Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

19/11/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dwi wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn ateb cwestiynau y prynhawn yma ar ran y Prif Weinidog. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Gwasanaethau Trenau

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau trenau ar draws y gogledd? OAQ54704

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau rheilffordd o amgylch y gogledd, ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru, gan fuddsoddi mewn gwelliannau i orsafoedd ac adeiladu o leiaf pum gorsaf newydd yn y gogledd.

Yr wythnos diwethaf, fe gafwyd cadarnhad bod sefyllfa Pacers Trafnidiaeth Cymru yn dal heb gael ei datrys, ac os na fydd yna gytundeb efo'r cerbydau yma, mae peryg y bydd yn rhaid tynnu rhai ohonyn nhw oddi ar y traciau, ac, yn amlwg, bydd hynny'n golygu y bydd gwasanaethau yn dirywio i bobl Cymru. Gaf i jest roi gair o rybudd i'ch Llywodraeth chi? Peidiwch â meddwl bod modd i chi israddio'r gwasanaethau yn y gogledd drwy dynnu trenau oddi ar y traciau, a thrwy redeg llai o wasanaethau, er mwyn i'r ardaloedd mwy poblog gael y trenau, ac er mwyn llenwi'r bwlch o golli'r Pacers. Mae'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig ar draws y gogledd ar hyn o bryd, ac o Gaerdydd i'r gogledd, yn jôc fel y mae hi.

Wel, rwy'n hapus i gadarnhau eto ein bod ni'n aros am benderfyniad a ddisgwylir ddiwedd mis Tachwedd am y gallu i barhau â'n stoc bresennol, oherwydd yn sicr nid yw'r Llywodraeth hon eisiau gweld gwasanaethau yn dirywio oherwydd y problemau yn ymwneud â'r stoc. Mae hyn yn nwylo Llywodraeth y DU, ac mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gwneud yn eglur ei barodrwydd a'i awydd i weld y penderfyniad hwn yn cael ei wneud yn brydlon. Ond rwy'n falch o gadarnhau i'r Aelod, yn hytrach na dadfuddsoddi yn y gogledd, maen nhw'n rhan o'r rhaglen fuddsoddi genedlaethol, ac, yn fwy na hynny, bydd gwasanaethau newydd o ganol mis Rhagfyr ymlaen, rhwng Machynlleth a Phwllheli, rhwng Cyffordd Llandudno a Llandudno, a hefyd rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog. Mae hon yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi ym mhob rhan o Gymru. Rydym ni'n cymryd rheolaeth dros y fasnachfraint o'r diwedd.

Yng nghyllideb Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen twf ar gyfer y gogledd, ac y byddai hynny'n cynnwys dogfen Growth Track 360 gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gyda chynigion uchelgeisiol ar gyfer seilwaith rheilffyrdd ar draws y rhanbarth. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn datblygu system drafnidiaeth integredig o ansawdd uchel ledled y gogledd. Ar ddechrau'r mis yma, llofnododd y ddwy Lywodraeth—Llywodraethau'r DU a Chymru—ynghyd â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, benawdau'r telerau a chytuno ar saith rhaglen a fydd yn sail i fargen twf gogledd Cymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen, gan gynnwys trafnidiaeth strategol. Pa ddarpariaeth hyd yn hyn sydd wedi'i chytuno felly ar gyfer y rhaglenni hynny i flaenoriaethu rheilffyrdd, nid yn unig yn y gogledd-ddwyrain ac ar draws y ffin, er bod hynny'n hollbwysig, ond ar draws y rhanbarth, i Wynedd ac Ynys Môn hefyd?

Wel, fe wnaeth y Gweinidog trafnidiaeth nodi'n flaenorol y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud nid yn unig ym margen twf gogledd Cymru, ond yn arbennig yn metro gogledd-ddwyrain Cymru hefyd. Ac rydym ni'n falch o fod yn gweithio gyda'n partneriaid, nid Llywodraeth y DU yn unig—wrth gwrs, rydym ni'n ariannu bargen twf gogledd Cymru yn rhannol—ond gan weithio gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Rwy'n credu bod gan y Llywodraeth hon hanes i ymfalchïo ynddo o ran ei hawydd i hyrwyddo gogledd Cymru ar sail ei weithgarwch economaidd ac, yn wir, i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.

Rŷch chi'n clochdar fan hyn fod y gwasanaeth yn un teilwng, ond, wrth gwrs, rŷch chi ddim ond yn gorfod edrych ar eich Twitter ffid chi heddiw, dwi'n siŵr, i sylweddoli gymaint o gwyno sydd yna'n barod gan gefnogwyr pêl-droed Cymru, sydd wedi ffeindio nad oes yna le iddyn nhw ar drenau o'r gogledd heddiw i deithio lawr i weld y gêm. Ble mae rheoli a rhagweld y gwasanaeth yma—gan wybod yn iawn y byddai yna filoedd o bobl eisiau teithio o'r gogledd? Unwaith eto, rŷch chi'n methu.

Na, edrychwch, rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn rhaglen o fuddsoddiad mewn gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru, ac yn enwedig yn y gogledd hefyd. Rydym ni wedi bod yn eglur ynghylch yr angen i wneud hynny dros gyfnod o amser, a'r buddsoddiad sylweddol sy'n dod nid yn unig mewn cyfleusterau newydd mewn gorsafoedd, ond mewn gwasanaethau newydd, galluoedd newydd ac, yn wir, ystod o fesurau i sicrhau bod prisiau tocynnau yn rhatach i bobl ifanc, yn arbennig, i deithio ar y gwasanaeth rheilffyrdd—. Mae gennym ni hanes i fod yn falch ohono. Mae mwy i'w wneud, ac rwy'n falch o weithio gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i wneud yn union hynny.

Cyfraddau Rhoi Organau

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau rhoi organau yng Nghymru? OAQ54696

Diolch. Rydym ni'n falch mai ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system o gydsyniad tybiedig. Y llynedd, cafwyd y nifer uchaf erioed o roddwyr organau yng Nghymru a'r gyfradd gydsynio uchaf yn y DU, sef 77 y cant.

13:35

Diolch. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, Cymru sydd â'r cyfraddau rhoi organau uchaf yn y Deyrnas Unedig ac mae hyn yn llwyddiant ysgubol. Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol, gall un unigolyn sy'n rhoi ei organau weddnewid bywydau wyth o bobl eraill o leiaf. Felly, a gaf i ofyn beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo rhoi organau mewn teuluoedd i fynd i'r afael â'r nifer fach o deuluoedd sy'n gwrthod rhoi organau? A hefyd, gydag organau gan roddwyr yng Nghymru yn rhan o gronfa ddata o organau ar draws Ewrop, pa drafodaethau ydych chi chi wedi eu cael am unrhyw heriau ar ôl Brexit?

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod, o ran Brexit, ei fod yn un o'r materion sy'n peri pryder yr ydym ni wedi ei godi ynghylch trosglwyddo meinwe rhwng gwahanol wledydd Ewrop, ac mae hynny'n dal heb ei ddatrys. Nid ydym ni'n gwybod hyd yma am ein perthynas gydag Ewrop yn y dyfodol, ac rwy'n eglur iawn ynghylch beth ddylai'r berthynas honno fod.

O ran eich pwyntiau ehangach, fodd bynnag, ynghylch rhoi organau yma yng Nghymru yn benodol, rwy'n parhau i ariannu, fel y Gweinidog iechyd, yr ymgyrch gyfathrebu flynyddol a pharhaus ac, yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi gwneud pwynt penodol o fod eisiau annog pobl i gael y sgwrs honno gyda'u teulu a'u hanwyliaid, fel bod eu llais, eu dewis a'u dymuniad yn cael eu parchu pe bydden nhw mewn sefyllfa i fod yn rhoddwr organau. Ac, mewn gwirionedd, mae'r sylwadau a gafwyd yn dilyn hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'n dangos bod lefel uchel iawn o ddealltwriaeth o'r system yma yng Nghymru o hyd, a ddangoswyd gan nifer y bobl sy'n gwneud dewis cadarnhaol i ymuno â'r gofrestr i gofrestru'r dewis i fod yn rhoddwr organau.

Yn amlwg, mae rhoi organau yn gofyn am lawer iawn o broffesiynoldeb ac ymroddiad gan y staff sy'n rhan o'r maes penodol hwnnw o feddygaeth. Ein staff yw asgwrn cefn y GIG, Gweinidog iechyd, fel y byddwch chi, gobeithio, yn cytuno â mi. A wnewch chi, felly, gynnig ymddiheuriad heddiw am weithredoedd eich plaid yn ei darllediad gwleidyddol drwy ddefnyddio actores i ddynwared sylwadau nyrs pan fo hyn yn gwbl gamarweiniol ac mewn gwirionedd yn amharu ar broffesiynoldeb y gweithwyr iechyd sy'n gweithio ar draws ein gwasanaeth iechyd gwych?

Rwy'n credu bod dau fater yn codi yn y fan yma. Y cyntaf yw bod fy mhlaid i, nid y Llywodraeth, ond fy mhlaid i wedi gweithredu'n brydlon o ddarganfod bod y cwmni cynhyrchu, heb gytundeb y Blaid Lafur, wedi defnyddio actor yn y darllediad gwleidyddol. Mae hwnnw wedi cael ei dynnu'n ôl ac nid yw'n cael ei ddosbarthu. Yr ail bwynt yw, ar ôl gwneud pwynt am fod eisiau canmol staff yn y GIG, nid wyf i'n credu bod gwyro wedyn i wneud pwynt dirmygus am y gwasanaeth iechyd yn eich dangos mewn goleuni da o gwbl. Ac, mewn gwirionedd, yn y maes hwn o roi organau, mae'r uned drawsblannu yng Nghaerdydd yn un o'r canolfannau mwyaf arloesol yn y DU. Mae ganddi sgôr bodlonrwydd uchel, sgôr ansawdd uchel ac, er enghraifft, mae'n rhan o drefniadau i ddatblygu'r gallu i drawsblannu—er enghraifft, y gwaith y maen nhw'n ei wneud ar bobl â hepatitis C.

Rwy'n credu, mewn gwirionedd, os ydych chi eisiau tanlinellu gwerth ein staff yn y gwasanaeth iechyd gwladol, eich bod chi'n edrych eto ar y ffordd yr ydych chi'n sôn am y gwasanaeth iechyd a'r ffordd yr ydych chi'n dewis siarad am y buddsoddiad yr ydym ni'n parhau i'w wneud yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac, ar ran Plaid Cymru, Helen Mary Jones. 

Diolch, Llywydd, ac rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pawb heddiw yn y Siambr wrth ddymuno gwellhad buan i'n Prif Weinidog. A gaf i dynnu sylw'r Gweinidog at adroddiad ar y cyd Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf a gyhoeddwyd ddoe? Rwy'n siŵr, unwaith eto, y bydd ein meddyliau gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan y methiant trychinebus mewn gwasanaethau mamolaeth. Bydd yr adroddiad hwn yn anodd iddyn nhw ei ddarllen, ac felly hefyd y staff rheng flaen, gan ei bod yn amlwg y gellid bod wedi osgoi llawer o'r hyn a aeth mor ofnadwy o anghywir, a bod y staff a'r teuluoedd wedi cael eu siomi gan fethiannau o ran rheoli a chraffu.

Mae'r adroddiad yn codi pryderon bod hwn yn fwrdd a oedd yn ymddangos o'r tu allan fel bod yn perfformio'n dda pe byddech chi'n ei fesur yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru, a bod y pwysau i gyrraedd targedau ariannol wedi gogwyddo canolbwynt y bwrdd oddi wrth ansawdd profiad y claf. Nawr, rwyf yn gofyn i'r Gweinidog, o gofio mai ef sy'n gosod y targedau, pa un a yw'n derbyn, o gofio, er gwaethaf wyth adroddiad, arolygon ac ymweliadau â Chwm Taf a ddylai fod wedi arwain at gymryd camau, ei bod wedi cymryd nawfed adroddiad cyn iddo wneud unrhyw beth? O gofio ei fod ef a'i swyddogion wedi methu â sylwi ar y materion ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr tan fod y pwynt argyfwng wedi ei gyrraedd a'i fod wedi methu â chael trefn arnyn nhw ar ôl bron i bum mlynedd o ymyrraeth, a yw'n derbyn mai ychydig iawn o ffydd fydd gan y cyhoedd yng Nghymru, a'r cyhoedd yng Nghwm Taf yn arbennig, yn ei allu i sicrhau y rhoddir sylw i'r materion a godir yn yr adroddiad hwn ac y gweithredir ar yr argymhellion?

Rwy'n credu bod tri phwynt y byddwn i'n eu gwneud mewn ymateb i'r Aelod. Y cyntaf yw ein bod ni, wrth gwrs, wedi cael safbwynt y coleg brenhinol oherwydd i mi weithredu, ymyrryd a gorchymyn bod yr adolygiad hwnnw yn cael ei gynnal. Yna, gweithredais ac ymyrryd yn y bwrdd iechyd trwy newid statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd. Felly. rwyf i wedi gweithredu ac rwyf i wedi rhoi cymorth ychwanegol o amgylch y bwrdd iechyd, ac, wrth gwrs, ar yr adeg y cyhoeddais i'r mesurau hynny, dywedais y byddai'r adolygiad hwn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei ddarparu. Ac mae'n bwysig bod hynny'n digwydd, oherwydd rydym ni eisiau cael darlun gonest o'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf, fel yr oedd, a Chwm Taf Morgannwg fel y mae erbyn hyn, oherwydd mae'r gonestrwydd a'r eglurder yn yr hyn sydd wedi digwydd a'r camau sy'n cael eu cymryd yn bwysig er mwyn rhoi sicrwydd a hyder i'r cyhoedd, gan gynnwys, wrth gwrs, y staff. Bydd yr ail adroddiad chwarterol ar wasanaethau mamolaeth yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr, yn unol â'r amserlen, a disgwyliaf y bydd cwestiynau, y byddaf yn fodlon eu hateb ar yr adeg honno, ynghylch natur y cynnydd a wnaed ac, yn wir, y cynnydd sydd eto i ddod.

A'r trydydd pwynt y byddwn i'n ei wneud yw fy mod i'n cydnabod bod yr Aelod yn defnyddio cyfleoedd yn rheolaidd i alw arnaf i adael fy swydd, ond pan ddaw i'r profiad uniongyrchol yr wyf i wedi ei gael gyda theuluoedd, maen nhw wedi bod yn eglur iawn eu bod nhw eisiau i mi aros yn y swydd fel y Gweinidog iechyd i gyflawni'r rhaglen wella sydd ei hangen. [Torri ar draws.] Ac rwyf i wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda theuluoedd sydd wedi ei gwneud yn eglur iawn mai dyna yw eu disgwyliad—

13:40

Nid wyf i'n gallu clywed y Gweinidog a'i ymateb. Byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o dawelwch gan rai pobl yn arbennig.

—ac rwyf i wedi ymrwymo i wneud yn union hynny ac i fod yn gwbl dryloyw o ran natur y cynnydd sy'n cael ei wneud ac mewn unrhyw gamau y mae'n rhaid i mi eu cymryd ac unrhyw gamau y byddaf yn dewis peidio â'u cymryd wrth gynorthwyo'r bwrdd iechyd hwn a'i gwneud yn ofynnol i'r bwrdd iechyd hwn wneud y gwelliannau y mae'n amlwg sydd eu hangen.

Diolchaf i'r Gweinidog am ei atebion. Mae'n amlwg nad yw'n siarad â'r un teuluoedd â mi. Ond hoffwn fod yn gwbl eglur nad wyf i'n galw arno i ymddiswyddo heddiw. Rwy'n credu bod angen iddo fyfyrio ar y ffaith, fel y dywedais eisoes, bod wyth adroddiad, arolwg ac ymweliad wedi digwydd ac wedi mynegi pryderon cyn i'w swyddogion ef wneud unrhyw beth. Ac rydym ni wedi cael yr adroddiad chwarterol cyntaf a ddywedodd wrthym, hyd yn oed ar ôl ymyrraeth, nad yw'r gwasanaeth yn ddiogel o hyd. Rwy'n credu efallai y bydd gan y cyhoedd yng Nghymru rai pryderon ynghylch ei hunanfodlonrwydd ymddangosiadol.

Os caf fynd ag ef yn ôl at yr adroddiad, lle y mae'r adroddiad yn codi materion ehangach ar gyfer y GIG yng Nghymru, mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu,

Mae'n sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno myfyrio hefyd ar y materion a godir yn yr adroddiad hwn a rhoi ystyriaeth i sut y bydd yn cael sicrwydd ynghylch cadernid trefniadau llywodraethu ansawdd ar draws cyrff eraill y GIG.

Nawr, gan gyfeirio yn ôl at gwestiynau blaenorol yr wyf i wedi eu gofyn iddo yn ei swyddogaeth arall o ran gallu'r swyddogion anweithredol yng Nghwm Taf, cyn iddo ymyrryd, fe'i gwnaed yn gwbl eglur gan ei gynghorydd arbennig—ac efallai yr hoffai edrych yn ôl ar drawsgrifiad y pwyllgor—bod lefel wael iawn o graffu, ac mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau hynny, a yw'r Gweinidog yn barod i dderbyn heddiw bod gwir angen edrych ar y modd y penodir swyddogion anweithredol, yn enwedig cadeiryddion ac is-gadeiryddion sy'n cael eu talu'n dda iawn? A oes angen iddo ofyn cwestiynau ar draws y gwasanaeth am eu gallu i graffu? Ac a oes angen iddo edrych ar y ffordd y mae'r byrddau iechyd wedi'u strwythuro, lle mae'r swyddogion anweithredol a'r cyfarwyddwyr gweithredol yn eistedd wrth fwrdd gyda'i gilydd ac mae'n hawdd iawn gweld sut mae diwylliant yn datblygu lle mae'r bwrdd yn un bwrdd ac mae'r swyddogion anweithredol yn colli eu canolbwynt o ran craffu ar berfformiad eu cyfarwyddwyr gweithredol?

A gaf i roi sylw yn gyntaf i'r cyhuddiad rheolaidd fy mod i rywsut yn hunanfodlon yn fy nyletswyddau? Rwy'n cymryd fy nyletswyddau o ddifrif. Mae'n swydd yr wyf i'n ei mwynhau, er gwaethaf yr holl bwysau, ond mae hynny'n gofyn i chi ddeall materion ac i weithio'n galed i gyflawni eich dyletswyddau a chydnabod yr effaith ar staff a'r cyhoedd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n annymunol i awgrymu'n rheolaidd fy mod i rywsut yn hunanfodlon gan nad wyf i bob amser yn cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei fynnu ohonof.  

O ran y camau sy'n cael eu cymryd, rwyf i eisoes wedi ysgrifennu heddiw, a byddwch wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig, at bob un sefydliad GIG yng Nghymru, yn ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw ymateb i mi erbyn wythnos gyntaf mis Ionawr gyda'r lefel o sicrwydd sydd ganddyn nhw ynghylch nifer o faterion sydd wedi eu codi yn yr adroddiad hwn heddiw ar Gwm Taf Morgannwg. Rwyf i wedi darparu ffurflen yr wyf i'n disgwyl iddyn nhw ymateb iddi i wneud yn siŵr bod ymatebion cyson i'r un problemau, er mwyn i ni ddeall, ar gyfer pob sefydliad unigol, ond hefyd ar y cyd ar draws holl deulu GIG Cymru. A byddaf, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i'r Aelodau ar ôl i ni gael cyfle i graffu ac edrych ar yr ymatebion hynny i weld a ydyn nhw wedi rhoi'r sicrwydd yr wyf i'n chwilio amdano.  

O ran swyddogaeth David Jenkins, roedd yn bendant iawn yn y dystiolaeth a roddodd i'r pwyllgor hefyd ei fod yn teimlo bod y bwrdd wedi gwneud yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud erbyn yr adeg honno, o ran bod yn briodol o ystyriol o'r hyn oedd wedi mynd o'i le, ac maen nhw'n edrych yn ofalus iawn i fynd i'r afael â hynny ac ymateb i hynny, ond roedd yn cydnabod bod mwy i'w wneud.

O ran y pwynt ehangach am y ffordd y mae aelodau annibynnol yn ymddwyn, rydym ni eisoes yn cymryd cyfres o gamau i atgyfnerthu'r pwynt bod aelodau annibynnol yno o ran eu dyletswydd gyhoeddus, ac mae ganddyn nhw swyddogaeth gyhoeddus i'w chyflawni o ran craffu, herio ac, ar adegau, cefnogi'r ffordd y mae byrddau iechyd yn gweithio. Ond nid yw'n swyddogaeth lle maen nhw yno i ganu clodydd y sefydliad. Felly, rydym ni eisoes yn gweithredu ar amrywiaeth o argymhellion cyn yr adroddiad heddiw, a byddaf yn parhau i wneud hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r mesurau y mae'n argymell i ni eu cyflawni hefyd.

13:45

Wel, Llywydd, rwy'n siŵr nad yw'r hyn y byddwn i'n ei ddisgwyl neu'n ei fynnu gan y Gweinidog iechyd yn bwysig. Byddwn yn dadlau, fodd bynnag, bod yr hyn y mae'r cyhoedd, cleifion ac, yn bwysig, staff rheng flaen yn ei ddisgwyl, yn bwysig, a byddan nhw yn dod i'w casgliadau eu hunain ynghylch y ffordd y mae e'n ymateb i graffu, yn y fan hon ac yn y pwyllgor iechyd.

Gan gyfeirio yn ôl at David Jenkins, dywedodd ef, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog yn ei nodi'n gywir, bod y bwrdd, ers yr ymyrraeth, wedi gwneud yr hyn y dylen nhw fod wedi ei wneud wrth ymateb i'r angen am yr ymyrraeth honno. Ond roedd e'n eglur iawn nad oedd eu perfformiad cyn hynny yn cyrraedd y safon o gwbl, ac mae'r teuluoedd hynny wedi dioddef a'r staff rheng flaen hynny wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl, gan nad oedd gan y bobl a benodwyd gan y Gweinidog y gallu i wneud eu gwaith tan iddo ef ymyrryd.

Byddwn yn awgrymu wrtho fe, ar ôl 20 mlynedd o'r Blaid Lafur yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, bod niferoedd meddygon teulu wedi gostwng, bod yr amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys yr hwyaf a welsom erioed, bod disgwyliad oes yng Nghymru yn gostwng am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth. A byddwn yn dweud wrtho, os nad yw'n gallu gweddnewid y gwasanaeth hwn yn y ffordd y mae angen iddo gael ei weddnewid, efallai y dylai symud allan o'r ffordd.

Wel, mae'n llinell braidd yn amlwg yr ydym ni'n ei chlywed unwaith eto, ac, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedodd Helen Mary yn ei hymateb oedd cydnabod, mewn gwirionedd, yn dilyn yr ymyrraeth a wneuthum i, y bu effaith gadarnhaol ar y sefydliad. Mae adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC yn cydnabod bod yr arweinyddiaeth newydd sydd ar waith yn bwrw ymlaen â chamau difrifol i fynd i'r afael â'r materion sy'n peri pryder. Ac, o ran pwy mae pobl Cymru yn ymddiried ynddyn nhw i redeg y gwasanaeth iechyd gwladol, edrychaf ymlaen at eu dyfarniad ymhen 18 mis.

Diolch, Llywydd. Weinidog, a ydych yn falch o'ch hanes o redeg y GIG yng Nghymru?

Rwy'n hynod falch o'r gwaith yr wyf i'n ei wneud ar ran pobl Cymru. Rwy'n parhau i gyflawni fy nyletswyddau mewn modd yr wyf i'n credu sy'n gweddu i'r cyfrifoldebau.

Gweinidog, os ydych chi mor falch, fel y dywedodd fy nghydweithiwr, Andrew R.T. Davies, pam ar y ddaear yr oedd eich plaid yn teimlo'r angen i gyflogi actores i chwarae rhan nyrs yn eich darllediad gwleidyddol diweddar? [Torri ar draws.] Ah, ie, mi wn nad yw Aelodau Llafur yn hoffi hyn, ond onid dyna'r gwir? Ai'r—[Torri ar draws.] Ai'r—[Torri ar draws.] Ai'r rheswm—[Torri ar draws.] Ai'r rheswm, fel y mae'r adroddiad heddiw yn ei gadarnhau, yw ei bod hi'n ymddangos eich bod chi wedi llywyddu dros ddiwylliant o ofn a bai sydd wedi arwain at staff yn teimlo na allen nhw godi eu lleisiau a chodi pryderon? A yw oherwydd bod eich hanes echrydus o ddarparu gwasanaethau iechyd mor wael fel na allech chi ddod o hyd i unrhyw un sy'n gweithio yn y GIG i gefnogi eich ymgyrch? Ond, y naill ffordd neu'r llall, nid arwydd o gywilydd yn unig yw bod Llafur Cymru wedi iselhau ei hun fel hyn, ond mae'n dangos amarch mawr at bobl Cymru hefyd. Felly, Gweinidog, yng ngoleuni'r adroddiad damniol heddiw ar drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, pa sicrwydd allwch chi ei roi nawr i'r staff sy'n gweithio yn GIG Cymru y bydd eu pryderon yn cael eu clywed ac yn cael sylw? A pha mor ffyddiog ydych chi nad oes manylion gofidus pellach nad ydyn nhw wedi dod i'r amlwg eto o'r gadwyn hon o ddigwyddiadau sy'n peri pryder enfawr?

Dyma fy nhro cyntaf yn ateb y cwestiynau hyn, felly rwy'n credu bod gen i esgus o ran fy mherfformiad. Nid wyf i'n siŵr bod gan yr Aelod gyferbyn yr un esgus, ac rwy'n siomedig na wnaeth ef drafferthu i wrando ar yr ateb a roddwyd i Andrew R.T. Davies. Yn syml, nid yw'n wir, fel y mae'n ei haeru—nid oeddem ni'n teimlo bod angen cyflogi actores. Ni wnaeth fy mhlaid hynny. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai'n gwrando ac yn ymateb i'r wybodaeth a'r ffeithiau sy'n cael eu rhoi.

O ran sylwadau gan staff a sut mae staff yn teimlo am y gwasanaeth iechyd gwladol, a dweud y gwir, mae'r sylwadau gan ein staff yn gadarnhaol o'r Llywodraeth hon, yn sicr o'i gymharu â'r arlwy gwahanol ar draws ein ffin. Mae gennym ni wasanaeth cyhoeddus cadarnhaol, rydym ni'n cymryd o ddifrif y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn staff. Rwyf i wedi buddsoddi'r swm uchaf erioed mewn hyfforddi dyfodol ein gwasanaeth iechyd. Byddwch wedi gweld yr wythnos diwethaf cynnydd o 13 y cant i'r gyllideb ar gyfer staff gofal iechyd yn y dyfodol, y nifer uchaf erioed o nyrsys, bydwragedd a therapyddion yn cael eu hyfforddi, y nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yn dod i'r gwasanaeth yma yng Nghymru. Materion o ffaith yw'r rhain, nid barn, ac, wrth gwrs, pan ddaw i'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn y gwasanaeth iechyd, mae ffigurau heddiw gan Drysorlys y DU yn dangos bod y gwariant ar iechyd yng Nghymru wedi cynyddu'n gyflymach nag yn Lloegr na'r Alban, yn dangos bod y gwariant cyfunol ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Nid oes arnaf angen pregeth gan y blaid gyferbyn ar natur ein hymrwymiad i'n staff, i'n cyhoedd ac i'n gwasanaeth iechyd gwladol.

13:50

Wel, yn sicr, nid wyf i'n mynd i dderbyn unrhyw bregeth gan y Gweinidog, gan eich bod chi'n siomi pobl Cymru o ran ein gwasanaethau iechyd. Nawr, fel y gwyddoch, Gweinidog, mae eich cydweithiwr John McDonnell wedi cyhoeddi y byddai'r wythnos waith gyfartalog yn y DU yn cael ei thorri i 32 awr o fewn 10 mlynedd o Lywodraeth Lafur y DU. Gweinidog, ni allwch chi ystyried o ddifrif mai dyma'r ffordd ymlaen i Gymru, ond efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, felly, yn union faint o feddygon, nyrsys a staff hanfodol ychwanegol eraill y GIG y bydd eu hangen i ymateb i'r oriau gwaith llai, a sut y bydd eich Llywodraeth yn recriwtio digon o staff i fodloni'r galw newydd hwn. Oherwydd os oeddech chi'n meddwl bod pethau'n wael nawr, arhoswch tan y byddwn ni wedi cael 10 mlynedd o Lywodraeth Lafur y DU. A gadewch i mi roi i chi—[Torri ar draws.] A, Gweinidog, gadewch i mi roi rhai ffeithiau i chi—[Torri ar draws.] Gadewch i mi roi rhai ffeithiau i chi, oherwydd fe roesoch chi rai ffeithiau i ni yn gynharach. Dyma eich hanes fel Gweinidog iechyd: dros hanner byrddau iechyd Cymru yn cael eu rhoi mewn mesurau arbennig neu statws ymyrraeth wedi'i thargedu, gyda gwasanaethau wedi eu canoli ymhellach oddi wrth gleifion sydd eu hangen yn ddybryd, yr amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys gwaethaf erioed, nid yw amseroedd aros o ran canser wedi eu bodloni am 11 mlynedd, ac mae pobl ledled Cymru yn disgwyl yn daer i weld eu meddyg teulu. Gweinidog, nid hanes Llafur Cymru yn unig yw hwnnw, ond eich un chithau hefyd, a phryd y gwnewch chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb? Rwy'n credu y dylech chi ystyried eich sefyllfa fel y gall pobl Cymru fod yn ffyddiog, pan fydd methiannau yn y system, y bydd y Llywodraeth yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb terfynol.

Wel, wrth gwrs, pe byddai gennym ni Lywodraeth Lafur y DU ni fyddem wedi cael 10 mlynedd o gyni cyllidol. Edrychaf ymlaen at ddegawd o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at y gallu i roi tâl priodol i'n staff ar draws y sector cyhoeddus cyfan. Edrychaf ymlaen at y gallu i gefnogi ein heconomi'n iawn mewn ffordd gwbl wahanol i'r un y mae'r Aelod wedi ei chefnogi mewn tri, os nad pedwar, gwahanol etholiad y DU trwy ymgyrchu dros bolisi cyni cyllidol. O ran hanes y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, rwyf i eisoes wedi nodi'r ffaith ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ar lefel llawer uwch nag ar draws y ffin yn Lloegr sy'n cael ei redeg gan y Torïaid. Os edrychwch chi ar ein hanes ni ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd: adolygiad seneddol ar adeg pan yr oedd pobl yn barod i fod yn oedolion am yr hyn yr oedd ei angen ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, wedi'i weithredu gyda gweledigaeth hirdymor ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol—yr unig gynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn y Deyrnas Unedig—y buddsoddiad mwyaf erioed mewn staff, a staff sy'n dod gyda ni ar daith i ailgynllunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yn fwriadol gyda'n gilydd, rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gallaf edrych i fyw llygad cleifion, gallaf edrych i fyw llygad ein staff, a dweud, 'rwy'n gwneud y peth iawn ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus hynod werthfawr hwn', oherwydd mae ein staff a'n cyhoedd yn gwybod na allwch chi ymddiried yn y Torïaid i redeg ein gwasanaeth iechyd gwladol.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, wnaethoch chi ddim ateb y cwestiwn ynghylch pa gynnydd i weithlu'r GIG nac, yn wir, pa gynnydd mewn gwariant y byddai ei angen arnoch pe byddai'r polisi hwn o wythnos waith gyfartalog o 32 awr yn cael ei ddefnyddio yn y GIG. A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw'r gyfradd cyfwerth ag amser llawn wedi ei chontractio’n gyfartalog ar hyn o bryd, a beth fyddai'r newid hwnnw pe byddai'n cael ei newid i 32 awr, os yn wir y bydd y polisi hwn yn berthnasol i GIG Cymru? Roedd rhywfaint o ddryswch ynghylch pa un a fyddai'n berthnasol i'r GIG yn Lloegr—dywedodd Jon Ashworth, eich llefarydd yn San Steffan, ei bod yn wirion awgrymu y dylai'r polisi gael ei ddefnyddio yn y GIG yn Lloegr. A fydd yn berthnasol i'r GIG yng Nghymru? Os felly, faint fydd yn ei gostio? Neu a ydych chi eisiau optio allan?

Wel, mae gan y dyn sy'n sefyll ar ddim maniffesto y mae'n dangos unrhyw deyrngarwch iddo ddiddordeb rheolaidd yn yr hyn y gallai pobl eraill ei wneud gyda'r addewidion yr ydym ni'n eu gwneud ac yr ydym ni'n eu cadw. O ran yr wythnos 32 awr, polisi uchelgeisiol ar gyfer 10 mlynedd i'r dyfodol ydyw, ac yn sicr nid wyf i'n mynd i gael fy nal yn ceisio cynhyrchu ffigurau artiffisial ar gyfer hynny. Yr hyn y mae gennyf ffigurau gwirioneddol ar ei gyfer yw'r cynnydd o 55 y cant mewn hyfforddiant i nyrsys dros y pum mlynedd diwethaf, y nifer uchaf erioed o leoedd hyfforddi meddygon teulu a lenwyd gennym yng Nghymru—nid ydym wedi cael y nifer honno o feddygon teulu dan hyfforddiant erioed o'r blaen yma yng Nghymru—cynnydd o 71 y cant mewn lleoedd hyfforddi bydwragedd dros y pum mlynedd diwethaf. Dyna hanes y Llywodraeth hon gyda'r adnoddau a roddwyd i ni, y flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi i'n staff, i'n gwasanaeth iechyd, a hanes yr wyf i'n falch ohono. Ac mae'n hanes y mae'r cyhoedd yn ei werthfawrogi hefyd, oherwydd mae dros 90 y cant o'r cyhoedd yn yr arolwg cenedlaethol wedi cael profiad da pan gawsant eu gweld ddiwethaf naill ai mewn gofal sylfaenol neu ofal mewn ysbyty. Mae hon yn Lywodraeth i ymfalchïo ynddi. Mae hwn yn wasanaeth iechyd gwladol i ymfalchïo ynddo.

13:55

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gadarnhau mai dim ond uchelgais ymhen 10 mlynedd yw'r wythnos 32 awr hon. Rwy'n meddwl y bydd hynny'n tawelu meddyliau llawer o'r byrddau iechyd sydd o dan bwysau enfawr eisoes, ar ôl i'r rhestrau aros gynyddu gan 16,000 ar gyfer ysbytai yn y flwyddyn ddiweddaraf yn unig.

Un maes polisi gan eich plaid ar lefel y DU, yr wyf i hefyd yn deall fydd yn berthnasol yma yng Nghymru drwy'r gyfraith, yw eu bod nhw wedi datgan y bydd unrhyw allu i optio allan o'r uchafswm o 48 awr ar wythnos waith yn dod i ben. Nawr, gwn fod canllawiau o fewn y GIG o ran sut mae hynny'n berthnasol i gontractau GIG, ond caniateir i feddygon ymgynghorol optio allan o'r cap 48 awr hwnnw ar hyn o bryd os ydyn nhw wedyn yn gwneud gwaith preifat sydd, yn ychwanegol at eu gwaith yn y GIG, yn dod i gyfanswm o fwy na 48 awr. O ystyried yr ymrwymiad cadarn gan eich plaid i ddileu'r cap hwnnw drwy gyfraith y DU, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith ar oriau gwaith y GIG i feddygon ymgynghorol os byddan nhw'n dewis lleihau oriau GIG er mwyn hwyluso gwaith preifat o fewn y cap hwnnw?

A allwch chi hefyd ddweud pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i fater y tapr ar gyfer pensiynau, sy'n effeithio ar lawer o feddygon ymgynghorol, a pha un a ydych chi'n credu bod hwnnw'n ffactor sy'n cyfrannu at y cynnydd hwnnw o 16,000 i'r oriau? Rydym ni wedi cael cynnig, rwy'n credu heddiw, gan Lywodraeth y DU ar gyfer GIG Lloegr. Ac nid wyf i'n argymell y dylech chi ei dderbyn yma—mae'n ymddangos ei fod yn bolisi 'clytio a thrwsio' o ran y ffaith y bydd meddygon ymgynghorol y GIG yn talu'r dreth ychwanegol allan o'u cronfa bensiwn, ond ceir addewid wedyn i'w had-dalu iddyn nhw rywbryd yn y dyfodol.

Os nad hynny, a ydych chi'n rhoi ystyriaeth i unrhyw ddulliau eraill a allai annog meddygon ymgynghorol y GIG i gynnig mwy o oriau i geisio helpu rhestri aros, o ran y pensiynau a'r cap hwnnw o 48 awr sydd fel arall yn yr arfaeth pe byddai Llywodraeth y DU—rhywbeth na fyddem ni'n sicr eisiau ei weld—yn cael ei gyflwyno yn yr etholiad, heb sôn am 10 mlynedd?

Wel, nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i restr ffantasi o gwestiynau damcaniaethol am faniffesto nad yw wedi ei gyhoeddi eto. Fodd bynnag, mae problem wirioneddol yn y sylwadau y mae Mark Reckless wedi eu gwneud, sef dyfodol ein gweithlu meddygon ymgynghorol yn arbennig, ond, yn ehangach na hynny, staff uwch yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ceir yr her sydd heb ei datrys o'n perthynas ag Ewrop yn y dyfodol. Ac mae'n ffaith bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi datgan, mewn arolygon o'u haelodaeth, bod nifer o'n gwladolion o'r Undeb Ewropeaidd yn gwneud paratoadau i adael y Deyrnas Unedig o bosibl, yn dibynnu ar ganlyniad ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol.

Y mater mwy, fodd bynnag, ar hyn o bryd yw'r heriau ynghylch treth a phensiynau. Mae angen i ni fod yn eglur am hyn: mae newidiadau i reolau treth a phensiwn a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith wirioneddol ar staff yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Maen nhw wedi arwain at filiau treth annisgwyl ac uwch; maen nhw hefyd wedi golygu bod meddygon yn arbennig yn tynnu'n ôl o ddarparu rhan o'r gwasanaeth. Mae'n broblem wirioneddol ar draws y DU gyfan, sy'n cael ei hachosi yn uniongyrchol gan newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU pan yr oedd yr Aelod mewn gwirionedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol.

Ond yn fwy na hynny, rwyf i wedi ysgrifennu at, rwyf i wedi gohebu â, rwyf i wedi siarad â Gweinidogion iechyd y DU—rwyf i wedi ysgrifennu at y Trysorlys am hyn hefyd—gan ofyn iddyn nhw ddadwneud y niwed y maen nhw wedi ei wneud. Oherwydd bydd yn costio i'r gwasanaeth iechyd gwladol ewyllys da ein staff yr ydym ni wedi ei losgi ac o bosibl wedi ei golli am byth. Yn fwy na hynny, i adennill y rhestrau ychwanegol yr ydym ni wedi eu colli, mae'n debyg y byddwn ni'n talu mwy yn y sector annibynnol yn y pen draw; bydd yn costio mwy i ni ddarparu'r un gweithgarwch. Ac nid yw'r ateb a gynigir yn Lloegr yn ateb tymor hir. Maen nhw'n defnyddio arian cyhoeddus i ddadwneud y difrod a wnaed gan benderfyniad gwahanol mewn rhan arall o'r Llywodraeth. Cyhoeddais ddatganiad yr wythnos diwethaf a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod y newidiadau treth a phensiwn wedi effeithio ar 15,000 o gyfnodau triniaeth cleifion yng Nghymru dros bum mis. Mae wir yn amser am ymosodiad o synnwyr cyffredin yn y Deyrnas Unedig i ddadwneud y niwed y maen nhw wedi ei wneud i'n gwasanaeth iechyd gwladol, i'n staff, ac, yn arbennig, i'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd ei hun.

Cefnogi'r Economi

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ54719

Mae ein polisïau yn cynnwys diogelu economi de-ddwyrain Cymru rhag effeithiau andwyol Brexit trwy fuddsoddi mewn pobl, lleoedd a busnesau drwy sgiliau, seilwaith a chymorth busnes.

14:00

Diolch, Gweinidog, am y cwestiwn yna. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod seilwaith trafnidiaeth cryf yn sail i'r economi. Ddydd ar ôl dydd, mae economi Cas-gwent yn fy etholaeth i yn dioddef tagfeydd traffig aruthrol. Mae angen cymorth ar frys ar y dref borth hon i Gymru, gan ei bod yn rhan bwysig nid yn unig o rwydwaith ffyrdd Cymru, ond hefyd o rwydwaith y DU.

Rwyf i wedi codi hyn gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth o'r blaen. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ein sefyllfa ar hyn o bryd gyda'r potensial ar gyfer ffordd osgoi newydd ar gyfer Cas-gwent. Fe'i gwneir yn fwy cymhleth gan y ffaith y byddai dwy ran o dair o'r ffordd osgoi dros y ffin yn Lloegr, felly mae'n gofyn am rywfaint o weithio trawsffiniol cryf. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa ddulliau sydd ar waith o fewn Llywodraeth Cymru, fel y bydd cysylltiadau cryf â Llywodraeth y DU ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben ac wrth symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf, fel y gallwch chi wneud yn siŵr bod y ffordd honno'n cael ei datblygu.

Fel y gwyddoch, mae Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth wedi bod yn gweithio gyda chymheiriaid yn Lloegr—mae gwaith yn cael ei wneud rhwng y ddwy Lywodraeth. Fel yr ydych chi'n cydnabod, mae'n fater trawsffiniol o ran y seilwaith ffyrdd y cyfeiriasoch ato, a bydd yn rhaid i ni aros tan ar ôl i etholiad cyffredinol y DU gael ei gwblhau, ac yna rwy'n siŵr bod Ken Skates yn edrych ymlaen at weithio gydag Andrew McDonald yn ei swydd newydd.

Cadarnhaodd datganiad gan Weinidog yr economi neithiwr bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyfarfod gydag undeb Community a'r ymgynghorwyr, Syndex, i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen ar gyfer ffatri ddur Orb yng Nghasnewydd. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n newyddion da iawn. Tybed a all y Gweinidog rannu rhywfaint o wybodaeth gyda ni o ran yr hyn sydd wedi cael ei gynnig.

Yn gyntaf, a allai ddweud wrthym ni pa mor ddatblygedig yw'r trafodaethau hyn gyda'r hyn a ddeallaf sy'n ddau brynwr â diddordeb a dweud wrthym ni pa mor gyflym y gall hyn symud ymlaen, o gofio bod etholiad cyffredinol yn digwydd? O gofio'r ffaith fod y gwaith i fod i gau erbyn diwedd y flwyddyn, byddai'n ddefnyddiol gwybod pa un a yw'r gweithwyr yn cael gwybod am ddatblygiadau fel y gallan nhw gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Yn olaf, Gweinidog, hoffwn wybod, o gofio datganiad Gweinidog yr economi nad yw Llywodraeth y DU yn barod ei chymorth, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi'r cymorth i'r gwaith sydd ei angen arno i aros ar agor o dan reolwyr gwahanol.

Mae Gweinidog yr economi wedi cymryd rhan uniongyrchol, ar y cyd â'r Prif Weinidog, mewn sgyrsiau gyda'r undeb dur Community a'u hymgynghorwyr ar gynnig amlinellol a allai arwain at ddyfodol priodol i waith Orb. Derbyniwyd crynodeb o'u cynnig yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac mae Gweinidog yr economi hefyd wedi nodi y dylai Tata Steel roi mwy o amser i'r cynnig hwnnw gael ei ystyried yn briodol.

Mae'n werth hefyd cofnodi, unwaith eto, siom a rhwystredigaeth anhygoel Llywodraeth Cymru at y diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU i roi dyfodol gwirioneddol i'r sector dur. Ar nodyn personol, mae gen i weithgynhyrchydd dur yn fy etholaeth fy hun. Gwn fod prisiau ynni gwahaniaethol yn broblem sylweddol i'r sector dur. Mae o fewn gallu Llywodraeth y DU i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, ond, yn fwy na hynny, gallen nhw o leiaf gymryd rhan.

O ran Cyngor Dur y DU, mae Gweinidog yr economi yma wedi galw am gyfarfodydd am fwy na blwyddyn ers i'r cyngor hwnnw gyfarfod ddiwethaf. Cytunodd Andrea Leadsom i wneud hynny o'r diwedd, ac yna ei ganslo gyda llai na 24 awr o rybudd. Nid dyna ymddygiad Llywodraeth sydd o ddifrif ynghylch cefnogi'r sector dur. Hoffwn pe byddai gennym ni Lywodraeth y DU a fyddai'n cefnogi'r sector dur, fel yr ydym ni'n ei wneud yn Llywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at weld newid i'r agwedd honno ar 13 Rhagfyr.

Gweinidog, mae dwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r buddsoddiad o £100 miliwn mewn parc technoleg, ar y pryd, yng Nglynebwy. Mae llawer o bobl yng Nglynebwy a'r rhan ehangach o Flaenau Gwent eisiau gweld beth sy'n digwydd i'r buddsoddiad hwnnw o £100 miliwn ac eisiau gweld tystiolaeth o'r buddsoddiad hwnnw yn cael ei wneud. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth wneud datganiad ar y mater hwn, a hoffwn wahodd Gweinidogion i Lynebwy i drafod gyda'r trigolion yno yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, i sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw o £100 miliwn yn cael ei wireddu.

Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog a'i ddirprwy, sydd yn y Siambr, wedi eich clywed chi ac yn ystyried y cais am ddatganiad o ddifrif, ond hefyd ymweliad â Glynebwy i weld yn uniongyrchol y gwaith sy'n cael ei wneud ar lawr gwlad.

Blaenoriaethau Economaidd

4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r blaenoriaethau economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn cyflawni ar gyfer pobl ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54714

Diolch am y cwestiwn. Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys Merthyr Tudful a Rhymni, wedi eu nodi yn y cynllun gweithredu economaidd. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddi mewn pobl, lleoedd a busnesau drwy sgiliau, seilwaith a chymorth busnes.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Yn amlwg, mae angen i ni gadw ymrwymiad hirdymor i wella'r amodau a'r cyfleoedd economaidd i gymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, felly rwy'n croesawu'n fawr yr ymyraethau economaidd pellgyrhaeddol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn fy etholaeth i. Felly, rwy'n meddwl am bethau fel cymorth i gwmnïau fel Sharp Clinical Services yn Rhymni, adeiladu'r orsaf fysus newydd ym Merthyr Tudful, buddsoddiad adfywio canol y dref mewn cyfleoedd twristiaeth a threftadaeth, a pharatoadau hanfodol i gyflawni'r gwelliannau terfynol i ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Dowlais a Hirwaun.

Felly, i sicrhau twf economaidd yn ein cymunedau yn y Cymoedd yn y dyfodol, mae'n hynod bwysig bod y buddsoddiadau hyn yn parhau, ond a fyddech chi'n cytuno â mi bod cymharu'r angen i fuddsoddi yn ein cymunedau â'r achos dros wneud iawn yn sarhaus ac yn anghywir?

14:05

Ydw, mi ydwyf, ac rwy'n falch o ddweud y disgwylir i'r Llywodraeth barhau â'i rhaglen fuddsoddi yn y cyswllt rhwng Dowlais a Hirwaun. Ni waeth beth fo'r pwynt yn y cylch gwleidyddol, mae'r sylwadau diweddar a hysbysebwyd eto yng nghylchgrawn y Sefydliad Materion Cymreig ynglŷn â chais am iawndal yn rhai yr wyf i'n eu hystyried—ac nid wyf i ar fy mhen fy hun yn hyn o beth—yn hynod sarhaus. Ar yr adeg pan gawsant eu gwneud gyntaf ddechrau mis Hydref, yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, fe'i gwnes yn glir nad oedden nhw'n briodol a'u bod yn sarhaus. Mae'n werth i bobl, waeth ble'r ydych chi'n eistedd yn y Siambr hon, fyfyrio ar y ffaith bod pedwar o bob 10 o gyfenwau mwyaf poblogaidd Americanwyr Affricanaidd yn gyfenwau Cymreig, ac mae hynny oherwydd pwy y gwnaethon nhw gymryd eu henwau ganddynt pan gawsant eu rhyddhau o gaethwasiaeth.

Ac mae'r cyfeiriad at wladychiaeth fewnol a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru yn yr achos dros wneud iawn yn rhywbeth yr wyf i'n ei ystyried yn hynod sarhaus. Nid yw'n sarhad; nid yw'n rhywbeth i'w ddefnyddio ar yr adeg hon yn y cylch, mae'n rhywbeth na ddylai fod wedi cael ei ddweud yn y lle cyntaf. Mae'n werth ailadrodd bod gwladychiaeth fewnol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio brwydr yr Americanwyr Affricanaidd ac nid yw'n bosibl edrych ar ganrif olaf hanes Cymru a dweud ein bod ni wedi wynebu'r un math o frwydrau o hiliaeth a gwahanu a noddwyd gan y wladwriaeth a ddigwyddodd yn hanes yr Americanwyr Affricanaidd. A hyd yn oed ar ôl i'r cyfreithiau gael eu newid, yn syml, nid yw realiti'r ymraniad, y brawychu, y lladd a ddigwyddodd, wedi digwydd yn y ganrif ddiwethaf o hanes Cymru.

Mae gennym ni ddadleuon dilys i'w gwneud am ein lle o fewn y DU, yr Undeb Ewropeaidd, a buddsoddiad priodol yn ein cymunedau yma. Gallwn wneud hynny'n gadarn ac yn hyderus heb geisio cymharu ein hunain ag un o'r cyfnodau mwyaf cywilyddus yn hanes y byd.

Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ffaith fod nifer y bobl ym Merthyr Tudful a Rhymni sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra wedi gostwng traean ers 2010, diolch i bolisïau Llywodraeth Geidwadol y DU? Ac a ydych chi'n cytuno â chyfarwyddwr cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain bod rhai o bolisïau Llafur yn bygwth niweidio sylfaen ein heconomi, fel yn eich polisïau yn y blaid Lafur ar gyfer y Llywodraeth nesaf yr ydych chi'n yn eu rhoi i mewn, y bydd cynnydd i dreth gorfforaeth yn sicr yn atal cwmnïau, yn enwedig cwmnïau amlwladol, rhag mynd ar hyd ffordd Blaenau'r Cymoedd i ardaloedd Rhymni a'r Cymoedd i fuddsoddi yno?

Cafwyd rhai sylwadau diddorol yn y fan yna, a deallais rhai ohonyn nhw. Mae'n deg tynnu sylw at y ffaith bod diweithdra wedi gostwng gan fwy na thraean rhwng 2011 a 2019. Mae gennych chi Lywodraeth weithgar yma yng Nghymru sy'n gweithio ochr yn ochr â chymunedau, gan fuddsoddi yn eu dyfodol, ac rwy'n falch o'r gwaith y mae ein Gweinidog yr economi yn parhau i'w arwain.

Pan ddaw'n fater o Geidwadwyr yn ceisio clochdar eu hanes ar bwy y dylid hymddiried ynddynt o ran yr economi, mae'n werth nodi bod y cytundeb sy'n cael ei gynnig ynghylch ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol gan Brif Weinidog y DU, hyd yn oed ar sail eu hamcangyfrifon gorau eu hunain, yn ergyd o 4 i 7 y cant i'r economi. Pe byddai Llywodraeth Lafur y DU yn cynnig lleihau economi'r DU yn fwriadol, byddai bloeddiadau o ddicter yn dod o feinciau'r Ceidwadwyr, ac mae'n werth nodi hefyd y dylech chi ailfeddwl y ffordd yr ydych chi'n siarad am fusnes pan mai barn enwog Prif Weinidog presennol y DU ar y byd busnes, os nad ydyn nhw'n yn cytuno â'r hyn y mae'n ei ddweud, yw 'eff busnes'. Nid dyna'r dull y bydd Llywodraeth Lafur newydd y DU yn ei gymryd o ran bod eisiau gwella ein heconomi, a gwyrdroi'r llif o ddifrod bwriadol a wnaed yn y degawd diwethaf o gyni cyllidol.

Gofal Iechyd Sylfaenol

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yng Nghymru? OAQ54730

Diolch am y cwestiwn. Mae model gofal sylfaenol Cymru yn creu timau amlddisgyblaeth, gan ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau yn y gymuned. Mae'r model yn gofyn am gyfraniad ar y lefel leol drwy ein 64 o glystyrau gofal sylfaenol.

Cefais fy hysbysu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar 16 Hydref bod meddygfa Gelligaer wedi gwneud cais ffurfiol i gau eu cangen yn y Gilfach, ger Bargoed. Mae honno'n feddygfa sydd wedi gweithredu fel meddygfa allgymorth o Gelligaer ers cryn amser. Mae dros 2,000 o gleifion yn y Gilfach a Bargoed yn mynychu meddygfa'r Gilfach, a phe byddai'n rhaid iddyn nhw symud, byddai'n rhaid iddyn nhw naill ai symud cryn bellter i Gelligaer neu i feddygfa Bryntirion gerllaw, sydd eisoes yn boblogaidd iawn.

Rwy'n cyfarfod â meddygon ym meddygfa Gelligaer ddydd Gwener i drafod hyn. Rwyf i hefyd yn paratoi llythyr gydag etholwyr i ysgrifennu at y bwrdd iechyd i gyflwyno'r achos i gadw'r feddygfa yn y Gilfach yn agored. Mae angen gwasanaethau meddygon teulu mwy hygyrch arnom ac mae angen dybryd i recriwtio meddygon teulu, yn enwedig i'w hyfforddi ac iddyn nhw weithio a byw yn y Cymoedd gogleddol mewn cymunedau fel Bargoed a'r Gilfach, o ble'r wyf i'n dod. Beth mae Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog Iechyd yn arbennig wedi ei wneud i gyrraedd y nod hwnnw o hyfforddi a recriwtio meddygon teulu a'u symud nhw i fyw a gweithio yn yr ardaloedd hynny yn y Cymoedd gogleddol?

14:10

Ie, diolch. Rwy'n cydnabod y gweithgareddau y mae'r Aelod wedi ymgymryd â nhw, yn enwedig yn ystod yr ymgynghoriad wyth wythnos ar feddygfa'r Gilfach. Mae'n werth cofio, wrth gwrs, a bydd yr Aelod yn gwybod o'n hymweliad diweddar â Bryntirion—yr ail ymweliad i mi ei wneud—am y model newidiol ar gyfer gofal iechyd sylfaenol, am gael gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cymryd rhan ac wedi eu hymgysylltu, gyda rhai meddygon teulu, ond mwy o therapyddion ac yn arbennig fferyllwyr, ond hefyd, yn y feddygfa arbennig honno, parafeddyg ymarfer uwch yn ogystal sydd wedi bod yn rhan gydnabyddedig a gwerthfawr o'r tîm.

Mae'r broses newid yn anodd ac rydym eisiau gweithio'n fwriadol mewn gwahanol ffyrdd, gan gael mynediad mwy uniongyrchol at amrywiaeth wahanol o staff, dyna'r model yr ydym ni'n ceisio ei gyflwyno. Nid yw hynny'n golygu bod angen ei gael yn contractio yn y ffordd y darperir y gwasanaeth. Mae'n fater o sut maen nhw'n ehangu nifer y gweithwyr proffesiynol. Dyna pam yr wyf i mor falch o'r ffaith ein bod ni wedi recriwtio'r nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant, gan gynnwys yn y Cymoedd gogleddol, gan fod pob un cynllun hyfforddi meddygon teulu yn llawn am y tro cyntaf erioed. Ac yn fwy na hynny, edrychaf ymlaen at ehangu ymhellach nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu ledled Cymru. Y ffactor cyfyngol yn hynny o beth, mewn gwirionedd, yw nifer y meddygfeydd sy'n barod i fod yn feddygfeydd hyfforddi eu hunain, ac mae hynny mewn gwirionedd yn helpu cynaliadwyedd yn y meddygfeydd hynny sy'n ymgymryd ag ef. Felly, edrychaf ymlaen at glywed mwy gan yr Aelod am ei ymgysylltiad â'r gymuned meddygfeydd teulu leol a'r cyhoedd, ac edrychaf ymlaen at barhau i gyflwyno'r model gofal sylfaenol llwyddiannus yma yng Nghymru.

Rwy'n falch iawn o glywed eich geiriau gwresog am bwysigrwydd cynnal a datblygu gofal sylfaenol a'r pwysigrwydd nad yw'n ymwneud â'r meddyg teulu yn unig, ond, wrth gwrs, defnyddio'r holl weithwyr proffesiynol gofal iechyd perthynol eraill sy'n hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau cymunedol yn gweithio.

Nawr, yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf tua'r adeg hon, rwy'n credu,

'bod angen i'r gwasanaeth iechyd gael ei weld yn ei gyfanrwydd, ac na all hynny olygu canolbwyntio ar ysbytai yn unig.'

Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n cytuno'n llwyr ag ef, rhywbeth roedd yr adolygiad seneddol yn eglur iawn yn ei gylch, ac yn rhywbeth, yn wir, yr ydych chi wedi ceisio ei adlewyrchu yn 'Cymru Iachach', eich gweledigaeth ar gyfer gofal iechyd yn y dyfodol. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf, Gweinidog, pryd ydych chi'n bwriadu dargyfeirio mwy o'r gyllideb iechyd i wasanaethau cymunedol ac i ofal sylfaenol? Oherwydd rydym ni'n gofyn llawer iawn gan ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, ond maen nhw'n gwneud hynny ar yr un lefelau o gyllideb ag y maen nhw wedi bod ei wneud. Mae'n tyfu'n gynyddrannol. Hoffai Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ei weld yn 11 i 12 y cant. A allwch chi ddweud wrthym ni sut  yr ydych chi'n mynd i ddechrau tynnu'r arian hwnnw allan o ofal eilaidd, o'r elfen fawr, gostus, ystyried y gwasanaeth iechyd yn ei gyfanrwydd, fel y dylid ei wneud, a rhoi rhywfaint o'r cyllid lle'r ydych chi'n ceisio gweddnewid y gwasanaethau a gwneud y newid hwnnw, neu fel arall, ni fydd yn digwydd o gwbl?

Wel, fel yr wyf i wedi ei ddweud ar sawl achlysur, rwy'n credu mai canrannau artiffisial yw'r ffordd anghywir o geisio rhannu'r gyllideb iechyd a buddsoddi yn ein blaenoriaethau. Mae'n ffaith bod gofal eilaidd a thrydyddol yn ddrytach o lawer i'w darparu na gofal sylfaenol, felly bydd anghydbwysedd yn y gyllideb. Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n buddsoddi'n iawn yn nyfodol gofal sylfaenol. Dyna pam mae'r adnodd ychwanegol yr wyf i wedi ei gyfrannu at hyfforddiant therapyddion, er enghraifft, yn gam mor bwysig ymlaen o ran parhau i fuddsoddi yn nyfodol y gweithlu.

Ond yn fwy na hynny, wrth gwrs, doeddech chi ddim yno, felly fyddech chi ddim wedi clywed hyn, ond yn y gynhadledd gofal sylfaenol yn ddiweddar, cafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan ein harweinyddion clwstwr yn lleol ac, yn wir, cafwyd y ganmoliaeth fwyaf diffuant o'r ochr arall i'r ffin, oherwydd maen nhw'n efelychu'r ffordd yr ydym ni'n trefnu ac yn ymgysylltu â'r model gofal sylfaenol newydd ac yn gweithio gyda'n gilydd mewn clystyrau.

Ond llwyddais i nodi, pan fyddwn ni mewn sefyllfa i bennu ein cyllideb, fy mod i'n disgwyl buddsoddi mwy yn ein clystyrau fel bod ganddyn nhw fwy o ryddid i fuddsoddi arian mewn dewisiadau lleol, felly mae hynny'n golygu bod y bartneriaeth ar lefel gofal sylfaenol yn cael mwy o'u rhyddid eu hunain, yn ychwanegol at y gyllideb ehangach. Ac rwy'n edrych ymlaen at sicrhau bod y gyllideb lawn ar gael pan fyddwn ni'n gallu cyhoeddi ein cyllideb ar ôl yr etholiad cyffredinol.

14:15
Amodau Gwaith Athrawon

6. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amodau gwaith i athrawon yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? OAQ54705

Ar ôl datganoli cyflogau ac amodau athrawon y llynedd, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau ein bod ni'n gweithredu newidiadau sydd er lles athrawon yma yng Nghymru. Mae gwaith y grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth yn enghraifft dda o hyn.

Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond cynhaliodd Undeb Cenedlaethol Addysg Cymru ei gynhadledd yn ddiweddar yng Nghasnewydd. Yn ystod y gynhadledd, mynegwyd pryderon am y nifer gynyddol o achosion o ymddygiad ymosodol gan ddisgyblion a rhieni tuag at ein hathrawon. Maen nhw wedi awgrymu y dylid arddangos posteri mewn ysgolion yn rhybuddio yn erbyn trais neu fygythiadau yn erbyn staff addysgu. Gweinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad os unrhyw oddefgarwch tuag at unrhyw fath o drais na cham-drin yn erbyn athrawon yn ein hysgolion yng Nghymru?

Rwy'n siŵr y bydd yn falch iawn o glywed, gan fy mod i'n siŵr nad oeddech chi yno yn y gynhadledd, ond roedd y Gweinidog addysg, a llwyddodd i ail-bwysleisio agwedd dim goddefgarwch y Llywodraeth hon at yr union fath o fygythiadau a brawychu yn erbyn unrhyw un sy'n gweithio yn ein hysgolion. Nid dyna'r math o ymddygiad sy'n briodol yn ein barn ni, nid yw'n un y mae'r Llywodraeth hon yn ei oddef, a cheir neges eglur y mae ein hundebau llafur a'n hathrawon yn ei deall gan y Llywodraeth hon.

Gwelyau Ysbyty

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod niferoedd digonol o welyau ysbyty ar gael ar gyfer misoedd y gaeaf? OAQ54731

Diolch. Byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am ddarparu digon o welyau mewn ysbytai i ddiwallu anghenion eu poblogaethau lleol drwy gydol y flwyddyn. Fel y Gweinidog iechyd, cyhoeddais £30 miliwn o fuddsoddiadau ychwanegol i ymdrin â phwysau'r gaeaf ddechrau mis Hydref. Mae hyn yn gynharach nag erioed o'r blaen er mwyn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen ac i wella capasiti a chydnerthedd ar draws ein system.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna? Nawr, rwy'n deall pwysau'r gaeaf ar ein gwasanaethau yn llwyr, ac mae'n amlwg bod hynny'n arwain at oblygiadau o ran defnyddio gwelyau mewn ysbytai ac, o ganlyniad, llawdriniaethau dewisol, sy'n cael eu canslo wedyn o ganlyniad i brinder gwelyau. Rydym ni'n gweld hynny, rwyf i wedi cael profiad o hynny, ac mae llawer o'm hetholwyr wedi hefyd.

Rwy'n llawn werthfawrogi'r ymrwymiad i ddarparu gofal. Er enghraifft, roeddwn i yn Nhreforys ddoe, ond roedd 10 ambiwlans wedi eu pentyrru y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys ddoe am 2 o'r gloch y prynhawn, sydd yn amlwg â goblygiadau o gael ambiwlansys allan at bobl. Rhan o'r broblem yw llif drwy ysbytai—rydym ni'n gwybod hynny, rydym ni'n gwybod bod problem. Ac rwyf i hefyd yn gwybod y ddadl y bydd gwelyau yn cael eu llenwi'n gyflym os ydyn nhw ar gael. Ond os nad ydym yn mynd i'r afael â'r mater o sut yr ydym ni'n ymdrin â rhai o'r pwyntiau hyn, rydym ni'n mynd i gael cleifion yn aros mewn ambiwlansys y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, cleifion nad ydyn nhw'n cael llawdriniaethau dewisol, cleifion yn aros mewn cartrefi am 14 awr—fel yr wyf i wedi cael etholwr yn dweud wrthyf i—am ambiwlans, gan eu bod nhw wedi eu pentyrru y tu allan i Ysbyty Treforys.

Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar y ffordd yr ydym ni'n rheoli'r gwelyau hynny ac yn sicrhau bod gwelyau yn cael eu defnyddio'n effeithiol. A allwch chi roi syniad i ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael mewn gwirionedd â'r mater o sicrhau bod gwelyau ar gael i bobl, fel nad yw llawdriniaethau dewisol yn cael eu canslo a phobl yn aros yn hwy, fel na fydd pobl yn aros mewn ambiwlans am 14 awr ar ôl iddyn nhw gyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys, ac na fyddan nhw'n aros am ambiwlans am 14 awr yn eu cartrefi?

Mae hynny'n gyson â'r dull yr ydym ni eisiau ei ddilyn yn fwy blaengar o ran nid yn unig symud mwy o ofal yn nes at gartref, ond cael pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen iddyn nhw fod yno hyd yn oed ac osgoi'r angen i bobl fynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Ac yn arian y gaeaf a gyhoeddais, aeth rhywfaint o'r arian hwnnw'n uniongyrchol i'r gwasanaeth iechyd, ond aeth £17 miliwn ohono'n uniongyrchol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, fel bod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd a'u partneriaid ym meysydd llywodraeth leol, tai a'r trydydd sector gydweithio i ddeall beth fyddai'n cael yr effaith fwyaf ar y system gyfan. Oherwydd mae'r her ynghylch drws ffrynt ysbyty mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ffordd y mae'r system gyfan yn gweithio. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â symud i wahanol ran o'r gwasanaeth iechyd pan eich bod yn iach yn feddygol, ond yn amlach na pheidio, mae'n ymwneud â symud i gymorth gofal cymdeithasol, dychwelyd i'ch cartref eich hun neu wasanaeth gofal gwahanol. A dyna pam yr ydym ni'n sôn am bethau sy'n cyfateb i welyau—diben hynny yw cael pobl allan o'r ysbyty lle nad oes angen iddyn nhw fod yno hyd yn oed—eu symud i le priodol ar gyfer eu gofal.

A byddwch yn gweld yn y cynlluniau ar gyfer y gaeaf a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr cyfanswm llawn nifer y gwelyau, gan gynnwys y pethau sy'n cyfateb i welyau, ac mae'r pethau sy'n cyfateb i welyau o leiaf yr un mor bwysig, gan fod hynny'n cyrraedd y rhan iawn o'n system ofal. Hefyd, dyna pam yr wyf i a'r Dirprwy Weinidog yn treulio cymaint o amser yn ymddiddori mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, ac yn dymuno gweld gwelliant yn hynny o beth, oherwydd mai dyna'r bobl sydd angen gwasanaethau gofal ond sydd yn y rhan anghywir o'n system i gael y gofal priodol iddyn nhw. Felly, mae'n bwynt buddsoddi parhaus, pwynt o bwysau parhaus yn ein system, ond rwy'n cydnabod y pwynt buddsoddi y mae angen i'r Llywodraeth hon barhau i'w wneud ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.

Canolfan Gymorth ACE

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Canolfan Gymorth ACE yng Nghymru? OAQ54703

Gwnaf. Mae'r ganolfan cymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn parhau i roi cyngor a chymorth arbenigol i wasanaethau cyhoeddus fel addysg, iechyd a thai, i'w helpu i weithredu mewn ffordd a hysbysir gan drawma.

14:20

Diolch yn fawr, Gweinidog. Roeddwn i'n falch iawn o gael ymweld â'r ganolfan cymorth ACE sef Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod yr wythnos diwethaf a chyfarfod â'r tîm bychan yn y fan honno sy'n gwneud gwaith mor bwysig a thrawsnewidiol i sicrhau bod ymwybyddiaeth dda o ymarfer sy'n rhoi ystyriaeth i drawma yng Nghymru. Serch hynny, rwy'n ymwybodol iawn bod y cyllid ar gyfer y ganolfan yn dod i ben yn y dyfodol agos. Felly, pa sicrwydd a wnewch chi ei roi nid yn unig y bydd y gwaith pwysig hwn yn gallu parhau, ond y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei ymwreiddio'n llwyr ar draws holl Lywodraeth Cymru? Yn bwysicaf oll, beth allwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni yn lleihau mewn gwirionedd nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru fel nad oes cymaint o angen am y gwaith hwnnw?

Mae hynny, mewn gwirionedd, yn rhan o bwynt a diben sefydlu'r ganolfan yn y lle cyntaf—i geisio sicrhau ein bod ni'n ymwreiddio'r hyn a ddysgwyd ar gyfer helpu i geisio sicrhau bod llai o Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod yn digwydd, ond rydym ni'n ymyrryd yn gynharach na hynny mewn gwirionedd i helpu i gefnogi'r plant a'u teuluoedd.

Fe allaf i ddweud, o ran y gyllideb, ei bod hi'n ystyriaeth wirioneddol gan Weinidogion ar hyn o bryd a chyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i gyhoeddi ein cyllideb, rwy'n disgwyl y bydd gennym ni newyddion cadarnhaol i'r ganolfan ACE a'i gwaith parhaus ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

Cyngor Cyfreithiol

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu mewn perthynas â chytundebau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt? OAQ54692

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ystod eang o gytundebau gydag endidau cyhoeddus a phreifat. Mae gan Weinidogion Cymru amrywiaeth o bwerau statudol ac yn ôl cyfraith gyffredin i ymrwymo i gytundebau o'r fath.

Diolch. Mae'r rheswm am y cwestiwn penodol hwn yn ymwneud ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Nawr, rwy'n gwybod beth y byddwch chi'n ei ddweud: 'Wel, mae'r Swyddfa Brisio yn dechnegol yn dod o dan Lywodraeth y DU.' Wel, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu asiantaeth y Swyddfa Brisio yn uniongyrchol i ddarparu gwasanaethau prisio'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig i Gymru. Fe wn i fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gytundeb ar lefel gwasanaeth, yr wyf i wedi ei astudio yn ofalus iawn, ac fe fydd hwnnw'n parhau mewn grym tan y 31 o fis Mawrth 2020, ac mae'n costio £9 miliwn yn flynyddol i'ch Llywodraeth Cymru chi i wneud hyn.

Nawr, wedi astudio'r cytundeb hwn, rwy'n ymwybodol bod disgwyl i'r Swyddfa Brisio glirio 3,000 o apeliadau sydd heb eu penderfynu. Nawr, pan wyf i'n dweud 'apeliadau', rydym ni'n sôn am apeliadau ardrethi busnes lle mae busnesau'n anghytuno neu, mewn gwirionedd, yn methu â fforddio'r swm o ardrethi busnes y mae'r Swyddfa Brisio yn dweud eu bod nhw'n gyfrifol am eu talu. Felly, maen nhw'n cyflwyno'r apêl hon ac mae gennyf i fusnesau yn Aberconwy sydd wedi bod yn aros am dros ddwy flynedd. Felly, ar eich llyfrau chi, fe geir 3,000 o apeliadau. Pe byddai'r Prif Weinidog yma, fe fyddai ef yn cytuno fy mod i wedi gweithio'n helaeth ac yn faith gydag ef ynglŷn â hyn, ac rwy'n ei gweld hi'n afresymol, os oes gennych chi gytundeb ar lefel gwasanaeth gydag unrhyw un—. Os wyf i'n caffael gwasanaeth i mi fy hunan, mae gennyf i lais o ran ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei roi i mi.

Nawr, yn ddiweddar, fe ddaeth y Trefnydd i un o'n grwpiau trawsbleidiol ni ar siopau bychain, ac roedd hwn yn fater enfawr. Fe ddaeth Edward Hiller yma o Ystadau Mostyn, ac roedden nhw'n pryderu'n fawr am yr apeliadau hyn sydd heb eu penderfynu. Ni all busnesau fforddio i aros am ddwy flynedd, Gweinidog. Felly, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r Prif Weinidog, ac, yn wir, o ran fy etholaeth i fy hunan, gyda mi yn uniongyrchol, i ystyried y cytundeb lefel gwasanaeth presennol ac ystyried paratoi ar gyfer cytundeb 2021 ac mewn gwirionedd craffu ychydig bach yn fwy manwl arnyn nhw nag yr ydych chi yn ei wneud? Arian trethdalwyr sy'n talu'r £9 miliwn hwn.

Mae'n ddrwg gennyf i, wyddoch chi, mae'n ymdeimlad mor gryf—

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n deall, oherwydd natur agored iawn y cwestiwn gwreiddiol, nad wyf i mewn sefyllfa i ymateb yn fanwl i'r pwynt y mae hi newydd ei wneud ar gontract penodol, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n deall pam mae hynny. Ond rwyf i'n hapus, o ran y cytundeb lefel gwasanaeth y mae hi'n cyfeirio ato, i edrych i mewn i'r mater a gwneud yn siŵr fy mod i'n rhoi gwybod i'r aelod pan fyddaf i wedi cael unrhyw wybodaeth y gallaf i ei roi iddi hi.

Plant Mewn Gofal
14:25

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chydaelodau'r Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol er mwyn helpu i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yng Nghymru? OAQ54691

Mae lleihau'n ddiogel nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Ni chynhaliwyd unrhyw drafodaethau ynghylch datblygu deddfwriaeth i wneud hynny. Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 eisoes yn darparu fframwaith deddfwriaethol cynhwysfawr ar gyfer awdurdodau lleol fel y gallan nhw ddarparu cymorth addas i deuluoedd sy'n wynebu anawsterau, a thrwy hynny helpu plant a theuluoedd i aros gyda'i gilydd.

Diolch i chi, Gweinidog. Gyda niferoedd y plant sy'n derbyn gofal wedi cyrraedd y nifer uchaf ers dechrau cadw'r cofnodion yn 2003, nid wyf i'n synnu bod y Comisiwn ar Gyfiawnder wedi rhoi rhybudd. Rwy'n sylweddoli bod yna gynlluniau i weld gostyngiad o 4 y cant ar gyfartaledd ym mhob un o'r tair blynedd nesaf, ond mae angen ystyried dull ychwanegol. Nawr, er enghraifft, yn Lloegr, mae llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol (FDAC) yn helpu i ddatrys problemau i deuluoedd sydd mewn perygl o golli plant i ofal. Yn fwy felly, y dystiolaeth, yn sgil gwerthusiad FDAC Llundain, yw bod arbediad o £2.30, dros bum mlynedd, am bob £1 sy'n cael ei gwario. O gofio'r effaith gadarnhaol y gall FDAC ei chael ar deuluoedd ac ar bwrs y wlad, a wnewch chi roi gwybod inni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhelliad y dylid sefydlu llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol FDAC yma?

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae lleihau'n ddiogel niferoedd y plant sy'n cael eu derbyn i ofal yn flaenoriaeth, ac fe fydd hi'n ymwybodol o'r buddsoddiad a wnaeth y Llywodraeth o'r gronfa gofal integredig i geisio gwella'r sefyllfa'n gyffredinol. Mae hi'n cyfeirio'n benodol at waith y comisiwn cyfiawnder, ac rwyf innau, fel hithau, wedi darllen yr argymhellion a wnaeth y comisiwn. Mae trafodaethau yn parhau gyda'r barnwr cyswllt teulu dros Gymru, gyda'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru, a thrwy'r rhwydwaith cyfiawnder teuluol a byrddau cyfiawnder teuluol lleol. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i gryfhau'r berthynas â'r farnwriaeth yn y maes hwn.

Ond y pwynt ehangach y mae hi'n ei wneud o ran argymhellion y Comisiwn—fe fydd hi wedi clywed datganiad y Prif Weinidog yn y Siambr ar yr argymhellion yn gyffredinol yn ddiweddar, ac fe fydd yna ddadl a chamau eraill yn cael eu cymryd yn y flwyddyn newydd a fydd yn rhoi cyfle i'r argymhellion hynny gael eu hystyried ymhellach ar lawr y Cynulliad hwn. Ond mae'r argymhellion a wneir yn gyfres o argymhellion ystyrlon a phendant iawn ar gyfer cael y system gyfiawnder y mae pobl Cymru'n ei haeddu, ac, yn benodol, i fynd i'r afael â'r mater pwysig iawn hwn o swyddogaeth a phresenoldeb plant sy'n derbyn gofal yn y system cyfiawnder troseddol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb i gwestiwn Janet Finch-Saunders. Tybed a yw ef yn cytuno â mi, er bod y targed o 4 y cant ar gyfer lleihad cyffredinol i'w groesawu ac nad oes unrhyw un ohonom yn dymuno gweld plant yn cael eu derbyn i ofal yn ddianghenraid, ni ddylai nodau cyffredinol fel hyn ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n ymwneud â phlant unigol. Mae rhai gweithwyr cymdeithasol rheng flaen wedi dweud wrthyf y gallen nhw fod dan bwysau i beidio â dwyn achosion gofal gerbron mewn rhai amgylchiadau pan ddylen nhw, efallai, fod yn gwneud hynny. Felly, a wnaiff ef gytuno â mi na ddylai'r nodau cyffredinol hynny rwystro awdurdodau lleol rhag cymryd y camau cyfreithiol priodol i amddiffyn plentyn unigol, hyd yn oed os yw hynny'n effeithio ar eu gallu nhw i gyrraedd y targed a osodwyd gan y Llywodraeth, sydd braidd yn artiffisial yn fy marn i?

Wel, nid wyf yn awyddus i grwydro i gyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog o ran polisi yn hyn o beth, ond fe fydd hi'n nodi, rwy'n credu, bod y gwaith sydd ar y gweill yn waith sy'n gweithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol yn y maes hwn. Rydym wedi bod yn gwbl glir fel Llywodraeth ein bod ni'n gweithredu'r dull o roi diogelwch yn gyntaf mewn cysylltiad â'r penderfyniadau hyn, yn gyson â'r uchelgais cyffredinol hwn, ac nid oes dim yn bwysicach, wrth gwrs, na'r angen i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Rwy'n falch o ddweud bod Comisiynydd Plant Cymru wedi cydnabod y dull hwnnw o roi diogelwch yn gyntaf yn ystod y gwaith hwn, a chredaf ei bod hi'n cefnogi'r modd yr ydym yn ceisio cyflawni'r uchelgais hwnnw.

Wrth gwrs, rydym i gyd yn cytuno ein bod yn awyddus i weld gostyngiad diogel yn niferoedd y plant sy'n cael eu derbyn i'r system ofal. Ond mae gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â hynny, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon sylweddol ynghylch presenoldeb targed o ran niferoedd. Ac, mewn gwirionedd, dywedodd y Comisiynydd Plant wrth ein pwyllgor ni bythefnos yn ôl nad oedd hi'n cefnogi targed o ran niferoedd, er ei bod hi'n cefnogi'r ymdrechion i leihau'n ddiogel niferoedd y plant mewn gofal. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, yn ogystal â'r gefnogaeth amodol a roddodd y comisiwn i'r camau i leihau nifer y plant mewn gofal, ei fod wedi dweud yn benodol hefyd y dylid cael cefnogaeth gref i raglen ymchwil a fyddai'n sail i ddiwygio cyfiawnder teuluol a gwasanaethau ataliol cysylltiedig. Dylai fod yn nod cyffredinol i leihau nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal a darparu tystiolaeth lawer gwell o effaith yr ymyrraeth ar fywyd teuluol. Fe ddylid datblygu polisi hirdymor sy'n rhoi ystyriaeth ofalus i leihau nifer y plant sy'n cael eu cymryd i ofal, a hynny'n dilyn casgliadau'r ymchwil, a'u rhoi nhw ar waith wedyn. Pa sicrwydd a roddwch chi y bydd y Llywodraeth yn cymryd yr agwedd ystyriol honno tuag at bolisi a allai fod yn sensitif ac yn uchel iawn o ran risg?

14:30

Rwy'n awyddus i beidio â thresmasu ar faes cyfrifoldebau polisi fy nghydweithiwr yn y Llywodraeth, ond fe wn i fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi edrych yn ofalus iawn, mae'n amlwg, ar y materion y mae'r Aelod, fel Cadeirydd y Pwyllgor, yn eu nodi yn y Siambr heddiw. Ac fe fyddaf i'n sicrhau bod fy nghydweithiwr yn y Llywodraeth, y Dirprwy Weinidog, wedi clywed y pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn y drafodaeth heddiw.

Mynediad at Gyfiawnder

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â mynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OAQ54698

Rydym ni'n manteisio ar bob cyfle i godi pryderon am fynediad at gyfiawnder yng Nghymru gydag adrannau yn Llywodraeth y DU. Yn yr un modd, nododd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y graddau y mae pobl, er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig y rhai y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddyn nhw, er enghraifft, yn methu â chael mynediad at gyfiawnder.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb ef. A gaf i ofyn iddo y prynhawn yma, mewn trafodaethau pellach a all fod ganddo, i roi blaenoriaeth i fynediad at gyfiawnder ar gyfer menywod a phlant yn y system llysoedd teulu? Mae nifer o achosion a gyflwynwyd i mi yn fy etholaeth lle mae pobl yn pryderu'n fawr iawn nad yw lleisiau plant, yn enwedig lleisiau plant sydd wedi byw mewn cartref lle mae cam-drin wedi digwydd, yn cael gwrandawiad effeithiol yn y system honno. Ac mae'r gofynion presennol sy'n ymwneud â'r trothwyon o ran camdriniaeth y mae menyw yn gorfod profi ei bod wedi ei dioddef—neu ddyn, yn wir—cyn y gall gael mynediad at gymorth cyfreithiol yn destun pryder gwirioneddol o ran sicrhau bod pob parti yn yr achos yn cael gwrandawiad digonol. Felly, a gaf i ofyn iddo, mewn trafodaethau pellach a all fod ganddo, i sicrhau bod y materion hynny ynglŷn â mynediad at gyfiawnder ar gyfer menywod mewn llysoedd teulu, ac yn enwedig mynediad at gyfiawnder ar gyfer plant, yn cael eu cadw'n uchel iawn ar yr agenda?

Yn sicr, fe roddaf i'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod. Bu mynediad at y system gyfiawnder, a'r llysoedd teulu yn benodol, yn fater y gwnaethom ni ei godi'n gyson gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU. Ac mae'r pwynt y mae hi'n ei wneud am yr heriau sy'n wynebu unrhyw un sy'n ceisio cymorth cyfreithiol yn y rhan honno o system y llysoedd yn benodol, os caf i ddweud, yn un grymus. Mae rhan o'r dadansoddiad yr ydym wedi ymgymryd ag ef o ran effaith Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, yn benodol, wedi cwmpasu'r materion hynny y mae hi'n eu codi heddiw, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud y sylwadau hynny ar ran defnyddwyr y system llysoedd yma yng Nghymru.

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynghylch canlyniad yr adolygiad barnwrol am y camdrafod honedig o ran codi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au? OAQ54700

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon i Lywodraeth y DU sawl tro am fenywod sydd wedi gweld eu hoedran ar gyfer derbyn pensiwn gwladol yn cael ei godi heb hysbysiad effeithiol na digonol. Fel y gŵyr yr Aelod, yn ddiweddar gwrthododd yr Uchel Lys adolygiad barnwrol o achos a gafodd ei ddwyn gan ddwy fenyw. Rwy'n ymwybodol o'r dyfarniad hwnnw ac yn aros am unrhyw apêl a allai ddod.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Rwy'n ofni y bydd wedi cael llond bol arnaf i'r prynhawn yma. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn, Llywydd, i atgoffa'r Siambr o raddfa'r broblem hon. Amcangyfrifir bod hyn yn effeithio ar 195,000 o fenywod ledled Cymru—dros 41,000 yn y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli. Fe hoffwn i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol y prynhawn yma—fe soniodd ef yn ei ymateb am yr apêl sy'n mynd rhagddi—i edrych ac ystyried unwaith eto a oes unrhyw  ffordd y gall Llywodraeth Cymru ac yntau, o gofio effaith colli'r incwm hwnnw i Gymru o ran y menywod hynny nad ydynt yn cael y pensiynau hyn, ac a oes yna unrhyw ffordd y gallai ef roi cymorth i'r apêl, neu gyflwyno rhywfaint o dystiolaeth efallai—a rhan arall o Lywodraeth Cymru yn hytrach nag ef ei hunan fyddai'n gwneud hynny—i gefnogi'r apêl honno. Ac a gaf i ofyn iddo gynnal trafodaethau hefyd, yn enwedig yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad cyffredinol, wrth gwrs, gyda'i gyd-aelodau ef yn y Blaid Lafur ar lefel y DU? Nawr, maen nhw eisoes wedi addo ymestyn credyd pensiwn i'r menywod y mae hyn yn effeithio arnynt, ond budd-dal prawf modd yw hwnnw ac nid yw'n deg gofyn i'r menywod hynny sydd wedi colli budd-dal y mae ganddyn nhw'r hawl iddo ofyn am fudd-daliadau prawf modd er mwyn cael cyfiawnder. Felly, a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a fydd ef neu'r unigolyn priodol yn Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau ar ran y menywod hyn pe byddai ei blaid ef mewn grym? Mae pawb yn gwerthfawrogi maint y broblem hon, ond rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno â mi ei bod hefyd yn anodd peidio â sylweddoli graddfa'r anghyfiawnder.

14:35

Wel, rwy'n ategu'r sylwadau cyntaf a'r rhai olaf, os caf i ddweud, ynglŷn â graddfa'r mater hwn, ac nid wyf i'n blino o gwbl ar glywed sylwadau gan yr Aelod am y mater hwn. Mae hi ac aelodau eraill yn y Siambr hon wedi codi'r mater hwn yn gyson, ac rwyf i o'r farn mai mater o'r anghyfiawnder mwyaf yw bod menywod sydd, mewn llawer ffordd arall yn eu bywydau nhw, wedi wynebu camwahaniaethu ar sail eu rhyw drwy gydol eu hoes waith fel oedolion yn wynebu'r anghyfiawnder pellach hwn ar adeg pan efallai y byddan nhw'n lleiaf abl i wneud dewisiadau eraill i ymdrin â hynny. Rwyf i o'r farn fod hyn yn rhoi cyfrifoldeb difrifol iawn ar Lywodraeth a Senedd y DU i fynd i'r afael â'r cwestiwn hwn mewn ffordd sy'n adfer cyfiawnder i'r menywod hynny.

O ran yr achos cyfreithiol a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn hynny, fe fydd hi'n gwybod o drafodaethau blaenorol a gawsom ni yn y Siambr hon fy mod i wedi adolygu, ac adolygu'n rheolaidd, y pwerau a allai fod gennyf i ymyrryd mewn achosion cyfreithiol i ymdrin â materion fel y rhai a godwyd ganddi hi yn ei chwestiwn, ac, yn anffodus, nid wyf wedi gallu darbwyllo fy hun fod y pwerau hynny i ymyrryd yn bodoli. Ond rydym ni, fel Llywodraeth, wedi gwneud sylwadau rhesymegol sawl gwaith i Lywodraeth y DU gydag ymatebion siomedig iawn, iawn bob tro, yn fy marn i. Rwy'n gobeithio, fel hithau, y bydd yr etholiad cyffredinol yn arwain at ethol Llywodraeth sy'n adfer y cyfiawnder y mae'r garfan hon o fenywod mor deilwng ohono.

A gaf i ymuno i fynegi'r un farn â chi, bod angen Llywodraeth arnom ni a fydd yn ymateb yn wirioneddol i'r menywod hyn, sydd wedi cael eu trin yn wirioneddol anghyfiawn? Ac rwyf i am ddatgan diddordeb nawr, gan fod fy ngwraig i fy hunan yn un o'r menywod hynny. Rwy'n siŵr fod yna lawer o rai eraill, ac rydym ni i gyd yn deall hynny. Mae colli incwm fel hyn yn golled enfawr. Roeddech chi yn llygad eich lle i nodi bod llawer o'r menywod hyn wedi cael eu dal yn ôl yn ystod eu gyrfaoedd. Nid oedden nhw'n cael ymuno â chynlluniau pensiwn y cwmnïoedd. Roedden nhw'n aml yn gweithio'n rhan-amser ac yn dod i mewn ar wahanol adegau oherwydd ymrwymiadau teuluol yn eu bywydau nhw fel yr oedd hi bryd hynny. Yn y cyfamser mae pethau wedi newid ers i'r menywod hynny gychwyn ar eu gyrfaoedd nhw. Ond rydych chi wedi dweud eich bod wedi cymell—. A gaf i eich annog i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ac edrych ar bob llwybr posib? Os nad ydych wedi gwneud hynny, dewch o hyd i'r bwlch, os gallwch fod â rhan yn hyn.

Ac a gaf i ofyn ichi edrych hefyd i gyfeiriad cydweithwyr yn eich Llywodraeth chi, oherwydd nid yw hyn yn ymwneud yn unig ag annhegwch i'r menywod hyn o ran colled ariannol, ond maen nhw'n ofalwyr, ac yn ymgymryd â chyfrifoldebau i ofalu am eraill. Mae hynny'n mynd i fod yn faich ar Lywodraeth Cymru. Maen nhw'n ymgymryd â dyletswyddau eraill, a ddaw yn faich ar Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn broblemau enfawr ac nid ydym wedi rhagweld y canlyniad ariannol hyd yn hyn. A wnewch chi edrych ar y ffigurau hynny? A wnewch chi ofyn i'ch cyd-Weinidogion fynd i'r afael â'r hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r menywod hynny, oherwydd mae'n bosib nad ydyn nhw'n mynd i weithio, ac felly fe fyddan nhw mewn sefyllfa o golli incwm, a sut yr ydym ni, fel gwasanaethau cymdeithasol, yn mynd i ddarparu'r gwasanaethau iddyn nhw? Os ydyn nhw'n ofalwyr, ac yn ymgymryd â gwaith, ni fyddant yn gallu rhoi gofal. Sut ydym ni'n mynd i ddarparu'r gofal a'r cyfleusterau, a beth fydd cost hynny i gyd? Mae hwn yn fudd y mae'n rhaid i ni ei gydnabod, er mwyn dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Mae hyn yn gost i chi, nid yn unig o ran yr arian y mae'r menywod hyn yn ei golli, ond y gwasanaethau y maen nhw'n eu colli o ganlyniad i hynny.'  

Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am dynnu sylw at bwysigrwydd effaith y newidiadau hyn yn bennaf ar y menywod dan sylw, ond hefyd yn ehangach ar wasanaethau cyhoeddus a'r economi a chymunedau yma yng Nghymru. Fe soniodd yn benodol am waith llawer o'r menywod yr effeithiwyd arnynt yn eu cyfrifoldebau gofalu am eraill, ac fe hoffwn i roi sicrwydd iddo fod effaith y newidiadau hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried. Mae'r gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog, er enghraifft, wedi ei lywio o ran adolygiad Llywodraeth Cymru o rywedd wedi ystyried rhai o'r effeithiau hyn sy'n cael eu disgrifio yn ei gwestiwn. Rwy'n credu ei fod yn rhoi braslun huawdl iawn, os caf i ddweud hynny, o raddau a dyfnder yr anghyfiawnder y mae llawer o'r menywod hyn yn ei wynebu.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan y Trefnydd, a dwi'n galw arni i wneud y datganiad—Rebecca Evans. 

14:40

Diolch, Llywydd. Mae yna ddau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn dilyn cyhoeddiad ddoe, bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad heddiw ynglŷn â Tata Steel. Hefyd, gohiriwyd dadl fer yfory tan 8 Ionawr. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, mae gennyf i ddau fater yr hoffwn eu cyflwyno ichi heddiw. Rwy'n sylwi, o'r datganiad ysgrifenedig gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd heddiw, ei fod ef yn bwriadu cyhoeddi datganiad pellach am y trefniadau llywodraethu ym mwrdd iechyd Cwm Taf ac am y gwasanaethau mamolaeth yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwy'n annog y Llywodraeth wneud hon yn ddadl iawn. Nid ydym wedi cael cyfle gwirioneddol i drafod saga ddiddiwedd y materion sy'n digwydd yng Nghwm Taf. Mae hynny fel pelen chwyn : wrth iddi droelli ar hyd y gwastadedd, mae'n tyfu'n fwy ac yn fwy ac yn llyncu mwy a mwy, ac mae gan yr Aelodau Cynulliad yn y fan hon yr hawl i drafod hyn a thrafod hyn yn amser y Llywodraeth.

I roi hyn yn ei gyd-destun, a gaf i eich atgoffa chi, yn 2018, ddim ond y llynedd, ysgrifennodd bydwraig ymgynghorol ar secondiad adroddiad, ac fe anwybyddwyd yr adroddiad hwnnw. Roedd gennym adroddiad swmpus gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol a oedd yn codi pryderon enfawr ynghylch storio a defnyddio meinwe o fewn y bwrdd iechyd hwnnw. Y llynedd, cafwyd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru am drefniadau ansawdd a llywodraethu. Eleni, cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd eu hadroddiad nhw. Mae gennym hefyd, wrth gwrs, yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ac, ar ben hynny, mae pum adroddiad unigol yn cael eu hasesu ar hyn o bryd ac yn cael eu dadansoddi yng Nghwm Taf, gan gynnwys un gan y panel goruchwylio gwasanaethau mamolaeth annibynnol, un gan yr uned gyflawni, un gan Gronfa Risg Cymru, a cheir safbwyntiau David Jenkins, y cynghorydd annibynnol. Byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i roi'r amser inni gael trafod hyn yn iawn, yn hytrach na'i droi'n ddatganiad ysgrifenedig yn unig, lle nad oes gennym y gallu i edrych o'r newydd ar hyn a gweld yr hyn sydd angen ei wneud ac a yw newidiadau yn cael eu gwneud mewn gwirionedd yn y bwrdd iechyd hwnnw.

Yr ail fater yr hoffwn ei godi gyda chi yw bod yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2018. Nawr, fel y byddwch chi'n cofio, rhoddwyd y sylw i hyn gan ddweud ei fod yn adolygiad seneddol ar y cyd, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig yn ymuno â Phlaid Cymru ac UKIP rwy'n credu ar y pryd, a Llafur, i roi sylw i hyn ac y byddai yna adroddiad i sôn am gyflwyniad y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hynny bron dwy flynedd yn ôl—ym mis Ionawr 2020, ddwy flynedd yn ôl. Er gwaethaf y cydweithio hwn a fu'n ddidwyll gan bawb ac er gwaethaf y weledigaeth ar gyfer iechyd a luniodd y Llywodraeth wedi hynny, nid ydym wedi gweld unrhyw adborth gwirioneddol ynglŷn â pha mor llwyddiannus y mae'r adroddiad hwnnw'n cael ei roi ar waith. Ychydig iawn o adborth a gafwyd ynghylch a yw wedi cyrraedd rhai o'r nodau a'r uchelgeisiau yr oeddem ni i gyd wedi ymrwymo iddynt. Ychydig iawn o adborth a gafwyd o ran pa mor boblogaidd oedd hynny gyda'r cyhoedd, y cleifion a'r staff, wrth gwrs. Ychydig iawn o adborth a gafwyd o ran a yw'r trawsnewidiad a addawyd yn dechrau digwydd mewn gwirionedd. Ac fe fyddwn i'n gofyn ichi hefyd, felly, gan ein bod ni i gyd â rhan yn yr adroddiad hwn, i fod mor gwrtais â rhoi caniatâd inni gael dadl gan y Llywodraeth yn y fan hon fel y gallwn ni ddeall, ar ôl dwy flynedd, beth yw canlyniadau'r adolygiad hwnnw, a pha mor llwyddiannus fu hwnnw a'r hyn y mae angen ei wneud eto, oherwydd mae arnaf i ofn ei fod yn segur ar y silff yn casglu llwch.  

Diolch i Angela Burns am godi'r ddau fater hyn heddiw. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ynglŷn â Chwm Taf, ac fe gafodd gyfle i fynd i'r afael â rhai cwestiynau yn ystod y sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma. Fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr ei fod yn cael clywed yr alwad am gyfle i drafod y materion ar y llawr. Gallaf ddwyn i gof bod datganiad wedi bod ynglŷn â Chwm Taf ar lawr y Cynulliad yn ystod y misoedd diwethaf, ond rwy'n sylweddoli mai mater hirdymor a pharhaus yw hwn ac y bydd yr Aelodau yn dymuno parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a chael y drafodaeth gyda'r Gweinidog Iechyd am y mater hwn.

Ac ar yr ail fater, mae Angela Burns yn llygad ei lle i ddweud bod gwaith yr adolygiad seneddol wedi cael ei wneud yn ddidwyll, ac roedd yn ddarn o waith trawsbleidiol gwirioneddol, yn fy marn i. Rwy'n deall y diddordeb yn llwyr y diddordeb ynglŷn â sicrhau bod y darn pwysig a da hwn o waith yn dwyn ffrwyth. Bydd y Gweinidog Iechyd yn gwneud datganiad llafar i'r Cynulliad ar 'Gymru Iachach' i'r graddau y mae'n ymwneud ag effaith ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Roedd hynny'n rhan o'r darn hwnnw o waith, ar 3 Rhagfyr, a gwn y bydd yn ystyried y cais i ddiweddaru rhannau eraill o'r darn pwysig hwnnw o waith maes o law hefyd.

14:45

Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion heddiw, a cheir nifer o ddigwyddiadau ar safle'r Senedd, gan gynnwys un gan fenter Men's Sheds. Mae'r prosiectau hyn yn helpu pobl i fod yn agored am eu hiechyd meddwl, sy'n lleihau'r stigma, ac mae hyn yn hanfodol pan wyddom fod cyfraddau hunanladdiad ymhlith dynion yn cael eu disgrifio'n argyfwng cenedlaethol. Dywedir mai hunanladdiad yw'r lladdwr mwyaf o ddynion dan 45 oed. Effeithiwyd ar bron pob cymuned gan golli dynion ymhell cyn eu hamser oherwydd hunanladdiad, ac mae gennyf i brofiad personol o golli rhywun fel hyn ac fe allaf i dystio i'r chwalfa y mae'n ei achosi. Felly, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion, rwy'n awyddus i bwysleisio pa mor hanfodol yw siarad. Os na allwch chi siarad â rhywun agos, a oes yna rai eraill, fel y Men's Sheds, y gallwch chi ddweud eich cwyn wrthyn nhw? Mae buddsoddi mewn therapïau siarad a gwasanaethau da o ran cymorth iechyd meddwl yn hanfodol hefyd, oherwydd nid oes gan bawb rywun agos i droi ato. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog, neu ddadl yn amser y Llywodraeth, yn amlinellu pa therapïau siarad sydd ar gael a pha strategaethau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu defnyddio i wrthdroi'r ystadegau ofnadwy hyn ar gyfer hunanladdiad?

Mae pêl-rwyd wedi bod yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru, ac yn y Rhondda yn arbennig—mae 825 o fenywod a genethod yn chwarae pêl-rwyd yn rheolaidd yn Rhondda Cynon Taf, ac fe ellir dod o hyd i rai o glybiau mwyaf y wlad yno. Mae hyn yn newyddion gwych. Nid yn unig y mae'n galluogi menywod a genethod i chwarae mewn tîm, ond mae hefyd yn nodwedd bwysig yn y frwydr yn erbyn gordewdra a gwella lles meddyliol. Fodd bynnag, llwyddwyd i sicrhau'r llwyddiant hwn er gwaethaf rhwystrau sylweddol. Mae'n anodd cael mynediad ar gyfleusterau chwaraeon—yn wir, mae anghydraddoldebau difrifol rhwng y rhywiau pan ystyriwch chi fod yna 35 o gaeau rygbi, criced a phêl-droed yn y Rhondda, y mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw mewn lleoliadau y tu allan i'r ysgolion ac felly ar gael ar benwythnosau, o'u cymharu â naw cwrt pêl-rwyd, ac nid yw chwech ohonyn nhw ar gael ar benwythnosau gan eu bod nhw wedi eu lleoli ar safle ysgol. Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae. Er bod gan Bêl-rwyd Cymru bron 20 y cant yn fwy o aelodau na Phêl-rwyd yr Alban, mae'n cael llawer llai o arian na'i chwaer sefydliad. Felly, fe hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn rhwng y rhywiau mewn chwaraeon a helpu i ddiwallu'r galw anhygoel sydd am bêl-rwyd yng Nghwm Rhondda a thu hwnt.

Rwy'n diolch i Leanne Wood am godi'r ddau fater hynny. Y cyntaf ohonyn nhw oedd pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Dynion a phwysigrwydd y diwrnod hwnnw o ran bod yn ganolbwynt inni atgoffa dynion ei bod hi'n iawn i siarad am broblemau iechyd meddwl, ond hefyd mae'n gyfle pwysig inni gyfeirio at bob un o'r sefydliadau hynny sydd ar gael i ddynion allu mynd atyn nhw pe byddai angen. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi a chymeradwyo popeth y mae Leanne wedi sôn amdano, yn enwedig ei brwdfrydedd ynglŷn â mudiad Men's Sheds—rwy'n credu mai enghraifft yw honno o fudiad sy'n arbennig o ddefnyddiol i ddynion ledled Cymru. Ond mae'n bwysig cydnabod hefyd na fydd pawb yn teimlo'n gyfforddus i ddweud y cyfan wrth rywun arall, a dyna pam mae'r gwasanaethau therapiwtig hynny y cyfeiriodd Leanne Wood atyn nhw mor bwysig, a dyna pam mae'r Gweinidog Iechyd wedi bod yn adfywio'r cynllun cyflawni iechyd meddwl. A gwn ei fod yn bwriadu cyflwyno datganiad am y cynllun hwnnw maes o law, a bydd hwnnw'n gyfle i drafod pwysigrwydd therapïau siarad yng nghyd-destun y Siambr.

Unwaith eto, rwy'n rhannu brwdfrydedd Leanne am bêl-rwyd ac rwyf innau wedi cwrdd â rhai o ferched pêl-rwyd y Rhondda, ac maen nhw'n fenywod ifanc ysbrydoledig. Credaf fod y ffaith bod y gamp yn tyfu mor gyflym yn wirioneddol gyffrous. Ond mae'r pwynt am gyfleusterau yn un da, a gofynnaf i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon gysylltu â Chwaraeon Cymru i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i fuddsoddi mewn cyfleusterau ledled Cymru.

14:50

Gweinidog, rwy'n awyddus i ddychwelyd at fater yr ydym ni wedi ei godi droeon yn y Siambr hon, a llun Banksy yw hwnnw. Cyn bo hir bydd blwyddyn gron wedi mynd heibio ers i Banksy gynhyrchu ei waith celf diweddaraf, Cyfarchion y Tymor, ym Mhort Talbot. Diolch i Lywodraeth Cymru, cafodd hwnnw ei warchod dros gyfnod y Nadolig, ac fe ariannodd Llywodraeth Cymru y gwaith o'i symud i leoliad llawer mwy diogel hefyd. Er hynny, mae'r lleoliad hwnnw ar gau i'r cyhoedd erbyn hyn. Dim ond trwy ffenestr y gall y cyhoedd weld y llun, ac ni allant syllu arno a bod yn rhan o'r gelfyddyd a theimlo ei hegni'n llawn.

Nawr, rwy'n gwybod ein bod ni wedi codi'r mater droeon gyda'r Dirprwy Weinidog o ran yr amgueddfa gelf gyfoes y mae Llywodraeth Cymru yn siarad amdani. Mae'n ymddangos ein bod ni wedi mynd yn dawedog braidd ynglŷn â hynny ar hyn o bryd. Hoffwn i gael datganiad, o bosibl gan y Llywodraeth cyn toriad y Nadolig, ynglŷn â'n sefyllfa ni gyda'r broses honno ar hyn o bryd a sut y gallwn fwrw ymlaen, oherwydd mae'n bwysig bod gweithiau celf fel y gwelsom ni ym Mhort Talbot—. Fe gafodd ei gadw, mae yno, ac fe ddylai fod yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Mae angen sicrhau y gallwn ddarparu hynny a'i wneud yn hygyrch i'r cyhoedd cyn gynted â phosib, ac mae deall ein sefyllfa gyfredol o ran sefydlu amgueddfa o'r fath ledled Cymru yn ddefnyddiol yn yr agenda honno.

Wel, fel y dywed David Rees, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o allu cefnogi cost diogelwch a symud y darn o gelfyddyd gan Banksy i'w leoliad presennol. Mae dyfodol y gwaith celf hwn ym Mhort Talbot yn fater i'r perchennog a Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot ei drafod yn y lle cyntaf, ond gallaf i gadarnhau bod gwaith ar y gweill i fwrw ymlaen ag argymhellion astudiaeth ddichonoldeb yr oriel gelfyddyd gyfoes. Mae grŵp llywio o Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried y model dosbarthu ac fe fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad pellach maes o law.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sefyllfa bresennol y Llywodraeth o ran y prosiect dad-ddofi tir yng nghanolbarth Cymru, sef O'r Mynydd i'r Môr, o gofio bod y prosiectau bondigrybwyll eraill i ddad-ddofi tir wedi arwain yn aml at ddifrod i ardaloedd yr ucheldir? Fe all cael gwared ar dda byw oddi ar fryniau Cymru, sy'n hanfodol meddir yn y broses hon o ddad-ddofi, gael effeithiau mor niweidiol â phla o hislau, eithin yn gordyfu, a thwf anferthol mewn rhedyn—yr olaf yn arwain at lygru dŵr ein nentydd a'n hafonydd, gan fod y dŵr sy'n llifo o'r rhedyn yn wenwynig.

Mae tynnu da byw o'r ucheldir yn achosi tanbori ac mae hynny wedi arwain hefyd at heigiad enfawr o laswelltau annymunol, fel Molinia a Nardus, sy'n mygu pob rhywogaeth bwysig arall o laswellt. Mae cael gwared ar y cynefin sy'n ganlyniad arferion ffermio sydd wedi bod yn weithredol ers cannoedd os nad miloedd o flynyddoedd yn colli un o'n hasedau mwyaf, sef rhostir y grug—cynefin hanfodol ar gyfer adar sy'n gaeafu yno.

Mae'r gwrthwynebiad lleol i'r prosiect hwn yn tyfu, gyda llawer o ffermwyr bellach wrthi'n protestio yn ei erbyn. A oes modd i'r Llywodraeth roi datganiad pendant ynghylch a yw'n cefnogi'r prosiectau dad-ddofi hyn mewn egwyddor? Ac os felly, a yw'n rhoi cefnogaeth ariannol i brosiectau o'r fath, o ystyried, mae'n debyg, bod llawer o brosiectau o'r fath yn cael eu hyrwyddo gan grwpiau o bobl sy'n byw mewn trefi yn Lloegr?

Wel, roedd cyfle i David Rowlands gyflwyno ei bryderon am y prosiect arbennig hwnnw ar gofnod heddiw, ond fe fyddwn i'n ei wahodd i ysgrifennu at Weinidog yr amgylchedd a materion gwledig eto am y pryderon hynny, er mwyn iddi hi allu nodi safbwynt Llywodraeth Cymru, fel y gofynnodd ef.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ba ganllawiau a roddir i awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch codi tâl am barcio ceir? Mae mwy na 300 o lythyrau wedi cael eu hanfon at Gyngor Dinas Casnewydd yn gwrthwynebu'r taliadau newydd am barcio ym Mharc Tredegar, nad oedd hynny'n costio dim o'r blaen. Mae gyrwyr yn wynebu tâl dyddiol o rhwng £1 a £5, yn dibynnu ar hyd eu harhosiad, sy'n arwain at gost sylweddol i'r rhai sy'n defnyddio'r parc yn rheolaidd, fel y rhai sy'n mynd â'u cŵn am dro. A fyddai modd inni gael datganiad ar ba gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol ynghylch gweithredu ac effaith taliadau parcio ceir yng Nghymru?

Nid yw Llywodraeth Cymru ei hunan yn cyhoeddi canllawiau penodol i awdurdodau lleol ar daliadau parcio ceir, ond os oes gan Mohammad Asghar bryderon penodol am y penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod lleol yn ei ardal ef ynghylch taliadau am barcio, yna, fe fyddwn i'n ei annog i godi'r pryderon hynny gyda'r awdurdod lleol ei hun.

14:55

Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar addasiadau tai a diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn hyn o beth. Rwy'n gofyn hynny gan fod gennyf i etholwraig sy'n dioddef o salwch difrifol iawn sydd wedi ei gadael mewn cadair olwyn. Mae hi yn ei 30au cynnar. Yn ddiweddar, bu'n rhaid iddi aros mewn Holiday Inn—mae gwestai eraill ar gael—ond fe dalwyd am hynny gan yr awdurdod lleol oherwydd nad oes ganddo le ar gael sy'n addas iddi fyw ynddo. Mae'r unig le sydd wedi cael ei addasu eisoes yn gartref i rywun arall.

Mae hi wedi mynd at dair gwahanol gymdeithas dai. Mae un ohonyn nhw wedi dweud yn garedig iawn y byddan nhw'n adeiladu tŷ newydd iddi hi, ond fe fydd hi'n gryn amser cyn i hynny fynd trwy'r system gynllunio. Yn y cyfamser, mae hi'n agored i niwed—mae'n aros mewn llety dros dro ac nid yw'r addasiadau cywir yno. Felly, a fyddai modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog tai, y gwn ei bod hi'n bresennol yma hefyd yn gwrando, i ddeall beth sy'n mynd i gael ei wneud o ran y problemau sydd gan bobl yn lleol pan nad yw'r tai ar gael iddyn nhw, naill ai gan y cyngor neu'r gymdeithas dai dan sylw?

Gyda'r ail gais sydd gennyf i, mae'n Groundhog Day unwaith eto, yn fy marn i, o ran anhwylderau bwyta—dyna fydd fy ngwaddol i, rwy'n siŵr. Ddydd Gwener diwethaf oedd y dyddiad cau a roddwyd i'r byrddau iechyd anfon eu syniadau a'u rhaglenni ar gyfer gwaith yn y dyfodol mewn cysylltiad â'r adolygiad anhwylderau bwyta. Hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar ynglŷn â hyn—fe gawsom ni ddatganiad ysgrifenedig ar yr adolygiad ei hun, ac roeddwn i'n siomedig yn ei gylch—er mwyn deall sawl bwrdd iechyd sydd wedi cyflwyno cynlluniau, sut rai ydyn nhw ac a oes darlun cenedlaethol yn dod i'r amlwg, ac a yw'r byrddau iechyd yn mynd i fod yn gweithio mwy gyda'i gilydd o ganlyniad i'r adolygiad anhwylderau bwyta. Mae angen inni weld cynnydd yn digwydd, o ystyried bod gennym ni'r fath ymrwymiad cadarnhaol gan gleifion a gofalwyr. A gawn ni ddatganiad llafar, os gwelwch chi'n dda?

Diolch yn fawr iawn ichi am y materion a godwyd gennych. Fel yr ydych chi'n dweud, roedd y Gweinidog tai yn bresennol i glywed eich pryderon ynglŷn ag addasu tai yn benodol. Mae hi wedi gofyn imi eich gwahodd chi i ysgrifennu ati gyda manylion yr unigolyn yr ydych wedi sôn amdano y prynhawn yma, oherwydd, yn amlwg, nid yw ei sefyllfa'n dderbyniol o ran lle i fyw, yn sicr yn yr hirdymor, pan gaiff cartref mwy addas ei ddiogelu i'r unigolyn hwnnw. Felly, cofiwch godi'r achos hwnnw gyda'r Gweinidog.

Fe fyddaf—unwaith eto, yn siarad â'r Gweinidog iechyd ynglŷn â'ch cais chi am ddatganiad llafar ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag anhwylderau bwyta. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater yr ydych chi wedi bod yn ymddiddori'n fawr ynddo ers amser maith. Mae'n bwysig deall nawr beth yw statws ymatebion y byrddau iechyd a pha fath o ddarlun sy'n dod i'r amlwg o ran sut yr ydym am fwrw ymlaen â phethau. Felly, byddaf yn rhoi gwybod iddo am y cais hwnnw.

Trefnydd, rwy'n croesawu eich sylwadau chi'n gynharach ynghylch iechyd meddwl ac iechyd meddwl dynion ac atal hunanladdiad, ac rwy'n croesawu gwaith y Llywodraeth yn hyn o beth. Nid oes un dull sy'n addas i bawb ar gyfer datrys hyn, ond rydym i gyd yn y Siambr hon a'r sefydliad hwn wedi colli rhywun ddwy flynedd yn ôl yn y modd hwn. Felly, hoffwn i atgoffa pawb fel unigolion, yn ogystal â'r Llywodraeth, y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i atal hunanladdiad fel bodau dynol. Yn wahanol i'r hyn y gallai rhai ei ddweud, ni ddylem byth—byth—roi'r gorau i geisio helpu pobl eraill, yn enwedig pan allai hynny achub bywydau.

Trefnydd, fe basiodd Senedd Seland Newydd, o dan arweiniad y Llywodraeth Lafur flaengar, Fil carbon sero gyda'r nod o leihau allyriadau carbon i ddim erbyn 2050. Nawr, mae'r nod uchelgeisiol hwn yn cydnabod y cyflwr enbydus yr ydym ni ynddo. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ynghylch sut y gall Cymru gyrraedd nod cyffelyb ar gyfer strategaeth radical o ran yr hinsawdd sy'n seiliedig ar fargen newydd werdd? Nawr, mae hwn yn gynnig polisi a gyflwynwyd mor fedrus gan ymgyrchwyr ifanc a chenedlaethau'r dyfodol ledled y byd, sy'n mynnu bod gweithredu'n digwydd nawr—cynnig sy'n cael ei hyrwyddo bellach gan Blaid Lafur y DU mewn etholiad a fydd, efallai, yn gyfle olaf inni weithredu ar newid hinsawdd cyn y bydd hi'n rhy hwyr. A wnaiff y Trefnydd ddefnyddio ei holl ddylanwad i annog Llywodraeth Cymru a'i chyd-Weinidogion i gyfarfod â Llywodraeth Seland Newydd i ddeall sut y maen nhw'n bwriadu cyrraedd y nod hwn a sut allwn ninnau drosglwyddo hyn i Gymru?

Diolch i Jack Sargeant, yn enwedig am ei sylwadau agoriadol o ran ein hatgoffa ni, mewn gwirionedd, bod hwn yn fater y gallwn ni i gyd fod â rhan ynddo fel unigolion. Hyd yn oed pe byddai hynny mor syml â gofyn i rywun a yw'n iawn, a dim ond rhoi clust i wrando a dangos i rywun ein bod ni'n meddwl amdanyn nhw, fe all hynny wneud gwahaniaeth mawr ar adeg pan fo angen mawr ar rywun i glywed rhywbeth o'r fath.

O ran y pwynt am Seland Newydd a'r ymrwymiad a wnaed yno i chwarae ei rhan i gadw cynhesu byd-eang o dan 1.5 gradd a helpu i ymateb i'r hyn sy'n argyfwng hinsawdd byd-eang, rydym ni'n croesawu'r gwaith y mae Seland Newydd yn ei wneud yn fawr iawn. A gallaf gadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Seland Newydd yn cael deialog dda ar draws ystod eang o faterion. Rwy'n gwybod hynny fy hunan o ran pennu cyllidebau o fewn cyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, er enghraifft. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cyngor diweddaraf gan ein cynghorwyr statudol, sef Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, ac mae hynny'n awgrymu y gall Cymru gael gostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050.

Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a materion gwledig wedi ymrwymo i'r targed hwnnw ac yn ei roi mewn deddfwriaeth y flwyddyn nesaf, yn dilyn cyngor pellach ar sut y byddai ein targed diwygiedig yn effeithio wedyn ar ein targedau interim. Rwyf i o'r farn fod honno'n ffordd briodol iawn i Gymru ymateb, ond rwy'n credu ei bod hyd yn oed yn bwysicach dangos uchelgais, ac mae'r Gweinidog wedi gwneud hynny drwy ofyn i'r pwyllgor fynd yn ôl a rhoi rhywfaint o gyngor pellach inni ynglŷn â sut y gallem gyflawni'r nod o sero net. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny gan edrych i'r dyfodol, ond heb golli golwg ar yr holl bethau y gallwn ni eu gwneud ar hyn o bryd drwy ein cynllun cyflawni carbon, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ac sy'n cynnwys rhestrau fesul sector o bethau y gallwn ni i gyd fod yn rhan ohonyn nhw ar unwaith.

15:00

A gaf i alw am ddatganiad llafar unigol gan Lywodraeth Cymru ar y fframwaith i wella Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Fe gawsom ni ddatganiad ysgrifenedig ddydd Iau diwethaf ynglŷn â hyn, gan gyfeirio at nifer o faterion sy'n haeddu archwiliad llawn a chynhwysfawr yn y Siambr hon, os nad mewn dadl lawn. Mae hwn yn nodi, er enghraifft, bod meddygon teulu y tu allan i oriau arferol wedi cael eu tynnu i lawr o fesurau arbennig, ac y byddai'n dda gan y Gweinidog glywed barn y cyfarfod teirochrog nesaf ar y cynnydd o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl cynaliadwy o ansawdd. Mae'n cyfeirio at ddatblygu'r strategaeth gwasanaethau clinigol, ac fe ddywed hefyd bod cynnydd wedi cael ei wneud oddi ar i'r cyfarwyddwr adfer ddechrau yn ei swydd, er gwaethaf y tro pedol gan y bwrdd iechyd, yn ôl yr honiad ar yr argymhelliad ganddo ef, ynghylch rotâu nyrsys yr wythnos diwethaf.

Yn ystod yr haf, ynghyd ag etholwr, fe wnes i gyfarfod ag athro yn adran seiciatreg y bwrdd iechyd. Fe ddywedodd ef wrthyf, 'O'r blaen, nid oedd gennym byth gleifion y tu allan i'r ardal ac roedd gennym y defnydd isaf o welyau yn y DU. Bellach, mae gennym ni wardiau yn llawn o gleifion yn Lloegr—a hynny ar gost enfawr. Mae pob ymgynghorydd parhaol wedi ymadael ac mae'r gwasanaeth yn cael ei staffio gan feddygon locwm, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol, gyda llawer iawn o dystiolaeth ei bod yn well gan y rheolwyr y meddygon locwm gan fod modd eu diswyddo pe bydden nhw'n siarad yn amhriodol am y sefyllfa. Mae nifer o'm cleifion i wedi marw, yn rhannol oherwydd anawsterau gyda diffyg mewnbwn clinigol. Mae'r pydredd yn ymestyn hyd yr hanfodion. Sawl blwyddyn yn ôl, byddai meddyg a oedd wedi atgyfeirio neu glaf a oedd wedi fy ngweld i mewn clinig yn cael copïau o lythyr gennyf i o fewn 48 awr am y pryderon a gafodd eu trin. Nawr, maen nhw annhebygol o gael copi o'r llythyr 48 diwrnod yn ddiweddarach ac mae cleifion yn colli apwyntiadau dilynol o ganlyniad i hynny.'

Fe ofynnodd meddyg ymgynghorol yn un o'r tri ysbyty cyffredinol am gael cyfarfod â mi. Roedd hi wedi ymddiswyddo wedi i'r bwrdd iechyd fethu â chydymffurfio â'i weithdrefnau ei hun, fe honnir, yn dilyn cwynion blinderus a bwlio yn ei herbyn hi ac ymgynghorydd arall.

Fe gefais gopi o lythyr gan feddyg teulu uwch, yn nodi ei bryderon ynghylch y gwasanaeth y tu allan i oriau arferol, a oedd yn dweud, 'Prin y byddwn i'n ystyried y sefyllfa yr wyf i wedi bod yn dyst iddi dros benwythnosau'r haf yn foddhaol, heb sôn am fod yn ddiogel i gleifion.' Fe wnaethon nhw benderfynu nad oedden nhw'n dymuno imi wneud y llythyr hwnnw'n gyhoeddus, ond maen nhw wedi cael ymateb gan y bwrdd iechyd eu bod nhw'n hapus i fynd yn gyhoeddus gan nad oedd yn gyfrinachol, a dywedasant, 'Yn yr ymateb hwn fe fyddwch chi'n gweld bod yr amseroedd a roddir ar gyfer amseroedd aros yn y gogledd yn gwbl warthus. Er bod yr ymateb yn ddymunol, ni allaf weld y bydd unrhyw newid gwirioneddol yn digwydd.'

Dyna dair enghraifft ddiweddar iawn gan uwch glinigwyr o fewn y Bwrdd Iechyd hwn, sy'n gwrth-ddweud y datganiad ac yn gofyn am graffu mwy trylwyr yn y Siambr hon. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol y tro hwn.      

Mae Mark Isherwood wedi manteisio ar y cyfle i roi ymateb tri chlinigwr ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar gofnod, ac fe fyddaf i'n siŵr o sicrhau bod y Gweinidog Iechyd yn ymwybodol o'r pryderon hynny yr ydych chi wedi eu nodi'r prynhawn yma. Fe fyddaf i'n rhoi gwybod iddo ef hefyd am yr alwad am ddatganiad llafar o ran y fframwaith i wella Betsi Cadwaladr.

Gaf i wneud cais am ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod yr argyfwng gwirioneddol sydd yna o ran amseroedd aros am lawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, a'r pryder bod yr argyfwng yna wedi troi yn rhywbeth llawer gwaeth na hynny? Mis Mai oedd y tro diwethaf i mi ofyn am ffigyrau aros ar gyfer llawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Gwynedd. Mi oedd yna 2,200 o bobl yn aros bryd hynny am 110 o wythnosau. Erbyn i fi gael yr ateb diwethaf gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn yr wythnosau diwethaf, mae'r ffigwr hwnnw wedi codi i 2,900 o bobl ac amser aros o 115 o wythnosau.

Does dim angen i fi ddweud bod hynny'n annerbyniol. Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd yn ymddiheuro yn ei lythyr diweddar i fi ac yn derbyn bod hyn yn annerbyniol, ond nid ymddiheuriad rydyn ni'n chwilio amdano fo ond trefn sydd yn galluogi cleifion yn fy etholaeth i ac etholaethau cyfagos i gael triniaeth mewn amser teg. Mae yna ddau o lawfeddygon yn mynd i gael eu penodi o fis Ionawr, fel rydw i'n deall. Y gwir amdani ydy bod hyn yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr, ac maen nhw'n delio rŵan efo amser aros o 700 yn fwy o bobl na pe bai'r penderfyniad wedi cael ei wneud chwe mis yn ôl neu fwy i benodi pan oedd gwir angen. Felly, a gawn ni ddadl frys ar hyn oherwydd, fel dwi'n dweud, mi oedd gennym ni argyfwng yn flaenorol, ond mae wedi mynd tu hwnt i hynny erbyn hyn hyd yn oed?

15:05

Wel, unwaith eto, mi wnaf i roi gwybod i'r Gweinidog iechyd am y pryderon y soniodd Rhun ap Iorwerth amdanyn nhw y prynhawn yma o ran amseroedd aros ar gyfer orthopedeg yn Ysbyty Gwynedd. Mae'n amlwg nad yr amseroedd aros a ddisgrifiwyd ganddo yw'r math o amseroedd aros yr ydym ni eisiau eu gweld. Felly, byddaf yn siŵr o gael y sgwrs honno gyda'r Gweinidog iechyd. Rwy'n gwybod ei fod yn bwriadu cyflwyno datganiad ar 3 Rhagfyr, sy'n ymwneud ag effeithiau'r ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' ac rwy'n siŵr bod rhan dda o'r broblem sy'n wynebu Ysbyty Gwynedd yn ymwneud â recriwtio a chadw staff, a gallai hynny fod yn rhan o'r cyfraniad yr hoffech chi ei wneud o bosib yn y datganiad y bydd y Gweinidog iechyd yn ei gyflwyno ar y mater hwnnw'n fuan.

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog—[Torri ar draws.]

—a fydd yn cyflwyno ei datganiad dramatig ei hun ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad, Julie James.

Diolch, Llywydd. Ymddiheuriadau am golli dŵr, gynnau.

Llywydd, rwy'n falch iawn o gyflwyno Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i'r Cynulliad. Mae'r Bil hwn yn cynnwys darpariaethau sydd wedi bod yn destun ymgynghori helaeth, gyda'r cyhoedd a llywodraeth leol. Bydd yn cyflwyno cyfres sylweddol o ddiwygiadau i'r ffordd y caiff etholiadau datganoledig eu cynnal ac i fframwaith llywodraethu llywodraeth leol.

Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cynnig ymestyn y bleidlais ar gyfer etholiadau llywodraeth leol i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Bydd y Bil yn caniatáu i'r prif gynghorau ddewis eu systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau. Bydd hefyd yn pennu'r cylch etholiadau ar gyfer llywodraeth leol i bob pum mlynedd, yn unol â'r hyn a geir yn Senedd Cymru.

Mae'r Bil yn rhoi'r grym i sefydlu cronfa ddata gyfun o wybodaeth ar gyfer Cymru gyfan ynglŷn â chofrestru etholiadol a bydd yn galluogi swyddogion cofrestru etholiadol i gofrestru pobl yn awtomatig gan ddefnyddio ystod ehangach o ddata dibynadwy. Mae'r Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r cymhwyster ar gyfer bod yn, ac anghymhwyso rhag bod yn, aelod o awdurdod lleol ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau etholiadol arbrofol. Mae hefyd yn rhoi eglurder ar wariant swyddogion canlyniadau a hygyrchedd dogfennau etholiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y fframwaith llywodraethu ar gyfer llywodraeth leol er mwyn galluogi arloesedd, tryloywder a pherchnogaeth leol gyda'r bwriad o wella canlyniadau a safonau cyflenwi gwasanaethau ledled Cymru. Bydd y Bil, felly, yn cyflwyno pŵer cymhwysedd cyffredinol a system newydd ar gyfer gwella perfformiad a llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygiadau gan gymheiriaid, gan gynnwys cydgrynhoi pwerau cymorth a phwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru. I gefnogi hyn, rwy'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu dull cydgysylltiedig newydd, wedi'i arwain gan y sector, ar gyfer gwella a chefnogi llywodraeth leol. Mae'r Bil hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am eu gwella eu hunain. Mae yna bwerau wrth gefn i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru os yw perfformiad yn llai na boddhaol.

Un o nodweddion y Bil hwn yw ein bod yn ceisio grymuso awdurdodau lleol, gan roi dewisiadau lle nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol wneud cais i uno'n wirfoddol. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau gan ddefnyddio gwahanol systemau i gydweithio mewn meysydd gwahanol. Un o argymhellion allweddol y gweithgor ar lywodraeth leol oedd yr angen am systemau a strwythurau mwy cyson i gefnogi cydweithio a gweithio rhanbarthol. Bydd y Bil felly yn darparu ar gyfer hyn drwy gynnwys pwerau i hwyluso systemau gweithio rhanbarthol mwy cyson a chydlynol o'r enw cydbwyllgorau corfforaethol.

Rydym ni wedi cydweithio'n agos iawn â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr llywodraeth leol, drwy is-grwp llywodraeth leol y cyngor partneriaeth, i ddatblygu'r cynigion hyn. Rwy'n ystyried y pwyllgorau hyn yn arf pwysig i lywodraeth leol ei ddefnyddio i gefnogi cydweithredu, trawsnewid a chynaliadwyedd tymor hwy gwasanaethau cyhoeddus. Byddant yn gyrff corfforaethol, wedi'u ffurfio o aelodaeth y prif gynghorau, wedi'u sefydlu mewn statud ac yn gallu cyflogi staff yn uniongyrchol, dal asedau a rheoli cyllid.

Bydd awdurdodau lleol yn gallu gofyn am greu cydbwyllgor corfforaethol ar gyfer unrhyw wasanaeth a ddymunant. Dim ond mewn nifer gyfyngedig o feysydd swyddogaethol a nodir yn y Bil y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu creu cydbwyllgor corfforaethol: gwella addysg, cynllunio strategol ar gyfer datblygu a defnyddio tir a'r elfen o baratoi strategaeth cynllun datblygu, trafnidiaeth a datblygu economaidd. Y nod yw gwneud pethau'n llai cymhleth i gynghorau sy'n defnyddio gwahanol fathau o drefniadau gwaith rhanbarthol, a sicrhau y gwneir y penderfyniadau'n mor agos at y bobl leol ag sy'n bosib ar gyfer democratiaeth effeithiol ac effeithlon.

Nid yw llywodraethu da'n ymwneud â strwythurau effeithiol yn unig, mae'n ymwneud hefyd â thryloywder. Felly, ymhlith mesurau eraill a gynhwysir yn y Bil sydd â'r nod o gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol a gwella tryloywder, bydd yn ofynnol i brif gynghorau baratoi, ymgynghori ar, cyhoeddi a pharhau i adolygu strategaeth cyfranogiad y cyhoedd. Bydd hefyd yn ofynnol iddynt gyhoeddi canllaw i'w cyfansoddiad sy'n egluro cynnwys eu cyfansoddiad mewn iaith gyffredin. Gwneir darpariaeth ar gyfer darlledu cyfarfodydd cyngor sy'n agored i'r cyhoedd. Er mwyn annog amrywiaeth a, gobeithio, galluogi mwy o aelodau etholedig sydd mewn swyddi a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i allu sefyll mewn etholiad, mae'r Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chymryd rhan mewn prif gyfarfodydd cyngor o bell.

Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i gynghorau cymuned baratoi adroddiad blynyddol am flaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau'r cyngor yn ystod y flwyddyn. Roedd hwn yn argymhelliad yn yr adolygiad annibynnol ar ddyfodol cynghorau cymuned a thref yng Nghymru ac yn allweddol i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd.

Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i brif gyngor benodi prif weithredwr ac mae'n gwneud darpariaeth ynghylch eu swyddogaeth. Mae hwn yn disodli'r term 'pennaeth gwasanaeth cyflogedig' ac yn diweddaru'r swyddogaeth i adlewyrchu arferion rheoli modern. Er mwyn hyrwyddo amrywiaeth ymhellach mewn democratiaeth, mae hefyd yn golygu bod modd penodi aelodau yn gynorthwywyr i'r weithrediaeth ac i aelodau gweithredol ac arweinwyr allu rhannu swyddi. Mae hefyd yn diweddaru'r ddarpariaeth ynghylch hawl aelodau i absenoldeb teuluol ac yn rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp.

Mae'r Bil yn cynnwys nifer o fesurau sydd â'r nod o leihau'r cyfleoedd i ymddygiad osgoi sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig a dileu'r pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer carcharu pobl y mae'r dreth gyngor yn ddyledus ganddynt.

Gan fanteisio ar y cyfle a gynigir gan y Bil, caiff darpariaethau amrywiol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o faterion sy'n ceisio cryfhau a moderneiddio'r ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithredu eu cynnwys yn y Bil. Mae'r rhain yn cynnwys rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru, diddymu pleidleisiau cymunedol a chyflwyno cynllun deisebu yn eu lle, proses newydd ar gyfer penodi prif weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, a phwerau i alluogi'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gyfuno a dadgyfuno.

Fel yr amlinellais yn y cyfarfod llawn y mis diwethaf, rydym ni'n gweithio i alluogi carcharorion a phobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa, sydd â dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd, i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae hyn yn dilyn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i Garcharorion'. Ein nod yw y bydd carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa ac sy'n gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny yn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf, sydd i fod yn 2022.

Bydd hwn yn grŵp bach iawn o etholwyr newydd, ond mae ganddyn nhw amgylchiadau penodol sy'n cwmpasu llawer o'r trefniadau hirsefydledig ar gyfer cofrestru i bleidleisio a bwrw pleidlais. Yn syml iawn, ni fu digon o amser i Lywodraeth y DU, Gwasanaeth Carchardai EM a swyddogion cofrestru etholiadol weithio drwy hyn a phrofi'r holl ofynion cyfreithiol a gweinyddol newydd i'n galluogi i gael darpariaethau yn barod mewn pryd ar gyfer y cyflwyniad hwn. Byddaf yn hysbysu'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am y datblygiadau hyn ac yn gobeithio rhannu darpariaethau ynglŷn â charcharorion yn pleidleisio gyda'r pwyllgor ymhell cyn Cyfnod 2.

Rwy'n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau ar y Bil heddiw ac ystyriaeth y Cynulliad o'r Bil dros y misoedd nesaf. Diolch.

15:10

Yn amlwg, mae gormod yn y Bil hwn a'ch datganiad i mi ymdrin ag ef yn ei gyfanrwydd, felly fe wnaf i geisio dewis a dethol. 

Dywedwch y bydd hi'n ofynnol i'r prif gynghorau baratoi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, ymgynghori yn ei chylch, ei chyhoeddi a'i hadolygu, ond yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod yn aml i weithredu agenda hawliau cymunedol Deddf Lleoliaeth 2011, a fyddai'n helpu'r cyhoedd i gymryd rhan, gan gynnwys yr hawl i gymunedau herio; yr hawl i sefydliadau cymunedol gyflwyno datganiadau o ddiddordeb mewn rhedeg gwasanaethau awdurdodau lleol; a hawl y gymuned i wneud cais am asedau o werth cymunedol, lle byddai cynghorau'n cadw rhestr o asedau cymunedol a enwebwyd gan grwpiau cymunedol ac, os gwerthir yr ased, byddai'r grŵp yn cael amser i gynnig amdano. A fyddai hyn yn hwyluso'r diffygion hyn ai peidio?

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae eich datganiad yn cyfeirio at gynghorau cymuned a'r angen i baratoi adroddiad blynyddol, ac mae'n dweud bod hwn yn un o argymhellion yr adolygiad annibynnol ar ddyfodol cynghorau cymuned a thref yng Nghymru a'i fod yn allweddol i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Ym mis Ionawr, holais ynghylch adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, gan ddweud:

Mae safon bresennol rheoli ariannol a llywodraethu yn parhau i beri siom i ormod o Gynghorau Tref a Chymuned.

Fe wnaethoch chi ymateb drwy ddweud eich bod yn eich swydd ers chwe wythnos yn unig a dweud nad oeddech chi wedi cael cyfle eto i ddarllen yr adroddiad yn fanwl. Felly, unwaith eto, sut, os o gwbl, y bydd y Bil hwn yn mynd i'r afael â hynny? Rydych chi'n cyfeirio at y panel adolygu annibynnol ar gynghorau cymuned a thref yng Nghymru sydd hefyd wedi galw, ymysg pethau eraill, ar i bob cyngor cymuned a thref fod yn gweithio tuag at fodloni'r meini prawf i allu arfer y pwerau cyffredinol o ran cymhwysedd ac argymell y dylai cynghorau cymuned a thref, pob un sy'n eu cynrychioli, gael gwahoddiad statudol i fod yn rhan o bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Unwaith eto, sut fydd y Bil hwn yn ymdrin â hynny?

Rydych chi'n cyfeirio at alluogi carcharorion a phobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa ac sydd â dedfryd o lai na phedair blynedd o garchar i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Wrth gwrs, roedd yr arolwg YouGov yn 2017 yn gofyn i bobl yng Nghymru a ddylid caniatáu i unrhyw garcharorion bleidleisio: dim ond 9 y cant a ddywedodd y dylen nhw gael pleidleisio. Felly, mae'n ymddangos bod ychydig o ddiffyg cysylltiad rhwng ewyllys y bobl a Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Fodd bynnag, y cymhelliad, rydym yn ei gefnogi, sef adsefydlu, sy'n rhoi cyfle i droseddwyr fyfyrio am eu troseddau a chymryd cyfrifoldeb amdanynt a'u paratoi ar gyfer bywyd sy'n parchu'r gyfraith pan gânt eu rhyddhau.

Sut ydych chi'n ymateb i'r dystiolaeth yn yr adroddiad y cyfeiriasoch ato, adroddiad y pwyllgor, o garchar y Parc, pan glywsom ni mai ychydig o garcharorion a fyddai naill ai'n arfer yr hawl i bleidleisio, neu'n ei gweld fel cymhelliad i adsefydlu, a lle cyfaddefodd adroddiad y pwyllgor fod y dystiolaeth ddiymwad i gefnogi'r ddamcaniaeth oedran pleidleisio yn cyfrannu at ailsefydlu yn gyfyngedig? Yn wir, deallwn y caiff hawl carcharorion i bleidleisio ei chyflwyno yng Nghyfnod 2 oherwydd yr anawsterau a gafodd Llywodraeth Cymru yn canfod nifer y carcharorion a gaiff eu cynnwys yn y meini prawf cymhwysedd. Sut mae hynny'n mynd i'r afael â'r diffyg craffu, pan fo craffu yng Nghyfnod 1 yn y pwyllgor yn hanfodol i graffu manwl priodol ar bob elfen? Os yw'r wybodaeth honno o bapur briffio Llywodraeth Cymru yn gynharach heddiw yn gywir, mae'n codi pryderon mawr.

Rwyf wedi bod yma'n ddigon hir i gofio sut y dechreuodd y ddadl ar bleidleisiau yn 16 oed, a dechreuodd oherwydd nad oedd 80 y cant o bobl ifanc Cymru yn pleidleisio dros unrhyw un ac mae wedi datblygu ers hynny. Yn eich memorandwm esboniadol, rydych chi'n cyfeirio at ffigurau'r Alban, a dywedwch fod 89 y cant o'r bobl ifanc 16 a 17 oed cymwys hynny yn yr Alban wedi cofrestru, o gymharu â 97 y cant ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, a chredaf yr amcangyfrifir bod 75 y cant wedi pleidleisio, o gymharu ag 85 y cant ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Ond y cymharydd go iawn, onid yw, yw etholiad Senedd yr Alban yn 2016, pan oedd y ganran a bleidleisiodd yn gyffredinol yn ôl i lawr i 55.6 y cant ar gyfer yr etholaeth a 55.8 y cant ar gyfer y bleidlais ranbarthol—hyd yn oed yn is yng Nghymru ar 45.4 y cant? Felly, pa dystiolaeth sydd gennym ni i ddangos y byddai etholiad seneddol yn golygu y byddai canlyniad y refferendwm hwn yn cael ei ailadrodd o ran ymgysylltu?

Rydych chi'n sôn am ddiwygiadau i wella trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'r memorandwm esboniadol yn rhoi unrhyw enghreifftiau o unrhyw wlad neu genedl arall sy'n rhoi'r bleidlais i bobl nad ydynt yn ddinasyddion mewn etholiadau lleol a'r effaith y mae hyn wedi'i chael. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda llywodraethau cenedlaethol eraill am effaith caniatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion bleidleisio mewn etholiadau lleol? A pha astudiaethau achos y mae Llywodraeth Cymru wedi'u defnyddio i asesu effaith caniatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion bleidleisio? Dywedir wrthyf nad oedd Llywodraeth Cymru, yn ei briff yn gynharach, yn gwybod am unrhyw ymchwil a gynhaliwyd ar effaith cyflwyno'r hawl i bleidleisio i'r rhai nad ydynt yn ddinasyddion a lle mae egwyddor democratiaeth gynrychioliadol wedi'i seilio erioed ar hawl dinasyddion i bleidleisio yn gofyn am y budd hwnnw a ddaw yn sgil dinasyddiaeth.

Rwy'n credu y byddaf yn dod i ddiwedd fy amser cyn bo hir, felly fe wnaf i orffen—

Byddwch, fe fyddwch chi. Rwy'n gwylio, ydw—ewch ymlaen yn gyflym. [Chwerthin.]

—cyn i chi dynnu sylw'n gwrtais at hynny. 

Mae'r Bil yn caniatáu i rai swyddogion cyngor sefyll mewn etholiad yn eu hawdurdodau lleol, sut fyddwch chi'n rheoli materion sy'n ymwneud â gwrthdaro buddiannau a allai godi mewn amgylchiadau o'r fath? Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i gost bosib rhaglen addysgol i hysbysu pobl leol am unrhyw newidiadau posib i systemau etholiadol a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yn eich asesiad effaith rheoleiddiol?

15:20

Diolch, Mark Isherwood, am y gyfres yna o gwestiynau a sylwadau. O ran y strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, nid ydym yn copïo'r Ddeddf Lleoliaeth, gan fod ein deddfwriaeth eisoes yn caniatáu ar gyfer nifer o bethau nad ydynt yn gyfredol yn Lloegr, a, beth bynnag, nid ydym ni mewn sefyllfa lle'r ydym ni eisiau efelychu Lloegr. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn hyn o beth, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yw datblygu system ar gyfer Cymru. Felly, rwy'n falch iawn o'r strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, mae'n ategu nifer o bethau eraill, fel trosglwyddo asedau cymunedol ac yn y blaen. Nid yw'n cwmpasu pob un ohonynt. Ond rydym yn awyddus iawn y dylai pob awdurdod lleol ddatblygu ei strategaeth ei hun ar gyfer ei bobl ei hun, oherwydd credwn yn y ddemocratiaeth leol a ddaw yn sgil hynny.

O ran cynghorau cymuned, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod gan rai cynghorau ledled Cymru nifer o faterion archwilio ac yn y blaen. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ein bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud datganiad am eu sefyllfaoedd a beth yw eu gweithgareddau, sy'n dryloyw ac yn agored. Rydym ni hefyd yn cyfyngu ar bŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer y cynghorau cymuned hynny lle nad ydynt wedi cael archwiliadau cymwys, lle mae ganddynt staff galluog a chymwys yn eu gweinyddu, a'r syniad yw eu hannog i gyrraedd safon dda o atebolrwydd. Os nad yw hynny'n ddigonol, yna byddwn yn adolygu'r sefyllfa, ond rwy'n ffyddiog y bydd sicrhau bod cynghorau cymuned yn gweithredu yn ddigon i—mae'n ddigon o abwyd i'w galluogi i wneud hynny.

O ran y nifer o faterion a gododd ynghylch y trefniadau pleidleisio, mae gennym ni anghytundeb gwleidyddol sylfaenol yn y fan yma. Anghytunaf yn sylfaenol â bron popeth a ddywedodd yn ei gyfraniad ar bleidleisio. Cafodd y system bleidleisio o ran carcharorion ei thrafod yn helaeth yn y pwyllgor. Fel y crybwyllir yn adroddiad y pwyllgor, roedd yn adroddiad mwyafrifol, roedd ef yn y lleiafrif nad oedd yn ei gefnogi. Rydym ni yn ei gefnogi, a dyna pam yr ydym ni yn y sefyllfa sydd ohoni.

O ran pleidleisio yn 16 oed, rwy'n credu'n gadarn y dylai pobl ifanc gael lleisio barn am y ffordd y caiff eu gwlad ei llywodraethu, y ffordd y caiff eu hawdurdodau lleol eu rhedeg ac am y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Rydym ni wedi trafod, fel rhan o Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru), y mesurau y byddwn yn eu rhoi ar waith o ran ein cwricwlwm i wneud yn siŵr bod pobl yn deall yr hawliau a'r cyfrifoldebau sy'n dod yn sgil pleidleisio. Rwy'n credu bod y ddadl os nad yw pobl yn defnyddio eu pleidlais felly ni ddylen nhw gael un yn un eithriadol, ac rwy'n siŵr y bydd gan bobl ddiddordeb mawr o ddeall bod y Ceidwadwyr yn credu hynny.

O ran gwladolion tramor, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o bethau ynghylch dinasyddiaeth sydd wedi tynhau hynny, ac mae hynny'n golygu nad yw nifer o bobl sy'n byw ac yn cyfrannu at waith a bywyd diwylliannol yng Nghymru yn gallu lleisio'u barn am y ffordd y caiff eu cynghorau lleol a'u gwasanaethau eu darparu. Credaf yn syml fod hynny'n anghywir, ac mae'r Llywodraeth eisiau cywiro hynny. O ran cymhwysedd, rydym ni'n dweud y dylai unrhyw un sydd â'r hawl i aros, byw, preswylio, gweithio a chyfrannu at y gymdeithas hon fod â llais ynghylch sut y caiff ei hethol.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? A gaf i, mewn gwirionedd, groesawu'r datganiad a chroesawu'r sefyllfa gyffredinol yr ydym ni'n symud tuag ati? A gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am drefnu'r cyfarfod briffio gan swyddogion yn gynharach heddiw? Roedd hwnnw'n werthfawr iawn.

Yn amlwg, mae'n Fil helaeth iawn, ac ni af ati i nodi rhestr faith o ddyfyniadau a phwyntiau trafod, ond roeddwn i'n mynd i ganolbwyntio ar y systemau pleidleisio, yn benodol y bleidlais sengl drosglwyddadwy o gymharu â'r cyntaf i'r felin. Ac, yn amlwg, rwy'n nodi'r cynnig, rydym ni wedi ei drafod o'r blaen, ynglŷn â pheidio â chael arweiniad strategol o'r fan hon i ddweud, 'Gwrandewch, bobl, rydym ni'n mynd i gael pleidlais sengl drosglwyddadwy ym mhob etholiad lleol, yn union fel yn yr Alban.' Rydych chi wedi datganoli'r penderfyniadau i'n hawdurdodau lleol, a fydd o bosib yn gwneud—o blith y 22 awdurdod lleol, yn amlwg, bydd rai ohonyn nhw eisiau'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, eraill y cyntaf i'r felin, gydag awdurdodau drws nesaf i'w gilydd â systemau pleidleisio hollol wahanol yn hynny o beth. Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n bosib y bydd rhyw elfen o ddryswch yn y fan yna, a byddai'n well gennyf pe bai arweiniad strategol o'r fan hon i ddweud, 'Gwrandewch, bobl, dyma yr ydym ni'n ei ddewis, y bleidlais sengl drosglwyddadwy fydd hi, a bydd pawb yn cael y bleidlais sengl drosglwyddadwy.

Rwyf wedi cefnogi ers tro byd, fel y mae fy mhlaid, gynrychiolaeth gyfrannol, yn amlwg, oherwydd, o leiaf wedyn, bydd pob pleidlais yn cyfrif, a, gobeithio, bydd yn mynd i'r afael â'r nifer isel o bleidleiswyr a sefyllfaoedd o ddifetha pleidleisiau. Yn y bôn ni fu hi'n ddiwedd byd yn Yr Alban sydd â'r bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn llywodraeth leol ers rhai blynyddoedd bellach. Yn benodol, rwyf bob amser wedi credu bod y cyfuniad o wardiau y cyntaf i'r felin ac adrannau aml-aelod ar lefel awdurdod lleol yn arbennig o annemocrataidd. Rydych chi a minnau'n adnabod ward Y Cocyd yn benodol yn Abertawe, lle bûm yn gynghorydd sir fy hun o'r blaen; mae 12,500 o etholwyr yn Y Cocyd yn Abertawe, ac mae pedwar cynghorydd sir. Yna, yn amlwg, mae'r holl etholwr yn teimlo bod ganddynt bedair pleidlais ac maen nhw i gyd yn mynd i bleidleisio yr un ffordd, felly mae angen grŵp o bedwar ymgeisydd arnoch chi. Gallaf weld yn amlwg y bu Mike mewn ward aml-aelod arall yn Abertawe, ond gallwn gymharu profiadau os hoffem wneud hynny. Ond, beth bynnag, hyd yn oed, os caf fentro dweud, pan oedd y pedwar cynghorydd ward hynny yn Y Cocyd yn rhai Plaid Cymru 15 mlynedd yn ôl, dim ond tua 60 y cant o'r bleidlais a gawsom ni. Ni chawsom gant y cant o'r bleidlais, felly hyd yn oed yn yr oes aur honno pan drodd Y Cocyd at y Blaid, nid oeddem ni'n haeddu hynny. Dylid bod wedi cael dau o'r Blaid, un Llafur, un Democrat Rhyddfrydol, i fod yn deg. Gwelaf bellach fod pedwar cynghorydd Llafur yn y ward honno ar ganran debyg o'r bleidlais, felly mae'r un ddadl yn dal yn berthnasol o ran chwarae teg: ni phleidleisiodd trigolion Y Cocyd erioed gant y cant dros ba bynnag blaid sydd â'r pedwar cynghorydd sir.

Ond byddai pleidlais sengl drosglwyddadwy, welwch chi, yn ateb y pos hwnnw, oni fyddai? Hynny yw, os oes rhaid inni gael wardiau aml-aelod, beth am gael y bleidlais sengl drosglwyddadwy, felly?

15:25

Fel y dywed Dai Lloyd yn huawdl iawn, mae'r system ward aml-aelod bresennol gyda'r drefn cyntaf i'r felin mewn grym yn esgor ar rhai canlyniadau rhyfedd a rhyfeddol, ac ni fydd yn synnu darganfod fy mod yn credu bod y canlyniad presennol yn dipyn o oes aur ond nad oedd y canlyniad blaenorol yn gymaint o oes aur o'n safbwynt ni. Ond mae'n gwneud pwynt da ac effeithiol iawn. Yn amlwg, nid cant y cant o bobl a bleidleisiodd—. Dyna pam yr ydym ni'n rhoi'r cyfle i lywodraeth leol edrych eto i weld a ydyn nhw eisiau newid y system. Os gwnânt hynny, byddant yn gallu ymgynghori â phobl leol a byddant yn gallu gwneud hynny drwy roi'r pŵer hwnnw iddynt.

Cyn gynted ag y bydd gennym ni ddau gyngor sydd wedi penderfynu gwneud hynny, ac rwy'n siŵr y byddant yn gallu ei ystyried o ddifrif, yna byddwn yn gallu cymharu'r hyn y mae hynny'n esgor arno â'r hyn y mae system y cyntaf i'r felin yn esgor arno, ac mae'r Bil hefyd yn sefydlu system adolygu cymheiriaid fel y bydd gennym ni'r gallu i gymharu a chyferbynnu. Un o'r pethau sydd wedi'i ddweud am y bleidlais sengl drosglwyddadwy yw ei bod yn cynyddu amrywiaeth a chyfranogiad. Byddwn yn gallu gweld, bron mewn arbrawf dan reolaeth, os mynnwch chi, ai dyna fydd yn digwydd mewn gwirionedd.

Diolch am y cyfle i siarad yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, gan y byddwn wrth gwrs yn craffu ar y Bil hwn yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad. Mae hwn yn Fil pwysig iawn ac yn wir yn sylweddol a byddwn yn craffu'n drylwyr ar y darpariaethau amrywiol maes o law. Ond ar hyn o bryd hoffwn holi'r Gweinidog am ddwy ddarpariaeth nad ydynt wedi eu cynnwys yn y Bil fel y'i cyflwynwyd. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag ymestyn yr etholfraint i garcharorion yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod ein pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar i hawliau pleidleisio ar gyfer carcharorion, ac roeddem yn argymell, fel y clywsom yn gynharach, fod Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i roi i'r holl garcharorion hynny sydd â dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn. Mewn llythyr i'r pwyllgor ar 18 Medi, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn:

ceisio cyfrwng deddfwriaethol priodol i gyflwyno darpariaeth cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi carcharorion a phobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ar yr un telerau â'r rhai fydd yn berthnasol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Felly, gan nad yw darpariaeth o'r fath wedi'i chynnwys yn y Bil sydd ger ein bron, byddwn yn ddiolchgar i'r Gweinidog am unrhyw ddiweddariad y gall hi ei rhoi heddiw i gadarnhau ei bwriad yn hyn o beth. A hoffwn hefyd ofyn i'r Gweinidog am yr ymrwymiad a wnaeth i'r pwyllgor ar 17 Hydref mewn cysylltiad â rhoi sylw dyledus i'r hawl i dai addas. Awgrymodd y Gweinidog y gallai'r Bil hwn gynnwys hawl o'r fath, ond nid oes darpariaeth ar gyfer hyn, ac, unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fwriadau Llywodraeth Cymru.

Yn sicr, John. O ran rhoi'r bleidlais i garcharorion, fel y dywedais yn fy natganiad, nid ydym ni wedi cael amser i weithio drwy hynny ers derbyn argymhelliad y pwyllgor. Rydym ni'n bwriadu cyflwyno, neu weithio gyda'r pwyllgor i gyflwyno, gwelliannau yng Nghyfnod 2 er mwyn i adroddiad y pwyllgor ddod i rym. Ac erbyn hynny—ymhell cyn Cyfnod 2—bydd y swyddogion wedi cael y cyfle i weithio drwy'r amryfal gymhlethdodau o ran sut y caiff hynny ei weinyddu. Felly, rwy'n hollol sicr y byddwn yn gallu gweithio gyda'r pwyllgor i gyflwyno hynny ymhell cyn Cyfnod 2, felly mae gennych chi gyfle da i edrych arno ac yn wir i weld a yw'r pwyllgor ei hun eisiau gwneud hynny.

Ac yna, o ran rhoi sylw dyledus i'r hawl i gael tai addas, rwy'n credu mai'r hyn yr wyf wedi'i ddweud yn y pwyllgor yw y byddem yn edrych i weld a allem ni gynnwys hynny yn y canllawiau statudol ynghylch y fframwaith perfformiad ar gyfer yr awdurdodau lleol. Felly, mae'r Bil hwn yn nodi'r ffordd y cai'r canllawiau eu cyhoeddi, ac wedyn byddai'r canllawiau eu hunain yn cynnwys y gwahanol ddarpariaethau ynddynt. Felly, byddai'r math hwnnw o ddarpariaeth, a nifer o bethau ynglŷn â'r ffordd y caiff gwahanol wasanaethau eu cyflawni, yn y canllawiau statudol. Ac, fel y gŵyr John Griffiths, mae'r canllawiau statudol yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r awdurdod eu dilyn—nid yw'n rhywbeth y gall roi sylw dyladwy iddynt.

15:30

Nid ydym yn cytuno â'r newid yn yr etholfraint, ond mae Mark Isherwood eisoes wedi siarad am y rheini, ac felly byddaf yn canolbwyntio yn fy sylwadau ar feysydd lle rwy'n credu ein bod yn cytuno â'r Llywodraeth, mewn egwyddor o leiaf. Y bleidlais sengl drosglwyddadwy—hoffem weld diwygio etholiadol, ac rwy'n meddwl bod gan y bleidlais sengl drosglwyddadwy lawer o atyniadau, ac mewn gwirionedd rwy'n credu ei bod yn eithaf cyffrous bod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i wahanol awdurdodau lleol fynd eu ffordd eu hunain a gwneud eu dewisiadau eu hunain. Rydym yn cymeradwyo datganoli lleol, a hoffem eich cefnogi yn hyn o beth, er ei bod hi'n amlwg bod risgiau ac ansicrwydd yn perthyn i hyn, a chawn weld sut y bydd yn datblygu. Tybed i ba raddau y mae'r Gweinidog yn disgwyl i gynghorau lleol ddewis hyn. Beth yw ei disgwyliadau? Os yw cynghorau'n dewis y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a yw'r drefn yn debygol o barhau felly? Os oes gennych chi bobl wedi'u hethol o dan y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a fydd hi'n anoddach gwrthdroi'r broses honno nag ydyw yn y lle cyntaf? Yn amlwg, fydd hi ddim yn gwybod yn bendant beth sy'n mynd i ddigwydd, ond rwy'n credu bod rhesymau y mae'n rhaid i ni feddwl amdanynt ynghylch beth fydd y raddfa. Mae gennym ni Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru. A fydd gwaith ychwanegol i'r corff hwnnw, os yw cynghorau yn troi at y bleidlais sengl drosglwyddadwy, i ail-lunio ffiniau wardiau i fod yn fwy priodol ar gyfer y system etholiadol honno, neu a allai fod lle i rai cynghorau gadw at fapiau wardiau presennol, yn enwedig lle mae mwy o wardiau sydd â thri neu bedwar aelod? A gaf i ofyn hefyd beth fydd yn digwydd o ran addysg leol i helpu pobl i ddeall y gallai'r system fod yn wahanol yn eu hardal nhw, a yw plant 16 oed yn gallu pleidleisio mewn ysgolion, neu'n fwy cyffredinol i'r etholwyr, y gallai hyn fod yn ffordd newydd o bleidleisio o'i chymharu â San Steffan a'r Cynulliad?

I symud ymlaen, rwy'n croesawu ymestyn y pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol. Mae'r Gweinidog yn dweud nad oedd hi eisiau efelychu Lloegr, ond onid ai dyma beth rydych chi'n ei wneud yn y maes hwn, dim ond wyth mlynedd yn hwyr? Pan ddaeth y Ddeddf Lleoliaeth i rym yn 2011 yn y DU, ac roedd rhai agweddau'n ymestyn i Gymru yn ogystal ag i Loegr—er enghraifft, credaf fod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y polisi cyflogau uwch—pam na wnaethom ni ar y pryd geisio cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ehangu'r pŵer cymhwysedd cyffredinol drwy gyfrwng San Steffan? Ac, os felly, pam nad ydym ni wedi ceisio cyfrwng arall ar unrhyw adeg yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf i gyflwyno'r diwygiad hwnnw, sy'n gadarnhaol iawn, rwy'n credu?

A gaf i hefyd ofyn am y cydbwyllgorau corfforaethol? A wyf yn gywir y bydd hyn yn ddewis ychwanegol i gynghorau lleol? Mae gwahanol gynghorau a chyrff eraill wedi dod o hyd i ffyrdd da o weithio, yn rhanbarthol neu ar y cyd yn lleol, a phan yw'r ffyrdd hynny'n gweithio ac wedi bod yn llwyddiannus, a oes gwir angen eu newid? Rwy'n gwybod y bydd y cyrff corfforaethol hyn yn endidau cyfreithiol eu hunain ac yn gallu cyflogi staff, er enghraifft, ac maen nhw'n sicr yn ychwanegiad cadarnhaol i'w cael, ond ai dewis fydd hynny i gynghorau, yn hytrach na rhywbeth a gaiff ei orfodi arnyn nhw?

Ni wnaf ailadrodd y materion yn ymwneud â phleidleisio chwaith. O ran y mater ynghylch pan fo awdurdod lleol, prif gyngor, yn penderfynu y dylid newid y system bleidleisio, ac y byddai pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweddu'n well i angen y bobl leol, mae angen iddo gytuno ar y newid gan fwyafrif o ddwy ran o dair o seddau'r cyngor, ac mae'n rhaid i'r system newydd aros yn ei lle am o leiaf ddau gylch etholiadol, am y rhesymau a amlinellwyd gan Mark Reckless. Ac yna byddai'n rhaid mynd drwy'r broses eto i'w newid yn ôl, pe bai'n dymuno. Felly, mae system ar waith sy'n caniatáu iddo ei newid a'i newid yn ôl. Ac mae dau gylch etholiadol llawn—felly 10 mlynedd, i bob pwrpas—rhyngddynt. A'r rheswm am hynny yw nad ydym ni eisiau gweld newid a newid yn ôl, ac rydym ni hefyd eisiau cael—os caiff y system ei rhoi ar waith, rydym ni eisiau gadael iddi ymsefydlu a gwneud yn siŵr bod ganddi ail gylch etholiadol. Er mwyn gwneud hynny, byddai'n rhaid i'r awdurdod lleol weithio gyda'r comisiwn ffiniau lleol er mwyn newid ei holl wardiau i wardiau aml-aelod. Felly, mae proses wedi'i nodi yn y Bil er mwyn hwyluso hynny a gweithio gyda'r comisiwn. Ac ydy, mae hynny'n waith i'r comisiwn, ond rydym ni yn y broses o ail-wneud y system ffiniau gyfan ar hyn o bryd, ac, erbyn i'r Cynulliad hwn ddod i ben, byddant wedi cwblhau'r broses honno ac yn barod i ddechrau'r broses nesaf beth bynnag.

O ran y pŵer cymhwysedd cyffredinol, y rheswm yr ydym ni'n ei wneud nawr yw oherwydd ei fod yn rhan o ad-drefnu'r ffordd yr ydym ni'n rheoli perfformiad awdurdodau lleol yma yng Nghymru. Felly, caniateir iddyn nhw gael y pŵer cymhwysedd cyffredinol—mae'n rhywbeth yr wyf wedi credu ynddo'n bersonol ers amser hir iawn—ond mae'n eistedd law yn llaw â'r dull hunan-wella o adolygu gan gymheiriaid, a chredaf fod angen y ddau i awdurdodau lleol allu manteisio i'r eithaf arni, a dyna'r rheswm pam na wnaethom ni hynny ar y pryd, oherwydd nad oedd gennym ni'r system honno ar waith.

Ac, o ran y cydbwyllgorau corfforaethol, mae'n rhaid iddyn nhw gael y cyd-bwyllgorau corfforaethol ar gyfer y pedwar maes gwaith a amlinellir yn y Bil, a amlinellais yn fy natganiad, ac yna gall awdurdod lleol neu awdurdodau lleol yn yr ardal ychwanegu unrhyw beth arall ato y dymunant ei wneud. Bydd rhai ohonynt yn dewis newid eu trefniadau, oherwydd bydd yn gweddu'n well iddynt. Bydd eraill yn dewis glynu wrth y trefniadau sydd ganddynt ar waith, ac nid ydym ni'n gosod unrhyw fath o un ateb i bopeth yng Nghymru. Felly, bydd yn rhaid i'r pwyllgorau fodoli ar gyfer y pedwar maes gorfodol yn y Bil; fel arall, caiff yr awdurdod lleol ei rymuso'n gyfan gwbl i ychwanegu neu beidio, fel y gwêl yn dda.  

15:35

A gaf i fynegi fy siom na chawn ni'r hawl i dai addas wedi ei hysgrifennu yng nghyfraith Cymru? Rwy'n credu mai dyma'r cyfle i wneud hynny yn y Cynulliad hwn. Rwy'n credu bod yr achos cyferbyniol, nad oes gan bobl hawl i dai addas, yn eithriadol o warthus, ac mae'n debyg nad ydym ni erioed wedi derbyn hynny fel norm cymdeithasol ers o leiaf yr ail ryfel byd. Felly, byddai rhoi hawl a allai gael ei gweithredu gan bobl sy'n teimlo nad ydynt wedi cael y sylw y dylent fod wedi ei gael gan y gwahanol gyrff statudol sy'n gyfrifol am ddarparu hawl o'r fath yn hwb pendant, a byddai hefyd yn codi'r flaenoriaeth o dai i bawb. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bryd, ac rwy'n credu ei bod hi'n siomedig iawn eich bod yn cuddio y tu ôl i ryw fath o sylw dyledus yn y canllawiau. Dyma'r amser i roi hyn ar wyneb y Bil. Ac, wrth gwrs, mae'r llysoedd yn dehongli hynny o ran yr hyn sydd ar gael, yr hyn y gallwn ni ei wneud, ond y pwynt sylfaenol yw y dylai pawb gael eu cartrefu, ac rwy'n credu y dylai hynny fod yn ein cyfraith sylfaenol ni. 

Yn ail, o ran hawl carcharorion i bleidleisio, mae hwn yn faes pwysig iawn lle mae gan gyfraith ryngwladol lawer i'w ddweud, sy'n unigryw iawn o ran hyd y dedfrydau y mae carcharorion yn eu cael—mae amrywiaeth enfawr—ac mae yna broblem gyffredinol ynghylch pobl iau hefyd, o gofio y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael yr hawl i bleidleisio. Felly, rwy'n credu bod angen archwilio'r maes hwn. Ond rwyf yn ei chael hi'n rhwystredig iawn, Dirprwy Lywydd, fod y Llywodraeth unwaith eto yn cyflwyno Bil heb adran wirioneddol bwysig o'r Bil hwnnw ar gael ar gyfer y broses ddeddfwriaethol gyfan. Nawr, mae ein proses ddeddfwriaethol yn cymryd, ar bob cyfnod, wythnosau. Mae'r broses gyfan yn cymryd misoedd. Ac eto rydych chi'n dweud wrthym ni nad oes gennych chi'r cynigion yn barod o hyd, ond mae'n rhaid i chi gyflwyno gweddill y Bil am wahanol resymau eraill. Ac, mewn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor llywodraeth leol a thai, fe ddywedoch chi eich bod chi'n dal i weithio drwy'r manylion a'r cymhlethdodau, ond byddwch yn ceisio ei roi iddo rywbryd ar ôl Cyfnod 1—wyddoch chi, ni ddylem ni ddeddfu fel hyn. Mae'n wael iawn, mewn gwirionedd.  

Wel, o ran yr hawl i dai addas, clywaf yr hyn y mae David Melding yn ei ddweud, ac rwy'n cytuno i raddau helaeth ag ef. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn rhoi sylw i'r hawl i gael tai addas. Bydd yn gwybod i'r Ceidwadwyr wrthod yn llwyr roi hynny yn Neddf Tai 2004 ar lefel y Deyrnas Unedig. Pe baent wedi gwneud hynny, ni fyddem yn cael y sgwrs hon. Felly, nid wyf yn mynd i gymryd unrhyw wersi am hynny o feinciau'r Ceidwadwyr. Byddwn yn rhoi'r sylw dyledus hwnnw yn y canllawiau statudol a bydd yn rhaid i awdurdodau lleol lynu wrtho, dim ond er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth.

O ran carcharorion yn pleidleisio, rwy'n cytuno ag ef. Rydym ni eisiau sicrhau bod y rhan o'r Bil hwn sy'n ymwneud ag etholiadau yn gweld golau dydd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i sicrhau bod y newidiadau y maen nhw eu heisiau yn eu lle. Ond roeddwn i hefyd eisiau i'r pwyllgor wneud ei waith pwysig yn edrych ar y mater hwn, ac fe'i gwnes hi'n glir iawn yn y pwyllgor fy mod yn aros am adroddiad y pwyllgor i fwrw ymlaen ag ef. Rydym ni wedi derbyn yr argymhellion, a byddaf yn gweithio gyda'r pwyllgor i gyflwyno hynny mor gyflym ag y gallwn ni.

15:40

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu'r datganiad? A gaf i ddweud hefyd mai'r hyn sydd ei angen fwyaf ar lywodraeth leol yw setliad ariannol sy'n eich galluogi i ddiwallu anghenion y cymunedau a wasanaethir? A beth bynnag sydd gan y Bil—ac mae llawer o bethau da iawn yn y Bil—y setliad ariannol yw'r gwir sbardun i lywodraeth leol.

Tri datganiad cadarnhaol iawn am y Bil: mae'n ddigon posib y bydd rhoi'r bleidlais mewn etholiadau llywodraeth leol i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn sicrhau bod pob un ohonom ni wleidyddion yn rhoi mwy o sylw i farn pobl ifanc 16 a 17 oed nag a wnaethom ni hyd yma—ac nid wyf yn eithrio fy hun rhag hynny, nid wyf yn eithrio aelodau eraill yma chwaith, ac yn sicr nid awdurdodau lleol.

Yn ail, galluogi ychwanegu pobl i'r gofrestr etholiadol heb gais os yw'r swyddog cofrestru etholiadol yn fodlon bod ganddo wybodaeth ddibynadwy fod yr unigolyn yn gymwys i gofrestru: mae a wnelo hyn nid dim ond â'ch gallu i bleidleisio, ond â'r holl bethau eraill sy'n ymwneud â bod ar y gofrestr etholiadol.

Caniatáu i brif weithwyr a swyddogion cynghorau sy'n dymuno sefyll mewn etholiad ymddiswyddo ar ôl iddynt gael eu hethol, yn hytrach nag wrth ddatgan ymgeisyddiaeth: rwy'n credu bod hynny'n gam mawr ymlaen. Ac mae'r ddau ohonom ni'n adnabod pobl sydd wedi rhoi'r gorau i'w swyddi ac yna sydd wedi methu cael eu hethol wedyn. Ond pryd ddylid ymddiswyddo—pan ddaw'r datganiad ei fod wedi ei ethol, neu cyn iddo lofnodi'r datganiad fel aelod etholedig? Gall fod pedwar neu bum diwrnod rhwng y ddau ddyddiad hynny.

Mae gennyf bryderon am y cylch pum mlynedd. Fe wnaethom ni gyflwyno cylch pum mlynedd ar gyfer y Cynulliad, ond gan edrych ar gylch pum mlynedd ar gyfer llywodraeth leol—. Ac roedd hynny i gyd-fynd â Senedd San Steffan, lle byddai tymor sefydlog, pum mlynedd—wel, aeth hynny'n dda, onid do? [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod pum mlynedd yn rhy hir. Rwy'n credu bod pedair blynedd yn iawn. Rwy'n credu bod tair blynedd yn well na phump, mae'n debyg, ond rwy'n credu bod pum mlynedd yn ymestyn elastig democratiaeth yn rhy bell, ac rwy'n gobeithio'n wir y byddem yn troi etholiadau'r Cynulliad, nad ydych chi'n gyfrifol amdanynt, ac etholiadau awdurdodau lleol, ill dau yn ôl i gylch pedair blynedd. Oherwydd nid oes angen i ni boeni am San Steffan; ymddengys eu bod yn gweithredu ar gylch dwy flynedd ar hyn o bryd. [Chwerthin.]

Rwy'n croesawu'r ddarpariaeth arfaethedig i'r prif gynghorau a'r cynghorau cymuned cymwys gael pŵer cymhwysedd cyffredinol. Yr unig ofid oedd gennyf, ac rwyf wedi ymgyrchu dros y pŵer cymhwysedd cyffredinol drwy gydol fy mywyd gwleidyddol, yw bod rhai o gynghorau Lloegr yn ne Lloegr wedi troi'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn allu i brynu stadau a chanolfannau siopa drwy Brydain benbaladr. Ac rwy'n credu y gallai fod angen rhywfaint o reolaeth dros y lefel gyffredinol honno o gymhwysedd—bod yn gymwys i wneud unrhyw beth yn eich ardal eich hun, nid yn gymwys i fynd a benthyg £30 miliwn i fynd a phrynu canolfan siopa yn rhywle. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom ni sydd wedi dadlau dros bŵer cymhwysedd cyffredinol yn y gorffennol wedi meddwl erioed mai ar gyfer hynny y byddai pobl yn defnyddio eu pŵer cymhwysedd cyffredinol.

A oes cynnig i'w gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol gael gwared â'r tri swyddog gwarchodedig—y prif swyddogion cyllid, y swyddog monitro a phennaeth y gwasanaeth cyflogedig? Pe cawn i ei alw'n broblem Caerffili—. Oherwydd bod yr anhawster, neu'r amhosibilrwydd bron, o gael y tair swydd hynny wedi'u diogelu yn golygu, oni wneir rhywbeth, y byddai unrhyw awdurdod lleol arall a oedd â phrif weithredwr nad oedd yn barod i ymddiswyddo yn yr un sefyllfa'n union â Chaerffili ac fe allai yn wir wynebu mwy o broblemau yn y dyfodol.

O ran ymddygiad a rhoi arweinwyr grŵp yn gyfrifol am ymddygiad—syniad gwych. Yr unig broblem yw, fel y gwyddoch chi a minnau, mae'r bobl sy'n ymddwyn waethaf yn tueddu i beidio â bod yn perthyn i grwpiau. Maen nhw'n tueddu i fod yn unigolion, annibynwyr o wahanol liwiau. Nhw yw'r rhai sy'n tueddu i ymddwyn waethaf, yn fy mhrofiad i o lywodraeth leol ac, os meiddiaf ddweud, mannau eraill. Ac, mewn gwirionedd, a oes gennym ni gyfle i allu gweithredu rhywfaint yn erbyn y rheini, oherwydd os nad oes ganddyn nhw arweinydd plaid, yna wrth bwy ydych chi'n cwyno?

Ac, yn olaf, o ran systemau etholiadol, rwy'n credu bod honno'n ddadl gyfan yn ei rhinwedd ei hun. Os gallaf ddweud fy mod yn anghytuno'n sylfaenol â phob un gair y dywedodd Dai Lloyd amdano. Mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gwastraffu mwy o bleidleisiau nag unrhyw system arall. Canlyniad mawr etholiad mewn cyngor yn yr Alban: tair sedd—y nifer mwyaf o bleidleisiau oedd 1,700, yn ail roedd 1,500, cafodd y trydydd person ei ethol gyda 354 o bleidleisiau, oherwydd bod gan y ddwy blaid fwyaf ofn rhoi dau ymgeisydd rhag ofn na châi neb ei ethol, a'r llall—. Felly, mae gwir angen inni ddechrau trafod hyn. A chredaf—. A hefyd—wel, yn olaf, fe ddywedaf y byddwn yn hoffi petai Dai Lloyd yn iawn wrth ddweud bod pobl yn pleidleisio mewn blociau pleidiol, oherwydd fy mhrofiad i yn Nhreforys yw eu bod yn tueddu i ddewis a dethol pan oedden nhw'n dewis pobl i'w cynrychioli a, diolch byth, y rhan fwyaf o'r amser fe wnaethon nhw fy newis i. 

15:45

Wel, nid wyf yn siŵr sut i ddilyn y sylw olaf hwnnw. Gwnaeth Mike Hedges gyfres o bwyntiau sy'n adlewyrchu ei ddiddordeb gydol oes mewn llywodraeth leol, a chytunaf i raddau helaeth â'r pwyntiau a wnaeth ef.

Dim ond i ddewis rhai o'r pethau, mater y tri swyddog gwarchodedig, rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o'r trefniadau ar gyfer gwarchod uwch-swyddogion sydd â rolau penodol yn yr awdurdod. Bydd ef yn gwybod ein bod yn gwneud hynny o ganlyniad i'r sefyllfa a ddigwyddodd yng Nghaerffili. Felly, byddwn yn edrych ar yr adolygiad unwaith y bydd yn adrodd ym mis Ionawr ac yn ystyried hynny, rwy'n siŵr. Fy marn benodol i yw bod angen cael cydbwysedd rhwng swyddogion na ddylen nhw fod yn destun unrhyw fath o ddiswyddo mympwyol gan eu bod yn rhoi cyngor anodd ei glywed i aelodau etholedig, a rhywun sy'n cadw ei swydd am saith mlynedd, neu chwech, neu bump, neu dair, neu faint bynnag, tra bydd ganddo anghydfod â'r Cyngor. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid cael gwell cydbwysedd, ond arhoswn am ganlyniad hynny.

O ran pŵer cymhwysedd cyffredinol, mae rhai awdurdodau yn Lloegr wedi mynd â gweithgareddau masnachol i lefel gwbl newydd. Bydd y gwahanol bwerau, systemau rheoli perfformiad, ac ati, sy'n gysylltiedig â'r Bil hwn hefyd yn cynnwys cyfresi o ganllawiau cysylltiedig, a bydd un o'r setiau o ganllawiau yn ymwneud â'r benthyca darbodus a'r darpariaethau ariannol y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu dilyn. Rydym wrthi'n ymgynghori ar hyn ar hyn o bryd.

Wrth inni fynd drwy'r Pwyllgor, byddwn yn sicrhau bod y Pwyllgor yn cael golwg lawn ar ddrafftiau'r gwahanol reoliadau a chanllawiau sy'n cyd-fynd ag ef, er mwyn cael mewnbwn llawn gan y Pwyllgor wrth inni fwrw ymlaen â hynny. Ac rydym yn datblygu'r canllawiau a'r rheoliadau statudol sy'n cyd-fynd â'r Bil hwn, ac am y tro cyntaf mae hynny'n cael ei gynhyrchu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Felly, maen nhw'n cael eu cyd-gynhyrchu gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, er mwyn iddyn nhw fod yn addas at y diben wrth i ni eu cynhyrchu. Felly, rwy'n derbyn ei bwynt, ond rwy'n credu bod yna ffyrdd o sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn mynd yn rhy bell gyda defnyddio pŵer cymhwysedd cyffredinol yn y modd hwnnw.

O ran y cylch, rydym yn cyfateb â chylch y Senedd bresennol. Rwy'n credu bod angen inni wneud hynny oherwydd fel arall rydym yn symud yn barhaus. Rwyf newydd wneud y Gorchymyn i symud yr etholiadau llywodraeth leol am flwyddyn oherwydd fel arall maen nhw'n gwrthdaro â'n rhai ni, felly mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Os yw'r cylch yn newid, yna mae'n amlwg y bydd yn rhaid inni ailystyried y cylch, ond nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr eu bod yn gwrthdaro yn y modd hwnnw.

Cytunaf i yn llwyr ag ef ynglŷn â'r setliad llywodraeth leol. Bydd yn gwybod cystal â minnau ein bod ar hyn o bryd yn nwylo Llywodraeth Geidwadol sydd wedi'i hysgogi gan gyni ac nad yw'n cymryd fawr o gyfrifoldeb, mae'n ymddangos i mi, am ddinistrio gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU yn gyfan gwbl. Rydym wedi gwneud yr hyn a allwn ni i amddiffyn llywodraeth leol yma yng Nghymru, ond hoffwn i hefyd weld diweddglo i'r gyfundrefn gyni.

O ran yr ymddygiadau ac ati, yn amlwg mae Aelodau unigol yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r cod ymddygiad. Mae hyn yn ddyletswydd ychwanegol ar arweinwyr grwpiau, fel bod yr arweinydd grŵp yn gweithredu fel esiampl ac yn gorfodi set benodol o ymddygiadau. Ond nid wyf i'n anghytuno â'i sylwadau am bobl nad ydyn nhw'n perthyn i unrhyw grŵp, ac maen nhw wrth gwrs yn ddarostyngedig i'r cod ymddygiad, fel y maen nhw ar bob lefel o Lywodraeth.

Ac yna roedd y peth olaf yn ymwneud â'r newid yn y systemau pleidleisio. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw caniatáu i'r awdurdod lleol ddewis drosto'i hun a yw'n gwneud hynny ai peidio. Felly, os yw'r boblogaeth leol neu'r awdurdod lleol ei hun yn awyddus i wneud hynny, yna byddwn ni'n hwyluso hynny. Os na, yna ni fyddwn yn ei hwyluso. Mae gan bob system bleidleisio ei chyfnodau da a drwg. Byddai'n rhaid inni gael awr a hanner arall, Dirprwy Lywydd, i gael dadl ar hynny, felly, nid wyf yn bwriadu gwneud hynny nawr.  

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Tata Steel

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar Tata Steel. Galwaf ar y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, cyhoeddais i ddatganiad ysgrifenedig yn dilyn datganiad i'r wasg gan Tata Steel yn amlinellu manylion eu cynigion ar gyfer trawsnewid busnes Ewrop. Heddiw, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cyhoeddiad hwn, a fydd, gwn i hynny, yn peri pryder i lawer ohonoch chi a'ch etholwyr.

Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mai eleni na fyddai'r fenter arfaethedig ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp yn mynd yn ei blaen, cyhoeddodd Tata ei fod yn gweithio gydag ymgynghorwyr ailstrwythuro i ddatblygu cynllun trawsnewid newydd. Datganiad ddoe gan Tata Steel yw'r cyhoeddiad cyntaf y mae'r cwmni wedi'i wneud ynghylch canlyniad ei gynllunio ar gyfer gweddnewid.

Dywedodd y datganiad fod angen y rhaglen er mwyn gwella perfformiad ariannol y cwmni ar frys a sicrhau bod busnes Ewrop yn dod yn hunangynhaliol ac yn bositif yn ariannol, gan alluogi buddsoddiad i ddiogelu ei ddyfodol hirdymor.

Mae'r datganiad yn nodi'r pedwar maes y mae Tata yn bwriadu canolbwyntio arnynt i wella perfformiad ariannol. Mae'r rhain yn cynnwys gwell gwerthiant a chymysgedd cynnyrch, cynyddu effeithlonrwydd drwy optimeiddio prosesau cynhyrchu, costau caffael is a gostwng costau cyflogaeth. Fel rhan o'r ffocws ar ostwng costau cyflogaeth, mae Tata Steel wedi cyhoeddi ei fod yn amcangyfrif lleihad yn nifer y gweithwyr o hyd at 3,000 ledled ei weithrediadau yn Ewrop. Disgwylir y bydd tua dwy ran o dair o'r swyddi hyn yn cael eu lleoli mewn swyddfeydd.

Nid yw'r datganiad yn rhoi unrhyw wybodaeth am ddosbarthiad daearyddol colli swyddi nac amserlenni ar gyfer ei weithredu. Fodd bynnag, rwyf wedi siarad â'r cwmni heddiw a dywedwyd wrthyf y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn ystod y misoedd nesaf i nodi, fesul swyddogaeth, pa swyddi fydd yn cael eu colli. Yna, bydd asesiad yn cael ei wneud o'r effaith fesul safle, ac yn cael ei weithredu erbyn Mawrth 2021. Bydd trafodaethau rheolaidd yn parhau i sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn cynnig cefnogaeth lawn i bobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol ledled y chwe safle yng Nghymru ac sy'n cael eu cyflogi'n anuniongyrchol o fewn y gadwyn gyflenwi.

O ran colli swyddi yng Nghymru, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw, ac mae ein rhaglen ReAct yn barod i roi cymorth i weithwyr ledled safleoedd Tata Steel Cymru, gan gynnwys cymorth cydgysylltiedig gan bartneriaid lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda'r cwmni a'r undebau llafur i sicrhau dyfodol hirdymor i'r diwydiant dur yng Nghymru.  

Mae'r datganiad yn dilyn y newyddion siomedig ar 2 Medi ynghylch bwriad Tata Steel i gau safle Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd. Bu'r Prif Weinidog a minnau yn ymweld â safle Orb ar 13 Tachwedd i gyfarfod âg undeb y Gymuned, sydd wedi gweithio gydag ymgynghorwyr Syndex i lunio adroddiad yn amlinellu dewis arall yn lle cau Orb. Yn dilyn yr ymweliad hwn, siaradais i yn uniongyrchol â Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe, a soniais am bwysigrwydd caniatáu digon o amser i ystyried cynnig y Gymuned ac, yn wir, unrhyw gynigion eraill a ddaw gerbron a allai gynnig dyfodol i'r safle. Byddaf i'n parhau i bwyso ar y cwmni ar yr union bwynt hwn.

Mae'r sector dur yn parhau i wynebu amrywiaeth enfawr o heriau, yn fyd-eang ac yn ddomestig, gan gynnwys gormod o gapasiti byd-eang, prisiau carbon a deunyddiau crai cynyddol, gwerthiant yn arafu, cynnydd mewn mewnforion, prisiau ynni uchel yn y DU a dirywiad yn y galw gan sectorau'r gadwyn gyflenwi megis y sector modurol.

Yn wyneb yr heriau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth sylweddol i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yn benodol ar gyfer Tata, yn 2016 darparwyd £11 miliwn mewn cyllid sgiliau, o gyfanswm o £12 miliwn. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi cynnig £8 miliwn o fuddsoddiad i gefnogi cynlluniau gweithfeydd pŵer Port Talbot a £660,000 ar gyfer ymchwilio a datblygu cynhyrchion newydd.

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi cefnogi'r diwydiant dur drwy ddarparu £2 miliwn o gyllid ar gyfer sefydlu'r sefydliad dur a metelau ym Mhrifysgol Abertawe; rydym wedi cyhoeddi hysbysiad cyngor caffael sy'n cefnogi'r broses o gyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yng Nghymru; ac, wrth gwrs, ni oedd y cyntaf i lofnodi siarter dur y DU. Rydym hefyd wedi darparu £6.8 miliwn o gyllid i Celsa Steel ar gyfer prosiectau gwella'r amgylchedd yn safleoedd y cwmni yma yng Nghaerdydd.

Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei chefnogaeth gadarn i'r diwydiant dur a'i bod wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r sector. Mae'n bryd yn awr i Lywodraeth y DU wneud yr un peth a chwarae ei rhan i gefnogi'r diwydiant dur, sy'n sector strategol hanfodol i'r DU gyfan, wedi'i leoli wrth wraidd llawer o gadwyni cyflenwi gan gynnwys y rhai adeiladu a modurol.

Rwy'n dal i alw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar feysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli, megis ynni, i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth enfawr ym mhrisiau trydan rhwng cynhyrchwyr dur y DU a'u cymheiriaid yn Ewrop, a'r effaith andwyol a gaiff hyn ar gystadleurwydd.

Rwyf hefyd yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen ar frys â chytundeb sector neu rywbeth cyfatebol ar gyfer dur, er mwyn darparu'r sylfaen ar gyfer diwydiant cynaliadwy. Mae'r sector yn galw am sicrwydd ynghylch Brexit, a'r prif beth y mae'n gofyn amdano gan y Llywodraeth yw mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE. Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a minnau'n parhau i godi materion masnach sy'n ymwneud â Brexit gyda Llywodraeth y DU ar bob cyfle.

Dirprwy Lywydd, ysgrifennais at Andrea Leadsom, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar 8 Hydref, yn gofyn iddi alw cyfarfod o Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r diwydiant dur, yn debyg i Gyngor Dur y DU. Roeddwn i'n falch pan gytunodd yr Ysgrifennydd Gwladol i alw cyfarfod bord gron ar ddur y DU ar 24 Hydref, ond roeddwn i'n siomedig ac yn rhwystredig dros ben fod y cyfarfod wedi'i ganslo gyda llai na 24 awr i fynd.

Mae'r cyhoeddiad ddoe yn brawf pellach bod y diwydiant dur yng Nghymru a ledled y DU yn parhau i wynebu amgylchedd gweithredu hynod heriol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU bellach drin y sefyllfa sy'n wynebu'r diwydiant dur gyda'r brys a'r pwys y mae'n ei haeddu, drwy ailgynnull y ford gron ar ddur ar y cyfle cyntaf a chymryd camau pendant i ymdrin â rhai o'r materion sydd yn wynebu ein cynhyrchwyr dur.

15:55

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig a'i ddatganiad heddiw? Ac, wrth gwrs, byddwn i'n cytuno ag ef y bydd y cyhoeddiad hwn ddoe yn peri pryder mawr i weithlu Tata Steel ym Mhort Talbot a lleoliadau eraill ledled Cymru.

Rwy'n falch eich bod chi wedi cael trafodaeth gychwynnol heddiw, ac yn y drafodaeth honno, a oedd unrhyw arwydd o sut y gallai'r cyhoeddiad hwn effeithio ar y gweithwyr medrus yn safleoedd Cymru? Fe sonioch mai cwpl o fisoedd fyddai'r amserlen ar gyfer y dadansoddiad fesul swyddogaeth. Dyna gyfeiriwyd ato yn eich sgwrs y bore yma. A gawsoch chi unrhyw syniad o bryd y byddai'n bosibl disgwyl diweddariad, ac a wnaed unrhyw ymrwymiadau eraill ichi yn ystod y sgwrs honno? A pha drafodaethau a gawsoch chi yn dylanwadu ar y broses hon, os mynnwch chi, er budd safleoedd Cymru, wrth gwrs, yn eich sgwrs y bore yma?  

Bu cryn dipyn o gonsensws ar draws y pleidiau i gefnogi ein diwydiant dur ni hyd yn hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad ydym eisiau colli hyn yng ngwres etholiad cyffredinol.

Roeddwn i hefyd yn falch, fel chithau, fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno i alw cyfarfod bwrdd crwn dur y DU ar 24 Hydref. Fe wnaethoch sôn am eich siom a'ch rhwystredigaeth fod y cyfarfod hwnnw wedi'i ganslo ar y funud olaf, a gwn hefyd fod cyd-Aelodau yn Llywodraeth y DU yr un mor rhwystredig â'r ffaith bod UK Steel wedi canslo'r cyfarfod hwn ar y funud olaf, er iddo gael ei annog gan Lywodraeth y DU i barhau â'r cyfarfod hwn. Tybed a wnaiff y Gweinidog felly egluro a oes cryn dipyn o ymgysylltu wedi bod rhwng ei adran ef a swyddogion Llywodraeth y DU ar ddyfodol diwydiant dur y Deyrnas Unedig.

Ac wrth droi efallai at ambell i bwynt lle y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi, mae Tata Steel wedi dweud ei fod yn ceisio sicrhau'r sylfaen ar gyfer buddsoddiadau sydd eu hangen i gyflymu arloesedd a llwybr y cwmni tuag at wneud dur carbon-niwtral. Tybed beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r uchelgais hwn. Pa fesurau yr ydych chi yn eu hystyried i gynorthwyo gyda lleihau costau gweithredu a biwrocratiaeth, megis rhyddhad ardrethi busnes ar ôl Brexit er mwyn lleddfu'r pwysau ar y diwydiant, a sicrhau bod gan Tata Steel fusnes cystadleuol o ran adeiladwaith yma yng Nghymru? A oedd hyn yn rhywbeth yr oeddech chi wedi gallu ei drafod y bore yma yn eich cyfarfod? Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog nodi hefyd pa brosiectau seilwaith penodol gan Lywodraeth Cymru fydd yn caffael dur Cymreig cartref, a fydd, wrth gwrs, o fudd i'r gadwyn gyflenwi ehangach yma yng Nghymru?

16:00

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad a'i gwestiynau? Yn gyntaf oll, rwy'n cytuno'n llwyr y dylai cefnogaeth drawsbleidiol ar y mater pwysig iawn hwn gael ei gynnal yn ystod cyfnod yr etholiad presennol? Byddaf i'n dod at lefel yr ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn munud, ond gallaf ddweud bod y drafodaeth a gynhaliwyd y bore yma gyda Tata yn adeiladol iawn. Llwyddais i ganfod mwy o fanylion, ond mae arnaf i ofn na allaf roi asesiad penodol fesul safle o effaith y cyhoeddiad, oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, bydd y gwaith a gaiff ei wneud yn y tri mis nesaf yn seiliedig ar swyddogaethau yn hytrach na safleoedd. Cyn gynted ag y bydd y data ynghylch y swyddogaethau ar gael, gall Tata wedyn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y mae hyn yn effeithio ar bob un o'r safleoedd, ac rwy'n disgwyl i hynny fod tua mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Ac fel y dywedais, Dirprwy Lywydd, o fis Chwefror y flwyddyn nesaf hyd at fis Mawrth 2021, bydd y cyfnod gweithredu ar gyfer y rhaglen drawsnewid hon yn cael ei roi ar waith.

Rwy'n credu ei bod yn briodol dweud nawr bod Tata hefyd wedi rhoi sicrwydd imi y bydd yn anrhydeddu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ag undebau llafur ac y byddan nhw, o ganlyniad, yn ceisio osgoi diswyddiadau gorfodol. Nawr, rydym ni'n gwybod, o'r ffaith y bydd y rhan fwyaf o'r swyddi wedi'u lleoli mewn swyddfeydd, o ran y cyhoeddiad a wnaed eisoes ynglŷn ag Orb, y gallai'r swyddi sy'n goler las yn Orb dal i fod—neu y gallai'r bobl sy'n gweithio mewn swyddi coler las yn Orb dal i gael eu trosglwyddo i gyfleoedd eraill o fewn y teulu Tata ar hyd coridor yr M4. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion barhau i drafod hyn a'r rhaglen drawsnewid yn ehangach gyda Tata yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

O ran y drafodaeth bwrdd crwn a oedd fod digwydd fis diwethaf, er ei bod yn wir fod UK Steel wedi canslo'r cyfarfod, gwnaed hynny allan o rwystredigaeth, rhwystredigaeth na allai'r Ysgrifennydd Gwladol, yn anffodus, fod yn bresennol ar gyfer y cyfarfod llawn, ac felly mae gennyf i bob cydymdeimlad â UK Steel. Mae'n gwbl hanfodol ar yr adeg eithriadol o heriol hon bod pob Llywodraeth yn rhoi ei phwysau y tu ôl i gyd-ymdrech i ymdrin â'r heriau sy'n wynebu'r sector. Wedi dweud hynny, Dirprwy Lywydd, cefais gyfarfod adeiladol iawn fy hun, ar sail ddwyochrog, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol fis yn unig yn ôl, ac awgrymais i i'r Ysgrifennydd Gwladol y byddai o fantais inni rannu, lle bo hynny'n bosibl, adnoddau dynol ein dwy Lywodraeth. Ac roeddwn i'n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno bod hwn yn syniad da ac rydym ni bellach yn bwrw ymlaen â hynny. Rwy'n meddwl am ddau reswm—un yw dyfodol dur, a'r llall yw dyfodol y sector modurol—mae angen i'n llywodraethau ni weithio'n agos iawn gyda'i gilydd a disgwyliaf i'n swyddogion wneud hynny.

Fe wnaeth Tata siarad yn ei ddatganiad am y dyfodol carbon-niwtral ar gyfer cynhyrchu dur ac roedd Russell George yn iawn i ofyn pa fath o gymorth a all fod ar gael gan Lywodraeth Cymru o ran hyn. Drwy ein cynllun gweithredu economaidd, rydym bellach wedi creu'r lens newydd ar gyfer asesu ceisiadau am arian grant ac mae un o'r gofynion hynny'n ymwneud â datgarboneiddio. Yn fy marn i, os gallwn gydblethu cyfleoedd o strategaeth ddiwydiannol y DU a chynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, gallwn gefnogi ymdrech Tata i gynhyrchu dur carbon-niwtral. Ond er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd hynny o fewn strategaeth ddiwydiannol y DU, mae angen dod i gytundeb sector dur ar frys.

Ac o ran cymorth arall a all fod ar gael, dulliau eraill a all fod ar gael i ddarparu cyfleoedd i Tata a chynhyrchwyr dur eraill yng Nghymru, wel, mae'r fargen ddinesig ym Mae Abertawe yn un ffordd amlwg o gefnogi'r sector, a hefyd, fel y nododd Russell George, raglenni seilwaith mawr. Ac o ganlyniad i'r ffaith mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf i lofnodi siarter dur y DU, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint o ddur Cymru â phosib yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr. Ac o fewn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a gyhoeddwyd y mis hwn, mae yna brosiectau sylweddol a allai ddefnyddio dur sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, a disgwyliaf i Tata allu manteisio ar y pwrs cyhoeddus a'r cyfleoedd caffael sydd bellach ar gael iddo.

16:05