Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/06/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Alun Davies.

Cysylltiadau Trafnidiaeth ym Mlaenau Gwent

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth â gwasanaethau allweddol ym Mlaenau Gwent? OAQ54016

Gwnaf, wrth gwrs. Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol i'n heconomi, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau system drafnidiaeth fodern ac integredig gyda gwell cysylltiadau â gwasanaethau allweddol ledled Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent wrth gwrs.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r buddsoddiad mwy nag erioed a welwn yn y gwasanaeth iechyd ar gyfer Blaenau Gwent, a de-ddwyrain Cymru i gyd. Fe fydd yn ymwybodol o'r buddsoddiad o £350 miliwn yn Ysbyty Prifysgol Grange, sy’n ysbyty newydd ac sy'n gwasanaethu Blaenau Gwent a rhannau eraill o dde-ddwyrain Cymru. Fe fydd yn gwybod hefyd, wrth i ni ddarparu'r gwasanaethau o'r radd flaenaf, fod angen i ni sicrhau bod gan bobl wasanaethau trafnidiaeth cadarn a dibynadwy, i'w galluogi i gael mynediad at yr ysbyty newydd a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu. A all roi sicrwydd i mi a phobl Blaenau Gwent y prynhawn yma fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n gyfunol—ef ei hun fel Gweinidog trafnidiaeth yn gweithio gyda'r Gweinidog iechyd ac eraill—i sicrhau, pan fydd yr ysbyty newydd hwn yn agor, y gallwn ddefnyddio’r gwasanaethau hynny, y bydd y cysylltiadau trafnidiaeth yn weithredol, ac y gallwn fwynhau manteision gofal iechyd o'r radd flaenaf, wedi’u darparu ar ein cyfer gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru?

Mae Alun Davies yn gwneud pwynt hynod o bwysig—fod seilwaith cymdeithasol a seilwaith trafnidiaeth, a'r gwasanaethau a ddarperir gan y GIG, addysg, a gwasanaethau a ddarperir drwy ddarparwyr trafnidiaeth, wedi’u hintegreiddio a'u cynllunio gyda'i gilydd. Ac rwy'n ymwybodol o'r pryder y mae'r Aelod lleol wedi'i amlinellu y prynhawn yma. Rwyf eisoes yn trafod gyda'r Gweinidog iechyd ynghylch cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ag ysbyty Grange. A buaswn hefyd yn annog yr awdurdod lleol i sicrhau ei fod yn defnyddio'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, yn ogystal â'i grant cynnal refeniw ei hun, yn ddoeth er mwyn cynorthwyo pobl i ddod i apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys. Rwyf hefyd yn falch o allu dweud y byddwn yn profi mathau arloesol o wasanaethau bws ymatebol integredig yn y Cymoedd, a bydd y treial yn canolbwyntio'n fawr ar gludiant cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys.

Weinidog, clywais eich ateb i gwestiwn Alun Davies yn awr, ac mae'n galonogol iawn. Un o'r pryderon mwyaf a fynegwyd gan y bobl sy'n byw yng nghymunedau’r Cymoedd yn fy rhanbarth yw darpariaeth neu amlder gwasanaethau bws yn eu hardaloedd. Gall gwasanaethau cludiant cymunedol hyblyg a hygyrch chwarae rhan bwysig yn helpu pobl i gyrraedd gwasanaethau allweddol, yn enwedig pan na fydd trafnidiaeth gyhoeddus yn diwallu eu hanghenion. Weinidog, pa gynllun sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu cymorth trafnidiaeth ar gyfer gwasanaethau cludiant cymunedol, drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau i awdurdodau lleol? Diolch.

Wel, mae Mohammad Asghar yn nodi pwynt hynod o bwysig am werth cludiant cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ac rydym yn glir iawn gydag awdurdodau lleol, pan fyddwn yn dosbarthu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, y dylid cadw a defnyddio rhywfaint o'r grant i gefnogi cludiant cymunedol. Bydd Mohammad Asghar hefyd yn ymwybodol o'r pecyn o ddiwygiadau y buom yn ymgynghori arnynt, a'r argymhellion ar gyfer deddfwriaeth, ac ochr yn ochr â hyn, yr amrywiol dreialon a fydd yn dechrau ledled Cymru i edrych ar drafnidiaeth ar alw. Ac yn fy marn i, gallai'r drafnidiaeth ar alw honno, yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau cludiant cymunedol, gynnig atebion ledled Cymru nad ydynt wedi cael eu defnyddio hyd yma. Ond bydd angen y diwygiadau radical a amlinellwyd yn y Papur Gwyn.

Weinidog y Cabinet, onid yw'n wir na all rhywun siarad am gysylltiadau trafnidiaeth â Blaenau Gwent heb drafod cyswllt rheilffordd Glynebwy i Gasnewydd? Gwn fod yr Aelod dros Flaenau Gwent wedi diystyru hyn fel rhywbeth nad yw’n bwysig i'w etholwyr, ond rwy'n ei weld fel rhan hanfodol o gysylltedd cyffredinol y rhanbarth. A allai Gweinidog y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni felly ar unrhyw gynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â’r cyswllt hwn? Wedi'r cyfan, mae pobl Blaenau Gwent a'r ardal gyfagos wedi bod yn aros bron i 10 mlynedd i weld hyn yn cael ei roi ar waith.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn, a dweud fy mod yn ymwybodol iawn o'r tensiwn sy'n bodoli mewn gwahanol gymunedau ynghylch cysylltiadau rheilffordd ar reilffordd Glynebwy? A dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno pedwar trên yr awr cyn gynted ag y gallwn ar reilffordd Glynebwy. Ac mae'n rhywbeth y bûm yn gweithio'n agos iawn gyda'r Aelod lleol, Alun Davies, arno ers peth amser. Ond gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw ein bod wedi ymrwymo i gyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng tref Glynebwy a Chasnewydd o 2021 ymlaen. Rwyf hefyd yn falch o ddweud y bydd trenau newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar gyfer y gwasanaethau drwy Flaenau Gwent yn ystod 2022, a bydd hyn, yn amlwg, yn cynyddu capasiti a threnau ar lefel y platfform. Lywydd, bydd y trenau newydd sbon hyn yn darparu lle i lawer mwy o deithwyr, gyda chyfanswm capasiti o 425, o gymharu â 292 heddiw.

13:35
Gwasanaethau Trenau yng Ngorllewin Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau trenau yng ngorllewin Cymru? OAQ53980

Gwnaf, wrth gwrs. Yn ogystal ag ymrwymiadau a wnaethpwyd drwy'r fasnachfraint reilffyrdd newydd a datblygiad cyfnewidfeydd trafnidiaeth integredig, rydym yn gweithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wthio am wasanaethau ychwanegol i orllewin Cymru a buddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith rheilffyrdd a fydd yn ei dro yn arwain at gapasiti ychwanegol, amseroedd teithio cyflymach, a gorsafoedd newydd wrth gwrs.

Weinidog, rwyf wedi codi mater gorsaf drenau Aberdaugleddau yn fy etholaeth ar sawl achlysur gyda Llywodraethau Cymru olynol dros y blynyddoedd. Nawr, mae'r orsaf drenau hon yn cael ei defnyddio gan nifer cynyddol o ymwelwyr llongau mordeithio a thwristiaid bob blwyddyn, ac er bod gwelliannau wedi cael eu haddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'n dirywio ar hyn o bryd ac mewn cyflwr gwael iawn. O ystyried ei phwysigrwydd strategol i sir Benfro, ac i orllewin Cymru yn wir, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i helpu i wella gorsaf drenau Aberdaugleddau yn y dyfodol?

Mae Paul Davies yn gwneud pwynt gwerthfawr fod gorsafoedd trên yn aml yn borth i lawer o gymunedau, yn enwedig cyrchfannau twristiaid, ac felly bod yn rhaid iddynt fod yn atyniadol o ran eu golwg a chynnwys gwasanaethau modern. Wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, ond o ganlyniad i'r trafodaethau a gynhaliwyd yn ystod yr ymarfer caffael ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a'r gororau, llwyddasom i gytuno ar fuddsoddiad o £200 miliwn mewn gorsafoedd ar draws y rhwydwaith. Mae'r £200 miliwn hwnnw dros y 15 mlynedd nesaf yn cymharu'n ffafriol iawn â'r cyfanswm o £600,000 a wariwyd gan ddeiliad blaenorol y fasnachfraint dros y 15 mlynedd diwethaf, a bydd y £200 miliwn yn gwneud llawer i ailgyflwyno cyfleoedd busnes mewn llawer o orsafoedd sydd ag ystafelloedd na chânt eu defnyddio. Bydd yn gwella'r economi ymwelwyr drwy sicrhau bod gorsafoedd trenau yn llefydd mwy atyniadol, mwy dymunol i fuddsoddi ynddynt, ac rydym hefyd yn chwilio am gyfleoedd lle bynnag y bo modd ochr yn ochr â Croeso Cymru, i ddefnyddio gorsafoedd trenau i hyrwyddo economïau gwledig ac economi ymwelwyr Cymru, a gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y gorsafoedd yn ei ardal yn elwa o fuddsoddiad, ac y bydd gorsaf Aberdaugleddau, wrth gwrs, yn cael budd o'r £200 miliwn a fuddsoddir yn y gorsafoedd.

Weinidog, y mis diwethaf gofynnais i chi ynglŷn ag amlder y gwasanaethau sy'n stopio mewn arosfannau ar gais megis gorsaf Cydweli. Tybed a ydych wedi cael cyfle eto i drafod rhai o'r cwestiynau hynny gyda'r darparwr. Lle mae arosfannau ar gais ar gael, mae yna gwestiwn hefyd ynglŷn â pha mor hawdd yw hi i deithwyr wneud y cais a pha mor ymwybodol yw teithwyr o sut i wneud hynny. Felly, a gaf fi bwyso arnoch eto i gael trafodaethau pellach gyda Trafnidiaeth Cymru? Rwy'n siŵr fod eu bwriadau'n dda, ond ni lwyddwn i berswadio pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hynny oni bai ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt wneud hynny, ac mae'r sylwadau a gaf gan etholwyr sy'n byw ger y rheilffordd honno, yn enwedig lle mae gennych y broblem gyda'r arosfan ar gais, yn dangos nad yw hi bob amser yn hawdd, nad yw'r gard yn dod drwodd yn ddigon cyflym bob amser i allu gwneud y cais, neu efallai nad ydych yn gwybod mai dyna sut y gallwch wneud y cais. Felly, a oes rhywbeth pellach y gallwn ei wneud gyda Trafnidiaeth Cymru i wneud hynny'n haws?

Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn, a buaswn yn cytuno â hi y dylem weithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod pob teithiwr yn gwybod sut i wneud cais i stopio mewn arosfannau ar gais. Yn ogystal, byddwn yn cysylltu â phartneriaethau rheilffordd cymunedol—rydym yn buddsoddi mwy o arian yn y partneriaethau hynny dros gyfnod y fasnachfraint reilffyrdd hon—a byddwn hefyd yn gweithio gyda grwpiau mabwysiadu gorsafoedd i sicrhau bod pob awdurdod a grŵp teithwyr perthnasol yn ymwybodol o sut i fynd ati i sicrhau y gallant stopio mewn gorsafoedd ar gais.

Weinidog, fe addawodd y Torïaid ddarparu trydaneiddio i Abertawe, rhywbeth a fyddai'n sicr wedi gwella gwasanaethau ymhellach i'r gorllewin nag Abertawe. Nawr, gŵyr pawb ohonom eu bod wedi torri'r addewid hwnnw ac o'r herwydd, ni fydd gwasanaethau i'r gorllewin o Gaerdydd yn cael cymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer unrhyw waith seilwaith na moderneiddio. Nawr, mae hynny'n rhoi'r argraff ehangach nad yw unrhyw beth i'r gorllewin o Gaerdydd yn agored i fusnes chwaith ac nad oes diddordeb mewn buddsoddwyr gan Lywodraeth y DU. Pan etholir y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bo, a wnewch chi ymrwymo felly i geisio'u cael i wneud tro pedol arall a chadw eu hymrwymiad mewn gwirionedd er mwyn inni allu gweld trydaneiddio i Abertawe, sydd wedyn yn gwella'r cysylltiadau â'r gorllewin, ond hefyd efallai y gallem ofyn iddynt sicrhau eu bod yn gwrando ar alwadau Llafur Cymru fod Cymru'n agored i fusnes i bob buddsoddwr?

13:40

Diolch i David Rees am ei gwestiwn ac rwy'n cytuno â'i bwyntiau. Yn amlwg, mae Cymru wedi cael cam ers cryn amser bellach a byddaf yn parhau i bwyso am gyllid teg gan Lywodraeth y DU, a hoffwn ofyn am gefnogaeth pob Aelod Cynulliad yn hyn o beth.

Nid wyf yn credu bod angen aros nes y gwelwn Brif Weinidog newydd i fynnu ein bod yn cael cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, oherwydd mae Keith Williams yn cynnal adolygiad gwraidd a brig o reilffyrdd Prydain ar hyn o bryd ac mae hwnnw'n rhoi cyfle i ddiwygio'r system reilffyrdd a gwasanaethau ledled y DU a chreu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig sydd ei angen ar Gymru. Rydym yn disgwyl y bydd adolygiad Williams yn gosod llwybr clir iawn ar gyfer datganoli pellach i Gymru, ac fel y dywedais, buaswn yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Aelodau'r Cynulliad wrth alw am hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.

Diolch yn fawr iawn. O ystyried bod Cymru ar hyn o bryd yn wynebu cyfnod economaidd a allai fod yn gythryblus, fel y trafodasom ddoe ddiwethaf, gyda'r posibilrwydd y bydd Ford yn cau, credwn yn y fan hon y dylem wneud cymaint ag y gallwn i arallgyfeirio economi Cymru—er enghraifft, datblygu seilwaith er mwyn i ni fel gwlad allu cynnig y gallu i'n busnesau fanteisio ar farchnadoedd byd-eang sy'n dod i'r amlwg. A all y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i arallgyfeirio economi Cymru o dan ei arweinyddiaeth?

Gallaf, wrth gwrs. Mae hwn yn fater eithriadol o bwysig i'w ystyried wrth i ni nesáu at ddyddiad gadael yr UE. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried a oes angen inni ddwysáu'r camau sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, yn benodol mewn perthynas â datgarboneiddio a diogelu busnesau ar gyfer y dyfodol. Mewn sawl ffordd, mae gan Gymru economi amrywiol o gymharu â'r DU, lle mae gweithgynhyrchu ar lefel isel iawn yn wir a lle mae dibyniaeth fawr iawn ar y sector gwasanaethau, yn enwedig mewn rhai rhannau daearyddol o'r DU. O gofio'r buddsoddiad a wnaethom dros flynyddoedd lawer ers datganoli, mae'r economi mewn sefyllfa gref yn fy marn i.

Byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn tyfu cwmnïau bach a microfusnesau er mwyn inni annog twf cwmnïau canolig eu maint, a lle bynnag y bo'n bosibl, ein bod yn annog busnesau i groesawu technoleg fodern a ffyrdd modern o weithio. Ond cafodd ein gweithredoedd yn y cynllun gweithredu economaidd eu cynllunio'n benodol i ymdrin â heriau'r diwydiant awtomeiddio 4.0 a Brexit. Maent yno; rydym yn ymdrin â hwy. Rydym yn cyflawni'r camau hynny ac o'r herwydd, erbyn hyn mae gennym gyfradd ddiweithdra sydd ar lefel is nag erioed, neu o gwmpas hynny.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod y gwaith ar ddatgarboneiddio, ond roeddwn am ganolbwyntio ar faterion digidol, a chredaf efallai nad yw Cymru'n barod ar gyfer y chwyldro diwydiannol nesaf. Arweiniasom y chwyldro diwydiannol diwethaf, ond rydym yn dal i fod ar ei hôl hi yn hyn o beth. I roi enghraifft i chi, mae rhannau helaeth o'r gymdeithas sy'n ei chael hi'n anodd cael signal 3G hyd yn oed, heb sôn am signal mewn unrhyw siâp neu ffurf arall. Ac wrth gwrs, ceir llawer o ardaloedd gwledig, ond mae technoleg amaethyddol yn cael ei rhwystro'n llwyr yn sgil y ffaith nad oes ganddynt y signal sylfaenol hwnnw.

Felly, mae gennym lawer o'r seilwaith hwn yng Nghymru eisoes. Mae'r pecynnau buddsoddi'n bodoli drwy'r bargeinion dinesig, a chronfa ffeibr gwledig £200 miliwn Llywodraeth y DU. Felly, credwn y gall Trafnidiaeth Cymru, credwch neu beidio, fod yn gyfrwng i greu seilwaith technoleg ffeibr 5G a thechnoleg ofod sy'n rhyngwladol a chydgysylltiedig ar gyfer Cymru, ac y gallai cost seilwaith digidol cenedlaethol fod oddeutu £110 miliwn, gyda'r posibilrwydd y bydd hanner y cyllid hwn yn dod o dan gronfa ffeibr gwledig Llywodraeth y DU.

Felly, nid ymwneud yn unig â'r seilwaith digidol y mae hyn; mae'n ymwneud â lleoli Cymru ar flaen y gad mewn diwydiannau newydd. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd mewn perthynas â seilwaith digidol i hwyluso datblygiad diwydiannau newydd sydd ar hyn o bryd yn llusgo ar ei hôl hi a hynny'n unig am nad yw'r seilwaith hwnnw'n bodoli?

Pan oeddem yn datblygu'r cynllun gweithredu economaidd, edrychasom ar y ffordd orau o hybu arloesedd ledled Cymru er mwyn hybu cyfraddau cynhyrchiant. Ac mewn gwledydd o faint tebyg gydag economi debyg i Gymru, gwelsom mai tryledu arloesedd yn hytrach na datblygu arloesedd newydd sy'n mynd i alluogi economi i symud ymlaen. Felly, rydym wedi cynllunio'n benodol y galwadau i weithredu ar yr angen i fusnesau groesawu digideiddio. A thrwy brism y galwadau i weithredu y mae busnesau bellach yn hawlio cyllid. Yn ogystal â hyn wrth gwrs, mae yna ymdrech ddatblygu digidol sy'n cael ei harwain gan fy nirprwy, Lee Waters, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt gwerthfawr iawn am rôl bosibl Trafnidiaeth Cymru hefyd. Rydym eisoes wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ystyried sut y gall annog y farchnad, y sector preifat, i leoli pwyntiau gwefru trydan ledled Cymru, gan ddefnyddio ased cyhoeddus gorsafoedd rheilffordd. Ac rwy'n credu, wrth symud ymlaen, wrth i ni drosglwyddo mwy o swyddogaethau i Trafnidiaeth Cymru, y gallwn edrych arnynt yn gweithio mewn mannau mwy arloesol byth.

Er hynny, rwy'n meddwl y dylwn nodi hefyd, o ran seilwaith digidol a'r defnydd ohono, fod rhaglen ddigidol bwysig yn ymyrraeth flaenoriaethol i fargen twf gogledd Cymru—gwn fod yr Aelod wedi sôn am fargeinion twf a bargeinion dinesig fel cyfrwng at y diben hwn—a chredaf y dylid croesawu hynny.

13:45

Ie, diolch, ac rydym yn croesawu hynny. Rwy'n credu bod y camau nesaf yn mynd i fod yn hanfodol, ac nid oes amheuaeth am hynny. I ni yng Nghymru, a'i phartneriaid, credaf y gallwn ddarparu cyfleoedd sectoraidd mewn iechyd, cerbydau awtonomaidd, fel y crybwylloch chi, gyda cherbydau trydan, ond nid yn unig hynny ond hydrogen, fel y soniwyd ddoe, data mawr, deallusrwydd artiffisial, gweithgynhyrchu ac awyrofod. Rwy'n credu eu bod i gyd yn rhan o'r rheswm pam fod angen gwella'r tirlun digidol.

Yn ôl ymchwil Llywodraeth y DU, amcangyfrifir y bydd effaith 5G yn £198 biliwn y flwyddyn erbyn 2030, gydag effaith cynnyrch domestig gros 10 mlynedd o £173 biliwn rhwng 2020 a 2030. Felly, rhaid inni gael uchelgais i gymryd cyfran o hwnnw, ac awgrymwyd bod Cymru'n anelu at gyfran o 10 y cant o hyn, a fyddai'n golygu cynnydd o £17.3 biliwn yn y cynnyrch domestig gros rhwng 2020 a 2030. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithio ar sail drawsbleidiol i gyfuno adnoddau er mwyn inni allu cyflwyno syniadau newydd ym mhob un o'r meysydd a grybwyllais yn gynharach yn fy nghwestiwn, fel y gallwn gyflawni'r amcanion hyn ar gyfer Cymru gyda'n gilydd? Oherwydd credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn neidio ar y cyfle i ehangu cyfoeth ein gwlad gyda'r sgiliau sydd ganddynt, ond gan roi'r seilwaith yn ei le i ganiatáu iddynt wneud hynny.

Hoffwn groesawu cynnig Bethan Jenkins a dweud, ydy, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn fwrw ymlaen ag ef. Yn sicr, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod gan Aelodau ar draws y Siambr hon syniadau arloesol, egni a phenderfyniad i ddylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth er gwell. Felly, hoffwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwnnw. Ac fel y mae'r Aelod wedi nodi, hoffwn ddweud bod y sector digidol yn bwysicach na phob un o'r sectorau traddodiadol hynny; mae'n rhan annatod o'r holl sectorau traddodiadol roeddem yn rhoi blaenoriaeth iddynt nes inni ddatblygu'r cynllun gweithredu digidol, a chymerasom y sector digidol a'i wneud yn alluogwr allweddol sy'n croesi'r holl waith a wnawn ar gefnogi twf busnesau.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn pa mor hyderus ydych chi y bydd y comisiwn newydd a sefydlwyd gennych i edrych ar ffordd liniaru'r M4 yn cwblhau ei waith mewn chwe mis yn unig, ar ôl gwario £140 miliwn ar y prosiect dros y chwe blynedd diwethaf wrth gwrs? O gofio bod yr ymchwiliad cyhoeddus eisoes wedi edrych ar 28 dewis gwahanol, beth sydd i'w ystyried o'r newydd a pha mor hyderus ydych chi na fydd argymhellion y comisiwn newydd hwn yn cael eu rhoi yn y bin gan y Prif Weinidog os nad yw'n cydymffurfio â'i farn?

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Mae gennyf bob ffydd yn y comisiwn sy'n edrych ar y pwnc pwysig hwn ac sy'n datblygu nid yn unig y cynigion a gyflwynir yn gyfuniad, yn becyn, o ymyriadau o bosibl, ond sydd hefyd yn edrych ar ddatblygiadau ac ymyriadau newydd posibl na chawsant eu hystyried yn ôl yn 2010 i 2014, pan ddaeth y llwybr du i'r amlwg fel yr opsiwn a ffafriwyd. Wrth gwrs, roedd mwy nag 20 o ddewisiadau amgen wedi'u hargymell i'r arolygydd cynllunio, ond yn ogystal â hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried 200 neu fwy o atebion yn ôl yn 2010 i 2014. Rydym wrthi'n darparu briffiau technegol i gadeirydd y comisiwn. Rydym hefyd yn y broses o nodi a phenodi aelodau ychwanegol i'r comisiwn. Byddant yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i graffu ar yr holl fodelu traffig, yr holl ddata sy'n bodoli, ac mae gennyf ffydd y byddant yn adrodd yn ôl mewn chwe mis gydag argymhellion cryf y bydd y Llywodraeth hon yn gallu bwrw ymlaen â hwy.

Rwy'n cydnabod bod y ffigur sydd ynghlwm wrth gost ddatblygu'r llwybr du arfaethedig yn un sylweddol, ond mae oddeutu 6 y cant yn unig o holl gost amcangyfrifedig y prosiect, ac mae hynny, fel y dywedais yn y Siambr hon, yn cymharu'n ffafriol iawn â phrosiectau eraill. Nid oes ond angen ichi edrych ar gostau datblygu prosiectau fel HS2 i ddeall na allwch gyflawni prosiect seilwaith mawr yn y byd gorllewinol heb wynebu costau datblygu sylweddol.

13:50

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Mewn sawl ffordd, mae'n dangos faint o amser ac adnoddau y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi i edrych ar lwybrau amgen eisoes, sef sail fy nghwestiwn mewn gwirionedd.

I droi at yr ymchwiliad cyhoeddus ei hun, yn amlwg, mae'r Aelodau a minnau wedi cael amser i ystyried adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus. Yn ei ddatganiad, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai wedi bwrw ymlaen â chynigion y Llywodraeth ei hun, hyd yn oed pe bai'n teimlo eu bod yn fforddiadwy, ar sail yr effaith ar yr amgylchedd. Felly, os caf edrych ar hynny am eiliad: dywedai tystiolaeth Llywodraeth Cymru ei hun, a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a gefnogwyd gan fargyfreithwyr Llywodraeth Cymru, y byddai'r cynllun yn garbon niwtral dros amser ac yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cytunai'r arolygydd â'ch barn chi fel Llywodraeth Cymru a dywedodd fod y farn honno'n gadarn a chytunai hefyd y gellid ystyried bod y mesurau lliniaru helaeth arfaethedig ar gyfer yr effaith ar wastadeddau Gwent, a ddatblygwyd ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhoi camau rhesymol ar waith i gydymffurfio â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Nawr, y pwynt yr hoffwn ei wneud yma, Weinidog, yw os ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn anghytuno â'ch cynigion eich hun erbyn hyn, a ydych yn credu bod y ddeddfwriaeth a geir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ddigonol? A sut y mae'r penderfyniad hwn yn bwrw amheuaeth ar gynlluniau trafnidiaeth eraill yng Nghymru, megis cynllun coridor Glannau Dyfrdwy ac ardaloedd eraill lle mae angen llawer o welliant wrth gwrs, ar hyd yr A40, yr A55 a'r A470? A yw'r penderfyniad hwn gan y Prif Weinidog yn arwydd o newid sylfaenol i bolisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar sail amgylcheddol?

Nac ydy. Pwysleisiodd y Prif Weinidog yn glir iawn fod y prosiect hwn yn gwbl unigryw o ran ei faint ac o ran ei effaith ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac felly, roedd yn rhaid ei ystyried ar ei ben ei hun. Roedd y Prif Weinidog yn glir iawn hefyd pan ddywedodd ei fod yn anghytuno â'r arolygydd o ran lle dylid gosod y bar ar ganlyniadau amgylcheddol seilwaith, ac mae'n credu o ran mesurau lliniaru na ellir lliniaru effeithiau colli SODDGA, er enghraifft, a cheisio datblygu amgylchedd tebyg mewn man arall wedyn, a bod gwahaniaeth mawr rhwng lliniaru a digolledu. Wrth gwrs, ers i ni gyflwyno achos a oedd yn un cymhellol iawn yn fy marn i, cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd, gwell dealltwriaeth o'r angen inni weithredu yn awr, fod angen inni fod yn fwy ymatebol a chyfrifol ac felly mae'r bar wedi'i godi. Er nad wyf yn credu bod angen diwygio'r ddeddfwriaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati, rwy'n credu bod hyn yn golygu bod angen i'r Llywodraeth ystyried yn ofalus iawn sut y dylem symud ymlaen, nid yn unig ar y seilwaith trafnidiaeth ond yr holl seilwaith—seilwaith cymdeithasol, er enghraifft, ysbytai, ysgolion—i sicrhau nad yw datblygu adeiladau, ffyrdd a systemau rheilffyrdd yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd, os oes unrhyw fodd o osgoi hynny.

Credaf fod yr Aelod yn gywir i nodi nifer o gynlluniau y byddai llawer yn ofni y cânt eu colli os gwelir bod hyn yn gosod cynsail. Nid yw hynny'n wir. Bydd y rhaglenni hynny i gyd yn mynd rhagddynt. Yn wir, rydym yn bwrw ymlaen ag ymgynghoriadau ar welliannau i'r A483 y mis hwn, bydd gwaith ar goridor sir y Fflint, yr A494/A55, yn parhau yr haf hwn gyda gwaith modelu pellach a gwaith ar yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru ac ymgynghoriadau a chyfarfodydd pellach gyda rhanddeiliaid lleol. Mae prosiectau ffyrdd eraill ar hyd a lled Cymru yn dal ar y gweill i gael eu cyflawni. Nid yw hyn yn newid ein safbwynt ar y rheini.

13:55

Wel, fe sonioch chi fod y bar wedi'i godi ac fe sonioch chi am yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru yn y cyfamser. Daw hynny â mi yn ôl at fy nghwestiwn eto wrth gwrs ynglŷn â'r angen am newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Rwy'n derbyn yr ateb a roesoch, ond mae'n anodd deall sut na all newid yn yr amgylchiadau hynny effeithio ar gynlluniau yn y dyfodol, ac rwy'n gwerthfawrogi'r atebion a roesoch.

Nawr, mae adran 6 o adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus yn nodi mai'r M4 yw'r ffordd fwyaf strategol bwysig yng Nghymru a'r prif lwybr i mewn ac allan o'r wlad ar gyfer symud nwyddau, a bod cyfyngiadau ar gapasiti ar hyn o bryd yn creu costau i weithgarwch economaidd. Nawr, cytunai'r arolygydd hefyd â gwerthusiad economaidd Llywodraeth Cymru ei hun o'r cynllun, gan ddangos y byddai'n darparu gwerth da am arian, sy'n dangos cymhareb cost a budd o 2:1. Nawr, amcangyfrifwyd bod yr effaith ar yr economi o beidio â bwrw ymlaen yn £134 miliwn y flwyddyn i Gaerdydd a £44 miliwn y flwyddyn i Gasnewydd. Yr un gost â'r ymchwiliad cyhoeddus fel mae'n digwydd. Nawr, o gofio'r ansicrwydd wrth gwrs yn sgil cyhoeddiadau diweddar Tata Steel a Ford ymysg eraill, onid ydych yn cytuno â'r arolygydd y bydd effaith economaidd oedi pellach cyn cael ffordd liniaru yn llesteirio economi Cymru? Ac yn olaf, os mai'r Prif Weinidog oedd yn penderfynu, fel y mae'n dweud, yn hytrach na chi na'r Cynulliad hwn, pa fewnbwn a oedd gennych yn y penderfyniad terfynol hwnnw?

Penderfyniad i'r Prif Weinidog yn unig oedd hwn, ac fel hyrwyddwr y cynllun ni allwn gymryd unrhyw ran yn hynny. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, trafodwyd fforddiadwyedd prosiectau seilwaith mawr yn y Cabinet, ac roedd hynny'n cynorthwyo i lywio penderfyniad y Prif Weinidog, ond o ran gwneud y penderfyniad, y Prif Weinidog yn unig ac yn benodol oedd yn gyfrifol am ei wneud.

Credaf fod Russell George yn gwneud pwynt gwerthfawr iawn y byddai gwneud dim yn cael effaith fawr—effaith go ddinistriol ar economi de Cymru, a dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod yr argymhellion y bydd y comisiwn yn eu cyflwyno yn cael eu gweithredu'n gyflym a chyda digon o adnoddau, ac yn ei dro, dyna pam y dywedasom y byddwn yn defnyddio rhan o'r arian a fyddai wedi'i neilltuo ar gyfer ffordd liniaru M4, yr amlen wreiddiol honno, ar gyfer ymyriadau yng Nghasnewydd a'r cyffiniau yn gyntaf oll, er mwyn lleihau tagfeydd i lefel dderbyniol.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddychwelyd at thema trafnidiaeth rheilffyrdd, Weinidog? Ers cyhoeddi'r fasnachfraint reilffyrdd newydd, mae llawer o drafod wedi bod ar y cyhoeddiadau i amserlenni a stoc rheilffyrdd craidd y Cymoedd, ac yn wir, rydych newydd roi newyddion da iawn inni am y cyhoeddiadau arfaethedig i reilffordd Glynebwy. Ond a allai'r Gweinidog roi rhyw syniad inni am unrhyw gyhoeddiadau o'r fath i'r gwasanaethau rheilffordd sy'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a Chwmbrân?

Credaf y byddai'n fuddiol pe bawn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau am bob gwasanaeth ledled Cymru ac am gaffael cerbydau ychwanegol i ddarparu cerbydau newydd, yn hytrach na nodi rhai gwasanaethau a rhai rheilffyrdd, ond buaswn yn falch iawn o wneud hynny.

Diolch ichi, Weinidog, ond yn amlwg, mae'n peri pryder inni yn ne-ddwyrain Cymru. Dyma brif reilffordd sy'n arwain i mewn i Gaerdydd, fel y gwyddoch, ac i mewn i Gasnewydd. Felly, a allwch roi rhyw syniad inni ynglŷn â'r cyhoeddiadau arfaethedig i'r cerbydau ar y rheilffordd honno? Wedi'r cyfan, nid yw'r metro'n rhoi llawer iawn o ymrwymiad strwythurol i Ddwyrain De Cymru. Felly, gadewch inni gynnwys hynny hefyd yn yr ymrwymiad strwythurol ar gyfer Dwyrain De Cymru. A allech roi—?

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod y bydd yr holl drenau ar y rhwydwaith, gan gynnwys y rhai yn ardal y metro, yn cael eu newid, a bod yna drenau newydd, gyda llawer ohonynt yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a fydd yn cyrraedd safonau modern heddiw o ran mynediad ar gyfer pobl anabl. Rydym hefyd yn benderfynol, lle bo modd, o gynyddu capasiti ar reilffyrdd ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod wedi gallu cyflwyno rhagor o gerbydau ar reilffyrdd craidd y Cymoedd dros y misoedd diwethaf. Rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn wella capasiti mewn mannau eraill ledled Cymru. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i nodi lle gellir cyflwyno cerbydau, er mai ar sail dros dro y gwnawn hynny, er mwyn lliniaru tagfeydd tra bydd y trenau newydd sbon hynny'n cael eu hadeiladu.

14:00
Seilwaith Trafnidiaeth

3. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o ran cyflawni ei hymrwymiadau mewn perthynas â seilwaith trafnidiaeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ53994

Gwnaf. Y mis diwethaf, cyhoeddais ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol wedi'i ddiweddaru, ac mae hwnnw'n nodi ein blaenoriaethau dros y ddwy flynedd nesaf. Gan fod y prosiectau hyn yn ddibynnol ar fod cyllid ar gael a lle bo angen, ar gael caniatadau statudol, bydd y rhaglen arfaethedig o welliannau'n cael ei hadolygu'n gyson.

Diolch, Weinidog. Gwyddom yn awr, yn amlwg, na fydd un o'r ymrwymiadau a oedd yn eich maniffesto, ffordd liniaru'r M4, yn mynd rhagddo, sy'n destun gofid mawr, mae'n rhaid imi ddweud, a dicter gwirioneddol dros y penwythnos. Rwy'n gweld bod eich dirprwy yn heclo o'i sedd; os yw am ateb y cwestiwn, rwy'n hapus i ofyn y cwestiwn iddo ef. Ond byddai'n well pe baech yn gwrando, Ddirprwy Weinidog; efallai y dysgwch rywbeth. Efallai y dysgwch rywbeth am gadw ymrwymiadau.

Parhewch â'r cwestiwn a dim heclo gan Weinidogion, Ddirprwy Weinidog.

Mae'n anffodus fod yr ymrwymiad yn y maniffesto wedi'i dorri, ond yr hyn a wnaethoch, Weinidog, yw ymrwymo y bydd gwelliannau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau rhai manteision tymor byr. Mae llawer o bobl wedi bod yn bryderus pam na chafodd y manteision tymor byr hyn eu cyflawni yn y cyfnod byrrach o amser pan oedd yr ymchwiliad yn cyfarfod, er enghraifft, neu pan oedd y Llywodraeth yn ystyried y mater hwn, pan gollwyd cryn dipyn o amser, buaswn yn awgrymu.

Pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl sy'n siomedig nad yw'r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud mewn ffordd gadarnhaol y bydd y manteision tymor byr hyn yn lliniaru'r tagfeydd o amgylch Casnewydd, sef y man cyrraedd a gadael ar gyfer dwy ran o dair o'r nwyddau i mewn ac allan o Gymru sydd mor bwysig i'n heconomi fel y gwyddom?

Nid yw'n anarferol i ymrwymiadau a wnaed gan bleidiau a llywodraethau newid dros amser, ac yn aml cânt eu newid o ganlyniad i werthusiad o werth am arian ar gyfer yr ymyriadau a addawyd. Y trydaneiddio—nid wyf am fod yn wleidyddol, ond rhaid imi ddweud bod y cwestiwn ynghylch trydaneiddio rheilffordd de Cymru a chanslo'r rhaglen honno yn seiliedig ar werth am arian ar gyfer y prosiect arbennig hwnnw, a'r ddadl a gyflwynwyd gan yr Adran Drafnidiaeth y gallai technoleg newydd gynnig yr un gwelliannau a'r un arbedion amser â thrydaneiddio llinellau uwchben. Felly, nid yw'n anarferol i addewidion maniffesto newid dros amser wrth i dechnoleg newydd gael ei llunio, ac wrth ystyried gwerth am arian yn llawnach.

O ran y M4 o amgylch Casnewydd, ein cynnig oedd y llwybr du—dyna'r llwybr yr aethom ar ei drywydd a'i hyrwyddo. Fodd bynnag, gan fod y penderfyniad wedi'i wneud bellach i beidio â bwrw ymlaen â'r ateb penodol hwnnw, rydym yn archwilio'r holl fesurau tymor byr sydd ar gael i liniaru tagfeydd. Rwy'n falch ein bod yn gallu cyflwyno gwasanaethau patrolio ychwanegol a gwasanaethau adfer cerbydau sydd wedi torri. Bydd y rhain yn costio; mae'r rhain yn wasanaethau drud, ond maent wedi'u profi. Cawsant eu defnyddio yn gyntaf ar yr A55 fel rhan o raglen gydnerthedd yr A55, a phrofwyd eu bod yn gweithio. Dyna pam y gallais ddweud yr wythnos diwethaf, pan wnaethpwyd y penderfyniad gan y Prif Weinidog, y byddem yn gallu defnyddio'r ateb penodol hwnnw ar unwaith.

O ran isadeiledd trafnidiaeth, un mater sy’n bwysig yn fy etholaeth i ar hyn o bryd ydy bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r eithaf ar yr hyn y gellir ei wneud i ymestyn y system rheilffordd. A allwch chi roi sicrwydd i fi y byddwch chi’n fy nghefnogi i yn fy nghais ar Network Rail i fuddsoddi mewn ailosod pont rheilffordd Glanhwfa yn Llangefni ar ôl iddi gael ei tharo gan lori'r llynedd?

Wrth gwrs. Caiff unrhyw welliannau i'r rhwydwaith, unrhyw welliannau i seilwaith rheilffyrdd y gellir eu gwneud yng Nghymru, gefnogaeth Llywodraeth Cymru, a buaswn yn cefnogi ymdrechion yr Aelod yn hyn o beth. Mae'n peri pryder i mi cyn lleied o fuddsoddiad a wnaethpwyd yn rhwydwaith llwybrau Cymru ac yn ein gorsafoedd ac yn y gwasanaethau sydd wedi bod ar waith yng Nghymru. Ond mae hyn yn rhywbeth rydym yn benderfynol o'i weld yn cael ei ddatrys; dyna pam y gwnaethom gyflwyniad grymus iawn i adolygiad Williams a pham y gobeithiaf y bydd Keith Williams yn dadlau'r achos dros ddatganoli'r cyfrifoldeb dros seilwaith, ac am ariannu teg ar ei gyfer, fel y gallwn ymyrryd yn uniongyrchol yn y mathau o broblemau y mae'r Aelod dros Ynys Môn wedi'u nodi heddiw.

Gwasanaethau Bysiau yng Ngorllewin De Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau ar draws Gorllewin De Cymru? OAQ54018

Gwnaf. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae Trafnidiaeth Cymru yn adolygu sut y gellid darparu gwasanaethau bws yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cymunedau trefol a gwledig ledled Cymru yn cael budd o wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig a modern. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi'r argymhellion a wneir o ganlyniad i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus' yr ymgynghorwyd yn ei gylch yn ddiweddar.

14:05

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac mae'n amlwg ei bod yn bwysig inni sicrhau bod y Papur Gwyn hwnnw ar waith mor gyflym ag y gallwn er mwyn inni allu cyflawni camau pellach ar ein gwasanaethau bysiau ledled de-orllewin Cymru, gan mai bysiau'n bennaf sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal honno, yn hytrach na threnau.

Ddydd Gwener diwethaf, cyfarfûm ag Andrew Sherrington, rheolwr gyfarwyddwr First Cymru, ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw cafodd aelodau ar draws y rhanbarth lythyr ganddo yn nodi, ni waeth beth a ddigwyddai gyda gwerthiant First Cymru, y byddai'n ceisio sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnal ac yn parhau i weithredu i safon uchel. Ond mae yna broblemau o hyd. Lle ceir bysiau nad ydynt yn fasnachol hyfyw, cadarnhaodd y byddant mewn perygl, oherwydd mae'n amlwg mai system fasnachol yw hi heb gymorth cyhoeddus.

Mae dwy enghraifft o'r rheini yn amlwg yng nghwm Afan—rwyf wedi dwyn hyn i'ch sylw droeon—lle mae bysiau yng nghwm Afan bob dwy awr yng Nglyncorrwg ac ym Mlaengwynfi, sy'n golygu os oes gennych apwyntiad 9.30 a.m. yn yr ysbyty, rhaid i chi ddal y bws 7.30 a.m. yn y bore o Lyncorrwg i allu mynychu hwnnw, a phwy a ŵyr pa amser y byddwch yn cyrraedd adref? Mae'n bwysig, felly, fod y gwasanaethau bysiau hynny yng nghwm Afan a Chymoedd eraill yng Ngorllewin De Cymru yn cael eu cefnogi mewn gwirionedd i sicrhau bod pobl nad oes ganddynt geir, pobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn gallu eu defnyddio'n amlach nag y gallant wneud ar hyn o bryd. Nid yw un bob dwy awr yn ddigon i bobl allu parhau â'u bywydau bob dydd. Ni allant gyrraedd y gwaith yn effeithlon ar amser, ni allant gyrraedd adref ar amser ac ni allant fynd i apwyntiadau ar amser. A wnewch chi edrych felly ar weithio gyda'r sector i sicrhau bod gwasanaethau bysiau ar lwybrau masnachol anhyfyw yn cael eu cefnogi ag arian cyhoeddus i sicrhau bod y bobl sydd angen y gwasanaethau'n gallu eu cael?

Mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Mewn sawl rhan o Gymru, nid yn unig na all pobl gyrraedd y mannau y maent yn dymuno'u cyrraedd ar amser, ni allant gyrraedd lleoedd o gwbl drwy ddefnyddio gwasanaeth bws am nad ydynt yn bodoli, neu ni all pobl eu fforddio. Rwyf wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen fod un rhan o Gymru, y gogledd-ddwyrain, ardal Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy—a chyflwynwyd y data hwn gan Growth Track 360—lle mae'n arswydus fod 20 y cant o bobl yn methu cyrraedd cyfweliadau am swyddi yn yr ardal honno am na allant fanteisio ar wasanaethau bws priodol a fforddiadwy. Rhaid mynd i'r afael â hynny, ac fe eir i'r afael â hynny drwy ddiwygio a thrwy ddeddfu. Mae'r system wedi torri. Nid yw'n addas i'r diben.

Mae Dai Rees yn tynnu sylw at y rôl sylweddol iawn y mae gwasanaethau bysiau yn ei chwarae mewn cymdeithas. Maent yn cludo 100 miliwn o deithwyr y flwyddyn—mae hynny'n fwy na theirgwaith cymaint o deithwyr ag y mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn eu cludo. Felly, maent yn eithriadol o bwysig ar gyfer sicrhau bod pobl yn gallu mynd i'r gwaith ac i wasanaethau ac oddi yno, ond hefyd, yn bwysig, ar gyfer sicrhau bod pobl yn parhau'n gymdeithasol ac mewn cysylltiad â phobl eraill. Yn ein hymdrech i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, bydd rôl trafnidiaeth gyhoeddus yn eithriadol o bwysig.  

Mewn perthynas â First Cymru yn benodol, maent wedi ein sicrhau y bydd ei rwydwaith bysiau'n gweithredu fel arfer, ond byddwn yn cadw llygad barcud ar oblygiadau argymhellion First Group ar gyfer ad-drefnu ei fusnes i wasanaethau bysiau, gan gynnwys unrhyw bosibilrwydd y bydd ochr bysiau'r cwmni'n cael ei werthu.

Lywydd, rydym eisoes yn dyrannu £25 miliwn yn flynyddol i awdurdodau lleol fel rhan o'r grant cynnal gwasanaethau bysiau. A rhaid imi bwysleisio'n na ddylid defnyddio'r arian hwn i hybu gwariant grant cynnal refeniw awdurdodau lleol ar wasanaethau nad ydynt yn fasnachol hyfyw; dylid ei ddefnyddio yn ychwanegol ato. Mae'n gwbl hanfodol fod awdurdodau lleol yn ystyried yn ofalus yr effaith y byddai cael gwared ar eu cymorthdaliadau eu hunain yn ei chael ar bobl agored i niwed.

Gallaf ddweud heddiw, Lywydd—rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelodau—fy mod wedi dyrannu £2.5 miliwn i gynnal adolygiadau o'r rhwydwaith mewn rhannau penodol o Gymru, a bydd y gwaith hwn yn nodi gwelliannau posibl i wasanaethau ochr yn ochr â'r seilwaith buddsoddi sydd ei angen ar gyfer cyfnewidfeydd newydd, arosfannau bysiau newydd ac yn y blaen. Lywydd, rydym yn mynd i ddefnyddio'r cyllid hwn i gynllunio ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael eu comisiynu i arwain y gwaith hwn a bydd yn ceisio targedu ardaloedd yn ne-orllewin Cymru. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn gwneud datganiad cyn toriad yr haf a fydd yn darparu rhagor o fanylion am y gwaith hwn, yn ogystal â phedwar cynllun peilot sy'n mynd i gael eu cynnal ledled Cymru.

14:10

Diolch i chi am y sylwadau hynny, roeddwn yn meddwl eu bod yn ddefnyddiol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at y Papur Gwyn hefyd. Yn y cyfamser, fodd bynnag, yn 2016, fe gyhoeddoch chi gynllun pum pwynt i gefnogi llwybrau bysiau, gan gynnig cymorth i bob cwmni bysiau yng Nghymru drwy Busnes Cymru a Cyllid Cymru, ac ar yr un pryd, fe alwoch—fel rydych wedi'i wneud eto heddiw—ar awdurdodau lleol i wneud pob ymdrech i ddiogelu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau.

Efallai eich bod yn ymwybodol fod cynghorwyr bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi galw am edrych eto ar benderfyniad gan eu cabinet i roi'r gorau i sybsideiddio trafnidiaeth gyhoeddus. O gofio bod gennych arian ychwanegol, mae'n rhaid eu bod wedi cael rhywfaint o hwnnw, ac roeddech yn disgwyl iddo gael ei ddefnyddio'n ychwanegol at eu cymorthdaliadau bysiau eu hunain, nid yw'n swnio fel pe bai hwnnw hyd yn oed yn cyrraedd y cwmnïau bysiau yn yr achos hwn. Tybed a allech ddweud wrthyf a ydych yn gwybod a oedd gweithredwyr bysiau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn gwybod am y cynnig o gymorth gan Busnes Cymru a Cyllid Cymru ac a wyddai'r awdurdod lleol am hynny hefyd, gan y gallent fod wedi annog gweithredwyr i fanteisio ar y cynnig hwnnw, ac osgoi penderfyniad cabinet llym iawn trwy wneud hynny.

Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod wedi cynnal cyfres o uwchgynadleddau bysiau a bod awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru wedi cael eu gwahodd a'u hannog i fynychu'r uwchgynadleddau hynny. Buom yn gweithio gyda phartneriaid megis Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru i sicrhau bod gweithredwyr bysiau'n cael y cymorth angenrheidiol i'w cynnal drwy gyfnod pontio anodd iawn, wrth inni symud tuag at sylfaen newydd, fwy cynaliadwy ar gyfer gweithredu gwasanaethau bysiau. Ni fyddaf yn dweud wrth awdurdodau lleol sut y dylent ddefnyddio eu grant cynnal refeniw, yn enwedig o gofio bod cyni'n parhau, ond buaswn yn dadlau'r achos eto dros sicrhau bod awdurdodau lleol yn bod yn ofalus iawn pan fyddant yn ystyried pa wasanaethau i'w dileu o ganlyniad i benderfyniadau cyllidebol anodd. I lawer o bobl yn y wlad hon, mae gwasanaethau bysiau'n gwbl hanfodol.

Ffatri Rehau yn Amlwch

5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gefnogaeth a ddarparwyd yn dilyn y cyhoeddiad i gau ffatri Rehau yn Amlwch? OAQ53996

Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth lawn. Cynhaliwyd pedair sesiwn un-dydd i staff, a chynhaliwyd y sesiwn ddiweddaraf ar 3 Mehefin. Mae adborth gan y cwmni a'r staff wedi bod yn gadarnhaol iawn. Maent yn rhagweithiol wrth ymgysylltu ynglŷn â phob opsiwn, gan gynnwys staff gyda phroffesiynau'n ystyried sefydlu eu busnesau eu hunain.

Diolch yn fawr iawn. Gaf i ddiolch am y llythyr gan y Gweinidog ar 5 Mehefin yn ateb e-bost gen i o 9 Mai ynglŷn â chefnogaeth i economi gogledd Môn? Mae yna gyfeiriad yn hwnnw at y tasglu sydd wedi cael ei sefydlu yn dilyn cyhoeddiad Rehau. Ddoe, yng nghyd-destun y cyhoeddiad am ffatri Ford, mi glywsom ni'r Gweinidog yn dweud y byddai fo am fynd ymhellach na'r model tasglu arferol oherwydd maint y bygythiad yna ym Mhen-y-bont, a dwi'n cytuno â hynny yn sicr. Mi fyddwn i'n dadlau bod cyhoeddiad Rehau ar ben y cyhoeddiadau negyddol diweddar ynglŷn ag economi gogledd Ynys Môn hefyd yn arbennig o ddifrifol, yn enwedig o ystyried maint y boblogaeth, yr elfen wledig ac yn y blaen. Felly, mi fyddwn i'n croesawu addewid i edrych ar fynd ymhell tu hwnt i'r model tasglu yn achos gogledd Ynys Môn hefyd ac i chwilio i wneud buddsoddiadau arbennig mewn datblygu'r economi yno.

Mi hoffwn i ymateb a sylw ar hynny gan y Gweinidog, ond hefyd ar y cwestiwn penodol o beth fydd yn digwydd i safle Rehau, mi hoffwn i glywed gair o gefnogaeth i'r syniad y byddai'r safle yn sicr yn cael ei adael fel gwaddol i'r economi leol er mwyn sicrhau bod beth fu yn hyb economaidd pwysig yn gallu parhau felly yn y dyfodol.

A gaf fi fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw yn gyntaf a dweud ein bod yn parhau i drafod gyda Rehau pa gynlluniau a allai fodoli ar gyfer y safle yn y dyfodol? Mae'n safle anhygoel o bwysig, ac os na ellir ei ddefnyddio ar gyfer cyflogwyr neu weithgynhyrchwyr eraill fel lleoliad allweddol, yna dymunwn sicrhau y caiff ei ddefnyddio at ddefnydd amgen a'n bod yn cael cytundeb gan y cwmni i'w ddefnyddio mewn modd sy'n gwasanaethu buddiannau nid yn unig y bobl sydd wedi'u cyflogi yno, ond y gymuned ehangach hefyd.

O ran yr ymyriad yn seiliedig ar le ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gwneuthum y penderfyniad hwn er mwyn ehangu arferion gweithio arferol pan wneir penderfyniadau o'r math hwn oherwydd y cyfraniad ariannol enfawr y mae Ford yn ei wneud i'r gymuned gyfagos—cyfraniad gwerth £3.3 biliwn y degawd. Mae maint y buddsoddiad hwnnw, y swm o adnoddau a gollir, yn golygu y bydd dyfodol llawer o fusnesau—llawer iawn o fusnesau—yn y fantol, ac felly mae ymagwedd sy'n seiliedig ar le yn gwbl hanfodol, ynghyd â gweithgarwch arall y tasglu. Buaswn yn falch o siarad â chyngor Ynys Môn ynglŷn â chyflwyno ffocws penodol yn seiliedig ar le yng ngwaith y tasglu. Rwy'n credu ei fod yn gwbl hanfodol—ac rwyf wedi dweud hyn wrth yr awdurdod lleol sy'n gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, ei bod yn gwbl hanfodol fod yr awdurdod lleol yn cyflwyno argymhellion ar gyfer ysgogi'r economi leol, yr economi gymunedol, a hefyd ar gyfer sicrhau y caiff ei sefydlogi drwy'r cyfnod anodd o golli swyddi. Ni ellir ei adael i Lywodraeth Cymru yn unig. Rhaid inni weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth ar draws pob Llywodraeth os ydym am sicrhau'r canlyniadau gorau i'r bobl a wasanaethwn.

14:15

Pan ofynnais i chi ddiwedd mis Ionawr, ar ôl cyhoeddiad cyntaf Rehau y gallent fod yn cau'r safle yn Amlwch, fe ateboch chi eich bod yn ystyried arallgyfeirio i gynhyrchion eraill o fewn y grŵp y gellid eu dargyfeirio dros dro neu'n barhaol i'r safle, neu drydydd partïon yn wir. Fe ddywedoch chi hefyd y byddai hyn yn galw am rywfaint o fuddsoddiad, sef yr hyn roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio arno'n benodol gyda'r cwmni ar y pryd. Pan gyhoeddodd prif weithredwr Rehau fod y safle'n cau ar 23 Ebrill, dywedodd fod 'ystyriaeth ofalus wedi'i rhoi ar lefel y bwrdd' i

ddewisiadau amgen arfaethedig a gyflwynwyd gan y gweithwyr,

ond ni fyddent yn ddigonol i sicrhau dyfodol hirdymor y ffatri. Gan roi hynny i gyd at ei gilydd—y cyfeiriad at y ffaith eich bod yn siarad â thrydydd partïon, eich datganiad ar y pryd eich bod yn ystyried buddsoddi, a'r argymhellion gan y gweithwyr eu hunain—pa ystyriaeth a roddir i ddod â'r holl ffactorau hynny at ei gilydd wrth i hyn symud ymlaen?

Mae'n ofid i mi fod y cwmni wedi dewis peidio ag arallgyfeirio, oherwydd hoffwn ailddatgan ein safbwynt yn gynharach yn y flwyddyn, sef ein bod yn barod ac yn fodlon ac yn frwdfrydig ynglŷn â chefnogi'r busnes. Mae'r penderfyniad wedi'i wneud bellach, ac rydym yn awyddus, drwy'r tasglu, drwy'r uned datblygu economaidd ranbarthol, dan arweiniad y prif swyddog rhanbarthol, Gwenllian Roberts, i archwilio'r holl ddewisiadau eraill ar gyfer cyflogi'r rhai yr effeithir arnynt a dulliau amgen o ddefnyddio'r safle. Rydym yn gweithio—. Dylwn ddweud ein bod yn gweithio'n dda iawn gyda'r cwmni i ganfod cyfleoedd amgen. Mae ceisio dod o hyd i gyflogwyr mawr amgen mewn ardal led-wledig yn anodd iawn, ac felly mae angen rhoi sylw ychwanegol i'r posibilrwydd o gefnogi gweithwyr i ddechrau eu busnesau eu hunain, a dyna pam y mae Busnes Cymru yn chwarae rhan annatod yn y cymorth a roddir iddynt.

Busnesau Bach

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd economaidd busnesau bach yng nghymunedau gwledig Cymru? OAQ54021

Gwnaf, wrth gwrs. Mae economi wledig lewyrchus yn hanfodol er mwyn helpu i gynnal cymunedau hyfyw a darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon. Mae ein rhaglenni presennol yn darparu cymorth eang i annog datblygu economaidd a ffyniant, gan gynnwys drwy Busnes Cymru, TGCh a gwelliannau trafnidiaeth, yn ogystal â'r cymorth a ddarperir drwy'r cynllun datblygu gwledig.

Diolch yn fawr, Weinidog. Un o'r busnesau hyn yw Canolfan Heboga Cymru yn fy rhanbarth i—atyniad sydd wedi bod ar Five Mile Lane y Barri ers 40 mlynedd. Nodwyd yn ddiweddar y gallai'r busnes fod mewn perygl o gau, ar ôl i nifer yr ymwelwyr haneru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ôl Jamie Munro, sy'n rhedeg y ganolfan, mae hyn wedi'i achosi i raddau helaeth gan y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y A4226, ac sydd wedi arwain at leihad dramatig yn nifer yr ymwelwyr. Credaf y bydd unrhyw un sy'n adnabod yr ardal yn sylweddoli cymaint o effaith a fu ar y busnes—y rhan honno o'r ffordd yn enwedig, a'r cau rhannol y bu'n rhaid ei wneud er mwyn gallu gwneud y gwelliannau. Mae'n fusnes arbenigol. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol—yn hynod o boblogaidd. Mae'n darparu cyfleusterau addysgol ardderchog hefyd, ac mae'n atyniad y gallwn ymfalchïo ynddo. Pan fydd gwaith mawr o'r fath yn mynd rhagddo, tybed onid oes ffordd well i Lywodraeth Cymru a'r cyngor lleol weithio drwy'r effaith y gallai ei chael ar fusnesau am gyfnod byr. Ond nid yw'r busnesau hyn o reidrwydd yn ddigon cadarn i allu dioddef blwyddyn neu ddwy wael, yn enwedig o ran atyniadau i ymwelwyr.

Diolch i David Melding am ei gwestiwn. Byddaf yn sicrhau ein bod yn anfon swyddogion o'r uned ranbarthol at y busnes i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn. Yn gyntaf, rwy'n credu bod angen inni ddeall a ellir priodoli haneru nifer yr ymwelwyr i un ffactor yn unig ac os felly, er y gallai fod yn hwyr yn y broses, sut y gallwn liniaru'r effeithiau y mae'r gwaith ar y ffordd yn eu cael. Wrth gwrs, rydym yn cyhoeddi hysbysiadau. Rydym yn ymgysylltu'n uniongyrchol â busnesau drwy ein hadran drafnidiaeth ble bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl. Credaf fod yr enghraifft benodol hon yn gymharol unigryw o ran haneru nifer yr ymwelwyr, neu gwsmeriaid os hoffech. Felly, rwy'n credu y bydd yn hanfodol fod fy swyddogion yn gweithio'n gyflym gyda'r cwmni i oresgyn yr her sy'n eu hwynebu.

14:20

Weinidog, mae busnesau bach mewn cymunedau gwledig yng ngogledd Cymru'n chwarae rhan bwysig yn natblygiad economaidd y rhanbarth. Un mater sy'n cael ei ddwyn i fy sylw yn rheolaidd gan fusnesau bach a chanolig yw symud taliadau a thrafodion ar-lein—nad yw'r cysylltiad â'r rhyngrwyd yn ddigonol. A allwch sicrhau fy etholwyr y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r rhyngrwyd a band eang mewn unrhyw gynlluniau datblygu economaidd ar gyfer gogledd Cymru?

Gallaf. Soniais yn gynharach, wrth ymateb i gwestiynau Bethan, fod gan fargen twf gogledd Cymru brosiect digidol sy'n ganolog i'r weledigaeth ar gyfer datblygu economi gryfach a chadarnach yn y gogledd. Drwy gydol y sesiynau her sydd i ddod, rwy'n hyderus y gallwn sicrhau bod y rhaglen benodol honno'n cyrraedd pob busnes ledled Cymru ac yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r Aelod newydd eu nodi.

Tagfeydd Traffig o amgylch Casnewydd

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd? OAQ53993

Gwnaf, wrth gwrs. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 5 Mehefin yn amlinellu ein camau nesaf ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

Gwnaethoch hefyd gyhoeddi maniffesto a oedd yn dweud:

Byddwn yn darparu ffordd liniaru ar gyfer y M4.

Onid yw'n wir na fydd y comisiwn hwn ac unrhyw gynigion a gyflwynir ganddo, a allai liniaru tagfeydd ar yr ymylon, yn cael fawr o effaith o gymharu â'r hyn a addawyd yn eich maniffesto?

Mae eironi yma gan mai fi oedd y person a ysgrifennodd y maniffesto ac a argymhellodd y llwybr du ac wrth gwrs, roedd Mark Reckless yn aelod o blaid wleidyddol a oedd yn gyfrifol am ysgrifennu adduned maniffesto yn gwrthwynebu'r llwybr du. Edrychwch, rwy'n glynu wrth y cynnig a wnaethom. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod pethau wedi newid ers i'r llwybr du gael ei lunio. Mae'n gyfrifol i Lywodraethau dderbyn—pan fydd pethau'n newid, pan geir heriau newydd, i ymateb yn unol â hynny ac i weithredu mewn ffordd fwy hyblyg, a dyna'n union a wnaethom.

Ond gallaf sicrhau pob Aelod ein bod yn cydnabod bod yn rhaid mynd i'r afael â'r her hon; nid yw 'gwneud dim' yn opsiwn. Y cwestiwn i ni yw a allwn ymateb, pecynnu rhai o'r dewisiadau amgen mewn ffordd a fydd yn lleihau neu'n dileu tagfeydd—ond gwneud hynny hefyd ar yr un pryd am lai o gost i'r pwrs cyhoeddus. Credaf y gallwn gyfyngu ar dagfeydd ar yr M4 drwy Gasnewydd mewn ffordd sy'n cynnig gwerth am arian ac yn lleihau'r gost i bwrs y wlad. Nawr, mae gwaith y comisiwn eisoes wedi dechrau. Rwyf wedi cael trafodaeth eithriadol o adeiladol gyda'r Arglwydd Burns am y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma gan Lywodraeth Cymru, a sut y bydd ef a'i gomisiwn yn ei ddatblygu.

Rhwydwaith Trenau Cymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant cyhoeddus ar rwydwaith trenau Cymru? OAQ54010

Gwnaf, wrth gwrs. Mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, fel y gŵyr pawb ohonom, ac mae'n ffaith anffodus fod yn rhaid inni ddibynnu arni i ddarparu rhaglen fuddsoddi deg. Rydym yn dal i ddadlau'r achos dros ddatganoli fel y gallwn ddatblygu rhwydwaith i Gymru, sy'n darparu ar gyfer y teithiau y mae pobl angen eu gwneud.

Wel, diolch am eich ateb. Cefais fy nharo gan y llythyr a rannoch chi gydag Aelodau'r Cynulliad—y llythyr a anfonoch chi at David Lidington ar 22 Mai—lle rydych yn tynnu sylw at danfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Dywedwch yn y llythyr fod hanes o danfuddsoddi parhaus a chronig yn rhwydwaith Cymru o'i gymharu â Lloegr, yn seiliedig ar ddull gweithredu sy'n blaenoriaethu amcanion Llywodraeth y DU, gan ddefnyddio system sy'n systematig yn ffafrio buddsoddi yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Felly, mae hynny'n amlygu unwaith eto, onid yw, pa mor wael y mae Cymru yn cael ei thrin gan Lywodraeth y DU. Yn amlwg, nid ydym yn cael ein cyfran deg. Yn wir, mae Plaid Cymru wedi dweud erioed fod y DU yn undeb anghyfartal o wledydd. Wedi darllen eich llythyr, rwy'n cymryd eich bod yn cytuno â Phlaid Cymru yn awr.

Y broblem yw—ac rydym yn rhoi sylw iddi yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud hynny hefyd—. Y broblem yw, drwy lyfr gwyrdd y Trysorlys, caiff penderfyniadau eu gwneud yn aml mewn ffordd sydd o fudd i'r ardaloedd hynny o'r DU sydd eisoes yn drefol tu hwnt a lle mae crynodiad uchel eisoes o bobl sy'n ennill llawer o arian. Ac wrth gwrs, de-ddwyrain Llundain yw'r enghraifft amlwg o hyn. Yr hyn a wnawn yng Nghymru, ac mae'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd, yw datblygu dull rhanbarthol o ailgydbwyso economi Cymru. Ac fel y sefydlais yr unedau datblygu economaidd rhanbarthol a phenodi prif swyddogion rhanbarthol, cyn y toriad, byddaf yn cyflwyno datganiad llafar i'r Siambr ynghylch cyhoeddi cyllidebau dynodol rhanbarthol i sicrhau, pan fyddwn yn siarad am ariannu teg, nad sôn yn unig am ariannu teg i Gymru a wnawn, ond ein bod yn sôn am ariannu teg i rannau cyfansoddol Cymru. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'r Aelodau ar draws y Siambr hon yn cydnabod ei fod yn gwbl hanfodol os ydym am ysgogi ffyniant ar draws pob cymuned, yn hytrach na'i fod wedi'i grynhoi yn yr ardaloedd mwyaf trefol yn unig.

14:25
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

Y cwestiynau nesaf felly i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.

Strwythur Cydbwyllgor y Gweinidogion

1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff Brexit ar strwythur Cydbwyllgor y Gweinidogion? OAQ54019

Roeddem yn dweud yn 'Brexit a Datganoli' nad yw strwythurau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ddigonol ar gyfer yr heriau newydd a wynebwn wrth inni adael yr UE. Cyhoeddasom 'Brexit a Datganoli' ddwy flynedd yn ôl, ac nid yw ein safbwynt wedi newid.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Adleisiwyd yr hyn rydych newydd ei danlinellu o amgylch y Siambr hon gan Aelodau a phwyllgorau amrywiol y Cynulliad. Yn amlwg, nid yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gweithio. Mae'n dibynnu'n fawr ar sut y mae unigolion yn San Steffan yn ei weld, ac a ydynt am ei weld yn gweithio ai peidio. Nid oes strwythur ffurfiol. Nid oes unrhyw statws yn sail iddo.

Cafwyd adolygiad o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a gychwynnwyd gan San Steffan, ond mae dros 12 mis ers hynny bellach, ac rydym yn dal i ddisgwyl ei ganlyniad. Yn sicr, mae'n bryd i ni, gyda gwledydd eraill y DU, ddechrau dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Rhaid i'r strwythur hwn newid. Rhaid iddo fod yn seiliedig ar statud. Mae angen i ni gael strwythur sy'n trin pob gwlad yn gyfartal, a phob Llywodraeth yn gyfartal, o fewn y trafodaethau hyn' ac felly fe'i tanategir er mwyn sicrhau na all unrhyw unigolyn benderfynu a yw'n beth da neu'n beth drwg.

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod wedi taro'r hoelen ar ei phen gyda'i gwestiwn atodol, ac rwy'n rhannu ei siom. Mae bron 15 mis bellach mewn gwirionedd ers comisiynu'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol. Ac yn sicr, y gwir amdani yw nad yw er budd Cymru, nac unrhyw ran o'r DU mewn gwirionedd fod strwythurau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn parhau i geisio cynnal y pwysau a roddir arnynt bellach gan Brexit yn benodol. Dylwn ddweud mai'r gwir amdani yw bod y Prif Weinidog wedi gofyn am fwy o gynnydd nag a fu. Felly, rydym yn siomedig iawn â lefel—y diffyg cynnydd, yn hytrach. Y gwir yw bod—mae uchelgeisiau cyfansoddiadol, os caf ei roi felly, y gwahanol Lywodraethau'n wahanol. Nid oes arweinyddiaeth wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd, ac ymdrechwyd i roi paratoadau 'dim bargen' ar waith. Mae'r gwaith ar lefel swyddogion wedi bod yn dda, ond mae'n sicr na wnaethpwyd digon o gynnydd. Buaswn yn dweud mai ychydig iawn o gynnydd a welsom. Rwy'n gobeithio cyfarfod â David Lidington yn ddiweddarach yr wythnos hon, a byddaf yn dweud wrtho fy mod yn pryderu nad oes ymrwymiad go iawn ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â hyn.

Soniodd am yr egwyddor o gyfranogiad cyfartal yn ei gwestiwn, sy'n gwbl hanfodol i hyn. Rydym hefyd wedi siarad am fecanwaith i ddatrys anghydfodau sy'n cyflwyno elfen annibynnol, fel nad yw'n fater syml, fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu, o un rhan o'r DU yn penderfynu'r canlyniad.  

Ar gwestiwn sail statudol, credaf y byddai'n fuddiol ymchwilio i hynny. Nid wyf yn siŵr fy hun mai dyna'r ateb i bob problem—yr hyn sydd ei angen arnom yw strwythurau cadarn. Os yw hefyd yn seiliedig ar statud, byddai hynny'n fantais, ond credaf mai'r peth allweddol yw cael strwythurau ar waith sy'n gweithio. Hoffwn ddweud hefyd mai'r fformat Cyd-bwyllgor Gweinidogion sy'n gallu datrys hyn yn y pen draw yw'r un rhwng Prif Weinidogion y gwledydd a Phrif Weinidog y DU. Felly, yn amlwg, yng ngoleuni'r ffaith bod yna ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ar hyn o bryd, mae'n amlwg y bydd hynny'n peri oedi cyn y gall fformat y Cyd-bwyllgor Gweinidogion gyfarfod er mwyn mynd i'r afael â hyn. Ond mae fformat nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, lle rwy'n cynrychioli'r Llywodraeth, yn bwriadu edrych ar y pwynt hwn, ar ein hanogaeth ni.

14:30

Mae yn hynod o bwysig, dwi'n credu, bod strwythur Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn cael ei gryfhau yn y dyfodol, a dwi hefyd yn credu y dylem ni ddiwygio'r pwyllgor, a gosod y pwyllgor ar lefel statudol, i sicrhau bod llais Cymru yn glir mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Dwi'n credu, mewn ateb i'r Aelod dros Aberafan, eich bod chi wedi dweud dŷch chi ddim yn ffafrio rhoi'r pwyllgor ar lefel statudol. Allwch chi esbonio i ni pam dŷch chi ddim yn ffafrio hynny? Oherwydd dyna'r ffordd ymlaen, yn fy marn i. 

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, a'r cyfle i ateb y pwynt penodol hwnnw. Nid cwestiwn o ddim ffafrio hynny yw hyn—buasai hynny yn fantais. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw nid panacea yw hynny am gael system o weithredu sydd, a dweud y gwir, yn cefnogi'n gwaith ni yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Trafodaethau Brexit

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU? OAQ54000

Rwy'n parhau i gael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar nifer o faterion yn ymwneud â Brexit. Cefais gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yn fwyaf diweddar yng Nghaerdydd ar 16 Mai, ac mae cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau'r UE wedi'i drefnu ar gyfer diwedd y mis hwn.

Gwnsler Cyffredinol, diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae ofn cynyddol fod y gwasanaeth iechyd gwladol yn mynd i fod yn aberth ar allor Brexit 'dim bargen'. Pan ddywedodd Donald Trump y byddai'r GIG yn wasanaeth a fyddai'n rhan o gytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA, pan safai Theresa May yn ei ymyl a gwrthod gwadu hynny, pan fo'r UDA wedi gwrthod newid eu hamcanion negodi, sy'n cynnwys yr holl wasanaethau fel rhan o gytundeb, pan fo gennym sefyllfa lle mae cytundebau masnach ryngwladol a allai ddiystyru a gweithredu mesurau mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd y lle hwn, pan fo'r Gweinidog iechyd wedi ysgrifennu at Theresa May flwyddyn neu ddwy yn ôl yn gofyn am sicrwydd a gwarantau ynghylch amddiffyn y GIG, rhywbeth y gwrthododd eu rhoi, ac mewn sefyllfa pan fo gennym Brif Weinidog Torïaidd newydd posibl sy'n cefnogi preifateiddio'r gwasanaeth iechyd gwladol a chytundeb masnach unochrog gyda'r UDA, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol rhag Brexit 'dim bargen'?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Gwelais innau hefyd y gynhadledd i'r wasg y mae'n cyfeirio ati yn ei gwestiwn, ac aeth fy ngwaed yn oer wrth glywed y GIG yn cael ei drafod fel ased ar gyfer gwerthiant masnachol yn y ffordd honno. Rwyf am fod yn gwbl glir: gwasanaeth cyhoeddus yw GIG Cymru ac o dan Lywodraeth Cymru, bydd yn parhau felly. Mae'r Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi dweud yn gwbl glir wrth ei haelod cyfatebol, Liam Fox, yr Ysgrifennydd masnach ryngwladol, fod yn rhaid parchu'r setliad datganoli mewn perthynas â chytundebau masnach, a byddai hynny'n cynnwys cytundebau masnach o'r math y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. A rhaid iddo barchu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod y GIG yn cael ei gadw'n wasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru. Nid oes perygl o gwbl y caniatawn i GIG Cymru fod yn rhan o unrhyw negodiad. Ond rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y mater hwn, sy'n taflu goleuni ar ganlyniadau'r math o bolisi masnach y gallai Llywodraeth y DU geisio'i ddilyn mewn senario 'dim bargen' yn fy marn i.

Mewn perthynas â'r GIG yn fwy cyffredinol wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda'r GIG yng Nghymru mewn perthynas â chadernid a gallu i wrthsefyll yr heriau y byddid yn eu hwynebu yng nghyd-destun unrhyw fath o Brexit, ond Brexit 'dim bargen' yn enwedig. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chyflenwadau o feddyginiaethau, offer meddygol—fel y gŵyr yr Aelod—ac ynghylch cynllunio'r gweithlu, a allai ddod o dan bwysau difrifol, fel y trafodasom yn y Siambr ddoe yn ein dadl ar fudo, yng nghyd-destun polisïau mudo newydd gan Lywodraeth y DU.

Wrth gwrs roedd y drafodaeth Brexit ddiweddaraf gyda Llywodraeth y DU yn ymwneud â defnydd, neu ddiffyg defnydd, y Prif Weinidog o gar y Swyddfa Dramor ym Mrwsel heddiw. Fodd bynnag, ar fater y GIG, ni chaiff ei fasnachu. Pan fydd rhywbeth yn wasanaeth cyhoeddus, nid yw'n rhywbeth sy'n rhan o gytundeb masnach yn y ffordd a awgrymir. Wrth gwrs, os oes gennych gaffael cyhoeddus, fe fyddwch am gaffael yn rhad ac yn effeithiol a chael gwerth da, ac os ymrwymwch i gontract gyda darparwr tramor, mae'n eithaf rhesymol disgwyl i'r contract hwnnw gael ei barchu ac y dylid ei yswirio naill ai drwy lysoedd Prydain neu drwy drefn ddatrys anghydfod i fuddsoddwyr. Onid dyna'r cwbl sydd dan sylw yma?

14:35

Nid oes gennyf hyder o gwbl yn ymrwymiad Plaid Brexit i'r GIG. Mae arweinydd y blaid wedi bod yn gwbl bendant nad yw'n credu mewn GIG a ariennir yn gyhoeddus ac mae'n credu mewn system yswiriant. Felly, bydd yn rhaid i'r Aelod faddau imi os cymeraf hynny â phinsiad o halen. [Torri ar draws.]

Rwy'n ddiolchgar ichi, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch chi, fel finnau, wedi gweld adroddiadau rhyfeddol braidd yn y wasg y bore yma na ddarparwyd cymorth diplomyddol ar gyfer y Prif Weinidog yn ystod ei ymweliad â Brwsel. Nawr, fel chi a fi—rydym ein dau wedi mwynhau cymorth gwasanaeth diplomyddol y Deyrnas Unedig, ac rwy'n cofio trafod a negodi gyda David Lidington a William Hague ac eraill sut y gellir cryfhau hynny. Er nad yw Gweinidogion yn y fan hon yn Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweinidogion y Deyrnas Unedig ydynt, ac ym Mrwsel, rydym yn rhan o dîm gweinidogol y Deyrnas Unedig, ac mae gennym gytundebau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n dynodi ein bod yn cael cymorth Cynrychiolaeth y Deyrnas Unedig i'r Undeb Ewropeaidd a'r swyddfa dramor. Hoffwn gofnodi fy niolch i UKRep ac i weision sifil yn y swyddfa dramor am y gefnogaeth ardderchog a gefais, o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac mewn mannau eraill, wrth deithio fel cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Cymru. A wnewch chi godi'r mater hwn gyda David Lidington pan fyddwch yn ei gyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon, a dweud wrtho ein bod yn disgwyl i'n holl Weinidogion gael eu trin â'r parch a roddir iddynt gan y mandad etholiadol, a'n bod yma i gynrychioli'r Llywodraeth yma a'r Cymry, ac nid oes disgwyl inni ofyn caniatâd unrhyw aelod o Lywodraeth y DU ynglŷn â sut y gwnawn hynny?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Fel y mae'n nodi ynddo, mae ein perthynas â Chynrychiolaeth y DU i'r UE yn dda iawn, felly roedd y penderfyniad digynsail yr ymddengys bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi'i wneud yn peri penbleth a siom i ni, os caf ei roi felly. Fel cyd-destun, dylwn ddweud ein bod wedi cael cymorth o ansawdd uchel gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad fel Llywodraeth Cymru ar bob achlysur blaenorol pan fu Gweinidogion yn ymweld â Brwsel, fel y nododd yn y cwestiwn. Gallaf gadarnhau bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi hysbysu'r Llywodraeth na fyddent yn darparu cymorth tra oedd y Prif Weinidog ym Mrwsel heddiw, gan gynnwys defnydd o'r gwasanaeth ceir, oni bai ein bod yn rhoi sicrwydd na fyddai'r Prif Weinidog yn tanseilio polisi Llywodraeth y DU. Gwnaethom yn glir fod y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru o ddifrif ynglŷn â'u dyletswyddau, yn rhinwedd eu swydd fel Gweinidogion y Deyrnas Unedig, i'r Deyrnas Unedig pan fyddant dramor ar fusnes swyddogol, ond nid yw hynny'n golygu eu bod yn ymostyngol i Lywodraeth y DU ac yn sicr nid yw cael defnydd o wasanaethau ceir yn rhan o'r ystyriaeth. Felly, fe wnaethom wrthod rhoi unrhyw sicrwydd a fyddai'n llyffetheirio neu'n llesteirio hawl y Prif Weinidog i siarad dros fuddiannau cenedlaethol Cymru. Yn y pen draw, fel y digwyddodd, fe gynigiwyd cyfleusterau ceir wedyn, ond mae'r Prif Weinidog yn teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy gydol ei ymweliad â Brwsel heddiw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ei thrafodaethau â'r Comisiwn Ewropeaidd heddiw?

Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld newid personél y Comisiwn yn y dyfodol. Mae'r Prif Weinidog ym Mrwsel heddiw gyda'r bwriad o gyfarfod â nifer o'n partneriaid yno, gan gynnwys Michel Barnier.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhyfeddu ei bod yn ymddangos bod gan Weinidogion Llafur Cymru fwy o ddiddordeb mewn ceir sy'n cael eu gyrru gan chaffeurs nag sydd ganddynt mewn materion go iawn. Rwy'n siŵr na fyddai Llywodraeth Cymru am ganiatáu i'w hadnoddau gael eu defnyddio i gefnogi gweithgareddau sy'n tanseilio ei hamcanion polisi hithau chwaith, ac a dweud y gwir rwy'n credu y dylai Gweinidogion dyfu fyny a gwrando ar bobl Cymru a bleidleisiodd dros adael yr UE yn 2016. Ni chyfeirioch chi yn eich ateb yn awr at y strategaeth negodi y gallai'r Prif Weinidog fod yn ei defnyddio, neu beidio, ym Mrwsel heddiw. Ond a wnewch chi ddweud wrthym a fydd yn ailadrodd ewyllys pobl Cymru a bleidleisiodd dros adael yr UE yn 2016, ac os na fydd, pam ddim?

14:40

Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn rhyfedd gan yr Aelod. Gorffennais fy ateb i'r cwestiwn blaenorol drwy ddweud bod y Prif Weinidog yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ym Mrwsel heddiw, sydd i'w weld i mi yn dynodi diffyg diddordeb llwyr yn y defnydd o geir y Llywodraeth. Felly, credaf y dylai ystyried y ffaith bod y Prif Weinidog ym Mrwsel yn ymdrin â materion o sylwedd yn hytrach na materion yn ymwneud â chyflwyniad a phenawdau fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu. Bydd y Prif Weinidog yn disgrifio beth sydd er lles gorau Cymru a safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru yn ei drafodaethau yn Ewrop, fel y mae'n gwneud ar bob cyfle arall.

Onid y gwir amdani, Weinidog, yw eich bod yn dal i chwarae gwleidyddiaeth â Brexit? Cafwyd ymrwymiad maniffesto clir gan y Blaid Lafur yn 2017 i gyflawni Brexit ac mae'n eithaf clir yn awr i bobl Cymru na ellir ymddiried yn y Blaid Lafur i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto penodol hwnnw. Nawr, rydych eisoes wedi gwneud tro pedol o ran eich safbwynt ar ail refferendwm, ac rydych wedi dweud bod angen opsiwn i aros ar bapur pleidleisio mewn refferendwm yn y dyfodol. Ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw mai'r un peth na phleidleisiodd pobl Cymru drosto yw unrhyw fath neu fersiwn o 'aros'. Rydych yn dal i siarad am fathau neu fersiynau o 'adael', ond yr un peth nad oedd pobl Cymru'n ei gymeradwyo—ac nid oeddem yn ei gymeradwyo o gwbl—oedd unrhyw fath o aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Sut y gallwch gyfiawnhau anwybyddu canlyniad refferendwm 2016, a wrthododd 'aros' ar y papur pleidleisio, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i bobl Cymru, os bydd ail refferendwm—ac rwy'n mawr obeithio na fydd—na fyddwch yn anwybyddu hwnnw chwaith?

Os caf ddweud, prin iawn yw'r pethau rwy'n eu hedmygu am y Blaid Geidwadol, ond mae ei gallu i fy ngheryddu am chwarae gwleidyddiaeth gydag wyneb syth, ar ôl gofyn y ddau gwestiwn y mae newydd eu gofyn, yn eithaf clodwiw yn ei ffordd ei hun.

Ar gwestiwn refferendwm, nid wyf yn cofio clywed neb ar unrhyw adeg yn dadlau dros Brexit 'dim bargen' yn 2016. I'r gwrthwyneb yn llwyr—roedd pawb yn dweud wrthym pa mor syml y byddai, sut y byddai pobl yn baglu dros ei gilydd i drafod telerau gyda ni. Mae'r Prif Weinidog, Theresa May, wedi methu'n llwyr â chyflawni'r addewidion a wnaethpwyd.

Rydym bellach yn wynebu sefyllfa lle nad oes mandad o gwbl ar gyfer Brexit 'dim bargen', sef yr hyn yr ymddengys y mae'r Blaid Geidwadol yn carlamu tuag ato yn debyg i ruthr o gefnogaeth fel bustych ofnus oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y Senedd i Boris Johnson, a allai ein hebrwng yn llawen tuag at Brexit 'dim bargen'. Yn y sefyllfa honno, nid oes ond un ffordd y gallwn atal y niwed y byddai hynny'n ei achosi i Gymru, sef drwy roi'r cwestiwn yn ôl i'r bobl, sy'n egwyddor ddemocrataidd sylfaenol.

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae Donald Trump wedi dweud y byddai am i'r GIG fod ar y bwrdd mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol ynglŷn â chytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA. Yn ddiweddarach, fe dynnodd yn ôl ar hyn, ond mae'r ffaith bod ei lysgennad i'r DU, Woody Johnson, hefyd wedi dweud yr un peth yn dangos yn glir beth fydd blaenoriaethau'r UDA os a phan fydd trafodaethau masnach yn dechrau.

Mae Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes perygl o gwbl y caiff y GIG yng Nghymru ei werthu yn y ffordd hon a dywedodd y Gweinidog iechyd na fyddai GIG Cymru ar werth. Ac rydych chi wedi siarad heddiw eisoes yn eich ateb i Mick Antoniw am gynllunio'r gweithlu a'r angen i weithio gyda'r GIG.

Er fy mod yn cymeradwyo eich angerdd o blaid cadw gwasanaethau'r GIG yn gyhoeddus ac yn rhad ac am ddim lle mae eu hangen, a allwch egluro wrthyf—ac rwy'n pwyso arnoch i wneud hyn—pa gamau'n hollol y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal GIG Cymru rhag cael ei werthu pe bai Llywodraeth San Steffan yn ei fasnachu'n rhan o negodiadau gyda'r UDA?

Mae gennym fecanweithiau ar waith i sicrhau bod penderfyniadau ar feysydd datganoledig yn parhau'n gyfrifoldeb i ni drwy'r cytundeb rhynglywodraethol. O ran trafodaethau'n ymwneud â'r negodiadau masnach, mae trafodaethau ar lefel swyddogol yn mynd rhagddynt er mwyn sicrhau lefel o warchodaeth i Gymru cyn y trafodaethau hynny.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rydych yn sôn am fecanweithiau a thrafodaethau heb lawer o fanylion yn y fan honno, ond rwy'n credu efallai mai'r rheswm am hynny yw mai ychydig iawn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn y GIG pe bai Llywodraeth San Steffan yn penderfynu ei werthu.

Mae'n amlwg y byddai Plaid Cymru yn eich cefnogi pe baech chi, fel y dywedodd y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ddydd Llun, yn dymuno mynd â Llywodraeth San Steffan i'r llys ar hyn. Ond y gwir amdani yw bod masnach ryngwladol yn fater a gadwyd yn ôl a bod pwerau dros gaffael cyhoeddus y gellid bod wedi'u defnyddio i ddiogelu rhai agweddau ar ein gwasanaethau iechyd wedi cael eu hildio fel rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol y cyfeirioch chi ato.

Rwy'n siŵr eich bod wedi bod yn dilyn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr gyda'r un gymysgedd o arswyd ac anghrediniaeth â mi. Cawsom ymgeiswyr yn cyfaddef i droseddau sydd fel arfer yn arwain at ddedfryd o garchar, ymgeiswyr sydd eisiau cyfyngu ar hawliau dynol, ac yn fwyaf brawychus, yr ymgeisydd yr ystyrir ei fod yn ffefryn yn y ras, Boris Johnson, yn nodi'n glir ei fwriad i fwrw ymlaen ar lwybr trychinebus tuag at Brexit 'dim bargen'.

Weinidog, pe bai Prif Weinidog nesaf y DU yn penderfynu gadael yr UE heb fargen ac yn gallu dod o hyd i ffordd o osgoi'r Senedd, drwy ei rhagderfynu efallai, pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru'n llawn y canlyniadau trychinebus i Gymru? Efallai fod y rhain yn ddamcaniaethol, ond maent yn boenus o bosibl.

14:45

Mae'r Aelod yn parhau i gredu bod pwerau wedi cael eu rhoi'n ôl yn y cytundeb rhynglywodraethol. Fe'i gwahoddaf, pan fydd yn gofyn ei chwestiwn nesaf imi, i bennu un o'r pwerau hynny, oherwydd nid wyf wedi clywed yr un yn cael ei nodi yn y Siambr hon, er gwaethaf y dyfalbarhad â'r ddadl honno. Yn wir, mae pob adroddiad olynol a ddaw allan o Lywodraeth y DU yn dangos nad yw'n bwriadu defnyddio'r pwerau adran 12, a fyddai'n rhewi cymhwysedd y Cynulliad hwn. Hoffwn ei gwahodd efallai i nodi unrhyw rai o'r pwerau y mae'n credu eu bod wedi'u hildio o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw.

Mae'n iawn, wrth gwrs, fod cysylltiadau rhyngwladol yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl i Senedd y DU, ond fe fydd hefyd yn gwybod bod y Goruchaf Lys, yn yr achos yn ymwneud â Bil parhad yr Alban, yn gwbl glir fod gweithredu'r cytundebau hynny yn y wlad hon yn fater sydd wedi'i ddatganoli ac mae wedi'i ddatganoli i'r lle hwn. Rwy'n rhoi sicrwydd na fyddwn yn gweithredu mecanwaith sy'n galluogi'r GIG i gael ei werthu. Ond mae hi'n iawn i ddweud bod hynny'n arwydd o gyflwr meddwl a bwriadau Arlywydd America yn sicr. Roeddwn yn credu bod methiant Theresa May fel Prif Weinidog i herio hynny yn rhyfeddol, yn y gynhadledd i'r wasg y cyfeiriodd David Rees ati'n gynharach.

Mae'n fy ngwahodd i ddweud wrthi fy mod yn teimlo ei bod hi'n bosibl lliniaru canlyniadau Brexit 'dim bargen' i Gymru yn llawn. Fe fyddaf yn hollol glir gyda hi—nid wyf yn credu ei bod hi'n bosibl lliniaru'n llawn, gydag unrhyw lefel o baratoi, naill ai yn y tymor byr neu'n hirdymor, y canlyniadau trychinebus i Gymru a fyddai'n deillio o Brexit 'dim bargen'.

Diolch, Weinidog, a diolch i chi am droi'r craffu arnaf yn ôl arnaf fi yn y fan honno, ond fel yr eglurasom mewn dadleuon yn y gorffennol yn y Siambr hon, cafodd pwerau caffael cyhoeddus eu hildio yn rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol, a buaswn yn croesawu trafodaeth bellach gyda chi ar hynny.  

Ond i ddod yn ôl at y cwestiwn, ac fel rydych newydd gydnabod, gwyddom bellach nad oes fawr ddim y gallem ei wneud i liniaru effaith drychinebus Brexit 'dim bargen', lliniaru effaith hynny ar Gymru, a byddem yn ddi-rym yn y bôn i amddiffyn ein hunain. Mae'r diffyg parch a ddangoswyd gan San Steffan at Gymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn anghredadwy. Maent wedi cipio pwerau oddi wrthym, maent wedi gwrthod gadael i Weinidogion Cymru weld drafftiau cynlluniau newydd yn lle arian Ewropeaidd. Fe ddywedoch chi wrthym ddoe, Weinidog, eu bod wedi gwrthod gwrando ar eich pryderon ynghylch cynlluniau ar gyfer mewnfudo, a hefyd nad ydym wedi cael fawr ddim mewnbwn—wel, dim mewnbwn o gwbl—i gynlluniau ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin.  

Mae'r darpar Brif Weinidog tebygol yn bwriadu sychu dros £400 miliwn oddi ar gyllideb Cymru drwy roi toriad yn y dreth i'r bobl gyfoethocaf mewn cymdeithas. A heddiw, fel y clywsom eisoes, maent wedi gwrthod caniatáu i Brif Weinidog Cymru gael defnydd o gar gweinidogol ar gyfer ei ymweliad â Brwsel am ei fod wedi gwrthod cytuno i droi cefn ar fuddiannau Cymru—toriad protocol cwbl warthus na welwyd ei debyg o'r blaen, fel y dywedoch, a gweithred warthus o amarch tuag at ein gwlad.

Weinidog, ni all hyn barhau. Mae'n rhaid i ni sefyll drosom ein hunain a buddiannau'r bobl y mae gennym ddyletswydd i'w cynrychioli. A wnewch chi gytuno felly i ystyried sefydlu confensiwn cyfansoddiadol i Gymru i ystyried yn ofalus yr opsiynau cyfansoddiadol sydd ar gael i Gymru, gan gynnwys annibyniaeth? Mae confensiwn cyfansoddiadol yn rhywbeth y galwodd y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, amdano ar lefel y DU, ond ni ddigwyddodd hynny, er gwaethaf ymdrechion diflino dros flynyddoedd lawer ar ei ran. Felly, rhaid inni ei wneud drosom ein hunain yn awr.

Mae angen inni wybod pa ddewisiadau sydd ar gael inni yng Nghymru wrth i argyfwng cyfansoddiadol y DU ddyfnhau ac rydym angen dull o amddiffyn ein hunain rhag Llywodraeth elyniaethus yn San Steffan. Mae ein GIG mewn perygl, mae ein heconomi ar drothwy trychineb 'dim bargen'. Rhaid inni amddiffyn ein dinasyddion. A wnewch chi ystyried mabwysiadu'r llwybr hwn felly?

Rydym yn manteisio ar bob cyfle i sefyll dros fuddiannau'r Cymry mewn unrhyw ymgysylltiad rhyngom ag unrhyw ran o'r DU, gan gynnwys Llywodraeth y DU yn fwyaf uniongyrchol. Fel Gweinidogion, bydd pawb ohonom yn parhau i wneud hynny. Manteisiwn ar bob cyfle posibl i ddisgrifio ac i frwydro dros fuddiannau'r Cymry. Ar y cwestiwn atodol olaf, mewn perthynas â pharatoadau, dylwn ddweud nad yw'r ffaith nad wyf yn credu ei bod yn bosibl lliniaru canlyniadau 'dim bargen' yn llawn yn golygu na ddylem ni ac nad ydym ni, fel Llywodraeth gyfrifol, yn gweithredu paratoadau pwyllog a chymesur er mwyn rhagweld yr effeithiau waethaf, a cheisio gwneud yr hyn a allwn i ymdopi â hwy. Fel y gwn ei bod yn gwybod, rydym yn rhoi cyfres o gamau sylweddol ar waith ar draws pob portffolio er mwyn gwneud hynny. Yn wir, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried pa gamau pellach y gallem eu cymryd o ystyried bod y dyddiad ymadael wedi'i ohirio tan yr hydref. Mae'n bwysig o hyd ein bod yn gwneud hynny, er ein bod o'r farn na ellir lliniaru'r difrod yn llawn yn y pen draw, a dweud y lleiaf.

Mae hi'n gwneud y pwynt am annibyniaeth. Wrth gwrs, gwyddom fod ein cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban yn dadlau dros y safbwynt hwnnw yn y fan honno. Y gwahaniaeth yno yw eu bod wedi sefyll ar faniffesto'n dadlau'r achos dros annibyniaeth ac wedi ennill, ac felly maent wedi ennill yr hawl i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru.

14:50
Rôl Porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch rôl porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit? OAQ54001

Mae porthladdoedd Cymru yn borth rhyngwladol hollbwysig ac yn ffynhonnell swyddi o ansawdd uchel. Gellid gwarchod hyn yn hawdd os arhoswn yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Gan wynebu'r risg drychinebus o 'ddim bargen', rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid lleol i liniaru'r niwed i'n porthladdoedd.

Diolch yn fawr iawn am hynny. Fel y gwyddoch, mae cryn dipyn o borthladdoedd yn fy rhanbarth i, ac un o'r cyfleoedd i Gymru os gadawn yr UE fyddai datblygu porthladdoedd rhydd, gan y byddent yn caniatáu i nwyddau gael eu mewnforio i rannau o Gymru, eu storio neu eu cynhyrchu'n gynnyrch gorffenedig cyn eu hallforio heb drethi a thariffau. Wrth gwrs, mae gennym borthladdoedd rhydd yn y DU yn barod. Y llynedd, dywedodd Gweinidog yr economi ei fod wedi gofyn i ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ystyried creu porthladd rhydd. Fodd bynnag, ym mis Chwefror eleni, fe ddywedoch chi wrth Adam Price ei bod hi'n anodd gweld sut y gallai porthladdoedd rhydd neu ardaloedd rhydd fodoli mewn undeb tollau. Nawr, cadarnhaodd eich Llywodraeth y bydd yn ymgyrchu i aros o fewn yr UE. Felly, a yw hynny'n golygu na ellir ystyried datblygu porthladdoedd rhydd yng Nghymru?

Rydym yn cydnabod manteision posibl porthladdoedd rhydd yn gyffredinol, ond ceir heriau ymarferol, sef yr hyn y cyfeiriais ato yn fy ymateb cynharach, rwy'n credu, sy'n ymwneud â cholli refeniw treth, dadleoli, cynaliadwyedd, ac yn y blaen. Yn amlwg, mae penderfyniadau ynghylch porthladdoedd rhydd a threfniadau tollau yn fwy cyffredinol yn nwylo Llywodraeth y DU. O'n safbwynt ni, y ffordd orau i ddiogelu buddiannau economaidd ein porthladdoedd a'n heconomi yn gyffredinol yw drwy aros yn rhan o undeb tollau, ac os digwydd hynny ar draul gallu datblygu trafodaethau penodol am borthladdoedd rhydd, credaf fod hwnnw'n bris gwerth ei dalu yn y darlun cyffredinol o'r effaith lawn ar ein heconomi.

Yn syml iawn, mae porthladd Caergybi yn fy etholaeth i yn un o'r prif borthladdoedd rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd. Ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi y byddai Brexit o unrhyw fath yn siŵr o osod heriau difrifol i'r porthladd ond y byddai gadael heb gytundeb yn sicr o arwain at golli masnach drwy'r porthladd hwnnw? 

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fues i lan yng Nghaergybi yn ddiweddar yn trafod y cwestiwn hyn gyda'r bobl yn y porthladd. Maen nhw'n gwneud cynlluniau, wrth gwrs, ar gyfer pob mathau o Brexit yn y porthladd yng Nghaergybi. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn paratoi, fel bydd yr Aelod yn gwybod, cynlluniau wrth gefn ar gyfer yr impact ar drafnidiaeth o adael mewn unrhyw ffordd, a gadael heb gytundeb yn benodol. Allwn ni ddim dibynnu ar gynlluniau isadeiledd yn Dublin a Rosslare o ran amseru hynny i sicrhau bod trafnidiaeth yn gallu symud yn rhwydd ar ôl i ni adael, os gwnawn ni adael. Felly, mae wedi bod yn bwysig i ni wneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer hynny, ond wrth wraidd cwestiwn yr Aelod mae'r syniad a fyddai unrhyw Brexit yn well nag aros fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, a'r ateb i'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, yw 'na'. 

Gwnsler Cyffredinol, yn ôl y newyddion ddoe, mae Comisiwn yr UE yn gweithio ar gynllun i ddefnyddio datrysiadau TG i helpu nwyddau i groesi'r ffin Wyddelig ar ôl Brexit. Rhoddodd Llywodraeth Ffrainc gynlluniau tebyg ar waith yn Calais. Yn wir, cyn belled yn ôl â 2016, lluniodd Senedd yr UE ei hun adroddiad a ddangosai sut y gellir defnyddio ffin glyfar rhwng yr UE a'r DU. Pa asesiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud o atebion TG, ac a allech gyhoeddi unrhyw baratoadau o'r fath, os oes rhai gennym?

14:55

Ein barn ni yw bod y math o atebion TG y mae'r Aelod yn eu disgrifio yn ei chwestiwn yn atebion hirdymor i hyn yn y bôn. Wrth gwrs, gwyddom fod yna weithgareddau TG ar y gweill i geisio lleddfu rhai o ganlyniadau Brexit o unrhyw fath. Fel y bydd yn gwybod, mae'r rheini'n faterion sy'n amlwg wedi'u hysgogi'n bennaf gan Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, sy'n fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU. Ond rwy'n credu bod y posibilrwydd fod hwnnw'n ateb i'r lefel o aflonyddwch a allai'n hawdd gael ei achosi gan Brexit o unrhyw fath, ac yn arbennig Brexit 'dim bargen', yn ffantasi braidd.

Cronfeydd Strwythurol yr UE

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gefnogaeth cronfeydd strwythurol yr UE i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yng Nghymru? OAQ54014

Mae rhaglenni cronfeydd strwythurol cyfredol yr UE yn buddsoddi £206 miliwn i gefnogi cyfanswm o 159,000 o brentisiaethau ledled Cymru rhwng 2015 a 2023. Mae hwn yn rhan o'r buddsoddiad cyffredinol o £861 miliwn y mae rhaglenni'r UE yn ei wneud mewn sgiliau a chyflogadwyedd yng Nghymru.

Yn ystod y ddadl ddoe ar y gronfa ffyniant gyffredinol, dywedodd Nick Ramsay fod yna gwestiynau heb eu hateb am ddyfodol y gronfa ffyniant gyffredinol a'm harweiniodd unwaith eto i holi pam ar y ddaear y mae'n Dori. Mae'n sicr yn rhy neis a deallus i'r math hwnnw o weithgaredd. [Chwerthin.] Rwy'n credu bod dyfodol—[Torri ar draws.] Wel, gadewch i mi ofyn y cwestiwn. Mae dyfodol y cronfeydd strwythurol yn effeithio'n enfawr ar sgiliau a datblygiad a hyfforddiant yn fy etholaeth. Yn nhref Caerffili, mae ACT Training wedi elwa ar gymorth cronfa gymdeithasol Ewrop, sy'n cyflwyno prentisiaethau'r Llywodraeth, hyfforddeiaeth a rhaglenni Twf Swyddi Cymru. Yn Ystrad Mynach, elwodd Educ8 o'r un peth ac wrth gwrs, mae Coleg y Cymoedd wedi cynnwys rhaglenni a ariennir gan gronfa gymdeithasol Ewrop yn eu gwaith hefyd. Felly, a fyddech yn cytuno â mi—ac efallai â Nick Ramsay—fod angen cyfeirio'r gronfa ffyniant gyffredinol yn glir tuag at y rhaglenni hyn a bod angen i Lywodraeth y DU wneud ymrwymiad mewn perthynas â'r gronfa honno a bod angen ei chyfeirio hefyd tuag at y mathau hynny o raglenni addysgol yn arbennig?

Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol y credaf ei fod yn dangos, onid yw, mewn ffordd real iawn, yn ei etholaeth ef, yr effaith lesol y mae rhaglenni'r UE wedi'i chael ym mywydau etholwyr unigol ac weithiau, fod y dadleuon a gawn am raglenni'r UE yn gyffredinol eu natur, ac mae ef wedi dod â hynny i lawr i'r cysylltiad â chymunedau ac etholaethau unigol. Buaswn yn bendant yn adleisio'r teimlad yn ei gwestiwn ei bod yn gwbl hanfodol i Lywodraeth y DU roi'r sicrwydd pendant hwnnw yn awr a fydd yn ein galluogi i barhau i ddefnyddio'r cronfeydd hynny yma yng Nghymru, i'w defnyddio'n wahanol efallai—eu halinio'n well â'n blaenoriaethau ni yma—ac i sicrhau ar lawr gwlad y mathau o fanteision y mae'r cronfeydd hynny wedi'u darparu dros lawer iawn o flynyddoedd. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU yn awr i'n rhoi ni yng Nghymru yn y sefyllfa honno. Dylai'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, fel y maent wedi arfer cael eu gwneud, a dylai'r cronfeydd fod ar gael yn llawn fel y maent ar gael ar hyn o bryd. Fel y gwnaeth y Cynulliad yn glir wrth basio ei gynnig ddoe, rydym yn bryderus iawn fod Llywodraeth y DU yn ymdrin â mater mor hanfodol bwysig i Gymru mewn modd sydd, yn ôl pob golwg, mor amharchus o'r ffin datganoli. Gwn y bydd yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ystyried hynny ac i newid trywydd, efallai, o dan Brif Weinidog newydd, er mwyn gwireddu'r ymrwymiadau na fyddwn yn cael yr un geiniog yn llai ac na fydd pŵer yn cael ei gipio oddi wrthym.

Bydd y Gweinidog yn gwybod bod y mynegai cyfle ieuenctid yn dangos yn gyson mai pobl ifanc sy'n cael eu magu mewn ardaloedd difreintiedig sy'n cael y lleiaf o gyfleoedd. Mae'r mynegai'n graddio pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ôl lefelau cyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys amrywiaeth o fesurau o berfformiad TGAU i gymryd rhan mewn addysg uwch a phrentisiaethau. Gwyddom hefyd mai un o'r ysgogiadau economaidd gorau sydd gan y Llywodraeth yw gwella lefel hyfforddiant sgiliau ac argaeledd pethau fel prentisiaethau. Mae hyn wedi bod yn bolisi cyson gan y DU a Llywodraeth Cymru, a bod yn deg. Mewn unrhyw strwythur newydd, beth bynnag y byddwn yn ei alw, cronfa ffyniant y DU neu beth bynnag, mae'n mynd i fod yn bwysig fod rhannau o'r Deyrnas Unedig sydd angen cymorth penodol yn cael hwnnw uwchlaw a thu hwnt i'w grant bloc presennol. Nawr, byddai hynny'n efelychu'n briodol yr hyn sy'n digwydd yn yr UE ar hyn o bryd, lle mae rhai ardaloedd yn cael lefelau enfawr o gymorth, ac mae hwnnw yn y bôn yn cael ei drosglwyddo o rannau cyfoethocach o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna rydym ei eisiau, ac ni allwn ei gael oni bai ei fod wedi'i lunio ar sail y DU, ac wrth gwrs, mae'n rhaid iddo gael ei lywio gan y blaenoriaethau ar lefel sybsidiaredd lle mae'n weithredol, a mater i Lywodraeth Cymru yn atebol i'r lle hwn fyddai'r lefel allweddol yng Nghymru. Ond mae'n bartneriaeth, ac mae angen inni ddechrau estyn allan a chynnig atebion i'n cymheiriaid yn San Steffan yn ogystal ynglŷn â'r ffordd rydym am weld hyn yn cael ei lunio. Ni ddylai fod yn gêm swm sero, lle mae un ochr yn ennill dros y llall.

15:00

Dechreuodd yr Aelod gyfeirio at y manteision y mae pobl ifanc wedi'u cael o ganlyniad i rywfaint o'r cymorth hwn, ac mae'n llygad ei le i wneud hynny. Mae nifer o'r rhaglenni a ariennir gan yr UE wedi cael eu targedu'n benodol ar gyfer helpu pobl ifanc i gael gwaith, a gwella eu sgiliau, ac felly nid yw'n syndod fod pobl iau yn gallu gweld rhai o'r manteision a ddaw yn sgil parhau i gyfranogi yn rhaglenni'r UE yn gliriach na rhannau eraill o'r gymdeithas o bosibl.

Mae'n sôn am ddarparu atebion i'r cwestiwn ynglŷn â sut y gellir llunio'r gronfa ffyniant gyffredin. Hoffwn pe bai cyfle wedi bod i wneud hynny. Y gwir amdani yw, pan siaradais ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cynigiais gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn benodol i'r gwaith o lunio ymgynghoriad a fyddai'n gweithio i Gymru ac a fyddai'n adlewyrchu'r egwyddorion y teimlwn eu bod yn cael eu hadleisio ym mhob rhan o gymdeithas, economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac ni fanteisiwyd ar hynny. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni yma, fel Llywodraeth Cymru, yn gallu cynllunio system sy'n rhoi'r gefnogaeth orau i'r bobl ifanc y mae'n cyfeirio atynt yn ei gwestiwn ar draws Cymru, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig. A hyd nes y gwelwn yr ymrwymiadau hynny'n cael eu gwireddu gan Lywodraeth y DU, ni fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.

Ail Refferendwm

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ar y cwestiwn i'w ofyn pe bai ail refferendwm yn cael ei chynnal ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd? OAQ54003

Rwyf wedi pwyso ar Weinidogion Llywodraeth y DU i baratoi ar gyfer ail refferendwm mewn cyfarfodydd gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf wedi trafod gyda hwy na rhanddeiliaid eraill hyd yma beth fyddai'r cwestiwn neu'r cwestiynau.

A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw? Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae wedi symud o safbwynt o ddweud ei fod yn parchu canlyniad y refferendwm i wneud galwad uchel ac eglur yn awr am ei wrthdroi. A gaf fi awgrymu iddo, felly, mai'r math o gwestiwn yr hoffai ei weld ar y papur pleidleisio yw, 'A ydych am barhau yn yr UE neu a ydych am aros yn yr UE?', ac y byddai hyn yn gwbl gyson â barn Mr Juncker, a fynegwyd yn 2015, nad oes modd cael dewis democrataidd yn erbyn y cytuniadau Ewropeaidd, a'r hyn a ddywedodd ar adeg y refferendwm yn Ffrainc ar gytuniad Lisbon sef, 'Os yw'n "ie", awn ymlaen, os yw'n "na", fe fyddwn yn parhau'—mae'r UE yn ei hanfod yn gorff gwrth-ddemocrataidd nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb yn safbwyntiau'r bobl, ac mae'n warth fod y Blaid Lafur, sy'n hoffi meddwl amdani ei hun fel plaid y bobl, yn cyd-fynd â'r elît Ewropeaidd pan fo'r mwyafrif o'i haelodau ei hun wedi pleidleisio yn ei erbyn?

Wel, mae'n ofid i mi fod yr Aelod yn dewis mabwysiadu agwedd mor arwynebol at gwestiwn mor bwysig. Mae'n gwbl wir nad oes mandad ar gyfer y math o Brexit 'dim bargen' y mae ef yn ei gefnogi, a dyna rydym yn carlamu tuag ato yn awr. Yn y sefyllfa honno, fel y dywedais wrth Darren Millar yn gynharach, mae'n gwbl anghyfrifol inni beidio â rhoi'r cwestiwn yn ôl i'r bobl. Bydd yn gwybod yn iawn fod y safbwynt rwyf wedi'i argymell yma ar ran y Llywodraeth yn ymgais i weld a allem ddod o hyd i ffurf o Brexit a adlewyrchai'r egwyddorion y cytunwyd arnynt gyda Phlaid Cymru yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Oherwydd anhyblygrwydd y Blaid Geidwadol yn y Senedd, mae hynny wedi bod yn amhosibl, ac mae'n amlwg fod y wlad wedi'i rhannu ynglŷn â sut y datryswn y mater hwn, ac yn yr amgylchiadau hynny, refferendwm yw'r ffordd o ddatrys y cwestiwn hwnnw.

Mesurau Paratoadol Ychwanegol o ran Dim Bargen

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r mesurau paratoadol ychwanegol o ran dim bargen, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn 31 Hydref 2019? OAQ53998

Gwnaf. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i baratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen'. Cynhaliwyd adolygiad o barodrwydd y sector yn ddiweddar, a darparodd gryn sicrwydd ynglŷn â pharatoadau. Bydd gwaith yn parhau i sicrhau bod mesurau paratoadol mor gadarn â phosibl.

15:05

Diolch. Yn ôl y ddogfen 'Managing Brexit/EU withdrawal in health and social care in Wales' a gynhyrchwyd gan Gydffederasiwn y GIG ar gyfer pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru, mae'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau wedi bod yn gweithio i sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith i reoli unrhyw senario iechyd cyhoeddus. Fodd bynnag, nodir bod y systemau presennol wedi cael eu profi a'u bod wedi arwain at y canfyddiad eu bod yn ddigon cadarn i wrthsefyll aflonyddwch sy'n gysylltiedig â 'dim bargen'. Mae hwn yn newyddion cadarnhaol, wrth gwrs. Fodd bynnag, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf am eich gwaith gyda'r sector fferyllol a Llywodraeth y DU er mwyn helpu i sicrhau nad oes prinder meddyginiaethau os ydym yn gadael heb gytundeb ym mis Hydref.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i drafod effaith Brexit yn benodol. Mae'r adolygiad a gynhaliwyd gennym yn argymell nifer fach o gamau gweithredu rydym yn bwrw ymlaen â hwy, gan gynnwys mewnbwn clinigol i benderfyniadau ynghylch rhai o'r camau a fyddai'n deillio o senario Brexit, gan wella cadernid peth o'r gwaith caffael sydd gennym mewn perthynas â stoc a brynir fel arfer gan fyrddau iechyd, heblaw'r hyn a ddelir yn ganolog gan gydwasanaethau GIG Cymru, gan gynnal, neu wella, ymwybyddiaeth rhanddeiliaid amrywiol yn y sector iechyd o'r prosesau rydym eisoes wedi'u sefydlu i reoli amgylchiadau lle gallai cyflenwadau penodol ddod o dan bwysau.

Fe fydd yn gwybod ein bod wedi prynu capasiti warws yn ne Cymru i gynnal stociau o gyflenwadau meddygol, ac mae hynny'n parhau, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gadw'r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd mewn perthynas â'r byffer ar gyfer cyflenwadau meddygol. Ein cyngor i bobl yng Nghymru ac i fyrddau iechyd ac i ymarferwyr yw na ddylent fod yn pentyrru ac na ddylent fod yn gofyn am, nac yn rhoi presgripsiynau hwy nag y byddai eu hangen fel arall.

Pleidlais y Bobl

7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar bolisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â phleidlais y bobl? OAQ54020

Diolch am y cwestiwn. Yn fwyaf diweddar, fe roddais i ddiweddariad yn fy ymateb i ddadl Plaid Cymru yr wythnos diwethaf. Trwy gefnogi’r cynnig ar refferendwm cadarnhau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, fe wnaethon ni fynegi ein safbwynt polisi yn eglur.

Rydyn ni'r ochr yma, wrth gwrs, yn croesawu’r safiad newydd yma gan eich Llywodraeth chi, ond yn ogystal â geiriau, beth rydyn ni ei angen rŵan ydy gweithredu. A wnaiff eich Llywodraeth chi, felly, gydweithio efo fy mhlaid i er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gynnal pleidlais y bobl ac i weithio efo ni i gynllunio ynglŷn â sut i wneud hynny? Pan wnes i ofyn hyn ichi cyn etholiad Ewrop, mi ges i ymateb ychydig yn llugoer, os dwi’n cofio’n iawn. Gobeithio y gallwch chi fod yn fwy cadarnhaol heddiw.

Rwy'n cofio, yn fy ymateb y tro’r diwethaf, wnes i ddweud fy mod i'n hapus iawn i gydweithio ar y mater hwn, ac mae hynny’n dal yn wir, a buaswn i’n hapus cael trafodaethau ynglŷn â sut allwn ni orau wneud hynny. O’n safbwynt ni fel plaid, rwy'n teithio i Lundain yn hwyrach yr wythnos yma i drafod y cwestiwn hwn gyda’r Blaid Lafur yn San Steffan, i ddwyn perswâd arnyn nhw ynglŷn â sut allwn ni gymryd camau penodol i ddwyn y cwestiwn yma o refferendwm o flaen y Senedd yn San Steffan.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Pwynt o drefn—David Rees.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gofyn y pwynt o drefn hwn oherwydd, pan oedd y Gweinidog Brexit yn ateb cwestiwn i arweinydd ei phlaid, gweiddodd yr Aelod o Blaid Brexit dros ogledd Cymru o'i sedd, yn gwbl glir, oherwydd rwyf ar yr ochr arall i'r Siambr, a gallwn glywed, 'Celwyddgi'. Nawr, mae hwnnw'n ymddygiad neu'n iaith annerbyniol gan unrhyw Aelod yn y Siambr hon. Er y gall fod gwahaniaeth barn, mae galw rhywun yn gelwyddgi yn ymddygiad hollol wahanol ac annerbyniol. Felly, gofynnaf ichi ystyried y safbwynt hwn a gofyn i'r datganiad hwnnw gael ei dynnu'n ôl ac ymddiheuriad i'r Aelod.

Diolch ichi am y pwynt o drefn ac am roi rhybudd ymlaen llaw i mi yn ei gylch, a chaniatáu i mi fyfyrio ar y cyhuddiad a wnaethpwyd gan Aelod o Blaid Brexit heddiw, ond hefyd, cyhuddiad tebyg yr wythnos diwethaf yn defnyddio'r un term gan Aelod o Blaid Cymru yn erbyn Aelod o Blaid Brexit. Yn gyffredinol, mae gormod ohonoch yn rhy awyddus i fod yn amharchus wrth Aelodau eraill yn y lle hwn, ac nid wyf eisiau treulio fy holl amser yn plismona'r defnydd o iaith gan Aelodau yn y lle hwn. Rwyf am wrando ar ansawdd eich dadl. Ond yn amlwg, nid yw i un Aelod gyhuddo'r llall o fod yn 'gelwyddgi' yn dderbyniol a bydd angen i hynny ddod i ben. O ystyried y digwyddiad yr wythnos diwethaf a'r digwyddiad yr wythnos hon, rwy'n ystyried hon yn gêm gyfartal 1-1. Ac rwy'n mynd i ddweud mai dyna ddiwedd y gêm, ac ni fydd cyhuddiadau o fod yn 'gelwyddgi' ac iaith amharchus yn cael eu goddef rhagor. Rwyf am i bob un ohonoch ystyried hynny ym mhob un o'ch cyfraniadau, ar eich eistedd a phan fyddwch ar eich traed. A diolch i David Rees am roi'r cyfle imi wneud hynny'n glir heddiw.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Symudwn ymlaen yn awr at y cwestiynau amserol—[Torri ar draws.] Nid oes arnaf angen unrhyw gefnogaeth gan un o'r Aelodau yn y cefn, ac mae'n gwybod pwy ydyw. Y cwestiynau amserol—a daw'r cwestiwn amserol cyntaf gan Mick Antoniw.

Trwydded Deledu am ddim

3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod nifer o ddinasyddion yng Nghymru yn debygol o golli eu hawl i gael trwydded deledu am ddim? 321

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Fe gytunwyd ar y setliad ariannol ar gyfer 2015 rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r BBC oedd yn cynnwys terfynu’r cyllid ar gyfer y consesiwn i bobl dros 75 oed, heb unrhyw ymgynghori na chraffu gan Senedd y Deyrnas Unedig na’r Senedd hon, na’r gweinyddiaethau datganoledig. Mi fydd y penderfyniad yn effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig yn ein cymdeithas.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. I lawer o bobl hŷn, mae trwyddedau teledu am ddim yn gwbl hanfodol. Yn aml mae teledu'n cynnig cwmnïaeth a dihangfa rhag unigrwydd, mae'n darparu adloniant a mynediad at wybodaeth, ac i lawer, dyma'u ffenestr ar y byd. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn gwybod hyn, a dyna pam y maent wedi taflu'r baich ar y BBC i wneud eu gwaith budr drostynt. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod hon yn ffordd gywilyddus, grintachlyd a ffiaidd o drin ein dinasyddion hŷn—y genhedlaeth sydd wedi rhoi cymaint o wasanaeth i'n gwlad? Ac a yw'n ymuno â mi i alw ar holl ymgeiswyr yn ras arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd i addo rhoi'r cyllid angenrheidiol i'r BBC fel y gall pawb dros 75 oed barhau i gael y budd hwn?

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i yn cytuno â sylwadau'r Aelod, a bod y pwysau sydd wedi cael ei roi ar y BBC a'r sefyllfa mae'r BBC wedi cael ei gosod ynddi yn gwbl annerbyniol. Yn wir, mi fyddwn i'n mynd yn bellach na hyn: dwi'n meddwl ei fod o'n amarch ar y berthynas sefydlog sydd wedi bod yn y Deyrnas Unedig rhwng cyrff darlledu cyhoeddus megis y BBC a Llywodraethau o bob plaid.

Dyw darlledu ddim wedi'i ddatganoli, ac mae'r BBC yn gweithredu'n annibynnol ar y Llywodraeth. Nid lle Llywodraeth Cymru, felly, yw dweud wrth y BBC am barhau, diwygio neu derfynu’r consesiwn, ond dwi'n meddwl ei bod yn hanfodol inni ddweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig nad ydyn ni'n credu bod y modd y maen nhw wedi gweithredu yn gyfiawn o gwbl. A dwi'n cytuno, yn arbennig, ei bod hi'n bwysig bod pobl, ble bynnag maen nhw'n byw yn y Deyrnas Unedig, yn gallu derbyn, o ran hawliau democrataidd, wybodaeth am faterion y dydd a newyddion lleol, ac mae hyn yn arbennig o bwysig, wrth gwrs, i ni yma yng Nghymru.

Weinidog, rwy'n meddwl bod eich cyd-Arglwydd, yr Arglwydd Hall, sy'n gadeirydd y BBC—buaswn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod iddo beth y mae pobl Cymru, yn enwedig y rhai dros 75 oed—. Rwy'n gwybod ei fod yn endid cyfreithiol hollol wahanol, y BBC, ond mae'r bobl yn fy rhanbarth i sydd dros 75 oed—maent yn byw ar eu pen eu hunain, mae gan rai ohonynt gyflyrau meddygol, a heb berthnasau'n byw gyda hwy, ac maent yn byw yn yr ardaloedd sy'n sicr angen help, ac roedd hwn yn help bach—[Torri ar draws.] A wnewch chi wrando, os gwelwch yn dda? Mae hwn yn help bach iddynt tra maent dros 75 oed, sy'n oed pan fydd pobl ei angen. Mae rhai yn gyn-filwyr rhyfel; mae rhai o'r bobl wedi gwasanaethu, wedi gweithio ac wedi helpu'r wlad hon yn aruthrol, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig ond ym mhob cwr o'r byd. Felly, mae angen inni eu helpu. Mae gan rai gyflwr meddygol. Felly, Weinidog—[Torri ar draws.] Na, na. Weinidog—rwy'n siarad â'r Gweinidog oherwydd mae'n rhaid iddo siarad â'i gyd-Arglwydd, yr Arglwydd Hall, sy'n gadeirydd y BBC. Rhowch wybod i'r gŵr bonheddig hwn beth yw'r—[Torri ar draws.]

Mewn gwirionedd, cafodd hyn ei roi fel cymhelliad gan y Blaid Geidwadol. Pam nad ydych chi'n deall? Ni chafodd ei roi gan Lafur; y blaid Dorïaidd a roddodd y cyfleuster hwn. [Torri ar draws.] Gwrandewch.

Felly, Weinidog, hoffwn siarad—[Torri ar draws.] Gadewch imi siarad, os gwelwch yn dda. Lywydd, mae rhywbeth rhyfedd iawn yn y Siambr hon. Hoffwn roi neges ein bod i gyd yn unedig ar y safbwynt hwn, ar hyn o bryd rydym i gyd gyda'n gilydd, ac nid ydym yn siarad—. Nid wyf yn dweud rhywbeth gwahanol i'r hyn y mae'r BBC wedi'i ddweud. Rwy'n ceisio'i ddatrys. Hoffem helpu pobl dros 75 oed i gael yr un cyfleuster i barhau am byth. Diolch.

15:15

Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi esbonio'r sefyllfa yn glir ar y dechrau. Does gen i na neb arall yma y locws i fynegi barn ynglŷn â beth ddylai'r BBC ei wneud, ond beth sydd wedi digwydd yn y fan hyn, fel y ceisiais i esbonio, ydy bod y setliad ariannol wedi cael ei gytuno rhwng Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig a'r BBC. Nid penderfyniad a oedd hwnnw sydd wedi bod â chyfle o gwbl i neb ohonom ni yn y fan hyn nag unrhyw Dŷ o Senedd y Deyrnas Unedig ychwaith i fynegi barn arno fo.

Ac felly, fy mhwyslais i fyddai dweud hyn: dylem ni baratoi yn ofalus achos cadarn i gefnogi diwygio'r drwydded a cheisio dod â'r drwydded yn ôl i'w gwerth gwirioneddol fel ag yr oedd hi pan oedd y BBC yn derbyn cyllid digonol am y gwasanaethau, oherwydd y sefyllfa amhosib mae'r BBC wedi cael eu rhoi ynddi hi, fel y gwyddoch chi oddi wrth y datganiadau a wnaed gan y BBC ar y pryd, a dwi'n cyfeirio at y nodyn a dderbyniwyd gan BBC Cymru ar 10 Mehefin, sef bod y BBC wedi cael eu gosod mewn sefyllfa lle'r oeddyn nhw'n bygwth torri nôl ar ystod eang o wasanaethau—BBC Two, BBC Four, sianel newyddion y BBC, sianel y BBC yn yr Alban, Radio 5 Live, a 5 Live Sport Extra, sef y ddwy donfedd radio dwi'n eu mwynhau mwyaf a nifer o orsafoedd radio eraill. Wel, nawr, mae honno'n sefyllfa amhosib lle mae'r BBC ddim yn cael eu cyllido yn ddigonol i ddarparu ystod y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Ond penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r BBC wedyn, dwi'n cymryd, wedi gorfod cytuno gan nad oedden nhw ddim yn gallu cael unrhyw gyllid ychwanegol. 

Yn bellach i'r hyn sydd newydd gael ei ddweud, roedd penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i drosglwyddo'r baich o ddarparu trwyddedau am ddim i bobl dros 75 yn gwbl sinigaidd. Canlyniad hyn oedd rhoi'r cyfrifoldeb ar y BBC i weithredu ymrwymiad a wnaeth y Torïaid yn eu maniffesto eu hunain. Roedd y BBC wedyn mewn sefyllfa anodd iawn o orfod dewis torri nôl ar y trwyddedau am ddim, neu dorri swyddi a gwasanaethau.

Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â phawb sydd yn gwrthwynebu'r penderfyniad, yn enwedig y bobl hynny a fydd yn cael eu heffeithio gan weithredoedd afresymol y Llywodraeth Dorïaidd. Fy mhryder i yn awr yw y bydd pensiynwyr sydd ddim yn gefnog yn canfod eu hunain yn ysgwyddo baich ychwanegol gwbl annheg. Y rheswm am hyn yw mai'r rheini sy'n derbyn credyd pensiwn fydd yn parhau i dderbyn y drwydded am ddim, a dim ond 60 y cant o'r rheini sydd yn gymwys i dderbyn credyd pensiwn sydd yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Golyga hyn fod 40 y cant o'r rheini sy'n gymwys am gredyd pensiwn ond ddim am ei dderbyn yn wynebu gorfod talu £154 y flwyddyn i dderbyn gwasanaeth angenrheidiol o ran cadw blaidd unigrwydd i ffwrdd o'r drws.

Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa gamau all ei Lywodraeth ef eu cymryd, efallai'n cydweithio â'r BBC, felly, er mwyn cynyddu'r gyfradd o bobl sy'n gymwys ar gyfer credyd pensiwn. Rwy'n derbyn nad yw hwn yn fater datganoledig, ond a oes mesurau y gallwch chi eu cymryd o ran cynnal ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn, er enghraifft, fel mae'r BBC wedi sôn efallai byddan nhw yn ei wneud, er mwyn atal pensiynwyr rhag cael eu taro gan faich ariannol annheg? Ac a fyddwch chi'n rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i wneud tro pedol a darparu'r sybsidi hwn eu hunain unwaith yn rhagor?

15:20

Dwi'n cytuno â'r ysbryd tu ôl i'r sylwadau yna, ac yn eu croesawu nhw, ond a siarad yn hollol blaen, dwi ddim yn credu mai fy swydd i fel un o Weinidogion Cymru ydy lobio San Steffan. Fy swydd i ydy dangos eu rhagrith nhw, a dweud bod eu hymddygiad nhw yn gwbl annerbyniol ac yn anghyfiawn i bobl hŷn yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae'r ffordd y maen nhw wedi derbyn a defnyddio—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Dwi ddim yn credu bod modd i chi—[Torri ar draws.] Thank you.

Ac felly, rydw i o'r farn bod y modd y maen nhw wedi defnyddio'r drefn nawdd cymdeithasol, sef credyd cyffredinol, fel adfer math o brawf moddion—rhywbeth rydym ni wedi'i feirniadu yn y lle hwn yn y gorffennol—fel ffordd o brofi bod henoed yn haeddu gallu cael y darlledu heb eu bod nhw'n gorfod talu am drwydded yn ychwanegol, ac yna, wrth wneud hynny, maen nhw wedi tanseilio'r rhyddid oedd i'w gael ar gyfer darlledu cyffredinol ac wedi pwysleisio bod yna ryw berthynas newydd wedi cael ei sefydlu rhwng nawdd cymdeithasol a haeddu gwasanaethau darlledu. Dwi'n meddwl bod hwnnw, hefyd, yn fater y mae angen i ni ei ddatgelu a'i wrthwynebu yn glir.

A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod y penderfyniad hwn yn dor-addewid ar ran y BBC? Ar eu gwefan eu hun ar 6 Gorffennaf 2015, wrth gyfeirio at gytundeb a wnaeth y BBC gyda'r Llywodraeth yn y cyfnod cyn adnewyddu siarter y BBC yn 2017, dywedai y byddai'r BBC,

yn talu'r gost o ddarparu trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed,

yn gyfnewid am godi ffi'r drwydded yn unol â chwyddiant, ac mae wedi gwneud hynny. Felly, penderfyniad y BBC sydd i'w feirniadu yn hyn o beth.

A fyddai'n cytuno â mi hefyd fod ariannu sefydliad fel y BBC drwy gyfrwng treth y pen ar berchnogion setiau teledu yn ffordd hurt o fynd ati i wneud pethau yn yr unfed ganrif ar hugain? Efallai ei bod hi'n ffordd iawn o'i wneud ar yr adeg y sefydlwyd y BBC, pan oedd yn unig sianel, neu'n wir hyd at y 1950au pan oedd yn un o ddwy yn unig. Ond gan fod cymaint o fathau o adloniant ar gael erbyn hyn, mae'n ffordd hurt i bobl ariannu sefydliad nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb yn ei gwylio. Yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb mewn cyfrannu tuag at becyn cyflog Gary Lineker o £1.8 miliwn y flwyddyn gan y BBC am siarad am beli yn hytrach na'u cicio.

Dwi ddim yn siŵr a ydw i i fod i gymryd y cwestiynau yna fel cyfraniad difrifol i'r mater hwn, oherwydd roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi'i gwneud yn hollol glir ar y dechrau mai trafodaeth oedd hon rhwng y BBC yn gorfforaethol, bwrdd y BBC yn ganolog, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac felly nad oedd gennym ni, ac yn sicr nad oedd gen i fel Gweinidog â throsolwg dros ddarlledu, unrhyw gyfle i fynegi barn ynglŷn â hyn. Dyna pam rydym ni wedi'i gwneud hi'n gwbl amlwg, yn y sylwadau rydym ni wedi eu gwneud ar yr ymgynghoriad a fu, ein gwrthwynebiad i'r hyn sydd wedi ei osod gerbron.

Ac yna, mae'n rhaid i mi bwysleisio, cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn, mai'r hyn rydym ni'n galw amdano fo ydy ein bod ni'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r BBC i wneud ymdrech i gyflwyno mecanwaith di-dor cyn gynted ag y bo modd, yn hytrach na bod yna opsiwn ar gyfer prawf moddion yn cael ei roi ar waith, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

15:25

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Y cwestiwn amserol nesaf y prynhawn yw cwestiwn gan Andrew R.T. Davies, i'w ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Andrew R.T. Davies.

Toll Teithwyr Awyr

2. Yng ngoleuni adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig, sy'n nodi y dylai toll teithwyr awyr gael ei datganoli'n llawn i Gymru, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diddymu neu ostwng y gyfradd os trosglwyddir y pŵer i Gymru? 322

Gwnaf, wrth gwrs. Ein bwriad fyddai defnyddio'r doll teithwyr awyr i sicrhau'r twf gorau posibl i'r maes awyr ac i Gymru, gan weithio gyda'r dulliau eraill sydd ar gael i ni. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu rhoi ystyriaeth ddifrifol i leihau cyfraddau'r doll teithwyr awyr. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig i'r doll teithwyr awyr yn cael eu hasesu o ran eu heffaith ac wrth gwrs yn amodol ar ymgynghoriad llawn â busnesau, ac yn bwysig, â'r cyhoedd.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n poeni ychydig am eich cyhoeddiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf pan ddywedoch y gallai'r doll teithwyr awyr godi, os caiff ei throsglwyddo, yng ngoleuni sylwadau'r cyn-Brif Weinidog, yn enwedig ar deithiau hir, a dywedodd,

rydym yn dechrau o'r safbwynt o geisio cael gwared â hi, yn sicr i beidio â'i chodi.

Rydych chi'ch hun wedi dweud ar goedd pe câi'r doll teithwyr awyr ei throsglwyddo a'i gostwng, y gallai 0.5 miliwn o deithwyr ychwanegol ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd. Nid wyf yn ymwybodol o dreth defnyddwyr sydd, o'i chodi, yn cymell pobl i'w defnyddio mewn gwirionedd. Felly, a allwch egluro eich sylwadau, a rhai o sylwadau'r Ysgrifennydd cyllid yn enwedig, o ystyried rhai o'r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yn hytrach na gostwng y doll teithwyr awyr pe bai'n cael ei throsglwyddo, ei bod yn ddigon posibl y byddwch chi fel Llywodraeth yn ystyried ei chodi er mwyn cyrraedd eich nodau amgylcheddol?

Na, nid wyf yn credu fy mod wedi awgrymu y gellid ei chodi. Credaf i mi ddweud y byddai'n rhaid gosod unrhyw ystyriaeth ynglŷn ag amrywio'r doll teithwyr awyr yn erbyn yr effaith ar yr amgylchedd, a byddai'n rhaid i ni amrywio'r doll teithwyr awyr yn unol â'n rhwymedigaethau a'n gofynion o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym bob amser wedi dweud yn glir y byddem yn defnyddio'r doll teithwyr awyr i wneud Maes Awyr Caerdydd a Chymru yn fwy cystadleuol.

Nawr, yn seiliedig ar dechnoleg sy'n datblygu a'r ffordd y mae'r diwydiant awyrofod yn mynd a'r systemau tanwydd newydd sy'n cael eu mabwysiadu gan gwmnïau awyrennau, rwy'n credu y gallem gynyddu nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r doll teithwyr awyr a'i gostwng neu ei diddymu o bosibl mewn ffordd a fyddai'n sicrhau budd carbon net i'r amgylchedd. Credaf y byddai'n rhaid profi hynny wrth gwrs yn erbyn asesiad trylwyr o'r effaith amgylcheddol, ond nid wyf wedi dweud mewn unrhyw ffordd y buaswn—neu y byddai'r Llywodraeth—yn codi'r doll teithwyr awyr. I'r gwrthwyneb. Ein safbwynt o hyd yw y byddai'n well gennym ddileu neu ostwng y doll teithwyr awyr.

Gall eistedd ar y meinciau hyn fod yn rhwystredig braidd. Rwy'n croesawu'n fawr yr adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Rydym yn falch fod y ddadl a bod barn gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol eraill yn dal i fyny â ni, boed hynny ar ddatganoli plismona, neu'r dreth bop, neu ar y doll teithwyr awyr yn awr. Gall fod yn rhwystredig aros i eraill gefnogi ein syniadau, ond rydym yno.

Roeddwn yn edrych yn ôl ar bleidlais yn 2014, pan oedd Jonathan Edwards yn siarad mewn dadl ar y Bil Cyllid. Pleidleisiodd pob Aelod Seneddol Ceidwadol yn erbyn datganoli'r doll teithwyr awyr. Nid oedd yr un o'r Aelodau Llafur yno ar gyfer honno. Ond dyma'r sefyllfa rydym ynddi heddiw. Fy nghwestiwn i i'r Gweinidog yn syml iawn yw sut y bydd yn defnyddio'r adroddiad hwn yn awr fel ysgogiad ychwanegol i geisio cael Llywodraeth y DU i newid ei meddwl.

Wel, yn gyntaf oll, credaf fod angen i Lywodraeth y DU ymateb yn gyflym i'r adroddiad hwn. Fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor ei hun, nid yw bob amser yn ffafrio datganoli pwerau, ond mae'n cydnabod pa mor bwysig y gallai hyn fod i helpu Maes Awyr Caerdydd a Chymru i ddod yn llawer mwy cystadleuol. Wrth gwrs, mae yna ddau gwestiwn. O ran a ddylid datganoli'r doll, a bod yn deg â gwleidyddion ar bob ochr, credaf fod llawer o wleidyddion wedi arddel barn gyson a hirsefydlog ynglŷn ag a ddylid ei datganoli. Mae rhai wedi'i wrthwynebu. Mae rhai wedi bod o blaid gwneud hynny. Ond credaf fod pob Aelod wedi arddel eu safbwyntiau ers cryn dipyn o amser ac yn gyffredinol, Ddirprwy Lywydd, mae'r Aelodau wedi bod yn gyson yn eu hymagwedd.

Yr ail gwestiwn yw beth i'w wneud â'r doll. Rydym bob amser wedi bod yn glir ein bod am ei defnyddio fel offeryn ychwanegol i wneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy cystadleuol, i gynyddu niferoedd teithwyr, i leihau nifer y teithiau ceir sy'n cael eu gwneud—yn ddiangen yn ein barn ni—o ddalgylch Maes Awyr Caerdydd i feysydd awyr fel Gatwick, fel Bryste. Ac os gallwch dynnu ceir a cherbydau eraill, yn enwedig cerbydau cludo nwyddau, oddi ar y rhwydwaith traffyrdd, rydych yn lleihau allyriadau carbon hefyd. Ac fel y dywedais wrth ateb Andrew R.T. Davies, mae newidiadau technolegol yn digwydd yn gyflym iawn o fewn y diwydiant awyrofod. Rydym ar flaen y gad yn cynorthwyo Airbus i hedfan tua'r dyfodol, a datblygu deunyddiau cyfansawdd newydd, gan mai effeithlonrwydd ynni, defnydd effeithlon o danwydd, yw'r hyn sy'n bwysig o ran sut i ddod yn gystadleuol yn y sector awyrofod. Ac wrth gwrs, yn ddiweddar, roedd Virgin Atlantic yn gweithredu awyren o Orlando i Gatwick gan ddefnyddio carbon deuocsid dros ben o waith dur, sy'n anhygoel. Dengys hynny sut y mae'r sector, sut y mae awyrennau, yn dod yn llawer mwy ymatebol i bryderon amgylcheddol.  

15:30

A yw'r Gweinidog yn awgrymu datganoli toll teithwyr awyr fel dewis amgen yn lle ffordd liniaru M4? Nid wyf yn siŵr y byddai ar yr un raddfa o ran yr effaith ar dagfeydd. Er hynny, tybed a allai egluro, oherwydd mae wedi defnyddio'r gair 'amrywio' toll teithwyr awyr, a chredaf fod Andrew R.T. Davies, yn gwbl ddealladwy, wedi ystyried y gallai hynny ddynodi newid polisi o'r Prif Weinidog blaenorol yn dweud 'lleihau', gan y gallai amrywio olygu naill ai gynyddu neu leihau. Mae'r Gweinidog hefyd wedi dweud ei fod am ystyried y penderfyniad hwn yng ngoleuni asesiadau o effaith amgylcheddol, ac rwyf wedi clywed rhai pobl—o'u seddau ar ochr Plaid Cymru o leiaf—yn awgrymu y gallai fod angen i'r doll teithwyr awyr godi er mwyn lleihau'r effaith ar newid hinsawdd.

A gaf fi hefyd ofyn am eglurder ar y sefyllfa gyfreithiol yma? Fe ddywedoch chi yn awr fod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i'r asesiadau hyn o'r effaith amgylcheddol gael eu cynnal. Os felly, pam na sylweddolwyd hynny neu o leiaf, pam na siaradwyd am hynny'n flaenorol? A pham na fanteisiodd ar gyfle adroddiad York Aviation 2017—mae'n ddrwg gennyf, yn 2014 y cafwyd adroddiad York Aviation, ond astudiaeth Northpoint yn 2017 a gomisiynwyd gan ei Lywodraeth ef, ac a edrychodd ar gryn dipyn o'r materion hyn yn ymwneud â lle roedd traffig yn mynd i fynd? Pam na wnaeth hwnnw ystyried yr effaith amgylcheddol hefyd? Fe sonioch chi hefyd yn awr y gallai arwain at gynnydd o hyd at 500,000 o deithwyr o Faes Awyr Caerdydd. Dywedodd adroddiad York Aviation y gallai olygu miliwn yn llai o Fryste, ac roedd hyd yn oed ei adroddiad Northpoint ei hun yn dweud y gallai arwain at 600,000 yn llai o Fryste. Felly, pam yr anghysondeb hwnnw?

Wel, yn gyntaf oll, Ddirprwy Lywydd, credaf fod adroddiad Northpoint Aviation, adroddiad a adolygwyd gan gymheiriaid, wedi cyflwyno tystiolaeth a ddangosai y byddai llai o effeithiau carbon o ganlyniad i deithiau ffordd byrrach i Faes Awyr Caerdydd pe bai toll teithwyr awyr yn cael ei datganoli a bod y cyfraddau'n lleihau yn sgil hynny. A dyna pam ein bod bob amser wedi bod o'r farn y byddai'n well gennym leihau neu ddiddymu'r doll teithwyr awyr. Nid yw'r safbwynt hwnnw wedi newid. Ond mae'n iawn ac yn briodol ac yn gyfrifol i sicrhau bod penderfyniad a ddylid amrywio'r doll teithwyr awyr, yn yr achos hwn, yn dderbyniol i fusnesau a'r bobl drwy ymgynghoriad, a'i fod yn unol nid yn unig â—a chredaf y gallai'r Aelod fod yn cyfuno dwy ddeddfwriaeth—nid yn unig â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond hefyd, yn hollbwysig, â Deddf yr amgylchedd yn ogystal.

Ond fel y dywedais, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd, yn fy marn i byddai lleihau neu ddiddymu'r doll teithwyr awyr, a denu mwy o deithwyr i Faes Awyr Caerdydd felly o feysydd awyr pellach, yn arwain at leihau allyriadau carbon ar y cyfan.

Diolch. Y trydydd cwestiwn amserol y prynhawn yma, i'w ateb unwaith eto gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Jayne Bryant.

Quinn Radiators

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? 324

Mae hyn yn amlwg yn newyddion siomedig iawn i'w weithlu. Rydym yn cydymdeimlo â'r gweithwyr ymroddedig a ffyddlon hynny a'u teuluoedd ar yr adeg hynod anodd hon. Ar ôl eu penodi, byddwn yn ceisio gweithio gyda'r gweinyddwyr i wneud popeth y gallwn i leihau'r effaith ar y gymuned leol a'r economi ehangach.

Diolch yn fawr, Weinidog. Weinidog, mae hwn wedi bod yn newyddion torcalonnus, ac fe ddaeth heb unrhyw rybudd. Mae'n ergyd i Gasnewydd, yr ardal gyfagos, ond yn enwedig i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Aeth 280 o weithwyr i'r gwaith fore dydd Llun i ddarganfod eu bod wedi colli eu swyddi. Maent yn disgrifio cael gwybod eu bod wedi colli eu swyddi fel sioc aruthrol a slap yn eu hwyneb. Ni chawsant rybudd. Fel yr Aelod lleol, sydd wedi ymweld â ffatri Quinn ar sawl achlysur, mae'n peri pryder na chefais wybod am unrhyw anawsterau. Yn yr un modd, ni chafodd Undeb Unite unrhyw rybudd ymlaen llaw. Y ffatri yng Nghasnewydd oedd y fwyaf datblygedig o'i bath yn Ewrop. Y rheiddiaduron a gynlluniwyd ac a wnaed yng Nghasnewydd sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf o unrhyw reiddiaduron ar y farchnad. Quinn Radiators oedd yr unig weithgynhyrchwyr mawr i gynhyrchu eu holl reiddiaduron yn y DU, ac roeddent hefyd yn cael eu dur o Bort Talbot.

Rwy'n ddiolchgar am ymyriad cyflym y Gweinidog yn trefnu cyfarfod arbennig heddiw gyda Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, canolfannau Cyngor ar Bopeth, a darpar gyflogwyr. Ymwelais â'r lle y bore yma, ac roedd y straeon dynol y tu ôl i'r swyddi sy'n mynd i gael eu colli yn amlwg. Mae hwn yn weithlu ymroddedig a gweithgar; maent yn deyrngar ac yn fedrus, a byddant yn gaffaeliad i unrhyw gwmni. A gwnaed hyn yn amlwg i mi gan y cyflogwyr lleol a gysylltodd â mi i roi gwybod am swyddi gwag.

Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch roi sicrwydd y bydd cymorth parhaus yn cael ei gynnig yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y gweithwyr hyn yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.

15:35

A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiwn amserol, a diolch iddi hefyd am ei hymateb cyflym i'r mater hwn pan ddaeth i'r amlwg? Sefydlwyd cyswllt ar unwaith, a gwn fod Jayne Bryant wedi bod yn eithriadol o gefnogol i'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad hwn. A hoffwn ategu ei sylwadau am y ffordd y cafodd unigolion yn y cwmni eu hysbysu: roedd yn eithaf gwarthus eu bod wedi cyrraedd y giât lle cawsant glywed gan ddynion mewn siwtiau llwyd—fel y'u disgrifiwyd—eu bod wedi colli eu gwaith. Nid dyna'r ffordd i drin gweithlu, gweithlu ymroddedig. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn rhoi'r holl gymorth posibl i'r gweithwyr yr effeithir arnynt. Rwy'n falch o ddweud y bydd y tasglu a sefydlwyd yn cyfarfod yfory. Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth i'r rhai yr effeithir arnynt. Bydd yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru wrth gwrs, bydd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol unigol o'r Ganolfan Byd Gwaith, o Gyrfa Cymru, o gyngor Casnewydd, a hefyd o'r canolfannau Cyngor ar Bopeth. Bydd hwn yn gyfnod anodd i'r rhai yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad, ond byddwn yn rhoi cymaint ag y gallwn o gefnogaeth i'r bobl a'u teuluoedd a'u cymuned.

Weinidog, mae'r cyhoeddiad am golli 280 o swyddi yn Quinn Radiators wedi bod yn ergyd drom i'r gweithlu hynod fedrus, gweithgar a ffyddlon hwn yng Nghasnewydd. Mae hefyd yn destun pryder i glywed bod y cwmni wedi cael £3 miliwn o gymorth benthyciad gan Lywodraeth Cymru mor ddiweddar â 2016. A allwn gael sicrwydd gennych, Weinidog, y byddwch yn rhoi pob cymorth i ddod o hyd i brynwr i'r cwmni hwn, neu'n darparu cyfleoedd hyfforddi i'r gweithlu ddod o hyd i waith arall? A pha gamau y bwriadwch eu cymryd i sicrhau bod yr arian a fenthycwyd i'r cwmni yn yr achos hwn yn cael ei ddychwelyd? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Mohammad Asghar am ei gwestiynau, a dechrau drwy ddweud nad ydym yn ymddiheuro am gefnogi busnes deinamig, busnes arloesol? A phan gyhoeddodd fy rhagflaenydd gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cwmni hwn, nododd yn gywir mai hwn oedd un o'r cwmnïau mwyaf blaengar yn y sector busnes penodol hwnnw, fel y mae Jayne Bryant wedi ailadrodd heddiw. A'r ffaith amdani yw bod mewnforion rhatach, o safon is, a heb fod mor ddatblygedig—yn y ffordd y mae Jayne Bryant wedi amlinellu—wedi arwain at dranc y cwmni. Mae hynny'n anffodus iawn, oherwydd roedd y cynhyrchion o'r safon uchaf. Do, cafodd y busnes ei sicrhau i Gymru drwy fenthyciad, ac rydym eisoes wedi adennill tua £0.5 miliwn o'r benthyciad hwnnw. Wrth gwrs, fe wneir pob ymdrech i'w adfer, a bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r gweinyddwyr. Ac rydym eisoes wedi cyfarfod â Banc Datblygu Cymru i drafod sut i leihau'r diffyg posibl. Ond o ganlyniad i'n buddsoddiad mewn busnesau yng Nghymru, mae gennym y nifer uchaf erioed o fusnesau newydd, y nifer uchaf erioed o fusnesau mewn bodolaeth, a'r lefel isaf erioed o ddiweithdra ac anweithgarwch economaidd. Mae hwn yn newyddion enbyd o ddrwg i'r gweithwyr yr effeithir arnynt. Ond o ganlyniad i ddulliau deinamig Llywodraeth Cymru o weithio, gallaf ddweud yn hyderus y byddwn yn gallu dod o hyd i waith arall yn yr ardal i'r bobl hynny.

Roeddwn yn drist iawn o glywed y newyddion ddydd Llun fod 280 o weithwyr yn fy rhanbarth yn wynebu cael eu diswyddo am fod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Fel y dywedwyd, roeddent yn bobl ffyddlon a gweithgar a roddodd flynyddoedd o wasanaeth rhagorol i'r cwmni. Mae fy nghalon yn gwaedu dros bob un ohonynt a'u teuluoedd. Weinidog, hoffwn wybod a oeddech yn ymwybodol o'r anawsterau a wynebai'r cwmni. Fel y dywedwyd, un o'r agweddau mwyaf erchyll ar yr hyn a ddigwyddodd iddynt oedd na chawsant wybod tan yn hwyr iawn. Cafwyd un cyfweliad gyda dyn ar y BBC a oedd wedi benthyg £6,000 y bore hwnnw. Pe bai gweithwyr tebyg iddo ef wedi cael mwy o wybodaeth, gallent fod wedi ystyried hynny wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n ymwybodol, unwaith eto, fel y dywedwyd, fod digwyddiad wedi'i gynnal y bore yma i gynnig cymorth i'r cyn-weithwyr. A fyddech cystal â dweud wrthym faint oedd yn bresennol yn hwnnw, a pha gynlluniau sydd ar y gweill i gysylltu â'r rheini nad oeddent yn gallu bod yn bresennol?

Hoffwn wybod hefyd sut y byddwch yn sicrhau bod pawb yn gwbl ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael drwy'r cynllun ReAct, er enghraifft. A fyddwch yn cynnig cymorth iddynt i hawlio tâl a gollwyd a thaliadau dileu swydd? A allech hefyd ymrwymo i fuddsoddi'r arian y byddwch yn ei adfer, gobeithio, o'r benthyciad a roddwyd i'r cwmni i greu swyddi yn yr ardal ac i uwchsgilio gweithwyr y bydd angen iddynt ddod o hyd i waith arall?

Ac yn olaf, Weinidog, hoffwn ailadrodd yr alwad a wnaed gan Adam Price a Bethan Sayed am gynnal archwiliad o gyflogwyr mawr presennol yng Nghymru fel y gall Llywodraeth Cymru fabwysiadu ymagwedd ataliol tuag at gynaliadwyedd swyddi drwy gael syniad clir o ble mae problemau'n debygol o ddatblygu fel y gallant weithredu'n bendant er mwyn diogelu swyddi yn hytrach nag adweithio pan fyddant yn cael eu colli.

15:40

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Rwy'n rhannu ei dicter ynghylch yr hyn a ddigwyddodd, ond gallaf sicrhau'r Aelod ein bod wedi bod yn cynnal proses gofrestr risg ers cryn amser. Yn amlwg, nid ydym mewn sefyllfa—. Ac ni fyddem yn dymuno cyhoeddi archwiliad neu gofrestr risg o gyflogwyr yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, yn achos unrhyw gwmnïau y canfyddir eu bod mewn sefyllfa ddiamddiffyn neu fregus, pe bai hynny'n cael ei wneud yn gyhoeddus, ni fyddai eu sefyllfa ond yn gwaethygu ac yn debygol o arwain at fethiant. Felly, lle mae'r gallu gennym i gael gwybodaeth, a bod y wybodaeth honno'n seiliedig ar bartneriaeth o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda ni, gallwn asesu a yw busnes mewn trafferthion ac yna gallwn ymwneud yn rhagweithiol â'r busnes hwnnw.  

Yn achos Quinn Radiators, daethom yn ymwybodol o anawsterau yn hwyr yr wythnos diwethaf. Nid oeddem yn gallu rhannu'r wybodaeth honno oherwydd bod yn rhaid penodi gweinyddwyr a bod yn rhaid rhoi gwybod i'r gweithlu hefyd. Ond fel y dywedodd Jayne Bryant, y gwir amdani yw na chafodd wybod am unrhyw anawsterau; ni chafodd Undeb Unite wybod am unrhyw anawsterau. Hyd y gwn i, nid oedd yr awdurdod lleol wedi cael gwybod am anawsterau, na'r gweithlu. Daeth hyn yn ddirybudd i'r gweithlu ac i'r holl randdeiliaid a phartneriaid yn y Llywodraeth ar bob lefel. Ac unwaith eto, hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais ynglŷn â pha mor gywilyddus oedd hi fod pobl wedi cael gwybod am y penderfyniad wrth y gatiau wrth iddynt gyrraedd ar ddechrau'r diwrnod gwaith.  

Nid oes gennyf fanylion ynglŷn â faint oedd yn bresennol yn y digwyddiad y cyfeiria'r Aelod ato, a gynhaliwyd heddiw. Fodd bynnag, gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y tasglu'n cyfarfod yfory. Bydd gan y tasglu fynediad uniongyrchol at bawb y mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt. Bydd y cymorth a gynigir yn cynnwys y rhaglen ReAct sydd wedi profi'n effeithiol, ac rwyf hefyd wedi mynnu y dylai cynghorwyr ariannol fod wrth law i allu cynorthwyo unigolion sydd wedi gwneud buddsoddiadau diweddar mewn modd tebyg i'r unigolyn a nododd yr Aelod heddiw. Fel y dywedais, bydd hwn yn gyfnod hynod o anodd i'r rheini yr effeithir arnynt, ond byddwn yn cynnig yr holl gymorth sydd ar gael iddynt.

Mae bob amser yn anffodus dros ben pan welwn gyflogwr mawr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac rydym i gyd yn ymwybodol o'r trallod a'r ansicrwydd a ddaw i'r gweithwyr a'u teuluoedd yn sgil hynny. Rwy'n siŵr bod yr holl Siambr hon yn cydymdeimlo â'r teuluoedd hynny ar yr adeg ofidus hon. Ond fel y dywedwyd, yr hyn a oedd mor ofidus am y cau hwn yw'r ffordd y cafodd ei gyflawni. Mae i weithwyr ddod i'r ffatri i gael clywed bod eu ffatri'n mynd i gael ei chau yn ymddygiad cwbl annerbyniol, ac yn enwedig gan fod y cwmni hwn yn cael arian gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn mynd i ddweud y dylent fod wedi rhoi gwybod ichi, o gwrteisi fan lleiaf, ond rydych chi'n dweud eu bod wedi gwneud hynny, ond yn hwyr iawn yn y broses. A gawn sicrwydd gennych y ceir craffu ariannol llawn ar y cwmni hwn a'r modd y maent wedi bod yn gweithredu dros y misoedd diwethaf fel y gallwn fod yn sicr ei fod wedi cael ei redeg mewn modd priodol?

Gallaf sicrhau'r Aelod o hynny ac fel yr Aelodau eraill, rwy'n rhannu dicter David Rowlands ynglŷn â'r ymddygiad a ddangoswyd yn gynharach yr wythnos hon gan unigolion sy'n sicr o fod yn teimlo cryn dipyn o gywilydd. Ond a gaf fi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod y mwyafrif helaeth o fusnesau a chyflogwyr yng Nghymru yn gyflogwyr cyfrifol, yn gyflogwyr tosturiol, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gydag awdurdodau lleol, gydag asiantaethau eraill y Llywodraeth? Nid yw'r ymddygiad a'r camau a gymerwyd gan nifer fechan yn unig o bobl yn Quinn Radiators yn adlewyrchiad o economi Cymru yn gyffredinol. Fel Llywodraeth Cymru, mae gennym bartneriaeth hynod gryf â'r sector preifat a'n holl bartneriaid cymdeithasol, ac wrth inni gyflwyno a dwysáu ein camau gweithredu drwy'r cynllun gweithredu economaidd, byddwn yn datblygu ffyrdd cryfach o weithio a fydd yn arwain at fod yn genedl gwaith teg. Byddwn yn gweithio gyda busnesau a grwpiau sy'n cynrychioli busnesau i sicrhau ein bod yn cefnogi cwmnïau i ddiogelu eu hunain ar gyfer y dyfodol a'n bod yn cynorthwyo gweithwyr i sicrhau urddas yn y gwaith a'u bod yn mynd i'r gwaith gan edrych ymlaen at ddiwrnod o waith.

15:45
4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf yr wythnos hon gan Jayne Bryant.

Neithiwr cefais y pleser o gynnal digwyddiad yn y Senedd i ddathlu Wythnos y Gofalwyr ac i dynnu sylw at y gwaith anhygoel o bwysig nad yw'n cael ei werthfawrogi bob amser sy'n cael ei wneud gan ofalwyr. Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf gan Gofalwyr Cymru, mae hyd at 400,000 o ofalwyr yng Nghymru yn darparu 96 y cant o'r gofal yn ein gwlad.

Fel cymdeithas, byddwn bob amser yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl, aelodau o'r teulu neu anwyliaid fel arfer. Mae Wythnos y Gofalwyr yn gyfle i ddweud 'diolch'—amser i gydnabod yr holl ofalwyr di-dâl ym mhob rhan o Gymru sy'n cyflawni eu rolau gydag ymroddiad a gostyngeiddrwydd. Yn aml, maent yn weithlu distaw y mae eu cyfraniad i'n cymdeithas yn cael ei esgeuluso'n rheolaidd. Mae gofalwyr di-dâl yn cadw teuluoedd gyda'i gilydd, yn sicrhau y gall pobl aros gartref, gan leddfu'r straen ar ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol. Maent yn sail i'n GIG a'n system gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth na allem wneud hebddynt.

Mae cyfrifoldeb arnom i helpu gofalwyr i ofalu. Gall yr effaith y gall y rôl ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol fod yn ddinistriol a phara'n hir. Ni ddylai neb fod mewn sefyllfa lle maent yn aberthu eu hiechyd eu hunain er mwyn gallu gofalu am rywun annwyl. Rhaid gwneud mwy i'w cefnogi. Os bydd eu hiechyd yn methu, mae'n aml yn rhoi'r sawl y maent yn gofalu amdanynt mewn sefyllfa o argyfwng. Mae gofalwyr di-dâl yn haeddu seibiant, maent yn haeddu cydnabyddiaeth—er nad ydynt yn ei geisio—ac maent yn haeddu ein cefnogaeth ddiwyro.

Rwyf am dynnu sylw at waith Cymdeithas Calon Lân yn Abertawe. Yr unfed ar bymtheg o Fawrth 2020 yw canfed pen blwydd Daniel James, a oedd yn fwy adnabyddus fel Gwyrosydd, awdur un o'r hoff emynau, os nad yr hoff emyn Cymraeg, 'Calon Lân'. Doi Daniel James o Dreboeth yn Abertawe. Bu farw ei dad pan oedd yn ifanc. Daeth yn bwdler yng ngwaith haearn Treforys, ac yna bu'n gweithio yng ngwaith tunplat Glandŵr.

Mae Cymdeithas Calon Lân a ffurfiwyd yn ddiweddar yn bwriadu cynnal nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau yn arwain at gyhoeddi holl waith barddol cyflawn Daniel James a chyfieithiadau i'r Saesneg. Hefyd, ar ganmlwyddiant ei farwolaeth ar 16 Mawrth, bwriedir cael tyrfaoedd o bobl mewn lleoliadau eiconig yng Nghymru ac yn fyd-eang i ganu 'Calon Lân', gan gynnwys yn y Senedd, gobeithio.

Mae prosiectau eraill yn cynnwys carreg goffa ar dir tafarn y King's Head lle ysgrifennodd nifer o emynau a cherddi, ffenestri coffa gwydr lliw yn y chwe ysgol sy'n lleol i Dreboeth, cerddi a chwrw, sef yr hyn a'i nodweddai orau mae'n siŵr, a chyngherddau i'w cynnal yn Ysgol Gyfun Bryntawe ac yng nghapel Caersalem.

Diolch i Gymdeithas Calon Lân am yr hyn y maent yn ei wneud i goffáu bywyd bardd ac emynydd dosbarth gweithiol Cymraeg o Dreboeth yn Abertawe.

Yr wythnos diwethaf, cymerodd y gymuned Fwslimaidd yng Nghymru a'r byd ehangach ran yn Ramadan a gŵyl Eid a'i dilynodd. Aeth llawer yn ein cymunedau a'n gwleidyddion yma i ymweld â mosgiau a rhannu'r profiad hwnnw. A chredaf y bydd hyn yn gwneud llawer i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth a chyd-barch tuag at ein gilydd. Gall dysgu am wahanol grefyddau a diwylliannau ein grymuso a'n galluogi i fod yn well pobl.

Ramadan yw nawfed mis y calendr Islamaidd, ac mae'n gyfnod o amser ar gyfer ymprydio, gweddïo, myfyrdod a chymuned. Mae'n un o bum piler Islam. Cymerais ran mewn ympryd am y tro cyntaf eleni gyda fy ngŵr a'i deulu, sydd draw yma o India. Mae'n brofiad unigryw iawn, ac yn aml yn gadael i bobl deimlo eu bod wedi'u puro, a gall unigolion gael eu gwobrwyo'n ysbrydol am gofleidio'r profiad. Mae'n gwneud i bobl asesu eu bywydau a sut y maent yn eu byw, ac mae hefyd yn beth cymdeithasol, gyda chymunedau'n torri eu hympryd gyda'i gilydd, i fwyta gyda'i gilydd, i rannu profiadau gyda'i gilydd. Fel y bydd llawer ohonoch yma heddiw yn gwybod, Eid yw'r ŵyl sy'n torri'r ympryd arbennig hwnnw. Dyma ddechrau'r mis lleuadol ac mae'n amrywio yn dibynnu pryd y gwelir y lleuad newydd gan wahanol awdurdodau crefyddol, a dyna pam na allwch roi dyddiad penodol ar eich calendr bob blwyddyn.

Mae gofyn i bobl roi arian i'r tlodion neu'r anghenus cyn iddynt gymryd rhan mewn gweddi Eid. Ac mae hynny'n gwneud iddynt feddwl am bobl eraill yn hytrach na meddwl amdanynt eu hunain bob amser yn y gymdeithas unigolyddol hon rydym yn byw ynddi—mae hynny'n aml yn beth da iawn—mae'n gwneud iddynt falio am eraill, ac mae'n gyfnod o ddathlu. Yn y pen draw, mae'n hanfodol ein bod yn dysgu am grefyddau a diwylliannau eraill ac yn parchu ein gilydd a chrefyddau a diwylliannau pobl eraill. Diolch yn fawr iawn.

15:50
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau, ac yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol yr Aelodau hynny i'r pwyllgorau hynny'n cael eu grwpio ar gyfer dadl ac ar gyfer pleidleisio. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynigion yn ffurfiol—Caroline Jones.

Cynnig NDM7072 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.

Cynnig NDM7073 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

Cynnig NDM7074 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Cynnig NDM7075 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) David Rowlands (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad; a

b) Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Cynigiwyd y cynigion.

Yn ffurfiol. Diolch. Dim dadl? [Gwrthwynebiad.] Nid wyf wedi cyrraedd mor bell â hynny. Mae'n iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig, ond clywais 'gwrthwynebiad' yno, felly gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio, lle bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio i bleidleisio o blaid er mwyn i'r cynnig gael ei dderbyn.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gweithgarwchedd Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Gweithgarwch Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.

Cynnig NDM7061 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc.

Yng Nghymru, rydym ni'n wynebu argyfwng cenedlaethol o ran iechyd ein plant a’n pobl ifanc. Mae cyfran uwch o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew, ac yn nodi ffordd o fyw nad yw’n iach, o’u cymharu â phlant gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Gwyddom fod plant gweithgar yn fwy tebygol o ddod yn oedolion gweithgar. Eto i gyd, mae tystiolaeth o Brifysgol Southampton yn nodi bod lefelau gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff ymhlith plant yng Nghymru ymysg y gwaethaf ledled y byd.

Fel rhan o’r ymchwiliad yma, cawsom ystod eang o dystiolaeth. Yn ogystal â’r gwaith arferol o gasglu tystiolaeth ffurfiol yng nghyfarfodydd y pwyllgor, fe wnaethom ni ymweld ag Ysgol Basaleg i glywed barn disgyblion ac athrawon; cynnal trafodaethau grŵp ffocws â rhanddeiliaid; a chynnal sgwrs ar y we gyda phobl ifanc rhwng 11 a 21 mlwydd oed am eu lefelau o weithgarwch corfforol a’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu neu wedi eu hwynebu rhag bod yn weithgar. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwn.

Rydym ni wedi gwneud 20 o argymhellion yn yr adroddiad hwn a fyddai, o’u gweithredu, yn gam mawr ymlaen wrth ysgogi newid a’r gwelliannau sydd eu hangen i wrthdroi’r duedd bryderus hon. Mae'n hadroddiad yn ymdrin ag ystod eang o faterion, ar draws nifer o bortffolios gweinidogol, a byddaf yn ceisio cynnwys cymaint o’r rhain â phosibl yn yr amser sydd ar gael i mi.

Clywsom dystiolaeth gymhellol fod angen i sgiliau echddygol sylfaenol gael eu dysgu ar oedran cynnar. Ceir camsyniad y bydd yr holl sgiliau'n datblygu'n naturiol yn ystod plentyndod, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Clywsom dystiolaeth fod sgiliau echddygol sylfaenol, fel llawer o sgiliau academaidd eraill, angen cyfarwyddyd a chyfleoedd sy'n ddatblygiadol briodol i ymarfer sgiliau mewn amgylcheddau dysgu cyfoethog. Mae plant sydd wedi'u dal yn ôl o ran eu sgiliau echddygol sylfaenol yn llai tebygol o fod yn gorfforol egnïol yn awr ac yn y dyfodol.

Clywsom am gyfarwyddyd cinesthetig llwyddiannus i blant cyn oed ysgol—SKIP—rhaglen o ddatblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddefnyddiwyd i hyfforddi athrawon, cynorthwywyr dysgu a rhieni ynghylch pwysigrwydd symud yn gynnar i ddatblygiad plentyn. Dywedodd Dr Nalda Wainwright, cyfarwyddwr Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru, ac rwy'n dyfynnu,  

rydym yn hyfforddi'r athrawon i ddeall sut y mae plant yn symud drwy'r camau hynny. Maent yn ei wneud mewn llythrennedd a rhifedd, ond nid oes neb wedi dysgu hynny iddynt mewn cyd-destun corfforol. Cafwyd y fath gamargraff yn y byd academaidd ynghylch datblygiad echddygol—sy'n awgrymu bod plant yn dysgu hynny eu hunain drwy chwarae. Ond mae hynny fel taflu bag o lythrennau i ystafell a dweud, "Chwaraea ddigon gyda'r rhain ac fe wnei di ddysgu darllen"'.

Fe wnaethom argymell felly—argymhelliad 5—fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pellach yn y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei alluogi i ddatblygu'r sgiliau echddygol sylfaenol hanfodol sydd eu hangen ar oedran cynnar yn yr ysgol, a sicrhau bod bylchau presennol yn y cyfnod sylfaen sy'n gysylltiedig â'r sgiliau hyn yn cael sylw llawn. Byddem yn cefnogi buddsoddiad er mwyn cyflwyno rhaglenni fel SKIP Cymru ledled y wlad i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn gallu cefnogi plant yn ddigonol i ddysgu'r sgiliau hyn. Er ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn, nid yw'n cael ei adlewyrchu'n glir yn yr ymateb, sy'n sôn am y cyfnod sylfaen a'r adnoddau presennol sy'n cyflawni'r gofynion ac yn nodi y gallent ddatblygu astudiaeth achos ar raglen SKIP Cymru. Mewn ymateb i'r datganiad hwn, dywedodd Dr Nalda Wainwright wrthym, ac rwy'n dyfynnu,

Mae'n hynod siomedig, yng Nghymru, lle mae gennym y lefelau uchaf yn Ewrop o ordewdra ymhlith plant a lle mae traean o'r plant yn byw mewn tlodi, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo mai ymateb priodol i argymhellion yr adroddiad yw dyfynnu cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, y dengys ymchwil a gyhoeddwyd nad yw'n datblygu'r sgiliau echddygol angenrheidiol. Maent hefyd yn awgrymu bod adnoddau heb sylfaen dystiolaeth yn fodel addysgeg ar gyfer addysg gorfforol. Drwy anwybyddu'r dystiolaeth mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o wneud cam â phlant ifanc a theuluoedd Cymru yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle maent yn wynebu argyfwng cynyddol o anweithgarwch, datblygiad echddygol gwael a lefelau gordewdra cynyddol. 

Mae'n amlwg i ni nad yw ysgolion yn rhoi digon o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol, ac mae'n rhaid i hyn newid. Mae'r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle gwych i unioni'r fantol a rhoi'r sylw a'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu i weithgarwch corfforol. Mae'n achos pryder mawr i ni glywed nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn cyflawni'r 120 munud yr wythnos a argymhellir o addysg gorfforol, a bod lleihau'r amser a neilltuir i addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn arfer cyffredin oherwydd pwysau'r cwricwlwm. Cytunwn â rhanddeiliaid y dylai'r 120 munud yr wythnos a argymhellir fod yn ofyniad statudol, gan ei gwneud yn glir mai targed isaf yw hwn, ac y dylid annog mwy o weithgarwch os yn bosibl. Felly, rydym yn hynod siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, o ystyried y dystiolaeth nad yw'n digwydd yn y mwyafrif helaeth o ysgolion yng Nghymru.

Er mwyn dyrchafu'r statws a'r flaenoriaeth a roddir i weithgarwch corfforol mewn ysgolion, rydym hefyd yn cytuno bod yn rhaid i Estyn ei arolygu er mwyn monitro cydymffurfiaeth â'r 120 munud a hefyd er mwyn asesu ansawdd y profiad o addysg gorfforol. Unwaith eto, er bod argymhelliad 9—y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o flaenoriaeth i addysg gorfforol yn y cwricwlwm newydd a gwneud y flaenoriaeth hon yn glir i Estyn—wedi'i dderbyn, mae'r naratif cysylltiedig yn nodi'r hyn y mae Estyn yn ei wneud ar hyn o bryd, er bod yr argymhelliad yn galw am weithredu o'r newydd, i roi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol yng ngweithdrefn arolygu Estyn. Felly nid yw'n ymddangos bod yr argymhelliad wedi'i dderbyn mewn gwirionedd. Buaswn yn ddiolchgar am sylwadau'r Gweinidog ar hyn.

Clywsom am bwysigrwydd darparu dewis priodol o weithgareddau a chynnwys disgyblion yn y broses o ddatblygu'r gweithgarwch corfforol a'r chwaraeon a gynigir yn eu hysgolion. Ategwyd hyn yn ein trafodaethau â disgyblion yn Ysgol Basaleg, a ddywedodd wrthym fod gan yr ysgol ddull gweithredu cytbwys, a bod cael opsiwn yn bwysig, yn enwedig i'r rhai nad oeddent am gymryd rhan mewn ymarfer corff ffurfiol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 7 felly, i sicrhau bod pob ysgol uwchradd yn ymgynghori'n rheolaidd â disgyblion ynglŷn â'r dewis a'r ystod o weithgareddau corfforol sydd ar gael iddynt ac yn sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried.

Edrychwyd ar y gwahaniaethau yn agweddau bechgyn a merched tuag at weithgarwch corfforol. Mae'r arolwg o chwaraeon mewn ysgolion ar gyfer 2018 yn dangos bod 50 y cant o fechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos o'i gymharu â 46 y cant o ferched. O ran agweddau tuag at chwaraeon, mae mwynhad o addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd yn debyg rhwng y rhywiau—75 y cant ymhlith bechgyn o gymharu â 71 y cant ymhlith merched—ond mae'r darlun yn newid ar lefel uwchradd. Yma, tra bod 64 y cant o fechgyn yn mwynhau addysg gorfforol, dim ond 45 y cant o ferched sy'n dweud hynny.

Mae'r rhesymau a roddwyd gan dystion am y gwahaniaeth hwn yn cynnwys diffyg modelau rôl benywaidd ym myd chwaraeon, pwysau gan gyfoedion a hunan-barch isel. Mae tystiolaeth gan Women in Sport yn nodi bod merched yn llawer mwy tebygol o fod yn hunanymwybodol, ac erbyn eu bod yn 14 i 16 mlwydd oed, mae tua un o bob tair merch, 36 y cant, yn anhapus gyda delwedd eu cyrff.

Pwysleisiodd llawer o dystion yr angen i ddechrau peidio â gwahaniaethu rhwng chwaraeon i ddynion a menywod. Clywsom fod ystrydebau o ran rhywedd yn dechrau ffurfio yn gynnar iawn, gyda merched yn cael eu magu i gredu nad ydynt mor dda mewn chwaraeon â bechgyn. Dywedodd Laura Matthews o Women in Sport wrthym y gall hyn ddigwydd fesul tipyn, gydag ymadroddion fel 'Rwyt ti'n taflu fel merch' yn rhoi’r argraff i ferched yn ifanc iawn nad ydyn nhw cystal â bechgyn. A bydd teimladau tebyg yn golygu bod merched yn llai tebygol o fod eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon.

Clywsom hefyd am y diffyg modelau rôl benywaidd ym myd chwaraeon yn y cyfryngau a'r diffyg sylw a roddir i chwaraeon menywod. Yn ôl ymchwil a wnaed gan Women in Sport, mae chwaraeon i fenywod yn cyfrif am 7 y cant o'r holl sylw a roddir i chwaraeon yng nghyfryngau'r Deyrnas Unedig. Er ein bod yn cydnabod y bu gwelliannau, mae rhywfaint o waith i'w wneud o hyd yn y maes hwn. Felly, rydym ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i argymhelliad 14, y bydd yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i gefnogi datblygiad pellach ymgyrchoedd fel Our Squad a #WatchHerGo i annog merched i gymryd rhan mewn chwaraeon yn fwy cyffredinol. 

Ac i gloi, felly, y sylwadau agoriadol, mae anweithgarwch corfforol yn broblem genedlaethol sy’n effeithio arnom ni i gyd. Rydym angen ymyriadau effeithiol o ran iechyd y cyhoedd i helpu i fynd i'r afael efo'r materion cysylltiedig. Fodd bynnag, ni allwn ddibynnu ar gyrff cyhoeddus ac ysgolion yn unig. Mae gan rieni hefyd rôl bwysig wrth ddylanwadu ar weithgarwch corfforol eu plant. Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach' am yr angen i ganolbwyntio ar ddulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar deuluoedd, ac rydym yn ei hannog i ddwyn hyn ymlaen yn y strategaeth derfynol, gyda thargedau uchelgeisiol a threfniadau monitro effeithiol i sicrhau deilliannau pendant. Oherwydd os na fyddwn yn dechrau cymryd camau brys nawr i newid agweddau tuag at weithgarwch corfforol, rydym yn creu problemau i genedlaethau’r dyfodol. Diolch yn fawr. 

16:00

Wrth gwrs, mae ein Cadeirydd yn ei ddull dihafal ei hun wedi hwylio drwy'r adroddiad cyfan, wedi cyffwrdd â phob argymhelliad, ond serch hynny, Weinidog, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fy mod yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaeth oherwydd mae gennym y cyfraddau uchaf o ordewdra, ac mae plant afiach fel arfer yn tyfu'n oedolion eithaf afiach. Mae hwn yn ystadegyn sy'n peri pryder mawr, ac mae'n golygu y bydd mwy o bobl yn cael anhawster i gael cyflogaeth briodol fel oedolion. Mae'n anodd iawn gwneud rhai o'r swyddi sy'n rhaid inni eu gwneud os oes gennych gefnau drwg, os ydych chi'n llawer rhy drwm i wneud y gwaith sydd angen i chi ei wneud. Mae mwy ohonom, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig iawn, yn fwy tebygol o farw hyd at 10 mlynedd yn gynharach; dyna 10 mlynedd o fywyd gogoneddus y gallech fod wedi'i gael nad ydych yn ei gael oherwydd pethau fel diabetes, problemau'r galon a strôc a rhai mathau o ganser, i enwi dim ond rhai.  

Ac wrth gwrs, nid ymwneud â bod yn drwm yn unig oedd yr adroddiad. Mae ein lefelau ffitrwydd cyffredinol yn hanfodol os ydym yn mynd i fwynhau bywyd corfforol hir a hapus, yn ogystal â bywyd meddyliol hir a hapus. Hoffwn atgoffa'r Aelodau na ddylem danbrisio manteision gweithgarwch corfforol i'n hiechyd meddwl. Rydym oll yn rhy ymwybodol fod plant a phobl ifanc heddiw'n dioddef pwysau cymdeithasol nad oedd yn rhaid inni ei ddioddef. Mae pethau erchyll yn digwydd drwy'r rhyngrwyd, bwlio mewn ysgolion, llu o bethau, heb sôn am bwysau cyflawni, arholiadau a cheisio symud ymlaen fel pobl. Os ydych yn holliach a bod gennych y rhyddhad hwnnw, a bod y lefelau serotonin hynny'n llifo drwy eich corff, rydych yn llawer mwy abl i ymdrin â rhai o'r pethau sy'n dod tuag atoch.      

Mae bod yn iach ac yn egnïol yn rhywbeth y gallwn anelu tuag ato, ond fel pob dyhead mae'n wreiddiedig mewn arfer, mewn gwybodaeth, mewn hyder a phrofiad. Felly, dylem ddechrau yn y dechrau, a dyna pam roeddwn mor falch o fod yn rhan o adroddiad y pwyllgor ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc, oherwydd credaf fod yn rhaid inni weithredu yn awr i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn ystyried bod yn egnïol, bod yn normal—cerdded, beicio, dawnsio, gwneud chwaraeon—. Bobol bach, nid oes raid iddo olygu gwneud faint bynnag o funudau ydyw o bêl-droed a rygbi, ac nid wyf am ddweud pa un oherwydd fe fyddaf yn anghywir, rwy'n gwybod y byddaf. Rhaid inni sicrhau hefyd fod y plant hyn yn gwybod pan fyddant yn tyfu i fyny nad ysmygu a chyffuriau a bwyta gormod ac yfed gormod yw'r modd o gael y ffordd o fyw heini ac iach honno.

Mae angen inni ddechrau gydag addysg, a dyna pam rwyf mor falch o weld y Gweinidog Addysg yn bresennol, gan fod llawer o hyn yn dibynnu ar y bobl a all ddylanwadu fwyaf ar ein plant yn yr oedran ifanc hwnnw, sef rhieni ac athrawon, a hwy yw'r allweddi ac mae angen i ni ddefnyddio'r allweddi hynny. A dyna pam y gwnaethom argymhelliad mor glir ynglŷn â'r oriau o weithgarwch corfforol sy'n orfodol mewn ysgolion, a chytunwyd ar 120 munud fel gofyniad sylfaenol ar ôl gwrando ar lawer o dystion arbenigol. Bydd y Gweinidogion sy'n bresennol yn gwybod fy mod wedi codi'r ffaith bod y niferoedd yn gostwng ac yn gostwng ac yn gostwng ac rwy'n wirioneddol bryderus ynglŷn â hynny.

Felly, annwyl ddarllenydd, os darllenwch ein hadroddiad, mae'n edrych fel newyddion gwych fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion 5 a 7, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi, oherwydd yn argymhelliad 5 mae arnom eisiau'r gweithredu pellach hwnnw. Siaradodd Dai lawer am ddatblygu sgiliau sylfaenol, sgiliau echddygol, mewn plant ifanc. Wyddoch chi, mae'r Llywodraeth yn traethu'n huawdl am y cyfnod sylfaen, ac rwy'n cefnogi'r cyfnod sylfaen yn frwd, ond mae Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru yn glir iawn: maent wedi dychwelyd at y gwaith ymchwil, maent wedi dychwelyd at y dystiolaeth ac nid oes tystiolaeth ar gael ar ei gyfer. Mae eu hymchwil yn dangos nad yw disgyblion yn datblygu'r sgiliau hynny, ac mae angen iddynt wneud hynny oherwydd dyna yw'r blociau adeiladu hanfodol i bobl iach. Ac rwy'n credu bod yr ymateb hwn yn ddi-hid ac yn rhagdybiaethol.

Mewn perthynas ag argymhelliad 7, rwyf wedi cyfarfod â llawer o blant ysgol nad oes neb erioed wedi gofyn iddynt beth yr hoffent ei wneud fel chwaraeon corfforol. Os ydych yn fachgen cymerir eich bod yn gwneud rygbi neu bêl-droed, ac os ydych yn ferch, fel y dywedwyd wrth fy merch i, 'Gallwch redeg o gwmpas y cae pêl-droed tra bod y bechgyn yn cael hwyl yn y canol yn chwarae gêm.' Dyna wych; fe wnaeth hynny'n siŵr ei bod hi'n dwli ar chwaraeon am weddill ei hoes. Felly, os ydych chi'n mynd i ymgysylltu'n wirioneddol â merched a menywod ifanc a phlant sy'n byw bywydau difreintiedig iawn, â gofalwyr, â phlant mewn amgylcheddau gwledig na allant ddychwelyd i wneud chwaraeon ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i chi ofyn iddynt a gwrando arnynt go iawn. A chredaf fod yna rai ysgolion da sy'n ei wneud, ac fe wnaethom ymweld ag ambell un; nid yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn ei wneud, ac mae'n rhaid i hynny newid.

Yn olaf, hoffwn roi sylw i'r modd y gwrthodwyd argymhelliad 8 yn ei grynswth. Dim ond un maes dysgu a phrofiad sydd i'w gael yn y cwricwlwm newydd, ac mae ein system addysg gyfan yn mynd drwy newid enfawr. Rhaid iddo wreiddio dros gwricwlwm newydd; mae yna newidiadau sylweddol i fethodoleg ac arferion; a thra bod yr athrawon yn gweithio'n ddi-baid i amsugno hyn, tra bod y Llywodraeth yn monitro ac yn adolygu, nid yw ein plant yn dod yn ddigon egnïol yn gorfforol i fod o fudd i'w bywydau ac i fod o fudd i'n bywyd cyllidol yn y dyfodol, oherwydd gwyddom am y pwysau. Ni fydd ein gordewdra, ein hiechyd a'n hargyfyngau lles meddyliol yn gwella nes inni fynd i'r afael â hyn, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn gam da ymlaen.

16:05

Hoffwn ddechrau drwy ganmol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am yr hyn sydd, yn fy marn i, yn waith diddorol iawn. Dilynais yr ymchwiliad hwn yn fanwl, ac rwyf am ganolbwyntio ar un neu ddau o argymhellion heddiw. Mae hwn yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae'n agos at fy nghalon fel rhiant, mae'n agos at fy nghalon fel cyn-athrawes a hefyd fel cyn-weithiwr cynllun chwarae, ac fel rhywun sydd wedi ymgyrchu ar wella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc ers i mi gael fy ethol.

Yn ogystal â hynny, rwy'n awyddus i weld dull Llywodraeth gyfan o ymdrin â'r mater hwn, a gobeithio y gallaf ymchwilio i hynny yn fy nghyfraniad heddiw, gan ddechrau gydag argymhellion 3 a 4, sy'n argymell dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y teulu ac sy'n galw ar Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu rhaglen briodol. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, gan ei fod yn cynnig ffordd ar gyfer gwella iechyd plant a phobl ifanc fel catalydd ar gyfer lles y teulu cyfan. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, gwn fod cyfeiriad at bartneriaeth gweithgarwch corfforol Cymru, a allai wella lefelau gweithgarwch corfforol. Hefyd, hoffwn weld cyfraniad gan fentrau megis tasglu'r Cymoedd mewn perthynas â chysyniad parc rhanbarthol y Cymoedd hefyd. Mewn ardaloedd fel fy ardal i, gallai hon fod yn ffordd hygyrch a rhad iawn o gael pobl i ddod allan a mwynhau'r amgylcheddau nad ydynt yn rhai trefol sydd, yn llythrennol, ar garreg drws pobl.

Rwyf wedi siarad o'r blaen—credaf mai dyna oedd fy nadl fer gyntaf yn ôl yn 2016—am yr hyn a elwir yn 'anhwylder diffyg natur'. Mae'n seiliedig ar ymchwil sy'n dangos mai dim ond 13 y cant o blant Cymru a oedd yn ystyried bod ganddynt gysylltiad agos â byd natur. Rwy'n credu bod hynny'n syfrdanol. Mae'n ffigur is na'r Alban, Gogledd Iwerddon neu Lundain hyd yn oed. Yn yr un modd, fel rhywun sy'n hoff iawn o hanes diwydiannol, credaf fod cyfleoedd yma yn gysylltiedig â'n treftadaeth ddiwydiannol. Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen am fy angerdd ynglŷn â thwnnel Aber-nant, sy'n cysylltu Cwm-bach yn fy etholaeth â Merthyr Tudful. Os caiff ei ailagor, gallai fod yn atyniad go iawn fel llwybr teithio llesol, a gwn fod llawer o gynlluniau eraill tebyg a allai gael yr un effeithiau cadarnhaol.

Mae argymhelliad 11 yn arf arall defnyddiol iawn. Mae caniatáu mynediad ehangach at gyfleusterau ysgolion, yn enwedig rhai sydd wedi eu hadnewyddu o dan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn synnwyr cyffredin. Rwy'n falch fy mod wedi gallu gweithio gyda chyngor Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar ar geisiadau gan gymuned leol i blant allu chwarae ar MUGA newydd sbon—man chwarae amlddefnydd, i'r rhai nad ydynt yn gwybod—mewn ysgol gynradd yng Nghwm-bach. Mae'n gwneud synnwyr y dylem agor yr ardaloedd hyn y tu allan i oriau ysgol er mwyn i'r gymuned allu elwa ohonynt.

Hoffwn fynd y tu hwnt i hyn a thynnu sylw hefyd at fy nghynnig blaenorol ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. Byddai hwnnw wedi sicrhau bod cyfleoedd chwarae yn diwallu anghenion yr holl blant a phobl ifanc yn y gymuned, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn parhau'n flaenoriaeth.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru, yn eu tystiolaeth, a ddyfynnir drwy'r adroddiad, wedi cyflwyno achos pwerus dros fynd ati o ddifrif ac integreiddio cynwysoldeb mewn ymatebion llywodraethol. Yn yr un modd, gobeithiaf y byddaf yn cyfarfod â'r Dirprwy Weinidog iechyd yn y dyfodol agos iawn i drafod chwarae cynhwysol ac edrychaf ymlaen at glywed sut y mae gwaith ar wahanol ymatebion yn mynd rhagddo.

Mae argymhelliad 16, ar y grant datblygu disgyblion, hefyd yn bwysig iawn yn fy marn i. Ar sail ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae un o bob pedwar plentyn rhwng 11 ac 16 oed yn ardal Cwm Taf yn ordew, fel y mae bron i 15 y cant o blant rhwng pedair a phump oed. Dyma'r ffigurau uchaf yng Nghymru, ac yn syml iawn, nid ydynt yn dderbyniol. Pan geir cysylltiadau clir rhwng amddifadedd a gordewdra, mae hi mor bwysig ein bod yn defnyddio dulliau fel y grant datblygu disgyblion i geisio unioni hyn.

Rwy'n derbyn ymateb Llywodraeth Cymru fod rhai enghreifftiau da o hyn yn bodoli eisoes, ond hoffwn weld mwy o waith ar y pwynt hwn. Yn yr un modd, hoffwn weld cynnydd ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll diodydd meddal—argymhelliad 20. Yng Nghymru, fe wyddom fod y siwgr a fwyteir dair gwaith yn fwy na'r hyn a argymhellir ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau rhwng 11 ac 16 oed, a chyda Wythnos Diabetes yn digwydd yr wythnos hon, gallai fod manteision amlwg yma.

I gloi, hoffwn ystyried argymhelliad 19, sy'n ymwneud ag adran 106 a chyfleusterau hamdden hygyrch gyda datblygiadau tai newydd. Yn ddiweddar adeiladodd Persimmon ystâd newydd sbon yn fy etholaeth, ac roedd eu llyfryn sgleiniog yn dangos man chwarae yng nghanol yr ystâd. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ni cheir ardal chwarae, dim ond tir dympio i'r datblygwr, a phob gwyliau ysgol mae preswylwyr yn gofyn imi pryd y bydd y man chwarae'n agor, ond yr unig ymateb a gawn yw rhagor o gymylu'r dyfroedd ac oedi. Mae hwn yn fater y cyffyrddwyd arno'n ddiweddar ym mhwyllgor yr economi, yn ein hymchwiliad i adeiladwyr tai lleol. Yn bendant, mae awdurdodau lleol yn gyndyn o adeiladu mannau agored yn awr o ganlyniad i gyni ariannol, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno yn y dyfodol.  

16:10

Hoffwn fynegi fy niolch, fel y mae eraill eisoes wedi'i wneud, i bawb a gymerodd ran yn y gwaith pwysig hwn gan ein pwyllgor. Wrth gwrs, deuthum at y gwaith hwn tua'r diwedd—ymunais â'r pwyllgor tuag at ddiwedd y broses—ac mae wedi bod yn agoriad llygad i edrych yn ôl a darllen drwy rywfaint o'r dystiolaeth wrth baratoi ar gyfer ymateb i adroddiad drafft y pwyllgor. Fel y mae eraill wedi dweud—ac nid wyf am dreulio amser y Siambr yn ei ailadrodd—mae hwn yn fater eithriadol o ddifrifol. Mae'r effaith hirdymor ar blant o gario gormod o bwysau ac o beidio â bod yn heini pan fyddant yn fach iawn yn un gydol oes, a chredaf y dylem fod yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaethpwyd gan y Fonesig Tanni Grey-Thompson heddiw ynglŷn â'r modd y cronnwn broblemau ar gyfer y dyfodol os nad ydym yn ymdrin â'r materion hyn yn awr, i'r plant unigol hynny, ond hefyd i bob un ohonom fel cymdeithas.

Wrth gwrs, fel y dywedodd Dai Lloyd, mae'n gadarnhaol iawn ar un lefel fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynifer o argymhellion y pwyllgor. Ond fel y dywedodd Dai eisoes, mae'n ymddangos bod gormod o'r derbyniad hwnnw'n dweud, 'Mae'n berffaith iawn gan ein bod eisoes yn ei wneud'. Wel, ar ôl edrych yn ôl ar y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor, nid yw hyn yn wir, a buaswn yn annog Gweinidogion Cymru i roi'r parch a'r ddealltwriaeth i'r pwyllgor na fyddem yn argymell eich bod yn gwneud pethau rydych eisoes yn eu gwneud. Efallai y byddem yn eich llongyfarch, efallai y byddem yn dweud pa mor ddiolchgar rydym i chi am hynny, ond ni fyddem yn gofyn i chi wneud pethau rydych eisoes yn eu gwneud.

Hoffwn ddweud ychydig eiriau'n gyflym am dri argymhelliad penodol, Ddirprwy Lywydd. Nawr, o ran ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 5, sy'n ymwneud â sgiliau athrawon yn y blynyddoedd cynnar a pha mor bwysig yw hi i blant ddatblygu'r sgiliau symud sylfaenol hynny, mae'r dystiolaeth yn glir iawn: mae ymateb y Llywodraeth yn dweud efallai y gallwn wneud mwy o astudiaethau achos. Wel, rydym eisoes wedi gwneud y gwaith hwnnw; nid oes angen i chi ei wneud. Ceir dulliau sefydledig o wella sgiliau addysgwyr yn y maes hwn, ac mae'r dystiolaeth, fel y dywedodd Dai eisoes, yn glir nad yw'r sgiliau yno ar hyn o bryd. Hynny yw, hyfforddais fel athrawes a dysgodd pobl lawer i mi am ddatblygiad plant a oedd yn ymwneud â llythrennedd a llawer am ddatblygiad plant a oedd yn ymwneud â rhifedd, ond disgwylid y byddai datblygiad corfforol plentyn yn dod drwy chwarae. Rydym yn gwybod nad yw hynny'n wir.

Felly, rydym yn derbyn argymhelliad yn y fan hon, ond nid yw ond yn dderbyniad sy'n dweud wrthym fod popeth yn iawn, mae'n digwydd beth bynnag. Wel, nid yw popeth yn iawn ac nid yw'n digwydd beth bynnag. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dau o argymhellion y pwyllgor, ac mewn rhai ffyrdd wrth gwrs, mae perffaith hawl gan y Llywodraeth i wneud hynny. Ac rwyf am sôn yn fyr am argymhelliad 6 ac yna am argymhelliad 8.

Felly, mae argymhelliad 6 yn sôn am ofyn i'r Llywodraeth ystyried cyflwyno rhaglen fuddsoddi i wella cyfleusterau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion presennol. Nawr, bydd pob un ohonom wedi ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain ac wedi gweld mai'r gofod a ddefnyddir ar gyfer gweithgarwch corfforol dan do, er enghraifft, yw'r gofod a ddefnyddir ar gyfer bwyta prydau bwyd hefyd, ac yn aml iawn dyma'r gofod sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau ychwanegol—mae hyn yn arbennig o wir mewn ysgolion cynradd. Nawr, mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad hwnnw—ac fe wyddom hyn fel pwyllgor wrth gwrs—yn dweud mai mater i awdurdodau lleol yw hwn. Wel, wrth gwrs ei fod yn fater i awdurdodau lleol, ond roedd tystiolaeth y pwyllgor yn glir nad yw awdurdodau lleol yn gwneud y buddsoddiad angenrheidiol hwnnw yn yr ysgolion y tu allan i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a dyna'n union pam ein bod wedi gofyn i'r Llywodraeth wneud rhywbeth yn ei gylch. Nawr, wrth gwrs nad yw pot y Llywodraeth yn llawn, wrth gwrs ein bod yn gwybod bod yna lawer o bwysau, ond mae hyn yn hollbwysig. A hoffwn annog y Llywodraeth i ailedrych ar eu gwrthodiad i'r argymhelliad hwnnw. Pe bai awdurdodau lleol yn gallu, neu'n awyddus i unioni hynny, byddent wedi ei wneud eisoes, ac maent naill ai'n methu neu nid ydynt wedi gwneud hynny.

Ac i droi eto at argymhelliad 8 a gwrthodiad y Llywodraeth i dderbyn yr angen i ddeddfu ar gyfer 120 munud o ymarfer corff fan lleiaf, nawr, rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth ynglŷn â'r ffaith bod y cwricwlwm newydd, yn ôl ei natur, yn llai rhagnodol, ac fel cyn-athrawes fy hun, rwy'n croesawu hynny'n llwyr. Ond darllenais ymateb y Llywodraeth yn fanwl iawn, ac nid yw'n glir i mi o gwbl sut y mae unrhyw beth y maent yn bwriadu ei wneud yn mynd i wneud y gwahaniaeth sydd ei angen. Gwyddom fod gweithgareddau corfforol yn cael eu gwasgu. Yn y blynyddoedd cynnar, fel y dywedais, efallai na fydd sgiliau yn y gweithlu addysgu a chymorth; efallai nad oes gofod ffisegol ar gael. Gyda disgyblion hŷn, bydd yna bwysau arholiadau. Nawr, unwaith eto, gobeithio y bydd y cwricwlwm newydd yn codi rhywfaint o'r pwysau, ond mae yna bwysau o ran arholiadau ac mae yna amharodrwydd ymhlith disgyblion, yn enwedig yn achos merched a menywod ifanc.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi, ac nid wyf yn credu y byddai neb arall a ddarllenodd y dystiolaeth wedi eu hargyhoeddi, fod dull gweithredu'r Llywodraeth yn mynd i atal hyn. Felly, os mai'r llwybr yw peidio â deddfu ar gyfer 120 munud, mae angen inni gael ffordd arall o wneud yn siŵr fod amser gweithgarwch yn cael ei ddiogelu rywsut, a buaswn yn falch o glywed mwy gan y Llywodraeth heddiw ynglŷn â sut y bwriadant wneud hynny.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni all dim fod yn bwysicach nag iechyd corfforol ein plant; mae eu dyfodol cyfan yn dibynnu arno, eu gallu i ddysgu'n academaidd, eu gallu i dyfu i fod yn union y math o ddinasyddion y mae'r cwricwlwm newydd yn dweud ein bod yn awyddus i'w creu. Yr hyn na allwn ei gael yn yr agenda bwysig hon yw hunanfodlonrwydd a difaterwch.

16:15

Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad gwirioneddol werthfawr hwn, gyda rhai argymhellion gwerthfawr iawn? Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un maes yn unig—rwy'n dweud wrth Gadeirydd y pwyllgor—sef y mater y cyfeirir ato yn yr adroddiad yn ymwneud â theithio llesol a beth arall y gellir ei wneud. Ac mae'n ddiddorol fod yr adroddiad yn nodi mewn gwirionedd, os ydym am sicrhau teithio llesol go iawn yn ystyrlon, nid seilwaith teithio llesol yn unig ond y newid diwylliannol a fyddai'n galluogi ysgolion i'w gwneud yn gwbl arferol i gerdded ac i feicio i ysgol, byddai'r effaith yn sylweddol, ond byddai'n effeithio'n arbennig o gymesur ar ferched ifanc, oherwydd byddai'r manteision y byddent yn eu cyflawni drwy hynny yn fwy, yn ôl astudiaethau a wnaed, na chyda bechgyn ifanc, er y byddai merched a bechgyn yn ei wneud.

Felly, hoffwn ddweud wrth Weinidogion y Llywodraeth sydd wedi gweld hyn—ac roedd yn galonogol iawn, ychydig wythnosau'n ôl mewn gwirionedd, pan ddaeth y Gweinidog Addysg i gyflwyniad gan ysgol yng Nghaerdydd yma yn y Senedd a gwylio'r hyn a wnaethant. Mae'n anodd dweud weithiau wrth ysgolion yn eich ardal eich hun, 'Dychmygwch ysgol lle byddai'r corff llywodraethu yn dweud, "Rydym yn mynd i wneud hyn; rydym yn mynd i wneud ein hunain yn ysgol deithio llesol. Rydym yn mynd i'w wneud o ddifrif, nid y seilwaith yn unig, nid y rheseli beiciau'n unig, rydym yn mynd i'w wneud. Ac rydym yn mynd i'w wneud mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn mynd i gael yr ymrwymiad gan uwch arweinwyr yr ysgol, gan yr athrawon, y penaethiaid, cadeirydd y llywodraethwyr, y corff llywodraethu, rydym yn mynd i ymgysylltu â'r awdurdod lleol yn ei gylch i wneud yn siŵr nid yn unig fod gennym y seilwaith caled yn yr ysgol, ond o gwmpas yr ysgol ac o amgylch y dref ac yn y gymuned honno hefyd". Dychmygwch ysgol lle maent yn dweud wrth bob rhiant unigol, "Rydym yn mynd i gyflwyno cytundebau teithio personol gyda chi. Ar ddechrau eich blwyddyn ysgol, rydym yn mynd i siarad ynglŷn â sut y bydd eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel a hynny heb fod mewn car. Felly, gallwch gerdded, gallwch gael crocodeilod, gallwch fynd ar sgwter, gallwch feicio, gallwch wneud beth bynnag, ond rydym am gael y ddealltwriaeth a'r cytundeb hwnnw", a chan weithio gyda'r rhieni, er gwaethaf amheuaeth, eich bod yn cyrraedd y pwynt lle mae pob rhiant yn cytuno i'w wneud, ac yna ymwneud â thrigolion lleol i esbonio iddynt beth fydd yn digwydd, y bydd grwpiau bach o blant yn mynd heibio iddynt yn y bore ac i beidio â phoeni am hynny—bydd hynny'n arferol yn awr—a bydd ganddynt blant yn mynd heibio i gefnau eu tai ar y lonydd beicio ar feiciau mewn niferoedd mawr.

Nawr, mae ffordd o wneud hyn ac mae'n galw am gymorth ac arweiniad i rieni, a bydd rhai ohonynt yn amheus. Mae'n galw am i seilwaith yr ysgol ar gyfer beiciau a sgwteri, a pharcio ar gyfer beiciau a sgwteri yn hytrach na cheir—

16:20

A fyddech yn cytuno hefyd y byddai terfynau cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd trefol yn gymorth mawr i gyflawni'r math hwnnw o newid?

Yn sicr, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, John. A chredaf fod y gwaith a wnaethoch ar roi'r ddeddfwriaeth arloesol ar waith i wneud hyn wedi mynd â ni gam o'r ffordd, ond mewn gwirionedd, erbyn hyn byddai gwireddu dyheadau Llywodraeth Cymru i gael terfynau cyflymder de facto o 20 mya mewn ardaloedd trefol yn help mawr yn hyn, ac yn wir, mae wedi rhagweld yr hyn roeddwn yn mynd i'w ddweud nesaf: dychmygwch ysgol a fyddai'n gweithio gydag awdurdod lleol ar gyflawni hynny mewn gwirionedd, ac ysgol wedyn a fyddai'n datblygu eu bysiau cerdded gyda'r rhieni dan sylw, gan gynnwys rhai o'r rhieni mwy amheus.

Wel, mae hynny'n digwydd. Mae gennym hynny'n union yn digwydd yn awr yng Nghaerdydd, yn Ysgol Hamadryad. Ac o'r gorau, gallwch ddweud bod ganddi fanteision pendant, ond nid oedd yn hawdd gwneud i hynny ddigwydd. Roedd yn ysgol newydd sbon, gallent ddechrau o ddalen wag mewn ardal gymharol wastad ac yn y blaen, ond fe wnaethant weithio gyda'r cyngor, fe wnaethant weithio gyda'r heddlu, fe wnaethant weithio gyda'r rhieni, fe wnaethant berswadio'r amheuwyr. Ac fe wnaethant weithio gyda'r heddlu hyd yn oed i ddweud ac i egluro i rieni a phreswylwyr, 'Byddwn yn annog rhybuddion parcio yn gyntaf oll, ond wedyn rhoddir dirwyon i unrhyw un sy'n parcio', a wyddoch chi, ers mis Medi diwethaf, pan gyflwynasant y dirwyon, dim ond tri a gawsant, ac nid oedd yr un ohonynt, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar gyfer rhieni—roeddent i bobl eraill a ddaeth i mewn i'r ardal i barcio. Mae hyn yn eithaf rhyfeddol, ac mae'r effaith a amlygwyd yn adroddiad y pwyllgor ynglŷn â beth y gall hyn ei wneud i iechyd pobl ifanc, ni waeth beth yw'r pethau eraill sydd yn yr adroddiad, yn arwyddocaol. Mae'r ddeddfwriaeth arloesol honno gennym. Os oes gennym ewyllys yn awr ar ran Gweinidogion—y Gweinidog sy'n gyfrifol am deithio llesol, y Gweinidog Addysg, a Gweinidogion llywodraeth leol a chymunedau ac eraill—i wneud i hyn weithio o ddifrif, gallwn wneud gwahaniaeth enfawr. Mae 101 o resymau pam na allwn ni wneud hyn; mae 101 o resymau gwell o lawer pam y dylem. Mae Ysgol Hamadryad yn profi y gellir ei wneud. Gadewch inni weld a allwn ei wneud drwy Gymru gyfan.

Cefais y fraint o fod yn aelod o'r pwyllgor wrth i'r ymchwiliad i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc gael ei gynnal. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau'r pwyllgor, y clercod a phawb a roddodd dystiolaeth dros gyfnod yr ymchwiliad. Fel cyn-athrawes addysg gorfforol fy hun, mae'r pwnc hwn a'i bwysigrwydd yn agos iawn at fy nghalon—rwy'n deall yn llwyr, ar ôl blynyddoedd lawer o astudio sut y mae twf a datblygiad corfforol ac emosiynol yn cael eu gwella drwy weithgarwch corfforol, a'i bwysigrwydd i'r twf hwn a'i berthynas ag ef.

Fel y mae Dai yn ei ddweud yn gwbl gywir yn y rhagair i'r adroddiad, gordewdra yw un o'r heriau mwyaf difrifol yn fyd-eang ym maes iechyd cyhoeddus ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac mae gan Gymru un o'r lefelau uchaf o ordewdra yng ngorllewin Ewrop. Rwy'n croesawu 20 argymhelliad y pwyllgor ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf ohonynt. Mae'n wirioneddol siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dau o'r rhai pwysicach, sef argymhellion 6 ac 8.

Mae plant yn treulio llawer o'u hwythnos yn yr ysgol, ac eto mae llai na'u hanner yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. O ganlyniad, mae llai na hanner y plant yn bodloni'r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgarwch corfforol. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw mai dim ond un o bob 6 o blant 11 i 16 oed sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cymharol egnïol i egnïol iawn am o leiaf awr y dydd. Ni allwn ei adael i awdurdodau addysg lleol sicrhau gwelliant. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad.

Yn ddiweddar, cefais siom o glywed am y bwriad i fyrhau'r diwrnod ysgol yn Ysgol Gynradd Notais yn fy rhanbarth. Bydd y newidiadau arfaethedig i'r diwrnod ysgol er mwyn cyd-fynd â'r ysgol gyfun gyfagos yn dileu egwyl y bore ac yn torri 20 munud oddi ar amser cinio'r disgyblion, a bydd y newid hwn yn lleihau'n ddramatig y cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol i ddisgyblion yn yr ysgol hon. Mae chwarae'n hanfodol i iechyd a lles ein pobl ifanc, a dylem fod yn cynyddu cyfleoedd, nid eu lleihau, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei safbwynt ar argymhellion 6 ac 8.

Yn olaf, er fy mod yn croesawu argymhelliad 19 y pwyllgor a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn mewn egwyddor, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach. Rhaid i ddatblygiadau tai cymdeithasol newydd gynnwys mannau gwyrdd mor agos i'r annedd â phosibl. Dylai pob cartref gael gardd unigol i blant chwarae ynddi, a lle nad yw hynny'n bosibl, gardd a rennir.

Rhaid inni fod yn feiddgar os ydym am sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc mor iach ag sy'n bosibl. Diolch yn fawr.

16:25

Mae mynd i'r afael â phroblemau iechyd ein cenedl ni'n gorfod bod yn flaenoriaeth. Does prin angen dweud hynny. Dŷn ni'n gwybod bod gordewdra a diffyg gweithgarwch corfforol, sy'n helpu i greu'r gordewdra yna, yn rhywbeth na allwn ni fforddio ei anwybyddu ar unrhyw lefel. Mae yna Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 gennym ni bellach sy'n mynnu bod yna strategaeth mewn lle ar gyfer taclo gordewdra. Roeddwn i'n falch o gael chwarae fy rhan fel llefarydd iechyd Plaid Cymru ar y pryd mewn sicrhau bod y gwelliant hwnnw'n cael ei gynnwys i'r Bil drafft gwreiddiol.

Ond yr her rŵan, wrth gwrs, ydy sicrhau bod strategaeth yn cael ei rhoi mewn lle all yn wirioneddol newid diwylliant at fuddsoddi o'r newydd ac at gyflwyno llawer mwy o frys neu urgency, felly, yng ngweithredoedd y Llywodraeth. A, heb os, mae sicrhau bod camau'n cael eu rhoi mewn lle i annog mwy o weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc yn gorfod bod, dwi'n meddwl, yn ganolog i hynny. Yn wir, roeddwn i'n hynod o falch fel aelod o'r pwyllgor iechyd ar y pryd, fod consensws wedi ei gyrraedd ymhlith yr Aelodau bod hwn yn faes oedd yn haeddu ein sylw ni, a'r adroddiad yma dŷn ni'n ei drafod y prynhawn yma ydy'r canlyniad, wrth gwrs.

Mae'n broblem genedlaethol. Mae'n ddrwg gen i ddweud ei bod hi'n broblem arbennig o ddifrifol yn fy etholaeth i. Mi wnaeth ymchwil diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddangos bod 13.5 y cant o blant pedair a phump oed yn Ynys Môn yn ordew, a hynny o'i gymharu â 12 y cant drwy Gymru. Mi oedd dros chwarter plant Cymru, gyda llaw, yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau.

Ac mi oeddwn i'n falch iawn mai'r tyst cyntaf ddaeth o'n blaenau ni fel pwyllgor fel rhan o'r ymchwiliad yma oedd Ray Williams, cyn-hyfforddwr corfforol yn y fyddin, enillydd medal aur y Gymanwlad am godi pwysau ac sydd rŵan drwy ei gampfa, sy'n fenter gymdeithasol hynod lwyddiannus yng Nghaergybi, yn trio mynd ati i newid agweddau tuag at iechyd a ffitrwydd. Mi ges i sgwrs efo Ray ddechrau'r wythnos yma ac mae'r ddau ohonom ni'n cytuno bod hwn yn adroddiad defnyddiol iawn, ond bod ymateb y Llywodraeth yn hynod, hynod o siomedig.

Does gennym ni'n dau, yn sicr, ddim amheuaeth mai un o'r prif bethau sydd angen eu gwneud ydy defnyddio'r ffaith bod plant gennym ni yn yr ysgol am gyfran helaeth o'u bywydau nhw er mwyn gyrru newid mewn lefelau ffitrwydd ac iechyd. Yn bersonol, mi fuaswn i'n licio symud at rywbeth fel awr o weithgarwch corfforol bob dydd i bawb drwy gyfuniad o weithgaredd o fewn oriau ysgol, dywedwn ni, a thu allan i'r ysgol. Mi wnaeth y pwyllgor gasglu tystiolaeth ryngwladol. Mi ddaeth Slofenia i'r amlwg fel gwlad wnaeth sylweddoli'r argyfwng iechyd oedd yn eu hwynebu nhw a wnaeth drawsnewid eu hagwedd nhw tuag at gyflwyno gweithgarwch corfforol i fywydau plant a phobl ifanc, ac i wneud hynny'n genedlaethol. Fe wnaf i ddyfynnu o'r adroddiad:

'Mae Senedd Slofenia wedi mabwysiadu Rhaglen Chwaraeon Genedlaethol ar gyfer 2014-2023 sy’n cynnig y camau canlynol: darparu o leiaf 180 munud o AG o ansawdd da yr wythnos i bob plentyn, darparu gwersi nofio a beicio am ddim fel ffordd o wella cymwyseddau cymdeithasol, a sicrhau amser hamdden ar gyfer gweithgareddau chwaraeon.'

Mae'n mynd ymlaen i restru rhai o'r camau eraill. Ac ydy, mae'r amser sy'n cael ei warantu ar gyfer gweithgarwch corfforol yn bwysig, a dyna pam rydw i, fel Cadeirydd y pwyllgor, mor siomedig i weld y Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad y pwyllgor—argymhelliad 8—i wneud y 120 o funudau o addysg gorfforol, sydd yn cael ei argymell yn barod ar gyfer ysgolion, yn statudol. Dydy 120 munud yr wythnos, fel dwi wedi dweud yn barod, ddim yn ddigon uchelgeisiol yn fy nhyb i, ac mae gwrthod hyd yn oed gwarantu hynny yn fethiant mawr, dwi'n meddwl, ar ran y Llywodraeth, i gymryd y mater yma ddigon o ddifri.

A beth sy'n digwydd yn llawer rhy aml, dwi'n gwybod o brofiad fy mhlant fy hun a'r hyn a glywsom ni fel pwyllgor, ydy bod amser gweithgarwch corfforol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion eraill. Diben argymhelliad 9, wedyn, mewn difri, ydy atal hynny rhag digwydd, drwy gael Estyn i roi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol, i fesur ac i werthuso'r addysg gorfforol sy'n cael ei gynnig. Ydy, mae'r Llywodraeth yn cytuno ar y pwynt o'i wneud o'n flaenoriaeth, ond maen nhw'n gwneud nodyn, wedyn, yn eu hymateb i'r pwyllgor yn dweud nad ydyn nhw wrth gwrs yn cytuno y dylai rhoi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol olygu sicrhau 120 munud o weithgarwch yr wythnos. Mae hynny eto yn hynod, hynod siomedig.

I gloi, mater arall dwi'n siomedig ynddo fo ydy bod y Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad 6 i gyflwyno rhaglen o fuddsoddiad mewn ysgol sydd ddim yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Dweud maen nhw, yn eu hymateb, fel clywsom ni gan Helen Mary Jones, ydy mai mater i awdurdodau lleol ydy hyn. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol wedi gweld eu cyllid nhw yn cael ei dorri yn arw, ond buddsoddiad ydy hyn, yn ein plant, yn ein dyfodol. Ddaw iechyd ein cenedl ni ddim am ddim, ac ar ddiwedd y dydd, corff iach, meddwl iach.

16:30

Hoffais yn fawr y ffocws yn eich adroddiad ar y sgiliau echddygol sylfaenol y mae angen i blant eu datblygu ar oedran ifanc, a'r camsyniad y bydd yr holl sgiliau sydd eu hangen arnynt yn datblygu'n naturiol yn ystod plentyndod drwy redeg o gwmpas, ac mae hynny'n gwbl anghywir. Yn union fel y dywed un o'ch tystion, ni fyddech yn disgwyl i bobl ddysgu darllen drwy luchio bag o lythrennau atynt a thybio y byddai llythrennedd yn deillio o'r anhrefn. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith bod eich adroddiad wedi nodi'r bwlch hwn yn y cyfnod sylfaen o ran dysgu'r sgiliau echddygol a chydsymud hyn, sy'n amlwg yn—. Mae'n effeithio'n wirioneddol ar hyder plant os nad oes ganddynt y sgiliau hynny, oherwydd dyna sut y maent yn ffurfio cyfeillgarwch, ac os na allant wneud pethau y gall eu cymheiriaid eu gwneud, mae'n mynd i'w hanalluogi'n fawr.

Felly, rwy'n cytuno'n llwyr fod gan ysgolion rôl hanfodol i'w chwarae yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn fwy egnïol yn gorfforol, ond credaf fod angen mynd i'r afael â'r broblem yn gynharach o lawer. Sylwaf, yn ymateb y Llywodraeth, y bydd mwy o fesur pwysau babanod a phlant bach, a hoffwn dybio ein bod yn defnyddio'r cyfleoedd cyswllt hynny i holi eu gofalwyr am y gweithgarwch corfforol y maent yn ei wneud, yn ogystal â deiet y plentyn. Rwy'n derbyn y ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 3 ynghylch pwysigrwydd ymagwedd teulu cyfan tuag at y plant sydd mewn perygl o fod yn ordew, a thybed a yw'r Llywodraeth wedi ystyried llwyddiant HENRY yn Leeds, sef ymagwedd system gyfan tuag at addysg gynnar a rhieni plant ifanc, a ddangosodd fod cyfraddau gordewdra plant sy'n dechrau yn y dosbarth derbyn yn Leeds wedi gostwng, cyfraddau sy'n mynd i'r cyfeiriad arall yng ngweddill y wlad.  

Felly, rhaid bod rhywbeth yn iawn am yr hyn y mae ymyrraeth HENRY yn ei wneud, sef dibynnu ar hyfforddi gwirfoddolwyr i weithio ar raglen gymorth un i un i alluogi teuluoedd sydd dan anfantais, sy'n llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau statudol i fanteisio ar y rhaglen teuluoedd iach. Credaf fod y gwaith a wnaethpwyd gan HENRY wedi bod yn—. Mae llawer o dystiolaeth ei fod yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol yn ystadegol o ran sicrhau newidiadau parhaus mewn rhianta, deiet, gweithgarwch corfforol, lles emosiynol ac arferion ffordd o fyw. Mae'r pethau hyn i gyd yn mynd law yn llaw. Os nad yw pobl yn egnïol yn gorfforol, fel y mae Angela Burns eisoes wedi dweud, maent yn annhebygol o fod yn dda iawn yn emosiynol ac yn feddyliol. Sylwaf eu bod yn gweithio mewn sawl rhanbarth yn Lloegr mewn gwirionedd, a pheth o'r gwaith a wnânt yw hyfforddi staff mewn canolfannau plant yn Lloegr. Felly, fy nghwestiwn i'r Llywodraeth yw: a ydych wedi ystyried defnyddio'r rhaglen hon yng Nghymru, ac a gredwch y byddai Dechrau'n Deg yn elwa o'r fethodoleg? Os nad ydych, a allwch roi tystiolaeth bod Dechrau'n Deg yn cyflawni'r canlyniadau gwell a welsom yn y rhaglen yn Leeds?

Gan symud ymlaen at yr hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion uwchradd, rwy'n cytuno ei bod yn siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad 8—ar gyfer dwy awr o weithgarwch corfforol pwrpasol yr wythnos. Nid yw'n llawer iawn o amser wedi'r cyfan. Gofynnais i'r ysgol uwchradd lle rwy'n llywodraethwr, ac maent yn cydymffurfio yng nghyfnod allweddol 3, ond erbyn cyfnod allweddol 4 mae wedi gostwng i un awr oherwydd pwysau'r cwricwlwm. Ond rwy'n credu bod hwnnw'n benderfyniad hynod gibddall, yn syml oherwydd, os nad ydynt yn bod yn egnïol, nid yw eu hymennydd yn mynd i fod mor weithgar chwaith. Felly, credaf y byddai awr arall o weithgarwch corfforol yn gwella'u perfformiad academaidd mewn gwirionedd.

Os edrychwn ar yr hyn sy'n digwydd ar ôl ysgol, dim ond 50 y cant o ddisgyblion blwyddyn 7 sy'n gwneud unrhyw ymarfer corff y tu allan i'r ysgol bedair gwaith yr wythnos, ac mae'n disgyn i draean ym mlwyddyn 11. Felly, rwyf am wybod beth y mae'r Llywodraeth yn ystyried ei wneud i agor pob ysgol i fod yn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rwy'n ystyried hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Yn yr un modd ag y mae gennym argyfwng newid hinsawdd, mae gennym argyfwng iechyd cyhoeddus hefyd. Ar yr un nodyn, sawl ysgol sydd â chynllun teithio llesol? Unwaith eto heddiw gwelais gerddwyr yn cael eu gwthio oddi ar y ffordd gan yrwyr yn danfon eu plentyn—sy'n abl yn gorfforol—i'r ysgol mewn car ar hyd y strydoedd cefn. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac nid yw'n llesol i'r plentyn, sy'n anadlu'r holl fygdarth o'r car.

Mae ysgol breifat yn fy etholaeth yn derbyn disgyblion o dair sir, ac mae ganddynt gynllun teithio llesol. Pam na all pob ysgol gael cynllun teithio gweithredol? Lle mae'n rhaid cludo plant mewn bws i'r ysgol oherwydd bod yr ysgol 10 neu 11 milltir o'r man lle mae pobl yn byw, stopiwch y bws o leiaf hanner milltir o'r ysgol a gallant gerdded neu redeg yr hanner milltir olaf. Dyma bethau y mae angen inni eu gwneud ac mae angen inni eu gwneud yn awr oherwydd mae gennym broblem fawr.

16:35

A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe wna i geisio canolbwyntio ar yr adrannau hynny rydym wedi ymateb iddyn nhw ychydig yn negyddol, yn ôl barn y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma. Ond, cyn gwneud hynny, fe garwn i gyfeirio at ddau bwynt yn benodol. Yn gyntaf, ein bod ni yn edrych ar holl gwestiwn cyflwr corfforol a chyflwr iechyd disgyblion o safbwynt holistig a chymunedol. Dwi'n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies yn benodol am gyfeirio at yr ysgol ddiweddaraf sydd wedi'i chodi yma ym Mae Caerdydd, y bydd y Gweinidog Addysg yn dod i'w hagor hi yn fuan. Mae'r ysgol yna yn enghraifft ac yn ysbrydoliaeth o sut y mae modd gweithredu yn gymunedol mewn ffordd sydd yn diogelu disgyblion ac ymwelwyr ag ysgol ond sydd hefyd yn cyfarfod â'r her o beidio â dibynnu ar geir i gario plant yn gyson i'r ysgol.

16:40

Rwy'n falch o ddweud fy mod yn credu bod llawer o enghreifftiau da ledled Cymru o ysgolion yn ateb yr her hon, a tybed a fyddech yn ymuno â mi i gydnabod cynnydd ysgolion fel Ysgol Gynradd Ringland yn fy etholaeth i, lle maent wedi cynyddu cerdded, beicio a mynd ar sgwter i'r ysgol 20 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf, felly erbyn hyn mae ychydig dan hanner y disgyblion yn teithio i'r ysgol gan ddefnyddio'r dulliau hynny.

Diolch yn fawr am ddweud wrthyf am Ysgol Gynradd Ringland, ac yn sicr rwy'n eu llongyfarch, oherwydd i mi, dyma'r ffordd y mae'n rhaid inni fynd. Rhaid inni symud yn gyfannol ac ar sail cymuned a chymuned yr ysgol ei hun, a'r gymuned ehangach.

Peth arall sydd yn bwysig i'w nodi, dwi'n meddwl, ydy ein bod ni wedi symud ymlaen i weithredu mewn partneriaeth gyda chyrff eraill er mwyn canolbwyntio ar y cwestiwn iechyd, sydd mor ganolog i ni fel gwlad, fel mae pawb wedi'i ddweud yn y ddadl. Ac rydym ni wedi gwneud hynny drwy gael y cyrff sydd yn gweithio yn y maes yma i gydweithio'n gadarn gyda'i gilydd—sef y corff iechyd sy'n hybu iechyd, a'r corff chwaraeon, Chwaraeon Cymru, yn ogystal hefyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n pwysleisio yr ochr amgylcheddol a'r ochr o ddefnyddio byd natur a'r amgylchedd o'n cwmpas ni fel lle i bobl gael profiadau o fod yn fywiog yn gorfforol.

Ond peth arall rydym ni wedi'i wneud efo Chwaraeon Cymru ydy cymryd sylw penodol o fynd i'r afael â'r cwestiwn o gyfranogaeth merched a menywod mewn chwaraeon. Ac mae cylch gorchwyl Chwaraeon Cymru erbyn hyn yn cynnwys ffocws penodol ar annog merched a menywod i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Ac mae yna raglen arbennig o ymweliad gan athletwyr amlwg ag ysgolion er mwyn sicrhau bod yna ddelwedd o fenywod llwyddiannus ym maes athletau yn cael ei gosod o flaen ysgolion. Ac mae yna gynllun arbennig, sef Llysgenhadon Ifanc, sydd wedi'i ddatblygu, ac mae hyn yn fodd o dynnu sylw at yr enghreifftiau llwyddiannus sy'n fodelau i bobl eu dilyn.

Rydych chi'n garedig iawn yn derbyn ymyriad. Credaf mai'r pwynt yr hoffwn ei wneud yw ein bod yn cyfeirio llawer at chwaraeon, ac rwy'n ymwybodol o raglenni Chwaraeon Cymru, ond wrth gwrs, i fenywod ifanc—12, 13, neu 14 oed, mae hormonau'n rasio o amgylch eu cyrff, maent yn ymwybodol iawn o'u corff, yn ymwybodol iawn o geisio darganfod beth yw eu pwrpas a phopeth—a dweud y gwir, gallai'r syniad fod rhywun yn dod i mewn ac yn gwneud yr ochr chwaraeon i bethau ladd eu diddordeb. A buaswn wrth fy modd yn gweld rhai o'r sefydliadau hyn yn bod yn llawer mwy creadigol yn y ffordd y maent yn cael y menywod ifanc hyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

Wel, dyma'r holl bwynt am symud i ffwrdd oddi wrth y syniadau traddodiadol am weithgarwch corfforol ac addysg gorfforol fel y'u haddysgir. Mae'n ymgais i wneud gweithgarwch corfforol yn atyniadol drwy ryngweithio â'r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y maes hwnnw. Nid mater o ddweud ein bod yn disgwyl i bawb roi cynnig ar chwaraeon elît yw hyn, ond disgwyliwn i bawb roi cynnig ar weithgarwch corfforol i raddau sy'n eu bodloni, sy'n eu galluogi i fwynhau bywyd i'r eithaf. A dyna pam y mae'r modelau rôl hyn mor bwysig.

Gaf fi sôn hefyd am yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn feirniadol ynglŷn â'r argymhellion sydd wedi cael eu gwrthod, a'i gwneud hi'n hollol glir mai'r rheswm ein bod ni wedi gwrthod nifer o'r argymhellion yma ydy am ein bod ni yn credu bod y ffordd rydym ni'n gweithredu ar hyn o bryd yn delio â'r hyn sydd yn yr argymhellion?

Er enghraifft, dwi'n meddwl bod yna gamddealltwriaeth yn y fan hyn ynglŷn â natur y newidiadau cwricwlwm y mae'r Gweinidog Addysg yn eu harwain ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn maes—a dwi'n ddigon hen i fod wedi bod yn ymwneud â'r cwricwlwm cenedlaethol yn ôl yn y 1980au, a dwi'n falch iawn o weld y cysyniad yna yn diflannu o'n disgẃrs ni. Dyna pam ein bod ni wedi gwrthod yr argymhelliad ynglŷn â 120 o funudau o addysg gorfforol. Oherwydd beth rydym ni am ei weld yn digwydd ydy annog y math o beth y ces i'r pleser o'i weld yn Llansanffraid Glan Conwy yn sir Conwy, lle dwi'n byw, yn gymharol ddiweddar, sef y modd yr oedd y disgyblion yn cymryd rhan yn y filltir ddyddiol mewn cae neu ran o gaeau'r ysgol, a hynny yn cael ei wneud heb unrhyw fath o orfodaeth, ond yn cael ei wneud gan fod yr arfer da yna wedi'i ddatblygu o fewn yr ysgol a bod hynny'n digwydd yn ddyddiol. Mae Estyn, fel sydd wedi cael ei bwysleisio gennym ni sawl gwaith, yn parhau i adolygu eu dulliau o arolygu i gefnogi'r cwricwlwm newydd ac mae hynny'n mynd i olygu ystyried y modd y gellir edrych ar ansawdd addysgu yn yr holl feysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yn y maes penodol yma.

16:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi. Dwi innau hefyd yn ffan mawr o'r filltir ddyddiol. Roedd yr ysgol roedd fy mhlant i yn mynd iddi, Ysgol Henblas yn Llangristiolus, yn gwneud hynny ac roedd yn dod â budd mawr i'r plant. Wrth fy mod am weld 120 munud yn cael ei roi i weithgarwch gorfforol, dwi'n berffaith hapus i hynny gynnwys y filltir ddyddiol. Dydw i ddim yn golygu yn angenrheidiol gwersi addysg gorfforol ffurfiol. Y pwynt ydy bod yn rhaid sicrhau bod yr amser yna yn cael ei neilltuo rhywsut, a grymuso Estyn i fynnu ei fod yn digwydd drwy ei wneud yn statudol. 

Wel, beth rydym ni wedi symud oddi wrtho fo fel Llywodraeth erbyn hyn ydy'r syniad bod cwricwlwm cenedlaethol yn cael ei osod ar ysgolion, yn hytrach bod y profiad addysgol sydd yn cael ei fwynhau mewn ysgolion yn datblygu o fewn yr ysgolion yna, ac felly ein bod ni'n ceisio gosod hyn i gyd yng nghyd-destun y polisïau sy'n cael eu datblygu ar draws y Llywodraeth.

Er enghraifft, mae'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a fydd yn cael ei chyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Hydref, yn mynd i roi fframwaith newydd i ysgogi cynnydd i'r ymrwymiad o weithredu'n egnïol ar draws Cymru. Fe fydd yna gyfle i ni yn fuan, cyn diwedd y flwyddyn yma, i weld canlyniad y cydweithio rhwng Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru—y bartneriaeth gweithgarwch corfforol Cymru sydd yn dwyn y materion yma at ei gilydd. Mae'r defnydd sydd wedi cael ei wneud o'r gronfa iach ac egnïol—mae'r gronfa yna yn barod wedi creu ymateb ac fe fydd yna gyhoeddiad yfory ynglŷn â nifer o'r cynlluniau sydd yn cael cefnogaeth o ran y gronfa honno.

Felly, y symudiad sydd yn bwysig i ni wedyn ydy ein bod ni'n mynd i ymateb i'r heriau sydd gennym ni drwy'r canllawiau newydd gan y prif swyddog meddygol, y cyfeiriais i atyn nhw, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr haf, ond hefyd drwy'r gweithgaredd sydd yn mynd i gynyddu ar yr ochr gymunedol, pan fydd ysgolion yn edrych ar yr her y byddwn ni'n ei osod iddyn nhw. Dwi'n derbyn—a dyma'r pwynt olaf dwi am wneud—fod yna her ddifrifol yn y fan yma, ond dwi am ddweud mai nid drwy efengylu gan unigolion yr ydym ni'n mynd i ddatrys y sefyllfa yma, ond drwy gydweithio'n gymunedol yn ein hysgolion. 

Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi'n falch i ymateb. Diolch i bawb am eu cyfraniadau. 

Yn amlwg, fe glywsom, ac ni wnaf ailadrodd y dadleuon a amlinellais yn yr araith wreiddiol, a dwyn ynghyd yr holl dystiolaeth a gawsom, ond erys y ffaith bod gordewdra'n agenda enfawr sy'n codi. Mae'r dystiolaeth a gawsom fod sgiliau echddygol sylfaenol cynnar, y sgiliau cydsymud a ddysgir ar oedran cynnar yn hanfodol bwysig. Dyna'r dystiolaeth ac nid yw'n digwydd ar hyn o bryd. Dyna'r dystiolaeth hefyd, ac mae angen iddo ddigwydd, a dyna hefyd yw'r dystiolaeth.

Clywaf yr hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud am 120 munud o weithgarwch corfforol fel lleiafswm statudol, ond y dystiolaeth a gawsom—rydym yn ceisio seilio popeth ar dystiolaeth—yw bod yn rhaid i hynny ddigwydd. Nid yw'n digwydd pan nad yw'r 120 munud yn cael ei ragnodi ar hyn o bryd mewn llawer iawn o ysgolion. Nid ydynt yn cael yn agos at y 120 munud, faint bynnag y byddai pobl yn hoffi iddo ddigwydd. Nid yw'n digwydd oni bai eich bod yn ei roi ar sail statudol ac unwaith eto, dyna'r dystiolaeth a gawsom.

Unwaith eto fel y dywed y dystiolaeth, os ydych yn ffit yn gorfforol, mae eich pwysedd gwaed 30 y cant yn is nag os nad ydych yn ffit yn gorfforol. Mae lefel y siwgr yn eich gwaed 30 y cant yn is nag os nad ydych yn ffit yn gorfforol, ac mae eich colesterol yn y gwaed 30 y cant yn is nag os nad ydych yn ffit yn gorfforol, ac mae eich pwysau yn normal o gymharu ag os nad ydych yn ffit yn gorfforol. Ond mae'r greddfau hynny'n cael eu gwreiddio ar oedran cynnar, a dyna lle mae'n ymwneud ag ysgolion, mae'n ymyrraeth gynnar yn yr ysgol, mae'n fater i rieni—rydym yn sôn llawer am deuluoedd a phethau—a dyna'r dystiolaeth.

A'r rhan arall o'r dystiolaeth oedd bod angen newid sylweddol ar ran y Llywodraeth. Nid yw busnes fel arfer yn gwneud y tro. Rydym yn wynebu epidemig o ordewdra, a rhaid inni wynebu hynny ac ysgwyddo ein cyfrifoldeb, a dyna'r dystiolaeth a gawsom hefyd. Bydd pobl bob amser yn sôn bod costau iechyd yn cynyddu. Mae hynny'n wir oherwydd mai iechyd sy'n gorfod ysgwyddo'r baich y dylem fod yn ei ddatrys yn awr yn ifanc o dan addysg, gweithgarwch corfforol, neu unrhyw bortffolios eraill y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu dal.

Felly, er mwyn osgoi'r cynnydd hwnnw mewn costau iechyd, mae angen inni ddatrys y broblem yn gynharach o lawer, fel y mae'r Aelodau wedi tystio. Rwy'n ddiolchgar am sylwadau cefnogol pawb. Angela, yn gyntaf oll, yn pwysleisio'r epidemig gordewdra ac nid y namau corfforol yn unig, ond namau meddyliol hefyd. Ac rwy'n ddiolchgar i Vikki Howells hefyd am bwysleisio'r dreth siwgr y mae angen inni fod yn gyfrifol amdani er mwyn gwneud yn siŵr fod yr arian o'r dreth siwgr yn cael ei fuddsoddi yn yr agenda gordewdra yma yng Nghymru. Nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd oherwydd nad ni sy'n ei rheoli. Ac yn amlwg, defnyddio ysgolion hefyd, ein hysgolion modern, am gyfnod hwy y tu allan i oriau ysgol arferol.

Rwy'n ddiolchgar i Helen Mary am bwysleisio'r pwyntiau pwysig hyn, fod angen newid sylweddol mewn ymddygiad, fel y dywedasom. Nid yw'r hyn rydym yn ei wneud yn awr yn llwyddo i wneud hynny, a rhaid inni newid. Dilynodd Huw Irranca agenda wahanol—ond cysylltiedig yn amlwg—o ran teithio llesol a'r newid diwylliannol y mae angen iddo ddigwydd, ac rwy'n ddiolchgar am ei brofiad. Ac yn amlwg, John Griffiths ar y terfyn cyflymder o 20 mya. Mae cymaint o agweddau ar hyn i gyd yn dod at ei gilydd, yn ogystal â Caroline Jones yn rhoi ei phrofiad fel athrawes addysg gorfforol. Rhun, o ran—

—y dystiolaeth bwerus yna y gwnaethom ni gael. Dyna oedd un o'r prif rannau o'n tystiolaeth ni i gyd, oedd clywed Ray Williams yn traddodi ei feirniadaeth ar beth ddylai fod yn digwydd, o'i gampfa yng Nghaergybi. Ie, ac hefyd yn cytuno, fel rydym ni fel pwyllgor yn cytuno, fe wnaeth y pwyllgor adroddiad bendigedig, ond bod ymateb y Llywodraeth mor, mor siomedig. A dyna ydy'r ymateb allan yn fanna, achos mae'n gofyn camu yn sylweddol i fyny i'r plât. Fe wnaethom ni glywed hanes Slofenia, gwlad yr un faint â Chymru, 1 miliwn yn llai o bobl na Chymru, annibynnol wrth gwrs, ond yn amlwg yn gallu meddwl yn greadigol ynglŷn â'r pethau yma, a hefyd yn dyfarnu bod angen 180 o funudau bob wythnos. Ac wrth gwrs, maen nhw yn blaenoriaethu gweithgarwch corfforol. Mae o'n hynod, hynod bwysig.

Rwy'n ddiolchgar am bwyslais Jenny Rathbone ar y sgiliau sylfaenol a chydsymud hynny a ddysgwch yn ifanc iawn pan allwch wneud pethau—cicio, dal, sgiliau cydsymud ar oedran ifanc iawn. Fe fyddwch yn meithrin hyder wrth wneud hynny o oedran cynnar iawn, yn sicr cyn eich bod yn saith oed. Os nad ydych yn llwyddo i'w wneud, rydych yn meddwl, 'O, nid yw gweithgarwch corfforol yn rhywbeth i mi.' Mae'n sylfaenol bwysig. Nid yw'r cyfnod sylfaen presennol yn mynd i'r afael â hyn.

Mae wedi mynd yn goch arna i, dwi'n sylweddoli. Felly, i gloriannu, diolch i bawb am gyfrannu i'r adroddiad gwerthfawr yma. Diolch i'r holl dystion, i'r clercod a'r ymchwilwyr ac ati, i chi Aelodau am gyfrannu heddiw, ond mae yna her sylweddol yn dal i aros i Lywodraeth i gamu fyny i fan hyn—

—gan nad yw busnes fel arfer yn gwneud y tro. Diolch yn fawr.

16:55

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Plaid Cymru: Dewisiadau amgen i Ffordd Liniaru'r M4

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Daw hynny â ni at ddadl Plaid Cymru ar ddewisiadau amgen i ffordd liniaru’r M4, ac mae’r ddadl yn cael ei chyflwyno a’r cynnig yn cael ei wneud gan Delyth Jewell.

Cynnig NDM7066 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw am i'r buddsoddiad gwreiddiol a glustnodwyd ar gyfer cynnig ffordd liniaru'r M4, ac a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei glustnodi o'r newydd tuag at ddatblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch Casnewydd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i'r Llywydd. Fel arfer buaswn yn hoffi agor dadl fel hon drwy egluro pam ei bod yn amserol, ond mewn sawl ffordd, nid yw hon yn ddadl amserol. Mae gwella'r M4 wedi bod yn destun dadl ers cyn dechrau datganoli. Fe'i cynigiwyd gyntaf yn 1981 gan y Swyddfa Gymreig, ac eto dyma ni 27 mlynedd yn ddiweddarach ac rydym yn dal i'w drafod.

Gadewch imi fod yn glir: gwrthod y llwybr du arfaethedig ar sail cost a'r amgylchedd oedd y penderfyniad cywir. Nid oedd gwario swm sy'n cyfateb i 10 y cant o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru ar un darn o ffordd a fyddai wedi dinistrio gwastadeddau Gwent yn ffordd dderbyniol o weithredu. Yn fwy na hynny, mae astudiaethau wedi dangos bod uwchraddio ffyrdd ynddo'i hun yn arwain at fwy o geir yn defnyddio'r ffyrdd hyn. Ein Senedd ni oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Rwy'n falch iawn o hynny, ac mae hwn yn un o'r camau, anodd ie, ond hollol angenrheidiol yr oedd yn rhaid iddo ddeillio o'r datganiad hwnnw. Ond roeddem yn gwybod hyn i gyd cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu gwario £114 miliwn a threulio pum mlynedd o ymdrech ar yr ymchwiliad a datblygu'r prosiect. Dyna £114 miliwn yn fwy y gellid bod wedi'i wario ar gynllun cyflawnadwy fel y llwybr glas, a gefnogwyd gan Blaid Cymru.

Felly, dyma ni'n ôl i'r dechrau. Roedd llawer ohonom yn synnu nad oedd gan Lywodraeth Cymru gynllun B yn barod i fynd, felly rydym yn gorfod dechrau o'r dechrau gyda sefydlu comisiwn arall i ystyried pa rai o'r dewisiadau eraill yn lle'r llwybr du y dylid eu dilyn. Ni fydd y problemau i Gasnewydd yn diflannu ar eu pen eu hunain. Mae'r bobl sy'n byw yng Nghasnewydd, yn cynnwys aelod o fy staff, yn daer am ateb i dagfeydd a llygredd sy'n rhy aml yn gorlifo i'w strydoedd pan fydd damweiniau yn nhwnelau Bryn-glas yn golygu bod traffig yn cael ei ailgyfeirio. Ni allwch adael iddo waethygu. Felly, rydym wedi galw'r ddadl heddiw er mwyn amlinellu dewisiadau eraill y gellid eu hystyried i helpu pobl Casnewydd gan fod yn rhaid i'w pryderon hwy fod yn ganolog yn yr ystyriaethau hyn wrth gwrs. Ond byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o leddfu tagfeydd ar ein ffyrdd ac uwchraddio ein seilwaith er mwyn ein gwneud yn wlad werdd, gynaliadwy sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Wedi'r cyfan, mae gennym werth £1 biliwn o bwerau benthyca ar gael inni bellach yn ogystal â chyllideb buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru.

O ran gwelliannau i ffyrdd, yn sicr dylid ystyried y llwybr glas ochr yn ochr â dewisiadau eraill, gan gynnwys uwchraddio ffyrdd presennol ac arwyddion electronig a fyddai'n cyfeirio cerbydau naill ai at y ffordd newydd neu'r M4 presennol i gadw traffig a masnach yn llifo. Yn fwy na hynny, dylem ystyried dysgu o esiampl yr Alban o dalu grantiau i gwmnïau sy'n penderfynu cludo nwyddau ar drenau. At hynny, dylai'r Llywodraeth edrych ar raglen o gydgrynhoi nwyddau, lle caiff nwyddau eu trosglwyddo o gerbydau llai i gerbydau nwyddau trwm mwy o faint er mwyn lleihau nifer y cerbydau ar y ffordd, ond rhan o'r ateb yn unig y gall hyn fod.

Felly, o ran gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, dylai'r opsiynau gynnwys archwilio'r posibilrwydd o ddarparu bysiau cyflym i fannau cyfyng, gwella trafnidiaeth gyhoeddus o ardaloedd fel Trefynwy a Chasnewydd i Gaerdydd er mwyn lleihau'r pwysau ar y M4, a chyflwyno gwelliannau i reilffordd Glynebwy. Mewn llawer o ardaloedd, nid yw un trên yr awr yn ddigon da. A gallai Llywodraeth Cymru hyd yn oed ystyried pennu prisiau tocynnau trên lleol. Yn olaf, gallem ystyried darparu gwasanaeth bws am ddim ar lwybrau dethol am gyfnod penodedig. Dim ond pedwar mis a gymerodd i sefydlu teithiau am ddim ar y penwythnos ar holl wasanaethau TrawsCymru, cam a gynyddodd niferoedd y teithwyr. Gallai teithio am ddim neu am hanner pris gael yr un effaith yn union. Gadewch i ni fod yn fentrus yma. Mae pobl Casnewydd a'r holl gymudwyr sydd wedi cael llond bol ar eistedd mewn ciwiau ar y draffordd angen ateb i'r broblem feunyddiol sy'n eu hwynebu, ac maent yn haeddu hynny. Mae angen ateb ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy'n cyfuno seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern â newid sylfaenol oddi wrth ddefnyddio ceir.

Rwy'n gobeithio y gall y syniadau hyn fod yn sail i'n trafodaeth ni heddiw. Bydd Plaid Cymru yn eu trafod yn fewnol—rydym eisoes yn eu trafod yn fewnol—a bwriadwn gyhoeddi ein hargymhellion manwl maes o law. Edrychaf ymlaen at glywed syniadau gan Aelodau eraill ar draws y Siambr.

Rwyf wedi dewis pum gwelliant i’r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Dwi’n galw ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

1. Yn nodi’r penderfyniad a’r datganiad llafar a wnaed gan Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth 4 Mehefin ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

2. Yn nodi’r camau arfaethedig nesaf fel yr amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Chomisiwn arbenigol i’w arwain gan yr Arglwydd Terry Burns.

3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach.

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Na, mae'n ddrwg gennyf. Yn ffurfiol.

Eich gwelliant chi oedd hwn. [Chwerthin.]

Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell George. 

17:00

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 1.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth yr £114 miliwn o arian trethdalwyr Cymru sydd wedi'i wastraffu ar ddatblygu cynigion ffordd liniaru'r M4.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys tagfeydd ar yr M4.

Gwelliant 5—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro ar frys beth yw ei chynlluniau yn y dyfodol ar gyfer datrys y tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5.

Diolch, Lywydd. Mae'n debyg fy mod yn cytuno ag ymateb cyntaf y Gweinidog heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd ac a gaf fi gynnig y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar? Rwy'n sylweddoli na fydd y Llywodraeth yn cytuno â hyn—clywais sylwadau'r Gweinidog yn gynharach—ond mae £114 miliwn wedi'i wastraffu ar ddatblygu cynllun, yn ogystal â'r ymchwiliad cyhoeddus, a oedd eisoes wedi edrych ar 28 o ddewisiadau amgen yn lle ffordd liniaru'r M4. Ystyriwyd yr holl dystiolaeth gysylltiedig gan ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, ond cafodd y prosiect ei wrthod, ac mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi gwario swm mawr o arian cyhoeddus ar baratoi ar gyfer prosiect yr M4 a'r ymchwiliad, er mwyn i'r Prif Weinidog wrthod y canfyddiadau heb fod unrhyw gynllun amgen go iawn na thargedau yn eu lle.

Nawr, fel y dywedais yn gynharach yn fy sylwadau i Weinidog yr economi a thrafnidiaeth, rwy'n amau y gall comisiwn newydd a sefydlwyd ddod i unrhyw gasgliadau gwahanol mewn cwta chwe mis i'r rhai a gafwyd gan yr ymchwiliad cyhoeddus a fu'n edrych ar y materion dan sylw am flynyddoedd lawer, ar gost o £44 miliwn i'r pwrs cyhoeddus. Ac rwy'n cytuno ag ail bwynt Plaid Cymru i'w cynnig heddiw ac yn credu bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru mewn sefyllfa dda i edrych ar gynllunio seilwaith yn y tymor ehangach hefyd.

Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am ddatblygu gweledigaeth hirdymor yn gyflym ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gwyrdd, cynaliadwy, integredig yng Nghymru. Wel, hynny'n union a ddylai fod wedi bod yn digwydd dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai Plaid Cymru yn cytuno â hynny hefyd. Rwyf wedi cael cyfle, fel Aelodau eraill, i edrych yn fanylach ar adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus.

Nawr, mae fy nodiadau'n eithaf helaeth ar yr adroddiad o ran tynnu sylw at gasgliadau'r arolygydd wrth ystyried elfennau amgylcheddol cynllun Llywodraeth Cymru ei hun. Mae amser yn fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud, ond hoffwn dynnu sylw at gasgliadau'r arolygydd ar allyriadau carbon, a amlinellir ar dudalen 400 yr adroddiad. Maent yn dweud bod cyfrifiadau carbon Llywodraeth Cymru yn fanwl a thrylwyr, ond maent wedi goramcangyfrif yr allyriadau:

y byddai'r cynllun yn lliniaru tagfeydd ac yn cael gwared ar allyriadau gormodol o draffig yn stopio ac ailgychwyn.

Ni fyddai'r cynllun yn effeithio'n andwyol ar bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau carbon nac yn llesteirio'i huchelgeisiau cyhoeddus ar gyfer bodloni targedau lleihau, a

byddai'r cynllun, yn wahanol i unrhyw un arall efallai, yn garbon niwtral dros amser,

ac

o fudd i'r amgylchedd cyffredinol.

Dyna gasgliadau'r arolygydd wrth gytuno â chynigion Llywodraeth Cymru ei hun. Daeth yr arolygydd i'r casgliad fod tystiolaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â charbon yn gadarn ac yn gyson â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ac rwy'n credu mai'r pwynt yn y fan hon—ac mae'n sefyllfa hynod anarferol i fod ynddi—yw ei bod yn ymddangos bod y Prif Weinidog, wrth wrthod y cynllun, yn gosod Llywodraeth Cymru yn gadarn yn erbyn nid yn unig argymhellion Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer ffordd liniaru'r M4, ond ei deddfwriaeth ei hun sydd ar y llyfr statud. Rhoddodd Gweinidog yr economi ei farn ar y mater yn gynharach heddiw. Yn sicr, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am yr amgylchedd i weld a ydynt yn credu bod y ddeddfwriaeth yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ddigon cadarn neu a oes angen eu diwygio bellach.

Rwy'n ofni bod y tagfeydd ar draffordd yr M4 yn un o'r enghreifftiau mwyaf pryderus o reolaeth wael Llywodraeth Cymru ar rwydwaith trafnidiaeth Cymru yn fy marn i, ac er mor bwysig yw llwybr yr M4, nid oes ateb ymarferol o hyd i'r problemau tagfeydd ar y ffordd. Felly, i gloi, Lywydd, credaf y byddai datblygu gweledigaeth hirdymor yn gyflym ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig, gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch Casnewydd, fel y mae Plaid Cymru yn galw amdani yn y cynnig heddiw, yn rhywbeth a fyddai wedi'i gyflawni i raddau helaeth gan y cynllun a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun.

17:05

Lywydd, er bod safbwyntiau gwahanol ynghylch yr atebion gorau i'r problemau ar goridor y M4 o amgylch Casnewydd, ni chredaf fod unrhyw un yn amau difrifoldeb y problemau hynny a'r angen i weithredu ar frys yn y tymor byr, yn ogystal â chamau gweithredu yn y tymor canolig ac yn hirdymor, i ymdrin â'r problemau hynny. Ac yn amlwg, mae pobl Casnewydd wedi dioddef yn hir yn sgil y llygredd aer, y tagfeydd a'r anawsterau eraill sy'n gysylltiedig. Felly, mae angen y camau gweithredu hynny arnom.

Credaf mai'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i benderfynu yw'r ffordd briodol ymlaen. Cytunaf ag ef fod y ffactorau amgylcheddol yn llywio'r penderfyniad a wnaeth, ac mae gwerth Gwastadeddau Gwent yn arwyddocaol iawn yn hynny o beth. Mae Gwastadeddau Gwent yn unigryw, maent yn hanesyddol, maent yn werthfawr iawn i'r amgylchedd. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth y llygoden ddŵr, sy'n bresennol ar Wastadeddau Gwent, Lywydd, ac un enghraifft yn unig yw honno o amrywiaeth bywyd a natur yn yr ardal honno. Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno dadl fer yma yn y Cynulliad yn nodi gwerth Gwastadeddau Gwent yn gyffredinol.

Ac wrth gwrs, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd sydd, yn fy marn i, yn hollol briodol, ac mae'n rhaid inni gynnal hynny â'r camau gweithredu, y strategaeth a'r polisi priodol. Ac rwy'n credu bod yr hen fodel 'rhagweld a darparu' o broffwydo twf traffig ac yna adeiladu ffyrdd newydd i ddarparu ar gyfer y traffig a ragwelir wedi'i danseilio i raddau helaeth oherwydd, fel y gwyddom, yr hyn sy'n tueddu i ddigwydd yw bod y ffyrdd newydd hynny'n llenwi â mwy a mwy o deithiau traffig ac yna ceir galwadau am ragor o ffyrdd newydd, ac mae'n mynd ymlaen ac ymlaen. Rhaid inni dorri'r ffordd honno o wneud pethau a dod o hyd i ddychymyg newydd ac egni newydd. Felly, credaf fod angen trafnidiaeth integredig, teithio llesol, ardaloedd 20 mya yn ein hardaloedd trefol mewnol; credaf fod pob un o'r pethau hyn yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau llygredd aer a datblygu trafnidiaeth integredig.

Yn fy ardal i, ym Magwyr, mae ganddynt gynnig ar gyfer gorsaf rodfa Magwyr y mae'r Gweinidog yn gyfarwydd ag ef a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn, a chael y newid moddol hwnnw i drafnidiaeth gyhoeddus. A gwn y bydd y Gweinidog yn ystyried cais am £80,000 gan Lywodraeth Cymru i gyfateb i gyllid Cyngor Sir Fynwy i fwrw ymlaen â chynnig ar gyfer cronfa gorsafoedd newydd y DU i ddatblygu hwnnw i'r cam nesaf. Hefyd, mae cryn dipyn o dai newydd wedi'u hadeiladu yn ardal sir Fynwy ar hyd coridor yr M4, a bydd sawl mil yn rhagor o gartrefi newydd. Mae'r gwasanaethau rheilffyrdd yn y fan honno, ar reilffordd Cas-Gwent i Lydney, ar hyd y llwybr hwnnw, yn orlawn, yn anfynych ac yn is na'r safon o ran y dibynadwyedd sydd ei angen arnom. Credaf efallai fod cam 3 y metro'n gyfle da i fynd i'r afael â'r problemau hynny a helpu gyda'r problemau ar yr M4 a'r newid moddol.

Credaf fod llawer y gallwn ei wneud, Lywydd, o ran rhannu ceir, gan gymell hynny drwy fod cyflogwyr yn darparu lle parcio er mwyn caniatáu i rannu ceir ddigwydd o leoliadau penodol. Mae apiau newydd wedi'u hargymell, a gall technoleg newydd helpu; mae llawer y gellir ei wneud. Credaf y gallwn greu cymhellion o ran cludo nwyddau er mwyn ei dynnu oddi ar ein ffyrdd a'i roi ar y rheilffyrdd, ac mae hynny'n digwydd yn yr Alban, er enghraifft, yn eithaf effeithiol rwy'n credu.

Ym Mryste, mae ganddynt gynllun yn awr lle caiff yr holl faniau sy'n rhuthro o gwmpas yn cludo cyflenwadau i gartrefi eu lleihau'n ddirfawr drwy gael math o fan canolog y gallant fynd iddo yn hytrach na chael llawer o faniau unigol yn gyrru o gwmpas yn dosbarthu pecynnau, a'u bod i gyd yn gadael eu pecynnau mewn lleoliad penodol ac yna fe'u cludir oddi yno gan un fan yn hytrach na nifer fawr o faniau. Felly, mae yna lawer o syniadau newydd, llawer o egni newydd, ac mae angen inni edrych ar hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y comisiwn yn gwneud hynny, i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni'r hyn a ddisgrifiodd y Prif Weinidog, sef llawer o fesurau unigol i greu un ateb sylweddol ac effeithiol.

Hoffwn ddweud hefyd, Lywydd, y byddai'n bwysig yn fy marn i fod y comisiwn newydd yn cynnwys pobl sydd â phrofiad a gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth integredig, sut y mae cael y newid moddol hwn, sut y mae cael y newid ymddygiad, ac rwy'n gobeithio y gallwn gael rhywfaint o sicrwydd gan y Gweinidog trafnidiaeth yn y cyswllt hwnnw hefyd. Diolch yn fawr.

17:10

Mae'n amlwg fod angen inni ddod o hyd i ateb hirdymor i'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd, ac nid oes neb yn gwadu hynny; nid oes neb erioed wedi gwadu hynny. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â chyflawni ei nod o system drafnidiaeth gyhoeddus amlfodd, integredig a charbon isel o ansawdd uchel, yna dyma gyfle yn awr i wneud cam ystyrlon ac arwyddocaol tuag at gyflawni hynny: mae £1.4 biliwn o gyfalaf buddsoddiad wedi'i ryddhau—dychmygwch beth y gellir ei gyflawni os caiff hwnnw ei ddefnyddio'n effeithiol. Mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn gofyn i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio'n well gyda phobl a'u cymunedau ac i liniaru problemau parhaus, megis tlodi, anghydraddoldeb iechyd a newid hinsawdd. Trafnidiaeth Cymru sydd i gyfrif am 14 y cant o'r allyriadau carbon cyfredol. Os ydym o ddifrif ynghylch cyrraedd ein targedau lleihau carbon, mae bron yn amhosibl gwneud hynny heb fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus glyfar, wyrddach, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yma ar ôl yn ei wneud.

Yn y 10 mlynedd nesaf, er mwyn sicrhau gostyngiad o 43 y cant mewn allyriadau trafnidiaeth, mae'n amlwg fod yn rhaid i ni wneud llawer mwy. Hefyd, mae angen inni ei gwneud yn llawer haws i bobl newid eu harferion. Yn 2013, cyhoeddodd y Llywodraeth ffigurau'n tynnu sylw at y ffaith bod 43 y cant o'r teithiau a wnaed ar y rhan dan sylw o'r M4 o dan 20 milltir o hyd mewn gwirionedd, neu mewn geiriau eraill, caent eu hystyried yn deithiau lleol. Dylem anelu at leihau'r nifer hwnnw i 0 y cant, ac mae hynny'n golygu creu system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas ar gyfer gwlad Ewropeaidd yn yr unfed ganrif ar hugain. A allwn feio pobl am ddewis defnyddio eu ceir eu hunain yn lle trafnidiaeth gyhoeddus pan fo hwnnw'n ddrud ac yn dirywio'n gyson? Ni allwn hyd yn oed warantu toiledau ar rai gwasanaethau yn awr. Nawr, mae hynny'n teimlo i mi fel mynd tuag yn ôl, nid ymlaen.

Mae'n werth nodi hefyd mai 10 y cant o'r traffig ar y darn hwn o'r M4 sy'n gyfrifol am y tagfeydd. Wrth inni chwilio am atebion i broblem tagfeydd, dylem roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r teithiau lleol hyn. A gallai mynd i'r afael â'r teithiau lleol leihau'r tagfeydd mewn ffordd fawr. Mae i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus fantais ychwanegol hefyd o wneud cymdeithas yn fwy cyfartal. Nid yw buddsoddi mewn systemau trafnidiaeth ceir yn gwneud fawr ddim i drechu tlodi trafnidiaeth, gan nad yw'n cynnwys y rhai nad oes ganddynt gar at eu defnydd. Dengys data Llywodraeth Cymru ei hun nad yw 23 y cant o gartrefi yng Nghymru yn berchen ar gar preifat, a bydd hynny, yn ddiau, yn cydredeg ag incwm isel neu amddifadedd. Mae system drafnidiaeth sy'n dibynnu ar y car yn ynysu llawer o bobl dlotaf Cymru oddi wrth waith, addysg, gweithgareddau cymunedol a chymdeithasol. Felly, byddai buddsoddi mewn system drafnidiaeth integredig sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch yn lliniaru tlodi trafnidiaeth, yn ogystal â chynyddu buddsoddiad economaidd lleol.  

Mae mynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus, o safbwynt cymdeithasol a daearyddol, yn hanfodol er mwyn sicrhau symudedd effeithiol a chynaliadwy yn amgylcheddau trefol Cymru. Mae'n rhywbeth y gellir ei wneud ac mae gwledydd eraill ar draws Ewrop yn cynnig enghreifftiau gwych. Mae Lwcsembwrg yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel, ac mae bellach yn bwriadu darparu trafnidiaeth am ddim i'w dinasyddion. Mae Dinas Lwcsembwrg, y brifddinas, yn dioddef o rai o'r tagfeydd traffig gwaethaf yn y byd. Mae'n gartref i tua 110,000 o bobl, ond mae 400,000 arall yn cymudo i mewn i'r ddinas i weithio, ac awgrymodd astudiaeth fod gyrwyr yn y brifddinas wedi treulio 33 awr ar gyfartaledd mewn tagfeydd traffig yn 2016. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth, ac mae eu strategaeth symudedd newydd, Modu 2.0, yn rhagweld rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cludo 20 y cant yn fwy o bobl erbyn 2025, gyda llai o dagfeydd ar yr oriau brig. Mae'r cynllun yn cynnwys moderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, gwell cysylltiadau trawsffiniol a'r cyfnewidfeydd bws-tram-trên newydd, yn ogystal â mentrau'n ymwneud â ffyrdd, gyda buddsoddiad gan y wladwriaeth o €2.2 biliwn erbyn 2023. Os gellir ei wneud yno, gellir ei wneud yma, a chyda'r cyfle hwn sydd gennym yn awr, mae angen inni fuddsoddi ar frys yn ein trafnidiaeth gyhoeddus.

17:15

Diolch yn fawr am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Er bod cynnig Plaid Cymru yn cydnabod y problemau tagfeydd o amgylch Casnewydd, rwy'n pryderu bod rhoi 'sy'n cynnwys' yn y cynnig yn golygu y bydd yr her fawr o amgylch Casnewydd yn mynd ar goll, ac y bydd yn dargyfeirio'r ffocws oddi ar ddatrys y broblem benodol hon.

Hoffwn ddweud nad yw'r llwybr glas yn ateb i bob problem ac i mi, nid oes iddo unrhyw werth, fel yr awgrymodd yr arolygydd, a gwn fod fy nghyd-Aelod John Griffiths hefyd yn teimlo'r un peth am y llwybr glas. Yr M4 o amgylch Casnewydd yw'r ffordd a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru. Mae'n hanfodol i economi Cymru, mae'n darparu mynediad i ddiwydiant, porthladdoedd, meysydd awyr ac mae'n hanfodol i dwristiaeth. Nid traffig lleol yw'r mwyafrif llethol o'r traffig hwn. Ni allwn adael i'r arian gael ei ddargyfeirio i gannoedd o wahanol brosiectau. Os yw hynny'n digwydd, caiff ei effaith ei gwanhau, a bydd y porth Cymru i Loegr ac i Ewrop yn dal yn ffordd y dywedodd adroddiad yr arolygydd annibynnol nad yw'n bodloni safonau traffyrdd modern.

Rwy'n bendant fod yn rhaid i'r arian sydd wedi'i neilltuo ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem benodol hon gael ei wario ar wneud yn union hynny—mynd i'r afael â'r tagfeydd a'r llygredd aer a achosir gan yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd mai'r comisiwn fydd â'r hawl yn y lle cyntaf i benderfynu ynghylch yr arian a fyddai wedi'i neilltuo fel arall. Rhaid rhoi'r adnoddau iddynt allu gwireddu eu hatebion. Mae'r comisiwn i fod i adrodd mewn chwe mis, a gwn fod y Gweinidog wedi dweud y gallai adrodd yn ôl yn gynharach na hyn. Rwy'n awyddus i ddarganfod sut y bydd pobl Casnewydd a'r ardal ehangach yn gallu monitro cynnydd y comisiwn.

Mae'r draffordd yn torri drwy'r ddinas, ac mae ansawdd yr aer yn lleol yn dirywio, a hynny am nad yw'r traffig yn symud, gan achosi mwy o lygredd na thraffig sy'n llifo. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru wedi dangos na fyddai dyblu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar y darn hwn o'r M4 ond yn sicrhau 6 y cant yn llai o draffig. Pan soniwn am draffig lleol, yr 20 milltir, hoffwn atgoffa'r Aelodau y gallai hynny gynnwys Bryste mewn gwirionedd, ac nid wyf yn hollol siŵr fod y bobl sy'n byw ym Mryste yn meddwl eu bod yn lleol i Gasnewydd. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd o 10 y cant yn y traffig ers i'r tollau ar bont Hafren gael eu dileu. Mae'r cynnig a'r gwelliant heddiw yn ymwneud ag i ble yr awn o'r fan hon. Mae hwn yn gyfle i Gasnewydd fod yn fan treialu ar gyfer rhai prosiectau carbon isel cyffrous. Ond gadewch inni fod yn glir; mae angen inni weld atebion sy'n gweithio, atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn a gwell i bobl sydd wedi aros yn amyneddgar, tra bo'r sefyllfa wedi gwaethygu.

Mae'r cyhoeddiad diweddar gan Newport Transport ynglŷn â 15 bws trydan i'w groesawu'n fawr—un i gyrraedd ym mis Chwefror, gydag 14 arall i ddilyn yn 2020. Mae'r nifer fach yma'n ddechrau da, ond mae ganddynt fflyd o 99 o fysiau, ac os ydym yn benderfynol o gynyddu'r nifer sy'n teithio ar fysiau, mae'n sicr y bydd angen mwy. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau gyda'r diwydiant bysiau i edrych ar sut y gall gyrraedd fflyd fysiau ddi-allyriadau erbyn 2028. Mae hyn yn ganmoladwy, ac yn sicr yn rhywbeth sy'n rhaid inni ei gyflawni. Fodd bynnag, pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bob tro y byddwn yn cael bws neu dacsi newydd yn lle un sy'n llygru nad yw'n cael ei werthu ymlaen i lygru rhan arall o'r wlad? Pan fydd tagfeydd yn cronni ar y M4 o amgylch Casnewydd, mae llawer o yrwyr yn defnyddio eu systemau llywio â lloeren i geisio eu hosgoi. Mae hyn yn achosi iddynt fynd ar ffyrdd lleol, gan fynd â hwy'n nes byth at gartrefi ac ysgolion—ffyrdd nad ydynt yn addas i gynnal cerbydau mor drwm na maint y traffig. Hoffwn glywed pa drafodaethau y gall Llywodraeth Cymru eu cael gyda chwmnïau i geisio datrys hyn.

Mae llawer o syniadau eisoes wedi'u cynnig ac rwy'n siŵr y bydd y comisiwn arbenigol yn eu harchwilio. Mae'r adeg y bydd plant yn cael eu cludo i ac o ysgolion yn adeg brig ar gyfer tagfeydd. Credaf mai un awgrym fyddai edrych ar Gasnewydd i dreialu teithiau bws am ddim i bob disgybl cynradd ac uwchradd sy'n byw dros filltir o'u hysgolion. Drwy alluogi disgyblion i ddefnyddio bysiau, nid yn unig y byddwch yn meithrin arfer o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y genhedlaeth nesaf, ond byddwch hefyd yn rhyddhau cyfleoedd gwaith i rieni. Mae pris a chymhwysedd i gael cludiant i'r ysgol yn golygu nad oes gan lawer o rieni ddewis ar hyn o bryd ond penderfynu rhwng gwaith a gyrru eu plant i'r ysgol. Ni fydd yr ateb hwn yn datrys popeth, ond gallai fod yn rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghasnewydd.

Mae fy etholwyr wedi aros yn amyneddgar ers dros 30 mlynedd i rywbeth gael ei wneud, ac maent angen sicrwydd fod camau'n cael eu cymryd ar frys. Nid yw unrhyw beth yn llai na hynny'n ddigon da i bobl Casnewydd a Chymru.

17:20

Nid wyf yn dymuno gwneud sylwadau yma am fanteision ac anfanteision penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. Rwyf am ganolbwyntio'n syml ar oblygiadau'r penderfyniad a rhoi amlinelliad byr o'r hyn a fydd, yn fy marn ostyngedig i, yn ddewis amgen costeffeithiol—gallai rhywun ddweud 'rhad' bron iawn—a luniwyd i leddfu'r problemau yn nhwnelau Bryn-glas, a thrwy hynny, yn amlwg, dynnu pwysau enfawr oddi ar ysgwyddau'r Gweinidog Cabinet. Mae fy nghyflwyniad yn dechrau gyda'r rhagosodiad fod twnelau Bryn-glas yn 369 metr o hyd ar ei ben. Mewn geiriau eraill, mae'n dwnnel byr. Mae Llywodraeth Cymru newydd wario £42 miliwn, yn gwbl briodol, ar wella'r twnelau i'r safonau diogelwch Ewropeaidd diweddaraf. Felly, rhaid gofyn y cwestiwn sylfaenol: pam y mae'r rhwystr cymharol fach hwn yn achosi'r helbul a welwn ar ffurf y tagfeydd enfawr sy'n nodwedd feunyddiol ar y ffordd i mewn i'r twnelau, i draffig tua'r gorllewin a'r dwyrain?

Fel rhywun sy'n defnyddio'r ffordd ddynesu i'r dwyrain i'r twnelau bron bob dydd, mae gennyf ddiddordeb brwd yn y dylanwadau achosol ar lif y traffig. Mewn gwirionedd, gwneuthum arsylwadau manwl mewn perthynas â llifoedd traffig ysgafn a thrwm, sy'n fy arwain i gredu mai un o'r prif ffactorau sy'n achosi i draffig arafu, gan arwain at dagfeydd a chiwiau hir wedyn, yw'r terfynau cyflymder a osodwyd yn union cyn cyfnewidfa Parc Tredegar. Mae terfyn cyflymder o 40 mya yn aml ar waith o'r gyffordd hon hyd at y twnelau eu hunain—pellter o bron 3 milltir. Fy nadl i yw y byddai unrhyw faterion diogelwch yn deillio o newid lonydd yn hwyr yn cael eu lleddfu i raddau helaeth os nad yn llwyr pe bai'r terfynau cyflymder hyn yn cael eu diystyru a bod dangosyddion lonydd sylweddol yn cael eu gosod ar bontydd arwyddion mawr uwchben, wedi eu gosod ar adegau priodol cyn y twnelau, a phob un yn cynnwys darluniau graffig o'r ddwy lôn sy'n rhoi mynediad i'r twnelau, a'r lôn fewnol, sy'n rhoi mynediad i droad Malpas. Tybiaf mai dyna pam y mae'r terfynau cyflymder yno yn y lle cyntaf. Yn wir, gallai lôn ymadael Malpas gael ei gwneud yn llinell solet â chodau lliw o leiaf filltir cyn y twnelau, a byddai modurwyr yn cael eu rhybuddio y byddai unrhyw newid lôn ar ôl y pwynt hwnnw yn arwain at ddirwy. Byddai'r un arwyddion yn union yn gweithredu ar y ffyrdd dynesu tua'r gorllewin i'r twnelau, gyda'r allanfeydd i Gaerllion a Chwmbrân yn cael eu dangos yn glir, ac unwaith eto, gellid gosod camerâu cosb i atal gyrwyr rhag newid lôn ar ôl pwynt penodol. Byddai cyflwyno'r dangosyddion lôn newydd hyn yn caniatáu i draffig lifo'n ddirwystr drwy'r twnelau ar gyflymder safonol y draffordd, gan sicrhau na fydd traffig yn cronni.

Un broblem y byddai'n rhaid mynd i'r afael â hi yw bod yna fynediad i'r M4 o Malpas tua'r dwyrain, ychydig cyn y twnelau. Byddai hwn yn cael ei gau'n barhaol, fel yr allanfa oddi ar yr M4 yn syth ar ôl y twnnel i draffig sy'n mynd tua'r gorllewin. Bydd unrhyw un sydd wedi teithio drwy Ewrop yn gwybod am dwnelau a all fod yn rhai milltiroedd o hyd, yn aml yn cynnwys sawl tro, ac eto ceir terfynau cyflymder o 100 cya arnynt. Yn aml, mae'r twnelau hyn yn cynnal llawer iawn o draffig tebyg i'r traffig ar yr M4, ond o fy arsylwadau helaeth dros flynyddoedd lawer o deithio drwy Ewrop, nid ydynt yn profi'r rhwystrau a welwn yn nhwnelau Bryn-glas. Rwy'n annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth ddifrifol i fy argymhellion pan fyddaf yn eu cyhoeddi'n llawn.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, gan fod mater yr M4 a'r ateb i'r problemau traffig o amgylch ardaloedd Casnewydd a Bryn-glas yn rhywbeth rwyf wedi bod yn ymwneud ag ef o'r diwrnod cyntaf, ers i mi fod yn y Cynulliad hwn. A dweud y gwir, roeddwn yn aelod o'r pwyllgor amgylchedd a ystyriodd y cynigion hyn ac a arweiniodd at adroddiad yn ôl ym mis Gorffennaf 2014, adroddiad a gafodd ei gyhoeddi. Rwy'n credu ei fod yn cadarnhau'n bendant—ac yn cefnogi, rwy'n credu—y casgliad y daeth y Prif Weinidog iddo yn y pen draw. Cytunaf â'r penderfyniad hwnnw, ac rwyf hefyd yn cytuno'n fawr iawn â rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghyd-Aelod John Griffiths ynglŷn â nifer o ddewisiadau eraill, felly nid wyf am drafod y rheini eto.

Un o'r casgliadau yn yr adroddiad yn 2014—. Fe'i darllenaf, a rhaid ei ddarllen yn y cyd-destun—. Ar y pryd, roeddem yn sôn am y posibilrwydd y gallai gostio rhwng £500 miliwn a £750 miliwn, ond yn awr y realiti yw ein bod yn sôn am brosiect £2 biliwn, pe bai wedi mynd rhagddo. Dywedai hyn:

Mae cyfanswm cost y cynllun gan gynnwys yr holl fesurau ategol yn parhau i fod yn aneglur ac mae'r ffynhonnell ar gyfer ariannu cyfanswm y gost yn ansicr

ac

O ystyried y diffyg eglurder ar yr asesiad o opsiynau amgen, mesurau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach, cynigion y Metro ac effeithiau posibl trydaneiddio, mae'n anodd dod i gasgliad ar sail y wybodaeth gyfredol fod achos argyhoeddiadol dros werth am arian hirdymor y buddsoddiad posibl hwn wedi'i wneud eto.

Nawr, bydd Russell George yn cofio'r adroddiad hwn oherwydd roeddech yn aelod o'r pwyllgor hwnnw ac roeddech yn cytuno â'r adroddiad ac yn wir, â'r casgliadau a ddaeth allan bryd hynny.

Mae'n glir iawn fod angen gweithredu mewn perthynas â'r sefyllfa o amgylch Casnewydd a'r seilwaith. Ond yr hyn rwyf am ei wneud yw ehangu'r ddadl ychydig gan nad problem gyda Bryn-glas yn unig yw hon. Nid yw'r traffig yn ymddangos drwy ryw wyrth am 7 o'r gloch y bore yn ardal Bryn-glas ac yna'n ailymddangos eto drwy ryw fath o hud a lledrith am 4, 5 neu 6 o'r gloch yn yr ardal arbennig honno. Mae problem y traffig yn dechrau'n bell cyn hynny, ac mae'n rhaid i unrhyw ateb edrych ar y problemau seilwaith traffig ehangach—i lawr o'r Cymoedd, i lawr o Ben-y-bont ar Ogwr, i lawr o Abertawe, i lawr o gymoedd Gwent.

Rhaid i unrhyw ateb iddo ystyried yr angen hefyd i ddarparu mecanwaith trafnidiaeth amgen yn yr ardaloedd hyn. A cheir ardaloedd hefyd lle gwelir cynnydd enfawr yn nifer y tai am fod tai'n rhatach. Yn wir, yn ardal Taf-Elái, gyda rhan ohoni yn fy etholaeth i, mae cynlluniau dros y degawd nesaf i godi 20,000 o dai. Felly, un o'r opsiynau y mae'n rhaid inni edrych arno yw'r opsiynau ehangach ar gyfer y metro, a rhaid i hynny gynnwys ailagor rheilffyrdd, ac mae llawer ohonynt yn dal i fod yno i raddau helaeth. Mae'r hen reilffordd o Gaerdydd drwy Orllewin Caerdydd, drwy Efail Isaf, Creigiau, yr holl ffordd drwodd i Lantrisant, Beddau ac yn cysylltu â Phont-y-clun, yn dal i fod yno i raddau helaeth. Os ydym yn adeiladu 20,000 o dai yn yr ardaloedd hyn, bydd llawer o'r bobl hyn sydd heb system drafnidiaeth arall ar yr M4, yn gyrru i lawr i Fryn-glas ac i lawr i ardaloedd eraill.

Felly, mae angen i ni gael cynllun seilwaith trafnidiaeth eang a chynhwysfawr iawn sy'n cwmpasu ardaloedd y Cymoedd yn ne Cymru, sy'n edrych i weld o ble y daw'r traffig, ac sydd yno i ddarparu ateb go iawn. Rwy'n gwbl sicr, pe baem wedi bwrw ymlaen â'r llwybr du, y gallai fod wedi lliniaru rhywfaint am gyfnod o flwyddyn neu ddwy, ond ymhen pum mlynedd byddem yn ôl yn union lle roeddem ar y dechrau. Yr unig ddewis arall mewn gwirionedd yw caniatáu i bobl gael y cyfle y mae'r rhan fwyaf o bobl ei eisiau yn fy marn i, sef i beidio â gorfod mynd â'u ceir ar y teithiau hyn, ond i ddefnyddio system drafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Rhaid inni sicrhau ein bod yn darparu'r ateb amgen hwnnw yn seiliedig ar drafnidiaeth gyhoeddus.

17:25

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser cael ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n bwnc anhygoel o bwysig, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Fel y cafodd yr Aelodau wybod yr wythnos diwethaf, ac fel y buom yn dadlau yma heddiw, penderfynodd y Prif Weinidog beidio â bwrw ymlaen â phrosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, sef yr hyn a elwid fel arall yn llwybr du. Cyflwynwyd y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw a'r camau pwysig nesaf yn fy natganiad ysgrifenedig.

Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn glir iawn yn y datganiadau a'r penderfyniadau hynny ein bod yn dal yn gwbl ymroddedig i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd ar y rhwydwaith yn ne-ddwyrain Cymru. Yn y tymor byr, gan weithio gyda phartneriaid ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, gofynnais i fy swyddogion gyflwyno cyfres o fesurau i ddarparu manteision cymedrol ond uniongyrchol i'r ffordd. Fel rwyf hefyd wedi'i ddweud, rwy'n penodi comisiwn arbenigol i wneud argymhellion ar y camau nesaf ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru, a chyhoeddwyd cylch gorchwyl y comisiwn gyda fy natganiad—[Torri ar draws.]—rwy'n cael fy nhemtio'n fawr i wneud. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y cwestiwn a ddylai'r comisiwn seilwaith cenedlaethol fod wedi cael y gwaith penodol hwn, ond Lywydd, bernais y gallai'r gwaith sylweddol ac uniongyrchol hwn eu hatal rhag bwrw ymlaen â gwaith hollbwysig arall sy'n rhaid ei ystyried er ein budd hirdymor. Wedi dweud hynny, rwy'n awyddus iddynt gyfrannu at waith y comisiwn arbenigol.

Rwy'n falch y bydd yr Arglwydd Terry Burns yn cadeirio'r comisiwn, a siaredais â'r Arglwydd Burns ddydd Llun yr wythnos hon a dweud wrtho y dylai'r comisiwn allu ystyried pob ateb, ond bod yn rhaid iddynt ystyried y rhesymau pam nad yw'r Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â'r llwybr du. A byddaf yn sicrhau, Lywydd, fod y comisiwn yn ystyried yr ateb a rannwyd gyda ni heddiw gan David Rowlands, ynghyd ag unrhyw argymhellion dichonadwy eraill gan Aelodau yn y Siambr hon. Rwy'n disgwyl adroddiad interim cyn pen chwe mis ar ôl i'r comisiwn gael ei ffurfio, ond rwyf wedi dweud yn glir iawn y dylai'r cadeirydd allu cyflwyno awgrymiadau ymarferol y gellir eu cyflawni yn y tymor byr rhwng nawr a diwedd y chwe mis hwnnw os yw'n teimlo y gellid eu cyflawni.

Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi bod yn glir mai'r argymhellion a gyflwynir gan y comisiwn fydd yn cael eu hystyried gyntaf ar gyfer cyllid a neilltuir gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y problemau a welwn ar y rhan honno o'r rhwydwaith. Ond rydym hefyd wedi bod yn glir gyda'r Aelodau fod yn rhaid i'r atebion hynny ddarparu gwerth da am arian. A mater i'r comisiwn fydd ystyried pob ateb. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw brosiectau anwes, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, y tu allan i waith y comisiwn. Nawr, er y bydd galwadau'n cystadlu am gyllid bob amser, rydym yn glir fod sicrhau atebion cynaliadwy i'r heriau sylweddol ar hyd y coridor trafnidiaeth hwn yn brif flaenoriaeth, a gallaf sicrhau'r Aelodau na wastreffir y buddsoddiad datblygu ers 2013 a bydd y comisiwn yn gwneud defnydd da ohono, gan sicrhau ei fod yn cael yr holl wybodaeth modelu trafnidiaeth, arolygon amgylcheddol a phob ffactor arall perthnasol ar draws y rhanbarth.

Rhaid imi ddweud wrth Aelodau na allai unrhyw un sydd wedi darllen yr adroddiad ddod i unrhyw gasgliad heblaw na ddylid ystyried y llwybr glas o gwbl. Cafodd y llwybr glas ei feirniadu'n hallt yn adroddiad yr arolygydd, ac nid wyf yn deall o gwbl sut y gallai Aelodau sy'n honni eu bod yn cefnogi argyfwng hinsawdd gefnogi'r llwybr glas, nac yn wir sut y gallai Aelodau sy'n gwrthwynebu gwario £1 biliwn ar y llwybr du gefnogi gwario £1 biliwn ar y llwybr glas. [Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn munud, ond yn gyntaf, rwy'n dweud yn awr, er budd yr Aelod, os nad yw wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad eto a phenderfyniadau'r arolygydd ynghylch y llwybr glas, ar dudalen 460 daeth i'r casgliad, am brisiau 2015, y byddai'r llwybr glas yn costio £838 miliwn yn hytrach na £350 miliwn, sy'n golygu y byddai prisiau 2019 yn sylweddol uwch. Ar yr un dudalen, mae'n amlinellu pam y byddai gan y llwybr glas gymhareb cost a budd negyddol neu isel iawn, mewn cyferbyniad â chymhareb cost a budd y llwybr du o 2:1. Ar dudalen 459, mae'n dweud y byddai'r llwybr glas yn annigonol, yn anghynaliadwy, y byddai'n parhau i losgi carbon y gellid ei osgoi a llygredd aer lleol, ac y byddai'r llwybr glas yn ddiffygiol iawn o ran lliniaru problemau'r draffordd, yn y tymor byr neu'n hirdymor, ac felly byddai'n anghynaliadwy. Dywedodd yr arolygydd hefyd am y llwybr glas y byddai wedi golygu adeiladu ar wibffordd drefol uchel yn agos at lle mae pobl yn byw a chreu baich pellach ar ffordd ddosbarthu bwysig. Byddai wedi achosi difrod ofnadwy i 3,600 o deuluoedd, ac ni ddylid bod wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r cynnig. Fe ildiaf.

17:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch. Cyn hynny, fe hyrwyddais o leiaf yr awydd i weld y llwybr glas yn cael ei ystyried ymhellach. Wedi darllen yr adroddiad, ar ôl mynd ar hyd y llwybr hwnnw gyda'r Athro Stuart Cole, a siarad â mwy o bobl yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill am y peth, caf fy narbwyllo gan lawer o'r pwyntiau y mae'r arolygydd yn eu dweud, a hoffwn gofnodi hynny.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod, a dweud y gwir, oherwydd credaf ei bod yn briodol i'r Aelodau dreulio amser yn ystyried yr hyn a ddywedodd yr arolygydd am y dewisiadau amgen hynny, oherwydd mae'n gwbl amlwg na ddylid ystyried y llwybr glas ymhellach. Ac os yw'r Aelodau'n darllen yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio y byddant yn darllen yr adroddiad, byddant yn ailfeddwl am unrhyw gefnogaeth a roddwyd ganddynt hyd yma i'r ateb penodol hwnnw. [Torri ar draws.] Cewch, wrth gwrs.

17:35

A gawn ni gofnodi hefyd nad oes unrhyw sôn yn ein cynnig ynghylch cefnogi llwybr glas? Rwyf wedi credu ers talwm y gallai fod rhywbeth wedi'i seilio ar y llwybr glas, ond nid ar y llwybr glas ei hun, efallai y byddai'n werth ymchwilio i hynny. I mi, mae hwnnw'n dal i sefyll o ran cryfhau a datblygu cydnerthedd y rhwydwaith ffyrdd. Nid y llwybr glas fel—

Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ac rwy'n falch iawn o gael ei eglurhad. Roeddwn yn seilio fy sylwadau ar lawer o areithiau a datganiadau blaenorol gan eich cyd-Aelodau'n cefnogi'r llwybr sydd wedi'i feirniadu mor hallt yn adroddiad yr arolygydd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth symud ymlaen, fod angen i bawb ohonom gydnabod bod yna rwystredigaeth fawr ynglŷn â phroblemau tagfeydd ar rwydwaith yr M4, yn enwedig o amgylch twnelau Bryn-glas, a'r effaith a gafodd ar Gasnewydd ac economi de-ddwyrain Cymru. Gallaf eich sicrhau bod hon yn broblem rydym yn benderfynol o'i datrys.

Mae gennym gynlluniau hynod o gyffrous a beiddgar ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, o'r cynllun £5 biliwn a ddatblygwyd gennym drwy Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y fasnachfraint reilffyrdd a'r metro newydd a thrawsnewidiol, i ddeddfwriaeth fawr a fydd yn helpu i ailreoleiddio'r rhwydwaith bysiau, i'r buddsoddiad mwyaf a wnaethom erioed mewn teithio llesol. Mae llawer iawn o waith cyffrous yn digwydd ledled Cymru gyfan a bydd yn ysbrydoli, bydd yn annog, a bydd yn galluogi newid moddol, sydd mor bwysig.  

Credaf fod pwynt Jayne Bryant ynglŷn â'r angen i osgoi llu o fysiau sy'n allyrru lefelau uchel o garbon pan gyflwynwn fflyd newydd o gerbydau di-allyriadau yn bwysig iawn. Byddwn yn defnyddio'r grant cynnal gwasanaethau bysiau i atal hyn rhag digwydd a byddwn hefyd yn edrych ar ddatblygu cytundeb sgrapio gyda gweithredwyr bysiau.  

Ddirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i ddatrys problemau'r tagfeydd o amgylch y M4 fel rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru ac rwy'n ffyddiog y gall y comisiwn ein symud ymlaen cyn gynted ag y bo modd tuag at ddiwallu'r angen hwnnw, ond hoffwn wneud dau bwynt i orffen. Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud hyn wrth yr Aelodau—peidiwch ag awgrymu y dylai pobl newid eu dulliau o deithio oni bai eich bod yn barod i newid eich dull chi hefyd. Ac yn olaf, am y tair blynedd y bûm yn y rôl hon, rwyf wedi bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r model trafnidiaeth gyhoeddus am ddim y mae rhai Aelodau wedi bod yn siarad amdano'n ddiweddar, ond er mwyn cyrraedd y pwynt lle gallem gyflawni hyn, yn gyntaf mae angen i ni ddeddfu ac yn gyntaf mae angen inni gyflwyno'r diwygiadau—y diwygiadau radical a amlinellais yn y Papur Gwyn. Am y rheswm hwnnw, rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ar draws y Siambr fy nghynorthwyo i weithredu'r diwygiadau radical hynny a chyflwyno'r ddeddfwriaeth honno.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan.

Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Rwyf wedi synhwyro gwir rwystredigaeth y prynhawn yma ac yn wir, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ac rwy'n rhannu llawer o'r rhwystredigaeth honno. Rwyf wedi clywed rhwystredigaeth gan Aelod lleol fod cael gwared ar y llwybr du yn gadael problem heb ei datrys i'w chymuned. Rydym wedi clywed rhwystredigaeth ynghylch arian a wastraffwyd, am amser a wastraffwyd, diffyg penderfyniad a diffyg arweinyddiaeth. Yn sicr rwy'n rhannu'r rhwystredigaeth honno. Ond ar y pwynt hwn—ac mae'n fwy na hynny—er y gallwn edrych yn ôl, mewn ffordd, a gofyn sut a pham rydym yn y sefyllfa hon, rhaid inni symud ymlaen yn awr. Credaf fod y prynhawn yma wedi bod yn gyfle—a bydd rhagor, gan gynnwys dadl yn amser y Llywodraeth ymhen pythefnos—inni ddechrau meddwl yn greadigol am ffyrdd o fynd i'r afael â'r mater. [Torri ar draws.] Gwnaf, yn sicr.

Yn fyr iawn, gyda'r cyfleoedd hynny i edrych ar ffyrdd arloesol y gallem ryddhau capasiti ar goridor pwysig yr M4, un ffordd yw symud y cynnydd enfawr sydd gennym bellach mewn trafnidiaeth pecynnau i fyny ac i lawr y wlad, yn dod o Fryste, Avon, ond gorllewin Cymru yn ogystal. Felly, mae datblygiadau arloesol megis y grŵp gweithrediadau rheilffyrdd, gyda'u cynigion i adnewyddu cerbydau, wedi rhoi trenau 100 mya—nid y cerbydau nwyddau diwydiannol trwm hen ffasiwn—a gosod nwyddau ar baledau ar gerbydau a'u symud ar draws y wlad. Dylem fod yn arloesi gyda phethau felly yng Nghymru.

17:40

Diolch am yr ymyriad. Byddaf yn lansio ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol yn syth ar ôl y ddadl hon i ddarganfod pwy roddodd fy araith i chi—[Chwerthin.]—oherwydd roeddwn innau hefyd yn mynd i siarad am hynny fel cam arloesol, oherwydd y mae'n sicr yn arloesol. Clywsom awgrymiadau ynglŷn â symud llwythi o nwyddau ysgafn ar gerbydau trymach ar gyfer cludo nwyddau. Mae honno'n ffordd o'i wneud. Ffordd arall bosibl, sy'n fwy cyffrous, yw gwneud yn union hynny—symud pecynnau maint cewyll rholio ar drenau teithwyr y gellir eu dadlwytho a'u llwytho mewn gorsafoedd, ar blatfformau yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Felly, mae yna ddatblygiadau arloesol, ac mae llawer o'r atebion i'r hyn fydd Cymru yn 2050 yn ddyfeisiau sydd eisoes wedi'u creu—mae'r dechnoleg gennym eisoes, mae'r syniadau arloesol gennym eisoes ar waith. [Torri ar draws.] Yn sicr.

A sôn am ddatblygiadau arloesol, gwn fod gennych ddiddordeb mawr yn y chwyldro ceir trydan, ac mae'r chwyldro ceir trydan a cherbydau awtonomaidd yn rhoi cyfle i gael mwy o gapasiti ar ein rhwydwaith traffyrdd gan nad oes angen cymaint o bellter stopio ar geir sy'n gallu cyfathrebu â'i gilydd drwy gyfrifiadur. Felly, mae pob math o bethau'n digwydd gyda'r rhwydwaith ffyrdd yn ogystal â cheir yn y dyfodol a fyddai'n lliniaru rhai o'r problemau gyda thagfeydd yng Nghymru.

Yn wir, mae hon yn araith gan bwyllgor i raddau helaeth iawn, ac rwy'n falch fod pawb yn cytuno mewn perthynas ag edrych ar yr holl ddatblygiadau ac atebion arloesol sydd eisoes ar gael.

Mae rhannu ceir wedi'i restru, ac yn amlwg, mae buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd lawer dyfnach na'r hyn a gynllunnir ar hyn o bryd, gan edrych ar y modd yr ymchwiliwn i drafnidiaeth gyhoeddus am ddim er mwyn defnyddio'r cymhelliad hwnnw—y cymhelliad ariannol i ddenu pobl allan o'u ceir. Rydym wedi clywed yr Athro Mark Barry yn sôn yn ddiweddar am newid amserau gwaith mewn gwahanol rannau o economi de-ddwyrain Cymru, fel bod pobl yn teithio ar wahanol adegau. Roeddwn yn Imperial Park, y parc diwydiannol ar ochr orllewinol Casnewydd y bore yma, ac fe'm trawodd, fel y mae'n gwneud mor aml pan fyddaf yn mynd i barc busnes, ei fod yn llawn o gerbydau. Roedd yn orlawn o gerbydau, nid ym meysydd parcio'r ffatrïoedd a'r unedau busnes yn unig, ond ar hyd y ffyrdd i mewn i gyd, sy'n dweud wrthyf fod rhywbeth o'i le. Nid yw pobl yn cael eu perswadio nac yn cael cynnig ffyrdd gwahanol o gyrraedd eu gweithle. Felly, mae'r datblygiadau arloesol yn bodoli.

Ac yn fy marn i mae angen i ni daro cydbwysedd gofalus iawn neu sawl cydbwysedd. Mae angen i ni symud yn gyflym ond ni allwn symud yn fyrbwyll. Bydd y comisiwn sy'n cael ei sefydlu yn awr, fel y clywsom gan y Gweinidog, yn edrych ar gamau y gellir eu cymryd ar unwaith, ond ar yr un pryd, mae angen inni gynllunio yn awr ar gyfer y tymor hwy. Rhaid inni ganolbwyntio ar ddod o hyd i ateb i'r broblem ar y ffordd sydd wedi ysgogi'r agenda hon—sef tagfeydd traffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd—ond gan ei wneud mewn ffordd sy'n edrych yn ehangach ar yr un pryd ar y tirlun trafnidiaeth yn ardal Casnewydd, ie, fel blaenoriaeth, a gobeithio ein bod yn dweud yn glir fod hynny'n bwysig i ni fel plaid, ond hefyd ar lefel strategol ledled Cymru. Ac o gofio wrth gwrs fod gennym gyfalaf posibl bellach a oedd yn barod i'w ddefnyddio, ond y gellir ei ddefnyddio ar gynllun strategol ehangach.  

Rydym yn sôn yn ein cynnig am ddatblygu strategaeth yn gyflym. Unwaith eto, datblygu strategaeth yn gyflym, ie, ond nid cynllun difeddwl nad yw'n ddim mwy na phlastr. Yn sicr, fe ildiaf.  

A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud—a gwn y bydd yr Aelod yn awyddus i mi ailadrodd y pwynt hwn—nad yw'r holl arian a ddyrannwyd i'r llwybr du ar gael ar gyfer ateb yn seiliedig ar ffyrdd nac ar gyfer ymyriadau ar yr M4 yn unig? Oherwydd, wrth gwrs, un o'r rhesymau pam y penderfynodd y Prif Weinidog beidio â chytuno i'r gorchmynion oedd oherwydd y byddai wedi tynnu cyfalaf oddi wrth seilwaith cymdeithasol arall. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod y byddai'r holl arian a fyddai wedi mynd tuag at ffordd liniaru'r M4 wedi arwain at adeiladu llai o ysbytai, adeiladu llai o dai. Ac felly mae'n bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â'r seilwaith cymdeithasol ochr yn ochr ag unrhyw fuddsoddiad yn y ffordd.

Ie, ac mae'n bwynt teg i'w wneud, ond rhaid inni fod yn ymwybodol hefyd a chofio ein bod wedi bod yn barod i ystyried gwario swm sylweddol o arian ar un cynllun, neu fel arall byddai wedi cael ei ddiystyru amser maith yn ôl. Rhaid inni fod yn ddewr yn awr ac edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio buddsoddiad sylweddol unwaith eto wrth edrych ar y problemau yn ne-ddwyrain Cymru yn ogystal â chynllunio strategol ehangach ledled Cymru.

Rwy'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau wedi eu gwneud yn barod, felly rwyf am orffen drwy ddweud, wyddoch chi, fod y cloc yn tician yn awr ac mae'n bryd bod yn greadigol. Credaf y dylem fod yn edrych ar fod yn greadigol yn awr wrth ddarparu ar gyfer Casnewydd a de-ddwyrain Cymru, ond rwy'n credu o ddifrif, drwy ddarparu ymateb i broblem yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, y gall y ddinas honno fraenaru'r tir, torri tir newydd os mynnwch, i Gymru gyfan, a phobl Casnewydd a de-ddwyrain Cymru fydd yn elwa'n gyntaf o bosibl o ymgyrch newydd a ganiatawyd drwy ganslo'r llwybr du tuag at ffordd newydd o ddarparu trafnidiaeth a ffordd newydd o feddwl am drafnidiaeth a sut y teithiwn o amgylch ein gwlad. Diolch.

17:45

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb y gwelliannau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Lleihau Gwastraff Plastig

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar leihau gwastraff plastig, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7065 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff plastig y gellir ei osgoi drwy hefyd:

a) gwahardd cyflenwi gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau;

b) atal y cyflenwad o ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; ac

c) gwahardd trowyr diodydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf wneud y cynnig hwn y prynhawn yma a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Rydym yn y cyfnos ar brynhawn dydd Mercher, ond rwy'n falch o weld bod Aelodau o bob plaid wedi aros ar gyfer y ddadl y prynhawn yma. Os caf ymdrin â'r gwelliannau yn gyntaf, yna fe symudaf at brif ran fy araith.

Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi dychwelyd at ei harfer o ffurfio gwelliant 'dileu popeth'. Nid wyf yn hollol siŵr pam y mae angen dileu ein cynnig cyfan, ac yna rydych yn cymryd dau bwynt o'r cynnig hwnnw ac yn eu mewnosod yn eich gwelliant. Mae hynny'n ymddangos braidd yn rhyfedd i mi. Ar welliannau Plaid Cymru, rydym yn hapus i gefnogi'r cyntaf o welliannau Plaid Cymru, a byddwn yn ymatal ar yr ail, nid am ein bod yn anghytuno â'r gwelliant hwnnw ond am ein bod yn ansicr a yw'r dechnoleg yno i gyflawni'r dyhead hwnnw mewn gwirionedd. Os gallwch ein hargyhoeddi o hynny ym mhwyntiau llefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, byddwn yn hapus i'w gefnogi, ond ar hyn o bryd nid ydym yn credu bod y dechnoleg yno i'w symud yn ei flaen.

Felly, i symud ymlaen, mae'r cynnig heddiw'n dweud bod hwn yn fater sy'n ennyn sylw'r cyhoedd yng Nghymru ac yn un y mae'n rhoi pwysau cynyddol arnom ni fel gwleidyddion i fynd i'r afael ag ef. Dengys yr arolygon barn diweddaraf fod mwyafrif llethol o'r cyhoedd yn pryderu am y defnydd o blastig ac yn rhannol, cafodd hynny ei sbarduno gan gyfres wych ac addysgiadol Blue Planet David Attenborough, sydd wedi tynnu sylw at effaith gynyddol niweidiol sbwriel plastig ar ein hamgylchedd naturiol.

Yn anffodus, nid oes ond rhaid ichi edrych dafliad carreg o Fae Caerdydd ei hun i weld y lefelau sylweddol o blastig sy'n mynd i mewn i'n hamgylchedd morol, ac mae'n amlwg, fel gwleidyddion, fod gennym ddyletswydd i weithredu. Yn wir, canfu astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd fod un o bob dau o bryfed yn system afon Taf yn cynnwys microblastigion, a cheir tystiolaeth fod y gronynnau microblastig hyn yn cael eu llyncu gan adar afon. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod plastig yn achosi hafoc yn ein hamgylchedd, yn cael effaith ofnadwy ar anifeiliaid a bywyd gwyllt ac yn diraddio ein cynefinoedd mwyaf gwerthfawr.

Ac nid yw'n gyfyngedig i fywyd morol. Mae hefyd yn cael effaith andwyol ar ein strydoedd a'n cymdogaethau. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gweithredu yn awr i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn ac i leihau'r miliynau o boteli plastig y gwelwn yn cael eu taflu bob dydd heb eu hanfon i'w hailgylchu. Mae angen i ni addysgu a sicrhau newid mawr yn ymddygiad ac arferion pobl. Heb weithredu ar frys i leihau'r galw, amcangyfrifir y bydd 34 biliwn o dunelli o blastig wedi cael ei gynhyrchu yn fyd-eang erbyn 2050.

Golyga oes silff plastigion y gallant bara am ganrifoedd mewn safleoedd tirlenwi neu fel arall, fel sbwriel yn yr amgylchedd naturiol. Yn ei dro, gall lygru priddoedd, afonydd a chefnforoedd a niweidio'r creaduriaid sy'n byw ynddynt. Mae yn y pysgod a fwytawn; mae hyd yn oed yn y dŵr potel rydym yn ei yfed. Mae'r amcangyfrifon yn amrywio, ond mae'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Phrifysgol Coventry yn amcangyfrif bod 14 miliwn o ddarnau o blastig yn cyrraedd afonydd a chamlesi Prydain bob blwyddyn, gydag oddeutu 0.5 miliwn o eitemau o blastig yn cael eu cario i'r cefnfor.

Credaf ein bod i gyd yn cytuno yn y Siambr hon mai rhan allweddol o'n cenhadaeth fel ACau yw gadael yr amgylchedd a'n gwlad mewn cyflwr gwell. Ar lefel y DU, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi cymryd camau breision i fynd i'r afael â phla plastigion, drwy ei chynllun amgylcheddol 25 mlynedd, sydd wedi cyflwyno mesurau pwysig, megis y gwaharddiad ar ficrobelenni mewn cynhyrchion gofal personol a chynnyrch coluro, a gwaharddiad ar wellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm. Ac er bod lefel dda o gydweithredu rhwng y ddwy Lywodraeth ar y materion hyn, mae'n amlwg y gallwn fod yn gwneud mwy yng Nghymru.

Fel yr amlygwyd ddoe gan yr aelod diweddaraf o rengoedd y gwrthbleidiau, yr Aelod dros Flaenau Gwent, nad yw gyda ni heddiw yn anffodus, a ddywedodd ei bod yn ymddangos bod Cymru'n cael trafferth yn y maes polisi penodol hwn yn ddiweddar, ac y gallem ac y dylem fod yn llawer mwy uchelgeisiol. Oherwydd er fy mod yn cefnogi cyflawniadau Llywodraeth y DU ar lwyfannau polisi, rwyf am weld Cymru yn arwain o'r blaen ar y mater hwn, ac ar hyn o bryd, rydym ar ei hôl hi yn mynd i'r afael â'r broblem, nid yn unig o gymharu â gweddill y DU, ond o gymharu â gwledydd eraill ar draws y byd.

Cyhoeddodd Canada yr wythnos hon y bydd yn anelu i wahardd plastigion untro niweidiol erbyn 2021. Er clod iddi—ac nid wyf yn aml yn dweud hyn—mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau rhai cyfraddau ailgylchu trawiadol yng Nghymru, ond am y tro cyntaf yn 2017-18, gostyngodd cyfanswm y gwastraff a ailgylchwyd mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, fe wnaeth Cymru gymryd yr awenau drwy gyflwyno'r tâl am fagiau siopa plastig yn 2011, ond credaf ei bod yn deg dweud bod y polisïau arloesol hyn wedi bod braidd yn brin yn ddiweddar. Y Llywodraeth sy'n gwybod p'un a yw'n fater sy'n ymwneud â gallu neu arweinyddiaeth, ond mae'n amlwg i lawer fod angen inni wella yma yng Nghymru, ac nid cyfrifoldeb adran yr amgylchedd yn unig yw hynny, ond holl adrannau'r Llywodraeth.

Ddoe ddiwethaf, cefais nodyn gan etholwr a oedd wedi dychryn ynglŷn â'r lefel uchel o wastraff plastig a welir ar hyn o bryd ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er enghraifft. Mae angen i ni gydgysylltu'r dull o weithredu ar draws y Llywodraeth gyda thargedau a strategaethau pwrpasol nad ydynt yn gadael dim heb ei wneud. A pham hynny? Oherwydd bod gwastraff plastig yn dianc i'n hamgylchedd yn gyflym iawn. Mae'n diraddio'n ficroblastigion a chaiff hyn ei amsugno'n hawdd wedyn i'r amgylchedd naturiol. Ni cheir dealltwriaeth dda o'r effaith a gaiff hyn ar ein bywyd gwyllt, ein hecosystemau a'n hiechyd dynol. Mae'r canlyniadau'n beryglus a negyddol i bobl a natur yma yng Nghymru.

Dengys hyn fod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn i leihau'r defnydd o blastigion untro wrth i ni geisio gwella amgylchedd naturiol Cymru a lleihau effaith gweithgarwch dynol ar ein planed. Ac mae hynny'n dechrau gyda chryfhau ein cadwyni cyflenwi yma yng Nghymru er mwyn atal llygredd amgylcheddol rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw hyder y cyhoedd.

Efallai eich bod wedi gweld rhaglen ddogfen y BBC ddydd Llun gyda Hugh Fearnley-Whittingstall, War on Plastic with Hugh and Anita. Datgelodd dystiolaeth frawychus am wastraff plastig ailgylchadwy o Gymru a oedd wedi'i allforio i'w ailgylchu ond a gafodd ei ddympio ym Malaysia mewn gwirionedd. Ymhlith llu o eitemau o'r DU, dangosodd darllediadau o'r rhaglen ddogfen fod bagiau ailgylchu o Rondda Cynon Taf yn rhan o'r gwastraff a gafodd ei ddympio, sydd wrth gwrs yn codi cwestiynau ynglŷn â chadwyn gyflenwi a strategaeth gaffael Llywodraeth Cymru. Mae pentwr o wastraff plastig 20 troedfedd o uchder ym Malaysia sydd wedi'i allforio o wledydd eraill yn warth ac yn amlwg yn annerbyniol, ac mae'n dangos nad ydym yn trin ein gwastraff yn briodol. Gwaethygwyd mater allforio llygredd amgylcheddol gan y ffaith bod Malaysia yn anfon bron i 3,000 tunnell fetrig o wastraff plastig na ellir ei ailgylchu yn ôl i'r lle y tarddodd ohono, gan gynnwys y DU, tra bod Tsieina wedi gwahardd mewnforio gwastraff plastig i'w ailgylchu yn ddiweddar oherwydd problemau amgylcheddol a achosir gan y gwastraff halogedig.

Mae'n hollbwysig fod gan y cyhoedd hyder yn y systemau rheoli gwastraff a bod gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei drin mewn ffordd gyfrifol a bod gwastraff sy'n cael ei anfon i'w ailgylchu yn cael ei ailgylchu mewn gwirionedd. Does bosibl fod hwnnw'n uchelgais rhy fawr. Mae cronfa economi gylchol Llywodraeth Cymru yn gam i'w groesawu, ond fel nifer o gyhoeddiadau o'ch meinciau yn ddiweddar, ni chawn lawer iawn o fanylion ynglŷn â sut y caiff ei weithredu, ei fonitro a'i asesu.

Mae arbenigwyr ar yr economi gylchol, WRAP Cymru, wedi gwneud nifer o argymhellion gyda'r nod o greu mwy o dryloywder gwyrddach yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod cynnydd pedwarplyg yn y capasiti ailbrosesu i oddeutu 200,000 tunnell y flwyddyn ac annog gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr i ddweud faint o blastig newydd neu blastig wedi'i ailgylchu y maent yn ei defnyddio yn eu prosesau. Yn eu barn hwy, bydd hyn yn lleihau'r gwastraff plastig a allforir y tu allan i Gymru i'w ailgylchu i 25 y cant. Fel y cyfryw, ar y meinciau hyn, rydym am weld Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar greu cadwyn gyflenwi gylchol sy'n gosod cynaliadwyedd a'r amgylchedd wrth wraidd prosesau'r gadwyn gyflenwi, gan gadw deunyddiau a chynhyrchion, a sicrhau eu bod yn cael eu hailddefnyddio i gyfyngu ar faint o adnoddau naturiol a ddefnyddir a'r allyriadau carbon a gynhyrchir. Ar ben hynny, rhaid cyfyngu ar allforio gwastraff er mwyn atal llygredd amgylcheddol rhag cael ei allforio i wledydd eraill, sy'n lleihau ymdrechion yng Nghymru i greu cymdeithas fwy gwyrdd a chyfartal. Dylai'r strategaeth hon amlinellu camau i leihau'r gwastraff a grëir yn y gadwyn gyflenwi, hyrwyddo prosesau mwy cynaliadwy yn y gadwyn gyflenwi, a lleihau'r broses o allforio gwastraff a materion amgylcheddol eraill er mwyn adfer hyder y cyhoedd.

Fel Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n falch o'r ffaith ein bod wedi arwain y ffordd yn ôl yn 2015, gan alw am gynllun dychwelyd blaendal ar boteli. Yn anffodus, tua phedair blynedd yn ddiweddarach, nid ydym wedi gweld cymaint o gynnydd yn y maes hwn ag yr hoffem fod wedi'i weld, ac ar y meinciau hyn, mae bellach yn hanfodol fod y Llywodraeth yn dangos mwy o uchelgais. Mae angen i ni newid o fod yn gymdeithas wastraffus a glanhau ein strydoedd a'n hamgylchedd, ein traethau a'n hafonydd. Bydd cynllun dychwelyd blaendal yn effeithio'n eang ar gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau allyriadau a helpu i leihau defnydd anghynaliadwy o adnoddau a deunyddiau naturiol. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan a'r seneddau a chynulliadau datganoledig eraill i helpu i ddileu gwastraff y gellir ei osgoi drwy sicrhau gwaharddiad ar gyflenwi gwellt plastig, ond gan eithrio unigolion sydd ag anableddau; atal y cyflenwad o ffyn cotwm plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; a gwahardd trowyr diodydd. Fel Ceidwadwr, mae'r gair 'gwaharddiad' yn gyrru ias i lawr fy nghefn, ond rydym yn cyrraedd pwynt na ellir troi nôl ohono.

Ni allwn dincran o gwmpas yr ymylon mwyach. Mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar frys ac yn bendant i fynd i'r afael â llygredd plastig a diogelu ein hamgylchedd. Mae angen inni arwain ac mae angen inni fynd â'r cyhoedd gyda ni, ac mae angen i gyrff cyhoeddus mawr a diwydiant gefnogi hyn. Yn aml, ni chaiff eitemau plastig eu defnyddio am fwy nag ychydig funudau'n unig, ond maent yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu, gan gyrraedd ein moroedd a'n cefnforoedd a niweidio ein bywyd morol gwerthfawr. Ni allwn fodloni ar wneud dim bellach. Felly, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd ger eu bron heno a chefnogi'r hyn y ceisiwn ei wneud, sef trosglwyddo amgylchedd gwell i'r genhedlaeth nesaf na'r un a etifeddwyd gennym.

17:55

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.

2. Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.

4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.

6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth? Dai.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy, a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm blastig.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac mae’n bleser bod yn rhan o’r ddadl bwysig yma ar blastigau ar ôl agoriad da iawn yn fanna gan Andrew R.T. Davies. Wrth gwrs, fel plaid, rydym ni’n edrych i gyfoethogi’r cynnig gerbron gyda dau welliant. Mae'r cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’i phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro. A’r ail welliant ydy, eto, ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig sydd yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw’n fioddiraddiadwy a fyddi’n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm blastig yn ogystal—galw am wahardd y rheini a phlastigau untro.

Achos mae yna her sylweddol. Ac, wrth gwrs, mae Andrew, fel minnau, yn aelod o’r pwyllgor newid hinsawdd sydd newydd gyhoeddi adroddiad yr wythnos yma, a dweud y gwir—y pwyllgor newid hinsawdd yma yn y Senedd—ar lygredd plastig, sydd yn amlinellu bod llygredd plastig yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed. Dyna eiriau cyntaf rhagair y Cadeirydd yn fan hyn achos mae meicroblastigau ym mhob man. Ac wrth gwrs cefndir hyn oll ydy bod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd, yn naturiol, ac o wneud y fath gyhoeddiad, mae angen camu i fyny wedyn i fod yn weithredol. Nid mater o ddim ond cyhoeddi argyfwng hinsawdd; mae angen gwneud rhywbeth cyffredinol amdano fe. Mae’r adroddiad yma gan y pwyllgor newid hinsawdd yn nodi’n gyffredinol ein bod ni’n siomedig fel pwyllgor nad yw’r Llywodraeth yn y gorffennol wedi mynd i’r afael â maint y broblem yma, yn enwedig yn nhermau plastigau.

Doeddwn i ddim yn mynd i olrhain nifer o’r pwyntiau mae Andrew eisoes wedi’u holrhain, ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi gweld y rhaglenni teledu, megis 'Y Blaned Las' ac ati, a’r rhaglen yna nos Lun wnaeth ddarganfod llygredd plastig o Rhondda Cynon Taf yng nghefn gwlad Malaysia. Dim ond i ganolbwyntio ar sgil-effeithiau darnau bach, bach iawn o blastig sydd yn her gynyddol i’n hiechyd ni fel pobl. Mae yna gryn dipyn o astudiaethau yn mynd ymlaen sydd wedi darganfod bod meicroblastigau—darnau bach iawn—a nanoblastigau, sydd yn ddarnau bach hyd yn oed yn llai, yn ymdreiddio i bob lle. Maen nhw yn ein priddoedd ni, maen nhw yn ein hafonydd ni, maen nhw yn ein moroedd ni ac maen nhw hyd yn oed yn rhew môr yr Arctig. Dyna’r dystiolaeth cawsom ni o flaen y pwyllgor. Ac o ymdreiddio i bob man, mae’r meicroblastigau yma, felly, yn ymddangos yn ein bwydydd ni, beth dŷn ni'n bwyta; yn yr awyr dŷn ni'n ei anadlu—mae'n rhan o lygredd awyr. Achos mae'r nanoblastigau yma mor fach, rŷch chi'n cael nhw, hyd yn oed, ar rwber ein teiars ni, sydd yn cynhyrchu nanoblastigau sydd yn ymddangos wedyn fel llygredd awyr. Dŷn ni'n anadlu'r nanoblastigau yma i mewn i'n cyrff,  i mewn i'n hysgyfaint ni, ac maen nhw mor fach, fach, nid yn unig mae'r nanoblastigau yma'n ymdreiddio i'n hysgyfaint ni, maen nhw'n ymdreiddio hefyd i mewn i gylchrediad y gwaed achos maen nhw mor fach. Ac mae'r plastig, felly, yn ein gwaed ni a hefyd, felly, yn ein calonnau ni, fel cynifer o ronynnau bychain iawn eraill, nid jest plastigau, ond mae maint gronynnau bach sydd yn rhan o lygredd awyr, maen nhw mor fach, rŵan, eu bod nhw'n ymdreiddio i bob rhan o'n cyrff ni.

Wedyn, mae yna her sylweddol yn fan hyn o fater iechyd cyhoeddus ac mae angen i Lywodraethau ym mhob man gamu i fyny at y plât. Achos mae yna her uniongyrchol i iechyd y cyhoedd yn fan hyn; mae angen i Lywodraeth Cymru, wedi datgan bod yna argyfwng hinsawdd, gwneud rhywbeth gweithredol ynglŷn â'r peth, ac mae'n rhaid ei bod o ddifrif ynglŷn â chael gwared ar blastig. Rhaid edrych ar blastig fel y gelyn, ac, yn bendant, mae angen cael gwared ar ddefnyddio plastigau untro a hefyd mae angen mynd i'r afael â deunydd pacio polystyren a ffilm plastig ym mhob man. Dydy allforio i wledydd dros y byd i gyd ddim yn ateb y broblem; mae'n rhaid ei daclo fe yn fan hyn a gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio llawer iawn yn llai, gyda'r bwriad, yn y bôn, o gael gwared ar y defnydd o blastig yn y pen draw. Ond, wrth gwrs, fel mae Andrew wedi cyfeirio ato, maen nhw'n para am flynyddoedd, canrifoedd. Mae yna her gyda ni i ddelio â'r plastig dŷn ni eisoes wedi'i greu. Diolch yn fawr.

18:00

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon—amserol iawn; fel y mae Dai newydd ddweud, mae adroddiad newydd gael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pwnc hwn, ac roeddwn innau hefyd o'r farn fod rhagair y Cadeirydd yn ardderchog ac yn sobreiddiol iawn, ac rwy'n dyfynnu:

'Llygredd plastig yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed. Ni all Cymru ddatrys y broblem fyd-eang hon ar ei phen ei hun, ond ni allwn aros mwyach, mae’n bwysig ein bod yn camu ymlaen ac yn arwain lle y gallwn.'

A dyna'n wir beth y dylem ei wneud. Gwn fod rhai pobl yn y Cynulliad sy'n credu, am fod Cymru'n rhan mor fach o boblogaeth y byd, ein bod yn cael ein rhyddhau rywsut rhag chwarae ein rhan yn yr heriau hyn. Wel, nid dyna sut y dylai fod; dylem fod yn gwbl ymwybodol o'n cyfrifoldeb a dylem geisio arwain lle y gallwn, ac rydym wedi siarad ychydig am ailgylchu, ac mae problemau dyfnach ynghlwm wrth hynny. Ond yn gyffredinol, rwy'n credu bod Cymru wedi gwneud yn dda ar hynny, ac wedi arwain y ffordd mewn sawl ystyr.  

Ddirprwy Lywydd, darllenais heddiw yn un o'n papurau newydd cenedlaethol fod Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd newydd gyhoeddi adroddiad yn dweud bod y person cyffredin ym Mhrydain yn llyncu'r hyn sy'n cyfateb i gerdyn credyd o blastig yr wythnos, a bod 90 y cant ohono drwy ddŵr. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd rhaglen More or Less Radio 4 yn edrych ar yr honiad hwnnw, oherwydd mae'n ymddangos yn gwbl anhygoel i mi ein bod yn gallu llyncu cymaint o blastig yn uniongyrchol. Ond mae'n ein hatgoffa, yn enwedig yn ein defnydd o ddŵr ac wrth fwyta cynhyrchion sy'n dod mewn cynwysyddion plastig, fel y gwna mwy a mwy ohonynt, pan fyddai llawer ohonynt, yn aml, wedi bod mewn gwydr neu beth bynnag—wyddoch chi, mae'n rhaid cadw'r pethau hyn mewn cof.

Felly, dywedais fy mod yn canmol y Llywodraeth lle mae wedi gweithredu a chredaf mai ysbryd y cynnig hwn yw ein bod yn bancio hynny ond wedyn yn mynd ymhellach ac mae angen inni sicrhau, fel y dywedodd Andrew, fod y genhedlaeth nesaf yn cael amgylchedd gwyrddach a mwy cynaliadwy na'r un a etifeddwyd gennym, ac a grëwyd gennym yn rhannol.

Rwyf am edrych ar y cynllun dychwelyd blaendal yn gyntaf, oherwydd credaf ei bod yn ddiddorol fod y cyhoedd nid yn unig yn derbyn bod angen hyn, ond maent wedi bod ar y blaen inni, maent wedi bod yn ein gwthio i edrych ar y cynlluniau hyn. Credaf fod hyn yn wir am lawer o faterion amgylcheddol hefyd, ac mae angen inni fanteisio ar y brwdfrydedd hwnnw. A bod yn deg â Llywodraeth Cymru, maent wedi noddi adroddiad a edrychodd ar ehangu cyfrifoldeb cynhyrchwyr, ac mae hynny'n dangos y gellid cyflawni cyfradd ailgylchu o 90 y cant a mwy yn y maes hwn, ac yn wir, ceir rhai arferion gorau ledled y byd sy'n dangos hynny. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn iawn i wthio yn y maes hwn. Hefyd, os edrychwch chi ar gynllun dychwelyd blaendal yn benodol, un o fanteision hynny yw y byddem hefyd yn datblygu data o ansawdd uchel iawn yn y ffordd y tuedda'r cynlluniau hynny i gael eu rhedeg. Unwaith eto, rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i ni, ac rydym wedi clywed am faterion yn ymwneud â'r economi gylchol y cyfeiriwyd ati.

Credaf fod y Llywodraeth yn anfon y neges gywir, ond fel Andrew, credaf fod angen ichi symud ymlaen, ac mae angen inni weld bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud yn weddol fuan. Roeddwn yn falch fod nifer sylweddol o'r Aelodau, Ddirprwy Lywydd, wedi mynychu'r digwyddiad a noddwyd gennyf yn gynharach eleni, pan ddaethpwyd â pheiriant y cynllun dychwelyd blaendal i'r Cynulliad, a chawsom i gyd gyfle i'w ddefnyddio a'i weld ar waith. Rwy'n credu ein bod wedi synnu'n fawr at ba mor ymarferol ac effeithiol ydoedd, a diolch yn arbennig i'r Gymdeithas Cadwraeth Forol am helpu i drefnu'r digwyddiad hwnnw, ac yn wir, diolch iddynt am y gwaith ehangach a wnânt yng Nghymru yn arwain y frwydr yn erbyn llygredd plastig.

Rwy'n credu bod yr effaith weladwy yn peri cryn dipyn o bryder hefyd. Soniodd Andrew ein bod yn ei weld yn ein cyrsiau dŵr. Byddaf yn cerdded i'r Cynulliad ar fwy o ddiwrnodau nag y byddaf yn gyrru, a byddaf yn cerdded ar draws y morglawdd, ac mae gweld y gwastraff plastig sy'n cael ei olchi yn erbyn y morglawdd yn ddychrynllyd iawn. Felly, credaf fod angen inni edrych ar ffyrdd arloesol, wedi'u harwain gan ddiwydiant. Dyna'r peth gwych am y cynllun blaendal, y byddent hwy'n gyfrifol amdano, gyda'r model a ffafrir o leiaf, ac mae angen inni fwrw ymlaen i wneud hynny.

A gaf fi orffen drwy ddweud cymaint o sioc a gefais wrth wylio'r rhaglenni dogfen yn dangos i ble'r ydym yn anfon ein gwastraff plastig, a ninnau'n tybio ei fod yn cael ei ailgylchu? Soniwyd am Malaysia a Tsieina, ac mae angen inni edrych ar y ffeithiau yma, oherwydd mae angen newid yr agwedd 'allan o'r golwg, allan o'r meddwl', ac mae angen inni gael sicrwydd, pan fyddwn yn anfon ein gwastraff dramor, ei fod yn cael ei ailgylchu go iawn, ac nad ydym yn anfon ein problem dramor i economïau a chymdeithasau sy'n llai abl i ailgylchu na ni. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Rwyf am ganolbwyntio ar un agwedd ar lygredd plastig, ac mae wedi'i grybwyll yma'n gynharach wrth gwrs, sef dychwelyd blaendal. Rydym wedi cael nifer o drafodaethau a dadleuon yn y Siambr ar gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli plastig, ond ymddengys na fu fawr ddim cynnydd, os o gwbl, o ran deddfu ar y mater. Mae bron yn sicr fod cefnogaeth ar draws y Siambr i ddeddfwriaeth o'r fath, fel y gwelwyd mewn cyfraniadau cynharach, yn enwedig un David Melding yn awr. Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd, Hannah Blythyn, mor bell yn ôl â mis Mai y llynedd ei bod am sefydlu trafodaethau â chymheiriaid yn yr Alban, y DU a Gogledd Iwerddon gyda'r bwriad o gyflwyno deddfwriaeth o'r fath. A gafodd y trafodaethau hyn eu cynnal a beth oedd y canlyniad?

Mae malltod llygredd plastig yn amlwg ble bynnag yr edrychwn: o ganol ein trefi i bron bob rhodfa ac wrth gwrs, yn y pentwr anferth o sbwriel a welwn wedi'i olchi ar ein glannau. Mae'n bryd gweithredu yn awr. Ni allwn dindroi tra bod y math ofnadwy hwn o lygredd nid yn unig yn parhau, ond yn tyfu bob dydd.

Ceir dau brif ateb: cynhyrchu a dosbarthu llai, a ddylai fod yn nod i ni yn y pen draw, ac ailgylchu'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu. Pam y gallasom fod yn wlad gyntaf i roi treth ar fagiau siopa plastig, ond nid ydym wedi gallu camu ymlaen ar ein pennau ein hunain i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal nid yn unig ar gyfer poteli plastig, ond ar gyfer poteli gwydr a chaniau diodydd hefyd?

Un gair o rybudd: os ydym yn mynd i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal, rhaid i'r blaendal fod ar lefel sy'n annog pawb i ailgylchu. Ni fydd yn fawr o werth rhoi 5c ar eitem—nid yw plant, yn enwedig, yn gweld gwerth mewn symiau o'r fath. Yn y gorffennol, roedd potel Corona lawn yn costio tua swllt, ond roedd y blaendal mor uchel â thair ceiniog. Nawr, i'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r hen arian, dyna 25 y cant o'r gwerth yn dychwelyd. Fel bachgen ifanc, gallaf eich sicrhau bod digon o gymhelliad i ddychwelyd eich poteli, ac wrth gwrs, unrhyw rai eraill yr oeddech yn ffodus i'w casglu. Rwy'n siŵr y byddai cynllun dychwelyd blaendal yn seiliedig ar oddeutu'r un canrannau yn cael effaith aruthrol ar gyfraddau ailgylchu nid yn unig plastig ond gwydr ac alwminiwm hefyd. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithio gyda phawb ohonom yn y Siambr hon i sicrhau bod y ddeddfwriaeth ar waith i wneud yn siŵr fod y cynllun hwn yn mynd rhagddo.

18:10

Mae malltod a llygredd plastig yn ofid byd-eang. Mae hefyd yn broblem enfawr i ni yma yng Nghymru, ac yn Aberconwy yn enwedig. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod Cynulliad—rydym wedi cynnal sesiynau glanhau traethau gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol, NFU Mutual, a llawer o'n trigolion. Mae'r pethau y cawn hyd iddynt yno—plastig yn bennaf, o boteli i stympiau sigaréts, sy'n cynnwys plastig hefyd. Pan gymerais ran mewn sesiwn lanhau traeth ddiwethaf, treuliodd un aelod o'r cyhoedd oddeutu hanner awr yn glanhau o gwmpas un o'r meinciau ar y promenâd yn Llandudno, lle cafodd hyd i 308 o stympiau sigaréts. Yn anffodus, mae hynny'n nodweddiadol o gynifer o'n traethau ledled Cymru. Am bob 100 metr o draethau Cymru a gaiff ei lanhau, ceir hyd i 53 o gynwysyddion diod ar gyfartaledd. Mae preswylwyr yn rhoi gwybod am wastraff plastig mewn gwrychoedd ger yr A470. Mae cyngor cymuned Trefriw yn gweithio'n rhagorol i wrthsefyll y gwastraff a achosir gan wersylla gwyllt o gwmpas Llyn Geirionydd. A dydd Gwener diwethaf, cefais gyfarfod â phreswylydd a oedd yn hyrwyddo dewisiadau amgen yn lle plastig. Roedd hi wedi bod yn Kenya mewn gwirionedd ac wedi dod yn ôl â—. Hyd yn oed yn Kenya, draw yno, maent mor ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd, ac maent bellach yn gwahardd y defnydd o fagiau plastig mewn archfarchnadoedd a siopau a phethau felly.

Yn amlwg, mae mynd i'r afael â gwastraff plastig yn flaenoriaeth, felly rwy'n croesawu'r ddadl heddiw i dynnu sylw at sut y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy dros Gymru, a'r mwyafrif llethol o'r trigolion sydd bellach yn ymwybodol o'r broblem, ac maent yn anhapus ynglŷn â'n cymdeithas sy'n defnyddio ac yn taflu plastig. Canfu adroddiad 'Pa Mor Lân yw ein Strydoedd?' Cadwch Gymru'n Daclus mai prin fu'r newid yn lefelau sbwriel diodydd ers 2013-14. Mae digwyddiadau cysylltiedig â phlastig y rhoddwyd gwybod i'r RSPCA amdanynt wedi cynyddu bron 29 y cant rhwng 2015 a 2018, ac yn ôl WRAP Cymru, er bod Cymru'n cynhyrchu 400,000 tunnell o wastraff plastig y flwyddyn—ffigur sy'n cynyddu—dim ond 33 y cant o blastigion sy'n cael eu hailgylchu.

Gallai Cymru fod yn un o arweinwyr y byd ar ailgylchu, ac mae'n ymhonni ei bod yn un eisoes, ond mae 17 o awdurdodau lleol wedi nodi gostyngiad yn y cyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu. Mae'r sefyllfa'n waeth byth, fel y gwyddom—nododd Andrew Davies yn gwbl briodol fod gwastraff plastig a allforiwyd o Gymru wedi'i ganfod wedi'i ddympio ym Malaysia, ac yn bersonol, nid wyf yn beio Malaysia am ddychwelyd gwastraff plastig, oherwydd credaf fod gennym ninnau hefyd gyfrifoldeb moesol ac amgylcheddol i dargedu a thrin ein trafferthion sbwriel ein hunain.  

Yn y pen draw, mae rheoli gwastraff yn wael a pheidio â mynd i'r afael yn briodol â llygredd plastig yn gwrth-ddweud y nod—un o'r prif nodau—yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o sicrhau bod Cymru'n wlad gyfrifol yn fyd-eang. Gellir gwneud cynnydd cadarnhaol drwy greu economi blastig cylchol, a allai gael ei hwyluso'n fawr gan grantiau gwell i helpu busnesau i hybu'r defnydd o blastigion a ailgylchir. Gellir defnyddio cyllid fel cymhelliad i'r cyhoedd ehangach ailgylchu hefyd, yn enwedig drwy ddefnyddio cynllun dychwelyd blaendal, ac roeddwn yn credu bod y fenter y cyfeiriodd David Melding ati'n gwbl wych. Nid oes gennyf syniad pam nad oes gennym y rheini yn y Cynulliad yn awr.

Mae'r ateb hwn yn agos iawn at fy nghalon. Mae'r angen am hyn yn glir wrth ystyried y plastigion y deuir o hyd iddynt yn awr, fod ein cyfradd ailgylchu ar gyfer poteli yn is na rhannau eraill o Ewrop—tua 70 y cant yma o'i gymharu â 94.5 y cant yn Norwy—a'r ffaith bod 3 biliwn o boteli plastig yn cael eu taflu yn y DU. Mae Lloegr a'r Alban wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal, ac mae'n ymddangos mai'r cyfan a wnawn yma yw siarad amdano, ymgynghori yn ei gylch, ond nid ei weithredu mewn gwirionedd. Mae YouGov ac MCS wedi dangos bod 71 y cant o bobl Cymru o blaid cyflwyno'r cynllun, fel y mae fy Aelod cyfatebol, Julie Morgan. Felly, erfyniaf ar y Gweinidog i roi un inni.

Yn yr un modd, mae angen inni roi ystyriaeth ddifrifol i feysydd eraill lle mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn arwain y ffordd. Mae'r rhain yn cynnwys y bwriad i wahardd, gydag eithriadau rhesymol, gwerthiant gwellt plastig, ffyn cotwm â throwyr diodydd plastig yn Lloegr. Mae'n debyg y gallwn enwi 100 o eitemau eraill yr hoffwn eu gweld yn cael eu gwahardd. Yn ôl Surfers Against Sewage, mae hwn yn gam cadarnhaol a beiddgar iawn i'r cyfeiriad cywir yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig.

Rwy'n cytuno, ac yn gynharach y mis hwn ysgrifennais at fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn AC, i holi ynghylch y defnydd o wellt plastig ym Maes Awyr Caerdydd, a chanfod mai WHSmith yn unig sy'n dal i fod â gwellt o'r fath yn eu siopau. Yn gyffredinol, mae'r DU yn ail yn yr UE o ran y defnydd y pen o wellt a throwyr diodydd ac yn gyntaf o ran ffyn cotwm. Nid yw'r ffigurau hyn, sy'n creu embaras, yn syndod o ystyried bod nifer y gwellt plastig a ddefnyddir yn y sector cyhoeddus yn cynyddu mewn gwirionedd, a gwelwyd cynnydd o dros 0.25 miliwn ohonynt ers 2013-14. Felly, wrth inni siarad amdano yma heddiw, mae'n dal i ddigwydd. Felly, Weinidog, gwrandewch ar ein dadl, os gwelwch yn da. Peidiwch â 'dileu popeth'. Cefnogwch ein cynnig, a gadewch i bawb ohonom gydweithio ar draws y Siambr hon i sicrhau bod plastig yn cael ei ddileu ym mhobman. Diolch.  

18:15

Ni fyddai unrhyw berson rhesymol yn anghytuno â'r cynnig hwn nac ag unrhyw un o'r gwelliannau a gyflwynwyd heddiw. Rwy'n falch o'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd i leihau'r defnydd o blastig yn ein deunyddiau traul. Torrodd y tâl am fagiau siopa yng Nghymru dir newydd ac mae wedi cael effaith wirioneddol ar y defnydd o'r bagiau hyn. Mae wedi newid ymddygiad, a gwelwn dystiolaeth o hyn pan awn i'r archfarchnad a gweld pobl yn estyn eu bagiau defnydd, eu bagiau troli a'u bagiau am oes. Yn yr un modd, mae cyfraddau ailgylchu'n gwella ac yn arwain yn y byd. Mae biniau llai o faint, llai o gasgliadau sbwriel a mwy o gasgliadau deunydd ailgylchadwy oll yn help yn hyn o beth.

Ond mae mwy i'w wneud. Gwelaf bobl yn eu ceir yn taflu sbwriel o ffenestri eu ceir wrth oleuadau traffig y maent yn gyrru heibio iddynt. Nid ydynt yn byw yno felly nid oes ots. O amgylch siopau lleol ac o amgylch arosfannau bysiau, plastigion, gwastraff bwyd papur—mae'r cyfan yn cael eu taflu ar y llawr am nad ydynt yn meddwl nac yn malio, a bydd rhywun arall yn ei glirio yn y pen draw. A pheidiwch â gadael i mi ddechrau sôn am siopau bwyd tecawê neu ein traethau. Pwy sy'n credu ei bod hi'n iawn i adael clytiau budr ar draeth, neu ai ddim yn meddwl y maent? Pwy ar y ddaear sy'n meddwl ei bod yn iawn i daflu eu bwyd a'u deunydd pecynnu allan o'r car pan fyddant droedfeddi'n llythrennol o gyrraedd bin, neu ai ddim yn meddwl y maent unwaith eto? Credaf fod gwerth i bob un o'r argymhellion a grybwyllwyd heddiw, ac felly rwy'n dweud, 'Bwriwch ymlaen i'w wneud'.

Credaf fod y wlad i gyd wedi cael ei chyffwrdd gan y gyfres Blue Planet y llynedd. Yno, mewn lliw llawn hyfryd, fe welodd pob un ohonom ganlyniad torcalonnus ein cymdeithas wastraffus. Ond a yw hyn wedi arwain at y newid ymddygiad fel sydd ei angen? Nac ydy. Mae'n ymddangos i mi mai un o brif ystyriaethau'r ddadl hon na soniwyd amdani yw newid ymddygiad, a hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru'n edrych ar wyddor ymddygiad a'i defnydd yn y maes hwn.

Rydym wedi gweld damcaniaeth berswâd o'r fath yn cael ei defnyddio'n dda o'r blaen yn y trefniadau ar gyfer optio allan rhag rhoi organau a threfniadau phensiynau. Fel un sy'n hoff iawn o anifeiliaid, rwy'n poeni'n fawr am yr effaith niweidiol y mae plastig yn ei chael ar anifeiliaid yn ein moroedd ac ar ein tiroedd. Yn fy marn i, mae angen i'r math hwn o ddull gweithredu fod yn y gymysgedd i annog triniaeth fwy ystyriol o'n hamgylchedd a lle plastigion ynddo. Diolch.

Diolch i grŵp y Torïaid am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'r cynnig yn hollol iawn yn y modd y mae'n ceisio atal y defnydd o blastigion ac allforio cynhyrchion plastig, yn hytrach na rhai o'r gwelliannau sydd i'w gwneud i'r cynnig, sy'n ceisio awgrymu mai ailgylchu yw'r ateb i broblem gorddefnyddio plastig. Ni ddylem gael ein cyflyru i gredu bod deunydd y gellir ei ailgylchu neu ddeunydd sy'n fioddiraddiadwy yn iawn i'w ddefnyddio. Er mwyn bioddiraddio, mae angen aer a dŵr ar y deunydd, ac nid yw'n eu cael os caiff ei ddal o dan dunelli o wastraff arall mewn safleoedd tirlenwi. Mae ailgylchu ei hun yn defnyddio cryn dipyn o ynni. Ystyrir yn aml bod rhywbeth a wneir o ddeunydd sydd wedi'i ailgylchu 100 y cant wedi'i ailgylchu yn gwbl ecogyfeillgar, ac eto mae'n bosibl y gall fod angen defnyddio mwy o ynni i'w weithgynhyrchu na'r hyn sydd ei angen i greu'r cynnyrch gwreiddiol. Dylid newid y labeli i adlewyrchu'n fwy cywir beth yw cyfanswm cost amgylcheddol plastigion—wedi'u hailgylchu neu fel arall.

Yn nodweddiadol, mae gwelliant Llafur yn llongyfarch ei hun yn hytrach na meddwl am syniadau ychwanegol i symud y ddadl yn ei blaen, ac mae cyfyngu ar y defnydd o blastigion yn ymrwymiad llawer mwy cyfyngedig ar ran Llywodraeth Cymru nag awgrym y cynnig gwreiddiol i wahardd y cynhyrchion plastig mwyaf diangen sy'n achosi llawer iawn o niwed. Y prif reswm pam ein bod wedi allforio gwastraff plastig i wledydd eraill yw oherwydd treth tirlenwi'r UE, a oedd yn gosod ardoll ar bob tunnell o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, heb wneud unrhyw ymdrech i sicrhau bod dim ohono'n cael ei ailgylchu mewn gwirionedd. O ganlyniad, yn lle anfon ein sbwriel i safleoedd tirlenwi neu i'n ffatrïoedd ailgylchu ein hunain, fe'i hanfonwyd i Tsieina a lleoedd eraill. Ni ystyriwyd cost amgylcheddol cludo'r cyfan yr holl ffordd, er ei bod yn enfawr. Ond mae wedi caniatáu i'r UE a Llywodraeth Cymru hawlio buddugoliaeth fod eu rheolau wedi arbed tunelli o sbwriel rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Yn hytrach, mae'n gorwedd ar ffurf mynyddoedd enfawr o wastraff nad yw'n cael ei ailgylchu a heb wneud unrhyw beth i leihau'r galw am greu plastig newydd. Mae cyfarwyddeb yr UE wedi costio'n ddrud iawn i'r amgylchedd byd-eang, ac yn lle hynny, i bob pwrpas, mae wedi arwain at greu safleoedd tirlenwi yn Tsieina a llefydd tebyg. Yn synhwyrol, mae'r gwledydd hynny bellach yn dechrau dweud wrth wledydd fel ni am drin ein sbwriel ein hunain yn hytrach na'i ddympio arnynt hwy. Mae cyfarwyddeb tirlenwi'r UE yn enghraifft berffaith o'r union fath o rinwedd dwyllodrus a niweidiol sy'n arwydd y dylai Llywodraeth Cymru a phawb arall ei osgoi er mwyn y blaned a phob peth byw arni.

Byddaf yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, ond rwy'n meddwl y dylid rhoi mwy o bwysau ar weithgynhyrchwyr a chynhyrchwyr sy'n defnyddio plastig i roi'r gorau i wneud hynny. Pam y dylai'r cyhoedd neu awdurdodau lleol—sy'n cael eu hariannu gan arian cyhoeddus—dalu am brosesu gwastraff a gynhyrchir yn unswydd i helpu cynhyrchwyr i werthu eu cynnyrch? Yn aml, nid oes dewis gan y defnyddiwr ond derbyn llawer o blastig nad oes arnynt mo'i angen na'i awydd. Pam y dylent orfod ariannu'r gwaith o'i brosesu wedyn? Pe gosodid ardoll neu rwymedigaeth ar archfarchnadoedd a gweithgynhyrchwyr i gymryd y plastig y maent yn ei greu yn ôl, a thalu'r gost ailgylchu neu waredu o ganlyniad i hynny, efallai y byddent yn meddwl ddwywaith cyn ei orfodi ar ddefnyddwyr yn y lle cyntaf.

A pham fod rhaid gwneud popeth o blastig? Gellir creu popeth fwy neu lai y gellir ei greu o blastig o ddeunyddiau eraill—deunyddiau y gellid eu tyfu yng Nghymru a darparu cnwd ychwanegol o arian i ffermwyr Cymru. Oes, weithiau mae angen i weithgynhyrchwyr ddiogelu eu cynnyrch wrth ei gludo, ond maent yn gwneud llawer gormod ohono—er enghraifft, poteli inc sy'n cael eu cau mewn plastig trwchus iawn ar ôl iddynt fod yn ei werthu am ddegawdau heb fawr o ddeunydd pacio. Efallai y gallai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig archwilio a herio gweithgynhyrchwyr ac archfarchnadoedd i egluro eu penderfyniadau ynglŷn â'u defnydd o blastigion.

Ond mae'n ymwneud â mwy na'r deunydd pecynnu a'r eitemau a restrir yng nghynnig y Ceidwadwyr yn unig—ac rwy'n cefnogi pob un ohonynt. Defnyddir plastigion hefyd mewn cerbydau ac offer cartref—mae'r rhestr yn gwbl ddiddiwedd. Mae gan rai eitemau broses sefydledig ar gyfer gwaredu ac ailgylchu'r cydrannau plastig, ond mae angen i lywodraethau ar y ddwy ochr i'r ffin ac ar draws y byd annog pobl i beidio â defnyddio plastig yn gyffredinol. Felly, yn olaf, er bod awgrymiadau cynnig y Ceidwadwyr yn ddechrau da iawn, mae angen ymagwedd gydgysylltiedig tuag at y defnydd o blastig i ymdrin â'i holl ffynonellau, a dileu'r defnydd ohono'n gyfan gwbl yn y pen draw. Diolch.

18:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy groesawu'n ddiffuant y cyfle i gael y ddadl hon heddiw ar y pwnc pwysig hwn—pwnc sy'n cael sylw mawr yn ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwleidyddiaeth. Mae plastig yn ddeunydd modern sydd wedi trawsnewid ein bywydau—mewn sawl ffordd er gwell. Yn y ffordd gywir, mae'n ddeunydd pwysig a defnyddiol y gellir ei ddefnyddio mewn llawer iawn o ffyrdd, nid yn lleiaf at ddefnydd meddygol, ond bellach, yn gynyddol ac yn ddidostur yn aml iawn, rydym wedi sylweddoli'r modd y mae'r diwylliant gwastraffus a ddatblygodd yn rhan olaf y ganrif ddiwethaf yn costio'n ddrud i'n hamgylchedd.

Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd arloesol ac effeithiol o ymdrin â gwastraff plastig a rhoi diwedd ar y defnydd o blastigion untro diangen a deunyddiau na ellir eu hailgylchu na'u hailbrosesu. Rydym wedi clywed heddiw sut y mae'n rhaid i ni weithredu er mwyn ein hamgylchedd ac er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae cymaint o'r gwaith i fynd i'r afael â llygredd plastig yn cael ei arwain gan bobl ifanc, boed drwy ein rhwydwaith eco-ysgolion, camau gweithredu lleol a digwyddiadau yn ein Senedd Ieuenctid ein hunain. Gallwn ymfalchïo yn yr hyn rydym wedi'i gyflawni yng Nghymru hyd yma. Gwyddom ein bod yn arwain yn y DU ar ailgylchu trefol gyda chyfraddau o 67.2 y cant, ond ni allwn, ac nid ydym yn llaesu dwylo. Roeddwn yn hoffi'r ffordd y dywedodd David Melding y gallwn fancio'r hyn a wnaethom a mynd ymhellach wedyn, a dyna rydym wedi ymrwymo i'w wneud.

Nid oes ateb syml nac atebion perffaith i broblem plastig. Mae mynd i'r afael â gwastraff plastig yn gymhleth ac amlochrog, sy'n croesi ffiniau personol, busnes a rhynglywodraethol. Felly, rydym yn gweithio gyda phartneriaid diwydiant ac awdurdodau lleol i ddatblygu seilwaith newydd ar gyfer cynyddu'r gwaith o ddidoli ac adfeddiannu gwastraff plastig yng Nghymru. Rydym am leihau'n sylweddol y ddibyniaeth ar farchnadoedd tramor i ailgylchu'r gwastraff plastig a gesglir yma yng Nghymru. Rwyf wedi cytuno felly y dylai'r defnydd o gronfa buddsoddi cyfalaf yr economi gylchol gwerth £6.5 ar gyfer 2019-20 ganolbwyntio'n gryf ar ailgylchu plastigion. Mae WRAP Cymru yn goruchwylio'r cynllun ar ein rhan ac rwy'n hapus i ddosbarthu rhagor o fanylion i'r Aelodau.

Law yn llaw â hynny, mae angen inni ystyried rheoli plastig yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r cynlluniau dychwelyd blaendal yn profi—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

18:25

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y caiff yr arian hwnnw ei dargedu i wneud cyfundrefn ailgylchu gadarnach yma yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli eich bod am ddosbarthu gwybodaeth i'r Aelodau. A fydd y wybodaeth honno'n cynnwys manylion yr hyn rydych yn debygol o'i gyflawni erbyn i chi wario'r arian hwnnw? Oherwydd mae gweld y gwastraff hwnnw ym Malaysia a thrydydd gwledydd eraill yn rhywbeth sy'n tanseilio hyder pobl rhag newid i ailgylchu.

Nid ydym am i bobl roi'r gorau i ailgylchu, felly'r ateb i hynny yw sicrhau ein bod yn datblygu'r marchnadoedd hyn yn nes at adref. Rwy'n fwy na pharod i anfon cymaint o wybodaeth ag y gallwn i chi gael golwg arni.  

Roeddwn yn sôn am gynlluniau dychwelyd blaendal. Maent wedi profi eu bod yn gwella'r broses o ailgylchu ar hyd y lle a lleihau sbwriel, yn ogystal â darparu casgliad safonol o gynwysyddion diodydd y gellir eu hailgylchu. Clywais feirniadaeth heddiw—rwy'n credu ein bod wedi siarad ynglŷn â sut y cawsom sgyrsiau gyda chymheiriaid ar draws y gweinyddiaethau datganoledig a'r DU, ond rydym wedi pasio hynny bellach. Nid wyf yn gwybod a oes rhai o'r Aelodau wedi bod yn hepian, ond yn ddiweddar, buom yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ynghylch rhinweddau cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ac ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr.

Daeth yr ymgynghoriad i ben fis diwethaf ac fel y byddai'r Aelodau'n disgwyl, cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb yn yr ymgynghoriad ac ymatebion iddo. Mae'n bwysig yn awr ein bod yn ystyried sut y byddai unrhyw gynllun yn cyd-fynd â'n casgliadau presennol o gartrefi yn ogystal ag edrych ar yr effeithiau ar y defnyddwyr, megis costau a hygyrchedd. Fel y dywedais, mae'r argymhellion hyn ar gyfer cynllun dychwelyd blaendal yn cydredeg â chynigion ehangach i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, sy'n creu mwy o gyfrifoldeb ar y cynhyrchwyr am y deunydd pacio y maent yn ei greu. Pe bai'r rhain yn cael eu rhoi ar waith, y dull gorau a mwyaf buddiol fyddai gwneud hyn ar yr un pryd.  

Yn ystod yr ymgynghoriad ar y ddau beth hyn, cynhaliais sesiwn friffio i Aelodau'r Cynulliad yn ogystal â chyfarfod i randdeiliaid o bob maes gydag awdurdodau lleol, manwerthwyr, a'r sector amgylcheddol hefyd, a buaswn yn fwy na pharod i ailadrodd hynny wrth inni symud i gamau nesaf y broses hon. Yn gysylltiedig â hyn mae ein huchelgais i ddod yn genedl ail-lenwi gyntaf y byd. Ymgyrch dŵr tap ymarferol yw'r ymgyrch ail-lenwi i leihau faint o wastraff plastig a achosir gan boteli plastig untro. Yn dilyn ein cefnogaeth a'n gwaith hyrwyddo ar y cynlluniau ail-lenwi, rwy'n falch o rannu gyda'r Aelodau fod dros 1,000 o orsafoedd ail-lenwi ledled Cymru erbyn hyn a bod gan dros 96 y cant o'r cymunedau ar hyd llwybr arfordir Cymru bresenoldeb ail-lenwi.  

Credaf mai Dai Lloyd a hefyd David Melding a siaradodd am ficroblastigion a'r effaith ar yr amgylchedd morol a'n cadwyn fwyd yn arbennig. Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon a chasglu rhagor o dystiolaeth, a hefyd mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfyngiadau ar gynhyrchion a wneir o blastigion oxo-ddiraddadwy, sy'n cynnwys ychwanegion sy'n cyflymu'r broses o ddadelfennu microblastigion niweidiol.  

Mae pawb ohonom wedi clywed am y cyhoeddiad diweddar a ailadroddwyd yma heddiw gan Lywodraeth y DU i wahardd gwellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm yn Lloegr. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau ein bod ni yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfyngu ar, neu wahardd argaeledd y cynhyrchion hyn yn unol â chyfarwyddeb plastigion untro yr Undeb Ewropeaidd. Cawsom gyhoeddiadau ond yr hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu. Felly, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac yn ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer cyfyngiadau ar wellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm ac ar ystod ehangach o eitemau fel ffyn balwnau, cyllyll a ffyrc, platiau a chynwysyddion bwyd a diod polystyren.  

Yn ogystal, mae Trysorlys Cymru wedi bod yn gweithio gyda Thrysorlys ei Mawrhydi ar gynigion i gymell y defnydd o blastig wedi'i ailgylchu drwy ddefnyddio treth ar bob deunydd pacio plastig sydd â llai na 30 y cant o gynnwys wedi'i ailgylchu. Byddwn yn parhau i gydweithio â Thrysorlys ei Mawrhydi hyd nes y bydd mwy o wybodaeth ar gael ar ddull arfaethedig Llywodraeth y DU, a sicrhau ein bod yn parhau i fod yn rhan o'r broses o ddatblygu a gweithredu polisi ar gyfer unrhyw fesur trethiant yn y maes hwn.  

Ond mae'n amlwg fod y cyhoedd, gwleidyddion a rhanddeiliaid yn gyffredinol yn awyddus i roi camau ar waith i fynd i'r afael â gwastraff plastig yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i asesu'r potensial ar gyfer cyflwyno treth neu dâl am gynwysyddion diodydd untro yng Nghymru. Mae hyn yn parhau i fod yn opsiwn i ni, a bydd yn dibynnu ar ganlyniad cyfres o ymgyngoriadau ar wastraff a deunydd pacio a lansiwyd eleni, gan gynnwys cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a oedd yn cynnwys cwestiwn hefyd ynglŷn ag ardoll bosibl ar gynwysyddion diodydd, ynghyd â chamau pellach, a'r gwaith a wnawn gyda busnesau i gynyddu eu lefelau ailddefnyddio eu hunain.

Wrth inni ddatblygu'r agenda hon, mae hefyd yn hynod o bwysig ein bod yn gochel rhag canlyniadau anfwriadol, yn ogystal â bod yn deg ac yn gymesur yn unol ag egwyddorion treth a nodwyd yn y fframwaith polisi treth. Ond fel cenedl, gallwn fod yn arbennig o falch o'n llwyddiant arloesol ym maes ailgylchu, rhywbeth sy'n cael ei gydnabod ledled y byd. Mae'r flwyddyn hon yn nodi ugain mlynedd ers datganoli, ac ar drothwy datganoli, 5 y cant yn unig o'n gwastraff a oedd yn cael ei ailgylchu yng Nghymru. Rydym bellach wedi cyrraedd dros 60 y cant. Rydym wedi arwain yn y DU, gan gyflwyno tâl am fagiau siopa a chyflwyno deddfwriaeth i wahardd microbelenni. Rwyf am i Gymru arwain unwaith eto ar reoli gwastraff ac adnoddau ac ar newid i economi gylchol ddiwastraff.

Gyd-Aelodau, ni ddylem dwyllo ein hunain ynglŷn â maint y broblem. Mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth ac fel unigolion i wella pethau. Mae cymunedau ledled y wlad yn cymryd camau i leihau plastigion untro, o Aberporth i Ynys Môn. Mae hyn i'w gymeradwyo a'i gefnogi. Mae'r momentwm wedi bod ar gynnydd dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys yn yr Wyddgrug, yn fy etholaeth i, a chynhelir ail gyfarfod cymunedol o Lleihau Plastig yr Wyddgrug yr wythnos hon. Mae camau gweithredu unigol bach yn gwneud gwahaniaeth o'u cyflawni ar y cyd, felly mae'r cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu, gan gynnwys y Llywodraeth—camau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd ac y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem plastig i'n hamgylchedd, i'n cymunedau ac i'n dyfodol. Diolch.

18:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod y Gweinidog wedi taro'r hoelen ar ei phen ar ddiwedd ei haraith pan ddywedodd fod angen gweithredu ar hyn yn ogystal â geiriau da. Cadwaf fy sylwadau'n fyr, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwy'n sylweddoli faint o amser sydd gennyf, ac mae Aelodau o bob plaid, ac Aelodau annibynnol wrth gwrs, wedi gwneud pwyntiau da iawn.

Os edrychwch ar yr ystadegau, credaf eu bod yn wirioneddol frawychus. Mae llawer o siaradwyr wedi cyfeirio atynt. Ar hyn o bryd mae Cymru'n cynhyrchu cyfanswm o 400,000 tunnell o wastraff plastig y flwyddyn. Fel y clywsom, gall hirhoedledd plastigion olygu bod plastig yn para mewn safleoedd tirlenwi am ganrifoedd. Credaf fod pwyntiau Dai Lloyd yn arbennig o berthnasol i mi fel tad i fabi saith mis oed erbyn hyn. Credaf ei fod yn ddychrynllyd, nid yn unig yr hyn a ddywedoch chi am blastigion a microblastigion a nanoblastigion—mae bron ar lefel ffuglen wyddonol—yn cynyddu yn ein cyrff yn ddyddiol, ond mae'r broses honno'n dechrau'n gynnar iawn pan gaiff baban ei eni, neu cyn hynny hyd yn oed. Mae'r microblastigion a'r nanoblastigion hyn ym mhobman. Maent yn bodoli drwy'r gadwyn fwyd gyfan. Mae'n mynd i fod yn anhygoel o anodd ymdrin â'r sefyllfa hon, ond mae angen inni ymdrin â'r sefyllfa ac mae angen inni ddechrau yn awr.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, David Melding, yn ei gyfraniad, yn aml ceir yr agwedd, 'Pa wahaniaeth y mae'n ei wneud os yw Cymru'n gwneud hyn, os yw gwlad fach yn gwneud ei gorau? Oherwydd mae yna wledydd llawer mwy o faint, ac os nad ydynt hwy'n cymryd unrhyw sylw, yna ni allwn gyrraedd unman'. Wel, o leiaf mae'n ddechrau. Byddwn yn aml yn defnyddio'r ymadrodd 'maint Cymru', oni wnawn? Wel, os yw gwlad maint Cymru yn gallu dechrau ceisio ymdrin â phroblem plastigion, efallai y gallwn ledaenu arferion da ar draws y byd a bydd gwledydd eraill yn dilyn ein hesiampl. Gwyddom am achosion eraill lle rydym wedi pasio pethau yn y Siambr hon, pethau a oedd ar y pryd yn ymddangos yn chwerthinllyd i lawer o bobl. Efallai y cofiwch chi, pan oeddem yn trafod bagiau plastig untro, fod rhai pobl yn credu na fyddai byth yn gweithio, ei fod yn syniad gwallgof, y byddai pobl yn mynd â bag Morrisons i archfarchnad Sainbury ac yn defnyddio hwnnw. Wel, fe welwch hynny drwy'r amser erbyn hyn, mae'n gyffredin, ac mae gennych fagiau amlddefnydd a bagiau papur. Felly, mae yna bethau y gellir eu cyflawni yn y dyfodol, er eu bod i'w gweld yn anodd eu cyflawni ar y pryd. Felly, gadewch i ni gychwyn arni ac annog hynny i ddigwydd.

Do, fel y clywsom ac fel y dywedodd Dai, cawsom ddatganiad o argyfwng newid hinsawdd. Mae angen inni weld gweithredu ar lawr gwlad gyda newid hinsawdd, ond mae angen ymdrin â materion amgylcheddol ehangach fel plastig hefyd. Rwy'n falch fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod yn edrych ar hyn. Mae'n bwysig iawn craffu ar y maes hwn yn llawn. O ran y gwelliannau, un o'r rhesymau pam ein bod yn gwrthod gwelliant y Llywodraeth yw oherwydd y bydd yn dileu ein cynnig. Rydym yn cefnogi gwelliant 2, sy'n gwneud rhai pwyntiau da iawn am ganllawiau a roddir gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym broblem gyda gwelliant 3 ac rydym yn mynd i ymatal ar hwnnw, nid am nad yw gwahardd deunydd pecynnu bwyd plastig nad yw'n ailgylchadwy neu'n fioddiraddiadwy yn nod canmoladwy, ond rwyf am weld rhagor o wybodaeth am y dulliau o wneud hynny ac yna byddwn yn ei gefnogi'n llawn. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater y gall y pwyllgor newid hinsawdd a phwyllgorau eraill ystyried ei graffu a darparu atebion real iawn i'r Llywodraeth.

Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies ar y dechrau'n deg, mae angen inni drosglwyddo—rwy'n aralleirio yn awr—amgylchedd sy'n well na'r hyn a gawsom. Mae angen inni wneud hynny i'r genhedlaeth nesaf mewn perthynas â phob math o bethau. Gallwn edrych ar y gwasanaeth iechyd, gallwn edrych ar addysg, gallwn edrych ar drafnidiaeth, ar ffyrdd, fel y trafodasom, ond ar fater yr amgylchedd, y blaned hon yw ein treftadaeth a adawn ar ein holau i genedlaethau'r dyfodol. A heb y blaned lle rydym—wel, rwy'n sefyll yn awr ac rwy'n siarad â chi am amddiffyn y blaned—. Heb hynny, mae popeth arall yn ddibwys mewn gwirionedd. Felly, rwy'n meddwl eich bod wedi gwneud pwynt da iawn ar ddechrau eich araith, Andrew, sy'n atseinio drwy gyfraniadau pawb arall heddiw, ac yn wir, fe wnaeth y Gweinidog ymateb iddo.

Felly, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl heddiw? Rwy'n meddwl ei bod yn ddadl a gafodd ei dwyn i'r amlwg gan raglenni fel Blue Planet David Attenborough. Gobeithio y bydd llawer o raglenni eraill hefyd yn parhau i godi proffil y mater hwn. Mae'n rhywbeth na châi ei drafod mor bell yn ôl â hynny ac rydym yn ei drafod yn y Siambr yn awr, a thrafod problem yw'r cam cyntaf i'w datrys.

18:35

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Eitem 8 ar yr agenda yw'r cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y bleidlais. Nac oes. Iawn. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma felly ar y cynigion a gafodd eu grwpio gyda'i gilydd ar gyfer pleidleisio, ar gynigion i ethol Aelodau i'r pwyllgorau. Mae angen i fwyafrif o ddwy ran o dair o'r Aelodau bleidleisio o blaid er mwyn i hyn gael ei dderbyn. Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynigion hynny. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynigion.

NDM7072 - 7075 - Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau: O blaid: 12, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynigion

Symudwn yn awr at ddadl Plaid Cymru ar y dewisiadau amgen i ffordd liniaru'r M4 a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7066 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwyf am fwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM7066 - Gwelliant 1: O blaid: 19, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM7066 - Gwelliant 2: O blaid: 29, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwn yn awr am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, unwaith eto, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwyf am fwrw fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant ac felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM7066 - Gwelliant 3: O blaid: 19, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Symudwn at welliant 4 a galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Ac eto, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n bwrw fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Gwrthodwyd y gwelliant.

18:40

NDM7066 - Gwelliant 4: O blaid: 19, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar welliant 5. Galwaf am bleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

NDM7066 - Gwelliant 5: O blaid: 18, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7066 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd saith, roedd chwech yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7066 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 25, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Ac felly, gan nad yw'r Cynulliad wedi cytuno ar y cynnig—gwrthodwyd y cynnig, felly, symudwn ymlaen. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn darllen rhywbeth arall na ddylwn fod yn ei ddarllen. Rwyf wedi cyffroi'n ofnadwy am fy mod wedi gallu pleidleisio. Mae'n ddrwg gennyf am hynny. [Cymeradwyaeth.] [Chwerthin.] Efallai nad ydych yn hoffi'r ffordd y gwneuthum bleidleisio, mae'n ddrwg gennyf.

Symudwn ymlaen at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar leihau gwastraff plastig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.

NDM7065 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 1, 21, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7065 - Gwelliant 1: O blaid: 21, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 2, 38, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM7065 - Gwelliant 2: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, roedd 11 yn ymatal. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.

NDM7065 - Gwelliant 3: O blaid: 27, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7065 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.

2. Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.

4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.

6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.

8. Yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy, a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 33, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7065 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 33, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A wnaiff yr Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n gyflym os gwelwch yn dda?

9. Dadl Fer: Mynd i'r afael â'r cynnydd mewn sgamiau yng Nghymru

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Caroline Jones i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis—Caroline.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw ac rwyf wedi cytuno i roi amser i Michelle Brown siarad yn y ddadl hon. Rydym yn wynebu epidemig yng Nghymru. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu targedu gan sgemiau i'w twyllo o'r arian y maent wedi gweithio'n galed i'w ennill, sgemiau mwyfwy soffistigedig sy'n targedu ein henoed a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae cwsmeriaid yn derbyn negeseuon e-bost ffug sy'n honni eu bod yn dod oddi wrth eu banc neu gwmni cardiau credyd sy'n ceisio cael manylion personol a chyfrineiriau ganddynt. Mae hysbysebion ffug a gwefannau sy'n dynwared brandiau adnabyddus yn cael eu sefydlu er mwyn gwerthu cynnyrch ffug. Mae pobl yn agor y drws i rai eraill sy'n gwerthu cyfleoedd buddsoddi ffug, nwyddau a chynhyrchion gwael nad ydynt eu hangen na'u heisiau. Mae teuluoedd yn cael eu targedu gan bost torfol sy'n hyrwyddo cystadlaethau, loterïau a nwyddau ffug. Defnyddir y gwasanaeth post hefyd i dwyllo pobl i dalu am nwyddau neu wasanaethau na wnaethant eu harchebu na'u cael yn y lle cyntaf.

Bob blwyddyn, mae mwyfwy o bobl yn dioddef yn sgil sgamiau ac mae'r sgamwyr yn tyfu'n fwyfwy soffistigedig er mwyn twyllo mwy o bobl. Yn ôl yr arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr, troseddau twyll a throseddau camddefnyddio cyfrifiaduron oedd y troseddau mwyaf cyffredin a brofwyd gan unigolion y llynedd. Mae Action Fraud, corff yr heddlu a sefydlwyd i gydgysylltu gwybodaeth am seiberdroseddu a thwyll, wedi gweld cynnydd o 28 y cant mewn twyll cardiau a chyfrifon banc yn y 12 mis diwethaf. Mae'r arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr yn awgrymu bod llai nag un o bob pum achos o dwyll yn cael eu hadrodd i'r heddlu ac Action Fraud.

Yn anffodus, pan fydd rhywun wedi dioddef twyll, ychwanegir eu manylion, gan gynnwys manylion personol a chyfrineiriau, at restri o ddioddefwyr, ac mae'r rheini'n cael eu gwerthu i droseddwyr eraill. Yn ôl amcangyfrifon y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, gallai fod 0.5 miliwn o breswylwyr y DU ar y rhestrau hyn. Cafodd manylion un dioddefwr eu gwerthu ymlaen dros 200 o weithiau—200 o grwpiau sgam a throseddwyr cyfundrefnol yn targedu un unigolyn yn unig.

Mae tri chwarter yr oedolion sy'n byw yn y DU wedi cael eu targedu gan sgam yn y ddwy flynedd diwethaf. Maent yn amrywio o ran pa mor soffistigedig ydynt, o e-bost wedi'i eirio'n wael gan dywysog tramor sy'n cynnig cyfoeth enfawr i beirianneg gymdeithasol wedi'i thargedu'n dda yn seiliedig ar eich proffil ar-lein. Mae fy swyddfa wedi treulio'r ychydig wythnosau diwethaf yn ymddiheuro i bobl ledled y DU sydd wedi cysylltu â ni yn credu bod Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn bygwth eu harestio am drethi heb eu talu. Mae'r ffaith bod rhifau ein swyddfeydd yn y Cynulliad wedi cael eu ffugio i ychwanegu rhywfaint o gredadwyedd i'r sgam arbennig hon yn arwydd o soffistigeiddrwydd cynyddol y troseddwyr dan sylw.

Ychydig wythnosau yn ôl, cysylltodd etholwr â mi ac mae wedi caniatáu i mi ddefnyddio ei enw, Mr Mark Morgan o Heol Gordon ym Mhorthcawl. Mae Mark Morgan yn un o fy etholwyr sydd wedi dioddef sgam. Mae yn ei 60au ond yn deall sut i ddefnyddio cyfrifiadur. Gan ei fod yn teithio dramor yn aml, mae Mark yn gwneud llawer o'i fancio ar gyfer amryw o gyfrifon banc personol a busnes ar-lein. Pan gysylltodd twyllwr â Mark dros y ffôn, gan honni ei fod yn ffonio o'i fanc i drafod trafodiad twyllodrus ar un o'i gyfrifon ar-lein, roeddent mor argyhoeddiadol nes bod Mark wedi credu eu sgam, ac aethant ati i ddwyn £38,000 o'i gyfrif. Mae tua hanner yr arian wedi'i ad-dalu gan ei fanc, ond mae'n annhebygol o weld y gweddill—arian na all fforddio ei golli; cynilion ei fywyd a neilltuwyd ar gyfer ei ymddeoliad. Roedd Mark eisiau i mi dynnu sylw at yr hyn a ddigwyddodd iddo heddiw yn y gobaith y byddai'n atal pobl eraill rhag gorfod dioddef rhywbeth tebyg. Yn anffodus, nid Mark yw'r unig un; mae dioddefwyr seiberdroseddu yn colli £190,000 y dydd.

Felly, beth y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol hwn? Codi ymwybyddiaeth yw'r prif beth y gallwn ei wneud, fel Llywodraeth, fel sefydliad ac fel unigolion, oherwydd mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y mater hwn. Mae'n rhaid i ni addysgu'r cyhoedd am amrywiaeth a soffistigeiddrwydd cynyddol y sgamiau. Mae'n rhaid i ni gynyddu nifer yr ymgyrchoedd addysg defnyddwyr er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am y gwahanol fathau o sgamiau. Mae'n rhaid i ni anfon neges glir nad oes dim o gwbl i fod â chywilydd yn ei gylch os ydych yn dioddef trosedd o'r fath. Ni fyddech yn teimlo cywilydd ynglŷn â chyfaddef eich bod wedi cael eich mygio felly pam y dylid trin rhywun sydd wedi dioddef dan law troseddwr tra fedrus yn wahanol?

Mae embaras, yn anffodus, yn un o'r prif resymau pam mai dim ond un o bob pum o sgamiau sy'n cael eu cofnodi. Mae angen i bobl ddeall pwysigrwydd rhoi gwybod am sgamiau. Mae peidio â gwybod am y troseddau hyn yn ei gwneud hi'n anos i'r awdurdodau nodi a gweithredu yn erbyn y sgamwyr. Mae'n ei gwneud yn anos nodi pwy sydd fwyaf tebygol o gael eu targedu ac i weithredu i sicrhau bod y grwpiau hynny'n cael gwybodaeth berthnasol ynglŷn â sut i osgoi sgamiau o'r fath yn y dyfodol.

Ar wahân i godi ymwybyddiaeth, buaswn yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â'r diwydiant i roi gwell mesurau diogelu ar waith. Ni ddylai fod yn bosibl i sgamwyr ffugio rhifau ffôn. Mae angen i'r Llywodraeth a'r cwmnïau ffôn fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol hwn a rhoi diwedd ar alwadau ffôn awtomatig. Mae'r galwadau awtomatig hyn wedi symud ymlaen o hawliadau PPI i annog pobl i hawlio'n dwyllodrus am anaf personol yn dilyn damwain car. Mae angen i ni gryfhau deddfau diogelu data i atal pobl rhag gwerthu gwybodaeth bersonol heb wybodaeth a chydsyniad pendant.

Dros y pythefnos nesaf, mae Cyngor ar Bopeth yn cynnal eu hymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau 2019, ac mae'n gyd-ddigwyddiad llwyr fy mod wedi dewis cyflwyno'r pwnc hwn ar gyfer dadl fer yn ystod eu hymgyrch, mae'n gyd-ddigwyddiad ffodus. Anogaf yr holl Aelodau yma i drydar eu cefnogaeth i'r ymgyrch gan ddefnyddio'r hashnod #ymwybyddiaethsgamiau.

Gall sgamiau effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg, felly beth am wneud popeth a allwn i godi ymwybyddiaeth, cael gwared ar y stigma, cynyddu'r niferoedd sy'n rhoi gwybod amdanynt, a chryfhau deddfwriaeth, er mwyn amddiffyn ein hetholwyr ac atal eraill rhag gorfod dioddef yr hyn y mae Mark Morgan wedi gorfod ei ddioddef. Diolch yn fawr iawn.

18:50

Hoffwn ddiolch i Caroline am ganiatáu i mi gyfrannu at ei dadl. Mae sgamiau, yn eu hanfod, yn dor-ymddiriedaeth. Maent yn aml yn achosi embaras, lle bydd dioddefwr yn beio'i hun bron am gredu'r sgam. Wrth gwrs, bydd codi ymwybyddiaeth o sgamiau yn gymorth mawr i leihau'r stigma di-alw-amdano o fod yn ddioddefwr sgam, yn ogystal ag annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus, ond un o'r ffyrdd allweddol o godi ymwybyddiaeth yw drwy erlyniadau, sydd i'w gweld yn digwydd yn anfynych tu hwnt.

Yn wir, yn gynharach eleni, dywedodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi a'r Gwasanaethau Tân ac Achub fod ymagwedd anghyson tuag at blismona twyll yng Nghymru a Lloegr, a bod hynny wedi golygu bod y cyhoedd yn wynebu risg uchel o sgamiau. Ym mis Ebrill, dywedodd Wayne May, sylfaenydd Scam Survivors, gwefan sy'n ymroddedig i ddatgelu twyllwyr a helpu dioddefwyr, wrth y BBC ei fod yn cydymdeimlo â'r heddlu. Esboniodd fod twyllwyr yn aml yn gweithredu mewn gwahanol wledydd, felly er y gallai dioddefwr golli popeth sydd ganddynt, byddai'n costio mwy iddynt geisio ymchwilio i'r achos. Yn aml, ni fydd dioddefwyr yn rhoi gwybod am y sgamiau, nid yn unig oherwydd yr embaras, ond oherwydd eu bod wedi darllen storïau ar-lein lle y mae'r heddlu wedi dweud wrth ddioddefwyr nad oes dim y gallant ei wneud.

Felly, beth y gallai'r ateb fod os yw canfod ac erlyn mor anodd a chostus? Mae Google, Amazon, eBay, Facebook a PayPal i gyd yn gwneud symiau enfawr o arian ac yn defnyddio algorithmau soffistigedig i broffilio pobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau. Os ydych yn cerdded i mewn i rai canghennau gyda'ch ffôn symudol yn eich poced, bydd Google yn rhoi gwybod i'r clerc sydd y tu ôl i'r cownter pa gynhyrchion ariannol rydych wedi chwilio amdanynt ar Google yn ddiweddar ac felly pa rai y dylent geisio eu gwerthu i chi. Wrth gwrs, mae Google yn codi tâl ar y banciau am y gwasanaeth hwn. Yn sicr, gyda'r holl waith monitro y mae Google, Amazon a'r lleill yn ei wneud, gallent fod yn gwneud mwy i ganfod sgamiau a'r rhai sy'n agored iddynt. Efallai y dylem ystyried gorfodi'r cwmnïau technoleg mawr i wneud mwy, ac ystyried eu dwyn i gyfrif, yn rhannol o leiaf, os bydd un o'u defnyddwyr yn dioddef sgam. Mae'r broblem hon yn codi, yn bennaf, oherwydd y farchnad ar-lein, ac nid yw ond yn briodol, fel rydym yn ymdrin yn briodol â diogelwch corfforol, y dylem fynnu ei bod yn awr yn bryd i'r rhai sy'n gwneud ffortiwn drwy roi pobl mewn cysylltiad ag eraill ar-lein orfod ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am adennill colledion y rhai sy'n dioddef sgamiau o ganlyniad i hynny. Felly, hoffwn ddiolch i Caroline am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n cefnogi'r ddadl yn llwyr—

Na, na, na, ni all dderbyn ymyriad. Mae wedi cael llawer mwy o amser na'r funud a ganiatawyd iddi. Mae'n ddrwg gennyf.

Gallwch wneud ymyriad pan fydd y Gweinidog yn siarad os bydd angen. Mae'n ddrwg gennyf. Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Lywydd a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn bwnc pwysig, ac mae'n amserol iawn, gydag ymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau eleni yn dechrau yr wythnos hon. Gwn y bydd pobl wedi cysylltu â llawer o'r Aelodau, fel y mae Caroline Jones wedi'i nodi—pobl hŷn a bregus yn aml sydd wedi dioddef sgamiau. Fel y gwyddoch, nid yw'r polisi ar atal sgamiau wedi'i ddatganoli. Yn yr un modd, mae twyll o unrhyw fath yn drosedd ac yn fater i'r heddlu ymdrin ag ef. Er hyn, rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru ac sy'n cael effaith mor fawr ar ddioddefwyr.

Fel y gwyddom ni i gyd, ac rydym wedi clywed hyn mor glir, gall sgamiau gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a'u teuluoedd. Amcangyfrifir bod defnyddwyr Prydain yn colli tua £3.5 biliwn i sgamiau bob blwyddyn, sy'n cyfateb i £70 ar gyfer pob oedolyn sy'n byw yn y DU. Ac wrth gwrs, clywsom am ymchwil Cyngor ar Bopeth sy'n dangos bod 61 y cant o bobl wedi cael eu targedu gan sgamwyr yn y ddwy flynedd diwethaf. Rwyf hefyd wedi dychryn wrth ddysgu drwy eu hymchwil fod bron i 40 y cant o bobl wedi cael eu targedu bum gwaith neu fwy. Mae twyllwyr yn cysylltu â phobl hŷn, rhai yn eu 80au a 90au, yn mynnu arian neu'n ceisio eu hannog i drosglwyddo arian banc, fel rydym wedi'i glywed, ac yn eu bygwth os nad ydynt yn cydymffurfio. Mae'r galwadau ffôn hyn yn peri gofid mawr i'r rheini a dargedir, pa un a ydynt yn colli arian ai peidio.

Yn aml, gall yr effaith ar iechyd a llesiant fod yn llawer mwy na'r golled ariannol. Mae pobl yn colli hyder a gallant ddioddef mwy o unigrwydd a mynd yn fwy ofnus. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at ddirywiad mewn iechyd meddwl a chorfforol, ond drwy gydweithio ar draws ystod eang o sefydliadau rydym mewn sefyllfa dda i ddylanwadu ar newid. Gallwn helpu i atal twyllwyr rhag achosi'r boen a'r trallod sy'n difetha bywydau, ac mae honno'n neges gref o'r ddadl hon. Mae'n hanfodol bod pawb yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau. Dyna pam y gwnaethom ymrwymiad yn 2013 i gefnogi'r camau i greu parthau dim galw diwahoddiad er mwyn atal masnachwyr twyllodrus a galwyr digroeso rhag cysylltu â phobl yn eu cartrefi. Ond nid yw pob sgam yn digwydd ar garreg y drws—[Torri ar draws.]

18:55

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am y ffaith eich bod wedi cefnogi parthau dim galw diwahoddiad oherwydd yn amlwg, mae thema'r ddadl hon, yn fy marn i, wedi ymwneud mwy â galwadau ar-lein a galwadau ffôn sydd wedi bod yn sgamiau. Rwyf wedi bod yn llysgennad sgamiau ers peth amser fel rhan o'r rhaglen sy'n ceisio cynnwys gwleidyddion yn hyn, ond un o'r pethau y mae llawer o bobl wedi gofyn i mi annog Llywodraeth Cymru i'w wneud yw sicrhau bod Cymru yn wlad 'dim galw diwahoddiad', ac rwy'n meddwl tybed, Weinidog, a yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ystyried. Does bosibl na allai ystyried annog siroedd i gyflwyno'u cynlluniau eu hunain. Tybed a yw hwnnw'n ddull o weithredu y gallech ystyried ei roi ar waith.

Wel, diolch i Darren Millar am y gydnabyddiaeth fod—. Yn wir, rydym wedi trafod hyn, gyda chi siŵr o fod, yn y Siambr, o ran cefnogi'r camau i ymestyn parthau dim galw diwahoddiad. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny eto ac yn adrodd yn ôl i chi, nid yn unig fel llysgennad, ond mewn ymateb i'r ddadl hon.

Pan oeddwn yn dweud nad yw pob sgam yn digwydd ar garreg y drws, gwyddom fod unigolion yn cael eu targedu drwy'r post, dros y ffôn, ac yn gynyddol, drwy sgamiau seiber. Mae'n debyg nad oeddem yn gwybod hynny mor bell yn ôl pan oeddem yn ystyried y mater hwn yn wreiddiol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall cynhwysiant ariannol a digidol ein dinasyddion helpu pobl i ddod yn fwy ymwybodol o'r bygythiadau a chynyddu hyder drwy gymryd camau syml i'w hamddiffyn eu hunain. Mae gennym strategaeth cynhwysiant ariannol sy'n cydnabod bod gallu ariannol gwell yn gallu helpu pobl i osgoi dioddef sgamiau, a gallai hynny, wrth gwrs—. I'r dioddefwyr hynny, mae'n effeithio ar eu gallu i aros mewn gwaith, gall arwain neu gyfrannu at ddyledion a phroblemau tai a lles, ac mae gan y rhain i gyd gysylltiadau sefydledig â salwch meddwl. Mae ein fframwaith strategol ar gyfer cynhwysiant digidol yn cydnabod bod sgamiau ar-lein yn gallu effeithio ar unrhyw un, ond gall y rhai nad oes ganddynt sgiliau digidol sylfaenol i ddiogelu eu hunain ar-lein fod yn arbennig o agored i'r sgamwyr hyn.

Gwyddom fod sgamiau ar-lein yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i fwy o bobl wneud taliadau ar-lein, bancio ar-lein, cyfathrebu drwy e-bost a chyfryngau cymdeithasol, ac er bod y banciau'n gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn, mae'n rhaid i bawb ohonom godi ymwybyddiaeth o'r bygythiadau i helpu pobl i osgoi dioddef sgamiau mwyfwy soffistigedig. Erbyn hyn, cydnabyddir mai twyll yw'r drosedd fwyaf cyffredin yn y DU ac mae troseddwyr yn datblygu technegau mwyfwy soffistigedig i dwyllo pobl i roi eu harian.

Er nad yw'r cyfrifoldeb dros bolisïau ar droseddu wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, gall nifer o feysydd cyfrifoldeb datganoledig effeithio ar ddiogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ym mis Mawrth eleni, trefnodd Tarian, yr uned ranbarthol ar gyfer troseddau cyfundrefnol, daith bws seiberddiogelwch Cymru i addysgu pobl a busnesau am seiberddiogelwch a throseddu. Ariannwyd hynny gan grant refeniw seibergadernid Llywodraeth Cymru. Teithiodd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd, busnesau, a rhoi cyngor iddynt ar seiberddiogelwch i sicrhau bod pobl mewn busnesau yn gallu adnabod arwyddion seiberdroseddu a sicrhau bod ganddynt yr hyn y maent ei angen i aros yn ddiogel ar-lein. A gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd â phrif gwnstabliaid, comisiynwyr heddlu a throseddu pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru, lle rydym yn trafod materion sydd o ddiddordeb cyffredin gyda'r nod o wneud cymunedau'n fwy diogel. Mae ein heddluoedd yng Nghymru yn codi ymwybyddiaeth o sgamiau. Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn gweithio gydag asiantaethau partner a chymunedau yn ne Cymru i fynd i'r afael â galwyr digroeso ar garreg y drws a masnachwyr diwahoddiad. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol sy'n gweithio yn ein cymunedau, ac maent yn rhoi cymorth lle a phryd bynnag y bo angen ac yn rheolaidd yn cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth o sgamiau gyda thrigolion lleol a'r rôl bwysig y gallant ei chwarae.

Rwy'n croesawu'r camau sy'n cael eu cymryd gan dîm sgamiau'r Safonau Masnach Cenedlaethol i hyfforddi 1 filiwn o ffrindiau ledled y DU erbyn 2020, gan gynnwys 50,000 yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'n ymwneud ag annog pobl i edrych ar ôl ei gilydd yn eu cymunedau ac adnabod yr arwyddion y gallai rhywun fod mewn perygl—mae hwnnw'n bendant yn gam cadarnhaol i atal troseddau pellach. A hoffwn dynnu sylw at waith Partneriaeth Cymru yn erbyn Sgamiau y mae eu haelodau'n cynnwys Age Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a safonau masnach. Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi sicrwydd i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn malio am y mater hwn. Rydym yn gweithio'n galed o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig i gael gwared ar sgamiau a chefnogi dioddefwyr a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth a chodi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn lle bynnag y bo modd, a byddwn yn mynegi ein pryderon wrth Weinidogion y DU sy'n gyfrifol am y materion hyn, ac yn gweithio gyda hwy. Diolch.

19:00

Daeth y cyfarfod i ben am 19:02.