Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

28/02/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein agenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac rwyf wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd arweinydd y tŷ, Jane Hutt, yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf, Simon Thomas.

Polisïau Amaeth a Chefn Gwlad

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pholisïau amaeth a chefn gwlad yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0468(FM)[W]

Rydym yn parhau i ymgysylltu’n ymarferol â Llywodraeth y DU ynghylch polisïau amaethyddiaeth a chefn gwlad. Yn fwyaf diweddar, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig â Gweinidogion o Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ar 23 Chwefror yng Nghaeredin.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Bu gen i ddiddordeb yn yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod hwnnw yng Nghaeredin. Dywedodd Ysgrifennydd economi cefn gwlad yr Alban, Fergus Ewing

Ni chyflawnodd gyfarfod heddiw unrhyw beth. Nid oedd unrhyw wybodaeth ffeithiol o gwbl am unrhyw un o'r materion difrifol a godwyd gan ffermwyr.

Dywedodd Roseanna Cunnigham, sef Ysgrifennydd yr amgylchedd yn yr Alban, y bu gwyrgamu yn y cyfarfod gan Andrea Leadsom pryd bynnag y codwyd y mater datganoli, a dywedodd Gweinidog Brexit yr Alban, Mike Russell, y gallai Andrea Leadsom fod wedi bod mewn gwahanol gyfarfod i bawb arall. A yw Llywodraeth y DU wir yn deall yr hyn y mae datganoli polisïau amaethyddiaeth ac amgylcheddol yn ei olygu, ac a all y Gweinidog, yn lle’r Prif Weinidog, roi sicrwydd na fydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i Lywodraeth y DU gydio unrhyw un o’n polisïau datganoledig yn ôl?

Yn sicr, gallaf sicrhau Simon Thomas o hynny. Ac, wrth gwrs, byddai'n cytuno â mi a Llywodraeth Cymru, o ran dyfodol amaethyddiaeth a pholisi amgylcheddol yng Nghymru, ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid dros y chwe mis diwethaf drwy ein cyfarfodydd bwrdd crwn ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi tanlinellu pa mor hanfodol yw hi fod gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae rhan lawn mewn trafodaethau i sicrhau bod unrhyw safbwynt negodi yn adlewyrchu safbwynt cyfunol y DU gyfan, ac, wrth gwrs, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gyngor cydbwyllgor yr UE dim ond 10 diwrnod yn ôl gyda chydweithwyr, wrth gwrs, o weinyddiaethau datganoledig Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae arbenigwyr iechyd bellach yn dweud wrthym na ddylem ni fwyta dim ond pump y dydd, ond bod angen i ni fwyta 10 y dydd os ydym ni eisiau byw bywyd hir. Roeddwn i’n meddwl tybed pa drafodaethau a gafwyd ynghylch diogelu’r cyflenwad bwyd, yn sgil y gostyngiad i werth y bunt yn benodol, ac yn enwedig o ran ein gwneud ni’n fwy hunangynhaliol ar draws y DU o ran cynhyrchu ffrwythau a llysiau, ac roeddwn i’n meddwl tybed a yw hynny wedi cael ei drafod o gwbl yn y trafodaethau hyn ar lefel y DU.

Mae hyn yn hanfodol bwysig, ac, wrth gwrs, mae gennym ni ein cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid a phartneriaid diogelu’r cyflenwad bwyd i gynnal a gwella'r sylfaen gynhyrchu bwyd yng Nghymru, ac yn gweithio’n ymarferol gyda'r diwydiant. Ac mae hynny’n golygu gwella gwydnwch, cynhyrchiant a chystadleurwydd busnesau bwyd a ffermio, ac ychwanegu gwerth at ein cadwyni cyflenwi. Ac, yn amlwg, mae cynhyrchu bwyd yn rhoi Cymru mewn sefyllfa o fantais gystadleuol, sy’n ddelfrydol o ran cynyddu'r amrywiaeth o gynhyrchion bwyd, ond hefyd yn ystyried ein hanghenion ein hunain. A dyna lle mae busnesau ffermio Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol at ddiogelu cyflenwad bwyd yn y DU.

Arweinydd y tŷ, mae’r Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am amaethyddiaeth wedi dweud y gall fframwaith amaethyddol ar lefel y Deyrnas Unedig fod yn briodol. Felly, yn sgil hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni ba fath o fframwaith yr hoffai’r Llywodraeth ei weld yn cael ei gyflwyno, ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth yw nod Llywodraeth Cymru pan ddaw hi i’r fath fframwaith?

Byddwn yn chwarae rhan ymarferol yn y gwaith o ddatblygu fframweithiau gyda Llywodraeth y DU, a gyda'r gwledydd datganoledig eraill hefyd. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried lle mae angen fframweithiau a strwythurau y DU i ddisodli’r rhai a bennir gan yr UE ar hyn o bryd, ond rydym ni’n credu y bydd y rhain yn cael eu datblygu a’u cytuno ar y cyd. Mae hynny'n hanfodol bwysig—eu bod yn cael eu datblygu a'u cytuno ar y cyd, ac nid eu gorfodi, ac, yn bwysicaf oll, rhaid cael dull cyflafareddu annibynnol i ddatrys anghydfod ynghylch ddehongliad.

Cyfres Library of Wales

Ysgrifennydd, mae cyfres Llyfrgell Cymru, diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru—

2. Beth sy'n cael ei wneud i hyrwyddo'r gyfres Library of Wales mewn ysgolion? OAQ(5)0474(FM)

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu cyfres Llyfrgell Cymru, trwy Gyngor Llyfrau Cymru. Yn rhan o'n nod i hyrwyddo’r gyfres, mae setiau rhodd o un copi o bob teitl yn cael eu hanfon i’r holl ysgolion uwchradd, colegau ac awdurdodau llyfrgell pan gyhoeddir teitlau newydd.

Diolch yn fawr iawn. Diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru o tua £600,000 dros y 10 mlynedd diwethaf, mae 46 gwaith llenyddol pwysig bellach yn ôl mewn print yn y Saesneg. Mae'r ddau lyfr diweddaraf, 'Ride the White Stallion' a 'Farewell Innocence', gan yr awdur a anwyd yn Llanelli, William Glynne-Jones, yn ychwanegiad trawiadol at y canon hwnnw. Ychydig cyn y toriad, cynhaliodd Jon Gower a minnau ddigwyddiad yng Ngholeg Sir Gâr, lle buom yn trafod y llyfrau hyn gyda myfyrwyr chweched dosbarth lleol. Ar ôl buddsoddi cymaint yn y teitlau hyn, mae'n hanfodol nawr bod pobl leol yn cael gwybod am y llyfrau hyn am y cymunedau hyn. Ac mae Jon Gower o'r farn sicr iawn bod gan bob cymuned yng Nghymru deitl yn y gyfres hon sy'n gallu dweud rhywbeth wrthynt am eu cymuned ac am eu gorffennol, i'n helpu i fyfyrio ar ein treftadaeth gyffredin. Felly, byddwn yn croesawu unrhyw fentrau pellach, i wneud yn siŵr bod ysgolion a cholegau yn gwneud defnydd o'r copïau sydd ganddynt nawr, fel y gallwn fyfyrio ar y buddsoddiad pwysig hwn.

Wel, rwy’n falch bod yr Aelod dros Lanelli wedi tynnu sylw at yr ymweliad hynod ddiddorol, rwy'n siŵr, hwnnw gyda Jon Gower, a hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod yr awdur o Lanelli, William Glynne-Jones, wedi ei gynnwys yn y gyfres newydd. Mae'n bwysig nad setiau rhodd yn unig sy’n mynd i ysgolion—yn amlwg, mae’n rhaid defnyddio’r llyfrau hynny yn eang, mae angen iddynt gael eu benthyg, eu darllen, eu rhannu, eu trafod ar draws ysgolion, llyfrgelloedd a cholegau. Ac rwy’n meddwl, fel y mae’r Aelod wedi dweud, mae'r ffaith ein bod ni wedi dod â’r genhedlaeth newydd hon o gyfres i ddarllenwyr—46 o deitlau yn cael eu cyhoeddi—yn hanfodol bwysig. Ond mae hefyd yn hanfodol ein bod ni’n gweld hyn fel rhan o ddatblygu ein system addysg o'r radd flaenaf, sy’n barod i baratoi ein plant a’n pobl ifanc i ffynnu ymhlith heriau'r unfed ganrif ar hugain.

Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod i’n croesawu'r ymrwymiad parhaus i gyfres Llyfrgell Cymru, a ydych chi’n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn trafod y tueddiadau darllen a gallu darllen disgyblion ar draws y DU? Yn yr adroddiad penodol hwnnw, mae'n dangos bod Cymru wedi gweld cwymp i oedrannau darllen, fel, mewn gwirionedd, o ran y sefyllfa yn erbyn oedran cronolegol, bod disgyblion mewn ysgolion uwchradd flwyddyn lawn ar ei hôl hi, ar gyfartaledd, o’u cymharu â’u hoedrannau cronolegol. Ac rwy’n meddwl tybed pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i fynd i'r afael â’r broblem benodol hon, o ran rhoi sylw i'r oedrannau darllen hyn yn ein hysgolion uwchradd.

Wel, ym mis Mawrth, wrth gwrs, cyhoeddwyd ein rhaglen llythrennedd a rhifedd genedlaethol, ac mae’r cynllun hwnnw yn rhoi gweledigaeth eglur iawn o'n strategaeth llythrennedd a rhifedd, ar gyfer y dyfodol. Mae'n sicrhau bod cefnogaeth barhaus sylweddol ar gyfer llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm. A dangosodd adroddiad blynyddol Estyn yn 2015 bod safonau'n gwella yng Nghymru, a byddwn yn gweithio i gynnal y momentwm hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, roeddem ni i gyd wedi’n harswydo gan y stori am farwolaeth Ellie-May Clark dros y penwythnos, a’r trychineb a arweiniodd at y gyfres o ddigwyddiadau—bod ei mam, yn amlwg, wedi mynd i’r feddygfa deulu, wedi gofyn am apwyntiad yn y pen draw ac, o ystyried hanes meddygol Ellie fach, dylai fod wedi cael ei gweld gan y meddyg teulu. Ni allai unrhyw un yn ei iawn bwyll fethu ag arswydo at yr hyn a arweiniodd at y digwyddiadau trasig hynny. Byddwn yn ddiolchgar deall beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—ac nid wyf yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru yma. Yr hyn rwy’n ei ddweud yw, fel Llywodraeth Cymru—a digwyddodd hyn yng Nghymru—beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda'r rheoleiddiwr i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiad a ymchwiliodd i'r digwyddiad hwn?

Diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna, oherwydd rydym ni i gyd yn ymwybodol yma heddiw o farwolaeth drasig Ellie-May, ac mae fy meddyliau gyda’i theulu ar yr adeg anodd hon. Mae'n fater rheoleiddio proffesiynol i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, sy'n goruchwylio'r achosion o'r fath ar lefel y DU, fel y bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gydnabod. Ac, fel yr ydych chi wedi ei gydnabod, mae'n fater o ba ran y gallwn ni ei chwarae. Byddai'n amhriodol i Lywodraeth Cymru ymyrryd, ond rwy’n credu bod rhaid i ni ddweud, yn ôl yr hyn a ddeallwn, bod ymchwiliad y Cyngor Meddygol Cyffredinol o weithredoedd y meddyg teulu yn tanlinellu'r angen i ddarparu safonau uchel o ofal bob amser. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod y crwner yn ymchwilio nawr ac y bydd cwest yn cael ei gynnal.

Arweinydd y tŷ, mae'n eithaf amlwg pe na bai’r ‘Mail on Sunday’ wedi cynnal ei ymchwiliad, y byddai’r adroddiad hwn wedi cael ei gladdu yn nyfnderoedd dyfnaf adroddiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac ni fyddai wedi dod i'r amlwg. Mae arnom ni ddyled fawr o ddiolch i’r ‘Mail on Sunday’ gan eu bod wedi hysbysu’r teulu am y canlyniad, oherwydd, fel y deallaf, nid oedd y teulu wedi cael gwybod am ganlyniad yr ymchwiliad. Ond ni all fod yn iawn, pan edrychwch chi ar yr amgylchiadau hyn, bod y mathau hyn o ymchwiliadau yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig, ac nad yw’r teulu a'r rhai sy'n ymwneud â'r materion hyn yn cael eu hysbysu'n llawn am y broses a'r canlyniad. A ydych chi’n credu, fel fi, arweinydd y tŷ, bod gweithdrefnau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn y materion hyn yn codi llawer o gwestiynau y mae angen eu hateb, ac nad ydynt yn addas i’r diben?

Rwy’n meddwl bod yr achos wedi cael ei adolygu yn unol â gweithdrefnau presennol y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Ac mae'n bwysig hefyd dweud y prynhawn yma mai’r bwrdd iechyd a gymerodd y camau i atgyfeirio'r meddyg i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, yn dilyn ei ymchwiliad mewnol ei hun. Felly, rwy’n meddwl mai dyna, unwaith eto, lle mae'n rhaid i ni gydnabod y cyfrifoldeb hwnnw—cymerwyd y camau hynny. Rwyf hefyd yn sylwi bod Syr Donald Irvine, cyn-lywydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ei hun yn galw am ragor o dryloywder o ganlyniad i'r achos trasig hwn.

Efallai mai’r hyn yr wyf i'n ceisio ei ddenu allan ohonoch chi, arweinydd y tŷ, yw dull rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i nodi nad yw'r prosesau hyn yn addas i'r diben, fel yr ydych chi wedi ei nodi bod Syr Donald wedi ei nodi yn ei asesiad ei hun o’r weithdrefn hon. Lawer gwaith, gelwir ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar wahanol faterion. Hoffwn i chi geisio annog Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ysgrifennu at y Cyngor Meddygol Cyffredinol i roi sylw i’w brotocolau a’i weithdrefnau oherwydd nid yw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yno i edrych ar ôl ei hun, ond i edrych ar ôl pawb. Yn yr achos hwn yn benodol, mae wedi methu. Rwy’n gobeithio, wrth ymateb i’m trydydd cwestiwn, y byddwch yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at y Cyngor Meddygol Cyffredinol i ofyn iddyn nhw roi sylw i bryderon hynod, hynod ddwys aelodau'r sefydliad hwn, ond y cyhoedd yn fwy cyffredinol yn yr achos penodol hwn, sydd wir wedi gadael y teulu i lawr ac, yn anad dim, yn gadael Ellie a’r cof am Ellie i lawr.

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llesiant yn sicr yn mynd i fod yn ystyried yr achos hwn o ran swyddogaeth a gweithdrefnau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig eich bod chi wedi gwneud eich pwynt ar goedd heddiw, ac rwy'n siŵr y gall y pwyntiau hynny gael eu gwneud, ac y byddant yn cael eu gwneud, ar draws y Siambr hon.

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fy mod i wedi pwyso’r Prif Weinidog ar y cwestiwn o ehangu mynediad at gyffuriau a thriniaethau yng Nghymru. Heddiw, mae gennym ni rai pobl yn yr oriel gyhoeddus sy'n byw gyda sglerosis ymledol, a hoffwn eu croesawu nhw i'r Senedd. Maen nhw wedi gofyn i mi godi mater sydd o'r pwys mwyaf i ansawdd eu bywydau. Mae pawb yn y Siambr yn ymwybodol o'r anawsterau o gael mynediad at gyffuriau a thriniaethau penodol ar gyfer MS. Arweinydd y tŷ, beth yw barn Llywodraeth Cymru ar ba mor hawdd yw cael gafael ar y cyffuriau a’r triniaethau hynny?

Wel, ceir cyfle nawr yn amlwg, ac yn sgil y trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael, i edrych yn ofalus iawn ar y cyfleoedd i'r cyffuriau hynny gael eu gwneud ar gael. Wrth gwrs, mae hyn yn rhan o'r ffordd ymlaen o ran yr adolygiad o ragnodi’r cyffuriau hynny.

Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Rydym ni’n gwybod mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gymeradwyo Sativex, sy’n gyffur wedi’i seilio ar ganabis, ac a gymeradwywyd yn ôl yn 2014. Mae'r dystiolaeth gan gleifion sy'n derbyn Sativex ar bresgripsiwn yn gyson ac yn eglur: mae'n effeithiol, mae'n lleihau poen, mae'n lleihau sbasmau, ond mae mynediad at y cyffur yn anghyson. Canfu arolwg ar ran y Gymdeithas Sglerosis Ymledol mai dim ond 1 y cant o bobl a ddywedodd eu bod yn gymwys i dderbyn Sativex oedd â mynediad ato mewn gwirionedd. Awgrymodd yr arolwg hefyd ei bod yn ymddangos bod nifer y bobl sy'n byw gydag MS sy'n cymryd therapïau addasu clefydau yn is nag yn yr Alban neu Loegr. Ceir pryder gwirioneddol y bydd yr un mor anodd cael gafael ar gyffuriau a thriniaethau newydd eraill sy’n dod drwy'r system. Os ydych chi’n derbyn bod y cyffuriau hyn ar gael yn anghyson, a bod hynny’n rhwystr mawr i ansawdd bywyd dinasyddion yng Nghymru, pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w dyrannu i’r seilwaith sy’n gysylltiedig ag MS, yn gysylltiedig â nyrsio a niwroleg MS, er mwyn helpu cleifion i gael y cymorth sydd ei angen arnynt?

Wel, rwy’n croesawu ymgysylltiad y Gymdeithas Sglerosis Ymledol yn fawr, fel sefydliad sydd wedi cynrychioli cleifion â sglerosis ymledol mor effeithiol yng Nghymru, ac wrth gwrs mae eu tystiolaeth yn hanfodol bwysig i’n hysbysu wrth ystyried y trefniadau clinigol eglur iawn o ran rhagnodi cyffuriau. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni’n edrych yn benodol ar yr effaith a’r effaith fuddiol, a hefyd ar argaeledd a mynediad o ran y meddyginiaethau hynny fel Sativex, yr ydych chi newydd eu codi.

Rwy’n meddwl bod eich ail gwestiwn hefyd yn ymwneud â'r gwasanaethau ehangach y gallwn eu darparu i ddioddefwyr MS. Gwnaed llawer o gynnydd o ran yr hyn sydd ar gael, o ran ymchwil, cyffuriau a thriniaeth briodol, ond mae’n rhaid cael y llwybr gofal ehangach hefyd.

Wel, rwy’n gobeithio'n fawr y byddwn ni’n gweld adnoddau ychwanegol ar gyfer hyn, arweinydd y tŷ. Mae’r anhawster o gael gafael ar Sativex wedi arwain pobl i fynd ar drywydd dewisiadau eraill eu hunain. Cyfarfûm yn ddiweddar â menyw 64 mlwydd oed o Gwmbrân sydd ag MS cynyddol sylfaenol. Mae’n dioddef poen a sbasmau yn ddyddiol, ac mae ei threfn gyffuriau feunyddiol yn cynnwys morffin, codeine, paracetamol, pregabalin a diazepam. Gan nad yw Sativex ar gael yn ei hardal, mae hi'n defnyddio canabis yn ei le, sy’n amlwg yn arwain at berygl o broblemau gyda’r gyfraith. Sut mae'n iawn i gymryd morffin, ond ei bod yn risgio cael ei herlyn trwy brynu canabis?

Ar 10 Chwefror, yn dilyn adolygiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, ymunodd Iwerddon â Chanada, yr Iseldiroedd, yr Almaen a llawer o wledydd eraill o gwmpas y byd i argymell y dylid cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol. Ceir cefnogaeth i hyn yn yr Alban hefyd, ac rydym ni wedi clywed o leiaf un comisiynydd heddlu a throseddu o Gymru yn argymell bod yr un peth yn digwydd yma. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddilyn ein cymheiriaid yn Iwerddon a’r Alban ac argymell dad-droseddu canabis i liniaru symptomau sglerosis ymledol a chyflyrau eraill?

Yr hyn yr hoffwn i ei wneud yw sicrhau y gallwn wneud y meddyginiaethau hynny, y cyffuriau hynny, ar gael, fel Sativex, sydd yn amlwg a manteision a brofwyd. Byddwn yn sicr eisiau sicrhau, o'ch cwestiynau heddiw, arweinydd Plaid Cymru, ein bod ni’n edrych yn ofalus iawn ar argaeledd a mynediad at y meddyginiaethau hynny a brofwyd ac sy’n fuddiol i bobl ag MS yng Nghymru.

Diolch, Lywydd. Bythefnos yn ôl yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, cododd arweinydd Plaid Cymru yr anghydfod sy'n digwydd yn Llangennech dros droi ei hysgol gynradd o un ddwyieithog i addysg cyfrwng Cymraeg yn unig, a dywedodd bod yr awyrgylch yn y pentref yn wenwynig. Apeliodd y Prif Weinidog i bobl beidio â chynhyrfu. Ers hynny, mae arweinydd Plaid Cymru wedi dehongli peidio â chynhyrfu mewn ffordd sydd braidd yn anarferol. Mae Plaid Cymru wedi anfon eu troliau rhyngrwyd ar drywydd yr ymgyrchwyr sydd eisiau cadw addysg dwy ffrwd yn Llangennech ac wedi troi negeseuon Facebook diniwed mewn ymdrech i ladd ar gymeriad eu gwrthwynebwyr. Mae Jonathan Edwards, yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, gyda chefnogaeth arweinydd Plaid Cymru, wedi cymryd rhan mewn ymgyrch gyhoeddus o frawychu un o’r ymgyrchwyr hynny am fod yn ddigon hy i ofyn am fy nghymorth i fel un o'i ACau yn y frwydr yn erbyn anoddefgarwch Plaid Cymru. Yn wir, mae arweinydd Plaid Cymru hyd yn oed wedi cyhoeddi, ar ei thudalen Facebook, ffotograff o un ohonyn nhw, ac yn dilyn hynny mae’r wraig hon wedi cael ei cham-drin ar lafar yn y stryd a phoerwyd arni.

Fel arweinydd y tŷ, a wnewch chi amddiffyn ein hawliau cyfunol fel Aelodau yn y Cynulliad hwn, fel cynrychiolwyr pobl Cymru, i geisio unioni cwynion ar ran ein holl etholwyr, waeth beth yw eu barn wleidyddol, a chondemnio’r ymosodiad ar hawl cyfansoddiadol fy holl etholwyr i ofyn am fy nghymorth ar addysg eu plant yn y dyfodol?

Wel, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n pryderu braidd nad yw arweinydd UKIP yn helpu i leihau'r sefyllfa wenwynig a ddisgrifiwyd. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle, o ran ein cyfrifoldebau ni, eich cyfrifoldebau chi, yn wir—ac mae’n rhaid i ni fod yn eglur iawn yma, ac efallai fod angen atgoffa arweinydd UKIP o hyn: ni all Llywodraeth Cymru wneud sylwadau ar unrhyw gynigion ar gyfer newid sy'n cael eu hystyried gan awdurdod lleol. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol, cynllunio lleoedd ysgol—nhw sy’n gyfrifol.

Rwy’n derbyn hynny’n llwyr, ond mae gan y broses a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad yng Nghyngor Sir Caerfyrddin oblygiadau ehangach ac mae’n galw am newid i’r ddeddfwriaeth. Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori, a oedd yn dwyll llwyr. Cafwyd 1,418 o ymatebion—roedd 698 o ymatebion yn cefnogi'r cynnig ac roedd 720 yn ei erbyn. Ond, roedd un o'r ymatebion yn erbyn yn cynnwys 757 o lofnodion ac ystyriwyd hwnnw fel un bleidlais allan o'r 1,418. Nid oes rhaid i chi ddarparu cyfeiriad na chod post os ydych chi’n ymateb i'r ymgynghoriad—roedd 27 o'r rhain yn ddienw, nid oedd enw hyd yn oed.

O dan yr amgylchiadau hyn, o gofio ei bod yn amlwg bod gwrthwynebiad sylweddol iawn yn nalgylch yr ysgol i orfodi addysg cyfrwng Cymraeg, does bosib bod achos yma am saib yn yr achos tra byddwn yn ystyried a ddylid cyflwyno’r newid hwn—a allai’n wir fod yn ddymunol yn y tymor hwy? Gadewch i ni gymryd barn y cyhoedd gyda ni yn hytrach na’i hymladd.

Mae'r rhain, fel y dywedais, yn faterion i Gyngor Sir Gaerfyrddin. Fel Llywodraeth, rydym yn cefnogi’r Gymraeg. Rydym eisiau gweld estyniad i addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o blant yn cymryd rhan ynddi. Mater i Gyngor Sir Caerfyrddin yw cyfiawnhau'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud—yn sensitif i'r ffaith, yn amlwg, fod rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) a'r cod ac ystyried yr amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newid.

Mae'n sicr yn wir fod yn rhaid iddynt gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, ond gallant gydymffurfio’n llawn â’r gyfraith gan anwybyddu ei hysbryd yn gyfan gwbl, a dyna'n union beth sydd wedi digwydd yn yr achos hwn. Ni fu ymgynghoriad, bu ‘dimgynghoriad’, gan fod y penderfyniad wedi cael ei wneud cyn i’r ymarfer ymgynghori ddechrau hyd yn oed. Onid yw'n bryd nawr i Gyngor Sir Caerfyrddin gael ymarfer ymgynghori priodol, wedi’i gynnal yn annibynnol, gyda phawb yn nalgylch Llangennech yn unig, gan anwybyddu'r ymatebion sydd ddim i'w wneud â'r ardal sydd fwyaf dan sylw?

Unwaith eto, rhaid i mi ddweud, Lywydd, nad yw'n fater i Lywodraeth Cymru ymyrryd. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod unrhyw awdurdod lleol yn cymryd barn y rhai sy'n byw yn lleol i ystyriaeth ac, yn wir, cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 28 Ionawr 2016 a 18 Mawrth, y cafwyd 267 o ymatebion iddo. Ein cyfrifoldeb ni nawr yw gadael i'r broses fynd rhagddi o ran y ddeddfwriaeth, Deddf safonau ysgolion 2013 a’r cod trefniadaeth ysgolion.

Cymorth i Fusnesau sy’n Cychwyn

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau sy'n cychwyn? OAQ(5)0479(FM)

Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i fusnesau newydd trwy wasanaeth Busnes Cymru ac rydym yn annog cychwyn busnes o oedran ifanc trwy ein hymgyrch Syniadau Mawr.

Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â chynrychiolwyr o gyngor bwrdeistref sirol Merthyr a Hyfforddiant Tudful i siarad am y cymorth y maen nhw’n ei roi i fusnesau newydd sy'n cychwyn yn ardal Merthyr, a’u menter datblygu busnesau yng nghanol y dref yn benodol, sy'n gweithredu yng nghanolfan fenter Merthyr Tudful. Un o'u llwyddiannau yw'r rhaglen defnydd cyfamser, sy'n defnyddio cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

O dan y cynllun hwnnw, mae'r ganolfan fenter yn annog landlordiaid lleol ag adeiladau gwag i’w gosod i fusnesau newydd. Caiff darpar fusnesau newydd eu cynorthwyo gyda thaliadau rhent ar yr adeilad am gyfnod penodol. Mae hynny'n galluogi mentrau newydd i brofi a diwygio eu modelau busnes, yn seiliedig ar brofiad gwaith, ac yn caniatáu i'r landlord wireddu'r budd posibl o osod adeilad gwag ar gyfer datblygu busnes. Mae hyn wedi galluogi saith o fusnesau newydd i gychwyn mewn adeiladau gwag yng nghanol y dref.

Hefyd, drwy'r rhaglen Effaith, mae Canolfan Fenter Merthyr Tudful wedi cynorthwyo tua 170 o fusnesau yn yr ardal, wedi creu 51 o swyddi ac wedi diogelu 151 o swyddi eraill. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi mai cymorth fel hyn sydd wedi cyfrannu at y sefyllfa lle mai Merthyr Tudful yw’r ganolfan dwf fwyaf blaenllaw ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru? A all hi roi sicrwydd y bydd cyllid o dan Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sydd wedi bod mor hanfodol i lwyddiant y cynlluniau hyn, yn parhau i fod yn elfen allweddol o strategaeth Llywodraeth Cymru i annog busnesau bach newydd i gychwyn?

Mae Dawn Bowden yn disgrifio ffordd dda iawn, ffordd adeiladol, yr ydym ni wedi gallu buddsoddi arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn y rhaglen adfywio ym Merthyr Tudful, yn amlwg mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a phartneriaid eraill. Rwy’n credu, o ran y ffordd ymlaen, bod hon yn rhaglen adfywio flaenllaw—dros £124 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi gweithgareddau adfywio mewn 18 ardal ledled Cymru, yn rhagweld y bydd y rhaglen yn darparu mwy na 2,000 o swyddi, yn cynorthwyo 9,000 o bobl i mewn i waith ac yn ysgogi £300 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol. Felly, mae hyn, wrth gwrs, yn ein symud ni ymlaen o ran y dyfodol nawr, yn enwedig y rhaglen adfywio cyfalaf, gan fod y cylch cyllido presennol yn dod i ben ym mis Mawrth.

Arweinydd y tŷ, mae data gan BankSearch ar ran Banc Lloyds yn dangos bod nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn ledled Cymru wedi gostwng o swm syfrdanol o 26 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r duedd hon? Hefyd, a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl iau i ystyried dechrau eu busnesau eu hunain fel dewis bywyd cadarnhaol ar ôl gadael yr ysgol?

Nid wyf yn gwybod o ble mae’r ffigurau hynny y mae Russell George yn eu dyfynnu y prynhawn yma yn deillio, o ran y dystiolaeth. Hoffwn gywiro unrhyw gamargraff trwy ddweud bod y data diweddaraf yn dangos bod nifer y busnesau sy’n cychwyn yng Nghymru wedi tyfu bob blwyddyn ers yr argyfwng ariannol, ac wedi cyrraedd ei nifer uchaf erioed o 11,525 yn 2015. Rwy'n siŵr y byddai Russell George yn cytuno â mi bod y canlyniadau hyn yn hynod galonogol, a’u bod yn dangos hinsawdd yng Nghymru lle mae busnesau yn hyderus i gychwyn, tyfu a ffynnu.

Mae grŵp o fuddsoddwyr yn Llundain, Accelerate Me, yn bwriadu creu cronfa newydd gyda £4 miliwn o'u harian eu hunain, gyda chefnogaeth o £6 miliwn o arian Llywodraeth Cymru gobeithio, i gynorthwyo busnes newydd yng Nghymru a chreu fersiwn gartref o raglen gyflymu hynod lwyddiannus Start-up Chile. A yw arweinydd y tŷ yn cytuno y dylai’r math hwn o ddull, sef cefnogi busnesau cynhenid ​​a’u cysylltu gyda chyfalaf a gwybodaeth allanol, fod wrth wraidd strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru? Ar y sail honno, a wnaiff hi annog ei chydweithwyr yn y Cabinet i gyfarfod â’r rhai sy’n cynnig y syniad?

Nid wyf yn meddwl bod yr un gair y byddwn i’n anghytuno ag ef, Adam Price, ac rwy’n meddwl y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn falch iawn o gyfarfod â'r buddsoddwyr yn Llundain. Credaf ei bod yn bwysig eich bod chi wedi crybwyll busnesau cynhenid. Rydym ni’n parhau i gefnogi busnesau cynhenid. Mae gennym ni’r nifer fwyaf erioed o fentrau gweithredol â’u pencadlys yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gan Gymru'r nifer fwyaf o fusnesau newydd ers dros ddegawd. Hyd yma, buddsoddwyd £13 miliwn mewn 1,703 o fusnesau newydd yng Nghymru drwy'r cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes. Felly, mae hyn yn galonogol iawn—bod mwy sydd eisiau buddsoddi yng Nghymru.

Tynnwyd cwestiwn 4 [OAQ(5)0464(FM)] yn ôl. Cwestiwn 5, John Griffiths.

Cysylltiadau Rhyngwladol

5. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau cysylltiadau rhyngwladol Cymru? OAQ(5)0469(FM)

Mae datblygu cysylltiadau rhyngwladol yn un o weithgareddau craidd Llywodraeth Cymru. Yr wythnos hon, cynhaliodd y Prif Weinidog dderbyniad ar gyfer y corfflu diplomyddol yn Llundain ac mae’n ymweld ag Unol Daleithiau America. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn Dubai a byddant ym Mrwsel yr wythnos hon. Yr wythnos diwethaf, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith â Tsieina.

Diolch i chi am hynna. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Undeb Ewropeaidd yn rym economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol mawr yn y byd, ac mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn fygythiad mawr i statws Cymru a'r DU yn y byd. Felly, a allech chi fy sicrhau, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda’r Undeb Ewropeaidd ac aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd yn y cyfnod sy’n arwain at Brexit a thu hwnt, ac y dylai Llywodraeth y DU ymrwymo, drwy ei thrafodaethau Brexit, i sicrhau cyfranogiad parhaus mewn rhaglenni Undeb Ewropeaidd allweddol sy’n agored i bobl nad ydynt yn aelod-wladwriaethau, fel Horizon 2020 ac Erasmus+, ac, yn wir, i sicrhau cyfranogiad parhaus mewn rhaglenni datblygu economaidd traws-genedlaethol, yn enwedig gyda'n cymydog agos, Gweriniaeth Iwerddon?

Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna gan ein bod ni’n ei gwneud yn eglur iawn yn ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, bod Cymru yn gadael yr UE, ond nid Ewrop, ac rydym ni’n credu’n gryf y dylai Cymru a'r DU barhau i gymryd rhan yn y rhaglenni UE allweddol hynny. Rydych chi’n sôn am Horizon 2020; mae hwnnw’n cefnogi prosiectau ymchwil a datblygu rhwng partneriaid addysg uwch a sector preifat. Erasmus+: eto, gall y cyfnewidfeydd addysg hynny weddnewid rhagolygon a chyfleoedd pobl ifanc. Rydym ni eisiau gweld ymrwymiad pellgyrhaeddol a llawer mwy eglur gan Lywodraeth y DU i sicrhau'r canlyniad hwn o’r trafodaethau Brexit ac, wrth gwrs, maen nhw’n rhan o'r trafodaethau, y mae’r Ysgrifenyddion Cabinet yn rhan ohonynt. Ond rydych chi hefyd yn sôn am Iwerddon. Mae hynny hefyd yn hanfodol bwysig gan fod gennym ni’r rhaglen Cymru-Iwerddon, rhaglen a reolir yn uniongyrchol, yr ydym ni’n gyfrifol amdani, sydd hefyd yn cynnwys nifer o brosiectau ymchwil a datblygu pwysig iawn ac, yn wir, prosiectau a mentrau a all wella a helpu Cymru, yn ogystal ag Iwerddon, yn adeiladol.

Arweinydd y tŷ, mae'n amlwg yn hollbwysig ein bod ni’n datblygu cysylltiadau economaidd cryfach ar draws y byd yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd a phe gallem ni ddal i gael mynediad, rywsut, at gynlluniau fel Horizon 2020 a rhaglenni tebyg yn dilyn Brexit mewn rhyw ffordd, yna byddai hynny'n fonws, felly roeddwn i’n falch o'ch clywed chi’n sôn am hynny. Fodd bynnag, byddwn i’n dweud bod taith fasnach—ac yn amlwg mae’r Prif Weinidog i ffwrdd ar daith fasnach ar hyn o bryd—ddim ond yn gweithio os yw wedi cael ei chynllunio’n ddigonol a bod y cwmnïau iawn wedi cael eu gwahodd mewn da bryd a bod y daith yn eglur ynghylch ei hamcanion. Ni ddigwyddodd hynny’n llwyr yn ôl yn 2012 ar y daith flaenorol i’r Unol Daleithiau ar yr adeg honno. A yw wedi digwydd y tro hwn? Pwy sydd ar y genhadaeth gyda'r Prif Weinidog ac a roddwyd amser paratoi digonol iddyn nhw?

Wel, rwy'n siomedig eich bod chi’n sôn am deithiau masnach mewn ffordd sarhaus ac nad ydych chi’n croesawu'r teithiau masnach. Er enghraifft—a byddaf yn mynd ymlaen at eich pwynt am daith fasnach yr Unol Daleithiau. Ond, yr wythnos diwethaf, rwy'n siŵr y byddech chi’n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, ar ymweliad pwysig â Tsieina—yn amlwg mae’n gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth—a chyhoeddwyd dau fuddsoddiad newydd, gan gynnwys Acerchem Rhyngwladol yn sefydlu Pencadlys Ewropeaidd a chyfleuster ymchwil a datblygu yng Nghymru gyda 38 o swyddi uwch-dechnoleg, a dwy siop newydd yng Nghymru gan Flooring REPUBLIC. Wrth gwrs, ceir cysylltiadau eglur gyda'r Unol Daleithiau o ran y ffaith bod gennym ni nid yn unig y cwmnïau hynny o’r Unol Daleithiau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru sy'n hysbysu ein taith fasnach, ond hefyd yn dangos yr effaith y gallwn ei chael gydag arweinydd, Prif Weinidog Llafur Cymru, yn mynd i'r Unol Daleithiau, gan ddweud bod Cymru yn amlwg yn agored i fusnes.

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol, mae wedi bod yn dda gweld consensws yn datblygu ar draws y pleidiau ynglŷn â'r angen i ddatblygu’r berthynas a datblygu potensial cysylltiadau clos rhwng Cymru a’i diaspora. Yng nghyfarfod diwethaf y grŵp, mi oedd yna gytundeb ar yr angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth glir ar sut i sicrhau hynny, a hynny ar ben y math o gysylltiadau rhyngwladol y mae’r Llywodraeth yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd, ac ymweliadau masnach ac yn y blaen. A ydy arweinydd y tŷ yn cytuno efo’r grŵp ar y pwynt yma a pha gamau sy’n cael eu rhoi mewn lle gan y Llywodraeth i sicrhau bod y cyswllt yna efo’r diaspora yn cael ei ddatblygu’n effeithiol?

Mae’r ffaith bod gennym ni grŵp trawsbleidiol i’w chroesawu’n fawr, ac rydych chi Rhun ap Iorwerth yn cadeirio hwnnw gan sicrhau’r consensws sydd ei angen arnom ni yma yn y Siambr hon i gefnogi ein Prif Weinidog, sydd yn yr Unol Daleithiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo Cymru o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi erioed, ac mae hynny’n bwyslais allweddol i'r ymweliadau hyn, a hefyd yn wir nid yn unig o ran ymweliadau â'r Unol Daleithiau, Tsieina, Dubai, Brwsel—mae digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn llysgenadaethau ac uwch-gomisiynau ledled Ewrop ac mewn mannau eraill hefyd. Credaf ei bod yn bwysig i ni gydnabod bod y Prif Weinidog, er enghraifft—mae ei raglen yn yr Unol Daleithiau yn cynnwys cyfarfodydd busnes a gwleidyddol. Bydd yn gwneud datganiad, fel y mae Ysgrifenyddion Cabinet bob amser yn ei wneud ar ôl dychwelyd o’r teithiau masnach hyn, a chan gydnabod mai gyda’r diaspora y byddwn yn ymgysylltu, felly, y mae hi gyda’r cwmnïau hynny yng Nghymru sydd yn gwmnïau o’r Unol Daleithiau, ond hefyd bod y daith fasnach a’r ddirprwyaeth ddiwylliannol a ymwelodd â Tsieina wedi darparu proffil hefyd. Felly, rwyf eisoes wedi rhoi rhai canlyniadau i chi o'r daith fasnach i Tsieina. Rwy'n siŵr y bydd gennym ni ganlyniadau o'r ymweliad â’r Unol Daleithiau gan y Prif Weinidog maes o law.

Cartrefi mewn Parciau

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu trigolion cartrefi mewn parciau sy'n wynebu talu ffi comisiwn o 10 y cant ar werthu eu cartref? OAQ(5)0471(FM)

Chwaraeodd Llywodraeth Cymru ran weithredol o ran cefnogi Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, a gyflwynodd fesurau diogelu pwysig i drigolion cartrefi mewn parciau.

Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, bydd adolygiad o ddeddfwriaeth 2013 eleni. A fydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at hwnnw, ac a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud unrhyw beth am y comisiwn hwn o 10 y cant, sy'n cael ei ddidynnu’n orfodol gan y rhai sydd eisiau gwerthu eu cartrefi, y mae perchnogion parciau cartrefi symudol yn gwneud dim byd o gwbl yn gyfnewid amdano, oherwydd, ers Deddf 2013, nid oes ganddynt unrhyw swyddogaeth o gwbl yn y broses o werthu’r cartrefi symudol hyn? Mae'n ataliad sylweddol ar bobl rhag gwerthu eu cartrefi, yn enwedig os, fel sy'n digwydd fel arfer, eu bod yn tueddu i fod yn hŷn ac ar incwm isel; mae’n broblem sylweddol.

Rwy’n sylweddoli nad oedd Neil Hamilton yma yn ystod y sesiwn pan wnaethom gefnogi, pan gefnogodd Llywodraeth Cymru, y ddeddfwriaeth cartrefi symudol a gyflwynwyd gan Peter Black. Daeth wedyn yn Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, yr ydych chi’n cyfeirio ati. Mae angen i mi atgoffa'r Aelod fod y ddeddfwriaeth hon yn atgyfnerthu deddfwriaeth flaenorol yn ymwneud â chartrefi symudol parc neu breswyl ac yn mynd ymhellach o lawer na deddfwriaeth gymharol yn Lloegr. Er enghraifft, fe’i gwnaed yn ofynnol gennym i bob safle gael ei ail-drwyddedu, ac rwy'n siŵr y byddech chi’n croesawu hynny, ac i reolwyr safle basio prawf unigolyn addas a phriodol. Ond, yn dilyn hynny, comisiynwyd adolygiad annibynnol o economeg y diwydiant cartrefi mewn parciau gan Lywodraeth Cymru yn 2015, ac mae'r adroddiad wedi'i gyhoeddi, ac, yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried hynny a'r opsiynau.

Arweinydd y tŷ, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni system sy'n dryloyw ac sy’n adlewyrchu'n deg y costau sydd gan berchnogion safle, a hefyd y gallu i’r rhai sy’n byw mewn cartrefi symudol feddu ar wybodaeth am y costau hynny a’u herio nhw os oes angen. Ar hyn o bryd, mae'n aneglur iawn ac mae'n ymddangos yn annheg iawn, ac, o ran ble mae’r grym, mae wedi ei lwytho yn erbyn y perchnogion cartrefi symudol.

Wel, mae David Melding yn cynnig safbwynt cytbwys ar y perchnogion safle a’r rheini, wrth gwrs, sy'n prynu’r cartrefi hynny sydd ar y safleoedd cartrefi mewn parciau. Rwy’n ymwybodol bod llawer o bryder wedi’i godi; mae deiseb wedi’i chyflwynwyd hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ailadrodd unwaith eto ein bod ni wedi gwneud mwy i ddiogelu preswylwyr cartrefi, sy'n hanfodol, na rhannau eraill o'r DU. Bu’n rhaid i’r holl safleoedd cartrefi mewn parciau yng Nghymru wneud cais am drwydded newydd, ac rwyf wedi sôn hefyd am y prawf unigolyn addas a phriodol. Ac rydym ni wedi caniatáu amser ar gyfer trefn reoleiddio lymach yn deillio o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, a gafodd, unwaith eto, rwy'n falch o ddweud, ei chefnogi gan y Cynulliad cyfan wrth iddi gael ei chynnig. Yn wir, rwy’n cofio i Peter Black gael ei longyfarch gan Mark Isherwood pan gadarnhawyd y Bil. Ond mae'n rhaid i ni edrych yn eglur ar y pwyntiau a godwyd y prynhawn yma, a dyna mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud.

Mae'r rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi mewn parciau yng Nghymru, fel y soniwyd, dros 55 oed ac mae'r adroddiad diweddaraf yn awgrymu eu bod, ar gyfartaledd, yn 71 mlwydd oed. Nid yw mwyafrif llethol y preswylwyr hyn yn rhagweld gadael neu werthu eu cartrefi yn y dyfodol agos. A wnewch chi, felly, gytuno â mi nad yw’r cynnydd i ffioedd lleiniau i dalu am golledion perchnogion parciau a fyddai'n deillio o ddiddymu neu leihau comisiynau gwerthu yn ateb hirdymor da, a pha ystyriaeth mae eich Llywodraeth wedi ei rhoi i hyn?

Wel, ni wnaeth yr adroddiad, yr adroddiad annibynnol, argymell cael gwared ar y gyfradd comisiwn mewn gwirionedd, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg yn ystyried argymhellion yr adroddiad; nid yw wedi ei rwymo ganddynt. Mae'n ystyried amrywiaeth o opsiynau o ran a ellir cyfiawnhau gweithredu pellach.

Cynlluniau Teithio Rhatach

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau teithio rhatach? OAQ(5)0463(FM)

Mae ein cynllun teithio rhatach ar fysiau yn hynod boblogaidd, ac mae tua 760,000 o ddeiliaid pas hŷn neu anabl yn byw yng Nghymru, ac rydym ni hefyd yn parhau i gefnogi’r trefniadau teithio ar y bws am bris gostyngol presennol ar gyfer pobl 16, 17 ac 18 mlwydd oed ledled Cymru wrth i ni gynllunio gwahanol gynllun dros y misoedd nesaf.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, ac ymhellach i hynny, yn naturiol, mae yna bryder wedi bod, yn enwedig ymysg pobl ifanc ar draws Cymru, yn dilyn yr ansicrwydd yna rydych chi wedi’i olrhain yn barod o amgylch cynllun mytravelpass, felly roeddwn i’n falch o glywed datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet dros seilwaith yr wythnos diwethaf yn sôn bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i greu cynllun tebyg, fel rydych chi wedi sôn, i annog pobl ifanc i ddefnyddio bysys. Nawr, mae angen sicrwydd yn y maes, felly pryd allwn ni ddisgwyl i’r ymgynghoriad ar y cynllun newydd yma ddechrau?

Wel, fel y dywedwch chi, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ar 21 Chwefror. Amlinellodd ei gynlluniau ar gyfer dyfodol teithio ar fysiau am bris gostyngol i bobl ifanc. Rydym ni wedi cytuno ag awdurdodau lleol a'r diwydiant bysiau y bydd y trefniadau teithio gostyngol presennol yn parhau, fel y dywedais wrth ateb eich cwestiwn cyntaf. Rydym ni wedi derbyn cynnig y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i wneud cynigion ar gyfer ymgyrch farchnata newydd, gan ein bod ni’n gwybod bod angen i ni gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar basys ac yn eu defnyddio, ond rydym ni’n bwriadu lansio cerdyn teithio newydd o 2018. Byddwn yn ymgynghori dros yr haf.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn pa sicrwydd y gallwch chi ei roi, wrth baratoi ar gyfer diwedd y cytundeb ariannu presennol ar docynnau teithio rhatach y flwyddyn nesaf, y bydd trafodaethau gyda'r diwydiant bysiau ac awdurdodau lleol yn cychwyn mewn da bryd fel bod sefydlogrwydd y cynllun yn cael ei gynnal?

Rwy’n credu, o ran yr ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud i docynnau bws rhatach dros y blynyddoedd, y byddai’r ffaith ein bod ni'n amcangyfrif y bydd awdurdodau lleol yn ad-dalu rhwng £65 miliwn a £70 miliwn i weithredwyr bysiau yn 2016-17, gan gynnwys £10 miliwn o'u cyllidebau eu hunain ar gyfer cludo deiliaid pasys hŷn ac anabl—. Rydym ni’n parhau, wrth gwrs, gyda'n cynllun ar gyfer pobl ifanc ac, yn amlwg, mae hon yn elfen bwysig o raglen lywodraethu Llywodraeth Lafur Cymru.

Cawsom ddeiseb a gyflwynwyd i'r Cynulliad y llynedd gan ddisgybl yn ysgol gyfun Treorci yn y Rhondda. Roedd y ddeiseb hon yn galw am adfer teithio ar y trên i’r ysgol ac yn ôl—teithio ar y trên am ddim, dylwn i ddweud—gan Drenau Arriva, a oedd wedi penderfynu rhoi terfyn ar y cynllun. Gan y bydd y fasnachfraint rheilffordd yn cael ei hadnewyddu y flwyddyn nesaf, rwy’n meddwl tybed a allai’r Llywodraeth ystyried gwthio Arriva tuag at adfer y cynllun tocynnau ysgol am ddim yr oeddent yn eu cynnig yn flaenorol.

Rwy’n credu, er bod teithio rhatach yn bwysig iawn, yn enwedig lle mae gwasanaethau bws yn gyfyngedig, wrth gwrs mae'n—. Gall tocynnau teithio rhatach gael eu defnyddio ar reilffyrdd penodol; mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau hynny. Mae teithio rhatach ar y trên ar gael ar rai llwybrau, y byddwch yn ymwybodol ohonynt, yn enwedig yn Wrecsam, Llandudno, Blaenau Ffestiniog, Abertawe a rheilffordd Calon Cymru. Fel y gwyddoch, Gareth Bennett, nid oes gennym unrhyw bwerau i gyflwyno cynlluniau tocynnau rhatach gorfodol ar wasanaethau yng Nghymru, ond rydym ni’n ariannu'r cynllun consesiynol gwirfoddol gyda Threnau Arriva Cymru. Ond, yn amlwg, mae hwn yn faes lle byddwn yn edrych ar ragolygon y dyfodol.

Cymunedau Difreintiedig

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl o gymunedau difreintiedig i gael cyflogaeth a chodi allan o dlodi? OAQ(5)0466(FM)

Byddwn yn bwrw ymlaen â dull traws-Lywodraeth, Cymru gyfan yn canolbwyntio ar helpu pobl i gael swyddi da, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, a sicrhau bod pobl leol yn cymryd rhan yn y broses o gynllunio gwasanaethau lleol.

Diolch i chi am yr ateb yna, arweinydd y tŷ. Ar 14 Chwefror, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad ar Gymunedau yn Gyntaf ac roedd ei weithredoedd yn y datganiad hwnnw hefyd yn amlygu’r uchelgais i gyrraedd y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur a'u symud ymlaen. Ond, yn anffodus, mae rhai o'r rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur o ran sgiliau hefyd yn gorfforol bellaf o'r farchnad gan eu bod yn byw mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda gan wasanaethau cyhoeddus. Beth ydych chi’n ei wneud mewn gwirionedd i gael swyddi’n nes atyn nhw neu eu cael nhw i swyddi trwy wella gwasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth gyhoeddus?

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, wrth gwrs, yn nodi buddsoddiad ar gyfer gwasanaethau seilwaith trafnidiaeth ar draws pob rhan o Gymru. Mae’n rhaid iddo gynnig atebion cynhwysfawr ar gyfer anghenion trafnidiaeth lleol a chymunedau cyswllt, ond, fel y mae’r Aelod, David Rees, yn ei ddweud, mae'n ymwneud â gwella trafnidiaeth gyhoeddus leol, ac rwy'n credu y bydd y ganolfan trafnidiaeth integredig yn eich ardal chi yn arwyddocaol ac yn bwysig iawn. Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, ein menter Swyddi Gwell yn Nes at Adref hynod bwysig, sy'n galluogi pobl i gael mynediad at swyddi, ond byddwch yn clywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn fuan iawn o ran dyfodol gwasanaethau bysiau.

Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am orchmynion amddiffyn anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru? OAQ(5)0470(FM)

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n casglu’r wybodaeth hon ac rydym ni’n deall, na chyflwynwyd unrhyw orchmynion amddiffyn yng Nghymru hyd at fis Medi 2016. Nid yw Llywodraeth Cymru yn goddef unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, ac, ynghyd â'n partneriaid, rydym ni’n gweithio'n galed i fynd i'r afael â’r drosedd erchyll hon.

Diolch i chi am yr ateb yna. Mae braidd yn anhygoel na chyhoeddwyd unrhyw orchmynion amddiffyn o gwbl ac, o ganlyniad, dim erlyniadau oherwydd anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru. Mae'n drosedd yn erbyn yr unigolyn ac mae’n gamdriniaeth greulon o blant, ac mae angen i ni, yn fy marn i, ddweud yn blaen beth yw e: cam-drin plant yw hyn—dim mwy, dim llai. Felly, yr hyn yr wyf i'n mynd i ofyn, i Ysgrifennydd y Cabinet, yw: yn ôl yr elusen BAWSO, maen nhw’n cefnogi 788 o deuluoedd sy'n cael eu heffeithio un ffordd neu'r llall gan anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru ar hyn o bryd; a wnaiff y Llywodraeth weithio'n fwy agos â nhw i weld a ellir cynyddu’r gefnogaeth honno i ganiatáu i’r bobl hynny symud ymlaen, os yw'n ofynnol, i geisio rhai gorchmynion amddiffyn a hefyd, i weithio gyda'r gwasanaethau erlyn, fel y gallwn ddechrau erlyn pobl yn y wlad hon ac anfon neges eglur iawn na fydd hyn yn cael ei oddef? Oherwydd mae'n ymddangos ar hyn o bryd ei fod yn cael ei oddef.

Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei harweinyddiaeth o ran rhoi sylw i hyn ac, yn wir, rwy’n diolch hefyd i Jenny Rathbone, a gadeiriodd digwyddiad diweddar yr aeth nifer o’r Aelodau yma heddiw iddo, ac roedd BAWSO yn rhan o hynny. Mae'n hanfodol ein bod ni’n galluogi ac yn cefnogi ein grŵp arweinyddiaeth trais ar sail anrhydedd Cymru gyfan. Diben hwnnw yw casglu data a sicrhau bod gennym ni arweinwyr diogelu rhag anffurfio organau cenhedlu benywod yn ein holl fyrddau iechyd; mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni’n datblygu llwybr gofal anffurfio organau cenhedlu benywod effeithiol i Gymru fel y gallwn gael atgyfeiriadau i ofal iechyd sylfaenol neu ddarpariaeth trydydd sector. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn diwygio ac yn diweddaru hyfforddiant diogelu GIG Cymru, ac mae gennym ni’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant hefyd, sy’n cryfhau gweithdrefnau diogelu yng Nghymru. Bydd hyn oll, wrth gwrs, yn arwain at y pwynt lle byddwn yn teimlo bod adrodd gorfodol a'r gallu i symud pethau ymlaen i orchmynion amddiffyn yn cael eu hwyluso’n llawer haws.

Diolch i arweinydd y tŷ.

Pwynt o drefn yn deillio allan o gwestiynau. Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9. Yn gynharach yn y Siambr y prynhawn yma, gwnaeth arweinydd UKIP yn y Cynulliad gyhuddiadau am ymddygiad yr Aelod Cynulliad dros y Rhondda a'r Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn ymwneud â'r ymgyrch dros ddyfodol yr ysgol yn Llangennech. Yn benodol, cyhuddodd Jonathan Edwards o gymryd rhan, a dyfynnaf,

‘mewn ymgyrch gyhoeddus o frawychu un o’r ymgyrchwyr hynny’.

Mae'r rhain yn y sylwadau a allai’n wir gael eu hystyried yn enllibus, efallai, y tu allan i'r Siambr hon. Ar gyfer y cofnod, ni wnaeth yr Aelod Seneddol enwi’r un aelod o'r cyhoedd; nid oedd ei lythyr at Jeremy Corbyn, a gyhoeddwyd ar ei wefan, yn cynnwys enwau unrhyw ymgyrchwyr. A dweud y gwir, cyhoeddwyd enw'r unigolyn gan blaid arall dim ond pan gadarnhawyd ei bod wedi gwahardd aelod. Rwy'n credu y dylai’r sylwadau camarweiniol a ffeithiol anghywir gael eu tynnu'n ôl.

Diolch i’r Aelod am y pwynt o drefn. Mae’n gywir, wrth gwrs, bod ein Rheolau Sefydlog ni’n mynnu ein bod ni’n dangos cwrteisi ar bob achlysur yn y Cynulliad yma. A gaf i ofyn i’r holl Aelodau i ystyried bod y cwrteisi hynny’n angenrheidiol, yn arbennig i’n cyd-Aelodau etholedig yma yng Nghymru, yn cynnwys yr Aelodau Seneddol? Nid wyf yn credu bod mwy i ddweud ar y pwynt o drefn yna, dim ond i atgoffa pob Aelod i fod yn gwrtais ar bob achlysur ac i osgoi cyhuddiadau carlamus.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ symud i’r eitem nesaf ar ein hagenda ni, gan fy mod i wedi rhoi cyfle iddi gael dal ei gwynt nawr? Jane Hutt, felly—y datganiad a chyhoeddiad busnes. Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd y datganiad ar y gwerthusiad annibynnol o fodel ymateb clinigol y gwasanaethau ambiwlans brys yn digwydd yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn ac, yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad am ddyfodol gwasanaethau bws lleol. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Arweinydd y tŷ, byddwch chi’n ymwybodol o achos yr athro ysgol Juhel Miah a gafodd ei atal yr wythnos diwethaf rhag teithio i'r Unol Daleithiau o Wlad yr Iâ ar drip ysgol. Mae Juhel yn athro mathemateg yn Ysgol Llangatwg. Mae'n Gymro; cafodd ei eni yn Abertawe. Mae hefyd yn Fwslim gydag enw Bangladeshi. Mae’n uchel ei barch ymhlith ei gydweithwyr ac mae’r disgyblion yn hoff iawn ohono. Yr hyn a welwn yn awr yw hinsawdd o amheuaeth, sy’n effeithio, nid yn unig ar y teithwyr sydd ar restr o wledydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, ond hefyd ar ddinasyddion Cymru. Mae Mr Miah wedi bod mewn cysylltiad â mi yn dilyn ei dynnu oddi ar yr awyren i'r Unol Daleithiau, yn gofyn i mi siarad ar ei ran a chael gwybod y rhesymau dros ei dynnu oddi ar yr awyren. Hyd yma, nid yw wedi cael unrhyw esboniad. A wnewch chi drefnu datganiad yn cefnogi ymgais Mr Miah i gael eglurhad ynghylch pam y cafodd ei drin yn y modd annerbyniol hwn yn ystod taith gyda'i ddisgyblion?

Diolchaf i Leanne Wood am y cwestiwn yna, ac fel y bydd hi'n ymwybodol—ac rwy'n gwybod ei bod hi hefyd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog—mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad yn gofyn am ystyriaeth frys a sylwadau ar y mater hwn, yn gofyn iddo fynd i’r afael â’r mater yn uniongyrchol gyda’r awdurdodau priodol yn yr Unol Daleithiau. Mae arnom angen esboniad, fel y dywedwch chi, Leanne Wood, am yr hyn sy'n ymddangos i fod yn groes i bolisi datganedig yr Unol Daleithiau a'r hawliau a roddir i ddeiliaid pasbort y DU. Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn bryderus iawn, iawn ac, yn wir, wedi ein siomi’n arw gan y weithred hon, a’n bod ni i gyd yn dymuno cael atebion. Felly, diolch i chi am godi'r mater.

Efallai y bydd arweinydd y tŷ yn gwybod mai Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i lofnodi siarter wirfoddol ymgyrch Dying to Work Cyngres yr Undebau Llafur, sy'n diogelu staff sy'n wynebu salwch angheuol. Yn anffodus, gwn drwy brofiad personol ffrind agos nad yw gyda ni mwyach, pa mor hanfodol yw hi i bobl yn y sefyllfa honno gael tawelwch meddwl ac ymdeimlad o ddiogelwch a chefnogaeth gan eu cyflogwyr wrth iddynt wynebu eu salwch. Mae'r siarter yn ymrwymo'r cyflogwr i ddiogelu telerau cyflogaeth a budd-daliadau marw yn y swydd ac i roi cefnogaeth weithredol gyda’r nod o gynnal urddas a lles y gweithiwr, yn gyson â'i salwch. A wnaiff y Llywodraeth wneud datganiad am y camau y gall eu cymryd i annog sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i lofnodi’r siarter honno hefyd, a pha un a fydd Llywodraeth Cymru ei hun yn gwneud hynny, a pha un a fydd yn annog Comisiwn y Cynulliad i wneud hynny?

Rwy’n sicr yn croesawu gweithred Cyngor Castell-nedd Port Talbot o gyflwyno'r siarter staff â salwch angheuol hon i’w weithwyr. Yn amlwg, gan ddysgu o hynny, byddem yn dymuno gweld hyn yn cael ei rannu a byddem yn annog sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddilyn esiampl Castell-nedd Port Talbot. Ond rydym ni hefyd, fel Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd yn archwilio sut y gallwn gefnogi awdurdodau cyhoeddus yn well i ddarparu arweiniad cenedlaethol a rhanbarthol drwy fabwysiadu polisïau o'r math hwn, sydd yn cefnogi pobl â salwch angheuol.

Cyn toriad y Nadolig, gofynnais i'r Ysgrifennydd dros iechyd ailystyried penderfyniad y Llywodraeth i gau unig uned amenedigol Cymru i gleifion mewnol yn 2013. Gwrthododd gan ddweud wrthyf fod y ddarpariaeth gymunedol well yn diwallu anghenion mamau ag anghenion iechyd meddwl amenedigol yn ddigonol. Rwyf wedi cael gwybodaeth sy'n dangos nad oes gan ddau Fwrdd Iechyd Lleol unrhyw ddata i ddangos pa alw posibl sydd am uned cleifion mewnol. Nid oedd gan ddau Fwrdd Iechyd Lleol wasanaeth cymunedol amenedigol tan yr haf diwethaf, bron i dair blynedd ar ôl cau'r uned arbenigol. Mewn o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol, mae mamau yn cael cynnig atgyfeiriadau i unedau cleifion mewnol yn Lloegr, ond mae mamau yn gwrthod atgyfeiriadau o’r fath oherwydd nad ydynt eisiau cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Dim ond £500,000 y flwyddyn oedd cost rhedeg gwasanaeth i gleifion mewnol yng Nghymru. Gall problemau iechyd meddwl amenedigol achosi mamau i golli eu bywydau ac i blant golli rhiant. A gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros Iechyd cyn gynted ag y bo modd ar yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol i ddarparu’r gwasanaethau y maent yn eu haeddu i famau yng Nghymru?

Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gwybod bod angen i ni edrych arno—sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni o ganlyniad i’r newid hwn yn y gwasanaeth. Mae angen i ni weld sut y mae'n cael ei gyflawni ledled Cymru. Rydych chi wedi rhoi rhywfaint o dystiolaeth heddiw, ond rwy’n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi diweddariad ac ymateb, yn enwedig os oes gennych enghreifftiau ar lefel etholaethol y gellir eu dwyn i’n sylw.

3. 3. Datganiad: Gwerthusiad Annibynnol o Fodel Ymateb Clinigol y Gwasanaethau Ambiwlans Brys

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar werthusiad annibynnol o fodel ymateb clinigol y gwasanaethau ambiwlans brys. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 14:26:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o gael rhoi diweddariad i’r Aelodau ar ganlyniad y gwerthusiad annibynnol o fodel ymateb clinigol y gwasanaethau ambiwlans brys.

Bydd yr Aelodau yn gwybod bod y cynllun peilot model ymateb clinigol wedi dechrau ar 1 Hydref 2015. Roedd cytundeb eang nad oedd y model blaenorol wedi ei gefnogi gan dystiolaeth glinigol a’i fod yn gwneud defnydd gwael o’r gwasanaeth ambiwlans brys. Diben y model ymateb clinigol newydd yw gwneud y defnydd gorau o'n gwasanaeth ambiwlans a sicrhau ei fod yn rhoi’r flaenoriaeth i’r rhai sydd â'r angen mwyaf am driniaeth.

Cefais dystiolaeth glinigol eglur o arolwg a wnaed gan Dr Brendan Lloyd, cyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, er mwyn ymgymryd â’r peilot hwn. Cymeradwywyd a chefnogwyd ei gyngor yn glir gan yr holl gyfarwyddwyr meddygol eraill yng Nghymru.

Wrth i mi wneud y penderfyniad i gymeradwyo'r cynllun peilot ar gyfer y model ymateb clinigol newydd, cyfarwyddais gadeirydd y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys, y byddaf yn cyfeirio ato o hyn allan fel PGAB, i gomisiynu gwerthusiad annibynnol trylwyr. Rwyf bellach wedi cael yr adroddiad gwerthuso hwnnw. Wedi ystyried canfyddiadau’r adroddiad a chyngor gan PGAB, gwasanaeth ambiwlans Cymru a’m swyddogion fy hun, rwyf wedi penderfynu y dylid cymeradwyo gweithrediad sylweddol o’r model newydd ar unwaith.

Yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe, nodais rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad gwerthuso. Roedd yr adroddiad yn gefnogol i gyflwyniad y model newydd ac yn nodi amrywiaeth o fanteision o'i gyflwyno. Canfu fod y model newydd wedi helpu i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio yn fwy ar ansawdd y gofal y mae cleifion wedi ei dderbyn ac mae wedi gwella effeithlonrwydd wrth ddefnyddio adnoddau ambiwlans. Mae'r model newydd wedi rhoi mwy o amser i drefnwyr galwadau i asesu cleifion yn well a sicrhau eu bod yn derbyn ymateb gan glinigwr a cherbyd o’r math cywir yn y lle cyntaf. Mae wedi caniatáu i wasanaeth ambiwlans Cymru ystyried ffyrdd eraill o ymateb i alwadau, naill ai dros y ffôn, a elwir yn 'gwrando a thrin', neu yn y fan a’r lle, a elwir yn 'gweld a thrin'. Mae nifer y galwadau a ddaeth i ben trwy wrando a thrin wedi cynyddu yn sylweddol ers cychwyn y cynllun peilot. Ym mis Rhagfyr 2016 yn unig, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi gallu osgoi 1,700 o deithiau ambiwlans drwy wrando a thrin. Hon oedd y gyfradd fisol uchaf ers dechrau'r cynllun peilot, ac mae’n gynnydd o 70 y cant o'i gymharu â Hydref 2015. Yn yr un modd, mae cynnydd o 9 y cant wedi bod yn y nifer o achosion a ddaeth i ben ar ôl ymyrraeth wyneb yn wyneb gan barafeddygon yn y fan a'r lle, heb angen am gludo’r claf hwnnw i'r ysbyty. Ym mis Rhagfyr 2016, cafodd dros 3,000 o gleifion eu rhyddhau drwy weld a thrin. Felly, arhosodd y cleifion hynny gartref, a rhyddhawyd adnoddau ambiwlans i'r gymuned heb daith ddiangen i'r ysbyty.

Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi gwella ei desg glinigol ym mis Tachwedd y llynedd er mwyn datrys mwy o alwadau heb i gleifion fynd i'r ysbyty. Mae hefyd yn rhoi gwell cefnogaeth glinigol i staff ambiwlans wrth wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth yn y fan a’r lle.

Er bod y canlyniadau hyn yn addawol, mae cyfle, wrth gwrs, i gynyddu cyfraddau gwrando a thrin, a gweld a thrin yng Nghymru wrth i ni barhau i fod yn brin ar y mesurau hyn o’n cymharu â rhannau eraill o'r DU. Rwy'n disgwyl i wasanaeth ambiwlans Cymru a phartneriaid bwrdd iechyd weithio gyda'r prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans i ddwyn y mater hwn yn ei flaen.

Un o argymhellion yr adroddiad oedd adolygiad cyson o gategorïau galwadau i sicrhau bod profiad a disgwyliadau’r claf yn cael eu hystyried yn rhan o'n dull ni sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae blwyddyn o weithredu erbyn hyn yn golygu bod gwybodaeth sicrach ac amser real gan PGAB i gyflawni’r gwaith hwn ar y cyd â gwasanaeth ambiwlans Cymru i gefnogi gwelliannau i gleifion. Rwy'n gwybod bod data cywir a hygyrch yn hanfodol i ddeall galw, ac mae angen clir i wella data drwy gydol taith y claf. Felly, cyflwynodd y model newydd gyfres newydd o ddangosyddion ansawdd ambiwlans. Mae'r rhain yn rhoi darlun llawer ehangach o ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu gan glinigwyr ambiwlans. Rwyf wedi cael fy nghalonogi’n arbennig gan lefelau uchel o berfformiad gyferbyn â’r saith o ddangosyddion clinigol a fesurir. Mae hyn yn dangos bod parafeddygon yn rhoi gofal a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau cleifion. Mae PGAB yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r Picker Institute Europe byd-enwog i wella’r mesurau sy'n ymwneud â phrofiad y claf. Ac mae gwaith ar y gweill yn barod i sefydlu cysylltiad rheolaidd y data drwy gydol taith y claf. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddadansoddi effaith yr ymyriadau ar ganlyniadau i gleifion ar bob cam o’n gofal.

Gyda'i gilydd, bydd y gwaith hwn yn helpu Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a PGAB i ddeall gwasanaethau ambiwlans brys yn fanylach byth ac i roi ymyriadau yng nghyd-destun ehangach taith y claf drwy'r system gofal heb ei drefnu. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cyfarwyddo adnewyddiad y Dangosyddion Ansawdd Ambiwlans yn ddiweddarach eleni i gynnwys mesurau ychwanegol o berfformiad clinigol a gweithredol.

Bydd ailosod y system gyfredol o anfon trwy gymorth cyfrifiadur yn ddiweddarach eleni yn rhoi Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru mewn sefyllfa llawer gwell i reoli pob galwad yn fwy effeithiol trwy well adnabyddiaeth a dyraniad o’r adnoddau mwyaf priodol. Bydd y system newydd yn cael ei chefnogi gan £4.5 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a disgwylir iddi fod ar-lein yn ddiweddarach eleni.

Mae ein cynllun peilot ni wedi ennyn diddordeb byd-eang. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi derbyn gwahoddiad i roi cyngor i nifer o wasanaethau ambiwlans tramor, gan gynnwys Canada, Seland Newydd, Awstralia, UDA, Chile a Lloegr. Yn wir, mae ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans yr Alban ar hyn o bryd yn treialu model tebyg iawn, gan gyfeirio yn uniongyrchol at y gwaith a wneir yma yng Nghymru. Mae cyfle sylweddol yn y fan hon i adeiladu ar lwyddiant y model hyd yn hyn i dystiolaethu ymhellach i’r arloesi llwyddiannus a’r cam ymlaen a wneir yma.

Rwy’n cydnabod ei bod yn cymryd amser i sefydlu ffyrdd newydd o weithio. Mae'r model clinigol wedi profi ei fod yn effeithiol wrth alluogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i roi’r flaenoriaeth i ymateb i angen dirfawr. Er hynny, nid yw'r model ynddo ei hun yn foddion at bob clwyf. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru a PGAB yn cydnabod yn glir bod lle eto i wella gofal y cleifion sydd â'r angen mwyaf, a sicrhau bod cleifion sydd ag angen llai difrifol yn parhau i gael ymateb diogel a phrydlon. Rwyf, felly, wedi ysgrifennu at Athro Siobhan McClelland, yn rhoi cyfarwyddyd i PGAB ddatblygu ffordd ymlaen mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad gwerthuso ar gyfer cefnogi’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo er mwyn darparu gwasanaethau ambiwlans o safon uchel i bobl Cymru.

Mae'r model newydd wedi dangos ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen. Serch hynny, dim ond oherwydd ymrwymiad a sgiliau’r staff sy'n cyflwyno'r gwasanaeth ambiwlans y mae hynny wedi bod yn bosibl, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar iddyn nhw, o ran dadlau’r achos am newid a chyflawni'r newid hwnnw wedyn. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i arolygu perfformiad a gweithrediad y model newydd.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae llawer i’w ganmol, neu yn haeddu ei ganmol yn yr adroddiad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Fel chi, hoffwn innau ganmol yn arbennig y parafeddygon sydd wedi cymryd camau enfawr ymlaen o ran cyflawni a bod yn alluog i roi gofal amserol. Rwy’n credu eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau cleifion, ac nid oes gen i unrhyw ddadl o gwbl gyda’r haeriadau a wnewch i’r cyfeiriad hwnnw.

Mae gen i dri maes allweddol o ymholiad yr hoffwn fynd drwyddyn nhw gyda chi. Mae'r cyntaf yn ymwneud â chynyddu’r adnoddau i'r gwasanaeth ambiwlans. Mae cryn lawer o drafod gan y staff wedi bod o fewn yr adroddiad, yn yr adroddiad ei hun, ac yn y trafodaethau yr ydych wedi'u hwyluso, yn garedig iawn, â gwasanaeth ambiwlans Cymru ddim ond ychydig wythnosau yn ôl am brinder yn nifer y clinigwyr, naill ai mewn canolfan neu o fewn eu harbenigeddau penodol mewn ysbyty, a fydd yn galluogi cleifion sydd wedi cael eu cludo gan barafeddygon at ddrws priodol yr ysbyty i gael eu prosesu yn gyflymach ac yn fwy trylwyr, a bod rhai pryderon gwirioneddol gan y staff eu bod yn teimlo fod yna rwystr yno—. Ac fe hoffwn i wybod eich barn chi am yr hyn yr ydych yn credu y gallwn ni ei wneud i wella, neu y byddwch chi yn ei wneud i wella, ac ychwanegu at yr adnoddau yn y gwasanaeth ambiwlans, ac felly ar ôl i’r parafeddygon anhygoel yma eu cludo at y drws, eu bod drwy'r drws ac yn y lle iawn, ar yr amser iawn, ac yn cael eu trin yn dda. Mae staff hefyd wedi mynegi pryderon bod angen mwy o hyfforddiant arnynt, ac rwy’n meddwl tybed faint o'r pecyn ariannu diweddar ar gyfer hyfforddi staff meddygol y byddwch yn ei ddyrannu i'r grŵp staff penodol hwn er mwyn gwella a rhoi dwysedd ychwanegol i’r gwasanaeth ambiwlans.

Yr ail faes yr hoffwn eich holi chi amdano yw’r galwadau oren ac amseroedd aros. Mae'r adroddiad wedi tynnu sylw at bryder bod y grŵp categori oren yn llawer rhy fawr, ac nad yw’n gwahaniaethu digon. Mae’r staff eu hunain yn dweud bod hon yn broblem wirioneddol, oherwydd, wrth gwrs, ddim ond ychydig o alwadau sydd erbyn hyn yn cael eu rhoi yn y categori coch. A hoffwn ddarllen un dyfyniad byr gan aelod o staff, sy'n dweud:

Nid yw targedau ymateb oren yn cael eu bodloni oherwydd galw a darpariaeth adnoddau.

ac

Rwy'n teimlo bod cymaint o alwadau yn y categori hwn, fel nad yw’r ciw brysbennu yn gweithio'n dda. Er enghraifft, caiff claf strôc sy’n anymwybodol ei gategoreiddio islaw unigolyn sydd yn feddw ​​ac heb fod yn effro.

A byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed eich barn ar bryderon dilys iawn y mae’r staff yn eu codi am alwadau oren ac amseroedd aros.

Roedd y model blaenorol yn galw am i bron 50 y cant o’r galwadau gael eu categoreiddio fel rhai sy’n berygl bywyd, ac rydym i gyd yn cydnabod mai gwrthgynhyrchiol oedd hynny, o ystyried bod y gyfran wirioneddol o alwadau perygl bywyd yn nes at 10 y cant. Pam felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mai dim ond 5 y cant o alwadau sy'n berygl bywyd a osodir gyferbyn â thargedau yng Nghymru, ac a fydd yn fwriad gennych adolygu hynny, wrth i chi symud ymlaen?

Mae pryder gwirioneddol hefyd bod y data ar ganlyniadau i gleifion yn rhai gwan iawn, a tybed beth ellir ei wneud i wella hyn. Pan gawsom ni ein cyfarfod gyda swyddogion Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a buom yn trafod pam nad yw cleifion strôc, er enghraifft, yn y categori coch—sydd yn rhywbeth yr ydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu’n llwyr ynddo—roedd y swyddogion yn siarad am y ffaith eu bod yn eu cludo at y drws mewn pryd. A’r hyn yr oedd angen ei wneud oedd siarad â'r byrddau iechyd, i gael sicrwydd bod y cleifion strôc hynny, wrth y drws, yn cael eu symud drwodd i'r man priodol ar gyfer eu trin yn gywir, pe byddent angen sgan CT, neu ryw fath o driniaeth thrombolytig. Ac eto i gyd, pan wnes geisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth i’r holl fyrddau iechyd, nid oedd yr un ohonyn nhw—dim un ohonyn nhw—yn gallu ateb gyda'r wybodaeth sy'n dweud bod cleifion strôc yn cael eu symud drwodd mewn modd priodol.

Felly, mae gennym broblem o hyd lle ceir salwch sy'n gofyn am rywfaint o driniaeth benodol o fewn amser penodol, ac, er bod y bwrdd iechyd, oherwydd y ffordd yr ydych wedi rhedeg y system nawr—er nad oes raid i’r gwasanaeth ambiwlans fynd at y claf hwnnw mwyach, a’i gludo at y drws ffrynt o fewn cyfnod byr iawn o amser, y pryder yw fod gormod o amser yn cael ei dreulio gan y gwasanaeth ambiwlans cyn eu bod yn mynd i nôl y claf hwnnw, neu gludo’r claf at y drws. Nid oes unrhyw warant hyd yma y bydd y claf, pan fydd yn cyrraedd drws yr ysbyty, yn derbyn y driniaeth briodol yn yr ysbyty hwnnw. Yn y dyddiau a fu, os oedd rhaid cael y claf i’r ysbyty o fewn wyth munud, neu 10 munud, neu beth bynnag, roeddech yn gwybod wedyn fod gennych rai oriau i chwarae gyda nhw pe byddai problemau adnoddau yn yr ysbyty. Rydym nawr wedi troi hynny wyneb i waered. Ac nid fi sy’n dweud hynny, ond yr adroddiad sy’n tynnu sylw at y peth, a phryderon staff yw hynny ynghylch yr hyn sy'n digwydd i gleifion strôc.

Ac fel yr wyf yn dweud, hoffwn ailadrodd hyn, Ysgrifennydd y Cabinet: pan wnes gais Rhyddid Gwybodaeth i bob un bwrdd iechyd unigol, nid oedd yr un ohonyn nhw’n gallu dweud wrthyf i, gydag unrhyw fesur o ddata, fod ganddyn nhw gleifion strôc sydd yn mynd i mewn trwy eu drws, ac yn cael y driniaeth y mae ei hangen arnynt o fewn yr oriau euraid hynny. Ac rwyf yn cael hynny yn achos pryder mawr, a hoffwn gael ateb da ac eglur pam nad yw pobl sydd wedi cael strôc a thrawiad ar y galon yn y categori coch. Mae yna nifer o gwestiynau eraill, ond rwy’n deall fwy na thebyg fy mod yn cymryd gormod o amser.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. Dechreuaf gyda rhai o'ch pwyntiau am glinigwyr mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd a'r pwynt ynghylch gohirio triniaeth, neu fel arall. Mae yna, wrth gwrs, her ynglŷn â gweld y gwasanaeth ambiwlans yn rhan o'r system gyfan, ac nid dim ond y claf hwnnw—[Anhyglyw.]—yn rhannol am y gwasanaeth ambiwlans. A dyna pam yr ydym yn canolbwyntio ar oedi mewn ysbytai, gan gyhoeddi gwybodaeth yn rheolaidd am oedi mewn safleoedd unigol ac mewn byrddau iechyd. Dyna pam mae’n rhan o'r atebolrwydd sy'n digwydd gyda byrddau iechyd oherwydd eu cyfrifoldeb i’r boblogaeth gyfan.

Mae rhyw achos dros wneud yn siŵr—ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at hynny hefyd—bod mannau eraill lle y gall pobl fynd am eu triniaeth, oherwydd, weithiau, bydd angen triniaeth ar rywun, ond nid mewn ysbyty y bydd hynny. Felly, mae'n ymwneud â’u hatgyfeirio i leoliad gwahanol, hynny yw yn y gymuned, neu mewn rhan arall o'r system gofal iechyd gyfan. Mae hynny’n rhan o'r hyn yr ydym yn edrych arni, yn system yn ei chyfanrwydd. Ac mae hynny hefyd yn cael ei lywio gan un o'r argymhellion yn yr adroddiad.

O ran eich pwynt am hyfforddi staff, yr hyfforddiant mewnol o fewn y gwasanaeth, fel bod y staff yn derbyn yr adnoddau a’r sgiliau priodol, ond hefyd hyfforddiant gweithlu’r dyfodol, a’r cyhoeddiad wnes i yn ddiweddar am y £95 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yng ngweithlu’r GIG ar gyfer y dyfodol—niferoedd y parafeddygon yr ydym yn eu hyfforddi ar gyfer y dyfodol, rydym o’r farn eu bod yn ateb yr angen, ond rydym yn credu bod angen gwahanol gymysgedd o sgiliau, o ran sut y bydd pobl yn cael eu trefnu. Felly, mae hynny mewn gwirionedd yn rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae yna ddewis o wahanol fodelau, wrth edrych ymlaen. Er enghraifft, yn ystod fy ymweliadau yn ddiweddar i weld parafeddygon yn eu gorsafoedd, rwyf wedi cwrdd â nifer o bobl sy’n cymryd rhan yn y cynlluniau peilot hynny. Ym Mro Morgannwg, fe wnes i gyfarfod â pharafeddyg a oedd yn cymryd rhan mewn peilot cymunedol. Rwyf hefyd wedi cwrdd ag uwch- ymarferwyr yn ymgymryd â pheilot tebyg yn Aberdâr, gyda'r Aelod dros Gwm Cynon. Felly, maen nhw’n edrych ar wahanol fodelau i werthuso a deall lle y bydd y man wedyn i gael yr effaith fwyaf a gorau ar wella canlyniadau i gleifion. Mae’r gwaith hwnnw eisoes yn cael ei wneud a bydd yn helpu i orfodi’r math o weithlu sydd ei angen arnom i’r dyfodol.

O ran eich pwynt ehangach am ganlyniadau cleifion—ac yna dof yn ôl at eich pwynt am y categori oren— wrth gwrs, mae gennym ddiddordeb yn nhaith gyfan y claf, felly nid yw edrych ar ganlyniadau yn ymwneud yn unig â’r hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud. Dyna pam mae cysylltiad data trwy wahanol rannau’r gwasanaeth iechyd yn bwysig iawn. Felly, mae'r buddsoddiad yr ydym wedi ei wneud mewn digipens, er enghraifft, yn golygu ei bod yn llawer haws trosglwyddo’r data hynny ymlaen. Bydd gennym gyfle, oherwydd y ffordd yr ydym yn trefnu hyn, i edrych ar daith rhywun drwy'r system gyfan a deall sut mae ymyriadau, yn y gwasanaeth ambiwlans ac ar y pum cam a osodwyd ar eu cyfer, ond hefyd yng ngweddill ein system gofal iechyd, pa ymyriadau sydd yn cael effaith ar y canlyniad hwnnw yn y pen draw i gleifion? Mae gwaith y Picker Institute yn sôn wrthym am brofiad y claf, oherwydd yn aml mae’r cwynion a wneir am y gwasanaeth iechyd yn ymwneud â phrofiad pobl yn y maes gofal iechyd, yn hytrach na'r canlyniad clinigol terfynol. Felly, mae’r cysylltiad hwnnw o ddata yn hollbwysig.

Nawr, ar eich pwynt am strôc a chategori oren, rwyf am fynd yn ôl at y ffaith bod yr adroddiad yr ydym wedi ei gael yn argymell y peilot yr ydym newydd ymgymryd â gwerthusiad ohono sy’n seiliedig ar dystiolaeth glinigol ar y peth cyfiawn i'w wneud. Nid wyf yn cydnabod eich honiad mai 10 y cant o’r galwadau sy'n berygl bywyd a wnaed i'r gwasanaeth ambiwlans yn hytrach na'r 5 y cant sy'n cael eu categoreiddio yn ôl y categori coch. Rydym yn gweithredu ar sail y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau sydd ar gael wrth gynnal y peilot newydd, a byddwn yn symud ymlaen â'r model newydd. Bydd yr adolygiad a gynhaliwyd yn dilyn y gwerthusiad yn ystyried a osodwyd ffiniau priodol rhwng coch ac ambr ac ambr a gwyrdd ar gyfer y gwahanol gategoreiddio sy'n bodoli. Felly, byddaf yn parhau i gael fy arwain gan dystiolaeth a chyngor clinigol o'r adolygiad hwnnw ynghylch a yw pob amod yn y categori cywir neu beidio. Rwy'n sylweddoli bod Ceidwadwyr Cymru yn dweud eu bod yn dymuno symud amodau penodol, ond, a dweud y gwir, os mai dim ond barn gwleidyddion Ceidwadol Cymreig yw eu bod yn dymuno symud yr amodau o gwmpas, ni fydd hynny yn fy argyhoeddi i. Yr hyn fyddai'n fy argyhoeddi i fod angen am newid yw pe byddai tystiolaeth a chyngor clinigol dilys yn bodoli mai honno yw’r ffordd gywir i ddefnyddio adnoddau ambiwlans gwerthfawr er mwyn gwella canlyniadau i gleifion. Mae’r gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn dilyn y cyfarwyddyd a roddais i gadeirydd y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys.

Edrychaf ymlaen, ar berfformiad strôc, ac wrth ddelio â'ch pwynt arall Angela Burns—yn y dyfodol agos, byddaf yn gwneud datganiad yn y Siambr hon ar berfformiad strôc ar hyd y llwybr yn ei gyfanrwydd, ar y ffordd yr ydym yn mesur perfformiad strôc yn wrthrychol ac yn agored o fewn y system. Credaf, mewn gwirionedd, fod gennym stori dda i'w hadrodd yng Nghymru am welliant perfformiad mewn strôc, ac edrychaf ymlaen at wneud cynnydd eto yn y dyfodol.

A gaf i ddiolch yn fawr iawn am y diweddariad, ac, wrth gwrs, ddiolch yn fawr iawn i barafeddygon a gweithwyr y tu ôl i’r llenni, fel petai, yn y gwasanaeth ambiwlans am eu gwaith nhw? Wrth gwrs, rydw i’n edrych ymlaen at weld y monitro yn parhau o’r rhaglen yma. Yn sicr, y canlyniadau, neu’r ‘outcomes’, sydd fwyaf pwysig, ac felly mae’n anodd anghydweld â rhaglen sydd yn blaenoriaethu yr achosion mwyaf brys. Beth rydym ni angen bod yn ofalus iawn ohono fo, wrth gwrs, ydy bod rhoi ein holl sylw ar yr achosion mwyaf brys ddim yn golygu ein bod ni’n methu problemau mewn rhannau eraill o berfformiad y gwasanaeth ambiwlans. Er enghraifft, mae amser ‘median’ ar gyfer galwadau oren wedi gwaethygu. A ydych chi’n gyfforddus efo hynny fel Llywodraeth? Yn dilyn ymlaen o’r hyn a godwyd gan yr Aelod dros orllewin Caerfyrddin, rydym ni’n clywed bod y categori o dan adolygiad, ond pa mor debygol ydy hi y gallwn ni weld yr angen am is-gategori newydd—oren tywyll, os liciwch chi, o bosib—i ddelio efo ambell i salwch penodol fel strôc, sydd ddim angen ymateb ar unwaith fel y 5 y cant yna, ond lle byddai yna, o bosib, fudd o osod targed penodol? Ac os ydy hynny’n ystyriaeth, pa asesiad sydd wedi’i wneud o effaith hynny, wedyn, ar yr ymateb i alwadau coch?

Mi dreuliais i ychydig o oriau difyr iawn a gwerthfawr iawn yn ddiweddar yng nghanolfan weithredol ambiwlans yng ngogledd Cymru yn cael golwg drosof fi fy hun beth ydy’r problemau sy’n cael eu hwynebu yno, ac mi wnaeth ambell beth gael eu crisialu yn fy meddwl i. Felly, mae dau gwestiwn wedyn yn deillio o’m profiad i. Pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod llai o alw ar ambiwlansys o alwadau gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill lle nad oes achos brys i alw ambiwlans mewn difri?

Yn ail, rydym ni’n gwybod bod yr oedi yma yn yr ysbyty yn broblem fawr. Mae’n gliriach i fi o’i weld o rŵan ar y sgrîn ac effaith hynny ar weithredu’r gwasanaeth ambiwlans. Y broblem, wrth gwrs, ydy’r cerbydau yma mewn rhesi y tu allan i ysbytai—cerbydau a allai fod yn ateb galwadau brys. Os ydw i wedi deall yn iawn, yn ysbyty Stoke, sy’n cael ei ddefnyddio, wrth gwrs, fel canolfan trawma ar gyfer y gogledd, mae yna wasanaeth yno lle mae parafeddyg neu dîm parafeddygol yn derbyn cleifion ar unwaith, cyn iddyn nhw wedyn gael eu trosglwyddo i’r tîm trawma. Beth mae hynny yn ei olygu, wrth gwrs, ydy bod y cerbyd a’i dîm o staff, o barafeddygon, yn barod i fynd yn syth. Pa waith sydd wedi neu yn cael ei wneud i edrych ar gyflwyno systemau tebyg mewn ysbytai ar draws Cymru er mwyn cyflymu’r broses drosglwyddo yna a sicrhau bod y cerbydau a’u timau arbenigol nhw yn ôl ar y ffordd cyn gynted â phosibl?

Diolch i'r Aelod am y gyfres o gwestiynau a ofynnodd. Rwy’n derbyn y bydd gan yr Aelodau, wrth gwrs, ddiddordeb nid yn unig yn y categori coch, lle'r ydym yn bodloni ac yn cynnal ein targedau perfformiad, a lle mae mesur amser, ond hefyd yn y categori oren. Rydym yn cydnabod bod angen ymateb ar y bobl hynny hefyd, ac mae'n ymateb golau glas i'r holl bobl yn y categori oren. Mae mwyafrif helaeth y bobl yn y categori oren yn cael ymateb ac yn cael profiad nad yw’n achosi problemau o gwbl. Yr her yw bod rhai pobl yn aros am fwy o amser nag y byddem yn dymuno, felly mae'n rhannol yn fater o ddeall y profiad a beth mae hynny'n ei olygu o ran eu canlyniadau hefyd. Bydd hynny'n cael ei gynnwys yn y mesurau adolygu sy'n cael eu gweithredu. Felly ni fyddwn yn dymuno i unrhyw Aelod adael yma dan yr argraff bod pobl yn y categori oren craidd, rywsut, yn cael eu hanghofio. Maen nhw'n sicr yn rhan o'r gwerthusiad a'r argymhellion a gyfeirir at Wasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys i’w datblygu ymhellach. Wrth gwrs, rwy’n edrych ymlaen at ddod yn ôl gyda'r argymhellion y byddant yn eu gwneud ar gyfer gwelliannau pellach.

Fel yr wyf yn dweud, os oes gofyniad ar sail y dystiolaeth glinigol a’r cyngor gorau sydd ar gael bod modd gwella canlyniadau drwy ymdrin â’r mater mewn ffordd wahanol, yna, wrth gwrs bydd yn rhaid i mi ystyried hynny ac ymateb yn briodol. Ond mae'n rhaid bod cam positif ymlaen y gellid ei gymryd, ac mae tystiolaeth wirioneddol bod modd gwella canlyniadau os byddwn yn mynd ar drywydd gwahanol. Dyma’r pwynt o gael targed amser lle mae'n briodol.

Mewn gwirionedd, rwy’n falch iawn bod y lle hwn wedi symud ymlaen gryn dipyn o’r sefyllfa yr oeddem ynddi ar adeg y cyhoeddiad cychwynnol. Bryd hynny, roedd pobl mewn ystod o bartïon yn amheus ai diddymu’r targed amser oedd y peth iawn i'w wneud—a fyddem, mewn gwirionedd, yn peryglu canlyniadau cleifion. A dweud y gwir, mae’r adroddiad gwerthuso yn rhoi rhywfaint o gysur i ni, nid yn unig ein bod yn bodloni’r categori coch, ond nad oes tystiolaeth o gwbl bod diogelwch cleifion yn y fantol. Mae hwn yn bwynt pwysig i bob un ohonom ni ei ddeall, ac yn sicr nid yw'n tynnu oddi ar y pwynt am welliant pellach yn y dyfodol.

Rwy’n cydnabod y pwynt a wnewch am weithwyr iechyd proffesiynol, wrth gwrs, a sut y cânt eu rheoli. Mae'n rhan o'r gefnogaeth sydd i fod cael ei darparu, nid yn unig o ran y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu, ond hefyd y gefnogaeth i’r gweithwyr iechyd proffesiynol hynny o ran lle a sut a ble maent yn cael y gefnogaeth honno. Hefyd, mae lefel yr hyder sy’n cael ei greu yn bwysig, yn fy marn i, o fewn gofal sylfaenol yn benodol, ac os oes angen ymateb, ei fod yn digwydd mewn modd prydlon. Felly, mae hyn yn ymwneud â meithrin hyder o fewn system gyfan, ac mewn gwirionedd, fod pob proffesiwn iechyd yn rhannu cyfrifoldeb dros ganlyniad eu dewisiadau eu hunain sy'n effeithio ar ran arall o'r system gofal iechyd ac, wrth gwrs, ar y daith drwy ofal y mae pob claf unigol yn mynd arni.

Mae hyn yn arwain at y pwynt am oedi mewn ysbytai. Mae penderfyniadau a wneir mewn adran achosion brys ynghylch a ddylid tynnu pobl allan o’r ambiwlans a'u rhoi nhw mewn adran yn cael effaith ar yr unigolyn hwnnw, ond hefyd yn cael effaith ar y gymuned. Os na allwn weld nifer briodol o ambiwlansys yn cael eu rhyddhau yn gywir ac yn gyflym, yna mewn gwirionedd mae yna berygl nac yw hyn yn cael ei reoli'n briodol yn y gymuned chwaith. Dyma pam rydym yn gofyn eto i’r adrannau achosion brys, sy’n dilyn y rhaglen genedlaethol o ofal heb ei drefnu sydd gennym—i wneud yn siŵr bod mwy o ysbytai yn gwneud yr hyn y mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn ei wneud yn llwyddiannus, sef sicrhau bod pobl yn cael eu derbyn o’r ambiwlansys ac yn cael eu trosglwyddo i adran achosion brys yn gyflym. Yn wir, pe byddem yn gweld yr arfer hwnnw’n cael ei gyflwyno’n fwy cyson a phenderfynol ar draws ein system, byddem mewn gwell sefyllfa. Mae hynny'n golygu y bydd y risg yn cael ei reoli yn yr adran achosion brys. Byddwch yn cofio gweld y lluniau o adrannau llawn drwy gydol y gaeaf, ond mewn gwirionedd mae hwnnw bron yn sicr yn lle gwell i'r person hwnnw fod ynddo. Bydd yn cael ei weld a'i frysbennu gan staff meddygol yn yr adran achosion brys, felly bydd dan oruchwyliaeth. Ond, yn yr un modd, mae hynny wedyn yn golygu bod yr ambiwlans yn cael ei ryddhau i fynd yn ôl allan i'r gymuned. Felly, rydym ni’n glir iawn fel Llywodraeth am yr hyn a ddisgwyliwn, mae’r gwasanaeth iechyd yn deall, ac mae prif weithredwr y GIG wedi dweud hyn dro ar ôl tro ac, unwaith eto, mae hwn yn bwynt rheolaidd sy’n cael ei drafod gen i mewn cyfarfodydd atebolrwydd a sgyrsiau gyda chadeiryddion byrddau iechyd, i wneud yn siŵr eu bod yn symud yn nes at y sefyllfa y mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf eisoes ynddi.

Hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? A gaf i ddweud hefyd fy mod i’n croesawu'r adroddiad hwn, sy'n nodi, rwy’n credu, y manteision gwirioneddol sydd wedi dod o'r model gwasanaethau brys newydd?

Dim ond un cwestiwn sydd gen i i'w ofyn, a byddaf yn dod ato ar ôl imi wneud ychydig o sylwadau sydd angen eu cofnodi, yn fy marn i, gan nad oes cymaint o amser â hynny ers imi fod yn un o swyddogion Unsain, yn gorfod amddiffyn y gwasanaeth ambiwlans yn wyneb llawer o feirniadaeth, yn enwedig gan y Torïaid a Phlaid Cymru, a oedd yn ceisio defnyddio'r gwasanaeth ambiwlans yn ddigywilydd—[Torri ar draws.]

Nid yw'r Aelod yn siarad rwtsh. Os ydych chi eisiau cyfrannu at y datganiad, gwnewch hynny mewn modd trefnus. Dawn Bowden.

Diolch, Lywydd. Fe wnaethant geisio defnyddio'r gwasanaeth ambiwlans yn ddigywilydd fel arf wleidyddol ac, fel y dywedasoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaethant barhau i feirniadu pan gynigiwyd y cynllun peilot o’r model clinigol gan Lywodraeth Cymru. Gan weithio'n agos gyda’r gweithwyr ambiwlans proffesiynol hynny, a oedd yn ddyddiol yn gorfod gwrthsefyll beirniadaethau a oedd i raddau helaeth yn ddi-sail, roeddwn i’n gallu gweld bod hyn yn effeithio ar eu hyder ac yn gwneud eu hymdrechion i redeg gwasanaeth brys effeithiol hyd yn oed yn fwy anodd. Nid oedd y diolch i'r staff hyn, a oedd bob amser yn dilyn y beirniadaethau hynny, mae’n rhaid i mi ddweud wrthych chi, yn dderbyniol—nid oeddent yn dderbyniol.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y staff ambiwlans rheng flaen yn dweud wrthyf beth oedd ei angen. Dywedasant fod angen osgoi’r targed A8 diamcan, a oedd yn golygu bod pob ambiwlans, waeth beth yw natur yr alwad, yn gorfod cyrraedd pen ei daith o fewn wyth munud. Roedd hyn yn erbyn yr holl dystiolaeth glinigol, a oedd yn dangos mai dim ond yr achosion cardiaidd mwyaf difrifol oedd yn elwa mewn gwirionedd o’r targed hwn. Roedd y targed ei hun, mewn gwirionedd, yn gweithredu yn erbyn cael ymatebion cyflym i'r bobl hynny â'r angen mwyaf. Ni dderbyniwyd y sefyllfa hon gan y gwrthbleidiau yma yn y Cynulliad, er gwaethaf cydnabyddiaeth amlwg yn awr gan lefarydd y Ceidwadwyr heddiw fod y model blaenorol mewn gwirionedd yn wrthgynhyrchiol.

Cafodd adolygiad McClelland, a gomisiynwyd yn sgil beirniadaethau cyson o’r gwasanaeth ambiwlans, dystiolaeth gan nifer o randdeiliaid, ac roedd Unsain, sy'n cynrychioli'r staff ambiwlans rheng flaen, yn un ohonynt. Roedd tystiolaeth Unsain yn seiliedig ar brofiad y staff rheng flaen proffesiynol, clinigol, medrus iawn, sydd â chymwysterau da. Dywedasant hwy fod angen newid i ddefnyddio cyfres o ddangosyddion perfformiad, dan arweiniad clinigol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn hytrach na dibyniaeth barhaus ar yr amserau ymateb wyth munud, a oedd, mewn gwirionedd, yn gwbl ddiystyr o safbwynt mesur canlyniadau.

Byddai'n deg dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod barn y staff rheng flaen hyn, a gyflwynwyd gan Unsain, yn y lleiafrif o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r adolygiad. Fodd bynnag, rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried bod barn y gweithwyr rheng flaen proffesiynol ac arbenigwyr clinigol yn ddigon pwysig, yn hytrach na barn ei gwrthwynebwyr gwleidyddol—

Mae angen i chi ddod at gwestiwn yn awr. Rwyf wedi bod yn drugarog iawn, iawn. Dewch at y cwestiynau.

[Yn parhau.]—ac y bu’n ddigon dewr i wneud y penderfyniad i symud tuag at fodel ymateb dan arweiniad clinigol.

Fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet— [Chwerthin.]—yw a ydych chi’n cytuno â mi mai’r hyn y mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw ato yw pwysigrwydd sicrhau ein bod yn gwrando ar lais staff rheng flaen wrth lunio polisi, ac mae'n enghraifft wych o fanteision y dull partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac undebau llafur y sector cyhoeddus?

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a’i chwestiynau. Rwy’n cofio, pan gefais fy mhenodi i'r adran hon fel y Dirprwy Weinidog ar y pryd, roedd yn gyfnod hynod o anodd. Bydd yr Aelodau yn cofio y ffigurau misol a drafodwyd yn rheolaidd yn y Siambr hon. Roedd yn lle anghyfforddus iawn i fod ynddi. Cafwyd beirniadaeth lem o’r gwasanaeth a galwadau am gamau gweithredu a gwelliannau. A dweud y gwir, nid peth hawdd oedd peidio â dweud ‘A ydym ni mewn gwirionedd yn mynd ar drywydd y targed cywir?  Ai dyma'r peth iawn i'w wneud?’ 

Ac rydych chi'n iawn i atgoffa pobl bod staff rheng flaen yn gyson wrth ddweud nad oedd yr hen darged yn gwneud synnwyr i’r gwasanaeth a'r ffordd y defnyddiwyd y cerbydau i gyrraedd y targed, nac yn wir i’r cleifion. Ac mewn gwirionedd, mae gennym bellach ffordd lawer mwy synhwyrol o wneud hyn, a dyna ran o'r llwyddiant yr ydym yn ei ddathlu mewn gwirionedd wrth symud ymlaen. Ac, yn wir, dylai rhannau eraill o'r DU fod yn ddigon dewr, fel ni yma yng Nghymru, i gael llais unedig y staff rheng flaen ynghylch yr angen am newid, ond hefyd yr arweinwyr clinigol i ddweud bod problem gyda'r hen darged a bod ffordd well o gynnal ein busnes hefyd.

Yn yr adolygiad o'r targed wyth munud a'r ffordd y defnyddiwyd y cerbydau i gyrraedd y targed yn hytrach na bodloni angen clinigol, rwy'n falch iawn o ddweud y byddwn ni’n parhau i wrando ar y staff rheng flaen a'u barn am yr hyn rydym yn ei wneud. Yn wir, yn ystod y pythefnos diwethaf, rwy’n meddwl fy mod i wedi cwrdd â bron i 100 o barafeddygon yn eu gweithleoedd mewn pedwar lleoliad gwahanol o amgylch Cymru. Gallaf ddweud wrthych, mae parafeddygon yn dal i fod yn uniongyrchol ac yn gadarn yn eu barn amdanom ni fel grŵp o wleidyddion, fi fel unigolyn, a'u rheolwyr hefyd. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael clywed yn uniongyrchol oddi wrthyn nhw beth yw eu barn ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, nid yn unig o ran y gwelliannau a wnaed o fewn y model newydd, ond hefyd yr hyn sydd i'w wneud o hyd. Mae'n bwysig iawn canolbwyntio ar yr angen i wella ymhellach hefyd. Edrychaf ymlaen at barhau i gael sgwrs adeiladol gyda'ch olynydd yn ei swydd fel pennaeth iechyd Unsain, a chydweithwyr yn yr undebau llafur gwasanaeth cyhoeddus eraill, i wneud yn siŵr bod gennym ffordd wirioneddol adeiladol o weithio, lle ceir galw, lle ceir her, ond hefyd lle ceir cyfle am sgwrs adeiladol ac aeddfed ynghylch ein hethos a’n gwerthoedd a rennir ar gyfer y gwasanaeth iechyd cyhoeddus, a'r angen am welliant parhaus.

Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud nad wyf yn aml yn mynd yn grac iawn yn y Siambr hon â'r sylwadau a wneir gan aelodau o bob plaid, ond roeddwn yn grac am yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden. Nid yw’r blaid hon erioed wedi beirniadu’r parafeddygon na'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Rydym wedi bod yn feirniadol o'r amserau na lwyddwyd i’w bodloni dan fersiwn blaenorol y polisi hwn, ac roedd cyfiawnhad am hynny. Fel y dywedwch, Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn gyfnod anodd, ac roedd yn rhaid i chi gymryd rhai camau. Ac er y byddwn yn cytuno â chi i raddau mai canlyniadau yw’r pethau pwysicaf, mae un peth wedi digwydd yr oeddem yn ei ofni, ac ni wnaethoch chi fynd i'r afael â hwn Dawn: bod pobl yn cael eu methu gan y system newydd hon nad oedd yn cael eu methu o'r blaen, ac, o ganlyniad i hynny, nid ydynt yn cael yr hyn y byddech chi’n ei alw’n brofiad da, gofal o ansawdd da, neu’r daith orau drwy'r system. Ac ar gyfer hynny, rwy’n mynd i ddyfynnu un o fy etholwyr i—gŵr 80 mlwydd oed—a syrthiodd yn ei gartref, ac er gwaethaf ffonio 999 dro ar ôl tro, ni chafodd ymateb am fwy nag wyth awr. Roedd wedi cael toriad i asgwrn y forddwyd. Roedd mewn perygl o ddioddef o ddadhydradu, sioc a niwmonia. Roedd yn alwad oren. Nid oedd unrhyw olau glas yn ystod yr wyth awr hynny. Roedd y gŵr hwnnw, erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty, bron iawn yr hyn y byddem bellach yn ei alw’n alwad goch. Bu bron iawn â marw.

Felly, does dim pwynt i chi ddod atom ni a dweud, Weinidog, nad yw'r categori oren yn achosi problemau. Yr hyn yr hoffwn i chi ei wneud yw cyflwyno i ni, neu roi ateb i mi heddiw, ynghylch faint o'r ymatebion oren i alwadau sydd wedi arwain at rywun yn cyrraedd yr adran ddamweiniau ac achosion brys mewn cyflwr y byddech chi wedyn yn ei alw’n gategori coch. I’ch helpu chi i ateb y cwestiwn hwnnw, un o'r rhesymau, rwy’n credu, pam yr ydym yn dal i gael anhawster wrth fodloni unrhyw fath o darged—er nad oes targed penodol gydag oren, nagoes—yw ein bod yn dal i gael anawsterau gydag ambiwlansys yn aros mewn rhes y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Ac efallai y gallwch chi ddweud wrthyf sut, os oes tystiolaeth glinigol ei fod yn syniad da, y cymerodd wyth awr a hanner i un o fy etholwyr i fynd trwy’r adran ddamweiniau ac achosion brys ddydd Iau yn Ysbyty Treforys. Ac yn y cyfnod hwnnw, sef dros nos, ac felly nid oedd yn ystod y cyfnod prysur yn ystod y dydd, roedd chwe ambiwlans yn ciwio y tu allan i’r adran ddamweiniau ac achosion brys i ryddhau eu cleifion. Croesawaf y ffaith bod parafeddygon yn teimlo'n well am hyn. Roedd ganddynt dargedau anodd i’w bodloni yn flaenorol, ond tybed faint ohonyn nhw fydd yn siarad â chi'n fuan i ddweud bod y categorïau oren hynny yr aethant iddynt mewn gwirionedd yn rhai coch. Diolch.

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau a wnaeth. Ond gofynnodd gwestiwn y mae hi'n gwybod ei bod yn gwbl amhosibl ei ateb: faint o gategorïau oren allai fod, neu a fyddai, yn goch yn y cyflwr yr oeddent ynddo pan wnaethant gyrraedd yr ysbyty? Rwyf i wedi cydnabod, ac mae'r gwerthusiad yn cydnabod, a’r cyfeiriad yr wyf i wedi ei roi, i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac i Wasanaeth Ambiwlans Cymru wrth ymateb i’r argymhellion hynny, yw edrych eto, mewn gwirionedd, ar gategoreiddio galwadau, ond hefyd edrych ar yr amser y mae’n ei gymryd i ymateb i’r galwadau hynny. Ac mae gwelliant parhaus pan fo hynny’n digwydd. Gyda phob parch, mae rhoi enghreifftiau unigol ac yna ceisio dweud, ‘Mae hyn yn dweud wrthych am y system gyfan’, yn ffordd gyfarwydd iawn, ond, mewn gwirionedd , nid yw'n dweud llawer wrthym am y gwelliannau yn y system gyfan—mae’n dweud wrthym am enghreifftiau unigol. Problem arall yw ceisio ei roi o’r neilltu a dweud, ‘Nid yw hynny’n bwysig’. Wrth gwrs ei fod yn bwysig i unigolion sy'n pryderu. Ond, mewn gwirionedd, ar draws ein system gyfan cafwyd gwelliant gwirioneddol a diamwys ym mherfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac mae rhywfaint o hynny i'w briodoli'n uniongyrchol i'r ffaith bod gennym fodel sydd bellach yn gwneud synnwyr o ran y ffordd y caiff adnoddau gwerthfawr y gwasanaeth ambiwlans eu defnyddio.

O ran y pwynt am y feirniadaeth o’r gwasanaeth, allwch chi ddim dianc rhag y realiti bod y modd y disgrifiwyd y gwasanaeth ambiwlans yn rheolaidd wedi cael effaith ar staff. Os byddech yn siarad yn uniongyrchol â’r staff, byddent yn dweud wrthych, er bod pobl wedi dweud, ‘nid wyf yn beirniadu parafeddygon unigol yn uniongyrchol am y gwaith y maent yn ei wneud’, roeddent yn sicr yn teimlo’r feirniadaeth honno a gawsant am gyflawni’r gwaith yr oeddent yn ei wneud, ac mae hynny'n realiti anochel o sut yr oedd pobl yn teimlo ar y pryd. [Torri ar draws.] Does dim pwynt ceisio dweud nad dyna oedd y sefyllfa. Mae'r pwynt yn dal i gael ei wneud pan fyddaf yn mynd i ymweld â staff rheng flaen yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Nid wyf yn derbyn y pwynt bod y model newydd yn golygu bod pobl yn cael eu methu. Mewn gwirionedd, mae'r model newydd yn sicrhau bod pobl sydd â'r lefel uchaf o angen yn derbyn ymateb pan fo tystiolaeth glir y bydd ymateb cyflym yn gwneud gwahaniaeth i'w canlyniadau. Byddaf yn dal i ddweud: byddaf yn cael fy arwain gan y dystiolaeth, y dystiolaeth glinigol orau sydd ar gael a chyngor ar yr hyn sy’n iawn i'w wneud gyda'r gwasanaeth ambiwlans, gyda chategoreiddio galwadau a gyda'r ymateb i'r galwadau hynny. Does dim gwahaniaeth pa mor aml y mae Darren Millar yn grwgnach am yr hyn y mae’n dymuno ei weld yn digwydd, rwy’n benderfynol o wneud penderfyniad sy'n iawn ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans a phobl Cymru, ac nid oes ots gen i o gwbl a yw Darren Millar yn cytuno â hynny—fy nghyfrifoldeb i yw hynny a dyna beth rwy’n mynd i’w wneud.

4. 4. Datganiad: Adolygiad Addysg ac Argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

Symudwn ymlaen at eitem 4 ar ein hagenda, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adolygiad ac argymhellion addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pan ddes i’n Ysgrifennydd addysg, roeddwn i’n glir bod angen i ni godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol. Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i’r nodau hyn ac rydym ni’n gwneud cynnydd. Caiff hynny ei atgyfnerthu gan yr amser yr wyf wedi’i neilltuo yn ystod y misoedd diwethaf i werthfawrogi yn well yr hyn sy'n digwydd ledled y wlad drwy wrando ar y proffesiwn, cwrdd ag arweinwyr ein hysgolion a siarad â disgyblion a rhieni.

Mae ein diwygiadau hefyd yn cael eu llywio gan dystiolaeth ryngwladol ac arfer gorau. I fod y gorau, mae'n rhaid i ni ddysgu gan y gorau, a dyna pam y gwnes i wahodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sefydliad uchel ei barch ar draws y byd, i ddarparu asesiad annibynnol o'n sefyllfa wrth fynd ati i ddiwygio. Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn gyfraniad hynod ddefnyddiol at ein trafodaethau yma yng Nghymru. Mae'n nodi ble y mae Cymru wedi gweithredu ar argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o 2014 a ble yr ydym wedi gweld llwyddiannau, ac mae’n nodi meysydd lle y ceir heriau o hyd.

Fel cerdyn adroddiad ar gyfer addysg, rwy’n credu y gallaf grynhoi'r adborth drwy ddweud, 'Gwnaed cynnydd da, ar y llwybr cywir, ond mae digon o le i wella o hyd.' Canfyddiad allweddol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yw bod ein dull o wella ysgolion wedi symud

o gyfeiriadedd polisi tameidiog a thymor byr i un a gaiff ei arwain gan weledigaeth hirdymor a nodweddir gan broses o gydlunio â rhanddeiliaid allweddol.

Croesewir hyn ac mae’n dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud. Pan allwn ni ddangos llwyddiant, dylai fod yn fater o gydnabod egni ac ymdrechion ar y cyd, yn y man hwn gyda Gweinidogion blaenorol, a gwaith gwerthfawr y pwyllgorau addysg blaenorol yn y Cynulliad a gwaith craffu Aelodau'r Cynulliad, ond yn bwysicaf oll yn ein hysgolion ac ar eu traws.

Fodd bynnag, fel y dywed y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae ein perfformiad wedi bod yn gymysg ac rydym ni wedi gweld cenhedloedd bach, arloesol eraill yn achub y blaen arnom, ond mae hynny’n fy argyhoeddi nad oes unrhyw reswm pam na allwn ni symud ymlaen ar ein taith ddiwygio, gan ddefnyddio ein maint fel mantais i sicrhau cydlyniad, hyder ac ymrwymiad gwirioneddol genedlaethol i ddiwygio. Rwyf i, felly, yn falch bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud, gan nodi’r rhan ganolog y mae ysgolion arloesi yn ei chwarae a hefyd y cynnydd da o ran datblygu’r fframwaith cymhwysedd digidol.

Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi ei fod o’r farn bod y proffesiwn wedi symud o ormod o ddiwygio i weledigaeth hirdymor a rennir ac ymdeimlad cryf o barodrwydd. Rwy’n rhannu’r optimistiaeth honno, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf wedi ei gweld drosof fy hun yn yr ysgolion rwy’n ymweld â nhw, gan gynnwys un yn eich etholaeth chi eich hun. Wedi dweud hynny, ni allaf i, ni allwn ni, ni all y system ac ni wnawn orffwys ar ein bri. Mae'r sgoriau PISA siomedig yn dangos i ni fod llawer i’w wneud o hyd. Mae’n rhaid i bawb yn ein system ddeall bod PISA yn ein galluogi ni i gymharu ein hunain â’r byd. Ac ni fu hynny erioed yn bwysicach nag yw yn awr ac ar gyfer y blynyddoedd ansicr sydd o'n blaenau.

Mae'n rhaid i ni barhau i ddatblygu proffesiwn addysgu o ansawdd uchel a dyna'r neges gref gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae wedi cymeradwyo ein dull o ddiwygio addysg gychwynnol ar gyfer athrawon a’n pwyslais ar ddysgu proffesiynol ar bob cam o’u gyrfa. Ond y mae wedi ein hannog i gyflymu'r broses o ddatblygu ein safonau arweinyddiaeth ac rwyf i’n cytuno. Yn hanesyddol, nid ydym ni wedi rhoi digon o werth ar yr agwedd hollbwysig hon ar godi safonau yn ein hysgolion. Ers ymgymryd â'r swydd, mae wedi bod yn amlwg i mi fod arweinyddiaeth yn faes sy'n mynnu gwaith datblygu sylweddol a brys. Ers i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ymweld ym mis Tachwedd, mae’r gwaith ar arweinyddiaeth yn datblygu trwy sefydlu’r academi genedlaethol arweinyddiaeth addysgol a gallaf sicrhau’r Siambr hon, y proffesiwn a'r rhieni, y bydd datblygu arweinyddiaeth yn rhan allweddol o’n strategaeth addysg. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen arweinwyr cryf ar Gymru sy'n barod am yr her.

Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hefyd yn ein hannog i barhau â'r broses o gydlunio polisïau â rhanddeiliaid allweddol ac rwyf wedi fy narbwyllo mai hwn yw’r dull cywir. Yn y pen draw, bydd nodau ac uchelgeisiau a rennir yn sicrhau y bydd llawer o’r gwaith diwygio yn cael ei gyflawni. Neges gref yw bod angen i ni gyfathrebu ein diwygiadau yn glir. Mae annog cydlyniad ar draws ein mentrau a'n polisïau yn thema gyffredin drwy’r adroddiad. Ac rwy’n cytuno y gallwn ni fod yn fwy craff ac yn gliriach o ran y ffordd yr ydym yn dangos sut y mae gwahanol bolisïau yn cysylltu â'i gilydd ac yn cyfrannu at ddatblygu ein dysgwyr yn y modd yr ydym ni eisiau.

Gall diwygio ein system addysg, yn wir, gall diwygio unrhyw system, fod yn gymhleth ond mae'n rhaid i ni hefyd elwa ar symlrwydd gweithredu’n effeithiol: gwell dysgu proffesiynol, hyfforddiant diwygiedig ar gyfer athrawon, asesiadau newydd, disgwyliadau arweinyddiaeth uchel a mwy o weithio rhwng un ysgol i’r llall. Ein gwaith ni yn awr yw parhau â'n cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg, codi safonau a helpu pob dysgwr yng Nghymru, beth bynnag fo'u cefndir, i gyflawni eu potensial. Byddaf i’n parhau i weithredu yn gyflymach pan fo angen, a byddaf, wrth gwrs, yn ystyried cyngor ac argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn fanylach dros y misoedd nesaf. Lywydd, y bore yma, siaradais i ac Andreas Schleicher mewn cynhadledd a oedd cynnwys bron pob un pennaeth uwchradd yng Nghymru, ac rwy’n gwybod, yn y gynhadledd honno, ac mewn ystafelloedd dosbarth ledled ein gwald, fod gennym y dewrder a'r hyder i gyflawni ar gyfer ein holl ddysgwyr ac i gryfhau ein dyfodol fel economi a chymdeithas. Diolch.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac, yn wir, am y copi ymlaen llaw o adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ddoe, y cafodd ei rannu â phob un o'r pleidiau gwleidyddol, rwy’n credu? Rwyf o’r farn mai’r hyn sy'n glir iawn, ar ôl darllen yr adroddiad, yw nad oedd popeth cystal â’r darlun a roddwyd ym mis Rhagfyr, pan ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awgrymu bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd rywsut yn amddiffyn ei safbwynt polisi, gan ei bod yn glir iawn fod yna ymdeimlad o déjà vu yn yr adroddiad, i bob pwrpas, oherwydd ei fod yn dweud rhai pethau sy'n gyson â'r hyn a oedd yn cael ei ddweud gan gôr o leisiau, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn 2014, ynghylch diffyg arweinyddiaeth glir, yr angen i godi statws y proffesiwn, yr angen i fuddsoddi mwy mewn ansawdd datblygiad proffesiynol parhaus a mynediad ato, er enghraifft. Rwy’n credu ei bod hi’n destun pryder mawr mewn gwirionedd ein bod yn clywed y negeseuon hyn eto flynyddoedd lawer ar ôl iddynt gael eu hailadrodd mewn adroddiadau eraill.

Wedi dweud hynny, rwy’n credu bod rhai pethau cadarnhaol iawn hefyd y gellir eu dysgu o'r adroddiad ac rydych chi wedi crybwyll rhai ohonyn nhw yn eich datganiad. Roedd rhai o’r pwyntiau na wnaethoch eu crybwyll, wrth gwrs, yn ymwneud â fformiwla ariannu genedlaethol, sef rhywbeth y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud y gellid ei datblygu o bosibl. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn gwybod bod amrywio sylweddol o un awdurdod lleol i’r llall o ran y swm y pen sy'n cael ei wario ar addysg a disgyblion. Mae hynny'n rhywbeth na ellir ei gyfiawnhau o ran y buddsoddiad y mae angen i ni ei wneud yn ein plant a’n pobl ifanc, a byddwn i’n gofyn yn benodol i Ysgrifennydd y Cabinet beth yw ei hasesiad cychwynnol o'r argymhelliad penodol hwnnw o ran yr angen am fformiwla ariannu genedlaethol.

Rwy’n credu hefyd fy mod i’n dymuno cofnodi croeso cynnes iawn i'r awgrym bod angen i ni gysylltu tystiolaeth â pholisi. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi mynegi pryder ynghylch y diffyg tystiolaeth sydd ar gael ar gyfer amcan Ysgrifennydd y Cabinet i ostwng maint dosbarthiadau’r blynyddoedd cynnar i 25, o ystyried y degau o filiynau o bunnoedd y gellid eu buddsoddi mewn mannau eraill yn y system addysg i gael gwell gwerth am ein harian. A tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi’n ailystyried ar eich safbwynt ar faint dosbarthiadau o ganlyniad i'r sylw yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod angen cysylltiad clir arnom rhwng tystiolaeth a pholisi addysg. A wnewch chi ddweud wrthym hefyd sut y gallai’r argymhelliad penodol hwnnw helpu i lywio adolygiad Reid o ymchwil addysg uwch sydd ar y gweill ar hyn o bryd? Oherwydd nid oes dim amheuaeth y gall ein sefydliadau addysg uwch chwarae rhan wrth ddatblygu argymhellion polisi sy'n gysylltiedig â'r ymchwil y maen nhw’n ei wneud i’w gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Rwyf i hefyd yn dymuno cofnodi’r ffaith ein bod yn croesawu cynnig y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i leihau'r baich gweinyddol ar arweinwyr ysgolion, er mwyn rhyddhau amser iddyn nhw ganolbwyntio ar godi safonau yn y proffesiwn addysgu a chefnogi eu cydweithwyr. Gwyddom y gall hyn darfu yn sylweddol—y dyletswyddau gweinyddol y mae llawer o benaethiaid yn eu hwynebu—ac rwy’n credu ei fod yn argymhelliad ac yn awgrym cadarnhaol iawn fod angen buddsoddi mewn rhagor o reolwyr busnes ar draws y system addysg yng Nghymru. Ond tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, ba ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i ba mor gyraeddadwy y gallai hynny fod, o ystyried y ffaith bod gennym lawer o ysgolion bach yng Nghymru, ac a ydych chi’n credu y gallai’r consortia addysg rhanbarthol neu, yn wir, y trefniadau cydweithredol rhwng ysgolion llai, fod yn ffordd ymlaen o ran rhoi’r cyfle i fuddsoddi mewn rheoli busnes, fel y gall penaethiaid ganolbwyntio ar eu harweinyddiaeth addysgol.

Un o'r pethau sy’n destun pryder yn yr adroddiad yw’r ffaith y canfu’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod yna ddiffyg cyfathrebu clir gyda'r sector a gyda rhanddeiliaid allweddol ynghylch sut y bydd y daith addysg yn mynd rhagddi. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod o’r dystiolaeth y mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ei chael gan bobl yn y proffesiwn, a gan randdeiliaid eraill, ei bod yn ymddangos y bu rhywfaint o amwysedd o ran sut y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei lunio, ac a yw'r cart yn cael ei roi o flaen y ceffyl o ran peidio â deall yn iawn sut y bydd y fframwaith asesu yn edrych yn y dyfodol. A tybed sut y byddech yn ymateb i'r honiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd nad oes gennym naratif clir am y daith, a sut yr ydych chi’n rhagweld y byddwch yn gallu amlygu rhai o’r uchelgeisiau a’r nodau a rennir.

Na, na, nid ychydig mwy; un arall, os gwelwch yn dda, oherwydd eich bod wedi cael bron cymaint o amser ag y cafodd y Gweinidog wrth ddod â'r datganiad i'r llawr.

Ac mae'n ddatganiad, a dylai fod yn ddim mwy nag ychydig o sylwadau agoriadol.

Byddwn wedi bod wrth fy modd eich gweld chi yma yn y datganiad blaenorol, Ddirprwy Lywydd, fel y gallem ni fod wedi cael rhywfaint—

Rwy’n sylweddoli hynny, ac o leiaf yr ydych yn gyson yn y pethau hyn, Ddirprwy Lywydd.

Os caf i felly, gydag un cwestiwn arall, a byddaf i’n ceisio ei wneud yn gwestiwn mor eang â phosibl. A wnewch chi ddweud wrthym yn ychwanegol felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut yr ydych yn bwriadu mynd i'r afael â'r pryder y mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi ei amlygu ynghylch y diffyg pwyslais ar ddisgyblion mwy abl a thalentog? Un peth yr wyf yn nodi yw bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau sylweddol o ran yr angen i gefnogi’r plant hynny ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae’r blaid hon yn ei gefnogi’n fawr. Ond mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi amlygu, ac mae'n cyfeirio at hyn yn yr adroddiad hwn hefyd, nad yw disgyblion mwy abl a thalentog efallai yn cael eu datblygu gymaint ag y gallent i gyrraedd eu potensial, a thybed a wnewch chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni am sut yr ydych yn gobeithio gallu helpu’r dysgwyr hynny i elwa yn y dyfodol. Diolch.

A gaf i ddiolch i Darren am ei sylwadau a’i gwestiynau? Rwy’n falch ei fod wedi defnyddio'r cyfle cynnar a gafodd i ddarllen yr adroddiad ddoe yn effeithiol. Os caf i fynd trwyddynt, pan godais mewn ymateb i'r canlyniadau PISA ym mis Rhagfyr, wnes i ddim esgus am eiliad bod pob dim yn berffaith. Mi wnes i fyfyrio—[Torri ar draws.] Ac mi wnes i fyfyrio ar y dyfyniadau a roddwyd y diwrnod hwnnw yn yr adborth cychwynnol a ddarparwyd i ni gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o ran yr adroddiad hwn. Pe byddwn i’n meddwl bod pob dim yn iawn, ni fyddwn wedi gofyn i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ddod yn ôl atom. Roeddwn i eisiau asesiad gonest, annibynnol ar y Llywodraeth, o’n sefyllfa ni. Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud yw ein bod yn gwneud rhywfaint o gynnydd. A gadewch i ni fod yn gwbl glir ei fod yn gwneud hynny, oherwydd rwy’n credu bod angen i ni fod yn deg i'r proffesiwn a chydnabod yr ymdrechion y mae'r proffesiwn wedi’u gwneud. O ran dysgu ac addysgu proffesiynol, mae’n dweud bod

Cymru yn haeddu cydnabyddiaeth am wneud cymaint o gynnydd wrth ddatblygu a gweithredu

newid yn y maes hwnnw. Mae'n sôn am y ffaith ein bod ni wedi amlygu ein hunain, yn rhyngwladol, o ran y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud ar dechnoleg ddigidol a'r fframwaith cymhwysedd digidol. Ond mae'r adroddiad hefyd yn gwbl glir bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd, ac nid wyf yn anwybyddu hynny o gwbl.

O ran rheoli busnes, rydych chi'n iawn, mae'r adroddiad yn sôn am y baich biwrocrataidd yr ydym yn ei roi ar ein penaethiaid, ac rwy’n cydnabod hynny. Mae'n rhywbeth rwy’n ei glywed yn gyson ganddynt. Dylai pennaeth mewn ysgol ganolbwyntio yn bennaf ar y dysgu a’r addysgu yn y sefydliad hwnnw. Mae’r pethau sy'n tarfu ar hyn yn effeithio’n negyddol ar ei allu i wneud hynny. Boed hwnnw y pennaeth y cyfarfûm ag ef yn ddiweddar sy'n treulio llawer iawn o amser yn cael trafferthion i hyd yn oed agor yr ysgol yn y bore oherwydd bod yr ysgol mewn cyflwr mor wael, neu’r pennaeth sy'n cael trafferth wrth gymryd rhan mewn gwasanaethau eraill—boed hynny'n wasanaethau cymdeithasol neu CAMHS—i gael y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer eu plant, sy'n tynnu sylw oddi ar ddysgu ac addysgu, yn ogystal â'r fiwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â rhedeg ysgol. Mae gan reolwyr busnes, yn fy marn i, swyddogaeth bwysig ac rydych chi’n iawn yn dweud y gall buddion hynny fod yn arbennig o drawiadol mewn ysgolion bach a gwledig, lle byddai cyfrifoldeb addysgu mawr ar lawer o'n penaethiaid, yn arbennig yn y sector cynradd. Byddwch chi’n ymwybodol y bydd grant ysgolion bach a gwledig ar gael i awdurdodau lleol ym mis Ebrill eleni, ac y bydd y canllawiau a fydd yn mynd gyda’r adnoddau hynny yn rhoi rheolwyr busnes yn benodol fel enghraifft o'r hyn y byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol wario’r arian hwn arno. Gall rheolwr busnes sy’n cefnogi rhwydwaith, grŵp o ysgolion bach, gwledig cynradd, dynnu’r baich hwnnw oddi ar y pennaeth fel ei fod yn gallu canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu. Ond, wrth gwrs, ni ddylai hynny fod yn gyfyngedig i ysgolion gwledig. Mae achos i’w wneud, ac yn wir bu achos ers nifer o flynyddoedd, dros werth rheolwyr busnes, neu, mewn termau hen ffasiwn, swydd debyg i fwrsar mewn ysgolion.

O ran ymchwil, un o'r pethau a nodwyd mewn nifer o adroddiadau blaenorol yw'r angen i wneud gwaith ymchwil o ansawdd uchel. Dyna pam, wrth ddiwygio eu darpariaeth addysg athrawon gychwynnol, y byddem yn disgwyl i raglenni prifysgolion gael lefel uchel o ymgysylltu ag ymchwil, a byddwn yn cynnal, ym mis Mawrth, gweithdy dan arweiniad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a fydd yn dod â’r proffesiwn ac arbenigwyr byd enwog at ei gilydd i ddatblygu rhai o'r dulliau addysgol y bydd eu hangen arnom i weithredu’r cwricwlwm newydd. Felly, dim ond un enghraifft yw hon o sut yr ydym yn ceisio dod â’r ymchwil a’r wybodaeth ryngwladol i'r system yng Nghymru.

Mae’r Aelod yn sôn am adnoddau, adnoddau ariannol. Gadewch i mi fod yn gwbl glir: Credaf fod lle i ddemocratiaeth leol ac i unigolion sydd wedi’u hethol yn lleol wneud penderfyniadau am yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau lleol, ond rwyf hefyd eisiau i gymaint o arian â phosibl fynd i mewn i'r gwasanaethau rheng flaen. Er enghraifft, dyna pam mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion. Byddaf yn ystyried pob agwedd ar yr argymhellion hyn, ond, ar y cam hwn, nid wyf i wedi gweld rhagor o dystiolaeth mai fformiwla ariannu genedlaethol yw’r dull cywir. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw, pan fydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn siarad am adnoddau, ei fod yn gwneud hynny, ie, mewn termau ariannol—oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n gwbl angenrheidiol—ond maen nhw hefyd yn sôn am ddefnyddio ein hadnoddau dynol mewn modd doethach a gwell.

A ydym ni’n hyderus ein bod nid yn unig yn gwario ein £91 miliwn y flwyddyn nesaf ar y Grant Amddifadedd Disgyblion, ond bod ein hathrawon gorau yn gweithio yn yr ysgolion anoddaf? A ydym ni’n sicrhau bod ein harweinwyr ysgolion gorau yn ein hysgolion yn y cymunedau lle y mae angen mwyaf o gymorth? Nid am adnoddau ariannol yn unig y mae hyn; mae'n ymwneud â defnyddio adnoddau yn ddoethach. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, Darren, bod penderfyniadau i dorri cyllidebau ysgolion dros y ffin y byddwch chi’n ymwybodol ohonynt yn effeithio ar ein gallu ni yma i wario arian, oherwydd ein bod yn cael cyfran Barnett o’r arian a gaiff ei wario ar addysg, ac os bydd y Llywodraeth ar draws y ffin yn lleihau’r arian i ysgolion, a bydd yn torri rhyw £3 biliwn y flwyddyn nesaf, mae hynny'n effeithio ar ein gallu ni i ymateb. Ond ni ddylai hynny fyth fod yn esgus dros beidio â bwrw ymlaen â gweithredu, a dyna oedd fy neges glir heddiw. Mae yn golygu bod angen i ni fod yn fwy craff o ran sut yr ydym yn defnyddio ein harian, a bod angen i ni wneud y dewisiadau cywir.

Fe’ch cyfeiriaf, o ran maint dosbarthiadau, at adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn 2016, sef y llynedd, a oedd yn dweud bod y myfyrwyr hynny mewn dosbarthiadau llai yn adrodd yn gyson bod eu hathrawon yn gallu gwahaniaethu eu haddysgu i’w galluogi i ymateb i'r anghenion unigol hynny ar lefel llawer uwch nag yn y dosbarthiadau hynny lle’r oedd mwy o fyfyrwyr. Y bore yma, yn y gynhadledd, roedd Andreas Schleicher yn dweud ac yn amlygu, y dylem ni fel gwlad efelychu, y dylem ni fod eisiau bod yn debyg i, Ontario—rhanbarth, nid gwlad; nid yw'n wlad ar ei phen ei hun. System addysg ddwyieithog, yn dysgu plant drwy gyfrwng y Ffrangeg a’r Saesneg, gyda rhai heriau sylweddol o ran natur y plant sydd yn y system honno—dangoswyd Ontario fel enghraifft i mi y bore yma, ac mae Ontario wedi bod â pholisi hirsefydlog i leihau maint dosbarthiadau yn y wlad honno, ac mae'r Llywodraeth honno wedi gweithredu hynny.

Mwy abl a thalentog: rydych chi’n hollol gywir. Os yw PISA yn dweud unrhyw beth wrthym, y ffaith nad yw ein plant mwy abl a thalentog yn perfformio cystal ag y gallent yw hynny. Mae ein plant nad ydynt yn perfformio cystal erbyn hyn wedi cyrraedd cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd; rydym ni wedi gweithio'n galed iawn i gynyddu safonau’r plant hynny, ond nid ydym wedi ymestyn y rhai mwyaf abl a thalentog. Byddwch chi’n ymwybodol o'n rhaglen Seren, ac mae honno’n cael rhywfaint o effaith. Mae gennyf i ddiddordeb mewn dysgu’r gwersi er mwyn cyflwyno hynny yn is i lawr yn y grŵp oedran ysgol, oherwydd, ar ôl 16, mae’n rhy hwyr; mae angen i ni allu symud hynny i lawr. Byddaf i’n rhoi ystyriaeth bellach ac yn gwneud cyhoeddiadau pellach ar sut y gallwn ganolbwyntio ar y rhai mwy abl a thalentog, ac mae rhan o hynny yn ymwneud â’n cyfundrefn atebolrwydd.

Mewn ffordd, mae ein pwyslais ar lefel 2 ac uwch, sydd—rwy’n deall pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw, ac mae'n debyg mai hwnnw oedd y penderfyniad cywir ar y pryd yn y sefyllfa yr oeddem ynddi, ond canlyniad anfwriadol hynny oedd canolbwyntio ar wella myfyrwyr sy’n cael gradd D i radd C, ac rydym ni wedi gweld gwelliant yn hynny o beth, ond nid ydym ni wedi gweld gwelliant wedyn yn nifer y myfyrwyr sy'n cael gradd C yn gwella i radd B, myfyrwyr sy’n cael gradd B yn gwella i radd A, a myfyrwyr sy’n cael gradd A yn gwella i radd A*. Ac mae hynny o ganlyniad i'r mesurau atebolrwydd a roddwyd ar waith gan weinyddiaethau blaenorol. Canlyniad y system honno yw hyn; mae bellach yn amser myfyrio ar hynny a chael trefn atebolrwydd nad yw'n arwain at y mathau hynny o ddeilliannau anfwriadol. Credaf fod hynny’n cwmpasu mwy neu lai bopeth.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser mawr gennyf ddychwelyd at addysg a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn absenoldeb anorfod fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad. A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, fod Plaid Cymru, o leiaf ers adroddiad cyntaf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ‘Cymwys am Oes’, wedi cefnogi yn fras y llwybr hwn a osodwyd ar gyfer addysg yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n arbennig ar arweinyddiaeth a chryfhau arweinyddiaeth ymhlith ein harweinwyr addysgol, a chanolbwyntio, hefyd, ar dystiolaeth ac ar yr hyn sy'n gweithio ac nid ar fentrau newydd parhaus? Yn hynny o beth, mae adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cadarnhau bod y Llywodraeth hon wedi ymgymryd â’r rhan honno o'r daith hyd yn hyn.

Mae’n rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, byddai wedi bod yn ddiddorol clywed Ysgrifennydd y Cabinet pan oedd hi'n dal i fod ar ochr arall y Siambr yn ymateb i'r datganiad hwn, nad oedd yn fanwl iawn o ran y camau gweithredu a fyddai'n codi o'r adroddiad hwn a’r deilliannau, yn enwedig deilliannau mwy cadarn. Rwy'n credu bod gennyf bum maes yr hoffwn i ofyn cwestiynau penodol iddi arnynt ynghylch sut y gallem ni weld y deilliannau hynny.

I ddechrau, yr adnoddau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn debygol o’u rhoi i’r broses hon: ym mis Tachwedd, dywedodd wrth y pwyllgor addysg wrth graffu ar y gyllideb y byddai canfyddiadau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dylanwadu ar ei phenderfyniadau terfynol ynglŷn â sut y bydd yr £20 miliwn yn cael ei ddyrannu i godi safonau yn 2017-18. Ac eto, heddiw, nid yw’r datganiad yn nodi mewn gwirionedd sut y mae'n bwriadu dyrannu’r £20 miliwn hwnnw. Rwy'n credu bod yr amser ers mis Tachwedd y llynedd—. Byddwn i wedi gobeithio, erbyn hyn, y byddem yn deall yn well ble y bydd yr £20 miliwn hwnnw yn cael ei ddefnyddio ac ym mha ffordd.

Mae hi eisoes wedi dod yn ôl a siarad am faint dosbarthiadau, felly nid wyf am ddweud gormod am hynny, heblaw am ddweud fy mod i’n cymryd o’i datganiad ei bod hi’n dal i fwriadu gwario £6 miliwn ar rywbeth nad oes llawer o dystiolaeth y tu ôl iddo. Nid oedd adroddiad 2016 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd y mae hi newydd ei gyflwyno fel tystiolaeth yn cyfeirio at ddosbarthiadau meithrin a dosbarthiadau i ddechreuwyr y mae ei pholisi yn ymdrin â nhw mewn gwirionedd. Ond os yw hi'n benderfynol o fwrw ymlaen â hynny, rwyf i’n sicr yn awyddus i gael deall ble y bydd yr £20 miliwn y mae hi eisoes wedi sôn amdano yn cael ei wario.

Mae’r ail faes rwy’n credu yr hoffem ni edrych arno yn ymwneud ag arweinyddiaeth yn gyffredinol, a hwn yw’r maes gwannaf yn y sector addysg Gymraeg dros nifer o flynyddoedd ac nid yw wedi cael y sylw gan Lywodraeth Cymru, ychwaith, y mae’n ei gael erbyn hyn, a hynny'n gwbl briodol. Mae rhai agweddau ar hyn, ar sut y gallem ni gryfhau arweinyddiaeth, yr hoffwn eu deall. Nid yw'n glir i mi o hyd—ac nid mater i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yw hyn, mae’n fwy o fater i Lywodraeth Cymru—ble y mae'r Llywodraeth yn gweld arweinyddiaeth yn cael ei wthio ymlaen mewn gwirionedd. Wrth gwrs, o'r brig, gan Ysgrifennydd y Cabinet—ond wedyn hefyd ai’r consortia neu'r ysgolion neu’r ysgolion arloesi a fydd yn gwneud llawer o'r gwaith hwn? Mae cwestiwn heb ei ateb o hyd, yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac yn y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ynghylch beth yn union y mae consortia yn ei wneud i sbarduno arweinyddiaeth, ac a ydynt yn dal i fod yn berthnasol i'r llwybr y mae hi wedi ei gefnogi yn ei datganiad heddiw. Felly, cysondeb mewn arweinyddiaeth, ond hefyd ym mha ffordd y mae’r consortia eu hunain—gan fod adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn awgrymu y dylen nhw hefyd fod yn buddsoddi ac yn cynyddu eu gallu arweinyddiaeth eu hunain, hoffwn i ddeall pa bethau penodol y bydd yr Ysgrifennydd yn chwilio amdanynt gan gonsortia i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae hynny'n ymwneud â, yn fy marn i, yr academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol, y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet amdani yn ei datganiad. Yr hyn na ddywedodd yn y datganiad, a’r hyn yr hoffwn i ei wybod, yw pryd y mae'n disgwyl i'r arweinyddion cyntaf ddod o'r academi hon. Mae'n dweud y bydd hi’n cyflymu datblygiad hyn. A allwn ni ddisgwyl, felly, ym mis Medi eleni y byddwn yn gweld pobl mewn gwirionedd, os hoffwch chi, yn graddio ohoni— [Torri ar draws.] Na, nid yw wedi dechrau eto, rwy’n gwybod, ond rydym ni eisiau gweld rhywbeth, a hoffwn i weld dyddiad gan yr Ysgrifennydd, nad oedd yn y datganiad, ynghylch sut y gallem weld hyn yn cael ei sefydlu mewn gwirionedd a gweld pobl yn graddio o’r academi ac yn gweithio'n galed yn y modd hwnnw i fod yn arweinyddion a chael eu hystyried yr arweinyddion hefyd, sydd, yn fy marn i, yn eithaf pwysig yn hynny o beth.

Roedd yn addewid allweddol gan Blaid Cymru yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y byddem ni’n cyflwyno rheolwyr busnes arbenigol, fel, yn wir, y cadarnhawyd yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn enwedig ar gyfer ysgolion gwledig mewn fformat clwstwr neu fformat ffederal. Er ei bod hi wedi ymateb i bwynt Darren Millar ynglŷn â hyn, byddwn i’n gwerthfawrogi ychydig mwy o fanylion am sut y gallai hi mewn gwirionedd annog y broses honno. Unwaith eto, efallai y gallai’r consortia fod yn gwneud rhywfaint o’r gwaith hwn, yn hytrach na’r ysgolion eu hunain yn dod at ei gilydd yn wirfoddol. Ond mae'n beth allweddol sy'n tynnu’r baich oddi ar benaethiaid ac yn caniatáu iddynt addysgu ac arwain y safonau addysgu.

Y pwynt olaf yr oeddwn yn dymuno ei wneud oedd, er fy mod yn croesawu’n fawr gwaith cychwynnol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar addysg Cymru yn 2014 ac rwy’n croesawu’r adroddiad pwyso a mesur hwn, os hoffwch chi, nawr—a hoffwn gofnodi fy mod yn ystyried Andreas Schleicher yn ffrind i addysg Cymru ac yn rhywun sydd wedi ein helpu ni i gyd i ddeall llawer mwy o'r hyn y mae angen i ni ei wneud ym maes addysg yng Nghymru—tybed a yw'n bosibl mai y tro nesaf, mewn blwyddyn neu ddwy, y byddech yn edrych ar y cynnydd, y byddech yn comisiynu gwerthuswr cwbl annibynnol i edrych ar hyn. Oherwydd, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi awgrymu’r daith y mae angen i ni fynd arni, yna mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dweud a yw Llywodraeth Cymru wedi bod ar y daith yr oedd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd am inni ei chymryd. Er bod gennyf lawer iawn o barch, ac rwy'n credu bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i’w werthfawrogi am ei waith o ansawdd uchel a’i annibyniaeth drwyadl ynddo’i hun, rwy’n credu y byddai'n beth da i bawb, gan gynnwys aelodau’r proffesiwn dysgu eu hunain, pe byddem yn gweld, y tro nesaf y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn comisiynu adroddiad pwyso a mesur o'i dull a'i llwyddiant a llwyddiant ei Llywodraeth ar y mater hwn, y caiff hynny ei wneud gan werthuswr cwbl annibynnol.

Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei sylwadau a’i gwestiynau, ac am gamu i'r adwy ar ran ei gydweithiwr, ac rwy’n sicr y byddai wedi eisiau bod yma dan unrhyw amgylchiadau eraill—wyddoch chi, ond yn anochel nid yw yma heddiw? A gaf i ddechrau gyda’r mater arweinyddiaeth? Wrth gychwyn yn y swydd, roedd yn amlwg i mi mai un o argymhellion mwyaf amlwg yr adroddiad 2014 na weithredwyd, oedd y mater yn ymwneud ag arweinyddiaeth. Rwyf wedi ceisio mynd i'r afael â hynny mewn cynigion a wnaed gennym mewn cysylltiad â’r academi. Ann Keane sy’n cadeirio bwrdd yr wrthblaid, rhywun yr wyf o’r farn y caeiff ei pharchu’n gyffredinol, y tu allan i wleidyddiaeth ac yn y gwasanaeth ei hun. Mae'r bwrdd yn gweithio'n galed iawn ac eisoes wedi cael nifer o gyfarfodydd, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn gweld pobl yn cofrestru ar raglenni hyfforddi a rhaglenni cymorth a gydlynir gan yr academi ym mis Medi eleni. Dyna yr wyf i’n ei ddisgwyl, a dyna beth mae bwrdd yr wrthblaid yn gweithio tuag ato.

Yn y lle cyntaf, bydd arweinyddiaeth, yn wir, yn canolbwyntio ar arweinwyr ysgol presennol, oherwydd credaf mai dyna lle y mae angen i’n blaenoriaeth fod ar hyn o bryd. Ond fy uchelgais yw y bydd yr academi yn ystyried arweinyddiaeth yn ei holl ffurfiau yn y system addysg. Felly, nid penaethiaid presennol yn unig, ond cymryd rhan weithredol iawn o ran sut y gallwn nodi talent o fewn y sector addysg a chefnogi gyrfaoedd yr unigolion hynny mewn modd rhagweithiol er mwyn sefydlu cenhedlaeth newydd o arweinwyr ysgolion. Ond mae angen i ni hefyd wella gallu arweinyddiaeth o fewn ein Hawdurdodau Addysg Lleol, sydd wedi achosi problemau, ac, yn wir, mae angen i ni ystyried arweinyddiaeth o fewn y consortia ac, yn wir, o fewn Llywodraeth Cymru, o ran yr adran sy'n llunio polisïau mewn cysylltiad â hyn. Felly, yn y pen draw, hoffwn i’r academi fod yn gweithio ar raglenni arweinyddiaeth ar gyfer pob agwedd ar addysg, ond byddwn yn dechrau gyda’r agwedd bwysicaf ar y cam hwn, sef penaethiaid, ym mis Medi 2017.

Mae'r Aelod yn gofyn am swyddogaeth consortia. Yr hyn sy'n ddiddorol i’w ddarllen yw sut y mae’r consortia, mewn gwirionedd, wedi ymateb i’r sefyllfa yn absenoldeb strategaeth genedlaethol yn ymwneud ag arweinyddiaeth, a byddwn yn eu cymeradwyo am wneud hynny. Maen nhw wedi cydnabod yr angen i wneud rhywbeth, ac maen nhw wedi ceisio—. Mae'n dweud yn yr adroddiad—gallwch chi ei ddarllen yn yr adroddiad—oherwydd y diffyg strategaeth genedlaethol, mae’r consortia ei hun wedi ceisio mynd i’r afael â hyn. Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod yn gwneud hynny ar lefel strategol ar draws y wlad, felly nid oes ots ble yr ydych chi’n digwydd bod, pa gonsortia yr ydych chi’n digwydd bod ynddo—fod yna dull strategol cenedlaethol wedi’i gynllunio tuag at arweinyddiaeth.

O ran sut y gallwn ddatblygu'r consortia, byddwch hefyd yn ymwybodol bod yr adroddiad yn sôn am y posibiliadau o ehangu cyfrifoldebau’r consortia, yn enwedig ym maes anghenion dysgu ychwanegol, a byddwch yn gwybod bod hyn yn cyd-fynd â'r argymhellion a'r ymgynghoriad sydd yn cael ei gynnal gan fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn hyn o beth. Mae'n rhywbeth yr ydym ni ein hunain wedi ei ragweld heb weld yr adroddiad, felly mae'n braf gwybod bod peth synergedd o ran syniadau wrth symud ymlaen. Ond mae angen i'r consortia berfformio'n well, yn enwedig o ran pryderon sy'n deillio o adroddiadau Estyn ar y consortia, yn enwedig yn y gogledd—yng nghonsortiwm GwE, maen nhw’n hysbysebu am brif weithredwr newydd ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael rhai cyfarfodydd cadarn iawn gyda phob un o'r consortia, yn ein cyfarfodydd herio ac adolygu, am yr angen iddyn nhw eu hunain wella eu gallu eu hunain a dysgu oddi wrth ei gilydd. Nid oes unrhyw reswm pam mae angen iddyn nhw ailddechrau o’r cychwyn. Mae angen iddyn nhw ystyried cryfderau'r modelau sy'n bodoli, a cheisio cynnwys y gwaith hwnnw yn eu gwaith eu hunain.

O ran yr £20 miliwn, nid oes gennyf y rhestr o raglenni a fydd yn cael eu cefnogi gan yr £20 miliwn yn y flwyddyn sydd i ddod, ond rwyf wedi trafod y mater gyda Llyr ar sawl achlysur, ac rwy'n hapus i’w rannu gyda'r Aelod neu, yn wir, roi rhywbeth yn y llyfrgell os fyddai hynny'n ddefnyddiol i'r holl Aelodau. Ond mae ein hadnoddau ni yn canolbwyntio ar faterion megis cefnogi ein gwaith o ddiwygio hyfforddiant cychwynnol i athrawon, fel bod gennym ni set newydd o weithwyr proffesiynol yn dod i’r maes a fydd â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo, gan edrych ar ddatblygiad proffesiynol parhaus y staff presennol, yn ogystal ag edrych ar godi safonau mewn ysgolion.

Rwy’n bwriadu parhau i edrych ar y mater o faint dosbarthiadau. Mae'n un sydd ag arwyddocâd arbennig i rieni a gweithwyr proffesiynol. Rydym ni’n cydnabod yr angen am lefelau uchel o gymarebau athrawon ac oedolion i blant. Rydym ni’n gwneud hynny yn ein cyfnod sylfaen, ac rwy’n dymuno gweld a allwn ni barhau i sicrhau bod gan athrawon yr amser sydd ei angen arnynt i addysgu a rhoi sylw unigol i blant. Ac roedd yna adeg pan oedd yr Aelod ei hun yn argymell polisi o'r fath. Roedd yn rhan o ddogfen y glymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur pan oedd yr Aelod yn gynghorydd arbennig yn ystod y weinyddiaeth honno. Ni welsom ni lawer o gynnydd, ond rwy’n barod i roi cynnig arall arni.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi codi pwynt y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ynglŷn ag arweinyddiaeth, ac rwy’n cytuno â hi bod arweinyddiaeth yn faes y mae angen ei ddatblygu’n sylweddol, a hynny ar frys. Fodd bynnag, nid yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi crybwyll yn ei datganiad yr argymhellion eraill a wnaed gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sy'n galw am sylw polisi pellach mewn meysydd, gan gynnwys: symud tuag at fformiwla ariannu ysgolion ar sail anghenion; datblygu fframwaith asesu a gwerthuso newydd ar gyfer athrawon; a dull cenedlaethol o nodi a dathlu arferion da mewn ysgolion. Rwy’n cydnabod bod diwygiadau i hyfforddiant athrawon, datblygiad proffesiynol parhaus a'r cwricwlwm ar y gweill ar hyn o bryd, ond byddwn i’n ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro pa argymhellion eraill gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fydd yn cael eu gweithredu. Rwy’n mawr obeithio y bydd cynigion a diwygiadau Ysgrifennydd y Cabinet yn cael yr effaith a ddymunir, ond, yn amlwg, bydd lefelau cyrhaeddiad disgyblion sy’n cael eu haddysgu o dan y system ddiwygiedig yn brawf o hynny. Diolch.

A gaf i ddiolch i Michelle am ei chwestiynau? Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, derbyniais yr adroddiad hwn ddydd Gwener, ac mae wedi bod ar gael i lefarwyr y gwrthbleidiau ers ddoe, ac i Aelodau'r Cynulliad y bore yma. Bydd angen amser arnaf i fyfyrio ar yr argymhellion cyn cyhoeddi ymatebion manwl. Ond, fel yr wyf wedi dweud mewn atebion i gwestiynau blaenorol, rwy’n cytuno â llawer o'r dadansoddiad ar arweinyddiaeth—mae angen i ni wneud mwy, ac mae angen inni wneud hynny’n gyflymach.

Mae Michelle wedi codi pwynt nad yw neb arall wedi’i grybwyll, ac mae'n rhywbeth y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi siarad llawer amdano gyda mi, sef arferion da, a dathlu arferion da. Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—unwaith eto, dywedodd Andreas Schleicher wrthyf y bore yma: fod Cymru yn arbennig o wael am ddathlu pan fydd pethau'n llwyddo. Efallai ei bod yn un o’n nodweddion cenedlaethol. Rydym ni’n arbennig o dda am ddweud pan fydd pethau'n mynd o chwith, ond rydym ni’n wael iawn, iawn am ymfalchïo mewn llwyddiant a dathlu’r llwyddiant hwnnw. Mae'n debyg bod llawer ohonom wedi ein magu, fel y cefais i, gyda fy nhad yn dweud ‘nid yw hunanganmoliaeth yn unrhyw argymhelliad, Kirsty’. Felly, rwy'n credu efallai ei bod yn nodwedd genedlaethol, ond rydym ni’n gobeithio newid hynny.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, byddwn ni’n cynnal gwobrau rhagoriaeth addysgu sy'n benodol i Gymru, i ddathlu'r rheini sydd wedi gwneud yn hynod o dda. Bydd Estyn, am y tro cyntaf eleni, yn cynnal digwyddiad ar gyfer pob un o'r ysgolion hynny y barnwyd eu bod yn rhagorol yn yr adolygiad blynyddol diwethaf o’r drefn arolygu. Ac rydym ni’n datblygu ffyrdd newydd y gallwn ledaenu'r arfer da hwnnw. Un o'r pethau yr wyf i wedi dechrau yn fy nghyfarfodydd gydag Estyn yw fy mod i’n dymuno gweld adroddiad bob tro ar yr elfennau sydd wedi arwain at yr arolygiadau ‘rhagorol’ hyn, a sut yr ydym ni’n lledaenu’r arferion da hynny—rhywbeth nad yw wedi cael ei wneud o'r blaen.

Mae llawer i'w ddathlu, ond mae llawer mwy o waith i'w wneud. Ond dylem ni gydnabod pan fo pethau'n llwyddo—dylem ni gydnabod hynny.

5. 5. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau Lleol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar ddyfodol gwasanaethau bws lleol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:38:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Ar 18 Hydref y llynedd, deuthum i'r Siambr hon a gwneud datganiad am ddyfodol y gwasanaethau bws lleol yng Nghymru. Cafodd y datganiad ei wneud yn sgil rhai methiannau busnes arwyddocaol â phroffil uchel yn y sector bysiau yng Nghymru a oedd wedi cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau bws lleol a ddarperir yng Nghymru a Lloegr. Mewn ymateb i'r methiannau hyn, cyhoeddais gynllun pum pwynt i gefnogi'r sector bysiau yn y tymor byr. Roedd hyn yn cynnwys cymorth gan Fusnes Cymru a Chyllid Cymru, penodi cydgysylltwyr trafnidiaeth ychwanegol yn y gogledd a’r de, ynghyd â rhaglen o gyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant bysiau—yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus—i drafod rhai o'r bygythiadau a chyfleoedd sy'n wynebu'r sector bysiau yng Nghymru. Rydym yn gwneud cynnydd o ran cyflawni’r cynllun gweithredu hwn.

Rwy’n disgwyl i’r cydgysylltwyr trafnidiaeth gael eu penodi’n fuan iawn. Rwyf hefyd yn parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, eu cwmnïau bysiau, a’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr. Yn rhan o'r cynllun pum pwynt, rwyf hefyd wedi addo cynnal uwchgynhadledd bysiau—y gyntaf i’w chynnal yng Nghymru. Rwy’n falch o allu adrodd fod yr uwchgynhadledd wedi’i chynnal fis diwethaf yn Wrecsam. Cymeradwyaf yr agwedd agored, onest a chadarnhaol a fabwysiadwyd ar y cyd gan y cynrychiolwyr a ddaeth i’r uwchgynhadledd. Credaf ein bod wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran fframio’r bygythiadau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r diwydiant bysiau ar draws Cymru ac i ddatblygu rhaglen o weithgareddau a fydd yn cefnogi'r diwydiant yn ystod y tymor byr i ganolig.

Drwy raglen o weithdai a fydd yn cael eu cynnal dros y 12 mis nesaf, byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant bysiau, cydweithwyr llywodraeth leol a phartneriaid eraill i ystyried y ffordd orau i ni wella profiad teithwyr mewn arosfannau bysiau trwy ddarparu gwell cyfleusterau a gwybodaeth gyson i deithwyr, datblygu atebion ariannu sy'n cynnig mwy o sefydlogrwydd i'r diwydiant bysiau yng Nghymru, a chyflwyno system drafnidiaeth integredig sy'n darparu gwell hygyrchedd ac atebion tocynnau sy’n addas i'r unfed ganrif ar hugain.

Bydd cyflwyno rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws lleol, ynghyd â datblygu trefniadau tocynnau di-dor, integredig ac amlfoddol yn rhan o fetros y de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain, yn sylfaenol i'n nod o adeiladu cymdeithas gysylltiedig a chynaliadwy. Fel y dywedais yn yr uwchgynhadledd, mae'r buddsoddiad cyhoeddus yn ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol. O'i ystyried ar y cyd â’r arian cyhoeddus a ddarperir i barhau i gynnig teithiau bws yn rhad ac am ddim i bobl hŷn a phobl anabl, gwasanaethau bws ar gontract ar gyfer teithio gan ddysgwyr, teithio gan y gymuned a’r cyllid a ddarperir i gefnogi’r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, mae buddsoddiad y sector cyhoeddus yn ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn oddeutu £0.5 biliwn y flwyddyn. Yn syml, dydw i ddim yn argyhoeddedig ein bod yn cael y gwerth am arian y mae gan drigolion Cymru yr hawl i’w ddisgwyl. Er ein bod yn bwrw ymlaen â'r mesurau tymor byr i ganolig a nodwyd yn fy nghynllun pum pwynt, mae hefyd angen dechrau deialog genedlaethol am y fframwaith tymor hwy ar gyfer darparu gwasanaethau bws lleol ledled Cymru. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o fesurau yr awgrymir y gallant, yn y tymor hwy, ddiwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bws yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Cymru. Un o'r negeseuon clir a ddaeth i'r amlwg o'r uwchgynhadledd bysiau yw bod y fframwaith presennol yn gosod gormod o gyfyngiadau ar weithredwyr bysiau i weithio gyda'i gilydd er budd teithwyr. Mae'r fframwaith presennol hefyd yn gosod gormod o gyfyngiadau ar allu Llywodraeth Cymru a’n hawdurdodau lleol i gynllunio ac ariannu gwelliannau i wasanaethau bws lleol a sicrhau eu bod yn gallu integreiddio’n llwyr â gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill.

Mae angen i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael yr offer i gynllunio a threfnu gwasanaethau yn eu hardaloedd a bod awdurdodau lleol yn arfer y swyddogaethau hyn gyda thryloywder ac atebolrwydd i bobl sy'n byw yn eu hardaloedd. Mae angen i ni sicrhau bod nodweddion gorau y sector preifat yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod y cyfrifoldeb cymdeithasol yr ydym i gyd yn ei rannu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd yn cael ei ddiogelu. Mae hyn yn golygu cael y cydbwysedd cywir rhwng ein dyletswydd i beidio â rhwystro’r buddion y gall cystadleuaeth effeithiol a theg eu darparu i wasanaethau bws lleol, a bodloni anghenion teithwyr a sicrhau gwerth am arian i bwrs y wlad.

Yn fy marn i, nid yw hynny'n golygu cystadleuaeth ffyrnig ar y stryd ac yn yr arhosfan bysiau sy'n niweidio buddiannau teithwyr, ond cystadleuaeth effeithiol sy'n gwthio safonau ansawdd at i fyny ac yn darparu elw teg i weithredwyr bysiau. Rwyf wedi nodi a chydnabod y buddsoddiad sylweddol sydd wedi ei wneud yn ein gwasanaethau bws lleol gan gwmnïau bysiau sy'n gweithredu yng Nghymru. Bu buddsoddiad sylweddol mewn llwybrau a weithredir i gymunedau yn y Cymoedd. Bydd y gwasanaethau bws newydd hyn yn annog pobl i beidio â defnyddio eu ceir drwy gynnig lefelau o wasanaeth ac ansawdd na fyddai, hyd at ychydig o flynyddoedd yn ôl, llawer o bobl yng Nghymru wedi’u disgwyl. Mae angen i bobl nad ydynt yn gyfarwydd â’r gwasanaethau bws lleol yn yr ardaloedd hynny edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig erbyn hyn.

Ond nid yw’r lefel hon o ansawdd, prydlondeb a dibynadwyedd ar gael i bawb. Mae heriau sylweddol yn parhau. Felly, yn rhan o'r ddeialog genedlaethol ar y ffordd ymlaen, bydd yr ymgynghoriad yn nodi rhai cynigion awgrymedig yr wyf yn credu y gallent wneud gwelliannau sylweddol i wasanaethau bysiau yng Nghymru. Gadewch imi fod yn glir: mae’r ymgynghoriad hwn yn sail i’r drafodaeth a’r ddeialog genedlaethol barhaus yr wyf yn dymuno’i chael gyda gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol a theithwyr am y ffordd y gallwn ddarparu gwasanaethau bws lleol yn y tymor hwy. Gadewch imi fod yn glir hefyd ynghylch nod y gwaith hwn a'r amcanion yr wyf yn ceisio eu cyflawni. Yn gyntaf, rwy’n dymuno cynyddu nifer y bobl o bob oed sy'n defnyddio bysiau ar gyfer eu taith ddyddiol i'r gwaith, ar gyfer addysg, mynediad at wasanaethau iechyd ac ar gyfer gweithgareddau hamdden. Yn ail, rwy’n dymuno gwella faint o wasanaethau bysiau lleol o ansawdd da a hygyrch sydd ar gael i deithwyr ledled Cymru. Yn drydydd, rwy’n dymuno sefydlu rhwydwaith bysiau cenedlaethol a lleol sydd wedi’i integreiddio'n llawn â dulliau a gwasanaethau teithio eraill a ddarperir ledled Cymru. Yn bedwerydd, rwy’n dymuno gweld rhwydwaith bysiau mwy cynaliadwy ar gyfer y tymor hwy. Ac yn olaf, rwy’n dymuno cyflwyno bargen deg i deithwyr, staff, gweithredwyr bysiau a'r sector cyhoeddus—rhwydwaith bysiau sy’n ariannol hyfyw ac yn gynaliadwy, sy’n rhoi gwerth am arian ac sy’n diogelu nodweddion gorau'r sector bysiau masnachol.

Rwy’n dymuno sicrhau bod ein gwasanaethau bysiau, yn rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu lles cenedlaethau'r dyfodol. Rydym i gyd yn cydnabod bod ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol i fynd i'r afael â pharthau ansawdd aer gwael, cefnogi economi gynaliadwy a ffyniannus a chyfrannu at ein huchelgais o wella symudedd allyriadau isel yn rhan o'n hymdrechion i gyflawni datgarboneiddio. Rwy’n dymuno gweld effeithiau mwyaf niweidiol y newidiadau a wnaed i'n gwasanaethau bysiau lleol fwy na deg mlynedd ar hugain yn ôl yn cael eu gwrthdroi—newid a wnaeth dim ond tanseilio, bygwth ac ansefydlogi gwasanaethau bws lleol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, ar y sail honno, rwy’n annog gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol, teithwyr a phobl Cymru i ymuno â’r drafodaeth genedlaethol hon ynghylch sut y gallwn sicrhau bod pobl Cymru yn gallu parhau i symud ymhell i'r dyfodol.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Dylwn hefyd ddweud fy mod wedi cael llawer o adborth cadarnhaol am yr uwchgynhadledd bysiau hefyd, a gynhaliwyd fis diwethaf. Rwy’n ddiolchgar hefyd bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi estyn y gwahoddiad i Aelodau'r Cynulliad i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw hefyd.

Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, bod sefydlogrwydd hirdymor a pharhad y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn gwbl hanfodol i helpu'r diwydiant i gynllunio ymlaen llaw o ran darparu gwasanaethau a sicrhau buddsoddiad parhaus. Cyfeiriasoch at yr angen i ddatblygu atebion ariannu sy'n cynnig mwy o sefydlogrwydd i'r diwydiant bysiau. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu pa un a fydd rhinweddau cyflwyno cytundeb ariannu aml-flwyddyn yn cael eu hystyried i ddarparu, wrth gwrs, y sicrwydd i weithredwyr i gynllunio a buddsoddi yn eu gwasanaethau, yn hytrach nag ariannu ar sail blwyddyn i flwyddyn.

Gwnaethoch sôn hefyd yn eich datganiad, dim ond er eglurder, bod buddsoddiad y sector cyhoeddus yn ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn oddeutu £0.5 biliwn y flwyddyn. A gaf i ofyn, am mai datganiad ar fysiau yw hwn: a yw hynny i gyd ar gyfer bysiau? A gaf i wirio hynny hefyd? Hefyd, a gaf i ofyn: sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r mater parhaus o daliadau hwyr gan Lywodraeth Cymru i weithredwyr bysiau, sy'n achosi problemau yn benodol i weithredwyr llai ac annibynnol? Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno nad yw hyn yn dderbyniol a bod yn rhaid rhoi sylw iddo.

Yn eich datganiad, rydych hefyd yn cydnabod y bu, yn hanesyddol, diffyg integreiddio rhwng gwasanaethau bysiau a gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am hynny. Rwyf wedi cael cryn dipyn o waith achos ar yr union fater hwnnw o ran y diffyg integreiddio rhwng amserlenni bysiau a threnau, sydd wedi bod yn broblem, rwy’n meddwl, sydd angen gwella rhywfaint arni. Felly, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth bellach am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddarparu system drafnidiaeth fwy integredig yn hynny o beth.

Cynigiwyd yn flaenorol y gellid cyflwyno rhyddfreinio. Nawr, nid yw’r awgrym hwn yn eich datganiad, felly a allwch chi gadarnhau a yw hyn yn cael ei ystyried yn rhan o'r ymgynghoriad, ac a wnewch chi amlinellu pa sylwadau yr ydych chi wedi’u cael hyd yma gan y diwydiant mewn ymateb i'r awgrym hwn?

O ran gwella profiad teithwyr, mae'n amlwg bod y gwasanaethau bws rheolaidd sydd ar gael a pha mor aml y maen nhw’n rhedeg yn fater pwysig mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru. Mae bod â gwasanaethau bws afreolaidd yn gweithredu yn amlwg yn annog trigolion lleol i beidio â defnyddio gwasanaethau bws yn rheolaidd. Felly, a gaf i ofyn pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd i ddarparu gwasanaeth bws amlach a mwy dibynadwy y gall trigolion ymddiried ynddo?

Gwnaethoch hefyd ddweud yn eich datganiad mai eich nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau ar gyfer eu hanghenion cludiant bob dydd, ond mae canfyddiad diwylliannol o hyd nad yw bysiau yn fath o gludiant sy’n ymarferol i bawb. Nid wyf yn siŵr a ydych chi’n cytuno â hynny ai peidio, ond dyna fy safbwynt i. Ac mae hyn yn cael ei ddangos gan y ffaith nad ydych ond wedi llwyddo i ddenu 10 y cant o bobl ifanc sy'n gymwys i wneud cais am gynllun ‘fyngherdynteithio’ Llywodraeth Cymru. Felly, gofynnaf pa fesurau penodol y byddwch chi’n eu cymryd i annog mwy o bobl i newid o fathau eraill o gludiant i fysiau drwy fesurau megis tocynnau craff. A gaf i hefyd ofyn i chi ymrwymo i hysbysebu cynllun ‘fyngherdynteithio’ yn briodol i bobl ifanc yng Nghymru? Rydych chi’n cyfeirio at swyddogaeth y gweithredwyr bysiau yn y de-ddwyrain a systemau trafnidiaeth metro’r gogledd-ddwyrain; a fydd y prosiectau metro yn ceisio ymgorffori neu ddisodli'r busnesau bysiau bach sy’n weithredol ar hyn o bryd pan gânt eu rhoi ar waith?

Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd heddiw y bydd ffurfio unrhyw gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn digwydd o ganlyniad i ddeialog adeiladol a chadarnhaol gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant, gweithredwyr ac awdurdodau lleol?

Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a’i gydnabyddiaeth hael iawn o lwyddiant yr uwchgynhadledd bysiau. Roeddwn yn falch iawn o allu gwahodd aelodau o'r Siambr hon i ddod yno, ac rwy’n cydnabod y diddordeb mawr sydd gan Aelodau'r Cynulliad mewn darparu gwasanaethau bws lleol. Yn wir, credaf fod oddeutu naw o siaradwyr yn natganiad y prynhawn yma, a ddylai fy mhrysuro i ateb cwestiynau'r Aelodau’n gyflym iawn.

O ran cyllid, dim ond i egluro, mae'r £0.5 biliwn ar gyfer y gwasanaethau rheilffordd a bws yn eu cyfanrwydd yn ogystal â thrafnidiaeth gymunedol. Hefyd, rwy’n credu y byddai, ac y gallai, cyllid aml-flwyddyn fod yn gynnig deniadol pe byddai modd i ni gael cyllid aml-flwyddyn i allu trosglwyddo buddion darpariaeth ariannu fwy cynaliadwy ymlaen wedyn.

Nid bai Llywodraeth Cymru yw’r taliadau hwyr. Mae'r grant cynnal gwasanaethau bws yn cael ei sianelu drwy awdurdodau lleol, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn annog awdurdodau lleol i’w hwyluso’n gyflym, yn ddi-oed ac yn effeithlon.

Mae integreiddio yn fater allweddol sydd wedi cael ei godi yn rheolaidd yn fy nhrafodaethau â'r diwydiant a theithwyr. Mae'n rhywbeth y byddwn yn gallu mynd i'r afael ag ef yn fwy llawn drwy'r pwerau sydd ar gael i ni drwy Ddeddf Cymru. Er mwyn darparu’r system gwbl integredig gyda thocynnau integredig a thocynnau amlfodd, efallai y bydd angen deddfwriaeth newydd, ond mae'r Llywodraeth hon eisoes wedi datgan ei bod yn fodlon cyflwyno deddfwriaeth yn ôl yr angen yn hyn o beth.

Cododd yr Aelod gwestiwn hefyd am ryddfreinio. Efallai y caf amlinellu rhywfaint o gynnwys y papur ymgynghori a fydd yn cael ei lansio yr wythnos nesaf: nid yw’r cynigion yn y papur yn derfynol, mae hynny'n glir, ond maent yn sail i drafodaeth, a byddant yn cynnwys ystyriaethau megis cyflwyno rhyddfreinio yn ogystal â'r gallu i awdurdodau lleol weithredu cwmnïau trefol a gosod safonau ansawdd statudol, a gofynion ar gyfer cynllunio a chydlynu gwasanaethau i gael gwasanaeth gwell, mwy integredig, o ansawdd uwch gyda chyfundrefn brisiau well y gall yr holl deithwyr ei deall yn hawdd a manteisio arni.

Rwy’n credu, fel y dywedodd yr Aelod, bod problem â’r syniad o deithio ar fysiau. O ran cynllun ‘fyngherdynteithio’, mae'r nifer sydd wedi manteisio arno yn siomedig. Roeddem wedi gobeithio y byddai mwy o bobl ifanc yn defnyddio'r cynnig arbennig hwn, ond mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr bellach wedi derbyn fy nghais i gyflwyno strategaeth farchnata newydd. Ar ôl siarad â grwpiau cynrychiadol sy'n gallu manteisio ar ‘fyngherdynteithio’, roedd yn amlwg nad oedd ymdrechion marchnata'r cynllun yn ystod y cyfnod prawf yn arbennig o effeithiol o ran cyrraedd y bobl ifanc hynny sy'n ymdrechu i fod yn berchen ar gar. Nawr, un o'r pwyntiau pwysig a ddaeth o'r gwerthusiad o'r cynllun—oedd y canfyddiad oedd nad oedd pobl ifanc yn credu y byddai gostyngiad pellach mewn prisiau yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n prynu’r tocyn. Mae angen i mi roi prawf pellach ar yr honiad hwn, oherwydd rwy’n dal i gredu, o ganlyniad i'r cynllun teithio rhatach i bobl hŷn a phobl anabl, ein bod wedi gweld nifer gymharol dda o bobl yn defnyddio gwasanaethau bws lleol. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi gweld gostyngiad yn y ffigwr hwnnw, yn rhannol o ganlyniad i weithgareddau twyllodrus sydd wedi cael eu darganfod ac sydd wedi arwain at erlyniadau. Ond rwy’n awyddus i weld mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau bws yn fwy rheolaidd. Gyda'r cynllun newydd ar gyfer tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc, rydym yn agored i'r syniad o edrych ar fargen ehangach a gwell i bobl ifanc, a allai gynnwys cyfundrefn o brisiau is.

Y cymhellion a gododd yr Aelod i annog gweithredwyr bysiau i ddarparu tocynnau amlfodd— eto, gallai hyn ddod o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth y gallem ei chyflwyno yn sgil Deddf Cymru. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn awyddus i’w gyflawni yn ystod tymor presennol y Cynulliad.

O ran y metro, gofynnodd yr Aelod gwestiwn pwysig iawn ynghylch sut y gallai datblygu metros yn y gogledd-ddwyrain a’r de-ddwyrain gynnwys nid yn unig y cwmnïau bysiau mawr ond rhai llai hefyd. Un o'r prif heriau sydd wedi wynebu'r diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf fu diffyg arbenigedd mewn rhai busnesau teuluol sefydledig, ond bach. Am y rheswm hwnnw, fe wnaethom ddefnyddio Busnes Cymru i allu rhoi cyngor i'r cwmnïau hynny, gyda golwg ar eu cryfhau er mwyn datblygu gwell system o drafnidiaeth gyhoeddus integredig. Felly, ein gweledigaeth yw gweld y cwmnïau llai hynny yn chwarae rhan hollbwysig ochr yn ochr â’r cwmnïau mwy, nid yn unig yn yr ardaloedd metro, ond rhyngddynt hefyd, yn y canolbarth a’r gorllewin.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod faint o siaradwyr sydd gennyf ar gyfer datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ond fe awn ni ar ôl hynny yn rhywle arall. [Chwerthin.] Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fe fyddai’n well imi wneud yn fawr o’m nghyfle, felly. A allaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar ddyfodol gwasanaethau bysiau, a hefyd croesawu ei weledigaeth ef bod yna ddyfodol i wasanaethau bysys, ar hyd y llinellau y mae o’n awgrymu? Achos, wrth gwrs, yn naturiol, gwasanaethau bysiau lleol ydy sylfaen ein system drafnidiaeth gyhoeddus ni, o gofio amddifadedd parthau eang o Gymru o unrhyw reilffordd o gwbl. Mae trwch ein poblogaeth ni yn gyfan gwbl ddibynnol ar wasanaeth bws lleol, sy’n eu galluogi nhw i fynd allan pan nad ydyn nhw’n gallu gyrru. Yr unig gysylltiad, yn aml, i gyrraedd ysbyty neu ganolfan iechyd neu i fynd i siopa ydy’r bws lleol.

Felly, mae’r gwasanaeth lleol yna yn hanfodol bwysig, achos bob dydd mae yna ryw 63,000 o bobl yn dibynnu’n gyfan gwbl ar fysiau i deithio i’r gwaith ac mae rhyw 350,000 o deithiau yn cael eu gwneud bob dydd er mwyn cyrraedd apwyntiadau ysbyty, gweld ffrindiau, siopa neu wneud unrhyw weithgaredd hamdden. Felly, rwy’n croesawu bod yr Ysgrifennydd yn dyfalbarhau gyda’i waith i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau ar draws Cymru. Ac, wrth gwrs, hefyd, rwy’n gefnogol iawn i’r pum nod sydd ar ddiwedd y datganiad, ac edrychwn ymlaen at ganlyniadau’r ymgynghoriad.

Wrth gwrs, flynyddoedd mawr yn ôl nawr, gwasanaeth cyhoeddus oedd y bysys. Wrth gwrs, roedd yn sugno lot o arian ar y pryd ond o leiaf roedd yn wasanaeth, er nad yn berffaith, roedd pobl yn gallu dibynnu arno. Roedd yna fws yn troi lan yn yr un lle, rhywle yn agos i’r amser yr oeddech chi’n disgwyl iddo fe droi lan. Fel roeddwn i’n ei ddweud, nid oedd y gwasanaeth yna’n berffaith, er yn wasanaeth cyhoeddus, ac, wrth gwrs, yn y 1980au, fe benderfynwyd preifateiddio—neu’r gair ydy dadreoleiddio—gyda’r syniad o wella’r gwasanaeth ac i arbed arian. Wel, buaswn i’n fodlon trafod efo unrhyw un—nid ydym wedi gweld gwella yn y gwasanaeth, os ydych yn edrych ar draws y bwrdd, ac yn bendant nid ydym wedi cael arbed arian chwaith. Fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn crybwyll yn ei ddatganiad, mae’r gwasanaethau hyn yn costio rhai miliynau o bunnau o arian cyhoeddus bob blwyddyn. Felly, nid ydy dadreoleiddio wedi cyflawni beth oedd y weledigaeth nôl yn yr 1980au, o bell ffordd. Beth sydd gyda ni yn nhermau bysys ydy gwasanaeth rhanedig sy’n ffaelu yn lleol yn aml, o ran cwmnïau bysys yn mynd i’r wal, fel rydym ni wedi gweld yn ddiweddar, ac nid yw pobl yn gallu dibynnu ar y bws yn troi lan ar yr amser y mae e i fod i droi lan. Mae hynny’n un o’r cwynion amlaf rydw i’n eu cael. Mae pobl yn pendroni pam nad ydy pobl yn defnyddio’r bws lleol, wel, y peth ydy, fedrwch chi ddim dibynnu arnyn nhw. Rydw i’n ceisio dal y bws pan rydw i’n gallu, ond os yw hi’n gyfan gwbl angenrheidiol bod yn rhaid i chi droi lan i apwyntiad ar ryw amser penodol, fedrwch chi ddim dibynnu ar y bws, ac mae pobl yn tueddu i wneud unrhyw drefniant arall i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cyrraedd yn y fan a’r fan erbyn yr amser maen nhw i fod i droi lan, achos fedrwch chi ddim dibynnu ar y bws.

Ac, wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes, mae gwasanaeth rhanedig y bysys sydd gyda ni ar hyn o bryd yn sugno mwy o arian cyhoeddus nag erioed o’r blaen. Nid yw’r weledigaeth yna nôl yn yr 1980au o arbed arian a gwella gwasanaethau wedi cael ei gwireddu chwaith. Felly, rydw i’n cefnogi’n gryf weledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei fwriad y mae wedi’i olrhain yn y datganiad cynhwysfawr yma y prynhawn yma. Mae’r cwestiynau—y rhan fwyaf ohonyn nhw—roeddwn i eisiau eu gofyn wedi cael eu gofyn eisoes, ond mae’n gadael un. Jest y pwynt olaf: a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ystyried y ffordd orau o wario’r £15 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol yn dilyn datganiad yr hydref? A oes modd defnyddio peth, os nad yr holl gronfa yna, er mwyn helpu gwasanaethau bysiau lleol? Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad ac, unwaith eto, hoffwn ddiolch iddo am ei gefnogaeth i’n hymdrechion i ddatblygu rhwydwaith bysiau gwell, mwy integredig, a mwy ymatebol ledled Cymru. Rwy'n credu mai thema gyffredin sy'n dod i'r amlwg ar draws y Siambr yw'r gred nad oedd dadreoleiddio yng nghanol y 1980au yn ddim ond trychineb i’r gwasanaethau bws lleol. Ac er nad Llywodraeth Cymru oedd achos—ac ni fu erioed yn achos—y broblem y mae’r rhwydwaith gwasanaethau bysiau wedi’i phrofi, gallwn yn sicr fod yr iachâd, a dyna yn union yw ein nod, trwy ymyraethau deddfwriaethol newydd posibl, a hefyd trwy brosiectau tymor byrrach a chanolig yr wyf eisoes wedi’u hamlinellu.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i gysylltu'r frwydr yn erbyn amddifadedd a thlodi â’r ffaith fod gwasanaethau bws dibynadwy a phrydlon ar gael. Rydym yn gwybod mai un o'r prif rwystrau i gyflogaeth yw nad oes gwasanaeth bws neu reilffordd rheolaidd ar gael, neu nad oes rhwydweithiau teithio gweithredol i allu mynd i’r gwaith. Ond hefyd, mae diffyg gwasanaeth bws rheolaidd, prydlon, a dibynadwy yn llesteirio gallu unigolyn i gael gafael ar wasanaethau yn ogystal â chyfleoedd hamdden. Felly, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y rhwydwaith gwasanaeth bysiau ledled Cymru. Mae'n ffaith bod mwy na 100 miliwn o deithiau yn cael eu gwneud ar fysiau ar hyn o bryd, o’i gymharu â llai na 30 miliwn o deithiau ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae'n faes enfawr o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus sydd angen sylw a bydd yn cael y sylw hwnnw trwy ddeddfwriaeth a dulliau eraill, er mwyn dymchwel y rhwystrau hynny i gyflogaeth a chysylltedd, ynghyd â sbarduno gwasanaeth mwy prydlon a dibynadwy.

Rwyf yn myfyrio ar yr hyn a ddywedodd Russell George; rwy'n credu mai un o'r problemau â’r canfyddiad o’r rhwydwaith bysiau yw’r un sy'n ymwneud â phrydlondeb ac a fyddwch chi mewn gwirionedd yn gallu cyrraedd y gwaith, neu’n gallu mynd i'r feddygfa, neu’r ysbyty, neu i ddigwyddiad teuluol mewn da bryd. Mae’n rhaid mynd i'r afael â hyn, nid yn unig drwy fuddsoddi yn y bysiau eu hunain—gwneud yn siŵr nad ydynt yn torri i lawr—ond hefyd trwy ymyraethau fel lonydd bysiau pwrpasol a gwell cynllunio o fewn yr amgylchedd trefol.

Un o'r pum pwynt yn y cynllun pum pwynt a gyhoeddwyd yn yr hydref oedd ymdrech o'r newydd ar lefel awdurdod lleol, gyda'n cymorth ni, i nodi gwasanaethau bws dan fygythiad sy'n gweithredu, a chymryd camau cynnar, naill ai i wella'r sefyllfa i gefnogi'r gweithredwr bysiau neu i ddod o hyd i weithredwr arall, os credir nad oes modd atal dirywiad gwasanaeth y gweithredwr cyfredol. Daeth hynny yn sgil methiant GHA Coaches. Mae llawer o wersi wedi eu dysgu, nid yn unig yn y gogledd-ddwyrain, lle’r oedd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei gynnig, ond ledled Cymru gyfan.

Rwy’n teimlo y gellid defnyddio’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i'r gronfa drafnidiaeth leol mewn amrywiaeth o ffyrdd—mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn ystyried ei ddefnyddio i gryfhau'r rhwydwaith bysiau, ond fe ddylai hefyd, yn fy marn i, gael ei ddefnyddio i ganfod mannau diffygiol yn y seilwaith sy'n atal gwasanaeth bws rhag gweithredu mewn modd prydlon.

Yn anad dim, gan ystyried y cyfraniad gan Dai Lloyd eto, rwy’n credu ei fod yn hollbwysig bod ymdrechion y Llywodraeth hon i sicrhau bod buddiannau teithwyr a gwasanaeth dibynadwy prydlon yn flaenoriaeth bendant o’i gymharu â’r elw. Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ers dadreoleiddio, rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud bod y cymhelliad elw sydd wedi sbarduno’r rhwydwaith bysiau a gweithredwyr ledled Cymru wedi siomi buddiannau’r teithiwr —mae’n rhaid edrych ar hynny a byddwn yn edrych ar hynny. Os caf i ddweud, Lywydd, y rheswm fy mod yn gwybod bod nifer dda o siaradwyr yw oherwydd fy mod wedi cael gwybod ganddynt, yn garedig, bod ganddynt ddiddordeb brwd iawn yn y maes hwn.

Chewch chi ddim osgoi pethau mor hawdd â hynny. David Rowlands.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni i gyd yn croesawu eich datganiad y prynhawn yma, ond oni fyddech chi’n cytuno bod y strategaeth gyfan o ddarparu gwasanaethau bysiau angen ymagwedd newydd ac, efallai, radical? Onid yw gweld bysiau â lle i 50 a mwy o deithwyr yn aml yn rhedeg yn wag ac yn aml iawn ar yr un pryd ddim yn ymddangos yn economaidd neu'n amgylcheddol dderbyniol. Rydym yn gweld cynnydd mewn bysiau cymunedol, sy'n darparu gwasanaeth ardderchog lle y mae ar gael, ac sy'n ymddangos fel petai’n llawer mwy cost-effeithiol gan eu bod yn aml yn defnyddio bysiau llai gydag amcanion wedi’u targedu. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y byddai'n ehangu’r mathau hyn o weithrediadau? A yw hi'n amser i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio bysiau llai ar lawer mwy o lwybrau yng Nghymru, hyd yn oed ar y cyd â gweithrediadau tacsi ar alwad? Byddai'r gweithrediadau tacsi hyn yn llawer mwy derbyniol ac ar gael i bobl ag anableddau, ac yn y blaen. Gallai'r cerbydau hyn fod yn defnyddio dewisiadau injan glanach mewn gwirionedd, a hyd yn oed cynnig y posibilrwydd o fysiau trydan ar deithiau mwy lleol. Byddai hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu'r bysiau â lle i 50 a mwy a’u gweithrediadau sy’n llyncu tanwydd i wasanaethau pell yn unig. Onid ydych chi’n cytuno bod y rhain yn ddewisiadau y dylech, mewn gwirionedd, fod yn edrych arnyn nhw?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Byddwn yn cytuno bod angen rhyw fath o chwyldro yn hytrach nag esblygiad yn y ffordd y mae gwasanaethau bws yn cael eu darparu yng Nghymru, nawr bod y pwerau ar gael i ni wneud y newidiadau sylweddol sy’n angenrheidiol i sicrhau bod gweithredwyr bysiau yn bodloni disgwyliadau teithwyr. Am y rheswm hwnnw, bydd yr ymgynghoriad a fydd yn cael ei lansio yr wythnos nesaf yn cynnig cyfleoedd i’r diwydiant, i Aelodau, i’r cyhoedd ac i deithwyr gael darparu syniadau a barn ar sut y gallwn ail-lunio'r gwasanaethau bysiau y mae pobl yn eu gwerthfawrogi cymaint, mewn ffordd radical.

Rwy’n credu bod trafnidiaeth gymunedol yn elfen hanfodol o'r gymysgedd sydd gennym ledled Cymru. Yn wir, dangosir hyn gan y cynnydd sylweddol yn nifer y teithiau a wnaed gan deithwyr ar gludiant cymunedol, o’i gymharu â'r gostyngiad cyson yn nifer y teithiau a wnaed ar lwybrau bysiau masnachol. Rwy’n credu'n gryf y dylid ehangu cludiant cymunedol, ac am y rheswm hwnnw ein bod yn sicrhau bod adnoddau ar gael i fentrau cludiant cymunedol drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau. Yn ogystal â hyn, mae cyngor arbenigol ar gael drwy rwydwaith Busnes Cymru.

Mae'n hanfodol bod cerbydau priodol yn cael eu defnyddio ar gyfer pob llwybr ac mae'r Aelod yn gywir fod cerbydau amhriodol, cerbydau sy'n rhy fawr, yn cael eu defnyddio ar lwybrau o bryd i’w gilydd, ac weithiau’n rheolaidd. Dyma un o'r heriau yr ydym wedi ceisio rhoi sylw iddynt drwy sefydlu trefn partneriaeth o ansawdd yn seiliedig ar gytundeb gwirfoddol rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau. Fodd bynnag, o ystyried y gofyniad i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol fuddsoddi mewn perthynas â'r seilwaith maen nhw’n gyfrifol amdano, nid ydym wedi gweld cymaint o bartneriaethau o ansawdd yn cael eu cytuno ag y byddem yn dymuno. Am y rheswm hwnnw, bydd dau gydgysylltwr yn yr ardaloedd metro yn y gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain yn cael y dasg yn bennaf, yn y lle cyntaf, o sefydlu partneriaethau ansawdd i sicrhau bod y seilwaith sydd ar gael i deithwyr, o ran gwybodaeth briodol, weithredol, o ran arosfannau bysiau o ansawdd gweddus, glân, a diogel, yn cael ei gyflwyno’n fwy rheolaidd, ac fel bod gweithredwyr bysiau eu hunain yn darparu cerbydau o faint mwy priodol.

Croesawaf ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet a chefais innau hefyd adborth da iawn gan bobl a ddaeth i'r uwchgynhadledd fysiau. Rwy’n croesawu yn fawr ei gefnogaeth i fysiau gan fy mod yn credu bod bysiau yn gwbl allweddol. Yn sicr yn fy etholaeth i yng ngogledd Caerdydd ceir canfyddiad cadarnhaol iawn o fysiau. Rwy'n credu fy mod i mewn gwirionedd yn eu gweld yn gwbl hanfodol i redeg trafnidiaeth yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bwysig iawn pan fo datblygiadau newydd, megis y datblygiadau tai mawr a fydd yn digwydd yng Nghaerdydd, bod gwasanaethau bws yn cael eu cynnwys yn y datblygiadau newydd hynny o'r cychwyn cyntaf, fel bod y gwasanaethau bysiau yn rhan annatod o'r gymuned?

Roeddwn i’n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn yn gynharach am y pwerau newydd a fydd yn dod i ni o dan Fil Cymru a'r cyfleoedd ychwanegol a fydd ar gael i ni yn hynny o beth. A yw'n credu y bydd wedyn o ddifrif yn bosibl i gwmnïau bysiau weithio ar y cyd â’r cyngor lleol i sicrhau nad ydym yn dyblygu llwybrau ac y gallwn ni fynd i'r afael â rhai o'r problemau a achoswyd gan ddadreoleiddio? Roeddwn i’n falch iawn o’i glywed yn dweud ei fod yn bwriadu cael proses o nodi llwybrau sydd mewn perygl yn gynnar, oherwydd bod rhai o’r llwybrau hynny sydd mewn perygl yn amlwg yn gwbl hanfodol i rai pobl yn ein cymuned.

Rwyf hefyd yn awyddus i ofyn iddo pa gynlluniau sydd ganddo i hyrwyddo gwasanaethau bysiau mwy gwyrdd a chyfeillgar i'r amgylchedd—rwy’n meddwl am wasanaethau bysiau bio-methan a llwybrau bysiau cwbl drydanol di-garbon—ac a yw wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i hynny ac a yw wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad, ‘Any Journey is Greener by Bus’ gan y Bartneriaeth Cerbydau Carbon Isel, a rhai o'r awgrymiadau yn hwnnw i ddenu pobl yn ôl i fysiau pan fo eu niferoedd wedi gostwng—yn arbennig, mae rhai o'r pwyntiau y mae eisoes wedi eu gwneud yn ei ddatganiad heddiw ynglŷn â gwybodaeth amser real, tocynnau integredig, cerbydau glanach a Wi-Fi am ddim yn rhai o'r posibiliadau. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yn anad dim yw’r cyfleustra i deithwyr. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd wedi cael cyfle i edrych ar y materion eraill hynny o ran datblygu’r gwasanaeth bysiau.

A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad? Mae Julie Morgan yn hyrwyddwr gwych dros ddefnyddio bysiau, nid dim ond yng ngogledd Caerdydd, ond ledled Cymru, a gwn fod cynaliadwyedd gwasanaethau bysiau lleol allweddol yn agos iawn at ei chalon. Mae cynllunio gwasanaethau bysiau a rhwydwaith bysiau ym mhob rhan o ardaloedd awdurdodau lleol yn hollbwysig wrth benderfynu ble i adeiladu eiddo masnachol, fel y gall pobl fynd i’r gwaith ar fws, ond ar gyfer anheddau domestig hefyd. Oherwydd hynny, rydym ni wedi gosod disgwyliad ar awdurdodau lleol i gynllunio llwybrau bysiau yn well sydd mewn gwirionedd yn bodloni anghenion teithwyr i gyrraedd y gwaith. Mae eu pwerau, eu hadnoddau, wedi eu cyfyngu ar hyn o bryd, o gofio’r cyni parhaus ac o gofio, hyd yn ddiweddar, y diffyg pwerau, a fydd yn dod ar gael maes o law. Ond mae hefyd yn hanfodol, wrth i ni ddatblygu'r metro yn y de-ddwyrain, ein bod yn cynnwys cynlluniau parcio a theithio a beicio a theithio priodol, ac ardaloedd parcio ac ardaloedd beicio, yn y cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth integredig, fel y gall pobl newid o un dull o deithio i ddull arall gyda chyn lleied o drafferth a chost â phosibl. Ein bwriad ni yw sicrhau bod cwmnïau bysiau, mewn gwirionedd, yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy cydweithredol—os oes angen, trwy ddeddfwriaeth—nid yn unig o safbwynt nodi llwybrau a sicrhau bod amserlenni yn cydweddu, ond hefyd i sicrhau bod trefniadau tocynnau aml-daith, aml-fodd ar waith. Un o'r honiadau a wnaed gan weithredwyr bysiau yn gyson yw’r anhawster o ran cyflwyno system aml-docynnau oherwydd yr her o ddyrannu’r lefel gywir o bris tocynnau i bob gweithredwr. Nid ydym o’r farn bod hyn yn her anorchfygol, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n credu y dylai fod yn ddisgwyliad pan fydd y Llywodraeth wedi datblygu’r gofynion deddfwriaethol newydd a’r ymyraethau angenrheidiol i sicrhau bod y trefniadau tocynnau yn fwy addas i ddisgwyliadau teithwyr.

Mae'r gronfa bysiau gwell yn rhywbeth yr wyf yn dal yn fodlon ei hystyried. Ehangwyd y gronfa bysiau gwyrdd a'r cynllun dilynol sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth y DU—y gronfa allyriadau isel—i Gymru yn dilyn cais gennym ni a thrafodaethau llwyddiannus, ond, yn siomedig, ni fu unrhyw geisiadau o Gymru yn llwyddiannus hyd yn hyn. Rwy'n awyddus i weld ceisiadau llwyddiannus gan weithredwyr o Gymru, oherwydd gwyddom gan weithredwyr fel Stagecoach yn y de-ddwyrain a Bws Caerdydd, trwy fuddsoddi mewn bysiau modern, nid yn unig yr ydych chi’n lleihau allyriadau, ond gallwch hefyd wella prydlondeb ac ansawdd i deithwyr. Ac felly rwy'n agored i'r syniad o gronfa bysiau gwell gydategol, ond un sy'n rhoi ystyriaeth lawn i gyngor y grŵp cynghori ar bolisi bysiau, sydd wedi dweud na ddylid ei gyfyngu i gerbydau allyriadau isel yn unig, ond y gallai hefyd fod ar gael i weithredwyr sy’n dymuno gwella agweddau eraill ar brofiad teithwyr megis, fel yr amlygodd yr Aelod yn gywir, gwasanaeth Wi-Fi. Fy nghred i yw y dylai Wi-Fi yn awr fod ar gael fel mater o drefn ar bob bws. Ni ddylai fod yn eithriad, ni ddylai fod yn rhywbeth moethus, dylai fod yn ddisgwyliad sydd ar gael i bob teithiwr pryd bynnag y bydd yn mynd ar fws.

A gaf i adleisio rhai o sylwadau Julie Morgan? Roeddwn i’n falch, tua diwedd y datganiad, eich bod wedi troi at rai o'r materion cynaliadwyedd a chyfeirio at lesiant cenedlaethau'r dyfodol, yr angen i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, ac i weld trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'r ymdrechion i gyflawni datgarboneiddio. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn gweld hyn yn llawn yn y cynlluniau a fydd wedi eu hystyried yn llwyr yr ydych chi am eu cyflwyno, oherwydd byddwn i’n dweud, os mai dim ond ar sail y datganiad hwn y gallwn farnu, ymddengys mai cyfeiriadau sydd gennym yn hytrach nag ymrwymiadau i sut y bydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gweddnewid yn wirioneddol rai o'n mannau trefol a gwledig a’u gwneud yn fwy dymunol i’w defnyddio mewn ffordd nad yw'n golygu ein bod yn cael ein tagu a’n bygwth gan drafnidiaeth fodurol a gorddibyniaeth ar hynny. Rwyf i’n gweld bysiau cludiant cyhoeddus uchelgeisiol ac effeithiol iawn yn aml yn arwain y ffordd, ond yn amlwg mae rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn hefyd yn hanfodol i'r adfywio economaidd a chymdeithasol yr ydym ni’n dymuno ei weld yn y blynyddoedd i ddod.

Hoffwn ddiolch i David Melding am ei gyfraniad. Ac rwyf innau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau i gynaliadwyedd system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, a hefyd i wella'r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. O ran cenedlaethau'r dyfodol, Bil Cenedlaethau'r Dyfodol —wel, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol—bydd yr ymrwymiadau yn dod i'r amlwg drwy'r ymgynghoriad. Ond rwy'n credu, yn anad dim, bod angen i ni osod dyhead i gynyddu'n sylweddol nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau yn rheolaidd. Trwy gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau, byddwn yn lleihau’r defnydd a wneir o gerbydau preifat ac o ganlyniad i hynny, yn gostwng faint y mae cerbydau preifat yn ei allyrru i'r atmosffer. Rydym ni’n parhau yn ymrwymedig i gyflawni dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a chredaf yn gryf y gall trafnidiaeth gyhoeddus chwarae rhan bwysig a sylweddol wrth ostwng allyriadau ledled Cymru.

A gaf i ychwanegu fy llais innau at y rhai sydd wedi llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar yr uwchgynhadledd fysiau, a oedd, os caf i ddweud, yn dangos llawer iawn o ragwelediad? Ac mae ef wedi mynd y tu hwnt i ragwelediad heddiw i ragfynegi wrth ateb Russell George. Ond, yn ddiweddar, cynhaliais fforwm yng Nghastell-nedd, cyn y Nadolig, i drafod yr economi leol, ac un o'r blaenoriaethau a drafodwyd gan y cyfranogwyr oedd yr angen am system drafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i hintegreiddio yn well, felly rwy’n croesawu nifer o'r sylwadau y mae wedi’u gwneud yn y datganiad hwn heddiw.

Gofynnodd Julie Morgan nifer o'r cwestiynau yr oeddwn i’n bwriadu eu gofyn, ond mae dau gwestiwn ychwanegol yr wyf am eu gofyn i Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf mae’r cwestiwn ynghylch technoleg blaenoriaeth bysiau, o ran goleuadau traffig ac yn y blaen. Pa asesiad y mae ef wedi’i wneud o’r capasiti sydd ar gael i ehangu hynny, sydd, yn fy marn i, yn eithaf canolog i brofiad y teithiwr? Yr ail bwynt yw hwn: o ran integreiddio ac ati, a yw'n rhagweld, efallai yn y tymor hwy, mwy o swyddogaeth i gorff fel Trafnidiaeth Cymru, a allai, yn ogystal ag edrych ar y masnachfreintiau rheilffyrdd, hefyd ystyried efallai rai o'r materion strategol sy'n wynebu'r gwasanaeth bysiau ac, yn arbennig, yng nghyd-destun ceisio cael system drafnidiaeth integredig gan mai dyna’i amcan?

Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am ei gyfraniad ac am ei gwestiwn. Mae'n wir y gallai Trafnidiaeth Cymru reoli system drafnidiaeth gwbl integredig. Mae'n ddigon posibl ei fod wedi bod yn darllen fy meddwl, oherwydd dyna'n union yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ystyried yn ystod y misoedd diwethaf. Diolch hefyd i Jeremy Miles am gynnal yr hyn a oedd yn fy marn i yn fforwm llwyddiannus iawn yng Nghastell-nedd. Mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn i’n gallu bod yn bresennol bryd hynny, ond mae’r adborth a gefais o’r fforwm yn cyd-fynd â'r ymatebion i'r holiadur o’r uwchgynhadledd fysiau, sef bod angen i ni weithio’n agosach nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Y ffaith yw mai honno oedd yr uwchgynhadledd fysiau gyntaf i gael ei chynnal, ond mae angen i weithio'n agosach nag yr ydym wedi ei wneud er mwyn deall beth yw’r heriau cyfunol, beth yw’r heriau i'r ddwy ochr, y gallwn eu goresgyn gyda'n gilydd. Mi fydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, rhai meysydd trafod anodd i rai partïon wrth i ni symud i’r wythnos nesaf gyda rhai o'r cynigion yr ydym yn dymuno eu cyflwyno o ran, fel yr wyf wedi’i ddweud, diwygio’n radical y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn gweithredu. Ond, yn y pen draw, mae angen i ni roi teithwyr yn gyntaf. Byddwn yn gwneud hynny drwy weithio gyda’r sefydliadau hynny sy'n cynrychioli teithwyr a hefyd gyda'r diwydiant a llywodraeth leol. Ond buddiant y teithiwr fydd y flaenoriaeth ar bob cam o'n trafodaethau.

O ran goleuadau traffig, mae hwn yn ddarn diddorol iawn o waith y gellid, yn fy marn i, ei ddatblygu ar ffurf cynllun arbrofol, yn enwedig, mewn un o'r dinas-ranbarthau, yn enwedig wrth i ni edrych i gofleidio dinasoedd clyfar fel ffordd newydd o fyw yn fwy effeithiol ac effeithlon ac o fewn ein modd, o ran adnoddau naturiol a chyllid. Rwyf yn credu y gallai'r defnydd o oleuadau traffig clyfar a lonydd bysiau penodedig fod o werth anhygoel.

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rydw i’n meddwl mai dyma’r datganiad mwyaf cynhwysfawr erioed i mi ei glywed ar wasanaethau bysys mewn unrhyw senedd yn y Deyrnas Unedig: a gawn ni gychwyn yn fanna? Rydw i mor falch ein bod ni’n rhoid y bws yn ganolog i’n trafnidiaeth gyhoeddus, lle y dylai fod. A gaf i hefyd ddiolch iddo am y gwahoddiad i fod yn bresennol, i gymryd rhan, yn yr uwchgynhadledd yn Wrecsam? Rydw i’n gobeithio y bydd ei ddull o o arwain fel Gweinidog yn y maes yma yn parhau i ennyn brwdfrydedd mas fanna yn y gymuned.

Nawr rydw i’n cael y fraint, wrth gwrs, o ddefnyddio bysiau bron yn ddyddiol yn ddinesig ac mewn ardaloedd gwledig. Dau gwestiwn sydyn iddo fo: a ydy’r Gweinidog yn gweld bod yna le o’r newydd i gynlluniau megis goriad gwyrdd Eryri, a arloeswyd, ond nid yn gyfan gwbl lwyddiannus, yn y gorffennol ym mharc Eryri a’r ardaloedd cylchynol, er mwyn lleihau pwysau ymwelwyr yn defnyddio ceir mewn ardaloedd dynodedig parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch eithriadol, ac yn y blaen? Hefyd a ydy o’n gweld bod yna le o hyn ymlaen i ni sicrhau na fyddwn ni byth bellach yn adeiladu gorsafoedd bysiau a gorsafoedd trenau ar wahân, yn enwedig mewn rhai dinasoedd—ni wnaf enwi Abertawe’n arbennig, ond mae yna sawl dinas a thref yng Nghymru lle mae cyfleoedd yn y gorffennol i integreiddio, wedi cael eu colli? Pe byddai’r Gweinidog yn arwain ar hynny, rwy’n credu, byddwn i’n ddiolchgar iawn. Y tro nesaf y byddaf ar y bws, fe fyddaf yn sicr o ganmol y Gweinidog wrth fy nghyd-deithwyr.

Hoffwn ddiolch i Dafydd Elis-Thomas am ei gyfraniad cynnes iawn. Hoffwn i ddweud wrth yr Aelod, ac wrth yr holl Aelodau yn y Siambr hon, wrth i ni symud ymlaen â'n cynigion a gyda'n gwaith, y byddaf i’n sicrhau fy mod i a’m swyddogion ar gael ar gyfer sesiynau briffio i unrhyw Aelodau sy’n dymuno cael gwybod mwy am sut yr ydym ni’n newid y rhwydwaith bysiau ledled Cymru a gwasanaethau bysiau ledled y wlad. Pan nad wyf i’n rhedeg yn Eryri, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod i’n defnyddio’r bws yn hytrach na fy nghar i fynd i'r pwynt uchaf ac wedyn yn cerdded, a byddwn i, o ddifrif, yn annog pob ymwelydd ag Eryri ac â phob parc ac ardal o harddwch naturiol eithriadol i barchu’r amgylchedd naturiol ac i barchu'r ffaith fod y rhain yn lleoedd hynod o brysur i ymwelwyr a thwristiaid, ac y dylem i gyd felly chwarae ein rhan mewn modd cyfrifol wrth ddefnyddio tirweddau gwarchodedig mewn modd cyfrifol a pharchus, ac mae hynny’n golygu mynd ar fws.

Roedd y gwasanaethau a nodwyd gan yr Aelod, yn fy marn i, yn arloesol, maen nhw wedi bod yn ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â thagfeydd yn y parc cenedlaethol. Hoffwn i weld unrhyw fodel arloesol y gall y diwydiant ei ddyfeisio, neu y gall cymunedau ei ddyfeisio, yn cael eu cyflwyno fel ateb posibl i'r tagfeydd ar ein ffyrdd ac yn ein hardaloedd parciau.

O ran yr angen i integreiddio gorsafoedd trên a bws yn llawn, mae'r Aelod yn llygad ei le ein bod yn dal i orfod ymdrin â'r methiant yn y diffyg rhagweld ledled y wlad mewn llawer o rannau o Gymru o ran gorfod ailadeiladu canolfannau, canolfannau integredig. Er enghraifft, nepell o ble rwy’n byw, heb fod ymhell o’m hetholaeth fy hun yn Wrecsam, oherwydd bod gorsafoedd trenau a bysiau mor bell oddi wrth ei gilydd, rydym yn awr yn gorfod edrych ar fuddsoddi mewn canolfan newydd gyfunol. Mae'r diffyg rhagweld yn anffodus, anffodus iawn, ond rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i sicrhau, yn y dyfodol, bod gennym ganolfannau cwbl integredig, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny fel y metros, ond hefyd mewn ardaloedd gwledig lle yr ydym yn gweld llawer o bobl yn defnyddio cludiant cyhoeddus i gael mynediad at waith a gwasanaethau, yn ogystal â llawer o ymwelwyr sy'n defnyddio rheilffyrdd i fynd i gefn gwlad hyfryd Cymru.

Mae methiant rhai gwasanaethau bysiau yn y gogledd-ddwyrain wedi ei gofnodi’n helaeth a chyfeiriwyd ato yma heddiw, ac yn sgil hynny, ac, yn amlwg, y sgyrsiau niferus yr wyf i wedi eu cael ag etholwyr ynghylch bysiau, rwyf yn croesawu'r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliwyd yn Wrecsam a'r camau cadarnhaol, wrth symud ymlaen, sydd wedi dechrau cael eu hamlinellu yma heddiw.

I lawer o fy etholwyr a chymunedau, mae gwasanaethau bysiau yn elfen hollbwysig o drafnidiaeth, ac i raddau helaeth yr unig ddewis arall posibl ac ymarferol i deithio mewn car, yn arbennig pan mai dim ond un orsaf drenau sydd yn yr etholaeth mewn gwirionedd. Felly, nid yn unig y mae angen i’r gwasanaethau bysiau yn ein hardal gysylltu’n well â'i gilydd, ond mae angen i’r amserlenni hefyd gael eu hintegreiddio'n llawn â'r trenau a'r orsaf drenau. Bydd hyn yn allweddol i allu datblygu unrhyw system drafnidiaeth ar ffurf metro yn y rhanbarth, a bysiau fydd y rhan fwyaf o hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi felly gynnig ymrwymiad pellach ac eglurhad ar sut y gallwn sicrhau yn ymarferol wasanaethau integredig sydd wedi’u cysylltu’n well yn y gogledd-ddwyrain, gwasanaethau sy'n gynaliadwy, yn cynnig gwerth am arian, ac yn dileu’r drafferth o orfod cael tocynnau lluosog, i wneud hyn yn realiti mewn gwirionedd i fy etholwyr a’m cymunedau?

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chyfraniad ac am ei chwestiynau a dweud, o ganlyniad i fethiant nifer o weithredwyr bysiau yn y gogledd, ein bod wedi dyfeisio cynllun pum pwynt ac, ers hynny, ein bod wedi gallu, yn fy marn i, nodi yn well lle’r oedd llwybrau mewn perygl a chymryd camau ynghynt. O ganlyniad i hynny, rydym ni wedi gallu cynnal rhwydwaith bysiau yn y rhanbarth hwnnw a ledled Cymru heb fethiannau mawr eraill. Fodd bynnag, mae’n rhaid i'r gwaith barhau—gwaith cynghorwyr Busnes Cymru i sicrhau yn arbennig bod y cwmnïau llai, teuluol, sydd mor hollbwysig mewn ardaloedd gwledig, yn gallu gweithredu mewn ffordd gadarn ac effeithiol ar gyfer teithwyr a defnyddwyr.

Bydd bysiau yn rhan annatod o'r metros yn y gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain, oherwydd, mewn llawer o ardaloedd, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol, ond yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, nid rhywbeth moethus yw bysiau, ond angen. Maen nhw, mewn llawer o achosion, yn hollbwysig i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol a phwysig. Felly, yn ein barn ni, nid yn unig y bydd rhwydwaith bysiau sydd wedi’i integreiddio’n llawn â'r rhwydwaith rheilffyrdd ac â theithio egnïol, yn bwysig yn yr ardaloedd metro, ond bydd hefyd yn bwysig mewn ardaloedd gwledig. Rwyf yn credu bod gennym ni gyfle unigryw, fel y nodwyd gan yr Aelod, drwy'r cynigion y gallwn eu cyflwyno, drwy’r fasnachfraint newydd ar gyfer llwybrau Cymru a'r gororau, i allu darparu system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig lle bydd teithwyr yn gallu prynu tocynnau lluosog, yn ogystal â thocynnau amlfoddol, lle mae amserlenni ar gyfer y rheilffyrdd ac ar gyfer gwasanaethau bysiau wedi eu hintegreiddio'n llawn a lle mae gennym y canolfannau hollbwysig hynny, fel yr amlinellodd Dafydd Elis-Thomas, mewn cynifer o'n cymunedau ag y bo modd.

6. 6. Datganiad: Cyllid Arloesol: Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar gyllid arloesol: y model buddsoddi cydfuddiannol. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 16:32:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Lywydd, diolch yn fawr. Mae gan Lywodraeth Cymru brofiad helaeth o fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru drwy ein cyllideb cyfalaf. Mae buddsoddi’n benodol mewn seilwaith yn un o’r pethau pwysicaf y gall Llywodraeth ei wneud i gefnogi twf cynaliadwy a chreu swyddi. Yn ogystal â gwella cynnyrch economaidd a hybu lefelau uwch o gyflogaeth, mae buddsoddi mewn seilwaith hefyd yn gwella effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus. Ers datganoli, rydym ni wedi buddsoddi mewn ysbytai, ysgolion, tai a seilwaith cyhoeddus newydd, a byddwn ni’n parhau i wneud hynny.

Ym mis Hydref, yn y gyllideb ddrafft, roeddwn i’n gallu cyflwyno cynlluniau gwariant cyfalaf am bedair blynedd. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu system metro ar gyfer y de, i greu 20,000 yn fwy o dai fforddiadwy, i uwchraddio ein rhwydwaith ffyrdd ac i gwblhau ein rhaglen i foderneiddio’r ystâd ysgolion. Byddwn ni'n gwneud hyn ar adeg pan fo ein cyllideb cyfalaf wedi cael ei thorri o ganlyniad i fesurau cyni parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Erbyn diwedd y degawd hwn, bydd 21 y cant yn llai o gyllid ar gyfer seilwaith ar gael inni, mewn termau real, o gymharu â 2009. Mae hyn yn golygu bod angen cyllid o ffynonellau eraill arnom ni i gefnogi ein rhaglen gyfalaf.

It was in that context, Llywydd, that the previous Welsh Government set out its commitment to examine innovative ways of funding public infrastructure. Since then, innovative financial instruments have already been used to increase investment in transport, housing and education by £0.5 billion. One of the reasons we have been able to fund this additional investment is because Wales has not been exposed to large-scale PFI schemes. Our exposure to the cost of such schemes is less than 1 per cent of our revenue budget—a relatively small amount when compared with other parts of the United Kingdom.

Llywydd, before focusing on the mutual investment model, I want to put that model in the context of other innovative action, which will enable £1.5 billion-worth of additional investment to be made in the social and economic infrastructure of Wales over the course of the next six years. To begin with, the Government will make full use of our new capital borrowing powers. Originally set at £500 million under the Wales Act 2014, our ability to borrow will rise to £1 billion under the terms of the fiscal framework, which was agreed with the UK Government in December. We will also deliver further innovative finance schemes in partnership with other parts of the public sector in Wales. In the final budget, I was able to allocate £3.6 million-worth of revenue to extend the successful housing finance grant. This new, recurrent allocation will rise to £9 million in 2019, resulting in some £250 million-worth of additional investment in social and affordable housing, producing at least 1,500 homes towards this Government’s ambitious target of building 20,000 affordable homes over the course of this Assembly term. As well as providing revenue to support registered landlords in this way, we are also bringing them together to improve their borrowing power. I can confirm today that a loan application has been made on behalf of registered social landlords to the European Investment Bank. This follows meetings held with the vice-president of the bank, here in Cardiff in early February, to discuss this application. We expect a final decision from the bank in June of this year.

At the same time, we are also finalising arrangements for the coastal risk management programme. Recurrent revenue funding of more than £7 million a year will, by 2020, result in around £150 million-worth of additional investment in flood prevention, protecting Welsh businesses and homes. The new programme will complement the additional £33 million-worth of conventional capital allocated to flood defence activities in the final budget published in December.

Now, Llywydd, while all this effort is making a real difference in all parts of Wales, there remains a set of essential public purposes that need an additional response. Today’s statement therefore sets out how three major capital projects are to be delivered through a new form of public-private partnership, the mutual investment model, crafted here in Wales. Could I also acknowledge the opportunity to discuss these ideas in the finance liaison committee between the Government and Plaid Cymru, and to add to the pool of ideas available to us in Wales in that way?

The three schemes—the completion of the dualling of the A465 from Dowlais Top to Hirwaun, the new Velindre cancer centre, and providing a significant tranche of investment in the next phase of the twenty-first century schools programme—will, together, make up some £1 billion-worth of new investment. The mutual investment model has been carefully designed to promote the public interest and to protect the public pound. We have worked closely with statisticians at Eurostat and the Office for National Statistics, and with experts at the European Investment Bank, for more than a year to secure this model and to make sure that it delivers benefits for Wales. Under its terms, private sector partners will take on risks associated with building, financing and maintaining public infrastructure, but unlike historic PFI deals, our model allows the public sector to share in any profits, excludes the provision of services such as cleaning and catering from the contract, excludes low-level value maintenance work and ensures the transparency that we need about costs and performance.

The mutual investment model includes important obligatory long-term provisions to secure community benefits, to create apprenticeships and training places for Welsh workers and for sustainable development, in which the private sector partner supports delivery of the well-being of future generations Act. It incorporates our commitment to an ethical employment code and allows us to maximise the benefits of our sustainable procurement practices. The model also enables the government to exert influence over the chosen private partner to ensure that the public interest is protected. Where we invest in schemes, this influence will be exercised by a public interest director, and this is an important advance on what has been secured in other public-private partnership models in other parts of the United Kingdom. This ensures robust transparency in terms of access to board-level information, alongside a range of reserved matters to protect public funds and the public interest.

Next month, on 23 March, together with Cabinet colleagues, we will host an event to launch the mutual investment model to potential partners, the next important step forward in the development of this new and necessary programme of capital investment. Llywydd, the adoption of the mutual investment model and our other innovative financial instruments demonstrates how this government continues to act decisively and as a catalyst for change in challenging circumstances. These measures will see an additional investment in public infrastructure of some £1.5 billion, representing a proper balance between ambition and affordability that otherwise would simply not have been undertaken. I commend the model to the Assembly.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod y realiti economaidd yr ydym yn byw ynddo yn golygu bod yn rhaid i ni ystyried ffyrdd mwy arloesol o ariannu buddsoddiad cyhoeddus yng Nghymru, ac yn enwedig y gwariant cyfalaf y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi siarad yn helaeth amdano yn ei ddatganiad heddiw.

A gaf i groesawu yn arbennig yr ymrwymiad i wneud defnydd o'r pwerau benthyca cyfalaf newydd sydd yn mynd i fod ar gael i'r Cynulliad ac i Lywodraeth Cymru, ac yn benodol y terfyn newydd o £1 biliwn y cytunwyd arno gyda Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr yn rhan o'r fframwaith cyllidol a groesewir yn fawr? Mae hynny'n newyddion da i Lywodraeth Cymru, yn newyddion da i’r Cynulliad ac rwy’n credu fy mod i’n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n newyddion da i Gymru drwyddi draw.

A gaf i hefyd groesawu'r newyddion y a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet am y cais am fenthyciad gan Fanc Buddsoddi Ewrop? Mae hi’n hen bryd, byddwn i’n dweud wrth Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi galw ers cryn amser, ac wedi gwneud galwadau i ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet a dweud y gwir, i wneud mwy o ddefnydd o fanc buddsoddi Ewrop—mae’n gyfle a gollwyd ers amser rhy hir. Mae'n arf arbennig o ddefnyddiol ar gyfer seilwaith. Byddai hen i ddiddordeb cael gwybod—er bod problemau nawr, wrth gwrs, gan ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd—pa un a oes unrhyw gynigion eraill i geisio cael mynediad at y cyllid hwnnw. Mae gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud defnydd o Fanc Buddsoddi Ewrop ers amser maith, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, ar gyfer prosiectau ffyrdd, prosiectau rheilffyrdd—llawer mwy nag y mae’r DU wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol. Felly byddai gen i ddiddordeb mewn cael gwybod a oes unrhyw fwriadau pellach yn yr amser sydd gennym ni i wneud rhagor o geisiadau i Fanc Buddsoddi Ewrop.

Gan droi at brif ran y datganiad a'r model buddsoddi cydfuddiannol, a’r cyllid ychwanegol ar gyfer y prosiectau a amlinellwyd, gwyddom fod Llywodraeth yr Alban wedi ceisio datblygu model cydfuddiannol tebyg, ac rwy’n deall ac yn cydnabod pryderon Ysgrifennydd y Cabinet o ran prosiectau Menter Cyllid Preifat blaenorol, nad oedd yn bodoli i'r un graddau gennym ni yng Nghymru, fel y dywedasoch, o’i gymharu â mannau eraill. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ceisio datblygu ei model cydfuddiannol ei hun, ond heb fawr o lwyddiant. Pa wersi sydd wedi cael eu dysgu o brofiad yr Alban, beth oedd methiannau’r model hwnnw, a sut ydych chi’n bwriadu diogelu model Cymru yn erbyn rhai o'r methiannau hynny? Rwy’n sylweddoli bod y model yn benodol i'r Alban ac y byddwch yn datblygu eich model eich hun—rwy’n gwybod hynny yn dilyn fy nhrafodaeth a groesawyd gyda chi ynglŷn â hyn o'r blaen. Ond mae’n rhaid bod rhai gwersi y byddech chi’n gobeithio eu dysgu.

A allwch chi ymhelaethu ar y swyddogaeth cyfarwyddwr budd y cyhoedd y soniwyd amdani gennych yn eich datganiad? Sut fydd yr unigolyn hwnnw’n cael ei ddewis? Am ba hyd y bydd disgwyl iddo chwarae ei ran yn y model cydfuddiannol newydd? Rwy’n ceisio pwyso a mesur pwerau cymharol yr agweddau cyhoeddus a phreifat ar hyn. A allwch chi gadarnhau na fydd gan gyfarwyddwr budd y cyhoedd rym feto? Rwy’n credu mai dyna oedd un o feini tramgwydd model yr Alban, yr wyf yn tybio eich bod chi’n awyddus i’w hosgoi.

O ran y gyfran a gytunwyd gan y modelau cydfuddiannol o dan sylw, a allwch chi egluro bod y gyfran hon yn hytrach na chap ar elw ac nad yw’n ogystal â chap ar elw neu gap cyfyngedig ar elw, ond bod y rhan honno wedi cael ei haberthu ac y bydd hwn yn fodel nawr y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran barhaus ohono, yn gymesur â'r elw yn gyffredinol? Credaf fod hynny’n syniad da mewn egwyddor, felly byddaf yn edrych ymlaen at eich clywed yn egluro rhai o'r agweddau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet.

Yn olaf, rwy’n deall bod y cap ar elw yn rhan fawr o'r rheswm y datganwyd model yr Alban yn annilys, gan olygu y bu’n rhaid i Lywodraeth yr Alban dalu yn y pen draw, os nad y costau i gyd, yna’n sicr rhan helaeth o gost y cynlluniau yr ymgymerodd â nhw. Yn amlwg, pe bai Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa hon, yna byddai llawer iawn o'r gwaith da sydd wedi cael ei wneud yn ofer a byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo cyfran fawr o'r gost yn y pen draw, gan fynd yn groes i holl fwriad dilyn y llwybr hwn.

Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol, Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes gan Lywodraeth Cymru fynediad at yr afon aur—rwy’n credu mai dyna sut y gwnaethoch chi ei disgrifio—o gyllid sy'n aml yn ymdroelli i siroedd y gororau, yng ngogledd Lloegr, ac y mae gan Lywodraeth yr Alban fynediad ati. Roedden nhw’n gallu llenwi'r bylchau a ymddangosodd pan fethodd eu cynllun. Nid wyf yn credu y byddech chi mewn sefyllfa i wneud hynny. Fel y dywedais, byddai hyn yn mynd yn groes i'r rhesymau dros gyflwyno'r model cydfuddiannol hwn yn y lle cyntaf. Felly, a allwch chi esbonio ychydig am y mesurau diogelu sydd ar waith yno ac a ydych chi’n gwbl hyderus y bydd model cydfuddiannol Cymru yn llwyddo ac nad oes unrhyw berygl y bydd y trethdalwr yn gorfod talu bil mawr iawn yn y pen draw?

Diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau hynny. I ddechrau gyda’i bwynt cyntaf, rwyf wedi lleisio fy marn i’r Pwyllgor Cyllid, sawl gwaith rwy’n credu, bod hierarchaeth o ran sut y defnyddir cyfalaf. Fy uchelgais cyntaf bob amser fydd defnyddio pa bynnag gyfalaf confensiynol a ddyrennir i ni. Pan fyddwn wedi defnyddio’r holl gyfalaf confensiynol, yna byddem yn ceisio defnyddio ein pwerau benthyca, ond gwyddom, hyd yn oed pan fyddwn wedi gwneud hynny i gyd, y bydd dibenion cyhoeddus pwysig y mae angen i ni i ariannu yng Nghymru o hyd. O dan y modelau a ddatblygwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, rydym wedi cefnogi gwariant cyfalaf gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol drwy ddefnyddio refeniw gan Lywodraeth Cymru. Mae model cydfuddiannol yn datblygu hynny gam ymhellach.

Mae Nick Ramsay yn hollol gywir i dynnu sylw at y pryderon sydd ynghlwm i’n cyfranogiad ym Manc Buddsoddi Ewrop o ganlyniad i Brexit. Codais hyn yn uniongyrchol â Changhellor y Trysorlys yng nghyfarfod diwethaf y Cydbwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, lle y pwysleisiais iddo farn Llywodraeth Cymru y dylem ni ystyried parhau i fod yn bartner tanysgrifiedig o Fanc Buddsoddi Ewrop hyd yn oed ar ôl Brexit. Yn sicr ceir amrywiaeth o brosiectau, yn ychwanegol at y rhai a amlygwyd yn y datganiad, ond yn sicr yn cynnwys Felindre, lle byddem yn gobeithio darbwyllo Banc Buddsoddi Ewrop i barhau i ddarparu ar gyfer prosiectau yma yng Nghymru.

Y ddau fater penodol a godwyd gan Nick Ramsay—y mater o gyfarwyddwr budd y cyhoedd a'r cap ar elw—yn ôl yr hyn a ddeallaf, oedd yr union ddau reswm canolog pam, mewn cyfres o benderfyniadau cyfrifyddu rhwng mis Gorffennaf 2015 a mis Hydref y llynedd, y dyfarnodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod eu model wedi methu â chydymffurfio â system gyfrifon Ewrop, ac felly yr oedd yn rhaid ei ddosbarthu drwy lyfrau’r sector cyhoeddus yn hytrach na’r sector preifat.

O ran y cap ar elw, daeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r casgliad bod cap ar elw yn newid y cydbwysedd rhwng risg a gwobrwyo mewn ffordd sy'n anghydnaws â dosbarthiad sector preifat, a bod cael cyfarwyddwr budd y cyhoedd sy'n gallu arfer yr hawl i roi feto ar unrhyw benderfyniad gan gwmni’r prosiect yn gyfystyr â rhywfaint o reolaeth gan y wladwriaeth sy’n anghydnaws â dosbarthiad sector preifat.

Oherwydd ein hymwybyddiaeth o hynny—a dylwn ddweud ein bod ni wedi cael cydweithrediad ardderchog gan Lywodraeth yr Alban a’r Scottish Futures Trust i’n helpu i ddeall y dadleuon y bu’n rhaid iddyn nhw eu gwneud a'n helpu i osgoi rhai o'r anawsterau y maen nhw wedi eu cael. Dyna pam yr aethom at Fanc Buddsoddi Ewrop dros yr haf i gael cyngor arbenigol ar ein model arfaethedig. Fe’i hailstrwythurwyd yng ngoleuni rhywfaint o'r cyngor hwnnw, ac fe’i cyflwynwyd yn uniongyrchol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol dros yr hydref fel y gallem gael penderfyniad ar ddosbarthiad mewn egwyddor ganddyn nhw.

Bu’n rhaid i ni wneud dau fath o gyfaddawd er mwyn cyd-fynd â’r model dosbarthu. Ni fydd gan ein cyfarwyddwr budd y cyhoedd rym feto, ond os byddwn yn cymryd cyfran ecwiti rhwng 15 a 20 y cant yn y cwmni, cwmni’r prosiect, yna bydd y cyfarwyddwr budd y cyhoedd hwnnw yn etifeddu cyfres o bwerau y bydd yn gallu eu harfer ar ran y cyhoedd ar y bwrdd hwnnw. Nawr, rwy’n disgwyl y byddwn ni’n dymuno penodi cyfarwyddwr budd y cyhoedd ar gyfer y cynllun Felindre o leiaf, yn ystod cyfnod y Cynulliad hwn, a byddaf yn awyddus i roi rhywfaint o ystyriaeth i'r ffordd orau y gellir gwneud hynny. Nid oes dim amheuaeth, y bydd hyn yn cael ei drafod, rwy'n siŵr, yn y Pwyllgor Cyllid yn y dyfodol.

Mae ein model yn golygu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn cael cyfran o’r elw, er na allwn gapio elw. Trwy gymryd cyfran ecwiti o 20 y cant, er enghraifft, yng nghynllun Felindre, dros y 25 mlynedd y bydd disgwyl i’r cynllun gael ei weithredu, byddwn yn derbyn cyfran o 20 y cant o unrhyw elw a geir, o flwyddyn i flwyddyn, gan ddychwelyd i bwrs y wlad fel adenillion ar ein buddsoddiad. Rwy'n credu bod sicrhau’r ddau beth hynny yn golygu y gellir argymell ein model cydfuddiannol i'r Cynulliad.

Gan ein bod ni wedi mynd at y Swyddfa Ystadegau Gwladol ymlaen llaw, gwyddom mewn egwyddor fod ein cynllun yn bodloni eu meini prawf dosbarthiad. Byddant, er hynny, eisiau ystyried pob cynllun yn ei fanylder ei hun i wneud yn siŵr y gallant gymhwyso’r rheolau dosbarthiad hynny, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd parhau i weithio i wneud yn siŵr nad ydym yn wynebu rhai o'r anawsterau a wynebwyd yn yr Alban.

Rwy’n croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, am y rhesymau y mae ef ei hun wedi cyfeirio atyn nhw, sef, wrth gwrs, y gostyngiad dybryd o ran y symiau o arian sydd ar gael ar gyfer buddsoddi oherwydd y dirywiad yn yr arian yr ydym yn ei dderbyn o Lundain, a hefyd, wrth gwrs, y cyfle y mae gwariant cyfalaf mewn isadeiledd yn ei gynrychioli ar gyfer adeiladu’r Gymru yr ydym ni eisiau ei gweld, ond hefyd i roi hwb i’r economi mewn cyfnod dyrys iawn.

Mi oedd yn dda cael y cyfle i drafod â’r Ysgrifennydd Cabinet yn nhermau cyffredinol, heb fynd i mewn i’r manylion yr ydym newydd eu clywed, a hefyd mynd gydag ef i fynychu cyflwyniad gydag is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop yn Velindre—un o’r projectau cyffrous, gobeithio, fydd yn cael ei weithredu oherwydd hyn.

A gaf i ofyn iddo fe, ynglŷn â’r manylion, beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr ateb y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyfeisio i’r cwestiwn yma o’r ailgategoreiddio drwy law’r Swyddfa Ystadegau Gwladol o’i gymharu â’r ateb y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i gyflwyno, sef yr hwb sydd yn cynnig 60 y cant o siâr i’r sector breifat ac wedyn 40 y cant rhwng y Scottish Futures Trust, elusen a hefyd y sector cyhoeddus? Oes yna uchafswm y mae e’n ei ragweld ar gyfer y siâr mewn elw y byddai’r sector gyhoeddus yn berchen arni yng Nghymru, yn wyneb y ffaith bod Eurostat wedi gosod mas yn nhermau eithaf manwl pa effaith y byddai gwahanol ganrannau yn ei chael o ran y cwestiwn yma o ailgategoreiddio?

While welcoming in broad terms this statement, any move towards expanding our capacity to invest in infrastructure has to be welcomed and any move for innovation, in terms of our approach to this question, has to be welcomed. But the Cabinet Secretary will not be surprised to know that I would urge him to go much further than this because he referred to the fact, of course, in Scotland the current proportion of the budget that is allocated to the revenue financing of long-term debt is about four 4.5 per cent of their budget. He referred to the current position, which in the Welsh Government’s case is 1 per cent. We have a lot more scope and we have scope to do much more than has been announced today and we can do that by being more innovative again.

He referred to the European Investment Bank. Why don’t we set up a Welsh equivalent, which actually could use—? He referred to the difference between, of course, paid-in capital and subscription, which, of course, allows the paid-in capital, once accumulated, to be used to leverage. This is what the European Investment Bank does—it’s what every investment bank does. Why don’t we use that mechanism in order to create an even greater capacity to invest? And, similarly, why don’t we look at—? We have the power to establish Welsh bonds. The Welsh Government has that power and, indeed, so does the Scottish Government, and local authorities, of course, are actively looking at this mechanism. So, can we be more innovative, Cabinet Secretary, in order to maximise the capacity and have conversations with some of the Welsh pension funds, for example, that could be doing more to invest successfully in our community?

Finally, on the question of the future of the EIB, which is in question—well, if there is to be a UK successor body, an United Kingdom investment bank, why don’t we develop the reputation of being excellent at infrastructure finance by developing the range of mechanisms that I’ve just referred to, so we can make the case that that UK investment bank should actually be based here in Wales?

Wel, diolch yn fawr i Adam Price am yr hyn a ddywedodd pan ddechreuodd ei ateb. Roedd yn bleser imi fynd gydag ef i Velindre gydag is-lywydd yr EIB, Jonathan Taylor, ac i glywed diweddariad am yr hyn maent yn ei gynllunio yn Velindre.

The quality of our ideas for investment is very important in attracting the attention of and the interest of investors such as the EIB, and it was very good to be there in Velindre to hear the latest from them.

We have some different answers in Wales to the answers that they have developed in Scotland, but we’ve been able to learn from one another. The fact that the ONS ended up classifying £1 billion-worth of capital investment from Scotland back on to the public books was a pretty difficult lesson for Scotland but Scottish Futures Trust has been working on ideas there. Our ideas, in terms of an equity stake and a public interest director, giving us a profit share but safeguards for the public interest, is the way that we think the system will work best in Wales. And Scotland have some other ideas that they are now pursuing in order to try and get classification back on to the private sector of future schemes.

At the moment, I am working notionally on the idea that we would take between a 15 and 20 per cent equity stake in any project company. You have to have a minimum of 15 per cent in order to allow your public interest director to be able to exercise the 19 protections that that director is able to exercise on behalf of the public. I think an equity stake of up to 20 per cent, which in the case of Velindre, for example, on current figures would mean £5 million capital investment direct by the Welsh Government, and would be sufficient to secure the protections we want and to give us a flow of share of profits into the future.

I look forward to discussing with Adam Price some of these wider ideas about how we can put Welsh pension fund money to work in investing in the future of families that those people who’ve put money into pension funds will want to secure here in Wales. When I discussed with the Chancellor of the Exchequer the future of the European Investment Bank, to be fair, he said that he recognised the case for trying to find a way of continuing to be a participator in the bank, but he said that if that wasn’t possible, then we would have to invent such a vehicle of our own here in the United Kingdom. The fact that we have such good relations with the EIB in Wales, I think, does put us in a strong position to be able to argue from that experience and, indeed, to see whether there will be any possibility of such a UK-wide body, if one is needed, coming here to Wales.

Gan ddechrau gyda Banc Buddsoddi Ewrop, dywedodd Nick Ramsay yr amser sydd gennym i fynd at Fanc Buddsoddi Ewrop eto, ac rwy’n credu fod Adam Price hefyd efallai yn argoeli yn ei sylwadau na fyddem ni’n rhan o Fanc Buddsoddi Ewrop o bosibl. Yn fy mhlaid i, nid wyf yn credu bod gennym ni unrhyw wrthwynebiad i Fanc Buddsoddi Ewrop mewn egwyddor. Rwy'n credu bod trafodaeth ynglŷn â sut y byddai'n gweithio gyda ni y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd fydd berchen ar y mwyafrif ohono, yn amlwg, ond ar hyn o bryd, os edrychwch chi ar ei feini prawf buddsoddi a'r ffordd y mae'n gweithio, ceir y posibilrwydd damcaniaethol o leiaf o gytundeb yn y dyfodol, pa un a drwy gytundeb cyfranddalwyr neu fel arall, ac os felly nid wyf yn credu bod cyfranogiad y DU yn cael ei ddiystyru. A byddwn yn annog y Gweinidog i ymhelaethu efallai ar y graddau y mae Cymru'n elwa o fenthyca cyfredol. Soniwyd gan Nick Ramsay, rwy’n credu, am elfen o lusgo traed efallai—nid wyf yn gwybod a yw hynny'n or-bwyslais ar yr hyn y dywedodd am geisiadau yn gynharach—ac rydym ni wedi gweld trywydd ar i fyny o ran benthyciadau yn cael eu dosbarthu i Gymru. Ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet o’r farn mai dull synhwyrol yw ystyried hyn yn bragmataidd, yn dibynnu ar yr hyn y gellir ei gytuno, o ystyried y costau o sefydlu darn sefydliadol newydd? Byddai'n wych pe bai hynny yng Nghymru.

Ceir, rwy’n credu, rhai pethau synhwyrol i’w croesawu’n fawr iawn yn y datganiad hwn. A allai Ysgrifennydd y Cabinet esbonio ychydig bach mwy am y landlordiaid cymdeithasol wedi’u cofrestru ar y cyd, rwy’n meddwl y cyfeiriodd atynt, a gwella eu pwerau benthyca? Yn amlwg, os oes gennych chi grŵp mwy o sefydliadau, rydych chi’n mynd i allu gwrthbwyso’r risg o fewn iddynt, a bydd hynny o gysur i fenthycwyr a allai roi benthyg mwy neu ar gyfradd llog is. Ond sut y mae’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn mynd i drefnu pethau rhyngddynt, pe bai, o ystyried y sefyllfa waethaf bosibl, un ohonynt yn diffygdalu ar un o'r benthyciadau hyn?

A gaf i ofyn hefyd i'r Gweinidog am Ganolfan Ganser Felindre? Mae ei blaid ef ar lefel y DU, ac yn sicr ei arweinydd, wedi dadlau yn eithaf cryf yn erbyn preifateiddio'r GIG a bu amheuaeth benodol gan lawer ar y chwith am berchnogaeth breifat fwyafrifol yn y cyd-destun hwn. A allai esbonio pam ei fod mor gyfforddus â chael perchnogaeth breifat o 80 i 85 y cant o’r sefydliad hwn, a pha brosesau sydd ganddo i wneud yn siŵr ei fod yn gweithredu er budd y cleifion? Byddwn yn cymell ychydig o bwyll ynghylch y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd—o ran mynd a chael cytundeb gyda nhw am yr hyn a allai fynd ar fantolen y sector cyhoeddus a'r hyn na allai. Rhoddodd Llywodraeth y DU gynnig ar hyn ar raddfa lawer, lawer mwy ar gyfer Network Rail, ac yna canfod bod hynny wedi mynd i drafferthion. Onid yw hynny'n risg i ni hefyd? A phe bai hynny’n digwydd, pa effaith fyddai hynny’n ei chael ar y terfyn benthyca o £1 biliwn a ddisgrifiodd?

A gaf i hefyd, unwaith eto, gymell ychydig o bwyll o ran rhai o'r rhifau a sut y mae'n cyflwyno hyn? Rydym ni’n sôn am £1.5 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol o bosibl, ond pan mae'n sôn am gyfraniad sector cyhoeddus gwirioneddol o £3.6 miliwn yn mynd i fyny i £9 miliwn ar gyfer y grant cyllid tai, mae’n ymddangos bod y symiau hyn wedi eu trosoleddu gan luosrif eithaf mawr, a meddwl ydw i am y perygl posibl sy'n gysylltiedig â hynny. Mae’n cyfeirio gyda brwdfrydedd at offerynnau ariannol arloesol eraill Llywodraeth Cymru. Roedd cryn dipyn o hynny i’w weld yn y banciau cyn yr argyfwng ariannol, ac rwy’n meddwl tybed a oes risg ein bod ni’n ymgymryd ag offerynnau nad ydym yn eu deall yn llawn, neu sy’n arwain at faint trosoledd sy'n creu elfen o risg i bwrs y wlad na fyddem ei eisiau o bosibl. Dywedodd mai dim ond Menter Cyllid Preifat gwerth 1 y cant sydd yng Nghymru yn draddodiadol, ond fy meirniadaeth fawr o Fenter Cyllid Preifat yw ei bod yn ceisio trosoleddu popeth oddi ar y fantolen a bod popeth yn cael ei wneud i'r perwyl hwnnw. Y ffordd y mae'n disgrifio'r trafodaethau gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r hyn y mae'n ei wneud yma, rwy’n meddwl braidd, tybed a oes gor-bwyslais ar dynnu pethau oddi ar y fantolen gyhoeddus.

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Bydd yn rhaid i gymryd agwedd bragmataidd at Fanc Buddsoddi Ewrop yn y pen draw. Mae fel y dywedodd Nick Ramsay—rydym ni’n wynebu realiti economaidd effaith cyni cyllidol ar ein cyllideb gyfalaf. Mae llywydd Banc Buddsoddi Ewrop wedi dweud, er bod y materion technegol yn anodd nid ydynt yn anorchfygol, pe bai’r DU yn parhau i fod yn bartner tanysgrifio, ond bydd angen i bob un o 27 o aelodau eraill yr Undeb Ewropeaidd gytuno i hynny. Felly, efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried ein trefniadau ein hunain mewn ffordd bragmataidd.

Mae'n sicr yn wir bod ein buddsoddiadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop wedi bod ar drywydd at i fyny dros nifer o flynyddoedd ac nid buddsoddiad cyhoeddus yn unig yw hyn, er enghraifft, yr ail gampws yn Abertawe, a wnaeth elwa’n fawr o Fanc Buddsoddi Ewrop, ond mae Dŵr Cymru hefyd yn fuddiolwr mawr o fuddsoddiad Banc Buddsoddi Ewrop mewn seilwaith yma yng Nghymru, ac mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau hefyd, fel yr ydych chi wedi clywed.

O ran landlordiaid cymdeithasol, arweinir y cynllun gan fy nghyd-aelod, Carl Sargeant. Yn y gyfran gyntaf o grant cyllid tai, cymerodd 19 o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru ran ynddo. Bu’n bosibl i ni ddarparu cyllid refeniw i gefnogi gwerth £125 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i ddarparu tua 1,000 o gartrefi fforddiadwy. Ein gobaith, trwy ddod â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig at ei gilydd, yw y byddant yn gallu ariannu cynllun o tua £250 miliwn, a bydd hynny'n ychwanegiad sylweddol iawn.

Mae’r Aelod yn iawn i ddweud nad oes unrhyw siec wag yma gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Maen nhw wedi rhoi eu sêl bendith i ni ar y model yr ydym wedi ei gyflwyno iddynt—cymerodd ddogfen 300 tudalen iddyn nhw ddod i'r casgliad y bydd ein cynllun yn cael ei ddosbarthu yn y ffordd gywir, ond bydd yn rhaid i ni reoli'r risg ym mhob un cynllun yr ydym ni’n ei gyflwyno i wneud yn siŵr ei fod yn aros felly.

Rwy'n teimlo fel ein bod ni wedi cael cyngor gwahanol iawn ar draws y Siambr yma. O safbwynt UKIP, ceir pryder bod peryglu ein bod yn gordrosoleddu ar sail refeniw, tra awgrymodd Adam Price y dylem ni fynd ymhellach a dod o hyd i fwy o refeniw at ddibenion buddsoddi cyfalaf. Fel y Gweinidog cyllid, mae’n rhaid i mi geisio sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau safbwynt hynny. Mae refeniw yn werthfawr iawn o dan yr amgylchiadau presennol. Bydd Adam yn gwybod, oherwydd i ni dreulio amser gyda'n gilydd yn gynharach yn yr hydref, yn edrych ar ein cyllideb, bod dod o hyd i symiau bach o refeniw at ddibenion pwysig iawn yn waith caled. Felly, nid wyf yn rhoi refeniw i ffwrdd yn rhwydd i gefnogi benthyca cyfalaf. Ond weithiau, mae’r anghenion cyfalaf yn rhai brys ac yn angenrheidiol a cheir budd economaidd ehangach iddynt, ac felly rwy'n barod i wneud hynny. Rwy'n credu ein bod wedi dilyn llwybr darbodus wrth wneud hynny. Rwy'n hyderus nad ydym yn agored i’r risg a awgrymwyd gan Mark Reckless. Nid wyf yn awyddus i gymryd rhai o'r risgiau yr wyf yn credu y byddai Adam Price yn ceisio ein temtio tuag atynt.

Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datganiad. Rwy’n meddwl efallai mai'r peth cyntaf y dylem ni ei wneud yw diolch i Rhodri Morgan a wnaeth, fel Prif Weinidog, wrthsefyll y demtasiwn i lofnodi’r hyn sydd wedi bod yn gynlluniau Menter Cyllid Preifat costus iawn yn Lloegr a'r Alban. Credaf fod angen i ni ddiolch iddo am hynny gan fod tua £400 miliwn, efallai, o arian yn cael ei wario ar wasanaethau eleni, yng Nghymru, na fyddai wedi bod ar gael pe byddem wedi cytuno â’r meddylfryd ‘Gadewch i ni fynd am Fenter Cyllid Preifat, nid yw'n mynd i gostio rhyw lawer. Wir nawr!’

Rwy’n croesawu’r ymrwymiad i ddefnyddio'r cyfleuster benthyca cyfalaf newydd. Rwy'n tybio y bydd y benthyca gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. Yn dilyn ymlaen o'r hyn a godwyd gan Adam Price, fel y gwyddom, mae Transport for London yn codi symiau sylweddol o arian trwy gyhoeddi bondiau. Siaradodd Adam Price am ddefnyddio cronfeydd pensiwn—maen nhw’n gwerthu bondiau Llywodraeth i gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol Cymru a dweud y gwir. A yw hynny'n rhywbeth sydd wedi cael ei ystyried? Os nad yw, a yw'n rhywbeth y gellid ei ystyried? Oherwydd, rydych chi’n ailgylchu arian sector cyhoeddus, ond rydych chi’n ei ddefnyddio mewn modd sydd o fudd i’r ddwy ran.

Heddiw, ymwelais ag Ysgol Gynradd Pentre'r Graig yn Nhreforys, sydd, er nad yw wedi ei adeiladu o'r newydd, wedi cael ei hailfodelu bron yn gyfan gwbl y tu mewn. Mae cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gweddnewid adeiladau addysg ac addysg yn fy etholaeth i, felly rwy'n falch iawn bod hyn yn mynd i barhau. Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr ac rwy’n meddwl os oes un peth y bydd Llywodraethau Llafur Cymru ar yr adeg hon o'r unfed ganrif ar hugain yn cael ei chofio amdano ymhen 50 mlynedd, yna gweddnewid addysg gyda'r cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain fydd hwnnw.

Er fy mod ni’n croesawu'r model buddsoddi cydfuddiannol—a chan fod rhai ohonoch chi’n gefnogwyr brwd o gwmnïau cydweithredol, rwyf i bob amser yn hoffi’r gair ‘cydfuddiannol’ i mewn yno yn rhywle—sut y bydd budd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu gan gyfarwyddwr budd y cyhoedd? Yn y bôn, faint yn uwch na’r gyfradd sylfaenol y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl ei dalu am y gost o fenthyg, pan fydd y cyfan wedi’i gyfrifo? Mae'n rhaid ad-dalu’r holl fenthyciadau, a dyma lle’r wyf i’n sefyll rhywle rhwng Mark Reckless ac Adam Price ar hyn. Faint, yn flynyddol, y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl y mae hi’n ddoeth gorfod ei ad-dalu? Gan anghofio faint y mae’n rhaid i chi ei fenthyg, gan y bydd y swm a fenthycir yn amrywio, yn dibynnu ar beth yw’r cyfraddau llog. Mae benthyca yn syniad da iawn bellach, gan fod cyfraddau llog yn hynod isel. Naw mlynedd yn ôl, byddwn i wedi dweud na fyddent yn aros ar y lefel isel honno; maen nhw wedi, ond maen nhw’n siŵr o godi ar ryw adeg, yn ôl i’r hyn a fyddai wedi bod yn arferol yn hanesyddol, felly byddai unrhyw beth sy'n cael ei fenthyg nawr, a hynny ar gyfradd sefydlog nawr, yn hynod fanteisiol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn arall yw: a fydd cyfleuster ar gyfer ailstrwythuro taliadau yn y dyfodol? Nid wyf yn siŵr, efallai, os gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym nawr a fydd y costau hyn yn sefydlog, neu a fyddant yn newidiol. Os ydynt yn newidiol, a fydd modd eu hailstrwythuro?

Wel, rwy’n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am ein hatgoffa o rywfaint o hanes hyn. Rwy'n cofio’n dda iawn hanner cyntaf y degawd diwethaf pan ddaeth Llywodraeth Cymru yma o dan bwysau enfawr, gan gynnwys gan rai gwleidyddion Llafur yn Llundain, i gytuno i Fenter Cyllid Preifat a benthyg arian yn y ffordd honno. Cafodd ei wrthsefyll—ei wrthsefyll yn gadarn—gan Lywodraethau olynol yn ystod y degawd hwnnw, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn erbyn hyn ein bod wedi gwneud hynny, oherwydd byddem wedi gweld cyfran fawr o'n refeniw yn cael ei ddargyfeirio i ad-dalu’r dyledion hynny. Ceir ymddiriedolaethau GIG yn Lloegr lle mae 25 y cant o'u refeniw yn cael ei wario ar dalu dyledion mentrau buddsoddi preifat cyn i’r un bunt gael ei gwario ar ddarparu gwasanaethau i gleifion. Cafodd hynny ei osgoi yma yng Nghymru, ac mae'n rhannol oherwydd i ni ei osgoi ein bod ni bellach mewn sefyllfa i wneud rhywbeth yn y maes hwn heb ergydau refeniw trychinebus.

Rwy'n fwy na pharod i ystyried rhai o'r pwyntiau a godwyd yn y datganiad ynghylch bondiau a chronfeydd pensiwn ac yn y blaen, felly, rwy'n hapus iawn i ddod yn ôl at hynny. Mae'r Aelod yn llygad ei le bod cyfraddau benthyca ar eu hisaf erioed. Nid wyf i’n mynd i gael fy nhemtio i roi cyfraddau penodol iddo, gan y byddwn mewn trafodaethau cyfrinachol, yn anochel, gyda darpar fenthycwyr, a'r digwyddiad ar 23 Mawrth, yr wyf yn gobeithio y gall nifer o Aelodau'r Cynulliad fod yn bresennol ynddo, fydd dechrau’r broses drafod honno.

A gaf i ymdrin â'r mater o ailstrwythuro yn y dyfodol? I ddechrau, Ddirprwy Lywydd, mae'n annhebygol iawn y bydd ailstrwythuro o'r math a welsom yn y cytundebau menter cyllid preifat gwreiddiol, oherwydd iddynt gael eu strwythuro ar adeg pan roedd cyfraddau llog yn uchel ac yna gostyngodd cyfraddau llog, ac roeddech chi’n gallu ailstrwythuro i gael set o elw annisgwyl o ganlyniad i hynny. Gan fod cyfraddau llog ar eu hisaf erioed, nid yw hynny'n ymddangos yn debygol iawn yn y dyfodol, ond mae gennym, wedi’i ymgorffori yn y cytundeb hwn, pe bai unrhyw ailstrwythuro o'r math hwnnw, a phe byddai elw annisgwyl, byddai'r sector cyhoeddus yn cymryd traean ohono yn awtomatig, ac yna byddem yn cael ein cyfran ecwiti o'r ddwy ran o dair sy'n weddill, hefyd. Felly, pe byddem yn cymryd cyfran ecwiti o 20 y cant, byddwch chi’n cael 20 y cant o ddwy ran o dair o’r elw hefyd. Felly, rydym ni wedi cynllunio’r model hwn yn fwriadol iawn mewn modd sy'n ein hamddiffyn rhag rhai o'r arferion llai derbyniol a oedd yno yn y modelau menter cyllid preifat gwreiddiol hynny.

7. 7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Byddwn yn symud ymlaen at eitem 7, sef y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6241 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.

Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Rwy'n ddiolchgar i Dai Lloyd, Huw Irranca-Davies a Simon Thomas a'u pwyllgorau priodol am graffu ar y Bil hyd yn hyn. Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad gwerthfawr rhanddeiliaid, sydd wedi cymryd rhan yn y broses drwy ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar.

Pan gyflwynais y Bil fis Tachwedd diwethaf, bûm yn siarad am swyddogaeth lwyddiannus deddfwriaeth o ran gwella a diogelu iechyd poblogaeth Cymru. Pwysleisiais hefyd fod deddfwriaeth yn ffurfio un rhan bwysig o agenda iechyd y cyhoedd ehangach gyda'r nod o atal niwed y gellir ei osgoi a symud yn nes at ein dyheadau ar gyfer Cymru iach a gweithgar. Mae'r Bil hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i’r agenda honno drwy weithredu mewn meysydd penodol er budd grwpiau a chymunedau penodol yn eu cyfanrwydd. Rwyf wedi fy nghalonogi yn ystod y broses graffu o weld y gefnogaeth gyffredinol gref gan randdeiliaid a phwyllgorau i’r hyn y mae'r Bil yn ceisio ei gyflawni.

Mae pob cynnig yn y Bil yn ceisio sicrhau manteision gwirioneddol i bobl Cymru. Er enghraifft, bydd ymestyn y gyfundrefn ddi-fwg i leoliadau awyr agored ar dir ysgolion, ar dir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â'r camau gweithredu eraill ar dybaco, yn torri tir newydd pwysig ac yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol yr ydym wedi’i wneud dros lawer o flynyddoedd drwy amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol smygu. Mewn rhannau eraill o’r Bil, bydd y system drwyddedu gweithdrefnau arbennig yn cynnig nifer o fanteision uniongyrchol. Bydd y rhain yn cynnwys helpu i atal niwed y gellir ei osgoi i'r unigolion hynny sy'n dewis cael gweithdrefn arbennig, helpu pobl i ddod yn fwy gwybodus wrth feddwl am weithdrefn arbennig, a gweithio gyda’r sector fel bod y safonau arfer gorau yn dod yn safonau i bawb.

Er bod y Bil yn canolbwyntio'n briodol ar ddiwallu anghenion grwpiau penodol, mae hefyd yn cymryd camau pwysig er budd cymunedau cyfan. Bydd y gofyniad i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau effaith ar iechyd mewn rhai amgylchiadau o fudd i gymunedau drwy helpu i sicrhau bod penderfyniadau pwysig a gymerwyd yng Nghymru yn cael eu llywio gan asesiad o'u heffaith debygol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio yn galluogi'r system i ddiwallu anghenion cymunedau lleol yn well ac yn adlewyrchu swyddogaeth iechyd cyhoeddus hanfodol fferyllfeydd cymunedol yn well. Mae'r gofyniad i awdurdodau lleol baratoi strategaethau tai bach lleol yn annog ffyrdd newydd a chreadigol o fynd i'r afael â mater iechyd cyhoeddus cymhleth.

Er bod y Bil eisoes wedi elwa o graffu trylwyr yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd, yn gwbl briodol, yn defnyddio dull trylwyr iawn o graffu yn ystod Cyfnod 1, fel y dengys y dadansoddiad manwl a ddarperir yn y tri adroddiad pwyllgor. Rwy’n bwriadu ymateb yn ffurfiol i'r adroddiadau hynny, ond rwy’n falch heddiw o amlinellu fy myfyrdodau cychwynnol arnynt.

O'r 19 o argymhellion gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rwy'n falch o ddweud fy mod i'n debygol o allu ymateb yn gadarnhaol i’r mwyafrif mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bwriadaf gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a fydd yn ymateb yn uniongyrchol i rai o'r argymhellion. Bydd y rhain yn cynnwys gwelliannau sy’n ymateb i argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â throseddau y bydd awdurdodau lleol yn gallu rhoi ystyriaeth iddynt wrth ystyried ceisiadau am drwyddedau gweithdrefnau arbennig. Bydd hyn yn enghraifft bendant o sut y bydd y broses graffu a mewnbwn gan randdeiliaid wedi cryfhau'r Bil yn uniongyrchol ac yn sylweddol. Rhagwelaf y bydd hefyd feysydd eraill lle rwy'n gallu ymateb yn gadarnhaol i awgrymiadau pwyllgorau mewn ffyrdd heblaw gwelliannau i'r Bil. Er enghraifft, byddaf yn gweithio gyda phartneriaid i gynhyrchu gwybodaeth sy'n cynorthwyo'r cyhoedd i leoli cyfleusterau tai bach sydd ar gael at ddefnydd lleol.

Fodd bynnag, er nad wyf yn anghytuno â'r bwriad sydd y tu ôl i'r argymhellion, bydd nifer cyfyngedig o achosion pan na fyddaf yn gallu ymateb yn union yn y modd y mae adroddiad y pwyllgor yn ei argymell. Er enghraifft, nid wyf yn gallu ychwanegu triniaethau laser at y system drwyddedu gweithdrefnau arbennig ar hyn o bryd o ganlyniad i nifer o faterion, gan gynnwys y risgiau posibl o ddyblygu rheoleiddio. Fodd bynnag, mae'r Bil yn caniatáu ar gyfer ymchwilio ymhellach i’r mater hwn maes o law, gan ganiatáu ar gyfer ymgynghori'n briodol ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, awdurdodau lleol a'r cyhoedd.

Mae rhai o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor yn codi materion cymhleth, sy'n gofyn am ystyriaeth drylwyr. Rwy'n arbennig o ymwybodol o'r ystyriaeth fanwl y mae’r pwyllgor wedi’i rhoi o ran cyfyngu ar yr oedran mwyaf priodol ar gyfer triniaethau rhoi twll mewn rhannau personol o’r corff, er enghraifft. Rwyf wedi nodi'n flaenorol fy mod yn edrych eto’n fanwl ar y mater hwn o ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod Cyfnod 1 ac rwy’n gobeithio y gallaf amlinellu fy safbwynt heddiw. Yn anffodus, oherwydd yr ystyriaethau cymhleth dan sylw, mae'r gwaith manwl angenrheidiol, er ei fod bron wedi'i gwblhau, yn parhau. Fodd bynnag, rwy’n awyddus i sicrhau’r Aelodau fy mod yn rhoi ystyriaeth weithredol a thrylwyr iawn i'r mater hwn, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag yr wyf yn gallu gwneud hynny.

Mae mater cymhleth arall a godwyd gan y pwyllgor yn ymwneud ag ymestyn gofynion di-fwg i leoliadau ychwanegol. Er fy mod yn cydnabod y bwriad y tu ôl i argymhelliad y pwyllgor ar y pwynt hwn, mae materion o'r fath yn eu hanfod yn gymhleth. Hoffwn bwysleisio bod darpariaethau'r Bil sydd, am y tro cyntaf erioed, yn ceisio ymestyn gofynion di-fwg i dri man agored, eisoes yn dangos ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i'r egwyddor o ymestyn ardaloedd di-fwg, gyda'r nod o atal plant rhag gweld smygu fel gweithgaredd arferol a bob dydd. Fel arwydd pellach o'n hymrwymiad i'r egwyddor hon, gallaf gadarnhau heddiw fy mod i'n rhoi ystyriaeth weithredol i bedwerydd lleoliad, sef lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan ymateb yn uniongyrchol i drafodaethau'r pwyllgor. Fodd bynnag, oherwydd y gwaith manwl angenrheidiol, nid wyf yn gallu ymrwymo i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2, ond rwy’n rhagweld y gellir cwblhau’r gwaith hwn i fy ngalluogi i gyflwyno gwelliannau gerbron y Cynulliad yn ystod Cyfnod 3.

Gan droi yn fyr at argymhellion y pwyllgorau eraill, mae hefyd rai meysydd lle’r wyf o blaid gwneud ymatebion cadarnhaol. Mae'r rhain yn cynnwys cadw at fy ymrwymiad blaenorol i gyflwyno gwelliannau yn ymwneud ag awdurdodau gorfodi, a fydd yn helpu i leddfu pryderon sy'n sail i argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Gallaf hefyd ddweud, mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Cyllid, fy mod i'n barod i ystyried y potensial ar gyfer nodi cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu’r Bil yn gynnar, gan gydnabod rhan hanfodol y sector mewn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon, ac adeiladu ar y ffyrdd sylweddol y mae'r Bil eisoes wedi cael ei gynllunio i helpu awdurdodau lleol i fodloni rhwymedigaethau y bydd y Bil yn eu gosod arnynt.

Mae heddiw yn nodi carreg filltir bwysig yn nhaith y Bil hwn. Rwy’n credu bod y broses graffu hyd yn hyn wedi bod o gymorth sylweddol, ac edrychaf ymlaen at gyfraniad yr Aelodau at y broses barhaus honno yn ystod y ddadl heddiw.

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau eraill o’r pwyllgor. Mae ein ffordd golegol o weithio wedi galluogi gwaith craffu cadarn ac, yn fy marn i, wedi ein harwain ni i ddatblygu casgliadau ac argymhellion clir i’r Gweinidog. Dylwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddweud ein bod yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth inni yn un o’n cyfarfodydd ffurfiol, a bu sawl un o’r rheini.

Nawr, yn naturiol, mae iechyd y cyhoedd yn hanfodol bwysig, ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o’r ystadegau echrydus sy’n amharu ar iechyd ein pobl—19 y cant o oedolion yng Nghymru yn dal i smygu, 40 y cant o oedolion yn yfed mwy o alcohol nag y dylen nhw, a thros hanner y boblogaeth yn rhy dew a ddim yn cadw’n heini yn rheolaidd. Fel yr ydym ni wedi’i glywed, dyma’r ail dro i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ddod gerbron y Cynulliad. Rydym ni i gyd yn gwybod na chafodd y cynnig i gymeradwyo’r Bil blaenorol ei dderbyn gan y pedwerydd Cynulliad, ac felly ni ddaeth yn Ddeddf. Mae’r Bil ger ein bron nawr yn cynnwys y cynigion gwreiddiol a gafodd eu hystyried gan y Cynulliad blaenorol, ond heb y darpariaethau sy’n cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin—e-sigarennau—mewn rhai mannau cyhoeddus. Mae’r pwyllgor iechyd wedi clywed siom gan rai bod y darpariaethau hyn wedi cael eu dileu. Fodd bynnag, barn y mwyafrif llethol o’r tystion oedd y bydd y Bil hwn yn helpu’r rheini sy’n gweithio yn y maes i yrru’r agenda o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn ei blaen, ac mae’n rhaid caniatáu i’r Bil symud ymlaen y tro hwn.

I droi at y casgliadau a’r argymhellion, rydym ni wedi gwneud nifer o argymhellion fydd yn cryfhau’r ddeddfwriaeth, yn ein barn ni, fel yr ydym ni wedi’i glywed, a byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar ddim ond rhai o’r rheini, yn nhermau amser. Nawr, rydym ni’n croesawu’r cyfyngiadau arfaethedig ar ysmygu ar dir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus. Rydym ni yn credu y bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu pobl rhag niwed mwg pobl eraill, yn ogystal â darparu llai o gyfleoedd i weld pobl yn smygu. Nid yw’n rhywbeth normal i’w wneud. Fodd bynnag, rydym yn credu bod angen manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i gynnig y lefel hon o amddiffyniad, ac felly rydym ni yn argymell bod y Gweinidog, fel mater o flaenoriaeth, yn ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol i ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu i leoliadau addysg a gofal plant yn ystod y blynyddoedd cynnar—rwy’n clywed bod hynny wedi cael ei ganiatáu—gât yr ysgol a’r ardaloedd o amgylch meysydd chwarae cyhoeddus. Buaswn i’n licio pwyso yn benodol ar y Gweinidog. Dyna ein hargymhelliad rhif 3 ni.

Mae’r sylwadau nesaf yn ymwneud â'r mater o roi twll mewn rhannau personol o'r corff—‘intimate piercings’, felly. Mae'r Bil, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn cynnig y dylai'r oed cydsynio ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff fod yn 16 mlwydd oed. Gwnaethom wrando ar y rhesymeg dros bennu'r terfyn oedran yn 16 oed, ac rydym ni’n gwybod mai dyma’r oedran cydsynio ar gyfer gweithgaredd rhywiol, ac, fel pwyllgor, rydym ni’n cydnabod bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i benderfynu beth i’w wneud gyda’u cyrff eu hunain. Fodd bynnag, yna wnaethom ystyried hyn yn erbyn pwysau’r dystiolaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth ac iechyd amgylcheddol sydd wedi gweld eu hunain yr effaith y gall rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ei gael ar gorff sy’n dal i ddatblygu. Cawsom wybod bod ‘difrod sylweddol’ yn gallu cael ei wneud o ganlyniad i dyllu o’r fath.

Clywsom awgrymiadau hefyd o gysylltiad posibl rhwng rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person ifanc 16 i 17 mlwydd oed a cham-fanteisio’n rhywiol ar bobl ifanc. Gwnaethom hefyd ddysgu wrth gasglu tystiolaeth y gallai rhoi twll mewn organau cenhedlu person dan 18 mlwydd oed gael ei ystyried yn fath o anffurfio organau rhywiol merched—‘female genital mutilation’, felly—dan ddiffiniad Sefydliad Iechyd y Byd, ac felly mae'n ddigwyddiad troseddol y dylid rhoi gwybod amdano i’r awdurdodau.

Ar y sail hon, nid ydym yn credu bod y cydbwysedd cywir wedi cael ei daro rhwng hawl pobl ifanc i gael llais a’r hawliau a ddylai fod gan bob person ifanc dan 18 mlwydd oed yng Nghymru i gael ei amddiffyn gan erthyglau confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Felly, rydym ni’n gwbl argyhoeddedig fel pwyllgor y dylai’r oedran cydsynio gael ei bennu’n 18 mlwydd oed, ac rydym wedi argymell bod adran 92 o’r Bil yn cael ei diwygio i wahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff, neu wneud trefniadau ar gyfer hynny, ar gyfer person sydd o dan 18 mlwydd oed. Dyna argymhelliad 14.

Roeddem hefyd wedi ein synnu ac yn bryderus o glywed nad yw’r troseddau sy’n cael eu rhestru yn adran 63(3) o'r Bil a fyddai'n atal ymarferydd rhag cael trwydded i ddarparu triniaethau arbennig, sy’n cynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff, yn cynnwys troseddau rhywiol. Rwy’n clywed beth mae’r Gweinidog wedi’i ddweud heddiw. Mae hyn, yn ein barn ni, yn bryder sylweddol a pherthnasol iawn o’i ystyried bod unrhyw un o’r triniaethau a enwir yn y Bil yn gallu cael eu gwneud ar ran bersonol o’r corff. Nid ydym yn derbyn fel pwyllgor bod y Bil hwn yn ‘Fil iechyd y cyhoedd’ yn hytrach na Bil ‘diogelu’. Yn wir, mae’r memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r Bil yn sôn am yr angen i osgoi amgylchiadau lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle gallent fod yn agored i niwed. Felly, rydym yn gadarn o’r farn y dylai’r troseddau sy'n cael eu rhestru yn adran 63(3) gael eu diwygio i gynnwys ‘troseddau rhywiol’—argymhelliad 13.

Yn olaf, allwn ni ddim siarad am iechyd y cyhoedd heb grybwyll yr her fwyaf, fwy na thebyg, i iechyd y cyhoedd sy’n wynebu ein cenedl, sef gordewdra. Roedd yr arolwg diweddaraf o ran iechyd Cymru yn dangos bod 59 y cant o oedolion yng Nghymru yn cael eu dosbarthu fel eu bod dros eu pwysau neu’n ordew, gan gynnwys 21 y cant yn ordew. Mae gordewdra yn fygythiad mor ddifrifol i iechyd y boblogaeth na allwn ei anwybyddu, ni waeth pa mor anodd neu gymhleth yw’r her.

Rydym ni yn cytuno efo’r Gweinidog nad oes unrhyw un darn o ddeddfwriaeth yn gallu ymdrin â’r holl ffactorau sy’n ymwneud â gordewdra—bydd yn gofyn i ni ymdrin â’r mater o sawl ongl—ond rydym yn rhannu pryderon rhanddeiliaid bod diffyg unrhyw fesurau penodol i fynd i’r afael â’r mater yn y Bil. Yn wir, daeth i’n sylw wrth i ni gasglu tystiolaeth bod camau eisoes y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, ond nid yw’r pwerau presennol yn y maes hwn yn cael eu defnyddio i’r eithaf. Felly, rydym ni wedi annog y Gweinidog i ystyried ein hargymhelliad 2 ac ymchwilio i’r potensial, drwy’r ddeddfwriaeth hon ac o dan bwerau sydd eisoes yn bodoli, i gyflwyno Bilau i fynd i’r afael â gordewdra a materion eraill sydd â blaenoriaeth o ran iechyd y cyhoedd, fel ymestyn safonau maeth sydd eisoes mewn bodolaeth yn ysgolion i ysbytai a chartrefi preswyl, er enghraifft. Ond, ar y cyfan, rydym ni’n croesawu’r cynigion yn y Bil yn gyffredinol ac yn credu y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell, fel pwyllgor, bod y Cynulliad yn derbyn yr egwyddorion cyffredinol yma heddiw. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n siŵr ei fod yn arwydd o pa mor bwysig yw iechyd y cyhoedd bod, rwy’n credu, tri phwyllgor yn mynd i adrodd ar y Bil yma wrth inni fwrw drwyddi.

Rwy’n credu ei fod yn bwysig i ni ddweud yn y lle cyntaf fod y pwyllgor wedi croesawu’r ffaith bod gwelliant sylweddol wedi bod o ran cyflwyno’r Bil yma o’i gymharu â’r Bil blaenorol yn y ffordd mae’r costau a’r manteision wedi’u cyflwyno yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Mae’r pwyllgor wedi adrodd o’r blaen pa mor bwysig yw hi bod y wybodaeth yma mor glir â phosibl er mwyn osgoi dryswch. Mae’n dda, felly, croesawu’r ffaith fod y Bil yma yn gwneud hynny’n fwy clir na’r Bil a gyflwynwyd yn y Cynulliad diwethaf.

Rydym hefyd yn croesawu’r sicrwydd a gafwyd gan y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru i wella’r wybodaeth ariannol a roddir mewn asesiadau effaith rheoleiddiol. Mae hwn yn fater y byddwn yn parhau, fel Pwyllgor Cyllid, i’w fonitro wrth graffu ar oblygiadau ariannol deddfwriaeth a gyflwynir yn ystod y Cynulliad hwn.

Y prif destun pryder, o ran cyllid yn y Bil, sydd wedi’i amlygu yn ein hadroddiad ni yw’r ffaith fod baich ariannol yn cael ei roi ar gyrff cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, o ran gweithredu darpariaethau’r Bil. Rydym wrth gwrs yn sylweddoli bod y Bil yn cynnwys darpariaethau sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi arian drwy ffioedd, yn enwedig trwy gofrestriadau ar y gofrestr nicotin, ceisiadau i drwyddedu ymarferwyr triniaethau arbennig a hysbysiadau cosb benodedig. Wrth gwrs, fe all awdurdodau lleol yn eu tro ail-fuddsoddi’r arian hwn er mwyn cyflawni eu rhwymedigaethau arolygu.

Fodd bynnag, roeddem ni’n bryderus o hyd fod y buddsoddiad y mae disgwyl i awdurdodau ei wneud i roi’r Bil ar waith yn faich anghyBil, o ystyried na fyddent yn elwa ar y buddion arfaethedig am gryn amser. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog, wrth agor y ddadl yma, wedi dweud bod y Llywodraeth yn ailedrych ar yr agwedd yma ac yn edrych ar sut y gellir ariannu o leiaf costau cychwynnol y Bil a chynorthwyo awdurdodau cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, sydd yn gorfod gweithredu’r Bil, os daw yn Ddeddf, cyn cael y ffordd o gasglu arian refeniw o ddarpariaethau’r Bil.

Mae’n codi cwestiwn ehangach, Ddirprwy Lywydd, ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i lywodraeth leol ysgwyddo baich y cyfrifoldebau newydd, ac mae’r Pwyllgor Cyllid yn ymwybodol iawn fod, yn y gorffennol, cytundeb wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ariannu cyfrifoldebau newydd wrth gyflwyno deddfwriaeth. Mae hynny’n fater efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am ddychwelyd ato.

Rydym hefyd yn nodi nad yw’r wybodaeth ariannol a ddarperir yn dangos a fyddai awdurdodau lleol yn casglu swm digonol drwy hysbysiadau cosb benodedig i dalu am y gost o orfodi’r darpariaethau, yn benodol wrth gwrs yn gysylltiedig â’r gofrestr nicotin. Mae’r ffaith nad yw’r wybodaeth hon ar gael yn destun pryder inni, gan y gallai manylion o’r fath gynorthwyo awdurdodau lleol i asesu’r goblygiadau ariannol a allai fod ynghlwm wrth roi darpariaethau’r Bil ar waith. Credwn ei fod yn bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gyhoeddi faint o arian a godir gan bob awdurdod lleol drwy incwm hysbysiadau cosb benodedig i dalu’r costau gorfodi—hynny yw, ein bod yn cael cadw golwg a monitro’r costau y mae’r awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth orfodi’r polisi yn eu cymunedau nhw.

Fe fyddai awdurdodau lleol hefyd yn wynebu costau yn sgil paratoi strategaethau tai bach. Er na ddylai’r costau hyn fod yn sylweddol iawn, rydym yn cwestiynu a fyddai’r broses o baratoi strategaeth ohoni’i hun yn arwain at well mynediad at dai bach i’r cyhoedd, ac felly a fyddai’r buddsoddiad yn rhoi gwerth am arian. Rydym wedi argymell, felly, y dylai Llywodraeth Cymru adolygu pa mor effeithiol fyddai’r darpariaethau sy’n ymwneud â thai bach cyhoeddus—rhywbeth a ddenodd gryn sylw gan y cyhoedd, rwy’n gwybod, wrth edrych ar y Bil hwn.

Yn olaf, hoffwn ailadrodd ein hargymhellion yn ymwneud â chostau gweithredu’r darpariaethau o safbwynt is-ddeddfwriaeth. Rydym yn sylweddoli y caiff asesiadau effaith rheoleiddiol eu paratoi i ddangos y costau a’r manteision wrth i bob gwahanol ddarn o is-ddeddfwriaeth gael ei gyflwyno. Er hynny, nid yw gwybodaeth o'r fath yn cael ei chynnwys yn y costau a'r manteision ar gyfer y Bil hwn. Rydym yn credu bod y wybodaeth hon yn bwysig er mwyn galluogi'r Cynulliad i ddeall y costau a'r manteision yn llawn. Rydym felly wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu dull mwy cyson o ddarparu costau sy'n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth ar gyfer pob Bil er mwyn gallu craffu’n well ar gostau a manteision llawn pob Bil.

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw un yn beirniadu’r Bil hwn am ddioddef o ddiffyg craffu wrth i mi gamu ymlaen fel y trydydd mewn triwriaeth o Gadeiryddion pwyllgorau.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau pwyllgor am eu gwaith craffu diwyd ar hyn ac am eu diwydrwydd cyson wrth graffu ar yr amrywiol Filiau sy'n dod ger ein bron. Gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 10 Chwefror, a hoffwn i amlinellu'n fras ein canfyddiadau gydag ychydig o sylwadau yn unig. Ond, cyn i mi wneud hynny, rwy’n credu y byddai'n gwneud synnwyr inni edrych yn ôl ar y gwaith a wnaed gan y pwyllgor a’n rhagflaenodd ar Fil tebyg yn y pedwerydd Cynulliad dan ein Cadeirydd blaenorol, sydd yma gyda ni heddiw.

Pan adroddodd y pwyllgor a’n rhagflaenodd ar y Bil, gwnaeth naw argymhelliad i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chafodd saith ohonynt eu derbyn. Yna cyflwynodd y Gweinidog welliannau i weithredu’r saith argymhelliad hynny yng Nghyfnod 2 a chytunwyd ar y rhain gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y pedwerydd Cynulliad.

Fel y nododd y Gweinidog, un o'r prif wahaniaethau rhwng y Bil ger ein bron heddiw a’r un y cytunwyd arno yng Nghyfnod 3 yn y Pedwerydd Cynulliad, wrth gwrs, yw cael gwared ar y cyfyngiad ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau fel ysbytai, ysgolion, siopau, sefydliadau bwyd ac ar gludiant i’r ysgol a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'r Gweinidog hefyd wedi cyfeirio at newidiadau eraill yn y Bil.

Yn ein barn ni, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, efallai y byddai wedi bod yn ddefnyddiol ac, yn wir, yn fwy tryloyw, pe byddai’r memorandwm esboniadol mewn gwirionedd wedi cymharu’r ddau Fil a'r gwahaniaethau sydd wedi dod i’r amlwg dim ond er hwylustod deall, nid yn unig i ddeddfwyr ond i aelodau'r cyhoedd hefyd. Gall fod yn rhywbeth y byddwn yn dymuno edrych arno yn y dyfodol hefyd—mae'n hawdd ei gyflawni; byddai wedi helpu aelodau a rhanddeiliaid, yn ogystal â lleygwyr, i ddeall sut mae syniadau wedi symud ymlaen, ac wedi hwyluso’r broses graffu er budd dinasyddion Cymru.

Un o argymhellion y pwyllgor a’n rhagflaenodd i Lywodraeth Cymru oedd ei gwneud yn ofynnol ar wyneb y ddeddfwriaeth mai awdurdodau cyhoeddus fyddai’r awdurdodau gorfodi. Ni chafodd yr argymhelliad hwnnw ei dderbyn, ac, yn ein gwaith craffu ni, nodwyd gennym fod y Bil newydd yn parhau i ddefnyddio’r un dull o weithredu. Fodd bynnag, rydym yn falch iawn, o ganlyniad i waith pellach gan y Llywodraeth, fod y Gweinidog wedi dweud wrthym ei fod yn fwriad ganddi gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i fodloni argymhelliad y pwyllgor a’n rhagflaenodd. Rydym yn croesawu penderfyniad y Gweinidog yn fawr iawn ac yn ystyried y bydd hyn yn cryfhau'r Bil drwy roi mwy o eglurder.

Rwyf am droi yn awr at yr argymhelliad yn ein hadroddiad cyfredol sy'n ymwneud â’r awdurdodau gorfodi hynny. Roeddem yn argymell y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i sicrhau bod awdurdodau gorfodi yn gwbl ymwybodol o'u rhwymedigaethau hawliau dynol pan fyddant, er enghraifft, yn mynd i mewn i gartrefi pobl. Yn benodol, fe wnaethon ni awgrymu y gellid cyflawni hyn drwy gyhoeddi canllawiau. Credwn y byddai hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hawliau dynol wrth gyflawni’n benodol y dyletswyddau gorfodi mewn ffordd fwy effeithiol nag y gellid eu cyflawni trwy ymgyrch gyfathrebu syml. Felly, tybed a allai'r Gweinidog egluro ymhellach ei bwriadau o ran yr argymhelliad hwn.

Ond, rydym yn croesawu sylwadau'r Gweinidog heddiw a hefyd ei hymgysylltiad gweithredol—ei hymgysylltiad cadarnhaol—â gwaith y pwyllgor. Mae hi wedi cymryd rhan bositif iawn ac mae hi wedi ymateb yn bositif i graffu’r pwyllgor hwn a gwaith y pwyllgor a’n rhagflaenodd, a diolchwn iddi am hyn—mae hyn i gyd yn dda i ansawdd y craffu o fewn y sefydliad hwn.

Rwy'n falch iawn o allu sefyll yma a siarad am Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Weinidog, hoffwn i ddweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Wrth i ni fwrw ymlaen gyda’r ychydig gamau nesaf, byddwn yn ceisio dod â gwelliannau pellach i'r Bil a byddwn yn ceisio sicrhau bod yr asesiad ariannol o gost y Bil hwn yn cyd-fynd â'r gwelliannau wrth iddynt gael eu gwneud.

Hoffwn geisio cyffwrdd yn fyr â nifer o feysydd. Roeddwn yn falch iawn o glywed eich sylw eich bod yn bwriadu ymestyn y parthau di-fwg i leoliadau blynyddoedd cynnar. Mae hynny'n cyd-fynd â'n dymuniad ni, ac rydym yn falch iawn â phwyslais cyffredinol y Bil o ran cynhyrchion tybaco a nicotin. Rydym yn pryderu rhywfaint, fodd bynnag, na fydd y gofrestr arfaethedig yn cyflawni'r canlyniad a ddymunir o ran atal y fasnach farchnad ddu mewn sigaréts a chynhyrchion tybaco. Dyna’r maes, wrth gwrs, yr ydym yn ceisio ei gyrraedd, ac os nad ydym yn ofalus gallem gael system feichus sy'n targedu’r rhai y gwyddom amdanynt, yn hytrach na system ychydig yn gyflymach sy'n cyrraedd y bobl nad ydym yn gwybod amdanynt ac yr ydym yn awyddus i’w hatal.

Hoffwn i droi at y maes nesaf, sef maes gweithdrefnau arbennig. Rwy’n drist nad ydych yn mynd i fod yn derbyn argymhelliad y pwyllgor ar driniaethau laser. Mae hynny'n peri i ni feddwl—y Ceidwadwyr Cymreig—oherwydd ein bod rhwng dau feddwl ynghylch a hoffem ddilyn y disgrifiad cyffredinol o driniaethau neu a ddylem dderbyn eich rhesymeg chi y dylem eu hychwanegu un ar y tro, wrth i’r niwed a brofwyd ddigwydd. Felly, hoffwn i ddeall eich meddylfryd chi y tu ôl i'r penderfyniad i wrthod argymhelliad y pwyllgor, oherwydd dyma ni yn y cam cyntaf pryd y gallem ofyn i chi ystyried ychwanegu rhywbeth ac mae'r Llywodraeth yn dweud 'na'. Felly, a yw hynny'n golygu, os ydym yn edrych ar feysydd eraill yn y dyfodol—gwaredu blew'r corff yn llwyr, er enghraifft—neu os ydym yn edrych ar gwpanu a meysydd eraill sydd bellach yn dechrau ymddangos— hollti tafod—fel triniaethau a allai fod yn niweidiol, a fydd hynny’n golygu 'na' yn awtomatig? Felly, hoffwn i gael dealltwriaeth glir o'r broses yr aethoch drwyddi a'r rhesymeg y tu ôl iddi, oherwydd fel arall bydd angen i ni ystyried sut yr ydym yn meddwl y gallwn ni gryfhau wyneb y Bil hwn.

Mae amddiffyn y cyhoedd rhag niwed yn gwbl allweddol i'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud a hoffwn gael eglurhad o dystiolaeth eich swyddog a ddywedodd mai diben y ddeddfwriaeth oedd sicrhau bod y gweithdrefnau yn cael eu cynnal mewn ffordd ddiogel a hylan ac nad oedd yn fater diogelu, oherwydd, unwaith eto, tra fy mod yn dal i sôn am roi twll mewn rhannau personol o’r corff a maes gweithdrefnau arbennig, rhaid i mi ddweud bod hyn yn gwrthddweud yn uniongyrchol y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor. Nid yw’n ymwneud yn unig â’r heintiau y mae modd eu cael; mae hefyd yn ymwneud â chymhwysedd y broses o wneud penderfyniadau, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed, atal cam-fanteisio rhywiol ac atal rheolaeth gymhellol. Yn gynharach heddiw, cawsom gwestiwn gwych gan Joyce Watson am anffurfio organau rhywiol merched, ac fe'i gwnaed yn glir iawn i ni yn rhywfaint o'r dystiolaeth a gawsom na ellir gwrthdroi rhai o'r gweithdrefnau hyn. Mae rhai o'r gweithdrefnau hyn yn cael eu hystyried i fod yn sylweddol neu—ac rwy’n mynd i ddyfynnu—yn ‘ail-gyflunio mawr ar anatomeg yr organau rhywiol'. Gall rhywbeth yr ydych yn ei wneud yn 16 oed, os ydych wedi’ch cael eich hun mewn cwmni sy'n arfer rheolaeth gymhellol drosoch, fod yn rhywbeth yr ydych yn byw i’w ddifaru pan fyddwch yn 25, 26, neu 27 oed. Hefyd, os edrychwn ar Ymgyrch Seren, gallwn weld bod llawer o'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan Ymgyrch Seren yn bobl ifanc. Roedd llawer ohonynt yn blant a oedd yn derbyn gofal. Roeddent yn agored iawn i niwed ac felly byddwn yn eich annog, Weinidog, i fod yn wirioneddol benodol ac yn glir yn eich dadansoddiad o’r oedran cydsynio ar gyfer rhoi twll mewn rhannau personol o’r corff ac ar gyfer pob un o'r gweithdrefnau hyn. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ar oedran cydsynio o 18 oed. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am weld 18 oed. Byddwn yn wir yn hoffi eich gweld chi’n barod i gytuno â ni ar hyn.

Hoffwn droi yn fyr iawn at un pwnc arall yn unig, o ystyried yr amser, sef gordewdra.  Weinidog, mae hwn yn Fil iechyd y cyhoedd a dyma'r un pwnc nad yw’n cael ei grybwyll o gwbl. Rhagwelir y bydd yn lladd llawer iawn o bobl yng Nghymru yn ystod y degawdau sydd i ddod. Byddem yn eich annog i gymryd tystiolaeth bellach ac ystyried sut y gellid teilwra’r Bil hwn mewn ffordd a fydd yn galluogi awdurdodau iechyd lleol, cynghorau lleol a'r Llywodraeth i fynd ati i hyrwyddo strategaeth gwrth-gordewdra. Gyda mwy na 59 y cant o bobl Cymru dros bwysau, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar gyflyrau meddygol eraill, mae hyn, a bod yn onest, yn gyfle a gollwyd i gael Bil iechyd y cyhoedd nad yw'n cyffwrdd â’r un pwnc hollbwysig hwn. Diolch.

Yn gyntaf, byddwn yn dymuno atseinio holl sylwadau Cadeirydd y pwyllgor. Rydw i wir yn gweld bod yna werth i’r ddeddfwriaeth yma. Mi fyddwn ni’n cydsynio iddi fynd i’r cam nesaf yn sicr, lle gobeithio y gallwn ni ei chryfhau a’i diwygio. Ond mae’n bwysig iawn, rydw i’n meddwl, ein bod ni, ar y pwynt yma, yn ymwybodol iawn o gyfyngiadau y Bil yma, rhag codi disgwyliadau pobl yn ormodol. Mae yna elfennau pwysig iawn ynddo fo, heb os, ond mae yna lawer sydd ddim ynddo fo, ac mi fydd angen deddfu cryfach, heb os, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn fwy iach go iawn yng Nghymru, waeth pa mor bwysig ydy’r camau sydd yn y Bil yma ar dyllu y corff a thatŵs ac, yn bwysig iawn, ar ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu, ac yn y blaen.

Fel rydym newydd ei glywed, mynd i’r afael â gordewdra ydy prif her iechyd cyhoeddus ein hamser ni. Rydym i gyd yn gwybod yr ystadegau am yr effaith ariannol mae gordewdra yn ei gael ac y bydd yn ei gael ar yr NHS, ac am yr effaith ddynol mae o’n ei gael ar bobl yn ein cymunedau ni. Ond y cwestiwn ydy: beth allwn ni a beth ddylem ni ei wneud am y peth? Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu yn sicr fod yna sawl gwers y gallwn ni eu dysgu o’r ymdrechion i fynd i’r afael ag ysmygu dros y degawdau diwethaf, a bod y rheini yr un mor berthnasol yn erbyn gordewdra. Mi oeddwn i eisiau Bil yn y fan hyn a oedd yn ceisio ymateb i’r argyfwng mwyaf yna sydd yn ein hwynebu ni o ran iechyd y cyhoedd, ac mi fyddwn innau yn apelio ar y Llywodraeth i barhau i chwilio am ffyrdd, drwy’r Bil yma, i gymryd camau pendant. Ond, yn anffodus, mae wedi bod yn broses rwystredig yn y pwyllgor hyd yma. Rydym wedi gweld bod y diffyg pwerau, o bosib, sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn atal rhai o’r camau y byddem ni, yn sicr, ym Mhlaid Cymru yn dymuno eu cymryd—gwahardd hysbysebu rhai mathau o fwydydd, trethu rhai mathau o fwydydd a diodydd ac yn y blaen.

Wrth gwrs, mae’n bwysig cofio bod yna lawer yn y maes yma y gall y Llywodraeth ei wneud heb ddeddfu. Mae angen cyfathrebu yn llawer mwy effeithiol efo pobl ac efo gweithwyr proffesiynol hefyd am ddeiet iach, pwysigrwydd ymarfer corff ac yn y blaen. Mae eisiau i’r Llywodraeth feddwl yn fwy cydgysylltiedig. Nid yw’n syniad da cyfyngu ar oriau canolfannau hamdden neu gau canolfannau hamdden yn ystod argyfwng gordewdra. Mae eisiau buddsoddi, rywsut, mewn adnoddau i ganiatáu a hybu bywyd iach, fel rydym ni yn buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd. Nid oes angen deddfu bob amser, ond rwy’n meddwl y bydd angen deddfu, ac rwy’n edrych ymlaen at pan fyddwn ni’n gallu deddfu mwy. Nid dyma fydd y Bil iechyd y cyhoedd olaf, heb os, ond nid dim ond gordewdra—fe allwn ni edrych ar faterion fel atal llygredd, er enghraifft, fel meysydd arall.

Mi fyddwn i hefyd yn licio tynnu sylw at ba mor bwysig ydy bod craffu ar ôl deddfu yn digwydd i raddau mwy nag efallai y mae o wedi cael ei wneud o’r blaen, os ydy’r Bil yma yn pasio. Rydym wedi gweld dro ar ôl tro, pan mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, fod ein sylw ni weithiau yn gallu crwydro oddi wrth y nod go iawn, a’n bod ni’n methu â monitro y cynnydd sy’n cael ei wneud o ganlyniad i Fil.

Mae hyn yn ein harwain ni at fy mhwynt olaf i ynglŷn ag asesiadau effaith ar iechyd. Mi oeddem ni yn sicr fel plaid yn eiddgar i weld asesiadau effaith ar iechyd yn dod i’r Bil gwreiddiol. Mi lwyddodd y pwysau yna i weithio. Mi osodwyd hyn, ac roeddem yn ddiolchgar i’r Llywodraeth ddiwethaf am roi hyn ar wyneb y Bil hwnnw, er i’r Bil fethu yn y pen draw. Ac mae hynny’n berthnasol y tro yma hefyd. Rydym i gyd yn cefnogi ac yn deall y rhesymau pam ein bod ni eisiau i sefydliadau gynnal asesiadau effaith ar iechyd, ond mi fyddwn i’n rhybuddio’r Gweinidog ar y pwynt yma mai yn y gweithredu y bydd y manteision yn cael eu Bil go iawn. Yn rhy aml, rwy’n meddwl, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld asesiadau cydraddoldeb neu asesiadau effaith amgylcheddol yn cael eu gwneud, ond yna’n cael eu hanwybyddu. Gyda llaw, rwy’n cefnogi ychwanegu’r gair ‘llesiant’—asesiadau iechyd a llesiant. Dyna sy’n bwysig, ond allwn ni ddim gadael i’r asesiadau hynny fod yn ymarfer ticio bocsys.

Felly, ar y cyfan, y neges i gloi ydy na ddylem ni ddim edrych ar basio’r ddeddfwriaeth yma fel diwedd y daith—y nod o gael poblogaeth iachach rydym ni’n anelu ato fo. Mae yna fesurau pwysig, yn sicr, yma o ran creu poblogaeth fwy diogel, ond gadewch inni fynd drwy’r broses rŵan—cynnig gwelliannau, cynnig ffyrdd o gryfhau’r hyn sydd gennym ni o’n blaenau ni rŵan, tra’n cadw mewn cof yr hyn y dylem ni fod yn anelu ato fo yn y pen draw.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru wedi galw’r Bil hwn yn

gyfle unigryw i godi proffil iechyd y cyhoedd,

lleihau anghydraddoldebau iechyd a lleihau'r galw ar y GIG. Mae nifer o siaradwyr eisoes wedi crybwyll pwysigrwydd mynd i'r afael â gordewdra a’i absenoldeb o'r Bil hwn, ond rwyf am godi un mater arall sy'n gysylltiedig â gordewdra, ond sydd, yn fy marn i, yn fater iechyd y cyhoedd hyd yn oed yn fwy o ran y niwed y mae'n ei wneud, a rheoli prisiau alcohol yw hwnnw.

Diod sy’n lladd y nifer uchaf o bobl rhwng 15 a 50 oed. Rydym hefyd yn gwybod bod 40 y cant o'r holl oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod yn yfed alcohol uwchlaw'r terfyn dyddiol a argymhellir ar o leiaf un diwrnod yn yr wythnos ddiwethaf. Mae'r rheini'n ystadegau eithaf brawychus, a byddwn wedi meddwl bod gennym rwymedigaeth i wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r ffaith bod alcohol yn llawer rhy rad a bod pobl felly'n gallu yfed llawer iawn ohono, hyd yn oed os ydynt ar incwm isel iawn.

Mae camddefnyddio alcohol yn arwain yn uniongyrchol at dros 1,500 o farwolaethau yng Nghymru ac mae nifer y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd camddefnyddio alcohol yn costio bron 110 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru. Rydym hefyd yn gwybod bod llawer iawn o bobl yn tagu'r system damweiniau ac achosion brys, er gwaethaf y gwyriad yr ydym yn ymdrechu i’w weithredu yma yng Nghaerdydd i gadw pobl yn ddiogel yng nghanol y ddinas heb orfod eu hanfon i’r ysbyty. Ond, yn anffodus, mae llawer ohonynt yn mynd i’r ysbyty ac maent yn tagu'r system ac mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth am hyn.

Felly, rwy'n siomedig iawn nad ydym wedi cael unrhyw beth ar alcohol yn y Bil hwn eto, yn enwedig gan fy mod yn credu ei fod yn cael cefnogaeth ar draws y Siambr. Yn wir, pan ofynnais i'r Prif Weinidog am hyn ddiwedd mis Ionawr, cadarnhaodd fod y Llywodraeth yn cefnogi cyflwyno isafswm pris uned fel rhan o becyn o fesurau gyda'r nod o leihau effaith camddefnyddio alcohol ar unigolion, cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, byddwn yn awyddus iawn i wybod pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i gynnwys isafbris am alcohol yn y Bil hwn, oherwydd ar hyn o bryd mae gennym sefyllfa lle mae alcohol yn cael ei werthu, i bob pwrpas, am bris rhatach na dŵr.

Rydym yn gwybod bod isafbris alcohol yn achub bywydau oherwydd mewn rhannau o Ganada, lle mae isafbris wedi cael ei weithredu, mae wedi arwain at leihad amlwg yn y swm y mae pobl yn ei yfed, gyda llai o dderbyniadau i'r ysbyty a llai o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, rwy’n credu bod gennym rwymedigaeth i wneud rhywbeth am hyn. Rydym yn gwybod bod isafbris alcohol yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r alcohol rhad a chryf sy’n cael ei werthu mewn archfarchnadoedd a siopau trwyddedig: diodydd fel fodca neu gin eu brandiau eu hunain, seidr gwyn cryf a lager cryfder uwch, a gynhyrchwyd yn bennaf yn y DU. Y bobl sy'n elwa fwyaf o hyn yw'r rhai sy'n yfed ar lefelau niweidiol, yn enwedig y rhai ar yr incwm isaf, sef y rheini na all fforddio colli diwrnod o'r gwaith.

Yn anffodus, ni allwn ddibynnu ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau angenrheidiol, oherwydd bod y Llywodraeth glymblaid wedi bradychu’r achos dros hyn yn 2013, ar y sail nad oedd digon o dystiolaeth gadarn. Wel, byddwn yn dweud bod digon o dystiolaeth y gall hyn weithio. Mae'r diwydiant alcohol—rydym yn gwybod y byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wrthsefyll prisiau cyfrifol, fel y gwelsom yn yr Alban, lle pasiodd Senedd yr Alban ddeddfwriaeth ar hyn mor gynnar â 2012, ond mae'r cyfan wedi cael ei ddal yn ôl yn y llysoedd oherwydd bod y Scotch Whisky Association yn ei herio yng Ngoruchaf Lys y DU. Ni allwn aros 30 mlynedd arall i fynd i'r afael ag alcohol fel y bu'n rhaid i ni dreulio 30 mlynedd yn brwydro yn erbyn niwed smygu. Felly, byddwn yn gobeithio y byddem yn gallu cynnwys hyn yn y Bil, ac y gallai rhywfaint o'r arian a godir ein galluogi ni i gadw ein canolfannau hamdden ac ati yn agored. Byddai'n codi symiau defnyddiol o arian i helpu i drin pobl â chlefyd alcohol ac yn mynd rhywfaint o'r ffordd at geisio brwydro yn erbyn y miliynau o bunnoedd sy'n cael eu gwario gan y diwydiant diodydd i annog pobl i yfed llawer mwy nag sy’n dda iddynt.

Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, hoffwn ddiolch i'n Cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor am y ffordd golegol yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar y Bil hwn. Hefyd, diolch i swyddogion iechyd ac asiantaethau allanol am ddarparu eu tystiolaeth i ni.

Bydd UKIP yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Mae llawer i’w ganmol am y Bil hwn. Rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd i gryfhau’r cyfyngiadau ar werthu cynnyrch tybaco a nicotin i bobl ifanc. Rydym yn croesawu'r bwriad i atal smygu mewn mannau lle mae plant yn bresennol. Rydym yn croesawu’r camau a gymerir i wella iechyd a diogelwch o ran tatŵio a thyllu, yn ogystal â sicrhau bod pobl sy'n cyflawni’r gweithdrefnau hyn yn cael eu trwyddedu a'u cofrestru. Teimlir bod angen ystyried ymhellach a yw oedran cydsynio o 16 yn rhy ifanc ar gyfer rhoi twll mewn rhannau personol o’r corff. Rydym hefyd yn croesawu’n fawr cyflwyno’r asesiadau effaith ar iechyd.

Fodd bynnag, mewn llawer o feysydd, nid yw’r Bil yn mynd yn ddigon pell. Fel y dywedodd llawer o rai eraill, nid yw’r Bil iechyd y cyhoedd bondigrybwyll hwn yn mynd i'r afael â her fwyaf ein hoes ni i iechyd y cyhoedd: yr epidemig gordewdra sy'n wynebu ein cenedl. Mynegodd llawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni ar y pwyllgor iechyd eu siom nad yw’r Bil yn gwneud dim i fynd i'r afael â gordewdra, camddefnyddio alcohol, ansawdd aer gwael neu unigrwydd ac arwahanrwydd. Rwy’n rhannu eu siom ac yn gobeithio y gallwn fynd i'r afael â'r diffygion hyn yn ystod hynt y Bil drwy'r pwyllgor iechyd.

Mae un o fy siomedigaethau mwyaf gyda'r Bil fel y mae yn ymwneud â’r ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus. Mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y Bil yn cydnabod yr anghysonderau sy'n bodoli yn y ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus ledled Cymru a'r ffaith nad oes dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu tai bach cyhoeddus. Er ei bod yn fwriad gan y Gweinidog i wella darpariaeth tai bach i bawb, mae llawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor iechyd yn teimlo bod y Bil yn siom enfawr ac na fyddai'n arwain at unrhyw welliannau mawr. Yn anffodus, i lawer yn ein cymdeithas, mae diffyg tai bach cyhoeddus hygyrch yn ddedfryd o garchar. Mae pobl ag ystod o gyflyrau meddygol yn cael eu caethiwo yn eu cartrefi eu hunain, yn y bôn, oherwydd diffyg tai bach cyhoeddus ar draws Cymru. Ni fydd y ffaith bod y Bil ddim ond yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau baratoi strategaeth tai bach cyhoeddus yn gwneud dim i wella'r ddarpariaeth neu dawelu pryderon y rhai yr effeithir arnynt gan y diffyg darpariaeth. Roedd y pryderon hyn yn cael eu rhannu nid yn unig gan y grwpiau cleifion a'r comisiynydd pobl hŷn, ond hefyd gan Gydffederasiwn y GIG, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd y Cyhoedd Cymru, a ddywedodd wrth y pwyllgor iechyd y bydd y pwysau ariannol ar gynghorau yn golygu na fydd strategaeth yn gwella'r ddarpariaeth.

Teimlai'r rhan fwyaf o randdeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni yn y pwyllgor iechyd y dylai fod yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i weithredu'r strategaethau tai bach cyhoeddus. Mae'r Gweinidog wedi dweud ei bod yn teimlo, o ystyried y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol, na fyddai'n bosibl gosod y ddyletswydd statudol hon arnynt. Rwy'n teimlo ein bod yn siomi pobl Cymru drwy beidio â chael strategaethau tai bach gorfodadwy ac rwy’n gobeithio y gallwn gryfhau gorfodaeth o'r strategaethau hyn drwy ddulliau eraill. Efallai mai dyletswydd Llywodraeth Cymru, yn y pen draw, yw sicrhau bod strategaethau lleol yn gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer tai bach cyhoeddus. Mae angen i ni edrych ar yr holl opsiynau ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gryfhau'r Bil wrth iddo fynd yn ei flaen drwy'r Cynulliad. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n aelod o'r pwyllgor ac roeddwn yn ystyried y broses graffu yn gynhyrchiol a cholegol, fel y dywedodd aelodau eraill y pwyllgor heddiw. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau i ar ddau faes: smygu a darparu tai bach cyhoeddus. Rwy’n croesawu ymestyn y diogelwch rhag smygu sydd yn y Bil, yn enwedig i blant. Rwy’n credu bod y rhain yn gamau ymlaen sy’n gwbl hanfodol, ac mae Aelodau eraill eisoes wedi cyfeirio at argymhelliad 3, sy'n gwbl allweddol i alluogi cyfyngiadau ar smygu i gael eu hymestyn i leoliadau addysgol gofal plant blynyddoedd cynnar. Mae'n braf iawn bod y Gweinidog wedi dweud bod hynny'n rhywbeth y mae'n bwriadu ei wneud.

Hoffwn hefyd dynnu sylw at argymhelliad 5, sy'n argymell

bod y Gweinidog yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod cymorth a chyngor ar roi'r gorau i smygu yn cael eu hyrwyddo'n helaeth mewn lleoliadau gofal iechyd

ac y dylai hyn gael ei bwysleisio yn arbennig, mewn

ardaloedd smygu allanol lle mae'r rhain yn cael eu darparu.

Rwy’n credu mai dyna’r cyfle, pan fydd pobl mewn lleoliadau gwasanaeth iechyd, i hyrwyddo cyngor a chymorth yn gryf iawn i roi'r gorau i smygu. Rwy’n credu ein bod yn teimlo yn y trafodaethau yn y pwyllgor fod hyn yn rhywbeth y gellid ei wneud i raddau llawer mwy.

Hefyd, wrth gwrs, ceir problem staff sydd mewn lleoliadau gofal iechyd. Rydym yn gwybod bod nifer sylweddol o staff gofal iechyd yn smygu, ac felly rwy’n meddwl y dylid gwneud pob ymdrech i gynnig cyfleoedd iddynt.

Credaf, yn y Bil, mai’r byrddau iechyd lleol sydd i benderfynu, neu’r ysbytai lleol sydd i benderfynu, a oes ganddynt lochesi smygu ar eu tir. Mae hwn yn benderfyniad eithaf anodd i’r ysbytai ei wneud. Yn sicr, yn fy etholaeth i fy hun, ni chaiff unrhyw un smygu o gwbl yn Ysbyty Felindre, nac ar dir yr ysbyty, ac nid oes ganddo loches i smygu. Gallaf ddeall yn iawn pam, gan ei fod yn ysbyty canser, mae'n gweld y perygl ofnadwy y mae smygu yn ei achosi ac mae'n dweud 'na' i smygu ar ei dir.

Ond mae’n achosi problem i bobl sy'n byw y tu hwnt i dir yr ysbyty. Er enghraifft, mae etholwr wedi cysylltu â mi gan ddweud,

O ddydd i ddydd, yn sgil y gwaharddiad ar smygu, mae llif cyson a pharhaus o staff, ymwelwyr a chleifion yr ysbyty sy'n ymgynnull y tu allan i’n tŷ ni ... i smygu.

Mae stympiau sigaréts yn cael eu taflu yn gyson yn ein gardd ac mae hyn yn peri gofid. Mae hefyd risg tân ....Ar sawl achlysur ... mae cleifion ac ymwelwyr wedi eistedd ar wal fy ngardd hyd yn oed a smygu. I fy mhlant i, felly, mae smygu yn sicr yn rhan 'arferol' o fywyd bob dydd.

Felly, er fy mod yn cefnogi penderfyniad Ysbyty Felindre, sydd wedi ymdrechu'n galed iawn i atal cleifion, ymwelwyr a staff rhag mynd y tu allan a smygu ar dir pobl, mae'n rhaid i ni edrych ar ganlyniadau hyn. Lle mae ysbyty’n darparu ardal ar gyfer smygu i bobl ar y tir, rwy’n meddwl bod y pwyllgor yn teimlo y dylem wneud pob ymdrech i roi cyngor yn y llochesi hynny ar y ffynonellau cymorth sydd ar gael iddynt. Mae yno gynulleidfa barod. Felly, rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni edrych arno yn ofalus iawn.

Rwyf hefyd yn awyddus i godi pryderon am y ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus. Rydw i wedi bod yn ymgyrchu yn ddiweddar ar y mater hwn gydag etholwr 82 mlwydd oed ar ôl i’r tŷ bach cyhoeddus olaf yn yr Eglwys Newydd gau. Rwy'n credu ein bod wedi clywed eisoes pa mor bwysig yw tai bach cyhoeddus i’r cyhoedd. Ond rwy’n teimlo bod hwn yn gam ymlaen, ac rwy’n credu bod awgrymiadau yn y Bil iechyd y cyhoedd a fydd yn gwella'r sefyllfa o ran mynediad i dai bach cyhoeddus ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol. Yn amlwg, os na fyddai arian yn broblem, gallem fynd yn llawer pellach, gallem adeiladu tai bach cyhoeddus a gallem wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Dyna fyddai’n ddelfrydol, ond nid ydym yn y sefyllfa honno.

Felly, rwy’n credu y byddai’n anfoesgar, mewn gwirionedd, i ddweud bod siom anferthol nad yw’r Bil hwn yn gwneud unrhyw beth, gan fy mod yn credu ei fod yn gwneud rhywfaint o awgrymiadau synhwyrol iawn. Er enghraifft, y cynnig y gallai tai bach cyhoeddus ym mhob adeilad cyhoeddus fod yn hygyrch ar gyfer y cyhoedd—credaf fod hwnnw’n gam cadarnhaol iawn ymlaen, oherwydd, yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mae yna o leiaf un adeilad cyhoeddus. Amser cinio, euthum i agoriad y ganolfan newydd yn Ystum Taf, sef yr hen lyfrgell a'r ganolfan ddydd yn dod at ei gilydd er mwyn creu canolfan o gyfleusterau ar gyfer yr ardal, ac mae ganddyn nhw dai bach yn y ganolfan. Rwy’n meddwl bod angen i ni gael hysbysiad ar y drws, ac rwy'n siŵr y bydd yna un, i ddweud bod y tai bach hyn ar gael at ddefnydd y cyhoedd, p’un a ydych yn defnyddio'r ganolfan mewn unrhyw ffordd neu beidio.

Mewn rhai gwledydd, maent yn annog mentrau preifat i gynnig cyfleusterau hefyd, a gall hyn chwyldroi argaeledd tai bach cyhoeddus effeithiol a dymunol i'w defnyddio.

Ydy. Credaf fod honno yn ffordd arall o symud ymlaen, ond un o'r pwyntiau—. Dim ond un rhybudd bach ar hynny yw bod rhai pobl oedrannus yn arbennig, wedi dweud nad ydynt yn dymuno mynd i mewn i gaffis i ddefnyddio'r toiled yn unig, oherwydd eu bod yn tynnu sylw at eu hunain.

Felly, rwy’n credu ei fod yn gam ymlaen ar y tai bach cyhoeddus yn y Bil hwn.

Roeddwn i eisiau siarad yn fyr iawn, os caf i, yn y ddadl bwysig hon. A gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod â Bil yn ôl heb unrhyw gynigion am gyfyngiadau sylweddol ar e-sigaréts? Rydym yn gwybod ein bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth ostwng cyfraddau smygu yma yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny wedi mynd law yn llaw â phobl yn dewis cael e-sigarét yn hytrach na smygu tybaco, sydd yn amlwg yn llawer mwy buddiol i'w hiechyd.

A gaf i hefyd ei roi ar gofnod gymaint yr wyf yn cytuno'n llwyr â Jenny Rathbone, a wnaeth achos cryf, yn fy marn i, dros isafbris alcohol yma yng Nghymru? Gallaf gofio, pan oeddwn yn ymwneud yn gyntaf â’r briff iechyd cysgodol nifer o flynyddoedd yn ôl, imi gael sgwrs gydag Alcohol Concern Cymru am hyn. Roeddwn yn gwrthwynebu’n llwyr gael unrhyw fath o isafbris alcohol, ond pan edrychais ar yr ystadegau, roeddent yn llwm iawn o ran fforddiadwyedd sylweddol alcohol o’i gymharu â'r sefyllfa yn ôl yn y 1970au a'r 1980au. Mae pris alcohol, mewn termau cymharol, wedi gostwng yn sylweddol fel cyfran o incwm pobl. Rwy’n credu ei bod yn bryd i ni dderbyn cyfrifoldeb a chyflwyno rhai cynigion ar isafbris alcohol. Byddai hyn yn ymdrin â'r niwed y mae alcohol yn ei achosi i gymdeithas a'r costau sylweddol y mae alcohol yn eu rhoi ar drethdalwyr o ran ceisio clirio cost trin clefydau sy'n gysylltiedig ag alcohol, a chanlyniadau troseddu oherwydd alcohol, wrth gwrs, na wnaeth Jenny eu crybwyll mewn gwirionedd.

O ran y gofynion di-fwg, rwy’n croesawu rhai o'r estyniadau a gyflwynwyd sydd wedi cael eu dwyn ymlaen gan y Llywodraeth, ond bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi codi gyda hi gynnig gan blant ysgol yn fy etholaeth i yn Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn, sydd mewn gwirionedd wedi dweud mai un o'r pethau y maent wir yn ei gasáu yw hongian o gwmpas mewn arosfannau bysiau pan fydd pobl yn pwffian ar sigaréts. Rwy’n meddwl, yn enwedig rhwng yr oriau y mae plant yn teithio i'r ysgol ac oddi yno, efallai y bydd rhywbeth y gallech ei ystyried o bosibl o ran cyfyngu ar smygu mewn arosfannau bysiau, gan ei fod yn fan lle mae plant yn ymgynnull yn rheolaidd. Rwy’n meddwl bod eich bwriadau yn gwbl gywir o ran yr ymgyrch i atal pobl rhag smygu mewn ardaloedd lle mae plant yn ymgynnull, ond mae hynny, rwy’n credu, yn fuddugoliaeth hawdd ac mae'n anodd gweld pam nad ydych wedi gallu ei roi ar wyneb y Bil ar hyn o bryd. Tybed, Weinidog, a allech ddweud a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn barod i’w ystyried yng Nghyfnod 2.

O ran tai bach cyhoeddus, yn amlwg, un o'r pethau a gynigiwyd gennym yng Nghyfnod 3 pan oedd y Bil blaenorol yn cael ei drafod yn y Cynulliad diwethaf, oedd yr angen nid yn unig am strategaethau lleol ar gyfleusterau cyhoeddus, ond hefyd, wrth gwrs, am ddatblygu strategaeth genedlaethol. Ymddengys bod y Llywodraeth yn dweud y dylai awdurdodau lleol gynhyrchu eu strategaethau lleol ac, os nad ydynt yn llwyddo, yna gall yr etholwyr gael gwared arnynt yn yr etholiad nesaf. Mae hynny'n hollol iawn ar gyfer tai bach sy'n bwysig yn lleol, ond y broblem yw bod rhai tai bach sy’n bwysig yn strategol yn genedlaethol nad ydynt yn bwysig i’r etholwyr lleol. Felly, er enghraifft, cafwyd dyfyniad enwog, ar lawer achlysur—a bydd Kirsty Williams yn falch fy mod yn codi'r pwynt hwn—bod tai bach ar hyd cefnffordd yr A470 nad ydynt, a dweud y gwir, yn cael eu defnyddio yn aml gan y bobl leol, ond sy’n cael eu defnyddio lawer gan bobl sy'n pasio drwodd ar y gefnffordd, neu bobl sy'n ymweld â’r ardal honno. Wrth gwrs, ni fydd gan yr unigolion hynny bleidlais leol, ym Mhowys, i gael gwared ar y cynghorwyr lleol sy'n gwrthod cydnabod pwysigrwydd y cyfleusterau hynny.

Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth, i fod yn deg, wedi ei gydnabod fel problem, a dyna pam mae'r Llywodraeth wedi rhoi cyllid i gynnal a chadw rhai o'r tai bach cyhoeddus hynny. Eto i gyd, nid oes darpariaeth o gwbl ar gyfer strategaeth cyfleusterau cyhoeddus ar sail genedlaethol er mwyn gwneud yn siŵr y cyfrifir ar gyfer y bylchau hynny yn y ddarpariaeth. A gadewch i mi ddweud wrthych, mae’r ffaith nad oes unrhyw gyfleusterau cyhoeddus mewn rhai rhannau o Gymru yn gwahardd pobl, yn enwedig y rheini â chyflyrau meddygol, rhag mynd allan o'r tŷ a mynd ar deithiau hir. Mae hynny, rwy’n credu, yn annerbyniol a dyna pam rwyf am weld y Bil yn cael ei gryfhau. Tybed, Weinidog, a fyddwch yn ystyried cryfhau'r Bil drwy ddarparu rhyw fath o strategaeth genedlaethol, strategaeth gyffredinol sy'n edrych ar y ddarpariaeth ledled Cymru, y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros ei gweithredu mewn gwirionedd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog a'r gwahanol bwyllgorau am ddod a'r Bil ymlaen i'r cyfnod presennol. Roeddwn yn mynd i siarad am ordewdra, ond teimlaf fod nifer o bobl eraill wedi siarad am hynny, felly nid wyf am rygnu ymlaen ar y pwynt hwnnw.

Rwy'n credu bod y mater tai bach cyhoeddus yn bwynt dadleuol, nid yn unig ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol ond ar gyfer pobl yn gyffredinol. Roedd gen i ddiddordeb yn sylwadau Julie Morgan, oherwydd roedd tafarn yn ei hetholaeth hi, y New Inn yn Birchgrove, yr oeddwn yn mynd iddi yn aml, ac weithiau byddai pobl yn mynd i mewn nad oeddent yn defnyddio'r dafarn ac roeddent yn cael eu cyfeirio at y tai bach. Rwyf fel petawn yn cofio’r dafarnwraig yn dweud wrthyf eu bod nhw’n rhan o gynllun, a all fod yn debyg i'r math o gynllun yr oedd David Melding yn sôn amdano. Yn anffodus, caewyd y dafarn i wneud gwaith adnewyddu iddi ac nid yw’r dafarnwraig honno yno mwyach. Er hynny, byddai'n ddiddorol cael gwybod pa fath o gynllun yr oeddent yn ei redeg ac a ellid ei ddefnyddio’n ehangach.

Yr unig bwynt arall yr hoffwn i ei wneud yw adleisio ac ymhelaethu ar yr hyn a ddywedodd Angela ynglŷn â'r mater o dyllu a’r oedran cydsynio ar gyfer tyllu’r corff. Roedd Angela yn ei gymharu ag anffurfio organau cenhedlu benywod, gyda'r posibilrwydd o rywun 16 neu 17 oed yn cymryd rhan mewn perthynas gymhellol, a oedd yn ddiddorol. Nid oeddwn wedi meddwl am hynny o'r blaen, ond roeddwn wedi meddwl yn flaenorol, mewn rhai achosion, y gallai fod yn amlygiad o hunan-niweidio ymysg yr ifanc. Rwy’n cytuno â'r awydd a fynegwyd gan nifer o bobl efallai y gallech edrych ar godi'r terfyn oedran i 18 oed. Credaf fod hynny’n bwysig ar y pwynt hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Rebecca.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, a hefyd am yr arwydd o gefnogaeth i egwyddorion cyffredinol y Bil. Yn amlwg, byddaf yn ymateb yn ffurfiol i bob un o'r tri phwyllgor a phob un o'u hargymhellion. Ond byddaf yn achub ar y cyfle hwn i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol, yn fy marn i, a godwyd gan yr Aelodau y prynhawn yma.

O ran y darpariaethau smygu yn y Bil, rwy'n falch iawn o weld bod yr Aelodau wedi croesawu’r rhain. Byddant i gyd wedi clywed fy ymrwymiadau i ymestyn i leoliadau blynyddoedd cynnar. Yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor, siaradais am gymhlethdod gwahardd beth yn ei hanfod sy’n weithgaredd cyfreithiol mewn man cyhoeddus. Mae'r Bil yn caniatáu i leoliadau eraill gael eu hychwanegu maes o law, a byddai'n rhaid i hynny ddigwydd ar ôl ymgynghori priodol, â chytundeb y Cynulliad. Byddai’n rhaid i unrhyw leoliad yr ydym yn ei ychwanegu at y Bil neu i'r Ddeddf maes o law fod yn gyfraith dda. Felly, bydd yn rhaid i'r cyhoedd dan sylw ddeall yn rhesymol eu bod yn cyflawni trosedd, a bydd yn rhaid i’r bobl sy’n gorfodi'r ddeddfwriaeth gael dealltwriaeth dda o hynny hefyd. Felly, mae hynny'n gwneud ardaloedd megis terfynau allanol, er enghraifft, arosfannau bysiau ac ardaloedd eraill yn arbennig o gymhleth. Ond, fel y dywedais, bydd cyfleoedd maes o law yn y Bil i edrych ar ymestyn i leoliadau eraill. Mae'n werth cydnabod hefyd, pan gafodd y Bil ei gyflwyno’n wreiddiol gerbron y Cynulliad yn y Pedwerydd Cynulliad, nad oedd unrhyw leoedd wedi’u henwi ar wyneb y Bil. Felly, mae gennym dri eisoes ac rydym yn edrych ar gyflwyno pedwerydd. Felly, rwy’n meddwl ein bod ni wedi dod yn bell o ran y lleoliadau awyr agored ar gyfer smygu.

Codwyd peth pryder yn y ddadl am dybaco anghyfreithlon, ac rwy’n cytuno bod angen ystyried troseddau sy'n ymwneud â thybaco anghyfreithlon ochr yn ochr â rhai eraill wrth ychwanegu troseddau newydd i'r gyfundrefn gorchymyn mangre dan gyfyngiad. Rwy'n gwybod bod hwn wedi bod yn destun pryder i'r pwyllgor. Rwy'n credu mai’r ffordd orau o wneud hyn fyddai defnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau sy'n cael eu darparu gan y Bil. Fel y nodais yn y datganiad o fwriad polisi, a gyhoeddais ochr yn ochr â'r Bil, bydd gwaith yn cael ei wneud gyda rhanddeiliaid i nodi'r troseddau y mae angen eu cynnwys.

Yn ogystal â hyn, bydd angen i ymgynghoriad llawn ddigwydd cyn y gellir gwneud y rheoliadau, a byddant hefyd yn amodol ar y broses gadarnhaol yn y Cynulliad. Byddwn yn dweud fy mod yn ystyried y darn hwn o waith i fod yn flaenoriaeth, ond bydd yn rhaid dilyn y sianelau priodol. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym drefn orfodi gref i bobl sy’n parhau i werthu tybaco a nicotin yn anghyfrifol, ac yn arbennig felly i bobl ifanc.

Bydd yr Aelodau wedi clywed fy sylwadau ar roi twll mewn rhannau personol o’r corff. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae’r Aelodau yn arbennig o bryderus yn ei gylch, a byddwn yn ailbwysleisio fy mod yn rhoi ystyriaeth weithredol iawn i hyn, gan gymryd cyngor ac edrych eto ar y dystiolaeth sydd wedi cael ei derbyn gan y pwyllgor, a thu hwnt i'r pwyllgor hefyd.

Cafodd troseddau rhywiol, laserau ac addasu’r corff i gyd eu crybwyll gan yr Aelodau hefyd. Argymhellodd y pwyllgor fod y troseddau a restrir yn adran 63 (3) o'r Bil yn cael eu diwygio i gynnwys troseddau rhywiol. Ac mewn ymateb i'r dystiolaeth tyst arbenigol a ddarparwyd i'r pwyllgor, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ailedrych ar y troseddau perthnasol a restrir dan yr adran hon o'r Bil. Rwyf felly yn bwriadu cyflwyno gwelliannau'r Llywodraeth ar y mater. Rwyf wedi fy argyhoeddi bod galluogi awdurdodau lleol i ystyried gwybodaeth fel troseddau rhyw heb eu disbyddu yn cael ei gyfiawnhau ar sail diogelu'r cyhoedd, yn enwedig gan fod rhai gweithdrefnau yn gofyn am elfen o agosatrwydd, megis rhoi twll mewn organau cenhedlu. Mae cleientiaid yn aml ar eu pennau eu hunain gyda'r ymarferydd tra bod y weithdrefn honno yn cael ei pherfformio.

Roedd cwestiwn yn ymwneud â laserau a defnyddio golau pwls dwys, sydd eisoes yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Felly, os oeddent i gael eu rhestru ochr yn ochr â'r gweithdrefnau arbennig ar wyneb y Bil yn y cyfnod hwn, byddai dyblygu o ran rheoleiddio yno.

Rwy’n cydnabod bod rhai sefydliadau yn darparu tatŵs yn ogystal â chael gwared â thatŵs â laser. Felly, rwy’n derbyn bod hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gael cofrestriad awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau fel tatŵio, a hefyd gofrestriad AGIC ar gyfer laserau ac IPLs. Mae rôl a swyddogaeth AGIC, fodd bynnag, yn destun trafodaeth barhaus yn dilyn ymatebion i'r Papur Gwyrdd, 'Ein Hiechyd, Ein Gwasanaeth Iechyd'. Felly, hoffwn ymchwilio a fyddai'n briodol ai peidio, maes o law, ychwanegu laserau ac IPLs at ddibenion nad ydynt yn llawfeddygol at y rhestr o weithdrefnau arbennig, ond ar ôl ymgynghori'n briodol ag AGIC, awdurdodau lleol a'r cyhoedd.

O ran addasu’r corff, gwn fod y pwyllgor wedi bod yn awyddus i waith ychwanegol gael ei wneud i ddeall faint o driniaethau addasu’r corff sy’n cael eu cynnal yng Nghymru, a’r risg a achosir i iechyd y cyhoedd. Yn ystod datblygiad y Bil, fe wnaethom ymgynghori ag awdurdodau lleol ac ymarferwyr a roddodd dystiolaeth sy'n awgrymu bod triniaethau addasu’r corff mewn gwirionedd yn cael eu perfformio yn eithaf anaml yng Nghymru. Ond rwy’n cytuno bod angen mwy o dystiolaeth i ddeall hyd a lled hyn yn llawn.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Er fy mod yn derbyn cywirdeb y dystiolaeth yr ydych wedi’i chlywed gan gyrff cyhoeddus, roedd sôn hefyd yn nhystiolaeth y pwyllgor a gymerwyd gennym fod symudiad tanddaearol mawr sy'n ymwneud â phethau fel triniaethau addasu’r corff. Felly, nid ydynt o anghenraid yn mynd i gael eu nodi gan awdurdodau cyhoeddus.

Rwy’n derbyn hynny, ac fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol ymrwymiad, pe byddai’r Bil yn llwyddo i ddod yn gyfraith, ei fod yn bwriadu ymgynghori ar yr egwyddor o ychwanegu gweithdrefnau ychwanegol at y rhestr a gwmpesir gan y Bil yn fuan ar ôl deddfu’r Bil, a byddwn yn hapus i ddal at yr ymrwymiad hwnnw.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fodd bynnag, nad ydym yn rheoleiddio gweithdrefnau sy'n cael eu hystyried yn ôl y gyfraith i fod yn ymosodiadau. Ar hyn o bryd mae achos yn Wolverhampton lle mae'r heddlu yn erlyn dyn a oedd yn perfformio triniaethau addasu’r corff megis tynnu clust, tynnu teth a hollti tafod. Ac mae wedi cael ei gyhuddo o dri achos o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol, a chyhuddiadau amgen o glwyfo heb fwriad. Felly, rydym yn monitro datblygiad yr achos hwnnw i ddeall lle mae’r llinell yn gorwedd rhwng addasu’r corff ac ymosodiad.

Dylai digon o dystiolaeth gael ei darparu drwy'r broses ymgynghori maes o law i awgrymu bod triniaethau addasu’r corff yn cael eu cynnal yn aml yng Nghymru a'u bod yn risg sylweddol i iechyd pobl. Yna byddai angen gwneud gwaith pellach i ddeall cymhlethdodau cyfreithiol a moesegol y gweithdrefnau cyn i ni ystyried eu hychwanegu at y rhestr o weithdrefnau arbennig, drwy gyfrwng rheoliadau cadarnhaol. Ond, fel y dywedais, rwy’n dal at yr ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog blaenorol yn hyn o beth.

Cyfeiriodd nifer o Aelodau at y ffaith nad oes yn y Bil unrhyw gamau penodol i fynd i'r afael â gordewdra. Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor, roeddwn yn awyddus i bwysleisio, mewn gwirionedd, nad yw’r Bil ond yn un rhan o gyfres ehangach o Filiau. Ac rwy’n deall y rhwystredigaethau a gafodd y pwyllgor mewn gwirionedd o ran gallu archwilio, gyda phobl sy'n rhoi tystiolaeth am y mathau o gamau gweithredu y gellid eu datblygu ar y sail hon. Rwy’n diolch i'r pwyllgor am yr awgrymiadau a wnaeth, ac yn pwysleisio ein bod yn gwbl ymroddedig i fynd i'r afael â'r agenda bwysig hon o ran iechyd y cyhoedd. Ni fydd hyn bob amser yn digwydd trwy ddeddfwriaeth; er enghraifft, mae gennym eisoes safonau maeth mewn ysgolion ac ysbytai, ac mae trafodaeth barhaus gydag ysbytai ynghylch sut y gallwn ymestyn bwyd iach i aelodau staff ac ymwelwyr ag ysbytai. Mae gennym ein gwaith ar y gweithle iach, y cynllun cenedlaethol ar gyfer atgyfeirio ymarfer corff, rhaglenni bwyta'n iach, ac rydym hefyd yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU ar y mater hysbysebu bwydydd afiach, yn enwedig i blant hefyd.

Rwy'n fodlon derbyn egwyddor argymhellion y pwyllgor sy’n cael eu gwneud yn hyn o beth, i'r graddau y maent yn ystyried materion a godwyd dan bwerau sydd eisoes yn bodoli a llwybrau deddfwriaethol eraill. Bydd y pwyllgor yn ymwybodol bod gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar fater safonau maeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a lleoliadau cartref gofal. Rwyf hefyd yn hapus i drafod ymhellach fater siwgr ychwanegol mewn ysgolion gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, er, unwaith eto, efallai mai diwygio rheoliadau fyddai’r ffordd o roi sylw i hynny yn hytrach nag ar wyneb y Bil hwn o anghenraid.  Byddai'n rhaid ymgynghori’n briodol ar unrhyw newidiadau yno hefyd.

Gwn fod y pwyllgor iechyd wedi gwneud nifer o argymhellion o ran cael mynediad at dai bach. Hoffwn gadarnhau y bydd disgwyl i awdurdodau lleol feddwl am dwristiaid a digwyddiadau ac ati—felly nid y boblogaeth leol yn unig—a materion cydraddoldeb ehangach hefyd pan fyddant yn paratoi eu dull o weithredu yn lleol. Felly, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu map cenedlaethol. A gallaf ddweud wrth yr Aelodau bod fy swyddogion wrthi'n gweithio gyda'u cymheiriaid TG i ystyried y seilwaith sydd ei angen i gasglu'r data priodol gan awdurdodau lleol ac ymgorffori’r rheini yn yr offer mapio sy'n bodoli eisoes. Gallai’r data hynny, wedyn, fod ar gael i drydydd partïon fyddai’n gallu datblygu mapiau ac apps eraill, er enghraifft, hefyd—rwy’n gwybod bod yna awydd i ddatblygu apiau. Wrth ystyried barn y pwyllgor a thystion arbenigol, rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion archwilio opsiynau ar gyfer datblygu logo hawdd ei adnabod y gellid ei arddangos mewn cyfleusterau tai bach hygyrch i'r cyhoedd ledled Cymru.

O ran isafswm pris uned, rydym yn cydnabod yn llwyr ddifrifoldeb yr heriau a achosir gan alcohol i’n cymdeithas, i unigolion ac i gymunedau ehangach. Mae'n parhau i fod yn ddyhead gennym i weithredu ar y mater hwn, yn enwedig mater isafswm pris uned. Ond cyfeiriodd Jenny Rathbone at y ffaith bod ymdrechion yn yr Alban wedi cael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly byddwn yn edrych yn fanwl iawn ar yr hyn sy'n digwydd yno. A phan fyddaf yn gallu dweud mwy wrth y Cynulliad am y mater hwn, byddaf yn gwneud hynny.

Yn olaf, rwyf eisiau cadarnhau fy mod hefyd yn credu bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn fater pwysig o ran iechyd y cyhoedd. Mae gennym ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Fel y dywedais, ac fel mae’r Aelodau yn sylweddoli, mae’r Bil iechyd y cyhoedd hwn sydd ger ein bron heddiw yn ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth ac mae'n parhau i fod yn un o nifer o ffyrdd yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru o ran iechyd y cyhoedd.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 8. Cynnig i Gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Symudwn ymlaen i eitem 8, sef y cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a galwaf ar Rebecca Evans fel y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw. Rebecca Evans.

Cynnig NDM6242 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar y Bil eto. Byddaf yn ysgrifennu'n ffurfiol at y pwyllgor i amlinellu fy ymateb yn fanwl, ond rwy’n bwriadu ymateb yn gadarnhaol i'r rhan fwyaf o'r argymhellion hynny. A byddaf yn gosod memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol cyn Cyfnod 3, yn ôl yr hyn sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw Aelodau yn dymuno siarad yn y ddadl hon, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18.24.