Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/10/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Y cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

1. Pa waith sydd ar y gweill gan y Gweinidog i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0049(EI)

Member
Ken Skates 13:30:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, fforddiadwy ac integredig ledled Cymru gyfan. Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ar gyfer gwasanaethau o 2015 hyd at 2020 ym mhob rhan o Gymru.

Yn ôl yn 2013, cyhoeddodd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad adroddiad o’r enw ‘Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau’, ac un o’r argymhellion allweddol a wnaed gan y pwyllgor wrth baratoi ar gyfer y fasnachfraint nesaf ar gyfer Cymru a’r gororau, a fydd yn digwydd ymhen dwy flynedd, yw, a dyfynnaf,

‘Datblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys’.

Roedd yr adroddiad yn dweud bod angen

‘sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi’.

A allwch ddweud wrthym ble mae’r strategaeth cerbydau, os gwelwch yn dda, ac os nad yw’n bodoli, a allwch ddweud wrthym beth y mae eich Llywodraeth wedi bod yn ei wneud dros y tair blynedd diwethaf?

Rydym wedi bod yn archwilio’r cerbydau, sydd o dan bwysau drwy Brydain gyfan wrth gwrs, ond rydym wedi bod yn archwilio’r cerbydau yng Nghymru a’r cerbydau sydd ar gael i Gymru ers i’r adroddiad hwnnw gael ei gomisiynu a’i gwblhau. Rydym yn trafod y mater gyda phartneriaid cyflenwi posibl fel rhan o’r fasnachfraint nesaf, ac wrth nodi’r allbynnau fel ffordd newydd a blaengar o lunio masnachfraint, rydym yn disgwyl i’r cynigwyr posibl hynny allu ateb gofynion teithwyr Cymru.

Nawr, gwyddom fod nifer y bobl sy’n teithio ar drenau yng Nghymru wedi cynyddu mwy na 10 miliwn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gwyddom hefyd, yn ystod y 15 mlynedd nesaf, y bydd oddeutu 74 y cant yn fwy o bobl yn teithio ar y rheilffyrdd. Felly, mae gwir angen mynd i’r afael â’r diffyg cerbydau ar frys, a dyna pam rydym wedi bod yn gweithio gyda’r sector ac yn archwilio beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod cerbydau ar gael ar ein rhwydwaith.

Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylem geisio sicrhau bod ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn cyfrannu at gyflawni ein nodau amgylcheddol a thwf ein heconomi werdd. Pa ystyriaeth y mae wedi ei rhoi i sut y gellir defnyddio cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bws i hyrwyddo’r defnydd ehangaf posibl o fysiau allyriadau carbon isel?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod safon wirfoddol ansawdd bysiau Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn annog cwmnïau bysiau ledled Cymru i gyflwyno cerbydau allyriadau isel, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle y caiff ansawdd yr aer a anadlwn ei fygwth gan allyriadau niweidiol lle y ceir tagfeydd traffig parhaus. O dan y cynllun hwnnw, mae awdurdodau lleol yn gallu blaenoriaethu cerbydau allyriadau isel o dan ofynion estynedig y safonau, ac os caiff y safonau eu cyrraedd, gallant hawlio taliad premiwm sydd ar gael drwy grant cymorth Llywodraeth Cymru i wasanaethau bws.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod yr haf, un mater a ddaeth i fy sylw gan etholwyr oedd cymudwyr yn cael eu gadael heb wasanaeth trên mewn gorsafoedd ar lein y Cambrian. Nid problem ynglŷn â chanslo trenau ar fyr rybudd yn unig yw hon, ond un sy’n ymwneud â’u canslo heb unrhyw rybudd. Felly, nid oes unrhyw wasanaethau bws ar waith i helpu cymudwyr a adawyd heb wasanaeth trên er bod yr orsaf yn dal i ddangos bod y trên ar fin cyrraedd. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn ymwybodol o’r broblem hon, ac a yw’n rhywbeth y byddech yn barod i edrych arno?

Ydy. Yn wir, cyfarfûm ag Aelodau ar draws y pleidiau ddydd Llun yng ngogledd Cymru ac addewais iddynt y byddwn yn darparu gwybodaeth gan Trenau Arriva Cymru ynglŷn â’u hymdrechion i fynd i’r afael â’r hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn haf o ddarpariaeth annerbyniol o ran gwasanaethau trên. Mae’n dangos yn glir nad yw’r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben, a dyna pam y mae’n rhaid i ni sicrhau bod y nesaf yn ateb gofynion teithwyr er budd pobl Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwnnw.

Cymorth i Fusnesau Bach

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0052(EI)

Gwnaf. Mae llawer o gefnogaeth ar gael i entrepreneuriaid, busnesau bach a chanolig, ledled Cymru, drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio’n llwyr ar gefnogi swyddi a’r economi.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ddweud fy mod wedi fy nghalonogi’n fawr gan adroddiad yr wythnos ddiwethaf a oedd yn amlygu arwyddion cadarnhaol o dwf yn fy etholaeth i, sef Merthyr Tudful a Rhymni? Mae gennym ffatri newydd—General Dynamics—ym Mhentre-bach, sy’n dod â 250 o swyddi newydd i’r ardal, swyddi o ansawdd uchel, a 150 o swyddi newydd i EE ym Merthyr. Roedd yr adroddiad hefyd yn dyfynnu perchennog bwyty lleol, a ddywedodd,

Mae cyfoeth o dreftadaeth ddiwydiannol yn parhau i fod ym Merthyr Tudful, ond mae’r dref yn datblygu i fod yn ganolbwynt masnachol modern, gyda llawer i’w gynnig i bobl leol ac ymwelwyr.

Mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn cytuno’n gryf ag ef. Fodd bynnag, credaf ein bod i gyd yn sylweddoli, Ysgrifennydd y Cabinet, mai’r ffordd orau o sicrhau ffyniant economaidd ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni, ochr yn ochr â swyddi newydd gan gwmnïau mwy o faint, yw annog mentrau bach a chanolig newydd i ddod i’r ardal hefyd. Gyda’r cymorth cywir, gall cwmnïau o’r fath ymwreiddio yn y cymunedau, ac os ydynt yn llwyddiannus, gallant ddarparu cyflogaeth hirdymor o ansawdd uchel gyda chyflogau da. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai cymorth i fusnesau bach, drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, a lansio’r gronfa twf a ffyniant, fod yn elfennau allweddol ar gyfer cyflawni hyn?

Byddwn, yn wir. A byddwn yn dweud bod nifer nodedig o lwyddiannau wedi bod yn etholaeth yr Aelod yn ystod y blynyddoedd diwethaf—llwyddiannau a ysgogwyd yn rhannol gan gymorth sydd wedi bod ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae Ashwood Designs, Rokel Engineering, Heighway Pinball Limited, ac Elite Paper Solutions, i enwi ond ychydig, yn dangos beth y gellir ei wneud pan fo’r sector preifat yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru. Rwy’n falch iawn o ddweud bod gennym bellach y nifer uchaf erioed o bencadlysoedd mentrau gweithredol yma yng Nghymru, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos y nifer uchaf o fusnesau newydd ers dros ddegawd yng Nghymru.

Nawr, gellir dod o hyd i wasanaeth Busnes Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i fentrau bach a chanolig presennol a newydd ledled Cymru drwy fynd ar-lein, dros y ffôn, neu fel gwasanaeth wyneb yn wyneb. A nod cronfa twf a ffyniant newydd gwerth £5 miliwn yw ysgogi twf economaidd drwy ddarparu cymorth cyfalaf i brosiectau, i fusnesau bach a chanolig sy’n creu neu’n diogelu swyddi, ac mae hefyd yn denu buddsoddiad ychwanegol ac yn ffurfio rhan o’n cynllun hyder busnes.

Mae’r Aelod hefyd yn iawn i gyfeirio at bwysigrwydd y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, a fydd yn cael ei ymestyn ar gyfer 2017-18, a bydd cynllun parhaol newydd ar gyfer 2018 ymlaen. Diolch i’r cynllun hwn, rydym eisoes yn darparu tua £98 miliwn mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau yn ystod y flwyddyn hon. Mae tua 70 y cant o safleoedd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi, ac nid yw oddeutu hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.

Mi dynnais i sylw rhagflaenydd yr Ysgrifennydd Cabinet at broblem lle roedd busnesau bach yn mharth menter Môn yn methu â gwneud cais am ostyngiad yn eu hardrethi busnes. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn iddi hi am gydnabod bod yna broblem ac am agor ffenest newydd ar gyfer gwneud cais am ostyngiad. Mae’n ymddangos eto rŵan bod yr un broblem yn parhau. Felly, pa fwriad sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau bod busnesau bach yn gallu manteisio ar yr hyn roedden nhw wedi disgwyl gallu manteisio arno fo o symud i barth menter, yn cynnwys, wrth gwrs, gostyngiad mewn ardrethi busnes?

Wel, dylent fanteisio ar y cynllun hwn yn wir, a byddaf yn ymdrechu i’w drafod nid yn unig gyda’r awdurdod lleol a’u huned datblygu economaidd, ond hefyd gyda chadeirydd yr ardal fenter, pan fyddaf yn cyfarfod â hwy nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn galw am greu gweinyddiaeth ar gyfer busnesau bach Cymru, gan eu bod yn credu y bydd hynny’n darparu gwell ateb i feithrin twf busnesau bach a chanolig cynhenid ​​Cymru. A allwch ddweud wrthym pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i’r cynnig penodol hwnnw?

Wel, mae Busnes Cymru wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus yn cynorthwyo busnesau bach a chanolig ledled Cymru, gan wneud yr hyn y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn ei argymell ar gyfer eu model, fwy neu lai. Os caf dynnu sylw at lwyddiant Busnes Cymru, hyd yma eleni, mae 3,638 o unigolion a busnesau wedi cael eu cynorthwyo â chyngor busnes, ac o ganlyniad i hynny, mae Busnes Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei darged o 5,000 o swyddi newydd ar gyfer y flwyddyn. Yn ogystal, mae Busnes Cymru yn parhau i weld lefelau uchel o ymholiadau—oddeutu 18,000—sy’n cael ei hybu gan y gwasanaeth ar ei newydd wedd, gan gynnwys y Rhaglen Cyflymu Twf a’r gwasanaeth cymorth ar-lein i fusnesau newydd. Nawr, mae hynny wedi darparu dros 8,000 o ddefnyddwyr cofrestredig newydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, y gefnogaeth fwyaf y gallai Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy’n gweithredu ar ein stryd fawr, fyddai sicrhau chwarae teg. Mae gan ddatblygiadau mawr ac archfarchnadoedd ar gyrion y dref ddigonedd o leoedd parcio am ddim, ond nid yw’r fantais honno gan fusnesau bach sy’n gweithredu ar ein stryd fawr. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gynghorau ledled Cymru er mwyn eu galluogi i gynnig rhywfaint o barcio am ddim yng nghanol ein trefi?

Mater i awdurdodau lleol ei ystyried yw hyn i raddau helaeth, ond mae’n rhywbeth y gall ardaloedd gwella busnes ei ystyried o ddifrif hefyd. Ac yn yr ardaloedd y maent wedi bod yn gweithredu ynddynt, credaf fod cryn lwyddiant wedi bod, a gellir gweld hynny mewn sawl achos yn y cynnydd a welwyd yn nifer yr ymwelwyr â chanol trefi. Felly, mae’n rhywbeth y gall yr awdurdodau lleol, ac yn wir, y cynghorau tref ei ystyried fel rhan o’r ffordd o ddenu rhagor o fusnes i’w lleoliadau.

Aeth busnes yn fy etholaeth i, AIC Steel Ltd, i ddwylo’r gweinyddwyr ddoe. Gyda’r bygythiad o ddiswyddiadau’n wynebu 120 o weithwyr, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i mi, i’r gweithlu ac i’r undebau llafur fod pob llwybr yn cael ei ystyried i gefnogi’r gweithwyr drwy’r cyfnod anodd hwn?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a dweud fy mod yn cydymdeimlo â phawb yr effeithir arnynt gan y newyddion y bore yma? Rydym yn gwneud popeth a allwn i gefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru yn ei gyfanrwydd, a buom yn ymwneud â’r cwmni hwn o’r blaen. Rydym wedi cynnig mynediad i’r cwmni at fentrau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cynllun prentisiaeth a weithredir gan Goleg Gwent, y bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth a’r cynllun Cyfleoedd i Raddedigion Cymru, yn ogystal â’r fenter GwerthwchiGymru. Er gwaethaf sawl ymgais gan fy swyddogion a Chyngor Dinas Casnewydd i gyfarfod i drafod ffynonellau cefnogaeth posibl, rwy’n ofni nad yw’r cwmni wedi bod yn barod i gyfarfod. Mae Gyrfa Cymru a Canolfan Byd Gwaith yn cysylltu â’r cwmni i weld pa gymorth y gellir ei gynnig. Byddaf hefyd yn cyfarfod ag ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite yfory i drafod y mater hwn, a byddaf yn cysylltu â’r gweinyddwyr i’w hannog i gysylltu â’r undebau llafur.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr i lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd UKIP, David Rowlands.

Diolch, Lywydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â phrosiect Cylchffordd Cymru?

Gwnaf. Mae trafodaethau yn parhau rhwng Cylchffordd Cymru a fy swyddogion.

Iawn. Deallaf fod deiseb wedi’i chyflwyno i’r Ysgrifennydd gan etholwyr lleol yn mynnu rhywfaint o symud gan y Llywodraeth. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar hyn?

Gallaf. Rydym wedi cael y ddeiseb gan y Pwyllgor Deisebau, ac mae fy swyddogion wedi’i gweld, ac rydym wedi ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yn ôl y gofyn.

O ystyried bod y prosiect hynod gyffrous hwn wedi cael ei gyhoeddi gyntaf oddeutu wyth mlynedd yn ôl, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod etholwyr ledled rhanbarth Blaenau’r Cymoedd yn hollol iawn i leisio’u rhwystredigaeth, o gofio nad yw’r penderfyniad terfynol i roi golau gwyrdd i’r prosiect hwn wedi’i wneud eto, heb sôn am ddechrau ar y gwaith adeiladu mewn gwirionedd?

Gobeithiaf yn fawr y gall y datblygwyr gadw at eu haddewid o allu cyflawni’r prosiect gyda’r cyllid angenrheidiol o’r sector preifat. Fel y dywedais, mae trafodaethau’n parhau gyda fy swyddogion. Pan drafodais y mater gyda’r datblygwyr dros yr haf, roeddent yn hyderus o allu bodloni’r meini prawf a osodwyd, ac rydym yn aros am gyflwyniad ffurfiol ganddynt er mwyn i ni ei ystyried.

Mae’r rhaglen lywodraethu’n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu masnachfraint rheilffyrdd ddielw newydd i Gymru. Ni chredaf mai fi yw’r unig un sydd wedi ceisio deall, ac wedi methu deall hyd yn hyn, beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Dywedodd cyfarwyddwr polisi Arriva Cymru, wrth siarad â’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn ddiweddar,

Nid wyf yn teimlo fy mod erioed wedi gweld esboniad o’r cysyniad hwn.

Ar hyn o bryd, mae pedwar cwmni er elw yn paratoi i wneud cais am fasnachfraint rheilffyrdd Cymru pan ddaw’r cyfnod presennol i ben. A ydynt yn gwastraffu eu hamser, ac ai bwriad y Llywodraeth yw defnyddio Trafnidiaeth Cymru, sef tua phump o bobl yn Nhrefforest ar hyn o bryd, i wneud cais fel rhan o’r gystadleuaeth am y fasnachfraint?

Mae Trafnidiaeth Cymru ei hun yn sefydliad dielw a fydd yn gyfrifol am bob elfen o’r fasnachfraint, gan gynnwys yr holl gonsesiynau. Fel gydag unrhyw elusen, neu yn wir, unrhyw sefydliad, megis Transport for London, byddant yn gallu rheoli’r fasnachfraint mewn modd sy’n sicrhau rhaniad rhwng y partner cyflenwi ei hun a’r consesiynau eraill megis lluniaeth a thocynnau i sicrhau, lle y bo’n bosibl, y gallwn gael sefydliadau dielw i weithredu’r consesiynau hynny, ond lle y gallem gael elw wedi’i gapio hefyd, er mwyn i hynny atal colledion gyda’r partner cyflenwi.

Ymddengys i mi, Lywydd, fod hyn yn debyg i’r toriad treth a gynigwyd i ni’r diwrnod o’r blaen. Cwmni dielw mewn enw’n unig yw hwn. Un o’r ymrwymiadau eraill yn y rhaglen yw creu banc datblygu Cymru, a ddeilliodd o anfodlonrwydd â’r ffordd y câi Cyllid Cymru ei weithredu. Gwyddom bellach fod Cyllid Cymru yn gwneud cais i ddarparu banc datblygu newydd Cymru. Un feirniadaeth o’r fath gan y grŵp adolygu mynediad at gyllid oedd bod Cyllid Cymru yn rheoli cyllid yn gyfan gwbl y tu allan i Gymru, gan ddargyfeirio eu sylw oddi wrth eu prif ddiben a gweithredu fel cwmni lled-breifat i bob pwrpas. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n ymwybodol fod Cyllid Cymru yn gwneud cais ar hyn o bryd i weithredu cronfa fuddsoddi Northern Powerhouse? Onid yw hyn yn gwbl anghyson â’r argymhellion o ran y banc datblygu y mae yn awr yn gwneud cais i’w weithredu hefyd? A wnaiff ailgynnull y grŵp gorchwyl mynediad at gyllid fel y gallant adolygu’r cynllun busnes y mae Cyllid Cymru yn ei gyflwyno, er mwyn i ni allu gweld a yw’n gyson â’r argymhellion a gefnogwyd mewn gwirionedd gan benderfyniad a wnaed gan y Cynulliad hwn?

Yn gyntaf, i ddychwelyd at Trafnidiaeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru yn adlewyrchu model Transport for London, ac rwy’n siŵr na fyddech yn dadlau nad yw hwnnw’n unrhyw beth ond sefydliad dielw.

O ran Cyllid Cymru, mae’r aelod yn beirniadu Cyllid Cymru, ond os edrychwn ar y ffigurau ar gyfer Cyllid Cymru am y cyfnod mwyaf diweddar sydd ar gael, fe welwn mai y llynedd oedd y flwyddyn orau erioed a’u bod wedi buddsoddi £45 miliwn mewn busnesau yng Nghymru. Eleni, maent eisoes yn nodi y byddant yn rhagori ar hyn, ar ôl buddsoddi dros £17 miliwn hyd at ddiwedd mis Gorffennaf, o’i gymharu ag ychydig dros £13 miliwn y llynedd. Dengys hyn fod perfformiad y flwyddyn hyd yn hyn 28 y cant yn uwch na’r targedau.

O ran perfformiad mewn perthynas â chreu swyddi, dengys perfformiad y flwyddyn hyd yn hyn ei fod 153 y cant yn uwch na’r llynedd a’u bod ar y trywydd iawn i ragori ar eu targed o 3,186 o swyddi. Dyma’r perfformiad gorau erioed gan Cyllid Cymru o ran swyddi.

Byddwn yn dweud yn gwrtais wrth Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n ddefnyddiol pe bai’n ateb y cwestiynau a ofynnir iddo yn hytrach nag adrodd ei nodiadau. Rwy’n cymryd o’i ateb nad oedd yn ymwybodol fod Cyllid Cymru yn mynd yn groes i ysbryd yr argymhellion yn adolygiad ei Lywodraeth ei hun o fynediad at gyllid drwy wneud ceisiadau cyson i weithredu cronfeydd y tu allan i Gymru.

Bydd yn ymwybodol ein bod mewn cyfnod economaidd heriol—[Torri ar draws.] Byddwn yn ildio i Ysgrifennydd y Cabinet pe caniateid i mi wneud hynny o dan y Rheolau Sefydlog. Bydd yn ymwybodol ein bod mewn cyfnod economaidd heriol iawn. Onid yw’n bryd i Lywodraeth Cymru roi ei throed ar y sbardun yn hytrach na’r brêc? Clywsom am yr oedi gyda Cylchffordd Cymru. Ymddengys bod y Llywodraeth yn pwyso a mesur a yw’n dymuno cefnogi prosiect Egin yng Nghaerfyrddin. Ddwy flynedd a hanner i mewn i raglen cronfeydd strwythurol 2014-20, nid ydym wedi gweld yr un bunt o fuddsoddiad cyfalaf ar lawr gwlad yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r un peth yn wir yn y rhan fwyaf o Gymru, am fod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn dal i barhau â’r un llesgedd biwrocrataidd ag o’r blaen. Bu sôn am ganolfan arloesi dur—sydd ei hangen ar frys o ganlyniad i’r newyddion a glywsom o Gasnewydd. Ond ble mae honno? Nawr, clywn y gallai’r cysylltydd trawsiwerydd a addawyd fel rhan o’r cynnig ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe fod mewn perygl hefyd. Pwyll ar lefel macro, hunanfodlonrwydd ar lefel micro, oedi rhag gwneud penderfyniadau mawr a gwneud llanast o’r rhai bach. Onid yw Cymru’n haeddu gwell?

Roeddem yn aros am y cwestiwn. Roedd yn fyr yn y diwedd, ond gyda chyflwyniad hir. Yr wythnos hon, cyflwynodd yr Aelod strategaeth ei blaid ar gyfer buddsoddi a seilwaith gyda’r comisiwn seilwaith cenedlaethol. Croesawaf y papur, ond yr un gwall amlwg iawn ynddo yw nad yw wedi gallu nodi ble yng nghyllideb refeniw’r Llywodraeth y gellid dod o hyd i £700 miliwn. O ble fydd hwnnw’n dod? Iechyd? Addysg? Mae hwnnw’n gamgymeriad amlwg dros ben. Rydych yn dweud, ‘Byddwch yn uchelgeisiol’—mae gwahaniaeth rhwng bod yn realistig a thwyllo’ch hun. Mae gallu hudo £700 miliwn o’r awyr yn anodd iawn.

Mae’r panig a welsom ers y bleidlais i adael yr UE ar feinciau’r Aelod wedi bod yn eithaf amlwg. Maent wedi bod yn awyddus i gefnogi pob prosiect a ddaw dros eu desgiau—pob prosiect—biliynau o bunnoedd o addewidion. [Torri ar draws.] Uchelgais? Dyna ni; rydym ni’n ei alw’n hunan-dwyll, gan na allwch roi cyfrif am yr un geiniog o’r hyn yr hoffech ei fenthyg. ‘Run geiniog. Pan ofynnwyd ble y byddech yn dod o hyd i £700 miliwn, nid oeddech yn gallu ateb y cwestiwn. Ni allech ateb o ble y byddech yn talu’r ddyled. Nid yw prynu mewn panig heb unrhyw ateb ynglŷn â sut y byddech yn gallu fforddio’r prosiectau hyn rydych chi’n eu galw’n uchelgeisiol yn drywydd cyfrifol i unrhyw Lywodraeth ei ddilyn.

Pan fyddwch yn ymosod arnom mewn perthynas â phethau fel mewnfuddsoddi neu gymorth i fusnesau, eich ateb bob amser yw ailwampio rhaglen o’r gorffennol, boed yn Awdurdod Datblygu Cymru neu—beth oeddech chi’n ei ddweud am adael yr UE? Mai Cynllun Marshall ydoedd gyfer yr unfed ganrif ar hugain, heb ei fwriadu i gynnig unrhyw sylwedd, ond fel cyfle i greu pennawd yn unig.

Pan edrychwch ar hanes y Llywodraeth hon yng Nghymru, fe welwch fod gennym y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith yng Nghymru. Gennym ni y mae’r cynnydd canrannol mwyaf mewn cyflogaeth yn y sector preifat o gymharu â’r 12 o wledydd a rhanbarthau eraill. Ers datganoli, mae nifer y bobl mewn gwaith wedi cynyddu’n gyflymach yng Nghymru nag yn y DU. Ers datganoli, yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwerth ychwanegol gros y pen o gymharu â 12 rhanbarth y DU. Oes, mae mwy i’w wneud, ond ni fyddai’n cael ei gyflawni, ac ni fyddai uchelgeisiau’n cael eu cefnogi drwy fenthyca’r hyn na allwch fforddio ei ad-dalu.

Ysgrifennydd y Cabinet, gan Gymru y mae’r trenau hynaf sydd ar waith yn y DU, gyda rhai ohonynt bron yn 40 mlynedd yn oed, ac mae eu gallu i gynnig gwasanaeth effeithlon ar gyfer yr oes fodern yn prysur leihau. Clywais eich ateb i Leanne Wood yn gynharach heddiw. A gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gweithredwr trenau nesaf yng Nghymru yn darparu gwasanaeth gwell a mwy modern?

Mae gennym ddull gwahanol o benderfynu ar y fasnachfraint a fydd yn weithredol o 2018 ymlaen, lle’r ydym yn nodi’r canlyniadau ac yna bydd y cynigwyr yn cyflwyno’u cynigion ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hynny. Rydym yn cydnabod nad yw’r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben. Nid oes digon o gerbydau ac maent yn rhy hen. Mae’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym yn dangos i ni fod teithwyr yn teimlo bod y trenau’n heneiddio, nad oes digon o wasanaethau trên ac nad yw’r gorsafoedd yn ddigonol. O ran hygyrchedd, roedd cwestiynau hefyd ynglŷn ag a ellir darparu’n llawn ac yn briodol ar gyfer symudedd cyfyngedig. Felly, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, rydym wedi gwneud yn siŵr fod ymatebion yr ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi’n briodol—dros 190 o ymatebion—cyn gosod y canlyniadau hynny yn erbyn dymuniadau’r cyhoedd.

Diolch am eich ateb manwl, Ysgrifennydd y Cabinet. Erbyn 2020, mae’n rhaid i bob gorsaf a thrên fod yn gwbl hygyrch. Ar hyn o bryd, 53 y cant yn unig o orsafoedd Cymru sy’n darparu hygyrchedd llawn. Gan fod contract Trenau Arriva yn dod i ben yn 2018, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnynt i gyflawni’r gwelliannau hyn. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: a yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni’r gwelliannau hyn ac i ddiwallu’r gofynion deddfwriaethol pwysig hyn, er mwyn sicrhau bod pobl anabl ledled Cymru yn cael mynediad llawn a hygyrch at y rhwydwaith rheilffyrdd?

Lle y gallwn fuddsoddi mewn gorsafoedd, rydym wedi gwneud hynny. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o enghreifftiau ledled y wlad lle’r ydym wedi gallu defnyddio ein hadnoddau i wella profiad teithwyr. Mae gan Network Rail gyfrifoldebau hefyd yn hyn o beth. Yn hanesyddol, nid yw Cymru wedi cael y gyfran y dylem ei disgwyl o gyllid Network Rail. Fy ngobaith, yn y dyfodol, yw y byddwn yn gweld yr adnoddau angenrheidiol yn cael eu buddsoddi, nid yn y rheilffyrdd yn unig, ond hefyd yn y gorsafoedd. Bydd disgwyl i’r gweithredwr rheilffyrdd newydd, y partner cyflenwi, fuddsoddi yn y seilwaith hefyd, nid o ran y cerbydau yn unig, ond yn yr elfennau o’r gwasanaeth y maent yn gyfrifol amdanynt mewn gorsafoedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich ymateb i lefarydd Plaid Cymru o ran y fasnachfraint reilffyrdd ddielw. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon y bydd yn rhaid i’ch Llywodraeth ddysgu gwersi gan fasnachfreintiau’r gorffennol ac y bydd yn rhaid iddi reoli’r risgiau wrth gaffael yr hyn sy’n fuddsoddiad sylweddol i Gymru yn effeithlon ac yn effeithiol. Felly, gyda hynny, a ydych yn gwbl hyderus ar y cam hwn eich bod yn y sefyllfa orau i ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros gaffael y fasnachfraint nesaf? A allwch gadarnhau pa un a fydd masnachfraint Cymru yn ddarparwr hollol ddielw? Yn olaf, a ydych yn credu bod gennych ddigon o adnoddau a sgiliau yng ngwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru i ddarparu masnachfraint Cymru?

Ydw. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn, yn arbennig am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn hynod ddefnyddiol o ran sylweddoli a deall yr hyn sydd angen ei ddysgu ar gyfer y fasnachfraint nesaf. O ran adnoddau dynol, rwy’n hyderus fod yr arbenigedd gennym o fewn Trafnidiaeth Cymru. Mae llawer o wersi y mae angen i ni eu dysgu, ac mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, mewn gwirionedd, yn cadarnhau’r hyn a ddywedwyd gan lawer o’r ymatebwyr yn ystod y cyfnod ymgynghori.

O ran yr hyder sydd gennyf mewn perthynas â’r fasnachfraint nesaf, mae yna drafodaethau sydd angen eu cael o hyd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â theithiau trawsffiniol ac mewn perthynas ag unrhyw newidiadau i amserlenni, ond rwy’n hyderus y byddwn yn cadw at yr amserlen, ac wrth sicrhau bod meincnodau ar waith ar gyfer cychwyn y fasnachfraint nesaf, disgwyliaf y bydd yn darparu lefel uwch o wasanaeth nag y mae teithwyr yn ei chael ar hyn o bryd.

Datblygu Economaidd a Seilwaith yng Nghanol De Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd a seilwaith yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0045(EI)

Gwnaf. Byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad economaidd a seilwaith ledled Cymru, fel y nodwyd yn ‘Symud Cymru Ymlaen’.

Roeddwn yn meddwl eich bod wedi troi i fod y Prif Weinidog yno gyda’ch ateb byr iawn, ‘gwnaf’, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.]

Diolch am y datganiad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un peth yr hoffwn dynnu sylw ato yw’r angen am ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae ganddynt ddau brosiect seilwaith mawr ar y gweill ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg—un yw’r gwelliant i’r Five Mile Lane a’r llall yw’r ffordd fynediad i safle datblygu Aston Martin yn Sain Tathan. Ond i lawer o bobl yn y rhan ddwyreiniol o Fro Morgannwg, ac yn wir, yng Nghaerdydd, y dagfa fawr yn economaidd ac yn gymdeithasol o ran materion trafnidiaeth yw’r un drwy bentref Dinas Powys.

Cafwyd awgrymiadau amrywiol a chyflwynwyd cynigion gan y cyngor i Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, ond nid oes unrhyw beth wedi symud yn iawn mewn perthynas â’r cynnig penodol hwn. A ydych chi, yn ystod y cyfnod byr y buoch yn Ysgrifennydd y Cabinet, wedi gallu ymgyfarwyddo â’r cynigion ar gyfer Dinas Powys a’r problemau trafnidiaeth mewn perthynas â’r pentref hwn ym Mro Morgannwg? Os nad ydych, a allwch gadarnhau y byddwch yn gweithio gyda’ch swyddogion i ymgysylltu â’r gymuned leol, ac yn wir, â’r cyngor, i weld a ellir symud y cynigion hyn yn eu blaenau?

Ydw, rwy’n ymwybodol o’r broblem yn yr ardal hon, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu’n agosach gyda’r awdurdod lleol mewn ymgais i ganfod ateb y gellir ei ariannu’n llawn. Mae gennym raglen uchelgeisiol iawn i uwchraddio seilwaith ledled Cymru, ond rwy’n cydnabod bod Dinas Powys yn broblem unigryw y mae angen ei datrys. Os oes unrhyw ran y gallaf ei chwarae o ran hwyluso’r ateb, byddaf yn falch o wneud hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae prosiectau seilwaith yng Nghanol De Cymru, a ledled Cymru, yn gyfle unigryw, mewn gwirionedd, i ddefnyddio diwydiannau lleol a busnesau lleol, yn enwedig mewn perthynas â phrosiectau seilwaith dur lleol. A wnewch chi sicrhau bod y contractau caffael rydych yn eu rhoi ar waith ar gyfer y datblygiadau hyn yn ceisio canolbwyntio ar ddefnyddio dur Prydain mewn gwirionedd, a dur Cymru yn arbennig?

Gwnaf, yn wir. Mewn gwirionedd, mae ein dogfennau contract ar gyfer trafnidiaeth yn datgan bod yn rhaid i’r contractwr sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir ganddynt a’u his-gontractwyr yn cydymffurfio â gofynion cyrchu cyfrifol ar gyfer cynnyrch adeiladu, ac mae’n datgan yn glir y bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fydd y contractwr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnadoedd tramor ar unrhyw brosiect. Mae’r holl arian grant a buddsoddiadau mewn prosiectau fel ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, fel yr amlinellais yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf, yn cael eu defnyddio fel ysgogiadau i’w gwneud yn ofynnol i rai sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ddarparu tystiolaeth ynglŷn â sut y mae contractau’r gadwyn gyflenwi yn cael eu hagor i gyflenwyr dur lleol. Mae ffrwd waith y tasglu dur wedi datblygu cyfres o gynlluniau ar gyfer caffael fel rhan o’u pecyn cydgysylltiedig o gymorth i’r diwydiant dur yng Nghymru a’r DU, ac mae’n mynd rhagddo yn dda iawn yn wir.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried y canlynol: cytundeb tir Llys-faen, hyd at £40 miliwn wedi’i golli; tir a werthwyd yn y Rhws, £7.25 miliwn wedi’i golli; dwy siop ym Mhontypridd, £1 miliwn wedi’i golli; eich Llywodraeth yn destun cywilydd ac yn cael dirwy oherwydd ei gweithdrefn gaffael amheus, £1.52 miliwn wedi’i golli? Dros £50 miliwn wedi’i golli, ac mae llawer yn dweud mai dyma’r Llywodraeth fwyaf di-glem erioed yng Nghymru. Felly, beth y mae busnesau yng Nghanol De Cymru i’w wneud o’r golled syfrdanol hon o arian—syfrdanol?

Mae’r Aelod yn nodi’r hyn y mae’n ei alw’n gytundeb ‘amheus’ a ‘cholled syfrdanol’, ond ni allwch ystyried y golled heb ystyried y pris prynu hefyd, ac roedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol ar y pryd am y pryniant yn rhywun a oedd yn eistedd ar eich meinciau chi.

Lefelau Ffyniant Economaidd

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffyniant economaidd yng Nghymru? OAQ(5)0043(EI)

Gwnaf. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn amlinellu sut y byddwn yn sicrhau Cymru fwy llewyrchus a mwy diogel, wedi’i chynnal gan ragor o swyddi a swyddi gwell.

Diolch. Gan gyfeirio at economi Cymru, adroddodd academyddion yn Ysgol Fusnes Caerdydd bythefnos yn ôl fod allbwn neu werth ychwanegol gros Cymru yn fwyaf sensitif i newidiadau i’r dreth ar y gyfradd uwch, a bydd unrhyw doriad iddi bob amser yn cynyddu derbyniadau treth ac unrhyw gynnydd bob amser, a dyfynnaf, yn ‘lleihau refeniw treth’. O ystyried mai gan Gymru y mae’r lefelau ffyniant isaf y pen o blith 12 rhanbarth a gwlad y DU ers 1998, sut y byddwch yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i sicrhau bod ysgogiadau’r trethi a ddatganolir i ni yn sbarduno lefelau ffyniant economaidd yng Nghymru, gan sicrhau cymaint â phosibl o refeniw treth er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus allweddol?

Wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a minnau’n gweithio gyda’n gilydd yn agos iawn i sicrhau bod yr ysgogiadau sydd ar gael i ni o ran datganoli trethi yn cael eu defnyddio yn bennaf i dyfu’r economi ac i dyfu cyfleoedd i greu cyfoeth ym mhob rhan o Gymru. Nid wyf yn credu mai gwerth ychwanegol gros yw’r mesur gorau na’r unig fesur o ffyniant o reidrwydd, a chredaf fod y prif economegydd a’r prif ystadegydd yn rhannu’r farn honno. Gwyddom fod ffigurau cyflogaeth yn cael eu cynhyrchu ar y sail fwyaf rheolaidd, ac unwaith eto, mae gennym stori rydym yn falch iawn o’i hadrodd o ran cynnydd mewn cyflogaeth a lleihau diweithdra. Wedi dweud hynny, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â gwerth ychwanegol gros, rwy’n derbyn hynny, a byddwn yn gwneud hynny drwy nifer o ddulliau, gan gynnwys cynyddu cynhyrchiant, a dyna pam y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a minnau yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael er mwyn sicrhau bod ymchwil a datblygu a gwaith ymchwil a fydd yn cyfrannu at wella cynhyrchiant yn cael eu cyflwyno lle bynnag a phryd bynnag y bo modd.

Yn 2015, roedd mwy nag un o bob pedwar oedolyn mewn gwaith yng Nghymru yn cael llai o gyflog na’r cyflog byw, ac mae Sefydliad Bevan yn nodi bod bron i hanner y gweithwyr rhan-amser, menywod yn bennaf, hefyd yn cael llai o gyflog na’r cyflog byw. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu’r cyflog byw ar draws economi Cymru?

Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gweld y cyflog byw—ac mae hynny’n golygu’r cyflog byw go iawn—yn cael ei gyflwyno ar draws yr economi. Fel Llywodraeth, rydym yn rhoi camau ar waith i hyrwyddo’r cyflog byw yn y sector preifat. Mae deunydd yn cael ei gynhyrchu ar fanteision mabwysiadu’r cyflog byw, ac mae hwnnw’n cael ei rannu gyda busnesau, gan ddefnyddio mecanweithiau cymorth busnes presennol, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector preifat ar yr agenda hon. Lywydd, rydym hefyd yn cydnabod y rôl y gall caffael ei chwarae yn cefnogi camau i fabwysiadu’r cyflog byw ar raddfa ehangach, ac rydym wedi bod yn ymgynghori yn ddiweddar ar ddatblygu cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol o fewn y gadwyn gyflenwi, sy’n archwilio sut y gall awdurdodau contractio ystyried pecynnau gwaith teg, gan gynnwys y cyflog byw, fel rhan o’r broses gaffael.

Yn ei ddiffyg ateb i’r cwestiwn gan Adam Price yn gynharach, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet fôr a mynydd o’r ffaith fod mwy o bobl mewn gwaith heddiw yng Nghymru nag erioed o’r blaen, nad yw’n syndod gan fod y boblogaeth wedi cynyddu. Ond ni ddywedodd ddim am yr hyn y mae’r bobl mewn gwaith yn ei ennill mewn gwirionedd. Bymtheg mlynedd yn ôl, roedd Cymru yn yr ail safle o’r gwaelod yn nhablau cynghrair y gwledydd a rhanbarthau Lloegr. Heddiw, mae Cymru ar y gwaelod; mae wedi cael ei goddiweddyd gan Ogledd Iwerddon. Roedd yr Alban ychydig o flaen Cymru 15 mlynedd yn ôl; mae ymhellach byth ar y blaen erbyn hyn. Roedd de-orllewin Lloegr ychydig o flaen Cymru 15 mlynedd yn ôl, ac mae ymhellach ar y blaen eto erbyn hyn. Onid yw record y Llywodraeth Lafur hon yn un o fethiant llwyr?

Rwy’n credu bod angen cryn hyfdra i ofyn ynglŷn â lefelau incwm a chithau mewn gwirionedd yn manteisio ar y cyfle mewn man gwahanol i bleidleisio yn erbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol. Ac efallai y bydd yr Aelod yn gallu cadarnhau a yw—[Torri ar draws.] Wel, a yw’r Aelod yn cefnogi isafswm cyflog cenedlaethol? Pan bleidleisiwyd ar isafswm cyflog cenedlaethol yn Llywodraeth y DU, a oedd o’i blaid neu yn ei erbyn? Mae’n gwestiwn syml iawn. [Torri ar draws.] Hyd yn oed pe bai wedi bod yn—

Roeddwn wedi cael fy rhyddhau gan yr etholaeth erbyn hynny.

Mae yna gwestiwn yno: a oeddech chi’n cefnogi’r isafswm cyflog cenedlaethol? A oedd eich plaid yn cefnogi’r isafswm cyflog cenedlaethol? Oherwydd rydym i gyd yn gwybod mai’r ateb yw nad oedd UKIP, ac nad ydynt, yn cefnogi ymdrechion i wella safonau byw’r teuluoedd ar yr incwm isaf. Y ffaith amdani yw mai’r mudiad Llafur a gyflwynodd yr isafswm cyflog cenedlaethol. Y mudiad Llafur sy’n cyflwyno’r cyflog byw ar draws yr economi. Ac o ran yr economi yma yng Nghymru, rwyf eisoes wedi dweud mai Cymru, ers datganoli, yw’r pumed uchaf o ran cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros y pen o’i chymharu â 12 rhanbarth a gwlad y DU. Ac o ran gwerth ychwanegol gros eto, mae safonau byw materol pobl yn cael eu pennu yn ôl eu cyfoeth, ac yn hyn o beth mae Cymru’n perfformio’n llawer gwell ar fesurau o gyfoeth.

Datblygu Economaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei sectorau blaenoriaeth ar gyfer datblygu economaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0050(EI)

Nodir ein blaenoriaethau datblygu economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru yn yn ‘Symud Cymru Ymlaen’.

Diolch am yr ateb yna. Mae sicrhau bod ein cymunedau cefn gwlad wedi eu cysylltu yn dechnolegol yn hanfodol ar gyfer yr holl sectorau yn ein heconomi ni. Gan fod adroddiad wedi ei gyhoeddi heddiw sy’n tanlinellu’r ffaith bod rhwydwaith ‘mobile’ ar gyfer trefi a phentrefi yng Nghanolbarth a Gorllewin a Cymru yn wael, a ydy’r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw sylw i’r syniad o roi canllawiau newydd i lywodraeth leol a fyddai’n eu galluogi nhw i ymlacio eu rheolau cynllunio nhw fel ein bod ni yn gallu adeiladu mastiau talach—fel y maent wedi’i gytuno i’w wneud yn Lloegr—hyd at 25m, fel ein bod yn gallu gwella’r signal yn yr ardaloedd yna?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Wrth gwrs, mae cysylltedd symudol yn faes heb ei ddatganoli. Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen lle rydym wedi gallu ymyrryd yn uniongyrchol drwy Cyflymu Cymru. Bydd Cyflymu Cymru yn sicrhau mai Cymru fydd y wlad fwyaf cysylltiedig yng ngorllewin Ewrop, ac mewn rhannau o ganolbarth Cymru, fel Powys, mae 63 y cant o eiddo yn gallu cael mynediad ato erbyn hyn. Byddwn yn gweithio hyd at 2017 i sicrhau bod y 37 y cant o’r safleoedd sy’n weddill yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy.

Mae hefyd yn werth nodi fod gan eiddo yng nghanolbarth Cymru fand eang sy’n llawer cyflymach na’r cyfartaledd ledled Cymru. Mewn rhannau o Geredigion, er enghraifft, mae’r cyflymder cyfartalog yn uwch na 65 Mbps.

Fel y soniais, nid yw cysylltedd symudol wedi’i ddatganoli, ond rydym yn parhau i ymgysylltu â’r gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol i nodi beth y gellir ei wneud i wella’r signal mewn rhannau gwledig o Gymru, ac mae hynny’n cynnwys rhoi pwysau ar Ofcom drwy gyfarfodydd, ac yn wir drwy ymatebion i ymgynghoriadau, i ddefnyddio eu pwerau rheoleiddio i wella signal ffonau symudol ledled Cymru, yn cynnwys galw am gynnwys rhwymedigaethau’n ymwneud â chyrhaeddiad daearyddol y signal mewn arwerthiannau sbectrwm yn y dyfodol, ac nid rhwymedigaethau signal sy’n ymwneud yn unig â nifer yr unigolion sy’n gallu cael mynediad at rwydweithiau symudol.

Un o’r ardaloedd yn sicr ar gyfer blaenoriaeth, fe fyddwn i’n tybio, gan y Llywodraeth yw eich parthau menter. Yn sir Benfro, o gwmpas y Cleddau, mae gennych chi barth menter lle mae’n rhaid talu toll i fynd o un rhan o’r parth menter i ran arall, a thalu toll arall i ddod yn ôl. Rwy’n sôn, wrth gwrs, am y doll ar bont Cleddau, sydd yn pontio’r ddwy ran o ardal fenter y ddwy Gleddau. A ydych chi’n bwriadu o hyd fel Llywodraeth i droi’r bont yna yn gefnffordd—i’w thryncio, mewn geiriau eraill? Os ydych chi yn bwriadu, fel oedd y bwriad cynt, i gario ymlaen gyda’r system yna, ym mha ffordd, felly, y byddwch chi’n cael gwared ar y tollau?

Rwy’n gwrthwynebu’n reddfol unrhyw dreth ar deithio drwy drethu defnydd o bont, mater a fydd, o bosibl, yn cael ei grybwyll cyn bo hir mewn cwestiwn sydd i ddod gan Mark Reckless. O ran y bont benodol y mae’r Aelod yn sôn amdani yn yr ardal fenter, nid wyf wedi ymchwilio’r posibilrwydd o roi statws cefnffordd i’r llwybr penodol hwnnw eto, ond mae’n rhywbeth y byddwn yn awyddus i’w ystyried pe bai’n gallu arwain, yn ei dro, at dwf yn yr economi leol.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, amlinellu’r gadwyn awdurdod i ni o ran y penderfyniadau a’r cymeradwyaethau sy’n berthnasol o ran y defnydd o arian cyhoeddus ar gyfer hybu datblygiad economaidd? Byddai gennyf ddiddordeb mewn deall yn glir beth yw eich barn o ran pwy sy’n ei rhoi ar waith, o Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, i lawr drwy’r gadwyn awdurdod, pwy sy’n cymeradwyo ac yn sicrhau diwydrwydd dyladwy a phwy sy’n gyfrifol wedyn am fonitro canlyniadau’r diwydrwydd dyladwy hwnnw.

Yn y pen draw, rwy’n gyfrifol am gymeradwyo penderfyniadau ac rwy’n gyfrifol am sicrhau bod y diwydrwydd dyladwy wedi’i gyflawni gan fy swyddogion a chan arweinyddion fy nhimau sector. Os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon penodol ynghylch penderfyniadau rwyf fi neu unrhyw un o fy rhagflaenwyr wedi eu gwneud, hoffwn yn fawr gael fy hysbysu ynglŷn â hynny.

‘Symud Cymru Ymlaen’

6. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru? OAQ(5)0039(EI)

Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni Cymru ffyniannus a diogel sy’n cefnogi busnes ac yn sicrhau’r amodau economaidd angenrheidiol ar gyfer creu cyfoeth a chyfleoedd cyflogaeth ledled Cymru.

Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae creu gweithlu medrus iawn yn hanfodol os ydym am ateb anghenion economi sy’n tyfu. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y bydd yr addewid o 100,000 o brentisiaethau a nodwyd yn y rhaglen lywodraethu yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar y busnesau i’w galluogi i dyfu, a gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru drwy hynny?

Mae’r rhaglen brentisiaeth i bobl o bob oedran wedi cychwyn. Rydym yn hyderus, ar sail ein record—ac mae’n record rydym yn falch ohoni—y gallwn ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oedran. Rwy’n dweud ein bod yn falch o’r record, oherwydd mai gennym ni yng Nghymru y mae’r gyfradd gwblhau orau ar gyfer prentisiaethau. Mae cyfraddau cwblhau yn awr gryn dipyn yn uwch nag 80 y cant. Mae hynny’n anhygoel o dda o gymharu â Lloegr, sydd â chyfradd gwblhau rhwng 72 a 74 y cant. Mae gennym hanes o gyflawni, mae gennym y darparwyr hyfforddiant, mae gennym y cyflogwyr sy’n dymuno manteisio’n llawn ar y cynllun prentisiaeth i bobl o bob oedran, ond bydd hynny, ynddo’i hun, yn ffurfio rhan o gynllun cyflogaeth newydd ac unigryw iawn, sy’n un o’r cynlluniau cyflogadwyedd gorau yn Ewrop yn ein barn ni.

Rydym wedi ailgynllunio’r pecyn cymorth a gynigiwn, nid yn unig i gyflogwyr, ond hefyd i unigolion sydd ar y tu allan i’r farchnad neu sydd angen sgiliau ychwanegol i gamu’n uwch drwy rengoedd eu cyflogwyr. Rydym yn rhagweld y bydd y rhaglen gyflogadwyedd yn cael ei lansio yn 2018. Fel rwy’n dweud, bydd yn dod â’r holl elfennau o weithgarwch y Llywodraeth ar gyflogadwyedd at ei gilydd.

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

7. Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael â chynrychiolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru? OAQ(5)0046(EI)

Mae fy swyddogion wedi cael trafodaethau rheolaidd gyda thîm yr ardd. Rwy’n bwriadu cyfarfod â’r cadeirydd yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod yr adroddiad a gomisiynais ar gyfleoedd masnachol ar gyfer yr ardd yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi wedi i’r cadeirydd a’r ymddiriedolwyr ei weld.

A gaf i, am unwaith, rannu newyddion positif â’r Ysgrifennydd Cabinet? Mae nifer yr ymwelwyr dros y flwyddyn ddiwethaf 5 y cant i fyny, mae nifer yr ymweliadau gan deuluoedd lan gan draean, mae’r gwerthiant aelodaeth lan 41 y cant ac mae yna warged wedi bod i’r gerddi dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf. A gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd ychwanegu at y newyddion positif yma drwy gadarnhau ymrwymiad tymor hir gan Lywodraeth Cymru i’r gerddi, sydd, wedi’r cwbl, yn sefydliad cenedlaethol?

Wel, rwy’n croesawu’r newyddion cadarnhaol o’r ardd yn fawr. Mae’n wych clywed bod ffigurau ymwelwyr ac aelodaeth wedi cynyddu. Wrth gwrs, mae’r ardd wedi manteisio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis y Flwyddyn Antur yn ogystal â’r cyllid a ddarparwn yn flynyddol i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu denu i’r ardd, nid unwaith yn unig, ond sawl gwaith. Dyna pam y credaf fod y niferoedd aelodaeth i’w croesawu’n arbennig. Mae pob partner—pob partner—gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin, yn cytuno bod yr ardd yn ased gwerthfawr iawn i gynnig twristiaeth Sir Gaerfyrddin. Ond mae’r ffaith fod cyllidebau’n lleihau yn golygu nad yw ymrwymiad penagored i gyllid yn y dyfodol yn gynaliadwy ac felly mae angen parhau i wthio am fwy o lwyddiant masnachol, ac rwy’n falch o weld bod yr ardd yn ymateb i hyn.

Trefniadau Tollau ar Bont Hafren

8. Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl i’r trefniadau tollau ar Bont Hafren ddychwelyd i’r sector cyhoeddus? OAQ(5)0040(EI)

Deallaf fod Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgynghori ar y trefniadau tollau yn ddiweddarach eleni.

Maent yn dychwelyd o’r sector preifat i’r sector cyhoeddus. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn y pedwerydd chwarter, ac roeddwn yn gobeithio cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny—pedwerydd chwarter y flwyddyn nesaf. Er y bydd costau’r bont wedi’u talu erbyn hynny, mae’r Trysorlys wedi dweud ei fod yn bwriadu parhau i godi toll, yn rhannol, mae’n dweud, er mwyn ad-dalu dyled y mae’n honni ei bod yn ddyledus ar y bont. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud pa bryd y bydd y ddyled honedig honno wedi’i thalu’n ôl ac a yw’n cytuno y dylid diddymu’r doll ar y pwynt hwnnw?

Ydw, rwy’n cytuno. Yn amodol ar yr ymgynghoriad, bydd y bont yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2018, ac ar ôl ad-dalu’r ddyled, bydd yr holl refeniw wedyn yn mynd i Ganghellor y Trysorlys—ar ôl talu costau cynnal a chadw. I mi, treth ar deithio i Gymru yw hynny, a byddwn yn disgwyl i’r tollau gael eu diddymu.

Y Sector Treftadaeth

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i gefnogi’r sector treftadaeth yng Nghymru? OAQ(5)0048(EI)

Gwnaf, mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi rhoi Cymru ar y blaen o blith gwledydd y DU mewn perthynas â diogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol. Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag ystod eang o bartneriaid ar ddatblygu sector treftadaeth sydd â dyfodol cynaliadwy.

Mae ein cenedl fel cyrchfan i dwristiaid yn hanfodol wrth hyrwyddo Cymru i’r byd, a’n treftadaeth yw ein hanes byw, rhywbeth pendant o’n gorffennol y gall ein plant ryngweithio ag ef. Mae yna asedau hanesyddol mawr yng Nghaerffili. Mae gennym y castell consentrig mwyaf yn Ewrop, heneb restredig gradd II yng nghastell Rhiw’r Perrai, sydd angen gwaith, a Llancaiach Fawr, maenordy Tuduraidd ger Nelson sy’n anelu i ddenu 80,000 o ymwelwyr erbyn y flwyddyn 2020. Bydd gwarchod ac adfer y safleoedd treftadaeth eiconig hyn yn hanfodol i roi hwb i dwristiaeth a’r economi leol. Mae fy etholwyr yn cymryd rhan mewn grwpiau lleol, sefydliadau a grëwyd i achub yr amgylchedd hanesyddol, yn enwedig castell Rhiw’r Perrai. Sut y gallant chwarae rhan weithredol yn cryfhau’r sector treftadaeth yn eu cymunedau?

Mae grwpiau lleol yn gwbl hanfodol yn y gwaith o helpu’r amgylchedd hanesyddol i barhau i fod yn lle bywiog y mae pobl yn ymweld ag ef, lle y mae pobl yn ei brofi, lle y gall pobl wirfoddoli a lle y gall pobl feithrin sgiliau. Mae’r grŵp gwirfoddol sydd wedi edrych ar gastell Rhiw’r Perrai yn arbennig o weithgar, ac rwy’n eu llongyfarch ar eu gwaith. Yn etholaeth yr Aelod, mae gennym yr atyniad ymwelwyr sy’n tyfu gyflymaf yn ystad Cadw—sef castell Caerffili—ac mae’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr wedi digwydd, i raddau helaeth, o ganlyniad i weithgareddau’r Flwyddyn Antur, gan gynnwys Draig Caerffili, y gwn fod llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon wedi ymweld â hi.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a’r cwestiwn cyntaf, John Griffiths.

Dulliau Atal Salwch

1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau dulliau atal salwch yng Nghymru? OAQ(5)0040(HWS)

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo ffyrdd iach a gweithgar o fyw er mwyn atal salwch ac annog lles yn gyffredinol drwy gydol ein bywydau. Bydd y rhaglen lywodraethu’n adeiladu ar y cynnydd hyd yma gyda mesurau megis Bil iechyd y cyhoedd, Rhaglen Plant Iach Cymru a bond lles newydd i Gymru.

Weinidog, diolch i’r drefn, mae’r cyfraddau ysmygu yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o flynyddoedd, ond yn anffodus, mae ysmygu yn dal i effeithio’n enbyd ar iechyd yng Nghymru. Credaf fod polisi cyhoeddus a’r cyfyngiadau ar ysmygu wedi chwarae rôl arwyddocaol, fodd bynnag, yn lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu. Roedd arolwg eleni gan Action on Smoking and Health ac YouGov yn dangos bod cefnogaeth gyhoeddus gref i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu fel y mae’n gymwys i fannau cyhoeddus yng Nghymru. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant cyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rydych yn gywir i dynnu sylw at y llwyddiant a gawsom yn y blynyddoedd diwethaf wrth weithio tuag at ein targed o 16 y cant o bobl yn ysmygu erbyn 2020. Rydym ar 19 y cant ar hyn o bryd, felly rwy’n credu ein bod yn sicr ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed hwnnw. Ymysg plant a phobl ifanc y gwelwyd peth o’r llwyddiant gwirioneddol rydym wedi’i gael. Er enghraifft, yn 1998, roedd 29 y cant o ferched 16 oed yn ysmygu unwaith yr wythnos, ond mae’r ganran honno bellach wedi gostwng i 9 y cant. Y ffigurau ar gyfer y bechgyn yw 22 y cant a 7 y cant. Credaf ei bod yn gadarnhaol iawn fod ysmygu’n lleihau ymysg pobl ifanc, yn enwedig, ond hefyd mae nifer y bobl ifanc nad ydynt erioed wedi ysmygu yn cynyddu a chredaf y dylid croesawu hynny hefyd.

Mae’r cyfyngiadau a grybwyllwyd gennych yn sicr yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Ddydd Sadwrn diwethaf, cawsom gyfle i ddathlu pen blwydd cyntaf y rheoliadau ar wahardd ysmygu mewn ceir. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi gweld lefel uchel o gydymffurfiaeth â hynny, ac rydym yn gweld newid mewn ymddygiad a newid mewn diwylliant yn hynny o beth. Felly, wrth edrych ymlaen, byddwn yn ailgyflwyno Bil iechyd y cyhoedd, fel yr oedd yng Nghyfnod 3, gyda’r adrannau ar e-sigaréts wedi’u dileu. Mae Bil iechyd y cyhoedd yn cynnwys darpariaethau i gynnwys ysmygu ar dir ysgolion, ar dir ysbytai a chaeau chwarae cyhoeddus. Mae hefyd yn sicrhau y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu ychwanegu mannau ychwanegol, gan ddefnyddio’r rheoliadau, ac y byddai rheoliadau o’r fath yn destun ymgynghoriad yn y dyfodol. Felly, byddai lle i ymestyn hynny yn y dyfodol hefyd.

Mae’r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol wedi honni y gallai mwy o wasanaethau i helpu i wneud diagnosis o’r cyflwr hwn arbed £4.5 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Maent yn dweud mai hanner ysbytai Cymru yn unig sy’n darparu gwasanaethau cyswllt torri esgyrn i gleifion allanol ar hyn o bryd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gwasanaethau a allai helpu i wneud diagnosis ac atal osteoporosis yng Nghymru?

Wel, rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed eich sylwadau, ac mae hwn yn fater y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin ag ef. O ran fy nghyfrifoldebau i, rwy’n awyddus iawn i weld gwaith atal cwympiadau yn cael ei wella yng Nghymru, a byddai hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy’n dioddef o osteoporosis hefyd, o ran sicrhau nad ydynt yn cael cwymp sy’n eu gwanychu’n fawr, a allai gael effaith ddrwg iawn ar eu canlyniadau personol, eu lles ac yn y blaen. Felly, mae’n ymwneud â’r effaith honno. Mae gennym ein rhaglen iechyd cyhoeddus, y rhaglen Gwella 1000 o Fywydau, ac mae honno’n cynnwys gwaith penodol ar atal cwympiadau, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig yn enwedig ar gyfer pobl sy’n dioddef o osteoporosis.

Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Llywodraeth Cymru o ran gwasanaethau iechyd ledled Sir Benfro? OAQ(5)0038(HWS)

Member
Vaughan Gething 14:23:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch am y cwestiwn. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw darparu gwasanaethau iechyd i bobl Sir Benfro sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Wrth gwrs, byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a mwyaf diweddar er mwyn darparu’r gofal o ansawdd uchel y mae pobl Sir Benfro yn ei haeddu.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae Skin Care Cymru wedi datgelu nad oes unrhyw feddyg ymgynghorol dermatoleg yn ardal gyfan Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Er bod problem gyda recriwtio a chadw dermatolegwyr ledled y DU, mae’r ffaith nad oes un yn ardal gyfan y bwrdd iechyd yn peri pryder mawr. Pa gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fwrdd iechyd Hywel Dda i recriwtio meddyg ymgynghorol dermatoleg, fel y gall pobl sy’n byw gyda chyflyrau croen yn Sir Benfro gael y gwasanaethau hanfodol y maent yn eu haeddu?

Diolch am y cwestiwn. Mae dermatoleg yn her arbennig ar draws y DU, fel rydych yn ei gydnabod. Yn ddiweddar, cafwyd ymddeoliad o’r swydd benodol hon yn ardal Hywel Dda. Yr her yw sut y maent yn gweithio gyda rhannau eraill o’r gwasanaeth hefyd, yn enwedig y bartneriaeth sy’n tyfu gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, partneriaeth rydym yn ei hannog, er mwyn deall sut y mae meddygon ymgynghorol yn gweithio rhwng gwahanol ardaloedd ac ar draws ffiniau byrddau iechyd. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld pobl yn cael mynediad at wasanaeth. Â dweud y gwir, mae teledermatoleg yn rhan bwysig o hyn hefyd. Felly, nid yw’n ymwneud yn unig â’r lefel ymgynghorol, mae hefyd yn ymwneud â mynediad ar lefel gofal sylfaenol yn ogystal. Rydym yn parhau i gynorthwyo Hywel Dda a’u partneriaid i geisio deall pa swyddi sydd angen iddynt eu llenwi, ar ba lefel, gan gynnwys meddygon ymgynghorol, a ble a sut y gellir eu recriwtio yn y ffordd orau i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Ond byddwn yn disgwyl y bydd meddygon ymgynghorol dermatoleg yn Sir Benfro eto yn y dyfodol, yn Hywel Dda, yn gweithio yn yr hyn rydych yn ei gydnabod sy’n farchnad recriwtio heriol iawn yn yr arbenigedd hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae rhieni Sir Benfro wedi colli’r gwasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty Llwynhelyg, er mwyn cael gwasanaeth gwell yn Ysbyty Glangwili yn ôl yr hyn a ddywedwyd, ond dywed y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fod gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru dan lawer gormod o bwysau, gan roi diogelwch y babanod gwaelaf mewn perygl, ac maent yn dweud mai dau yn unig o’r 10 uned newyddenedigol sydd â digon o nyrsys i staffio eu holl gotiau. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni Sir Benfro, felly, y bydd symud o Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin, ac o un ysbyty i’r llall, yn arwain mewn gwirionedd at gymhareb staffio well a gwell gwasanaeth yn y tymor hir?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rwy’n sylweddoli fod ganddo safbwynt penodol ar y mater hwn, ond nid yw’r gwasanaethau wedi cael eu colli; maent wedi cael eu symud, ac maent wedi cael eu gwella. Rydych yn dyfynnu’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac rydym yn cymryd yr hyn y maent yn ei ddweud o ddifrif. Rydym yn cydnabod bod pwysau gwirioneddol ar draws y DU ac yng Nghymru hefyd. Mae hynny yn enwedig yn golygu ei bod hyd yn oed yn bwysicach fod y model gofal cywir yn cael ei ddarparu, ac nad ydym yn ceisio staffio a chynnal modelau nad ydynt yn gynaliadwy ac nad ydynt yn darparu gofal o’r ansawdd cywir i bobl pan fyddant ei angen, oherwydd rydym yn sôn am nifer fach o blant gwirioneddol sâl sydd angen gofal o ansawdd uchel, a gofal arbenigol iawn hefyd.

Yr hyn y mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi ei ddweud yn eu hadolygiad yw bod symud y gwasanaeth arbenigol i Glangwili wedi gwella canlyniadau a gwella cydymffurfiaeth â safonau cenedlaethol. Dyna pam ein bod yn symud ymlaen gyda’r achos busnes rwy’n ei ddisgwyl gan y bwrdd iechyd ynglŷn â cham nesaf y gwaith yn Glangwili i wella’r gwasanaeth ymhellach. Rwy’n credu y dylai pobl gael hyder o hynny. Hefyd, rwy’n edrych ymlaen at gael adroddiad yn ôl gan dîm adolygu’r coleg brenhinol a oedd yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddar i edrych eto ar y gwasanaeth a rhoi mwy o sicrwydd i ni ynglŷn ag ansawdd y gwasanaeth a’r canlyniadau y mae rhieni yn Sir Benfro yn eu cael. Wrth gwrs, cyfarfûm â mamau Sir Benfro pan ymwelais ag Ysbyty Glangwili yn ddiweddar, er mwyn cael gwybod ganddynt yn uniongyrchol beth yw ansawdd y gofal y maent yn ei gael ar adeg bwysig ac anodd iawn yn eu bywydau, nid yn unig iddynt hwy fel rhieni, ond i’w plentyn hefyd wrth gwrs. Felly, mae proffesiynoldeb ac ansawdd y gofal y mae rhieni Sir Benfro yn ei gael yn Ysbyty Glangwili wedi creu argraff fawr arnaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr at lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Lywydd. Rydw i’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymuno â fi i gondemnio’r rhethreg gan Lywodraeth Geidwadol Prydain dros y dyddiau diwethaf a’r amarch sydd wedi cael ei ddangos tuag at staff o’r tu allan i’r ynysoedd yma sydd yn gwneud cyfraniad mor werthfawr o fewn yr NHS. Mi fuaswn i eisiau pellhau fy hun oddi wrth bron popeth y mae Jeremy Hunt yn ei ddweud. Ond, gan ddod at fy nghwestiwn i, mae e wedi cyhoeddi’r wythnos yma ei fod eisiau gweld rhagor o lefydd dysgu mewn colegau meddygol yn Lloegr. A ydy hynny’n rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn dymuno ei weld yn digwydd yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n rhannu eich pryder am y sylwadau a wnaeth Jeremy Hunt yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Bydd Aelodau ar draws y Siambr hon eisiau gweld cyfleoedd i fwy o’n pobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU gael gyrfa mewn hyfforddiant meddygol ac ymarfer meddygol, ond mae gwahaniaeth go iawn rhwng hynny a dweud nad oes croeso i feddygon tramor bellach, neu eu bod yma fel mesur dros dro yn unig. Yn wir, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt yn mynegi fy mhryder ynglŷn â’r rhethreg y mae wedi bod yn ei harddangos yr wythnos hon a’r difrod sylweddol y gallai ei wneud, nid yn unig i’r GIG yn Lloegr, ond ar draws teulu’r GIG yn y pedair gwlad. Felly, rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â fy safbwynt i, mae hwnnw wedi’i gofnodi, ac ni fydd gennym unrhyw ran yn hyn. Yn sicr, ni fyddwn yn cefnogi’r llwybr y mae’r Ceidwadwyr yn ei ddilyn.

O ran y dyfodol ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a’r DU a’u gallu i ymgymryd â hyfforddiant meddygol yn y wlad hon, rwyf eisoes wedi nodi ein bod yn edrych ar y llefydd sydd gennym ar hyn o bryd a sut i annog mwy o fyfyrwyr o Gymru i ymgymryd â hyfforddiant meddygol mewn man o’u dewis. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys gwaith yma yng Nghymru ac mewn gwirionedd, rydym yn edrych ar nifer y llefydd hyfforddiant meddygol sydd gennym. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn adeiladu ar y rhagoriaeth sydd gennym yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, gyda’r cyrsiau mynediad israddedig ac ôl-raddedig sy’n cael eu cynnig, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cynnal y safon honno, ond hefyd fod gennym lwyfan gwirioneddol i fwy o yrfaoedd ym maes addysg a hyfforddiant meddygol, yma yng Nghymru ac ar draws y DU.

Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yn y llefydd, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mangor a rhannau eraill o Gymru. Byddwn yn croesawu unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru—a byddaf yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth a chynnig fy nghydweithrediad—ar fater cynyddu llefydd hyfforddiant meddygol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet, ar sawl achlysur, wedi dweud bod gennym y nifer uchaf erioed o feddygon ymgynghorol a meddygon yng Nghymru. Rydym wedi edrych ymhellach ar yr ystadegau hyn. O’r 65 maes arbenigol ysbyty sydd â data ar StatsCymru, mae 32 ohonynt wedi gweld gostyngiad yn eu niferoedd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 13 ohonynt heb weld unrhyw newid, ac mae 20 ohonynt wedi gweld rhywfaint o gynnydd. Yr unig reswm y mae un o’r rheini, llawfeddygaeth fasgwlaidd, wedi gweld cynnydd yw oherwydd ei fod bellach yn cael ei gyfrif fel arbenigedd ar wahân yn hytrach na chael ei restru fel llawfeddygaeth gyffredinol. Felly, mae’n parhau i fod yn ffaith fod mwy o feysydd arbenigol wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd na sydd wedi gweld cynnydd yn y niferoedd. A ydych yn fodlon gyda’r sefyllfa honno?

Wel, mae’n ffaith, ac nid barn, fod nifer y meddygon ymgynghorol wedi codi’n sylweddol dros y degawd diwethaf. Ein her bob amser yw hon: ym mha rifau rydym yn parhau i wynebu her a beth y gallwn ni ein hunain ei wneud ynglŷn â hynny? Oherwydd, i ateb y cwestiwn cyntaf, a ofynnwyd gan Paul Davies rwy’n credu, rydym yn cydnabod bod yna rai meysydd arbenigol lle y ceir heriau gwirioneddol ar draws teulu’r DU. Ac mewn gwirionedd, mae rhywfaint o hynny’n her ryngwladol hefyd. Felly, rydym yn derbyn y safbwynt am y niferoedd cyffredinol, ond yn edrych wedyn ar y meysydd arbenigol hynny. A dyna pam, yn yr ymgyrch recriwtio y byddwch wedi ein clywed yn ei thrafod ac yn siarad amdani, ein bod yn awyddus i hysbysebu Cymru fel lle gwych i weithio yn ogystal â byw, ac i weld pobl yn cael eu hyfforddi yma hefyd.

Felly, nid oes unrhyw hunanfodlonrwydd na diffyg cydnabyddiaeth fod gennym heriau gwirioneddol mewn rhai meysydd arbenigol, ac mae sicrhau bod y model gofal iechyd yn gywir yn rhan o’r hyn y mae angen i ni ei wneud i annog pobl i ddod i weithio yma. Oherwydd pan fydd pobl yn chwilio am y cam nesaf yn eu gyrfa—ble i fyw, ble i fagu teulu—mewn gwirionedd, maent hefyd yn meddwl, ‘Beth fydd ansawdd y gweithle, beth fydd y model gofal y byddaf yn gweithio ynddo? A yw’n gynaliadwy? A fydd yn rhoi’r cyfleoedd rwyf eu heisiau i roi gofal gwych i gleifion?’, ond rhannau eraill o’u bywydau hefyd. Felly, rydym yn edrych ar y darlun cyfan wrth i ni symud ymlaen i geisio deall sut rydym yn recriwtio’r gweithlu meddygol rydym ei eisiau heddiw ac yn y dyfodol, a dyfodol gofal iechyd yma yng Nghymru.

Rydych wedi datgan fel ffaith, unwaith eto, fel y bydd y cofnod yn ei ddangos, fod cynnydd wedi bod yn nifer y meddygon yng Nghymru. Un o’r ffeithiau pellach roeddem yn ei gweld yn ddiddorol yw bod un maes arbenigol penodol wedi gweld cynnydd o 207 o feddygon ychwanegol yn y flwyddyn ddiwethaf. Y maes arbenigol penodol hwnnw, er ei fod yn cael ei restru fel maes arbenigol ysbyty mewn gwirionedd, yw ‘ymarfer cyffredinol (meddygon dan hyfforddiant)’.

Nawr, gofynasom am eglurhad ar yr hyn y mae hynny’n ei olygu, ac mae’n cyfeirio, mewn gwirionedd, at feddygon dan hyfforddiant mewn ymarfer cyffredinol, nid meddygon ymgynghorol arbenigol sy’n gweithio mewn ysbytai. A’r rheswm am gynnydd mor fawr oedd y ffaith fod meddygon teulu dan hyfforddiant a oedd yn cyflawni cylchdro mewn practis meddygon teulu yn flaenorol yn cael eu cyflogi gan y feddygfa, ac felly byddent yn gadael cyflogres GIG Cymru, ac ni fyddent yn ymddangos yn ffigurau StatsCymru. Nawr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw’r cyflogwr arweiniol bellach ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant. Felly, maent yn ymddangos yn y ffigurau. Dyma’r rheswm am y cynnydd yn y niferoedd. Heb y newid hwnnw yn y ffordd y mae ystadegau’r gweithlu yn cael eu cofnodi, byddai’r ffigurau, mewn gwirionedd, wedi dangos gostyngiad o 84 meddyg ysbyty. Yn wir, mae chwech o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi dangos gostyngiad yn nifer y meddygon ysbyty a gyflogir ganddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod gostyngiad wedi bod yn nifer y meddygon teulu, a byddai’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth pe baech yn cyhoeddi’r niferoedd cyfwerth ag amser llawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bellach fod eich plaid yn camarwain wrth honni bod gennym y nifer uchaf erioed o feddygon ymgynghorol a meddygon?

Na, nid wyf yn derbyn hynny. Nid wyf yn derbyn y ffordd rydych wedi cyflwyno’r ffigurau. Rydym yn hyderus fod mwy o feddygon teulu bellach yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, rydym yn hyderus fod mwy o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y GIG yng Nghymru yn ogystal. Rydych yn tynnu sylw at y bartneriaeth cydwasanaethau, ac mewn gwirionedd mae’n wirioneddol gadarnhaol mai’r cydwasanaethau bellach yw’r corff sy’n cyflogi meddygon dan hyfforddiant mewn ymarfer cyffredinol. Mae’n rhywbeth y mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi bod yn gefnogol iawn iddo, gan ei fod yn caniatáu i’r meddygon hynny gael rhywfaint o sefydlogrwydd yn eu perthynas contract cyflogaeth, ac mae’n golygu, er enghraifft, fod cael morgais yn llawer haws, gan fod cyflogwr sefydlog yno hefyd. Felly, rydym yn gwneud rhywbeth da i feddygon teulu dan hyfforddiant. Ac yn ôl yr unig ffigurau a welais fy hun, mae gennym fwy o feddygon teulu o ran cyfrif pennau, ac mae gennym fwy o ymgynghorwyr hefyd o ran cyfrif pennau.

Yr her bob amser yw beth arall sydd angen i ni ei wneud, pa amserlen y gallwn ei dilyn, a sut rydym yn mynd ati i wynebu ein heriau mewn ffordd nad yw’n amharu ar y gwasanaeth, a sut rydym yn denu pobl i ddod yma mewn gwirionedd, i hyfforddi, i fyw, ac i weithio. Dyna ein huchelgais, a dyna ble rydym yn disgwyl gwneud cynnydd pellach ar hyn yn ystod yr hydref hwn ac wedi hynny.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng 2009 a 2014, roedd gwariant y GIG ar iechyd meddwl yn amrywio o 11.4 y cant i 11.9 y cant o gyfanswm gwariant y GIG. Nawr, o gofio bod llinellau cyllideb iechyd meddwl yn cynnwys popeth o wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed i ddementia, anhwylderau seicotig, gwasanaethau amenedigol, iselder a gorbryder, a ydych yn credu bod gwario 12 y cant o gyllideb y GIG yn ei chyfanrwydd ar iechyd meddwl, gydag 88 y cant yn cael ei wario ar iechyd corfforol, yn gydbwysedd cywir?

Mewn gwirionedd, gwariant ar iechyd meddwl yw’r bloc unigol mwyaf o wariant sydd gennym yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed i a’r Gweinidog blaenorol yn nodi’r adolygiadau a wnaethom, er enghraifft, ar y cyllid sydd wedi’i glustnodi, er mwyn gwneud yn siŵr fod hynny’n wir, er mwyn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei wario. Ac mae ein her yn fwy na dweud yn syml, ‘Gadewch i ni edrych ar yr arian’. Ein her bob amser yw: a ydym yn cael y canlyniadau cywir, a ydym yn sicrhau bod digon o bobl ag anghenion go iawn yn cael eu gweld, a sut rydym yn gwneud hynny? Ac yn aml hefyd, mae’n fwy na gwariant ar iechyd, gan fod llawer o hyn yn ymwneud â lles mwy cyffredinol. Er enghraifft, ni fydd rhagnodi cymdeithasol yn lleihau fel gwariant yn nhermau iechyd meddwl, ond mae’n sicr yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Mewn termau ataliol, mae’n aml yn rhan o’r darlun. Felly, rwy’n ymrwymedig i barhau i sicrhau bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth go iawn o ran yr hyn a wnawn yn y gyllideb, ond hefyd o ran darparu gwasanaethau a chanlyniadau yn ogystal. Felly, edrychaf ymlaen at y cwestiynau ar yr heriau sydd gennym o hyd—ac rwy’n cydnabod bod gennym rai hefyd—wrth i ni barhau i geisio lleihau amseroedd aros, ond hefyd er mwyn gweld dull go iawn a gwrthrychol o fesur canlyniadau yn cael ei gyflwyno ar draws y GIG, ac rwy’n hyderus y byddwn yn ei weld yn ystod y tymor hwn.

Llithro i ffwrdd rhag fy nghwestiwn oedd hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai gofyn am y gwariant o 12 y cant fel canran a wneuthum, ac fe ateboch chi’n syth drwy ddweud mai’r gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl yw’r llinell wariant fwyaf. Ond dyna’n union yw fy mhwynt. Mae gennym linellau gwariant cardiaidd, mae gennym linellau gwariant diabetes yn y gyllideb iechyd, ond rydym wedi rhoi popeth i mewn i iechyd meddwl. Felly, iawn, gallwch ddweud bod 12 y cant ar gyfer iechyd meddwl yn wych, ond y broblem yw bod iechyd meddwl yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyflyrau gwahanol, gyda gwahanol gyflyrau cydafiachus. Nawr, bûm yn adolygu adroddiad Pricewaterhouse Coopers ar drefniadau clustnodi cyllid ar gyfer iechyd meddwl, ac maent yn bendant o’r farn, ac rwy’n dyfynnu hwn, mai:

Ychydig iawn o berthnasedd parhaus sydd i gyllid wedi’i glustnodi ar sail patrymau gwariant hanesyddol yn yr amgylchedd gweithredu cyfredol.

Felly, a ydych yn cytuno â’r casgliad hwn, ac os felly, sut y byddwch yn symud oddi wrth y model cyllid wedi’i glustnodi?

Rydym wedi cael yr adolygiad hwn yn y gorffennol, ac rwy’n hapus i edrych eto ar y ffordd orau o ddiogelu gwariant ar iechyd meddwl i wneud yn siŵr ei fod yno fel ffactor go iawn ym meddyliau’r bobl sy’n cynllunio ac yn darparu ein gwasanaeth. Ond nid y llinellau yn y gyllideb a gasglwyd o fewn iechyd meddwl yw’r unig ddangosydd, fel y nodais yn fy ateb. Mae mwy iddi na dweud yn syml mai 12 y cant yn unig sydd i iechyd meddwl a bod popeth arall yn iechyd corfforol. Ac wrth gwrs, nid y cyllid wedi’i glustnodi yw’r unig ddangosydd o’r holl arian sy’n cael ei wario. Mewn gwirionedd rydym yn gwario mwy na’r swm o arian a glustnodwyd ar wasanaethau iechyd meddwl. Dof yn ôl eto at fy niddordeb mewn dweud, ‘Gadewch i ni gael llinell, o ran canran, ar yr hyn y dylem ei wario o ran iechyd meddwl a beth y dylem ei wario ar bethau eraill’—yr her bob amser yw: a ydym yn cael gwerth priodol am yr arian rydym yn ei wario, a ydym yn cyflawni yn erbyn gwir anghenion ein poblogaeth, ac a allwn wella hynny ymhellach, o gofio bod yr adnodd sydd ar gael i ni’n gyfyngedig? Dyna pam rwy’n cyfeirio at y gwaith rydym yn ei wneud ar ganlyniadau a’r gwaith rydym wedi’i wneud gyda chynghrair y trydydd sector, lle mae ganddynt hwy hefyd gwestiynau anodd i ni ynglŷn ag amseroedd aros, ac ynglŷn â chanlyniadau yn ogystal, ond mae yna ddatblygiad go iawn. Mae yna raglen yma sydd nid yn unig yn ymwneud â’r ffordd rydym yn rheoli adnodd sy’n prinhau a chanlyniadau sy’n lleihau, ond sut rydym yn edrych ar beth y gallwn ei wneud i wella’r hyn y gallwn ei ddarparu ym mhob maes gwariant iechyd meddwl, a hefyd y gwasanaeth cyfan fel gwasanaeth holistig ar gyfer y person cyfan.

Brif Weinidog—rwy’n cadw eich galw’n Brif Weinidog; rhaid bod hyn yn arwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe sonioch eto yn awr am gyflawni’r hyn y mae pobl Cymru ei angen. Ac a dweud y gwir, nid ydym yn cyflawni’r hyn mae pobl Cymru ei angen o ran iechyd, o ran iechyd meddwl. Faint ohonom yma sydd wedi siarad o hyd am wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed? Gwyddom fod yna lawer iawn o broblemau yn y maes iechyd meddwl yn ei gyfanrwydd. Nid oes gennym ddigon o arbenigwyr, ac nid ydym yn gwario digon o arian ar gael y gwasanaethau at y bobl. Ac mae’n bwysig, oherwydd bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o broblem iechyd meddwl yn ein bywydau, sy’n nifer syfrdanol o uchel. Felly, mewn iechyd corfforol, mae eich Llywodraeth yn rhoi llawer o sylw i gydafiachusrwydd, ond nid yw’r un peth yn—ni cheir yr un safbwynt o fewn iechyd meddwl.

Felly, hoffwn wybod hyn, Ysgrifennydd y Cabinet: yn eich cynllun iechyd meddwl sydd i’w gyhoeddi cyn bo hir, faint y gallwn ei ddisgwyl o ran capasiti a galw, ac o ran rhoi diwedd ar weithio mewn seilos? Oherwydd rwy’n meddwl weithiau ein bod yn anghofio, ac mae gennyf etholwyr sy’n gallu ategu hyn dro ar ôl tro, y gallai person sydd â dementia fod yn dioddef o ganser hefyd, gall person sy’n dioddef o iselder fod â chyflwr corfforol, gall plentyn mewn cadair olwyn fod ag anhwylderau bwyta, ond rydym yn tueddu i ddewis yr elfen gorfforol i’w thrin yn gyntaf a gadael y mater iechyd meddwl yn ail. Hoffwn weld diwedd ar weithio mewn seilos fel hyn, er mwyn i ni allu cyrraedd y bobl, yr un o bob pedwar ohonom a fydd yn cael rhyw fath o gyflwr iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau, a sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn ein cyrraedd, ac mae arnaf ofn nad ydym, yn syml iawn, yn dilyn y trywydd iawn ar hyn o bryd.

Mae yna bob amser ragor y gallwn ei wneud i gydnabod yn wrthrychol yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a’r hyn nad ydym yn ei wneud cystal ac sydd angen ei wella. Ond rwy’n credu ei bod braidd yn annheg awgrymu nad oes gan y gwasanaeth iechyd gwladol ddiddordeb mewn dim heblaw trin cyflyrau corfforol pobl neu’r comisiynu iechyd ar wahân. Mae angen i ni weld y person cyfan a thrin y person cyfan a deall, mewn llawer o achosion, y risgiau y maent yn barod i’w cymryd yn deg drostynt eu hunain—nid yw hyn yn ymwneud â chapasiti, ond yn hytrach â dweud bod ganddynt hawl i ddewis beth y maent am ei wneud a’r math o driniaethau y maent am eu cael.

Er enghraifft, mewn gofal dementia, gyda llawer o bobl sydd â dementia, gwyddom fod yna heriau’n ymwneud â deall eu hiechyd corfforol a gwneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu hosgoi ac mewn gwirionedd, fod y person sydd â chyfrifoldeb am eu gofal yn gweld y person cyfan, yn deall eu hanghenion corfforol a’u hanghenion iechyd meddwl yn ogystal. Pan fyddwch yn edrych ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda rhanddeiliaid a fydd yn arwain at y cynllun cyflawni nesaf, y byddaf yn falch o’i lansio ar 10 Hydref ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, fe welwch fod yna gydnabyddiaeth wych i’r ffaith fod iechyd corfforol ac iechyd meddyliol a lles pobl wedi’u cysylltu’n annatod ac ynghlwm wrth ei gilydd.

Gwelwn hynny mewn amrywiaeth o bethau rydym eisoes yn eu gwneud yn y Llywodraeth. Er enghraifft, Cymru Iach ar Waith. Rwyf wedi bod â diddordeb mawr mewn cyflwyno’r gwobrau, nid yn unig oherwydd fy mod yn hoff o ddangos fy wyneb a chael fy llun wedi’i dynnu, ond mewn gwirionedd, rydych yn clywed gwahanol straeon gan wahanol gyflogwyr—cyflogwyr bach, canolig a mawr—a cheir teimlad go iawn, yn y gwaith y maent yn ei wneud gyda ni, eu bod yn cydnabod yr heriau iechyd meddwl a’r heriau lles sy’n wynebu eu gweithlu ac yn deall yr hyn sydd angen iddynt ei wneud i wella hynny. Felly, mae’n rhywbeth rwy’n ei weld yn fwyfwy aml ac rwy’n disgwyl ei weld yn fwy cyson yn y gwaith a wnawn ac yn y rhaglenni a ariannwn. Felly, nid mater o edrych ar un llinell o’r gyllideb i weld lle mae iechyd meddwl yw hyn—mae’n llawer ehangach na hynny, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn gweld hynny’n gynyddol drwy’r gwasanaeth iechyd gwladol.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan ragweld bod nifer y bobl 65 oed a hŷn yn mynd i gynyddu 44 y cant yn y degawdau i ddod, rhaid i ni sicrhau y gall ein sector gofal cymdeithasol ymdopi â’r cynnydd anochel yn y galw am ofal cymdeithasol. Yn anffodus, gwelsom doriadau enfawr yn y cyllidebau gofal cymdeithasol ac yn syml, nid ydym yn hyfforddi digon o weithwyr gofal cymdeithasol, neu mae llawer o’r rhai rydym wedi’u hyfforddi eisoes yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael gormod o waith, ac mewn sawl achos, nid ydynt yn cael digon o amser i ofalu’n briodol am y bobl sy’n rhaid iddynt ofalu amdanynt. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hariannu’n ddigonol ac i sicrhau bod gennym ddigon o staff i ganiatáu amser i’n gweithwyr gofal cymdeithasol ymroddedig allu gofalu?

Diolch am y cwestiwn. Mewn gwirionedd rwy’n falch pan fydd gofal cymdeithasol yn cael ei grybwyll yn y cwestiynau hyn. Mae’n hawdd iawn gwneud dim mwy na siarad am y gwasanaeth iechyd a meddygon yn benodol yn y gyfres hon o gwestiynau. Nid wyf yn rhannu eich awgrym fod gofal cymdeithasol wedi dioddef toriadau enfawr yng Nghymru. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd. Cafwyd toriadau enfawr yn Lloegr, ac os edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yma yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa lawer iawn gwell—nid yn unig o ran y cyllid, gan fod cyllid, rwy’n meddwl, 7 y cant y pen yn uwch ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru nag yn Lloegr, ond yn y ffordd rydym yn gweld y gwasanaeth cyfan: y ffordd rydym yn ei ariannu, a sut rydym yn ceisio ei drefnu. Dyna pam y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ddangosydd mor bwysig o’r cynnydd. Rydym yn gweld bod angen i iechyd a gofal cymdeithasol weithio mwyfwy gyda’i gilydd—nid oherwydd bod mwy o angen a mwy o alw i’w weld, ond am ein bod yn credu bod pobl yn cael gwasanaeth gwell gyda gwell canlyniadau mewn gwirionedd.

Sut y mae’r bobl hynny’n cydweithredu ac yn gweithio gyda’i gilydd? Dyna pam y bydd y Gweinidog yn nodi, yn gynyddol, dros weddill y tymor hwn, sut y byddwn yn gweithredu’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, meysydd gorfodol ar gyfer cydwethio, a’r meysydd lle rydym yn annog pobl i gydweithio hefyd. Os ydych eisiau meddwl am y gweithlu hefyd, mae’n iawn dweud bod hwn yn broffesiwn sydd dan gryn dipyn o bwysau. Nid yw’n waith hawdd ac yn aml, caiff gweithwyr cymdeithasol eu portreadu fel y bobl ddrwg pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mewn gwirionedd, mae angen mwy o bobl i werthfawrogi’r proffesiwn a chydnabod yr hyn y gallant ei wneud i helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd fel teulu, i wneud dewisiadau gyda’i gilydd, ac i helpu pobl i oresgyn rhannau anodd iawn o’u bywydau.

Rwy’n falch iawn o ddweud bod Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain wedi cydnabod bod yr amgylchedd, yng Nghymru, yn llawer gwell i weithio ynddo na rhannau eraill o’r DU. Dyna’r proffesiwn ei hun yn siarad am realiti gweithio yma. Nid yw’n golygu ei bod yn hawdd yng Nghymru, nid yw’n golygu nad oes pwysau, ond yn bendant mae gennym well gwasanaeth a gwell system a gwell ymateb na’r hyn a welwch dros y ffin. Ein her yw sut rydym am barhau i wella, gan gadw mewn cof y gwirionedd anorfod y bydd gennym lai o arian i weithio gydag ef bob blwyddyn dros dymor y Cynulliad hwn.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cyflwyno newidiadau enfawr i’r sector gofal cymdeithasol. Bydd gan y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan safonau hyfforddiant gorfodol yn awr. Ar hyn o bryd mae yna lawer sy’n gweithio yn y sector gofal cartref yn debygol o fod angen hyfforddiant sylweddol er mwyn cyrraedd y safonau hyfforddi newydd. Hefyd, ceir prinder gweithwyr gofal cymdeithasol, yn enwedig ym maes gofal cartref. Pa waith ar gynllunio’r gweithlu y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym ddigon o leoedd hyfforddiant ar gael i ateb y galw a’n bod yn recriwtio a chadw staff mewn niferoedd digonol i ateb anghenion y sector yn y dyfodol?

Rwyf wrth fy modd yn eich clywed yn sôn am y Bil rheoleiddio ac arolygu, sef Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 bellach, sy’n cael ei chyflwyno gan y Gweinidog ac yn wir, y gwaith y mae’n bwrw ymlaen ag ef ar ddeall anghenion y gweithlu yn y dyfodol. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar y gweill ac rwy’n siŵr y byddwch yn falch iawn o glywed diweddariadau pellach gan y Gweinidog maes o law. Os ydych am ddeall y manylion, rwy’n siŵr y byddai’n hapus i gyfarfod â chi.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Heb y traean o filiwn a mwy o ofalwyr di-dâl, byddai ein sector gofal cymdeithasol wedi ei orlwytho’n aruthrol. Amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Canfu ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr nad yw 30 y cant o ofalwyr yn cymryd unrhyw seibiant, a bod 65 y cant o ofalwyr yn treulio’r ychydig seibiant a gânt yn gwneud gwaith tŷ. Mae angen seibiant rheolaidd ar ofalwyr os ydynt i gadw’n iach ac i allu parhau i ddarparu gofal. Heb seibiant, mae perygl i iechyd a lles gofalwyr a mwy o debygolrwydd y bydd y rhai y maent yn gofalu amdanynt yn gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty neu ofal preswyl. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn galw am sefydlu cronfa les i ofalwyr yng Nghymru i ddarparu seibiant i ofalwyr. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cronfa o’r fath? Wedi’r cyfan, mae’n bris bach i’w dalu o ystyried yr arbedion y mae 370,000 o ofalwyr Cymru yn eu sicrhau i’n GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol bob blwyddyn.

Rwy’n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod y gwerth sylweddol y mae gofalwyr yn ei roi, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd o ran eu gallu i ddarparu gofal gan anwyliaid neu rywun y mae’r sawl sy’n derbyn gofal yn eu hadnabod. Bydd llawer ohonom yn yr ystafell hon, wrth gwrs, wedi cael profiad o fod yn ofalwyr i ffrindiau a/neu aelodau o’r teulu. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod, rwy’n gobeithio, mai’r Gweinidog yw’r Gweinidog arweiniol ar gyfer gofalwyr ac yn wir, gan ei bod yn symud ymlaen ar y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a’r strategaeth gofalwyr o’i mewn, mae yna ddealltwriaeth o’r ffaith fod gan ofalwyr yn awr, am y tro cyntaf, y gallu a’r hawl statudol i gael eu hanghenion hwy hefyd wedi’u hasesu gan y gwasanaethau cyhoeddus. Mae hwnnw’n gam go iawn ymlaen.

Felly, rwy’n disgwyl bod gofalwyr yng Nghymru—rwy’n sicr yn gobeithio y byddant yn gweld ac yn cydnabod ein bod yn cymryd camau cadarnhaol ymlaen. Gwn fod Gofalwyr Cymru mewn cysylltiad â’r Gweinidog ac rwy’n siŵr y bydd unrhyw gynigion sydd ganddynt yn cael eu hystyried o ddifrif gan y Gweinidog a minnau wrth i ni geisio deall sut y gallwn wella’r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr ymhellach, er mwyn eu galluogi i gael seibiant, ond i ddeall hefyd fod angen i chi weld y gofalwr a’r person y maent yn gofalu amdanynt fel unigolion a deall yr hyn y maent yn ei olygu gyda’i gilydd, ac i’w gilydd. Ond unwaith eto, os ydych yn dymuno cael trafodaeth fanylach ar hyn, rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog yn hapus iawn i ddod o hyd i amser i gael y drafodaeth honno gyda chi.

Denu Meddygon i Gymru

3. Pa waith y mae’r Gweinidog yn ei wneud i ddenu meddygon i Gymru? OAQ(5)0050(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Fel yr eglurais yn fy natganiad i’r Cynulliad ar 20 Medi, byddwn yn lansio ymgyrch recriwtio genedlaethol a rhyngwladol ar 20 Hydref i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i feddygon hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

Mae prinder meddyg yn effeithio ar bob ardal drwy’r wlad, fel y clywsom eisoes, ond yn y Rhondda, mae gennym broblem arbennig o ddifrifol, sydd wedi peri i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf sefydlu gwefan benodol i ddenu meddygon i’n hardal. Er eich bod yn dal i wadu’r hyn y mae’r ystadegau yn dweud, fel y gwelsom yn awr yn eich ateb i fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, gwelwyd gostyngiad o 44 yn nifer y meddygon ysbyty a gyflogid gan Cwm Taf rhwng 2014 a 2015, sef, wrth gwrs, y dyddiad diwethaf y mae gennym ffigurau ar ei gyfer. Mae hon yn golled aruthrol mewn blwyddyn yn unig. Mae nifer y meddygon ysbyty a gyflogir gan Cwm Taf bellach yn is nag yr oedd yn 2009. Rydych wedi dweud o’r blaen fod hon yn nifer fwy nag erioed o feddygon. Ai dyma sut beth yw’r nifer uchaf erioed o feddygon yn y Rhondda? A ydych yn awr yn difaru gwneud y datganiad hwnnw i mi yn gynharach yr haf hwn, neu a ydych yn dal i wadu?

Nid yw’n fater o wadu, ac mae yna her i ni o ran sut y siaradwn am iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd aeddfed yn y Siambr hon, a sut rydym yn deall beth sydd angen i ni ei wneud i wella canlyniadau i bobl sy’n cael gofal a gwella—nid cynyddu’r nifer yn unig—y modd y trefnir y gweithlu.

Rwy’n hynod o falch o gydnabod y mentrau y mae meddygon yn y Rhondda yn eu rhoi ar waith. Rwy’n meddwl bod gwefan Docs Rhondda yn fenter ardderchog ar gyfer meddygon y Rhondda, ac mae’n neges gadarnhaol ynglŷn â’r hyn y mae byw a gweithio yn y Rhondda yn ei olygu a beth y maent yn ei wneud mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae eu recriwtiaid diweddaraf yn siarad am yr hyn y maent yn ei wneud ac maent yn sôn am ble y maent yn arbed amser, i gleifion ac i feddygon.

Rwy’n credu’n wirioneddol fod yna gydbwysedd yma rhwng dweud, ‘Sut rydym yn dwyn y Llywodraeth a’r bwrdd iechyd i gyfrif? Sut rydym yn gofyn cwestiynau anodd a lletchwith fel rhan o’r hyn rydym yn ei wneud?’ ac ar yr un pryd, sicrhau nad ydym yn dweud yn syml, ‘Mae popeth yn ofnadwy ac nid oes dim yn newid.’ Rwy’n gadarnhaol ynglŷn â’n sefyllfa mewn gwirionedd am ein bod yn cydnabod yr heriau sydd gennym. Rydym yn cydnabod y darlun sy’n ein hwynebu ac rydym yn cydnabod y meysydd lle mae’n her go iawn i newid y meysydd lle trefnir y gwasanaeth o ofal sylfaenol i ofal eilaidd, mewn gofal sylfaenol ac arbenigol, a’r hyn sydd angen i ni ei wneud i gael y gobaith gorau posibl o ddenu pobl i ddod i Gymru i hyfforddi, i weithio ac i fyw.

Rwy’n edrych ymlaen at y cam nesaf yn ein hymgyrch. Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r Siambr hon yn y blynyddoedd i ddod i edrych ar yr hyn rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn gwirionedd ac i ddweud yn onest lle rydym wedi llwyddo i weithio gyda’n partneriaid, ac yn yr un modd, i gydnabod beth arall sydd angen i ni ei wneud. Bob blwyddyn, byddwn yn gwybod beth sydd angen i ni ei wneud mewn marchnad recriwtio hynod o anodd a sefyllfa hynod o anodd ar draws y DU, gan gadw mewn cof y darlun o wasanaethau cyhoeddus a rhethreg Llywodraeth y DU a fydd yn effeithio arnom ninnau hefyd, pan fo’n effeithio ar bobl eraill sy’n gofyn, ‘A wyf fi eisiau dod i weithio mewn system gofal iechyd lle mae neges Llywodraeth y DU yn dweud eich bod ond yn cael croeso am gyfnod penodol o amser yn unig?’ Byddwn yn parhau i fod yn ddibynnol ar recriwtio rhyngwladol yn ogystal â gwneud mwy o’r hyn y gallem ac y dylem ei wneud i sicrhau bod pobl yng Nghymru a’r DU yn cael gyrfa go iawn a rhan wirioneddol mewn addysg a hyfforddiant meddygol, ac wrth fyw a gweithio fel meddygon yn ein gwlad.

Yn ogystal â mynediad amserol at feddyg teulu, rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod mynediad teg hefyd yn hanfodol. A yw’n ymwybodol o raglen beilot sydd ar waith yn Lloegr lle mae cleifion yn cael eu hannog yn weithredol i dalu i neidio’r ciw am apwyntiad gan feddyg teulu’r GIG? A fyddai’n cytuno nad oes lle i’r math hwnnw o arfer yn y GIG yma yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at y mater hwn. Deallaf mai enw’r cwmni yw Doctaly ac mae’n gweithredu yn ardal Llundain, ond maent yn bwriadu ehangu. Rwy’n rhannu eich teimladau’n llwyr—nid wyf yn meddwl bod unrhyw le i hyn yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Ni fyddai’n rhywbeth y byddem yn ei ariannu neu’n ei annog yma yng Nghymru. Rydym yn credu mewn ethos gwasanaeth cyhoeddus i’n gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Rydym yn cynnal gwerthoedd ac egwyddorion craidd ar gyfer staff ym mhob man, ac nid oes unrhyw ffordd y byddwn yn annog neu’n cefnogi dulliau o’r fath yma yng Nghymru. Ein her yw sut i wella’r gwasanaeth ar gyfer y boblogaeth gyfan, nid sut i roi mantais i bobl ag arian allu manteisio ymhellach ar system sydd yma i wasanaethu pob un ohonom.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’r hen fodel gofal sylfaenol mor ddeniadol i lawer o feddygon ifanc, yn enwedig y gost gyfalaf uchel, er enghraifft, sy’n rhaid iddynt ymrwymo iddi mewn partneriaeth. Hefyd, mae llawer o feddygon teulu ifanc eisiau parhau at lefel o arbenigedd ac unwaith eto, oni bai bod yna bractisau mwy o faint, gall hyn fod yn anodd iawn. Mae’n ymddangos i mi fod y ddau faes hwn yn llawn o gyfleoedd i ddatblygu yma yng Nghymru ac yn ei gwneud yn arbennig o ddeniadol i feddygon teulu.

Rwy’n meddwl bod y rheini’n bwyntiau hollol deg a rhesymol i’w gwneud. Rydym yn cydnabod y gall y model hŷn weithio i rai pobl, ond mae gan wahanol feddygon flaenoriaethau gwahanol—newid yn y gweithlu a newid o ran yr hyn y mae pobl am ei wneud. Er enghraifft, mae’n fwy na’r ffaith fod yna fwy o fenywod sy’n feddygon—mewn gwirionedd, mae dynion sy’n feddygon eisiau treulio mwy o amser gyda’u teuluoedd hefyd. Felly, fe welwch bobl sy’n meddwl ei bod hi’n bwysig eu bod o gwmpas pan fydd eu plentyn yn tyfu i fyny, a phe baech yn mynd yn ôl 50 mlynedd, efallai na fyddai hynny wedi bod yn flaenoriaeth mewn gwirionedd. Felly, mae deall sut a pham rydym yn newid y model yn wirioneddol bwysig.

Nid yw’n fater syml o dorri ein cot yn ôl y brethyn. Mae’n ymwneud mewn gwirionedd â dweud, ‘Sut rydym yn gwella canlyniadau i bobl er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn wlad fwy deniadol i bobl fyw a gweithio ynddi?’ Rwyf wedi cael fy meirniadu rywfaint gan Aelodau yn y Siambr hon o’r blaen am ddweud mai dyfodol gofal sylfaenol bron yn sicr fydd nifer lai o sefydliadau—uno sefydliadau a/neu ffederasiynau—lle y dylai fod mwy o botensial i barhau i ddarparu gwasanaeth lleol gyda meddygon y mae pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, ond a fydd yn darparu gwasanaethau gwahanol er mwyn symud mwy o ofal i mewn i’r sector sylfaenol.

Cam cyffrous a chadarnhaol iawn ymlaen, rwy’n credu, yw’r ffederasiwn sy’n digwydd mewn un clwstwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae meddygon wedi dod at ei gilydd. Maent wedi ffurfio eu model dielw eu hunain i ddeall sut y gallant redeg a rheoli eu gwasanaethau mewn ffordd fwy cyfannol. Dylai hynny ei gwneud yn haws i feddygon newydd ddod i mewn, a pheidio â gorfod prynu cyfran o eiddo, ac i ddeall sut bethau fydd y partneriaethau hynny yn y dyfodol. Mae yna gwestiynau i ni ynglŷn â’r ffordd rydym yn defnyddio cyllid cyfalaf i adnewyddu’r ystad gofal sylfaenol a beth y mae hynny wedyn yn ei olygu i’r bobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth a darparu a chyflenwi’r hyn rwy’n gobeithio y bydd yn wasanaeth estynedig a mwy amrywiol sy’n dal i ddiwallu anghenion pobl ym mhob cymuned ledled y wlad.

Datblygiad Telefeddygaeth

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu telefeddygaeth? OAQ(5)0041(HWS)[W]

Gwnaf. Ein strategaeth ar gyfer Cymru, ‘Iechyd a Gofal Gwybodus’, yw ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer gweithredu ffyrdd newydd o ddarparu gofal trwy fanteisio ar dechnolegau digidol, gan gynnwys telefeddygaeth, er mwyn gwella iechyd a lles cleifion.

Diolch. Cwestiwn sydd gen i am yr angen i ddarparwyr band eang sicrhau bod y rheini sydd angen safon uchel o gysylltiad band eang ar gyfer anghenion telefeddygaeth yn ei chael. Rwy’n gwybod am gymuned yn Ynys Môn—cymuned gyfan—sydd heb fand-eang cyflym. Yn eu plith nhw mae yna deulu sydd â’r gŵr wedi cael diagnosis o spinocerebellar ataxia 6, clefyd, rwy’n deall sy’n anghyffredin iawn, efo dim ond rhyw 18 o bobl yn y Deyrnas Gyfunol yn dioddef ohono fo, ac sy’n amharu ar ei leferydd o. Mae o’n disgwyl am ddyfais gyfathrebu fydd yn ei helpu fo i roi geiriau at ei gilydd, ond mae’n rhaid cael mynediad da i’r rhyngrwyd er mwyn iddo fo allu defnyddio’r system honno. Rŵan, mae’r gymuned i gyd eisiau cyswllt band llydan. Rydw i’n gwneud beth gallaf i i roi pwysau ar Openreach, ond pa bwysau y gall yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, mewn cydweithrediad, o bosib, â’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ei roi ar Openreach i sicrhau eu bod nhw’n edrych eto ar y mater hwn oherwydd bod iechyd unigolyn yn y fantol?

Diolch i chi am y cwestiwn a’r pwynt penodol a grybwyllwyd gennych. Rydym yn cydnabod bod potensial mawr gan deleiechyd ar gyfer y dyfodol ac rydym yn meddwl ei bod yn ffordd dda o ddarparu gwasanaethau arbenigol i bobl er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal yn agosach at adref. Yn aml, nid oes angen i chi deithio, ac mae hynny’n rhan fawr o’r fantais, ac rydym wedi’i weld ym menter gydweithredol canolbarth Cymru. O ran y pwynt penodol a wnewch, mewn gwirionedd rwy’n cyfarfod â’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn nes ymlaen heddiw ac mae gennym ystod o bynciau i’w trafod, a bydd mynediad band eang yn un ohonynt. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gennym lawer i fod yn falch ohono yn y ffordd rydym yn cyflwyno mynediad band eang ledled Cymru, mewn gwahanol gymunedau, ond mae deall ym mha ardaloedd y mae’n anos cael mynediad ato yn rhan allweddol o’r hyn rydym am ei wneud i sicrhau bod gofal iechyd yn parhau i fod yn gwbl deg ac yn hygyrch yn seiliedig ar angen, yn hytrach nag ar hap yn ddaearyddol. Felly, mae’r rhain yn faterion rydym yn awyddus i gael trafodaeth yn eu cylch i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud yn gadarnhaol i symud pethau yn eu blaen. Os hoffech ysgrifennu ataf gyda manylion am y ddeiseb, byddaf yn hapus i edrych ar hynny a chael y drafodaeth honno gyda chi wedyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae telefeddygaeth yn agwedd bwysig o ofal iechyd modern, sy’n helpu i gael y driniaeth a’r diagnosis cywir i’r bobl iawn ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, ond gall hefyd, fel y dywedoch, helpu i leihau’r angen i gleifion fynychu eu meddygfeydd meddygon teulu yn y cnawd mewn ardal anghysbell, neu hyd yn oed i lanio mewn adran ddamweiniau ac achosion brys fel yr unig ddewis sydd ar ôl iddynt. Felly, a gaf fi ofyn iddo, ar y thema honno: a wnaiff ymuno â mi i groesawu’r lansiad, ddoe ddiwethaf, a chyflwyniad newydd y gwasanaeth di-frys 111 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd, a chytuno â mi fod hyn hefyd yn rhan o helpu’r cyhoedd i gael mynediad at y lefel fwyaf priodol o ofal ar gyfer eu hanghenion o fewn yr amser iawn, ac y dylai’r gwasanaeth hwn hefyd leihau’r pwysau ar feddygon teulu ac ar adrannau damweiniau ac achosion brys?

Gwnaf, rwy’n hapus iawn i gydnabod hynny, ac rwy’n falch fod rhywun wedi nodi lansiad y gwasanaeth 111. Mae wedi cael ei ddatblygu ar gefn yr hyn sydd wedi gweithio a’r hyn nad yw wedi gweithio yn Lloegr hefyd gan grŵp prosiect yma yng Nghymru. Rwy’n hynod o falch o gydnabod y gefnogaeth wirioneddol a gafwyd gan yr ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans, gan ofal eilaidd, ond hefyd gan feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol gofal sylfaenol yn ogystal. Felly, rydym wedi cael cefnogaeth i’r model rydym yn ei weithredu ac rwy’n meddwl y bydd yn golygu y gall pobl gael gofal a chyngor ar y ffôn neu ar-lein a gwneud hynny’n llawer haws iddynt. Felly, rwyf hefyd yn cytuno y dylai olygu y bydd amser yn cael ei ryddhau i feddygon teulu, a dylai hefyd olygu, rwy’n gobeithio, y bydd llai o bobl yn cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys yn amhriodol pan ellir ymdrin â’u hanghenion gofal mewn mannau eraill. Caiff ei gyflwyno yn gyntaf yn ardal Abertawe Bro Morgannwg; mae ym Mhen-y-bont a Chastell-nedd, fel y gwyddoch, a dylai gael ei gyflwyno wedyn yn ardal Abertawe ar ôl hynny. Felly, rwy’n wirioneddol gadarnhaol ynglŷn â’r datblygiad hwn ac edrychaf ymlaen at roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau yn y flwyddyn newydd am y canlyniadau a’r adborth o’r cynllun peilot cychwynnol hwn, ac rwy’n meddwl o ddifrif fod hyn yn mynd i fod yn rhywbeth y gallwn fod yn wirioneddol falch ohono ac y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i gymunedau ac etholaethau ar draws y wlad.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae adolygiadau diweddar o’r llenyddiaeth wedi cadarnhau bod teleseiciatreg yr un mor effeithiol ag ymgynghoriadau seiciatrig wyneb yn wyneb ar gyfer gwneud asesiad diagnostig, a’i fod cystal, o leiaf, ar gyfer trin anhwylderau megis iselder ac anhwylder straen wedi trawma, a gall fod yn well na thriniaeth wyneb yn wyneb i rai grwpiau o gleifion, yn enwedig plant, cyn-filwyr a rhai sy’n dioddef o agoraffobia. A oes rhywfaint o’ch 12 y cant o fuddsoddiad mewn iechyd meddwl wedi’i ddefnyddio yn y modd hwn?

Pan fyddaf yn edrych ar ddatblygiadau ar gyfer telefeddygaeth a theleiechyd, nid wyf yn ei rannu’n syml yn ôl y llinellau penodol hynny yn y gyllideb. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud a pha seilwaith sydd ei angen i wneud yn siŵr y gall pobl ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Er enghraifft, mewn gofal llygaid, mae gennych angen penodol am gamerâu, ond os ydych yn siarad am fynediad at therapïau siarad, yna mae angen math gwahanol o ddylanwad arnoch, nad yw’n ymwneud yn unig â’r therapi siarad ei hun. Ond rwy’n awyddus i ddeall beth y gallwn ei wneud, pa mor gyflym y gallwn ei wneud a pha mor gyson y gallwn ei wneud er mwyn cyflwyno ymarfer effeithiol. Felly, mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y maes hwn ac mewn eraill wrth fwrw ymlaen â thelefeddygaeth yma yng Nghymru.

Gwasanaethau Iechyd yn Nhorfaen

5. Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau iechyd o safon uchel yn Nhorfaen? OAQ(5)0049(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phartneriaid eraill i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel i bobl Torfaen sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl Torfaen.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gyfarfod â mi ar sawl achlysur ers eich penodiad i drafod y ganolfan gofal arbenigol a chritigol a gynlluniwyd ar gyfer Cwmbrân. Fodd bynnag, erys y ffaith fod yr achos busnes ar gyfer yr ysbyty wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ers blwyddyn yn awr, a chi bellach yw’r pedwerydd Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am wneud penderfyniad ar yr hyn sy’n ddatblygiad hollbwysig, nid yn unig ar gyfer fy etholwyr yn Nhorfaen, ond ar gyfer Gwent gyfan. Yn wir, fel y gwyddoch, mae’r datblygiad yn rhan sylfaenol o gynllun de Cymru. Pan ofynnais i chi am hyn yn y pwyllgor iechyd yn ddiweddar, fe ddywedoch eich bod yn disgwyl cael cyngor ac y byddech yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau erbyn y toriad hanner tymor, ac eto, ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fod penderfyniad i’w ddisgwyl erbyn diwedd y flwyddyn hon. Mae fy etholwyr bellach wedi cael addewid o ysbyty newydd ers dros ddegawd. Pa bryd y gallwn ddisgwyl penderfyniad terfynol ar hyn?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn, ac rwy’n cydnabod ei bod wedi dod â’r mater hwn yn daer ac yn gyson i sylw’r Siambr ers mwy nag un tymor, yn ogystal ag yn y cyfarfodydd rwyf wedi bod yn hapus i’w cael gyda chi ac amryw o Aelodau etholaethau eraill yng Ngwent sydd wedi trafod y mater gyda chi. Dywedais yn y pwyllgor iechyd fy mod yn cydnabod bod angen sicrwydd, fy mod yn cydnabod yr amser y mae wedi’i gymryd i gyrraedd y pwynt hwn ac mai fi yw’r pedwerydd Gweinidog iechyd y cyflwynwyd y mater hwn iddynt er mwyn ceisio dod i ryw fath o benderfyniad. Rwy’n awyddus i ddarparu sicrwydd ac rwyf wedi cadw at yr amserlen a nodais yn y pwyllgor: o fewn yr hanner tymor hwn, rwy’n disgwyl cael cyngor i fy ngalluogi i wneud penderfyniad. Rwy’n cydnabod nad mater i Went yn unig yw hyn, a’i fod yn rhan o raglen de Cymru. Felly, rhaid i mi ddeall pa effaith a gaiff hyn, nid yn unig ar ofal iechyd lleol i etholwyr sy’n byw yng Ngwent, ond pa effaith a gaiff ar yr ystod ehangach o wasanaethau y mae angen i ni eu cael ar draws de Cymru, i wneud yn siŵr fod ein gwasanaethau gofal iechyd yn addas ar gyfer y dyfodol. Rwy’n cydnabod yr effaith yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rwy’n benderfynol o gadw at yr amserlen honno ac i roi hyder i chi ac i Aelodau eraill nad yw hyn wedi cael ei roi o’r neilltu. Mae hyn yn rhywbeth sy’n bendant ar flaen fy meddwl, ac rwy’n disgwyl cadw at yr amserlen a nodais wrthych yn y pwyllgor, sef y dylwn fod wedi cael cyngor erbyn diwedd y mis hwn, a byddaf yn gwneud penderfyniad.

Canfu adroddiad y llynedd gan yr elusen Gofal, sy’n arwain ar iechyd a lles meddyliol yng Nghymru fod 59 y cant o’r ymatebwyr yn barnu bod mynediad at wasanaethau alcohol statudol yn Nhorfaen yn gymedrol, yn wael neu’n wael iawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r canlyniadau hyn, ac a wnaiff gytuno bod angen i ni adolygu’r gwasanaethau triniaeth hyn i weld beth y gellir ei wneud i’w gwella yn Nhorfaen a Dwyrain De Cymru?

Mae’n bwysig deall barn y bobl sy’n defnyddio gwasanaeth, o ran yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio hefyd; mae’n rhan bwysig o wella gwasanaethau. Felly, mae angen i ni wrando ar lais defnyddwyr y gwasanaeth i ddeall yr hyn nad yw’n gweithio. Fe grwpioch chi’r bobl hynny sy’n ystyried bod y gwasanaeth yn gymedrol, gyda’r rhai sy’n ei ystyried yn llai na chymedrol. Felly, ni fyddwn yn meddwl bod y ffigur canrannol cychwynnol yn adlewyrchiad hollol deg o ansawdd y gwasanaeth, ond byddwn yn disgwyl i’r bwrdd iechyd a’u partneriaid—gan fod llawer o’r ddarpariaeth hon yn digwydd gyda phartneriaid trydydd sector—edrych yn feirniadol ar lais y defnyddiwr a deall beth fydd angen iddynt ei wneud i weithio gyda’r defnyddiwr er mwyn deall sut y gallant wella’r gwasanaeth.

Tiwmorau Niwroendocrin

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl y mae tiwmorau niwroendocrin yn effeithio arnynt? OAQ(5)0043(HWS)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella darpariaeth gwasanaethau tiwmorau neuroendocrin yng Nghymru. Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal adolygiad trylwyr o wasanaethau de Cymru ac mae bellach yn gweithio ar weithredu gwelliannau.

Ysgrifennydd y Cabinet, daeth etholwyr sy’n poeni am yr oedi mewn atgyfeiriadau ar gyfer tiwmorau niwroendocrin i gysylltiad â mi. Pa sicrwydd y gallwch ei roi bod atgyfeiriadau o’r fath yn digwydd o fewn yr amserlenni a’r canllawiau a argymhellwyd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru?

Diolch am y cwestiwn. Yng ngogledd Cymru, mae pobl yn gwneud defnydd o wasanaeth arbenigol yn Lerpwl ac nid oes problem benodol gyda mynediad. Yr her yma yn ne Cymru yw sut—. Mae modd i bobl gael mynediad at wasanaethau yn Lloegr os ydynt yn dymuno gwneud hynny wrth i ni weithio ar fodel yma. Mae’n wasanaeth arbenigol ac mae’n gymharol brin. Yr her oedd gweithio drwy’r argymhellion blaenorol. Cawsom gyfarfod rhanddeiliaid ym mis Medi—dair wythnos yn ôl yn llythrennol. Mae hynny wedi cael ei ddwyn ymlaen, ac rwy’n disgwyl y bydd bwrdd rheoli Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gwneud penderfyniad wedyn ynglŷn â chyflwyno’r model gwasanaeth yn y dyfodol.

Rwy’n cydnabod nad yw hyn wedi bod mor gyflym ag y byddai pobl yn y gwasanaeth a chleifion am iddo fod, ond mae yna gydnabyddiaeth fod angen gwneud penderfyniad ac yna mae angen i bobl fwrw ymlaen â chyflwyno’r model hwnnw ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd, rwy’n credu bod pobl yn teithio ymhellach nag y gallent ac y dylent ei wneud efallai. Dylai cael gwasanaeth arbenigol priodol wedi’i drefnu yn y modd hwn olygu mewn gwirionedd y gallwn wella canlyniadau i bobl yn ogystal â mynediad.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna amryw o densiynau wedi bod yn y system, yn amlwg, yn dibynnu ar ble rydych yn byw yng Nghymru, o ran pa bryd y gallech gael eich gweld. Ceir rhai enghreifftiau o arfer rhagorol ac yna mewn ardaloedd eraill, mae yna oedi wrth symud drwodd i’r llwybr triniaeth a gwasanaethau canser. Rydym wedi cynnig ar sawl achlysur—ac mae wedi cael ei brofi’n ymarferol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig—pe bai uwch oncolegydd yn cael ei benodi i gael trosolwg cenedlaethol er mwyn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau canser, gallai hyn fod yn welliant buddiol o ran amseroedd aros ac o ran darparu gwasanaethau canser yn gyffredinol ledled Cymru.

Beth fyddai eich barn ar bennu unigolyn gyda’r cefndir clinigol angenrheidiol i’ch cynorthwyo yn eich rôl, a’ch swyddogion, wrth fwrw gwelliant yn ei flaen ar amseroedd aros canser, fel bod modd cael gwared ar y loteri cod post o’r system, i’r graddau sy’n bosibl?

Ar y rhan benodol ar diwmorau niwroendocrin, mae gennym lwybr ymlaen lle ceir arweinyddiaeth glinigol a chydnabyddiaeth o’r hyn sydd angen i ni ei wneud. Rydym yn disgwyl y canlyniad gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Rwy’n credu eich bod yn gofyn cwestiwn ehangach o lawer am wasanaethau canser yn gyffredinol. Wrth gwrs, nodais ddoe—nid wyf yn siŵr a oeddech yn ôl ar y pryd—fod y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn cael ei adnewyddu. Bydd yn cael ei lansio cyn diwedd y flwyddyn galendr ac mae hwnnw’n darparu ar gyfer arweinyddiaeth gwasanaethau ac arweinyddiaeth glinigol. Ac yn bwysicach, mae’r trydydd sector yn rhan o hynny hefyd.

Yr her yw pa un a oes gennym arweinydd clinigol cenedlaethol fel y nodwyd, ac a fydd hynny mewn gwirionedd yn ysgogi gwelliant. Ond rwy’n credu, o ystyried y gwaith sydd wedi’i wneud ar ei adnewyddu ac o ystyried y—. Yn y gymuned glinigol yng Nghymru yn y gwasanaethau canser, mae yna undod pwrpas go iawn a chredaf fod proses y cynllun cyflawni wedi ein helpu i sicrhau hynny. Felly, nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud ag arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer y maes neu benodi oncolegydd penodol. Mae’n ymwneud mewn gwirionedd â dweud: pan gawn y cynllun, sut rydym yn ei gyflwyno’n gyflym ac yn gyson, a pha ddiwygiadau sydd angen i ni eu gwneud o ran y ffordd y darparwn y gwasanaethau hynny, mewn gofal sylfaenol, gyda chymorth oncoleg gofal sylfaenol, yn ogystal â’r hyn sydd angen i ni ei wneud mewn gofal eilaidd a thros y llwybr cyfan? Felly, mae llawer i ni ei wneud ac rwy’n obeithiol y gallwn wneud hynny yn ystod y tymor hwn a chael mynediad gwell, a gwell canlyniadau hefyd i bobl yma yng Nghymru.

Polisi Ffitrwydd Corfforol

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi ffitrwydd corfforol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0047(HWS)

Mae cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymdrin â hyn drwy ddeddfwriaeth, polisïau ac ystod o ymyriadau. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth iach a gweithgar drawsbynciol, sy’n nodi sut y byddwn yn gwneud y gorau o effaith y cyfan rydym yn ei wneud.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes yn y pwyllgor, mae bod yn heini a bod yn ffit yn golygu gostyngiad yn eich pwysau gwaed chi o ryw 30 y cant, gostyngiad yn lefel y siwgr yn eich gwaed eto o ryw 30 y cant, gostyngiad yn lefel y colesterol o ryw 30 y cant a hefyd colli pwysau ryw 30 y cant. Nid oes yna ddim tabled ar wyneb daear sy’n gallu cystadlu efo’r ffigurau hynny. Felly, a allwch chi bwysleisio pa mor hawdd yw hi o ran y busnes ffitrwydd yma? Mae lot o bobl—beth sy’n eu stopio nhw ydy meddwl, ‘O, mae’n rhaid imi brynu aelodaeth o ryw “gym” yn rhywle; mae’n rhaid imi brynu’r cyfarpar arbenigol; dillad ac ati’. Mater o gerdded 10,000 o gamau’r dydd ydy o. A allwch chi jest bwysleisio pa mor hawdd ydy hi, yn y bôn, i fod yn ffit?

Diolch yn fawr i chi am y cwestiwn. Rwy’n meddwl bod ein Deddf teithio llesol yn enghraifft wych o sut rydym yn ceisio bwrw ymlaen â’r rhan benodol honno o’r agenda o ran ceisio gwneud Cymru yn lle gwirioneddol hawdd a hygyrch—i gerdded a beicio fod yn ddewis cyntaf ar gyfer teithiau byrrach. Cyfarfûm â’n bwrdd teithio llesol y bore yma. Cefais fy ysbrydoli’n fawr gan ddyfnder y profiad, y wybodaeth a’r arbenigedd sydd gennym ar ein bwrdd a’u hymrwymiad llwyr i helpu Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’n Deddf teithio llesol, a hefyd ein cynllun teithio llesol, sy’n drawsbynciol, ar draws y Llywodraeth i gyd. Er enghraifft, mae yna gamau gweithredu o fewn hynny i’r Gweinidog addysg a chamau gweithredu ar gyfer cynllunio ac yn y blaen, yn ogystal. Felly, cyn hir byddaf yn ysgrifennu at fy nghyd-Aelodau, i dynnu sylw at yr hyn sydd yn y cynllun ym mhob un o’r adrannau hynny, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn i’r Ddeddf teithio llesol, yn enwedig, gael ei gyrru ymlaen mewn modd trawsbynciol ar draws y Llywodraeth.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod eich bod yn ymwybodol, ar lawr gwlad, yn Llanharan a Phencoed, fod galwadau cynyddol, yn enwedig—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 15:11:00

Mae angen i chi ofyn y cwestiwn.

O, fy ymddiheuriadau. A wnaiff y Gweinidog—[Chwerthin.]

Llanharan a Phencoed

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anghenion gofal sylfaenol poblogaethau Llanharan a Phencoed? OAQ(5)0051(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae byrddau iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf yn gweithio gyda’i gilydd ar wasanaethau gofal sylfaenol ym Mhencoed a Llanharan. Maent yn sefydlu gweithgor ar y cyd i edrych ar ffyrdd newydd o ddiwallu angen lleol yn well.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Dyna’r ail dro i mi wneud hynny; fe geisiaf beidio â’i wneud eto. Mae’n wych clywed am y gwaith sy’n digwydd ar lawr gwlad, ac mae llawer o hynny wedi cael ei ysgogi gan drigolion lleol a hefyd gan arweiniad unigolion lleol fel y cynghorwyr Geraint Hopkins, Roger Turner ac eraill. Ond a gaf fi ofyn iddo gadw llygad ar hyn yn benodol, gan fod poblogaeth Llanharan yn tyfu a thyfu? Mae yna anghenion hefyd yn ardal Pencoed. Ond yn amlwg, yr hyn sydd ei angen yw rhywbeth sy’n fodern, sy’n darparu nid yn unig gwasanaethau meddygon teulu, ond gwasanaeth ehangach gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig yn ogystal, sy’n gwneud yn union yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud, sef cadw pobl yn agosach at eu cartrefi, yn iach ac yn heini, ac i beidio â’u cael yn glanio yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys am fod eu ffitrwydd a’u hiechyd yn dioddef. Felly, os gwelwch yn dda, cadwch lygad barcud ar hyn. Mae’n wych clywed am y gwaith sy’n digwydd, ond os gwelwch yn dda, bydd unrhyw beth y gall ei wneud i’w annog yn cael croeso mawr.

Diolch. Rwy’n cydnabod bod twf wedi’i gynllunio yn y boblogaeth yn yr ardal dan sylw ac mae heriau ynglŷn â’r model gwasanaeth cyfredol sy’n cael ei ddarparu, a hefyd yr ystad. Rydych yn iawn; roedd yna ddynodiad mewn cwestiynau blaenorol y bydd y ffordd rydym yn defnyddio’r ystad gofal sylfaenol yn bwysig ar gyfer y model a ddarparwn—ar gyfer meddygon teulu, ond hefyd ar gyfer y cyhoedd a’r hyn y gallant ddisgwyl ei gael yn hynny. Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am y ddau aelod lleol, ac rwy’n falch nad ydych wedi rhoi cynnig ar ganu yn y ffordd y mae Geraint yn aml yn ei wneud—er bod ganddo lais gwych. Ond rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig cadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd, ac rwyf wedi cael trafodaethau gyda chadeiryddion y ddau fwrdd iechyd dan sylw. Mae’n fater sy’n ymwneud â ffiniau, oherwydd bod y cymunedau rydym yn sôn amdanynt yn pontio’r ffin anweledig honno. Felly, rwy’n disgwyl cael gwybod yn iawn beth sy’n digwydd ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi a rhanddeiliaid eraill i sicrhau dyfodol gwell i ofal sylfaenol yn y rhan hon o Gymru.

3. Cwestiwn Brys: Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn un cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Darren Millar i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiswyddo staff gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn pryderon mewn perthynas ag Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ym Mae Colwyn? EAQ(5)0054(FM)

Member
Vaughan Gething 15:13:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Gwnaf. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am y sefyllfa hon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf. Rwyf wedi cael fy sicrhau bod y bwrdd iechyd wedi rhoi camau ar waith i sicrhau diogelwch cleifion, ac mae ymchwiliad i’r honiadau wedi dechrau.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd hwn yn amlwg yn newyddion a oedd yn peri pryder pan ddaeth yn amlwg ddoe yng ngogledd Cymru, yn enwedig o ystyried y ffaith fod y llwch heb setlo eto ar sgandal Tawel Fan, a achosodd y fath ysgytwad, wrth gwrs, i bobl gogledd Cymru y llynedd. Rwyf fi, fel chithau, yn croesawu’r camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd hyd yn hyn, dros y dyddiau diwethaf. Wrth gwrs, mae’n hanfodol yn awr eu bod cyfyngu cymaint â phosibl ar yr aflonyddwch i’r cleifion agored i niwed sy’n dal yng ngofal yr uned arbennig ac yn rhoi gwybod i anwyliaid pobl ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau.

Ond a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl gogledd Cymru nad oes yna broblem fwy cyffredinol gyda gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y rhanbarth? Nid yw hwn ond y diweddaraf o nifer o adroddiadau a phryderon sy’n cael eu crybwyll ynglŷn ag ansawdd y gofal ac yn wir, yr amgylchedd lle mae pobl yn derbyn gofal mewn gwahanol unedau ar draws gogledd Cymru. A allwch ddweud wrthym hefyd a yw nifer y gwelyau yng ngogledd Cymru yn addas, yn eich barn chi, i ateb anghenion y boblogaeth yno? Ac a allwch ddweud wrthym, o ystyried bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, a’i fod yn destun mesurau arbennig yn rhannol oherwydd y problemau yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn y rhanbarth, pryd ar y ddaear y gwelwn strategaeth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru fel y gallwn gael y math o sicrwydd ynglŷn â dyfodol y gwasanaethau yn y rhanbarth hwnnw, ac y gallwn ddwyn y bwrdd iechyd, ac yn wir, chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, i gyfrif am gyflawni’r strategaeth honno? Nid yw’r sefyllfa bresennol yn dderbyniol. Mae’n bwysig fod pobl yn cael y sicrwydd hwn. Ar hyn o bryd, rwy’n ofni bod cwestiynau mawr i’w gofyn ynglŷn â’r gwasanaethau hyn yn y rhanbarth.

Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol cyfeirio’n ôl at y digwyddiadau penodol yn Nhawel Fan fel rheswm i ladd ar y gwasanaeth yn gyffredinol yng ngogledd Cymru. Gwnaed honiad difrifol am ofal cleifion, ac rwy’n falch, mewn gwirionedd, fod yr aelod o staff wedi teimlo y gallai dynnu sylw at y mater. Gweithredodd y bwrdd iechyd yn gywir ac yn briodol. Rwy’n credu bod hynny’n arwydd o’r hyn a ddylai fod wedi digwydd yn y gorffennol, ac ni ddigwyddodd mewn rhai mannau. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn dangos rhywfaint o gynnydd a chydnabyddiaeth o’r hyn sydd angen ei newid.

Mae’r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, fel y mae pawb yn gwybod o’r diweddariadau a roddais yn agored yn y Siambr hon ac yn ysgrifenedig. Mae angen i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wella’n sylweddol. Maint yr her yw rhan fawr o’r rheswm pam y cyhoeddais yn flaenorol y byddai’r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig am gyfnod o ddwy flynedd. Rydym ran o’r ffordd drwy hynny. Nid wyf yn disgwyl i’r gwasanaeth fod yn berffaith yn awr, ddim o gwbl. Ni fyddai’n realistig. Yr her yw sut y maent yn gwneud cynnydd o nawr ymlaen. Felly, mae ganddynt gyfarwyddwr gwasanaethau iechyd meddwl newydd a phrofiadol. Rwyf wedi ei gyfarfod, ac mae ei ymroddiad a’r neges a roddodd am yr angen i adolygu a diwygio’r gwasanaeth wedi creu argraff arnaf. Felly, mae hynny’n rhywbeth o ran cael strategaeth briodol gyda chefnogaeth y cyhoedd a’r staff, a bydd hynny’n golygu rhywfaint o newid.

Ond efallai nad yw’r mater penodol rydych yn ei grybwyll yn y cwestiwn yn mynd yn ôl at y strategaeth ehangach honno mewn gwirionedd. Mae’r strategaeth yn bwysig. Bydd y ddarpariaeth yn bwysig. Fe gawn sicrwydd allanol, a bydd adroddiadau rheolaidd gennyf fi am y cyfarfodydd hynny i dawelu meddyliau. Mae gennym Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru i adolygu cynnydd ar y mesurau arbennig. Rwy’n disgwyl gweld cynnydd, ac os na wneir cynnydd, rwy’n disgwyl cael gwybod yn briodol ble nad yw’r cynnydd wedi digwydd. Byddaf yn cadw llygad ar y gwasanaethau iechyd meddwl ar draws gogledd Cymru. Byddaf yn rhoi sylw ac amser arbennig iddo, fel y gwneuthum ar bob ymweliad â gogledd Cymru. Felly, mae hwn yn fater difrifol. Mae angen ei drin yn ddifrifol, ac rwy’n disgwyl bod yn agored ac yn onest gyda’r Aelodau yn y Siambr hon a thu hwnt ynglŷn â pha gynnydd a wnaed a’r hyn sydd eto i ddod.

Rydych yn dweud wrthym yn glir nad ydych yn disgwyl i’r gwasanaeth fod yn berffaith, ond oni ddylem ddisgwyl i’r gwasanaeth fod yn well? Eto i gyd, dyma ni eto yn wynebu’r hyn a allai fod yn sgandal difrifol arall yn ymwneud â gofal o ansawdd gwael i gleifion yng ngogledd Cymru. Ond y tro hwn, wrth gwrs, mae sancsiwn mesurau arbennig eisoes wedi cael ei ddefnyddio. Felly, mae’n anodd gweld, os yw ein hofnau gwaethaf yn cael eu gwireddu, lle y gall y Llywodraeth fynd ar hyn, mewn gwirionedd.

Yn amlwg, gall meddygon a nyrsys sy’n camymddwyn golli eu gwaith, gallant golli eu bywoliaeth, gallant hyd yn oed fynd i’r carchar, ac eto rydym yn gweld y sgandalau hyn dro ar ôl tro. Yn aml, wrth gwrs, pan fo’r ymchwiliad yn digwydd, maent yn tynnu sylw at fethiannau rheoli. Nawr, yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw’n bryd rhoi rheolwyr y GIG o dan drefn reoleiddio broffesiynol, a modd o ddiswyddo rheolwyr os yw eu penderfyniadau neu eu methiannau yn arwain at niwed i gleifion?

Rhan o’r her wrth ymdrin â mater penodol yw fy mod yn credu bod gennym gyfrifoldeb i beidio â siarad fel pe bai’r ofnau hynny’n ffeithiau. Mae’r camau a gymerwyd wedi bod yn gwbl briodol yn yr ystyr eu bod yn gwahardd staff o’u gwaith fel gweithred niwtral i ganiatáu i ymchwiliad ddigwydd. Bydd person allanol o’r tu allan i Betsi Cadwaladr yn cynnal yr ymchwiliad, ac mae’n bwysig hefyd fod y staff a’r teuluoedd a allai fod ynghlwm wrth hyn, ond hefyd y cyhoedd yn ehangach, yn deall nad ymchwiliad mewnol i’r bwrdd iechyd ymchwilio ei hun fydd hwn. Mae yna bwynt i’w wneud yma am y lefel o dawelwch meddwl. Rwy’n credu y dylai hynny roi hyder i bobl eraill fod y rheolwyr yn yr achos hwn yn gwneud y peth iawn. Yn hytrach na meddwl am ffyrdd gwahanol o gael gwahanol gosbau ar gyfer rheolwyr, rwy’n meddwl bod gennym ddigon o gosbau posibl i reolwyr eisoes ynglŷn â’r atebolrwydd nad oes ganddynt o fewn y system. Ein her yw: sut rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn atebol yn briodol a pha fesurau sydd gennym ar waith? Oherwydd, y gosb eithaf yw bod rhywun yn colli eu swydd. Wyddoch chi, mae honno’n gosb mor ddifrifol i’w gweithredu, a sawl gwaith fydd hynny’n gwella’r gwasanaeth? Rwyf bob amser â diddordeb—. Beth rydym yn ei wneud i ddeall ein problemau a’n heriau yn y gwasanaeth? Pwy sy’n gyfrifol am hynny, sut y maent yn cael eu gwneud yn atebol, a beth sydd angen i ni ei wneud wedyn i wella?

Fe fyddwch wedi gweld, yng ngogledd Cymru, fod yna dîm rheoli newydd yn y gwasanaeth iechyd meddwl oherwydd ein bod wedi cydnabod bod angen i hynny ddigwydd. Rydym wedi dod ag arbenigedd i mewn i’r bwrdd iechyd, gydag uwch-nyrsys sydd wedi mynd yno dros gyfnod o amser, ac rwy’n falch o weld eu bod wedi recriwtio cyfarwyddwr iechyd meddwl profiadol sydd bellach yn ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflawni strategaeth wahanol a strategaeth well, gan gydnabod bod angen gwelliant sylweddol o hyd. Ond ar hyn o bryd, ni fyddwn yn ceisio dweud wrthych fod popeth yn berffaith, ac nid yw ond yn deg fy mod yn cydnabod mai dyna ble rydym, yn hytrach na dweud wrth bawb fod pethau’n dda, fod pethau’n berffaith, ac nad oes angen unrhyw newid. Rydym yn cydnabod bod angen newid. Mae mwy o benderfyniadau anodd i’w gwneud ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym yn dychwelyd i’r sefyllfa hon yn y dyfodol, a bod pobl yn cael y gwasanaethau y mae ganddynt hawl i’w disgwyl.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod manylion yr hyn a ddigwyddodd ar y ward hon, ond fel y gwyddoch, rwy’n hyrwyddwr hirsefydlog i’r angen i ymestyn Deddf Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion. Rwyf wedi gwneud y pwynt o’r blaen yn y Siambr mai cleifion ar y wardiau hynny yn ôl pob tebyg yw’r bobl fwyaf di-lais a welwn yn y GIG. Pan fydd yr ymchwiliad hwn wedi’i gwblhau, a wnewch chi gytuno i rannu’r canfyddiadau gydag Aelodau’r Cynulliad? Ac yn benodol, a wnewch chi ystyried a all hyn roi hwb pellach i’r angen i ymestyn y ddeddfwriaeth ar lefelau staffio diogel i gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn. Ni fydd yr adroddiad ar yr ymchwiliad ar fy nghyfer i, mater i’r bwrdd iechyd fydd hwnnw, ond byddwn yn disgwyl y byddant yn gwneud yn siŵr fod Aelodau’r Cynulliad yn cael eu briffio. Yn wir, fe gafodd Aelodau’r Cynulliad eu briffio ar y mater hwn, ac unwaith eto, mae’n glod i’r bwrdd iechyd—aethant ati’n rhagweithiol i ddweud wrth bobl am y broblem, yn hytrach nag aros iddi gael eu datgelu. Felly, mae’r ymchwiliad amddiffyn oedolion agored i niwed wedi dechrau hefyd. Felly, fel y dywedais, maent yn gwneud y peth iawn. Wrth ddeall beth a ddaw allan yn yr adroddiad, byddwn yn disgwyl i Aelodau’r Cynulliad gael eu briffio eto hefyd, a byddwn yn disgwyl y byddai’r hyn a ddysgir o hynny’n cael ei ddarparu ar gyfer cynrychiolwyr cyhoeddus gan y bwrdd iechyd.

O ran eich pwynt am y Ddeddf lefelau diogel staff nyrsio, rwyf wedi nodi y bydd y Ddeddf yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Felly, rydym yn deall—tystiolaeth yn awr ar gyfer pan fydd yn cael ei chyflwyno yn y cyfnod cychwynnol, ac o’i chyflwyno ymhellach, rhaid cael tystiolaeth am effaith gwneud hynny, ynglŷn â ble rydym yn awr a ble mae angen i ni fynd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael ambell drafodaeth adeiladol eisoes gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y pwynt hwn. Maent yn amlwg yn awyddus i weld y Ddeddf yn cael ei chyflwyno ymhellach ac nid yn y gwasanaethau oedolion yn unig, ond yn y gwasanaethau plant hefyd. Rwyf wedi bod yn hynod o glir, lle ceir tystiolaeth fod yna fantais go iawn i’r claf o gyflwyno’r Ddeddf lefelau diogel staff nyrsio, yna byddwn yn ystyried hynny a byddwn yn gweithio mewn modd i allu deall sut y mae angen i ni gynllunio’r gweithlu i gyflawni hynny. Ond rwy’n sicr yn agored i—mae gennym ymrwymiad i gyflwyno’r Ddeddf yn y mannau lle mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Felly, rwy’n hapus i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw heddiw.

4. 3. Dadl Plaid Cymru: Yr Economi Wledig

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl yn enw Plaid Cymru ar yr economi wledig, ac i wneud y cynnig, Simon Thomas.

Cynnig NDM6111 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn glir ynghylch cyllid ar gyfer prosiectau Cynllun Datblygu Gwledig ar ôl mis Ionawr 2017 a darparu ffordd fwy rhyngweithiol i’r rhaglen bresennol.

2. Yn cadarnhau mai parhau’n rhan o’r farchnad sengl yw’r dewis gorau ar hyn o bryd i sicrhau mynediad heb dariff a chwota i’r farchnad honno.

3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw gweithwyr mudol i’r economi wledig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rydw i’n cynnig y cynnig yn enw Plaid Cymru ac yn dweud pa mor briodol yw hi, rydw i’n meddwl, ar yr adeg hon ein bod ni’n oedi i drafod pa mor bwysig yw’r cynllun datblygu gwledig fel rhan o’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn delio â chymunedau gwledig a pha mor bwysig yw hi i ddelio yn iawn ac yn briodol, wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, â’r ffordd y mae’r cynllun datblygu gwledig yn gweithredu. Rŷm ni wedi trafod cryn dipyn yn y Senedd hyd yma y cymhorthdal, fel mae’n cael ei alw, y mae ffermwyr unigol yn ei gael, ond mae’n bwysig cofio mai rhan arall o’r gefnogaeth sy’n dod ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd yw honno sydd yn ehangach o dan y cynllun datblygu ar gyfer gwneud y diwydiant amaeth yn fwy cystadleuol, i sicrhau bod rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol, sydd yn erbyn newid hinsawdd, a hefyd i ddatblygu economi cydbwysol yn yr ardaloedd gwledig.

Mae’r arian hwn yn werthfawr iawn i Gymru. Mae e bron yn £1 biliwn am gynllun tair blynedd o 2014 i 2020, ac mae tua hanner yr arian yna yn dod gan Lywodraeth Cymru ei hunan. Rwy’n credu mai’r ffordd orau i ddisgrifio pa mor bwysig yw’r cynllun yma yw jest i ddisgrifio beth wnes i ddydd Llun wrth ymweld â fferm Blaencwm, Cynllwyd. Ces i groeso caredig gan y teulu Jones yno. Fferm gymysg yw Blaencwm, tua 5 milltir o Lanuwchllyn—fferm ddefaid ac ychydig o loi sugno, a fferm lle mae amrywiaeth a nifer o fentrau newydd wedi cael eu datblygu gan y teulu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yna ddiwydiant llifio coed gyda nhw, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi gosod gwresogydd biomas er mwyn defnyddio’r sglodion coed i gynhesu’r tai a hefyd i sychu’r coed yn y lle cyntaf. Maen nhw wedi defnyddio cynllun Glastir, y grant effeithlonrwydd, i osod storfa newydd ar gyfer slyri, a sied, wrth gwrs, yn mynd gyda honno er mwyn ehangu nifer y lloi y gallan nhw eu cadw. Yn sgil hynny, wrth gwrs, mae’r slyri yn cael ei storio’n well ac yn cael ei ddosbarthu’n well ar y tir hefyd. O ran gwella porfa a gwella gwrychoedd, neu berthi, fel y byddwn i’n eu galw nhw, mae pob math o bethau’n dod at ei gilydd, o’r diwydiant amaeth traddodiadol, os liciwch chi—mae’n fferm fynyddig deuluol, sydd wedi bod yn yr un teulu ers 10 cenhedlaeth, gyda llaw—i’r dulliau mwyaf newydd a thraddodiadol hefyd, i gynnal y cynefin ar gyfer bioamrywiaeth ac atal newid hinsawdd.

Yn y cyd-destun hwn, rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod ffermwyr fel y Joneses ym Mlaencwm yn cael rhyw sicrwydd o beth sy’n digwydd i’r cynllun datblygu gwledig. Hyd yma, mae’r Llywodraeth ond wedi tynnu i lawr rhyw £30 miliwn o’r arian sydd, fel y dywedais i, hyd at £1 biliwn, bron, dros chwe blynedd. Felly, mewn dwy flynedd o gynllun chwe blynedd, dim ond rhyw 10 y cant—ychydig mwy, efallai, os ydych yn cynnwys yr arian gan y Llywodraeth hefyd, ond ni all fod yn fwy na rhyw 10 y cant o’r arian sydd wedi’i wario. Gyda’r penderfyniad i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, mae angen gofyn beth mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud nawr i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei wario a’i ddefnyddio yn y ffordd fwyaf priodol yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi dweud y bydd yn cadw at unrhyw gynllun sydd wedi’i arwyddo a’i gymeradwyo’n swyddogol erbyn mis Ionawr 2017. Ond ers iddyn nhw ddweud hynny, mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd yr arian y mae’n disgwyl i fod ar gael ar gyfer cronfeydd amaeth a chronfeydd amgylcheddol yn ei le tan ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn 2019-20. Felly, rwy’n gobeithio heddiw y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau bod y Llywodraeth am barhau â’r cynllun datblygu gwledig yn ei ffurf bresennol tan o leiaf yr amser inni dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae yna ddwy elfen arall i’r cynnig sydd gyda ni gerbron heddiw. Mae’r un gyntaf yn tanlinellu unwaith eto pa mor bwysig yw aelodaeth o’r farchnad sengl i’r sefyllfa bresennol sydd ohoni. Heb fod unrhyw un wedi cynnig yn well unrhyw berthynas gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd, nad yw’n cynnwys cwotâu ac nad yw’n cynnwys unrhyw dariff ar gynnyrch amaeth Cymru, mae Plaid Cymru yn dal o’r farn bod aelodaeth o’r farchnad sengl yn hollbwysig. Mae’r farn yna wedi cael ei hategu gan yr ymgynghoriad rŷm ni wedi’i gynnal dros yr haf gyda’r diwydiant amaeth a chyda’r diwydiant yn ehangach, y mudiadau amgylcheddol hefyd, sydd yn teimlo ei bod hi’n bwysig iawn bod dau beth yn parhau: deddfwriaeth amgylcheddol a hefyd y gallu i fod yn rhan, heb gwotâu, heb dariffs, o’r farchnad sengl. Yn absenoldeb unrhyw gynnig arall gan Lywodraeth San Steffan neu Lywodraeth Cymru o ran y berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n parhau â’r nodweddion yna, mae Plaid Cymru o’r farn mai aelodaeth a bod yn rhan o’r farchnad sydd yn hollbwysig ar hyn o bryd.

Mae rhan olaf y cynnig yn ymwneud â symudedd pobl. Rydym bellach yn y sefyllfa taw Plaid Cymru, y blaid genedlaethol, fel y mae pobl yn ein galw ni—neu’r ‘narrow nationalists’ o bryd i’w gilydd—yw’r unig blaid sy’n credu mewn symudedd pobl ar draws ffiniau, sy’n credu na ddylai fod ffiniau sy’n atal economi ac yn atal pobl rhag cyfrannu at yr economi mewn gwahanol lefydd. Mae’n wir i ddweud bod y dystiolaeth, megis gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn dangos nad oedd yna unrhyw effaith go iawn o ran y bobl o’r tu allan i’r Deyrnas Gyfunol o ran y sector amaeth y tu mewn i Gymru. Mae hynny yn rhywbeth i’w gofio. Rŷm ni mewn sefyllfa bellach lle mae’r Ysgrifennydd Cartref am restru’r bobl o dramor sydd yn gweithio i gwmnïau. Ni fyddwn i wedi meddwl y byddai’r Blaid Geidwadol—plaid a oedd yn arfer credu yn y farchnad rydd—am orfodi hyn ar gwmnïau, ond dyna’r sefyllfa drist sydd ohoni. Ac yn anffodus, mae’r Blaid Lafur yn mynd law yn llaw â’r agwedd ffiaidd yna tuag at bobl o’r tu allan i’r wlad bresennol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae’n dda gennyf ddweud bod yr SNP, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd heddiw wedi arwyddo cytundeb i ymladd yn erbyn yr agwedd ffiaidd yma tuag at bobl o’r tu allan i Brydain ac rŷm ni’n dal yn credu ei bod yn hollbwysig i’r sector amaeth hefyd feithrin y gweithwyr tymhorol a’r gweithwyr sy’n cyfrannu gymaint at ein sector cynhyrchu bwyd ni.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Yn galw ar’ a rhoi yn ei le:

‘Lywodraeth y DU i roi gwarant diamod i ariannu pob prosiect a gontractiwyd o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ar ôl Datganiad yr Hydref tan 2023.’

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Lesley Griffiths 15:30:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Yn ffurfiol.

Diolch. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw ef. Paul.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cadarnhau pa mor bwysig ydyw i fusnesau gwledig Cymru gael mynediad i’r farchnad sengl.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf welliant 2 a gyflwynwyd yn fy enw i. Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd arian y rhaglen datblygu gwledig i’n cymunedau gwledig. Wrth gwrs, rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn cytuno â phwynt cyntaf y cynnig yma, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer projectau y cynllun datblygu gwledig ar ôl Ionawr 2017, ac i ddarparu dull mwy rhagweithiol at y rhaglen bresennol. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cynlluniau a grantiau a ddarperir o dan y cynllun datblygu gwledig yn hygyrch i fusnesau gwledig, a bod ffermwyr hefyd yn gallu cymryd rhan yn hawdd yn y cynlluniau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi’n glir eu bod yn awyddus i gefnogi projectau a fydd yn arwain at newid trawsnewidiol yn y ffordd y mae ffermydd yn cael eu rhedeg, yn hytrach na chefnogi projectau a fyddai ond yn cael gwelliannau ar raddfa fach. Fodd bynnag, mae’r ffigurau yn dangos, o dan y cyfnod ymgeisio cyntaf ar gyfer y cynllun grant cynhyrchu cynaliadwy, allan o 271 a fynegodd ddiddordeb, dim ond 12 a ofynnwyd i gyflwyno ceisiadau llawn. Efallai, wrth ymateb i’r ddadl hon, y gall yr Ysgrifennydd Cabinet egluro, os yw Llywodraeth Cymru wir am weld newid trawsnewidiol, pam taw dim ond 12 allan o 271 a fynegodd ddiddordeb sydd wedi eu derbyn i gyflwyno ceisiadau llawn. Mae’n gwbl hanfodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau na fydd unrhyw newid i daliadau sengl yng Nghymru, neu i daliadau o dan y rhaglen datblygu gwledig, tan 2020, yn enwedig o ystyried bod Canghellor y Trysorlys nawr wedi rhoi sicrwydd y bydd arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei warantu tan 2020.

Mae ail bwynt y cynnig yma yn cyfeirio at y farchnad sengl, a sefyllfa ffermwyr Cymru ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, felly, yn amlwg, roeddwn i eisiau aros yn y farchnad sengl, oherwydd bod hyn yn hanfodol i’n heconomi, yn enwedig i economi cefn gwlad. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni nawr barchu dymuniad pobl Cymru a phobl Prydain a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, felly, mae’n hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar y cyd â’r gweinyddiaethau datganoledig, yn trafod y fargen orau posibl gyda’r Undeb Ewropeaidd, i gael mynediad at y farchnad sengl.

Mae’r undebau ffermio wedi lansio eu hymgynghoriadau ac arolygon Brexit eu hunain dros yr haf, ac rwy’n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan ac yn ymgysylltu’n llawn ag undebau ffermio, a ffermwyr eu hunain, i drafod polisïau amaethyddol. Rwy’n derbyn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yn ddiweddar, ac rwy’n dyfynnu, bod

‘llawer iawn o waith…wedi digwydd dros yr haf gyda’r sector ffermio, yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd’.

Ac rwy’n gobeithio bod hynny’n wir. Fodd bynnag, rwy’n siomedig bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cael ychydig iawn o ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers y refferendwm. Mewn ymateb i’m cwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar, mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei gwneud hi’n gwbl glir, ers y bleidlais, ei bod hi wedi cwrdd â’r Gweinidog Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig unwaith yn unig, a hynny yn y Sioe Frenhinol. Ac rwy’n credu bod hyn yn dangos diffyg diddordeb, a diffyg blaenoriaeth, gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein cymunedau gwledig. O ystyried pwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru a’r effaith aruthrol y gallai canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ei gael ar ffermwyr Cymru, rwy’n poeni ac yn pryderu fod yr Ysgrifennydd Cabinet ddim wedi gwneud mwy i ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rwy’n ildio i Mark Reckless.

Os nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol dros DEFRA neu Weinidogion eraill y DU cymaint ag y byddai’r Aelod yn ei hoffi, ‘does bosibl nad yw hwnnw’n fater â dwy ochr iddo, ac oni ddylai’r Gweinidogion yn Llundain ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am beidio â bod wedi estyn allan yn ddigonol at Weinidogion Cymru?

Wrth gwrs, mae’r cyfrifoldeb ar y ddwy ochr. Ond y pwynt rwy’n ei wneud yw nad yw hi ond wedi cyfarfod â’r Gweinidog Gwladol unwaith, ac mae ganddynt gyfrifoldeb, fel Llywodraeth Cymru, i fynd ati i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

The third point of this motion recognises the importance of migrant workers to the rural economy. It’s obvious that labour markets and labour market planning have to be considered carefully in planning for leaving the European Union. Migrants from the European Union make a huge and important contribution, not only to the agricultural industry in Wales, but to other industries and rural sectors too. According to Country Land and Business Association Wales, in 2015, there were more than 30,000 people who were originally from outwith the United Kingdom being employed in agriculture, and one in every four workers in the tourism and hospitality sector came from outside the UK originally. As an Assembly Member who represents a constituency that’s heavily dependent on tourism, I totally accept that changes to policies on migrant workers could have a very negative impact on the local economies of my area, and that is why Welsh Government have to ensure that farming in Wales and rural businesses are at the heart of any discussion about Brexit, and that is why Welsh Government must be doing much more to engage with the United Kingdom Government on these issues.

So, in closing, Deputy Presiding Officer, I wish to repeat once again how important it is for Welsh Government to be more proactive in supporting rural communities and the agricultural industry in Wales. It is essential that Welsh Government steps up to the mark and implements its plans for the rural development programme effectively and efficiently, so that our rural communities are supported in full. And, therefore, I urge Members to support our amendment. Thank you.

Rydym yn ddiolchgar i Simon Thomas am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Mae’n drueni mai 30 munud yn unig yw hi. Un o’r rhesymau pam y gwrthwynebasom ddadl arall eto ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth am bum mlynedd oedd ei bod yn llyncu amser gwerthfawr y gellid ei dreulio’n well yn siarad am bynciau unigol megis y rhai rydym yn eu trafod heddiw. Serch hynny, rydym yn ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon, gan fod yr economi wledig yn hanfodol bwysig, wrth gwrs, i Simon, sy’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, fel finnau, ac mae iechyd a ffyniant ein hetholwyr yn flaenllaw yn ein meddyliau.

Ond yn anffodus, yn wahanol i Blaid Cymru, rwy’n gweld gadael yr UE fel cyfle yn hytrach na’r farn besimistaidd sydd gan Blaid Cymru. Ond rwy’n ddiolchgar iddynt hefyd am gadarnhau heddiw eu bod yn erbyn rheolaethau mewnfudo. Dyna un prif reswm pam, wrth gwrs, rydym yn gadael yr UE—ni allwch weld Cymru neu sector unigol fel amaethyddiaeth ar wahân i bopeth arall yn unig. Y realiti cefndirol yw y bydd rheolaethau ar fewnfudo, ac mae’n rhaid i ni fanteisio yn awr ar y cyfleoedd y mae’r rhyddid i wneud ein penderfyniadau yn ei roi i ni. Mater i’n Llywodraeth ni, boed yng Nghaerdydd neu yn San Steffan, yw gwneud y penderfyniadau hynny. Wrth gwrs, rwyf wedi dweud o’r blaen sawl gwaith y dylid diogelu pob ceiniog o arian trethdalwyr sy’n dod allan o bocedi trethdalwyr Prydain, ac sy’n cael ei gwario gan yr UE ar ei flaenoriaethau yng Nghymru, yn gyffredinol, a gallwn wario’r arian hwnnw a’r gyllideb honno yn y ffyrdd y credwn sy’n gweddu orau i’n blaenoriaethau. Ac mae yna ddifidend gadael yr UE yn ogystal, yn yr ystyr fod gennym gyfraniad net anferth a dalwn—mae cymaint o’n cyfraniad i’r UE yn cael ei wario ar ffermwyr eraill mewn rhannau eraill o’r UE, arian y dylid ei wario ar ffermwyr a diwydiannau gwledig yn y wlad hon.

Felly, nid oes rheswm i gredu y bydd y cyllidebau presennol, sy’n cael eu gwario i gyd, yn cael eu torri. Yn wir, mae pob cyfle i’w cynyddu, ac yn wir i wneud yn siŵr fod yr arian sy’n cael ei wario ar hyn o bryd yn cael ei wario’n well. Yn ogystal â phethau fel cynllun y taliad sylfaenol, sy’n sylfaen i incwm ffermydd, gallai’r gwahanol brosiectau unigol, fel y cynllun datblygu gwledig a’r prosiectau o’i fewn, gael eu cadw, eu hymestyn neu eu torri. Ond ein penderfyniad ni ydyw, nid penderfyniad biwrocratiaid anetholedig ym Mrwsel. Bydd Gweinidogion yma, ac efallai yn San Steffan, yn gyfrifol ac yn atebol i ni, a chredaf fod hynny, o ran democratiaeth, yn gam arwyddocaol ymlaen—

Ar y pwynt hwnnw’n unig, ac rwy’n cytuno bod yn rhaid iddo fod yn benderfyniad i ni, yn amlwg; a fyddai felly’n gwrthod unrhyw symudiadau gan Lywodraeth San Steffan hefyd i gadw’n ôl naill ai adnoddau neu bwerau heb eu datganoli’n llawn i’r lle hwn?

Byddwn, yn bendant. Rwy’n cytuno gyda’r Aelod ar y pwynt hwnnw. Rwy’n gweld y cyfle yma i wella datganoli. Yn arbennig, gan fod amaethyddiaeth yn fater datganoledig, mae’n rhoi cyfle i ni yn awr fel Cynulliad i gael dylanwad go iawn ar y polisi sy’n mynd i effeithio ar ffermwyr o ddydd i ddydd yn eu bywydau gwaith. Credaf fod hwnnw’n gam enfawr ymlaen.

Bydd yna broblemau penodol os na sicrhawn gytundeb masnach gyda’r UE. Mewn cig eidion a chig oen, gwyddom fod ein holl allforion bron yn mynd i’r UE, ac felly mae’n hanfodol bwysig ein bod yn defnyddio ein holl bŵer negodi i sicrhau mynediad rhydd i’r farchnad sengl. Ond nid yw hynny yr un peth ag aelodaeth o’r farchnad sengl. Nid oes angen bod yn rhan o undeb gwleidyddol gyda phartner masnachu er mwyn cyflawni masnach o’r fath. Mewn gwirionedd, nid aelod-wladwriaeth unigol o’r UE yw ein partner masnachu mwyaf, ond yn yr Unol Daleithiau, a’r ail bartner mwyaf mewn allforion o Gymru i weddill y byd yw’r Emiraethau Arabaidd Unedig. Mae aelod-wladwriaethau unigol yr UE ymhlith y 10 neu 12 aelod-wladwriaeth nesaf ar y rhestr.

Felly, mae’n rhaid i ni weld hyn mewn cyd-destun byd-eang yn ogystal. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn sglerotig ac yn dirywio, o’i gymharu â gweddill y byd. Mae allforion o Gymru i’r UE wedi disgyn 11 y cant ac mae hynny oherwydd nad yw economi’r UE yn llwyddo oherwydd ardal yr ewro a’r holl argyfyngau eraill sy’n effeithio arno, ond mae gweddill y byd yn ehangu. Felly, mae’r byd yn eiddo i ni. Dyma ein cyfle mawr. Gallwn lunio cytundebau masnach rydd gyda gweddill y byd, sydd ar hyn o bryd yn cael eu clymu o fewn strwythur yr UE, fel cytundebau masnach â’r Unol Daleithiau—mae’r cytundeb masnach gyda Chanada eto i’w roi ar waith yn llawn—a gwledydd fel India a Tsieina. Nid oes gan yr UE gytundebau masnach gyda hwy ac eto dyma yw peiriannau twf mawr y byd.

Yn anffodus, rwy’n sylweddoli bod amser yn brin iawn ac ni allaf wneud yr holl bwyntiau y byddwn yn dymuno eu gwneud, ond rwy’n erfyn ar yr Aelodau gyferbyn i weld hwn fel cyfle, nid fel her—nid fel rhywbeth i’w ofni, ond rhywbeth i’w groesawu.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 15:41:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon ar ran y Llywodraeth. Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â’n hymrwymiad i ddarparu cymorth i sicrhau cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy. Mae ein rhaglen datblygu gwledig yn cefnogi ystod eang o unigolion, busnesau, sefydliadau a chymunedau, gan gynnwys teuluoedd fferm a busnesau fferm. Mae’n rhoi hwb i’n heconomi wledig, drwy ddarparu llwybrau cyllido ar gyfer gwell mynediad at ofal plant, twristiaeth, creu ynni cymunedol a rheoli tir yn well, ymhlith pethau eraill.

Hyd yma, mae cyfanswm yr arian a ymrwymwyd ar gyfer y rhaglen oddeutu £530 miliwn. Mae hynny dros hanner y cyllid mewn ychydig dros ddwy flynedd ar gyfer yr hyn sy’n rhaglen saith mlynedd. Mae’r rhan fwyaf o’r buddsoddiad sylweddol yn mynd i ffermwyr a choedwigwyr ac wrth gwrs, mae yna oediad a bydd y gwariant yn dal i fyny â’r ymrwymiad maes o law. Mae o leiaf 15 o gynlluniau gwahanol wedi agor gydag arian yn cael ei ddyfarnu, gan gynnwys y grant cynhyrchu cynaliadwy, y grant buddsoddi mewn busnesau bwyd a’r gronfa datblygu cymunedau gwledig.

Rydym yn cyd-ariannu’r rhaglen gyda’r Undeb Ewropeaidd ac felly’n disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu gwarant ddiamod i gyllido pob prosiect dan gontract y rhaglen dros eu hoes, ac felly rydym yn croesawu’r sicrwydd gan Drysorlys y DU ddydd Llun. Fodd bynnag, nid yw hyn eto’n gyfystyr â gwarant y bydd yr holl gyllid UE yn cael ei sicrhau.

Wrth gwrs, hyd nes y bydd y DU yn gadael yr UE, mae’r cyllid yn parhau, fel y mae ein hymrwymiadau. Bydd pob contract rhaglen datblygu gwledig presennol yn cael ei anrhydeddu. Fel Simon Thomas, a agorodd y ddadl hon, rwyf wedi ymweld â llawer o ffermydd ac wedi gweld drosof fy hun y manteision y mae cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig yn eu creu. Fel Llywodraeth gyfrifol, roedd yn gymwys i ni oedi cyn agor cyfnod ymgeisio Glastir Uwch 2017 hyd nes y caem ymrwymiadau clir gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid. [Torri ar draws.] Na, nid oes gennyf amser, mae’n ddrwg gennyf. Yn dilyn cyhoeddiad blaenorol gan Drysorlys y DU ym mis Awst, ailddechreusom drafodaethau gyda’r ymgeiswyr ar unwaith ac rydym yn disgwyl gallu cymeradwyo contractau yn ôl yr arfer.

Gan droi at bwynt 2 y cynnig, rydym yn derbyn pwynt Plaid Cymru ac felly nid oes sail resymegol dros dderbyn gwelliant y Ceidwadwyr. Yn fy nhrafodaethau lu gyda’r sector amaeth, bwyd a physgodfeydd ers 23 Mehefin, dyma’r un mater sy’n codi dro ar ôl tro: mae mynediad heb dariff i’r farchnad sengl, at 500 miliwn o bobl, yn hanfodol, pwynt a wnaed yn glir hefyd gan y Prif Weinidog a’m cyd-Aelod yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Mae mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE yn flaenoriaeth sylfaenol ac yn llinell goch.

O’i gymryd yn ei gyfanrwydd, yr UE yw prif bartner masnachu’r DU. Mae Cymru’n allforio cryn dipyn o’i chynnyrch. Yn 2015, roedd y bwyd a’r ddiod a allforiwyd yn uniongyrchol o Gymru yn werth dros £264 miliwn—allforiwyd dros 90 y cant i’r UE. Mae allforion cig coch yn werth cryn dipyn dros £200 miliwn y flwyddyn ac mae allforion bwyd môr yn werth £29.2 miliwn, gyda 80 y cant yn cael ei allforio i’r UE.

Yr wythnos hon, mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn dechrau proses erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth 2017. Mae mater symudiad diamod pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio a’i drafod fel rhan o drafodaethau’r ymadawiad. Fodd bynnag, gwn fod pwysigrwydd gweithwyr mudol i’r economi wledig ac yn ehangach yn ddiamheuol. Mae symudiad diamod llafur wedi cynnal diwydiannau a gwasanaethau megis amaethyddiaeth a phrosesu bwyd sy’n dibynnu ar lefel o symud o fewn yr UE. Ers 2005, mae canran y gweithwyr mudol yn y gweithlu yng Nghymru wedi dyblu. Mae’n bwysig cydnabod eu gwerth a pharchu eu cyfraniad at ein heconomi yng Nghymru, a gwrthod gwahaniaethu, anghydraddoldeb a rhagfarn, sy’n cael eu hanelu at y gweithwyr hyn yn aml.

Gan ddychwelyd at bwynt Paul Davies, yfory fe fyddaf yn cyfarfod eto â George Eustice, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, yn Llundain. Yn anffodus, nid oedd Ysgrifennydd Gwladol DEFRA ar gael, unwaith eto. Ar y penwythnos, byddaf yn mynd i Lwcsembwrg i gyfarfod o Gyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE, ac unwaith eto, yn cyfarfod â’m cymheiriaid gweinidogol, lle byddaf yn rhan o drafodaeth bellach ar adael yr UE a materion eraill gyda’r Gweinidogion.

Mae deialog yn gweithio’r ddwy ffordd, Paul Davies—dylech gofio hynny. Mae fy swyddogion wedi ymgysylltu’n wythnosol â swyddogion DEFRA, ac mae’n bwysig iawn fod y swyddogion hynny yn DEFRA yn parchu datganoli. Mae hefyd yn hanfodol iawn ein bod yn adeiladu dealltwriaeth gyffredin ar draws y pedair gweinyddiaeth a bod gennym safbwynt ar y cyd mewn perthynas â’r cyfleoedd allweddol, yr heriau, y risgiau a’r bygythiadau a achosir o ganlyniad i’r bleidlais i adael yr UE. Ond rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth fy nghymheiriaid gweinidogol fod amaethyddiaeth wedi’i ddatganoli i’r lle hwn ers 17 mlynedd ac rydym yn disgwyl i’r ddeddfwriaeth, y polisïau a’r pwerau gael eu dychwelyd yn llawn i’r lle hwn pan ddaw’r amser.

Rwy’n ddiolchgar i’r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl. Yn amlwg, bydd hon yn sgwrs barhaus sydd angen i ni ei chael, ond rwy’n credu bod tair thema glir wedi dod yn amlwg.

Yn gyntaf oll, rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw ddal yn ôl ar bwerau neu adnoddau yn Llundain pan fyddwn yn symud oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Siom mawr i mi oedd bod Andrew R.T. Davies, pan lwyddodd i gael ei frecwast, wedi cael y syniad rhyfedd yma y dylai cronfeydd strwythurol gael eu gweinyddu’n uniongyrchol o Lundain i Gymru. Mae’r egwyddor honno—ildio ar yr economi—yn golygu y gallem ildio hefyd mewn amaethyddiaeth. Mae cronfeydd strwythurol wedi cael eu datganoli dros y 17 mlynedd diwethaf, ac mae hanes ymyrraeth uniongyrchol o Lundain yn economi Cymru, gyda gwyliau gardd a phrosiectau mewnfuddsoddi dros nos na lwyddodd erioed i ddwyn ffrwyth mewn gwirionedd, yn eithriadol o wael hefyd, felly mae angen i ni ymladd dros yr egwyddor honno.

Yr ail egwyddor y credaf fod Plaid Cymru â diddordeb ynddi yw mai parhau aelodaeth o’r farchnad sengl, yn y sefyllfa bresennol, yw’r ffordd orau ymlaen, i’n sector amaethyddol yn bendant. Mae gwahaniaeth rhwng aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb gwleidyddol. Mae’n rhyfedd fod y rhai sydd wedi bod yn dadlau, ers 20 mlynedd a mwy, fod y farchnad sengl a’r undeb tollau wedi tyfu’n rhy wleidyddol bellach eisiau rhoi’r gorau i’r rhan ganolog honno o gysylltiadau masnach y farchnad rydd a ninnau wedi rhoi’r gorau i’r undeb gwleidyddol, ac rwy’n credu bod angen i ni gadw hynny mewn cof.

Mae’r trydydd pwynt yn ymwneud â sut rydym yn sicrhau bod ffermwyr yn cael mynediad at y cronfeydd hyn yn awr, ac rwy’n credu bod angen i ni weld mwy gan y Llywodraeth, gan fod gennym sicrwydd ynglŷn â chyllid ar gyfer y dyfodol agos. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, nac oes. Nawr fod gennym sicrwydd o gyllid ar gyfer y dyfodol agos, rwyf am weld y Llywodraeth yn symud ymlaen yn gyflymach o lawer â’r rhaglen Glastir gyfredol a chynlluniau’r rhaglen datblygu gwledig presennol fel bod ffermwyr yn gallu gwneud y defnydd gorau ohonynt. Rwy’n gwybod bod yna brosiectau da i’w cael—gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhannu’r arferion gorau hynny.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Y Stryd Fawr a Chanol Trefi

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen at eitem 4, sef dadl Plaid Cymru ar y stryd fawr a chanol trefi. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig y cynnig—Sian.

Cynnig NDM6112 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw stryd fawr fywiog ac amrywiol er mwyn cefnogi mentrau lleol.

2. Yn gresynu bod nifer y siopau gwag ar ein stryd fawr yn gyson uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU.

3. Yn gresynu at golli asedion cymunedol neu wasanaethau lleol o ganlyniad i’r defnydd ysgafn o’r stryd fawr yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa newydd a fydd yn galluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig cyfleusterau parcio am ddim mewn trefi ledled Cymru, a rhoi hwb hanfodol i adfywio canol trefi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, ac rydw i’n cynnig y cynnig yn enw Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru eisiau adfer balchder yn ein trefi drwy sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â’r dirywiad y mae cynifer ohonyn nhw wedi ac yn ei wynebu. Y dyddiau yma, mae nifer o ganolau ein trefi yn hanner gwag ac yn llawn o siopau sydd â’u ffenestri wedi’u bordio i fyny. Yn y fath amgylchedd, nid yw’n syndod bod llawer o bobl yn dewis mynd i barciau manwerthu ar gyrion trefi, gwneud eu siopa ar-lein, neu neidio yn y car i fynd i rywle arall.

Mae gan Lywodraeth Cymru ran i’w chwarae mewn adfer balchder canol ein trefi. Rŷm ni am iddyn nhw fod yn ardaloedd deniadol y mae pobl yn dewis treulio eu hamser rhydd ynddyn nhw i siopa ac i gymdeithasu.

Mae gan ganol trefi llwyddiannus lawer o weithgareddau i’w cynnig er mwyn denu ymwelwyr. Mae’n rhaid inni sicrhau bod trefi’n gallu cynnig amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a gwasanaethau lleol hefyd, ochr yn ochr â siopau, er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr.

Mae ffigurau nifer ymwelwyr yn rhoi darlun clir o sefyllfa rhai o’n trefi ni ledled Cymru. Ers 2012, mae gostyngiad sylweddol mewn rhai trefi. Er enghraifft, y Fenni—mae 39 y cant yn llai yn ymweld â chanol y dref honno—yr Wyddgrug, 28 y cant yn llai; Aberystwyth, 18 y cant yn llai. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain at gau siopau ac at asedion cymunedol a gwasanaethau lleol yn diflannu. Efallai bod hynny, wrth gwrs, yn rhan o’r dirywiad parhaol mewn cyfradd siopau gwag. Mae’r ffigurau diweddaraf gan y Local Data Company yn dangos mai Cymru sydd â’r gyfradd siopau gwag cenedlaethol uchaf yn y Deyrnas Unedig—Cymru, 15 y cant; yr Alban, 12 y cant; Lloegr, 11 y cant. Mae Casnewydd, er enghraifft, yn un o’r trefi neu ddinasoedd sy’n perfformio gwaethaf ym Mhrydain, gyda chyfradd o siopau gwag o dros 25 y cant. Ym Mangor, yn fy etholaeth i, mae 21.8 y cant o’r siopau yn wag—

[Continues.]—in Rhyl, 21.6 per cent of the shops are vacant.

Diolch. Roeddwn yn synnu braidd ynglŷn â’r cyfeiriad at ddirywiad parhaus a nodi’r Fenni wedyn a dweud ei bod i lawr 39 y cant. Rwyf wedi ystyried bod y Fenni’n dref sy’n ffynnu ac mae llawer o fasnach gadarnhaol yno, ac yna yng Nghasnewydd, mae Friar’s Walk a’r datblygiad yno, rwy’n meddwl, wedi arwain at fwy o bobl yn dod yn ôl i ganol y dref. Roeddwn yn meddwl tybed a yw’r ystadegau y mae’r Aelod yn eu dyfynnu’n rhy negyddol, ar gyfer y dref honno a’r ddinas honno o leiaf.

Rydw i’n dyfynnu o ystadegau swyddogol, ac er, efallai, bod yna adegau—y Fenni, er enghraifft, adeg yr ŵyl fwyd, mae’n edrych yn brysur iawn yna, ond pan fyddwch chi’n edrych dros y flwyddyn gyfan, mae’r ffeithiau yn dangos yn wahanol, yn anffodus. Mae’n ddrwg gen i fod yn negyddol, ond dyna ydy’r sefyllfa, ond mae’n cynnig ni yn cynnig ffordd ymlaen a ffordd i wella hynny.

Mae tystiolaeth sy’n dangos bod cyrchfannau y tu allan i ganol trefi sy’n cynnig parcio am ddim ar eu hennill ar draul canol trefi. Mae llawer o gynghorau ar hyd Cymru yn cynnig parcio am ddim—am gyfnod dros y Nadolig, er enghraifft—mewn ymdrech i ddenu pobl i wario yng nghanol ein trefi ni, ond rydym ni’n gwybod am y cyni ariannol sy’n wynebu cynghorau ar hyn o bryd. Felly, beth mae’n cynnig ni’n ei alw amdano fo ydy sefydlu cronfa newydd fydd yn galluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig parcio am ddim mewn trefi ledled Cymru. Cronfa fuasai hon buasai’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am grant i’w digolledu nhw, mewn ffordd, am unrhyw ffioedd parcio na fyddan nhw yn eu casglu, ac i gynnig parcio am ddim am ychydig oriau ar gyfer cefnogi trefi sydd wir ei angen. Mi fuasai angen meini prawf penodol ar y gronfa yma er mwyn sicrhau bod y trefi sydd angen yr help yn cael yr help yna. Ond, wrth gwrs, rhan o strategaeth ehangach fyddai’r cynnig parcio am ddim mewn rhai llefydd.

Mae angen iddo fo fod yn rhan o strategaeth sy’n cynnig pethau fel ardrethi busnes. Rhan allweddol o unrhyw strategaeth adfywio ydy edrych ar ardrethi busnes. Rôn i’n hynod o siomedig i weld yn ddiweddar y Llywodraeth yn camu’n ôl o’i haddewid i wella’r system bresennol ar gyfer busnesau bach yng Nghymru. I fod yn glir, nid yw ymestyn y system bresennol ddim yn cyfateb i doriad pellach mewn ardrethi busnes. Ein polisi ni ydy hyn: cynyddu rhyddhad ardrethi busnes fel nad oes angen i dros 70,000 o gwmnïau bach a chanolig dalu treth busnes o gwbl, ac efo 20,000 o fusnesau eraill yn derbyn rhywfaint o ryddhad hefyd.

Hefyd yn rhan o strategaeth adfywio mae ardaloedd gwella busnes yn gallu bod yn llwyddiannus iawn—ardaloedd gwella busnes yn cael eu harwain gan y gymuned fusnes leol, ac wedyn maen nhw’n buddsoddi mewn datblygiadau a chynlluniau wedi eu seilio ar flaenoriaethau lleol. Mae BID Bangor a Hwb Caernarfon, er enghraifft, sy’n ardaloedd gwella busnes, wedi gweld busnesau’n cyfrannu ardoll o 1.5 y cant o’u gwerth trethiannol, a’r cyllid yna wedyn yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi a gwella’r ardal.

Rwy’n falch eich bod wedi crybwyll ardaloedd gwella busnes. Yn achos y Fenni, a grybwyllwyd yn gynharach, pleidleisiodd y busnesau lleol yno yn erbyn cael ardal gwella busnes mewn gwirionedd, felly a ydych yn derbyn nad dyna’r unig ateb ledled Cymru ar gyfer gwella masnach mewn trefi?

Mae’r dewis i ddigwydd yn lleol, ond rwy’n gwybod yn fy ardal i eu bod nhw yn creu llwyddiant ac wedi cael eu croesawu gan fusnesau lleol. Ond beth roedd y busnesau lleol yna yn ddweud wrthyf i dro ar ôl tro oedd bod costau parcio yn gweithio yn erbyn y gwelliannau maen nhw yn ceisio eu gwneud, felly mae hwn yn ffordd o fynd i’r afael â hynny. Yng Nghaernarfon, er enghraifft, mae yna 347 o fusnesau o fewn yr ardal gwella o’r enw Hwb Caernarfon, ac maen nhw’n codi bron i £400,000 i fuddsoddi mewn gwelliannau yn y dref er mwyn hyrwyddo a gwella rhagolygon economaidd yr ardal. Felly, cefnogi’r busnesau bach yma—dyna ydy’r syniad fan hyn, ac mi fuasai’r gronfa yma yn cyfrannu tuag at wella canol ein trefi, rhywbeth rydym ni i gyd yn gefnogol ohono, rwy’n siŵr.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliannau i’r cynnig a galwaf ar—. Mae’n ddrwg gennyf, rwyf wedi dewis tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 1 a 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig hwb i’r stryd fawr yng Nghymru drwy lunio strategaeth adfywio hirdymor, yn ymgorffori polisi cynllunio, trafnidiaeth gyhoeddus, a meithrin cysylltiadau agosach rhwng busnesau manwerthu ac awdurdodau lleol.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd busnesau sy’n cynnig gwasanaethau ar y stryd fawr.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Byddaf yn mwynhau cymryd rhan ynddi oherwydd ei fod yn fater rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno dadleuon ar y mater hwn yn aml iawn, ac mae’n dda ein bod ni wedi cael un arall heddiw; gadewch i ni barhau i’w cael hyd nes y bydd y mater wedi cael ei ddatrys. Rwy’n edrych ymlaen at y dydd pan na fydd gennym ddadleuon ar adfywio ein strydoedd mawr am fod y Llywodraeth a ninnau fel gwleidyddion wedi datrys y problemau. Ond rwy’n cynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies.

Dylwn ddweud am ein gwelliannau ein hunain ein bod yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw yn fawr iawn, ac rydym yn cefnogi’r egwyddor o barcio am ddim. Rwy’n dadlau’n gryf dros barcio am ddim, yn enwedig parcio am ddim am awr neu ddwy yng nghanol trefi; rwy’n credu bod hynny’n gwbl hanfodol. Dyna yw polisi’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod ers peth amser. Rydym eisiau gwella’r cynnig heddiw drwy ymestyn y mater i gyd-destun ehangach, ond dylwn nodi ein bod yn cefnogi safbwynt Plaid Cymru ar hyn yn fawr iawn.

Nod ein hail welliant yw annog lleoli gwasanaethau yng nghanol trefi. Rwy’n credu nad mater i un Gweinidog yn unig yw hwn, ond i holl Ysgrifenyddion y Cabinet, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llesiant. Cynhaliais ymweliad yn fy etholaeth ddydd Gwener â Dudley Taylor Pharmacies, a chyfarfod â’r rheolwr, Dylan Jones, a hefyd gyda Russell Goodway, o Fferylliaeth Gymunedol Cymru. Pan es i mewn i’r siop yn Llanidloes sylwais ei bod yn mynd yn ôl yn bell iawn. Yn ffodus, rwy’n berson eithaf iach ac nid oes angen i mi fynd i mewn i fferyllfeydd yn aml iawn, ond roedd yn ymestyn yn ôl. Wrth i mi gyrraedd y cefn, roedd yr holl staff yn brysur o gwmpas eu pethau hefyd, a dywedais, ‘Faint o staff sydd yma?’—’Un ar ddeg o staff.’ Ac roedd hi’n amlwg mai’r busnes hwnnw oedd y busnes angor ar y stryd honno. Yr hyn a’m tarodd, wrth i ni gael y drafodaeth am y fferyllfa’n cynnal iechyd y dref, oedd mai’r fferyllfa honno oedd yn cynnal iechyd y stryd fawr mewn gwirionedd. Nid oedd unrhyw awgrym fod unrhyw fygythiad y byddai’r fferyllfa honno’n symud, ond yr hyn a’m tarodd oedd, pe bai’r fferyllfa honno’n bresennol ar strydoedd eraill mewn trefi eraill ledled Cymru, ac nid y fferyllfa’n unig, ond optegwyr a meddygfeydd hefyd wedi’u lleoli ynghanol y dref—. Roeddwn yn mynd i ddweud banciau hefyd, ond yn anffodus, mae Llanidloes yn enghraifft dda o rywle lle bu ganddynt bedwar o fanciau rai blynyddoedd yn ôl, ac yn awr un banc sydd yno a hwnnw’n rhan-amser, felly mae’n anodd denu banciau i ganol ein trefi; mae dim ond eu cadw yno’n waith caled.

Ond rwy’n credu ei bod yn anffodus iawn fod cyfraddau siopau gwag ar y stryd fawr yn parhau i gynyddu, a’u bod yn uwch na chyfartaledd y DU yn gyson hefyd, ac yn deillio o’r nifer isel o ymwelwyr â chanol ein trefi. Yn aml iawn, y rheswm am hyn yw bod adeiladau’n cael eu gadael mewn cyflwr gwael. Enghraifft arall yw tref arall yn fy etholaeth, y Drenewydd, lle mae canolfan siopa Ladywell, yr uned fawr yno, yn wag. Roedd y Co-op yno ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae’r ffaith eu bod wedi symud oddi yno ac wedi mynd bellach wrth gwrs, yn effeithio ar yr holl unedau llai o gwmpas y safle hwnnw hefyd.

Rwy’n hoff o ddefnyddio siopau lleol, pan allaf wneud hynny. O bryd i’w gilydd, byddaf yn siopa yn Tesco pan fydd y siopau llai eraill yn—[Torri ar draws.] Nid yw siopa’n Tesco yn beth drwg; nid wyf yn awgrymu hynny. Ond pan fydd siopau canol y dref wedi cau, yna byddaf yn mynd i Tesco. Nid oes cymaint â hynny o amser er pan oeddwn yn Tesco—a bydd llawer ohonoch sy’n siopa yn gwybod ei fod yn lle da i gynnal eich cymorthfeydd etholaeth—ac roedd rhywun yn rhuthro tuag ataf yn eu rhwystredigaeth. Meddyliais, ‘Maent yn mynd i ddweud rhywbeth wrthyf nawr’, ac yn y bôn, y fersiwn fer oedd, ‘Beth ydych chi’n mynd i’w wneud am yr holl siopau hyn yn cau?’ Roedd ganddynt fasgedaid enfawr o gynnyrch yn gorlifo, a’r cyfan a wneuthum oedd edrych i lawr, edrych yn ôl i fyny arnynt ac rwy’n meddwl eu bod wedi deall beth roeddwn yn ei ddweud.

Ond y mater yn y fan honno yw dweud ein bod yn cydnabod bod y stryd fawr yn newid oherwydd y rhyngrwyd ac o ganlyniad i ganolfannau siopa y tu allan i’r dref; mae’n rhaid i ni gydnabod bod hyn yn digwydd a mynd i’r afael â’r mater drwy ddenu gwasanaethau eraill i mewn i ddefnyddio cyfleusterau canol y dref.

Cefais gyfarfod y bore yma—cyfarfod brecwast, nid cyfarfod ‘Brexit’; cyfarfod brecwast. Roedd ein pwyllgor wedi—[Torri ar draws.] Byddaf mewn trafferth yn awr. Roedd yn—[Torri ar draws.] Roeddwn yn dweud wrth y Siambr fy mod wedi cael cyfarfod brecwast y bore yma. [Chwerthin.] Yn y cyfarfod brecwast y bore yma o Bwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau, buom yn siarad â busnesau bach—[Chwerthin.] Sut rydw i’n mynd i ddal ati, nawr? Buom yn siarad â busnesau bach am eu pryderon—

Mae eich amser ar ben hefyd. Felly, a wnewch chi orffen yn gyflym iawn nawr, os gwelwch yn dda?

Gorffennaf drwy ddweud mai eu problem fwyaf oedd yr effaith y mae ardrethi busnes yn ei chael ar eu busnesau bach, a’u rhwystredigaeth, a’n rhwystredigaeth ni nad yw ymrwymiad maniffesto o doriadau treth i 70,000 o fusnesau yn doriad treth mewn gwirionedd; nid yw’n ddim mwy na pharhad o’r hyn a oedd yno o’r blaen. Diolch i chi am ganiatáu amser ychwanegol i mi, Ddirprwy Lywydd.

Iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Ym mhwynt 4, dileu ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu’ a rhoi yn ei le:

‘Yn cytuno i edrych ymhellach ar briodoldeb sefydlu’.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n credu bod yna rywfaint o dir cyffredin gyda’r cynnig a gyflwynodd Plaid Cymru. Nid oes amheuaeth fod wyneb manwerthu wedi newid yn ddramatig dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac nid ydym am i ganol trefi fod yn llefydd i siopau’n unig. Rydym am iddynt fod yn fwy na hynny; rydym am iddynt fod yn ganolfannau i’r gymuned. Ar hynny, rwy’n meddwl y gallwn i gyd gytuno.

Yr hyn a oedd yn ddigalon yn araith Sian Gwenllian oedd y ffocws ar barcio ceir fel y prif ateb i hynny. Rwy’n gweld hynny’n ddigalon am ddau reswm: un yw safonau dwbl, ond hefyd y ffaith ei fod yn gynsail ffug. Yn gyntaf, ar y safonau dwbl: yn Sir Gaerfyrddin, ymgyrchodd Plaid Cymru yn gadarn dros barcio ceir am ddim cyn cymryd rheolaeth ar yr awdurdod lleol. Clywsom am y peth hyd at syrffed, wythnos ar ôl wythnos, a chyn gynted ag y cawsant reolaeth ar y cyngor, nid yn unig eu bod heb gyflwyno parcio am ddim yn ôl eu haddewid, ond fe wnaethant y sefyllfa’n waeth. Maent yn awr yn ehangu Parc Trostre, parc manwerthu ar gyrion y dref, ar yr un pryd â honni eu bod yn dangos cydymdeimlad at ganol y dref.

Maent wedi sefydlu tasglu nad yw’n cyfarfod ac mae’r ardal gwella busnes lleol yn honni nad yw’n cael cefnogaeth gan y cyngor. Ac felly, y geiriau a gawsom am gyflwyno parcio am ddim, ac y clywsoch hwy’n cael eu hailadrodd eto y prynhawn yma—pan gânt y cyfle i’w rhoi ar waith yn ymarferol, nid ydynt yn eu cyflawni.

Y pwynt arall sy’n rhagrithiol yn fy marn i yw hwn: ddoe, fe eisteddom drwy Leanne Wood yn ceryddu’r Llywodraeth am beidio â phwysleisio ei tharged ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd yn ddigon cadarn, yn gresynu at y ffaith nad oeddem yn siarad digon am y targed 2020 ac yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â newid hinsawdd a hynny ar frys. Heddiw, y diwrnod wedyn, dyma bwyslais ar bolisi a fyddai’n gwneud newid hinsawdd yn waeth; byddai’n cynyddu’r ddibyniaeth ar geir. Felly, mae yna wrthddweud mawr yn sail i hyn, ar y naill law yn dweud bod angen i ni feddwl yn wahanol a gwneud yn wahanol, a’r diwrnod wedyn, yn dweud y dylem roi ein holl wyau yn y fasged o gynyddu traffig ceir, er gwaethaf y ffaith eu bod, o gael y cyfle—[Torri ar draws.] Na, gadewch i mi barhau. Er gwaethaf y ffaith, pan gawsant y cyfle i roi’r polisi hwn ar waith, eu bod heb wneud dim.

Ar yr ail—[Torri ar draws.] Gadewch i mi symud ymlaen rhywfaint. Yr ail reswm rwy’n ystyried bod hwn yn ddigalon yw ei fod hyn yn seiliedig ar gynsail ffug—nid oes y fath beth â pharcio am ddim. Mae’n rhaid i’r arian ddod o rywle, ac ar hyn o bryd daw o wasanaethau eraill—o’r gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. Mae’r gost o ddarparu yr hyn a elwir yn lle parcio rhad ac am ddim, yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, rhwng £300 a £500 y flwyddyn ar gyfer un lle. Nid yw’n rhad ac am ddim; telir amdano. Yn Sir Gaerfyrddin—edrychais ar eu cyllideb ar gyfer 2016-17, ac mae honno’n dangos dyraniad gwariant refeniw o £1.9 miliwn ar gyfer meysydd parcio, ochr yn ochr ag incwm o bron i £3.2 miliwn y flwyddyn o feysydd parcio. Mewn un flwyddyn. Felly, byddai hepgor yr incwm hwnnw a thalu costau am feysydd parcio oddeutu £5 miliwn, o bosibl, yn Sir Gaerfyrddin yn unig. A bydd yn creu mwy o alw. Ni allwn ond edrych ar barcio ceir mewn ysbytai ers i ni gyflwyno parcio am ddim yno. Mae’r meysydd parcio yn llawn dop, ac ym mhob maes parcio bron, ceir galw am ragor o lefydd parcio ceir, ar gost o rhwng £300 a £500 y flwyddyn.

Felly, nid yn unig nad ydych yn cadw at eich gair ar fynd i’r afael â newid hinsawdd, nid yn unig nad ydych yn gwneud yr hyn y dywedoch y byddech yn ei wneud yn Sir Gaerfyrddin, ond rydych hefyd yn mynd ag arian oddi wrth wasanaethau hanfodol fel cymhorthdal ​​i berchnogion ceir, a hefyd yn creu mwy o alw am hynny.

Cofiwch nad oes car gan chwarter yr holl aelwydydd. Nawr, mae’r dystiolaeth ar feysydd parcio i adfywio canol trefi, ar y gorau, yn wan. Mae’n seiliedig ar siopwyr yn meddwl bod y rhan fwyaf o’u cwsmeriaid yn dod yn y car, ac nid yw hynny’n wir. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ynghanol Bryste mai un rhan o bump o siopwyr yn unig a deithiodd yno mewn car. Mae manwerthwyr yn tueddu i oramcangyfrif pwysigrwydd y fasnach sy’n cyrraedd yn y car bron 100 y cant. Pan ofynnir i siopwyr, byddai’n llawer gwell ganddynt weld amgylchedd gwell i gerddwyr, palmentydd lletach a chreu parthau i gerddwyr yn hytrach na pharcio ceir am ddim. Yn wir, dangosodd Living Streets, yn eu hadroddiad ‘The pedestrian pound’, y gallai creu lleoedd gwell ar gyfer cerdded hybu masnach 40 y cant—

Beth bynnag, roeddwn yn mynd i ddweud, fel cyn-berchennog busnes, gallaf eich sicrhau bod parcio ceir—fod cwsmeriaid wedi dweud wrthyf ei fod yn hanfodol iddynt, oherwydd gallent fynd i rywle arall gyda meysydd parcio tu allan i’r dref, a’i fod yn effeithio’n sylweddol, yn enwedig pan fydd gennych wardeiniaid traffig ar eich gwarthaf am fod ddwy funud dros eich amser. Felly, mae’n effeithio’n sylweddol.

Wel, unwaith eto, dyma beth yw llunio polisi drwy anecdot, ac nid yw’r dystiolaeth yn cadarnhau hynny.

Nawr, dywedodd Sian Gwenllian fod angen i ni sicrhau chwarae teg gyda datblygiadau ar gyrion y dref. Felly, gadewch i ni wneud hynny; gadewch i ni feddwl y tu allan i’r bocs. Yn hytrach na dweud, ‘Beth am gynyddu’r cymhorthdal ​​i feysydd parcio yn y dref’, gadewch i ni roi baich ar y cwmnïau rhyngwladol sydd wedi bod yn datblygu safleoedd ar gyrion y dref dros yr 20 mlynedd diwethaf a’r meysydd parcio di-dreth sydd ganddynt. Felly, rydym yn dwyn adnoddau cyhoeddus prin i dalu am feysydd parcio. Gadewch i bawb ohonom ddod at ein gilydd a meddwl y tu allan i’r bocs. Mae gennym y pwerau i wneud hynny. Gadewch i ni annog Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gall gynyddu tariff ar ganolfannau siopa ar gyrion y dref. Byddai hynny, Simon Thomas, yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, rhywbeth roedd Plaid Cymru yn dweud wrthym ddoe ddiwethaf eu bod yn awyddus i’w wneud. Felly, gadewch i ni edrych ar ddefnyddio’r pwerau hynny—

Rwyf wedi caniatáu ar gyfer eich ymyriad. Dowch i ben, os gwelwch yn dda.

Os caf fi orffen fy mrawddeg, fe wnaf. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Gadewch i ni feddwl yn greadigol a gadewch i ni roi’r baich ar gwmnïau corfforaethol, nid ar drethdalwyr sydd dan bwysau mawr.

Mae cyflwr llawer o’n strydoedd mawr yn olygfa drist. Yn lle strydoedd mawr ac unigryw a arferai fod yn llawn o weithgaredd, yn awr ceir sefydliadau gamblo, tafarndai cadwyn, siopau bwyd brys neu siopau elusen, neu fel arall, siopau gwag. Mewn rhai achosion, bron na allwch weld y pelenni chwyn yn rholio ar hyd canol y stryd fawr. Anadl einioes y stryd fawr yw nifer yr ymwelwyr a hwylustod. Mae creu ardaloedd i gerddwyr yn unig ar y stryd fawr yn swnio’n syniad braf, ond mae’n cael gwared ar gwsmeriaid sy’n mynd heibio oddi ar y stryd fawr. Mae gan bobl fywydau prysur ac nid oes ganddynt amser i dalu ac arddangos, a chadw llygad wedyn ar yr amser rhag ofn eu bod yn ei gadael hi’n rhy hir ac yn cael dirwy.

I waethygu pethau, mae awdurdodau lleol yn parhau i ganiatáu i archfarchnadoedd gael eu hadeiladu ychydig oddi ar y stryd fawr, weithiau wrth ymyl meysydd parcio newydd oddi ar y stryd fawr, gan sugno cwsmeriaid rheolaidd oddi ar y stryd fawr. Ond pwy all feio cwsmeriaid am fynd i’r archfarchnad, nad yw’n gwneud iddynt dalu am barcio neu’n eu dirwyo os ydynt yn treulio ychydig gormod o amser yn gwario arian yn eu siop? Mae cyfuniad o barthau cerddwyr, taliadau parcio ac archfarchnadoedd wedi cael gwared ar gwsmeriaid oddi ar strydoedd mawr lleol i bob pwrpas.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 16:10:00

A wnewch chi ildio?

Na wnaf. Yn erbyn y cefndir hwn, mae ardrethi busnes yn taro’r hoelen olaf i arch ein strydoedd mawr. Drwy gyfrif yn fras, yn seiliedig ar werth nominal, caiff siopau’r stryd fawr eu cosbi oherwydd eu lleoliad. Efallai fod siopwyr yn talu eu hardrethi busnes, ond yn rhy aml bydd hynny ar draul llithro ar ei hôl hi gyda’u rhent neu beidio â recriwtio staff.

Mae gallu gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i helpu’r stryd fawr. Rhaid iddynt roi’r gorau i sugno pob ceiniog o groen perchnogion siopau drwy ardrethi busnes. Rhaid iddynt ddarparu’r cyllid a’r ysgogiad i ddarparu parcio am ddim ger y stryd fawr, a pharcio cyfnod byr ar y strydoedd mawr eu hunain. Rhaid i awdurdodau lleol roi’r gorau i gosbi siopwyr am fod eisiau gwario arian ar y stryd fawr. Mae perchnogion siopau eisoes yn ymladd cystadleuaeth ffyrnig â’r rhyngrwyd ac archfarchnadoedd mawr. Mae arnynt angen yr holl help y gallant ei gael gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i oroesi.

Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn. Roedd ein strydoedd mawr ar un adeg yn ganolfannau ein cymunedau, ac mae angen iddynt fod felly unwaith eto. Diolch.

Rhowch bwysau ar y Llywodraeth. Eich Llywodraeth chi yw hi. Rydych yn cael cyfarfodydd grŵp gyda hwy, ‘does bosibl. Duw.

Beth bynnag, unedau gwag: mae’n amlwg yn broblem mewn trefi. Mae hefyd yn broblem yn y brifddinas hon. Os ewch chi ar hyd y stryd fawr, mae yna uned wag ar ôl uned wag. Mae’n broblem enfawr. Mae angen strategaeth arnom; mae angen parthau datblygu economaidd lleol, er enghraifft, a help gyda marchnata; rydym angen gwella blaenau siopau, gwella adeiladau, a pharcio am ddim yn ogystal, fel y mae’r cynnig yn nodi. Help gyda thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Byddai lleihau ardrethi busnes yn dda, ac yn mynd i’r afael â’r rhenti gormodol nad yw pobl fusnes lleol yn gallu eu fforddio. Mae’r mathau hyn o fentrau yn hollol, hollol fforddiadwy, oni bai bod gennych Lywodraeth sy’n gwastraffu £1 filiwn ar werthu dwy uned y gallent fod wedi’u defnyddio fel canolfannau hybu busnes ar gyfer y dref benodol honno, ac ni wnaethant hynny. Gwastraffwyd £1 filiwn ganddynt. Collwyd gwerth £40 miliwn, fel y dywedasom yn gynharach, ar gytundeb tir Llys-faen, a £7.25 arall yn y Rhws. Pan fyddwch yn adio’r holl ffigurau hyn at ei gilydd, gellid bod wedi defnyddio llawer o’r arian hwn i adfywio canol trefi yn economaidd. Ond nid oes gennym Lywodraeth sy’n gallu gwneud hynny. Mae Cymru yn haeddu llawer gwell.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon heddiw. Mae canol ein trefi a’n dinasoedd yn wynebu heriau cymhleth sy’n cael eu cydnabod gennym—yr anawsterau y maent yn eu hwynebu i barhau’n berthnasol a chystadleuol, fel y soniodd nifer o’r Aelodau heddiw. Mae’r amgylchiadau y maent yn gweithredu ynddynt yn newid yn barhaus, ac maent yn wynebu heriau yn sgil yr amgylchiadau economaidd a’r ystod eang o ddewis sydd ar gael i ddefnyddwyr, gan gynnwys siopa ar-lein, fel y crybwyllodd yr Aelodau hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol ac eraill yn eu hymdrechion i ymaddasu, i esblygu ac i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu. Ar draws ein polisïau a’n rhaglenni, rydym wedi cynorthwyo ein trefi a’n dinasoedd i arallgyfeirio a dod yn lleoedd i fyw, i siopa, i weithio ac i gymdeithasu ynddynt. Trwy Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £110 miliwn mewn 11 o drefi ac ardaloedd dinesig, gan greu swyddi, cynorthwyo pobl i gael gwaith, a denu £300 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol. Mae’r rhaglen wedi bod yn allweddol hefyd i ddarparu tai newydd. Un stori lwyddiant ddiweddar yw’r cynnydd mewn ardaloedd gwella busnes: erbyn hyn mae 12 o Ardaloedd Gwella Busnes wedi’u sefydlu yng Nghymru, ac rydym hefyd wedi cefnogi 20 o bartneriaethau canol y dref. Fel y mae hyn yn ei ddangos, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd stryd fawr fywiog ac amrywiol sy’n cefnogi mentrau lleol.

Er bod y darlun yn gymysg mewn gwahanol ardaloedd, rydym yn cydnabod y sefyllfa genedlaethol bresennol mewn perthynas â chyfraddau siopau gwag, a bod rhai ardaloedd wedi colli eu mannau cymunedol neu wasanaethau o ganlyniad i niferoedd isel yr ymwelwyr. Gwrandewais ar y sylwadau gan Mark Reckless yn gynharach ar ddau faes penodol. Rwy’n cytuno ag ef, mewn gwirionedd; mae yna rai cymunedau bywiog, yn enwedig yn y Fenni, yn etholaeth Nick Ramsay, ac mae hynny’n rhywbeth y dylem ei ddathlu. Dylem longyfarch y canol trefi a’r bobl sy’n defnyddio’r canol trefi hynny am y ffordd y maent wedi addasu’r cyfleoedd yno. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i rai ardaloedd godi’n ôl ar eu traed, yn dilyn y dirywiad economaidd a’r heriau parhaus y maent yn eu hwynebu. Mae gennym gynllun benthyg gwerth £20 miliwn ar gyfer canol trefi, er enghraifft, gyda’r nod o ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a rhoi bywyd newydd i asedau cymunedol.

Mae’r pwynt yn y cynnig am daliadau parcio ceir yn syniad diddorol. Y llynedd, asesodd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru effaith taliadau parcio mewn perthynas â nifer yr ymwelwyr. Mae’r adroddiad llawn ar gael ar y wefan, ac mae’r darlun yn gymhleth. Fel y mae ein Haelod yn dweud yn glir, byddem yn croesawu ymchwiliad pellach i hyn gan y Cynulliad a’i bwyllgorau. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, ni allwn dderbyn unrhyw ymgais i ymrwymo’r Llywodraeth i eitemau gwariant penodol cyn proses y gyllideb, fel y gŵyr yr Aelodau.

Ar yr un pryd, ni allwn gefnogi ymgais gwelliant y Ceidwadwyr i gael gwared ar y syniad o’r cynnig. Nid ydym yn gwrthwynebu’r ymagwedd strategol ehangach tuag at y broblem sy’n wynebu’r stryd fawr, fel yr amlinellir yng ngwelliant y Torïaid. Mae dull Llywodraeth gyfan o adfywio yn rhan sylfaenol o’n fframwaith cyfredol. Yn anffodus, effaith gwelliant 1 yw dileu pob cyfeiriad at barcio ceir, ac felly ni allwn ei gefnogi heddiw. Mae’r Llywodraeth hon wedi dangos yn gyson ein bod yn cydnabod pwysigrwydd busnesau stryd fawr, ac rwy’n hapus i gefnogi gwelliant 3.

Yn olaf, hoffwn bwysleisio bod dyfodol canol ein trefi a’n dinasoedd yn bwysig i’r Llywodraeth hon. Mae’r cyfraniad gan Lee Waters ar gyfleoedd ardrethi busnes yn rhywbeth rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet o ddifrif yn ei gylch o ran y cyfleoedd i archwilio sut y gallwn rannu manteision pob math o siopa er mwyn creu cymunedau gwydn a chanolfannau siopa gwydn. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod—

Ar y pwynt hwnnw, ac i geisio edrych am dir cyffredin rhyngom ar y mater hwn, mae’n ffaith nad yw datblygiadau parcio ar gyrion y dref yn talu ardrethi busnes ar eu meysydd parcio enfawr rhad ac am ddim. Mae’n rhaid i ni adfer peth o’r cydbwysedd hwnnw, er mwyn adfywio canol trefi. Gall, fe all parcio am ddim cyfnod byr yng nghanol trefi fod yn rhan o hynny, ond mae angen i ni fynd i’r afael hefyd â’r siopau gyda pharcio ar gyrion y dref. Felly, os yw’n edrych ar ardrethi busnes, yn sicr dylem fod yn codi tâl arnynt am y meysydd parcio enfawr rhad ac am ddim sydd ganddynt.

Rwy’n credu ei fod yn dir cyffredin, a dyna’n union beth a ddywedodd Lee, rwy’n meddwl. Mae eich pwynt yn un da ac wedi’i ailadrodd gan yr Aelod. A gaf fi ddweud nad wyf yn gwrthwynebu cydgyfrifoldeb am geisio ailadeiladu ein cymunedau a chanol trefi? Dylai’r holl bethau hyn gyfrannu at ystyriaeth y Gweinidog sy’n gyfrifol am ardrethi busnes dros ystod yr wythnosau nesaf.

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i gyd-Aelodau yn y ddadl heddiw. Fe soniaf am y pwyntiau a nododd Mr McEvoy yn hyn. Roedd yn gyfraniad dig iawn y prynhawn yma. Efallai y caf dynnu ei sylw at yr adeg pan oedd yn ddirprwy arweinydd y cyngor yma yng Nghaerdydd: ni wnaeth, ac ni chyfeiriodd at yr un o’r pethau hynny yn y rôl honno yn ei ddyletswyddau. Ond rwy’n hapus iawn i barhau â’r drafodaeth gydag Aelodau ar draws y Siambr.

Diolch yn fawr. Diolch am drafodaeth ddigon bywiog prynhawn yma. Mae’r Ceidwadwyr wedi mynegi eu cefnogaeth i’r cynnig, ond nid wyf yn fodlon derbyn gwelliant 1 achos mae hwn yn ehangu’r maes gwaith yn rhy fawr, ac, yn anffodus, mae’r Llywodraeth bresennol yn colli ffocws yn rhy aml, a fuaswn i ddim yn licio iddyn nhw wneud hynny ar y mater yma.

Roeddech chi’n sôn am fferyllfeydd yng nghanol y stryd fawr, ac rwy’n cytuno bod y rhain yn bwysig, ac mae’n bwysig cael y gwasanaethau eraill ar y stryd yn ogystal â siopau. Rydw i’n cydnabod bod canol ein trefi ni yn newid, wrth gwrs hynny, ac mae’n rhaid i ni chwilio drwy’r amser am ffyrdd newydd o helpu ac adnewyddu canol y trefi. Mae’r ateb yn gymhleth, felly rydym yn cynnig cynllun eithaf syml o greu cronfa—nid cronfa sydd â miliynau o bres ynddi hi, ond cronfa fechan i alluogi cynghorau lleol i wneud cais am arian er mwyn iddyn nhw arbrofi â’r syniad yma. Iawn, os nad ydy o ddim yn gweithio ar ôl ychydig o flynyddoedd, gallwn gael gwared ar y syniad. Nid ydy’r Llywodraeth yma yn dda iawn am gael gwared ar gynlluniau sydd ddim yn gweithio, ond buaswn i’n awgrymu yn yr achos yma i roi cynnig arni hi, ac os nad ydy o’n gweithio, wel, dyna ni—rydym ni wedi rhoi cynnig arni hi.

O ran y pwynt—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf lawer o amser. O ran y pwynt ynglŷn â newid hinsawdd a defnyddio ceir, ac annog ceir, rydw i’n cyd-fynd â chi. Mae gennyf lot o gydymdeimlad â chi, ond yn yr ardal lle rydw i’n byw, mae’r car yn hollol hanfodol ar gyfer byw o ddiwrnod i ddiwrnod. Trïwch chi fynd ar fỳs cyhoeddus, neu feic, o Ddeiniolen, neu Nebo, neu Nantlle i lawr i’r canolfannau trefol—mae hi bron iawn yn amhosibl. Un bws y diwrnod, ac a ydych chi wedi gweld yr elltydd sydd yna o gwmpas ein hardal ni? Mae’n iawn i rywun fynd ar feic os ydyn nhw’n ffit ac yn heini, ond rydym ni yn sôn am nifer o bobl sydd ddim yn y sefyllfa yna yn fanna. Felly, rydw i yn cyd-weld, ond i fod yn realistig, mae’r car yn rhan o’n bywydau ni yng nghefn gwlad, yn sicr.

Rwy’n cyd-fynd â chi hefyd ynglŷn â’r angen i roi pwysau ar yr archfarchnadoedd i gyfrannu, efallai, o ran y broblem yma. Mi fyddwn i’n falch iawn petai Llywodraeth Cymru yn dechrau rhoi pwysau ar Tesco, Morrisons a’r cwmnïau mawr yma i edrych o ddifri ynglŷn â sut fedran nhw helpu i fywiogi canol ein trefi ni.

Rhan o becyn o fesuriadau ydy hyn—rhan fechan ohono fo. Mae eisiau lot o bethau eraill yn digwydd o’i gwmpas o. Cost cymharol fechan, peilot dros dro—os nad ydy o’n gweithio, nid ydym yn cario ymlaen efo fo. Ond beth am ei drio fo? Mae eisiau syniadau ffres yn y lle yma, ac mae hwn yn un ohonyn nhw. A gawn ni roi cynnig arni hi, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr Hawl i Brynu

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen yn awr at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr hawl i brynu, a galwaf ar David Melding i gynnig y cynnig—David.

Cynnig NDM6109 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddirymu’r fenter ‘hawl i brynu’.

2. Yn cydnabod bod 130,000 o deuluoedd wedi cael cyfle i brynu eu tŷ cyngor eu hunain ers i’r polisi ‘hawl i brynu’ gael ei gyflwyno yng Nghymru ym 1980, a bod angen ymddiried ym mhobl Cymru i benderfynu drostynt eu hunain ynghylch perchnogaeth tai.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod ‘hawl i brynu’ yn cynnig cyfle gwerthfawr i bobl brynu eu cartrefi eu hunain.

4. Yn credu y dylai’r targed blynyddol ar gyfer adeiladu tai fod o leiaf 14,000 o dai bob blwyddyn erbyn 2020, yn dilyn argymhellion Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn ei Rhaglen Lywodraethu: 2015 i 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi gynnig y cynnig yn enw Paul Davies? Ddirprwy Lywydd, os yw polisïau yn cael eu mesur yn ôl y nifer sy’n manteisio arnynt, yna mae’r hawl i brynu mewn gwirionedd wedi bod yn un o’r polisïau mwyaf eithriadol y llwyddwyd i’w cyflwyno, rwy’n credu, yn hanes gwleidyddiaeth Prydain a Chymru. [Torri ar draws.] Ers 1980, mae 130,000 o deuluoedd wedi manteisio ar y cyfle i brynu eu cartrefi eu hunain yng Nghymru.

Yn anffodus—ac rwy’n meddwl ein bod wedi clywed arwydd uniongyrchol o hyn yn y sibrwd ar y fainc flaen—mae’r Blaid Lafur bob amser wedi cael trafferth gyda phoblogrwydd hawl i brynu, yn draddodiadol, ymhlith eu cefnogwyr eu hunain, mae’n rhaid dweud, neu lawer ohonynt. Ofnaf mai’r elyniaeth ideolegol hon sy’n gyrru dewisiadau polisi cyfredol Llywodraeth Cymru. Rwy’n credu bod angen mynd i’r afael a hyn a chraffu arno’n effeithiol iawn, iawn.

Yn y Pedwerydd Cynulliad, hanerodd Llafur y disgownt ar hawl i brynu o £16,000 i £8,000. Aeth i fyny yn Lloegr yn sgil prisiau tai yn codi, i £75,000 mewn rhai mannau. Felly, mae yna newid polisi mawr iawn gyda datganoli, wrth gwrs, ac mae’n rhaid i ni fyw gyda hynny. Ond mae’n rhywbeth sy’n rhaid ei gyfiawnhau’n glir. Dyna oedd y symudiad cyntaf go iawn, rwy’n credu, yn erbyn y polisi hynod o boblogaidd hwn. Ac yn awr mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diddymu’r hawl i brynu yn gyfan gwbl. Gwrthodiad trist iawn i un o’r polisïau mwyaf poblogaidd erioed, fel y dywedais, yn hanes gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain.

Yr hyn rwy’n ei gael yn fwyaf gresynus am hyn i gyd yw fy mod yn credu ei fod yn cael ei wneud yn rhannol er mwyn tynnu sylw oddi ar yr her go iawn, sef adeiladu mwy o dai, wrth gwrs. Dyna ddylai fod yn ffocws canolog mewn gwirionedd, nid atgasedd ideolegol tuag at bolisi arbennig o boblogaidd a gyflwynwyd gan blaid wleidyddol wahanol. Dylai fod gennych weledigaeth ehangach a mwy helaeth drwy ganolbwyntio’n iawn ar yr hyn rydym ei angen, sef adeiladu mwy o dai.

Nid yw fel pe bai gan y Blaid Lafur hanes gwych o ran tai fforddiadwy a’u darpariaeth. Rydym ymhell ar ôl y duedd a’r niferoedd a adeiladwyd yn y 1990au ac fel y byddaf yn trafod ychydig yn nes ymlaen, rydym yn gweld hynny hyd yn oed yn yr hyn a oedd yn ymddangos i gychwyn yn welliannau yn y targedau ar gyfer tai fforddiadwy. Mae Llywodraeth Cymru o dan Lafur, yn gyson ers datganoli, wedi perfformio’n wael iawn yn y sector hwn, er gwaethaf y siarad a glywn gan Weinidogion weithiau.

Gadewch i mi droi, felly, at yr angen am dai. Rwy’n credu bod yna gonsensws eang iawn fod yr argyfwng tai yn cael ei achosi gan ddiffyg cyflenwad. Yn syml, nid ydym yn adeiladu digon o gartrefi. Mae hyn wedi arwain at brisiau uchel yn y sector preifat a rhestrau aros hir am dai cymdeithasol. Mae pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru bellach dros chwe gwaith yr incwm cyfartalog—lefel uwch nag erioed. Ac mae 8,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi bod ar restr aros tai fforddiadwy ers cyn etholiad 2011, a 2,000 arall wedi bod ar y rhestr aros ers etholiadau 2007. Nid yw hon yn record dda, fel y dywedais. Mae’r angen nas diwallwyd hwn yn amlwg yn difetha bywydau llawer iawn o deuluoedd yng Nghymru, ond mae hefyd yn gyfle a gollwyd i economi Cymru. Mae adeiladu tai—wyddoch chi, pe bai Keynes yma, fe fyddai’n dweud mai dyma’r ffactor macroeconomaidd gorau posibl, mewn gwirionedd, oherwydd gallwch gael lluosydd mor wych pan fo’r wladwriaeth, drwy amryw o bolisïau, yn cefnogi adeiladu tai. Mae’n rhywbeth sydd angen i ni ei wneud yn fy marn i. Mae’n cyflogi llafur lleol, cwmnïau lleol yn aml, ac mae’n hwb enfawr i’r economi, yn ogystal ag i amgylchiadau cymdeithasol pobl, yn amlwg. Fe ildiaf i Jenny Rathbone.

Tybed a wnewch chi egluro i ni pam nad oedd George Osborne yn ystyried y dadansoddiad hollol gywir hwn, y gallai tai fod wedi rhoi hwb i’r economi yn hytrach na gwthio’r cyfan i mewn i’r banciau a oedd wedyn yn ei gadw iddynt eu hunain.

Mae’r Llywodraeth Geidwadol, a’r Llywodraeth glymblaid o’i blaen, wedi pwysleisio’n gyson fod angen i ni adeiladu mwy o dai. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu—Llywodraeth y DU, hynny yw, ar gyfer Lloegr—400,000 yn rhagor o dai fforddiadwy, a dyna pam y cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei tharged yn y diwedd, rwy’n credu. Beth bynnag, rwy’n credu bod angen mwy o adeiladu tai, ac efallai mai rhywbeth ar gyfer rhywdro arall yw dadansoddi record Llywodraeth arall, ond record wael sydd gan y Llywodraeth yma.

Carwn ddweud hefyd, wrth fynd heibio, fod atgyweirio tai yn cael ei anwybyddu’n aml fel sector. Mae annog polisïau mwy effeithiol yn hynny o beth ac atgyweirio llawer o’r 23,000 o eiddo gwag yng Nghymru—dyna werth dros dair blynedd o adeiladu tai ar hyn o bryd, ar y tueddiadau sydd gennym. Mae nifer helaeth o gartrefi yn cael eu gadael yn wag, llawer ohonynt oherwydd nad ydynt yn addas i neb fyw ynddynt.

Rwyf am droi yn awr at y ffigurau adeiladu tai eu hunain, gan fy mod yn credu bod hwn yn faes pwysig y mae angen craffu’n fanwl arno. Ym mis Medi 2015, noddodd Llywodraeth Cymru adroddiad gan y diweddar Alan Holmans, a nodai, a dyfynnaf,

os yw’r angen a’r galw am dai yng Nghymru yn y dyfodol yn mynd i gael ei ddiwallu, mae angen dychwelyd at y cyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron i 20 mlynedd, a chynnydd yng nghyfradd twf tai fforddiadwy.

Rwy’n cymeradwyo’r Llywodraeth am gomisiynu’r adroddiad hwn. Mae’n astudiaeth ragorol, ac rwy’n annog yr Aelodau i gael copi o’r llyfrgell ac i’w ddarllen yn drylwyr.

Byddai hyn yn golygu, yn ôl yr adroddiad, cynnydd o 8,700 o gartrefi newydd y flwyddyn i 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn. Nid wyf yn beirniadu’r Llywodraeth os yw’n dymuno adolygu’r targed, ond gosodwyd y targed o 8,700 o gartrefi tua 10 mlynedd yn ôl. Efallai ei fod wedi cael ei wneud gyda diwydrwydd dyladwy ar y pryd, ond gwyddom bellach fod mwy o angen a bod yn rhaid i ni ei ddiwallu. Felly, ni fyddai newid y targed yn rhywbeth y byddwn yn ei gondemnio—byddwn yn ei groesawu pe baech chi yn awr yn derbyn targed sy’n nes at 12,000, neu hyd yn oed yn fwy.

Yn ddiweddar, gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol—eu gair hwy—erbyn 2021. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddarach mewn ateb i mi y byddai hyn yn gadael y targed adeiladu tai blynyddol heb ei newid ar 8,700 o gartrefi y flwyddyn. Mae’n dal i fod yn ddirgelwch i mi sut y mae’r ddau ddatganiad yn sefyll ochr yn ochr, gan eu bod i’w gweld yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr.

Wedi archwilio’r data, rwy’n meddwl mai’r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw hyn: y targed blaenorol ar gyfer tai fforddiadwy yn y sector cymdeithasol oedd 3,500. Mae hwn bellach wedi cael ei godi i 4,000 fel ein bod yn cael 20,000 dros bum mlynedd, neu 2,500 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021, nid yr 20,000 o gartrefi ychwanegol a honnwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ffigurau wedi cael eu chwyddo. Mae hyn yn awgrymu bod y targed adeiladu tai blynyddol bellach wedi codi i 9,200. Rwy’n croesawu unrhyw eglurhad y gall y Gweinidog ei roi yma, ond rwy’n meddwl mai dyna’r casgliad rhesymegol sy’n rhaid ei gyrraedd. Mae’r ffigur hwn yn fwy nag oedd y Prif Weinidog yn ei feddwl, ond mae’n llawer llai na’r 12,000 oedd eu hangen yn amcanestyniad yr Athro Holmans. Mae eraill wedi dadlau y dylid rhagori ar y targed o 12,000 ei hun am fod angen i ni ateb galw sydd wedi cronni yn y system. Mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr wedi galw am darged o 14,000, ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn ei gymeradwyo fel y lefel y mae angen i ni ei chyrraedd erbyn 2020.

Fodd bynnag, sut bynnag yr edrychwn arno, y gwir yw bod angen i ni adeiladu mwy o gartrefi. Gallwn helpu’r broses honno drwy symleiddio’r system gynllunio a’i gwneud yn haws ei defnyddio. Nawr, rwy’n meddwl eu bod yn gweld datblygiadau mawr yn hyn o beth yn Lloegr, ond araf braidd yw ein dull o symleiddio’r system yma. Mae angen i ni ryddhau mwy o dir ar gyfer adeiladu, gan gynnwys archwiliad, byddwn yn dweud, o dir ym meddiant y cyhoedd. Ac mae angen i ni ddefnyddio derbyniadau hawl i brynu i ddarparu tai cymdeithasol newydd. Byddwn yn dweud mai dyna un o wendidau’r polisi blaenorol ar adegau—rwy’n ddigon parod i gyfaddef hynny. Mae angen i ni ddefnyddio’r derbyniadau i gael rhagor o dai, cymaint yw’r angen am dai. A’i ailddefnyddio felly ar gyfer tai cymdeithasol.

A gaf fi yn olaf, Ddirprwy Lywydd, gyfeirio at y gwelliannau, a wnaed i gyd gan Blaid Cymru? Rydym yn gwrthod gwelliant 1, gan ei fod yn dileu’r rhan fwyaf o’n cynnig. Rwy’n siŵr nad yw hynny’n syndod mawr i chi. Rydym yn derbyn gwelliant 2 ac yn wir, rwy’n ategu ei gynnwys yn gynnes, a dyna pam rwyf mor falch o gymeradwyo’r ffaith fod Llywodraeth y DU yn cryfhau’r economi ac yn sicrhau bod hynny’n darparu sylfaen gadarn ar gyfer ehangu’r sector tai. Rydym yn derbyn gwelliant 3. Nid oes hierarchaeth yma; i lawer o bobl, tai cymdeithasol yw’r dewis gorau. Rwy’n datgan hynny’n syml ac yn symud ymlaen. Ac rydym yn derbyn gwelliant 4. Mae’n debyg mai ateb technegol yn unig sydd ei angen ar hwn, ond gallai fod angen un deddfwriaethol i fynd i’r afael â’r anghysondebau yn y cyfrif y mae’n ymddangos bellach fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi eu rhoi i ni, ond mae angen i ni symud yn gyflym i egluro’r sefyllfa. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Diolch. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1 i 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Bethan.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod pobl yn fwy tebygol o allu bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain os yw’r economi yn gryfach, os yw cyflogaeth yn fwy sicr a bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud mwy i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod nad perchnogaeth cartref yw’r unig opsiwn, ac y dylai cartrefi cymdeithasol gael yr un statws â pherchnogaeth cartref.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y gallai ailddosbarthu benthyciadau cymdeithasau tai fel dyled sector cyhoeddus gael effaith andwyol ar dargedau adeiladu tai, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, gan gynnwys deddfu os oes angen, i sicrhau nad yw hyn yn cyfyngu ar allu cymdeithasau tai i gyllido adeiladu cartrefi newydd neu welliannau i gartrefi yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3 a 4.

Diolch i chi, ac rwy’n cynnig y gwelliannau. Mae perchentyaeth yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn dyheu amdano ac mae’n rhywbeth sy’n gynyddol y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl, drwy gyfuniad o gyflogau isel, cyflogaeth ansicr a gwrthodiad Llywodraethau olynol i gydnabod bod chwyddiant prisiau tai lawn mor ddrwg â chwyddiant confensiynol. Ond ni ddylid creu perchentyaeth ehangach ar draul tai cymdeithasol a’r rhwyd ​​ddiogelwch y dylai cymdeithas wâr ei chynnig.

Gan ddechrau gyda’n gwelliant olaf, mae Plaid Cymru yn pryderu am benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu dyledion cymdeithasau tai fel dyledion sector cyhoeddus. Gallai ailddosbarthu cymdeithasau tai fel corfforaethau anariannol cyhoeddus gyfyngu ar eu gallu i ddenu buddsoddiad o amrywiaeth o ffynonellau preifat. Os ystyrir bod cymdeithasau tai yn gyrff sector cyhoeddus, mae’n agor y drws i Drysorlys y DU osod terfynau benthyca arnynt, fel y maent eisoes yn ei wneud gydag awdurdodau lleol. Gallai hyn beryglu gallu cymdeithasau tai Cymru i adeiladu cartrefi newydd ac uwchraddio ansawdd cartrefi sy’n bodoli’n barod. Felly, rwy’n gobeithio clywed beth sydd gan Lywodraeth Cymru i’w ddweud ar y camau y bydd yn eu cymryd yn hyn o beth.

Gan droi yn awr at y prif fater sy’n cael ei drafod yma, mae’n eithaf amlwg fod yr hawl i brynu wedi niweidio argaeledd tai cymdeithasol, a dyna’r rheswm dros ein gwelliannau helaeth i’r cynnig. Ychydig iawn o synnwyr ariannol y mae’r hawl i brynu wedi’i wneud erioed, ac yn lle hynny, mae wedi profi mai cymhorthdal ​​ydyw i’r rhai mwy cefnog a rhai yn y lle iawn ar yr adeg iawn, gan leihau’r stoc tai cymdeithasol yn gyffredinol. Roedd y gostyngiadau mawr o rhwng 33 y cant a 50 y cant i breswylwyr yn gyfystyr â chymhorthdal ​​tuag at berchentyaeth i bob pwrpas. Mae hyn yn golygu, am bob pedwar cartref a werthwyd, mai dau neu dri o dai yn unig sydd wedi cymryd eu lle. Ar ben hynny, gan fod llawer o fenthycwyr yn gwrthod morgeisi uwchben y chweched llawr, mae tenantiaid mewn adeiladau aml-lawr wedi methu prynu, sy’n golygu mai’r rhai a fanteisiodd ar y polisi yn gyffredinol oedd preswylwyr ystadau cyngor isel a bach wedi’u lleoli mewn ardaloedd sydd wedi ffynnu yn sgil hynny. A gwyddom fod llawer o’r blociau fflatiau aml-lawr na chafodd eu prynu gan bobl bellach wedi cael eu dymchwel—mae llawer yn fy nhref enedigol, sef Merthyr, yn y Gurnos, a hefyd yn Hirwaun, gerllaw.

Mae hyd yn oed ‘The Daily Telegraph’ wedi cyfaddef bod camddefnydd wedi’i wneud o’r gyfraith, a bod llawer o gartrefi wedi cael eu prynu gan bobl oedrannus a oedd yn cael benthyg yr arian gan eu meibion ​​a’u merched, gan wybod y byddent yn etifeddu llawer mewn rhai blynyddoedd. O ganlyniad, yn gyffredinol roedd y cartrefi nas gwerthwyd mewn ardaloedd llai dymunol, lle roedd diweithdra hirdymor yn dilyn dad-ddiwydiannu’r Torïaid. Golygai fod pobl yn cael eu hynysu a’u crynhoi mewn ystadau llai dymunol a ddaeth yn raddol yn getos, a theimlai pobl eu bod wedi cael eu hanghofio. Fe ffynnodd rhai o’r ardaloedd hynny—mewn ardaloedd canol dinas ger prifysgolion yn enwedig, prynwyd stoc dai yn y pen draw gan landlordiaid prynu i osod a newidiodd lawer o eiddo yn dai amlfeddiannaeth i gael cymaint â phosibl o rent. Felly, er y gwelwyd ffyniant cychwynnol o ran perchen-feddianwyr yn hunangyllido gwelliannau, yn y tymor hir, mae’r ardaloedd hyn wedi ail-greu tai mewn cyflwr gwael drwy sector heb ei reoleiddio sy’n aml wedi galluogi landlordiaid diegwyddor i ddod yn gyfoethog yn gyflym.

Mae hefyd wedi gwneud byw mewn tŷ cyngor yn fwy o stigma. Dyma pam rydym wedi cyflwyno gwelliant 3, ac mae’n rhywbeth yn y portffolio hwn rwy’n gobeithio gwneud mwy o waith arno, oherwydd, a bod yn onest, nid wyf yn meddwl y gallwn ond ei nodi’n unig a symud ymlaen. Mae yna bobl sy’n teimlo stigma o fyw mewn tai cymdeithasol sy’n teimlo, oherwydd na allant fforddio—[Torri ar draws.] Mae’n wir. Oherwydd na allant fforddio cael troed ar yr ysgol dai, maent yn teimlo eu bod yn ddinasyddion eilradd rywsut o gymharu â’r rhai sy’n gallu ei fforddio mewn gwirionedd. Rwy’n credu bod angen trafodaeth yma yn y Siambr am y ffaith y bydd pobl, mae’n wir, yn dyheu am fod yn berchen ar gartref, ond i mi mae’n ymwneud mwy ag ansawdd y cartrefi hynny i’r bobl hyn, ac nid yn benodol ynglŷn ag a ydynt yn berchen ar y tŷ hwnnw ai peidio.

Rwy’n meddwl, yn gyffredinol, fod y Siambr hon mewn perygl o fod yn byw yn y gorffennol. Bythefnos yn ôl, clywsom alwadau am ddod ag ysgolion gramadeg yn ôl ac yn awr, dyma amddiffyn yr hawl i brynu. Beth nesaf—dowch â Bananarama yn ôl? Dylem fod yn edrych tua’r dyfodol yn lle hynny. [Chwerthin.] Wel, efallai y bydd rhai ohonoch yn hoffi Bananarama; efallai eu bod ychydig bach cyn fy amser i. Dylem fod yn edrych ar atebion mwy arloesol i’n problemau, yn hytrach nag estyn am bolisïau ystrydebol a hen ffasiwn ddoe. Os ydym o ddifrif am fynd i’r afael â’n problemau o ran y cyflenwad tai, yna efallai y dylem edrych yn hytrach ar adeiladu eco-gartrefi newydd gyda’r dechnoleg amgylcheddol ddiweddaraf i’w defnyddio ar draws pob math o ddeiliadaeth tai, a dylem fynd ati’n iawn i weithredu rhaglen i wella ansawdd ein cartrefi presennol yn ôl y safonau amgylcheddol diweddaraf.

Wrth edrych ar opsiynau eraill megis tai cydweithredol, gwn fod Canada yn gwneud hyn yn dda ar ôl bod yno yn ddiweddar fy hun, er nad oeddwn yn bwriadu bod ar wyliau gwaith. Ond mae yna wledydd eraill sy’n gwneud pethau’n dda y gallwn ddysgu oddi wrthynt. Er fy mod yn derbyn pwynt David Melding mewn perthynas â phwysigrwydd cartrefi gwag, rwy’n credu bod honno’n ddadl hollol ar wahân i’r hawl i brynu.

Un o’r pethau eraill y mae gennyf ddiddordeb brwd ynddynt, a byddaf yn gorffen ar hyn, yw y dylem efallai fod yn rhoi cyfyngiadau ar hawliau perchnogion eiddo prynu i osod ac ail gartrefi i brisio ein pobl ifanc allan o’r farchnad dai, a chymryd y rhan fwyaf o’u cyflogau mewn rhenti artiffisial o uchel. Mae’r rhain yn faterion rwy’n eu hystyried yn bwysicach nag ailgyflwyno’r ddadl ar yr hawl i brynu.

Byddai bwriad Llafur Cymru i ddiddymu’r hawl i brynu yng Nghymru yn amddifadu tenantiaid o’r posibilrwydd o fod yn berchen ar eu cartref, ac yn colli cyfle arall i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a mynd i’r afael â’r argyfwng yn y cyflenwad tai a grëwyd gan Lywodraeth Lafur yng Nghymru ers 1999.

Yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, er gwaethaf rhybuddion, torrodd Llywodraeth Lafur Cymru 71 y cant oddi ar nifer y cartrefi cymdeithasol newydd wrth i restrau aros chwyddo. Erbyn 2009-10, gan Lywodraeth Cymru oedd y lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant ar dai o bob un o bedair gwlad y DU, a dywedodd adolygiad tai y DU ar gyfer 2012 mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddai flaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol.

Mae ffigurau’r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol yn dangos, er bod cofrestriadau cartrefi newydd yn y DU wedi codi 28 y cant yn 2013, Cymru oedd yr unig ran o’r DU i weld cwymp. Roedd nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd yng Nghymru yn ystod 2014 yn is na’r Alban a phob un o’r naw rhanbarth yn Lloegr. Ar 6,170, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld gostyngiad yn nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd yn 2015. Cafwyd cwymp pellach o 4 y cant yng Nghymru yn 2015-16 a gostyngiad pellach o 25 y cant yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon.

Clywsom adroddiad yr Athro Holmans ar gyfer Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod angen hyd at 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn ar Gymru, gan gynnwys 5,000 yn y sector cymdeithasol. Gwelodd dau adroddiad yn 2015 a gwblhawyd ar ran y diwydiant adeiladu tai yng Nghymru nad yw lefelau cyfredol y ddarpariaeth dai ond ychydig dros hanner yr angen dynodedig am dai ledled Cymru. Ym mis Medi 2015, dywedodd Sefydliad Bevan fod angen creu 14,200 o dai newydd bob blwyddyn er mwyn diwallu’r angen a ragwelir am dai, gan gynnwys 5,100 o gartrefi nad ydynt ar gyfer y farchnad. Roeddent yn ychwanegu nad oedd hanner yr angen yn cael ei ddiwallu, gyda’r diffyg mwyaf mewn tai cymdeithasol. Naw wfft i gyfiawnder cymdeithasol gan Lafur.

Mae hyn yn cyd-fynd â galwad Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr am darged adeiladu tai blynyddol o 14,000 o gartrefi fan lleiaf. Er gwaethaf hyn, cyfartaledd targed blynyddol Llafur yw 4,000 o gartrefi fforddiadwy yn unig yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a chaiff hwnnw ei chwyddo drwy ychwanegu rhent canolradd a pherchentyaeth cost isel at dai cymdeithasol. Llen fwg yw’r argymhelliad i gael gwared ar hawl i brynu ac ni fyddai’n gwneud dim i greu mwy o gartrefi neu gynyddu nifer y cartrefi gyda’u drws ffrynt eu hunain. Fel y gwelodd y Pwyllgor Materion Cymreig, yn drawsbleidiol, ni fyddai atal yr hawl i brynu ynddo’i hun yn arwain at gynnydd yn y cyflenwad o dai fforddiadwy.

Erbyn i’r Ceidwadwyr adael y Llywodraeth yn 1997, roedd tai’n cael eu hadeiladu yn lle gwerthiannau hawl i brynu ar sail debyg am debyg, bron iawn, yng Nghymru. Roedd y grant tai cymdeithasol o dan—

Er fy mod yn tueddu i gytuno â chi ei bod yn fenter boblogaidd iawn, o ganlyniad uniongyrchol i’r polisi hwn cafodd nifer sylweddol o dai cymdeithasol yr oedd eu hangen eu tynnu o’r sector. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith nad oedd yr offerynnau angenrheidiol ar waith ar lefel awdurdodau lleol, o ganlyniad uniongyrchol i’r mentrau y sonioch amdanynt, wedi golygu bod rhestrau aros am dai cyngor wedi cael eu trosglwyddo ymlaen. Felly, a ydych yn cydnabod bod lle, yn wir, i dai cymdeithasol a thai cyngor yn rhan o’r dewis a gynigir i rai sydd mewn angen ac ar incwm isel?

Yn bendant. Dyna’r ddadl rwyf wedi bod yn ei rhoi yma ers dros 13 mlynedd.

Fel y mae paragraff agoriadol maniffesto Cartrefi i Bawb ar gyfer Hydref 2014 yn datgan, mae yna argyfwng tai. Mae’r argyfwng wedi cael ei achosi gan fethiant Llafur i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd, nid yr hawl i brynu, sydd wedi’i wanhau dan Lafur ac wedi gweld gwerthiannau’n edwino o’r miloedd i ychydig gannoedd yn unig bob blwyddyn. Yn lle hynny, argymhellodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylid diwygio’r hawl i brynu, gan fuddsoddi elw o werthiannau cynghorau mewn tai cymdeithasol newydd, a chynyddu’r cyflenwad tai drwy hynny gan helpu i fynd i’r afael ag argyfwng cyflenwad tai Llafur. Mae hyn yn adlewyrchu’r polisi hawl i brynu a ailfywiogwyd yn Lloegr, lle mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ailfuddsoddi, am y tro cyntaf erioed, y derbyniadau ychwanegol o werthiannau hawl i brynu mewn tai rhent fforddiadwy newydd ar draws Lloegr gyfan. Pe bai cyngor yn methu gwario’r derbyniadau ar dai rhent fforddiadwy newydd o fewn tair blynedd, byddai’n rhaid iddo ddychwelyd yr arian nas gwariwyd i’r Llywodraeth gyda llog, gan greu cymhelliant ariannol cryf i gynghorau fwrw iddi i adeiladu mwy o gartrefi ar gyfer pobl leol.

Ers 2010, mae mwy na dwywaith cymaint o dai cyngor wedi cael eu hadeiladu yn Lloegr nag ym mhob un o 13 mlynedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf gyda’i gilydd, pan welwyd rhestrau aros yn Lloegr yn dyblu, bron iawn, ar ôl torri 421,000 oddi ar nifer y cartrefi cymdeithasol ar rent. Fel y dywedodd tenant cyngor wrthyf,

Mae’r cynllun hawl i brynu yn cynnig cyfle i ni gynllunio ar gyfer dyfodol heb fod angen cymorth y wladwriaeth... rwy’n eich annog i wneud unrhyw beth yn eich gallu i wrthwynebu’r cynnig i roi terfyn ar yr Hawl i Brynu yng Nghymru.

Yn hytrach nag ailgylchu dogma 30 oed, dylai Llywodraeth Cymru helpu pobl fel hyn a defnyddio pob arf sydd ar gael i fynd i’r afael â’r argyfwng cyflenwad tai y maent wedi ei greu yng Nghymru.

Rwy’n cytuno’n llwyr fod angen i ni adeiladu mwy o gartrefi, ond mae’n rhaid i chi gydnabod nad yw’n ddoeth annog pobl i fenthyca mwy na dwywaith a hanner eu hincwm cyfunol er mwyn prynu cartref. Ac yn ôl pob tebyg, i hanner y boblogaeth, nid yw hynny’n bosibl beth bynnag gyda phrisiau cartrefi fel y maent. Iawn, o bosibl, fe allai prisiau tai ostwng pe baem yn adeiladu mwy, ond ar hyn o bryd, mae hynny y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl. Felly, rwy’n credu ei bod yn hollol ddoeth i ni—

Newydd ddechrau rwyf fi.

[Yn parhau.]—yn hollol ddoeth i ni atal yr hawl i brynu.

Nid oedd angen i fenter hawl i brynu Mrs Thatcher fod yn drychineb llwyr. Pe bai’r arian roedd pobl yn ei dalu i brynu eu cartrefi wedi cael ei ailfuddsoddi mewn adeiladu mwy o gartrefi, gallai fod wedi cyflwyno dewis a dulliau amrywiol o reoli’r cartref. Rwy’n cofio’r dyddiau pan na chaech hongian eich golchiad y tu allan a phan na allech beintio eich drws mewn unrhyw liw ar wahân i’r lliw a ddynodwyd gan y rheolwr tai. Felly, rydym wedi symud y tu hwnt i hynny, yn bendant, ond yn anffodus, defnyddiwyd yr hawl i brynu fel gweithgarwch stripio asedau gan y Trysorlys, ac yn lle hynny gorfodwyd awdurdodau lleol i ddefnyddio’r derbyniadau hawl i brynu i dalu eu dyledion. Dyna pam na allent adeiladu mwy o gartrefi.

Yn ogystal â hyn, gan fod y tenantiaid yn cael disgownt o 50 y cant, golygai nad oedd y cynghorau byth mewn sefyllfa i adeiladu tai yn lle’r cartrefi roeddent wedi’u colli, am eu bod yn amlwg yn mynd i gostio o leiaf hanner cymaint eto. Hyd yn oed gyda disgownt is, ni adeiladwyd tai yn lle mwy na hanner yr eiddo hawl i brynu yn ystod y pedair blynedd diwethaf yn ôl y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol.

Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad. Ar eich pwynt olaf yn unig fod gostyngiad o 50 y cant yn golygu bod y tŷ ond yn werth hanner ei werth gwreiddiol. Yn anochel, mae gwerth tŷ sydd ar werth yn mynd i fod yn uwch na’i gostau adeiladu, felly, er bod gennych bwynt cyffredinol efallai nad oes angen i ddisgownt fod yn rhy hael, mae’n ddrwg gennyf ond mae cymharu cost adeiladu â chost gwerthu yn hollol anghywir.

Wel, mae’n stori gymhleth. Yn amlwg, rhaid cynnwys costau tir, ond y pwynt yw hyn: os nad yw’r derbyniadau’n ddigon i adeiladu cartref arall, yna rydych bob amser yn mynd i gael cyflenwad sy’n lleihau. Yn y sefyllfa bresennol, lle mae gennym 90,000 o bobl yn aros am gartref, byddem yn fyrbwyll pe na baem yn atal yr hawl i brynu yn y cyfamser.

Felly, er bod hwn yn cael ei alw’n un o chwyldroadau cymdeithasol pwysicaf y ganrif, yn lle hynny mae wedi esgor ar gymunedau rhanedig, wedi rhoi hwb i landlordiaeth ecsbloetiol ac wedi creu prinder tai cymdeithasol difrifol sydd wedi gwneud ‘Cathy Come Home’ yn realiti yn yr unfed ganrif ar hugain eto.

Mae llety rhent preifat cymaint yn fwy costus nes ei fod yn condemnio llawer o deuluoedd sy’n syrthio’n ôl i lety rhent preifat i roi’r gorau i weithio a dod yn ddibynnol ar fudd-dal tai er mwyn talu’r rhent. Ac yna, ar ben hynny, rhaid i deuluoedd symud o un flwyddyn i’r llall, heb allu magu gwreiddiau a sefydlu rhan iddynt eu hunain mewn cymunedau. I blant, mae’r baich yn oed yn waeth, wrth symud ysgol bob blwyddyn—neu’n waeth byth, ar ganol blwyddyn—maent yn sicr o fethu gwneud cystal yn academaidd na phe baent wedi cwblhau eu haddysg mewn un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd. Y dewis arall yw bod yn rhaid i blant deithio pellteroedd maith i aros yn yr un ysgol, gan effeithio ar eu lles a mwy o gerbydau ar y ffordd.

Felly, ar ôl degawdau o hawl i brynu, a methiant Llywodraethau olynol o bob lliw—rwy’n cytuno, o bob lliw—i fynd i’r afael â’r prinder tai difrifol, mae Llafur Cymru yn bendant yn gwneud y penderfyniad cywir i ddiogelu tai cymdeithasol, ac rwy’n cymeradwyo’r cynllun hwn. Cafodd ei ganmol fel un o chwyldroadau cymdeithasol pwysicaf y ganrif. Yn lle hynny, 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae wedi hollti cymunedau ac wedi arwain at lawer iawn o ddatgysylltiad.

Ar y cyfan, mae Cymru wedi colli bron i hanner ei stoc tai cymdeithasol—dros 90,000 o deuluoedd ar restr aros y cyngor, ac ni allwn fforddio colli rhagor. Mae’r trychineb wedi bod yn mudlosgi. Rwy’n cytuno bod y niferoedd a oedd yn byw mewn llety rhent preifat yn y 1980au a’r 1990au yn gymharol sefydlog, sef tua 10 y cant o’r cyfanswm, ond mae bellach bron yn 20 y cant, ac yn y grwpiau oedran 20 i 39, mae wedi neidio i 50 y cant. Felly, nid yw’r genhedlaeth rent ar fin diflannu ar fyrder.

Os ydych yn credu bod yr hawl i brynu wedi arwain at wynfyd democratiaeth sy’n berchen ar eiddo, meddyliwch eto. Mae dros 40 y cant o’r cartrefi hawl i brynu—mae’r Torïaid yn canmol gallu pobl i brynu eu cartref eu hunain—wedi llithro’n ôl i ddwylo’r sector rhentu preifat mewn gwirionedd, lle maent yn parhau i sugno mwy a mwy o arian cyhoeddus ar ffurf budd-daliadau tai. Ar draws y DU, mae budd-dal tai wedi chwyddo o £7.5 biliwn yn 1991 i £22 biliwn 20 mlynedd yn ddiweddarach. Ni allwn fforddio parhau fel hyn. Mae traean o’r stoc rhentu preifat o 4.5 miliwn yn genedlaethol yn cael ei hariannu’n rhannol neu’n gyfan gwbl drwy fudd-dal tai. Felly, mae’r syniad athrylithgar hwn o chwyldro cymdeithasol wedi arwain at sector rhentu preifat sydd wedi ehangu ac sydd, i raddau helaeth, yn cael ei gynnal gan gyfraddau cynyddol o fudd-dal tai. Nid yw’n gynaliadwy, ac mae’n hollol iawn ein bod yn atal yr hawl i brynu wrth i ni adeiladu mwy o gartrefi.

Syr Anthony Eden, pan oedd yn Brif Weinidog ynghanol y 1950au, a gafodd y weledigaeth o greu democratiaeth sy’n berchen ar eiddo yn y wlad hon. Byth ers hynny, i Lywodraethau Ceidwadol olynol, mae ehangu perchentyaeth wedi bod yn egwyddor graidd. I ormod o’n pobl, nid oedd perchentyaeth yn ddim ond breuddwyd. Roeddent eisiau bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ond roedd hynny y tu hwnt i’w gafael. Amddifadwyd gormod ohonynt o’r cyfle i brynu’r cartref lle roeddent yn byw.

Rydym yn cefnogi perchentyaeth, gan ei fod yn annog annibyniaeth, hunanddibyniaeth a dyhead. Mae’n rhoi cyfran i bobl yn eu cymunedau. Rhwng 1979 a 1997, ehangodd y Llywodraeth Geidwadol y cyfle ar gyfer perchentyaeth. Roedd yr hawl i brynu yn rhan lwyddiannus iawn o’u rhaglen—yn 2014, roedd hi’n 34 mlynedd ers dechrau’r cynllun hawl i brynu yn Lloegr. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd gwerthiant dros 1,800,000 o gartrefi ei gwblhau o dan y rhaglen hon. Yng Nghymru, mae 130,000 o deuluoedd wedi cael y cyfle i brynu eu tai cyngor eu hunain. Dyna 130,000 o deuluoedd yn cael troed ar yr ysgol eiddo am y tro cyntaf, yn berchen ar gartref y gallant ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

Brwydrodd y Blaid Lafur i’r eithaf yn erbyn yr hawl i brynu. Nid oedd yn rhan o’u hathroniaeth y dylai tenantiaid cyngor gael yr hawl a’r urddas o fod yn berchen ar eiddo, ac mae hynny’n parhau. Yr wythnos diwethaf, yn Lerpwl, cadarnhaodd Gweinidog tai Mr Corbyn ar ran yr wrthblaid y byddent yn atal yr hawl i brynu. Wrth wneud hynny, maent yn dilyn arweiniad Llafur Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn tanseilio’r hawl i brynu yn gyson yng Nghymru. Yn gyntaf, torrwyd y disgownt a oedd ar gael yn ei hanner, cyn atal y cynllun yn gyfan gwbl yn Sir Gaerfyrddin. Yn awr, maent yn bwriadu diddymu’r hawl i brynu yn gyfan gwbl. Honnodd y Prif Weinidog y byddai diddymu’r hawl

‘yn sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael i’r rhai y mae arnynt eu hangen, ac nad ydynt yn gallu cael gafael ar lety drwy fod yn berchen ar gartref neu drwy’r sector rhentu preifat.’

Nid oes gan y penderfyniad hwn sy’n cael ei yrru gan ddogma ddim i’w wneud â chynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol. Mae’n ddrwg gennyf, Joyce. Mae ganddo bopeth i’w wneud â symud y bai am fethiant llwyr Llafur, ar ôl 17 mlynedd mewn grym, i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol. A dweud y gwir, Ddirprwy Lywydd, yn ardal Casnewydd fe geisiwyd adeiladu’r tai hynny yn y campws academaidd, campws y brifysgol. Heddiw—heddiw ddiwethaf—er mwyn adeiladu tai cymdeithasol, maent wedi caniatáu dymchwel un eglwys eiconig yng Nghasnewydd, er mwyn codi ychydig o dai. Mae angen edrych ar hynny hefyd: ble mae’r tai yn mynd i gael eu hadeiladu. Dyna faes arall y dylai’r Blaid Lafur ei ystyried: dweud wrth yr holl gynghorau na ddylid tarfu ar adeiladau rhestredig neu adeiladau eiconig.

Mae’r argyfwng tai cymdeithasol yng Nghymru yn ganlyniad i fethiant Llafur Cymru i gyrraedd targedau adeiladu. Yn 2007, pan ddeuthum yma, roedd yna brosiect mawr—targed mawr a osodoch yn y Siambr hon: 25,000 o dai, ac ni chyflawnoch chi fwy na—[Torri ar draws.] Ni chyflawnoch chi fwy na 6,000. Ac yna, yn y diwedd, fe ddywedoch mai peilot yn unig ydoedd. Duw a’ch helpo.

Ers 2004, mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi cael eu rhybuddio ynglŷn ag argyfwng sydd ar y ffordd oni bai eu bod yn cynyddu’r gwaith adeiladu tai. Dywedodd ei adolygiad tai ei hun wrth y Llywodraeth flaenorol y byddai’n rhaid iddi adeiladu o leiaf 14,000 o gartrefi bob blwyddyn tan 2026 er mwyn ateb y galw am dai, fel y mae David Melding wedi sôn eisoes. Mae’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi yn nodi bod cynllunio gwael a chostau uwch sy’n gysylltiedig ag adeiladu cartrefi yng Nghymru wedi peryglu buddsoddiad. Dyna drychineb arall sy’n deillio o agwedd Llafur. Dywedir bod yr amgylchedd cynllunio a datblygu mwy deniadol yn Lloegr yn golygu bod nifer y caniatadau wedi cynyddu 49 y cant, er bod y nifer yn gostwng yng Nghymru.

Ceir tua 23,000 o dai gwag yng Nghymru. Mae rhai angen eu hadnewyddu, ac eto 7,500 o dai gwag yn unig y sicrhaodd Llywodraeth flaenorol Cymru eu bod ar gael i’w hailgyflwyno i’r stoc dai. Ddirprwy Lywydd, mae arnom angen dull newydd o weithredu ar gyfer tai yng Nghymru: nid un sy’n seiliedig ar ddogma sosialaidd aflwyddiannus adain chwith y 1970au, ond un sy’n diwallu—[Torri ar draws.] Un sy’n diwallu anghenion a dyheadau ein pobl—[Torri ar draws.]

Un nad yw’n cael gwared ar ysgol cyfle a lladd gobeithion a breuddwydion llawer o deuluoedd yng Nghymru. Cefnogaf y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym ni yng UKIP Cymru hefyd yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddirymu hawl i brynu yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweld hawl i brynu fel cyfle gwerthfawr i fod yn berchen ar gartref, ac rydym yn cefnogi mwy o adeiladu tai wrth gwrs, os gellir adeiladu tai yn y mannau cywir. Fodd bynnag, er ein bod yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, mae gennym sawl awgrym ein hunain—[Torri ar draws.] Oes, mae; rhai. Mae gennym sawl awgrym ein hunain ynglŷn â sut y gellid gwella’r sefyllfa dai yng Nghymru.

Yn gyntaf, mae angen i ni fynd i’r afael â’r broblem o sut i ailgyflenwi’r stoc tai cyngor. Y broblem gyda Deddf Tai 1980 oedd ei bod yn gwahardd cynghorau rhag defnyddio dim o’r refeniw o werthu tai cyngor ar adeiladu tai newydd. Hon oedd yr elfen braidd yn drychinebus ym mholisi’r Ceidwadwyr, y byddai’n rhaid mynd i’r afael â hi’n awr pe bai’r hawl i brynu yn parhau yng Nghymru. Byddai ein cynnig yn caniatáu hawl i brynu yng Nghymru, ond yn clustnodi’r refeniw o werthu tai cyngor fel y gellid ailfuddsoddi 100 y cant o’r cronfeydd hyn ar adeiladu tai cyngor newydd.

Yn ogystal â cheisio sicrhau’r cyflenwad mwyaf posibl o dai, mae angen i ni roi camau ar waith hefyd i reoli’r galw am dai. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, Mark, mae’n ddrwg gennyf. Diolch. Fel cenedl, mae’r DU yn methu â chyrraedd ei thargedau o adeiladu 200,000 o gartrefi flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac ar yr un pryd mae mewnfudo net yn fwy na 300,000. Felly, mae angen i ni gydnabod bod mewnfudo torfol yn ffactor yn y prinder tai, ac felly rydym yn cefnogi rheolaethau mewnfudo. Sef y rheswm dros ein hymgyrch i adael yr UE, y bydd rhai Aelodau’n ei chofio o bosibl.

Efallai y bydd y pleidiau adain chwith yn dechrau udo yn y fan hon fod arnom angen gweithwyr mudol. [Torri ar draws.] Efallai y bydd y rhai ar yr adain chwith yn udo yn y fan hon fod arnom angen gweithwyr mudol, ac yn wir un o’r meysydd lle mae gennym brinder sgiliau yw’r diwydiant adeiladu. Yr ateb syml i hyn yw arwain mwy o fyfyrwyr ysgol a choleg yng Nghymru tuag at brentisiaethau yn y diwydiant adeiladu. Sef y rheswm dros ein cefnogaeth i golegau technegol prifysgol, ar fodel Baker Dearing, fel sydd ganddynt yn Lloegr. Mae’r rhain wedi cael eu cefnogi gan gyn arweinydd cyngor Llafur yma yn ne Cymru hyd yn oed, sef Jeff Jones, gynt o gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cefnogi sefydlu colegau technegol prifysgol yng Nghymru. Felly, pam ddim?

Yn olaf, ar bwynt Bethan Jenkins ynglŷn â Bananarama: roedd llawer ohonom yn yr ysgol yn hoffi Bananarama cryn dipyn, er fy mod yn cyfaddef na allaf gofio unrhyw un o’u caneuon mwyach.

Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, ac yn enwedig y ffordd yr agorodd David Melding y ddadl, oherwydd, yn amlwg, o’i gosod allan, roedd dwy ran i’r ddadl hon. Y rhan gyntaf yn amlwg yw’r ddadl ideolegol, ac rwy’n gwerthfawrogi safbwynt y Llywodraeth ar yr hawl i brynu, ond mae’n ffaith mai dyma, yn ôl pob tebyg, oedd un o’r cyfryngau grymuso cymdeithasol mwyaf a gyflwynwyd gan unrhyw Lywodraeth. Heb rithyn o amheuaeth, mae’r gallu i rywun gael rhan yn y gymdeithas a bod yn berchen ar eu heiddo eu hunain—ni allwch rymuso neb yn fwy na hynny. Siaradaf fel mab i rywun a elwodd o allu prynu eu cartref a’u fferm eu hunain mewn gwirionedd, cyn symud ymlaen i fod yn berchen ar eu busnes eu hunain—fe gymeraf ymyriad mewn munud, Jenny, ond gadewch i mi symud ymlaen ychydig, ar ôl dim ond 40 eiliad. Mae’r gallu i gael rhan o’r fath yn y gymdeithas yn rhywbeth y mae’n anffodus iawn fod y Llywodraeth yma mewn gwirionedd yn mynd i ddeddfu i gael gwared arno fel hawl. Fel y soniodd Jenny yn ei chyfraniad, dywedodd mai atal dros dro fydd hyn. Nid atal dros dro mohono. Rydych yn mynd i basio deddf i’w wahardd yn y rhan hon o’r Deyrnas Unedig mewn gwirionedd. Credaf ei fod yn gam go iawn yn ôl, ac nid yw’n cyfrannu mewn unrhyw fodd at rymuso pobl i symud ymlaen mewn bywyd a chael bod yn rhan o gymdeithas yn y ffordd honno. Fe gymeraf yr ymyriad.

A ydych yn cydnabod nad yw bod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn bosibl i lawer o bobl, am nad ydynt yn ennill digon? Felly, mae tai cymdeithasol yn opsiwn llawer gwell—mae’n fwy sefydlog, yn fwy diogel na rhent preifat.

Rwy’n derbyn y pwynt nad oes un ateb syml i ddatrys yr argyfwng tai sy’n ein hwynebu, ac nid yw pasio deddfwriaeth i atal yr hawl i brynu yn mynd i fod yn ateb i bob dim i atal yr argyfwng tai sy’n ein hwynebu, gan nad ydym yn adeiladu digon o dai. Ac os nad ydych yn adeiladu digon o dai, rydych yn creu galw cronedig am hynny, mae’r prisiau tai yn codi, ac yn y pendraw rydych yn eithrio mwy a mwy o bobl o’r farchnad honno. Wrth gwrs, mae tai cymdeithasol yn rhan bwysig o’r cydbwysedd y gallwn ei ddefnyddio, ymhlith llawer o’r dulliau eraill sydd ar gael. Dyna pam roedd ail ran y cynnig, fel y’i cyflwynwyd gan David, yn cyffwrdd â’r angen i’r Llywodraeth gael polisi cydlynol mewn gwirionedd ar gyfer sut rydym yn mynd i gael tai newydd a chwblhau tai yma yng Nghymru. Ni oedd yr unig ran o’r Deyrnas Unedig lle’r aeth adeiladu tai ar yn ôl y llynedd mewn gwirionedd. Aeth tai newydd ar yn ôl mewn gwirionedd. Nawr, oni bai bod y Llywodraeth yn gallu ysgogi’r galw hwnnw drwy’r system gynllunio a chynorthwyo adeiladwyr tai, awdurdodau lleol a chymunedau lleol yn wir i weithio i ddatblygu’r cynigion hyn, yna mae eich deddfwriaeth yn mynd i fethu a chreu bwlch cymdeithasol lletach rhwng y bobl sydd eisoes â chyfran yn y gymdeithas drwy fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain a’r rhai nad ydynt yn gallu cael troed ar yr ysgol dai mewn gwirionedd.

Cofiaf yn dda, pan wnaed y cyhoeddiad cyntaf hwn y llynedd gan y Llywodraeth yma, y ​​byddent yn deddfu pe baent yn llwyddo yn yr etholiad ym mis Mai, a’r ddynes o Abertawe a wnaeth y clip ar y BBC, yn ei thŷ ei hun a brynodd yn y 1980au, yn eistedd yn ei hystafell fyw, yn dweud, ‘Pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn berchen ar ein cartref ein hunain?’ Dywedodd, gyda balchder mawr, ei bod bellach yn berchen ar ei chartref ei hun. Y peth cyntaf a wnaethant oedd newid y ffenestri yn y tŷ. Y peth nesaf a wnaethant oedd gosod gwres canolog. Y peth nesaf a wnaethant oedd uwchraddio’r ystafell fyw. Mae’n ymwneud â’r ymdeimlad o fod, yr ymdeimlad o bwrpas, ac nid ydym yn ymddiheuro fel Ceidwadwyr Cymreig ein bod yn sefyll yn gadarn iawn dros barhau’r hawl i brynu yng Nghymru, fel y mae mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Yn hytrach na bod y Llywodraeth yn defnyddio ei phwerau deddfu i wahardd yr arfer hwn—. Fe gymeraf y pwynt a wnaed gan Jenny ac Aelodau Llafur eraill yma heddiw y gallai fod angen atal mewn rhai ardaloedd; efallai fod angen cyflwyno dulliau eraill. Ond mae gwahardd egwyddor sydd wedi grymuso cymaint yn gymdeithasol dros y 30 neu 35 mlynedd diwethaf yn gymaint o gam yn ôl ac mae’n dangos y rhaniad sy’n agor yn awr yn glir. [Torri ar draws.] Croesawaf y rhaniad, gan y byddwn yn hyrwyddo parhad—fe gymeraf yr ymyriad mewn munud—yr hawl i brynu yma yng Nghymru. Fe gymeraf yr ymyriad.

A ydych yn gwybod beth yw’r data—yr ystadegau—ar lefelau adfeddiannu tai ar gyfer y rhai sydd wedi defnyddio’r hawl i brynu?

Mae yna fater yn codi ynglŷn ag adfeddiannu tai. Mae yna fater yn codi ynglŷn â’r gallu i bobl gael mynediad i’r farchnad dai yn fwy cyffredinol. Ond ni allwch ddefnyddio’r data hwnnw i gyflwyno deddfwriaeth gerbron y Cynulliad hwn mewn gwirionedd i wahardd arfer sydd wedi grymuso’n gymdeithasol i’r fath raddau. Byddai’n llawer gwell i’r Gweinidog ddefnyddio ei amser a’i adnoddau ac amser y Llywodraeth ar ddatblygu strategaeth a fydd yn arwain at gynyddu nifer y tai newydd yma yng Nghymru, a nifer y tai sy’n cwblhau yng Nghymru, fel bod mwy o stoc i bobl ei phrynu mewn gwirionedd a’u bod yn rhan o’r farchnad eiddo honno.

Drwy gyfyngu ar y cyflenwad, rydych yn gwthio’r galw i fyny ac yn y pen draw, mae pris eiddo’n codi. Felly, mae’r gwahaniaeth rhwng y cyflog fydd gan yr unigolyn i’w wario a’r gallu i gael morgais i allu prynu tŷ yn tyfu fwyfwy yma yng Nghymru. Nid yw honno’n sefyllfa gynaliadwy. Hyd yma, mae Llywodraethau Llafur olynol wedi methu mynd i’r afael â hynny. Rydych yn dechrau ar eich cyfnod, Ysgrifennydd y Cabinet; defnyddiwch y ddadl hon i drefnu sut rydych yn mynd i wneud hynny, ond byddwn yn eich annog ac yn gofyn i chi ailystyried y defnydd o ddeddfwriaeth i wahardd yr un offeryn grymusol yn gymdeithasol sydd wedi trawsnewid cymaint o fywydau yma yng Nghymru yn gyffredinol, ac yn wir, ar draws y Deyrnas Unedig.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant—Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl heddiw—y drydedd ar dai, rwy’n meddwl, yn yr un faint o wythnosau. Mae cartref diogel, sicr a fforddiadwy yn angen sylfaenol. Mae’n hanfodol i iechyd a lles pobl a’r gallu i wireddu eu potensial llawn. Mae tai yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Rwyf wedi ymrwymo’n bendant i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion tai a gwneud y gwahaniaeth go iawn y mae llawer o bobl wedi sôn amdano yn y Siambr heddiw.

Nid yw’r farchnad dai yn gweithio i bawb, ond yn ganolog i’r ddadl heddiw, rwy’n credu, mae tegwch—yr angen i sicrhau y gall y rhai nad ydynt yn gallu manteisio i’r eithaf ar y farchnad gael cartref sefydlog, fforddiadwy.

Ein rôl fel Llywodraeth yw sicrhau bod y system dai yn gweithio, gan ymyrryd yn ôl yr angen i wneud iddi weithio’n well, yn enwedig i rai difreintiedig. Mae hyn yn sylfaenol i’n nod o hyrwyddo ffyniant a chyfiawnder cymdeithasol. Mae tai cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol, ac mae eu diogelu yn un o’r ffyrdd gorau o ddefnyddio polisi tai i drechu tlodi a hyrwyddo lles cymunedau. Mae mynediad at dai gweddus, cost isel yn cynyddu incwm gwario ac yn atal amddifadedd materol. Dyma’r sbardun i gyflogaeth. Nid fy ngeiriau i, ond rhai Sefydliad Joseph Rowntree. Mae tai cymdeithasol yn darparu sylfaen gadarn i fywydau pobl ac felly’n cyfrannu at iechyd, addysg a’r nodau economaidd, a rhaid i ni beidio ag anghofio neu golli hynny byth.

O ganlyniad i’r polisi a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn 1981, rydym wedi colli nifer syfrdanol o dai cymdeithasol, mwy na 138,000 o gartrefi—bron i hanner ein holl stoc tai cymdeithasol. Mae angen camau pendant er mwyn galluogi tai cymdeithasol i fod ar gael i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, a dyma rydym yn ei wneud drwy’r Bil i roi terfyn ar yr hawl i brynu. Byddwn yn cyflwyno Bil. Rwy’n falch iawn y bydd meinciau Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig hwnnw wrth i ni fynd ag ef drwy’r Siambr. Mae’n amlwg nad yw’r gwrthbleidiau gyferbyn â mi yn gallu cefnogi’r egwyddor honno.

Ar adeg pan fo galw cynyddol am dai, rydym yn dal i weld cartrefi yn cael eu colli yn ein stoc tai. Mae hyn yn golygu bod rhai pobl, gan gynnwys pobl sy’n agored i niwed, yn gorfod aros yn hirach am gartref neu’n gorfod rhentu gan y sector rhentu preifat. Gwrandewais ar y cyfraniadau a wnaed gan rai o Aelodau’r wrthblaid am yr hawl i brynu a’r gallu i gadw stoc. Dyma’r ffeithiau: yn Lloegr—sy’n cael ei hyrwyddo ganddynt—maent yn gwerthu saith cartref tai cymdeithasol ac yn adeiladu un newydd yn eu lle. Sut y mae’r fathemateg yn gweithio?

Andrew R.T. Davies a gododd—

Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe ddywedoch fod y stoc wedi’i cholli. Fel y dywedodd David, a gyflwynodd y ddadl, roedd hwnnw’n nam ar y cynllun a gyflwynwyd—nad oedd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gymryd lle’r stoc. Pam rydych chi, felly, yn cydnabod bod yna ddiffyg o’r fath yn y cynllun gwreiddiol, yn hytrach na gwneud y cynllun yn fwy hyblyg i’r hyn sydd ei angen yn yr unfed ganrif ar hugain a chaniatáu i’r derbyniadau gael eu defnyddio mewn gwirionedd i adeiladu mwy o gartrefi, yn hytrach na gwahardd y cynllun—a defnyddio’r gyfraith i wahardd rhywbeth fel hyn?

Mae gennym lu o gynlluniau. Y model 20,000, y byddaf yn dod ato mewn eiliad—. Gwn fod David yn ceisio esgus nad yw’n deall y ffigurau, ond rwy’n gwybod bod yr Aelod yn dda am wneud hyn. Fe’u hesboniaf yn fanylach.

Gadewch i mi ddweud un ffaith sylfaenol wrthych am yr hawl i brynu a beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yn y sector hwn: y ffaith amdani yw bod gwir effaith yr hawl i brynu wedi ei gweld wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Mae ymchwil yn dangos bod cyfran sylweddol o gartrefi a werthwyd o dan yr hawl i brynu—mae mwy na 40 y cant o’r rheini wedi cyrraedd y sector rhentu preifat yn y pen draw, gan gynyddu’r union renti yr awgrymodd yr Aelod eu bod yn codi. Dyna’r union reswm pam y mae’r rhain yn eiddo anfforddiadwy. Mae’n rhaid i ni atal gwerthu mwy o dai cymdeithasol a diogelu stoc tai cymdeithasol. [Torri ar draws.] Mae’r Aelod yn dal ati i weiddi, ond mae’r ffeithiau hyn yn siarad drostynt eu hunain.

Gadewch i ni fynd at y rhifau roedd David a’i gyd-Aelodau am eu herio. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ddangos ein dull o resymu. Yr adroddiad a gomisiynwyd y cyfeiriodd yr Aelod ato—unwaith eto, mae’n ddogfen dda iawn—yw adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ‘Future Need and Demand for Housing in Wales’, ym mis Medi 2015. Roeddent yn rhagweld angen ychwanegol am 174,000 o gartrefi i gyd yn y cyfnod 2011-31. Byddai hyn yn cyfateb i 8,700 y flwyddyn, a bydd angen 5,200 ohonynt—tua 60 y cant—yn sector y farchnad, a thua 3,500—40 y cant y flwyddyn—yn y sector cymdeithasol, sef cyfanswm o 70,000 o gartrefi rhent cymdeithasol ychwanegol dros y cyfnod o 20 mlynedd nesaf.

Rydym yn glir fod ein targed o’r llynedd, a fydd—. Pan fydd yr ystadegau’n cael eu rhyddhau, rwy’n hyderus y byddwn wedi cyrraedd ein stoc o 10,000 o dai cymdeithasol yn nhymor diwethaf y Llywodraeth hon. Mae’r targed uchelgeisiol o 20,000 bellach yn rhywbeth a fydd yn cael ei gyfrannu gan lawer o gyfleoedd a chynlluniau rydym yn eu hyrwyddo, ond hefyd gan y farchnad. Cyfarfu Lesley Griffiths a minnau â’r adeiladwyr tai preifat y bore yma i siarad am faterion cynllunio ac agweddau eraill ar ddatblygu.

Ond gadewch i mi atgoffa’r Siambr hefyd fod y rhan fwyaf o’r meinciau gyferbyn, pan oeddwn yn Weinidog cynllunio, wedi ysgrifennu ataf am y cynlluniau tai cymdeithasol roeddent eisiau eu hatal yn eu cymunedau, felly peidiwch â dweud wrthyf fod angen mwy o dai arnom. Rydych yn dweud un funud eich bod eisiau mwy o dai, ond nid ydych am iddynt fod yn agos atoch chi. [Torri ar draws.]

Gadewch i mi ddweud wrthych: byddwn yn deddfu ar yr hawl i brynu yn y Siambr—[Torri ar draws.]

[Yn parhau.]—gyda chefnogaeth Plaid Cymru, a ni fydd y rhai sy’n hyrwyddo adeiladu tai yma yng Nghymru.

Diolch.

Nes y byddwch yn dawel, nid wyf yn mynd i alw ar eich person i ymateb i’r ddadl. Felly, os gallwch fod yn dawel, fe alwaf ar Suzy Davies i ymateb i’r ddadl—Suzy Davies.

Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r ddadl hon yn ymwneud â chyflenwad—cyflenwad o dai fforddiadwy mawr eu hangen. Rwy’n cydnabod, ac wrth gwrs, yn derbyn bod yna safbwyntiau gwahanol ar hyn, gyda rhai ohonynt yn seiliedig ar ideoleg a rhai’n seiliedig ar brofiad, ond nid oes yr un o’r cyfraniadau a glywais gan y pleidiau eraill heddiw yn esbonio pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei thargedau tai i adeiladu digon o gartrefi newydd, gan gynnwys tai fforddiadwy, a pham y bydd diddymu’r hawl i brynu mewn gwirionedd yn datrys y broblem honno. Mae’n ymddangos nad oes unrhyw ddirnadaeth, pe bai’r cydbwysedd rhwng y cyflenwad a’r galw yn well, gyda llif mwy sefydlog drwy’r system yng Nghymru, yna ni fyddem yn wynebu’r math o gynlluniau datblygu lleol lle rydym yn sôn am bentrefi cyfan yn ymddangos ar gyrion cymunedau sy’n bodoli’n barod, neu ruthro mawr tuag at gyflenwad mawr o dai cymdeithasol yn hytrach na chyflenwad tai cymysg. Nid wyf yn clywed dim am yr hyn sy’n digwydd gyda’r bwlch sgiliau sy’n ein hwynebu bob tro y mae yna gynnydd yn y galw am dai a gostyngiad yn y galw am dai. Ni fyddem yn wynebu i’r fath raddau y diffyg cyfatebiaeth rhwng tai pobl a’u hanghenion tai sy’n newid dros oes—nac, y wir, y byddai yna lai o bwysau ar i fyny ar brisiau tai yn y sector preifat.

Mae’r hawl i brynu yn awr yn helpu llywodraeth leol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu’r cartrefi cywir yn y mannau cywir ar wahanol adegau ym mywydau pobl. A phan fo’r disgownt yn realistig, ac nid yw wedi bod yn realistig yng Nghymru—nac yn Lloegr, mewn gwirionedd, dros gyfnod y Llywodraeth Lafur—yna gellir rhyddhau peth o’r stoc i’r sector preifat fel rhan o’r cymysgedd o berchnogaeth a rhentu, ond wedyn rydych yn adfer ecwiti i adeiladu’r stoc newydd, a gallem fod yn eu hadeiladu i ymateb yn fwy parod i gynnydd a gostyngiad yn y boblogaeth.

Pa un a ydych angen tai cymdeithasol—ac rwy’n golygu tai cymdeithasol, nawr—ar hyd eich oes ai peidio, mae’n bosibl iawn y byddwch angen y rhyddid i symud o’ch eiddo bach cyntaf, efallai i gartref mwy o faint i deulu ac efallai i mewn i eiddo arall sy’n fwy addas ar gyfer yr anghenion sy’n codi o oedran neu anabledd. Nid yw’n ymwneud yn unig â’r niferoedd roedd David Melding yn siarad amdanynt, ond â’r gymysgedd o dai sydd angen newid, ac nid yw’r gymysgedd honno o dai yn cael ei chyflenwi ar hyn o bryd. Yr hyn na ddylai tai cymdeithasol fod yw magl sy’n cadw teuluoedd mewn cartrefi sy’n rhy fach ar eu cyfer neu bobl hŷn mewn eiddo sy’n mynd yn drech na hwy. A dyna sy’n digwydd pan nad oes neb yn adeiladu tai cymdeithasol newydd. Mae Andrew R.T. Davies yn iawn: mae cael gwared ar yr opsiwn hwn yn cyfyngu ar opsiynau pobl i gynllunio eu bywydau eu hunain. Nid yw’n ymwneud â thai cymdeithasol neu dai preifat; mae’n ymwneud â’r ddau a chaniatáu i bobl bontio rhwng y ddau os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Nawr, dywedodd David Melding fod dros 8,000 o bobl ar restr aros am dai cymdeithasol ers nifer o flynyddoedd, ac nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn falch o hynny. Nid oes cyfiawnder cymdeithasol yn hynny. Nid wyf yn gwybod llawer am Keynes, David, ond rwy’n gwybod am ddatblygwyr, ar ôl gweithio gyda hwy drwy’r cyfnodau o ffyniant yn y farchnad dai a dirwasgiad yn seiliedig ar eiddo am nifer o flynyddoedd.

Rwy’n brin o amser braidd, felly os gallwch fod yn gyflym. Diolch.

Ar y pwynt am nifer y bobl sy’n aros am dai cymdeithasol, onid yw hynny’n dangos i’r Aelod fod yna broblem wirioneddol gyda phobl yn defnyddio eiddo yn y sector preifat, a’r hyn y maent ei eisiau yw tenantiaethau diogel yn y sector tai cymdeithasol?

Yr hyn y mae’n ei ddangos i mi yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn hawdd i unrhyw un adeiladu tai cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae datblygwyr yn hoffi adeiladu ystadau tai mawr, heblaw pan fo dirywiad yn yr economi pan fyddant yn wynebu llawer o risg. Yr hyn y maent yn ei hoffi, yn enwedig y math o ddatblygwyr llai o faint sydd gennym yma yng Nghymru, yw’r gwaith cyson—y broses o werthu ac adeiladu eto sydd gennych yn y broses hawl i brynu, fel rydym yn sôn amdano yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n ymwneud mewn gwirionedd â rhoi sicrwydd i ddatblygwyr llai o faint.

Bethan Jenkins, roeddech yn iawn; mae llawer o bobl yn dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, felly pam cau un llwybr sy’n eu helpu i gyflawni hynny? Mae’r hawl i brynu yn yr unfed ganrif ar hugain yn ymwneud â helpu pobl i brynu eu cartrefi eu hunain, mae hynny’n wir, ond nid ar draul tai cymdeithasol. Mae’n rhyddhau ecwiti i adeiladu’r tai cymdeithasol newydd. Byddai eich cwestiwn i’r cynghorau: pam nad ydynt yn ei ddefnyddio ar gyfer hynny? Ni allwch ddefnyddio camgymeriadau’r 1980au i ddadlau yn erbyn yr hawl i brynu yn awr. Nid yw’n cael ei ailadrodd; nid yw’r camgymeriadau hynny’n bodoli yn 2016, ac mae’n rhaid i mi ofyn o ddifrif pwy sy’n byw yn y gorffennol yn hyn o beth.

Gwnaeth Mark Isherwood y pwynt nad yw methu â chyrraedd targedau tai yn gwneud dim oll i leddfu rhestrau aros. Gellid lleihau’r rhestrau aros hynny pe bai rhai unigolion yn gadael y sector tai cymdeithasol ac yn symud i mewn i’r sector preifat, ac yna gall cynghorau adeiladu cartrefi ar gyfer y rhai lle mae yna—. Mae’n lleihau’r galw, yn ogystal â darparu stoc newydd.

Jenny Rathbone, rwy’n meddwl eich bod wedi gwneud y pwynt i ni i raddau: nid yr un un yw’r hawl i brynu yn awr â’r hawl i brynu yn yr 1980au; i bob pwrpas mae’r derbyniadau’n cyfnewid y newydd am yr hen—neu’r hen am y newydd, dylwn ddweud. Mae’n gyfarwyddyd i gynghorau ddefnyddio’r ecwiti i fynd ati i adeiladu. Ond byddwn yn cytuno bod yn rhaid i gyfradd y disgownt fod yn briodol i’r farchnad leol, fel y mae yn Lloegr yn awr. Ond ni all fod mor isel nes ei fod yn lladd y galw am hynny.

Cyfeiriodd Mohammad Asghar a Gareth Bennett at y pwynt fod lleoliad tai newydd yn ystyriaeth bwysig. Mae hynny’n wir. Bethan Jenkins, fe sonioch am yr hen broblemau gyda getos, a does neb eisiau gweld hynny eto, ond rwy’n siŵr eich bod yn falch fod y Customs House wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer tai cymdeithasol, ac y gall ein treftadaeth sefyll ochr yn ochr ac nid yn annibynnol ar ei gilydd, sy’n amlwg yn brofiad y mae Mohammad Asghar wedi’i gael yng Nghasnewydd. [Torri ar draws.] Yn bendant.

I orffen, Ysgrifennydd y Cabinet, oes, mae arnom angen cartrefi diogel a fforddiadwy—yn syml iawn felly, a wnewch chi adeiladu rhai? Diolch.

Iawn, diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Diolch. Gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 6. Dadl UKIP Cymru: HS2 a’r Rhwydwaith Rheilffordd yng Nghymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen at ein heitem nesaf ar yr agenda, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar HS2 a’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a galwaf ar David Rowlands i gynnig y cynnig. David.

Cynnig NDM6110 Neil Hamilton

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylid rhoi’r gorau i’r prosiect HS2 a defnyddio’r arbedion cyfalaf i wella’r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan gynnwys:

(a) ariannu’r gwaith o drydaneiddio prif linell rheilffordd de Cymru yn llawn, ynghyd â phrosiect metro de Cymru; a

(b) diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru yn eang.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, fadam Dirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig hwn yn enw Neil Hamilton.

Rydym yn cynnig y cynnig y dylid rhoi’r gorau i HS2 a defnyddio’r arbedion sy’n deillio o hynny i wella’r rhwydwaith presennol drwy’r DU gyfan, gan gynnwys y rhai yng Nghymru. Rydym yn dadlau nad yw’n rhy hwyr i roi diwedd ar y prosiect hwn a allai fod yn drychinebus oherwydd, er bod £2 biliwn eisoes wedi ei wario, nid oes un dywarchen wedi’i thorri eto.

Mae HS2 yn ddull o deithio a gynlluniwyd i gludo dynion busnes mwythlyd o Lundain i rai o ddinasoedd y gogledd ar gost o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr Prydain—£55 biliwn yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, ond mae’n codi’n gyflym. Yn ogystal, mae’r gost ddynol ac amgylcheddol yn anfesuradwy yn yr ystyr fod y prosiect hwn yn galw am ddinistrio o leiaf 58 o ffermydd a miloedd o gartrefi teuluol. Mewn gwirionedd, bydd y newid arfaethedig i’r llwybr ger Sheffield yn galw am ddinistrio ystad gyfan o dai, sydd ar yr union eiliad hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Mae’r cyfan yn eironig iawn o ystyried ein bod yng nghanol prinder tai trychinebus, gan gynnwys yn Sheffield ei hun, gyda 28,000 ar eu rhestr aros am dai cymdeithasol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae’r ffaith fod HS2 wedi ei gynllunio i weithredu ar 240 mya yn hytrach na gweithredu, fel y trenau cyflymder uchel cyfandirol arferol, ar 190 mya ynddo’i hun yn niweidiol i’r amgylchedd, gan ei fod yn cynyddu gollyngiadau carbon dros 20 y cant, gan dynnu tair munud a hanner yn unig oddi ar yr amser rhwng Llundain a Birmingham.

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ei hun wedi beirniadu’r cynllun, gan ddadlau bod llawer o’r dadleuon cost a budd eisoes yn cael eu herydu gan oedi a chyllidebau cynyddol. Maent hefyd yn dweud bod yr amserlenni ar gyfer cwblhau yn afrealistig, gyda 2026 o Lundain i Birmingham, 2027 i Crewe a 2033 i Fanceinion a Leeds bron yn amhosibl eu cyflawni. Ychwanegwch at hyn farn llawer o academyddion ym maes trafnidiaeth rheilffyrdd y gallai niweidio economïau trefi fel Nottingham, Stockport a Wakefield, yn hytrach na’u helpu, gan ei fod yn niweidio cysylltedd â chytrefi mwy o faint y rhanbarth mewn gwirionedd.

Roedd Richard Wellings y Sefydliad Materion Economaidd hyd yn oed yn cwestiynu cywirdeb yr honiadau y byddai’n trawsnewid economi’r rhanbarthau lle y byddai HS2 yn cysylltu’n fwyaf uniongyrchol. Felly, pa obaith y bydd unrhyw ran o Gymru yn cael manteision economaidd sylweddol? Defnyddiwyd llawer o ddadleuon arwynebol i hyrwyddo’r hyn na ellir ei alw’n ddim mwy na phrosiect porthi balchder gan Lywodraeth y DU. A dyma rai ohonynt yn unig: bydd HS2 yn creu mwy o gysylltedd rhwng y gogledd a’r de, a thrwy hynny’n creu manteision economaidd enfawr i’r rhanbarthau gogleddol. Ond mae gwrthwynebwyr yn dadlau na fydd ond yn ei gwneud yn haws i’r mwyaf disglair a’r gorau o ddinasoedd fel Manceinion, Leeds a Hull gymudo i swyddi sy’n talu’n well yn Llundain, a fyddai, wrth gwrs, yn effeithio’n niweidiol drwy golli rhai o dalentau gorau’r rhanbarth a’r golled i’r economi leol yn sgil hynny.

Gyda phob parch, David, brynhawn ddoe fe foicotiodd eich plaid y Cynulliad oherwydd eich bod yn dweud ein bod yn cael dadl ofer. Hyd yma yn y ddadl hon, nid ydych wedi siarad am ddim heblaw Lloegr. Felly, mae’r hyn sy’n iawn i’r ŵydd yn iawn i’r ceiliagwydd hefyd. [Chwerthin.]

Wel, Lee, nid wyf yn gwybod os ydych wedi sylwi ar y cynlluniau ar gyfer y rheilffordd, ond mewn gwirionedd mae’n rhedeg yn Lloegr, nid yng Nghymru. [Torri ar draws.] Byddaf yn dod at y pwynt ynglŷn â sut y bydd yn effeithio ar Gymru os rhowch amser i mi gyrraedd yno. Diolch.

Mae yna lawer hefyd sy’n dadlau mai’r ffordd i sicrhau’r cysylltedd gorau yw trwy wella rheilffyrdd presennol ac adeiladu nifer o reilffyrdd traws gwlad newydd neu hyd yn oed ailagor hen reilffyrdd traws gwlad. Byddai’r rhain, ynghyd ag uwchraddio’r cerbydau, yn lleddfu llawer o’r problemau presennol gyda chynhwysedd i deithwyr—y cyfan am ffracsiwn o gost HS2.

Yn ei adroddiad yn 2014, dadleuodd Syr Patrick McLoughlin mai’r trên o Lundain i Crewe oedd y prysuraf ym Mhrydain, gan arwain at orlenwi cronig. Fodd bynnag, erbyn adeg cyhoeddi’r adroddiad, roedd y broblem wedi’i datrys yn syml drwy ychwanegu pedwar cerbyd arall at y trenau presennol. Gyda rhaglen o estyniadau i blatfformau, mae arbenigwyr yn dadlau y gellid ychwanegu cerbydau at lawer o’n llinellau rheilffordd prysuraf eraill.

Mae cynigwyr y cynllun yn dadlau bod HS2 yn ymwneud lawn cymaint â chynhwysedd ag â chyflymder—mae trenau cyflymach yn golygu mwy o drenau. Yn wir, dyma oedd byrdwn dadl Chris Grayling ar raglen ‘Sunday Politics’ mor ddiweddar â ddydd Sul diwethaf. Pan bwyswyd arno, fodd bynnag, am ddyddiad cyflwyno a chost, roedd yn hynod o amharod i ateb, gan ddweud y byddai’r cynllun wedi’i gwblhau ar ryw adeg yn ystod y degawd nesaf.

Diben y ddadl am fwy o gynhwysedd yw taro’n ôl yn erbyn dadleuon gan arbenigwyr technegol fod llawer o’r tir rhwng Llundain a gogledd Lloegr yn anaddas ar gyfer trac cyflym heb wneud cryn dipyn o waith cryfhau ar y sylfaen. Byddai gwaith o’r fath unwaith eto yn ychwanegu biliynau at y costau adeiladu. Heb y gwelliannau hyn i’r sylfaen, byddai’n rhaid cyfyngu ar gyflymder trenau i oddeutu 150 milltir yr awr dros sawl rhan o’r rheilffordd.

Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu HS2 hefyd yn dadlau, yn ychwanegol at y rhai a nodir uchod, fod llawer o ffyrdd eraill o ychwanegu at gynhwysedd rheilffyrdd. Un argymhelliad yw cael gwared ar gerbydau dosbarth cyntaf, sydd, ar gyfartaledd, yn rhedeg ar 10 y cant o’u cynhwysedd yn unig. Wel, rwy’n gobeithio y byddai hwnnw’n ateb y byddwn yn rhagweld y byddai’n cael ei gymeradwyo’n fawr gan y ddwy blaid sosialaidd yn y Siambr hon. Yn ogystal, gyda gwelliannau addas i’r seilwaith, gellir cynyddu cynhwysedd yn sylweddol yn syml drwy ychwanegu mwy o gerbydau. Mae technolegau digidol yn caniatáu ar gyfer galluoedd signal datblygedig, ac yn ogystal â nodweddion diogelwch ar y trên, yn enwedig cyfathrebiadau rhwng y gyrrwr a’r ganolfan reoli, byddant yn caniatáu ar gyfer trenau amlach, gan y gellid lleihau pellteroedd rhwng trenau yn sylweddol heb golli diogelwch. Byddai’r gwelliannau a nodwyd uchod o’u cymhwyso ar gyfer rhwydwaith y DU yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys Cymru wrth gwrs, yn llawer rhatach ac yn llawer mwy effeithiol nag un cysylltiad cyflym costus rhwng Llundain a’r gogledd.

Ac yn awr, a gaf fi droi at gysylltiad Cymru? [Torri ar draws.] A gaf fi droi at gysylltiad Cymru, neu a ddylwn i ddweud ‘diffyg cysylltiad’ â’r prosiect HS2 hwn? Mae ACau Plaid Cymru yn honni eu bod wedi sicrhau £84 miliwn ychwanegol i gyllideb drafnidiaeth Cymru, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyllideb drafnidiaeth ar gyfer HS2, gan honni hefyd, gyda llaw, na neidiodd y Blaid Lafur ar y wagen, os maddeuwch y gair mwys, hyd nes yn hwyr iawn yn y dydd. Er mor ganmoladwy yw’r cyflawniad hwn, nid yw ond yn arwydd o’r ffaith fod Llywodraeth y DU yn derbyn nid yn unig nad yw prosiect HS2 o fudd i economi Cymru, ond mewn gwirionedd ei fod yn niweidiol iddi.

Mae rhai sylwebyddion yn dweud bod yr effaith negyddol hon dros oes y rheilffordd oddeutu £4 biliwn—ffigwr y dadleuant y dylid ei ychwanegu, ynghyd â’r effaith niweidiol o £1.4 biliwn i economi Gogledd Iwerddon, at gost gyffredinol HS2. Hynny yw, wrth gwrs, os yw’r ffigur iawndal hwn i’w dalu fel y dylai i’r ddwy Lywodraeth ddatganoledig.

Mae Plaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi bod yn simsanu dros y prosiect hwn byth ers iddo gael ei ystyried gyntaf, gyda Phlaid Cymru â’r ddeuoliaeth o gael eu Haelodau Seneddol yn pleidleisio yn erbyn HS2. Y ffaith amdani yw bod Plaid Cymru a Llafur i’w gweld yn nodi’r taliad canlyniadol fel y rheswm dros gefnogi’r prosiect hwn. Dau bwynt yn unig ar y mater hwnnw: dylai taliadau canlyniadol gael eu gwneud—a byddent yn cael eu gwneud—ar gyfer unrhyw gynnydd yn nyraniad y Llywodraeth i’r gyllideb drafnidiaeth, waeth ble y gwerid y cynnydd hwnnw. Felly, pe bai’r Llywodraeth yn dewis gwario’r cynnydd yn y gyllideb HS2 ar wella’r rhwydwaith rheilffyrdd yn gyffredinol, gallem ddal i ddisgwyl cael y taliad canlyniadol hwn—oni bai bod Plaid Cymru a Llafur, wrth gwrs, yn dosbarthu’r taliad canlyniadol hwn fel taliad digolledu. Byddai taliad digolledu, wrth gwrs, yn briodol, gan fod llawer o adroddiadau, gan gynnwys dau gan KPMG, un ar gyfer HS2 Ltd ei hun ac un ar gyfer y BBC hefyd, wedi amcangyfrif bod y gost negyddol i economi Cymru oddeutu £200 miliwn y flwyddyn.

Fel y nodwyd uchod, ni fydd unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng HS2 a Chymru, nid i’r de, nid i’r canolbarth nac i’r gogledd. Yn wir, y ddinas sy’n dylanwadu fwyaf yn ôl pob tebyg ar economi gogledd Cymru, oni bai ein bod diystyru Crewe yma, yw Lerpwl ei hun. Ni fydd gan Lerpwl ei hun unrhyw gysylltiad uniongyrchol â HS2, a deallir bod system metro Lerpwl wedi dod i stop 40 mlynedd yn ôl oherwydd diffyg cyllid, gyda 4.5 milltir o dwneli heb drac na threnau. A yw ein cynlluniau metro uchelgeisiol i ddod i stop yn yr un modd drwy ddiffyg cyllid Llywodraeth y DU, wrth i gostau HS2 esgyn allan o reolaeth, costau sydd eisoes wedi codi o £17 biliwn yn 2013 i’r amcangyfrifon presennol o £55 biliwn? Nid yn unig hynny, ond byddai’n rhaid i unrhyw welliannau seilwaith rheilffyrdd a gynlluniwyd ar gyfer Cymru gystadlu am y gweithlu medrus a’r cyfarpar a fyddai’n cael eu sugno’n anochel i mewn i brosiect mor enfawr â HS2. Gadewch i ni atgoffa ein hunain y byddai ffracsiwn yn unig o’r £55 biliwn a mwy nid yn unig yn caniatáu i ni drydaneiddio i Abertawe, ond i Gaerfyrddin hyd yn oed. Byddai hefyd yn ein galluogi i drydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd de Cymru ac yn caniatáu ar gyfer llawer o seilwaith gwell, gan gynnwys trydaneiddio’r rheilffordd sy’n gwasanaethu gogledd Cymru.

I gloi, rwy’n dweud wrthych na fydd HS2 o fudd i economi Cymru. Yn wir mae’n niweidiol iddi. Felly, os ydych yn credu o ddifrif mewn economi ffyniannus a chynhyrchiol i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain, ni allwch ond cefnogi’r cynnig hwn.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rwy’n galw ar Russell George i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies ac wrth wneud hynny, rwy’n nodi fy siom fod UKIP wedi cyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Mae’n ymddangos bod yna fethiant i gydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd y bydd HS2 yn eu dwyn i bobl canolbarth a gogledd Cymru yn arbennig. Mae gwrthod y cynllun a fydd yn asgwrn cefn, rwy’n meddwl, i rwydwaith rheilffyrdd y DU yn dangos y diffyg uchelgais sydd gennych yn UKIP ar gyfer y DU ac wrth gwrs, ar gyfer Cymru hefyd.

Hefyd, rwy’n ymwybodol fod rhai aelodau o’r grŵp UKIP yma yn cefnogi’r cynllun, cyn iddynt ymuno ag UKIP o leiaf—. Nodaf yma ddyfyniad gan Mark Reckless: ‘yn falch o bleidleisio dros HS2’ a gwneud yr ‘achos cadarnhaol’ dros y fenter, gan ychwanegu bod yr amcangyfrifon yn ‘hynod o geidwadol’. Wrth gwrs, aeth Mark Reckless ymlaen hefyd i gynhyrchu blog sydd, mewn gwirionedd, yn manylu ar ei gefnogaeth, ond rwy’n derbyn nad yw UKIP yn defnyddio’r chwip ar eu grŵp, felly edrychaf ymlaen at weld Mark Reckless yn gwrthod y cynnig ac yn cefnogi ein gwelliannau yn nes ymlaen.

Nawr, dywedir wrthym, wrth gwrs, y bydd HS2 yn agor yn 2026. Bydd HS2 yn gwasanaethu’r trefi a’r dinasoedd allweddol ledled Lloegr, a hefyd, wrth gwrs, yn rhedeg i fyny i’r Alban hefyd. Ond drwy ddarparu—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.

Ar gyfer y cofnod, roeddwn wedi gweld lle i’r HS2 gefnogi economi Rochester a Stroud ar yr adeg yr addawyd cysylltiad ar draws Llundain i fynd â threnau uniongyrchol o Ebbsfleet i Manceinion a Birmingham. Tynnwyd hynny allan o’r prosiect wedyn, a thynnais fy nghefnogaeth yn ôl a chytuno gyda fy nghyd-Aelod na fyddai o fudd i economi Cymru.

O, iawn. Wel, mae gennyf eich blog o fy mlaen yma, ond mae’n gwrthddweud rhai o’r pwyntiau a wnaeth eich cyd-Aelod, sy’n eistedd wrth eich ymyl, yn llwyr. Efallai y gwnaf ei drosglwyddo i David Rowlands i’w ddarllen ychydig yn nes ymlaen.

Nawr, ble roeddwn i? Ble roeddwn i? Iawn. Bydd hyd yn oed y bobl nad ydynt yn defnyddio trenau yn elwa hefyd wrth gwrs, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Mae yna fanteision, wrth gwrs, i greu swyddi a phrentisiaethau, a grëwyd yng nghanolfan HS2 yn Crewe, ac wrth gwrs, y cysylltiadau gwell a ddaw i ogledd a chanolbarth Cymru yn ei sgil.

Yn ddiweddar cawsom ddadl yn y Siambr hon am y cyfleoedd a’r heriau o gydweithredu’n drawsffiniol a’r angen i wella cysylltedd rhwng gogledd Cymru a’r pwerdy sy’n dod i’r amlwg yng ngogledd Lloegr. Efallai nad oedd Aelodau UKIP yn bresennol ar gyfer y ddadl, ond o’r hyn a gofiaf, cafwyd cytundeb cyffredinol yn y Siambr fod gennym botensial, drwy gadarnhau gogledd Cymru fel rhan hanfodol o’r rhanbarth economaidd newydd sydd eisoes yn bodoli, i hwyluso twf sylweddol yng nghanolbarth Cymru, ac i ailgydbwyso economi Cymru yn ogystal, sy’n bwysig, rwy’n meddwl, i ffwrdd rhag gorddibyniaeth ar Gaerdydd a de Cymru.

Yn olaf, wrth gwrs, y mater arall yw hwn: rwy’n credu ei bod yn bwysig, wrth gwrs, fod angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth y DU a chyrff rhanbarthol eraill hefyd i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl gogledd Cymru. Rwy’n gobeithio’n fawr y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar hynny yn ei gyfraniad efallai, ond rwy’n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig hwn heddiw ac i gefnogi ein gwelliannau.

Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU:

(a) i gyhoeddi amserlen ar gyfer trydaneiddio prif linell de Cymru hyd at Abertawe;

(b) i ariannu’n llawn y gwaith o drydaneiddio prif linell gogledd Cymru a llinellau cymoedd y de;

(c) i warantu holl arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Metro De Cymru; a

(d) i gychwyn trafodaethau ar drosglwyddo’r cyllid a’r cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd i Weinidogion Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Member
Ken Skates 17:32:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu mai prosiect seilwaith i Loegr yn unig yw prosiect HS2 ac y dylai Cymru dderbyn cyllid canlyniadol Barnett sy’n adlewyrchu hyn.

2. Yn credu y dylai’r cyllid a dderbynnir fel cyllid canlyniadol Barnett gael ei ddefnyddio i greu seilwaith trafnidiaeth effeithiol sy’n cysylltu holl ranbarthau Cymru â’i gilydd, ac y dylai hyn gynnwys y prosiectau canlynol:

(a) gwella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru; gwella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de; a chreu rhwydweithiau rhanbarthol yn ein prif ardaloedd trefol fel prosiect metro de Cymru a phrosiect metro eang yng ngogledd Cymru;

(b) atebion trafnidiaeth sy’n addas i Gymru wledig a’i heriau demograffig a daearyddol penodol; ac

(c) trydaneiddio prif linellau rheilffordd gogledd a de Cymru, a gwaith diweddaru eang ar rwydwaith ffyrdd ehangach Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Wel, diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma, er rwyf mewn cryn benbleth, y mae’n rhaid i mi ddweud, achos nid yn aml rwy’n sefyll i siarad am rywbeth sydd yn ddim byd i’w wneud efo ni yma yng Nghymru. Rydym ni’n sôn am brosiect seilwaith i Loegr yn unig. Dyna beth yw HS2. Wrth gwrs, os bydd y peth yn cael ei basio, byddwn ni i gyd yn talu amdano fe, ond nid ydym ni’n gwneud y penderfyniad yn y fan hon. Mae’r penderfyniad yn cael ei wneud mewn lle arall. Felly, rwyf mewn cryn dipyn o benbleth, gallaf ddweud.

Beth y buaswn i yn ei ddweud yw, os yw’r prosiect HS2 yma yn mynd yn ei flaen, dylem ni gael yma yng Nghymru y cyllid canlyniadol Barnett i adlewyrchu’r ffaith yna, achos mae yna gynifer o brosiectau mawr, gan gynnwys rheilffyrdd, sydd wedi digwydd yn Lloegr o’r blaen ac nid ydym ni wedi cael yr arian canlyniadol Barnett o hynny—megis y llinell Jubilee, megis Crossrail. Nid oes dim byd wedi dod i lawr i’r fan hon fel arian canlyniadol o hynny. Wedyn, os yw’r prosiect yma yn mynd yn ei flaen, ein gobaith ni yn y Blaid yw y byddwn ni’n cael arian sylweddol—sylweddol yn nhermau Cymru, beth bynnag—fel cyllid canlyniadol Barnett.

Yn y bôn, dywedodd rhywun rywbryd, os ydych chi eisiau mynd o Lundain i Birmingham 20 munud ynghynt, wel daliwch y trên cynnar, onid efe? Daliwch y trên cynharach. Nid oes yn rhaid gwario miliynau ar drên fel hyn. Wedi dweud hynny, mae angen arian i’w fuddsoddi mewn gwell cysylltiadau yma yng Nghymru. Ac fe wnaf achub ar y cyfle i sôn am hynny achos yr acen yn y lle yma yw sôn am effaith prosiectau ar Gymru. Mae’n ddirfawr amlwg bod angen gwella cysylltiadau rhwng de a gogledd Cymru. Mae yna sawl prosiect yn yr arfaeth. Wrth gwrs, rydym ni hefyd yn sôn am yr angen i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe. Mae hynny o dan fygythiad, wedi pleidlais Brexit. Mae yna nifer o gynlluniau i wella ffyrdd de-gogledd, gogledd-de, yn ogystal â gwella’r rheilffyrdd gogledd-de, de-gogledd, sydd angen buddsoddiad ynddyn nhw rŵan. Buaswn i hefyd yn licio gweld ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, er enghraifft, er mwyn i ni allu sôn am brosiectau sy’n debygol o ddigwydd o fewn ffiniau Cymru, achos dyna’r peth y dylem ni fod yn dadlau arno fo yn y lle hwn yn gyson.

Mae pobl wastad yn mynd i ddweud, ‘O le y buasech chi’n cael y pres?’ Wel, os yw HS2 yn mynd i gael ei adeiladu, fel rydw i wedi dweud eisoes, rydym ni’n mynnu arian canlyniadol Barnett o hynny, achos nid yw wastad yn digwydd, o bell ffordd. Dyna pam y gwnaethom ni lansio, yr wythnos hon, y NICW—ein NICW ni, ontefe? Ein comisiwn seilwaith cenedlaethol a fydd yn arf ac yn gorff a fydd yn galluogi benthyca ar raddfa eang; benthyca pan fydd yn rhad i wneud hynny, fel y mae o ar hyn o bryd; ac yn gorff lled braich i ddenu buddsoddiad enfawr er mwyn inni allu gwireddu rhai o’r dyheadau sydd gennym ni. Mae yna tua £40 biliwn o brosiectau isadeiledd yn y ‘pipeline’ yma yng Nghymru, ac nid oes yna ddim ‘prospect’ gan yr un ohonynt i weld golau dydd ar hyn o bryd. Mae’n rhaid inni feddwl yn llawer iawn ehangach ac yn llawer iawn mwy mentrus ynglŷn â sut rydym yn mynd i’r afael â’r angen i wella ein hisadeiledd ni.

I droi at y terfyn, rydym ni wedi cael dadl gan UKIP ar ysgolion gramadeg, sydd yn bod yn Lloegr ac nid yng Nghymru, ac rydym ni’n cael dadl heddiw ar HS2 sydd yn brosiect isadeiledd i Loegr, nid yng Nghymru. Beth nesaf? Beth fydd pwnc nesaf dadl UKIP yn y lle hwn? Dadl ar gynllun datblygu gwledig Wiltshire, efallai? Diolch yn fawr.

Yma, bythefnos yn ôl, ymunodd UKIP â’r pleidiau eraill i gytuno ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gynigiwyd gennyf fi, cynnig a oedd yn cydnabod bod yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd gogledd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gyflwyno gwelliannau i reilffordd gogledd Cymru. Felly mae’n ddryslyd braidd eu bod, wrth alw heddiw am ddileu prosiect HS2 a defnyddio’r arbedion cyfalaf, a dyfynnaf, ‘i wella’r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan gynnwys... diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru’, yn mabwysiadu safbwynt anghyson sy’n gwrthddweud ei hun yn llwyr mewn gwirionedd.

Mae adroddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’, a gefnogir gan arweinwyr a phrif weithredwyr y chwe awdurdod unedol yn y rhanbarth, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, y ddwy brifysgol a’r ddau grŵp o golegau addysg bellach, yn galw am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth. Mae’r cynllun seilwaith i alluogi twf, a nodir o’i fewn, yn cynnwys cyflwyno prosbectws manwl o’r enw ‘Growth Track 360’,

ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffordd a chysylltedd gyda HS2 yng nghanolfan Crewe—yn cynnwys argymhellion i wella: Gwella amlder a chyflymder gwasanaethau...; Gwella cynhwysedd y rhwydwaith...; Gwella’r stoc gerbydau...; Trydaneiddio’r rhwydwaith...; Gorsafoedd gwell yng Nglannau Dyfrdwy ‘.

Pleidleisiodd UKIP dros hyn bythefnos yn ôl. Cyhoeddwyd y prosbectws ‘Growth Track 360’ ei hun ym mis Mai 2016 gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a galwai am fuddsoddi sylweddol mewn rheilffyrdd i alluogi twf yn economi drawsffiniol gogledd Cymru a rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy.

Lansiwyd ‘Growth Track 360’, y cyfeirir ato yn y ddogfen, er mwyn sicrhau £1 biliwn o welliannau i’r rheilffyrdd er mwyn trawsnewid economi ranbarthol gogledd Cymru a Swydd Gaer a darparu 70,000 o swyddi newydd dros 20 mlynedd. Mae ei alwadau yn cynnwys, ac rwy’n dyfynnu ohono:

Trydaneiddio’r rheilffordd o Crewe i Ogledd Cymru er mwyn gallu cysylltu’r rhanbarth â HS2 ac er mwyn i drenau cyflym Llundain allu mynd yn eu blaen i Fangor a Chaergybi.

Mae’r buddsoddiadau hanfodol y mae’n manylu arnynt yn cynnwys, a dyfynnaf,

Paratoi ar gyfer HS2... Trydaneiddio rhwng Crewe a Chaergybi: Cyfanswm effaith/ cyfraniad i’r economi o £2.5bn; Caniatáu i drenau Pendolino allu rhedeg o Crewe i Arfordir Gogledd Cymru, a gwasanaethau clasurol sy’n gydnaws â HS2 o bosibl; Er mwyn hwyluso gwasanaethau trydanol i redeg rhwng Arfordir Gogledd Cymru a Manceinion/Maes Awyr Manceinion a chysylltu â Northern Powerhouse Rail.

Mae’r gwelliannau i’r gwasanaeth y mae’n eu rhestru yn cynnwys

Un trên yr awr: Caergybi—Caer—Crewe—Llundain (Euston) (cysylltedd HS2 uniongyrchol).

O dan ‘adenillion ar fuddsoddiad’ a’r hyn y mae’n ei ddiffinio fel ‘cymhareb cost a budd cadarnhaol’, mae’n dweud y bydd paratoi ar gyfer HS2 yn hwyluso

gallu i ymestyn gwasanaethau Pendolino a HS2 y tu hwnt i Crewe i Gaer a Gogledd Cymru

a

Chysylltedd gyda Lerpwl, Manceinion, Leeds a Phwerdy’r Gogledd.

Mae cynhwysedd ychwanegol, gydag amserau teithio cyflymach, yn hanfodol ar gyfer cymudwyr a chludiant nwyddau, ac mae gallu cysylltu â HS2—ac rwy’n dyfynnu eto o ddogfen ‘Growth Track 360’—yn golygu na all cwmnïau a phobl sy’n ystyried adleoli ddiystyru gogledd Cymru. Bydd cael gwared ar rwystrau a grëwyd gan ddiffyg seilwaith rheilffyrdd yn lleihau tagfeydd, yn gwella logisteg busnesau ac yn denu buddsoddiad a swyddi.

Felly, er budd cysondeb ac undod â gogledd Cymru, rwy’n annog UKIP i gydnabod, fel y gwnaethant bythefnos yn ôl, fod llwyddiant y weledigaeth ar gyfer twf yr economi yng ngogledd Cymru yn seiliedig i raddau helaeth ar gadw prosiect HS2 ac felly i ddychwelyd at y safbwynt a gefnogwyd ganddynt yma bythefnos yn ôl. Diolch.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Member
Ken Skates 17:41:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a chroesawu’r cyfle i drafod y mater pwysig hwn? Rwy’n credu bod gennym ger ein bron gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddatblygu seilwaith trafnidiaeth o’r radd flaenaf yng Nghymru. Ynghyd â metro’r de a metro’r gogledd-ddwyrain, masnachfraint newydd Cymru a’r gororau, gwaith gwella ar yr A55, ffordd liniaru’r M4, ailffurfio ein rhwydwaith bysiau a’r llwyfan y mae ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei roi i ni i gyflawni newid moddol, rwy’n credu bod gennym gyfle gwych i greu system drafnidiaeth integredig o safon ryngwladol ledled Cymru.

Mae’r integreiddio hwnnw’n hanfodol. Mae’n hanfodol am fod system drafnidiaeth o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn darparu mynediad at swyddi a gwasanaethau. Yn ei dro, mae’n ganolog i economi sy’n cyflawni ar lefel uchel, ac mae gan ein rhwydwaith rheilffyrdd rôl ganolog i’w chwarae yn hynny. Credaf y bydd cysylltiadau teithio pellter hir effeithlon a datblygu HS2 yn sicrhau manteision sylweddol i ganolbarth a gogledd Cymru fel rhan o rwydwaith rheilffyrdd integredig ar draws y DU. A rhennir y safbwynt hwn yn llwyr gan gyfranogwyr ‘Growth Track 360’, gan gynnwys addysg bellach, awdurdodau lleol, cynghorau yn Lloegr ac wrth gwrs, y sector preifat.

Rwyf am wneud yn siŵr ei fod yn cael integreiddio’n briodol, fodd bynnag, i economi gogledd Cymru. Gellid rhyddhau potensial aruthrol y rhanbarth pe bai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyllid i drydaneiddio prif reilffordd arfordir gogledd Cymru rhwng Caergybi a Llandudno i Warrington a Crewe, a datblygu canolfan gwbl integredig yn Crewe. Yn y pen draw, gallai hyn alluogi trenau sy’n teithio i ac o ogledd Cymru i ddefnyddio seilwaith cyflym newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau manteision gorau HS2, ond rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU hyd yn hyn wedi cytuno i ddatganoli cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd a phwerau i gyfarwyddo Network Rail, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddechrau trafodaethau ar y setliad datganoli llawn a argymhellir gan y comisiwn.

Er nad yw cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, rydym wedi defnyddio ein pwerau i fuddsoddi mewn gwelliannau i’r rheilffyrdd, gan gynnwys rheilffordd y Cambrian a rhwng Saltney a Wrecsam. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington i ddatblygu’r achos busnes strategol amlinellol ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd fel na fydd ein seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru yn llithro ymhellach ar ôl yr hyn y mae gweddill Prydain yn ei fwynhau.

Nid yw hanes diweddar yn gadarnhaol, fodd bynnag. Mae data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn dangos mai oddeutu 1 y cant yn unig o fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn gwelliannau i’r seilwaith rheilffyrdd a wariwyd yn ardal y llwybr yng Nghymru rhwng 2011 a 2015. Rwy’n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi ymrwymiad y bydd yn gwario ei chyfran deg o fuddsoddiad ar welliannau i’r rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod y cyfnod ariannu nesaf.

Mae angen i’r setliad gydnabod y tanfuddsoddi hanesyddol a welsom yng Nghymru, a’r ffaith fod llwybr Network Rail Cymru yn ymestyn i mewn i Loegr. Nawr, nid wyf yn dymuno rhoi’r gert o flaen y ceffyl, ond rwy’n pwyso ar Lywodraeth y DU yn awr am gadarnhad y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno’n syth ar ôl cwblhau’r trydaneiddio i Gaerdydd yn 2018. Y cynllun i ymestyn i Abertawe yw hwn wrth gwrs. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cadarnhau na fydd Cymru ar ei cholled yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. O arwyddocâd allweddol o ran cyllid ar gyfer darparu metro de Cymru a thrydaneiddio i Aberdaugleddau a Chaergybi, fel sy’n ofynnol erbyn 2030 o dan y rheoliadau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd, rhaid sicrhau bod cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU i gyflawni’r gofynion hyn. Mae ar Gymru ei angen, ac mae ar ein heconomi ei angen.

Ie, diolch. Diolch i chi gyd am eich cyfraniadau i’r ddadl hon. Fe soniaf am Russell George pan ddywedodd ein bod yn methu cydnabod y manteision. Ond mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr economaidd yn dweud na fydd unrhyw fanteision i economi Cymru os caiff HS2 ei hadeiladu. Ac yna aeth Mark Isherwood ymlaen i sôn am y ddogfen ffansïol hon, lle bydd Llywodraeth y DU yn gwneud yn hollol sicr y byddant yn trydaneiddio gogledd Cymru, er y gallai’r prosiect hwn fod wedi costio biliynau o bunnoedd yn fwy. Dai Lloyd—wel, rwy’n eithaf dryslyd a dweud y gwir, Dai, gan fod pawb arall yn y Siambr hon yn cydnabod bod y prosiect hwn yn effeithio ar Gymru mewn ffordd—naill ai, fel y dadleuwn ni, mewn modd niweidiol, neu fel y mae pobl eraill sydd wedi siarad—[Torri ar draws] A gaf fi ateb hyn? Diolch. Mae eraill yn dweud y bydd o fudd mawr iddi. Ond, wyddoch chi, yn ystod yr holl ddadleuon ar adael yr UE, clywsom lu o amheuon yn cael eu lleisio gan Blaid Cymru ynglŷn â pharodrwydd Llywodraeth y DU i drosglwyddo’r cyllid a oedd yn dod yn flaenorol i Gymru o Frwsel. Eto i gyd, yma, maent yn hollol fodlon dibynnu ar haelioni honedig ddiddiwedd yr un sefydliad i ariannu economi Cymru ar ffurf taliadau canlyniadol. Achos gwaeth na’r un, os caf ddweud, o ragrith noeth.[Torri ar draws.] Roeddwn yn gwneud yr union bwynt. Wel—

Ken Skates—fe soniaf am yr hyn oedd gan Ken i’w ddweud. Ken, ategaf eich holl ddyheadau i wella’r system drafnidiaeth yng Nghymru, a dyna’r union ddadl rydym yn ei chyflwyno heddiw: y bydd cyllid y prosiect HS2 yn effeithio’n aruthrol ar eich gallu chi eich hun, gan ddefnyddio eich holl sgiliau, ac rwy’n siŵr y gwnewch, i gael cymaint o arian ar gyfer y gwaith uwchraddio angenrheidiol ag y bydd ei angen arnom mewn gwirionedd yng Nghymru. A’r hyn rydym yn ei ddweud yw hyn: pe bai’r prosiect hwn yn cael ei roi heibio, byddai’r oddeutu £50 biliwn, a fydd yn ôl pob tebyg yn £70 biliwn yn y pen draw, yn cael ei wario’n well o lawer ar uwchraddio’r rhwydwaith cyffredinol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ond yn bendant felly ledled Cymru hefyd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriwyd y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

8. 7. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf ar ddadl Plaid Cymru, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 10, Yn erbyn 43, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6111.

Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 43, Yn erbyn 10, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6111.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 16, Yn erbyn 37, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6111.

Cynnig NDM6111 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi gwarant diamod i ariannu pob prosiect a gontractiwyd o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ar ôl Datganiad yr Hydref tan 2023.

2. Yn cadarnhau mai parhau’n rhan o’r farchnad sengl yw’r dewis gorau ar hyn o bryd i sicrhau mynediad heb dariff a chwota i’r farchnad honno.

3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw gweithwyr mudol i’r economi wledig.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pedwar deg pedwar o blaid, 10 yn ymatal, a neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6111 fel y’i diwygiwyd: O blaid 44, Yn erbyn 0, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6111 fel y’i diwygiwyd.

Y bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6112.

Gwelliant 1: os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 15, Yn erbyn 39, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6112.

Gwelliant 2: rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 38, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6112.

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, a neb yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 54, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6112.

Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6112 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw stryd fawr fywiog ac amrywiol er mwyn cefnogi mentrau lleol.

2. Yn gresynu bod nifer y siopau gwag ar ein stryd fawr yn gyson uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU.

3. Yn gresynu at golli asedion cymunedol neu wasanaethau lleol o ganlyniad i’r defnydd ysgafn o’r stryd fawr yng Nghymru.

4. Yn cytuno i edrych ymhellach ar briodoldeb sefydlu cronfa newydd a fydd yn galluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig cyfleusterau parcio am ddim mewn trefi ledled Cymru, a rhoi hwb hanfodol i adfywio canol trefi.

5. Yn cydnabod pwysigrwydd busnesau sy’n cynnig gwasanaethau ar y stryd fawr.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6112 fel y’i diwygiwyd: O blaid 54, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6112 fel y’i diwygiwyd.

Pleidlais nawr ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6109.

Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 38, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6109.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 53, un yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6109.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 48, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 48, Yn erbyn 0, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6109.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 48, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 48, Yn erbyn 0, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6109.

Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6109 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddirymu’r fenter ‘hawl i brynu’.

2. Yn credu bod pobl yn fwy tebygol o allu bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain os yw’r economi yn gryfach, os yw cyflogaeth yn fwy sicr a bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud mwy i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.

3. Yn cydnabod nad perchnogaeth cartref yw’r unig opsiwn, ac y dylai cartrefi cymdeithasol gael yr un statws â pherchnogaeth cartref.

4. Yn credu y gallai ailddosbarthu benthyciadau cymdeithasau tai fel dyled sector cyhoeddus gael effaith andwyol ar dargedau adeiladu tai, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, gan gynnwys deddfu os oes angen, i sicrhau nad yw hyn yn cyfyngu ar allu cymdeithasau tai i gyllido adeiladu cartrefi newydd neu welliannau i gartrefi yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 48, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6109 fel y’i diwygiwyd: O blaid 48, Yn erbyn 0, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6109 fel y’i diwygiwyd.

Y bleidlais olaf ar ddadl UKIP, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid chwech, neb yn ymatal, 48 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 6, Yn erbyn 48, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6110.

Symud yn awr i welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, yn erbyn 44. Felly, mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 10, Yn erbyn 44, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6110.

Gwelliant 2. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 38, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6110.

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM6110 fel y’i diwygiwyd:

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU:

(a) i gyhoeddi amserlen ar gyfer trydaneiddio prif linell de Cymru hyd at Abertawe;

(b) i ariannu’n llawn y gwaith o drydaneiddio prif linell gogledd Cymru a llinellau cymoedd y de;

(c) i warantu holl arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Metro De Cymru; a

(d) i gychwyn trafodaethau ar drosglwyddo’r cyllid a’r cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd i Weinidogion Cymru.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6110 fel y’i diwygiwyd: O blaid 46, Yn erbyn 8, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6110 fel y’i diwygiwyd.

Yr ydym ni’n symud i’r eitem nesaf ar yr agenda. I’r rhai ohonoch chi sy’n gadael—

do so quietly, swiftly.

9. 8. Dadl Fer: Diogelwch, Storio a Gwaredu Biomas a Chynnyrch Pren Halogedig gan Gwmni South Wales Wood Recycling

Y ddadl fer yw’r eitem nesaf ar yr agenda. Rydw i’n galw ar Huw Irranca-Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf cafwyd cyfarfod yn neuadd gymunedol Heol-y-cyw a ddenodd lond y neuadd o bobl. Rwy’n dyfalu bod yna dros 150 o bobl yn bresennol oherwydd, yn ogystal â bod pob sedd yn llawn, roedd pobl yn sefyll yn yr eiliau ac o gwmpas y waliau. Daeth pobl hen ac ifanc i fynegi eu pryderon am dân a oedd wedi llosgi ar safle South Wales Wood Recycling Ltd yn Heol-y-cyw, gan achosi i fwrllwch trwchus annymunol lifo ar draws y pentref a’r ardaloedd cyfagos. Fe’i gwelais gyntaf pan edrychais i lawr cwm Llynfi yn gynnar un bore o fy nghartref sawl milltir i ffwrdd ym Maesteg—cwmwl trwchus o fwg, a oedd yn amlwg iawn o ben y bryn. Roedd fel ‘Groundhog Day’ a meddyliais yn syth, ‘Mawredd, tân pren arall yn union fel yr un ger Y Goetre-hen yn gynharach yn y flwyddyn’. Yn wir, yn gynharach, ym mis Mawrth y flwyddyn honno, roeddwn wedi gyrru i lawr cwm Llynfi isaf i mewn i fwrllwch trwchus gwyn tebyg a oedd yn arafu’r traffig bron i stop. Roedd gwaelod y cwm i gyd wedi’i lyncu gan gwmwl o fwg drewllyd a wnâi i chi beswch, mwg a oedd yn hofran ac yn setlo ar lawr y cwm. Bu’n rhaid i drigolion Betws, Shwt a’r Goetre-hen gerllaw ddioddef y gwaethaf o hyn am ddyddiau, ond roedd pobl mor bell i ffwrdd â Phen-y-bont ar Ogwr yn sôn am ei effeithiau.

Yr hyn sy’n cysylltu’r ddau dân yw cwmni o’r enw South Wales Wood Recycling. Mae’r trigolion eisiau gwybod beth sy’n digwydd, a minnau hefyd. Mae’r ymchwiliadau yn mynd rhagddynt, felly ni fydd dim rwy’n ei ddweud heddiw yn peryglu’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw gamau gweithredu cysylltiedig. Fodd bynnag, fe fyddaf yn drylwyr wrth fynegi pryderon fy etholwyr a gofyn am roi camau gweithredu ar waith fel eu Haelod Cynulliad. Ac fel deddfwr yn Senedd Cymru, fe fyddaf yn benodol wrth awgrymu gwelliannau i’r gyfundrefn gyfreithiol a rheoleiddiol gyfredol.

Dyma hanfod y mater: mae cwmni South Wales Wood Recycling, cwmni sydd â chanolfan ailgylchu yn Heol-y-cyw yn fy etholaeth i, wedi cael tri thân bellach mewn pentyrrau o fiomas neu wastraff pren halogedig dros y flwyddyn ddiwethaf, mewn tri lleoliad gwahanol. Gellid ystyried bod un tân yn ddigwyddiad anffodus, ond tri? Wel, mae hyn yn creu pryderon sylweddol. Dechreuodd y tân cyntaf yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd y llynedd a llosgodd am fwy na dau fis. Gwyliais hyn ar y newyddion gyda diddordeb a phryder, ond ‘mae Casnewydd yn bell o Ogwr a, wel, mae’n siŵr mai un digwyddiad ar ei ben ei hun yw hwn’.

Roedd yr ail ym mis Mawrth, fel y dywedais, rhwng y Goetre-hen a Llangynwyd yng nghwm Llynfi isaf, filltir neu ddwy o fy nghartref. Nid oedd hwn yn safle a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosesu neu storio biomas na gwastraff pren yn ôl yr hyn roeddwn i a’r bobl leol eraill yn ei ddeall, ac yn lleol mae’r bobl leol yn pryderu nad oedd y tân hwn a’r tân yn Heol-y-cyw yn llosgi biomas o gwbl—hynny yw, coed glân, gwyryfol—ond gallai fod, yn lle hynny, yn wastraff pren halogedig o safon isel o goed wedi’u prosesu a’u hailgylchu, ac yn cynnwys plastigau a PVC a deunyddiau eraill. Rydym yn aros i gael gwybod, ond mae’r pryderon iechyd yn glir.

Pan aeth y deunydd ar safle Llynfi ar dân ym mis Mawrth, gorchuddiwyd y cwm isel hwn gan fwg a mwrllwch trwchus annymunol a chyfoglyd am ddyddiau, gan achosi ofn gwirioneddol ynghylch yr effeithiau ar iechyd. Dangosodd cynghorwyr lleol, fel Martyn Jones, arweiniad gyda thrigolion lleol a gweithio’n agos gyda mi a Chris Elmore AS ac eraill i geisio datrys hyn er mwyn annog y gwahanol asiantaethau, gan gynnwys y gwasanaeth tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdod lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydlynu eu hymateb yn well ac yn hollbwysig, i gyfathrebu’n effeithiol â’r trigolion.

Yn y pen draw, chwaraeodd yr awdurdod lleol rôl allweddol yn cysylltu rhwng asiantaethau a chyda thrigolion lleol. Ond wedyn cyfarfu’r Cynghorydd Jones a minnau a’r Aelod Seneddol lleol, Chris Elmore, ag uwch staff Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd â chyfrifoldebau dros drwyddedu a rheoliadau amgylcheddol a gorfodi, ac yn fwy diweddar, gyda’r awdurdod lleol, sydd â chyfrifoldebau cynllunio ac iechyd yr amgylchedd. Roeddem eisiau deall beth oedd wedi arwain at y ffaith fod gwastraff pren yn bresennol ar safle Llynfi a heb hysbysu’r trigolion, heb hysbysu cynrychiolwyr etholedig nac unrhyw asiantaethau rheoleiddio. Roeddem eisiau gwybod a oedd gwaith i waredu deunyddiau ar safle Llynfi wedi cael ei awdurdodi. Ond roedd y cyfarfod hwn hefyd yn caniatáu i ni ailadrodd rhai o bryderon y trigolion ynglŷn â gweithrediad y prif safle prosesu nifer o filltiroedd i ffwrdd yn Heol-y-cyw—materion yr oedd trigolion a chynghorwyr lleol fel Gary Thomas ac Alex Owen wedi eu dwyn i’n sylw ninnau hefyd. Nid oeddem yn sylweddoli ar y pwynt hwnnw y byddai trydydd tân yn digwydd cyn hir ar yr union safle hwnnw yn Heol-y-cyw. Unwaith eto, yn y tân yn Heol-y-cyw, cafodd ymladdwyr tân eu hanfon, roedd yr awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol, ac roedd y trigolion, yn ddealladwy, yn ofni am eu hiechyd a’u diogelwch a’u cartrefi. Gorfodwyd rhai, fel gyda’r tân yn gynharach yng nghwm Llynfi, i adael eu cartrefi tra bod eraill ag anableddau a phroblemau symudedd, yn methu gadael, ond bu’n rhaid iddynt ddioddef y mwg cyfoglyd erchyll y tu mewn a’r tu allan i’w cartrefi—roedd yn mynd i bob man. Ac unwaith eto, er gwaethaf gwaith rhagorol y gwasanaethau brys, ar gost fawr i’r trethdalwr, gadawyd y trigolion mewn mwrllwch yn llythrennol, a hefyd mewn mwrllwch o ddryswch ynglŷn â, ‘Sut y gallai hyn ddigwydd eto?’

Roedd cynghorwyr lleol, fel Alex, sy’n ymladdwr tân ei hun, ac sydd wedi bod yn ymateb yn uniongyrchol i’r digwyddiadau hyn, a minnau, Chris Elmore ac eraill yno yn gofyn unwaith eto ar ran y trigolion, ‘Sut y digwyddodd hyn? Pwy sy’n gyfrifol? Pwy sy’n cyfathrebu â thrigolion?’ Daw hynny â ni at y cyfarfod gorlawn yn neuadd gymunedol Heol-y-cyw yr wythnos diwethaf—roedd Suzy Davies a chyd-Aelodau eraill yno—a lle i sefyll yn unig. Yn y cyfarfod hwnnw, clywsom drigolion lleol yn honni bod pentyrrau o wastraff pren yn rheolaidd yn uwch na’r uchder a’r dimensiynau a ganiateir, yn groes i ganiatadau cynllunio a’r drwydded amgylcheddol. Dyna a ddywedodd y trigolion. Roeddent yn dweud bod hwn yn drychineb a oedd yn sicr o ddigwydd.

Mae’r ymchwiliad yn parhau i bennu’r achosion, ac mae’n rhaid i ni adael i’r ymchwiliadau hynny gwblhau eu gwaith, ond gadewch i mi droi at gyfrifoldeb ehangach cyfarwyddwyr y cwmni, South Wales Wood Recycling. Mae datganiadau i dawelu meddyliau wedi ymddangos ar y wefan ar ôl y digwyddiad, ond maent wedi bod yn absennol fel arall, ac nid ydynt yn chwarae eu rhan yn ymgysylltu â’r gymuned, i esbonio beth sy’n digwydd a helpu i roi tawelwch meddwl.

Ond deallaf eu bod yn barod iawn i weithredu mewn ffyrdd eraill. Deallaf eu bod yn llogi arbenigwyr cyfreithiol o’r radd flaenaf i herio gorchmynion gorfodi a hysbysiadau atal, gan greu gwaith i’r awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth iddynt geisio oedi a chymylu’r ffeithiau. Ac yn y cyfamser, mae’r arian ar gyfer ailgylchu yn llifo i mewn, ac oes, fel y gŵyr Ysgrifennydd Cabinet, mae yna arian mewn gwastraff. Mae yna arian mewn ailgylchu. Yn wir, mae miliynau os nad biliynau i’w wneud. Mae’r data diweddaraf yn awgrymu bod diwydiant ailgylchu DU gyfan yn werth £23.3 biliwn yn 2015, i fyny 15 y cant o’r flwyddyn flaenorol.

Yn y sector ailgylchu pren, mae ffortiwn i’w wneud wrth i wastraff pren o wahanol raddau gael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi i brosiectau biomas ac ynni ac i’w ddefnyddio fel cynnyrch wedi’i ailgylchu fel sglodfwrdd a chynhyrchion gwerth ychwanegol megis ar gyfer trin llwybrau ceffylau a llwybrau cyhoeddus, a thomwellt gardd. Mae gwerth net cyhoeddus South Wales Wood Recycling wedi cynyddu’n aruthrol o £313,651 yn 2013 i £1,303,675 yn 2015. Mae ganddynt gynlluniau i ehangu. Mae’r cwmni hwn yn anelu’n uchel, mae’n ymddangos.

Rydym angen i gwmnïau ailgylchu lwyddo. Rydym eisiau iddynt wneud yn dda mewn gwirionedd, fel ein bod yn cludo llai i safleoedd tirlenwi, yn gwastraffu llai a’u bod yn ein helpu i ddod yn Gymru ac yn fyd mwy cynaliadwy. Ond mae’n rhaid iddynt wneud hyn yn iawn. Mae angen i unrhyw gwmni sy’n rhan o hyn ofalu am eu cymunedau, nid eu helw’n unig. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni adael i unrhyw ymchwiliadau i’r gweithgareddau hyn gwblhau eu gwaith. Ond gadewch i ni fod yn glir hefyd: bydd unrhyw gwmni, beth bynnag am yr un yma, nad yw’n dangos parch at eu cymunedau lleol neu unrhyw gwmni sy’n dangos difaterwch neu hyd yn oed dirmyg tuag at eu cymunedau yn eu gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu yn cael ei dwyn i gyfrif yn y pen draw. Rhaid iddynt gael eu dwyn i gyfrif. Mae i unrhyw gwmni o’r fath apelio pob her, gan wybod bod hyn yn oedi’r broses am fisoedd, a llogi bargyfreithwyr drud i glymu clymau am asiantaethau gorfodaeth tra bo’r arian yn parhau i lifo i mewn yn rhwbio wynebau’r trigolion yn y baw.

Rwyf am weld cwmnïau ailgylchu gwastraff cyfrifol yng Nghymru sy’n gwneud yr hyn sy’n iawn i’r blaned ac i’w cymunedau. Felly, rwy’n dweud wrth gyfarwyddwyr South Wales Wood Recycling Ltd, ‘Rydych yn edrych yn hynod o anghyfrifol a di-hid ar hyn o bryd. Mae gennych waith caled i gael pobl leol yn ôl ar eich ochr, ac rwy’n un ohonynt.’ Yn y cyfamser, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf rai awgrymiadau penodol, ac rwy’n gwybod y byddwch wedi eich cyfyngu rhag sôn am fanylion y digwyddiadau hyn a’r cwmni hwn oherwydd yr ymholiadau a’r ymchwiliadau sy’n parhau, ond rwy’n credu bod mwy y gallwn ei wneud fel deddfwrfa fan hyn.

Gallwn roi mwy o rym yn nwylo cyrff rheoleiddio a gorfodi ac yn nwylo pobl leol, ac rwy’n fwy na pharod i helpu i fwrw ymlaen â hyn. Mae gennym y pwerau yng Nghymru eisoes dros sawl maes perthnasol o ran rheoli gwastraff, tirlenwi, cynllunio, gorfodaeth amgylcheddol a mwy. Mae pwerau eraill wedi’u cadw’n ôl ar hyn o bryd a byddai angen i ni weithio gyda Llywodraeth San Steffan, ond rwyf fi a chydweithwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac eraill yn awyddus i weithio gyda chi i dynhau’r drefn reoleiddiol a deddfwriaethol fel bod y cwmnïau rheoli gwastraff ac ailgylchu da yn cael eu gwobrwyo a’r rhai gwael yn cael eu dal, eu cosbi a’u gwahardd rhag gweithredu os bydd angen.

Felly, dyma rai awgrymiadau penodol. Yn gyntaf, gadewch i ni sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen bach, am gyfnod penodol i adolygu’r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer rheolaethau trwyddedu a chynllunio gweithrediadau gwastraff ac ailgylchu, ac edrych ar y posibiliadau ar gyfer ymestyn fframwaith cyfraith droseddol yn y maes hwn. Yn ail: ceisio cryfhau yn sylweddol y cosbau ariannol am dorri amodau trwyddedau cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol, sydd mor ddi-nod ar hyn o bryd nes eu bod yn aml yn cael eu hystyried yn bitw a dibwys gan y troseddwyr a dweud y gwir. Dylai pen uchaf y cosbau i’r rhai sy’n mynd ati’n fwriadol i dramgwyddo neu’n tramgwyddo dro ar ôl tro achosi embaras ariannol a phersonol eithafol i gyfarwyddwyr cwmni unigol yn ogystal â pherchnogion neu gyfranddeiliaid. Yn drydydd: archwilio ffyrdd o osod cosbau’n uniongyrchol yn erbyn cyfarwyddwyr a enwyd a pherchnogion cwmnïau, gan gynnwys y posibilrwydd o atal neu wahardd unigolion sy’n euog o droseddau a ailadroddir neu droseddau difrifol rhag cael swyddi mewn sectorau cysylltiedig o’r diwydiant—enwi a chywilyddio am drosedd gyntaf neu drosedd lai, ond eu rhwystro rhag cael swyddi o’r fath am droseddau difrifol neu droseddau a ailadroddir. Yn bedwerydd: cyflwyno cynigion i symleiddio a gwella’r broses o gydlynu ymchwiliadau rhwng sefydliadau megis asiantaethau gorfodi ac awdurdodau cynllunio. Bydd gwella’r broses o rannu data gwybodaeth ac arbenigedd cyfreithiol yn helpu i gydbwyso cyfiawnder.

Pump: datblygu ffyrdd newydd o gael gwared yn gyfan gwbl ar rannau o’r broses hon o achosion cyfreithiol a barnwrol, sy’n gostus i’r trethdalwr ac yn llyncu amser asiantaethau gorfodi, yn rhwystredig i drigolion ac eraill yr effeithir arnynt gan broblemau parhaus. Er enghraifft, os yw cwmni yn parhau i weithredu’n anghyfreithlon neu’n groes i amodau trwyddedau wrth apelio gorchymyn atal, maent yn gwybod eu bod yn ceisio drysu pobl. Mae hefyd yn beryglus i asiantaethau gorfodi, sy’n gwybod y gallent wynebu costau cyfreithiol uwch byth a hawliadau am golledion gweithredol hyd yn oed os ydynt yn aflwyddiannus. Gadewch i ni ddod o hyd i ffordd i wneud gorchymyn atal ar bapur yn orchymyn atal yn ymarferol ac unioni’r cydbwysedd o blaid yr asiantaethau gorfodi a’r bobl leol. Mae cyfreithwyr a bargyfreithwyr corfforaethol yn ceisio sathru ar Weinidogion a chynghorwyr a etholwyd yn ddemocrataidd a phobl leol. Gadewch i ni gael y cydbwysedd yn iawn.

Chwech: ymestyn hysbysiadau atal a phwerau gorfodi eraill i gwmpasu caniatadau sy’n bodoli eisoes, nid troseddau newydd a datblygiadau newydd yn unig, fel bod modd gorfodi hysbysiadau atal a chosbau eraill ar weithrediadau presennol lle maent yn groes i amodau trwyddedu neu gynllunio. A saith: archwilio’r posibilrwydd o ymestyn cyfraith droseddol i gwmpasu meysydd newydd a gwmpesir ar hyn o bryd gan gyfraith gynllunio a chyfraith amgylcheddol, megis risg ddifrifol i amwynder, a chaniatáu i awdurdodau lleol bennu’r hyn yw’r risg ddifrifol honno. Byddai hyn yn caniatáu i Ddeddf Enillion Troseddau 2002 gael ei chymhwyso i dorri amodau, fel bod modd atafaelu elw a wneir drwy ymddygiad troseddol i’r cyhoedd.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Nawr, mae yna rai argymhellion ymarferol, deddfwriaethol a rheoleiddiol a fyddai’n gwneud gwahaniaeth hirdymor go iawn, ymhell y tu hwnt i’r trafferthion uniongyrchol yn fy etholaeth fy hun. Ond i ddychwelyd yn olaf at South Wales Wood Recycling, mae’n ymddangos i’r preswylwyr fod y cwmni naill ai wedi tyfu’n rhy gyflym a thu hwnt i’w allu i reoli ei weithrediadau’n effeithiol neu mae wedi mynd yn farus. Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen i gyfarwyddwyr y cwmni hwn ddatrys y problemau hyn eu hunain ar fyrder neu bydd angen i’r Llywodraeth a’i hasiantaethau gorfodi roi camau cadarn ar waith i’w datrys er mwyn atal gweithgareddau sy’n niweidio’r bobl a’r cymunedau rwy’n eu cynrychioli ac sydd ar hyn o bryd yn dioddef yn sgil ei bresenoldeb. Felly, rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y gwelwch werth yn fy nadleuon a fy argymhellion ar gyfer newid y ffordd rydym yn dwyn gweithredwyr i gyfrif yn ein rheoliadau a’n deddfwriaeth. Mae angen i ni adfer y cydbwysedd o blaid gweithredwyr da, yr asiantaethau gorfodi a chynllunio a’r bobl rydym yn eu cynrychioli. Rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi a chyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ar unrhyw adeg i fwrw ymlaen â’r materion hyn. Diolch.

A allwch gadarnhau eich bod wedi caniatáu munud yr un i Caroline Jones a Suzy Davies?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw am gyflwyno’r ddadl fer hon ac am gytuno i roi munud o’i amser i mi. Diolch byth, i fy etholwyr yn Ne Corneli a’r ardaloedd cyfagos, mae cwmni South Wales Wood Recycling wedi tynnu cynlluniau ar gyfer creu safle yn y pentref yn ôl. Mae’r cwmni wedi wynebu pob math o broblemau gyda thanau yn eu cyfleusterau ym Mhen-y-bont a Chasnewydd a gafodd effaith niweidiol ar iechyd trigolion sy’n byw ger y safleoedd ac yn yr ardaloedd cyfagos. Fodd bynnag, mae yna hefyd effeithiau iechyd cudd o’r math hwn o gyfleuster. Mae effeithiau iechyd o lwch pren, y mae ymgynghorwyr South Wales Wood Recycling eu hunain yn ei ddisgrifio fel rhai sydd â’r

potensial i fod yn sylweddol dros ben

yn destun pryder mawr iawn i drigolion lleol. Mae’r cwestiwn yn codi, felly: pam y mae cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn caniatáu i safleoedd fel y rhain gael eu hadeiladu yn y lle cyntaf?

Mynychais gyfarfodydd cyhoeddus yng Ngogledd Corneli a Phorthcawl ac roedd y nifer a oedd yn bresennol ar y ddau achlysur yn 150 o bobl a 220 o bobl fan lleiaf. Roedd y dystiolaeth ffeithiol a ddarparwyd ynglŷn â’r effaith ar iechyd yn destun pryder enfawr. Rwy’n gobeithio, wrth ymateb i’r ddadl, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal adolygiad o’r canllawiau cynllunio a’r caniatadau amgylcheddol ar gyfer y math hwn o gyfleuster. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Huw, am gyflwyno’r ddadl fer hon heddiw. Yn amlwg, rydym wedi bod yn cael trafodaethau cyfochrog â’r cyrff unigol a grybwyllwyd gennych, felly nid ailadroddaf unrhyw beth rydych wedi’i ddweud ar wahân i annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried rhai o’r awgrymiadau a gyflwynodd Huw Irranca-Davies. Un o’r pwyntiau a nodwyd wrthyf oedd y gellid bod wedi cynnwys rhai o’r rhain yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ddiweddar, ac rwy’n ystyried hynny’n gyfle a gollwyd i ryw raddau, ond rwy’n sylweddoli nad chi oedd yr Ysgrifennydd Cabinet a oedd yn arwain ar hynny.

Dau bwynt penodol; mae’n ddrwg gennyf, tri—pan nad yw achosion o dorri amodau rheoliadau yn y gorffennol wedi cael eu hystyried yn ddigon gwael i fod yn achosion troseddol, a oes achos i’w wneud y dylai swyddogion cynllunio allu ystyried hynny wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i wahanol safleoedd? Ar hyn o bryd, mae’r bar ar hynny yn arbennig o uchel. Yn ail—cymhelliad gwrthnysig awdurdodau lleol sy’n talu i bren gwastraff gael ei gymryd yn rhan o’u rhaglen ailgylchu, yn hytrach na thalu wrth i’r sglodion coed gael ei ddosbarthu.

Yn drydydd, tybed a allwch roi unrhyw gyfarwyddyd i ni ar hyn o bryd ynglŷn â sut y mae’r bobl yr effeithir ar eu hiechyd gan y gwenwynau sy’n cael eu cario ar y gwynt o danau o’r fath yn mynd i gael eu digolledu, oherwydd nid yw’n glir ar hyn o bryd a ydym yn siarad am gyd-achosion neu a fyddai unigolion, o dan unrhyw gynllun penodol, yn gallu gwneud hawliad ar gyfer afiechyd a brofwyd, drwy achosiaeth? Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl—Lesley.

Member
Lesley Griffiths 18:16:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno’r ddadl fer hon ac i Caroline Jones a Suzy Davies am eu cyfraniadau.

Mae’r ffordd y mae cymdeithas yn rheoli gwastraff wedi newid yn sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi creu goblygiadau i bobl, yr amgylchedd ac o ran rheoleiddio. Wrth i wastraff gael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac i fyny’r hierarchaeth wastraff, cafwyd manteision amgylcheddol sylweddol, ond mae hefyd wedi creu rhai risgiau amgylcheddol. Erbyn hyn rydym yn dibynnu llai ar dirlenwi, mae gennym fwy o wastraff sy’n cael ei gasglu ar wahân, ei ailgylchu a’i adfer, gyda llawer mwy o safleoedd yn didoli a phrosesu gwastraff cyn ei anfon i’w drin a’i waredu.

Mae’r safleoedd hyn yn rhan annatod o’r seilwaith sydd ei angen arnom i reoli ein gwastraff, a phan fydd cwmnïau a safleoedd gwastraff yn gweithredu’n dda maent o fudd cadarnhaol i’r amgylchedd, busnesau a chymdeithas yn gyffredinol. Maent yn helpu i warchod adnoddau gwerthfawr, creu swyddi a symud Cymru tuag at economi fwy cylchol.

Mae’r rhan fwyaf o’r diwydiant gwastraff yn gweithredu’n gyfrifol, a chyda’r newidiadau mewn rheoli gwastraff, mae’n bosibl y bydd angen i nifer o weithredwyr, gyda llawer ohonynt yn newydd i’r diwydiant, ddeall y gofynion rheoleiddio a’r rhagofalon ar gyfer rheoli gwastraff yn well. Mae yna ran fach o’r diwydiant hefyd sy’n methu cyrraedd y safonau gofynnol, neu’n gweithredu y tu allan i’r gyfraith, ac mae angen i ni roi camau cryf ar waith i atal y rhain rhag gweithredu ac i gael gwared arnynt o’r diwydiant.

Rydym yn gwybod o’n trafodaethau gyda’r Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol a’u hadroddiad ar gyfer y DU ar droseddau gwastraff fod gweithgaredd anghyfreithlon yn costio tua £569 miliwn y flwyddyn ac yn tanseilio gwaith cyfreithlon. Yn bwysicach fyth, mae’r gweithgareddau hyn yn niweidio ein hamgylchedd a’n cymunedau, ac rwy’n cymeradwyo pobl Heol-y-cyw am y ffordd y maent wedi ymdopi â’r digwyddiad. Rwyf hefyd yn meddwl y dylwn sôn am y tri chynghorydd lleol y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies atynt hefyd—Alex Owen, Martyn Jones a Gary Thomas—am y ffordd y maent wedi gweithio gyda’r gwasanaethau brys a’r rheoleiddwyr, ac wedi cefnogi eu hetholwyr a’u cymunedau.

Mae gennym drefn reoleiddio ddeuol ar gyfer awdurdodi gweithgareddau gwastraff. Mae trefn gynllunio awdurdodau lleol yn rheoli datblygiadau a defnydd tir, gan osod gofynion i ddatblygwr reoli symudiadau traffig, sŵn ac effeithiau eraill ar yr amgylchedd a’r gymuned leol. Ategir hyn gan y drefn drwyddedu amgylcheddol, sy’n diogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl trwy reoli gweithrediadau o ddydd i ddydd ar safle. Mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o weithredwyr gwastraff gael trwydded amgylcheddol a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cofrestru rhai gweithgareddau risg isel llai o faint fel rhai a eithrir rhag y drefn drwyddedu, ond ar gyfer gweithrediadau a drwyddedir neu weithrediadau a eithrir, gosodir amodau y mae’n rhaid i weithredwyr gydymffurfio â hwy wrth gyflawni eu gweithrediadau. Mae’r amodau hyn yn cynnwys rheolaethau ar fathau a meintiau o wastraff y gellir ei drin, uchder a gofod rhwng pentyrrau a’r rhagofalon tân er mwyn lleihau’r risg o dân.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio safleoedd o ddydd i ddydd ac am weithredu camau yn erbyn y rhai sy’n methu cyrraedd y safonau gofynnol neu sy’n gweithredu’n anghyfreithlon. Mae ganddynt bwerau i atal troseddu, rheoli a glanhau safleoedd, ac i atal neu gosbi gweithgarwch troseddol. Wrth gyflawni eu dyletswyddau rheoleiddio, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arolygu ac yn archwilio safleoedd i wirio cydymffurfiaeth. Cyflawnir y camau gorfodi drwy weithio gyda gweithredwyr a lle bo angen, drwy gyflwyno hysbysiadau cydymffurfio neu orfodi, neu gyhoeddi hysbysiadau atal ac atal dros dro. Mae ganddynt allu hefyd i amrywio neu ddirymu trwydded.

Rwy’n cefnogi ac yn annog sefydliadau i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwasanaethau tân ac achub Cymru i nodi safleoedd risg uchel ac i dargedu rheoleiddio yn y safleoedd hyn. Ym mis Mai eleni, cyhoeddwyd canllawiau ganddynt ar atal a lliniaru tân. Defnyddir y canllawiau i addasu trwyddedau a datblygu gofynion atal tân ar gyfer trwyddedau newydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd ac mae’n parhau i fonitro, gydag eraill, yr achos o storio naddion pren yn anghyfreithlon yn hen orsaf bŵer cwm Llynfi. Mae South Wales Wood Recycling Ltd yn gweithredu nifer o safleoedd. Mae ganddynt ddau gyfleuster trwyddedig ar gyfer storio pren gwastraff lle mae tanau wedi digwydd. Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i’r cwmni ac wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith. Er mwyn osgoi peryglu’r camau hyn, Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn gallu rhoi sylwadau ar weithgareddau penodol y cwmni. Rwy’n cydnabod y pryderon difrifol am safleoedd sy’n perfformio’n wael, a’r angen i sicrhau bod safleoedd yn cael eu gweithredu a’u rheoleiddio’n dda.

Bûm yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar gryfhau eu pwerau gorfodi i fynd i’r afael â throseddau gwastraff a pherfformiad gwael yn y diwydiant gwastraff. Y llynedd, cyflwynwyd pwerau gennym i’w gwneud yn haws i’r rheoleiddiwr atal trwyddedau a rhoi camau ar waith i gael gwared ar risg o lygredd difrifol. Rydym wedi cyflwyno pwerau i’w gwneud yn haws i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cais i’r Uchel Lys am waharddeb i orfodi cydymffurfiaeth â hysbysiadau gorfodi ac atal.

Byddaf yn cyflwyno mwy o bwerau newydd i alluogi rheoleiddiwr i roi camau cadarn ar waith i atal troseddwyr. Byddaf yn darparu pwerau i Cyfoeth Naturiol Cymru gloi gatiau safle, er mwyn atal mynediad yn gorfforol ac atal mwy o wastraff rhag dod i mewn i’r safle. Bydd pobl sy’n cadw gwastraff, neu’n caniatáu i wastraff gael ei gadw ar eu tir yn anghyfreithlon yn cael eu gwneud yn gyfrifol am symud gwastraff oddi ar y tir hwnnw. Byddaf yn adolygu darpariaethau ar gyfer prawf person addas a phriodol newydd er mwyn sicrhau bod gweithredwyr yn gymwys ac yn ddiogel yn ariannol i weithredu cyfleusterau.

Byddaf hefyd yn ymgynghori yn gynnar y flwyddyn nesaf ar adolygiad o’r drefn eithrio. Bydd yr adolygiad yn edrych yn fanwl ar storio deunyddiau fflamadwy ac yn darparu gwelliannau pellach i dynhau’r gyfundrefn reoleiddio. Rwy’n edrych yn ddifrifol iawn ar y posibilrwydd o ddarparu cosbau sifil, megis cosbau ariannol amrywiadwy ac ymrwymiadau gorfodi, i gyd-fynd â’r cosbau troseddol o fewn y drefn drwyddedu. Byddaf yn trafod y mater gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno’r Bil treth gwarediadau tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Bydd cynigion yn y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i dalu treth am warediadau anghyfreithlon, a fydd yn darparu arf ataliol cryf pellach yn erbyn gweithgaredd anghyfreithlon.

Mae’r system cyfiawnder yn fater a gadwyd yn ôl, felly nid oes gennyf bwerau i ddiwygio cosbau ariannol am dorri amodau cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae deddfwriaeth gwastraff eisoes yn ennyn y gosb uchaf. Ar dditiad, gall hyn olygu dirwy ddigyfyngiad neu ddedfryd o hyd at ddwy flynedd yn y carchar. Er bod lefel y dirwyon a osodwyd gan y llysoedd yn hanesyddol wedi bod yn isel, ac efallai nad ydynt wedi gweithredu fel ataliad neu gosb ddigonol, yn 2014, cyhoeddodd y Cyngor Dedfrydu ganllawiau i lysoedd troseddol ar ddedfrydu troseddau amgylcheddol. Am y tro cyntaf, darparwyd tariff i ddangos y lefel briodol o gosbau, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd a throsiant ac elw’r sefydliad dan sylw. Mae’r canllaw dedfrydu eisoes wedi cael effaith amlwg ar ddedfrydu troseddau gwastraff. Ar gyfer achosion mwy difrifol o weithgarwch anghyfreithlon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried defnyddio Deddf Enillion Troseddau 2002 i adennill arian a gafwyd yn anghyfreithlon. Maent wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn defnyddio’r pwerau hyn, sy’n gweithredu fel cosb gref ac fel ataliad i droseddwyr eraill.

Rwy’n cytuno bod angen gwneud mwy er mwyn gwella perfformiad y sector ac i gael gwared ar yr elfen ddiegwyddor o’r diwydiant. Byddaf yn parhau i ystyried yr opsiynau i gryfhau camau rheoleiddio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r diwydiant i sicrhau bod hyn yn digwydd. Wrth gwrs, rwy’n hapus i gyfarfod â Huw Irranca-Davies i drafod ei syniadau’n fwy manwl, ac rwy’n gobeithio y bydd y newidiadau deddfwriaethol rwyf wedi’u hamlinellu, a’r camau a roddais ar waith, yn tawelu meddwl yr Aelodau sy’n bresennol a’r holl etholwyr fy mod yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Byddaf hefyd yn sicrhau bod yr holl bwyntiau rydych wedi’u crybwyll yn cael sylw gan Cyfoeth Naturiol Cymru a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod pan fyddwn yn cyfarfod. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:25.