Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

04/07/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle.

Y Diwydiant Moduron

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith Brexit ar y diwydiant moduron? OAQ52464

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei diddordeb brwd yn y pwnc penodol hwn, a rhoi sicrwydd iddi ein bod yn trafod yn rheolaidd â Fforwm Modurol Cymru a chyrff cenedlaethol y sector ar effaith bosibl Brexit? Ar sail y trafodaethau hyn, ac ar sail rhyngweithio dyddiol â chwmnïau modurol Cymru, mae fy swyddogion yn parhau i asesu'r senarios posibl.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch iawn fod gennyf gannoedd o etholwyr ar gyflogau da mewn swyddi medrus ac undebol ym maes gweithgynhyrchu yn y sector modurol yn Nhorfaen. Rwy'n siŵr y byddwch chi, fel finnau, wedi gweld nifer o rybuddion gan arbenigwyr fod Brexit, yn enwedig Brexit lle rydym yn gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl, yn fygythiad difrifol iawn i weithgynhyrchu modurol yn arbennig. A gaf fi ofyn ichi—fe sonioch chi am asesiadau—roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â'r asesiadau a wnaed gennych o risg debygol i'r sector modurol, a pha gamau brys y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i geisio lliniaru'r risgiau hynny, o gofio'r hyn a wyddom ynglŷn â pha mor gystadleuol yw'r maes gweithgynhyrchu modurol, a pha mor ddibynnol yw'r maes ar egwyddorion gweithgynhyrchu mewn union bryd? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle unwaith eto am wneud pwynt pwysig ynghylch cyflenwi mewn union bryd? Mae hyn yn rhywbeth y bu cyfarwyddwr ymadawol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn sôn amdano yn ddiweddar, yng nghyd-destun Brexit. Ac mae'r Aelod yn llygad ei lle—mae cannoedd o'i hetholwyr wedi'u cyflogi yn y sector modurol yn Nhorfaen, ac mae 19,000 o bobl ledled Cymru wedi'u cyflogi yn y sector allweddol hwn, ac mae'n allweddol am ei fod yn cyfrannu gwerth £3.5 biliwn o refeniw i'r economi. Ledled y DU, mae mwy na 800,000 o bobl wedi'u cyflogi yn y diwydiant modurol. Yn ddiweddar iawn, mae cwmnïau fel BMW a chyflogwyr mawr eraill wedi bod yn sôn am eu pryderon ynghylch Brexit. Nawr, rydym wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Fusnes Caerdydd, yn ogystal â fforwm modurol Cymru, a chyrff y sector ledled y DU, i asesu effaith debygol senarios Brexit ar y diwydiant modurol. Mae rhai ffactorau y gallem eu lliniaru, ond mae llawer ohonynt y tu hwnt i'n rheolaeth, a dyna pam fod y ffaith nad yw Llywodraeth y DU, a'r Cabinet yn arbennig, wedi dod i gytundeb ynglŷn â'r undeb tollau yn peri cryn bryder inni.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn cofio ein trafodaethau yn y Siambr hon ynglŷn â'r pryderon ynghylch yr oddeutu 1,000 neu fwy o swyddi a allai gael eu colli os na ddoir o hyd i gyfleoedd newydd ar gyfer ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fy rhanbarth i. Ac yn ein cyfarfod trawsbleidiol gyda staff Ford, ar y pryd, nid Brexit oedd eu prif bryder, er fy mod yn amau ​​y gallai fod yn fwy o bryder erbyn hyn; yn hytrach, eu prif bryder oedd eu perthynas â marchnad America. Ac wrth gwrs, gyda chyhoeddiad yr Arlywydd Trump ar dariffau, gallwch weld pam fod hyn bellach yn bryder uniongyrchol. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth mewn swyddfeydd ledled y byd bellach, tybed a allwch egluro'r hyn y mae'r swyddfeydd hynny wedi gallu ei wneud yn y cyfamser i ehangu cyfleoedd ar gyfer Ford ledled y byd. Diolch.

Wel, rydym mewn trafodaethau gweithredol â chyflogwyr eraill ynghylch defnyddio safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac o ran tyfu'r sector modurol yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Brexit, a'r ansicrwydd ynghylch Brexit, yn ffactor ataliol o ran gallu denu buddsoddiad. Fodd bynnag, drwy ein swyddfeydd newydd, nid yn unig yng ngogledd America, ond ledled Ewrop, rydym yn trafod y potensial i sicrhau buddsoddiad yng Nghymru gyda chwmnïau modurol mawr. Mae a wnelo hyn hefyd, wrth gwrs, â'r her arall rydym wedi'i thrafod yn y grŵp hwnnw, sy'n ymwneud â'r angen i drawsnewid i economi wedi'i datgarboneiddio, a sicrhau'n benodol fod cymaint â phosibl o weithgynhyrchwyr modurol yn y DU yn newid i ddefnyddio pŵer hybrid a thrydan, a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r her a ddaw yn sgil cynhyrchu peiriannau diesel yn unig o ran yr effaith debygol y bydd y targedau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gosod yn ei chael ar eu cyflogwyr. Felly, mae tair prif her y mae angen i ni eu goresgyn: un, canlyniadau hysbys Brexit, a'r canlyniadau sydd hyd yma'n anhysbys; dau, marchnad America wrth gwrs, a datblygu'r gadwyn gyflenwi yn y DU i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd posibl sy'n deillio o Brexit; a thri, sicrhau bod gweithgynhyrchwyr yn croesawu'r agenda ddatgarboneiddio, a'r newid i gerbydau allyriadau isel iawn.

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad oes unrhyw unigolyn call yn dymuno gweld tariffau ar fewnforio ac allforio ceir rhwng Prydain a'r UE. Pe bai'r Comisiwn Ewropeaidd, yn anffodus, yn parhau i atal cynigion am gytundeb masnach rydd, yr UE a fyddai fwyaf ar eu colled gan eu bod yn allforio gwerth £3.9 biliwn o geir i ni; dim ond gwerth £1.3 biliwn rydym yn eu hallforio iddynt hwy, ac mae hanner y ceir sy'n cael eu hallforio i Brydain o'r UE yn dod o'r Almaen. A yw wedi gweld bod Rupert Stadler, cadeirydd Audi, wedi dweud na fyddai unrhyw un yn ennill pe na bai'r UE a'r DU yn dod i gytundeb masnach, ac y byddai'n arwain at golli swyddi yn yr Almaen yn ogystal â Phrydain, a bod Lutz Meschke o gwmni ceir Porsche yn dweud y byddai methu dod i gytundeb yn peryglu swyddi yn yr Almaen? Ac wrth gwrs, o ganlyniad i gynlluniau tariff Trump, byddai hynny'n arwain at broblemau anferthol i gynhyrchwyr ceir Ewrop, oherwydd bod yr UE yn gosod tariff o 10 y cant ar geir a fewnforiwyd o'r Unol Daleithiau, tra bo'r Unol Daleithiau yn gosod tariff o 2.5 y cant yn unig ar hyn o bryd. Felly, diffyndollaeth yr Undeb Ewropeaidd a'u anhyblygrwydd hwy wrth negodi sy'n peri’r problemau posibl hyn.

13:35

Edrychwch, nid oes unrhyw un yn ennill mewn senario lle nad oes gennym gytundeb, yn seiliedig ar y trafodaethau a gafwyd. Credaf mai un man lle mae'r Aelod yn gwbl gywir yn ei asesiad yw pan fo'n ddweud y dylai hon fod yn fwy na dadl ynghylch pwy fydd fwyaf ar ei golled a sicrhau nad y DU fydd fwyaf ar ei cholled. Er mwyn sicrhau ein bod oll yn elwa i'r eithaf, a'n bod oll yn colli cyn lleied ag y bo modd, rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd bragmatig iawn tuag at y trafodaethau, ac mae'r ymagwedd bragmatig honno'n golygu bod yn rhaid i Brif Weinidog y DU anghofio'r llinellau coch y mae wedi bod mor hoff ohonynt dros fisoedd lawer a mabwysiadu safbwynt gyda'r nod o gynnal cyflogaeth. Ac mae hynny'n golygu parhau i fod yn rhan o undeb tollau a mynediad rhydd a dirwystr at y farchnad sengl. Rydym wedi bod yn gyson ers peth amser bellach yn ein safbwynt, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU a'i Chabinet yn mabwysiadu'r safbwynt hwnnw yn y pen draw hefyd.

Gwasanaethau Rheilffordd a Metro

2. Sut y bydd etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn elwa ar fuddsoddi mewn rheilffyrdd a gwasanaethau metro? OAQ52455

Bydd pobl leol yn fwy cysylltiedig a byddant yn gallu manteisio ar gyfleoedd swyddi, iechyd a hamdden. Bydd y metro yn darparu pedwar trên yr awr i bob un o gymunedau Blaenau'r Cymoedd i'r gogledd o orsaf Caerdydd Heol y Frenhines, o 2022 ymlaen ar gyfer Merthyr Tudful, ac o 2023 ymlaen ar gyfer Rhymni.

Diolch am y wybodaeth honno, sy'n nodi'r manteision clir wrth inni gyflawni ymrwymiad maniffesto 2016 yn y cyswllt hwn. Yn yr adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree, 'Effective housing for people on low incomes in the Welsh Valleys', cafwyd argymhelliad—argymhelliad 3, mewn gwirionedd—i wella mynediad at gyflogaeth. A dywed yr adroddiad mai'r unig ffordd y gall mentrau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth fod yn effeithiol yw os ydynt yn arwain at gyflogaeth gynaliadwy o safon, ac mewn rhai rhannau o'r Cymoedd, sy'n cynnwys lleoedd fel cwm Rhymni uchaf mae'n debyg, bydd angen gwaith adnewyddu economaidd sylweddol er mwyn sicrhau hynny. Nawr, o gofio mai ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar gael i ymyrryd yn uniongyrchol er lles economaidd y cymunedau hyn, ymddengys i mi, pan fydd ysgogiadau pŵer economaidd yn nwylo Llywodraeth Cymru, fel gyda buddsoddiad yn y fasnachfraint reilffordd a'r metro, bydd yn rhaid inni sicrhau mai ein cymunedau mwy ynysig, megis cwm Rhymni uchaf, sy'n elwa'n uniongyrchol o'r prosiectau hyn. A gaf fi ofyn i chi felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y byddwch yn ei wneud i sicrhau bod hyn yn digwydd?

Wel, buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod fod gan drafnidiaeth rôl hanfodol i'w chwarae yn adfywio a thyfu'r economi nid yn unig mewn canolfannau cyfoeth sefydledig, ond hefyd mewn ardaloedd mwy difreintiedig. A bydd Rhymni yn cael buddsoddiad mewn platfform cilfach newydd; yn gweld buddsoddi mewn mannau cadw trenau ar y trac a phwyntiau gwefru a gwelliannau o ran mân waith cynnal a chadw. A bydd hyn yn cefnogi'r trenau ychwanegol a mwy o faint a fydd yn dod yn y dyfodol, ac mae'n ychwanegol at y pedwar gwasanaeth yr awr o 2023 ymlaen. Ond rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod y bydd mân waith cynnal a chadw ar y cerbydau yn cael ei gwblhau yng nghyfleusterau cadw trenau Rhymni, gan ddarparu cyfle ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, fel roedd hi'n gywir i nodi.

Mae trigolion y Cymoedd uchaf wedi dweud wrthyf sawl tro mai un o'r rhwystrau mwyaf i deithio i Gaerdydd i chwilio am waith yw'r gost, ac nid amlder y gwasanaeth na'r cyflymder o reidrwydd. Felly, o safbwynt hynny, a gaf fi groesawu'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a deiliad newydd y fasnachfraint i leihau prisiau siwrneiau o'r Cymoedd uchaf, ac a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yr un peth yn wir i bobl sy'n teithio o Gaerdydd i Ferthyr Tudful i weithio neu fel arall, ac a fydd hefyd yn wir i bobl sy'n dod o'r Cymoedd uchaf i Gasnewydd?

Ie, y nod gyda gwastatáu yw sicrhau bod y bobl sy'n manteisio ar gyfleoedd neu'n dod o'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd yn talu llai, gan wneud yn siŵr ein bod yn darparu rhywfaint o gyfle cyfartal o ran mynediad a chyfleoedd gwaith. Mae'n werth dweud mai un o'r prif rwystrau sy'n wynebu pobl nad ydynt mewn gwaith yw cost ac argaeledd trafnidiaeth, a nodais un ystadegyn penodol sy'n peri cryn bryder i mi, sef nad yw 20 y cant o bobl ifanc yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gallu mynychu eu cyfweliadau gwaith gan na allant fforddio neu gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw hynny'n dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain, a chredaf fod y cynlluniau teithio rhatach a'n cytundeb gwastatáu gyda'r gweithredwr a'r partner datblygu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael mynediad at gyfleoedd gwaith.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn. Cyn i mi ddechrau, fe wnaf i egluro: cwestiynau i chi yw'r rhain, nid i'r Gweinidog dros dreftadaeth na'r iaith.

Buaswn i'n licio dechrau trwy longyfarch yr holl fusnesau hynny sydd ag agwedd iach ac adeiladol tuag at y Gymraeg, nid yn unig oherwydd eu bod nhw'n cefnogi'r Gymraeg a'n diwylliant ni, ond hefyd oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu busnes. Ond, wrth gwrs, mae yna eithriadau. Felly, o ystyried sylwadau gwbl sarhaus gan un cwmni—ni wnaf ei enwi—am yr iaith dros y dyddiau diwethaf, a ydych chi'n credu y gallwn ni wastad ddibynnu ar ewyllys da cwmnïau preifat i barchu a defnyddio'r iaith Gymraeg?

Ni chredaf y gallwn ddibynnu ar ewyllys da yn unig o reidrwydd; credaf mai'r hyn sydd ei angen yw ewyllys da, rhywfaint o gydweithredu â Llywodraeth Cymru, ond cydnabyddiaeth hefyd, os ydych am fod yn llwyddiannus mewn busnes, yn enwedig yn y sector manwerthu—ac mae'r cwmni nad yw'r Aelod wedi'i enwi yn rhan o'r sector manwerthu—mae angen i chi ymgysylltu â'r gymuned rydych yn dibynnu arni, yn y bôn, i oroesi. Os ydych yn gelyniaethu cyfran sylweddol o'r gymuned honno, ni ddylech ddisgwyl iddynt fod yn gwsmeriaid. Ac felly, nid yn unig ei bod yn gwneud synnwyr busnes da i fabwysiadu a chroesawu'r iaith Gymraeg, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr masnachol da, gan y gallwch ychwanegu gwerth at eich cynnyrch a'ch gwasanaethau drwy ddefnyddio rhywbeth sy'n unigryw, ac mae'r iaith yn hollol unigryw i Gymru.

Mae hynny'n hollol iawn. Eto, o dynnu sylw at y busnesau hynny sydd eisoes yn gweithredu'n gadarnhaol, mae o'n fy nharo i y dylai'r busnesau hynny eu hunain gael eu defnyddio i annog busnesau eraill i fod yn fwy cadarnhaol tuag at yr iaith, yn enwedig hefyd o ystyried y cyfraniad mawr y gall y sector breifat ei wneud tuag at gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Pam felly, os caf fi ofyn, nad oedd apêl ar fusnesau i ymestyn eu cefnogaeth a'u defnydd o'r Gymraeg fel un o alwadau gweithredu craidd eich strategaeth economaidd chi ac yn enwedig lle mae yna gwmnïau wedi derbyn arian Llywodraeth?

Wrth gwrs, gyda'r contract economaidd, fe'i cynlluniwyd i sbarduno twf cynhwysol, a bydd y galwadau i weithredu yn lens newydd y byddwn yn cefnogi busnesau drwyddi, gyda'r bwriad o leihau'r bwlch cynhyrchiant rhyngom a llawer o wledydd Ewrop. O fewn y contract economaidd, a gynlluniwyd, dywedaf eto, er mwyn sbarduno twf cynhwysol, ceir pwynt penodol yn y meini prawf ar gyfer hyrwyddo gwaith teg, ac mae gwaith teg yn golygu bod yn rhaid inni sicrhau bod gan bobl fynediad at swyddi o ansawdd da a'u bod yn gallu defnyddio'u sgiliau, ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y gallu i siarad yr iaith y mae pobl yn dewis ei siarad. Credaf y bydd y contract economaidd, wrth sbarduno twf cynhwysol, nid yn unig o fudd i leihau'r bwlch mewn anghydraddoldeb o ran cyfoeth a lles, ond bydd o gymorth hefyd i sicrhau ein bod yn lleihau'r bwlch rhwng y bobl sy'n gweithio neu sy'n byw mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn aml mewn ardaloedd mwy gwledig a difreintiedig, a'r economïau mwy llwyddiannus hynny mewn ardaloedd trefol iawn.

Credaf eich bod yn iawn—mae cyfeiriad yn y strategaeth economaidd at ddefnyddio datblygiad economaidd i dyfu a datblygu'r iaith, ond ni cheir unrhyw gyfeiriad at sut y gall yr iaith ei hun hybu twf economaidd. Cadeiriais un o gyfarfodydd diweddar Cymru Ryngwladol, y grŵp trawsbleidiol, a buom yn edrych ar adroddiad gan y Cyngor Prydeinig ar rym gymell tawel a sut i fanteisio i'r eithaf ar ein grym cymell tawel. Gwnaeth nifer o argymhellion, a rhai diddorol iawn hefyd. Un peth a gryfhaodd rym cymell tawel yr Alban dramor oedd y ffaith eu bod wedi cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn ddiweddar—ac rwy'n hyderus y cawn un yng Nghymru heb fod yn rhy hir hefyd—ond roedd hynny'n rhoi hwb i hunaniaeth y genedl. A pheth arall a argymhellodd oedd y dylem dynnu sylw at y pethau sy'n gwneud inni sefyll allan oddi wrth weddill y DU, ac mae un peth amlwg, sef yr iaith Gymraeg. Felly, onid oes llawer mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i ddefnyddio'r iaith a'r ffaith ei bod yn gwneud inni sefyll allan a bod yn wahanol fel arf ar gyfer tyfu ein heconomi yng Nghymru?

13:45

Rwy'n cytuno'n llwyr, a chredaf fod Ewro 2016 yn enghraifft berffaith i ddangos sut y gall sylw cyfandir cyfan—y byd i gyd, mewn gwirionedd—gael ei hoelio ar wlad fach a chanolbwyntio ar beth yw ei nodweddion unigryw. Yn achos Ewro 2016, siaradwyd y Gymraeg dros bob man, ac roedd hynny'n ychwanegu gwerth. Ond rwy'n falch iawn o allu dweud y byddwn yn edrych ar brosiect penodol yng Nghymru a fydd yn archwilio potensial yr iaith Gymraeg i sbarduno datblygiad economaidd. Prosiect Arfor fydd y prosiect hwnnw, prosiect a argymhellwyd gan Adam Price, a bydd yn cael ei ddatblygu gan y Llywodraeth hon.

Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am ymweld ag abaty Nedd a'r gwaith haearn yn ddiweddar iawn gyda Jeremy Miles a minnau. Mae'n rhaid imi ddweud bod y cyfeillion yn falch iawn eich bod wedi dod i ymweld â hwy, fel y gallent ddangos y gwaith caled y maent wedi'i wneud yn hyrwyddo a gofalu am y safle hwnnw, er nad ydynt yn berchen arno. Yn amlwg, yr awdurdod lleol sy'n berchen arno.

Mae twristiaeth yn un o elfennau gwaith Tasglu'r Cymoedd, a gwn eich bod yn cytuno â mi a'r cyfeillion fod gan y safleoedd hyn, ynghyd â safleoedd diwylliannol pwysig eraill yng nghwm Nedd a chwm Dulais, gryn dipyn o botensial twristiaeth. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru ein cynorthwyo i fanteisio ar y twf mewn cyfoeth sy'n deillio o'r fargen ddinesig, a hyrwyddo twristiaeth yng Nghastell-nedd fel cynnig cydlynol? A ydych wedi rhoi rhagor o ystyriaeth i raglen debyg i Cymru Gydnerth er mwyn cynorthwyo i gefnogi grwpiau cymunedol, fel cyfeillion y gwaith haearn, i reoli a hyd yn oed i gymryd cyfrifoldeb llawn am rai o'n safleoedd diwylliannol pwysig?

Fe wnes i fwynhau fy ymweliad â'r abaty a'r gwaith haearn—

Ie, Mynachlog Nedd. Mae'n well imi ateb Suzy yn Gymraeg, onid yw?

Gwnes i fwynhau fy nhaith yn arbennig. Roedd hi'n hyfryd gweld ansawdd y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn barod ar yr abaty, yn dod â'r adeilad yn ôl i ddiogelwch—nid y cyfan ohono fo, ond rhannau ohono fo. Ond wrth gwrs, chawsom ni ddim gweld y gwaith mwyaf ardderchog; nid yw eto wedi'i gwblhau, ond rydw i'n sicr ei fod o'n cael ei wneud i'r safon uchaf.

Y ffordd y mae Cadw yn gweithio: byddwn ni'n cydweithio fel corff. Mae'r corff yn parhau yn rhan o Lywodraeth Cymru, ond y mae o'n cael ei reoli yn annibynnol o fewn y Llywodraeth. Cyn bo hir, mi fydd yna hysbyseb pellach i benodi cadeirydd a bwrdd i Cadw, ac yna rydym ni'n gobeithio y bydd y bwrdd hwnnw wedyn yn gallu parhau â'r gwaith o gydweithio â chymunedau sydd yn barod wedi dangos eu gofal am eu hetifeddiaeth. Mae yna enghraifft dda iawn wedi digwydd yn ddiweddar lle'r ydym ni wedi cael castell yn feddiant, yng Nghaergwrle a'r Hôb, oddi wrth y cyngor cymuned, ac y mae'r trafodaethau yn parhau o hyd i'r gwirfoddolwyr a oedd yn edrych ar ôl yr ardal o gwmpas y castell i barhau i wneud hynny, tra bod pobl sydd yn gweithio yn uniongyrchol i Cadw—contractwyr Cadw—yn gallu gofalu ar ôl yr henebion.

Felly, rydym ni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth yr ydym ni'n ei chael gan wirfoddolwyr. Ac mi fyddaf i yn sicrhau, yn unrhyw gynlluniau a fydd yn cael eu datblygu ar gyfer glanhau ac addasu, yn arbennig y gwaith haearn sydd mor hanesyddol o ran adeiladu llongau ager, ac yn y blaen, yng Nghymru, y bydd y gwaith yna yn cael ei sicrhau, a bydd y gwirfoddolwyr yn parhau i gydweithio.

Wel, diolch yn fawr iawn am hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n hapus iawn gyda'ch ateb, oherwydd pan fo gennym gymaint o unigolion yn ein cymunedau sy'n awyddus iawn i gefnogi'r lleoedd lle maent yn byw, a chynorthwyo i'w cadw'n gryf a chynaliadwy, ni ddylem anwybyddu'r cyfleoedd i wneud hynny.

Wrth gwrs, y penwythnos diwethaf, roedd hi'n Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, a gwn fod llawer ohonom yma wedi bod yn talu teyrnged i aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd arfog yn ein ffyrdd ein hunain. Addawodd y Ceidwadwyr Cymreig greu amgueddfa filwrol genedlaethol aml-safle yn Nghymru, gan adeiladu ar a chynnwys yr amgueddfeydd sydd gennym eisoes. Byddai hyn yn gyfle nid yn unig i ddangos i'n cyn-filwyr ac aelodau presennol y lluoedd arfog gymaint y maent yn ei olygu i ni, ac i ddathlu eu llwyddiannau, ond hefyd i archwilio'r cwestiynau ehangach ynglŷn â rhyfel a natur newidiol rhyfela, a gwaith heddychlon ac anfilwrol y lluoedd hefyd. Y llynedd, ymrwymodd Llywodraeth y DU £2 filiwn i gefnogi amgueddfa feddygaeth filwrol yng Nghymru. Mae amgueddfa bêl-droed dan ystyriaeth yma yng Nghymru. Beth yw eich barn ynglŷn ag amgueddfa filwrol genedlaethol i Gymru?

13:50

Nid wyf wedi ystyried y cwestiwn yma, oherwydd rydw i'n parhau i ddisgwyl adroddiad ar un cynllun arall yn arbennig, sef oriel gelf gyfoes, ac mi fyddaf i’n ystyried honno pan ddaw'r adroddiad. Mae yna, wrth gwrs, nifer o elfennau o'n traddodiad milwrol yn cael eu coffau yn barod. Mae gan y gwahanol rannau o'r lluoedd arfog amgueddfeydd bychain. Mae yna amgueddfa, fel y gwyddoch chi, o fewn castell Caerdydd—Firing Line. Roeddwn i'n arfer bod yn gysylltiedig â'r amgueddfa honno cyn i fi ddod i'r swydd yma, ac felly rydw i'n hapus iawn i edrych ar y posibiliadau, ond mi fyddai'n rhaid i hynny fod yn bartneriaeth gyda'r lluoedd arfog eu hunain, os ydym ni'n mynd i dderbyn arteffactau neu unrhyw dystiolaeth hanesyddol ar gyfer unrhyw arddangosfa felly, neu amgueddfa felly. Nid wyf wedi gweld y cynllun gan y blaid Geidwadol Gymreig, ond mi fyddwn i'n croesawu cael cyfarfod i drafod hyn, pe byddech chi'n dymuno.

Diolch yn fawr iawn am y cynnig. Gallaf argymell maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig fel rhywbeth da i'w ddarllen ryw gyda'r nos. [Torri ar draws.] O, diar. Yn gynharach y mis hwn, trydarodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod

Yn falch iawn o gyhoeddi bod un o'r cynyrchiadau diweddaraf i gael eu comisiynu yn y DU gan @NetflixUK yn cael ei ffilmio yng Nghymru ar hyn o bryd diolch i gefnogaeth @LlywodraethCym.

Mae hynny'n newyddion gwych, rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, gyda'n hymchwiliad parhaus i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cyfryngau a'r ffaith bod y gyllideb fuddsoddi yn y cyfryngau wedi'i hatal dros dro, a allwch gadarnhau mai cefnogaeth ariannol sydd dan sylw yma? Ac os felly, o ba gronfa neu raglen fenthyca y daw'r cymorth hwnnw?

Rydym ni ar hyn o bryd yn edrych ar ein rhaglen fuddsoddi. Rydym ni yn edrych yn arbennig ar sut y gellir cyfuno datblygiad Cymru Greadigol, sy'n ymrwymiad ar gyfer y Llywodraeth gan Lafur Cymru. A'r drafodaeth rydw i wedi'i chael hyd yn hyn ydy y byddem ni'n rhagweld, pan fyddwn ni'n sefydlu Cymru Greadigol fel corff—a byddaf i'n dweud mwy am hyn, o bosibl, yn y pwyllgor yn fuan, oherwydd rydw i'n bwriadu rhoi tystiolaeth ar y mater yma—yna y byddwn ni'n cyfuno'r cronfeydd ar gyfer buddsoddi gyda gwaith Cymru Greadigol, fel y bydd y paneli presennol sydd yn penderfynu ar gefnogaeth ar gyfer y cyfryngau ac ar gyfer ffilmiau yn gallu cael dod yn rhan o'r corff hwnnw. Dyna rydw i'n meddwl fyddai'r ffordd resymol o symud ymlaen, ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar hynny eto.

Diolch, Lywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet o'r farn y bydd methu lleihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei gwneud yn anos gweithredu eich strategaeth economaidd, fel yr amlinellwyd yn eich dogfen 'Ffyniant i Bawb'?

Nid o reidrwydd, oherwydd mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi pwyslais penodol ar weithio'n rhanbarthol, a chan fod y prif swyddogion rhanbarthol ar waith gennym bellach a bod gweithio rhanbarthol cryf yn digwydd drwy ddatblygiad y bargeinion twf a'r bargeinion dinesig, rwy'n hyderus y bydd modd inni gryfhau'r economïau rhanbarthol ymhellach gyda'u hunaniaeth unigryw eu hunain yn y blynyddoedd i ddod.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond onid yw'n credu bod posibilrwydd go iawn y gallai'r ymagwedd amlhaenog hon tuag at gyflawniad economaidd droi'n hunllef fiwrocrataidd, a bod y gormodedd o lywodraeth leol yn gwaethygu'r posibilrwydd hwn?

Buaswn yn dweud bod angen inni ddatrys rhai materion pwysig sy'n ymwneud â gweithgarwch awdurdodau lleol, gan gynnwys cynllunio, er enghraifft. Mae hefyd yn hanfodol fod gennym broses symlach a mwy tryloyw ar gyfer cefnogi busnesau—dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn cydgrynhoi nifer o gronfeydd ar ffurf cronfa dyfodol yr economi. Ond yn y misoedd i ddod, wrth i ni roi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith ymhellach, gyda ffocws penodol ar ran ranbarthol y cynllun, rwy'n awyddus i archwilio lle y gallwn gydgrynhoi cymaint â phosibl ar y gweithgarwch y mae llywodraeth leol yn ei gyflawni ar y cyd ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud rhagor i leihau'r fiwrocratiaeth a'r weinyddiaeth y mae llawer o fusnesau yn cwyno amdanynt, ac i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hadnoddau cyfunol.

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond os edrychwn ar y sefydliadau sy'n gyfrifol bellach am ddarparu economi gref ar sail ranbarthol—y bargeinion dinesig, menter y Cymoedd, yr ardaloedd menter sy'n weddill, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac wrth gwrs, yr awdurdodau lleol—yn sicr, mae'r ffiniau rhwng yr holl gyrff hyn yn aneglur. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ffyddiog y gallant weithredu mewn modd cydweithredol a chosteffeithiol, ac a oes gennych dystiolaeth fod y cydweithrediad hwn yn digwydd mewn gwirionedd?

13:55

O ran y cynlluniau rhanbarthol sy'n cael eu llunio, credaf y bydd angen i'r cynlluniau hynny arwain at fframwaith ar gyfer gweithio'n rhanbarthol sy'n cael gwared ar y cymhlethdodau a all fod yn feichus, gyda gormod o sefydliadau a chyrff yn gwneud yr un peth â'r corff arall yn y bôn, ond mewn ffordd wahanol neu gydag ymarfer brandio gwahanol. Dywed busnesau wrthym fod arnynt eisiau un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl gymorth gan y Llywodraeth neu lywodraeth leol, ac o ran datblygu economaidd, ein bod yn canolbwyntio ar y ffactorau a all hybu cynhyrchiant, ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl y sgiliau cywir i lenwi swyddi gwag, a'n bod yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith cywir. Mae pob un o'r rhain yn elfennau o'r cynllun gweithredu economaidd ac rwy'n hyderus y byddwn, drwy gadw at y trywydd rydym wedi'i sefydlu bellach ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru, yn arwain at well lefelau o ffyniant—nid yn unig o ran cyfoeth, ond lefelau gwell o les hefyd.

Gweithredu'r Isafswm Cyflog

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r isafswm cyflog yng Nghymru? OAQ52459

Mae'r isafswm cyflog yn cael ei bennu gan Lywodraeth y DU ac mae'n berthnasol i bob cyflogwr yng Nghymru. Rydym yn cefnogi mesurau sy'n cynyddu incwm y cartref ac yn mynd ati'n weithredol i annog busnesau i ystyried talu'r cyflog byw fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai ei bod yn adeg addas i groesawu penodiad Linda Dickens yn gadeirydd comisiwn gwaith teg Llywodraeth Cymru, oherwydd mewn perthynas â mater yr isafswm cyflog a hawliau gweithwyr yn gyffredinol, gallwn weld bod y gêm yn dechrau newid ar lefel Llywodraeth y DU, lle mae Brexiteers digyfaddawd yn dechrau sôn bellach am gyfleoedd yn sgil dadreoleiddio—hynny yw, cael gwared ar hawliau, safonau a thelerau ac amodau gweithwyr. Felly, credaf y dylid croesawu'r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru ar y cam hwn.

Y llynedd, nododd fy nghyd-Aelod, Jo Stevens, yr AS dros Ganol Caerdydd, y ffaith na fu unrhyw erlyniadau yng Nghymru yn 2016 am dorri rheolau'r isafswm cyflog. Rwyf newydd weld y cyhoeddiad ynglŷn â'r 10 erlyniad a fu ers hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, ymddengys yn glir iawn nad oes unrhyw ewyllys yn Llywodraeth y DU nac unrhyw adnoddau neu ymrwymiad i fynd i'r afael ag effaith yr economi gig a diffyg hawliau gweithwyr. Gŵyr pob un ohonom, fel Aelodau'r Cynulliad, am gwmnïau a materion sy'n codi lle y ceir achosion o dorri rheolau iechyd a diogelwch, telerau ac amodau, a lle mae'n amlwg nad yw'r isafswm cyflog yn cael ei dalu neu ei fod yn cael ei gamddefnyddio drwy systemau talu cymhleth.

Onid ydych yn cytuno â mi, yn gyntaf, fod sefydlu'r comisiwn gwaith teg yng Nghymru fel ethos cyflogaeth yng Nghymru yn rhywbeth y mae ei angen yn daer? Yn ail, onid yw'n hen bryd datganoli mater isafswm cyflog, neu'n sicr y broses o'i orfodi, i Lywodraeth sy'n barod i'w amddiffyn?

Mae'r Aelod yn gwneud sawl pwynt pwysig a buaswn yn awgrymu y dylai unrhyw un sy'n siarad yn frwdfrydig ynghylch cyfleoedd dadreoleiddio roi ychydig o ystyriaeth yn gyntaf i'r hyn sydd wedi digwydd gyda gwasanaethau bws, ac asesu a yw cyfleoedd dadreoleiddio yn rhywbeth sydd bob amser yn ddeniadol ac yn fuddiol i'r boblogaeth ehangach.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am groesawu penodiad cadeirydd y comisiwn gwaith teg a dweud, er bod y gwaith o orfodi'r cyflog byw statudol yn druenus o brin o adnoddau a bod yr isafswm cyflog yn druenus o brin o adnoddau yn y DU, fod hyn yn rhywbeth y mae ein bwrdd gwaith teg wedi'i gydnabod? Felly, wrth i ni newid o fwrdd gwaith teg i'r comisiwn gwaith teg, penderfynwyd y bydd gorfodi a sut y gallwn sicrhau bod hyn yn digwydd yng Nghymru yn rhan gynnar o ystyriaethau'r comisiwn. Dylai'r comisiwn fod yn adrodd yn ôl gydag argymhellion cynnar yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf a buaswn yn gobeithio, o gofio'i fod am fod yn faes blaenoriaeth, y bydd gorfodi'r broses bwysig hon yn rhan o'r adroddiad, gydag argymhellion yn ystod y gwanwyn nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod y Comisiwn Cyflogau Isel yn ymweld ag Ynys Môn heddiw ac yfory i wrando ar farn pobl yr effeithiwyd arnynt gan yr isafswm cyflog. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol cynnwys pawb, o fusnesau, gweithwyr ac undebau llafur—yn wir, unrhyw un â buddiant yn y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn—i sicrhau eu bod yn darparu tystiolaeth fel y gellir gosod isafswm cyflog y flwyddyn nesaf ar lefel briodol?

Buaswn yn cytuno bod cyfranogiad yn hanfodol. Mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau yn fusnesau hynod gyfrifol a lleiafrif bach yn unig sy'n gallu bod yn ddiegwyddor a chamfanteisio ar weithwyr. O ran gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau'r cyfraddau gorau y gellir eu talu wrth gwrs, mae angen ystyried llawer o elfennau. Ni ellir eu hystyried yn y broses o osod cyfraddau cyflog oni bai bod cyflogwyr yn cymryd rhan ynddi, ac am y rheswm hwnnw, buaswn yn sicr yn cytuno gyda'r Aelod bod angen cyfranogiad.

14:00
Trafnidiaeth Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau ategol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru? OAQ52460

Gwnaf. Ar hyn o bryd, mae cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys y gwaith o roi'r gwasanaeth rheilffyrdd nesaf a metro de Cymru ar waith. Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydlu cynllun i adolygu cwmpas y gwasanaethau ar gerrig milltir allweddol drwy gydol y contract. Lle bydd elfennau'n bodloni profion economaidd a phrofion cyflawnadwyedd, cânt eu rhoi ar waith gan Trafnidiaeth Cymru.

Gwrandewais â diddordeb ar ateb Ysgrifennydd y Cabinet i Dawn Bowden mewn perthynas â'r depo yn Rhymni, a rhaid imi ddweud nad yw'r hyn a gynigiwyd ganddo yn ddigon. Credaf y gellir gwneud mwy dros yr ardal economaidd haeddiannol honno, yn enwedig—. Soniodd am fannau cadw trenau a mân waith cynnal a chadw. Hoffwn ofyn iddo faint o swyddi y bydd hynny'n eu creu, a beth arall y gellir ei wneud yn ardal Rhymni.

Yn gyntaf oll, buaswn yn dweud bod darparu pedwar trên yr awr yn hynod o fuddiol i'r gymuned, a buaswn hefyd yn dweud, er y gwn eich bod o blaid sefydlu depo yno, fod opsiwn Ffynnon Taf yn fwy cyflawnadwy. Byddai'r dewis arall wedi costio oddeutu £144 miliwn yn ychwanegol. Ond rydym yn awyddus i sicrhau y defnyddir y metro i ailddatblygu cymunedau, yn enwedig lle bydd canolfannau trafnidiaeth a gorsafoedd yn cael eu huwchraddio, ac mae'n werth cofio y bydd pob un o'r gorsafoedd yn cael eu huwchraddio o ganlyniad i gytundeb rhyngom a KeolisAmey. Mae'n ffaith syfrdanol, dros y 15 mlynedd diwethaf, fod oddeutu £600,000 wedi'i wario ar orsafoedd, ac yn y 15 mlynedd nesaf, bydd oddeutu £194 miliwn yn cael ei wario ar orsafoedd. Rydym hefyd wedi cael cytundeb y bydd llawer o'r gorsafoedd hynny'n cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad busnes a thwf busnes, yn enwedig y gorsafoedd gyda lle a swyddfeydd ar gael eisoes, ond lle nad ydynt wedi cael eu defnyddio i'r eithaf.

Ni allaf roi'r union fanylion o ran nifer y swyddi a gaiff eu creu o ganlyniad i'r mân waith cynnal a chadw a fydd yn mynd rhagddo, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y byddwn yn ceisio manteisio ar bob cyfle a ddaw yn sgil y symiau aruthrol o arian rydym yn eu gwario yn y Cwm i sicrhau bod ardal Rhymni yn denu cynifer o swyddi newydd â phosibl i'r gymuned.

Ysgrifennydd y Cabinet, ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am gontractwyr sifil arbenigol ar gyfer fframwaith y gwaith ar y rheilffyrdd, sy'n cynnwys gwaith ategol ar orsafoedd, cyfnewidfeydd, meysydd parcio, ffyrdd a llwybrau a gwaith adeiladu cyffredinol arall sy'n gysylltiedig â gwella'r rheilffyrdd. Fodd bynnag, yn 2014, cyhoeddodd eich rhagflaenydd y byddai Casnewydd yn cael £4 miliwn ar gyfer pont droed newydd i groesi'r orsaf drenau, gwelliannau i'r orsaf fysiau newydd ac ar gyfer safleoedd bws yn y ddinas. Rwy'n deall na ddarparwyd y cyllid hwn ac na chafodd y gwaith ei wneud hyd yn oed. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau hyn a rhoi gwybod inni pam na fwriwyd ymlaen â'r gwelliannau hyn, er iddynt gael eu cyhoeddi yng Nghymru? Diolch.

Diolch. A gaf fi sicrhau'r Aelod y byddaf yn edrych ar hyn? Efallai y bydd angen ymgynghori â Network Rail. Bydd angen imi edrych yn fanwl ar y buddsoddiad a gyhoeddwyd, a gwirio yn erbyn hynny yr hyn a gyflawnwyd mewn gwirionedd. Os ceir achos o dorri addewidion, bydd angen imi asesu wedyn pam na wnaed y buddsoddiad hwnnw yn yr orsaf fel y mae'r Aelod yn ei amlinellu.

Effaith Economaidd Cysylltedd Digidol

5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Arweinydd y Tŷ ynghylch effaith economaidd cysylltedd digidol? OAQ52457

Rwy'n trafod pwysigrwydd cysylltedd digidol ledled Cymru yn rheolaidd gydag arweinydd y tŷ, ac rydym o'r un farn ynglŷn â'i bwysigrwydd enfawr i gynaliadwyedd a thwf economaidd ledled y wlad.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n arbennig o falch eich bod yn gweithio gydag arweinydd y tŷ ar y mater a'r cyfle hwn, mewn gwirionedd, oherwydd, yn ogystal â manteision ffeibr llawn a band eang a chysylltedd digidol i'r gymuned ac i'r cartref, ceir manteision economaidd clir hefyd. Dengys ystadegau'n glir y bydd y wlad yn cael £20 am bob £1 a fuddsoddir mewn band eang, ac mae hwn yn elw gwych ar fuddsoddiad mewn seilwaith. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod angen inni wneud popeth a allwn i fuddsoddi mewn cysylltedd digidol ffeibr llawn, ac yn cefnogi'r syniad o sefydlu canolfan gigabit yn ac o gwmpas ardal y Fflint a Wrecsam, fel rwyf eisoes wedi'i awgrymu wrth arweinydd y tŷ?

Wel, rwyf wrth fy modd y bydd cam nesaf Cyflymu Cymru yn cael ei gyhoeddi gan arweinydd y tŷ yn yr haf. Mae'r Aelod yn llygad ei le wrth nodi manteision economaidd cysylltedd digidol. Yn wir, mae perfformiad cryf y sector digidol wedi helpu i greu neu ddiogelu oddeutu 11,000 o swyddi uchel eu gwerth yn yr wyth mlynedd diwethaf o ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae perfformiad y sector yn y flwyddyn ddiwethaf yn arbennig o syfrdanol, gan fod bron i 30 y cant o brosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor a gofnodwyd yng Nghymru wedi dod drwy'r sector digidol. Felly, mae'n gyfrannwr pwysig iawn i gyfoeth y genedl. O ran gogledd Cymru yn benodol, wel, rwy'n falch iawn o ddweud bod y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu strategaeth i wella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth. Gwn y bydd arweinwyr cais y fargen twf yn awyddus iawn i archwilio pob cyfle i fanteisio ar y seilwaith a'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.

14:05

Pan gyhoeddoch chi eich adolygiad arloesi digidol, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch eich bod yn awyddus i ddatblygu potensial ein rhanbarthau er mwyn iddynt gynnal gwell swyddi yn nes at adref, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn cytuno â chi yn ei gylch. Rydych hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, fel finnau, i fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru. Nawr, er mwyn sicrhau bod canolbarth Cymru yn cysylltu ag economi ehangach canolbarth Lloegr, dylai gwelliannau o ran cysylltedd band eang cyflym iawn a signal ffonau symudol fod yn rhan o unrhyw fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru. Tybed a fyddech yn cytuno â mi ar hynny?

A gaf fi ofyn pa gamau rydych yn eu cymryd ar y cyd â'ch cyd-Aelod, arweinydd y tŷ, i sicrhau nad yw'r gagendor digidol rhwng canolbarth Cymru a rhannau eraill o Gymru yn ehangu ymhellach, gan fod hynny, yn anffodus, yn digwydd ar hyn o bryd?

Wel, rwy'n hyderus, gyda cham nesaf rhaglen Cyflymu Cymru, y byddwn yn gweld y bwlch hwnnw'n lleihau. Bwriad yr ail gam, cam nesaf y prosiect, yw sicrhau bod yr eiddo anodd eu cyrraedd yn cael eu cysylltu, gan arwain felly at leihau'r bwlch a nodwyd gan yr Aelod.

A buaswn yn cefnogi galwad yr Aelod i sicrhau bod y fargen twf yng nghanolbarth Cymru yn cydweddu ag ymyriadau a bargeinion dros y ffin. Mae'n gwbl hanfodol fod lefel dda o gydweithredu a chydweithio'n digwydd ar sail drawsffiniol. Rwy'n sicr yn annog hynny. Gwn fod yr Arglwydd Bourne hefyd wedi dweud y dylai hyn ddigwydd, ac rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod heddiw fy mod yn bwriadu cyfarfod ag ef, os yw ei ddyddiadur yn caniatáu, ar 24 Gorffennaf i gyfarfod â nifer o fusnesau yn nghanolbarth Cymru i drafod sut y gallwn hyrwyddo datblygiad economaidd mewn lleoedd fel y Drenewydd a'r Trallwng, gan ddefnyddio nid yn unig y seilwaith adeiledig megis ffyrdd a rhwydweithiau rheilffyrdd, ond y seilwaith digidol hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae bargen ddinesig Bae Abertawe yn seiliedig ac yn dibynnu ar gysylltedd digidol. Yn yr achos busnes cychwynnol ar gyfer y fargen ddinesig, cynigiwyd gosod cebl trawsatlantig newydd â chapasiti terabit rhwng Efrog Newydd a Bae Oxwich, ond ni chafodd ei gynnwys yn y fargen derfynol. Byddai'r cyswllt newydd wedi rhoi rhanbarth Bae Abertawe ar draffordd ddigidol, gan ddarparu nid yn unig cyflymderau uwch a gwell capasiti, ond hefyd, yn fwy pwysig, cuddni is. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth a ddigwyddodd i'r cebl trawsatlantig newydd?

Wel, roeddwn bob amser o'r farn fod y weledigaeth a amlinellwyd gan Syr Terry Matthews yn gwbl ardderchog, ac mae'n weledigaeth a ddefnyddiwyd i lunio bargen ddinesig Bae Abertawe. Nawr, cyfrifoldeb arweinwyr awdurdodau lleol yw llunio bargen ddinesig sy'n seiliedig ar gryfderau presennol yn ogystal â chyfleoedd y rhanbarth yn y dyfodol. Gwn fod arweinwyr dinas-ranbarth Bae Abertawe yn benderfynol o wneud y gorau o'r dulliau sydd ar gael iddynt drwy'r fargen, ac rwy'n eu hannog i barhau i feddwl am y weledigaeth a amlinellwyd gan Syr Terry Matthews ac i sicrhau bod yr ymyriadau a'r buddsoddiadau a wneir yn y rhanbarth yn sicrhau'r gwerth mwyaf posibl i'r bobl y cawsant eu llunio i'w gwasanaethu.

Hyrwyddo Ymgysylltiad Moesegol mewn Chwaraeon

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon? OAQ52449

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod Chwaraeon Cymru yn gweithredu ar ein rhan fel y corff a noddir gan y Llywodraeth ym maes chwaraeon. I'r perwyl hwnnw, cynhaliodd gynhadledd y llynedd ar foeseg ac uniondeb, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod gwerthoedd chwarae teg mewn chwaraeon, a'r angen i bob sefydliad chwaraeon ac unigolyn gynnal y lefelau uchaf o uniondeb.

Rwy'n falch iawn o glywed eich ymateb, Weinidog, ond cyfarfûm â Sports Chaplaincy Wales yr wythnos diwethaf. Mae ganddynt 50 o gaplaniaid gwirfoddol yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon ledled y wlad—gan gynnwys rhai o'n clybiau mwyaf—Caerdydd, clwb pêl-droed Dinas Abertawe, y Gweilch, y Scarlets a Gleision Caerdydd yn eu plith. Maent yn gwneud llawer iawn o waith yn darparu gwerth oddeutu £0.5 miliwn o oriau gwirfoddol ar ffurf gofal bugeiliol, hybu ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon yn clybiau y maent yn gweithio ynddynt, ymdrin â phethau fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac yn wir, helpu pobl drwy eu problemau personol. Tybed a allech ddweud wrthym pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a gwasanaethau caplaniaeth chwaraeon, ac os na fu unrhyw ymgysylltiad, a fyddech yn barod i gyfarfod â hwy gyda mi er mwyn trafod sut y gallant gefnogi uchelgais y Llywodraeth i sicrhau bod gennym athletwyr moesegol yng Nghymru yn y dyfodol.

14:10

Buaswn wrth fy modd yn cydweithio gyda chaplaniaid yn y maes hwn. Rwy'n ymwybodol o rai o'r caplaniaid chwaraeon hyn ac rwy'n edmygu eu gwaith yn fawr iawn. Rwy'n meddwl yn benodol am y gwaith caplaniaeth sy'n mynd rhagddo yn Abertawe. Felly, buaswn yn fwy na pharod i gymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw gan ei bod yn bwysig annog gweithgarwch gwirfoddol cymunedau ffydd, ac mae hynny'n cynnwys yr holl gymunedau ffydd, yn amlwg, ac efallai fod lle i gael rhagor o gaplaniaethau dyneiddiol yn y maes hwn, ond nid wyf am drafod hynny y prynhawn yma.

Un o'r materion sy'n peri pryder imi, sy'n fater moesegol enfawr, yw'r cysylltiad cynyddol rhwng y diwydiant gamblo a chwaraeon. Mae ymchwil a wnaed gan goleg Goldsmiths yn Llundain yn dangos bod logos cwmnïau gamblo i'w gweld ar gemau a ddarlledir ar y teledu y rhan fwyaf o'r amser. Mae'n ymgais fwriadol i gyflyru meddyliau plant i feddwl bod gamblo yn rhan o fod yn gefnogwr chwaraeon, ac mae hynny'n gwbl resynus yn fy marn i. Nawr, mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr wedi cyhoeddi y bydd yr holl gytundebau nawdd â chwmnïau betio yn dod i ben, ond yn anffodus, nid yw rygbi wedi cicio gamblo allan o'r gêm eto. Felly, beth y credwch y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â nawdd betio mewn chwaraeon, sy'n troi'r peth yn endemig yn yr un ffordd ag yr arferai'r cwmnïau tybaco mawr ei wneud yn y gorffennol?

Yn sicr, rwy'n derbyn y pwyntiau a wnewch, a byddwch yn cofio bod y Prif Weinidog wedi ymateb yr wythnos diwethaf i gwestiwn gan ein cyfaill yma, Mick Antoniw, am y grŵp trawslywodraethol a sefydlwyd i ddatblygu dull strategol o leihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru, a chredaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych eto ar argymhellion adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, a alwodd am weithredu cydgysylltiedig ac a nododd weithgarwch newydd a allai fod yn angenrheidiol ar lefel Cymru a lefel y DU. A chan fy mod wedi cael fy holi ynglŷn â'r berthynas rhwng pêl-droed, ac yn fwy penodol, rhwng rygbi a betio, byddaf yn sicr yn codi'r materion hyn gyda chyrff rheoli chwaraeon lle mae'n ymddangos bod gweithgarwch gamblo'n cael ei hyrwyddo ochr yn ochr â gweithgarwch chwaraeon, gan nad dyna yw rôl y cyrff rheoli chwaraeon. Rwy'n deall bod cyrff rheoli chwaraeon yn elwa o incwm mewn ffyrdd gwahanol, ac mae hwnnw'n fater masnachol iddynt hwy, ond lle mae iechyd y boblogaeth yn cael ei niweidio drwy hyrwyddo gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chwaraeon, dylem ni, y Llywodraeth, ymyrryd.

Tyfu'r Economi

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn tyfu'r economi? OAQ52439

Gwnaf. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd i dyfu'r economi a gwella'r amgylchedd busnes ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Cymysg oedd perfformiad yr ardaloedd menter o ran creu swyddi a rhoi hwb i'r economi ac adfywio yng Nghymru. Cymaint felly fel bod pwyllgor economaidd y Cynulliad wedi dweud bod y diffyg tystiolaeth wedi'i gwneud yn anodd cynnal dadansoddiad llawn o'u cyfraniad i economi Cymru.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i osod targedau clir a realistig ar gyfer yr ardaloedd menter, ynghyd ag adroddiadau blynyddol sy'n cynnwys data manwl ar eu perfformiad, er budd tryloywder, fel y gellir monitro a chraffu'n briodol ar eu cyfraniad i economi Cymru?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod yr ardaloedd menter yng Nghymru wedi cael graddau amrywiol o lwyddiant? Mae hynny i raddau helaeth oherwydd bod pob un o'r ardaloedd menter ar gamau amrywiol o'u datblygiad. Mae rhai'n llawer mwy datblygedig, ac mae gan rai fwy o weithgarwch busnes wedi'i sefydlu ynddynt eisoes, a gall hynny weithredu fel magned i ddenu buddsoddiad newydd. Mae'r rhwydwaith cynghori wrthi'n cael ei ddiwygio ac mae'r bensaernïaeth sy'n ein cynghori, gan gynnwys ar weithgaredd yr ardaloedd menter, yn cael ei diwygio; rydym wedi'i chydgrynhoi. Yn y dyfodol, bydd yn rhaid i'r gweithgarwch sy'n digwydd yn yr ardaloedd menter gydymffurfio hefyd â'r contract economaidd a'r egwyddorion sy'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd. Ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn darparu data yn y modd mwyaf tryloyw posibl. Rwy'n derbyn yr argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor, a gobeithiaf, yn y dyfodol, y gallwn ddangos ymrwymiad i dryloywder wrth ddarparu data, ac wrth osod unrhyw dargedau ar gyfer ardaloedd menter penodol. Fodd bynnag, hoffwn annog yr Aelod hefyd i ystyried, mewn ffordd ehangach, y seilwaith sy'n cael ei fuddsoddi yn yr ardaloedd menter i alluogi i'r math o dwf y mae'r ardaloedd menter sefydledig wedi'i fwynhau dros y blynyddoedd diwethaf ddigwydd yn gyflym.

14:15

Bydd ein cysylltiadau masnachu â gweddill y byd, wrth gwrs, yn ganolog i dwf economaidd yn y dyfodol. Fel rhan o'r paratoadau i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu 14 gweithgor masnach sy'n cynnwys 21 o drydydd gwledydd i osod sylfeini ar gyfer cytundebau masnach annibynnol yn y dyfodol ar ôl gadael undeb tollau Ewrop. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at y pwyllgor materion allanol ym mis Mai i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan, neu nad ymgynghorwyd â hi ynglŷn â gwaith gweithgorau o'r fath, ond mae'r un pwyllgor wedi cael gohebiaeth gan yr Adran Masnach Ryngwladol ers hynny'n dweud bod blaenraglen waith wedi'i sefydlu gyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hynny wedi digwydd, a thybed a all egluro i'r Cynulliad i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan yn y gweithgorau hynny.

Nid wyf yn siŵr a oedd y llythyr a gafwyd ynghylch y flaenraglen waith a chyfranogiad y gweinyddiaethau datganoledig yn nodi, mewn gwirionedd, i ba raddau roedd y gweinyddiaethau datganoledig yn rhan annatod o'r broses o benderfynu ar y gwaith penodol a fydd yn cael ei ddatblygu. Buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau i egluro'n union pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y mater hwn, ac yn wir, pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng y gweinyddiaethau datganoledig hefyd.

Seilwaith Beicio Dinas-ranbarth Bae Abertawe

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am seilwaith beicio dinas ranbarth bae Abertawe? OAQ52444

Mae teithio llesol, fel y nodir yn y strategaeth genedlaethol, yn rhan annatod o'n dull o sicrhau ateb trafnidiaeth integredig ar gyfer ardal Abertawe.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb? Mae llawer o lwybrau beicio da sy'n cael cryn dipyn o ddefnydd yn ninas-ranbarth bae Abertawe, gan gynnwys nifer helaeth yn etholaeth Julie James, yn dod o Mayals tuag at neuadd y sir. Ond yn aml, ceir bylchau, ac mae'r bylchau hyn i'w gweld rhwng ble mae pobl yn byw a'r prif lwybr beicio, sy'n atal llawer o bobl rhag ei ddefnyddio. Mae gennyf bobl yn byw ar ystâd gyfagos sydd â llwybr beicio gwych—llwybr 44 neu lwybr 45—ond mae'n rhaid iddynt fynd ar hyd lôn gul iawn, â therfyn cyflymder o 60 mya, ac o ganlyniad, nid yw pobl yn defnyddio eu beiciau gan nad ydynt am deithio'r daith filltir neu hanner milltir o hyd. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i lenwi'r bylchau yn y rhwydwaith? Oherwydd hyd nes ei bod yn ddiogel i deithio'r holl ffordd, ni fydd llawer o bobl yn ei wneud o gwbl.

Rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod ein bod wedi cyhoeddi £60 miliwn yn ychwanegol i gefnogi teithio llesol ledled Cymru. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod rôl ymgynghori wrth ddatblygu mapiau rhwydwaith integredig ac wrth sicrhau bod y mapiau llwybrau presennol yn cyrraedd y safon ac yn adlewyrchu'r seilwaith sydd ar waith ar hyn o bryd—ac y gall y mapiau rhwydwaith integredig nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth o lwybrau beicio a llwybrau troed fel y gall pobl, drwy ymgynghori, fod yn hyderus fod eu cymunedau'n cael eu cydnabod yn llawn, a bod yr holl seilwaith yn y cymunedau hynny wedi cael ei nodi. Ac yna, yn seiliedig ar y mapiau hynny, ac yn seiliedig ar y sylwadau gan awdurdodau lleol, gall rhaglenni strategol neu gynlluniau teithio llesol lleol, neu'r ddau beth o bosibl, gael eu hariannu drwy gronfeydd cymorth Llywodraeth Cymru. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod awdurdodau lleol yn nodi llwybrau strategol a chyfleoedd strategol cyflawnadwy ond uchelgeisiol, ond hefyd, nad ydynt anghofio am y cynlluniau lleol hynny, a allai fod yn gynllun unigol neu'n becyn o welliannau i nodi'r bylchau hynny ac i fynd i'r afael â'r bylchau hynny, fel y gall pobl feicio neu gerdded i'r gwaith, at gyfleoedd hamdden ac at ffrindiau a theulu.

14:20

Ceir llawer o rwystredigaeth o ganlyniad i awdurdodau lleol nad ydynt yn buddsoddi yn y seilwaith teithio llesol, ac mae'r rhwystredigaeth yn arbennig o amlwg pan nad yw datblygiadau newydd yn ystyried egwyddorion teithio llesol. Yn fy ardal i, methodd cais cynllunio diweddar ar gyfer siop goffi archebu o'r car yn y Gellifedw, Abertawe nad oedd yn darparu unrhyw seilwaith teithio llesol ar gyfer cerddwyr neu feicwyr. Gwn fod y cliw yn y teitl. [Chwerthin.] Felly, sut y gallwn ddisgwyl i bobl deithio'n llesol os nad ydym yn barod i osod seilwaith hanfodol? A ydych yn cytuno bod angen deddfwriaeth gynllunio gryfach o lawer yma yng Nghymru os ydym am wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn?

Ni fuaswn yn dymuno annog cerddwyr na beicwyr i ddefnyddio cyfleusterau archebu o'r car mewn unrhyw fwyty neu gaffi bwyd brys. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig sefydlu darpariaeth mewn unrhyw gyfleuster hamdden i storio beiciau dan glo yn ddiogel ac i bobl allu cael mynediad atynt ar droed ar lwybrau troed diogel i gerddwyr. Credaf fod y canllawiau dylunio ar gyfer llwybrau teithio llesol yn chwarae rôl bwysig yn hyn o beth, ond credaf hefyd fod angen inni edrych ar ganllawiau cynllunio a rheolau cynllunio, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi dangos cryn ddiddordeb ynddo yn ddiweddar. Ond buaswn hefyd yn ychwanegu nad oes esgus bellach dros beidio â buddsoddi mewn cynlluniau teithio llesol, o gofio ein bod wedi cynyddu'n sylweddol faint o adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol gyflawni'r cynlluniau hynny.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Y cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.

Gamblo Cymhellol

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch deddfu yn erbyn gamblo cymhellol? OAQ52463

Mae grŵp trawslywodraethol o swyddogion yn gyfrifol am ddatblygu dull gweithredu strategol i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Ar hyn o bryd mae’r grŵp wrthi’n ystyried argymhellion adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a bydd y grŵp yn cydlynu camau gweithredu ac yn nodi gweithgarwch newydd sy’n ofynnol, gan gynnwys unrhyw alwadau am gamau pellach sy’n ofynnol ar lefel y Deyrnas Unedig.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae’n amlwg bod nifer ohonom ni’n poeni am y peiriannau mewn siopau gamblo ac yn croesawu’r ffaith ei bod yn fwriad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyfyngu’r bets fesul un i £2 ar y peiriannu yna, ond wedyn yn cael ein siomi y bydd o leiaf dwy flynedd cyn bod hynny’n cael ei gyflawni. Mae yna ddulliau rheoli a deddfu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, deddfu cynllunio. Yn absenoldeb gweithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, a fyddai o fewn cymhwysedd y Senedd hon ac felly’r Llywodraeth i ddefnyddio rheolau cynllunio i gyfyngu ar y peiriannau hyn ac, efallai, i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain i gyfyngu ar y peiriannau hyn?

Diolch am y cwestiwn pellach. Fel Llywodraeth, rŷm ni'n gweithio ar draws portffolio i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn i daclo'r broblem hon, sydd yn broblem iechyd ac sy'n broblem eang. Mae'r prif swyddog meddygol yn arwain llawer iawn o'r gwaith hwnnw. Fel, efallai, y bydd yr Aelod yn gwybod, mae ymgynghoriad ar hyn o bryd ynghylch newidiadau i'r system gynllunio a fydd yn cynnig newid dosbarthu swyddfeydd betio o ddosbarth A2, sydd yn golygu y bydd angen cytundeb cynllunio er mwyn newid defnydd o'r math yna o swyddfa. Felly, os aiff hynny ymlaen, bydd hynny yn darparu cyfle i lywodraeth leol daclo hyn ar ryw lefel. Mae'r problemau'n digwydd yn sgil y swyddfeydd yma sydd yn lleihau pobl sydd yn dod i mewn i'r strydoedd mawr yn ein trefi a'n pentrefi ni. Felly, bydd y newid hwnnw, os aiff yn ei flaen, yn galluogi awdurdodau lleol i ddylunio eu cynlluniau LDP gyda'r broblem hon mewn golwg. O ran cymhwysedd ehangach yn ymwneud â gamblo, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae cymhwysedd cyfyngedig iawn gan y Llywodraeth a'r Cynulliad yn y maes hwnnw, sy'n gyfyngedig i rifau peiriannau, yn hytrach na'r uchafswm sy'n gallu cael ei wario ar unrhyw un achlysur o gamblo. Mae cyfnod yn mynd i fod o ddwy flynedd cyn bod y newidiadau hynny yn dod i rym. Mae'r Llywodraeth yn croesawu'r ffaith bod y newid yn cyfyngu ar yr uchafswm, ond nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio pwerau cyfyngedig y Llywodraeth yn y cyfamser.

14:25
Hawliau Plant

2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau plant? OAQ52458

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei hymrwymiad a'i gwaith yn y maes hwn yn gyffredinol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer eu swyddogaethau. Mae'n gwbl iawn fod y gofyniad hwn yn parhau i ddylanwadu ar bolisïau, deddfwriaeth a phenderfyniadau'r Llywodraeth.

Diolch. Yn ddiweddar, mynychais y digwyddiad plant, pobl ifanc a democratiaeth yma yn y Senedd, lle cefais weld yr hyn a oedd, yn fy marn i, yn brosiect Cyfraith Stryd gwirioneddol arloesol a gynlluniwyd i roi dealltwriaeth dda i blant o'r gyfraith a'u hawliau. Tynnwyd sylw ato, mewn gwirionedd, pan ymwelodd Hillary Clinton â Chymru yn ddiweddar. O gofio ein hymrwymiad i hawliau plant ac o gofio bod gwybodaeth yn rym, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gan ein plant a'n pobl ifanc ddigon o ddealltwriaeth i gynnal eu hawliau?

Mae hwn yn fater hanfodol bwysig.Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, credaf fod deddfu ar gyfer hawliau yn bwysig, ond oni bai eich bod yn gwybod sut i ddod o hyd i'ch hawliau a sut i fynnu eich hawliau, bydd eu heffaith bob amser yn gyfyngedig. O ran hygyrchedd y gyfraith i blant a phobl ifanc, ceir heriau a strategaethau penodol y mae angen inni eu defnyddio er mwyn sicrhau bod pobl ifanc a phlant yn elwa o effaith lawn yr hawliau a ddeddfir gennym ar eu rhan. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o strategaethau ar gyfer codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o'u hawliau. Bûm innau yn y digwyddiad yn y Senedd, ac roeddwn o'r farn ei fod yn agoriad llygad—y nifer o sefydliadau a oedd yno'n gweithio i gynyddu eiriolaeth ar ran plant a phobl ifanc, ond mewn gwirionedd, yn bwysicach, eu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd. Roeddwn yn meddwl bod y fenter Cyfraith Stryd, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn enghraifft dda iawn o hynny.

Roeddwn yn yr un digwyddiad â hi pan fu'r Llywydd yn cyfweld Hillary Clinton, ac roeddwn yn meddwl ei bod yn wych fod y cyn-Ysgrifennydd Clinton yn canmol y cynnydd y mae Cymru'n ei wneud yn y maes hwn a'r pwyslais y mae Cymru'n ei roi ar y mater pwysig hwn. Buaswn yn cymeradwyo papur a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant iddi hefyd, sef y papur ymchwil cyntaf a gyhoeddwyd ganddynt, sy'n ymwneud â'r union fater hwn o addysg gyfreithiol gyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ceir syniadau diddorol iawn ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud ar lefel Llywodraeth, ond ledled Cymru, i wella addysg gyfreithiol gyhoeddus, yn arbennig yng nghyd-destun plant a phobl ifanc.

Fe gyfeirioch chi, Gwnsler Cyffredinol, at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r amddiffyniad sydd ganddo o dan y Mesur hawliau plant. Ni chredaf mai'r Llywodraeth yn unig sy'n edrych ar hawliau plant wrth ddatblygu ei deddfwriaeth, ond credaf ei bod yn deg dweud ein bod ni fel Cynulliad yn ystyried hynny'n ofalus iawn hefyd, pan fyddwn yn penderfynu pasio'r cyfreithiau hynny. Mae gweithrediad y cyfreithiau yn nwylo llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus, a thybed beth yw eich barn ynglŷn ag a ddylai gwasanaethau cyhoeddus—boed yn awdurdodau lleol neu'n ysbytai, byrddau iechyd ac ati—roi sylw dyledus hefyd i'r ffordd y maent yn gweithredu'r cyfreithiau hynny. A oes angen statud i hynny ddigwydd, neu a yw eich rhwymedigaeth i roi sylw dyledus yn trosglwyddo i awdurdodau lleol, er enghraifft, pan fyddant yn gwneud hynny? Mae'n broblem benodol mewn perthynas â phenderfyniadau ynglŷn â chau ysgolion, ac mae un yn fy ardal i rwy'n meddwl amdani'n benodol. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Nid oeddwn yn ceisio awgrymu nad oedd y Cynulliad yn ymwneud â'r gwaith hwnnw hefyd. Mae'n amlwg ei fod, ac mae wedi pasio deddfwriaeth i'r perwyl hwnnw, felly rwy'n amlwg yn fwy na pharod i gydnabod hynny. Fe fydd hi'n gwybod am yr adroddiad a lansiodd fy nghyfaill y Gweinidog plant a gwasanaethau cymdeithasol, fel yr oedd ar y pryd, ym mis Mawrth, a dangosai ein sefyllfa o ran cydymffurfio â'r Mesur yn gyffredinol, ac roedd yn cynnwys dadansoddiad defnyddiol iawn o'r camau nesaf y mae angen inni eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr agenda hawliau plant yn cael ei hymgorffori'n fwy eang ym mywyd cyhoeddus Cymru. Rwy'n siŵr y bydd yn rhoi sylw i hynny dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o ofidiau a chwestiynau sydd wedi cael eu gofyn gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, a phobl eraill fel y comisiynydd plant, a dweud y gwir, ynglŷn â phroses gyllidebu'r Llywodraeth nawr, lle'r ŷm ni yn fwyfwy yn cael asesiadau effaith integredig, yn hytrach, er enghraifft, nag asesiadau effaith penodol ar hawliau plant. Felly, a gaf fi ofyn i chi fel Llywodraeth i edrych ar yr arfer yna eto, ac i chi fel Cwnsler gadarnhau i chi'ch hunan eich bod chi'n cwrdd â goblygiadau deddfwriaethol domestig a rhyngwladol drwy beidio, yn yr achosion yma, â chynnal asesiadau effaith penodol ar hawliau plant, er mwyn sicrhau, er enghraifft, na fyddwn ni'n cael penderfyniadau fel diddymu y grant gwisg ysgol, fel y digwyddodd yn ddiweddar, heb fod yna asesiad trylwyr wedi cael ei wneud?

14:30

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Fel y gwnes i sôn wrth Suzy Davies nawr, mae'r Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad o'r hyn rŷm ni'n gorfod ei wneud yn sgil y Mesur, a'r oblygiadau i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod. Ond byddaf yn cymryd i mewn i ystyriaeth y sylwadau y mae newydd eu gwneud.

Cymhwyso Cyfreithiau'r UE

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymhwyso cyfreithiau'r UE yng Nghymru a gaiff eu pasio yn ystod unrhyw gyfnod pontio Brexit? OAQ52451

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Os bydd cyfraith yr UE yn parhau'n gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod pontio, fel y mae Rhan 4 o'r cytundeb ymadael drafft cyfredol yn ei ragweld, bydd angen gweithredu rhwymedigaethau cyfreithiol yr UE yn y wlad hon yn ystod y cyfnod hwnnw.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, oherwydd mae'n bwysig, os ydym yn cael cytundeb, fod yna gyfnod pontio, ac fel rhan o hynny bydd disgwyl i ni lynu wrth gyfreithiau'r UE. Ond nid yw'r Bil ymadael â'r UE ond yn trosi cyfreithiau'r UE o'r dyddiad terfynol ymlaen, sef 29 Mawrth. Felly, mae yna flwyddyn i gadarnhau, yn ystod y cyfnod o 29 Mawrth 2019 hyd at ddiwedd y cyfnod pontio, y bydd angen trosi unrhyw ddeddfau UE sy'n cael eu pasio ym Mrwsel i gyfreithiau'r DU neu gyfreithiau Cymru yma yn y Cynulliad, o dan ein rheolaeth ni.

Wel, i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r holl ymdrechion i sicrhau cyfnod pontio, ac rydym yn croesawu'r cytundeb a gafwyd yn y Cyngor Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mawrth a oedd yn dweud y bydd cyfnod pontio i 31 Rhagfyr 2020, yn amodol ar gytundeb ymadael terfynol. Nid ydym yn gwybod, yn anffodus, pa ddull y bydd Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu mewn perthynas â gweithredu cyfreithiau'r UE yn ystod cyfnod pontio. Rydym yn disgwyl y bydd gradd uchel o debygrwydd rhwng yr arfer yn awr ac yn ystod y newid hwnnw i gynnwys rôl ar gyfer Gweinidogion Cymru yn arbennig, i wneud yn siŵr fod cyfreithiau'r UE yn cael eu gweithredu mewn meysydd datganoledig. Yn amlwg, er mwyn sicrhau bod cyfranogiad yn y farchnad sengl ac aelodaeth o'r undeb tollau yn y tymor byr yn cael eu cynnal, acquis cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, bydd angen i ni gael ein rhwymo gan y darpariaethau hynny. Fel y dywedaf, nid ydym yn gwybod eto sut y caiff y mecanwaith hwnnw ei argymell gan Lywodraeth y DU. Fel y bydd yn gwybod, rydym yn rhagweld cytundeb ymadael a Bil gweithredu. Rydym yn deall y bydd angen i hwnnw roi mecanweithiau ar waith i gyflawni ymrwymiad y DU, o ran y cyfnod pontio. Nid ydym eto wedi cael manylion o'r hyn y bydd hwnnw'n ei gynnwys. Yn amlwg, bydd angen i ni wneud asesiad llawn o hwnnw, a sut y mae'n berthnasol i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, fel y mae wedi'i phasio bellach, pan fydd gennym olwg llawn ar hynny.

Hawliau Dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am sicrhau bod hawliau dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cael eu diogelu yn dilyn Brexit? OAQ52450

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na ddylai ymadawiad y DU â'r UE arwain at wanhau diogelwch hawliau. O ran hawliau i symud a phreswylio, mae Cymru'n croesawu ac yn gwerthfawrogi unigolion o bob cwr o'r byd, a bydd yn parhau i wneud hynny.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yr wythnos diwethaf, roeddwn ym Mrwsel, a chyfarfûm â llysgennad Norwy i'r UE, ac roedd yn eithaf clir fod rhai pryderon difrifol yng ngwledydd yr AEE ynglŷn â hyn. Oherwydd mae llawer o sôn am hawliau dinasyddion yr UE, ac er ein bod yn sylweddoli cysylltiad mor agos sydd rhwng yr AEE a'r UE, nid oedd unrhyw gysylltiad tynn i sicrhau, mewn unrhyw gytundeb ymadael, y byddai'r hawliau hynny hefyd yn berthnasol i ddinasyddion yr AEE. Nawr, efallai y bydd pobl yn dweud nad oes llawer o ddinasyddion o Wlad yr Iâ neu ddinasyddion o Liechtenstein yn y DU, ond mae dros 20,000 o ddinasyddion o Norwy yn y DU, a bydd rhai yng Nghymru. Felly, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, a wnewch chi ddwyn y mater i sylw eich cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw hawliau dinasyddion yr AEE yn cael eu hanghofio yn y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar ddinasyddion yr UE?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yn wir, fel y mae ei gwestiwn yn cydnabod, nid yw'n ymwneud â'r rhifau unigol dan sylw, oherwydd gall effaith hyn ar fywyd unigolyn, neu gynlluniau unigolyn, fod yn sylweddol iawn. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yr AEE yn cael yr un amddiffyniad ag y bydd gan ddinasyddion yr UE o dan y cytundeb fel rydym yn ei ddeall ar hyn o bryd. Rydym wedi talu sylw manwl i'r drafftiau o'r cytundeb ymadael. Yn amlwg, rydym yn falch o weld, yn ystod y cyfnod pontio, yr argymhellion y mae'n eu cynnwys er mwyn sicrhau nad oes unrhyw newid i hawliau dinasyddion.

Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu'r datganiad o fwriad a gyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar 21 Mehefin yn ofalus. Mae'n amlinellu eu hargymhellion ar gyfer cynllun preswylio'n sefydlog, a fyddai'n galluogi dinasyddion yr UE i ddechrau cymryd camau i gadarnhau eu statws cyn gadael yr UE. Bwriedir i'r cynllun hwnnw fod yn agored i wladolion yr AEE a'r Swistir hefyd, yn ogystal â dinasyddion yr UE, a dylem ei ddadansoddi gyda hynny mewn cof.

Dylwn atgoffa'r Cynulliad fod sefyllfa Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion hyn fel y'i nodir yn mhapur 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' mis Medi 2017, sy'n amlinellu ein cred y dylai ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol gynnwys dull gwahaniaethol a ffafriol tuag at fewnfudo ar gyfer gwladolion yr AEE a'r Swistir yn ogystal.

14:35
Morlyn Llanw Bae Abertawe

5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau cyfreithiol Llywodraeth Cymru i gefnogi model newydd ar gyfer morlyn llanw bae Abertawe? OAQ52446

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Dylwn ddweud, er nad yw yn fy etholaeth, y byddai etholwyr Castell-nedd yn elwa o unrhyw ddatblygiad o'r math hwn, felly rwyf am ddatgan buddiant o ran hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried sut y gallai ddefnyddio ei phwerau i gefnogi modelau cyflawni amgen a allai ddeillio o uwchgynhadledd ynni'r môr ac o'r trafodaethau parhaus gydag arweinwyr rhanbarthol, y cyfeirir atynt yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar 26 Mehefin.

A gaf fi ddiolch i chi am yr ymateb hwnnw? Mae unfrydedd wedi bod ymysg y rhai ohonom sy'n cynrychioli'r rhanbarth cyfan hwnnw yn ne-orllewin Cymru, gan ddechrau efallai gyda fy nghyd-Aelod a fy nghymydog gyda'r hanner arall ohono, David Rees, ond hefyd yr Aelodau rhanbarthol ar draws y pleidiau sydd wedi dangos eu cefnogaeth yn llawn. Felly, nid yw hwn yn sylw gwleidyddiaeth plaid fel y cyfryw. Ond mae model newydd ar gyfer y morlyn yn cael ei drafod, nad yw'n seiliedig ar y contract gwahaniaeth, gyda Llywodraeth y DU. Felly, ni fyddai'r model newydd yn cynnwys y pwerau a gadwyd yn ôl gan San Steffan. A oes gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd ychwanegol i gefnogi'r dull hwn o ariannu'r morlyn?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Mae'n iawn i ddweud, yn amlwg, fod yna gefnogaeth drawsbleidiol gref yn y Cynulliad hwn ac ar draws Cymru i'r morlyn, a dyna pam ein bod mor siomedig fod Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad a wnaeth. Fel y mae'n awgrymu'n briodol yn ei gwestiwn, roedd ymwneud Llywodraeth y DU wedi'i ysgogi'n rhannol gan yr angen am gontract gwahaniaeth, nad yw, yn amlwg, wedi'i ddatganoli i Gymru, ac nid oes gennym gymhwysedd yn y Cynulliad i sefydlu trefn debyg i gyfundrefn y contract gwahaniaeth.

Rwy'n ymwybodol, fel yntau, o'r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd, a'r sylw yn y wasg yn benodol, ynglŷn â model amgen a allai gynnwys mecanwaith heblaw dull contract gwahaniaeth ar gyfer cyflawni. Yn amlwg, pe bai hynny'n wir, byddai pwerau Llywodraeth Cymru yn wahanol i fodel lle mae angen contract gwahaniaeth. Ac yn amodol ar nifer fawr o gwestiynau ynglŷn ag adnoddau, a chwestiynau ehangach, mae'n amlwg fod gan Weinidogion Cymru bwerau gweithredol eang a chyffredinol i hwyluso creu swyddi a datblygu economaidd, gan gynnwys drwy gyfrwng benthyciadau a gwarantau a grantiau ac ati. Yn wir, y pwerau hynny oedd sail y cynnig a wnaeth Prif Weinidog Cymru i gefnogi'r cynnig cyfredol ar gyfer y morlyn llanw. Byddai'n rhaid edrych ar y rheini yng nghyd-destun cynnig penodol pe bai'n cael ei gyflwyno, cynnig pendant, ac yn amlwg unwaith eto, yng nghyd-destun rheolau cymorth gwladwriaethol. Yn amlwg, byddai angen inni sefydlu nad oedd unrhyw gymorth gwladwriaethol neu fod y cymorth yn gydnaws â'r fframwaith yn y ddeddfwriaeth. Fel y dywedaf, nid oes cynnig pendant i'w werthuso ar hyn o bryd, ond dylai fod yn dawel ei feddwl y bydd y Llywodraeth yn edrych ar ei holl bwerau ac yn eu hystyried yn y cyd-destun hwnnw pe bai'r cynnig yn cael ei gyflwyno.

Fel y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod, mae mater y morlyn llanw yn fater byw iawn o hyd, ac yn amlwg, mae yna nifer o opsiynau posibl yn cael eu crybwyll ar hyn o bryd o ran sut yn y byd y gallwn achub y sefyllfa hon. Nawr, mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro y dylid sefydlu cwmni ynni cenedlaethol ar gyfer Cymru, gydag adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio i ddarparu cyflenwad ynni cynaliadwy a fforddiadwy. Yn amlwg, mae'r model cenedlaethol yn un opsiwn. Mae yna opsiynau eraill. Un awgrym o'r fath yw model cyflawni lleol, wedi'i arwain, o bosibl, gan ddinas a sir Abertawe, ond ceir opsiynau rhanbarthol eraill hefyd. Felly, o ystyried yr amrywiaeth o opsiynau cyflawni posibl, sydd angen eu harchwilio, i ba raddau rydych yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i drafod y materion cyfreithiol a'r materion ariannol sy'n gysylltiedig â llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru, a phryd y gallwn ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar y mater hwn?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am ein hatgoffa am ei gefnogaeth i gwmni ynni cenedlaethol, dielw rwy'n credu. Fel y dywedais wrth Mike Hedges yn awr, mae'n amlwg, fel y bydd rhywun yn gwybod o'r hyn a welir yn y wasg a'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt, fod yna bobl sy'n edrych yn greadigol ar ba opsiynau amgen a allai fod ar gael i gadarnhau'r cyfle sy'n bodoli yng Nghymru—ledled Cymru, mewn gwirionedd—i ddefnyddio ein capasiti llanw i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Fel rwyf newydd ei ddweud, o'm rhan i'n bersonol, fy rôl i fydd cynghori ar y pwerau cyfreithiol sydd gan Lywodraeth Cymru, ond yn amlwg, bydd y sgyrsiau hynny, fel y byddwch wedi'i gasglu o'r hyn a ddywedais yn fy ymateb cynharach—rwy'n mynd ar drywydd y trafodaethau hynny.

14:40
Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

6. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018? OAQ52465

Nid wyf wedi trafod y Ddeddf hon gyda swyddogion eraill y gyfraith ers i'r Twrnai Cyffredinol dynnu yn ôl cyfeirio'r Bil, fel yr oedd bryd hynny, i'r Goruchaf Lys, a rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.

Diolch yn fawr. Wrth osod y cwestiwn, wrth gwrs, Gwnsler Cyffredinol, nid oeddwn yn gwybod eich bod yn gwneud datganiad ddoe, lle ges i gyfle i ofyn y cwestiwn atodol i chi ddoe yn hytrach na heddiw. Ond, serch hynny, mae digwyddiadau dros nos jest yn tanlinellu, rydw i'n meddwl, pa mor sensitif yw natur y ffaith bod y cytundeb rhynglywodraethol yn ein harwain ni at sefyllfa lle mae Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei thynnu'n ôl. Rydw i'n cyfeirio at y Papur Gwyn ar bysgodfeydd, sydd wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol y bore yma. Eto, nid oes adlewyrchiad yn y papur yna o'r trafodaethau y cawsom ni ddoe yn y Siambr yma am bysgodfeydd yng Nghymru. Mae'r pwysigrwydd bod y cytundeb rhynglywodraethol yn gorfod adlewyrchu'r fath o gytundeb masnach sy'n cael ei wneud yn y pen draw yn hollbwysig, rydw i'n meddwl, i'r penderfyniad ynglŷn ag a ydym ni'n cadw'r ddeddfwriaeth yn fan hyn a'r hawl i ddeddfu'n llwyr yn fan hyn, neu yn rhannu—fel y mae'r cytundeb rhynglywodraethol wedi ei wneud—â'r Llywodraeth yn San Steffan.

Ddoe, wrth ateb y cwestiwn roeddwn yn mynd i ofyn heddiw, wnaethoch chi ddweud eich bod yn cadw'r cytundeb rhynglywodraethol dan chwyddwydr wrth weld sut y mae'n gweithredu ac ati. Pa bryd y byddwch chi'n asesu a ydy'r cytundeb yma yn gweithredu? A fyddwch chi'n gwneud hynny cyn bod y cyfnod ymgynghorol a'r cyfnod i benderfynu ar ddiddymu'r Ddeddf yma yn dod i ben?

Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn un sydd yn glir ar yr hyn sydd angen digwydd o ran y goblygiadau i'r rhai sydd yn cytuno i'w dermau. Fel gwnes i grybwyll ar y mater ddoe, oherwydd y cytundeb hwn, fe wnaethom ni gael sicrwydd ar y newidiadau i'r Ddeddf sydd wedi, erbyn hyn, cael Cydsyniad Brenhinol yn San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod hyn yn golygu bod mwy o bwerau yn dod i'r lle hwn yn sgil y cytundeb hwnnw. Rwy'n hapus i gymryd y cyfle hwn eto i sicrhau yr Aelod fod gan Lywodraeth Cymru pob bwriad i sicrhau bod y Llywodraeth hon a Llywodraeth San Steffan yn glynu'n agos at y termau y gwnaethpwyd cytundeb arnyn nhw yn y cytundeb hwnnw.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i gael ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.

Tata Steel a ThyssenKrupp

3. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf ynghylch uno TATA steel a ThyssenKrupp AG ar y diwydiant dur yng Nghymru? 195

At ei gilydd, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad i greu cyd-fenter 50:50 i gyfuno eu busnesau dur Ewropeaidd ac rydym yn parhau i ymgysylltu gyda'r cwmni a'r undebau llafur i ystyried manylion y cyhoeddiad.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Diau fod y cyhoeddiad wedi codi cwmwl sydd wedi bod yn hongian dros y gwaith dur yn y dref ers dros ddwy flynedd bellach ac mae'n cynnig gobaith o ddyfodol diogel ar gyfer gwneud dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill ar draws Cymru, oherwydd gadewch i ni beidio ag anghofio, mewn gwirionedd, fod Port Talbot yn bwydo'r gweithfeydd eraill hynny yn ogystal. Mae wedi cael ei groesawu gan weithwyr dur, fel y nodwyd gennych, sy'n cyfarfod heddiw i'w drafod mewn gwirionedd, yn ogystal ag undebau llafur, gwleidyddion a'r gymuned ar draws y dref.

Rydym yn ymwybodol y gall yr awyr ddu ddychwelyd—dyna'r broblem. Mae'r cynnig hwn yn canolbwyntio ar y tymor canolig, mewn gwirionedd, ac nid y tymor hir, oherwydd mae'n sôn am sicrhau nad oes unrhyw ddiswyddiadau gorfodol cyn 2026 a'r gwaith sydd i'w wneud ar y ffwrnais chwyth i'w chadw'n weithredol hyd nes tua 2026. Felly, mae yna sefyllfa fwy hirdymor i'w thrafod o hyd. Mae prif swyddog gweithredol ThyssenKrupp wedi dweud yn aml ei fod yn canolbwyntio ar weithrediadau Ewropeaidd ac nid ydym, o bosibl, yn ei feddwl o ran hynny.

Felly, a fydd y cytundeb hwn yn effeithio ar y buddsoddiad sydd eisoes wedi'i ymrwymo gan Lywodraeth Cymru, oherwydd rydych eisoes wedi gwneud ymrwymiad i'r gwaith pŵer—mae cam 1 wedi mynd drwodd. Nid yw'r cyllid wedi'i ryddhau eto ar gyfer cam 2. Gwn fod mater amodoldeb wedi codi. Ble rydym ni ar hynny? Felly, unwaith eto, mae sicrhad yn dod o du Llywodraeth Cymru ar y broses honno, ar yr ochr honno i bethau. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Tata ar y mater hwn o ran pa fuddsoddiad y maent yn sôn amdano yn eu cynllun uno a ble y bydd hwnnw'n mynd? A fydd yn mynd tuag at waith cynnal a chadw ac atgyweirio yn unig, neu a fydd yn mynd tuag at dechnolegau newydd a buddsoddiad mewn offer newydd i'w arwain at y lefel nesaf o gynhyrchiant, fel y llinell gyfalaf ar gyfer ffyrnau golosg newydd sydd eu hangen? Ac a ydych wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, oherwydd nid ydym wedi cytuno ar fargen sector dur eto, ac mae'n ymddangos ar hyn o bryd fod Llywodraeth y DU yn methu chwarae ei rhan, ac os ydym eisiau cynaliadwyedd hirdymor, mae angen i chi gael trafodaethau gyda hwy hefyd? Felly, sut y mae popeth yn dod at ei gilydd yn awr, yn seiliedig ar y cynllun uno hwn?

14:45

Wel, a gaf fi ddiolch i David Rees am ei gwestiynau? Buaswn yn cytuno bod y cyhoeddiad, yn wir, yn cynnig gobaith i bob un o'r gweithfeydd ledled Cymru a'r DU. Mae'n werth myfyrio ar ble roeddem ddwy flynedd yn unig yn ôl, pan oedd yr awyr yn ddu iawn yn wir, ac o ganlyniad i waith caled Llywodraeth Cymru, i raddau helaeth, rydym wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw, lle mae pawb sy'n rhan o'r cytundeb yn gallu cydnabod cryfder teulu dur Cymru. O ran sicrhau nad yw'r awyr ddu yn dychwelyd, mae angen i ni warantu cystadleurwydd cynhyrchiant dur yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau ei fod yn effeithlon ac yn gynhyrchiol. Nawr, bydd ein cymorth yn amlwg yn parhau. Bydd ein cymorth, ar sawl ystyr, yn dibynnu ar gytundeb Tata i amodau rhwymol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn gwneud ei rhan ac yn rhoi sylw i bryderon y sector, yn enwedig mewn perthynas â phrisiau ynni anghystadleuol, ond hefyd yr angen am gytundeb sector. Roedd y rhain yn faterion a drafodwyd yn ddiweddar iawn yng nghyngor dur y DU. Roeddent yn faterion y byddwn yn eu codi'n rheolaidd gyda Gweinidogion o fewn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac y byddem yn eu codi drwy swyddogion gyda'u cymheiriaid yn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac yn wir mewn adrannau eraill. Mae'n rhywbeth sydd o diddordeb i fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, o ystyried yr agenda ddatgarboneiddio a'r angen i sicrhau ein bod yn lleihau allyriadau. Rydym yn gallu cynorthwyo busnesau yn y sector dur i leihau allyriadau carbon, i wneud yn siŵr fod yna arbedion pŵer, i wneud yn siŵr fod gweithwyr yn meddu ar y sgiliau llawn a phriodol, a bydd ein cefnogaeth yn parhau i'r dyfodol. Ond os ydym am sicrhau'r gweithgarwch cynhyrchu dur effeithlon, cystadleuol a chynhyrchiol rydym eisiau ei weld yn hirdymor yng Nghymru ac yn y DU, bydd angen ymyriadau pendant gan Lywodraeth y DU.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n cysylltu fy hun â'r cwestiynau y mae David Rees newydd eu gofyn i chi mewn gwirionedd. Credaf y bydd rhai pryderon o hyd, yn mynd yn ôl at yr hyn roeddem yn sôn amdano tua 18 mis yn ôl am y berthynas â ThyssenKrupp a Tata, ac mae'r dyddiad y soniodd David amdano, rwy'n credu, yn rhywbeth sydd wedi'i argraffu'n gadarn ar ein meddyliau yn awr. Gyda hynny mewn golwg, a ydych wedi cael unrhyw syniad o gwbl o'r amserlen ar gyfer unrhyw fuddsoddiad posibl yn y gwaith hwn? Yn amlwg, mae'r ffwrnais chwyth yn bwysig iawn yno, ac mae'n wych cael addewidion, ond hyd nes y bydd rhywun yn llofnodi siec, mae hi braidd yn anodd dibynnu ar yr addewidion hynny.

Gyda bargen y sector dur, yn amlwg, rwy'n cytuno bod angen i ni wybod am hyn yn awr, ac nid wyf yn tybio bod cyhoeddiad Trump wedi helpu rhyw lawer iawn.  Roedd costau ynni—a chredaf eich bod wedi cyfeirio at hyn yn fyr—yn broblem fawr pan oeddem yn siarad am hyn rai misoedd yn ôl. A ydych wedi cael unrhyw arwydd addawol, gawn ni ddweud, sy'n awgrymu bod hynny'n llai o broblem erbyn hyn, a pha gamau a gymerwyd i geisio eu datrys?

Ac yn olaf, mae Tata, wrth gwrs, wedi gwneud ymrwymiadau enfawr o ran prifysgol bae Abertawe, a pherthynas â'r ganolfan arloesi dur o dan y fargen ddinesig. Tybed a ydych wedi cael unrhyw newyddion ynglŷn ag a fyddai'r bartneriaeth gyfunol hon hefyd yn barod i ymrwymo yn y ffordd y mae Tata wedi'i wneud hyd yma. Dywedasoch eich bod yn ystyried y cyhoeddiad, ac efallai y gallech godi hynny mewn unrhyw gwestiynau a fydd gennych pan fyddwch yn siarad â Tata a ThyssenKrupp.

Yn wir. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r cydweithrediad sydd wedi bod ym mae Abertawe rhwng addysg uwch a gwaith dur y rhanbarth, yn ogystal â rhai o'r cwmnïau deilliedig a chwmnïau'r gadwyn gyflenwi. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y cydweithio hwnnw'n parhau. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio ymgysylltu â'r cwmni a'r undebau llafur i ofyn am wybodaeth bellach ynglŷn â manylion y cyhoeddiad, i wneud yn siŵr fod y cydweithio hwnnw'n parhau yn y dyfodol, ac i sicrhau ein bod yn cadw cynhyrchiant haearn a dur yng Nghymru yn y tymor hir.

Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud, o ran yr amserlen, fod y gyd-fenter yn ddibynnol ar archwiliad rheoleiddio gan yr awdurdodau sy'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, a hyd nes y byddant yn cau, bydd y ddau gwmni cyd-fenter yn parhau i weithredu fel cwmnïau ar wahân ac fel cystadleuwyr, ond yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym yn disgwyl y byddwn yn gallu bwrw ymlaen â'n trafodaethau mewn perthynas â'r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Tata o ran y gwaith sydd wedi'i leoli yng Nghymru, ond buaswn yn croesawu cyhoeddiad i ymestyn y cytundeb cyflogaeth i 2026, gydag ymrwymiad i geisio osgoi diswyddiadau gorfodol o ganlyniad i'r gyd-fenter.

O ran yr ymrwymiadau eraill, mae Tata wedi ymrwymo i fuddsoddi er mwyn ymestyn oes ffwrnais chwyth rhif 5 Port Talbot, a bydd hynny'n mynd rhagddo eleni. Yn gyffredinol, credaf fod hwn yn gyhoeddiad cadarnhaol iawn i'r diwydiant dur a'r holl safleoedd dur cysylltiedig ledled Cymru. Fodd bynnag, rydym yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau y gellir gwarantu dyfodol hirdymor busnesau dur yng Nghymru.

14:50

Rwy'n credu bod y gyd-fenter, ar yr wyneb, yn ymddangos fel cam cadarnhaol ymlaen ar hyn o bryd, ond mae yna gwestiynau allweddol i'w gofyn i sicrhau ein bod yn symud ymlaen gan graffu'n ofalus. I'r gweithlu y mae ein dyletswydd gyntaf, wrth gwrs—y gweithlu medrus iawn sydd gennym ym Mhort Talbot. Fel y soniais ddoe yn ystod y cwestiynau i arweinydd y tŷ, bydd rhan fawr i Brexit yn rhagolygon y gyd-fenter, ac er bod y rhagolygon ar hyn o bryd, yn y tymor canolig, yn ymddangos yn ddiogel, mae'r dyddiad y byddwn yn ymadael â'r UE yn agosáu, a gallai hyn effeithio ar y gyd-fenter mewn gwirionedd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Heinrich Hiesinger—nid wyf yn gwybod a ydw i wedi dweud ei enw'n gywir—prif swyddog gweithredol Thyssenkrupp, wrth sôn am effeithiau Brexit ar y gyd-fenter, a dyfynnaf:

Rydym yn gobeithio, beth bynnag fo'r canlyniad, y bydd yna farchnad rydd.

Wrth gwrs, ni allwn warantu y bydd yna farchnad rydd, gyda'r Ceidwadwyr a'ch plaid chi angen ateb cwestiynau ar hyn ar lefel Llywodraeth y DU o hyd, ac i'w gweld yn rhwystro neu'n cymylu'r dyfroedd ar farchnad rydd yn ôl pob golwg. Felly, credaf ein bod angen atebion ar hynny.

Hoffwn i Lywodraeth Cymru amlinellu pa achos y bydd yn ei wneud i Lywodraeth y DU ynghylch cymorth gwladwriaethol a diwydiannau eraill hefyd, oherwydd gallai Cymru fod mewn amgylchedd gwahanol yn y dyfodol, gyda Llywodraeth y DU yn ailgynllunio'r rheolau hynny ar ôl Brexit o dan bwerau sy'n dychwelyd o'r UE, a chredaf y dylid sicrhau safbwynt mwy clir ar hynny heddiw.

Felly, fel rwyf wedi'i ddweud, ar y cyfan, hoffwn ddod â rhywfaint o sicrwydd i'r sector ym Mhort Talbot. Gwn ei fod hyd nes 2026, ond credaf mai nod tymor canolig yw hwnnw a dylai pob un ohonom gadw ein llygaid ar hynny, ac rwy'n ailadrodd bod y buddsoddiad ym Mhort Talbot yn allweddol yn awr, ac rwy'n gobeithio y bydd yr arian ar gyfer camau eraill y cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn hynny o beth yn gallu mynd rhagddo'n ddidrafferth oherwydd gwn fod rhai problemau cychwynnol wedi bod o ran sicrhau mwy o gyllid. Pe baem yn gallu osgoi hynny fel y gellid defnyddio a datblygu'r gwaith dur ar gyfer y dyfodol, byddai hynny'n fuddiol i bawb yn yr ystafell hon ac yn ein cymunedau ledled Cymru.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a dechrau drwy ddweud na fyddai fy mhlaid yma, ac yn y DU yn gyfan, wedi gallu dangos mwy o ymrwymiad i gynnal cynhyrchiant dur y DU? Rydym wedi bod yn gwbl benderfynol o ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, a dylanwadu ar y cwmni o ran buddsoddiad hirdymor, ac rwy'n credu bod y gwaith rydym wedi'i fuddsoddi yn y maes hwn wedi talu ar ei ganfed, ac mae'r cyhoeddiad yn dangos hynny. 

Ar wahân i'r cyllid—ac mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei chynnig i Tata—gallaf ddweud, ar wahân i gyllid ar gyfer cymorth sgiliau, ni fydd Tata yn gallu cael cyllid yn erbyn y cynigion hyn hyd nes y byddwn wedi cytuno ar fanylion amodau trosfwaol, sy'n rhwymol yn gyfreithiol, a buaswn yn disgwyl i'r holl Aelodau gefnogi hynny. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod yr amodau hynny'n gymwys am nifer o flynyddoedd, a'u bod, yn wir, yn rhwymol yn gyfreithiol.

Nawr, o ran Brexit, byddwn yn parhau i weithio'n agos ac yn adeiladol gyda Tata i gynllunio ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit, ond hyd yma, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cynnig £8 miliwn tuag at fuddsoddiad o £18 miliwn yn y gwaith pŵer ym Mhort Talbot, ac rydym yn parhau i drafod y potensial ar gyfer buddsoddiadau pellach i gynyddu arbedion effeithlorwydd yn y maes, ac mae'n werth myfyrio ar y pwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas â rheolau cymorth gwladwriaethol. Wel, hyd nes y bydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, mae Gweinidogion Cymru yn parhau i fod wedi'u rhwymo i gydymffurfio'n llawn â rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE, ac mae'n rhaid i unrhyw gefnogaeth a ddarperir i'r sector dur fod yn unol â rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Fodd bynnag, ar ôl Brexit, bydd i ba raddau, os o gwbl, y byddai Gweinidogion Cymru yn parhau i gael eu rhwymo gan reolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn dibynnu ar delerau'r cytundeb ymadael y bydd y DU yn ei negodi gyda'r UE. Ond mae'n gwbl hanfodol, yn ystod y trafodaethau hynny sy'n parhau, fod Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i'r DU.

14:55

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Caiff y cwestiwn nesaf ei ateb gan Weinidog y Gymraeg—y cwestiwn gan Dawn Bowden.

Trago Mills

4. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a wnaed gan berchennog Trago Mills fod arwyddion Cymraeg yn annibendod gweledol? 194

Wel, a gaf fi ddweud fy mod wedi fy siomi'n fawr wrth ddarllen sylwadau Bruce Robertson dros y penwythnos, ac ysgrifennais lythyr ato ddydd Llun i fynegi fy siom? Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod ei sylwadau'n gyfeiliornus, a chredaf eu bod yn anghyson â barn y cyhoedd yng Nghymru. Rwy'n hapus i rannu'r llythyr hwnnw gydag Aelodau'r Cynulliad.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod mai un agwedd yn unig ar y sylwadau a nodwyd yr wythnos diwethaf oedd yr arwyddion dwyieithog, mewn gwirionedd, ond rwyf eisiau ymdrin yn benodol â mater yr iaith oherwydd mae'n ffaith mai Merthyr Tudful sydd ag un o'r lefelau isaf o siaradwyr Cymraeg dynodedig yng Nghymru. Rwyf eisiau gweld hynny'n newid ac rwyf wedi cefnogi gwasanaethau Cymraeg a'r cyfleoedd dysgu a ddarperir ym Merthyr, yn fwyaf nodedig yng Nghanolfan Soar y buom ein dwy'n ymweld â hi'n ddiweddar.

Er gwaethaf y lefel gymharol isel o siaradwyr Cymraeg, rwyf wedi cael sylwadau gan nifer o etholwyr a gafodd eu tramgwyddo gan y sylwadau a gofnodwyd. Ac rwy'n deall y dicter hwnnw, oherwydd, pa un a yw pobl yn siarad Cymraeg ai peidio, mae llawer yn gweld gwerth yr iaith ac yn gwybod pa mor bwysig yw normaleiddio ei defnydd mewn sefyllfaoedd a gweithgareddau bob dydd, ac fel dysgwr Cymraeg fy hun, gallaf dystio i werth hynny. Ac yn wir, rwy'n credu bod meithrin a datblygu'r defnydd o'r Gymraeg a meithrin agweddau mwy cadarnhaol tuag ati yn gyfrifoldeb pwysig i bob un ohonom.

Mae Trago Mills yn fusnes newydd pwysig yn fy etholaeth ac mae'n darparu llawer o swyddi gwerthfawr, ac rwyf eisiau datblygu cysylltiadau gwaith da gyda hwy. Felly, a fyddech yn cytuno â mi mai ymarfer busnes mwy goleuedig ar eu rhan, ac un a allai ddenu mwy o bobl i gefnogi'r busnes mewn gwirionedd yn hytrach na gwneud iddynt brotestio yn ei erbyn, fyddai iddynt gydnabod statws y ddwy iaith a chroesawu'r ffaith honno? 

Mae'n bwysig i ni i gyd gefnogi'r iaith ac mae hynny'n cynnwys Trago Mills.

Da iawn a diolch yn fawr i chi, Dawn, nid yn unig am ddod â'r achos yma gerbron y Senedd heddiw, ond hefyd am eich ymrwymiad chi tuag yr iaith.

Hoffwn ddiolch i chi am eich brwdfrydedd dros yr iaith, oherwydd mae angen inni gyrraedd miliwn o siaradwyr ac rydych chi ar y rhestr honno, felly diolch yn fawr iawn i chi. Credaf eich bod yn llygad eich lle—credaf fod pobl yn tanbrisio gwerth addysg Gymraeg. Gwyddom fod llawer o dystiolaeth yn awgrymu ei bod, mewn gwirionedd, yn helpu i ymestyn addysg yn ei ystyr ehangach, ac mae tystiolaeth ar draws y byd sy'n profi bod dwyieithrwydd yn ddatblygiad cadarnhaol. Rwy'n credu y dylid nodi hefyd fod galw cynyddol mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, ac rwy'n falch iawn o weld hynny a hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth yn hynny o beth.

Ond credaf hefyd fod yna reswm masnachol iddo wneud hyn. Y ffaith yw, yn y cyfrifiad diwethaf, os edrychwch ar faint o bobl sy'n byw o fewn awr i Trago Mills, ceir tua 110,000 o bobl sy'n siarad Cymraeg, ac mae 86 y cant o bobl Cymru yn frwdfrydig ac yn gefnogol i'r iaith Gymraeg. Felly, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr masnachol iddynt beidio â bod yn yr un man â'r bobl hynny, ac felly rwy'n gobeithio y bydd cadeirydd Trago Mills yn ailystyried ei agwedd tuag at yr iaith.

Weinidog, cafodd agoriad siop Trago Mills ym Merthyr Tudful ym mis Ebrill, a greodd 350 o swyddi, ei groesawu'n fawr, gydag arweinydd y cyngor yn dweud

ei fod yn ychwanegu at yr hyn a gynigir i siopwyr ym Merthyr Tudful a'i fod hefyd yn garreg filltir yn adfywiad cyffredinol y fwrdeistref sirol.

Felly, mae'n siomedig darllen y sylwadau hyn sydd wedi achosi dicter sylweddol ac a allai niweidio proffidioldeb y siop. Fel y dywedoch chi'n gynharach, Weinidog, ac rwy'n cytuno â chi, mae'n bwysig fod arweinwyr busnes yn deall ein bod yn wlad gynyddol ddwyieithog a'i bod yn fanteisiol yn fasnachol i fusnesau ddangos parch tuag at y ddwy iaith. Wyddoch chi, Weinidog, nid wyf yn gallu siarad Cymraeg, ond rwy'n credu bod y gallu i bob unigolyn fod yn ddwyieithog yn beth gwych, yn enwedig os ydych yn byw mewn gwlad ac rydych yn siarad yr iaith leol. Mae'n ymwneud â budd gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn ogystal â rhyngweithio rhwng busnesau a budd masnachol. Mae'n ymwneud â dod at ein gilydd. Iaith yw'r peth sy'n dod â ni at ein gilydd, ac undod yw'r rhinwedd orau un. Diolch. 

15:00

Diolch yn fawr, Mohammad, ac mae croeso i chi ymuno â mi a dod yn un o'r miliwn yn ogystal. Gwn eich bod yn siarad nifer o ieithoedd eraill, felly dylai fod yn weddol hawdd i chi ei dysgu. Felly, dyna chi, rydych chi ar fy rhestr yn ogystal. Diolch yn fawr.

Credaf ei bod yn bwysig i ni danlinellu pwysigrwydd y cwmni hwn. Ceir llawer o swyddi yma mewn ardal sydd angen swyddi, felly mewn gwirionedd, ni fuaswn yn cefnogi'r galwadau ar bobl i beidio â defnyddio'r ganolfan siopa. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cefnogi busnesau yng Nghymru, ond rwy'n credu mai'r hyn rydym angen ei wneud yw eu hannog a gwneud yn siŵr eu bod yn deall eu bod yn buddsoddi mewn gwlad ddwyieithog lle mae llawer o gefnogaeth yn awr i'r iaith Gymraeg. Diolch yn fawr.

Mae'n gwbl briodol eich bod chi yn beirniadu Trago Mills am eu sylwadau sarhaus at y Gymraeg, ond mae'n rhaid cofio mai beth ydy hyn mewn gwirionedd ydy'r enghraifft ddiweddaraf o broblem ehangach, a thystiolaeth goncrit mai ffolineb ydy credu y cawn ni chwarae teg i'r Gymraeg yn y sector breifat heb ddeddfwriaeth a thrwy ddibynnu ar ewyllys da. Rydych chi'n barod iawn eich beirniadaeth o record cwmnïau fel Sports Direct, GWR a rŵan Trago Mills ar y Gymraeg, ond yn llai parod o lawer i weithredu. 

Yn yr hydref, fe gytunodd y Cynulliad trawsbleidiol yma mai gweithredu sydd angen i ymestyn y safonau iaith i'r sector breifat. Sut felly ydych chi'n bwriadu gwireddu ewyllys y Cynulliad yma yn sgil y prawf pellach eto fyth fod angen gosod dyletswydd sylfaenol mewn cyfraith er mwyn i fusnesau mawrion barchu'r Gymraeg?

Nid wyf yn derbyn ei fod yn ffolineb i ddisgwyl i gwmnïau ddefnyddio'r iaith. Y ffaith yw bod lot o gwmnïau yn gwneud hynny. Os ydych chi'n edrych ar Aldi a Lidl, rwy'n meddwl bod record arbennig gyda nhw. Mae'n rhaid i ni werthfawrogi hynny. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n gwerthfawrogi nad yw hi'n bosibl gyda'r Ddeddf sydd gyda ni nawr i wneud unrhyw beth yn y maes yma. Rydych chi'n ymwybodol bod gen i lot mwy o ddiddordeb mewn hybu a hyrwyddo'r Gymraeg fel blaenoriaeth a dyna pam rŷm ni'n dod â phethau fel Cymraeg busnes i'r adwy, i sicrhau pan fydd pobl eisiau ymrwymo i'r iaith Gymraeg y bydd hawl ganddyn nhw wedyn i ofyn am help. Dyna beth ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud—rhoi help lle rŷm ni'n gallu i wireddu'r ffaith ein bod ni'n gobeithio y byddan nhw'n rhoi'r arwyddion hyn i fyny yn y dyfodol.

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r cwestiwn gan Siân Gwenllian.

Adrefnu Llywodraeth Leol

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau adrefnu llywodraeth leol yn dilyn ei sylwadau yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 29 Mehefin 2018? 197

Member
Alun Davies 15:03:53
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'n papurau trefn y byddaf yn gwneud datganiad ar y mater hwn ar 17 Gorffennaf.

Wel, rai misoedd yn ôl, fe gawsom ni wybod drwy flog personol fod y Llywodraeth wedi gwneud tro pedol arall ar adrefnu llywodraeth leol gan ollwng cynlluniau Mark Drakeford ar gyfer cydweithio rhanbarthol. Ddydd Gwener diwethaf, fe ges i a phawb arall oedd ddim yng nghynhadledd y WLGA yn Llandudno wybod drwy Trydar eich bod chi eto fyth wedi newid eich meddwl drwy gyhoeddi eich bod am gael gwared ar y map adrefnu. Ddwywaith, felly, mae datganiadau mor bwysig â hyn, sydd yn effeithio'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yn y dyfodol, wedi cael eu cyhoeddi heb i chi roi gwybod i Aelodau Cynulliad drwy ddatganiadau ysgrifenedig ffurfiol. Ddwywaith rydych chi wedi dangos sarhad llwyr a thanseilio hygrededd y Llywodraeth a rôl y Cynulliad fel corff deddfwriaethol Cymru. Yn arferol, ac yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru ar wneud penderfyniadau da, mae disgwyl i Weinidogion gyhoeddi eu hymateb i ymgynghoriad a gynhaliwyd a gwneud hyn yn amserol, ac fel arfer mae hynny yn digwydd yn y Cynulliad mewn datganiad llafar ffurfiol gydag adroddiad ynghlwm. Felly, o ystyried mai dim ond tair wythnos yn ôl y daeth y cyfnod ymgynghori i ben, a fedrwch chi gadarnhau mai ymateb yn uniongyrchol i'r ymgynghoriad oeddech chi yn eich sylwadau yng nghynhadledd y WLGA? Ac a ydych chi'n meddwl ei bod hi'n briodol i Weinidog wneud datganiadau polisi o arwyddocâd cenedlaethol yn y modd yma? 

15:05

Lywydd, rwy'n ailadrodd y byddaf yn gwneud datganiad llawn ar y mater hwn ar 17 Gorffennaf, pan fyddaf yn ymateb i'r ymgynghoriad ac yn ymateb i faterion eraill yn ogystal. Fodd bynnag, ymddengys bod yr Aelod yn credu y dylai Gweinidogion fod yn dawedog mewn perthynas â dadl genedlaethol a pheidio â chymryd rhan mewn sgyrsiau cenedlaethol y tu allan i'r Siambr hon. Mae'n ddrwg gennyf, ond os mai dyna yw ei safbwynt, rwy'n anghytuno â hi. Credaf ei bod yn gwbl iawn a phriodol fod Gweinidogion yn cymryd rhan weithredol yn y ddadl genedlaethol ynghylch llawer o faterion sy'n gyfrifoldeb i'r lle hwn, ac eraill, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond byddaf bob amser yn gwneud datganiad polisi sylweddol i'r lle hwn, ac i'r lle hwn yn gyntaf. Fodd bynnag, mae yna ddadl genedlaethol yn digwydd ynglŷn â dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus, a byddaf yn parhau i gymryd rhan yn y ddadl honno hefyd.

Diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r cwestiwn hwn heddiw fel cwestiwn amserol. Roeddwn yn bresennol yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roeddwn yno'n agos iawn at y llwyfan—nid wyf yn credu y buaswn wedi gallu eistedd yn agosach, a dweud y gwir—pan ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet ar y llwyfan i gymeradwyaeth lai na chynnes gan lond ystafell o bron i 200 o gynrychiolwyr. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y gymeradwyaeth yn gynhesach ar ôl ei araith; y gwahaniaeth oedd ei fod wedi cyhoeddi mewn eiliad ei fod yn cael gwared ar y map—y map hwnnw y dywedodd wrthym pan gyfarfuom ag ef, os cofiwch chi, nad oedd yn mynd i fod yn fap.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi craffu arnoch ochr yn ochr â Siân Gwenllian, ac mae Aelodau o'ch meinciau cefn eich hun hyd yn oed, ar eich trydedd gyfres—pan ddywedaf 'eich' rwy'n golygu'r drydedd gyfres o gynigion a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth Cymru chi, felly gadewch i ni fynd drwy hyn. Mewn 20 mlynedd o ddatganoli, rydym wedi cael 10 o Ysgrifenyddion Cabinet dros lywodraeth leol. Chi yw Rhif 5. Hon yw'r drydedd gyfres o gynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Nawr, fel rhan o gynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, roedd yn fraint mawr, mewn gwirionedd, ochr yn ochr â Rhun ap Iorwerth, cael cymryd rhan mewn panel gyda'r Athro Gerald Holtham am iechyd a gofal cymdeithasol, a'r modd y caiff ei integreiddio, a gwneud hynny'n realiti. Daeth un peth yn glir iawn, sef bod tai da neu dai gwael yn effeithio ar ein hiechyd. Mae addysg yn effeithio ar ein hiechyd a gofal cymdeithasol. Mae tai—. Mae'n ddrwg gennyf, mae addysg—roeddwn yn meddwl fy mod wedi ysgrifennu'r rhain yn gynharach. Gyda llywodraeth leol, mae gennym ofal cymdeithasol. Dyna bump o wasanaethau sylfaenol a meysydd polisi y mae angen eu hintegreiddio â llywodraeth leol.

Nawr, rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro, pan fyddwch yn penderfynu bwrw iddi a chyflwyno Papur Gwyrdd y Cabinet, pa ymgynghori a wnaethoch gyda'ch cyd-Weinidogion eraill yn y Cabinet? Un peth sylfaenol y cytunwyd arno yn yr ystafell honno oedd na allwch gyflwyno diwygio llywodraeth leol ar ei ben ei hun; mae angen i chi integreiddio iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a thai. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Williams wedi nodi hyn yn ei adroddiad, a phedwar yn unig o'r 62 o argymhellion ynddo y mae'r Llywodraeth hon wedi bwrw ymlaen â hwy, i gyd yn ymwneud â llywodraeth leol. Ar ryw bwynt, pan fyddwch yn gwneud eich datganiad, a wnewch chi edrych arno mewn modd cydgysylltiedig os gwelwch yn dda, a chynnwys y meysydd polisi eraill hynny? Os gwnewch chi hynny, fe gewch gefnogaeth y meinciau hyn. Diolch.

Wel, byddai hynny'n hyfryd, oni fyddai? [Chwerthin.] Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am yr 20 mlynedd o hanes y mae hi wedi llwyddo i'w wau i mewn i'r cwestiwn amserol hwn. Byddaf yn gwneud datganiad ar y materion hyn mewn pythefnos, a byddaf yn mynd i'r afael â'r materion y mae hi wedi'u codi yn ei chwestiwn.

15:10

Y cwestiwn nesaf i’w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus eto, a'r cwestiwn gan Vikki Howells. 

Tanau Gwair

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr achosion diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru? 196

Lywydd, credaf y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn dymuno ymuno â mi i ddiolch i'r holl ddiffoddwyr tân o bob cwr o Gymru sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed dros yr wythnosau diwethaf. Mae eu hymrwymiad, eu harbenigedd a'u sgiliau wedi cael eu profi mewn amgylchiadau anodd iawn. Rwyf wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn eisoes heddiw, a chredaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn dymuno rhoi amser i'w ystyried a sicrhau ein bod yn mynegi ein diolch i'r diffoddwyr tân sydd wedi bod yn ymladd y tanau gwair hyn dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn dilyn eich datganiad ysgrifenedig heddiw, hoffwn bwysleisio bod fy etholaeth i, fel sawl un ledled Cymru, wedi'i chreithio gan gyfres o danau dinistriol dros y dyddiau diwethaf. Mae'r digwyddiadau wedi cynnwys tân mewn coedwig ger Llwydcoed, a ddisgrifiwyd fel tân cannoedd o fetrau o led, tân mynydd Maerdy a gwaith haearn Hirwaun.

Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymuno â chi i dalu teyrnged i ddewrder a gwydnwch ein diffoddwyr tân sy'n gweithio'n ddiflino i gadw ein cymunedau yn ddiogel, ond yn ail, gyda'r awgrym y gallai llawer o'r tanau hyn fod wedi'u cynnau'n fwriadol, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i flaenoriaethu mesurau i atal y gweithgaredd peryglus hwn a allai fod yn angheuol?

Lywydd, bûm yn ymweld â'r diffoddwyr tân a oedd ar ddyletswydd yn Nhonypandy yn gynharach heddiw, a siaradais â hwy am y gwaith y maent yn ei wneud ledled Cymru a hefyd â'r diffoddwyr tân o dde Cymru a oedd wedi bod yn ymladd y tân ar rosydd Saddleworth. Ymwelais â'r orsaf gydag Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, a buom yn trafod rhai o'r tanau gwyllt sydd wedi effeithio ar etholaeth yr Aelod. Siaradais â'r diffoddwyr tân a oedd wedi bod yn gweithio yn Llwydcoed ac o gwmpas y safle ym Mryn Pica, ac a oedd wedi bod yn gweithio yn eithriadol o galed i gadw'r tân hwnnw o dan reolaeth. Credaf fod arnom ddiolch mawr i'r bobl hyn.

Lywydd, rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân, yr heddlu a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â thanau gwair bwriadol yn y tarddiad. Mae hyn yn golygu eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf drwy atal y rhai sydd efallai'n ystyried ei wneud. Mae'n waith sy'n cynnwys ystod eang o raglenni, o godi ymwybyddiaeth gyffredinol i batrolau atal tanau bwriadol mewn ardaloedd risg uchel, ac ymyriadau wedi'u teilwra gyda'r rheini sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o wneud hynny. Mae gan y mwyaf dwys o'r rhain a gefnogwyd gennym ers amser hir gyfradd aildroseddu o dan 5 y cant.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cymeradwyo'r datganiad ysgrifenedig a wnaethoch yn gynharach heddiw am ganolbwyntio ar atal tanau a gwaith y gwasanaeth tân a gwasanaethau brys eraill i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion, ac o amgylch y gymuned hefyd, o beryglon dechrau tanau. Credaf fod honno'n rhan hollbwysig o'u gwaith ac mae'n ymddangos ein bod yn gweld llai o achosion o'r tanau hyn yn awr. Ond hefyd mae angen i'r cyhoedd fod yn ymwybodol y gallwch  ddechrau tân yn anfwriadol, er enghraifft, drwy gynnal barbeciw heb fod yn ofalus. Rydych yn gadael yr ardal ac oriau'n ddiweddarach bydd cyfeiriad y gwynt yn newid neu bydd beth bynnag ydyw'n tanio a dyna dân gwair arall. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau bod yr addysg hon yn iawn ar gyfer y cyhoedd, ac rwy'n canmol ymdrechion y gwasanaeth tân hyd yma.

Rwy'n ymuno â'r Aelod i ganmol yr ymdrechion hefyd. Ar yr un pryd â buddsoddi mewn addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd fel y nododd yr Aelod dros Ganol De Cymru, mae hefyd yn ddefnyddiol nodi bod y gwasanaeth tân ei hun wedi buddsoddi'n helaeth mewn offer arbenigol a hyfforddiant i fynd i'r afael â'r tanau hyn. Mae'r diffoddwyr tân y siaradais â hwy y bore yma wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddefnyddio adnoddau sylweddol ar gyfer mynd i'r afael â'r tanau ledled Cymru, o Gymoedd de Cymru i ogledd Cymru i Geredigion. Ar yr un pryd, rydym wedi buddsoddi mewn gwaith i addasu cerbydau diffodd tân, offer amddiffynnol ysgafn ar gyfer gweithio mewn ardaloedd ucheldir, a dronau, sy'n darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer llywio penderfyniadau diffodd tân yn ddiogel ac yn sydyn.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf, David Rees.

Diolch, Lywydd. Yn ystod yr wythnos y dathlwn ben blwydd ein gwasanaeth iechyd gwladol yn 70 oed, rydym hefyd wedi colli un o'i harloeswyr ym maes gofal sylfaenol. Ganwyd Julian Tudor Hart ym 1927 yn Llundain, yn fab i feddygon a oedd yn weithgar yn wleidyddol. Ffurfiwyd ei werthoedd a'i gredoau gan ei fagwraeth gynnar mewn cartref a oedd wedi'i drwytho mewn gwleidyddiaeth radical, ac a gâi ei ddefnyddio'n rheolaidd fel man trosglwyddo ffoaduriaid a oedd yn ffoi rhag gorthrwm ffasgaidd yn Ewrop—gwerthoedd a chredoau a arhosodd gydag ef dros weddill ei fywyd.

Dilynodd Julian lwybr gyrfa ei dad ac astudio meddygaeth yng Nghaergrawnt cyn symud i Lundain. Ar ôl graddio, cafodd swyddi mewn ysbytai ac ym maes ymarfer cyffredinol trefol cyn gweithio yn Uned Epidemioleg y Cyngor Ymchwil Feddygol dan arweiniad Archie Cochrane, lle y cyfarfu â'i wraig a'i bartner ymchwil, Mary. Nawr, dysgodd y cefndir hwn ym maes epidemioleg ef i astudio sut roedd ffyrdd o fyw ei gleifion yn achosi eu salwch, a bu'n gweithio gyda hwy i wella hyn.

Ym 1961, symudodd i gymuned lofaol Glyncorrwg yng nghwm Afan a sefydlu practis, lle'r arhosodd am 30 mlynedd nes iddo ymddeol. Trodd Julian Lyncorrwg yn enw rhyngwladol sy'n gysylltiedig ag ymarfer cyffredinol arloesol. Roedd yn ddyn a ganolbwyntiai ar ddamcaniaeth ac ar weithredu. Roedd yn ymchwilydd, yn ddarlithydd, yn awdur erthyglau, papurau a llyfrau, gyda llawer o'i syniadau mwyaf arloesol yn gwneud eu ffordd i mewn i ymarfer bob dydd. Mae ei gysyniad o ddeddf gofal gwrthgyfartal yr un mor berthnasol yn awr â phan gafodd ei gyhoeddi yn The Lancet ddegawdau yn ôl—yn wir, mor bell yn ôl ag 1971. Ag yntau'n ddyn â gweledigaeth go iawn, cyflawnodd lawer o brosiectau ymchwil mewn lleoliadau cymunedol, rhywbeth yr oedd llawer o bobl yn dweud na ellid ei wneud, ond roedd yn llwyddiannus oherwydd bod ganddo ffydd yn allgaredd dinasyddion Glyncorrwg a chwm Afan uchaf, ac roeddent yn ymddiried ynddo ac yn ei barchu.

Teimlai'n angerddol fod gan bawb hawl i ofal iechyd da, ac na fyddai'n bosibl targedu gwasanaethau at y rhai oedd eu hangen fwyaf oni bai bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn rhydd rhag dylanwadau'r farchnad ac wedi'i ganiatáu i ganolbwyntio'n unig ar les cleifion.

Lywydd, gallwn barhau am 90 eiliad arall, oherwydd roedd ei fywyd yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny, hyd yn oed ar ôl iddo ymddeol. Roedd Julian Tudor Hart, ac mae'n parhau i fod, yn un o gewri go iawn y gwasanaeth iechyd gwladol.

15:15

Mae cyfraniad Meic Stephens, a fu farw ddoe yn 79 oed, tuag at lenyddiaeth Cymraeg a Chymreig yn amhrisiadwy. Drwy ei waith diflino fel awdur, bardd, cyfarwyddwr cyngor y celfyddydau, sefydlwr cylchgronau ac athro prifysgol fe ehangodd ein gwerthfawrogiad a’n dealltwriaeth o ystod llenyddiaeth ein cenedl yn y ddwy iaith.

Yn enedigol o Drefforest, fe aeth ati gydag arddeliad i addysgu ei hun, gan dreulio cyfnodau yn Aberystwyth, Bangor a Rennes yn Llydaw cyn mynd ati i ddysgu gwahanol grefftau, fel athro Ffrangeg yng Nglyn Ebwy ac yna'n newyddiadurwr gyda’r Western Mail. Er mai ar aelwyd di-Gymraeg y cafodd ei fagu, penderfynodd gofleidio ei dreftadaeth Gymraeg gydag arddeliad. Roedd yn genedlaetholwr i’r carn. Yn wir, fe oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r slogan bythgofiadwy ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y graig yna ger Llanrhystud: gweithred chwyldroadol bwysig gan ŵr hynaws a meddylgar. Mae dyled Cymru i Meic Stephens yn anferth, a bydd yn cael ei gofio am byth fel arwr llenyddol cenedlaethol.

Yn gynharach eleni, roeddem yn coffáu canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Derbyniodd mwy na 5 miliwn o ddynion dosbarth gweithiol yn bennaf y bleidlais a daeth bron 8.5 miliwn o fenywod yn bleidleiswyr hefyd. Ond ni chafodd y menywod hyn yr etholfraint ar sail gyfartal. Yn hytrach, o dan y Ddeddf honno, roedd yn rhaid i bleidleiswyr newydd a oedd yn fenywod fod dros 30 oed. Roedd yn rhaid iddynt hwy neu eu gwŷr fodloni cymwysterau eiddo llym hefyd. Roedd yn rhaid i gydraddoldeb o ran yr etholfraint aros degawd arall. Ar 2 Gorffennaf 1928 y daeth Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Etholfraint Gyfartal) yn gyfraith. Roedd y Ddeddf hon yn caniatáu i bob menyw dros 21 oed bleidleisio, heb ystyried yr eiddo roeddent yn berchen arno, heb ystyried eu gwŷr.

Mae rhai sylwebyddion wedi cyfeirio at y consensws a'r diffyg dadlau ynglŷn â hyn, gan awgrymu, efallai, fod yna elfen o anocheledd hanesyddol. Mae'n rhaid i ni beidio â gwneud y camgymeriad o anwybyddu natur drawsnewidiol Deddf 1928. Daeth gwleidyddiaeth yn fwy cynrychioliadol. Cafwyd cynnydd o oddeutu 7,000 yn nifer yr etholwyr yn Aberdâr, er enghraifft, ac o'r diwedd, gallai menywod bleidleisio ar sail gyfartal i ddynion bellach. Mae esgeuluso'r achlysur hanesyddol hwn hefyd yn gwneud anghymwynas â'r ymgyrchwyr a fu'n brwydro yn y cyfamser dros yr egwyddor hon o gydraddoldeb, ymgyrchwyr fel Is-Iarlles Rhondda. Gyda Deddf 1928 yn dathlu ei phen blwydd yn 90 oed, rydym yn cofio'r hyn a alwyd gan un sylwebydd 'y symlaf, ac eto'r mwyaf radical o ddiwygiadau'.

Diolch i chi, a gobeithio y gwnewch chi edrych ar y sgriniau yn awr, os gwelwch yn dda. Roeddwn wrth fy modd yn mynychu degfed Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2018, a gynhaliwyd yn Llandudno ddydd Sadwrn gyda fy nghyd-Aelod, Darren Millar AC. Roedd llawer o gyffro wedi datblygu eisoes wrth weld ffrigad HMS Somerset yn cyrraedd bae Llandudno, ynghyd â dyfodiad tanciau'r fyddin ar y promenâd gan gynnwys hofrennydd Jackal ac awyren jet Typhoon. Fe safem, gyda phobl bwysig eraill, yn llawn cyffro i'r orymdaith gychwyn.

15:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Yn yr heulwen gogoneddus, daeth Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Theresa May, Ffiwsilwr Shenkin IV, yr afr gatrodol, oddi ar y Gogarth, a 100,000 o bobl i sefyll ar Bromenâd Traeth y Gogledd, gan gymeradwyo'n frwd i ddangos eu cefnogaeth i'r holl unigolion a theuluoedd sy'n gwasanaethu'n anhunanol yn ein lluoedd arfog. Eleni, sydd hefyd yn nodi canmlwyddiant yr awyrlu brenhinol, roedd yn arbennig o hyfryd gweld arddangosiad y Red Arrows yn dod i ben gyda'r rhif 100 wedi'i beintio ar draws yr awyr a'i ddilyn gan ehediad yr awyrlu brenhinol i goffáu Brwydr Prydain.

Lywydd—Ddirprwy—hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r trefniadau ac i'r rhai a gymerodd ran mewn digwyddiad mor hynod o gofiadwy. Cyfrannodd y digwyddiad yn arbennig i gydnabod ymrwymiad dewr ac eofn ein milwyr a'n cyn-filwyr, ac yn syml i ddweud 'Diolch'.

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i iechyd meddwl emosiynol plant a phobl ifanc, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig. Lynne Neagle.

Cynnig NDM6756 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Emosiynol ac Iechyd Medwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel arfer, rwy'n cychwyn drwy ddweud ei bod hi'n bleser cael agor y ddadl, ond heddiw, mae'n fwy na phleser; rwy'n falch, ac mae'n fraint cael annerch y Siambr hon ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

I mi, iechyd emosiynol a iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc yw un o'r materion pwysicaf, os nad y mater pwysicaf, i ni fel Cynulliad. Mae sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y lle hwn, ac ysgolion, ysbytai, ffermydd a ffatrïoedd ein cenedl yn wydn, yn feddyliol iach, ac yn meddu ar yr adnoddau i fynd i'r afael â'r heriau a fydd, yn anochel, yn eu hwynebu, yn gyfrifoldeb sylfaenol i bob un ohonom.

Amcangyfrifir y bydd un o bob 10 o bobl ifanc yn cael profiad o broblem iechyd meddwl, ac mae bron dri o bob pedwar unigolyn ifanc yn ofni ymateb eu ffrindiau pan fyddant yn siarad amdano. Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau erbyn 14 oed, a thri chwarter erbyn ugeiniau canol yr unigolyn ifanc. A dyna pam y dewisom neilltuo llawer o dymor y gaeaf i'r ymchwiliad hanfodol hwn.

Cynhaliodd y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn y pedwerydd Cynulliad adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Roeddem eisiau edrych ar hynny eto a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ei gynnydd. Ond roeddem eisiau mynd gam ymhellach. Roeddem hefyd yn ymrwymedig i ystyried pa gymorth y gellid ei roi i osgoi uwchgyfeirio at wasanaethau arbenigol. Mae costau salwch emosiynol a salwch meddwl—nid yn unig i bwrs y wlad, ond yn bwysicaf oll, i'r plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd sy'n dioddef yn ei sgil—yn rhy uchel i ni beidio â cheisio atal y llif yn gynharach.

Heb gymorth, gwyddom fod trallod meddwl yn gallu effeithio'n ddifrifol ar lesiant plant, eu datblygiad a'u cyrhaeddiad. Ond gyda chymorth priodol ac amserol, mae tystiolaeth hefyd yn dangos y gall plant a phobl ifanc sydd wedi cael problemau iechyd meddwl ac iechyd emosiynol fyw bywydau iach a hapus. Nid oes angen i hyn, ac ni ddylai, fod yn sefyllfa sy'n gwaethygu'n anochel.

Cyn i ni barhau, rwyf eisiau i ni glywed gan blant a phobl ifanc eu hunain. Rydym wedi ymrwymo i roi llais iddynt yn holl waith y pwyllgor, ac nid oedd yr ymchwiliad hwn yn eithriad. Rwyf eisiau cofnodi fy niolch i bawb a siaradodd â ni, ond yn enwedig i'r plant a'r bobl ifanc a roddodd ganiatâd i ni ymweld â hwy ac a siaradodd mor agored ac mor rymus am faterion rydym yn aml, hyd yn oed fel oedolion, yn ei chael hi'n anodd eu mynegi.

Yn ystod ein hymchwiliad, casglwyd tystiolaeth o brofiadau pobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd. Un ohonynt oedd drwy fideo, gyda'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan ym mhrosiect Newid Meddyliau Mind Casnewydd, sy'n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Gwn fod rhai ohonynt yn yr oriel heddiw. Hoffwn eu croesawu yma a rhoi cyfle i bawb wrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.  

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar yn y cyflwyniad. 

Hayden: 'Dechreuodd fy mhroblemau o gwmpas blwyddyn 8, felly roeddwn tua 13 neu 14, ac roeddwn yn cael cynnig cwnselydd bob amser, ond ni fyddai hynny byth yn digwydd mewn gwirionedd. Felly, roeddwn yn rhyw fath o ymdrin â'r peth ar fy mhen fy hun, ac yna, un diwrnod, digon oedd digon; nid oeddwn yn gwybod at bwy i droi.'

Tristan: 'Roedd siarad am iechyd meddwl a sut rydych yn teimlo yn dabŵ, yn enwedig i ddynion, rwy'n gwybod.'

Thomas: 'Pe bai'r problemau hyn wedi cael sylw yn llawer cynharach, ni fyddent wedi gwaethygu i'r pwynt—.'

15:25

Regan: 'Rwy'n teimlo y dylai fod mwy o fynediad at gymorth mewn ysgolion a llawer mwy o hysbysrwydd fod y cymorth hwnnw yno, ar gael i bobl.'

Tristan: 'Mae angen dulliau gwahanol o geisio helpu pobl ifanc, felly mae'n debyg i archwilio gwahanol bosibiliadau o oedran ifanc, fel myfyrdod, fel ioga, gallai fod yn ymarfer corff—yn hytrach na dim ond dweud "O, nid ydych yn teimlo'n dda; ewch i siarad â rhywun". Nid yw bywyd yn gweithio felly. Nid ydych yn mynd i gael rhywun i siarad â hwy drwy'r amser, ac nid yw hynny'n gweithio i bawb.'

Thomas: 'Pe bai'r athrawon wedi cael ychydig o hyfforddiant, digon i adnabod salwch meddwl—nid oes gwahaniaeth ai iselder neu orbryder rydych yn ei ddioddef, salwch meddwl yw salwch meddwl. O beidio â chael digon o gwsg i boeni am arholiadau, mae'n effeithio ar bawb ohonom.'

Rwy'n siwr y byddai pawb ohonoch yn hoffi ategu fy niolch i'r bobl ifanc am rannu eu barn a'u profiadau gyda ni. Gobeithio ei fod wedi rhoi blas i bawb o rai o'r pethau a gododd yn ystod ein hymchwiliad.

Felly, beth oedd ein casgliad? Rydym yn credu bod angen newid sylweddol ar frys yn y cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r hyn sydd ar gael wedi bod yn rhy gyfyngedig yn rhy hir. Rydym wedi galw ein hadroddiad yn 'Cadernid Meddwl', oherwydd credwn ei bod hi'n bryd i ni sicrhau hynny—dangos cadernid meddwl; darparu cymorth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol priodol, amserol ac effeithiol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, unwaith ac am byth.

Er ein bod yn cydnabod bod gwelliannau wedi cael eu gwneud mewn gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf, nid yw'n ddigon. Mae angen gwneud mwy, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal argyfwng a sut yr atgyfeiriwn ein plant a'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed at wasanaethau cymorth. Ni ddylai diagnosis meddygol gael ei weld fel yr unig allwedd sy'n agor y drws i gymorth. Nid yw'r ffaith nad yw rhywun wedi cael diagnosis o anhwylder yn lleihau difrifoldeb y trallod a'r niwed a ddioddefir. Ni ddylai hynny fod yn rhwystr rhag cael cymorth gyda gwasanaethau.

Mae angen dybryd i ni helpu'r hyn a elwir yn 'canol coll'. Yn 2014, dywedwyd wrth y pwyllgor a'n rhagflaenai fod gormod o plant a phobl ifanc mewn gwasanathau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) arbenigol yn cael eu hatgyfeirio yno yn amhriodol ac y dylid eu helpu mewn rhannau eraill o'r system. Erbyn 2018, nid oes digon wedi newid. Yn syml, mae'r darnau jig-so a ddylai fod yn eu lle ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc y tu allan i'r rhan fwyaf o leoliadau arbenigol ar goll. Bedair blynedd ers yr ymchwiliad diwethaf, mae hyn yn annerbyniol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn ar frys.

Fel pwyllgor, credwn fod yn rhaid gwneud rhywbeth drastig ar y pen ataliol i'r gwasanaethau. Os ydym yn parhau i fethu darparu llesiant emosiynol, gwydnwch a chymorth ymyrraeth gynnar, bydd plant a phobl ifanc yn parhau i ddioddef yn ddiangen. Mae hefyd yn golygu y bydd cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol yn parhau i fod o dan fygythiad.

Felly, beth sydd angen digwydd? Credwn fod angen newid sylweddol yn y flaenoriaeth a roddir i wydnwch emosiynol a llesiant plant a phobl ifanc. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod hon yn flaenoriaeth genedlaethol benodol. Ond nid yw geiriau'n unig yn ddigon. Mae angen iddynt fod yn seiliedig ar gynlluniau, adnoddau ac ymrwymiad i gyflawni newid gwirioneddol. Credwn fod angen clustnodi adnoddau i wneud ysgolion yn ganolfannau cymorth traws-sector a thrawsbroffesiynol ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn ein cymunedau. Credwn hefyd y dylid rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol i'r rheini sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â stigma, hybu iechyd meddwl da, a'u galluogi i gyfeirio at wasanaethau lle bo angen.

Mae diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ymgorffori llesiant ym mywydau ein plant, ac mae ysgolion mewn sefyllfa dda iawn i wneud cyfraniad sylweddol tuag at adeiladu poblogaeth o bobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol. Ond ni allant wneud hynny ar eu pennau eu hunain. Yn sicr nid ydym yn disgwyl i athrawon ac aelodau eraill o staff ysgol ddod yn arbenigwyr mewn iechyd meddwl. Mae cefnogaeth gan gyrff statudol eraill a chyrff y trydydd sector, ac iechyd yn enwedig, yn hanfodol. Mae angen i'r dull ysgol gyfan, lle mae ethos iechyd meddwl da yn llifo drwy bopeth, fod yn gyfrifoldeb traws-sector ac rydym angen newid sylweddol go iawn ar gyfer cyflawni hynny.

Mae ein hadroddiad yn gwneud un argymhelliad allweddol a 27 i'w gefnogi. Gyda'i gilydd, credwn y bydd y rhain yn sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i adeiladu poblogaeth o blant a phobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol ac yn feddyliol iach yng Nghymru. Maent yn fanwl, yn heriol ac yn uchelgeisiol, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu cael uchelgais uchel wedi'i gosod, ac yn haeddu'r galwadau sylweddol rydym yn eu gwneud ar eu rhan.

Dyna pam y mae'n rhaid i mi ddweud, yn anffodus, fy mod i a'r pwyllgor yn siomedig iawn gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion. Yn gyntaf, mae gormod o bwyntiau hanfodol wedi'u gwrthod. Yn ail, er bod llawer o argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor, mae hyn, i raddau helaeth, ar y sail fod Llywodraeth Cymru o'r farn fod y pethau rydym wedi galw amdanynt eisoes yn eu lle. Wel, rwy'n dweud wrth Lywodraeth Cymru heddiw: nid ydym yn cytuno â chi. Nid ydym yn credu bod digon o sylw wedi cael ei roi i'r dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr rydym wedi'i chyflwyno yn ein hadroddiad. Yn olaf, nid yw ymateb y Llywodraeth yn bodloni ein disgwyliadau, a'n galwadau am newid sylweddol o ran dull o weithredu. Fel pwyllgor, rydym yn gwrthod yr ymateb hwn; nid yw'n ddigon da. Nid yw'r dystiolaeth fanwl rydym wedi'i hamlinellu, a ddarparwyd gan amrywiaeth o arbenigwyr sydd â phrofiad helaeth yn y maes, na'r argymhellion rydym wedi'u hystyried yn fanwl ac yn ddifrifol wedi cael y gydnabyddiaeth, y dadansoddiad na'r parch y maent yn eu haeddu. Nid yw'r newid sylweddol rydym wedi galw amdano i'w weld yn yr ymateb hwn fel ag y mae. Nid yw'r Llywodraeth hon wedi ymateb i'n huchelgais â'r uchelgais rydym yn ei ddisgwyl ac yn ei fynnu ganddi. Fel y cyfryw, heddiw, rwy'n gwahodd Ysgrifenyddion y Cabinet i fyfyrio eto ar eu hymateb, ac i ddod yn ôl atom yn gynnar yn ystod tymor yr hydref gydag ymagwedd newydd. Bydd ein pwyllgor wedyn yn defnyddio ein hamser i archwilio'r materion pwysig hyn gydag Ysgrifenyddion y Cabinet gyda'r manylder fforensig y mae'r pwnc pwysig hwn yn ei haeddu.

Nawr, nid wyf yn dymuno dod â fy sylwadau i ben ar nodyn negyddol. Mae ein hadroddiad wedi'i groesawu ar sail drawsbleidiol a thraws-sector. Fe'i croesawyd fel cam pwysig tuag at y newid trawsffurfiol y mae ein plant a'n pobl ifanc yn ei haeddu. Fe'i croesawyd fel rhan allweddol o'r daith bwysig rwyf fi a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor yn ymrwymedig iddi ac yn benderfynol o'i theithio a'i chwblhau yn y Cynulliad hwn. Fel y dywed ein hadroddiad, dyma bwnc sy'n cyffwrdd â phawb ohonom, a maes lle mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb a gallu i wneud i newid ddigwydd. Nid ydym yn barod i ganiatáu i'r mater hollbwysig hwn gael ei drosglwyddo ymlaen mewn adroddiad etifeddiaeth arall i bwyllgor olynol yn y chweched Cynulliad, gan ddweud, 'Mae angen gwneud mwy.' Mae'r amser wedi dod i ni ddangos cadernid meddwl, a sicrhau'r newid sylweddol rydym ei angen mor ddirfawr.

15:30

Diolch. Mae yna nifer o Aelodau sy'n dymuno siarad yn y ddadl. Felly, byddaf yn defnyddio'r rheol pum munud yn llym iawn. Felly, nid oes unrhyw ddiben i chi edrych arnaf a gwenu os oes gennych hanner tudalen arall. Yr ateb fydd 'na', byddaf yn gwasgu'r botwm ac yn galw'r siaradwr nesaf. Mae'n ddrwg gennyf wneud hynny, ond mae gennym nifer o bobl sy'n dymuno siarad nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor, ac rwy'n credu bod hynny'n tystio i waith y pwyllgor, fod eraill am gymryd rhan. Felly, gofynnaf i chi gadw at y rheol pum munud, a chawn weld sut yr aiff hi. Darren Millar.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. £7.2 biliwn o bunnoedd, 6,000 o dderbyniadau brys i'n hysbytai a 300 o fywydau y flwyddyn; dyna yw cost iechyd meddwl bob blwyddyn yma yng Nghymru. Ac rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn cydnabod difrifoldeb yr angen i fynd i'r afael â'r broblem hon, a'r brys, o gofio nad ydym wedi cael fawr iawn o gynnydd hyd yn hyn ar roi camau ar waith i fynd i'r afael â hyn. Rydym yn gwybod bod tua thri chwarter yr holl achosion o salwch meddwl yn dechrau cyn i'r plentyn gyrraedd eu pen blwydd yn ddeunaw oed, a bod plant o gefndiroedd difreintiedig, neu'r rhai sydd â rhieni sydd â salwch meddwl eu hunain eisoes, yn fwy tebygol o i ddatblygu problemau iechyd meddwl eu hunain. Mae'n glir iawn o waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod angen inni adeiladu mwy o wydnwch yn ystod plentyndod a blynyddoedd yr arddegau, a rhoi camau ar waith ar frys i fynd i'r afael â'r anawsterau y mae llawer o'n pobl ifanc yn eu hwynebu pan fyddant angen gofal mwy arbenigol hefyd. Mae ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' yn nodi'r heriau a'r manylion ac yn darparu llu o argymhellion synhwyrol ac ymarferol i fynd i'r afael â hwy. Cafodd ei groesawu'n unfrydol gan randdeiliaid, ond nid gan Lywodraeth Cymru—neu felly mae'n ymddangos.

Rhaid imi ddweud, nid wyf yn meddwl fy mod wedi gweld un ymateb gan y Llywodraeth, yn yr 11 mlynedd y bûm yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sydd mor siomedig a hunanfodlon. Saith o argymhellion yn unig a gafodd eu derbyn, gwrthodwyd naw yn llwyr neu'n rhannol, ac o blith y gweddill, a bod yn onest, dylai'r rhai a ddisgrifiwyd fel rhai a dderbyniwyd mewn egwyddor fod wedi'u nodi fel rhai a wrthodwyd, gan nad yw 'derbyn mewn egwyddor' yn ddisgrifiad cywir o'r ymateb a ddarllenasom ar y papur. Nid yw'n syndod felly fod llu o randdeiliaid wedi bod mewn cysylltiad ag aelodau'r pwyllgor ac aelodau eraill o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn cyn y ddadl y prynhawn yma i fynegi eu pryderon. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi llwyddo i uno nid un, nid dau, ond 73 o seicolegwyr i lofnodi un llythyr yn galw am weithredu pob un o'r argymhellion yn ein hadroddiad yn llawn. Mae'r comisiynydd plant wedi dweud bod yr ymateb a ddaeth i law yn gyfle a gollwyd, a dywedodd nad yw'r system bresennol yn ddigonol nac yn gydlynol. Mae'r NSPCC wedi dweud nad yw'n mynd i sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen, ac maent yn hollol gywir. Mae angen inni weld y newid sylweddol hwnnw, ac mae'n drueni mai'r unig newid y mae rhai pobl i'w gweld â diddordeb ynddo yw'r newid sylweddol o un swydd i swydd y Prif Weinidog.

Rwy'n teimlo o ddifrif fod angen i Lywodraeth Cymru rwygo'i hymateb ac ailfeddwl a chynhyrchu rhywbeth sy'n dangos ychydig bach mwy o barch, nid yn unig at y pwyllgor, ond at y rhanddeiliaid a'r unigolion a ddarparodd y dystiolaeth y seiliwyd ein hadroddiad arni. Rydym wedi cael llond bol ar eiriau gwag. Rydym wedi gweld adroddiadau sydd wedi nodi problemau o'r blaen mewn  Cynulliadau blaenorol, ac yn anffodus nid ydym wedi gweld gweithredu gan Lywodraeth Cymru, gan Weinidogion olynol, i allu ymdrin â'r heriau. Gwelsom arferion da yn y dystiolaeth a gawsom—arfer da ar adeiladu gwydnwch iechyd meddwl yn ein hysgolion. Ysgolion megis Ysgol Pen y Bryn yn fy etholaeth fy hun a'u rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar—cyfle gwych a gyflwynwyd gennym ac yr awgrymwyd y dylid ei gyflwyno ymhellach mewn ysgolion eraill. Eto i gyd, roedd eich ymateb i argymhelliad 3 yn hunanfodlon, yn annigonol, ac yn awgrymu mwy o'r un peth a dim mwy na hynny. Roedd hefyd yn awgrymu eich bod eisoes yn gwneud y pethau a oedd yn angenrheidiol. Nid yw hynny'n wir.

Rydych wedi gwrthod argymhelliad 9 a rhan o'n hargymhelliad 11, sy'n galw am bethau syml megis casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd ar amseroedd aros iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi gofyn am asesiad ac ymyrraeth, mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd. Mae'n waradwyddus—yn gwbl warthus—fod yr argymhellion hynny wedi'u gwrthod, ac mae'n awgrymu diffyg blaenoriaeth i'n plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru. Oni bai ein bod yn cael y data hwnnw, nid ydym yn mynd i allu dwyn pobl i gyfrif. Ac nid yw'n syndod fod gan sefydliadau fel bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros 1,000 o bobl ifanc, mwy na'r holl fyrddau iechyd eraill yng Nghymru gyda'i gilydd, ar restrau aros ers dros flwyddyn, yn aros i gael asesiadau ac yn aros i gael triniaeth ar gyfer eu problemau gofal eilaidd acíwt mewn iechyd meddwl. Mae'n gwbl annerbyniol. Ac er mwyn y 1,000 o unigolion yng ngogledd Cymru, ac eraill o amgylch y wlad, mae angen inni weld y newid sylweddol y mae ein hadroddiad yn cyfeirio ato.

Felly, credaf y dylem roi'r ymateb penodol hwn mewn man lle nad yw'r haul yn disgleirio, y peiriant rhwygo papur, a meddwl am rywbeth llawer gwell yn unol â dymuniadau'r pwyllgor, gan mai dyna'r unig beth rydym yn mynd i weld unrhyw newid yn ei gylch.

15:35

A gaf i jest ddweud ar y cychwyn fy mod i a'm plaid i yn cytuno gyda phrif argymhellion y pwyllgor yma? Wrth gwrs, y prif argymhelliad yw bod y mater yma yn dod yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig. Nawr, mi glywon ni gyfeiriad at adroddiadau blaenorol y pwyllgor—adroddiad yn ôl yn 2014, er enghraifft, a arweiniodd at beth newid o safbwynt gofal yn y maes yma. Ond mae angen nawr i ni fynd i'r lefel nesaf, ac mae'r ystadegau yn mynnu hynny. Rydym ni wedi clywed rhai yn barod. Yn 2017, er enghraifft, mi welodd Childline Cymru 20 y cant o gynnydd yn nifer y galwadau ynghylch hunanladdiad. Yn y 12 mis i fis Hydref 2016, mi gafwyd 19,000 o atgyfeiriadau at wasanaethau CAMHS yng Nghymru—3,000 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae problemau lles emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn tyfu ac mae angen pwyslais newydd, pwyslais didrugaredd, ar ochr ataliol y llwybr gofal—lles emosiynol, gwydnwch ac ymyrraeth gynnar. Rydym ni wedi clywed am y canol coll—y missing middle yma—ac os nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno y newid trawsnewidiol y mae'r pwyllgor eisiau'i weld, mi fydd y gwasanaethau ar frig y sbectrwm yn mynd yn gwbl anghynaladwy oherwydd nid fydd modd 'cope-io' gyda'r niferoedd a fydd yn galw am y gwasanaethau.

Ni all ysgolion, wrth gwrs, ddim ysgwyddo'r her yma ar eu pennau eu hunain. Dyna pam rydym am weld dull cyflawni systemau cyfan—whole-systems approach—lle mae plant, pobl ifanc, ysgolion, gofal cymdeithasol, iechyd a'r sector wirfoddol i gyd yn cyd-dynnu ac yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaeth a'r gefnogaeth orau posib. Tra bod uchelgais y pwyllgor yn glir—bod angen y gweithredu trawsnewidiol yna—mae'n rhaid dweud bod ymateb y Llywodraeth, fel y dywedais i ddoe wrth y Prif Weinidog, yn llipa, yn hunanfodlon ac yn gwbl annigonol. Mae yn siom, ac rwy'n rhannu siom Aelodau eraill bod cyn lleied o'r argymhellion wedi eu derbyn a bod cynifer wedi'u derbyn mewn egwyddor, ac, yn wir, bod cynifer wedi'u gwrthod. Gwrthodwyd, er enghraifft, yr argymhelliad y dylid mapio argaeledd staff nad ydyn nhw yn addysgu mewn ysgolion ond sydd yna i gefnogi iechyd a lles emosiynol. 'O, cyfrifoldeb awdurdodau lleol a byrddau iechyd yw hynny', meddai'r Llywodraeth. Wel, pasio'r buck yw hynny, oherwydd mae hon yn broblem genedlaethol a rôl Llywodraeth yw cymryd y darlun cenedlaethol yna i ystyriaeth. Mwy o ddata ar gael a mwy o wybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â sut mae byrddau iechyd yn gwario eu harian ar wasanaethau iechyd meddwl i blant—yn cael ei wrthod. Mae hwnnw'n dweud rhywbeth am dryloywder, buaswn i'n dweud, hefyd.

Fe argymhellodd y pwyllgor bod angen sicrhau bod pawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ac yn gallu cyfeirio pobl wedyn, neu deimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chyfeirio pobl ifanc, at wasanaethau eraill. Sawl gwaith clywsom ni, fel pwyllgor, staff ysgolion yn dweud nad ŷn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw wedi ymbweru i fedru ymateb i'r hyn yr oedden nhw'n pigo i fyny arno fe yn yr ystafell ddosbarth? Yn wir, maen nhw'n cael eu llethu gan yr achosion yma ac mae angen help arnyn nhw, ac ar y gweithlu ehangach. Mae'r cwricwlwm, wrth gwrs, yn mynd i gyfrannu, ond fel rwy'n dweud, mae yna weithlu ehangach sylweddol.

Mae yna bwynt arall, rwy'n meddwl, yn fan hyn, sydd wedi dod fwyfwy i'r amlwg. Yn amlwg, mae Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion yn rhannu'r cyfrifoldeb am hyn ac mae hynny'n gallu bod yn gryfder ar adegau, ond yn amlwg, rwy'n ofni, mae'n gallu bod yn wendid hefyd ar adegau, oherwydd y peryg yw bod neb yn gyrru'r mater yma—bod neb yn cymryd perchnogaeth ac yn rhoi momentwm wedyn i'r ymdrech o fynd i'r afael â'r broblem. O ganlyniad, mae 'derbyn mewn egwyddor' yn dod yn rhyw fath o ymateb default sydd, i bob pwrpas, yn golygu 'busnes fel arfer' ac nid newid trawsnewidiol. Rwy'n cefnogi'r sylwadau a wnaeth y Cadeirydd a'i beirniadaeth hi o'r Llywodraeth—mae e'n fethiant amlwg yn fy marn i, yn yr achos yma. Mi wnes i awgrymu ddoe, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau ar draws Llywodraeth, yna dylem ni fod yn edrych ar arweinydd y Llywodraeth i fod yn gyrru hwn, fel yr unig berson, buaswn i'n meddwl, sydd â statws digonol i sicrhau bod hwn yn wirioneddol yn flaenoriaeth genedlaethol.

Yn fyr, i gloi, rwyf jest eisiau sôn am un cynllun penodol yr wyf fi wedi dod ar ei draws e. SAP yw'r acronym—student assistance programme. Rhaglen yw e i blant a phobl ifanc rhwng pedwar ac 19 oed. Mae'n cael ei weithredu ar hyn o bryd yn ysgolion Wrecsam, lle mae plant yn dod at ei gilydd i siarad am eu teimladau a'u problemau er mwyn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Maen nhw'n cael eu cyfeirio at wasanaethau os oes angen hefyd. Mae grwpiau o gyfoedion yn dod at ei gilydd, maen nhw'n cwrdd yn wythnosol mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, ac mae e'n caniatáu adnabod y problemau rydym yn sôn amdanyn nhw'n gynnar. Mae wedi cael—

15:40

O'r argymhellion allweddol yn yr adroddiad hwn, yr unig rai y mae'r Llywodraeth yn eu derbyn yw'r rhai nad ydynt yn galw am unrhyw weithredu neu'r rhai nad ydynt yn fesuradwy. Maent yn derbyn yr argymhelliad i ddatgan bod lles a gwydnwch emosiynol a meddyliol ein plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol, ond yn achos yr argymhellion sy'n golygu bod yn rhaid iddynt weithredu, mae'r Llywodraeth yn dechrau osgoi a sbinio eu hymatebion drwy wrthod argymhellion neu eu derbyn mewn egwyddor yn unig, ac mae pawb ohonom yn gwybod bod hynny'n golygu na chaiff unrhyw beth ystyrlon ei wneud.

Nid wyf yn gwybod beth arall y gall y pwyllgor hwn ei wneud i'r Llywodraeth roi'r camau sydd eu hangen ar waith. Mae'r sefyllfa'n anobeithiol. Fel y soniodd Darren eisoes, mae mwy na 1,000 o blant a phobl ifanc yn aros 12 i 18 mis am asesiad niwroddatblygiadol yn Betsi Cadwaladr, ac mae'r pwyllgor wedi argymell bod y Llywodraeth yn datblygu cynllun adfer ar unwaith. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru? Maent yn dweud y byddant yn ysgrifennu at Betsi Cadwaladr i ofyn iddynt amlinellu cynllun adfer. Yn gyntaf, mae'r broblem hon wedi bod yn tyfu ers blynyddoedd tra bo Llafur mewn grym, felly pam nad ydynt wedi gofyn i Betsi Cadwaladr wneud hyn o'r blaen? Os ydynt wedi gwneud hynny, pam gofyn eto? Yn ail, mae'r bwrdd presennol wedi llywyddu dros yr ôl-groniad ffiaidd ac annynol hwn ac wedi helpu i'w greu yn y lle cyntaf, felly beth sy'n gwneud i'r Llywodraeth gredu bod gan un o'r prif elfennau a greodd y broblem unrhyw syniad sut i'w datrys? Mae'r Llywodraeth yn sôn am sefydlu llinellau sylfaen ar gyfer darparu llwybrau niwroddatblygiadol, ond mae hynny'n ddibwrpas pan fo byrddau iechyd o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth yn methu cyrraedd y llinellau sylfaen presennol fel mater o drefn, ac yn gynyddol felly.

Yn yr wythnos y dathlwn ben blwydd y GIG yn 70 oed, a phan fo Llafur yn ceisio honni mai hwy yw unig warcheidwaid etifeddiaeth Bevan, mae'n bwysig cofio ei fod wedi dweud y dylai pobl gael mynediad pan fyddant yn sâl at y gofal gorau y gall sgiliau meddygol eu darparu. Wel, nid yw Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn dod yn agos at ddarparu hynny. Po hwyaf yr amser aros, y mwyaf o salwch meddwl y bydd dioddefwr yn ei wynebu. Mae'r risg o hunanladdiad neu hunan-niwed yn cynyddu, bydd eu haddysg yn cael ei niweidio ymhellach a bydd bywydau eu teuluoedd yn mynd yn fwyfwy anodd.

Fel pwyllgor, fe edrychwyd ar hyn yn fanwl iawn, fel grŵp o Aelodau Cynulliad o bleidiau gwahanol iawn yn dod at ei gilydd i geisio gwella bywydau plant a phobl ifanc, felly pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl y bydd hi'n iawn gwrthod rhai o'r argymhellion a derbyn y rhan fwyaf o'r lleill mewn egwyddor yn unig? Ym mhwynt 4, dywedwch eich bod yn ei dderbyn mewn egwyddor, ond wedyn rydych yn gwrthod yr argymhelliad allweddol, gan ddweud na fyddwch yn cefnogi rhaglen benodol y mae'r pwyllgor yn gofyn i chi ei chefnogi, er bod y prosiect yn cynnwys y Samariaid, y credaf fod ganddynt ddealltwriaeth ddyfnach o lawer o faterion iechyd meddwl na chi, Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae pwynt 9 yn ymateb y Llywodraeth yn dweud wrth bobl ifanc Cymru a'u rhieni bopeth sydd angen iddynt ei wybod ynglŷn â beth y mae'r Llywodraeth Lafur yn ei feddwl o'r modd y maent wedi rheoli'r mater hwn. Mae'r Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad y pwyllgor, sy'n argymhelliad synhwyrol iawn, i gyhoeddi data ar amseroedd aros am asesiadau ac ymyriadau ar gyfer plant a phobl ifanc ers cychwyn darpariaethau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Pe bai'r data'n newyddion da, rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ei gyhoeddi. Felly, tybed pa reswm cadarnhaol a allai fod dros awydd Llywodraeth Cymru i atal y wybodaeth hon rhag cyrraedd y cyhoedd.

Mae'r sefyllfa mor annioddefol bellach fel na fydd dim llai na derbyniad llawn ac ymrwymiad i weithredu holl argymhellion y pwyllgor yn ddigon da. Mae'r Llywodraeth â'i phen yn y tywod o hyd ynglŷn â'r broblem hon, a'u hagwedd 'Gwneud y synau iawn, ond gwneud dim' sydd wedi arwain at y broblem yn y lle cyntaf. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet fod yn gwneud ei orau glas i ymddiheuro i'r bobl ifanc a'r teuluoedd y mae ef a'i Lywodraeth wedi gwneud cymaint o gam â hwy a gwneud popeth y mae'r pwyllgor wedi ei argymell.

Felly, yn olaf, yn fwy na fy anobaith ynglŷn â maint y broblem, rwy'n anobeithio am eu bod o hyd, hyd yn oed yn wyneb adroddiad fel hwn, yn dal i geisio sbinio'u ffordd allan ohoni tra bo plant a phobl ifanc yng Nghymru yn dioddef. Mae ymateb y Llywodraeth yn ffiaidd, ac fe adawaf fy sylwadau yno.

15:45

Rwy'n aelod o'r pwyllgor, a chredaf mai dyma un o'r ymchwiliadau mwyaf pwysig a gyflawnwyd gennym mewn gwirionedd. Gwn fod y Llywodraeth yn cydnabod bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant yn fater sy'n croesi cymaint o ffiniau rhwng cymaint o wahanol bobl a chymaint o wahanol sefydliadau—iechyd, ysgolion, sefydliadau cefnogi ieuenctid, clybiau ieuenctid, CAMHS—felly, croesawaf argymhelliad y pwyllgor a derbyniad y Llywodraeth y dylai fod yn flaenoriaeth genedlaethol, ond os oes gennych rywbeth yn flaenoriaeth genedlaethol, credaf fod yn rhaid ichi wneud popeth a allwch i'w chyflawni, ac yn yr argymhellion mwy manwl ni chawsom yr ymateb y gobeithiem ei gael mewn gwirionedd.

Rwy'n cytuno'n gryf â barn y pwyllgor y dylai pawb sy'n dod i gysylltiad â phlant roi eu lles a'u hiechyd meddwl yn flaenaf yn eu meddyliau, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na chyflwr meddwl plentyn? Rhaid inni anelu i gael cenhedlaeth o blant hapus a sicr yn emosiynol, gyda meddylfryd cadarnhaol, ond i wneud hynny rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pawb sy'n gofalu am blant, neu'n gwirfoddoli neu'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gael hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel y gallant fynd i'r afael â materion stigma a hyrwyddo iechyd meddwl da. Nawr, mae'r Llywodraeth yn derbyn hyn, ond mewn egwyddor yn unig. Mae'n siomedig gweld hyn yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth 'afrealistig'. Does bosib nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio gyda phlant yn cael rhywfaint o leiaf o hyfforddiant cychwynnol, felly pam na allai hyn gynnwys elfen i godi ymwybyddiaeth fan lleiaf o bwysigrwydd gofalu am les emosiynol a meddyliol plant? Ni allaf weld bod unrhyw broblem o gwbl yn hynny, ac nid wyf yn gweld bod hynny'n afrealistig o gwbl. Credaf ei bod yn hanfodol ei fod wedi'i gynnwys mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon, a'r hyfforddiant y mae gweithwyr ieuenctid yn ei gael, yr hyfforddiant y mae staff iechyd yn ei gael, ac rwy'n meddwl o ddifrif fod hynny'n rhywbeth y gellid ei ymgorffori yn yr hyfforddiant sydd eisoes yn digwydd heb unrhyw drafferth. Felly, nid wyf yn derbyn bod gweithredu'r argymhelliad hwnnw'n afrealistig.

Nawr, pan fydd iechyd meddwl plentyn yn dioddef, credaf fod hynny'n achosi llawer iawn o straen a gofid i'w teulu, eu ffrindiau, yr ysgol, a phawb sy'n gweithio gyda hwy. Credaf fod goblygiadau iechyd meddwl plentyn mor bellgyrhaeddol ac mae llawer ohonom wedi profi'r problemau hynny. Gall teuluoedd wneud eu gorau i ddarparu ar gyfer eu plant yn emosiynol ac yn faterol, ond gall problemau gyda'ch iechyd emosiynol a'ch iechyd meddwl ddigwydd i bob teulu. Felly, mae iechyd meddwl plant yn broblem sy'n gallu effeithio ar deuluoedd o bob math. Ond credaf fod pawb ohonom yn gwybod bod yna grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed, a dau o'r grwpiau hynny yw plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu, ac mae'n bwysig cyfleu hynny.

Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad pan lansiodd Adoption UK eu hadroddiad o'r enw 'Bridging the Gap' ar roi cyfle cyfartal i blant wedi'u mabwysiadu yn yr ysgol. Mae angen cymorth ychwanegol ar blant wedi'u mabwysiadu yn yr ysgol, ac efallai nad yw ysgolion mor ymwybodol o hynny ag y dylent fod weithiau—mae yna fwlch yn y ddealltwriaeth. Ac mae'n dangos nad oedd 65 y cant o blant wedi'u mabwysiadu yn teimlo bod eu hathrawon yn deall yn iawn sut i'w cefnogi, a chodai hyn i 74 y cant yn ystod oedran ysgol uwchradd. Felly, credaf ei fod yn destun pryder mawr fod yr adborth gan blant wedi'u mabwysiadu—sydd, fel y gwyddom, oherwydd problemau ymlyniad y gallent fod wedi'u cael yn gynnar mewn bywyd, yn fwy agored i gael problemau iechyd meddwl—yn dangos nad oeddent yn teimlo y gallent droi at eu hathrawon. Rwy'n credu bod ein hadroddiad wedi adlewyrchu hynny mewn gwirionedd yn y rhan fwyaf o'r elfennau y buom yn ymdrin â hwy—fod plant yn gorfod gofyn am gymorth ac aros am gymorth mewn modd y mae'r Cadeirydd wedi'i alw'n annerbyniol.

Rwy'n teimlo y dylai'r Cynulliad hwn ei gwneud hi'n genhadaeth danbaid i sicrhau bod ein plant yn tyfu i fyny'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mai ein cenhadaeth danbaid ni yw gwneud i hyn ddigwydd. Teimlaf felly fod yr adroddiad hwn yn nodi'r cyfan hyn, ond credaf mai mater i'r Llywodraeth yw sicrhau ei bod hi'n genhadaeth danbaid iddi hi yn ogystal, ac y gallwn, gyda'n gilydd, gydweithio i wneud ein plant yn hapus ac yn fodlon.

15:50

Mae'n 4 Gorffennaf heddiw, ac yn rhyddiaith ddisglair Jefferson, cawn ein hatgoffa ein bod yn cael ein geni â hawliau diymwad, a'r mwyaf pwysig yw

bywyd, rhyddid a'r ymchwil am ddedwyddwch.

Nawr, byddem yn diffinio'r 'ymchwil am ddedwyddwch' fel rhyw fath o lesiant emosiynol heddiw, ac nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod amddifadu plant o gymorth effeithiol a diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl ac iechyd emosiynol yn ystod plentyndod yn effeithio'n enfawr ar yr unigolyn a'u datblygiad fel oedolion, a'r potensial i fod yn hapus a'r ymdrech i gyflawni pob math o nodau mewn bywyd.

Rwy'n siarad o fy mhrofiad fy hun. Nid rhywbeth a nodais ydyw. Rwyf wedi byw gyda chyfnodau o iselder ac yn fwy arbennig, gorbryder, ar hyd fy oes. Dysgais lawer o fy ffyrdd o ymdopi drosof fy hun ac yn fwy diweddar, drwy ymyriadau iechyd effeithiol. Ond wyddoch chi, mae'n brofiad sy'n dieithrio rhywun yn enfawr, a hyd yn oed yn y brifysgol, rwy'n cofio bod mewn dryswch llwyr ynglŷn â rhai o fy symptomau a heb ddealltwriaeth sylfaenol o'r hyn oeddent. Credaf fod honno'n sefyllfa ofnadwy i fod ynddi.

Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn. Credaf ei fod yn rhagorol, fel y mae Lynne Neagle, sy'n un o'n Haelodau meinciau cefn gorau yn bendant, ac mae eich ffordd o ddwyn eich hochr chi i gyfrif yn ddosbarth meistr ar sut y dylai pobl fynd ar drywydd y lles cenedlaethol ac mae hynny'n mynd â chi ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid. Rydych yn ennyn y parch mwyaf ar draws y Siambr.

A gaf fi ddweud mai fy mraint yw cadeirio grŵp cynghori Gweinidog y Llywodraeth ar ganlyniadau i blant? Cawsom gyfarfod ddydd Gwener, ac roedd yr adroddiad hwn, 'Cadernid Meddwl', yn un o'r eitemau ar yr agenda, a chafodd ei dderbyn gyda llawer o frwdfrydedd, yn enwedig ymhlith cynrychiolwyr y trydydd sector sy'n hollbwysig i waith y grŵp. Ond roedd peth pryder, yn arbennig, am yr arfer hwn o dderbyn mewn egwyddor. Nawr, fe eglurais, mewn ffordd weddol niwtral, fod hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn arfer yn ymatebion y Llywodraeth i adroddiadau ers blynyddoedd lawer, ac fel arfer byddai pwyllgor yn treulio llawer o amser yn dychwelyd at yr eitemau a gafodd eu derbyn mewn egwyddor, ac yn archwilio pa mor ddwfn roedd hynny'n mynd ar ôl chwe mis, blwyddyn neu beth bynnag, a wnaed rhywbeth yn ymarferol neu ai ffordd oedd hi o osod rhywbeth o'r neilltu yn y bôn. Felly, gwn y byddwch yn dychwelyd at hyn pan ddowch at y gwaith craffu manwl yn sgil yr adroddiad, a gwn y bydd y Gweinidogion yn ymwybodol o hyn yn ogystal, a byddant yn gwybod am bryder a rhwystredigaeth rhai o'r Aelodau yma. Ond rwy'n atgoffa Ysgrifenyddion y Cabinet fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi dweud y llynedd y byddai Llywodraeth Cymru yn symud oddi wrth yr arfer o dderbyn argymhellion mewn egwyddor ac yn dweud yn onest a ydynt yn derbyn yr argymhelliad fel y'i lluniwyd ai peidio, ac yna gallant roi eu rhesymau am hynny. Credaf mai dyna sy'n dangos atebolrwydd go iawn. Mae gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr adroddiad hwn yn rhwystredig braidd.

A gaf fi droi at rywfaint o'r manylion? Credaf fod yr angen i ganolbwyntio yn awr ar ben ataliol y llwybr yn bwysig tu hwnt, neu fel arall byddwn yn gweld anawsterau pellach gyda'r pen acíwt, ac atgyfeirio trwy CAMHS, gyda'r atgyfeiriadau amhriodol o beidio â gwybod ble arall i fynd, felly rydych yn gwneud atgyfeiriad CAMHS. Rwy'n credu bod rhai o'r awgrymiadau ymarferol—y dull cenedlaethol o weithredu ar gyfer ysgolion, gan gynnwys yr angen am fodel athro arweiniol, fel bod aelodau arweiniol o staff â chyfrifoldeb ac yn galluogi athrawon eraill i nodi pethau—addysgeg sylfaenol yw hyn. Mae'n anhygoel i mi y cyfeirir ato fel rhywbeth sy'n anymarferol mewn rhyw ffordd, ac ymhlith y bobl fwyaf proffesiynol sydd gennym yn ein gwlad, nad yw staff addysgu'n gallu gwneud hyn. Dylent gael hyfforddiant a chymorth i'w wneud. Mae pwysigrwydd ymyrraeth therapiwtig wedi bod yn allweddol iawn yn fy mhrofiad fy hun, a'r cynnig gweithredol o eiriolaeth ar gyfer plant sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl.

A gaf fi gymeradwyo argymhelliad 22 yn benodol—asesiad o anghenion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant sy'n dechrau derbyn gofal? Mae hynny'n peri pryder penodol i grŵp cynghori'r Gweinidog. Ac argymhelliad 23—fod Llywodraeth Cymru i asesu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, a dylai hyn gael ei lywio gan waith grŵp cynghori'r Gweinidog—[Anhyglyw.]

15:55

Yn wir, ac mae'n fraint cael cymryd rhan yn y ddadl hon. Nid wyf yn aelod o bwyllgor ardderchog Lynne Neagle. Rwy'n cymeradwyo Lynne Neagle fel Cadeirydd, yn y lle cyntaf. Rwy'n Gadeirydd dinod y pwyllgor iechyd yn y lle hwn, ac nid wyf yn gwybod a wyf fi wedi crybwyll o'r blaen fy mod yn feddyg teulu hefyd, yn Abertawe, ers 38 mlynedd.

Felly, o brofiad rheng flaen o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl i blant, mae'n wirioneddol rhwystredig, rhaid i mi ddweud. Mae angen newid llwyr—mwy na newid sylweddol, ond chwyldro go iawn yn y ddarpariaeth, nid yn unig o ran y gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, ond yn yr holl wasanaethau cymorth emosiynol a chwnsela yn ogystal, yn y sector gwirfoddol ac yn y sector statudol hefyd. Mae angen inni gynyddu'r ddarpariaeth statudol ac anstatudol—mewn gwirionedd, mwy o bobl yn gweithio i helpu ein plant a'n pobl ifanc. Pam felly? Wel, dros y blynyddoedd—. Roeddwn i'n arfer cynnal y clinig babanod flynyddoedd yn ôl, a babanod bendigedig a fyddai'n gwenu'n hapus, ond rwy'n eu gweld yn tyfu i fyny yn awr—bellach maent yn neiniau a theidiau, fel y dywedais wrthych ddoe—ond yn tyfu i fyny—. Weithiau os ydych chi'n anlwcus i fod mewn cartref sydd wedi dioddef trawma, rydych yn dioddef plentyndod erchyll—bydd babanod bendigedig yn tyfu'n blant bach sy'n troi'n dreisgar—ac wedyn yn bobl ifanc yn eu harddegau sy'n wynebu trawma, yn methu ymddiried mewn neb sydd mewn awdurdod, hyd yn oed y rhai sy'n ceisio eich helpu. Rydych yn hunan-niweidio, rydych wedi eich niweidio'n emosiynol, a phwy y gallwch droi atynt? Felly, rydych chi'n rhoi cynnig ar eich meddyg teulu. Felly, meddygon teulu, ie, rydym wedi ein rhaglennu i helpu pobl, ond oni bai fy mod yn gallu argyhoeddi gofal eilaidd fod gennych anhwylder iechyd meddwl y mae modd ei ddisgrifio, ni fyddant yn eich cymryd.

Mae atgyfeiriadau i CAMHS yn bownsio'n ôl at y meddyg teulu. Mae hynny oherwydd nad yw'r elfen o drallod i berson ifanc yn cael ystyriaeth o gwbl. Rhaid cael diagnosis priodol—dyna'r canol coll fel y mae'r adroddiad rhagorol hwn yn sôn amdano. Ac mae'n rhaid inni stryffaglu drwyddi gyda'r canol coll, ac nid dyna sut y dylem fod yn gwneud pethau yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Felly, rwy'n dal i weld pobl, maent yn dal i dyfu fyny, fy mhlant a fy mhobl ifanc, ac mae rhai ohonynt wedi'u niweidio'n ddychrynllyd. Ac eto, mae'n rhaid i mi aros iddynt fod yn ddigon gwael i gael mynediad at CAMHS. Nawr, nid dyna yw ymyrraeth gynnar.

Nid dyna yw ymyrraeth gynnar; ymwneud â chyrraedd trothwy o driniaeth y mae hynny, ac nid dyna fel y gwnawn bethau y dyddiau hyn, ers inni basio'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ardderchog dan arweiniad Jonathan Morgan yma yn 2010. Mae a wnelo ag ymyrryd yn gynnar, mae a wnelo ag atal, ac rydym yn dal i fod yn methu ei wneud. Rhaid inni gael y gwasanaethau hynny ar lawr gwlad. Nid wyf eisiau dal ati i weld pobl mewn trallod gyda fy ngalluoedd cyfyngedig, heb unman i'w cyfeirio i ddatrys eu problemau am nad ydynt yn ddigon gwael neu am nad ydynt wedi cael diagnosis iechyd meddwl. Ni allwn ymdopi â phobl ifanc mewn cymaint o drallod oherwydd pethau sydd wedi digwydd heb fod anhwylder iechyd meddwl go iawn yn bresennol. Oes, mae gan rai pobl anhwylder iechyd meddwl yn ogystal, ond nid pob unigolyn ifanc ac nid yw trallod yr holl sefyllfa yn ddigon drwg i ni fel cymdeithas wneud unrhyw beth yn ei gylch.

Fel meddygon teulu, mae cael llythyrau o ofal eilaidd yn dweud, 'Na, ni allwch gyfeirio'r person hwn yma am nad oes ganddynt unrhyw anhwylder iechyd meddwl adnabyddadwy' yn ein brifo. Felly, beth ddylwn i ei wneud? Ie, yn ôl i'r ysgolion. Nid oes gennyf unrhyw reolaeth dros wasanaethau cwnsela mewn ysgolion, er hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weld gweithrediad llawn yr argymhellion yma yn golygu y bydd gofal sylfaenol, y sector gwirfoddol ac ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd—meddygon teulu, gofal sylfaenol ac athrawon gyda'i gilydd. Oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes gennym ddewis ond pasio bobl yn ôl ac ymlaen, am na allaf fi eu helpu. Gobeithio y gall yr athrawon wneud hynny. Ond rhaid inni rymuso ein hathrawon yn ogystal, gadewch inni fod yn deg.

Gadewch inni fod yn deg yma, oherwydd rydym yn stryffaglu. Mae pobl yn sôn am gydraddoldeb rhwng salwch corfforol a salwch meddyliol—wel, os oes gennyf blentyn sy'n sâl yn gorfforol, rwy'n codi'r ffôn, rwy'n ffonio gofal eilaidd, ac maent hwy'n ymdrin ag ef. Rwy'n ceisio cael gafael ar ofal eilaidd ar gyfer plant sydd mewn trallod emosiynol, ac nid oes dim yn digwydd. Mae'n rhaid i hynny newid. Diolch yn fawr.

16:00

Cofiaf yn dda pan agorwyd yr adeilad hwn, rhoddodd bardd cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, ddarlleniad lle roedd hi'n disgrifio'r Siambr hon fel caban peilot y genedl—y man lle y down at ein gilydd i drafod pethau o bwys. Ac wrth wrando ar y ddadl hon a darllen yr adroddiad, mae'n amlwg y ceir consensws trawsbleidiol fod y system bresennol yn annigonol. I fod yn deg â Llywodraeth Cymru, y tro diwethaf yr ysgrifennwyd adroddiad fel hwn, fe ymatebodd a chafwyd gwelliannau sylweddol yn ansawdd y driniaeth ar gyfer pobl ifanc ag anhwylderau iechyd meddwl, ac mae galwad ganolog yr adroddiad hwn i drin datblygiad problemau iechyd meddwl ar gamau cynharach yn haeddu ymateb tebyg.

Nid wyf ar y pwyllgor, ond rwyf wedi darllen yr adroddiad yn fanwl, rwyf wedi darllen ymateb y comisiynydd plant, rwyf wedi eistedd drwy gyflwyniadau lluosog gan wahanol grwpiau, rwy'n ymdrin â'r materion hyn ar sail wythnosol bron yn fy nghymhorthfa ac rwyf wedi ei drafod gyda fy mwrdd iechyd lleol—bwrdd iechyd, mae'n rhaid dweud, sydd â rhestr aros o ddwy flynedd a hanner i weld CAMHS. Daw rhieni i fy ngweld yn rheolaidd mewn cyflwr truenus—cyflwr truenus—a rhaid iddynt aros am ddwy flynedd a hanner i gael diagnosis. A phan gânt y diagnosis, mae eu disgwyliadau'n rhy uchel, oherwydd nid oes gan y system fawr ddim i'w gynnig iddynt. Ceir anobaith ymhlith meddygon teulu—clywsom hyn eisoes. Ceir anobaith ymhlith athrawon. Roeddwn yn siarad yn hwyr neithiwr ag athro yn fy etholaeth a ddywedodd wrthyf, 'Nid ydych bob amser yn gwybod ble i edrych am help ar gyfer y plant hyn, rydych chi ond eisiau i rywbeth gael ei wneud.' Y canol coll y tynnodd yr adroddiad sylw ato mor effeithiol, lle y gall cymorth therapiwtig neu gymorth lefel is helpu, yw'r ffocws a ddylai fod gennym mewn perthynas â'r adroddiad hwn. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn. Dyma'r adroddiad gorau gan bwyllgor a ddarllenais yn fy amser yn y Cynulliad a hoffwn dalu teyrnged i'w holl aelodau ac yn enwedig i'w gadeirydd.

Ond dylwn ddweud ei fod yn adroddiad anodd iawn. Cafodd ei lunio'n dda iawn, mae ganddo dargedau CAMPUS, mae'r argymhellion yn benodol, maent yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn berthnasol, ac mae ganddynt derfynau amser. Nid yw'n syndod fod y Llywodraeth wedi'i chael hi'n anodd ymateb i hynny yn ei hymateb ffurfiol, ac roeddwn innau'n siomedig tu hwnt ynglŷn â hynny hefyd. Rwy'n deall dicter aelodau'r pwyllgor ac wrth edrych ar wynebau fy nghyfeillion a fy nghyd-Aelodau, Ysgrifenyddion y Cabinet, gallaf innau hefyd ddweud nad ydynt yn fodlon ar y sefyllfa y maent ynddi. Credaf fod angen inni gyfeirio hyn at Lywodraeth Cymru a pheidio â gwneud sylwadau annoeth i'w droi'n bersonol, os caf ddweud wrth Darren Millar.

Credaf fod peiriant y Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd ymateb i'r argyfwng hwn sydd gennym gyda phobl ifanc. Mae hon yn broblem sydd wedi cynyddu o ran ei dwysedd a'i maint dros y blynyddoedd diwethaf a chredaf fod y system yn ei chael hi'n anodd gwybod sut i ymateb iddi. Rhinwedd yr adroddiad yw ei fod yn rhoi tystiolaeth sy'n seiliedig ar waith ymarferwyr a chan y trydydd sector i roi map ymarferol i ni, ac rwy'n credu y byddai'n ddoeth inni ddychwelyd yn yr hydref, gyda dadl aelod unigol neu ddadl bwyllgor arall efallai, i roi cyfle i Weinidogion fyfyrio dros yr haf ar gryfder y teimlad ac ar y dystiolaeth.

Rwyf wedi byw y materion a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Rwy'n petruso ynghylch trafod materion personol yn y Siambr hon, ond rwyf wedi ystyried ein bod wedi ein hethol yma nid yn unig i gynrychioli ein hetholwyr, ond oherwydd ein profiadau personol hefyd. Pan gefais brofiad o'r system am y tro cyntaf pan oedd fy mab yn saith oed, dywedwyd wrthyf, 'Dewch yn ôl pan fydd yn taflu ei hun yn erbyn y wal', ac yn sicr ddigon, chwe blynedd yn ddiweddarach, ar ôl mis o driniaeth ysbyty ddrud iawn, fe gawsom gefnogaeth effeithiol. Cymorth gan y trydydd sector ydoedd, gan Gweithredu dros Blant, ac roedd yn wych, a therapi teuluol drwy CAHMS, sydd hefyd yn effeithiol iawn. Dyma'r math o gefnogaeth y byddem wedi elwa o'i chael chwe blynedd ynghynt, cymorth a fyddai wedi arbed straen a gofid teuluol enfawr, nid yn unig i fy mab, ond i bob un ohonom. Mae ei effaith yn ddwys ac yn bellgyrhaeddol, a dyna'r math o ymyrraeth y mae'r adroddiad hwn yn ei argymell—y math o fesurau llai o faint, yr ymyriadau cynharach a all helpu cyn i bethau dyfu'n argyfwng.

Ceir dyfyniad yma gan bobl ifanc yn Abergele, lle maent yn dweud

Rhaid iddi fynd yn argyfwng arnoch yn gyntaf,

cyn y bydd y system yn ymateb. Mae'r comisiynydd plant, yn ei hymateb llym iawn, yn disgrifio ymateb y Llywodraeth fel cyfle a gollwyd ac mae'n dweud na ddylai fod unrhyw ddrws anghywir. Mae hi'n dweud na fu cydweithio o fewn y Llywodraeth, a gofynnaf i fy nghyd-Aelodau ar y fainc flaen i fyfyrio ar hynny a dod yn ôl atom yn yr hydref. Diolch.

16:05

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle a'i phwyllgor am yr adroddiad hwn. Lynne, rydych yn eofn ac yn gadarn ac mae gennyf edmygedd a pharch llwyr tuag atoch. Credaf fod y pwyllgor plant a phobl ifanc mewn dwylo da iawn, a buaswn yn dweud fy mod yn credu y byddai plant Cymru yn iawn ac yn ddiogel yn eich dwylo hefyd.

Credaf fod adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn mynd i wraidd y problemau, maent wedi gwrando ar leisiau'r arbenigwyr, maent wedi gwrando ar yr ymarferwyr ac ar sefydliadau pobl ifanc, ac maent wedi gwneud argymhellion swmpus, craff a gwerth chweil. Credaf eu bod yn argymhellion sy'n haeddu cael eu clywed.

Meddyliais yn galed iawn beth fyddai cywair fy nghyfraniad i'r ddadl hon heddiw. A fyddwn yn adlewyrchu'r corws o sioc a siom gan y pwyllgor a chan dystion ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth, neu a ddylwn sôn am yr effaith a gaiff hyn ar blant a phobl ifanc yn fy etholaeth—y plant rydym wedi ceisio eu hachub, fy nhîm a minnau, yn fy swyddfa fach yn Ninbych-y-pysgod gyda chymorth cynghorau sir, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro—neu a fyddwn yn sôn am yr holl achosion o hunanladdiad a welsom yn Sir Benfro dros y blynyddoedd diwethaf a chwestiynau parhaus y crwner, neu a ddylwn wneud dadansoddiad fforensig o ymatebion Llywodraeth Cymru? Rwyf wedi penderfynu nad wyf am wneud dim o hynny.

'Cadernid Meddwl', iechyd meddwl amenedigol, gwasanaethau mabwysiadu, iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gordewdra ymhlith plant, presenoldeb ac ymddygiad, mabwysiadu, gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant, lleoli plant mewn gofal, cyfiawnder ieuenctid, rhai nad ydynt mewn cyflogaeth neu addysg, awtistiaeth mewn addysg bellach, dyslecsia, rhai ôl-19 ag anghenion dysgu ychwanegol, gwasanaethau iechyd meddwl: 15 o adroddiadau pwyllgor gan dri phwyllgor gwahanol, a phob un ohonynt ers i mi fod yn Aelod Cynulliad.

Beth sydd gan iechyd meddwl amenedigol i'w wneud â'r hyn rydym yn sôn amdano heddiw? Wel, gadewch imi ddweud wrthych. Argymhelliad 10, argymhelliad 22, argymhelliad 26, maent i gyd yn cyfeirio at yr hyn a grynhowyd mor dda gan David Melding: sef os na fyddwn yn cynorthwyo ar y dechrau un, os na chawn bethau'n iawn ar y dechrau un, y cyfan a wnawn yw treulio gweddill ein hamser yn codi'r darnau. Ac mae chwarter—chwarter—ein poblogaeth mewn trallod ar ryw adeg neu'i gilydd. Mae gan 98 y cant o'r plant nad ydynt mewn addysg yn swyddogol broblemau iechyd meddwl o'r math y mae'r adroddiad hwn yn sôn amdanynt. Na, nid ydynt yn seicotig mewn modd y gallwn ei drin yn feddygol, ond mae ganddynt yr holl broblemau eraill. Gwnaethpwyd cam â hwy. Maent wedi'u hesgeuluso. Maent wedi'u cam-drin. Maent wedi'u colli, maent wedi drysu, nid ydynt yn gwybod ble i fynd, mae ganddynt broblemau emosiynol ac ymddygiadol.

Mewn 11 mlynedd—roeddwn yn meddwl mai 10 mlynedd oedd hi ond fe sonioch chi am 11 mlynedd, Darren Millar, a daethom yma yr un pryd—ers 11 mlynedd, 15 o adroddiadau, pob un ohonynt yn cyffwrdd ar y ffaith nad ydym wedi ei gael yn iawn. Beth mae'n ei gymryd? Oherwydd dywedaf hyn wrthych: mae gennym ormod o blant allan o addysg, mae gennym ormod o blant yn methu ymdopi â bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, mae gennym ormod o blant clwyfedig yn ein gwlad a fydd yn tyfu'n oedolion na fydd yn cyflawni eu potensial, na fydd yn gallu gwneud yr holl bethau rydym ni yn y Siambr hon yn ddigon ffodus i'w gwneud. Sut y gallwn ddatblygu ein haeddfedrwydd fel gwlad? Sut y gall Cymru gamu ymlaen i'r unfed ganrif ar hugain pan ydym yn gadael cymaint o bobl ar fin y ffordd? Sut y gallwn obeithio gwella ffordd o fyw pobl? Oherwydd os na rown sylfaen gadarn iddynt adeiladu arni, sut y byddwn ni, Cymru, yn gallu fforddio codi'r darnau yn y blynyddoedd i ddod?

Roeddwn yn meddwl bod ymateb y Llywodraeth yn llugoer. Roeddwn yn meddwl ei fod yn ddi-hid, Ysgrifenyddion y Cabinet, ac mewn rhannau roeddwn yn credu ei fod yn gwbl ddirmygus. Roeddwn yn teimlo bod yna awgrym go iawn o syrthni. Lywodraeth Cymru, rydych yn tynnu'n groes i Aelodau Cynulliad o bob plaid, gan gynnwys Aelodau o Lafur Cymru. Mae'r adwaith i'r adroddiad hwn wedi bod yn rhyfeddol—y comisiynydd plant, y Samariaid, yr NSPCC, y seicolegwyr. Pe bai gennych unrhyw synnwyr, byddech yn gwneud Lynne Neagle yn gyfrifol am grŵp gorchwyl a gorffen i yrru'r math hwn o adroddiad drwodd a gwneud iddo ddigwydd, oherwydd mae fy mhlant i, eich plant chi a'ch wyron angen hwn. Y bobl hyn i fyny yma, maent angen y newid hwn yn awr.

16:10

Ysgrifennydd y Cabinet, gwn fod pob un ohonom eisiau gweld y canlyniad gorau posibl mewn perthynas ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond rhaid eich bod yn teimlo'r siom amlwg gan yr Aelodau ar draws y Siambr hon ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn. Gwyddom am y problemau, gwyddom am yr atebion, ond mae Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn amharod i weithredu.

Ni fydd derbyn syniadau mewn egwyddor yn arwain at weithredu, ac mae angen gweithredu. Mae pob arbenigwr yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau bod gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol fecanwaith i ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Rhaid iddynt hefyd ei gwneud yn ofynnol i bob rhanbarth sicrhau bod CAMHS a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaeth integredig i blant ag anghenion emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl. Mae angen dull ysgol gyfan, wedi'i fapio a'i arwain ar y cyd gan iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i arwain ysgolion, a bydd hyn yn sicrhau y bydd y cymorth a ddylai fod ar gael i blant a phobl ifanc yn sylfaen i wasanaeth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl teg ar gyfer pobl ifanc a phlant yn y wlad hon.

Ysgrifennydd Cabinet, atebion polisi technegol yw'r rhain. Mae acronymau a jargon yn gwneud inni deimlo ein bod wedi'n datgysylltu oddi wrth yr effeithiau go iawn y mae darpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl gwael yn arwain atynt. Os oes unrhyw un yn adnabod unrhyw athrawon, mae iechyd meddwl pobl ifanc yn fater a godir ganddynt drwy'r amser. Mae bellach yn effeithio ar gynifer o bobl. Fel y mae cynifer o bobl wedi dweud heddiw, mae cymaint o anobaith ynglŷn â hyn.

Pan oeddwn yn ifanc ac yn tyfu i fyny, ofn mwyaf fy mam oedd beichiogrwydd cynnar. Nawr, buaswn yn dweud bod pryderon mwyaf y rhan fwyaf o rieni yn ymwneud â lles meddyliol eu plant. Yn eithaf hwyr y bore yma, postiais ar fy nhudalen Rhondda ar Facebook fy mod yn siarad yn y ddadl hon, ac roedd yr ymateb yn ysgubol. Rwyf am sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o rai o'r straeon go iawn sydd y tu ôl i rai o'r ystadegau hyn. Soniodd un unigolyn nad wyf yn mynd i'w enwi am eu profiad fel hyn.

Ymwelais â'r meddyg teulu bedair gwaith i ofyn am help a'r cyfan a gefais oedd dolenni i ganllawiau hunangymorth ar-lein ar raglennu niwroieithyddol. Y pedwerydd tro, a'r tro olaf, datgelais fy nefnydd o alcohol a chanabis fel ffurf ar hunanfeddyginiaeth a dywedais fy mod yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad. Nid oeddwn yn mynd i adael heb iddo ddeall sut roeddwn yn teimlo a pha mor anobeithiol roeddwn i'n teimlo bellach. Dywedwyd wrthyf y byddai'n rhaid i mi roi'r gorau i yfed cyn y gallwn gael unrhyw gymorth pellach ac aros chwe mis am yr apwyntiad cwnsela mwyaf sylfaenol. Ar 12 Awst, ceisiais gyflawni hunanladdiad. Tarfwyd arnaf gan ffrind yn dychwelyd adref yn annisgwyl.

Nawr, roedd yr eiliad honno'n drobwynt i'r unigolyn dan sylw. Trodd at ffrindiau am gymorth ac rwy'n falch o ddweud iddynt ei gael ac maent mewn lle llawer gwell erbyn hyn.

Dywedodd un fam fod ei mab saith oed yn dioddef o orbryder. Er gwaethaf y terfyn amser aros o 28 diwrnod ar gyfer cael cymorth iechyd meddwl, mae hi wedi bod yn aros ers tua pedwar mis. Mae bellach ar fin cael ei wahardd o'r ysgol a hyd yn oed ei leoli mewn ysgol arbennig oherwydd nad yw'r ysgol yn gallu darparu ar ei gyfer heb ddiagnosis swyddogol. Ni all unrhyw un mewn argyfwng fforddio aros, ac i blant a phobl ifanc, mae'r brys hyd yn oed yn fwy. Roedd straeon am blant yn aros misoedd bwy'i gilydd neu'n cael eu trosglwyddo rhwng gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed mor gyffredin mewn ymateb i fy sylw ar Facebook fel na allaf grafu'r wyneb yma hyd yn oed.

Os ydych yn darllen yr erfyniadau hyn am help, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno eu bod yn dorcalonnus, ac i'r teuluoedd sy'n dioddef o ganlyniad i ddiffyg gweithredu ar ran y system mae'n waeth byth. Felly, os gwelwch yn dda, gwrandewch ar yr Aelodau yma heddiw. Gweithredwch ar frys. I rai, mae'r cwestiwn hwn yn llythrennol yn fater o fyw neu farw. Mae argyfwng yn cyniwair ym maes iechyd meddwl plant, ac os na fyddwch yn gwneud newidiadau radical ar frys bellach, gallem wynebu trychineb go iawn. Rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau a wnaed gan Gadeirydd y pwyllgor, sydd wedi siarad yn yn ardderchog yn y ddadl hon. Mae'n ddyletswydd arnom oll i gael gwell atebion i'r cwestiwn hwn er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.

16:15

Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n adroddiad pwysig iawn a hoffwn ganmol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gynnal eu hymchwiliad trylwyr ac amserol a fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod Lynne Neagle am ei harweinyddiaeth yn hynny o beth ac am y ffordd y mae hi wedi siarad heddiw.

Canfu ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gynharach eleni fod 10 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed yn dweud eu bod yn unig drwy'r amser neu'n aml. Dyma'r uchaf o unrhyw grŵp oedran. Adlewyrchir y ffigurau hyn yng nghyhoeddiad y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cysylltu â ChildLine ynglŷn â'u hiechyd emosiynol a'u hiechyd meddwl. Dyma'r rheswm mwyaf cyffredin bellach dros gwnsela gan ChildLine yng Nghymru.

Croesawyd yr adroddiad rhagorol 'Cadernid Meddwl' gan weithwyr proffesiynol clinigol, gweithwyr iechyd proffesiynol a'r trydydd sector. Maent yn cefnogi'r modd y mae'r adroddiad yn nodi'r heriau pwysig a wynebir ar ddechrau'r llwybr gofal a'i argymhelliad allweddol y dylai lles emosiynol, gwydnwch ac ymyrraeth gynnar fod yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae'r sefyllfa'n un enbyd. Mae ymchwil wedi dangos bod tua hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau yn 14 oed. Gall methu ymyrryd arwain at alw uwch na'r cyflenwad o wasanaethau arbenigol ac fel Aelodau eraill yma, rwy'n ymdrin â llawer o'r materion hyn ar sail dyddiol ac wythnosol.

Mae'r adroddiad yn amlygu pwysigrwydd mesurau y gellir eu cymryd i atal plant a phobl ifanc rhag cyrraedd pwynt o argyfwng ac adeiladu gwydnwch. Ledled Cymru, ceir enghreifftiau gwych o brosiectau sy'n gweithio i gefnogi iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a hoffwn dynnu sylw at rai rwy'n gyfarwydd iawn â hwy. Yn gynharach eleni, ymwelais â'r grŵp anogaeth yn Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn fy etholaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r grŵp yn darparu cymorth i blant sydd angen cymorth ychwanegol gydag anghenion emosiynol ac ymddygiadol drwy feithrin perthynas rhwng disgyblion, athrawon a rhieni. Mae'r grŵp yn helpu i roi'r sgiliau a'r gwydnwch angenrheidiol i blant gael y gorau allan o bob agwedd ar yr ysgol. Mae'r plant eu hunain yn agored iawn ynglŷn â sut y mae bod yn rhan o'r grŵp anogaeth wedi newid y ffordd y maent yn teimlo, ac mae'r grŵp hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r plant hynny.

Rwy'n falch iawn fod y pwyllgor wedi ymweld â phrosiect Newid Meddyliau yng Nghasnewydd fel rhan o'i ymchwiliad. Gwelais drosof fy hun sut y mae'r prosiect yn Mind Casnewydd yn darparu cymorth gan gymheiriaid ar gyfer pobl ifanc. Mae ei natur ataliol yn effeithio'n sylweddol ar leihau'r defnydd o wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, a hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd yma heddiw am gynnwys eu lleisiau unwaith eto y prynhawn yma. Ymhlith y rhai a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad am bwysigrwydd mesurau ataliol roedd Carol Fradd, Cyfarwyddwr Samariaid Casnewydd. Cyfarfûm â Carol heb fod yn hir wedyn, ac eglurodd am yr offeryn datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando, adnodd i athrawon a ddatblygwyd gan y Samariaid. Yn dilyn llwyddiant yr offeryn, mae'r Samariaid wedi galw am gynnwys ymwybyddiaeth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl mewn cymwysterau hyfforddiant cychwynnol i athrawon, ac mae gwaith a wnaed gan Gymdeithas y Plant wedi dangos y gall yr amgylchedd ysgol effeithio'n fawr ar les plant, ac eto ni all y cyfrifoldeb syrthio ar ysgwyddau athrawon yn unig, ac fel y dywedodd eraill, mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom.

Sefydlu partneriaethau gweithio gyda chlinigwyr plant a gweithwyr proffesiynol sy'n meddu ar sgiliau i drawsnewid gofal iechyd meddwl i blant—rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i'w galluogi i rannu eu profiad a'u harbenigedd. Mae Barnardo's ymhlith y rhai sydd wedi tynnu sylw at y fantais o ddatblygu gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol megis ysgol gynradd Millbrook yn y Betws, yr ymwelais â hi gyda'r Gweinidog plant yn gynharach yr wythnos hon.

Un ffactor allweddol sy'n cyfrannu at yr achosion cynyddol o broblemau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn ddi-os yw dylanwad a phwysau cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n anodd iawn i bawb ohonom yma heddiw ddychmygu sut y mae cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar hunan-barch pobl ifanc. Yn gynyddol, mae pobl ifanc yn profi cyfran sylweddol o'u rhyngweithio cymdeithasol ar-lein, ond ni all hyn gymryd lle cyswllt wyneb yn wyneb rhwng pobl a'r sgiliau gwerthfawr y mae hynny'n eu rhoi. Gall sgrolio drwy'r cyfryngau cymdeithasol chwyddo'r gymysgedd o emosiynau a brofir gan bob un ohonom, gan atgyfnerthu ac ymestyn meddyliau a theimladau negyddol yn aml, yn anffodus. Heddiw, yn drawsbleidiol, rydym wedi clywed cryfder y teimlad ynglŷn â hyn. O oedran ifanc, rydym yn meithrin plant i ddeall nad oes angen iddynt oddef poen corfforol. Mae adroddiad y pwyllgor yn ein hatgoffa'n rhagorol ac yn allweddol fod gan bawb ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl ifanc yn tyfu i fyny gan wybod bod eu meddyliau'n bwysig hefyd.

16:20

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad cynhwysfawr yn rhoi manylion y newid sylweddol y maent yn teimlo sydd ei angen yn y maes hwn? Ymunaf â David Melding i dalu teyrnged i Gadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, am ei hymroddiad i'r materion hyn, nid yn unig yn yr adroddiad hwn, ond dros ei hamser yma fel Aelod Cynulliad. A gaf fi ymuno â hi hefyd i ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth bersonol i'r pwyllgor—nid yw hynny byth yn beth hawdd i'w wneud—a diolch hefyd i David a Lee sydd wedi sôn am eu profiadau personol eu hunain yn hyn o beth heddiw? Mae'n ein hatgoffa nad oes neb ag imiwnedd rhag problemau iechyd meddwl.

Mae cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc yn fater sy'n torri ar draws portffolios ac yn faes lle na wnaiff dim ond gweithio trawslywodraethol ac amlasiantaethol effeithiol sicrhau'r gweithredu ataliol ac ymyraethol sydd ei angen er mwyn newid, ac mae'n hanfodol inni gael hyn yn iawn. Ac rwy'n dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, nid yn unig fel Ysgrifennydd y Cabinet, ond fel mam i ferched yn eu harddegau. Mae gwella iechyd meddwl a lles meddyliol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac er bod yr adroddiad yn cydnabod y bu gwelliannau mewn gwasanaethau, yn enwedig ar y pen arbenigol i'r ddarpariaeth iechyd meddwl, mae'n tynnu sylw at y maes lle y gallwn a lle mae'n rhaid inni wneud yn well ar gyfer ein pobl ifanc. Yn gyffredinol, credaf fod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru yn rhannu'r un dyheadau, er ein bod yn anghytuno mewn rhai meysydd ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hynny. Ond gallaf addo hyn i chi—yn bersonol, rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ymrwymo i weithio gyda'r pwyllgor a'i aelodau i wneud cynnydd ar yr agenda hon. Rydym wedi teithio'n bell, Ddirprwy Lywydd, ond fi fyddai'r cyntaf i gydnabod bod ffordd bell iawn i fynd o hyd. Ac mae'r araith gan Leanne Wood, a'r dystiolaeth y mae wedi'i chyflwyno o'i hetholaeth ei hun yn ategu hynny.

Ein nod yw sicrhau newid diwylliannol yng Nghymru i gyfeirio ffocws ar les pobl ifanc. Dylai atal fod yn un o ganlyniadau'r ffocws newydd hwn ar les, er mwyn inni symud ein pwyslais o reoli argyfwng i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu yn y lle cyntaf. Fel y cydnabu'r Cadeirydd, dyma sydd orau i'r unigolyn, er mwyn inni allu cyfyngu ar eu poen a'u trallod. Ond bydd hefyd yn creu lle o fewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i ganolbwyntio ar y plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf o angen y gwasanaethau hynny er gwaethaf y cymorth a'r gefnogaeth.

Rydym yn disgwyl i feysydd gwahanol allu gweithio gyda'i gilydd fel bod gennym ymagwedd system gyfan sydd o ddifrif yn rhoi'r plentyn neu'r unigolyn ifanc yn y canol, ac i'r perwyl hwn, mae angen i ni barhau i adeiladu a gwella'r berthynas rhwng gwahanol wasanaethau.

Os caf droi'n syth at rai materion sy'n wynebu addysg, mae llawer o waith ar y gweill eisoes yn ein hysgolion i gefnogi'r ffocws newydd hwn ar les, megis datblygiad y cwricwlwm newydd a maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad, newidiadau i ddysgu proffesiynol, a rhwydwaith ymchwil iechyd yr ysgolion, gyda'r data newydd y maent wedi'i gasglu ar les.

Hefyd, cyn diwedd y tymor hwn, rwy'n gobeithio cyhoeddi offeryn diogelwch ar-lein ar gyfer plant i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau perthnasol iawn y cyfeiriodd Jayne Bryant atynt yn ei haraith ac effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc. O ran hyfforddi staff, a grybwyllwyd gan Julie Morgan, rydym ar hyn o bryd yn diwygio'r ffordd y darparir ein haddysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparwyr addysg gychwynnol achrededig newydd i athrawon—a gyhoeddwyd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf—gynllunio a chyflwyno cyrsiau sy'n ymdrin â maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad. Os nad ydynt yn gwneud hynny, ni chânt eu hachredu.

Nawr, o ran yr argymhelliad a gafodd lawer o sylw heddiw, mae'n hollol iawn wrth gwrs, Julie, i ddisgwyl bod pobl sy'n gweithio yn ein proffesiwn addysg ac yn ein gwasanaeth ieuenctid wedi cael eu hyfforddi yn hyn o beth. Ond mae'r argymhelliad yn dweud y dylid hyfforddi pob gwirfoddolwr sy'n gweithio gyda phlentyn hefyd, ac mae angen amser ychwanegol arnom i ystyried sut, yn ymarferol, y gellid cyflawni hynny, a sut y gallwn ei wneud heb unrhyw ganlyniadau anfwriadol fel anghymell pobl rhag gwirfoddoli gyda phlant o bosibl. A bydd angen inni ystyried yn fwy manwl sut y gallwn weithio gyda'r rhai sy'n cynorthwyo plant yn eu clwb pêl-droed ar ddydd Sadwrn, neu'r Brownis, Geids neu Sgowtiaid, neu hyd yn oed pobl fel fi a fy ngŵr, sy'n gwirfoddoli gyda'n clwb ffermwyr ifanc lleol—sut y gallwn wneud i hyfforddiant gorfodol weithio ar gyfer yr holl bobl sy'n rhoi cymaint o'u hamser i'w cymunedau heb unrhyw gost i'r wladwriaeth. Nid ydym am gael unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

Mae'n amlwg fod angen i athrawon gael help a chefnogaeth i ymateb i blant sy'n profi anawsterau megis gorbryder, iselder neu hunan-niwed, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod cydnabyddiaeth ar draws y Siambr na all hyn fod yn waith i athrawon yn unig. Rydym eisoes yn gofyn llawer iawn gan ein system addysg a'n gweithwyr proffesiynol, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod yr Aelodau wedi cydnabod hyn.

Felly, mae gan y GIG rôl mewn ymgynghori a hyfforddi ar draws y sectorau, gan ddarparu cymorth cynnar mewn ysgolion gan staff wedi'u hyfforddi'n addas. Dyna pam, ym mis Medi y llynedd, y lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau ar y cyd raglen fewngymorth CAMHS i ysgolion, a gefnogwyd gan £1.4 miliwn o fuddsoddiad i ddarparu cymorth proffesiynol penodol i ysgolion. Mae manteision gan wasanaethau ar sail ysgol o'r fath i staff ysgolion a'u dysgwyr, ond hefyd maent yn sicrhau budd i wasanaeth y GIG drwy leddfu'r pwysau ar CAMHS arbenigol, a lleihau atgyfeiriadau amhriodol, ac yn hollbwysig, maent yn adeiladu'r berthynas sydd angen inni ei hadeiladu rhwng gwahanol sectorau'r gwasanaeth cyhoeddus. [Torri ar draws.] Mae angen inni—. Wrth gwrs.

16:25

Os caf ystyried pwynt a wnaethoch ychydig yn gynharach am oblygiadau ymarferol un o'r argymhellion, a gwnaeth David Melding y pwynt: roedd yr Ysgrifennydd Parhaol wedi sicrhau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y byddai'r Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'r arfer o dderbyn pethau mewn egwyddor ac yn dweud yn glir pan fyddent yn eu gwrthod. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Parhaol unwaith eto y bore yma, yn gofyn iddi atgyfnerthu'r dyfarniad hwnnw yng ngoleuni'r adroddiad hwn. Bydd yna adegau, wrth gwrs, pan nad yw'n bosibl derbyn argymhelliad, ond a ydych yn derbyn y byddai'n well inni fod yn glir am y rhesymau dros hynny yn hytrach na derbyn mewn egwyddor?

16:30

Wel, Lee, yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw y byddai'n llawer gwell gennyf, fel Ysgrifennydd y Cabinet, fod mewn sefyllfa i allu derbyn neu wrthod, ond weithiau—ac rwy'n cydnabod yr amser ychwanegol y mae'r pwyllgor wedi'i roi i fy swyddogion a minnau i weithio ar hyn—mae angen mwy o amser arnom i ddeall o ddifrif beth yw goblygiadau dweud 'derbyn'. Oherwydd os dywedwn ein bod yn 'derbyn', mae'n golygu bod rhaid i hynny ddigwydd, ac weithiau ceir materion cymhleth y mae angen eu deall yn llawn, a deall a lliniaru canlyniadau anfwriadol. Felly, rwyf am wneud cynnydd ar bob un o'r argymhellion lle rydym yn dweud ein bod wedi eu derbyn mewn egwyddor. Ac fel y dywedais ar ddechrau fy araith, rwy'n ymrwymo'n llwyr i hynny fy hun a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn parhau i weithio gyda'r pwyllgor i allu symud y pethau hynny yn eu blaen. Yn wir, ers cyhoeddi adroddiad, argymhellion ac ymateb y Llywodraeth, mae gwaith wedi bod ar y gweill, ac eisoes, fel Llywodraeth, rydym wedi gallu bod yn fwy cadarnhaol ynglŷn ag ymateb i hyn. Os caf wneud rhywfaint o gynnydd yn fy araith, Ddirprwy Lywydd, gallwn roi enghraifft real iawn i'r Aelod o sut, mewn byr amser, rydym wedi gallu parhau'r gwaith hwnnw ac wedi gallu ymateb yn briodol.

Fel y dywedais, mae angen inni fabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan, ac rydym eisoes wedi cydnabod bod ein sefydliadau addysg yn safleoedd allweddol ar gyfer hybu iechyd meddwl a lles meddyliol cadarnhaol a darparu atal ac ymyrraeth gynnar yn seiliedig ar dystiolaeth. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol er mwyn gwella'r ddarpariaeth CAMHS ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, gyda dros £8 miliwn o arian blynyddol penodol, sydd wedi ein galluogi i recriwtio staff newydd, hyfforddi staff presennol a sefydlu gwasanaethau newydd. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cydnabod yn briodol fod yna feysydd lle mae angen inni wella, yn enwedig yn achos gofal sylfaenol. Rydym wedi comisiynu uned gyflawni'r GIG i adolygu gweithgarwch a pherthynas â gwasanaethau CAMHS eraill er mwyn inni allu ymdrin â heriau darparu.

Ers ymateb i'r pwyllgor, mae'r Ysgrifennydd iechyd a minnau wedi parhau ein trafodaethau ynglŷn â sut y gallwn barhau i symud yr agenda yn ei blaen. Felly byddwn yn derbyn pwynt 4 o argymhelliad allweddol y pwyllgor ar adolygu'r cynnydd a wnaed yn blaenoriaethu iechyd emosiynol a iechyd a lles meddyliol a gwydnwch ein plant. Byddwn yn blaenoriaethu ac yn cryfhau'r trefniadau i yrru'r agenda hon yn ei blaen, gan weithio'n strategol ar draws yr adrannau addysg ac iechyd i ddarparu dulliau cynaliadwy o weithredu ar les meddyliol. O ran gwerthuso ein cynnydd, byddwn yn gweithio gyda'r pwyllgor i sicrhau ein bod yn gosod y paramedrau cywir ar gyfer y gwaith hwnnw. Er bod gennym rai pryderon ynglŷn â beth yw'r amser gorau ar gyfer parhau i adolygu, byddwn yn ymgysylltu â'r pwyllgor ac yn adrodd ar gynnydd ar adeg y gallwn ei chytuno â Chadeirydd y pwyllgor. Rwy'n siŵr y bydd gan Aelodau Cynulliad eraill ddiddordeb yn hyn hefyd, fel y dangoswyd ar draws y Siambr y prynhawn yma, er nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor, a byddwn yn cyflwyno cynigion wrth i'n syniadau ddatblygu.

Rydym wedi cael trafodaethau pellach hefyd ynghylch argymhelliad 12—pwynt 2—ynglŷn â thrallod. Mae hyn wedi'i grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma. Mae CAMHS arbenigol yn darparu cymorth ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl mwy cymhleth ac fel y cyfryw, bydd angen ymateb i anghenion clinigol yr unigolyn bob amser. Fodd bynnag, ystyrir trallod fel un o nifer o ffactorau ar gyfer pennu'r gwasanaethau mwyaf priodol i ddiwallu anghenion yr unigolyn, i rai sy'n cael eu hatgyfeirio at CAMHS ac i rai nad ydynt yn cyrraedd y trothwy atgyfeirio. Felly, byddwn yn ymgysylltu â bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan i fonitro darpariaeth eu gwasanaethau yng Ngwent, sy'n eithriadol ac yn gwneud yn dda iawn, i weld sut y gallwn ddysgu o'u profiadau gyda'r prosiect yng Ngwent er mwyn gwella gwasanaethau ledled ein gwlad.

Wrth gwrs. Ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd.

Felly, a gaf fi yn olaf ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd eto am eu hymgysylltiad helaeth ac am godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn? Hefyd, rwy'n croesawu'r gwaith y mae'r pwyllgor iechyd yn ei wneud ar hyn o bryd ar atal hunanladdiad, sy'n elfen bwysig ochr yn ochr â'r gwaith hwn. Ddirprwy Lywydd, ni allwn ganiatáu i unrhyw blentyn neu berson ifanc deimlo nad oes ganddynt neb i droi ato, a byddaf fi a chyd-Aelodau yn y Cabinet, yn gweithio gyda'r pwyllgor i sicrhau'r ddarpariaeth o gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y gŵyr pawb ohonom fod angen inni ei darparu, a hynny'n fuan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gennyf dri munud a 30 eiliad i ateb, sy'n cyfyngu braidd ar yr hyn y gallaf ei wneud. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n maddau imi os nad wyf yn ymateb i bob cyfraniad unigol, ond hoffwn eich sicrhau y byddwn yn mynd drwy'r Cofnod ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael ymateb i'r ddadl bwysig hon. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi siarad, ar draws y pleidiau. Mae hi mor galonogol clywed y gefnogaeth enfawr sydd yn y lle hwn i'r newid sylweddol y gŵyr y pwyllgor fod ei angen. Yn arbennig—er imi ddweud nad oeddwn yn bwriadu ymateb i gyfraniadau unigol—hoffwn ddiolch i David a Lee am rannu eu profiadau personol, sy'n dangos dewrder ond hefyd mae'n helpu pawb arall i sylweddoli ei bod hi'n iawn iddynt siarad am y pethau hyn. Felly, diolch i'r ddau ohonoch.

Dylwn ddiolch, hefyd, i'n clerc gwych a'n tîm ymchwil ardderchog. Rydym yn wirioneddol ffodus, fel pwyllgor, i gael tîm mor wych yn ein cefnogi. Diolch i aelodau'r pwyllgor sydd wedi gweithio'n galed iawn ar yr ymchwiliad pwysig hwn a diolch unwaith eto i'r rhanddeiliaid sydd wedi dod atom mor barod a rhannu eu profiadau mewn ffordd mor rymus. Credaf mai'r pwyllgorau yw un o gryfderau mawr y Cynulliad hwn, ac rydym yn freintiedig, a dylem fod yn ddiolchgar fod pobl wedi dod atom i rannu eu safbwyntiau yn y ffordd honno. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da, a gobeithiaf fod hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb a diolch iddi am ei hymwneud â mi, fel arfer. Hyd yn oed lle nad ydym wedi cytuno, bu parodrwydd i ymgysylltu, a gwn ei bod yn bersonol yn ymroddedig iawn i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb, oherwydd mae hyd yn oed sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yno yn tynnu sylw at rai o'r anghysonderau, mewn gwirionedd. Rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru mor bryderus ynglŷn â gweld pawb—neu bobl sy'n gweithio gyda phlant—yn cael rhywfaint o hyfforddiant iechyd meddwl sylfaenol, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny'n rhy uchelgeisiol. Mae digonedd o fodelau allan yno. Nid oes ond angen i chi edrych ar Cyfeillion Dementia—45 munud i roi dealltwriaeth dda iawn i chi. Clywodd y pwyllgor iechyd am hyfforddiant atal hunanladdiad 20 munud o hyd. Mae modelau ar gael allan yno, ac ni chredaf y dylai fod yn ormod o ddyhead inni geisio gwneud hyn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.

Rwy'n falch gyda'r symud a fu, ond mae angen llawer iawn mwy. Hoffwn ddweud bod y symud ar yr argymhelliad 'canol coll' yn enghraifft bwerus iawn, mewn gwirionedd, o'r modd nad yw'r ymateb hwn wedi cael ei ystyried yn briodol yn fy marn i, oherwydd pe bai pobl wedi darllen y naratif, wedi deall y naratif ac wedi sylweddoli bod hyn yn digwydd yng Ngwent beth bynnag, yna ni ddylai fod angen ei wrthod yn y ffordd honno. Felly, nid yw'n rhoi darlun da o Lywodraeth gydgysylltiedig ar fater mor bwysig.

A gaf fi orffen felly drwy ddiolch unwaith eto i'r bobl ifanc—y bobl ifanc sydd yma ar gyfer y ddadl hon, ond hefyd yr holl bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac y gwn fod hyn mor bwysig iddynt? Rwy'n eu sicrhau ein bod wedi clywed eu lleisiau ac fel pwyllgor, byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn gyda'r brys mwyaf i gael y newid sylweddol sydd ei angen arnom. Mae'n ymwneud â mwy na siarad am ymyrraeth gynnar. Mae'n ymwneud â mwy na honni bod iechyd meddwl yn gydradd ag iechyd corfforol. Mae'n ymwneud â darparu hyn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Os cawn hynny'n iawn, nid yn unig y byddwn yn gwella ansawdd eu bywydau, rwy'n credu y byddwn yn achub bywydau hefyd. Diolch.

16:35

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Carillion a Capita

Eitem 6 ar yr agenda yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar Carillion a Capita. Galwaf ar Lee Waters i wneud y cynnig. Lee.

Cynnig NDM6740 Lee Waters, Jane Hutt, Jenny Rathbone, Mick Antoniw, Mike Hedges, Simon Thomas, Vikki Howells 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion.

2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar sut y mae GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gyda Capita.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hyn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn awyddus i dynnu sylw'r Cynulliad at y ddau adroddiad hwn, a gyhoeddwyd un ar ôl y llall yn gyflym, ar adeg y credaf fod gan Gymru ddewisiadau hollbwysig i'w gwneud. Mae'r cyntaf, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Bwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar 6 Mai eleni, yn agor gyda'r paragraff moel hwn:

Roedd cynnydd a chwymp aruthrol Carillion yn stori o ryfyg, balchder a thrachwant. Ei fodel busnes oedd yr ysfa ddi-baid i wneud arian, wedi'i yrru gan gaffaeliadau, cynnydd mewn dyledion, ehangu i farchnadoedd newydd a manteisio ar gyflenwyr. Cyflwynodd gyfrifon a oedd yn camliwio realiti'r busnes, a chynyddodd ei ddifidend bob blwyddyn, doed a ddelo. Roedd rhwymedigaethau hirdymor, megis cyllid digonol ar gyfer ei gynlluniau pensiwn, yn cael eu trin gyda dirmyg. Hyd yn oed wrth i'r cwmni ddechrau ymddatod yn gyhoeddus iawn, roedd sylw'r bwrdd ar gynyddu a diogelu bonysau hael i'r swyddogion gweithredol. Roedd Carillion yn anghynaliadwy. Nid y ffaith ei fod wedi mynd i'r wal sy'n ddirgelwch, ond y ffaith iddo bara mor hir.

Cyhoeddwyd yr ail adroddiad rwyf am dynnu sylw'r Cynulliad ato y diwrnod ar ôl yr adroddiad ar yr ymchwiliad i Carillion, ac fe'i lluniwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae'n nodi methiant llwyr ar ran y GIG yn Lloegr a Capita i ddeall y gwasanaethau yr oeddent yn ceisio'u trawsnewid. Yn un o'i gasgliadau mwyaf syfrdanol, mae'r adroddiad yn dweud y gallai bywydau fod wedi'u rhoi mewn perygl yn y ffordd garbwl y cyflawnwyd swyddogaethau corfforaethol y GIG, ac roedd yn ffodus na ddigwyddodd hynny. Yng Nghymru, rydym wedi mynd ati'n rhagweithiol i osgoi cyfranogiad dwfn y sector preifat yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ond rydym wedi bod yn bragmatig. Wedi'r cyfan, nid ydym yn elyniaethus tuag at y sector preifat—mae llawer y gall gwasanaethau cyhoeddus ei ddysgu o'u cymhelliant a'u harloesedd—ond rydym yn glir fod gwasanaethau cyhoeddus yno i wasanaethu'r cyhoedd, ac nid y cyfranddalwyr. Mae'r gwerthoedd hyn yn ganolog i'r rheswm dros eu creu, a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

Cyfeiriwyd at ddatganoli fel labordy polisi, gan ganiatáu i wahanol rannau o'r DU ddilyn cyfeiriadau polisi gwahanol ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Yn yr ysbryd hwnnw, mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hwn. Gan ddechrau yn gyntaf gydag adroddiad Carillion, yr hyn a'm trawodd oedd nid yn unig y diwylliant corfforaethol pwdr, ond methiant llwyr rhwystrau a gwrthbwysau mewnol ac allanol a oedd i fod wedi'u cynllunio i atal camymddygiad o'r maint hwn. O KPMG, Deloitte a Ernst & Young—tri o'r pedwar cwmni cyfrifyddiaeth mawr, sydd gyda'i gilydd yn monopoleiddio'r farchnad archwilio a 'ffioedd proffidiol' yn cael eu talu i bob un ohonynt, yng ngeiriad yr adroddiad, yn gyfnewid am eu 'bathodynnau o hygrededd'—i weithredodd unigol y cadeirydd, y cyfarwyddwr cyllid, y prif weithredwr, y Rheoleiddiwr Pensiynau a'r Cyngor Adrodd Ariannol, fel y mae'r adroddiad ei hun yn dweud,

tyfodd Carillion yn fom corfforaethol enfawr ac anghynaliadwy sy'n tician yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol sy'n dal mewn bodolaeth heddiw.

Rhaid inni fynd ati'n rhagweithiol i fynd i'r afael ag amgylchedd lle mae cwmnïau fel Carillion a Capita wedi gallu ffynnu ynddo. Yn yr un modd, mae'r adroddiad ar ddarparu gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gan Capita yn nodi byrbwylltra canoli gwasanaethau wedi'i ysgogi gan gost yn hytrach na chanlyniadau—gwasanaethau a gâi eu rhoi ar gontract allanol cyn i unrhyw un o'r cymhlethdodau gael eu deall yn iawn. Yn amlwg, mewn ymgais i arbed arian, llamodd y GIG yn Lloegr yn rhy fuan at fodel darparu a oedd o'i hanfod yn anaddas, a rhoi'r gwaith yn nwylo contractwr preifat wedyn. Gyda rhywbeth mor bwysig ag iechyd, gallai'r canlyniadau fod yn enbyd. Yn ffodus, yn yr achos hwn, mae'n ymddangos bod y canlyniadau gwaethaf posibl wedi cael eu hosgoi, ond mae gwaith ar glirio'r goblygiadau gweddilliol yn dal i fynd rhagddo. Mae angen inni fod yn ddoeth ynglŷn â'r ddau fater: sut y gall pwysau acíwt ar gyllidebau olygu y gallai penderfyniadau gael eu gwneud ar frys a heb feddwl clir ymlaen llaw, a'r angen i fynd i'r afael ag annigonolrwydd ein system gaffael sydd wedi caniatáu i'r cwmnïau monolithig hyn dra-arglwyddiaethu. A rhaid inni wneud hyn wrth inni lywio drwy rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cenhedlaeth: Brexit ac awtomatiaeth.

Rwyf wedi sôn ar sawl achlysur am y pwysau ariannol a wynebir gan gynghorau a'r atyniad y bydd hyn yn ei gyflwyno i gwmnïau yn y sector preifat sy'n barod iawn i gynnig ffyrdd o awtomeiddio swyddi a gwasanaethau er mwyn rhyddhau adnoddau, heb ddeall natur gymhleth y gwasanaethau a ddarparir, a heb fawr o ystyriaeth i'r canlyniadau os aiff pethau o chwith. Gallwn weld hynny'n digwydd eisoes mewn rhai rhannau o Gymru. Er enghraifft, mae Capita eisoes yn darparu canolfan gyswllt ac ystafell reoli gweithrediadau ar gyfer Heddlu De Cymru, sy'n cyflogi gwasanaethau wedi'u hawtomeiddio, i bob golwg, a dyfynnaf,

er mwyn helpu i gyflymu'r broses benderfynu ar gyfer y rhai sy'n ateb galwadau a gwella amseroedd ymateb cyffredinol i ddigwyddiadau drwy wneud hynny.

Ni allaf ond meddwl mai ieithwedd cysylltiadau cyhoeddus am dorri costau yw hyn. Os parhewn i ganiatáu i awtomeiddio gael ei yrru gan elw yn y sector preifat, nid oes ond un pen draw yn bosibl. Os ydym yn caniatáu i'r dull hwn wreiddio, bydd yr holl sôn am awtomatiaeth yn cael ei weld gan y gweithlu fel rhywbeth sy'n cael ei yrru gan doriadau, ac nid oes angen iddo gael ei weld felly. Os ydym yn harneisio awtomatiaeth, gallwn ddefnyddio dyfeisiau arbed llafur newydd i ryddhau staff i weithio ar y rheng flaen, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'r ddadl sydd angen inni ei chael. Ac mae angen i'r Llywodraeth grynhoi ei hadnoddau, drwyddi draw, ar gyfer wynebu'r modd y gallwn ddefnyddio'r technolegau newydd hyn i'n helpu gyda'r problemau y gwyddom fod yn rhaid inni fynd i'r afael â hwy.

Er nad ydym wedi gadael i Carillion a Capita sugno'r holl gontractau cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus i'r un graddau ag yn Lloegr, yr ail wers o'r adroddiadau hyn sy'n rhaid inni ei chrybwyll yw ein bod yn ymwybodol iawn fod angen trawsnewid ein prosesau caffael. Mae'r ymgyrch i leihau costau gweinyddol, ynghyd â phrinder sgiliau caffael, wedi cyfyngu ar allu llywodraeth leol yng Nghymru i ailstrwythuro arferion caffael, ac mae wedi arwain at dra-arglwyddiaeth cwmnïau mawr wedi'u preifateiddio. Fodd bynnag, bydd trawsnewid strategaeth gaffael yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau cyhoeddus symud oddi wrth y dull confensiynol trafodaethol tuag at adeiladu capasiti. Bydd angen iddynt ddod yn bartneriaid mewn arferion caffael, nid prynwyr nwyddau a gwasnaethau unwaith yn unig. Bydd angen cymorth sylweddol ar gyfranogwyr ar ddwy ochr y dull newydd hwn o gontractio. Bydd gweithredu i gryfhau'r economi sylfaenol ac ymdrechion i ddefnyddio polisi caffael i gefnogi cynhyrchwyr lleol yn helpu i unioni'r dra-arglwyddiaeth hon. Mae'r strategaeth economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn siomedig yn hyn o beth.

Er bod effaith economaidd Brexit yn debygol o fod yn ddwys—a rhaid i ni beidio â bychanu hyn—gallai roi diwedd ar ein rhwymedigaethau i ddilyn rheolau caffael yr UE, yn dibynnu ar delerau cytundebau masnach yn y dyfodol. Gallai hyn roi cyfle delfrydol i lunio ein llyfr rheolau ein hunain ar brynu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn caniatáu inni hollti contractau cyfyngus o fawr a gwella cefnogaeth i gwmnïau lleol.

Mae'r adroddiadau hyn yn rhybuddio'n glir am beryglon dibynnu ar fonolithau corfforaethol rhy-fawr-i-fethu sy'n rhoi elw o flaen y budd cyhoeddus. Mae datganoli yn caniatáu inni ddysgu gwersi gan eraill, felly gadewch inni wneud hynny. Diolch.

16:45

A gaf fi gymeradwyo anerchiad agoriadol Lee Waters yn y ddadl hon a'i gymeradwyo hefyd am fod yn bennaf gyfrifol am gyflwyno'r ddadl hon ger ein bron? Roeddwn yn mynd i ganolbwyntio ar gyflawniad, neu ddiffyg cyflawniad, Capita mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr ynghylch prynu gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gan gyflenwyr allanol, neu bartneriaethau cydwasanaethau GIG, fel rydym yn eu galw yma yng Nghymru.

Nawr, mae ymarfer cyffredinol yn endid hynod gymhleth sy'n anodd i unrhyw un nad yw'n feddyg teulu ddeall beth sy'n digwydd, ac mae'n anodd i feddygon teulu egluro i unrhyw un arall sut y mae'n gweithio. Felly, dyma ni—ond dyna oedd un o'r problemau gyda'r contract Capita: nid oeddent yn deall cymhlethdod yr holl beth, gan fod meddygon teulu, ar y cyfan, yn gontractwyr annibynnol sydd dan gontract gyda'r GIG yn unig yn y bôn. Felly, o'i roi'n syml, mae'r GIG yn talu i bractisau meddygon teulu yn ôl nifer y cleifion sydd ganddynt, ac yn y bôn, yr hyn y maent yn tueddu i'w wneud i'r cleifion hyn, pa wasanaethau y maent yn darparu ar eu cyfer, faint sy'n cael eu himiwneiddio a phethau. Cânt eu cytuno drwy amrywiaeth o ganllawiau fframweithiau ansawdd a chanlyniadau cymhleth, i ddarparu gwasanaethau ar gyfer canser cronig, diabetes, clefyd y galon. Caiff yr holl fath hwnnw o ddarpariaeth gwasanaeth ei gyfrifo'n fanwl, glaf wrth glaf. Mae'n hynod o gymhleth, ac mae'n mynd yn ôl at y cymorth gofal sylfaenol lleol, neu bartneriaeth cydwasanaethau'r GIG, sy'n ymdrin â'r rhwymedigaeth gytundebol honno. Felly, maent wedyn yn rhoi swm go fawr o arian i'r ymarfer cyffredinol unigol. O'r arian hwnnw sy'n cyrraedd y practis, mae'r meddygon teulu annibynnol dan gontract wedyn yn cyflogi rheolwr practis i redeg y practis. Maent yn cyflogi staff derbynfa, maent yn cyflogi meddygon teulu cyflogedig a nyrsys practis eraill ac ar ôl yr holl gyflogaeth, maent yn rhannu'r gweddill fel cyflog net fel y'i gelwir ar gyfer pob un o ymarferwyr y practis. Mae'n hynod gymhleth, ac ymdrinnir â hyn oll gan y gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phractisau unigol.

Mae yna gannoedd o feddygon teulu, caiff ein cleifion eu monitro’n unigol, cofrestriadau cleifion unigol, gadael a mynd—mae'n anhygoel o gymhleth, ond nid yw'n dod i ben gyda phractisau meddygon teulu yn unig. Maent yn cyflawni'r un dadansoddiad manwl ar gyfer fferyllwyr, optegwyr a deintyddion. Felly, mae'r cymorth busnes, os mynnwch, ar gyfer ymarfer gofal sylfaenol yn anhygoel o gymhleth. Mae wedi esblygu dros genedlaethau ac mae'r bobl mewn partneriaethau cydwasanaethau, cymorth busnes gofal sylfaenol yng Nghymru, yn anhygoel o brofiadol, ac fel arfer maent wedi bod yno ers amser hir iawn ac maent yn adnabod y busnesau tu chwith allan. Dyna ymarfer cyffredinol, dyna fferylliaeth, dyna optometreg a deintyddiaeth—mae gan bob un ei gymhlethdodau unigol. Ni allwch ei becynnu gyda'i gilydd i greu pecyn bach cyfleus a syml i'w osod ar gontract allanol a'i gysylltu â phractisau eraill tebyg, oherwydd mae'r holl bractisau meddygon teulu neu fferyllwyr—maent yn endidau unigol gyda gwahanol bobl, anghenion gwahanol.

Felly, mae'n anhygoel o gymhleth, mae pob practis yn wahanol. Caiff degawdau o brofiad ei sgubo ymaith felly, pan benderfynwyd gosod y math hwnnw o elfen gymorth busnes ar gontract allanol yn Lloegr—ei osod ar gontract allanol i Capita, ac fel y clywsom gan Lee Waters, gyda chanlyniadau trychinebus y gellid eu rhagweld. Rwy'n dyfynnu o'r adroddiad nawr,

mae ymhell islaw safon dderbyniol.

Oherwydd os oes manylyn bach yn mynd o'i le, mae'n tarfu ar weithrediad esmwyth llawer o bractisau neu gall danseilio'n llwyr, am ychydig ddyddiau, y ffordd y caiff y practis unigol ei weithredu, wrth i rywbeth fynd o'i le. Ac unwaith eto, fel y mae'r adroddiad yn dweud, camfarnodd y GIG yn Lloegr a Capita, ill dau, raddfa a natur y perygl o osod gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol ar gontract allanol. Do, fe wnaethant, fel y gwnaiff pawb nad yw'n deall cymhlethdod aruthrol gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. Felly, rwy'n dweud: cadwch y GIG yn ei holl ffurfiau'n gyhoeddus. Mae gosod gwasanaeth cyhoeddus cymhleth ar gontract allanol preifat yn sicr o fynd o chwith. Cefnogwch y cynnig.

16:50

Roeddwn yn bwriadu siarad am Capita, ond mae clywed yr enw'n fy atgoffa o'r cyfarfod a gafodd Jane Hutt a minnau y bore yma gyda dioddefwyr, yn bennaf, yn sgil mewnblaniadau rhwyll drwy'r wain, a oedd, yn ddigymell, yn gwbl gynddeiriog ynglŷn â rôl Capita ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau yn asesu'r bobl hyn i weld a oeddent yn dal i fod yn gymwys i gael lwfans mynychu yn ogystal â budd-daliadau anabledd eraill ai peidio, a gwrthodiad Capita i ganiatáu'r urddas i bobl gael asesiad yn eu cartref. Dyma bobl sy'n dioddef o anymataliaeth, ac mae llawer ohonynt yn cerdded gyda ffyn baglau oherwydd bod ganddynt broblemau ychwanegol gyda'u cefn a phroblemau symudedd. Ac oherwydd eu bod wedi ymdrechu i gyrraedd cyfarfod ynghanol Caerdydd gyda Capita, barnwyd felly nad oeddent yn gymwys i gael lwfans symudedd. Anhygoel. Mae hyn yn hollol groes i'r gwasanaeth cyhoeddus sydd gennym yma yng Nghymru.

Beth bynnag, mae'r prif sylwadau roeddwn eisiau eu gwneud yn ymwneud â phwy sy'n archwilio'r archwilwyr, gan mai'n anaml y caiff ei ofyn, ac yng nghyd-destun Carillion, mae angen ei ofyn. Oherwydd archwiliadau da yw conglfaen marchnadoedd ariannol teg a thryloyw a phenderfyniadau busnes da, ac mae'r system hon o archwilio gwariant cyhoeddus yn dyddio'n ôl dros fwy na chanrif. Pam y dylem orfod darllen rhwng y llinellau i ganfod beth y mae'r archwilwyr yn ei feddwl mewn gwirionedd? Maent wedi datblygu cod ar gyfer galluogi'r bobl ar y tu mewn, y rhai sy'n gwybod, i sylweddoli efallai fod rhywbeth amheus yn digwydd, ond nid y darpar fuddsoddwr cyffredin, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Rhaid inni sicrhau bod archwilwyr yn fwy atebol am eu gweithredoedd oherwydd methiant enfawr Carillion, lle roedd eu gwaith cyhoeddedig mewn gwirionedd yn ffuglen lwyr.

Yn rhyfeddol, ceisiodd KPMG ddadlau nad oedd ei annibyniaeth wedi'i amharu gan 19 mlynedd o archwilio Carillion. Credaf fod hynny y tu hwnt i grediniaeth ac mae angen ei newid. Un o'r ffynonellau uniongyrchol o wrthdaro buddiannau yw bod archwilwyr yn cael eu talu gan y cwmni y maent yn ei archwilio—y bobl y maent i fod i'w plismona. Mae hynny ynddo'i hun yn creu gwrthdaro buddiannau posibl. Mae'r ymchwiliad ar y cyd rhwng pwyllgor gwaith a phensiynau a phwyllgor busnes Tŷ'r Cyffredin i Carillion yn argymell bod y Llywodraeth yn cyfeirio'r farchnad archwilio at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, am fod y pedwar mawr i bob pwrpas yn gweithredu cartél cyfforddus lle mae eu gwaith archwilio yn eilbeth i'w busnes llawer mwy proffidiol yn cynghori cwmnïau, ac fel y gwelwyd gyda Carillion, maent mewn llawer o ffyrdd yn gwrthdaro'n uniongyrchol—y ddau weithgaredd.

Felly, rhaid inni naill ai hollti'r pedwar mawr yn rhagor o gwmnïau archwilio, neu mae'n rhaid inni ddatgysylltu'r canghennau archwilio oddi wrth y gwasanaethau ymgynghorol proffidiol sydd wedi dod i dra-arglwyddiaethu yn y cwmnïau cyfrifyddiaeth hyn, ac mae pob un o'r pedwar wedi ehangu i wneud hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Gwaith nad yw'n waith archwilio sy'n gyfrifol am £4 o bob £5 o incwm ffioedd a gesglir gan y pedwar mawr bellach. Felly, gallwch weld bod anghydbwysedd llwyr yn barod. Bydd hyn, rwy'n gobeithio, yn cael cefnogaeth o ystyried y diffyg cystadleuaeth yn y farchnad, yn enwedig i'r cwmnïau mawr. Archwilir 97 y cant uchaf o'r 350 cwmni mwyaf ym Mhrydain gan y pedwar mawr. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, gan fod y pumed cwmni mwyaf, Grant Thornton, wedi dweud nad ydynt yn mynd i dendro am waith archwilio ar gyfer cwmnïau FTSE 100 mwyach oherwydd bod y gost o wneud cais am waith y maent yn annhebygol o'i gael yn rhy fawr.

Nawr, fe ymchwiliodd y Comisiwn Cystadlu, a ragflaenai'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, i'r diffyg cystadleuaeth ym maes archwilio rhwng 2011 a 2013, ond diystyrodd y syniad o hollti'r pedwar mawr. Un o'r rhesymau a roddwyd ganddynt oedd bod angen i archwilwyr fod yn fawr am eu bod yn ysgwyddo atebolrwydd diderfyn am eu hargymhellion. Ond mae'r ffioedd sydd ar gael yn annhebygol o fod yn werth digon i wneud i gwmnïau archwilio bach fod eisiau ysgwyddo risg cyfrif archwilio mawr.

Rydym wedi gweld yn y gorffennol nad yw bod yn fawr yn diogelu sefydliadau rhag mynd i'r wal. Cofiwch fod pum cwmni mawr yn arfer bodoli, ac aeth Arthur Andersen i'r wal oherwydd eu methiant i archwilio Enron yn briodol. Credaf fod yna beryglon anferth i Lywodraeth Cymru o beidio â gwneud dim, oherwydd gadewch inni gofio mai Abellio oedd un o'r cwmnïau a gymeradwywyd ar y rhestr fer y gellid bod wedi dyfarnu'r contract iddo redeg masnachfraint Cymru a'r gororau, pe na bai Carillion wedi mynd i'r wal yn gynharach, gan eu tynnu allan o'r farchnad. Yn gyffredinol, rwy'n credu—

16:55

Ydw, fe ddof i ben drwy ddweud y credaf y gallai hyn, ochr yn ochr â'r methiant i reoli cyflogau anweddus o uchel y cwmnïau mawr iawn, danseilio proses fusnes gyfan y cwmnïau mawr a bellach, mae angen ei diwygio'n sylweddol.

Rwy'n cymeradwyo Lee Waters am gyflwyno'r cynnig hwn gerbron y Cynulliad y prynhawn yma ac am natur gryno a chywir ei araith a'i diagnosis. Roeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd. Mae hwn yn achos gwrthun. Mae Carillion, sef yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno'n arbennig, yn gwmni sydd wedi gadael £7 biliwn mewn rhwymedigaethau wrth iddo fynd i'r wal, a £2 biliwn o hwnnw i gyflenwyr a £2.5 biliwn i'r gronfa bensiwn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod bod yr achos hwn yn enghraifft o fethiant ar bob lefel. Yn gyntaf ac yn fwyaf amlwg, wrth gwrs, methiant rheoli ar ran y rhai a oedd yn gyfrifol am redeg y cwmni, fel y mae adroddiad y pwyllgor busnes yn Nhŷ'r Cyffredin ei wneud yn glir, gyda methiant y cyfarwyddwyr anweithredol i graffu ar y cyfrifon, a'u methiant i herio'r swyddogion gweithredol corfforaethol a'u methiant llwyr yn eu holl ddyletswyddau. Methodd y prif swyddogion gweithredol corfforaethol reoli'r cwmni gydag unrhyw gymhwysedd o gwbl, na gonestrwydd o bosibl. Mae hynny yn dal i gael ei ymchwilio.

Mae hefyd yn fethiant Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth rywbeth o'r enw Gwasanaeth Masnachol y Goron, sy'n rhan o Swyddfa'r Cabinet, ac sy'n gyfrifol yn benodol am edrych ar gyflenwyr mawr y Llywodraeth fel Carillion lle y gallai methiant y cwmni beri risg systemig. Nid yw'n glir pam na wnaed dim gan y sefydliad hwnnw yn yr achos penodol hwn i geisio osgoi'r posibilrwydd o drychineb. Ar ôl y rhybudd elw diwethaf y rhoddwyd contract £1.34 biliwn mewn perthynas â HS2 gan y Llywodraeth i Carillion. Felly, roedd llawer o'i le ar lefel lywodraethol yn ogystal.

Y broblem gyda'r Llywodraeth yn glanweithio drwy roi contractau o'r fath i gwmnïau fel Carillion yn yr amgylchiadau yr aeth y cwmni i'r wal ynddynt yw bod cyflenwyr llai, nad oes ganddynt fodd o gyflawni diwydrwydd dyladwy priodol ar y cwmnïau y maent yn bwriadu contractio â hwy, yn cymryd hynny fel rhyw fath o arwydd o drefniant blaenorol, ac felly i bob pwrpas, mae'r Llywodraeth yn cael ei gweld yn annog pobl i wneud busnes gyda hwy er gwaethaf ei methiant ei hun i wneud y diwydrwydd dyladwy na all eraill fforddio ei wneud.

Yn drydydd, wrth gwrs, mae'n fethiant ar ran y rheoleiddwyr. Nid yw hyn yn newydd, a digwyddodd yr argyfwng bancio, a oedd yn broblem lawer mwy systemig na methiant yr un cwmni hwn, er gwaethaf methiant Banc Lloegr, methiant Trysorlys ei Mawrhydi ac unrhyw un arall a oedd yn gyfrifol am reoleiddio'r system. Mae'r syniad y bydd rheoleiddwyr trydedd radd yn llwyddo i reoli bancwyr neu ddynion busnes eilradd, wrth gwrs, yn ffantasi. Mae'r holl sgêm menter cyllid preifat, a ddatblygwyd o dan weinyddiaeth Blair i raddau helaeth, yn enghraifft arall o bobl nad ydynt yn deall beth y maent yn ei wneud yn gosod contractau sydd mor gymhleth, yn aml iawn—mor fawr, fel y nododd Dai Lloyd yn dda iawn funud yn ôl—ac felly mae'r methiant ar y ddwy ochr.

Rwy'n sicr yn cymeradwyo ac yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone yn awr am y sgêm archwilio, lle mae pedwar cwmni mawr i bob pwrpas yn rheoli'r busnes cyfan i gwmnïau mawr fel Carillion. Nid yw hon yn broblem newydd ychwaith. Pan oeddwn yn Weinidog materion corfforaethol chwarter canrif yn ôl, fe wnaeth Terry Smith, sydd wedi hynny wedi dod yn enwog fel rheolwr cronfeydd sector preifat llwyddiannus iawn ac wedi'i ddisgrifio fel y Warren Buffett Seisnig, ysgrifennu llyfr o'r enw Accounting for Growth, a oedd yn chwarae ar eiriau, oherwydd ar y pryd roedd llawer o gwmnïau'n cofnodi proffidioldeb mawr, ond llif arian gwael iawn mewn gwirionedd. Y canlyniad oedd methdaliadau enfawr fel Polly Peck a British and Commonwealth Holdings, y ddau ohonynt yn achosion y bu'n rhaid i mi ymdrin â hwy pan oeddwn yn Weinidog materion corfforaethol. Felly, mae'r problemau hyn yn bodoli ers amser maith ac yn mynd yn ôl ymhell.

Cynyddodd Carillion ei faint yn gyflym drwy sbri wario drwy ddyledion, fel y nodir ar dudalen 14 o adroddiad y pwyllgor busnes, ond yr eitem fwyaf ar fantolen y cwmni oedd ewyllys da, sef wrth gwrs, i bob pwrpas, faint y maent wedi'i ordalu am asedau'r cwmnïau a brynwyd ganddynt. Roedd yr ewyllys da yn £1.57 biliwn. Nid oedd ond £700 miliwn yn unig o ecwiti yn y cwmni mewn gwirionedd, felly roedd yr ewyllys da ddwywaith cymaint â'r arian parod gwirioneddol yn y busnes a fuddsoddwyd gan gyfranddalwyr. Felly, yn amlwg, dylai'r pwynt sylfaenol hwnnw fod wedi canu clychau o'r cychwyn cyntaf.

Y broblem fawr sy'n ein hwynebu yma yw bod gan Lywodraethau wasanaethau wedi'u marchnadeiddio, ond nid ydynt wedi creu marchnadoedd mewn gwirionedd. Mae'r rhan fwyaf o gyfleustodau a breifateiddiwyd wedi dod yn fonopolïau rhanbarthol neu'n oligopolïau. Wrth gwrs, mae gan farchnadoedd go iawn gwsmeriaid yn gwario eu harian eu hunain ar ddewis o ddarparwyr, fel pan fyddwn yn mynd i'r archfarchnad ac yn dewis beth rydym am ei brynu. Yn yr un modd, bydd cwmnïau'n dewis eu cyflenwyr nwyddau, caiff arian ei dalu a chaiff elw ei wneud. Ond mae'r hyn sy'n digwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus a farchnadeiddiwyd yn wahanol—dyma'r pwynt diwethaf a wnaf.

Dewisir elusen neu gwmni yn aml o gwmpas cyfyngedig o opsiynau, fel yn yr achos hwn yma lle mae Carillion yn ei ddarparu, a throsglwyddir arian trethdalwyr. Mae darparwyr sector preifat yn gwneud elw ohono, ond drwy gydol y cyfan mae'r trethdalwr ar y bachyn. Os aiff rhywbeth o'i le, mae'r trethdalwr yn talu. Marchnadoedd ffug yw'r rhain ac maent yn ffynnu yng ngwladwriaeth gymdeithasol Prydain. Nid oes unrhyw fecanwaith marchnad go iawn yma, ac mae sectorau marchnad yn ymddangos yn unswydd er mwyn sugno ar deth y Llywodraeth. Ac yn aml iawn bydd y darparwyr hyn yn galw am sicrwydd gan y Llywodraeth y bydd mwy o gontractau i ddod; fel arall nid yw'n werth iddynt wneud cais yn y lle cyntaf hyd yn oed.

Felly, ceir methiant systemig yma ac mae angen rhoi sylw iddo ar bob lefel, ar lefel gorfforaethol ac ar lefel rheoleiddio, yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat. Felly, credaf fod hon yn ddadl amserol iawn, a gobeithiaf y bydd gwersi'n cael eu dysgu ohoni.

17:05

Llanastr Carillion yw'r enghraifft ddiweddaraf o fethiant grymoedd y farchnad a'r polisi preifateiddio a daniodd dwf dilyffethair cwmnïau fel Carillion. Dylid ystyried adroddiadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a chyd-bwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin fel mwy na dadansoddiad o fethiant un cwmni, ond fel datgeliad o'r llygredd economaidd a gwleidyddol sydd wrth wraidd yr hyn a elwir yn economi marchnad rydd. Am y rheswm hwn, mae'r ddadl yn amserol ac yn uniongyrchol berthnasol i'r Cynulliad hwn os ydym i ddilyn llwybr economaidd a chymdeithasol gwahanol, un sy'n hyrwyddo polisi partneriaeth gymdeithasol, yn cydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus, ac yn cydnabod rôl sylfaenol y Llywodraeth yn darparu a hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol, cyflogaeth foesegol a chydraddoldeb cymdeithasol.

Roedd maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2017 yn datgan,

Nid ydym yn credu mewn marchnadoedd rhydd dilyffethair. Rydym yn gwrthod cwlt unigolyddiaeth hunanol. Rydym yn ffieiddio at raniadau cymdeithasol, anghyfiawnder, annhegwch ac anghydraddoldeb. Ystyriwn fod dogma ac ideoleg anhyblyg nid yn unig yn ddiangen ond yn beryglus.

Ac yn union fel yr ymrwymiad ym maniffesto'r Torïaid i drydaneiddio rheilffyrdd, yn union fel yr ymrwymiad ym maniffesto'r Torïaid i'r morlyn llanw, dyma addewid arall a dorwyd. Dyma dwyll a chelwydd etholiadol arall.

Yn ei lyfr, The Corruption of Capitalism, mae Guy Standing yn egluro sut y daeth cyfalafiaeth fyd-eang yn system wedi'i rigio o blaid plwtocratiaeth—elît sy'n cyfoethogi ei hun, nid drwy gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau, ond drwy berchnogaeth ar asedau, gan gynnwys eiddo deallusol, wedi'u cynorthwyo gan gymorthdaliadau, gostyngiadau treth, mecanweithiau dyled a drysau troi rhwng gwleidyddiaeth a busnes a phreifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.

Yn y cyfamser, o'n hamgylch gwelwn gyflogau'n aros yn eu hunfan wrth i farchnadoedd llafur gael eu trawsnewid drwy gontractio allanol, awtomatiaeth a'r economi ar alw. Ac mae stori Carillion yn rhan o'r stori barhaus honno—cwmni sy'n byw oddi ar gaffael cyhoeddus a phreifateiddio ar anel tua'r gwaelod yn barhaus o ran darpariaeth, safonau a moeseg o dan Lywodraeth sydd wedi gwerthu ei henaid i'r farchnad breifat. Gwelwn arwyddion nodweddiadol o hyn gydag obsesiwn difeddwl y Torïaid gyda phreifateiddio'r masnachfreintiau rheilffyrdd aflwyddiannus. Fe'i gwelwn yma gyda'r Torïaid yng Nghymru a'u hobsesiwn â galwadau am ail-breifateiddio maes awyr Caerdydd, a oedd wedi methu dan breifateiddio.

Wrth i Carillion ddechrau gwegian, parhaodd y Cyfarwyddwyr i gynyddu difidendau a bonysau i swyddogion gweithredol, gan drin y gronfa bensiwn gyda dirmyg. Fel y dywedwyd, mae'r adroddiad yn ddamniol. Mae'r canlyniadau'n amlwg, gyda'r trethdalwr yn cael ei adael i dalu cymaint o'r bil ar gyfer glanhau llanastr Carillion, ac mae methiant y system reoleiddio wedi ei waethygu gan yr hyn sy'n ymddangos yn gydgynllwynio rhwng rheoleiddwyr, cyfrifwyr, Llywodraeth, cyfreithwyr a chyfarwyddwyr, ar draul pawb arall yn y pen draw. A bachodd yr archwilwyr amrywiol £72 miliwn. Methodd Llywodraeth y DU gefnogi cynllun a allai fod wedi adennill £364 miliwn gan Carillion. Cafodd y gronfa bensiwn ei hamddifadu a'i gadael gyda rhwymedigaeth bensiwn o oddeutu £2.6 biliwn, miloedd o weithwyr na chafodd eu talu, a gadawyd cwmnïau a chyflenwyr bach i dalu bil o oddeutu £2 biliwn ac mae 27,000 o bensiynwyr bellach yn byw ar bensiynau llai.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy rheswm dros gefnogi'r cynnig hwn yn ymwneud nid yn unig â thynnu sylw at Carillion a chwmnïau tebyg, ond ag amlygu'r union system sydd wedi creu bwystfilod fel Carillion a gadael iddynt ffynnu. Yn ogystal â galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad ar y gwersi i Gymru, rhaid inni edrych am ffordd wahanol o wneud busnes, un sy'n cydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus, yn cydnabod manteision perchnogaeth gyhoeddus a chydweithredu mewn rhai sectorau, yn cydnabod y dylai ein polisi economaidd a'n caffaeliadau gwerth £5 biliwn neu fwy fod yn seiliedig ar safonau busnes moesegol, safonau cyflogaeth moesegol, gwaith teg, diwedd ar ddiwylliant isafswm cyflog, diwedd ar ddiwylliant o hunangyflogaeth orfodol a dim oriau, cydnabyddiaeth o rôl bwysig undebaeth yn cyflawni'r amcanion hyn, a fframwaith gweithredu trosfwaol o gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a ffyniant i bawb.

Yn y system economaidd fyd-eang newydd rydym yn ei chroesawu—system o hyperdechnoleg, awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial—rhaid inni sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o'r gorffennol fod system sy'n seiliedig ar athroniaeth trachwant a chamfanteisio yn sicr o fethu. Rhaid inni ddangos, yng Nghymru, y gallwn wneud pethau'n wahanol, y gallwn wneud pethau'n well, er mwyn busnes, er mwyn gweithwyr ac er mwyn ein cymunedau.

17:10

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyflwynodd y ddadl wirioneddol ddiddorol hon y prynhawn yma. Rydym yn canolbwyntio yma, yn gwbl briodol, ar adroddiadau a gynhyrchwyd gan bwyllgorau ein Cynulliad ein hunain neu gan Lywodraeth Cymru. Weithiau, fodd bynnag, mae'r mater dan sylw mor berthnasol i ni fel ei bod yn werth trafod adroddiadau a baratowyd ar gyfer eraill. Mae Carillion a Capita wedi cael presenoldeb yma yng Nghymru. Ni fydd yr adroddiadau a glywsom yn ystod y ddadl yn gadael unrhyw amheuaeth y dylem wrando'n astud ar y gwersi a ddysgwyd o brofiadau mewn mannau eraill.

Ddirprwy Lywydd, bydd gennyf lai i'w ddweud am Capita oherwydd bod y gwersi sydd i'w dysgu o'r adroddiad hwnnw wedi cael ystyriaeth fanwl iawn yma, yn arbennig gan Dr Dai Lloyd, sydd wedi ymdrin â llawer o'r tir y buaswn wedi rhoi sylw iddo fy hun. Credaf y dylem ddweud, yn gyffredinol, fod yr adroddiad yn ein dysgu i ochel rhag bwrw iddi'n ddall ar drywydd arbedion afrealistig ac y dylid edrych yn ofalus iawn bob amser ar yr addewidion a wnaed gan y rhai y mae eu syched am fusnes yn drech na'u hawydd am y gwirionedd.

Dyma gwmni nad oedd ganddo staff, na gwybodaeth na systemau sylfaenol ar waith ar gyfer cyflawni ei rwymedigaethau newydd pan enillodd gontractau gwirioneddol sensitif yn glinigol. Dyma Lywodraeth a ymddangosai fel pe bai'n credu bod gosod gwasanaeth ar gontract allanol hefyd yn ei rhyddhau hi o'i chyfrifoldebau i ddefnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion. Awgrymodd Lee Waters nad oes raid iddi fod felly, ond mae Capita yn stori sy'n ein rhybuddio pa mor wael y gall pethau fynd o chwith.

Diolch yn fawr iawn, oherwydd mae gennyf lawer o waith achos sy'n gysylltiedig â fy ngwaith grŵp trawsbleidiol a gwaith lleol lle mae pobl a ddylai fod wedi cael eu taliad annibyniaeth personol ar y gyfradd lawn heb ei gael, ond gwyddom mai 60 i 80 y cant o lwyddiant a geir o apelio at yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn enwedig ar gyfer rhai ar y sbectrwm awtistig a'r rhai sydd â nam ar y synhwyrau. Y broblem yw methiant i ddeall a derbyn yr amodau hyn. Ond rydym hefyd yn wynebu'r un broblem gyda llawer o gyrff sector cyhoeddus, awdurdodau lleol a chyrff iechyd. Felly, onid yw'n wir mai'r diffyg dealltwriaeth hwnnw sy'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef, fel bod pobl ym mhob sector yn cael yr hawliau sydd ganddynt wedi'u parchu, a'u hanghenion wedi'u diwallu yn unol â hynny?

Dechreuais drwy ddechrau gyda'r pwynt a wnaeth yr Aelod, ac adleisiai'r hyn roedd Jenny Rathbone wedi'i ddweud yn gynharach, sef bod Capita yn gwmni contract allanol sydd â chyfrifoldebau sylweddol iawn mewn sawl un o feysydd cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ac nid yw wedi'i gyfarparu i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Rwy'n anghytuno â Mark Isherwood ar hyn: pan fo sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn cael pethau'n anghywir—ac mae hynny'n digwydd wrth gwrs—mae'r sefydliadau hynny'n atebol am yr hyn a wnânt a gall pleidleiswyr newid y ffordd y darparir y gwasanaethau hynny. Mae ganddynt ddewis yn y blwch pleidleisio. Pwy allai bleidleisio i gael gwared ar Capita? Yn sicr, dyna yw'r gwahaniaeth sylfaenol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi gymryd yr ymyriad, ond beth sy'n digwydd pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn methu? Ni allwn bleidleisio dros gael gwared ar reolwyr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, er enghraifft. Felly, os ydych yn derbyn bod honno'n egwyddor rydych chi am ei harfer mewn perthynas â busnesau preifat sy'n ymgysylltu â'r sector cyhoeddus, beth am sefydliadau sector cyhoeddus sy'n ymgysylltu â llywodraethau hefyd?

Wel, Lywydd, mae pobl yn pleidleisio dros yr unigolion sy'n gyfrifol yma am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Gall pobl wneud penderfyniadau gwahanol os nad ydynt yn credu bod hynny'n cael ei gyflawni'n llwyddiannus. Pryd y safodd Capita etholiad? Pryd y gallodd pobl yng ngogledd Cymru, yr effeithiwyd arnynt gan y problemau a nododd Mark Isherwood, fynd i'r blwch pleidleisio i gael gwared ar y cwmni hwnnw? Dyna'r gwahaniaeth hanfodol: dyna pam nad yw'r gymhariaeth rhwng cwmnïau preifat a gwasanaethau cyhoeddus yn un deg na pherthnasol.

Dilynais lawer o'r hyn a ddywedodd Neil Hamilton. Roeddwn i'n credu bod ei ddadansoddiad yn tynnu sylw at rai materion pwysig iawn. Rwy'n dod i gasgliad gwahanol iawn i'w un ef o'r dadansoddiad hwnnw. Dywed mai'r broblem gyda Capita a Carillion yw mai'r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw mwy o farchnadoedd, a marchnadoedd gwell. Mae fy nghasgliad i yn llawer nes at un Mick Antoniw, mai'r hyn y dengys Carillion a Capita yw methiant model y farchnad ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Ond nid yw'r gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu, ac nid yw'r bobl sy'n eu defnyddio'n gweithredu mewn modd a ysgogir gan yr economi.

Rwyf am ganolbwyntio'n bennaf, os caf, Ddirprwy Lywydd, ar Carillion, behemoth o gwmni llawn ysgogiad a âi ati'n ymosodol i hel contractau Llywodraeth a sector cyhoeddus cymhleth, gan edrych bob amser am y cytundeb nesaf i dalu costau'r cytundeb diwethaf. Câi ei gynnal gan Lywodraeth a ddaliodd ati i ddyfarnu contractau gwerth miliynau o bunnoedd iddo ymhell wedi i'r ysgrifen ymddangos ar y mur, gan achosi niwed i'r gadwyn gyflenwi fel y nododd eraill y prynhawn yma. A phan syrthiodd y tŵr o gardiau yn y diwedd, gadawodd cwymp Carillion stori ddigalon o gyfarwydd yn ei sgil am gyfarwyddwyr na ellid mo'u cyffwrdd, gweithlu wedi'i ddinistrio, pensiynau wedi'u colli a methiannau busnesau eraill a oedd wedi dibynnu ar Carillion am eu bywoliaeth. Ddirprwy Lywydd, mewn llai na 30 eiliad bob un, rwyf am redeg drwy'r 10 o wersi y credaf y gellid eu dysgu o'r profiad hwn, fel yr awgryma'r cynnig. Yn gyntaf oll, er bod yna fethiannau personol gwirioneddol fel y nododd Lee Waters yn glir, mae gwersi go iawn yr adroddiadau'n ymwneud â methiant sefydliadol: methiant gan y cwmni, methiant gan y gwahanol gyfundrefnau rheoleiddio niferus a luniwyd i atal y methiannau hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf. Gallwn ddysgu'r gwersi go iawn drwy edrych ar y methiannau sefydliadol hynny.

A'r ail wers o hynny, o ran llywodraethu corfforaethol, yw bod angen inni ddiwygio dyletswyddau cyfarwyddwyr i wneud hyrwyddo llwyddiant hirdymor y cwmni'n brif ddyletswydd i'r cyfarwyddwyr hynny, yn hytrach na mynd ar drywydd buddiannau tymor byr un grŵp yn unig sy'n berthnasol i'r cwmni hwnnw—y cyfranddalwyr. Yn sicr, mae mynd ar drywydd gwerth cyfranddaliadau wedi bod yn un o'r ffactorau mwyaf llesteiriol yn y ffordd y mae cwmnïau Prydeinig wedi cael eu rhedeg dros y degawd a mwy diwethaf. Dyna pam y mae'r TUC a fy mhlaid yn dadlau y dylid gosod gweithwyr-gyfarwyddwyr ar fwrdd cwmnïau gyda mwy na 250 o weithwyr er mwyn dangos bod mwy nag un buddiant yn y fantol yn y ffordd y gweithredir y cwmnïau hynny.

Yn y bedwaredd wers, dywedwn y dylai hawliau llywodraethu corfforaethol buddsoddwyr fod yn destun cyfnod ddwy flynedd fan lleiaf o gydberchnogaeth, fel arall rydym yn agored i'r math o weithgarwch ag a welsom pan gafodd GKN ei drosfeddiannu gan gais gelyniaethus gan Melrose, tynnwr asedau tymor byr, lle roedd y bobl a bleidleisiodd dros dynnu GKN i'r berchnogaeth honno yn gyfranddalwyr tymor byr a bentyrrodd i mewn ar y funud olaf, gan brynu cyfranddaliadau a phleidleisio o blaid y trosfeddiant yn y gobaith o enillion hapfasnachol a llenwi eu pocedi o elw'r cytundeb. Bu tawelwch rhyfedd o feinciau'r Ceidwadwyr yn ystod y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, ond gadewch imi ddyfynnu un o'u plith yn San Steffan, sef Robert Halfon, pan ddisgrifiodd hyn fel 'cyfalafiaeth y lleidr-farwn ar ei waethaf'. A gallwn wneud yn well na hynny.

Mae fy mhumed wers yn ymwneud â'r gweithdrefnau archwilio, cyfrifo ac adrodd, a nodwyd yn arbennig gan Jenny Rathbone. Ni ddylid caniatáu i gwmnïau archwilio gymryd rhan mewn contractau ar gyfer gwasanaethau busnes eraill gyda'u cleientiaid. Mae'n eu rhoi mewn sefyllfa gwbl ffug. Roedd pob un o'r pedwar cwmni archwilio mawr yn gweithio i Carillion mewn rhyw fodd ar ryw adeg neu'i gilydd, ac fel y dywed y Financial Times, nid yw system lle mae gennym rhy ychydig o gwmnïau i fethu yn un sydd o fudd i'r cyhoedd.

Mae'r chweched a'r seithfed wers yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd. Credwn y dylai pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus orfod darparu manylion ynglŷn â chadwyni cyflenwi, perchnogaeth cwmnïau a strwythurau llywodraethu er mwyn i'r cyhoedd gael cipolwg ar beth sy'n digwydd.

Rydym yn credu, yn seithfed, fel y dywedodd Lee Waters, fod angen i ddulliau caffael gael eu llywio gan werth, nid pris yn unig. Yn yr wythfed wers, mae angen inni ailfeddwl am gyfraith cwmnïau er mwyn mynd i'r afael â'r atebolrwydd cyfyngedig a ddarparir i gyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig. Mae The Guardian wedi dadlau y byddai awgrymu cam o'r fath 'yn gyrru ias drwy ystafelloedd byrddau gweithredol'—a ias iach a phwrpasol ar hynny.

Mae atebolrwydd cyfyngedig i fod i annog entrepreneuriaeth. Yn achos Carillion ymddengys ei fod wedi creu perygl moesol.

Gwahoddodd gyfarwyddwyr i weithredu'n ddi-hid am eu bod yn gallu osgoi unrhyw ganlyniadau personol yn sgil eu gweithredoedd.

Ymlaen at y ddwy wers olaf, ac yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd, yn gyntaf oll, mae angen inni ymdrin â'r anhawster sylfaenol a achosir pan fo Llywodraethau'n rhoi gwaith ar gontractau allanol a hynny'n unig am ei fod yn symud dyledion oddi ar fantolen y Llywodraeth. Ymdrech gosmetig yn unig ydyw, a dylid dileu'r arfer drwy newid y ffordd y mae Llywodraeth yn cyfrifyddu contractau.

Yn olaf, ac yn fwyaf oll, Ddirprwy Lywydd, y wers y credaf ein bod yn ei dysgu o'r profiadau hyn yw'r un y dechreuodd Lee Waters â hi, sef y dylid cynllunio gwasanaethau cyhoeddus, a'u hariannu, eu rhedeg a'u gwerthuso gan y sector cyhoeddus, gyda chyfranogiad democrataidd fel mai budd y cyhoedd ac nid elw preifat sydd wrth wraidd y ffordd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu rhedeg.

17:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ynddi.

Credaf mai un o wendidau'r Cynulliad, un o'r beirniadaethau rydym wedi'u cael, yw ein bod yn tueddu i fod yn fewnblyg iawn ac yn amharod i ddysgu o'r tu allan. Credaf fod hon yn enghraifft o lle rydym yn edrych ar beth sydd wedi digwydd, beth sydd wedi mynd o'i le, y tu allan a dysgu gwersi o hynny, a chredaf fod hynny'n wirionedd bwysig, oherwydd os na ddysgwn y gwersi o'r hyn sy'n digwydd nid yn unig dros y ffin, ond ledled Ewrop yn ogystal, yn rhai o'r pethau hyn, gallem ailadrodd y camgymeriadau.

Lee Waters—rwy'n falch iawn ei fod wedi dwyn adroddiadau Tŷ'r Cyffredin ar Carillion a Capita i sylw'r Cynulliad. Rwy'n amau a fyddai llawer o bobl wedi eu darllen pe na bai wedi dod â hwy i sylw'r Cynulliad, ac rwy'n credu bod hynny, ynddo'i hun, yn ddefnyddiol iawn. Ac mae angen inni ddysgu gwersi. Rydym wedi gweld dau gwmni mawr iawn yn cael problemau, ond pam? Ymddengys bod Carillion ag ysfa ddi-baid i wneud arian, fel y'i disgrifiwyd gan Lee Waters, ac roedd hynny'n anghynaliadwy. Roedd yn rhaid ei fod yn anghynaliadwy pan fyddech yn mynd ar drywydd cyfalaf o'r contract nesaf i dalu am yr un presennol.

Capita—wel, fe ddof at yr hyn a ddywedodd Dai Lloyd yn gynharach, ond credaf fod Lee Waters wedi ei grynhoi fel 'diffyg dealltwriaeth', 'darpariaeth garbwl'. Rhaid inni ddysgu gwersi o'r adroddiad. Mae caffael yn ymwneud â mwy na gosod contract, cael y pris lleiaf a gadael iddynt ei gael a gobeithio ei fod yn gweithio. Oherwydd yn aml iawn, ni fydd yn gweithio ac rwy'n credu, gyda chontractau mawr iawn, eich bod yn cael eich sugno i mewn i dalu mwy a mwy o arian wrth i'r contract fynd rhagddo, oherwydd na allwch ddod allan ohono, oherwydd ei fod mor bwysig.

Eglurodd Dai Lloyd arferion Capita a phractisau meddygon teulu a gweddill gofal sylfaenol yn llawer gwell nag y gallwn i, ond credaf mai un peth a eglurodd oedd pa mor anhygoel o gymhleth oedd y cyfan, a bod pobl heb brofiad o'r cymhlethdod yn cynnig am gontractau, yn ennill contractau, ac yna'n dweud, 'O diar'. Mae Dai Lloyd yn gwybod oherwydd roedd ar y cyngor yr un pryd â minnau, rwy'n credu, neu roedd newydd ei adael i ddod yma—roedd gennym Capgemini yn dod i mewn, cwmni na allai gynhyrchu system gyflogres hyd yn oed, fel y gall Aelodau eraill yma a oedd yn byw yn Abertawe neu'n gweithio i'r cyngor ei ddisgrifio. Ni allai gynhyrchu system gyflogres ar gyfer ein cyngor, er iddo wneud cais am y gwaith hwnnw.

Mae gennym gwmnïau allanol y mae modd rhagweld eu methiant. Mae'r pethau hyn yn mynd o chwith mor rheolaidd fel y gallech gredu y byddai pobl wedi dysgu gwersi ohonynt. Y GIG yn Lloegr a Capita—fe wnaethant gamfarnu'r risg. Weithiau, mae pobl yn gwneud cais am bethau nad ydynt yn eu deall yn iawn. Cofiaf weld unwaith, mewn llyfr cyfrifiadurol, ei fod yn dweud bod rhywun eisiau siglen, ac ar ôl iddo fynd drwy'r holl newidiadau gwahanol yn y broses ddylunio, yn y pen draw fe lunodd siglen nad oedd yn siglo, un a oedd yn llonydd ac ni allech eistedd arni, ond roedd wedi mynd drwy'r holl weithdrefnau dylunio gwahanol. Ymddengys bod llawer o hyn yn digwydd gyda chontractau allanol.

Aeth Jenny Rathbone drwy Capita a'i rôl yn asesu lwfansau mynychu. Wel, rwy'n siŵr nad oes unrhyw un yma na allai fynd drwy'r problemau a gawsant gyda Capita a'i rôl yn asesu lwfansau mynychu. Ond aeth ymlaen, yn fwy pwysig, at archwilwyr ac archwilio. Ac mae yna broblem. Ceir tri chwmni mawr lle nad yw archwilio ond yn un rhan o'u hincwm; maent yn gwneud llawer o waith gwerth gorau a buddion eraill i'r cwmni. Pan ddaw mor bwysig â hynny i chi fel cwmni, oherwydd y swm o arian a gewch o'r gwaith ychwanegol a wnewch, pa mor awyddus ydych chi i wneud yn siŵr na fyddwch yn sylwi ar yr holl ddiffygion yn y system archwilio, os byddwch yn wynebu problemau difrifol os cewch eich diswyddo fel archwilydd? Yr un archwilydd annibynnol am 19 mlynedd—hynny yw, mae hynny'n hurt. Mae unrhyw un sydd wedi bod yn gysylltiedig â sefydliadau elusennol a gwirfoddol, ar ôl cael yr un archwilydd am dair neu bum mlynedd a llawer ohonynt yn bobl leol y maent yn eu hadnabod, yn cael gwybod bod angen iddynt newid eu harchwilydd. Os mai dyna beth a ddywedwch wrth sefydliadau bach sy'n ymdrin â symiau cymharol fach o arian, pam y gall cwmni cyhoeddus gael yr un archwilydd am 19 mlynedd—. Rhaid eich bod yn datblygu perthynas gysurus.

Credaf fod Neil Hamilton wedi siarad am fethiant Llywodraeth San Steffan, methiant y rheoleiddiwr, arweinwyr—yn y bôn mae'n fethiant systemig. Mae'n mynd â mi yn ôl i feddwl am y fenter cyllid preifat. Roedd y bobl a brofodd fod PFI yn werth am arian—cymerai athrylith i wneud hynny, oherwydd byddech yn benthyca arian ar lefel uwch ac uwch, roeddech yn talu arian allan dros weddill yr amser bron i gyd, roedd gennych gontractau a oedd yn cynnwys taliadau ar gyfer popeth o £30 am newid bylb golau yr holl ffordd drwodd. Ond byddai rhywun yn gwneud cyfrifiad, ac os na châi'r ateb cywir, caech eich gyrru'n ôl i roi cynnig arall arni. Yn rhy aml, credaf ein bod yn ateb yn gyntaf ac yna'n gweithio'n ôl i beth ddylai'r cwestiwn fod. Ac mae llawer o hynny wedi digwydd yma.

Unwaith eto, Carillion yn cyllido drwy ddyled—pan fo'r rhan fwyaf o'ch taflen yn ewyllys da, sy'n ddwywaith cymaint ag sydd gennych o arian—. Un o'r pethau a gyflwynais, pan oeddwn yn gweithio i'r cyngor—ar gyfer sefydliadau bach a gâi eu rhedeg gan y cyngor, byddwn yn gofyn iddynt, 'A gawn ni'r llif arian?' Beth bynnag, dywedwyd wrthyf nad oedd yn ddefnyddiol iawn. 'Nid ydych am weld hwnnw; y cyfrifon sydd angen i chi eu gweld. Mae'r cyfrifon yn rhoi cofnod gwir a chywir i chi. Nid ydych am weld y llif arian, oherwydd mae'n rhoi darlun anghywir—mae'n amrywio.' Wel, dywedais, 'A allaf ei gael ar gyfer pob mis am 12 mis? Oherwydd mae'n siŵr o fynd i fyny ac i lawr. Mae'n sicr o fod yn iawn o bryd i'w gilydd, ac ar ôl 12 mis, ni all fod lawer allan ohoni.' Oherwydd bydd pobl yn rhoi pethau mewn stoc, ac maent yn prisio stoc. Ceir llu o driciau bach y mae cyfrifwyr yn gwybod amdanynt er mwyn gwneud yn siŵr nad oes arian yn cael ei golli.

Methiant preifateiddio—roedd Mick Antoniw yn llygad ei le. A ddylem fod yn hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol? Mae gormod o gystadleuaeth rhyngoch chi'n ceisio cael y fargen orau, a hwy'n ceisio cael y fargen orau. Beth am weithio gyda'n gilydd?

Credaf fod Mark Drakeford wedi siarad am ddysgu gwersi o fannau eraill. Gochelwch rhag mynd ar drywydd rhywbeth sy'n afrealistig ac yn anghyraeddadwy o ran arbedion, ond mae rhywun yn dweud wrthych y gallant ei wneud. Mae stori Capita yn rhybudd. Nid oedd wedi'i gyfarparu i gyflawni'r hyn roedd i fod i'w gyflawni. Carillion, ymosodol wrth fynd ar drywydd contractau—roeddwn yn hapus iawn â'r 10 gwers a roddodd Mark Drakeford. Buaswn wedi meddwl y byddent yn gwneud datganiad Llywodraeth da iawn ar ryw adeg, o'r gwersi sydd eu hangen arnom, neu'r rheolau sydd eu hangen arnom, neu'r rheolau caffael neu'r gwersi y mae angen i ni—. Oherwydd credaf ei bod yn bwysig inni ei gael yn iawn, ein bod yn dysgu o'r hyn sydd wedi mynd o'i le. Nid ydym am ei ailadrodd.

17:25

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Da byw yn yr ucheldir
8. Cyfnod Pleidleisio
9. Dadl Fer: Mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru: Ystyr ystadegau yn ymarferol; rôl Llywodraeth Cymru; ac effaith Brexit ar yr agenda tlodi plant

Felly, symudwn at eitem 9 ar ein hagenda, sef y ddadl fer, a galwaf ar Llyr Gruffydd.

Wel, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd—[Torri ar draws.]

Un funud. Os ydych yn mynd allan o'r Siambr, gwnewch hynny'n gyflym, ac os nad ydych yn gwneud hynny, os ydych yn aros i wrando ar y ddadl fer, gwrandewch arni os gwelwch yn dda.

Galwaf yn awr ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r ddadl fer.

Iawn. Wel, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi bod yn gwylio cwpan y byd dros yr wythnosau diwethaf—yn wir, mae wedi bod yn amhosib osgoi'r peth yn y 24 awr ddiwethaf. Ond rydw i'n cyfeirio at hynny oherwyd mi ges i'r profiad o ddarllen erthygl yn ddiweddar ynglŷn â'r tlodi dybryd roedd un o chwaraewyr mwyaf amlwg y gystadleuaeth honno wedi ei brofi yn blentyn a dim ond wedi sylwi pa mor dlawd oedd y teulu—roedd e'n cael ei ginio bob dydd, roedd e'n cael llaeth a bara, ac mi ddaliodd o ei fam ryw ddiwrnod yn rhoi dŵr ar ben y llaeth, a sylweddoli o'r eiliad honno ymlaen, ac yntau dal yn blentyn bach, pa mor wirioneddol dlawd oedd y teulu.

Y chwaraewr hwnnw yw Romelu Lukaku, ymosodwr Belg, un o chwaraewyr mwyaf amryddawn y byd erbyn hyn, un o sêr mwyaf y gamp, ac mae e wedi ysgrifennu am ei brofiadau e o dlodi plant. Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n drawiadol iawn ac, wrth gwrs, yn ein hatgoffa ni bod yna filoedd o blant yng Nghymru heddiw yn byw mewn tlodi, a rhai ohonyn nhw, rydw i'n siŵr, yn byw yn yr un fath o dlodi a brofodd e pan oedd e'n blentyn. Mae e'n destun pryder i ni gyd, rydw i'n gwybod, ein bod ni'n gorfod dod fan hyn i drafod y pwnc yma pan mae e yn codi fel hyn yn y Siambr, ond, wrth gwrs, ni allwn ni ddim osgoi'r realiti fod yn agos i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac mae'n rhaid i ni felly gymryd y mater yma yn gwbl o ddifri a gwneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem. 

Fe fydd nifer ohonoch chi'n cofio, nôl yn 2005, y cyhoeddodd y Llywodraeth bryd hynny strategaeth 'Dyfodol Teg i'n Plant', gyda'r bwriad o haneru ac yna cael gwared ar dlodi plant yn llwyr. Yna, yn 2006, mi gyhoeddodd y Llywodraeth y papur 'Cael Gwared ar Dlodi Plant yng Nghymru—Mesur Llwyddiant', a oedd yn gosod cerrig milltir ac yn amlinellu'n glir pa gamau roedden nhw am eu cymryd i gyrraedd y targed hwnnw. Yn 2006 hefyd, mi gafwyd y cynllun gweithredu tlodi plant, ac eto, yn yr un flwyddyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020. Bryd hynny, roedd 27 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Er gwaethaf hyn, wrth gwrs, mae'r ffigurau yn dangos, 12 mlynedd yn ddiweddarach, fod yna ganran uwch o blant Cymru erbyn hyn—28 y cant—yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Ac yn wir, fis Rhagfyr diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd ddatganiad fod y Llywodraeth am gael gwared ar ei huchelgais o ddileu tlodi plant erbyn 2020. Wel, pa fath o neges y mae hynny yn ei roi ynghylch blaenoriaethau, dywedwch?

Fy ngobaith i, felly, yn y ddadl yma heddiw yw tanlinellu difrifolwch y sefyllfa yma, wrth gwrs, ond hefyd yr angen i'r Llywodraeth edrych eto ar ei approach i daclo tlodi plant, a'r angen iddi wneud mwy i fynd i'r afael â'r felltith yma. Yn wir, mae adroddiadau annibynnol yn amcangyfrif erbyn hyn y gall fod hyd at 250,000 o blant yn byw mewn tlodi yma yng Nghymru erbyn 2021, ac mi fyddai hynny yn cynrychioli cynnydd o 50,000 o'i gymharu â lle rydym ni ar hyn o bryd. Ac rŷm ni'n gwybod bod plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi cymharol o'u cymharu ag unrhyw grŵp arall—er enghraifft oedolion oed gwaith neu bensiynwyr. Ac o blith y plant hynny, mae plant sy'n byw mewn teuluoedd gyda rhieni sengl, neu sy'n byw mewn aelwydydd di-waith, neu sy'n byw ar aelwyd sy'n cynnwys person anabl, hyd yn oed yn fwy tebygol eto o ffeindio'u hunain yn byw mewn tlodi.

Mae rhai rhannau o Gymru, wrth gwrs, yn dioddef lefelau tlodi plant a ddylai'n cywilyddio ni i gyd. Er enghraifft, yn ôl ymchwil ymgyrch Dileu Tlodi Plant, mae dros hanner plant Gorllewin y Rhyl, er enghraifft, yn byw mewn tlodi. Fel y dywedodd Sean O'Neill, cyfarwyddwr polisi Plant yng Nghymru, yn gynharach eleni—ac fe wnaf i ddyfynnu'r hyn a ddywedodd e—

Mae plant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru yn wynebu pwysau sylweddol ac yn tyfu mewn nifer. Mae ffigurau unwaith eto'n dangos bod tlodi plant yn gyffredin ym mhob rhan o Gymru gyda nifer gynyddol o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae effaith y newidiadau a gyflwynwyd gan raglen ddiwygio lles Llywodraeth y DU ar adeg pan fo costau o ddydd i ddydd yn cynyddu yn taro llawer o deuluoedd yn galed. Rhaid i lywodraethau ar bob lefel sicrhau bod camau'n cael eu rhoi ar waith ar frys i atal a diogelu teuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth i ddarparu ar gyfer eu plant.

Fel y gwyddom, mae Plant yng Nghymru yn anelu i gyfrannu at lunio polisi sy'n lleihau lefelau tlodi plant ac yn lliniaru'r effaith ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, ac mae hynny'n cynnwys cydlynu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru. Gwelwn arolygon blynyddol yn cael eu cynnal, sy'n edrych ar sut y mae tlodi teuluol wedi newid o gymharu â blynyddoedd blaenorol, a chynhaliwyd yr arolwg diweddaraf rhwng canol mis Chwefror a chanol mis Ebrill eleni, gyda phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. Nododd ymatebwyr i'r arolwg hwnnw mai newidiadau i'r system fudd-daliadau yw'r ffactor bwysicaf sy'n ymwneud â thlodi, gydag incwm a chyflogaeth ansefydlog yn bwysicaf ond un. Roedd 48 y cant—bron i hanner yr ymatebwyr—yn dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd rhai o'r materion a nodwyd yn yr arolwg hefyd yn cynnwys diffyg eitemau hanfodol fel dillad a gwelyau. Roedd materion eraill yn cynnwys mynediad at fanciau bwyd, tlodi cymdeithasol, megis methiant i gymryd rhan mewn gweithgareddau, hunan-barch a dyheadau isel, a'r effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol yn ogystal. Mae'n cynnig darlun llwm a digalon iawn, onid yw?

Hoffwn dalu teyrnged i Plant yng Nghymru, a'r holl sefydliadau eraill sy'n gwneud cymaint o waith yn eu brwydr yn erbyn tlodi a'i effeithiau ar blant a theuluoedd yng Nghymru. Mae gennym ddigon o dystiolaeth yma yng Nghymru, wrth gwrs, o'r effaith negyddol y mae newidiadau lles yn eu cael ar rai teuluoedd, gan gynnwys rhewi neu dorri budd-daliadau, oedi cyn gwneud taliadau, cosbau, treth ystafell wely, a'r terfyn dau blentyn newydd ar fudd-daliadau prawf modd. Yn amlwg mae hon yn broblem enfawr sy'n wynebu teuluoedd a phlant yng Nghymru, ac eto, fel y gwyddom, mae Llywodraeth Cymru yn dal i wrthod galw am ddatganoli rhai o'r pwerau dros les i Gymru fel y gallai liniaru o leiaf rai o elfennau gwaethaf diwygiadau lles Llywodraeth y DU.

Soniais am fynediad at fanciau bwyd eiliad yn ôl, ac roeddwn yn siarad ag un o ymddiriedolwyr y banc bwyd yn Nyffryn Clwyd yr wythnos diwethaf, a dywedodd wrthyf fod tua thraean y bobl sy'n cael pecynnau bwyd ganddynt yn blant. Cafodd dros 500 o blant barseli bwyd ganddynt yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae hyn oll yn golygu, wrth gwrs, fod pobl yn gorfod gwneud dewisiadau amhosibl ar sail ddyddiol, ac ni ddylent orfod gwneud hynny. Rydym wedi'i glywed o'r blaen, onid ydym? Mae'n rhaid iddynt ddewis rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd, dilladu eu plant, neu wresogi eu cartref.

Tynnwyd fy sylw yn ddiweddar at erthygl a ymddangosodd yn y British Medical Journal yn rhybuddio mai'r argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf yn y DU fydd diffyg maethiad ymhlith plant—diffyg maethiad ymhlith plant mewn economi orllewinol yn yr unfed ganrif ar hugain. Nawr, mae hyn yn ei dro, wrth gwrs, yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol, gydag athrawon yn gwneud eu gorau i weithio gyda phlant sy'n llwglyd, wedi blino, ac yn dioddef yn sgil rhai o effeithiau corfforol eraill tlodi. Roedd un athro mewn ysgol gynradd yn agos at ble rwy'n byw yn dweud wrthyf yn ddiweddar sut y bu'n rhaid iddi ymdrin mwy â'r gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf nag y bu'n rhaid iddi erioed o'r blaen—ar lefelau nas gwelwyd o'r blaen, o gymharu â'i phrofiad dros yrfa hir yn addysgu.

Felly, gadewch inni fod yn glir: mae tlodi plant yn tramgwyddo yn erbyn hawliau, ac mae gan Weinidogion y Llywodraeth hon ddyletswydd sylw dyledus i'r CCUHP drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Nawr, y cwestiwn sy'n ein hwynebu, a'r un rydym yn ei ofyn i'n hunain yw hwn: a yw tlodi plant o ddifrif yn dod yn norm i lawer o deuluoedd, ysgolion a chymunedau ledled Cymru bellach, a beth sy'n cael ei wneud am y peth? Nawr, crybwyllais ar ddechrau'r cyfraniad hwn rai o'r mentrau gan Lywodraethau Cymru blaenorol dros ddegawd yn ôl bellach i geisio trechu tlodi plant. Felly, ble rydym ni heddiw? Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn parhau i ddarparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer trechu tlodi plant yng Nghymru. Mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus a enwir i osod amcanion ar gyfer trechu tlodi plant.

Cyhoeddodd y Llywodraeth Cymru flaenorol ei strategaeth tlodi plant ddiwygiedig ym mis Rhagfyr 2015, ac ar ôl gwerthuso'r strategaeth a'r asesiad, cyhoeddwyd adroddiad cynnydd ym mis Rhagfyr 2016. Fodd bynnag, nid yw'n glir sut y defnyddir y strategaeth hon, na sut, heddiw, y mae'n ffurfio meddylfryd y Llywodraeth bresennol. Gwelir 'Symud Cymru Ymlaen', strategaeth sylfaenol y Llywodraeth fel y cyfrwng newydd ar gyfer rhoi camau ar waith; ond nid oes cyfeiriad penodol at dlodi ynddi, ar wahân i sôn yn fras am dlodi tanwydd. Yn wir, strategaeth genedlaethol flaenllaw'r Llywodraeth 'Ffyniant i Bawb'—yn honno nid oes ond un cyfeiriad at dlodi, sydd i'w weld yn nhestun blaenoriaeth drawsbynciol y blynyddoedd cynnar, ond wrth gwrs ni cheir cynllun gweithredu tlodi plant ar gyfer cyflawni'r strategaeth.

Roedd gan y Llywodraeth gynllun gweithredu trechu tlodi ehangach gyda cherrig milltir mesuradwy, targedau a dangosyddion perfformiad allweddol rhwng 2013 a 2016. Fodd bynnag, daeth y cynllun hwn i ben gyda diwedd y Llywodraeth ddiwethaf, ac nid ydym wedi gweld unrhyw gynllun gweithredu newydd ar gyfer cyflawni'r agenda hon. Wrth gwrs, yr hyn a welsom er hynny, yw dileu'r rhaglen wrth-dlodi Cymunedau yn Gyntaf, gwelsom ddileu'r grant gwisg ysgol cyn i'r penderfyniad gael ei wrthdroi wedyn oherwydd protestio croch gan y cyhoedd, gwyddom fod Dechrau'n Deg yn darparu gwasanaeth, ond mae'n loteri cod post i raddau helaeth, a chafwyd adroddiad yn ddiweddar gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dweud nad yw'r rhan fwyaf o'r plant sydd angen y gwasanaethau hynny'n byw yn yr ardaloedd sy'n cynnig mynediad atynt, ac wrth gwrs, rydym bellach yn gweld y Llywodraeth yn cyflwyno cynnig gofal plant sy'n bwriadu rhoi gofal plant am ddim i gyplau sy'n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn ond sy'n gwahardd y plant tlotaf o deuluoedd di-waith rhag cael yr un cymorth. Mae grŵp cynghori ar dlodi a sefydlwyd o dan y Llywodraeth ddiwethaf gyda chynrychiolaeth o bob sector a grŵp allweddol hefyd wedi cael ei ddileu.

Y gwir trist yw bod Cymru yn awr heb brif darged neu addewid tebyg i ddileu tlodi plant erbyn dyddiad penodol yn y dyfodol, ac nid ymddengys bod awydd, o'r hyn rwy'n ei weld gan y Llywodraeth hon, i gyflwyno targed o'r fath ychwaith. Ond rhaid inni gael uchelgais, a rhaid inni gael targed i anelu ato. Sut arall y gallwn fesur a yw polisïau'r Llywodraeth yn llwyddiannus ai peidio mewn unrhyw ffordd ystyrlon? Galwodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn am dargedau pendant o fewn ffrâm amser yn ôl ym mis Gorffennaf 2016. Galwodd Sefydliad Joseph Rowntree am greu nod i weld llai nag un o bob 10 o bobl yn byw mewn tlodi ar unrhyw un adeg erbyn 2030. Yn wir, byddai 2030 fel targed yn cyd-fynd â nodau datblygu cynaliadwy Cymru ar roi terfyn ar dlodi ac anghydraddoldeb, gan ddarparu perthynas gadarn â bwriadau Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru hefyd wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais flaenorol a gosod prif dargedau newydd, rhywbeth rydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei gefnogi'n gadarn.

Hefyd nid oes gan y Llywodraeth fecanwaith adrodd blynyddol a fyddai'n dwyn ynghyd yr holl weithgareddau mewn un lle a fyddai'n caniatáu gwell dealltwriaeth o sut y mae'r holl wahanol raglenni—megis Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y gwahanol ffrydiau a pholisïau ariannu—yn cyfrannu gyda'i gilydd tuag at darged cyffredinol. Gallai un cynllun cydlynol o'r fath fod yn grynodeb o gamau gweithredu sydd eisoes yn bodoli gyda thargedau clir sy'n ategu ei gilydd a cherrig milltir a naratif cryf o'i amgylch yn ogystal i adfywio'r holl ddadl ynghylch tlodi plant. Bydd hynny'n gymorth inni symud o broblemau i atebion hefyd ac yn anfon neges ddiamwys at yr holl bartneriaid cyflenwi, gan gynnwys cyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ynglŷn â bwriad clir a disgwyliadau'r Llywodraeth, gan roi ffocws penodol ar drechu tlodi plant.

Cymharwch ein sefyllfa yng Nghymru gyda'r Alban, lle mae Llywodraeth yr Alban wedi pennu targedau newydd ar gyfer 2030, megis cael llai na 10 y cant yn byw mewn tlodi cymharol, llai na 5 y cant yn byw mewn tlodi eithafol, llai na 5 y cant yn byw mewn tlodi parhaus—a cheir rhai eraill hefyd. Maent hefyd wedi cyhoeddi cynllun cyflawni ar dlodi plant, sy'n nodi'n glir y camau i'w cymryd er mwyn symud ymlaen tuag at y targedau tlodi plant uchelgeisiol a osodwyd ar gyfer 2030. Mae'n ofid i mi fod ymateb ein Llywodraeth yma yng Nghymru wedi bod yn wan mewn cymhariaeth.

Mae argymhellion allweddol a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylid cyhoeddi strategaeth trechu tlodi glir a bod Llywodraeth Cymru'n datblygu dangosfwrdd o ddangosyddion tlodi ill dau wedi'u gwrthod. Buaswn yn annog y Llywodraeth i ailystyried eu penderfyniad i'w gwrthod ac i edrych ar y cynigion hyn eto. Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir o ran ein polisïau: rydym am weld gofal plant ar gael i bob rhiant yn hytrach na'r cynigion cyfyngedig sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Pam na allwn ailgyfeirio rhaglenni sgiliau oedolion i wobrwyo darparwyr am ganlyniadau megis incwm yn hytrach na chymwysterau a enillwyd? Ac wrth gwrs rydym am weld mabwysiadu polisi 'dim troi allan' oherwydd toriadau i fudd-daliadau ar gyfer pob teulu â phlant.

Rwy'n sylweddoli fod amser yn brin felly fe wnaf un pwynt pwysig, a gwneuthum bwynt tebyg mewn dadl gynharach. Yn aml iawn, mae cryfderau i gael ymagwedd drawslywodraethol tuag at rai o'r materion ehangach hyn, ond gall fod risgiau yn ogystal. Nid wyf yn argyhoeddedig yn y cyd-destun hwn ei fod yn gweithio mewn gwirionedd. Mae'n dweud rhywbeth nad oedd gennyf syniad o gwbl pa Weinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet oedd yn mynd i fod yn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Nid wyf yn siŵr beth y mae hynny'n ei ddweud wrthym ynglŷn ag eglurder ynghylch pwy sy'n arwain ar hyn yn y Llywodraeth. Efallai fod digon o yrwyr sedd gefn, ond pwy sy'n eistedd yn sedd y gyrrwr yma, pwy sy'n arwain ar yr agenda hon, pwy sy'n arwain yr ymosodiad ar y tu blaen?

Rwy'n brin o amser, felly rwyf am gloi fy sylwadau drwy ddweud bod tlodi plant yng Nghymru yn gwaethygu ac mae angen i ymateb y Llywodraeth adlewyrchu'r ffaith honno, oherwydd mae'n ffaith. Mae angen inni ddwysáu ein gweithredoedd, cryfhau ein hymdrechion, a bod yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy penderfynol nag erioed i gael gwared ar y pla hwn o Gymru. Fel Romelu Lukaku, mae angen inni chwarae gêm ein bywydau er mwyn trechu tlodi plant. Mae angen yr un math o adferiad yn y cyd-destun hwn ag y profodd tîm Gwlad Belg y noson o'r blaen yn erbyn Japan. Rwy'n gobeithio, yn ei ymateb, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn adlewyrchu'r un teimlad yn union, yr un uchelgais, yr un penderfyniad, ond gan weithredu i gefnogi hynny.

17:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ogledd Cymru am dynnu sylw at y mater hollbwysig hwn heddiw. Rwy'n falch o ymateb ar ran y Llywodraeth gyfan. Mae ein rhaglen ar gyfer trechu tlodi yn rhywbeth y mae pob Gweinidog yn gyfrifol amdani. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o allu ymateb ar ran pob un o'r Gweinidogion yn y ddadl hon.

Fe ddechreuaf drwy ddweud er bod data diweddar yn dangos bod lefel tlodi plant cymharol yng Nghymru wedi gostwng ychydig, nid oes gennym le o gwbl i fod yn hunanfodlon. Mae'r lefelau presennol yn rhy uchel, rhaid cyfaddef, ac mae consensws barn ymhlith amrywiaeth o sefydliadau ymchwil uchel eu parch fod effaith andwyol diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ar deuluoedd dan anfantais yn golygu y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol mewn tlodi plant yn y blynyddoedd i ddod. Amcangyfrifodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gallai 50,000 ychwanegol o blant Cymru gael eu gorfodi i fyw mewn tlodi, ac y gallem weld lefelau amddifadedd yn codi i'n teuluoedd mwyaf agored i niwed.

Nawr, fel y gwyddoch, nid yw'r pwerau ariannol dros y system les sydd eu hangen er mwyn sicrhau unrhyw newid sylweddol i lefelau tlodi plant ym meddiant Llywodraeth Cymru, ond mae llawer y gallwn ei wneud gyda'n dulliau presennol i helpu i liniaru effaith tlodi ar ein plant a'u teuluoedd, ac yn wir, i atal tlodi yn y tymor hwy. Dyna rwyf am ganolbwyntio arno: atal tlodi.

Rydym yn credu bod buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Rydym yn canolbwyntio ar y meysydd lle y gellir cael yr effaith fwyaf—ar y blynyddoedd cynnar hollbwysig ym mywyd y plentyn ac ar hyrwyddo cyflogadwyedd. Rydym yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at wella iechyd a chanlyniadau datblygiadol drwy raglenni fel Dechrau'n Deg a'n rhaglen Plant Iach Cymru. Mae ein rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn rhoi cyngor a chymorth i rieni, gan edrych ar holl anghenion y teulu cyfan.

Ar gyflogadwyedd, ceir tystiolaeth gref i ddangos mai cyflogaeth sy'n darparu'r llwybr mwyaf cynaliadwy allan o dlodi, ac mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i gynorthwyo unigolion i ddod o hyd i waith, ac i barhau a chamu ymlaen mewn gwaith. Gwyddom fod aros mewn gwaith a chael cyfleoedd i wneud cynnydd drwy waith yn hollbwysig ar gyfer gwella canlyniadau. Mae'n rhaid dweud bod y cynllun cyflogadwyedd yn gweithio ochr yn ochr â'n cynllun gweithredu economaidd, cynllun i gynyddu cyfoeth a lles gan leihau anghydraddoldebau hefyd.

Ac wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd ceir perthynas newydd rhwng y Llywodraeth a busnes yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol. Mae ein contract economaidd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n chwilio am fuddsoddiad uniongyrchol gennym i ymddwyn yn gyfrifol fel busnesau ac fel cyflogwyr. Ein huchelgais yw gwneud Cymru'n genedl waith teg, gyda mynediad at swyddi gwell, yn agosach at adref, gan ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd, cenedl lle y gall pob un ohonom ddisgwyl gwaith gweddus sy'n gwella bywyd, a chenedl lle mae pawb ohonom yn adeiladu ffyniant ac yn rhannu yn y ffyniant hwnnw. Rydym yn sefydlu comisiwn gwaith teg a fydd yn profi'r dystiolaeth ac yn gwneud argymhellion ar gefnogi gwaith teg yng Nghymru, ac rydym yn disgwyl i'r comisiwn gyflwyno adroddiad yn ystod gwanwyn 2019.

O ran effaith y DU yn gadael yr UE ar yr agenda tlodi plant, bydd hyn yn cael effaith bellgyrhaeddol ar ffyniant Cymru am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'r dadansoddiadau'n dangos y bydd unrhyw leihad sylweddol yn y mynediad at y farchnad sengl yn niweidiol i ffyniant Cymru. Er enghraifft, gallai cost bwyd, yn enwedig ffrwythau a llysiau, godi'n sylweddol mewn senario 'dim bargen'. Mae cynnydd o'r fath yn y prisiau yn debygol o gael ei deimlo'n anghymesur ymhlith y plant sy'n byw yn y teuluoedd lleiaf cefnog.

Er nad ydym yn tanamcangyfrif maint yr her sy'n ein hwynebu, rhaid inni gydnabod cryfder y cyfle hefyd. Yn ôl safonau hanesyddol, mae ein marchnad lafur mewn sefyllfa gymharol gryf. Mae gennym gyfle i adeiladu ar y datblygiadau a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf a welodd yn agos at y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith. Hefyd mae gennym gyfle go iawn i adeiladu ar ein perthynas â chwmnïau o'r radd flaenaf a buddsoddiadau sylweddol. Drwy ein gwaith, gallwn adeiladu ar y sylfeini cryf rydym yn eu datblygu, diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol a grymuso ein pobl a'n cymunedau, fel bod pawb ohonom yn cael cyfle i gyfrannu at, ac elwa o dwf economaidd.

17:45

Daeth y cyfarfod i ben am 17:49.