Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
04/07/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle.
1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith Brexit ar y diwydiant moduron? OAQ52464

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei diddordeb brwd yn y pwnc penodol hwn, a rhoi sicrwydd iddi ein bod yn trafod yn rheolaidd â Fforwm Modurol Cymru a chyrff cenedlaethol y sector ar effaith bosibl Brexit? Ar sail y trafodaethau hyn, ac ar sail rhyngweithio dyddiol â chwmnïau modurol Cymru, mae fy swyddogion yn parhau i asesu'r senarios posibl.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch iawn fod gennyf gannoedd o etholwyr ar gyflogau da mewn swyddi medrus ac undebol ym maes gweithgynhyrchu yn y sector modurol yn Nhorfaen. Rwy'n siŵr y byddwch chi, fel finnau, wedi gweld nifer o rybuddion gan arbenigwyr fod Brexit, yn enwedig Brexit lle rydym yn gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl, yn fygythiad difrifol iawn i weithgynhyrchu modurol yn arbennig. A gaf fi ofyn ichi—fe sonioch chi am asesiadau—roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â'r asesiadau a wnaed gennych o risg debygol i'r sector modurol, a pha gamau brys y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i geisio lliniaru'r risgiau hynny, o gofio'r hyn a wyddom ynglŷn â pha mor gystadleuol yw'r maes gweithgynhyrchu modurol, a pha mor ddibynnol yw'r maes ar egwyddorion gweithgynhyrchu mewn union bryd? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle unwaith eto am wneud pwynt pwysig ynghylch cyflenwi mewn union bryd? Mae hyn yn rhywbeth y bu cyfarwyddwr ymadawol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn sôn amdano yn ddiweddar, yng nghyd-destun Brexit. Ac mae'r Aelod yn llygad ei lle—mae cannoedd o'i hetholwyr wedi'u cyflogi yn y sector modurol yn Nhorfaen, ac mae 19,000 o bobl ledled Cymru wedi'u cyflogi yn y sector allweddol hwn, ac mae'n allweddol am ei fod yn cyfrannu gwerth £3.5 biliwn o refeniw i'r economi. Ledled y DU, mae mwy na 800,000 o bobl wedi'u cyflogi yn y diwydiant modurol. Yn ddiweddar iawn, mae cwmnïau fel BMW a chyflogwyr mawr eraill wedi bod yn sôn am eu pryderon ynghylch Brexit. Nawr, rydym wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Fusnes Caerdydd, yn ogystal â fforwm modurol Cymru, a chyrff y sector ledled y DU, i asesu effaith debygol senarios Brexit ar y diwydiant modurol. Mae rhai ffactorau y gallem eu lliniaru, ond mae llawer ohonynt y tu hwnt i'n rheolaeth, a dyna pam fod y ffaith nad yw Llywodraeth y DU, a'r Cabinet yn arbennig, wedi dod i gytundeb ynglŷn â'r undeb tollau yn peri cryn bryder inni.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn cofio ein trafodaethau yn y Siambr hon ynglŷn â'r pryderon ynghylch yr oddeutu 1,000 neu fwy o swyddi a allai gael eu colli os na ddoir o hyd i gyfleoedd newydd ar gyfer ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fy rhanbarth i. Ac yn ein cyfarfod trawsbleidiol gyda staff Ford, ar y pryd, nid Brexit oedd eu prif bryder, er fy mod yn amau y gallai fod yn fwy o bryder erbyn hyn; yn hytrach, eu prif bryder oedd eu perthynas â marchnad America. Ac wrth gwrs, gyda chyhoeddiad yr Arlywydd Trump ar dariffau, gallwch weld pam fod hyn bellach yn bryder uniongyrchol. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth mewn swyddfeydd ledled y byd bellach, tybed a allwch egluro'r hyn y mae'r swyddfeydd hynny wedi gallu ei wneud yn y cyfamser i ehangu cyfleoedd ar gyfer Ford ledled y byd. Diolch.
Wel, rydym mewn trafodaethau gweithredol â chyflogwyr eraill ynghylch defnyddio safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac o ran tyfu'r sector modurol yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Brexit, a'r ansicrwydd ynghylch Brexit, yn ffactor ataliol o ran gallu denu buddsoddiad. Fodd bynnag, drwy ein swyddfeydd newydd, nid yn unig yng ngogledd America, ond ledled Ewrop, rydym yn trafod y potensial i sicrhau buddsoddiad yng Nghymru gyda chwmnïau modurol mawr. Mae a wnelo hyn hefyd, wrth gwrs, â'r her arall rydym wedi'i thrafod yn y grŵp hwnnw, sy'n ymwneud â'r angen i drawsnewid i economi wedi'i datgarboneiddio, a sicrhau'n benodol fod cymaint â phosibl o weithgynhyrchwyr modurol yn y DU yn newid i ddefnyddio pŵer hybrid a thrydan, a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r her a ddaw yn sgil cynhyrchu peiriannau diesel yn unig o ran yr effaith debygol y bydd y targedau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gosod yn ei chael ar eu cyflogwyr. Felly, mae tair prif her y mae angen i ni eu goresgyn: un, canlyniadau hysbys Brexit, a'r canlyniadau sydd hyd yma'n anhysbys; dau, marchnad America wrth gwrs, a datblygu'r gadwyn gyflenwi yn y DU i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd posibl sy'n deillio o Brexit; a thri, sicrhau bod gweithgynhyrchwyr yn croesawu'r agenda ddatgarboneiddio, a'r newid i gerbydau allyriadau isel iawn.
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad oes unrhyw unigolyn call yn dymuno gweld tariffau ar fewnforio ac allforio ceir rhwng Prydain a'r UE. Pe bai'r Comisiwn Ewropeaidd, yn anffodus, yn parhau i atal cynigion am gytundeb masnach rydd, yr UE a fyddai fwyaf ar eu colled gan eu bod yn allforio gwerth £3.9 biliwn o geir i ni; dim ond gwerth £1.3 biliwn rydym yn eu hallforio iddynt hwy, ac mae hanner y ceir sy'n cael eu hallforio i Brydain o'r UE yn dod o'r Almaen. A yw wedi gweld bod Rupert Stadler, cadeirydd Audi, wedi dweud na fyddai unrhyw un yn ennill pe na bai'r UE a'r DU yn dod i gytundeb masnach, ac y byddai'n arwain at golli swyddi yn yr Almaen yn ogystal â Phrydain, a bod Lutz Meschke o gwmni ceir Porsche yn dweud y byddai methu dod i gytundeb yn peryglu swyddi yn yr Almaen? Ac wrth gwrs, o ganlyniad i gynlluniau tariff Trump, byddai hynny'n arwain at broblemau anferthol i gynhyrchwyr ceir Ewrop, oherwydd bod yr UE yn gosod tariff o 10 y cant ar geir a fewnforiwyd o'r Unol Daleithiau, tra bo'r Unol Daleithiau yn gosod tariff o 2.5 y cant yn unig ar hyn o bryd. Felly, diffyndollaeth yr Undeb Ewropeaidd a'u anhyblygrwydd hwy wrth negodi sy'n peri’r problemau posibl hyn.
Edrychwch, nid oes unrhyw un yn ennill mewn senario lle nad oes gennym gytundeb, yn seiliedig ar y trafodaethau a gafwyd. Credaf mai un man lle mae'r Aelod yn gwbl gywir yn ei asesiad yw pan fo'n ddweud y dylai hon fod yn fwy na dadl ynghylch pwy fydd fwyaf ar ei golled a sicrhau nad y DU fydd fwyaf ar ei cholled. Er mwyn sicrhau ein bod oll yn elwa i'r eithaf, a'n bod oll yn colli cyn lleied ag y bo modd, rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd bragmatig iawn tuag at y trafodaethau, ac mae'r ymagwedd bragmatig honno'n golygu bod yn rhaid i Brif Weinidog y DU anghofio'r llinellau coch y mae wedi bod mor hoff ohonynt dros fisoedd lawer a mabwysiadu safbwynt gyda'r nod o gynnal cyflogaeth. Ac mae hynny'n golygu parhau i fod yn rhan o undeb tollau a mynediad rhydd a dirwystr at y farchnad sengl. Rydym wedi bod yn gyson ers peth amser bellach yn ein safbwynt, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU a'i Chabinet yn mabwysiadu'r safbwynt hwnnw yn y pen draw hefyd.
2. Sut y bydd etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn elwa ar fuddsoddi mewn rheilffyrdd a gwasanaethau metro? OAQ52455
Bydd pobl leol yn fwy cysylltiedig a byddant yn gallu manteisio ar gyfleoedd swyddi, iechyd a hamdden. Bydd y metro yn darparu pedwar trên yr awr i bob un o gymunedau Blaenau'r Cymoedd i'r gogledd o orsaf Caerdydd Heol y Frenhines, o 2022 ymlaen ar gyfer Merthyr Tudful, ac o 2023 ymlaen ar gyfer Rhymni.
Diolch am y wybodaeth honno, sy'n nodi'r manteision clir wrth inni gyflawni ymrwymiad maniffesto 2016 yn y cyswllt hwn. Yn yr adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree, 'Effective housing for people on low incomes in the Welsh Valleys', cafwyd argymhelliad—argymhelliad 3, mewn gwirionedd—i wella mynediad at gyflogaeth. A dywed yr adroddiad mai'r unig ffordd y gall mentrau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth fod yn effeithiol yw os ydynt yn arwain at gyflogaeth gynaliadwy o safon, ac mewn rhai rhannau o'r Cymoedd, sy'n cynnwys lleoedd fel cwm Rhymni uchaf mae'n debyg, bydd angen gwaith adnewyddu economaidd sylweddol er mwyn sicrhau hynny. Nawr, o gofio mai ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar gael i ymyrryd yn uniongyrchol er lles economaidd y cymunedau hyn, ymddengys i mi, pan fydd ysgogiadau pŵer economaidd yn nwylo Llywodraeth Cymru, fel gyda buddsoddiad yn y fasnachfraint reilffordd a'r metro, bydd yn rhaid inni sicrhau mai ein cymunedau mwy ynysig, megis cwm Rhymni uchaf, sy'n elwa'n uniongyrchol o'r prosiectau hyn. A gaf fi ofyn i chi felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y byddwch yn ei wneud i sicrhau bod hyn yn digwydd?
Wel, buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod fod gan drafnidiaeth rôl hanfodol i'w chwarae yn adfywio a thyfu'r economi nid yn unig mewn canolfannau cyfoeth sefydledig, ond hefyd mewn ardaloedd mwy difreintiedig. A bydd Rhymni yn cael buddsoddiad mewn platfform cilfach newydd; yn gweld buddsoddi mewn mannau cadw trenau ar y trac a phwyntiau gwefru a gwelliannau o ran mân waith cynnal a chadw. A bydd hyn yn cefnogi'r trenau ychwanegol a mwy o faint a fydd yn dod yn y dyfodol, ac mae'n ychwanegol at y pedwar gwasanaeth yr awr o 2023 ymlaen. Ond rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod y bydd mân waith cynnal a chadw ar y cerbydau yn cael ei gwblhau yng nghyfleusterau cadw trenau Rhymni, gan ddarparu cyfle ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, fel roedd hi'n gywir i nodi.
Mae trigolion y Cymoedd uchaf wedi dweud wrthyf sawl tro mai un o'r rhwystrau mwyaf i deithio i Gaerdydd i chwilio am waith yw'r gost, ac nid amlder y gwasanaeth na'r cyflymder o reidrwydd. Felly, o safbwynt hynny, a gaf fi groesawu'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a deiliad newydd y fasnachfraint i leihau prisiau siwrneiau o'r Cymoedd uchaf, ac a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yr un peth yn wir i bobl sy'n teithio o Gaerdydd i Ferthyr Tudful i weithio neu fel arall, ac a fydd hefyd yn wir i bobl sy'n dod o'r Cymoedd uchaf i Gasnewydd?
Ie, y nod gyda gwastatáu yw sicrhau bod y bobl sy'n manteisio ar gyfleoedd neu'n dod o'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd yn talu llai, gan wneud yn siŵr ein bod yn darparu rhywfaint o gyfle cyfartal o ran mynediad a chyfleoedd gwaith. Mae'n werth dweud mai un o'r prif rwystrau sy'n wynebu pobl nad ydynt mewn gwaith yw cost ac argaeledd trafnidiaeth, a nodais un ystadegyn penodol sy'n peri cryn bryder i mi, sef nad yw 20 y cant o bobl ifanc yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gallu mynychu eu cyfweliadau gwaith gan na allant fforddio neu gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw hynny'n dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain, a chredaf fod y cynlluniau teithio rhatach a'n cytundeb gwastatáu gyda'r gweithredwr a'r partner datblygu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael mynediad at gyfleoedd gwaith.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Cyn i mi ddechrau, fe wnaf i egluro: cwestiynau i chi yw'r rhain, nid i'r Gweinidog dros dreftadaeth na'r iaith.
Buaswn i'n licio dechrau trwy longyfarch yr holl fusnesau hynny sydd ag agwedd iach ac adeiladol tuag at y Gymraeg, nid yn unig oherwydd eu bod nhw'n cefnogi'r Gymraeg a'n diwylliant ni, ond hefyd oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu busnes. Ond, wrth gwrs, mae yna eithriadau. Felly, o ystyried sylwadau gwbl sarhaus gan un cwmni—ni wnaf ei enwi—am yr iaith dros y dyddiau diwethaf, a ydych chi'n credu y gallwn ni wastad ddibynnu ar ewyllys da cwmnïau preifat i barchu a defnyddio'r iaith Gymraeg?
Ni chredaf y gallwn ddibynnu ar ewyllys da yn unig o reidrwydd; credaf mai'r hyn sydd ei angen yw ewyllys da, rhywfaint o gydweithredu â Llywodraeth Cymru, ond cydnabyddiaeth hefyd, os ydych am fod yn llwyddiannus mewn busnes, yn enwedig yn y sector manwerthu—ac mae'r cwmni nad yw'r Aelod wedi'i enwi yn rhan o'r sector manwerthu—mae angen i chi ymgysylltu â'r gymuned rydych yn dibynnu arni, yn y bôn, i oroesi. Os ydych yn gelyniaethu cyfran sylweddol o'r gymuned honno, ni ddylech ddisgwyl iddynt fod yn gwsmeriaid. Ac felly, nid yn unig ei bod yn gwneud synnwyr busnes da i fabwysiadu a chroesawu'r iaith Gymraeg, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr masnachol da, gan y gallwch ychwanegu gwerth at eich cynnyrch a'ch gwasanaethau drwy ddefnyddio rhywbeth sy'n unigryw, ac mae'r iaith yn hollol unigryw i Gymru.
Mae hynny'n hollol iawn. Eto, o dynnu sylw at y busnesau hynny sydd eisoes yn gweithredu'n gadarnhaol, mae o'n fy nharo i y dylai'r busnesau hynny eu hunain gael eu defnyddio i annog busnesau eraill i fod yn fwy cadarnhaol tuag at yr iaith, yn enwedig hefyd o ystyried y cyfraniad mawr y gall y sector breifat ei wneud tuag at gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Pam felly, os caf fi ofyn, nad oedd apêl ar fusnesau i ymestyn eu cefnogaeth a'u defnydd o'r Gymraeg fel un o alwadau gweithredu craidd eich strategaeth economaidd chi ac yn enwedig lle mae yna gwmnïau wedi derbyn arian Llywodraeth?
Wrth gwrs, gyda'r contract economaidd, fe'i cynlluniwyd i sbarduno twf cynhwysol, a bydd y galwadau i weithredu yn lens newydd y byddwn yn cefnogi busnesau drwyddi, gyda'r bwriad o leihau'r bwlch cynhyrchiant rhyngom a llawer o wledydd Ewrop. O fewn y contract economaidd, a gynlluniwyd, dywedaf eto, er mwyn sbarduno twf cynhwysol, ceir pwynt penodol yn y meini prawf ar gyfer hyrwyddo gwaith teg, ac mae gwaith teg yn golygu bod yn rhaid inni sicrhau bod gan bobl fynediad at swyddi o ansawdd da a'u bod yn gallu defnyddio'u sgiliau, ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y gallu i siarad yr iaith y mae pobl yn dewis ei siarad. Credaf y bydd y contract economaidd, wrth sbarduno twf cynhwysol, nid yn unig o fudd i leihau'r bwlch mewn anghydraddoldeb o ran cyfoeth a lles, ond bydd o gymorth hefyd i sicrhau ein bod yn lleihau'r bwlch rhwng y bobl sy'n gweithio neu sy'n byw mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn aml mewn ardaloedd mwy gwledig a difreintiedig, a'r economïau mwy llwyddiannus hynny mewn ardaloedd trefol iawn.
Credaf eich bod yn iawn—mae cyfeiriad yn y strategaeth economaidd at ddefnyddio datblygiad economaidd i dyfu a datblygu'r iaith, ond ni cheir unrhyw gyfeiriad at sut y gall yr iaith ei hun hybu twf economaidd. Cadeiriais un o gyfarfodydd diweddar Cymru Ryngwladol, y grŵp trawsbleidiol, a buom yn edrych ar adroddiad gan y Cyngor Prydeinig ar rym gymell tawel a sut i fanteisio i'r eithaf ar ein grym cymell tawel. Gwnaeth nifer o argymhellion, a rhai diddorol iawn hefyd. Un peth a gryfhaodd rym cymell tawel yr Alban dramor oedd y ffaith eu bod wedi cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn ddiweddar—ac rwy'n hyderus y cawn un yng Nghymru heb fod yn rhy hir hefyd—ond roedd hynny'n rhoi hwb i hunaniaeth y genedl. A pheth arall a argymhellodd oedd y dylem dynnu sylw at y pethau sy'n gwneud inni sefyll allan oddi wrth weddill y DU, ac mae un peth amlwg, sef yr iaith Gymraeg. Felly, onid oes llawer mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i ddefnyddio'r iaith a'r ffaith ei bod yn gwneud inni sefyll allan a bod yn wahanol fel arf ar gyfer tyfu ein heconomi yng Nghymru?
Rwy'n cytuno'n llwyr, a chredaf fod Ewro 2016 yn enghraifft berffaith i ddangos sut y gall sylw cyfandir cyfan—y byd i gyd, mewn gwirionedd—gael ei hoelio ar wlad fach a chanolbwyntio ar beth yw ei nodweddion unigryw. Yn achos Ewro 2016, siaradwyd y Gymraeg dros bob man, ac roedd hynny'n ychwanegu gwerth. Ond rwy'n falch iawn o allu dweud y byddwn yn edrych ar brosiect penodol yng Nghymru a fydd yn archwilio potensial yr iaith Gymraeg i sbarduno datblygiad economaidd. Prosiect Arfor fydd y prosiect hwnnw, prosiect a argymhellwyd gan Adam Price, a bydd yn cael ei ddatblygu gan y Llywodraeth hon.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am ymweld ag abaty Nedd a'r gwaith haearn yn ddiweddar iawn gyda Jeremy Miles a minnau. Mae'n rhaid imi ddweud bod y cyfeillion yn falch iawn eich bod wedi dod i ymweld â hwy, fel y gallent ddangos y gwaith caled y maent wedi'i wneud yn hyrwyddo a gofalu am y safle hwnnw, er nad ydynt yn berchen arno. Yn amlwg, yr awdurdod lleol sy'n berchen arno.
Mae twristiaeth yn un o elfennau gwaith Tasglu'r Cymoedd, a gwn eich bod yn cytuno â mi a'r cyfeillion fod gan y safleoedd hyn, ynghyd â safleoedd diwylliannol pwysig eraill yng nghwm Nedd a chwm Dulais, gryn dipyn o botensial twristiaeth. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru ein cynorthwyo i fanteisio ar y twf mewn cyfoeth sy'n deillio o'r fargen ddinesig, a hyrwyddo twristiaeth yng Nghastell-nedd fel cynnig cydlynol? A ydych wedi rhoi rhagor o ystyriaeth i raglen debyg i Cymru Gydnerth er mwyn cynorthwyo i gefnogi grwpiau cymunedol, fel cyfeillion y gwaith haearn, i reoli a hyd yn oed i gymryd cyfrifoldeb llawn am rai o'n safleoedd diwylliannol pwysig?

Fe wnes i fwynhau fy ymweliad â'r abaty a'r gwaith haearn—
Mynachlog Nedd.
Ie, Mynachlog Nedd. Mae'n well imi ateb Suzy yn Gymraeg, onid yw?
Pam lai?
Gwnes i fwynhau fy nhaith yn arbennig. Roedd hi'n hyfryd gweld ansawdd y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn barod ar yr abaty, yn dod â'r adeilad yn ôl i ddiogelwch—nid y cyfan ohono fo, ond rhannau ohono fo. Ond wrth gwrs, chawsom ni ddim gweld y gwaith mwyaf ardderchog; nid yw eto wedi'i gwblhau, ond rydw i'n sicr ei fod o'n cael ei wneud i'r safon uchaf.
Y ffordd y mae Cadw yn gweithio: byddwn ni'n cydweithio fel corff. Mae'r corff yn parhau yn rhan o Lywodraeth Cymru, ond y mae o'n cael ei reoli yn annibynnol o fewn y Llywodraeth. Cyn bo hir, mi fydd yna hysbyseb pellach i benodi cadeirydd a bwrdd i Cadw, ac yna rydym ni'n gobeithio y bydd y bwrdd hwnnw wedyn yn gallu parhau â'r gwaith o gydweithio â chymunedau sydd yn barod wedi dangos eu gofal am eu hetifeddiaeth. Mae yna enghraifft dda iawn wedi digwydd yn ddiweddar lle'r ydym ni wedi cael castell yn feddiant, yng Nghaergwrle a'r Hôb, oddi wrth y cyngor cymuned, ac y mae'r trafodaethau yn parhau o hyd i'r gwirfoddolwyr a oedd yn edrych ar ôl yr ardal o gwmpas y castell i barhau i wneud hynny, tra bod pobl sydd yn gweithio yn uniongyrchol i Cadw—contractwyr Cadw—yn gallu gofalu ar ôl yr henebion.
Felly, rydym ni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth yr ydym ni'n ei chael gan wirfoddolwyr. Ac mi fyddaf i yn sicrhau, yn unrhyw gynlluniau a fydd yn cael eu datblygu ar gyfer glanhau ac addasu, yn arbennig y gwaith haearn sydd mor hanesyddol o ran adeiladu llongau ager, ac yn y blaen, yng Nghymru, y bydd y gwaith yna yn cael ei sicrhau, a bydd y gwirfoddolwyr yn parhau i gydweithio.
Wel, diolch yn fawr iawn am hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n hapus iawn gyda'ch ateb, oherwydd pan fo gennym gymaint o unigolion yn ein cymunedau sy'n awyddus iawn i gefnogi'r lleoedd lle maent yn byw, a chynorthwyo i'w cadw'n gryf a chynaliadwy, ni ddylem anwybyddu'r cyfleoedd i wneud hynny.
Wrth gwrs, y penwythnos diwethaf, roedd hi'n Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, a gwn fod llawer ohonom yma wedi bod yn talu teyrnged i aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd arfog yn ein ffyrdd ein hunain. Addawodd y Ceidwadwyr Cymreig greu amgueddfa filwrol genedlaethol aml-safle yn Nghymru, gan adeiladu ar a chynnwys yr amgueddfeydd sydd gennym eisoes. Byddai hyn yn gyfle nid yn unig i ddangos i'n cyn-filwyr ac aelodau presennol y lluoedd arfog gymaint y maent yn ei olygu i ni, ac i ddathlu eu llwyddiannau, ond hefyd i archwilio'r cwestiynau ehangach ynglŷn â rhyfel a natur newidiol rhyfela, a gwaith heddychlon ac anfilwrol y lluoedd hefyd. Y llynedd, ymrwymodd Llywodraeth y DU £2 filiwn i gefnogi amgueddfa feddygaeth filwrol yng Nghymru. Mae amgueddfa bêl-droed dan ystyriaeth yma yng Nghymru. Beth yw eich barn ynglŷn ag amgueddfa filwrol genedlaethol i Gymru?
Nid wyf wedi ystyried y cwestiwn yma, oherwydd rydw i'n parhau i ddisgwyl adroddiad ar un cynllun arall yn arbennig, sef oriel gelf gyfoes, ac mi fyddaf i’n ystyried honno pan ddaw'r adroddiad. Mae yna, wrth gwrs, nifer o elfennau o'n traddodiad milwrol yn cael eu coffau yn barod. Mae gan y gwahanol rannau o'r lluoedd arfog amgueddfeydd bychain. Mae yna amgueddfa, fel y gwyddoch chi, o fewn castell Caerdydd—Firing Line. Roeddwn i'n arfer bod yn gysylltiedig â'r amgueddfa honno cyn i fi ddod i'r swydd yma, ac felly rydw i'n hapus iawn i edrych ar y posibiliadau, ond mi fyddai'n rhaid i hynny fod yn bartneriaeth gyda'r lluoedd arfog eu hunain, os ydym ni'n mynd i dderbyn arteffactau neu unrhyw dystiolaeth hanesyddol ar gyfer unrhyw arddangosfa felly, neu amgueddfa felly. Nid wyf wedi gweld y cynllun gan y blaid Geidwadol Gymreig, ond mi fyddwn i'n croesawu cael cyfarfod i drafod hyn, pe byddech chi'n dymuno.
Diolch yn fawr iawn am y cynnig. Gallaf argymell maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig fel rhywbeth da i'w ddarllen ryw gyda'r nos. [Torri ar draws.] O, diar. Yn gynharach y mis hwn, trydarodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod
Yn falch iawn o gyhoeddi bod un o'r cynyrchiadau diweddaraf i gael eu comisiynu yn y DU gan @NetflixUK yn cael ei ffilmio yng Nghymru ar hyn o bryd diolch i gefnogaeth @LlywodraethCym.
Mae hynny'n newyddion gwych, rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, gyda'n hymchwiliad parhaus i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cyfryngau a'r ffaith bod y gyllideb fuddsoddi yn y cyfryngau wedi'i hatal dros dro, a allwch gadarnhau mai cefnogaeth ariannol sydd dan sylw yma? Ac os felly, o ba gronfa neu raglen fenthyca y daw'r cymorth hwnnw?
Rydym ni ar hyn o bryd yn edrych ar ein rhaglen fuddsoddi. Rydym ni yn edrych yn arbennig ar sut y gellir cyfuno datblygiad Cymru Greadigol, sy'n ymrwymiad ar gyfer y Llywodraeth gan Lafur Cymru. A'r drafodaeth rydw i wedi'i chael hyd yn hyn ydy y byddem ni'n rhagweld, pan fyddwn ni'n sefydlu Cymru Greadigol fel corff—a byddaf i'n dweud mwy am hyn, o bosibl, yn y pwyllgor yn fuan, oherwydd rydw i'n bwriadu rhoi tystiolaeth ar y mater yma—yna y byddwn ni'n cyfuno'r cronfeydd ar gyfer buddsoddi gyda gwaith Cymru Greadigol, fel y bydd y paneli presennol sydd yn penderfynu ar gefnogaeth ar gyfer y cyfryngau ac ar gyfer ffilmiau yn gallu cael dod yn rhan o'r corff hwnnw. Dyna rydw i'n meddwl fyddai'r ffordd resymol o symud ymlaen, ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar hynny eto.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet o'r farn y bydd methu lleihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei gwneud yn anos gweithredu eich strategaeth economaidd, fel yr amlinellwyd yn eich dogfen 'Ffyniant i Bawb'?
Nid o reidrwydd, oherwydd mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi pwyslais penodol ar weithio'n rhanbarthol, a chan fod y prif swyddogion rhanbarthol ar waith gennym bellach a bod gweithio rhanbarthol cryf yn digwydd drwy ddatblygiad y bargeinion twf a'r bargeinion dinesig, rwy'n hyderus y bydd modd inni gryfhau'r economïau rhanbarthol ymhellach gyda'u hunaniaeth unigryw eu hunain yn y blynyddoedd i ddod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond onid yw'n credu bod posibilrwydd go iawn y gallai'r ymagwedd amlhaenog hon tuag at gyflawniad economaidd droi'n hunllef fiwrocrataidd, a bod y gormodedd o lywodraeth leol yn gwaethygu'r posibilrwydd hwn?
Buaswn yn dweud bod angen inni ddatrys rhai materion pwysig sy'n ymwneud â gweithgarwch awdurdodau lleol, gan gynnwys cynllunio, er enghraifft. Mae hefyd yn hanfodol fod gennym broses symlach a mwy tryloyw ar gyfer cefnogi busnesau—dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn cydgrynhoi nifer o gronfeydd ar ffurf cronfa dyfodol yr economi. Ond yn y misoedd i ddod, wrth i ni roi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith ymhellach, gyda ffocws penodol ar ran ranbarthol y cynllun, rwy'n awyddus i archwilio lle y gallwn gydgrynhoi cymaint â phosibl ar y gweithgarwch y mae llywodraeth leol yn ei gyflawni ar y cyd ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud rhagor i leihau'r fiwrocratiaeth a'r weinyddiaeth y mae llawer o fusnesau yn cwyno amdanynt, ac i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hadnoddau cyfunol.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond os edrychwn ar y sefydliadau sy'n gyfrifol bellach am ddarparu economi gref ar sail ranbarthol—y bargeinion dinesig, menter y Cymoedd, yr ardaloedd menter sy'n weddill, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac wrth gwrs, yr awdurdodau lleol—yn sicr, mae'r ffiniau rhwng yr holl gyrff hyn yn aneglur. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ffyddiog y gallant weithredu mewn modd cydweithredol a chosteffeithiol, ac a oes gennych dystiolaeth fod y cydweithrediad hwn yn digwydd mewn gwirionedd?
O ran y cynlluniau rhanbarthol sy'n cael eu llunio, credaf y bydd angen i'r cynlluniau hynny arwain at fframwaith ar gyfer gweithio'n rhanbarthol sy'n cael gwared ar y cymhlethdodau a all fod yn feichus, gyda gormod o sefydliadau a chyrff yn gwneud yr un peth â'r corff arall yn y bôn, ond mewn ffordd wahanol neu gydag ymarfer brandio gwahanol. Dywed busnesau wrthym fod arnynt eisiau un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl gymorth gan y Llywodraeth neu lywodraeth leol, ac o ran datblygu economaidd, ein bod yn canolbwyntio ar y ffactorau a all hybu cynhyrchiant, ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl y sgiliau cywir i lenwi swyddi gwag, a'n bod yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith cywir. Mae pob un o'r rhain yn elfennau o'r cynllun gweithredu economaidd ac rwy'n hyderus y byddwn, drwy gadw at y trywydd rydym wedi'i sefydlu bellach ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru, yn arwain at well lefelau o ffyniant—nid yn unig o ran cyfoeth, ond lefelau gwell o les hefyd.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r isafswm cyflog yng Nghymru? OAQ52459
Mae'r isafswm cyflog yn cael ei bennu gan Lywodraeth y DU ac mae'n berthnasol i bob cyflogwr yng Nghymru. Rydym yn cefnogi mesurau sy'n cynyddu incwm y cartref ac yn mynd ati'n weithredol i annog busnesau i ystyried talu'r cyflog byw fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai ei bod yn adeg addas i groesawu penodiad Linda Dickens yn gadeirydd comisiwn gwaith teg Llywodraeth Cymru, oherwydd mewn perthynas â mater yr isafswm cyflog a hawliau gweithwyr yn gyffredinol, gallwn weld bod y gêm yn dechrau newid ar lefel Llywodraeth y DU, lle mae Brexiteers digyfaddawd yn dechrau sôn bellach am gyfleoedd yn sgil dadreoleiddio—hynny yw, cael gwared ar hawliau, safonau a thelerau ac amodau gweithwyr. Felly, credaf y dylid croesawu'r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru ar y cam hwn.
Y llynedd, nododd fy nghyd-Aelod, Jo Stevens, yr AS dros Ganol Caerdydd, y ffaith na fu unrhyw erlyniadau yng Nghymru yn 2016 am dorri rheolau'r isafswm cyflog. Rwyf newydd weld y cyhoeddiad ynglŷn â'r 10 erlyniad a fu ers hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, ymddengys yn glir iawn nad oes unrhyw ewyllys yn Llywodraeth y DU nac unrhyw adnoddau neu ymrwymiad i fynd i'r afael ag effaith yr economi gig a diffyg hawliau gweithwyr. Gŵyr pob un ohonom, fel Aelodau'r Cynulliad, am gwmnïau a materion sy'n codi lle y ceir achosion o dorri rheolau iechyd a diogelwch, telerau ac amodau, a lle mae'n amlwg nad yw'r isafswm cyflog yn cael ei dalu neu ei fod yn cael ei gamddefnyddio drwy systemau talu cymhleth.
Onid ydych yn cytuno â mi, yn gyntaf, fod sefydlu'r comisiwn gwaith teg yng Nghymru fel ethos cyflogaeth yng Nghymru yn rhywbeth y mae ei angen yn daer? Yn ail, onid yw'n hen bryd datganoli mater isafswm cyflog, neu'n sicr y broses o'i orfodi, i Lywodraeth sy'n barod i'w amddiffyn?
Mae'r Aelod yn gwneud sawl pwynt pwysig a buaswn yn awgrymu y dylai unrhyw un sy'n siarad yn frwdfrydig ynghylch cyfleoedd dadreoleiddio roi ychydig o ystyriaeth yn gyntaf i'r hyn sydd wedi digwydd gyda gwasanaethau bws, ac asesu a yw cyfleoedd dadreoleiddio yn rhywbeth sydd bob amser yn ddeniadol ac yn fuddiol i'r boblogaeth ehangach.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am groesawu penodiad cadeirydd y comisiwn gwaith teg a dweud, er bod y gwaith o orfodi'r cyflog byw statudol yn druenus o brin o adnoddau a bod yr isafswm cyflog yn druenus o brin o adnoddau yn y DU, fod hyn yn rhywbeth y mae ein bwrdd gwaith teg wedi'i gydnabod? Felly, wrth i ni newid o fwrdd gwaith teg i'r comisiwn gwaith teg, penderfynwyd y bydd gorfodi a sut y gallwn sicrhau bod hyn yn digwydd yng Nghymru yn rhan gynnar o ystyriaethau'r comisiwn. Dylai'r comisiwn fod yn adrodd yn ôl gydag argymhellion cynnar yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf a buaswn yn gobeithio, o gofio'i fod am fod yn faes blaenoriaeth, y bydd gorfodi'r broses bwysig hon yn rhan o'r adroddiad, gydag argymhellion yn ystod y gwanwyn nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod y Comisiwn Cyflogau Isel yn ymweld ag Ynys Môn heddiw ac yfory i wrando ar farn pobl yr effeithiwyd arnynt gan yr isafswm cyflog. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol cynnwys pawb, o fusnesau, gweithwyr ac undebau llafur—yn wir, unrhyw un â buddiant yn y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn—i sicrhau eu bod yn darparu tystiolaeth fel y gellir gosod isafswm cyflog y flwyddyn nesaf ar lefel briodol?
Buaswn yn cytuno bod cyfranogiad yn hanfodol. Mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau yn fusnesau hynod gyfrifol a lleiafrif bach yn unig sy'n gallu bod yn ddiegwyddor a chamfanteisio ar weithwyr. O ran gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau'r cyfraddau gorau y gellir eu talu wrth gwrs, mae angen ystyried llawer o elfennau. Ni ellir eu hystyried yn y broses o osod cyfraddau cyflog oni bai bod cyflogwyr yn cymryd rhan ynddi, ac am y rheswm hwnnw, buaswn yn sicr yn cytuno gyda'r Aelod bod angen cyfranogiad.
Michelle Brown. Michelle Brown?
Mae'n ddrwg gennyf. Na.
Cwestiwn 4, Hefin David.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau ategol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru? OAQ52460
Gwnaf. Ar hyn o bryd, mae cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys y gwaith o roi'r gwasanaeth rheilffyrdd nesaf a metro de Cymru ar waith. Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydlu cynllun i adolygu cwmpas y gwasanaethau ar gerrig milltir allweddol drwy gydol y contract. Lle bydd elfennau'n bodloni profion economaidd a phrofion cyflawnadwyedd, cânt eu rhoi ar waith gan Trafnidiaeth Cymru.
Gwrandewais â diddordeb ar ateb Ysgrifennydd y Cabinet i Dawn Bowden mewn perthynas â'r depo yn Rhymni, a rhaid imi ddweud nad yw'r hyn a gynigiwyd ganddo yn ddigon. Credaf y gellir gwneud mwy dros yr ardal economaidd haeddiannol honno, yn enwedig—. Soniodd am fannau cadw trenau a mân waith cynnal a chadw. Hoffwn ofyn iddo faint o swyddi y bydd hynny'n eu creu, a beth arall y gellir ei wneud yn ardal Rhymni.
Yn gyntaf oll, buaswn yn dweud bod darparu pedwar trên yr awr yn hynod o fuddiol i'r gymuned, a buaswn hefyd yn dweud, er y gwn eich bod o blaid sefydlu depo yno, fod opsiwn Ffynnon Taf yn fwy cyflawnadwy. Byddai'r dewis arall wedi costio oddeutu £144 miliwn yn ychwanegol. Ond rydym yn awyddus i sicrhau y defnyddir y metro i ailddatblygu cymunedau, yn enwedig lle bydd canolfannau trafnidiaeth a gorsafoedd yn cael eu huwchraddio, ac mae'n werth cofio y bydd pob un o'r gorsafoedd yn cael eu huwchraddio o ganlyniad i gytundeb rhyngom a KeolisAmey. Mae'n ffaith syfrdanol, dros y 15 mlynedd diwethaf, fod oddeutu £600,000 wedi'i wario ar orsafoedd, ac yn y 15 mlynedd nesaf, bydd oddeutu £194 miliwn yn cael ei wario ar orsafoedd. Rydym hefyd wedi cael cytundeb y bydd llawer o'r gorsafoedd hynny'n cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad busnes a thwf busnes, yn enwedig y gorsafoedd gyda lle a swyddfeydd ar gael eisoes, ond lle nad ydynt wedi cael eu defnyddio i'r eithaf.
Ni allaf roi'r union fanylion o ran nifer y swyddi a gaiff eu creu o ganlyniad i'r mân waith cynnal a chadw a fydd yn mynd rhagddo, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y byddwn yn ceisio manteisio ar bob cyfle a ddaw yn sgil y symiau aruthrol o arian rydym yn eu gwario yn y Cwm i sicrhau bod ardal Rhymni yn denu cynifer o swyddi newydd â phosibl i'r gymuned.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am gontractwyr sifil arbenigol ar gyfer fframwaith y gwaith ar y rheilffyrdd, sy'n cynnwys gwaith ategol ar orsafoedd, cyfnewidfeydd, meysydd parcio, ffyrdd a llwybrau a gwaith adeiladu cyffredinol arall sy'n gysylltiedig â gwella'r rheilffyrdd. Fodd bynnag, yn 2014, cyhoeddodd eich rhagflaenydd y byddai Casnewydd yn cael £4 miliwn ar gyfer pont droed newydd i groesi'r orsaf drenau, gwelliannau i'r orsaf fysiau newydd ac ar gyfer safleoedd bws yn y ddinas. Rwy'n deall na ddarparwyd y cyllid hwn ac na chafodd y gwaith ei wneud hyd yn oed. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau hyn a rhoi gwybod inni pam na fwriwyd ymlaen â'r gwelliannau hyn, er iddynt gael eu cyhoeddi yng Nghymru? Diolch.
Diolch. A gaf fi sicrhau'r Aelod y byddaf yn edrych ar hyn? Efallai y bydd angen ymgynghori â Network Rail. Bydd angen imi edrych yn fanwl ar y buddsoddiad a gyhoeddwyd, a gwirio yn erbyn hynny yr hyn a gyflawnwyd mewn gwirionedd. Os ceir achos o dorri addewidion, bydd angen imi asesu wedyn pam na wnaed y buddsoddiad hwnnw yn yr orsaf fel y mae'r Aelod yn ei amlinellu.
5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Arweinydd y Tŷ ynghylch effaith economaidd cysylltedd digidol? OAQ52457
Rwy'n trafod pwysigrwydd cysylltedd digidol ledled Cymru yn rheolaidd gydag arweinydd y tŷ, ac rydym o'r un farn ynglŷn â'i bwysigrwydd enfawr i gynaliadwyedd a thwf economaidd ledled y wlad.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n arbennig o falch eich bod yn gweithio gydag arweinydd y tŷ ar y mater a'r cyfle hwn, mewn gwirionedd, oherwydd, yn ogystal â manteision ffeibr llawn a band eang a chysylltedd digidol i'r gymuned ac i'r cartref, ceir manteision economaidd clir hefyd. Dengys ystadegau'n glir y bydd y wlad yn cael £20 am bob £1 a fuddsoddir mewn band eang, ac mae hwn yn elw gwych ar fuddsoddiad mewn seilwaith. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod angen inni wneud popeth a allwn i fuddsoddi mewn cysylltedd digidol ffeibr llawn, ac yn cefnogi'r syniad o sefydlu canolfan gigabit yn ac o gwmpas ardal y Fflint a Wrecsam, fel rwyf eisoes wedi'i awgrymu wrth arweinydd y tŷ?
Wel, rwyf wrth fy modd y bydd cam nesaf Cyflymu Cymru yn cael ei gyhoeddi gan arweinydd y tŷ yn yr haf. Mae'r Aelod yn llygad ei le wrth nodi manteision economaidd cysylltedd digidol. Yn wir, mae perfformiad cryf y sector digidol wedi helpu i greu neu ddiogelu oddeutu 11,000 o swyddi uchel eu gwerth yn yr wyth mlynedd diwethaf o ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae perfformiad y sector yn y flwyddyn ddiwethaf yn arbennig o syfrdanol, gan fod bron i 30 y cant o brosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor a gofnodwyd yng Nghymru wedi dod drwy'r sector digidol. Felly, mae'n gyfrannwr pwysig iawn i gyfoeth y genedl. O ran gogledd Cymru yn benodol, wel, rwy'n falch iawn o ddweud bod y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu strategaeth i wella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth. Gwn y bydd arweinwyr cais y fargen twf yn awyddus iawn i archwilio pob cyfle i fanteisio ar y seilwaith a'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.
Pan gyhoeddoch chi eich adolygiad arloesi digidol, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch eich bod yn awyddus i ddatblygu potensial ein rhanbarthau er mwyn iddynt gynnal gwell swyddi yn nes at adref, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn cytuno â chi yn ei gylch. Rydych hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, fel finnau, i fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru. Nawr, er mwyn sicrhau bod canolbarth Cymru yn cysylltu ag economi ehangach canolbarth Lloegr, dylai gwelliannau o ran cysylltedd band eang cyflym iawn a signal ffonau symudol fod yn rhan o unrhyw fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru. Tybed a fyddech yn cytuno â mi ar hynny?
A gaf fi ofyn pa gamau rydych yn eu cymryd ar y cyd â'ch cyd-Aelod, arweinydd y tŷ, i sicrhau nad yw'r gagendor digidol rhwng canolbarth Cymru a rhannau eraill o Gymru yn ehangu ymhellach, gan fod hynny, yn anffodus, yn digwydd ar hyn o bryd?
Wel, rwy'n hyderus, gyda cham nesaf rhaglen Cyflymu Cymru, y byddwn yn gweld y bwlch hwnnw'n lleihau. Bwriad yr ail gam, cam nesaf y prosiect, yw sicrhau bod yr eiddo anodd eu cyrraedd yn cael eu cysylltu, gan arwain felly at leihau'r bwlch a nodwyd gan yr Aelod.
A buaswn yn cefnogi galwad yr Aelod i sicrhau bod y fargen twf yng nghanolbarth Cymru yn cydweddu ag ymyriadau a bargeinion dros y ffin. Mae'n gwbl hanfodol fod lefel dda o gydweithredu a chydweithio'n digwydd ar sail drawsffiniol. Rwy'n sicr yn annog hynny. Gwn fod yr Arglwydd Bourne hefyd wedi dweud y dylai hyn ddigwydd, ac rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod heddiw fy mod yn bwriadu cyfarfod ag ef, os yw ei ddyddiadur yn caniatáu, ar 24 Gorffennaf i gyfarfod â nifer o fusnesau yn nghanolbarth Cymru i drafod sut y gallwn hyrwyddo datblygiad economaidd mewn lleoedd fel y Drenewydd a'r Trallwng, gan ddefnyddio nid yn unig y seilwaith adeiledig megis ffyrdd a rhwydweithiau rheilffyrdd, ond y seilwaith digidol hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae bargen ddinesig Bae Abertawe yn seiliedig ac yn dibynnu ar gysylltedd digidol. Yn yr achos busnes cychwynnol ar gyfer y fargen ddinesig, cynigiwyd gosod cebl trawsatlantig newydd â chapasiti terabit rhwng Efrog Newydd a Bae Oxwich, ond ni chafodd ei gynnwys yn y fargen derfynol. Byddai'r cyswllt newydd wedi rhoi rhanbarth Bae Abertawe ar draffordd ddigidol, gan ddarparu nid yn unig cyflymderau uwch a gwell capasiti, ond hefyd, yn fwy pwysig, cuddni is. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth a ddigwyddodd i'r cebl trawsatlantig newydd?
Wel, roeddwn bob amser o'r farn fod y weledigaeth a amlinellwyd gan Syr Terry Matthews yn gwbl ardderchog, ac mae'n weledigaeth a ddefnyddiwyd i lunio bargen ddinesig Bae Abertawe. Nawr, cyfrifoldeb arweinwyr awdurdodau lleol yw llunio bargen ddinesig sy'n seiliedig ar gryfderau presennol yn ogystal â chyfleoedd y rhanbarth yn y dyfodol. Gwn fod arweinwyr dinas-ranbarth Bae Abertawe yn benderfynol o wneud y gorau o'r dulliau sydd ar gael iddynt drwy'r fargen, ac rwy'n eu hannog i barhau i feddwl am y weledigaeth a amlinellwyd gan Syr Terry Matthews ac i sicrhau bod yr ymyriadau a'r buddsoddiadau a wneir yn y rhanbarth yn sicrhau'r gwerth mwyaf posibl i'r bobl y cawsant eu llunio i'w gwasanaethu.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon? OAQ52449
Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod Chwaraeon Cymru yn gweithredu ar ein rhan fel y corff a noddir gan y Llywodraeth ym maes chwaraeon. I'r perwyl hwnnw, cynhaliodd gynhadledd y llynedd ar foeseg ac uniondeb, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod gwerthoedd chwarae teg mewn chwaraeon, a'r angen i bob sefydliad chwaraeon ac unigolyn gynnal y lefelau uchaf o uniondeb.
Rwy'n falch iawn o glywed eich ymateb, Weinidog, ond cyfarfûm â Sports Chaplaincy Wales yr wythnos diwethaf. Mae ganddynt 50 o gaplaniaid gwirfoddol yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon ledled y wlad—gan gynnwys rhai o'n clybiau mwyaf—Caerdydd, clwb pêl-droed Dinas Abertawe, y Gweilch, y Scarlets a Gleision Caerdydd yn eu plith. Maent yn gwneud llawer iawn o waith yn darparu gwerth oddeutu £0.5 miliwn o oriau gwirfoddol ar ffurf gofal bugeiliol, hybu ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon yn clybiau y maent yn gweithio ynddynt, ymdrin â phethau fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac yn wir, helpu pobl drwy eu problemau personol. Tybed a allech ddweud wrthym pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a gwasanaethau caplaniaeth chwaraeon, ac os na fu unrhyw ymgysylltiad, a fyddech yn barod i gyfarfod â hwy gyda mi er mwyn trafod sut y gallant gefnogi uchelgais y Llywodraeth i sicrhau bod gennym athletwyr moesegol yng Nghymru yn y dyfodol.
Buaswn wrth fy modd yn cydweithio gyda chaplaniaid yn y maes hwn. Rwy'n ymwybodol o rai o'r caplaniaid chwaraeon hyn ac rwy'n edmygu eu gwaith yn fawr iawn. Rwy'n meddwl yn benodol am y gwaith caplaniaeth sy'n mynd rhagddo yn Abertawe. Felly, buaswn yn fwy na pharod i gymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw gan ei bod yn bwysig annog gweithgarwch gwirfoddol cymunedau ffydd, ac mae hynny'n cynnwys yr holl gymunedau ffydd, yn amlwg, ac efallai fod lle i gael rhagor o gaplaniaethau dyneiddiol yn y maes hwn, ond nid wyf am drafod hynny y prynhawn yma.
Un o'r materion sy'n peri pryder imi, sy'n fater moesegol enfawr, yw'r cysylltiad cynyddol rhwng y diwydiant gamblo a chwaraeon. Mae ymchwil a wnaed gan goleg Goldsmiths yn Llundain yn dangos bod logos cwmnïau gamblo i'w gweld ar gemau a ddarlledir ar y teledu y rhan fwyaf o'r amser. Mae'n ymgais fwriadol i gyflyru meddyliau plant i feddwl bod gamblo yn rhan o fod yn gefnogwr chwaraeon, ac mae hynny'n gwbl resynus yn fy marn i. Nawr, mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr wedi cyhoeddi y bydd yr holl gytundebau nawdd â chwmnïau betio yn dod i ben, ond yn anffodus, nid yw rygbi wedi cicio gamblo allan o'r gêm eto. Felly, beth y credwch y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â nawdd betio mewn chwaraeon, sy'n troi'r peth yn endemig yn yr un ffordd ag yr arferai'r cwmnïau tybaco mawr ei wneud yn y gorffennol?
Yn sicr, rwy'n derbyn y pwyntiau a wnewch, a byddwch yn cofio bod y Prif Weinidog wedi ymateb yr wythnos diwethaf i gwestiwn gan ein cyfaill yma, Mick Antoniw, am y grŵp trawslywodraethol a sefydlwyd i ddatblygu dull strategol o leihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru, a chredaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych eto ar argymhellion adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, a alwodd am weithredu cydgysylltiedig ac a nododd weithgarwch newydd a allai fod yn angenrheidiol ar lefel Cymru a lefel y DU. A chan fy mod wedi cael fy holi ynglŷn â'r berthynas rhwng pêl-droed, ac yn fwy penodol, rhwng rygbi a betio, byddaf yn sicr yn codi'r materion hyn gyda chyrff rheoli chwaraeon lle mae'n ymddangos bod gweithgarwch gamblo'n cael ei hyrwyddo ochr yn ochr â gweithgarwch chwaraeon, gan nad dyna yw rôl y cyrff rheoli chwaraeon. Rwy'n deall bod cyrff rheoli chwaraeon yn elwa o incwm mewn ffyrdd gwahanol, ac mae hwnnw'n fater masnachol iddynt hwy, ond lle mae iechyd y boblogaeth yn cael ei niweidio drwy hyrwyddo gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chwaraeon, dylem ni, y Llywodraeth, ymyrryd.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn tyfu'r economi? OAQ52439
Gwnaf. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd i dyfu'r economi a gwella'r amgylchedd busnes ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Cymysg oedd perfformiad yr ardaloedd menter o ran creu swyddi a rhoi hwb i'r economi ac adfywio yng Nghymru. Cymaint felly fel bod pwyllgor economaidd y Cynulliad wedi dweud bod y diffyg tystiolaeth wedi'i gwneud yn anodd cynnal dadansoddiad llawn o'u cyfraniad i economi Cymru.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i osod targedau clir a realistig ar gyfer yr ardaloedd menter, ynghyd ag adroddiadau blynyddol sy'n cynnwys data manwl ar eu perfformiad, er budd tryloywder, fel y gellir monitro a chraffu'n briodol ar eu cyfraniad i economi Cymru?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod yr ardaloedd menter yng Nghymru wedi cael graddau amrywiol o lwyddiant? Mae hynny i raddau helaeth oherwydd bod pob un o'r ardaloedd menter ar gamau amrywiol o'u datblygiad. Mae rhai'n llawer mwy datblygedig, ac mae gan rai fwy o weithgarwch busnes wedi'i sefydlu ynddynt eisoes, a gall hynny weithredu fel magned i ddenu buddsoddiad newydd. Mae'r rhwydwaith cynghori wrthi'n cael ei ddiwygio ac mae'r bensaernïaeth sy'n ein cynghori, gan gynnwys ar weithgaredd yr ardaloedd menter, yn cael ei diwygio; rydym wedi'i chydgrynhoi. Yn y dyfodol, bydd yn rhaid i'r gweithgarwch sy'n digwydd yn yr ardaloedd menter gydymffurfio hefyd â'r contract economaidd a'r egwyddorion sy'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd. Ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn darparu data yn y modd mwyaf tryloyw posibl. Rwy'n derbyn yr argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor, a gobeithiaf, yn y dyfodol, y gallwn ddangos ymrwymiad i dryloywder wrth ddarparu data, ac wrth osod unrhyw dargedau ar gyfer ardaloedd menter penodol. Fodd bynnag, hoffwn annog yr Aelod hefyd i ystyried, mewn ffordd ehangach, y seilwaith sy'n cael ei fuddsoddi yn yr ardaloedd menter i alluogi i'r math o dwf y mae'r ardaloedd menter sefydledig wedi'i fwynhau dros y blynyddoedd diwethaf ddigwydd yn gyflym.
Bydd ein cysylltiadau masnachu â gweddill y byd, wrth gwrs, yn ganolog i dwf economaidd yn y dyfodol. Fel rhan o'r paratoadau i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu 14 gweithgor masnach sy'n cynnwys 21 o drydydd gwledydd i osod sylfeini ar gyfer cytundebau masnach annibynnol yn y dyfodol ar ôl gadael undeb tollau Ewrop. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at y pwyllgor materion allanol ym mis Mai i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan, neu nad ymgynghorwyd â hi ynglŷn â gwaith gweithgorau o'r fath, ond mae'r un pwyllgor wedi cael gohebiaeth gan yr Adran Masnach Ryngwladol ers hynny'n dweud bod blaenraglen waith wedi'i sefydlu gyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hynny wedi digwydd, a thybed a all egluro i'r Cynulliad i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan yn y gweithgorau hynny.
Nid wyf yn siŵr a oedd y llythyr a gafwyd ynghylch y flaenraglen waith a chyfranogiad y gweinyddiaethau datganoledig yn nodi, mewn gwirionedd, i ba raddau roedd y gweinyddiaethau datganoledig yn rhan annatod o'r broses o benderfynu ar y gwaith penodol a fydd yn cael ei ddatblygu. Buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau i egluro'n union pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y mater hwn, ac yn wir, pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng y gweinyddiaethau datganoledig hefyd.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am seilwaith beicio dinas ranbarth bae Abertawe? OAQ52444
Mae teithio llesol, fel y nodir yn y strategaeth genedlaethol, yn rhan annatod o'n dull o sicrhau ateb trafnidiaeth integredig ar gyfer ardal Abertawe.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb? Mae llawer o lwybrau beicio da sy'n cael cryn dipyn o ddefnydd yn ninas-ranbarth bae Abertawe, gan gynnwys nifer helaeth yn etholaeth Julie James, yn dod o Mayals tuag at neuadd y sir. Ond yn aml, ceir bylchau, ac mae'r bylchau hyn i'w gweld rhwng ble mae pobl yn byw a'r prif lwybr beicio, sy'n atal llawer o bobl rhag ei ddefnyddio. Mae gennyf bobl yn byw ar ystâd gyfagos sydd â llwybr beicio gwych—llwybr 44 neu lwybr 45—ond mae'n rhaid iddynt fynd ar hyd lôn gul iawn, â therfyn cyflymder o 60 mya, ac o ganlyniad, nid yw pobl yn defnyddio eu beiciau gan nad ydynt am deithio'r daith filltir neu hanner milltir o hyd. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i lenwi'r bylchau yn y rhwydwaith? Oherwydd hyd nes ei bod yn ddiogel i deithio'r holl ffordd, ni fydd llawer o bobl yn ei wneud o gwbl.
Rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod ein bod wedi cyhoeddi £60 miliwn yn ychwanegol i gefnogi teithio llesol ledled Cymru. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod rôl ymgynghori wrth ddatblygu mapiau rhwydwaith integredig ac wrth sicrhau bod y mapiau llwybrau presennol yn cyrraedd y safon ac yn adlewyrchu'r seilwaith sydd ar waith ar hyn o bryd—ac y gall y mapiau rhwydwaith integredig nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth o lwybrau beicio a llwybrau troed fel y gall pobl, drwy ymgynghori, fod yn hyderus fod eu cymunedau'n cael eu cydnabod yn llawn, a bod yr holl seilwaith yn y cymunedau hynny wedi cael ei nodi. Ac yna, yn seiliedig ar y mapiau hynny, ac yn seiliedig ar y sylwadau gan awdurdodau lleol, gall rhaglenni strategol neu gynlluniau teithio llesol lleol, neu'r ddau beth o bosibl, gael eu hariannu drwy gronfeydd cymorth Llywodraeth Cymru. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod awdurdodau lleol yn nodi llwybrau strategol a chyfleoedd strategol cyflawnadwy ond uchelgeisiol, ond hefyd, nad ydynt anghofio am y cynlluniau lleol hynny, a allai fod yn gynllun unigol neu'n becyn o welliannau i nodi'r bylchau hynny ac i fynd i'r afael â'r bylchau hynny, fel y gall pobl feicio neu gerdded i'r gwaith, at gyfleoedd hamdden ac at ffrindiau a theulu.
Ceir llawer o rwystredigaeth o ganlyniad i awdurdodau lleol nad ydynt yn buddsoddi yn y seilwaith teithio llesol, ac mae'r rhwystredigaeth yn arbennig o amlwg pan nad yw datblygiadau newydd yn ystyried egwyddorion teithio llesol. Yn fy ardal i, methodd cais cynllunio diweddar ar gyfer siop goffi archebu o'r car yn y Gellifedw, Abertawe nad oedd yn darparu unrhyw seilwaith teithio llesol ar gyfer cerddwyr neu feicwyr. Gwn fod y cliw yn y teitl. [Chwerthin.] Felly, sut y gallwn ddisgwyl i bobl deithio'n llesol os nad ydym yn barod i osod seilwaith hanfodol? A ydych yn cytuno bod angen deddfwriaeth gynllunio gryfach o lawer yma yng Nghymru os ydym am wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn?
Ni fuaswn yn dymuno annog cerddwyr na beicwyr i ddefnyddio cyfleusterau archebu o'r car mewn unrhyw fwyty neu gaffi bwyd brys. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig sefydlu darpariaeth mewn unrhyw gyfleuster hamdden i storio beiciau dan glo yn ddiogel ac i bobl allu cael mynediad atynt ar droed ar lwybrau troed diogel i gerddwyr. Credaf fod y canllawiau dylunio ar gyfer llwybrau teithio llesol yn chwarae rôl bwysig yn hyn o beth, ond credaf hefyd fod angen inni edrych ar ganllawiau cynllunio a rheolau cynllunio, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi dangos cryn ddiddordeb ynddo yn ddiweddar. Ond buaswn hefyd yn ychwanegu nad oes esgus bellach dros beidio â buddsoddi mewn cynlluniau teithio llesol, o gofio ein bod wedi cynyddu'n sylweddol faint o adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol gyflawni'r cynlluniau hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Y cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch deddfu yn erbyn gamblo cymhellol? OAQ52463

Mae grŵp trawslywodraethol o swyddogion yn gyfrifol am ddatblygu dull gweithredu strategol i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Ar hyn o bryd mae’r grŵp wrthi’n ystyried argymhellion adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a bydd y grŵp yn cydlynu camau gweithredu ac yn nodi gweithgarwch newydd sy’n ofynnol, gan gynnwys unrhyw alwadau am gamau pellach sy’n ofynnol ar lefel y Deyrnas Unedig.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae’n amlwg bod nifer ohonom ni’n poeni am y peiriannau mewn siopau gamblo ac yn croesawu’r ffaith ei bod yn fwriad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyfyngu’r bets fesul un i £2 ar y peiriannu yna, ond wedyn yn cael ein siomi y bydd o leiaf dwy flynedd cyn bod hynny’n cael ei gyflawni. Mae yna ddulliau rheoli a deddfu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, deddfu cynllunio. Yn absenoldeb gweithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, a fyddai o fewn cymhwysedd y Senedd hon ac felly’r Llywodraeth i ddefnyddio rheolau cynllunio i gyfyngu ar y peiriannau hyn ac, efallai, i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain i gyfyngu ar y peiriannau hyn?
Diolch am y cwestiwn pellach. Fel Llywodraeth, rŷm ni'n gweithio ar draws portffolio i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn i daclo'r broblem hon, sydd yn broblem iechyd ac sy'n broblem eang. Mae'r prif swyddog meddygol yn arwain llawer iawn o'r gwaith hwnnw. Fel, efallai, y bydd yr Aelod yn gwybod, mae ymgynghoriad ar hyn o bryd ynghylch newidiadau i'r system gynllunio a fydd yn cynnig newid dosbarthu swyddfeydd betio o ddosbarth A2, sydd yn golygu y bydd angen cytundeb cynllunio er mwyn newid defnydd o'r math yna o swyddfa. Felly, os aiff hynny ymlaen, bydd hynny yn darparu cyfle i lywodraeth leol daclo hyn ar ryw lefel. Mae'r problemau'n digwydd yn sgil y swyddfeydd yma sydd yn lleihau pobl sydd yn dod i mewn i'r strydoedd mawr yn ein trefi a'n pentrefi ni. Felly, bydd y newid hwnnw, os aiff yn ei flaen, yn galluogi awdurdodau lleol i ddylunio eu cynlluniau LDP gyda'r broblem hon mewn golwg. O ran cymhwysedd ehangach yn ymwneud â gamblo, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae cymhwysedd cyfyngedig iawn gan y Llywodraeth a'r Cynulliad yn y maes hwnnw, sy'n gyfyngedig i rifau peiriannau, yn hytrach na'r uchafswm sy'n gallu cael ei wario ar unrhyw un achlysur o gamblo. Mae cyfnod yn mynd i fod o ddwy flynedd cyn bod y newidiadau hynny yn dod i rym. Mae'r Llywodraeth yn croesawu'r ffaith bod y newid yn cyfyngu ar yr uchafswm, ond nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio pwerau cyfyngedig y Llywodraeth yn y cyfamser.
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau plant? OAQ52458
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei hymrwymiad a'i gwaith yn y maes hwn yn gyffredinol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer eu swyddogaethau. Mae'n gwbl iawn fod y gofyniad hwn yn parhau i ddylanwadu ar bolisïau, deddfwriaeth a phenderfyniadau'r Llywodraeth.
Diolch. Yn ddiweddar, mynychais y digwyddiad plant, pobl ifanc a democratiaeth yma yn y Senedd, lle cefais weld yr hyn a oedd, yn fy marn i, yn brosiect Cyfraith Stryd gwirioneddol arloesol a gynlluniwyd i roi dealltwriaeth dda i blant o'r gyfraith a'u hawliau. Tynnwyd sylw ato, mewn gwirionedd, pan ymwelodd Hillary Clinton â Chymru yn ddiweddar. O gofio ein hymrwymiad i hawliau plant ac o gofio bod gwybodaeth yn rym, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gan ein plant a'n pobl ifanc ddigon o ddealltwriaeth i gynnal eu hawliau?
Mae hwn yn fater hanfodol bwysig.Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, credaf fod deddfu ar gyfer hawliau yn bwysig, ond oni bai eich bod yn gwybod sut i ddod o hyd i'ch hawliau a sut i fynnu eich hawliau, bydd eu heffaith bob amser yn gyfyngedig. O ran hygyrchedd y gyfraith i blant a phobl ifanc, ceir heriau a strategaethau penodol y mae angen inni eu defnyddio er mwyn sicrhau bod pobl ifanc a phlant yn elwa o effaith lawn yr hawliau a ddeddfir gennym ar eu rhan. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o strategaethau ar gyfer codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o'u hawliau. Bûm innau yn y digwyddiad yn y Senedd, ac roeddwn o'r farn ei fod yn agoriad llygad—y nifer o sefydliadau a oedd yno'n gweithio i gynyddu eiriolaeth ar ran plant a phobl ifanc, ond mewn gwirionedd, yn bwysicach, eu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd. Roeddwn yn meddwl bod y fenter Cyfraith Stryd, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn enghraifft dda iawn o hynny.
Roeddwn yn yr un digwyddiad â hi pan fu'r Llywydd yn cyfweld Hillary Clinton, ac roeddwn yn meddwl ei bod yn wych fod y cyn-Ysgrifennydd Clinton yn canmol y cynnydd y mae Cymru'n ei wneud yn y maes hwn a'r pwyslais y mae Cymru'n ei roi ar y mater pwysig hwn. Buaswn yn cymeradwyo papur a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant iddi hefyd, sef y papur ymchwil cyntaf a gyhoeddwyd ganddynt, sy'n ymwneud â'r union fater hwn o addysg gyfreithiol gyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ceir syniadau diddorol iawn ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud ar lefel Llywodraeth, ond ledled Cymru, i wella addysg gyfreithiol gyhoeddus, yn arbennig yng nghyd-destun plant a phobl ifanc.
Fe gyfeirioch chi, Gwnsler Cyffredinol, at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r amddiffyniad sydd ganddo o dan y Mesur hawliau plant. Ni chredaf mai'r Llywodraeth yn unig sy'n edrych ar hawliau plant wrth ddatblygu ei deddfwriaeth, ond credaf ei bod yn deg dweud ein bod ni fel Cynulliad yn ystyried hynny'n ofalus iawn hefyd, pan fyddwn yn penderfynu pasio'r cyfreithiau hynny. Mae gweithrediad y cyfreithiau yn nwylo llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus, a thybed beth yw eich barn ynglŷn ag a ddylai gwasanaethau cyhoeddus—boed yn awdurdodau lleol neu'n ysbytai, byrddau iechyd ac ati—roi sylw dyledus hefyd i'r ffordd y maent yn gweithredu'r cyfreithiau hynny. A oes angen statud i hynny ddigwydd, neu a yw eich rhwymedigaeth i roi sylw dyledus yn trosglwyddo i awdurdodau lleol, er enghraifft, pan fyddant yn gwneud hynny? Mae'n broblem benodol mewn perthynas â phenderfyniadau ynglŷn â chau ysgolion, ac mae un yn fy ardal i rwy'n meddwl amdani'n benodol. Diolch.
Diolch am eich cwestiwn. Nid oeddwn yn ceisio awgrymu nad oedd y Cynulliad yn ymwneud â'r gwaith hwnnw hefyd. Mae'n amlwg ei fod, ac mae wedi pasio deddfwriaeth i'r perwyl hwnnw, felly rwy'n amlwg yn fwy na pharod i gydnabod hynny. Fe fydd hi'n gwybod am yr adroddiad a lansiodd fy nghyfaill y Gweinidog plant a gwasanaethau cymdeithasol, fel yr oedd ar y pryd, ym mis Mawrth, a dangosai ein sefyllfa o ran cydymffurfio â'r Mesur yn gyffredinol, ac roedd yn cynnwys dadansoddiad defnyddiol iawn o'r camau nesaf y mae angen inni eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr agenda hawliau plant yn cael ei hymgorffori'n fwy eang ym mywyd cyhoeddus Cymru. Rwy'n siŵr y bydd yn rhoi sylw i hynny dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o ofidiau a chwestiynau sydd wedi cael eu gofyn gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, a phobl eraill fel y comisiynydd plant, a dweud y gwir, ynglŷn â phroses gyllidebu'r Llywodraeth nawr, lle'r ŷm ni yn fwyfwy yn cael asesiadau effaith integredig, yn hytrach, er enghraifft, nag asesiadau effaith penodol ar hawliau plant. Felly, a gaf fi ofyn i chi fel Llywodraeth i edrych ar yr arfer yna eto, ac i chi fel Cwnsler gadarnhau i chi'ch hunan eich bod chi'n cwrdd â goblygiadau deddfwriaethol domestig a rhyngwladol drwy beidio, yn yr achosion yma, â chynnal asesiadau effaith penodol ar hawliau plant, er mwyn sicrhau, er enghraifft, na fyddwn ni'n cael penderfyniadau fel diddymu y grant gwisg ysgol, fel y digwyddodd yn ddiweddar, heb fod yna asesiad trylwyr wedi cael ei wneud?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Fel y gwnes i sôn wrth Suzy Davies nawr, mae'r Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad o'r hyn rŷm ni'n gorfod ei wneud yn sgil y Mesur, a'r oblygiadau i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod. Ond byddaf yn cymryd i mewn i ystyriaeth y sylwadau y mae newydd eu gwneud.
3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymhwyso cyfreithiau'r UE yng Nghymru a gaiff eu pasio yn ystod unrhyw gyfnod pontio Brexit? OAQ52451
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Os bydd cyfraith yr UE yn parhau'n gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod pontio, fel y mae Rhan 4 o'r cytundeb ymadael drafft cyfredol yn ei ragweld, bydd angen gweithredu rhwymedigaethau cyfreithiol yr UE yn y wlad hon yn ystod y cyfnod hwnnw.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, oherwydd mae'n bwysig, os ydym yn cael cytundeb, fod yna gyfnod pontio, ac fel rhan o hynny bydd disgwyl i ni lynu wrth gyfreithiau'r UE. Ond nid yw'r Bil ymadael â'r UE ond yn trosi cyfreithiau'r UE o'r dyddiad terfynol ymlaen, sef 29 Mawrth. Felly, mae yna flwyddyn i gadarnhau, yn ystod y cyfnod o 29 Mawrth 2019 hyd at ddiwedd y cyfnod pontio, y bydd angen trosi unrhyw ddeddfau UE sy'n cael eu pasio ym Mrwsel i gyfreithiau'r DU neu gyfreithiau Cymru yma yn y Cynulliad, o dan ein rheolaeth ni.
Wel, i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r holl ymdrechion i sicrhau cyfnod pontio, ac rydym yn croesawu'r cytundeb a gafwyd yn y Cyngor Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mawrth a oedd yn dweud y bydd cyfnod pontio i 31 Rhagfyr 2020, yn amodol ar gytundeb ymadael terfynol. Nid ydym yn gwybod, yn anffodus, pa ddull y bydd Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu mewn perthynas â gweithredu cyfreithiau'r UE yn ystod cyfnod pontio. Rydym yn disgwyl y bydd gradd uchel o debygrwydd rhwng yr arfer yn awr ac yn ystod y newid hwnnw i gynnwys rôl ar gyfer Gweinidogion Cymru yn arbennig, i wneud yn siŵr fod cyfreithiau'r UE yn cael eu gweithredu mewn meysydd datganoledig. Yn amlwg, er mwyn sicrhau bod cyfranogiad yn y farchnad sengl ac aelodaeth o'r undeb tollau yn y tymor byr yn cael eu cynnal, acquis cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, bydd angen i ni gael ein rhwymo gan y darpariaethau hynny. Fel y dywedaf, nid ydym yn gwybod eto sut y caiff y mecanwaith hwnnw ei argymell gan Lywodraeth y DU. Fel y bydd yn gwybod, rydym yn rhagweld cytundeb ymadael a Bil gweithredu. Rydym yn deall y bydd angen i hwnnw roi mecanweithiau ar waith i gyflawni ymrwymiad y DU, o ran y cyfnod pontio. Nid ydym eto wedi cael manylion o'r hyn y bydd hwnnw'n ei gynnwys. Yn amlwg, bydd angen i ni wneud asesiad llawn o hwnnw, a sut y mae'n berthnasol i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, fel y mae wedi'i phasio bellach, pan fydd gennym olwg llawn ar hynny.
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am sicrhau bod hawliau dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cael eu diogelu yn dilyn Brexit? OAQ52450
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na ddylai ymadawiad y DU â'r UE arwain at wanhau diogelwch hawliau. O ran hawliau i symud a phreswylio, mae Cymru'n croesawu ac yn gwerthfawrogi unigolion o bob cwr o'r byd, a bydd yn parhau i wneud hynny.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yr wythnos diwethaf, roeddwn ym Mrwsel, a chyfarfûm â llysgennad Norwy i'r UE, ac roedd yn eithaf clir fod rhai pryderon difrifol yng ngwledydd yr AEE ynglŷn â hyn. Oherwydd mae llawer o sôn am hawliau dinasyddion yr UE, ac er ein bod yn sylweddoli cysylltiad mor agos sydd rhwng yr AEE a'r UE, nid oedd unrhyw gysylltiad tynn i sicrhau, mewn unrhyw gytundeb ymadael, y byddai'r hawliau hynny hefyd yn berthnasol i ddinasyddion yr AEE. Nawr, efallai y bydd pobl yn dweud nad oes llawer o ddinasyddion o Wlad yr Iâ neu ddinasyddion o Liechtenstein yn y DU, ond mae dros 20,000 o ddinasyddion o Norwy yn y DU, a bydd rhai yng Nghymru. Felly, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, a wnewch chi ddwyn y mater i sylw eich cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw hawliau dinasyddion yr AEE yn cael eu hanghofio yn y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar ddinasyddion yr UE?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yn wir, fel y mae ei gwestiwn yn cydnabod, nid yw'n ymwneud â'r rhifau unigol dan sylw, oherwydd gall effaith hyn ar fywyd unigolyn, neu gynlluniau unigolyn, fod yn sylweddol iawn. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yr AEE yn cael yr un amddiffyniad ag y bydd gan ddinasyddion yr UE o dan y cytundeb fel rydym yn ei ddeall ar hyn o bryd. Rydym wedi talu sylw manwl i'r drafftiau o'r cytundeb ymadael. Yn amlwg, rydym yn falch o weld, yn ystod y cyfnod pontio, yr argymhellion y mae'n eu cynnwys er mwyn sicrhau nad oes unrhyw newid i hawliau dinasyddion.
Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu'r datganiad o fwriad a gyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar 21 Mehefin yn ofalus. Mae'n amlinellu eu hargymhellion ar gyfer cynllun preswylio'n sefydlog, a fyddai'n galluogi dinasyddion yr UE i ddechrau cymryd camau i gadarnhau eu statws cyn gadael yr UE. Bwriedir i'r cynllun hwnnw fod yn agored i wladolion yr AEE a'r Swistir hefyd, yn ogystal â dinasyddion yr UE, a dylem ei ddadansoddi gyda hynny mewn cof.
Dylwn atgoffa'r Cynulliad fod sefyllfa Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion hyn fel y'i nodir yn mhapur 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' mis Medi 2017, sy'n amlinellu ein cred y dylai ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol gynnwys dull gwahaniaethol a ffafriol tuag at fewnfudo ar gyfer gwladolion yr AEE a'r Swistir yn ogystal.
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau cyfreithiol Llywodraeth Cymru i gefnogi model newydd ar gyfer morlyn llanw bae Abertawe? OAQ52446
Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Dylwn ddweud, er nad yw yn fy etholaeth, y byddai etholwyr Castell-nedd yn elwa o unrhyw ddatblygiad o'r math hwn, felly rwyf am ddatgan buddiant o ran hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried sut y gallai ddefnyddio ei phwerau i gefnogi modelau cyflawni amgen a allai ddeillio o uwchgynhadledd ynni'r môr ac o'r trafodaethau parhaus gydag arweinwyr rhanbarthol, y cyfeirir atynt yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar 26 Mehefin.
A gaf fi ddiolch i chi am yr ymateb hwnnw? Mae unfrydedd wedi bod ymysg y rhai ohonom sy'n cynrychioli'r rhanbarth cyfan hwnnw yn ne-orllewin Cymru, gan ddechrau efallai gyda fy nghyd-Aelod a fy nghymydog gyda'r hanner arall ohono, David Rees, ond hefyd yr Aelodau rhanbarthol ar draws y pleidiau sydd wedi dangos eu cefnogaeth yn llawn. Felly, nid yw hwn yn sylw gwleidyddiaeth plaid fel y cyfryw. Ond mae model newydd ar gyfer y morlyn yn cael ei drafod, nad yw'n seiliedig ar y contract gwahaniaeth, gyda Llywodraeth y DU. Felly, ni fyddai'r model newydd yn cynnwys y pwerau a gadwyd yn ôl gan San Steffan. A oes gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd ychwanegol i gefnogi'r dull hwn o ariannu'r morlyn?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Mae'n iawn i ddweud, yn amlwg, fod yna gefnogaeth drawsbleidiol gref yn y Cynulliad hwn ac ar draws Cymru i'r morlyn, a dyna pam ein bod mor siomedig fod Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad a wnaeth. Fel y mae'n awgrymu'n briodol yn ei gwestiwn, roedd ymwneud Llywodraeth y DU wedi'i ysgogi'n rhannol gan yr angen am gontract gwahaniaeth, nad yw, yn amlwg, wedi'i ddatganoli i Gymru, ac nid oes gennym gymhwysedd yn y Cynulliad i sefydlu trefn debyg i gyfundrefn y contract gwahaniaeth.
Rwy'n ymwybodol, fel yntau, o'r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd, a'r sylw yn y wasg yn benodol, ynglŷn â model amgen a allai gynnwys mecanwaith heblaw dull contract gwahaniaeth ar gyfer cyflawni. Yn amlwg, pe bai hynny'n wir, byddai pwerau Llywodraeth Cymru yn wahanol i fodel lle mae angen contract gwahaniaeth. Ac yn amodol ar nifer fawr o gwestiynau ynglŷn ag adnoddau, a chwestiynau ehangach, mae'n amlwg fod gan Weinidogion Cymru bwerau gweithredol eang a chyffredinol i hwyluso creu swyddi a datblygu economaidd, gan gynnwys drwy gyfrwng benthyciadau a gwarantau a grantiau ac ati. Yn wir, y pwerau hynny oedd sail y cynnig a wnaeth Prif Weinidog Cymru i gefnogi'r cynnig cyfredol ar gyfer y morlyn llanw. Byddai'n rhaid edrych ar y rheini yng nghyd-destun cynnig penodol pe bai'n cael ei gyflwyno, cynnig pendant, ac yn amlwg unwaith eto, yng nghyd-destun rheolau cymorth gwladwriaethol. Yn amlwg, byddai angen inni sefydlu nad oedd unrhyw gymorth gwladwriaethol neu fod y cymorth yn gydnaws â'r fframwaith yn y ddeddfwriaeth. Fel y dywedaf, nid oes cynnig pendant i'w werthuso ar hyn o bryd, ond dylai fod yn dawel ei feddwl y bydd y Llywodraeth yn edrych ar ei holl bwerau ac yn eu hystyried yn y cyd-destun hwnnw pe bai'r cynnig yn cael ei gyflwyno.
Fel y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod, mae mater y morlyn llanw yn fater byw iawn o hyd, ac yn amlwg, mae yna nifer o opsiynau posibl yn cael eu crybwyll ar hyn o bryd o ran sut yn y byd y gallwn achub y sefyllfa hon. Nawr, mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro y dylid sefydlu cwmni ynni cenedlaethol ar gyfer Cymru, gydag adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio i ddarparu cyflenwad ynni cynaliadwy a fforddiadwy. Yn amlwg, mae'r model cenedlaethol yn un opsiwn. Mae yna opsiynau eraill. Un awgrym o'r fath yw model cyflawni lleol, wedi'i arwain, o bosibl, gan ddinas a sir Abertawe, ond ceir opsiynau rhanbarthol eraill hefyd. Felly, o ystyried yr amrywiaeth o opsiynau cyflawni posibl, sydd angen eu harchwilio, i ba raddau rydych yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i drafod y materion cyfreithiol a'r materion ariannol sy'n gysylltiedig â llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru, a phryd y gallwn ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar y mater hwn?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am ein hatgoffa am ei gefnogaeth i gwmni ynni cenedlaethol, dielw rwy'n credu. Fel y dywedais wrth Mike Hedges yn awr, mae'n amlwg, fel y bydd rhywun yn gwybod o'r hyn a welir yn y wasg a'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt, fod yna bobl sy'n edrych yn greadigol ar ba opsiynau amgen a allai fod ar gael i gadarnhau'r cyfle sy'n bodoli yng Nghymru—ledled Cymru, mewn gwirionedd—i ddefnyddio ein capasiti llanw i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Fel rwyf newydd ei ddweud, o'm rhan i'n bersonol, fy rôl i fydd cynghori ar y pwerau cyfreithiol sydd gan Lywodraeth Cymru, ond yn amlwg, bydd y sgyrsiau hynny, fel y byddwch wedi'i gasglu o'r hyn a ddywedais yn fy ymateb cynharach—rwy'n mynd ar drywydd y trafodaethau hynny.
6. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018? OAQ52465
Nid wyf wedi trafod y Ddeddf hon gyda swyddogion eraill y gyfraith ers i'r Twrnai Cyffredinol dynnu yn ôl cyfeirio'r Bil, fel yr oedd bryd hynny, i'r Goruchaf Lys, a rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.
Diolch yn fawr. Wrth osod y cwestiwn, wrth gwrs, Gwnsler Cyffredinol, nid oeddwn yn gwybod eich bod yn gwneud datganiad ddoe, lle ges i gyfle i ofyn y cwestiwn atodol i chi ddoe yn hytrach na heddiw. Ond, serch hynny, mae digwyddiadau dros nos jest yn tanlinellu, rydw i'n meddwl, pa mor sensitif yw natur y ffaith bod y cytundeb rhynglywodraethol yn ein harwain ni at sefyllfa lle mae Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei thynnu'n ôl. Rydw i'n cyfeirio at y Papur Gwyn ar bysgodfeydd, sydd wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol y bore yma. Eto, nid oes adlewyrchiad yn y papur yna o'r trafodaethau y cawsom ni ddoe yn y Siambr yma am bysgodfeydd yng Nghymru. Mae'r pwysigrwydd bod y cytundeb rhynglywodraethol yn gorfod adlewyrchu'r fath o gytundeb masnach sy'n cael ei wneud yn y pen draw yn hollbwysig, rydw i'n meddwl, i'r penderfyniad ynglŷn ag a ydym ni'n cadw'r ddeddfwriaeth yn fan hyn a'r hawl i ddeddfu'n llwyr yn fan hyn, neu yn rhannu—fel y mae'r cytundeb rhynglywodraethol wedi ei wneud—â'r Llywodraeth yn San Steffan.
Ddoe, wrth ateb y cwestiwn roeddwn yn mynd i ofyn heddiw, wnaethoch chi ddweud eich bod yn cadw'r cytundeb rhynglywodraethol dan chwyddwydr wrth weld sut y mae'n gweithredu ac ati. Pa bryd y byddwch chi'n asesu a ydy'r cytundeb yma yn gweithredu? A fyddwch chi'n gwneud hynny cyn bod y cyfnod ymgynghorol a'r cyfnod i benderfynu ar ddiddymu'r Ddeddf yma yn dod i ben?
Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn un sydd yn glir ar yr hyn sydd angen digwydd o ran y goblygiadau i'r rhai sydd yn cytuno i'w dermau. Fel gwnes i grybwyll ar y mater ddoe, oherwydd y cytundeb hwn, fe wnaethom ni gael sicrwydd ar y newidiadau i'r Ddeddf sydd wedi, erbyn hyn, cael Cydsyniad Brenhinol yn San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod hyn yn golygu bod mwy o bwerau yn dod i'r lle hwn yn sgil y cytundeb hwnnw. Rwy'n hapus i gymryd y cyfle hwn eto i sicrhau yr Aelod fod gan Lywodraeth Cymru pob bwriad i sicrhau bod y Llywodraeth hon a Llywodraeth San Steffan yn glynu'n agos at y termau y gwnaethpwyd cytundeb arnyn nhw yn y cytundeb hwnnw.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i gael ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.
3. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf ynghylch uno TATA steel a ThyssenKrupp AG ar y diwydiant dur yng Nghymru? 195

At ei gilydd, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad i greu cyd-fenter 50:50 i gyfuno eu busnesau dur Ewropeaidd ac rydym yn parhau i ymgysylltu gyda'r cwmni a'r undebau llafur i ystyried manylion y cyhoeddiad.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Diau fod y cyhoeddiad wedi codi cwmwl sydd wedi bod yn hongian dros y gwaith dur yn y dref ers dros ddwy flynedd bellach ac mae'n cynnig gobaith o ddyfodol diogel ar gyfer gwneud dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill ar draws Cymru, oherwydd gadewch i ni beidio ag anghofio, mewn gwirionedd, fod Port Talbot yn bwydo'r gweithfeydd eraill hynny yn ogystal. Mae wedi cael ei groesawu gan weithwyr dur, fel y nodwyd gennych, sy'n cyfarfod heddiw i'w drafod mewn gwirionedd, yn ogystal ag undebau llafur, gwleidyddion a'r gymuned ar draws y dref.
Rydym yn ymwybodol y gall yr awyr ddu ddychwelyd—dyna'r broblem. Mae'r cynnig hwn yn canolbwyntio ar y tymor canolig, mewn gwirionedd, ac nid y tymor hir, oherwydd mae'n sôn am sicrhau nad oes unrhyw ddiswyddiadau gorfodol cyn 2026 a'r gwaith sydd i'w wneud ar y ffwrnais chwyth i'w chadw'n weithredol hyd nes tua 2026. Felly, mae yna sefyllfa fwy hirdymor i'w thrafod o hyd. Mae prif swyddog gweithredol ThyssenKrupp wedi dweud yn aml ei fod yn canolbwyntio ar weithrediadau Ewropeaidd ac nid ydym, o bosibl, yn ei feddwl o ran hynny.
Felly, a fydd y cytundeb hwn yn effeithio ar y buddsoddiad sydd eisoes wedi'i ymrwymo gan Lywodraeth Cymru, oherwydd rydych eisoes wedi gwneud ymrwymiad i'r gwaith pŵer—mae cam 1 wedi mynd drwodd. Nid yw'r cyllid wedi'i ryddhau eto ar gyfer cam 2. Gwn fod mater amodoldeb wedi codi. Ble rydym ni ar hynny? Felly, unwaith eto, mae sicrhad yn dod o du Llywodraeth Cymru ar y broses honno, ar yr ochr honno i bethau. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Tata ar y mater hwn o ran pa fuddsoddiad y maent yn sôn amdano yn eu cynllun uno a ble y bydd hwnnw'n mynd? A fydd yn mynd tuag at waith cynnal a chadw ac atgyweirio yn unig, neu a fydd yn mynd tuag at dechnolegau newydd a buddsoddiad mewn offer newydd i'w arwain at y lefel nesaf o gynhyrchiant, fel y llinell gyfalaf ar gyfer ffyrnau golosg newydd sydd eu hangen? Ac a ydych wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, oherwydd nid ydym wedi cytuno ar fargen sector dur eto, ac mae'n ymddangos ar hyn o bryd fod Llywodraeth y DU yn methu chwarae ei rhan, ac os ydym eisiau cynaliadwyedd hirdymor, mae angen i chi gael trafodaethau gyda hwy hefyd? Felly, sut y mae popeth yn dod at ei gilydd yn awr, yn seiliedig ar y cynllun uno hwn?
Wel, a gaf fi ddiolch i David Rees am ei gwestiynau? Buaswn yn cytuno bod y cyhoeddiad, yn wir, yn cynnig gobaith i bob un o'r gweithfeydd ledled Cymru a'r DU. Mae'n werth myfyrio ar ble roeddem ddwy flynedd yn unig yn ôl, pan oedd yr awyr yn ddu iawn yn wir, ac o ganlyniad i waith caled Llywodraeth Cymru, i raddau helaeth, rydym wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw, lle mae pawb sy'n rhan o'r cytundeb yn gallu cydnabod cryfder teulu dur Cymru. O ran sicrhau nad yw'r awyr ddu yn dychwelyd, mae angen i ni warantu cystadleurwydd cynhyrchiant dur yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau ei fod yn effeithlon ac yn gynhyrchiol. Nawr, bydd ein cymorth yn amlwg yn parhau. Bydd ein cymorth, ar sawl ystyr, yn dibynnu ar gytundeb Tata i amodau rhwymol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn gwneud ei rhan ac yn rhoi sylw i bryderon y sector, yn enwedig mewn perthynas â phrisiau ynni anghystadleuol, ond hefyd yr angen am gytundeb sector. Roedd y rhain yn faterion a drafodwyd yn ddiweddar iawn yng nghyngor dur y DU. Roeddent yn faterion y byddwn yn eu codi'n rheolaidd gyda Gweinidogion o fewn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac y byddem yn eu codi drwy swyddogion gyda'u cymheiriaid yn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac yn wir mewn adrannau eraill. Mae'n rhywbeth sydd o diddordeb i fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, o ystyried yr agenda ddatgarboneiddio a'r angen i sicrhau ein bod yn lleihau allyriadau. Rydym yn gallu cynorthwyo busnesau yn y sector dur i leihau allyriadau carbon, i wneud yn siŵr fod yna arbedion pŵer, i wneud yn siŵr fod gweithwyr yn meddu ar y sgiliau llawn a phriodol, a bydd ein cefnogaeth yn parhau i'r dyfodol. Ond os ydym am sicrhau'r gweithgarwch cynhyrchu dur effeithlon, cystadleuol a chynhyrchiol rydym eisiau ei weld yn hirdymor yng Nghymru ac yn y DU, bydd angen ymyriadau pendant gan Lywodraeth y DU.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n cysylltu fy hun â'r cwestiynau y mae David Rees newydd eu gofyn i chi mewn gwirionedd. Credaf y bydd rhai pryderon o hyd, yn mynd yn ôl at yr hyn roeddem yn sôn amdano tua 18 mis yn ôl am y berthynas â ThyssenKrupp a Tata, ac mae'r dyddiad y soniodd David amdano, rwy'n credu, yn rhywbeth sydd wedi'i argraffu'n gadarn ar ein meddyliau yn awr. Gyda hynny mewn golwg, a ydych wedi cael unrhyw syniad o gwbl o'r amserlen ar gyfer unrhyw fuddsoddiad posibl yn y gwaith hwn? Yn amlwg, mae'r ffwrnais chwyth yn bwysig iawn yno, ac mae'n wych cael addewidion, ond hyd nes y bydd rhywun yn llofnodi siec, mae hi braidd yn anodd dibynnu ar yr addewidion hynny.
Gyda bargen y sector dur, yn amlwg, rwy'n cytuno bod angen i ni wybod am hyn yn awr, ac nid wyf yn tybio bod cyhoeddiad Trump wedi helpu rhyw lawer iawn. Roedd costau ynni—a chredaf eich bod wedi cyfeirio at hyn yn fyr—yn broblem fawr pan oeddem yn siarad am hyn rai misoedd yn ôl. A ydych wedi cael unrhyw arwydd addawol, gawn ni ddweud, sy'n awgrymu bod hynny'n llai o broblem erbyn hyn, a pha gamau a gymerwyd i geisio eu datrys?
Ac yn olaf, mae Tata, wrth gwrs, wedi gwneud ymrwymiadau enfawr o ran prifysgol bae Abertawe, a pherthynas â'r ganolfan arloesi dur o dan y fargen ddinesig. Tybed a ydych wedi cael unrhyw newyddion ynglŷn ag a fyddai'r bartneriaeth gyfunol hon hefyd yn barod i ymrwymo yn y ffordd y mae Tata wedi'i wneud hyd yma. Dywedasoch eich bod yn ystyried y cyhoeddiad, ac efallai y gallech godi hynny mewn unrhyw gwestiynau a fydd gennych pan fyddwch yn siarad â Tata a ThyssenKrupp.
Yn wir. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r cydweithrediad sydd wedi bod ym mae Abertawe rhwng addysg uwch a gwaith dur y rhanbarth, yn ogystal â rhai o'r cwmnïau deilliedig a chwmnïau'r gadwyn gyflenwi. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y cydweithio hwnnw'n parhau. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio ymgysylltu â'r cwmni a'r undebau llafur i ofyn am wybodaeth bellach ynglŷn â manylion y cyhoeddiad, i wneud yn siŵr fod y cydweithio hwnnw'n parhau yn y dyfodol, ac i sicrhau ein bod yn cadw cynhyrchiant haearn a dur yng Nghymru yn y tymor hir.
Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud, o ran yr amserlen, fod y gyd-fenter yn ddibynnol ar archwiliad rheoleiddio gan yr awdurdodau sy'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, a hyd nes y byddant yn cau, bydd y ddau gwmni cyd-fenter yn parhau i weithredu fel cwmnïau ar wahân ac fel cystadleuwyr, ond yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym yn disgwyl y byddwn yn gallu bwrw ymlaen â'n trafodaethau mewn perthynas â'r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Tata o ran y gwaith sydd wedi'i leoli yng Nghymru, ond buaswn yn croesawu cyhoeddiad i ymestyn y cytundeb cyflogaeth i 2026, gydag ymrwymiad i geisio osgoi diswyddiadau gorfodol o ganlyniad i'r gyd-fenter.
O ran yr ymrwymiadau eraill, mae Tata wedi ymrwymo i fuddsoddi er mwyn ymestyn oes ffwrnais chwyth rhif 5 Port Talbot, a bydd hynny'n mynd rhagddo eleni. Yn gyffredinol, credaf fod hwn yn gyhoeddiad cadarnhaol iawn i'r diwydiant dur a'r holl safleoedd dur cysylltiedig ledled Cymru. Fodd bynnag, rydym yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau y gellir gwarantu dyfodol hirdymor busnesau dur yng Nghymru.
Rwy'n credu bod y gyd-fenter, ar yr wyneb, yn ymddangos fel cam cadarnhaol ymlaen ar hyn o bryd, ond mae yna gwestiynau allweddol i'w gofyn i sicrhau ein bod yn symud ymlaen gan graffu'n ofalus. I'r gweithlu y mae ein dyletswydd gyntaf, wrth gwrs—y gweithlu medrus iawn sydd gennym ym Mhort Talbot. Fel y soniais ddoe yn ystod y cwestiynau i arweinydd y tŷ, bydd rhan fawr i Brexit yn rhagolygon y gyd-fenter, ac er bod y rhagolygon ar hyn o bryd, yn y tymor canolig, yn ymddangos yn ddiogel, mae'r dyddiad y byddwn yn ymadael â'r UE yn agosáu, a gallai hyn effeithio ar y gyd-fenter mewn gwirionedd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Heinrich Hiesinger—nid wyf yn gwybod a ydw i wedi dweud ei enw'n gywir—prif swyddog gweithredol Thyssenkrupp, wrth sôn am effeithiau Brexit ar y gyd-fenter, a dyfynnaf:
Rydym yn gobeithio, beth bynnag fo'r canlyniad, y bydd yna farchnad rydd.
Wrth gwrs, ni allwn warantu y bydd yna farchnad rydd, gyda'r Ceidwadwyr a'ch plaid chi angen ateb cwestiynau ar hyn ar lefel Llywodraeth y DU o hyd, ac i'w gweld yn rhwystro neu'n cymylu'r dyfroedd ar farchnad rydd yn ôl pob golwg. Felly, credaf ein bod angen atebion ar hynny.
Hoffwn i Lywodraeth Cymru amlinellu pa achos y bydd yn ei wneud i Lywodraeth y DU ynghylch cymorth gwladwriaethol a diwydiannau eraill hefyd, oherwydd gallai Cymru fod mewn amgylchedd gwahanol yn y dyfodol, gyda Llywodraeth y DU yn ailgynllunio'r rheolau hynny ar ôl Brexit o dan bwerau sy'n dychwelyd o'r UE, a chredaf y dylid sicrhau safbwynt mwy clir ar hynny heddiw.
Felly, fel rwyf wedi'i ddweud, ar y cyfan, hoffwn ddod â rhywfaint o sicrwydd i'r sector ym Mhort Talbot. Gwn ei fod hyd nes 2026, ond credaf mai nod tymor canolig yw hwnnw a dylai pob un ohonom gadw ein llygaid ar hynny, ac rwy'n ailadrodd bod y buddsoddiad ym Mhort Talbot yn allweddol yn awr, ac rwy'n gobeithio y bydd yr arian ar gyfer camau eraill y cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn hynny o beth yn gallu mynd rhagddo'n ddidrafferth oherwydd gwn fod rhai problemau cychwynnol wedi bod o ran sicrhau mwy o gyllid. Pe baem yn gallu osgoi hynny fel y gellid defnyddio a datblygu'r gwaith dur ar gyfer y dyfodol, byddai hynny'n fuddiol i bawb yn yr ystafell hon ac yn ein cymunedau ledled Cymru.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a dechrau drwy ddweud na fyddai fy mhlaid yma, ac yn y DU yn gyfan, wedi gallu dangos mwy o ymrwymiad i gynnal cynhyrchiant dur y DU? Rydym wedi bod yn gwbl benderfynol o ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, a dylanwadu ar y cwmni o ran buddsoddiad hirdymor, ac rwy'n credu bod y gwaith rydym wedi'i fuddsoddi yn y maes hwn wedi talu ar ei ganfed, ac mae'r cyhoeddiad yn dangos hynny.
Ar wahân i'r cyllid—ac mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei chynnig i Tata—gallaf ddweud, ar wahân i gyllid ar gyfer cymorth sgiliau, ni fydd Tata yn gallu cael cyllid yn erbyn y cynigion hyn hyd nes y byddwn wedi cytuno ar fanylion amodau trosfwaol, sy'n rhwymol yn gyfreithiol, a buaswn yn disgwyl i'r holl Aelodau gefnogi hynny. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod yr amodau hynny'n gymwys am nifer o flynyddoedd, a'u bod, yn wir, yn rhwymol yn gyfreithiol.
Nawr, o ran Brexit, byddwn yn parhau i weithio'n agos ac yn adeiladol gyda Tata i gynllunio ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit, ond hyd yma, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cynnig £8 miliwn tuag at fuddsoddiad o £18 miliwn yn y gwaith pŵer ym Mhort Talbot, ac rydym yn parhau i drafod y potensial ar gyfer buddsoddiadau pellach i gynyddu arbedion effeithlorwydd yn y maes, ac mae'n werth myfyrio ar y pwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas â rheolau cymorth gwladwriaethol. Wel, hyd nes y bydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, mae Gweinidogion Cymru yn parhau i fod wedi'u rhwymo i gydymffurfio'n llawn â rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE, ac mae'n rhaid i unrhyw gefnogaeth a ddarperir i'r sector dur fod yn unol â rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Fodd bynnag, ar ôl Brexit, bydd i ba raddau, os o gwbl, y byddai Gweinidogion Cymru yn parhau i gael eu rhwymo gan reolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn dibynnu ar delerau'r cytundeb ymadael y bydd y DU yn ei negodi gyda'r UE. Ond mae'n gwbl hanfodol, yn ystod y trafodaethau hynny sy'n parhau, fod Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i'r DU.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Caiff y cwestiwn nesaf ei ateb gan Weinidog y Gymraeg—y cwestiwn gan Dawn Bowden.
4. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a wnaed gan berchennog Trago Mills fod arwyddion Cymraeg yn annibendod gweledol? 194

Wel, a gaf fi ddweud fy mod wedi fy siomi'n fawr wrth ddarllen sylwadau Bruce Robertson dros y penwythnos, ac ysgrifennais lythyr ato ddydd Llun i fynegi fy siom? Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod ei sylwadau'n gyfeiliornus, a chredaf eu bod yn anghyson â barn y cyhoedd yng Nghymru. Rwy'n hapus i rannu'r llythyr hwnnw gydag Aelodau'r Cynulliad.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod mai un agwedd yn unig ar y sylwadau a nodwyd yr wythnos diwethaf oedd yr arwyddion dwyieithog, mewn gwirionedd, ond rwyf eisiau ymdrin yn benodol â mater yr iaith oherwydd mae'n ffaith mai Merthyr Tudful sydd ag un o'r lefelau isaf o siaradwyr Cymraeg dynodedig yng Nghymru. Rwyf eisiau gweld hynny'n newid ac rwyf wedi cefnogi gwasanaethau Cymraeg a'r cyfleoedd dysgu a ddarperir ym Merthyr, yn fwyaf nodedig yng Nghanolfan Soar y buom ein dwy'n ymweld â hi'n ddiweddar.
Er gwaethaf y lefel gymharol isel o siaradwyr Cymraeg, rwyf wedi cael sylwadau gan nifer o etholwyr a gafodd eu tramgwyddo gan y sylwadau a gofnodwyd. Ac rwy'n deall y dicter hwnnw, oherwydd, pa un a yw pobl yn siarad Cymraeg ai peidio, mae llawer yn gweld gwerth yr iaith ac yn gwybod pa mor bwysig yw normaleiddio ei defnydd mewn sefyllfaoedd a gweithgareddau bob dydd, ac fel dysgwr Cymraeg fy hun, gallaf dystio i werth hynny. Ac yn wir, rwy'n credu bod meithrin a datblygu'r defnydd o'r Gymraeg a meithrin agweddau mwy cadarnhaol tuag ati yn gyfrifoldeb pwysig i bob un ohonom.
Mae Trago Mills yn fusnes newydd pwysig yn fy etholaeth ac mae'n darparu llawer o swyddi gwerthfawr, ac rwyf eisiau datblygu cysylltiadau gwaith da gyda hwy. Felly, a fyddech yn cytuno â mi mai ymarfer busnes mwy goleuedig ar eu rhan, ac un a allai ddenu mwy o bobl i gefnogi'r busnes mewn gwirionedd yn hytrach na gwneud iddynt brotestio yn ei erbyn, fyddai iddynt gydnabod statws y ddwy iaith a chroesawu'r ffaith honno?
Mae'n bwysig i ni i gyd gefnogi'r iaith ac mae hynny'n cynnwys Trago Mills.
Da iawn a diolch yn fawr i chi, Dawn, nid yn unig am ddod â'r achos yma gerbron y Senedd heddiw, ond hefyd am eich ymrwymiad chi tuag yr iaith.
Hoffwn ddiolch i chi am eich brwdfrydedd dros yr iaith, oherwydd mae angen inni gyrraedd miliwn o siaradwyr ac rydych chi ar y rhestr honno, felly diolch yn fawr iawn i chi. Credaf eich bod yn llygad eich lle—credaf fod pobl yn tanbrisio gwerth addysg Gymraeg. Gwyddom fod llawer o dystiolaeth yn awgrymu ei bod, mewn gwirionedd, yn helpu i ymestyn addysg yn ei ystyr ehangach, ac mae tystiolaeth ar draws y byd sy'n profi bod dwyieithrwydd yn ddatblygiad cadarnhaol. Rwy'n credu y dylid nodi hefyd fod galw cynyddol mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, ac rwy'n falch iawn o weld hynny a hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth yn hynny o beth.
Ond credaf hefyd fod yna reswm masnachol iddo wneud hyn. Y ffaith yw, yn y cyfrifiad diwethaf, os edrychwch ar faint o bobl sy'n byw o fewn awr i Trago Mills, ceir tua 110,000 o bobl sy'n siarad Cymraeg, ac mae 86 y cant o bobl Cymru yn frwdfrydig ac yn gefnogol i'r iaith Gymraeg. Felly, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr masnachol iddynt beidio â bod yn yr un man â'r bobl hynny, ac felly rwy'n gobeithio y bydd cadeirydd Trago Mills yn ailystyried ei agwedd tuag at yr iaith.
Weinidog, cafodd agoriad siop Trago Mills ym Merthyr Tudful ym mis Ebrill, a greodd 350 o swyddi, ei groesawu'n fawr, gydag arweinydd y cyngor yn dweud
ei fod yn ychwanegu at yr hyn a gynigir i siopwyr ym Merthyr Tudful a'i fod hefyd yn garreg filltir yn adfywiad cyffredinol y fwrdeistref sirol.
Felly, mae'n siomedig darllen y sylwadau hyn sydd wedi achosi dicter sylweddol ac a allai niweidio proffidioldeb y siop. Fel y dywedoch chi'n gynharach, Weinidog, ac rwy'n cytuno â chi, mae'n bwysig fod arweinwyr busnes yn deall ein bod yn wlad gynyddol ddwyieithog a'i bod yn fanteisiol yn fasnachol i fusnesau ddangos parch tuag at y ddwy iaith. Wyddoch chi, Weinidog, nid wyf yn gallu siarad Cymraeg, ond rwy'n credu bod y gallu i bob unigolyn fod yn ddwyieithog yn beth gwych, yn enwedig os ydych yn byw mewn gwlad ac rydych yn siarad yr iaith leol. Mae'n ymwneud â budd gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn ogystal â rhyngweithio rhwng busnesau a budd masnachol. Mae'n ymwneud â dod at ein gilydd. Iaith yw'r peth sy'n dod â ni at ein gilydd, ac undod yw'r rhinwedd orau un. Diolch.
Diolch yn fawr, Mohammad, ac mae croeso i chi ymuno â mi a dod yn un o'r miliwn yn ogystal. Gwn eich bod yn siarad nifer o ieithoedd eraill, felly dylai fod yn weddol hawdd i chi ei dysgu. Felly, dyna chi, rydych chi ar fy rhestr yn ogystal. Diolch yn fawr.
Credaf ei bod yn bwysig i ni danlinellu pwysigrwydd y cwmni hwn. Ceir llawer o swyddi yma mewn ardal sydd angen swyddi, felly mewn gwirionedd, ni fuaswn yn cefnogi'r galwadau ar bobl i beidio â defnyddio'r ganolfan siopa. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cefnogi busnesau yng Nghymru, ond rwy'n credu mai'r hyn rydym angen ei wneud yw eu hannog a gwneud yn siŵr eu bod yn deall eu bod yn buddsoddi mewn gwlad ddwyieithog lle mae llawer o gefnogaeth yn awr i'r iaith Gymraeg. Diolch yn fawr.
Mae'n gwbl briodol eich bod chi yn beirniadu Trago Mills am eu sylwadau sarhaus at y Gymraeg, ond mae'n rhaid cofio mai beth ydy hyn mewn gwirionedd ydy'r enghraifft ddiweddaraf o broblem ehangach, a thystiolaeth goncrit mai ffolineb ydy credu y cawn ni chwarae teg i'r Gymraeg yn y sector breifat heb ddeddfwriaeth a thrwy ddibynnu ar ewyllys da. Rydych chi'n barod iawn eich beirniadaeth o record cwmnïau fel Sports Direct, GWR a rŵan Trago Mills ar y Gymraeg, ond yn llai parod o lawer i weithredu.
Yn yr hydref, fe gytunodd y Cynulliad trawsbleidiol yma mai gweithredu sydd angen i ymestyn y safonau iaith i'r sector breifat. Sut felly ydych chi'n bwriadu gwireddu ewyllys y Cynulliad yma yn sgil y prawf pellach eto fyth fod angen gosod dyletswydd sylfaenol mewn cyfraith er mwyn i fusnesau mawrion barchu'r Gymraeg?
Nid wyf yn derbyn ei fod yn ffolineb i ddisgwyl i gwmnïau ddefnyddio'r iaith. Y ffaith yw bod lot o gwmnïau yn gwneud hynny. Os ydych chi'n edrych ar Aldi a Lidl, rwy'n meddwl bod record arbennig gyda nhw. Mae'n rhaid i ni werthfawrogi hynny. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n gwerthfawrogi nad yw hi'n bosibl gyda'r Ddeddf sydd gyda ni nawr i wneud unrhyw beth yn y maes yma. Rydych chi'n ymwybodol bod gen i lot mwy o ddiddordeb mewn hybu a hyrwyddo'r Gymraeg fel blaenoriaeth a dyna pam rŷm ni'n dod â phethau fel Cymraeg busnes i'r adwy, i sicrhau pan fydd pobl eisiau ymrwymo i'r iaith Gymraeg y bydd hawl ganddyn nhw wedyn i ofyn am help. Dyna beth ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud—rhoi help lle rŷm ni'n gallu i wireddu'r ffaith ein bod ni'n gobeithio y byddan nhw'n rhoi'r arwyddion hyn i fyny yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r cwestiwn gan Siân Gwenllian.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau adrefnu llywodraeth leol yn dilyn ei sylwadau yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 29 Mehefin 2018? 197

Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'n papurau trefn y byddaf yn gwneud datganiad ar y mater hwn ar 17 Gorffennaf.
Wel, rai misoedd yn ôl, fe gawsom ni wybod drwy flog personol fod y Llywodraeth wedi gwneud tro pedol arall ar adrefnu llywodraeth leol gan ollwng cynlluniau Mark Drakeford ar gyfer cydweithio rhanbarthol. Ddydd Gwener diwethaf, fe ges i a phawb arall oedd ddim yng nghynhadledd y WLGA yn Llandudno wybod drwy Trydar eich bod chi eto fyth wedi newid eich meddwl drwy gyhoeddi eich bod am gael gwared ar y map adrefnu. Ddwywaith, felly, mae datganiadau mor bwysig â hyn, sydd yn effeithio'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yn y dyfodol, wedi cael eu cyhoeddi heb i chi roi gwybod i Aelodau Cynulliad drwy ddatganiadau ysgrifenedig ffurfiol. Ddwywaith rydych chi wedi dangos sarhad llwyr a thanseilio hygrededd y Llywodraeth a rôl y Cynulliad fel corff deddfwriaethol Cymru. Yn arferol, ac yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru ar wneud penderfyniadau da, mae disgwyl i Weinidogion gyhoeddi eu hymateb i ymgynghoriad a gynhaliwyd a gwneud hyn yn amserol, ac fel arfer mae hynny yn digwydd yn y Cynulliad mewn datganiad llafar ffurfiol gydag adroddiad ynghlwm. Felly, o ystyried mai dim ond tair wythnos yn ôl y daeth y cyfnod ymgynghori i ben, a fedrwch chi gadarnhau mai ymateb yn uniongyrchol i'r ymgynghoriad oeddech chi yn eich sylwadau yng nghynhadledd y WLGA? Ac a ydych chi'n meddwl ei bod hi'n briodol i Weinidog wneud datganiadau polisi o arwyddocâd cenedlaethol yn y modd yma?
Lywydd, rwy'n ailadrodd y byddaf yn gwneud datganiad llawn ar y mater hwn ar 17 Gorffennaf, pan fyddaf yn ymateb i'r ymgynghoriad ac yn ymateb i faterion eraill yn ogystal. Fodd bynnag, ymddengys bod yr Aelod yn credu y dylai Gweinidogion fod yn dawedog mewn perthynas â dadl genedlaethol a pheidio â chymryd rhan mewn sgyrsiau cenedlaethol y tu allan i'r Siambr hon. Mae'n ddrwg gennyf, ond os mai dyna yw ei safbwynt, rwy'n anghytuno â hi. Credaf ei bod yn gwbl iawn a phriodol fod Gweinidogion yn cymryd rhan weithredol yn y ddadl genedlaethol ynghylch llawer o faterion sy'n gyfrifoldeb i'r lle hwn, ac eraill, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond byddaf bob amser yn gwneud datganiad polisi sylweddol i'r lle hwn, ac i'r lle hwn yn gyntaf. Fodd bynnag, mae yna ddadl genedlaethol yn digwydd ynglŷn â dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus, a byddaf yn parhau i gymryd rhan yn y ddadl honno hefyd.
Diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r cwestiwn hwn heddiw fel cwestiwn amserol. Roeddwn yn bresennol yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roeddwn yno'n agos iawn at y llwyfan—nid wyf yn credu y buaswn wedi gallu eistedd yn agosach, a dweud y gwir—pan ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet ar y llwyfan i gymeradwyaeth lai na chynnes gan lond ystafell o bron i 200 o gynrychiolwyr. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y gymeradwyaeth yn gynhesach ar ôl ei araith; y gwahaniaeth oedd ei fod wedi cyhoeddi mewn eiliad ei fod yn cael gwared ar y map—y map hwnnw y dywedodd wrthym pan gyfarfuom ag ef, os cofiwch chi, nad oedd yn mynd i fod yn fap.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi craffu arnoch ochr yn ochr â Siân Gwenllian, ac mae Aelodau o'ch meinciau cefn eich hun hyd yn oed, ar eich trydedd gyfres—pan ddywedaf 'eich' rwy'n golygu'r drydedd gyfres o gynigion a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth Cymru chi, felly gadewch i ni fynd drwy hyn. Mewn 20 mlynedd o ddatganoli, rydym wedi cael 10 o Ysgrifenyddion Cabinet dros lywodraeth leol. Chi yw Rhif 5. Hon yw'r drydedd gyfres o gynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Nawr, fel rhan o gynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, roedd yn fraint mawr, mewn gwirionedd, ochr yn ochr â Rhun ap Iorwerth, cael cymryd rhan mewn panel gyda'r Athro Gerald Holtham am iechyd a gofal cymdeithasol, a'r modd y caiff ei integreiddio, a gwneud hynny'n realiti. Daeth un peth yn glir iawn, sef bod tai da neu dai gwael yn effeithio ar ein hiechyd. Mae addysg yn effeithio ar ein hiechyd a gofal cymdeithasol. Mae tai—. Mae'n ddrwg gennyf, mae addysg—roeddwn yn meddwl fy mod wedi ysgrifennu'r rhain yn gynharach. Gyda llywodraeth leol, mae gennym ofal cymdeithasol. Dyna bump o wasanaethau sylfaenol a meysydd polisi y mae angen eu hintegreiddio â llywodraeth leol.
Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn yn awr.
Nawr, rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro, pan fyddwch yn penderfynu bwrw iddi a chyflwyno Papur Gwyrdd y Cabinet, pa ymgynghori a wnaethoch gyda'ch cyd-Weinidogion eraill yn y Cabinet? Un peth sylfaenol y cytunwyd arno yn yr ystafell honno oedd na allwch gyflwyno diwygio llywodraeth leol ar ei ben ei hun; mae angen i chi integreiddio iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a thai. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Williams wedi nodi hyn yn ei adroddiad, a phedwar yn unig o'r 62 o argymhellion ynddo y mae'r Llywodraeth hon wedi bwrw ymlaen â hwy, i gyd yn ymwneud â llywodraeth leol. Ar ryw bwynt, pan fyddwch yn gwneud eich datganiad, a wnewch chi edrych arno mewn modd cydgysylltiedig os gwelwch yn dda, a chynnwys y meysydd polisi eraill hynny? Os gwnewch chi hynny, fe gewch gefnogaeth y meinciau hyn. Diolch.
Wel, byddai hynny'n hyfryd, oni fyddai? [Chwerthin.] Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am yr 20 mlynedd o hanes y mae hi wedi llwyddo i'w wau i mewn i'r cwestiwn amserol hwn. Byddaf yn gwneud datganiad ar y materion hyn mewn pythefnos, a byddaf yn mynd i'r afael â'r materion y mae hi wedi'u codi yn ei chwestiwn.
Y cwestiwn nesaf i’w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus eto, a'r cwestiwn gan Vikki Howells.
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr achosion diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru? 196
Lywydd, credaf y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn dymuno ymuno â mi i ddiolch i'r holl ddiffoddwyr tân o bob cwr o Gymru sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed dros yr wythnosau diwethaf. Mae eu hymrwymiad, eu harbenigedd a'u sgiliau wedi cael eu profi mewn amgylchiadau anodd iawn. Rwyf wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn eisoes heddiw, a chredaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn dymuno rhoi amser i'w ystyried a sicrhau ein bod yn mynegi ein diolch i'r diffoddwyr tân sydd wedi bod yn ymladd y tanau gwair hyn dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn dilyn eich datganiad ysgrifenedig heddiw, hoffwn bwysleisio bod fy etholaeth i, fel sawl un ledled Cymru, wedi'i chreithio gan gyfres o danau dinistriol dros y dyddiau diwethaf. Mae'r digwyddiadau wedi cynnwys tân mewn coedwig ger Llwydcoed, a ddisgrifiwyd fel tân cannoedd o fetrau o led, tân mynydd Maerdy a gwaith haearn Hirwaun.
Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymuno â chi i dalu teyrnged i ddewrder a gwydnwch ein diffoddwyr tân sy'n gweithio'n ddiflino i gadw ein cymunedau yn ddiogel, ond yn ail, gyda'r awgrym y gallai llawer o'r tanau hyn fod wedi'u cynnau'n fwriadol, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i flaenoriaethu mesurau i atal y gweithgaredd peryglus hwn a allai fod yn angheuol?
Lywydd, bûm yn ymweld â'r diffoddwyr tân a oedd ar ddyletswydd yn Nhonypandy yn gynharach heddiw, a siaradais â hwy am y gwaith y maent yn ei wneud ledled Cymru a hefyd â'r diffoddwyr tân o dde Cymru a oedd wedi bod yn ymladd y tân ar rosydd Saddleworth. Ymwelais â'r orsaf gydag Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, a buom yn trafod rhai o'r tanau gwyllt sydd wedi effeithio ar etholaeth yr Aelod. Siaradais â'r diffoddwyr tân a oedd wedi bod yn gweithio yn Llwydcoed ac o gwmpas y safle ym Mryn Pica, ac a oedd wedi bod yn gweithio yn eithriadol o galed i gadw'r tân hwnnw o dan reolaeth. Credaf fod arnom ddiolch mawr i'r bobl hyn.
Lywydd, rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân, yr heddlu a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â thanau gwair bwriadol yn y tarddiad. Mae hyn yn golygu eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf drwy atal y rhai sydd efallai'n ystyried ei wneud. Mae'n waith sy'n cynnwys ystod eang o raglenni, o godi ymwybyddiaeth gyffredinol i batrolau atal tanau bwriadol mewn ardaloedd risg uchel, ac ymyriadau wedi'u teilwra gyda'r rheini sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o wneud hynny. Mae gan y mwyaf dwys o'r rhain a gefnogwyd gennym ers amser hir gyfradd aildroseddu o dan 5 y cant.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cymeradwyo'r datganiad ysgrifenedig a wnaethoch yn gynharach heddiw am ganolbwyntio ar atal tanau a gwaith y gwasanaeth tân a gwasanaethau brys eraill i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion, ac o amgylch y gymuned hefyd, o beryglon dechrau tanau. Credaf fod honno'n rhan hollbwysig o'u gwaith ac mae'n ymddangos ein bod yn gweld llai o achosion o'r tanau hyn yn awr. Ond hefyd mae angen i'r cyhoedd fod yn ymwybodol y gallwch ddechrau tân yn anfwriadol, er enghraifft, drwy gynnal barbeciw heb fod yn ofalus. Rydych yn gadael yr ardal ac oriau'n ddiweddarach bydd cyfeiriad y gwynt yn newid neu bydd beth bynnag ydyw'n tanio a dyna dân gwair arall. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau bod yr addysg hon yn iawn ar gyfer y cyhoedd, ac rwy'n canmol ymdrechion y gwasanaeth tân hyd yma.
Rwy'n ymuno â'r Aelod i ganmol yr ymdrechion hefyd. Ar yr un pryd â buddsoddi mewn addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd fel y nododd yr Aelod dros Ganol De Cymru, mae hefyd yn ddefnyddiol nodi bod y gwasanaeth tân ei hun wedi buddsoddi'n helaeth mewn offer arbenigol a hyfforddiant i fynd i'r afael â'r tanau hyn. Mae'r diffoddwyr tân y siaradais â hwy y bore yma wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddefnyddio adnoddau sylweddol ar gyfer mynd i'r afael â'r tanau ledled Cymru, o Gymoedd de Cymru i ogledd Cymru i Geredigion. Ar yr un pryd, rydym wedi buddsoddi mewn gwaith i addasu cerbydau diffodd tân, offer amddiffynnol ysgafn ar gyfer gweithio mewn ardaloedd ucheldir, a dronau, sy'n darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer llywio penderfyniadau diffodd tân yn ddiogel ac yn sydyn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf, David Rees.
Diolch, Lywydd. Yn ystod yr wythnos y dathlwn ben blwydd ein gwasanaeth iechyd gwladol yn 70 oed, rydym hefyd wedi colli un o'i harloeswyr ym maes gofal sylfaenol. Ganwyd Julian Tudor Hart ym 1927 yn Llundain, yn fab i feddygon a oedd yn weithgar yn wleidyddol. Ffurfiwyd ei werthoedd a'i gredoau gan ei fagwraeth gynnar mewn cartref a oedd wedi'i drwytho mewn gwleidyddiaeth radical, ac a gâi ei ddefnyddio'n rheolaidd fel man trosglwyddo ffoaduriaid a oedd yn ffoi rhag gorthrwm ffasgaidd yn Ewrop—gwerthoedd a chredoau a arhosodd gydag ef dros weddill ei fywyd.
Dilynodd Julian lwybr gyrfa ei dad ac astudio meddygaeth yng Nghaergrawnt cyn symud i Lundain. Ar ôl graddio, cafodd swyddi mewn ysbytai ac ym maes ymarfer cyffredinol trefol cyn gweithio yn Uned Epidemioleg y Cyngor Ymchwil Feddygol dan arweiniad Archie Cochrane, lle y cyfarfu â'i wraig a'i bartner ymchwil, Mary. Nawr, dysgodd y cefndir hwn ym maes epidemioleg ef i astudio sut roedd ffyrdd o fyw ei gleifion yn achosi eu salwch, a bu'n gweithio gyda hwy i wella hyn.
Ym 1961, symudodd i gymuned lofaol Glyncorrwg yng nghwm Afan a sefydlu practis, lle'r arhosodd am 30 mlynedd nes iddo ymddeol. Trodd Julian Lyncorrwg yn enw rhyngwladol sy'n gysylltiedig ag ymarfer cyffredinol arloesol. Roedd yn ddyn a ganolbwyntiai ar ddamcaniaeth ac ar weithredu. Roedd yn ymchwilydd, yn ddarlithydd, yn awdur erthyglau, papurau a llyfrau, gyda llawer o'i syniadau mwyaf arloesol yn gwneud eu ffordd i mewn i ymarfer bob dydd. Mae ei gysyniad o ddeddf gofal gwrthgyfartal yr un mor berthnasol yn awr â phan gafodd ei gyhoeddi yn The Lancet ddegawdau yn ôl—yn wir, mor bell yn ôl ag 1971. Ag yntau'n ddyn â gweledigaeth go iawn, cyflawnodd lawer o brosiectau ymchwil mewn lleoliadau cymunedol, rhywbeth yr oedd llawer o bobl yn dweud na ellid ei wneud, ond roedd yn llwyddiannus oherwydd bod ganddo ffydd yn allgaredd dinasyddion Glyncorrwg a chwm Afan uchaf, ac roeddent yn ymddiried ynddo ac yn ei barchu.
Teimlai'n angerddol fod gan bawb hawl i ofal iechyd da, ac na fyddai'n bosibl targedu gwasanaethau at y rhai oedd eu hangen fwyaf oni bai bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn rhydd rhag dylanwadau'r farchnad ac wedi'i ganiatáu i ganolbwyntio'n unig ar les cleifion.
Lywydd, gallwn barhau am 90 eiliad arall, oherwydd roedd ei fywyd yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny, hyd yn oed ar ôl iddo ymddeol. Roedd Julian Tudor Hart, ac mae'n parhau i fod, yn un o gewri go iawn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Mae cyfraniad Meic Stephens, a fu farw ddoe yn 79 oed, tuag at lenyddiaeth Cymraeg a Chymreig yn amhrisiadwy. Drwy ei waith diflino fel awdur, bardd, cyfarwyddwr cyngor y celfyddydau, sefydlwr cylchgronau ac athro prifysgol fe ehangodd ein gwerthfawrogiad a’n dealltwriaeth o ystod llenyddiaeth ein cenedl yn y ddwy iaith.
Yn enedigol o Drefforest, fe aeth ati gydag arddeliad i addysgu ei hun, gan dreulio cyfnodau yn Aberystwyth, Bangor a Rennes yn Llydaw cyn mynd ati i ddysgu gwahanol grefftau, fel athro Ffrangeg yng Nglyn Ebwy ac yna'n newyddiadurwr gyda’r Western Mail. Er mai ar aelwyd di-Gymraeg y cafodd ei fagu, penderfynodd gofleidio ei dreftadaeth Gymraeg gydag arddeliad. Roedd yn genedlaetholwr i’r carn. Yn wir, fe oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r slogan bythgofiadwy ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y graig yna ger Llanrhystud: gweithred chwyldroadol bwysig gan ŵr hynaws a meddylgar. Mae dyled Cymru i Meic Stephens yn anferth, a bydd yn cael ei gofio am byth fel arwr llenyddol cenedlaethol.
Yn gynharach eleni, roeddem yn coffáu canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Derbyniodd mwy na 5 miliwn o ddynion dosbarth gweithiol yn bennaf y bleidlais a daeth bron 8.5 miliwn o fenywod yn bleidleiswyr hefyd. Ond ni chafodd y menywod hyn yr etholfraint ar sail gyfartal. Yn hytrach, o dan y Ddeddf honno, roedd yn rhaid i bleidleiswyr newydd a oedd yn fenywod fod dros 30 oed. Roedd yn rhaid iddynt hwy neu eu gwŷr fodloni cymwysterau eiddo llym hefyd. Roedd yn rhaid i gydraddoldeb o ran yr etholfraint aros degawd arall. Ar 2 Gorffennaf 1928 y daeth Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Etholfraint Gyfartal) yn gyfraith. Roedd y Ddeddf hon yn caniatáu i bob menyw dros 21 oed bleidleisio, heb ystyried yr eiddo roeddent yn berchen arno, heb ystyried eu gwŷr.
Mae rhai sylwebyddion wedi cyfeirio at y consensws a'r diffyg dadlau ynglŷn â hyn, gan awgrymu, efallai, fod yna elfen o anocheledd hanesyddol. Mae'n rhaid i ni beidio â gwneud y camgymeriad o anwybyddu natur drawsnewidiol Deddf 1928. Daeth gwleidyddiaeth yn fwy cynrychioliadol. Cafwyd cynnydd o oddeutu 7,000 yn nifer yr etholwyr yn Aberdâr, er enghraifft, ac o'r diwedd, gallai menywod bleidleisio ar sail gyfartal i ddynion bellach. Mae esgeuluso'r achlysur hanesyddol hwn hefyd yn gwneud anghymwynas â'r ymgyrchwyr a fu'n brwydro yn y cyfamser dros yr egwyddor hon o gydraddoldeb, ymgyrchwyr fel Is-Iarlles Rhondda. Gyda Deddf 1928 yn dathlu ei phen blwydd yn 90 oed, rydym yn cofio'r hyn a alwyd gan un sylwebydd 'y symlaf, ac eto'r mwyaf radical o ddiwygiadau'.
Diolch i chi, a gobeithio y gwnewch chi edrych ar y sgriniau yn awr, os gwelwch yn dda. Roeddwn wrth fy modd yn mynychu degfed Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2018, a gynhaliwyd yn Llandudno ddydd Sadwrn gyda fy nghyd-Aelod, Darren Millar AC. Roedd llawer o gyffro wedi datblygu eisoes wrth weld ffrigad HMS Somerset yn cyrraedd bae Llandudno, ynghyd â dyfodiad tanciau'r fyddin ar y promenâd gan gynnwys hofrennydd Jackal ac awyren jet Typhoon. Fe safem, gyda phobl bwysig eraill, yn llawn cyffro i'r orymdaith gychwyn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Yn yr heulwen gogoneddus, daeth Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Theresa May, Ffiwsilwr Shenkin IV, yr afr gatrodol, oddi ar y Gogarth, a 100,000 o bobl i sefyll ar Bromenâd Traeth y Gogledd, gan gymeradwyo'n frwd i ddangos eu cefnogaeth i'r holl unigolion a theuluoedd sy'n gwasanaethu'n anhunanol yn ein lluoedd arfog. Eleni, sydd hefyd yn nodi canmlwyddiant yr awyrlu brenhinol, roedd yn arbennig o hyfryd gweld arddangosiad y Red Arrows yn dod i ben gyda'r rhif 100 wedi'i beintio ar draws yr awyr a'i ddilyn gan ehediad yr awyrlu brenhinol i goffáu Brwydr Prydain.
Lywydd—Ddirprwy—hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r trefniadau ac i'r rhai a gymerodd ran mewn digwyddiad mor hynod o gofiadwy. Cyfrannodd y digwyddiad yn arbennig i gydnabod ymrwymiad dewr ac eofn ein milwyr a'n cyn-filwyr, ac yn syml i ddweud 'Diolch'.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i iechyd meddwl emosiynol plant a phobl ifanc, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig. Lynne Neagle.
Cynnig NDM6756 Lynne Neagle
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Emosiynol ac Iechyd Medwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel arfer, rwy'n cychwyn drwy ddweud ei bod hi'n bleser cael agor y ddadl, ond heddiw, mae'n fwy na phleser; rwy'n falch, ac mae'n fraint cael annerch y Siambr hon ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
I mi, iechyd emosiynol a iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc yw un o'r materion pwysicaf, os nad y mater pwysicaf, i ni fel Cynulliad. Mae sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y lle hwn, ac ysgolion, ysbytai, ffermydd a ffatrïoedd ein cenedl yn wydn, yn feddyliol iach, ac yn meddu ar yr adnoddau i fynd i'r afael â'r heriau a fydd, yn anochel, yn eu hwynebu, yn gyfrifoldeb sylfaenol i bob un ohonom.
Amcangyfrifir y bydd un o bob 10 o bobl ifanc yn cael profiad o broblem iechyd meddwl, ac mae bron dri o bob pedwar unigolyn ifanc yn ofni ymateb eu ffrindiau pan fyddant yn siarad amdano. Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau erbyn 14 oed, a thri chwarter erbyn ugeiniau canol yr unigolyn ifanc. A dyna pam y dewisom neilltuo llawer o dymor y gaeaf i'r ymchwiliad hanfodol hwn.
Cynhaliodd y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn y pedwerydd Cynulliad adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Roeddem eisiau edrych ar hynny eto a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ei gynnydd. Ond roeddem eisiau mynd gam ymhellach. Roeddem hefyd yn ymrwymedig i ystyried pa gymorth y gellid ei roi i osgoi uwchgyfeirio at wasanaethau arbenigol. Mae costau salwch emosiynol a salwch meddwl—nid yn unig i bwrs y wlad, ond yn bwysicaf oll, i'r plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd sy'n dioddef yn ei sgil—yn rhy uchel i ni beidio â cheisio atal y llif yn gynharach.
Heb gymorth, gwyddom fod trallod meddwl yn gallu effeithio'n ddifrifol ar lesiant plant, eu datblygiad a'u cyrhaeddiad. Ond gyda chymorth priodol ac amserol, mae tystiolaeth hefyd yn dangos y gall plant a phobl ifanc sydd wedi cael problemau iechyd meddwl ac iechyd emosiynol fyw bywydau iach a hapus. Nid oes angen i hyn, ac ni ddylai, fod yn sefyllfa sy'n gwaethygu'n anochel.
Cyn i ni barhau, rwyf eisiau i ni glywed gan blant a phobl ifanc eu hunain. Rydym wedi ymrwymo i roi llais iddynt yn holl waith y pwyllgor, ac nid oedd yr ymchwiliad hwn yn eithriad. Rwyf eisiau cofnodi fy niolch i bawb a siaradodd â ni, ond yn enwedig i'r plant a'r bobl ifanc a roddodd ganiatâd i ni ymweld â hwy ac a siaradodd mor agored ac mor rymus am faterion rydym yn aml, hyd yn oed fel oedolion, yn ei chael hi'n anodd eu mynegi.
Yn ystod ein hymchwiliad, casglwyd tystiolaeth o brofiadau pobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd. Un ohonynt oedd drwy fideo, gyda'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan ym mhrosiect Newid Meddyliau Mind Casnewydd, sy'n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Gwn fod rhai ohonynt yn yr oriel heddiw. Hoffwn eu croesawu yma a rhoi cyfle i bawb wrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.
Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar yn y cyflwyniad.
Hayden: 'Dechreuodd fy mhroblemau o gwmpas blwyddyn 8, felly roeddwn tua 13 neu 14, ac roeddwn yn cael cynnig cwnselydd bob amser, ond ni fyddai hynny byth yn digwydd mewn gwirionedd. Felly, roeddwn yn rhyw fath o ymdrin â'r peth ar fy mhen fy hun, ac yna, un diwrnod, digon oedd digon; nid oeddwn yn gwybod at bwy i droi.'
Tristan: 'Roedd siarad am iechyd meddwl a sut rydych yn teimlo yn dabŵ, yn enwedig i ddynion, rwy'n gwybod.'
Thomas: 'Pe bai'r problemau hyn wedi cael sylw yn llawer cynharach, ni fyddent wedi gwaethygu i'r pwynt—.'
Regan: 'Rwy'n teimlo y dylai fod mwy o fynediad at gymorth mewn ysgolion a llawer mwy o hysbysrwydd fod y cymorth hwnnw yno, ar gael i bobl.'
Tristan: 'Mae angen dulliau gwahanol o geisio helpu pobl ifanc, felly mae'n debyg i archwilio gwahanol bosibiliadau o oedran ifanc, fel myfyrdod, fel ioga, gallai fod yn ymarfer corff—yn hytrach na dim ond dweud "O, nid ydych yn teimlo'n dda; ewch i siarad â rhywun". Nid yw bywyd yn gweithio felly. Nid ydych yn mynd i gael rhywun i siarad â hwy drwy'r amser, ac nid yw hynny'n gweithio i bawb.'
Thomas: 'Pe bai'r athrawon wedi cael ychydig o hyfforddiant, digon i adnabod salwch meddwl—nid oes gwahaniaeth ai iselder neu orbryder rydych yn ei ddioddef, salwch meddwl yw salwch meddwl. O beidio â chael digon o gwsg i boeni am arholiadau, mae'n effeithio ar bawb ohonom.'
Rwy'n siwr y byddai pawb ohonoch yn hoffi ategu fy niolch i'r bobl ifanc am rannu eu barn a'u profiadau gyda ni. Gobeithio ei fod wedi rhoi blas i bawb o rai o'r pethau a gododd yn ystod ein hymchwiliad.
Felly, beth oedd ein casgliad? Rydym yn credu bod angen newid sylweddol ar frys yn y cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r hyn sydd ar gael wedi bod yn rhy gyfyngedig yn rhy hir. Rydym wedi galw ein hadroddiad yn 'Cadernid Meddwl', oherwydd credwn ei bod hi'n bryd i ni sicrhau hynny—dangos cadernid meddwl; darparu cymorth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol priodol, amserol ac effeithiol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, unwaith ac am byth.
Er ein bod yn cydnabod bod gwelliannau wedi cael eu gwneud mewn gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf, nid yw'n ddigon. Mae angen gwneud mwy, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal argyfwng a sut yr atgyfeiriwn ein plant a'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed at wasanaethau cymorth. Ni ddylai diagnosis meddygol gael ei weld fel yr unig allwedd sy'n agor y drws i gymorth. Nid yw'r ffaith nad yw rhywun wedi cael diagnosis o anhwylder yn lleihau difrifoldeb y trallod a'r niwed a ddioddefir. Ni ddylai hynny fod yn rhwystr rhag cael cymorth gyda gwasanaethau.
Mae angen dybryd i ni helpu'r hyn a elwir yn 'canol coll'. Yn 2014, dywedwyd wrth y pwyllgor a'n rhagflaenai fod gormod o plant a phobl ifanc mewn gwasanathau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) arbenigol yn cael eu hatgyfeirio yno yn amhriodol ac y dylid eu helpu mewn rhannau eraill o'r system. Erbyn 2018, nid oes digon wedi newid. Yn syml, mae'r darnau jig-so a ddylai fod yn eu lle ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc y tu allan i'r rhan fwyaf o leoliadau arbenigol ar goll. Bedair blynedd ers yr ymchwiliad diwethaf, mae hyn yn annerbyniol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn ar frys.
Fel pwyllgor, credwn fod yn rhaid gwneud rhywbeth drastig ar y pen ataliol i'r gwasanaethau. Os ydym yn parhau i fethu darparu llesiant emosiynol, gwydnwch a chymorth ymyrraeth gynnar, bydd plant a phobl ifanc yn parhau i ddioddef yn ddiangen. Mae hefyd yn golygu y bydd cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol yn parhau i fod o dan fygythiad.
Felly, beth sydd angen digwydd? Credwn fod angen newid sylweddol yn y flaenoriaeth a roddir i wydnwch emosiynol a llesiant plant a phobl ifanc. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod hon yn flaenoriaeth genedlaethol benodol. Ond nid yw geiriau'n unig yn ddigon. Mae angen iddynt fod yn seiliedig ar gynlluniau, adnoddau ac ymrwymiad i gyflawni newid gwirioneddol. Credwn fod angen clustnodi adnoddau i wneud ysgolion yn ganolfannau cymorth traws-sector a thrawsbroffesiynol ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn ein cymunedau. Credwn hefyd y dylid rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol i'r rheini sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â stigma, hybu iechyd meddwl da, a'u galluogi i gyfeirio at wasanaethau lle bo angen.
Mae diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ymgorffori llesiant ym mywydau ein plant, ac mae ysgolion mewn sefyllfa dda iawn i wneud cyfraniad sylweddol tuag at adeiladu poblogaeth o bobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol. Ond ni allant wneud hynny ar eu pennau eu hunain. Yn sicr nid ydym yn disgwyl i athrawon ac aelodau eraill o staff ysgol ddod yn arbenigwyr mewn iechyd meddwl. Mae cefnogaeth gan gyrff statudol eraill a chyrff y trydydd sector, ac iechyd yn enwedig, yn hanfodol. Mae angen i'r dull ysgol gyfan, lle mae ethos iechyd meddwl da yn llifo drwy bopeth, fod yn gyfrifoldeb traws-sector ac rydym angen newid sylweddol go iawn ar gyfer cyflawni hynny.
Mae ein hadroddiad yn gwneud un argymhelliad allweddol a 27 i'w gefnogi. Gyda'i gilydd, credwn y bydd y rhain yn sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i adeiladu poblogaeth o blant a phobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol ac yn feddyliol iach yng Nghymru. Maent yn fanwl, yn heriol ac yn uchelgeisiol, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu cael uchelgais uchel wedi'i gosod, ac yn haeddu'r galwadau sylweddol rydym yn eu gwneud ar eu rhan.
Dyna pam y mae'n rhaid i mi ddweud, yn anffodus, fy mod i a'r pwyllgor yn siomedig iawn gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion. Yn gyntaf, mae gormod o bwyntiau hanfodol wedi'u gwrthod. Yn ail, er bod llawer o argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor, mae hyn, i raddau helaeth, ar y sail fod Llywodraeth Cymru o'r farn fod y pethau rydym wedi galw amdanynt eisoes yn eu lle. Wel, rwy'n dweud wrth Lywodraeth Cymru heddiw: nid ydym yn cytuno â chi. Nid ydym yn credu bod digon o sylw wedi cael ei roi i'r dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr rydym wedi'i chyflwyno yn ein hadroddiad. Yn olaf, nid yw ymateb y Llywodraeth yn bodloni ein disgwyliadau, a'n galwadau am newid sylweddol o ran dull o weithredu. Fel pwyllgor, rydym yn gwrthod yr ymateb hwn; nid yw'n ddigon da. Nid yw'r dystiolaeth fanwl rydym wedi'i hamlinellu, a ddarparwyd gan amrywiaeth o arbenigwyr sydd â phrofiad helaeth yn y maes, na'r argymhellion rydym wedi'u hystyried yn fanwl ac yn ddifrifol wedi cael y gydnabyddiaeth, y dadansoddiad na'r parch y maent yn eu haeddu. Nid yw'r newid sylweddol rydym wedi galw amdano i'w weld yn yr ymateb hwn fel ag y mae. Nid yw'r Llywodraeth hon wedi ymateb i'n huchelgais â'r uchelgais rydym yn ei ddisgwyl ac yn ei fynnu ganddi. Fel y cyfryw, heddiw, rwy'n gwahodd Ysgrifenyddion y Cabinet i fyfyrio eto ar eu hymateb, ac i ddod yn ôl atom yn gynnar yn ystod tymor yr hydref gydag ymagwedd newydd. Bydd ein pwyllgor wedyn yn defnyddio ein hamser i archwilio'r materion pwysig hyn gydag Ysgrifenyddion y Cabinet gyda'r manylder fforensig y mae'r pwnc pwysig hwn yn ei haeddu.
Nawr, nid wyf yn dymuno dod â fy sylwadau i ben ar nodyn negyddol. Mae ein hadroddiad wedi'i groesawu ar sail drawsbleidiol a thraws-sector. Fe'i croesawyd fel cam pwysig tuag at y newid trawsffurfiol y mae ein plant a'n pobl ifanc yn ei haeddu. Fe'i croesawyd fel rhan allweddol o'r daith bwysig rwyf fi a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor yn ymrwymedig iddi ac yn benderfynol o'i theithio a'i chwblhau yn y Cynulliad hwn. Fel y dywed ein hadroddiad, dyma bwnc sy'n cyffwrdd â phawb ohonom, a maes lle mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb a gallu i wneud i newid ddigwydd. Nid ydym yn barod i ganiatáu i'r mater hollbwysig hwn gael ei drosglwyddo ymlaen mewn adroddiad etifeddiaeth arall i bwyllgor olynol yn y chweched Cynulliad, gan ddweud, 'Mae angen gwneud mwy.' Mae'r amser wedi dod i ni ddangos cadernid meddwl, a sicrhau'r newid sylweddol rydym ei angen mor ddirfawr.
Diolch. Mae yna nifer o Aelodau sy'n dymuno siarad yn y ddadl. Felly, byddaf yn defnyddio'r rheol pum munud yn llym iawn. Felly, nid oes unrhyw ddiben i chi edrych arnaf a gwenu os oes gennych hanner tudalen arall. Yr ateb fydd 'na', byddaf yn gwasgu'r botwm ac yn galw'r siaradwr nesaf. Mae'n ddrwg gennyf wneud hynny, ond mae gennym nifer o bobl sy'n dymuno siarad nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor, ac rwy'n credu bod hynny'n tystio i waith y pwyllgor, fod eraill am gymryd rhan. Felly, gofynnaf i chi gadw at y rheol pum munud, a chawn weld sut yr aiff hi. Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. £7.2 biliwn o bunnoedd, 6,000 o dderbyniadau brys i'n hysbytai a 300 o fywydau y flwyddyn; dyna yw cost iechyd meddwl bob blwyddyn yma yng Nghymru. Ac rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn cydnabod difrifoldeb yr angen i fynd i'r afael â'r broblem hon, a'r brys, o gofio nad ydym wedi cael fawr iawn o gynnydd hyd yn hyn ar roi camau ar waith i fynd i'r afael â hyn. Rydym yn gwybod bod tua thri chwarter yr holl achosion o salwch meddwl yn dechrau cyn i'r plentyn gyrraedd eu pen blwydd yn ddeunaw oed, a bod plant o gefndiroedd difreintiedig, neu'r rhai sydd â rhieni sydd â salwch meddwl eu hunain eisoes, yn fwy tebygol o i ddatblygu problemau iechyd meddwl eu hunain. Mae'n glir iawn o waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod angen inni adeiladu mwy o wydnwch yn ystod plentyndod a blynyddoedd yr arddegau, a rhoi camau ar waith ar frys i fynd i'r afael â'r anawsterau y mae llawer o'n pobl ifanc yn eu hwynebu pan fyddant angen gofal mwy arbenigol hefyd. Mae ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' yn nodi'r heriau a'r manylion ac yn darparu llu o argymhellion synhwyrol ac ymarferol i fynd i'r afael â hwy. Cafodd ei groesawu'n unfrydol gan randdeiliaid, ond nid gan Lywodraeth Cymru—neu felly mae'n ymddangos.
Rhaid imi ddweud, nid wyf yn meddwl fy mod wedi gweld un ymateb gan y Llywodraeth, yn yr 11 mlynedd y bûm yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sydd mor siomedig a hunanfodlon. Saith o argymhellion yn unig a gafodd eu derbyn, gwrthodwyd naw yn llwyr neu'n rhannol, ac o blith y gweddill, a bod yn onest, dylai'r rhai a ddisgrifiwyd fel rhai a dderbyniwyd mewn egwyddor fod wedi'u nodi fel rhai a wrthodwyd, gan nad yw 'derbyn mewn egwyddor' yn ddisgrifiad cywir o'r ymateb a ddarllenasom ar y papur. Nid yw'n syndod felly fod llu o randdeiliaid wedi bod mewn cysylltiad ag aelodau'r pwyllgor ac aelodau eraill o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn cyn y ddadl y prynhawn yma i fynegi eu pryderon. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi llwyddo i uno nid un, nid dau, ond 73 o seicolegwyr i lofnodi un llythyr yn galw am weithredu pob un o'r argymhellion yn ein hadroddiad yn llawn. Mae'r comisiynydd plant wedi dweud bod yr ymateb a ddaeth i law yn gyfle a gollwyd, a dywedodd nad yw'r system bresennol yn ddigonol nac yn gydlynol. Mae'r NSPCC wedi dweud nad yw'n mynd i sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen, ac maent yn hollol gywir. Mae angen inni weld y newid sylweddol hwnnw, ac mae'n drueni mai'r unig newid y mae rhai pobl i'w gweld â diddordeb ynddo yw'r newid sylweddol o un swydd i swydd y Prif Weinidog.
Rwy'n teimlo o ddifrif fod angen i Lywodraeth Cymru rwygo'i hymateb ac ailfeddwl a chynhyrchu rhywbeth sy'n dangos ychydig bach mwy o barch, nid yn unig at y pwyllgor, ond at y rhanddeiliaid a'r unigolion a ddarparodd y dystiolaeth y seiliwyd ein hadroddiad arni. Rydym wedi cael llond bol ar eiriau gwag. Rydym wedi gweld adroddiadau sydd wedi nodi problemau o'r blaen mewn Cynulliadau blaenorol, ac yn anffodus nid ydym wedi gweld gweithredu gan Lywodraeth Cymru, gan Weinidogion olynol, i allu ymdrin â'r heriau. Gwelsom arferion da yn y dystiolaeth a gawsom—arfer da ar adeiladu gwydnwch iechyd meddwl yn ein hysgolion. Ysgolion megis Ysgol Pen y Bryn yn fy etholaeth fy hun a'u rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar—cyfle gwych a gyflwynwyd gennym ac yr awgrymwyd y dylid ei gyflwyno ymhellach mewn ysgolion eraill. Eto i gyd, roedd eich ymateb i argymhelliad 3 yn hunanfodlon, yn annigonol, ac yn awgrymu mwy o'r un peth a dim mwy na hynny. Roedd hefyd yn awgrymu eich bod eisoes yn gwneud y pethau a oedd yn angenrheidiol. Nid yw hynny'n wir.
Rydych wedi gwrthod argymhelliad 9 a rhan o'n hargymhelliad 11, sy'n galw am bethau syml megis casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd ar amseroedd aros iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi gofyn am asesiad ac ymyrraeth, mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd. Mae'n waradwyddus—yn gwbl warthus—fod yr argymhellion hynny wedi'u gwrthod, ac mae'n awgrymu diffyg blaenoriaeth i'n plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru. Oni bai ein bod yn cael y data hwnnw, nid ydym yn mynd i allu dwyn pobl i gyfrif. Ac nid yw'n syndod fod gan sefydliadau fel bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros 1,000 o bobl ifanc, mwy na'r holl fyrddau iechyd eraill yng Nghymru gyda'i gilydd, ar restrau aros ers dros flwyddyn, yn aros i gael asesiadau ac yn aros i gael triniaeth ar gyfer eu problemau gofal eilaidd acíwt mewn iechyd meddwl. Mae'n gwbl annerbyniol. Ac er mwyn y 1,000 o unigolion yng ngogledd Cymru, ac eraill o amgylch y wlad, mae angen inni weld y newid sylweddol y mae ein hadroddiad yn cyfeirio ato.
Felly, credaf y dylem roi'r ymateb penodol hwn mewn man lle nad yw'r haul yn disgleirio, y peiriant rhwygo papur, a meddwl am rywbeth llawer gwell yn unol â dymuniadau'r pwyllgor, gan mai dyna'r unig beth rydym yn mynd i weld unrhyw newid yn ei gylch.
A gaf i jest ddweud ar y cychwyn fy mod i a'm plaid i yn cytuno gyda phrif argymhellion y pwyllgor yma? Wrth gwrs, y prif argymhelliad yw bod y mater yma yn dod yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig. Nawr, mi glywon ni gyfeiriad at adroddiadau blaenorol y pwyllgor—adroddiad yn ôl yn 2014, er enghraifft, a arweiniodd at beth newid o safbwynt gofal yn y maes yma. Ond mae angen nawr i ni fynd i'r lefel nesaf, ac mae'r ystadegau yn mynnu hynny. Rydym ni wedi clywed rhai yn barod. Yn 2017, er enghraifft, mi welodd Childline Cymru 20 y cant o gynnydd yn nifer y galwadau ynghylch hunanladdiad. Yn y 12 mis i fis Hydref 2016, mi gafwyd 19,000 o atgyfeiriadau at wasanaethau CAMHS yng Nghymru—3,000 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae problemau lles emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn tyfu ac mae angen pwyslais newydd, pwyslais didrugaredd, ar ochr ataliol y llwybr gofal—lles emosiynol, gwydnwch ac ymyrraeth gynnar. Rydym ni wedi clywed am y canol coll—y missing middle yma—ac os nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno y newid trawsnewidiol y mae'r pwyllgor eisiau'i weld, mi fydd y gwasanaethau ar frig y sbectrwm yn mynd yn gwbl anghynaladwy oherwydd nid fydd modd 'cope-io' gyda'r niferoedd a fydd yn galw am y gwasanaethau.
Ni all ysgolion, wrth gwrs, ddim ysgwyddo'r her yma ar eu pennau eu hunain. Dyna pam rydym am weld dull cyflawni systemau cyfan—whole-systems approach—lle mae plant, pobl ifanc, ysgolion, gofal cymdeithasol, iechyd a'r sector wirfoddol i gyd yn cyd-dynnu ac yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaeth a'r gefnogaeth orau posib. Tra bod uchelgais y pwyllgor yn glir—bod angen y gweithredu trawsnewidiol yna—mae'n rhaid dweud bod ymateb y Llywodraeth, fel y dywedais i ddoe wrth y Prif Weinidog, yn llipa, yn hunanfodlon ac yn gwbl annigonol. Mae yn siom, ac rwy'n rhannu siom Aelodau eraill bod cyn lleied o'r argymhellion wedi eu derbyn a bod cynifer wedi'u derbyn mewn egwyddor, ac, yn wir, bod cynifer wedi'u gwrthod. Gwrthodwyd, er enghraifft, yr argymhelliad y dylid mapio argaeledd staff nad ydyn nhw yn addysgu mewn ysgolion ond sydd yna i gefnogi iechyd a lles emosiynol. 'O, cyfrifoldeb awdurdodau lleol a byrddau iechyd yw hynny', meddai'r Llywodraeth. Wel, pasio'r buck yw hynny, oherwydd mae hon yn broblem genedlaethol a rôl Llywodraeth yw cymryd y darlun cenedlaethol yna i ystyriaeth. Mwy o ddata ar gael a mwy o wybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â sut mae byrddau iechyd yn gwario eu harian ar wasanaethau iechyd meddwl i blant—yn cael ei wrthod. Mae hwnnw'n dweud rhywbeth am dryloywder, buaswn i'n dweud, hefyd.
Fe argymhellodd y pwyllgor bod angen sicrhau bod pawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ac yn gallu cyfeirio pobl wedyn, neu deimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chyfeirio pobl ifanc, at wasanaethau eraill. Sawl gwaith clywsom ni, fel pwyllgor, staff ysgolion yn dweud nad ŷn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw wedi ymbweru i fedru ymateb i'r hyn yr oedden nhw'n pigo i fyny arno fe yn yr ystafell ddosbarth? Yn wir, maen nhw'n cael eu llethu gan yr achosion yma ac mae angen help arnyn nhw, ac ar y gweithlu ehangach. Mae'r cwricwlwm, wrth gwrs, yn mynd i gyfrannu, ond fel rwy'n dweud, mae yna weithlu ehangach sylweddol.
Mae yna bwynt arall, rwy'n meddwl, yn fan hyn, sydd wedi dod fwyfwy i'r amlwg. Yn amlwg, mae Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion yn rhannu'r cyfrifoldeb am hyn ac mae hynny'n gallu bod yn gryfder ar adegau, ond yn amlwg, rwy'n ofni, mae'n gallu bod yn wendid hefyd ar adegau, oherwydd y peryg yw bod neb yn gyrru'r mater yma—bod neb yn cymryd perchnogaeth ac yn rhoi momentwm wedyn i'r ymdrech o fynd i'r afael â'r broblem. O ganlyniad, mae 'derbyn mewn egwyddor' yn dod yn rhyw fath o ymateb default sydd, i bob pwrpas, yn golygu 'busnes fel arfer' ac nid newid trawsnewidiol. Rwy'n cefnogi'r sylwadau a wnaeth y Cadeirydd a'i beirniadaeth hi o'r Llywodraeth—mae e'n fethiant amlwg yn fy marn i, yn yr achos yma. Mi wnes i awgrymu ddoe, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau ar draws Llywodraeth, yna dylem ni fod yn edrych ar arweinydd y Llywodraeth i fod yn gyrru hwn, fel yr unig berson, buaswn i'n meddwl, sydd â statws digonol i sicrhau bod hwn yn wirioneddol yn flaenoriaeth genedlaethol.
Yn fyr, i gloi, rwyf jest eisiau sôn am un cynllun penodol yr wyf fi wedi dod ar ei draws e. SAP yw'r acronym—student assistance programme. Rhaglen yw e i blant a phobl ifanc rhwng pedwar ac 19 oed. Mae'n cael ei weithredu ar hyn o bryd yn ysgolion Wrecsam, lle mae plant yn dod at ei gilydd i siarad am eu teimladau a'u problemau er mwyn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Maen nhw'n cael eu cyfeirio at wasanaethau os oes angen hefyd. Mae grwpiau o gyfoedion yn dod at ei gilydd, maen nhw'n cwrdd yn wythnosol mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, ac mae e'n caniatáu adnabod y problemau rydym yn sôn amdanyn nhw'n gynnar. Mae wedi cael—
Iawn. Diolch.
O'r argymhellion allweddol yn yr adroddiad hwn, yr unig rai y mae'r Llywodraeth yn eu derbyn yw'r rhai nad ydynt yn galw am unrhyw weithredu neu'r rhai nad ydynt yn fesuradwy. Maent yn derbyn yr argymhelliad i ddatgan bod lles a gwydnwch emosiynol a meddyliol ein plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol, ond yn achos yr argymhellion sy'n golygu bod yn rhaid iddynt weithredu, mae'r Llywodraeth yn dechrau osgoi a sbinio eu hymatebion drwy wrthod argymhellion neu eu derbyn mewn egwyddor yn unig, ac mae pawb ohonom yn gwybod bod hynny'n golygu na chaiff unrhyw beth ystyrlon ei wneud.
Nid wyf yn gwybod beth arall y gall y pwyllgor hwn ei wneud i'r Llywodraeth roi'r camau sydd eu hangen ar waith. Mae'r sefyllfa'n anobeithiol. Fel y soniodd Darren eisoes, mae mwy na 1,000 o blant a phobl ifanc yn aros 12 i 18 mis am asesiad niwroddatblygiadol yn Betsi Cadwaladr, ac mae'r pwyllgor wedi argymell bod y Llywodraeth yn datblygu cynllun adfer ar unwaith. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru? Maent yn dweud y byddant yn ysgrifennu at Betsi Cadwaladr i ofyn iddynt amlinellu cynllun adfer. Yn gyntaf, mae'r broblem hon wedi bod yn tyfu ers blynyddoedd tra bo Llafur mewn grym, felly pam nad ydynt wedi gofyn i Betsi Cadwaladr wneud hyn o'r blaen? Os ydynt wedi gwneud hynny, pam gofyn eto? Yn ail, mae'r bwrdd presennol wedi llywyddu dros yr ôl-groniad ffiaidd ac annynol hwn ac wedi helpu i'w greu yn y lle cyntaf, felly beth sy'n gwneud i'r Llywodraeth gredu bod gan un o'r prif elfennau a greodd y broblem unrhyw syniad sut i'w datrys? Mae'r Llywodraeth yn sôn am sefydlu llinellau sylfaen ar gyfer darparu llwybrau niwroddatblygiadol, ond mae hynny'n ddibwrpas pan fo byrddau iechyd o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth yn methu cyrraedd y llinellau sylfaen presennol fel mater o drefn, ac yn gynyddol felly.
Yn yr wythnos y dathlwn ben blwydd y GIG yn 70 oed, a phan fo Llafur yn ceisio honni mai hwy yw unig warcheidwaid etifeddiaeth Bevan, mae'n bwysig cofio ei fod wedi dweud y dylai pobl gael mynediad pan fyddant yn sâl at y gofal gorau y gall sgiliau meddygol eu darparu. Wel, nid yw Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn dod yn agos at ddarparu hynny. Po hwyaf yr amser aros, y mwyaf o salwch meddwl y bydd dioddefwr yn ei wynebu. Mae'r risg o hunanladdiad neu hunan-niwed yn cynyddu, bydd eu haddysg yn cael ei niweidio ymhellach a bydd bywydau eu teuluoedd yn mynd yn fwyfwy anodd.
Fel pwyllgor, fe edrychwyd ar hyn yn fanwl iawn, fel grŵp o Aelodau Cynulliad o bleidiau gwahanol iawn yn dod at ei gilydd i geisio gwella bywydau plant a phobl ifanc, felly pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl y bydd hi'n iawn gwrthod rhai o'r argymhellion a derbyn y rhan fwyaf o'r lleill mewn egwyddor yn unig? Ym mhwynt 4, dywedwch eich bod yn ei dderbyn mewn egwyddor, ond wedyn rydych yn gwrthod yr argymhelliad allweddol, gan ddweud na fyddwch yn cefnogi rhaglen benodol y mae'r pwyllgor yn gofyn i chi ei chefnogi, er bod y prosiect yn cynnwys y Samariaid, y credaf fod ganddynt ddealltwriaeth ddyfnach o lawer o faterion iechyd meddwl na chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae pwynt 9 yn ymateb y Llywodraeth yn dweud wrth bobl ifanc Cymru a'u rhieni bopeth sydd angen iddynt ei wybod ynglŷn â beth y mae'r Llywodraeth Lafur yn ei feddwl o'r modd y maent wedi rheoli'r mater hwn. Mae'r Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad y pwyllgor, sy'n argymhelliad synhwyrol iawn, i gyhoeddi data ar amseroedd aros am asesiadau ac ymyriadau ar gyfer plant a phobl ifanc ers cychwyn darpariaethau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Pe bai'r data'n newyddion da, rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ei gyhoeddi. Felly, tybed pa reswm cadarnhaol a allai fod dros awydd Llywodraeth Cymru i atal y wybodaeth hon rhag cyrraedd y cyhoedd.
Mae'r sefyllfa mor annioddefol bellach fel na fydd dim llai na derbyniad llawn ac ymrwymiad i weithredu holl argymhellion y pwyllgor yn ddigon da. Mae'r Llywodraeth â'i phen yn y tywod o hyd ynglŷn â'r broblem hon, a'u hagwedd 'Gwneud y synau iawn, ond gwneud dim' sydd wedi arwain at y broblem yn y lle cyntaf. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet fod yn gwneud ei orau glas i ymddiheuro i'r bobl ifanc a'r teuluoedd y mae ef a'i Lywodraeth wedi gwneud cymaint o gam â hwy a gwneud popeth y mae'r pwyllgor wedi ei argymell.
Felly, yn olaf, yn fwy na fy anobaith ynglŷn â maint y broblem, rwy'n anobeithio am eu bod o hyd, hyd yn oed yn wyneb adroddiad fel hwn, yn dal i geisio sbinio'u ffordd allan ohoni tra bo plant a phobl ifanc yng Nghymru yn dioddef. Mae ymateb y Llywodraeth yn ffiaidd, ac fe adawaf fy sylwadau yno.
Rwy'n aelod o'r pwyllgor, a chredaf mai dyma un o'r ymchwiliadau mwyaf pwysig a gyflawnwyd gennym mewn gwirionedd. Gwn fod y Llywodraeth yn cydnabod bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant yn fater sy'n croesi cymaint o ffiniau rhwng cymaint o wahanol bobl a chymaint o wahanol sefydliadau—iechyd, ysgolion, sefydliadau cefnogi ieuenctid, clybiau ieuenctid, CAMHS—felly, croesawaf argymhelliad y pwyllgor a derbyniad y Llywodraeth y dylai fod yn flaenoriaeth genedlaethol, ond os oes gennych rywbeth yn flaenoriaeth genedlaethol, credaf fod yn rhaid ichi wneud popeth a allwch i'w chyflawni, ac yn yr argymhellion mwy manwl ni chawsom yr ymateb y gobeithiem ei gael mewn gwirionedd.
Rwy'n cytuno'n gryf â barn y pwyllgor y dylai pawb sy'n dod i gysylltiad â phlant roi eu lles a'u hiechyd meddwl yn flaenaf yn eu meddyliau, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na chyflwr meddwl plentyn? Rhaid inni anelu i gael cenhedlaeth o blant hapus a sicr yn emosiynol, gyda meddylfryd cadarnhaol, ond i wneud hynny rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pawb sy'n gofalu am blant, neu'n gwirfoddoli neu'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gael hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel y gallant fynd i'r afael â materion stigma a hyrwyddo iechyd meddwl da. Nawr, mae'r Llywodraeth yn derbyn hyn, ond mewn egwyddor yn unig. Mae'n siomedig gweld hyn yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth 'afrealistig'. Does bosib nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio gyda phlant yn cael rhywfaint o leiaf o hyfforddiant cychwynnol, felly pam na allai hyn gynnwys elfen i godi ymwybyddiaeth fan lleiaf o bwysigrwydd gofalu am les emosiynol a meddyliol plant? Ni allaf weld bod unrhyw broblem o gwbl yn hynny, ac nid wyf yn gweld bod hynny'n afrealistig o gwbl. Credaf ei bod yn hanfodol ei fod wedi'i gynnwys mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon, a'r hyfforddiant y mae gweithwyr ieuenctid yn ei gael, yr hyfforddiant y mae staff iechyd yn ei gael, ac rwy'n meddwl o ddifrif fod hynny'n rhywbeth y gellid ei ymgorffori yn yr hyfforddiant sydd eisoes yn digwydd heb unrhyw drafferth. Felly, nid wyf yn derbyn bod gweithredu'r argymhelliad hwnnw'n afrealistig.
Nawr, pan fydd iechyd meddwl plentyn yn dioddef, credaf fod hynny'n achosi llawer iawn o straen a gofid i'w teulu, eu ffrindiau, yr ysgol, a phawb sy'n gweithio gyda hwy. Credaf fod goblygiadau iechyd meddwl plentyn mor bellgyrhaeddol ac mae llawer ohonom wedi profi'r problemau hynny. Gall teuluoedd wneud eu gorau i ddarparu ar gyfer eu plant yn emosiynol ac yn faterol, ond gall problemau gyda'ch iechyd emosiynol a'ch iechyd meddwl ddigwydd i bob teulu. Felly, mae iechyd meddwl plant yn broblem sy'n gallu effeithio ar deuluoedd o bob math. Ond credaf fod pawb ohonom yn gwybod bod yna grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed, a dau o'r grwpiau hynny yw plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu, ac mae'n bwysig cyfleu hynny.
Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad pan lansiodd Adoption UK eu hadroddiad o'r enw 'Bridging the Gap' ar roi cyfle cyfartal i blant wedi'u mabwysiadu yn yr ysgol. Mae angen cymorth ychwanegol ar blant wedi'u mabwysiadu yn yr ysgol, ac efallai nad yw ysgolion mor ymwybodol o hynny ag y dylent fod weithiau—mae yna fwlch yn y ddealltwriaeth. Ac mae'n dangos nad oedd 65 y cant o blant wedi'u mabwysiadu yn teimlo bod eu hathrawon yn deall yn iawn sut i'w cefnogi, a chodai hyn i 74 y cant yn ystod oedran ysgol uwchradd. Felly, credaf ei fod yn destun pryder mawr fod yr adborth gan blant wedi'u mabwysiadu—sydd, fel y gwyddom, oherwydd problemau ymlyniad y gallent fod wedi'u cael yn gynnar mewn bywyd, yn fwy agored i gael problemau iechyd meddwl—yn dangos nad oeddent yn teimlo y gallent droi at eu hathrawon. Rwy'n credu bod ein hadroddiad wedi adlewyrchu hynny mewn gwirionedd yn y rhan fwyaf o'r elfennau y buom yn ymdrin â hwy—fod plant yn gorfod gofyn am gymorth ac aros am gymorth mewn modd y mae'r Cadeirydd wedi'i alw'n annerbyniol.
Rwy'n teimlo y dylai'r Cynulliad hwn ei