hyn mae gennym farn llawer cliriach o'r her sy'n ein hwynebu ni fel cenedl a'r her sy'n ein hwynebu ni fel gwleidyddion.

Rwy’n argyhoeddedig bod yn rhaid i ni newid y ffordd yr ydym yn darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Ein cyfrifoldeb ni yma, yn y Siambr hon, bellach yw argyhoeddi'r cyhoedd am yr angen i newid ac i ymgysylltu â nhw wrth gynllunio ein system iechyd a gofal yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu annog cymaint â phosibl o aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn yr adolygiad seneddol?

Mae'r panel yn awgrymu y gallai nifer newydd o fodelau gofal gael eu treialu a'u gwerthuso. Ysgrifennydd y Cabinet, os gallwch chi ateb ar hyn o bryd, pa mor hir y bydd y treialon yn weithredol, a sut ydych chi’n bwriadu cynnal treialon o'r fath ar yr un pryd?

Pa bynnag fodelau gofal newydd y byddwn yn eu mabwysiadu, byddant i gyd yn dibynnu ar dechnoleg newydd a data a rennir. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i wella Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i sicrhau y gall addasu i anghenion y dyfodol?

Sut bynnag y darperir gofal, mae angen gweithlu arnom i'w gyflawni. Mae angen i ni annog mwy o bobl ifanc i fod yn feddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a fferyllwyr. Mae hefyd angen arbenigwyr mewn dysgu peirianyddol a data mawr, arbenigwyr rhwydwaith cyfrifiadurol a rhaglenwyr.  Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM er mwyn sicrhau bod gennym y gweithlu sydd ei angen arnom yn y dyfodol?

Mae'n hanfodol ein bod yn cyflawni'r newidiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl os ydym am sicrhau y bydd gan genedlaethau'r dyfodol system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n diwallu eu hanghenion. O ran ein seilwaith, fel y soniwyd yn flaenorol, os yw pobl yn mynd i gael eu hannog i aros yn eu cartrefi, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i gydnabod anghenion newidiol mewn rheoliadau adeiladu i ddarparu ar gyfer anghenion pobl anabl. Mae ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn mynd i orfod newid hefyd yn y dyfodol.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r adolygiad seneddol dros y misoedd nesaf, i dderbyn yr adroddiad terfynol, a gweithio gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni'r argymhellion a nodwyd gan Dr Hussey a'r panel. Diolch yn fawr. Diolch.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Gwnaf hyn gan ddechrau gyda’r olaf.  Unwaith eto, rwy’n cydnabod y pwyntiau ynghylch tai, ond rydych yn gwneud pwynt ynghylch trafnidiaeth ac anghenion trafnidiaeth, i arbenigwyr mewn canolfannau ysbyty, ond hefyd o ran mynediad corfforol i ofal lleol a sut y cyflawnir hynny, a faint fydd yn cael ei gyflawni mewn canolfannau y mae pobl yn teithio iddynt, a faint fydd yn y cartref. Mae hynny'n hanfodol a, byddwn i’n dweud, hefyd yn gysylltiedig â'r ffordd yr ydym ni’n darparu teleiechyd a gwneud hynny yn llawer mwy hygyrch a chyffredin. Mae gennym eisoes enghreifftiau da o hynny ac, eto, bydd hyn yn ychwanegu at sylwadau Rhun ap Iorwerth yn gynharach ar y pethau y gallem ni eu gwneud ar hyn o bryd. Ac, mewn gwirionedd, mae darparu dull mwy heriol o weithredu teleiechyd, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn un o'r pethau rwy’n credu y gallwn ni ei wneud, a byddwn i'n synnu os nad yw hynny'n rhan o'r drafodaeth derfynol yn yr adroddiad a'r argymhellion.

O ran eich pwynt am addysg ac annog pobl i astudio gwahanol bynciau, wel, wrth gwrs, mae hwnnw yn safbwynt a gymerir ar draws y Llywodraeth, nid dim ond drwy'r cwricwlwm cyn-16 a’r blynyddoedd cynnar, y mae gan Alun Davies a Kirsty Williams ddiddordeb uniongyrchol ynddynt. Mae’n ymwneud hefyd â’r ffordd yr ydym yn paratoi ac yn annog pobl, yn cynnig gofal plant a’r hyn y mae hynny'n ei wneud i wella cyrhaeddiad pobl ac agweddau eraill ar y dyfodol, yr holl ffordd drwy addysg yn yr ysgol a thu hwnt, lle, mewn gwirionedd, mae pobl wedyn yn gwneud dewisiadau gwahanol am yr hyn y maent yn dymuno ei wneud. Mae rhywbeth eto am y cwricwlwm ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Maent yn dilyn eu hyfforddiant eu hunain. Os ydym yn dymuno i bobl weithio mewn ffordd wahanol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, yna mae angen iddynt gael eu hyfforddi i weithio yn y ffordd honno wrth ymgymryd â'u cymwysterau hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwyntiau sy'n cael eu gwneud yn y fan yna.

O ran NWIS, sef Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, mae her yn y fan yna, a nodir yn yr adroddiad, ynglŷn â sut y maent yn addasu i anghenion y dyfodol, ac mae'n fwy na dim ond y pwyntiau a godwyd gan Angela Burns a Rhun ap Iorwerth. Mae hefyd yn ymwneud â'r gallu i feddwl mewn gwirionedd am sut rydym yn paratoi hynny, nid dim ond am ddarparu dulliau ‘unwaith i Gymru’ a gwneud yn siŵr bod byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cefnogi hynny, ond sut y mae mewn gwirionedd yn llwyddo i gynnal y gwaith sydd wedi ei wneud eisoes. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod llawer o'r hyn y mae NWIS yn ei wneud yn cynnal yr hyn sy'n bodoli eisoes, ac nid yw’r cyfle iddo ddatblygu a chyflwyno systemau newydd bob amser yn rhwydd—y gallu ac, os mynnwch chi, y capasiti a'r grym i wneud hynny. Mae'n gofyn rhai cwestiynau yn yr adroddiad am faint y mae'n ymwneud â datblygu naill ai gapasiti mewnol neu mewn gwirionedd yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â datblygwyr meddalwedd eraill sy'n gweithio i gomisiwn a ddarperir gan NWIS. Rwy’n credu bod hynny'n sgwrs synhwyrol iawn i gymryd rhan ynddi ac i fwrw ymlaen â hi.

O ran eich pwynt am ba mor hir y bydd y treialon yn weithredol ar y modelau gofal newydd, nid wyf mewn sefyllfa i ateb hynny. Ni wn hyd yn oed beth yw’r modelau gofal newydd eto. Yn bendant nid wyf wedi gweld copi ymlaen llaw o'r adroddiad sydd i’w gyhoeddi ymhen pump neu chwe mis, rwy’n eich sicrhau chi o hynny. Ond pan gaiff ei gyflwyno, cawn ni wedyn syniad gan y panel ei hun pryd yn union y byddai angen i ni aros nes cael digon o dystiolaeth i chwilio am newid ar draws y system i’r ffordd o ddarparu gwasanaethau. Felly, bydd yn rhaid i ni i gyd aros am rai misoedd eto i weld beth fydd y treialon, heb sôn am ba hyd y byddant wedyn yn weithredol.

O ran y pwynt am ymgysylltu â'r cyhoedd, eto, soniodd siaradwyr blaenorol am hyn hefyd, ac rwy’n sicr yn cydnabod bod angen i ni ystyried sut yr ydym yn gwneud hynny yn fwriadol ac yn benodol. Rwy'n credu bod galw ar y cyhoedd ac annog y cyhoedd i gymryd rhan yn un peth, nid yn unig am yr hyn yr ydym wedi ei wneud heddiw, ond wrth ymgysylltu yn y dyfodol hefyd. Nid wyf i’n credu bod neb o ddifrif yn disgwyl i mi guro ar bob drws yn y wlad a gofyn i bobl ymateb i'r adolygiad seneddol. A dweud y gwir, ni fyddai rhai pobl eisiau fy ngweld ar garreg eu drws o bosibl. Ond mae’r pwynt ehangach hwnnw am yr holl wahanol weithredwyr yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, a sut maen nhw’n rhan o fod eisiau pobl i ymgysylltu hefyd. Mae gan y trydydd sector gwmpas mawr, o bosibl, yn eu rhwydweithiau cymorth ac ymgysylltu eu hunain mewn ffyrdd nad oes gan sefydliadau eraill. Gallent fod yn bwysig iawn wrth gael y cyhoedd i gymryd rhan, dadlau a thrafod y syniadau hyn. Y peth olaf y byddaf yn ei ddweud yw, er nad wyf yn cytuno’n llwyr â'ch cyfatebiaeth â Darwiniaeth ac a fydd newid yn digwydd i ni neu a fyddwn yn gwywo, y pwynt am hyn yw bod gennym ddewis i’w wneud. Yn wahanol i’r bobl lle mae newid yn digwydd iddynt yn y broses esblygu honno, mae gennym ddewis gwirioneddol i’w wneud am y ffordd yr ydym yn dewis newid ein system neu a ydym yn eistedd yn ôl a chaniatáu i newid ddigwydd i ni. Rwy'n credu’n llwyr y dylem ddewis beth i'w wneud gyda’n dyfodol tra bod y gallu gennym i wneud hynny, ac nid aros i rywun arall wneud y newid hwnnw i ni.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a diolch i Dr Ruth Hussey am ei gwaith caled—hi a'i thîm—hyd yn hyn? A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, fodd bynnag, bod angen gweithredu ar frys ar rai materion yn awr? Rydym wedi clywed rhai ohonynt gan Rhun ac eraill, ond, yn benodol, recriwtio a chadw staff meddygol iau yn ein hysbytai. Nawr, ar ôl cymhwyso, byddwch yn peidio â bod yn fyfyriwr meddygol ac rydych chi’n mynd yn feddyg iau mewn ysbyty—bydd pawb yn feddyg iau mewn ysbyty, mewn geiriau eraill—cyn i chi barhau â hyfforddiant pellach i fod yn llawfeddyg ymgynghorol, meddyg teulu, meddyg ymgynghorol, neu beth bynnag. Felly, daw ein cronfa o feddygon o hynny. Ond mae ein meddygon iau o’r farn nad oes neb yn poeni amdanynt ar hyn o bryd, ac nid yw eu hymrwymiad aruthrol i’w galwedigaeth yn cael ei gydnabod gan reolwyr mewn ysbytai ar bob lefel, wrth iddynt ymdopi â llwythi gwaith enfawr, bylchau yn y rota, penderfyniadau risg uchel sy’n gallu golygu bod rhywun yn byw neu’n marw, ac yn gorfod brwydro am amser i ffwrdd i astudio a sefyll arholiadau a hyd yn oed amser i ffwrdd i briodi. Nawr, nid dyna oedd y sefyllfa yn fy nghyfnod i fel meddyg iau mewn ysbyty, a oedd beth amser yn ôl erbyn hyn, mae’n rhaid i mi gyfaddef. Ond, Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydym ni’n mynd i'r afael â'r materion hyn heddiw?

Diolch. I fod yn deg, mae'n fater sy'n cael ei godi yn rheolaidd gan y coleg brenhinol a'r BMA hefyd. Yr hyn a ystyriaf yn ddefnyddiol, ac eto, yn wahanol, ac i raddau sy’n rhoi cyfle i ni, yw bod ein perthynas ni yn wahanol o’i gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ar draws y ffin mae'n berthynas llawer mwy gwrthwynebol. Mae hwnnw'n bwynt sy'n cael ei godi yn rheolaidd gan y meddygon iau eu hunain. Yr her yw sut yr ydym yn elwa ar hynny a chymryd mantais briodol o hynny ac yn annog pobl i ddod yma i weithio ac i aros ac, yn yr un modd, nad ydynt yn dweud hynny, gan nad Jeremy Hunt ydw i, bod popeth yn iawn, oherwydd mae heriau gwirioneddol yma. Mae'r adroddiad yn cydnabod unwaith eto rai o'r cyfleoedd sy'n bodoli o ran e-amserlennu, o ran rhoi gwahanol ddewisiadau i bobl ynghylch sut i reoli eu bywydau eu hunain, pan fydd gan bobl gyfrifoldebau eraill yn aml, ac nid eu gwaith yn unig. Unwaith eto, rydych chi’n sôn am ‘yr hen ddyddiau '. Rwyf yn petruso cyn dweud pa mor bell yn ôl oedd hynny.  Ond, yn y gorffennol, roedd pobl yn disgwyl gweithio oriau hir iawn, ac roedden nhw’n derbyn mai dyna oedd yn rhaid ei wneud. Ar hyn o bryd, mewn gwirionedd, boed hynny’n golygu dynion neu ferched y gweithlu, mae llawer o bobl â gwahanol gyfrifoldebau y tu allan i'r gwaith—gyda theuluoedd, yn benodol—yn gwneud dewisiadau gwahanol. Felly, nid ydych yn dod o hyd i feddygon sy'n barod i ddweud, 'Rhywun arall fydd yn magu fy mhlentyn i tra fy mod i yn y gwaith am 80 awr yr wythnos'.

Felly, mae angen i ni ystyried yn briodol y ffordd yr ydym ni’n rheoli hynny, a nifer y bobl yr ydym ni ei hangen yn ein gweithlu i sicrhau bod yr holl system yn gweithio. Rwy’n derbyn y pwynt yr ydych chi’n ei wneud am y ffordd wahanol y mae’r byrddau iechyd yn ymgysylltu â'u meddygon iau. Mae hwnnw’n fater a gyflwynwyd imi gan randdeiliaid, ac yn fater sy'n gyfarwydd o fewn y gwasanaeth, am y gwelliannau y mae angen iddyn nhw eu gwneud hefyd—ond hefyd y pwynt am seibiant i astudio a sut y gallwn feddwl yn greadigol am sut i wneud rhywbeth a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran pobl yn dewis aros yn y proffesiwn ac yn y wlad hon hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Credaf mai’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’n poblogaeth oedrannus yn y dyfodol fydd y ffordd y byddwn ni’n cael ein barnu fel cenedl, felly mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn. Rwy'n credu bod rhai arbenigwyr blaenllaw iawn ar y bwrdd adolygu hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu hargymhellion terfynol. Ond rwy'n credu bod un peth wedi dod i’r amlwg yn glir iawn yn yr adroddiad hwn, ac mewn rhai eraill, a hynny yw bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy oherwydd yr heriau demograffig yr ydym ni’n eu hwynebu. Felly, yr hyn sydd ei angen yw rhywfaint o syniadau radicalaidd. Rwyf wastad wedi bod o'r farn y dylai gofal am yr henoed ffurfio rhan o strategaeth datblygu economaidd, yn ogystal â bod yn strategaeth gymdeithasol ac iechyd. Mae rhai o'r syniadau yr ydym wedi bod yn eu cynnig mewn cynlluniau peilot yn y cynllun datblygu economaidd ar gyfer Cymru wledig yn gwneud hynny. Mae'n dwyn ynghyd y syniad hwn o ddatblygiad economaidd a gofal yn rhan o un peth. A byddwn i’n annog y Gweinidog i siarad â'i gydweithwyr am sut y gallwn gael dull Llywodraeth gyfan o weithredu ar hyn yn gynhwysfawr; ni all fod yn gyfyngedig i faes iechyd a gofal yn unig. Mae'n rhaid i ni ei ymestyn y tu hwnt i hynny.

Nawr, yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf hefyd wedi dod â grŵp o arbenigwyr at ei gilydd i feddwl am rywfaint o syniadau creadigol ar y modd yr ydym ni’n mynd i'r afael â mater gofal yng Nghymru yn y tymor hir. Ac rwy’n credu ein bod ni’n ymwybodol iawn eich bod yn ymladd â thân, a bod problem yn bodoli nawr, mewn gwirionedd. Rydym ni’n ceisio meddwl yn ehangach mewn awyrgylch lle gallwn ni ddweud pethau sy'n anodd eu dweud. A’r hyn yr ydym ni wedi ei wneud, yn dilyn trafodaeth gyda chadeirydd y tîm adolygu seneddol, yw canolbwyntio ar y meysydd lle nad yw'r adolygiad wedi canolbwyntio arnynt. Felly, er gwaethaf yr awgrym yn yr adroddiad interim fod angen cynllunio cyfalaf, nid yw mewn gwirionedd yn canolbwyntio ar fater adeiladau a thai sy’n ymwneud â gofal, er y cydnabyddir y bydd yn rhaid gwneud mwy o ofalu yn y cartref. Ac, yn dyngedfennol, nid yw'r adolygiad hwn yn edrych ar fater ariannu gofal, chwaith.

Felly, yn fy marn i, dylem ni, yng Nghymru, fod yn arwain. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni ddod o hyd i atebion i'r cwestiynau anodd hyn. Ond dim ond trwy gydweithio ar y materion hyn y llwyddwn ni i wneud hynny, ac mae'n rhaid myn y tu hwnt i Blaid Cymru a’r Blaid Lafur. Rwy'n hynod falch ein bod ni eisoes yn ymestyn y tu hwnt i hynny. Ond mae'n rhaid i ni ateb i hyn yn drawsbleidiol neu, yn syml, ni fyddwn yn dod o hyd i ateb, oherwydd maent yn sgyrsiau anodd iawn iawn i’w cael â'r cyhoedd.

Ac yn olaf, ar y pwynt hwnnw o gyfathrebu, mae'n rhaid i ni werthfawrogi bod cyfathrebu gyda'r cyhoedd—. Wyddoch chi, mae cymaint o bobl nad ydynt yn deall bod yn rhaid i chi dalu am eich cartref gofal eich hun erbyn hyn. Nid ydyn nhw’n gwerthfawrogi hynny. Felly, os ydym yn awgrymu rhywbeth gwahanol, yna mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol, mae’n rhaid i bobl fod yn ymwybodol, o'r sefyllfa bresennol cyn i ni awgrymu pethau eraill yn y dyfodol.

Ac yn olaf—

Dim ond i gloi, o ran fy nghwestiwn i, roedd adroddiad yr wythnos hon nad oedd 32 y cant o ofalwyr hirdymor wedi cael diwrnod i ffwrdd ers pum mlynedd. A yw hyn yn rhywbeth y dylid hefyd rhoi sylw iddo?

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Unwaith eto, yn yr adroddiad, un o'r ffactorau sydd wedi ei gydnabod yw’r ehangu sylweddol o ran ein poblogaeth hŷn—rydym yn mewnforio pobl hŷn sydd eisiau ymddeol yng Nghymru, yn ogystal â’r ffaith bod mwy o bobl sydd wedi bod yma am gyfnod hwy o amser yn syml yn byw'n hirach. Fel y dywedais, mae'n destun dathlu, ond mae'n golygu her i ni. Ac rwy’n credu ei fod yn deg dweud, mewn trafodaethau, nid yn unig gyda'r Gweinidog, Rebecca Evans, ond hefyd gyda Ken Skates, bod cydnabyddiaeth o werth economaidd y sector gofal, gan gydnabod ei fod yn gyflogwr mawr yn barod, ac, os ydym ni’n gwella amodau gwaith a chyflog y bobl yn y sector hwnnw, mae 'na effaith economaidd hefyd, ac yn aml, yn fras, ar gyfer pobl dlotach. Mae’r bobl sy'n gweithio yn y sector gofal yn tueddu i beidio â bod yn bobl sydd â chefndir o fantais economaidd sylweddol—yn sicr y rhai sy’n gweithio i’r sector gofal cyflogedig—ac mae rhywbeth ynghylch codi statws y proffesiwn, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i Angela Burns, a hefyd yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran helpu'r sector i ddeall mewn gwirionedd beth fydd hyn yn y dyfodol. Dyna pam mae pethau fel datganiadau am sefyllfa’r farchnad yn bwysig o ran bwrw ymlaen â chynllun y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, fel y gall pobl wneud dewisiadau a phenderfyniadau am y dyfodol, boed yn gwmnïau bach annibynnol o fewn y sector neu’n weithredwyr mwy hefyd.

Y pwynt am gynllunio cyfalaf—mae hyn yn ymwneud â'r ystad iechyd a gofal. Nid yw hynny’n golygu cartrefi pobl—wyddoch chi, lle mae pobl yn adeiladu ardaloedd i ddarparu iechyd a gofal mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd, ac, wrth gwrs, mewn gofal preswyl hefyd. Ond bydd angen meddwl, unwaith eto, am ein safonau ansawdd tai, gan nad yw ein cymdeithasau tai ond yn darparu’n unig, os mynnwch chi, dai cymdeithasol safonol ar gyfer pobl i fyw ynddynt. Mae llawer o'r tai a ddarperir ganddynt yn gartrefi gofal, ac maen nhw’n darparu llawer o ofal ychwanegol erbyn hyn hefyd. Mae hon yn nodwedd sy'n datblygu, a dyma fydd yr her: ai’r hyn sy’n cael ei greu yw’r hyn y credwn, o ddifrif, sy’n mynd i ddiwallu anghenion y boblogaeth bresennol ac ymhen pump a 10 mlynedd, ac yn hwy hefyd? Ac mae honno’n her nid o ran sut mae pobl yn gweithio ar draws y Llywodraeth, ond â phartneriaid y tu allan i'r Llywodraeth hefyd.

Ar eich pwynt am ariannu, fe wnaethon ni ddiystyru hynny’n benodol ac nid aethom i fanylion ariannu yn y dyfodol ar gyfer y system iechyd a gofal. Mae cylch gorchwyl yr adolygiad eisoes yn sylweddol. Byddai ychwanegu hyn eto hyd yn oed yn fwy o broblem, ac, mewn gwirionedd, mae trethi cyffredinol yn ariannu rhan fawr o'r hyn yr ydym yn sôn amdano. Ac i geisio dweud wedyn bod gennym safbwynt gwahanol yma—mewn gwirionedd, mae cwestiynau ehangach ledled y DU am ariannu gwasanaethau cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.

Eich pwynt olaf, ar ofalwyr—bydd gan y Gweinidog rywbeth cadarnhaol i'w ddweud, rwy’n credu, am sut yr ydym yn rhoi mwy o gymorth i ofalwyr yn y presennol i sicrhau bod cyfle iddynt gael seibiant a hwnnw’n seibiant priodol, gan nad yw hynny’n rhywbeth y dylem ei ohirio am bump neu 10 mlynedd i’r dyfodol.

6. 5. Datganiad: Strategaeth y Gymraeg

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes ynglŷn â strategaeth y Gymraeg. Galwaf ar Alun Davies y Gweinidog i wneud y datganiad hwnnw. Alun Davies.

Member
Alun Davies 16:30:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweledigaeth y Llywodraeth yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050: gweledigaeth glir i’n huno ni fel cenedl, a dyna beth sy’n gyrru’r strategaeth newydd.

Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o bwy ydym ni—p’un ai ydym ni’n siarad Cymraeg ai peidio. Mae angen i ni fod yn falch o’n dwyieithrwydd, ac mae’n amser i ni gymryd y camau nesaf ar ein taith fel cenedl ddwyieithog. Os ydym ni am weld y weledigaeth yma, a chyrraedd miliwn, mae’n rhaid i ni gymryd y camau cyntaf ar ein taith nawr. Mae heriau o'n blaenau ni, ond heb os gallwn eu hwynebu gan wybod bod sail gadarn eisoes i’r gwaith.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae’r strategaeth newydd yn nodi 10 newid trawsnewidiol sydd angen i ni fynd i’r afael â nhw, ac mae’r rhain yn ymwneud â: chreu siaradwyr trwy ein system addysg; defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac yn gymdeithasol, a thrwy wasanaethau; a chreu amodau ffafriol sy’n sicrhau seilwaith a chyd-destun i’r Gymraeg—pethau megis cefnogi economi cymunedau Cymraeg, swyddi, tai, a chefnogi’r iaith ym maes technoleg ddigidol. A gaf i fod yn glir? Nid jest creu miliwn o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yw’r nod, ond miliwn o bobl sy’n gallu, ac yn dewis, defnyddio’r Gymraeg.

Mae’r strategaeth yn rhoi pwyslais, yn naturiol, ar gynlluniau i gynyddu yn sylweddol nifer y siaradwyr Cymraeg newydd. Rhoddir ffocws ar gryfhau’r cyfnodau pontio rhwng y blynyddoedd cynnar i addysg statudol yn y lle cyntaf, ond hefyd ar gefnogi un continwwm addysg Gymraeg er mwyn cynnig y cyfle gorau posibl i’n pobl ifanc ddatblygu i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

Bydd gofyn am uchelgais, cefnogaeth ac arweiniad cadarn gan awdurdodau lleol, llywodraethwyr a phenaethiaid ysgolion i gyrraedd ein targed o 40 y cant o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Bydd gweithrediad effeithlon o’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn allweddol i yrru’r gwaith yma. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ynglŷn ag adolygu’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, y bydd hyn yn her, ond mae’n rhaid i ni wynebu heriau fel hyn i sicrhau ein gweledigaeth. Her amlwg arall fydd sicrhau digon o weithlu i wireddu’r ehangu hwn. Bydd angen gweithredu yn fwriadus i sicrhau fod digon o bobl ifanc yn dymuno dysgu, a hynny drwy’r Gymraeg.

Cyhoeddodd y Gweinidog addysg a sgiliau yr wythnos ddiwethaf ei bwriad i fuddsoddi £4.2 miliwn o’r gyllideb addysg eleni er mwyn datblygu ymhellach y gweithlu athrawon cyfredol i addysgu’r Gymraeg ac i gyflwyno addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys ehangu’r cynllun sabothol ac ymestyn rhaglen waith y consortia addysg. Bydd angen i ni hefyd gefnogi ein pobl ifanc ar eu taith iaith ar ôl gadael ysgol, wrth iddyn nhw fynd i addysg bellach ac uwch, ac wrth iddyn nhw ymuno â’r gweithlu. Edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiad yr adolygiad o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y camau nesaf sydd eu hangen i symud tir yn y maes yma.

Rhoddir yr un ffocws ar gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg. Er mwyn i’r iaith lewyrchu, mae angen mwy o siaradwyr Cymraeg newydd ac mae angen i’r rheini sy’n medru’r iaith ei defnyddio hi yn rheolaidd. Mae’r rhwydweithiau Cymraeg traddodiadol wedi galluogi cenhedloedd o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Maent hefyd wedi llwyddo i greu cyd-destun i’r iaith tu hwnt i’r gyfundrefn ysgol neu’r gwaith, a hefyd mae gyda ni reswm i fod yn ddiolchgar am eu cyfraniad pwysig. Yn ôl ffigurau 2015, mae o gwmpas 10 y cant o’r boblogaeth yn defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd ar hyn o bryd ac rydym eisiau gweld hynny yn cynyddu i 20 y cant erbyn 2050.

Rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi Papur Gwyn ym mis Awst eleni yn cyflwyno cynigion ar gyfer Bil newydd i'r iaith Gymraeg, gan sicrhau ein bod yn gweithredu yn y dull mwyaf effeithiol â phosibl er lles pobl Cymru. Er mwyn cefnogi ymdrechion i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg a’u defnydd o’r Gymraeg, mae angen creu amodau ffafriol i hynny ddigwydd. Bydd y pwyslais newydd ar ddatblygu economaidd yn rhanbarthol yn allweddol i sicrhau fod pob rhan o Gymru, gan gynnwys cymunedau Cymraeg, yn elwa yn economaidd. Mae hynny’n allweddol i ddyfodol y cymunedau hynny.

I gefnogi hynny, cyn diwedd y mis hwn, bydd nodyn cyngor technegol 20 yn cael ei gyhoeddi, ynghyd â chanllawiau a fframwaith asesu risg i’r Gymraeg ar gyfer datblygiadau mawr, i adlewyrchu ymhellach yr angen i ystyried y Gymraeg ym maes polisi cynllunio. Wrth i natur cymdeithas newid, ac wrth i ddatblygiadau mewn technoleg ddigidol barhau yn y dyfodol, bydd angen i ni weddnewid y dirwedd ddigidol Gymraeg a rhoi pwyslais arbennig ar ddatblygu technolegau iaith.

Mae’r strategaeth hon yn nodi pwynt tyngedfennol i’r Gymraeg, felly: naill ai ein bod yn torchi llewys ac yn ymateb i’r her, neu rydym yn ildio. Ymroddiad i ymateb i’r her a geir yn y strategaeth uchelgeisiol, hirdymor hon. Rydw i’n glir iawn yn fy marn bod rhaid i Lywodraeth Cymru arwain drwy esiampl a dangos arweinyddiaeth os ydym am gyrraedd ein huchelgais. Llywydd, cychwyn y daith yn unig yw’r strategaeth. Mae gan bob un ohonom ni gyfraniad i’w wneud—yn gefnogwyr, yn ddysgwyr, ac yn siaradwyr cyson. Gallwn ni i gyd fod yn un o’r miliwn.

Presiding Officer, my statement on the Government’s Welsh language strategy today is not simply a statement for those of us who speak Welsh today. It is a statement and a policy for the whole country. I hope also that it is a policy that will unite the nation, and one that will also challenge us as a nation, and, if we succeed in meeting this challenge, it will change fundamentally who we are as a nation.

I am asking us today to subscribe to a vision that draws a line under the debates of the past. Today, I want to move beyond the conflict and confrontation that we have seen all too often over the future of the language. The Welsh language belongs to us all. It is our inheritance. It is a part of us all. This is a vision where we each share our country and share our cultures together. I want all of our children to leave school confident in not only understanding the basics of the language, but also the culture that it underpins and the history that has made us the people we are today.

I am determined, and this Government is determined, that we will succeed in this endeavour. It is an historical commitment and one that will help define all of our futures. We will provide the vision and the leadership, but we also know that no Government, no Minister and no Parliament will deliver this strategy and determine our success or otherwise. That will be determined by our country and our people—those people who use and speak the language, and learn the language, and ensure that their children are confident in the language.

In changing Wales, we will also change the United Kingdom. If we are able to create a truly bilingual nation in this family of nations, we will help make the UK as a whole a different place—a place where our language is recognised as an essential part of this British inheritance and British experience. In that way, it is also a challenge to the UK as well, and particularly a British media that all too often seeks to either ignore or ridicule our culture, and a British establishment that takes no interest in the reality of a British identity that doesn't conform to their prejudices.

Presiding Officer, in closing, I hope that this is a statement that will find a resonance across the whole country and a statement that will be the beginning of a journey that we will embark upon together. Two languages, two cultures, but one nation. Thank you very much.

Diolch i chi, Weinidog, am y datganiad heddiw. Y datganiad cyntaf—ac mae’n siŵr y byddwn yn cael cymaint o’r rhain, achos mae hyd a bywyd y strategaeth yn hir iawn. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n licio’r neges sylfaenol, sef bod y strategaeth yma i’n huno ni yn lle ein rhannu ni, achos rydym i gyd yn gwybod am sut mae’r iaith wedi cael ei defnyddio gan bobl wahanol dros y degawdau diwethaf, ac rydym i gyd yn gobeithio gweld diwedd hynny. Rwy’n gwneud tipyn bach o arbrawf yma heddiw, Weinidog. Rwyf wedi gwneud y nodiadau yn Saesneg, ond rwy’n trio eu troi nhw i’r Gymraeg fel rwy’n siarad.

Fe hoffwn i ddechrau gyda’r gweithlu addysg. Mae hyn yn bwysig achos rydym wedi gweld cwymp yn nifer y bobl sydd yn dysgu trwy’r Gymraeg yn ddiweddar. Rydw i’n nodi’r cynllun sabothol, ac, wrth gwrs, rydw i’n gwerthfawrogi hefyd y cynllun hyfforddi gan y Mudiad Meithrin, sydd wedi cael ei nodi yn y strategaeth ei hunan. Hoffwn i wybod—efallai mae’n rhy gynnar i ofyn y cwestiwn yma—sut mae’r syniad o gael cynllun hyfforddi gan y Mudiad Meithrin yn mynd i weithio mewn lleoliadau di-Gymraeg yn y cyfnod presennol. Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at genedlaethau o blant ifanc, dwyieithog—plant ifanc sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg heb feddwl am ba iaith maen nhw’n siarad. Ond rydw i’n dal yn becso am y cyfnod presennol a sut mae’r cynllun yn mynd i weithio yn ystod y cyfnod hwnnw. Achos mae’n bwysig i bobl ifanc, ifanc—yn arbennig yn y cyfnod pontio—weld neu glywed yr iaith fel rhan naturiol o’u bywydau nhw, hyd yn oed os nad yw’n brif iaith yn y lleoliad penodol hwnnw. Felly, os rydych chi’n gallu dweud rhywbeth ynglŷn â’r ymrwymiad yn ystod y tymor byr ynglŷn â hynny, buaswn yn ddiolchgar iawn.

Hefyd, ynglŷn â’r cynllun sabothol: mae hynny wedi gweithio, rydw i’n gobeithio, i’r rhai sydd wedi cael y siawns i gymryd mantais o hynny, ond rydw i dal yn becso am y rhai sydd ddim yn gallu cael eu rhyddhau o’u hysgolion—neu’r gweithlu, os mae’n berthnasol i hynny—eto, yn y cyfnod presennol. Sut mae pobl sydd yn ein hysgolion sydd eisiau cymryd mantais o unrhyw gyfle i wella, i loywi eu Cymraeg—sut maen nhw’n gallu elwa o hynny? Achos nid ydw i’n gweld bod hwn yn mynd i fod yn hawdd. Rydym ni’n gwybod, i gyd, y problemau gydag athrawon cyflenwi. Mae’r cwestiwn, wrth gwrs, yn ehangu iddyn nhw hefyd.

Rydw i’n cytuno 100 y cant nad ydym, ar ôl 16 mlwydd oed, eisiau colli’r sgiliau y mae’r bobl sydd yn dod i mewn i’r system fel plant ifanc nawr yn mynd i’w cael, gobeithio. Nid ydym ni eisiau gweld yr iaith yn mynd yn ôl i rywbeth cymdeithasol neu sy’n cael ei golli yn gyfan gwbl ar ôl 16 mlwydd oed. Felly, a ydy’n bosib i ddweud eto, yn fanwl, beth sy’n mynd i ddigwydd yn y system addysg bellach, neu ein prentisiaethau, i atgyfnerthu’r gwerth a’r pwrpas o fod yn ddwyieithog? Achos rydych chi wedi dweud ar ddechrau a diwedd eich araith am bwrpas bod yn un genedl ar hynny, ond mae yna nifer o ffyrdd mewn i hynny, a gyda’r cyfnod presennol, mae gyda ni dal y broblem o bobl sydd wedi cael, efallai, profiad gwarthus o’r iaith os ydyn nhw wedi dod lan drwy’r system Saesneg. Felly, a ydy’n bosibl i ddweud beth sydd wedi cael ei gyflenwi erbyn hyn, o edrych ar yr iaith Gymraeg fel sgil cyfathrebu hanfodol, fel rhan annatod o’r cyrsiau galwedigaethol, yn arbennig yn y sectorau fel gofal plant, gofal cymdeithasol, a lletygarwch? Nid cwestiynau newydd—rydw i’n gwybod hynny—ond hoffwn i wybod: a oes yna rhyw fath o gynnydd erbyn hyn? Hoffwn i wybod am hynny. A fyddwn ni’n clywed rhywbeth am hynny pan rydym ni’n symud ymlaen gyda’r strategaeth?

Fel y dywedais i, hoffwn i wybod am y byd gwaith. Pan rydych chi’n sôn am greu amodau ffafriol i ddewis defnyddio’r Gymraeg, dim jest i gael y sgiliau, ond i’w defnyddio nhw, wrth gwrs, mae yna gwestiwn dros safonau. Mae gyda nhw le yn y gweithlu, ond, i fi, mae yna ffordd o greu cyflenwad yn lle creu galwad, a bydd y strategaeth hon ond yn llwyddiannus os mae’n creu galwad, yn fy marn i.

Rydw i jest wedi dweud cwpwl o eiriau ar brofiad gwael pobl sydd wedi dod drwy’r system Saesneg, ac, wrth gwrs, rydym ni’n wynebu rhywbeth sydd yn digwydd yma: mae cenedlaethau newydd o bobl sydd yn ddwyieithog. Os mae hynny’n gweithio’n dda, maen nhw’n cyrraedd y gweithle, ond mae’r bobl sydd yn y swyddi uwch wedi dod trwy system wahanol ac maen nhw wedi dod trwy hynny gyda’u hagweddau sydd, efallai, ddim yn bositif ac sydd ddim yn awyddus, os cawn ni ddweud hynny, ynglŷn â’r Gymraeg. Hoffwn i glywed sut mae’r strategaeth yn mynd i osgoi sefyllfa lle rydym yn cael pobl sy’n dechrau yn y system gwaith yn ddwyieithog, ond maen nhw’n dod o hyd i bobl hŷn na nhw gydag agwedd hollol wahanol, ac efallai sydd ddim yn gwerthfawrogi’r sgiliau sydd gyda nhw maent wedi eu cael ers y crud, os yw’r strategaeth yn gweithio’n dda. Hoffwn i jest wybod a oes yna ffyrdd i osgoi unrhyw fath o wrthdaro diwylliant. Felly, a allech chi ddweud sut ydych chi’n mynd i fonitro a mesur llwyddiant y canolfannau Cymraeg i oedolion sydd gyda ni ar hyn o bryd? Rwy’n gwybod mai ‘early days’ yw hyn, ond sut ydym ni’n gallu dysgu rhywbeth o’r profiad hynny i fod yn siŵr ein bod ni’n trio dod i mewn i’r gweithle heb feichiau neu wrthdyniadau, os hoffech chi, i weithwyr neu gyflogwr, achos mae yna’n dal i fod ‘disconnect’ rhwng y rhai sy’n dechrau yn y system nawr a’r rhai sydd wedi bod drwyddo, ac efallai wedi cymryd yr hen agweddau gyda nhw. Diolch yn fawr.

Liciwn i ddiolch i Suzy Davies am ei chroeso cyffredinol ar gyfer y geiriau a’r datganiad a’r strategaeth. A gaf i ddweud hyn wrth ymateb i chi, Suzy? Rydym ni yn dechrau ar daith fan hyn—taith o ddwy genhedlaeth i gyrraedd 2050, taith lle mae'n rhaid inni wneud buddsoddiadau yn gynnar, a dyna beth rwyf wedi trio ei wneud heddiw, trwy ddangos rhyw fath o ddarlun o beth rwy’n gobeithio ei wneud yn ystod y Cynulliad presennol a’r Llywodraeth yma, achos rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig gosod targedau ddim ar gyfer 2050, a phwy bynnag sy’n Weinidog bryd hynny, ond hefyd targedau ar gyfer y Llywodraeth yma tra fy mod i yn Weinidog. Ac mae’n rhaid creu rhwydwaith a strwythur lle mae’n bosibl sicrhau atebolrwydd ar gyfer y Llywodraeth yma, y Llywodraeth bresennol, hefyd. So, rydym yn gobeithio gwneud hynny heddiw a dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Mi fydd y Mudiad Meithrin yn un o’r partneriaid pwysicaf sydd gyda ni fel rydym yn symud ymlaen i sicrhau bod gyda ni’r strwythur o grwpiau meithrin ar draws Cymru. Mi fyddwn ni’n parhau i gydweithio â nhw.

Rydych chi wedi gofyn lot fawr o gwestiynau amboutu datblygu’r gweithlu. Mae Kirsty Williams wedi comisiynu gwaith gan Delyth Evans, ac mi fydd adroddiad gweithgor Delyth Evans yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac mi fydd yr adroddiad hwnnw yn dechrau creu darlun o sut rydym ni yn gallu datblygu addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg, sicrhau bod gennym ni gyrsiau ar ôl 16 trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobl sydd eisiau gweithio gyda, er enghraifft, y Mudiad Meithrin, ond hefyd ddatblygu sgiliau a gwasanaethau newydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fydd gan Kirsty Williams ddatganiad i’w wneud ar hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ond rydym yn gweld bod y Gymraeg—. Mae’n bwysig gweld y Gymraeg fel sgìl cyfathrebu, yn y ffordd rydych chi wedi ddisgrifio, ond hefyd mae’n rhaid bod y Gymraeg yn fwy na hynny—yn fwy na dim ond sgìl cyfathrebu rydych yn ei ddefnyddio pan fo angen yn y gwaith. Mae’r Gymraeg yn fwy na hynny. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n diwylliant a hanes ein cenedl ni, ac mae’n rhaid inni hefyd gydnabod gwerth y Gymraeg oherwydd beth yw hi, a ddim jest oherwydd ei bod yn sgìl yn y gweithle. Rwyf eisiau pwysleisio pwysigrwydd hynny.

Fel rhan o’r daith, mi fyddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn yn yr Eisteddfod, ac mi fyddwn ni yn dechrau proses o drafod pa fath o strwythur deddfwriaethol sydd ei angen arnom ni dros y blynyddoedd nesaf. Roeddwn i’n glir yn fy meddwl i—ac rwy’n gobeithio y bydd Aelodau yn cytuno—bod angen gosod y weledigaeth yn gyntaf, gosod y strategaeth yn gyntaf, ac wedyn trafod sut rydym yn gweithredu y strategaeth a sut rydym ni’n cyrraedd y weledigaeth. Ac felly, roeddwn i’n glir fy mod eisiau gosod y strategaeth yma, ac wedyn cael trafodaeth amboutu’r ddeddfwriaeth a’r Bil newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mi fyddwn ni’n dechrau’r broses o drafod y Bil newydd yn yr Eisteddfod. Mi fydd hynny yn parhau i mewn i’r hydref, ac wedyn pan fyddwn ni wedi cael sgwrs genedlaethol amboutu hynny, rwy’n gobeithio y gallwn ni ddod â chynigion deddfu nôl i’r Cynulliad yma er mwyn i Aelodau gael trafod y cynigion fydd gyda ni, ac rydw i’n gobeithio gwneud hynny yn gynnar iawn yn y flwyddyn newydd.

Pan rydw i yn sôn am amodau ffafriol ar gyfer y Gymraeg, rydw i’n sôn amboutu pa fath o hawliau rydym ni eu hangen fel Cymry Cymraeg, sut rŷm ni’n gweithredu ein hawliau fel Cymry Cymraeg, a sut mae’r gwasanaethau cyhoeddus ac eraill yn gweithio y tu mewn i system statudol a fydd yn sicrhau ein hawliau fel Cymry Cymraeg. Mae’n rhaid inni gael trafodaeth felly, ac rydw i’n edrych ymlaen at hynny. Ond yn fwy na hynny—ac fe wnaf i fennu gyda’r ymateb yma—rydw i eisiau symud y pwyslais o reoleiddio i hybu a hyrwyddo, ac rydw i eisiau symud y pwyslais i drafodaeth ac i sgwrs genedlaethol amboutu’r Gymraeg sydd yn bositif, amboutu sut ydym ni’n ehangu defnydd o’r Gymraeg, a sut ydym ni’n ehangu cyrhaeddiad y Gymraeg, os ydych chi’n licio—symud i ffwrdd o’r hen drafodaethau diflas amboutu wrthdaro, fel rydych chi wedi awgrymu, a sôn am sut ydym ni’n gallu ehangu’r Gymraeg a gwneud hynny fel cenedl, a gwneud hynny yn cynnwys pob un ohonom ni. Yn aml iawn, rydym ni’n trafod strategaeth y Gymraeg dim ond yn y Gymraeg, ond mae hon yn strategaeth i Gymru, Cymry Cymraeg ac i Gymry di Gymraeg, gyda’n gilydd.

Rydych chi wedi cyhoeddi dogfen bwysig iawn heddiw, ac mae o yn gam cychwynnol cadarnhaol ar y siwrnai i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r Llywodraeth wedi adnabod themâu allweddol y bydd angen eu blaenoriaethu ar gyfer tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg. Wrth gwrs, y glo mân, y rhaglen waith a’r manylion gweithredu, fydd yn bwysig wrth symud ymlaen. Mi fydd hefyd angen penderfyniad i oresgyn pa bynnag rwystrau a ddaw gerbron, a phenderfyniad ac ewyllys gwleidyddol cwbl gadarn dros gyfnod hir.

Rydw i’n dechrau drwy drafod y gymuned a’r economi ac yn falch o weld bod yna ddealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng y Gymraeg a’r economi a chymunedau yn y ddogfen yma. Rydych chi’n nodi fel hyn: mae angen mwy na swyddi i gadw pobl yn yr ardaloedd hyn a’u denu yn ôl. Ac rydych chi’n sôn yn fan hyn am y cymunedau efo dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Rydych chi’n mynd ymlaen i ddweud: mae angen hefyd yrfaoedd da i ganiatáu i bobl symud o swydd i swydd. Yn eich datganiad prynhawn yma rydych chi wedi dweud bod angen i’r Llywodraeth arwain drwy esiampl a dangos arweiniad os ydym am gyrraedd ein huchelgais.

Mi fyddai gweld arweiniad clir, felly, o ran swyddi a’r math o swyddi o ansawdd rydym ni eisiau eu gweld yn y bröydd Cymraeg yn arwydd clir gan eich Llywodraeth chi o’ch awydd chi i ddangos y ffordd a chreu esiampl. Fe ellid bod wedi sefydlu’r awdurdod cyllid newydd yn y gorllewin, ond ni wnaed hynny. Fe wnes i awgrymu ar y pryd, pan oeddem ni’n cael y drafodaeth honno, fod angen ailedrych ar feini prawf y Llywodraeth pan ddaw hi’n fater o wneud penderfyniadau ar leoli cyrff newydd, os ydy’r Llywodraeth o ddifri am gryfhau’r cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ydy: a fyddwch chi yn mynd ati’n fwriadol fel Llywodraeth i greu swyddi Llywodraeth newydd yn yr ardaloedd sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg? Ac a fyddwch chi’n mynd ati’n fwriadol i adleoli allan o goridor ffyniannus y de-ddwyrain pan fydd yna gyfleoedd yn codi?

I droi at y maes addysg, mae’r glo mân yn hollol bwysig yn fan hyn yn bendant, ac mae gennych chi rai targedau yn y rhaglen waith—ac nid wyf yn sôn am y strategaeth, ond y rhaglen waith, sydd yn hollbwysig—er enghraifft, cynnydd yn nifer yr athrawon cynradd sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 2,900 i 3,100 erbyn 2021, sef 200 yn fwy; cynnydd yn nifer yr athrawon uwchradd sy’n addysgu Cymraeg o 500 i 600 erbyn 2021—100 yn fwy; a’r nifer sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 1,800 i 2,200 erbyn 2021, sef 400. Rŵan, nid yw’r rheini, i fi, yn swnio’n rhyw symiau mawr. Nid yw’n swnio’n gynnydd mawr. A ydy o’n ddigon, neu ai fi sydd efallai ddim yn gweld lle mae hynny’n ffitio i mewn i weddill y strategaeth?

Mae gen i gwestiwn penodol hefyd ynglŷn â’r maes addysg, sef am y cynlluniau strategol addysg Gymraeg. Mi rydym ni angen gweld y rhain yn llawer mwy uchelgeisiol os ydym ni am gyrraedd y targed, ac, ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi gweld llawer o gynnydd. Rwy’n gwybod eich bod cytuno efo hynny. Sut fydd arian cyllideb rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cynlluniau strategol mewn addysg ac i gefnogi datblygu cyfleusterau newydd?

Rydw i’n nodi bod eich rhaglen waith yn un pedair blynedd, a’r strategaeth i’w gweithredu dros gyfnod llawer hirach na hynny, wrth gwrs. Er mwyn cynnal y momentwm yna, mi fydd angen sefydlu corff hyd braich er mwyn sicrhau cysondeb, cynnal trosolwg a chadw cyfeiriad ar ôl 2021. Mae’r sector yn sicr yn cytuno efo hynny, ac, fel rhan o’r gyllideb bresennol, fe gytunwyd i symud ymlaen efo sefydlu corff hyd braich. Fy nghwestiwn olaf i ydy: beth ydy pwrpas y bwrdd cynllunio sydd wedi cwrdd yn ddiweddar, ac a fydd hwnnw yn datblygu i fod yn gorff hyd braich—y corff yma y mae ei angen—ac os bydd o, pryd fydd hynny’n digwydd? Diolch.

Eto, liciwn i ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei chroeso cyffredin i’r strategaeth ac i’r rhaglen waith. Rydw i’n falch eich bod chi wedi canolbwyntio ar y rhaglen waith yn eich cwestiynau. Rydych chi’n iawn—pan fyddaf i’n edrych o fy nghwmpas i fan hyn ym Mae Caerdydd, a phan fyddaf i’n teithio o gwmpas Cymru a phan fyddaf i gartref ym Mlaenau Gwent, rydw i’n gweld ewyllys da i’r Gymraeg ym mhob man. Mae’n un peth sydd yn ein huno ni fel cenedl. Rydw i’n gweld ewyllys da gan gymunedau lle mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd cymunedol, a hefyd ewyllys da mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg yn rhan o fywyd bob dydd y gymuned. Rydw i’n gweld hynny yn rhywbeth yr ydw i eisiau parhau ag ef a’i hybu dros y blynyddoedd nesaf.

Rydych chi’n iawn—rydym ni yn gwneud ymrwymiad clir i sicrhau bod gennym ni gynlluniau economaidd ar gyfer pob un rhan o Gymru, gan gynnwys cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth sicrhau ein bod ni’n buddsoddi hefyd yn y cymunedau, felly. Mi rydych chi wedi gweld polisi clir y Llywodraeth yma i symud swyddi y tu fas i Gaerdydd ac i symud swyddi i ardaloedd gwahanol yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod yn bwyslais y mae’r Llywodraeth yma wedi ei fabwysiadu, ac mae wedi bod yn bolisi parhaol y Llywodraeth bresennol. Efallai nad yw’r cyrff i gyd yn mynd i’r lleoedd y buasech chi wedi’u dewis, ac mae hynny siŵr o fod yn wir. Ond mae’r banc datblygu wedi mynd i’r gogledd, wrth gwrs, mae trafnidiaeth wedi mynd i’r Cymoedd, ac mae’r awdurdod cyllid hefyd wedi symud. So, rydym ni wedi gweld bod hynny yn bolisi o symud swyddi i’r tu fas i Gaerdydd—buddsoddi yng Nghymru fel cenedl ac nid jest yn y brifddinas. Rwy’n credu bod hynny yn rhywbeth sydd yn hollbwysig, ac mi fydd y polisi hynny yn parhau dros gyfnod y Cynulliad yma. Rydw i’n siŵr bod y polisi hwnnw yn cynnwys y gorllewin a’r gogledd yn eu cyfanrwydd, wrth gwrs, ac mi welwch chi hynny yn digwydd dros y misoedd nesaf a’r blynyddoedd nesaf.

Pan fyddwch chi’n dod i addysg, a ydy’r targedau yn ddigon? Rwy’n credu bod y targedu yn uchelgeisiol ac yn ddigon am nawr. Mae hyn yn daith. Nid yw hi’n strategaeth bedair blynedd. Mi rydym ni wedi cyhoeddi rhaglen waith am bedair blynedd, ar gyfer hyd y Cynulliad yma, i alluogi pobl, ac i alluogi’r Llywodraeth yma i amrywio ei thargedau tra byddwn ni mewn grym yn ystod y Cynulliad yma. Gwaith Cynulliad a Senedd Cymru, wrth gwrs, yw sicrhau y cysondeb ac i sicrhau atebolrwydd y Llywodraeth yn ystod y cyfnodau sy’n dod o’n blaenau ni.

Rydych chi wedi gofyn cwestiwn penodol amboutu’r WESPs ac mi soniais i am hynny yn y datganiad. Mi fyddaf i yn gwneud datganiad dros yr wythnosau nesaf. Rydych chi’n iawn. Rydw i’n cytuno â chi ac â’ch dadansoddiad bod angen WESPs sydd yn gryf—cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg sydd yn gryf—ac yn adlewyrchu uchelgais y Llywodraeth. Mi ydych chi’n gwybod hefyd fod Aled Roberts wedi bod yn gweithio ar hyn ers rhyw chwe mis erbyn hyn, ac rydw i’n disgwyl gweld adroddiad gan Aled yn ystod yr wythnosau nesaf. Mi fyddaf i’n cyhoeddi ei adroddiad ac mi fyddaf i’n ysgrifennu at bob un awdurdod lleol yn ystod y cyfnod nesaf i ofyn iddyn nhw weithredu yn y ffordd y bydd ei hangen i gyrraedd y fath o dargedau sydd gyda ni ar gyfer pob un o’r cynlluniau gwahanol.

Pan fyddwch chi’n cwestiynu’r gyllideb ar gyfer y rhaglen adeiladu ysgolion, a gaf i ddweud hyn? Rydym ni wedi gweld lot o gwestiynau dros y dyddiau diwethaf amboutu cyllideb y Gymraeg a ble mae cyllideb y Gymraeg. Rydw i eisiau bod yn glir yn fy meddwl i, ac rydw i eisiau i Aelodau fod yn glir hefyd, nad ydym ni’n ynysu’r Gymraeg mewn un adran yn y Llywodraeth yma. Mae’r Gymraeg yn mynd i gael ei hintegreiddio i bob un o adrannau’r Llywodraeth, a phob un o weithgareddau’r Llywodraeth, a phob un o raglenni’r Llywodraeth. Felly, ein huchelgais ni ar gyfer y Gymraeg yw y bydd yn rhan ganolog o’r rhaglen adeiladu ac adnewyddu ysgolion. Nid oes un gyllideb ar gyfer ysgolion Saesneg ac un gyllideb wahanol ar gyfer ysgolion Cymraeg. Mae yna un gyllideb addysg ar gyfer system sy’n cael ei gweithredu yn y ddwy iaith, ac mi fyddwn ni’n gweithredu felly.

Rydych chi’n sôn amboutu corff hyd braich, ac rydych chi’n dweud bod yna gefnogaeth i hynny. Nid ydw i’n gweld cymaint o gefnogaeth â hynny i sefydlu cyrff cyhoeddus newydd, mae’n rhaid dweud, ond mae gennym ni’r cytundeb presennol ac rydw i’n mynd i wneud cynigion clir yn y Papur Gwyn a fydd yn symud y polisi ymlaen. Rydw i’n edrych ymlaen at gynnal y fath yna o sgwrs a thrafodaeth ar hynny dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Hoffwn innau groesawu’r adroddiad hwn hefyd, a’r ffordd gyffredinol y mae’r Gweinidog wedi ei defnyddio i fynd i’r afael â hyn. Mae’r adroddiad yn gyfres o gamau mesuredig ac ymarferol, rwy’n credu, i gyfrannu at wireddu uchelgais terfynol o fod â miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond hoffwn hefyd ei ganmol am y ffordd huawdl y terfynodd ei ddatganiad drwy nodi’r rhesymau dros gefnogi'r Gymraeg a’i hymgorffori yn niwylliant pobl Cymru, hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny lle mae hi wedi hen ddiflannu fel iaith feunyddiol y trigolion. Rwy'n credu mai dyna’n union yw’r ffordd o fynd i’r afael â hyn, ac mae'n ddefnyddiol, rwy’n credu, cael rhywun yn gwneud y swydd hon na chafodd ei fagu yn siarad Cymraeg gartref ac sydd wedi dysgu’r iaith. Her fawr y dyfodol fydd argyhoeddi carfan uniaith Saesneg y boblogaeth, sydd yn y mwyafrif llethol ar hyn o bryd, bod hon yn antur y mae'n rhaid i bob un ohonom ni gymryd rhan ynddi.

Felly, rwy’n cytuno â'r hyn y mae'r ddogfen yn ei dweud, yn enwedig na all strategaeth y Llywodraeth orfodi unigolion i ddefnyddio'r iaith, ac er mwyn i'r iaith wirioneddol ffynnu, rydym ni’n dibynnu ar bob un ohonom ni i gofleidio'r syniad o Gymru ddwyieithog. Felly, mae'n rhaid i ni gario'r bobl gyda ni a derbyn y farn gyhoeddus, ond hefyd arwain y farn honno. Fe hoffwn i hefyd, yn y cyd-destun hwn, ganmol cyfraniad Plaid Cymru, a drafodwyd gennym ni yr wythnos diwethaf, yn y ddogfen hon, 'Cyrraedd y Miliwn', a phwysigrwydd, i ddechrau beth bynnag, sicrhau ein bod yn diogelu cadarnle cymdeithasol y Gymraeg yn y gogledd a’r gorllewin. Ond mae'n bwysig bod gennym ni strategaeth hefyd i ledaenu o'r broydd Cymraeg traddodiadol lle mae cyfran helaeth o’r bobl yn dal i fedru’r iaith, oherwydd nid ydym ni eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn cael ei chyfyngu i raddau helaeth i’r hyn y gallem ni eu galw'n 'amddiffynfeydd' yn ein gwlad ein hunain.

Os ydym ni am lwyddo yn ein hamcan terfynol, mae angen i ni argyhoeddi pobl nad ydyn nhw’n clywed yr iaith Gymraeg yn feunyddiol yn y cartref neu yn eu cymunedau ei bod yn werth gwneud ymdrech i fod yn rhan o hyn. Yr her fawr yn awr fydd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, mewn ardaloedd lle mae’r heriau mwy hyn yn codi, ac mae’n rhaid i ni yn sicr wneud ein gorau i osgoi'r math o wrthdaro a welsom ni, yn anffodus, yn Llangennech yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n rhaid i ni weithio'n galetach yn yr amgylchiadau hynny i argyhoeddi pobl na fydd dysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu eu bod o dan anfantais.

Mae’r hyn a ddywedodd Simon Thomas y diwrnod o’r blaen am werth dysgu iaith arall, boed honno yn Gymraeg neu’n unrhyw iaith arall, yn hollol wir. Yn yr ysgol, fe ddysgais i dair iaith—Almaeneg, Ffrangeg a Rwsieg—yn ogystal â'r Gymraeg, er y bu'n rhaid i mi roi'r gorau i’r Gymraeg er mwyn gwneud un o'r lleill. Nid ydym ni’n gwneud hynny heddiw. Nid wyf yn gwybod a yw hynny wedi fy ngwneud yn berson mwy deallus o ganlyniad, neu’n berson mwy huawdl, ond mae'n sicr wedi ychwanegu sawl dimensiwn at fy mywyd yr wyf yn falch eu bod gennyf. Ac felly, mae gwerth yn hyn y tu hwnt i'r dadleuon ymarferol am economeg yr ydym ni wedi eu clywed, sy'n bwysig, ond i fod yn onest, o ystyried mai Saesneg yw lingua franca y byd yn gyffredinol, mae'n mynd i fod yn broblem i bob iaith arall, ar ryw ystyr, gystadlu â hi ym myd masnach ryngwladol ac ym myd y rhyngrwyd. Mae'n rhaid i ni roi sicrwydd i rieni bod hyn yn rhywbeth sydd o werth i blant.

Rydym ni wedi gweld lleihad mewn addysgu ieithoedd modern yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig, nid yn unig yng Nghymru, yn y blynyddoedd diwethaf. Cynhaliodd y Cyngor Prydeinig arolwg dim ond dwy flynedd yn ôl a chanfod mai dim ond 22 y cant o ddisgyblion sy’n astudio ieithoedd ar wahân i’r Saesneg neu’r Gymraeg ar gyfer TGAU. Mae hynny, rwy’n credu, yn druenus, oherwydd y dybiaeth yw bod ieithoedd yn anodd. Wel, ymhlith yr ieithoedd yr wyf i wedi eu hastudio, mae’r Gymraeg yn iaith llai cymhleth i’w dysgu. Mae llai o eirfa; caiff geiriau eu defnyddio i wneud mwy o bethau yn y Gymraeg nag mewn ieithoedd eraill; nid oes gennym ni broblemau gyda chyflyrau a gorfod rhedeg geiriau ac ati. Fe ddylai’r Gymraeg felly, gydag ychydig o ymdrech, fod yn haws ei chaffael a’i dysgu na, dyweder, iaith fel Rwsieg, a grybwyllais yn gynharach.

Felly, mae hwn yn gam pwysig, ond ni ellir gorbwysleisio yr hyn a ddywedwyd hefyd am bwysigrwydd y blynyddoedd cynharaf, ac fe hoffwn i ganmol y gwaith y mae’r Mudiad Meithrin wedi ei wneud yn y cyswllt hwn. Yr uchelgais i weld 150 o gylchoedd newydd i blant tair a phedair oed yw gobaith mawr yr iaith, rwy’n credu, oherwydd peth diddorol arall a ddarganfyddais yn adroddiad Plaid Cymru oedd bod 18.8 y cant o blant tair a phedair oed yn siarad Cymraeg yn 2001. Roedd hynny wedi codi 5 y cant i 23.3 y cant yn 2011. Byddai'n ddiddorol gwybod, os yw’n bosib, beth yw'r ffigur erbyn hyn, ac i ba raddau yr ydym ni’n gwneud cynnydd yn hyn o beth. Mae’r uchelgais yn y ddogfen hon o fod â 35 y cant yn gam canolradd pwysig, rwy’n credu, ac felly rwy’n cymeradwyo agwedd y Gweinidog tuag at hynny.

Os ydym ni eisiau llwyddo yn yr amcan hwn, mae’n rhaid ymwreiddio’r iaith yn y blynyddoedd cynharaf pan fo ein gallu i gaffael iaith ar ei orau. Gallaf ddweud wrthych chi o’m profiad fy hun ei bod hi’n llawer anoddach cofio geirfa pan eich bod chi’n 68 oed, heb sôn am ddysgu geiriau newydd, nag yr arferai fod. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig i ni sylweddoli bod yna gytundeb unfrydol bron yn y Cynulliad ynglŷn â’r ffordd hon o wneud pethau, ond ni chaiff y cytundeb hwnnw ei adlewyrchu i'r un graddau y tu allan, ac felly mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan wrth annog pobl i gofleidio’r ymarferiad hwn. Yn sicr ar ran fy mhlaid fy hun, rwyf am ddweud y byddwn ninnau’n gobeithio chwarae ein rhan yn hyn hefyd, oherwydd rwy’n credu y gallwn ni fod yn ddefnyddiol i’r Llywodraeth yn y cyswllt hwn, gan gynrychioli rhan o'r gymuned nad yw’n gysylltiedig fel arfer â’r antur yr ydym ni i gyd erbyn hyn wedi cychwyn arni.

Rwy'n ddiolchgar i chi am eich sylwadau caredig ac am y croeso a roesoch i’r datganiad, ac i’r dull a’r cywair yr ydym ni wedi eu defnyddio wrth symud y polisi hwn yn ei flaen. Rydych chi’n disgrifio'r strategaeth fel antur. Mae'n sicr yn daith, ac mae'n daith gyffrous. Mae'n daith gyffrous am nad ni yn y Siambr hon a fydd yn penderfynu ar ei llwyddiant. Y rhieni a fydd yn gwneud penderfyniadau unigol fydd yn gwneud hynny, y rhiant sy'n penderfynu defnyddio'r Gymraeg gyda'i blentyn i drosglwyddo'r iaith drwy'r cenedlaethau, y rhiant sy'n penderfynu anfon ei blentyn drwy'r system cyfrwng Cymraeg, y rhiant sy'n helpu ei blentyn i wneud ei waith cartref Cymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg, y bobl sy'n newid yr iaith maen nhw’n ei defnyddio pan fyddant mewn clwb rygbi, tafarn neu ym mha le bynnag arall y byddont, neu’r bobl sydd mewn gwirionedd yn gwneud ymdrech i ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd ac i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn ei defnyddio. Gobeithiaf, wrth wneud hynny, y bydd y wlad ei hun, sydd wedi bod ar un daith gyda’r iaith, yn mynd ar daith arall i gyfeiriad gwahanol gyda'r iaith.

Symudodd fy nheulu fy hun i Dredegar ar droad y ganrif ddiwethaf, ac roedden nhw’n deulu cwbl Gymraeg eu hiaith pan symudasant o Aberystwyth i weithio ym mhyllau glo’r de. Collasant yr iaith a bu farw’r iaith yn y teulu cyn yr ail ryfel byd. Nawr, rydym ni’n gweld fy mhlant—wyrion a wyresau fy rhieni—yn dysgu ac yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac yn adennill yr iaith. Mae’r iaith wedi ei haileni yn y teulu. Rwy’n gobeithio, yn yr un modd, y byddwn ni’n gallu gweld hynny mewn llawer o deuluoedd ac mewn llawer o wahanol rannau o Gymru. Rwy’n gwybod y bu’r iaith ar daith debyg iawn yn nheulu’r Ysgrifennydd dros Addysg. Gobeithiaf, yn y ffordd honno, na fyddwn ni’n gweld yr iaith yn ddim mwy nag ennill sgil, ond y byddwn ni hefyd yn ennill calonnau a meddyliau pobl ledled y wlad, ac y byddwn yn cefnu ar y syniad, 'Os byddwch chi’n ennill, byddaf i’n colli'—gêm o naill ai ennill neu golli y gwelsom ni ormod o lawer ohoni yn y gorffennol—sy’n golygu os ydym ni’n siarad Cymraeg, yna rydym ni’n eithrio pobl sy'n siarad dim ond Saesneg, a bod polisi dwyieithog yn golygu gorfodi siaradwyr Cymraeg i siarad Saesneg. Felly, mae angen i ni gefnu ar wrthddywediadau o’r fath, ac ar yr agwedd honno a’r cywair hwnnw o drafod.

Wrth wneud hynny, mae'n daith y byddwn ni’n cychwyn arni fel gwlad. Rwyf eisoes wedi bod yn siarad, drwy ein swyddogion, gydag awdurdodau lleol Cymru ynglŷn â’u cynlluniau strategol eu hunain ar gyfer y Gymraeg. Fel y dywedais i wrth ateb cwestiwn blaenorol, byddaf yn gwneud datganiad ynglŷn â hynny, ac yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, ond rwy’n gobeithio y byddwn ni’n rhoi sicrwydd i rieni, ond hefyd yn ysbrydoli rhieni ac yn ysbrydoli pobl i ddysgu’r Gymraeg, i fwynhau defnyddio'r Gymraeg, i beidio â phoeni am gael pob treiglad yn iawn a phob manylyn gramadegol yn gywir, ond i fwynhau defnyddio'r Gymraeg, i deimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg, ac i deimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny yn gymdeithasol yn ogystal ag yn broffesiynol. Rydym ni’n dechrau hynny yn y blynyddoedd cynnar, ac rwy’n gobeithio y bydd y profiad y caiff rhieni, neu’r profiadau da y caiff eu plentyn o ddysgu dwy iaith yn gynnar yn ei fywyd, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda nhw ac yn cyfoethogi eu bywydau yn yr un ffordd ag y mae wedi fy nghyfoethogi i a fy nheulu yn ein bywydau ni.

Gweinidog, a gaf i eich canmol am y datganiad heddiw ac am yr uchelgais y tu ôl i'r polisi? Ni ddylai fod gennym ni unrhyw amheuaeth fod hwn yn bolisi diwylliannol radical sy'n tynnu’n groes i’r ffordd y mae’r iaith wedi cael ei defnyddio am ganrif neu fwy, ac nid yw hyn yn mynd i fod yn orchwyl hawdd, ond rwy'n credu ei bod hi’n hollol briodol ein bod yn ceisio ymgyrraedd at wneud hynny.

Carwn ganolbwyntio, os caf i, ar y system addysg. Rydych chi’n gosod targed o gael 70 y cant o ddysgwyr yn medru defnyddio'r iaith yn hyderus ym mhob agwedd ar eu bywydau erbyn 2050, ac rydych chi wedi gosod uchelgais clir ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg i fod yn rhan bwysig o gyflawni hynny. Er hynny, mae'n ymddangos i mi na all y sector cyfrwng Cymraeg fyth greu’r math hwnnw o dwf ar ei ben ei hun. Rwyf hefyd yn credu ei bod hi’n foesol anghywir, os caf i ddefnyddio iaith gref o’r fath, bod plant sy'n cael eu haddysgu yn y sector cyfrwng Saesneg yn cael eu hamddifadu o allu defnyddio’r iaith yn effeithiol. Mae fy merch naw mlwydd oed fy hun yn blentyn disglair nad yw’n gallu siarad yr un gair o Gymraeg. Nid yw ei hathrawon yn siarad Cymraeg, ac mae llawer iawn o blant ysgol ledled Cymru—. Mewn gwirionedd, mae 68 y cant o’n plant saith mlwydd oed mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ac rydym ni’n eu hamddifadu nhw o iaith ein cenedl, ac rwy’n credu bod hynny yn anghywir. Rwy'n credu bod yn rhaid i’r strategaeth hon fynd i'r afael â hynny, ac nid dim ond mynd i'r afael ag ehangu'r sector cyfrwng Cymraeg, sef y rhan gymharol hawdd ei wneud, ond mynd i'r afael â'r agwedd llawer mwy heriol o gael y mwyafrif helaeth o ysgolion i addysgu Cymraeg mewn ffordd lle mae’r plant yn gallu cyrraedd y targed hwnnw o ddefnyddio'r iaith yn hyderus ym mhob agwedd ar eu bywydau. Rydych chi’n dweud yn y strategaeth, ac yn hollol iawn hefyd, bod llwyddiant yn dibynnu ar ddatblygu sgiliau'r gweithlu. Mae honno'n orchwyl enfawr. Felly, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni sut, yn ymarferol, yr ydych chi’n bwriadu gwneud hynny, ac os gallwch chi hefyd ddweud ychydig wrthym ni am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn bwriadu ei wneud i gyflawni amcanion y strategaeth hon o fewn y Llywodraeth. Diolch.

A gaf i ddweud cymaint yr wyf i’n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau mae Lee Waters wedi eu gwneud?  Pan eich bod yn Weinidog, rydych chi’n tueddu i ymweld â nifer o wahanol ysgolion a sefydliadau. Ymwelais i ag ysgol yn eich etholaeth chi tua chwe mis yn ôl. Ymwelais â fy hen ysgol fabanod gyda'r Ysgrifennydd dros addysg. Mae bob amser yn brofiad rhyfedd mynd yn ôl i’ch ysgol eich hun. Pan ddechreuais i yn ysgol fabanod Glanhywi, tua 1968, 1969, rwy’n credu, tua’r adeg honno, yr unig Gymraeg a glywais oedd unwaith y flwyddyn ar Ddydd Gŵyl Dewi, pan oeddem ni’n cael eisteddfod, pryd y dysgwyd ni sut i ganu cân arbennig, ac roeddem ni’n canu’r gân honno ac yna yn dychwelyd i’n bywydau bob dydd. Roedd yn bleser mawr treulio amser yn siarad ag athrawon ac yn siarad â phobl yno, lle’r oedd geiriau Cymraeg yn cael eu cyflwyno i blant yn y cyfnod sylfaen. Felly, roedden nhw’n cyflwyno lliwiau a rhifau ac yn cyflwyno cysyniad yr iaith iddynt, mewn modd na fyddai neb wedi ei ddychmygu pan oeddwn i yn blentyn yn Nhredegar. Felly, rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu cyflwyno mwy o Gymraeg—a’r continwwm o gaffael iaith yr ydym ni wedi bod yn dadlau drosto ac wedi ei drafod yn rhan o'r cwricwlwm newydd— yn y sector Saesneg mewn modd nad yw'n ymosodol, nad yw’n gwthio rhywun at ymyl y dibyn, nad yw’n gorfodi pobl ac yn mynnu eu bod yn cael popeth yn gywir ym mhob agwedd ar ramadeg ac iaith. Mae a wnelo hyn yn hytrach â gallu teimlo'n gyfforddus wrth wrando, dysgu a siarad yr iaith, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n annog pobl i ddefnyddio'r iaith, ac nid eu llesteirio drwy fod yn rhy ymosodol ar wahanol agweddau arni. Felly, rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny.

Fe soniasoch chi am y gweithlu. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gallu gwneud hynny. Mae rhywbeth fel traean o athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu siarad Cymraeg, ac nid yw pob un ohonyn nhw yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg nac addysgu Cymraeg fel pwnc. Felly, mae angen i ni fuddsoddi mewn hyfforddiant i athrawon, fel bod athrawon yn teimlo'n gyfforddus ac yn gallu cyflwyno agweddau ar ein hiaith yn ogystal ag addysgu'r iaith. Ond, yn gyffredinol, mae gennyf yr un pryder yn union â chithau. Dydw i ddim eisiau creu system addysg lle mae rhai pobl yn dysgu ac yn siarad ac yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn rhugl ac yn rhwydd, a hanner arall y system heb fod yn deall hyd yn oed y pethau sylfaenol. Dyna sydd gennym ni heddiw i bob pwrpas, a dyna beth mae'n rhaid i ni gefnu arno. Rwy’n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc, pan fyddant yn gadael yr ysgol yn 16 oed, yn gallu siarad a defnyddio'r Gymraeg—rhai i raddau mwy nag eraill—ond y byddant o leiaf yn gallu teimlo'n gyfforddus gyda'r iaith, a chlywed yr iaith o'u cwmpas, a deall y pethau sylfaenol. Bydd rhai yn dewis, wrth gwrs, mynd ymlaen ac astudio’n ehangach, a phob lwc iddynt. Bydd eraill yn dewis peidio â gwneud hynny, a phob lwc iddynt hwythau hefyd. Ond, yn sicr, yr hyn yr wyf i’n awyddus i’w wneud yw sicrhau bod gennym ni system addysg ddwyieithog lle mae pawb yn gallu cael yr un cyfle i gaffael yr iaith ac i ddeall y diwylliant sy'n sail iddi hefyd. Felly, mae’r sector Saesneg yr un mor bwysig, ac, fel y dywedwch chi, efallai ychydig yn fwy anodd na’r sector Cymraeg o bosib.

Mae angen i Lywodraeth Cymru ei hun gydnabod na allwch chi newid y byd heb newid eich hun. Rwy’n gobeithio bod Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod nad polisi ar gyfer Cymru yn unig yw hwn, ond polisi i ni, yn ogystal, fel Llywodraeth. Bydd angen i ni edrych eto ar sut yr ydym ni’n gweithredu fel gweinyddiaeth i sicrhau ein bod ninnau’n gweithredu'n ddwyieithog hefyd, ac nid dim ond yn anfon llythyrau o Fae Caerdydd neu Barc Cathays i ddweud wrth y byd sut y dylen nhw weithredu. Mae angen i ni wneud hynny ein hunain, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ffyddiog y byddwn ni yn ei wneud.

Rŷm ni allan o amser ar yr eitem yma, ond, os caf i gwestiynau byr a bachog, ac atebion byr hefyd, fe wnaf i ymestyn y sesiwn rhyw gymaint oherwydd ei phwysigrwydd hi. Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Llywydd. A allaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad, a hefyd ei longyfarch am ei weledigaeth? Roeddwn i eisiau dim ond canolbwyntio ar un pwynt yn nhermau hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn gyffredinol fel rhan o’r strategaeth yma—hyrwyddo a hyrwyddo gwybodaeth am Gymru i bobl sydd efallai yn newydd i’r syniad yna. Felly, rydych chi’n dweud yn ogystal â phwysleisio bod yr iaith Gymraeg yn etifeddiaeth werthfawr i’r 3 miliwn o boblogaeth Cymru, pa un ai a ydyn nhw’n siarad yr iaith ai peidio, fel yr ydych chi’n ei ddweud—. Ond gan gofio, gan fynd yn ôl mewn hanes i’r seithfed ganrif, cyn i bawb arall fod yma, mai iaith frodorol wreiddiol ynys Prydain oedd yr Hen Gymraeg, mae’n etifeddiaeth nid jest i bobl Cymru, ond i bawb yn Lloegr hefyd ac yn rhannau o’r Alban o Gaeredin i lawr. Felly, yn gyffredinol, yn ogystal â’r angen i hyrwyddo’r Gymraeg a gwybodaeth am Gymru y tu mewn i Gymru, a allaf bwysleisio hefyd bwysigrwydd mynd â’r wybodaeth am ein hanes ni, fel cenedl ac iaith, efallai dros y ffin hefyd? Diolch yn fawr.

Rwy’n cytuno â chi, Dai, ac roeddwn i eisiau gwneud ‘exactly’ y pwynt hwnnw yn fy natganiad llafar i, pan oeddwn i’n sôn amboutu’r iaith Gymraeg fel iaith Brydeinig, a’n profiad Cymraeg fel profiad Prydeinig. Mae’n hynod bwysig ein bod ni nid yn unig yn estyn mas y tu hwnt i’n ffiniau, ond ein bod ni i gyd yn cyd-ddeall ein gilydd fel Prydeinwyr, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth hollbwysig a rhywbeth mi fyddem ni’n parhau i’w bwysleisio.

Wel, dyma ni yn cychwyn ar ein siwrnai gyda’r darn cyntaf o’r map yn ein dwylo ni. Rwy’n gwerthfawrogi tôn y Gweinidog yn sôn am yr iaith fel ffordd o uno ein cymunedau a’n diwylliannau, a hefyd fod angen ymdrech genedlaethol, nid jest polisi Llywodraeth, er mwyn llwyddo i wneud hynny. Rŷch chi wedi pwysleisio yn yr atebion pa mor gynhenid bwysig yw’r blynyddoedd cynnar o ran creu siaradwyr Cymraeg a chreu disgyblion Cymraeg yn galw am addysg Gymraeg. Yn y pwyllgor—pwyllgor yr iaith Gymraeg—cawsom ni dystiolaeth wrth Fudiad Meithrin fod angen creu dros 600 o gylchoedd meithrin dros y cyfnod er mwyn diwallu’r galw am addysg blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg. Ac, yn y strategaeth, mae’r Llywodraeth yn sôn am 150. A allwch chi esbonio’r gwahaniaeth yn y weledigaeth rhwng y ddau safbwynt hynny yn gyntaf?

Yn fras, yn ail, rŷm ni’n ffodus iawn eich bod chi hefyd yn Weinidog sy’n gyfrifol am weithlu’r Cymoedd. A allwch chi esbonio sut mae’r strategaeth Gymraeg yn effeithio ar y trafodaethau hynny?

Gwelais i’r dystiolaeth gan Fudiad Meithrin i’r pwyllgor—tystiolaeth arbennig o dda. Mi oedd honno, wrth gwrs, yn sôn am y targed 2050, ac mi fuasai’n rhaid cael 600 o gylchoedd meithrin erbyn 2050. Y rhif sydd gyda ni yw 150 ychwanegol erbyn 2031. Felly, mae gyda ni rywbeth o gwmpas 450 ar hyn o bryd, ac mae hynny’n mynd â ni lan at 500 erbyn 2031. Felly, nid ydw i’n meddwl ein bod ni’n bell i ffwrdd, achos mi fydd rhai cylchoedd, wrth gwrs, yn uno gyda’i gilydd, neu bydd rhai yn tyfu, ac felly mae’n ‘fluid’ yn y ffordd y mae’n cael ei ddatblygu. Y peth pwysig, ac rydym ni’n cyd-fynd â Mudiad Meithrin ar hyn, yw bod gan blant, yn gynnar iawn yn eu bywydau nhw, yr un cyfle i fynychu cylchoedd Cymraeg a dwyieithog ar draws y wlad, a’r cyfle i ddechrau dysgu’r Gymraeg mor gynnar â phosibl yn ystod eu haddysg nhw.

Pan fo’n dod at weithlu’r Cymoedd, rydw i eisiau sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o fywyd y Cymoedd eto. Roedd yn ffantastig i mi yn bersonol ymweld ag Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn fy etholaeth i a gwrando ar y plant yn siarad Cymraeg ag acen Tredegar, acen Glyn Ebwy, acen Brynmawr, a dechrau adfer yr iaith Gymraeg mewn ardal lle mae’r Gymraeg wedi bod ar goll ers canrif. A dyna lle’r ydym eisiau gweld—. Rwy’n cofio cyfarfod â chi yn Nhŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe lle mae gyda ni gyfle arall i adfer yr iaith Gymraeg mewn cymunedau lle mae wedi colli tir. Ac rydw i’n mawr obeithio, yn y gwaith rŷm ni’n ei wneud gyda gweithlu’r Cymoedd—rydym ni’n canolbwyntio ar yr ochr economaidd ar hyn o bryd, ond, fel rydym ni’n symud ymlaen dros y blynyddoedd nesaf, rydw i’n mawr obeithio hefyd y bydd yna bwyslais newydd ar y Gymraeg yn y Cymoedd i sicrhau bod y Cymoedd yn ardal lle mae’r Gymraeg yn gryf unwaith eto.

Mae’r strategaeth yn pwysleisio’r dimensiwn rhanbarthol o ran datblygiad economaidd a’i bwysigrwydd yn arbennig i’r bröydd Cymraeg traddodiadol, oherwydd eu tebygrwydd yn economaidd ac o ran y ddemograffeg. Eto, ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu map o’r rhanbarthau economaidd sy’n rhoi’r ardaloedd Cymraeg yna mewn gydag ardaloedd mwyafrifol Saesneg eu hiaith. A ydy’r Llywodraeth o blaid creu rhanbarth economaidd i’r gorllewin Cymraeg fel ein bod ni’n gallu gwireddu ar y potensial sydd yna fel sy’n cael ei amlygu yn y strategaeth?

Rydw i’n credu bod yn rhaid i ni fuddsoddi yn economi’r ardaloedd lle mae Cymraeg yn iaith gymunedol, ond beth nad ydw i eisiau ei wneud yw creu Gaeltacht, fel petai—creu cymuned neu ranbarth lle rydym yn creu’r Gymraeg fel, ‘Dyna le mae’r Gymraeg yn cael ei siarad’. Rydw i newydd ateb Aelod Castell Nedd amboutu’r pwysigrwydd o hybu’r Gymraeg yn y Cymoedd hefyd. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i bob un gymuned, lle bynnag yr ydym ni yn ein gwlad ni. Rydw i’n cydnabod bod yn rhaid i ni fuddsoddi, a dywedais i wrth ateb Sian Gwenllian fod yn rhaid i ni sicrhau bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i’r cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol, a sicrhau dyfodol economaidd i’r cymunedau felly. Mae hynny’n rhywbeth yr ydw i’n gweithio arno fe gydag Ysgrifennydd yr economi, a phan fydd Ysgrifennydd yr economi yn gwneud ei ddatganiad amboutu’r polisi economaidd rhanbarthol, bydd lle i’r Gymraeg, yn integreiddieidig, fel rhan o hynny.

7. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De

Yr eitem nesaf yw datganiad gan yr un Gweinidog, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ar y wybodaeth ddiweddaraf am y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de. Unwaith eto, rydw i’n galw ar Alun Davies.

Member
Alun Davies 17:27:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i’n falch eich bod chi’n cael y cyfle i wrando arnaf i unwaith eto. Rydw i’n falch iawn o gael y cyfle i drafod gwaith y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de. Mi fydd Aelodau yn ymwybodol ein bod ni wedi sefydlu’r tasglu blwyddyn yn ôl i weithio gyda chymunedau a busnesau ar draws Cymoedd y de i sicrhau ein bod ni’n gallu creu newid economaidd sydd yn para ar draws y rhanbarth i greu swyddi o ansawdd da sy’n agos at gartrefi pobl, gwella lefelau sgiliau, a chreu mwy o gyfoeth yn y Cymoedd.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

I would like I would like to place on record, Deputy Presiding Officer, my gratitude to the taskforce for its work over the last 12 months. I want to thank my own colleagues in government—Ken Skates, the Cabinet Secretary for the Economy and Infrastructure, and Julie James, the Minister for Skills and Science. The membership of the taskforce has been extended over the course of the year, and new members include Fiona Jones, from the Department for Work and Pensions, and Gaynor Richards, from Neath Port Talbot Council for Voluntary Service.

The first year has been fast-paced. We have met with, talked with, and listened to people living and working in the Valleys. These conversations have been lively, insightful and challenging. They, together with the evidence the taskforce has taken over the course of the last year, have helped to shape our priorities for the future. Deputy Presiding Officer, we’re not simply creating a plan for the Valleys; it is a plan from the Valleys. We know we need to work differently to, and learn from, previous initiatives and programmes that have focused on the Valleys. This cannot and will not be another top-down approach towards regeneration and economic renewal. We will continue to work with communities across the south Wales Valleys. The taskforce will make sure that we use existing resources in a co-ordinated way and will focus on the priorities that have been identified by those communities. These priorities will be set out in ‘Our Valleys, Our Future’, our high-level plan for action, which will be published on 20 July in Ferndale.

Deputy Presiding Officer, as a result of the feedback we received from people living and working in the Valleys, we have developed the plan and the actions we will take over the coming years around three themes: good-quality jobs and the skills to do them, better public services, and the local community and environment. At the same time, the issue of transport was raised by people across the whole region, and this is something we will also address in the coming months. The need for good-quality jobs and access to skills training was a clear priority for the people and businesses with whom we have spoken. People told us that there are just not enough job opportunities within reach of their local communities and too often the jobs that are available are on zero-hours contracts or they are temporary or agency work. It is the taskforce’s ambition that by 2021 we will have closed the employment gap between the south Wales Valleys and the rest of Wales. This means helping an additional 7,000 people into work and creating thousands of new, fair, secure and sustainable jobs in the Valleys. It is timely that the Minister for Skills and Science is today setting out the Welsh Government’s new agenda for employability. This work will help to widen our efforts to support people who are out of work into jobs and create better conditions for work. The taskforce will help to ensure the new employability agenda will deliver maximum benefits for our Valleys communities.

Deputy Presiding Officer, the taskforce will also target investment to secure new strategic hubs in six areas across the Valleys. These will be areas where we seek to focus public investment in order to create new jobs and further opportunities to attract private sector investment. We will work with local communities, local authorities and businesses to ensure the focus of each hub will reflect the opportunities and demands of each area and their aspirations for the future. One of these hubs will be the new automotive technology business park for Ebbw Vale, which the economy Secretary announced last month. This will be backed with £100 million over 10 years and will support jobs and investment across the Heads of the Valleys.

We will look to maximise job opportunities in the local economy—the foundational economy—businesses we use every day and see all around us, such as retail, care and the food industry. We will also encourage and provide support for existing and potential entrepreneurs. I have seen how this can work in my own constituency and would like to see this happening across the whole of the Valleys. Each area of the Valleys is unique, but each community has a rich heritage and culture. The Valleys are also home to some of the most breathtaking but underappreciated and underused natural landscapes in Wales. We heard frequently in public meetings and discussion groups that we need to do more to celebrate and capitalise on the Valleys’ natural environment.

The taskforce will therefore explore the concept of a Valleys landscape park to help local communities build on their many natural assets, including the potential for community energy generation and tourism. We have also heard from many people about the fabric of our towns and communities and how we need to invest in the future of our Valleys towns. At the same time, people spoke with a passion about the litter and fly-tipping that disfigures too much of our local environment. All of these are issues that we will address over the coming few months.

We are launching ‘Our Valleys, Our Future’ at a time of unprecedented infrastructure investment in south Wales. The south Wales metro, the two city deals, the Welsh Government’s commitment to invest in affordable housing, and the M4 relief road, all offer opportunities for people living in the Valleys. These are opportunities that we must, and will, maximise.

I am determined the taskforce will make a real difference to Valleys communities over the course of this Assembly term. This is the beginning of a longer-term journey, which is being shaped by people working and living in the Valleys. We must now work together to turn this vision into action on the ground. Once the plan is launched, we will continue to talk with people to make sure that these actions are shaped by people living in the Valleys. Drawing on those views, we will also develop a delivery plan with targets and outcome measures. This plan will be published in the autumn. This will have a clear timetable for delivery.

We will have a structure in place to ensure there is accountability for this work. We have a cross-Government board that will ensure and provide oversight and accountability for the progress made against our commitments. It will be supported by a number of different work streams and I will be asking members of the taskforce to lead work on these different work streams.

Deputy Presiding Officer, I am excited to be part of this work in the Valleys. This is a part of Wales that is close to my heart. It is where I was born and brought up, and it’s where I represent today. The taskforce will build on the lessons learned from previous regeneration schemes, shaped by the feedback we have received from communities across the Valleys of south Wales. ‘Our Valleys, Our Future’ offers hope for a brighter future. People living and working in the Valleys deserve nothing less.

Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n fy atgoffa o’ch rhagflaenydd Leighton Andrews, a oedd i fyny ac i lawr ar ei draed ar yr un prynhawn yn cyflwyno nifer o ddatganiadau i ni ar yr un pryd. Rwy’n gobeithio nad yw’r un dyfodol gwleidyddol yn eich disgwyl chi ag a oedd, yn amlwg, yn disgwyl y Gweinidog arbennig hwnnw,.

Ond rwyf yn croesawu eich datganiad. Yn amlwg, rydych chi wedi rhoi llawer iawn o egni personol, ac egni’r Llywodraeth i mewn i hyn—a hynny'n gwbl briodol, er tegwch i chi. Hefyd, eich dull draws-Llywodraeth—yn hytrach nag edrych arno o safbwynt unochrog, a meddwl, ‘Fi piau hwn, a fi fydd yn ei arwain.' Mae’r ffaith eich bod yn mynd ag Ysgrifenyddion y Cabinet gyda chi i lawer o'r cyfarfodydd cyhoeddus yn rhoi ffydd bod y Llywodraeth yn edrych ar hyn ar y cyd.

Gan fy mod yn credu ei bod hi’n deg dweud y gall llawer o gymunedau'r Cymoedd ddweud, mewn rhai achosion, y gallen nhw fod wedi clywed am hyn i gyd o'r blaen. Ond mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar weithgarwch economaidd, os edrychwch chi ar safonau addysg, ac ar lawer o'r dangosyddion allweddol, yn anffodus, nid ydym ni wedi gweld y gwelliannau y byddai pob un ohonom ni yn dymuno eu gweld. Yn fwy na dim, mae a wnelo hyn â chynyddu’r gweithgarwch economaidd hwnnw—yn y pump, 10, 15 mlynedd nesaf—fel eu bod nhw yn dod yn gynaliadwy, fel eu bod nhw yn creu eu dyfodol eu hunain ac, yn anad dim, eu bod nhw yn dod yn lleoedd y mae pobl yn gyffredinol eisiau byw a gweithio ynddyn nhw hefyd.

Rwy’n sylwi o’ch datganiad, Gweinidog, eich bod yn dweud y byddwch chi’n lansio’r cynllun blaenllaw 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yr wythnos nesaf, ond yna mae'n rhaid i ni aros tan yr hydref tan y byddwn yn cael y dangosyddion perfformiad, neu sut y byddwch yn mesur eich hun, y soniasoch amdano yn rhan olaf eich datganiad. Meddwl oeddwn i: pam y datgysylltu? Oherwydd, does bosib, i wneud hwn yn gynllun cydlynol, rydych chi eisoes yn deall pa ddangosyddion yr ydych chi’n ceisio eu cyflawni. Felly, pam nad yw'r ddau yn gysylltiedig? Oherwydd er mwyn i ni fod yn hyderus bod y cynllun hwn yn fwy na geiriau ar bapur, mae angen i ni allu gweld y cynnydd a mesur y cynnydd, nid yn unig fel gwleidyddion, ond fel cymunedau o'r Cymoedd, fel y dywedais i, fel y gallan nhw fod yn ffyddiog eich bod chi’n symud i'r cyfeiriad cywir.

Rydych chi wedi crybwyll, yn eich sylwadau agoriadol, sut y cawsoch chi arweiniad gan y cymunedau eu hunain, a da o beth yw hynny. Byddwn yn awyddus i ddeall ble yr ydych chi’n credu bod swydd yn ddigon lleol i'w galw’n swydd sydd o fewn cymuned leol. Rydych chi’n cyffwrdd ar hynny yn eich datganiad yn y fan yma:

o fewn cyrraedd eu cymunedau lleol

yw'r geiriau yr ydych chi’n sôn amdanyn nhw. Eto i gyd, mae llawer o'r dulliau economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi eu defnyddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn sicr wedi creu cyflogaeth ar hyd y llain arfordirol hwn—yn enwedig yn y de—sydd wedi arwain, yn amlwg, at lawer o bobl yn symud allan o'r Cymoedd i fanteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth hynny. Felly, fe hoffwn i ddeall: a ydych chi’n gweld y cyfleooedd cyflogaeth hyn fel rhai ar gyfer y de yn ei gyfanrwydd, neu a ydych chi’n canolbwyntio'n benodol ar greu swyddi lleol yn y cymunedau eu hunain? A sut ydych chi'n llwyddo i wneud hynny? Oherwydd rydych chi yn cyfeirio at greu 7,000 o swyddi ychwanegol yn y cyfnod hwn hyd at 2021, rwy’n credu eich bod yn siarad amdano. A yw'r swyddi hynny yr ydych chi’n gobeithio eu creu yn rhai gwirioneddol newydd—felly yn ychwanegol at y rhai sy’n bodoli yn y Cymoedd yn barod—neu a ydyn nhw’n ddim mwy na swyddi a fyddai’n llenwi swyddi sydd eisoes yn bodoli, naill ai yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r sector gwirfoddol? A allwn ni wir fod yn edrych ymlaen at gael 7,000 o gyfleoedd gwaith newydd yn ychwanegol at yr hyn sydd eisoes yn bodoli yn y Cymoedd?

Rydych chi’n cyffwrdd hefyd ar y chwe chanolfan strategol yr ydych chi’n awyddus i’w datblygu yn y Cymoedd. Buaswn yn hoffi deall sut yr ydych chi’n datblygu’r cysyniad hwnnw, beth yn union maen nhw’n eu cynrychioli—a ydyn nhw’n ddim mwy nac ardaloedd menter bychain? Oherwydd rydych chi’n cyfeirio at yr un sydd gennych chi ym Mlaenau Gwent, er enghraifft, a ddatblygodd o'r cyhoeddiad Cylchdaith Cymru fel model. Wel, mae hwnnw'n fodel thematig sy’n seiliedig ar y sector modurol. Felly, wrth gyflwyno'r pum canolfan y byddai gennych chi’n weddill yn y cysyniad hwn, beth ydych chi'n ei olygu mewn gwirionedd? Yn ddaearyddol, sut y cânt eu lledaenu ar draws ardal y Cymoedd? Yn arbennig, faint o gyllideb a gaiff ei neilltuo i greu'r cyfleoedd? Yn amlwg, ym Mlaenau Gwent, rydych chi wedi nodi £100 miliwn dros 10 mlynedd ar gyfer y ganolfan benodol honno. A all y pum canolfan arall ddisgwyl cael yr un faint o gyllid? Oherwydd, unwaith eto, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig deall pa adnoddau mae Llywodraeth Cymru yn eu buddsoddi yn y cysyniad hwn. Rwyf yn rhybuddio rhag cofleidio’r athroniaeth 'adeiladwch o ac fe ddaw’r bobl', oherwydd, mewn gwirionedd, rydym ni wedi gweld nad yw’r athroniaeth honno’n gweithio. Ac felly, os mai hynny fydd sail eich gweithgaredd economaidd, rhowch rywfaint o fanylion ychwanegol fel y gallwn ni ddeall beth y gallwn ni ei ystyried fel bod yn llwyddiant a beth fydd y cysyniad yn ei gyflenwi.

Wrth gloi, rwyf yn croesawu'r cyfeiriad at yr amgylchedd naturiol—[Torri ar draws.] Rwy'n gobeithio bod arweinydd y tŷ yn iawn. Roeddwn i braidd yn bryderus y byddai'n rhaid i mi ddod draw a rhoi cusan bywyd chi. [Torri ar draws.] Gallaf weld fod wyneb arweinydd y tŷ yn goch. Ai pwl o wres yw hwnna?

Wrth gloi, carwn longyfarch y Gweinidog am gyfeirio at amgylchedd naturiol y Cymoedd. Fel rhywun sydd o gefndir amaethyddol, rwyf yn credu na wnaed hanner digon o ddefnydd o’r adnodd hwn yn y Cymoedd. Bûm yn siarad, yn ddiweddar, ar sail drawsbleidiol, gyda Hefin o Gaerffili, ac â'r Aelod dros Gwm Cynon hefyd, ac Aelodau eraill o’r Siambr, am y tiroedd comin sydd ar ben y Cymoedd—mae yna fannau agored enfawr sy’n ffurfio cyfleuster economaidd pwysig ar gyfer amaethyddiaeth. Ond maen nhw hefyd yn chwarae rhan bwysig yn amgylchedd naturiol y Cymoedd, a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ynghylch sut y mae'r Gweinidog yn gweld yr amgylchedd naturiol hwnnw yn chwarae rhan wirioneddol yn y dadeni yr ydym ni i gyd eisiau ei weld yn y Cymoedd, a hynny ar draws pob un o’r Cymoedd.

Rwy'n ddiolchgar i arweinydd Ceidwadwyr Cymru am ei eiriau caredig a’i groeso i'r datganiad y prynhawn yma. A gaf i ddweud wrtho—? Pan ofynodd y Prif Weinidog i mi ysgwyddo’r cyfrifoldeb o gydlynu ac arwain y gwaith hwn, roeddwn i’n glir iawn, iawn nad ydym ni, wrth greu tasglu i’r Cymoedd, eisiau creu cwango arall nac ychwaith eisiau creu math arall o beiriant cyflawni ynddo'i hun, ond yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud oedd cyfuno swyddogaethau presennol y Llywodraeth a sicrhau bod pob rhan o'r Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb dros gyflawni yng Nghymoedd y de. Mae'r tasglu ei hun wedyn yn creu pwyslais ac mae’n gatalydd ar gyfer gweithredu i alluogi’r pethau hynny i ddigwydd. Yn sicr, does dim angen unrhyw strwythurau cyflenwi cymhleth eraill arnom ni, a does arnom ni ddim eisiau dyblygu. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau yw canolbwyntio clir ar Gymoedd y de. Felly, roedd y Prif Weinidog yn glir iawn, iawn—ac roedd yn amlwg yn cytuno bod angen tasglu arnom ni er mwyn sbarduno’r gwaith hwn yn ei flaen, yn hytrach na’i fod yn cyflawni ei hun. Ac felly bydd Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn cyflawni’r gweithio traws-lywodraethol a'r uchelgeisiau a'r amcanion sydd gennym ni, ac fe gaiff y rhain eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithredu er mwyn cyflawni ei rhaglenni presennol. Ond mae hefyd yn gweithredu fel catalydd i alluogi eraill i ddarparu ac i ddod â phobl eraill at ei gilydd. Felly, rwy’n glir iawn, iawn—ac rwy’n croesawu ei gydnabyddiaeth o hynny—fod hyn yn rhywbeth i'r Llywodraeth gyfan ei gyflawni.

Bu, wrth gwrs, nifer o wahanol fentrau ar gyfer y Cymoedd. Rwy'n cofio eistedd wrth ochr Robin Walker mewn digwyddiad cyn y Nadolig, ac roedd yn trafod y gwaith y bu ei dad yn ei wneud yn y Cymoedd rai blynyddoedd yn ôl. Soniodd am gymaint yr oedd ei dad wedi mwynhau’r gwaith hwnnw, a sut yr oedd yn teimlo fod ganddo’r awydd a’r angen i gyfrannu at ddyfodol economaidd y Cymoedd. Felly, mae angen i ni ddysgu o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn y gorffennol, a chydnabod bod angen pwyslais llawer ehangach ar y Cymoedd na fu gennym ni erioed o’r blaen o bosib.

Rwyf hefyd yn cytuno bod angen ffydd ar y bobl sy'n byw yng nghymunedau’r Cymoedd i wybod bod hyn yn fwy na dim ond geiriau, ac y byddwn yn cyflawni’r addewidion a'r ymrwymiadau yr ydym ni yn eu gwneud. Rwyf yn awyddus i sicrhau bod gennym ni gynllun cyflawni—cynllun cyflawni gyda thargedau clir, gyda chamau gweithredu clir ac amserlenni clir. I mi, mae'n gwbl hanfodol fel Gweinidog fy mod yn cael fy nwyn i gyfrif am yr addewidion a wnaf, i'r lle hwn ac mewn mannau eraill, a bod pobl yn gallu fy nwyn i gyfrif drwy sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd i alluogi pobl eraill i’n dwyn i gyfrif, a bod gennym ni dargedau clir ac amserlenni clir. Mae hynny'n golygu y gallwn ni gael dadl llawer fanylach am yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud, yn y tymor Cynulliad hwn ac wedi hynny. Felly, byddwn yn cyhoeddi cynllun cyflawni yn yr hydref. Byddaf yn sicrhau y bydd amser y Llywodraeth ar gael ar gyfer datganiad neu ddadl bellach i sicrhau bod yr Aelodau'n cael y cyfle i’n holi ni ynghylch hynny, a byddaf yn sicrhau y bydd yr holl wybodaeth ar gael yn gyhoeddus er mwyn galluogi’r atebolrwydd hwnnw i fod yn ddadl drylwyr am y ffordd yr ydym ni’n symud ymlaen â’r maes polisi hwn, ac nid dim ond math mwy gelyniaethus, efallai, o atebolrwydd a welwn ni yn llawer rhy aml.

O ran swyddi lleol a beth mae hynny'n ei olygu, yn amlwg, bydd metro de Cymru yn fodd o sicrhau ein bod yn gallu rhoi’r cyfle i bobl deithio i chwilio am waith pan fo angen, i gael cyfleoedd gwahanol am waith a sgiliau, ac i gael addysg a gwasanaethau. Ond hefyd, mae angen i ni sicrhau bod gennym ni’r swyddi hynny ar gael iddyn nhw yn y lle maen nhw’n byw ynddo hefyd. Un o'r cyfleoedd gwych a welaf yn natblygiad prosiect deuoli'r A465 yw nad ydym ni ddim ond yn adeiladu ffordd osgoi ar gyfer trefi Blaenau'r Cymoedd, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn buddsoddi mewn coridor gogleddol, os mynnwch chi, lle bydd gennym ni, a lle mae angen i ni gael cynllun datblygu economaidd i greu ac i ysgogi datblygiad economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd, sef yr ardaloedd sydd wedi elwa lleiaf, os mynnwch chi, ar raglenni buddsoddi economaidd eraill. Fe allwn ni felly greu ac ysgogi gwaith lleol ac economïau lleol ym Mlaenau'r Cymoedd, yn ogystal ag ymhellach i’r de.

O ran swyddi lleol, un o'r dadleuon a gafwyd yn y lle hwn, ac y bu nifer o wahanol Aelodau ar lawer ochr i'r Siambr yn arwain arni, yw lle a swyddogaeth economi sylfaenol yn y dyfodol, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gweld mwy o fuddsoddi ynddo dros y blynyddoedd nesaf. Roedd yr astudiaeth drylwyr o Dredegar, a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl bellach, yn amlinellu sut mae modd i’r economi sylfaenol, wrth gwrs, helpu i gynnal gwaith—fe all gynnal swyddi—ond hefyd sicrhau bod cyfoeth yn aros o fewn cymuned benodol hefyd, ac rwy’n gobeithio y gallwn ni ddysgu gwersi o hynny a chymhwyso'r dull hwnnw o wneud pethau i rai o'r pethau y byddwn ni yn eu gwneud yn y dyfodol. Ond rwyf hefyd yn gobeithio, trwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth, y byddwn yn gallu ailgysylltu’r Cymoedd a Chaerdydd er mwyn sicrhau bod gennym ni un ardal economaidd lle y gall pobl symud ar gyfer gwaith, os dyna yw eu dewis, ond lle mae gwaith hefyd ar gael yn llawer agosach at gartref pan fo angen hynny a phan ei fod yn angenrheidiol. Felly, mae'n ddewis o ba un a ydym ni’n teithio i'r gwaith, ac nid rheidrwydd, ac nad yw’n rhywbeth y mae pobl yn cael eu gorfodi i’w wneud. Byddwn yn creu cyfleoedd newydd a byddwn yn dweud yn y rhaglen hon y bydd rhan o'r cyfleoedd hynny yn swyddi yn y sector cyhoeddus yr ydym ni yn dymuno eu creu yn y Cymoedd, ac rydym ni eisoes wedi dechrau’r broses honno.

Bydd y canolfannau strategol eu hunain yn wahanol mewn gwahanol leoedd; ni fydd yr hyn a allai weithio yng Nglynebwy o reidrwydd yn gweithio yn rhywle arall. Ac felly byddwch yn gweld adeiladu canolfan strategol, sy'n adlewyrchu uchelgais y lle hwnnw ac yn adlewyrchu anghenion yr ardal a’r rhanbarth hwnnw. Gallai fod yn wahanol mewn gwahanol leoedd—mewn gwirionedd, bydd yn wahanol mewn gwahanol leoedd. Bydd y buddsoddiad y byddwn ni’n ei gynhyrchu o Lywodraeth Cymru yn y gwahanol ganolfannau strategol yn fuddsoddi gwahanol mewn gwahanol leoedd a bydd ar ffurf wahanol. Yr hyn sy'n amlwg yw y bydd angen i ni wneud y buddsoddiad hwnnw mewn modd amserol er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau a'r uchelgeisiau yr ydym ni’n eu gosod i'n hunain.

Rwy’n gwybod fy mod yn trethu eich amynedd, Dirprwy Lywydd—

Ie. [Chwerthin.] Felly, os gwisgwch chi eich sbectol fe welwch chi gymaint yr ydych chi’n trethu fy amynedd. Felly—.

A gaf i ddim ond ateb y cwestiwn olaf ar barc y Cymoedd? Rwyf yn cytuno’n llwyr â'r hyn a ddywedwyd ynglŷn â photensial y tiroedd comin a chopaon y Cymoedd, yn arbennig. Rwyf wedi siarad sawl gwaith gyda Rhianon Passmore am daith olygfaol Cwmcarn, gwn fod Dai Rees wedi siarad am gwm Afan ar yr un pryd ac rwyf wedi diflasu Dawn Bowden lawer gwaith am yr adegau yr wyf yn mynd â fy mhlant fy hun i Garwnant i fwynhau'r cyfleusterau yno. Mae cyfleoedd gwych yn y Cymoedd i ni fwynhau golygfeydd a thirwedd y Cymoedd unwaith eto, ac i wneud hynny mewn ffordd gynaliadwy. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gynnwys rhyw fath o raglen Glastir yn rhaglenni’r dyfodol i gynnal y tiroedd comin, a fydd yn ein galluogi i weithio gyda thirfeddianwyr ac eraill i gefnogi a chynnal, nid dim ond bioamrywiaeth, ond mynediad at bob un o dirweddau’r Cymoedd, ac i wneud hynny mewn ffordd, sydd, unwaith eto, yn cynnwys ein holl gymunedau.

Mae’n galonogol clywed y bydd y gwaith hwn yn wahanol i fentrau a rhaglenni blaenorol sy'n canolbwyntio ar y Cymoedd, ac mae'n rhaid iddo fod yn wahanol, oherwydd nid yw’r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol wedi gweithio. Felly, mae'n gadarnhaol gweld ymrwymiad i wneud pethau'n wahanol, ac mae hefyd yn gadarnhaol eich bod wedi cydnabod Glynrhedynog fel cymuned sy'n teimlo ei bod wedi ei hesgeuluso’n arw.

Felly, rwyf wedi dechrau gyda rhywbeth cadarnhaol, byddaf yn troi yn awr at yr uchelgais i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y de a gweddill y wlad. Yn gyntaf oll, croesawaf y gydnabyddiaeth yr ydych newydd ddatgan bod heriau gwahanol yn rhannau deheuol y Cymoedd o’i gymharu â’r rhannau mwyaf gogleddol. Mae'n ffaith mai’r pellaf yr ydych chi o Gaerdydd, y mwyaf yw'r heriau. Felly, mae angen i ni gael ymrwymiad clir gennych chi y bydd yr agwedd 'nes at adref' o'ch cynnig swydd yn cael ei chyflawni. Rydym ni angen swyddi yn y Cymoedd, nid dim ond swyddi o fewn cyrraedd y Cymoedd. Felly, hoffwn wybod faint o swyddi fydd yn y Cymoedd. Mae lleoliad y swyddi yn hanfodol, fel y mae'r sgiliau a’r lefelau cyflog.  Rwy’n siŵr bod llawer ohonom ni yn y Siambr wedi dechrau ar ein gyrfaoedd drwy weithio yn y sector manwerthu, felly croesawaf y gydnabyddiaeth o bwysigrwydd yr economi sylfaenol, ond o ble y daw’r cyfleoedd gwaith ychwanegol hynny? Mae llawer o swyddi gofal a manwerthu eisoes yng nghymunedau’r Cymoedd. Beth am swyddi eraill? Beth am yrfaoedd i bobl?

Gweinidog, hoffwn hefyd ofyn ynghylch rhai o'r prosiectau yr ydych chi wedi eu rhestru, oherwydd, unwaith eto, nid wyf yn llawn hyder. Pam? Oherwydd dywedir bod y cynlluniau sydd eisoes yn bodoli yn berthnasol i’r tasglu hwn, ond cynlluniau sydd eisoes ar y gweill yw'r rhain. Mae'r parc modurol yng Nglynebwy eisoes wedi ei grybwyll. Mae'n newydd, ond mae'n ymddangos ei fod wedi ei greu dim ond oherwydd bod y cynllun Cylchdaith Cymru wedi’i wrthod. Nawr, wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn croesawu'r datblygiad hwnnw yng Nglynebwy, ond a oes atebion eraill tebyg ar gyfer lleoliadau eraill yn y Cymoedd? Beth yw'r prosiect mawr ar gyfer y Rhondda, er enghraifft? Mae'r cyfraddau cyflogaeth yn y Rhondda yn debyg i’r rhai ym Mlaenau Gwent. Mae’r niferoedd sy’n hawlio budd-daliadau yn debyg hefyd. Ond wrth ystyried Rhondda Cynon Taf yn ei gyfanrwydd, mae'r cymunedau mwyaf deheuol mwyaf cefnog yn cuddio'r tlodi a’r amddifadedd a wynebir gan bobl yn fy etholaeth i, ac rwyf wir yn credu bod angen i chi roi ystyriaeth i hynny. A ydych chi’n siarad â chyflogwyr mawr yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill i weld a fyddant yn ystyried trefi mwy y Cymoedd y tro nesaf y byddant yn ystyried ehangu?

Nodaf fod sôn am ffordd liniaru'r M4. A allwch chi amlinellu sut y bydd yr M4 newydd, ac yn arbennig y llwybr du yr ydych chi’n ei ffafrio, yn helpu'r Cymoedd? Comisiynodd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd adroddiad a oedd yn dweud mai ychydig iawn fyddai'r M4 newydd yn ei gynnig i'r Cymoedd, ac roedd yr adroddiad hwnnw’n canolbwyntio ar y Cymoedd sydd agosaf at Gasnewydd. Gweinidog, ni fydd Plaid Cymru yn derbyn sefyllfa lle caiff mentrau presennol Llywodraeth Cymru fel yr M4, sydd ag ychydig iawn i'w wneud â'r Cymoedd, eu tynnu i mewn i’r gwaith hwn. A gawn ni yn lle hynny brosiectau newydd sydd yn unswydd ar gyfer rhoi bargen deg i hen faes glo de Cymru? Byddaf i a Phlaid Cymru yn hyrwyddo unrhyw brosiectau newydd y mae'r tasglu yn eu cynnig, ond rydym ni eisiau gweld y prawf bod hwn yn waith newydd ac arloesol a fydd yn sicrhau canlyniadau ac yn rhoi terfyn ar y tlodi a'r amddifadedd sy'n dal gyda ni ers cau’r pyllau.

Holodd arweinydd y Torïaid am arian. Nawr, rwyf wedi sylwi na siaradwyd am unrhyw gyllideb—unrhyw gyllideb penodol—ar gyfer y gwaith hwn. Rydych chi wedi siarad am gatalyddion, ond rwy’n gobeithio yn fawr y caiff yr uchelgais yr ydych chi wedi ei amlinellu ei gefnogi gan adnoddau.

Rydych chi wedi crybwyll y metro. Faint o arian fydd yn cael ei ddyrannu i'r metro? Pryd y byddwn ni’n gweld y cynllun ar gyfer y metro? A ydych chi’n mynd i ddechrau ar y gwaith yn y lleoedd hynny sydd bellaf o’r ddinas? Dyma'r cwestiynau mae pobl yn y Cymoedd eisiau atebion iddyn nhw. Ni fydd pobl yn y Cymoedd yn derbyn ailadrodd mentrau blaenorol sydd naill ai wedi methu neu wedi gwneud pethau'n waeth, ac ni fydd Plaid Cymru yn derbyn hynny ychwaith.

Rwy'n ddiolchgar i Leanne Wood am ei hychydig eiriau caredig. Rwy'n cael yr argraff fy mod i newydd wylio fideo yn cael ei wneud. A gaf i ddweud yn dyner iawn, iawn wrth arweinydd Plaid Cymru mai hi yw’r unig Aelod yma sy’n cynrychioli’r Cymoedd sydd heb gwrdd â mi i drafod y gwaith hwn yn fanwl ynglŷn â sut y mae'n effeithio ar eu hetholaethau unigol? Mae nifer o Aelodau wedi dod ac wedi siarad â mi am y materion hyn, ac mae'n bosibl i bob Aelod barhau â’r sgyrsiau hyn am eu hetholaethau unigol ar unrhyw achlysur arall.

A gaf i ddweud y bu’r sgwrs a gefais gyda phobl yng Nglynrhedynog bythefnos yn ôl yn addysgiadol iawn? Roedden nhw’n siarad ynglŷn â sut y maen nhw’n gweld eu bywydau. Roeddwn i’n siarad â grŵp o bobl ifanc ynghylch sut yr oedden nhw’n gweld eu bywydau a sut yr oedden nhw’n gweld eu dyfodol, a'r hyn oedd ei eisiau arnyn nhw oedd gwleidyddion gydag atebion a gwleidyddion a oedd ag ymrwymiad i dreulio amser yn siarad â nhw a gwrando ar yr hyn yr oedd ganddynt i'w ddweud, ac—

Roedd swyddi yn rhan o hynny, ond nid y cwbl, ac mae’n debyg y byddai mwy o amser yn gwrando a llai o amser yn siarad mewn gwirionedd yn wers dda i arweinydd Plaid Cymru. A gaf i ddweud ein bod yn deall—? Rydym yn deall–ac mae'n amser da i drafod hyn ar hyn o bryd gydag adroddiad Matthew Taylor wedi ei gyhoeddi heddiw, sy'n amlygu rhai o'r anghydraddoldebau gwirioneddol ym marchnad lafur heddiw ac yn economi heddiw. Rydym ni’n gwybod na fydd trosolwg ystadegol o’r Cymoedd yn rhoi darlun cynhwysfawr i chi o fywydau pobl yn y Cymoedd. Ni fydd yn dweud wrthych chi am yr anawsterau a wynebir gyda chontractau dim oriau; ni fyddant yn siarad â chi am broblemau economi achlysurol; ni fyddant yn siarad â chi am broblemau gwaith asiantaeth, am ansicrwydd, am fethu â chynllunio ymlaen llaw, am fethu â chynllunio wythnos eich teulu neu eich bywyd gwaith. Ni fydd pobl yn siarad â chi am hynny, ond rwy’n credu bod y gwaith y mae Matthew Taylor wedi ei wneud ac a gyhoeddwyd heddiw yn dweud llawer wrthym ni am fywydau llawer o bobl yn y Cymoedd a phobl rwy’n siarad â nhw yn ddyddiol ac yn wythnosol.

A gaf i ddweud hyn mewn ymateb i’ch cwestiynau? Byddwn yn sicrhau y bydd y prosiect nes at y cartref yn dwyn ffrwyth ac y caiff cynlluniau arbrofol eu cyhoeddi a’u rhoi ar waith yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Sgiliau wedi bod yn arwain ar hyn a bydd yn gwneud cyhoeddiad ar hynny yn y misoedd nesaf. Byddwn yn sicrhau bod y swyddi hyn hefyd yn ardal y Cymoedd. Y rheswm pam y bûm i’n ymgyrchu dros ddeuoli'r A465, pan oedd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog yn ei wrthwynebu, oedd oherwydd yr hyn yr oeddwn i eisiau ei weld oedd buddsoddiad economaidd yng Nghymoedd y de. Roeddwn i eisiau gweld deuoli’r ffordd honno i sicrhau ein bod yn gallu creu coridor gogleddol a defnyddi’r coridor gogleddol hwnnw i ysgogi gweithgarwch economaidd, i greu swyddi, i greu gwaith a chreu gyrfaoedd. Dyna pam y gwnes i ymgyrchu i sicrhau ein bod yn cael y ffordd ddeuol honno, a phan yr oedd y Dirprwy Brif Weinidog yn dweud wrthym ni bob tro nad oedd yn flaenoriaeth iddo, fe wnaethom ni’n siŵr ei fod yn flaenoriaeth, a Llywodraeth Lafur a ddechreuodd gyflawni ar hynny. Gadewch i ni wneud hynny’n hollol glir.

Rwy'n synnu, hefyd, bod yr Aelod yn gofyn cwestiynau am y metro. Mae'r cyhoeddiadau hyn eisoes wedi eu gwneud, wrth gwrs. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith eisoes wedi gwneud cyhoeddiad ar y £750 miliwn ar y cynllun metro, ac mae eisoes wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer hynny, ac mae eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer hynny. Mae hynny wedi ei wneud ar sawl achlysur, ac mae eisoes yn y parth cyhoeddus. Gadewch i mi ddweud hyn, o ran prosiectau presennol: yn amlwg, rydym ni’n mynd i gael cymaint â phosibl o fanteision o’r prosiectau hynny sy'n bodoli ar hyn o bryd. Roeddwn i’n glir iawn, yn fy ateb i arweinydd yr wrthblaid, ein bod yn awyddus i sicrhau ein bod yn gweithredu fel catalydd, ie, a'n bod yn sicrhau bod y Cymoedd yn gyfrifoldeb i bob adran, yn yr un ffordd ag y siaradais yn gynharach am ddyfodol y Gymraeg, gan ddweud nad yw'n fater syml ar gyfer un adran ac un ffrwd gyllideb. Mae'n cael ei integreiddio i mewn ac yn gyfrifoldeb i bob agwedd ar y Llywodraeth a'r holl weinidogaethau a phob adran. Dyna'n union sut y byddwn yn symud ymlaen gyda’r Cymoedd, ac rwyf am ddweud hyn, i gloi: gallwch naill ai ddod gyda ni ar y daith hon neu beidio. Mae hwnnw’n fater i chi.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n dda bod gan Lywodraeth Cymru gynllun ar gyfer y Cymoedd, ond, wrth gwrs, mae angen inni sicrhau ei fod yn un effeithiol. Mae’n ymddangos bod elfen o amheuaeth mewn gwahanol sectorau o'r Siambr hyd yn hyn, ac mae gennym ni ddiffyg manylder. Wrth gwrs, yr ydych chi’n cael eich llesteirio gan broblem hanesyddol methiant cymharol, neu fethiant cymharol tybiedig, y mentrau blaenorol yn y Cymoedd. Felly, rwy’n dymuno pob lwc i chi gyda hyn ac, wrth gwrs, rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gobeithio y daw â pheth llwyddiant i’w ganlyn, ond mae angen i ni gael mwy o fanylion am yr hyn yr ydych chi’n ceisio ei wneud, ac, wrth gwrs, rydym ni’n aros am y cynllun cyflawni yn yr hydref.

Mae swyddi yn mynd i fod yn hanfodol, fel y mae wedi dod yn amlwg o'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei drafod heddiw. Nawr, rydych chi wedi awgrymu posibilrwydd o greu miloedd o swyddi, sy’n bosibilrwydd deniadol, ond nid ydym yn gwybod llawer ynglŷn â sut y caiff y swyddi hyn eu creu. Felly, tybed a allech chi ddweud ychydig bach mwy wrthym ni am y dulliau y byddwch chi’n eu defnyddio yn y cynllun hwn i greu swyddi. Os caiff mwy o swyddi yn y sector cyhoeddus eu hadleoli i'r Cymoedd, a allech chi roi rhagor o wybodaeth i ni am hynny?

Holodd un o'r siaradwyr blaenorol hefyd ynglŷn â chydweithio â'r sector preifat. Oes, mae angen i ni wneud yn siŵr y bydd swyddi yn y Cymoedd, nid dim ond yn y ddinas-ranbarth yn gyffredinol, felly a oes gennych chi ragor i'w ddweud am hynny? Yn benodol, pa ddulliau allech chi eu defnyddio? A fydd grantiau recriwtio neu hyfforddiant ar gael er mwyn i gwmnïau gyflogi pobl leol? A fydd unrhyw beth yn ymwneud â hyfforddiant ar gyfer sectorau penodol? Dyna bosibilrwydd arall. Fe soniasoch chi am hyrwyddo twristiaeth drwy hyrwyddo harddwch naturiol y Cymoedd, sef agwedd a gaiff ei hanwybyddu'n aml. Rydych chi wedi siarad am y parc tirlun, er enghraifft, felly a allwch chi ddweud unrhyw beth arall wrthym ni am hynny, yn benodol, y prynhawn yma? Diolch.

Rydym ni’n awyddus i sicrhau bod gennym ni nifer o ddulliau gwahanol ar gael i ysgogi gweithgarwch economaidd a chreu gwaith a chreu swyddi, ac, fel y dywedais i wrth ateb cwestiwn cynharach, creu nid swyddi yn unig, ond gyrfaoedd yn y Cymoedd. Rydym ni wedi amlinellu dull gweithredu, sef sicrhau ein bod nid yn unig yn defnyddio'r metro, ond llwybrau teithio eraill hefyd, fel ffyrdd canolog, os mynnwch chi, o fewn y Cymoedd, a sicrhau bod gennym ni leoliadau ar hyd y gwahanol gysylltiadau trafnidiaeth hynny lle y gallwn ni ganolbwyntio ar safleoedd unigol a lleoedd unigol, a chreu canolfannau strategol a all arwain, ynddynt eu hunain, at y posibilrwydd o greu twf a swyddi yn y lleoliadau hynny yn ardal y Cymoedd.

Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn yr economi sylfaenol ac mewn economïau lleol er mwyn sicrhau y ceir buddsoddiad mewn entrepreneuriaid lleol, busnesau lleol, swyddi lleol a chwmnïau lleol. Felly, byddwn yn defnyddio dulliau o’r fath ar gyfer ysgogi a chreu gweithgaredd economaidd yn y Cymoedd. Ein nod yw cau'r bwlch rhwng y Cymoedd a gweddill Cymru dros y blynyddoedd nesaf, a byddwn yn cyflwyno cynllun ac amserlen o ran sut yr ydym ni’n gweld hynny'n digwydd.

O ran y parc tirlun, credaf fod hwn yn gyfle cyffrous iawn i ni werthfawrogi a thrysori’r Cymoedd mewn modd efallai nad ydym ni wedi ei wneud bob amser yn y gorffennol. Rwyf am iddo fod yn gysyniad parc rhanbarthol a fydd yn ymestyn o hen waith haearn The British yn etholaeth fy nghyfaill yn Nhorfaen ar draws i'r gorllewin ac i Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin—rhywle lle y gallwn ni werthfawrogi a thrysori’r holl wahanol dirweddau a lleoedd yn y Cymoedd. Treuliais amser gyda fy nghyd-Aelod, Dai Rees, ar wahanol adegau yng Nghwm Afan. Gwn fod cynlluniau i gael y gwerth mwyaf o’r dirwedd yn y fan honno, ond mi wn hefyd o fy mhrofiad personol o fyw yn y Cymoedd ein bod eisiau mentro i’r copaon i’r tiroedd comin i archwilio a deall yr hanes, ac nid dim ond yr hanes diwydiannol, ond yr hanes cyn y cyfnod diwydiannol sydd gennym yn y Cymoedd a'r dreftadaeth sydd gennym ar gael i ni, ac nid yn unig i sicrhau bod gennym ni gynnig twristiaeth, os mynnwch chi, ar gyfer pobl o fannau eraill, ond hefyd ar ein cyfer ni ein hunain, a’n bod yn gallu gwerthfawrogi a thrysori'r mannau lle yr ydym ni’n byw, a dysgu eto hanes diwydiannol y Cymoedd.

Treuliais beth amser pan oeddwn i’n ddyn ifanc, a hyd yn oed heddiw, i fyny yn Nhrefil, yn y chwareli yno—y chwareli calchfaen uwchben Tredegar—ac yna hefyd dilyn y dramffordd i lawr Brynoer i Dalybont a mannau eraill: y cysylltiadau a grëwyd cyn bod gennym ni ffyrdd M4 a rheilffyrdd y byd hwn. Felly, rwy’n gobeithio y byddem ni’n gallu gwneud hynny. Rwy’n gobeithio y byddai hwnnw’n brosiect cyffrous a gweddnewidiol, ac yn un na fydd ddim ond yn gweddnewid y Cymoedd, ond bywydau’r bobl sy'n byw yno hefyd.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a hefyd cofnodi fy niolch i'r Gweinidog ac aelodau eraill o dasglu’r Cymoedd am ymweld â fy etholaeth ac am gynnal ymarfer ymgynghori yno.

Y bore yma, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, a’r siaradwraig wadd oedd y Dr Victoria Winckler o Sefydliad Bevan. Mae llawer o'r syniadau a drafodwyd gennym ni yno wedi eu crybwyll yn eich datganiad chi heddiw mewn gwirionedd—er enghraifft, pwysigrwydd canolfannau strategol. Hefyd, yn y pwyllgor economi, rydym ni wedi casglu tystiolaeth ac wedi edrych ar bwysigrwydd pegynau twf neu ganolfannau strategol i sicrhau y caiff cyfoeth a ffyniant eu lledaenu ar draws yr ardal, yn enwedig yn sgîl y bargeinion dinesig. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pryd y bydd mewn sefyllfa i roi rhagor o wybodaeth i ni am leoliad y canolfannau strategol eraill y cyfeiriwyd atyn nhw yn y datganiad heddiw.

Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfeiriad at bwysigrwydd trafnidiaeth a seilwaith. Wrth gwrs, mae gan fetro de Cymru y potensial i weddnewid Cymoedd y de, ond mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio pwysigrwydd cysylltiadau ffyrdd hefyd. Felly, mae llawer o’r Cymoedd gogleddol eisoes wedi elwa ar ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, a’m hetholaeth fy hun, ac un fy nghyd-Aelod Dawn Bowden yw’r nesaf ar y rhestr i elwa ar y gwelliant hwnnw.

Hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut y mae'n gweld hynny’n cydblethu â darparu cludiant cyhoeddus i gysylltu’r Cymoedd gogleddol, a hefyd i gysylltu’r gwahanol ddinas-ranbarthau hefyd. Er enghraifft, os meddyliwch chi am Gwm Cynon a'r etholaeth gyfagos, Castell-nedd, etholaeth fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, mae gennym ni gysylltiadau gwych yno o ran economïau lleol. Fodd bynnag, gan eu bod mewn dwy ddinas-ranbarth wahanol, gallai fod perygl y caiff yr angen hwnnw am seilwaith ei anwybyddu. Felly, a fydd hynny’n rhywbeth y bydd tasglu’r Cymoedd yn edrych arno?

Yn olaf, roeddwn i’n croesawu'r cyfeiriad at bwysigrwydd yr economi sylfaenol yn eich datganiad heddiw hefyd, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith fod gofal cymdeithasol a gofal plant yn ddau faes lle yr wyf yn teimlo y gallem ni wneud cynnydd sylweddol i wella safonau byw llawer o'n poblogaeth o oedran gweithio. Er enghraifft, rydym ni’n gwybod bod Karel Williams, yn ei waith ar yr hyn y gall Cymru fod, wedi gwneud llawer o waith ynghylch sut y gallai gofal cymdeithasol sicrhau manteision economaidd i'r rhanbarthau. Ac rwy’n credu, yn enwedig o ran ein cynnig gofal plant sydd bellach ar gael gennym yng Nghymru, bod hwnnw’n rhywbeth arall y gallem ni ei ystyried i gyflwyno a chynnig mwy o swyddi cynaliadwy, o ansawdd da.

Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i fy nghyfaill, yr Aelod dros Gwm Cynon, am ei sylwadau. Cyfarfûm â Sefydliad Bevan ddoe ac fe drafodais rai o'n syniadau. Dylwn i ddweud a'i roi ar y cofnod fy mod, wrth gwrs, yn gyn-aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Bevan, ac rwyf wedi meddwl erioed bod Sefydliad Bevan yn cyfrannu at ein holl waith yn y llywodraeth mewn modd heriol, deallus ac adfywiol. Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi adroddiadau a dadansoddiadau Sefydliad Bevan. Rwyf hefyd yn mwynhau’r her mae’r Sefydliad yn ei rhoi i ni, a hir y pery hynny.

Gobeithiaf y byddwn ni, o ran y canolfannau strategol, yn gallu gwneud datganiadau ar hynny yr wythnos nesaf. Yn rhan o'n cynllun cyflawni, a gyhoeddir yn yr hydref, byddwn yn amlinellu sut yr ydym ni’n gweld pob canolfan unigol yn datblygu, ac amserlen ar gyfer hynny. Byddwn hefyd yn sôn am sut y byddwn ni’n ceisio buddsoddi yn y canolfannau hynny i wireddu ein gweledigaeth a'n huchelgeisiau ar gyfer y gwahanol ganolfannau hynny—a fydd yn wahanol mewn gwahanol leoedd, ond byddwn yn sicrhau bod gan bob canolfan ddealltwriaeth glir iawn o'r hyn y gall pob canolfan ei gyflawni a sut y byddwn yn helpu’r ganolfan honno i gyflawni’r uchelgeisiau hynny a thros ba gyfnod.

Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch trafnidiaeth. Crybwyllwyd trafnidiaeth dro ar ôl tro yn ystod ein sgyrsiau â phobl ar draws holl ardal y Cymoedd. Dyna oedd un peth cyffredin ym mhob man yr oeddem ni’n mynd iddo, ac rwy'n meddwl weithiau ein bod ni’n gweld y metro fel yr ateb i bob un o'r problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, ac rydym ni weithiau’n cydnabod bod yr angen am wasanaethau bws lleol, sydd nid yn unig yn cysylltu â’r gwasanaethau metro, ond hefyd â gwasanaethau cyhoeddus, yn gwbl hanfodol, ac i sicrhau bod gennym ni wasanaethau cyhoeddus wedi eu lleoli yn y fath fodd fel eu bod yn hygyrch i bobl heb yr angen am gludiant preifat a defnyddio ceir. Mae hynny'n gwbl hanfodol, rwy’n credu, wrth i ni symud ymlaen. Rwy’n gobeithio y gallwn ni roi mwy o bwyslais ar hynny.

Mae'r pwyntiau a wnaed am ddinas-ranbarthau a chysylltiadau yn gwbl hanfodol hefyd, a chyfeiriaf yr Aelod yn ôl at fy ateb cynharach pan siaradais am beidio â dymuno dyblygu a gorgymhlethu’r strwythurau sydd gennym ni ar gyfer cyflawni, a’n bod ni’n defnyddio strwythurau darparu presennol a mecanwaith presennol y Llywodraeth yn hytrach na chreu unrhyw beth newydd, ond ein bod yn gallu cydgysylltu a deall sut y byddwn ni’n cydgysylltu’n well yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud.

I roi ateb, cyflym, i’ch pwynt olaf ynglŷn â gofal cymdeithasol a gofal plant, rwy’n cofio treulio peth amser yn siarad â rhieni a phlant mewn grŵp yng Nglyn-nedd—grŵp Dechrau'n Deg—a gwrando ar yr hyn yr oedden nhw’n ei ddweud am yr anawsterau maen nhw’n eu hwynebu, yn gyntaf oll i ddod o hyd i ofal plant, ac yna gallu dychwelyd i'r gwaith ynghyd â bod eisiau dychwelyd i’r gwaith. Mae'n rhywbeth sy'n aros yn fy nhof yn awr. Rwy'n credu bod hyn yn un peth y dylem ni fod yn buddsoddi ynddo, a, drwy’r gwaith y mae Carl Sargeant yn ei arwain, rwy’n gobeithio y byddwn ni’n buddsoddi mewn gofal plant ac yn buddsoddi mewn hyfforddi pobl, gan alluogi pobl i weithio yn y sector yn ogystal, er mwyn eu galluogi i ddod o hyd i waith, ond hefyd i sicrhau bod rhieni sy'n gweithio yn y Cymoedd yn gallu cael gofal plant o ansawdd da sydd hefyd yn fforddiadwy.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rydym ni wedi treulio mwy o amser na’r hyn a neilltuwyd ar gyfer y datganiad hwn, felly rwy’n bwriadu symud ymlaen at y datganiad nesaf.

8. 7. Datganiad: Cyflogadwyedd

Datganiad yw hwn gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar gyflogadwyedd. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Julie James, i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy’n dymuno amlinellu fy agenda i ar gyfer cyflogadwyedd.  Rwy'n hynod falch fod hyn yn dilyn ein trafodaeth ni ar y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de gan y bydd cefnogi pobl wrth iddyn nhw geisio gwaith yn nodwedd allweddol o waith y tasglu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Bydd ymgysylltu â chymunedau, y mae tasglu’r Cymoedd eisoes wedi dechrau ei wneud, yn parhau. Rydym hefyd yn cydnabod bod ymdeimlad o frys wrth gael swyddi a thwf i gymunedau ledled Cymru sydd mewn angen o’r ddeubeth. Mae’r cyfle i ennill sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd o ansawdd da yn hanfodol ac rwy'n falch o allu symud ymlaen i fynd i’r afael â hyn ar unwaith. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yng nghyfradd cyflogaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae dros 1.4 miliwn o bobl mewn gwaith yng Nghymru, sef cynnydd o 19.1 y cant ers datganoli. Ond gwyddom hefyd fod y gyfradd diweithdra yn parhau i fod yn uchel mewn rhai cymunedau ledled Cymru. Er na ddylid tanamcangyfrif cyfraniad Llywodraeth Cymru i’r gyfradd gadarnhaol o gyflogaeth yn gyffredinol, gyda chefnogaeth cyllid yr UE, rydym yn gwybod nad yw’r stori hon yn un gwbl gadarnhaol ac mae'n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi pobl sy’n anweithgar yn economaidd, y rheini a hoffai weithio oriau ychwanegol a'r rheini mewn cyflogaeth ansicr.

Mae thema cyflogadwyedd yn llifo drwy bob un o’r pedair strategaeth drawsbynciol sy’n datblygu. Yn syml, nid mater o swyddi a sgiliau yn unig yw cyflogadwyedd; mae'n ymwneud â chael pob agwedd ar Lywodraeth—addysg, iechyd, tai, cymunedau, trafnidiaeth, natur wledig, gofal plant, datblygu rhanbarthol—i weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl i gael gwaith cynaliadwy. Ym mis Ebrill, cymeradwyodd y Cabinet fy null i ar draws Llywodraeth Cymru o ymdrin â chyflogadwyedd, sy’n nodi ein nod cyffredin o gynnal cyfradd uchel o gyflogaeth yng Nghymru, lleihau anweithgarwch economaidd a chynyddu nifer y bobl sydd mewn gwaith o ansawdd da. Yr her y mae’r Cabinet wedi ei rhoi i mi, ac y bydd yn fy nghefnogi i’w chyflawni, yw gyrru ymlaen â'r gwaith hwn, gan gydweithio, i gyflawni newid sylweddol yn ein dull ni o weithredu.

Ers mis Ebrill rwyf wedi sefydlu strwythur llywodraethu i gyfarwyddo'r gwaith hwn. Rwyf wedi ymestyn y gweithgor cyflogadwyedd gweinidogol, er mwyn sicrhau ymateb integredig drwy’r Cabinet. Rwy’n ddiolchgar i fy nghydweinidogion ar y gweithgor—Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—am eu cyfraniad i'r datganiad hwn heddiw. Byddaf yn defnyddio'r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ar ei newydd wedd, sydd eisoes wedi cymeradwyo ein hagenda cyflogadwyedd, i roi cyfeiriad strategol a her o du cyflogwyr a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol ac undebau llafur. Er mwyn sicrhau dull llawer mwy integredig, rwyf wedi sefydlu bwrdd cyflogadwyedd yn ymestyn dros Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys uwch swyddogion drwy holl adrannau’r Llywodraeth. Mae'r bwrdd wedi cael y dasg o lunio cynllun cyflenwi cyflogadwyedd i'w gyhoeddi cyn y Nadolig. Bydd y cynllun yn edrych yn fanwl ar wasanaethau a’r seilwaith sy’n bodoli eisoes, asesu eu gwerth wrth helpu pobl i ddod o hyd i waith a'i gadw, ac ystyried a ydynt yn rhoi gwerth am arian. Fel yr ydym yn ymwybodol i gyd, daw hyn yn bwysicach eto yn y blynyddoedd yn dilyn ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd. Byddaf yn sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn llunio cynllun cyfathrebu manwl â rhanddeiliaid allanol a fydd yn llywio cyfnod o ymgysylltu allanol i gyfarwyddo'r cynllun cyflenwi cyflogadwyedd.

Yn y cyfamser, nid ydym yn sefyll yn yr unfan. Disgwylir y bydd ein cynnig cyflogadwyedd newydd yn dechrau cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2019. Bydd hyn yn sefyll fel cynnig unigol dan yr enw, 'Cymru ar Waith', a bydd rhaglen newydd i oedolion yn sylfaen iddo, ynghyd â dwy raglen newydd a fydd yn rhoi cefnogaeth cyflogadwyedd i bobl ifanc. Rhwng nawr a’r pryd hwnnw, byddwn yn ad-drefnu ein rhaglenni presennol i ganiatáu trawsnewidiad llyfn, gan ddefnyddio'r Cymoedd yn ardal brawf i drwytho'r dull cyflenwi newydd. Byddwn yn gwneud newidiadau i rai o'n rhaglenni cyflogadwyedd presennol, gan gynnwys ReAct a ariennir gan yr UE, Twf Swyddi Cymru a’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, a sicrhau bod y rhain yn cydsefyll yn effeithiol i wella cymorth i bobl ddi-waith a'r rhai sydd byth a hefyd mewn cyflogaeth dros dro, sy’n talu’n wael.

Rydym yn cydnabod na all hyn fod yn fater yn unig o gymorth i unigolion. Rydym am gefnogi cyflogwyr i recriwtio a datblygu talent o fewn eu busnes, i roi hwb i gynhyrchiant a chyfle i bobl leol gael swyddi gwell ac agosach at eu cartref. Byddwn yn darparu cymorth busnes a chefnogi sgiliau integredig trwy Fusnes Cymru wrth wella ein rhagleni sgiliau hyblyg a chyflogadwyedd. Ein nod yw cefnogi 100 o fusnesau yn y Cymoedd sydd â'r potensial mwyaf ar gyfer twf, drwy gyfrwng yr hyn yr ydym yn ei obeithio fydd yn gymorth unigol i greu swyddi, cymorth ar gyfer recriwtio, cyflwyno hyfforddiant arbennig rhag-waith ac mewn gwaith, ac uwchsgilio a datblygu’r staff presennol. Rydym yn awyddus i hyrwyddo ffyniant i bawb fel bod manteision twf economaidd yn cael eu rhannu gan bawb sydd â gwaith. Rydym yn cefnogi gwelliannau i dâl ac amodau ar gyfer y rhai mewn cyflogaeth tâl isel ac ansicr. I'r diben hwn, mae gwaith wedi dechrau ar Gomisiwn Gwaith Teg, yr wyf i’n ei gadeirio. Adroddir am ganfyddiadau rhagarweiniol yn yr hydref.

Mae'n rhaid i ni roi cyngor ac arweiniad clir i unigolion. I gyflawni hyn, rydym yn awyddus i ddatblygu dull cyffredin o nodi anghenion cyflogaeth unigolion, a chefnogi proses atgyfeirio a chymorth ddi-dor. Rydym yn awyddus i weithio ledled y Llywodraeth i ddylunio a threialu'r defnydd o adnodd proffilio a system wybodaeth rheoli, fel y bydd cynghorwyr ledled Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yn defnyddio'r un system yn y dyfodol. Ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn cyrraedd y rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur ac yn rhoi iddyn nhw becyn cyfannol o gymorth a mentora personol, pwrpasol a dwys. Rydym hefyd yn dymuno lleihau’r rhwystrau cymhleth ar gyflogaeth, mynd i'r afael â lefelau anweithgarwch economaidd, a chyflawni ein huchelgais o ddatblygu ffyniant i bawb. Ni allwn gyflawni hyn mewn gwirionedd ond drwy gymorth sy’n fwy cydnaws, a ddaw yn sgil gweithio'n effeithiol ledled y Llywodraeth. Felly, carwn gydnabod yr ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu allgymorth yn y gymuned, fel yr amlinellwyd yn ei ddatganiad ar ddatblygu dull newydd o ymdrin â chymunedau cydnerth. Rwyf hefyd yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu cymorth cyflogaeth arbenigol i bobl sy'n gwella yn dilyn camddefnyddio sylweddau a chyflyrau o afiechyd meddwl.

Mae'n rhaid i'n gwaith ar gyflogadwyedd roi ystyriaeth lawn i’r cydbwysedd sy'n bodoli rhwng cyfrifoldebau ar gyfer cyflogadwyedd sydd wedi’u datganoli a’r rhai heb eu datganoli.  Rydym yn dymuno gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddylanwadu ar raglenni’r DWP yn y dyfodol a sut mae’r DWP yn gweithio yng Nghymru o ran cynllunio gwasanaethau cyflogaeth ar y cyd ac integreiddio o fewn ein cynllun cyflawni cyflogadwyedd arfaethedig. Os ydym eisiau llunio agenda gyflogadwyedd newydd, mae angen i ni ysgogi dull cydlynol ar draws Llywodraeth Cymru ac â'n partneriaid o fynd i'r afael â'r aml rwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar waith teg o ansawdd da a gwneud cynnydd ynddo. Bydd y dull hwn o fudd i unigolion ledled Cymru ac yn sicrhau'r dyfodol llewyrchus a diogel sydd ei angen i ni symud Cymru ymlaen. Diolch.

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dywed y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn dymuno cefnogi cyflogwyr i recriwtio a datblygu doniau o fewn eu busnesau, rhoi hwb i gynhyrchiant, a rhoi cyfle am swyddi gwell i bobl leol yn agosach i’w cartrefi. Yn ôl adroddiad gan Fanc Lloyds ym mis Rhagfyr y llynedd, mae 28 y cant o gwmnïau yng Nghymru wedi cael anawsterau wrth gyflogi staff medrus newydd yn ystod y chwe mis diwethaf. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog sut y mae'n bwriadu cryfhau’r cysylltiadau â chymunedau busnes i sicrhau bod y sgiliau cywir sy'n ofynnol gan y cyflogwyr yn cael eu darparu yng Nghymru? A fyddai modd iddi hefyd gadarnhau y bydd Cymru ar Waith yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein gweithlu lle mae llawer o anghydbwysedd yn bodoli’n barod?

Dywedodd y Gweinidog ei bod yn dymuno datblygu dull cyffredin o nodi anghenion cyflogaeth unigolion. Dywedodd Estyn yn ddiweddar fod angen mwy o gymorth ar fyfyrwyr anabledd dysgu gan golegau i nodi eu hanghenion ar gyfer cyflogadwyedd. Roedden nhw’n argymell bod colegau yn pennu cynlluniau dysgu unigol ac yn dylunio rhaglenni sy'n fwy heriol i ddisgyblion. Sut fydd ei strategaeth hi yn mynd i'r afael â’r anghenion ac yn gwella’r rhagolygon ar gyfer myfyrwyr ag anableddau a galluoedd o ran dysgu?

Roedd y datganiad yn crybwyll Gyrfa Cymru. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod disgyblion ysgolion uwchradd mewn rhannau o Gymru yn cael gwybod na fydd yna unrhyw brofiad gwaith ar eu cyfer, gan fod Gyrfa Cymru yn methu â chynnal gwiriadau iechyd a diogelwch ar gyfer lleoliadau gwaith. Sut y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r mater hwn o leoliadau gwaith, sy'n hanfodol wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith? Dywedodd Ysgol Addysg Caerdydd yn ddiweddar ei bod yn warth cenedlaethol nad yw plant yn cael y cyfle i oresgyn tlodi oherwydd diffyg cyngor gyrfaoedd. Sut wnaiff y cynigion hyn gynyddu capasiti’r cyngor gyrfaoedd sydd ar gael yng Nghymru?

Ers Brexit, mae'n hanfodol i bob plentyn yng Nghymru feddu ar fwy nag un sgìl i wasanaethu, ffynnu, a chyfrannu at ein cenedl, a dim ond y Ceidwadwyr—edrychwch ar eu syniadau nhw a sut y byddan nhw’n gwneud hynny. Dirprwy Lywydd, rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog ac yn edrych ymlaen at ei hateb yn awr.

Wel, diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. O ran datblygu sgiliau priodol ar gyfer busnes a chyflenwi busnes, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi sefydlu tair partneriaeth sgiliau ranbarthol ledled Cymru. Maen nhw ar eu trydedd flwyddyn erbyn hyn. Eleni, byddant yn cynhyrchu eu hadroddiadau blynyddol yn manylu ar wybodaeth a deallusrwydd am y farchnad lafur yn eu hardal, ac yn amlinellu'r sgiliau y mae eu hangen ar y cyflogwyr yn yr ardal honno. Ac, eleni, byddwn yn ariannu datblygiad sgiliau yn yr ardaloedd hynny yn ôl y cynlluniau datblygu rhanbarthol. Felly, caiff ei arwain i raddau helaeth gan fusnesau yn yr ardaloedd hynny, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif calon. Rydym wedi mynd i'r afael â hynny drwy sefydlu a chryfhau partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Ac, fel y crybwyllais yn y datganiad, rydym wedi ailgyflunio bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru er mwyn cael cynrychiolaeth well o’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny ar gyfer cael golwg dros Gymru gyfan, ac mae hynny'n cael ei yrru i raddau helaeth gan y cyflogwyr a’r undebau llafur yn gweithio gyda'i gilydd yn y bwrdd hwnnw gydag asiant cyflwyno. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â’r agenda honno, ac rydym yn cydnabod hynny’n sicr.

Yn yr un modd, ar faterion yn ymwneud â rhyw, bydd yr Aelod yn gwybod bod hynny wedi bod yn destun pregeth gennyf i ers cryn amser. Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r wybodaeth gywir i ferched ifanc a dynion ifanc ynglŷn â diwydiannau nad ydynt wedi eu hystyried yn addas ar eu cyfer yn draddodiadol—felly, yn benodol, meysydd fel gofal i ddynion ifanc, a meysydd fel peirianneg a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i ferched ifanc, oherwydd, os edrychwch ar y dosbarthiad rhyw, fel arall y maen nhw. Ac rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r cyngor gyrfaoedd cywir allan yno er mwyn y bobl ifanc eu hunain a hefyd er mwyn y rhieni a’r neiniau a’r teidiau—y rhai sy’n ffurfio barn, mewn geiriau eraill—y plant ifanc hynny. A byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda phobl sydd eisoes yn y diwydiant fel eu bod yn esiampl ac yn rhoi arweiniad yn hynny o beth.

O ran anabledd ac amrywiaeth, byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda'n cyflogwyr i wneud yn siŵr eu bod yn dod yn gyflogwyr hyderus wrth ymdrin ag anabledd, a’u bod mewn gwirionedd yn deall nad yw mor anodd â hynny gyflogi rhywun sy’n anabl, ac yn y blaen. Byddwn yn gwthio’r agenda hon fel rhan o'r hyn yr oeddwn yn sôn amdano o ran paratoi busnesau at dwf a chyfle, a bydd hynny'n rhan fawr o'r hyn yr ydym yn eu helpu i’w ystyried.

O ran Gyrfa Cymru, os oes gan yr Aelod ysgol benodol sydd â phroblem gyda materion sy’n ymwneud â phrofiad gwaith, byddwn yn ddiolchgar iawn iddo pe byddai’n ysgrifennu ataf i ynglŷn â hynny. Mae 'na lawer iawn o wybodaeth anghywir yn bodoli ynghylch pa wiriadau iechyd a diogelwch sy’n angenrheidiol mewn gwirionedd i roi pobl ifanc yn y gweithle. Mae gan y rhan fwyaf o weithleoedd sy’n cymryd plant ar brofiad gwaith y gwiriadau iechyd a diogelwch yn eu lle yn barod, felly, os oes gan yr Aelod fater penodol ynglŷn â hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddai’n ysgrifennu ataf.

O ran capasiti, cafodd Gyrfa Cymru ei drosglwyddo yn ddiweddar o bortffolio addysg fy nghydweithiwr Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i fy mhortffolio i. Y rheswm am hynny yw ei fod yn cydfynd yn well â chymorth busnes ac anghenion yr economi. Felly, gwneir cyhoeddiadau eto am sut yr ydym yn cynyddu’r capasiti ar gyfer twf yn y sector hwnnw.

A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Yn sicr, rydym yn croesawu'r symudiad tuag at gefnogaeth lawer symlach, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei nodi yn flaenorol i chi yn dilyn datganiadau blaenorol. A gaf i hefyd groesawu'r pwyslais parhaus ar ddull gwirioneddol draws-lywodraethol, yr wyf i yn ei ystyried yn hanfodol?  Clywsom y geiriau hyn yn cael eu dweud yn y gorffennol, ond rwy’n gobeithio—ac rwy'n siŵr y daw hyn yn amlwg—y byddwn yn gweld y newid diwylliannol hwnnw’n digwydd yn awr yn ei hanfod wrth i’r cynigion newydd gael eu cyflwyno.

Nawr, mae croeso wrth gwrs i’r ffaith fod lefelau cyflogaeth wedi codi yng Nghymru, fel y dywedwch chi. Ond, fel yr ydych hefyd yn ei gydnabod, mae tlodi mewn gwaith, tangyflogaeth, contractau dim oriau a ffactorau eraill, wrth gwrs, yn parhau i fod yn achos pryder sylweddol. Rydym wedi egluro ein bod yn awyddus i weld sgiliau yn cael eu halinio â’r prinder sgiliau yn yr economi a bod y ddarpariaeth ohonynt ar gael i bobl o bob oed ledled Cymru fel bod yr un cyfle ar gael i bawb wella eu sgiliau a dysgu sgiliau newydd wrth i fywydau gwaith pobl ymestyn, wrth gwrs, a bod yn fwy ansicr yn y cyfnod ansicr hwn.

Ac wrth siarad am hynny, mae cyllid yn allweddol. Rydych chi’n dweud wrthym yn eich datganiad am y pecyn cyfannol personol, pwrpasol, a chymorth dwys a mentora. Nid yw’r rhain yn bethau rhad, a chafodd llawer o’r rhain eu hariannu drwy gyllid Ewropeaidd yn y gorffennol. Pan godais i hynny gyda chi rai misoedd yn ôl roeddech chi’n eithaf hyderus wrth i chi ddweud bod addewidion wedi eu rhoi a byddai’r arian yn dod. Nid wyf yn gweld yr un hyder ar hyn o bryd yn gyffredinol, yn ogystal ag yn y datganiad hwn. Tybed a allech ddweud ychydig wrthym am sut yr ydych yn bwriadu ariannu'r ddarpariaeth newydd? A fydd hynny’n adlewyrchu lefelau presennol, neu a ydych yn rhagweld y daw mwy o fuddsoddiad o rywle, o ystyried efallai, byddai rhai yn dweud, yr uchelgais cynyddol sy'n cael ei adlewyrchu yn eich datganiad? Neu sut ydych chi'n gweld y bydd hynny’n cael ei gyflawni?

Nawr, mae disgwyl y bydd y cynnig newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019 yn hytrach na mis Ebrill 2018. Mae'n amlwg y bydd rhai yn siomedig oherwydd nad ydym efallai yn cyrraedd y fan yr hoffem fod ynddi mor gyflym ag y byddem ni’n ei hoffi. Rwy'n siŵr eich bod o’r un farn â hynny i raddau, ond efallai y gallech egluro inni pam eich bod yn credu bod angen i ni aros tan hynny, mewn gwirionedd, cyn y gallwn weld gwaith yn cael ei gyflwyno’n fwy eang yng Nghymru.

Rydych yn sôn eich bod yn awyddus i ddefnyddio'r Cymoedd yn ardal brawf i lywio'r dull cyflenwi newydd, ac mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith. Peth da bob amser yw treialu ac arbrofi, er y byddwn i’n dweud bod, mewn cyferbyniad, y cynnig gofal plant yn cael ei dreialu a'i roi ar brawf mewn llawer man mewn llawer o wahanol gyd-destunau. Tybed a ydych chi’n ystyried neu'n edrych ar gynlluniau peilot posibl neu bethau tebyg mewn, ddywedwn ni, ardaloedd gwledig o’u cymharu ag ardaloedd y Cymoedd, fel y gellir dysgu nifer ehangach o wersi o ran deddfu ar lawer o hyn.

Rydych chi’n dweud wrthym y bydd bwrdd cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn llunio’r cynllun, ac y bydd bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru yn rhoi cyfeiriad strategol. A wnewch chi ddweud wrthym pwy sy'n gyfrifol am gyflawni hyn, felly, ar ddiwedd y dydd, a hefyd sut y byddwch yn eu dal yn atebol am gyflawni? Rhaid i mi ddweud eich bod yn cyfeirio yn eich datganiad at nifer o fyrddau, tasgluoedd, gweithgorau, comisiynau, ac, ynglŷn â sector sy'n cael ei hystyried yn eithaf cymhleth ac aml haenog, rwy’n amau a yw hynny efallai yn dweud rhywbeth wrthym ni hefyd. Ond, yn gyffredinol, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Byddwn yn parhau, rwy'n siŵr, i gefnogi'r cyfeiriad yr ydych yn symud iddo, ond mae’n rhaid inni fod yn siŵr y caiff hynny ei wneud yn iawn, mewn modd amserol, ac mewn ffordd gynaliadwy, yn yr ystyr ariannol yn benodol.

Diolch yn fawr iawn am hynny, Llyr. O ran y materion llywodraethu, cyfeiriaf at hynny yn gyntaf. Rwy’n sylweddoli fy mod wedi crybwyll nifer fawr o fyrddau ac ati, ond byddwn yn rhoi rhyw fath o ddarlun i’r Aelodau o'r hyn yr ydym yn ei siarad amdano, ac fe welwch ei bod mewn gwirionedd yn llawer symlach. Oherwydd yr hyn yr ydym yn siarad amdano mewn gwirionedd yw bwrdd unigol ar draws y Llywodraeth ar gyfer y rhaglenni cyflogadwyedd, gyda bwrdd gweinidogol i gyd-fynd â hynny, a’r bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru allanol yn gyfeirnod allanol, ac yna bydd gennym gynllun ymgysylltu ar gyfer y rhanddeiliaid. Felly, mewn gwirionedd, mae hwn yn fframwaith symlach, a dweud y gwir, er y ceir nifer dirifedi o fyrddau ac yn y blaen, rwy’n cytuno’n hollol. Felly, byddwn yn mynegi hynny. Nid yw'r datganiad yn dweud hyn, ond byddaf i, er eglurder, yn dweud y bydd bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru yn adrodd i Gyngor Datblygu'r Economi, er mwyn i chi gwblhau’r cylch cyfrifoldeb.

O ran y cyflwyno, felly, hwnnw yw’r strwythur llywodraethu. Dyna sut y byddwn yn ei ddal i gyfrif. Rydym wedi gwneud hynny ar draws y Llywodraeth yn fwriadol. Caiff ei gyflwyno fel y mae’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd, ond gyda phobl yn adrodd trwy strwythur ar draws y Llywodraeth. Pwrpas y grŵp swyddogion yw edrych ar effaith, cyllideb, strwythur, pa raglenni sy’n gweithio a’r rhai nad ydynt yn gweithio, ac yn y blaen, a gwneud argymhellion yn unol â hynny i’r bwrdd gweinidogol ar draws y Llywodraeth ac i'r partneriaid allanol fel y bo hynny'n briodol.

Y syniad ynglŷn â hynny, mae’n amlwg, yw, os ydych chi’n ystyried y peth fel jig-so, rydym yn ystyried bod rhai o'r darnau yn gorgyffwrdd fwy na thebyg. Rydym o’r farn fod bylchau fwy na thebyg. Nid yw'r darlun mor glir ag yr hoffem iddo fod—os ydych yn dilyn fy nghyffelybiaeth hyd yn hyn. Y syniad mewn gwirionedd yw rhoi’r jig-so at ei gilydd mewn ffordd sy’n cydlynu’n well. Yna, ddim ond i gymysgu fy nhrosiadau, i unigolyn, yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw llwybr clir a chyson drwy’r daith. Felly, ni waeth o ble yr ydych yn cychwyn ar y llwybr, a bydd pobl yn amlwg yn cychwyn o fannau gwahanol iawn—felly, os ydych chi'n ifanc, byddwch yn cychwyn ar ddiwedd addysg orfodol; os ydych yn hŷn ac yn ailhyfforddi neu os ydych wedi bod allan o waith am beth amser, byddwch yn cychwyn mewn mannau gwahanol, ond, mewn gwirionedd, mae'r rhaglenni yn ffurfio llwybr cydlynol. Felly, er enghraifft, os bydd cydweithwyr yn adran Rebecca Evans fy nghydweithwraig yn ceisio rhoi cymorth i rywun sy'n camddefnyddio sylweddau neu rywun â phroblemau afiechyd sy'n atal eu cyflogaeth, pan gaiff y problemau hynny eu datrys neu ar y ffordd i’w datrys, byddant yn cael eu trosglwyddo’n briodol i'r rhan nesaf o’u taith, yn hytrach na chwblhau hynny ac yna chwilio ar eu liwt eu hunain am rywbeth arall i fynd ymlaen ato.

Felly dyna—. Felly, rwy'n arwain yn raddol at y rheswm pam ei bod yn cymryd cymaint o amser, gan fod y pethau hyn yn hawdd eu dweud ond mewn gwirionedd yn gymhleth iawn eu cyflawni. Rydym hefyd yn darparu’r rhaglenni hyn drwy nifer o bartneriaid eraill fel awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector ac yn y blaen, a'r syniad yw eu corlannu’n sefydliad di-dor. Rydym yn dechrau gyda rhaglenni Llywodraeth Cymru a gaiff eu hariannu’n uniongyrchol yn gyntaf, a symud ymlaen wedi hynny. Mae cydweithwyr wedi bod o gymorth mawr o gwmpas bwrdd y Cabinet yn helpu gyda hynny.

Yna, yr hyn yr ydym yn ei ystyried hefyd yw rhedeg y rhaglenni a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’r rhai a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol hyd eu cyflawni. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ehangu ymylon y rhaglenni hynny. Serch hynny mae llinellau llym y mae'n rhaid i chi weithredu oddi mewn iddyn nhw. Felly, y weledigaeth derfynol, os mynnwch chi, yw y bydd gan unigolyn sy’n gofyn am gymorth neu fusnes sy'n gofyn am gymorth yr un porth i fynd ato—y porth sgiliau ar gyfer unigolion neu fusnesau—ac ni fydd gwifrau’r system y tu ôl i hynny’n weledig i'r rhai hynny. Yn syml, byddant yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Eto i gyd, rydym yn awyddus i wneud y gorau o'n cyllid Ewropeaidd, felly rydym am redeg y rhaglenni hynny hyd y byddant wedi’u cyflawni. Ym mis Ebrill 2019 y daw’r cyllid hwnnw i ben. Nid yw hynny'n golygu na fyddwn yn dechrau integreiddio rhaglenni ar hyd y daith, ond bydd y cyflawniad terfynol i’w weld yn lansiad llawn y rhaglen newydd. Er hynny, bydd cyllid pontio rhwng nawr a hynny er mwyn sicrhau nad yw pobl yn syrthio trwy’r bylchau. Felly, mae’n rhyw fath o gychwyn tameidiog, a dyna pam yr wyf i’n dweud y byddwn ni yn dod â chynllun cyflenwi gwirioneddol yn ei ôl yn yr hydref fel y gall yr Aelodau weld y llinell amser sy'n gysylltiedig â hynny, gan fy mod yn sylweddoli mai peth eithaf cymhleth yw hynny.

Rwy'n credu mai’r peth olaf y gwnaethoch chi ei drafod oedd yr union fater hwn ynglŷn ag alinio’r sgiliau. Fel y dywedais wrth Mohammad Asghar, mae hynny’n canolbwyntio i raddau helaeth ar ein strategaeth ar gyfer sgiliau ranbarthol—sef cymorth rhanbarthol i fusnesau a chymorth rhanbarthol i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Felly, rydym yn disgwyl i gyflogwyr gyfrannu at hynny a gwneud yr anghenion hynny yn dryloyw. Ac eto, os ydych yn ymwybodol o enghreifftiau penodol lle y credwch chi nad yw hynny'n digwydd, byddwn yn ddiolchgar iawn i gael gwybod am y peth.

Dau gwestiwn byr, Gweinidog. Yn gyntaf, yn amlwg, pwyslais y rhaglen yw cael pobl mewn gwaith. Un o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yw gwella telerau ac amodau a dyrchafiad a datblygu drwy'r gweithlu pan fyddwch mewn gwaith. Faint o bwyslais all y rhaglen ei roi ar gefnogi datblygu yn yr ystyr hwnnw?

Yn ail, rydych yn mynegi y byddwch yn darparu cyngor i gyflogwyr ar recriwtio a sgiliau drwy Busnes Cymru. Yn amlwg, busnesau bach yw’r rhan fwyaf o'n cwmnïau, a byddwch yn ymwybodol o’r amheuon sydd gan fusnesau bach o ran y graddau y mae Busnes Cymru yn diwallu eu hanghenion nhw, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio ar hynny eisoes. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd y lefel honno o gefnogaeth yn diwallu anghenion penodol y sector bach a chanolig?

O ran y rhaglen gwaith teg a datblygiad, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i mi gadeirio cam 1 o'r darn gwaith teg ac mae hynny’n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn manteisio i’r eithaf o gyllid Llywodraeth Cymru. Felly, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw sefydlu diffiniad unfarn o 'waith teg', yn cynnwys yr elfennau datblygu sydd yn hynny, ac yna gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio hynny gyda phawb yr ydym yn eu cefnogi. Felly, mae fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi dweud heddiw mai’r ad-daliad cymwys am y cynnig ffioedd dysgu yw bod prifysgolion yn dod yn gyflogwyr cyflog teg. Mae hynny'n sicr yn damaid o'r un darn, mewn gwirionedd—ein bod yn dechrau defnyddio'r fantais a ddaw o gyllid Llywodraeth Cymru i ysgogi rhai o’r amodau gwaith gwell hynny. Ond y darn cyntaf o waith fydd sefydlu cytundeb cyffredin ymysg cyflogwyr, undebau llafur, partneriaid cyflenwi a Llywodraeth yn y Comisiwn Gwaith Teg i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn cytuno ar hynny, ac yna symud ymlaen â'r cyflenwi. Felly, dyna yw’r darn cyntaf o hynny.

O ran y gefnogaeth—ac mewn gwirionedd rwyf yn sylweddoli na wnes i lwyr ateb cwestiwn Llyr Gruffydd chwaith am rai o'r cynlluniau arweiniol—rydym yn golygu cefnogi busnesau bach a chanolig, rydym yn ceisio gweithredu cynlluniau arweiniol y tu allan i ardal y Cymoedd, lle ceir amodau penodol yr ydym yn awyddus i weld sut mae'n gweithio. Felly yr ateb yw 'byddwn'; byddwn yn gwneud hynny. A’r hyn y byddwn yn bwriadu ei wneud yw hyn: cyfeiriais yn fy natganiad y byddwn yn chwilio am y 100 busnes sy'n dangos y twf dichonadwy mwyaf, a gallai’r rheini fod o unrhyw faint. Yn wir, rydym yn rhagweld y bydd llawer ohonynt yn fach iawn—llai na phump o weithwyr. Ac, yn amlwg, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw ysgogi’r swyddi y mae mawr angen amdanynt, ond drwy ddefnyddio cwmnïau cynhenid ​​a'u cynorthwyo gyda’r cymorth busnes sydd ei angen arnynt er mwyn tyfu. Bydd llawer ohonyn nhw’n gwmnïau economi sylfaenol a bydd rhai ohonyn nhw fel arall. Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw cael cymysgedd dda o’r cwmnïau hynny sydd â photensial twf uchel.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy’n cytuno â chi bod yna frys i ddod â swyddi a thwf i gymunedau ledled Cymru. Fodd bynnag, rwy’n nodi bod y Gweinidog yn amlinellu'r gefnogaeth y mae hi'n ei rhoi i fusnesau yn y Cymoedd, ond mae rhanbarthau eraill o Gymru, fel y gogledd, yn amlwg yn unig oherwydd eu habsenoldeb o ddatganiad y Gweinidog. Ydy, mae’n wir bod angen cymorth ar y Cymoedd, ond nid y nhw yw’r unig gymuned yng Nghymru sydd mewn angen. Rwyf wedi fy siomi nad yw’r gefnogaeth wedi ei chanolbwyntio ar ranbarthau eraill o Gymru fel fy un i, sydd wedi eu hesgeuluso hyd yma, ac nad ydynt wedi eu crybwyll yn natganiad y Gweinidog.

Rwy'n croesawu'r cynnydd mewn cyflogaeth yng Nghymru. Serch hynny, mae'n rhaid i ni drin yr ystadegau hyn yn ofalus. Nid yw’r ffaith bod mwy o bobl yn cael eu cyflogi yn golygu eu bod yn sylweddol well eu byd nag yr oeddent. Mae contractau dim oriau a chyflogau isel yn frith ledled Cymru, wedi ei ddwysáu gan natur dymhorol llawer o'r economïau ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i fy hun. Os nad yw gweithwyr ar ddim oriau, gallen nhw fod ar oriau bach iawn yn unig. Mae'n hanfodol fod busnesau yn cael eu hannog i ddod â gwaith sy’n talu’n well a gwaith diogel i Gymru. Yn ofer yr ymdrecha’r Gweinidog i gefnogi pobl i gael gwaith os nad oes gwaith i’w gael i bobl fynd iddo.

Mae eich datganiad yn cynnwys nifer o amcanion ac uchelgeisiau, ond nid oes unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut, mewn cyd-destun ymarferol, y byddwch yn dod â hyn i gyd i ddwyn ffrwyth. Esboniwch sut, os gwelwch chi’n dda, mewn termau gwirioneddol, y byddwch yn defnyddio Bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru, y gweithgor gweinidogol ac adrannau llywodraethol i wella cyflogadwyedd yng Nghymru. Mewn gwirionedd, yr unig ffordd y gallai Llywodraeth Cymru greu swyddi yn wir yw creu rhai yn y sector cyhoeddus, rhywbeth y mae Llywodraethau Llafur yng Nghaerdydd a Llundain wedi ei feistroli dros y blynyddoedd er mwyn cuddio eu methiannau eu hunain. Ond y sector preifat sy'n darparu ac yn creu swyddi. Gall Llywodraeth Cymru annog creu’r swyddi hynny drwy ddarparu amgylchedd dreth, rheoleiddio ac economaidd a fydd yn galluogi busnesau, yn ddelfrydol y busnesau cynhenid, i ffynnu mewn cymuned sy’n gallu darparu’r gweithwyr sydd eu hangen arnynt i wneud fel hynny. Felly, rwy’n holi a fydd y cynllun cyflenwi cyflogadwyedd a grëwyd gan fwrdd cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynlluniau i gymell ac annog buddsoddiad gan fusnesau i Gymru.  Rydych yn datgan y byddwch yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol. A wnewch chi nodi pwy yw’r rhanddeiliaid hyn, ac a fyddwch yn gweithio gyda rhai o'r busnesau bach a chanolig sy'n ffurfio asgwrn cefn y busnesau sy'n darparu swyddi yng Nghymru?

Gan droi at gynnig cyflogadwyedd Cymru ar Waith, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym pa fathau o gymorth fydd yn cael eu cynnig yn y cynnig newydd nad ydynt yn cael eu cynnig yn barod? Nodaf fod nifer o wahanol raglenni cyflogadwyedd, gan gynnwys ReAct, Twf Swyddi Cymru ac ati. A yw'r Gweinidog wedi ystyried a ddylid cyfuno'r rhaglenni hyn i ddarparu rhaglen awdurdodol a chyfunol ar gyfer Cymru a gaiff ei deall yn iawn gan ddefnyddwyr? I ba raddau yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau fel y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a'u haelodau i nodi materion cyflogadwyedd yng Nghymru ac i ymchwilio i weithio mewn partneriaeth â nhw i gael mwy o bobl yng Nghymru mewn gwaith?

Rydych chi’n nodi eich bod yn awyddus i weithio ar draws y Llywodraeth i ddylunio a threialu adnodd proffilio a system wybodaeth rheoli i ymgynghorwyr ledled Cymru. Felly, a wnewch chi roi syniad i ni o gost prosiect o'r fath, beth fydd ei manylion a beth fydd ei chwmpas a pha fanteision a welwch chi yn y system honno a fyddai’n cyfiawnhau gwario cost fawr ddichonol y system newydd ? Diolch.

Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwy'n credu fy mod wedi mynd i'r afael â bron pob un ohonyn nhw yn barod, ond soniaf amdanynt eto. Mae tasglu’r Cymoedd yn cael ei grybwyll yn unig fel ardal brawf arweiniol ar gyfer rhai o'r darnau o waith yr ydym yn eu gwneud. Fel y dywedais eisoes wrth yr Aelodau eraill, nid dyma'r unig le y byddwn yn gwneud hyn ac mae’n rhaid i ni ddechrau yn rhywle. Yn amlwg, mae gan gymunedau’r gogledd broblemau tebyg, a byddwn wrth gwrs yn mynd i'r afael â chyflogadwyedd ledled Cymru gyfan.

O ran dim oriau ac yn y blaen, rwyf wedi mynd i'r afael â hynny i raddau helaeth iawn, o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud ar y Comisiwn Gwaith Teg. Mae gan hwnnw gynrychiolaeth o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, undebau llafur a chyfres lawn o bobl eraill a’r Llywodraeth arno, ac mae Bwrdd Cyflogaeth Sgiliau Cymru, er enghraifft, yn cael ei gadeirio ar hyn o bryd gan Scott Waddington, sef cadeirydd Brains. Felly, nid wyf yn credu y gallwn dderbyn unrhyw feirniadaeth am ein bod yn edrych ar y sector cyhoeddus yn unig—dim o’r fath beth. Yn wir, mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i gyd yn cael eu cadeirio gan gyflogwyr hefyd, ac maen nhw i gyd yn eistedd arno, ac mae ganddyn nhw dair sedd bob un—cadeirydd y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol a dau o'r cyflogwyr sylfaenol sydd yn dod gyda nhw. Felly, nid dyna’r sefyllfa o gwbl. Ac, mewn gwirionedd, nid oeddwn yn siarad am greu swyddi yn y sector cyhoeddus.  Bydd yr Aelod yn sylweddoli ein bod, yn fy natganiad, yn sôn am gefnogi'r cwmnïau, er enghraifft, sydd â’r potensial twf gorau a hefyd, wrth gwrs, rydym yn ymestyn ein cynnig busnes o ran cwmnïau cynhenid ​​er mwyn eu helpu gyda'u cadwyni cyflenwi yng Nghymru ac yn y blaen. Felly, nid wyf i’n rhy siŵr ymhle y crëwyd yr argraff honno.

O ran y grŵp ehangach o randdeiliaid, wrth gwrs, mae gennym ni gyfres lawn o randdeiliaid. Mae gennym ni sefydliadau busnes a busnesau bach a chanolig o bob rhan o Gymru, mae gennym ni fusnesau mawr o bob rhan o Gymru, mae gennym ni hefyd nifer o bartneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid o ran partneriaid y trydydd sector sy'n cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd ar ein rhan ac yn cefnogi busnesau bach ar ein rhan , ac mae gennym ni amrywiaeth o gynghorwyr o ran busnesau ledled Cymru.

Rwy’n credu bod y pwynt olaf yn ymwneud ag a yw'r rhaglen yn newydd ai peidio. Mae nifer o raglenni newydd, ond yr hyn yr ydym yn sôn amdano mewn gwirionedd yw sicrhau, fel yr eglurais i Llyr Gruffydd yn gynharach, fod y jig-so hwn yn ffitio gyda'i gilydd, nad oes gennym ni ddarnau sy'n gorgyffwrdd, nad oes unrhyw fylchau, a’i fod yn gwneud darlun cydlynol y gall pawb ei ddeall.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am y diweddariad hwn heddiw ar yr hyn nad yw’n unig yn agwedd allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn rhywbeth sy'n gwbl allweddol os ydym yn mynd i wireddu ffyniant a diogelwch ein pobl, ein cymunedau ac, yn y pen draw, ein heconomi. Rwy'n croesawu'r dull gweithredu ledled Llywodraeth yr ydych chi’n ei amlinellu yn eich datganiad a'r gydnabyddiaeth fod angen i'r strategaeth cyflogadwyedd fod yn drawsbynciol gan y gwyddom nad yw gwaith a mynediad at waith yn gweithredu ar eu pennau eu hunain, fod yna nifer o ffactorau eraill y mae angen iddynt fod ar waith, fel ysgolion addas, tai a thrafnidiaeth a rhwydweithiau cefnogaeth, sydd hefyd yn chwarae rhan allweddol. Mae cydweithwyr eraill wedi crybwyll y cynllun arweiniol Swyddi Gwell, yn nes Adref. Felly, a gaf i ofyn, yn yr un cywair, a wyf i'n iawn i dybio y bydd yn cydsefyll â'r strategaeth economaidd newydd a dull rhanbarthol hynny? Mae’n flaenoriaeth wleidyddol a phersonol i mi y dylai pobl ifanc, yn enwedig yn fy rhanbarth i, os nad ydynt yn dymuno symud i ffwrdd, fod â’r hawl i gael cyfle ar garreg eu drws. Yn unol â hynny, un o'r pethau sydd wedi ei godi gyda mi yn rheolaidd ar lefel leol yw nifer y bobl ifanc, efallai’r rhai sy'n gadael yr ysgol a'r rhai sy'n gadael y coleg, nad ydynt efallai wedi eu paratoi yn dda ar gyfer y byd gwaith, nad oes ganddyn nhw’r wybodaeth o’r hyn yw eu cyfrifoldebau, na beth yw eu hawliau. Felly, efallai, os ydym yn edrych ar ddull o weithredu ar draws y Llywodraeth, a oes cyfle i weld sut y gellir trefnu hynny yn unol â'r cwricwlwm newydd i sicrhau ein bod yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i’n pobl ifanc lwyddo?

Un pwynt olaf cyflym iawn, gan fy mod yn gwybod mai prin yw ein hamser: rwyf o’r farn fod trafnidiaeth yn gwbl allweddol wrth edrych ar wasanaethau a seilwaith, fel y dywedwch yn y cynllun darparu cyflogadwyedd. Oherwydd mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gennyf yn gynharach eleni oedd yn ar edrych ar yr heriau economaidd i’r rhanbarth, cododd cludiant ei ben dro ar ôl tro. Dim ond i ddyfynnu, ‘Mae'n anodd iawn i bobl ifanc nad ydynt yn gallu fforddio gyrru fynd i'r gwaith.’ A hefyd, ‘Mae angen cael system drafnidiaeth integredig.’ Felly, byddwn i'n gobeithio efallai y gallai hynny fod yn rhywbeth y gellid ei ystyried fel rhan o edrych ar bethau fel prosiectau mawr sydd ar y gweill, fel metro’r gogledd-ddwyrain.

Diolch i chi am hynny. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud llawer iawn o bwyntiau da yn y fan honno. Un o'r pethau y byddwn yn gobeithio eu gwneud yw sicrhau ein bod yn ymdrin â gofynion unigol am gymorth penodol a sicrhau ei bod yn bosibl i bobl ennill y swyddi a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw yn y fro y maen nhw’n dymuno gwneud hynny. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn ei hanfod yn cael rhaglen sy'n gydlynol drwyddi draw. Felly, gan siarad am y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn y gogledd, er enghraifft—mae’r dasg ganddyn nhw o roi trefn ar yr hyn y mae'r wybodaeth am y farchnad lafur yn ei ddweud wrthyn nhw am y cwmnïau yn y rhanbarth hwnnw, a beth yw eu gofynion o ran sgiliau. Byddwn yn ariannu’r gofynion sgiliau hynny yn ôl yr wybodaeth honno. Mae'r cynlluniau i’w cyhoeddi yn yr hydref. Yn wir, rwy’n credu y byddaf yn dod i fyny yn ystod ail wythnos mis Medi i lansio hwnnw iddyn nhw. Bydd hynny’n gyrru peth o'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud, gyda’n hymarferwyr dysgu wrth y gwaith ac yn ein colegau addysg bellach o ran y sgiliau y maen nhw’n eu meithrin ar gyfer yr ecosystem honno.

Ochr arall y geiniog honno yw sicrhau bod y busnesau sydd â photensial twf yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y gallwn ninnau wneud yn siŵr fod ymgynghorwyr gyrfaoedd mewn ysgolion—ac, mewn gwirionedd, oedolion o’r tu allan yno yn y gymuned hefyd, mewn gwirionedd—yn deall y sgiliau sy’n angenrheidiol i ddiwallu anghenion y cyflogwyr hynny sydd â’r potensial i dyfu. Felly, mae honno'n rhan fawr o’r agenda ranbartholi. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a minnau wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siwr eu bod yn gydnaws, ac yn wir y byddant yn gydnaws â'r trefniadau i ad-drefnu llywodraeth leol hefyd, fel na fydd yna unrhyw orgyffwrdd nad ydyw’n gydlyniad synhwyrol ac yn y blaen. Felly, dyna’r cynllun.

Yna, o ran y gweddill, rydych yn llygad eich lle; rydym am fynd i'r afael â hynny mewn nifer o ffyrdd, weithiau gyda phrosiect trafnidiaeth mawr, weithiau wrth wneud dim mwy na gweithio'n galed gyda chwmnïau bysiau ac yn y blaen i ddyfeisio amserlenni sy’n cydweddu. Mae fy nghydweithiwr David Rees yn y fan hon yn aml yn sôn am y bysiau cynharaf a’r hwyraf sydd i gymunedau a'r hyn y gallwn ei wneud ynglŷn â hynny. Ac weithiau, mewn gwirionedd, gyda rhaglenni wedi eu targedu. Felly, er enghraifft, yn rhai o'r ardaloedd yr wyf i wedi mynd i ymgynghoriad cyhoeddus ynddyn nhw, mae yna drafferth enfawr wrth i bobl gael trwydded yrru. Yn syml ni allant fforddio talu am wersi gyrru ac yn y blaen. Wel, mae'n ddigon posibl y byddwn yn penderfynu bod hynny'n un o'r pethau sydd angen i ni fynd i'r afael ag ef, naill ai ar sail unigolion, os oes rhywun â sgiliau uchel ond mae problemau trafnidiaeth ganddo, neu mewn gwirionedd ar sail gymunedol, os byddwn yn nodi nifer o bobl sydd â’r un broblem ganddyn nhw. Mae'n rhywbeth a wnaethom ni y llynedd, er enghraifft, pan ddaeth y gymdeithas cludo atom a dweud bod prinder mawr o yrwyr cerbydau nwyddau trwm ganddyn nhw. Felly, trefnwyd cwrs arbennig, a chredaf fod rhywbeth fel 140 o bobl, o ganlyniad i hynny, wedi ennill cyflogaeth sy’n talu’n dda.

Felly, mae'n ymwneud â’r pethau hollgwmpasog hyn a chael y wybodaeth iawn i'r bobl iawn, naill ai ar yr ochr fusnes neu ar yr ochr unigol a’u priodi â’i gilydd, a hefyd â thargedu cymorth busnes at y cwmnïau twf uchel hynny fel y gallwn gael y twf cyfatebol.

Yna, weithiau mae'n ymwneud ag ysgogi twf mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw dwf wedi bod neu mewn man lle ceir prinder swyddi o bosib, a dyna pam mae'r Cymoedd yn un o'r ardaloedd targed. Ond fel y dywedais wrth ymateb i nifer o’r Aelodau eraill, nid hwn yn sicr yw'r unig faes, a byddaf yn ddiolchgar iawn pe byddai unrhyw Aelodau yn awyddus i dynnu sylw at unrhyw faterion yn eu bro neu ranbarth penodol hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Cyn i ni symud at y ddadl Cyfnod 3 ar y Mesur Undebau Llafur (Cymru) byddaf yn atal y cyfarfod am 10 munud. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn i ni ailymgynnull, ond byddwn yn cymell yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon os gwelwch yn dda. Mae gohiriad o 10 munud.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:43.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 18:53, gyda’r Llywydd yn y Gadair.

9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Dyma ni felly yn cyrraedd Cyfnod 3 ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru).

Grŵp 1: Cyfyngu ar Ddidynnu Taliadau Tanysgrifio i Undebau o Gyflogau yn y Sector Cyhoeddus (Gwelliant 1)

Mae’r grŵp cyntaf o welliannau ar gyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau o gyflogau yn y sector cyhoeddus. Gwelliant 1 yw’r prif welliant, a’r unig welliant yn y grŵp hwn, ac rwy’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant a siarad amdano—Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Cynigiaf welliant 1. Mae'r gwelliant hwn yn cyfeirio at gyfyngiadau ar gyflogwyr o ran didynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau. Mae Llywodraeth y DU wedi moderneiddio’r berthynas rhwng undebau llafur a'u haelodau. [Torri ar draws.] O, ydyn, maen nhw. [Torri ar draws.] Mae'r gwelliant hwn yn anelu at roi cyfle i weithwyr y sector cyhoeddus i wneud eu taliadau drwy ddebyd uniongyrchol, ac yn annog peidio â didynnu’r holl daliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres. Drwy symud i leihau'r defnydd o ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres, mae Llywodraeth y DU wedi dod â mwy o dryloywder i weithwyr. Mae hyn yn ei gwneud yn haws iddynt ddewis p'un ai talu tanysgrifiadau ai peidio a pha undeb i ymuno ag ef—dewis yw hynny.

Mae deddfwriaeth bresennol y DU yn atal nyrsys, athrawon a gweision sifil rhag talu tanysgrifiadau undeb llafur yn awtomatig o'u cyflogau. Fodd bynnag, bwriad Bil y Llywodraeth Lafur Cymru hon yw annog a chadw’r arfer hwn, sydd bellach yn hollol hen-ffasiwn ac yn eithaf diangen.

Llywydd, yn yr unfed ganrif ar hugain, ni ddylid defnyddio adnoddau cyhoeddus i gynnal y broses o gasglu tanysgrifiadau undeb llafur. Mae casglu—[Torri ar draws.] Mae casglu tanysgrifiadau’n rhywbeth y dylai’r undebau llafur ei wneud yn uniongyrchol ac, yn wir, mae llawer ledled y DU wedi newid yn barod; mae Unite, GMB, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, Undeb y Brigadau Tân, ac Undeb y Prifysgolion a Cholegau i gyd yn annog eu haelodau i newid i ddebyd uniongyrchol. Bellach, mae llawer o weithwyr yn cael eu camarwain fel mater o drefn ar delerau ymuno ag undeb llafur wrth wneud hynny drwy ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres. Er enghraifft, diffyg gwybodaeth am yr ardoll wleidyddol ddewisol. Drwy ddiweddu’r arfer hwn ac annog taliadau drwy ddebyd uniongyrchol, nid yn unig y mae cyflogwyr yn ei chael yn haws o ran tryloywder ac o ran dewis p'un ai talu tanysgrifiadau ai peidio, ond maent yn cael eu diogelu’n llawn gan y warant debyd uniongyrchol, sy'n cynnwys hysbysiad ymlaen llaw o unrhyw newidiadau i'r debyd uniongyrchol, a'r gallu i’w ganslo ar unrhyw adeg. Rwy’n cynnig.

Felly, dyma ni eto: yr un hen Dorïaid, yn ymladd brwydrau ddoe, gyda dadleuon ddoe, ar faterion ddoe, yn ddall at y ffaith bod y byd wedi symud ymlaen o rethreg gwrth-undeb yr 1970au a'r 1980au. Onid yw'n eironig, ar y diwrnod y mae Theresa May yn gwneud ple anobeithiol i bleidiau eraill i’w helpu allan o'r llanastr ofnadwy y mae hi wedi’i wneud o Brexit drwy gamsyniad affwysol i alw etholiad cyffredinol, ynghyd â'i goramcangyfrif enbyd ohoni ei hun a'i thanamcangyfrif enbyd o Jeremy Corbyn a'r Blaid Lafur, bod Torïaid Cymru yn ôl yma yn creu rhaniadau ac yn ymosod ar gynrychiolwyr gweithwyr? Mae'n ymddangos nad yw canlyniad yr etholiad cyffredinol wedi gwneud dim i dymheru eu rhagfarn reddfol wrth iddynt barhau i gefnogi ymosodiadau ar bobl sy'n gweithio yng Nghymru a'r rheini sy'n eu cefnogi.

Llywydd, fel swyddog undeb llafur, treuliais y rhan fwyaf o fy mywyd gweithio yn ymladd ymosodiadau ar hawliau gweithwyr a deddfwriaeth gwrth-undebau llafur. Ni fydd cael fy ethol i'r Cynulliad hwn yn newid hynny. Byddaf yn parhau i frwydro yn erbyn unrhyw ymgais i geisio troi'r cloc yn ôl ar yr hawliau hynny. Felly, unwaith eto, rwy’n croesawu'r cyfle i siarad o blaid dull blaengar Llywodraeth Cymru o geisio sicrhau nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, a’r bobl ymroddedig sy’n gweithio'n galed i ddarparu’r gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau dialgar a bychanfrydig a osodwyd gan Ddeddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth Dorïaidd y DU. Rwy'n llongyfarch yn gynnes Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, am gyflwyno Bil yr Undebau Llafur (Cymru), y byddaf yn ei gefnogi. Byddaf yn gwrthwynebu pob un o'r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Janet Finch-Saunders, gan gynnwys y gwelliant cyntaf hwn, a fyddai'n cael yr effaith o osod cyfyngiadau ar drefniadau DOCAS cyflogwyr—sef didynnu cyfraniadau yn y ffynhonnell. Fe siaradaf yn fanylach am y cynnig penodol hwnnw yn y man, ond, am nawr, mae gen i ychydig o sylwadau cyffredinol yr hoffwn eu gwneud.

Yr hyn nad yw’r Torïaid wir yn ei hoffi am y Bil Undebau Llafur (Cymru) yw ei fod yn adlewyrchiad o ba mor llwyddiannus yw gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Mae'n anathema llwyr iddynt bod y Llywodraeth a chyflogwyr yn gallu cydnabod llwyddiant partneriaethau cymdeithasol ag undebau llafur i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol, a dangos tystiolaeth o hynny. Os daeth unrhyw beth allan o'r gyfres o ddigwyddiadau trasig diweddar ledled y wlad, ymroddiad rhyfeddol ein staff gwasanaeth cyhoeddus oedd hwnnw, i ymateb i'r digwyddiadau hynny, i helpu eraill, hyd yn oed pan oedd gwneud hynny’n golygu risg iddyn nhw eu hunain. Ac eithrio’r Prif Weinidog, o bosibl, daeth Gweinidogion Ceidwadol allan yn gyflym i ganmol gwaith y dynion a’r menywod rhyfeddol hynny, ond nid ydynt yn gweld yr eironi o wneud hynny ar yr un pryd ag y maen nhw'n ceisio tanseilio eu hawliau yn y gwaith.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi rhoi eu cefnogaeth i'r Bil hwn, ond mae ganddo hefyd gefnogaeth eang o’r tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a'r cyngor datblygu economaidd yn darparu fforymau amhrisiadwy i Lywodraeth Cymru a chyflogwyr i ymgysylltu ag undebau llafur ar draws ystod eang o bolisïau Llywodraeth a materion cymdeithasol ac economaidd ehangach. Mae cynrychiolwyr cyflogwyr o amrywiaeth o gyrff, gan gynnwys Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a GIG Cymru, yn dod ynghyd fel partneriaid cyfartal gydag undebau llafur a Gweinidogion Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dywedodd pennaeth CLlLC:

‘Mae CLlLC wedi cefnogi a chofleidio'r cysyniad o bartneriaeth gymdeithasol...rydym yn cydnabod yn gadarn fel cyflogwyr bod ymgysylltu â'r gweithlu drwy'r undebau llafur cydnabyddedig yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau bod parhad y gwasanaeth wedi bod wrth wraidd rhai penderfyniadau anodd’.

Felly, mae pob ochr yn gallu cydnabod budd ymagwedd ar y cyd wrth negodi cytundebau, ymdrin â heriau, a datrys anghytundebau cyn iddynt ddod yn anghydfodau. Felly, mae pawb arall yn deall hyn, heblaw’r Torïaid.

Yr ymagwedd o gynhwysiant a pharch at ei gilydd wrth ymwneud ag undebau llafur yw’r hyn y mae’r Torïaid yn ymddangos yn anfodlon neu'n analluog i’w deall. Neu a yw hyn oherwydd nad ydynt yn deall undebau llafur a bod ganddynt ragfarn gynhenid ac anwybodus yn eu herbyn? Yn ôl pob tebyg, pob un o'r uchod.

Ond gadewch inni ddod yn ôl at fanylion y gwelliant cyntaf hwn. Ei effaith fyddai ei gwneud yn anoddach i gyflogwyr ddarparu DOCAS—didynnu cyfraniadau yn y ffynhonnell. Rwy’n dweud hynny oherwydd mae’r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus eisiau gallu bod â’r gallu i gytuno ar gytundebau adeiladol ar gyfer didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig. Ond, wrth gwrs, nid gwir fwriad y Torïaid yw cosbi cyflogwyr, ond rhwystro undebau llafur rhag recriwtio a chadw aelodau, i’w gwneud yn anoddach i undebau gasglu eu tanysgrifiadau. Angenrheidiol? Nac ydy. Dialgar? Ydy.

Rwyf wedi clywed Torïaid yn dadlau bod didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres ar waith yn y sector cyhoeddus yn ddiarwybod i aelodau unigol o undebau llafur. Am hurt. Mae hynny'n nonsens llwyr a chyfan gwbl. Mae’n rhaid i bob aelod unigol arwyddo ffurflen aelodaeth ar gyfer yr undeb penodol y maen nhw’n ymuno ag ef, fel eu bod yn gwbl ymwybodol o ba undeb y maen nhw’n ymuno ag ef. Ac yn rhan o'r cais, mae’n rhaid iddynt awdurdodi unrhyw ddidyniad o'u cyflog yn unigol, yn union fel y byddai'n rhaid iddynt ei wneud ar gyfer unrhyw ddidyniad anstatudol arall, fel, er enghraifft, elusen neu undeb credyd.

Ond fel yr wyf wedi’i ddweud, yn aml y cyflogwr sy'n gefnogol i gytundebau o'r fath. Er enghraifft, dywedodd Cyngor Sir y Fflint, unwaith eto mewn tystiolaeth i'r pwyllgor cydraddoldeb:

‘Mae hwn yn drefniant busnes sy’n fuddiol i bob un o’r tri pharti. Does dim rheswm ymarferol i roi’r gorau i ddefnyddio’r trefniant.’

Ac yna mae’r Torïaid yn dweud, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn ei sylwadau agoriadol, ‘Beth am gost trefniadau DOCAS i'r trethdalwr?’ Wel, yn yr oes sydd ohoni o systemau cyflog awtomataidd modern, mae cost trefniadau DOCAS yn fach iawn, yn enwedig wrth ei gweithredu ochr yn ochr â threfniadau didyniadau tebyg ar gyfer pethau fel cynlluniau gofal plant, cynlluniau beicio i'r gwaith, cyfraniadau undebau credyd, a didyniadau elusennol. Dydw i ddim yn clywed y Torïaid yn galw am godi tâl ar y rhain. Wel, gadewch imi ddweud wrth yr anwybodus bod y rhan fwyaf o undebau yn y sector cyhoeddus yn talu am ddarparu’r gwasanaeth hwn. Yn GIG Cymru, er enghraifft, mae hyn yn tua 2 y cant o'r holl danysgrifiadau a gesglir—sy’n cynhyrchu incwm sylweddol i'r cyflogwr.

Llywydd, does dim diben defnyddiol i’r gwelliant hwn, ar wahân i geisio rhwystro trefn undebau, fel gweithred ddialgar yn erbyn pobl sy'n gweithio sy'n dewis ymuno ag undeb llafur, ac rwy’n gofyn i bob Aelod bleidleisio yn ei erbyn.

Cawsom graffu helaeth ar Fil Undebau Llafur (Cymru) Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol yn gynharach eleni. Janet sy’n cynnig y gwelliannau heddiw. Diddorol oedd clywed sylwadau Janet am y Bil ar y pryd, ac rwy'n meddwl ei bod weithiau'n dda cael llais anghydffurfiol yn ystod y cyfnod pwyllgor, oherwydd mae hynny’n rhoi prawf ar ddadleuon y Llywodraeth. Fodd bynnag, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, roeddwn ar y cyfan yn gefnogol i egwyddorion y Bil o gadw pethau fel y maent mewn cysylltiadau diwydiannol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rydyn ni yn UKIP heddiw’n cefnogi'r Bil. Prif ddiben y diwygiadau, yn ein barn ni, yw ceisio andwyo’r Bil, felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant arbennig hwn ac, yn wir, pob un o'r gwelliannau. Diolch.

Byddaf yn gryno iawn—dim ond i ddweud yn syml ei bod yn ddiddorol nad yw UKIP wedi eu hargyhoeddi gan ddadleuon y Ceidwadwyr. Nid wyf yn credu bod ailadrodd y dadleuon am y trydydd tro yn gwella dim arnynt. Mae hon yn broses mor rhad a syml—didynnu cyflogau o'r ffynhonnell—fel y mae fy nghydweithiwr, Dawn Bowden, eisoes wedi’i ddweud. Nid yw hyn yn ddim gwahanol na didynnu'r rhodd elusennol neu ad-daliad benthyciad am feic neu beth bynnag y gallai fod, a pheiriant sy’n gwneud y cyfan—nid yw'n costio dim. Felly, yn amlwg mae’r undebau llafur yn gwneud cyfraniad elusennol i'w cyflogwyr. Ni chawsom ddim tystiolaeth gan neb o'r tystion y cawsom dystiolaeth ganddynt, wrth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau graffu ar hyn, ac, a dweud y gwir, dywedodd sefydliad cyflogwyr y GIG ei fod yn galluogi cyflogwyr i ddeall nifer yr aelodau mewn unrhyw un undeb a chael gwybod am aelodaeth gymharol o’r undeb llafur ar draws y sefydliad.

Felly, mae'n ymddangos i mi ei fod yn darparu tryloywder ac yn ei gwneud yn haws trosglwyddo'r arian. Does dim byd o'i le ar ddebyd uniongyrchol, ond y rheswm pam mae’r undebau llafur yn annog aelodau i newid i ddebyd uniongyrchol yw oherwydd, mewn rhannau eraill o'r DU, bydd yn rhaid i bob aelod wneud hynny. Felly, mae'n anodd iawn gweld sut, yng Nghymru, y mae angen inni wneud hynny yn ein sector cyhoeddus pan fo pawb, gan gynnwys yr holl gyflogwyr, yn ymddangos yn gwbl fodlon i ddidynnu tanysgrifiadau undeb o'r ffynhonnell.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Member
Mark Drakeford 19:06:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu yn hwn, y cylch diweddaraf ym mhenderfyniad y Llywodraeth hon, a phenderfyniad Aelodau eraill y Cynulliad hwn, i wrthsefyll ymyrraeth ddieisiau Llywodraeth y DU â chyfrifoldebau datganoledig ac i atal eu penderfyniad i orfodi eu barn nhw am gysylltiadau diwydiannol ar y Cynulliad hwn ac ar y model partneriaeth gymdeithasol, sydd wedi cael ei saernïo mor ofalus yma yn y cyfnod datganoli.

Mae'r dystiolaeth gan bartneriaid cymdeithasol ar y grŵp hwn o welliannau’n gwbl glir: bod cyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn ddiangen, bod y gost i bwrs y wlad yn ddibwys a'i fod yn gwahaniaethu heb gyfiawnhad rhwng tanysgrifiadau aelodaeth o undeb llafur a mathau eraill o ddidyniadau cyflogres. Fel yr ydych wedi’i glywed gan Dawn Bowden ac eraill, mae'n debyg nad oes dim anhawster i'r Blaid Geidwadol ddefnyddio'r math hwn o dalu ar gyfer aelodaeth o glwb chwaraeon, gwneud rhoddion i elusen, manteisio ar gynlluniau beicio i'r gwaith nac ar gyfer gwneud tanysgrifiadau i undeb credyd. Yn unigryw, mae'n debyg, dylid neilltuo aelodaeth o undeb llafur fel rhywbeth na fydd ar gael ar gyfer y math hwn o weithgaredd.

Llywydd, ymunais ag undeb llafur am y tro cyntaf pan oeddwn yn 17 mlwydd oed, felly bydd bron yn 50 mlynedd cyn bo hir. Yn y cyfnod hwnnw, rwyf wedi talu tanysgrifiadau undeb llafur mewn arian parod; rwyf wedi ysgrifennu siec; rwyf wedi manteisio ar ddidyniadau cyflogres, ac, y dyddiau hyn, rwy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol. Nid oes dim byd o gwbl yn atal aelodau undebau llafur rhag gwneud eu tanysgrifiadau mewn ffyrdd eraill. Beth fyddai hyn yn ei wneud fyddai gosod cyfyngiadau ar eu gallu i ddefnyddio didyniadau cyflogres, a heb reswm da o gwbl. Nid yw cyflogwyr yn cael eu gorfodi i gynnig didyniadau cyflogres, na’u gorfodi i’w ddarparu heb gost, ac nid yw undebwyr llafur yn cael eu gorfodi i dalu eu tanysgrifiadau drwy'r dull hwn. Mae'r gwelliant yn ceisio datrys problem nad yw’n bodoli.

Y prynhawn yma, Llywydd, byddaf yn dibynnu’n rheolaidd ar yr adroddiad a ddarparodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad hwn ar ddiwedd Cyfnod 1—adroddiad a gefnogir gan saith o'r wyth aelod o'r pwyllgor hwnnw ac a luniwyd ar ôl proses ofalus iawn o gasglu tystiolaeth gan y pwyllgor i graffu ar gynnig y Llywodraeth. Dyma beth ddywedodd y pwyllgor ynglŷn â didynnu tanysgrifiadau undeb llafur:

‘rydym yn credu bod darpariaethau Deddf 2016’—

Deddf y DU—

‘sy'n ceisio cyfyngu ar wasanaethau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn ddiangen ac yn ddireswm. Maent hefyd yn gwahaniaethu rhwng tanysgrifiadau undeb llafur a thaliadau eraill a wneir gan gyflogwyr ar ran gweithwyr. Ni welwn ddim rheswm dilys i gymhwyso’r darpariaethau i awdurdodau datganoledig Cymru yng Nghymru. Drwy ansefydlogi'r bartneriaeth gymdeithasol, gallai’r darpariaethau gael effaith andwyol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol yng Nghymru.’

Dylai Aelodau wrthod y cynnig hwn.

Diolch. Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud y bydd yn amlwg i lawer na all Llafur gefnogi unrhyw newidiadau i'r Bil rhag ofn iddynt dramgwyddo eu meistri undeb. Mae ymgyrch etholiadol 2017 yn dystiolaeth glir o hyn; daeth £4 miliwn o £4.5 miliwn o roddion ymgyrchu ym mis Mai yn uniongyrchol gan yr undebau. Mae hynny’n 91 y cant, a byddwn yn galw ar yr Aelodau hynny yma heddiw i ddatgan yr un buddiannau ag a wnaethoch yn ystod y cyfnod pwyllgor. Gadewch i'r bobl allan yna wybod yn union sut yr ydych wedi gwneud yn dda ar gefn yr undebau Llafur.

Llywydd, mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru’n awgrymu bod cost didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn fach iawn ac yn nodi gyda hi, yn annefnyddiol, tabl anghysylltiedig sy’n rhoi manylion yr arbedion costau ar gyfer y trothwy 40 y cant. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, nid yw’r gost flynyddol i drethdalwyr y DU am helpu i ariannu taliadau i undebau’n un ddibwys. Ym mis Mawrth, fel rhan o bwyllgor craffu ar is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi ar y Rheoliadau Undebau Llafur (Didynnu Tanysgrifiadau Undebau o Gyflogau yn y Sector Cyhoeddus) 2017 drafft, dywedodd Swyddfa'r Cabinet fod y gost bresennol i'r sector cyhoeddus am ddarparu gwasanaethau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres tua £12.5 miliwn y flwyddyn. Ar hyn o bryd, dim ond tua £2.74 miliwn y mae undebau llafur yn ei ddarparu am y gwasanaeth hwn, felly mae cost ychwanegol heb ei chasglu i'r trethdalwr o £9.7 miliwn y flwyddyn. Nawr, os ydym yn cymryd bod 5 y cant o'r gost hon yn dod o Gymru, mae hyn yn costio £485,000 y flwyddyn i bwrs cyhoeddus Cymru—bron i £0.5 miliwn.

Mae hwn yn swm sylweddol o arian, ond, unwaith eto, efallai na fydd y rheini sydd wedi cael rhoddion mawr yn ystod adeg yr etholiad yn meddwl hynny, ac mae’n rhywbeth na chafodd ei gydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet na gan lawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth ar y mater hwn. Ymhellach, mae Llywodraeth y DU wedi derbyn yr egwyddor o ganiatáu i ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres barhau os yw’r undeb yn talu’r gost ac os ceir cytundeb â’r cyflogwr i wneud hynny. Y bwriad yw caniatáu i gyflogwr yn y sector cyhoeddus wneud didyniadau o gyflog ei weithwyr i dalu tanysgrifiadau undeb llafur, ond dim ond os yw’r gweithwyr hynny’n cael dewis talu eu tanysgrifiadau undeb llafur drwy ddulliau eraill, neu os oes trefniadau wedi’u gwneud i'r undeb i wneud taliadau rhesymol i'r cyflogwr am wneud y didyniadau.

Mae'r Bil yn tanseilio patrymau gweithio modern, hyblyg ac yn mynd yn ôl i oes o gam-drin undebau llafur, wedi’i ategu’n sinigaidd gan eu cysylltiadau â'r Blaid Lafur. Felly, i gloi, Llywydd, unig ddiben y gwelliant hwn yw sicrhau tryloywder llawn i weithwyr, hyblygrwydd a diogelwch o ran talu tanysgrifiadau, ac arbed tua £0.5 miliwn i'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru, ac rwy’n annog ac yn cymell yr holl Aelodau i'w gefnogi.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Ac, felly, fe wrthodwyd gwelliant 1.

Gwrthodwyd gwelliant 1: O blaid 12, Yn erbyn 43, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1.

Grŵp 2: Gofynion Cyhoeddi o ran Amser Cyfleuster (Gwelliant 2)

Mae’r grŵp nesaf o welliannau, grŵp 2, yn ymwneud â gofynion cyhoeddi o ran amser cyfleuster. Gwelliant 2 yw’r prif welliant—yr unig welliant y grŵp hwn—ac rydw i’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant a siarad amdano. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Janet Finch-Saunders).

Cynigiaf welliant 2 yn fy enw i, ond wrth wneud hynny, rwy’n ei wneud ar ran, mewn gwirionedd, grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yma heddiw. Mae'r gwelliant hwn yn cyfeirio at y pwerau i fynnu y cyhoeddir gwybodaeth am amser cyfleuster ac i osod gofynion ar gyflogwyr yn y sector cyhoeddus o ran amser cyfleuster â thâl. I egluro, nid yw’r gwelliant hwn yn ceisio dileu nac atal amser cyfleuster, na’r manteision yr honnir y mae’n eu creu. Ac mae gennyf bryderon gwirioneddol ynghylch sut y mae hyn wedi cael ei gamliwio yn y memorandwm esboniadol. Mae’n wir y gallai amser cyfleuster arwain at lai o dribiwnlysoedd cyflogaeth, colli llai o ddyddiau i anaf a salwch yn y gweithle, a llai o ddiswyddiadau ac ymadawiadau cynnar, ac nid ydym yn herio hynny. Ac nid ydym yn atal amser cyfleuster nac amser y mae staff sefydliad yn ei dreulio ar ddyletswyddau a gweithgareddau undeb llafur yn ystod oriau gwaith. Yr hyn yr ydym yn anelu at ei hybu yma yw diwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw o ran faint o amser staff sy’n cael ei dreulio yn y maes hwn. Mae nifer o resymau dros wneud hynny a nifer o fuddion.

Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ei gred bod defnyddio amser cyfleuster yn llwyddiannus yn golygu arbedion i'r cyflogwr ac i'r Trysorlys, felly, o ganlyniad i lai o dribiwnlysoedd cyflogaeth. Eto i gyd, heb ragor o graffu, rhagor o dystiolaeth a thryloywder, ni allwn ategu hyn mewn modd mesuradwy. Wrth gwrs, mae'n rhaid hefyd taro cydbwysedd â defnyddio arian trethdalwyr, a heb wybod faint o oriau gwaith sy’n cael eu treulio ar amser cyfleuster, does dim modd asesu ei wir werth. Pa Lywodraeth sy’n pasio deddfwriaeth heb allu darparu tystiolaeth i ategu eu dadl eu hunain?

Ydy, mae hwn yn gytundeb a wneir yn wirfoddol rhwng cyflogwyr ac undebau, ond mae'r swydd yn un â thâl o ran y ffaith ei bod yn cael ei gwneud yn ystod oriau gwaith â thâl. Felly, mae angen ateb cwestiynau ynghylch pam mae Llywodraeth Lafur Cymru mor amharod i ofyn i gyrff cyhoeddus gyhoeddi’r wybodaeth hon. Llywydd, nid yw'r wybodaeth hon yn breifat; gallai unrhyw un ohonom ofyn amdani drwy wneud cais rhyddid gwybodaeth ar unrhyw adeg, ac eto mae Llywodraeth—y Llywodraeth Lafur yng Nghymru—yn methu â gwneud hyn hyd yn oed. Fodd bynnag, mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn mynnu bod gan bob awdurdod cyhoeddus gynllun cyhoeddi ac, yn hollbwysig, eu bod yn cyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol.

Y pwynt allweddol yma yw bod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol i'r cyhoedd, ein hetholwyr, ynghylch sut y caiff arian cyhoeddus ei wario. Pam, felly, yr amharodrwydd o ran amser cyfleuster? Yn sicr, byddai’n llai o faich darparu hyn nag amryfal geisiadau rhyddid gwybodaeth. Cost ddangosol cyhoeddi o'r fath a roddir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yw £171,000—bron i draean cost didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres—ac eto yma mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu nad yw’n werth talu’r gost, er gwaethaf y cynnydd cynhenid o ran tryloywder a bod yn agored y byddai’n ei achosi. Yr unig beth yr ydym yn gofyn amdano yma yw darpariaethau i gyrff y sector cyhoeddus gyhoeddi’r wybodaeth hon yn glir ac i weithredu’n eithaf clir er budd y cyhoedd ac yn unol â bwriadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Rwy’n cynnig.

Rwy'n dyfalu y bydd y Torïaid yn hapus nad wyf yn mynd i ailadrodd yr holl wybodaeth a roddais y tro diwethaf—[Torri ar draws.] Ond ceir rhai themâu cyffredin, ac, yn y bôn, y rheini yw gwrthwynebiad cyflogwyr i'r hyn a geir yn neddfwriaeth y Torïaid ar gyfer y DU ac yn y gwelliant hwn a diffyg dealltwriaeth llwyr y Torïaid o'r hyn y mae undebau yn ei wneud a sut y maent yn gweithio. A'r agwedd bwysicaf ar y gwelliant hwn, rwy’n meddwl, yw canolbwyntio ar fanteision amser cyfleuster a pheidio â boddi yn y math costus o weithdrefnau adrodd sy'n cael eu cynnig.

Ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu cynigion cychwynnol ar gyfer eu Bil Undebau Llafur yn 2016, cynhaliodd ysgol fusnes Prifysgol Warwick ymchwil i amser cyfleuster yn y gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU, a chasgliad eu hymchwil oedd bod presenoldeb cynrychiolwyr yn y gweithle sy'n dibynnu ar amser cyfleuster i gyflawni eu dyletswyddau yn gysylltiedig â pherfformiad uwch yn y gweithle. Felly, i'r gwrthwyneb, mae lleihau amser cyfleuster yn debygol o gael effeithiau andwyol.

Ac wrth roi sylwadau am ddata Llywodraeth San Steffan ei hun, dywedodd Athro rheoli adnoddau dynol y Brifysgol:

‘Yn gyffredinol, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cynrychiolwyr...gweithle amser llawn a rhan-amser yn helpu i wella perfformiad yn y sector cyhoeddus a bod rheolwyr ar y cyfan yn cydnabod bod hyn yn wir.’

Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig i gyfyngu ar faint o amser y caiff cynrychiolwyr ei dreulio ar eu dyletswyddau cynrychioliadol yn ymddangos yn ddiangen a gallai leihau perfformiad yn y gweithle yn y sector cyhoeddus.

Nawr, rwyf eisoes wedi cyfeirio at fanteision sylweddol trefniadau partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Dylid cydnabod, yn ogystal â chynnwys swyddogion lleyg, bod swm sylweddol o’r gwaith a wneir mewn gwaith partneriaeth yn cael ei wneud gan swyddogion cyflogedig undebau llafur, heb ddim cost i'r pwrs cyhoeddus. Mae'r swyddogion hyn yn buddsoddi adnoddau undeb mewn gwaith sy'n rhan annatod o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn swyddogol, a gwneud newidiadau iddynt, yng Nghymru—rhywbeth, unwaith eto, y mae’n ymddangos na all y Ceidwadwyr Cymreig ei amgyffred. Ond, wrth gwrs, mae'n mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Ar lefel y gweithle, mae cyflogwyr y gwasanaethau cyhoeddus yn deall yr hyn, yn amlwg, nad yw'r Torïaid. Dywedodd cyn-arweinydd CLlLC Bob Wellington:

‘Mae amser cyfleuster yn galluogi cynghorau i ymgynghori a thrafod â swyddogion undebau llafur sy'n cynrychioli’r gweithlu, ac felly a dweud y gwir mae’n arbed llawer o amser ac adnoddau.’

Felly, mae'n

‘hanfodol yn ein barn ni, ac yn sicr er budd talwyr y dreth gyngor, y caiff ei gadw.’

Mae Conffederasiwn GIG Cymru a chyflogwyr y GIG wedi dweud:

‘Mae cynrychiolwyr undebau llafur yn darparu rôl hanfodol o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau’r GIG yn y gweithle a gweithio gyda hwy. Maent yn cefnogi staff a'u haelodau â materion cyfryngu ac yn llywio drwy bolisïau a materion yn y gweithle sy'n ei gwneud yn haws cynnal y gwasanaeth yn esmwyth.’

A wnaiff yr Aelod ildio? Os yw hyn i gyd mor gadarnhaol ag y mae'n ei ddweud, pam na wnaiff gyhoeddi'r wybodaeth fel y gall y cyhoedd weld faint o'r amser hwn sy’n cael ei roi?

Mae'n nonsens biwrocrataidd ac yn ddiangen. Mae'r amser cyfleuster ei hun, fel y mae ymchwil wedi’i ddangos, yn darparu i'r cyhoedd, i dalwyr y dreth gyngor, manteision ac arbedion drwy'r gwaith a wnânt.

Pe gallai’r Torïaid anghofio am eiliad am eu rhagfarn gwrth-undebau llafur a siarad ag undebau llafur y gwasanaethau cyhoeddus, efallai y byddent yn dechrau cael rhywfaint o ddealltwriaeth o'r hyn y maent yn ei wneud, a dysgu y bydd y rhan fwyaf o gynrychiolwyr lleyg yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio gyda'r cyflogwr i ymdrin ar y cyd â materion yn y gweithle yn ogystal â chefnogi mentrau iechyd a diogelwch, hyfforddiant, a rheoli newid. Maent yn gwneud llawer o'r gwaith hwn yn eu hamser eu hunain, yn ogystal ag unrhyw amser cyfleuster a roddir gan y cyflogwr.

Byddai’r gofynion adrodd diangen a fyddai'n ymddangos pe câi’r gwelliant hwn ei basio yn golygu cost ddiangen arall, ond byddent hefyd yn tynnu sylw oddi wrth y gwaith pwysig a wneir gan gynrychiolwyr undebau llafur achrededig a hyfforddedig sy’n gweithio gyda'u cyflogwyr i ymdrin â heriau yn y gweithle ac adeiladu cysylltiadau diwydiannol da, sydd, yn ei dro, yn lleihau'r tebygolrwydd o anghydfod a cholli diwrnodau drwy weithredu diwydiannol, sydd unwaith eto’n dangos bod trefniadau o'r fath wir yn arbed costau i'r rhan fwyaf o gyflogwyr. Am y rhesymau hyn, Llywydd, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn.

Un rheswm pam mae gweithredu streic yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gymharol brin—a gwnaf gymhariaeth brin iawn â Lloegr yma, oherwydd nid wyf fel arfer yn gwneud hynny. Ond rydym wedi gweld yn y blynyddoedd diwethaf anghydfodau uchel eu proffil yn Lloegr o fewn y sector cyhoeddus, fel un y meddygon iau, ac roedd yn chwerw ac yn ddeifiol. Nid yw hynny wedi digwydd yma yng Nghymru, ac nid yw wedi digwydd yng Nghymru gan fod gennym y bartneriaeth gymdeithasol sydd newydd gael ei disgrifio. Mae’n gweithio'n arbennig o dda, ac rwyf fi, o leiaf, yn falch iawn ein bod yn gweithredu o dan bartneriaeth gymdeithasol, a phartneriaeth sy'n cael ei deall yn glir gan y rheini sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ac i'r cyrff cyhoeddus.

Mae’r ddwy ochr—y cyflogwyr a'r undebau llafur—yn deall bod hynny mewn gwirionedd er budd pawb. Mae amser cyfleuster—hynny yw, dewch inni fod yn glir, yr amser a ganiateir i weithwyr i gyflawni dyletswyddau undeb llafur—yn hanfodol i lwyddiant y bartneriaeth. Nid wyf yn gwybod, a dweud y gwir, ble'r oedd Janet Finch-Saunders, ond yn sicr ni chlywodd y dystiolaeth yn yr un ffordd â mi, ac eraill, pan gafodd ei rhoi inni yn ystod y cyfnod pwyllgor. Clywsom dro ar ôl tro gan weithwyr a gan gyflogwyr am fudd yr amser cyfleuster. Clywsom hefyd, fel y mae’n rhaid bod hithau wedi’i glywed, bod yr amser hwnnw’n aml iawn yn cael ei roi’n rhad ac am ddim, ac mae rhai o'r rhesymau eisoes wedi cael eu crybwyll gan swyddogion undebau llafur amser llawn, ond hefyd gan bobl sy’n cynrychioli eu cydweithwyr yn eu hamser eu hunain, nid yn eu hamser gwaith. A hoffwn ofyn ichi sut yr ydych yn meddwl y gallech gyfrif am hynny o dan eich rhyddid gwybodaeth. Clywsom dystiolaeth gan weithwyr Conffederasiwn GIG Cymru a GIG Cymru. Yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor, a dyfynnaf:

‘Mae amser cyfleuster yn darparu buddion sylweddol i gysylltiadau diwydiannol, yn ogystal â darparu arbedion a manteision i'r sefydliad a'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd.’

A byddai'n anodd iawn, oni fyddai, i fesur hynny. Rwy'n meddwl ei bod yn sefyllfa od iawn bod y Ceidwadwyr yn cynnig ein bod yn ychwanegu mwy o dâp coch. Dyna beth maen nhw’n arfer yn ei alw, ie? Unrhyw bryd y mae'n rhaid ichi roi cyfrif am rywbeth, biwrocratiaeth ydyw. Ond mae amser cyfleuster yn cael ei ddefnyddio i gadw pobl yn ddiogel yn y gwaith. Mae'n cael ei ddefnyddio hefyd i wneud yn siŵr bod y telerau ac amodau, ar y ddwy ochr, i’r gweithiwr a'r cyflogwr, yn foddhaol i’r naill a'r llall. Yr unig gasgliad y gallaf ei gyrraedd yw bod Janet Finch-Saunders wedi cyflwyno’r gwelliannau hyn heddiw ar sail ideoleg bur, oherwydd yn sicr nid oedd yn seiliedig mewn unrhyw ffordd o gwbl ar ddim o'r dystiolaeth a roddwyd inni. A, pan fyddwn yn sôn am gost, cafodd cost ei chyflwyno am lunio adroddiadau ar amser cyfleuster, a nododd Cyngres Undebau Llafur Cymru y byddai datgymhwyso darpariaeth Deddf 2016 sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr cyhoeddus yng Nghymru i lunio adroddiad ar amser cyfleuster yn arbed arian. A gwnaethant roi cost o £170,700 ar gyfer costau llunio adroddiadau. Rydych i gyd yn gwybod, oherwydd rydych yn dweud wrthym yn aml iawn o'r ochr honno i'r Siambr, bod biwrocratiaeth yn costio arian. Bydd y fiwrocratiaeth hon hefyd yn costio arian, a’r oll y bydd yn ei wneud yw dinistrio popeth yr ydym wedi’i ddatblygu dros y blynyddoedd yng Nghymru yn y partneriaethau cymdeithasol hyn. Ideoleg bur ydyw, dim byd arall o gwbl.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Diolch, Llywydd. Felly, mae’r blaid Geidwadol yma’n dweud wrthym eu bod i gyd o blaid amser cyfleuster—dim ond chwilio am y gwir y maent; mae'n fater syml o fod eisiau cofnodi faint o amser cyfleuster sy’n cael ei gymryd a’i gostau. Ond yr hyn y maent yn methu â’i ddweud yn llawn wrthych, Llywydd, yw nad oes ganddynt ddiddordeb o gwbl mewn dweud wrth y cyhoedd beth yw manteision amser cyfleuster. Yr oll yr hoffent ei gael yw adroddiad unochrog sy’n mynegi popeth fel cost, gan hepgor yn llwyr yr holl bethau a nododd y cyflogwyr hynny a fu yn y pwyllgor fel manteision amser cyfleuster i gyflogwyr. Nid dim ond dymuniad syml i roi gwybodaeth i'r cyhoedd yw hyn. Mae'n ymgais fwriadol i ddarparu cyfrif rhagfarnllyd, unochrog o'r hyn sy’n fargen, bargen lle darperir amser cyfleuster fel y gall cyflogwyr wneud yn siŵr bod eu busnesau’n cael eu cynnal yn effeithiol, a bod undebau llafur yn gallu yn cyflawni eu gwaith cyfreithlon. Dywedodd pwyllgor y Cynulliad:

‘nid ydym mewn unrhyw amheuaeth bod amser cyfleuster yn fuddsoddiad doeth mewn gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn credu y dylid ei ystyried fel y cyfryw.’

Ac os ydych chi’n gwneud buddsoddiad doeth, nid yn unig y byddwch am roi cyfrif am gostau’r buddsoddiad hwnnw, ond byddwch hefyd am roi cyfrif am yr adenillion ar y buddsoddiad. Mae'r gwelliant hwn yn anwybyddu hynny’n llwyr. Roedd Gweinidogion y DU, wrth basio eu Bil Undebau Llafur nhw, o leiaf yn ddigon gonest i ddweud mai’r rheswm dros fod eisiau adrodd ar amser cyfleuster oedd fel y gellid canolbwyntio arno yn y dyfodol, ac y gellid ei leihau. Dyna beth yw perwyl hyn i gyd. Yr ymosodiad hwnnw ar waith undebau llafur, o dan gochl cais syml am wybodaeth. Nid yw'r gwelliant yn haeddu cael ei gefnogi, ac rwy’n gobeithio y bydd Aelodau yma’n pleidleisio yn ei erbyn y prynhawn yma.

Diolch, Llywydd. Wel, wyddoch chi beth? Rydym wedi penderfynu gwneud eich gwaith ar eich rhan, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac felly, gwnaethom gais rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig i ddod â rhywfaint o onestrwydd, tryloywder, ac atebolrwydd i'n dadl ac i’r trafodion yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. O'r 28 o gyrff cyhoeddus a allai ymateb yn llawn, roedd 63 o swyddogion ar amser cyfleuster llawn-amser, yn gweithio cyfanswm o 2,459 awr yr wythnos. O'r 26 o gyrff cyhoeddus a allai ymateb, mae 272 o swyddogion hefyd wedi’u cyflogi’n rhan-amser, ac mae 15 o’r 22 awdurdod yn talu am eu swyddogion amser llawn ar amser cyfleuster undebau, sy'n cyfateb i 33 o swyddogion. Mae gennym hawl i wybod hyn. Mae gan ein haelodau o'r cyhoedd, ein hetholwyr, hawl i wybod hynny hefyd. Mae colli diwrnodau i weithredu streic yn llesteirio’r economi, ac nid oes dadlau â hynny. Cyflwynwyd Deddf Undebau Llafur 2016 gan Lywodraeth y DU oherwydd cynnydd 77 y cant mewn colli diwrnodau gwaith oherwydd gweithredu diwydiannol, o 440,000 o ddiwrnodau yn 2013 i 788,000 yn 2014. Yn 2015, Cymru oedd â'r bedwaredd nifer uchaf o ddyddiau gwaith wedi’u colli o ranbarthau'r DU, gyda chwech fesul pob 1,000 o weithwyr. Dyna ddangos gwerth eich gwaith partneriaeth a'r ymagwedd ysgafndroed sydd gennych. Cafodd mwy o ddiwrnodau eu colli i weithredu streic eto ledled y DU yn 2016. Hyd at 31 Hydref 2016, collwyd 281,000 o ddiwrnodau i weithredu streic, sef cynnydd o 65 y cant. Yr amcangyfrif yw y bydd darpariaethau Deddf Undebau Llafur 2016 yn arbed 1.5 miliwn o oriau gwaith y flwyddyn ac yn rhoi hwb gwerth dros £100 miliwn i economi'r DU dros y 10 mlynedd nesaf.

Llywydd, drwy ymestyn y gofynion i gyhoeddi gwybodaeth am yr amser a'r arian a wariwyd ar amser cyfleuster, gofynion sydd eisoes yn berthnasol ar hyn o bryd i'r gwasanaeth sifil ac i'r sector cyhoeddus ehangach, gallwn sicrhau mwy o dryloywder a gonestrwydd gyda'r gwelliant hwn. Yn y bôn, rydym yn credu ei bod yn iawn bod y Llywodraeth yn monitro’r arfer hwn i sicrhau ei fod yn ddefnydd synhwyrol o arian y trethdalwyr, ac y bydd hyn yn sicrhau bod lefelau amser cyfleuster yn parhau i fod yn briodol. Rwy’n mynd i egluro unwaith eto: nid ydym yn ceisio ei ddileu. Canfu cais rhyddid gwybodaeth—[Torri ar draws.]

Roedd ein cais rhyddid gwybodaeth yn dangos yn glir bod angen mwy o dryloywder yn hyn o beth. Felly, er nad yw’r gwelliant hwn yn dadlau gwerth amser cyfleuster, rwy'n meddwl ei bod yn deg ac yn gyfiawn ein bod yn galw am gyhoeddi hyn. Mae'n hanfodol bod tryloywder a gonestrwydd yn gynhenid yn sector cyhoeddus Cymru—mae’n hanfodol eu bod yn gynhenid yn unrhyw waith a wnaiff y Cynulliad Cymru hwn—i sicrhau bod amser cyfleuster yn gweithio ar gyfer aelodau undeb, yn gweithio ar gyfer cyflenwi yn y sector cyhoeddus, ac, yn y bôn, yn gweithio i sicrhau cost-effeithiolrwydd ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 43 yn erbyn, ac felly fe wrthodwyd gwelliant 2.

Gwrthodwyd gwelliant 2: O blaid 12, Yn erbyn 43, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2.

Grŵp 3: Gofyniad ynghylch Pleidlais gan Undeb Llafur Cyn Gweithredu a Dileu Diffiniadau o Awdurdodau Datganoledig Cymreig (Gwelliannau 3, 4, 5)

Grŵp 3—mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â gofyniad ynghylch pleidlais gan undeb llafur cyn gweithredu a dileu diffiniadau o awdurdodau datganoledig Cymreig. Gwelliant 3 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn, ac rydw i’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am welliannau eraill yn y grŵp. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 3. Mae'r gwelliant hwn, wrth gwrs, yn cyfeirio at y trothwy pleidlais o 40 y cant ar gyfer gweithredu diwydiannol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd undebau llafur fel sefydliadau gwerthfawr yng nghymdeithas Prydain ac yn gwybod bod gan lawer o undebwyr llafur ymroddedig hanes cryf o weithio’n galed i gynrychioli eu haelodau, ymgyrchu am well diogelwch yn y gwaith a rhoi cefnogaeth i'w haelodau pan fo ei angen. Fodd bynnag, credaf nad yw ond yn deg ein bod yn cydbwyso hawliau undebau â hawliau trethdalwyr gweithgar sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus allweddol o ddydd i ddydd—[Torri ar draws.]

Nid pantomeim yw hwn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn, yn cynnal trafodaeth a dadl briodol ynglŷn â darn o ddeddfwriaeth y gallai fod ar fin ei basio. Janet Finch-Saunders.

Diolch. Gan fod streiciau’n cael effaith mor fawr ar fywydau arferol grŵp mor fawr o bobl, mae'n synhwyrol bod streiciau, pan fo angen, yn cael eu hategu gan lefel briodol o gefnogaeth gan y rhai dan sylw. Ceisiodd Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn 2016 greu deddfwriaeth ymarferol sy'n addas at ei diben yn ein marchnad economaidd fodern, hylifol. Yr hyn nad ydym am ei weld yw lleiafrif bach o aelodau undeb yn amharu ar fywydau miliynau o gymudwyr, rhieni, gweithwyr a chyflogwyr ar fyr rybudd, a heb gefnogaeth glir gan aelodau’r undeb—sefyllfa sydd â'r potensial i roi enw drwg i undebau yng ngolwg y cyhoedd.

Ar hyn o bryd mae 30 y cant o weithlu Cymru’n aelodau o undeb llafur. Mae hyn yn llawer mwy na chyfartaledd y DU, sef 21 y cant, ac yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban. Fel y cyfryw, bydd effaith pleidleisiau undebau llafur yn creu goblygiadau mwy pellgyrhaeddol i'r wlad hon, ac mae angen inni ystyried effaith y Bil hwn ar fywydau bob dydd pobl ledled Cymru a'r gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mawr eu hangen. Mae adran Llywodraeth y DU ar gyfer data busnes, egni, arloesi a sgiliau wedi canfod bod y dyddiau cyfunol a gollir yn sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg, iechyd a gwaith cymdeithasol wedi cyfrif am y mwyafrif helaeth o ddyddiau a gollir bob blwyddyn ers 2008. Mae'r sectorau hyn yn parhau i fod ar flaen y gad o ran ein diogelwch, ein lles a'n datblygiad, ac felly mae’n rhaid i weithredu streic fod yn deg ac yn ddemocrataidd. Fel y mae, nid yw cynigion Bil Llywodraeth Llafur Cymru yr un o'r pethau hynny. Fel y saif y gyfraith, bydd Deddf Llywodraeth y DU yn rhoi trothwyon pleidleisio llymach a fydd yn lleihau gweithredu diwydiannol mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig fel trafnidiaeth, iechyd ac addysg 35 y cant, gan arbed 1.5 miliwn o oriau gwaith y flwyddyn rhag streic. Ar ben hynny, bydd y mesurau yn neddfwriaeth Llywodraeth y DU hefyd yn darparu hwb o £10 miliwn i economi Cymru dros 10 mlynedd. Bydd yn diogelu cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru rhag effeithiau streic annemocrataidd. Bydd y gwelliant hwn, felly, yn sicrhau, os bydd streiciau’n digwydd, y bydd hynny o ganlyniad i fandad clir, democrataidd a phenderfyniadau gan aelodau undeb, diolch i gyflwyno trothwyon pleidleisio llymach.

Wel, os soniais yn y dadleuon am y ddau grŵp blaenorol o welliannau nad yw’r Torïaid yn ei deall hi, nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy gwir nag ynglŷn â'r gwelliannau hyn ar bleidleisio. Efallai y cafodd rhai o'r Ceidwadwyr Cymreig eu magu dan ddylanwad athroniaeth Thatcher o gwmpas undebau llafur. Rydych yn cofio’r undebau llafur cas hynny wedi’u dominyddu gan y barwniaid anghynrychioliadol ag un nod yn unig mewn bywyd, sef galw eu haelodau ar streic heb reswm da ar fyr rybudd, a hynny i gyd gan ddiystyru barn eu haelodau’n llwyr. Wel, gadewch imi ddweud wrth y Torïaid rhywbeth a allai fod o ddiddordeb iddynt. Yr oll yw undebau llafur yw sefydliadau lle mae gweithwyr yn dod at ei gilydd i amddiffyn eu buddiannau yn y gwaith. A rhywbeth arall a allai fod o ddiddordeb i Janet Finch-Saunders yw bod y gweithwyr hynny hefyd yn drethdalwyr. Felly, pan fydd y Torïaid yn ymosod ar undebau llafur, nid ydynt yn ymosod ar farwniaid yr undebau, maent yn ymosod ar bobl gyffredin sy'n gweithio ac sydd ddim yn gwneud dim mwy na dod at ei gilydd mewn achos cyffredin.

Wrth gwrs, mae undebau llafur hefyd ymysg y cyrff mwyaf democrataidd yn y wlad. Dewch inni edrych ar sut y maent yn ethol eu harweinwyr. Mae ysgrifenyddion cyffredinol undebau llafur yn cael eu hethol am gyfnodau penodol gan bleidleisiau un aelod un bleidlais ymhlith eu haelodaeth gyfan. Ac ar y materion sy’n ganolog i'r gwelliant hwn, mae pleidleisiau ar weithredu diwydiannol yn cynnwys pob aelod o'r undeb yr effeithir arno.

Ymhlith rhengoedd anwybodus y Torïaid, wrth gwrs, mae myth yn parhau bod undebau llafur yn mynd ati i berswadio eu haelodau i fynd ar streic. Ond ffantasi llwyr yw awgrymu bod undebau llafur yn croesawu galw streic. Gallaf ddweud wrthych yn bendant, o fy holl flynyddoedd, a hynny fel ymgyrchydd lleyg ac fel swyddog undeb llafur llawn-amser, y byddwn i a chyd-aelodau o undebau llafur yn ystyried mai methiant fyddai troi at alw pleidlais ffurfiol am weithredu diwydiannol ar unrhyw adeg—methiant oherwydd na fyddai’r holl waith a wnaethom, ddydd ar ôl dydd, i weithio gyda chyflogwyr i ddatrys anawsterau, fel yr amlinellwyd yn gynharach, wedi gweithio. Gweithredu diwydiannol bob amser, bob amser yw’r dewis olaf.

Dewch inni yna sôn am y pleidleisiau eu hunain. Os caiff y gwelliant hwn ei basio, byddai'n sefydlu cyfundrefn o drothwyon pleidleisio nad ydynt yn berthnasol mewn unrhyw sefyllfa ddemocrataidd arall yr wyf yn ymwybodol ohoni yn unman yn y DU y tu allan i Ddeddf Undebau Llafur Llywodraeth San Steffan. Ac rwy’n herio cynigydd y gwelliant hwn i enwi un.

Mike Hedges a gododd—

Ydych chi'n ei chael yn eironig bod rhywun a gafodd 34.7 y cant o'r bleidlais mewn etholiad eisiau gweld trothwy pleidlais o 40 y cant?

Rwy’n cytuno’n llwyr â chi, a dyna’r union bwynt yr oeddwn yn dod ato, Mike. Diolch yn fawr iawn.

Nid oedd y trothwyon pleidleisio, fel y gwyddom, yn sicr yn berthnasol yn refferendwm yr UE, sef heb os yr un mater pwysicaf yr ydym wedi pleidleisio arno yn y wlad hon yn ystod ein hoes. A pha bynnag mor agos oedd canlyniad y refferendwm hwnnw, a beth bynnag oedd y nifer a bleidleisiodd, gwnaethom i gyd gytuno bod rhaid inni ochri â’r mwyafrif o'r rhai a bleidleisiodd. Wnaethon ni ddim dweud y dylai'r canlyniad gael ei wneud yn annilys drwy osod rhyw drothwy mympwyol a di-sail, ond dyna y mae Deddf undeb llafur Torïaid y DU yn ei wneud i weithwyr sy’n cynnal pleidlais ar gyfer gweithredu diwydiannol. A dyna beth sy'n cael ei gynnig yn y gwelliant hwn.

Fel y dywedais pan fuom yn trafod y mater hwn o'r blaen, gallem fynd â’r safonau dwbl hynny gam ymhellach ac arsylwi na fyddai un Aelod Ceidwadol wedi cael ei ethol i'r Siambr hon pe byddai’r un trothwy yn Neddf y DU a gynigir yn y gwelliant hwn wedi bod yn berthnasol i’w hetholiad. A byddai, byddai'r un peth wedi bod yn wir am yr holl Aelodau eraill, yn ogystal â’r cynghorwyr a etholwyd yn ôl ym mis Mai. Cyn etholiad cyffredinol mis Mehefin, dim ond 25 o Aelodau Seneddol Torïaidd a fyddai wedi cyrraedd San Steffan yn unol â’r trothwy hwnnw. Nawr, rwy’n cyfaddef nad wyf wedi archwilio’r dadansoddiad hwnnw o'r etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin, ond rwy'n barod i fentro na fydd wedi gwella llawer ers hynny. Mae'r rhagrith yn y gwelliant hwn, felly, yn eithaf syfrdanol.

Dywedais yn gynharach y byddai'r rhan fwyaf o drefnwyr yr undebau llafur yn ei ystyried yn fethiant pe byddai'n rhaid iddynt droi at bleidlais ar weithredu diwydiannol, ond gadewch inni fynd ymlaen i archwilio'r hyn sy'n digwydd gyda phleidleisiau o'r fath os aiff undeb llafur i lawr y llwybr hwnnw. Mae gan bob undeb weithdrefnau cadarn ar gyfer cymeradwyo unrhyw gamau sy'n codi o bleidlais ar weithredu diwydiannol. Mae’n rhaid iddynt gynhyrchu toreth o wybodaeth i'r cyflogwr am bob aelod a gaiff bleidlais, ac unwaith y maent yn cael y canlyniad, mae angen dadansoddiad manwl o nifer yr aelodau a bleidleisiodd, ynghyd â’r mwyafrif o blaid neu yn erbyn. Mae pob aelod yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y bleidlais. Mae ganddynt hawl ddemocrataidd i ddewis bod yn rhan o'r pleidleisio neu beidio, yn ôl eu dymuniad. Un ffactor sydd bob amser yn effeithio ar y nifer sy’n pleidleisio yw mai un o'r anawsterau yw’r cyfyngiadau hen ffasiwn ar y dulliau a bennwyd gan Lywodraethau Torïaidd blaenorol o ran sut y gall undebau llafur ganfod barn eu haelodau. Ond ni fyddai unrhyw undeb llafur byth yn cychwyn ar raglen o weithredu diwydiannol heb yr hyder y gallant ei chyflawni. Yr hyn sy’n digwydd fel arfer mewn gwirionedd o dan amgylchiadau o'r fath yw bod pleidlais 'ie' ar gyfer gweithredu diwydiannol yn canolbwyntio meddyliau pob ochr mewn unrhyw anghydfod ar ganlyniad y cytunir arno, a dyna, wrth gwrs, ddylai fod nod unrhyw drafodaethau. Yr oll y byddai trothwy mympwyol a allai fod yn anghyraeddadwy’n ei wneud yw lleihau'r cymhelliad i un o'r partïon i negodi cytundeb; byddai unrhyw un sydd â hyd yn oed dealltwriaeth sylfaenol yn gweld y byddai hynny’n wrthgynhyrchiol i gysylltiadau diwydiannol iach ac adeiladol.

Wrth gwrs, rwyf wedi bod yn undebwr llafur ymroddedig drwy gydol fy oes, felly efallai y byddai pobl yn dweud, ‘Wel, byddai Dawn Bowden yn dweud hynny, oni fyddai?’ Wel, iawn, Llywydd, does dim angen i Aelodau gymryd fy ngair i am hynny. Penderfynodd pwyllgor polisi rheoleiddio Llywodraeth y DU nad oedd y cynlluniau hyn yn addas i'r pwrpas. Galwodd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu gynigion Llywodraeth y DU o dan ei Deddf undebau llafur yn ‘ymateb hen-ffasiwn’. Aeth ymlaen i ddod i'r casgliad y byddai’n well i Lywodraethau a chyflogwyr adeiladu gwell deialog â'u gweithluoedd yn hytrach na bod deddfwriaeth lem yn pennu trothwyon pleidleisio. Meddai Peter Cheese, prif weithredwr y CIPD

‘Mae'n amser dechrau sôn am atal yn hytrach na gwella o ran gweithredu streic a heriau gweithlu'r sector cyhoeddus yn benodol. Yr hyn sydd orau i fuddiannau trethdalwyr yw gweithlu effeithlon, brwdfrydig a chynhyrchiol yn y sector cyhoeddus.’

Mae angen inni weld mwy o ymgynghori a deialog ac ymgysylltu parhaus â'r gweithlu, yn hytrach na chyflwyno mecanweithiau sy'n adlewyrchu heriau cysylltiadau diwydiannol yr 1980au. Mae neidio’n syth at ddeddfwriaeth a gweithgarwch streic, heb ystyried hyn, yn edrych fel cam mawr yn ôl. Wrth gwrs, rydym eisoes yn cydnabod, yma yng Nghymru, ein bod wedi osgoi anghydfodau—er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders—rydym wedi osgoi anghydfodau yn y sector cyhoeddus yma drwy waith partneriaeth gymdeithasol mewn cyrff fel y cyngor adnewyddu'r economi, y cyngor partneriaeth gweithlu, ac Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru. Pam, felly, mae’r Torïaid yn methu ag amgyffred yr hyn a all pawb arall: bod angen fframwaith partneriaeth adeiladol a chyfartal er mwyn cynnal cysylltiadau diwydiannol yn ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig? A ydynt wedi’u dallu gymaint gan ragfarn gwrth-undebau llafur fel nad ydynt yn fodlon gwrando ar yr hyn y mae’r holl weithwyr proffesiynol cysylltiadau diwydiannol yn ei ddweud wrthynt? Wel, Llywydd, rwy’n gwybod lle’r wyf fi’n sefyll ar y mater hwn, a byddaf i’n pleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, wrth gyflwyno’r grŵp hwn o welliannau, clywsom lais go iawn Plaid Geidwadol Cymru. Ar y naill law: mae angen dal undebau llafur i lawr a’u clymu mewn rheolau cymhleth a throthwyon uchel i wneud yn siŵr nad ydynt yn achosi anhrefn ym mywydau trethdalwyr sy'n gweithio'n galed. Dyna’r union fath o wahaniaethu—gosod un grŵp yn erbyn y llall—yr ydym yn benderfynol i’w wrthsefyll yn y Bil hwn. Yma yng Nghymru, rydym wedi datblygu model partneriaeth gymdeithasol lle’r ydym yn cydnabod bod buddiannau undebwyr llafur yn union yr un fath â buddiannau'r bobl hynny sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus. Dyna pam yr ydym yn gwrthod y math hwn o welliant.

Dywedodd Mike Hedges ei bod yn eironig bod rhywun sydd ei hun wedi cyrraedd y lle hwn ar bleidlais a fyddai’n bendant wedi methu â bodloni’r testun a nodir yn y gwelliant hwn—roedd yn eironig bod hyn wedi’i gyflwyno yn y ffordd honno. Rwy'n meddwl ei fod ychydig yn waeth na hynny, Mike. Rwy'n meddwl mai annymunol iawn yw clywed pobl yn gwneud apêl i ddemocratiaeth ac yn sefydlu safonau y byddai’n gwbl amhosibl iddyn nhw eu hunain eu bodloni. Mae hynny'n wir am lawer o bobl yn yr ystafell hon; mae’n gwbl sicr. Pe byddai’r rheolau a nodir yn y gwelliant hwn yn berthnasol i chi, fyddech chi ddim yn Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, ble mae’r ddemocratiaeth yn hynny, tybed? Dyna pam mae angen inni wrthod y grŵp hwn o welliannau. Mae angen inni ei wrthod hefyd oherwydd casgliad y pwyllgor: sef, a dweud y gwir, pan fyddwch yn cyflwyno ysbryd o wrthdaro i mewn i gysylltiadau diwydiannol, pan fyddwch yn troi un ochr yn erbyn y llall, beth yr ydych yn ei wneud yw gwneud y risg y bydd pethau’n arwain at weithredu diwydiannol yn hytrach na chael eu datrys o gwmpas y bwrdd—rydych yn gwneud y risg hwnnw’n fwy, nid yn llai. Dyma beth a ddywedodd y pwyllgor:

‘Clywsom am y perygl gwirioneddol y byddai’r trothwy ychwanegol yn arwain at fwy o densiwn diwydiannol ac yn cael yr effaith anfwriadol o gynyddu tebygolrwydd a hyd y gweithredu diwydiannol.’

Dyna beth fyddai’r gwelliannau hyn yn ei wneud. Yn hytrach nag amddiffyn y cyhoedd, byddent yn cynyddu'r risg y byddem yn methu â chynnal cysylltiadau diwydiannol yn y modd llwyddiannus yr ydym wedi ei gyflawni yma yng Nghymru. Fel y grwpiau eraill hyd yn hyn, mae’r gwelliannau hyn yn haeddu cael eu trechu.

Diolch. Hoffwn ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: os yw eich partneriaeth gymdeithasol wedi bod mor llwyddiannus, pam mae gan Gymru’r lefelau cyflog, cyflogaeth a ffyniant isaf ym Mhrydain gyfan? Yn eu briff ar gyfer Bil gwreiddiol Llywodraeth y DU, canfu llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, yn 2015, fod gan Gymru’r pedwerydd swm uchaf o ddyddiau gwaith a gollwyd o blith rhanbarthau’r DU—chwech i bob 1,000 o weithwyr. Ac fel y dywedais yn gynharach, mae amcangyfrifon o'r adran ar gyfer busnes, egni, arloesi a sgiliau’n dangos y bydd darpariaethau presennol Deddf Llywodraeth y DU yn arbed dros 1.5 miliwn o oriau gwaith y flwyddyn, gan roi hwb o £100 miliwn i economi'r DU. Mae’n benbleth imi na fyddech am weld y llwyddiant hwnnw.

Mae'r CBI hefyd wedi nodi nad yw cyflwyno trothwyon pleidlais streic yn mynd yn groes i ddim o gonfensiynau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol a gymeradwywyd gan y DU, nac yn tanseilio dim o hawliau’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn fater o sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed yn ddemocrataidd mewn anghydfodau diwydiannol. Yn rhy aml, rydym yn gweld streiciau’n digwydd ar ôl nifer isel iawn o bleidleisiau, neu gyda chefnogaeth cyfran fechan o'r gweithlu. Yn 2014 caewyd miloedd o ysgolion ar ôl pleidlais lle pleidleisiodd 27 y cant o’r aelodau cymwys. O ran etholiadau gwleidyddol, mae pleidleisio i gymryd rhan mewn streic a phleidleisio mewn etholiad cyffredinol neu etholiad y Cynulliad yn gwbl wahanol. Gall pawb bleidleisio dros eu AS neu AC, ond mae streiciau’n effeithio ar bawb, ond nid yw’r rhan fwyaf o’r aelodau hynny o'r cyhoedd y bydd streiciau’n effeithio arnynt yn cael unrhyw gyfle na llais i bleidleisio ynghylch pa un a ddylai'r streic ddigwydd. Nid yw ond yn deg y dylai streiciau ddigwydd dim ond pan geir canran sylweddol yn pleidleisio.

Nawr, yn ddiddorol ddigon, roedd y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad disymwth eleni yn 68.7 y cant, sy’n llawer uwch na'r trothwy yr ydym yn ei awgrymu yma. Llywydd, nid wyf yn disgwyl gweld cefnogaeth ar draws y Siambr, o ystyried y swm eithriadol o arian a ddarperir i rai pleidiau gan undebau llafur. Fodd bynnag, byddwn yn gobeithio gweld Aelodau’n codi uwchben eu buddiannau eu hunain a materion o'r fath i bleidleisio o blaid streicio teg a democrataidd, rhywbeth y credwn ei fod er budd pawb dan sylw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad]. Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwrthodwyd gwelliant 3: O blaid 12, Yn erbyn 43, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3.

Ni chynigiwyd gwelliant 4 (Janet Finch-Saunders).

Ni chynigiwyd gwelliant 5 (Janet Finch-Saunders).

Grŵp 4: Gwaharddiad ar Ddefnyddio Gweithwyr Dros Dro i Gymryd Lle Staff yn Ystod Gweithredu Diwydiannol (Gwelliannau 6, 7)

Felly, y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4. Mae’r grŵp yma’n ymwneud â’r gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr dros dro i gymryd lle staff yn ystod gweithredu diwydiannol. Gwelliant 6 yw’r prif welliant yn y grŵp yma ac rwy’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp—Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Janet Finch-Saunders).

Diolch. Rwy’n cynnig gwelliant 6. Bwriad y gwelliant hwn yw rhoi’r rhyddid i gyflogwyr gyflogi gweithwyr asiantaeth yn ystod streic. Rwyf eisoes wedi trafod yr effaith sylweddol ar fywyd bob dydd i lawer o aelodau o'r cyhoedd y gall streiciau ei hachosi: gorfod cymryd diwrnod i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blant os bydd ysgol yn cau, er enghraifft.

I ddilyn gwelliant 3, yn amlwg, nid ydym am weld streiciau’n digwydd heb benderfyniadau democrataidd clir ac rydym am ymdrin â’r effaith anghymesur y gallai unrhyw streic ei chael. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu dileu rheoliad 7 o'r rheoliadau ymddygiad i sicrhau, er bod streic yn parhau i fod yn opsiwn ymarferol ac effeithiol mewn sefyllfa o'r fath os caiff y gefnogaeth briodol, na fydd yn cael effaith negyddol ar yr economi a bywydau dyddiol ein haelodau gweithgar o'r cyhoedd.

Bwriad y gwelliant hwn yw rhoi cyfle i’r sector recriwtio i helpu sefydliadau cyhoeddus a chyflogwyr i leihau effaith streic ar yr economi a chymdeithas ehangach drwy sicrhau y gall gwasanaethau barhau i weithredu i ryw raddau. Rwy’n cynnig.

Felly, unwaith eto, rydym yn wynebu gwelliant arfaethedig sydd tua’r un mor rhagweladwy ag y mae’n annoeth, yn debyg iawn i'r tri gwelliant blaenorol. Fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen, Llywydd, does dim undeb llafur na’i aelodau’n cofleidio'n ysgafn nac yn frwdfrydig yr angen i weithredu'n ddiwydiannol, ond gallwch fod yr un mor sicr nad yw unrhyw swyddog nac aelod o undeb llafur am i unrhyw anghydfod lusgo ymlaen yn ddiangen, ac nid yw unrhyw gyflogwr yn dymuno hynny ychwaith, wrth gwrs.

Llywydd, i undebau llafur, streic, fel yr wyf wedi’i dweud, yw’r dewis olaf bob amser. Mae'n fecanwaith a fydd, yn amlach na pheidio, yn rhoi’r neges i gyflogwr ei fod yn wynebu mater o bwys y mae angen iddo weithio gyda'r undebau llafur i’w unioni. Bydd anghydfod maith, wrth gwrs, yn cael effaith andwyol ar fusnes y cyflogwr, ond mae hefyd er budd yr undebau llafur i ddatrys mater yr anghydfod cyn gynted ag y bo modd. Nid yw er lles yr undeb na’i aelodau bod yr aelodau'n wynebu caledi ariannol, sydd yn anochel yn digwydd drwy golli enillion tra ar streic. Y buddiant cyfartal hwn i'r ddau barti sy'n eu gyrru i symud tuag at setliad cyn gynted ag y bo modd.

Byddai ystumio’r cydbwysedd hwn, fel y byddai’n digwydd pe câi’r gwelliant hwn ei basio, yn dileu’r cymhelliad i ddatrys yr anghydfod yn gynnar, h.y. nid yw’r anghydfod yn effeithio ar y cyflogwr, felly mae'r cyflogwr yn llai tebygol o ymgysylltu’n adeiladol â’r undeb i ddatrys yr anghydfod, sydd yna’n troi’n rhyfel athreuliol maith.

Yr hyn y mae pob gweithiwr proffesiynol ym maes cysylltiadau cyflogaeth yn ei ddeall, a'r hyn y mae'n amlwg nad yw’r Torïaid, yw, bron ym mhob achos, bod rhaid datrys yr anghydfod yn y pen draw ac mai rhan allweddol o unrhyw setliad bob amser fyddai sut y mae’r partïon yn bwriadu gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol. Mae hyn, wrth gwrs, yn dod yn llawer mwy o her os yw’r anghydfod wedi bod yn un hir, fel y byddai’n digwydd yn anochel o ganlyniad i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth i dorri streic. Felly, o safbwynt cysylltiadau diwydiannol sylfaenol, mae'r gwelliant yn gwbl hurt, ond mae rhesymau pellach pam y byddaf yn ei wrthwynebu heddiw.

Mae Cydffederasiwn Cyflogaeth Byd wedi argymell na ddylid defnyddio gweithwyr asiantaeth i gymryd lle gweithwyr sydd ar streic ac yn y DU, dywedodd y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi, sy'n cynrychioli cyflogwyr asiantaeth, ynglŷn â chynigion Llywodraeth y DU yn y maes hwn,

‘nid ydym yn argyhoeddedig bod rhoi asiantaethau a gweithwyr dros dro yng nghanol sefyllfaoedd cysylltiadau diwydiannol anodd yn syniad da i asiantaethau, gweithwyr na’u cleientiaid’.

Yn olaf, ceir pryderon gwirioneddol y gallai rhoi gweithwyr asiantaeth amhrofiadol, a llawer mwy ohonynt, mewn swyddi a gyflawnir fel arfer gan weithlu profiadol, proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n dda fod yn berygl difrifol i iechyd a diogelwch ac i safonau gwasanaeth. Felly, am y tro olaf heddiw, Llywydd, byddaf yn nodi bod gennym blaid Dorïaidd, wedi’i gyrru gan ragfarn gwrth-undebau-llafur, yn cynnig deddfwriaeth sy'n mynd yn groes i farn gweithwyr proffesiynol ym maes cysylltiadau cyflogaeth, ac felly, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn, ynghyd â'r rhai eraill a gyflwynwyd yn enw Janet Finch-Saunders.

Gair cyffredinol cyn manylu ar grŵp 4: mae Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma a gyflwynwyd gan Lafur, ond rydym yn dymuno nodi na wnaeth Llywodraethau Blair na Brown gymryd y cyfle i ddileu nifer o fesurau Thatcher—mesurau sy’n parhau i danseilio hawliau gweithwyr hyd heddiw. Mae’n bwysig cofio hynna rwy’n meddwl.

I symud at grŵp 4, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y gwelliannau yma sydd wedi cael eu cyflwyno yn enw Janet Finch-Saunders. Roeddwn yn falch o gefnogi gwelliant gan y Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 y Bil yma a oedd yn sicrhau y byddai gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr dros dro i gymryd lle staff yn ystod gweithredu diwydiannol. Yn aml, bydd gweithwyr asiantaeth ddim yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau a ddefnyddir mewn gweithleoedd, sydd felly yn codi pryderon ynghylch diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i’r cyhoedd. Mi all defnyddio gweithwyr asiantaeth i gymryd lle gweithwyr ar streic niweidio’r berthynas rhwng y streicwyr a’r cyflogwyr, a rhwng y streicwyr a’r gweithwyr asiantaeth hefyd.

Mae cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi denu beirniadaeth gref o fewn y sector asiantaethau ei hun, fel y clywsom ni gan Dawn Bowden, efo pennaeth polisi y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth yn amheus iawn o osod gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro yng nghanol sefyllfaoedd diwydiannol anodd, ac yn cynghori, yn wir, nad oedd hynny’n fanteisiol i aelodau’r gynghrair ei hun. Un ddadl yn unig ydy honno dros wrthod y gwelliannau yma.

Hoffwn ddefnyddio rhai dyfyniadau yma gan undeb Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr. Hoffwn eu defnyddio yn arbennig am nad ydynt yn gysylltiedig â phlaid, fel na all yr amlwg ddod yn ôl o'r ochr arall. Ac maent yn dweud yn eu tystiolaeth bod defnyddio gweithwyr asiantaeth yn y sector cyhoeddus yn achosi risg uchel iawn, a'i fod yn tanseilio hawl gweithwyr gweithgar sy’n talu trethi i arfer eu hawl i dynnu eu llafur yn ôl ar ôl cyflawni’r holl rwymedigaethau sydd eisoes yn eu lle, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth sydd ddim wir wedi cael ei egluro’n iawn yma heddiw. Mae'n ymddangos bron bod y Ceidwadwyr yn ceisio rhoi'r argraff ei bod yn hawdd i bobl fynd ar streic, a bod pobl yn mynd ar streic yn hawdd. Mae'n ymddangos eu bod hefyd wedi anghofio pwynt y mae fy nghydweithiwr Dawn Bowden newydd ei wneud: bod y streic yn gostus i’r bobl hynny sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiannau hynny, eu bod yn colli eu cyflogau, ac nad yw pobl yn dymuno dod at y bwrdd, a thynnu eu llafur yn ôl—rhywbeth y mae ganddynt bob hawl i’w wneud, ar ôl mynd drwy weithdrefn briodol—ar fympwy.

Mae hefyd yn werth nodi mai menywod yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n darparu gwasanaethau ardderchog yng ngweithle’r sector cyhoeddus, ac mai menywod a fydd yn teimlo effaith anghymesur gan y newidiadau a gynigir yn y Bil undebau llafur hwn. Mae hefyd yn werth nodi bod Pwyllgor Polisi Rheoleiddio y Llywodraeth ei hun wedi barnu nad oedd y mesurau’n addas i'w diben, ac nad oedd asesiad effaith llawn o'r Bil undebau llafur wedi ei gynnal. Rwy'n credu ei bod hi’n werth nodi’r pethau hynny.

Ac rwyf yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet, gan y bu rhywfaint o ddryswch o ran deall y geiriau ‘gweithwyr asiantaeth’, egluro er mwyn y cofnod nad ydym yn sôn am beidio â chaniatáu i weithwyr asiantaeth presennol sydd eisoes yn cael eu defnyddio o fewn y sector cyhoeddus—yn bennaf, mae'n rhaid dweud, o fewn y sector iechyd—rhag dod i mewn i’r gwaith fel y byddent wedi ei wneud o dan amgylchiadau arferol, ond rydym yn sôn, yn y fan yma, am ddod â gweithwyr asiantaeth i mewn at y diben penodol o dorri streic.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Diolch, Llywydd. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am ganiatáu i'r pwyllgor, wrth iddynt gasglu tystiolaeth yn ystod Cyfnod 1, gymryd safbwyntiau gan gyfranwyr ar yr ymgynghoriad yr oedd y Llywodraeth wedi’i gynnal ar y pryd ar ddefnyddio gweithwyr asiantaeth, ac am y gefnogaeth glir iawn a roddodd y pwyllgor yn eu hadroddiad Cyfnod 1 i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i’w gwneud yn glir, yma yng Nghymru, y byddai’r amgylchiadau sy'n bodoli heddiw lle nad yw'n bosibl defnyddio gweithwyr asiantaeth i dorri streic—y byddai’r sefyllfa honno'n parhau yma yng Nghymru.

Gadewch imi, ar gyfer y cofnod, glirio’r pwynt a gododd Joyce Watson: ni fydd darpariaethau'r Bil hwn yn effeithio ar drefniadau fel trefniadau banc nyrsio, lle mae nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn darparu gwasanaeth dros dro o ganlyniad i absenoldebau staff, prinder staff neu swyddi gwag tymor byr. Nid gweithwyr asiantaeth yw’r bobl hynny, ac ni fyddai’r ddarpariaeth hon yn effeithio arnynt.

Gadewch imi fod yn glir hefyd, Llywydd, nad wyf yn cytuno â'r gosodiad a roddodd cynigydd y gwelliant hwn i'r Cynulliad wrth agor y grŵp hwn o welliannau. Rwy’n credu mai’r hyn a glywais Janet Finch-Saunders yn ei ddweud oedd y byddai’r Cynulliad, drwy basio’r grŵp hwn o welliannau, yn cynnig rhyddid i gyflogwyr i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth yn ystod streic. Nawr, gadewch imi fod yn glir, pe byddai’r gwelliannau hyn yn cael eu pasio, byddai'n dileu adran 2, rhan allweddol o'r Bil. Byddai'n mynd yn groes i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd. Byddai'n gwrthdroi barn glir y pwyllgor yng Nghyfnod 2, ond ni fyddai'n caniatáu i awdurdodau Cymru ddefnyddio gweithwyr asiantaeth o ganlyniad i weithredu diwydiannol. Ac mae hynny oherwydd, er bod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar gael gwared ar reoliad 7 Rheoliadau Ymddygiad Busnesau Cyflogaeth ac Asiantaethau Cyflogaeth 2003, nid ydynt wedi gweithredu ar yr ymgynghoriad hwnnw. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod y cynigydd yn egluro’r mater hwn er budd y Cynulliad y prynhawn yma.

Pe câi’r newidiadau hyn eu pasio, byddai safbwynt y gyfraith yn aros fel y mae wedi bod ers nifer o ddegawdau, gan fod rheoliad 7 yn dal i fod ar waith. Felly, ni fyddai pasio’r gwelliannau hyn, yn fy marn i, yn rhoi’r rhyddid i gyflogwyr ddefnyddio gweithwyr asiantaeth yn ystod streic yma yng Nghymru. Byddai'r sefyllfa bresennol yn parhau—y sefyllfa bresennol sydd wedi bod yn ddigon da i Lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan, a'r sefyllfa bresennol y dangosodd ein hymgynghoriad yma yng Nghymru bod undebau llafur a chyflogwyr yn awyddus i’w weld yn cael ei chadw.

Diolch. Wrth gwrs, mae'n dal i fod yn wir bod gweithredu diwydiannol mewn rhai sectorau yn cael effaith ehangach ar aelodau o'r cyhoedd sydd yn anghymesur ac yn annheg. Gall streiciau atal pobl rhag cyrraedd y gwaith ac ennill eu bywoliaeth eu hunain ac atal busnesau rhag rheoli eu gweithluoedd yn effeithiol. Er enghraifft, bydd streiciau mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig fel addysg yn golygu bod angen i rieni rhai plant oedran ysgol ofalu am eu plant yn hytrach na mynd i'r gwaith oherwydd y byddai’n amhosibl i rai ysgolion gyflawni eu dyletswydd gofal tuag at eu disgyblion yn ystod y streic. Byddai hyn hefyd yn cael effaith negyddol ar rai o gyflogwyr y rhieni yr effeithir arnynt, effaith ar eu gweithlu a’u cynhyrchiant. Yn yr un modd, pe byddai gweithwyr post yn mynd ar streic, byddai unigolion a chyflogwyr sy'n dibynnu ar wasanaethau post yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd yr ôl-groniad mawr o ddanfoniadau a fyddai’n digwydd. Bydd y Bil hwn, heb ei ddiwygio, yn gwrthod y cyfle i’r sector recriwtio i helpu cyflogwyr i gyfyngu ar effaith streic ar yr economi a’r gymdeithas ehangach drwy sicrhau y gall busnesau barhau i weithredu i ryw raddau.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys asiantaethau cyflogaeth, busnesau cyflogaeth, cyflogwyr, darparwyr llafur, cyrff masnach, gweithwyr, unigolion sy'n defnyddio'r sector recriwtio i ddod o hyd i waith, a'r cyhoedd; mae gweithredu diwydiannol yn effeithio ar y rhain i gyd. Mae'r adborth hwn yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a chaiff ei ystyried yng nghyd-destun deddfwriaeth a buddiannau ehangach cysylltiadau diwydiannol. Rhywbeth modern, dynamig—

Na wnaf. Mae'n ddrwg gennyf, Dawn—ie, pwy bynnag. Mae angen hyblygrwydd ar weithlu modern, dynamig i sbarduno newid economaidd. Mae Deddf y DU yn ystyried hyn. Mae fersiwn Cymru’n symud y pwyslais oddi wrth werth am arian ac yn ôl i mewn i'r undebau llafur. Rwy’n cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwrthodwyd gwelliant 6: O blaid 12, Yn erbyn 42, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6.

Ni chynigiwyd gwelliant 7 (Janet Finch-Saunders).

Grŵp 5: Dod i Rym (Gwelliant 8)

Y grŵp nesaf, a’r grŵp olaf, o welliannau yw’r un sy’n ymwneud â dod i rym. Gwelliant 8 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp, ac rwy’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant ac i siarad amdano.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 8. Bwriad ein gwelliant olaf yw sicrhau y cynhelir dadansoddiad llawn o wir effaith y Bil hwn cyn iddo ddod i rym. Yn ei hanfod, drwy gynnal asesiad o effaith Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gwneud dyfarniad mwy gwybodus am yr effaith y byddai'r Bil hwn yn ei chael, yn hytrach na’i ​​gyflwyno heb ddadansoddiad manwl dim ond er mwyn gwthio deddfwriaeth drwodd.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig o blaid adolygu deddfwriaethol mewn meysydd eraill, yn arbennig yn ddiweddar yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Yn yr achos hwn, dim ond ym mis Mawrth 2017 y daeth llawer o ddarpariaethau Deddf Undebau Llafur 2016 i rym, ac felly mae'n bwysig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael yr un cyfle i asesu cyn datblygu ei ddeddfwriaeth ei hun. Diolch.

Mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn gwelliant 8 yng ngrŵp 5, sydd wedi cael ei gyflwyno gan Janet Finch-Saunders, oherwydd mae o’n cyfyngu’r Llywodraeth rhag cychwyn y Bil tan i asesiad effaith gael ei gyflawni a’i adrodd yn ôl i’r Cynulliad. Ymgais gwbl amlwg ydy hwn gan y Ceidwadwyr i rwystro’r Bil rhag pasio cyn y bydd Deddf Cymru yn weithredol. O dan y model pwerau sydd gennym ni ar hyn o bryd, mae hawl gan y Cynulliad i basio’r Bil sydd gerbron y Cynulliad heddiw, ond pan fydd Deddf Cymru’n weithredol, mi fydd y model pwerau newydd yn golygu na fydd gan y Cynulliad hwn y pwerau i wneud hynny oherwydd bydd cysylltiadau diwydiannol yn fater sydd dan reolaeth San Steffan.

Pan bleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn Bil Cymru ym mis Ionawr o’r flwyddyn yma, fe wnaethom ni hynny oherwydd ein bod ni o’r farn y buasai’r Ddeddf honno yn dwyn grym o’r Cynulliad. Yn anffodus, mae’r ffaith ein bod ni’n gorfod pasio’r Bil undebau llafur cyn i’r Ddeddf honno ddod yn weithredol yn profi ein bod ni’n iawn yn hynny o beth. Felly, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant yma heddiw, ac mi fyddwn ni’n pleidleisio yn erbyn ac yn gwrthwynebu unrhyw ymgais yn y dyfodol gan y Ceidwadwyr yn San Steffan i ddwyn rhagor o bwerau oddi wrth ein Senedd genedlaethol ni.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Felly, Llywydd, mae cynigydd y gwelliant yn dweud na fu dim dadansoddiad manwl y tu ôl i’r Bil hwn. Gadewch imi atgoffa’r Aelodau yn y fan yma am y ddadl gyfan a gynhaliwyd yn y Cynulliad diwethaf; yr ymdrechion a wnaeth y Prif Weinidog i berswadio Gweinidogion y DU i beidio â bwrw ymlaen drwy dresmasu ar gyfrifoldebau datganoledig; y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a basiwyd yma ar lawr y Cynulliad hwn, i geisio gwrthod grym i Lywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd nad oes ganddi unrhyw gyfrifoldeb drostynt. Gadewch imi atgoffa’r Aelodau yn y fan yma am ymrwymiadau maniffesto mwy nag un blaid yma yn y Cynulliad hwn, yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol flwyddyn yn ôl ac yn yr etholiad cyffredinol diweddar.

Rydym wedi clywed yr ymgais arferol gan y Torïaid y prynhawn yma, Llywydd, i awgrymu rywsut mai’r cymhelliant y tu ôl i’r Bil hwn, yn syml, yw’r berthynas rhwng fy mhlaid i a'r mudiad undebau llafur, perthynas yr ydym yn falch iawn ohoni. Ond yr hyn sydd y tu ôl i'r Bil mewn gwirionedd yw'r ymrwymiadau maniffesto y gwnaethom sefyll arnynt, a gafodd eu cymeradwyo gan bobl yma yng Nghymru, a rennir gan fwy nag un blaid yn y Cynulliad hwn, ac sy’n rhoi’r mandad democrataidd a'r awdurdod inni i roi’r Bil hwn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Beth am dystiolaeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ar weithwyr asiantaeth? Beth am y dystiolaeth gyson a ddarparwyd i'r pwyllgor yn ystod Cyfnod 1? Beth am yr wybodaeth a nodir yn y memorandwm esboniadol a'r asesiad o effaith rheoleiddiol a ddarparwyd ac a ddiwygiwyd cyn y ddadl Cyfnod 3? Ac yn fwy na hynny i gyd, Llywydd, beth am y dystiolaeth o sut y mae cysylltiadau diwydiannol wedi cael eu cynnal yn llwyddiannus yma yng Nghymru?

Mae'n cymryd llawer o hyfdra i fod yn Aelod Ceidwadol o'r Cynulliad hwn gan fod yn barod i ddadlau bod hanes cysylltiadau diwydiannol yma yng Nghymru—dim diffoddwyr tân ar streic; dim athrawon ar streic; dim nyrsys ar streic; dim meddygon ar streic; dim ffisiotherapyddion ar streic; dim therapyddion galwedigaethol ar streic, yr holl bobl hynny y mae eu plaid wedi llwyddo i’w sbarduno i weithredu diwydiannol yn Lloegr ac mae ein hanes ni yma yng Nghymru yn darparu pob darn o dystiolaeth y byddai ei hangen ar unrhyw berson rhesymol i ddangos nid yn unig mai’r dull yr ydym wedi’i ddefnyddio yma yng Nghymru yw'r un cywir, ond mai hwn yw'r un llwyddiannus hefyd. Llywydd, rwyf wedi ceisio, yn ystod y prynhawn yma, ymateb i sylwedd y gwelliannau a roddwyd gerbron y Cynulliad mewn grwpiau blaenorol, ond gadewch imi ddweud, o ran y grŵp hwn, nid yw’n ddim mwy nag ymgais i ddifetha’r Bil. Yn syml, ymgais drwy’r drws cefn i wneud yn siŵr bod y pethau yr ydym wedi dadlau o’u plaid ar yr ochr hon, gydag eraill yn y Cynulliad, gyda chefnogaeth gyson yn ystod hynt y Bil—ar y funud olaf, bydd ymgais i wrthdroi hynny i gyd â dyfais sy'n dryloyw i unrhyw un a ddymunai edrych arni. Mae'n ymgais olaf i geisio sicrhau na allwn barhau i wneud pethau yma yng Nghymru yn y modd y mae’r Cynulliad hwn wedi’i gymeradwyo ac y mae undebwyr llafur a chyflogwyr wedi dod gerbron y Cynulliad i ddweud wrthym mai dyma un o lwyddiannau'r cyfnod datganoli. Gadewch inni drechu’r gwelliant hwn hefyd, a rhoi’r Bil hwn ar y llyfr statud.

Diolch, Llywydd. Nid oedd llawer o'r atebion, wrth gwrs, gan yr Ysgrifennydd Cabinet a'r rheini a roddodd dystiolaeth yng Nghyfnodau 1 a 2 y Bil hwn, yn syml, yn seiliedig ar ddigon o dystiolaeth inni wneud asesiad annibynnol o effaith y Bil hwn. Er enghraifft, i fynd yn ôl at welliant 1, dywedwyd wrthym yn barhaus bod cost didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn fach iawn, heb i neb allu darparu ffigur pendant. Ac eto rydym yn gwybod o ddadansoddiad Swyddfa'r Cabinet ei fod yn costio £9.7 miliwn net yn flynyddol ledled y DU, sy'n cyfateb i tua £0.5 miliwn yma yng Nghymru. Hefyd, mae'r memorandwm esboniadol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru—. Felly, ceir cwmpas yn sicr ar gyfer dadansoddiad pellach o ran costau ac effaith y Bil hwn a Deddf y DU. Mae adolygu a chraffu yn hanfodol i greu deddfwriaeth dda, o ran dadansoddi’r hyn sydd eisoes ar waith, ac o ran rhoi gwell sail i’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud.

O ystyried y rhuthr i wthio’r Bil penodol hwn drwodd, rwy’n meddwl bod angen inni oedi ac ystyried yr effeithiau hirdymor yn y fan yma, ac mae asesu Deddf y DU yn hanfodol i hyn. Ymhellach, bydd hyn yn caniatáu eglurder llwyr o ran cymhwysedd deddfwriaethol, rhywbeth nad wyf fi na fy nghydweithwyr ar y meinciau hyn yn teimlo ei fod gennym eto. Mae'n deg i ddweud y bu rhywfaint o amwysedd yn y maes hwn. Wrth i Fil y DU wneud ei ffordd drwy Senedd San Steffan, honnodd Llywodraeth Cymru na ddylai rhai o'i ddarpariaethau ymestyn i wasanaethau cyhoeddus datganoledig, gan addo cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun i ddatgymhwyso'r darpariaethau hynny yng Nghymru cyn gynted a phosibl—fel pe byddai hynny’n brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth Cymru hon pan eich bod yn ystyried sefyllfa ein gwasanaeth iechyd, y safonau gwael yn ein haddysg—sef lle'r ydym ni ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth y DU wedi parhau i ddadlau nad yw cyfraith undebau llafur wedi’i datganoli, ac felly mae'n debygol iawn y bydd trydydd darn o ddeddfwriaeth o Gymru yn cyrraedd y Goruchaf Lys drwy atgyfeiriad gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn wastraff drud o arian trethdalwyr ar gyfer deddfwriaeth sy'n ddiangen, yn hen-ffasiwn ac yn ddim mwy na phrosiect balchder i Lywodraeth Cymru. Mae’n drueni gweld miloedd o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio ar achos llys dros gymhwysedd, dim ond i sylweddoli pa mor ddi-glem yw Llywodraeth Lafur Cymru oherwydd inni fod ar gymaint o frys i basio'r Bil hwn. Llywydd, mae Deddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU yn dangos natur flaengar gweddill y DU. Yn y cyd-destun hwn, ni ellir gweld Cymru fel bod yn mynd tuag yn ôl.

Gallaf ddweud wrthych yn awr, nid yw'n cymryd hyfdra i fod yn Geidwadwr Cymreig; mae'n cymryd gonestrwydd, dewrder, argyhoeddiad, egwyddor a moesau. Rwy'n hynod falch o fod yn Geidwadwr Cymreig, ac rwy'n hynod o falch i herio’r ddeddfwriaeth hon a chraffu arni, a byddwn yn gwneud hynny ar unrhyw bryd, mewn unrhyw le, ac unwaith eto. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwrthodwyd gwelliant 8: O blaid 12, Yn erbyn 42, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 8.

Rydym felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth cyfnod 3 o Fil yr Undebau Llafur (Cymru) ac rydw i’n datgan y bernir bod pob adran o’r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben a thrafodion y dydd i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:20.