National Assembly for Wales

Back to Search

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/11/2019

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad
5. Cynnig i Benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro
6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd ar gyfer goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.63—Cwestiynau Llafar y Cynulliad
8. Cynnig i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
9. Cynnig i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid
10. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21
11. Cyfnod Pleidleisio
12. Dadl Fer: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Troi canolbarth Cymru yn fferm wynt fwya'r byd
13. Dadl Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)
Grŵp 1: Enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dynodi ei Aelodau (Gwelliannau 162, 127, 2, 128, 44, 147, 148, 149A, 149B, 149C, 149D, 149, 45, 150, 46, 151, 47, 152, 153A, 153B, 153C, 153, 48, 154A, 154B, 154C, 154, 49, 50, 51, 52, 155, 156, 53, 54, 81A, 81B, 81, 16, 129, 69A, 20, 55, 157, 56, 158, 57, 159, 21, 130, 22, 23, 131, 24, 26, 132, 59, 60, 58, 73A, 27, 133, 28, 134, 29, 135, 30, 136, 32, 137, 33, 138, 34, 139, 35, 140, 36, 141, 37, 142, 38, 143, 39, 144, 41, 145, 42, 146, 164A, 164B, 64, 161)
Grŵp 2: Estyn yr hawl i bersonau 16 a 17 oed bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig (Gwelliannau 102, 3, 4, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 113, 114, 115, 116, 117, 118, 119, 86, 120, 121, 122, 123, 124, 43, 125, 126, 101, 100)
Grŵp 3: Adolygu gweithrediad y Ddeddf (Gwelliannau 160, 6, 40, 164, 165, 163)
Grŵp 4: Estyn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig (Gwelliannau 5, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 17, 18, 19, 61, 62, 63, 1)
Grŵp 5: Gweinyddu etholiadau (Gwelliannau 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 87, 82, 97, 83, 84)
Grŵp 6: Anghymhwyso (Gwelliannau 88, 25, 89, 90, 91, 92, 98, 99, 73, 31, 74, 75, 76, 93, 94, 65)
Grŵp 7: Darpariaethau amrywiol a chyffredinol, gan gynnwys dod i rym (Gwelliannau 77, 95, 78, 79, 96, 80, 85)

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.

Rheoli'r Amgylchedd Naturiol ym Merthyr Tudful a Rhymni

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli'r amgylchedd naturiol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54666

Diolch. Mae ein polisi adnoddau naturiol a'n cynllun gweithredu adfer natur yn nodi ein blaenoriaethau ar lefel genedlaethol. Bydd datganiad ardal Canol De Cymru, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei gynhyrchu ar hyn o bryd, yn helpu i ganolbwyntio gweithgarwch ar lefel leol, gan adeiladu ar fentrau sydd eisoes ar y gweill ym Merthyr a'r cyffiniau.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae amgylchedd naturiol Merthyr Tudful a Rhymni, fel cymunedau eraill yng Nghymoedd de Cymru, angen y buddsoddiad parhaus hwnnw gan Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu ar y gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd prosiectau fel parc rhanbarthol y Cymoedd. Mae amgylchedd naturiol ein cymoedd hefyd yn gefnlen i atyniadau twristiaeth pwysig yn fy etholaeth, fel BikePark Wales, Rock UK, parc coedwig Garwnant, ac ardaloedd fel comin Merthyr a Gelligaer. Felly, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddatblygu'r mathau cynaliadwy hyn o atyniadau twristiaeth er budd cyffredinol yr economi leol?

Ein nod yw datgloi a manteisio i'r eithaf ar botensial yr amgylchedd naturiol a threftadaeth ddiwylliannol gysylltiedig y Cymoedd er mwyn creu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod bod fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—wedi cyhoeddi £2.4 miliwn ar gyfer prosiectau yr economi sylfaenol yng nghyllideb tasglu'r Cymoedd fis diwethaf, ac mae hynny, yn amlwg, yn cynnwys y sector twristiaeth. Fe sonioch chi am BikePark Wales, ac roeddwn eisiau dweud fy mod yn gwybod eu bod ar y ffordd i fod yn gyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer beicio mynydd, ac rwy'n croesawu'r buddsoddiad yn ei chyfleusterau yn fawr, buddsoddiad a oedd yn cynnwys £400,000 gan Croeso Cymru. Yn ogystal, mae sefydliadau fel y Cerddwyr a Cymoedd Gwyrdd wedi derbyn cyllid.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o bwysigrwydd peillwyr i'r amgylchedd naturiol a'r angen i wrthdroi'r dirywiad yn eu niferoedd. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud gan eich adran i wella'r gwaith o reoli tir yng nghefn gwlad, gan gynnwys tir fferm, i sicrhau bod pwysigrwydd peillwyr yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu yng Nghymru?

Diolch. Cytunaf yn llwyr â chi fod angen i beillwyr fod yn faes lle rydym yn parhau i ganolbwyntio—hynny yw, o fewn y cynllun gweithredu adfer natur. Ac efallai eich bod yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar drwy'r grant galluogi adnoddau naturiol a lles yng Nghymru. Ac os cofiaf yn iawn, rwy'n credu bod rhywfaint o gyllid penodol ar gael mewn perthynas â pheillwyr.

Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OAQ54646]. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Felly, cwestiynau'r llefarwyr sydd nesaf. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Weinidog, yn amlwg, cyfrifoldeb y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn bennaf. Ond rydych wedi esbonio i ni yma o'r blaen sut rydych wedi gweithio'n agos gyda hi ar ddatblygu llawer o agweddau sy'n berthnasol i'ch portffolio, ac mae'n amlwg y bydd yn effeithio'n enfawr ar eich gallu chi a'ch Llywodraeth i gyflawni eich dyheadau mewn perthynas â bioamrywiaeth, lleihau carbon, ynni adnewyddadwy, ac ati.

Hoffwn ddechrau gydag ynni adnewyddadwy, os caf. Mae 11 o feysydd blaenoriaeth ynni wedi'u dynodi ar gyfer datblygiadau gwynt ar y tir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol—y fframwaith drafft. Ond mynegwyd pryderon mawr gan lawer yn y sector, a thu hwnt, fod yr asesiad Arup a ddefnyddiwyd i ategu'r cynnig yn ddiffygiol iawn, ac na ellir defnyddio'r ardaloedd hynny, o ganlyniad, ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir. Rwyf wedi clywed bod Arup wedi gosod cyfyngiadau amhriodol a byfferau beichus o amgylch dynodiadau, ac maent wedi methu cynnwys pellteroedd gwahanu oddi wrth eiddo preswyl a osodir yn arferol gan ddatblygwyr i liniaru effeithiau sŵn, amwynder gweledol, neu effeithiau cysgodion symudol. Nawr, mae hynny'n golygu bod llai na 10 y cant o'r ardaloedd blaenoriaeth yn addas ar gyfer gwynt mewn gwirionedd, a 5 y cant yn unig sydd ar gael wedi i ffermydd gwynt presennol gael eu heithrio wrth gwrs. Nawr, ar ben hynny, nid yw'r ardaloedd sydd ar gael ond yn debygol o fod yn addas ar gyfer prosiectau llai na 10 MW. Ni fydd hynny felly yn dod o dan ddatblygiad system o arwyddocâd cenedlaethol ac felly ni chaiff ei asesu yn erbyn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Felly, a ydych yn derbyn bod y cynigion hyn yn ddiffygiol ac y dylem gael dull yn seiliedig ar feini prawf ehangach yn lle'r system o ardaloedd blaenoriaeth sy'n seiliedig ar le?

Yn amlwg, mae'r ymgynghoriad yn dal yn agored tan ddydd Iau, rwy'n credu. Ac mae'n bwysig iawn fod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a'r cynllun ei hun wedi hynny, yn cefnogi targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni adnewyddadwy, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hynny'n iawn. Rwy'n ymwybodol fod y dystiolaeth a ddefnyddiwyd wedi'i chomisiynu gan Arup, ond yn sicr, fel y gallwch weld, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei sedd ac wedi clywed hynny, a byddwn yn parhau i gael trafodaethau ar hyn ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, ac yn benodol, mae rhai wedi cysylltu â mi ynglŷn â rhai o'r pwyntiau rydych newydd eu codi.

13:35

Wel, rwyf ychydig yn bryderus nad ydych chi'n pryderu ac yn amlwg, mae angen rhoi sylw i hyn, oherwydd bydd yn cael effaith enfawr ar eich gallu i gyflawni'r hyn rwy'n tybio yw eich dyheadau o ran datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni neu ynni adnewyddadwy. Nawr, roedd gan yr ardaloedd chwilio strategol yn TAN 8 darged, wrth gwrs, ar gyfer y cynhyrchiant ynni arfaethedig. Nid oes unrhyw arwydd o ba lefelau o ynni y disgwylir i'ch ardaloedd blaenoriaeth ynni yn y fframwaith datblygu cenedlaethol eu darparu. Felly, a yw hynny'n rhywbeth rydych yn bwriadu ei ddarparu? Ac os na, sut y gwyddom i ba raddau y bydd yr ardaloedd penodol hyn yn cyfrannu at ein hanghenion ynni? Yn wir, faint o alw am ynni a ragdybiwyd gennych ar gyfer cyfnod y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn hyd at 2040, er mwyn sicrhau ei fod yn hwyluso'r broses o gyflenwi digon o ynni adnewyddadwy i gyrraedd ein targedau datgarboneiddio dros yr 20 mlynedd nesaf?

Wel, ni fuaswn eisiau i chi feddwl nad oeddwn yn bryderus. Eglurais yn glir iawn, ar y dechrau, ei bod yn hanfodol bod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, ac yna'r cynllun ei hun, yn cefnogi ein targedau ar gyfer datgarboneiddio, ac mae'n bwysig iawn, pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben—a chofiwch ei fod yn dal i fod yn destun ymgynghoriad—mai dyna'n union y bydd yn ei wneud. Felly, bydd y sgyrsiau hynny'n parhau, ar lefel swyddogol ac ar lefel weinidogol yn sicr. Mae potensial enfawr ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac rydych wedi cyfeirio at wynt ar y tir yn arbennig. Felly, rwy'n ymwybodol iawn fod y polisi wedi achosi llawer o ddiddordeb yn y cyfryngau. Nid wyf yn credu y byddai'n briodol gwneud unrhyw sylwadau pellach ar fanylion tra bod yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo.

Wel, rwy'n ofni eich bod yn cuddio y tu ôl i'r ymgynghoriad braidd, oherwydd yr hyn rwy'n ei ofyn yw pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud mewn perthynas â'r galw angenrheidiol o ran y cynhyrchiant ynni dros yr 20 mlynedd nesaf, oherwydd does bosibl y byddai'n rhaid i chi fod wedi gwneud y gwaith hwnnw ymlaen llaw, fel y gallwch gyflwyno fframwaith datblygu cenedlaethol sydd i fod yno i hwyluso'r gwaith o gyflawni'r targedau ynni adnewyddadwy hynny. Felly, hoffwn i chi geisio ateb y cwestiwn hwnnw eto, os gwnewch chi.

Ond hoffwn i chi hefyd roi sylw i'r pwynt hwn oherwydd, o fewn y fframwaith datblygu cenedlaethol, mae polisi 8 yn amlinellu'r fframwaith strategol ar gyfer bioamrywiaeth a chydnerthedd economaidd, rhywbeth, wrth gwrs, y siaradoch chi'n faith yn ei gylch ddoe mewn yng nghyd-destun y môr. Nawr, mae'r adborth hyd yn hyn yn dangos bod angen cryfhau hyn, ac yn ddiddorol nid yw'r polisi ond yn mynnu y dylai'r datblygiad 'wella bioamrywiaeth', nid dweud bod yn rhaid iddo gyfrannu at fudd net ar gyfer bioamrywiaeth fel y dywedir, wrth gwrs, yn 'Polisi Cynllunio Cymru.' Nawr, mae hwnnw'n newid amlwg ym mholisi'r Llywodraeth, oherwydd bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cael blaenoriaeth ar 'Polisi Cynllunio Cymru' a bydd yn pennu'r polisïau sydd angen eu cyflawni drwy'r cynlluniau datblygu strategol a lleol. Felly, a allwch chi egluro i'r Cynulliad pam eich bod yn credu y gellir cyfiawnhau'r newid polisi amlwg hwn?

Ie, nid yw hynny'n wir, ac mae'r rheini'n drafodaethau rwy'n dal i'w cael gyda'r Gweinidog. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ei phortffolio hi. Yn amlwg, o safbwynt ynni adnewyddadwy, rydym wedi trafod llawer, ond tra bod yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo ni allaf wneud sylwadau ar brosiectau ac asesiadau penodol, ond credwch fi, mae'r asesiadau wedi cael eu gwneud ac fe'u cyflwynir pan fydd y fframwaith datblygu cenedlaethol wedi'i gyhoeddi.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, rydym yng nghanol ymgyrch etholiad cyffredinol, rhag ofn nad oedd neb wedi sylwi. Yn amlwg, bydd polisi amgylcheddol yn cael ei gydlynu'n agos ar draws y DU, ond mae gennych gyfrifoldeb yma yng Nghymru. Dywed eich plaid chi, ar lefel y DU, pe bai'n dod yn Llywodraeth ar 13 Rhagfyr y byddent yn symud i darged sero net erbyn 2030. Eich polisi chi yw 2050 yma yng Nghymru, rhywbeth rydym i gyd yn ei gefnogi. A ydych yn credu ei bod yn gredadwy y gallwn symud i sero net erbyn 2030? Ac os ydych yn credu ei fod yn gredadwy, a fyddwch chi fel Llywodraeth yn gwneud hynny hefyd?

Cymerodd y Llywodraeth hon gyngor gan ein corff ymgynghorol, sef Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Dywedodd y pwyllgor hwnnw wrthym mai'r targed y dylem geisio ei gyrraedd yma yng Nghymru, gan mai i Lywodraeth Cymru y gofynnwch y cwestiwn yn awr, yw 95 y cant. Rwyf wedi gofyn i'r pwyllgor edrych i weld a allwn fynd ymhellach i sero net erbyn 2050. Hwy yw'r bobl sy'n ein cynghori a dyna'r cyngor rwy'n ei gymryd. Mae'r hyn y mae Llywodraeth Lafur y DU yn ei gyflwyno yn seiliedig ar y dystiolaeth y maent hwy wedi'i chasglu, yn amlwg, ar gyfer y DU—. Mae hyn wedi'i ddatganoli i Gymru, cofiwch, ond rydym yn rhan o'r DU mewn perthynas â'n targedau newid hinsawdd. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y dystiolaeth honno ac yna gallem ei hystyried ymhellach.

13:40

Rwy'n derbyn hynny, oherwydd dyna'r pwynt a wneuthum yn fy sylwadau agoriadol—eich bod yn gyfrifol am bolisi yma yng Nghymru, ond mae polisi amgylcheddol yn cael ei gydlynu ar draws y DU hefyd, er mwyn sicrhau'r budd cyffredinol hwnnw. Tybiaf o'ch ateb—ac os gallwch egluro, oherwydd credaf ei fod yn bwysig iawn, oherwydd ceir llawer o sylwadau sy'n dweud y byddai'n ddinistriol newid i sero net erbyn 2030—. Mae undeb y GMB, er enghraifft, yn dweud y byddai'n gwbl ddinistriol i gymunedau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ac yma yng Nghymru. Ond cymeraf fod eich polisi'n aros yr un fath—2050 ydyw ac ni allwch weld llwybr credadwy i newid i sero net erbyn 2030 yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog a gyda'r dystiolaeth sydd ger eich bron ar hyn o bryd.

Rydym yn bell o 2050, onid ydym? Ar hyn o bryd, mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sy'n ein cynghori, yn dweud wrthyf y dylem fod yn anelu at darged o 95 y cant. Wrth gwrs, rwyf i eisiau cyrraedd sero net ac wrth gwrs, rwyf eisiau cyrraedd sero net yn gynharach, ac os daw Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd yn ôl ataf gyda chyngor fod hynny'n bosibl, byddaf yn edrych arno. Yn ôl pob tebyg, bydd Llywodraeth Lafur y DU, a fydd yn ei lle ar ôl 12 Rhagfyr, gobeithio, hefyd yn gofyn i Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd am gyngor a byddant yn gallu bwrw ymlaen â hynny wedyn.

Wel, fel y dywedoch chi, rwy'n credu mai'r cyngor y mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi'i roi yw fod newid i sero net erbyn 2030 yn gwbl anymarferol, ac felly, gobeithio y bydd y Blaid Lafur yn cadw hynny mewn cof pan fyddant yn cyflwyno eu polisi, yn hytrach na dinistrio cymunedau yma yng Nghymru ac ar draws gweddill y Deyrnas Unedig.

Ond os caf ofyn cwestiwn arall i chi ynghylch y taliad sylfaenol i ffermwyr, bydd y cyfnod talu'n dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, ac rwy'n datgan buddiant yn hyn o beth fel ffermwr gweithredol—. Cyhoeddodd y Llywodraeth newyddion calonogol iawn eu bod yn sefydlu cyfleuster benthyca i ffermwyr pe bai eu cais am daliad sylfaenol yn cael ei ddal yn ôl oherwydd pryderon ynghylch Brexit ac yn amlwg, trefniadau staffio i sicrhau bod hawliadau'n cael eu prosesu. Fel rwy'n ei ddeall—ac edrychaf ymlaen at weld hyn yn cael ei gywiro, oherwydd rwyf wedi ceisio dod o hyd i'r wybodaeth hon dros y mis diwethaf—os ydych wedi hawlio'r benthyciad hwnnw yn ystod y 12 mis diwethaf, sef y cyfnod talu diwethaf, byddech yn cael eich gwahardd rhag gwneud yr un peth y tro hwn. Nawr, wythnos neu ddwy yn ôl, fe ddywedoch y byddech yn dod yn ôl ataf ac yn ysgrifennu ataf. Rwy'n obeithiol y gallai fod gennych y newyddion diweddaraf i ni, o gofio mai pythefnos yn unig sydd nes y cyfnod talu, ac fel y gwelsom gyda'r hufenfa yn ngogledd Cymru yn mynd yn fethdalwr ac yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae gan lawer o ffermwyr broblem wirioneddol o ran llif arian ar y foment, a bydd unrhyw oedi o ran trosglwyddo'r taliad sylfaenol i gyfrifon banc yn achosi problemau enfawr. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd pob fferm yn gymwys i gael y cyfleuster benthyca hwnnw os ydynt yn dymuno, neu a oes gwaharddiad ar ffermydd sydd wedi defnyddio'r opsiwn hwnnw yn y 12 mis diwethaf?

Roeddwn o dan yr argraff fy mod wedi llofnodi llythyr i chi mewn gwirionedd, felly rwy'n ymddiheuro os nad ydych wedi derbyn hwnnw, a'r ateb oedd y bydd pob fferm yn gallu gwneud cais am y cynllun benthyciad hwnnw. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cyflwyno'r cynllun benthyciadau hwnnw, oherwydd, yn sicr, roedd y cynllun benthyciadau a oedd gennym y llynedd—cynllun cymorth sydd gennym eleni—yn un y manteisiodd llawer arno, ac rwyf wedi gwneud popeth y gallaf i'w hyrwyddo i ffermwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud cais. Ond yr ateb i'ch cwestiwn penodol chi yw fod pawb yn cael gwneud cais yn ôl yr hyn a ddeallaf.

Polisi Coedwigaeth

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi coedwigaeth Llywodraeth Cymru? OAQ54680

Mae angen inni gynyddu maint a chyflymu'r broses o blannu coed yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â dirywiad bioamrywiaeth a'r argyfwng newid hinsawdd. Bydd gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen goedwigo genedlaethol yn cyflymu'r gwaith o blannu coed, gan ddarparu ystod eang o fuddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i bobl Cymru.

Rwy'n croesawu'r datganiad hwnnw gan y Gweinidog. Yn arbennig, croesawaf ymrwymiad y Prif Weinidog i goedwig genedlaethol. Rwy'n credu bod y rheini'n ddatganiadau pwysig iawn. Rwyf hefyd yn croesawu'r hyn sydd wedi'i ysgrifennu yn fersiwn ddiweddaraf 'Coetiroedd i Gymru', a gyhoeddwyd y llynedd, rwy'n credu. Yn y ddogfen honno, credaf fod y Llywodraeth yn nodi cyngor ar y polisi newid hinsawdd fod angen iddo symud o blannu ychydig gannoedd o hectarau ar hyn o bryd, i 2,000 ac yna i 4,000 hectar o goetir er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau mewn perthynas â'r hinsawdd. A allai'r Gweinidog ddweud wrthyf, ai polisi Llywodraeth Cymru yw cyrraedd y cyfartaledd Ewropeaidd ar gyfer gorchudd coetir, sy'n rhywbeth tebyg i 38 y cant, rwy'n credu? Ai dyna yw polisi'r Llywodraeth? Os nad dyna yw polisi'r Llywodraeth, beth yw amcan y Llywodraeth mewn perthynas â gorchudd coetir ledled Cymru, ac a oes gan y Llywodraeth amserlen ar gyfer cyflawni'r amcan hwnnw?

Fi fyddai'r cyntaf i ddweud nad ydym yn plannu digon o goed, ond rydym wedi gweld cynnydd cyson ond bychan dros y tair blynedd diwethaf yn enwedig. Dros y tair blynedd diwethaf yn unig, rydym wedi plannu 16,387,612 o goed. Nid wyf yn hollol siŵr pa ganran o dir y maent yn ei orchuddio, ond dyna faint rydym wedi'u plannu. Yn sicr, bydd y cynnydd rydym yn ei wneud i fwrw ymlaen â gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen goedwigo genedlaethol yn helpu. Yn amlwg, mae'n brosiect hirdymor, felly nid oes gennyf darged, fel y cyfryw. Roedd yna darged yn y strategaeth goetiroedd nad ydym wedi bod yn ei gyflawni felly byddai'n well gennyf fwrw ymlaen â gwaith arwyddocaol, ac rwy'n gobeithio cyflwyno cyhoeddiadau pwysig ynglŷn â phlannu coed cyn diwedd y flwyddyn, ond yn amlwg, os ydym am gyrraedd ein targedau newid hinsawdd, mae angen inni gynyddu'r gorchudd coed sydd gennym yng Nghymru yn gyflym, oherwydd mae honno'n ffordd gwbl allweddol o allu lliniaru newid yn yr hinsawdd drwy ddal a storio carbon.

13:45

Bythefnos yn ôl, dywedodd y Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd—Confor—mai un rhan o dair yn unig o'r gyllideb sydd ar gael ar hyn o bryd i gyrraedd targed gofynnol Llywodraeth Cymru o greu 2,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn ac i gyflawni ei dyheadau o ran yr hinsawdd. Deallaf fod sector coedwigaeth Cymru yn cynhyrchu £528 miliwn o werth ychwanegol gros i Gymru, gan gynnal 10,000 o swyddi, ac wrth gwrs, mae'n chwarae rhan fawr yn y gwaith o ddal a storio carbon.

Yn ystod yr haf, ymwelais â grŵp BSW Timber yn Maelor Forest Nurseries Holdings yn Bronington, Wrecsam, ychydig y tu allan i'ch etholaeth, a ddywedodd wrthyf am y rôl flaenllaw y maent yn ei chwarae ym maes ymchwil a datblygu geneteg coedwigaeth—yr unig feithrinfa yn y DU sy'n cyflawni'r gwaith allweddol hwn, gan ddatblygu rhywogaethau i'w gwneud yn fwy cynaliadwy wrth i'r hinsawdd newid. Dywedasant wrthyf eu bod yn buddsoddi'n drwm yn y gwaith ymchwil a datblygu hwn a'u bod yn cynllunio buddsoddiadau pellach yn y tymor hir, a bod Llywodraeth yr Alban yn agor y drws iddynt ac yn ceisio'u hannog i fynd yno, ond maent yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hannog a'u cymell i aros yng Nghymru a datblygu'r lab sydd ganddynt yno. Felly, pa gymorth fyddwch chi'n ei roi i sicrhau bod yr ymchwil hon, sydd gyda'r gorau drwy'r byd, yn aros yng Nghymru ac nad yw'n ymfudo i'r Alban?

Nid wyf yn ymwybodol fod rhywun wedi gofyn am gefnogaeth gennyf, ond gallai fod rhywbeth ar y gweill nad wyf wedi'i weld. Ond buaswn yn sicr yn awyddus iawn i ymweld â'r grŵp a chael golwg ar eu gwaith ymchwil a datblygu. Rwy'n credu y byddem yn awyddus iawn o ran egwyddor i sicrhau bod unrhyw waith ymchwil a datblygu, yn enwedig gwaith ymchwil a datblygu sydd gyda'r gorau yn y byd, ac sy'n cael ei wneud yng Nghymru, yn cael ei gadw yma. Felly, buaswn yn hapus iawn, os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, neu os hoffai ofyn iddynt hwy ysgrifennu ataf, a byddaf yn sicr o ymweld â'r lle a bwrw ymlaen â hynny.

Weinidog, yn 2017 rhagwelwyd y byddai'r dirywiad yn y gwaith o blannu pren meddal yng Nghymru yn arwain at ostyngiad o 50 y cant yn nifer y coed meddal sydd ar gael erbyn 2045. Mae'r diffyg yng nghynhyrchiant coetiroedd conwydd yng Nghymru ers troad y ganrif yn peri cryn bryder ac mae wedi effeithio ar gyflenwad pren. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu nifer y coed y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu plannu ac i ailgyflenwi stociau coed a gafodd eu cwympo mewn ymateb i glefyd y llarwydd marwol?

Diolch. Cyfarfûm â chadeirydd a swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe, lle mae plannu coed—wel, mae bob amser yn eitem sefydlog ar yr agenda. Ac yn sicr, rydym wedi rhoi arian i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn iddynt allu cynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu. Rydym wedi gweld gwaith plannu coed penodol mewn perthynas â rhai clefydau—fe fyddwch yn ymwybodol o P. ramorum, er enghraifft, sydd wedi golygu bod rhaid clirio ardaloedd mawr o goed llarwydd, fel y dywedoch chi, yn enwedig yng Nghymoedd de Cymru. Felly, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, pan fyddant yn ailblannu coed yn lle coed a dorrir, yn manteisio ar y cyfle i wneud yn siŵr bod y coed a'r coetiroedd sy'n cael eu hailblannu yn cael eu hailstrwythuro â choed amlrywogaeth i'w helpu i allu gwrthsefyll y clefyd hwnnw'n llawer gwell.

Bridio Cŵn

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar fridio cŵn a gyhoeddwyd ar 9 Hydref 2019? OAQ54669

Diolch. Mae grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn cynnal adolygiad brys o'r rheoliadau bridio cŵn a bydd yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Cyfarfu'r prif swyddog milfeddygol ag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddoe i drafod materion trwyddedu a gorfodi.

Rwy'n croesawu'r camau brys y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn y rhaglen ddogfen ar ffermio cŵn bach yng Nghymru y mis diwethaf. Ond un maes sy'n peri pryder i mi ac eraill y siaradais â hwy mewn perthynas â thrwyddedu yw'r gymhareb staff-i-gŵn yn y sefydliadau hyn. Ar hyn o bryd, un gofalwr llawn amser yn unig sy'n ofynnol ar gyfer 20 o gŵn llawndwf, ac nid yw hynny'n ystyried nifer y cŵn bach y gallai pob ci eu cael hyd yn oed. Felly, yn y pen draw, gallem gael sefyllfa lle mae gan bob ci dorraid maint cyfartalog, a fyddai'n golygu bod disgwyl i un person fod yn gyfrifol am hyd at 180 o gŵn llawndwf a chŵn bach ar unrhyw adeg. Ni allaf weld sut y gall unrhyw unigolyn roi gofal o safon ddigon da am gynifer o anifeiliaid, nodi problemau iechyd posibl yn ogystal â diwallu anghenion lles yr anifeiliaid hynny. Felly, Weinidog, rwy'n gofyn i chi ystyried adolygu'r gymhareb o staff cymwys sydd eu hangen i ofalu am gŵn a chŵn bach mewn sefydliadau bridio er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn gofal da a bod eu hanghenion lles yn cael eu diwallu. Rwyf hefyd yn gofyn a wnewch chi ystyried lleihau nifer y trwyddedau a roddir i bob awdurdod er mwyn ei gwneud yn bosibl cyflawni cynllun arolygu a diogelu y gellir ei reoli, rhywbeth nad yw'n digwydd ar hyn o bryd.

13:50

Diolch. Rwy'n sicr yn rhannu eich pryder, yn enwedig ynglŷn â'r gymhareb staff-i-gŵn. Yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ddoe rhwng y prif swyddog milfeddygol a'i swyddogion gyda 21 o awdurdodau lleol—nid oedd Sir y Fflint yn bresennol, roeddent yn ymddiheuro am hynny—credaf fod hwn yn un maes sy'n uchel iawn ar y rhestr o bethau y mae angen inni edrych arnynt yn ofalus iawn.

Crybwyllaf y grŵp gorchwyl a gorffen, gydag aelodau o grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, sydd eisoes wedi dechrau. Nid wyf am achub y blaen ar yr adolygiad hwnnw, ond rwy'n credu, yn sicr, fod llawer o faterion wedi cael sylw yn y cyfarfod y bydd angen eu hystyried yn ofalus. Yn sicr, os meddyliwch am sicrhau bod y cŵn yn cael ymarfer corff er enghraifft, er fy mod yn derbyn y gallwch fynd â sawl ci allan ar unwaith, yn sicr ni allech fynd â 50 o gŵn allan ar unwaith. Os ydynt angen ymarfer corff deirgwaith y dydd, sef yr hyn y mae'r rheoliadau'n ei ddweud, rwy'n credu felly fod angen inni edrych ar hynny. Gan hynny, er nad wyf am achub y blaen ar yr adolygiad, rwy'n credu bod hwn yn amlwg yn faes y mae angen i ni edrych arno.

O ran eich cwestiwn am y trwyddedau, unwaith eto, pan welwch y tabl o awdurdodau lleol a nifer y safleoedd trwyddedig sydd ganddynt—credaf fod gan Dor-faen un, er enghraifft, mae gan Sir Gaerfyrddin 80 ohonynt, felly gallwch weld bod gwahaniaeth mawr ar draws pob awdurdod lleol. Felly, unwaith eto, fel rhan o'r adolygiad, mae'n rhywbeth y gallwn edrych arno, ond yn amlwg, mae gwir angen i ni wneud gwelliannau mewn perthynas â bridwyr didrwydded hefyd, a bydd yr adolygiad yn edrych yn gyfannol ar fridio cŵn yma yng Nghymru.

Rwy'n falch fod Joyce Watson wedi codi'r cwestiwn hwn, oherwydd mae gennyf nifer o bryderon difrifol iawn ynglŷn â hyn, Weinidog. Rwy'n cynrychioli ardal lle mae bridio cŵn anghyfreithlon yn rhemp. Rwyf wedi ysgrifennu at Elin Jones, pan oedd yn Weinidog, John Griffiths pan oedd yn Weinidog, Alun Davies pan oedd yn Weinidog, Rebecca Evans pan oedd yn Weinidog, ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu atoch chi ar y pwnc hwn. Ychydig iawn o weithredu a welsom. Nawr, mae Joyce yn nodi pwynt da iawn am drwyddedu ac am—ond y broblem yw, hwy yw'r rhai rydym yn gwybod amdanynt. Y broblem fawr yw'r bobl na allwn eu holrhain, neu'r rhai y gwyddom eu bod ar ben draw lonydd hir, a hoffwn ddeall dau beth yn glir iawn. Un: a wnewch chi gymryd camau go iawn y tro hwn oherwydd mae hon wedi bod yn broblem ers amser hir yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? Dau: sut y byddwch yn sicrhau nad yw bridwyr da, bridwyr gonest, bridwyr cyfreithlon yn cael eu cosbi'n ormodol, fel mai mynd ar ôl y bridwyr cŵn anghyfreithlon a wnawn mewn gwirionedd?

Yn olaf, mae'n rhaid imi grybwyll cŵn sy'n cael eu cludo i mewn o Iwerddon, oherwydd rwyf wedi bod allan gyda'r heddlu, rwyf wedi gweld carafanau lle mae'r lloriau yn llythrennol wedi'u gorchuddio â chŵn bach, a chânt eu defnyddio i gelu masnachu cyffuriau a phethau eraill. Mae yna fan sy'n mynd o amgylch Penfro, Doc Penfro—yn llythrennol, rwyf wedi'i weld, ac mae wedi agor y cefn ac mae cewyll y tu mewn sydd wedi'u stwffio'n llawn dop o gŵn bach. Dyna'r bobl y mae angen inni eu dal, oherwydd mae'r bobl y mae Joyce yn sôn amdanynt—rydym yn gwybod lle maent, mae angen eu gwella, mae angen eu gwahardd neu beth bynnag, ond ni allwn gael gafael ar y lleill. Gwaith anodd, rwy'n derbyn, ond mae'n bryd i ni weithredu ar hyn.

Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn, a dyna pam y dywedais ar ddiwedd fy ateb i Joyce Watson—roedd Joyce yn cyfeirio at y bridwyr y gwyddom amdanynt; rydym angen dal y bridwyr anghyfreithlon hefyd i sicrhau gwelliannau mawr mewn rhai ardaloedd, oherwydd rwy'n ymwybodol iawn o'r straeon rydych newydd eu hadrodd yma. Mae'r cydbwysedd o ran peidio â chosbi'r bridwyr cyfreithiol yn bwysig iawn, a diben y cyfarfod a gynhaliwyd ddoe gyda'r awdurdodau lleol oedd canfod yn union beth sy'n digwydd ar lawr gwlad—sut y mae awdurdodau lleol yn ymdrin â gorfodi, er enghraifft. Felly, rwy'n credu iddo fod yn gyfarfod cynhyrchiol iawn. Rwyf wedi cael nodyn o'r cyfarfod. Bydd hwnnw bellach yn bwydo i mewn i adolygiad y grŵp gorchwyl a gorffen y gofynnais iddo gael ei gynnal yn syth ar ôl i'r rhaglen honno gael ei dangos. Felly, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, ond roeddwn eisiau dangos, gyda'r hyn a ddywedais yn y datganiad ysgrifenedig, ein bod yn gweithredu ar unwaith. Rwy'n disgwyl cael adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, pan ddown yn ôl ym mis Ionawr, ar ôl toriad y Nadolig, rwy'n gobeithio gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau bryd hynny.

13:55
Cefnogi'r Diwydiant Ffermio yng Nghanolbarth Cymru

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant ffermio yng nghanolbarth Cymru? OAQ54668

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ffermio yng nghanolbarth Cymru, fel ym mhob rhan o Gymru, i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy, gwydn ac i sicrhau ei bod yn cael ei rheoli'n broffesiynol. Mae dros 5,000 o unigolion a 2,000 o fusnesau yn y rhanbarth wedi ymuno â Cyswllt Ffermio, sy'n elfen hanfodol o'n cymorth i'r gymuned ffermio.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Fel y gallwch ddychmygu, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag undebau'r ffermwyr yn Sir Drefaldwyn. Y mater a godwyd gyda mi yn y cyfarfod diwethaf, fel na fyddech yn synnu o gwbl, yw'r ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Maent wedi gofyn nifer o gwestiynau ynglŷn â sut y byddai'r cynllun yn gweithio'n ymarferol, a sut y byddai cefnu ar y mecanwaith sefydlogrwydd sy'n diogelu ffermwyr rhag yr anwadalrwydd yn y farchnad yn gweithio'n ymarferol, a sut y byddai'n effeithio ar fusnesau.

Nawr, o ystyried eich bod wedi pwysleisio wrthyf fi ac eraill fod hwn yn ymgynghoriad go iawn yn hytrach na rhywbeth sydd eisoes wedi'i gytuno, a gaf fi ofyn sut y bydd y Llywodraeth yn ystyried y pryderon y maent wedi'u dwyn i fy sylw, a'r angen i fynd i'r afael â hwy wrth lunio unrhyw gynlluniau yn y dyfodol? A sut y byddai'r gefnogaeth bwrpasol i bob fferm yn gweithio'n ymarferol—'ymarferol' yw'r gair allweddol yn y fan hon; sut y byddai'n gweithio'n ymarferol—ac a wnewch chi gadarnhau na fydd y cynigion yn arwain at fiwrocratiaeth ychwanegol i ffermwyr, nac i Lywodraeth Cymru wrth gwrs?

Gan ddechrau gyda'r fiwrocratiaeth ychwanegol, rwyf wedi dweud o'r cychwyn cyntaf, os byddwn yn cyflwyno biwrocratiaeth ychwanegol i gynllun—credaf y bydd llawer o ffermwyr yn dweud wrthych mai un o'r rhesymau pam y pleidleisiodd llawer ohonynt dros adael yr UE yn yr etholiadau Ewropeaidd oedd oherwydd y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth bolisi amaethyddol cyffredin—yna byddwn wedi methu. Mae'n dra phwysig nad ydym yn cynyddu biwrocratiaeth ychwanegol, i'r ffermwyr yn sicr, nac i ni ein hunain.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Hydref. Cawsom ymhell dros 3,000 o ymatebion, gyda llawer ohonynt yn ymatebion gan unigolion. Bydd yn cymryd peth amser i weithio drwyddynt, ond rwyf hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â'r undebau ffermio. Yr wythnos diwethaf, siaradais yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac wrth gwrs, cafodd cwestiynau ynghylch 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' eu codi gyda mi.

Fe ddefnyddioch chi'r gair 'sefydlogrwydd' mewn perthynas â'r PAC a'r cynllun taliadau sylfaenol. Rwy'n anghytuno â chi—nid wyf yn credu bod y PAC wedi rhoi sefydlogrwydd i'n ffermwyr. Os meddyliwch am y llynedd, pan gawsom sychder, cynhaliwyd uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru—roeddent yn chwilio am gymorth gan Lywodraeth Cymru oherwydd nad oeddent yn gallu ymdopi â'r sychder. Nid yw'r PAC wedi gwneud ein sector amaethyddol yn sefydlog yn y ffordd y byddem yn ei ddymuno. Dyna y ceisiwn ei wneud yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'.

Rydym wedi cyflwyno syniad y cynllun, a chredaf ei fod wedi cael croeso cyffredinol. Yn sicr, mae'r ymatebion rwyf wedi'u gweld—ac mae'n debyg fy mod wedi darllen tua 200 o'r ymatebion bellach—yn croesawu'r newid ffocws yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yn fawr o'r hyn a oedd wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol yn 'Brexit a'n Tir'. Felly, rydym yn awr yn gweithio drwy'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydym yn gweithio ar gydgynllunio'r cynllun.

Wrth gwrs, bydd y cymorth pwrpasol hwnnw'n bwysig iawn—yr asesiad pwrpasol hwnnw. Nid oes dwy fferm yr un fath, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ymweld â phob fferm. Ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Pan fydd cynghorydd yn ymweld â fferm, bydd llawer o ddata ar gael yno eisoes—rheoli maethynnau, er enghraifft. Felly, gobeithio y bydd cyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth.

Gwyddom fod y nwyddau a gynhyrchir gan ffermwyr canolbarth Cymru yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cynnyrch bwyd rhagorol y maent yn ei gynhyrchu ar eu tir. Hefyd, mae rheoli bryniau Pumlumon yn cael effaith uniongyrchol, boed hynny'n dda neu'n ddrwg, ar lifogydd i lawr yr afon, mewn rhannau o Gymru a rhannau o Loegr. Teimlaf yn gryf iawn y dylid eu gwobrwyo am reoli'r tir yn dda ac yn effeithiol.

Hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud eu bod yn adnodd, nid yn unig ar gyfer ymwelwyr o'r tu mewn i Gymru, ond hefyd ar gyfer twristiaid o bell i ffwrdd. Yn ddiweddar, gyda Cicerone, y cyhoeddwr, fe wnaethom lansio—ac rwy'n datgan buddiant fel un o is-lywyddion y Cerddwyr—Walking the Cambrian Way, cyhoeddiad swyddogol Cicerone i bobl fel fi sy'n hoffi llwybrau hir ac aros mewn llety gwely a brecwast, a phryd bwyd da mewn bwyty gyda'r nos ac yn y blaen wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae menter mynyddoedd y Cambria—prosiect Dyfodol Cambrian Futures—wedi lansio 11 o lwybrau cymunedol, ac rwy'n credu, gan fod cerddwyr yn dweud yn yr ymgynghoriad y dylem fod yn ystyried a yw rhai o'r nwyddau cyhoeddus a gynhyrchir drwy'r mynediad hwnnw—dylem allu gwobrwyo ffermwyr yn benodol am gynnal y llwybrau hynny. Felly, a wnaiff hi gadarnhau, wrth fwrw ymlaen â hyn, y bydd yn ymgysylltu'n bendant â ffermwyr a rheolwyr tir, ond hefyd ag aelodau eraill o'r cyhoedd yn ehangach yng Nghymru sy'n gweld y nwyddau cyhoeddus a ddarperir drwy reoli tir yn effeithiol ac yn dda?

14:00

Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd Huw Irranca-Davies. Mae'n bwysig iawn fod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am y canlyniadau amgylcheddol nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdanynt ar hyn o bryd. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud droeon fod pobl yn dod i Gymru i weld y tirweddau prydferth. Maent yno oherwydd ein ffermwyr a'n sector amaethyddol, ac mae'n gwbl briodol eu bod yn cael eu gwobrwyo amdanynt. Roedd y fferm y lansiais yr ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' arni—roedd y broses o ddal carbon ar ei fferm yn anhygoel. Y tunelli o garbon a ddaliai—nid yw'n cael ei wobrwyo am hynny ar hyn o bryd, ac fe ddylai.

Argyfwng yn yr Hinsawdd

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd o ganlyniad i ddatganiad Llywodraeth Cymru am argyfwng yn yr hinsawdd? OAQ54652

Diolch. Rydym wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd i gynyddu ein targed 2050 i 95 y cant. Rydym wedi gwneud cyfres o fuddsoddiadau newydd ar draws y Llywodraeth ac wedi trefnu cynhadledd gyntaf Cymru ar newid hinsawdd gyda 300 o arweinwyr carbon isel i weld sut y gall pob rhan o gymdeithas ymateb i'r her ar y cyd.

Weinidog, diolch am hynny, ond yn ôl arolygon barn diweddar, mae 56 y cant o oedolion ar draws y DU gyfan yn cefnogi polisi bargen newydd werdd y Blaid Lafur, sy'n gosod nod i ddatgarboneiddio'n llwyr erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r Llywodraeth Lafur nesaf i gyflawni'r amcan hwn?

Nid wyf yn siŵr a oeddech yn y Siambr pan atebais gwestiynau Andrew R.T. Davies, ond byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ein bod wedi symud at darged o 95 y cant ar gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn iddynt weld a allwn ni yma yng Nghymru newid i darged sero net.

Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweithio gyda Llywodraeth Lafur nesaf y DU ar ôl 12 Rhagfyr i weld pa gyngor y gallant ei roi i ni hefyd, a beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd. Bydd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cynghori'r Llywodraeth newydd, ac yn sicr, yn amlwg, fel DU, mae gennym ein targedau newid hinsawdd. Rhaid i Gymru chwarae ei rhan. Rwy'n frwd iawn. Efallai mai gwlad fach yn unig ydym, ond mae gennym uchelgais gwirioneddol fawr mewn perthynas â lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Rwy'n siŵr y byddwch yn mwynhau gweithio gyda'r Llywodraeth Geidwadol nesaf yn San Steffan hefyd. [Torri ar draws.] Touché. Diolch ichi am eich ateb, a chredaf ein bod i gyd yn croesawu'r datganiad o argyfwng hinsawdd. Ond mae'n fy nharo—. Rwy'n croesawu'r targed o 95 y cant a osodwyd gennych hefyd, ond mae'n fy nharo mai'r unig ffordd o gyflawni'r nod yw drwy sicrhau ei fod yn cael ei brif ffrydio ar draws yr holl adrannau, nid yn unig gennych chi a'ch swyddogion, ond ar draws y cyrff cyhoeddus, gyda newid ymddygiad go iawn ar ddiwedd y newidiadau polisi hynny. Ac rwy'n credu bod pwyntiau gwefru trydan, er enghraifft, yn un enghraifft o faes lle—. Mae Cymru angen llawer mwy o bwyntiau gwefru trydan nag a oedd gennym yn y gorffennol. Ond y llynedd, er mawr siom i bobl leol, gwrthodwyd cais am ganolbwynt gwefru newydd ym Mynwy, yn fy etholaeth, oherwydd ei fod yn torri rheolau nodyn cyngor technegol 15. Tybed a allech weld a yw polisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y nodiadau cyngor technegol a'r polisïau cynllunio, yn cael eu hailystyried er mwyn iddynt fod yn fwy hyblyg pan wneir penderfyniadau a fydd yn gweithredu er budd yr amgylchedd. Nid wyf yn dweud y dylid eu hanwybyddu; mewn llawer o achosion, maent yno am reswm. Ond os ydym i gyd yn ceisio gwneud yn siŵr bod y datganiad o argyfwng newid hinsawdd yn gweithio mewn gwirionedd, a'n bod yn datrys y problemau hirdymor sydd gennym mewn perthynas â'r amgylchedd a'r hinsawdd, yna rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y polisïau hyn yn fwy hyblyg.

Rwy'n credu eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn am bolisïau sy'n gwrthdaro ac am sicrhau nad yw ein polisïau’n gwrthdaro, yn enwedig o ran ein targedau datgarboneiddio a'n targedau newid hinsawdd. Yn amlwg, mae hyn yn drawslywodraethol. Efallai bod lliniaru newid hinsawdd yn rhan o fy mhortffolio i, ond mae pob Aelod o'r Cabinet a Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau hefyd, a dyna pam fod gennym yr is-bwyllgor ar ddatgarboneiddio, y mae llawer o fy nghyd-Weinidogion yn aelodau ohono. Mae'r Prif Weinidog yn rhoi hwnnw ar sail barhaol.

Ac unwaith eto, ar ôl i ni ddatgan yr argyfwng hinsawdd ar ddechrau'r flwyddyn, ar draws y Llywodraeth, gallwn ddangos sut rydym wedi ailddyrannu cyllid, er enghraifft, lle rydym wedi gwneud buddsoddiadau—felly, mae fy nghyd-Aelodau Ken Skates a Lee Waters wedi dyrannu £30 miliwn i deithio llesol; mae Vaughan Gething, fel Gweinidog iechyd, wedi gwario arian sylweddol ar yr ambiwlansys newydd sydd â phaneli solar arnynt—fel y gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd hwnnw. Ac unwaith eto, ar draws y Llywodraeth i gyd, byddwch yn gweld amryw o argymhellion yn cael eu cyflwyno i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gyflawni 'Cymru Carbon Isel', sef ein cynllun a lansiwyd gan y Prif Weinidog yn ôl ym mis Mawrth.

14:05
Y Sector Bwyd-amaeth

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y gall sector bwyd-amaeth Cymru helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd? OAQ54674

Diolch. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n cynnwys cynigion, polisïau a phroffiliau allyriadau manwl fesul sector i gyflawni Cymru carbon isel ar gyfer y sector bwyd-amaeth. Bydd cynlluniau ffermio a chynlluniau gweithredu bwyd yn y dyfodol yn cael eu cydgysylltu'n barhaus i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Ers ichi gyhoeddi'r argyfwng hinsawdd yma yng Nghymru, pa gamau penodol a gymerwyd gennych i liniaru effeithiau newid hinsawdd ar y sector bwyd-amaeth? Oherwydd rwy'n pryderu'n benodol am y posibilrwydd y bydd prisiau'n codi, a byddai hynny'n effeithio ar ffermwyr a theuluoedd fel ei gilydd.

Wel, rwy'n credu y byddwn yn sicr yn gweld prisiau'n codi os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac un o'r rhesymau pam y bûm yn gweithio gyda'r sector amaethyddol, yn enwedig y sectorau cig coch a llaeth, yw i'w gwneud yn fwy gwydn a chystadleuol. Mae'r sector amaethyddol yn gwneud llawer o waith mewn perthynas â lleihau eu hallyriadau. Amaethyddiaeth oedd i gyfrif am 13 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2017, ac mae NFU Cymru yn enwedig wedi cyflwyno polisïau da iawn ar gyfer dod yn sero net.

Os nad ydych yn barod i ofyn eich cwestiwn, fe symudaf ymlaen.

Rheoli Tir Comin

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r broses o reoli tir comin yng Nghymru? OAQ54677

Diolch. Mae Deddf Tiroedd Comin 2006 yn cael ei gweithredu drwy raglen dreigl, gyda rhannau sylweddol eisoes ar waith. Ein blaenoriaethau yn awr yw gweithredu gweddill Rhan 1, i gynnwys cofrestri electronig, a galluogi cynghorau tiroedd comin i gael eu sefydlu drwy fwrw ymlaen â Rhan 2 y Ddeddf.

Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog droeon am y problemau ar dir comin Eglwysilan, sydd wedi'i leoli, yn bennaf, yn etholaeth Caerffili. Yn eich llythyr diweddaraf, dyddiedig 24 Medi, nid ydych wedi mynd i'r afael â sylwedd y problemau niferus sy'n wynebu'r tir comin gan ailadrodd eich cynnig o gymorth ariannol swyddogol untro i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel y gallant fynd i'r afael â'r mater eu hunain.

Mae'r awdurdod lleol, ar ôl siarad â hwy, yn gynghorwyr etholedig a chominwyr, yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn ymddangos fel pe bai o ddifrif ynglŷn â'i chyfrifoldebau cyfreithiol parhaus o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Ni fydd cynnig cymorth untro o unrhyw ddefnydd mawr i'r awdurdod lleol wrth iddynt geisio mynd i'r afael â'r problemau mynych ar y tir comin, ac maent yn teimlo y byddai'r problemau hynny'n parhau hyd yn oed pe baent yn llwyddo i ddwyn achos yn erbyn y tramgwyddwyr ar y tir.

Trafodwyd opsiwn arall yn ymwneud â'r posibilrwydd y gallai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno deddfwriaeth well mewn perthynas â safonau rheoli yn y defnydd o dir comin ledled Cymru, a fyddai'n gam ymlaen yn fy marn i. Ond er mwyn i ddeddfwriaeth lwyddo, mae angen ei gorfodi. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei chyfrifoldebau cyfreithiol ac yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a phartneriaid priodol eraill i fynd i'r afael â'r problemau hirdymor ar dir comin Eglwysilan?

Wel, rydym yn gweithio gyda'r awdurdod lleol. Rwy'n gwybod bod fy swyddogion wedi mynychu cyfarfod amlasiantaethol gyda chyngor Caerffili i barhau i archwilio atebion posibl. Mae'r cynnig o gymorth ariannol ar gael o hyd. Deallaf fod hwnnw'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Ond byddaf yn hapus iawn i sicrhau bod swyddogion yn parhau i weithio gyda chyngor Caerffili yn yr ymdrech honno.

Weinidog, mae oddeutu blwyddyn ers i Hefin David—a dweud y gwir, ers i Andrew R.T. Davies ddwyn mater cyfyngu ar hawliau cominwyr yn eu hardaloedd i'ch sylw. Ond ar y pryd, soniais wrthych am y broblem o'r cyfeiriad arall, ynghylch trigolion Pennard ym Mhenrhyn Gŵyr yn fy rhanbarth, lle mae hawliau comin yn cael eu harfer braidd yn anghyfrifol, os caf ei roi felly, sy'n golygu bod trigolion sy'n byw mewn pentrefi ger y tir comin yn gorfod dioddef anifeiliaid yn crwydro drwy eu gerddi a'u strydoedd oherwydd nad yw, wel, un cominwr penodol yn cadw rheolaeth arnynt. Ar y pryd, gofynnais ichi a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud drwy is-ddeddfwriaeth—pwynt tebyg i'r un a godwyd gan Hefin—i helpu cominwyr i arfer eu hawliau'n gyfrifol, oherwydd mae'n bwysig fod hawliau'n cael eu parchu a'u diogelu, wrth gwrs, ond dylid eu harfer gan ystyried y bobl o'u hamgylch. Diolch.

14:10

Rwy'n cofio ichi godi hynny gyda mi, a buom yn edrych i weld a ellid gwneud unrhyw beth pellach. A gwn ein bod yn ymgynghori ar gyflwyno cynghorau tiroedd comin ym mis Ionawr. Felly, byddaf yn sicr o edrych i weld a ellid cynnwys hyn yn yr ymgynghoriad ac fe ysgrifennaf atoch.FootnoteLink

Teledu Cylch Cyfyng Gorfodol ar Gyfer Lladd-dai

9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ystyriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol ar gyfer lladd-dai yng Nghymru? OAQ54663

Mae gan ein saith lladd-dy mwyaf, sy'n prosesu'r rhan fwyaf o anifeiliaid, gamerâu cylch cyfyng eisoes. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda gweithredwyr lladd-dai, mewn perthynas gefnogol, i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar gael ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Nid wyf wedi diystyru'r syniad o gyflwyno deddfwriaeth i wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol.

Diolch am ateb calonogol iawn, Weinidog. Ers i Animal Aid ryddhau eu ffilm ysgytwol o greulondeb yn lladd-dy Farmers Fresh ym mis Medi, mae ymchwiliad arall gan Animal Equality, a ryddhawyd yr wythnos ddiwethaf, wedi dangos tystiolaeth yr un mor echrydus o greulondeb erchyll yn erbyn anifeiliaid yn yr un lladd-dy. Mae camerâu cudd wedi dangos anifeiliaid yn cael eu taflu, eu tynnu gerfydd eu coesau neu eu gyddfau, eu pen-glinio neu eu cicio, yn ogystal ag anifeiliaid heb gael eu stynio'n briodol. Nid yw hyn yn dderbyniol. Felly, gan ei bod yn amlwg nad yw'r defnydd gwirfoddol o deledu cylch cyfyng yn gweithio, onid yw'n bryd newid i system deledu cylch cyfyng gorfodol a gaiff ei fonitro'n annibynnol ar sail lles?

Yn amlwg, mae ymchwiliad byw ar y gweill ar hyn o bryd mewn perthynas â lladd-dy Farmers Fresh. Hoffwn ddweud hefyd fod yna deledu cylch cyfyng yn lladd-dy Farmers Fresh mewn gwirionedd, felly mae'n dangos nad teledu cylch cyfyng ar ei ben ei hun yw'r ateb. Mae hyfforddiant hefyd yn ffactor allweddol, ac mae'n bwysig iawn fod Lantra, sy'n darparu'r hyfforddiant hwnnw, yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn perthynas â hynny.

Rwyf eisoes wedi datgan nad wyf wedi diystyru deddfu i gyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol, ond ymrwymais flwyddyn yn ôl i weithio gyda busnesau i weld a fyddent yn gosod teledu cylch cyfyng yn wirfoddol. Rydym wedi cyflwyno'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd, lle byddem yn rhoi arian ar gyfer teledu cylch cyfyng. Nid yw'r broses ymgeisio ar gyfer hwnnw yn cau tan ddiwedd mis Ionawr. Rwyf eisiau gweld sut y bydd hwnnw'n datblygu cyn penderfynu ar y camau nesaf mewn perthynas â theledu cylch cyfyng gorfodol. Ond fel y dywedais, mae teledu cylch cyfyng yn y lladd-dy rydych yn cyfeirio ato ac mae ymchwiliad ar y gweill a byddaf yn cyfarfod â'r Asiantaeth Safonau Bwyd yr wythnos nesaf i drafod y mater hwn.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad diffuant i'r safonau uchaf mewn perthynas â lles anifeiliaid, ond credaf fod yr achos a grybwyllwyd eisoes gan Vikki Howells yn dangos yn glir iawn nad yw'r trefniadau gwirfoddol presennol mewn perthynas â theledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru yn gweithio a bod angen inni ymroi i ddeddfu ar hyn cyn gynted â phosibl. Mae Llywodraeth y DU, fel y gwyddoch, eisoes wedi deddfu yn Lloegr, ac mae'r mwyafrif helaeth o ladd-dai yno'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, ac eir i'r afael â'r nifer fach nad ydynt yn cydymffurfio. A hoffwn eich annog, felly, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu bod y dystiolaeth gennym yn barod, ni ddylem oedi, a dylem osod hyn ar y llyfr statud cyn gynted ag y bo modd.

Wel, fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Vikki Howells, mae teledu cylch cyfyng yn y lladd-dy y cyfeiriodd Vikki ato, felly, yn amlwg, nid teledu cylch cyfyng gorfodol ar ei ben ei hun yw'r ateb. Mae'n rhaid inni edrych ar hyn yn gyfannol. Roedd yna hefyd—wyddoch chi, mae arolygwyr ar y safle, mae milfeddygon ar y safle. Yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod yr hyfforddiant yn gyfredol. Felly, er fy mod yn derbyn eich sylwadau ynglŷn â theledu cylch cyfyng—wyddoch chi, eich dymuniad i'w wneud yn orfodol—nid wyf yn credu mai dyna'r ateb ar ei ben ei hun. Ond mae'n ymchwiliad byw. Rwy'n cyfarfod â'r Asiantaeth Safonau Bwyd yr wythnos nesaf, oherwydd maent yn edrych ar y ddwy enghraifft a roddodd Vikki Howells inni. Ond yn sicr, nid teledu cylch cyfyng yn unig yw'r ateb, pan fyddwch yn edrych ar yr achos arbennig hwn, lle mae teledu cylch cyfyng wedi'i osod. Ac fel y dywedais, mae'r rhan fwyaf o'n lladd-dai, yn sicr, lle mae'r rhan fwyaf o anifeiliaid yn cael eu prosesu, eisoes wedi gosod teledu cylch cyfyng; ychydig iawn o rai bach sydd heb wneud hynny.

14:15
Polisi Ynni Llywodraeth Cymru

10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ynni Llywodraeth Cymru? OAQ54685

Diolch. Mae ynni yn sail i ffyniant ac mae'n rhan allweddol o gyflawni ein nodau hinsawdd. Rydym yn lleihau allyriadau o ynni mewn ffordd sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac sydd hefyd yn gwella llesiant yng Nghymru. Mae hyn yn golygu newid wedi'i reoli i system ynni carbon isel, wedi'i chefnogi gan fuddsoddiad ac arloesedd.

Diolch. Rwy'n croesawu polisi Llywodraeth Cymru ar ffracio; rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad da. A ydych yn gwybod faint o'n nwy naturiol, sy'n cael ei fewnforio drwy Sir Benfro, sy'n dod o ffynonellau ffracio?

Nid oes gennyf y data hwnnw wrth law, ond buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Weinidog, mae'r broses o gyflwyno mesuryddion deallus—rhaglen y DU, wrth gwrs—ond rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei helpu i raddau helaeth, wedi arafu'n ddiweddar. Nid bai Llywodraeth Cymru yw hyn, ond mae'n bwysig ein bod yn mynd yn ôl ar y trywydd cywir, oherwydd, yn enwedig i'r rheini sydd mewn tlodi tanwydd, pan fyddwn wedi newid yn llwyr i dariffau sy'n seiliedig ar y mesuryddion hyn a gwahanol gyfraddau drwy gydol y dydd, gallai'n sicr fod yn ffordd allan o dlodi tanwydd i lawer iawn o bobl.

Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n credu fy mod ar fin cyfarfod, yn sicr cyn diwedd y tymor hwn, rwyf ar fin cyfarfod â'r rhaglen mesuryddion deallus i weld beth yn rhagor y gallwn ei wneud fel Llywodraeth i'w hannog. Fel y dywedwch, mae'n fater a gadwyd yn ôl, ond rwy'n awyddus iawn i wneud popeth yn fy gallu i'w cefnogi.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Eitem 2 yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yw cwestiwn 1 gan Paul Davies.

Y Sector Tai ym Mhreseli Sir Benfro

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector tai ym Mhreseli Sir Benfro? OAQ54659

Yn sicr. Mae ein blaenoriaethau tai ar gyfer Sir Benfro yr un fath ag ar gyfer Cymru gyfan. Rwyf eisiau gweld llawer mwy o dai cymdeithasol mawr eu hangen yn cael eu hadeiladu mewn cymunedau gwirioneddol gymysg, ymladd digartrefedd yn rhagweithiol, mynd i'r afael â datgarboneiddio, a thai'r farchnad agored o faint ac ansawdd da.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Yn ôl ffigurau Shelter Cymru, mae tua 3,600 o aelwydydd ar restri aros am dai cymdeithasol yn Sir Benfro, ac eto dim ond 172 o dai cymdeithasol a adeiladwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n gadael diffyg sylweddol wrth gwrs. Ym mis Medi, ymrwymodd rhaglen tai arloesol Llywodraeth Cymru £33 miliwn arall o gyllid i helpu i ddarparu 600 o gartrefi newydd eleni. A all y Gweinidog gadarnhau felly y bydd rhywfaint o'r arian yn cyrraedd Sir Benfro, ac a all gadarnhau hefyd sut y mae'n monitro cynnydd awdurdodau lleol ar y mater hwn?

Ie. Bydd Paul Davies yn gwybod ein bod wedi bod yn gweithio'n galed iawn i adeiladu llawer mwy o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru; mae cynyddu cyflymder a graddfa'r gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol wedi bod yn flaenoriaeth bwysig i Brif Weinidog Cymru. Ar hyn o bryd, caiff y rhan fwyaf o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru eu hadeiladu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig oherwydd, fel y gŵyr, roedd cyfyngiadau ar gyfrifon refeniw tai awdurdodau lleol tan y llynedd. Felly, rydym wedi gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i ddileu'r cyfyngiadau hynny a sicrhau bod y fframweithiau cywir ar waith er mwyn i'r cynghorau eu hunain allu benthyca i adeiladu tai, p'un a ydynt yn dal stoc dai neu beidio.

Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn gwneud cyfres o fuddsoddiadau. Hyd yn hyn, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydym wedi buddsoddi £1.7 biliwn mewn tai, a £137 miliwn o hwnnw yn y grant tai cymdeithasol, a thros £33 miliwn  yn y grant cyllid tai. Ar gyfer rhanbarth y canolbarth a'r de-orllewin, amcangyfrifwn fod yr angen am dai cymdeithasol yn 44 y cant o'r tai newydd sydd eu hangen, felly dylai 44 y cant o'r cartrefi newydd a adeiledir yn rhanbarth canolbarth a de-orllewin Cymru fod yn dai fforddiadwy os ydym am gyrraedd lle mae angen inni fod. Felly, cytunaf yn llwyr â chi fod angen inni gyflymu'r rhaglen honno.

Rydym wedi bod yn buddsoddi £71.5 miliwn o gyllid refeniw dros 29 mlynedd o dan y rhaglen grant tai fforddiadwy i helpu'r awdurdodau tai lleol i adeiladu tai cyngor newydd, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro. Disgwylir i tua 400 o gartrefi cymdeithasol newydd gael eu hariannu'n uniongyrchol drwy'r fenter honno ledled Cymru. Rydym hefyd ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o sicrhau bod 5,000 o dai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Rydym eisoes wedi rhoi £40 miliwn i gynghorau yng Nghymru i helpu perchnogion eiddo i ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Yn ddiweddar iawn, gwneuthum ddatganiad yn y Siambr am ddefnyddio'r sector rhentu preifat i gynorthwyo gyda thai cymdeithasol yn y cyfamser wrth inni adeiladu'r cartrefi rydym eu hangen, ac fe'i croesawyd o bob rhan o'r Siambr; rwy'n credu ein bod i gyd ar yr un dudalen ac yn gobeithio bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw.

Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef; mae angen i ni gynyddu cyflymder a graddfa'r gwaith adeiladu. Rydym wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y trefniadau hynny ar waith yn y flwyddyn rydym wedi'i chael i gychwyn ar y gwaith hwnnw. Mae Sir Benfro wedi cael ei chyfran lawn o'r grant, fel y mae awdurdodau'r parciau cenedlaethol, lle bo'n briodol, ar gyfer y trefniadau cynllunio. Yn y cyfamser, rydym yn rhoi cyfres o fesurau interim ar waith.

14:20
Hawliau Datblygu a Ganiateir

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru? OAQ54650

Yn sicr. Mae hawliau datblygu a ganiateir yn ddull pwysig o ddiddymu'r angen am ganiatâd cynllunio ar gyfer mân ddatblygiadau. Maent yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol ganolbwyntio ar geisiadau mwy a mwy cymhleth sy'n creu cartrefi a swyddi.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae nifer o bobl yn fy etholaeth, yn ardal Llanferres, wedi cysylltu â mi'n ddiweddar ynglŷn â phryderon sydd ganddynt am ddatblygiad sydd i'w weld yn digwydd yn ardal Big Covert yng nghoedwig Clwyd. Mae hon yn sefyllfa lle mae'n ymddangos bod ardaloedd o goetir wedi cael eu gwerthu'n dameidiog i unigolion ac yn anffodus, mae rhai o'r unigolion a oedd yn prynu'r darnau hynny o dir yn cwympo coed heb drwyddedau priodol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae rhai ohonynt yn adeiladu strwythurau wedi'u gwneud o goed neu wedi'u llusgo i mewn i'r goedwig ar drelars ac yn sefydlu ail gartrefi, bron, neu wersylloedd o ryw fath. Mae hyn i gyd yn digwydd heb ganiatâd datblygu priodol, ac yn anffodus, ymddengys bod Cyngor Sir Ddinbych yn cael peth anhawster i orfodi datblygiad oherwydd yr hawliau datblygu a ganiateir presennol. A allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i mi y byddwch yn ymchwilio i'r math hwn o ddatblygiad, sy'n ymddangos fel pe bai'n digwydd yn amlach, nid yn unig yng nghefn gwlad Sir Ddinbych ond mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal?

Gwnaf, yn sicr. Nid wyf yn ymwybodol ohono, ac os yw Darren Millar eisiau ysgrifennu ataf gyda manylion penodol, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Nid wyf yn gwybod y manylion, felly ni allaf wneud sylwadau mewn gwirionedd, ond ar y cyfan nid yw hawliau datblygu a ganiateir ond ar gael lle ceir adeilad preswyl neu adeilad arall eisoes sydd â hawliau datblygu a ganiateir ynghlwm wrtho. Ni fyddent fel arfer ar gael mewn coetir agored lle nad oes adeilad yn bodoli eisoes. Felly, er na allaf wneud sylwadau penodol, oherwydd ni allwch wneud hynny oni bai eich bod yn gwybod y manylion penodol, y cyngor cyffredinol fyddai nad oes gennych hawliau datblygu a ganiateir oni bai eu bod ynghlwm wrth annedd neu fangre arall sydd â'r hawliau hynny. Felly, mae'n ymddangos yn annhebygol ar yr wyneb y byddai hwnnw'n ddatblygiad a ganiateir.

Un o'r problemau sy'n wynebu llawer o drigolion yng nghefn gwlad Cymru, am nad yw eu tir yn cael ei ystyried yn ardal ar gyfer datblygiad tai a ganiateir, yw eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn cael caniatâd cynllunio ar gyfer tai ar eu tir, os mai bod yn ffordd i aelodau o'r teulu aros yn y gymuned leol yw diben y tai hynny wrth gwrs. Felly, a fyddech yn archwilio'r posibilrwydd o lacio'r rheolau hyn i ganiatáu datblygiad tai cyfyngedig ar gyfer angen lleol yn unig na ellir eu gwerthu neu eu troi'n ail gartrefi wedyn, fel ffordd o gefnogi cynaliadwyedd rhai o'n cymunedau gwledig?

Rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud. Yn anffodus, mae gennym ystod eang o dai a adeiladwyd dan yr amgylchiadau hynny sydd wedyn yn cael eu gwerthu yn weddol gyflym fel tai preifat ar y farchnad agored, a'r broblem yw sut y gallwn gael cydbwysedd i wneud hynny. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i archwilio gyda chynghorau o bob rhan o Gymru sut y gallwn gael mwy o dai cymdeithasol i'r ardaloedd hynny. Rwy'n awyddus iawn i bobl ifanc o bob cwr o Gymru allu fforddio'r tai sydd ar gael. Felly, mae'n ymwneud â sut y gallwn sicrhau bod y math iawn o dai yn cael eu hadeiladu mewn cymunedau o'r fath i ganiatáu i bobl ifanc aros yno, ac aelodau o'r teulu i aros yno, heb ei fod yn ffordd o werthu tŷ sector preifat arall yng nghanol cae yn rhywle, ac yn anffodus, rydym wedi gweld hynny'n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, rwy'n hapus iawn, Llyr, i weithio gyda chi i weld beth y gallwn ei wneud i gyflawni'r ddau nod hynny ar yr un pryd. Felly, rwy'n credu ein bod yn ceisio cyrraedd yr un lle. Mae'n ymwneud â sut i roi mesurau rheoli ar waith i sicrhau nad yw system o'r fath yn cael ei chamddefnyddio a'i bod ar gael i'r bobl ifanc sydd eisiau aros yn yr ardaloedd hynny yn enwedig.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown at gwestiynau'r llefarwyr, ac unwaith eto y prynhawn yma, llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A fyddech yn cytuno, Weinidog, yn dilyn eich cyhuddiad fod y diwydiant adeiladu tai preifat yn creu 'slymiau'r dyfodol'—sylwadau a wnaethoch yn gynharach eleni—fod Llywodraeth Cymru wedi creu amgylchedd braidd yn ddigroeso ar gyfer adeiladwyr tai yng Nghymru?

Na, ni fyddwn yn cytuno â hynny o gwbl. Rwy'n glynu wrth yr hyn a ddywedais. Dywedais eu bod mewn perygl o greu slymiau'r dyfodol. Os oes gennych ystâd o dai nad oes seilwaith ar gael ar ei chyfer, lle mae'n rhaid i bobl yrru i'r gwaith, lle mae'r tai wedi'u hadeiladu'n wael, ac a dweud y gwir, rydym wedi gweld enghreifftiau o hynny gan yr adeiladwyr tai mawr ledled Cymru, lle na chafwyd y breciau rhag tân mwyaf sylfaenol hyd yn oed, lle nad oes fawr o seilwaith gwyrdd, lle mae'r tai yn rhy agos at ei gilydd a lle nad oes lle i chwarae, mae—. Gwn ei fod yn cytuno â mi: nid yw'n enghraifft o ddatblygu da.

Ar y llaw arall, ceir llawer o ddatblygwyr sector preifat ledled Cymru, yn enwedig ym mhen BBaCh y farchnad, sy'n adeiladu cartrefi hyfryd iawn yn y sector preifat mewn datblygiadau cymysg gyda seilwaith gwyrdd da ac yn y blaen. Gallaf roi rhestr iddo o adeiladwyr BBaCh da o'r fath. Felly, nid wyf yn sôn am y sector preifat yn gyffredinol. Mae problemau wedi bod mewn perthynas â rhai o'r adeiladwyr mwy yn adeiladu'n rhy gyflym o lawer mewn ystadau un math o ddeiliadaeth ymhell o unrhyw seilwaith, ac yn adeiladu, rwy'n credu, er mwyn cynhyrchu elw i'r adeiladwr yn hytrach nag adeiladu'r cymunedau rydym eu hangen ar gyfer y dyfodol.

14:25

Wel, rwy'n falch eich bod wedi goleddfu'r sylwadau hynny ac wedi ychwanegu rhywfaint o ganmoliaeth i'ch gwerthfawrogiad o'r sector, oherwydd rwy'n credu eich bod wedi achosi llawer o ofid pan ddefnyddioch chi'r rhethreg honno am slymiau yn gynharach eleni.

A'r pwynt yw, mae'n amlwg fod arnom angen marchnad dai sy'n dod â'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, adeiladwyr tai mawr a bach, a llywodraeth genedlaethol a lleol at ei gilydd mewn partneriaeth sy'n llawn o ysbryd cyhoeddus cadarnhaol. Ac mae strategaeth dai gadarn i gynyddu'r cyflenwad yn galw am fwy na'r cynnydd angenrheidiol iawn mewn tai cymdeithasol; mae'n galw am adeiladwyr tai preifat hefyd i gynyddu nifer y tai ar y farchnad agored yn sylweddol er mwyn rhoi hwb i ddarpariaeth fforddiadwy yn gyffredinol, deiliadaethau cymysg, a phopeth arall sy'n mynd law yn llaw â hynny. Ac mewn gwirionedd roedd llawer o'r hyn a ddywedoch yn gynharach eleni yn ymwneud â chyfraith gynllunio wael, gorfodaeth reoleiddio wael, ac nid yw'n fater y gellir ei feio ar y rhan fwyaf o adeiladwyr tai sy'n gwneud gwaith rhagorol dros y wlad hon ac sydd â llawer o allu wrth gefn. Ac os gallwn eu hannog, gallent fod yn ganolog i'r broses o ddatrys ein hargyfwng tai.

Wel, unwaith eto, gallwn ddod o hyd i bethau y buaswn yn cytuno â hwy a phethau y buaswn yn anghytuno â hwy yn y sylwadau hynny, David Melding.

Yn ddiweddar, cyfarfûm ag un o'r adeiladwyr tai mwyaf; cawsom drafodaeth lawn a gonest. Rwyf newydd gael llythyr yn ôl ganddynt yn diolch imi am y cyfarfod cadarnhaol iawn a syniadau ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd gyda'r uchelgais hwn. Ac rwy'n meddwl eich bod yn rhannu fy uchelgais i weld y tai sy'n cael eu hadeiladu yn addas i bobl fyw ynddynt, yn hawdd i'w gwresogi a'u hoeri yn yr haf, gyda seilwaith gwyrdd, da o'u hamgylch, nid tai nad yw pobl ond ynddynt am mai dyna'r cyfan y gallent ei fforddio, neu am nad oes unrhyw dai cymdeithasol ar gael, tai y mae'r datblygwr wedi'u hadeiladu er mwyn gwneud yr elw mwyaf ohonynt. Felly, rwy'n cytuno â chi fod nifer fawr o adeiladwyr bach a chanolig da o gwmpas. Nid yw rhai o'r adeiladwyr mwy wedi ymateb i'r her, er fy mod yn falch iawn o ddweud, yn fy sgyrsiau â hwy, eu bod i'w gweld yn ymateb i'r her yn awr.

Ar ôl taflu sylw roeddwn yn anghytuno'n gryf ag ef atoch, a gaf fi ofyn ichi ymhelaethu ar yr hyn y dywedwyd eich bod wedi'i ddweud wrth Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn Abertawe yn gynharach yr wythnos hon? Mae'n rhywbeth rwy'n ei gymeradwyo. Fe ddywedoch chi:

Nid gwerthu tai cyngor oedd y 'gwendid mawr' gyda Hawl i Brynu o reidrwydd, ond yn hytrach, peidio â chaniatáu i gynghorau ddefnyddio'r elw o'r gwerthiannau hynny i adeiladu rhagor o gartrefi.

Hynny yw, rwy'n cytuno â hynny. Ond onid yw'n profi mai Plaid Geidwadol Cymru oedd yn iawn ar hyd yr amser, mai diwygio'r polisi hawl i brynu nid ei ddiddymu oedd angen ei wneud?

Rwy'n ofni bod pennawd yr erthygl rydych chi'n amlwg wedi'i darllen braidd yn gamarweiniol. Os ewch ymlaen i ddarllen yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd, nid yw'r pennawd yn ei gyfleu yn hollol. Yr hyn a ddywedais oedd, pan fyddwn wedi adeiladu digon o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru, pan fydd unrhyw berson yng Nghymru sydd am gael cartref rhent cymdeithasol yn gallu mynd at gyngor a dweud, 'Hoffwn rentu gennych, os gwelwch yn dda' a'u bod yn gallu dangos portffolio o lefydd addas i chi, er mwyn cael deiliadaeth gymysg mewn rhai ystadau, mae'n bosibl y bydd angen inni edrych i weld a fyddem, mewn rhai amgylchiadau, yn caniatáu i bobl brynu eu cartref rhent cymdeithasol. Felly, nid dyna'n hollol oedd y pennawd roeddech chi mor falch o'i weld. Felly, rwyf am ei ailadrodd: pan fyddwn wedi adeiladu cymaint â hynny o gartrefi cymdeithasol ledled Cymru, a'i fod yn rhywbeth y gall pobl ei ddewis am fod cyflenwad digonol ar gael, yna wrth gwrs, gallem edrych i weld sut y gallwn annog rhywfaint o ddeiliadaeth gymysg. Ond ofnaf na fydd hynny'n digwydd yn fy oes wleidyddol i nac yn eich un chi.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol wedi ymuno â'r rhestr faith o sefydliadau sy'n feirniadol o ymddygiad yr adran fwyaf dialgar ac anghymwys yn Ewrop, yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn yr achos hwn, maent yn cyfeirio at y problemau a achosir gan y credyd cynhwysol i'r rhai sy'n talu eu rhent yn wythnosol. Mae rheoliadau'r credyd cynhwysol yn datgan y bydd hawl i gredyd cynhwysol tenantiaid â thenantiaethau wythnosol yn cael ei gyfrifo ar sail uchafswm o 52 wythnos. Mae hyn yn golygu, bob pum mlynedd, y codir rhent ar denantiaid sy'n talu'n wythnosol ar yr un diwrnod ar sail 53 wythnos, ond ni fyddant ond yn gallu cael credyd cynhwysol ar gyfer 52 wythnos. Felly, dyma ddiffyg yr amcangyfrifodd Cartrefi Cymunedol Cymru y gallai effeithio ar 13,000 o bobl yng Nghymru.

Efallai fod hyn i'w weld yn nodwedd ddibwys sy'n codi o aliniad y rheoliadau a'r calendr, ond i bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ac sydd eisoes yn ddrwgdybus o'r Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n ychwanegu problem arall a gall wthio aelwydydd dros y dibyn. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i liniaru hyn?

14:30

Ie, rwy'n cytuno. A chredaf fod yna broblem wirioneddol—buom yn trafod yn y Siambr hon, y tro diwethaf roeddwn yn ateb cwestiynau, rwy’n credu, neu yn un o'r datganiadau ar dai—ynghylch yr hyn y mae'r lwfans tai lleol yn ei wneud i bobl yn y sector rhentu preifat hefyd. Oherwydd, fel y gwyddoch, mae credyd cynhwysol wedi’i gapio ar lefel y lwfans tai lleol, ac mae hwnnw wedi'i rewi ers pedair blynedd. Felly, yn amlwg, mae pobl yn gorfod ychwanegu cryn dipyn o arian at eu rhent o swm bach iawn o arian. Ac mae hynny'n arwain at ôl-ddyledion rhent, dyledion, a thipyn o ofid yn y sector. A chredaf fod yr adroddiad hwnnw, yn ôl yr hyn rwy'n ei gofio, yn dweud mai 2 y cant yn unig o'r tai sydd ar gael i'w rhentu yng Nghaerdydd sydd o fewn y lwfans tai lleol, gan ei fod wedi'i rewi ers pedair blynedd bellach. Roedd Llywodraeth y blaid gyferbyn wedi dweud, pe baent wedi aros mewn grym a heb alw’r etholiad cyffredinol hwn, y byddent yn adolygu hynny yr haf nesaf. Nid wyf yn gwybod beth y mae 'adolygu' yn ei olygu, ond yn amlwg, rydym yn gobeithio y byddent yn ei osod yn ôl lle dylai fod, sef tua thraean o rent arferol y farchnad ar gyfer ardal. Felly, y peth cyntaf y dylem fod yn ei wneud yw dweud y byddem yn gwneud hynny.

Yn ail, o ran y ffordd y caiff ei dalu, mae’r oedi mewn credyd cynhwysol, pan fyddwch yn mynd i mewn ac allan o gredyd cynhwysol, yn amlwg yn ddinistriol i bobl. Ac ni allaf gofio a wyf ar yr ail neu'r trydydd, ond beth bynnag, y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw cytuno’n llwyr â chi y dylai pobl, yn amlwg, fod yn talu'r rhent y mae'n rhaid iddynt ei dalu. Ac os ydynt yn ei dalu'n wythnosol, dylid ei dalu'n briodol iddynt, ac os ydynt yn ei dalu'n fisol, dylent fod yn ei dalu'n briodol. Rwy'n mawr obeithio, pan fydd ein Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), a basiwyd gennym yn y Cynulliad hwn yn ôl yn 2016, mewn grym gennym, ac rwy’n mawr obeithio gwneud hynny erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn—fel y gwyddoch, rydym yn gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd i wneud hynny—y bydd hynny o leiaf yn lleddfu rhywfaint ar y mater, gan y bydd yn rhoi gwell sicrwydd i bobl wrth i'w deiliadaeth fynd rhagddi.

Iawn. Wel, mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi awgrymu defnyddio taliadau disgresiwn at gostau tai i helpu'r bobl yr effeithir arnynt. Nawr, yr opsiwn a ffafrir gennyf fyddai pe bai gan Gymru reolaeth weinyddol dros nawdd cymdeithasol fel y gallem ddatrys y broblem dros nos, ac ni fyddai’n costio unrhyw arian inni ychwaith. Nid oes pwynt gofyn i chi a ydych yn cytuno â hynny, Weinidog—rydym wedi trafod hyn lawer gwaith o'r blaen.

Felly, rwy’n awyddus i ehangu'r pwnc. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r rhestr hirfaith o ostyngiadau i daliadau nawdd cymdeithasol dros y degawd diwethaf, a sut y mae pob un ohonynt nid yn unig wedi gwaethygu tlodi, ond hefyd wedi rhwystro gallu ein cymdeithasau tai i gefnogi pobl. Nododd Swyddfa Archwilio Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl fod y rhan fwyaf o'r arbedion honedig yn sgil toriadau i fudd-daliadau wedi cael eu llyncu gan y ffaith bod yn rhaid i gymdeithasau tai ganolbwyntio adnoddau ar dasgau gweinyddol a achoswyd gan lawer o'r toriadau hyn, yn ychwanegol at y costau ehangach y mae’r gwasanaethau cyhoeddus wedi gorfod eu hysgwyddo o ganlyniad i ddigartrefedd, ôl-ddyledion, straen, ac ati. A yw'r Llywodraeth wedi cynnal asesiad cyfredol o faint y mae toriadau nawdd cymdeithasol San Steffan wedi’i gostio i wasanaethau cyhoeddus Cymru?

Fe siaradaf â fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, sy'n arwain ar faterion lles, ond mae'n un o'r materion rydym wedi gofyn i'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd edrych arnynt hefyd, gan eu bod yn mynd i wneud tri adroddiad arall. Fel y gwyddoch, maent wedi cwblhau’r adroddiad ar ddigartrefedd yn y cyfnod cyn y Nadolig ar ein cyfer. Ond mae'n un o'r pethau rydym wedi gofyn iddynt edrych arnynt hefyd. A chredaf ein bod yn dal i aros am yr ymchwil ar weinyddu lles. Nid wyf yn siŵr heb fynd i edrych—nid wyf yn gwybod a yw Hannah yn gwybod—erbyn pryd y mae hwnnw i fod i ddod i law, ond gallaf ysgrifennu at yr Aelod i roi gwybod iddi.

Weinidog, pe bai eich Llywodraeth yn cynnal asesiad, fel rwyf newydd ei awgrymu, credaf y byddai hynny o'r diwedd yn cael gwared ar y syniad fod budd ariannol i’w gael o San Steffan yn rheoli'r materion hyn. Y gwir amdani yw na allwn fforddio peidio â rheoli’r gwaith o weinyddu lles. Mae'n amlwg o dystiolaeth ryngwladol mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau tlodi yw rhoi mwy o arian i'r aelwydydd tlotaf. Nawr, mae Plaid Cymru yn awyddus i gael bargen deg i deuluoedd Cymru, sy'n golygu ein bod yn awr yn cynnig bod Cymru'n cyflwyno taliad newydd o £35 yr wythnos am bob plentyn mewn teulu incwm isel, gan ddod â 50,000 o blant allan o dlodi. Ar ôl bron i 20 mlynedd, mae tlodi plant yn waeth nag erioed yn y wlad hon. Onid yw'n bryd inni fabwysiadu ymagwedd wahanol, ac a fyddech yn cytuno â Phlaid Cymru mai nawr yw'r adeg i gyflwyno taliad o'r fath?

Credaf, unwaith eto, ein bod yn cytuno ar y mater sylfaenol—yn amlwg, y ffordd allan o dlodi yw rhoi mwy o arian i bobl. Yn amlwg, y ffordd orau o wneud hynny yw rhoi cyfle iddynt ei ennill mewn swyddi da a theg, fel nad yw pobl yn dibynnu ar fudd-daliadau—felly talu cyflog byw gwirioneddol, ac yn y blaen. Felly credaf ein bod yn cytuno ynglŷn â hynny. Rydym yn aros am ymchwil, ond mae arnaf ofn na allaf gofio pryd y bydd yn barod. Rydym am fod yn sicr beth fyddai'n digwydd pe baem yn gyfrifol am weinyddu budd-daliadau, beth y mae hynny'n ei olygu i ni o ran cost, ac a allwn weinyddu'r budd-daliadau yn briodol heb orfod gweinyddu rhai o'r cyfundrefnau gorfodi a chosbi echrydus sydd ar waith ar hyn o bryd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y gwn ei bod yn anghytuno â hwy, ac rwyf innau hefyd yn anghytuno'n gryf ag atal arian i bobl am fod eu bws yn hwyr ac ati—ffordd gwbl ddideimlad o fynd o’i chwmpas hi. Felly, rydym am fod yn sicr, os byddwn yn gyfrifol am y broses weinyddu, na fyddwn yn cael cyfres o ganlyniadau anfwriadol o ganlyniad i hynny, o ran y gost i weddill pwrs y wlad, gan fy mod yn cytuno â hi ar egwyddor ei weinyddu, ond yr hyn yr hoffem ei ystyried yw sut olwg fyddai ar hynny. Rwy’n ymddiheuro—dylwn allu cofio, ond ni allaf gofio, pryd y daw'r gwaith ymchwil hwnnw i law, felly fe ysgrifennaf atoch ynglŷn â hynny.FootnoteLink

14:35
Llywodraeth Leol a Chyrff Iechyd Cyhoeddus

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo partneriaeth effeithiol rhwng llywodraeth leol a chyrff iechyd cyhoeddus yng Nghymru? OAQ54647

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a byrddau iechyd, feddwl a gweithredu'n wahanol, gan sicrhau bod cydweithredu wrth wraidd y ffordd y maent yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys, ond yn ymestyn ymhell y tu hwnt, i'w gwaith ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch. Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cymorth arbenigol ar iechyd y cyhoedd i'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae holl gyrff y GIG yn rhannu’r cyfrifoldeb am iechyd y cyhoedd yng Nghymru, o dan arweinyddiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mewn cyferbyniad, yn Lloegr, cafodd y prif ddyletswyddau statudol ar gyfer iechyd y cyhoedd eu gosod ar awdurdodau lleol yn 2013, gyda’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am wella iechyd y boblogaeth leol ac am wasanaethau iechyd cyhoeddus, heb gynnwys unrhyw wasanaethau iechyd rhywiol na gwasanaethau sy’n ceisio lleihau camddefnydd o alcohol a chyffuriau. Yn ddiweddar, cefais gyfarfod â swyddogion ac aelodau gweithredol awdurdod lleol yng Nghymru a ddywedodd wrthyf fod y ffocws a gwaith craffu yn Lloegr wedi bod yn well am yr un adnoddau o ganlyniad i hynny. Dywedodd adroddiad dilynol ar lansio hyn yn Lloegr gan yr elusen iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol a'r felin drafod, y King's Fund, fod,

Trosglwyddo swyddogaethau a staff iechyd y cyhoedd... i awdurdodau lleol wedi mynd yn rhyfeddol o dda yn y rhan fwyaf o achosion, gyda chyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd yn hyderus o ganlyniadau iechyd gwell yn y dyfodol ac yn adrodd am brofiadau cadarnhaol o weithio mewn awdurdodau lleol.

Heb farnu ymlaen llaw ar hyn, pa ystyriaeth neu ba rôl adolygu sydd gan Lywodraeth Cymru wrth ystyried, ar sail niwtral, ar sail anfeirniadol, beth sy'n gweithio orau mewn modd sy'n gysylltiedig â chanlyniadau ac edrych i weld a yw'r systemau dros y ffin yn cyflawni’n well, fel yr honnwyd wrthyf?

Mewn gwirionedd, mae iechyd y cyhoedd ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, nid fy un i. Felly, mae llawer o'r hyn rydych newydd sôn amdano ym mhortffolio Vaughan Gething, ond yn gyffredinol, rydym wedi bod yn defnyddio'r byrddau partneriaeth rhanbarthol i gyflawni'r un canlyniad, gan fod a wnelo hyn â mwy na throsglwyddo swyddogaethau o un rhan o'r sector cyhoeddus i'r llall; mae'n ymwneud â sicrhau bod y sector cyhoeddus cyfan yn gweithio gyda'i gilydd yn gytûn i gyflawni set o ganlyniadau y cytunwyd arnynt ar y cyd a gweledigaeth a rennir. Felly, mae'n system gymharol newydd. Rydym wedi cael adroddiadau wedi'u gwneud arni.

Yn y Bil llywodraeth leol, rydym ar fin rhoi trefniant gweithio rhanbarthol gwahanol ar waith, y gall awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd ac iechyd y cyhoedd a chyrff cyhoeddus eraill fanteisio arno os ydynt am wneud hynny, ar y sail na cheir un ateb sy'n addas i bawb. Felly, os oes awdurdod lleol rydych yn siarad ag ef o’r farn fod hwnnw'n llwybr gwell, bydd ganddynt ffordd o wneud hynny. Ond ar hyn o bryd, rydym wedi bod yn edrych ar sicrhau bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gweithio. Mae'n drefniant cymharol newydd yng Nghymru. Mae’n gweithio’n dda hyd yn hyn. Ond rydym yn ystyried eu sefyllfa ar hyn o bryd, ac mewn gwirionedd, mae gan fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, a minnau ddiddordeb yn y ffordd y mae hynny'n gweithio ac a fydd angen i'r ffordd rydym yn ariannu hynny a'r ffordd rydym yn cefnogi hynny newid yng ngoleuni'r gwersi a ddysgir, a ninnau yn ail flwyddyn ei weithrediad, rwy’n credu.

Ie, diolch, Weinidog. Clywaf yr hyn a ddywedwch am fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ond yn amlwg, er mwyn datblygu'r ddadl ychydig, gyda'r ystod o'r hyn sy'n gwneud pobl yn sâl yn y lle cyntaf—y penderfynyddion afiechyd fel y’u gelwir, fel y gwyddoch—maent eisoes yn rhan o gylch gorchwyl llywodraeth leol: iechyd yr amgylchedd a thai gwael, addysg yn arbennig a thrafnidiaeth gyhoeddus. Maent eisoes o dan reolaeth awdurdodau lleol. Felly, byddai'n gwneud synnwyr i geisio cryfhau agweddau iechyd y cyhoedd awdurdodau lleol, gan eu bod eisoes yn gwneud llawer o hynny, trosglwyddo cryn dipyn o hynny yn uniongyrchol i awdurdodau lleol, yn hytrach nag i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Nid wyf yn gwybod sut rydych chi'n teimlo am hynny.

Nid ydym yn y gêm o drosglwyddo swyddogaethau o'r naill i'r llall. Gallwch ddadlau y dylai gofal cymdeithasol fod yn rhan o iechyd, neu y dylai'r holl beth fod gyda'i gilydd mewn un corff neu beth bynnag. Yn gyffredinol, rwyf o'r farn nad y strwythur sy'n bwysig, ond y trefniadau gweithio a'r diwylliant. Felly, rydym yn mynd ar lwybr y byrddau partneriaeth rhanbarthol am ein bod eisiau i'r holl wasanaethau cyhoeddus weithio'n dda gyda'i gilydd. Felly, mae'n llygad ei le, ond gallech ychwanegu cael swydd dda a gofal iechyd sylfaenol da a phopeth arall at hynny.

Felly, mae gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol yr ystod o wasanaethau cyhoeddus yn rhan ohonynt. Mae ganddynt drefniadau cyllidebol a rennir, ac maent yn rhannu gweledigaeth a diben. Fel y dywedaf, rydym ar fin rhoi cyfrwng newydd iddynt os ydynt am ei ddefnyddio. Nid yw hynny'n orfodol; gallant ei ddefnyddio os ydynt am wneud hynny. Nid ydym wedi mynd am un ateb sy’n addas i bawb, gan fod y diwylliant yn wahanol ledled Cymru, felly mewn rhai lleoedd, byddant am gael trefniadau ychydig yn wahanol. Ond gyda Vaughan, rwyf wedi bod yn edrych yn agos iawn ar sut y mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi bod yn datblygu, sut rydym yn eu hariannu a sut y mae'r partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi gwneud tai yn aelod statudol o'r bwrdd yn ddiweddar am yr union reswm a amlinellwyd gennych.

14:40
Cynorthwyo Pobl Ifanc sy'n Byw mewn Gofal

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl ifanc sy'n byw mewn gofal i ganfod tai addas sy'n diwallu eu hanghenion i fyw'n annibynnol? OAQ54673

Rydym wedi buddsoddi £10 miliwn ychwanegol eleni i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys ariannu prosiectau penodol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Rydym yn canolbwyntio ar gryfhau'r trefniadau sydd ar waith i sicrhau bod pobl ifanc yn pontio'n llwyddiannus o ofal i fyw'n annibynnol, gyda chyd-grŵp tai a gwasanaethau cymdeithasol yn llywio'r gwaith hwn.

Wel, diolch am eich ateb, Weinidog, ac nid oes amheuaeth fod llawer o sefydliadau da yn y gymuned yn gweithio gyda'r bobl ifanc hyn i'w galluogi i bontio o'r lleoliad gofal i leoliad byw'n annibynnol. Nawr, yn aml iawn, rydym yn gweld eu bod yn symud i mewn i un ystafell neu gegin fach mewn tŷ, lle maent yn rhannu ystafelloedd ymolchi a chyfleusterau toiled a lle ceir mynediad at warden efallai, nad ydynt fel arfer yn byw ar y safle, am gefnogaeth. Nawr, rwyf wedi gweld bil am lety o'r fath ac mae'n dod i oddeutu £900 y mis. Felly, mae'n rhaid i'r bobl ifanc hynny ddod o hyd i'w bwyd, eu costau teithio a'u costau dillad, ac maent yn benthyca arian o ganlyniad i hynny i geisio byw bywydau normal. Os ydynt yn cael gwaith, maent mewn cylch diddiwedd wedyn am na allant gael tai cymdeithasol oherwydd dyled. O ganlyniad, maent yn gaeth i'r llety hwnnw ac maent yn dal i dalu'r costau uchel hynny. A wnewch chi gael trafodaethau gyda sefydliadau i sicrhau eu bod yn gweithio gyda'r bobl ifanc hyn i sicrhau y gallant ddod allan o'r cylch diddiwedd hwnnw ac i mewn i dai cymdeithasol? Gwelais fflat yn fy etholaeth—fflat un ystafell wely. Felly, un ystafell wely, un ystafell fyw, un gegin, un ystafell ymolchi, y cyfan iddynt hwy eu hunain—nid i'w rhannu—am £400 y mis. Ac nid ydynt yn gwario £400 y mis ar gyfleustodau, sef yr hyn fyddai'r gost arall. Felly, os ydym am helpu'r bobl ifanc hyn i ddod yn annibynnol ac i fyw'n annibynnol yn y gymuned, cael swydd a dod yn ddinasyddion defnyddiol, mae angen inni weithio gyda'r sefydliadau hynny i'w helpu.

Cytunaf yn llwyr â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o'r manylion, a buaswn yn gwahodd David Rees i ysgrifennu ataf gyda manylion yr achos y mae'n ei grybwyll. Ond ceir ystod o bethau a ddarperir drwy lety i bobl ifanc sy'n gadael gofal, a gofal yn benodol yw rhai o'r rheini. Rwy'n ofni nad wyf yn gwybod beth sydd wedi'i gynnwys yn y rhent y sonioch chi amdano—os oes pecyn gofal wedi'i gynnwys neu unrhyw beth arall. Ond gwn fod gennym, yn y cyfnod pontio i bobl ifanc, gymorth ariannol ar gael iddynt os ydynt yn y sefyllfa honno ac rydym hefyd yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol i sicrhau nad yw'r math hwnnw o ddyled yn eich rhwystro rhag gallu cael mynediad at dai cymdeithasol, er enghraifft.

Felly, gwyddom fod digartrefedd wedi effeithio'n anghymesur ar bobl sy'n gadael gofal, ac rydym yn awyddus iawn i fynd i'r afael â hynny. Felly, rydym wedi rhoi nifer o fesurau ar waith. Mae gennym gyd-grŵp tai a gwasanaethau cymdeithasol wedi'i sefydlu o dan y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddigartrefedd, ac fe fyddwch yn gwybod am hwnnw, a'r grŵp cynghori gweinidogol ar wella canlyniadau er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r holl faterion gyda'i gilydd. Rwy'n fwy na pharod i rannu gwaith y grŵp gyda'r Aelod yn sgil y cwestiwn hwn.

Mae gadael gofal, wrth gwrs, yn un o'r adegau anoddaf ym mywydau pobl ifanc ac nid yw rhai pobl—pobl ifanc yn enwedig—yn teimlo'n hollol barod i ymdopi ar eu pen eu hunain. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd llety â chymorth, fel cynlluniau byw yn y gymuned neu dai â chymorth, yn cael eu hystyried. Rwyf wedi gweld darpariaeth wych yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Fodd bynnag, mae'r galw'n fwy na'r cyflenwad, ac rwyf wedi darganfod, drwy sgwrsio ag aelodau etholedig a swyddogion, fod llai na 50 y cant o unigolion ag anawsterau neu anableddau dysgu yn gallu cael mynediad at gynlluniau cymorth o'r fath yng Nghonwy. Ac rwyf hefyd yn ymwybodol o'r gost wirioneddol sy'n gysylltiedig â rhai o'r cynlluniau hyn—gallant fod dros £1,000 y mis. Pa gefnogaeth rydych yn ei rhoi i awdurdodau lleol fel y gallant o leiaf geisio ateb rhywfaint o'r galw yr ymddengys ei fod yn cynyddu o wythnos i wythnos bellach—yr angen am y math hwn o gynllun byw â chymorth?

14:45

Mae gennym ystod o fesurau, fel y dywedais yn fy ateb i David Rees, ac rydym hefyd yn edrych ar gyfres o fesurau eraill ar draws y Llywodraeth. Felly, fel y dywedais, mae gennym y cyd-grŵp tai a gwasanaethau cymdeithasol o dan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a'r grŵp gweinidogol i edrych ar yr ystod o opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc sy'n gadael neu sydd wedi gadael gofal, rhwng 16 a 24 oed. Mae hefyd yn edrych ar y trefniadau cymorth parhaus sydd ar waith i helpu i gefnogi pobl ifanc sy'n pontio i fyw'n fwy annibynnol. Ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn awr, mae ystod o wahanol ddarpariaethau, o ofal llawn, mewn gwirionedd, mewn llety â chymorth, i'ch rhoi mewn llety lle mae gennych gefnogaeth tenantiaeth arferol, ond nid trefniadau gofal. Mae'r ystod yn fawr iawn. Os oes gofal yn cael ei ddarparu, mae'n rhaid i hynny fod mewn cyfeiriad cofrestredig. Felly, mae'n anodd iawn cael sgwrs gyffredinol am set benodol iawn o bethau.

Mae gennym hefyd, wrth gwrs, y cynllun Pan Fydda i'n Barod, sy'n galluogi pobl ifanc mewn gofal maeth i barhau â'u gofalwyr maeth hyd nes eu bod yn 18 oed, os mai dyna maent hwy a'u gofalwyr maeth yn ei ddymuno ac os mai dyna sydd orau i'w lles, neu hyd nes eu bod yn 21 oed, os ydynt yn cwblhau rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni.

Felly, os oes gennych unrhyw beth penodol mewn golwg, rwy'n fwy na pharod i siarad â chi am y manylion penodol hynny, ond yn gyffredinol, mae gennym ystod o ddarpariaeth a gefnogir gan ein gwahanol grantiau. Rydym newydd ychwanegu £1 miliwn at gynllun Dydd Gŵyl Dewi, er enghraifft, er mwyn cefnogi'r mathau hyn o gynlluniau ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal.

Undebau Credyd

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i undebau credyd yng Nghymru? OAQ54667

Mae undebau credyd yn darparu mynediad at gredyd fforddiadwy ac yn hybu arfer o gynilo. Maent yn cynnig dewis arall mwy teg a moesegol yn lle credyd ar gost uchel, sy'n aml yn ecsbloetiol. I gefnogi eu gwaith, mae £544,000 yn cael ei ddarparu i undebau credyd yn y flwyddyn ariannol hon er mwyn rhoi 20 prosiect sy'n hyrwyddo cynhwysiant ariannol ar waith.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn agosáu at adeg o'r flwyddyn a all roi pwysau enfawr ar gyllidebau aelwydydd, a gall pwysau hysbysebu a'r dyhead i brynu'r peth iawn arwain yn aml at benderfyniadau gwario anghywir a bwydo twf dyled bersonol, a dyled sy'n anghynaliadwy mewn gwirionedd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r undebau credyd ledled Cymru, gan gynnwys gwaith gwych Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful ac Undeb Credyd Smart Money Cymru, sy'n darparu gwasanaethau arian a benthyg yn fy etholaeth, a all helpu teuluoedd sydd o dan bwysau i gyllidebu'n effeithiol, nid yn unig adeg y Nadolig, ond drwy gydol y flwyddyn? Ac a allech ddweud wrthyf beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo ac annog defnydd o undebau credyd?

Rhannaf bryderon yr Aelod ynglŷn â’r pwysau a’r baich ychwanegol a deimlir ac a roddir yn aml ar deuluoedd ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn enwedig, ac mae'r dyhead i wneud y peth iawn, efallai, i'ch teulu neu eich plant—y pwysau ychwanegol y mae hynny’n ei roi, ac mae'n effeithio ar allu pobl i dalu biliau hanfodol y cartref, gan gynnwys rhent a morgeisi.

Wrth gwrs, fe ategaf eich diolch am y gwaith rhagorol y mae'r undebau credyd mewn cymunedau ledled Cymru yn ei wneud, gan gynnwys, yn amlwg, undeb credyd Merthyr Tudful a Smart Money Cymru. A hoffwn gofnodi fy niolch iddynt heddiw am eu hymrwymiad ym mhob dim a wnânt yn ein cymunedau. Fel y dywedwch, mae angen ichi feddwl bod undebau credyd ar gyfer pawb, ac fel y dywedwch, maent yn arbennig o ddefnyddiol yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn galluogi pobl i gynilo tuag at y Nadolig, ond credaf y dylem ddefnyddio'r mantra nad ar gyfer y Nadolig yn unig y mae undebau credyd, ond am oes. A chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau i hyrwyddo'r defnydd o undebau credyd a chredaf efallai fod mwy y gallwn ei wneud o ran gweithio gyda'r Aelodau i weld sut y gallwn ledaenu'r neges honno ym mhob un o'n hetholaethau.

Weinidog, mae Undeb Credyd Casnewydd wedi arloesi gyda chynllun benthyciadau personol i atal mwy o bobl rhag cael eu bachu gan fenthycwyr diwrnod cyflog a'u cyfraddau llog uchel. Mae'r benthyciad teulu yn gynllun arloesol sy'n caniatáu i aelodau undeb credyd ad-dalu'r hyn y maent yn ei fenthyca yn uniongyrchol o'u budd-daliadau. Mae undebau credyd eraill yng Nghymru bellach yn dilyn esiampl Casnewydd. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Undeb Credyd Casnewydd ar y cynllun hwn, ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i barhau i gefnogi undebau credyd gyda'u gwaith i atal pobl rhag defnyddio benthycwyr diwrnod cyflog, sy'n codi dros 3,000 y cant yn fwy o log ar rai benthycwyr mewn rhai achosion? Diolch.

Rwy'n fwy na pharod i ymuno â'r Aelod i longyfarch gwaith Undeb Credyd Casnewydd ym mhob dim a wnânt, ac fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol i Dawn Bowden, mae undebau credyd yn cynnig dewis llawer tecach, mwy moesegol na benthycwyr cost uchel, ecsbloetiol iawn yn aml, sy'n manteisio ar bobl mewn cymunedau ledled Cymru.

O ran y gwasanaethau y mae Undeb Credyd Casnewydd yn eu cynnig, maent yn cynnig gwasanaethau rhagorol, fel llawer o undebau credyd eraill ledled Cymru. Credaf mai un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo 100 y cant i barhau i'w cefnogi yw'r gwaith rhagorol y mae undebau credyd yn ei wneud. Credaf fod angen inni fod yn ymwybodol, mewn gwirionedd, fod amrywiaeth enfawr ymhlith y 18 undeb credyd ledled Cymru, gyda'r undeb credyd mwyaf yng Nghymru 42 gwaith yn fwy o faint na'r lleiaf, ac mae rhai undebau credyd, fel rhai yn fy etholaeth i, yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn unig ac yn canolbwyntio ar ddarparu arbedion traddodiadol, tra bo undebau credyd mwy o faint, efallai, yn gallu cynnig ystod lawer ehangach o wasanaethau. Ac wrth gwrs, rydym yn fwy na pharod i barhau i weithio gydag undebau credyd ledled y wlad i weld sut y gallant adeiladu ar y gwaith a wnânt.

14:50
Lleihau Lefelau Digartrefedd

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau lefelau digartrefedd? OAQ54684

Gwnaf. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael â digartrefedd ar ei holl ffurfiau yng Nghymru. Cefnogir yr ymrwymiad hwn gan dros £20 miliwn eleni yn unig. Mae ein strategaeth, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, yn nodi'r fframwaith polisi ar gyfer camau i atal digartrefedd, a lle na ellir ei atal, i sicrhau ei fod yn brin, dros gyfnod byr ac nad yw'n digwydd eto.

Rwyf wedi derbyn gwaith achos ar bobl ddigartref mewn sefyllfa enbyd a ofynnodd am gymorth gan gyngor Rhondda Cynon Taf, ddim ond i gael eu troi ymaith. Gwn am elusen leol sy'n helpu pobl ddigartref sy'n cael profiadau tebyg. Nawr, mae'r cyngor fel arfer yn dweud nad oes ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol i roi cartref i bobl os nad ydynt yn flaenoriaeth. Maent yn ychwanegu mai'r unig ffordd o gael eu trin fel blaenoriaeth yw os yw'r unigolyn yn fygythiad iddynt eu hunain, i'r cyhoedd neu os oes ganddynt broblemau iechyd meddwl neu broblemau meddygol.

Y mis diwethaf, gofynnais i chi mewn sesiwn bwyllgor a allem godi achosion yn uniongyrchol gyda chi pan fo'r awdurdod lleol wedi troi rhywun ymaith fel hyn, ac fe ateboch chi'n bendant y gallem. Fodd bynnag, pan anfonais e-bost atoch wedi hynny ynglŷn â dyn a oedd yn ddigartref ar ôl dioddef cam-drin domestig ac a oedd eisoes wedi cael ei droi ymaith gan gyngor Rhondda Cynon Taf, fe ysgrifennoch chi'n ôl ataf gan ddweud, a dyfynnaf,

Ni all Gweinidogion Cymru ymyrryd mewn achosion unigol, gan mai Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am fynd i'r afael ag anghenion tai yn eu hardal.

Felly, a allwch egluro i mi heddiw, unwaith ac am byth, a all Llywodraeth Cymru ymyrryd pan fydd awdurdod lleol yn troi ei gefn ar bobl ddigartref neu unrhyw achosion eraill sy'n ymwneud â phobl mewn argyfwng?

Ie, wel, mae'r llythyr yn mynd yn ei flaen i ddweud,

Fodd bynnag, mae fy swyddogion wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ynghylch y materion a godwch. Gallaf gynnig y cyngor canlynol.

Ac yna mae sawl paragraff arall yn manylu ar y cyngor y gallem ei gynnig. Mae'n ddrwg gennyf os nad dyna oeddech yn ei ddisgwyl, ond yn amlwg, ni allwn ymgymryd â gwaith achos unigol yn y Llywodraeth. Fodd bynnag, rydym wedi cysylltu â Rhondda Cynon Taf, fel y dywed y llythyr yn glir wrthych. Mae'n cynnig ystod o wasanaethau i'ch swyddfa etholaethol, yn nodi'r hyn sydd ar gael, a gwn fod y swyddogion wedi cael sgwrs eithaf hir gyda'r swyddogion yn Rhondda Cynon Taf am yr achos hwnnw a'r themâu cyffredinol a ddeilliai ohono. Felly, dyna oedd gennyf mewn golwg pan siaradais â chi. Yn amlwg, ni allaf ymgymryd â llwyth achosion unigol fel un o Weinidogion y Llywodraeth. Ond roedd swyddogion wedi cael y sgwrs honno gyda Rhondda Cynon Taf, ac os oes pethau'n codi yn gyffredinol o'ch gwaith achos sy'n mynd o chwith mewn cyngor yn eich barn chi, rwy'n fwy na pharod i ofyn i'r swyddogion gysylltu â'r cyngor a gwneud yn siŵr eu bod yn cadw at ysbryd a llythyren y gyfraith.

Weinidog, bydd yn aeaf arnom unwaith eto cyn bo hir, ac mae'n edrych yn debyg y bydd yn un gwael. Pa gefnogaeth y bydd eich Llywodraeth yn ei rhoi i'r awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi yn y trydydd sector i helpu pobl sy'n cysgu allan yn enwedig?

Fel y dywedais, rydym wedi buddsoddi dros £20 miliwn eleni yn unig i atal a lleddfu digartrefedd. Mae'r cyllid yn cefnogi ystod o wasanaethau statudol ac anstatudol i helpu pobl nad oes ganddynt le diogel i fyw. Cyhoeddwyd y datganiad polisi strategol ar 8 Hydref ac mae'n nodi'r fframwaith polisi a'r egwyddorion y bydd y Llywodraeth hon yn eu mabwysiadu er mwyn atal a mynd i'r afael â digartrefedd. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio'n helaeth ar ymateb sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi'i lywio gan drawma, sy'n cynnwys yr holl wasanaethau cyhoeddus er mwyn diwallu anghenion y rheini sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref neu sy'n ddigartref.

Gwasanaethau ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

7. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? OAQ54649

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog. I ychwanegu at fy natganiad llafar ddoe, mewn partneriaeth â grŵp arbenigol y lluoedd arfog ac eraill, byddwn yn parhau i fynd i'r afael â'r materion allweddol a nodwyd yn ein hymarfer cwmpasu'r lluoedd arfog, gan adeiladu ar y gwaith rydym wedi'i wneud eisoes.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn hanfodol fod cyn-filwyr a'u teuluoedd yn cael tai saff a diogel, a thai â chymorth wrth ddychwelyd i fywyd sifil. Nid yw darparu taflenni a chardiau cyngor yn unig yn lleddfu pryderon y Lleng Brydeinig Frenhinol ynglŷn â sut y gall swyddogion tai sy’n darparu’r gefnogaeth angenrheidiol reoli achosion cymhleth o dai am ddim i gyn-filwyr. Ddirprwy Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu'r hyfforddiant angenrheidiol i awdurdodau tai yn y gweithdrefnau cywir a'r opsiynau sy'n agored i gyn-filwyr yng Nghymru? Diolch.

14:55

Cytunaf yn llwyr fod angen inni sicrhau ein bod yn cefnogi ein cyn-filwyr a chymuned y lluoedd arfog, a sicrhau bod arbenigedd hyfforddedig ar gael i gefnogi pobl, yn enwedig yn y cyfnod pontio ar ôl gadael y lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, mae gennym lwybr tai penodol ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru. Rydym wedi gweithio ar draws portffolios i ddatblygu'r llwybr, sydd nid yn unig yn darparu gwybodaeth ac yn cyfeirio at wasanaethau, ond mae'n nodi'r opsiynau sydd ar gael hefyd.

Mae aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth os nodir eu bod yn ddigartref wrth iddynt adael y lluoedd arfog. Ond fel y dywedais yn fy natganiad llafar ddoe, cynhelir adolygiad ar hyn o bryd o'r angen blaenoriaethol am dai, a disgwylir adroddiad arno yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Yn amlwg, byddwn yn edrych arno hefyd yn erbyn ein hymarfer cwmpasu a gynhaliwyd gennym yn ddiweddar, i nodi unrhyw fylchau mewn gwasanaethau ar gyfer cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr, a sicrhau ein bod yn ymgorffori hynny yn y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud er mwyn sicrhau ein bod yn llenwi unrhyw fylchau wrth symud ymlaen.

Perchentyaeth Tai Gwyliau

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae perchentyaeth tai gwyliau yn ei chael ar y ddarpariaeth dai yng Nghymru? OAQ54672

Rydym yn cydnabod, mewn rhai rhannau o Gymru, fod perchentyaeth tai gwyliau neu ail gartrefi yn effeithio ar argaeledd a phris cartrefi. Er mai'r cynghorau sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion tai yn eu hardaloedd, rydym yn cefnogi ystod o fesurau, gan gynnwys cyflwyno pwerau i osod premiymau treth gyngor.

Diolch. Rwyf am ddefnyddio'r ymadrodd 'perchentyaeth tai gwyliau', sydd, yn fy nhyb i, yn cwmpasu dau gategori: yr 'ail gartref' y cyfeiriodd y Gweinidog ato, sydd efallai'n cael ei ddefnyddio am ychydig wythnosau o'r flwyddyn yn unig—neu ychydig fisoedd ar y mwyaf efallai—o gymharu ag eiddo sy'n cael ei osod i ystod eang o bobl ar eu gwyliau, yn fwy fel menter fasnachol. Tybed, fel Gweinidog tai, a ydych yn credu bod gwahaniaeth rhwng y ddau fodel gwahanol o ran yr effaith ar ddarpariaeth tai mewn mannau eraill, ac a ydych o'r farn fod un yn fwy deniadol na'r llall, neu a oes un y byddem am ei gymell ai peidio? Os felly, a wnewch chi geisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn llunio polisi mewn modd cydgysylltiedig drwy gael trafodaethau priodol gyda'ch cyd-Weinidogion?

Na. Fel y dywedais, credaf mai'r awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall yr her y gall math penodol o ail gartref, cartref gwag neu gartref gwyliau—beth bynnag rydych am ei alw—ei pheri i'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn y gymuned honno. Dyna pam rydym wedi cyflwyno'r pwerau i awdurdodau godi premiymau treth gyngor. Ers 1 Ebrill 2017, mae awdurdodau lleol wedi gallu codi premiwm o hyd at 100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sy'n wag yn hirdymor.

Mae'r pwerau i godi premiymau treth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi sy'n wag yn hirdymor yn bwerau disgresiwn a gyflwynwyd i gynorthwyo awdurdodau lleol i reoli problemau gyda'u cyflenwad tai lleol. Cymru yw'r unig ran o'r DU o hyd sydd wedi rhoi'r pwerau hyn i awdurdodau lleol mewn perthynas ag ail gartrefi, ac rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gyrraedd ein targed o ddarparu cartrefi fforddiadwy ledled Cymru er mwyn cynorthwyo gyda'r cyflenwad tai y credwn fod y mater hwn yn mynd i'r afael ag ef.

Ail Gartrefi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

9. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r effaith y mae goruchafiaeth ail gartrefi yn ei chael mewn ardaloedd sydd ag anghenion tai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn enwedig mewn trefi glan môr? OAQ54660

Iawn, rwy’n derbyn y gall prisiau tai fod yn eithriadol o uchel mewn rhai trefi arfordirol yng Nghymru, gyda phobl yn ei chael hi'n anodd camu ar yr ysgol eiddo yn eu cymuned eu hunain. Rwy'n awyddus i weld cymorth Llywodraeth Cymru fel Cymorth Prynu yn darparu budd i'r bobl hyn. A gall ein cynllun newydd, Hunanadeiladu Cymru, gynnig cymorth hefyd pan gaiff ei lansio cyn bo hir.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb. Yn ei hateb i'r cwestiwn blaenorol, cyfeiriodd at bremiymau treth gyngor y gellir eu codi bellach, ond rwy'n siŵr ei bod yn ymwybodol fod bwlch yn y gyfraith, wrth gwrs, sy'n caniatáu i unigolion gofrestru ail gartrefi fel busnesau ac yna'u gosod ar rent am isafswm o ddyddiau bob blwyddyn. Drwy wneud hyn, wrth gwrs, gallant osgoi premiymau'r dreth cyngor, ac mewn gwirionedd, gallant fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach—heb orfod cyfrannu unrhyw beth gan hynny.

Gwyddom fod amcangyfrif wedi'i wneud fod 1,000 o'r 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd yn unig wedi bod yn manteisio ar y bwlch hwn yn y gyfraith. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o'r sefyllfa mewn perthynas â hyn ar draws rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin, pa fath o effaith y gallai hynny fod yn ei chael, a sut y gallai waethygu effaith perchentyaeth ail gartrefi ar y cymunedau arfordirol y cyfeiriais atynt yn fy nghwestiwn gwreiddiol?

Iawn, credaf fod fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wedi ateb hyn yn weddol gynhwysfawr mewn dadl yn lled ddiweddar. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw os ydynt—rwyf wedi dweud wrth bob un o'r awdurdodau lleol ledled Cymru, os oes ganddynt dystiolaeth fod hyn yn achosi problem iddynt, dylent ei chyflwyno. Dywedais hynny ym mhwyllgor gweithredol CLlLC, a chefais gyfarfodydd unigol ag awdurdodau lleol amrywiol yng ngogledd Cymru ynghylch y dystiolaeth y gallent ei chyflwyno. Os yw'r dystiolaeth honno'n bodoli, rydym yn fwy na pharod i edrych arni. Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth gennym fod y newid hwnnw'n digwydd ar draul y trethi lleol a godir, ond os oes tystiolaeth yn bodoli, rydym yn fwy na pharod i edrych arni.

15:00
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf ar yr agenda—ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol, sef eitem 3.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 ar yr agenda, felly, yw’r datganiadau 90 eiliad, a daw'r datganiad 90 eiliad cyntaf y prynhawn yma gan Leanne Wood.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Hoffwn i'n Senedd gydnabod y doniau canu sydd gennym yn y Rhondda. Rydym yn enwog am gorau meibion o'r radd flaenaf, ac mae eu doniau'n adnabyddus tu hwnt. Ond mae'n wych gweld bod gennym rai wynebau newydd. Mae côr yr ysgol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn wedi bod yn datblygu enw da iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd ac wedi ennill gwobr Côr Ifanc y Flwyddyn BBC Songs of Praise. Eu camp ddiweddaraf yw cael eu dewis i ganu ac ymddangos ar ymgyrch hysbyseb Nadolig Marks & Spencer. Bydd y gân y maent wedi'i recordio—fersiwn o Albatross gan Fleetwood Mac—yn cael ei chwarae o leiaf unwaith yr awr ym mhob siop M&S, a bydd miliynau yn rhagor yn eu clywed ar yr hysbyseb teledu dros yr wythnosau nesaf. Os yw hynny'n swnio'n ormod i chi, nid ydych wedi clywed eu sain anhygoel. Mae'n wirioneddol arbennig, ac rwyf wedi cael y fraint o'u clywed sawl gwaith dros y blynyddoedd. Efallai fod y disgyblion yn newid o flwyddyn i flwyddyn, ond mae'r rhagoriaeth yn parhau. Rwyf mor falch o weld y genhedlaeth nesaf o gantorion yn y Rhondda. Hir oes i'r canu rhagorol hwn.

Llongyfarchiadau, Llwyncelyn, a diolch yn fawr iawn.

Diolch, Lywydd. Mae mis Tachwedd bob amser yn troi ein meddyliau tuag at gofio’r aberth a wnaed ar ein rhan, pan fyddwn yn rhoi amser yn ein bywydau i gofio’r gwasanaeth a’n diolch amdano. Ddydd Sadwrn, ymunais ag etholwyr o wahanol oedrannau a ffydd i gymryd rhan yng ngwasanaeth coffa'r llynges fasnachol ar risiau'r Senedd gydag Aelodau eraill yn y Siambr heddiw. Dyma'r nawfed flwyddyn yn olynol fel Aelod etholaethol i mi gael yr anrhydedd o osod torch wrth gofeb y morwyr. Dadorchuddiwyd y gofeb ym 1997—diolch i ymroddiad a gwaith caled dyn lleol, Bill Henke, y cefais y pleser o’i gyfarfod—i sicrhau na fyddai'r morwyr byth yn cael eu hanghofio. Ac ar ôl hynny, mae bob amser yn ysbrydoledig gwrando ar gyn-filwyr, nid yn unig o Dde Caerdydd a Phenarth, ond o bob rhan o dde Cymru—Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Y Barri, Casnewydd a thu hwnt—wrth iddynt sôn am eu profiadau yn y llynges fasnachol. Ac wrth gwrs, mae gan Butetown a'r hen Tiger Bay hanes morwrol balch. Mae wedi dod â'r byd i'n dinas, ac rydym yn gyfoethocach yn sgil hynny. Ond mae eu straeon yn rhyfeddol ac yn cael eu hanghofio'n rhy hawdd neu eu cymryd yn ganiataol. Mae'r aberth, y golled, y fuddugoliaeth a'r cyfeillgarwch parhaus wedi helpu i sicrhau'r rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw, ac rwy'n falch o fod yn gweithio gyda Chymdeithas y Llynges Fasnachol a chyngor Caerdydd i sicrhau bod y gofeb yn cael ei hadfer i'w gogoniant blaenorol. Rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i fod yn ganolbwynt i sgyrsiau, myfyrdod a choffâd am genedlaethau i ddod.

Eleni yw dau ganmlwyddiant genedigaeth John Humphrey. Roedd yn cael ei adnabod fel 'pensaer Duw' oherwydd y capeli a gynlluniodd, gan gynnwys y Tabernacl yn Nhreforys. Amcangyfrifir ei fod wedi cynllunio neu ailfodelu rhwng 30 a 44 o gapeli, ac fe'u hadeiladwyd ar draws canolbarth a de Cymru, rhwng Llanidloes, Pentre Rhondda a Sir Gaerfyrddin, tra bo'r rhan fwyaf wedi'u hadeiladu yn Abertawe. Cynlluniodd bedair ysgol hefyd, gan gynnwys ysgol Terrace Road yn Abertawe, sy'n dal i fod ar agor.

Yr hyn a wnaeth llwyddiant John Humphrey yn syfrdanol oedd nad oedd wedi cael unrhyw gymwysterau na hyfforddiant pensaernïol. Saer coed ydoedd wrth ei grefft. Roedd ei dad bron yn sicr yn anllythrennog. Bu'n byw ar hyd ei oes fel oedolyn yn Nhreforys rhwng Stryd Martin a Stryd y Goron—pellter o tua 100 metr. Cynlluniodd gapeli o bob maint. Mae'n fwyaf adnabyddus, wrth gwrs, am

y capel mwyaf, crandiaf a drutaf a adeiladwyd yng Nghymru—

disgrifiad Anthony Jones o'r Tabernacl yn Nhreforys yn ei lyfr awdurdodol yn 1996, Welsh Chapels. Fel pob pensaer, roedd i'w gynlluniau eu nodweddion unigryw, yn fewnol ac yn allanol, fel ffenestri tenau yn y tu blaen, a chwymp y balconi y tu ôl i'r sedd fawr. Ond yr hyn rwy'n awyddus iawn i sôn amdano yw sut y daeth o ddechrau mor ddi-nod. Nid oedd ganddo unrhyw gymwysterau pensaernïol o gwbl. Pe bai'n ceisio dechrau adeiladu heddiw, byddai'n cael ei atal ar unwaith gan yr adran reoli adeiladu. Ond yr hyn a wnaeth, mewn gwirionedd, oedd cynhyrchu adeiladau gwych drwy Gymru benbaladr. Felly, credaf fod honno'n gamp aruthrol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

15:05
5. Cynnig i Benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i benodi comisiynydd safonau dros dro. Dwi'n galw ar Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM7192 Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod swydd Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn wag.

2. Yn penodi Douglas Bain CBE TD fel Comisiynydd dros dro, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar y telerau a ganlyn:

a) bydd y penodiad yn dod i rym ar unwaith;

b) bydd y penodiad yn dod i ben ar unwaith pan roddir hysbysiad i'r Comisiynydd dros dro gan Glerc y Cynulliad;

c) bydd taliad y Comisiynydd dros dro yn gyfradd ddyddiol o £392 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd ynghyd â threuliau rhesymol;

d) bydd pob swm y cyfeirir ato ym mharagraff 2(c) i'w dalu i'r Comisiynydd dros dro gan Gomisiwn y Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig i benodi comisiynydd safonau dros dro yn sgil ymddiswyddiad Syr Roderick Evans ar 11 Tachwedd 2019. Mae'r penodiad hwn yn gam pwysig i gynnal a sicrhau uniondeb ein proses safonau annibynnol.

Mae gan yr enwebai heddiw, Douglas Bain, brofiad eang o ffurfio dyfarniadau ystyriol mewn nifer o feysydd cymhleth, ac felly mae'n fwy na chymwys i ymgymryd â'r rôl hon. Yn ogystal, mae wedi ymgymryd â rôl comisiynydd dros dro yn y Cynulliad hwn eisoes, ac felly mae ganddo wybodaeth dda ynglŷn â sut y mae'r Cynulliad yn gweithredu a'r cod ymddygiad.

Penodiad dros dro yw hwn. Bydd yr aelodau wedi nodi yn fy natganiad ddoe fod y pwyllgor yn adolygu’r cod ymddygiad, ac fel rhan o hyn, byddwn yn ystyried rôl y comisiynydd safonau. Rydym yn bwriadu i hon fod yn broses agored a byddwn yn ymgynghori ar ein gwaith maes o law.

A gaf fi ofyn i’r Aelod a yw’r pwyllgor wedi trafod neu gymeradwyo Douglas Bain fel ymgeisydd cyn iddi gyflwyno'r cynnig heddiw? A gaf fi ofyn ychydig yn fwy hefyd am gwmpas y gwaith? Soniodd am 'dros dro', ond nid wyf yn glir a yw'n cyfeirio at ychydig wythnosau efallai, neu a yw hyn yn rhywbeth a allai bara tan ddiwedd tymor y Cynulliad?

Hefyd, o ran ei sgiliau a'r math o waith y bydd yn ei wneud, beth yw ei disgwyliadau hi, ai ymwneud â chyfraith ddiwyro a chul, os mynnwch, y bydd, mwy am faterion ariannol a datganiadau o fuddiant, neu a yw'n disgwyl y bydd ei waith, o ran yr ymrwymiad amser a'r sgiliau priodol, yn ymwneud mwy â materion llawer mwy goddrychol a dyfarniadol mewn perthynas â'r polisi urddas a pharch? A yw'n disgwyl i'w waith gefnogi Gweinidogion y Llywodraeth, gan ddefnyddio'r system safonau i ymlid ACau y gwrthbleidiau? [Torri ar draws.] O ran y £392—[Torri ar draws.] Os caf fi ofyn i'r Aelod am y gyfradd ddyddiol o £392, pa ystyriaeth a roddwyd i ddewis y gyfradd hon? Ai'r rheswm syml yw mai'r gyfradd hon a dalwyd i ddeiliad parhaol blaenorol y swydd? Ac os felly, pa ystyriaeth a roddwyd i gymwysterau a phrofiad priodol yr ymgeisydd a gynigiwyd ganddi yn awr, o gymharu â'r deiliad blaenorol a'i rôl hirsefydlog fel barnwr yr Uchel Lys? Diolch.

Diolch, Lywydd. [Torri ar draws.] Pwy ydych chi?

Diolch, Lywydd. Credaf fy mod yn un o lond llaw o Aelodau yn unig sydd wedi ymdrin yn uniongyrchol â Mr Bain. Nawr, rwyf—[Torri ar draws.] Nawr, nid oeddwn yn bwriadu siarad am y cynnig hwn heddiw, ond cefais fy ysgogi i wneud hynny gan aelod o fy staff sy'n gwylio'r trafodion hyn o'r oriel. Roedd fy aelod o staff yn awyddus i ddweud ar goedd sut y gwnaed iddo deimlo ar ôl i Mr Bain ymdrin ag ef. Nawr, Lywydd, o ystyried bod yn rhaid inni gofio am y polisi urddas a pharch, credaf y bydd angen cadw'r sylwadau hyn gan fy aelod o staff mewn cof. Os caf, rwyf am ddyfynnu'n gryno o'r hyn a ddywedodd. Rwy'n dyfynnu: 'Yn ystod y cyfweliad cyntaf â Mr Bain, pan euthum gyda Gareth, teimlwn fod ei ymagwedd yn ymosodol ac yn fygythiol. Roeddwn yn teimlo nad oedd unrhyw beth y gallwn ei wneud i gefnogi fy nghyflogwr, gan fod y comisiynydd dros dro wedi bygwth fy hel o'r ystafell pe bawn yn agor fy ngheg. Ar ôl y cyfweliad, roeddwn yn crynu wrth i mi adael yr ystafell. Roeddwn yn teimlo fy mod wedi cael fy mwlio a fy mychanu gan na chefais gyfle i ymateb, er i'r comisiynydd dros dro gyfeirio ataf fi a fy ngweithredoedd sawl gwaith. Pan adawsom yr ystafell, gofynnodd Gareth i mi pam roeddwn i'n crynu. Atebais nad oedd gennyf unrhyw syniad sut y llwyddodd i oddef cwestiynu Mr Bain cyhyd. Cefais fy mrifo, fy nigio a fy nghleisio gan y profiad. Roeddwn yn ofni'r ail gyfweliad â Mr Bain, nad oedd wedi newid ei dôn ers y tro cyntaf—'

Nid yw darllen dyfyniadau hirfaith yn y Siambr hon yn arfer cyffredin. Credaf fod y rhan fwyaf o—. Oni bai fod rhywbeth newydd y mae angen ei ychwanegu yng ngweddill y dyfyniad sydd gennych, credaf y gallwch ddod â hyn i ben yn awr.

Mae'r penodiad hwn yn cael ei wthio drwodd yn gyflym iawn. Yr hyn sydd wedi digwydd yn y bôn yw eich bod—. Mae wedi fy nhaflu o dan fws, Bain, ac yn awr rydych yn ceisio'i gael i ddod â rhywun arall—rydych yn dod ag ef i mewn yn awr i daflu rhywun arall o dan fws. Bwyellwr gwleidyddol ydyw, ac ni ddylid ei benodi. Dyna pam rwy'n pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw.

15:10

Nid yw'r defnydd o 'bwyellwr gwleidyddol' fel sarhad yn dderbyniol, ac fe dynnwch y defnydd hwnnw o ddisgrifiad o unrhyw unigolyn nad yw yma i amddiffyn ei hun ar y pwynt hwn yn ôl. Gofynnaf i chi dynnu’r cyhuddiad hwnnw yn ôl.

Fe'i tynnaf yn ôl, er fy mod yn gresynu na wnaethoch ganiatáu i mi roi rhywfaint o sylwedd i fy sylwadau heddiw. Ond yn sicr, wrth gwrs, Lywydd, fe'i tynnaf yn ôl.

Rwyf wedi rhoi pob cyfle ichi roi sylwedd i'ch sylwadau. Nid wyf ond wedi cwtogi dyfyniad hirfaith gennych. Mae gennych yr un cyfle â'r holl Aelodau eraill yn y Siambr i gynnig unrhyw bwyntiau sylweddol rydych am eu gwneud i'r ddadl. A ydych am barhau, neu a ydych wedi gorffen? Na. Rydych wedi gorffen.

Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Lywydd. Mewn ymateb i rai o bwyntiau Mark Reckless, cytunodd holl aelodau'r pwyllgor safonau ar benodiad y comisiynydd dros dro hwn. O ran pa mor hir y bydd yn ei gymryd i benodi comisiynydd newydd, mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad eisoes wedi dechrau trafodaethau ynglŷn â'r camau nesaf, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod natur newidiol y rôl ers ei sefydlu yn 2011 yn cael ei hadlewyrchu yn y penodiad sydd i ddod.

Rydych yn gofyn am addasrwydd y comisiynydd dros dro. Mae wedi dal nifer o swyddi uwch yn Swyddfa Gogledd Iwerddon, yr heddlu a Gwasanaeth Carchardai Gogledd Iwerddon. Yn ogystal, mae wedi dal nifer o swyddi cyhoeddus, fel prif swyddog etholiadol Gogledd Iwerddon, ac yn fwy diweddar, ef oedd Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon rhwng 2012 a 2017.

O ran y pwyntiau eraill a godwyd gennych ynglŷn â thelerau ac amodau—maent yr un telerau ac amodau ag ar gyfer y comisiynydd safonau blaenorol. Bydd y comisiynydd dros dro yn gyfrifol am barhau â gwaith y comisiynydd blaenorol yn ystyried cwynion a gyflwynwyd i'r swyddfa ac ymchwilio i unrhyw gwynion newydd a gyflwynir dros y cyfnod y bydd yn y swydd.

Ac i orffen ar y pwynt a gododd Gareth Bennett, fel fod yr Aelodau'n ymwybodol, er fy mod yn deall y gallai fod gan Gareth Bennett bryderon am y comisiynydd dros dro, aeth adroddiad y comisiynydd hwnnw i bwyllgor safonau'r Cynulliad a daethpwyd ag ef wedyn i Siambr y Cynulliad hwn a phleidleisiodd mwyafrif o Aelodau'r Cynulliad arno yn y Siambr hon. Diolch yn fawr, Lywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd ar gyfer goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd ar gyfer goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7184 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd ar gyfer goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2019.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Does neb yn cyfrannu at yr eitem yma. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.63—Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Mae'r eitem nesaf hefyd yn gynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.63 ar gwestiynau llafar y Cynulliad. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7185 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.63 – Cwestiynau Llafar y Cynulliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2019.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12.63, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Neb yn cyfrannu i'r ddadl, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, rŷn ni'n derbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Mae'r cynnig nesaf i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7186 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:

a) archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion gwariant, gweinyddu a pholisi sy'n cwmpasu (ond heb fod yn gyfyngedig i): lywodraeth leol; tai, adfywio cymunedol, cydlyniant a diogelwch; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol;

b) arfer y swyddogaethau nad ydynt yn rhai cyllidebol a nodir yn Rheol Sefydlog 18A.2 mewn perthynas ag atebolrwydd a llywodraethu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Neb yn cyfrannu i'r ddadl. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid. Galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7187 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:

a) cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A.2 (iv) a (v), 19 ac 20 o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

b) o dan Reolau Sefydlog 19 ac 20, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Cynulliad mewn perthynas â'r defnydd o adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys ymgymryd â gwaith craffu ar gyllideb cyrff a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru;

c) o dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o lywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013; 

d) o dan Reol Sefydlog 18A.2 (iv) a (v), i arfer swyddogaethau cyllidebol mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

e) bod y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau ariannol i Gymru fel rhan o'i gyfrifoldebau, a'r cynnydd a wnaed wrth wneud hynny;

f) gall y Pwyllgor hefyd graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

Neb yn cyfrannu at y ddadl. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21. Galw ar Suzy Davies, y comisiynydd, i wneud y cynnig ar ran y Comisiwn. 

15:15

Cynnig NDM7182 Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21, fel y pennir yn Nhabl 1 o 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2020-21', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Tachwedd 2019 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, a chynigiaf gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2021, felly o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol.

Fel y byddwch wedi gweld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn ceisio cyllideb o £61.411 miliwn i gyd, ac mae hynny'n cynnwys £36.274 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn—sef ein cyllideb weithredol—£16.172 miliwn i'w bennu gan y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol, £0.5 miliwn ar gyfer gwariant cyn etholiad, ac £8.465 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod.

Cyn imi fanylu ymhellach ar ofyniad cyllideb y Comisiwn, hoffwn wneud sylwadau ar ddwy eitem benodol y credaf fod angen tynnu sylw atynt yn y ddadl hon. Rwyf am ddweud yn glir fod y ddwy eitem y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn. Fel y byddwch wedi gweld, mae'r gyllideb yn dangos cynnydd o gymharu â chyllideb y llynedd a'r ffigurau rhagolygol a gynigiwyd gennym yn ein dogfen gyllideb yr adeg hon y llynedd. Y rheswm cyntaf am hyn yw'r gofyniad i sefydliadau roi cyfrif am asedau ar brydles yn yr un ffordd ag y maent yn rhoi cyfrif am asedau y maent yn berchen arnynt, yn dilyn gweithredu safon adrodd ariannol rhyngwladol 16. Safon gyfrifo annibynnol yw hon a fabwysiadir yn gyffredin ar draws y byd.

Mae'n bwysig pwysleisio, o safbwynt cyllid neu arian parod, nad yw hyn yn effeithio ar faint o arian parod sydd ei angen arnom o gronfa gyfunol Cymru, ond mae'n cynyddu ffigur cyffredinol y gyllideb. Heb y newid hwn yn y rheolau cyfrifo, byddai cyfanswm y gyllideb wedi bod yn sylweddol is ar £59.575 miliwn, ac i gynorthwyo gyda thryloywder a dealltwriaeth, rydym wedi cynnwys y ffigurau cyn ac ar ôl safon adrodd ariannol rhyngwladol 16 yn nogfen y gyllideb.

Yr ail eitem i dynnu sylw'r Aelodau ati yw'r cynnydd yn y gyllideb rhwng y gyllideb ddrafft a fersiwn derfynol y gyllideb hon. Gosodwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn ar 24 Medi 2019 a chynhaliodd y Pwyllgor Cyllid sesiwn graffu ar y ddogfen honno ar 3 Hydref. Roedd dogfen y gyllideb ddrafft yn cynnwys amcangyfrif synhwyrol o’r cynnydd yn yr arolwg blynyddol o fynegai oriau ac enillion sy’n berthnasol i gyflogau Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth Aelodau’r Cynulliad o fis Ebrill 2020. Yr amcangyfrif a ddefnyddiwyd yn y ddogfen honno oedd 2 y cant, amcangyfrif synhwyrol iawn sy’n seiliedig ar gynnydd gwirioneddol o 2.3 y cant ym mis Hydref 2017 ac 1.2 y cant ym mis Hydref 2018, ill dau o fewn yr ystod dderbyniol o amcangyfrifon y gyllideb. Fodd bynnag, ar 29 Hydref 2019, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y data ar gyfer 2019, ac mae'r cynnydd, yn annisgwyl, yn fwy na dwbl yr amcangyfrif a ddefnyddiwyd gennym, gan alw am gynnydd o £360,000 yn fwy na’r hyn a oedd wedi’i gynnwys yn y gyllideb ddrafft. Nawr, fel y byddwch yn deall, daw'r cadarnhad hwn yn hwyr iawn yn y dydd, ond rydym wedi cynnwys y swm ychwanegol yn y gyllideb derfynol ac wrth gwrs, rydym wedi rhoi gwybod i’r Pwyllgor Cyllid am y cynnydd hwn. Mae'r ddwy eitem wedi'u hesbonio'n llawn i'r Pwyllgor Cyllid, ond rwy'n ailadrodd eu bod y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn.

Gan ddychwelyd at ein cyllideb gyffredinol, mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r gofyniad ariannol ar gyfer blwyddyn olaf y pumed Cynulliad, sy'n cynnwys darpariaeth i'r Comisiwn baratoi ar gyfer y chweched Cynulliad, a rhagolygon ar gyfer dwy flynedd gyntaf y chweched Cynulliad. Ac ynddi, fe wnaethom nodi sut y mae'r gyllideb yn cefnogi'r Comisiwn i gyflawni ei nodau strategol o ddarparu cefnogaeth seneddol ragorol, ymgysylltu â phobl Cymru, a hyrwyddo'r Cynulliad a defnyddio adnoddau'n ddoeth.

Mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Cynulliad, a'i Aelodau wrth gwrs. Fel y gwyddom, mae'r pwysau ar Aelodau yn parhau i fod yn sylweddol, o ystyried y nifer gymharol fach sydd ohonom a'r materion cymhleth rydym yn mynd i'r afael â hwy yn awr, ac yn fwyaf amlwg, effaith y DU yn gadael yr UE. Mae angen cyllideb arnom sy'n darparu'r lefel gywir o adnoddau i gefnogi’r Aelodau drwy'r cyfnod hwn. Mae'r ansicrwydd hirsefydlog ynghylch amseriad ymadawiad y DU o'r UE, a thelerau unrhyw ymadawiad, wedi creu heriau o ran cynllunio sut y rhoddwn adnoddau tuag at y gwaith hwnnw fel Cynulliad, a sut y gallwn ni fel deddfwrfa gyflawni'r newidiadau hynny. Er bod telerau Brexit eto i’w penderfynu, rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer gwaith ar ôl Brexit, fel y byddech yn disgwyl inni ei wneud. Mae rheolaethau a chamau gweithredu fel cynllunio senarios a hyfforddiant yn sicrhau ein bod yn rheoli’r risgiau posibl.

Mae'r cysylltiad uniongyrchol â symudiadau ym mloc Cymru wedi'i ddileu yn unol â'r canllawiau a ddarparwyd yn natganiad egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, ond mae'r gyllideb hon yn dryloyw, yn ddarbodus ac wedi'i gosod yng nghyd-destun cyllido ariannol hirdymor yma yng Nghymru. Mae'n ystyried sut y mae'r Comisiwn yn blaenoriaethu ei adnoddau i sicrhau nad yw gwasanaethau i Aelodau a'r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn cael eu peryglu.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb a'i ymrwymiad parhaus i sicrhau tegwch yn ein proses gyllidebu a'n tryloywder, wrth gwrs. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw ymddangos gerbron pwyllgor yn brofiad braf iawn, ond mae ein cwestiynau ni a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn help mawr i hybu gwelliant, ac rwy'n gobeithio eich bod yn teimlo eich bod yn gweld hynny.

Gwnaeth y pwyllgor chwe argymhelliad ar ôl craffu ar y gyllideb ddrafft. Roedd tri o'r argymhellion yn gofyn am ragor o wybodaeth ac eglurder ar faterion penodol: y cyntaf o'r rheini oedd y prosiect i roi meddalwedd ddeddfwriaethol newydd ar waith; manylion ynghylch cynlluniau prosiectau hirdymor y Comisiwn; ac adroddiad ar fanteision hirdymor y cynllun ymadael gwirfoddol. Unwaith eto, rwy'n gobeithio bod y Pwyllgor Cyllid yn cydnabod ein dymuniad i fod yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas â hyn, a byddwn yn adrodd yn ôl i chi ar brosiect y feddalwedd ddeddfwriaethol yn ystod haf 2020, pan fydd y contract wedi’i ddyfarnu, ac ar y ddau faes arall yn hydref 2020, gan adlewyrchu'r gofyniad am amcan hirdymor unwaith eto.

Roedd y pedwerydd argymhelliad yn ymwneud â chymorth staffio i'r comisiynydd safonau ac yn cynnig y dylid nodi'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith hwn ar wahân o fewn y gyllideb ar gyfer 2021 a’r blynyddoedd i ddod. Rydym wedi gwneud hynny, ac felly mae'r costau hynny bellach wedi'u dangos yn glir yn nhabl 4 a byddant yn parhau i gael eu dangos ar wahân yn y blynyddoedd i ddod. Fe fydd yr Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, o ymddiswyddiad y cyn-gomisiynydd safonau. Mae comisiynydd dros dro yn yr arfaeth, ond bydd y gwaith ar graffu ac adolygu'r hyn sydd ei angen ar y comisiynydd safonau o ran ei waith yn dechrau pan benodir y comisiynydd safonau parhaol a phan gawn syniad clir o'r hyn y bydd ei angen ar y sawl a benodir.

Mae'r pumed argymhelliad yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau tryloywder mewn perthynas â chostau ychwanegol pan gaiff polisïau newydd eu hawdurdodi gan y Cynulliad. Mae llywodraethu parhaus ar waith—mae’n rhaid i mi roi sicrwydd i’r Aelodau—mewn perthynas â darparu adnoddau, gan gynnwys i'r comisiynydd safonau, ac wrth gwrs, mae'n berthnasol iawn pan fyddwn yn gweld fersiwn derfynol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y cawn wybod ychydig amdano heddiw, o ran pa newidiadau heb eu prisio y gellid eu gwneud iddo, a'n hymrwymiad felly, fel y gwelwch yn y llythyr atoch, i’r Pwyllgor Cyllid, i ganolbwyntio ar y polisïau newydd hyn a allai ddod drwy'r Cynulliad.

Ac i orffen, argymhellodd y pwyllgor y dylai'r Comisiwn flaenoriaethu cyllid i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r bleidlais i rai 16 oed. Un o nodau strategol y Comisiwn, wrth gwrs, yw ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo'r Cynulliad. Felly, gallaf gadarnhau, o fewn y cyfanswm hwnnw o £500,000 a neilltuwyd ar gyfer treuliau cyn etholiad, fod £150,000 wedi'i glustnodi ar gyfer y gwaith o godi ymwybyddiaeth.

Wrth gwrs, rydym bob amser yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut i wella ein proses gyllidebu. Byddaf yn barod i ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau, ond yn y cyfamser, rwy'n falch iawn o gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn, ailddatgan ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, a chyflawni’r gwerth gorau am arian ar ran pobl Cymru. Diolch.

15:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw, wrth gwrs, gan fod, fel rŷch chi wedi clywed, y Pwyllgor Cyllid wedi cael cyfle yn ein cyfarfod ar 3 Hydref i drafod cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21, ac fe gyhoeddom ni wedyn yn dilyn hynny ein hadroddiad ni ar 17 Hydref. Ac ar ran aelodau'r pwyllgor, hoffwn innau ddiolch i Suzy Davies a swyddogion y Cynulliad am ymateb i gwestiynau ac argymhellion y pwyllgor.

Ym mis Mai llynedd, fe argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylid dychwelyd unrhyw danwariant o'r gyllideb ar gyfer penderfyniad y bwrdd taliadau yn ôl i gronfa gyfunol Cymru. Roedd y mater hwn wedi bod yn destun pryder i ni ers cryn amser, felly rŷn ni yn falch bod ein hargymhelliad ni wedi'i weithredu.

Mae'r pwyllgor yn credu ei bod hi'n flaenoriaeth sicrhau bod y Cynulliad yn gwella ei ymgysylltiad â holl bobl Cymru ac roeddwn i'n synnu nad oedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys cyfeiriadau penodol at y Senedd Ieuenctid, y Cynulliad Dinasyddion na mentrau eraill. Rŷn ni'n croesawu’r ymrwymiad o £250,000 ar gyfer ymgysylltu, ond roedd yr Aelodau'n awyddus i sicrhau bod unrhyw weithgaredd ymgysylltu yn un ystyrlon ac nid yn docynistaidd.

Mae'r pwyllgor yn falch bod prosiect y feddalwedd ddeddfwriaeth, fel y clywon ni, yn cael ei ddatblygu gyda chyllid ar y cyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rŷn ni yn pryderu ar fater arall, nad yw'r gost sy'n cael ei amcangyfrif o £4 miliwn ar gyfer prosiect newid ffenestri Tŷ Hywel wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020-21 na chyllidebau dangosol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Dyw hi ddim yn eglur sut y caiff y gwaith hwn ei symud ymlaen gan fod £345,000 wedi'i ddyrannu i'r prosiect ffenestri yn y gyllideb ar gyfer 2019-20, ond eto, bryd hynny, nid oedd unrhyw astudiaethau dichonoldeb wedi’u cynnal. Er ein bod ni'n croesawu’r ffaith bod y Comisiwn yn derbyn ein hargymhelliad i ddarparu manylion ei gynlluniau prosiect tymor hir, dyw hi ddim yn glir i ni pam na fydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, yn ôl y gofyn, ond yn hytrach erbyn 1 Hydref.

Mae trefniadau staffio’r Comisiwn hefyd wedi bod yn broblem i'r pwyllgor dros y blynyddoedd. Er bod camau wedi'u cymryd i wella tryloywder penderfyniadau staffio, mae'r pwyllgor yn pryderu nad oedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys amcangyfrif mwy cywir o gostau staff am y flwyddyn, heb fod angen amcangyfrif trosiant, neu churn, o safbwynt staffio. O'r herwydd, rŷn ni wedi gofyn am ddiweddariad ar y ddarpariaeth churn neu drosiant staffio.

Roedd diffyg tryloywder ynghylch nifer y staff yn bryder arbennig i'r pwyllgor yng ngoleuni'r cynllun ymadael gwirfoddol diweddar. Rŷn ni'n credu y dylai cynllun sy'n rhyddhau 24 aelod o staff ac sy'n cynnwys taliadau diswyddo gwirfoddol sylweddol, fel y ddau dros £100,000, ddim ond gael ei ddefnyddio pan gellir dangos tystiolaeth o ailstrwythuro neu newid sylweddol. Dyw'r pwyllgor ddim wedi gweld digon o dystiolaeth o newid o’r fath eto, ac mae'n siomedig na fydd y cynllun yn arwain at arbedion, yn enwedig o ran nifer y staff. Mae ein hadroddiad ni, felly, yn argymell bod adroddiad blynyddol ar fuddion ariannol tymor hir y cynllun ymadael gwirfoddol yn cael ei ddarparu i'r pwyllgor. Mae'r Comisiwn wedi dweud y bydd y Pwyllgor Cyllid yn cael adroddiad ar hyn erbyn mis Medi 2020, ond aeth ymateb y Comisiwn ddim mor bell â derbyn ein hargymhelliad.

Rŷn ni wedi argymell o'r blaen y dylai'r Comisiwn gadw cap ar lefelau staffio, ac fe gadwyd at y cap hwnnw. Ond, fe gynyddodd y Comisiwn y cap hwn yn ddiweddar o 491 i 497, ac fe glywsom ni dystiolaeth y gallai nifer y swyddi gynyddu i 501, plws, wrth gwrs, mae yna ddwy swydd ychwanegol i gefnogi'r comisiynydd safonau. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gofyniad i'r Comisiwn ddarparu adnoddau i gefnogi'r comisiynydd safonau, wrth gwrs, ond fe godwyd pryderon ynghylch y dull creadigol o gyfri wrth greu’r ddwy swydd ychwanegol yma yn ychwanegol at y cap.

Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar am y manylion a ddarperir gan y Comisiwn ynghylch y trefniadau staffio a'r cynllun ymadael gwirfoddol. Fodd bynnag, mae'n anodd deall sut y gall sefydliad sector cyhoeddus, mewn cyfnod o gynni, ryddhau 24 aelod o staff ond dal i gynyddu cyfanswm nifer y swyddi. Rŷn ni'n credu hefyd fod angen mwy o dryloywder o ran sut mae'r comisiynydd safonau yn cael ei ariannu, ac rydyn ni'n croesawu'r datganiad y bydd hyn yn cael ei nodi'n glir yn y gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn hon a'r blynyddoedd i ddod.

O ystyried y gwaith ychwanegol sydd wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, roedd y pwyllgor yn synnu nad yw'r gyllideb ar gyfer gwariant etholiadau yn uwch na'r gwariant ar gyfer etholiadau blaenorol. Rŷn ni'n awyddus bod y Comisiwn yn blaenoriaethu cyllid yn y maes hwn ac yn gweithio'n rhagweithiol gyda'r Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth ledled Cymru.

Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar am y wybodaeth a ddarparwyd ar y gwaith cynllunio senarios a wnaed gan y Comisiwn i baratoi ar gyfer gwahanol ganlyniadau posibl Brexit. Ac yn olaf, hoffai’r pwyllgor gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed gan staff y Comisiwn dros y 12 mis diwethaf wrth baratoi, wrth gwrs, ar gyfer y posibilrwydd bod Brexit yn digwydd.

A gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch am y cyfle i gyfleu safbwyntiau’r Pwyllgor Cyllid ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad?

15:25

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Llyr. Diolch am eich sylwadau. Rydym yn ailadrodd yr hyn a wnaethom yn y Pwyllgor Cyllid, a dweud y gwir.

Fe ddechreuoch chi drwy sôn am hyn bron fel gwahanu pwerau rhwng y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol a chyllideb weithredol y Comisiwn, sy'n gam a gymerodd y Comisiwn i raddau helaeth ar sail awgrymiadau a gafwyd gan y Pwyllgor Cyllid, ac ymddengys ei fod yn gweithio'n dda. Un o'r pethau rydych yn amlwg yn sylweddoli o ganlyniad i hynny, wrth gwrs, yw os oes unrhyw feysydd gwariant annisgwyl, naill ai gan y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol neu'n weithredol i'r Comisiwn, nid ydym bellach mewn sefyllfa i fynd ag arian o un o linellau’r gyllideb a'i roi yn y llall, sy'n iawn, gan y gallwn ddatrys unrhyw broblemau, mewn gwirionedd, drwy gyllidebau atodol—naill ai dychwelyd arian i floc Cymru neu ofyn am fwy gan y Cynulliad hwn er mwyn mynd i’r afael â materion nad ydym wedi'u rhagweld, er enghraifft.

O ran y prosiect ffenestri, gwn fod hyn wedi peri syndod, efallai, i rai o Aelodau'r Cynulliad, ond nid oedd hynny byth am fod yn rhad. Rydym wedi cyrraedd sefyllfa bellach lle mae angen gosod rhai ffenestri newydd yn yr adeilad hwn. Ond ni chredaf fod ceisio gosod pob un ohonynt o fewn blwyddyn yn dderbyniol yn ariannol, os mynnwch, i unrhyw Aelodau Cynulliad yma. Ac wrth gwrs, fe fyddwch wedi gweld bod swm wedi’i neilltuo yn y gyllideb er mwyn cynllunio—mae'n swm cynllunio, fel y gallwn osod y ffenestri newydd sydd eu hangen yn yr adeilad hwn yn y ffordd fwyaf synhwyrol a chosteffeithiol.

O ran y cynllun ymadael gwirfoddol, pwrpas craidd y cynllun ymadael gwirfoddol oedd sicrhau bod gennym staff comisiwn sy’n gallu cyflawni tair blaenoriaeth y Cynulliad, a gwneud hynny yn y ffordd fwyaf didrafferth ond hefyd yn y ffordd fwyaf realistig sy'n bosibl. Roedd gwneud hyn yn dipyn o orchwyl, fel y gwyddoch. Ond nid arbed arian oedd prif ddiben hynny o reidrwydd—ond fe wnaethom arbed rhywfaint o arian, fel mae'n digwydd. Yr hyn na wnaethom lwyddo i'w wneud oedd creu digon o le yn y broses ailstrwythuro honno i gyflawni ein hymrwymiadau i Aelodau'r Cynulliad i ddarparu gwasanaeth rhagorol iddynt, gan ddefnyddio adnoddau'n ddoeth, ac ymgysylltu â phobl yng Nghymru, yn y ffordd y byddem wedi dymuno ei wneud—gan gofio'r cyd-destun y buom ynddo ers ychydig flynyddoedd bellach o ran Brexit, a diwygio'r Cynulliad o bosibl.

O ran y gyllideb blwyddyn etholiad, wrth gwrs, bydd honno ychydig yn fwy eleni. Tybiaf y bydd Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn mynd drwodd yn nes ymlaen heddiw. Mae goblygiadau iddo ran cost, sy'n cynnwys codi ymwybyddiaeth, a chodi ymwybyddiaeth pobl nad oeddem wedi'u hystyried pan osodwyd y Bil drafft o bosibl, ac yn wir, pan osodwyd y gyllideb ddrafft hon. Felly, fel y byddech yn ei ddisgwyl, er mwyn gwneud y Cynulliad hwn yn rhywle y bydd pobl yn awyddus i ddod iddo, ac y bydd pobl yn awyddus i bleidleisio ynddo, mae lefel y gwaith codi ymwybyddiaeth a wnawn, ac ansawdd y gwaith hwnnw, yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod y ddeddf ei hun yn werth ei gwneud. Diolch.

15:30

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i alw am y pleidleisiau. Na. Iawn.

Felly, rydym yn pleidleisio y prynhawn yma ar y cynnig i benodi comisiynydd safonau dros dro. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gynigiwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 40, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

NDM7192 - Cynnig I Benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro: O blaid: 40, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Dadl Fer: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Troi canolbarth Cymru yn fferm wynt fwya'r byd

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Ac mae’r ddadl fer y prynhawn yma yn enw Neil Hamilton, a galwaf ar Neil Hamilton i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Neil.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gennyf—[Torri ar draws.]

Arhoswch funud, Neil. Os ydych chi'n mynd allan, a wnewch chi fynd yn gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda—er y dylai pob un ohonoch fod yn eistedd i mewn, yn gwrando?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi dewis y pwnc hwn ar gyfer y ddadl y prynhawn yma gan y credaf fod y 'Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, i Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arbennig, yn cyfateb yn amgylcheddol i ddiddymu'r mynachlogydd ac eglwysi gan Harri VIII. Yn y rhagair i'r ddogfen hon, dywed y Prif Weinidog, erbyn 2040,

'Rydym yn gwybod bod heriau sylweddol i’w cyflawni, yn enwedig wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd',

sef mater diffiniol ein hoes yn ei farn ef. Ac

'Mae mynd i’r afael â’r achosion a lliniaru... newid yn yr hinsawdd yn ystyriaeth allweddol yn ein cynlluniau a gobeithion i Gymru.'

Ac mae Julie James, yn ei rhagair i'r ddogfen yn dweud y dylem

'wneud yn siŵr ein bod â’r gallu i adeiladu cymdeithas ac economi sy’n hyblyg ac yn wydn'.

Ac rwyf am archwilio'r gwrthdaro sy'n bodoli yn fy marn i rhwng y ddau honiad. Y gwrthdaro, mewn gwirionedd, rhwng twf economaidd a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd—dyfynnaf o'r rhagair yn enw'r Prif Weinidog—a chael gweledigaeth glir ynglŷn ag ynni adnewyddadwy. Ac felly, yr hyn y mae angen i ni ei ddeall, rwy'n credu, yw'r ateb i'r cwestiwn: a yw twf economaidd yn bwysicach na lliniaru'r newid yn yr hinsawdd, neu gael gweledigaeth ynglŷn â mwy o ynni adnewyddadwy? Credaf fod gan y mwyafrif llethol o bobl Cymru lawer mwy o ddiddordeb mewn twf economaidd a gwella eu safon byw na syniadau penchwiban ynghylch targed newid yn yr hinsawdd na ellir ei gyflawni, nad oes gan Lywodraethau unrhyw fodd o ddylanwadu arno mewn gwirionedd. Cymru, wedi'r cyfan, yw'r dlotaf o holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr yn ôl y ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf, a chredaf y dylai twf economaidd fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn rhannau cyntaf y ddogfen, nid yw hyn byth yn cael ei ddweud yn gwbl glir. Fodd bynnag, mae sylwadau diweddarach yn gollwng y gath o'r cwd.

Ymddengys mai siarad am y newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio a chreu mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy yw'r nod allweddol, heb ystyried twf economaidd, cefnogi twristiaeth, na newid tirweddau yn wir. Ar dudalen 36 yn y ddogfen, mae'n dweud bod y Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a bod ganddi ymrwymiad allweddol i ddatgarboneiddio. Dywed hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i helpu i fanteisio ar botensial yr ardaloedd hyn ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a’r manteision economaidd ac amgylcheddol a all ddeillio ohonynt i gymunedau. Ond nid yw’n dweud yn unman mai datblygu economaidd, a'r budd a ddaw yn sgil hynny, fydd y flaenoriaeth bwysicaf i gymunedau Cymru.

Pan edrychwn ar le Cymru yn y byd a'i chyfraniad at gynhesu byd-eang, gwelwn fod ei chyfraniad yn gwbl ddi-nod—0.06 y cant o'r allyriadau carbon deuocsid byd-eang. Credaf y bydd y math o feichiau economaidd y bydd ein hymrwymiadau di-garbon yn eu peri yn rhoi baich sylweddol iawn ar bobl Cymru, ac yn fwyaf penodol, ar y rheini sydd â’r lleiaf o allu i ysgwyddo beichiau o'r fath, a gwyddom fod llawer o broblemau dybryd yng Nghymru. Bydd canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn dangos, unwaith eto, mai ni sydd â’r canlyniadau addysg gwaethaf yn y wlad. Mae cyflwr y gwasanaeth iechyd, unwaith eto, yn gwbl warthus, gyda phump o'n saith bwrdd iechyd yn destunau mesurau arbennig neu’n derbyn ymyrraeth wedi'i thargedu. Os ydym am wario arian cyhoeddus o gwbl, credaf y dylid gwario ar wella iechyd ac addysg a llesiant pobl gyffredin, yn hytrach nag ar adeiladu mwy o ffermydd gwynt a ffermydd paneli solar sy'n anharddu cefn gwlad.

Oherwydd, ni waeth beth a wnawn yn y wlad hon, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i gynhesu byd-eang—dyna yw pen draw'r mater hwn yn sylfaenol. Mae Tsieina ac India, fel nad wyf byth yn blino ei nodi, yn gyfrifol am 36 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd. Ac mae Tsieina yn bwriadu dyblu eu hallbwn carbon deuocsid yn y 15 mlynedd nesaf. Mae India yn bwriadu treblu eu hallyriadau carbon deuocsid. Mae Tsieina wrthi’n adeiladu 300 o bwerdai glo, nid yn unig yn Tsieina, ond ledled y byd hefyd, fel rhan o’u blaenoriaethau geowleidyddol i ymestyn cyrhaeddiad gwleidyddol Tsieina. Maent yn eu hadeiladu yn Affrica, yn Nhwrci ac mewn llawer o wledydd eraill.

Mae'r Unol Daleithiau, wrth gwrs, wedi ymateb i hyn. Mae'r Arlywydd Trump o'r farn ei bod yn bwysig na ddylai'r Unol Daleithiau ysgwyddo baich y polisïau newid hinsawdd hyn os yw gwledydd eraill yn mynd i'r cyfeiriad arall. Mae’n awyddus i ymgilio rhag cytundebau Paris yn gyfan gwbl, gan ddweud iddo gael ei ethol i gynrychioli dinasyddion Pittsburgh ac nid Paris. Wel, credaf y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r safbwynt ei bod wedi'i hethol i gynrychioli dinasyddion Port Talbot ac nid Paris. Yr hyn sy'n cymell Trump yw bod cymal dianc yng nghytundeb Paris sy'n eithrio'r llygrwyr gwaethaf a mwyaf ystyfnig, os ydych yn credu bod carbon deuocsid yn llygrydd. Dywed erthygl 4.7 o gytundeb Paris y bydd y graddau y bydd gwlad sy'n datblygu yn gweithredu ei hymrwymiadau yn effeithiol o dan y confensiwn

yn rhoi ystyriaeth lawn i'r ffaith mai datblygu economaidd a chymdeithasol a threchu tlodi yw blaenoriaethau cyntaf a phwysicaf y Partïon sy’n wledydd sy'n datblygu

Felly, ceir ymrwymiad penodol yng nghytgordiau Paris i flaenoriaethu datblygu economaidd uwchlaw popeth arall ar gyfer gwledydd sy'n datblygu, sy'n cynnwys hyd yn oed y pwerdai economaidd, fel y maent ar y ffordd i fod, sef Tsieina ac India. Felly, mae Tsieina ac India wedi ymrwymo mewn egwyddor i'r damcaniaethau sylfaenol sy'n sail i'r confensiwn ar newid yn yr hinsawdd, ond nid ydynt am wneud unrhyw beth mewn gwirionedd i leihau eu cyfraniad i'r allyriadau byd-eang rydym yn eu hallyrru ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, maent am fynd i'r cyfeiriad arall: maent am greu mwy eto.

Mae hyd yn oed yr Almaen, sydd wedi ymrwymo'n llwyr i nodau'r confensiwn, yn mynd i'r cyfeiriad arall hefyd. Ym mhob un o'r wyth mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys eleni, mae allyriadau carbon deuocsid wedi cynyddu yn yr Almaen—gwlad sydd wedi hyrwyddo mwy a mwy o bolisïau cosbol ar gynhesu byd-eang o dan Angela Merkel ar gyfer pobloedd Ewrop.

Felly, y llynedd, bu cynnydd o bron i 5 y cant yn allyriadau byd-eang Tsieina, a 7 y cant yn India. Yn 2018, roedd y cynnydd yn allyriadau byd-eang India yn 10 gwaith cyfanswm allbwn blynyddol Cymru o garbon deuocsid. Felly, hyd yn oed pe gallem roi holl economi Cymru ar stop, ac yn wir, pe na bai Cymru yn bodoli ar y blaned ac yn diflannu ar amrantiad, byddai India'n gwrthdroi’r budd i’r byd yn sgil gostyngiadau carbon deuocsid mewn cwta bum wythnos. Felly, pam ein bod am roi’r beichiau enfawr hyn ar bobl Cymru? Ac nid beichiau economaidd yn unig ydynt wrth gwrs, maent yn feichiau amgylcheddol hefyd.

Credaf fod y polisi ymwybodol, bwriadol o roi beichiau o'r fath ar y bobl sydd â’r lleiaf o allu i’w hysgwyddo yn anfoesol iawn, ac yn hurt, gan na fyddant yn cyflawni eu hamcan.

Mae angen datblygu economaidd ar Gymru, ac mae arni angen trechu tlodi. Oherwydd hyd yn oed yn adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae tlodi tanwydd yng Nghymru yn 12 y cant. Golyga hynny fod un rhan o wyth o'n poblogaeth yn gorfod gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar gadw'n gynnes yn y gaeaf.

Mae cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, wrth gwrs, yn cael eu hariannu gan bobl gyffredin, a chaiff yr arian ei drosglwyddo i gwmnïau datblygu mawr, a dyma'r trosglwyddiad cyfoeth mwyaf oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog a gafwyd yn ystod fy oes i. Mae'n syndod braidd fod Llywodraeth Lafur yn ystyried polisi o'r fath, ac yn ei weithredu mor frwd yn wir.

Wrth gwrs, mae economi Cymru'n newid. Mae sylfaen ddiwydiannol hen ffasiwn Cymru wedi mynd neu wrthi’n mynd. Rydym yn datblygu'n gynt ac yn gynt i fod yn economi gwasanaethau. Yn 2010, roedd yna 39,500 o wasanaethau ariannol a busnes. Mae hynny wedi cynyddu i 53,500 yn 2018, ac yn 2010, roedd 52,000 o fusnesau manwerthu a thwristiaeth. Mae hynny bellach wedi cynyddu i 60,000. Dyma'r math o fusnesau y bydd canolbarth Cymru yn eu gweld fel eu dyfodol, ac felly mae'r graddau y bydd y polisïau newid yn yr hinsawdd hyn yn ei gwneud yn anos i dwristiaeth a diwydiannau cysylltiedig wneud elw yn mynd i gael effaith sylweddol ar les economaidd fy rhanbarth.

Mae rhagdybiaeth yn y ddogfen hon o blaid datblygu ffermydd gwynt a chynlluniau tebyg sy'n mynd i ddinistrio'r dirwedd. Gyrrais o Glasgow i lawr i Gaerliwelydd ychydig wythnosau yn ôl. Nid oeddwn wedi bod yno ers blynyddoedd lawer, ac roeddwn yn synnu bod pob un o'r bryniau ar hyd y darn hwnnw o ffordd, yn ôl pob golwg, wedi'u gorchuddio â melinau gwynt—roedd yn gwbl warthus. Roedd yn difetha’r olygfa yn llwyr i unrhyw un a oedd â diddordeb mewn ymweld â'r rhan honno o'r wlad er mwyn mwynhau cefn gwlad. Nid wyf am weld hynny'n digwydd i ganolbarth a gorllewin Cymru, gan y credaf, nid yn unig fod hynny’n wael o safbwynt esthetaidd, ond credaf y bydd hefyd yn cael effaith economaidd hynod niweidiol ar ein rhanbarth.

Ysgrifennodd Ogden Nash, y bardd a digrifwr Americanaidd, yn y 1930au, pan oedd hysbysfyrddau’n codi ger priffyrdd ar draws America—ysgrifennodd:

Credaf na welaf byth / Hysbysfwrdd mor hyfryd â choeden. / Efallai, oni bai fod yr hysbysfyrddau'n cwympo, / Na fyddaf byth yn gweld coeden.

Wel, rwy'n teimlo bod y felin wynt neu'r tyrbin gwynt heddiw yn cyfateb i hysbysfyrddau’r 1930au. Fe wnaethom gyflwyno rheolaethau hysbysebu o ganlyniad uniongyrchol i ddatblygiad hysbysfyrddau ar hyd y ffyrdd prifwythiennol allan o Lundain yn y 1930au. Serch hynny, mae gennym Lywodraeth yn awr sy’n mynd i ddinistrio ein cefn gwlad yn fwriadol ac yn gwbl ymwybodol, a'r cyfan yn enw rhyw darged dychmygol, na allwn ei gyrraedd byth.

Felly, mae hyn yn hynod amhoblogaidd, wrth gwrs, gyda'r bobl sy'n mynd i fyw gyda'r pethau hyn. Mae Cyngor Diogelu Cymru Wledig—rwy’n datgan buddiant fel aelod ohono—wedi dweud mai diwydiannu ein tirweddau ar raddfa fawr a’u dinistrio y tu hwnt i bob rheswm yw'r hyn sydd yn yr arfaeth yma. Ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd newid tirwedd yn cael ei dderbyn, mae’n rhaid cael mandad democrataidd ar ei gyfer.

Yn Lloegr, mae angen cymeradwyaeth leol fwyafrifol i ffermydd gwynt ar y tir, ac ni ddylai cymunedau Cymru gael llai o hawliau na hynny. Rwy’n llwyr gefnogi’r amcan hwnnw. Mae arweinydd Plaid Cymru Cyngor Gwynedd wedi disgrifio'r fframwaith hwn fel ‘comedi pur’ ac wedi dweud nad yw'r ddogfen yn addas at y diben ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion cefn gwlad Cymru a'r trefi marchnad sy'n bwydo'r economi ehangach. Nid wyf yn cytuno â Phlaid Cymru ar lawer, ond rwy'n cytuno ag ef ar hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai Cymru yn elwa o fewnfuddsoddi a thwf economaidd o ganlyniad i'r cynlluniau ynni adnewyddadwy hyn. Ni chredaf fod unrhyw dystiolaeth fod hynny'n bosibl. Edrychwch ar rai o'r prosiectau sydd wedi'u cynnig ac sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn—gadewch i ni ystyried y tri chynllun yn Hendy, Bryn Blaen a Rhoscrowdder. Mae gan y ffermydd gwynt hyn eu cwmnïau eu hunain, ond maent yn rhannu’r un swyddfa gofrestredig yn 7a Howick Place, Llundain SW1P 1DZ, ac mae pob un ohonynt yn rhestru Steven John Radford fel cyfarwyddwr. Mae cwmni o’r Amwythig o'r enw Viento Environmental Ltd, sy'n cael ei redeg gan rywun o'r enw Fran Iribar, wedi bod yn rhan o hyn hefyd ac mae hyn oll yn cael ei gyfarwyddo gan gwmni arall o Lundain o'r enw U and I Group plc—nid oes unrhyw gyfranogiad Cymreig o gwbl yn y datblygiad hwn. Fel y dywedais yn gynharach, credaf mai hwn yw'r trosglwyddiad arian mwyaf oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog a welais yn ystod fy oes. Mae Llafur yn honni mai hwy yw Robin Hood cymdeithas, ond mewn gwirionedd, maent yn gynghreiriaid i'r hyn sy’n cyfateb yng Nghymru i Siryf Nottingham.

Yn achos fferm wynt Hendy, fel sy’n dra hysbys, cafodd ei gwrthod gan gyngor Sir Drefaldwyn, a'i gwrthod wedyn gan yr arolygydd cynllunio a benodwyd gan y Gweinidog ei hun, ac yna fe ddiystyrodd hi adroddiad yr arolygydd cynllunio. Roedd ganddi bŵer cyfreithiol i wneud hynny. Ni chredaf fod ganddi bŵer moesol i wneud hynny, oherwydd mae fel pe na bai’n werth bod wedi cael yr ymchwiliad yn y lle cyntaf, gan fod blaenoriaeth polisi’r Llywodraeth Lafur o ddatgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy wedi diystyru’r holl wrthwynebiad a godwyd gan yr arolygydd cynllunio yn ei adroddiad.

Mae'n debyg nad yw cynllun Bryn Blaen yn Llangurig erioed wedi cynhyrchu'r un folt neu wat o drydan mewn gwirionedd, a gwelaf o gyfrifon diweddaraf y cwmni sy'n ei ddatblygu eu bod wedi rhagweld enillion targed o £6 miliwn i £8 miliwn i'w cwmni—byddant yn cael £6 miliwn i £8 miliwn allan o hyn heb gynhyrchu unrhyw drydan o gwbl, ac yn y broses, wrth gwrs, maent wedi adeiladu pethau sy'n ddolur i'r llygad ar y dirwedd. Mae hyn yn gwbl afresymol.

Mae Jac o’ the North, y blogiwr enwog, y soniwyd amdano yn y Siambr yn ddiweddar gan gyn-arweinydd Plaid Cymru, wedi dweud, wrth egluro’r hyn sydd wedi digwydd yma, fod U and I—neu Development Securities yw’r cwmni sy’n ei ddatblygu—wedi cynllunio tair fferm wynt o faint sy'n golygu y gallai'r Arolygiaeth Gynllunio eu hachub, neu fel dewis olaf, Llywodraeth Cymru, hyd yn oed pe bai'r pwyllgorau cynllunio lleol yn pleidleisio yn eu herbyn:

Heb os, roedd y datblygwyr wedi gobeithio cael caniatâd cynllunio ar gyfer y tri datblygiad, a fyddai’n cynhyrchu hyd at £20 miliwn iddynt. I fod yn fwy realistig, mae'n debyg eu bod yn barod i setlo am ddau o’r tri. Ond fe wnaeth penderfyniad yr Uchel Lys yn eu herbyn mewn perthynas â Rhoscrowdder ym mis Medi olygu mai dim ond Bryn Blaen a oedd ar ôl ganddynt, felly elw bach yn unig y byddent yn ei wneud.

Ond rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod £6 miliwn i £8 miliwn yn llawer o arian i chi a fi, Ddirprwy Lywydd, ac felly credaf fod y polisi hwn yn gwbl gyfeiliornus, yn gwbl anghywir ac yn anfoesol. A chredaf fod mwyafrif llethol y bobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn ei wrthwynebu am ei fod yn fygythiad aruthrol yn fy marn i i ddyfodol economaidd ein rhanbarth gan ei fod yn tanseilio holl sylfaen yr economi gwasanaethau leol.

15:45

Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae cynhyrchu fframwaith datblygu cenedlaethol yn rhan o ymdrech ar y cyd gan y Llywodraeth hon i ddangos arweinyddiaeth wrth frwydro yn erbyn a mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd sy'n ein hwynebu. Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd mwy na 11,000 o wyddonwyr ledled y byd ein bod yn wynebu dioddefaint aruthrol yn sgil yr argyfwng hinsawdd. Mae eu hasesiad llwm yn ei gwneud yn ofynnol inni newid ein ffyrdd o fyw a gweithredu ar unwaith. Mae'r argyfwng yn ddirfodol, yn uniongyrchol ac yn ddiymwad ac mae'n cyflymu'n gynt na'r hyn roedd y rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ddisgwyl.

Fel Llywodraeth, ni allwn anwybyddu'r bygythiad mwyaf i'n planed; ein cyfrifoldeb ni yw brwydro yn erbyn y bygythiad hwn a chynllunio ar gyfer ein hanghenion ynni cenedlaethol. Mae ein polisi ynni yn cael ei lywio gan ein hymrwymiadau datgarboneiddio. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd am ostyngiad o 95 y cant yng Nghymru ac mae'n bwriadu deddfu i'r perwyl hwn yn 2020. Mae hyn yn cynrychioli cyfraniad teg Cymru i ymrwymiad y DU o dan gytundeb Paris. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi datgan ein huchelgais i gyrraedd sero-net o ran carbon erbyn 2050 a byddwn yn gweithio gyda Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd a rhanddeiliaid eraill i ddeall sut y gellir cyflawni hyn. Drwy anelu at gyrraedd sero-net, ni fydd yr unig Lywodraeth sy'n ystyried mynd y tu hwnt i argymhellion Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gynhyrchu 70 y cant o'n defnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae 'Ynni Cymru: y Newid i Garbon Isel' a 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' yn cynnwys polisïau ac argymhellion sy'n ceisio cyfyngu ar gynhyrchiant tanwydd ffosil, cynyddu cyfraddau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel ac annog arloesi yn y sector ynni yng Nghymru. Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd y mae'r trawsnewidiad hwn yn eu cynnig i gynyddu ffyniant yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, rydym yn diwallu hanner ein hanghenion o ran pŵer drwy ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni nodi adnoddau pellach i ddiwallu'r angen cynyddol am wres a thrafnidiaeth garbon isel. Mae'r system gynllunio yn allweddol i gyflawni ein targedau. Mae'r polisïau a amlinellir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn dangos ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio Cymru ymhellach. Yn seiliedig ar ymchwil annibynnol, mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft wedi nodi ardaloedd blaenoriaeth lle gellir lleoli datblygiadau gwynt a solar ar raddfa fawr. Rydym yn darparu'r arweiniad cenedlaethol sy'n ofynnol ar gyfer y newid sylfaenol sy'n rhaid inni ei gyflawni yng Nghymru i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Nid oes unrhyw wlad arall yn y DU wedi darparu arweiniad polisi strategol o'r fath ar gyfer ynni solar a gwynt ar y tir.

Rwy'n cydnabod yr effaith bosibl y gallai datblygiadau ynni adnewyddadwy ei chael. Mae polisïau yn y fframwaith datblygu cenedlaethol yn ceisio cyfyngu ar raddau'r effaith hon. Rwy'n ymwybodol iawn o effaith gronnus bosibl cynigion a'r effaith y gall hyn ei chael ar ymdeimlad cymuned neu anheddiad eu bod wedi’u hamgylchynu gan ddatblygiad. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn nodi hyn yn glir fel mater allweddol y bydd angen rhoi sylw iddo mewn cynigion datblygu.

Bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn darparu sylfaen i benderfynu ar brosiectau seilwaith mawr sydd wedi eu dynodi’n ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Er ein bod yn derbyn egwyddor newid tirwedd, nid ydym yn disgwyl i'r holl ardaloedd blaenoriaeth a nodwyd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft gael eu gorchuddio'n gyfan gwbl â ffermydd gwynt, fel y mae rhai o'r ymatebion mwy brawychus wedi’i awgrymu, ac fel y clywsom heddiw gan Neil Hamilton.

Mae’n rhaid i bob cais ar gyfer ffermydd gwynt mawr gynnwys asesiad o'r effaith amgylcheddol, ac mae’n rhaid ystyried hyn wrth benderfynu ar geisiadau. Mae oddeutu 25 y cant o Gymru naill ai'n barc cenedlaethol neu'n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u diogelu'n statudol ac fe'u heithriwyd rhag cael eu hystyried yn ardaloedd blaenoriaeth. Mae'r polisi yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn nodi nad yw ynni gwynt a solar ar raddfa fawr yn briodol yn yr ardaloedd hyn.

Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a'i chwaer-ddogfen 'Polisi Cynllunio Cymru', yn datgan cefnogaeth gref i ddull rhanbarthol a lleol cryfach o gynllunio. Mae cynlluniau datblygu lleol yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn darparu ynni adnewyddadwy, a bydd hyn yn parhau wrth i'r gweddill gael eu mabwysiadu ac wrth i rai eraill gael eu hadolygu. Rydym yn disgwyl i bob prosiect ynni adnewyddadwy yng Nghymru gynnwys elfen, o leiaf, o berchnogaeth leol, i gadw cyfoeth a darparu budd gwirioneddol i gymunedau yng Nghymru. Rydym am sicrhau nad yw'r Gymru wledig yn cael ei gadael ar ôl. Yn wir, gallem weld y Gymru wledig yn arwain o ran cynyddu gwerth y datblygiadau hyn i'r economi leol, gan ddiwallu anghenion ynni Cymru a chadw'r buddion o fewn yr economi leol honno. Rydym yn disgwyl y bydd datblygiadau ynni adnewyddadwy, yn enwedig y rhai sy'n eiddo i bobl yng Nghymru, yn darparu cyfran deg a chymesur o'r budd i Gymru yn gyfnewid am eu cynnal.

Rwy'n cydnabod bod canolbarth Cymru eisoes yn cynhyrchu cryn dipyn o ynni adnewyddadwy. Er enghraifft, yn yr adroddiad diweddar ar gynhyrchiant ynni, mae Ceredigion wedi bod yn cynhyrchu mwy o drydan adnewyddadwy nag y mae'n ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy o ynni glân arnom os ydym am ddatgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth a pheidio â bod yn ddibynnol ar danwydd ffosil. Mae angen inni sicrhau hefyd fod y cymunedau sy'n ddibynnol ar olew yng nghanolbarth Cymru yn cael eu cefnogi er mwyn sicrhau y gallant elwa o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol. Rydym yn gweithio gyda gweithredwyr y grid i esblygu atebion grid i ddiwallu anghenion Cymru, fel eu bod yn briodol i'r dirwedd ac er mwyn gwella cydnerthedd. Mae gweithredwyr y grid yn gweithio i sicrhau bod y grid sydd ar waith yn hyblyg, yn effeithlon ac yn glyfar. Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl i'r holl drydan adnewyddadwy a gynhyrchir gael ei drosglwyddo drwy'r grid. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn gynllun ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, ac yn anochel, bydd datblygiadau technolegol o ran trosglwyddo, dosbarthu a storio ynni dros y cyfnod hwn. Hefyd, er mai ynni gwynt ar y tir a solar yw'r technolegau mwyaf fforddiadwy, mae'n bwysig nodi bod ystod o dechnolegau eraill a fydd yn helpu i ddiwallu ein hangen am ynni.

Bydd y cynllun morol cenedlaethol cyntaf yn cael ei fabwysiadu cyn bo hir. Bydd hwn yn darparu'r polisïau i gefnogi datblygu cynaliadwy mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy’r môr. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gennym gymysgedd o ynni adnewyddadwy yng Nghymru i ddarparu ynni diogel, dibynadwy ar y môr ac ar y tir.

Mae'r cyfnod ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn para hyd at ddiwedd yr wythnos hon. Ar ôl hyn, byddaf yn ystyried y sylwadau a gawsom a byddaf hefyd yn penderfynu a oes angen diwygio unrhyw un o'r polisïau yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, heb roi camau gweithredu mentrus a phendant ar waith yn awr, mae'r risg i'n planed yn aruthrol. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol a moesol i wneud popeth yn ein gallu i atal achosion newid yn yr hinsawdd. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn ceisio rhoi ymateb polisi rhesymegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i sicrhau ynni adnewyddadwy ledled Cymru gyfan, nid canolbarth Cymru yn unig. Mae dyletswydd arnom tuag at genedlaethau’r dyfodol i weithredu a dangos arweinyddiaeth bendant ar y mater hwn. Mae 11,000 o wyddonwyr yn dweud ein bod yn iawn, ac ymddengys mai dim ond Royston Jones sy'n dweud ein bod yn anghywir. Diolch.

15:50

Diolch yn fawr iawn.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw Cyfnod 3. Cyn inni ddechrau ar Gyfnod 3, rwy'n bwriadu cymryd egwyl yn awr, a buaswn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn i ni ailymgynnull, a byddwn yn ailymgynnull am 4.05 p.m. Felly, bydd y gloch yn cael ei chanu am 4 o'r gloch. Diolch. Ataliwyd y cyfarfod yn awr tan 4.05 p.m.

15:55

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:55.

16:05

Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:05, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

13. Dadl Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

O'r gorau, felly fe symudwn ymlaen at Gyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

Grŵp 1: Enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dynodi ei Aelodau (Gwelliannau 162, 127, 2, 128, 44, 147, 148, 149A, 149B, 149C, 149D, 149, 45, 150, 46, 151, 47, 152, 153A, 153B, 153C, 153, 48, 154A, 154B, 154C, 154, 49, 50, 51, 52, 155, 156, 53, 54, 81A, 81B, 81, 16, 129, 69A, 20, 55, 157, 56, 158, 57, 159, 21, 130, 22, 23, 131, 24, 26, 132, 59, 60, 58, 73A, 27, 133, 28, 134, 29, 135, 30, 136, 32, 137, 33, 138, 34, 139, 35, 140, 36, 141, 37, 142, 38, 143, 39, 144, 41, 145, 42, 146, 164A, 164B, 64, 161)

Rwy'n mynd i alw gwelliannau grŵp 1. Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud ag enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dynodi ei Aelodau. Y gwelliant arweiniol yn y grŵp hwn yw gwelliant 162, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig a siarad am y gwelliant arweiniol a gwelliannau eraill yn y grŵp. Rhun ap Iorwerth.

Cynigiwyd gwelliant 162 (Rhun ap Iorwerth, gyda chefnogaeth David Rees, Mike Hedges, Hefin David, Huw Irranca-Davies, John Griffiths).

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Bil o'r math sydd gennym ni o'n blaenau yn y fan hyn yn mynnu cydweithio, mae o'n mynnu cyfaddawd, mae o'n golygu sylweddoli beth ydy'n rôl ni fel Senedd. Bil ydy o sy'n ymwneud nid â pholisi, nid â rhaglen Llywodraeth, nid â heddiw, hyd yn oed, ond yn hytrach y gwaith o adeiladu cenedl a'r sefydliadau sydd eu hangen ar y genedl honno ar gyfer cenedlaethau i ddod. 

Enw ein Senedd ni sydd dan sylw yn y gwelliant cyntaf yma, ac unwaith eto, wrth gynnig y gwelliant, dwi'n apelio'n daer ar Lywodraeth Cymru yn arbennig i ailystyried eu safbwynt nhw, ac i ailystyried beth ddylai eu rôl nhw fod yn y cyd-destun yma. Mae'r ddadl ei hun, dwi'n meddwl, yn ddigon clir erbyn hyn.

Mae'n ddadl sydd wedi'i hailadrodd yn fynych bellach. Mae ein Cynulliad wedi tyfu i fod yn Senedd lawn dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r Bil hwn yn fodd o adlewyrchu hynny, gan gyfeirio at y lle hwn mewn deddfwriaeth fel Senedd am y tro cyntaf. Mae hefyd yn ymwneud â phwy all bleidleisio, pwy all sefyll etholiad, mecanweithiau ymgysylltiad y cyhoedd â democratiaeth, a'r broses ddemocrataidd yng Nghymru. Ond mae gennym gyfle ar yr un pryd i roi enw, teitl, i'n Senedd. Wrth i ni ymgynnull yma yn y Senedd—oherwydd dyna enw’r adeilad eisoes—i drafod y Bil Senedd ac etholiadau, mae bedyddio ein Senedd yn ‘Senedd’ yn y ddwy iaith yn fy nharo fel rhywbeth hynod o synhwyrol i’w wneud. Senedd Cymru yw 'Parliament' Cymru.

Rydym yn canu ein hanthem genedlaethol yn Gymraeg nid er mwyn eithrio neb, ond i gynnwys pawb, i ddathlu ein cenedl Gymreig mewn ffordd nad oes unrhyw un arall yn dathlu eu cenedl hwythau. Mae gan bob gwlad anthem, dim ond un sydd â Hen Wlad fy Nhadau. Mae gan bob gwlad senedd, dim ond un all gael 'Senedd'. Nid ydym erioed wedi meddwl, 'Gadewch i ni wneud hyn fel mater pleidiol.' Rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau weld bod hynny’n wir yn y ffordd y gwneuthum innau a fy nghyd-Aelodau estyn allan, gan geisio gweithio ar draws rhaniadau plaid ar hyn. Ond rydym hefyd wedi bod yn eithaf argyhoeddedig mai dyna oedd Cymru ei eisiau. Comisiynodd fy mhlaid arolwg barn dros yr ychydig ddyddiau diwethaf—dros 1,000 o bobl, arolwg barn mawr—a gofynnwyd i’r ymatebwyr:

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn penderfynu yr wythnos nesaf ar enw newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Pa un o'r canlynol fyddai'n well gennych i'r Cynulliad gael ei alw, 'Senedd' fel yr enw swyddogol yn Gymraeg a Saesneg, neu 'Welsh Parliament' fel yr enw swyddogol yn Saesneg a 'Senedd' fel yr enw swyddogol yn Gymraeg?

Edrychwch ar yr ymatebion. Ac eithrio'r rhai nad oeddent yn gwybod—dim ond 20 y cant, gyda llaw; mae'n ymddangos bod hyn yn rhywbeth sydd wedi taro tant gyda phobl—roedd 56 y cant eisiau ‘Senedd’ a dim ond 35 y cant oedd eisiau'r fersiwn ddwyieithog. Felly, er eich bod chi wedi cael llond bol arnaf yn rhygnu ymlaen am hyn mwy na thebyg, beth am wrando ar bobl Cymru? A gyda llaw, er nad yw hwn yn fater pleidiol, dywedodd cyfran fwy hyd yn oed o gefnogwyr Llafur eu bod yn cefnogi ‘Senedd’, rhag ofn bod hynny'n helpu i argyhoeddi fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth. Mae'n uwch eto ymysg Democratiaid Rhyddfrydol, gyda llaw.

Nawr, rwy'n derbyn, yn y Llywodraeth, fod yna egwyddor o gydgyfrifoldeb. Anaml y byddwch yn caniatáu pleidleisiau rhydd, ond nid oes a wnelo hyn â pholisi Llafur na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth. Nid yw’n ymwneud â'r Llywodraeth hon. Nid ymwneud â ni y mae. Ymddiriedir ynom, fel ACau, i benderfynu beth fydd enw'r sefydliad hwn am genedlaethau, a hoffwn amser, gyda llaw, i ofyn i Aelodau ein Senedd Ieuenctid beth yw eu barn hwy. Ac o ystyried yr arolwg barn rwyf newydd ei grybwyll, mae gennyf syniad eithaf da beth y byddent yn ei ddweud. Ond Brif Weinidog, fe ddywedoch chi wrthyf ddoe, pan godais hyn gyda chi, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'n fater y mae gan lawer o Aelodau'r Cynulliad farn gref arno, ac nid yw'n fater i'r Llywodraeth. Bil Cynulliad yw hwn, nid Bil Llywodraeth, a bydd gwahanol Aelodau Cynulliad â barn wahanol ar yr ateb iawn i'r cwestiwn hwn.'

Ond, a chyfeiriaf hyn atoch chi i gyd fel Gweinidogion, wrth ddweud ar y naill law nad mater i'r Llywodraeth yw hwn a bod gan wahanol Aelodau farn wahanol, ar y llaw arall, rydych chi wedi gwrthod fy ngalwadau i ac eraill i ganiatáu pleidlais rydd ymhlith eich Gweinidogion ar y pwynt penodol hwn o egwyddor.

Ceir tri bloc pleidleisio yn y Cynulliad hwn yn sefyll yn ffordd rhoi'r enw y mae pobl Cymru ei eisiau i’r sefydliad, mae'n ymddangos: un yw Plaid Brexit, un arall yw'r Blaid Geidwadol, a'r llall yw Llywodraeth Lafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Gennych chi y mae’r bleidlais fwrw. Ac er dweud bod hwn yn fater i'r Cynulliad, canlyniad eich gweithredoedd yw rhwystro pleidlais wirioneddol agored. Ydy, mae'n bleidlais rydd i aelodau meinciau cefn Llafur, ac mae wedi bod yn dda cael y ddadl agored a gefais gyda'r ACau Llafur hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cefnogi'r gwelliant, ar adeg ei gyflwyno ac yn y pleidleisiau yng Nghyfnod 2 a 3 y trafodaethau ar y Bil.

Nid oes gennyf unrhyw ddewis yn awr, fel chwip fy mhlaid, ond caniatáu pleidlais rydd ar y Bil cyfan yng Nghyfnod 4, oni bai bod y gwelliannau hyn yn cael eu pasio heddiw, oherwydd i rai, mae'r cyfle i roi ei deitl Cymraeg unigryw ei hun i'n Senedd o'r pwys mwyaf. Nid yw'r cyfleoedd hyn, sy'n symbolaidd ond yn bwysig, yn dod yn aml iawn—unwaith mewn cenhedlaeth, efallai. Oes, mae yna bethau pwysicach o lawer i ni eu trafod—iechyd, addysg, tlodi a swyddi da—ond ni yw'r rhai sydd â'r fraint o ymdrin â materion fel hyn, ac anaml iawn y gwnawn hynny, ond mae heddiw yn un o’r dyddiau hynny.

Mae a wnelo pasio'r math hwn o Fil ag adeiladu consensws a chyfaddawd, ac yn sicr bûm yn barod i gyfaddawdu gyda'r Llywodraeth, fel y gwelir yn y modd y cynigiais yr enw 'Senedd Cymru', yn hytrach na 'Senedd' yn unig, ar ôl cytuno ar ffurf geiriau y gallai'r Llywodraeth gytuno ei fod yn briodol. Cafwyd awgrymiadau gan y Llywodraeth yn wreiddiol, ar gamau cynharach eraill, fod cael enw Cymraeg yn unig yn broblemus rywsut mewn termau cyfreithiol, ond ar ôl i’r Llywodraeth ddynodi bod y gwelliant hwn yn briodol, gwyddom nad yw hynny'n wir, a gwyddom drwy sawl barn gyfreithiol arall hefyd fod hyn i gyd yn bendant yn bosibl yn gyfreithiol. Felly, yr hyn sydd gennym yw Llywodraeth sy'n defnyddio pleidlais fwrw gyfunol ar fater o farn gyfunol i wrthwynebu'r enw Cymraeg yn unig tra'i bod hefyd o'r farn nad mater i'r Llywodraeth yw hwn. Nid yw'n gwneud synnwyr. Ac o ystyried fy mod yn gwybod am Weinidogion unigol sydd wedi bod yn awyddus i gefnogi'r enw Cymraeg yn unig, mae'n fwy rhwystredig fyth.

Rwy’n dal i obeithio y gall y Llywodraeth, yn gyfunol, ailfeddwl heddiw. Gobeithio y gall Aelodau eraill sydd â phleidleisiau rhydd ailfeddwl heddiw a chefnogi’r penderfyniad hwn. Ac mae'r apêl honno'n mynd i Aelodau o bob plaid, ym mhob rhan o'r Senedd hon. Ond rwy’n dweud wrth Lywodraeth Cymru: byddwch yn ddewr, byddwch yn Llywodraeth Cymru, nid dim ond unrhyw Lywodraeth. Fel y gall pawb ohonom ddweud mai'r ‘Senedd’ yw senedd Cymru.

Cymerwch y cyfle yma. Cefnogwch y rheini sydd wedi cysylltu o ar draws y pleidiau ac o du hwnt i bleidiau i ddweud bod yn rhaid mabwysiadu'r enw 'Senedd' yn swyddogol. Cefnogwch gyngor Penrhyndeudraeth, chwarae teg, aeth i'r drafferth o gynnal pleidlais neithiwr i gefnogi'r enw 'Senedd'. Dwi'n ddiolchgar iawn i chithau. Cefnogwch bobl Cymru, fel y maen nhw wedi siarad drwy'r arolwg barn y gwnes i gyfeirio ato fo'n gynharach, ac wedi siarad ym mhob cwr o Gymru. Dyma maen nhw ei eisiau. Dwi'n argyhoeddedig o hynny; dwi'n meddwl eich bod chithau hefyd. Dyma ein Senedd ni, bob un ohonom ni yng Nghymru. 

16:10

Rwy'n cynnig fy ngwelliannau yn y grŵp hwn, sydd â’r nod syml o newid dynodiad Aelodau'r Cynulliad yn Saesneg o fod yn 'Members of Senedd Cymru’ i fod yn ‘Members of the Welsh Parliament’. Dyma oedd nod y gwelliannau a gyflwynwyd gan Alun Davies yng Nghyfnod 2, ac a gefnogwyd gennym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig. Teimlwn ei bod yn briodol ein bod ni unwaith eto’n rhoi’r opsiwn hwn gerbron yr Aelodau ar y cam hwn yn y cylch deddfwriaethol. Fel y mae'r Bil ar hyn o bryd, mae gennym yr enw dwyieithog 'Senedd Cymru' neu ‘Welsh Parliament’, a chredaf fod angen i ni fynd i'r afael â'r dynodiad yn awr er mwyn sicrhau’r cysondeb hwnnw.

Nawr, gan gyfeirio at yr araith y mae Rhun newydd ei gwneud, a oedd yn llawn o deimlad diffuant, rwy'n credu ei fod yn wahaniaeth barn go fychan, mae'n rhaid i mi ddweud. Nid oes gennyf farn gref ar hyn fel mater o egwyddor y naill ffordd neu'r llall, ond credaf mai'r hyn sydd wedi argyhoeddi ein grŵp fod angen y ffurf ddwyieithog yn y ddeddfwriaeth yw'r ffaith bod yr ymgynghoriad i’r Bil hwn wedi cynhyrchu ymateb—dros 70 y cant—mai'r opsiwn cliriaf o bell ffordd a ffafriwyd oedd enw dwyieithog, a dyna pam y credwn y dylai'r sefydliad hwn gael yr enw hwnnw.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai 'Senedd' fydd yr enw Cymraeg a'r enw cyffredin yn Saesneg yn ôl pob tebyg; yn sicr dyna’r un y bûm innau’n ei ddefnyddio ers blynyddoedd. Felly, tybed faint o gymorth yw cael y ddadl braidd yn arteithiol hon, ond rwy'n derbyn bod rhai pobl yn teimlo bod mwy o symbolaeth gyda'r ddeddfwriaeth yn dweud hynny yn Gymraeg yn unig. Ond mae gennyf ofn nad yw'n ddadl sy'n ein hargyhoeddi ni. Teimlwn y dylem lynu at y safbwynt gwreiddiol, a ddatblygwyd yng Nghyfnod 1 ac wrth graffu ar y Bil drwy ymarfer ymgynghori helaeth.

Nawr, rydych chi'n cyflwyno'r arolwg barn yn gelfydd. Rwy'n credu mai un ffordd o oresgyn y ffaith anghyfleus ynglŷn â'r hyn a ganfu’r ymgynghoriad yn eglur yw ceisio dod o hyd i dystiolaeth amgen. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe baech wedi rhannu'r arolwg barn hwnnw â ni yn fwy cyffredinol. Nid wyf yn amau eich geirwiredd, ond nid yw arolygon barn, fel y mae'n bosibl y byddwn yn darganfod yn ystod yr ymgyrch hon, bob amser yr hyn y maent yn ymddangos oherwydd y modd y gofynnir y cwestiynau. Ond beth bynnag, mae angen i ni barchu'r broses graffu lawn a'r hyn a gynhyrchodd hynny. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

16:15

Yn gyflym iawn, gallaf yn bendant roi sicrwydd i'r Aelod y buaswn yn fwy na pharod i rannu manylion yr arolwg barn hwnnw mewn Cyfnod Adrodd pellach, os oes angen.

Wel, os caf ddweud, dyna'r peth lleiaf sydd angen i chi ei wneud yn awr, ond nid yw'n rhoi cyfle inni ar y cam hwn—y cam olaf, i bob pwrpas, oni bai fod gennym broses eithriadol i gyflwyno Cyfnod Adrodd—i archwilio'r data. Dyna rwy'n ei olygu.

Ond rwy'n credu ein bod eisoes wedi dod o hyd i'r cyfaddawd, Rhun, mae'n rhaid i mi ddweud, sef y dylai'r ddeddfwriaeth ddatgan yn glir iawn ein bod ni'n 'Senedd Cymru' ac yn 'Welsh Parliament', a'r dynodiadau i ddilyn, ac yna gadawn i bobl Cymru ddewis yn naturiol, ac rwy'n siŵr y bydd hynny’n adlewyrchu'r hyn y mae'r rhan fwyaf ohonom eisoes yn ei wneud wrth gyfeirio at y sefydliad hwn fel y 'Senedd'. Diolch.

Rwy'n cynnig y gwelliannau yn fy enw i, gwelliannau 127 i 159 yn y grŵp hwn. Gwelliannau technegol yw'r rhain i raddau helaeth i sicrhau cysondeb yn y ddeddfwriaeth drwyddi draw, yn gyson â'r penderfyniad a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nhrafodion Cyfnod 2.

Rhoddais ymrwymiad bryd hynny, Ddirprwy Lywydd, i sicrhau cysondeb yn y Bil drwyddo draw i sicrhau nad oedd unrhyw rannau o'r Bil nad oeddent yn ymddangos yn gyson â'i gilydd. Penderfyniad y Cynulliad oedd y dylid galw'r sefydliad yn 'Senedd Cymru' neu ‘Welsh Parliament, ac y dylid galw'r Aelodau'n 'Members of the Senedd' neu'n 'Aelodau o'r Senedd'. Mae pob un ond un o fy ngwelliannau yn gwneud newidiadau canlyniadol i roi'r penderfyniadau hynny ar waith, ac i sicrhau cysondeb.

Yr un nad yw’n debyg i’r lleill yw gwelliant 149. Mae'n welliant technegol sy'n gysylltiedig â newid enw'r Cynulliad. Mae'n diwygio adran 150A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i sicrhau, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall, fod cyfeiriad at 'Senedd Cymru', 'Comisiwn y Senedd' neu 'Ddeddfau Senedd Cymru' mewn unrhyw ddeddfwriaeth neu unrhyw ddogfen arall i'w ddarllen fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at yr enw blaenorol, hynny yw, 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru', 'Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru' neu 'Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru'. Bydd hyn yn osgoi'r angen i ddeddfwriaeth yn y dyfodol grybwyll yr hen enwau lle mae'r ddeddfwriaeth honno'n cyfeirio at bethau a wnaed o'r blaen yn ogystal ag ar ôl i'r enw newid. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:20

Dwi'n codi i siarad fel llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg. Mi fyddai'n fendigedig petai ni, Aelodau'r pumed Cynulliad, yn cyhoeddi yn glir heddiw mai 'Senedd Cymru' ydy enw ein Senedd genedlaethol ni, ac mai'r term 'Senedd Cymru' sydd i'w ddefnyddio o hyn ymlaen. Os nad ydyn ni'n gwneud hyn, dwi'n credu y byddwn ni'n colli cyfle hanesyddol ac mi fyddwn ni yn gwneud camgymeriad, a bydd y camgymeriad hwnnw efo ni am flynyddoedd i ddod.

Mae hi'n hollol iawn i fod yn uchelgeisiol dros y Gymraeg ac mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi neges hollol glir fod y Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru, bod y Gymraeg yn perthyn i bawb a bod y gair 'Senedd' yn perthyn i bawb, boed nhw'n siarad Cymraeg bob dydd neu eu bod nhw'n byw eu bywydau drwy gyfrwng y Saesneg. A buan iawn y byddai 'Senedd' yn ennill ei blwyf yng ngeirfa pawb yng Nghymru, yn union fel y mae 'paned', 'cwtsh', 'twp', 'nain', a 'hiraeth', ac yn y blaen.

Mi ges i fy atgoffa yn ddiweddar, tra wrthi'n canfasio ym Mangor, o sut mae'r Gymraeg yn britho'r Saesneg mewn ffordd gwbl naturiol. Un o eiriau bendigedig Bangor ydy 'moider', sef malu awyr. Nid oes llawer o bobl yn gyfarwydd â'r 'moider' sy'n cael ei ddefnyddio pan mae pobl yn siarad yn Saesneg—'Don't moider me', maen nhw'n ddweud. Gair sy'n dod yn wreiddiol o'r Gymraeg ydy 'moider'. Mae o'n dod o 'mwydro', a dyna i chi enghraifft hollol naturiol o'r Gymraeg yn trosglwyddo i'r Saesneg a'r Gymraeg yn dod yn rhan naturiol o sgyrsiau bob dydd yng Nghymru. A buan iawn y byddai 'Senedd' hefyd yn rhan hollol naturiol o sgyrsiau am ein sefydliad cenedlaethol ni. Mae o'n enw sydd yn unigryw drwy'r byd, yn tanlinellu ein bod ni yn wlad ac yn bobl unigryw, yn wlad sy'n falch o'u hiaith unigryw ac yn rhoi gair o'r iaith unigryw honno ar ein sefydliad unigryw Gymreig. Mi fyddai'n gosod ni ar y llwyfan rhyngwladol ac yn dod yn rhan o frand Cymru.

A dwi yn meddwl bod bod yn unigryw mewn byd sydd yn mynd yn fwy a mwy unffurf yn bwysig. Mae hunaniaeth yn bwysig i bobl ar draws y byd ac yn tyfu'n bwysicach, yn enwedig o blith y to ifanc. Ac yng Nghymru, rydyn ni'n lwcus—mae gennym ni hunaniaeth Gymreig gyfoes a chyffrous. Rydyn ni'n ei mynegi hi drwy'r ddwy iaith. Rydyn ni'n ei mynegi hi drwy chwaraeon a'r celfyddydau, drwy ein gwerthoedd ni a thrwy'n sefydliadau cenedlaethol unigryw. A beth hefyd am i ni ei fynegi fo drwy alw ein Senedd genedlaethol yn 'Senedd Cymru', yn Senedd i bawb, a phawb yn ein galw ni yn Senedd?

Dim ond tri phwynt cyflym iawn. Onid yw'n well rhoi enw iddo y bydd yn cael ei alw? Y gair 'Senedd' yw'r gair sy'n mynd i gael ei ddefnyddio. A oes unrhyw berson yma'n credu y bydd Senedd.tv yn cael ei alw'n 'Senedd Cymru Welsh Parliament tv', neu a ydych chi'n meddwl y bydd yn parhau i fod yn Senedd.tv?

O ran dwyieithrwydd yng Nghymru, ni welais y gair 'eisteddfod' wedi'i gyfieithu erioed. Mae pobl yn defnyddio'r gair 'eisteddfod' er ei fod yn digwydd bod yn air Cymraeg. A gaf fi gywiro Siân Gwenllian ychydig? Efallai ein bod ni'n adnabod 'nain' yng ngogledd Cymru; rydym yn adnabod 'mam-gu' yn ne Cymru. [Chwerthin.]

Mae'r Senedd i Gymru yr hyn yw Tynwald i Ynys Manaw. Mae'n air unigryw. Gair Llychlynnaidd yw 'Tynwald', gair Cymraeg yw 'Senedd', ond mae'n air unigryw. Ac rwy'n meddwl bod rhoi enw y mae pobl yn mynd i'w ddefnyddio iddi yn cadw'r peth yn syml. Fel arall, bydd gennym enw sy'n swyddogol ac enw y mae pobl yn ei ddefnyddio, ac nid wyf yn credu y bydd hynny o fudd i unrhyw un.

Beth bynnag sy'n cael ei basio ar y cam cyntaf, yr unig ble arall sydd gennyf yw ein bod yn cynnal y cysondeb wrth fynd yn ein blaenau. Felly, os yw gwelliannau Carwyn Jones neu Rhun ap Iorwerth yn cael eu pasio, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cynnal y cysondeb wrth i ni fynd yn ein blaenau fel ei fod yn gwneud synnwyr pan fydd y Bil wedi'i gwblhau.

16:25

Diolch, Dirprwy Lywydd. O ran cwestiwn yr enwi, dwi ddim am gadw Aelodau'n hir iawn ar y pwynt hwn. Mae’r Llywodraeth yn fodlon â’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2, yn ddarostyngedig i’r gwelliannau rydw i a Carwyn Jones wedi’u cyflwyno ar gyfer cysondeb, ac rŷn ni, wrth gwrs, yn eu cefnogi nhw.

Carwn i jest dweud hyn: mae mater yr enw yn un sydd, wrth gwrs, yn amlwg yn rhannu barn. Dyma’r math o beth mae’n bosib i bobl resymol o ewyllys da, ac yn aml, o werthoedd cyffredin, gymryd safbwyntiau gwahanol arno. Efallai y bydd nifer o bobl yn edrych ar y trafodion hyn yn adlewyrchu—a dwi’n siŵr byddem ni i gyd yn cytuno â hyn—nad dyma’r ddarpariaeth yn y Bil sy’n debygol o wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl Cymru. Rwy'n credu ei fod e’n bwysig ymwneud â’r cwestiwn yng ngoleuni’r ffeithiau hynny.

Gaf i jest ymateb i un neu ddau o’r pwyntiau sydd wedi’u gwneud—[Torri ar draws.]—yn y cyfraniadau mor belled?

Jest yn fyr iawn ar y pwynt yna, rydych chi’n dweud bod modd i bobl gael gwahanol farn arno fo ond nid o ran y Llywodraeth.

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n bwriadu delio â hynny maes o law, ymhlith y sylwadau sydd wedi cael eu gwneud mor belled.

Soniwyd am y cwestiwn cyfreithiol. Dylwn i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod rhwystr cyfreithiol i enw Cymraeg yn unig, ac rwy'n ddiolchgar i’r Athro Keith Bush, yn yr e-bost a rannwyd gydag Aelodau, sydd yn cydnabod hynny. Ond mae yna resymau da pam mae hygyrchedd y gyfraith yn cefnogi enw yn y Gymraeg ac yn y Saesneg ac, yn wir, rwyf wedi rhoi fy marn mewn trafodaethau gyda Rhun ap Iorwerth am sut i sicrhau bod y diwygiadau sy’n cael eu cynnig yng Nghyfnod 3 yn weithredol yn gyfreithiol, pe bydden nhw’n cael eu pasio.

Ond rwy'n ymwybodol o’r farn bod rhai yn teimlo bod cael enw Saesneg yn ogystal ag enw Cymraeg ar gyfer y sefydliad yn tanseilio defnydd y term 'Senedd', a hefyd yn tanseilio’r defnydd o’r Gymraeg. Byddwn i jest yn dweud bod gan y sefydliad enw statudol yn Gymraeg ac yn y Saesneg nawr, a dyw hyn ddim wedi atal defnydd cynyddol o’r term 'Senedd'. A gyda’r ewyllys orau yn y byd, dwi ddim yn credu bod yr her rŷn ni wedi gosod i'n hunain o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn mynd i gael ei heffeithio gan fodolaeth term statudol yn y Saesneg ar gyfer y sefydliad hwn, gan fod gennym ni derm statudol yn y ddwy iaith ar hyn y bryd.Fel dywedodd y Prif Weinidog ddoe, gwnaeth y Llywodraeth gymryd y farn ar Gyfnod 2 y dylem ni fel cenedl ddwyieithog gael enw dwyieithog ar y sefydliad.

I ymateb i’r pwynt gwnaeth Rhun yn ei gyfraniad, mae’r Llywodraeth wedi dod i farn ar sut y byddem ni’n pleidleisio gyda’n gilydd, sy’n adlewyrchu trafodaeth gan Aelodau ar ein meinciau, boed Aelodau o’r Llywodraeth neu’r meinciau cefn. Wnaethom ni ddim gosod chwip ar y cwestiwn hwn y tu allan i’r fainc flaen yng Nghyfnod 2, a dŷn ni ddim yn gwneud hynny yng Nghyfnod 3. Bydd pleidiau eraill, wrth gwrs, yn dod i’w barn eu hunain ynglŷn ag a ddylid gosod chwip. Mae rhai o’n Haelodau, fel mae Rhun wedi cydnabod, yn cefnogi’r gwelliant arfaethedig.

Yr unig welliant gan y Llywodraeth yn y grŵp hwn yw rhif 81, ac mae'r gwelliant hwn yn gwneud newidiadau canlyniadol i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Ac yng ngoleuni'r hyn rwyf newydd ei ddweud, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliannau yn enw Carwyn Jones a minnau ac yn ymatal rhag cefnogi'r gwelliannau eraill.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac i gychwyn, dwi eisiau atgoffa Aelodau na fyddaf i'n pleidleisio ar y gwelliannau yr ydym yn eu trafod heddiw. Mae Rheol Sefydlog 6.20 yn datgan mai dim ond er mwyn arfer pleidlais fwrw y caniateir i'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd pleidleisio mewn trafodion Cyfarfod Llawn, ac yn yr amgylchiadau ble bo angen mwyafrif o ddau draean i gymeradwyo deddfwriaeth. Ac felly, mi fyddaf i'n medru pleidleisio yng Nghyfnod 4 y Mesur yma, a hefyd y Dirprwy Lywydd.

Ar enw'r ddeddfwrfa i gychwyn, bydd Aelodau'n cofio fy mod i wedi amlinellu, yng Nghyfnod 2, sut mae'r enw 'Senedd' eisoes yn derm cyfarwydd ledled Cymru, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio'n eang a'i gydnabod yng Nghymru i gyfeirio at gartref ein democratiaeth ni. Byddai defnyddio'r enw 'Senedd' yn unig yn adlewyrchu ymrwymiad cryf y Cynulliad yma i hyrwyddo statws a defnydd y Gymraeg a normaleiddio'i defnydd. Dyna fy marn personol i a fy marn i hefyd fel yr Aelod sy'n gyfrifol am gyflwyno'r ddeddfwriaeth yma. Ond, fel dwi wedi'i ddweud eisoes, yr Aelodau yma heddiw sydd i benderfynu beth ddylai enw newydd y lle hwn fod. Ac, os bydd gwelliannau 161 ac 162 Rhun ap Iorwerth i alw ein deddfwrfa genedlaethol yn un enw, 'Senedd Cymru', yn pasio neu beidio, bydd y Bil yn cyflawni'r uchelgais a gymeradwywyd gan yr Aelodau yn 2016 i newid enw'r lle hwn i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel Senedd ddeddfwriaethol genedlaethol.

Ar enwau Aelodau, pan gyflwynais i'r Bil, cynigiais i'r teitl, 'Aelodau o’r Senedd / Members of the Senedd'. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Carwyn Jones a David Melding heddiw yn cynnig gwahanol deitlau i’r Aelodau, a byddai'r ddwy set o welliannau yn ddefnyddiol o ran datrys yr anghysondeb sydd yn y Bil ar hyn o bryd, a byddent yn sicrhau bod canlyniad clir a chydlynol ar ddiwedd hynt y Bil, i ateb y pwynt a wnaeth Mike Hedges yn ei gyfraniad ychydig ynghynt.

Mae gwelliannau Carwyn Jones yn cynnig defnydd cyson o'r teitlau 'Aelodau o’r Senedd' a 'Members of the Senedd'—dyna'r teitlau a gynigiwyd yn y Bil wrth ei gyflwyno. Ac, fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, rwy'n teimlo bod symlrwydd yn perthyn i'r teitlau yma ac mae hynny'n ddeniadol iawn, o edrych ar y teitlau yma i ni fel Aelodau. Rŷm ni'n pleidleisio heddiw ar enw a fydd yn sefyll prawf amser; enw a fydd wedi'i ymgorffori yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru mewn amser, ac mae'r dewis sy'n wynebu Aelodau, felly, yn ddewis weddol o syml—'Aelod o’r Senedd' yn y Gymraeg, neu 'Member of the Senedd' yn y Saesneg, neu 'Aelod o Senedd Cymru' yn y Gymraeg a 'Member of the Welsh Parliament' yn y Saesneg, fel y cyflwynwyd gan David Melding. Pa bynnag opsiwn fydd y Cynulliad yn pleidleisio i'w gymeradwyo'r prynhawn yma, dyna fydd y teitlau ar gyfer y bleidlais derfynol yng Nghyfnod 4 ac fe fydd hynny'n gyson drwy'r Mesur.

16:30

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n gresynu at y ffaith nad oes yna symud ar y Llywodraeth yn wyneb y dadleuon dŷn ni wedi eu cyflwyno. Yn sicr, dydw i ddim wedi cael fy argyhoeddi o gwbl pam na allai'r Llywodraeth wedi rhoi pleidlais rydd i'w haelodau ei hunain. Mae yna enghreifftiau lle mae aelodau'r Llywodraeth yma wedi cael mynd yn groes i'w gilydd ar faterion eraill—dwi yn methu â deall pam na fyddwch chi wedi gallu'i wneud yn y cyd-destun yma, yn enwedig yng ngoleuni'r geiriau a ddywedwyd wrthyf i gan y Prif Weinidog yn y Siambr yma, rhyw 28 awr yn ôl, nad mater i'r Llywodraeth ydy hwn, ond mater i'r Senedd. Mae pob un ohonoch chi, fel aelodau'r Llywodraeth, yn Aelodau'r Senedd yma ac efo'r anrhydedd o wneud hynny, yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r sefydliad hwn ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Does gen i ddim amheuaeth mai 'Senedd' fydd pobl yn galw'r sefydliad yma, fel mae David Melding yn ei ddweud. Dwi'n hyderus y byddwn ni yn pleidleisio heddiw i'n galw ni, fel Aelodau, yn 'Aelod o’r Senedd / Member of the Senedd'. Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi gwthio'n drwm ar hwn yn golygu ein bod ni wedi ennill y ddadl honno, a drwy default, neu beth bynnag, 'Senedd' fydd enw'r sefydliad yma. Beth dwi ddim cweit yn gallu gweithio allan—efallai mai fi sy'n dwp, ond os ydym ni'n mynd i'n galw ein gilydd yn 'Aelodau o’r Senedd', os mai 'Senedd' mae pawb yn mynd i'w alw fo, pam mai'r un lle lle nad 'Senedd' ydy enw fo ydy'r ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r enw i'r Senedd? Dyw e ddim yn gwneud dim math o synnwyr i fi. Mae gen i syniad am enw dwyieithog ar gyfer y sefydliad hwn, enw dwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg: 'Senedd' ydy hwnnw. Dyna mai pobl Cymru'n ei ddeall ac mae yna gyfle wedi cael ei golli fan hyn i'r Llywodraeth ddangos ei bod o ddifrif am greu gwlad sy'n falch yn ei threftadaeth ac yn hyderus yn ei dyfodol.

16:35

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 162. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidleisio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 16, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 162.

Gwelliant 162: O blaid: 16, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 127 (Carwyn Jones).

Diolch. Os derbynnir gwelliant 127, bydd gwelliant 2 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 127. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidleisio'n electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 37, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 127 ac mae gwelliant 2 yn methu.

Gwelliant 127: O blaid: 37, Yn erbyn: 18, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 2.

Cynigiwyd gwelliant 128 (Carwyn Jones).