Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
14/02/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Mike Hedges.
Mynd i’r Afael â Thwyllo
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â thwyllo yng Nghymru? OAQ(5)0443(FM)

Gall twyll gael effaith ofnadwy ar ddioddefwyr, ac rydym ni wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau'n fwy diogel drwy ein cyllid i swyddogion cymorth cymunedol a thrwy weithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Nid wyf yn credu y gallwch chi orbwysleisio’r broblem gyda thwyll, dros y ffôn ac yn ysgrifenedig. Mae’r effaith ar bobl sy'n cael eu twyllo yn erchyll a gall gael effaith ddifrifol ar eu bywydau, ac yn wir, mewn rhai achosion, gall arwain at fyrhau eu bywydau. Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith a wneir gan safonau masnach a sefydliadau trydydd sector ac eraill. Ceir dyfeisiau i fonitro ac atal galwadau ffôn, a cheir cwmni yn Abertawe yn fy etholaeth i sy’n eu gwneud. A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal cynhadledd o’r holl bartïon â buddiant i drafod beth arall y gellir ei wneud i leihau'r broblem hon? Nid wyf yn credu y gellir ei ddatrys, ond a gawn ni geisio ei leihau o leiaf?

Mae'r Aelod yn hollol iawn i nodi bod twyll yn fwy soffistigedig yn gynyddol, yn enwedig y rhai hyny sydd ar-lein, ac rydym ni’n gweithio'n agos gyda safonau masnach ar amrywiaeth o fathau o dwyll, yn ymdrin ag amrywiaeth o fathau o dwyll, yn ymwneud â nwyddau ffug, a thybaco anghyfreithlon. Ac, wrth gwrs, ceir pwyslais cynyddol ar seiberdroseddu, ac rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu ar y mater hwn. Os bydd cynhadledd yn ddefnydd cynhyrchiol o’r amser hwnnw, yna byddwn yn ceisio gwneud hynny er gwaethaf ein cymhwysedd cyfyngedig yn y maes.
Un o'r pethau eraill, Brif Weinidog, y gellir ei wneud er mwyn ymladd twyll yw sefydlu ardaloedd dim galw diwahoddiad. Bu hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus yn fy etholaeth i, lle mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno un ar gyfer tref gyfan Abergele. Pa waith ydych chi'n meddwl y gallwn ni ei wneud yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i wneud Cymru y wlad dim galw diwahoddiad gyntaf ym Mhrydain?

Syniad diddorol. Rydym ni wedi, wrth gwrs, darparu cyllid i gynyddu nifer yr ardaloedd dim galw diwahoddiad yng Nghymru, sy'n helpu i amddiffyn pobl agored i niwed rhag twyll, a gwn, fel y mae’r Aelod wedi nodi, bod gan fwyafrif yr awdurdodau lleol yng Nghymru ardaloedd dim galw diwahoddiad erbyn hyn, sy’n ceisio lleihau nifer y galwyr diwahoddiad. Wrth gwrs, byddwn yn cyrraedd pwynt lle mae gan bob awdurdod lleol ardaloedd dim galw diwahoddiad, yna gallwn ddechrau ystyried p'un a allwn ddatgan ein hunain yn wlad dim galw diwahoddiad.
Datblygu Economaidd yn Ne-ddwyrain Cymru
2. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i annog datblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0451(FM)

Rydym ni’n bwriadu parhau i gefnogi busnesau yn eu twf, i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel ac i wella amodau datblygu economaidd.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Cafwyd newyddion da ynghylch swyddi yn ddiweddar, ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Biocell British International Ltd yn symud o Lanisien i Grymlyn, gan aros yng Nghymru a chyda chynnydd i niferoedd. Ond mae hynny’n golygu bod y swyddi hyn yn gadael Llanisien ar yr un pryd ag y mae cynlluniau i S4C symud i Sgwâr Canolog Caerdydd, ac i Gaerfyrddin, a hefyd, ar yr un pryd ag y mae’r swyddfeydd treth yn bwriadu symud i lawr i’r Sgwâr Canolog. Felly, ceir ecsodus enfawr o swyddi o un ardal fechan iawn yn yr etholaeth. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd gan y Prif Weinidog unrhyw awgrymiadau ynghylch pa strategaethau y gellid eu defnyddio i sicrhau bod yr ardal honno yn parhau i fod yn ardal gymysg, lle ceir y posibilrwydd o gael swyddi lleol, oherwydd mae hwn yn newid mawr i'r sefyllfa swyddi yno.

Ydw, rwy’n ymwybodol bod cynllun datblygu lleol Caerdydd yn ceisio darparu 40,000 o swyddi yn ystod y cyfnod hyd at 2026. Mae hynny'n cynnwys estyniad trefol defnydd cymysg i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd, yn cynnig amrywiaeth a dewis o swyddi, cartrefi a seilwaith ategol i ddiwallu anghenion cymunedau presennol ac yn y dyfodol.
Heddiw, mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU yn cael ei hagor yn Llundain, a bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ragorol yng Nghasnewydd, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y sector preifat ac addysg uwch. Felly, mae'n siomedig iawn bod canolfan y DU yn mynd i gael ei lleoli yn Llundain, fel pe na bai gan Lundain ddigon o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU yn hynny o beth. Felly, pa sylwadau wnaeth y Prif Weinidog i geisio cael canolfan y DU i leoli ochr yn ochr â'r academi seiber yng Nghasnewydd, fel y gallai ein gwlad fod wedi elwa o'r swyddi a fydd yn dod? A, chan edrych ymhellach i'r dyfodol, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i neilltuo Casnewydd yn brifddinas seiberddiogelwch Cymru fel y gallwn, yn y dyfodol, ddenu mwy o gyfleoedd i'r gymuned honno?

Syniad diddorol eto, a rhywbeth, yn sicr, y byddaf yn ymchwilio iddo. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod o ran pa sylwadau a wnaed am yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol. Mae'n fenter, mewn egwyddor, yr ydym wedi ei chefnogi, ond byddaf yn ysgrifennu ato gyda rhagor o fanylion o ran sut y sefydlwyd y ganolfan a pham y cafodd ei sefydlu yn Llundain.
Brif Weinidog, wrth i Gaerdydd barhau i greu swyddi a denu llawer iawn o ymwelwyr, rydym ni’n gweld mwy a mwy o dagfeydd ar y ffyrdd. Sylwaf fod cynnig nawr i archwilio ymarferoldeb defnyddio'r afon Taf a'r bae fel ein prif lwybrau dŵr prifwythiennol o gwmpas y ddinas—sydd eisoes yn boblogaidd i dwristiaid, ond y gallai fod â defnydd masnachol hefyd trwy symud cymudwyr. A yw'r Llywodraeth yn barod i ystyried hyn?

Gwelais hynny. Mae'n fater, yn y pen draw, wrth gwrs, i gyngor Caerdydd, os cofiaf yn iawn, o ran ei reolaeth o’r dyfrffyrdd. Gwn, yn yr haf, fod y gwasanaeth yn llwyddiannus dros ben; yn y gaeaf, yn llai felly. Mae pobl yn tueddu i weld y gwasanaeth mwy fel gwasanaeth twristiaeth, yn hytrach na gwasanaeth cymudo. Ond rydym ni’n gwybod bod enghreifftiau mewn mannau eraill—nid yn unig yn y DU, ond ar draws y byd—lle mae gwasanaethau bws dŵr wedi bod yn llwyddiannus. Ac, yn sicr, byddwn eisiau edrych i weithio gyda'r gweithredwyr, gyda chyngor y ddinas ac eraill i weld a fydd gwasanaeth o'r fath yn ymarferol yn y dyfodol.
Brif Weinidog, esboniwyd gennych yr wythnos diwethaf, er bod Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei greu, bod yn rhaid recriwtio bron pob un o'r staff yn Llundain gan nad oes gennym ni’r bobl â sgiliau yma yng Nghymru, ac mae hon yn broblem barhaus. Ond mae'n codi’r cwestiwn braidd ynghylch beth mae eich Llywodraeth wedi bod yn ei wneud am sgiliau a hyfforddiant dros y 17 mlynedd diwethaf.

Wel, dim ond trawiad amrant oedd Awdurdod Cyllid Cymru 17 mlynedd yn ôl. Y broblem yw hyn: nid yw’r swyddogaeth y bydd yr awdurdod refeniw yn ei chyflawni erioed wedi cael ei chyflawni yng Nghymru o'r blaen. Felly, ni ddylem ofni’r ffaith bod angen i ni ddod â sgiliau i mewn o fannau eraill i sefydlu'r awdurdod ac, yn y pen draw, i hyfforddi ein pobl ein hunain fel eu bod yn gallu darparu’r sgiliau hynny yn y dyfodol. Ond rwy’n credu fod ein beirniadu am beidio â chael y rhagwelediad 17 mlynedd yn ôl—hyd at 17 mlynedd yn ôl—o ran sefydlu awdurdod na feddyliodd neb erioed y byddai’n cael ei sefydlu bryd hynny, yn mynd â phethau ychydig yn rhy bell.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a ydych chi’n cefnogi'r dyhead i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac, os ydych, a allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych chi’n bwriadu bodloni’r dyhead hwnnw?

Wel, mae hi'n gwybod fy mod i. Roedd yn ymrwymiad maniffesto ar ran fy mhlaid. Ceir sawl ffordd o gyflawni hynny. Un ohonynt, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod y Gymraeg mewn cynlluniau strategol ar draws yr holl awdurdodau lleol yn cyflawni'r hyn y dylent fod yn ei gyflawni.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac rwy’n cytuno bod y dyhead yn un da, ac rwy'n falch eich bod wedi crybwyll addysg. Yn eich ymgynghoriad ar greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, rydych chi’n esbonio sut y mae'n rhaid i addysg chwarae rhan ganolog. Eich prif amcan, a’r hyn yr ydych chi’n gofyn i awdurdodau lleol ei gyflawni, yw, rwy’n dyfynnu:
'Cynyddu’n sylweddol nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog er mwyn creu rhagor o siaradwyr.'
Ac y dylent, ac, unwaith eto, rwy’n dyfynnu:
'Symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol er mwyn cynyddu’r cyflenwad o leoedd ysgol cyfrwng Cymraeg'.
A ydych chi’n derbyn mai dyna bolisi'r Llywodraeth, a bod hynny'n golygu bod rhaid i awdurdodau lleol gynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, a’r lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg, yn eu hardaloedd?

Ydw, mae disgwyl iddynt, wrth gwrs, ddangos sut y byddant yn gwneud hynny drwy eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Mae'r cynlluniau hynny yn amodol ar gymeradwyaeth gennym ni fel Llywodraeth, ac rydym ni’n bwriadu sicrhau bod y cynlluniau hynny’n gadarn ac y byddant yn cyflawni.
Brif Weinidog, byddwch yn gwybod bod polisi cenedlaethol wedi hysbysu’r penderfyniad yn Llangennech yn Sir Gaerfyrddin i newid ysgol o ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg. Nawr, mae’r penderfyniad hwnnw angen eich cefnogaeth chi, ond mae hefyd angen eglurhad digynnwrf i drigolion. Mae gen i rai pryderon difrifol am yr awyrgylch gwenwynig a dweud y gwir, sydd wedi dod i'r amlwg ynghylch y cwestiwn hwn. Ac rwy’n ymwybodol, ymhlith grŵp o drigolion sy’n ymgyrchu yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin, bod rhai pobl yn sefyll dros y Blaid Lafur yn Llangennech yn etholiadau cynghorau cymuned a sirol mis Mai. Nawr, mae wedi dod i’m sylw bod rhai o'r ymgeiswyr hynny yn honni eu bod yn gweithio gydag UKIP, gan wirio a chytuno â datganiadau arweinydd UKIP ar y mater hwn—[Torri ar draws.]
A gawn ni glywed y cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Brif Weinidog, a yw'n dderbyniol i chi bod ymgeiswyr Plaid Lafur yn gweithio'n agos gydag UKIP ar y cwestiwn o addysg cyfrwng Cymraeg? Ac a ydych chi’n cytuno â mi fod yr ymgyrch yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin wedi troi’n wenwynig ac yn annerbyniol? A wnewch chi amlinellu pa gamau y gwnewch chi eu cymryd o ran aelodau'r Blaid Lafur yn gweithio gydag UKIP i danseilio eich polisïau Cymraeg eich hun?

Rwy’n cytuno bod y sefyllfa yn Llangennech wedi troi’n wenwynig. Nid wyf yn credu bod y geiriau a ddefnyddiwyd gan arweinydd Plaid Cymru wedi helpu'r sefyllfa o ran troi hwn yn fater gwleidyddol. Ceir rhai sylwadau a wnaed gan wleidyddion nad wyf yn cytuno â nhw. Rwyf wedi gweld y sylwadau hynny, ac rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig nawr bod awyrgylch digynnwrf, bod y gwenwyndra—rhywfaint o’r gwenwyndra rwy’n credu a welwyd gennym ddiwethaf rai blynyddoedd yn ôl—yn cael ei leihau nawr, a bod y cyngor, wrth gwrs, yn gallu esbonio i'r bobl yn Llangennech cystal ag y gallant—
Eich polisi chi yw e.

Cyngor Plaid Cymru roddodd y polisi ar waith. Nid wyf yn beirniadu’r cyngor Plaid Cymru o gwbl yn hynny o beth, ond mae'n bwysig bod y cyngor yn gallu—[Torri ar draws.] Wel, os yw arweinydd Plaid Cymru yn gofyn cwestiwn, efallai yr hoffai wrando, gan ei bod yn hynod bwysig, fel y mae hi wedi ei ddweud yn gwbl briodol, bod y gwenwyndra’n cael ei leihau. Mae'n hynod bwysig nawr fod y cyngor yn gallu esbonio'n llawn, fel yr wyf yn siŵr ei fod wedi bod yn ceisio ei wneud, beth yw ei bolisi o ran Llangennech. Ond nid yw’n fater i ni esbonio; mae’n fater i'r cyngor sy’n cael ei redeg gan eich plaid chi—
Eich polisi chi yw e.

[Yn parhau.]—i esbonio. Ein cyfrifoldeb ni, wrth gwrs, fel Llywodraeth, yw galluogi awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg fel ein bod ni’n parhau i gefnogi'r iaith, fel yr ydym, ac rydym ni’n parhau ein hymgais i sicrhau bod gennym ni filiwn o siaradwyr Cymraeg yn 2050.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog—diolch, Lywydd, mae'n ddrwg gen i. Mae cwestiwn brys yn dod ychydig yn ddiweddarach ar ganfyddiadau Kancoat yn yr adroddiad cyfrifon cyhoeddus, ond hoffwn ofyn sawl cwestiwn i'r Prif Weinidog y prynhawn yma am y mater penodol hwn, o ystyried mai chi oedd y Prif Weinidog pan wnaed y penderfyniadau hyn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ystyriaeth bwysig.
O ystyried yr holl rybuddion a oedd ar waith—a byddai'n ymddangos yn eithaf cynhwysfawr o’r rhybuddion a roddwyd bod cynllun busnes gwan, bod y diwydrwydd dyladwy wedi cael ei anwybyddu, bod Cyllid Cymru wedi dweud bod risg annerbyniol o uchel a dyna pam wrthodwyd y cais am gyllid ganddynt—beth ar y ddaear y byddech chi’n feddwl ddaeth dros y Gweinidog busnes a menter ar y pryd i gytuno i ryddhau'r arian hwn, er gwaethaf y ffaith bod yr holl arwyddion yn dangos yn glir iawn bod hwn yn fuddsoddiad mor beryglus, Brif Weinidog?

Rwy'n credu mai’r hyn y mae'n rhaid ei gofio yw bod y panel buddsoddi wedi argymell cymeradwyo'r buddsoddiad. Llywiwyd y Gweinidog, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, gan y wybodaeth honno.
Brif Weinidog, mae'n ffaith bod, wrth i’r buddsoddiad barhau—oherwydd rhyddhawyd yr arian hwn dros amser—dro ar ôl tro, fel yr wyf wedi dweud, roedd yr arwyddion hynny yn glir iawn. Rhyddhawyd tri pwynt pedwar miliwn o bunnoedd i'r cwmni hwn, ac mae wedi cael ei golli, i bob pwrpas; ni ddiogelwyd unrhyw swyddi, mae’r safle hwnnw bellach yn wag, ac rydych chi fel Llywodraeth yn gyfrifol am rwymedigaethau’r safle hwnnw gan y cynigiwyd y les fel sicrwydd yn erbyn y benthyciad a wnaed ar gael. Mae'r Llywodraeth yn gyfrifol am droi’r safle hwnnw yn ôl yn barod i’r landlord gymryd meddiant. Felly, ceir rhwymedigaethau parhaus. Fel y dywedais, collwyd £3.4 miliwn. Mae pob arwydd yn dangos, er efallai fod y penderfyniad wedi cael ei wneud er y budd pennaf o sicrhau’r busnes hwnnw yn y lle cyntaf, gan fod y ceisiadau wedi cael eu gwneud yn barhaus i ryddhau mwy o arian, bod mwy a mwy o oleuadau rhybudd yn cynnau, ac eto gwnaed y penderfyniad i ryddhau mwy o arian i mewn i’r cwmni hwn. Onid ydych chi’n credu bod trethdalwyr yn haeddu ymddiheuriad gan eich Llywodraeth chi am golli'r arian hwn, ac, yn benodol, am yr anallu i ddiogelu unrhyw swyddi drwy’r £3.4 miliwn a roddwyd i mewn i’r cwmni hwn?

Wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin â mater Kancoat pan fydd y cwestiwn brys yn cael ei ofyn. Ond os caf i esbonio yn fwy cyffredinol: rydym ni’n ymdrin â channoedd o fusnesau; mae rhai ohonynt yn mynd i’r wal. Nid yw’n bosibl i ni ddweud y bydd pob busnes yr ydym ni’n ei helpu yn bendant yn llwyddiannus. Ni allai unrhyw fanc wneud hynny, ac mae’r un fath i unrhyw Lywodraeth. Ond gallaf ddweud, o'r prosiectau yr ydym ni wedi eu cefnogi, mai dim ond 2.4 y cant ohonynt sydd wedi methu â bodloni eu hamcanion a oedd ynghlwm i’w cais am gymorth ariannol, ac felly mae gennym ni gyfradd lwyddiant ymhell dros 90 y cant o ran cefnogi busnesau. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, y bydd rhai busnesau nad ydynt yn llwyddiannus, ond maen nhw’n sicr yn eithriad yn hytrach na'r norm. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, na ddylem ni adolygu'n barhaus y ffordd yr ydym ni’n gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w wneud. Ond rwy’n meddwl bod angen ei roi yn ei gyd-destun, gan gofio, wrth gwrs, o’r busnesau yr ydym ni wedi eu helpu, bod y mwyafrif llethol ohonynt yn llwyddiannus, a dyna pam, wrth gwrs, mae diweithdra yng Nghymru mor isel.
Brif Weinidog, chi oedd y Prif Weinidog ar y pryd, ac rwy’n derbyn bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar risg ac y bydd rhai’n mynd o'i le, ond y pwynt yr wyf wedi ei wneud, drwy'r ddau gwestiwn yr wyf i wedi eu gofyn i chi, yw bod nifer o rybuddion yn amlygu’r risg i'r Llywodraeth ac i'r trethdalwr trwy ryddhau’r arian i’r cwmni hwn. Dywedodd Cyllid Cymru, sy’n fenthyciwr pan fetha popeth arall, er enghraifft, ei bod yn rhy beryglus rhyddhau'r arian ar sail benthyciad ganddyn nhw, ac mai eu cylch gwaith ar gyfer gweithredu yw bod yn fenthyciwr pan fetha popeth arall ar ôl rhoi cynnig ar bob dewis bancio masnachol. Felly, rwy’n derbyn y pwynt, yn y pen draw, bod elfen o risg yn yr holl benderfyniadau yr ydych chi’n eu gwneud, ond mae'n ffaith: wrth i ni sefyll yma heddiw, bod £3.4 miliwn wedi cael ei golli, nad oes yr un swydd wedi cael ei sicrhau na’i diogelu ac, yn y pen draw, mae'r trethdalwr allan o boced ac mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaethau parhaus yn sgil y penderfyniad hwn. Gofynnais i chi yn fy ail gwestiwn: a ydych chi’n credu y dylai fod ymddiheuriad ar eich rhan gan Lywodraeth Cymru i drethdalwyr Cymru? Rwy'n cynnig y cyfle hwnnw i chi eto. A wnewch chi ymddiheuro am golli'r arian hwn, sy’n arian trethdalwyr, yn yr achos penodol hwn, pan roddwyd cynifer o rybuddion ac yr anwybyddwyd llawer o’r rhybuddion hynny gan eich Gweinidog? Yn y pen draw, y trethdalwr sydd wedi colli allan.

Rwy’n derbyn yr hyn y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymru wedi ei dweud—ei fod yn deall y sefyllfa o ran y grant cymorth cychwynnol. Roedd hwn yn fusnes newydd. Mae busnesau newydd yn beryglus yn eu hanfod, ond mae'n rhaid i Lywodraeth dderbyn risg. Fel arall, ni fyddem yn cefnogi unrhyw beth. Mae yr un fath i fanciau masnachol; byddant yn cael eu hunain yn y sefyllfa honno o bryd i'w gilydd. Sefydlwyd y sefydliad hwn, wrth gwrs—y busnes, yn hytrach—ar adeg pan roedd y sefyllfa economaidd yn fregus yn dilyn, neu’n fuan ar ôl, yr argyfwng ariannol. Fel y dywedais, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi mwy o fanylion o ran beth oedd yr amserlen, ond gallaf ddweud ein bod ni’n falch o ddweud bod diweithdra yng Nghymru mor isel. Mae'n is nag yn Lloegr, mae'n is nag yn yr Alban ac yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Yn hanesyddol, mae hynny wedi bod yn gyflawniad aruthrol. Rydym ni wedi cynorthwyo dros 1,000 o fusnesau i greu swyddi yng Nghymru. Rydym ni wedi dod â buddsoddiad i Gymru—y ffigurau buddsoddiad tramor uniongyrchol gorau ers dros 30 mlynedd. Mae'n gywir dweud y bydd, ar adegau, busnesau sy'n methu ac mae'n anodd wedyn i’r arian gael ei ddychwelwyd i'r Llywodraeth. Ond yn y cyd-destun yr ydym ni’n gweithredu yma, mae 97.6 y cant o'r busnesau yr ydym ni’n eu cynorthwyo yn llwyddiannus o ran darparu swyddi i bobl Cymru.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch, Lywydd. Mae'n eithaf amlwg bod polisi Llywodraeth America yn mynd i newid mewn sawl ffordd o ganlyniad i ethol yr Arlywydd Trump, nid leiaf o ran polisïau newid yn yr hinsawdd. Mae Scott Pruitt, sef enwebai'r Arlywydd Trump fel pennaeth Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Unol Daleithiau, eisoes wedi tynnu ymrwymiad yr Unol Daleithiau i drafodaethau newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig oddi ar wefan yr adran. Nawr, o gofio bod yr Unol Daleithiau, Tsieina ac India, rhyngddynt, yn gyfrifol am fwy na hanner allyriadau carbon deuocsid y byd, ac nad yw Tsieina ac India wedi cytuno i unrhyw ostyngiad absoliwt i lefel yr allyriadau hynny, waeth beth yw barn rhywun ynghylch a yw newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan ddyn yn realiti ai peidio—waeth beth fo’r safbwyntiau ar hynny—a yw'n gwneud synnwyr i Brydain, a Chymru yn benodol, sy’n gyfrifol am ddim ond 0.05 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd, gael ei chlymu gan bolisi ynni drud sy’n faich barhaus i’r diwydiant gweithgynhyrchu a diwydiannau fel y diwydiant dur yn arbennig?

Wel, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n edrych ar bwysau'r dystiolaeth, ac mae pwysau'r dystiolaeth o blaid dangos i raddau aruthrol—i raddau aruthrol—bod newid hinsawdd yn digwydd, ac, yn ail, bod gweithgarwch dynol yn achosi iddo naill ai ddigwydd neu gael ei waethygu o ganlyniad. Mae'r bobl hynny sy'n honni fel arall ar sail wyddonol sigledig. Rwy'n edrych ar bwysau'r dystiolaeth, ac mae'n gwbl amlwg i mi—. Bydd yn gwybod, gan ei fod yn gyfreithiwr ar un adeg, mai pwysau'r dystiolaeth y mae’n rhaid i chi edrych arno, nid dewis yr hyn yr ydych chi’n credu sy’n cefnogi eich dadl orau pan fydd yn mynd yn groes i realiti gwyddonol.
Mae'n iawn dweud bod Tsieina ac India yn wynebu heriau, ond mae Tsieina yn barod am yr her. Mae Tsieina yn buddsoddi'n drwm mewn ffynonellau tanwydd amgen. Mae'n gwybod bod ganddi broblem. Bydd unrhyw un sydd wedi bod i Beijing a'r dinasoedd mawr Tsieina yn gwybod bod problem yno gyda llygredd aer. Mae Llywodraeth Tsieina yn cydnabod hyn, a dyna pam maen nhw’n chwilio am y ffynonellau tanwydd amgen hynny. Maen nhw’n gwybod na allant barhau â'r sefyllfa bresennol, ond er eu bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn, fy ofn i yw y bydd yr Unol Daleithiau yn mynd i'r cyfeiriad arall, gan fynd yn groes i bwysau'r dystiolaeth wyddonol.
Mae'r Prif Weinidog wedi ochrgamu fy nghwestiwn. Nid yw fy nghwestiwn yn ymwneud â'r ddadl ynghylch a yw newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan ddyn yn realiti ai peidio. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â: pa wahaniaeth mae'n ei wneud os byddwn ni’n ymrwymo i dargedau sydd yn mynd i achosi costau enfawr i ni, nid yn unig o ran cost i ddiwydiant, ond hefyd i bobl gyffredin? Wedi'r cyfan, mae bron i chwarter aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd, yn gwario mwy na 10 y cant o'u hincwm ar gadw eu hunain yn gynnes yn y gaeaf, er enghraifft. Felly, mae hon yn faich go iawn ar bobl dlawd ac agored i niwed. Os nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth i'r canlyniad o ran allyriadau byd-eang, pam ddylem gymryd baich y biliau enfawr hyn? Nid yw Tsieina ac India wedi ymrwymo i leihau lefel absoliwt eu hallyriadau. Yr hyn y maen nhw wedi ymrwymo iddo yw lleihau dwysedd ynni, ond mae'n rhaid i hynny ystyried i ba raddau y maen nhw’n disgwyl y bydd eu heconomïau yn tyfu, ac mae eu heconomïau yn mynd i dyfu i raddau mwy nag y byddant yn lleihau eu dwysedd tanwydd. Felly, mae allyriadau absoliwt yn debygol o gynyddu yn India a Tsieina mewn gwirionedd, ac mae hynny'n gwneud y broblem yn waeth fyth, a ni yw’r ffyliaid sy’n talu'r biliau.

Wel, mae’r farn honno’n ddilys dim ond os ydych chi’n derbyn eich bod chi’n hapus i weld dirywiad amgylcheddol; yn hapus i weld ansawdd aer yn gwaethygu; yn hapus i ddychwelyd i’r dyddiau pan, rwy’n meddwl, yr oedd Afon Irwell yn Salford yn llythrennol fflamadwy pan daflwyd matsien wedi ei chynnau iddi; yn hapus i ddychwelyd i’r dyddiau pan fyddai Afon Ogwr yn fy nhref enedigol yn llifo ar wahanol liwiau yn ôl yr hyn a daflwyd i mewn i'r afon. Oherwydd y daith naturiol o symud i ffwrdd o fod o’r farn bod newid hinsawdd yn bwysig yw bod o’r farn bod yr amgylchedd yn ddibwys hefyd. Rydym ni’n gwybod bod y bobl hynny nad ydynt yn derbyn bod newid hinsawdd yn digwydd—nid yw llawer ohonynt yn derbyn bod angen rheoleiddio amgylcheddol chwaith, yn sicr i'r graddau a welwn nawr. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei ddiystyru. Ni allwn ddweud yn syml, 'Wel, mae'n rhywbeth y gallwn ei roi o’r neilltu', ac nid wyf yn derbyn bod hyn yn rhywbeth sy'n achosi costau. Y realiti yw fy mod i wedi ei glywed yn dadlau am fwy o orsafoedd ynni glo. Mae’r eironi’n gyfoethog yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Byddai'n rhaid mewnforio’r glo. Felly, ceir problemau diogelwch ynni hefyd. Ddylem ni beidio â buddsoddi mewn ynni’r gwynt ar y môr? Ddylem ni beidio â buddsoddi mewn ynni’r llanw, yn hytrach na gorddibynnu ar ffynonellau ynni y mae'n rhaid eu mewnforio i Brydain? Felly, mae diogelwch ynni a lliniaru newid hinsawdd, i mi, yn mynd law yn llaw.
Mae’r Prif Weinidog yn gwrthod rhoi sylw i’r mater y tu ôl i fy nghwestiwn. Mae Cymru yn gyfrifol am 0.05 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd. Nid yw carbon deuocsid yn nwy fflamadwy, gyda llaw. Felly, mae’r hyn a ddywedodd am ansawdd yr aer yn Peking yn amherthnasol. Mae allyriadau sylffwr yn hollol wahanol. Mae pawb yn derbyn y ddadl am ronynnau yn yr aer. Llywodraeth 60 mlynedd yn ôl a gyflwynodd y Ddeddf Aer Glân, ac mae pawb o blaid hynny. Mae hwn yn gwestiwn hollol wahanol. Fy mhwynt i yw bod Cymru yn un o rannau tlotaf gorllewin Ewrop. Mae gennym ni bron i chwarter ein haelwydydd mewn tlodi tanwydd. Maen nhw'n gorfod gwario cannoedd ar gannoedd o bunnoedd, na allant ei fforddio, bob blwyddyn yn talu am ein rhwymedigaethau ynni adnewyddadwy o dan gyfarwyddebau'r UE. Os yw’r Unol Daleithiau yn mynd i droi ei chefn ar ymrwymiadau i leihau ei hallyriadau carbon deuocsid ei hun nawr, ac os nad yw Tsieina ac India wedi ymrwymo i hynny beth bynnag, beth yw'r synnwyr i ni wneud gwahaniaeth anfeidrol fach i faint o garbon deuocsid a ollyngir yn y byd—rhwymedigaeth sy'n achosi niwed gwirioneddol a thlodi gwirioneddol mewn aelwydydd yng Nghymru?

Nid wyf yn credu fy mod i wedi dweud bod yr aer yn Beijing yn fflamadwy. Nid wyf yn siŵr bod y cynnwys hydrogen na’r cynnwys ocsigen, yn wir, mor uchel y byddai'r aer yn mynd ar dân neu’n ffrwydro hyd yn oed. Roeddwn i’n cyfeirio at afon benodol, y mae ei chyd-destun yn adnabyddus. Fy mhryder i yw bod y rhai sy'n dweud bod newid hinsawdd yn ddibwys yn aml iawn o'r farn bod rheoleiddio amgylcheddol yn faich ar ddiwydiant. Nid wyf yn derbyn hynny. Ond unwaith eto, rwy’n dod yn ôl at y pwynt hwn: mae'r gwynt yn chwythu; mae am ddim. Bydd y llanw yno cyhyd ag y bydd y lleuad yn yr awyr. Ceir cost cyfalaf, wrth gwrs, o sefydlu’r seilwaith i gynhyrchu ynni, ond unwaith y bydd wedi ei sefydlu, mae'r costau cynhyrchu yn isel iawn yn wir. Nid wyf yn gwybod beth yw ei ddewis amgen. Nid yw wedi ei amlinellu. Mae'n sôn am lo. Gwnaeth ei orau i ddinistrio’r diwydiant glo. Y realiti yw na fyddwn byth yn cynhyrchu digon o lo yn y DU nawr i ddiwallu ein hanghenion ynni. Byddai'n rhaid i ni ei fewnforio o wledydd fel Awstralia. Byddai'n rhaid i ni fewnforio nwy naturiol o wledydd nad ydynt eisiau gwneud ffafr â ni. Byddai'n rhaid i ni fewnforio mwy o nwy naturiol hylifol o wledydd ledled y byd. Rydym ni’n gwneud hynny eisoes. Nawr, er fy mod i’n gwybod bod y gymysgedd ynni yn y DU yn mynd i barhau yn y dyfodol—ac yn wir, mae 25 y cant o'r nwy naturiol hylifol yn y DU yn dod trwy Aberdaugleddau, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn parhau yn y dyfodol—nid wyf yn gweld y doethineb o ddweud mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw mynd yn ôl i dechnoleg y gorffennol, gyda llygredd y gorffennol, a cheisio anwybyddu pwysau llethol y dystiolaeth wyddonol a rhoi ein pennau yn y tywod. Mae e’n rhywun sy'n falch, meddai fe, o fod yn Brydeiniwr. Yna gadewch iddo ddangos ei falchder trwy ddweud ei fod eisiau i'r DU arwain y ffordd pan ddaw i ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd.
Cynorthwyo Busnesau yng Nghanol De Cymru
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0450(FM)

[Torri ar draws.] Gwnaf. Rydym ni’n cymryd amrywiaeth o gamau i helpu busnesau newydd a phresennol i ddatblygu, tyfu a chefnogi. Mae hynny'n cynnwys cymorth busnes, cyngor a buddsoddi mewn seilwaith digidol a thrafnidiaeth.
Nid wyf yn hollol siŵr pam fod y rhai ar y meinciau cefn yn mwmian yno. Mae gan Aelod hawl perffaith i ofn cwestiwn yn y lle hwn, a Chwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r amser i hynny ddigwydd. Brif Weinidog, rwyf wedi canmol Llywodraeth Cymru yn flaenorol am yr arian y mae wedi ei wneud ar gael ar gyfer rhyddhad trosiannol o ran y cynllun ardrethi busnes. Gwnaeth gyhoeddiad ar 17 Rhagfyr o swm ychwanegol o £10 miliwn—neu gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddiad ar 17 Rhagfyr o swm ychwanegol o £10 miliwn—i gynorthwyo’r ymarfer ailbrisio diweddar o fusnesau yng Nghanol De Cymru ac, yn wir, ledled Cymru. Hyd yn hyn, nid oes dim mwy o wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd yr arian hwnnw’n cael ei gyflwyno, er i ni ar y meinciau hyn, ac eraill yn y Siambr, bwyso am ragor o wybodaeth. Fe’n hysbyswyd y byddai’r wybodaeth honno yn cael ei chyhoeddi ddechrau mis Chwefror. Hyd yn hyn, nid wyf yn credu bod y wybodaeth honno wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi sut yr ydych chi’n mynd i ddosbarthu'r arian hwnnw, fel y gall busnesau wneud y penderfyniadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud cyn y flwyddyn ariannol newydd?

Erbyn diwedd yr wythnos hon.
Diolch.
Yn y pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd, clywsom dystiolaeth fod ardrethi busnes ychwanegol yn cael eu codi ar fusnesau sydd wedi gwneud y peth iawn ac wedi gosod paneli solar ar eu toeau. Felly, fy nghwestiwn i, a dweud y gwir, yw: pa ysgogwyr sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau sy'n cael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol, e.e. sefydliadau bwyd iach, ac i atal busnesau sy'n cael effaith negyddol, e.e. siopau betio, benthycwyr diwrnod talu a sefydliadau eraill a godwyd gan Mike Hedges yn gynharach?

Rydym ni’n gwneud hyn trwy gaffael yn bennaf. Mae polisi caffael Cymru yn annog sector cyhoeddus Cymru i ddefnyddio dulliau lle mae manteision cymunedol neu gymalau cymdeithasol yn ganolog i feini prawf dyfarnu contractau pan fydd hynny’n bosibl. Trwy wneud hynny, gall penderfyniadau dyfarnu contractau ffafrio'r cyflenwyr hynny sy'n cynnig tystiolaeth gref o gyflawni yn erbyn ein gofynion cymal cymdeithasol. Felly, gall caffael fod yn arf effeithiol i annog arferion busnes da ac, yn wir, arferion busnes da yn y gymuned.
Brif Weinidog, y cwestiwn go iawn y dylech chi fod yn ei ateb yw beth ydych chi’n mynd i'w wneud i geisio adfer dim ond ychydig o hygrededd yn Llywodraeth Cymru ar ôl rhoi 53 miliwn o resymau i’r gymuned fusnes yng Nghymru golli ffydd ynoch. O leiaf £53 miliwn yw faint y mae eich Llywodraeth wedi ei golli trwy anghymhwysedd difrifol gyda chytundebau cymorth busnes a thir—collwyd o leiaf £53 miliwn. Pryd fydd ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal?

O ran yr ateb a roddais rai munudau'n ôl, gallaf ddweud wrtho fod 97.6 y cant o'r busnesau yr ydym ni’n eu cefnogi yn llwyddiannus, ac mae hwnnw’n hanes ardderchog ynddo'i hun.
Hyrwyddo Creu Swyddi yng Nghasnewydd
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo creu swyddi yng Nghasnewydd? OAQ(5)0458(FM)

Rydym ni’n bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau i gefnogi creu a diogelu swyddi o ansawdd uchel yng Nghasnewydd ac, yn wir, ledled Cymru gyfan.
Diolch i chi, Brif Weinidog. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a leolir yn Nyffryn yng Nghasnewydd, yn agor campws gwyddoniaeth data ym mis Mawrth. Bydd y campws yn gweithredu fel canolfan ar gyfer dadansoddi data mawr, a fydd yn caniatáu gwaith cydweithredol rhwng academyddion, y Llywodraeth, y sector cyhoeddus, diwydiant a phartneriaid trydydd sector sy'n dymuno gwthio ffiniau darpariaeth eu gwasanaethau. Gan ddarparu mesuriadau a dadansoddiadau cyfoethog a gwybodus ar yr economi, yr amgylchedd byd-eang a chymdeithas ehangach, bydd y campws yn dod yn gyfleuster o'r radd flaenaf. Y dyhead i greu Silicon Valley i Gymru yw'r bwriad, ac y bydd yn ganolfan ar gyfer gwaith ymchwil gwyddoniaeth data arloesol, gan helpu i greu swyddi a denu buddsoddiad. A wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda'i phartneriaid a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i hyrwyddo'r ymdrech hon i greu 'silicon valley' i Gymru?

Gwnawn, mi wnawn. Mae'n hynod bwysig, rydym ni’n gwybod, bod lefel bresennol o arbenigedd, busnesau newydd yn clystyru ac arloesedd newydd yn yr ardal honno yn helpu pawb. Mae Casnewydd yn datblygu iddi ei hun, yn gyflym iawn, enw da am feddalwedd a TGCh yn fwy cyffredinol, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni’n awyddus iawn i’w annog yn y dyfodol.
Brif Weinidog, Casnewydd yw un o'r trefi neu ddinasoedd sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig pan ddaw i siopau gwag. Roedd mwy na chwarter siopau’r ddinas yn wag yn ystod hanner cyntaf 2016, yn ôl y Cwmni Data Lleol. Pa gynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ddarparu cymhellion, fel rhyddhad treth, i bobl agor busnesau newydd mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o siopau gwag, fel Casnewydd, i greu swyddi ac adfywio canol ein dinasoedd?

Wel, rwy’n meddwl fod cynghorau yn gwneud gwaith da o ran annog busnesau, ond mae'n rhaid i landlordiaid chwarae eu rhan hefyd. Mae’n rhaid i landlordiaid ddeall bod y dyddiau o allu codi rhent afrealistig am les hirdymor wedi mynd. Dydyn nhw ddim yno mwyach. Mae'n hynod bwysig bod landlordiaid yn hyblyg a’u bod yn ceisio annog siopau dros dro i’r busnesau hynny sydd eisiau profi'r farchnad am dri mis ond nad ydynt eisiau ymrwymo i les sy'n bump i 10 mlynedd o hyd. Bydd landlordiaid yn canfod, trwy wneud hynny, y byddant o bosibl yn llenwi eu siopau, oherwydd ni fydd rhai o'r busnesau hynny yn llwyddo, bydd rhai ohonynt yn llwyddo, ac os byddant, wrth gwrs, mae gan y landlord denant mwy hirdymor. Felly, nid cyfrifoldeb cynghorau yn unig yw hyn, er tegwch; mae hefyd yn bwysig bod landlordiaid yn gallu gweithio'n hyblyg i gynnig cyfleoedd i fusnesau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Y Trydydd Sector
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl y trydydd sector yng Nghymru? OAQ(5)0446(FM)

Mae'r trydydd sector yn cyflawni swyddogaeth bwysig yng Nghymru. Mae dros 33,000 o fudiadau trydydd sector yn darparu gwasanaethau ym mhob maes, o'r amgylchedd hyd at gefnogi gwasanaethau iechyd.
Diolch, Brif Weinidog. A ydych chi’n ymwybodol bod Public Affairs Cymru wedi datgelu bod dros hanner ei aelodau wedi dweud bod enghreifftiau wedi codi—rwy’n dyfynnu nawr—
pan ofynnwyd i lobïwyr ac ymgyrchwyr ailystyried safbwyntiau neu beidio â dweud pethau penodol nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw?
Wel, yn gyntaf oll, roeddwn i’n meddwl nad oedd gan lobïwyr unrhyw gyswllt gyda'r Llywodraeth—dyna ddywedwyd wrthym ni yn y Siambr hon—ond, yn wir, mewn geiriau eraill, mae eich Llywodraeth yn pwyso ar bobl, ac yn pwyso ar sefydliadau. Sensoriaeth yw hyn, ac mae'n annemocrataidd. Felly, yng ngoleuni’r sgandal hwn, yng ngoleuni'r honiadau cywilyddus hyn, pam na wnewch chi ymchwilio i'r mater hwn?

Nid wyf yn gwybod os yw'n awgrymu bod y trydydd sector, sef yr hyn yr oedd ei gwestiwn yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd, yn rhan o hyn, oherwydd, yn sicr, nid oedd y cwestiwn atodol i'w wneud â'r trydydd sector. Mae'n rhywbeth y credaf sy’n bodoli’n bennaf yn ei feddwl ei hun. Mater i'r pwyllgor ei ystyried a llunio adroddiad yw pa dystiolaeth sy’n cael ei rhoi i bwyllgor, nid dweud yng nghanol ymchwiliad bod—. Nid yw’n briodol, rwy’n credu, i Aelod, yng nghanol ymchwiliad, wneud sylwadau ar y dystiolaeth wrth i'r ymchwiliad barhau. Rydym ni fel Llywodraeth yn ymateb i adroddiadau maes o law, ond nid yw'r dystiolaeth wedi cael ei hystyried. Gallaf ddweud, cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, nid ydym yn dweud wrth sefydliadau beth ddylent neu na ddylent ei ddweud. Fel arall, byddai fawr o bwynt mewn cael sefydliadau sydd â chyfrifoldeb am ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, yn ogystal â’r Cynulliad hwn.
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddathlu pen-blwydd diweddar un o'r sefydliadau trydydd sector mwyaf blaenllaw yn fy etholaeth i, sef canolfan blant Tiddlywinks yn Ystalyfera, yr ymwelais â hi yn ddiweddar gan weld drosof fy hun y gwasanaeth rhagorol sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd y cyntaf o'i fath yng Nghymru ac sydd bellach yn fenter gymdeithasol hunangynhaliol? Ceir llawer o rai eraill o'r un math yn etholaeth Castell-nedd. Roeddwn i gydag un gyda'r Gweinidog dysgu gydol oes ddydd Llun, yn trafod gwaith tasglu’r Cymoedd. Maen nhw’n darparu gwasanaethau gofal plant allweddol ac yn ffynhonnell sylweddol o gyflogaeth. Felly, a wnaiff e ymuno â mi i gydnabod swyddogaeth hynod werthfawr y trydydd sector o ran darparu gwasanaethau gofal plant, yng Nghastell-nedd a ledled Cymru, ac a yw'n cytuno â mi y gall y trydydd sector, trydydd sector bywiog, fynd ati i lunio polisi a, gyda’r gefnogaeth a'r dychymyg priodol, y gall hefyd ddarparu gwasanaethau i'n cymunedau, gan eu gwneud yn gryfach? Ac a yw'n cytuno â mi ei bod, ac y dylai fod, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru gefnogi'r sector?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Hoffwn longyfarch y staff, yr ymddiriedolwyr a’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o daith Tiddlywinks dros yr 20 mlynedd diwethaf; maen nhw wedi llywio a dylanwadu ar feddyliau llawer o blant y mae ganddynt, rwy’n siŵr, atgofion melys o'u hamser yno, ac rwy’n gobeithio, wrth gwrs, y gallant barhau i wneud hynny yn y dyfodol hefyd.
Brif Weinidog, mae Pythefnos Masnach Deg yn rhedeg o 27 Chwefror tan 12 Mawrth, ac rwy’n meddwl y dylem ni fod yn haeddiannol falch fod Cymru wedi bod yn Genedl Masnach Deg ers 2008, a’r gyntaf erioed. Mae gan wyth deg dau y cant o awdurdodau lleol a 93 y cant o brifysgolion statws masnach deg, 150 o ysgolion, ac mae 50 y cant arall wedi eu cofrestru ar y cynllun ysgolion masnach deg. Mae gan Lywodraeth Cymru statws masnach deg, ond codwyd pryderon gyda mi am rywfaint o amwysedd ynghylch sut yr ydych chi’n cymhwyso’r model masnach deg. A wnewch chi ymchwilio i hyn er mwyn sicrhau nad dim ond statws yw e, ond bod diwylliant o gydnabyddiaeth masnach deg o ran caffael o fewn eich adrannau eich hun ar draws Lywodraeth Cymru?

Pe gallai'r Aelod roi rhagor o wybodaeth i mi, byddwn yn falch, wrth gwrs, i edrych ar hyn iddi.
Brif Weinidog, mae’r trydydd sector a'i fyddin o wirfoddolwyr yn arbed miliynau o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus bob blwyddyn ac yn darparu gwasanaethau gwerthfawr na all y sector cyhoeddus eu darparu. Mae'r trydydd sector yn ein diogelu pan fyddwn yn mynd i'r traeth neu’r rygbi, yn darparu gwaith ymchwil gwerthfawr i nifer o glefydau a chyflyrau, yn ymgyrchu dros hawliau gwell, tai a llu o wasanaethau eraill. Heb y trydydd sector, byddai ein bywydau yn llawer, llawer tlotach. Brif Weinidog, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y gall y trydydd sector barhau i ffynnu yng Nghymru ac i gydnabod a diolch i'r gwirfoddolwyr sy'n gyrru'r sector hwn?

Mae’r Aelod yn iawn. Mae gwaith ymchwil Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn awgrymu mai £3.8 biliwn yw gwerth y trydydd sector yng Nghymru. Mae'r sector yn cyflogi 79,000 o bobl ac yn gweithio gyda 938,000 o wirfoddolwyr, sy’n nifer syfrdanol. Mae hynny bron i un o bob tri o bobl yng Nghymru sy'n gwirfoddoli mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Rydym ni wedi darparu £4.4 miliwn yn 2016-17 fel cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol Cymru ledled Cymru, ac maen nhw, wrth gwrs, mewn sefyllfa dda i gynorthwyo mudiadau gwirfoddol o ran eu sicrwydd ariannol eu hunain, a’u cynorthwyo i ddeall ble ddylen nhw fynd i ofyn am gymorth ariannol. Felly, mae’r arian hwnnw’n gwneud llawer o ran darparu cymorth i gynifer o sefydliadau sy'n darparu cymaint o wasanaethau i gymaint o bobl.
Gwasanaethau Rheilffyrdd yn Ne-ddwyrain Cymru
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0461(FM)

Rydym ni wrthi’n caffael gweithredwr a phartner datblygu ar gyfer gwasanaethau Cymru a'r gororau o 2018 a seilwaith y metro hefyd. Mae'r broses honno’n cynnwys trafodaethau gyda chynigwyr ar sut y gellir darparu gwasanaethau yn y de-ddwyrain orau yn rhan o ddarpariaeth ehangach metro de Cymru.
Diolch am hynna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch yn iawn, mae'r cyswllt rheilffordd teithwyr Casnewydd i Lynebwy yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i bobl leol, a cheir llawer o rwystredigaeth a diffyg amynedd nad yw wedi ei sefydlu eto. A allwch chi, Brif Weinidog, roi sicrwydd pellach heddiw bod y cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru? Ac a allwch chi roi unrhyw amseroedd o ran pryd y bydd yn weithredol—yr amseroedd diweddaraf, os yn bosibl?

Nid yw'n bosibl rhoi amser o ran pryd y gallai'r gwasanaeth fod yn weithredol, ond gallaf roi sicrwydd i’r Aelod bod darpariaeth y gwasanaeth ar reilffordd Glynebwy yn cael ei harchwilio yn rhan o'r prosiect hwnnw. Mae wedi pwysleisio lawer gwaith yn y Siambr hon dros y blynyddoedd pwysigrwydd gwasanaeth yn mynd i Gasnewydd, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r syniadau sy’n datblygu ynghylch sut y bydd y metro yn gweithredu yn y dyfodol.
Brif Weinidog, mae adnewyddiad masnachfraint Cymru a’r gororau yn prysur agosáu. A yw Llywodraeth Cymru o leiaf wedi dechrau’r broses o archebu neu ystyried archebu cerbydau newydd ar gyfer y fasnachfraint honno? Gofynnaf y cwestiwn oherwydd, o ystyried ei bod yn cymryd hyd at bedair blynedd i gomisiynu cerbydau newydd-nid yw fel prynu car yn y garej lleol—a ydych chi’n rhannu fy mhryderon bod perygl na fydd gan y cwmni trenau newydd unrhyw ddewis ond dibynnu ar y stoc bresennol ar ddechrau'r fasnachfraint, y bydd bron yn sicr yn ei hadnewyddu yn y pen draw, a phrin y byddai hynny’n ddechrau newydd i’r fasnachfraint newydd y byddai'r cyhoedd yn gobeithio ei weld?

Bydd yn gwbl eglur yn rhan o gynigion y fasnachfraint y dylai cerbydau fod yn fodern, nid yn 40 mlwydd oed yn sicr, fel y mae rhai o'r cerbydau ar rai rheilffyrdd ar hyn o bryd, ac y dylai’r cerbydau hynny ddarparu cyfleusterau i deithwyr fel Wi-Fi, na ddarperir ar hyn o bryd. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod bod hyn yn sicr yn rhan o'r broses dendro ar gyfer y fasnachfraint newydd. Rydym ni eisiau i bobl gael y gwasanaethau rheilffordd gorau yn y DU yn hytrach na gwasanaethau sy'n dibynnu ar hen gerbydau.
Yn dilyn y cwestiwn gan John Griffiths, AC Dwyrain Casnewydd, bydd Trenau Arriva Cymru yn dweud wrthym fod rheilffordd Glynebwy yn llawn gyda'r rhai sydd eisiau teithio i Gaerdydd. Byddai'n ymddangos mai dim ond dau wely trac i Lynebwy fyddai'n lliniaru'r broblem hon. A wnaiff y Prif Weinidog ein hysbysu a oes unrhyw gynlluniau i weithredu’r opsiwn hwn?

Wel, gall fod yn drac dwbl, gall fod yn drac dwbl rhannol, ac efallai mai signalau fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Mae'n newyddion da, wrth gwrs, bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio cymaint bod angen cynyddu amlder. Bydd y pethau hyn, ymhlith pethau eraill, yn cael eu hystyried, gan weithio gyda sefydliadau fel Network Rail, i ddarparu gwasanaeth gwell yn y dyfodol. Unwaith eto, mae hynny'n sicr yn rhan o'r syniadau am y metro a’r fasnachfraint newydd.
Y Diwydiant Pysgod Cregyn
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r diwydiant pysgod cregyn yn sgil y penderfyniad i adael yr UE? OAQ(5)0456(FM)[W]

Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant yn ogystal â phwysleisio i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yr angen dybryd i gadarnhau y bydd diwydiant pysgod cregyn Cymru’n parhau i gael mynediad dirwystr i’r marchnadoedd allweddol ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Diolch am yr ateb yna. Yn 2015, mi oedd amaethu pysgod cregyn yn werth rhyw £12 miliwn i economi Cymru. Mae o’n ddiwydiant ac yn gyflogwr pwysig yn fy etholaeth i ac mae’r gallu i werthu mewn marchnad sengl yn ddi-doll wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at lwyddiant y diwydiant. I roi ffigurau i chi, mae 98 y cant o gynnyrch y Bangor Mussel Producers yn cael ei allforio—rhyw 70 y cant i’r Iseldiroedd, 20 y cant i Ffrainc a 10 y cant i Iwerddon. A gaf i ddyfynnu gan un o arweinwyr y diwydiant yna, sydd wedi canmol rhai o’r trafodaethau sydd wedi digwydd yn fewnol yng Nghymru ers y bleidlais? Mae o’n dweud ei fod o’n ofni y gwaethaf i Gymru drwy’r ffaith na fydd gan Gymru na’r Alban na Gogledd Iwerddon lais uniongyrchol yn y trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd. A all y Prif Weinidog, felly, ddweud wrthym ni beth fydd strategaeth Llywodraeth Cymru o hyn allan i geisio diogelu dyfodol y diwydiant pwysig yma?

Mae 90 y cant o’r pysgod sydd yn cael eu dal yng Nghymru yn cael eu hallforio, felly byddai unrhyw rwystr, toll neu unrhyw fath o rwystr arall yn wael i’r rheini sy’n allforio. Rydym yn gwybod bod y farchnad yn y Deyrnas Unedig yn rhy fach i sicrhau dyfodol iddyn nhw a dyna pam mae mor bwysig i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw at ei gair er mwyn sicrhau bod yna lais cryf i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod y trafodaethau dros y ddwy flynedd a mwy nesaf.
Brif Weinidog, rwy’n gobeithio y bydd cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ebrill yn ffrwythlon o ran hyrwyddo ein pysgod cregyn i’r holl fyd, nid i'r Undeb Ewropeaidd yn unig. Ond, fel y gwyddoch, mae lefel y paraseitiaid a geir mewn cocos o fornant Porth Tywyn, oddi ar arfordir Gŵyr, yn uwch na'r disgwyl. Wrth gwrs, os ydym ni’n mynd i fodloni’r galw byd-eang, rydym ni angen ein cocos i oroesi. Cymerodd Llys Cyfiawnder Ewrop gamau i gyfyngu ar nifer y colledion a ganiateir yn yr ardal er mwyn helpu i gyfyngu ar gynnydd rhai mathau o facteria, ond mae achos y clefyd sy'n atal rhai cocos rhag cyrraedd aeddfedrwydd yn dal i fod yn aneglur. Y Bil diddymu mawr—yn dilyn hynny, rwy’n gobeithio y bydd y deddfau amgylcheddol yn parhau i wneud cryn dipyn i ddiogelu iechyd cocos. Ond rwy'n credu bod angen i ni ymrwymo i astudiaeth bellach ar achos ac atal marwolaeth gynnar cocos. Tybed a allwch chi roi’r ymrwymiad hwnnw i'r Siambr heddiw.

Gallaf ddweud bod ymchwiliadau i farwolaethau cocos ar fornant Porth Tywyn yn parhau. Bydd adolygiad ar gynnydd ymchwiliad yr ydym ni wedi ei ariannu yn cael ei gyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru pan fo hwnnw wedi’i gwblhau. Rydym ni’n gweithio gyda'r diwydiant i ddatblygu deddfwriaeth i wella rheolaeth a chynaliadwyedd pysgodfeydd cocos a reolir gan y Llywodraeth hefyd. Mae'n fater cymhleth. Rai blynyddoedd yn ôl, rwy’n cofio gwenwyn diaretig pysgod cregyn yn effeithio ar y gwelyau cocos—nid oedd yn eglur erioed beth oedd yr achos. Roedd gwahanol ddamcaniaethau am yr hyn a oedd wedi digwydd. Yr hyn yr ydym ni’n ei wybod, wrth gwrs, yw bod y cystudd yno yn y gwelyau cocos. Felly, mae'n bwysig nawr bod ymchwiliad trylwyr yn cael ei orffen mewn da bryd fel bod gennym ni ateb. Unwaith, wrth gwrs, y mae gennym ni atebion, yna gallwn ddarparu’r ymateb deddfwriaethol mwyaf effeithiol posibl.
Mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol, o’i gyfnod fel Gweinidog amaeth a physgodfeydd, mor allweddol yw’r diwydiant pysgod cregyn ar arfordir Cymru. Ond gan nad oedd y diwydiant pysgod cregyn erioed yn rhan o’r polisi amaethyddol a physgodfeydd cyffredin—yr un o’r ddau ohonyn nhw—onid ydy hi’n rhesymol felly y byddai disgwyl y bydd y diwydiant yna’n gallu parhau i werthu i mewn i gyfandir Ewrop, fel mae wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?

Mae’n hollbwysig. Rydym yn gwybod bod pysgod cregyn yn bwysig iawn i’r diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r llongau sydd gyda ni yn llongau eithaf bach, sydd yn dal pysgod cregyn, ac nid ydyn nhw’n mynd yn bell o’r arfordir. Ac maen nhw’n gwybod, ac rydym ni’n gwybod, bod yna farchnad gref iddyn nhw yn Ewrop. Os byddai unrhyw beth yn digwydd i wanhau eu sefyllfa nhw yn y farchnad honno, wel, nid oes modd arall iddyn nhw wneud yr un elw. Dyna pam mae hi mor bwysig i sicrhau bod y farchnad Ewropeaidd ar agor ar yr un termau yn y dyfodol ag y mae hi nawr.
Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Nhorfaen? OAQ(5)0459(FM)

Gwnaf. Gwn fod awdurdod lleol Torfaen wedi clustnodi dros £86 miliwn ar gyfer band A y rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, sy'n ymestyn dros y pum mlynedd hyd at 2019. Gwn fod prosiectau sydd werth dros £66 miliwn wedi cael eu cymeradwyo eisoes, ac mae chwe phrosiect naill ai’n cael eu hadeiladu neu wedi eu cwblhau.
Diolch yn fawr, ac roeddwn i’n falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i Dorfaen yr wythnos diwethaf i agor dwy ysgol gynradd newydd yng Nghwmbrân yn swyddogol: Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam ac Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road, ac adeiladwyd y rhain yn rhan o'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Gydag Ysgol Panteg, sydd i fod i agor i ddisgyblion yn ddiweddarach y mis hwn, mae'n golygu y bydd cyfanswm y buddsoddiad tua £20.5 miliwn. A wnewch chi ymuno â mi, Brif Weinidog, i groesawu'r ymrwymiad a’r buddsoddiad gan gyngor Torfaen a Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf i'n plant?

Yn wir. Mae fy ffrind yr Aelod dros Dorfaen yn llygad ei le: mwy na £20 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn ysgolion yn Nhorfaen—enghraifft dda o'r awdurdod lleol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu'r gorau i'n plant, ac enghraifft dda arall eto o Lywodraeth Cymru ac awdurdod lleol a reolir gan Lafur yn darparu ysgolion sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn dda i blant Torfaen.
Brif Weinidog, bydd chweched dosbarth presennol Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Ysgol Uwchradd Gatholig St Albans ac Ysgol Croesyceiliog yn cael eu diddymu'n raddol yn fuan. O ystyried y bydd rhaid i staff chweched dosbarth yn yr ysgolion hyn gystadlu am swyddi yn y ganolfan newydd, a wnaiff y Prif Weinidog ein hysbysu faint o ddiswyddiadau a ddisgwylir o ganlyniad i’r ad-drefnu hwn a pha drafodaethau y mae ei Lywodraeth wedi eu cael gyda chyngor Torfaen yn hyn o beth, os gwelwch yn dda?

Wel, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drefnu addysg yn eu hardaloedd, ac, wrth gwrs, mae Torfaen, fel y mae awdurdodau eraill yn ei wneud, yn ceisio gwneud y ddarpariaeth orau a mwyaf modern posibl.
Diolch i’r Prif Weinidog.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rydw i’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe? EAQ(5)0121(EI)

Gwnaf. Mae fy swyddogion a minnau wedi cynorthwyo'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar bob cam o'i ystyriaethau ar y pwnc hwn. Rwyf wedi derbyn adroddiad y pwyllgor, ac yn ei groesawu’n fawr, a byddwn yn ymateb yn llawn iddo.
A gaf i ddiolch Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Mae'r adroddiad a gafwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi rhai pryderon difrifol iawn, fe ddywedwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn ag ymddygiad Llywodraeth Cymru, wrth i swm sylweddol arall eto o arian trethdalwyr—£3 miliwn—gael ei golli. Mae rhai cwestiynau am atebolrwydd yn y fan yma, ac yn anffodus, nid hwn yw’r tro cyntaf i arian trethdalwyr gael ei wastraffu gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi gweld nifer o benderfyniadau amheus eraill, gan gynnwys Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Kukd a Triumph. Nid wyf yn credu o gwbl na ddylai Llywodraethau fod yn fentrus; rwy’n bendant yn credu y dylen nhw, ond dylen nhw wneud hynny mewn ffordd gytbwys. O ran Kancoat, dro ar ôl tro, mae'r cyngor arbenigol a roddwyd i Lywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod gan y cwmni gynllun busnes gwan a’i fod yn fuddsoddiad risg uchel. Felly, a gaf i ofyn pam, yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y cafodd y cyngor ei anwybyddu—gan gofio hefyd, wrth gwrs, bod cangen buddsoddi’r Llywodraeth, Cyllid Cymru, wedi ei nodi fel risg annerbyniol o uchel? Beth yw eich dyfarniad ar hyn, o ystyried y newidiadau y gwn eich bod wedi eu gwneud yn eich adran ers i chi ddechrau yn eich swydd, ac ai eich barn chi yw fod yr adran a etifeddwyd gennych wir yn anaddas i’w ddiben? Ydych chi wedi sôn—? Rydych chi wedi crybwyll mewn datganiadau diweddar eich bod wedi rhoi gweithdrefnau newydd ar waith erbyn hyn; beth yw’r gweithdrefnau newydd hyn? Rwy'n credu mai dyna'r cwestiwn allweddol yn y fan yma. Ac yn olaf, ble y mae’r atebolrwydd yn gorwedd, yn eich barn chi? Ai gyda’ch rhagflaenydd, neu gyda swyddogion?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rydym bob amser yn dysgu ac, yn wir, gwnaeth fy rhagflaenydd newidiadau yn yr adran pan wnaeth hithau ei hetifeddu. Yn wir, cyflwynodd fy rhagflaenydd y weithdrefn panel buddsoddi er mwyn cryfhau goruchwyliaeth ystyriaethau buddsoddi a sicrhau wrth roi ystyriaeth i risg y gellid dod i benderfyniad deallus. Mae'r dirprwy ysgrifennydd parhaol wedi dweud ar goedd, yn yr achos hwn, bod y panel buddsoddi wedi gwneud camgymeriad, ac felly, wedi rhoi cyngor gwallus i'r Gweinidog. Ond rwyf i o’r farn, ac mae'r Aelod yn cydnabod y ffaith, fod yn rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng mentro ac achub ar gyfle. Ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ei nodi, mae’n achos, yn ffaith ddigamsyniol, bod fy rhagflaenydd, yn nhymor y Cynulliad blaenorol, wedi goruchwylio’r twf mwyaf erioed, pan oedd cyfradd llwyddiant y busnesau a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn fwy na 97 y cant. Mae hynny'n cymharu'n hynod ffafriol â’r cyfartaledd yng Nghymru ac, yn wir, mae hyd yn oed yn well na chyfartaledd y DU. Felly, rwy’n credu bod gennym, mewn gwirionedd, stori y gallwn fod yn falch iawn ohoni, i’w hadrodd am lwyddiant Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i fusnes. Serch hynny, nid yw pob busnes yn goroesi, nid yw pob busnes yn llwyddo. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu ffyniant busnesau, ond bydd achosion, yn enwedig yng nghyd-destun y cyfnod yn dilyn y cwymp ariannol, pryd y sefydlwyd busnesau a phan nad oedd yr hinsawdd economaidd yn sefydlog ac yn caniatáu cyflawni’r twf a ragwelwyd.
Mae gennym nifer—ac mae’r Aelod yn cydnabod hyn—o newidiadau gweithdrefnol sydd wedi eu rhoi ar waith. Byddwn i'n hapus i ysgrifennu at yr holl Aelodau i roi’r manylion. Mewn gwirionedd, gan fod arweinydd y Ceidwadwyr, rwy’n credu, yn dymuno gwybod beth ydyn nhw, fe’u rhoddaf yn awr: mae ystyriaeth o fenthyciadau masnachol bellach yn rhan o'r weithdrefn panel buddsoddi; erbyn hyn mae’n rhaid i'r uwch dîm rheoli gadarnhau unrhyw argymhelliad gan y panel buddsoddi ar gyfer benthyciadau masnachol dros £1 filiwn; yn rhan o'r broses cymeradwyo ariannol, mae’n rhaid cynnal gwerthusiad annibynnol erbyn hyn o'r holl brosiectau sy'n cynnwys benthyciadau masnachol; mae arolygu benthyciadau wedi ei symud i’r tîm arolygu canolog—roedd hwnnw yn brotocol adrannol y cytunwyd arno; mae ceisiadau am fenthyciadau yn cael eu hasesu yn fwy trylwyr o ran eu gallu i ad-dalu drwy gynnal diwydrwydd dyladwy ariannol priodol; mae newid pellach mewn gweithdrefnau, a gydnabuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fel bod yn ymagwedd safonol at asesu risg, wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau cysondeb mewn cynlluniau ariannu, a phan ystyrir ymyriaethau lluosog, cânt eu hystyried gan un corff erbyn hyn, gyda chyngor priodol gan y tîm arwain ar gyfer eiddo. Ceir gweithdrefnau eraill yr ydym wedi'u cyflwyno yn y pedwerydd Cynulliad. Ceir gweithdrefnau pellach y byddaf innau’n eu cyflwyno hefyd.
O ran yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor, ac rwyf yn gwerthfawrogi gwaith y pwyllgor ac, yn wir, yr adroddiad sydd wedi ei lunio, rwy’n credu y byddai'n anodd iawn i anghytuno ag unrhyw un o'r argymhellion hynny sydd wedi eu gwneud sy'n berthnasol i’m portffolio i. Er y byddaf yn ymateb maes o law i bob un o argymhellion y pwyllgor, gallaf ddweud fy mod eisoes yn derbyn nifer o’r argymhellion ac, yn wir, rwyf eisoes wedi rhoi rhai ohonynt ar waith.
Wrth gwrs, un argymhelliad nad ydych yn gallu ymateb iddo, ond mae’n rhaid ei roi o’r neilltu ar hyn o bryd, yw'r argymhelliad ehangach ar gyfrifoldeb gweinidogion, wrth wneud penderfyniadau sy'n bwysig i etholwyr ac etholaeth Gweinidog, ond nid mewn gwirionedd wedi eu lleoli yn yr etholaeth. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud bod y modd y mae gwrthdaro buddiannau yn cael ei ddirnad yn llawn mor bwysig â gwrthdaro buddiannau gwirioneddol. Y tro hwn, rwyf yn awgrymu na wnaeth y Prif Weinidog ymarfer sylw priodol ac nad oedd yn sylweddoli pa weithdrefnau y dylid eu dilyn, ac y dylai Gweinidog arall fod wedi gwneud y penderfyniad hwn.
A gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a dweud wrtho fy mod i wedi ysgrifennu at ei ragflaenydd, Edwina Hart, ar 1 Awst 2014—rai wythnosau cyn i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr—a chodi nifer o bryderon difrifol gyda hi a fynegwyd wrthyf gan weithwyr y cwmni sy'n byw yn fy rhanbarth i, yn Llanelli, oherwydd bod gweithwyr yn y cwmni hwn wedi eu gwasgaru dros ardal eithaf eang? Roedden nhw yn pryderu yn arbennig am y brydles a oedd wedi ei chytuno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd hwnnw, y dywedwyd wrthyf ei bod werth £1.25 miliwn a’i bod yn weithredol am bum mlynedd heb gymal toriad yn ystod y pum mlynedd hynny. A gaf i ddeall, felly, a ydych chi’n dal i fod wedi eich ymrwymo i’r brydles honno a beth yw cost gyfredol y brydles honno i Lywodraeth Cymru? Oherwydd byddai’n ymddangos bod hynny'n ychwanegol i’r costau yr ydym wedi eu gweld hyd yma yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a hoffwn gael cadarnhad o hynny.
Yr ail elfen a oedd yn achos pryder mawr i'r gweithwyr yn y ffatri oedd y ffaith bod nifer o gyfarwyddwyr, ar yr adeg yr oedden nhw’n diswyddo gweithwyr, yn cyflogi eu hunain am gyfnod o amser ar gost o hyd at £7,000 y mis, fel ymgynghorwyr hunangyflogedig neu fel arall wedi eu cyflogi yn llawn amser gan Kancoat. Roedd hyn mewn cyfnod pan yr oedd hi’n ymddangos bod y cwmni mewn trafferthion a bod hynny’n gyhoeddus, a chodais hyn yn uniongyrchol gyda'ch rhagflaenydd. Yr ateb a gefais ganddi oedd dim ond dweud bod diwydrwydd dyladwy llawn a thrylwyr wedi ei gynnal. Rydym yn gwybod erbyn hyn nad yw'n ymddangos bod hynny’n wir. Beth ddywedwch chi nawr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, wrth y gweithwyr yno a oedd yn codi’r pryderon hyn, ac a ydych chi’n hollol dawel eich meddwl na chymerodd cyfarwyddwyr y cwmni hwn unrhyw arian eu hunain yn bersonol, yn sgil y sefyllfa anffodus y canfu’r cwmni ei hun ynddi?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ef hefyd? Rwyf yn credu mai cwestiwn i’r Prif Weinidog yw’r un am gyfrifoldebau gweinidogol. Byddwn yn rhybuddio yn erbyn ceisio ymdrin â’r holl ddirnadaeth o wrthdaro buddiannau yn y fath fodd fel y byddai’n achos llesgedd o fewn y Llywodraeth. Gwlad fechan ydym ni gyda—yn enwedig yn y de-ddwyrain—pharth teithio i’r gwaith eang iawn, ac felly y mae'n bwysig, wrth gydnabod yr angen i sicrhau nad oes unrhyw ddirnadaeth o wrthdaro buddiannau, ein bod yn galluogi Gweinidogion i allu gwneud penderfyniadau ar sail ranbarthol. Er hynny, mater i'r Prif Weinidog ymateb iddo yw hwnnw, fel y dywedais. Rwyf yn fodlon iawn i adolygu'r holl ohebiaeth, gyda'i ganiatâd ef, a anfonodd yr Aelod at fy rhagflaenydd, mater y mae ef wedi ei godi yn y gorffennol, a'r pryderon a fynegwyd ganddo yn y gorffennol. Byddaf yn gwirio’r diwydrwydd dyladwy, ond nid yw'n wir bob amser y byddai diwydrwydd dyladwy wedi methu. Asesiad risg a wnaed yn seiliedig ar y wybodaeth a gafwyd, ac yna cafodd penderfyniad ei seilio ar hynny, yn ogystal ag ystyriaethau'r panel buddsoddi.
O ran y cwestiwn y brydles, mae hyn yn ymwneud—yn fy nhyb i—ag argymhelliad 11, a'r cwestiwn ehangach o ran unrhyw gostau ariannol parhaus i Lywodraeth Cymru. Mae gan fuddsoddwyr diddordeb pendant yn y safle, a phan fydd canlyniad y trafodaethau yn hysbys, bydd swyddogion yn rhannu unrhyw oblygiadau ariannol gydag Aelodau'r Siambr hon. Rwyf hefyd yn addo ymchwilio, o ran y cwestiwn olaf a gododd yr Aelod, i ba un a yw cyfarwyddwyr y cwmni hwnnw mewn sefyllfa i gael unrhyw fudd o gwbl yn dilyn cwymp y cwmni.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ateb cynharach. A gaf i yn gyntaf groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi ymateb llawn i adroddiad y pwyllgor ar sefyllfa Kancoat? Fel y dywedasoch, bydd eich ymateb i'r adroddiad yn cael ei ystyried yn llawn gan y pwyllgor, felly nid wyf yn dymuno barnu’r cam hwnnw o'r broses o flaen llaw, neu yn wir bod yn ailadroddus yn fy holi. Rwy'n falch o glywed eich bod eisoes wedi dweud eich bod, mewn egwyddor, yn fodlon derbyn nifer o argymhellion yr adroddiad hwnnw, ac rwyf yn credu eich bod hefyd wedi dweud eich bod eisoes wedi cymryd camau i weld bod y cammau hynny wedi eu rhoi ar waith, ac mae hwnnw'n gam gwirioneddol gadarnhaol, felly diolch i chi am hynny.
A gaf i ofyn i chi, ar fater ehangach, a ydych chi’n croesawu'r bwriad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad gwerth am arian ehangach i agwedd Llywodraeth Cymru at gyllid busnes, ac a fyddwch chi a'ch swyddogion yn cydweithio â’r archwiliad hwn yn ddiweddarach eleni? Mae'n amlwg, os bydd yn mynd rhagddo yn y fformat y mae'r archwilydd cyffredinol yn ei ystyried, y bydd yn ddarn mawr iawn o waith, ond rwyf o’r farn y bydd yn un defnyddiol, ar gyfer y Llywodraeth ac er mwyn i’r cyhoedd hefyd fod yn hyderus bod y gweithdrefnau ar waith i sicrhau nad yw’r math o broblemau gyda diwydrwydd dyladwy, a’r rhai eraill a welsom gyda Kancoat, yn digwydd eto. A gaf i ddweud yn syml, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y pwyllgor yn cydnabod pa mor hanfodol yw cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer busnes o ran sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol—pwynt a wnaeth Russell George yn ei gwestiwn agoriadol—ac rydym ni’n awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei weinyddu yn y modd gorau? Rydym yn croesawu'r gwaith arfaethedig i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario yn ddoeth er budd effeithlonrwydd, gwerth am arian, a chyda manteision economaidd ehangach, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb i'r pwyllgor, ac rwy'n siŵr y gallwn symud y sefyllfa hon yn ei blaen.
A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau, a hefyd am oruchwylio'r ymchwiliad hwn fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Byddwn, mi fyddwn yn gweithio'n agos gyda'r archwilydd cyffredinol, a chroesawaf yn fawr ei fwriad i gynnal ymchwiliad ehangach o gymorth i fusnes gan Lywodraeth Cymru. Un o'r newidiadau gweithdrefnol ychwanegol sy'n cael eu cyflwyno trwy lefel ehangach o weithgarwch i’r panel buddsoddi yw'r gallu i gymryd egwyl a myfyrio ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y tîm swyddogion a fydd yn arwain y prosiect ar raglenni buddsoddi a chredaf fod hyn wedi ein galluogi ni i gael rhywfaint o adolygiad gan gymheiriaid, sef bod gwaith a gaiff ei ddwyn ymlaen gan un grŵp yn cael ei adolygu gan grŵp arall yn y Llywodraeth. Gallaf ddweud wrth yr Aelod ar hyn o bryd, o ran yr 11 argymhelliad, rwyf eisoes wedi datgan, o ran yr argymhelliad terfynol, bod diddordeb pendant, a byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau am ganlyniad y trafodaethau wrth iddynt gael eu cwblhau.
Gan sôn yn gryno am bob un o'r argymhellion, o ran Argymhelliad Rhif 1, rydym eisoes wedi dechrau diffinio deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, a chredaf fod y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy yn enghraifft o hyn. O ran argymhelliad 2, dylid derbyn hwnnw, yn fy nhyb i, ac rydym wedi dechrau ymgorffori'r argymhelliad mewn gweithdrefnau. O ran argymhellion 3, 4 a 5, unwaith eto, mewn egwyddor, rydym yn derbyn yr argymhellion, ac mae'n gwbl briodol i edrych eto ar y canllawiau ar gyllid busnes nad yw’n ad-daladwy o ystyried anghenion newidiol busnes a'r hinsawdd economaidd. O ran argymhelliad 6, unwaith eto, mae argymhelliad ar nodi risgiau a lliniaru arfaethedig wedi ei dderbyn rwy’n meddwl—dylid ei dderbyn—ac, unwaith eto, mae’n cael ei weithredu.
A, chan droi at argymhellion 8, 9 a 10, unwaith eto, rydym wedi derbyn y rheini, ac rydym yn eu rhoi ar waith.
Rwyf yn derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am natur risg. Yn wir, dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach yn ystod cwestiynau na fydd pob buddsoddiad, ni waeth pa mor ofalus y byddwch chi, yn llwyddo, a byddai'n afresymol i fod yn rhy feirniadol pan ei fod yn methu am resymau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Dywedodd y dirprwy ysgrifennydd mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mai swyddogaeth y Llywodraeth yn y fan yma i bob pwrpas yw bod yn fenthyciwr pan fetha popeth arall, a dywedodd:
Mae ariannu pethau nad yw'r sector preifat yn fodlon eu hariannu yn awgrymu mentro pan na fydd y sector preifat yn fodlon mentro, sy'n awgrymu y bydd pethau yn methu.
Felly, rydych yn cychwyn o sefyllfa lle mae'n rhaid i chi fod yn feirniadol tu hwnt.
Ond yr hyn yr ydym yn ymdrin ag ef yn y fan yma yw achos pan na chafodd y cyngor diwydrwydd dyladwy a gafwyd gan gynghorwyr y Llywodraeth ei hun ei dderbyn, ac nid wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi ateb i Russell George yn hyn o beth yn gynharach. Yr hyn a ddywedodd yr adolygiad o ddiwydrwydd dyladwy oedd bod y cynllun busnes yn 2013 yn 'wan ac yn anghyson', a bod peryglon cynhenid y busnes newydd yn dal i fod yno. Gadawodd disodli Coilcolor fel prif gyfranddaliwr, a’r golled o’u gwarant, y peryglon a nodwyd yn y bôn fel rhai heb eu lliniaru. Ac roedd y cynnig yn peri i Lywodraeth Cymru gymryd risg landlord sylweddol hefyd. Felly, roedd y prosiect wedi’i nodi fel bod yn risg uchel yn yr asesiad dechreuol, ac wedyn bu asesiad diwygiedig, a wnaeth mewn gwirionedd gynyddu lefel y risg yn hytrach na’i liniaru. Felly, beth sydd wir angen i ni ei wybod yma, a rhoi hynny yng nghyd-destun polisi'r Llywodraeth ar ddefnyddio arian trethdalwyr at ddibenion fel hyn, yw pam y gwrthodwyd yr adroddiad diwydrwydd dyladwy hwnnw, a oedd yn ymddangos, ar yr wyneb, o fod yn fflachio goleuadau coch ac yn canu clychau larwm ar bob agwedd. Beth oedd y cyngor a roddwyd i'r Gweinidog yn ei gynnwys a oedd yn diystyru'r holl rybuddion hynny a oedd i bob golwg yn rhybuddion amlwg iawn?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a hefyd am gydnabod y peryglon cynhenid wrth ddiwallu methiant yn y farchnad cyn belled ag y mae cymorth busnes yn y cwestiwn? Rwyf o’r farn ein bod, o ganlyniad i weithredu'r 10 newid gweithdrefnol sydd wedi eu cydnabod gan Swyddfa Archwilio Cymru, wedi gwella'r system arolygu a gwerthuso a ddefnyddir ar gyfer ceisiadau am gymorth busnes. Nid yw’n wir fod diwydrwydd dyladwy wedi ei wrthod yn llwyr. Ystyriwyd y diwydrwydd dyladwy ochr yn ochr â'r manteision posibl, ac felly gwnaeth y panel buddsoddi argymhelliad ar sail hynny i’r Gweinidog. Ond, fel yr wyf eisoes wedi ei ddweud, derbynnir bod y cyngor a roddwyd gan y panel buddsoddi yn anghywir. Fe wnaethant gamgymeriad, ac mae hynny wedi ei gydnabod gan y gwasanaeth sifil.
Rwy'n credu bod angen i ni fyfyrio ar y cyd-destun—y cyd-destun economaidd—a oedd yn gefndir i’r penderfyniad. Roedd awydd i sicrhau bod gennym dwf economaidd ar adeg pan oeddem newydd ddioddef problemau difrifol a achoswyd gan y chwalfa ariannol, ac felly roedd yr awydd am risg efallai yn fwy nag y byddai heddiw, a ninnau wedi gallu magu twf economaidd dros nifer o flynyddoedd, a gwella cyflogaeth erbyn hyn i lefel agos i’r lefelau uchaf erioed, gostwng cyfraddau diweithdra i lefel is na chyfartaledd DU—yn wir, i’r lefel isaf erioed. A gallwn ddweud gyda hyder erbyn hyn, bod hynny o ganlyniad i gymorth busnes yn ystod tymor y pedwerydd Cynulliad—lle yr wyf yn cydnabod y bu rhai methiannau—o ganlyniad i'r cymorth, gwnaethom sicrhau bod 97.4 y cant o'r busnesau hynny wedi ffynnu ac wedi llwyddo. Mae hynny’n uwch o lawer na’r cyfartaledd ar draws economi Cymru, ac, yn wir, yn well eto na chyfartaledd y DU hyd yn oed.
Onid rhan o'r broblem yw mai gweision sifil yw holl aelodau’r panel buddsoddi sy'n rhoi cyngor i Weinidogion, sy'n atebol i'r un Gweinidog? Ac nid yw hynny felly’n gyfystyr â chyngor annibynnol, yn arbennig felly mewn achosion pryd y gellid ystyried bod gan y Gweinidog farn benodol am brosiect.
Nawr, wrth gwrs, mae gennym y Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, a sefydlwyd am yr union reswm hwn, mae’n annibynnol—mewn gwirionedd, pan fydd y Gweinidog yn mynd yn groes i'w gyngor, mae’n rhaid iddo adrodd i'r Cynulliad, fel y gallwn gael tryloywder priodol. ‘Does bosib na ddylid neilltuo pob penderfyniad ar gefnogaeth i fusnes i’r corff annibynnol hwnnw, neu, mewn gwirionedd, os yw'r Gweinidog eisiau mynd ymhellach hyd yn oed, gallai fynd â nhw yn llwyr oddi ar ddwylo'r Gweinidogion a’r gweision sifil, a’u rhoi i'r banc datblygu newydd, a fydd yn ôl pob tebyg, mae'n ymddangos, yn cael ei arwain gan Cyllid Cymru, a ddangosodd, yn yr achos hwn, ei fod â gwell asesiad o'r risg yr oedd hyn yn ei gynrychioli na'i swyddogion ef ei hun. Ac, yn olaf, a gaf i ofyn iddo, oherwydd bod y brif brydles a dderbyniodd Llywodraeth Cymru yn cynrychioli rhwymedigaeth wrth gefn, a gafodd hi ei rhestru yng nghyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Bydd angen i mi wirio manylion y cwestiwn olaf a gododd yr Aelod, a byddaf yn ysgrifennu, nid yn unig at yr Aelod, ond at bob Aelod yn y Siambr.
O ran Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, corff noddedig y bu ganddo statws statudol ers 1975 yw hwnnw, neu, yn hytrach, a fu o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975. Ac, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, y mae'n ystyried penderfyniadau pan wneir cais am grant sydd yn fwy na £1 filiwn. Bu adolygiad o lefel y trothwy. Cafodd hynny ei gynnal, mewn gwirionedd, gan fy rhagflaenydd, a hynny ym mis Ionawr 2013. Rwy'n credu ei bod yn bryd i ni adolygu hynny eto, fel y mae’r Aelod wedi ei awgrymu, ac rwy'n hapus i wneud hynny. O ganlyniad, gan fod trothwy o £1 filiwn, ni chyflwynwyd unrhyw un o'r achosion Kancoat iddo, gan nad oedd y rheini yn rhan o gylch gwaith y bwrdd.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud eto bod fy rhagflaenydd wedi cryfhau gweithdrefnau. Yn wir, fe etifeddodd hi adran lle nad oedd unrhyw banel buddsoddi i ystyried yn ofalus, fel gweithdrefn saib ac ystyried. Cyn i’m rhagflaenydd fod yn gyfrifol am y portffolio economaidd, gwnaethpwyd penderfyniadau gan y Gweinidogion i raddau helaeth, ar sail cyngor gan swyddogion, a hynny heb y weithdrefn bwysig ar gyfer saib ac ystyried a gyflwynodd fy rhagflaenydd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Lywydd, mae gennyf dri newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad am Chwaraeon Cymru yn fuan. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yna’n gwneud datganiad ar ‘gymunedau cryf—y camau nesaf’. Ac, yn olaf, rwyf wedi lleihau'r amser sydd wedi ei neilltuo i gwestiynau llafar y Cynulliad gan y Cwnsler Cyffredinol yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf i’w weld yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith papurau'r cyfarfod, a fydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, byddwn yn croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd ynghylch unrhyw drafodaethau y gallai fod wedi eu cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â mynediad at yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd yn y dyfodol. Yn Llundain y mae hon wedi’i lleoli ar hyn o bryd ond bydd hi’n symud i Ewrop o ganlyniad i Brexit. Ac, yn bwysicach, os ydym yn colli ein haelodaeth o’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, nid yn unig bydd ymchwil wyddonol a’n diwydiannau biowyddorau yn dioddef, ond gallai dinasyddion Cymru ganfod eu hunain ar ddiwedd y ciw pan ddaw’n fater o gael gafael ar feddyginiaethau newydd.
Yn ail, byddwn i'n croesawu diweddariad hefyd ar y fargen ddinesig. Mae'n newyddion gwych bod yr awdurdod lleol olaf wedi cymeradwyo’r fargen erbyn hyn. Ond byddwn yn croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru, yn nodi'r camau nesaf ar yr hyn a allai fod yn newid gwirioneddol i fy etholaeth i, Cwm Cynon.
Diolch yn fawr iawn i Vikki Howells o Gwm Cynon. Yn amlwg, o ran yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, mae hyn yn destun pryder, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn arwain trafodaethau gyda'r Adran Iechyd a hefyd gyda'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, sy'n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud â rheoleiddio meddyginiaethau. Mae cyswllt rheolaidd wedi bod â'r asiantaeth o ran y trefniadau presennol ar gyfer rheoleiddio, trwyddedu a diogelwch meddyginiaethau ar lefel y DU ac Ewrop, a byddem yn disgwyl bod yn rhan o'r trafodaethau sy'n arwain i'r dyfodol. Gadewch i ni gofio bod yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd yn diogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid yn y 28 o aelod-wladwriaethau'r UE, yn ogystal â gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, drwy sicrhau bod pob meddyginiaeth sydd ar gael ym marchnad yr UE yn ddiogel, yn effeithiol ac o ansawdd uchel.
Eich ail gwestiwn ar fargen ddinesig rhanbarth prifddinas Caerdydd: mae'n wych bod yr awdurdod lleol olaf—Bro Morgannwg rwy’n credu—wedi cymeradwyo’r fargen yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n credu y bydd hyn yn sicr yn ein symud ni ymlaen o ran y rhagolygon ar gyfer y rhanbarth cyfan, rhanbarth prifddinas Caerdydd, a’ch etholaeth chi, os ydych chi’n ystyried y ffaith y disgwylir i fargen ddinesig rhanbarth prifddinas Caerdydd, yn ystod ei hoes, ddarparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac ysgogi £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Wrth gwrs, un o flaenoriaethau allweddol y buddsoddiad fydd cyflawni gwasanaeth metro’r de-ddwyrain, gan gynnwys rhaglen drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Mae nifer o drigolion Blaenau Gwent yn pryderu am adroddiadau o gynnydd pellach yn y ffioedd a’r taliadau am ddefnyddio meysydd chwaraeon a hamdden yn y fwrdeistref, a hynny ar ben cynnydd blaenorol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y mater hwn yn fwy cyffredinol, ac yn enwedig ar sut mae cynnydd o'r fath yn cyd-fynd â darpariaethau clodwiw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?
Wel, yn amlwg, mae hwn yn fater i awdurdodau lleol mewn cyfnod anodd o ran polisïau cyni Llywodraeth y DU. Ond, wrth gwrs, mae'n fater y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn dymuno bod yn rhan ynddo ac ymgysylltu ag awdurdodau lleol o ran yr effeithiau, a hefyd i gydnabod bod gennym gyfleoedd gwirioneddol. Rydym newydd fod yn siarad am y fargen ddinesig, ond mae gennym gyfleoedd, rwy’n credu, o ran cymorth. Ac, yn wir, o ystyried y rhyddhad ardrethi trosiannol, y £10 miliwn ychwanegol sydd ar fin gwneud ei ffordd i'r brif stryd a hefyd y gronfa rhyddhad ardrethi busnes, y cytunwyd arnynt, wrth gwrs, â chi—gyda Phlaid Cymru—mae’n ffordd bwysig iawn ymlaen.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y taliadau ymlaen llaw i gleifion tramor sy’n defnyddio'r GIG yng Nghymru? O fis Ebrill eleni, bydd yn ddyletswydd gyfreithiol ar ysbytai'r GIG yn Lloegr godi tâl ar gleifion tramor ymlaen llaw am ofal nad yw’n ofal brys os nad ydynt yn gymwys i gael triniaeth am ddim. Bydd triniaeth frys yn parhau i gael ei darparu a'i hanfonebu yn ddiweddarach. Mae perygl y bydd y pwysau ar y GIG yng Nghymru yn cynyddu oherwydd cleifion tramor sy’n ceisio cael triniaeth nad yw’n driniaeth frys yma, yn hytrach nag yn Lloegr, oni bai bod cynllun tebyg yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad ar y mater hwn os gwelwch yn dda?
Yn ail, rwy'n ddiolchgar iawn—dim ond cwpl o wythnosau yn ôl y codais y mater hwn fod y sefyllfa yng Nghasnewydd yn mynd yn wael iawn o ran materion ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y diwrnod wedyn, cymerodd yr heddlu yng Ngwent gamau cryf iawn ac maent wedi gwneud gwaith gwych. Rwy’n gobeithio y bydd heddlu’r de-ddwyrain yn gwneud yr un peth ac yn gwella ein dinasoedd. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cymunedau, os gwelwch yn dda, ynglŷn â sut y mae'r heddlu'n mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau eraill yng nghanol dinasoedd, yn ardal y de-ddwyrain? Diolch.
Yn fy marn i, o ran eich cwestiwn cyntaf, Mohammad Asghar, mae’n rhaid i mi ddweud ei bod yn eithaf brawychus gweld pobl yn mynd at bobl yn eu gwelyau â pheiriant yn gofyn am dâl; mae hynny’n fy mrawychu i. Ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni ofalu am ein pobl ein hunain—. Mae gennym ganllawiau, mae gennym ganllawiau ynghylch cleifion tramor—. [Torri ar draws.] Mae hynny yn Lloegr, wrth gwrs. Mae gennym ein canllawiau ni ac rydym ni’n mynd i gyhoeddi ein canllawiau, wedi’u diweddaru, maes o law, Mae hynny'n fater i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i fwrw ymlaen ag ef.
O ran eich ail bwynt, rwy’n credu fy mod wedi ateb hwnnw’n glir iawn pan wnaethoch godi'r pwynt hwn ychydig o wythnosau yn ôl, gan edrych ar y partneriaethau cadarn ar lefel leol sydd o fewn ein pwerau fel y gallwn sicrhau bod gennym gymunedau mwy diogel a chymunedau sydd hefyd yn gofalu am ei gilydd.
Tybed a allwn ddod o hyd i amser i gael dadl neu ddatganiad ar y diwydiant adeiladu yng Nghymru, ac rwy’n tynnu sylw'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau—mae gan y ddau undeb yr wyf yn ymwneud â nhw fuddiannau ym maes adeiladu. Ond, yn dilyn y data diweddaraf gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, sy'n dangos y rhagwelir y bydd twf allbwn yng Nghymru yn gryfach nag yn unrhyw ran arall o'r DU, gyda phrosiectau seilwaith eto’n sbarduno twf, mae adeiladu yng Nghymru yn mynd i dyfu bron bedair gwaith yn gyflymach na chyfartaledd y DU. Mae cyfradd twf cyfartalog o 6.2 y cant o'i gymharu â 1.7 y cant ledled y DU, gan greu bron 20,000 o swyddi. Ac os byddwn yn cynnal y ddadl honno, efallai y cawn amser i weld faint sy'n cael ei sbarduno gan Ben-y-bont ar Ogwr yn unig a'r ddwy ysgol gynradd newydd, y torrwyd y dywarchen gyntaf ar eu cyfer yr wythnos ddiwethaf, yn rhan o gyllid gwerth £11,1 miliwn mewn seilwaith, a ariannwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dan reolaeth Llafur.
Diolch i chi, Huw Irranca-Davies. Dim ond ychydig o amser yn ôl, clywsom am y buddsoddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, awdurdod sydd dan reolaeth Llafur, gyda Llywodraeth Lafur Cymru. Mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn chwarae rhan enfawr drwy ein galluogi ni i gael y rhagolygon da iawn hynny gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, sy’n rhagweld twf cryf yn y sector yng Nghymru. Ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gynllunio a buddsoddi mewn seilwaith yn y tymor hir. Rwy'n credu bod Dyfodol Adeiladu Cymru hefyd yn bwysig iawn o ran capasiti a gallu, gan weithio'n agos iawn nid yn unig â CITB Cymru, ond â chwmnïau o Gymru o ran bwrw ymlaen â hyn. Ac, wrth gwrs, bydd ein comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru yn chwarae rhan fawr yn hyn.
Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddatganiad ar ddyfodol Pier Fictoria Bae Colwyn? Byddwch yn ymwybodol o’r cyhoeddiad a wnaed dros y penwythnos gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei fod wedi dod i gytundeb ag Ymddiriedolaeth Pier Fictoria Bae Colwyn i ddymchwel y pier er mwyn ei amddiffyn rhag dirywio ymhellach, ar ôl i’r stormydd diweddar ei daro ac achosi difrod sylweddol. Bydd hynny’n caniatáu i'r pier gael ei adnewyddu, o bosibl, a'i ailadeiladu rywbryd yn y dyfodol. Ond mae'n debygol iawn y bydd angen cefnogaeth Gweinidogion Llywodraeth Cymru er mwyn caniatáu i’r datgymalu hynny ddigwydd, ac efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth ariannol yn y dyfodol hefyd. A gaf i alw am ddatganiad brys ar hynny, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni gael rhywfaint o eglurder ynghylch terfynau amser gwneud penderfyniad gan Lywodraeth Cymru, fel y gall hyn ddigwydd yn gyflym? Diolch.
Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn croesawu hynny. Roedd yn dorcalonnus iawn gweld canlyniad y difrod i’r pier hanesyddol hwnnw, ac yn newyddion da bod yr ymddiriedolaeth yn arwain y ffordd o ran cyfrifoldeb. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn arwain at ddatblygu trafodaethau partneriaeth ar y ffordd ymlaen.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad heddiw? Mae un ohonynt gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ynghylch rhoi canllawiau a chryfhau'r canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar gloddio glo brig, oherwydd unwaith eto, yn fy etholaeth i, ar safle Parc Slip, mae’n bosib mai sefyllfa’r cais yw gohirio’r gwaith adfer ar hyn o bryd. Pan fyddant yn gwneud ceisiadau maent yn addo’r cyfan, ac yna, yn ddiweddarach, maent yn addo dim ond rhan o’r cyfan oherwydd nad yw’r arian ganddynt. Nawr, nid ydynt yn addo unrhyw beth, ac maent yn dweud, ‘Mae’n rhaid i ni ohirio’r gwaith eto’. Mae'n bwysig, os caiff ceisiadau eu cymeradwyo, bod y sefydliad unigol yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei gais. A gawn ni, felly, gryfhau'r cyngor yn y maes hwnnw, os gwelwch yn dda?
O ran yr ail ddatganiad, a gaf i ofyn am ddatganiad gan naill ai'r Prif Weinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ynghylch pa drafodaethau a gawsant â Llywodraeth y DU yn dilyn rhyddhau gwybodaeth o ddogfen am y blaenoriaethau a roddir ar ddiwydiannau ar gyfer trafodaethau Brexit? Rwy’n deall bod y flaenoriaeth ar gyfer dur yn isel, ac felly nid yw agwedd bwysig ar ein heconomi yng Nghymru yn cael ei hystyried yn ddigon pwysig i Lywodraeth y DU? Felly, a gawn ni drafod yr hyn sydd wedi'i ddweud a pha drafodaethau a gafwyd i sicrhau nad yw dur ar waelod yr agenda ar gyfer Brexit ond ar ei brig?
Diolch i chi am y ddau gwestiwn pwysig iawn hynny, David Rees. O ran Parc Slip, mae’r ffaith bod cynllun adfer amgen wedi ei gyflwyno ar y safle yn bwysig, ac rwy’n deall bod y manylion, fel y dywedwch, yn dal i gael eu cwblhau. Wrth gwrs, byddant yn mynd at yr awdurdodau cynllunio perthnasol, gan gydnabod eich pwynt ynghylch pa effaith y gallwn ei chael o ran y rheoliadau hynny. Credaf ei bod yn bwysig nodi, wrth gwrs, bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y dylai Llywodraeth y DU, sydd wedi elwa o dderbyniadau preifateiddio, gynorthwyo â’r gwaith o adfer y safle, ac rwy’n credu bod hynny, wrth gwrs, yn allweddol bwysig o ran y ffordd ymlaen. Rwy’n credu bod eich pwynt yn berthnasol iawn o ran y pwysigrwydd a roddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, ac yn wir fel y Cynulliad hwn, ar ddur pan fyddwn yn wynebu posibilrwydd hynod anodd Brexit. Rwy’n credu mai dyna pryd y byddwn yn edrych tuag at ein Papur Gwyn, yn benodol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y neges glir iawn honno o ran ein blaenoriaethau, a blaenoriaethau economaidd, wrth gwrs, yn flaenllaw, a dur yn rhan allweddol o hynny o ran y sector hwnnw a’ch etholaeth chi.
Arweinydd y tŷ, mewn ymateb i'r cwestiwn yr holais i'r Prif Weinidog y prynhawn yma ar ardrethi busnes, dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r wybodaeth y mae llawer o Aelodau wedi bod yn galw amdani erbyn diwedd yr wythnos hon. Roeddwn i’n gobeithio efallai y gallech chi ddefnyddio eich safle, fel arweinydd y tŷ, i geisio cael yr wybodaeth honno i ddwylo’r Aelodau yn gynt na hynny. Mae'n ffaith y byddwn ni, ar ddiwedd yr wythnos hon, yn dechrau’r toriad hanner tymor. Ac o ystyried y diddordeb amlwg y mae llawer o Aelodau ar draws y pleidiau wedi’i fynegi yn y mater hwn, pe byddai cwestiynau y dymunai’r Aelodau eu codi ar ran busnesau ac etholwyr, ni fyddai llawer o gyfle neu ddim cyfle o gwbl i wneud hynny am o leiaf 10 diwrnod.
Rwy'n siŵr bod y Llywydd yn clywed yr hyn yr wyf yn ei ddweud, oherwydd ymddengys bod y cyhoeddiadau hyn yn dueddol o gael eu gwneud ar drothwy’r toriad, a’u bod yn disgyn oddi ar y radar erbyn i ni ddod yn ôl, ac rwy’n credu bod hynny'n gyfle a gollwyd. Ein gwaith ni yw holi’r cwestiynau y mae ein hetholwyr a busnesau yn gofyn i ni eu holi. Nid wyf yn deall pam na all y Llywodraeth gyflwyno’r wybodaeth hon yn gynt yn ystod wythnos y Cyfarfod Llawn fel y gall Aelodau ofyn y cwestiynau, yn hytrach na’u gadael tan ddiwedd yr wythnos, yn union fel y datganiad cychwynnol a gyflwynwyd ar 17 Rhagfyr, a oedd yn ystod toriad y Nadolig. Unwaith eto, nid oedd yr Aelodau yn gallu gofyn y cwestiynau perthnasol a ofynnwyd iddynt gan y busnesau yn eu cymunedau, fel y byddwch wedi’i weld drosoch eich hun pan ddaethoch i'r Bont-faen a gwrando ar bryderon busnesau yn y Bont-faen, pan oeddent ond yn chwilio am atebion.
Wel, byddwn i wedi gobeithio y byddai Andrew R.T. Davies yn croesawu'r ffaith ein bod, mewn gwirionedd, wedi sicrhau £10 miliwn ychwanegol o ryddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr. Wrth gwrs, roedd hwnnw yn rhan o'n pecyn cyllideb terfynol cyn y Nadolig, ac roeddwn i’n gobeithio ar y pryd y byddech yn croesawu hynny. Yn sicr, cefais rywfaint o ymateb da o ran y cyhoeddiad hwnnw cyn y Nadolig.
Mae'n rhaid i chi gydnabod hefyd bod gennym gynllun rhyddhad ardrethi trosiannol o £10 miliwn. Bydd y busnesau hynny sy'n gymwys ar gyfer hwnnw yn cael eu cyfran deg o'r £10 miliwn hwnnw yn awtomatig. O ran y cynllun arbennig o £10 miliwn, mae'n gynllun arbennig, fel yr esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i chi. Mae'r cynllun rhyddhad ardrethi gwerth £10 miliwn yn cael ei dargedu'n benodol at drethdalwyr y stryd fawr, gan gynnwys siopau, tafarndai a chaffis. Mae'n rhaid i ni dargedu’n effeithiol ac mae’n rhaid i ni gefnogi’r manwerthwyr hynny sydd fwyaf mewn angen. Felly rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar ddyluniad a gweithrediad y cynllun, a bydd datganiad yn cael ei wneud yn fuan gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Lleol Llywodraeth.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni amser, fel mater o frys, i drafod ymateb Cymru i sefyllfa plant sy’n ffoaduriaid yn y gwersylloedd yn Ewrop? Mae etholwyr o grŵp y Canolbarth Dros Ffoaduriaid, a grwpiau eraill, wedi cysylltu â mi, ac rwy’n siŵr y byddant wedi cysylltu â llawer yn y Siambr hon, i fynegi eu tristwch mawr a’u harswyd gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i gyfyngu ar nifer y plant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain i Brydain i:
350 pitw, yn hytrach na'r 3,000 y cyfrifwyd gan yr Arglwydd Dubs fyddai’n gyfran deg.
Dywed y Llywodraeth nad oes gan yr awdurdodau lleol y lle. Hoffwn i glywed gan y Gweinidog llywodraeth leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pwynt penodol hwnnw. Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wrthi’n ystyried rhai o'r materion penodol hyn ac rydym yn gobeithio cyflwyno adroddiad ar ein canfyddiadau y mis nesaf. Ond mae hyn yn wirioneddol bwysig.
Mae'n ddiddorol nodi, yn ei chyfweliad diweddar yn y ‘New Statesman’, bod y Prif Weinidog wedi datgan mai ei llwyddiant balchaf oedd cyflawni Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Eto i gyd, trwy wrthod noddfa, mae hi'n gwneud miloedd o blant—y plant mwyaf agored i niwed yn y byd—yn agored i fasnachu pobl a gwaeth. Dylai'r Siambr hon gael yr amser i ddweud a gwneud rhywbeth am hynny.
Diolch i chi, Joyce Watson. Rwy’n credu, i ymateb i'r pwynt cyntaf sef eich cwestiwn ynglŷn â gweithio gydag awdurdodau lleol, bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran awdurdodau lleol a'u parodrwydd, eu gallu a’u capasiti i dderbyn plant sy'n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain. Hefyd, rydym yn ymwybodol iawn o leoliadau sy'n cael eu cynnig yn ystod yr wythnos ddiwethaf, er enghraifft, gan arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n mynegi awydd i gymryd plant o dan y cynllun Dubs. Ond rwy'n credu ei bod yn berthnasol i rannu gyda’r Siambr bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU heddiw, gan ddweud ei fod yn dymuno ei hannog i wrthdroi'r penderfyniad hwn i ddod â’r cynllun Dubs i ben ddiwedd mis Mawrth. Mae'n dweud bod hyn yn cau:
llwybr hanfodol i noddfa ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid sy’n fwyaf agored i niwed... rwy'n eich annog i wrthdroi'r penderfyniad hwn a gweithio'n fwy effeithiol gyda gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer y plant yr effeithir arnynt.
Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud wrth y Prif Weinidog ac, wrth gwrs, mae’r Aelodau yn ymwybodol o hynny:
Ein bod ar hyn o bryd yn buddsoddi £350,000 i ddatblygu capasiti gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau y gellir dod o hyd i leoedd ychwanegol ar gyfer plant sy'n ceisio lloches ar eu pen eu hunain.
Rwy’n credu, yn olaf, y byddwn yn dweud bod y Prif Weinidog yn dweud bod:
Cymru yn genedl allblyg sy'n cymryd ei rhwymedigaethau moesol o ddifrif.
A
Byddai adfer y cynllun yn anfon neges bwysig am y math o wlad yr ydym yn dymuno bod, yng nghyd-destun yr agweddau tuag at ffoaduriaid yn caledu yn ddiweddar mewn rhannau eraill o’r byd.
Diolch i’r Gweinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Chwaraeon Cymru, ac rydw i’n galw ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch i chi, Lywydd. Fe hoffwn i ddiweddaru'r Aelodau ar y ffordd ymlaen o ran y bwrdd a threfn lywodraethu Chwaraeon Cymru. Bydd yr Aelodau'n cofio, yn hwyr y llynedd, y gwnaed y penderfyniad i atal gweithgareddau'r bwrdd, yn dilyn arwyddion clir bod perthynas anodd wedi datblygu rhwng rhai aelodau o'r bwrdd ac, o ganlyniad, nid oedd mewn sefyllfa i gyflawni ei ddyletswyddau yn effeithiol.
Fel y dywedais wrth yr Aelodau ar y pryd, roedd atal y gweithgareddau yn weithred niwtral a dros dro, a’i bwrpas yn bennaf oedd bod yn gyfnod ymdawelu er mwyn i bawb a oedd yn gysylltiedig fyfyrio, ac i roi amser i mi, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am Chwaraeon Cymru, gael fy mriffio ar gefndir y sefyllfa a oedd wedi codi, drwy adolygiad o sicrwydd a gynhaliwyd gan weision sifil. Fy mhrif amcan trwy gydol y sefyllfa, a fy nghyfrifoldeb fel Gweinidog, yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i Chwaraeon Cymru a sicrhau y ceir sefydliad cydlynol sy’n gweithredu’n dda.
Canfu'r adolygiad o sicrwydd fod gwrthdaro rhwng diwylliannau wedi datblygu rhwng y cadeirydd ac aelodau eraill o'r bwrdd. Arweiniodd y gwrthdaro rhwng diwylliannau a dulliau hwn at ddirywiad yn y berthynas rhwng y cadeirydd ac aelodau eraill y bwrdd ac, yn y pen draw, at gynnal pleidlais o ddiffyg hyder fis Tachwedd diwethaf.
Mae’n ddyletswydd arnaf i gymryd camau pan fo hangen, waeth pa mor anodd neu gymhleth yw’r broblem. Ni fu hyn yn broses hawdd i unrhyw un a oedd yn gysylltiedig, ac rwyf i wedi canolbwyntio ar geisio dod o hyd i ffordd gref a sefydlog ymlaen i Chwaraeon Cymru, ei staff a'r bwrdd, sydd, yn y pen draw, yn geidwaid dros £20 miliwn y flwyddyn o arian cyhoeddus. Ar y pwynt hwn, yr hyn sy’n bwysig i mi yw sicrhau bod staff yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i weithio'n effeithiol, a thalaf deyrnged i'w cryfder dros y misoedd diwethaf—maen nhw’n haeddu clod mawr.
Oherwydd materion diogelu data a chyfrinachedd, ac ar sail cyngor cyfreithiol, byddai'n amhriodol imi roi sylwadau manwl ar ganfyddiadau'r adolygiad o sicrwydd. Rwyf i’n awyddus i’w gwneud yn glir, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bod y casgliadau yn ymwneud yn bennaf â chwalu sylweddol o ran rhai o’r perthnasoedd rhyngbersonol ar lefel uwch yn Chwaraeon Cymru. Mae rhai materion eto i gael sylw o ganlyniad i'r broses adolygu sicrwydd. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cael nifer o gwynion ffurfiol ar ôl i'r adolygiad gael ei gwblhau.
Ar sail cyngor yr wyf wedi’i gael ar y rhain, rwyf wedi penderfynu cymryd y camau canlynol: Rwyf i wedi atal dros dro y cadeirydd, Dr Paul Thomas, er mwyn cynnal proses briodol a ffurfiol o ganlyniad i'r cwynion a gafwyd. Rwy’n pwysleisio bod hyn, unwaith eto, yn weithred niwtral ac nid yw’n rhagfarnu canlyniad y broses mewn unrhyw ffordd. Mae Dr Thomas wedi ei hysbysu am y datblygiad hwn.
Rwyf hefyd wedi atal dros dro yr is-gadeirydd, Adele Baumgardt, oherwydd pryderon ar wahân sydd wedi codi ynghylch gweithrediad cydlynol y bwrdd a'i berthynas â Gweinidogion Cymru. Yn yr un modd â Dr Thomas, gweithred niwtral yw hon, ac mae hithau hefyd wedi ei hysbysu.
Hoffwn weld aelodau eraill bwrdd presennol Chwaraeon Cymru yn aros yn eu swyddogaethau, o dan arweinyddiaeth dros dro. Mae fy swyddogion wedi siarad ag aelodau'r bwrdd heddiw i’w hysbysu am y sefyllfa ac i ofyn iddyn nhw barhau. O heddiw ymlaen, felly, rwy’n adfer gweithgareddau'r bwrdd. Bydd hyn yn galluogi nifer o gamau pwysig i gael eu cymryd, er enghraifft, y broses o bennu’r gyllideb cyn y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill.
Heddiw, rwy'n penodi Lawrence Conway yn gadeirydd dros dro. Mae wedi cwblhau dros 40 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus, ac mae ganddo brofiad penodol o'r rhyngwyneb rhwng y Llywodraeth a chyrff noddedig. Bydd yn helpu i arwain Chwaraeon Cymru drwy'r cyfnod anodd hwn, ac yn rhannu ein hamcan allweddol o adfer sefydlogrwydd sefydliadol. Rwyf hefyd wedi gofyn i John Taylor, cyn brif weithredwr ACAS, weithio gydag ef mewn swydd ymgynghorol er mwyn sicrhau y gall y bwrdd weithredu fel corff gweithredu cydlynol. Nid yw'n bosibl nac, mewn gwirionedd, yn ddymunol rhoi amserlen ar gyfer y trefniadau dros dro presennol, ond rwyf yn awyddus i ailadrodd y pwysigrwydd yr wyf yn ei osod ar ddilyn proses briodol, er tegwch i'r unigolion dan sylw. Hoffwn i’r prosesau hyn ddod i ben cyn gynted ag y bo modd.
Gan edrych tuag at y dyfodol, mae'n bwysig bod Chwaraeon Cymru yn ei gyfanrwydd yn parhau'n addas i’w ddiben fel sefydliad. Mae cyfraniad chwaraeon i les corfforol a meddyliol ein gwlad yn hanfodol ar lefel elit ac ar lawr gwlad, ac mae'n rhaid i Chwaraeon Cymru barhau i fod yn y rheng flaen yn hynny o beth. Felly, rwyf yn awyddus i weld yr adolygiad o Chwaraeon Cymru, a ddechreuodd y llynedd, yn cael ei gwblhau, yn ddelfrydol gan aelod o'r panel annibynnol presennol a’i adrodd i mi cyn gynted ag y bo modd. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau ynglŷn â hyn yn y dyfodol agos iawn.
Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac rwy’n gresynu nad wyf i wedi gallu rhoi’r sicrwydd am y dyfodol y byddwn i wedi dymuno ei roi heddiw. Fodd bynnag, yr hyn sydd ei angen yma yw ateb hirdymor, nid ateb dros dro, ac mae angen i mi gael sicrwydd bod trefn lywodraethu Chwaraeon Cymru yn gwbl addas i’w diben ac yn gydnerth yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Mae hynny, rwy’n credu, yn amcan y gellir ei rannu ar draws y Siambr hon. Diolch.
Cyn i mi ateb, a fydd y Gweinidog cystal â chadarnhau pwy yw Lawrence Conway? Ai'r un Lawrence Conway a oedd yn arwain swyddfa Rhodri Morgan ydyw? [Torri ar draws.] Ie? A yw hynny'n gywir, Weinidog?
Gallwch ofyn sawl cwestiwn neu gallwch ofyn un. Os mai dyna'r unig un, cewch eistedd i lawr.
Nage, yn sicr. Rwy'n credu ei fod wedi’i gadarnhau gan y Siambr ein bod yn sôn am yr un person. Yn wir, mae Chwaraeon Cymru yn drychineb arall ar thema gyson eich Llywodraeth, mewn gwirionedd. Mae gennym ni argyfwng na wnaethoch ei ragweld ac mae pethau wedi gwaethygu cymaint fel eich bod wedi gorfod cymryd camau dyrys yn hytrach na datrys pethau ar gam cynnar. Rwyf eisoes wedi codi anallu difrifol ar ran eich Llywodraeth yn gynharach, gwerth hyd at £53 miliwn. Rwyf wedi codi pryderon ynghylch honiadau gan Materion Cyhoeddus Cymru, lle mae eich Llywodraeth wedi pwyso ar sefydliadau gwirfoddol i'w hatal rhag dweud pethau nad ydyn nhw eisiau eu clywed. Y peth am Gymru yw bod chwaraeon yn rhan mor annatod o'n diwylliant. Felly, os yw’n ofynnol i chi gael un peth yn iawn yng Nghymru, chwaraeon yw hwnnw. Os edrychwch chi ar yr ail baragraff ar dudalen 2, rwy'n bryderus iawn am y diffyg tryloywder, a hoffwn gael sicrwydd gennych chi, rywbryd yn y dyfodol agos, y bydd popeth yn cael ei gyhoeddi. Efallai, os oes pethau na ellir eu cyhoeddi, y gellid eu golygu yn hytrach na’u cuddio yn gyfan gwbl.
Mae’n rhaid i mi godi, fel mater o bryder, hanes y cadeirydd, oherwydd, fel y soniais yn gynharach, mae'n ymddangos bod ganddo gysylltiadau cryf iawn â’r Blaid Lafur. Codwyd pryderon gan neb llai na’r cyn Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru pan benodwyd Mr Conway yn gynghorydd arbennig i Aelodau Cabinet Llafur yn 2013, oherwydd nad yw gweision sifil yn newid yn aml rhwng swyddogaeth niwtral a swyddogaeth wleidyddol. I lawer ohonom, mae hon yn enghraifft arall o gerdyn y Blaid Lafur yn cael ei ddefnyddio fel y prif faen prawf i lenwi swydd yn y sector cyhoeddus. Y math hwn o nepotiaeth sy'n achosi problemau yn y lle cyntaf. Y cwestiwn cyntaf, Weinidog, yw: pam na wnaethoch chi ragweld hyn, a pham na wnaethoch chi ymyrryd cyn i’r argyfwng godi? Fel y dywedais yn gynharach, camau dyrys. Pam na allwch chi roi dyddiad i ni o ran pryd y bydd y trefniadau dros dro hyn yn dod i ben? Faint o gyflog y mae eich cadeirydd yn ei gael pan ei fod wedi ei atal dros dro, a faint fydd cost y bobl newydd i'r pwrs cyhoeddus? A pham na wnaethoch chi benodi unigolyn sy’n amlwg yn annibynnol i gadeirio'r sefydliad, yn hytrach na rhywun sydd â chysylltiadau Llafur mor agored eto? Gadewch i ni fod yn onest: mae cymaint o benodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru lle ceir cysylltiadau gwleidyddol cwbl eglur. A yw Chwaraeon Cymru yn cyflawni ei swyddogaeth briodol? Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn o gofio cyd-destun yr hyn y mae Materion Cyhoeddus Cymru wedi’i ddweud: pan luniodd y cadeirydd adroddiad—neu pan gyflwynodd adroddiad—a oedd yn dweud bod angen i’r sefydliad gael ei ailwampio’n helaeth, a wnaethoch chi saethu’r negesydd, neu a ydych chi wedi penodi rhywun a fydd yn cyhoeddi barn y blaid yn hytrach na chasgliad efallai nad ydych yn cytuno ag ef mewn gwirionedd nac yn ei fwynhau? Yn olaf, ac yn sicr nid yn lleiaf, beth am y 160 o aelodau staff a gyflogir? Nid yw eich datganiad yn cynnig unrhyw sicrwydd iddyn nhw, felly a fyddech cystal â rhoi rhywfaint o sicrwydd am hirhoedledd dyfodol y sefydliad a'u lle nhw ynddo?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuwn gyda'r hyn y gallwn ni gytuno arno, sef bod chwaraeon yn rhan annatod iawn o'n bywyd a'n diwylliant yma yng Nghymru. Mae Swyddogaeth Chwaraeon Cymru yn eithriadol o bwysig yn hynny o beth. Mae rhan gref o fy natganiad heddiw wedi ymwneud â phwysigrwydd y staff yn Chwaraeon Cymru a cheisio cynnig rhywfaint o sicrwydd iddynt, ac i fynegi fy niolch personol am y proffesiynoldeb maen nhw wedi ei ddangos ac am barhau i weithio gyda'r fath angerdd am chwaraeon yng Nghymru dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, sydd wedi bod yn anodd iddyn nhw, mi wn. Wrth i mi godi ar fy nhraed heddiw, aeth datganiad i holl staff Chwaraeon Cymru unwaith eto yn mynegi fy niolch iddynt.
Fe wnaethoch chi ofyn pryd y daeth y pryderon i'r amlwg yn gyntaf. Wel, fel y dywedais yn fy natganiad ym mis Tachwedd, daeth y pryderon hynny i'r amlwg ym mis Tachwedd. Ddydd Mawrth 22 Tachwedd, pasiwyd pleidlais unfrydol o ddiffyg hyder yn y cadeirydd gan y bwrdd, a chymerais gamau ar 23 Tachwedd, gyda chydsyniad llawn y cadeirydd a'r is-gadeirydd, i atal gweithgareddau’r bwrdd hyd y gellid cwblhau’r adolygiad o sicrwydd hwn. Roedd honno, fel y dywedais ar y pryd, yn weithred niwtral. Gweithredodd Llywodraeth Cymru yn gyflym yn fy marn i, pan godwyd y pryderon yn gyntaf.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad o Chwaraeon Cymru yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal. Nid oedd yr adolygiad o sicrwydd ei hun yn ystyried yr adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal nac effeithiolrwydd ehangach Chwaraeon Cymru fel sefydliad. Fodd bynnag, canfu’r adolygiad gefnogaeth eang i’r adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal. Fel y dywedais yn fy natganiad, rwyf i’n dymuno gweld yr adolygiad hwnnw yn cael ei gwblhau a'i adrodd i mi cyn gynted ag y bo modd, a hoffwn i un o aelodau'r panel annibynnol a oedd yn cynghori ar y gwaith hwnnw gwblhau’r gwaith hwnnw ar fy rhan.
O ran Lawrence Conway, rwy’n hynod ddiolchgar iddo am gamu i’r swydd hon ar gymaint o fyr rybudd a heb gost i'r pwrs cyhoeddus, mae’n rhaid i mi ddweud; mae'n gwneud hyn heb gydnabyddiaeth. Mae ei gymwysterau, yn fy marn i, yn llefaru drostynt eu hunain. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, â phrofiad penodol o'r rhyngwyneb rhwng y Llywodraeth a chyrff noddedig. Bydd yn helpu i lywio Chwaraeon Cymru drwy'r cyfnod anodd hwn. Ymunodd â'r gwasanaeth sifil ym 1968 a bu'n gweithio mewn amryw o swyddi drwy gydol ei yrfa yn y Swyddfa Gymreig, gan gynnwys secondiad i Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn y 1990au cynnar fel cynorthwy-ydd i'r prif weithredwr. Yn fwy diweddar, bu'n bennaeth yr is-adran yn y Swyddfa Gymreig a oedd yn gyfrifol am noddi nifer o gyrff hyd braich, gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, a chafodd ei benodi'n bennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac adran y Prif Weinidog wedi hynny ym 1998. Gwasanaethodd yn y swydd honno tan ei ymddeoliad yn 2010. Bydd yn sicr yn ymgymryd â'i swyddogaeth yng nghyd-destun egwyddorion Nolan, fel y byddem ni’n disgwyl i bawb yn y swyddi hyn ei wneud.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac a gaf i hefyd ddatgan fy mod i’n credu ei bod yn arbennig o bwysig i ddiolch i'r staff, sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn? Mae llawer o bryderon wedi eu codi gan staff nad achoswyd ganddyn nhw, ac rwy'n credu y dylid talu teyrnged iddyn nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae'r sefydliad, fel corff a noddir gan y Llywodraeth, wedi ei gyhuddo o fod yn amharod i wrando, o fod â diffyg tryloywder ac o fod yn hen-ffasiwn o ran ei feddylfryd. Felly, gan eich bod wedi cael amser i fyfyrio erbyn hyn, a gaf i ofyn: a ydych chi’n credu eich bod wedi gweithredu yn ddigon cynnar ac ar yr adeg iawn, ac a oedd y gweithdrefnau llywodraethu cywir ar waith cyn i chi atal y bwrdd? A gaf i ofyn hefyd: a wnewch chi roi sicrwydd heddiw i'r Siambr eich bod o’r farn bod y gweithdrefnau llywodraethu cywir ar waith yn awr ac, yn wir, yn parhau?
A gaf i ofyn hefyd pryd yr ydych chi’n disgwyl i'r adolygiad gael ei gwblhau a'i wneud yn gyhoeddus? Hefyd, o ran adolygiad blaenorol y cadeirydd ar effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru—nid oeddwn i’n hollol siŵr pan wnaethoch chi ateb cwestiwn yn flaenorol—a ydych chi’n bwriadu ymchwilio i'r materion strwythurol a nodwyd yno yn rhan o'ch adolygiad hollgynhwysol? Hoffwn gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â hynny.
Rydych chi wedi darparu cymwysterau Lawrence Conway yn eithaf manwl, felly diolch i chi am hynny, ond tybed a wnewch chi hefyd roi rhagor o wybodaeth i ni am John Taylor. Yn amlwg, mae yna dasg fawr i'w gwneud, ac mae eu gallu i gyflawni’r swyddogaethau, wrth gwrs, yn gwestiwn rwy’n credu bod angen i bob un ohonom gael sicrwydd arno, felly, ychydig mwy o wybodaeth am gymwysterau John Taylor, os gwelwch yn dda.
Ac yn olaf, a gaf i ofyn sut y mae'r busnes fel sefydliad wedi ei effeithio? Ac wrth ddweud hynny, rwy’n cyfeirio at weithrediad Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd, ond yn fwy hirdymor hefyd, yn enwedig o ran cynllunio ariannol. Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am wneud y newidiadau hyn yn awr ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, ond a yw rhai o'r materion cyllido hynny o ran y flwyddyn ariannol newydd wedi'u heffeithio o ganlyniad i atal y bwrdd?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. O ran yr adolygiad, adolygiad llywodraethu yn benodol oedd hwnnw, felly ni wnaethom ofyn i'r adolygwyr archwilio’r materion ehangach hynny ynglŷn ag effeithiolrwydd y sefydliad ac ati. Roedd y rheini yn faterion a oedd yn cael eu hystyried yn yr adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei arwain, ac yn awr byddwn yn gofyn i aelod o'r panel a oedd yn cynghori ac yn helpu yn y gwaith hwnnw i fwrw ymlaen â hynny. Byddwn i’n disgwyl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf—nid yw’n waith y byddwn i’n disgwyl iddo barhau am gyfnod hir. Rwyf i ar ddeall bod cryn dipyn o waith eisoes wedi ei wneud, ac edrychaf ymlaen at weld yr adolygiad hwnnw maes o law, ac, yn amlwg, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny.
O ran y drefn lywodraethu sydd gennym ar waith ar gyfer Chwaraeon Cymru, gallaf gadarnhau bod dogfen fframwaith ar waith. Mae llythyr cylch gwaith hefyd ar gael, ond rwy’n bwriadu dosbarthu llythyr cylch gwaith newydd i’r bwrdd yng ngoleuni’r sefyllfa bresennol. Mae cynllun busnes a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ar waith yn y sefydliad, a chynhaliodd gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth Cymru archwiliad ym mis Hydref 2015 a roddodd y sicrwydd rhesymol hwnnw bod y rheolaethau ar waith i sicrhau goruchwyliaeth effeithiol yn y sefydliad
O ran eich cwestiynau ynglŷn â rhagor o wybodaeth am John Taylor, wel, mae John Taylor wedi bod mewn amryw o swyddi, yn y sector cyhoeddus yn bennaf, cyn gwasanaethu fel prif weithredwr cyntaf ACAS am 12 mlynedd o 2001 ymlaen. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys bod yn brif weithredwr Bwrdd Datblygu Cymru Wledig a chyngor hyfforddiant a menter de-ddwyrain Cymru yn y 1990au. Yn fwy diweddar, bu’n ddirprwy gadeirydd Prifysgol Gorllewin Llundain, cadeirydd gwasanaeth gyrfaoedd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, ac mae ar hyn o bryd yn gadeirydd y pwyllgor contractwyr mawr ar gyfer y diwydiant contractio trydanol. Felly, unwaith eto, rwy’n credu ei fod ef a Lawrence yn addas iawn i ymgymryd â’r trefniant dros dro hwn sydd gennym ar waith ar gyfer Chwaraeon Cymru. Unwaith eto, hoffwn innau adleisio'r sylwadau yr ydych wedi'u gwneud am broffesiynoldeb aelodau staff Chwaraeon Cymru wrth wneud eu gwaith yn y cyfnod diweddar, sydd, mi wn, wedi bod yn anodd iddyn nhw, ac i’ch sicrhau chi na fu unrhyw faterion polisi na chyllid y byddai'r bwrdd wedi gorfod ymdrin â hwy, ond mae yna bethau erbyn hyn y bydd yn rhaid i'r bwrdd ymdrin â nhw yn y dyfodol agos iawn, fel pennu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac amryw o faterion y bydd yn rhaid eu llofnodi yn ymwneud â chyrff llywodraethu cenedlaethol ac ati. Felly, mae digon o waith i’r bwrdd fynd yn ôl i’w wneud gan fod eu cyfrifoldebau wedi eu hadfer erbyn hyn.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Mae’n ymddangos y bu problemau ar ben uchaf y sefydliad hwn yn ystod y misoedd diwethaf. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio bod y cadeirydd diwethaf, Laura McAllister, wedi aros yn ei swydd yn hwy na’r cyfnod a fwriadwyd oherwydd bod Llywodraeth Cymru o’r farn na ellid dod o hyd i olynydd addas ar y pryd. Yna daethoch o hyd i Paul Thomas, ond mae'n ymddangos ei fod yn fuan wedi dechrau anghydweld a gweddill y bwrdd. Nawr, nid wyf yn honni fy mod i’n gwybod y rhesymau dros hyn, ond rwy’n gobeithio y cawn ni adroddiad llawn ar hyn, ac, yn bwysicach, y bydd y bwrdd yn dychwelyd yn fuan i weithrediad llawn unwaith eto.
Mae Chwaraeon Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni llawer o dargedau Llywodraeth Cymru mewn meysydd pwysig, a allai o bosibl gynyddu gweithgarwch corfforol a mynd i'r afael â'r broblem enfawr o ordewdra. Felly, dyma sy’n hollbwysig: bod Chwaraeon Cymru yn cyflawni ei gylch gwaith, er gwaethaf unrhyw helbulon yn yr ystafell fwrdd neu wleidyddiaeth fewnol. Felly, gan adleisio yr hyn ofynnodd Russell George i chi yn gynharach, tybed a wnewch chi ymhelaethu rhywfaint ar sut y mae'r sefydliad wedi bod yn perfformio heb arweiniad y bwrdd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Sut y mae wedi bod yn cyflawni ei swyddogaethau o ddydd i ddydd? Gwn eich bod wedi dweud nad yw pennu'r gyllideb wedi ei effeithio, sy'n dda i’w glywed, ond a wnewch chi daflu goleuni ar, neu roi rhyw sicrwydd i ni, yn hytrach, nad yw’r perfformiad wedi ei effeithio'n andwyol gan ddigwyddiadau diweddar? Diolch.
Diolch i chi am y cwestiynau yna, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi’r sicrwydd hwnnw i chi nad yw perfformiad wedi ei effeithio, a bod swyddogaethau Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd wedi parhau yn ddi-dor drwy gydol y sefyllfa. Unwaith eto, mae hyn o ganlyniad i waith y staff sydd wedi bod yn gwneud hynny. Rwy'n falch iawn eich bod yn cydnabod y swyddogaeth sydd gan Chwaraeon Cymru, a'r potensial sydd gan Chwaraeon Gymru, am gynifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr agenda gweithgarwch corfforol hefyd, oherwydd bod gan Chwaraeon Cymru botensial anhygoel i gael effaith enfawr ar chwaraeon elit a chwaraeon llawr gwlad, yn ogystal â gweithgarwch corfforol hefyd. Gwn ei fod yn gwneud gwaith da, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos â'r bwrdd wrth inni symud ymlaen.
Diolch i’r Gweinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gymunedau cryf—y camau nesaf. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant.

Diolch i chi, Lywydd. Ym mis Hydref nodais fy ngweledigaeth ar gyfer dull newydd ar gyfer adeiladu cymunedau cryf gan ganolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso. Mae'r uchelgais hon yn deillio o ymrwymiad craidd y Llywodraeth i fuddsoddi yn ffyniant ein cenedl: creu swyddi newydd, gan gynnwys 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran, treialu prosiect newydd Swyddi Gwell, yn nes at Adref, cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael i rieni sy'n gweithio mewn unrhyw le yn y DU, sefydlu tasglu’r Cymoedd, creu metros gogledd a de Cymru, rhoi'r dechrau gorau i blant drwy grant amddifadedd disgyblion estynedig, a hyrwyddo cynhwysiant ariannol.
Lywydd, mae cymunedau cryf yn barod i weithio ac yn gallu gweithio; maen nhw’n cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant—maent wedi’u grymuso a’u hymgysylltu. Rwy’n awyddus i weld cymunedau diogel a chryf. Ar yr un pryd, nodais fy mod yn bwriadu dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben a lansio rhaglen eang o ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol. Roedd hyn yn cynnwys arolwg ar-lein a chyfarfodydd gyda phobl a sefydliadau â budd, gan gynnwys cynghorau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Roedd mwy na 3,000 o ymatebion i'r ymarfer ymgysylltu a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.
Roedd yr adborth yn dangos y nifer o ffyrdd y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod o fudd i unigolion. Hoffwn eto ddiolch i weithlu Cymunedau yn Gyntaf am y gwahaniaeth y maen nhw wedi ei wneud i filoedd o bobl. Roedd yr ymatebwyr yn cydnabod yr angen am newid gan dynnu sylw at ffyrdd y gellid gwella Cymunedau yn Gyntaf. Teimlai nifer sylweddol bod angen diwygio pellgyrhaeddol. Mae'r ymarfer ymgysylltu wedi amlygu cefnogaeth eang ar gyfer cymunedau cryf a dull newydd yn canolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso. Hefyd, pwysleisiodd rhanddeiliaid bwysigrwydd ymyrraeth gynnar fel egwyddor sylfaenol a ddylai fod yn sail ar gyfer ein dull o ddatblygu cryfder. Lywydd, yng ngoleuni'r adborth, rwyf wedi ystyried eto y dewisiadau ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf ac wedi dod i'r casgliad y dylid ei ddirwyn i ben.
Rwy’n cydnabod y gefnogaeth ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf a leisiwyd gan y rhai hynny sy'n gweithio ar y rhaglen neu sydd wedi elwa arni. Fodd bynnag, wrth wneud fy mhenderfyniad, rwyf hefyd wedi ystyried amrywiaeth o ymatebion a ffactorau eraill. Mae dull Llywodraeth Cymru o sicrhau ffyniant i bawb, a’r cyd-destunau o ran polisi, deddfwriaeth ac arian y mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu oddi mewn iddynt, wedi newid yn sylfaenol. Mae unigolion yn amlwg wedi cael budd o Gymunedau yn Gyntaf ond, fel y mae Sefydliad Bevan yn ei amlygu, mae perfformiad wedi bod yn gymysg ac mae tlodi yn parhau i fod yn her ystyfnig a pharhaus. Ni all un rhaglen unigol fynd i'r afael â thlodi. Mae arnom angen dull cyfannol sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac aelodau’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Rwy’n ymwybodol o’r effaith bosibl ar unigolion a chymunedau. Felly, byddaf yn mabwysiadu dull gofalus wrth fwrw ymlaen, gan geisio cadw rhai o'r agweddau mwyaf effeithiol ar y gwaith a wnaethpwyd gan Cymunedau yn Gyntaf. Byddaf yn sicrhau bod gan y prif gyrff cyflenwi ddigon o amser ac adnoddau i gynllunio'r pontio. Ac felly, rwyf wedi penderfynu y bydd cyllid, ar 70 y cant o'r lefelau presennol, yn cael ei ddarparu hyd at fis Mawrth 2018. Byddaf yn sefydlu cronfa etifeddiaeth gwerth £6 miliwn, i'w chyflwyno ym mis Ebrill 2018 a fydd yn galluogi awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â chymunedau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i gynnal rhai o'r asedau cymunedol neu’r ymyraethau mwyaf effeithiol a ddatblygwyd gan Cymunedau yn Gyntaf.
Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r adeiladau cymunedol, hefyd. Felly, byddaf yn darparu £4 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn 2017-18 ac yn y blynyddoedd i ddod, gan roi blaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf o fewn y rhaglen honno, er mwyn helpu i ddiogelu asedau cymunedol gwerthfawr lle y gallai adnewyddu neu addasu helpu i ddarparu dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn glir fel Llywodraeth fod yn rhaid inni bontio i gyfnod newydd yn awr yn ein brwydr yn erbyn tlodi yng Nghymru. Ni fydd ein hymyraethau—ein cymorth ar gyfer y rhai hynny sydd fwyaf ei angen—yn dod i ben â’r rhaglen hon. Yn wir, ein nod yw dwysáu ein hymdrechion er mwyn rhoi i bobl yr offer sydd eu hangen arnynt i gael cyfran fwy cyfartal o ffyniant y genedl. Mae’n rhaid i’r addewid o gyflawni gwaith da a diogel fod wrth wraidd hyn. Felly, wrth gynnal yr etifeddiaeth werthfawr o ganlyniad i Cymunedau yn Gyntaf, rwyf am fwrw ymlaen â'n dull newydd tuag at gymunedau cryf.
Gan atgyfnerthu fy ymrwymiad i sicrhau cyflogaeth, rwyf eisoes wedi cyhoeddi estyniad dwy raglen allweddol, sef Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth—y rhaglen PaCE. Nawr, rwy’n dymuno mynd ymhellach er mwyn helpu i greu Cymru fwy ffyniannus, diogel a chyfartal. Wrth i ni ddatblygu ein cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ehangach, dan arweiniad y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, gallwn ddatblygu seilwaith newydd i gefnogi'r rhai hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, i gael gwaith.
Lywydd, o fis Ebrill 2018 ymlaen byddaf yn cyflwyno grant i ddatblygu’r seilwaith hwn, gan adeiladu ar lwyddiant Cymunedau am Waith ac Esgyn. Byddaf yn darparu bron i £12 miliwn y flwyddyn i alluogi cynghorau i wella cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y bobl hynny sy’n aml yn wynebu rhwystrau cymhleth ac sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Bydd hefyd yn caniatáu i’r cymorth hwn fynd y tu hwnt i’r ffiniau daearyddol pendant a nodir gan Cymunedau yn Gyntaf, sydd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar gyrhaeddiad gwasanaethau o'r fath. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r rhai sy'n arwain ar y cynllun cyflogadwyedd ehangach. Bydd gwella ac ehangu cymorth cyflogaeth yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn rhan bwysig o'r cynnig cyflogaeth ehangach.
Lywydd, mae buddsoddi yn ein plant yn fuddsoddiad ar gyfer y tymor hir. Dyma'r dull mwyaf cynaliadwy o adeiladu dyfodol mwy llewyrchus. Rwyf wedi fy nghalonogi gan yr ymatebion cadarnhaol iawn a gafwyd hyd yn hyn i’r gwaith o ddatblygu parthau plant. Byddwn yn ei gyflwyno, ar y cyd â phartneriaid, er mwyn gweithio gyda chymuned benodol mewn ffordd strategol i wella cyfleoedd bywyd ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar y camau nesaf o ran datblygu parthau plant.
Ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf hefyd wedi cyhoeddi y bydd canolfan ACE yn cael ei sefydlu i helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a all gael effaith mor ddinistriol ar gyfleoedd bywyd i blant. Byddaf yn parhau i gefnogi GemauStryd wrth ddatblygu ffyrdd arloesol o gynnwys ein pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol. Bydd y mentrau hyn, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus yn rhaglenni llwyddiannus Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn sicrhau bod cefnogaeth gynhwysfawr i blant wrth iddynt dyfu’n oedolion.
Mae sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau a manteisio arnyn nhw, yn hanfodol wrth adeiladu cymunedau wedi'u grymuso. Dyna pam, ac at y diben hwnnw, y byddaf yn parhau i gefnogi Cyngor ar Bopeth Cymru â’r gwaith hanfodol bwysig y mae’n ei wneud, gan helpu i feithrin cryfder wrth wynebu newidiadau o ran diwygio lles. Mae'r diwygiadau a gynigir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gryfhau democratiaeth leol a swyddogaeth cynghorwyr lleol a chefnogi cynghorau cymuned a chynghorau tref mwy effeithiol yn hanfodol wrth ddatblygu’r gwaith o rymuso cymunedau.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Mae adeiladu cymunedau cryf yn waith i Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ffyniant i bawb, economi gryfach sy'n creu cyfleoedd am gyflogaeth gynaliadwy o ansawdd da sydd ar gael i bawb, ac a ddarperir drwy ddull cydgysylltiedig newydd sy'n mynd i'r afael â materion unigol trwy weithredu’n ehangach. Lywydd, byddwn yn manteisio i’r eithaf ar alluogi a darparu cynlluniau a datblygiadau unigryw. Mae'r rhain yn cynnwys bargeinion dinesig a datblygiad y metro, morlynnoedd llanw, Wylfa, a buddsoddiadau mawr eraill. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu cymunedau cryf a diogel i bawb, ac rydym ni’n dymuno parhau i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid wrth i ni symud ymlaen. Lywydd, nid yw newid byth yn hawdd, ond ni allwn anwybyddu'r cyfuniad o heriau newydd a wynebwn sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Mae’n rhaid i ni fod yn ddewr er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o ymateb i hyn. Dyna beth a wnaf a pham rwy’n ei wneud, ac mae pob un o’m cydweithwyr yn y Llywodraeth yn benderfynol o wneud hynny. Diolch.
Mae datganiad heddiw yn nodi’r cam diweddaraf o ran bwriad y Llywodraeth Lafur o ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, a ddisgrifiwyd unwaith fel rhaglen wrthdlodi flaenllaw. Rwy’n rhannu'r siom a deimlir gan lawer ynghylch y diffyg cynnydd o ran lleihau tlodi yng Nghymru, a hoffwn ychwanegu diolch Plaid Cymru i'r gweithlu presennol. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn destun cryn ddadlau. Yn bersonol, rwyf wedi bod yn feirniadol iawn o anallu’r rhaglen i gyflawni ei hamcanion gwreiddiol, neu hyd yn oed i geisio mesur ei llwyddiant, neu fel arall. Ond nid wyf yn dymuno gweld yr elfennau da, nac yn wir yr egwyddor o gael rhaglen wrthdlodi, yn diflannu. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi cyhuddo Plaid Cymru o beryglu’r rhaglen hon dros nifer o flynyddoedd. Ym mis Ebrill 2011, nododd nad oedd y cynllun, ac rwy’n dyfynnu, ond yn ddiogel dan reolaeth Llafur, ac o dan reolaeth Plaid Cymru, dyfynnaf eto,
gallwn ddweud ffarwel wrth y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi helpu cymaint o ardaloedd difreintiedig i ddod allan o dlodi.
Nid oes yr un o'r datganiadau hynny yn wir; sbin llwyr oedden nhw, ac nawr rydym yn gweld mai Llywodraeth Lafur sy'n dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Yn anffodus, nid oedd ail ran datganiad y Gweinidog yn 2011 yn gywir ychwaith: nid yw'r rhaglen wedi codi digon o bobl allan o dlodi. Nid oedd ganddi ddigon o adnoddau na phwyslais. Nid oedd yn mynd ati i ganolbwyntio ar flaenoriaethau cymunedau, ac ni chafodd graddfa na chwmpas Cymunedau yn Gyntaf fyth eu hesbonio i'r cymunedau hynny mewn ffordd onest.
Mae bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae'r ffigur hwnnw yn codi i draean bron pan fyddwn yn sôn am blant. Os na lwyddodd y rhaglen wrthdlodi hon, yna mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, 'Beth yr ydym ni am ei wneud yn hytrach?' Nid yw problemau tlodi nac anfantais wedi diflannu. Yn y datganiad heddiw, ni nodir unrhyw gynllun digonol arall ar gyfer ei weithredu, ac a dweud y gwir, mae hynny'n hollol warthus.
Ni fydd y gronfa etifeddiaeth ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sef dim ond £6 miliwn, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i faterion tlodi sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau. Croesewir yr arian ychwanegol ar gyfer cyfleusterau cymunedol, ond bydd yn cael ei ddyrannu’n denau iawn. Beth ddigwyddodd i'ch egwyddor o dargedu? Yn syml, nid yw £12 miliwn yn ychwanegol ar gyfer sgiliau o 2018 ymlaen yn ddigon. Ni fydd yn cyrraedd digon o bobl. Nid oes dim o hyn yn cyfateb i raglen wrthdlodi i gymryd lle Cymunedau yn Gyntaf, ac o ystyried ein bod yn sôn am rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn yr holl Undeb Ewropeaidd—cymunedau sydd mewn perygl o golli’r cyllid ychwanegol y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd gan yr UE am eu bod mor dlawd—nawr rydych chi eisiau cymryd yr arian hwn oddi arnyn nhw hefyd.
Nid oes dim byd, dim byd o gwbl, yn y datganiad hwn heddiw yn dangos y brys sydd ei angen arnom i fynd i'r afael â thlodi yn y wlad hon. Nid yw’n ddigon uchelgeisiol, ac ni cheir digon o fuddsoddiad na chyllid newydd. Wrth gwrs, mae gennym ddigon o eiriau allweddol—union yr un geiriau allweddol y mae pobl yn ein cymunedau tlotaf wedi eu clywed ers blynyddoedd. Wel, gadewch i mi ddweud rhywbeth wrthych chi, Ysgrifennydd y Cabinet: mae pobl wedi cael digon ar y geiriau allweddol hynny, ac maen nhw wedi cael digon ar gael eu siomi gan y Llywodraeth hon. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod mai’r unig beth y mae wedi ei wneud yn y datganiad hwn yw rhestru nifer o gynlluniau sydd eisoes yn digwydd, ac a wnaiff ef egluro pa un a geir arbediad cyllidebol o ganlyniad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac os felly, faint? A wnaiff ef ymrwymo heddiw i ailfuddsoddi yr holl arian sy’n cael ei wario ar y rhaglen ar hyn o bryd, ac, yn olaf, a wnaiff ef dderbyn mai’r hyn y mae'n ei wneud â’i ddatganiad yw tanseilio ein cymunedau tlotaf, gan roi ychydig iawn, neu ddim sicrwydd i ni, y bydd ffordd arall o ganolbwyntio ar dlodi a mynd i'r afael ag ef? Rydych chi’n troi eich cefn ar ein cymunedau tlotaf. Onid yw hynny’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet?
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Yn amlwg, ysgrifennodd y cyfraniad cyn i mi wneud y datganiad hwn, gan na soniodd yr Aelod am unrhyw un o’r pethau a restrwyd gennyf yn y datganiad. Nid troi tlodi’n bwnc gwleidyddol yn unig yw'r ffordd ymlaen, a dylai'r Aelod wybod yn well am hynny. Dechreuodd yr Aelod drwy gyfeirio at y datganiadau a wnes i yn ôl yn 2011. Mae hynny chwe blynedd yn ôl, ac rwy’n derbyn fy mod wedi gwneud y datganiadau hynny—rydych chi yn llygad eich lle—ond ychydig cyn hynny, roedd ei chydweithwyr yn y Cabinet yn eistedd o amgylch y bwrdd pan oedd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei drafod ac ni wnaethon nhw godi'r mater hwnnw, pan oedd yr Aelod hwnnw hefyd ar y meinciau yn y Siambr hon, felly peidiwch â dechrau rhoi’r bai am gyfrifoldeb a’r hyn sy’n cael ei ystyried yn dlodi a’r hyn nad yw’n cael ei ystyried yn dlodi. Mae'r Aelod yn sefyll mewn etholiad ac yn gobeithio y bydd ymosod arnom ni ynghylch y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn rhywbeth y bydd hi’n cael budd ohono. Ond gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod yr hyn na chodwyd ganddi: y mater o Dechrau'n Deg, y mater o Teuluoedd yn Gyntaf, y mater o ganolfannau yn ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, llwybrau cyflogadwyedd, gofal plant, y grant amddifadedd disgyblion, asedau cymunedol. Mae'r rhain i gyd yn rhaglenni— [Torri ar draws.]
A gawn ni wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.]—a ddarperir gan y Llywodraeth hon, na chyfeiriodd yr Aelod atyn nhw o gwbl. Y gwir amdani yw nad yw hi’n gallu gwneud cyfraniad ar fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â thlodi oherwydd nad oes ganddi unrhyw syniad ynglŷn â hynny. Y gwir amdani yw ein bod ni’n ceisio mynd i'r afael â'r mater ystyfnig iawn hwn o fynd i'r afael â thlodi. Ac ni fyddaf yn troi hwn yn bwnc gwleidyddol.
Sut mae hynny'n mynd?
Ni fyddaf yn troi’r anawsterau y mae ein cymunedau yn eu hwynebu yn bwnc gwleidyddol. Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw gwneud buddsoddiadau yn ein cymunedau gan ddilyn dull partneriaeth rhwng Llywodraethau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill. Efallai y dylai'r Aelod fyfyrio ar ei datganiad oherwydd nad yw ei gynnwys yn ddim byd ond beirniadaeth wleidyddol yn hytrach na chyfle i wneud datganiad adeiladol yma heddiw. [Torri ar draws.] Efallai ei bod hi’n chwerthin o'r meinciau yn y fan yna; mae hi yn chwerthin, mae hi o’r farn bod tlodi yn ddoniol, yn amlwg, ond yr hyn y mae hi wir angen ei wneud yw dod yn ôl i'r Siambr hon gyda syniadau, oherwydd yn amlwg nid oes gan yr Aelod unrhyw syniad o gwbl.
Chi yw'r Gweinidog.
Diolch. Mark Isherwood.
Wrth ddrafftio'r datganiad hwn, a’r ffordd ymlaen yr ydych chi’n bwriadu ei dilyn neu a gyhoeddwyd gennych, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i adroddiad ‘Valuing place’ gan yr Young Foundation a ariennir drwy grant gan Lywodraeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi yn y Cynulliad dim ond wythnos yn ôl i heddiw, yn seiliedig ar waith ymchwil gyda phobl o Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot? Cafodd ei gomisiynu a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dweud y dylai sefydlu rhwydwaith lleol er mwyn helpu i annog, hyfforddi, mentora a chysylltu pobl sy’n dymuno gweithredu yn lleol â’i gilydd, beth bynnag yw eu sgiliau neu’r adnoddau sydd ganddyn nhw, fod yn flaenoriaeth. Mae angen i ni alluogi datblygiad cadarnhaol o le sy'n gynhwysol a chyfranogol. Fel yr wyf yn dweud, roedd hynny’n cynnwys poblogaeth wych Cei Connah, ac mae’n adroddiad gwerthfawr iawn na chafodd ei ystyried—nid o reidrwydd yr adroddiad, ond argymhellion yr adroddiad hwnnw—mae’n ymddangos, yn y datganiad a wnaethoch chi heddiw.
Er ein bod mewn perygl o gael ein cyhuddo o wleidydda, gadewch i mi ddweud, er bod yr adroddiad blynyddol ar anghydraddoldeb incwm gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn nodi y bu gostyngiad graddol yn anghydraddoldeb incwm yn ystod y degawd diwethaf—yn y DU yn amlwg yn hytrach na Chymru yn benodol—ac er bod bron i £0.5 biliwn wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, yn ôl Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, rhwng 2001 a diwedd y flwyddyn diwethaf, y mae, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yn anffodus bod nifer y bobl o oedran gweithio nad ydyn nhw mewn gwaith yng Nghymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, wedi cynyddu yn ôl i 524,000 o bobl, a bod Cymru yn y degfed safle allan o 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU o ran tlodi, ac yn yr unfed safle ar ddeg isaf o ran enillion wythnosol.
Rydych yn cyfeirio at fetros gogledd a de Cymru. A allwch chi ateb y cwestiwn y methodd eich cydweithiwr yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith ei ateb yr wythnos diwethaf, o ran pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i alwadau penodol dogfen 'Gweledigaeth Twf' Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer datganoli rhai materion yn fewnol er mwyn helpu i gau'r bwlch o ran ffyniant sy'n cynyddu wrth i chi fynd ymhellach i'r gogledd-orllewin? Oherwydd bod cymaint yn dibynnu ar hynny ac, yn syml, dim ond ateb dros dro fydd y metro a gynigir gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â'r cyfleoedd y gellid eu cyflwyno wrth i’r ddwy Lywodraeth a'r rhanbarth weithio gyda'i gilydd.
Rydych chi’n nodi, yn gywir, gefnogaeth eang ar gyfer dull newydd, sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso, a phwyslais rhanddeiliaid ar bwysigrwydd ymyrraeth gynnar. Wrth edrych yn ôl—ac rwyf newydd glywed eich sylwadau, yn amlwg, i Leanne Wood, yr Aelod dros Rhondda Cynon Taf—a ydych ci nawr yn cydnabod efallai y gallech chi fod wedi bwrw ymlaen â chynigion y CGGC a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, cyn etholiad diwethaf y Cynulliad, ar gyfer yr hyn a ddylai ddilyn ar ôl 2012, sef y model y mae fy mhlaid i wedi’i gynnig? Nid oeddem ni’n bwriadu cael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf, ond dim ond datblygu’r model hwnnw, a oedd yn nodi cynigion ar gyfer gweledigaeth a fyddai'n fwy effeithiol wrth fynd i'r afael ag amddifadedd, adeiladu cymunedau cryfach, llai o gostau biwrocratiaeth, mwy o berchnogaeth gymunedol, a lle y byddai pwyslais yn cael ei roi ar y sefydliadau cymunedol eu hunain mewn ardal ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau i fodloni anghenion lleol.
Rydych yn cyfeirio at ddatganiad Sefydliad Bevan ynglŷn â’r ffaith y bu perfformiad yn gymysg, a bod tlodi yn parhau i fod yn her ystyfnig a pharhaus. Wel, mae ei gyflwyniad, y ddogfen ‘Communities First—Next Steps’, yr wyf yn credu ei bod wedi’i drafftio gan Victoria Winckler sy’n fawr ei pharch, hefyd yn dweud na lwyddodd Cymunedau yn Gyntaf i leihau'r prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Felly, sut yr ydych chi’n ymateb, ac mae’n ymddangos nad ydych chi wedi gwneud hynny yn eich datganiad, i’w datganiad hi, neu nhw, y dylai rhaglen newydd gael ei chyd-gynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol, ac nid o'r brig i lawr, h.y. gan awdurdodau lleol, ac y dylai fod yn seiliedig ar ddamcaniaeth glir o newid, gan adeiladu ar asedau pobl a chymunedau, ac nid ar ddiffygion, ac y dylai gweithredu lleol gael ei arwain gan sefydliadau a leolir yn y gymuned a chanddyn nhw hanes cryf o ddarparu, ac sy’n ymgysylltu’n gryf â'r gymuned, unwaith eto, nid gan y sector cyhoeddus yn uniongyrchol? Er, yn amlwg, byddai'n rhaid ymwreiddio trefniadau llywodraethu corfforaethol yn gadarn yn hynny.
Rydych chi’n cyfeirio at sicrhau bod cyrff cyflenwi arweiniol yn cael digon o amser ac adnoddau i gynllunio’r pontio, a'r angen i gydnabod cefnogaeth ar gyfer y rhai hynny sydd ei angen fwyaf, ac, felly, ni fydd y gefnogaeth honno yn dod i ben â’r rhaglen hon. Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi, felly, i’r cyflwyniad gan Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, pan wnaethon nhw ddweud y dylai unrhyw newidiadau fod yn raddol yn hytrach nag ar raddfa fawr, pan wnaethon nhw dynnu sylw at broblem o ran aelodau staff yn gweithio yn rhan o Cymunedau yn Gyntaf yn derbyn hysbysiadau diswyddo, neu’n gadael yn gynnar, gan golli’r aelodau staff mwyaf profiadol a mwyaf cymwysedig, wrth iddyn nhw chwilio am waith yn rhywle arall a pheidio â bod ar gael i'r cymunedau hynny, o gofio mai nhw yw’r rhai y bydd angen taer amdanynt yn ystod y cyfnod pontio?
A ydych chi’n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Ac maen nhw hefyd—
A ydych chi’n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Os caf i, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad fod y rhaglen 2012, y rhaglen glystyrau, mewn gwirionedd, o ran eu tystiolaeth, wedi arwain at golli perchnogaeth leol, sydd, mewn rhai achosion, wedi bod yn ffactor hollbwysig o ran lleihau cefnogaeth leol ac effeithiolrwydd Cymunedau yn Gyntaf a'i waith?
Ac, yn olaf, os caf, rydych chi’n cyfeirio at adeiladu ar lwyddiant Cymunedau yn Gyntaf—mae'n ddrwg gennyf, Cymunedau am Waith, ac Esgyn. Ddeufis yn ôl, gofynnais gwestiwn i chi a mynegi pryder nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu rhyddhau data neu ei bod yn amharod i wneud hynny ynglŷn â chanlyniadau Cymunedau am Waith ac Esgyn, lle y deallir bod darparwyr Rhaglen Waith Llywodraeth y DU yng Nghymru wedi gallu darparu swyddi i'r bobl sydd bellaf oddi wrth y gweithle am £3,000 ar gyfartaledd, lle y deallir y gallai cost swyddi ar gyfer y cynlluniau hyn fod hyd at—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.] —bump i 10 gwaith yn uwch. Diolch.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch i chi, ac rwy’n diolch i'r Aelod am ei ddull adeiladol tuag at y newid yn y rhaglen.
Yn gyntaf oll, soniodd am raglen yr Young Foundation. Ceir llawer o felinau trafod ac elusennau sy'n cynnig safbwyntiau ar sut i adeiladu cryfder mewn cymunedau yng Nghymru, ac yn Lloegr. Ac rydym yn edrych ar yr adroddiadau hynny yn ofalus iawn, er mwyn gweld sut y dylem ni gynnwys y syniadau da sy'n cael eu cyflwyno ynddyn nhw neu sut y gallem ni eu cynnwys. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu fy sylw at hynny.
Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym ni’n ei drafod yn y fan yma yw dull clir iawn ar gyfer y cynllun cyflogadwyedd, a dyna pam y bydd ychydig o dan £12 miliwn yn cael ei gyflwyno i gynllun cyflawni ar gyfer y clystyrau ledled Cymru, lle y byddwn yn ymgysylltu â'r unigolion anodd eu cyrraedd, naill ai drwy Esgyn neu Cymunedau am Waith, neu PaCE. Ac mae'n rhywbeth yr wyf i’n frwdfrydig iawn yn ei gylch, drwy gydweithio â Gweinidogion eraill, y gallwn gael pobl yn ôl i mewn i'r farchnad swyddi.
Ni allaf ateb cwestiwn penodol yr Aelod ar y mater ynglŷn â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ond byddaf yn gofyn i’m cydweithiwr ystyried hynny ac efallai ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â materion penodol yn ymwneud â’r metro. Rwy’n credu ei fod yn iawn, mewn gwirionedd, fod yr Aelod eisiau gwybod am y metro oherwydd dim ond un rhan o jig-sô yw’r metro, casgliad o offer, a fydd yn galluogi pobl i gamu i’r byd gwaith trwy gael mynediad at systemau trafnidiaeth modern. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio, unwaith eto, heb roi’r bai ar neb, yw bod hyn yn ymwneud â phethau’n newid dros amser o gymharu’r adeg pan ddechreuodd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf â’r sefyllfa bresennol, 17 mlynedd yn ddiweddarach. Mae'r tirlun cyfan, yn gyllidol ac yn economaidd, wedi newid yn sylweddol iawn ac mae diwygio lles wedi golygu rhai canlyniadau anuniongyrchol ar ein cymunedau wrth geisio mynd i'r afael â thlodi. Dyna pam yr ydym ni’n llunio cyfeiriad gwahanol.
Gall yr Aelod edrych ar adroddiad Sefydliad Bevan gan Victoria Winckler; dylai edrych arno’n ofalus oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw’r hyn yr ydym yn ei gynnig yma mor wahanol â hynny i’r hyn y mae Sefydliad Bevan yn ei ddweud. Ynglŷn â’r llwybr cyflogadwyedd, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad am hynny yn fuan iawn, ond mae fy rhan i o'r llwybr cyflogadwyedd yn ymwneud â’r camau cyntaf oll, ac rydym yn ystyried sut yr ydym yn cael pobl i fod yn rhan o’r system addysg, i fanteisio ar y cyfleoedd o ran sgiliau, a'u symud i mewn i gyflogaeth, sy'n bwynt pwysig iawn. O ran cynllunio rhaglenni gyda phobl yn hytrach nag i bobl, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn glir iawn ynglŷn â hynny; byddwn ni, o'r datganiad hwn, yn gwneud ymrwymiad clir iawn i fynd yn ôl i'r cymunedau hynny i siarad ag unigolion—y gweithlu a’r sefydliadau—a all ein helpu i gynllunio cyfleoedd â'r gronfa etifeddiaeth wrth iddi symud ymlaen.
Mae Cytûn ac eraill wedi rhoi sylwadau ar wneud llai o newidiadau strwythurol, ac rwy’n credu ein bod wedi gwneud hynny. Rydym wedi cynnig model ariannu 70 y cant hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ac yna, wedi hynny, rydym yn cyflwyno cronfa etifeddiaeth. Rwy’n credu bod hynny’n rhoi amser i awdurdodau neu glystyrau ddechrau ffurfio sgwrs wahanol ynglŷn â sut y gallan nhw ddatblygu, ond y mae hynny'n fater yr ydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddo i alluogi a grymuso yn hytrach na gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni’r broses honno. Bydd yn cael ei gyflwyno o’r gwaelod. Ond, rwy'n credu bod y cynnig yma yn ymwneud â chanolbwyntio eto ar y mater o sut yr ydym yn mynd i'r afael â thlodi, a chydnabyddir gan yr Aelod fod effeithiau ystyfnig tlodi yn anodd iawn i fynd i'r afael â nhw, ond yr ydym wedi ymrwymo i wneud hynny fel ymagwedd Llywodraeth gyfan.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Yr hyn a ddywedwn ar y dechrau yw fy mod yn deall safbwynt y Llywodraeth o ran Cymunedau yn Gyntaf, a’ch pryder chi, nad yw, ynddi'i hun, wedi cyflawni ei huchelgais i godi pobl allan o dlodi. Mewn rhai ardaloedd, nid ydyw wedi cyflawni o gwbl mewn gwirionedd. Fel y gwnaethoch chi gydnabod yn eich datganiad, rwy’n credu ei bod hi’n anodd dychmygu yn ôl pob tebyg y gall unrhyw weinyddiaeth ddatganoledig gyflawni unrhyw bolisi unigol a fyddai'n codi poblogaeth allan o dlodi gan fod tlodi hefyd yn gysylltiedig â sefyllfa macroeconomaidd y Deyrnas Unedig, sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, unwaith eto, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato, Ysgrifennydd y Cabinet, ceir y system fudd-daliadau annheg, sy'n taro'r tlotaf galetaf. Eto, mae’n rhywbeth nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth drosto. Fodd bynnag, rydych chi’n gwybod o’m cyfraniadau blaenorol yn y Siambr hon ac o ran sylwadau personol yr wyf wedi’u rhannu â chi, nad oes gennyf i ddim byd ond canmoliaeth i’r buddiannau y mae’r cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi’u cyflwyno i’m hetholaeth i. Fy mhryder i wrth ddod â’r cynllun i ben oedd yn y pen draw y gallem ni daflu'r llo a chadw'r brych, ac y gallai llawer o'r gwaith rhagorol a wneir ar hyn o bryd gael ei golli. Felly, hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y modd yr ydych chi wedi gwrando ar y sylwadau gennyf i a gan Aelodau eraill.
Croesewir y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y buddiannau gwirioneddol y mae rhai cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi’u darparu, a’i bod yn gweithredu trefniant pontio hael. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith, yn ystod y cyfnod pontio, y bydd awdurdodau lleol yn gallu blaenoriaethu’n uniongyrchol y cynlluniau hynny sydd fwyaf buddiol i'r gymuned, gan neilltuo amser iddyn nhw—fel yr ydych chi wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiwn Mark Isherwood—ganolbwyntio eto ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud ac i geisio ffrydiau cyllido eraill pan fo angen, fel y gall gwaith sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn y cymunedau hynny, barhau. Rwy’n cyfeirio’n benodol at y gwaith yn ymwneud ag iechyd, lles a chynhwysiant cymdeithasol. Bydd y cyfnod pontio, yn fy marn i, Weinidog y Cabinet, yn neilltuo amser i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio eto ar ei blaenoriaethau gwrthdlodi, gan symud y pwyslais yn uniongyrchol ar gyflogadwyedd, yr ydym i gyd yn derbyn yw'r allwedd i godi pobl allan o dlodi, ac mae'r polisi hwn yn weithredol ar draws ardaloedd nad ydyn nhw yn rhan o Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd.
Ac a gaf i ddweud, rwy’n croesawu'n fawr iawn y strategaeth a nodwyd gan Alun Davies neithiwr yng nghyfarfod cyhoeddus tasglu’r Cymoedd ym Merthyr Tudful, a oedd yn tynnu sylw at yr angen i sgiliau cyflogadwyedd fod wrth wraidd cymunedau wedi’u hadfywio yn y Cymoedd, ynghyd â darparu swyddi diogel, o ansawdd da, sy’n talu'n dda, ond gan barhau hefyd gyda Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a pharthau plant, a nodwyd gennych chi yn eich datganiad? Felly, fy nghwestiwn yw, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno â mi, pan fydd yr arian etifeddiaeth yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol, yn rhan o'r trefniadau pontio, y bydd yn rhaid i’r cynghorau hynny flaenoriaethu'r gwaith y mae cynlluniau llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf wedi’u cyflawni ar gyfer rhai o'r ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, ac y rhoddir arweiniad iddyn nhw ar sut i wneud hynny, ac y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i neilltuo’r arian hwn i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Diolch i chi, Dawn, a diolch i chi am eich cwestiwn. A gaf i ddweud, rwyf wedi cael fy lobïo gan lawer o Aelodau, o bob plaid, ac mae llawer wedi cyfrannu at y dogfennau ymgynghori? Mae pobl fel Dawn, Lynne Neagle, Hefin David, a llawer o bobl eraill o amgylch y Siambr hon wedi bod yn gadarn iawn eu barn am Cymunedau yn Gyntaf. A gaf i ddweud hefyd, fy mod wir yn credu bod aelodau’r staff mewn llawer o glystyrau Cymunedau yn Gyntaf wedi gwneud gwaith gwych o ran ceisio mynd i'r afael â'r tlodi mwyaf difrifol? Ac rwy’n credu yn ôl pob tebyg, fod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi atal rhai cymunedau rhag mynd yn dlotach. Yr hyn nad yw wedi llwyddo i’w greu—ac nid yw hynny'n fai ar unrhyw un, ond nid yw wedi llwyddo i wneud y newid mawr hwnnw i ffurfio llwybr rhagweithiol o ran mynd i'r afael â thlodi yn uniongyrchol, a dyna sydd angen i ni ei wneud, ac rwyf wir yn credu bod yn rhaid i hyn gael ei gyflawni drwy roi sgiliau cyflogadwyedd, sgiliau twf swyddi, ond hefyd swyddi i bobl—a gwn fod David Rees wedi codi hyn gyda mi yn y gorffennol: mae rhoi sgiliau i bobl yn un peth, ond mae rhoi swyddi i bobl yn rhywbeth arall, ac mae'n rhaid mynd ati i wneud hynny ar sail gyflawn.
A gaf i ddweud, ynglŷn â phontio, yr hyn yr wyf wedi ceisio ei wneud yma yw meddalu’r broses honno o ran gweithredu dull mwy hirdymor tuag at newid? Mae newid bob amser yn anodd, ond mae angen inni wneud hynny. Rwy'n credu ei fod yn uchelgeisiol, yn ddewr, ond, mewn gwirionedd, nid yw'n gweithio. Y sefyllfa bresennol yw’r hyn yr ydym ni’n ceisio ymdrin â hi. Felly, byddaf yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ar yr etifeddiaeth refeniw, er mwyn ystyried sut y mae eu cynlluniau lles yn adlewyrchu anghenion eu cymuned, ond nid wyf eisiau bod yn benodol iawn o ran rhaglen. Rwyf o’r farn ei bod hi’n bwysig iawn bod pobl sy'n deall eu cymunedau yn well yn gallu cyflawni newid trwy ddylanwad, a'r cyllid sydd ynghlwm â hynny.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae llawer o'r drafodaeth heddiw wedi bod am Cymunedau yn Gyntaf; wel, mae’r cynllun hwnnw bellach yn dod i ben, felly mae’n rhaid i ni sicrhau y bydd unrhyw fath o raglen sy'n cymryd ei le yn effeithiol, ond, yn bennaf, heddiw, roeddwn i’n awyddus i siarad am agwedd arall ar y mater o dlodi, sef yr hyn y cyfeiriodd Dawn Bowden ato: cyflogadwyedd.
Nawr, rydych chi wedi nodi yn flaenorol, Weinidog, bod tlodi mewn gwaith yn broblem gynyddol ac, yn wir, nododd Llywodraeth Cymru y mater hwn wrth gyflwyno ei hadroddiad creu cymunedau cryf yn 2013. Un peth y gall y Llywodraeth ei wneud yw ceisio denu mwy o swyddi, a, gobeithio, swyddi o ansawdd gwell. Nawr, rwy’n gwybod bod eich Llywodraeth yn ymwybodol o'r agwedd hon, oherwydd daeth eich Gweinidog economi, Ken Skates, i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf, ac roedd yn sôn am y mater hwn, a dywedodd nad dim ond unrhyw waith sy’n bwysig ond gwaith o ansawdd da, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio hynny. Ond rydym ni’n wynebu nifer o broblemau ynghylch hyn. Yn yr un wythnos â sylwadau Ken Skates, cawsom hefyd y Prif Weinidog, fel y soniais yn gynharach heddiw yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog—yn ein hysbysu bod Awdurdod Cyllid Cymru yn dod i Drefforest, ond bod bron pob un o'r swyddi yn mynd i gael eu llenwi gan bobl a recriwtiwyd yn ardal Llundain. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi nad ydym yn gwybod am Awdurdod Cyllid Gymru ers hydoedd, ond rydym yn gwybod amdano ers peth amser, felly rwy’n dal i feddwl o ran—[Torri ar draws.] Wel, mae wedi ei grybwyll ers peth amser, gadewch i mi ei roi felly. Rwyf yn meddwl tybed pam, yn y sefyllfaoedd hyn, na all pobl Cymru gael eu hyfforddi i lenwi'r swyddi hyn.
Nid wyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar hynny, ond rwyf eisiau tynnu sylw at y mater o hyfforddi a gwella sgiliau pobl. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gaffael er mwyn defnyddio hyn fel ysgogiad i greu swyddi. Mae gennym rai prosiectau seilwaith mawr ar y gweill megis metro de Cymru a morlyn llanw bae Abertawe. Ond y canlyniad posibl hyn yw na fydd gennym y bobl â’r sgiliau yng Nghymru ac y bydd yn rhaid i neu eu mewnforio nhw eto. Felly, efallai na fyddwn yn creu swyddi ar gyfer y gymuned leol o gwbl, neu, o leiaf, dim llawer ohonynt. Gallem, mewn gwirionedd, fod yn rhoi mwy o bwysau ar y cyflenwad tai ar gyfer pobl leol a thrwy hynny, yn anfwriadol, waethygu problemau sy'n gysylltiedig â thlodi. Gwn fod rhaglen gyflogadwyedd gan y Llywodraeth i wella sgiliau, a oruchwylir gan Julie James, a grybwyllir yn eich datganiad, ond, i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach wrth y Prif Weinidog, mae rhywun yn meddwl tybed beth y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud ynghylch cynyddu sgiliau dros yr 17 mlynedd diwethaf, oherwydd nid yw hwn yn fater newydd, yn amlwg. Fe wyddoch fwy am hynny na mi, felly, os gwnewch chi fy ngoleuo, byddwn yn ddiolchgar.
Rydym hefyd yn wynebu problemau eraill ynghylch y farchnad gyflogaeth ar ffurf awtomeiddio, ac mae Lee Waters wedi cyfeirio at hyn nifer o weithiau. Gofynnodd Jenny Rathbone yr wythnos diwethaf, ‘Pwy fydd yn elwa arno?’ Wel, yn sicr nid y gweithwyr â lefel gymharol isel o sgiliau fydd yn gwneud hynny. Felly, mae hyn yn gwaethygu'r broblem o uwchsgilio. Pa bethau ymarferol y gellid eu gwneud i wella cyflogadwyedd? Wel, soniodd Ken Skates yr wythnos diwethaf am ddefnyddio yr hyn a elwir yn ‘wybodaeth am y farchnad lafur’ wrth lunio prentisiaethau. Mae angen prentisiaethau pob oedran arnom erbyn hyn, ac rwy’n credu eu bod yn rhan o'r rhaglen gyflogadwyedd. Mae eu hangen arnom, oherwydd bod y farchnad gyflogaeth mor gyfnewidiol bellach ac nid oes unrhyw swyddi am oes erbyn hyn. Mae angen, efallai, mwy o ryngweithio rhwng y Llywodraeth a diwydiant preifat, gan fod y sector cyhoeddus yn debygol o grebachu.
Mae trafnidiaeth, byddwn i’n dweud, yn fater pwysig. Mae llawer o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ardaloedd diwydiannol ar gyrion trefi, yn aml heb gludiant cyhoeddus, ac, wrth gwrs, mae llawer ohono’n waith sifft. Sut bydd gweithwyr yn cyrraedd eu gweithle heb gar? Felly, a yw Llywodraeth Cymru’n gallu cydgysylltu'n effeithiol â darparwyr cludiant? Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o weithwyr weithio trwy asiantaethau cyflogaeth i ddechrau. Mae llawer o'r asiantaethau hyn nad ydynt yn dda iawn, yn fy mhrofiad i, o ran cyfathrebu'n effeithiol â'u gweithwyr. Yn aml, mae rheolaeth yn wael yn y swyddi asiantaeth hyn. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i weithio gyda’r asiantaethau hyn yn y dyfodol? Beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer gweithio gyda darparwyr cludiant, a beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer gweithio gyda diwydiant preifat? Diolch.