Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

14/01/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda yw cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, a daw cwestiwn 1 gan Joyce Watson.

Ffoaduriaid sy’n Blant

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gynlluniau Llywodraeth y DU i ddileu ymrwymiad i amddiffyn ffoaduriaid sy’n blant yn Ewrop sy’n ceisio ailuno â’u teulu yn y DU ar ôl Brexit? OAQ54906

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd Gweinidogion Cymru at yr Ysgrifennydd Cartref yn cefnogi cadw hawliau aduniad teuluol ar gyfer plant sy'n ffoaduriaid. Rwy'n gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i gefnu ar ei hymrwymiadau blaenorol yn y maes hwn, a phwysaf ar Dŷ'r Arglwyddi i gefnogi gwelliannau sy'n diogelu hawliau plant agored i niwed i gael bywyd teuluol.

Diolchaf i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ond, trwy hepgor cynigion i amddiffyn plant sy'n ffoaduriaid o gynigion Bil ymadael yr UE, mae Llywodraeth Boris Johnson wedi nodi ei safbwynt yn eglur. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut gallwn ni yng Nghymru ymbellhau ein hunain o Lywodraeth y DU a fyddai'n cefnu ar y plant mwyaf agored i niwed ac yn bradychu traddodiad dyngarol balch Prydain? Mae'r Bil bellach ar y Cam Pwyllgor yn Nhŷ'r Arglwyddi yr wythnos hon a'r wythnos nesaf. Felly, a wnewch chi, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru, lobïo'r Arglwyddi i adfer gwelliant Dubs, a fyddai'n sicrhau hawl ffoaduriaid sy'n blant ar eu pennau eu hunain i gael eu haduno ag aelodau o'u teulu sy'n byw yn y DU ar ôl Brexit?

Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn atodol yna, Llywydd. Croesawodd Llywodraeth Cymru y ffaith bod adran 17 wedi ei chynnwys yn Neddf ymadael 2018, a oedd yn ganlyniad i weithredu trawsbleidiol ar lawr Tŷ'r Cyffredin, a oedd yn darparu ymrwymiad mewn cyfraith i negodi parhad trefniadau presennol Dulyn III. Dilëwyd hwnnw yr wythnos diwethaf ym Mil ymadael yr UE, ac mae'n gwbl briodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag eraill i adfer yr ymrwymiad hwnnw.

Yr wythnos diwethaf, yn Nhŷ'r Arglwyddi, roedd fy nghyd-Weinidogion, y Dirprwy Weinidog dros gydraddoldebau a'r Cwnsler Cyffredinol, ar ddau ddiwrnod ar wahân, yn siarad ag arglwyddi sydd â diddordeb mewn cefnogi gwelliannau yr ydym ni wedi eu drafftio, a bydd gwelliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi i amddiffyn y plant mwyaf agored i niwed hyn. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad oedd y trefniadau blaenorol yn mynd yn ddigon pell. Ar y lleiaf, mae angen i ni sicrhau parhad yr amddiffyniadau hynny sydd wedi bod yno yn y gorffennol yr oedd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol yn barod i'w gweld yn cael eu rhoi ar wyneb Deddf 2018. Ddoe, yn Nhŷ'r Arglwyddi, Dirprwy Lywydd, dywedodd yr Arglwydd Callaghan nad oedd safbwynt polisi Llywodraeth y DU wedi newid. Felly, pam wnaethon nhw ddiwygio'r Bil? Pam wnaethon nhw ddileu ymrwymiad yr oedden nhw eisoes wedi ei wneud? Dylen nhw ei ddisodli, a dylen nhw roi sicrwydd i rai o'r plant mwyaf agored i niwed yr ydym ni'n eu gweld yn y wlad hon.

Rwy'n siomedig iawn i glywed y codi bwganod gan eich meinciau cefn, ac, yn wir, gan eich Llywodraeth heddiw, ar y mater pwysig iawn a sensitif iawn hwn. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn gwbl eglur eisoes, nid yw safbwynt polisi Llywodraeth y DU o ran ffoaduriaid sy'n blant wedi newid o gwbl, ac mae Llywodraeth y DU yn dal i ddymuno cynnal yr ymrwymiad y mae eisoes wedi ei wneud, a ail-bwysleisiwyd yn Nhŷ'r cyffredin yr wythnos diwethaf hefyd. Fel y gwyddoch, y rheswm pam y pleidleisiwyd yn erbyn y gwelliant hwnnw, ac y pleidleisiwyd yn erbyn gwelliannau eraill i Fil y cytundeb ymadael, oedd oherwydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, nid yw eu hatodi i'r Bil hwnnw'n ddigonol o ran pwysigrwydd y polisi hwn. A dyna pam mae Llywodraeth y DU wedi dweud, 'Gadewch i ni fynd i'r afael â hyn ar wahân mewn ffyrdd eraill yn hytrach na dim ond ei atodi i ddiwedd y Bil hwn.' A ydych chi'n gresynu'r codi bwganod gan eich meinciau cefn a'r codi bwganod gan eich Llywodraeth, ac a wnewch chi gydnabod yr ymrwymiadau eglur iawn a wnaed gan y Llywodraeth o ran y polisi a ddatganwyd ganddi?

Wel, Llywydd, yn syml, mae'r Aelod wedi camddeall ffeithiau'r mater yn llwyr. Nid yw'n fater o bleidleisio yn erbyn gwelliannau; cafodd y gwelliant—mae'r gwelliant wedi cael ei lunio gan y Llywodraeth. Fe wnaeth ei Lywodraeth ef, yn Neddf 2018, gynnwys ymrwymiad a oedd yn rhwymo mewn cyfraith i negodi parhad trefniadau Dulyn III. Fe'i tynnwyd allan ganddyn nhw, dyna'r newid. Dyna'r ydym ni'n pryderu amdano. Nid gwelliannau yw'r broblem, ond y newid a wnaeth eich Llywodraeth chi a'r cwbl yr oedd y gwelliannau yn ceisio—[Torri ar draws.] Y cwbl y mae eu gwelliannau nhw, y gwelliannau yn Nhŷ'r cyffredin a'r gwelliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn ceisio ei wneud yw adfer y safbwynt yr oedd ef a'i gyd-Aelodau yn y fan yma a'i gyd-Aelodau yn San Steffan yn ei gefnogi dim ond mis neu ddau yn ôl. Ni ellir ei amddiffyn. Mae'n gwybod na ellir ei amddiffyn ac nid yw wedi cynnig hyd yn oed mymryn o amddiffyniad i ni y prynhawn yma.

13:35

A wnaiff eich Llywodraeth gynnal asesiad o'r modd y mae plant sy'n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn neu nad ydynt yn cael eu hamddiffyn yng Nghymru heddiw—plant sy'n byw yma? Oherwydd ceir enghreifftiau, a rhoddaf hon i chi, Prif Weinidog, lle gall plentyn honni ei fod yn cael ei gam-drin yn gyson, yn gyson—. Nid wyf i'n gwybod pam yr ydych chi'n ysgwyd eich pen, Prif Weinidog. Gall plentyn yng Nghymru honni ei fod yn cael ei gam-drin yn gyson, heb gael eiriolwr. Gallwch chi gael plentyn ag anawsterau dysgu ac nid yw'n cael eiriolwr, nid yw'n cael ei symud i fan diogel i gael ei gyfweld, ac yna'n cael ei geryddu gan yr heddlu. Pa asesiad—dyma'r cwestiwn—pa asesiad wnewch chi ei gynnal i sicrhau bod ein plant sy'n byw yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn?

Llywydd, nid yw'r un o'r pwyntiau hynny'n berthnasol i amddiffyn ffoaduriaid sy'n blant, sef testun y cwestiwn hwn. Nid oes amheuaeth bod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn bwyntiau priodol ac yn rhai y gall ef fynd ar eu trywydd. Ond nid wyf i'n credu y dylai geisio herwgipio cwestiwn sy'n ymwneud â mater pwysig iawn, am ffoaduriaid sy'n blant yn benodol, yr wyf i wedi ceisio ei ateb y prynhawn yma.

Prif Weinidog, cefais fy magu mewn cymuned o ffoaduriaid ar ôl y rhyfel ac mae gen i ffrindiau hyd heddiw a ddaeth drosodd yn blant ar ôl yr ail ryfel byd, gan fyw mewn gwersylloedd pobl a ddadleolwyd am gyfnodau. Felly, mae'r hyn sydd wedi digwydd yn rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn teimlo sy'n peri gofid mawr o ran yr hyn sydd wedi digwydd. Mae gennym ni ymrwymiadau mewn unrhyw ddeddfwriaeth yr ydym ni'n ei phasio o ran cydymffurfio â gwahanol gonfensiynau: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, confensiwn ffoaduriaid 1951, protocol 1967 ar ffoaduriaid sy'n blant ac, wrth gwrs, canllawiau'r Cenhedloedd Unedig â hawliau penodol o ran ffoaduriaid sy'n blant. A wnewch chi roi ystyriaeth i'r ffaith, pe byddem ni'n rhoi unrhyw gydsyniad i Fil presennol yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) heb yr ymrwymiadau yn ymwneud â ffoaduriaid, y gallem ni mewn gwirionedd fod yn deddfu yn groes i'n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006?

Wel, yn sicr, Llywydd, byddaf yn gwneud hynny. Mae hwn yn un o'r achosion niferus hynny lle mae'r Bil sydd gerbron Tŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd yn ddirywiad i'r Bil a gyflwynwyd gan Brif Weinidog presennol y DU ychydig cyn toriad y Nadolig. Roedden nhw'n fodlon cael hyn y llynedd—pam nad ydyn nhw'n fodlon ei gael eleni? Mi ddylen nhw. Gallan nhw unioni'r sefyllfa. Gallan nhw unioni'r sefyllfa yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac yna bydd yr holl anawsterau y mae Mick Antoniw yn cyfeirio atyn nhw yn briodol wedi cael sylw yn y modd yr oedd Prif Weinidogion Ceidwadol y DU ac Aelodau Seneddol Ceidwadol blaenorol yn barod i'w gefnogi.

Addysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol mewn Ysgolion

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysgu cymorth cyntaf sylfaenol mewn ysgolion? OAQ54893

Llywydd, rydym ni'n annog pawb i ddysgu cymorth cyntaf. Cyfrifoldeb ysgolion yw penderfynu os dylen nhw ddarparu addysg cymorth cyntaf i'w disgyblion a'r ffordd orau o wneud hynny. Bydd y canllawiau statudol a fydd yn gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd yn darparu y dylai dysgwyr allu ymateb i sefyllfaoedd niweidiol ac ymyrryd yn ddiogel pan fo iechyd pobl eraill mewn perygl.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Ceir rhai sgiliau bywyd penodol y dylai pob plentyn feddu arnyn nhw pan fydd yn gadael yr ysgol—sgiliau a fydd yn fwy defnyddiol na llawer sydd yn y cwricwlwm ffurfiol. Mae cymorth cyntaf sylfaenol, gan gynnwys pethau fel atal gwaedu trwm, adfywio cardio-pwlmonaidd, symudiad Heimlich, yn sgiliau bywyd sylfaenol ac maen nhw'n helpu rhywun i achub bywyd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen addysgu'r rhain naill ai yn yr ysgol neu y tu allan i'r ysgol? Ond mae angen eu haddysgu fel y gall plant ifanc achub bywydau mewn gwirionedd.

Wel, a gaf i gytuno'n llwyr â Mike Hedges am bwysigrwydd cymorth cyntaf, am yr agweddau hynny y mae wedi tynnu sylw atyn nhw yn benodol? Mae Cymru'n ffodus, Dirprwy Lywydd, o fod â thrydydd sector bywiog ym maes iechyd lle mae amrywiaeth o gyfleoedd yn bodoli ar gyfer caffael ac ymarfer sgiliau cymorth cyntaf. Derbyniodd canllawiau cwricwlwm Cymru, a gyhoeddwyd ar gyfer adborth ym mis Ebrill 2019, lawer o sylwadau gan y sefydliadau hynny amdano ac, o ganlyniad, bydd canllawiau adfywio cardio-pwlmonaidd a chymorth cyntaf yn cael eu hatgyfnerthu a byddant yn cynnwys Sefydliad Prydeinig y Galon, Ambiwlans Sant Ioan a'r Groes Goch, o ran gwneud yn siŵr bod y canllawiau cywir yn cael eu rhoi i ysgolion a bod amrywiaeth o adnoddau a chynlluniau gwersi ar gael fel y gall ymarferwyr fod yn hyderus wrth ddiwallu'r union anghenion hynny y mae Mike Hedges wedi cyfeirio atyn nhw.

13:40

Yn ôl Ambiwlans Sant Ioan Cymru, mae llai nag un o bob 10 o bobl yn goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, ac ni fyddai gan bron i draean o oedolion y DU yr hyder i ymyrryd pe bydden nhw'n gweld rhywun mewn angen. Nawr, gwell addysg i'n pobl ifanc yw'r ateb i'r trychineb cardiaidd hwn yn sicr. Bydd plant yn Lloegr yn dysgu adfywio cardio-pwlmonaidd a sgiliau achub bywyd eraill o fis Medi 2020 ymlaen, ac mae pob awdurdod lleol yn yr Alban wedi ymrwymo i addysgu adfywio cardio-pwlmonaidd. Fodd bynnag, nid yw'r cwricwlwm newydd yn gwneud addysgu cymorth cyntaf a sgiliau achub bywyd yn orfodol, ac eto, yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, gallai bron i un o bob pedwar oroesi pe byddai pob person ifanc yn cael ei hyfforddi. Rwy'n sylweddoli bod y Gweinidog Addysg eisiau symud oddi wrth bynciau penodedig, fodd bynnag, a wnewch chi ganiatáu eithriad trwy wneud hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd?

Yr anhawster, Dirprwy Lywydd, fel y mae'r Aelod yn gwybod, yw bod pobl ym mhob rhan o'r Siambr hon yn dadlau dros amrywiaeth eang o eithriadau i gael eu gwneud. Bydd gan bawb sydd yma enghraifft o rywbeth y maen nhw'n meddwl ac yn credu'n angerddol y dylid ei wneud yn eithriad i'r rheol yn y ffordd y caiff ein cwricwlwm ei lunio. Ac, ar ôl i chi ddechrau dilyn y trywydd hwnnw, ni fydd y cwricwlwm yr hyn yr ydym ni yn y Siambr hon wedi dweud yr ydym ni eisiau iddo fod mwyach: wedi ei arwain gan bwrpas ac yn nwylo athrawon pan ddaw'n fater o'i weithredu.

Wrth gwrs, dylid addysgu pobl ifanc am y pethau pwysig hyn, a gellir gwneud hynny yn ein hysgolion: mae 99 y cant o ysgolion Cymru yn cymryd rhan yng nghynlluniau rhwydwaith ysgolion iach Cymru, gyda phopeth sy'n cyd-fynd â hynny, gan gynnwys addysgu pobl ifanc am y pethau hyn. Ond gwnaeth Mike Hedges bwynt pwysig yn ei gwestiwn atodol, nad mewn ysgolion yn unig y mae cyfleoedd ar gyfer dysgu cymorth cyntaf yn bodoli. Ceir llawer o ffyrdd eraill y gall pobl ddysgu'r sgiliau hyn. Cymerais ran fy hun mewn cynllun gwych y mae myfyrwyr ysgol feddygol Caerdydd yn ei redeg yma yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd sesiwn ganddynt draw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn y fan yma ychydig cyn y Nadolig, lle gellid hyfforddi unrhyw aelod o'r cyhoedd mewn cymorth cyntaf sylfaenol i roi'r hyder iddo ymyrryd o dan yr amgylchiadau y mae Janet Finch-Saunders wedi eu crybwyll, a cheir cyfres ehangach o gamau y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â rhywbeth sydd, rwy'n cytuno'n llwyr, yn fater pwysig iawn yma yng Nghymru.

Dwi'n cytuno, fel y mae 70 y cant o rieni a'r Senedd Ieuenctid, y dylid cyflwyno un wers y flwyddyn o gymorth cyntaf i'n disgyblion ni. Rŵan, dwi'n deall y broblem sydd gennych chi efo'r cwricwlwm newydd a'r weledigaeth a'r cysyniad sydd yn fanno, ond mae rhai pethau mor bwysig maen nhw angen y sicrwydd a'r eglurder yna. Dwi'n falch o glywed bod y canllawiau yn mynd i gael eu cryfhau, ond efallai bod yna gyfle pellach: efallai bod modd edrych ar ddiwygio'r rhan sy'n cael ei henwi'n 'cynllunio eich cwricwlwm', a byddwn yn gofyn a fyddech chi'n fodlon trafod efo'r Gweinidog Addysg i weld a oes modd diwygio'r rhan yna er mwyn bod cymorth cyntaf yn mynd yn rhan mwy creiddiol o'r cwricwlwm.

Wel, diolch am y syniadau yna. Os oes ffordd y gallwn ni fod yn hyblyg yn y ffordd rydym ni'n datblygu pethau a'r cyngor rŷm ni'n ei roi i bobl, wrth gwrs dwi'n fodlon trafod hynny gyda'r Gweinidog dros Addysg. Ond yr egwyddor yw, fel rŷm ni wedi trafod fwy nag unwaith ar lawr y Cynulliad, i greu cwricwlwm newydd le rŷm ni'n creu'r pethau sylfaenol, ond rŷm ni'n rhoi'r cyfrifoldeb yn nwylo'r athrawon yn y classroom i wneud pethau yn y ffordd sy'n gweithio iddyn nhw ac i'r plant sydd o'u blaenau nhw. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Trown nawr at gwestiynau'r arweinwyr, a'r arweinydd cyntaf y prynhawn yma yw arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

13:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, hoffwn ddechrau trwy godi gyda chi achos Peter Connelly, a fu farw yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru fel amgylchiadau anodd ac annerbyniol. Bu oedi o wyth awr cyn derbyn Mr Connelly i Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn dilyn ei farwolaeth, cyhoeddodd uwch-grwner gogledd Cymru adroddiad rheoliad 28 ar atal marwolaethau diangen. Dyma'r trydydd adroddiad ar ddeg o'r fath er 2014 a dynnodd sylw at arosiadau hirfaith y tu allan i ysbytai yn y gogledd. Daeth y crwner i'r casgliad, oni bai fod arferion gweithio yn newid yn y GIG yng ngogledd Cymru, ei bod yn anochel y byddai marwolaethau yn digwydd yn y dyfodol y gellid fod wedi eu hatal fel arall efallai. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ddiwedd y llynedd.  Eisoes eleni nododd adroddiad arall—sef y pedwerydd ar ddeg mewn chwe blynedd—i farwolaeth Samantha Brousas fethiannau wrth drosglwyddo gofal yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Er gwaethaf yr amheuaeth o sepsis a'r ffaith ei bod yn ddifrifol wael, cafodd ei chadw y tu allan i'r ysbyty mewn ambiwlans am dros ddwy awr. O ganlyniad i'r pryderon a godwyd gan y crwner ynghylch Betsi Cadwaladr ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru, a wnaiff y Prif Weinidog gynnal ymchwiliad brys i sicrhau nad yw bywydau yn cael eu peryglu ymhellach?

Wel, Llywydd, mae unrhyw lythyr gan y crwner am osgoi marwolaethau yn y dyfodol yn cael sylw difrifol iawn yn y gwasanaeth iechyd, ac yn sicr bydd yr ymddiriedolaeth ambiwlans wedi ymateb i gyngor blaenorol o'r fath ac mae'n ymateb ar hyn o bryd i'r enghraifft y cyfeiriodd Adam Price ato. Nid yw'r broblem yn un y gellir ei datrys yn nwylo'r gwasanaeth ambiwlans yn unig, fel y mae'r llythyrau hynny bob amser yn ei egluro. Mae'n fater systemau cyfan, lle mae'n rhaid i ni allu clirio pobl drwy'r system gyfan, fel y bydd lle wrth y drws ffrynt pan fydd y system yn dod dan bwysau, fel sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf. Oherwydd mae derbyn cleifion ar sail brys yn gysylltiedig â'r ffordd y mae'r system gyfan, y tu mewn i'r ysbyty a'r tu allan i'r ysbyty hefyd, yn gweithredu. Does neb eisiau gweld pobl yn aros mewn ambiwlansys pryd y gallen nhw fod wedi cael eu derbyn i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys a'u trin yno. Dyna'n union yw barn ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru. Maen nhw'n gweithio'n agos iawn gyda byrddau iechyd. Mae'r Gweinidog iechyd yn gweithio gyda'r ddau ohonyn nhw i geisio creu'r amodau lle gellir osgoi'r mathau hynny o oedi.

Mae'n siŵr ei fod e'n iawn bod yna resymau systemig am yr achosion a'r problemau sydd wedi cael eu hamlygu, ond a fyddai'r Prif Weinidog yn fodlon derbyn bod yna gynifer o achosion wedi bod yng ngogledd Cymru bod yn rhaid bod yna resymau penodol, sydd yn awgrymu bod y math o ffactorau cyffredinol sy'n bodoli mewn llefydd eraill wedi achosi nifer fawr iawn o achosion trasig?

Rhan o'r issue, wrth gwrs, ydy diffyg capasiti. Ŷch chi'n sôn bob gaeaf am lefel digynsail o bwysau, felly gadewch i ni edrych yn fanylach ar hynny. Yn 2018, un rheswm a roddwyd am y pwysau ychwanegol bryd hynny oedd norovirus, ond mewn gwirionedd roedd gostyngiad o 11 y cant yn nifer yr achosion o gymharu â'r flwyddyn flaenorol bryd hynny. Llynedd, y ffliw oedd ar fai meddech chi, ond roedd ffliw wedi'i gategoreiddio fel mater o ddwyster isel am ran helaeth o'r tymor hynny. A hithau'n 2020 a ninnau mewn gaeaf mwyn, beth fydd y rheswm tro yma?

Wel, mae nifer o resymau, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, a dwi ddim yn cytuno o gwbl os oedd yr Aelod yn awgrymu bod y problemau'n achosi hyn yng ngogledd Cymru yn fwy na llefydd eraill, achos dŷn ni'n gwybod bod hwnna'n digwydd ym mhob man.

Mae'r Aelod, rwy'n credu, yn camddeall natur rhai o'r heriau, norofeirws yn arbennig. Nid yw'n fater o'r lefel gyffredinol o norofeirws; y ffaith yw bod norofeirws yn tueddu i grynhoi mewn lleoedd penodol ac yna, yn y pen draw—fel y mae wedi ei wneud yn Ysbyty Glangwili eleni, er enghraifft—mae'n arwain at gau wardiau cyfan ac anallu, felly, i dderbyn cleifion. Efallai y bydd lefel isel o norofeirws yn gyffredinol, ond mae'n ymosod ar leoedd penodol ac yn achosi effeithiau penodol lle mae'n digwydd. Eleni, mae'r ffliw wedi dechrau'n gynnar; efallai nad dyma'r math mwyaf ffyrnig o ffliw yr ydym ni wedi ei wynebu yn y pum mlynedd diwethaf, ond mae'r ffaith ei fod wedi dechrau'n gynnar yn golygu y bu mewnlifiad cynharach i adrannau achosion brys o bobl gyda symptomau tebyg i ffliw.

Yn enwedig eleni, rydym ni'n wynebu'r ffaith bod nifer o bobl oedrannus eiddil iawn sy'n dod i adrannau achosion brys wedi bod angen lefel uwch o dderbyniad i adrannau achosion brys nag o'r blaen, ac mae hyn yn rhannol, Dirprwy Lywydd, yn adlewyrchiad o lwyddiant y ffordd y gwnaed pethau yng Nghymru. Mae gennym ni niferoedd uchel o bobl oedrannus sy'n dal i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda phecynnau dwys iawn o ofal gan awdurdodau lleol, a fyddai wedi bod mewn gofal preswyl mewn blynyddoedd blaenorol. Pan fyddan nhw'n dod i'r ysbyty, nid yw'n fater syml o ychwanegu un gwasanaeth ychwanegol bach i ganiatáu iddyn nhw fynd adref; maen nhw eisoes yn derbyn lefel sylweddol iawn o ofal cartref, ac mae gwneud pecyn newydd o ofal yn barod ar eu cyfer yn rhywbeth sy'n gymhleth ac yn anodd ymhlith amrywiaeth eang o wasanaethau.

Ac yn olaf, rydym ni'n dal i weld y gaeaf hwn effaith y newidiadau i drethi a phensiynau sydd wedi effeithio ar allu meddygon i lenwi rotas a chynnal sesiynau ychwanegol. Cafodd dwy fil o sesiynau eu canslo yng Nghymru yn y cyfnod cyn y Nadolig, effeithiodd hyn ar 15,000 o gleifion, ac mae hynny yn dal i fod heb ei ddatrys. Serch hynny, Dirprwy Lywydd—ac mae'n bwysig iawn dweud hyn, onid yw—dros holl gyfnod y Nadolig, pryd yr oedd 15,000 o bobl yr wythnos yn dod i adrannau achosion brys, 10,000 o alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, 4,000 o dderbyniadau brys bob wythnos i'n hysbytai yng Nghymru, er gwaethaf yr holl bwysau hynny, mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i ymateb bob un dydd i angen clinigol yma yng Nghymru, ac mae cleifion ym mhob rhan o Gymru yn ddiolchgar am y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael.

13:50

Os ydw i'n deall y Prif Weinidog yn iawn, roeddech chi'n dadlau bod eich methiant chi, mewn ffordd, yn adlewyrchu eich llwyddiant. Am yr wythfed mlynedd yn olynol, mae e'n wir eto bod dros 85 y cant o'r gwelyau’n llawn, sydd dros y trothwy diogel ŷch chi wedi'i osod. Roedd 125 o gleifion yn ddigon iach i adael un ysbyty yr wythnos ddiwethaf, ond doedd dim gofal cymdeithasol ar eu cyfer, sydd yn wahanol iawn i'r darlun ŷch chi newydd ei gyflwyno.

Tra'n Weinidog iechyd saith mlynedd yn ôl, fe ddywedoch chi fod problemau drws ffrynt—i ddefnyddio'r term ŷch chi wedi'i ddefnyddio nawr—y gwasanaeth iechyd yn waeth oherwydd bod cleifion yn parhau i fod yn yr ysbyty er yn ddigon iach i adael. Ar ôl amlygu'r broblem yn eich swydd flaenorol, pam ŷch chi wedi methu â chael y Llywodraeth, Llywodraeth ŷch chi nawr yn ei harwain, i'w datrys yn eich swydd bresennol?

Wel, rŷn ni wedi datrys y broblem, Dirprwy Lywydd, ac mae'r sefyllfa lot yn well nag yr oedd hi pan roeddwn i'n dod i ddechrau fel Gweinidog dros Iechyd.

2017 a 2018 oedd y ddwy flynedd orau ers i ffigurau gael eu cofnodi ar gyfer oedi wrth drosglwyddo gofal yng ngwasanaeth iechyd Cymru. Felly, roedd gennym ni lai o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y ddwy flynedd hynny nag ar unrhyw adeg ers i'r ffigurau hynny gael eu cofnodi, ac mae hynny'n deyrnged enfawr i'r ymdrech a wnaed gan ein cydweithwyr mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol, gyda chyllid ychwanegol drwy'r ICF, gyda'r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Ac ydy, mae'n anodd i adrannau gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd, ymdrin ag ymchwydd sydyn mewn galw, ond yr wythnos diwethaf, pan oedd Hywel Dda yn dioddef y pwysau a oedd arno, oherwydd y cymorth a gawson nhw gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn yr ardaloedd hynny y gwnaethon nhw lwyddo i adfer y sefyllfa fel bod pethau mewn sefyllfa well o lawer erbyn diwedd yr wythnos diwethaf.

Roeddwn i'n ddiolchgar iawn, Llywydd, fy mod i yn Sir Gaerfyrddin ddydd Iau gyda staff gwasanaethau cymdeithasol ac yn gallu diolch iddyn nhw, ac i arweinydd Plaid Cymru y cyngor hwnnw, am yr ymdrechion aruthrol yr oedden nhw wedi ei gwneud yr wythnos honno i gynorthwyo'r gwasanaeth iechyd ac i wneud yn siŵr, cyn belled a phosibl, bod pobl a oedd yn ddigon iach i gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn cael eu cynorthwyo gan y gwasanaethau awdurdod lleol hynny.

13:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru ei hun wedi dangos bod mwy na 11,000 o bobl ifanc wedi cael eu cwnsela yn 2017-18. Yn wir, yn fwy pryderus, mae ffigurau gan elusen Barnardo's Cymru wedi cadarnhau bod nifer y plant a gynorthwywyd ganddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cynyddu gan 56 y cant. Yng ngoleuni'r ffigurau difrifol iawn hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem hon a pha fesurau ymyrraeth gynnar newydd fydd yn cael eu cyflwyno er mwyn helpu i leihau nifer y plant sydd angen cymorth iechyd meddwl yma yng Nghymru?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Bydd wedi gweld, yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr, bod y gyllideb ar gyfer cymorth iechyd meddwl yn ein hysgolion yng Nghymru wedi dyblu; yn rhannol mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor iechyd a gyhoeddwyd yn gynharach yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n cryfhau'r gwasanaethau cynghori yr ydym ni'n ei darparu ar hyn o bryd, ond hefyd ein bod ni'n ymestyn eu hystod oedran hefyd ac yn ymestyn faint y maen nhw ar gael i lawr yr ystod oedran fel eu bod ar gael i bobl ifanc yn gynharach yn eu gyrfa ysgol, a phan y gallai fod yn bosibl ymyrryd mewn ffordd a fydd yn atal problemau rhag datblygu i'r dyfodol. Rwy'n credu fy mod i wedi llwyddo i ddyfynnu rhai ffigurau yr wythnos diwethaf yn y Siambr a oedd yn dangos nad oedd angen unrhyw ymyrraeth bellach ar 87 y cant o'r bobl ifanc hynny a gafodd eu cwnsela mewn ysgolion, ac rwy'n credu bod hynny'n gymeradwyaeth wirioneddol i'r strategaeth y mae Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr hon wedi ei hargymell o ran iechyd meddwl plant; ein bod ni'n cael atyn nhw'n gynnar, ein bod ni'n ceisio atal, ac nad ydym ni'n tynnu pobl ifanc i'r rhan fwyaf difrifol o'r system pan fyddwn ni'n gallu darparu mwy o wasanaethau beunyddiol prif ffrwd y mae llai o stigma yn gysylltiedig â nhw ac sy'n cael mwy o effaith yn eu bywydau.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb yna, Prif Weinidog, oherwydd fel y gwyddoch, gall iechyd meddwl gwael effeithio ar unrhyw un o unrhyw gefndir ac ar unrhyw oedran, wrth gwrs. Yn wir, mae un o'r agweddau ar iechyd meddwl sy'n llai o destun trafod yn ymwneud â'r sector ffermio yng Nghymru. Yn anffodus, amaethyddiaeth sydd ag un o'r cyfraddau uchaf o hunanladdiad, ac mae natur anghysbell llawer o gymunedau ffermio yn golygu eu bod nhw'n aml yn bell yn ddaearyddol oddi wrth wasanaethau iechyd prif ffrwd, a allai gyfyngu ar eu gallu i gael cymorth.

Nawr, efallai eich bod chi'n ymwybodol o'r gwaith rhagorol a wnaed gan Sefydliad DPJ yn fy etholaeth i fy hun, sy'n cynorthwyo'r rhai mewn cymunedau gwledig drwy helpu i chwalu'r stigma yr ydych chi newydd sôn amdano sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Ac yn ogystal â gwneud hynny, maen nhw hefyd yn rhedeg prosiect o'r enw Share the Load, gwasanaeth ffôn a chwnsela 24 awr. Felly, yng ngoleuni'r gwaith da a wnaed gan Sefydliad DPJ, ac yn wir eraill, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo'r ddarpariaeth o rwydweithiau cymorth iechyd meddwl wedi'u teilwra a mwy lleol ar draws y wlad?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna, gan ymdrin unwaith eto ag agwedd bwysig iawn ar iechyd meddwl. Roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod sylfaenydd Sefydliad DPJ yn sioe Sir Benfro, lle gwelais i gyd-Aelodau eraill hefyd, a llwyddodd Lesley Griffiths a minnau i agor eu swyddfa yno yn sioe Sir Benfro a chael clywed ganddyn nhw am y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn falch o gynorthwyo eu gwaith yn ariannol hefyd, oherwydd wrth gwrs mae Paul Davies yn iawn, ceir gwendidau penodol yn y sector ffermio ar wahanol adegau. Bu gennym ni linellau cymorth iechyd meddwl pwrpasol i helpu'r gymuned ffermio yn mynd yn ôl mor bell â chlwy'r traed a'r genau yn union ar ddechrau'r cyfnod datganoli. Felly, rydym ni'n dal i weithio ac i fuddsoddi yn y gwasanaethau arbenigol hynny sy'n berthnasol yng nghefn gwlad Cymru.

Ond, mae Paul Davies hefyd yn iawn, mae agweddau eraill ar iechyd meddwl lle ceir anghenion penodol—gwasanaethau cyn-filwyr, er enghraifft, lle'r ydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl sydd, yn ogystal â bod ar gael i bawb, yn fedrus ac yn gallu ymateb i'r mathau penodol o gyflyrau iechyd meddwl y mae pobl sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn arbennig o agored i'w dioddef.

Prif Weinidog, wrth gwrs, nid dim ond plant a phobl ifanc, na ffermwyr yn wir, sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl priodol. Rydym ni hefyd yn gwybod bod iselder yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn nag mewn unrhyw grŵp oedran arall, ac weithiau nid ydyn nhw'n cael eu cydnabod fel y dylen nhw ac felly nid ydyn nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'n destun pryder mawr nad yw pobl yn cael rhywfaint o'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau, wrth gwrs, nad yw adrannau unigol yn gweithio'n annibynnol ar ei gilydd, ychwaith, ond yn hytrach o dan un ymbarél cydgysylltiedig.

Wrth symud ymlaen, pa sicrwydd allwch chi ei gynnig i bobl Cymru y bydd y gwasanaethau hyn ar gael i unrhyw un sydd eu hangen, beth bynnag fo'u hoed, eu daearyddiaeth neu eu cefndir, a phryd fyddwch chi'n hyderus y byddwn ni'n dechrau gweld y ffigurau hyn yn gwella ym maes cymorth iechyd meddwl yng Nghymru?

14:00

Llywydd, a gaf i ddweud wrth yr Aelod bod cymhlethdod, onid oes, yn y ffigurau o'r safbwynt ein bod ni eisiau i bobl ddod ymlaen, rydym ni'n annog pobl i beidio â theimlo stigma, rydym ni'n annog pobl i ddatgan eu bod nhw angen cymorth gyda chyflwr iechyd meddwl, ac yna mae'r ffigurau weithiau'n ymddangos fel pe byddai'r galw wedi cynyddu ac nad yw'n cael ei fodloni? Ond mewn gwirionedd, mae'n rhannol yn adlewyrchiad o lwyddiant yr ymgyrchoedd sydd wedi eu harwain o amgylch y Siambr hon dros flynyddoedd lawer i geisio gwneud yn siŵr bod pobl sydd angen cymorth gyda chyflwr iechyd meddwl yn teimlo'n ffyddiog am gyflwyno eu hunain ar ei gyfer. Dyna'n rhannol pam, yn y Cynulliad hwn, yn y trydydd tymor, y rhoddwyd y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ar y llyfr statud gyda'r gwasanaeth iechyd meddwl gofal sylfaenol newydd, ac rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn deyrnged i'r gwaith a wnaed yn y Cynulliad hwn, oherwydd mae hynny'n rhywle lle—. Rydym ni'n gwybod bod pobl hŷn yn fwy tebygol nag unrhyw ran arall o'r boblogaeth o fod mewn cysylltiad â'u meddyg teulu, ac felly'r gwasanaeth iechyd meddwl gofal sylfaenol ddylai fod y ffordd y mae pobl hŷn sy'n dioddef oherwydd unigrwydd, arwahanrwydd a phan fo hynny'n tueddu i droi'n gyflwr iechyd meddwl fel iselder—dyna pryd y caiff hynny ei adnabod gyntaf a dyna pryd y gellir darparu gwasanaeth rheng flaen ar eu cyfer.

Mae nifer y bobl sy'n cael cymorth gan y gwasanaeth iechyd meddwl gofal sylfaenol wedi cynyddu bob un blwyddyn ac mae bellach ar ei fwyaf llwyddiannus, ac eto, cadwyd yr amseroedd aros ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn isel drwy'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed mewn iechyd meddwl. Byddai'n hollol anghywir i unrhyw un feddwl am berson hŷn sydd ag iselder, bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i bobl hŷn ei ddioddef gan ei fod yn rhan o'r cyflwr o heneiddio. Mae angen i'r bobl hynny deimlo mor ffyddiog ag unrhyw un arall bod y gwasanaethau sydd yno ar gael iddynt hwythau hefyd.

Prif Weinidog, gostyngodd cynnyrch domestig gros 0.3 y cant ym mis Tachwedd, a gwn eich bod chi'n hoffi beio Brexit am unrhyw wendid yn yr economi. Fodd bynnag, onid yw'n ddadlennol ein bod ni wedi cael rhywfaint o ddata llawer cryfach ers yr etholiad? Er enghraifft, mae'r Halifax wedi dweud bod prisiau tai wedi codi gan 4 y cant ym mis Rhagfyr. Cynyddodd cydbwysedd optimistiaeth busnes Deloitte, a arolygodd brif swyddogion ariannol cwmnïau rhwng 13 Rhagfyr, sef y diwrnod ar ôl yr etholiad, wrth gwrs, a 6 Ionawr, o -35 y cant  i +45 y cant. Maen nhw'n dweud bod hyn, a dyfynnaf,

yn gynnydd digynsail o ran teimladau busnes.

Prif Weinidog, onid yw'n amlwg erbyn hyn nad y posibilrwydd o Brexit oedd yr hyn a oedd yn dal yr economi yn ôl, ond y posibilrwydd o Corbyn?

Nid wyf i'n credu bod hynny'n wir am eiliad, Llywydd. Rwyf i eisiau i economi'r DU fod yn llwyddiant, oherwydd bydd economi Cymru'n llwyddiant ochr yn ochr â hi. Felly, lle ceir arwyddion bod yr economi'n cryfhau ac yn gwella, yna wrth gwrs mae'r rheini i'w croesawu. Ond nid yw'r arwyddion i gyd yn symud i'r un cyfeiriad o bell ffordd. Nid yn unig yr oedd data cynnyrch domestig gros yn dangos bod economi'r DU yn tyfu gan ddim ond 0.1 y cant, roedden nhw hefyd yn dangos gostyngiad o 0.3 y cant ym maes gweithgynhyrchu ac mewn gwasanaethau.

Felly mae'r data ar economi'r DU yn gymysg. Pan geir arwyddion da, gadewch i ni eu croesawu, a gobeithio y gellir eu defnyddio i barhau i greu economi lwyddiannus, ond mae'n rhy gynnar o lawer i ddod i unrhyw gasgliadau ynghylch pa un a fydd yr arwyddion sydd yn bodoli o bethau'n cryfhau yn troi'n duedd hirdymor, neu'r duedd a welsom mewn data cynnyrch domestig gros ddoe—y mae rhai economegwyr pwysig yn awgrymu sy'n debygol o arwain at ddirwasgiad ffurfiol yn economi'r DU yn 2020—pa un ai dyna fydd y gwirionedd yn y pen draw.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb ystyriol a meddylgar. Prif Weinidog, pan ofynnais i chi y tro cyntaf am y gostyngiad i dderbyniadau masnachol y doll stamp ar ôl cyflwyno'r dreth trafodiadau tir, dywedasoch ei bod hi'n rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau. Erbyn hyn, mae gennym ni'r data pendant yn nogfen 'Welsh taxes outlook' y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac maen nhw'n dweud bod y ffaith eich bod chi wedi cyhoeddi cyfraddau a throthwyon treth trafodiadau tir ymlaen llaw wedi creu heriau i'w rhagolygon treth trafodiadau tir, yn enwedig o ran eich uwch-dreth o 6 y cant ar drafodion masnachol dros £1 filiwn. Maen nhw'n dod i'r casgliad bod alldro'r chwarter olaf ar gyfer treth dir y doll stamp masnachol a dalwyd i Lywodraeth y DU yn Ch1 2018 yn £20 miliwn, neu 25 y cant yn uwch nag yr oedden nhw'n ei ddisgwyl, gan fod trafodion yn cael eu dwyn ymlaen i osgoi treth trafodiadau tir Cymru. Maen nhw hefyd yn dweud bod trafodion eiddo wedi cynyddu gan 50 y cant yn gyffredinol yn ystod chwarter cyntaf 2018 o'u cymharu â chwarter cyntaf 2017, gan fod y broses o rag-dalu yn amlwg cyn cyflwyno'r dreth trafodiadau tir. Roedd hyn yn cynnwys eiddo preswyl gwerth uwch. A ydych chi'n derbyn mai camgymeriad oedd cyhoeddi'r codiadau treth hynny ymlaen llaw, gan ei fod wedi dwyn achosion o brynu eiddo ymlaen, gan ei bod yn well gan bobl dalu trethi is i Lywodraeth y DU na threthi uwch i Lywodraeth Cymru?

14:05

Na, nid wyf i'n derbyn am eiliad ei fod yn gamgymeriad, Llywydd, fe'i gwnaed am resymau da iawn, ac fe'i gwnaed yn arbennig ar sail cyngor y sector, yr oedd angen iddo allu cynllunio ar gyfer y newidiadau, yr oedd angen iddo allu cynllunio ar gyfer y ffaith bod y rhain yn drethi a oedd yn cael eu casglu yng Nghymru bellach, ac yr oedd angen iddyn nhw wneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o amser i fod yn effro i unrhyw newidiadau y byddai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn eu rhoi ar y llyfr statud. Roedd rhagbrynu bob amser yn mynd i fod yn ffenomen o symud o un system i'r llall; roedd yn sicr yn ffenomen o brofiad yr Alban.

Mae yna broblem. Nid oedi cyn cyhoeddi'r hyn a gyhoeddwyd gennym oedd yr ateb—yr ateb yw i Lywodraeth y DU ad-dalu i ni yr arian annisgwyl y mae wedi ei dderbyn bellach, ac rydym ni'n cynnal trafodaethau gyda nhw am hynny, oherwydd mae rheolau'r fframwaith cyllidol yn eglur, os oes symudiadau annisgwyl o'r math hwn ac y gellir eu priodoli yn y ffordd yr wyf i'n cytuno—mae'r Aelod yn iawn yn ei briodoliad—yna dylid ad-dalu'r arian hwnnw i goffrau Cymru oherwydd dyna lle y dylai fod.

Buddsoddiad Economaidd yn Ogwr

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith buddsoddiad economaidd yn Ogwr ers 2016? OAQ54920

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ymhlith y buddsoddiadau economaidd niferus yr ydym ni wedi eu gwneud yn Ogwr mae gwasanaethau ar y Sul a cherbydau newydd ar reilffordd Maesteg; cyllid twf ar gyfer busnesau ym Mrynmenyn a Phont-y-clun; cefnogi 30 o brentisiaethau yn Sony ym Mhencoed; ac adfywio neuadd y dref Maesteg gyda gwerth £3.5 miliwn o fuddsoddiad.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond rwy'n mynd i ofyn iddo a allai fynd ymhellach fyth, gan edrych ymlaen. Rwy'n meddwl tybed a fyddai ef a'i Weinidogion yn y Cabinet yn agored i rai syniadau y mae'r awdurdod lleol yn gweithio arnyn nhw. Felly, er enghraifft, gallai datblygu canolfan drafnidiaeth i Ben-y-bont ar Ogwr ynghyd ag ail-reoleiddio'r bysiau gael y bysiau i fynd i'r mannau gwaith ar yr adeg y mae eu hangen arnom ar hyd y llwybrau y mae eu hangen arnom; buddsoddi mewn cymunedau a chanol trefi mewn lleoedd fel Pontycymer a Nantymoel; ailddatblygu defnydd cymysg o safleoedd gwag, fel safle strategol Heol Ewenni, yn ogystal â Sarn a safle gwag Christie-Tyler; canolfannau menter yn y tri chwm yn darparu swyddi yn nes at adref; datblygu ymhellach pethau fel cynllun geothermol dŵr cloddfa Caerau hefyd; a hefyd, datblygu parc gwledig Bryngarw ymhellach nag y mae wedi ei ddatblygu ar hyn o bryd, fel y porth hwnnw ar gyfer twristiaeth antur, nid yn unig i mewn i Ddyffryn Ogwr, ond i mewn i gymoedd Rhondda ac Afan hefyd. A wnaiff ef bwysleisio hynny, gan gydweithio â'i Weinidogion ar draws y Llywodraeth, ac a hoffai ddod i ymweld â ni, ar unrhyw adeg sy'n gyfleus iddo ef, er mwyn i ni allu dangos iddo'r potensial i sicrhau swyddi a ffyniant i bawb ym mhob un o'n cymunedau?

Wel, Llywydd, gyda'r repertoire o syniadau yr ydym ni newydd eu clywed, nid yw'n syndod bod diweithdra yn etholaeth Ogwr ar ei lefel isaf erioed, lle mae busnesau gweithredol yn yr etholaeth ar eu lefel uchaf erioed, a lle mae'r twf i enillion yn etholaeth Ogwr dros y degawd diwethaf yn uwch na'r twf, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig gyfan? Mae'n wych clywed y fath gyfoeth o syniadau, y byddwn ni fel Llywodraeth eisiau eu trafod gyda phob un o fy nghyd-Weinidogion, ac, wrth gwrs, byddwn wrth fy modd o gael dod i'r etholaeth a bod gyda'r Aelod yn gweld drosof fy hun y posibiliadau ymarferol ar gyfer gwelliant pellach eto yn economi Ogwr.

Wel, wrth gwrs, mae Ogwr yn fy rhanbarth i, felly efallai y gallaf innau fanteisio ar y gwahoddiad hwnnw hefyd, Huw—diolch i chi. Fel yr ydym ni wedi ei glywed o'r blaen yn y Siambr, wrth gwrs, bydd etholwyr yn Ogwr, yn ogystal â rhannau eraill o'm rhanbarth i, wedi gweithio yn Ford a'r cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sydd wedi cefnogi Ford. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi arian cyfatebol i gyfraniad £50,000 prifddinas-ranbarth Caerdydd i gronfa sbarduno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei fuddsoddi mewn adnoddau cychwynnol i helpu i ddatblygu rhai cynigion i liniaru effaith y colledion swyddi hynny, ac efallai mai'r rhai ohonyn nhw fydd y rhai y mae Huw Irranca-Davies newydd eu crybwyll. A ydych chi wedi cael unrhyw arwydd eto ynghylch pa un a yw'r Cyngor wedi cael yr £100,000 llawn a faint o hwnnw sydd wedi cael ei fuddsoddi yn y meysydd blaenoriaeth hynny o ynni glân a'r gwelliannau y mae taer angen amdanyn nhw yng nghanol trefi, mewn rhannau eraill o'm rhanbarth i, mewn gwirionedd? A yw'n amlwg bod y rheini'n lliniaru effaith colledion swyddi Ford neu a ydyn nhw'n ymwneud yn fwy cyffredinol â gwella'r economi leol?

14:10

Diolchaf i Suzy Davies am hynna, Dirprwy Lywydd. Mae'n wir bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £50,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i'w gyfateb gan y fargen ddinesig. Nid oes gennyf, mae arnaf ofn, ar unwaith yn fy mhen, y prosiectau sy'n cael eu llunio o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw, ond rwyf yn gwybod bod rhestr o brosiectau y mae swyddogion Llywodraeth Cymru a'r rhai ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod yn gweithio arnyn nhw yn benodol er mwyn gallu defnyddio'r buddsoddiad hwnnw.

Mae hynny'n rhan, Dirprwy Lywydd, o amrywiaeth lawer ehangach o gamau y mae'r timau sy'n gweithio ar ddyfodol pobl a lleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymroi iddynt: cyflwyno Ineos i Ben-y-bont ar Ogwr, gyda'r potensial o swyddi yno yn y dyfodol, y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mai dyna'r cynnig mwyaf deniadol y gallwn ni ei wneud. Rydym ni'n benderfynol o barhau i weithio gyda'n holl bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynnig cyfleoedd economaidd newydd i bobl sydd wedi colli eu swyddi yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr, a bod Ogwr ac etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, a'r rhanbarth cyfan y mae'r Aelod yn ei gynrychioli, yn parhau i fwynhau dyfodol economaidd llwyddiannus.

Erasmus+

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y rhaglen Erasmus Plus? OAQ54932

Diolchaf i Lynne Neagle am hynna. Mae'n siomedig iawn bod y Llywodraeth Geidwadol newydd, yr wythnos diwethaf, wedi trechu ymdrechion i'w gwneud yn ofynnol i'r DU gymryd rhan yn Erasmus+ ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny, Dirprwy Lywydd, er gwaethaf galwadau cyson gan Lywodraethau Cymru a'r Alban i'r cyfranogiad hwnnw gael ei sicrhau.

Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n rhannu'r siom honno ynglŷn â'r bleidlais yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n fyfyriwr Erasmus. Cefais i, o gartref dosbarth gweithiol, o un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, nad oedd erioed wedi cael gwyliau teuluol dramor hyd yn oed, gyfle i fynd i astudio ym Mhrifysgol Paris o dan raglen Erasmus, ac rwyf i wedi bod yn ddiolchgar erioed am y cyfle hwnnw.

Nid yw parhau i gymryd rhan yn Erasmus yn anghydnaws mewn unrhyw ffordd â gadael yr UE. A wnewch chi, gan weithio gyda'ch Gweinidog Addysg, wneud popeth yn eich gallu i roi ar ddeall i Lywodraeth y DU y manteision enfawr y mae Erasmus+ yn eu cynnig i bobl ifanc, yn enwedig ein pobl ifanc fwyaf difreintiedig, a gwneud beth bynnag y gallwch chi i sicrhau y gall Cymru barhau i chwarae rhan lawn yn y rhaglen UE hon sy'n newid bywydau?

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am hynna? Mae ei thystiolaeth unigol yn rymus iawn. Yn sicr, dylem ni i gyd fod yn benderfynol na chaiff pobl ifanc yn y dyfodol eu hamddifadu o gyfleoedd a oedd ar gael i eraill o ganlyniad i gymryd rhan yn Erasmus ac Erasmus+.

Gwn fod y Gweinidog addysg, Kirsty Williams, wedi dadlau'n gyson mewn cyfarfodydd gyda Gweinidogion y DU i'r DU barhau i gymryd rhan ynddo oherwydd, fel y dywed Lynne Neagle, mae ar gael i drydydd gwledydd; nid oes dim byd o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd sy'n golygu bod yn rhaid i ni adael Erasmus+. Ac mae Cymru wedi elwa'n fawr iawn ohono. Mae dros €40 miliwn wedi dod i Gymru ar gyfer prosiectau Erasmus+ rhwng 2014 a 2018, a buddsoddwyd €13.6 miliwn i roi'r profiadau hynny i bobl ifanc dim ond y llynedd. Yn aml, nid yw'n cael ei ddeall yn dda, Dirprwy Lywydd, yn ogystal â'r math o brofiadau prifysgol y cyfeiriodd Lynne atyn nhw, ei fod hefyd ar gael erbyn hyn ar gyfer addysg bellach, ar gyfer ysgolion, mewn addysg i oedolion, ac yn hollbwysig, i'r math o bobl ifanc y cyfeiriodd Lynne Neagle atyn nhw, drwy'r gwasanaeth ieuenctid hefyd. Rwyf innau, hefyd, wedi cael profiad uniongyrchol o fynd â grwpiau o bobl ifanc i Ewrop o dan gynllun Erasmus+ na fydden nhw erioed wedi cael y cyfle hwnnw pe na byddai'r cyllid hwnnw ar gael iddyn nhw, ac mae'n drueni mawr, o gael cyfle yr wythnos diwethaf i sicrhau'r cyfranogiad hwnnw yn y dyfodol, bod y Llywodraeth Geidwadol newydd wedi cefnu arno.

14:15

Ar ôl y bleidlais i chi gyfeirio ati ar y cymal hwn, dywedodd gwefan FactCheck Channel 4 News nad yw pleidleisio yn erbyn y cymal yr un fath â diddymu cyfraniad y DU yn y cynllun, ac fe'i gwnaed yn eglur gan Lywodraeth y DU nad yw'r bleidlais yn terfynu nac yn atal y DU rhag cymryd rhan yn Erasmus. Sut felly ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Lywodraeth y DU, sef, wrth i ni ddechrau negodi gyda'r UE ar y berthynas yn y dyfodol, ein bod ni eisiau sicrhau y caiff myfyrwyr y DU ac Ewropeaidd barhau i elwa ar systemau addysg blaenllaw ei gilydd a'i bod yn anghywir dweud bod y bleidlais gan ASau ddydd Mercher diwethaf yn golygu y bydd y DU yn gadael cynllun Erasmus?

Wel, pe na byddai'r bleidlais gan ASau yn newid unrhyw beth, Dirprwy Lywydd, pam felly y gwnaeth ei Lywodraeth ef ei threchu? Os mai eu bwriad yw sicrhau y dylid parhau â phopeth sydd gennym ni nawr yn y dyfodol, roedd ganddyn nhw ffordd o sicrhau y byddai hynny'n digwydd. Gofynnodd i mi beth yr wyf i'n ei ofni, a dyma fy ofn: pan ddaw Llywodraeth y DU i gynllunio ei system ei hun, y bydd yn system fwy cyfyngedig, y bydd yn system llai hael, y bydd yn atal cyfranogiad y math o bobl ifanc a nodwyd gan Lynne Neagle yn ei chwestiwn.

Roedd ffordd syml, uniongyrchol a diamwys y gallai'r Llywodraeth fod wedi anfon ei neges ynglŷn â pharhau i gymryd rhan yn Erasmus+: gallai fod wedi caniatáu i'r gwelliant hwnnw fynd drwodd yr wythnos diwethaf. Ni wnaeth hynny, ac mae'n rhaid bod rheswm am hynny. Y rheswm yw nad ydyn nhw'n bwriadu disodli Erasmus ar sail tebyg am debyg yn y dyfodol, a bydd pobl ifanc yng Nghymru ar eu colled o ganlyniad.

Hoffwn gytuno â rhai o'r sylwadau a wnaed eisoes bod hwn yn gyfle gwych i lawer o bobl ifanc, nid yn yn unig yn academaidd, ond mae'n gallu newid eu bywydau a'r bobl y maen nhw'n cyfarfod â nhw a'r math o fywyd y byddan nhw'n mynd ymlaen i'w fyw yn y wlad hon. Ac rwy'n credu, fel plaid uchelgais, bod y Ceidwadwyr yn cymryd y safiad anghywir yn y fan yma, oherwydd os ydyn nhw'n credu y dylai pawb gael cyfle i astudio dramor, mae'n bosibl y byddan nhw'n atal pobl dosbarth gweithiol a dosbarth canol rhag cael y cyfle a dim ond y cyfoethog fydd yn gallu cymryd rhan yn y cynlluniau penodol hyn. Ac mae hynny'n codi cywilydd arnyn nhw.

Rwyf i wedi clywed, ac rwyf i wedi darllen yr wybodaeth gwirio ffeithiau, eu bod nhw'n ystyried—dim ond yn ystyried—cael trafodaeth ar ddyfodol Erasmus mewn unrhyw drafodaethau masnach yn y dyfodol. Nid yw'n sicrhau y byddwn ni'n aros o fewn Erasmus. Os bydd hynny'n digwydd, pa fath o drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda'r Undeb Ewropeaidd? Er enghraifft, os bydd y Ceidwadwyr yn cyflwyno'r prosiect wedi'i wanhau hwn yr ydych chi wedi ei ragweld, beth fyddwch chi'n gallu ei wneud o safbwynt Cymru o ran cynllun amgen? Gwn na allwch chi gysylltu'n uniongyrchol, gan nad ydym ni'n genedl-wladwriaeth yn hynny o beth, i allu cael y sgyrsiau hynny, ond a allwn ni ei wneud fesul sefydliad, neu a fydd hynny'n fwy anodd ei wneud? A oes dewisiadau eraill ar y bwrdd, er bod pob un ohonom ni eisiau brwydro dros y rhaglen Erasmus bresennol? Pa ddewisiadau eraill ydych chi'n eu hystyried ar hyn o bryd fel Llywodraeth?

Bydd ffyrdd eraill y gallwn ni geisio cefnogi'r gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud yn Erasmus trwy gysylltiadau rhwng sefydliadau ac yn y blaen, ond y peth cyntaf, Dirprwy Lywydd, y byddai angen i ni ei wneud fyddai sicrhau'r arian ar ei gyfer, oherwydd nid yw'r arian ar gyfer Erasmus yn cael ei gadw yn yr adran addysg yn San Steffan, fe'i cedwir gan y Trysorlys. Ac os bydd Llywodraeth y DU yn dewis gwario llai ar Erasmus yn y dyfodol, yna mae'n rhaid iddyn nhw roi'r arian i ni a fyddai wedi cael ei wario yng Nghymru yn y gorffennol. Dyna yr wyf i'n ei gredu yr oedd y Blaid Geidwadol yn ei olygu wrth honni na fyddai Cymru yr un geiniog yn dlotach. Dylem ni gael yr arian sy'n cael ei wario ar Erasmus nawr, ac os nad ydyn nhw'n mynd i'w wario, dylen nhw roi'r arian i ni fel y gallwn ni greu'r cyfleoedd hynny i bobl ifanc yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae llawer o wledydd y tu allan i'r UE, fel y gwyddoch yn iawn, yn cymryd rhan lawn yn Erasmus+, gan gynnwys Twrci. Does neb yn dadlau na fyddai myfyrwyr y DU yn mwynhau'r un cyfleoedd addysgol a diwylliannol ag y byddai myfyrwyr o Dwrci yn eu mwynhau. Nid oes angen i'r Llywodraeth rwymo ei hun drwy statud i negodi hyn o gwbl. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hwn yn faes y gallai'r Llywodraeth a'r holl bleidiau gwleidyddol fod yn unol yn ei gylch yn y negodiadau sydd ar fin cael eu cynnal gyda'r UE?

14:20

Wel, rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn negodi cyfranogiad cyfatebol yn Erasmus+ ag yr ydym ni wedi ei fwynhau hyd yma, ac rwy'n cytuno â'r pwynt hwn a wnaeth Mandy Jones: nid oes unrhyw reswm pam na allen nhw wneud hynny, oherwydd caiff trydedd wlad gymryd rhan lawn yn Erasmus+. Dyna'r wyf i'n chwilio amdano gan Lywodraeth y DU, ac nid rhyw fersiwn wannach, fwy cyfyngedig, wedi ei chreu gartref. Rwyf i eisiau i bobl ifanc Cymru gael yr un cyfleoedd yn union ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ag y maen nhw wedi eu cael nawr. Nid yw'r llyfr rheolau yn atal hynny, a dyna y mae'n rhaid iddyn nhw ei sicrhau.

Datblygu Economaidd yng Nghasnewydd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghasnewydd? OAQ54917

Diolchaf i John Griffiths am hynna. Er bod pwysau gwirioneddol yn amlwg mewn diwydiannau hirsefydlog sydd wedi'u lleoli yng Nghasnewydd, mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn nodi'r ddinas a'i chyffiniau fel canolfan ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol. Polisi Llywodraeth Cymru yw cefnogi cyflogaeth bresennol gan dyfu'r diwydiannau hynny sy'n cynnig swyddi ar gyfer y dyfodol ar yr un pryd.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am hynna. Mae gan Gasnewydd botensial mawr o ran ei chysylltiadau trafnidiaeth, y draffordd, y rheilffyrdd a'r porthladd, ac, wrth gwrs, ei safle daearyddol rhwng pwerdai economaidd Caerdydd a Bryste. Mae ganddi boblogaeth leol a gweithlu gydnerth iawn hefyd sydd wedi addasu i heriau economaidd dros flynyddoedd lawer. Rydym ni'n gweld diwydiannau newydd, Prif Weinidog, seiberddiogelwch, meddalwedd cyfrifiadurol, y diwydiant microsglodion, ac, yn amlwg, rydym ni eisiau dal gafael ar ein swyddi presennol ym maes dur ac mewn meysydd eraill. Mae gennym ni adfywiad yng nghanol y ddinas yn seiliedig ar y ganolfan gynadledda ryngwladol a gwestai newydd. Mae llawer yn digwydd, a gallai llawer ddigwydd, ac rwy'n cefnogi'n llwyr ymgyrch y South Wales Argus i dynnu sylw at y pethau cadarnhaol hyn wrth i ni symud ymlaen. Felly, sut gall Llywodraeth Cymru weithio orau gyda Chyngor Dinas Casnewydd, y sector preifat, prifysgolion ac eraill i strwythuro, datblygu a gwireddu'r potensial hwn i Gasnewydd a Chymru?

A gaf i ddiolch i John Griffiths am hynna, a chymeradwyo'n llwyr yr hyn a ddywedodd am y dyfodol cadarnhaol sydd ar gael i Gasnewydd, a'r ymdrechion aruthrol sy'n cael eu gwneud ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y ddinas i greu'r math o ddyfodol a fydd yn cynnig ffyniant i'w dinasyddion? Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi yn yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n datblygu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch sy'n barod ar gyfer gwaith. Rydym ni'n rhan o Gampws Gwyddor Data y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac mae hwnnw'n gyfle gwirioneddol fawr i Gasnewydd wneud yn siŵr ei bod ar flaen y gad yn yr ymdrech gyhoeddus a phreifat ledled y DU i elwa ar y buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn ymchwil gwyddor data.

Ac mae gan Gasnewydd gymaint i'w gynnig yn hyn i gyd. Rwy'n mynd i gymryd dim ond dwy enghraifft o'r cwestiwn atodol a gynigiwyd gan John Griffiths: ymrwymiad ei gweithlu lleol. Pan gefais i gyfarfod, ynghyd â Gweinidog yr economi, gyda bwrdd llawn Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles, y cwmni gweithgynhyrchu trenau, fe ddywedon nhw wrthyf eu bod wedi  eu plesio'n fawr gan ansawdd ac ymrwymiad y gweithlu a recriwtiwyd i'r diwydiant newydd hwnnw yng Nghasnewydd. Roedden nhw wedi dod yn syth o'r ffatri, roedden nhw wedi treulio'r diwrnod cyfan yno, a dywedon nhw pe bydden nhw'n mynd ag un peth i ffwrdd o'u hymweliad â Chymru, byddai hwnnw'n ymwneud ag ansawdd y bobl yr oedden nhw wedi gallu eu recriwtio i weithio yn y diwydiant hwnnw.

O ran cysylltedd—y pwynt olaf, Llywydd—pan oeddwn i yn Japan ddiwedd mis Medi y llynedd ac yn cyfarfod ag amrywiaeth eang o gwmnïau Japaneaidd mawr, mae llawer ohonyn nhw'n cael eu denu at fuddsoddi yng Nghasnewydd a de-ddwyrain Cymru oherwydd, o'u safbwynt hwy, mae bod awr a hanner ar drên o Lundain yn golygu eich bod chi fwy neu lai ar garreg y drws, ac mae pellterau sy'n ymddangos yn faith i ni—iddyn nhw, roedd hynny'n rhywbeth a oedd yn sicr o blaid Casnewydd.

Y Diwydiant Prosesu Bwyd

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y diwydiant prosesu bwyd? OAQ54934

Diolch i Llyr Gruffydd. Dros sawl tymor o'r Cynulliad, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad sylweddol mewn prosesu bwyd fel rhan o'r sector bwyd a diod. Rydym ni wedi buddsoddi £94 miliwn yn uniongyrchol mewn rhaglenni, gan gynnwys buddsoddi cyfalaf, cymorth technegol a datblygu proffeil y sector a llwybrau at y farchnad.

14:25

Rŷn ni i gyd yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r effaith y mae colli hufenfa Tomlinson's wedi'i gael, nid yn unig ar y 330 o weithwyr oedd yn gweithio yna, wrth gwrs, ond hefyd ar ddwsinau o ffermwyr sydd wedi wynebu colledion eithriadol o safbwynt darparu llaeth ond heb gael eu talu amdano fe. Ac rŷn ni'n deall nawr o PricewaterhouseCoopers mai dim ond rhyw 3c yn y bunt y bydd y darparwyr llaeth yna yn eu cael mewn taliadau—yn wir, os oes unrhyw beth ar ôl, hyd yn oed i gyflawni hynny. Ac rŷn ni’n gweld, wrth gwrs, dro ar ôl tro mai'r ffermwyr sydd ar waelod y domen pan mae'n dod i sefyllfaoedd o'r fath. Gwelon ni'r un peth pan aeth Dairy Farmers of Britain, wrth gwrs, i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae'r gweinyddwyr eu hunain â'r hawl cyntaf i daliadau, wedyn y banciau, wedyn gweithwyr y cwmni, a'r ffermwyr sydd olaf.

Nawr, mae yna awgrym, wrth gwrs, wedi bod y dylid creu cronfa arbennig lle mae’r proseswyr llaeth yn talu mewn iddo fe—rhyw fath o gynllun yswiriant, os liciwch chi—ac mae modd tynnu oddi wrtho fe wedyn mewn sefyllfaoedd lle mae angen digolledu'r cynhyrchwyr. Mae'r Agriculture and Horticulture Development Board yn gweinyddu cronfa o'r fath o safbwynt cynhyrchwyr bwyd grawn a chnydau. Felly, gaf i ofyn a ydy hwnna'n rhywbeth mae'r Llywodraeth wedi edrych arno fe neu'n barod i'w ystyried? Ac yn fwy cyffredinol, pa gamau ŷch chi yn eu cymryd i amddiffyn cynhyrchwyr rhag bod yn agored i sefyllfa o'r fath yn y dyfodol?

Diolch i Llyr Gruffydd. Wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol o'r effaith y mae Tomlinson's Dairies wedi'i gael ar y sector yng ngogledd Cymru. Dwi'n falch o ddweud taw beth rŷn ni wedi'i glywed yw bod bron pob un o'r bobl oedd yn gweithio yn Tomlinson's oedd eisiau ffeindio gwaith newydd wedi llwyddo i wneud hynny. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog dros y sector wedi bod yn glir gyda'r swyddogion i roi blaenoriaeth i'r ffermwyr pan oedden ni'n rhoi taliadau, farm payments, mas—i fod yn glir iddyn nhw i roi rhyw fath o flaenoriaeth iddyn nhw. A dwi'n credu bod bron pob un o'r bobl oedd wedi rhoi llaeth o'r blaen i Tomlinson's wedi ffeindio llefydd eraill i roi y llaeth.

Mae'r Gweinidog wedi clywed beth oedd yr Aelod wedi'i ddweud am y gronfa, yr yswiriant ac yn y blaen, a dwi'n siŵr ei bod hi'n fodlon trafod y posibiliadau yna gyda swyddogion.

Y Sector Gweithgynhyrchu Amddiffyn

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd y sector gweithgynhyrchu amddiffyn i economi Cymoedd De Cymru? OAQ54929

Dirprwy Lywydd, mae'r sector yn gyflogwr pwysig yng nghymoedd y de. Mae General Dynamics ei hun yn darparu swyddi medrus iawn ac sy'n talu'n dda i oddeutu 1,100 o bobl yn ei safleoedd yn Oakdale a Merthyr Tudful.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn achos Merthyr Tudful a Rhymni, a gaf i gofnodi'r pwys mawr yr wyf i'n ei roi i'r swyddi, y manteision economaidd a'r proffil a ddaw o General Dynamics Land Systems yn yr etholaeth? Yn wir, gwn fod swyddi o'r fath o werth mawr ym mhob un o'n hetholaethau yn y Cymoedd, felly a wnewch chi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi General Dynamics Land Systems UK i ennill y rhaglen grŵp 2 warchodedig cerbydau aml-swyddogaeth? Mae'r mathau hyn o fuddsoddiadau yn amlwg o bwys strategol i economi Cymru, ac os byddan nhw'n llwyddiannus, bydd hyn yn golygu mwy o swyddi medrus iawn â chyflogau da yn darparu'r cerbyd Eagle 6x6 o'r radd flaenaf i fyddin Prydain? Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i ni eu helpu nhw i gyflawni hynny.

Diolchaf i'r Aelod am hynna ac am ei chefnogaeth gref iawn i'r cwmnïau hynny yn ei hetholaeth sy'n gwneud cyfraniad mor bwysig at economi Cymru ac sy'n gyflogwr mor werthfawr yn ei hetholaeth hi ac mewn rhai eraill hefyd.

Gwn y bydd yn falch o wybod bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi ymweld â chyfleuster Merthyr yr wythnos diwethaf ac wedi cael gweld y cerbyd Eagle yn bersonol, ac o ganlyniad mae wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros gaffael amddiffyn yn Llywodraeth y DU yr wythnos hon yn cefnogi'r rhaglen grŵp 2 warchodedig cerbyd aml-swyddogaeth y DU ac yn pwysleisio'n arbennig y manteision y bydd ennill y contract yn eu sicrhau i ardal cymoedd y de, ac yn sicrhau bod y swyddi hynny sydd mor bwysig yn etholaeth Merthyr yn parhau i gael eu cefnogi gan y Llywodraeth hon a chan Lywodraeth y DU hefyd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Gan nad oes unrhyw welliannau wedi eu cyflwyno, mae'r amser a neilltuwyd ar gyfer y ddadl Cyfnod 3 ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) wedi ei leihau. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

14:30

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, gan Lywodraeth Cymru, os caf i? Mae'r cyntaf yn gais am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran ei gynigion am gorff newydd i lais y dinesydd yng Nghymru. Fel y bydd y rheolwr busnes yn gwybod, ac fel, yn wir, y bydd y Trefnydd yn gwybod, bwriad y Llywodraeth yw bod cynghorau iechyd cymuned yn cael eu disodli gan un corff llais y dinesydd i weithredu fel corff gwarchod cleifion yng Nghymru, ac mae'n ymddangos y bydd y polisi hwnnw'n cael ei weithredu'n llawn gan y Llywodraeth. Un o'r pethau yr hoffwn i ei weld, os oes corff fel hwnnw'n mynd i fodoli, yw ei fod yn cael ei leoli mewn rhan arall o Gymru, y tu allan i Gaerdydd. Ac a gaf i gyflwyno cais ar gyfer fy etholaeth i fy hun, gan ei bod wedi'i lleoli'n ganolog ar hyd arfordir y Gogledd, ac yn hawdd ei chyrraedd ar hyd coridor yr A55, fel lleoliad addas posibl? Rwy'n credu ei bod yn bwysig, lle bo modd, fod y swyddi'n mynd y tu allan i'r brifddinas hon, o ystyried nifer y swyddi sydd eisoes yma o ran swyddi Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus, ac rwy'n credu y byddai lleoli corff newydd fel hwn yn y Gogledd yn mynd yn bell iawn tuag at gydnabod pwysigrwydd y rhanbarth hwnnw i Lywodraeth Cymru.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o ran unrhyw gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i chynnig i wasanaethau tân Awstralia o ganlyniad i'r tanau gwyllt yn y fan honno? Rydym ni i gyd wedi gweld y golygfeydd ofnadwy o gartrefi'n cael eu dinistrio, eiddo'n cael ei ddinistrio, busnesau'n cael eu dinistrio, ac yn wir y dinistr enfawr o fywyd gwyllt yn Awstralia yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n siŵr fod pawb yn cydymdeimlo'n fawr iawn â'r rheini yr effeithiwyd arnynt. Ond wrth gwrs, yn anffodus rydym wedi gweld diffoddwyr tân dewr yn cael anhawster ymdopi â'r her o'u blaenau, ac mae rhai, wrth gwrs, wedi colli eu bywydau.

Mae nifer o aelodau staff sy'n ddiffoddwyr tân ar gyfer gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cysylltu â mi, ac maen nhw'n awyddus i fynd allan a chynorthwyo mewn ffordd ymarferol. Wedi trafod hyn gyda nhw, mae'n ymddangos mai ymateb gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw nad oes ganddo'r adnoddau i'w galluogi i gael eu rhyddhau yn y ffordd honno. Rwy'n credu, o ystyried y cysylltiadau rhwng Cymru ac Awstralia, y byddai'n gyfle gwirioneddol i gryfhau'r cysylltiadau hynny a sefyll ochr yn ochr â'r gwasanaeth tân lawr yno pe byddai Cymru yn gallu dod o hyd i'r adnodd i anfon nifer o ddiffoddwyr tân o bob un o'r gwasanaethau tân yno a chynorthwyo yn yr ymdrech honno. Felly rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch a allai hyn fod yn bosibl.  

Diolch i Darren Millar am godi'r materion hynny. O ran y cyntaf, sy'n ymwneud â dyfodol llais y claf yng Nghymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gwnaeth gais brwd ar ran ei etholaeth ei hun. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y mater penodol hwn, wrth gwrs. Ond, yn fwy cyffredinol, gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, yn eithaf diweddar, ein strategaeth leoli ein hunain, oherwydd deallwn fod angen inni ddangos arweiniad yn y maes hwn i sicrhau bod ein hôl-troed cyflogaeth yn ymestyn ledled Cymru a'n bod ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n hyrwyddo ein hymdrechion i ddatgarboneiddio a'n polisi 'canol y dref yn gyntaf ' ac ati. Felly, byddwn i'n awgrymu y dylai'r Aelod edrych ar y strategaeth honno, dim ond o ran y diddordeb cyffredinol sydd ganddo ef yn y dull hwnnw.

O ran y tanau yn Awstralia, yn amlwg, rydym yn anfon ein cydymdeimlad at bawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae'n amlwg yn ddinistriol iawn i'r wlad. Rwy'n credu eich bod chi wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig, neu, yn sicr, rwyf wedi gweld cwestiwn ysgrifenedig, ar yr  union bwnc hwn i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Gwnaf i'n sicr eich bod chi hefyd yn cael yr ymateb hwn, ac, yn amlwg, mae hi wedi bod yma i glywed yr ymholiad penodol hwnnw ynglŷn â'r gwasanaeth tân.

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Hoffwn i godi mater y tynnwyd fy sylw ato gan bobl sy'n gweithio yn y sector cymorth i bobl anabl—nad yw eich Llywodraeth bellach yn ariannu Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru. Sefydlwyd y llinell gymorth dros 20 mlynedd yn ôl yn ystod dyddiau bore oes datganoli, ac mae wedi cefnogi mwy na 50,000 o bobl yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae'n rhaff achub hanfodol i'r 64,000 o bobl yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu. Dim ond y llynedd, fe gefnogwyd mwy na 2,000 o bobl drwy'r gwasanaeth. Nawr, rwyf wedi cael gwybod ei bod yn costio tua £150,000 y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth ac, hyd yma, mae wedi cael ei redeg gan Mencap. Rwy'n credu bod hynny'n werth ardderchog am arian, o ystyried ei fod yn ymdrin ag achosion cymhleth, fel helpu rhieni i herio penderfyniadau am oriau cymorth yn ffurfiol, helpu teuluoedd mewn trallod drwy gwestau a rhoi cyngor ynghylch cael gafael ar wasanaethau sy'n darparu addysg arbenigol. Felly, ar ran y bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwn, hoffwn i gael esboniad ynghylch pam fod y cyllid hwn yn dod i ben ar gyfer y gwasanaeth hwnnw, a hoffwn wybod hefyd beth, os unrhyw beth, y bwriedir ei roi yn ei le ar ôl 1 Ebrill.

Hoffwn godi mater cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r egwyddor o ddarparu absenoldeb â thâl i oroeswyr cam-drin domestig. Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaeth y Gweinidog y dylai hyn ddigwydd a galwodd ar gynghorau lleol i'w gyflwyno. Ond yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw pryd y byddwch chi'n ei gyflwyno ar gyfer eich gweithwyr chi eich hun? Felly, byddai datganiad buan ar y mater hwnnw i'w groesawu.  

Ac, yna, yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Dafydd Iwan a'r holl ymgyrchwyr sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y penwythnos i gael y clasur o 1983 ' Yma o Hyd ' i safle Rhif 1 yn Siart iTunes y DU? Llwyddwyd i wneud hynny. Fe aeth i Rif 1—y tro cyntaf erioed i gân Gymraeg gyrraedd Rhif 1 y DU. Felly, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau dathlu gyda ni, ar ran Llywodraeth Cymru. Efallai ein bod ni mewn cyfnod gwleidyddol tywyll ar hyn o bryd, ond rwy'n credu ei bod yn werth i ni gyd gofio:

'Er gwaetha' pawb a phopeth, ry'n ni yma o hyd'.

14:35

Diolch i Leanne Wood am godi'r ddau—y tri—mater hwn yn y Siambr y prynhawn yma. O ran y cyntaf, yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ynglŷn â'r llinell gymorth i bobl anabl, oherwydd nid yw'r wybodaeth honno gennyf i o fy mlaen heddiw.FootnoteLink

Ond mae hefyd wedi nodi y byddai'n awyddus i roi diweddariad neu ddatganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu mater absenoldeb â thâl i oroeswyr cam-drin domestig, oherwydd gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydym wedi dweud ein bod yn awyddus i wneud rhywfaint o gynnydd arno yn Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, mae'n ymwneud â ni yn dangos arweiniad yn y maes hwn. Felly, bydd datganiad gan y Gweinidog yn cael ei gyhoeddi ar hynny.FootnoteLink

Ac, wrth gwrs, dathlu'r gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd Rhif 1 yn siart iTunes—rwy'n credu bod hynny wedi codi llawer o aeliau dros y penwythnos, ond mae'n sicr yn gyfle i hyrwyddo Cymru a hyrwyddo ein hiaith fendigedig.

Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am gyflwr enbyd nifer o ysgolion yn rhanbarth y De-ddwyrain? Rydym ar ddeall bod pum ysgol mewn mesurau arbennig, a bod angen gwelliant sylweddol ar dri ohonyn nhw, ac mae pum ysgol lle mae cynnydd yn cael ei adolygu yn dilyn arolygiadau Estyn.

A gawn ni ddatganiad hefyd gan y Prif Weinidog am y cyhoeddiad gan Brif Weithredwr Airbus—maddeuwch i mi os nad wyf i'n cael ei enw'n iawn—Guillaume Faury, fod gwarant y bydd y gwaith o gynhyrchu adenydd yn y DU yn parhau? Ac addawodd ef ymhellach fod Airbus yn gweithio gyda'r Llywodraeth newydd ar strategaeth ddiwydiannol uchelgeisiol yn y DU. Mae hyn, wrth gwrs, i bob golwg yn groes i broffwydoliaethau gofid a gwae a glywir yn aml yn y Siambr hon.

Ar y mater cyntaf, o ran ysgolion a'ch pryder ynghylch ysgolion penodol unigol o fewn y rhanbarth yr ydych chi'n ei gynrychioli, byddwn i'n eich annog i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ac o bosibl i'r awdurdod lleol yn codi'r pryderon sydd gennych chi ynglŷn â'r ysgolion penodol hynny.

Ac, ar yr ail, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru eisiau i Airbus fod yn llwyddiant mawr. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn Airbus a'i weithlu yn ystod y blynyddoedd, ac rydym yn awyddus iawn i barhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Hoffwn i godi dau fater, Trefnydd. Mae un ohonyn nhw yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r llygredd aer trychinebus y mae fy etholaeth i yn sicr yn dioddef ohono. Un ffordd o wneud hynny yw trwy gyflymu'r newid i geir glân. Gwyddom fod diffyg pwyntiau ailwefru neu ail-lenwi yn gwneud pobl yn nerfus ynghylch newid i gerbydau trydan neu hydrogen, ond gwyddom fod 10 pwynt gwefru trydan newydd yn cael eu gosod bob dydd ledled y DU. Serch hynny, dywedodd un gwerthwr ceir o Gaerdydd wrthyf nad oedd unrhyw fannau ail-lenwi â hydrogen yng Nghymru, a bod yr un agosaf yn Swindon, ond gwn fod hynny'n anghywir. Os ydym yn cael yr anhawster hwnnw ymysg pobl sydd i fod cynghori pobl ar beth sydd orau i'w brynu, teimlaf fod angen inni gywiro hynny. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol ein bod ar flaen y gad o ran hydrogen o ffynonellau adnewyddadwy, o ganlyniad i waith ymchwil a gafodd ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru, ac maen nhw wedi gosod pwynt gwefru ar gyfer hydrogen ym Maglan. Mae o leiaf un cwmni wedi'i leoli yn Llandrindod ac sy'n arloesi cerbydau hydrogen wedi gosod un arall yn y Fenni. Felly, tybed a allem ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut nad yw Cymru'n cael ei gadael ar ôl yn y chwyldro hwn a sut yr ydym ni'n sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau ail-lenwi/ailwefru cerbydau trydan a hydrogen er mwyn adeiladu ar yr arbenigedd sydd gennym eisoes yng Nghymru ar dechnolegau'r dyfodol.

Yn ail, roedd yn ofid imi ddarllen ddoe fod heddlu gwrthderfysgaeth yn rhoi Extinction Rebellion yn y dosbarth o sefydliadau eithafol, gan ei roi ar yr un lefel ag eithafwyr adain dde neu grefyddol. Felly, a all Llywodraeth Cymru gadarnhau y bydd yn cyfarwyddo ysgolion i beidio â chyfeirio pobl ifanc sy'n pryderu am yr argyfwng hinsawdd at raglen Prevent, sydd eisoes wedi colli hygrededd, fel pe baen nhw'n risg i ddiogelwch, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn gwbl groes i'r hyn y dylem ni fod yn annog pobl ifanc i'w wneud?

14:40

Diolch i Jenny Rathbone am godi'r ddau fater hynny. O ran y cyntaf, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi arian ychwanegol drwy'r gyllideb ddrafft ddiweddaraf a gyhoeddwyd gennym, sy'n ceisio cefnogi a chynyddu'r defnydd o gerbydau trydan yma yng Nghymru. Ond, ynghyd â hyn, rydym hefyd yn paratoi ar gyfer cyfleoedd hydrogen yr ydym yn disgwyl y byddant yn cael eu cyflwyno yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf. Mae gweithgareddau rhanddeiliaid yn cynnwys datblygu clwstwr diwydiannol y De, y Grid Cenedlaethol a'u prosiect arloesi 2050 di-garbon, datblygu gweithgareddau ym Mharc Ynni Baglan, y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato—ac mae hynny'n rhan o fargen twf y De-orllewin—ynghyd â dyluniad manwl datrysiadau hydrogen hybrid yn Sir Benfro. Ochr yn ochr â hyn, mae cymorth ymgynghori'n cael ei ddarparu i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i helpu i asesu'r cyfleoedd hydrogen ar gyfer y Gogledd yn rhan o ddatblygiad y fargen twf ar gyfer rhaglenni a phrosiectau sy'n cynnwys gwres, pŵer a thrafnidiaeth. Rydym hefyd yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy ac awdurdodau lleol Gwent i hwyluso ymchwil ar y cyfleoedd posibl i wneud y mwyaf o dreialon hydrogen Riversimple sy'n digwydd yn Sir Fynwy ar hyn o bryd hefyd. Felly, mae corff da o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn i sicrhau ein bod yn y lle iawn i allu manteisio i'r eithaf ar ein hymateb i'r cyfleoedd yno.

O ran Extinction Rebellion, mae uned eithafiaeth a gwrthderfysgaeth Cymru wedi rhoi gwybod inni nad yw heddlu Prevent yn dosbarthu Extinction Rebellion fel grŵp neu ideoleg eithafol. Yn amlwg, nid yw'n sefydliad sydd wedi'i wahardd, ac, o ganlyniad, nid yw cysylltiad ag ef neu aelodaeth ohono yn unrhyw fath o drosedd, er fy mod wedi gweld awgrym yn y cyfryngau y gallai fod. Rydym yn croesawu'n fawr y ffaith bod pobl ifanc yn siarad yn erbyn newid hinsawdd, ac rydym eisiau i'n plant a'n pobl ifanc ni i gyd fod yn aelodau moesegol, gwybodus o'n cymdeithas, oherwydd dyna'r egwyddorion sy'n llywio ein cwricwlwm newydd i raddau helaeth hefyd.

Ond, o ran perthynas Llywodraeth Cymru ag Extinction Rebellion, rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni, yr amgylchedd a materion gwledig yn benodol yn cyfarfod â nhw, ac rydym yn cael trafodaeth barhaus â'r sefydliad. Mae'r trafodaethau hynny yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol dros ben.

Gweinidog, hoffwn i gael dau ddatganiad, y cyntaf gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am bolisi Llywodraeth Cymru tuag at gynhyrchu ynni gan losgyddion biomas. Mae ymgyrchwyr yn y Barri wedi galw am atal neu roi'r gorau ar unwaith i weithio ar y llosgydd biomas yno, ac rwyf wedi clywed bod trafodaeth am gael llosgydd arall ar wastadeddau Gwynllŵg ger Casnewydd, sy'n peri pryder yn lleol. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch beth yw polisi Llywodraeth Cymru tuag at losgyddion biomas ac a oes ganddi unrhyw gynlluniau i osod moratoriwm ar gymeradwyo datblygiadau o'r fath yng Nghymru yn y dyfodol?

Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano yn dod gan Weinidog yr Economi. Mae Liberty Steel yng Nghasnewydd yn colli 72 o swyddi, a gallai cyhoeddiad gan Tata Steel ar waith Orb, eto yng Nghasnewydd, gael gwared ar 380 o swyddi eraill. O ystyried yr amodau heriol y mae'r diwydiant dur yn eu hwynebu yng Nghymru, pa gynlluniau busnes argyfwng ac wrth gefn sydd ar gael i helpu nid yn unig y teuluoedd ond hefyd y gweithwyr profiadol yn y diwydiant hwn yn ein gwlad?

14:45

O ran y mater cyntaf, sy'n ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru ar losgi gwastraff, cododd Mike Hedges fater tebyg yn y Siambr yn ystod yr wythnosau diwethaf, a gwn i fod y Gweinidog wedi rhoi gwybodaeth gefndirol gynhwysfawr iddo ar bolisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac rwy'n gwybod y byddai hi'n awyddus i rannu'r un peth â chi. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ystyried yr adroddiad gan Gynllun Gofodol Cymru ar ddigonolrwydd y datganiad amgylcheddol cyn ymgynghoriad cyhoeddus o ran llosgydd biomas y Barri. Felly, dyna'r sefyllfa ddiweddaraf o ran hynny.

Ac wrth gwrs, roeddem yn bryderus iawn o glywed am y posibilrwydd o golli swyddi yn yr ardaloedd yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw. Rwy'n gwybod y cafwyd datganiad gan y Gweinidog Ken Skates am gyhoeddiad Liberty Steel Casnewydd, ac roedd y datganiad hwnnw yn ystod y diwrnodau diwethaf. Unwaith eto, deallaf ei fod yn ateb rhai cwestiynau'n ymwneud â'r diwydiant dur yn ehangach, gan gynnwys Orb, yn y Siambr yn ddiweddar hefyd. Ond mae'n awyddus iawn i sicrhau bod yr Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, a phan fydd mwy i'w ddweud, bydd yn sicr o rannu hynny gyda'r Aelodau.

Rwy'n ymwybodol ein bod ni wedi cael llawer o ddatganiadau ar ddur yn y Siambr hon, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond dros y penwythnos cefais i wybod gan ffynhonnell ddibynadwy fod un contractwr penodol ym Mhort Talbot wedi diswyddo 16 aelod o staff yn barod. Yn y bôn, dywedodd Tata wrthyn nhw y bydden nhw'n cael yr anfoneb am y nwyddau a brynwyd ganddyn nhw i wneud darn o waith ond na fyddan nhw'n cyflawni'r gwaith penodol hwnnw; dyna gymaint o fanylion ag y gallaf i sôn amdanynt. Ond hoffwn i Lywodraeth Cymru roi datganiad yn benodol ar gontractwyr, oherwydd mae'n ymddangos mai nhw yw'r cyntaf i fynd. Mae llawer ohonyn nhw'n cael eu cyflogi gan asiantaethau ac nid oes ganddyn nhw yr un hawliau â gweithwyr ffurfiol Tata ym Mhort Talbot. Felly, hoffwn i glywed beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol o ran y contractwyr, oherwydd er mai un cwmni yw hwn, beth fydd yn digwydd wedyn gyda chwmnïau contractio eraill yn y dref? Bydd yn cael effaith ganlyniadol ar swyddi a ffyniant.

Yr ail fater yr oeddwn i eisiau ei godi gyda chi: rydych wedi bod yn ddigon caredig i ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynglŷn â'r cyfrifiad. Yn amlwg, mae rhai fel y gantores Kizzy Crawford sy'n ymgyrchu gan nad oes opsiwn ar y cyfrifiad ar gyfer dewis diffiniad Cymreig du, dim ond Prydeinig du, yn dweud eu bod am gael opsiwn penodol ar y cyfrifiad—ar gyfer y rhai nad ydyn nhw wedi bod yn ei ddilyn—ar gyfer Cymreig a du . Nawr, mae fy nghydweithwyr Leanne Wood a Liz Saville Roberts wedi ysgrifennu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac maen nhw wedi cael ateb yn ôl yn dweud y gallwch  ddewis opsiwn o ysgrifennu ar y ffurflen i ddiffinio eich hun fel Cymreig du. Nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da ac nid yw'n mynd yn ddigon pell. Maen nhw wedi dweud wrth Leanne Wood a Liz Saville Roberts mewn llythyr eu bod wedi gwneud cryn dipyn o waith arolygu a chwestiynu yng Nghymru, a dydw i ddim yn ymwybodol o hynny o gwbl, oherwydd fel arall nid wyf yn credu y byddai gennym ni'r dicter hwn. Beth arall y gallwch chi ei wneud i roi pwysau ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol i beidio â chyflwyno'r Mesur hwn i'r Senedd yn 2020 cyn ymgynghori ymhellach ar y cwestiynau a'r dewisiadau hynny? Oherwydd rwy’n teimlo bod y gymuned o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yma yng Nghymru yn cael ei siomi.

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar bod y materion hyn wedi cael eu codi eto'r prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol, ar fater dur, y bydd y Gweinidog yn cwrdd â Dr Henrik Adam, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel Europe, yn ystod yr wythnosau nesaf mewn cysylltiad â Tata yn benodol. Fodd bynnag, gwnaed pwyntiau da ynghylch y contractwyr ac yn amlwg y gadwyn gyflenwi lawn sy'n dibynnu i raddau helaeth ar Tata. Felly, byddaf i'n siŵr o roi gwybod i'r Gweinidog ynghylch y cais am y datganiad, a hefyd yr wybodaeth yn ehangach ar yr onglau penodol hynny yr ydych wedi'u nodi.

O ran yr ail fater, cefais gyfle i gwrdd â'r Dirprwy Brif Ystadegydd Cenedlaethol dim ond yr wythnos diwethaf i drafod y mater penodol hwn, ynghylch y modd nad yw'r cyfrifiad presennol mor gynhwysol ag y byddem ni'n dymuno iddo fod, a gobeithio y byddwn yn gallu dod i gasgliad boddhaol a chadarnhaol ar y mater hwn. Yn amlwg, rwy'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar hynny. Ar hyn o bryd, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnal rhai grwpiau ffocws mewn gwahanol rannau o Gymru i edrych ar yr hyn y mae modd ei wneud i wella'r mater hwn, ond rwy'n credu eu bod wedi ymgysylltu'n dda iawn yn ddiweddar ar y mater penodol hwn, ac mae gwir ewyllys ac awydd i wneud  gwelliant.

14:50

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, os gwelwch yn dda. Byddwn i hefyd yn cysylltu fy hun â'r sylwadau a gafodd eu gwneud yn gynharach gan Leanne Wood; cafodd y llinell gymorth anabledd dysgu ei hariannu gan y grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Rwyf i hefyd wedi cael sylwadau gan Gyngor Cymru'r Deillion, sydd wedi cael toriad yn eu cyllid o dan y rhaglen honno, ac, fel Cadeirydd y Pwyllgor, gan Adoption UK, sydd hefyd wedi cael toriad yn eu cyllid. Rwy'n deall hefyd fod Anabledd Cymru a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar wedi gweld toriadau yn eu cyllid dan y rhaglen hon. Nawr, mae hyn yn ategu'r pryderon sydd gennyf am gyllid y trydydd sector yng Nghymru, sydd ddim yn gynaliadwy o gwbl. Rydym yn gweld sefydliadau y mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn hapus iawn i gyfeirio atynt sy'n ei chael hi'n anodd iawn, iawn i gael cyllid craidd, ac felly'n dibynnu ar yr arian a ddaw o'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Felly, hoffwn i hefyd gael eglurhad o'r hyn sydd wedi digwydd yma, a datganiad cyffredinol am y Gronfa gan y Dirprwy Weinidog. Diolch.

Wel, rwy'n gwybod bod codiad wedi bod yng nghyfanswm y cyllid y mae'r Gweinidog Iechyd wedi'i roi i'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond rwyf hefyd yn gwybod ei fod ef a'r Dirprwy Weinidog, rwy'n credu, yn mynd i'r pwyllgor iechyd yfory ar gyfer gwaith craffu. Felly, credaf y byddai hwn yn gyfle da i ymdrin â rhywfaint o'r manylder hwnnw gyda nhw.

Trefnydd, yn y gorffennol, mae wedi bod yn gwrtais bob amser pan fydd Gweinidog yn ymweld ag etholaeth un o'r Aelodau, fod hysbysiad o hynny'n cael ei anfon ymlaen llaw. Yn ddiweddar, rwyf wedi sylwi bod hysbysiadau o'r ymweliadau hynny yn dueddol o fod yn fwy ac yn fwy munud olaf, yn aml gydag ymddiheuriad fod yr hysbysiadau hynny'n funud olaf. Ond hoffwn i nodi fy mod wedi bod yn ymwybodol bod nifer o'r ymweliadau hynny wedi cael eu cadarnhau wythnosau lawer ymlaen llaw. Ddoe, bu Gweinidog yn ymweld â fy etholaeth i, ac ni chefais i unrhyw hysbysiad o gwbl, er fy mod yn ymwybodol bod Aelodau Cynulliad eraill yn y rhanbarth hwnnw wedi cael hysbysiad am y digwyddiad penodol hwnnw. Felly, a gaf i ofyn, Trefnydd, os ydych chi'n cytuno â mi y dylai hysbysiadau barhau, eich bod chi'n trafod hyn gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, fel bod hysbysiadau'n cael eu cyflwyno mewn modd amserol, ac yn wir i'r holl ACau yn hytrach na dim ond ACau penodol?

Ydw, ac rwy'n ymddiheuro i Russell George os na chafodd wybod am ymrwymiad gweinidogol o fewn ei etholaeth. Os caf y y manylion wrtho, byddaf yn ymchwilio i hynny, ond yn sicr, byddaf yn addo trafod â'r holl swyddogion preifat i sicrhau ein bod ni'n rhoi gwybod i'r holl Aelodau am yr ymweliadau hynny sy'n cael eu cynnal yn eu hardal. Ac unwaith eto, ymddiheuriadau i Russell George.

A gaf i ofyn i'r Trefnydd a all drefnu bod y Gweinidog priodol yn gwneud datganiad am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000? Wrth gwrs, byddem ni oll yn croesawu bysiau cyhoeddus mwy hygyrch i bobl anabl, ac mae'n wir, wrth gwrs, fod cwmnïau yn gwybod ers tro bod y rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, yn fy rhanbarth i, mae hyn yn effeithio ar blant yn ardaloedd y Tymbl a Drefach gan fod y lleoedd sbâr a oedd ar gael ar fysiau awdurdod lleol, yr oedd rhieni'n gallu eu prynu, wedi lleihau gan fod cwmnïau preifat wedi dewis peidio â darparu'r gwasanaeth yn hytrach nag addasu eu bysiau.

Mae'n ymddangos yn debygol i mi fod hyn yn effeithio ar rannau eraill o Gymru, a hoffwn i gael cyfle i ofyn i un o Weinidogion Cymru beth y gellir ei wneud ynghylch hyn, oherwydd rwy'n siŵr ei fod yn un o'r canlyniadau anfwriadol hynny. Rwy'n credu ei bod yn wir dweud na all y contractwyr preifat ddweud nad oedden nhw wedi cael rhybudd, ond os yw hyn yn arwain at y sefyllfa o'r plant yn gorfod cerdded, ac weithiau'n gorfod cerdded pellteroedd eithaf hir, gall fod â goblygiadau i bolisi Lywodraeth Cymru.

Efallai fod angen inni ailystyried y gyfraith bresennol, sydd ond yn ein hymrwymo i—credaf ei bod yn ddwy filltir i blant ysgolion cynradd a thair milltir—. Dwy filltir i blentyn ysgol gynradd, o feddwl bod plant ysgol gynradd bellach mor ifanc â thair blwydd oed—er y bydden nhw wedi bod bron yn chwe blwydd oed pan ddaeth y rheoliadau hyn i rym gyntaf. Rwy'n credu bod yna oblygiadau. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod a oes goblygiadau mewn rhannau eraill o fy rhanbarth i. Codwyd y pryderon gyda fi o Sir Gaerfyrddin, ond mae'n amlwg bod mwy o oblygiadau i ardaloedd gwledig nag i rai trefol. Felly, pe bai modd i'r Gweinidog wneud datganiad fel y gallem drafod hyn ymhellach, byddem yn ddiolchgar iawn.

14:55

Mae gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr Economi a Thrafnidiaeth y maes hwn o fewn ei bortffolio. Byddaf yn sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r drafodaeth yr ydym ni wedi'i chael a'r pryderon penodol yr ydych chi wedi'u disgrifio yn eich ardal chi, ac yn ei wneud yn ymwybodol o'r cais hwnnw am y datganiad, oherwydd mae'r pwyntiau yr ydych chi'n eu codi yn bwyntiau pwysig.

A gaf i alw am ddatganiad unigol ar adnoddau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Rwy'n cael llawer o e-byst gan etholwyr, boed hynny'n gleifion, yn aelodau o'r teulu neu'n staff sydd, yn seiliedig ar eu profiad eu hunain, yn dymuno rhannu awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella gwasanaethau yn y Bwrdd Iechyd. Rwy'n dyfynnu un o'r rhain, a ddaeth i law y mis hwn:

'Ychydig cyn y Nadolig, aeth fy ngŵr yn sâl gyda haint difrifol ar ei frest a ddatblygodd i fod yn niwmonia. Cafodd ei dderbyn dair gwaith i'r adran achosion brys. Yn y diwedd, ar y trydydd achlysur, cafodd ei dderbyn i'r uned dibyniaeth fawr lle cafodd ofal rhagorol. Fodd bynnag, y ffaith yw, ar dri achlysur, yn fy marn i fel nyrs gofrestredig, ni chafodd ei brysbennu'n dda. Roedd metron yr uned yn gweithio'n galed iawn i symud cleifion drwy'r adran ac roedd hi'n cyflwyno'i hun i gleifion, ond nid oedd yn ymddangos bod ganddi lawer o gymorth staff iau. Ymddiheurodd am gyflwr yr adran, a oedd yn amlwg dan ormod o bwysau. Gobeithio y bydd hi’n cael yr amser a'r adnoddau i roi trefn ar yr adran hon. A allwch chi wneud rhywbeth i'w helpu drwy ofyn i Lywodraeth Cymru roi mwy o adnoddau i Glan Clwyd ar frys? Nid dim ond drwy daflu arian at y broblem, ond drwy wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario i sicrhau bod gwelyau ar gael yn y prif ysbyty a hefyd yn yr ysbytai cymunedol, fel nad yw pobl yn meddiannu gwelyau yn y sector aciwt pan mai gofal ysbyty cymunedol sydd ei angen arnyn nhw. Rwy'n ddiolchgar i'r staff a'r ymgynghorwyr yn yr uned dibyniaeth fawr am y ffaith bod fy ngŵr yn dal yn fyw, ond rwy'n ofni ei fod yn lwcus o hynny ar ôl yr hyn y bu drwyddo yn yr adran achosion brys. Gobeithio y caiff yr e-bost hwn sylw er lles pob un ohonom ni sy'n byw yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.'

Galwaf am ddatganiad yn y cyd-destun hwnnw, nid yn unig am gyfanswm yr arian sy'n cael ei wario ond, yn y cyd-destun hwn, yn ymateb i awgrymiadau ynglŷn â sut y byddai modd gwario'r arian hwnnw'n well.

Gofynnaf i Mark Isherwood, os caf, rannu'r ohebiaeth honno gyda mi a chyda'r Gweinidog Iechyd er mwyn i ni ei hystyried yn llawnach. Gwn i y byddai'r Gweinidog Iechyd eisiau ei hystyried yng nghyd-destun ei ymdrechion yn y Gogledd hefyd. Ond credaf fod pwynt Mark Isherwood yn wirioneddol ategu pwysigrwydd llais y claf a phrofiad y defnyddiwr o fewn y GIG, a'r ffaith ein bod ni, drwy ddal hynny, yn sicr yn gallu ceisio parhau i wneud y gwelliannau y mae'r cleifion a'u teuluoedd yn eu disgwyl. Felly, bydd y math hwnnw o gyfraniad, rwy'n credu, yn ddefnyddiol iawn ac rwy'n edrych ymlaen at gael hynny ac unrhyw gyfraniadau tebyg eraill y mae Mark Isherwood yn dymuno tynnu ein sylw atynt.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar frys gan y Gweinidog trafnidiaeth ynglŷn â'r pryderon ynglŷn â'r cwmni awyrennau Flybe? Mae yna awgrymiadau yn dod o San Steffan fod Llywodraeth Prydain yn ystyried rhyw fath o becyn ariannu ar gyfer y cwmni awyrennau, sydd yn bwysig iawn o ran Maes Awyr Caerdydd, yn cynnig nifer o hediadau i ag o Gaerdydd, ac wrth gwrs yn gyfrifol am y gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, sydd wedi dod yn bwysig i unigolion, i fusnesau ac o ran llywodraethiant Cymru, sydd yn bwysig iawn i'w gofio.

Rwy'n deall gan fy nghydweithiwr i yn San Steffan Jonathan Edwards AS ei fod o wedi gofyn i'r Gweinidog trafnidiaeth yno heddiw a oes yna unrhyw gyfathrebiad wedi bod gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r pryderon am Flybe. Mi ddywedodd y Gweinidog trafnidiaeth nad oes yna unrhyw beth wedi'i glywed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â hynny. Dwi'n synnu rhywfaint am hynny. Ond, o ystyried pwysigrwydd y cwmni yma, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig rŵan yn egluro'n union y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a'r sicrwydd mae Llywodraeth Cymru yn chwilio amdano fo ynglŷn a'r dyfodol?

Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r cryn sylw yn y cyfryngau i Flybe. Serch hynny, pan oeddem yn dod i mewn i'r Siambr y prynhawn yma, nid oedd unrhyw sylw wedi dod oddi wrth y cwmni. Ond rydym eisoes yn cynnal trafodaethau gyda maes awyr Caerdydd ar effaith bosibl y cwmni hedfan yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, neu, yn wir, gwtogi ar nifer y llwybrau allan o Gaerdydd. Wrth gwrs, mae toll teithwyr awyr yn rhan o'r darlun hwn, ac fe wyddoch ein bod wedi ymgyrchu'r hir—a chredaf fod hon yn farn sy'n cael ei rhannu gan bob plaid yn y Siambr—ynghylch datganoli toll teithwyr awyr i Gymru fel y gallwn ni wneud ein penderfyniadau ein hunain o ran sut y byddem ni'n cefnogi Maes Awyr Caerdydd.

Rwy'n credu ei bod yn glir o'r hyn sy'n digwydd yn Flybe fod problem fawr gyda chysylltedd rhanbarthol, ac rydym yn awyddus i barhau i gynnal y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU. Ond, fel y dywedais, ar hyn o bryd, deallwn mai dim ond dyfalu sydd ynghylch Flybe ac ni ddaeth unrhyw beth ffurfiol gan y cwmni eto.

15:00
3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Strategaeth Ryngwladol

Felly, datganiad sydd nesaf: datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y strategaeth rhyngwladol. Dwi'n galw ar y Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Eluned Morgan. 

Member
Eluned Morgan 15:01:06
Minister for International Relations and the Welsh Language

Diolch yn fawr, Llywydd. Ymhen ychydig dros bythefnos, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hwn yn newid sylfaenol i'r berthynas sydd wedi bodoli rhyngom ni a'n cymdogion agosaf ers 40 o flynyddoedd—perthynas sydd wedi dod â manteision cadarnhaol i Gymru o ran bron pob agwedd ar fywyd. Ond, nid datganiad am Brexit yw hwn, nid am y ffaith ei fod yn digwydd nac am ei ffurf; datganiad yw hwn am ein lle ni yn y byd. Efallai ei bod yn wir ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dydyn ni ddim yn troi ein cefnau ni ar yr Undeb Ewropeaidd na'r byd. Rydym ni'n benderfynol o barhau i fod yn wlad eang ei gorwelion; yn wlad sy'n barod i weithio a masnachu â'r byd; ac yn wlad gyfrifol ar lwyfan byd-eang sydd wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y dasg o fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r gymuned ryngwladol. A dyma'r union reswm, Llywydd, pam y mae'r Llywodraeth yn lansio'i strategaeth ryngwladol gyntaf heddiw. 

Ers dechrau datganoli, mae Cymru wedi bod yn gwneud ei marc ar y llwyfan rhyngwladol. Rŷn ni wedi datblygu partneriaethau â gwledydd a rhanbarthau o amgylch y byd. Rŷn ni wedi rhannu ein syniadau am ieithoedd lleiafrifol a thechnoleg gyda Gwlad y Basg ac Iwerddon, rŷn ni wedi plannu 10 miliwn o goed yn Uganda fel rhan o'r gwaith sy'n parhau gyda gwledydd Affrica, ac roedd Cymru yna, reit ar y cychwyn, pan sefydlwyd cynghrair byd-eang Under2. Hwn oedd y sbardun ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd o dan gytundeb Paris. 

Mae cyfrifoldeb arnom ni i gydweithredu gyda gwledydd eraill o gwmpas y byd er ein budd ni i gyd. Mae hon yn egwyddor sy'n ganolog i'n hunaniaeth ni fel cenedl. Rŷn ni'n falch i gynnig cartref i'r rheini sydd wedi gadael eu gwledydd eu hunain ac ymgartrefi yma yng Nghymru. Does dim amheuaeth bod eu cyfraniad nhw yn cyfoethogi ein cenedl mewn cymaint o ffyrdd. Mae ein nwyddau a'n gwasanaethau wedi ennill gwobrau am eu safon, ac rŷn ni'n eu hallforio dros y byd i gyd. Ac o ystyried mai cenedl fach o dair miliwn o bobl ydym ni, rŷn ni wedi rhagori yn rhyngwladol yn y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, heb anghofio'r maes chwaraeon, wrth gwrs. Cofiwn hefyd fod ein treftadaeth, ein diwylliant a'r golygfeydd arbennig o hardd yn parhau i ddenu twristiaid o bob cwr o'r byd. 

Fel Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol cyntaf Cymru, roeddwn i'n meddwl ei fod yn bwysig i grynhoi'r hyn sydd wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf a defnyddio hynny fel sylfaen i lywio trywydd Cymru mewn gwaith rhyngwladol yn y dyfodol, yn enwedig yn y sefyllfa wleidyddol a chymdeithasol gyfnewidiol sydd wedi eu creu gan Brexit. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda bron i 600 o bartneriaid a rhanddeiliaid i sefydlu'r blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig o ran arwain ar yr agenda hwn, ond dim ond drwy gydweithio gyda'n gilydd y byddwn ni'n gallu sicrhau llais i Gymru ledled y byd. 

Mae ein partneriaid rhyngwladol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mewn cyrff gwirfoddol ac mewn sefydliadau eraill yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw'n barod ac yn awyddus i gydweithio gyda ni. Maen nhw wedi croesawu'r ffaith ein bod ni wedi datblygu strategaeth gydlynus sydd yn uchelgeisiol ac fydd yn sail i'w gwaith nhw hefyd. 

Mae gan y strategaeth dair uchelgais ganolog dros y pum mlynedd nesaf: codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, sicrhau twf yn ein heconomi, a sefydlu Cymru fel gwlad gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn ganolog i'r strategaeth, mae cydnabyddiaeth bod Cymru'n wlad fodern a bywiog. Rŷn ni'n wlad sy'n meithrin talent; rŷn ni'n wlad sy'n greadigol a chynaliadwy, ac sydd ar flaen y gad o ran technoleg.

Ein pobl, wrth gwrs, yw'n hased mwyaf ni, boed yma yng Nghymru, neu mewn gwledydd tramor. Pobl fydd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth hon. Fe fyddwn ni'n meithrin y cysylltiadau rŷn ni wedi'u datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf ac yn datblygu rhai newydd, hefyd, mewn marchnadoedd newydd sy'n dod i'r golwg.

Byddwn yn datblygu dull newydd, uchelgeisiol o estyn allan at ein rhwydwaith o alltudion a'n rhwydweithiau o gyn-fyfyrwyr. Gwyddom y bydd diwylliant, chwaraeon a'n harbenigedd mewn datblygu ieithoedd lleiafrifol yn helpu i'n gosod ni ar wahân i genhedloedd eraill. Roedd Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd yn Japan yn enghraifft wych o'r modd y gall Cymru werthu ei hun ar lwyfan y byd, gan adeiladu ar lwyddiant chwaraeon i hyrwyddo Cymru a busnesau Cymru i gynulleidfa ehangach. Daeth cromen Cymru yng nghalon Tokyo â chwaraeon, cenhadaeth fasnachu fawr, perfformiadau diwylliannol a phrofiad rhithwir 360 gradd o Gymru, ynghyd â'n sector bwyd a diod o fri, mewn ymdrech i hyrwyddo ein gwlad yn Japan.

Byddwn yn meithrin ein heconomi drwy roi mwy o egni ac arian i ddatgloi'r potensial aruthrol yng Nghymru ac mewn cwmnïau Cymreig i allforio mwy i farchnadoedd sy'n sefydledig ac i egin farchnadoedd newydd. Bydd hynny'n gymorth i gefnogi swyddi a chymunedau gartref.

Bydd cystadlu am fewnfuddsoddi yn her pan fyddwn y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond rydym yn benderfynol. Byddwn yn tynnu sylw at Gymru drwy ddangos sut yr ydym yn arweinwyr y byd mewn tri sector allweddol. Mae'r sectorau yr ydym ni wedi'u dewis yn tanlinellu ein medrusrwydd ym meysydd cynaliadwyedd, technoleg a chreadigrwydd. Mae ganddynt gyfle sylweddol i dyfu ac maent yn gydnaws â'r bargeinion twf a'r cynllun gweithredu economaidd. Ac ni ddylai Brexit effeithio'n ormodol arnynt. Y sectorau hyn yw: seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol, yn arbennig ffilm a theledu. Mae'n bwysig i mi bwysleisio nad yw'r rhain yn rhwystro sectorau eraill rhag buddsoddi ac maent yn cyfleu'r neges bod gan Gymru weithlu medrus a'i bod yn estyn croeso i fusnesau.

Mae ein huchelgais i weld Cymru'n ymsefydlu yn genedl gyfrifol fyd-eang yn cynnwys blaenoriaethau amgylcheddol a chymdeithasol. Byddwn yn bwrw ati i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy uchelgeisiau i ddod yn arweinydd byd o ran ailgylchu a chefnogi ynni adnewyddadwy yn ogystal â hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy. Mae fy ymrwymiad i ehangu'r rhaglen flaenllaw, Cymru o blaid Affrica—a elwir bellach yn 'Cymru ac Affrica'—yn cwmpasu dull a arweinir gan y gymuned sy'n fuddiol i'r ddwy ochr. Hoffwn rannu ein harbenigedd mewn datblygu ieithoedd lleiafrifol â gwledydd eraill a dysgu gan eraill yn y maes hwn.

Llywydd, mae'n bwysig ein bod yn hyrwyddo'r neges bod Cymru yn, a bydd yn parhau i fod, yn genedl Ewropeaidd. Mae'n anochel y bydd ein perthynas â'r UE a'i sefydliadau yn newid dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, ond rydym ni eisiau parhau i weithio gyda'n partneriaid Ewropeaidd lle bynnag y bo modd. Mae gennym ni berthynas hirsefydlog a chryf â llawer o wledydd a rhanbarthau Ewrop, ac Ewrop yw ein marchnad allforio bwysicaf o hyd.

Mae'r strategaeth hon yn nodi pa rai o'r gwledydd a'r rhanbarthau blaenoriaethol y byddwn yn ceisio canolbwyntio arnynt er mwyn hyrwyddo Cymru. Mae gwerthoedd wrth wraidd y strategaeth hon. Datganwn yn uchel a balch mai ni oedd y genedl gyntaf a'r unig un yn y byd sydd wedi trosi nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig yn gyfraith.

Bu llawer o drafod ar werthoedd a hawliau dynol drwy ddatblygu'r strategaeth hon, ac rwyf wedi croesawu'r her hon. Rwyf eisiau i Gymru gael ei hadnabod fel cenedl groesawgar, fel cenedl noddfa, fel cenedl deg, gan hyrwyddo gwaith teg, masnach deg a chwarae teg. Byddwn yn sicrhau bod y byd yn gwybod mai Cymru oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r GIG, ac rydym yn dal yn driw i'w werthoedd craidd.  

Y strategaeth ryngwladol yw ein canllaw mewn byd heriol a newidiol. Mae perthnasoedd yn newid yn barhaus, mae economïau'n amrywio, ac mae blaenoriaethau'n datblygu, ond byddwn yn dal yn driw i'n gwerthoedd, beth bynnag a ddaw. Byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau'r amodau masnachu gorau posib i Gymru a fydd yn allweddol i'n llwyddiant economaidd yn y dyfodol. Mae Cymru yn wlad fach sydd ag uchelgeisiau mawr, a bydd y strategaeth hon yn helpu i roi Cymru ar y map rhyngwladol. Diolch.

15:10

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gopi o flaen llaw o'i datganiad a'i llongyfarch ar gynhyrchu'r strategaeth ryngwladol? Mae 21 mlynedd wedi mynd heibio ers dyfodiad datganoli ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Cymru yn ymestyn y tu hwnt i'w ffiniau i'r gwledydd hynny dramor lle mae gennym ni gysylltiadau cryf a lle ceir cyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd newydd. Rwy'n credu ei bod hi'n resyn ei bod wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y sefyllfa hon lle mae gennym ni strategaeth o'n blaen. A gaf i hefyd groesawu ysbryd datganiad y Gweinidog? Mae'n hynod wahanol i'r datganiad a gawsom yr wythnos diwethaf ar fasnach ryngwladol.

Mae llawer y gallwn ei groesawu ar yr ochr hon i'r Siambr yn y strategaeth ryngwladol. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol bod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu'n fwriadol i gryfhau presenoldeb Llywodraeth Cymru dramor ar ôl Brexit. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol bod rhai uchelgeisiau allweddol a chreiddiol iawn i'w gweld yn y ddogfen gyfan. Ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol ein bod yn ceisio sicrhau bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar ddarparu canolfannau rhagoriaeth yn y tri sector penodol hynny y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw: seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol. Oherwydd fy mod yn credu pan fo gennym ni gryfderau, mae'n rhaid i ni fanteisio arnyn nhw, a gallwn yn sicr wneud mwy i fanteisio ar y rheini ac, yn wir, i fanteisio ar ein harbenigedd wrth sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith swyddogol bwysig iawn, ond iaith leiafrifol serch hynny. Felly, a gaf fi eich llongyfarch ar yr holl bethau hynny, Gweinidog, cyn imi droi at rai cwestiynau?

Un o'r pethau yr ydych chi wedi'i nodi yn y ddogfen, ac y gwnaethoch chi gyfeirio ati'n fyr yn eich datganiad, yw pwysigrwydd digwyddiadau chwaraeon fel cyfleoedd i ymgysylltu'n rhyngwladol. Wrth gwrs, fe welsom ni rywfaint o lwyddiant yn helpu i wneud yn fawr o'r cyfleoedd a ddaeth yn sgil Cwpan Rygbi'r Byd. Mae Pencampwriaeth Ewrop ar y gweill yr haf hwn, a tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am eich cynlluniau i fanteisio ar y cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig hefyd.

Fe wnaethoch chi gyfeirio, tuag at ddiwedd eich datganiad, hefyd, at bwysigrwydd hawliau dynol i bawb ohonom ni yma yng Nghymru, ar bob ochr i'r Siambr yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac rwy'n cytuno â'ch sylwadau ar y rheini, ond, wrth gwrs, ychydig iawn o gyfeirio sydd yn y ddogfen at hawliau dynol. Rwy'n credu y sonir amdanynt ryw bum gwaith, ac mae'n anodd iawn gweld sut byddwch yn gwireddu'r nod o gyflwyno Cymru fel enghraifft ddisglair o hawliau dynol. Nawr, byddwch yn cofio fy mod wedi cyflwyno—. Roeddwn yn ffodus iawn o gael fy newis yn y bleidlais ddeddfwriaethol i gyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth o'r meinciau cefn, a dewisais gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn. Wrth gwrs, pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn bwrw ymlaen â'r Bil ac, yn hytrach, dywedodd y byddai'n gwneud mwy o waith trawsbynciol ar hawliau dynol. Nid ydym ni eto wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny ac, wrth gwrs, rydym yn nesáu at ddiwedd y Cynulliad hwn a'r cyfle i ddeddfu yn y Cynulliad hwn. Felly, efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae eich ymrwymiad i hawliau dynol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau dynol yn gyson â'r hyn sy'n ymddangos yn ddiffyg gweithredu wrth fwrw ymlaen ag unrhyw beth.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am bwysigrwydd y Cymry alltud, ac rydych chi yn llygad eich lle, lle mae gennym ni unigolion dramor, gallant ein helpu i chwifio'r faner i ni yma gartref. Ond cefais fy synnu gan y diffyg cyfeiriad penodol yn y ddogfen at bwysigrwydd cymunedau ffydd a'r Cymry alltud a'r cyfle a'r rhwydweithiau y cysylltir cymunedau ffydd yn aml iawn â nhw. Byddwch yn gwybod, Gweinidog, gystal â minnau, fod gan gynulleidfaoedd Cristnogol, cymunedau Mwslimaidd ac eraill ledled Cymru gysylltiadau lu â chymunedau dramor. Mewn llawer o achosion, mae cymunedau Cristnogol yn ceisio hyrwyddo cyfleoedd datblygu rhyngwladol mewn llawer o genhedloedd sy'n datblygu, ac, wrth gwrs, mae llawer o gymunedau Mwslimaidd yn fewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf i'r wlad hon ac mae ganddynt gysylltiadau uniongyrchol â theuluoedd yn eu gwledydd eu hunain. Tybed a yw hynny'n gyfle a gollwyd, mewn gwirionedd, yn y strategaeth hon, ac a allech chi wneud ychydig mwy o waith ar hynny yn y dyfodol.

Mae nifer o sectorau allweddol yn y ddogfen. Un ohonynt y soniwch amdano yw twristiaeth, ac nid ydych chi wedi anghofio crybwyll pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru, wrth gwrs, yn y ddogfen hon. Rydych chi'n sôn bod twristiaeth antur, er enghraifft, yn ddiwydiant sy'n tyfu. Wrth gwrs, mae twristiaeth ffydd hefyd yn ddiwydiant twf sylweddol, ac mae gennym ni rwydwaith gwych o ffyrdd pererinion ar draws Cymru a rhai adeiladau hanesyddol cysegredig gwych y mae gennym ni gyfle, unwaith eto, i helpu eu hyrwyddo ychydig bach yn fwy. Felly, rwy'n credu bod hynny, o bosibl, yn gyfle a gollwyd hefyd, ac efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn barod i'w wneud ar wahan i'r strategaeth hon o ran y ffaith y gallai fod o fudd i'r rhan o'r economi a'r sector sy'n ymwneud â thwristiaeth.

Wrth gwrs, un o'r problemau y gallai'r sector hwnnw ei wynebu yn y dyfodol yw dyfodiad posib trethi twristiaeth oherwydd safbwyntiau polisi eich Llywodraeth. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni os yw, a sut y mae hynny'n rhan â'ch meddylfryd .

Fe wnaethoch chi sôn am y rhwydwaith swyddfeydd dramor—mae hi'n dda iawn eich bod wedi agor rhai swyddfeydd newydd eleni, ac rydych chi wedi sôn mewn datganiadau blaenorol am eich bwriad i wneud mwy. Ond, yn amlwg, mae hefyd yn bwysig eu bod yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn a bod llinell atebolrwydd uniongyrchol yn ôl. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n mynd i fesur llwyddiant y swyddfeydd hynny a'u cynhyrchiant, neu fel arall.

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, buddsoddiad uniongyrchol o dramor—rydych chi wedi sôn mai'r Unol Daleithiau yw'r ardal neu'r genedl fwyaf o ran buddsoddiad uniongyrchol o dramor i Gymru. Wrth gwrs, ni fydd rhai o'r sylwadau gan Lywodraeth Cymru ynghylch gweinyddiaeth Trump yn llesol wrth geisio cael mwy o fuddsoddiad uniongyrchol tramor i'r wlad ac, unwaith eto, efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych yn mynd i newid eich cân yn hynny o beth er mwyn cael perthynas gynhesach yn y dyfodol.

Yn olaf, os caf i, rydym ni wedi dadlau ar yr ochr hon i'r tŷ am y cyfleoedd a allai ddod i'n rhan pe baem yn mabwysiadu mwy o ysbryd tîm Cymru ar sail drawsbleidiol, er mwyn hyrwyddo'r genedl wych hon yr ydym yn byw ynddi. Un o'r pethau y sylwais arno yn eich dogfen yw eich bod yn dweud mewn gwirionedd eich bod chi, Llywodraeth Cymru, yn dymuno buddsoddi mewn cyfleoedd i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Aelodau, ar yr hyn sy'n ymddangos fel pe bai ar sail drawsbleidiol, i ymgysylltu'n rhyngwladol mewn rhwydweithiau. Rwy'n credu bod hynny'n dderbyniol iawn, yn wir. Hoffem weld hynny'n cael ei ffurfioli ychydig yn fwy drwy sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon ar ran Cymru. Rydym yn cyflawni llawer pan fyddwn yn cydweithio, a chyda'r adnoddau priodol gallwn fanteisio'n sylweddol ar y cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig. Felly, efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni a yw hynny'n rhywbeth yr hoffech ei ffurfioli yn y ffordd yna, fel y gallwn ni i gyd symud gyda'n gilydd fel tîm Cymru o ran hyrwyddo ein hunain i'r byd.

Rwy'n gwybod fy mod wedi dweud 'yn olaf', ond rwy'n mynd i ddweud un 'yn olaf' arall, os yw hynny'n iawn, Llywydd, ac mae hynny o ran y rhaglen Cymru o Blaid Affrica, rhywbeth yr ydym yn cymeradwyo'r Llywodraeth am fuddsoddi ynddi. Tybed a wnewch chi ystyried ehangu'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica fel y daw yn Gymru o blaid y byd, oherwydd gwyddom y gellid gwneud cysylltiadau ag America Ladin, mae cysylltiadau â'r dwyrain canol ac Asia y gellid eu gwneud hefyd, dim ond gydag ychydig mwy o fuddsoddi. Mae gan lawer o grwpiau a chymdeithasau dinesig y cysylltiadau hynny eisoes, ac rwy'n credu y byddai rhyw fath o bwyslais ar hynny gan Lywodraeth Cymru yn mynd ati i ymestyn y tu hwnt i'r gwledydd hynny yn Affrica sydd i'r de o'r Sahara yn rhywbeth y byddem yn ei groesawu'n fawr ar yr ochr hon i'r siambr. Diolch am fod mor hyblyg.

15:15

Diolch, Darren, a diolch am eich diddordeb parhaus yn y gwaith rhyngwladol yr ydym yn ei wneud. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod bod angen i ni gryfhau a dyfnhau ein perthynas â'r UE a chenhedloedd a rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd, er gwaetha'r ffaith y byddwn nawr yn gadael. Diolch hefyd am dynnu sylw at y ffaith ein bod wedi pwysleisio tri sector yr ydym yn awyddus i'w hyrwyddo, ac mae hyn mewn gwirionedd oherwydd ein bod mewn byd lle mae llawer o gystadleuaeth am sylw, felly mae'n rhaid i chi weithio allan sut yr ydych chi'n mynd i ddal sylw—beth sy'n ein gwneud yn wahanol, ac rwy'n credu bod y tri sector hyn yn sicr yn gwneud hynny i ni.

Mae ein gallu ym myd chwaraeon yn rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono, ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud gwaith da iawn yn Japan, ac mae her nawr i weld beth y gallwn ni ei wneud ym mhencampwriaethau Ewrop. Os ydym ni'n onest, dydw i ddim yn meddwl bod Azerbaijan yn farchnad enfawr i ni, ond byddwn ni'n sicr yn canolbwyntio ymgyrch yn yr Eidal, felly mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n edrych ymlaen at ei wneud. Yn amlwg, byddwn yn aros i weld pwy fyddwn ni'n chwarae yn eu herbyn, a bydd yna gyfleoedd efallai i hyrwyddo ein hunain ar gorn hynny.

Mae hawliau dynol, rwy'n gwybod, yn rhywbeth y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo. Ceir atodiad yn y cefn sydd ag adran ar hawliau dynol, ond yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn y fan yma yw gwneud yn siŵr bod pobl yn deall bod Cymru eisiau cyflwyno'i hun fel cenedl deg. Ac rwy'n gweld yr agenda hawliau fel chwarae teg, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio hynny. Pan fyddaf yn cwrdd â llysgenhadon o bob cwr o'r byd, os oes materion hawliau dynol, yna dydw i byth yn swil i godi'r materion hynny gyda nhw.

Credaf o ran cymunedau ffydd, yn sicr, os edrychwch chi ar nifer y sefydliadau a sefydliadau ffydd sy'n gweithio gydag Affrica, un o'r pethau yr ydym wedi'i wneud yw ceisio dynodi pwy yw'r bobl hynny a beth y maen nhw'n ei wneud, ac, yn sicr, mae 'Hub Cymru Africa' yn fforwm gwych i hynny ddigwydd. Ac rwy'n credu hefyd o ran y gwaith twristiaeth mewn perthynas â ffydd, wel mi wn fod eleni yn 100 mlynedd ers sefydlu'r Eglwys yng Nghymru, a bod eu pwyslais ar bererindod, ac felly efallai fod cyfle yn hynny o beth, ac, yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y byddaf efallai'n siarad â'r Dirprwy Weinidog twristiaeth yn ei gylch. Yn sicr, yr hyn nad wyf ei eisiau yw ein bod yn eithrio ardaloedd eraill mewn cysylltiad ag Affrica. Felly, yn amlwg, gall pobl fwrw ymlaen â'u gwaith o ran datblygiadau a pherthnasoedd gyda gwledydd sy'n datblygu, ond o ran yr awgrym ein bod yn ymestyn allan ac yn ei ehangu y tu hwnt i Affrica, yr hyn a welsom ni, mewn gwirionedd, gydag adnoddau bach iawn, os ydych chi eisiau cael effaith, mae'n gwneud mwy o synnwyr i ganolbwyntio, a dyna pam yr ydym ni wedi mynd ati fel yna. Efallai y bydd gennym ni farn wahanol am hynny, ond dyna'r penderfyniad yr ydym ni wedi'i wneud.

O ran swyddfeydd Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi penodi rheolwr cyffredinol nawr i sicrhau ein bod yn monitro'r swyddfeydd hynny. Rwy'n credu eu bod yn gwneud gwaith da iawn, ond yr hyn nad ydym ni wedi'i gael, efallai, a'r hyn nad yw'r Cynulliad wedi'i gael efallai, yw'r adborth. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei gyfrannu'n fwy rheolaidd nawr i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, felly byddant yn cael y rheini ar sail fwy rheolaidd er mwyn cael gwell syniad o'r hyn y mae'r swyddfeydd hynny'n ei wneud.

Mae ein perthynas â'r Unol Daleithiau yn hanfodol iawn. Byddaf yn mynd yno tua diwedd mis Chwefror. Mae 1,250 o gwmnïau tramor sy'n buddsoddi yng Nghymru ac mae chwarter o'r rheini yn rhai Americanaidd, felly rydym yn gwbl glir ynglŷn â pha mor bwysig yw'r berthynas honno.

O ran y berthynas â llysgenhadon masnach, mae perthynas wych yn bodoli eisoes. Rwy'n gwybod bod y Cynulliad Cenedlaethol yn anfon pobl o amgylch y byd ar brydiau. Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gwneud yn siŵr bod cyfle i'r Aelodau Cynulliad hynny ganu yr un gân â Llywodraeth Cymru a phobl Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn awyddus i'w wneud yn y dyfodol.

O ran y llysgenhadon, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o ran y Cymry alltud, felly mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei archwilio ymhellach. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny wedi mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.

15:20

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu'r strategaeth ryngwladol yn gyffredinol. Mae hi yn hwyr iawn arni'n cael ei chyhoeddi, tua saith mis, yn ôl fy nghyfrif i, ac mae'n dilyn dogfen ymgynghori a feirniadwyd yn eang a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, ond y newyddion da yw bod llawer i'w groesawu yn hyn o beth. Nid wyf ond wedi cael cyfle i ddarllen y strategaeth yn gyflym cyn y cyfarfod llawn heddiw, ond rwy'n hapus i ddweud bod llawer o bethau wedi gwella yma. Mae'n ymddangos, am unwaith, fod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd wedi gwrando ar feirniadaeth gan wrthbleidiau a chynrychiolwyr o'r sector, ac mae'r cyhoeddiad diwygiedig yn gymaint gwell o'r herwydd.

Roedd rhai o'r prif feirniadaethau a wnaed gennym ym mis Medi yn cynnwys y diffyg cydlynu rhwng gwahanol adrannau o Lywodraeth Cymru, y ffaith ei fod yn gymysgedd o orgyffredinoli a gormod o fanylder, a dryswch cyffredinol ynghylch ei ddiben. Ond mae'r ddogfen newydd yn gliriach ac mae'n cynnwys esboniadau am sut y bydd y strategaeth ryngwladol yn cefnogi nodau cyffredinol Llywodraeth Cymru, ac, unwaith eto, mae hynny i'w groesawu.

Rwy'n credu hefyd ei fod yn beth da bod datblygu cynaliadwy a gweithredu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd bellach yn rhan flaenllaw o'r strategaeth. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru bellach wedi sylweddoli bod datgan argyfwng hinsawdd yn gorfod golygu rhywbeth. Mae angen inni wneud mwy na siarad yn huawdl am hyn, fodd bynnag, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut y bydd yn datblygu'r agenda ynni gwyrdd o ran ei dyletswyddau rhyngwladol. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf pa mor ymarferol fydd hi i fwrw ymlaen â hyn?

Nawr, ynglŷn â masnach, mae Plaid Cymru yn cytuno bod yn rhaid i gynnal ein perthynas fasnachu gyda thir mawr Ewrop fod yn brif flaenoriaeth. Rwy'n croesawu'r gofynion clir a wnaed ar Lywodraeth y DU, ac mae'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldeb am hyn am y tro cyntaf. Mae eich galwad ar i Lywodraeth y DU geisio cytundeb Llywodraethau datganoledig cyn cytuno ar ei mandad negodi yn swnio'n amheus o debyg i'r feto y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ac i'ch Llywodraeth ei wrthod dim ond ychydig wythnosau'n ôl. Fodd bynnag, ni fyddwn yn dal dig a byddwn yn cefnogi ymdrech Llywodraeth Cymru i orfodi Llywodraeth y DU i wrando ar Gymru cyn i drafodaethau masnach ddechrau. Cytunwn â chi hefyd y dylai swyddogion Cymru fod yn rhan o'r trafodaethau yn ystod pob cam o'r broses.

Er mwyn cryfhau eich cais, Gweinidog, a wnewch chi ystyried cyhoeddi dogfen sy'n manylu ar beth yn union y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld o ran amddiffyn buddiannau Cymru ym mandad negodi'r DU, fel y gallwn ni fel Senedd ddiwygio a phleidleisio ar y cynigion? Byddai cael y Senedd i gytuno ar safbwynt Cymreig ar negodiadau masnach yn anfon neges gref i Lywodraeth y DU fod angen iddyn nhw wrando ar ein pryderon a'n huchelgeisiau ac amlygu hyn fel mater sydd uwchlaw cylch gwleidyddol y pleidiau.

Rwy'n falch eich bod o'r diwedd wedi cyhoeddi manylion am sut yr ydych yn bwriadu ymgysylltu â'r Cymry alltud o bob cwr o'r byd, gan fod hyn yn dir ffrwythlon y bu Plaid Cymru yn galw ar i'r Llywodraeth fuddsoddi ynddo ers blynyddoedd. Rydym ymhell y tu ôl i wledydd fel Iwerddon a'r Alban, felly mae sefydlu cronfa ddata y Cymry alltud yn gam cyntaf cadarnhaol a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fynd ati mewn ffordd fwy rhagweithiol. Nawr, bydd hynny'n ein helpu'n ddiwylliannol ac yn economaidd, a bydd o fudd i Gymru, ac rwy'n falch o weld hynny yn y strategaeth, ond a wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion o ran sut y byddwch chi'n ymgysylltu â'r cymunedau alltud hyn ar ôl i chi eu nodi?

Nawr, mae mentrau i'w croesawu, eto, yn y strategaeth am y Gymraeg, gan gynnwys datblygu technolegau a chamau i hyrwyddo cerddorion Cymru ar raddfa fyd-eang. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod ymrwymiad i wneud y Gymraeg yn agwedd allweddol ar hyrwyddo Cymru dramor. Nawr, nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i'ch nod o wneud Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes twristiaeth antur gynaliadwy, ond oni ddylem ni hefyd geisio hyrwyddo ein hunain fel enghraifft o wlad yr unfed ganrif ar hugain, sydd ag iaith frodorol sy'n blodeuo, y gall pobl sy'n ymweld â hi ymgolli ynddi? Nawr, byddwn yn awgrymu eich bod yn cyd-drefnu eich gwaith gyda Gweinidog y Gymraeg, ond mae gennych y ddwy swyddogaeth, felly rwy'n gobeithio'n fawr y gallwch chi ailedrych ar hyn. Rwyf, fodd bynnag, yn croesawu'r cynlluniau i ymgysylltu'n agosach â Gwlad y Basg, Fflandrys a Llydaw, a byddwn yn croesawu'r cyfle i drafod eich cynlluniau â chi yn y dyfodol.

Ond, Gweinidog, mae dau brif beth ar goll o'r strategaeth hon. Targedau a moeseg yw'r pethau hynny. Ni allaf ond nodi un targed yn y 40 tudalen gyfan—unwaith eto, darllenais hon yn gyflym cyn y cyfarfod llawn, felly cywirwch fi os wyf yn anghywir yn hynny o beth—ond heb dargedau, byddai'n anodd iawn i ni ar y meinciau hyn eich dwyn i gyfrif. Rwy'n credu eich bod wedi sôn yn y gorffennol am y posibilrwydd o gyhoeddi dogfen gyfochrog i'r strategaeth sy'n gosod targedau, ac os mai dyna yw eich nod, a allwch chi ddweud wrthym ni pryd y caiff honno ei chyhoeddi, ac os na allwch chi, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa fesurau yr ydych chi'n eu hawgrymu y dylem eu defnyddio i olrhain llwyddiant y strategaeth?

Ac yn olaf, er yr holl sôn am gyfrifoldeb byd-eang, mae yna ddiffyg amlwg o ran gweledigaeth glir ar gyfer Cymru fel gwlad foesegol yn y strategaeth. Hoffwn fod wedi gweld ymrwymiad, er enghraifft, i gaffael deunyddiau dim ond o ardaloedd lle nad oes gwrthdaro treisgar i'w defnyddio yng nghadwyn gyflenwi dechnolegol Cymru. Ac mae'n ymddangos bod methiant parhaus i sicrhau nad yw Cymru yn chwarae unrhyw ran yn y fasnach arfau. Gweinidog, pam mae Llywodraeth Cymru mor gyndyn i ddilyn strategaeth economaidd a rhyngwladol foesegol yn hyn o beth? Byddwn yn gwerthfawrogi eich atebion i'r cwestiynau hyn.

15:25

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu, er gwaethaf y ffaith bod hyn yn hwyrach na'r disgwyl o ran cyhoeddi'r strategaeth, bod yr amseru wedi gweithio'n dda iawn mewn gwirionedd. Mae sefyllfaoedd wedi newid gryn dipyn, gadewch inni wynebu hynny, yn y misoedd diwethaf, a nawr o leiaf rydym yn gwybod beth yw'r sefyllfa o ran Brexit, ac mae'n golygu ei bod yn haws. A chredaf fod yr amseru yn bwysig iawn, o ran y ffaith y byddaf yn teithio, er enghraifft, i Frwsel i lansio'r strategaeth hon ddydd Iau, a bydd hynny'n anfon neges glir iawn, gobeithio, nad ydym yn tynnu'n ôl o'r berthynas yr ydym yn gobeithio ei pharhau â'r Undeb Ewropeaidd o ran y berthynas honno yr ydym wedi ei meithrin a'i datblygu dros ddegawdau lawer.

Mae'r gwaith o gydgysylltu'r strategaeth hon wedi bod yn drawslywodraethol, a bu Gweinidogion yn cyfrannu ato. Ac rydych chi'n llygad eich lle: bu cynaliadwyedd yn ganolog i'r hyn y buom yn ceisio ei gyflawni yn hyn o beth. Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn greiddiol, ac mae o wir ddiddordeb. Pryd bynnag y byddwn yn siarad â phobl o wahanol wledydd ar draws y byd, dyna'r peth y mae llawer ohonynt yn sôn amdano, sef ein bod yn wirioneddol unigryw, rydym yn arloesi, yn hyn o beth, ac maent i gyd eisiau dysgu mwy am yr agwedd benodol honno. 

Ar agweddau eraill ar yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yn ymarferol, fe welwch chi yn y strategaeth y byddwn yn hyrwyddo prosiectau magned, ac un o'r prosiectau magned y byddwn yn ei hyrwyddo yw technoleg tonnau a llanw, a fydd yn symud y pwyslais, gobeithio, o ran mewnfuddsoddiad, i'r gogledd a'r gorllewin. Felly, mae hynny'n weithred fwriadol iawn. A'r peth arall y mae angen i chi ei ddeall yw bod lled-ddargludyddion cyfansawdd yn dechnolegol iawn, ond yr hyn y maen nhw'n ei wneud, mewn gwirionedd, yw arbed ynni. Maen nhw'n arbed ynni, ac mae'r effaith y gallant ei chael ar ganolfannau data, er enghraifft, o ran lleihau ynni, yn sylweddol. Ac felly mae hynny'n gwbl ganolog i'r agwedd honno yr ydym yn ceisio ei phwysleisio i bobl o ran ein hymrwymiad i gynaliadwyedd.

O ran masnach, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym y berthynas honno â Llywodraeth y DU cyn i drafodaethau masnach ddechrau, ac rydym yn dal i aros am ddyddiad; rydym yn gobeithio y caiff dyddiad ei gyhoeddi'r wythnos nesaf i ni ddechrau mewn difrif gwyntyllu manylion ymarferol ynghylch i ba gyfeiriad y dylem fod yn mynd nesaf. Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn amddiffyn buddiannau Cymru. Mae'n anodd iawn canfod pryd y gallwn ddod i'r Cynulliad a dweud, 'Dyma beth yw ein strategaeth', oherwydd bydd amgylchiadau'n newid yn gyflym iawn, ac nid ydym yn gwybod o hyd beth yw rheolau'r ymgysylltu. Ac felly mae'n anodd iawn i ni wneud ymrwymiad i'r Cynulliad pan fyddwn ni mewn sefyllfa lle nad ydym yn gwybod ble yr ydym ni'n sefyll. Felly, byddaf yn ceisio rhoi gwybod i chi o ran pryd y cawn ni fwy o eglurder ynghylch sut y bwriadwn ymgysylltu â'r Cynulliad ynglŷn â hynny.

O ran y Cymry alltud, rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae angen i ni wneud mwy o waith sylweddol. Rydym ni eisoes wedi comisiynu rhywfaint o waith ar sut y gallwn ni ymgysylltu'n ddigidol ar draws y byd, a sut orau y gallwn ni gael effaith a gwneud cysylltiad â phobl. Felly, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi'i gomisiynu. Rydym ni wedi cael cyfarfodydd gyda'r bobl sy'n ymwneud â gwahanol gymunedau alltud, fel y gallwn ni dynnu ein gwaith ynghyd, ac rwy'n credu bod yna gyfle enfawr i ni yn hynny o beth. Mae pob un o'r swyddfeydd wedi cael y targed erbyn hyn o sicrhau eu bod yn datblygu'r rhwydwaith alltud hwnnw hefyd.

O ran hyrwyddo Cymru dramor, a'r Gymraeg dramor, rydym ni eisoes wedi comisiynu dogfen, a rhoddais gyflwyniad ar y strategaeth ryngwladol sydd ar y gweill i grŵp o lysgenhadon ac is-genhadon yn Llundain cyn y Nadolig. Ac un o'r pethau a ddangosais iddyn nhw oedd fideo wedi'i gomisiynu'n arbennig yn dangos yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Gymraeg. Felly, mae hynny eisoes ar y gweill ac yn rhywbeth yr ydym ni eisoes yn ei ddefnyddio.

O ran targedau—gwrandewch, yn gyffredinol, rwy'n rhywun sy'n hoffi gweld targedau. Y broblem yw bod gennym ni sefyllfa yn y fan yma lle mae gennym ni amgylchiadau sy'n newid yn gyflym iawn. Ac felly, er mwyn i ni osod targedau, mae'n anodd iawn. A rhoddaf enghraifft i chi. O ran addysg, petaem yn dweud, 'Iawn, rydym ni eisiau gweld miloedd yn fwy o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd yn dod i astudio yng Nghymru', byddem wedi gosod y targed hwnnw'n rhy isel cyn—. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud nawr y caiff y myfyrwyr hynny aros am ddwy flynedd yn ychwanegol. Mae'n debyg bod hynny'n mynd i annog llawer mwy o fyfyrwyr i ddod. Felly, byddem wedi cyrraedd y targedau hynny'n llawer cynt nag y dylem fod wedi'i wneud. Dyna enghraifft o le mae'n mynd i fod yn anodd.

O ran mewnfuddsoddi, yn yr un modd, nes ein bod yn gwybod beth yw'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd, bydd yn anodd inni asesu i ba raddau y mae pobl yn debygol o fod eisiau buddsoddi yn ein gwlad. Ac nid wyf yn cytuno â'r ffaith nad yw'n ddogfen foesegol. Mae'r gwerthoedd yn gwbl greiddiol i'r hyn yr ydym yn ei gyflwyno yn y fan yma. Ac rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn ag amddiffyn. Mae amddiffyn yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ac mae awyrofod yn ddiwydiant pwysig. Mae gennym ni 160 o gwmnïau sy'n cyflogi 20,000 o bobl, yn y cwmnïau awyrofod ac amddiffyn. Rydych chi newydd glywed Dawn Bowden yn siarad ynghylch sut mae hi'n awyddus i weld y cerbydau y maen nhw'n eu cynhyrchu yn ei hardal yn cael eu defnyddio gan y lluoedd arfog. Felly, nid wyf yn credu y dylem osgoi'r ffaith mai un o'r rhesymau craidd dros Lywodraeth yw amddiffyn ei phobl, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth y byddem yn falch iawn o'i weld. Ac mae'r ffaith ein bod wedi rhoi seiberddiogelwch yn ganolog i hyn—. Mae seiberddiogelwch yn greiddiol i'r hyn y mae angen inni ei wneud nawr fel cenedl i amddiffyn ein GIG, i amddiffyn y gwaith a wnawn fel seneddwyr, oherwydd fe ymosodwyd eisoes ar Senedd Llywodraeth y DU. Felly, mae'r rhain yn faterion o bwys. Mae'r ffin rhwng amddiffyn a gwaith masnachol yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohoni, ond mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ac nid wyf yn credu y dylem ni ymbellhau oddi wrtho.  

15:35

Gweinidog, mae llawer o bwyntiau yn y datganiad hwn yr wyf yn eu croesawu. Rwy'n credu mewn Teyrnas Unedig fyd-eang yn masnachu ac yn gweithio'n rhydd gyda'r byd i gyd. Credaf y gall hyn ddarparu'r sylfaen ar gyfer dyfodol disglair a llewyrchus i Gymru. Mae'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis. Mae ewyllys ddemocrataidd pobl y DU a Chymru yn cael ei pharchu o'r diwedd ac mae'n ymddangos bod y datganiad hwn yn cydnabod y cyfleoedd y mae gadael yn eu cynnig i Gymru fel cenedl ryngwladol eangfrydig. 

Rydych chi newydd ddweud bod llawer o gystadleuaeth ac, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried y posibilrwydd o gynnal uwchgynhadledd fasnach newydd yma yng Nghymru ar gyfer gwledydd y Gymanwlad. Gallai hyn hyrwyddo masnach a hefyd dathlu diwylliannau, hanes a pherthnasoedd yn y dyfodol. Nid wyf yn gweld hyn fel rhywbeth sy'n disodli perthynas yr UE, ond fel perthynas ychwanegol â gwledydd sydd hefyd yn rhannu ein hamcanion a'n gwerthoedd.

Gweinidog, rydych chi wedi sôn am gynyddu presenoldeb Llywodraeth Cymru yn aelod-wladwriaethau'r UE a gweithio i sicrhau bod yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod ein partner cryfaf. O gofio y bydd y rhan fwyaf o'r penderfyniadau ar fasnach a pholisi rhyngwladol yn cael eu penderfynu ar gyfer aelod-wladwriaethau'r UE ym Mrwsel gan Senedd yr UE, a fyddech cystal â rhoi gwybod inni am swyddogaethau'r swyddfeydd yn aelod-wladwriaethau'r UE? A pha mor dda, o ran ein swyddogaeth graffu, y byddwn yn gallu gweld y gwerth am arian i'r trethdalwr?

Rwyf yn croesawu'r datganiad llawer gwell hwn gan y Gweinidog heddiw. Diolch.

Diolch, Mandy. A diolch ichi am y ffaith eich bod yn croesawu'r datganiad, ond hefyd am bwysleisio pwysigrwydd gweithio gyda Llywodraeth y DU, gan fod ganddynt adnoddau enfawr y mae angen inni fanteisio arnynt, a rhan o'r hyn y ceisiwn ei wneud yn hyn o beth yw sicrhau eu bod yn gweithio ar ein rhan. Ond er mwyn iddyn nhw weithio'n effeithiol ar ein rhan mae angen i ni wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r cyfarwyddyd cywir—cyfarwyddyd y gallan nhw ei ddilyn—a dyna yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud yn hyn o beth: datblygu cyfarwyddyd y gallan nhw ei ddilyn. A byddwn mewn gwirionedd yn rhoi llawer mwy o bwysau, gobeithio, ar Adran Fasnach a Buddsoddi'r DU a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu er ein lles ac ar ein rhan ledled y byd. Ond mae yna asiantaethau eraill y mae angen i ni eu hystyried hefyd. BBC World Service, y Cyngor Prydeinig—mae'r rheini'n sefydliadau a allai wneud ac sydd yn gwneud gwaith gwych i ni ond lle mae'r cyfle iddynt wneud mwy, a sut y gallwn ni eu helpu yn yr ymdrech honno?

A diolch i chi unwaith eto am grybwyll y mater hwn o'r cyfleoedd gyda gwledydd y Gymanwlad. Mae gennym ni berthynas wych yma yng Nghymru â'r Cymry alltud, yn enwedig rhai o'r rhai hynny drwy—mae India a Bangladesh wedi eu cynrychioli'n dda iawn, iawn ac yn llafar iawn. Ac roedd gennym ni rywun o India ar y grŵp a oedd yn ein helpu i ddatblygu'r strategaeth hon. Felly, mae cyfleoedd ar gael ac mae gennym ni genadaethau masnach ac ati sy'n mynd i'r gwledydd hyn i wneud yn siŵr bod y cysylltiadau hynny'n datblygu.

Pa un a allwn ni ystyried y posibilrwydd o weld a allwn ni gynnal rhyw fath o ddigwyddiad—. Fe wnawn ni gloriannu hynny. Ar hyn o bryd, rwy'n tybio o ran unrhyw beth sy'n ymwneud â masnach, o ran Llywodraeth y DU, byddant yn ymlafnio am y flwyddyn nesaf, a bydd yn anodd iawn, iawn, rwy'n credu, iddynt gymryd hoe fach i ystyried unrhyw beth arall mewn unrhyw ffordd. Felly, credaf fod hwn yn fater ymarferol yn ôl pob tebyg. Ond erbyn hyn mae gennym ni'r ganolfan, y ganolfan gynadledda ryngwladol, sy'n gyfle gwirioneddol, ac fe welwch chi fod honno wedi'i hamlinellu hefyd yn y strategaeth hon fel man lle gallwn ni gynnal y mathau hynny o ddigwyddiadau pe baen nhw'n dod yma.  

15:40

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu hefyd y strategaeth ryngwladol, sydd yn ei fersiwn derfynol nawr? Ac rwy'n gobeithio bod adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi rhoi rhyw fath o oleuni ychwanegol i chi cyn i chi roi'r strategaeth honno at ei gilydd.

Mae'r strategaeth yn werthfawrogol iawn o'r hyn y mae arnom ni eisiau ei wneud, ond mae'n dal i ganolbwyntio ar ein cryfderau weithiau ac efallai nad yw yn weledigaeth gynhwysfawr o ble y byddwn ni ymhen pump neu 10 mlynedd, sy'n hollbwysig yn fy marn i. Mae'r hyn y dymunwch i Gymru fod ymhen 10 mlynedd yn dyngedfennol ac yn rhan o'ch gweledigaeth. Felly, rwy'n credu bod angen inni sicrhau ein bod, efallai yn y misoedd sydd i ddod, yn canolbwyntio ar hynny'n benodol.

Un neu ddau sylw am y strategaeth. Ceisiaf fod yn fyr, Llywydd, oherwydd rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o'r amser. Dydych chi ddim yn sôn llawer am raglenni'r UE. Soniwyd y prynhawn yma wrth y Prif Weinidog am Erasmus. Sonnir am hyn ddwywaith, a dywedir y byddwch yn pwyso am gael bod yn rhan o'r rhaglenni hyn, ond y cwestiwn yw: beth mae hynny yn ei olygu mewn gwirionedd? A fyddwch chi, o safbwynt Cymru, yn edrych ar sut y gallwch chi gymryd rhan yn y rhaglenni hyn y tu allan i'r UE? Oherwydd bydd Horizon Europe, sef y rhaglen olynol, ac Erasmus+ yn hanfodol i'n sectorau addysg. Felly, beth yw ein hanes ni gyda hynny?

Sut y byddwn yn cynyddu ein presenoldeb mewn mannau eraill? Oherwydd sylwais, o'r memoranda dealltwriaeth sydd gennych chi gydag amrywiol ranbarthau a chenhedloedd, mae tri ohonynt mewn rhanbarthau o Sbaen. Rydych chi'n sôn am berthynas â Sbaen yng nghyswllt addysg. Nid oes gennym ni swyddfa yn Sbaen nac yn unman yn Sbaen. Felly, a ydych chi'n bwriadu sefydlu swyddfa rywle yn Sbaen i gysylltu â'r holl gymdeithasau hynny sydd gennych chi ar hyn o bryd? A hefyd sut byddwch chi'n defnyddio'r swyddfeydd hynny? Oherwydd mae gennym ni bresenoldeb ym Mrwsel, tair swyddfa yn yr Almaen, rwy'n credu—neu ddwy yn yr Almaen yn bendant—un yn Ffrainc, ond mae angen inni ehangu i Ewrop. Oherwydd doeddwn i ddim yn gweld Ewrop fel endid ar wahân yn hynny o beth yn y drafodaeth. Mae'n ymddangos i mi mai'r hanfod oedd y byddai pawb yn cael eu trin yr un fath. A ydych chi'n mynd i ganolbwyntio mwy ar Ewrop ac, os felly, sut mae gwahanu'r agenda Ewropeaidd oddi wrth yr agenda fyd-eang? Hefyd o ran Ewrop, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar sicrhau ein bod yn datblygu'r cysylltiadau hynny? Oherwydd y tu allan i Tsieina, gydag Ewrop mae gennych chi femoranda dealltwriaeth, i bob pwrpas—rwy'n credu bod Quebec yn un, o ran awyrofod, ond dyma yw pwyslais buddiannau Llywodraeth Cymru. Felly, mae angen inni adeiladu ein swyddfeydd yn yr ardaloedd hynny ac mae angen—fel y dywedodd Delyth Jewell, rwy'n credu—ffordd o asesu llwyddiant y swyddfeydd hynny sydd gan Lywodraeth Cymru o ran y strategaeth yr ydych wedi'i hamlinellu yn y ddogfen hon.

Hefyd, rwy'n cytuno â Delyth, ac mae'r pwyllgor wedi sôn am hyn droeon, am fasnach a Llywodraeth y DU a chyfraniad Llywodraeth Cymru at yr ail fandad trafod, ynghyd â'r broses drwyddi draw. Ond, ar wahân i hynny, a ydych chi wedi cael trafodaethau gydag adrannau eraill y DU ynghylch sut y gallwch chi weithio gyda'ch gilydd mewn gwirionedd? Oherwydd bydd angen cydgysylltu a chydweithio ag adrannau'r DU. Fe wnaethoch chi gyfeirio eich hun, yn eich dogfen, y byddwch yn dibynnu ar rai o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. A ydych chi wedi cael y trafodaethau hynny a lle ydym ni arni o ran y trafodaethau hynny, er mwyn inni ddangos sut y gallwn ni gyflawni hyn drwy ein cydweithrediad?

Edrychais hefyd ar y sectorau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Fe wnaethom ni sylwi ar dri. Rwy'n deall y tri. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd y tri hynny. Ond rwy'n poeni ein bod ni'n canolbwyntio ar y tri yna'n unig, oherwydd mae ein hanes hir o ddiwydiannu yng Nghymru a'n diwydiannau trwm, sy'n datblygu yn yr unfed ganrif ar hugain—. Soniaf am ddur fel enghraifft berffaith. Nid dur y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydym ni; dur yr unfed ganrif ar hugain ydym ni. Felly, a ydych chi'n sicrhau y bydd y sectorau hynny hefyd yn cael eu parchu'n gyfartal ac y bydd y farchnad fyd-eang yn gweithio arnynt ac yn eu cefnogi fel y gallwn ni eu datblygu? Byddai awyrofod yn enghraifft glir arall. Mae'r rhain yn ddiwydiannau sydd wedi bod yn sylfaenol i economi Cymru ac y byddant yn dal yn sylfaenol i economi Cymru yn y dyfodol, nid dim ond y tri yr ydych chi wedi'u crybwyll yn y ddogfen.

Yn olaf, pŵer meddal. Cytunaf yn llwyr y bydd pŵer meddal yn dyngedfennol. Mae'r Swyddfa Gymreig ym Mrwsel yn arbenigwr ar bŵer meddal. Rwy'n gobeithio y gallwch chi ehangu hynny a sut y byddwch yn defnyddio pŵer meddal, nid dim ond ymhlith y Cymry alltud, ond y pŵer meddal sydd gennym ni ar hyn o bryd a'r sgiliau sydd gennym ni mewn pŵer meddal i fod yn wirioneddol fuddiol i economi Cymru a'r strategaeth i sicrhau ein bod yn datblygu hyn drwyddi draw, ym Mrwsel, yn Ewrop ac ar draws y byd.

Diolch yn fawr, David, a diolch am waith y pwyllgor hefyd.

Diolch yn fawr iawn am yr holl waith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud i gyfrannu at y ddogfen hon hefyd. Mewn gwirionedd, nid wyf yn derbyn y ffaith na fyddwn yn gwybod lle fyddwn ni ymhen pum mlynedd. Os edrychwch chi ar y crynodeb gweithredol, mae'n gwbl glir beth yr ydym ni eisiau bod yn ei wneud ymhen pum mlynedd. A dyna sut y gallwch ein mesur. Wyddoch chi, 500,000 o gysylltiadau o ran y Cymry alltud; rwy'n credu bod hynny'n eithaf clir o ran y sefyllfa yr hoffem ni fod ynddi.

O ran rhaglenni'r UE, rwy'n credu ein bod wedi ei gwneud hi'n glir, nid yn unig yn y ddogfen hon ond yn y Siambr hon ar sawl achlysur a chan nifer o Weinidogion, ein bod yn awyddus iawn i barhau i fod yn rhan o'r rhaglenni UE hynny; yn arbennig, rwy'n credu, Erasmus, yr ydym ni wedi'i drafod y prynhawn yma. Rydym yn arbennig o bryderus ei bod hi'n edrych fel bod Llywodraeth y DU yn mynd i gefnu ar ran alwedigaethol hynny. Dydyn nhw ddim yn ceisio hyrwyddo hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Y ffaith yw ein bod, mewn gwirionedd, wedi buddsoddi rhywfaint o arian i geisio datblygu perthynas alwedigaethol a sefydlu teithiau cyfnewid gyda Llydaw, dim ond i wneud yn siŵr y gallwn ni barhau â'r berthynas honno yn ystod y cyfnod pontio anodd hwn.

O ran Horizon 2020, mae'n hanfodol i lwyddiant ein gwyddonwyr yn y wlad hon a'n hymchwilwyr. Ac os ydych yn meddwl am y ffaith ein bod, ar hyn o bryd, yn talu tua £5 biliwn i Horizon 2020, ond ein bod yn cael £7 biliwn yn ôl, mewn unrhyw berthynas newydd, dim ond yr hyn yr ydych yn ei fuddsoddi a gewch yn ôl. Dyna'r gwahaniaeth rhwng bod i mewn a bod allan. Mae Israel yn rhan o'r rhaglen Horizon 2020, felly does dim rheswm pam na allwn ni fod. Felly, mater o ewyllys gwleidyddol yw hwn, ond gadewch inni fod yn glir na fyddwn yn cael cymaint allan ac na fyddwn yno i fframio ac i lunio'r rhaglenni yn y ffordd y buom yn gwneud hynny yn y gorffennol.

Rwy'n credu ei bod hi'n glir iawn yn y ddogfen ein bod yn canolbwyntio ar yr UE—mai dyna yw ein prif berthynas, dyna le'r ydym ni eisiau datblygu—ond yn amlwg mae angen inni gydnabod bod y byd yn newid hefyd, a bod gennym y cysylltiadau pwysig hynny, yn enwedig gyda Gogledd America, a bod gennym y cyfrifoldeb byd-eang hwnnw, yn enwedig i ddatblygu rhai o rannau tlotaf y byd, ac rydym ni wedi dewis canolbwyntio ar Affrica, ac ar ddwy ran arbennig o Affrica.

Sut ydym ni'n asesu llwyddiant y swyddfeydd? Wel, maen nhw i gyd wedi cael cyfarwyddyd clir iawn nawr o ran beth yw'r disgwyliad. Byddaf yn cael adroddiadau misol am hynny, a bydd eich pwyllgor nawr yn cael adroddiadau eithaf rheolaidd. 

O ran masnach, bydd Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn gweithio ar lawer o wahanol agweddau mewn cysylltiad â'r trafodaethau masnach. Os meddyliwch chi am amaethyddiaeth, bydd hynny'n sylfaenol, ac mae Lesley Griffiths yn ymwneud i raddau helaeth â hynny. Ar ryw adeg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fasnach yn y fan yma, bydd yn rhaid imi weld sut yr ydym yn cydbwyso'r cysylltiadau a'r blaenoriaethau rhwng y defnyddwyr a'r cynhyrchwyr, rhwng gwahanol sectorau'r economi, rhwng y berthynas â'r UE a gweddill y byd. Mae'r pethau hynny i gyd yn drafodaethau y bydd yn rhaid inni eu cael gyda phob rhan o'r Llywodraeth, ac mae'r rheini'n bethau, unwaith eto, lle nad ydym yn gwybod beth fydd mandad negodi Llywodraeth y DU. Ar ôl gweld hynny, byddwn yn gallu gwneud asesiad mwy deallus, rwy'n credu.

Gadewch imi ddatgan yn gwbl glir nad canolbwyntio ar dri sector yn unig ydym ni. Dim ond i gael sylw pobl ar y dechrau y mae'r tri sector hynny. Gwnaethom hynny pan aethom i'r Almaen y llynedd. Fe wnaethom ni wahodd pobl i gyfarfod technoleg, dywedwyd wrthynt y byddem yn siarad am led-ddargludyddion seiber a chyfansawdd; fe wnaethom ni orffen drwy siarad am dechnoleg yswiriant. Felly, mae'n ymwneud â dal sylw pobl ac ennyn eu diddordeb. Ac yn sicr, nid ydym yn cau'r trafodaethau ar fuddsoddi mewn unrhyw un o'r sectorau. Diben hyn yn syml yw rhoi ychydig o gyfeiriad i bobl, oherwydd yn y bôn mae gennych chi ychydig funudau i gael effaith, ac ni allwch chi ddechrau siarad am bob sector.

O ran pŵer meddal, cawsom gynhadledd ar hyn yn ddiweddar, a drefnwyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ac roedd hwnnw'n lleoliad defnyddiol iawn inni ganfod y ffordd orau i ddefnyddio pŵer meddal. Rwy'n credu mai un enghraifft ohonom ni'n defnyddio pŵer meddal yn dda oedd Japan; mae angen inni wneud mwy o hynny. Ond mae hefyd angen i ni fanteisio ar gorn pethau, fel y ffaith fod yna ddau unigolyn wedi eu henwebu o Gymru am Oscars nawr, a bod y mathau hynny o bethau yn gwneud gwahaniaeth. Dyna'r math o beth sy'n rhoi amlygrwydd inni ar y llwyfan byd-eang. Felly, rwy'n credu bod yna gyfleoedd gwirioneddol ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gydweithio'n dda nawr fel adran a chyda'ch pwyllgor chi. Byddem yn barod iawn i glywed a gwrando ar rai o'ch syniadau.  

15:45

Mae ein hamser ar ben ar y datganiad hwn, ond fel y dywedodd Darren Millar, dyma'r strategaeth ryngwladol gyntaf yn ystod 21 mlynedd bodolaeth y lle hwn, felly byddai 10 munud arall, rwy'n credu, yn gymesur â hynny. Mae gennyf dri siaradwr arall i'w galw, ac os gallant fod yn weddol gryno, a chryno mewn atebion hefyd, yna gallwn glywed pawb sydd â diddordeb. Mick Antoniw.

15:50

Diolch. Gweinidog, yfory, byddaf yn cynnal dadl fer yn sôn am rai o arwyr Cymru—sy'n cael eu cydnabod a'u hanwybyddu—y credaf y bydd ganddynt, mewn gwirionedd, ran yn y strategaeth ryngwladol, a'r angen am y cysylltiadau yr ydym yn eu sefydlu gyda gwledydd rhyngwladol. Ond yr hyn roedd arnaf eisiau ei wneud nawr yw cyfeirio at thema yr wyf wedi ei chodi yn y Siambr hon a gyda chi nifer o weithiau ynglŷn â sut yr ydym yn hyrwyddo delwedd Cymru mewn gwirionedd, a hynny drwy gyfrwng ein celfyddyd a'n diwylliant.

Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol iawn o Fand Cory, sy'n bencampwyr byd, sydd wedi bod yn bencampwyr y byd gymaint o weithiau ac sy'n llysgenhadon gwych dros Gymru. Pan edrychwch ar eu taith: maen nhw newydd ddychwelyd o America, sy'n amlwg yn faes yr ydym eisiau datblygu ein perthynas ag ef; byddant yn Lithwania, yn Palanga ym mis Ebrill 2020 ar gyfer pencampwriaethau Ewrop; byddant wedyn yn Ne Korea ym mis Awst 2020; byddant yn Iwerddon, yn Kilkenny, yn Ebrill 2020; byddant yn Japan yn 2021; Mae ganddynt gyngherddau yn Awstria, Lille yn Ffrainc, ac ym Mrwsel. Tybed, Gweinidog, a allech chi efallai roi ychydig mwy o fanylion ynglŷn â'r strategaeth o ran sut, pan fydd gennym ni lysgenhadon fel hyn, y gallwn ni integreiddio eu teithiau a'u gweithgareddau diwylliannol ledled y byd gydag agenda Llywodraeth Cymru, hyrwyddo Cymru, hyrwyddo ein cysylltiadau diwylliannol a'n cysylltiadau economaidd.

Un o'r problemau sydd gennym ni yng Nghymru yw, wrth gwrs, nad yw llawer o rannau'r byd yn gwybod yn iawn ble yr ydym ni; dydyn nhw ddim yn gwybod llawer am Gymru. Drwy ddiwylliant y gall pobl ddysgu cymaint a magu diddordeb. Ac mae'n ymddangos i mi, dros y degawd neu ddwy ddiwethaf, ein bod wedi colli cyfle gyda bandiau fel Band Cory, ond hefyd gyda rhai o'r grwpiau dawnsio gwerin a rhai o'r nifer o asedau diwylliannol gwych eraill sydd gennym ni.

Diolch, ac mae'n ddrwg iawn gennyf y byddaf yn absennol o'r ddadl honno yfory, gan ei bod yn swnio'n ddiddorol iawn. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn cael cyfleoedd yn y strategaeth ryngwladol hon. Rhywbeth rwy'n gobeithio ei wneud pan fyddaf yn mynd i'r Unol Daleithiau yw mynd ati o ddifrif i hyrwyddo'r ffaith bod gennym ni, er enghraifft, ddeiseb heddwch menywod, y gwn i fod y Llywydd wedi sôn amdani yn y gorffennol. Llofnododd tua thraean o fenywod Cymru ddeiseb i ofyn i'r Unol Daleithiau ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd; adeg anhygoel mewn hanes a rhywbeth y dylem fod yn falch o'i adrodd. Felly, mae arwyr, ac mae menywod ymhlith yr arwyr hynny.

Diolch am grybwyll Band Cory. Rwy'n credu bod yna sefydliadau celfyddydol y dylem fod yn falch iawn ohonyn nhw yng Nghymru. Mae Band Cory yn un ohonyn nhw; pencampwyr cenedlaethol 2019 a phencampwyr Ewrop 2019. Am gyfle. Rwyf eisoes wedi gofyn am grŵp cydlynu i ddwyn ynghyd y sefydliadau mawr, fel Opera Cenedlaethol Cymru ac fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, i weld sut y gallwn ni gysylltu ein teithiau masnach â'r digwyddiadau mawr hynny. Ond rwyf hefyd wedi gofyn nawr a holi a gaiff Band Cory eu gwahodd er mwyn i ni lunio map a gweld a oes unrhyw gyfleoedd i ni fanteisio ar eu hymweliadau, neu o leiaf i roi rhai adnoddau iddynt i hyrwyddo Cymru. Felly, byddant yn cael gwahoddiad i ddod i gyfarfod fel y gallwn ni gydlynu'r ymdrechion hynny yn y dyfodol.

Rwy'n gwybod bod Côr y Penrhyn ym Methesda hefyd yn gôr anhygoel, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud pethau gyda rhai o'r corau gwych, gwych hynny ledled Cymru hefyd; eu cael nhw i siarad ar ein rhan.

Gweinidog, rwy'n croesawu eich datganiad yn fawr. Mae eich uchelgais a'ch penderfyniad i godi proffil rhyngwladol Cymru yn ysbrydoledig ac mae mawr angen amdano. Rydych wedi sôn yn eich datganiad pa mor bwysig y gall chwaraeon fod o ran hyrwyddo brand Cymru. Fel y gwyddoch chi, rwy'n gefnogwr mawr, fel y Llywydd, o Uwch Gynghrair Cymru, sef Nomadiaid Cei Conna yn fy achos i, ac Aberystwyth yn achos y Llywydd.

Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon hefyd, Gweinidog, rwyf hefyd yn hoff o'r gêm FIFA ac yn chwaraewr brwd. Rhyddhawyd fersiwn ddiweddaraf y gêm ym mis Medi y llynedd, ac o fewn un mis roedd ganddo eisoes 10 miliwn o chwaraewyr yn fyd-eang. Rydych chi eisoes wedi sôn am swyddogaeth chwaraeon a pha mor dda yr ydym ni wedi gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn genedlaethol a chartref ym maes rygbi a phêl-droed. Felly, fy mwriad, Gweinidog, yw ysgrifennu at ddatblygwr y gêm, A&A Sports, a galw arnyn nhw i gynnwys Uwch Gynghrair Cymru, a thîm Cenedlaethol Cymru, pan gyflwynir y gyfres nesaf o'r gêm.

Felly, bydd hyn yn golygu, Llywydd, y bydd chwaraewyr yng Nglannau Dyfrdwy, yn Aberystwyth, yn Delhi, yn Shanghai, yn Efrog Newydd ac yn Tokyo yn gallu cymryd rheolaeth dros chwaraewyr pêl-droed fel Michael Bakare, y digymar George Horan, ac Elise Hughes o Sir y Fflint. Felly, byddai'n rhoi Uwch Gynghrair Cymru ar yr un sail â chynghreiriau yn Lloegr, Iwerddon a'r Alban, ond byddai hefyd yn rhoi trefi ledled Cymru ar y map rhyngwladol. Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod hon yn ffordd arloesol a gwych o hyrwyddo Cymru gyfan, ac a wnewch chi ymuno â mi i alw am hyn ac i alw ar Uwch Gynghrair Cymru a thîm cenedlaethol merched Cymru i fod ar gêm FIFA 2021? Diolch.

15:55

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn dweud wrth fy mab i adael y gêm FIFA, ond ni allaf gymryd arnaf fy mod yn deall sut mae'n gweithio. Felly, mae'n anodd i mi ddweud, 'Iawn, dyna syniad gwych', heb wybod ychydig mwy am y peth. Ond fel egwyddor, os oes unrhyw siawns y gallwn ni gael llwyfan ar y mathau hynny o systemau, yna byddai hynny'n wych. Felly, bwriwch ati, a gadewch i mi wybod sut hwyl y cewch chi.

Rydw i'n cael fy nhemtio i gario ymlaen efo'r drafodaeth yna, i ddweud y gwir, ar ôl cael trafodaeth efo fy mab ynglŷn â p'un ai i brynu'r FIFA diweddaraf er mwyn cael Aaron Ramsey mewn crys Juventus yr wythnos diwethaf. Penderfynwyd sticio efo'r hen fodel, efallai bydd rhaid i fi ailystyried. 

Dwi jest yn mynd i siarad yn fyr iawn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol, ac estyn gwahoddiad, fel arfer, i holl Aelodau'r Cynulliad yma i ddod yn rhan o weithgareddau'r grŵp trawsbleidiol hwnnw. Dwi eisiau croesawu'r ffaith bod gennym ni rŵan strategaeth ryngwladol, a gwneud apêl ar i'r strategaeth honno—er mai rŵan rydym ni'n ei chael hi, mae'r inc yn dal yn gynnes arni hi—i fod yn strategaeth hyblyg, mewn difrif, ar gyfer blynyddoedd i ddod. Mae'n garreg filltir fod gennym ni'r strategaeth. Dwi'n rhoi teyrnged arall i Steffan Lewis, flwyddyn union bron iawn ers iddo fo ein gadael ni, a oedd mor frwd, wrth gwrs, dros gael Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol a strategaeth o'r math yma, ac mae o gennym ni rŵan o'n blaenau ni. Mae o mor hanfodol ein bod ni fel gwlad fach yn edrych allan i'r byd ac yn gwneud yn fawr o'r cyfleon sydd yna allan yna i gyrraedd ein potensial ni fel gwlad.

Yn wleidyddol, mae yna anghytuno yn y Senedd yma ynglŷn â sut i gyrraedd ein potensial o ran cyd-destun cyfansoddiadol. Dwi'n grediniol mai fel gwlad annibynnol yn ein hawl ein hunain y mae cyrraedd y potensial hwnnw. Mae eraill yn gweld cyfleon, wrth gwrs, fel yn y ddogfen yma, i chwilio am gyfleon newydd o hyd. Ond, mae'n rhaid i ni fod yn barod. Pan yn gweithredu'n rhyngwladol fel hyn, nid yw rhywun yn gallu bod yn ynysig. Mae'n rhaid ymateb i beth sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd a gweld sut mae Cymru'n gallu ffitio i mewn i batrymau eraill a cheisio dylanwadu ar eraill ar yr un pryd.

Gair yn sydyn iawn o ran diaspora: rydw i'n falch o weld ymrwymiad rŵan i weithio'n benodol efo y grwpiau diaspora sy'n gweithredu'n barod. Mae yna grybwyll GlobalWelsh yn y ddogfen ac wythnos Cymru yn Llundain. Mi wnâi ychwanegu at hynny—gan ddatgan diddordeb gan fod fy nhad wedi bod yn gadeirydd ar y mudiad sawl tro yn y gorffennol—mudiad Cymru a'r Byd, sydd, wrth gwrs, ers 70 mlynedd a mwy wedi bod yn gwneud cysylltiadau rhwng Cymru a Chymry alltud, neu'r Cymry ar wasgar fel roedden nhw'n arfer cael eu galw. Mae eisiau gwneud yn fawr o'r rhwydweithiau yna. Mi wnaf i ddyfynnu, i gloi, oddi ar wefan Cymru a'r Byd, geiriau Rhys Meirion, llywydd y mudiad hwnnw:

'Gyda balchder yn ein cymreictod a'n hunaniaeth Gymraeg, mewn byd sydd bellach mor fach, gallwn fod yn genedl fyd eang lle mae ganddom i gyd, yn Gymry brodorol neu'n Gymry rhyngwladol, gyfraniad pwysig i'w gynnig i'n gilydd fel Cymry, ac i Gymru ein mamwlad.'

Mae yna gyfle mawr i ni. Dwi'n falch fod gennym ni'r strategaeth yma, ond a gaf i'r sicrwydd yna y bydd hon yn ddogfen ac yn strategaeth ddeinamig wrth i ni symud yn ein blaenau?

Diolch, a diolch am yr holl waith dŷch chi'n gwneud ar y grŵp trawsbleidiol yna. Dwi'n meddwl bod hwnna'n fforwm sydd yn help aruthrol. Wrth gwrs bod rhaid inni fod yn hyblyg—dyna’r byd rŷn ni’n byw ynddi. Ac felly, mae’n bwysig ein bod ni’n cael ambell i darged ond ein bod ni hefyd yn deall efallai y bydd rhaid inni newid wrth i bethau symud ymlaen.

Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Steffan a'i angerdd e tuag at faterion rhyngwladol a'r hyn wnaeth e yn y lle yma i helpu symud y ddadl ymlaen.

O ran y diaspora, daeth Cymru a'r Byd i’r cyfarfod mi gawsom ni jest cyn y Nadolig i ddod â rhai o’r grwpiau diaspora hynny at ei gilydd, ac felly maen nhw nawr yn rhan o’r drafodaeth ynglŷn â sut allwn ni gydweithredu a sicrhau ein bod ni ddim yn dyblygu ein gwaith a'n bod ni'n defnyddio’r rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli.

16:00
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fuddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am y wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad rhanbarthol i Gymru, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad.

Diolch, Llywydd. Rwyf yn gwneud y datganiad hwn er mwyn rhoi’r diweddaraf i Aelodau ar y cynnydd a wna Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid i ddatblygu trefniadau olynol ar gyfer disodli’r cyllid a ddarperir gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ar ôl Brexit. Mae amseru’r datganiad hwn yn hynod berthnasol. Rŷn ni nawr yn wynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd y mis. Yn ogystal â hynny, mae llai na 12 mis ar ôl erbyn hyn cyn inni gyrraedd y pwynt pan fyddwn ni’n disgwyl i raglenni a fydd yn olynu rhai'r Undeb Ewropeaidd fod yn eu lle. Bydd y cyllid a ddarperir gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn dechrau lleihau yn raddol bryd hynny gan roi buddsoddiad yn ein busnesau, yn ein pobl a’n cymunedau yn y fantol. 

Dros gyfnod o 20 mlynedd, mae Cymru wedi elwa’n sylweddol ar gyllid gan gronfeydd strwythurol a buddsoddi’r Undeb Ewropeaidd—cyllid werth £370 million yn flynyddol. Lle mae polisïau niweidiol cynni cyllidol wedi cael effaith ddifrifol ar ein cymunedau, mae cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu i ddod â swyddi newydd a gwell ac wedi caniatáu i bobl feithrin sgiliau i ymgymryd â nhw. Cafodd busnesau gymorth, gan gynnwys yn ystod argyfwng economaidd, rhoddwyd hwb i’n seilwaith, a chawsom ni help i gau’r bwlch o ran anweithgarwch economaidd a chapasiti ymchwil yn ardaloedd Cymru ei hun ac o gymharu gyda gweddil y Deyrnas Unedig. Mae’n hanfodol bod gan Gymru ffynhonnell barhaus o fuddsoddiad er mwyn osgoi cymryd camau yn ôl. Rhaid sicrhau cyllid ar gyfer helpu i leihau anghydraddoldebau sy’n parhau yn y Deyrnas Unedig a chefnogi ardaloedd sy’n agored i niwed yn economaidd—yr ardaloedd hynny rŷn ni’n gwybod a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan Brexit.

Wedi inni ailadrodd dro ar ôl tro ein hegwyddorion o 'dderbyn dim ceiniog yn llai, na heb golli unrhyw bŵer', mae Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd ei chronfa ffyniant cyffredin yn cynnig cyllid a fydd yn cyfateb o leiaf gyda maint y cronfeydd a dderbynia pob gwlad yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Yn hanfodol, fod bynnag, rŷn ni’n dal i aros am wybodaeth ar sut yn union y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddarparu i Gymru ac am gadarnhad y bydd datganoli y pleidleisiwyd yn ei gylch ddwywaith gan bobl Cymru yn cael ei barchu. 

Os yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gwbl ddidwyll ynghylch cynnal yr undeb a’i gryfhau, bydd parchu’r setliad datganoli yn un o'r profion cyntaf i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wynebu.

Hysbysodd y Prif Weinidog y Senedd yr wythnos diwethaf fod Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, yn eu trafodaeth nhw, wedi mynegi y bydd y Llywodraeth newydd yn gweithio gyda ni mewn ffordd gytûn a bydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd ymarferol o symud ymlaen o ran materion polisi allweddol. Fe fydd hynny'n gweithio orau pan fydd pob Llywodraeth yn cymryd gofal wrth ystyried y gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd wedi ei neilltuo a'r hyn sydd wedi ei ddatganoli.

Mae datblygiad economaidd rhanbarthol a gwneud penderfyniadau ynglŷn â chronfeydd cysylltiedig yr UE yng Nghymru wedi cael eu datganoli i Gymru ers 20 mlynedd. Rydym ni'n ceisio cael trafodaethau brys â nhw i sicrhau bod y penderfyniadau presennol ynglŷn â llunio polisïau a chyllido yn aros yng Nghymru. Nid barn Llywodraeth Cymru'n unig mo hon; mae ein safbwyntiau ni o ran yr arian i lenwi'r bwlch a nodwyd yn 2017 yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ac yn ein papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' wedi cael cefnogaeth gan y Senedd hon, gan grŵp seneddol amlbleidiol, gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Prifysgolion Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a melinau trafod yn cynnwys Sefydliad Joseph Rowntree a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus.

Ers i'r Llywodraeth flaenorol gynnig cronfa ffyniant a rennir dros ddwy flynedd a hanner yn ôl, mae ei gweithgarwch wedi bod yn brin iawn o wireddu'r addewidion i ymgysylltu ac ymgynghori arni. Rydym yn awyddus nawr i ddod o hyd i ffordd o weithio gyda Llywodraeth newydd y DU ar ddatrysiad sy'n golygu cyfranogiad gwirioneddol a chytundeb diffuant ar draws y pedair Llywodraeth, nid un datrysiad yr un peth i bawb a orfodir gan Lywodraeth y DU. Mae ein polisïau ni a'n model rhanbarthol ni yng Nghymru yn unigryw. Dyna pam rydym wedi bod yn cydweithio ar frys gyda'n partneriaid i baratoi model rhanbarthol hyblyg a fydd yn barod i'w gyflenwi yn 2021.

Mae grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, sy'n cynnwys aelodau o'r byd busnes, llywodraeth leol, sefydliadau academaidd a'r trydydd sector, wedi rhoi cyngor i Weinidogion ar faterion sy'n ymwneud â chwmpas polisi, canlyniadau, modelau cyflawni a chynlluniau ymgysylltu ehangach. Mae is-grwpiau technegol, sy'n cynrychioli amrywiaeth o bobl ag arbenigedd, wedi cyfarfod yn rheolaidd hefyd i helpu i lywio syniadau. Cyfarfu'r grŵp llywio bum gwaith y llynedd ac fe fyddan nhw'n cyfarfod eto fis nesaf i ystyried dogfen ymgynghori cyn ei chyflwyno i'r Cabinet i gael cytundeb arni a'i lansio ym mis Mawrth.

Rydym hefyd yn defnyddio arferion gorau rhyngwladol yn ein gwaith. Mae partneriaeth ddwy flynedd â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar y gweill i roi prawf ar ein meddylfryd ni ac i ddarparu her a chyngor manwl lle mae gwelliannau i'w gwneud, i rannu'r hyn sy'n gweithio mewn rhanbarthau eraill a rhoi'r adnoddau inni ar gyfer asesu capasiti a gallu ar bob lefel o Lywodraeth. Yn ystod eu hymweliadau ym mis Mehefin a mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth yr OECD gyfarfod ag amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru i gasglu adborth. Roedd hynny'n cynnwys seminar ym mis Tachwedd a dynnodd ynghyd randdeiliaid a chymheiriaid rhyngwladol mewn llywodraethu aml-lefel a buddsoddi cyhoeddus, ac rwy'n edrych ymlaen at argymhellion adroddiad yr OECD erbyn diwedd y flwyddyn.

Rwy'n ddiolchgar i'r OECD, i'r grŵp llywio ac i'r rhanddeiliaid i gyd am eu hymroddiad a'u gwaith nhw hyd yn hyn. Mae'r ymgysylltu eang a'r consensws cyffredinol ynglŷn â sut yr ydym yn dymuno gweld pethau'n gweithio yn y dyfodol wedi arwain at nifer o ymrwymiadau allweddol y cytunwyd arnynt gan Weinidogion. Mae'r rhain yn cynnwys: buddsoddi rhanbarthol i gynnal twf a chynwysoldeb ledled Cymru, gyda phedwar maes blaenoriaeth buddsoddi cyffredinol, yn cwmpasu cymunedau mwy iach a chynaliadwy, yr economi di-garbon, cynhyrchiant busnes a lleihau anghydraddoldebau incwm pobl; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod wrth wraidd ein cynlluniau; dirprwyo mwy i ranbarthau ac ardaloedd lleol, gan gynnwys yr egwyddor o ddyrannu rhywfaint o arian yn rhanbarthol; dull gweithredu sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau; cyfleoedd gwell i integreiddio cyllid a phrosiectau gyda meysydd buddsoddi a pholisi yn fwy eang; dull cryf a thrawsbynciol o ymdrin â chydraddoldeb a chynaliadwyedd; un gronfa a ddarperir ar sail ariannu amlflwydd; a phroses symlach.

Mae'r ymrwymiadau hyn, ynghyd â'r cynigion a ddatblygir gennym ar weithio rhanbarthol drwy ein Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r cynllun gweithredu economaidd, wedi gosod sail gadarn i'n gwaith manwl ni gyda rhanddeiliaid i baratoi ein cynigion ymgynghori. Mae llawer o waith i'w wneud eto i ddatblygu trefniadau newydd ar gyfer cyflenwi yn 2021, ac rwy'n awyddus bod cyfle i'r Aelodau roi adborth ar ein cynigion fel y gallwn adeiladu ar sail y cyfraniadau manwl ac ystyrlon a gawsom eisoes gan y Pwyllgor Gwasanaethau Allanol a Materion Deddfwriaeth Ychwanegol, a'r Pwyllgor Cyllid hefyd.

Nid ydym yn tanamcangyfrif yr her enfawr o ran newidiadau mewn diwylliant a llywodraethu a ffyrdd newydd o weithio a ddaw yn sgil Brexit. Rwy'n hyderus yn y cymorth a'r arbenigedd eang gan bartneriaid, a fydd yn ein helpu ni i ystyried beth a sut y byddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys model buddsoddi rhanbarthol newydd a all weithio ar gyfer Cymru gyfan.

16:05

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw? Ni fyddaf i'n hir, fe fyddwch chi'n falch o wybod, Llywydd, wrth ymateb i'r datganiad hwn, oherwydd, wrth gwrs, nid oes llawer iawn ynddo sy'n newydd. Yn wir, fe allech chi fod wedi cael eich twyllo i gredu ein bod ni'n parhau i fod yn y cyfnod cyn yr etholiad a chyn y fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad a welodd eich niferoedd ASau Llafur yn gostwng yn sylweddol yma yng Nghymru. Yr hyn a wyddom, wrth gwrs, yw ein bod ni, cyn yr etholiad arbennig hwnnw, wedi cael ymrwymiad clir iawn gan y Blaid Geidwadol a chan Boris Johnson a ddywedodd—ac fe'ch cyfeiriaf chi at dudalen 41 ym maniffesto Plaid Geidwadol y DU—fe ddywed,

'Bydd Cymru yn cael o leiaf yr un lefel o gymorth ariannol â'r hyn y mae'n ei chael gan yr UE ar hyn o bryd'.

Mae yno mewn du a gwyn; dyma ymrwymiad clir y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo ac y bydd yn ei gyflawni. Yn wir, mae Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Simon Hart, yr wyf i'n ei groesawu'n fawr i'r swydd, wedi dweud yn ddiamwys na fydd Cymru yn cael yr un geiniog yn llai gan Lywodraeth y DU na'r hyn y mae'n ei gael ar hyn o bryd gan yr UE. Ac wrth gwrs, rydych chi eisoes, rwy'n gwybod, fel Llywodraeth, wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd, ac mae agenda o barch i raddau helaeth iawn. Roeddwn i'n edrych ar adroddiadau yn y cyfryngau ddoe ddiwethaf lle'r oedd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd yn ei gwneud hi'n gwbl glir nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw fwriad i dresmasu ar diriogaeth Llywodraeth Cymru a mynd dros unrhyw ffiniau a setliad datganoli. Mae'n awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau'r manteision a all ddeillio o Brexit wrth inni ymadael â'r UE.

Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod mai'r gwirionedd, y gwirionedd digalon, y gwir trist amdani yw nad yw cronfeydd strwythurol yr UE wedi gweithio yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw'r bwlch rhwng ein cynnyrch mewnwladol crynswth yma yng Nghymru yn ôl CMC cyfartalog ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd wedi lleihau, a dyna holl ddiben y cronfeydd strwythurol. Rydym wedi gweld y cronfeydd strwythurol hynny'n dod dro ar ôl tro ac ydym, wrth gwrs, rydym wedi gweld rhai gwelliannau yn ein seilwaith trafnidiaeth ac rydym wedi gweld rhywfaint o fuddsoddiad, yn enwedig buddsoddiad cyfalaf, mewn gwahanol rannau o Gymru, ond nid ydynt wedi gwireddu'r gweddnewidiad a fwriadwyd. Felly, mae'n rhaid inni wneud rhywbeth yn wahanol, a'r gwirionedd yw bod y gronfa ffyniant a rennir yn rhoi cyfle inni wneud rhywbeth yn wahanol, ac yn gyfle inni anelu'r cymorth hwnnw'n well i'r rhannau hynny o Gymru sy'n colli allan yn gyfangwbl ar hyn o bryd ar unrhyw obaith o gael cronfeydd strwythurol yr UE gan nad ydyn nhw yn y Gorllewin neu'r Cymoedd.

Felly, a wnewch chi gytuno â mi—cwestiwn neu ddau, nawr, os caf i—ei bod yr un mor bwysig i Lywodraeth Cymru gefnogi'r agenda glir hon o barch y mae Llywodraeth y DU wedi ei gosod? Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cyfeirio at wneud mwy o benderfyniadau ar lefelau lleol yn y datganiad—rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr. A wnewch chi ddweud wrthym ni sut a pham nad ydych chi'n bwrw ymlaen â hynny beth bynnag? Nid yw'r ffaith nad ydych chi'n gwybod digon am y gronfa ffyniant a rennir i weithredu fel Llywodraeth Cymru yn eich rhwystro chi rhag datganoli mwy o benderfyniadau i lawr i lefel fwy lleol. Efallai y gallech ddweud wrthym beth sy'n eich rhwystro chi rhag bwrw ymlaen â hynny beth bynnag. A phan fydd gennych chi sedd wrth y bwrdd wrth lunio a mowldio'r ffordd y mae'r gronfa ffyniant yn gweithio, yn enwedig o ran sut y dosberthir yr arian ledled Cymru, a allwch chi roi sicrwydd i ni, wrth gyflwyno'r achos dros fuddsoddi mewn rhai mannau, na fyddwch chi'n diystyru'r rhannau hynny o Gymru sydd, yn anffodus, yn fy marn i, yn teimlo fel petaen nhw wedi cael eu trin yn annheg gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol o ran y ffordd yr ydych chi wedi rhannu arian parod, yn enwedig y Gogledd, y Canolbarth a'r Gorllewin? Diolch.

16:10

Diolch i Darren Millar am ei gyfres o gwestiynau. Yn ei sylwadau wrth gloi, fe soniodd am sedd wrth y bwrdd, ac rwy'n credu bod hynny'n crisialu'r peth i mi mewn llawer ffordd. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen inni ei weld o ran yr agenda bolisi hon yng Nghymru yw'r ffaith fod Llywodraethau'r DU yn cytuno ar y trefniadau mewn ffordd gyfartal, yn hytrach na bod Llywodraeth y DU yn eu gorfodi nhw ar rannau eraill o'r DU. Rwy'n credu iddo daro'r hoelen ar ei phen pan ddefnyddiodd y ddelwedd arbennig honno, ac fe fydd yn cydnabod, rwy'n credu, imi gyfeirio yn fy natganiad i fod Llywodraeth y DU wedi sôn am y cwantwm cyllid sydd i ddod yn lle'r hyn a gafwyd o'r blaen, ond nid ydym yn gwybod eto beth yw'r swm hwnnw yn eu golwg nhw. Ac yn hollbwysig, hyd yn oed os derbynnir yr egwyddor honno, yr hyn nad ydym ni wedi ei gael yw unrhyw fanylion ynghylch sut y perchir y terfyn datganoli wrth ddefnyddio a gosod y fframweithiau hynny yng Nghymru. Unwaith eto, ni allwn ganiatáu i hyn gael ei orfodi ar Gymru, ac rwy'n gobeithio y byddai ef yn cytuno â hynny.

Gallaf ei sicrhau, yn ddiamwys, y byddwn ni'n ceisio cydweithredu bob amser â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r maes polisi hwn. Rydym wedi ceisio gwneud hynny ond, a dweud y gwir yn blaen, ni chafwyd dim yn gyfnewid. Gobeithio, gyda'r Llywodraeth newydd, y bydd hyn yn digwydd. Y ffordd orau o sicrhau hynny fydd trwy barchu terfyn datganoli, y pleidleisiodd pobl yng Nghymru o'i blaid ar ddau achlysur. Rwy'n credu bod hynny wedyn yn gosod sylfaen ar gyfer yr ymgysylltiad hwnnw, ac fe fyddwn ni'n ceisio bod yn gydweithredol mewn cysylltiad â hynny. 

Fe soniodd, fel y mae mor hoff o'i wneud, am ei ddadansoddiad ef o'r rhesymau pam nad yw'r cronfeydd wedi bod yn effeithiol yng Nghymru yn ôl ei ddisgrifiad ef, ac eto i gyd, gan anwybyddu'r degau o filoedd o swyddi newydd a grëwyd, y degau o filoedd o fusnesau a gefnogwyd, y degau o filoedd o bobl a gafodd gymorth i gael gwaith, y lefelau cynyddol o gyflogaeth, y gostyngiad mewn diweithdra, lefelau gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd a lefelau sgiliau uwch. [Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr a yw wedi gorffen ei gwestiwn—roeddwn i'n meddwl ei fod wedi gwneud hynny. [Torri ar draws.] Yr her a wynebwn ni yng Nghymru yw bod—

16:15

Mae'r Gweinidog yn ateb eich cwestiwn chi, Darren Millar. A wnewch chi adael llonydd iddo barhau, os gwelwch yn dda?

Yr her a wynebwn ni yng Nghymru yw hyn. Ni waeth pa mor effeithiol y defnyddir y cronfeydd hynny, pan mae gennym bolisi economaidd ledled y DU sy'n seiliedig ar gyni a chynhaliaeth barhaus yr economi ranbarthol fwyaf anghyfartal yn unrhyw ran o Ewrop, ni all y cronfeydd hynny wneud iawn am fethiant y polisi ariannol a macro-economaidd ledled y DU, sy'n cosbi cymaint o'n cymunedau ni. Ond maen nhw wedi bod yn effeithiol, ac mae gennym ni hanes da, ac mae'n cymharu'n ffafriol iawn â methiant y partneriaethau menter lleol a'r gronfa twf lleol yn Lloegr, y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan wedi gwneud dadansoddiad manwl ohonyn nhw.

Rwy'n gwneud ymrwymiad iddo ef ein bod yn awyddus iawn i sicrhau bod yr arian newydd yn parchu'r agenda ranbartholi sy'n llifo trwy ein polisi ni yn ei gyfanrwydd yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n gwneud ymrwymiad iddo ef y bydd pob rhan o Gymru ar ei hennill oherwydd y cronfeydd hyn. Ceir potensial yn y cronfeydd newydd—yr ydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i'w cynllunio a'u nodi—i ystyried hyn yn fwy hyblyg nag a fu'n bosibl yn y gorffennol efallai. Felly, rwy'n gobeithio y bydd ef yn ymgysylltu'n adeiladol â'r ymgynghoriad pan ddaw ger ein bron.

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth agor fy sylwadau fy mod i'n gresynu'n fawr at wamalrwydd y llefarydd Ceidwadol. Mae ef naill ai'n naïf iawn o ran derbyn yr addewidion disylwedd a wnaeth Llywodraeth y DU hyd yn hyn, neu ei fod ef wir yn hidio mwy am ganmol ei feistriaid yn Llundain nag am iechyd economi Cymru. Ac o ran yr awydd gan Lywodraeth Cymru i gael sedd wrth y bwrdd, rwy'n credu ei fod ef wedi datgelu llawer iawn am ei farn wirioneddol ef ynglŷn â hyn. Mae eisiau'r bwrdd arnom ni—rydym ni'n dymuno cael penderfynu yng Nghymru sut y caiff arian ei wario, a dyna'n union yw holl ystyr datganoli.

Ac rydych chi'n dweud bod cyllid Ewropeaidd wedi bod yn fethiant ac nad yw wedi cau'r bwlch CMC. Wyddoch chi beth, rwy'n cytuno â chi i'r graddau nad yw wedi cael ei wario cystal ag y dylai, ond o leiaf mae cyllid Ewropeaidd wedi cael ei anelu at gau'r bwlch hwnnw o ran cyfoeth. Nid felly gyllid y DU. Rydych chi byth a hefyd, Darren Millar, yn canmol yr arian ychwanegol sy'n dod i Gymru. Holl ystyr hynny yw cadw Cymru mewn tlodi. Dyna yw ystyr arian ychwanegol sy'n dod i Gymru.

Weinidog, gaf i gytuno â'ch asesiad chi o werth yr arian sydd wedi dod gan yr Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd? Dydw i ddim yn cytuno bob tro efo sut mae'r arian hwnnw wedi cael ei wario, ond mae'r arian hwnnw wedi dod â budd heb os, ac mi oedd yna botensial, wrth gwrs, i barhau ag o. Dwi'n cytuno hefyd fod yna sawl egwyddor sy'n gwbl greiddiol wrth inni symud ymlaen—yn gyntaf, bod yn rhaid sicrhau nad oes yr un geiniog yn cael ei cholli, ac nid dim ond drwy'r gronfa shared prosperity rydyn ni'n sôn amdani yn y fan hyn. Rydyn ni wedi clywed crybwyll yn barod heddiw ynglŷn ag Erasmus—sôn bod hwnnw'n bot ar wahân. Bydd eisiau sicrhau bod hwnnw'n dod hefyd. Felly, un—dim ceiniog yn llai. Ac, yn ail—yr egwyddor yma fod yn rhaid parchu'r setliad datganoli. 

Dydyn ni ddim hyd yma wedi clywed yr hyn rydyn ni ei angen gan Lywodraeth Prydain. Oes, mae yna nifer o eiriau cynnes wedi dod ag arwyddion addawol, o bosib, gan yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Gymru, ond â ninnau rŵan o fewn blwyddyn at golli'r arian Ewropeaidd, dydy geiriau cynnes ddim yn ddigon da. Doedden nhw ddim yn ddigon da flwyddyn yn ôl, ond erbyn hyn rydw i'n cytuno â'r Gweinidog y dylen ni fod mewn lle llawer cryfach, ac mi gefnogwn ni'r Llywodraeth wrth i chi symud ymlaen tuag at gael y math o sicrwydd rydych chi'n gofyn amdano fo.

Does yna ddim llawer iawn yn y datganiad yma heddiw y tu hwnt i'r datganiadau, hynny yw dwi'n cytuno â nhw. Sôn ydych chi am y cyhoeddiadau sydd yn mynd i gael eu gwneud yn y misoedd i ddod ynglŷn â meddwl am ffordd wahanol o dargedu arian yn rhanbarthol. Felly, jest dau gwestiwn yn sydyn ar hynny. Pa fath o dargedau ydych chi'n bwriadu eu rhoi mewn lle i sicrhau bod yr arian yna yn dod â chanlyniadau? Hynny ydy, rydyn ni fel plaid wedi cefnogi cael targedau twf a ffyniant rhanbarthol ers blynyddoedd ac mi fyddwn ni'n dymuno gweld y math yna o dargedau yn gyrru polisi Llywodraeth.

Ac, yn ail, pa mor hyblyg ydych chi'n barod i fod fel Llywodraeth ynglŷn â pha fath o ranbarthau yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw? Er enghraifft, roeddwn i'n siarad ag aelod o dîm arwain Cyngor Gwynedd ychydig ddyddiau yn ôl a oedd yn sôn am y lles all ddod i Wynedd drwy weithio'n rhanbarthol ar draws gogledd Cymru mewn rhai cyd-destunau; mewn gweithio efo Ceredigion a Phowys pan mae'n dod at faterion yn ymwneud â de Gwynedd; ac wedyn gweithio ar draws gorllewin Cymru, ar hyd y map rydyn ni wedi dod i’w nabod fel Arfor, mewn cyd-destunau eraill. Felly, pa mor hyblyg ydych chi'n barod i fod o ran y rhanbarthau yr ydych yn bwriadu eu creu, os mai creu rhanbarthau ydy'r bwriad?

16:20

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiynau hynny. Hoffwn i fod mewn sefyllfa i allu rhannu gydag ef fwy o fanylion am yr hyn sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol mewn golwg yng nghyd-destun y gronfa. Rydyn ni wedi gofyn am gael mewnbwn i mewn i unrhyw gyfeiriad at Gymru yn yr ymgynghoriad arfaethedig. Dydyn ni ddim wedi cael y cysur hwnnw wrthyn nhw ar hyn o bryd. Fel gwnes i sôn yn gynharach wrth Darren Millar, mae angen lot mwy o fanylion, felly, ynglŷn â sicrhau'r ffin ddatganoli honno.

O ran sut i fesur llwyddiant o fewn y system ariannu yma rydyn ni wedi bod yn trafod gyda'n rhanddeiliaid a'r gwaith mae pwyllgor Huw Irranca-Davies wedi bod yn ei wneud, mae ganddyn nhw is-bwyllgor o'r grŵp hwnnw sydd wedi bod yn edrych ar y cwestiwn yma o sut i gloriannu llwyddiant a pherfformiad o fewn y system newydd, yn dwyn ar arfer gorau i wneud hynny.

Mae'r cwestiwn rhanbarthol, hynny wnaeth Rhun ap Iorwerth sôn amdano fe, mae hynny yn bwysig iawn. Mae gweledigaeth o ran egwyddor gyda ni fod rhai pethau sydd yn well i'w gwneud ar lefel genedlaethol Gymreig ac wedyn rhai elfennau ar lefel ranbarthol ar draws rhanbarthau Cymru i gyd, ac wedyn elfen arall sydd ar lefel leol iawn, ac mae hynny'n adlewyrchu, i ryw raddau, y cynlluniau presennol. Ond rŷn ni'n gweld bod cyfle o fewn hynny i allu bod yn hyblyg a sicrhau bod penderfyniadau addas yn cael eu gwneud ar lefel is na'r lefel genedlaethol Gymreig pan fo hynny yn addas, yn cynnwys darparu rhywfaint o ariannu ar lefel ranbarthol yn hytrach na jest ar lefel genedlaethol.

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rydym yn croesawu'r holl fentrau hyn a amlinellwyd yn natganiad y Gweinidog, gan gynnwys sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol i Gymru, a'ch ymgysylltiad helaeth chi â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Serch hynny, mae'n codi'r cwestiwn o beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflawni gyda'r biliynau o bunnoedd a gafwyd yng nghyllid rhanbarthol yr UE dros yr 20 mlynedd diwethaf. Efallai y gwnewch chi egluro wrthym ni a phobl Cymoedd y De pam maen nhw'n cael eu hystyried o hyd ymhlith y tlotaf yn Ewrop.

Yn sicr, Gweinidog, nid yw eich amheuaeth barhaus chi ynghylch y cyllid newydd a ddaw gan Lywodraeth y DU yn gwneud fawr ddim i feithrin perthynas dda â San Steffan. Efallai y gwnewch chi egluro inni pam yr ydych chi'n teimlo mai hon yw'r ffordd orau ymlaen. Ac fel y dywedodd Darren Millar, rydych wedi cael llawer o sicrwydd mewn datganiadau gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru yn cael ceiniog yn llai. Yn wir, fe allai gael llawer iawn mwy pan fydd y gronfa ffyniant a rennir yn cael ei gweinyddu. Ac efallai y dylwn i nodi nad Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon yw'r unig rai sy'n aros am y dyraniad hwn. Mae llawer o ranbarthau Lloegr yn yr un sefyllfa.

Rydych chi'n dweud y byddwn ni'n colli gwerth £375 miliwn y flwyddyn o arian strwythurol yr UE. Ond nid ydych yn cyfeirio at y ffaith ein bod wedi gorfod cydymffurfio â rheolau caeth yr UE wrth ei gymhwyso, tra bod y £14 biliwn a ddyrannwyd gan Senedd y DU drwy fformiwla Barnett, er yn ddiffygiol, yn dod heb gyfyngiadau o'r fath ac mae Llywodraeth Cymru yn rhydd i'w weinyddu fel y gwêl yn dda. A gaf i ddweud hefyd, Gweinidog, na all neb anwybyddu'r eironi yn eich galwad chi i barchu'r refferendwm ar ddatganoli, o ystyried eich ymdrechion bwriadol chi a'ch plaid dros y tair blynedd diwethaf i rwystro'r penderfyniad gan bobl Cymru i ymadael â'r UE yn y refferendwm hwnnw.

Mae llawer o'r datganiad hwn yn cynnwys cyfeiriadau at fentrau a chamau gweithredu sy'n cael eu rhoi ar waith i greu Cymru ffyniannus a chynhwysol. Gweinidog, mae'n rhaid gofyn, beth bynnag am Brexit, pryd fydd y rhethreg yn dod i ben a'r cyflenwi'n dechrau?

16:25

Wel, gobeithio nad wyf yn swnio'n amheus, fel y mynegais wrth Darren Millar gynnau. Rydym yn barod fel Llywodraeth i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU yn hyn o beth, ac rwyf wedi amlinellu'r hyn y mae hynny'n ei olygu o'n safbwynt ni. Mae rhan o hyn yn ymwneud â'r agwedd hanfodol o barchu'r swyddogaethau sydd gan wahanol Lywodraethau'r DU, y gwahanol bwerau a chyfrifoldebau sydd gan wahanol Lywodraethau'r DU, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn cadarnhau hynny yn y manylion. Fel y dywedaf, rydym wedi gweld arwyddion cadarnhaol ond rwy'n credu nawr ei bod yn amser symud y tu hwnt i'r arwyddion cadarnhaol cyffredinol hynny tuag at drafodaeth fanwl o'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig ac at ymrwymiad i'r egwyddor sylfaenol honno.

Rwy'n credu ei fod yn fy ngwahodd i, unwaith eto, i restru'r ffyrdd y mae'r cronfeydd hyn wedi bod o fudd i bobl Cymru. Mae gennym dwf sylweddol o ran cyflogaeth a gostyngiadau o ran diweithdra, cynnydd o ran lefelau sgiliau, a gostyngiadau o ran anweithgarwch economaidd yn y rhanbarthau hynny sydd wedi gallu elwa ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi creu miloedd o swyddi newydd yn sgil hynny, wedi cefnogi miloedd o fusnesau, ac wedi helpu degau o filoedd o bobl i gael gwaith. Efallai nad yw'n gwybod pwy yw'r bobl hynny, ond mae digon o bobl yn fy etholaeth i yn dod i'm cymorthfeydd ac yn dweud wrthyf eu bod nhw wedi elwa ar brentisiaethau a rhaglenni sgiliau eraill, a'r cyfan wedi cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.

Byddaf i'n gwrthsefyll y demtasiwn i ail-ymladd y refferendwm. Ymddengys ei fod ef yn awyddus i wneud hynny. Y cyfan a ddywedaf i yw ein bod ni o'r farn fod yna ffyrdd creadigol ac adeiladol o sicrhau bod cyllid rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol yn parhau i sicrhau'r manteision sydd wedi cronni yng Nghymru o hynny yn yr 20 mlynedd diwethaf. Mae gennym ni ddull creadigol a llawn dychymyg o lunio'r cynlluniau hynny. Rwy'n credu mai'r hyn yr hoffem ni ei weld nawr yw'r cadarnhad y bydd y cynlluniau sydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant a rennir yn ein galluogi ni, i bob pwrpas, i wireddu'r cynigion hynny. Rwyf i o'r farn fod hynny er lles pobl Cymru.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun buddsoddi rhanbarthol i Gymru? Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni ein hatgoffa ein hunain mai diweddariad yw hwn—nid ydym wedi cyrraedd y fan eto. A gaf i fynegi fy siom hefyd yng nghyfraniadau'r llefarydd Ceidwadol a llefarydd Plaid Brexit, sydd wedi ceisio bychanu'r manteision a gawsom o gyllid Ewropeaidd. Os hoffen nhw ddod i gymunedau fy etholaeth i a gweld pa fanteision sydd wedi dod yn ei sgil, mae croeso iddyn nhw wneud hynny, oherwydd mae hyn wedi bod yn rhywfaint o'r cymorth y bu ei angen ar y cymunedau hynny ar adegau anodd a wynebwyd oherwydd yr agenda o gyni sydd wedi bodoli ers 2010.

Gweinidog, ynglŷn â'r datganiad, roeddech chi'n sôn am un agwedd—sylfaen gyllid amlflwydd. Mae'n amlwg mai rhaglen Ewropeaidd oedd honno ac fe ddylai gael ei hariannu am sawl blwyddyn, ond nid yw'n ymddangos bod cyllid amlflwydd yn ei le ar hyn o bryd i lenwi'r bwlch. Y cwbl a wyddom am y gronfa ffyniant a rennir yw ei henw. Nid ydym yn gwybod un dim arall. Efallai fod gan Darren Millar fwy o fanylion am hynny nag sydd gennym ni, oherwydd ni wyddom ni ddim amdani. Nid ydym yn gwybod sut y caiff ei gweinyddu hyd yn oed, pa fath o gyfraniadau a pha fath o gyfyngiadau fydd yn cael eu rhoi arni, ac a fydd yna unrhyw fframweithiau y bydd raid inni lynu wrthynt? Ni wyddom ddim hyd yn hyn. Ond a ydych chi wedi gweld unrhyw argoel y bydd yn gyllid amlflwydd, ac na fydd yn cael ei warantu am flwyddyn yn unig, ond y bydd y ffigurau hyn yn cael eu rhoi'n barhaus am flynyddoedd fel bod modd rhoi rhaglen amlflwydd at ei gilydd? Mae hyn yn bwysig ar gyfer helpu'r cymunedau hynny sydd wedi bod yn defnyddio'r gronfa hon at y diben hwnnw ac sydd wedi cael sicrwydd y byddan nhw'n cael yr arian hwnnw, nid am flwyddyn yn unig, ond am sawl blwyddyn, fel y gallant roi rhywbeth at ei gilydd yn ofalus.

Fe sonioch hefyd am y grŵp llywio ar gyfer buddsoddi rhanbarthol i Gymru, a'ch bod chi'n disgwyl i ddogfen ymgynghori gael ei chyhoeddi. A wnewch chi gadarnhau mai dogfen ymgynghori yw honno ac nad yw'n ddogfen derfynol a roddir i'r Llywodraeth, ond y bydd yna broses a fydd yn parhau y tu hwnt i hynny? Oherwydd fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith na fydd yr OECD yn cyflwyno ei adroddiad tan ddiwedd y flwyddyn. Rwy'n tybio o'r darnau mân hynny o wybodaeth na fydd y Llywodraeth yn llunio ei chynllun terfynol—ei chynllun buddsoddi rhanbarthol terfynol—tan ddiwedd y flwyddyn neu ddechrau 2021. Pryd, felly, y bydd hynny'n digwydd i sicrhau y bydd gan ein cymunedau ni syniad o'r hyn fydd cyfeiriad cynllun buddsoddi rhanbarthol Llywodraeth Cymru i'r dyfodol?  

16:30

Diolch i David Rees am y cwestiynau yna. Mae'n gywir i ddweud ar ddechrau ei gwestiynau, er y defnyddiwyd y cronfeydd hyn yn effeithiol, mae cyd-destun ehangach cyni yn un y mae pob un ohonom ni yn gweithredu ynddo. Ni allwn ni ddisgwyl i unrhyw faint o ymyrraeth o'r fath wneud iawn am yr effaith, yr effaith andwyol y bydd hynny'n ei chael ar y cymunedau y mae llawer ohonom ni yn eu cynrychioli.

Dyma'r union fath o fanylder ynglŷn ag ariannu amlflwydd a pha mor aml y bydd ar gael yn ganolog yr ydym yn dal i fod yn ansicr yn ei gylch. Rwy'n credu bod ei gwestiwn yn mynd at wraidd y peth. Mae'r rhaglenni sydd gennym ni ar hyn o bryd, yn amlwg, ar gael ar sail cynllun amlflwydd. Felly, mae gallu parhau i ddarparu cymorth ar y sail honno yn hanfodol.

Dywedaf hefyd y bydd rhaglenni y byddai rhywun yn disgwyl iddynt fod yn gymwys o dan y rhaglenni presennol a rhaglenni'r dyfodol, ac, yn nodweddiadol, mae gorgyffwrdd ym mlynyddoedd y rhaglenni hynny fel y gellir symud yn ddidrafferth o un rhaglen i'r llall. Felly, mae hynny'n bryder arall—ein bod yn gwneud yn siŵr bod trefniadau newydd a chyllid newydd ar waith mewn da bryd i hynny fod yn bosib o ran rhai o'r rhaglenni hyn hefyd.

O ran yr ymgynghoriad ym mis Mawrth, bydd hwnnw'n ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yn disgrifio canlyniad trafodaethau'r grŵp llywio a bydd yn disgrifio'r egwyddorion a'r fframweithiau eang ac ati, ond bydd hwnnw ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'n iawn i sôn am y ffaith na fydd adroddiad terfynol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gael tan ddiwedd y flwyddyn. Mae hon yn rhaglen y mae'r Sefydliad wedi bod yn gweithio arni gyda ni ers dwy flynedd, ac mae ambell beth wedi esgor o'r gwaith hwnnw yn y cyfamser, gan gynnwys ymweliadau â Chymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chyfarfod rhanddeiliaid, fel y dywedais, ym mis Tachwedd y llynedd. Mae hynny wedi rhoi ymdeimlad o'r cyfeiriad yr ydym yn symud iddo yn deillio o'u myfyrdodau yngylch arferion gorau hefyd.

Mae nifer o gwestiynau yn gysylltiedig â hyn. Mae un yn ymwneud â'r fframweithiau, y blaenoriaethau, y llywodraethu ac yna'r dulliau cyflawni. Bydd rhywfaint o hynny ar gael gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd dim ond ar ddiwedd y flwyddyn, ond, yng nghyswllt y fframweithiau, y llywodraethu, yr egwyddorion ac ati, byddwn eisiau ymgynghori yn eu cylch cyn hynny.

Mae'n bwysig ein bod ni mewn sefyllfa i gael trefniadau ariannu newydd yn eu lle cyn gynted â phosib y flwyddyn nesaf er mwyn i ni wneud y mwyaf o'r pontio llyfn rhwng un gyfres o raglenni a ariennir gan yr UE a'r rhaglenni a ariennir ledled y DU wedi hynny.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad o Gynnydd ar Gronfa Trawsnewid Cymru Iachach

Ac felly yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar adroddiad o gynnydd ar gronfa trawsnewid 'Cymru Iachach'. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr haf diwethaf, rhoddais ddiweddariad ysgrifenedig i'r Cabinet ynglŷn â 'Cymru Iachach' a'r gronfa drawsnewid. Mae'n bleser gennyf roi diweddariad arall heddiw i'r Aelodau ynglŷn â'r gronfa drawsnewid.

Lansiais gronfa £100 miliwn ym mis Medi 2018. Diben y gronfa yw helpu i uwchraddio modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol di-dor ledled Cymru. Roedd y modelau gofal newydd yn un o argymhellion amlwg yr adolygiad seneddol. Mae'r dull hwn o weithredu wedi'i grybwyll yn y canllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer y gronfa a thrwy ymgysylltu â phartneriaid sy'n darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn rhanbarthol.

Ystyriwyd pob cynnig yng ngoleuni'r 10 egwyddor cynllunio a nodir yn 'Cymru Iachach'. Mae'r egwyddorion cynllunio hynny yn dwyn ynghyd sawl ystyriaeth strategol allweddol, gan gynnwys ein hymrwymiad i egwyddorion gofal iechyd darbodus, y nod pedwarplyg a gymeradwyir gan yr adolygiad seneddol a'r pum ffordd o weithio a ymgorfforwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Rwyf wastad wedi bod yn glir fod gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol swyddogaeth allweddol o ran ysgogi trawsnewid. Dyna pam roedd angen i'r cynigion gael eu cefnogi gan un neu ragor o fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi cyfarfod sawl gwaith gyda rhanddeiliaid ac arweinwyr allweddol ym mhob rhanbarth i ddeall y pwysau allweddol ac i weld modelau newydd sy'n datblygu. Mae'n galonogol gweld bod ein partneriaid rhanbarthol wedi derbyn yr her. Maen nhw wedi cyflwyno ystod o gynigion sy'n dangos awydd i arloesi ac ymrwymiad gwirioneddol i drawsnewid sylweddol.

16:35

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Hyd yn hyn, rwyf eisoes wedi dyfarnu £89 miliwn i gefnogi 14 cynnig, gydag o leiaf un ym mhob rhanbarth. Mae prosiectau trawsnewid i'w gweld ledled Cymru. Er enghraifft, mae gofal wedi'i alluogi gan dechnoleg yn y gorllewin yn dod â chymunedau at ei gilydd ac yn lleihau ynysigrwydd cymdeithasol. Yng Ngwent, mae gwasanaethau'n cael eu had-drefnu er mwyn darparu arbenigedd i staff ar y rheng flaen er mwyn cynorthwyo rhai o'n plant mwyaf agored i niwed. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn y rhannau mwyaf gwledig o Gymru yn helpu pobl i elwa ar wasanaethau lles lleol. Mae dros 1,000 o ddatganiadau diddordeb wedi dod i law ar gyfer yr hyfforddiant I CAN i gefnogi iechyd meddwl sy'n cael ei gyflwyno ar draws y gogledd. Rwy'n ddiolchgar i bob un o'n partneriaid rhanbarthol am eu brwdfrydedd a gwaith diflino eu timau rhanbarthol yn gwireddu eu huchelgeisiau.

Fel y gŵyr pob un ohonom ni, mae iechyd a gofal cymdeithasol yn system gymhleth sydd dan bwysau'n barhaus. Mae troi polisi yn newid gwirioneddol ar lawr gwlad a hynny'n gyflym yn her wirioneddol, a dyna, wedi'r cyfan, yn rhannol pam y cytunodd pedair plaid o'r Cynulliad hwn i gomisiynu'r adolygiad seneddol yn y lle cyntaf, ac rydym ni bellach yn gweithredu argymhellion yr adolygiad. Wrth gwrs, rwy'n amlinellu dull a gweledigaeth y Llywodraeth yn 'Cymru Iachach', ond mae'n rhaid i ni barhau i weithio'n agos â'n partneriaid cyflenwi ac i werthuso effaith yr hyn a wnawn.

Felly, rydym ni wedi cwblhau dau gylch o adolygiadau chwarterol, gyda'r trydydd cylch ar fin dechrau. Mae 14 o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gweithle sy'n canolbwyntio ar brosiectau trawsnewid lleol wedi'u cynnal ledled Cymru, wedi'u trefnu a'u rhedeg fel partneriaeth gan Lywodraeth Cymru a byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Rwyf wedi gwrando ar adborth gan bartneriaid rhanbarthol a ddywedodd wrthyf fod y cynnydd cychwynnol yn arafach na'r disgwyl, yn bennaf oherwydd materion recriwtio a chaffael. Mewn ymateb, rwyf wedi ymestyn y cyfnod cyllido i gefnogi modelau newydd o fis Rhagfyr 2020 i fis Mawrth 2021. Rwyf wastad wedi bod yn glir, fodd bynnag, mai bwriad y gronfa drawsnewid yw bod yn gatalydd ac ni fydd yn un rheolaidd. Mae angen i bartneriaid rhanbarthol ddynodi adnoddau o'u cyllidebau rheolaidd i gefnogi'r gwaith o ehangu'r trawsnewid, gan gynnwys blaenoriaethau trawsnewidiol ychwanegol.

Addewais hefyd y byddwn yn edrych yn fanwl ar ddewisiadau ar gyfer y gronfa, gan gynnwys sut i ddyrannu'r £11 miliwn sy'n weddill. O ystyried yr oedi ym mhroses y gyllideb gan Lywodraeth y DU, rydym ni, wrth gwrs, yn wynebu sefyllfa heriol iawn, ac rwyf hefyd yn cydnabod yr angen a gwirionedd y sefyllfa bod yn rhaid i'r cyllid cyfyngedig ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol gefnogi'r system gyfan.

Rwy'n ddiolchgar am waith ac ymrwymiad partneriaid wrth ddatblygu eu cynigion ar gyfer ail gylch y gronfa. Wrth ystyried yr hyn a ddysgwyd o'r cylch cyntaf o gynigion, rwyf wedi gwneud penderfyniad, ac rwyf wedi ysgrifennu at fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn awgrymu faint o gyllideb fydd yn weddill yn y gronfa drawsnewid. Caiff hyn ei ddyrannu ar sail ranbarthol yn unol â fformiwla ariannu'r GIG ar gyfer byrddau iechyd ynghyd â galwad am gynigion newydd sy'n adeiladu ar brosiectau sy'n bodoli eisoes. Dylai hynny alluogi rhanbarthau i benu hyd a lled eu cynigion o ran amlen ariannu fras, er mwyn helpu i dargedu amser ac ymdrech yn rhanbarthol. Bydd cadarnhad o'r cyllid yn amodol ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflwyno cynigion dichonadwy. Byddaf yn chwilio am geisiadau sy'n gwella ac yn ychwanegu at y cynigion a gymeradwywyd, gan roi pwyslais ar newid yn raddol o weithio fel un rhanbarth i weithio aml-ranbarth ac i gwmpas cenedlaethol.

Caiff patrymlun a chanllawiau atodol eu darparu a chaiff y ceisiadau eu hasesu gan y panel gwerthuso o fewn amserlen benodedig. Bydd y meini prawf craidd ar gyfer y gronfa yn aros fel y maen nhw yn y canllawiau cyhoeddedig, gyda'r pwyslais hwnnw ar weithio'n aml-ranbarthol ac ar raddfa genedlaethol.

Disgwyliaf i fyrddau partneriaeth rhanbarthol gyflwyno cynigion erbyn canol mis Mawrth 2020, felly o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, ac yna byddaf yn rhoi cadarnhad buan o benderfyniadau i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi hynny. Mae tîm y gronfa drawsnewid ar gael, wrth gwrs, i gefnogi rhanbarthau wrth iddyn nhw ddatblygu eu ceisiadau.

Mae hon, rwy'n credu, yn ffordd hyblyg a phragmatig o fynd ati sy'n cydnabod sefyllfa bresennol ein cyllidebau, yr angen brys i gynnig eglurder i bartneriaid rhanbarthol, yr heriau o ran cyflawni cynigion a gymeradwywyd, ac sy'n dysgu o'r gweithredu hyd yma, sydd wedi amlygu'r angen am gymorth pellach i wella'r cynnydd trawsnewidiol presennol. Edrychaf ymlaen at ateb cwestiynau gan Aelodau heddiw.

16:40

Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae'n dda gweld y 14 prosiect sydd wedi cael eu cyllido, a bydd gen i ddiddordeb mawr gweld sut gaiff yr £11 miliwn arall ei ddefnyddio yn y diwedd.

Hoffwn wneud un neu ddau sylw. O ran y cylch ariannu terfynol, a wnewch chi egluro a fyddwch chi'n targedu ceisiadau o unrhyw ardal bwrdd iechyd benodol, ynteu a fyddwch chi'n edrych ar ddull gweithredu ar gyfer Cymru gyfan? Ac rydych chi'n dweud y dylai'r cynigion gael eu cyflwyno erbyn canol mis Mawrth. Oes gennych chi ddyddiad cau ar gyfer pryd y byddech yn pennu dyddiad cau i chi eich hun ar gyfer cytuno ar y cynigion hyn?

Yn y datganiad a roesoch chi ar y gronfa hon y llynedd, fe ddywedoch chi y byddai cynllunio'r gweithlu a datblygu'r gweithlu yn thema gref, tybed sut -mae'r uchelgais hon yn mynd yn ei blaen a pha dystiolaeth sydd yna bod y prosiectau sy'n hyrwyddo gwell cynllunio gweithlu yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Eto, yn natganiad y llynedd, dywedodd fy nghyd-Aelod Darren Millar nad oeddech chi wedi rhoi unrhyw syniad inni beth fyddai'r rhaniad buddsoddi rhwng gofal cymdeithasol, gofal cymunedol, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Ydych chi'n edrych arno yn y termau hynny neu a yw'n fwy cyffredinol? Oherwydd yn amlwg rwyf wedi cael golwg ar y prosiectau y cytunwyd arnynt hyd yma.

Mae'r datganiad yn tynnu sylw at y ffordd y bwriedir i'r gronfa fod yn gatalydd ac na fydd yn rheolaidd. Pa broses sy'n bodoli os bydd y cynlluniau hyn, ar ôl eu cyllido, yn methu yn y pen draw. Sut y gallwch chi sicrhau cynaliadwyedd a sicrhau, os yw'n brosiect da, ei fod, mewn gwirionedd, yn cael cefnogaeth y bobl sy'n gysylltiedig ag ef, y cyrff sy'n gysylltiedig ag ef, i allu gwneud cynnydd? Tybed pa wiriadau sydd ar waith i fesur llwyddiant cynllun.

Y llynedd, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith eich bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfres o ddangosyddion cenedlaethol i werthuso modelau newydd wrth iddynt ddatblygu fel y gellir cynyddu datblygiadau arloesol mwy addawol, a meddwl oeddwn i tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn y gallai'r rhain fod. Yn dilyn y nodau hynny, fe wnaethoch chi fynegi eich awydd i weld y prosiectau hyn yn croesi ffiniau, ac, unwaith eto, mae'n ymwneud â'r cymorth a fydd ar gael i ariannu cynlluniau a ystyrir yn llwyddiant mewn un rhan o Gymru i sicrhau eu bod yn gwneud y trosglwyddiad hwnnw i rannau eraill ac ymwreiddio'n llwyddiannus.

Ac, yn olaf, rydych chi'n rhoi llawer o bwyslais yn eich datganiad ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol a gwneud popeth drwyddyn nhw, ac, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol a ddangosodd ganlyniadau braidd yn dameidiog ac anghyson mewn rhai meysydd, a meddwl oeddwn i tybed a allwch chi roi rhyw sicrwydd i ni, er eich bod yn rhoi eich ymddiriedaeth, eich ymdrech, a'ch bod yn gofyn iddyn nhw gyflwyno'r syniadau hynny, y byddant yn gallu eu datblygu ac y bydd ganddyn nhw'r cryfder a'r gefnogaeth i wneud yn siŵr nad yw'r arian trawsnewid hwn yn cael ei wastraffu.

Diolch am y rhestr o gwestiynau. O ran yr £11 miliwn yn yr ail gam, fel y ceisiais ddangos yn fy natganiad eisoes, byddaf yn targedu hynny yn yr ystyr y bydd un ardal bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn cael swm mwy nag eraill, ar wahân i'r ffordd y mae'r fformiwla ariannu yn gweithio, sydd eisoes yn cynnwys yr amrywiaeth o bwyntiau am angen a phoblogaeth. Felly, byddwn wedyn yn cyhoeddi'r swm o arian y bydd pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol o bosib yn gorfod ceisio amdano, ond, wrth gwrs, bydd gan y partneriaid eu hunain gyllidebau y bydd angen ychwanegu atynt neu fel arall. Ac rwy'n credu fy mod eisiau cysylltu hynny ag un neu ddau o'r pwyntiau eraill a wnaethoch chi, sef â'r dystiolaeth o gynnydd, y diweddariad ynghylch y dangosyddion cenedlaethol, a'r trawsnewid o un rhanbarth i'r llall a maint y trawsnewid hwnnw. Oherwydd diben yr ail gam yw, os oes pethau newydd y mae byrddau eisiau eu gwneud, ynghylch beth yw'r rhain, ynghyd â'r egwyddorion cynllunio, gyda phwyslais ar ddymuno gweld pobl yn cofleidio mewn mwy nag un rhanbarth yr hyn sy'n gweithio mewn rhanbarth arall, ac rwyf eisiau gweld hynny'n datblygu ar raddfa fwy. Oherwydd, pan fyddwn yn cyrraedd diwedd cyfnod y gronfa drawsnewid, bydd gennym ni ddewisiadau i'w gwneud o hyd, ni waeth pwy yw'r Gweinidog ar y pryd, ynglŷn â sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hynny.

A'r pwynt ynghylch byrddau partneriaeth rhanbarthol fel elfen allweddol o hyn yw (a) eu bod eisoes yn bodoli. Mae pobl wedi arfer â gorfod gwneud mwy a mwy o ddewisiadau gyda'i gilydd i rannu gwybodaeth, rhannu dysg, a datrys problemau gyda'i gilydd hefyd, oherwydd ni ddylai'r un ohonom ni honni, hyd yn oed o fewn ein teuluoedd ein hunain, heb sôn am grwpiau a gwahanol wasanaethau cyhoeddus ein bod i gyd yn cytuno ar bopeth drwy'r amser. Felly, mae'n ffordd o ddatrys y gwahaniaethau hynny ond wedyn hefyd i fod â chynllun y mae pobl yn ymrwymo iddo ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n credu, o gofio'ch cyfeiriad at y ffydd y gallwn ei chael mewn byrddau partneriaeth, y gallwn gael ffydd wirioneddol, oherwydd gallwch weld nid yn unig eu bod wedi dod ynghyd i gytuno ar geisiadau, ond, mewn amrywiaeth o feysydd, maen nhw'n dechrau gwneud mwy o wahaniaeth. Ac, yn y gaeaf, er enghraifft, y ffaith bod pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi cytuno sut i ddefnyddio arian ar gyfer y gaeaf, yn hytrach na chael ffrae fawr ynghylch pwy gafodd pa gyfran ohono, a beth oedd blaenoriaethau'r system gyfan o fewn y maes hwnnw. Mae hynny'n rhoi mwy o ffydd inni ynglŷn â'r dewisiadau ymarferol sy'n cael eu gwneud. Rwy'n gobeithio y bydd mwy o hynny, ac yna bydd cwestiwn agored i mi neu Weinidog yn y dyfodol ynghylch beth sy'n digwydd wedyn os byddwn yn datblygu hynny.

Felly, ar ôl y cam nesaf hwn, mae'r gronfa drawsnewid ar ben. A yw hynny'n ymwneud ag arian? A yw hynny'n ymwneud ag annog pobl? A yw'n ymwneud â mynnu bod pobl yn gwneud pethau? Neu a yw'n fwy na hynny? Ond byddai hynny'n darogan y dyfodol, cyn y gwerthusiadau a gawsom ni ar lwyddiant y prosiectau. A chredaf fod hynny yn dod yn ôl at eich sylw am dystiolaeth am y cynnydd yng ngham un a'ch sylw am y cwestiynau a ofynnodd Darren Millar yn y gorffennol ynghylch a fyddai rhaniad rhwng gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol. Nid wyf yn credu bod hynny'n ddefnyddiol, felly rwyf eisiau edrych arno'n fwy cyffredinol ynghylch yr effaith ar yr holl system. Dyna'r pwynt hefyd ynghylch cael partneriaid i gytuno ar yr hyn a ddylai wneud synnwyr, oherwydd, fel arall, pe bai'n cael ei rannu rhwng gwahanol rannau o'n system, byddai'n hawdd gweld y bobl hynny'n cilio i gornel gan ddweud, 'Fy arian i'w hwn, i mi benderfynu beth i'w wneud ag ef' yn hytrach na, 'Beth ddylai wneud gwahaniaeth i'r unigolyn hwnnw y bydd angen iddo lifo drwy ac o amgylch y system gyfan honno?'

Dywedais yn fy natganiad fod y trydydd o'r gwerthusiadau chwarterol i gyrraedd yn fuan. Yr hyn y bwriadaf ei wneud yw ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ôl i'r pedwerydd gwerthusiad ddod i law, felly gwerthusiad blwyddyn lawn o bob un o'r meysydd, a rhoi diweddariad bryd hynny. Rwy'n dychmygu efallai y bydd y pwyllgor yn penderfynu ei fod eisiau edrych arno'n fwy manwl neu beidio, ond yna byddai'r canlynol yn gyhoeddus a gweladwy - 'Dyma'r cynnydd ar yr adeg honno, a'r cynnydd drwy'r system.' Gallech hefyd wirio hynny wedyn o'i gymharu â'r dangosyddion cenedlaethol. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol gweld hynny ynghyd â chyd-destun y gwerthusiad a'r cynnydd.

Dylem hefyd erbyn hynny fod wedi cael penderfyniadau ar bob un o'r cynigion ail gam yr wyf wedi'u cyhoeddi. Ni allaf roi amser pendant ichi o ran pryd y byddaf yn ymateb i hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae angen imi weld beth yw'r cynigion ac a oes angen cysylltu â phobl cyn gwneud penderfyniad. Ond rwy'n awyddus i wneud dewisiadau cyn gynted â phosib, fel y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r dyfodol.  

16:45

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac i weld y cynnydd a wnaed yn y maes pwysig hwn. Rwy'n croesawu'r hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am y cam nesaf, sef edrych ar weithio mwy traws-ranbarthol ac edrych ar ehangu cenedlaethol. Ni wnaf, Dirprwy Lywydd, boeni'r Cynulliad gyda rhai o'r cwestiynau sydd eisoes wedi eu hateb o ran sylwadau a wnaeth Angela Burns, ond hoffwn ymchwilio ychydig ymhellach gyda'r Gweinidog i'r holl broses o ehangu a chyflwyno'r mater hwn, oherwydd bu hyn yn un o'n problemau yng Nghymru, mi gredaf, nid dim ond yn y system iechyd a gofal cymdeithasol; bod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi buddsoddi cryn dipyn o arian mewn rhaglenni arloesol, lle maen nhw wedi cyflwyno rhai prosiectau da iawn a gwaith cadarnhaol iawn, ond ymddengys ein bod yn methu ar yr adeg honno pan fo angen inni droi hynny'n rhaglen genedlaethol ac yn drawsnewid cenedlaethol.

Nawr, mae'r Gweinidog yn briodol iawn yn ei ddatganiad yn cyfeirio at gynnydd ychydig yn arafach nag y disgwyliai, ac mae hynny'n ddealladwy, rwy'n credu, ac mae'n crybwyll bod problemau recriwtio a chaffael. Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni y prynhawn yma ychydig mwy ynghylch beth oedd rhai o'r elfennau hynny, neu a yw'n fwy priodol os yw'n ysgrifennu atom, oherwydd credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn deall beth yw'r elfennau hynny er mwyn gallu craffu ar y modd y mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Oherwydd pe bai problemau recriwtio a chaffael yn ystod y camau cynnar, byddai rhywun yn disgwyl y bydd y rhai hynny'n ailymddangos neu efallai'n ailymddangos pan fydd ehangu a symud tuag at raglenni cenedlaethol. Felly, byddai diddordeb gennyf glywed ychydig mwy am beth oedd yr elfennau hynny mewn gwirionedd.

Mae'r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at yr eglurder a roddodd erioed, a bod yn deg, mai un gronfa arian benodol a geir yma, sef ei bod yn rhoi cyfle i bobl arloesi, ac y bydd yn disgwyl cyflwyno'r dysgu drwy gyllidebau craidd yn yr hirdymor. Rwy'n credu y byddem i gyd yn disgwyl hynny. Ond tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni ychydig mwy ynghylch sut y mae'n bwriadu gweithio gyda'r cyrff iechyd gwladol ac, yn wir, wrth gwrs, yn bwysig iawn, y partneriaethau rhanbarthol a'r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd.

Rwy'n cydnabod yn llawn nad yw'r Gweinidog mewn sefyllfa eto i ddweud wrthym ni pa wersi a ddysgwyd o'r rhaglen, gan nad yw'r gwerthusiadau wedi'u cwblhau, felly byddai'n ffôl inni ofyn am hynny. Ond byddwn yn dychmygu bod rhai materion yn dechrau dod i'r amlwg, bod rhai patrymau'n dechrau dod i'r amlwg. Rwy'n croesawu'n fawr, gyda llaw, ymrwymiad y Gweinidog, pan fydd gennych chi flwyddyn gyfan o werthusiadau, i rannu'r rhai hynny ag aelodau'r pwyllgor, rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn ddiolchgar iawn o weld y rhai hynny, ac efallai y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad i'r Cynulliad bryd hynny, rhag ofn bod Aelodau nad ydynt ar y pwyllgor iechyd hefyd eisiau cyfrannu.

Felly, os cawn glywed ychydig mwy ynghylch beth oedd y rhwystrau, ychydig mwy am feddylfryd y Gweinidog o ran, pan ddysgir y gwersi, sut y caiff hynny ei ledaenu drwy'r system, oherwydd dywed datganiad y Gweinidog ei hun y gall hynny fod yn anodd. Ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio bod y tîm cyllid trawsnewid ar gael i gefnogi rhanbarthau wrth iddynt ddatblygu'r cynigion ar gyfer y cylch nesaf, sy'n amlwg yn ddefnyddiol iawn. A yw'r Gweinidog yn bwriadu y bydd y cymorth hwnnw ar gael, neu ryw fath o gefnogaeth debyg, pan ddeuwn at y ar adeg anoddach efallai lle mae'r arian ar gyfer y trawsnewid ar ben, mae'r gwersi wedi'u dysgu, ac mae angen prif-ffrydio hynny, os mynnwch chi, mae angen i hynny ddod yn rhan o arferion craidd. Oherwydd dyna, fel y dywedais, lle'r ydym ni wedi tueddu i fethu yn y gorffennol.

Mae hyn yn rhywbeth arloesol pwysig iawn. Mae'r Gweinidog yn gwybod ei fod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol i'r hyn y mae'n ceisio ei wneud ag ef. Ond mae angen inni sicrhau na fydd hyn yn un arall o'r rhaglenni arloesol rhagorol hynny sydd wedyn yn mynd i'r gwellt pan fo angen i gyrff iechyd, ac yn wir gwasanaethau cymdeithasol a phawb sy'n eistedd ar y byrddau partneriaeth, newid y ffordd y maen nhw'n edrych ar eu cyllidebau craidd pan fydd y gronfa arian hynod dderbyniol hwn wedi dod i ben.

16:50

Rwy'n credu bod rhai heriau canolog yn y fan yna. O ran y cynnydd, cefais fy mhlesio'n fawr gan y ffordd yr oedd y tri neu bedwar bwrdd partneriaeth rhanbarthol cyntaf wedi llwyddo i gytuno ar eu cynigion yn yr amser a gymerodd hi. Yn benodol, gallaf ddweud yn onest fy mod yn credu bod y gogledd, o ystyried yr amryw heriau y maen nhw'n eu hwynebu, wedi cytuno ar ddull o weithredu yn gyflym iawn. Roeddwn yn disgwyl iddyn nhw fod yn arafach nag yr oedden nhw, ac rwy'n credu bod hynny'n dyst i'r cysylltiadau partneriaeth gwell sy'n bodoli, o ran pob partner yn yr ystafell o amgylch bwrdd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

Yna mae'n ymwneud â'r her ynghylch datblygu hynny ar ôl cael y cynllun, ac yna recriwtio pobl, ac yn fwy na hynny, mae ynglŷn ag ôl-lenwi rhai o'r swyddi hynny hefyd wrth i bobl symud. Rydym ni wedi gweld hyn, er enghraifft, yn rhai o'n rhaglenni eraill pryd y penderfynon ni symud pobl. I gael cynllun y mae pawb yn ei dderbyn, ond wedyn i recriwtio'r bobl hynny mae yna broses i fynd drwyddi, yr holl bobl sy'n recriwtio, ac yna caiff y rhai a gafodd eu recriwtio eu symud wedyn, ac yna i wneud yn siŵr nad ydym yn tanseilio'r gwasanaethau sydd gennym ni ar hyn o bryd.

Oherwydd rydym ni wedi gwneud hyn yn fwriadol i ddyblu'r gwasanaethau, oherwydd nad oeddem ni eisiau diddymu gwasanaethau a dweud wedyn, 'Rydym yn creu rhywbeth a fydd yn wych, felly ymdopwch hebddo am ychydig.' Felly, rydym ni wedi gwneud hyn yn fwriadol, ac mae'r realiti ymarferol o wneud hynny wedi effeithio ar yr hyn a ddylai fod wedi digwydd neu'r hyn a fyddai wedi bod yn bosib mewn egwyddor. Felly, yn syml, mae'n bwynt ymarferol, a doeddwn i ddim eisiau byrhau'r amser a oedd gan bob un o'r prosiectau trawsnewid hynny i ddangos y gwerth yr oedden nhw wedi'i gyflawni wrth drawsnewid y system. Dyna pam fy mod i wedi ymestyn yr amserlen ar gyfer y cynigion hynny o ran y gronfa drawsnewid, i'w gwerthuso, ac yna i wneud dewisiadau.

Nawr, bellach bydd y gronfa drawsnewid yn bodoli hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, ac wrth gwrs mae yna ddigwyddiadau eraill y bydd llawer ohonom ni yn ymwneud â nhw tua'r adeg honno, o ran dyfodol y Cynulliad a myfyrio ynghylch y Llywodraeth nesaf. Mae dewis o ran pa ddewisiadau gaiff eu gwneud ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn, er y byddwn ni'n Welsh Parliament/Senedd erbyn hynny, gyda'r newid enw. Bryd hynny, mae angen inni wneud rhai dewisiadau ynglŷn â beth fydd y sefyllfa o bosib yn y dyfodol, a'r dewisiadau y gallwn eu gwneud o fewn y gyllideb. Ond wedyn bydd pwy bynnag yw'r Llywodraeth eisiau gwneud dewisiadau ynglŷn â beth i'w wneud i symud pethau yn eu blaen. Dyna'r pwynt canolog: nid yn unig, 'oes gennym ni restr o bethau y mae'n ymddangos eu bod yn gweithio?', ond, 'sut mae gwneud iddyn nhw weithio drwy'r system gyfan wedyn?' Dyna un o'r heriau yr wyf yn eu gosod o ran cael prosiectau a allai ehangu'n gyflym, yn ogystal â'r gonestrwydd ynghylch pethau nad ydynt wedi gweithio ac atal eu cyllid.

Felly, gall Gweinidogion wneud sawl peth i geisio annog pobl i weithio gyda'i gilydd ac i gyflwyno pethau. Fe allwch chi annog, a dweud wrth bobl eu bod wedi creu argraff fawr arnoch chi, ac mae hynny'n gweithio o bryd i'w gilydd gyda phobl wahanol. Fe allwch chi fynnu pethau a churo'r ddesg, os mynnwch chi, ac mae yna Weinidogion mewn gwahanol sefydliadau sy'n credu mai dyna'r ffordd i wneud pethau—nid dyna fy null i o weithredu. Gallwch gael pwerau cyfreithiol—gallwch naill ai newid y gyfraith neu ddefnyddio'r pwerau cyfreithiol sydd gennych chi i orfodi pobl neu ei gwneud hi'n ofynnol i bobl wneud pethau. Ac rydym ni wedi mabwysiadu rhywfaint o'r dull hwnnw, er enghraifft, gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a dreialwyd gan Gwenda Thomas drwy'r fan yma. Roedd hynny'n golygu bod angen i bobl gael cyllidebau cyfun ar waith, ond mewn gwirionedd, er gwaethaf y gofyniad cyfreithiol, roedd dod â'r rhain at ei gilydd yn anodd iawn, ac mae heriau ymarferol gwirioneddol. Yn y sefyllfa hon, rwy'n credu y bydd ganddyn nhw berthnasoedd rhesymol ac y byddan nhw mewn gwell sefyllfa hyd yn oed i orfod gwneud dewisiadau gyda'i gilydd, ac maen nhw wedi gwneud dewisiadau ynglŷn â nid yn unig sut i wario arian, ond ynglŷn â sicrhau gwelliant.

Yna, mae'r ddau beth a fydd, yn fy marn i, yn helpu i'n hysgogi yn ymwneud â sut rydym ni'n dynodi arian. Felly, hyd yn oed gyda'r £100 miliwn yr ydym ni wedi'i gyhoeddi nawr, ac yr wyf wedi cadarnhau sut y caiff ei wario heddiw, sydd wedi cynhyrchu mwy na £100 miliwn o ran gwerth y gwaith ychwanegol a grëwyd ar draws rhanbarthau, rhwng partneriaid, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn gweld mwy o hynny. Mae dewisiadau y bydd angen i Weinidogion eu gwneud yn y dyfodol ynghylch a ydym yn disgwyl gweld cyflwyno'r cynllun a dynodi arian penodol iddo, ac mae cymhellion dros wneud pethau, ynglŷn â dewis sut i symud rhywfaint o hyn ymlaen. Ac mae hefyd angen newid, oherwydd roedd yr adolygiad seneddol yn sôn am yr angen am newid. Ac mae gennym ni ddewisiadau, a'n dewis canolog yw caniatáu i newid ddigwydd i ni, oherwydd ein bod yn aros am argyfwng ac yna mae'n system ni'n torri. Mae'n rhaid i ni ei atgyweirio ar frys. Neu byddwn yn gwneud dewis, oherwydd bod anghenraid yn ein cymell ni i wneud hynny, oherwydd gallwn weld y pwynt hwnnw'n dod yn agosach ac yn agosach atom ni. Nawr, rwy'n credu y byddai'n gyfuniad o bob un o'r elfennau hynny, ond mae fy niddordeb mwyaf yn y parodrwydd a'r rheidrwydd sydd gan bartneriaid, yr ymrwymiad i wneud pethau'n wahanol, i oresgyn rhai o'r rhwystrau sefydliadol a diwylliannol i newid. Ac rwy'n credu y bydd y ffordd yr ydym yn defnyddio arian yn rhan allweddol o hynny hefyd, i ysgogi'r dyfodol.

16:55

Mae'r holltau hyn yn gwbl amlwg, felly mae'n well inni fwrw ymlaen â'r newid hwn, neu byddwn yn gyrru ein gwasanaeth iechyd i'r wal. Mae mwy a mwy o dystiolaeth ymchwil yn tanlinellu pwysigrwydd annog pobl i fod yn iach ac aros yn iach drwy fwyta bwyd glân, ffres a gwneud ymarfer corff egnïol yn rheolaidd. Ac nid yn ein hieuenctid yn unig, ond drwy gydol ein hoes hefyd. A gwyddom mai dyna'r ffordd orau a'r ffordd rataf o gadw pobl allan o'r ysbyty.

Mae Camilla Cavendish, yn ei llyfr Extra Time, yn sôn am 10 gwers ar gyfer byd sy'n heneiddio. Rydym yn sôn am bwysigrwydd heneiddio mewn modd cywilyddus. Fodd bynnag, o ystyried yr epidemig gordewdra sy'n gyffredin i bobl o bob oedran, mae'n haws dweud na gwneud, ac mae gennym ni eisoes wahaniaethau enfawr mewn disgwyliad oes o un ward i'r llall yn fy etholaeth i yn unig. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn ymchwilio ymhellach i sut rydych chi'n bwriadu cyflawni'r ehangu hwn.

Gwelaf fod prosiect bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned, yn sôn am brosiectau garddio cymunedol, grwpiau cerdded, siediau dynion, a chaffis siarad, y gwyddom i gyd eu bod yn gweithio'n dda i bobl, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni am faint y prosiect hwnnw a sut byddwch yn mesur ei effeithiolrwydd?

Caiff hynny ei fesur yn unol â'r broses werthuso sydd gennym ni, ac mae'n mynd yn ôl at y cwestiynau yr wyf wedi'u hateb gan Angela Burns a Helen Mary Jones, ac yna mae'n ymwneud â, wel, a yw wedi cyrraedd sefyllfa lle y gellir ei ehangu? Oherwydd rhan o'n her ni yw y gallai pob un ohonom ni yn ein hetholaethau neu'n rhanbarthau ein hunain gyfeirio at bethau sy'n gweithio'n dda iawn yn ein barn ni mewn ardaloedd lleol, ond rydym yn gwybod nad ydynt o anghenraid yn mynd i weithio yn rhywle arall. Ac weithiau rydym yn cwrdd â phobl yn ein cymunedau sydd, yn ein barn ni, yn wirioneddol ysbrydoledig, ac maen nhw'n dod â phobl at ei gilydd mewn ffordd nad yw'n gweithio dim ond ychydig filltiroedd i lawr y ffordd. Wel, nid yw hynny'n ffordd systemig o wella ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, mae'n ymwneud â maint y prosiectau hynny; a ellir eu hehangu i raddfa lawer mwy neu a yw hynny, mewn gwirionedd, yn golygu bod angen gweithredu fel system neu yn lleol. 

Nid oes dim o'i le ar bobl yn gweithio'n lleol yn y gymuned honno. O safbwynt y system gyfan, mae'n rhaid i'r modelau gofal newydd y mae angen inni eu gweithredu fod yn fwy a bod â'r gallu i ehangu'n gyflym. Dyna pam fy mod i'n gosod y ffiniau hynny ar gyfer yr ail gam, a dyna'r rheswm hefyd, mewn ymateb i gwestiynau Helen Mary Jones, fy mod wedi cyfeirio at nifer o feysydd lle gall Gweinidogion wneud dewisiadau i helpu, i annog pobl neu ei gwneud hi'n ofynnol i bobl newid. Mae a wnelo hyn hefyd â'r ffactorau sy'n sbarduno partneriaid rhanbarthol eu hunain, sy'n cydnabod na all y system barhau fel y mae a chyflawni o ran y lefel ac ansawdd ac urddas y gofal y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl ar gyfer ein teuluoedd ein hunain, heb sôn am ein hetholwyr.

Felly, rwyf yn credu pan fyddwch chi'n gweld rhannu'r gwerthusiad ar ôl blwyddyn gyfan, rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi mwy o fanylion i chi ynghylch hynny. Ond wrth gwrs, mae gan Aelodau yn eu hardaloedd lleol eu hunain berffaith hawl i fynd at eu bwrdd partneriaeth lleol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ymarferol a wnaed eisoes. Rwy'n gwybod, yn rhai o ardaloedd Caerdydd, eu bod nhw ar y blaen yn rhai o'r saith maes portffolio sydd ganddyn nhw nag mewn eraill.

Y sylw arall yr hoffwn ei wneud yw ei bod hi'n dda o beth atgoffa ein hunain ynghylch y sylw am iechyd gwael y gellir ei osgoi hefyd. Nid yw hyn ynglŷn â dim ond y galw sydd ar y gwasanaeth iechyd, ond gofal cymdeithasol hefyd. Felly, mae deiet, ymarfer corff, ysmygu ac alcohol yn bedwar maes mawr y gwyddom y gallwn wneud gwahaniaeth i ni ein hunain yng ngyswllt y rheini, ond mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn helpu ac yn annog pobl i wneud hynny, ac mewn gwirionedd mae'r gronfa drawsnewid ei hun wedi mynd ati'n fwriadol i ymdrin ag atal ac ymyrryd yn gynharach i helpu i gadw pobl yn iach yn hytrach na'r ymyrraeth acíwt pan fo pobl eisoes yn ddifrifol wael.

6. Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019

Eitem 6 ar yr agenda yw'r cynnig cydsyniad offeryn statudol ar Reoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019, a galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig—Ken Skates.

Cynnig NDM7225 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019, yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn wir, y ddeddfwriaeth sylfaenol a ddiwygir gan yr offeryn statudol yw Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019, sy'n rheoli'r modd y gweithredir peilotiaeth forwrol yn y DU. Mae peilot morwrol yn forwr nad yw'n rhan o griw'r llong, sydd â gwybodaeth fanwl am fynediad i borthladd neu ardal beryglus lle mae llywio'n anodd, sydd ag arbenigedd mewn llywio llongau ac sy'n defnyddio'r wybodaeth honno i sicrhau bod llong yn cael mordaith ddiogel mewn ardal benodedig.

Nawr, testun yr offeryn statudol yw diweddaru'r diffiniad o 'Wladwriaeth yr AEE' yn Neddf Peilotiaeth 1987. Mae hyn yn ymwneud â chynnwys gwladwriaethau sy'n rhan o gytundeb yr AEE. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, nid yw'r diffiniad o 'Wladwriaeth yr AEE' yn Neddf Peilotiaeth 1987 yn cynnwys unrhyw wladwriaethau a ddaeth yn rhan o gytundeb yr AEE ar ôl mis Mai 2003 pan gafodd y diffiniad ei fewnosod yn y Ddeddf.

Mae Llywodraeth y DU yn gwneud y diwygiad hwn yn unol ag adran 2 (2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a fydd yn cael ei diddymu ar y diwrnod ymadael. Dyna pam, er bod yr amryfusedd hwn wedi bodoli am gyfnod sylweddol, fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu gwneud y gwelliant hwn nawr. Bydd y diwygiad hwn yn sicrhau bod y llyfr statud yn gywir ac yn gyfoes cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r newidiadau hyn hefyd yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, i'r graddau eu bod yn ymwneud â pheilotiaeth ddatganoledig, ac mae peilotiaeth ddatganoledig wedi ei llunio'n ffurfiol o fater neilltuedig peilotiaeth yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Dirprwy Lywydd, ystyriaf y newid yn un cwbl dechnegol, annadleuol, ac yn un nad yw'n golygu unrhyw newid polisi. Fodd bynnag, mae'n bwysig serch hynny yr anrhydeddir swyddogaeth y Cynulliad wrth ystyried materion cyfreithiol datganoledig ac y rhoddir cyfleoedd i drafod a chraffu ar newidiadau deddfwriaethol yn ymwneud â Chymru gan ei chorff priodol a etholir yn ddemocrataidd, ac ar y sail hon rwyf wedi cyflwyno cynnig i drafod yr offeryn statudol hwn.

17:00

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad offeryn statudol hwn ar gyfer Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019 yn ein cyfarfod ar 6 Ionawr 2020. Fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ddydd Gwener diwethaf, 10 Ionawr.

Wrth ystyried y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a'n hymateb iddo, bu i ni hefyd ystyried y llythyr anfonodd y Gweinidog atom ni, dyddiedig 17 Rhagfyr 2019. Gellir dod o hyd i'r llythyr hwnnw drwy adroddiad y pwyllgor. Yn y llythyr, dywedodd y Gweinidog, o ran proses y memorandwm cydsyniad offeryn statudol:

Safbwynt y Prif Weinidog, oherwydd swmp gwaith y broses o gywiro offerynnau statudol a chyfyngu ar amserlenni, oedd dod i gyfaddawd i sicrhau y byddai pob memorandwm cydsyniad offeryn statudol sy'n gysylltiedig â Brexit yn cael eu trin mewn modd amserol.

Fel y gŵyr yr Aelodau, y cyfaddawd oedd nad yw Llywodraeth Cymru, hyd yma, wedi cyflwyno cynigion i'w trafod ar femoranda cydsyniad offeryn statudol sy'n gysylltiedig â Brexit. Yn ei lythyr, dywedodd y Gweinidog:

Mewn gohebiaeth â chi ym mis Awst, dywedodd y Prif Weinidog, gan fod y rhan fwyaf o'r rhaglen i gywiro'r llyfr statud wedi'i chwblhau i raddau helaeth, dyma'r amser priodol i ailedrych ar y dull hwn a dychwelyd at y drefn arferol lle mae Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cynigion ar gyfer memoranda cydsyniad offeryn statudol.

Felly, yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog heddiw rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod, ac rydym ni wedi gwneud bellach, ac rydym yn fodlon â'r memorandwm hwnnw. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb, os yw'n teimlo—.

Wedi ei gynnig, iawn. Diolch. Mae hynny'n iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Gyfnod 3 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Eitem 7 yw'r ddadl ar gyfnod 3 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Gan nad oes unrhyw welliannau wedi'u cyflwyno, rwy'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil wedi'u derbyn, yn unol â Rheol Sefydlog 26.43, ac felly daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

8. Dadl: Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Eitem 8 ar yr agenda yw dadl ar Gyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Rwyf wedi derbyn cais gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i droi ar unwaith at drafodion Cyfnod 4, yn unol â Rheol Sefydlog 26.48. Felly, galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.48, yn cymeradwyo Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig gerbron y Cynulliad heddiw ar gyfer Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) a gyflwynais ar 14 Hydref 2019. Ers cyflwyno'r Bil, mae wedi mynd rhagddo'n llwyddiannus drwy gamau ym mhroses ddeddfu'r Senedd, er i'r amserlen gael ei chwtogi, rydym wedi trafod yn y pwyllgor ac yn y fan yma. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i hyn, ac i'r Llywydd am gytuno i Gyfnod 4 fynd rhagddo ar unwaith ar ôl Cyfnod 3. Hoffwn ddiolch i gadeiryddion, Aelodau a staff y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac wrth gwrs, i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu hystyriaeth, eu gwaith craffu a'u hadroddiadau mewn cysylltiad â'r Bil a'r Memoranda Esboniadol ategol a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Rwy'n ddiolchgar i'n holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at y broses ddeddfwriaethol hon drwy roi tystiolaeth yn bersonol ac yn ysgrifenedig, yn enwedig i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Mae'r trafodaethau cadarnhaol ag Aelodau, gan gynnwys y sesiynau briffio technegol a gynigiwyd, ynghyd â sesiynau tystiolaeth cyhoeddus gan randdeiliaid, wedi sicrhau y bu craffu gwirioneddol ar y Bil er gwaethaf natur frysiog y Bil.

Rwyf wrth gwrs eisiau diolch i'r Aelodau am gytuno nad oes angen i'r Bil newid. Mae'r Bil yn fyr a phenodol. Dim ond adran 30 o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 y mae'n ei diwygio mewn cysylltiad â chynlluniau ar gyfer bodloni colledion a rhwymedigaethau cyrff penodol o'r gwasanaeth iechyd, i roi pŵer newydd i Weinidogion Cymru sefydlu cynlluniau indemniad uniongyrchol drwy reoliadau. Bydd hyn yn darparu'r pŵer galluogi i wneud rheoliadau i sefydlu cynllun rhwymedigaethau presennol i gwmpasu rhwymedigaethau meddygon ar gyfer hawliadau esgeuluster clinigol a gofnodwyd neu a ddaeth i'w rhan ond na chawsant eu cofnodi, cyn 1 Ebrill 2019.

Mae cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol eisoes wedi'i sefydlu ac yn gweithredu'n llwyddiannus. Mae'n cwmpasu hawliadau am esgeulustod clinigol o 1 Ebrill 2019. Mae'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol a'r cynllun rhwymedigaethau presennol yn gydnaws, lle bynnag y bo modd, â'r trefniadau a gyflwynir yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau nad yw meddygon teulu yng Nghymru o dan anfantais o'u cymharu â'u cydweithwyr yn Lloegr, nad oes effaith negyddol ar recriwtio a chadw meddygon teulu na dim ymyrraeth â'r llif o feddygon teulu ar draws y ffin.

Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi cytuno i ddarparu, o fis Ebrill 2021, adroddiad blynyddol i fynd i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Bydd yr adroddiad hwnnw'n ymdrin â gweithrediad technegol cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol a'r cynllun rhwymedigaethau presennol. Bydd gan feddygon teulu a rhanddeiliaid allweddol eraill ran allweddol yn ei lunio, gan gynnwys sefydliadau amddiffyn meddygol, GIG Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau risg, sy'n gweithredu cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol ac a fydd bellach yn ymgymryd â'r broses o ymdrin â hawliadau'r cynllun rhwymedigaethau presennol yn unol â threfniadau triniaeth cynnal bywyd brys rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau amddiffyn meddygol. Bydd yr adroddiad blynyddol hefyd yn amlinellu trefniadau triniaeth cynnal bywyd brys y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau amddiffyn meddygol a'r ffordd y mae'r cynllun wedi'i roi ar waith, ynghyd ag effaith ariannol trefniadau triniaeth cynnal bywyd brys, yn amodol ar lynu wrth unrhyw gytundebau cyfrinachedd.

Yn y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 19 Tachwedd, roedd pob aelod a oedd yn bresennol ar y pryd yn cefnogi'r angen am y Bil hwn ac yn cytuno arno. Gobeithiaf y byddwn, bawb yn y Siambr, yn parhau i roi'r un gefnogaeth unfrydol i'r Bil i sicrhau deddfu llawn.

17:05

Fel y gwyddoch yn dda, mae'n anodd cyrraedd consensws yn y lle hwn ar brydiau. Fodd bynnag, mae Bil y GIG (Indemniadau) (Cymru) yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi ennill cymeradwyaeth drawsbleidiol, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn ystod cam olaf y Bil hwn. Hoffwn i ddiolch yn fawr i'r Gweinidog am y gwaith y mae ef a'i adran wedi'i wneud ar y cynllun rhwymedigaethau presennol, ac i bob aelod o'r pwyllgor a'r staff a aeth â'r Bil drwy'r cyfnodau deddfwriaethol yn yr amser byrraf erioed.

Yn dilyn fy ngwelliant cyntaf yn ystod cyfnod 2, ynghylch paratoi a chyhoeddi adroddiad ar effaith y Ddeddf, cefais sicrwydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu dulliau adrodd ar y cynllun rhwymedigaethau presennol, h.y. y Bil hwn sydd ger ein bron, a chynllun rhwymedigaethau y dyfodol. Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gadarnhau y bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar y ddau gynllun, gan alluogi'r pwyllgorau perthnasol a'r Cynulliad cyfan i graffu'n briodol. Gwnaed yr ymrwymiad hwn ar ffurf llythyr a anfonodd y Gweinidog at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 7 Ionawr, ac yn wir y mae'r Gweinidog newydd ei ailadrodd. Mae'n bwysig ein bod yn cael y Bil hwn yn iawn i sicrhau bod gweithio fel meddyg teulu yng Nghymru yn parhau i fod yn yrfa atyniadol a hyfyw, ac nad oes rhwystrau'n cael eu creu rhwng meddygon teulu sy'n gweithio yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU.

Gan droi at yr ail welliant a gyflwynwyd gennym yng Nghyfnod 2, cododd y gwelliant bryderon sylweddol nad oedd yr Undeb Amddiffyn Meddygol wedi cytuno ar safbwynt gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y cynllun rhwymedigaethau presennol. Fodd bynnag, roeddwn i'n fodlon tynnu'r gwelliant hwnnw yn ôl gan fod y Gweinidog wedi rhoi sicrwydd unwaith eto. Ers y cyfnod Pwyllgor hwnnw, rwyf i a sawl aelod arall o'r Cynulliad wedi cael gwybod am bryderon difrifol a godwyd yng nghynllun rhwymedigaethau y dyfodol i feddygon teulu fel y nodir yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019. Mae sefydliadau ac ymarferwyr amddiffyn yn dymuno gofyn am eglurder a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r meini prawf y gellir eu defnyddio i atal amddiffyniad o dan y cynllun.

Ar hyn o bryd, yr adran gwasanaethau cyfreithiol a risg sy'n darparu'r gwasanaethau ymdrin â hawliadau ar gyfer meddygon teulu, er enghraifft, sy'n digwydd ar ôl 1 Ebrill 2019. Mae sefydliadau amddiffyn wedi mynegi pryderon nad yw gwasanaethau cyfreithiol a risg yn deall yn llawn y gwahanol ddynameg wrth gefnogi meddygon teulu unigol drwy broses hawliad, yn hytrach na'r gwasanaethau hawliadau i ymddiriedolaethau'r GIG. Un enghraifft o wahanol ddynameg ar waith yw y gallai meddygon teulu wynebu erlyniad lluosog. Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw ymdrin â chŵyn, hawliad, ymchwiliad disgyblu, ymchwiliad gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, cwest o bosibl ac ymchwiliad troseddol o bosibl. Mae pryder gwirioneddol y bydd unrhyw fynegiant o rwymedigaeth yn nacáu hawliad sydd wedi'i dderbyn gan wasanaethau cyfreithiol a risg. Nid yw hyn yn cydweddu'n dda â'r ddyletswydd gonestrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei chyflwyno drwy'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

Felly, Gweinidog, er fy mod i'n croesawu'r cam cadarnhaol a ddaw yn sgil y Bil hwn i ddarparu indemniad cost rhesymol i ddarparwyr gofal sylfaenol, a gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn ichi ystyried y cwestiynau canlynol: wrth edrych ar ganlyniadau, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu meincnodi'r cynllun rhwymedigaethau yn y dyfodol? Pa sicrwydd y gall meddygon teulu ei gael y byddant yn cael eu cynnwys ym mhob cam o'r hawliad ac y byddant yn cael yr wybodaeth lawn, gan gynnwys rhannu drafftiau o'r holl ddogfennau perthnasol â meddygon teulu ymlaen llaw? Pa eglurder y gallwch chi ei roi ynghylch defnyddio data am hawliadau meddygon teulu at ddibenion eraill heblaw ymdrin â hawliadau yn uniongyrchol? Ac mae'r GIG yn Lloegr, er ei fod yn cefnogi safbwynt sy'n debyg i'ch un chi o ran rhwymedigaethau yn y dyfodol, wedi sicrhau ei feddygon teulu na fyddan nhw, ac rwy'n dyfynnu, yn atal indemniad o dan y cynllun esgeulustod clinigol ar gyfer ymarfer cyffredinol oherwydd bod ymarferydd wedi cymryd camau i gydymffurfio â'i rwymedigaethau moesegol, proffesiynol neu statudol. Felly, pa ymrwymiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud i efelychu'r sicrwydd hwn yng Nghymru?

Rwy'n deall yn llwyr y bydd hyn yn cael ei gynnwys o dan y Rheoliadau. Nid yw'n tynnu oddi ar y ddeddfwriaeth sydd ger ein bron, sydd, fel y dywedais, yn derbyn ein cefnogaeth lawn ac sy'n cael croeso mawr iawn gan feddygon teulu ar hyd a lled Cymru. Ond, mae yna hen ddywediad Saesneg, Gweinidog, sy'n dweud mai yn y manylder y mae'r diafol, ac er ein bod yn fodlon cefnogi'r Bil hwn er gwaethaf ei gynnydd cyflym drwy'r broses ddeddfwriaethol, mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau bod meddygon teulu yng Nghymru yn cael yr un lefel gwasanaeth a'r un safon o amddiffyniad o'r cynllun rhwymedigaethau presennol a gefnogir gan y wladwriaeth ag yr oedd ganddyn nhw o'r blaen. Diolch yn fawr.

17:10

Hoffwn i ategu'r hyn y mae Angela Burns a'r Gweinidog eisoes wedi'i ddweud wrth ddiolch i bawb sydd wedi galluogi'r darn pwysig hwn o waith i gael ei wneud mewn modd amserol, a oedd yn hanfodol. Mae'n debyg y byddai'r Gweinidog yn disgwyl imi ddweud nad ydym yn dymuno mynd i'r arfer o ddeddfu ar frys, ond roedd rheswm arbennig pam yr oedd yn gwneud synnwyr i gyflymu'r broses ddeddfwriaethol hon ac rydym ni ar feinciau Plaid Cymru wedi bod yn fodlon iawn cefnogi hynny a chefnogi'r syniad y tu ôl i'r Bil hwn, sydd, wrth gwrs, i wneud y proffesiwn meddygon teulu yng Nghymru yn fwy atyniadol i feddygon ifanc ac, yn wir, i gadw pobl yn eu gyrfaoedd. Felly, rydym yn hapus iawn i gefnogi'r ddeddfwriaeth heddiw. Rydym yn falch iawn bod y Llywydd wedi caniatáu i'r dadleuon gael eu symud ymlaen mor gyflym o Gyfnod 3 i Gyfnod 4, ac rydym yn hapus i gefnogi hynny.

Pan ddechreuodd yr Undeb Amddiffyn Meddygol godi rhai pryderon gyda ni, roedd gen i rywfaint o ymdeimlad, efallai, na fyddai rhywun yn disgwyl i dyrcwn gefnogi cyflwyno'r Nadolig ac y gallai fod rhywfaint o hunan-fudd fel sefydliad yn rhai o'r ymholiadau yr oedden nhw yn eu codi, ac fe wnaethom ni archwilio hynny gyda nhw yn y pwyllgor. Ond byddwn i yn ategu rhai o'r pryderon y mae Angela Burns wedi eu codi ynghylch y manylder a fydd yn dilyn. Efallai na fydd y Gweinidog yn gallu rhoi atebion llawn i ni heddiw, a bydd y broses adrodd a bennodd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol yn hynny o beth.

Ni fyddaf yn ailadrodd y pryderon y mae Angela Burns wedi eu codi ynghylch derbyn rhwymedigaeth, oherwydd un o gryfderau ein proffesiwn meddygol yw eu bod yn atebol mewn nifer o ffyrdd i nifer o gyrff pan fydd pethau yn mynd o chwith neu pan fydd honiad bod pethau wedi mynd o chwith. Ac ni fyddem ni'n dymuno ychwanegu unrhyw beth at y system hon a fyddai'n gwneud meddygon teulu yn gyndyn i gymryd rhan yn onest. O ran y pwynt ynghylch y ddyletswydd gonestrwydd a fydd yn cael ei chyflwyno mewn deddfwriaeth newydd, byddai'n chwerthinllyd, yn fy marn i, pe byddai un rhan o Lywodraeth Cymru yn dweud wrth feddygon, 'Ni allwch chi gyfaddef pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le', gadewch i ni ddweud wrth gwest neu wrth y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ar yr un pryd â dweud wrthyn nhw ein bod yn disgwyl iddyn nhw fod yn onest a'n bod yn gosod, o leiaf ar gyrff cyhoeddus—a hoffai rai ohonom weld y ddyletswydd gonestrwydd yn cael ei gosod yn fwy cyffredinol ar unigolion—. Felly, rwy'n siŵr nad oes unrhyw fwriad i wneud hynny, ond byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog ein sicrhau ni heddiw y bydd yn gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw, yn debyg i'r hyn sydd eisoes wedi ei roi i'r proffesiwn yn Lloegr.

Ac mae'r pwynt olaf yr hoffwn i ei wneud, Dirprwy Lywydd, yn ymwneud â natur yr adroddiad. Mae'n hynod gadarnhaol bod y Gweinidog wedi cytuno i adrodd yn flynyddol mewn ymateb i welliant meinciau'r Ceidwadwyr, ond mae angen inni wybod beth yr ydym yn adrodd arno a beth yr ydym yn meincnodi yn ei erbyn. Mae'r Undeb Amddiffyn Meddygol wedi gwneud rhai awgrymiadau i'r pwyllgor am rai o'r pethau hynny: efallai y byddem yn dymuno gweld beth yw cost amddiffyn hawliad ar gyfartaledd; efallai y byddem yn dymuno ystyried cyfradd llwyddiant y broses o ymdrin â'r hawliad. Nawr, rwyf i braidd yn amwys ynghylch hynny oherwydd ni fyddem ni eisiau dweud mai'r peth iawn bob tro yw bod y meddyg yn cael ei amddiffyn yn llwyddiannus, oherwydd weithiau bydd y meddyg ar fai a dylid ei gael ar fai.

Ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol—unwaith eto, ni fyddwn i'n disgwyl i'r Gweinidog allu dweud hyn wrthym ni heddiw—pan fydd y broses wedi'i sefydlu a'r rheoliadau ar waith, byddai'n dda iddo rannu â ni beth fydd y meincnodau a'r adroddiad. Efallai yr hoffai ymateb i'r pwyntiau a wnaed gan yr Undeb Amddiffyn Meddygol neu efallai ddim. I'r Pwyllgor, mae'r Gweinidog wedi dweud yn garedig y bydd yn llunio adroddiad blynyddol hefyd. Ni allwn graffu'n llwyddiannus ar yr adroddiad blynyddol hwnnw oni bai ein bod yn glir ynghylch beth sy'n cael ei fesur, ble yr ydym ni ar ddechrau'r broses, a beth yw'r cynllun i wella perfformiad o'i gymharu â meincnodau allweddol penodol.

Felly, gyda hynny, rwy'n ymuno â siaradwyr eraill, Dirprwy Lywydd, wrth gymeradwyo'r ddeddfwriaeth hon i'r Cynulliad, gan ddiolch eto i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor ac aelodau'r pwyllgorau eraill a fu'n craffu ar hyn, a'r holl staff sydd wedi ein cefnogi yn y broses mewn ffordd mor fedrus, fel y byddan nhw'n ei wneud bob amser.

17:15

Fel Cadeirydd y pwyllgor iechyd, yn amlwg, rwyf i hefyd yn codi o blaid y Bil indemniadau y GIG hwn ac yn diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses hyd yn hyn. Nawr, mae rhai o'r amheuon ynghylch y Bil wedi eu crybwyll yn dda gan Helen Mary Jones ac Angela Burns felly ni fyddaf i yn mynd ar yr un trywydd, heblaw i nodi bod angen ystyried sut y mae gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth yn cydweddu â'i gilydd. Mae gennym ni Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008, mae gennym ni'r ddyletswydd gonestrwydd, a nawr mae gennym ni Fil indemniad y GIG. Mae'n rhaid ystyried rhywfaint sut y mae pob un o'r rhain yn cydweddu â'i gilydd.

Ac er mwyn i bawb gael gwybod, fel yr wyf wedi ei ddweud yn nhrafodaethau'r pwyllgor iechyd ynghylch y Bil hwn, efallai y bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod i wedi bod yn feddyg teulu—[torri ar draws.]—yn gweithio'n wirfoddol pryd bynnag y byddaf yn AC, ond nid wyf yn ymarfer bellach ac felly nid oes gen i fuddiant personol uniongyrchol yn y Bil indemniadau y GIG hwn sydd ger ein bron ni heddiw. Gofynnwyd i mi am eglurhad; gobeithio fy mod i wedi rhoi'r eglurhad. Croesewir y Bil ei hun yn eang. Diolch yn fawr.

Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl?

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cwestiynau ychwanegol a'u cyfraniadau heddiw. Rwyf i wrth fy modd i weld, unwaith eto, fod diben a phwrpas y Bil yn dal i gael eu cefnogi ar draws y Siambr.

I ymdrin â'r pwyntiau a godwyd gan Helen Mary Jones ac Angela Burns, hoffwn i roi sicrwydd priodol, o ran sut i fesur llwyddiant—wel, mae llwyddiant yn golygu mwy nag un peth. Mae'n ymwneud â'r sylfaen ariannol i'r hyn sy'n digwydd, â'r gost i'r pwrs cyhoeddus, ond mae hefyd yn ymwneud ag ansawdd y gwasanaeth gan y sawl sy'n darparu'r gwasanaeth gofal iechyd proffesiynol hwnnw. Mae hefyd yn ymwneud â beth mae hynny'n ei olygu i'r unigolyn maen nhw'n ei weld, yn ei drin ac yn gweithio gydag ef, felly nid wyf i'n credu ei fod mor syml â dweud bod yna fesur. Ac i fod yn deg, fe wnaeth Helen Mary Jones gydnabod hynny yn rhan o'i chyfraniad hefyd.

Ac nid wyf i'n gweld bod gwrthdaro rhwng y ddyletswydd gonestrwydd yr ydym yn ceisio ei chyflwyno a gweithrediad y cynllun hwn, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw'r ddyletswydd gonestrwydd yn newid ffaith y realiti rhwymedigaeth nac fel arall. Felly, byddem ni'n dal yn awyddus i weithwyr proffesiynol meddygol ymgysylltu'n llawn â'r ddyletswydd gonestrwydd, fel yn wir y byddai'r cyrff sy'n eu cynrychioli yn awyddus iddyn nhw ei wneud hefyd; ni fu unrhyw awgrym nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny, nac y dylai hynny effeithio rywsut ar y ffordd y mae penderfyniadau rhwymedigaeth yn cael eu gwneud neu beidio. Ac wrth sôn am hynny, i ymdrin â'r pwyntiau a gododd Angela Burns, ni ddylai unrhyw feddyg teulu yng Nghymru deimlo na chredu, na bod ag unrhyw achos rhesymol dros gredu, y bydd dirywiad yn ansawdd y gwasanaeth nac, yn wir, amddiffyniad, boed hynny o'i gymharu â'u cydweithwyr yn Lloegr neu mewn mannau eraill. Dylen nhw fod yn ffyddiog yng ngweithredwyr y gronfa risg yn sgil y ffordd y maen nhw wedi ymdrin â'u cydweithwyr mewn gofal eilaidd. Nid yw hyn yn ymwneud ag amddiffyn ymddiriedolaethau'r GIG yn unig, na'r ffaith, fel y gwnaethoch chi sôn, am unigolion a'u statws eu hunain o fewn y proffesiwn, y potensial ar gyfer gweithredu rheoleiddiol, nac, yn wir, yr ymchwiliadau gan asiantau gorfodi'r gyfraith yr ydym wedi eu gweld. Maen nhw i gyd wedi digwydd yng nghyd-destun gofal mewn ysbytai, ac mae'n rhan o'r hyder sydd gan amrywiaeth o weithredwyr o ran y dewis sydd i'w wneud ynghylch pwy bellach fydd yn mynd ati i weithredu'r cynllun, bod cofnod llwyddiannus o ddeall y cyd-destun y caiff gofal iechyd ei ddarparu oddi mewn iddo, a'r gwahanol risgiau a heriau y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu hwynebu, ac yn yr achos hwn yn benodol, wrth gwrs, feddygon teulu.

Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys, wrth gwrs, Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, nid yn unig o ran eu cefnogaeth gyffredinol i'r Bil neu o ran y rheoliadau drafft, ond wrth inni ddwyn y rhain ymlaen i'w cymeradwyo a'u rhoi ar waith, gobeithio. Felly, rwy'n hapus i wneud yr ymrwymiadau hynny, i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid, ac i ddarparu'n llawn yr holl fanylion y gallem ni ac y dylem ni eu darparu i'r lle hwn i graffu arnyn nhw ymhellach yn y dyfodol.

17:20

Diolch yn fawr iawn. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50 C mae'n rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, ac felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Mae'n amser pleidleisio yn awr, felly oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf ymlaen i alw'r bleidlais.

Felly, rydym yn galw am bleidlais ar y cynnig i gymeradwyo Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 45, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig ar Gyfnod 4 o Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) wedi ei dderbyn.

Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau): O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:21.