Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

14/02/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Mike Hedges.

Mynd i’r Afael â Thwyllo

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â thwyllo yng Nghymru? OAQ(5)0443(FM)

Gall twyll gael effaith ofnadwy ar ddioddefwyr, ac rydym ni wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau'n fwy diogel drwy ein cyllid i swyddogion cymorth cymunedol a thrwy weithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Nid wyf yn credu y gallwch chi orbwysleisio’r broblem gyda thwyll, dros y ffôn ac yn ysgrifenedig. Mae’r effaith ar bobl sy'n cael eu twyllo yn erchyll a gall gael effaith ddifrifol ar eu bywydau, ac yn wir, mewn rhai achosion, gall arwain at fyrhau eu bywydau. Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith a wneir gan safonau masnach a sefydliadau trydydd sector ac eraill. Ceir dyfeisiau i fonitro ac atal galwadau ffôn, a cheir cwmni yn Abertawe yn fy etholaeth i sy’n eu gwneud. A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal cynhadledd o’r holl bartïon â buddiant i drafod beth arall y gellir ei wneud i leihau'r broblem hon? Nid wyf yn credu y gellir ei ddatrys, ond a gawn ni geisio ei leihau o leiaf?

Mae'r Aelod yn hollol iawn i nodi bod twyll yn fwy soffistigedig yn gynyddol, yn enwedig y rhai hyny sydd ar-lein, ac rydym ni’n gweithio'n agos gyda safonau masnach ar amrywiaeth o fathau o dwyll, yn ymdrin ag amrywiaeth o fathau o dwyll, yn ymwneud â nwyddau ffug, a thybaco anghyfreithlon. Ac, wrth gwrs, ceir pwyslais cynyddol ar seiberdroseddu, ac rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu ar y mater hwn. Os bydd cynhadledd yn ddefnydd cynhyrchiol o’r amser hwnnw, yna byddwn yn ceisio gwneud hynny er gwaethaf ein cymhwysedd cyfyngedig yn y maes.

Un o'r pethau eraill, Brif Weinidog, y gellir ei wneud er mwyn ymladd twyll yw sefydlu ardaloedd dim galw diwahoddiad. Bu hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus yn fy etholaeth i, lle mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno un ar gyfer tref gyfan Abergele. Pa waith ydych chi'n meddwl y gallwn ni ei wneud yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i wneud Cymru y wlad dim galw diwahoddiad gyntaf ym Mhrydain?

Syniad diddorol. Rydym ni wedi, wrth gwrs, darparu cyllid i gynyddu nifer yr ardaloedd dim galw diwahoddiad yng Nghymru, sy'n helpu i amddiffyn pobl agored i niwed rhag twyll, a gwn, fel y mae’r Aelod wedi nodi, bod gan fwyafrif yr awdurdodau lleol yng Nghymru ardaloedd dim galw diwahoddiad erbyn hyn, sy’n ceisio lleihau nifer y galwyr diwahoddiad. Wrth gwrs, byddwn yn cyrraedd pwynt lle mae gan bob awdurdod lleol ardaloedd dim galw diwahoddiad, yna gallwn ddechrau ystyried p'un a allwn ddatgan ein hunain yn wlad dim galw diwahoddiad.

Datblygu Economaidd yn Ne-ddwyrain Cymru

2. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i annog datblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0451(FM)

Rydym ni’n bwriadu parhau i gefnogi busnesau yn eu twf, i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel ac i wella amodau datblygu economaidd.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Cafwyd newyddion da ynghylch swyddi yn ddiweddar, ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Biocell British International Ltd yn symud o Lanisien i Grymlyn, gan aros yng Nghymru a chyda chynnydd i niferoedd. Ond mae hynny’n golygu bod y swyddi hyn yn gadael Llanisien ar yr un pryd ag y mae cynlluniau i S4C symud i Sgwâr Canolog Caerdydd, ac i Gaerfyrddin, a hefyd, ar yr un pryd ag y mae’r swyddfeydd treth yn bwriadu symud i lawr i’r Sgwâr Canolog. Felly, ceir ecsodus enfawr o swyddi o un ardal fechan iawn yn yr etholaeth. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd gan y Prif Weinidog unrhyw awgrymiadau ynghylch pa strategaethau y gellid eu defnyddio i sicrhau bod yr ardal honno yn parhau i fod yn ardal gymysg, lle ceir y posibilrwydd o gael swyddi lleol, oherwydd mae hwn yn newid mawr i'r sefyllfa swyddi yno.

Ydw, rwy’n ymwybodol bod cynllun datblygu lleol Caerdydd yn ceisio darparu 40,000 o swyddi yn ystod y cyfnod hyd at 2026. Mae hynny'n cynnwys estyniad trefol defnydd cymysg i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd, yn cynnig amrywiaeth a dewis o swyddi, cartrefi a seilwaith ategol i ddiwallu anghenion cymunedau presennol ac yn y dyfodol.

Heddiw, mae Canolfan Seiberddiogelwch ​​Genedlaethol y DU yn cael ei hagor yn Llundain, a bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ragorol yng Nghasnewydd, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y sector preifat ac addysg uwch. Felly, mae'n siomedig iawn bod canolfan y DU yn mynd i gael ei lleoli yn Llundain, fel pe na bai gan Lundain ddigon o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU yn hynny o beth. Felly, pa sylwadau wnaeth y Prif Weinidog i geisio cael canolfan y DU i leoli ochr yn ochr â'r academi seiber yng Nghasnewydd, fel y gallai ein gwlad fod wedi elwa o'r swyddi a fydd yn dod? A, chan edrych ymhellach i'r dyfodol, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i neilltuo Casnewydd yn brifddinas seiberddiogelwch Cymru fel y gallwn, yn y dyfodol, ddenu mwy o gyfleoedd i'r gymuned honno?

Syniad diddorol eto, a rhywbeth, yn sicr, y byddaf yn ymchwilio iddo. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod o ran pa sylwadau a wnaed am yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol. Mae'n fenter, mewn egwyddor, yr ydym wedi ei chefnogi, ond byddaf yn ysgrifennu ato gyda rhagor o fanylion o ran sut y sefydlwyd y ganolfan a pham y cafodd ei sefydlu yn Llundain.

Brif Weinidog, wrth i Gaerdydd barhau i greu swyddi a denu llawer iawn o ymwelwyr, rydym ni’n gweld mwy a mwy o dagfeydd ar y ffyrdd. Sylwaf fod cynnig nawr i archwilio ymarferoldeb defnyddio'r afon Taf a'r bae fel ein prif lwybrau dŵr prifwythiennol o gwmpas y ddinas—sydd eisoes yn boblogaidd i dwristiaid, ond y gallai fod â defnydd masnachol hefyd trwy symud cymudwyr. A yw'r Llywodraeth yn barod i ystyried hyn?

Gwelais hynny. Mae'n fater, yn y pen draw, wrth gwrs, i gyngor Caerdydd, os cofiaf yn iawn, o ran ei reolaeth o’r dyfrffyrdd. Gwn, yn yr haf, fod y gwasanaeth yn llwyddiannus dros ben; yn y gaeaf, yn llai felly. Mae pobl yn tueddu i weld y gwasanaeth mwy fel gwasanaeth twristiaeth, yn hytrach na gwasanaeth cymudo. Ond rydym ni’n gwybod bod enghreifftiau mewn mannau eraill—nid yn unig yn y DU, ond ar draws y byd—lle mae gwasanaethau bws dŵr wedi bod yn llwyddiannus. Ac, yn sicr, byddwn eisiau edrych i weithio gyda'r gweithredwyr, gyda chyngor y ddinas ac eraill i weld a fydd gwasanaeth o'r fath yn ymarferol yn y dyfodol.

Brif Weinidog, esboniwyd gennych yr wythnos diwethaf, er bod Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei greu, bod yn rhaid recriwtio bron pob un o'r staff yn Llundain gan nad oes gennym ni’r bobl â sgiliau yma yng Nghymru, ac mae hon yn broblem barhaus. Ond mae'n codi’r cwestiwn braidd ynghylch beth mae eich Llywodraeth wedi bod yn ei wneud am sgiliau a hyfforddiant dros y 17 mlynedd diwethaf.

Wel, dim ond trawiad amrant oedd Awdurdod Cyllid Cymru 17 mlynedd yn ôl. Y broblem yw hyn: nid yw’r swyddogaeth y bydd yr awdurdod refeniw yn ei chyflawni erioed wedi cael ei chyflawni yng Nghymru o'r blaen. Felly, ni ddylem ofni’r ffaith bod angen i ni ddod â sgiliau i mewn o fannau eraill i sefydlu'r awdurdod ac, yn y pen draw, i hyfforddi ein pobl ein hunain fel eu bod yn gallu darparu’r sgiliau hynny yn y dyfodol. Ond rwy’n credu fod ein beirniadu am beidio â chael y rhagwelediad 17 mlynedd yn ôl—hyd at 17 mlynedd yn ôl—o ran sefydlu awdurdod na feddyliodd neb erioed y byddai’n cael ei sefydlu bryd hynny, yn mynd â phethau ychydig yn rhy bell.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a ydych chi’n cefnogi'r dyhead i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac, os ydych, a allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych chi’n bwriadu bodloni’r dyhead hwnnw?

Wel, mae hi'n gwybod fy mod i. Roedd yn ymrwymiad maniffesto ar ran fy mhlaid. Ceir sawl ffordd o gyflawni hynny. Un ohonynt, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod y Gymraeg mewn cynlluniau strategol ar draws yr holl awdurdodau lleol yn cyflawni'r hyn y dylent fod yn ei gyflawni.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac rwy’n cytuno bod y dyhead yn un da, ac rwy'n falch eich bod wedi crybwyll addysg. Yn eich ymgynghoriad ar greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, rydych chi’n esbonio sut y mae'n rhaid i addysg chwarae rhan ganolog. Eich prif amcan, a’r hyn yr ydych chi’n gofyn i awdurdodau lleol ei gyflawni, yw, rwy’n dyfynnu:

'Cynyddu’n sylweddol nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog er mwyn creu rhagor o siaradwyr.'

Ac y dylent, ac, unwaith eto, rwy’n dyfynnu:

'Symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol er mwyn cynyddu’r cyflenwad o leoedd ysgol cyfrwng Cymraeg'.

A ydych chi’n derbyn mai dyna bolisi'r Llywodraeth, a bod hynny'n golygu bod rhaid i awdurdodau lleol gynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, a’r lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg, yn eu hardaloedd?

Ydw, mae disgwyl iddynt, wrth gwrs, ddangos sut y byddant yn gwneud hynny drwy eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Mae'r cynlluniau hynny yn amodol ar gymeradwyaeth gennym ni fel Llywodraeth, ac rydym ni’n bwriadu sicrhau bod y cynlluniau hynny’n gadarn ac y byddant yn cyflawni.

Brif Weinidog, byddwch yn gwybod bod polisi cenedlaethol wedi hysbysu’r penderfyniad yn Llangennech yn Sir Gaerfyrddin i newid ysgol o ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg. Nawr, mae’r penderfyniad hwnnw angen eich cefnogaeth chi, ond mae hefyd angen eglurhad digynnwrf i drigolion. Mae gen i rai pryderon difrifol am yr awyrgylch gwenwynig a dweud y gwir, sydd wedi dod i'r amlwg ynghylch y cwestiwn hwn. Ac rwy’n ymwybodol, ymhlith grŵp o drigolion sy’n ymgyrchu yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin, bod rhai pobl yn sefyll dros y Blaid Lafur yn Llangennech yn etholiadau cynghorau cymuned a sirol mis Mai. Nawr, mae wedi dod i’m sylw bod rhai o'r ymgeiswyr hynny yn honni eu bod yn gweithio gydag UKIP, gan wirio a chytuno â datganiadau arweinydd UKIP ar y mater hwn—[Torri ar draws.]

Brif Weinidog, a yw'n dderbyniol i chi bod ymgeiswyr Plaid Lafur yn gweithio'n agos gydag UKIP ar y cwestiwn o addysg cyfrwng Cymraeg? Ac a ydych chi’n cytuno â mi fod yr ymgyrch yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin wedi troi’n wenwynig ac yn annerbyniol? A wnewch chi amlinellu pa gamau y gwnewch chi eu cymryd o ran aelodau'r Blaid Lafur yn gweithio gydag UKIP i danseilio eich polisïau Cymraeg eich hun?

Rwy’n cytuno bod y sefyllfa yn Llangennech wedi troi’n wenwynig. Nid wyf yn credu bod y geiriau a ddefnyddiwyd gan arweinydd Plaid Cymru wedi helpu'r sefyllfa o ran troi hwn yn fater gwleidyddol. Ceir rhai sylwadau a wnaed gan wleidyddion nad wyf yn cytuno â nhw. Rwyf wedi gweld y sylwadau hynny, ac rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig nawr bod awyrgylch digynnwrf, bod y gwenwyndra—rhywfaint o’r gwenwyndra rwy’n credu a welwyd gennym ddiwethaf rai blynyddoedd yn ôl—yn cael ei leihau nawr, a bod y cyngor, wrth gwrs, yn gallu esbonio i'r bobl yn Llangennech cystal ag y gallant—

Cyngor Plaid Cymru roddodd y polisi ar waith. Nid wyf yn beirniadu’r cyngor Plaid Cymru o gwbl yn hynny o beth, ond mae'n bwysig bod y cyngor yn gallu—[Torri ar draws.] Wel, os yw arweinydd Plaid Cymru yn gofyn cwestiwn, efallai yr hoffai wrando, gan ei bod yn hynod bwysig, fel y mae hi wedi ei ddweud yn gwbl briodol, bod y gwenwyndra’n cael ei leihau. Mae'n hynod bwysig nawr fod y cyngor yn gallu esbonio'n llawn, fel yr wyf yn siŵr ei fod wedi bod yn ceisio ei wneud, beth yw ei bolisi o ran Llangennech. Ond nid yw’n fater i ni esbonio; mae’n fater i'r cyngor sy’n cael ei redeg gan eich plaid chi—

[Yn parhau.]—i esbonio. Ein cyfrifoldeb ni, wrth gwrs, fel Llywodraeth, yw galluogi awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg fel ein bod ni’n parhau i gefnogi'r iaith, fel yr ydym, ac rydym ni’n parhau ein hymgais i sicrhau bod gennym ni filiwn o siaradwyr Cymraeg yn 2050.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog—diolch, Lywydd, mae'n ddrwg gen i. Mae cwestiwn brys yn dod ychydig yn ddiweddarach ar ganfyddiadau Kancoat yn yr adroddiad cyfrifon cyhoeddus, ond hoffwn ofyn sawl cwestiwn i'r Prif Weinidog y prynhawn yma am y mater penodol hwn, o ystyried mai chi oedd y Prif Weinidog pan wnaed y penderfyniadau hyn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ystyriaeth bwysig.

O ystyried yr holl rybuddion a oedd ar waith—a byddai'n ymddangos yn eithaf cynhwysfawr o’r rhybuddion a roddwyd bod cynllun busnes gwan, bod y diwydrwydd dyladwy wedi cael ei anwybyddu, bod Cyllid Cymru wedi dweud bod risg annerbyniol o uchel a dyna pam wrthodwyd y cais am gyllid ganddynt—beth ar y ddaear y byddech chi’n feddwl ddaeth dros y Gweinidog busnes a menter ar y pryd i gytuno i ryddhau'r arian hwn, er gwaethaf y ffaith bod yr holl arwyddion yn dangos yn glir iawn bod hwn yn fuddsoddiad mor beryglus, Brif Weinidog?

Rwy'n credu mai’r hyn y mae'n rhaid ei gofio yw bod y panel buddsoddi wedi argymell cymeradwyo'r buddsoddiad. Llywiwyd y Gweinidog, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, gan y wybodaeth honno.

Brif Weinidog, mae'n ffaith bod, wrth i’r buddsoddiad barhau—oherwydd rhyddhawyd yr arian hwn dros amser—dro ar ôl tro, fel yr wyf wedi dweud, roedd yr arwyddion hynny yn glir iawn. Rhyddhawyd tri pwynt pedwar miliwn o bunnoedd i'r cwmni hwn, ac mae wedi cael ei golli, i bob pwrpas; ni ddiogelwyd unrhyw swyddi, mae’r safle hwnnw bellach yn wag, ac rydych chi fel Llywodraeth yn gyfrifol am rwymedigaethau’r safle hwnnw gan y cynigiwyd y les fel sicrwydd yn erbyn y benthyciad a wnaed ar gael. Mae'r Llywodraeth yn gyfrifol am droi’r safle hwnnw yn ôl yn barod i’r landlord gymryd meddiant. Felly, ceir rhwymedigaethau parhaus. Fel y dywedais, collwyd £3.4 miliwn. Mae pob arwydd yn dangos, er efallai fod y penderfyniad wedi cael ei wneud er y budd pennaf o sicrhau’r busnes hwnnw yn y lle cyntaf, gan fod y ceisiadau wedi cael eu gwneud yn barhaus i ryddhau mwy o arian, bod mwy a mwy o oleuadau rhybudd yn cynnau, ac eto gwnaed y penderfyniad i ryddhau mwy o arian i mewn i’r cwmni hwn. Onid ydych chi’n credu bod trethdalwyr yn haeddu ymddiheuriad gan eich Llywodraeth chi am golli'r arian hwn, ac, yn benodol, am yr anallu i ddiogelu unrhyw swyddi drwy’r £3.4 miliwn a roddwyd i mewn i’r cwmni hwn?

Wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin â mater Kancoat pan fydd y cwestiwn brys yn cael ei ofyn. Ond os caf i esbonio yn fwy cyffredinol: rydym ni’n ymdrin â channoedd o fusnesau; mae rhai ohonynt yn mynd i’r wal. Nid yw’n bosibl i ni ddweud y bydd pob busnes yr ydym ni’n ei helpu yn bendant yn llwyddiannus. Ni allai unrhyw fanc wneud hynny, ac mae’r un fath i unrhyw Lywodraeth. Ond gallaf ddweud, o'r prosiectau yr ydym ni wedi eu cefnogi, mai dim ond 2.4 y cant ohonynt sydd wedi methu â bodloni eu hamcanion a oedd ynghlwm i’w cais am gymorth ariannol, ac felly mae gennym ni gyfradd lwyddiant ymhell dros 90 y cant o ran cefnogi busnesau. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, y bydd rhai busnesau nad ydynt yn llwyddiannus, ond maen nhw’n sicr yn eithriad yn hytrach na'r norm. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, na ddylem ni adolygu'n barhaus y ffordd yr ydym ni’n gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w wneud. Ond rwy’n meddwl bod angen ei roi yn ei gyd-destun, gan gofio, wrth gwrs, o’r busnesau yr ydym ni wedi eu helpu, bod y mwyafrif llethol ohonynt yn llwyddiannus, a dyna pam, wrth gwrs, mae diweithdra yng Nghymru mor isel.

Brif Weinidog, chi oedd y Prif Weinidog ar y pryd, ac rwy’n derbyn bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar risg ac y bydd rhai’n mynd o'i le, ond y pwynt yr wyf wedi ei wneud, drwy'r ddau gwestiwn yr wyf i wedi eu gofyn i chi, yw bod nifer o rybuddion yn amlygu’r risg i'r Llywodraeth ac i'r trethdalwr trwy ryddhau’r arian i’r cwmni hwn. Dywedodd Cyllid Cymru, sy’n fenthyciwr pan fetha popeth arall, er enghraifft, ei bod yn rhy beryglus rhyddhau'r arian ar sail benthyciad ganddyn nhw, ac mai eu cylch gwaith ar gyfer gweithredu yw bod yn fenthyciwr pan fetha popeth arall ar ôl rhoi cynnig ar bob dewis bancio masnachol. Felly, rwy’n derbyn y pwynt, yn y pen draw, bod elfen o risg yn yr holl benderfyniadau yr ydych chi’n eu gwneud, ond mae'n ffaith: wrth i ni sefyll yma heddiw, bod £3.4 miliwn wedi cael ei golli, nad oes yr un swydd wedi cael ei sicrhau na’i diogelu ac, yn y pen draw, mae'r trethdalwr allan o boced ac mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaethau parhaus yn sgil y penderfyniad hwn. Gofynnais i chi yn fy ail gwestiwn: a ydych chi’n credu y dylai fod ymddiheuriad ar eich rhan gan Lywodraeth Cymru i drethdalwyr Cymru? Rwy'n cynnig y cyfle hwnnw i chi eto. A wnewch chi ymddiheuro am golli'r arian hwn, sy’n arian trethdalwyr, yn yr achos penodol hwn, pan roddwyd cynifer o rybuddion ac yr anwybyddwyd llawer o’r rhybuddion hynny gan eich Gweinidog? Yn y pen draw, y trethdalwr sydd wedi colli allan.

Rwy’n derbyn yr hyn y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymru wedi ei dweud—ei fod yn deall y sefyllfa o ran y grant cymorth cychwynnol. Roedd hwn yn fusnes newydd. Mae busnesau newydd yn ​​beryglus yn eu hanfod, ond mae'n rhaid i Lywodraeth dderbyn risg. Fel arall, ni fyddem yn cefnogi unrhyw beth. Mae yr un fath i fanciau masnachol; byddant yn cael eu hunain yn y sefyllfa honno o bryd i'w gilydd. Sefydlwyd y sefydliad hwn, wrth gwrs—y busnes, yn hytrach—ar adeg pan roedd y sefyllfa economaidd yn fregus yn dilyn, neu’n fuan ar ôl, yr argyfwng ariannol. Fel y dywedais, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi mwy o fanylion o ran beth oedd yr amserlen, ond gallaf ddweud ein bod ni’n falch o ddweud bod diweithdra yng Nghymru mor isel. Mae'n is nag yn Lloegr, mae'n is nag yn yr Alban ac yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Yn hanesyddol, mae hynny wedi bod yn gyflawniad aruthrol. Rydym ni wedi cynorthwyo dros 1,000 o fusnesau i greu swyddi yng Nghymru. Rydym ni wedi dod â buddsoddiad i Gymru—y ffigurau buddsoddiad tramor uniongyrchol gorau ers dros 30 mlynedd. Mae'n gywir dweud y bydd, ar adegau, busnesau sy'n methu ac mae'n anodd wedyn i’r arian gael ei ddychwelwyd i'r Llywodraeth. Ond yn y cyd-destun yr ydym ni’n gweithredu yma, mae 97.6 y cant o'r busnesau yr ydym ni’n eu cynorthwyo yn llwyddiannus o ran darparu swyddi i bobl Cymru.

Diolch, Lywydd. Mae'n eithaf amlwg bod polisi Llywodraeth America yn mynd i newid mewn sawl ffordd o ganlyniad i ethol yr Arlywydd Trump, nid leiaf o ran polisïau newid yn yr hinsawdd. Mae Scott Pruitt, sef enwebai'r Arlywydd Trump fel pennaeth Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Unol Daleithiau, eisoes wedi tynnu ymrwymiad yr Unol Daleithiau i drafodaethau newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig oddi ar wefan yr adran. Nawr, o gofio bod yr Unol Daleithiau, Tsieina ac India, rhyngddynt, yn gyfrifol am fwy na hanner allyriadau carbon deuocsid y byd, ac nad yw Tsieina ac India wedi cytuno i unrhyw ostyngiad absoliwt i lefel yr allyriadau hynny, waeth beth yw barn rhywun ynghylch a yw newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan ddyn yn realiti ai peidio—waeth beth fo’r safbwyntiau ar hynny—a yw'n gwneud synnwyr i Brydain, a Chymru yn benodol, sy’n gyfrifol am ddim ond 0.05 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd, gael ei chlymu gan bolisi ynni drud sy’n faich barhaus i’r diwydiant gweithgynhyrchu a diwydiannau fel y diwydiant dur yn arbennig?

Wel, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n edrych ar bwysau'r dystiolaeth, ac mae pwysau'r dystiolaeth o blaid dangos i raddau aruthrol—i raddau aruthrol—bod newid hinsawdd yn digwydd, ac, yn ail, bod gweithgarwch dynol yn achosi iddo naill ai ddigwydd neu gael ei waethygu o ganlyniad. Mae'r bobl hynny sy'n honni fel arall ar sail wyddonol sigledig. Rwy'n edrych ar bwysau'r dystiolaeth, ac mae'n gwbl amlwg i mi—. Bydd yn gwybod, gan ei fod yn gyfreithiwr ar un adeg, mai pwysau'r dystiolaeth y mae’n rhaid i chi edrych arno, nid dewis yr hyn yr ydych chi’n credu sy’n cefnogi eich dadl orau pan fydd yn mynd yn groes i realiti gwyddonol.

Mae'n iawn dweud bod Tsieina ac India yn wynebu heriau, ond mae Tsieina yn barod am yr her. Mae Tsieina yn buddsoddi'n drwm mewn ffynonellau tanwydd amgen. Mae'n gwybod bod ganddi broblem. Bydd unrhyw un sydd wedi bod i Beijing a'r dinasoedd mawr Tsieina yn gwybod bod problem yno gyda llygredd aer. Mae Llywodraeth Tsieina yn cydnabod hyn, a dyna pam maen nhw’n chwilio am y ffynonellau tanwydd amgen hynny. Maen nhw’n gwybod na allant barhau â'r sefyllfa bresennol, ond er eu bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn, fy ofn i yw y bydd yr Unol Daleithiau yn mynd i'r cyfeiriad arall, gan fynd yn groes i bwysau'r dystiolaeth wyddonol.

Mae'r Prif Weinidog wedi ochrgamu fy nghwestiwn. Nid yw fy nghwestiwn yn ymwneud â'r ddadl ynghylch a yw newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan ddyn yn realiti ai peidio. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â: pa wahaniaeth mae'n ei wneud os byddwn ni’n ymrwymo i dargedau sydd yn mynd i achosi costau enfawr i ni, nid yn unig o ran cost i ddiwydiant, ond hefyd i bobl gyffredin? Wedi'r cyfan, mae bron i chwarter aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd, yn gwario mwy na 10 y cant o'u hincwm ar gadw eu hunain yn gynnes yn y gaeaf, er enghraifft. Felly, mae hon yn faich go iawn ar bobl dlawd ac agored i niwed. Os nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth i'r canlyniad o ran allyriadau byd-eang, pam ddylem gymryd baich y biliau enfawr hyn? Nid yw Tsieina ac India wedi ymrwymo i leihau lefel absoliwt eu hallyriadau. Yr hyn y maen nhw wedi ymrwymo iddo yw lleihau dwysedd ynni, ond mae'n rhaid i hynny ystyried i ba raddau y maen nhw’n disgwyl y bydd eu heconomïau yn tyfu, ac mae eu heconomïau yn mynd i dyfu i raddau mwy nag y byddant yn lleihau eu dwysedd tanwydd. Felly, mae allyriadau absoliwt yn debygol o gynyddu yn India a Tsieina mewn gwirionedd, ac mae hynny'n gwneud y broblem yn waeth fyth, a ni yw’r ffyliaid sy’n talu'r biliau.

Wel, mae’r farn honno’n ddilys dim ond os ydych chi’n derbyn eich bod chi’n hapus i weld dirywiad amgylcheddol; yn hapus i weld ansawdd aer yn gwaethygu; yn hapus i ddychwelyd i’r dyddiau pan, rwy’n meddwl, yr oedd Afon Irwell yn Salford yn llythrennol fflamadwy pan daflwyd matsien wedi ei chynnau iddi; yn hapus i ddychwelyd i’r dyddiau pan fyddai Afon Ogwr yn fy nhref enedigol yn llifo ar wahanol liwiau yn ôl yr hyn a daflwyd i mewn i'r afon. Oherwydd y daith naturiol o symud i ffwrdd o fod o’r farn bod newid hinsawdd yn bwysig yw bod o’r farn bod yr amgylchedd yn ddibwys hefyd. Rydym ni’n gwybod bod y bobl hynny nad ydynt yn derbyn bod newid hinsawdd yn digwydd—nid yw llawer ohonynt yn derbyn bod angen rheoleiddio amgylcheddol chwaith, yn sicr i'r graddau a welwn nawr. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei ddiystyru. Ni allwn ddweud yn syml, 'Wel, mae'n rhywbeth y gallwn ei roi o’r neilltu', ac nid wyf yn derbyn bod hyn yn rhywbeth sy'n achosi costau. Y realiti yw fy mod i wedi ei glywed yn dadlau am fwy o orsafoedd ynni glo. Mae’r eironi’n gyfoethog yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Byddai'n rhaid mewnforio’r glo. Felly, ceir problemau diogelwch ynni hefyd. Ddylem ni beidio â buddsoddi mewn ynni’r gwynt ar y môr? Ddylem ni beidio â buddsoddi mewn ynni’r llanw, yn hytrach na gorddibynnu ar ffynonellau ynni y mae'n rhaid eu mewnforio i Brydain? Felly, mae diogelwch ynni a lliniaru newid hinsawdd, i mi, yn mynd law yn llaw.

Mae’r Prif Weinidog yn gwrthod rhoi sylw i’r mater y tu ôl i fy nghwestiwn. Mae Cymru yn gyfrifol am 0.05 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd. Nid yw carbon deuocsid yn nwy fflamadwy, gyda llaw. Felly, mae’r hyn a ddywedodd am ansawdd yr aer yn Peking yn amherthnasol. Mae allyriadau sylffwr yn hollol wahanol. Mae pawb yn derbyn y ddadl am ronynnau yn yr aer. Llywodraeth 60 mlynedd yn ôl a gyflwynodd y Ddeddf Aer Glân, ac mae pawb o blaid hynny. Mae hwn yn gwestiwn hollol wahanol. Fy mhwynt i yw bod Cymru yn un o rannau tlotaf gorllewin Ewrop. Mae gennym ni bron i chwarter ein haelwydydd mewn tlodi tanwydd. Maen nhw'n gorfod gwario cannoedd ar gannoedd o bunnoedd, na allant ei fforddio, bob blwyddyn yn talu am ein rhwymedigaethau ynni adnewyddadwy o dan gyfarwyddebau'r UE. Os yw’r Unol Daleithiau yn mynd i droi ei chefn ar ymrwymiadau i leihau ei hallyriadau carbon deuocsid ei hun nawr, ac os nad yw Tsieina ac India wedi ymrwymo i hynny beth bynnag, beth yw'r synnwyr i ni wneud gwahaniaeth anfeidrol fach i faint o garbon deuocsid a ollyngir yn y byd—rhwymedigaeth sy'n achosi niwed gwirioneddol a thlodi gwirioneddol mewn aelwydydd yng Nghymru?

Nid wyf yn credu fy mod i wedi dweud bod yr aer yn Beijing yn fflamadwy. Nid wyf yn siŵr bod y cynnwys hydrogen na’r cynnwys ocsigen, yn wir, mor uchel y byddai'r aer yn mynd ar dân neu’n ffrwydro hyd yn oed. Roeddwn i’n cyfeirio at afon benodol, y mae ei chyd-destun yn adnabyddus. Fy mhryder i yw bod y rhai sy'n dweud bod newid hinsawdd yn ddibwys yn aml iawn o'r farn bod rheoleiddio amgylcheddol yn faich ar ddiwydiant. Nid wyf yn derbyn hynny. Ond unwaith eto, rwy’n dod yn ôl at y pwynt hwn: mae'r gwynt yn chwythu; mae am ddim. Bydd y llanw yno cyhyd ag y bydd y lleuad yn yr awyr. Ceir cost cyfalaf, wrth gwrs, o sefydlu’r seilwaith i gynhyrchu ynni, ond unwaith y bydd wedi ei sefydlu, mae'r costau cynhyrchu yn isel iawn yn wir. Nid wyf yn gwybod beth yw ei ddewis amgen. Nid yw wedi ei amlinellu. Mae'n sôn am lo. Gwnaeth ei orau i ddinistrio’r diwydiant glo. Y realiti yw na fyddwn byth yn cynhyrchu digon o lo yn y DU nawr i ddiwallu ein hanghenion ynni. Byddai'n rhaid i ni ei fewnforio o wledydd fel Awstralia. Byddai'n rhaid i ni fewnforio nwy naturiol o wledydd nad ydynt eisiau gwneud ffafr â ni. Byddai'n rhaid i ni fewnforio mwy o nwy naturiol hylifol o wledydd ledled y byd. Rydym ni’n gwneud hynny eisoes. Nawr, er fy mod i’n gwybod bod y gymysgedd ynni yn y DU yn mynd i barhau yn y dyfodol—ac yn wir, mae 25 y cant o'r nwy naturiol hylifol yn y DU yn dod trwy Aberdaugleddau, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn parhau yn y dyfodol—nid wyf yn gweld y doethineb o ddweud mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw mynd yn ôl i dechnoleg y gorffennol, gyda llygredd y gorffennol, a cheisio anwybyddu pwysau llethol y dystiolaeth wyddonol a rhoi ein pennau yn y tywod. Mae e’n rhywun sy'n falch, meddai fe, o fod yn Brydeiniwr. Yna gadewch iddo ddangos ei falchder trwy ddweud ei fod eisiau i'r DU arwain y ffordd pan ddaw i ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd.

Cynorthwyo Busnesau yng Nghanol De Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0450(FM)

[Torri ar draws.] Gwnaf. Rydym ni’n cymryd amrywiaeth o gamau i helpu busnesau newydd a phresennol i ddatblygu, tyfu a chefnogi. Mae hynny'n cynnwys cymorth busnes, cyngor a buddsoddi mewn seilwaith digidol a thrafnidiaeth.

Nid wyf yn hollol siŵr pam fod y rhai ar y meinciau cefn yn mwmian yno. Mae gan Aelod hawl perffaith i ofn cwestiwn yn y lle hwn, a Chwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r amser i hynny ddigwydd. Brif Weinidog, rwyf wedi canmol Llywodraeth Cymru yn flaenorol am yr arian y mae wedi ei wneud ar gael ar gyfer rhyddhad trosiannol o ran y cynllun ardrethi busnes. Gwnaeth gyhoeddiad ar 17 Rhagfyr o swm ychwanegol o £10 miliwn—neu gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddiad ar 17 Rhagfyr o swm ychwanegol o £10 miliwn—i gynorthwyo’r ymarfer ailbrisio diweddar o fusnesau yng Nghanol De Cymru ac, yn wir, ledled Cymru. Hyd yn hyn, nid oes dim mwy o wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd yr arian hwnnw’n cael ei gyflwyno, er i ni ar y meinciau hyn, ac eraill yn y Siambr, bwyso am ragor o wybodaeth. Fe’n hysbyswyd y byddai’r wybodaeth honno yn cael ei chyhoeddi ddechrau mis Chwefror. Hyd yn hyn, nid wyf yn credu bod y wybodaeth honno wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi sut yr ydych chi’n mynd i ddosbarthu'r arian hwnnw, fel y gall busnesau wneud y penderfyniadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud cyn y flwyddyn ariannol newydd?

Yn y pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd, clywsom dystiolaeth fod ardrethi busnes ychwanegol yn cael eu codi ar fusnesau sydd wedi gwneud y peth iawn ac wedi gosod paneli solar ar eu toeau. Felly, fy nghwestiwn i, a dweud y gwir, yw: pa ysgogwyr sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau sy'n cael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol, e.e. sefydliadau bwyd iach, ac i atal busnesau sy'n cael effaith negyddol, e.e. siopau betio, benthycwyr diwrnod talu a sefydliadau eraill a godwyd gan Mike Hedges yn gynharach?

Rydym ni’n gwneud hyn trwy gaffael yn bennaf. Mae polisi caffael Cymru yn annog sector cyhoeddus Cymru i ddefnyddio dulliau lle mae manteision cymunedol neu gymalau cymdeithasol yn ganolog i feini prawf dyfarnu contractau pan fydd hynny’n bosibl. Trwy wneud hynny, gall penderfyniadau dyfarnu contractau ffafrio'r cyflenwyr hynny sy'n cynnig tystiolaeth gref o gyflawni yn erbyn ein gofynion cymal cymdeithasol. Felly, gall caffael fod yn arf effeithiol i annog arferion busnes da ac, yn wir, arferion busnes da yn y gymuned.

Brif Weinidog, y cwestiwn go iawn y dylech chi fod yn ei ateb yw beth ydych chi’n mynd i'w wneud i geisio adfer dim ond ychydig o hygrededd yn Llywodraeth Cymru ar ôl rhoi 53 miliwn o resymau i’r gymuned fusnes yng Nghymru golli ffydd ynoch. O leiaf £53 miliwn yw faint y mae eich Llywodraeth wedi ei golli trwy anghymhwysedd difrifol gyda chytundebau cymorth busnes a thir—collwyd o leiaf £53 miliwn. Pryd fydd ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal? 

O ran yr ateb a roddais rai munudau'n ôl, gallaf ddweud wrtho fod 97.6 y cant o'r busnesau yr ydym ni’n eu cefnogi yn llwyddiannus, ac mae hwnnw’n hanes ardderchog ynddo'i hun.

Hyrwyddo Creu Swyddi yng Nghasnewydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo creu swyddi yng Nghasnewydd? OAQ(5)0458(FM)

Rydym ni’n bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau i gefnogi creu a diogelu swyddi o ansawdd uchel yng Nghasnewydd ac, yn wir, ledled Cymru gyfan.

Diolch i chi, Brif Weinidog. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a leolir yn Nyffryn yng Nghasnewydd, yn agor campws gwyddoniaeth data ym mis Mawrth. Bydd y campws yn gweithredu fel canolfan ar gyfer dadansoddi data mawr, a fydd yn caniatáu gwaith cydweithredol rhwng academyddion, y Llywodraeth, y sector cyhoeddus, diwydiant a phartneriaid trydydd sector sy'n dymuno gwthio ffiniau darpariaeth eu gwasanaethau. Gan ddarparu mesuriadau a dadansoddiadau cyfoethog a gwybodus ar yr economi, yr amgylchedd byd-eang a chymdeithas ehangach, bydd y campws yn dod yn gyfleuster o'r radd flaenaf. Y dyhead i greu Silicon Valley i Gymru yw'r bwriad, ac y bydd yn ganolfan ar gyfer gwaith ymchwil gwyddoniaeth data arloesol, gan helpu i greu swyddi a denu buddsoddiad. A wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda'i phartneriaid a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i hyrwyddo'r ymdrech hon i greu 'silicon valley' i Gymru?

Gwnawn, mi wnawn. Mae'n hynod bwysig, rydym ni’n gwybod, bod lefel bresennol o arbenigedd, busnesau newydd yn clystyru ac arloesedd newydd yn yr ardal honno yn helpu pawb. Mae Casnewydd yn datblygu iddi ei hun, yn gyflym iawn, enw da am feddalwedd a TGCh yn fwy cyffredinol, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni’n awyddus iawn i’w annog yn y dyfodol.

Brif Weinidog, Casnewydd yw un o'r trefi neu ddinasoedd sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig pan ddaw i siopau gwag. Roedd mwy na chwarter siopau’r ddinas yn wag yn ystod hanner cyntaf 2016, yn ôl y Cwmni Data Lleol. Pa gynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ddarparu cymhellion, fel rhyddhad treth, i bobl agor busnesau newydd mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o siopau gwag, fel Casnewydd, i greu swyddi ac adfywio canol ein dinasoedd?

Wel, rwy’n meddwl fod cynghorau yn gwneud gwaith da o ran annog busnesau, ond mae'n rhaid i landlordiaid chwarae eu rhan hefyd. Mae’n rhaid i landlordiaid ddeall bod y dyddiau o allu codi rhent afrealistig am les hirdymor wedi mynd. Dydyn nhw ddim yno mwyach. Mae'n hynod bwysig bod landlordiaid yn hyblyg a’u bod yn ceisio annog siopau dros dro i’r busnesau hynny sydd eisiau profi'r farchnad am dri mis ond nad ydynt eisiau ymrwymo i les sy'n bump i 10 mlynedd o hyd. Bydd landlordiaid yn canfod, trwy wneud hynny, y byddant o bosibl yn llenwi eu siopau, oherwydd ni fydd rhai o'r busnesau hynny yn llwyddo, bydd rhai ohonynt yn llwyddo, ac os byddant, wrth gwrs, mae gan y landlord denant mwy hirdymor. Felly, nid cyfrifoldeb cynghorau yn unig yw hyn, er tegwch; mae hefyd yn bwysig bod landlordiaid yn gallu gweithio'n hyblyg i gynnig cyfleoedd i fusnesau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Y Trydydd Sector

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl y trydydd sector yng Nghymru? OAQ(5)0446(FM)

Mae'r trydydd sector yn cyflawni swyddogaeth bwysig yng Nghymru. Mae dros 33,000 o fudiadau trydydd sector yn darparu gwasanaethau ym mhob maes, o'r amgylchedd hyd at gefnogi gwasanaethau iechyd.

Diolch, Brif Weinidog. A ydych chi’n ymwybodol bod Public Affairs Cymru wedi datgelu bod dros hanner ei aelodau wedi dweud bod enghreifftiau wedi codi—rwy’n dyfynnu nawr—

pan ofynnwyd i lobïwyr ac ymgyrchwyr ailystyried safbwyntiau neu beidio â dweud pethau penodol nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw?

Wel, yn gyntaf oll, roeddwn i’n meddwl nad oedd gan lobïwyr unrhyw gyswllt gyda'r Llywodraeth—dyna ddywedwyd wrthym ni yn y Siambr hon—ond, yn wir, mewn geiriau eraill, mae eich Llywodraeth yn pwyso ar bobl, ac yn pwyso ar sefydliadau. Sensoriaeth yw hyn, ac mae'n annemocrataidd. Felly, yng ngoleuni’r sgandal hwn, yng ngoleuni'r honiadau cywilyddus hyn, pam na wnewch chi ymchwilio i'r mater hwn?

Nid wyf yn gwybod os yw'n awgrymu bod y trydydd sector, sef yr hyn yr oedd ei gwestiwn yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd, yn rhan o hyn, oherwydd, yn sicr, nid oedd y cwestiwn atodol i'w wneud â'r trydydd sector. Mae'n rhywbeth y credaf sy’n bodoli’n bennaf yn ei feddwl ei hun. Mater i'r pwyllgor ei ystyried a llunio adroddiad yw pa dystiolaeth sy’n cael ei rhoi i bwyllgor, nid dweud yng nghanol ymchwiliad bod—. Nid yw’n briodol, rwy’n credu, i Aelod, yng nghanol ymchwiliad, wneud sylwadau ar y dystiolaeth wrth i'r ymchwiliad barhau. Rydym ni fel Llywodraeth yn ymateb i adroddiadau maes o law, ond nid yw'r dystiolaeth wedi cael ei hystyried. Gallaf ddweud, cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, nid ydym yn dweud wrth sefydliadau beth ddylent neu na ddylent ei ddweud. Fel arall, byddai fawr o bwynt mewn cael sefydliadau sydd â chyfrifoldeb am ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, yn ogystal â’r Cynulliad hwn.

A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddathlu pen-blwydd diweddar un o'r sefydliadau trydydd sector mwyaf blaenllaw yn fy etholaeth i, sef canolfan blant Tiddlywinks yn Ystalyfera, yr ymwelais â hi yn ddiweddar gan weld drosof fy hun y gwasanaeth rhagorol sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd y cyntaf o'i fath yng Nghymru ac sydd bellach yn fenter gymdeithasol hunangynhaliol? Ceir llawer o rai eraill o'r un math yn etholaeth Castell-nedd. Roeddwn i gydag un gyda'r Gweinidog dysgu gydol oes ddydd Llun, yn trafod gwaith tasglu’r Cymoedd. Maen nhw’n darparu gwasanaethau gofal plant allweddol ac yn ffynhonnell sylweddol o gyflogaeth. Felly, a wnaiff e ymuno â mi i gydnabod swyddogaeth hynod werthfawr y trydydd sector o ran darparu gwasanaethau gofal plant, yng Nghastell-nedd a ledled Cymru, ac a yw'n cytuno â mi y gall y trydydd sector, trydydd sector bywiog, fynd ati i lunio polisi a, gyda’r gefnogaeth a'r dychymyg priodol, y gall hefyd ddarparu gwasanaethau i'n cymunedau, gan eu gwneud yn gryfach? Ac a yw'n cytuno â mi ei bod, ac y dylai fod, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru gefnogi'r sector?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Hoffwn longyfarch y staff, yr ymddiriedolwyr a’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o daith Tiddlywinks dros yr 20 mlynedd diwethaf; maen nhw wedi llywio a dylanwadu ar feddyliau llawer o blant y mae ganddynt, rwy’n siŵr, atgofion melys o'u hamser yno, ac rwy’n gobeithio, wrth gwrs, y gallant barhau i wneud hynny yn y dyfodol hefyd.

Brif Weinidog, mae Pythefnos Masnach Deg yn rhedeg o 27 Chwefror tan 12 Mawrth, ac rwy’n meddwl y dylem ni fod yn haeddiannol falch fod Cymru wedi bod yn Genedl Masnach Deg ers 2008, a’r gyntaf erioed. Mae gan wyth deg dau y cant o awdurdodau lleol a 93 y cant o brifysgolion statws masnach deg, 150 o ysgolion, ac mae 50 y cant arall wedi eu cofrestru ar y cynllun ysgolion masnach deg. Mae gan Lywodraeth Cymru statws masnach deg, ond codwyd pryderon gyda mi am rywfaint o amwysedd ynghylch sut yr ydych chi’n cymhwyso’r model masnach deg. A wnewch chi ymchwilio i hyn er mwyn sicrhau nad dim ond statws yw e, ond bod diwylliant o gydnabyddiaeth masnach deg o ran caffael o fewn eich adrannau eich hun ar draws Lywodraeth Cymru?

Pe gallai'r Aelod roi rhagor o wybodaeth i mi, byddwn yn falch, wrth gwrs, i edrych ar hyn iddi.

Brif Weinidog, mae’r trydydd sector a'i fyddin o wirfoddolwyr yn arbed miliynau o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus bob blwyddyn ac yn darparu gwasanaethau gwerthfawr na all y sector cyhoeddus eu darparu. Mae'r trydydd sector yn ein diogelu pan fyddwn yn mynd i'r traeth neu’r rygbi, yn darparu gwaith ymchwil gwerthfawr i nifer o glefydau a chyflyrau, yn ymgyrchu dros hawliau gwell, tai a llu o wasanaethau eraill. Heb y trydydd sector, byddai ein bywydau yn llawer, llawer tlotach. Brif Weinidog, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y gall y trydydd sector barhau i ffynnu yng Nghymru ac i gydnabod a diolch i'r gwirfoddolwyr sy'n gyrru'r sector hwn?

Mae’r Aelod yn iawn. Mae gwaith ymchwil Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn awgrymu mai £3.8 biliwn yw gwerth y trydydd sector yng Nghymru. Mae'r sector yn cyflogi 79,000 o bobl ac yn gweithio gyda 938,000 o wirfoddolwyr, sy’n nifer syfrdanol. Mae hynny bron i un o bob tri o bobl yng Nghymru sy'n gwirfoddoli mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Rydym ni wedi darparu £4.4 miliwn yn 2016-17 fel cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol Cymru ledled Cymru, ac maen nhw, wrth gwrs, mewn sefyllfa dda i gynorthwyo mudiadau gwirfoddol o ran eu sicrwydd ariannol eu hunain, a’u cynorthwyo i ddeall ble ddylen nhw fynd i ofyn am gymorth ariannol. Felly, mae’r arian hwnnw’n gwneud llawer o ran darparu cymorth i gynifer o sefydliadau sy'n darparu cymaint o wasanaethau i gymaint o bobl.

Gwasanaethau Rheilffyrdd yn Ne-ddwyrain Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0461(FM)

Rydym ni wrthi’n caffael gweithredwr a phartner datblygu ar gyfer gwasanaethau Cymru a'r gororau o 2018 a seilwaith y metro hefyd. Mae'r broses honno’n cynnwys trafodaethau gyda chynigwyr ar sut y gellir darparu gwasanaethau yn y de-ddwyrain orau yn rhan o ddarpariaeth ehangach metro de Cymru.

Diolch am hynna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch yn iawn, mae'r cyswllt rheilffordd teithwyr Casnewydd i Lynebwy yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i bobl leol, a cheir llawer o rwystredigaeth a diffyg amynedd nad yw wedi ei sefydlu eto. A allwch chi, Brif Weinidog, roi sicrwydd pellach heddiw bod y cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru? Ac a allwch chi roi unrhyw amseroedd o ran pryd y bydd yn weithredol—yr amseroedd diweddaraf, os yn bosibl?

Nid yw'n bosibl rhoi amser o ran pryd y gallai'r gwasanaeth fod yn weithredol, ond gallaf roi sicrwydd i’r Aelod bod darpariaeth y gwasanaeth ar reilffordd Glynebwy yn cael ei harchwilio yn rhan o'r prosiect hwnnw. Mae wedi pwysleisio lawer gwaith yn y Siambr hon dros y blynyddoedd pwysigrwydd gwasanaeth yn mynd i Gasnewydd, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r syniadau sy’n datblygu ynghylch sut y bydd y metro yn gweithredu yn y dyfodol.

Brif Weinidog, mae adnewyddiad masnachfraint Cymru a’r gororau yn prysur agosáu. A yw Llywodraeth Cymru o leiaf wedi dechrau’r broses o archebu neu ystyried archebu cerbydau newydd ar gyfer y fasnachfraint honno? Gofynnaf y cwestiwn oherwydd, o ystyried ei bod yn cymryd hyd at bedair blynedd i gomisiynu cerbydau newydd-nid yw fel prynu car yn y garej lleol—a ydych chi’n rhannu fy mhryderon bod perygl na fydd gan y cwmni trenau newydd unrhyw ddewis ond dibynnu ar y stoc bresennol ar ddechrau'r fasnachfraint, y bydd bron yn sicr yn ei hadnewyddu yn y pen draw, a phrin y byddai hynny’n ddechrau newydd i’r fasnachfraint newydd y byddai'r cyhoedd yn gobeithio ei weld?

Bydd yn gwbl eglur yn rhan o gynigion y fasnachfraint y dylai cerbydau fod yn fodern, nid yn 40 mlwydd oed yn sicr, fel y mae rhai o'r cerbydau ar rai rheilffyrdd ar hyn o bryd, ac y dylai’r cerbydau hynny ddarparu cyfleusterau i deithwyr fel Wi-Fi, na ddarperir ar hyn o bryd. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod bod hyn yn sicr yn rhan o'r broses dendro ar gyfer y fasnachfraint newydd. Rydym ni eisiau i bobl gael y gwasanaethau rheilffordd gorau yn y DU yn hytrach na gwasanaethau sy'n dibynnu ar hen gerbydau.

Yn dilyn y cwestiwn gan John Griffiths, AC Dwyrain Casnewydd, bydd Trenau Arriva Cymru yn dweud wrthym fod rheilffordd Glynebwy yn llawn gyda'r rhai sydd eisiau teithio i Gaerdydd. Byddai'n ymddangos mai dim ond dau wely trac i Lynebwy fyddai'n lliniaru'r broblem hon. A wnaiff y Prif Weinidog ein hysbysu a oes unrhyw gynlluniau i weithredu’r opsiwn hwn?

Wel, gall fod yn drac dwbl, gall fod yn drac dwbl rhannol, ac efallai mai signalau fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Mae'n newyddion da, wrth gwrs, bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio cymaint bod angen cynyddu amlder. Bydd y pethau hyn, ymhlith pethau eraill, yn cael eu hystyried, gan weithio gyda sefydliadau fel Network Rail, i ddarparu gwasanaeth gwell yn y dyfodol. Unwaith eto, mae hynny'n sicr yn rhan o'r syniadau am y metro a’r fasnachfraint newydd.

Y Diwydiant Pysgod Cregyn

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r diwydiant pysgod cregyn yn sgil y penderfyniad i adael yr UE? OAQ(5)0456(FM)[W]

Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant yn ogystal â phwysleisio i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yr angen dybryd i gadarnhau y bydd diwydiant pysgod cregyn Cymru’n parhau i gael mynediad dirwystr i’r marchnadoedd allweddol ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Diolch am yr ateb yna. Yn 2015, mi oedd amaethu pysgod cregyn yn werth rhyw £12 miliwn i economi Cymru. Mae o’n ddiwydiant ac yn gyflogwr pwysig yn fy etholaeth i ac mae’r gallu i werthu mewn marchnad sengl yn ddi-doll wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at lwyddiant y diwydiant. I roi ffigurau i chi, mae 98 y cant o gynnyrch y Bangor Mussel Producers yn cael ei allforio—rhyw 70 y cant i’r Iseldiroedd, 20 y cant i Ffrainc a 10 y cant i Iwerddon. A gaf i ddyfynnu gan un o arweinwyr y diwydiant yna, sydd wedi canmol rhai o’r trafodaethau sydd wedi digwydd yn fewnol yng Nghymru ers y bleidlais? Mae o’n dweud ei fod o’n ofni y gwaethaf i Gymru drwy’r ffaith na fydd gan Gymru na’r Alban na Gogledd Iwerddon lais uniongyrchol yn y trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd. A all y Prif Weinidog, felly, ddweud wrthym ni beth fydd strategaeth Llywodraeth Cymru o hyn allan i geisio diogelu dyfodol y diwydiant pwysig yma?

Mae 90 y cant o’r pysgod sydd yn cael eu dal yng Nghymru yn cael eu hallforio, felly byddai unrhyw rwystr, toll neu unrhyw fath o rwystr arall yn wael i’r rheini sy’n allforio. Rydym yn gwybod bod y farchnad yn y Deyrnas Unedig yn rhy fach i sicrhau dyfodol iddyn nhw a dyna pam mae mor bwysig i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw at ei gair er mwyn sicrhau bod yna lais cryf i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod y trafodaethau dros y ddwy flynedd a mwy nesaf.

Brif Weinidog, rwy’n gobeithio y bydd cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ebrill yn ffrwythlon o ran hyrwyddo ein pysgod cregyn i’r holl fyd, nid i'r Undeb Ewropeaidd yn unig. Ond, fel y gwyddoch, mae lefel y paraseitiaid a geir mewn cocos o fornant Porth Tywyn, oddi ar arfordir Gŵyr, yn uwch na'r disgwyl. Wrth gwrs, os ydym ni’n mynd i fodloni’r galw byd-eang, rydym ni angen ein cocos i oroesi. Cymerodd Llys Cyfiawnder Ewrop gamau i gyfyngu ar nifer y colledion a ganiateir yn yr ardal er mwyn helpu i gyfyngu ar gynnydd rhai mathau o facteria, ond mae achos y clefyd sy'n atal rhai cocos rhag cyrraedd aeddfedrwydd yn dal i fod yn aneglur. Y Bil diddymu mawr—yn dilyn hynny, rwy’n gobeithio y bydd y deddfau amgylcheddol yn parhau i wneud cryn dipyn i ddiogelu iechyd cocos. Ond rwy'n credu bod angen i ni ymrwymo i astudiaeth bellach ar achos ac atal marwolaeth gynnar cocos. Tybed a allwch chi roi’r ymrwymiad hwnnw i'r Siambr heddiw.

Gallaf ddweud bod ymchwiliadau i farwolaethau cocos ar fornant Porth Tywyn yn parhau. Bydd adolygiad ar gynnydd ymchwiliad yr ydym ni wedi ei ariannu yn cael ei gyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru pan fo hwnnw wedi’i gwblhau. Rydym ni’n gweithio gyda'r diwydiant i ddatblygu deddfwriaeth i wella rheolaeth a chynaliadwyedd pysgodfeydd cocos a reolir gan y Llywodraeth hefyd. Mae'n fater cymhleth. Rai blynyddoedd yn ôl, rwy’n cofio gwenwyn diaretig pysgod cregyn yn effeithio ar y gwelyau cocos—nid oedd yn eglur erioed beth oedd yr achos. Roedd gwahanol ddamcaniaethau am yr hyn a oedd wedi digwydd. Yr hyn yr ydym ni’n ei wybod, wrth gwrs, yw bod y cystudd yno yn y gwelyau cocos. Felly, mae'n bwysig nawr bod ymchwiliad trylwyr yn cael ei orffen mewn da bryd fel bod gennym ni ateb. Unwaith, wrth gwrs, y mae gennym ni atebion, yna gallwn ddarparu’r ymateb deddfwriaethol mwyaf effeithiol posibl.

Mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol, o’i gyfnod fel Gweinidog amaeth a physgodfeydd, mor allweddol yw’r diwydiant pysgod cregyn ar arfordir Cymru. Ond gan nad oedd y diwydiant pysgod cregyn erioed yn rhan o’r polisi amaethyddol a physgodfeydd cyffredin—yr un o’r ddau ohonyn nhw—onid ydy hi’n rhesymol felly y byddai disgwyl y bydd y diwydiant yna’n gallu parhau i werthu i mewn i gyfandir Ewrop, fel mae wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?

Mae’n hollbwysig. Rydym yn gwybod bod pysgod cregyn yn bwysig iawn i’r diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r llongau sydd gyda ni yn llongau eithaf bach, sydd yn dal pysgod cregyn, ac nid ydyn nhw’n mynd yn bell o’r arfordir. Ac maen nhw’n gwybod, ac rydym ni’n gwybod, bod yna farchnad gref iddyn nhw yn Ewrop. Os byddai unrhyw beth yn digwydd i wanhau eu sefyllfa nhw yn y farchnad honno, wel, nid oes modd arall iddyn nhw wneud yr un elw. Dyna pam mae hi mor bwysig i sicrhau bod y farchnad Ewropeaidd ar agor ar yr un termau yn y dyfodol ag y mae hi nawr.

Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Nhorfaen? OAQ(5)0459(FM)

Gwnaf. Gwn fod awdurdod lleol Torfaen wedi clustnodi dros £86 miliwn ar gyfer band A y rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, sy'n ymestyn dros y pum mlynedd hyd at 2019. Gwn fod prosiectau sydd werth dros £66 miliwn wedi cael eu cymeradwyo eisoes, ac mae chwe phrosiect naill ai’n cael eu hadeiladu neu wedi eu cwblhau.

Diolch yn fawr, ac roeddwn i’n falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i Dorfaen yr wythnos diwethaf i agor dwy ysgol gynradd newydd yng Nghwmbrân yn swyddogol: Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam ac Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road, ac adeiladwyd y rhain yn rhan o'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Gydag Ysgol Panteg, sydd i fod i agor i ddisgyblion yn ddiweddarach y mis hwn, mae'n golygu y bydd cyfanswm y buddsoddiad tua £20.5 miliwn. A wnewch chi ymuno â mi, Brif Weinidog, i groesawu'r ymrwymiad a’r buddsoddiad gan gyngor Torfaen a Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf i'n plant?

Yn wir. Mae fy ffrind yr Aelod dros Dorfaen yn llygad ei le: mwy na £20 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn ysgolion yn Nhorfaen—enghraifft dda o'r awdurdod lleol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu'r gorau i'n plant, ac enghraifft dda arall eto o Lywodraeth Cymru ac awdurdod lleol a reolir gan Lafur yn darparu ysgolion sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn dda i blant Torfaen.

Brif Weinidog, bydd chweched dosbarth presennol Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Ysgol Uwchradd Gatholig St Albans ac Ysgol Croesyceiliog yn cael eu diddymu'n raddol yn fuan. O ystyried y bydd rhaid i staff chweched dosbarth yn yr ysgolion hyn gystadlu am swyddi yn y ganolfan newydd, a wnaiff y Prif Weinidog ein hysbysu faint o ddiswyddiadau a ddisgwylir o ganlyniad i’r ad-drefnu hwn a pha drafodaethau y mae ei Lywodraeth wedi eu cael gyda chyngor Torfaen yn hyn o beth, os gwelwch yn dda?

Wel, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drefnu addysg yn eu hardaloedd, ac, wrth gwrs, mae Torfaen, fel y mae awdurdodau eraill yn ei wneud, yn ceisio gwneud y ddarpariaeth orau a mwyaf modern posibl.

2. Cwestiwn Brys: Kancoat

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rydw i’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe? EAQ(5)0121(EI)

Member
Ken Skates 14:17:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. Mae fy swyddogion a minnau wedi cynorthwyo'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar bob cam o'i ystyriaethau ar y pwnc hwn. Rwyf wedi derbyn adroddiad y pwyllgor, ac yn ei groesawu’n fawr, a byddwn yn ymateb yn llawn iddo.

A gaf i ddiolch Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Mae'r adroddiad a gafwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi rhai pryderon difrifol iawn, fe ddywedwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn ag ymddygiad Llywodraeth Cymru, wrth i swm sylweddol arall eto o arian trethdalwyr—£3 miliwn—gael ei golli. Mae rhai cwestiynau am atebolrwydd yn y fan yma, ac yn anffodus, nid hwn yw’r tro cyntaf i arian trethdalwyr gael ei wastraffu gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi gweld nifer o benderfyniadau amheus eraill, gan gynnwys Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Kukd a Triumph. Nid wyf yn credu o gwbl na ddylai Llywodraethau fod yn fentrus; rwy’n bendant yn credu y dylen nhw, ond dylen nhw wneud hynny mewn ffordd gytbwys. O ran Kancoat, dro ar ôl tro, mae'r cyngor arbenigol a roddwyd i Lywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod gan y cwmni gynllun busnes gwan a’i fod yn fuddsoddiad risg uchel. Felly, a gaf i ofyn pam, yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y cafodd y cyngor ei anwybyddu—gan gofio hefyd, wrth gwrs, bod cangen buddsoddi’r Llywodraeth, Cyllid Cymru, wedi ei nodi fel risg annerbyniol o uchel? Beth yw eich dyfarniad ar hyn, o ystyried y newidiadau y gwn eich bod wedi eu gwneud yn eich adran ers i chi ddechrau yn eich swydd, ac ai eich barn chi yw fod yr adran a etifeddwyd gennych wir yn anaddas i’w ddiben? Ydych chi wedi sôn—? Rydych chi wedi crybwyll mewn datganiadau diweddar eich bod wedi rhoi gweithdrefnau newydd ar waith erbyn hyn; beth yw’r gweithdrefnau newydd hyn? Rwy'n credu mai dyna'r cwestiwn allweddol yn y fan yma. Ac yn olaf, ble y mae’r atebolrwydd yn gorwedd, yn eich barn chi? Ai gyda’ch rhagflaenydd, neu gyda swyddogion?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rydym bob amser yn dysgu ac, yn wir, gwnaeth fy rhagflaenydd newidiadau yn yr adran pan wnaeth hithau ei hetifeddu. Yn wir, cyflwynodd fy rhagflaenydd y weithdrefn panel buddsoddi er mwyn cryfhau goruchwyliaeth ystyriaethau buddsoddi a sicrhau wrth roi ystyriaeth i risg y gellid dod i benderfyniad deallus. Mae'r dirprwy ysgrifennydd parhaol wedi dweud ar goedd, yn yr achos hwn, bod y panel buddsoddi wedi gwneud camgymeriad, ac felly, wedi rhoi cyngor gwallus i'r Gweinidog. Ond rwyf i o’r farn, ac mae'r Aelod yn cydnabod y ffaith, fod yn rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng mentro ac achub ar gyfle. Ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ei nodi, mae’n achos, yn ffaith ddigamsyniol, bod fy rhagflaenydd, yn nhymor y Cynulliad blaenorol, wedi goruchwylio’r twf mwyaf erioed, pan oedd cyfradd llwyddiant y busnesau a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn fwy na 97 y cant. Mae hynny'n cymharu'n hynod ffafriol â’r cyfartaledd yng Nghymru ac, yn wir, mae hyd yn oed yn well na chyfartaledd y DU. Felly, rwy’n credu bod gennym, mewn gwirionedd, stori y gallwn fod yn falch iawn ohoni, i’w hadrodd am lwyddiant Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i fusnes. Serch hynny, nid yw pob busnes yn goroesi, nid yw pob busnes yn llwyddo. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu ffyniant busnesau, ond bydd achosion, yn enwedig yng nghyd-destun y cyfnod yn dilyn y cwymp ariannol, pryd y sefydlwyd busnesau a phan nad oedd yr hinsawdd economaidd yn sefydlog ac yn caniatáu cyflawni’r twf a ragwelwyd.

Mae gennym nifer—ac mae’r Aelod yn cydnabod hyn—o newidiadau gweithdrefnol sydd wedi eu rhoi ar waith. Byddwn i'n hapus i ysgrifennu at yr holl Aelodau i roi’r manylion. Mewn gwirionedd, gan fod arweinydd y Ceidwadwyr, rwy’n credu, yn dymuno gwybod beth ydyn nhw, fe’u rhoddaf yn awr: mae ystyriaeth o fenthyciadau masnachol bellach yn rhan o'r weithdrefn panel buddsoddi; erbyn hyn mae’n rhaid i'r uwch dîm rheoli gadarnhau unrhyw argymhelliad gan y panel buddsoddi ar gyfer benthyciadau masnachol dros £1 filiwn; yn rhan o'r broses cymeradwyo ariannol, mae’n rhaid cynnal gwerthusiad annibynnol erbyn hyn o'r holl brosiectau sy'n cynnwys benthyciadau masnachol; mae arolygu benthyciadau wedi ei symud i’r tîm arolygu canolog—roedd hwnnw yn brotocol adrannol y cytunwyd arno; mae ceisiadau am fenthyciadau yn cael eu hasesu yn fwy trylwyr o ran eu gallu i ad-dalu drwy gynnal diwydrwydd dyladwy ariannol priodol; mae newid pellach mewn gweithdrefnau, a gydnabuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fel bod yn ymagwedd safonol at asesu risg, wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau cysondeb mewn cynlluniau ariannu, a phan ystyrir ymyriaethau lluosog, cânt eu hystyried gan un corff erbyn hyn, gyda chyngor priodol gan y tîm arwain ar gyfer eiddo. Ceir gweithdrefnau eraill yr ydym wedi'u cyflwyno yn y pedwerydd Cynulliad. Ceir gweithdrefnau pellach y byddaf innau’n eu cyflwyno hefyd.

O ran yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor, ac rwyf yn gwerthfawrogi gwaith y pwyllgor ac, yn wir, yr adroddiad sydd wedi ei lunio, rwy’n credu y byddai'n anodd iawn i anghytuno ag unrhyw un o'r argymhellion hynny sydd wedi eu gwneud sy'n berthnasol i’m portffolio i. Er y byddaf yn ymateb maes o law i bob un o argymhellion y pwyllgor, gallaf ddweud fy mod eisoes yn derbyn nifer o’r argymhellion ac, yn wir, rwyf eisoes wedi rhoi rhai ohonynt ar waith.

Wrth gwrs, un argymhelliad nad ydych yn gallu ymateb iddo, ond mae’n rhaid ei roi o’r neilltu ar hyn o bryd, yw'r argymhelliad ehangach ar gyfrifoldeb gweinidogion, wrth wneud penderfyniadau sy'n bwysig i etholwyr ac etholaeth Gweinidog, ond nid mewn gwirionedd wedi eu lleoli yn yr etholaeth. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud bod y modd y mae gwrthdaro buddiannau yn cael ei ddirnad yn llawn mor bwysig â gwrthdaro buddiannau gwirioneddol. Y tro hwn, rwyf yn awgrymu na wnaeth y Prif Weinidog ymarfer sylw priodol ac nad oedd yn sylweddoli pa weithdrefnau y dylid eu dilyn, ac y dylai Gweinidog arall fod wedi gwneud y penderfyniad hwn.

A gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a dweud wrtho fy mod i wedi ysgrifennu at ei ragflaenydd, Edwina Hart, ar 1 Awst 2014—rai wythnosau cyn i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr—a chodi nifer o bryderon difrifol gyda hi a fynegwyd wrthyf gan weithwyr y cwmni sy'n byw yn fy rhanbarth i, yn Llanelli, oherwydd bod gweithwyr yn y cwmni hwn wedi eu gwasgaru dros ardal eithaf eang? Roedden nhw yn pryderu yn arbennig am y brydles a oedd wedi ei chytuno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd hwnnw, y dywedwyd wrthyf ei bod werth £1.25 miliwn a’i bod yn weithredol am bum mlynedd heb gymal toriad yn ystod y pum mlynedd hynny. A gaf i ddeall, felly, a ydych chi’n dal i fod wedi eich ymrwymo i’r brydles honno a beth yw cost gyfredol y brydles honno i Lywodraeth Cymru? Oherwydd byddai’n ymddangos bod hynny'n ychwanegol i’r costau yr ydym wedi eu gweld hyd yma yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a hoffwn gael cadarnhad o hynny.

Yr ail elfen a oedd yn achos pryder mawr i'r gweithwyr yn y ffatri oedd y ffaith bod nifer o gyfarwyddwyr, ar yr adeg yr oedden nhw’n diswyddo gweithwyr, yn cyflogi eu hunain am gyfnod o amser ar gost o hyd at £7,000 y mis, fel ymgynghorwyr hunangyflogedig neu fel arall wedi eu cyflogi yn llawn amser gan Kancoat. Roedd hyn mewn cyfnod pan yr oedd hi’n ymddangos bod y cwmni mewn trafferthion a bod hynny’n gyhoeddus, a chodais hyn yn uniongyrchol gyda'ch rhagflaenydd. Yr ateb a gefais ganddi oedd dim ond dweud bod diwydrwydd dyladwy llawn a thrylwyr wedi ei gynnal. Rydym yn gwybod erbyn hyn nad yw'n ymddangos bod hynny’n wir. Beth ddywedwch chi nawr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, wrth y gweithwyr yno a oedd yn codi’r pryderon hyn, ac a ydych chi’n hollol dawel eich meddwl na chymerodd cyfarwyddwyr y cwmni hwn unrhyw arian eu hunain yn bersonol, yn sgil y sefyllfa anffodus y canfu’r cwmni ei hun ynddi? 

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ef hefyd? Rwyf yn credu mai cwestiwn i’r Prif Weinidog yw’r un am gyfrifoldebau gweinidogol. Byddwn yn rhybuddio yn erbyn ceisio ymdrin â’r holl ddirnadaeth o wrthdaro buddiannau yn y fath fodd fel y byddai’n achos llesgedd o fewn y Llywodraeth. Gwlad fechan ydym ni gyda—yn enwedig yn y de-ddwyrain—pharth teithio i’r gwaith eang iawn, ac felly y mae'n bwysig, wrth gydnabod yr angen i sicrhau nad oes unrhyw ddirnadaeth o wrthdaro buddiannau, ein bod yn galluogi Gweinidogion i allu gwneud penderfyniadau ar sail ranbarthol. Er hynny, mater i'r Prif Weinidog ymateb iddo yw hwnnw, fel y dywedais. Rwyf yn fodlon iawn i adolygu'r holl ohebiaeth, gyda'i ganiatâd ef, a anfonodd yr Aelod at fy rhagflaenydd, mater y mae ef wedi ei godi yn y gorffennol, a'r pryderon a fynegwyd ganddo yn y gorffennol. Byddaf yn gwirio’r diwydrwydd dyladwy, ond nid yw'n wir bob amser y byddai diwydrwydd dyladwy wedi methu. Asesiad risg a wnaed yn seiliedig ar y wybodaeth a gafwyd, ac yna cafodd penderfyniad ei seilio ar hynny, yn ogystal ag ystyriaethau'r panel buddsoddi.

O ran y cwestiwn y brydles, mae hyn yn ymwneud—yn fy nhyb i—ag argymhelliad 11, a'r cwestiwn ehangach o ran unrhyw gostau ariannol parhaus i Lywodraeth Cymru. Mae gan fuddsoddwyr diddordeb pendant yn y safle, a phan fydd canlyniad y trafodaethau yn hysbys, bydd swyddogion yn rhannu unrhyw oblygiadau ariannol gydag Aelodau'r Siambr hon. Rwyf hefyd yn addo ymchwilio, o ran y cwestiwn olaf a gododd yr Aelod, i ba un a yw cyfarwyddwyr y cwmni hwnnw mewn sefyllfa i gael unrhyw fudd o gwbl yn dilyn cwymp y cwmni.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ateb cynharach. A gaf i yn gyntaf groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi ymateb llawn i adroddiad y pwyllgor ar sefyllfa Kancoat? Fel y dywedasoch, bydd eich ymateb i'r adroddiad yn cael ei ystyried yn llawn gan y pwyllgor, felly nid wyf yn dymuno barnu’r cam hwnnw o'r broses o flaen llaw, neu yn wir bod yn ailadroddus yn fy holi. Rwy'n falch o glywed eich bod eisoes wedi dweud eich bod, mewn egwyddor, yn fodlon derbyn nifer o argymhellion yr adroddiad hwnnw, ac rwyf yn credu eich bod hefyd wedi dweud eich bod eisoes wedi cymryd camau i weld bod y cammau hynny wedi eu rhoi ar waith, ac mae hwnnw'n gam gwirioneddol gadarnhaol, felly diolch i chi am hynny.

A gaf i ofyn i chi, ar fater ehangach, a ydych chi’n croesawu'r bwriad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad gwerth am arian ehangach i agwedd Llywodraeth Cymru at gyllid busnes, ac a fyddwch chi a'ch swyddogion yn cydweithio â’r archwiliad hwn yn ddiweddarach eleni? Mae'n amlwg, os bydd yn mynd rhagddo yn y fformat y mae'r archwilydd cyffredinol yn ei ystyried, y bydd yn ddarn mawr iawn o waith, ond rwyf o’r farn y bydd yn un defnyddiol, ar gyfer y Llywodraeth ac er mwyn i’r cyhoedd hefyd fod yn hyderus bod y gweithdrefnau ar waith i sicrhau nad yw’r math o broblemau gyda diwydrwydd dyladwy, a’r rhai eraill a welsom gyda Kancoat, yn digwydd eto. A gaf i ddweud yn syml, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y pwyllgor yn cydnabod pa mor hanfodol yw cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer busnes o ran sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol—pwynt a wnaeth Russell George yn ei gwestiwn agoriadol—ac rydym ni’n awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei weinyddu yn y modd gorau? Rydym yn croesawu'r gwaith arfaethedig i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario yn ddoeth er budd effeithlonrwydd, gwerth am arian, a chyda manteision economaidd ehangach, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb i'r pwyllgor, ac rwy'n siŵr y gallwn symud y sefyllfa hon yn ei blaen.

A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau, a hefyd am oruchwylio'r ymchwiliad hwn fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Byddwn, mi fyddwn yn gweithio'n agos gyda'r archwilydd cyffredinol, a chroesawaf yn fawr ei fwriad i gynnal ymchwiliad ehangach o gymorth i fusnes gan Lywodraeth Cymru. Un o'r newidiadau gweithdrefnol ychwanegol sy'n cael eu cyflwyno trwy lefel ehangach o weithgarwch i’r panel buddsoddi yw'r gallu i gymryd egwyl a myfyrio ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y tîm swyddogion a fydd yn arwain y prosiect ar raglenni buddsoddi a chredaf fod hyn wedi ein galluogi ni i gael rhywfaint o adolygiad gan gymheiriaid, sef bod gwaith a gaiff ei ddwyn ymlaen gan un grŵp yn cael ei adolygu gan grŵp arall yn y Llywodraeth. Gallaf ddweud wrth yr Aelod ar hyn o bryd, o ran yr 11 argymhelliad, rwyf eisoes wedi datgan, o ran yr argymhelliad terfynol, bod diddordeb pendant, a byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau am ganlyniad y trafodaethau wrth iddynt gael eu cwblhau.

Gan sôn yn gryno am bob un o'r argymhellion, o ran Argymhelliad Rhif 1, rydym eisoes wedi dechrau diffinio deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, a chredaf fod y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy yn enghraifft o hyn. O ran argymhelliad 2, dylid derbyn hwnnw, yn fy nhyb i, ac rydym wedi dechrau ymgorffori'r argymhelliad mewn gweithdrefnau. O ran argymhellion 3, 4 a 5, unwaith eto, mewn egwyddor, rydym yn derbyn yr argymhellion, ac mae'n gwbl briodol i edrych eto ar y canllawiau ar gyllid busnes nad yw’n ad-daladwy o ystyried anghenion newidiol busnes a'r hinsawdd economaidd. O ran argymhelliad 6, unwaith eto, mae argymhelliad ar nodi risgiau a lliniaru arfaethedig wedi ei dderbyn rwy’n meddwl—dylid ei dderbyn—ac, unwaith eto, mae’n cael ei weithredu.

A, chan droi at argymhellion 8, 9 a 10, unwaith eto, rydym wedi derbyn y rheini, ac rydym yn eu rhoi ar waith.

Rwyf yn derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am natur risg. Yn wir, dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach yn ystod cwestiynau na fydd pob buddsoddiad, ni waeth pa mor ofalus y byddwch chi, yn llwyddo, a byddai'n afresymol i fod yn rhy feirniadol pan ei fod yn methu am resymau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Dywedodd y dirprwy ysgrifennydd mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mai swyddogaeth y Llywodraeth yn y fan yma i bob pwrpas yw bod yn fenthyciwr pan fetha popeth arall, a dywedodd:

Mae ariannu pethau nad yw'r sector preifat yn fodlon eu hariannu yn awgrymu mentro pan na fydd y sector preifat yn fodlon mentro, sy'n awgrymu y bydd pethau yn methu.

Felly, rydych yn cychwyn o sefyllfa lle mae'n rhaid i chi fod yn feirniadol tu hwnt.

Ond yr hyn yr ydym yn ymdrin ag ef yn y fan yma yw achos pan na chafodd y cyngor diwydrwydd dyladwy a gafwyd gan gynghorwyr y Llywodraeth ei hun ei dderbyn, ac nid wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi ateb i Russell George yn hyn o beth yn gynharach. Yr hyn a ddywedodd yr adolygiad o ddiwydrwydd dyladwy oedd bod y cynllun busnes yn 2013 yn 'wan ac yn anghyson', a bod peryglon cynhenid ​​y busnes newydd yn dal i fod yno. Gadawodd disodli Coilcolor fel prif gyfranddaliwr, a’r golled o’u gwarant, y peryglon a nodwyd yn y bôn fel rhai heb eu lliniaru. Ac roedd y cynnig yn peri i Lywodraeth Cymru gymryd risg landlord sylweddol hefyd. Felly, roedd y prosiect wedi’i nodi fel bod yn risg uchel yn yr asesiad dechreuol, ac wedyn bu asesiad diwygiedig, a wnaeth mewn gwirionedd gynyddu lefel y risg yn hytrach na’i liniaru. Felly, beth sydd wir angen i ni ei wybod yma, a rhoi hynny yng nghyd-destun polisi'r Llywodraeth ar ddefnyddio arian trethdalwyr at ddibenion fel hyn, yw pam y gwrthodwyd yr adroddiad diwydrwydd dyladwy hwnnw, a oedd yn ymddangos, ar yr wyneb, o fod yn fflachio goleuadau coch ac yn canu clychau larwm ar bob agwedd. Beth oedd y cyngor a roddwyd i'r Gweinidog yn ei gynnwys a oedd yn diystyru'r holl rybuddion hynny a oedd i bob golwg yn rhybuddion amlwg iawn?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a hefyd am gydnabod y peryglon cynhenid ​​wrth ddiwallu methiant yn y farchnad cyn belled ag y mae cymorth busnes yn y cwestiwn? Rwyf o’r farn ein bod, o ganlyniad i weithredu'r 10 newid gweithdrefnol sydd wedi eu cydnabod gan Swyddfa Archwilio Cymru, wedi gwella'r system arolygu a gwerthuso a ddefnyddir ar gyfer ceisiadau am gymorth busnes. Nid yw’n wir fod diwydrwydd dyladwy wedi ei wrthod yn llwyr. Ystyriwyd y diwydrwydd dyladwy ochr yn ochr â'r manteision posibl, ac felly gwnaeth y panel buddsoddi argymhelliad ar sail hynny i’r Gweinidog. Ond, fel yr wyf eisoes wedi ei ddweud, derbynnir bod y cyngor a roddwyd gan y panel buddsoddi yn anghywir. Fe wnaethant gamgymeriad, ac mae hynny wedi ei gydnabod gan y gwasanaeth sifil.

Rwy'n credu bod angen i ni fyfyrio ar y cyd-destun—y cyd-destun economaidd—a oedd yn gefndir i’r penderfyniad. Roedd awydd i sicrhau bod gennym dwf economaidd ar adeg pan oeddem newydd ddioddef problemau difrifol a achoswyd gan y chwalfa ariannol, ac felly roedd yr awydd am risg efallai yn fwy nag y byddai heddiw, a ninnau wedi gallu magu twf economaidd dros nifer o flynyddoedd, a gwella cyflogaeth erbyn hyn i lefel agos i’r lefelau uchaf erioed, gostwng cyfraddau diweithdra i lefel is na chyfartaledd DU—yn wir, i’r lefel isaf erioed. A gallwn ddweud gyda hyder erbyn hyn, bod hynny o ganlyniad i gymorth busnes yn ystod tymor y pedwerydd Cynulliad—lle yr wyf yn cydnabod y bu rhai methiannau—o ganlyniad i'r cymorth, gwnaethom sicrhau bod 97.4 y cant o'r busnesau hynny wedi ffynnu ac wedi llwyddo. Mae hynny’n uwch o lawer na’r cyfartaledd ar draws economi Cymru, ac, yn wir, yn well eto na chyfartaledd y DU hyd yn oed.

Onid rhan o'r broblem yw mai gweision sifil yw holl aelodau’r panel buddsoddi sy'n rhoi cyngor i Weinidogion, sy'n atebol i'r un Gweinidog? Ac nid yw hynny felly’n gyfystyr â chyngor annibynnol, yn arbennig felly mewn achosion pryd y gellid ystyried bod gan y Gweinidog farn benodol am brosiect.

Nawr, wrth gwrs, mae gennym y Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, a sefydlwyd am yr union reswm hwn, mae’n annibynnol—mewn gwirionedd, pan fydd y Gweinidog yn mynd yn groes i'w gyngor, mae’n rhaid iddo adrodd i'r Cynulliad, fel y gallwn gael tryloywder priodol. ‘Does bosib na ddylid neilltuo pob penderfyniad ar gefnogaeth i fusnes i’r corff annibynnol hwnnw, neu, mewn gwirionedd, os yw'r Gweinidog eisiau mynd ymhellach hyd yn oed, gallai fynd â nhw yn llwyr oddi ar ddwylo'r Gweinidogion a’r gweision sifil, a’u rhoi i'r banc datblygu newydd, a fydd yn ôl pob tebyg, mae'n ymddangos, yn cael ei arwain gan Cyllid Cymru, a ddangosodd, yn yr achos hwn, ei fod â gwell asesiad o'r risg yr oedd hyn yn ei gynrychioli na'i swyddogion ef ei hun. Ac, yn olaf, a gaf i ofyn iddo, oherwydd bod y brif brydles a dderbyniodd Llywodraeth Cymru yn cynrychioli rhwymedigaeth wrth gefn, a gafodd hi ei rhestru yng nghyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Bydd angen i mi wirio manylion y cwestiwn olaf a gododd yr Aelod, a byddaf yn ysgrifennu, nid yn unig at yr Aelod, ond at bob Aelod yn y Siambr.

O ran Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, corff noddedig y bu ganddo statws statudol ers 1975 yw hwnnw, neu, yn hytrach, a fu o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975. Ac, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, y mae'n ystyried penderfyniadau pan wneir cais am grant sydd yn fwy na £1 filiwn. Bu adolygiad o lefel y trothwy. Cafodd hynny ei gynnal, mewn gwirionedd, gan fy rhagflaenydd, a hynny ym mis Ionawr 2013. Rwy'n credu ei bod yn bryd i ni adolygu hynny eto, fel y mae’r Aelod wedi ei awgrymu, ac rwy'n hapus i wneud hynny. O ganlyniad, gan fod trothwy o £1 filiwn, ni chyflwynwyd unrhyw un o'r achosion Kancoat iddo, gan nad oedd y rheini yn rhan o gylch gwaith y bwrdd.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud eto bod fy rhagflaenydd wedi cryfhau gweithdrefnau. Yn wir, fe etifeddodd hi adran lle nad oedd unrhyw banel buddsoddi i ystyried yn ofalus, fel gweithdrefn saib ac ystyried. Cyn i’m rhagflaenydd fod yn gyfrifol am y portffolio economaidd, gwnaethpwyd penderfyniadau gan y Gweinidogion i raddau helaeth, ar sail cyngor gan swyddogion, a hynny heb y weithdrefn bwysig ar gyfer saib ac ystyried a gyflwynodd fy rhagflaenydd.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Lywydd, mae gennyf dri newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad am Chwaraeon Cymru yn fuan. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yna’n gwneud datganiad ar ‘gymunedau cryf—y camau nesaf’. Ac, yn olaf, rwyf wedi lleihau'r amser sydd wedi ei neilltuo i gwestiynau llafar y Cynulliad gan y Cwnsler Cyffredinol yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf i’w weld yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith papurau'r cyfarfod, a fydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, byddwn yn croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd ynghylch unrhyw drafodaethau y gallai fod wedi eu cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â mynediad at yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd yn y dyfodol. Yn Llundain y mae hon wedi’i lleoli ar hyn o bryd ond bydd hi’n symud i Ewrop o ganlyniad i Brexit. Ac, yn bwysicach, os ydym yn colli ein haelodaeth o’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, nid yn unig bydd ymchwil wyddonol a’n diwydiannau biowyddorau yn dioddef, ond gallai dinasyddion Cymru ganfod eu hunain ar ddiwedd y ciw pan ddaw’n fater o gael gafael ar feddyginiaethau newydd.

Yn ail, byddwn i'n croesawu diweddariad hefyd ar y fargen ddinesig. Mae'n newyddion gwych bod yr awdurdod lleol olaf wedi cymeradwyo’r fargen erbyn hyn. Ond byddwn yn croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru, yn nodi'r camau nesaf ar yr hyn a allai fod yn newid gwirioneddol i fy etholaeth i, Cwm Cynon.

Diolch yn fawr iawn i Vikki Howells o Gwm Cynon. Yn amlwg, o ran yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, mae hyn yn destun pryder, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn arwain trafodaethau gyda'r Adran Iechyd a hefyd gyda'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, sy'n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud â rheoleiddio meddyginiaethau. Mae cyswllt rheolaidd wedi bod â'r asiantaeth o ran y trefniadau presennol ar gyfer rheoleiddio, trwyddedu a diogelwch meddyginiaethau ar lefel y DU ac Ewrop, a byddem yn disgwyl bod yn rhan o'r trafodaethau sy'n arwain i'r dyfodol. Gadewch i ni gofio bod yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd yn diogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid yn y 28 o aelod-wladwriaethau'r UE, yn ogystal â gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, drwy sicrhau bod pob meddyginiaeth sydd ar gael ym marchnad yr UE yn ddiogel, yn effeithiol ac o ansawdd uchel.

Eich ail gwestiwn ar fargen ddinesig rhanbarth prifddinas Caerdydd: mae'n wych bod yr awdurdod lleol olaf—Bro Morgannwg rwy’n credu—wedi cymeradwyo’r fargen yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n credu y bydd hyn yn sicr yn ein symud ni ymlaen o ran y rhagolygon ar gyfer y rhanbarth cyfan, rhanbarth prifddinas Caerdydd, a’ch etholaeth chi, os ydych chi’n ystyried y ffaith y disgwylir i fargen ddinesig rhanbarth prifddinas Caerdydd, yn ystod ei hoes, ddarparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac ysgogi £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Wrth gwrs, un o flaenoriaethau allweddol y buddsoddiad fydd cyflawni gwasanaeth metro’r de-ddwyrain, gan gynnwys rhaglen drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Mae nifer o drigolion Blaenau Gwent yn pryderu am adroddiadau o gynnydd pellach yn y ffioedd a’r taliadau am ddefnyddio meysydd chwaraeon a hamdden yn y fwrdeistref, a hynny ar ben cynnydd blaenorol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y mater hwn yn fwy cyffredinol, ac yn enwedig ar sut mae cynnydd o'r fath yn cyd-fynd â darpariaethau clodwiw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

Wel, yn amlwg, mae hwn yn fater i awdurdodau lleol mewn cyfnod anodd o ran polisïau cyni Llywodraeth y DU. Ond, wrth gwrs, mae'n fater y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn dymuno bod yn rhan ynddo ac ymgysylltu ag awdurdodau lleol o ran yr effeithiau, a hefyd i gydnabod bod gennym gyfleoedd gwirioneddol. Rydym newydd fod yn siarad am y fargen ddinesig, ond mae gennym gyfleoedd, rwy’n credu, o ran cymorth. Ac, yn wir, o ystyried y rhyddhad ardrethi trosiannol, y £10 miliwn ychwanegol sydd ar fin gwneud ei ffordd i'r brif stryd a hefyd y gronfa rhyddhad ardrethi busnes, y cytunwyd arnynt, wrth gwrs, â chi—gyda Phlaid Cymru—mae’n ffordd bwysig iawn ymlaen.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y taliadau ymlaen llaw i gleifion tramor sy’n defnyddio'r GIG yng Nghymru? O fis Ebrill eleni, bydd yn ddyletswydd gyfreithiol ar ysbytai'r GIG yn Lloegr godi tâl ar gleifion tramor ymlaen llaw am ofal nad yw’n ofal brys os nad ydynt yn gymwys i gael triniaeth am ddim. Bydd triniaeth frys yn parhau i gael ei darparu a'i hanfonebu yn ddiweddarach. Mae perygl y bydd y pwysau ar y GIG yng Nghymru yn cynyddu oherwydd cleifion tramor sy’n ceisio cael triniaeth nad yw’n driniaeth frys yma, yn hytrach nag yn Lloegr, oni bai bod cynllun tebyg yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad ar y mater hwn os gwelwch yn dda?

Yn ail, rwy'n ddiolchgar iawn—dim ond cwpl o wythnosau yn ôl y codais y mater hwn fod y sefyllfa yng Nghasnewydd yn mynd yn wael iawn o ran materion ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y diwrnod wedyn, cymerodd yr heddlu yng Ngwent gamau cryf iawn ac maent wedi gwneud gwaith gwych. Rwy’n gobeithio y bydd heddlu’r de-ddwyrain yn gwneud yr un peth ac yn gwella ein dinasoedd. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cymunedau, os gwelwch yn dda, ynglŷn â sut y mae'r heddlu'n mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau eraill yng nghanol dinasoedd, yn ardal y de-ddwyrain? Diolch.

Yn fy marn i, o ran eich cwestiwn cyntaf, Mohammad Asghar, mae’n rhaid i mi ddweud ei bod yn eithaf brawychus gweld pobl yn mynd at bobl yn eu gwelyau â pheiriant yn gofyn am dâl; mae hynny’n fy mrawychu i. Ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni ofalu am ein pobl ein hunain—. Mae gennym ganllawiau, mae gennym ganllawiau ynghylch cleifion tramor—. [Torri ar draws.] Mae hynny yn Lloegr, wrth gwrs. Mae gennym ein canllawiau ni ac rydym ni’n mynd i gyhoeddi ein canllawiau, wedi’u diweddaru, maes o law, Mae hynny'n fater i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i fwrw ymlaen ag ef.

O ran eich ail bwynt, rwy’n credu fy mod wedi ateb hwnnw’n glir iawn pan wnaethoch godi'r pwynt hwn ychydig o wythnosau yn ôl, gan edrych ar y partneriaethau cadarn ar lefel leol sydd o fewn ein pwerau fel y gallwn sicrhau bod gennym gymunedau mwy diogel a chymunedau sydd hefyd yn gofalu am ei gilydd.

Tybed a allwn ddod o hyd i amser i gael dadl neu ddatganiad ar y diwydiant adeiladu yng Nghymru, ac rwy’n tynnu sylw'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau—mae gan y ddau undeb yr wyf yn ymwneud â nhw fuddiannau ym maes adeiladu. Ond, yn dilyn y data diweddaraf gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, sy'n dangos y rhagwelir y bydd twf allbwn yng Nghymru yn gryfach nag yn unrhyw ran arall o'r DU, gyda phrosiectau seilwaith eto’n sbarduno twf, mae adeiladu yng Nghymru yn mynd i dyfu bron bedair gwaith yn gyflymach na chyfartaledd y DU. Mae cyfradd twf cyfartalog o 6.2 y cant o'i gymharu â 1.7 y cant ledled y DU, gan greu bron 20,000 o swyddi. Ac os byddwn yn cynnal y ddadl honno, efallai y cawn amser i weld faint sy'n cael ei sbarduno gan Ben-y-bont ar Ogwr yn unig a'r ddwy ysgol gynradd newydd, y torrwyd y dywarchen gyntaf ar eu cyfer yr wythnos ddiwethaf, yn rhan o gyllid gwerth £11,1 miliwn mewn seilwaith, a ariannwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dan reolaeth Llafur. 

Diolch i chi, Huw Irranca-Davies. Dim ond ychydig o amser yn ôl, clywsom am y buddsoddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, awdurdod sydd dan reolaeth Llafur, gyda Llywodraeth Lafur Cymru. Mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn chwarae rhan enfawr drwy ein galluogi ni i gael y rhagolygon da iawn hynny gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, sy’n rhagweld twf cryf yn y sector yng Nghymru. Ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gynllunio a buddsoddi mewn seilwaith yn y tymor hir. Rwy'n credu bod Dyfodol Adeiladu Cymru hefyd yn bwysig iawn o ran capasiti a gallu, gan weithio'n agos iawn nid yn unig â CITB Cymru, ond â chwmnïau o Gymru o ran bwrw ymlaen â hyn. Ac, wrth gwrs, bydd ein comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru yn chwarae rhan fawr yn hyn. 

Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddatganiad ar ddyfodol Pier Fictoria Bae Colwyn? Byddwch yn ymwybodol o’r cyhoeddiad a wnaed dros y penwythnos gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei fod wedi dod i gytundeb ag Ymddiriedolaeth Pier Fictoria Bae Colwyn i ddymchwel y pier er mwyn ei amddiffyn rhag dirywio ymhellach, ar ôl i’r stormydd diweddar ei daro ac achosi difrod sylweddol. Bydd hynny’n caniatáu i'r pier gael ei adnewyddu, o bosibl, a'i ailadeiladu rywbryd yn y dyfodol. Ond mae'n debygol iawn y bydd angen cefnogaeth Gweinidogion Llywodraeth Cymru er mwyn caniatáu i’r datgymalu hynny ddigwydd, ac efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth ariannol yn y dyfodol hefyd. A gaf i alw am ddatganiad brys ar hynny, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni gael rhywfaint o eglurder ynghylch terfynau amser gwneud penderfyniad gan Lywodraeth Cymru, fel y gall hyn ddigwydd yn gyflym? Diolch. 

Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn croesawu hynny. Roedd yn dorcalonnus iawn gweld canlyniad y difrod i’r pier hanesyddol hwnnw, ac yn newyddion da bod yr ymddiriedolaeth yn arwain y ffordd o ran cyfrifoldeb. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn arwain at ddatblygu trafodaethau partneriaeth ar y ffordd ymlaen. 

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad heddiw? Mae un ohonynt gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ynghylch rhoi canllawiau a chryfhau'r canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar gloddio glo brig, oherwydd unwaith eto, yn fy etholaeth i, ar safle Parc Slip, mae’n bosib mai sefyllfa’r cais yw gohirio’r gwaith adfer ar hyn o bryd. Pan fyddant yn gwneud ceisiadau maent yn addo’r cyfan, ac yna, yn ddiweddarach, maent yn addo dim ond rhan o’r cyfan oherwydd nad yw’r arian ganddynt. Nawr, nid ydynt yn addo unrhyw beth, ac maent yn dweud, ‘Mae’n rhaid i ni ohirio’r gwaith eto’. Mae'n bwysig, os caiff ceisiadau eu cymeradwyo, bod y sefydliad unigol yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei gais. A gawn ni, felly, gryfhau'r cyngor yn y maes hwnnw, os gwelwch yn dda? 

O ran yr ail ddatganiad, a gaf i ofyn am ddatganiad gan naill ai'r Prif Weinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ynghylch pa drafodaethau a gawsant â Llywodraeth y DU yn dilyn rhyddhau gwybodaeth o ddogfen am y blaenoriaethau a roddir ar ddiwydiannau ar gyfer trafodaethau Brexit? Rwy’n deall bod y flaenoriaeth ar gyfer dur yn isel, ac felly nid yw agwedd bwysig ar ein heconomi yng Nghymru yn cael ei hystyried yn ddigon pwysig i Lywodraeth y DU? Felly, a gawn ni drafod yr hyn sydd wedi'i ddweud a pha drafodaethau a gafwyd i sicrhau nad yw dur ar waelod yr agenda ar gyfer Brexit ond ar ei brig? 

Diolch i chi am y ddau gwestiwn pwysig iawn hynny, David Rees. O ran Parc Slip, mae’r ffaith bod cynllun adfer amgen wedi ei gyflwyno ar y safle yn bwysig, ac rwy’n deall bod y manylion, fel y dywedwch, yn dal i gael eu cwblhau. Wrth gwrs, byddant yn mynd at yr awdurdodau cynllunio perthnasol, gan gydnabod eich pwynt ynghylch pa effaith y gallwn ei chael o ran y rheoliadau hynny. Credaf ei bod yn bwysig nodi, wrth gwrs, bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y dylai Llywodraeth y DU, sydd wedi elwa o dderbyniadau preifateiddio, gynorthwyo â’r gwaith o adfer y safle, ac rwy’n credu bod hynny, wrth gwrs, yn allweddol bwysig o ran y ffordd ymlaen. Rwy’n credu bod eich pwynt yn berthnasol iawn o ran y pwysigrwydd a roddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, ac yn wir fel y Cynulliad hwn, ar ddur pan fyddwn yn wynebu posibilrwydd hynod anodd Brexit. Rwy’n credu mai dyna pryd y byddwn yn edrych tuag at ein Papur Gwyn, yn benodol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y neges glir iawn honno o ran ein blaenoriaethau, a blaenoriaethau economaidd, wrth gwrs, yn flaenllaw, a dur yn rhan allweddol o hynny o ran y sector hwnnw a’ch etholaeth chi.

Arweinydd y tŷ, mewn ymateb i'r cwestiwn yr holais i'r Prif Weinidog y prynhawn yma ar ardrethi busnes, dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r wybodaeth y mae llawer o Aelodau wedi bod yn galw amdani erbyn diwedd yr wythnos hon. Roeddwn i’n gobeithio efallai y gallech chi ddefnyddio eich safle, fel arweinydd y tŷ, i geisio cael yr wybodaeth honno i ddwylo’r Aelodau yn gynt na hynny. Mae'n ffaith y byddwn ni, ar ddiwedd yr wythnos hon, yn dechrau’r toriad hanner tymor. Ac o ystyried y diddordeb amlwg y mae llawer o Aelodau ar draws y pleidiau wedi’i fynegi yn y mater hwn, pe byddai cwestiynau y dymunai’r Aelodau eu codi ar ran busnesau ac etholwyr, ni fyddai llawer o gyfle neu ddim cyfle o gwbl i wneud hynny am o leiaf 10 diwrnod.

Rwy'n siŵr bod y Llywydd yn clywed yr hyn yr wyf yn ei ddweud, oherwydd ymddengys bod y cyhoeddiadau hyn yn dueddol o gael eu gwneud ar drothwy’r toriad, a’u bod yn disgyn oddi ar y radar erbyn i ni ddod yn ôl, ac rwy’n credu bod hynny'n gyfle a gollwyd. Ein gwaith ni yw holi’r cwestiynau y mae ein hetholwyr a busnesau yn gofyn i ni eu holi. Nid wyf yn deall pam na all y Llywodraeth gyflwyno’r wybodaeth hon yn gynt yn ystod wythnos y Cyfarfod Llawn fel y gall Aelodau ofyn y cwestiynau, yn hytrach na’u gadael tan ddiwedd yr wythnos, yn union fel y datganiad cychwynnol a gyflwynwyd ar 17 Rhagfyr, a oedd yn ystod toriad y Nadolig. Unwaith eto, nid oedd yr Aelodau yn gallu gofyn y cwestiynau perthnasol a ofynnwyd iddynt gan y busnesau yn eu cymunedau, fel y byddwch wedi’i weld drosoch eich hun pan ddaethoch i'r Bont-faen a gwrando ar bryderon busnesau yn y Bont-faen, pan oeddent ond yn chwilio am atebion.

Wel, byddwn i wedi gobeithio y byddai Andrew R.T. Davies yn croesawu'r ffaith ein bod, mewn gwirionedd, wedi sicrhau £10 miliwn ychwanegol o ryddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr. Wrth gwrs, roedd hwnnw yn rhan o'n pecyn cyllideb terfynol cyn y Nadolig, ac roeddwn i’n gobeithio ar y pryd y byddech yn croesawu hynny. Yn sicr, cefais rywfaint o ymateb da o ran y cyhoeddiad hwnnw cyn y Nadolig.

Mae'n rhaid i chi gydnabod hefyd bod gennym gynllun rhyddhad ardrethi trosiannol o £10 miliwn. Bydd y busnesau hynny sy'n gymwys ar gyfer hwnnw yn cael eu cyfran deg o'r £10 miliwn hwnnw yn awtomatig. O ran y cynllun arbennig o £10 miliwn, mae'n gynllun arbennig, fel yr esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i chi. Mae'r cynllun rhyddhad ardrethi gwerth £10 miliwn yn cael ei dargedu'n benodol at drethdalwyr y stryd fawr, gan gynnwys siopau, tafarndai a chaffis. Mae'n rhaid i ni dargedu’n effeithiol ac mae’n rhaid i ni gefnogi’r manwerthwyr hynny sydd fwyaf mewn angen. Felly rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar ddyluniad a gweithrediad y cynllun, a bydd datganiad yn cael ei wneud yn fuan gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Lleol Llywodraeth.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni amser, fel mater o frys, i drafod ymateb Cymru i sefyllfa plant sy’n ffoaduriaid yn y gwersylloedd yn Ewrop? Mae etholwyr o grŵp y Canolbarth Dros Ffoaduriaid, a grwpiau eraill, wedi cysylltu â mi, ac rwy’n siŵr y byddant wedi cysylltu â llawer yn y Siambr hon, i fynegi eu tristwch mawr a’u harswyd gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i gyfyngu ar nifer y plant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain i Brydain i:

350 pitw, yn hytrach na'r 3,000 y cyfrifwyd gan yr Arglwydd Dubs fyddai’n gyfran deg.

Dywed y Llywodraeth nad oes gan yr awdurdodau lleol y lle. Hoffwn i glywed gan y Gweinidog llywodraeth leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pwynt penodol hwnnw. Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wrthi’n ystyried rhai o'r materion penodol hyn ac rydym yn gobeithio cyflwyno adroddiad ar ein canfyddiadau y mis nesaf. Ond mae hyn yn wirioneddol bwysig.

Mae'n ddiddorol nodi, yn ei chyfweliad diweddar yn y ‘New Statesman’, bod y Prif Weinidog wedi datgan mai ei llwyddiant balchaf oedd cyflawni Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Eto i gyd, trwy wrthod noddfa, mae hi'n gwneud miloedd o blant—y plant mwyaf agored i niwed yn y byd—yn agored i fasnachu pobl a gwaeth. Dylai'r Siambr hon gael yr amser i ddweud a gwneud rhywbeth am hynny.

Diolch i chi, Joyce Watson. Rwy’n credu, i ymateb i'r pwynt cyntaf sef eich cwestiwn ynglŷn â gweithio gydag awdurdodau lleol, bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran awdurdodau lleol a'u parodrwydd, eu gallu a’u capasiti i dderbyn plant sy'n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain. Hefyd, rydym yn ymwybodol iawn o leoliadau sy'n cael eu cynnig yn ystod yr wythnos ddiwethaf, er enghraifft, gan arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n mynegi awydd i gymryd plant o dan y cynllun Dubs. Ond rwy'n credu ei bod yn berthnasol i rannu gyda’r Siambr bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU heddiw, gan ddweud ei fod yn dymuno ei hannog i wrthdroi'r penderfyniad hwn i ddod â’r cynllun Dubs i ben ddiwedd mis Mawrth. Mae'n dweud bod hyn yn cau:

llwybr hanfodol i noddfa ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid sy’n fwyaf agored i niwed... rwy'n eich annog i wrthdroi'r penderfyniad hwn a gweithio'n fwy effeithiol gyda gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer y plant yr effeithir arnynt.

Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud wrth y Prif Weinidog ac, wrth gwrs, mae’r Aelodau yn ymwybodol o hynny:

Ein bod ar hyn o bryd yn buddsoddi £350,000 i ddatblygu capasiti gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau y gellir dod o hyd i leoedd ychwanegol ar gyfer plant sy'n ceisio lloches ar eu pen eu hunain.

Rwy’n credu, yn olaf, y byddwn yn dweud bod y Prif Weinidog yn dweud bod:

Cymru yn genedl allblyg sy'n cymryd ei rhwymedigaethau moesol o ddifrif.

A

Byddai adfer y cynllun yn anfon neges bwysig am y math o wlad yr ydym yn dymuno bod, yng nghyd-destun yr agweddau tuag at ffoaduriaid yn caledu yn ddiweddar mewn rhannau eraill o’r byd.

4. 3. Datganiad: Sport Wales

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Chwaraeon Cymru, ac rydw i’n galw ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch i chi, Lywydd. Fe hoffwn i ddiweddaru'r Aelodau ar y ffordd ymlaen o ran y bwrdd a threfn lywodraethu Chwaraeon Cymru. Bydd yr Aelodau'n cofio, yn hwyr y llynedd, y gwnaed y penderfyniad i atal gweithgareddau'r bwrdd, yn dilyn arwyddion clir bod perthynas anodd wedi datblygu rhwng rhai aelodau o'r bwrdd ac, o ganlyniad, nid oedd mewn sefyllfa i gyflawni ei ddyletswyddau yn effeithiol.

Fel y dywedais wrth yr Aelodau ar y pryd, roedd atal y gweithgareddau yn weithred niwtral a dros dro, a’i bwrpas yn bennaf oedd bod yn gyfnod ymdawelu er mwyn i bawb a oedd yn gysylltiedig fyfyrio, ac i roi amser i mi, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am Chwaraeon Cymru, gael fy mriffio ar gefndir y sefyllfa a oedd wedi codi, drwy adolygiad o sicrwydd a gynhaliwyd gan weision sifil. Fy mhrif amcan trwy gydol y sefyllfa, a fy nghyfrifoldeb fel Gweinidog, yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i Chwaraeon Cymru a sicrhau y ceir sefydliad cydlynol sy’n gweithredu’n dda.

Canfu'r adolygiad o sicrwydd fod gwrthdaro rhwng diwylliannau wedi datblygu rhwng y cadeirydd ac aelodau eraill o'r bwrdd. Arweiniodd y gwrthdaro rhwng diwylliannau a dulliau hwn at ddirywiad yn y berthynas rhwng y cadeirydd ac aelodau eraill y bwrdd ac, yn y pen draw, at gynnal pleidlais o ddiffyg hyder fis Tachwedd diwethaf.

Mae’n ddyletswydd arnaf i gymryd camau pan fo hangen, waeth pa mor anodd neu gymhleth yw’r broblem. Ni fu hyn yn broses hawdd i unrhyw un a oedd yn gysylltiedig, ac rwyf i wedi canolbwyntio ar geisio dod o hyd i ffordd gref a sefydlog ymlaen i Chwaraeon Cymru, ei staff a'r bwrdd, sydd, yn y pen draw, yn geidwaid dros £20 miliwn y flwyddyn o arian cyhoeddus. Ar y pwynt hwn, yr hyn sy’n bwysig i mi yw sicrhau bod staff yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i weithio'n effeithiol, a thalaf deyrnged i'w cryfder dros y misoedd diwethaf—maen nhw’n haeddu clod mawr.

Oherwydd materion diogelu data a chyfrinachedd, ac ar sail cyngor cyfreithiol, byddai'n amhriodol imi roi sylwadau manwl ar ganfyddiadau'r adolygiad o sicrwydd. Rwyf i’n awyddus i’w gwneud yn glir, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bod y casgliadau yn ymwneud yn bennaf â chwalu sylweddol o ran rhai o’r perthnasoedd rhyngbersonol ar lefel uwch yn Chwaraeon Cymru. Mae rhai materion eto i gael sylw o ganlyniad i'r broses adolygu sicrwydd. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cael nifer o gwynion ffurfiol ar ôl i'r adolygiad gael ei gwblhau.

Ar sail cyngor yr wyf wedi’i gael ar y rhain, rwyf wedi penderfynu cymryd y camau canlynol: Rwyf i wedi atal dros dro y cadeirydd, Dr Paul Thomas, er mwyn cynnal proses briodol a ffurfiol o ganlyniad i'r cwynion a gafwyd. Rwy’n pwysleisio bod hyn, unwaith eto, yn weithred niwtral ac nid yw’n rhagfarnu canlyniad y broses mewn unrhyw ffordd. Mae Dr Thomas wedi ei hysbysu am y datblygiad hwn.

Rwyf hefyd wedi atal dros dro yr is-gadeirydd, Adele Baumgardt, oherwydd pryderon ar wahân sydd wedi codi ynghylch gweithrediad cydlynol y bwrdd a'i berthynas â Gweinidogion Cymru. Yn yr un modd â Dr Thomas, gweithred niwtral yw hon, ac mae hithau hefyd wedi ei hysbysu.

Hoffwn weld aelodau eraill bwrdd presennol Chwaraeon Cymru yn aros yn eu swyddogaethau, o dan arweinyddiaeth dros dro. Mae fy swyddogion wedi siarad ag aelodau'r bwrdd heddiw i’w hysbysu am y sefyllfa ac i ofyn iddyn nhw barhau. O heddiw ymlaen, felly, rwy’n adfer gweithgareddau'r bwrdd. Bydd hyn yn galluogi nifer o gamau pwysig i gael eu cymryd, er enghraifft, y broses o bennu’r gyllideb cyn y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill.

Heddiw, rwy'n penodi Lawrence Conway yn gadeirydd dros dro. Mae wedi cwblhau dros 40 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus, ac mae ganddo brofiad penodol o'r rhyngwyneb rhwng y Llywodraeth a chyrff noddedig. Bydd yn helpu i arwain Chwaraeon Cymru drwy'r cyfnod anodd hwn, ac yn rhannu ein hamcan allweddol o adfer sefydlogrwydd sefydliadol. Rwyf hefyd wedi gofyn i John Taylor, cyn brif weithredwr ACAS, weithio gydag ef mewn swydd ymgynghorol er mwyn sicrhau y gall y bwrdd weithredu fel corff gweithredu cydlynol. Nid yw'n bosibl nac, mewn gwirionedd, yn ddymunol rhoi amserlen ar gyfer y trefniadau dros dro presennol, ond rwyf yn awyddus i ailadrodd y pwysigrwydd yr wyf yn ei osod ar ddilyn proses briodol, er tegwch i'r unigolion dan sylw. Hoffwn i’r prosesau hyn ddod i ben cyn gynted ag y bo modd.

Gan edrych tuag at y dyfodol, mae'n bwysig bod Chwaraeon Cymru yn ei gyfanrwydd yn parhau'n addas i’w ddiben fel sefydliad. Mae cyfraniad chwaraeon i les corfforol a meddyliol ein gwlad yn hanfodol ar lefel elit ac ar lawr gwlad, ac mae'n rhaid i Chwaraeon Cymru barhau i fod yn y rheng flaen yn hynny o beth. Felly, rwyf yn awyddus i weld yr adolygiad o Chwaraeon Cymru, a ddechreuodd y llynedd, yn cael ei gwblhau, yn ddelfrydol gan aelod o'r panel annibynnol presennol a’i adrodd i mi cyn gynted ag y bo modd. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau ynglŷn â hyn yn y dyfodol agos iawn.

Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac rwy’n gresynu nad wyf i wedi gallu rhoi’r sicrwydd am y dyfodol y byddwn i wedi dymuno ei roi heddiw. Fodd bynnag, yr hyn sydd ei angen yma yw ateb hirdymor, nid ateb dros dro, ac mae angen i mi gael sicrwydd bod trefn lywodraethu Chwaraeon Cymru yn gwbl addas i’w diben ac yn gydnerth yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Mae hynny, rwy’n credu, yn amcan y gellir ei rannu ar draws y Siambr hon. Diolch.

Cyn i mi ateb, a fydd y Gweinidog cystal â chadarnhau pwy yw Lawrence Conway? Ai'r un Lawrence Conway a oedd yn arwain swyddfa Rhodri Morgan ydyw? [Torri ar draws.] Ie? A yw hynny'n gywir, Weinidog?

Gallwch ofyn sawl cwestiwn neu gallwch ofyn un. Os mai dyna'r unig un, cewch eistedd i lawr.

Nage, yn sicr. Rwy'n credu ei fod wedi’i gadarnhau gan y Siambr ein bod yn sôn am yr un person. Yn wir, mae Chwaraeon Cymru yn drychineb arall ar thema gyson eich Llywodraeth, mewn gwirionedd. Mae gennym ni argyfwng na wnaethoch ei ragweld ac mae pethau wedi gwaethygu cymaint fel eich bod wedi gorfod cymryd camau dyrys yn hytrach na datrys pethau ar gam cynnar. Rwyf eisoes wedi codi anallu difrifol ar ran eich Llywodraeth yn gynharach, gwerth hyd at £53 miliwn. Rwyf wedi codi pryderon ynghylch honiadau gan Materion Cyhoeddus Cymru, lle mae eich Llywodraeth wedi pwyso ar sefydliadau gwirfoddol i'w hatal rhag dweud pethau nad ydyn nhw eisiau eu clywed. Y peth am Gymru yw bod chwaraeon yn rhan mor annatod o'n diwylliant. Felly, os yw’n ofynnol i chi gael un peth yn iawn yng Nghymru, chwaraeon yw hwnnw. Os edrychwch chi ar yr ail baragraff ar dudalen 2, rwy'n bryderus iawn am y diffyg tryloywder, a hoffwn gael sicrwydd gennych chi, rywbryd yn y dyfodol agos, y bydd popeth yn cael ei gyhoeddi. Efallai, os oes pethau na ellir eu cyhoeddi, y gellid eu golygu yn hytrach na’u cuddio yn gyfan gwbl.

Mae’n rhaid i mi godi, fel mater o bryder, hanes y cadeirydd, oherwydd, fel y soniais yn gynharach, mae'n ymddangos bod ganddo gysylltiadau cryf iawn â’r Blaid Lafur. Codwyd pryderon gan neb llai na’r cyn Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru pan benodwyd Mr Conway yn gynghorydd arbennig i Aelodau Cabinet Llafur yn 2013, oherwydd nad yw gweision sifil yn newid yn aml rhwng swyddogaeth niwtral a swyddogaeth wleidyddol. I lawer ohonom, mae hon yn enghraifft arall o gerdyn y Blaid Lafur yn cael ei ddefnyddio fel y prif faen prawf i lenwi swydd yn y sector cyhoeddus. Y math hwn o nepotiaeth sy'n achosi problemau yn y lle cyntaf. Y cwestiwn cyntaf, Weinidog, yw: pam na wnaethoch chi ragweld hyn, a pham na wnaethoch chi ymyrryd cyn i’r argyfwng godi? Fel y dywedais yn gynharach, camau dyrys. Pam na allwch chi roi dyddiad i ni o ran pryd y bydd y trefniadau dros dro hyn yn dod i ben? Faint o gyflog y mae eich cadeirydd yn ei gael pan ei fod wedi ei atal dros dro, a faint fydd cost y bobl newydd i'r pwrs cyhoeddus? A pham na wnaethoch chi benodi unigolyn sy’n amlwg yn annibynnol i gadeirio'r sefydliad, yn hytrach na rhywun sydd â chysylltiadau Llafur mor agored eto? Gadewch i ni fod yn onest: mae cymaint o benodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru lle ceir cysylltiadau gwleidyddol cwbl eglur. A yw Chwaraeon Cymru yn cyflawni ei swyddogaeth briodol? Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn o gofio cyd-destun yr hyn y mae Materion Cyhoeddus Cymru wedi’i ddweud: pan luniodd y cadeirydd adroddiad—neu pan gyflwynodd adroddiad—a oedd yn dweud bod angen i’r sefydliad gael ei ailwampio’n helaeth, a wnaethoch chi saethu’r negesydd, neu a ydych chi wedi penodi rhywun a fydd yn cyhoeddi barn y blaid yn hytrach na chasgliad efallai nad ydych yn cytuno ag ef mewn gwirionedd nac yn ei fwynhau? Yn olaf, ac yn sicr nid yn lleiaf, beth am y 160 o aelodau staff a gyflogir? Nid yw eich datganiad yn cynnig unrhyw sicrwydd iddyn nhw, felly a fyddech cystal â rhoi rhywfaint o sicrwydd am hirhoedledd dyfodol y sefydliad a'u lle nhw ynddo?

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuwn gyda'r hyn y gallwn ni gytuno arno, sef bod chwaraeon yn rhan annatod iawn o'n bywyd a'n diwylliant yma yng Nghymru. Mae Swyddogaeth Chwaraeon Cymru yn eithriadol o bwysig yn hynny o beth. Mae rhan gref o fy natganiad heddiw wedi ymwneud â phwysigrwydd y staff yn Chwaraeon Cymru a cheisio cynnig rhywfaint o sicrwydd iddynt, ac i fynegi fy niolch personol am y proffesiynoldeb maen nhw wedi ei ddangos ac am barhau i weithio gyda'r fath angerdd am chwaraeon yng Nghymru dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, sydd wedi bod yn anodd iddyn nhw, mi wn. Wrth i mi godi ar fy nhraed heddiw, aeth datganiad i holl staff Chwaraeon Cymru unwaith eto yn mynegi fy niolch iddynt.

Fe wnaethoch chi ofyn pryd y daeth y pryderon i'r amlwg yn gyntaf. Wel, fel y dywedais yn fy natganiad ym mis Tachwedd, daeth y pryderon hynny i'r amlwg ym mis Tachwedd. Ddydd Mawrth 22 Tachwedd, pasiwyd pleidlais unfrydol o ddiffyg hyder yn y cadeirydd gan y bwrdd, a chymerais gamau ar 23 Tachwedd, gyda chydsyniad llawn y cadeirydd a'r is-gadeirydd, i atal gweithgareddau’r bwrdd hyd y gellid cwblhau’r adolygiad o sicrwydd hwn. Roedd honno, fel y dywedais ar y pryd, yn weithred niwtral. Gweithredodd Llywodraeth Cymru yn gyflym yn fy marn i, pan godwyd y pryderon yn gyntaf.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad o Chwaraeon Cymru yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal. Nid oedd yr adolygiad o sicrwydd ei hun yn ystyried yr adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal nac effeithiolrwydd ehangach Chwaraeon Cymru fel sefydliad. Fodd bynnag, canfu’r adolygiad gefnogaeth eang i’r adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal. Fel y dywedais yn fy natganiad, rwyf i’n dymuno gweld yr adolygiad hwnnw yn cael ei gwblhau a'i adrodd i mi cyn gynted ag y bo modd, a hoffwn i un o aelodau'r panel annibynnol a oedd yn cynghori ar y gwaith hwnnw gwblhau’r gwaith hwnnw ar fy rhan.

O ran Lawrence Conway, rwy’n hynod ddiolchgar iddo am gamu i’r swydd hon ar gymaint o fyr rybudd a heb gost i'r pwrs cyhoeddus, mae’n rhaid i mi ddweud; mae'n gwneud hyn heb gydnabyddiaeth. Mae ei gymwysterau, yn fy marn i, yn llefaru drostynt eu hunain. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, â phrofiad penodol o'r rhyngwyneb rhwng y Llywodraeth a chyrff noddedig. Bydd yn helpu i lywio Chwaraeon Cymru drwy'r cyfnod anodd hwn. Ymunodd â'r gwasanaeth sifil ym 1968 a bu'n gweithio mewn amryw o swyddi drwy gydol ei yrfa yn y Swyddfa Gymreig, gan gynnwys secondiad i Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn y 1990au cynnar fel cynorthwy-ydd i'r prif weithredwr. Yn fwy diweddar, bu'n bennaeth yr is-adran yn y Swyddfa Gymreig a oedd yn gyfrifol am noddi nifer o gyrff hyd braich, gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, a chafodd ei benodi'n bennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac adran y Prif Weinidog wedi hynny ym 1998. Gwasanaethodd yn y swydd honno tan ei ymddeoliad yn 2010. Bydd yn sicr yn ymgymryd â'i swyddogaeth yng nghyd-destun egwyddorion Nolan, fel y byddem ni’n disgwyl i bawb yn y swyddi hyn ei wneud.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac a gaf i hefyd ddatgan fy mod i’n credu ei bod yn arbennig o bwysig i ddiolch i'r staff, sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn? Mae llawer o bryderon wedi eu codi gan staff nad achoswyd ganddyn nhw, ac rwy'n credu y dylid talu teyrnged iddyn nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae'r sefydliad, fel corff a noddir gan y Llywodraeth, wedi ei gyhuddo o fod yn amharod i wrando, o fod â diffyg tryloywder ac o fod yn hen-ffasiwn o ran ei feddylfryd. Felly, gan eich bod wedi cael amser i fyfyrio erbyn hyn, a gaf i ofyn: a ydych chi’n credu eich bod wedi gweithredu yn ddigon cynnar ac ar yr adeg iawn, ac a oedd y gweithdrefnau llywodraethu cywir ar waith cyn i chi atal y bwrdd? A gaf i ofyn hefyd: a wnewch chi roi sicrwydd heddiw i'r Siambr eich bod o’r farn bod y gweithdrefnau llywodraethu cywir ar waith yn awr ac, yn wir, yn parhau?

A gaf i ofyn hefyd pryd yr ydych chi’n disgwyl i'r adolygiad gael ei gwblhau a'i wneud yn gyhoeddus? Hefyd, o ran adolygiad blaenorol y cadeirydd ar effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru—nid oeddwn i’n hollol siŵr pan wnaethoch chi ateb cwestiwn yn flaenorol—a ydych chi’n bwriadu ymchwilio i'r materion strwythurol a nodwyd yno yn rhan o'ch adolygiad hollgynhwysol? Hoffwn gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â hynny.

Rydych chi wedi darparu cymwysterau Lawrence Conway yn eithaf manwl, felly diolch i chi am hynny, ond tybed a wnewch chi hefyd roi rhagor o wybodaeth i ni am John Taylor. Yn amlwg, mae yna dasg fawr i'w gwneud, ac mae eu gallu i gyflawni’r swyddogaethau, wrth gwrs, yn gwestiwn rwy’n credu bod angen i bob un ohonom gael sicrwydd arno, felly, ychydig mwy o wybodaeth am gymwysterau John Taylor, os gwelwch yn dda.

Ac yn olaf, a gaf i ofyn sut y mae'r busnes fel sefydliad wedi ei effeithio? Ac wrth ddweud hynny, rwy’n cyfeirio at weithrediad Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd, ond yn fwy hirdymor hefyd, yn enwedig o ran cynllunio ariannol. Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am wneud y newidiadau hyn yn awr ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, ond a yw rhai o'r materion cyllido hynny o ran y flwyddyn ariannol newydd wedi'u heffeithio o ganlyniad i atal y bwrdd?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. O ran yr adolygiad, adolygiad llywodraethu yn benodol oedd hwnnw, felly ni wnaethom ofyn i'r adolygwyr archwilio’r materion ehangach hynny ynglŷn ag effeithiolrwydd y sefydliad ac ati. Roedd y rheini yn faterion a oedd yn cael eu hystyried yn yr adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei arwain, ac yn awr byddwn yn gofyn i aelod o'r panel a oedd yn cynghori ac yn helpu yn y gwaith hwnnw i fwrw ymlaen â hynny. Byddwn i’n disgwyl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf—nid yw’n waith y byddwn i’n disgwyl iddo barhau am gyfnod hir. Rwyf i ar ddeall bod cryn dipyn o waith eisoes wedi ei wneud, ac edrychaf ymlaen at weld yr adolygiad hwnnw maes o law, ac, yn amlwg, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny.

O ran y drefn lywodraethu sydd gennym ar waith ar gyfer Chwaraeon Cymru, gallaf gadarnhau bod dogfen fframwaith ar waith. Mae llythyr cylch gwaith hefyd ar gael, ond rwy’n bwriadu dosbarthu llythyr cylch gwaith newydd i’r bwrdd yng ngoleuni’r sefyllfa bresennol. Mae cynllun busnes a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ar waith yn y sefydliad, a chynhaliodd gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth Cymru archwiliad ym mis Hydref 2015 a roddodd y sicrwydd rhesymol hwnnw bod y rheolaethau ar waith i sicrhau goruchwyliaeth effeithiol yn y sefydliad

O ran eich cwestiynau ynglŷn â rhagor o wybodaeth am John Taylor, wel, mae John Taylor wedi bod mewn amryw o swyddi, yn y sector cyhoeddus yn bennaf, cyn gwasanaethu fel prif weithredwr cyntaf ACAS am 12 mlynedd o 2001 ymlaen. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys bod yn brif weithredwr Bwrdd Datblygu Cymru Wledig a chyngor hyfforddiant a menter de-ddwyrain Cymru yn y 1990au. Yn fwy diweddar, bu’n ddirprwy gadeirydd Prifysgol Gorllewin Llundain, cadeirydd gwasanaeth gyrfaoedd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, ac mae ar hyn o bryd yn gadeirydd y pwyllgor contractwyr mawr ar gyfer y diwydiant contractio trydanol. Felly, unwaith eto, rwy’n credu ei fod ef a Lawrence yn addas iawn i ymgymryd â’r trefniant dros dro hwn sydd gennym ar waith ar gyfer Chwaraeon Cymru. Unwaith eto, hoffwn innau adleisio'r sylwadau yr ydych wedi'u gwneud am broffesiynoldeb aelodau staff Chwaraeon Cymru wrth wneud eu gwaith yn y cyfnod diweddar, sydd, mi wn, wedi bod yn anodd iddyn nhw, ac i’ch sicrhau chi na fu unrhyw faterion polisi na chyllid y byddai'r bwrdd wedi gorfod ymdrin â hwy, ond mae yna bethau erbyn hyn y bydd yn rhaid i'r bwrdd ymdrin â nhw yn y dyfodol agos iawn, fel pennu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac amryw o faterion y bydd yn rhaid eu llofnodi yn ymwneud â chyrff llywodraethu cenedlaethol ac ati. Felly, mae digon o waith i’r bwrdd fynd yn ôl i’w wneud gan fod eu cyfrifoldebau wedi eu hadfer erbyn hyn.

Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Mae’n ymddangos y bu problemau ar ben uchaf y sefydliad hwn yn ystod y misoedd diwethaf. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio bod y cadeirydd diwethaf, Laura McAllister, wedi aros yn ei swydd yn hwy na’r cyfnod a fwriadwyd oherwydd bod Llywodraeth Cymru o’r farn na ellid dod o hyd i olynydd addas ar y pryd. Yna daethoch o hyd i Paul Thomas, ond mae'n ymddangos ei fod yn fuan wedi dechrau anghydweld a gweddill y bwrdd. Nawr, nid wyf yn honni fy mod i’n gwybod y rhesymau dros hyn, ond rwy’n gobeithio y cawn ni adroddiad llawn ar hyn, ac, yn bwysicach, y bydd y bwrdd yn dychwelyd yn fuan i weithrediad llawn unwaith eto.

Mae Chwaraeon Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni llawer o dargedau Llywodraeth Cymru mewn meysydd pwysig, a allai o bosibl gynyddu gweithgarwch corfforol a mynd i'r afael â'r broblem enfawr o ordewdra. Felly, dyma sy’n hollbwysig: bod Chwaraeon Cymru yn cyflawni ei gylch gwaith, er gwaethaf unrhyw helbulon yn yr ystafell fwrdd neu wleidyddiaeth fewnol. Felly, gan adleisio yr hyn ofynnodd Russell George i chi yn gynharach, tybed a wnewch chi ymhelaethu rhywfaint ar sut y mae'r sefydliad wedi bod yn perfformio heb arweiniad y bwrdd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Sut y mae wedi bod yn cyflawni ei swyddogaethau o ddydd i ddydd? Gwn eich bod wedi dweud nad yw pennu'r gyllideb wedi ei effeithio, sy'n dda i’w glywed, ond a wnewch chi daflu goleuni ar, neu roi rhyw sicrwydd i ni, yn hytrach, nad yw’r perfformiad wedi ei effeithio'n andwyol gan ddigwyddiadau diweddar? Diolch.

Diolch i chi am y cwestiynau yna, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi’r sicrwydd hwnnw i chi nad yw perfformiad wedi ei effeithio, a bod swyddogaethau Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd wedi parhau yn ddi-dor drwy gydol y sefyllfa. Unwaith eto, mae hyn o ganlyniad i waith y staff sydd wedi bod yn gwneud hynny. Rwy'n falch iawn eich bod yn cydnabod y swyddogaeth sydd gan Chwaraeon Cymru, a'r potensial sydd gan Chwaraeon Gymru, am gynifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr agenda gweithgarwch corfforol hefyd, oherwydd bod gan Chwaraeon Cymru botensial anhygoel i gael effaith enfawr ar chwaraeon elit a chwaraeon llawr gwlad, yn ogystal â gweithgarwch corfforol hefyd. Gwn ei fod yn gwneud gwaith da, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos â'r bwrdd wrth inni symud ymlaen.

5. 4. Datganiad: Cymunedau Cryf—Camau Nesaf

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gymunedau cryf—y camau nesaf. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant.

Diolch i chi, Lywydd. Ym mis Hydref nodais fy ngweledigaeth ar gyfer dull newydd ar gyfer adeiladu cymunedau cryf gan ganolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso. Mae'r uchelgais hon yn deillio o ymrwymiad craidd y Llywodraeth i fuddsoddi yn ffyniant ein cenedl: creu swyddi newydd, gan gynnwys 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran, treialu prosiect newydd Swyddi Gwell, yn nes at Adref, cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael i rieni sy'n gweithio mewn unrhyw le yn y DU, sefydlu tasglu’r Cymoedd, creu metros gogledd a de Cymru, rhoi'r dechrau gorau i blant drwy grant amddifadedd disgyblion estynedig, a hyrwyddo cynhwysiant ariannol.

Lywydd, mae cymunedau cryf yn barod i weithio ac yn gallu gweithio; maen nhw’n cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant—maent wedi’u grymuso a’u hymgysylltu. Rwy’n awyddus i weld cymunedau diogel a chryf. Ar yr un pryd, nodais fy mod yn bwriadu dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben a lansio rhaglen eang o ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol. Roedd hyn yn cynnwys arolwg ar-lein a chyfarfodydd gyda phobl a sefydliadau â budd, gan gynnwys cynghorau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Roedd mwy na 3,000 o ymatebion i'r ymarfer ymgysylltu a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran. 

Roedd yr adborth yn dangos y nifer o ffyrdd y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod o fudd i unigolion. Hoffwn eto ddiolch i weithlu Cymunedau yn Gyntaf am y gwahaniaeth y maen nhw wedi ei wneud i filoedd o bobl. Roedd yr ymatebwyr yn cydnabod yr angen am newid gan dynnu sylw at ffyrdd y gellid gwella Cymunedau yn Gyntaf. Teimlai nifer sylweddol bod angen diwygio pellgyrhaeddol. Mae'r ymarfer ymgysylltu wedi amlygu cefnogaeth eang ar gyfer cymunedau cryf a dull newydd yn canolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso. Hefyd, pwysleisiodd rhanddeiliaid bwysigrwydd ymyrraeth gynnar fel egwyddor sylfaenol a ddylai fod yn sail ar gyfer ein dull o ddatblygu cryfder. Lywydd, yng ngoleuni'r adborth, rwyf wedi ystyried eto y dewisiadau ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf ac wedi dod i'r casgliad y dylid ei ddirwyn i ben. 

Rwy’n cydnabod y gefnogaeth ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf a leisiwyd gan y rhai hynny sy'n gweithio ar y rhaglen neu sydd wedi elwa arni. Fodd bynnag, wrth wneud fy mhenderfyniad, rwyf hefyd wedi ystyried amrywiaeth o ymatebion a ffactorau eraill. Mae dull Llywodraeth Cymru o sicrhau ffyniant i bawb, a’r cyd-destunau o ran polisi, deddfwriaeth ac arian y mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu oddi mewn iddynt, wedi newid yn sylfaenol. Mae unigolion yn amlwg wedi cael budd o Gymunedau yn Gyntaf ond, fel y mae Sefydliad Bevan yn ei amlygu, mae perfformiad wedi bod yn gymysg ac mae tlodi yn parhau i fod yn her ystyfnig a pharhaus. Ni all un rhaglen unigol fynd i'r afael â thlodi. Mae arnom angen dull cyfannol sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac aelodau’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus.

Rwy’n ymwybodol o’r effaith bosibl ar unigolion a chymunedau. Felly, byddaf yn mabwysiadu dull gofalus wrth fwrw ymlaen, gan geisio cadw rhai o'r agweddau mwyaf effeithiol ar y gwaith a wnaethpwyd gan Cymunedau yn Gyntaf. Byddaf yn sicrhau bod gan y prif gyrff cyflenwi ddigon o amser ac adnoddau i gynllunio'r pontio. Ac felly, rwyf wedi penderfynu y bydd cyllid, ar 70 y cant o'r lefelau presennol, yn cael ei ddarparu hyd at fis Mawrth 2018. Byddaf yn sefydlu cronfa etifeddiaeth gwerth £6 miliwn, i'w chyflwyno ym mis Ebrill 2018 a fydd yn galluogi awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â chymunedau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i gynnal rhai o'r asedau cymunedol neu’r ymyraethau mwyaf effeithiol a ddatblygwyd gan Cymunedau yn Gyntaf. 

Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r adeiladau cymunedol, hefyd. Felly, byddaf yn darparu £4 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn 2017-18 ac yn y blynyddoedd i ddod, gan roi blaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf o fewn y rhaglen honno, er mwyn helpu i ddiogelu asedau cymunedol gwerthfawr lle y gallai adnewyddu neu addasu helpu i ddarparu dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn glir fel Llywodraeth fod yn rhaid inni bontio i gyfnod newydd yn awr yn ein brwydr yn erbyn tlodi yng Nghymru. Ni fydd ein hymyraethau—ein cymorth ar gyfer y rhai hynny sydd fwyaf ei angen—yn dod i ben â’r rhaglen hon. Yn wir, ein nod yw dwysáu ein hymdrechion er mwyn rhoi i bobl yr offer sydd eu hangen arnynt i gael cyfran fwy cyfartal o ffyniant y genedl. Mae’n rhaid i’r addewid o gyflawni gwaith da a diogel fod wrth wraidd hyn. Felly, wrth gynnal yr etifeddiaeth werthfawr o ganlyniad i Cymunedau yn Gyntaf, rwyf am fwrw ymlaen â'n dull newydd tuag at gymunedau cryf.

Gan atgyfnerthu fy ymrwymiad i sicrhau cyflogaeth, rwyf eisoes wedi cyhoeddi estyniad dwy raglen allweddol, sef Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth—y rhaglen PaCE. Nawr, rwy’n dymuno mynd ymhellach er mwyn helpu i greu Cymru fwy ffyniannus, diogel a chyfartal. Wrth i ni ddatblygu ein cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ehangach, dan arweiniad y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, gallwn ddatblygu seilwaith newydd i gefnogi'r rhai hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, i gael gwaith.

Lywydd, o fis Ebrill 2018 ymlaen byddaf yn cyflwyno grant i ddatblygu’r seilwaith hwn, gan adeiladu ar lwyddiant Cymunedau am Waith ac Esgyn. Byddaf yn darparu bron i £12 miliwn y flwyddyn i alluogi cynghorau i wella cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y bobl hynny sy’n aml yn wynebu rhwystrau cymhleth ac sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Bydd hefyd yn caniatáu i’r cymorth hwn fynd y tu hwnt i’r ffiniau daearyddol pendant a nodir gan Cymunedau yn Gyntaf, sydd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar gyrhaeddiad gwasanaethau o'r fath. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r rhai sy'n arwain ar y cynllun cyflogadwyedd ehangach. Bydd gwella ac ehangu cymorth cyflogaeth yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn rhan bwysig o'r cynnig cyflogaeth ehangach.

Lywydd, mae buddsoddi yn ein plant yn fuddsoddiad ar gyfer y tymor hir. Dyma'r dull mwyaf cynaliadwy o adeiladu dyfodol mwy llewyrchus. Rwyf wedi fy nghalonogi gan yr ymatebion cadarnhaol iawn a gafwyd hyd yn hyn i’r gwaith o ddatblygu parthau plant. Byddwn yn ei gyflwyno, ar y cyd â phartneriaid, er mwyn gweithio gyda chymuned benodol mewn ffordd strategol i wella cyfleoedd bywyd ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar y camau nesaf o ran datblygu parthau plant.

Ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf hefyd wedi cyhoeddi y bydd canolfan ACE yn cael ei sefydlu i helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a all gael effaith mor ddinistriol ar gyfleoedd bywyd i blant. Byddaf yn parhau i gefnogi GemauStryd wrth ddatblygu ffyrdd arloesol o gynnwys ein pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol. Bydd y mentrau hyn, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus yn rhaglenni llwyddiannus Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn sicrhau bod cefnogaeth gynhwysfawr i blant wrth iddynt dyfu’n oedolion.

Mae sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau a manteisio arnyn nhw, yn hanfodol wrth adeiladu cymunedau wedi'u grymuso. Dyna pam, ac at y diben hwnnw, y byddaf yn parhau i gefnogi Cyngor ar Bopeth Cymru â’r gwaith hanfodol bwysig y mae’n ei wneud, gan helpu i feithrin cryfder wrth wynebu newidiadau o ran diwygio lles. Mae'r diwygiadau a gynigir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gryfhau democratiaeth leol a swyddogaeth cynghorwyr lleol a chefnogi cynghorau cymuned a chynghorau tref mwy effeithiol yn hanfodol wrth ddatblygu’r gwaith o rymuso cymunedau.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae adeiladu cymunedau cryf yn waith i Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ffyniant i bawb, economi gryfach sy'n creu cyfleoedd am gyflogaeth gynaliadwy o ansawdd da sydd ar gael i bawb, ac a ddarperir drwy ddull cydgysylltiedig newydd sy'n mynd i'r afael â materion unigol trwy weithredu’n ehangach. Lywydd, byddwn yn manteisio i’r eithaf ar alluogi a darparu cynlluniau a datblygiadau unigryw. Mae'r rhain yn cynnwys bargeinion dinesig a datblygiad y metro, morlynnoedd llanw, Wylfa, a buddsoddiadau mawr eraill. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu cymunedau cryf a diogel i bawb, ac rydym ni’n dymuno parhau i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid wrth i ni symud ymlaen. Lywydd, nid yw newid byth yn hawdd, ond ni allwn anwybyddu'r cyfuniad o heriau newydd a wynebwn sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Mae’n rhaid i ni fod yn ddewr er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o ymateb i hyn. Dyna beth a wnaf a pham rwy’n ei wneud, ac mae pob un o’m cydweithwyr yn y Llywodraeth yn benderfynol o wneud hynny. Diolch.

Mae datganiad heddiw yn nodi’r cam diweddaraf o ran bwriad y Llywodraeth Lafur o ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, a ddisgrifiwyd unwaith fel rhaglen wrthdlodi flaenllaw. Rwy’n rhannu'r siom a deimlir gan lawer ynghylch y diffyg cynnydd o ran lleihau tlodi yng Nghymru, a hoffwn ychwanegu diolch Plaid Cymru i'r gweithlu presennol. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn destun cryn ddadlau. Yn bersonol, rwyf wedi bod yn feirniadol iawn o anallu’r rhaglen i gyflawni ei hamcanion gwreiddiol, neu hyd yn oed i geisio mesur ei llwyddiant, neu fel arall. Ond nid wyf yn dymuno gweld yr elfennau da, nac yn wir yr egwyddor o gael rhaglen wrthdlodi, yn diflannu. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi cyhuddo Plaid Cymru o beryglu’r rhaglen hon dros nifer o flynyddoedd. Ym mis Ebrill 2011, nododd nad oedd y cynllun, ac rwy’n dyfynnu, ond yn ddiogel dan reolaeth Llafur, ac o dan reolaeth Plaid Cymru, dyfynnaf eto,

gallwn ddweud ffarwel wrth y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi helpu cymaint o ardaloedd difreintiedig i ddod allan o dlodi.

Nid oes yr un o'r datganiadau hynny yn wir; sbin llwyr oedden nhw, ac nawr rydym yn gweld mai Llywodraeth Lafur sy'n dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Yn anffodus, nid oedd ail ran datganiad y Gweinidog yn 2011 yn gywir ychwaith: nid yw'r rhaglen wedi codi digon o bobl allan o dlodi. Nid oedd ganddi ddigon o adnoddau na phwyslais. Nid oedd yn mynd ati i ganolbwyntio ar flaenoriaethau cymunedau, ac ni chafodd graddfa na chwmpas Cymunedau yn Gyntaf fyth eu hesbonio i'r cymunedau hynny mewn ffordd onest.

Mae bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae'r ffigur hwnnw yn codi i draean bron pan fyddwn yn sôn am blant. Os na lwyddodd y rhaglen wrthdlodi hon, yna mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, 'Beth yr ydym ni am ei wneud yn hytrach?' Nid yw problemau tlodi nac anfantais wedi diflannu. Yn y datganiad heddiw, ni nodir unrhyw gynllun digonol arall ar gyfer ei weithredu, ac a dweud y gwir, mae hynny'n hollol warthus.

Ni fydd y gronfa etifeddiaeth ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sef dim ond £6 miliwn, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i faterion tlodi sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau. Croesewir yr arian ychwanegol ar gyfer cyfleusterau cymunedol, ond bydd yn cael ei ddyrannu’n denau iawn. Beth ddigwyddodd i'ch egwyddor o dargedu? Yn syml, nid yw £12 miliwn yn ychwanegol ar gyfer sgiliau o 2018 ymlaen yn ddigon. Ni fydd yn cyrraedd digon o bobl. Nid oes dim o hyn yn cyfateb i raglen wrthdlodi i gymryd lle Cymunedau yn Gyntaf, ac o ystyried ein bod yn sôn am rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn yr holl Undeb Ewropeaidd—cymunedau sydd mewn perygl o golli’r cyllid ychwanegol y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd gan yr UE am eu bod mor dlawd—nawr rydych chi eisiau cymryd yr arian hwn oddi arnyn nhw hefyd.

Nid oes dim byd, dim byd o gwbl, yn y datganiad hwn heddiw yn dangos y brys sydd ei angen arnom i fynd i'r afael â thlodi yn y wlad hon. Nid yw’n ddigon uchelgeisiol, ac ni cheir digon o fuddsoddiad na chyllid newydd. Wrth gwrs, mae gennym ddigon o eiriau allweddol—union yr un geiriau allweddol y mae pobl yn ein cymunedau tlotaf wedi eu clywed ers blynyddoedd. Wel, gadewch i mi ddweud rhywbeth wrthych chi, Ysgrifennydd y Cabinet: mae pobl wedi cael digon ar y geiriau allweddol hynny, ac maen nhw wedi cael digon ar gael eu siomi gan y Llywodraeth hon. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod mai’r unig beth y mae wedi ei wneud yn y datganiad hwn yw rhestru nifer o gynlluniau sydd eisoes yn digwydd, ac a wnaiff ef egluro pa un a geir arbediad cyllidebol o ganlyniad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac os felly, faint? A wnaiff ef ymrwymo heddiw i ailfuddsoddi yr holl arian sy’n cael ei wario ar y rhaglen ar hyn o bryd, ac, yn olaf, a wnaiff ef dderbyn mai’r hyn y mae'n ei wneud â’i ddatganiad yw tanseilio ein cymunedau tlotaf, gan roi ychydig iawn, neu ddim sicrwydd i ni, y bydd ffordd arall o ganolbwyntio ar dlodi a mynd i'r afael ag ef? Rydych chi’n troi eich cefn ar ein cymunedau tlotaf. Onid yw hynny’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet?

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Yn amlwg, ysgrifennodd y cyfraniad cyn i mi wneud y datganiad hwn, gan na soniodd yr Aelod am unrhyw un o’r pethau a restrwyd gennyf yn y datganiad. Nid troi tlodi’n bwnc gwleidyddol yn unig yw'r ffordd ymlaen, a dylai'r Aelod wybod yn well am hynny. Dechreuodd yr Aelod drwy gyfeirio at y datganiadau a wnes i yn ôl yn 2011. Mae hynny chwe blynedd yn ôl, ac rwy’n derbyn fy mod wedi gwneud y datganiadau hynny—rydych chi yn llygad eich lle—ond ychydig cyn hynny, roedd ei chydweithwyr yn y Cabinet yn eistedd o amgylch y bwrdd pan oedd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei drafod ac ni wnaethon nhw godi'r mater hwnnw, pan oedd yr Aelod hwnnw hefyd ar y meinciau yn y Siambr hon, felly peidiwch â dechrau rhoi’r bai am gyfrifoldeb a’r hyn sy’n cael ei ystyried yn dlodi a’r hyn nad yw’n cael ei ystyried yn dlodi. Mae'r Aelod yn sefyll mewn etholiad ac yn gobeithio y bydd ymosod arnom ni ynghylch y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn rhywbeth y bydd hi’n cael budd ohono. Ond gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod yr hyn na chodwyd ganddi: y mater o Dechrau'n Deg, y mater o Teuluoedd yn Gyntaf, y mater o ganolfannau yn ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, llwybrau cyflogadwyedd, gofal plant, y grant amddifadedd disgyblion, asedau cymunedol. Mae'r rhain i gyd yn rhaglenni— [Torri ar draws.]

[Yn parhau.]—a ddarperir gan y Llywodraeth hon, na chyfeiriodd yr Aelod atyn nhw o gwbl. Y gwir amdani yw nad yw hi’n gallu gwneud cyfraniad ar fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â thlodi oherwydd nad oes ganddi unrhyw syniad ynglŷn â hynny. Y gwir amdani yw ein bod ni’n ceisio mynd i'r afael â'r mater ystyfnig iawn hwn o fynd i'r afael â thlodi. Ac ni fyddaf yn troi hwn yn bwnc gwleidyddol.

Ni fyddaf yn troi’r anawsterau y mae ein cymunedau yn eu hwynebu yn bwnc gwleidyddol. Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw gwneud buddsoddiadau yn ein cymunedau gan ddilyn dull partneriaeth rhwng Llywodraethau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill. Efallai y dylai'r Aelod fyfyrio ar ei datganiad oherwydd nad yw ei gynnwys yn ddim byd ond beirniadaeth wleidyddol yn hytrach na chyfle i wneud datganiad adeiladol yma heddiw. [Torri ar draws.] Efallai ei bod hi’n chwerthin o'r meinciau yn y fan yna; mae hi yn chwerthin, mae hi o’r farn bod tlodi yn ddoniol, yn amlwg, ond yr hyn y mae hi wir angen ei wneud yw dod yn ôl i'r Siambr hon gyda syniadau, oherwydd yn amlwg nid oes gan yr Aelod unrhyw syniad o gwbl.

Wrth ddrafftio'r datganiad hwn, a’r ffordd ymlaen yr ydych chi’n bwriadu ei dilyn neu a gyhoeddwyd gennych, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i adroddiad ‘Valuing place’ gan yr Young Foundation a ariennir drwy grant gan Lywodraeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi yn y Cynulliad dim ond wythnos yn ôl i heddiw, yn seiliedig ar waith ymchwil gyda phobl o Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot? Cafodd ei gomisiynu a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dweud y dylai sefydlu rhwydwaith lleol er mwyn helpu i annog, hyfforddi, mentora a chysylltu pobl sy’n dymuno gweithredu yn lleol â’i gilydd, beth bynnag yw eu sgiliau neu’r adnoddau sydd ganddyn nhw, fod yn flaenoriaeth. Mae angen i ni alluogi datblygiad cadarnhaol o le sy'n gynhwysol a chyfranogol. Fel yr wyf yn dweud, roedd hynny’n cynnwys poblogaeth wych Cei Connah, ac mae’n adroddiad gwerthfawr iawn na chafodd ei ystyried—nid o reidrwydd yr adroddiad, ond argymhellion yr adroddiad hwnnw—mae’n ymddangos, yn y datganiad a wnaethoch chi heddiw.

Er ein bod mewn perygl o gael ein cyhuddo o wleidydda, gadewch i mi ddweud, er bod yr adroddiad blynyddol ar anghydraddoldeb incwm gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn nodi y bu gostyngiad graddol yn anghydraddoldeb incwm yn ystod y degawd diwethaf—yn y DU yn amlwg yn hytrach na Chymru yn benodol—ac er bod bron i £0.5 biliwn wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, yn ôl Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, rhwng 2001 a diwedd y flwyddyn diwethaf, y mae, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yn anffodus bod nifer y bobl o oedran gweithio nad ydyn nhw mewn gwaith yng Nghymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, wedi cynyddu yn ôl i 524,000 o bobl, a bod Cymru yn y degfed safle allan o 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU o ran tlodi, ac yn yr unfed safle ar ddeg isaf o ran enillion wythnosol.

Rydych yn cyfeirio at fetros gogledd a de Cymru. A allwch chi ateb y cwestiwn y methodd eich cydweithiwr yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith ei ateb yr wythnos diwethaf, o ran pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i alwadau penodol dogfen 'Gweledigaeth Twf' Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer datganoli rhai materion yn fewnol er mwyn helpu i gau'r bwlch o ran ffyniant sy'n cynyddu wrth i chi fynd ymhellach i'r gogledd-orllewin? Oherwydd bod cymaint yn dibynnu ar hynny ac, yn syml, dim ond ateb dros dro fydd y metro a gynigir gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â'r cyfleoedd y gellid eu cyflwyno wrth i’r ddwy Lywodraeth a'r rhanbarth weithio gyda'i gilydd.

Rydych chi’n nodi, yn gywir, gefnogaeth eang ar gyfer dull newydd, sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso, a phwyslais rhanddeiliaid ar bwysigrwydd ymyrraeth gynnar. Wrth edrych yn ôl—ac rwyf newydd glywed eich sylwadau, yn amlwg, i Leanne Wood, yr Aelod dros Rhondda Cynon Taf—a ydych ci nawr yn cydnabod efallai y gallech chi fod wedi bwrw ymlaen â chynigion y CGGC a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, cyn etholiad diwethaf y Cynulliad, ar gyfer yr hyn a ddylai ddilyn ar ôl 2012, sef y model y mae fy mhlaid i wedi’i gynnig? Nid oeddem ni’n bwriadu cael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf, ond dim ond datblygu’r model hwnnw, a oedd yn nodi cynigion ar gyfer gweledigaeth a fyddai'n fwy effeithiol wrth fynd i'r afael ag amddifadedd, adeiladu cymunedau cryfach, llai o gostau biwrocratiaeth, mwy o berchnogaeth gymunedol, a lle y byddai pwyslais yn cael ei roi ar y sefydliadau cymunedol eu hunain mewn ardal ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau i fodloni anghenion lleol.

Rydych yn cyfeirio at ddatganiad Sefydliad Bevan ynglŷn â’r ffaith y bu perfformiad yn gymysg, a bod tlodi yn parhau i fod yn her ystyfnig a pharhaus. Wel, mae ei gyflwyniad, y ddogfen ‘Communities First—Next Steps’, yr wyf yn credu ei bod wedi’i drafftio gan Victoria Winckler sy’n fawr ei pharch, hefyd yn dweud na lwyddodd Cymunedau yn Gyntaf i leihau'r prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Felly, sut yr ydych chi’n ymateb, ac mae’n ymddangos nad ydych chi wedi gwneud hynny yn eich datganiad, i’w datganiad hi, neu nhw, y dylai rhaglen newydd gael ei chyd-gynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol, ac nid o'r brig i lawr, h.y. gan awdurdodau lleol, ac y dylai fod yn seiliedig ar ddamcaniaeth glir o newid, gan adeiladu ar asedau pobl a chymunedau, ac nid ar ddiffygion, ac y dylai gweithredu lleol gael ei arwain gan sefydliadau a leolir yn y gymuned a chanddyn nhw hanes cryf o ddarparu, ac sy’n ymgysylltu’n gryf â'r gymuned, unwaith eto, nid gan y sector cyhoeddus yn uniongyrchol? Er, yn amlwg, byddai'n rhaid ymwreiddio trefniadau llywodraethu corfforaethol yn gadarn yn hynny.

Rydych chi’n cyfeirio at sicrhau bod cyrff cyflenwi arweiniol yn cael digon o amser ac adnoddau i gynllunio’r pontio, a'r angen i gydnabod cefnogaeth ar gyfer y rhai hynny sydd ei angen fwyaf, ac, felly, ni fydd y gefnogaeth honno yn dod i ben â’r rhaglen hon. Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi, felly, i’r cyflwyniad gan Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, pan wnaethon nhw ddweud y dylai unrhyw newidiadau fod yn raddol yn hytrach nag ar raddfa fawr, pan wnaethon nhw dynnu sylw at broblem o ran aelodau staff yn gweithio yn rhan o Cymunedau yn Gyntaf yn derbyn hysbysiadau diswyddo, neu’n gadael yn gynnar, gan golli’r aelodau staff mwyaf profiadol a mwyaf cymwysedig, wrth iddyn nhw chwilio am waith yn rhywle arall a pheidio â bod ar gael i'r cymunedau hynny, o gofio mai nhw yw’r rhai y bydd angen taer amdanynt yn ystod y cyfnod pontio?

Os caf i, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad fod y rhaglen 2012, y rhaglen glystyrau, mewn gwirionedd, o ran eu tystiolaeth, wedi arwain at golli perchnogaeth leol, sydd, mewn rhai achosion, wedi bod yn ffactor hollbwysig o ran lleihau cefnogaeth leol ac effeithiolrwydd Cymunedau yn Gyntaf a'i waith?

Ac, yn olaf, os caf, rydych chi’n cyfeirio at adeiladu ar lwyddiant Cymunedau yn Gyntaf—mae'n ddrwg gennyf, Cymunedau am Waith, ac Esgyn. Ddeufis yn ôl, gofynnais gwestiwn i chi a mynegi pryder nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu rhyddhau data neu ei bod yn amharod i wneud hynny ynglŷn â chanlyniadau Cymunedau am Waith ac Esgyn, lle y deallir bod darparwyr Rhaglen Waith Llywodraeth y DU yng Nghymru wedi gallu darparu swyddi i'r bobl sydd bellaf oddi wrth y gweithle am £3,000 ar gyfartaledd, lle y deallir y gallai cost swyddi ar gyfer y cynlluniau hyn fod hyd at—

Diolch i chi, ac rwy’n diolch i'r Aelod am ei ddull adeiladol tuag at y newid yn y rhaglen.

Yn gyntaf oll, soniodd am raglen yr Young Foundation. Ceir llawer o felinau trafod ac elusennau sy'n cynnig safbwyntiau ar sut i adeiladu cryfder mewn cymunedau yng Nghymru, ac yn Lloegr. Ac rydym yn edrych ar yr adroddiadau hynny yn ofalus iawn, er mwyn gweld sut y dylem ni gynnwys y syniadau da sy'n cael eu cyflwyno ynddyn nhw neu sut y gallem ni eu cynnwys. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu fy sylw at hynny.

Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym ni’n ei drafod yn y fan yma yw dull clir iawn ar gyfer y cynllun cyflogadwyedd, a dyna pam y bydd ychydig o dan £12 miliwn yn cael ei gyflwyno i gynllun cyflawni ar gyfer y clystyrau ledled Cymru, lle y byddwn yn ymgysylltu â'r unigolion anodd eu cyrraedd, naill ai drwy Esgyn neu Cymunedau am Waith, neu PaCE. Ac mae'n rhywbeth yr wyf i’n frwdfrydig iawn yn ei gylch, drwy gydweithio â Gweinidogion eraill, y gallwn gael pobl yn ôl i mewn i'r farchnad swyddi.

Ni allaf ateb cwestiwn penodol yr Aelod ar y mater ynglŷn â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ond byddaf yn gofyn i’m cydweithiwr ystyried hynny ac efallai ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â materion penodol yn ymwneud â’r metro. Rwy’n credu ei fod yn iawn, mewn gwirionedd, fod yr Aelod eisiau gwybod am y metro oherwydd dim ond un rhan o jig-sô yw’r metro, casgliad o offer, a fydd yn galluogi pobl i gamu i’r byd gwaith trwy gael mynediad at systemau trafnidiaeth modern. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio, unwaith eto, heb roi’r bai ar neb, yw bod hyn yn ymwneud â phethau’n newid dros amser o gymharu’r adeg pan ddechreuodd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf â’r sefyllfa bresennol, 17 mlynedd yn ddiweddarach. Mae'r tirlun cyfan, yn gyllidol ac yn economaidd, wedi newid yn sylweddol iawn ac mae diwygio lles wedi golygu rhai canlyniadau anuniongyrchol ar ein cymunedau wrth geisio mynd i'r afael â thlodi. Dyna pam yr ydym ni’n llunio cyfeiriad gwahanol.

Gall yr Aelod edrych ar adroddiad Sefydliad Bevan gan Victoria Winckler; dylai edrych arno’n ofalus oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw’r hyn yr ydym yn ei gynnig yma mor wahanol â hynny i’r hyn y mae Sefydliad Bevan yn ei ddweud. Ynglŷn â’r llwybr cyflogadwyedd, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad am hynny yn fuan iawn, ond mae fy rhan i o'r llwybr cyflogadwyedd yn ymwneud â’r camau cyntaf oll, ac rydym yn ystyried sut yr ydym yn cael pobl i fod yn rhan o’r system addysg, i fanteisio ar y cyfleoedd o ran sgiliau, a'u symud i mewn i gyflogaeth, sy'n bwynt pwysig iawn. O ran cynllunio rhaglenni gyda phobl yn hytrach nag i bobl, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn glir iawn ynglŷn â hynny; byddwn ni, o'r datganiad hwn, yn gwneud ymrwymiad clir iawn i fynd yn ôl i'r cymunedau hynny i siarad ag unigolion—y gweithlu a’r sefydliadau—a all ein helpu i gynllunio cyfleoedd â'r gronfa etifeddiaeth wrth iddi symud ymlaen.

Mae Cytûn ac eraill wedi rhoi sylwadau ar wneud llai o newidiadau strwythurol, ac rwy’n credu ein bod wedi gwneud hynny. Rydym wedi cynnig model ariannu 70 y cant hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ac yna, wedi hynny, rydym yn cyflwyno cronfa etifeddiaeth. Rwy’n credu bod hynny’n rhoi amser i awdurdodau neu glystyrau ddechrau ffurfio sgwrs wahanol ynglŷn â sut y gallan nhw ddatblygu, ond y mae hynny'n fater yr ydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddo i alluogi a grymuso yn hytrach na gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni’r broses honno. Bydd yn cael ei gyflwyno o’r gwaelod. Ond, rwy'n credu bod y cynnig yma yn ymwneud â chanolbwyntio eto ar y mater o sut yr ydym yn mynd i'r afael â thlodi, a chydnabyddir gan yr Aelod fod effeithiau ystyfnig tlodi yn anodd iawn i fynd i'r afael â nhw, ond yr ydym wedi ymrwymo i wneud hynny fel ymagwedd Llywodraeth gyfan.

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Yr hyn a ddywedwn ar y dechrau yw fy mod yn deall safbwynt y Llywodraeth o ran Cymunedau yn Gyntaf, a’ch pryder chi, nad yw, ynddi'i hun, wedi cyflawni ei huchelgais i godi pobl allan o dlodi. Mewn rhai ardaloedd, nid ydyw wedi cyflawni o gwbl mewn gwirionedd. Fel y gwnaethoch chi gydnabod yn eich datganiad, rwy’n credu ei bod hi’n anodd dychmygu yn ôl pob tebyg y gall unrhyw weinyddiaeth ddatganoledig gyflawni unrhyw bolisi unigol a fyddai'n codi poblogaeth allan o dlodi gan fod tlodi hefyd yn gysylltiedig â sefyllfa macroeconomaidd y Deyrnas Unedig, sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, unwaith eto, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato, Ysgrifennydd y Cabinet, ceir y system fudd-daliadau annheg, sy'n taro'r tlotaf galetaf. Eto, mae’n rhywbeth nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth drosto. Fodd bynnag, rydych chi’n gwybod o’m cyfraniadau blaenorol yn y Siambr hon ac o ran sylwadau personol yr wyf wedi’u rhannu â chi, nad oes gennyf i ddim byd ond canmoliaeth i’r buddiannau y mae’r cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi’u cyflwyno i’m hetholaeth i. Fy mhryder i wrth ddod â’r cynllun i ben oedd yn y pen draw y gallem ni daflu'r llo a chadw'r brych, ac y gallai llawer o'r gwaith rhagorol a wneir ar hyn o bryd gael ei golli. Felly, hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y modd yr ydych chi wedi gwrando ar y sylwadau gennyf i a gan Aelodau eraill.

Croesewir y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y buddiannau gwirioneddol y mae rhai cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi’u darparu, a’i bod yn gweithredu trefniant pontio hael. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith, yn ystod y cyfnod pontio, y bydd awdurdodau lleol yn gallu blaenoriaethu’n uniongyrchol y cynlluniau hynny sydd fwyaf buddiol i'r gymuned, gan neilltuo amser iddyn nhw—fel yr ydych chi wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiwn Mark Isherwood—ganolbwyntio eto ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud ac i geisio ffrydiau cyllido eraill pan fo angen, fel y gall gwaith sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn y cymunedau hynny, barhau. Rwy’n cyfeirio’n benodol at y gwaith yn ymwneud ag iechyd, lles a chynhwysiant cymdeithasol. Bydd y cyfnod pontio, yn fy marn i, Weinidog y Cabinet, yn neilltuo amser i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio eto ar ei blaenoriaethau gwrthdlodi, gan symud y pwyslais yn uniongyrchol ar gyflogadwyedd, yr ydym i gyd yn derbyn yw'r allwedd i godi pobl allan o dlodi, ac mae'r polisi hwn yn weithredol ar draws ardaloedd nad ydyn nhw yn rhan o Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd.

Ac a gaf i ddweud, rwy’n croesawu'n fawr iawn y strategaeth a nodwyd gan Alun Davies neithiwr yng nghyfarfod cyhoeddus tasglu’r Cymoedd ym Merthyr Tudful, a oedd yn tynnu sylw at yr angen i sgiliau cyflogadwyedd fod wrth wraidd cymunedau wedi’u hadfywio yn y Cymoedd, ynghyd â darparu swyddi diogel, o ansawdd da, sy’n talu'n dda, ond gan barhau hefyd gyda Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a pharthau plant, a nodwyd gennych chi yn eich datganiad? Felly, fy nghwestiwn yw, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno â mi, pan fydd yr arian etifeddiaeth yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol, yn rhan o'r trefniadau pontio, y bydd yn rhaid i’r cynghorau hynny flaenoriaethu'r gwaith y mae cynlluniau llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf wedi’u cyflawni ar gyfer rhai o'r ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, ac y rhoddir arweiniad iddyn nhw ar sut i wneud hynny, ac y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i neilltuo’r arian hwn i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Diolch i chi, Dawn, a diolch i chi am eich cwestiwn. A gaf i ddweud, rwyf wedi cael fy lobïo gan lawer o Aelodau, o bob plaid, ac mae llawer wedi cyfrannu at y dogfennau ymgynghori? Mae pobl fel Dawn, Lynne Neagle, Hefin David, a llawer o bobl eraill o amgylch y Siambr hon wedi bod yn gadarn iawn eu barn am Cymunedau yn Gyntaf. A gaf i ddweud hefyd, fy mod wir yn credu bod aelodau’r staff mewn llawer o glystyrau Cymunedau yn Gyntaf wedi gwneud gwaith gwych o ran ceisio mynd i'r afael â'r tlodi mwyaf difrifol? Ac rwy’n credu yn ôl pob tebyg, fod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi atal rhai cymunedau rhag mynd yn dlotach. Yr hyn nad yw wedi llwyddo i’w greu—ac nid yw hynny'n fai ar unrhyw un, ond nid yw wedi llwyddo i wneud y newid mawr hwnnw i ffurfio llwybr rhagweithiol o ran mynd i'r afael â thlodi yn uniongyrchol, a dyna sydd angen i ni ei wneud, ac rwyf wir yn credu bod yn rhaid i hyn gael ei gyflawni drwy roi sgiliau cyflogadwyedd, sgiliau twf swyddi, ond hefyd swyddi i bobl—a gwn fod David Rees wedi codi hyn gyda mi yn y gorffennol: mae rhoi sgiliau i bobl yn un peth, ond mae rhoi swyddi i bobl yn rhywbeth arall, ac mae'n rhaid mynd ati i wneud hynny ar sail gyflawn.

A gaf i ddweud, ynglŷn â phontio, yr hyn yr wyf wedi ceisio ei wneud yma yw meddalu’r broses honno o ran gweithredu dull mwy hirdymor tuag at newid? Mae newid bob amser yn anodd, ond mae angen inni wneud hynny. Rwy'n credu ei fod yn uchelgeisiol, yn ddewr, ond, mewn gwirionedd, nid yw'n gweithio. Y sefyllfa bresennol yw’r hyn yr ydym ni’n ceisio ymdrin â hi. Felly, byddaf yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ar yr etifeddiaeth refeniw, er mwyn ystyried sut y mae eu cynlluniau lles yn adlewyrchu anghenion eu cymuned, ond nid wyf eisiau bod yn benodol iawn o ran rhaglen. Rwyf o’r farn ei bod hi’n bwysig iawn bod pobl sy'n deall eu cymunedau yn well yn gallu cyflawni newid trwy ddylanwad, a'r cyllid sydd ynghlwm â hynny.

Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae llawer o'r drafodaeth heddiw wedi bod am Cymunedau yn Gyntaf; wel, mae’r cynllun hwnnw bellach yn dod i ben, felly mae’n rhaid i ni sicrhau y bydd unrhyw fath o raglen sy'n cymryd ei le yn effeithiol, ond, yn bennaf, heddiw, roeddwn i’n awyddus i siarad am agwedd arall ar y mater o dlodi, sef yr hyn y cyfeiriodd Dawn Bowden ato: cyflogadwyedd.

Nawr, rydych chi wedi nodi yn flaenorol, Weinidog, bod tlodi mewn gwaith yn broblem gynyddol ac, yn wir, nododd Llywodraeth Cymru y mater hwn wrth gyflwyno ei hadroddiad creu cymunedau cryf yn 2013. Un peth y gall y Llywodraeth ei wneud yw ceisio denu mwy o swyddi, a, gobeithio, swyddi o ansawdd gwell. Nawr, rwy’n gwybod bod eich Llywodraeth yn ymwybodol o'r agwedd hon, oherwydd daeth eich Gweinidog economi, Ken Skates, i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf, ac roedd yn sôn am y mater hwn, a dywedodd nad dim ond unrhyw waith sy’n bwysig ond gwaith o ansawdd da, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio hynny. Ond rydym ni’n wynebu nifer o broblemau ynghylch hyn. Yn yr un wythnos â sylwadau Ken Skates, cawsom hefyd y Prif Weinidog, fel y soniais yn gynharach heddiw yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog—yn ein hysbysu bod Awdurdod Cyllid Cymru yn dod i Drefforest, ond bod bron pob un o'r swyddi yn mynd i gael eu llenwi gan bobl a recriwtiwyd yn ardal Llundain. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi nad ydym yn gwybod am Awdurdod Cyllid Gymru ers hydoedd, ond rydym yn gwybod amdano ers peth amser, felly rwy’n dal i feddwl o ran—[Torri ar draws.] Wel, mae wedi ei grybwyll ers peth amser, gadewch i mi ei roi felly. Rwyf yn meddwl tybed pam, yn y sefyllfaoedd hyn, na all pobl Cymru gael eu hyfforddi i lenwi'r swyddi hyn.

Nid wyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar hynny, ond rwyf eisiau tynnu sylw at y mater o hyfforddi a gwella sgiliau pobl. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gaffael er mwyn defnyddio hyn fel ysgogiad i greu swyddi. Mae gennym rai prosiectau seilwaith mawr ar y gweill megis metro de Cymru a morlyn llanw bae Abertawe. Ond y canlyniad posibl hyn yw na fydd gennym y bobl â’r sgiliau yng Nghymru ac y bydd yn rhaid i neu eu mewnforio nhw eto. Felly, efallai na fyddwn yn creu swyddi ar gyfer y gymuned leol o gwbl, neu, o leiaf, dim llawer ohonynt. Gallem, mewn gwirionedd, fod yn rhoi mwy o bwysau ar y cyflenwad tai ar gyfer pobl leol a thrwy hynny, yn anfwriadol, waethygu problemau sy'n gysylltiedig â thlodi. Gwn fod rhaglen gyflogadwyedd gan y Llywodraeth i wella sgiliau, a oruchwylir gan Julie James, a grybwyllir yn eich datganiad, ond, i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach wrth y Prif Weinidog, mae rhywun yn meddwl tybed beth y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud ynghylch cynyddu sgiliau dros yr 17 mlynedd diwethaf, oherwydd nid yw hwn yn fater newydd, yn amlwg. Fe wyddoch fwy am hynny na mi, felly, os gwnewch chi fy ngoleuo, byddwn yn ddiolchgar.

Rydym hefyd yn wynebu problemau eraill ynghylch y farchnad gyflogaeth ar ffurf awtomeiddio, ac mae Lee Waters wedi cyfeirio at hyn nifer o weithiau. Gofynnodd Jenny Rathbone yr wythnos diwethaf, ‘Pwy fydd yn elwa arno?’ Wel, yn sicr nid y gweithwyr â lefel gymharol isel o sgiliau fydd yn gwneud hynny. Felly, mae hyn yn gwaethygu'r broblem o uwchsgilio. Pa bethau ymarferol y gellid eu gwneud i wella cyflogadwyedd? Wel, soniodd Ken Skates yr wythnos diwethaf am ddefnyddio yr hyn a elwir yn ‘wybodaeth am y farchnad lafur’ wrth lunio prentisiaethau. Mae angen prentisiaethau pob oedran arnom erbyn hyn, ac rwy’n credu eu bod yn rhan o'r rhaglen gyflogadwyedd. Mae eu hangen arnom, oherwydd bod y farchnad gyflogaeth mor gyfnewidiol bellach ac nid oes unrhyw swyddi am oes erbyn hyn. Mae angen, efallai, mwy o ryngweithio rhwng y Llywodraeth a diwydiant preifat, gan fod y sector cyhoeddus yn debygol o grebachu.

Mae trafnidiaeth, byddwn i’n dweud, yn fater pwysig. Mae llawer o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ardaloedd diwydiannol ar gyrion trefi, yn aml heb gludiant cyhoeddus, ac, wrth gwrs, mae llawer ohono’n waith sifft. Sut bydd gweithwyr yn cyrraedd eu gweithle heb gar? Felly, a yw Llywodraeth Cymru’n gallu cydgysylltu'n effeithiol â darparwyr cludiant? Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o weithwyr weithio trwy asiantaethau cyflogaeth i ddechrau. Mae llawer o'r asiantaethau hyn nad ydynt yn dda iawn, yn fy mhrofiad i, o ran cyfathrebu'n effeithiol â'u gweithwyr. Yn aml, mae rheolaeth yn wael yn y swyddi asiantaeth hyn. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i weithio gyda’r asiantaethau hyn yn y dyfodol? Beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer gweithio gyda darparwyr cludiant, a beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer gweithio gyda diwydiant preifat? Diolch.

Wel, cododd yr Aelod lawer o gwestiynau yn y fan yna, ond rwy’n credu bod cynsail y rhan fwyaf o hyn yn seiliedig ar gyflogadwyedd a llwybrau cyflogadwyedd. Cyfeiriais yn fy natganiad at y rhaglen gyflogadwyedd yr ydym yn ei chyflwyno: gwerth bron i £12 miliwn o fuddsoddiad yn y pen anodd iawn o ryngweithio â rhan o'n hyfforddiant a mantais marchnad mwyaf anodd ei gael. Ond, edrychwch, ni ddylem siarad yn negyddol am Gymru. Cymru yw'r rhan fwyaf llwyddiannus o’r DU o ran ystadegau diweithdra. Rydym wedi gwneud yn arbennig o dda, er gwaethaf yr anawsterau economaidd sy'n ein hwynebu. Yr hyn yr ydym wedi ei wneud yw creu llawer o swyddi, a llawer o swyddi da. Gwnaethom ddeddfu ar gyfer swyddi da dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl.

O ran prosiectau mawr, mae gennym broses gaffael. Mae cymal cymunedol yn ein rhaglenni, lle’r ydym yn annog—mewn rhai achosion, yn disgwyl—i gynlluniau prentisiaeth gael eu cyflwyno. Rwy'n siŵr y bydd hynny’n rhan o’r holl gysyniad hwnnw ar gyfer y metro a’r fasnachfraint newydd wrth i ni drafod y mater ynghylch teithio. Wrth baratoi ar gyfer y dyfodol, mae awtomeiddio yn broblem fawr. Mae'n rhaid i ni ystyried hynny’n ofalus iawn, iawn, hyfforddi a rhoi'r sgiliau i bobl heddiw ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ddigon o gwmnïau arloesol yng Nghymru, cwmnïau fel GE, Airbus—pob un ohonynt ar flaen y gad o ran technoleg, ond mae'n rhaid i ni groesawu hynny ac adeiladu ar hynny.

Mae'r Aelod yn sôn am Awdurdod Cyllid Cymru yn aml. Edrychwch, rydym yn sôn am 17 o swyddi medrus iawn yn y fan hon, a bydd yn rhaid i rai ohonynt gael eu dwyn i mewn oherwydd y sylfaen sgiliau. Ond, yn gyffredinol, rydym yn gweithio gyda chyflogwyr, rydym yn gweithio gyda'n hysgolion a’n colegau, i roi'r sgiliau cywir i bobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol, oherwydd, os nad ydym yn gwneud hynny, ni fyddwn ni y gorau yn y DU o ran ein ffigurau diweithdra; byddwn ni’n un o'r gwaethaf. Dyna pam y mae’n bwysig i newid gyda'r oes a dyna beth yr ydym yn ei wneud gyda'r rhaglen hon. 

Mae hwn yn ddiwrnod trist iawn i Ddwyrain Abertawe ac yn ddiwrnod trist i iechyd, wrth i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, cartrefi di-fwg, dosbarthiadau ymarfer corff, diet iach a rhaglenni colli pwysau ddod i ben. Diwrnod trist ar gyfer cyrhaeddiad addysgol, wrth i glybiau paratoi ar gyfer arholiadau’r Pasg, clybiau gwaith cartref a rhaglenni dysgu i’r teulu ddod i ben. Diwrnod trist i bobl a fyddai wedi elwa ar gyrsiau ymwybyddiaeth o arian, cyngor ar filiau cyfleustodau, cyrsiau cyllidebu sylfaenol, a rhaglenni gwneud y mwyaf o incwm. Y llynedd, daeth y gyllideb atodol gyntaf o hyd i £10 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg uwch. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid am £10 miliwn ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen atodol gyntaf eleni?  

Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau â'r Gweinidog Cyllid, ac arwydd o'r amserau yw ein bod yn symud i mewn i sefyllfa wahanol o fynd i'r afael â thlodi. Mae'r Aelod yn anghywir—yn amlwg yn anghywir—yn dweud y bydd pob un o'r rhaglenni hynny yn dod i ben. Nid yw'n gwybod a fyddant yn dod i ben; nid wyf i’n gwybod a fyddant yn dod i ben. Beth y mae yn ei olygu yw bod yn rhaid i ni siarad â chymunedau ynghylch sut yr ydym yn eu gwneud yn gryfach ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ymwybodol iawn o glystyrau Abertawe—rwyf wedi ymweld â llawer o glystyrau ledled y DU gyfan—felly mae hi braidd yn anffodus bod yr Aelod yn defnyddio y math yna o iaith i ddychryn pobl yn hytrach na bod yn adeiladol yn y modd y mae'n ymdrin â hyn yn y Siambr.

Hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mewn sawl ffordd, mae hon yn adeg chwerwfelys, a hoffwn i ymuno â chi a’r siaradwyr blaenorol i gydnabod y modd y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gwella cymaint o fywydau yn rhai o'n cymunedau mwyaf heriol a’r rhai sy’n wynebu heriau, ond nid yw natur a ffurf tlodi yn gysyniad statig. Mae'n hollol iawn, felly, y dylech chi fel Llywodraeth, geisio mynd i'r afael â'r newidiadau yn ffurf tlodi, ac rwyf i yn sicr yn croesawu'r symudiad i wneud hynny.

Felly, wrth edrych ymlaen, rwy’n croesawu’r ffaith bod Lywodraeth Cymru yn gosod cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso wrth wraidd ei pholisi cymunedau cydlynol, rhagweithiol newydd a hefyd y ffordd y mae'r ymagwedd newydd yn gysylltiedig â’r agenda cyflogadwyedd, agenda tasglu’r Cymoedd, a'r strategaeth economaidd ehangach. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â'r mater o asedau cymunedol. Rwy’n croesawu'r ymrwymiad i gronfa etifeddiaeth, a'r arian ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfleusterau cymunedau, ond byddwn yn croesawu unrhyw fanylion ychwanegol, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallech chi eu rhoi i mi heddiw am hyn. Pan yr oedd gwasanaethau Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth i yn uno â’i gilydd yn y gorffennol, roedd hynny yn aml yn arwain at ganoli gwasanaethau, gyda goblygiadau i asedau cymunedol a arferai fod yn gartref i'r rhaglen pan mai Cymunedau yn Gyntaf oedd y prif denant, gan ganiatáu i sefydliadau eraill ddefnyddio'r lle er budd y gymuned. Sut y bydd yr arian newydd hwn yn helpu i sicrhau na fydd y math yna o sefyllfa yn codi wrth symud ymlaen, a hefyd a fydd y gronfa yr ydych wedi cyfeirio ati yn agored yn ôl-weithredol i gyn leoliadau Cymunedau yn Gyntaf sydd eisoes wedi colli’r ddarpariaeth Cymunedau yn Gyntaf yn ystod uno blaenorol?

Yn ail, rwy’n croesawu eich ymrwymiad i gefnogi'r rhai hynny sydd bellaf o'r farchnad lafur yn ôl i gyflogaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd heriau yn y fan yma ynghylch yr agenda sgiliau, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym pa asesiad sydd wedi'i wneud o hyn, a hefyd unrhyw ddulliau penodol sydd gan Cymunedau yn Gyntaf y gellid eu cadw mewn unrhyw fodel yn y dyfodol.

Yn olaf, rwy’n croesawu’r gwaith partneriaeth cyfannol sydd wrth wraidd gweledigaeth Llywodraeth Cymru yr ydych wedi ei disgrifio i ni yma heddiw. Pa ymateb y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau lleol a sefydliadau partner eraill i'r cynigion hyn?

Diolch i Vikki Howells am ei chwestiynau heddiw ac, unwaith eto, Aelod arall sydd wedi bod yn blwmp ac yn blaen iawn ei barn am Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer ei chymuned hi. Vikki, yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw y dylem fod yn uchelgeisiol ac y dylem fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n gwbl ymrwymedig i fynd i’r afael â’r materion yn ymwneud â thlodi. Bydd gennym yr addewid gofal plant mwyaf hael mewn unrhyw le yn y DU yn cael ei gyflwyno yn eich etholaeth chi ac mewn etholaethau ym mhob rhan o Gymru. Mae mynd i'r afael â phroblemau profiadau plentyndod niweidiol sy'n cael effeithiau dinistriol ar ein plant yn y tymor hirach—problemau cenhedlaeth y mae’n gwbl iawn, yn foesol, inni fynd i'r afael â nhw, ond sydd hefyd yn gwbl iawn yn gyllidol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen i ni newid cyfeiriad a dyna beth y byddwn yn ei wneud, gan weithio mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf a chartrefi plant yng Nghymru, gan fynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i ni, sy’n bwysig i bobl Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe, a'r ardaloedd lle byddwn yn cyflwyno cynlluniau gofal plant arbrofol ym mis Medi eleni. 

Y mater y mae’r Aelod yn ei godi ynghylch mater y gwariant cyfalaf a'r rhaglen cyfleusterau cymunedol—rydym wedi atodi £4 miliwn i hwnnw ar gyfer etifeddiaeth o bedair blynedd o 2018. Rwy'n disgwyl i hwnnw gael ei ddefnyddio gyda rhywfaint o hyblygrwydd ag awdurdodau lleol, a fydd yn eu helpu i newid eu cyfalaf a chael cymaint â phosibl o’r ased sydd ganddynt. Felly, pa un a oes angen iddyn nhw adeiladu ceginau newydd neu gyfleusterau boeler newydd os bydd hynny yn galluogi’r cyfleuster hwnnw i fod y cyfleuster gofal plant newydd ar gyfer eich ardal, neu yn fan lle y gallwn ddarparu mwy o asiantaethau hyfforddiant a chyflogaeth, y rhain yw’r cyfleoedd yr wyf yn credu y dylai awdurdodau lleol a phobl leol fod yn fwy blaenllaw ac yn gallu cyflwyno’r rhaglenni hyn. Mae'r dull ‘gwnaed yng Nghymru’ tuag at drosglwyddo asedau cymunedol yn rhywbeth yr wyf yn ei drafod gyda’r Gweinidog Cyllid, a byddwn yn gwneud datganiad arall ar hynny yn y dyfodol agos.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a diolch hefyd iddo am ei ymgysylltiad â mi fel aelod o'r meinciau cefn sydd wedi bod yn poeni'n ddirfawr am y cynigion hyn, a hefyd am gyfarfod â’m hawdurdod lleol? Yn gyntaf rwyf yn awyddus i gofnodi fy niolch, a thalu teyrnged i'r staff sy'n darparu Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth i, sydd wedi gwneud gwaith cwbl wych. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwbl ymwybodol o berfformiad rhagorol Cymunedau yn Gyntaf yn Nhorfaen, ond i’w atgoffa, rydym ni’n gyntaf o ran cael pobl i mewn i gyflogaeth, yn ail o ran hybu sgiliau, yn drydydd o ran gwella rhifedd a llythrennedd a gwella lles meddwl ac iechyd. Felly, mae gennym dipyn o hanes i geisio ei warchod yn hynny o beth. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd i ddiogelu rhag y naratif nad yw’r rhaglen hon wedi mynd i'r afael â thlodi, wrth iddi wynebu, fel y gwnaeth, dros y saith mlynedd diwethaf bron, cefndir o doriadau budd-daliadau llym, y gall y Ceidwadwyr Cymreig eu diystyrru, ond sydd yn ddi-au wedi cael effaith ddofn ar ein cymunedau tlotaf, a byddant yn gwaethygu wrth i’r credyd cynhwysol gael ei gyflwyno.

Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn glir iawn yn fy sylwadau i chi, a hefyd yn fy ymateb ysgrifenedig, ei bod yn gwbl hanfodol nad ydym yn taflu’r llo a chadw’r brych yn y rhaglen hon. Gyda hynny mewn golwg, rwy’n croesawu'n fawr y ffaith y byddwch yn cynnal cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar 100 y cant hyd at fis Mehefin, ac ar 70 y cant hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith y bydd cyfnod pontio o bedair blynedd, ond rwy’n siŵr na fyddwch yn disgwyl llai na fy mod yn bryderus iawn am y gostyngiad sylweddol mewn cyllid ar gyfer y pedair blynedd hynny, a fydd, i fy etholaeth i, yn golygu gostyngiad o £1 filiwn y flwyddyn. Felly, rwy’n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gallwn barhau i’w adolygu, gan ei fod yn arian ar gyfer ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

O ran cwestiynau, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael rhagor o fanylion am sut yr ydych yn gweld y gronfa etifeddiaeth hon yn gweithio a sut y byddwch yn sicrhau ei bod wedi’i thargedu at y meysydd lle y gall fod fwyaf effeithiol gyda’r cyllid dan sylw. Ond byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod, o ran yr arian cyflogadwyedd, faint o hyblygrwydd y mae awdurdodau lleol yn debygol o’i gael wrth ddefnyddio'r arian hwnnw. Oherwydd rydym yn gwybod nad oes llawer o bobl mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn barod o gwbl ar gyfer cyflogaeth, ac mae llawer o'r ymyraethau meddalach y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod mor dda o ran eu cyflawni yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod ganddynt hyd yn oed gyfle teg o gael budd o’r camau cyflogaeth hynny.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac rwy’n cytuno â'r Aelod. Torfaen yw un o'r awdurdodau sydd wedi bod yn dda iawn o ran dangos y ffordd y gallant ymgysylltu â'u cymuned ar lefel leol iawn. Mae Caerffili yn enghraifft arall lle y bu gweithgarwch da iawn ar lawr gwlad. Nid wyf yn dweud bod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi cael ei thorri; dweud wyf i bod angen i ni wneud rhywbeth gwahanol, oherwydd nid yw’r pethau yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â nhw—effeithiau styfnig tlodi—yn cael eu cyflawni cystal ag yr oeddem yn ei obeithio. Dyna pam mae'n rhaid i ni newid cyfeiriad. Ni ddylai'r Aelod fod yn swil o ran dweud ychwaith: er bod Torfaen yn gyntaf mewn llawer o bethau, roedd yr Aelod yn un o'r rhai cyntaf i ddod i fy ngweld, yn ogystal, i ddweud beth oedd ei phryderon o ran effaith y rhaglen hon.

Rwyf wedi ymweld â rhai o'r straeon llwyddiant o'r rhaglenni Esgyn a Chymunedau am Waith. Rydym wedi cael canlyniad gwych ar raglenni cyflogaeth a chael pobl yn ôl i waith, ond mae'r rhain yn garfan o unigolion nad ydynt weithiau yn barod ar gyfer gwaith ac mae angen i ni wneud mwy gyda nhw. Rwyf wedi gweld llwyddiant mawr yng Nghaerdydd, yr ymwelais ag ef yn ddiweddar, lle’r oeddem yn gallu rhoi hyder i bobl; digon i gamu dros garreg y drws, i ddechrau siarad am y farchnad swyddi, a rhoi'r hyder iddynt i gael y sylfaen sgiliau honno. Gobeithio, o’r fan honno, y gallwn eu symud drwy'r system: trwy raglen gyflogadwyedd Julie James i mewn i leoliadau gwaith—ac mae Ken Skates wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran denu busnesau i'r ardal hon.

O ran sut y bydd y ffrydiau refeniw yn gweithredu, byddaf yn cyhoeddi rhywfaint o ganllawiau, yn dilyn ymgynghori â rhanddeiliaid, ynghylch sut yr wyf yn gweld y bydd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus neu'r awdurdod lleol yn rhan o'r cynllun llesiant, gan wneud yn siŵr mai’r meysydd y dylid mynd i'r afael â nhw—trechu tlodi yn yr ardaloedd hynny—yw'r rhai y rhoddir blaenoriaeth iddynt i wneud hynny. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf eisoes wedi ei drafod â swyddfa’r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol—gan wneud yn siŵr eu bod ar ben eu pethau yn hyn o beth er mwyn sicrhau ein bod yn targedu’r mannau cywir. Ond bydd, wrth gwrs—mae llai o arian yn mynd i mewn i'r system yn y maes hwn, a bydd effeithiau i hynny. Ond yr hyn yr ydym wedi gallu ei wneud, ac rwy'n ddiolchgar am gydnabyddiaeth yr Aelod o hyn, yw rhoi amodau mwy addas i hyn mewn proses lle y gallwn gynllunio ar gyfer dyfodol pryd y bydd, gobeithio, sefydliadau addysg, iechyd a sefydliadau eraill yn y trydydd sector yn gallu dod at y bwrdd i sôn am y llwyddiant yn y meysydd hyn a symud hynny ymlaen wrth i ni fynd yn ein blaenau.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ymddiheuro i’r holl Aelodau eraill hynny a oedd yn dymuno cyfrannu, ond rydym wedi mynd dros ein hamser.

6. 5. Datganiad: Sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth

Mae eitem 5 yn ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar sefydlu gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Galwaf ar Kirsty Williams i wneud y datganiad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n credu y dylai pob person ifanc, waeth beth yw ei gefndir, gael y cyfle i ddatblygu ei ddoniau a'i sgiliau drwy gerddoriaeth. Rwy'n falch, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ein bod yn cyhoeddi gwerth £1 miliwn o fuddsoddiad i gefnogi sefydlu gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Bydd cyfraniad cychwynnol yn cael ei ddarparu i Gyngor Celfyddydau Cymru i dalu am y costau sefydlu. Yna bydd cyfraniad pellach yn cael ei wneud i gronfa gychwynnol y gwaddol unwaith y bydd wedi’i sefydlu, gan gymryd y cyfanswm i £1 filiwn.

Mae'r gwaith hwn yn cynrychioli’r dull cydgysylltiedig yr ydym yn ei gymryd i sicrhau bod cyfleoedd cerddoriaeth yn dal i fod ar gael i bob person ifanc, ac yn cael eu gwella yn y dyfodol. Dros yr wythnosau nesaf, bydd cyngor y celfyddydau yn dechrau'r broses o sefydlu'r gwaddol, gan gynnwys ymgynnull grŵp llywio i lywio’r cwmpas, y defnydd a’r amseriadau ar gyfer gweithredu’r gronfa hon yn y pen draw. Bydd adeiladu’r gronfa i lefel lle bydd y llog blynyddol yn ddigonol i wneud grantiau, wrth gwrs, yn cymryd peth amser. Bydd yn dibynnu ar ddenu cyfraniadau gan amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Mae hon, felly, yn fenter ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir.

Ddirprwy Lywydd, rydym yn genedl sydd â threftadaeth gerddorol gyfoethog. Pe baech yn gofyn i bobl ar draws y byd i enwi’r pethau y maent yn eu cysylltu â Chymru, byddai eu rhestr yn ddi-os yn cynnwys cerddoriaeth. O'n corau traddodiadol i gerddorion sy'n perfformio ar draws y byd, mae Cymru yn wirioneddol yn gwneud yn well na'r disgwyl. Er hynny, wrth gwrs, rhaid inni ochel rhag edrych ar ein treftadaeth gerddorol fel ystrydeb; mae ein hetifeddiaeth, i atseinio i lawr y cenedlaethau, yn un o amrywiaeth a bywiogrwydd: cerddoriaeth arbrofol John Cale; gwreiddioldeb y Super Furry Animals; hygyrchedd Ivor Novello; neu foderniaeth Kizzy Crawford a Marina and the Diamonds.

Ond eto i gyd, nid yw hyfforddiant cerddoriaeth yn ymwneud â pherfformiad yn unig. Mae'n hyrwyddo ystod o ganlyniadau cadarnhaol sy'n cefnogi'r pedwar diben wrth graidd ein cwricwlwm newydd a fydd yn codi safonau yn ein hysgolion. Rydym yn awyddus i'n pobl ifanc dyfu'n unigolion iach, hyderus, yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog ac yn ddinasyddion moesegol, gwybodus. Mae dysgu i ganu neu chwarae offeryn cerdd yn helpu ein plant i feithrin disgyblaeth a dyfalbarhad. Mae'n dysgu mai arfer yn wir yw’r unig athro ac mae'n helpu plant i fagu hyder a darganfod beth sy'n eu hysbrydoli.

Rydym i gyd am gael system addysg sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr gymryd rhan yn y profiadau gwerthfawr hyn. Drwy ehangu ac ymestyn y grant amddifadedd disgyblion, mae ysgolion yn cael eu paratoi'n well i ddarparu profiadau cerddorol i'w dysgwyr, sy'n arbennig o bwysig i lawer o’r plant hynny na fyddent o bosibl yn gallu fforddio cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.

Mae hyn yn ategu amcanion y cynllun 'Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau', rhaglen ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a chyngor y celfyddydau sy’n buddsoddi £20 miliwn mewn ysgolion i hyrwyddo a chefnogi addysgu a dysgu creadigol. Mae'r rhaglen hon hefyd yn cefnogi ysgolion i ddatblygu arfer a fydd yn cyfrannu at y cwricwlwm newydd, gan helpu ein pobl ifanc i ddatblygu i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly beth yw diben hyn oll? Mae cerddoriaeth yn weithgaredd cyfoethogi sy'n ein galluogi ni i fynegi ein hunain yn bersonol ac i rannu yn ein diwylliant cyfunol. Fel y dywedodd Longfellow,

Cerddoriaeth yw iaith gyffredinol dynolryw.

Y gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth yw ein dull tymor hir a chynaliadwy o’i chyllido. Yn hytrach na disodli gwasanaethau cerddoriaeth presennol, fe’i cynlluniwyd i’w gwella. Er y bydd yn cymryd amser i adeiladu’r gronfa fel ei bod yn waddol cadarn a chynhyrchiol y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu, rwy’n awyddus ein bod yn gwthio ymlaen fel y gall hyn ddigwydd cyn gynted â phosibl. Mae'r gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth yn un o argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen gwasanaethau cerddoriaeth, a hoffwn ddiolch i aelodau'r grŵp hwnnw am eu gwaith caled ac am ddarparu a chynhyrchu adroddiad mor werthfawr. Bydd y gwaddol yn fenter wirioneddol arloesol, wedi’i gwneud yng Nghymru, sy’n torri tir newydd ac felly rwy’n galw ar yr Aelodau yma i'n cefnogi wrth inni edrych yn fanwl ar sut orau i dargedu’r gronfa hon, er mwyn nodi meysydd o angen ac i’n helpu i adeiladu gwaddol llwyddiannus a all ddarparu ar gyfer pobl ifanc am flynyddoedd i ddod.

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Yn amlwg, mae e’n rhywbeth rŷm ni yn barod iawn i’w gefnogi o safbwynt creu y gronfa neu’r gwaddol cenedlaethol yma. Fel rŷch chi’n ei ddweud, mae cerddoriaeth yn gallu rhoi profiadau mynegiadol i bobl ifanc. Mae’n gallu rhoi profiad o ymbweru iddyn nhw hefyd. Mae e yn sicr yn cryfhau hyder a hunan-barch unigolion, ac mae yna fudd, fel rŷch chi wedi ei gydnabod, nid yn unig yn addysgiadol ond o safbwynt lles ac, wrth gwrs, mae’n elfen bwysig hefyd, yn fy marn i, pan fydd hi’n dod i gryfhau iechyd meddwl, ac yn y blaen ac yn y blaen. Felly, rydw i’n croesawu’n fawr y ffaith bod y symudiad yma yn digwydd a bod y datganiad yma—er ei fod wedi cael ei wneud yn gyhoeddus cyn heddiw, wrth gwrs—yn cael ei wneud y prynhawn yma.

Jest ychydig o gwestiynau, efallai, ynglŷn â’r trefniadau ymarferol. Rydych chi’n dweud bod hon yn fenter ar y cyd gydag Ysgrifennydd yr economi. Rydych chi’n sôn am £1 filiwn. A oes yna gyfraniad ariannol yn dod o adran Ysgrifennydd yr economi, ac os oes, beth yw hwnnw? Ac o ba gyllideb o fewn eich adran chi mae’r cyfraniad yma yn dod hefyd? A ydych chi yn rhagweld y byddwch chi yn cyfrannu yn flynyddol tuag at y gwaddol, neu a ydych chi ddim yn edrych ymhellach na’r £1 miliwn ac yn disgwyl y bydd y gweddill—rydych chi’n sôn am darged o ryw £20 miliwn—yn cael ei gyfrannu gan eraill yn unig? Ac erbyn pryd ydych chi’n disgwyl y bydd yr £20 miliwn yn ei le? Yn amlwg, rydych chi’n disgwyl y bydd hyn yn talu allan erbyn 2020. A fyddwch chi’n disgwyl y bydd yr £20 miliwn yn ei le erbyn hynny?

Nawr, yn amlwg, mae’ch rhagolygon chi ar y tymor canol a’r tymor hir o safbwynt gweld y gwaddol yma yn llawn weithredol, beth bynnag, ond mae yna bwysau, wrth gwrs, heddiw ar nifer o’r gwasanaethau yma. Mi fyddai’n resyn colli llawer o’r ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd yn y maes yma tra’n aros i gyrraedd y pwynt lle bydd y gwaddol yma’n weithredol. Felly liciwn i glywed gennych chi beth yw eich bwriadau chi i sicrhau bod y gwasanaethau presennol yn aros yn gynaliadwy yn y cyfamser. Oherwydd o golli yr isadeiledd neu’r seilwaith yna, bydd y dasg o gryfhau gwasanaethau gymaint â hynny yn anoddach.

Nid wyf yn gwybod a ydych chi’n ymwybodol o fenter Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, lle mae nifer o’r darparwyr, yn wyneb y toriadau sydd wedi cael eu gwneud, wedi dod at ei gilydd i greu menter gydweithredol a fydd yn sicrhau darparu gwasanaethau i ysgolion. Rwy’n meddwl y byddai hwnnw yn fodel y byddai’n dda i chi a’r rhai sy’n ymwneud â’r gwaddol yma i edrych arno, ac efallai y byddwch chi’n gallu dweud wrthym ni ai hynny yw'r math o beth y byddech chi yn awyddus i weld yn cael ei gefnogi gan y gwaddol yma.

Hefyd, mi gyfeirioch chi, tuag at ddiwedd y datganiad, at y tasglu gwasanaethau cerddoriaeth, a bod yna 15 argymhelliad—ac mae hwn yn un ohonyn nhw, sydd bellach yn cael ei weithredu nawr, wrth gwrs. Efallai, nid o reidrwydd fan hyn nawr, y gallwch chi roi diweddariad ysgrifenedig inni ar ryw bwynt o le mae gweddill yr argymhellion arni o safbwynt cynnydd, er mwyn cael bod yn glir ynglŷn â’r gwaith ehangach sy’n digwydd i fynd â’r agenda hon yn ei blaen.

Rwy’n diolch i chi, Llŷr, am eich sylwadau a'ch cwestiynau'r prynhawn yma ac am eich croeso i sefydlu’r gwaddol. Mae hon, yn wir, yn fenter ar y cyd rhyngof fi a fy nghydweithiwr, ac mae'r rhaniad yn 50-50: 50 y cant, neu £500,000, gennyf i, a’r un peth gan fy nghydweithiwr. Mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ychwanegu yn ychwanegol. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen, fel y gwyddoch, yn argymell y dylid cael astudiaeth ddichonoldeb i'r posibilrwydd o sefydlu gwaddol. Cafodd gwaith ei wneud yn flaenorol mewn cysylltiad â hynny, ac roeddwn yn awyddus iawn, fel yr oedd fy nghydweithiwr Ken Skates, i allu gwneud cynnydd ar yr argymhelliad hwnnw cyn gynted ag y bo modd. Diben cyllid y Llywodraeth yw: (1) galluogi cyngor y celfyddydau i sefydlu'r gronfa—felly, mae angen rhywun i ddod o hyd i’r adnodd hwnnw fel y gellid sefydlu’r gronfa yn y lle cyntaf—ac yna mae'r arian ychwanegol yno fel cymhelliant a chyfraniad at gael y buddsoddiad cychwynnol i mewn i'r gronfa, ac yn dangos i eraill bod y gronfa yn bodoli. Gobeithio y byddwn yn gallu denu buddsoddiad arall o ffynonellau sector cyhoeddus a phreifat wrth inni symud ymlaen.

Bydd ein gallu i wneud taliadau o'r gwaddol yn amodol mewn gwirionedd ar ba mor gyflym y gallwn godi'r cyfalaf sydd ei angen. Byddwn wrth fy modd i fod mewn sefyllfa lle gallwn ddechrau gwneud grantiau o 2020, ond mae'n dibynnu ar ba mor gyflym y gallwn dyfu’r gronfa yn gyfandaliad sylweddol a fydd wedyn yn caniatáu i'r llog gael ei wneud. Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd, Llŷr, i ddweud a fyddai'r fenter gydweithredol yr ydych yn sôn amdani yn amodol ar gyllid. Mae hynny yn fater ar gyfer y grŵp llywio y rhagwelwn y bydd cyngor y celfyddydau yn ei sefydlu. Felly, nid yw’n ymwneud â mecanwaith sefydlu'r gronfa yn unig ond sefydlu grŵp llywio a fydd yn edrych ar yr holl faterion hyn—yn adnabod yr angen a'r math o brosiectau yr ydym yn teimlo a fyddai'n deilwng o gael eu hariannu. Mae’r math hwnnw o ddull cydweithredol, yn fy marn i, wedi dangos ymrwymiad pobl ar lawr gwlad i geisio goresgyn—ac nid wyf am osgoi hyn o gwbl—rhai o’r heriau gwirioneddol y mae gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion wedi eu hwynebu. Bu grwpiau fel yr un y soniasoch chi amdano—ac rwy’n gyfarwydd yn fy etholaeth fy hun â sefydliad Cerddoriaeth Ieuenctid De Powys—sydd wedi gweithio'n galed iawn, iawn i fynd i'r afael â'r bylchau ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi â sefyllfa ariannol anodd iawn a pharhau i ddarparu’r cyfleoedd hynny ar gyfer pobl ifanc. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ganmol grwpiau, fel yr un a grybwyllwyd gennych chi ac eraill, sydd yn gweithio mor greadigol i greu’r cyfleoedd hyn ar gyfer pobl.

O ran y grŵp gorchwyl a gorffen, fel y dywedais yn fy natganiad, roedd hwn yn argymhelliad gan y grŵp. Roedd y rhan fwyaf o'r argymhellion o'r grŵp hwnnw yn rhai i lywodraeth leol fwrw ymlaen â nhw. Mae gweision sifil yma yn fy adran i ac yn adran Ken Skates yn parhau i weithio'n agos iawn â CLlLC ac awdurdodau lleol i symud yr argymhellion hynny ymlaen. Byddwn yn fwy na hapus i fy nghydweithiwr—rwy'n siŵr y byddai'n fwy na pharod i roi diweddariad ysgrifenedig ar hynny oherwydd mae hynny’n dod dan ei bortffolio ef. Rwy'n siŵr na fyddai hynny'n broblem o gwbl.

A gaf i hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad hi? Rwy'n credu ei bod yn siomedig, wrth gwrs, fod y cyhoeddiad wedi ei wneud i'r cyfryngau ddoe yn hytrach nag yn y Siambr hon. Ond rydym yn cael datganiad heddiw, ac o leiaf mae hynny’n gyfle i ofyn rhai cwestiynau i chi am y cynlluniau a gyhoeddwyd gennych chi. Rwy’n dymuno croesawu sefydlu’r gwaddol. Mae'n argymhelliad allweddol sydd wedi cael ei ddwyn ymlaen, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi ar gofnod heddiw y ffaith ein bod, yn aml iawn, yn sôn llawer am y pynciau STEM—rydym yn siarad am fathemateg, rydym yn siarad am Saesneg, rydym yn siarad am wyddoniaeth, rydym yn siarad am y Gymraeg—ond gwae ni os ydym yn anwybyddu'r celfyddydau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud mwy ar gyfer y celfyddydau yma yng Nghymru, a dyna pam yr wyf yn awyddus i’r gronfa waddol hon fod yn llwyddiant a’i bod yn tyfu. Tybed pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda ffynonellau dyngarol posibl i ehangu'r gronfa hon yn gyflym, fel y gall ddechrau cael rhywfaint o arian allan o'r drws ac i mewn i bocedi pobl, er mwyn eu cynorthwyo yn natblygiad y celfyddydau yn eu bywydau eu hunain.

Rwy’n meddwl, hefyd, fy mod braidd yn siomedig, neu’n ddryslyd o bosibl, ynghylch amseriad y cyhoeddiad, oherwydd gwaith parhaus y pwyllgor, sy'n edrych ar rai o’r agweddau ar ddarpariaeth cerddoriaeth ar hyn o bryd. Ac rwy’n meddwl, os ydym yn mynd i weld rhyw fath o weithio cydgysylltiedig yn y Cynulliad hwn rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r Llywodraeth, mae'n bwysig, weithiau, bod Gweinidogion yn dal yn ôl rhag gwneud cyhoeddiadau pan fo trafodaethau defnyddiol o ddifrif eisoes yn digwydd. Nodais, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, yn y pwyllgor diwylliant, bod y Dr Owain Arwel Hughes yn sôn am gerddoriaeth, ac roedd yn dweud ein bod yn wynebu argyfwng ar hyn o bryd yma yng Nghymru, a bod angen buddsoddiad os ydym yn mynd i gyflwyno'r math o lwyddiant y crybwyllwyd gennych yr ydym wedi’i gael yn hanesyddol. Ydych chi'n cytuno â dadansoddiad Owain Arwel Hughes ein bod mewn tipyn o argyfwng pan ddaw at addysg gerddorol yng Nghymru? Nodais fod y nifer o fyfyrwyr sy'n cymryd cerddoriaeth ar lefel TGAU a Safon Uwch, er enghraifft, yn awgrymu bod llai yn eistedd arholiadau cerddoriaeth. Rydym wedi gweld gostyngiad o 25 y cant yn y rhai sy'n cymryd cerddoriaeth at lefel TGAU, a gostyngiad o 35 cant yn cymryd cerddoriaeth at Safon Uwch. A yw hynny’n bryder i Ysgrifennydd y Cabinet, a pha gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dirywiad yr ydym wedi’i weld yn nifer y rhai sy'n cymryd cerddoriaeth ar lefel TGAU ac i Safon Uwch?

A wnewch chi ddweud wrthym hefyd, o ran bwrw ymlaen â’r argymhellion hynny gan y grŵp gorchwyl a gorffen, y soniasoch amdanynt yn eich ymateb i Llŷr bod llawer o'r argymhellion hynny yn gyfrifoldeb llywodraeth leol. Rwy’n gwerthfawrogi ac yn deall mai dyna oedd y sefyllfa, ond, fel sydd wedi digwydd cynifer o weithiau yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn aml mae'n cymryd arweiniad gan Lywodraeth Cymru i wireddu’r pethau hynny, hyd yn oed pan wneir argymhellion i 22 o awdurdodau lleol gwahanol, a phob un ohonynt, yn aml iawn, gyda gwahanol ddulliau o wneud pethau. Felly, tybed, a ydych yn mynd i ddangos rhywfaint o arweiniad ar hyn, nid yn unig o ran sefydlu’r gronfa hon, ond o ran datblygu eich swyddogaeth fel arweinydd ar addysg ar draws Cymru i wneud yn siŵr nad yw cerddoriaeth yn cael ei hesgeuluso yn y dyfodol? A pha drafodaeth a gawsoch gyda’r Athro Donaldson i sicrhau bod cerddoriaeth yn rhan o’r cwricwlwm newydd sy'n cael ei ddatblygu? Nid yw gwaith yr ysgolion arloesol wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi clywed llawer amdano, er enghraifft, ond rwy'n siŵr bod gwaith yn mynd yn ei flaen ac efallai y gallwch ddweud ychydig am hynny wrthym.

Byddwch yn gwybod hefyd bod ymchwiliad y pwyllgor diwylliant wedi bod yn edrych ar enghreifftiau o ddarpariaeth addysg cerddoriaeth yn yr Alban a Lloegr. Yn y ddwy wlad hyn, bu elfen o neilltuo’r cyllid sydd ar gael i awdurdodau addysg lleol, a bu rhywfaint o arloesedd yn y ffordd y mae offerynnau cerdd wedi'u caffael a bod gwasanaethau eraill wedi eu darparu trwy ganolfannau yn dod at ei gilydd. Tybed pa drafodaeth yr ydych wedi'i chael gyda chydweithwyr, neu efallai y mae eich swyddogion wedi'i chael gyda chydweithwyr, dros y ffin yn Lloegr ac yn yr Alban, am y trefniadau hynny a'r hyn a allai fod yn ddefnyddiol i Gymru ddysgu ganddynt. A allwch chi ddweud wrthym hefyd beth fyddai swyddogaeth y consortia rhanbarthol wrth gyflwyno gwelliannau mewn addysg cerddoriaeth a mynediad at addysg cerddoriaeth yn y dyfodol? Ni chlywais unrhyw gyfeiriad at y consortia rhanbarthol o gwbl yn eich datganiad, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall beth allai eu swyddogaeth fod mewn trefniadau yn y dyfodol. Felly, efallai y gallwch rannu ychydig o’ch syniadau am hynny. Diolch.

Diolch i chi, Darren, am y gyfres o gwestiynau a'ch croeso i’r egwyddor o sefydlu’r gwaddol. Ni fwriedir bod amseru'r cyhoeddiad hwn mewn unrhyw ffordd yn amharchus o waith y pwyllgor. Deallaf fod y gwaith wedi dod i ben ar 4 Chwefror, ond, gyda phob parch i'r pwyllgor, rydym eisoes wedi cael adroddiad sydd wedi argymell sefydlu’r gwaddol hwn. Does dim angen adroddiad arall i ddweud wrthyf fod angen i mi sefydlu'r gwaddol; yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw bwrw ymlaen â sefydlu'r gwaddol, sef yr hyn yr wyf yn ei wneud heddiw. Ond, wrth gwrs, bydd gennyf ddiddordeb enfawr i glywed am argymhellion a chanfyddiadau’r pwyllgor, a bydd cydweithwyr yn y Cabinet a minnau yn ystyried y rheini yn y ffordd yr ydym yn symud yr agenda hon yn ei blaen. Ond, fel y dywedais, rydym eisoes wedi cael argymhelliad bod angen i hyn ddigwydd, a dyna pam yr ydym yn gwneud hynny.

O ran TGAU cerddoriaeth, mae hefyd yn ddiddorol nodi gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy'n dilyn TGAU drama hefyd. Felly mae’n sicr yn broblem bod plant, am ba reswm bynnag, yn gwneud penderfyniadau gwahanol am y pynciau y maent yn dewis eu dilyn. Ond rydych chi'n hollol iawn—ydy, mae addysg gytbwys yn un sy’n rhoi sylw dyledus i fathemateg a Saesneg a gwyddoniaeth, ond hefyd yn un sydd, fel hanesydd, rwy’n gwybod fy hun yn rhoi sylw i’r dyniaethau yn ogystal ag ymdrechion creadigol. Un o'r pethau yr ydym wedi ei wneud o ran dewisiadau TGAU yw bod ysgolion wedi dweud wrthyf i fod y pwyslais ar y capio naw yn gwneud iddynt gulhau eu cwricwlwm, ac mewn gwirionedd roedd yn fwyfwy rhagweladwy bod plant yn dewis y pynciau hyn. Fel y gwyddoch, ni fyddwn yn defnyddio’r capio naw fel yr unig fesurau atebolrwydd arbenigol mewn ysgolion, gan eu galluogi i symud oddi wrth hynny felly. Felly, dyna un o'r pethau ymarferol yr ydym yn ceisio ei wneud i sicrhau nad yw ein cwricwlwm yn gul mewn ffordd sy'n ei gwneud yn fwy anodd i blant gymryd naill ai TGAU cerddoriaeth neu TGAU drama. Rwy’n awyddus i'n plant gael yr amrywiaeth fwyaf a'r ystod fwyaf eang o brofiadau addysg â phosibl. Wrth gwrs, dyna'r athroniaeth lwyr y tu ôl i ddiwygiadau cwricwlwm Donaldson.

O ran hynny, byddwch yn ymwybodol, Darren, fy mod wedi crybwyll swyddogaeth yr ysgolion creadigol yn fy natganiad. Felly, mae gennym rwydwaith o ysgolion creadigol sy'n ein cefnogi ni i ddatblygu dulliau newydd o addysg greadigol. Maent hefyd wedyn yn ffurfio rhan o faes grwpiau profiad dysgu sy’n edrych ar y fframweithiau ar gyfer meysydd unigol o brofiad dysgu ar gyfer y cwricwlwm. Ac fel y soniais yn fy natganiad, mae gennym gronfa gwerth miliynau o bunnoedd, ar y cyd â chyngor y celfyddydau, er mwyn gallu defnyddio gwahanol ffyrdd, a chreadigrwydd, i ymgysylltu o fewn y cwricwlwm. Felly, er enghraifft, gall llythrennedd fod yn broblem arbennig i fechgyn, a gall fod yn her cael bechgyn ifanc i ymgysylltu â gwaith llythrennedd ac ysgrifennu. Drwy ein gwaith gyda chyngor y celfyddydau, mae ysgolion yn gallu dod ag ymarferwyr arweiniol i mewn, ac mewn rhai ysgolion maent wedi cyflogi artist rap, ac mewn gwirionedd drwy ddefnyddio cerddoriaeth rap, ac ysgrifennu geiriau a cherddoriaeth o'r math hwnnw, mae wedi ysgogi dynion ifanc i feddwl am ysgrifennu yn ogystal â pherfformio. Dyna ffordd o ennyn diddordeb plant mewn llythrennedd mewn ffordd efallai na fydden nhw wedi meddwl amdani.

Felly, rydym yn edrych ar ddysgu creadigol yn ei ystyr ehangaf posibl. Rwy’n ymwybodol iawn o'r hyn a ddywedwyd wrth y pwyllgor am gyflwr yr addysg cerddoriaeth sy’n bodoli. Ni fyddwn yn ei ddisgrifio fel argyfwng, ond byddwn hefyd yn cydnabod tystiolaeth Karl Napieralla ynghylch yr anawsterau o ddadansoddi sefyllfa lle’r ydym wedi gweld llawer iawn o arian yn cael ei ddirprwyo i ysgolion ac ysgolion unigol yn dewis sut i ddefnyddio’r adnoddau hynny mewn ffordd sy'n diwallu anghenion eu plant. Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands—mae honno yng Nghwmbrân, mewn rhan ddifreintiedig o Gwmbran—lle’r oeddent yn defnyddio’r adnodd hwnnw i ddod â cherddorion proffesiynol i'r ysgol i weithio gyda phlant. Ar y diwrnod hwnnw, roedd y plant yn digwydd bod yn gwrando ar gerddoriaeth samba, ac yn cymryd rhan ynddo, ac yn ei fwynhau hefyd. Mae'r ysgol wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, gan ddadansoddi’r adnodd hwnnw yn ôl allan o'r ysgol. Ond byddwn yn disgwyl i ysgolion ac awdurdodau lleol weithio'n greadigol gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag anghenion o fewn eu cymuned.

Rwyf hefyd wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan y defnydd o'r grant amddifadedd disgyblion. Felly, mae Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn Abertawe yn defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion i dalu am aelodaeth o’r gerddorfa ieuenctid leol. I rai o'r plant hynny, gall aelodaeth o'r gerddorfa ieuenctid fod y tu hwnt iddynt. Felly, caiff rhywfaint o’r adnoddau hynny eu defnyddio i sicrhau bod y plant yn cael bod yn rhan o'r gerddorfa ieuenctid, yn ogystal â'r grŵp drama lleol. Felly, mae'n ddefnydd creadigol o'r arian hwnnw i sicrhau bod y plant hynny yn cael mynediad at y gweithgareddau hynny na fyddai ar gael iddynt mewn unrhyw ffordd arall. Ond rydym yn disgwyl i’r awdurdodau lleol fod yn gydweithredol i fynd i'r afael â'r pwyntiau hyn.

Rydym yn sicrhau arweinyddiaeth trwy sefydlu’r gronfa hon, ond, Darren, ar ryw adeg rydym yn byw mewn system sydd â llywodraeth leol, a rhaid i lywodraeth leol gymryd ei chyfrifoldeb o ddifrif. Os yw Llywodraeth Cymru yn dal i wneud pethau oherwydd nad yw llywodraeth leol yn eu gwneud nhw, rhaid gofyn y cwestiwn: pam mae llywodraeth leol yn bodoli? Mae'n eithaf clir fod ganddynt gyfrifoldeb yn y maes hwn, ac fel y dywedais yn gynharach, mae fy swyddogion i yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn bwrw ymlaen ag argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaethoch heddiw ar y gronfa waddol ar gyfer cerddoriaeth. Dwi'n gefnogol iawn i unrhyw ffyrdd adeiladol o wella hyfforddiant cerddoriaeth mewn ysgolion a chael mwy o blant a phobl ifanc i fwynhau, caru, chwarae a chymryd rhan mewn cerddoriaeth. Hoffwn ofyn i chi am rywfaint o fanylion, serch hynny.

Faint o amser, yn eich barn chi, y bydd yn ei gymryd cyn y bydd y gronfa yn ddigon o faint ar gyfer cefnogi dyfarnu grantiau? Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu’r arian i’w sefydlu, ond sut y byddwch chi’n gweithio i’w hyrwyddo ymhlith sefydliadau cyhoeddus a phreifat i'w hannog nhw i gyfrannu at y gronfa? Mae ymestyn y grant amddifadedd disgyblion yn iawn. Ond mae’n bosibl na fydd gan berson ifanc yr hawl i gael prydau ysgol am ddim, ond eto i gyd byddai prynu offeryn a thalu am hyfforddiant fod ymhell allan o gyrraedd ei rieni. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu helpu pobl ifanc o'r fath?

Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn brolio bod £20 miliwn yn cael ei wario ar ddysgu creadigol Llywodraeth Cymru drwy’r cynllun celfyddydau. Fodd bynnag, ymddengys bod y cynllun hwn yn cwmpasu mwy na cherddoriaeth. Felly, faint o'r £20 miliwn hwnnw sy’n cael ei wario ar gerddoriaeth ac yn talu am ddarpariaeth cerddoriaeth mewn gwirionedd? Pa gamau fyddwch chi’n eu cyflwyno i sicrhau bod y cyllid a fwriadwyd i gefnogi cerddoriaeth mewn ysgolion yn cael ei wario mewn gwirionedd ar gerddoriaeth mewn ysgolion?

Dylai pobl ifanc allu parhau â'u hastudiaethau cerddoriaeth os ydynt yn dymuno ar ôl ysgol, yn enwedig y bobl ifanc hynny sy’n dangos dawn gerddorol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cerddoriaeth yn y gymuned fel y gall pobl barhau â'u cerddoriaeth ar ôl iddynt adael yr ysgol? Mae'n wych addysgu pobl ifanc i chwarae offeryn a charu cerddoriaeth, ond nid ydym wir eisiau gweld y sgiliau hynny yn dod i ben yn llwyr ar ddiwedd oedran ysgol. Rydym eisiau gallu annog pobl i barhau â hynny a dod â'u cerddoriaeth i mewn i'r gymuned. Felly, sut ydych chi'n mynd i fod yn cefnogi cerddoriaeth yn y gymuned fel y gall pobl barhau â'u cerddoriaeth ar ôl iddynt adael yr ysgol?

Gwnaeth y grŵp gorchwyl a gorffen nifer o argymhellion ynghylch telerau ac amodau darpariaeth gwasanaeth, cost darpariaeth cerddoriaeth, cyfathrebu model cyflwyno a ffefrir gan awdurdodau lleol, ac yn y blaen. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r problemau a'r materion a amlinellwyd yn adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen?

Ac yna, yn olaf, rwy’n llwyr gefnogi eich amcan i wella mynediad at gerddoriaeth mewn ysgolion. Bydd y gronfa hon, gobeithio, yn mynd rhywfaint o’r ffordd i gefnogi hynny. Ond, nid oes dim i gymryd lle hyfforddiant cerddoriaeth cymwysedig ac angerddol yr ysgolion eu hunain mewn gwirionedd. Felly, pa gamau yr ydych yn mynd i’w cymryd i annog athrawon dan hyfforddiant i astudio addysg cerddoriaeth ar lefel hyfforddiant athrawon ac i annog pobl â dawn gerddorol i'r proffesiwn addysgu yn y lle cyntaf? Diolch.

Diolch i chi, Michelle, am eich cwestiynau. O ran dyngarwch—ac rwy’n meddwl mai Darren a gododd hyn hefyd, ac mae bai arna i am beidio â mynd i'r afael â hynny—mae llawer iawn o waith wedi ei wneud, ar y cyd â chyngor y celfyddydau, yn edrych ar gyfleoedd. Mae'n rhaid i ni wella o ran dyngarwch. Mae llawer o sefydliadau ac unigolion y gallwn fod yn edrych arnynt i gefnogi'r gwaith hwn. Mae'n rhaid i ni wella fel cenedl. Gobeithio, drwy greu’r cyfle hwn, y bydd yn gyfle hawdd i bobl wneud hynny. Ond bydd sefydlu grŵp llywio gan gyngor y celfyddydau yn golygu y bydd pobl sydd â chymwysterau arbennig yn y maes arbennig hwn ar gael i roi cyngor am sut y gallwn wneud y gorau o'r cyfleoedd hyn. Ni fyddwn yn honni bod yn arbenigwr yn y maes hwn, a holl bwynt cael grŵp llywio yw y gallwn ddibynnu ar bobl sydd yn gwybod sut i wneud hyn i fod yn rhan o'r grŵp hwnnw i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd y gronfa i fod yn llwyddiannus. Po gyflymaf y gallwn ddod o hyd iddynt, y cyflymaf y gallwn gael arian allan trwy’r drws i gefnogi’r gwaith yr ydych chi a minnau yn awyddus i’w weld yn ein cymunedau.

Mae dysgu creadigol trwy'r celfyddydau, fel y dywedasoch, yn rhaglen sy’n werth £20 miliwn. Nid ydym yn pennu bod yn rhaid ei wario ar gerddoriaeth. Mae'n rhaglen gelfyddydol gyffredinol ac mae'n cael ei harwain i raddau helaeth gan yr ysgolion unigol. Felly, er enghraifft, mae gan y rhaglen nifer o themâu gwahanol. Rydym wedi siarad am ymarferwyr arweiniol yn ymweld ag ysgolion. Unwaith eto, mae hynny'n ddewis i’r ysgol unigol, nid yn fater i mi ei bennu. Mae yma hefyd elfen o ewch a gweld. Felly, os yw pobl mewn gwirionedd yn awyddus i fynd i weld cynhyrchiad byw, boed hynny'n ddrama, yn gerddoriaeth, neu os ydynt yn dymuno mynd â’u plant i oriel gelf, mae elfen o ewch a gweld yn perthyn i hyn. Felly, gall ysgolion unigol, yr athrawon, ddod o hyd i’r hyn y maent yn teimlo sydd o fudd mwyaf i'w disgyblion, a gallant wneud cais i gyngor y celfyddydau am grant fel y gall pobl mewn gwirionedd fynd i weld rhywbeth eu hunain a chael eu hysbrydoli, gobeithio, gan yr hyn y maent yn ei weld a mynd â hynny yn ôl i'r ystafell ddosbarth.

Mae cerddoriaeth yn y gymuned mewn gwirionedd yn dod dan nawdd fy nghydweithiwr Ken Skates, Ond rydych yn llygad eich lle. Mae angen inni roi i’r plant yr hyder a’r cariad at gerddoriaeth fel nad yw’n rhywbeth y maent yn ei wneud yn ystod amser ysgol yn unig, ond yn rhywbeth y maent yn ei wneud y tu allan i'r ysgol hefyd. Dyna pam mae sefydliadau fel y rhai a ddisgrifiwyd gan Llŷr, Cerddoriaeth Ieuenctid De Powys, yn cynnal cyngherddau gwych, sy’n cynnwys y disgyblion ieuengaf oll a’r rheini sydd ar fin mynd i'r brifysgol—. Ond hefyd rydych yn ei weld yn digwydd mewn ffyrdd annisgwyl. Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd gŵyl ddrama flynyddol Ffederasiwn Brycheiniog o Glybiau Ffermwyr Ifanc, bob nos am wythnos—a’r wythnos hon mae'n ŵyl ddrama Maesyfed—bob nos, yr wythnos ddiwethaf ar lwyfan yn Aberhonddu a'r wythnos hon ar lwyfan yn Llandrindod, bydd gennym bobl ifanc yn canu, dawnsio, chwarae offerynnau cerdd ac yn falch iawn o hynny, ac rwy'n credu bod honno'n un o'r heriau mawr.

Bydd wastad carfan o blant sy'n angerddol iawn am eu cerddoriaeth ac eisiau perfformio ar lwyfan. Ond beth ydym ni’n ei wneud mewn gwirionedd gyda phobl ifanc sydd ychydig yn swil ac yn cyrraedd yr oedran hwnnw pan fyddant am roi’r gorau i’w cerddoriaeth am nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth cŵl bellach? Ac rwy’n gwybod, oherwydd mae gen i un yn fy nheulu fy hun. Y rhwystredigaeth o gyrraedd gradd 5 gyda’r ffliwt a’r ffidil ac yna, yn sydyn, 'Dyw e ddim yn cŵl, dwi ddim am gael fy ngweld yn gwneud hynny mwyach.' Felly mae gwaith i'w wneud i ennyn brwdfrydedd y plant , a dyna pam mae angen i'r gronfa hon ac addysg cerddoriaeth fod yn addysg cerddoriaeth gyffredinol, ac nid ymwneud â cherddoriaeth glasurol yn unig, ond mynd i'r afael mewn gwirionedd â cherddoriaeth mewn ffordd sy'n berthnasol i blant a’u gwneud yn awyddus i gymryd rhan.

O ran addysgu, rydych chi'n iawn, rydym yn darparu cyrsiau ar TAR, a byddwch yn gwybod ein bod yn adolygu ein holl gymhellion a'r modd yr ydym yn recriwtio i'r cwrs hwnnw. Nid yw’r ffigurau ar gyfer cerddoriaeth gen i o fy mlaen, ond gallaf ddweud wrthych fod ceisiadau am gyrsiau TAR yn uwch eleni nag oeddent y llynedd—yn gyffredinol ac yn y rhan fwyaf o bynciau, ac mae hynny'n galonogol.

Yn gyntaf, mae'n debyg y dylwn ddatgan buddiant yn y pwnc hwn, fel cerddor. Cefais fy ngeni ar stad cyngor ac euthum at fyd cerddoriaeth broffesiynol drwy ddarpariaeth y wladwriaeth a'i cherddorfeydd ieuenctid a chenedlaethol teilwng. Roeddwn yn un a dderbyniodd wasanaeth cefnogi cerddoriaeth ffyniannus a oedd yn cynnig hyfforddiant offerynnol, nid yn unig i mi fel clarinetydd, ond i aelodau fy nheulu a aeth ymlaen i chwarae i gerddorfeydd enwog gorau’r byd. Ac fe ddeuthum i’n athro cerdd ac yn ddarlithydd gwadd, ac rwy'n dal i fod yn ddyledus am y cyfleoedd hynny; ni fyddwn wedi eu cael fel arall.  Rwy'n rhoi gwerth mawr yn bersonol ar y sefydliadau, y mudiadau a’r strwythurau hyfforddiant hynny—y peiriannau a roddodd y sgiliau a oedd eu hangen arna i, yn blentyn dosbarth gweithiol, i lwyddo yn fy llwybr gyrfa dewisol.

Hoffwn i dalu teyrnged hefyd i waith caled aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y cyrff gwasanaethau cerdd ac adolygu celfyddydau ieuenctid. Hoffwn groesawu yn fawr iawn y potensial ar gyfer y dull cydweithredol a gafodd ei grybwyll yn gynharach, ac rwyf hefyd yn croesawu'r diwygiadau a’r mentrau arloesol y mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi’u cyflwyno i gryfhau'r celfyddydau yng Nghymru: diwygiadau adeiladol ac uchelgeisiol, megis cwricwlwm creadigol 'Dyfodol Llwyddiannus' Donaldson, sydd wedi cael ei grybwyll, i gyfoethogi mynediad ystafell ddosbarth ac unigol i'r cwricwlwm celfyddydau; y cydlynwyr ac ymarferwyr arweiniol ysgolion a llwybrau creadigol arloesol; yr artistiaid uchelgeisiol mewn prosiectau ysgolion; y mentrau ariannu a gyd-adeiladwyd, megis y cynllun gweithredu 'Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau', sydd yn arloesi yn gydweithredol, ac yn gydweithrediad pellgyrhaeddol rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor celfyddydau Cymru, fel y nodwyd, o £20 miliwn i ehangu mynediad at y celfyddydau; a hefyd y cynnydd sylweddol yn y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer y disgyblion blynyddoedd cynnar mwyaf agored i niwed, sy'n gallu cael mynediad gwell at gyfleoedd drwy gwricwlwm cyfoethog sy’n seiliedig ar y celfyddydau. Felly, rwy’n dymuno diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, seilwaith a sgiliau am eu cydweithrediad gyda’r mater pwysig hwn.

Rwyf i, yn wir, yn croesawu cyhoeddiad heddiw o gronfa gerddoriaeth ar gyfer Cymru. Yn wir, mae’n ddarpariaeth unigryw ac arloesol, ac mae'n adnodd i Gymru mewn cyfnod o galedi mawr,wedi’i chyfeirio i Gymru o doriadau digynsail i grant bloc Cymru a'r amseroedd anodd dilynol ar gyfer llywodraeth leol. Mae'n iawn ein bod yn cadw, yn cynnal ac yn tyfu ein cenedl fel gwlad y gân a'n bod yn uchelgeisiol am ein lle yn y byd celfyddydau byd-eang ac fel gwlad o ddiwylliant, ac fel pwerdy creadigol, diwydiannol, economaidd.

Yn dilyn fy natganiad barn trawsbleidiol, sef OPIN-2016-0026, a lofnodwyd gan bob plaid, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai hi'n cytuno â mi a sefydliadau celfyddydol a cherddorion Cymreig uchel eu parch eraill fod y gronfa waddol hon, yn gyntaf, mewn sefyllfa dda i ehangu mynediad cyfartal i bawb, ac, yn ail, yn adain dderbyniol yn yr olwyn tuag at ddatblygiad strategaeth perfformio cerddoriaeth genedlaethol, cynllun perfformio cerdd cenedlaethol i Gymru, ac yn cynnig craidd dilynol. Diolch.

Lywydd, a gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei sylwadau a’i chwestiynau ac am fy mhlagio yn barhaus ar y pwnc hwn ers ei hethol i'r lle hwn? Rwyf bob amser yn rhyfeddu at bobl sydd â dawn yn y maes hwn. Rwy'n datgan nad oes gen i ddim o gwbl. Felly, efallai y gallai pobl fel Rhianon sy'n gallu chwarae’r clarinét ymuno â Bethan a'i fiola a Mick yma a’i fandolin a'i chwiban dun—gall chwythu’r chwiban dun hefyd. Ac mae’r Llywydd, rwy’n meddwl, o bryd i'w gilydd, yn canu. Felly, efallai y gallem achub ar y cyfle i dynnu sylw at y talentau sydd gennym yma ac efallai y gallem gynnal cyngerdd i godi arian sy'n cynnwys cyfraniadau gan Aelodau'r Cynulliad, a gallai’r elw fynd i mewn i'r gwaddol, gan ei bod yn amlwg bod gennym bobl dalentog iawn yn y Siambr.  

Rhianon, rwy’n awyddus i blant gael y profiadau a'r cyfleoedd a gawsoch chi, ac mae hynny’n profi i fod yn fwyfwy anodd. Ond dyna pam rydym yn annog ysgolion i ddefnyddio eu Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer y plant hynny o gefndir mwy difreintiedig, yn greadigol, i wneud yn siŵr eu bod yn cael cyfleoedd offerynnol efallai y byddai eu cymheiriaid mwy cefnog yn eu mwynhau, oherwydd nid ydym am i dalentau pobl gael eu mygu gan ddiffyg cyfle yn y modd hwn. Rydych chi'n hollol iawn: a dim ond adain yn yr olwyn yn unig yw hon. Nid hyn yw’r ateb. Mae'r rhaglen hon a'r adnoddau a fydd, gobeithio, yn dod oddi wrth y gwaddol yno i wella, yn hytrach na disodli, beth ddylai fod yn digwydd. Ni all fod yn fwled arian, ond mae'n ffordd o sicrhau y gellir gwneud mwy dros blant a phobl ifanc nag y gellid ei wneud yn flaenorol ac rwy’n diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad i'r agenda hon.

Rwy’n ymateb fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yng nghyd-destun—fel y crybwyllwyd gan Darren Miller yn gynharach—yr ymchwiliad yr ydym yn ei gynnal i gerddoriaeth mewn addysg, nid am ein bod ni fel ACau yn awyddus i wneud hynny, ond oherwydd bod y cyhoedd, drwy bôl piniwn a sefydlwyd gennym, wedi penderfynu ar ein rhan y dylem edrych ar y mater hwn oherwydd, er gwaethaf y nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen, mae llawer o'r penderfyniadau wedi cael eu gohirio ac mae llawer o'r camau gweithredu ar y materion hyn heb ddwyn ffrwyth. Byddaf yn dweud ein bod yn croesawu’r buddsoddiad hwn, ond rwy’n meddwl, fel y soniwyd yn gynharach, nad oes modd ichi edrych ar y gronfa waddol hon ar ei phen ei hun fel ateb i wasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan awdurdod lleol. Rwy’n credu mai dyna lle, o bosibl, yr oedd angen i ni weld datganiad mwy cyfannol yma heddiw. Heb ddiystyru’r ffaith bod hyn yn angenrheidiol, ond, o ystyried y dystiolaeth yr ydym yn ei derbyn yn y pwyllgor ar hyn o bryd, rwy’n credu bod hyn yn bryder i mi ar hyn o bryd oherwydd bod rhai yn y sector eisoes wedi dweud wrthyf heddiw, a’u geiriau nhw yw’r rhain, nid fy, rhai i, mai ‘ddiferyn yn y môr' yw hyn, ac i fod yn gydradd â Lloegr o ran cynnig disgyblion dylai’r gronfa hon fod rhwng £4 miliwn a £5 miliwn yng Nghymru. Mae gan yr Alban gronfa o £10 miliwn eisoes ac mae hynny yn ychwanegol at eu gwasanaethau cerdd cyffredinol. Mae'n dda cael cynllun gwaddol cenedlaethol, ond tra bod ardaloedd ledled Cymru yn colli tiwtoriaid cerdd a chymorth peripatetig wrth i ni siarad, ar lawr gwlad, oni fyddech yn cytuno nad yw'n ateb hyfyw cael offerynnau heb edrych ar y darlun ehangach a cholli tiwtoriaid cerddoriaeth lleol?

Hoffwn hefyd ddeall pwy fydd yn cael y cyllid. Does dim manylion, o'r hyn a ddeallaf, ynghylch a fyddant yn ddisgyblion o ardaloedd mwy difreintiedig neu a fydd yn fater i bawb yn gyffredinol i wneud cais am y gronfa hon. Hoffwn i gael rhywfaint o syniad ynghylch faint o’r £1 filiwn fydd yn gostau sefydlu a faint fydd mewn gwirionedd yn gallu mynd i mewn i gaffael offerynnau newydd mewn gwirionedd. Pa arian sy’n mynd i gael ei roi i mewn i bontio'r bwlch cyllido rhwng gweithgareddau lleol a'r ensembles cenedlaethol? Efallai y byddwch yn canfod na fydd pobl yn gwneud cais am y gronfa hon gan na fydd pobl ifanc yn dod drwy'r system yn y lle cyntaf. A fyddwch yn ceisio sefydlu peirianwaith ariannu gwarchodedig yn ganolog ar gyfer darparu cerddoriaeth mewn addysg yn genedlaethol?

A allwch ddweud wrthyf a fydd y gronfa yn cefnogi'r ensembles cenedlaethol, a sut bydd yn gwneud hynny? Mae grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei grybwyll lawer gwaith yma heddiw, wedi awgrymu y dylai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fod yn fuddiolwr allweddol o unrhyw gronfa waddol ac mae ei fwrdd interim yn y broses o sefydlu ei gynllun gwaith wrth i ni siarad. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa sgyrsiau yr ydych wedi'u cael gyda nhw am y cynllun gwaddol newydd penodol hwn? Soniasoch am sefydlu grŵp llywio drwy gyngor y celfyddydau ar hyn. A fyddech yn gallu dweud wrthyf sut y galla i ddeall ychydig mwy ynghylch pam na allai'r corff celfyddydau ieuenctid newydd fod wedi gwneud y gwaith hwn, yn hytrach na sefydlu rhywbeth drwy gyngor y celfyddydau?

Roedd erthygl y BBC ar y mater hwn yn awgrymu y dylai'r gronfa ddechrau gwneud taliadau yn 2020. A fydd unrhyw gymorth yn y cyfamser? Fel yr wyf wedi crybwyll o'r blaen, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ailadrodd eto, ni fydd llawer o'r gwasanaethau sy’n weithredol ar hyn o bryd, yn weithredol yn 2020, a dywedir hyn wrthyf gan bobl ar lawr gwlad, ac, unwaith eto, nid gennyf fi fy hun. Bydd llai o ddisgyblion i gael mynediad at y gronfa waddol. Sut y bydd hyn yn cael ei dargedu gennych chi? Dywedodd y datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru fod y gronfa newydd yn wahoddiad i roddwyr preifat a chorfforaethol ymuno â Llywodraeth Cymru wrth feithrin talentau cerddorol ifanc. Pa dystiolaeth a gafwyd y bydd rhoddwyr preifat a chorfforaethol yn barod i gyfrannu at y maes penodol hwn o fuddsoddiad? A oes gennych chi enwau busnesau, er enghraifft, sy'n barod i gamu i’r adwy a chefnogi cerddoriaeth yn hytrach na, dyweder, wyddoniaeth, peirianneg, neu feysydd eraill o ddiddordeb ar gyfer y busnesau hynny yng Nghymru? 

Fy nghwestiwn olaf i yw ein bod wedi cael tystiolaeth i'n pwyllgor, ac mae hynny ar gofnod, nad oes cyswllt ar hyn o bryd rhwng cynllun dysgu creadigol drwy'r celfyddydau—y £20 miliwn sydd wedi'i ddyfynnu cryn dipyn yma heddiw—a cherddoriaeth ac addysg. Mae hynny, unwaith eto, yn dod oddi wrth bobl yn y maes. Felly, rydych yn dweud heddiw ei fod yn mynd i gyd-fynd â'r gwaith hwnnw.  Mae angen immi ddeall sut y bydd hynny yn ategu gwaith y gronfa £20 miliwn, gan ystyried bod pobl yn dweud wrthyf nad oes ganddo ddim i'w wneud â chyflenwi peripatetig yn lleol. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylech chi fod yn ymwybodol ohono pan fyddwch o bosibl yn datblygu polisïau newydd.

Rwy’n meddwl, yn gyffredinol, nad oes neb—nid wyf yn credu y byddai unrhyw un sy’n ymwneud â cherddoriaeth yn gwadu’r ffaith bod y cynllun gwaddol hwn yn rhywbeth sydd yn gadarnhaol, ond ni all, yn fy marn i, weithio ar wahân i’r problemau a’r ffaith bod llawer o ysgolion—rydych yn gwybod, mae llawer o ysgolion yr ydych wedi ymweld â nhw yn gwneud pethau da, ond mae llawer o ysgolion nad ydynt yn buddsoddi mewn cerddoriaeth o gwbl, ac maent yn rhoi eu harian mewn mannau eraill. Mae tiwtoriaid yn gorfod gadael cerddoriaeth yn gyfan gwbl i fynd a gweithio mewn proffesiynau eraill oherwydd ni allant gael y lefel honno o fuddsoddiad gan ysgolion unigol. Felly, byddwn yn eich annog i edrych ar hynny, oherwydd gall rhai ysgolion fod yn anhygoel, ond os yw’r ysgolion hynny i lawr y ffordd yn gwneud dim, sut ydym ni wedyn yn mynd i fod yn annog pobl i ddringo pyramid datblygiad cerddorol, fel eu bod wedyn yn gallu ymuno â'r corau a’r cerddorfeydd ieuenctid cenedlaethol yr wyf i ac eraill yn y Siambr hon wedi elwa cymaint arnynt yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn, Bethan, am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Dywedasoch ar y dechrau nad oeddech eisiau rhagor o adroddiadau, adolygiadau a diweddariadau gorchwyl a gorffen—roeddech yn awyddus i weld camau gweithredu. Wel, mae hwn yn gam gweithredu. Dywedodd y grŵp gorchwyl a gorffen y dylid cael cronfa waddol, ac rwy’n cyhoeddi ein bod yn ei sefydlu heddiw. Mae hyn yn enghraifft o sut yr ydym mewn gwirionedd yn ceisio symud pethau ymlaen mewn ffordd gadarnhaol, yn hytrach na dim ond ysgrifennu adroddiad arall.

Nawr, pam cyngor y celfyddydau? Rydym yn teimlo mai cyngor y celfyddydau sy’n gallu bod yn y sefyllfa orau i gael yr arbenigedd, y profiad a'r gallu i ddod â’r bobl iawn ynghyd a fydd yn sefydlu grŵp llywio. Pwy fydd yn cael yr arian? Nid yw hynny'n fater i mi benderfynu arno. Bydd yn fater i'r bwrdd a fydd yn gyfrifol am y gronfa i benderfynu pwy sy'n cael eu hariannu o dan hyn, ac mae hynny'n gwbl briodol. Gorchwyl Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r gwaddol hwn yw ei gychwyn—rhoi hwb iddo, rhoi arwydd ein bod yn meddwl bod hyn yn bwysig, a darparu'r costau sefydlu cychwynnol a'r cyllid sbarduno cychwynnol i wneud hyn yn realiti. Byddwn yn disgwyl dim mwy na £250,000 i fod yn rhan o'r costau sefydlu a chostau sefydlu'r bwrdd, a gweddill y buddsoddiad i fynd i mewn i'r gronfa. Rwy’n gobeithio y gallwn ddechrau gwneud taliadau cyn gynted â phosibl, ond mae hynny'n dibynnu ar ein llwyddiant i ddenu arian ychwanegol. Ac, unwaith eto, y cyngor gan gyngor y celfyddydau yw—nid fy mod i wedi siarad yn uniongyrchol ag unrhyw ariannwr posibl—yw bod yna bobl, unigolion, sefydliadau, sy’n dymuno gallu cyfrannu at hyn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod rhai sefydliadau eisoes yn cyfrannu’n aruthrol at gerddoriaeth yng Nghymru—sefydliadau preifat, unigolion a chwmnïau sy’n gwneud hynny.

Heb ganiatâd y cwmni dan sylw, ac nid wyf am eu henwi nhw yma heddiw, ond rwy’n ymwybodol o gwmni sy’n darparu arian i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sydd yn sylweddol—yn sylweddol—yn lleihau'r ffioedd dysgu fel y gall plant fynychu gwersi offerynnau'r Coleg Brenhinol Cerdd Drama ar ddydd Sadwrn. Mae hefyd yn darparu'r cyllid ar gyfer allgymorth yn y gorllewin, fel bod y plant hynny sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, nad ydynt yn gallu teithio i Gaerdydd i gael yr hyfforddiant arbenigol, yn cael eu hariannu gan gwmni preifat. Nid wyf yn mynd i enwi’r cwmni, oherwydd nid oes gennyf ganiatâd i wneud hynny. Ond rwyf wedi ysgrifennu atynt yn bersonol i ddiolch iddynt am yr hyn y maent yn ei wneud fel cwmni unigol i gefnogi addysg cerddoriaeth yn ein gwlad. Ac maen nhw'n gwneud hyn heb ffanffer ac yn ddiffwdan—mae’n nhw’n ei wneud oherwydd eu bod yn credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud i'r plant hynny, ac rwy’n ddiolchgar i'r cwmni hwnnw.

Os ydynt yn fodlon i mi ei basio ymlaen, ac yr hoffech rywfaint o dystiolaeth o hynny, rwy'n fwy na hapus. Rwy’n gwerthfawrogi bod gwaith eich pwyllgor wedi dod i ben, ond rwy'n siŵr nad yw'n rhy hwyr i allu rhoi gwybod i chi, a byddwn yn eich annog i siarad â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae mwyafrif helaeth y plant sy'n cael mynediad at eu darpariaeth ar ddydd Sadwrn, lle ceir cerddoriaeth, a drama ar y Sul, ar ffioedd sy’n cael cymhorthdal ​​uchel lle mae pobl yn gwneud cyfraniad ar gyfer y plant hynny—plant na fyddant byth yn cwrdd â nhw, plant na fyddant byth yn eu hadnabod, ond maent yn barod i wneud hynny.

A wyf yn dymuno y gallwn i wneud mwy, Bethan? Wrth gwrs. Ond os ydych yn dweud wrthyf eich bod eisiau cronfa o £4 miliwn neu £5 miliwn, rhaid i chi ddangos i mi yn fy nghyllideb lle’r ydych yn barod i dorri arni. Oherwydd mae rhoi mwy o arian ar gyfer hyn yn fy ngorfodi i beidio ag ariannu rhywbeth arall, ac, os hoffech chi ddweud wrthyf beth yr ydych am roi’r gorau i fuddsoddi ynddo, yna byddaf yn barod i wneud hyn. Efallai y gallech drafod â'ch cydweithwyr erbyn iddynt negodi’r gyllideb nesaf—efallai y byddai hyn yn un o'u blaenoriaethau, gan nad wyf yn ymwybodol ei fod wedi cael ei godi yn y trafodaethau ar y gyllideb eleni.

Rwyf ychydig yn llai— [Torri ar draws.] Rwyf ychydig yn llai pesimistaidd nag y mae Bethan wedi bod, oherwydd gallaf enwi unigolion sy'n noddi’r celfyddydau: y cyn-löwr David Brace a'i wraig Dawn Brace, sy'n rhoi £20,000 y flwyddyn o'u harian—Dunraven Windows yw eu cwmni, y ffenestri gwydr dwbl. Maent yn ariannu canwr ifanc y flwyddyn Pen-y-bont yn gyfan gwbl, sy’n gystadleuaeth ar gyfer Cymru gyfan ac yn cynnig y dalent a’r gwobrau ariannol gorau posibl, yng nghanolfan gelfyddydau’r mileniwm ar draws y ffordd, ac mae’n cael ei gynnal ymhen pythefnos os hoffech ddod draw.

Ond byddwn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn uchelgeisiol, oherwydd, os edrychwch ar gyllid Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, sydd yn rheolaidd yn gorfod mynd i ddigwyddiadau codi arian mawr yn Llundain yn ogystal ag yma—. Ac mae'n ymwneud ag ansawdd y ffordd y maent yn mynd o’i gwmpas, y bobl sy’n ymhél â chodi’r arian. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod unigolion, noddwyr, cymwynaswyr, a sefydliadau arwyddocaol yng Nghymru a fydd yn awyddus i gymryd rhan yn hyn, os caiff ei wneud yn dda. Ond fy nghwestiwn i, o gofio bod yr wythnos nesaf yn benblwydd hanner cant a dwy ar Bapur Gwyn Jennie Lee White—y Papur Gwyn enwog ar y celfyddydau dan Lywodraeth 1964 Harold Wilson, y syniad hwn o gerddoriaeth a'r celfyddydau i bawb, yn eu hamrywiaeth eang, y gelfyddyd elît, ie, yn hollol, ond hefyd y gelfyddyd y byddai unrhyw un am ei mwynhau, o'r band iwcalili yn y sied dynion yn Nhondu, i'r côr plant ym Maesteg, i’r cerddorfeydd o safon uchel iawn sy'n perfformio yn fy ysgolion i o Bencoed, Archesgob McGrath, y Dderwen, Maesteg ac yn y blaen, sy'n dibynnu ar ymroddiad athrawon ac athrawon peripatetig hefyd, Band Arian Cwm Ogwr a mwy—fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet fyddai hyn: wrth wneud hyn yn llwyddiant yn y blynyddoedd i ddod, a fydd pob un o'r rhain yn gallu elwa ohono fel ein bod mewn gwirionedd yn gwneud—? Mae'n rhaid i ni ymladd y frwydr hon flwyddyn ar ôl blwyddyn, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, ond mae'r syniad bod cerddoriaeth ar gyfer pawb, y celfyddydau ar gyfer pawb, ni ddylai fod yn un math yn unig, yn un sefydliad, yn un math o ysgol, yn un math o gorff, dylai fod i bawb—a fydd pob un o'r bobl hynny sy'n rhoi cymaint o ymdrech nawr i greu cerddoriaeth, ac yn rhoi’r cyfleoedd hynny, fel y dywedodd Jennie Lee, nid dim ond i bobl ifanc, ond dylai’r celfyddydau feddiannu lle canolog ym mywyd Prydain, ac ym mywyd Cymru, fel y byddem yn ei ddweud, a bod yn rhan o fywyd bob dydd plant ac oedolion, y gallwn wireddu hynny ar gyfer yr holl gerddoriaeth yn ei holl amrywiaeth yn fy holl gymunedau—?

Diolch i chi, Huw, am y sylwadau a'r cwestiynau. Rydych yn llygad eich lle. Mae'n rhaid i ni ddechrau ar y sail bod y celfyddydau a diwylliant yn ei ystyr ehangach, ar gyfer pawb. Mae gwrthod mynediad i bobl at eu diwylliant a'u treftadaeth gerddorol a’r hyn sy’n rhan ohonynt yn gynhenid, yn eu hamddifadu o rywbeth pwysig iawn ac arbennig iawn yn wir. Rydych chi'n iawn hefyd i nodi, er gwaethaf y cyfnod heriol iawn sy'n wynebu cerddoriaeth ysgolion—ac nid wyf mewn unrhyw ffordd yn dymuno bychanu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yn ein hysgolion—mae pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr ysgolion hefyd ac mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, ac mae hynny oherwydd brwdfrydedd ac ymroddiad gwirfoddolwyr, athrawon a thiwtoriaid, sydd am rannu eu hangerdd gyda phobl ifanc.

Dydw i ddim mewn sefyllfa i ddweud, ar hyn o bryd, pwy fydd yn fuddiolwr y budd sy'n deillio o'r gwaddol. Mae hynny'n swydd ar gyfer y grŵp llywio a'r bwrdd a fydd yn y pen draw yn rhedeg hyn. Yr egwyddor bwysig arall ynghylch y celfyddydau yw na ddylai'r Llywodraeth fod yn ymwneud â hyn, yn yr ystyr hwnnw. Ni ddylai fod yn fater i Lywodraethau fod yn gallu comisiynu a dweud, ‘Mae hwnna’n cael ei ariannu' neu 'Mae hwnna’n cael ei ariannu' neu 'Mae hwnna’n cael ei ariannu', oherwydd mae perygl wedyn o ran troi. Mae rhywfaint o'r her artistig fwyaf i wleidyddion yn dod o’r sector penodol hwnnw, felly mae’n rhaid cadw egwyddor hyd braich yma, a bwrdd y gwaddol fydd yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn a ariennir, nid gwleidyddion.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad hefyd? Nid wyf i’n mynd i gwyno am unrhyw arian sy’n mynd tuag at y celfyddydau, ond rwy'n credu bod rhai cwestiynau pwysig y mae angen eu hateb, er gwaethaf eich atebion i nifer o unigolion sydd wedi eu gofyn heddiw.

Rwy’n derbyn eich pwynt yn llwyr bod y penderfyniadau ynghylch sut y dylid gwario'r arian hwn yn faterion i gyngor y celfyddydau. Fodd bynnag, mae cyngor y celfyddydau yn mynd i fod angen rhyw fath o arweiniad gan Lywodraeth Cymru am yr hyn y mae’r gronfa waddol hon yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Rwyf wedi darllen eich datganiad ac wedi gwrando ar yr hyn yr ydych wedi'i ddweud. Rydych yn dweud bod cerddoriaeth yn weithgaredd sy’n cyfoethogi. Pwy sy'n mynd i anghytuno â hynny? Rydych yn siarad am ategu, cefnogi, gwella, ond beth mae cyngor celfyddydau Cymru yn mynd i feddwl yr ydych yn ei olygu wrth 'ategu, cefnogi a gwella'? Rwy’n ceisio cael syniad o'r hyn yr ydych yn disgwyl i’r gronfa hon ei ddarparu yn y—. Beth mae’n ei ddarparu mewn gwirionedd?

Y rheswm yr wyf yn gofyn hyn yw, os na allwch roi ateb o ran i ble y credwch y gallai hyn fynd â cherddoriaeth, nid oes gennym unrhyw syniad a yw £1 filiwn yn mynd i fod yn ddigon. Nid oes gennym syniad beth allai eich cynnig fod i'r arianwyr cyhoeddus a phreifat yr ydych yn gobeithio y byddant yn cyfrannu at hyn. Mewn gwirionedd, gall fod ffordd well o wario’r £1 filiwn hon os nad ydym 100 y cant yn siŵr beth yr ydych yn disgwyl ohono. Serch hynny, efallai y gallwch ddweud wrthyf y bu rhywfaint o arweiniad gan y pwyllgor a argymhellodd ein bod yn cael cronfa waddol, oherwydd yn sicr nid wyf yn dweud na ddylem gael un; yn syml, rwyf eisiau bod yn glir mai dyma'r ffordd orau o gyrraedd y nod nad yw, i mi, yn arbennig o benodol ar hyn o bryd.

Yn ail, mae gwasanaethau cerddoriaeth eisoes yn wynebu perygl o dwll mawr du mewn cyllid ar ôl y £300,000 i beth bynnag fydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn edrych yn debyg iddo ar ddiwedd y flwyddyn hon. Os ydym yn gofyn am help dyngarwyr a chyrff cyhoeddus i gefnogi’r gwaddol, ac rwy’n sicr yn gobeithio y byddant yn gwneud hynny—gwnaeth Huw Irranca-Davies achos da iawn pam y byddent yn gwneud hynny—a ydym yn mynd i fod yn dargyfeirio ffynonellau o gefnogaeth oddi wrth wasanaethau cerddoriaeth craidd yr ydym yn ceisio eu cadw i fynd yma yng Nghymru ar hyn o bryd? Mae'n bosibl y bydd digon o arian ar gael ar gyfer y gwaddol a chyflenwi arian i wasanaethau craidd, ond mae'r dystiolaeth yr ydym wedi’i chymryd yn y pwyllgor hyd yn hyn—ac rwy’n gwybod nad yw'r Prif Weinidog yn awyddus i ni gyfeirio at dystiolaeth, ond, mewn gwirionedd, dwi'n Aelod o'r Cynulliad ac rwy'n mynd i ddefnyddio ein tystiolaeth. Dydyn nhw ddim yn hyderus eu bod yn mynd i gael yr arian hwn ar gyfer gwaith craidd yn y blynyddoedd i ddod, felly rwy'n meddwl tybed—rydych eisoes wedi clywed ein pryderon am y gwaith Celfyddydau a Busnes a’r hyn y maent yn ei wneud. Felly, rwy’n meddwl bod cwestiwn dilys ynghylch a ydym o bosibl yn gofyn am ychydig yn ormod o ddyngarwch yma.

Yna, yn olaf, rwy’n sicr yn credu eich bod, yn eich datganiad, wedi gwneud cysylltiadau ag amcanion y cwricwlwm cenedlaethol, ac roedd hynny yn gwneud rhywfaint o synnwyr i mi. Ond dwi'n meddwl tybed a allwch chi egluro a oes unrhyw bosibilrwydd y bydd y gwaddol hwn ar gael i unrhyw un y tu hwnt i oedran ysgol. A yw hyn yn unig ar gyfer cefnogi gwasanaethau cerdd oedran ysgol neu a yw oedolion yn mynd i fod yn gallu—pan fyddwch yn rhoi eich llythyr cylch gwaith i gyngor y celfyddydau, a fyddwch yn dweud y dylai’r arian hwn fod ar gael i oedolion barhau i ddatblygu eu helitaeth, os mynnwch, i fod y gorau y gallant fod, a’i fod yn ymwneud â safonau ac amrywiaeth, yn ogystal â mynediad i bawb? Diolch.

A gaf i egluro’r materion ymarferol. Felly, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn creu grŵp llywio i arwain y gwaith o sefydlu’r gwaddol ar gyfer Cymru. Bydd cyngor y celfyddydau yn gallu defnyddio ei sefyllfa unigryw fel elusen celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru gyfan i ddod o hyd i’r aelodau sydd yn y sefyllfa orau i gyfrannu o’u sectorau perthnasol. Eu swydd fydd creu bwrdd annibynnol, a fydd yn y pen draw yn rheoli’r gwaith o redeg y gwaddol ar ôl iddo gael ei sefydlu. Bydd y bwrdd hwnnw a'r tîm sy’n ei gefnogi yn gwneud y penderfyniadau ynghylch rhoddion, buddiolwyr a dyfarnu grantiau. I’r bwrdd hwnnw y byddwn yn gwneud ein cyfraniad cychwynnol. Fel y dywedais o'r cychwyn cyntaf, mewn ymateb i Llŷr Gruffydd, nid yw'n fwriad gan y Llywodraeth i ychwanegu dim mwy. Bwriad y Llywodraeth yw creu cyfle i'r gwaddol fodoli a rhoi arwydd i bobl fod cyfle i gyfrannu yn y ffordd hon.

Bu llawer iawn o drafodaethau ers argymhelliad y grŵp gorchwyl a gorffen gyda chyngor y celfyddydau a'r rhai sy'n ymwneud â’r sector hwn sy’n credu y bydd y cyfrwng hwn yn gyfrwng deniadol i sefydliadau yn y sector preifat—y byddant yn dymuno cyfrannu ato. Rwy'n ymwybodol o'r ffaith y gallai hynny olygu gwyriad, a bydd yn rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny ac yn ystyriol o hynny wrth inni symud ymlaen.

Prif fwriad y gronfa yw cefnogi pobl ifanc yn benodol. Fy mwriad i yw y bydd gwaelod a phen uchaf y pyramid addysg cerddoriaeth, y cyfeiriodd Bethan ato, yn elwa o'r gwaddol. Felly, rwy’n awyddus i’r gwaddol sicrhau, ar bob cam, nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei atal rhag symud ymlaen oherwydd nad yw’n gallu fforddio gwneud hynny. Felly, dyna fyddwn i’n ei bwysleisio yn bennaf o ran gwaith y gwaddol.

7. 6. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017

Rŷm ni’n symud yn awr at yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, sef Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Kirsty Williams.

Cynnig NDM6234 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2017

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. A gaf i fanteisio ar gyfle byr i amlinellu bod y Gorchymyn yn nodi swyddogaethau Cyngor y Gweithlu Addysg o ran achredu rhaglenni addysg cychwynnol i athrawon yng Nghymru drwy achrediad y pwyllgor hyfforddiant athrawon cychwynnol. Nodir ei gylch gwaith mewn rheoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn amodol ar gymeradwyaeth y Gorchymyn hwn heddiw.

Bydd amseriad trosglwyddo’r swyddogaethau hyn i'r cyngor yn cydfynd â’r cynlluniau gweithredu ar gyfer y cwricwlwm newydd yn ystod y tair i bum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, bydd angen i’r trefniadau ar gyfer achredu darpariaeth hyfforddiant cychwynnol i athrawon fod ar waith erbyn hydref 2017 fan bellaf, er mwyn sicrhau bod yr holl gyrsiau HCA newydd a ddarperir o fis Medi 2019 wedi’u hachredu yn erbyn meini prawf achredu newydd.

Yn 2015, rhoddwyd i’r grŵp achredu addysg athrawon, dan gadeiryddiaeth yr Athro Furlong, y dasg o ddatblygu'r meini prawf newydd ar gyfer achredu rhaglenni HCA yng Nghymru. Nod y meini prawf newydd yw gwella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth a chyflwyno dull newydd o gyflwyno HCA yn ein gwlad.

Yn ganolog i’r weledigaeth sy'n sail i’r meini prawf newydd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon mae’r gydnabyddiaeth bod hyfforddiant ac addysg proffesiynol o ansawdd uchel o reidrwydd yn cynnwys nifer o wahanol ddulliau dysgu. Gall rhai dimensiynau addysgu gael eu dysgu drwy brofiad yn unig, a cheir mathau eraill o ddysgu sydd â sail ddeallusol iddynt. Fodd bynnag, dylai'r rhan fwyaf o holl hyfforddiant ac addysg athrawon fod yn seiliedig ar ddysgu sy’n hollol ymarferol ac yn her ddeallusol.

Rwyf i’n awyddus i annog dull partneriaeth o gynllunio rhaglenni HCA yn y dyfodol, wrth i sefydliadau addysg uwch gydweithredu’n agos â nifer o ysgolion partneriaeth arweiniol. Er mwyn cyflawni hyfforddiant ac addysg sy’n wirioneddol gydweithredol i athrawon, mae’n rhaid i Sefydliadau Addysg Uwch weithio gydag ysgolion partner i gymryd cyfrifoldeb ar y cyd am y cyfraniad i'r rhaglen.

Hefyd, Lywydd, rwy’n falch o gyhoeddi cyfle prin o ran y ffaith bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—yr OECD—wedi cynnig ei wasanaethau fel arweinwyr nodedig ym myd addysg i weithio gyda'n partneriaid HCA trwy ddatblygu dull o gyflwyno HCA yng Nghymru sy'n seiliedig ar theori. Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfrwng gweithdy rhyngwladol a gynhelir yn y gwanwyn, pan fydd fframwaith HCA yn cael ei gynllunio, gyda'r nod o feithrin gallu a chyfres wirioneddol unigryw o raglenni addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru.

Yn olaf, bydd yr Aelodau yn nodi y bydd y cyngor yn gallu codi ffi am ddarparu'r gwasanaeth achredu, a fydd yn destun ymgynghoriad ar wahân ganddyn nhw. Byddwn i’n disgwyl i strwythur ffioedd fod ar waith erbyn 1 Medi 2018.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Croesawaf y cyfle i siarad yn fyr iawn ar y Gorchymyn hwn—ar bwynt bach, ond pwynt pwysig yn fy marn i—ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Nododd ein hadroddiad i'r Cynulliad un pwynt o ddiddordeb—roedd yn bwynt teilwng—yn ymwneud â dibyniaeth y Gorchymyn hwn ar gyfres o reoliadau sydd eto i’w cyflwyno i Weinidogion Cymru ac eto i'w craffu gan ein pwyllgor. Felly, yn y bôn, mae'r meini prawf ar gyfer achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon, fel y’u disgrifiwyd yn awr gan Ysgrifennydd y Cabinet, y cyfeirir atyn nhw yn erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn, yn cael eu cynnwys mewn rheoliadau ar wahân os caiff y Gorchymyn ei gymeradwyo heddiw. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am y rheoliadau hyn yn ei memorandwm esboniadol ac fel y nodir heddiw, mae’n bwysig, er hynny, ein bod yn tynnu sylw'r Cynulliad at y ddibyniaeth hon. Rydym ni wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod y rheoliadau hyn yn agos iawn at gael eu gosod. Serch hynny, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog esbonio yn syml heddiw pam na allai'r ddau offeryn gael eu gosod gyda’i gilydd a’u hystyried fel pecyn. Fel pwynt terfynol, rydym yn cydnabod y gall y math hwn o sefyllfa ddigwydd o bryd i'w gilydd. Nid yw'n unigryw. Ond, rydym yn dymuno rhoi ar gofnod ein bwriad i fonitro'r sefyllfaoedd hyn yn eithaf agos ac adrodd yn unol â hynny er budd deddfu da, effeithlon a thryloyw.  

Ni fydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r rheoliadau hyn—[Torri ar draws.] Ni fyddwn yn gwrthwynebu'r rheoliadau hyn, er eglurder, heddiw. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig efallai ein bod yn ystyried rhai o'r pryderon a godwyd, yn bennaf gan undebau athrawon, ond hefyd gan eraill yn y sector hwn, ynghylch cyfansoddiad y Cyngor Gweithlu Addysg. Nawr, yn amlwg, ar hyn o bryd mae’n cynnwys pobl a benodir gan Weinidogion, ond gwyddom am fodelau eraill lle mae’r sector yn ethol ei aelodau. Mae un darn o ohebiaeth a gefais yn cyfeirio at Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, lle rwy’n credu bod oddeutu 19 o aelodau'r bwrdd yno wedi’u hethol. Nawr, wrth i gyfrifoldebau a chylch gwaith y Cyngor Gweithlu Addysg gael eu hymestyn, fel y maen nhw yn awr, wrth gwrs, drwy’r rheoliadau hyn, bydd sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r sector y mae'n ei reoli yn bwysicach fyth o ran ei allu i wneud ei waith, ond hefyd o ran cael hyder y sector. Felly, roeddwn i eisiau holi Ysgrifennydd y Cabinet a oedd hi’n cadw meddwl agored i'r math hwnnw o ddatblygiad ac, os felly, pryd oedd hi'n meddwl y dylem ni edrych ar hynny eto, fel y gallwn wneud yn siŵr bod rhai o’r safbwyntiau a gyflwynir i ni fel Aelodau o ran y rheoliadau hyn mewn gwirionedd yn rhai yr ydym yn eu hystyried ac yn eu derbyn.

A gaf i roi ar gofnod y byddwn ni hefyd yn cefnogi’r rheoliadau hyn, er gwaethaf amheuon y pwyllgor materion deddfwriaethol o ran y rheoliadau ychwanegol sydd eto i’w cyhoeddi i’w craffu? Un peth, fodd bynnag, sy’n fy mhoeni i ryw ychydig yw bod, o fewn cylch gwaith y Cyngor Gweithlu Addysg hefyd, yn amlwg, gyfrifoldebau ar gyfer darlithwyr addysg bellach, er enghraifft. Tybed pam nad yw rheoliadau sy’n ymwneud â TAR a hyfforddiant cychwynnol ar gyfer darlithwyr addysg bellach yn cael eu gosod heddiw. Yn ogystal â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Cyngor Gweithlu Addysg hwn hefyd yn gyfrifol erbyn hyn am weithwyr ieuenctid a llu o weithwyr proffesiynol eraill. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ehangu cyfrifoldebau'r Cyngor Gweithlu Addysg i ganiatáu iddyn nhw, mewn gwirionedd, osod y safonau proffesiynol, yn yr un modd y mae sefydliadau tebyg yn ei wneud mewn mannau eraill ledled y DU ac, yn wir, ledled y byd. Pam mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod y sefydliad sy'n gyfrifol am osod y safonau proffesiynol hynny, yn hytrach na'r corff y bydd yn rhaid i bobl gofrestru gydag ef? Tybed a wnewch chi ddweud wrthym am eich sefyllfa hyd yn hyn o ran gosod safonau proffesiynol newydd i’r gweithlu addysgu, i ddarlithwyr AB ac i weithwyr ieuenctid, gan fod hynny hefyd o fewn eu cylch gwaith nhw erbyn hyn. Mae pawb yn awyddus i chi, fel Llywodraeth Cymru, sicrhau bod hyn yn symud yn gyflym. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n credu pe byddai’r rhain wedi bod yn gyfrifoldeb y Cyngor Gweithlu Addysg, y bydden nhw wedi eu cyhoeddi amser maith yn ôl.

Nodais â diddordeb eich cyhoeddiad yn eich sylwadau agoriadol am y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r gwaith y byddan nhw’n ei wneud i geisio gwella hyfforddiant cychwynnol athrawon yma yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o glywed eu bod yn cymryd rhan, a gobeithio y bydd yn ychwanegu rhywfaint o werth at yr hyn sydd eisoes ar waith. A wnewch chi ddweud wrthym pryd yr ydych yn disgwyl rhyw fath o ganlyniad o'r gweithdy? Rwy'n credu mai gweithdy yn unig a gyhoeddwyd gennych. A fydd unrhyw beth arall ar ben hynny? A fydd hyn yn waith parhaus gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, neu a ydych yn gobeithio cael rhywbeth allan o’r gweithdy syml hwnnw yn unig? Diolch.

Diolch i chi, Lywydd. A gaf i ddweud fy mod i’n falch iawn o glywed y bydd Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol yn cefnogi'r Gorchymyn heddiw? Mae hynny yn unol â'r mwyafrif helaeth o'r ymatebion y cafodd y Llywodraeth i’r ymgynghoriad arno. Mae dros 80 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad o’r farn mai’r Cyngor Gweithlu Addysg ddylai achredu hyfforddiant athrawon wrth i ni symud ymlaen yn ein diwygiadau i hyfforddiant cychwynnol athrawon.

Os caf i droi at y pwynt a godwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, dim ond er mwyn rhoi sicrwydd iddo fod fy swyddogion i wedi rhoi copi o'r meini prawf achredu yn llyfrgell yr Aelodau i'w hystyried. Hefyd, mae paragraff 1.1 o'r memorandwm esboniadol yn glir y byddai'r rheoliadau yn dilyn, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad o’r Gorchymyn yr ydym yn ei drafod heddiw, ac, fel yr ydych wedi clywed gan swyddogion, mae hynny ar fin digwydd. Defnyddiwyd y dull hwn er mwyn sicrhau nad ydym yn rhagdybio ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol drwy achub y blaen ar unrhyw benderfyniad i roi i’r cyngor swyddogaethau achredu’r rhaglen astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon. Hefyd, os bydd y Cynulliad yn penderfynu drwy bleidlais na ddylai'r cyngor fod wedi cael y pwerau a nodir yn y Gorchymyn hwn, byddai'r rheoliadau sy'n nodi gofynion y cyngor i sefydlu achrediad y pwyllgor hyfforddiant cychwynnol athrawon yn ddiangen. Mae'n fater o amseru, ac rydym yn disgwyl y bydd craffu llawn o'r rheoliadau a gaiff eu cyflwyno.

Ar hyn o bryd, nid oes gennyf unrhyw fwriad i newid sut y mae’r Cyngor Gweithlu Addysg yn cael ei gyfansoddi, ond, fel y gwyddoch, Llŷr, mae swyddogaeth a chyfrifoldebau'r Cyngor Gweithlu Addysg yn datblygu. Mae'n sefydliad newydd ac rydym o hyd yn edrych i weld beth fydd y dyfodol yn ei gynnig. Felly, wrth i bethau ddatblygu, efallai y daw cyfle i edrych i weld a yw'r corff wedi ei gyfansoddi mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n llawn ei holl swyddogaethau a chyfrifoldebau. I fod yn glir, byddai’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor Gweithlu Addysg sefydlu pwyllgor hyfforddi athrawon o dan y rheini, a byddwn i’n disgwyl i hynny gynnwys ystod eang o gynrychiolwyr a all ychwanegu gwerth gwirioneddol, a sicrhau bod y broses achredu yn gadarn, a byddwn i’n disgwyl aelodaeth eang o hynny.

A gaf i sicrhau Darren Millar y bydd y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgolion yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y gwanwyn? Gallaf eich sicrhau eu bod wedi eu llunio mewn cydweithrediad llawn â'r proffesiwn addysgu ei hun—nid â’r Cyngor Gweithlu Addysg, ond gydag athrawon. Maen nhw’n cael eu treialu ar hyn o bryd mewn rhai ysgolion i gael adborth arnyn nhw, ac rydym ni’n gwneud cynnydd yn hynny o beth. Ildiaf.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn ddiolchgar iawn am eglurhad o’r amserlen ar gyfer eu cyhoeddi nhw. Ond a ydych chi’n derbyn ei bod yn anarferol iawn nad yw sefydliad fel y Cyngor Gweithlu Addysg yn gyfrifol am ddatblygu’r safonau hynny, a'i bod yn anarferol mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol amdanynt? Pam hynny? Beth yw'r ddadl dros gadw'r cyfrifoldebau hynny gyda Llywodraeth Cymru, yn hytrach na'u rhoi i'r Cyngor Gweithlu Addysg, fel y corff priodol, i ddatblygu’r pethau hyn?

Wel, Darren, rwy’n credu ein bod mewn sefyllfa dda i allu gweithio gyda'r proffesiwn i sefydlu cyfres o safonau proffesiynol. Nid wyf yn credu eu bod wedi eu cynhyrchu mor gyflym ag y dylent, efallai. Roedd yn un o’r ymrwymiadau yn adroddiad Furlong i edrych ar y materion hyn, ac yn rhan o gyhoeddiadau blaenorol, ond rydym ni’n gwneud cynnydd cyflym erbyn hyn, ac, fel y dywedais, rydym wedi eu datblygu mewn cydweithrediad agos â'r proffesiwn ei hun. Maen nhw wedi cael eu profi mewn ysgolion a'u mireinio yn sgil hynny, a byddan nhw’n cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.

Lywydd, rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelodau i'r egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe’i dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Mesur Addysg Uwch ac Ymchwil, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Kirsty Williams.

Cynnig NDM6233 Kirsty Williams

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil sy'n ymwneud â graddio addysg uwch, cymorth ariannol i fyfyrwyr, y cynllun annibynnol ar gyfer ymdrin â chwynion myfyrwyr a chymorth ar gyfer ymchwil, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi eto, Lywydd, am y cyfle i siarad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am graffu ar y memorandwm dechreuol ac atodol. Hefyd, hoffwn ddatgan fy ngwerthfawrogiad o’r ymgysylltiad gan Brifysgolion Cymru, UCM Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ynglŷn â'r pwnc hwn.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil i Dŷ'r Cyffredin ar 19 Mai 2016. Cafodd y Bil ei drosglwyddo wedyn i Dŷ'r Arglwyddi lle y pasiodd ei Ail Ddarlleniad ar 6 Rhagfyr, cyn mynd ymlaen i’r Cyfnod Pwyllgor, lle y bu yn destun cryn ddadlau. Mae addysg uwch yn bwnc sydd wedi ei ddatganoli. Er hynny, mae’n anochel fod goblygiadau i Gymru yn sgil y newid deddfwriaethol a gynigir gan Lywodraeth y DU yn y maes hwn. Wrth geisio darpariaeth yn y Bil hwn, fy mlaenoriaeth i yw sicrhau nad yw myfyrwyr a sefydliadau yng Nghymru dan anfantais. Rwyf o'r farn y dylid gwneud darpariaeth gyfyngedig ar gyfer Cymru ynglŷn â'r materion a nodir yn y ddau femorandwm y mae angen cael cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer.

Rwy'n falch o allu nodi na chododd y pwyllgor craffu unrhyw wrthwynebiad i gytundeb ar y cynnig ac nid oes ganddo unrhyw bryderon am yr agwedd a gymerir. Adroddodd y pwyllgor fod nifer o bryderon wedi eu codi mewn ymatebion i'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, daeth y pwyllgor i'r casgliad nad oedd yr ymgynghoriad yn codi unrhyw fater sy'n effeithio ar ba un a ddylai’r polisïau a geir yn y darpariaethau perthnasol gael eu hymestyn i Gymru.

Hoffwn ymateb i ddau beth sy’n achos pryder, sef y fframwaith rhagoriaeth addysgu, neu’r TEF, fel y’i gelwir erbyn hyn, a'r rhyngweithio gyda ffioedd dysgu yng Nghymru. Rwyf nid yn unig yn eu cydnabod ond rwyf hefyd yn rhannu rhai o'r pryderon o ran cynigion y TEF. Nid dyma’r meini prawf y byddai’r Llywodraeth Cymru hon yn eu cyflwyno gan nad ydym, a siarad yn blaen, yn rhannu'r un agenda marchnadeiddio a’r hyn sydd ganddyn nhw dros y ffin. Er hynny, mae’n rhaid i ni ymdrin â’r gwirioneddau yr ydym yn eu hwynebu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lwyddiant ein sefydliadau addysg uwch yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac felly nid ydym yn dymuno i sefydliadau Cymru fod o dan anfantais o’u cymharu â'r rhai yng ngweddill y DU. Mae'r ddarpariaeth a geisir yn y Bil yn hwyluso, a bydd yn rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru ddarparu neu ddirymu eu cydsyniad i sefydliadau yng Nghymru i fod yn rhan o’r TEF yn y dyfodol. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: ni fydd ffioedd dysgu yng Nghymru yn cael eu cysylltu â graddfeydd y TEF, ac yr wyf wedi ei gwneud hi’n glir i Lywodraeth y DU nad wyf eisiau gweld y gallu i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol gael ei gysylltu â’r TEF ychwaith.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu lefelau ffioedd dysgu yn ôl ei meini prawf ei hun, gan ystyried sefydlogrwydd ariannol, sut yr ydym yn cynnal ein hysbryd cystadleuol rhyngwladol, a'r effaith ar fyfyrwyr. Credaf y bydd y cynigion yn caniatáu i ni gadw ein hagwedd arbennig at addysg uwch gan sicrhau nad yw sefydliadau yng Nghymru, y myfyrwyr sy'n astudio ynddyn nhw a gallu Gweinidogion Cymru i ymdrin â goblygiadau diwygiadau Llywodraeth y DU yn cael eu heffeithio'n anffafriol. Ac felly, Lywydd, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei sylwadau agoriadol, llawer ohonyn nhw y byddwn i’n cytuno yn llwyr â nhw, yn enwedig o safbwynt y TEF? Rydw i’n croesawu’r neges glir ynglŷn â’r cyfeiriad yr ydych chi’n bwriadu symud iddo ar y mater yma. Yn wir, mae yna lawer yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma na fyddwn i, yn sicr, yn ei wrthwynebu. Ond mae yna gwestiwn cynyddol yn codi yn fy meddwl i ynglŷn â’r effaith posibl i ymchwil yng Nghymru yn sgil y Bil arfaethedig yn San Steffan. Rŷm ni’n gwybod pa mor bwysig yw ffynonellau ariannu’r cynghorau ymchwil i sefydliadau addysg yng Nghymru. Rŷm ni’n gwybod am BBSRC, sy’n ariannu yn sylweddol ein IBERS, rŷm ni’n gwybod am NERC, wrth gwrs, yn ariannu ym Mangor, ac mae yna enghreifftiau eraill ar draws Cymru. Rwyf i, yn y cyfnod diwethaf yma, wedi dod yn fwyfwy ymwybodol bod unrhyw ddatblygiadau a allai beryglu'r ffynonellau ariannu hynny yn rhai y dylem ni fel Cynulliad warchod yn eu herbyn nhw.

Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn wrth edrych ar y Bil arfaethedig: ble fydd llais Cymru yn y corff arfaethedig, UKRI? Nid oes sicrwydd o gwbl y bydd gan Gymru lais ystyrlon o fewn y corff hwnnw. Yn wir, os edrychwn ni ar un o’r gwelliannau a gafodd eu pasio i’r Bil yn San Steffan, mae’n sôn y dylai Gweinidogion San Steffan ystyried a fyddai’n ddymunol i un o’r gwledydd datganoledig gael eu cynrychioli. Hynny yw, ‘have regard to the desirability of’, yw’r term. Wel, does bosib y dylem ni fod yn mynnu ei bod hi’n rheidrwydd bod gan bob un o’r gwledydd datganoledig lais ar UKRI? Yn wir, mae’r Bil yn dweud bod yn rhaid cael cynrychiolydd myfyrwyr mewn rhai o’r cyd-destunau yma, felly pam ddim rhoi'r un statws i lais Cymru yn y broses yma?

Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, fel nifer o bobl i fod yn deg, yn gyson dros y blynyddoedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymru yn cael ei thanariannu o safbwynt ymchwil. Mae perygl, rwy’n meddwl, nawr y gallai’r sefyllfa annerbyniol fel y mae hi fynd hyn yn oed yn waeth.

Mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddarparu cefnogaeth i ymchwil, gan gynnwys grantiau ac yn y blaen. Ac rwyf jest yn gofyn i fy hunan: beth yw’r bwriad fan hyn? Achos ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu, trwy HEFCW, llawer o’r ymchwil yma, neu o leiaf mae’n rhan o’r mecanwaith cefnogaeth ddeuol, y ‘dual Support mechanism’, yr ariannu craidd yma sy’n rhoi isadeiledd i brifysgolion allu wedyn cystadlu am lawer o ariannu gan y cynghorau ymchwil ac eraill.

Mae’r mecanwaith hwnnw yn un sy’n rhoi llawer o hyblygrwydd i’r sector addysg uwch pan mae’n dod i ymchwil. Yn wir, roedd Syr Ian Diamond yn amlygu llawer o hyn yn y gwaith a wnaeth e yn ddiweddar. Ond mae yna risg, rwy’n meddwl, nawr y gallem ni weld sefyllfa lle mae Gweinidogion San Steffan yn dweud, ‘Os nad ydych chi’n hapus, fe all Gweinidogion Cymru ariannu ymchwil yn uniongyrchol eu hunain.’ Mae hynny’n risg, rwy’n meddwl, na ddylem ni adael ein hunain yn agored iddo fe. Felly, rwy’n teimlo y dylai fod elfen o ‘ring-fence-o’ ariannu. Rwy’n siŵr y byddai nifer yn cytuno â hynny, o safbwynt ymchwil i Gymru. Ond, yn sicr, rwy’n meddwl y dylai fod Cymru â llais cryfach na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y Bil arfaethedig. Fe gyfeirioch chi at dystiolaeth gan gyrff eraill fel rhan o’r broses yma. Mae Prifysgolion Cymru yn un corff sydd wedi amlygu consýrn gwirioneddol ynglŷn â hyn. Mae HEFCW hefyd wedi mynegi consýrn ynglŷn â lle gallai hyn fod yn mynd â ni.

Felly, mae yna lawer, fel roeddwn yn dweud, na fyddem yn gwrthwynebu, ond yn anffodus nid ydym yn gallu diwygio na chynnig gwelliannau i gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mi fyddwn ni, fel plaid, yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma’r prynhawn yma.

Rwy’n syml iawn yn codi i gefnogi ac ategu’r hyn mae Llyr Gruffydd newydd ei ddweud. Rwyf wedi bod yn bryderus yn ystod yr wythnosau diwethaf fwyfwy ynglŷn â gwaith y corff ymchwil ac arloesi'r Deyrnas Gyfunol—UKRI. Rwyf wedi gofyn sawl cwestiwn, ond yn anffodus ddim wedi cyrraedd ar y rhestr i ofyn y cwestiwn ar lafar eto. Ond fe ges i ateb ysgrifenedig i’r cwestiwn roeddwn wedi gobeithio gofyn i’r Prif Weinidog heddiw. Mae’r ateb yn dweud bod y Llywodraeth a Kirsty Williams fel Ysgrifennydd Cabinet wedi cwrdd â’r prif gynghorydd gwyddonol a’r Gweinidog cyfrifol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud cais i Gymru gael ei chynrychioli’n llawn ar fwrdd ymchwil ac arloesi’r Deyrnas Gyfunol. Rwy’n cymryd bod hynny wedi digwydd. Wrth gwrs, mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw yn dweud yn glir—neu mae’r cyd-destun yn dweud yn glir, fel mae Llyr newydd amlinellu—nad yw Cymru yn cael ei chynrychioli’n llawn ar y bwrdd yna. Felly, mae’r Llywodraeth wedi gwneud cais—dyma bolisi’r Llywodraeth—ac wedi methu cyflawni eu cais a’u polisi, maen nhw’n dod i’r Cynulliad i gymeradwyo’r polisi nad ydyn nhw wedi’i gyflawni. Nid yw hynny’n ddigon da yn y cyd-destun sydd ohoni achos mae yna fygythiadau go iawn i Gymru, i gynghorau ymchwil ac i arian ymchwil mewn prifysgolion o sefydlu UKRI.

Dyma beth sy’n digwydd: mae’r holl gynghorau ymchwil yn cael eu casglu ynghyd mewn un corff. Mae arian ymchwil HEFCE, y corff cyllido addysg uwch yn Lloegr, yn cael ei roi yn y pot yna hefyd, ac arian arloesedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol parthed Lloegr. Felly, yn lle bod gyda chi gyrff ymchwil sy’n edrych ar draws y Deyrnas Gyfunol—ac mae yna broblemau gyda’r rheini, beth bynnag, fel roedd Llyr wedi amlinellu—mae gyda chi gorff newydd nawr sydd wedi’i ddominyddu’n fwy gan fuddiannau a diddordebau y sector prifysgolion yn Lloegr ac sydd hefyd o dan ddylanwad mwy y Gweinidogion yn Lloegr hefyd, heb unrhyw gynrychiolaeth uniongyrchol gan Gymru ar y corff hwnnw. Ac mae’r ateb y cefais i gan y Prif Weinidog i fy nghwestiwn heddiw yn mynd ymlaen i ddweud ymhellach mai dim ond yn ddiweddar iawn y dechreuwyd trafodaethau gyda phrifysgolion ynghylch cyswllt â’r corff. Wel, eto, nid yw’n ddigon da. Nid ydym yn deall sut y mae’r corff yma’n mynd i weithio, yr effaith y bydd yn ei gael ar gyllido ymchwil yng Nghymru ac, am y rhesymau hynny’n unig, mi fyddwn ni’n gwrthwynebu’r cydsyniad deddfwriaethol heddiw.

A gaf i roi, i gloi, un enghraifft benodol? Rydw i’n ymwybodol iawn o’r gwaith, wrth gwrs, sy’n digwydd yn IBERS yn Aberystwyth, gan fy mod i’n byw yn Aberystwyth ac yn cynrychioli’r rhanbarth. Ers rhai blynyddoedd bellach mae IBERS wedi bod mewn cydgysylltiad strategol gyda’r BBSRC—Biotechnology and Biological Sciences Research Council—ar gyfer gwariant sydd werth £4.5 miliwn y flwyddyn yn Aberystwyth, yn strategol, i gefnogi gwaith IBERS. Os oes newid o ran blaenoriaethu'r cynghorau ymchwil oherwydd bod cyfyngu ar yr arian sydd ar gael ac oherwydd bod newid o ran blaenoriaethau achos bod Gweinidogion Lloegr nawr yn dechrau ymyrryd mwy yn y broses a phenderfyniadau ar flaenoriaethau, mi fyddwn ni’n colli arian sylweddol iawn i Aberystwyth. Nid wy’n fodlon gweld hynny’n digwydd heb fod yna sicrwydd pendant o neilltuo—‘ring-fencing’, felly—yr arian ymchwil sydd gennym ni eisoes. Nid yw hynny’n rhan o’r cytundeb sydd y tu ôl i’r cydsyniad deddfwriaethol, ac nid oes ychwaith sicrwydd bod cynrychiolaeth o Gymru ar y bwrdd sy’n gwneud y penderfyniad yma. Ac, wrth gwrs, wrth inni ddelio â Brexit, ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, bydd y gwaith sy’n digwydd yn IBERS, sy’n edrych ar borfa ac sy’n edrych ar y math o amaeth sy’n bwysig inni yng Nghymru ond nad yw mor bwysig yng nghyd-destun—mae’n bwysig yn y cyd-destun rhyngwladol, ond nid mor bwysig yn y cyd-destun Prydeinig, efallai, rydw i’n ofni y bydd yn cael llai o flaenoriaeth yn y cyd-destun yna. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael ei rhybuddio am y gofidion sydd gan nifer ohonom ni sy’n cynrychioli Ceredigion ac Aberystwyth am y problemau hyn. Rŷm ni’n moyn sicrwydd bod yr arian ymchwil yn parhau, ac rŷm ni’n moyn sicrwydd bod cynrychiolaeth o Gymru ar y corff newydd; heb y sicrwydd yna, ni fedrwn ni gefnogi’r cydsyniad deddfwriaethol.

Rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i’r ddadl—Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf yn gresynu nad yw Plaid Cymru yn teimlo ei bod yn mewn sefyllfa i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw diogelu amddiffyniadau pwysig i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru drwy’r gallu i gynyddu’r pwerau hyn ar gyfer Gweinidogion Cymru o ran dyfodol y TEF yn ogystal â'n gallu i barhau i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn ffordd a fydd yn angenrheidiol ac mae angen i ni symud ymlaen ar hynny oherwydd y newidiadau dros y ffin yn Lloegr, a gwneud rhywfaint o gynnydd hefyd ar gyllid amgen i fyfyrwyr, lle mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod rhai aelodau o'n cymuned sy'n ymatal rhag gwneud cais ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr oherwydd natur y system benthyciadau i fyfyrwyr sydd gennym ar hyn o bryd. Mae gennym grŵp penodol o fyfyrwyr nad ydyn nhw yn manteisio ar y cymorth hwnnw, a chredaf fod hynny'n wahaniaethol—nad ydym yn caniatáu i bob dinesydd yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais am systemau cymorth i fyfyrwyr, allu gwneud hynny, ac mai dyma'r dull mwyaf amserol ac effeithiol o fynd i'r afael â’r hyn yr wyf yn ei hystyried yn system wahaniaethol sydd gennym ar hyn o bryd.

O ran gweithrediad y UKRI, cyfarfu’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a minnau â Jo Johnson, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi yn Lloegr i drafod pensaernïaeth newydd cyllido ymchwil, ac rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd dwyochrog â'm cymheiriaid yn yr Alban a chyfarfod pedairochrog, lle’r oedd pob un o’r pedair gweinyddiaeth yn cael ei chynrychioli, i drafod hyn. Er ein bod yn falch bod gwelliant wedi ei wneud yn ystod Cyfnod Adrodd Tŷ’r Cyffredin sy’n nodi y rhoddir sylw dyledus, nid wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell.  Rwyf yn credu y dylid cael cynrychiolaeth lawn o Gymru ar y UKRI. Rwy’n rhannu pryderon yr Aelod am ganlyniadau posibl hyn ar lif cyllid ymchwil ac rydym yn parhau i geisio dadlau’r achos hwnnw. O ran gweithio ar y cyd â CCAUC, gallaf sicrhau'r Aelod bod y Bil yn caniatáu i'r awdurdodau perthnasol gydweithio pe byddai’n ymddangos iddyn nhw ei bod yn fwy effeithiol neu pe byddai yn caniatáu i'r awdurdodau ymarfer eu swyddogaethau yn fwy effeithiol. Felly, yr effaith fydd caniatáu i CCAUC i weithio ar y cyd ag UKRI, cyn belled ag y mae ei swyddogaethau Research England dan sylw, a bydd hefyd yn caniatáu i CCAUC weithio ar y cyd â'r Swyddfa i Fyfyrwyr, Cyngor Cyllido'r Alban a'r adrannau perthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw hyn yn newid terfynau’r trefniadau cyfredol ar gyfer gweithio ar y cyd â Chyngor Cyllido’r Alban. Rwy’n siomedig fod Plaid Cymru wedi penderfynu gwrthod cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond rwyf o’r farn ei fod, ar y cyfan, yn gam pwysig ymlaen, Lywydd.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 8. Dadl: Morlynnoedd Llanw

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar forlynnoedd llanw ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6237 Jane Hutt, Paul Davies, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Croesawu Adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlynnoedd llanw ym Mhrydain.

2. Cydnabod yr angen i Lywodraeth Prydain gysylltu â Llywodraeth Cymru yn barhaus wrth ddatblygu a gweithredu polisïau ar gyfer morlynnoedd llanw.

3. Cydnabod, wrth sicrhau y trawsnewidiad i economi carbon isel, y dylai Cymru gael cymaint o fanteision economaidd â phosib o'r diwydiant ynni morlynnoedd llanw a thechnolegau llanw eraill, ar yr amod bod prosiectau o'r fath yn derbyn y gymeradwyaeth angenrheidiol.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 17:31:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i ni drafod y potensial ar gyfer morlynnoedd llanw yn y DU yn dilyn cyhoeddiad diweddar adroddiad Hendry. Er ein bod yn cefnogi egwyddor morlynnoedd llanw yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r ystyriaethau a’r cymeradwyaethau allweddol y mae'n rhaid eu rhoi i unrhyw brosiect arfaethedig, gan gynnwys ystyriaethau amgylcheddol llawn drwy'r broses trwyddedu morol ynghyd â chael prydles gan Ystâd y Goron. Felly, bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn deall bod hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, gan gynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer bae Abertawe, o ystyried fy swyddogaeth statudol o dan y drefn trwyddedu morol a phrosesau statudol eraill.

Fel y nododd y Prif Weinidog yn ystod ei gwestiynau ar 31 Ionawr, rydym yn croesawu adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlynnoedd llanw yn y DU, a'r gydnabyddiaeth benodol y mae'n ei rhoi i’r prosiectau yng Nghymru sydd eisoes yn cael eu datblygu o amgylch arfordir Cymru. Ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, a fydd yn cau'r ddadl hon, cefais gyfarfod cadarnhaol ar 25 Ionawr gyda Charles Hendry, pryd y buom yn trafod canfyddiadau ei adroddiad, gan gynnwys materion fel strwythur cyllido, y cynnig ar gyfer prosiect braenaru, y cysylltiadau â datblygiadau ynni eraill a datgomisiynu.

Ar 6 Rhagfyr amlinellais fy mlaenoriaethau ar gyfer ynni, ac un ohonynt yw sbarduno'r gwaith o drawsnewid i ynni carbon-isel i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Mae morlynnoedd llanw yn rhoi cyfle clir i gyfrannu tuag at y nod hwn. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd ynni llanw; mae gennym amrediad llanw uchel a gallai llawer o'n 1,200 cilometr o arfordir fod yn addas i gynnal datblygiadau ynni llanw. Mae hyn yn golygu y gallwn dyfu diwydiant llwyddiannus yng Nghymru sy'n darparu ffyniant a hefyd yn cefnogi ein hamcanion datgarboneiddio. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd drawslywodraethol at y cyfleoedd a gynigir gan forlynnoedd llanw, megis cadwyni cyflenwi, seilwaith sgiliau a gofynion statudol. Rydym eisoes yn datblygu ein cronfa sgiliau ac yn darparu cefnogaeth ymarferol ac ariannol i gyfleoedd ynni sy'n cyflymu'r trawsnewid carbon isel yn yr ardaloedd hyn.

Byddaf yn ymgynghori ar gynllun morol cenedlaethol drafft ar gyfer Cymru yr haf hwn. Bydd y cynllun yn tynnu sylw at arwyddocâd strategol ein hadnoddau llanw ac yn darparu fframwaith integredig ar gyfer datblygiad cynaliadwy ein moroedd. Mae'r ymagwedd hon yn ein galluogi i sicrhau bod prosiectau o gwmpas y DU yn gallu dod â’r budd economaidd mwyaf posibl i Gymru drwy ddatblygu arbenigedd a chadwyni cyflenwi i roi sylfaen gadarn inni i ymgysylltu â diwydiant ac â Llywodraeth y DU.

Mae angen i Lywodraeth y DU, sydd nawr yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad, ymgysylltu'n llawn â ni wrth iddi ddatblygu polisi morlynnoedd llanw a’i roi ar waith. Yn wir, rydym wedi datblygu sylfaen wybodaeth helaeth i gefnogi'r diwydiant, sy'n cael ei gydnabod gan Hendry yn ei adroddiad. Rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddi adroddiad Hendry yn rhoi digon o sicrwydd i Lywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y diwydiant hwn. Rydym yn edrych ymlaen at drafod beth mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei wneud am yr adroddiad. Mae swyddogion yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ystyried argymhellion yr adroddiad a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau cyn gynted ag y byddaf yn gwybod i ba gyfeiriad y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu mynd.

Felly, i gloi, rydym wedi datgan yn gyson ein hymrwymiad mewn egwyddor i gefnogi datblygu diwydiant morlynnoedd llanw cynaliadwy yng Nghymru. Rydym wedi tynnu sylw at ein cefnogaeth i ddiwydiannau yng Nghymru, ac at y ffaith bod Cymru yn ddelfrydol ar gyfer datblygiadau o'r fath, ar yr amod bod buddion o’r datblygiadau yn cael eu cadw o fewn Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', ac rwyf nawr yn edrych ymlaen yn fawr at glywed barn yr Aelodau eraill am egwyddor morlynnoedd llanw a'r cynnig sy’n destun y ddadl heddiw.

Rwy’n falch iawn fod y Cynulliad wedi dod ynghyd, gobeithio, i ddatgan cefnogaeth i’r cysyniad o ynni o forlynnoedd llanw. Rwy’n deall yn iawn pam nad yw’r Llywodraeth mewn sefyllfa i roi cefnogaeth uniongyrchol i un project yn arbennig, ond hoffwn i roi ar gofnod fod Plaid Cymru yn fodlon gwneud hynny, ac mewn sefyllfa wahanol, ac rwy’n gallu dweud felly ein bod ni o blaid bae Abertawe fel ‘pathfinder’, fel sy’n cael ei esbonio yn adroddiad Hendry.

Fel rhai cannoedd o bobl leol, rwyf innau wedi buddsoddi yn y morlyn llanw ac, i’r perwyl yna, mae gen i fudd yn y project fel un o’r cyfranddalwyr cymunedol. Mae rhai cannoedd o bobl wedi gwneud hynny. Rwy’n gobeithio’n fawr hefyd, maes o law, y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi yn y morlyn llanw, ond fe wnawn ni droi at hynny yn nes ymlaen yn y ddadl.

Yn gyntaf oll, a gawn ni weld beth oedd adolygiad Hendry yn ei ddweud? Nid wyf wedi darllen adolygiad i mewn i faterion anodd gan San Steffan sydd mor glir yn ei gasgliad ers rhai blynyddoedd, mae’n rhaid dweud. Mae’n dweud yn glir iawn, ar ôl blynyddoedd o drafod, fod y dystiolaeth yn glir bod morlynnoedd llanw yn gost-effeithiol fel rhan o gymysgedd ynni y Deyrnas Gyfunol; mae’n dweud hynny’n glir iawn. Mae’n dweud yn glir fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn wynebu penderfyniad strategol gymaint â phenderfyniad economaidd, ac mae’n dweud yn glir fod symud ymlaen gyda morlyn ym mae Abertawe fel yr un cyntaf, fel y ‘pathfinder’, fel mae’n cael ei ddisgrifio, yn bolisi nad oes modd difaru yn ei gylch—‘no-brainer’ mewn geiriau eraill. Ac rwy’n meddwl yn y cyd-destun yna rydym eisiau gweld yn awr ymateb positif, mor fuan efallai â’r gyllideb ym mis Mawrth, gan Lywodraeth San Steffan.

Rydym yn gweld hyn fel rhywbeth sydd yn newid y diwydiant ynni yng Nghymru, ac yn paratoi y ffordd ar gyfer y dyfodol i Gymru. Am y tro cyntaf ers dyddiau cynnar gwynt, mae’n rhoi cyfle i Gymru fod ar y blaen mewn technoleg newydd ac, wrth gwrs, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu, mae’n rhoi cyfle i ni weld datblygiadau tebyg o’r fath drwy Fôr Hafren ac yng ngogledd Cymru hefyd. Ond mae hefyd yn wir i ddweud bod Hendry yn edrych ar y project yma fel rhywbeth sydd yn gallu cael ei ddefnyddio fel templed i weld yr effaith ar yr amgylchedd, i weld yr effaith ar y pysgodfeydd, i weld a ydym ni’n gallu casglu’r ynni yn y ffordd rydym yn gobeithio ei wneud, ac i weld a ydy’n wir bod y tyrbinau yn gweithio yn effeithlon yn y cyd-destun yna.

Yn y cyd-destun yna, mae cefnogaeth gyffredinol—mae yna gwestiynau, wrth gwrs—wedi cael ei mynegi gan nifer o gyrff amgylcheddol, o Gyfeillion y Ddaear i’r RSPB, sydd i gyd yn awyddus yn y cyd-destun lle mae gennym eisoes losgi tanwydd ffosil ar hyd Môr Hafren, sydd yn llygru yr awyrgylch, i weld rhywbeth mwy positif a glân yn dod i mewn. Felly, fel catalydd ar gyfer datblygu gweddill y sector, rhoi Cymru ar y blaen ar gyfer technoleg newydd, ac fel rhywbeth a fydd yn ei hun yn hwb eithriadol i ardal bae Abertawe, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y Cynulliad heddiw yn cefnogi’r cynnig ac yn rhoi neges glir felly i Lywodraeth San Steffan i ymateb yn bositif i’r cysyniad o forlyn llanw.

Fe fydd, yn ystod cyfnod ei godi, yn creu dros 2,000 o swyddi ac yn ychwanegu dros £300 miliwn i GVA ardal bae Abertawe. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ymateb i’r her yma. Bydd angen strategaeth sgiliau trylwyr i wneud yn siŵr ein bod ni’n manteisio ar y cyfle yma. Mae’r cwmni sydd y tu ôl i’r morlyn wedi addo y bydd o leiaf hanner yr arian yn cael ei wario yng Nghymru, ac mae hynny mas o wariant cyfalaf o dros £1.3 biliwn. Ac fe fydd y morlyn, unwaith y bydd wedi’i gwblhau, yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 90 y cant o’r tai yn ardal bae Abertawe am dros ganrif. Felly, i mi ac i Blaid Cymru hefyd, mae hwn yn rhywbeth y dylem ei gefnogi.

I think there’s one final point I’d like to make, and this is what a huge opportunity we could have here to use and utilise the UK framework to benefit us here in Wales. A recent analysis that we’ve looked at on the levy control framework, which currently means that Wales benefits slightly more than our share of population due to the fact that we have feed-in tariffs and renewable energy and so forth, shows that within 10 years, we will have reduced our share that levy control framework to less than 1 per cent of predicted spending. That’s because the levy control framework also includes coal fire, and that will have gone by 2025, and of course, we’ve got no new major onshore wind coming on stream in the meantime. So, we can use that in order to benefit Wales.

If, for example, the Welsh Government were to take an equity stake within the tidal lagoon in Swansea bay, we would then get that fee back from the sale of that electricity over many years, which is actually agreed and supported by the UK Government. So, again, it’s a no-brainer to support this in terms of climate change, in terms of energy production, in terms of investment in Swansea bay, but it’s also a no-brainer for us all to be part of this and be part of an energy future.

Rwyf wrth fy modd i siarad o blaid y cynnig hwn, sydd wedi cael ei osod yn enw Paul Davies ac eraill. Rwy'n falch iawn o weld cefnogaeth drawsbleidiol. A gaf i ganmol hunanddisgyblaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, sydd yn amlwg yn gorfod diogelu’r swyddogaeth statudol y bydd yn ei chwarae wrth ymdrin â rhai agweddau ar y rheoliadau sy'n debygol o gael eu cynhyrchu o dan y mater hwn? Ond rwy'n meddwl nad yw’r gweddill ohonom dan faich o’r fath, a gallwn siarad â brwdfrydedd mawr.

Yn sicr, mae Plaid Geidwadol Cymru yn llwyr gefnogi ei phrosiect a allai fod yn werth £1.3 biliwn. Gwnaethom gyflwyno tystiolaeth i adolygiad Hendry, buom hefyd yn cymryd rhan yn y cyfarfod a gafodd Charles Hendry yma yn y Cynulliad pan oedd gwleidyddion o bob rhan o'r Cynulliad yma, ac rwy’n meddwl ein bod wedi gwneud argraff bwerus iawn arno, dim ond oherwydd cryfder y consensws a'r brwdfrydedd sydd gennym ar gyfer y prosiect trawsnewidiol hwn. Mae wir yn cynnig y cyfle i Gymru i fod yn arweinydd byd mewn ynni unwaith eto, ac rwy’n meddwl nad yw’r math hwnnw o gyfle yn digwydd yn aml iawn, iawn.

Rwyf am droi nawr at adolygiad Hendry, sydd, fel Simon—. O bryd i'w gilydd mewn bywyd, rydych yn disgwyl am adolygiad, rydych yn gwybod ei fod yn bwysig, ac yna mae rywsut yn darllen fel petai chi neu'ch mam a’i ysgrifennodd—mae’n cynnwys popeth yr ydych yn gobeithio ei glywed—a dyna sut aeth pethau, mwy neu lai. Rwy'n meddwl bod y dystiolaeth yn eithaf llethol yn wir, a bod y neges i Lywodraeth y DU yn glir iawn, iawn ac nad oedd yn amwys o gwbl, ond roedd yn gweld yr uchelgais ac yn ei ddisgrifio. O ran yr hyn y mae’r adroddiad yn ei bwysleisio, y gallem ni, y ​​DU, gyda Chymru ar y blaen, fod yn arweinydd byd yn y dechnoleg hon—y byddwn ni yno fel yr oedd y Daniaid a'r Almaenwyr ar gyfer technoleg gwynt yn yr 1960au—y gallem ddarparu cyflenwad dibynadwy oherwydd yn amlwg bydd y llanw yno, cyn belled â bod y lleuad yn parhau i fodoli; cyflawni ein hymrwymiadau datgarboneiddio mewn ffordd ddefnyddiol iawn; a chreu cyfleoedd sylweddol i'r cadwyni cyflenwi lleol. Felly, rwy’n meddwl bod y rheini i gyd yn ffactorau pwysig iawn—. Ildiaf i Darren Millar.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ildio. Un o’r buddion eraill, wrth gwrs, y mae’r mathau hyn o gynlluniau’n gallu eu darparu yw budd o ran amddiffyn rhag llifogydd. Wrth gwrs, ar arfordir y gogledd mae yna gyfle i ddatblygu morlyn llanw i ddiogelu Bae Colwyn, Conwy a rhannau o arfordir Sir Ddinbych. A ydych chi’n cytuno â mi bod y math hwnnw o gyfle, oherwydd y gallai sicrhau buddion posibl o ran amddiffyn rhag llifogydd, yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru o bosibl gymryd rhan yn ariannol yn y broses o gyflwyno’r prosiect hwn er mwyn gwneud iddo ddigwydd?

Ydw. Rwy'n meddwl bod yr Aelod efallai eisoes wedi gweld adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'n pwysleisio’r buddion o ran amddiffyn rhag llifogydd a allai ddod gyda phrosiectau morlynnoedd llanw, ac mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn, iawn. Mae adolygiad Hendry yn nodi y gall morlynnoedd llanw chwarae rhan gost-effeithiol yng nghymysgedd ynni y DU, ac rwy’n meddwl bod hynny’n torri tir newydd gwirioneddol, oherwydd roedd rhai cwestiynau ynghylch cost-effeithiolrwydd y dechnoleg hon—mae'n un hirdymor, ond wrth edrych ar yr hirdymor, mae'n dod yn amlwg bod hyn yn gost-effeithiol. Mae'r adroddiad yn nodi bod yr achos o blaid hyn fel prosiect braenaru yn 'gryf iawn', a’i fod yna yn debygol o arwain at forlynnoedd mawr cost-gystadleuol mewn ardaloedd eraill, fel y gogledd, ond hefyd o bosibl Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â safleoedd eraill o amgylch y DU. Felly, mae hyn yn bwysig iawn, iawn.

Mae trylwyredd adolygiad Hendry yn cynnwys galwadau ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu dull strategol clir ar gyfer ynni llanw, yn debyg i ynni gwynt ar y môr. Felly, rwy’n meddwl bod angen inni weld hynny. Mae hefyd yn galw am gorff newydd, awdurdod ynni llanw, a fyddai'n gweithredu fel asiantaeth hyd braich, er mwyn gallu manteisio i'r eithaf ar y dechnoleg hon. Felly, rydym yn gweld cwmpas, a dweud y gwir, yr hyn sydd o’n blaenau.

A gaf i droi, yn olaf, at y buddion i Gymru? Ni wnaf siarad yn benodol—rwy'n meddwl y bydd Aelodau eraill yn sôn am brosiect Abertawe. Ond pe byddai prosiectau eraill yn dilyn yn y safleoedd mwyaf tebygol, gallem weld buddsoddiad gwerth £20 biliwn gan y sector preifat, dros 33,000 o swyddi, o bosibl, mewn adeiladu a gweithgynhyrchu ar gyfer Cymru, a budd blynyddol yn ein GYC, os aiff y prosiectau hyn yn eu blaenau, o £ 1.4 biliwn. Mae'n rhyfeddol. Unwaith, Cymru oedd Kuwait y byd glo; nawr, gallem fod yn arweinydd y byd ym maes ynni llanw. Gadewch inni groesawu’r her.

Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ac yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at y drafodaeth. Mae morlyn llanw Abertawe yn cynnig cyfle enfawr i’r DU ac i Gymru i fod ar flaen y gad o ran y dechnoleg arloesol hon. Er mai dim ond prosiect arbrofol ar gyfer y diwydiant hwn yw’r morlyn yn Abertawe, rydym yn deall bod Caerdydd ymhlith y ceffylau blaen o ran y cynlluniau i ddatblygu gosodiad maint llawn, ac, wrth gwrs, clywsom yn gynharach am y posibiliadau yn y gogledd, a dylem, wrth gwrs, gynnwys y posibiliadau yng Nghasnewydd hefyd.

Mae'n anodd goramcangyfrif y potensial i ddiwydiant Cymru yng nghyfnod adeiladu a thechnoleg y datblygiad hwn. Mae cwmnïau yng Nghymru ac yn rhanbarth Abertawe sydd eisoes yn meddu ar y gallu technegol i ddarparu llawer o'r seilwaith ar gyfer y prosiect hwn, ond bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i’r rhain ac i lawer o rai eraill i ddatblygu'r gallu i ddarparu arbenigedd llawn o ran technoleg a seilwaith morlynnoedd llanw. Hefyd, mae potensial enfawr i gwmnïau sy’n bellach i lawr yn y gadwyn gyflenwi i gymryd rhan yn y prosiect hwn.

Mae adolygiad Hendry o forlynnoedd llanw yn pwysleisio manteision sicrwydd y cyflenwad ac effaith carbon-negatif datblygiadau o'r fath, sydd, wrth gwrs, yn cael effaith gadarnhaol ar nod y Cynulliad o gyflenwi ynni di-garbon. Dylid nodi hefyd bod gan y diwydiant hwn botensial mawr, nid yn unig yn y DU, ond mewn llawer o leoliadau ledled y byd lle mae morlynnoedd llanw yn ddewisiadau ymarferol ym maes cynhyrchu trydan. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithredu’n bendant i symud y prosiect hwn yn ei flaen fel y bydd Cymru a'r DU ar flaen y gad yn y dechnoleg newydd gyffrous hon, ac mewn sefyllfa i dendro ar gyfer datblygiadau o'r fath, lle bynnag y byddant wedi'u lleoli. Mae consensws trawsbleidiol llawn ar y datblygiad hwn, felly gadewch inni barhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i weithredu ar yr argymhellion yn adolygiad Hendry a nodi na wnawn ni yng Nghynulliad Cymru oddef oedi annerbyniol wrth symud ymlaen gyda'r prosiect hanfodol hwn.

Hoffwn sôn am dri phwnc: pysgod, uchelgais, a Dewi Sant. Rydym wedi siarad am rinweddau’r ffaith bod y prosiect hwn yn brosiect masnachol, sy’n gwbl ddibynnol ar gyllid preifat, fel un o'i lawer o rinweddau, ond, wrth gwrs, mae gennym amgylchedd rheoleiddio sy'n peri risg na wnaiff llawer o'r prosiectau hyn fyth ddechrau. Efallai yr hoffem gael buddsoddwyr amyneddgar, ond nid oes llawer o fuddsoddwyr direswm. Nid oes terfynau amser mewn grym ac, mewn amgylchedd o'r fath, mae perygl gwirioneddol y gallai'r prosiect Abertawe chwalu ac y gallai prosiectau morol yn y dyfodol gael eu gohirio. Nawr, rwyf yn sicr o blaid rheoleiddio hyd braich, ond prin y gallwn weld Cyfoeth Naturiol Cymru o dros y gorwel, ac rwyf yn cwestiynu'r ffordd y mae'r ddeddfwriaeth wedi ei gosod allan a'r ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei sefydlu. Gallant gymryd cyhyd ag y mynnant. Nid oes gan Weinidogion unrhyw bwerau—nid ydyn nhw’n gallu gosod terfyn amser i gael penderfyniad, nid ydyn nhw’n gallu ei alw i mewn, ac nid ydyn nhw’n gallu apelio. Gallem fod yn y sefyllfa absẃrd o fod wedi cael pob caniatâd sydd ei angen arnom gan Whitehall, ond, oherwydd diffyg arbenigedd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, gallai’r prosiect ddisgyn i mewn i'r môr—

A yw'n ymwybodol o erthygl 11 Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 sy'n rhoi pŵer cyffredinol i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch arfer ei bwerau?

Efallai y bydd yn syndod i Mark Reckless i wybod nad oeddwn yn ymwybodol o’r is-gymal penodol hwnnw, ond rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu sylw ato.

Nid yw wedi’i gydnabod bod llawer o'r buddsoddwyr preifat yma wedi bod yn hynod o hael â’u hamynedd, ac y byddai’r prosiect hwn, hebddynt, yn farw yn y dŵr. Nid yw David a Heather Stevens, yn arbennig, yn ceisio bod yn llygad y cyhoedd, ond, heb eu parodrwydd i gefnogi'r prosiect hwn, byddai ein holl sôn am ddatblygu cynaliadwy braidd yn academaidd.

Hoffwn sôn am uchelgais, yn ail. Mae'n ymddangos ein bod, am gyfnod rhy hir, wedi bod yn rhy nerfus i ymrwymo’n llawn i'r prosiectau hyn. Rwy’n meddwl, beth amser yn ôl, fy mod yn cofio gweld protestwyr y tu allan i'r Cynulliad hwn, a rhai o fy nghyd-Aelodau Cynulliad sydd yma nawr yn sefyll ochr yn ochr â nhw, yn erbyn ffermydd gwynt yn y canolbarth. Mae'n bosibl bod hynny wedi codi ofn ar lawer o bobl. Mae uwch swyddogion, rwy’n ofni, mor ymroddedig i niwclear fel ei bod yn ymddangos eu bod yn gweld ynni adnewyddadwy, ar y gorau, fel rhywbeth i dynnu sylw, ac, ar y gwaethaf, fel bygythiad. Gallwn osod—rydym wedi gosod—targed newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi gosod uchelgais i fframio polisi cyhoeddus mewn ffordd sy'n gwasanaethu lles cenedlaethau'r dyfodol. Mae lleihau ac yna dileu'r defnydd o danwyddau ffosil yn gwneud y ddau beth hynny. Mae'r morlyn llanw ym mae Abertawe yn anfon arwydd pwysig ein bod yn awyddus i harneisio pŵer y môr ac ysgogi swyddi gwyrdd yn y broses, ond ni allwn fod yn amwys am y peth. Mae'n rhaid i’n llais fod yn gryf. Ni ddylem fod yn dawel gefnogol yn y cefndir; mae'n rhaid inni brynu cyfran yn y cwmni daliannol ac elwa ar y ffaith mai Cymru fyddai’r gyntaf mewn ton fyd-eang o ddatblygiadau.

Yn olaf, rwy’n yn dod at Dewi Sant a'i alwad inni wneud y pethau bychain. Hoffem weld—wel, yn sicr hoffwn i weld—100 y cant o'n hynni yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Yn wir, hoffwn i weld mwy, fel y gallwn werthu ein hynni a chynhyrchu cyfoeth i Gymru, a gadael i’n hadnoddau naturiol, unwaith eto, ddod yn un o ddilysnodau ein sylfaen economaidd. Mae'r morlyn yn rhan bwysig o hynny, ond ni allwn ddibynnu ar un neu ddau o brosiectau mawr yn unig i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae angen inni wneud mwy. Mae angen inni wneud y pethau bychain—cannoedd o bethau bychain ar yr un pryd. Mae angen inni gynllunio i bob cartref fod yn orsaf bŵer fach sy'n cynhyrchu mwy o ynni nag sydd ei angen arno a defnyddio cadwraeth ynni yn llawn a lleihau faint o ynni sydd ei angen arnom—yn aml y darn sy'n cael ei esgeuluso yn y dadleuon hyn. Mae hyn yn rhan o'r pwyslais economi sylfaenol yr hoffem ei weld: priodi’r croeso hwn i dechnolegau newydd â phwyslais ar economi pethau bob dydd. Mae gan gynhyrchu ynni lleol botensial enfawr i greu sgil effeithiau economaidd lleol, cadwyni cyflenwi lleol, sgiliau lleol, ac, yn hanfodol, i ailgysylltu ymddygiad pobl â’u defnydd o ynni. Pan fydd pobl yn gallu gweld yr ynni y maent yn ei greu, y maent yn ei gynhyrchu, mae hynny’n llawer mwy tebygol o effeithio ar eu harferion a'u hagweddau a'u hymddygiad eu hunain. Felly, mae angen arweinyddiaeth arnom. Mae angen amgylchedd rheoleiddio caniataol ac mae angen arian. Ac, os nad yw Dewi Sant at eich dant, efallai y dylem feddwl am Max Boyce, a ddywedodd wrthym fod angen cynllun anhygoel arnom, oherwydd, fel y dywedodd, ceffyl da yw ewyllys. Diolch.

Wel, Aelodau, rwy’n meddwl ein bod yn sefyll ar drothwy rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol. Rwy'n meddwl bod angen dewrder neilltuol i wynebu newidiadau gwleidyddol byd-eang ac wedyn penderfynu dod â rhywbeth da ohonynt. Weithiau, gall dod â’r peth da hwnnw allan fod yn seismig ynddo ei hun, gan fabwysiadu ffordd newydd o feddwl.

Nawr, gyda rhai o fy nghydweithwyr, rwyf newydd ddod yn ôl o CERN yn Genefa—sefydliad eithriadol sy'n dod â chyfle unigryw i’r rhan honno o'r byd. Dechreuodd yn 1954 wrth i wyddonwyr o 12 o wledydd symud ymlaen o hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a chymryd y cam cyntaf i dorri drwy derfynau peirianneg, cyfrifiadureg, a ffiseg. Mewn twnnel 100m i lawr a 27 km o hyd, a adeiladwyd ar gyfer prosiect cynharach, costus, mae'r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr gwerth £2.8 biliwn erbyn heddiw yn un rhan o stori anhygoel, ond stori ddrud hefyd sy'n denu buddsoddiad gan ddwywaith cymaint o wledydd ag a wnaeth 60 mlynedd yn ôl.

Rwy'n siŵr bod llawer o Lywodraethau wedi cwestiynu cost eu cyfraniadau dros y blynyddoedd, ond a ydym nawr yn meddwl: a fyddai wedi bod ffordd ratach o ddarganfod y gronyn Duw? A allem ni fod wedi llwyddo i ddatblygu’r we fyd-eang am lai? Nawr, fyddai neb wedi rhagweld y naill na’r llall o’r chwyldroadau penodol hyn yn 1954. Yr hyn yr oedd y Llywodraethau hynny’n buddsoddi ynddo, ddegawd ar ôl degawd, oedd y ffin symudol—y gydnabyddiaeth mai edrych ymlaen, meddwl ymlaen, gwario ymlaen, yw'r unig obaith o fod yn barod am yr heriau gwirioneddol fyd-eang hynny. Rydym eisoes yn gwneud hynny i raddau gyda newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, neu adnoddau dŵr a bwyd byd-eang, yr economi fyd-eang, hyd yn oed—maent i gyd yn rhyng-gysylltiedig, wrth gwrs, ond mae angen edrych o’r newydd arnynt. Dyma pam yr wyf yn dweud ein bod ar drothwy rhywbeth arwyddocaol, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn fach, oherwydd bod morlynnoedd llanw, yn rhannol, yn ateb newydd i gwestiwn cynhyrchu ynni yn y dyfodol.

Llosgi tanwyddau ffosil: mae hynny'n rhad, ond nid yw ynni rhad yn rhoi gwerth am arian os yw’r adnoddau'n gyfyngedig, diogelwch y cyflenwad yn ansicr, a chost llygredd ac iechyd gwael yn cael eu hystyried. Ynni gwynt: eithaf rhad i’w gynhyrchu, ond yn aml yn amhoblogaidd, annibynadwy, ac angen offer wrth gefn drud—gwerth am arian? Niwclear: ddim yn arbennig o ddrud wrth wrthbwyso’r gost dros oes. Mae'n ddibynadwy, ond mae’r risg yn uchel iawn o ran cost methiant diogelwch. A yw hynny’n werth am arian? A lagwnau: ddim yn arbennig o ddrud wrth wrthbwyso’r gost dros oes, technoleg ddibynadwy, ond heb ei phrofi—a yw hynny’n werth am arian?

Yn fyr iawn. Mae'n araith eithaf hir, mae'n ddrwg gennyf, Simon.

Dim ond i ailadrodd fy mod yn gobeithio ei bod hi’n gallu gweld yn adroddiad Hendry ei fod wedi cymharu niwclear â’r morlyn llanw ac wedi dweud, dros ddadansoddiad cost oes tebyg, bod y morlyn llanw mewn gwirionedd yn rhatach na niwclear.

Wel, dyna beth yr wyf yn dod ato, oherwydd, o ran gwerth am arian, rwy'n gofyn: pam ar y ddaear na wnawn ni ddarganfod hyn? Mae morlynnoedd llanw yn ffordd newydd o feddwl. Fel CERN, hwn fydd y cyntaf yn y byd. Mae hwn yn ddiwydiant newydd, yn ddiwydiant byd-eang, gyda goblygiadau byd-eang, ac mae gennyn ni yma yn y DU. Nid yw'n gwestiwn o 'gallem', David Melding; mae'n fater o 'dylem'. Mae adroddiad Hendry yn argyhoeddiadol ar y rhan y gallai ynni'r llanw ei chwarae wrth ddiwallu ein hanghenion, ond dim ond rhan o stori lawer mwy yw hynny. Mae'n argyhoeddiadol ar y manteision economaidd lleol uniongyrchol y byddai morlyn braenaru diedifar yn eu creu i fy rhanbarth i: mae'n drawsnewidiol i Abertawe fel dinas, meddai. Ond mae'n wir am rannau eraill o'r DU hefyd. Mae'n argyhoeddiadol ar effaith economaidd morlynnoedd eraill yn y de-ddwyrain a’r gogledd, a’u bod yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol y DU. Ond y gwir werth am arian yw bod y cyntaf—mai’r Deyrnas Unedig fyddai’r ganolfan fyd-eang ddiamheuol ar gyfer arbenigedd mewn morlynnoedd a’u gweithgynhyrchu. Pa mor aml y cawn gyfle fel hyn? Am 30c ar ein biliau, gallwn wneud i’r holl sôn am economi wybodaeth olygu rhywbeth, drwy dyfu gweithgynhyrchu ar gyfer y byd, yma yn y DU.

Mae’n ymwneud â mwy na’r cyfnod datblygu. Gallem fod yn arwain y byd ym maes ymchwil a datblygu, nid yn unig o ran dyluniad mwy effeithlon ond o ran deunyddiau, gan roi bywyd a chyfeiriad newydd i’n gwaith dur, o ran storio ynni, o ran dulliau trosglwyddo, o ran amddiffyn rhag llifogydd. Os ydym am gael USP ar gyfer ein cytundebau masnach newydd, wel dyma fe. Edrych ymlaen, meddwl ymlaen, gwario ymlaen—nid ar forlyn, ond ar ddyfodol diwydiannol newydd i Brydain.

Pan gafodd CERN ei sefydlu, nid oeddent yn rhagweld y byddai eu gwaith yn achub bywydau drwy therapi pelydr protonau, ac y byddent yn chwyldroi trosglwyddo data. Yr oll yr oedd eu partneriaid yn ei wybod oedd mai nhw oedd y cyntaf, a bod hynny’n golygu sbarduno newid. Bedwar cant o flynyddoedd yn ôl—ychydig bach yn fwy diweddar na Dewi Sant, yn anffodus—dyfeisiodd Hans Lippershey y gwydr persbectif Iseldiroedd, dyfais i weld pethau pell i ffwrdd fel pe byddent yn agos. Defnyddiodd dechnoleg a oedd yn bodoli, lens gwydr, a gwneud rhywbeth cymharol ddiddorol â hynny. Ni wnaeth drin hyn fel mai ef oedd y cyntaf; ni welodd botensial yr hyn oedd ganddo. Nid oedd Galileo, ar y llaw arall, yn fodlon ar weld pethau pell i ffwrdd fel pe byddent yn agos. Cymerodd ei fersiwn ef o'r gwydr persbectif Iseldiroedd a dangosodd i Senedd Fenis fod ei delesgop yn rhoi rhywbeth unigryw iddynt: mynediad at y sêr. Gwnaeth hyn ef yn ddyn cyfoethog a gwnaeth bob un ohonom yn gyfoethocach, gan fod telesgop Hubble, yn union fel CERN, wedi ein helpu i ddeall ein bydysawd. Ni ddylem edrych ar forlynnoedd llanw yn bethau pell fel pe byddent yn agos. Mae angen inni hefyd edrych i fyny a gweld y cyfle byd-eang i Gymru ac i Brydain.

Hoffwn roi'r morlyn llanw yng nghyd-destun ehangach economi las Cymru, ond, cyn imi wneud hynny, rwy’n meddwl ei bod yn werth nodi nad yn y Siambr hon yn unig y mae cefnogaeth Charles Hendry i’r morlyn ym mae Abertawe wedi ei chroesawu’n eang, ond hefyd, i siarad yn bersonol, gan fy etholwyr a hefyd gan fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi a chadwyn gyflenwi bosibl y rhanbarth. Rwy’n credu bod y lagŵn wedi cydio yn y dychymyg oherwydd, fel yr oedd David Melding yn cyfeirio ato yn gynharach, cafodd Cymru fodern ei hadeiladu ar ynni, ac efallai mai technoleg ynni llanw glân fydd diwydiant mawr nesaf Cymru. A gadewch inni beidio â thanbrisio, ychwaith, effaith 100 mlynedd o ymrwymiad economaidd ar economi ranbarthol bae Abertawe. Gallai hwn fod yn gatalydd i ddatblygiad economaidd mawr mewn sectorau a allai gefnogi technoleg morlynnoedd a’u hadeiladu.

Mae Cymru'n genedl llanw, ac un o'n hasedau mawr yw ein harfordir hir a chyrhaeddiad llanw sy’n uwch na’r rhan fwyaf o wledydd eraill. Felly, mae'n gwneud synnwyr da inni i ganolbwyntio ar ddatblygu sectorau o'n heconomi lle y gallwn gynnig rhywbeth nad yw’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn gallu ei gynnig, a sectorau nad ydynt yn dibynnu ar ein haelodaeth barhaus o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae defnyddio ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy—ac rwy’n pwysleisio ‘cynaliadwy’— yn gwneud synnwyr. Yn wir, mae'n rhoi mantais gystadleuol inni. Nid yw gwledydd nad oes ganddynt ein harfordir na’n llanw ni yn gallu datblygu'r fantais honno. Ond gadewch inni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau. Yn sicr mae digon o wledydd eraill sydd ag asedau naturiol tebyg i fod yn fygythiad cystadleuol, ac nid yw ein cystadleuwyr yn mynd i loetran tra bod Cymru yn achub y blaen yn y sector hwn. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar fyrder, a hefyd mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru weithredu’n gyflym, i roi trwyddedau morol ac i osgoi unrhyw oedi pellach. Os na chaiff y camau hyn eu cymryd yn brydlon, byddwn yn colli ein mantais symudydd cyntaf i ryw leoliad arall, ac efallai y caiff cyfle euraidd ei golli, a byddai hynny'n anfaddeuol.

Fel Aelodau eraill, rwyf wedi cael sylwadau gan bysgotwyr lleol sydd â phryderon gwirioneddol, yr wyf yn cydymdeimlo â nhw, am yr effeithiau ar stociau pysgod, er bod anghydfod ynghylch yr union fanylion, fel y gwyddom. Ond, yr hyn nad yw’n destun anghydfod—

Diolch i'r Aelod am ildio. Rwyf innau hefyd wedi cael sylwadau gan y pysgotwyr, pysgotwyr yr Afan yn arbennig, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod nawr yn sicrhau penderfyniad cyflym rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Tidal Lagoon Power fel y gallwn sicrhau bod y bwlch rhwng y ddau, sy'n eithaf enfawr ar hyn o bryd, yn dod yn fwy realistig, oherwydd rwy’n deall bod y ddau, mae’n rhaid cyfaddef, ar eithafion eu cyfrifiadau ac mae angen canfod cydbwysedd tecach yn y canol yn rhywle, ac mae angen inni wneud hynny’n gyflym.

Byddwn yn ategu hynny; rwy’n meddwl bod angen inni wneud cynnydd cyflym ar hynny. Ond yr hyn sy’n ddiddadl yw mai newid yn yr hinsawdd yw un o'r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth forol beth bynnag. Felly, rwy'n meddwl mai dyna gyd-destun ehangach y drafodaeth honno.

Ond mae'r morlyn yn amlygiad o gyfle llawer ehangach i droi adnodd naturiol mwyaf toreithiog Cymru yn ased economaidd ac i dyfu ein heconomi las. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, ar gynllun morol newydd eleni, a hoffwn weld y cynllun hwnnw’n rhoi arwydd o ymrwymiad llawn i'r sector hwn, yn ei holl ffurfiau—rydym yn sôn am y môr heddiw, ond mae hefyd chwaraeon, dyframaeth a chyfleoedd eraill, gwerth £2.1 biliwn o werth economaidd a degau o filoedd o swyddi cyn inni ddechrau gwneud unrhyw gynnydd gwirioneddol ym maes ynni adnewyddadwy. Ond mae angen inni fanteisio ar y cyfle hwn.

Hoffwn weld strategaeth farchnata uchelgeisiol i arddangos y sector hwn i'r byd, a gallem ddechrau drwy gynnal uwchgynhadledd ryngwladol o brynwyr posibl technoleg morlynnoedd yn ardal bae Abertawe. Hoffwn weld targedau ymestynnol ond realistig o ynni o ffynonellau adnewyddadwy alltraeth a morol dros amserlen realistig. Hoffwn weld y comisiwn seilwaith cenedlaethol newydd yn cael y dasg o gynnal asesiad cynnar o anghenion seilwaith yr economi las. Ac i adleisio'r pwynt yr oedd Lee Waters yn ei wneud, mae angen trefn gydsynio arnom sy’n gyflym, yn dryloyw ac yn addas i’w diben. Ceir tystiolaeth, a ddaeth drwy'r ymgynghoriad a gynhaliodd Llywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf i mewn i'r ffioedd a thaliadau, bod pryderon y gallai’r amserlenni fod yn brif achos anfantais gystadleuol. Felly, mae sicrwydd a thryloywder yn y maes hwn yn hanfodol.

Hoffwn hefyd weld Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud iawn am unrhyw ddiffyg yng nghyllid yr UE i’r sector morol o ganlyniad i adael yr UE, ac i wneud yn siŵr nad yw proses Brexit yn cynnwys gwrthdroi unrhyw gymwyseddau datganoledig Llywodraeth Cymru o ran polisi morol. Mae morlynnoedd llanw—yn wir, yr economi las—yn gyfle mawr i Gymru. Felly, gadewch inni beidio â cholli'r cyfle.

Roeddwn yn falch o weld heddiw bod llythyr, wedi’i drefnu, rwy’n meddwl, gan ASau yn San Steffan. Cafodd ei lofnodi gan Richard Graham, yr AS dros Gaerloyw, a 107 o ASau, ac, rwy’n meddwl yn fwyaf defnyddiol, mae Jesse Norman, y Gweinidog iau â chyfrifoldeb, wedi dweud na fydd Llywodraeth y DU yn llusgo ei thraed wrth ymateb i adroddiad Charles Hendry. Yr haf diwethaf, gofynnodd swyddfa Charles Hendry imi a allwn i drefnu cyfarfod o Aelodau'r Cynulliad i drafod y gwaith yr oedd yn ei wneud gydag ef. Cefais fy nharo'n sylweddol gan nifer y bobl a ddaeth, gan y brwdfrydedd am ei waith, ac yna eto pan gyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw, gan y croeso i ba mor gryf a diamwys oedd ei argymhelliad.

Pan feddyliais gyntaf rai blynyddoedd yn ôl am y prosiect hwn, roedd, rwy’n credu, ar gam cynharach, pan awgrymwyd y byddai cost yr ynni yn £168 y MWh, ac wedi’i gymharu ar sail contract gwahaniaeth cymharol fyr, roedd yn ymddangos yn ddrud iawn o'i gymharu â dewisiadau eraill, gan gynnwys niwclear ac ynni gwynt ar y môr. Rwyf wedi fy argyhoeddi ei fod nawr wedi’i asesu ar sail decach a mwy synhwyrol dros gyfnod hwy, a bod cyfraddau llog tymor hir is hefyd yn gwneud y buddsoddiad yn gymharol fwy deniadol. Pan fyddwch yn edrych ar o ble mae'n cael ei ariannu, i'r graddau y mae gennym fframwaith rheoli ardollau ar lefel y DU—cyfwerth â £9.8 biliwn erbyn 2020 yw’r swm a bennwyd ar gyfer hynny—mae'n fy nharo’n synhwyrol i wario mwy o’r arian hwnnw ar amrywiaeth eang o bosibiliadau ynni, y gallai rhai ohonynt ddwyn ffrwyth a dod yn llwyddiannus iawn dros y tymor hwy. Rydym wedi gweld y gostyngiad mawr iawn mewn prisiau solar; nid ydym wedi gweld gostyngiad mor fawr mewn prisiau ynni gwynt. Rwy’n meddwl ​​y gellid gwario'r arian hwnnw’n well drwy o leiaf ariannu dewis technoleg amgen a allai o bosibl sicrhau canlyniadau cryf dros y tymor hwy, ac yn amlwg mae ganddo werth opsiwn sylweddol o gofio ansicrwydd yr holl bethau hyn. O'i gymharu â niwclear ac ynni gwynt ar y môr, i'r graddau y mae'n cymharu'n dda nawr hyd yn oed ar yr amcanestyniadau o ran cost, rwy’n meddwl ei fod yn fwy deniadol oherwydd ei fod yn cynyddu’r amrywiaeth honno ar gyfer ffynhonnell ynni sy’n amlwg yn ddilygredd ac yn ddibynadwy.

Hefyd, nid oes amheuaeth y byddai hyn yn wych i Gymru. Mae’r fframwaith rheoli ardollau hwnnw’n seiliedig ar y DU, ac rwy’n meddwl bod Simon Thomas wedi siarad yn gywir iawn ac rwy'n meddwl ei fod wedi tynnu sylw hael at y ffaith y byddai hyn yn golygu bod Cymru yn elwa ar fframwaith y DU. Rwy’n meddwl i raddau y gall y Cynulliad hwn ddod at ei gilydd ac, rwy’n credu, cefnogi’r cynnig hwn a’r prosiect hwn yn unfrydol, yn ogystal â'r disgrifiadau gwerth opsiwn a thechnegol yr wyf wedi eu rhoi. Yn amlwg, byddai llawer iawn o arian, boed gan drethdalwyr y DU, neu'n fwy cyffredinol gan dalwyr biliau trydan y DU, yn dod i gael ei fuddsoddi yng Nghymru, ac yn ein helpu o leiaf o bosibl i ddatblygu hyn fel diwydiant i’r dyfodol. Felly, byddwn yn croesawu hynny'n fawr.

Dim ond i ymateb i rai o bwyntiau Lee Waters yn gynharach am Gyfoeth Naturiol Cymru, nid wyf yn meddwl ei bod yn deg inni feirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhy gryf. Maent yn gwneud yr hyn sydd wedi’i osod ar eu cyfer o dan ddeddfwriaeth, a phan fyddwn yn pasio deddfwriaeth sy'n dirprwyo awdurdod i gyrff hyd braich, ni ddylem synnu pan fyddant yn gwneud yr hyn y gofynnwyd iddynt ei wneud dan y statudau yr ydym wedi eu gosod. Mae Gweinidogion Cymru wedi dirprwyo eu pwerau o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i Gyfoeth Naturiol Cymru, a chyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw gwneud penderfyniad am drwydded pan fyddwn yn rhoi unrhyw sylwedd neu wrthrych yn y môr neu ar neu o dan wely'r môr. Eu lle nhw yw penderfynu, ac rydym wedi amlinellu sut y dylai hynny ddigwydd—mae angen gwarchod yr amgylchedd, mae angen diogelu iechyd dynol, ac mae angen atal ymyrryd â ffyrdd cyfreithlon o ddefnyddio’r moroedd. Mae'n bwysig eu bod yn ystyried y pethau y gofynnwyd iddynt eu hystyried.

Rwy'n meddwl ei bod yn anffodus nad oes gennym y broses galw i mewn yng Nghymru sydd ar gael i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a hefyd nad oedd yn bosibl barnu bod trwydded yn rhan o broses gynllunio’r Adran Materion Cyfansoddiadol. Felly, rwyf am ofyn, efallai nid ar unwaith, ond ar ôl penderfyniad gan y DU, ac yn enwedig os caiff yr adroddiad ei gymeradwyo, a fyddai Gweinidogion Cymru yn ystyried defnyddio'r pŵer a ddisgrifiais yn gynharach i Lee Waters i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru, neu efallai i bennu amserlen iddynt i ymdrin â rhai o'r materion anodd hyn am fodelu pysgod, a ffurfio barn mewn ffordd na fyddai'n gohirio’r prosiect cyfan. Yna, pe byddai Cyfoeth Naturiol Cymru, am ba bynnag reswm, neu'r materion cul y gallent fod yn edrych arnynt, pe na byddent yn gwneud penderfyniad ffafriol, byddai hawl i apelio i Weinidogion Cymru. Rwy’n deall yn llwyr pam na fydd Gweinidogion Cymru, o ran y cynnig a'r hyn y maent yn ei ddweud wrthym yn y Cynulliad heddiw, eisiau dweud dim byd a allai o bosibl arwain at adolygiad barnwrol andwyol yn y dyfodol. Ond hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth fy hun at yr hyn yr wyf yn meddwl sy’n gefnogaeth eang iawn yn y Cynulliad i adolygiad Hendry ac i hyn fel ynni’r dyfodol a allai fod o fudd mawr i Gymru.

Rydym yn cymryd trydan yn ganiataol. Rydym yn cynnau ein cyfrifiadur, ein teledu, ein goleuadau neu ein dyfeisiau trydanol eraill ac rydym yn disgwyl iddynt weithio. Mae'n rhaid cynhyrchu’r trydan ac mae’n rhaid iddo fod ar gael pan fydd ei angen arnom. Yn draddodiadol, mae trydan wedi ei gynhyrchu drwy losgi tanwyddau ffosil. Mae pob tanwydd ffosil yn seiliedig ar garbon. Pan mae carbon yn llosgi, mae'n ffurfio carbon deuocsid. Mae carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Mae hyn yn achosi cynhesu byd-eang.

Mae cytundeb Paris yn gyrru'r agenda ddatgarboneiddio ryngwladol gyda rhai datblygiadau cyflym mewn ynni adnewyddadwy a lleihau galw. Mae angen dewisiadau eraill yn hytrach na llosgi glo, nwy, olew a phren. Mae hyn yn gadael ynni niwclear, ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, ynni'r haul, llif afonydd, geothermol a phŵer llanw. Mantais ynni'r llanw yw ei fod yn ddibynadwy. Gallwn ni ragweld llanwau am ganrifoedd i’r dyfodol. Rydym yn gwybod bod sianel Bryste yn ddelfrydol i gynhyrchu pŵer llanw. Mae adolygiad Hendry wedi bod yn ddiamwys o blaid morlyn llanw ym mae Abertawe.

Y cwestiwn cyntaf i'w ofyn yw: a yw’r wyddoniaeth yn gweithio? Rydym yn gwybod bod tyrbinau unffordd yn gweithio—maent ar afonydd. Yn Dinorwig yn y gogledd, mae tyrbinau unffordd wedi’u gyrru gan ddŵr yn cael eu defnyddio. Mae dŵr yn cael ei storio ar dir uchel yng nghronfa ddŵr Marchlyn Mawr ac yn cael ei ryddhau i Lyn Peris i symud y tyrbin yn ystod adegau brig y galw am drydan. Mae'n cael ei bwmpio yn ôl o Lyn Peris i Farchlyn Mawr yn ystod yr oriau galw llai. Mae'n defnyddio mwy o drydan i bwmpio dŵr i fyny nag y mae'n ei gynhyrchu ar y ffordd i lawr. Mae’r pwmpio yn cael ei wneud pan fo’r galw’n isel.

Yr unig wahaniaeth gyda morlyn llanw yw bod y tyrbinau’n ddwyffordd ar forlyn llanw, sy'n golygu ein bod yn ei gael bedair gwaith y dydd. Unwaith pan ddaw'r llanw i mewn, unwaith pan aiff y llanw allan, unwaith pan ddaw'r llanw i mewn eto, unwaith pan aiff y llanw allan eto. Rydym ni’n gwybod bod hynny’n mynd i ddigwydd ac nid yw'n costio dim ynni inni. Nid yw hyn fel ei bwmpio i fyny bryn a’i fod yna'n dod i lawr eto. Nid yw hyn yn arloesol, gellir ei greu, gellir ei ragweld, ac mae'n ddibynadwy dros gyfnodau hir.

Er bod angen datgomisiynu gweithfeydd tanwydd ffosil ac atomfeydd a chael gwared arnynt, fel y dywedodd Darren Millar yn gynharach, y cyfan y mae morlyn llanw yn ei wneud yw gadael amddiffynfa fôr ichi. Felly, hyd yn oed os nad ydych yn ei hoffi, a’i fod yn dod i ben, mae'n rhoi amddiffynfa fôr ichi. Gyda chynhesu byd-eang, rydym yn disgwyl i lefelau'r môr godi. Felly, mae'n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.

Yr unig gwestiynau i'w hateb o hyd yw sut y byddwn yn sicrhau bod pysgod yn nofio’n ddiogel naill ai drwy'r tyrbinau neu o'u cwmpas nhw a chael trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru? Ym mis Rhagfyr 2016, datgelodd Cyfoeth Naturiol Cymru, ar eu tystiolaeth orau, y gallai'r morlyn llanw arfaethedig ym mae Abertawe gael effaith fawr ychwanegol ar bysgod mudol oherwydd anafiadau wrth iddynt nofio drwy'r tyrbinau. Ar ôl ymgynghoriad hir, amcangyfrifodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gellid lladd hyd at 21 y cant o eogiaid a 25 y cant o siwin, sy'n bysgod o bwysigrwydd cenedlaethol, bob blwyddyn wrth iddynt symud i ac o afonydd lleol, yn bennaf afon Tawe, afon Nedd ac afon Afan. Mae'r amcangyfrifon yn llawer uwch na'r niferoedd a ddarperir gan Tidal Lagoon (Swansea Bay) plc, sy'n rhoi nifer sydd tua degfed rhan o hynny.

Mae Tidal Lagoon (Swansea Bay) wedi datgan yn gyson y byddai'r effaith ar bysgodfeydd yn fach. Rydym yn gwybod bod gennym dyrbinau ar afonydd. Sut mae'n gweithio ar afonydd? Mae gennych chi bysgod mewn afonydd. Yn y Mississippi, mae gennych chi 129 o wahanol rywogaethau o bysgod ynddi. Mae gennych chi ddatblygwr ynni adnewyddadwy, y Free Flow Power Corporation, sy’n llwyddo i weithredu’r generadur tyrbin hydrocinetig cyntaf ar raddfa lawn yn afon Mississippi, ac sydd wedi bod yn gwneud hynny ers 2011. Rydym yn gwybod nad yw'r Mississippi yn ddi-bysgod. Felly, sut y maent wedi cyflawni hyn heb ddisbyddu niferoedd y pysgod yn ddifrifol?

Yr hyn sydd ei angen arnom yw morlyn llanw â ffordd i'r pysgod symud yn ddiogel a fydd yn ein harwain at greu ynni cynaliadwy, gan ganiatáu i Abertawe—[Torri ar draws.] Yn sicr.

Diolch am ildio, ond a ydych chi’n cydnabod mewn gwirionedd bod llawer o argaeau ac adeiladau eraill sy'n cynnwys bylchau i bysgod i ganiatáu i bysgod symud yn ddiogel i fyny ac i lawr yn y ffyrdd hynny? Mae hyn ychydig yn wahanol oherwydd tyrbinau yw’r rhain sy'n denu pysgod i mewn â symudiadau’r tonnau a’r llanw. Felly, nid yw’n union yr un darlun.

Rwy'n meddwl ei fod a dweud y gwir mewn afonydd oherwydd mae’r pysgod yn symud i fyny ac i lawr yr afon ac, i fynd i fyny ac i lawr yr afon, rhaid iddynt fynd drwy'r ardal lle mae'r tyrbinau. P'un a ydynt yn cynnwys bwlch i bysgod neu beth bynnag sydd ganddynt ar gyfer hynny—. Rwy’n credu, os oes angen bylchau i bysgod arnom, bod angen iddynt adeiladu bylchau i bysgod yn y morlyn llanw. Ond, yn dechnegol, nid wyf yn meddwl ei fod yn wahanol iawn. Nid wyf yn meddwl bod symud i fyny ac i lawr afon yn wahanol iawn, o'i gymharu â symud i fyny ac i lawr morlyn.

Rwy'n diweddu â dyfyniad gan adolygiad Hendry:

‘Gallwn naill ai sefyll yn ôl a gwylio gwledydd eraill yn achub y blaen (neu wylio adnodd byth yn cael ei ddefnyddio) neu gallwn benderfynu y dylem wneud yr hyn y mae'r Deyrnas Unedig wedi ei wneud mor dda yn y gorffennol—adnabod cyfle, datblygu’r dechnoleg a chreu diwydiant. Wrth i Brydain symud i mewn i fyd ar ôl Brexit, mae angen inni ofyn a ydym ni’n dymuno bod yn arweinwyr neu ddilynwyr.’

Rydym ni, yn UKIP, o blaid morlynnoedd llanw ac yn cydnabod bod gan y dechnoleg y potensial i gyflenwi llawer o anghenion ynni'r DU, lleihau ein hallyriadau carbon ac, yn bwysicaf oll, darparu sicrwydd ynni ac arallgyfeirio ynni. Roedd gen i, fodd bynnag, lawer o gwestiynau am sut y câi’r cynlluniau eu hariannu a sut y byddai cymunedau lleol a’r economi leol yn elwa o adeiladu a gweithredu’r morlynnoedd hyn. Mae'r gwaith a wnaethpwyd gan Charles Hendry a'i dîm wedi tawelu fy meddwl y gallwn gyflawni pris taro sydd, yn ogystal â bod yn deg i dalwyr biliau a threthdalwyr, hefyd yn fargen dda i’r DU ac i'r datblygwyr. Mae adolygiad Hendry wedi amlygu potensial y DU i ddod yn arweinydd byd-eang yn y dechnoleg hon a datblygu cadwyn gyflenwi i’r DU ar gyfer morlynnoedd llanw yn y dyfodol. Mae'n hanfodol bod Llywodraethau’r DU a Chymru, ynghyd â Tidal Lagoon Power, yn sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond rwy’n credu y dylem fynd ymhellach: Abertawe a fy rhanbarth i fydd yn braenaru ar gyfer y dechnoleg hon ac felly nhw ddylai fwynhau'r budd mwyaf o'r cynllun cychwynnol.

Yn ôl dogfennau Tidal Lagoon Power eu hunain, bydd angen 100,000 o dunelli o ddur i adeiladu morlyn Abertawe. Maent yn datgan y bydd y mwyafrif yn dod o'r DU; fodd bynnag, maent wedi penodi Andritz Hydro fel eu prif bartner datblygu. Mae Andritz Hydro yn rhan o'r grŵp Andritz, sy'n cynnwys Andritz Metals sy'n gweithgynhyrchu cynnyrch dur yn Ffrainc, yr Almaen a'r Iseldiroedd. Mae arnom angen gwarant o haearn bwrw, os gwnewch chi esgusodi’r gair mwys, y bydd mwyafrif y dur ar gyfer y prosiect yn Abertawe yn cael ei gynhyrchu ym Mhort Talbot. Mae gennym waith dur ar garreg ddrws y prosiect, felly pam y dylid cludo'r dur i mewn o rannau eraill o'r DU neu Ewrop? Mae Tidal Lagoon Power hefyd yn nodi y bydd angen 5 miliwn tunnell o graig ar gyfer y prosiect. Maent yn datgan bod un o'u prif randdeiliaid wedi prynu chwarel yng Nghernyw, felly unwaith eto nid yw Cymru yn elwa. Mae Gorllewin De Cymru wedi bod yn cyflenwi ynni i weddill y DU ers y chwyldro diwydiannol ar ffurf glo, yna pŵer gwynt a nawr ynni llanw. Dylem fod yn un o’r rhanbarthau cyfoethocaf yn y DU, yn hytrach nag un o'r tlotaf. A yw hi'n ormod i ofyn bod fy rhanbarth i’n mwynhau’r budd mwyaf o'r chwyldro llanw hwn? Rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU a Tidal Lagoon plc mai Abertawe, Gorllewin De Cymru a Chymru yn ei chyfanrwydd fydd buddiolwyr mwyaf y morlynnoedd llanw hyn.

Mae cwestiynau difrifol o hyd hefyd am yr effaith ar bysgodfeydd yn rhanbarth bae Abertawe ac o’i amgylch. Yn eu diweddariad mwyaf diweddar, mae Tidal Lagoon Power wedi datgan nad yw wedi bod yn bosibl eto i ddod i gytundeb ar raddfa’r effeithiau tebygol ar bysgod ym mae Abertawe. Mae angen datrys hyn cyn gynted â phosibl ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda grwpiau genweirio a physgota ym mae Abertawe i sicrhau nad yw’r morlyn llanw yn effeithio ar eu bywoliaeth. Cyn belled ag y gallwn sicrhau bod fy rhanbarth yn elwa o forlyn llanw ac y gallwn warantu na fydd dim effeithiau amgylcheddol mawr o adeiladu a gweithredu’r morlyn, rwy’n hapus i'w gefnogi, ynghyd â'm plaid, a byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn ger ein bron heddiw. Diolch yn fawr, Lywydd.

Hoffwn ganolbwyntio’r rhan fwyaf o fy sylwadau ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, ond a gaf ddechrau drwy longyfarch Charles Hendry ar ei adroddiad? Yn rhy aml, mae adolygiadau o'r math hwn yn eu colli eu hunain mewn amwysedd a ffwdanu, heb ddod i unrhyw gasgliadau clir ond yn ychwanegu at y niwl ac at yr oedi, ond nid hwn. Dyma’r union fodel o'r hyn y dylai adolygiad gweddus ei wneud. Mae wedi’i ystyried yn ofalus, mae wedi’i gyflwyno ar ôl ystyriaeth ddyledus ond heb oedi gormodol, ac mae ei gasgliadau a’i argymhellion yn gryno a phwrpasol: dylai Llywodraeth y DU gefnogi morlyn llanw Abertawe yn bendant ac yn brydlon fel cynllun braenaru—y cynllun braenaru—i archwilio'r potensial a'r heriau sy’n gysylltiedig â chyflwyno mwy o forlynnoedd llanw. Yng ngeiriau Charles, mae’n ‘bolisi dim-gresynu’ i’r Llywodraeth, neu fel yr wyf fi a llawer o bobl eraill wedi ei ddweud mewn termau mwy llafar, mae'n benderfyniad hawdd. Ond dewch imi ar y dechrau un: does dim achos dros ddiystyru ystyriaethau amgylcheddol, doed a ddelo. Rhaid gweithio drwyddynt i gyrraedd penderfyniad boddhaol. Ni allwn drin yn ysgafn y materion a godwyd gan y rheini, gan gynnwys fi fy hun, sydd yn gywir yn rhoi'r pwys mwyaf ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy’n aml yn arbennig ac yn unigryw, ac ecoleg a hydroleg ardal leol afon Hafren a môr Hafren ei hun.

Os bydd, fel y mae Charles wedi ei nodi, rhaglen genedlaethol ehangach o ddatblygu morlynnoedd llanw, mae'n gwneud synnwyr llwyr y dylai fod yn seiliedig ar ymagwedd ofodol strategol briodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cynllunio ac asesu, neu yng ngeiriau Ysgrifennydd y Cabinet, cynllun morol. Ac mae dull polisi cenedlaethol, wrth gwrs—mae'n synhwyrol, mae'n ddymunol, mae hyd yn oed yn hanfodol i barhau i’w cyflwyno'n ehangach fel yna. Ac, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar sut yr ydym yn ymdrin â’r mesurau diogelwch uchaf yn y cyfarwyddebau cynefinoedd yn ogystal â'r gyfarwyddeb fframwaith dŵr, ac a yw rhanddirymiadau yn angenrheidiol, yn ddymunol neu hyd yn oed yn bosibl. Mae angen archwilio llawer mwy cyn eu cyflwyno'n ehangach fel yna.

Ond rydym hefyd yn edrych ar yr agweddau eraill: y peryglon llifogydd, yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, y newidiadau i gynefinoedd a’r dadleoliad, colli cynefin rhynglanwol a'r effeithiau ar rywogaethau ymfudol gwerthfawr, ar ansawdd dŵr a materion pysgodfeydd, a newidiadau hydrodynamig a morffodynamig i’r amgylchedd ffisegol, a llawer mwy cyn eu cyflwyno'n ehangach. Ar gyfer rhaglen ehangach a’u cyflwyno'n ehangach, mae’n rhaid ystyried hyn oll, ac rwy'n awyddus i chwarae fy rhan wrth graffu ar gyflwyniad o'r fath.

Ond ar gyfer y morlyn yn Abertawe, a ddisgrifir yn adolygiad Hendry fel cynllun braenaru, dim ond tri chlo sydd ar ôl. Ac rwy’n gobeithio, gydag ewyllys da, yn ogystal â diwydrwydd dyladwy ar bob ochr, y gellir agor y tri chlo hynny ar yr un pryd ac yn foddhaol, ac yn fuan. Y ddau gyntaf yw’r drwydded forol a'r gorchymyn caniatâd datblygu, sydd yn ddwy broses ar wahân yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, ond y gellir eu gwneud ar y cyd. Felly, byddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am sicrwydd y bydd hyn yn digwydd, ac na fydd rhaid inni aros am gyfnodau dilyniannol a fydd yn ychwanegu at yr oedi. A'r mater ag angen sylw ar gyfer y drwydded forol yw’r effaith ar bysgod, ac anallu’r cwmni, hyd yn hyn, i fodloni gwasanaeth caniatáu Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, ar ôl llawer o waith, rydym ar ddeall gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn eu briff—ac rwy’n dyfynnu—‘bydd yr ymgeisydd yn gwneud cyflwyniad mwy manwl i'r gwasanaeth caniatáu maes o law, ac i ategu datblygu cyflwyniad, mae arbenigwyr technegol CEFAS a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno i ddarparu cyngor ychwanegol. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac unwaith y caiff y gwaith hwn ei gwblhau, yna bydd angen cyflwyniad gan TLSB, y morlyn, i'r gwasanaeth caniatáu ar gyfer yr adolygiad.’ Maent yn mynd ymlaen: 'Yna, bydd rhaid cynnal ymgynghoriad i roi sail i’r asesiadau technegol y mae’n ofyniad cyfreithiol bod y gwasanaeth caniatáu yn eu cynnal. Dim ond ar ôl bodloni'r holl ofynion deddfwriaethol y gellir gwneud penderfyniad am y drwydded forol.’ Yn y cyfamser: 'Rydym hefyd yn deall bod y gorchymyn caniatâd datblygu yn cynnwys 42 o ofynion ar gyfer amodau’r drwydded, y bydd angen i awdurdodau cynllunio lleol—ACLlau—eu rhyddhau cyn y gallai gwaith adeiladu gychwyn. O'r rhain, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghorai statudol ar 15.’

Nawr, rhaid cwblhau’r materion hyn yn ddyfal ac yn briodol, ond gallwn hefyd wneud hyn â diwydrwydd dyladwy a heb oedi dyledus. Rwy'n annog yn gryf y dylai’r ddau Ysgrifennydd Cabinet weithio gyda'i gilydd ar y mater hwn—a gyda'u swyddogion; dod â nhw at ei gilydd, dod â Chyfoeth Naturiol Cymru at ei gilydd—ac annog a dwyn perswâd a mynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru ac ACLlau a phawb sy'n ymwneud â’r broses yn sicrhau bod penderfyniad cyflym ar y materion hyn yn brif flaenoriaeth.

Gan dybio y bydd Ystâd y Goron am weld y cynllun braenaru’n mynd yn ei flaen, mae hynny'n ein gadael gyda'r trydydd clo a'r olaf, ac mae allweddi hwn gan Lywodraeth y DU ar ffurf cymorth ariannol drwy'r contract ar gyfer gwahaniaeth, neu’r hyn a elwir yn gyffredin yn bris taro. Gallai arddangosfa drawsbleidiol o gefnogaeth unedig yma heddiw, ynghyd â’r gefnogaeth ehangach gan y gymuned fusnes, y gymuned addysg uwch, y sector ynni cynaliadwy ac eraill, gan gynnwys y llythyr hwnnw gan dros 100 o ASau trawsbleidiol heddiw, fod yn olew i’r clo a chaniatáu i'r allwedd droi ychydig yn haws ac yn llawer cynt.

Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i siarad o blaid y cynnig hwn heddiw. Mae morlynnoedd llanw yn cynnig cyfle i ddatblygu polisi ynni glân, modern, hirdymor sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy, gyda rhychwantau oes rhagamcanol o leiaf 120 mlynedd. Dyna 120 mlynedd o gynhyrchu ynni glân a gwyrdd, â’r cyfrifiad y gallai'r rhwydwaith o forlynnoedd llanw o amgylch yr arfordir gynhyrchu digon o drydan i fodloni rhagamcan o 8 y cant o anghenion ynni'r DU. Yn bwysig, mae datblygu morlynnoedd llanw yn ein galluogi i ddatblygu diwydiant newydd yma yn y DU, a fydd yn creu’r posibilrwydd o adfywio economaidd ehangach, ac yma yng Nghymru, gallwn gymryd yr awenau byd-eang go iawn.

Rwy’n gwybod bod y Cynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi cymeradwyo'r cynlluniau o'r safbwynt hwn, ac mae'n amlwg gweld pam wrth ystyried graddfa bosibl y manteision. Os bydd y cynlluniau'n cael eu gwireddu'n llawn, gallem fod yn edrych ar rwydwaith o chwe morlyn llanw, yr amcangyfrifir y byddant yn golygu buddsoddiad o £40 biliwn, gan greu bron 6,500 o swyddi hirdymor a chynhyrchu bron i £3 biliwn o GYC yn flynyddol. Ond ni fyddai’r manteision economaidd yn dod i ben yno. Byddai cyfleoedd ychwanegol o ran gwaith a’r economi yn cael eu creu yn ystod y gwaith o adeiladu’r morlynnoedd llanw, a’r amcangyfrif yw y byddai’r gadwyn gyflenwi, fel y mae siaradwyr eraill wedi cyfeirio ato heddiw, ar draws y pedwar morlyn arfaethedig yng Nghymru yn cynnwys miloedd lawer o swyddi, gan gynnwys degau o filoedd ym meysydd adeiladu a gweithgynhyrchu.

A dyma lle mae etholaethau fel fy un i, yn hen Gymoedd y de, yn gallu elwa go iawn. Gallai cynlluniau ar gyfer morlynnoedd llanw yn Abertawe ac yn y pen draw yng Nghaerdydd a Chasnewydd greu cyfleoedd gwaith newydd o fewn pellter cymudo hawdd, ond o fewn y gadwyn gyflenwi mae yna hefyd gyfleoedd i fusnesau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes mewn ardaloedd fel Cwm Cynon. Byddwn yn gobeithio bod rhannu’r manteision economaidd ehangach hyn yn ystyriaeth allweddol o fewn unrhyw gynllun yn y dyfodol, a hefyd eu bod yn ffurfio rhan o strategaeth newydd, ffres ar gyfer cynnal a chreu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd da yn y sector gweithgynhyrchu.

Unwaith eto, mae cyfleoedd penodol i Gymru yma: mae 11.6 y cant o bobl Cymru wedi’u cyflogi mewn gweithgynhyrchu, y gydradd ail lefel uchaf yn y DU. Fel y mae tystiolaeth o 2015 a roddwyd i'r grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol yn ei ddangos, mae’r rhan fwyaf o’r swyddi hyn wedi’u lleoli yn y Cymoedd; mae gan fy etholaeth ddwywaith a hanner cyfartaledd y DU o swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Fel y mae’r cynnig yn ei ddatgan, dylem geisio sicrhau’r budd economaidd mwyaf posibl o'r morlyn llanw arfaethedig ym mae Abertawe a'i dechnolegau cysylltiedig, ond byddwn yn gobeithio y caiff y budd hwn ei rannu'n deg ledled Cymru a’i ddefnyddio fel sbardun i wella perfformiad economaidd mewn ardaloedd fel fy un i.

Ar gyfer fy mhwynt olaf, fodd bynnag, rwy’n mynd i ddatgan rhywfaint o rybudd. Dri mis yn ôl yma yn y Siambr hon buom yn trafod yr adroddiad ‘Sefyllfa Natur’ diweddaraf gan yr RSPB. Roedd yr adroddiad yn dweud wrthym bod 34 y cant o rywogaethau fertebraidd morol a 38 y cant o rywogaethau planhigol morol wedi gweld gostyngiad yn eu niferoedd yn ôl tueddiadau data tymor hir. Ar gyfer infertebratau morol, roedd y gostyngiad tymor hir yn fwy o bryder byth; roedd hyn yn effeithio ar dair o bob pedair rhywogaeth. Mae'r dystiolaeth hon yn tynnu sylw at freuder ein hecosystemau morol, ac yn golygu bod yn rhaid inni fod yn sensitif yn y modd yr ydym yn ymdrin â'r mater hwn.

Rwy’n croesawu dull gweithredu Llywodraeth Cymru, sydd am briodi pob agwedd ar ei pholisi morol mewn cynllun morol cenedlaethol sy'n cydbwyso potensial economaidd dyfroedd Cymru â'n dyletswydd i’w diogelu a’u hamddiffyn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y manylion am hyn pan gânt eu cyhoeddi maes o law.

Bydd y cynnig o adolygiad Hendry, sy’n galw am ddatblygu’r morlyn llanw ym mae Abertawe fel prosiect braenaru, yn ein galluogi i werthuso technoleg a chost-effeithiolrwydd y prosiect. Yn bwysig, byddai dull gweithredu o'r fath hefyd yn ein galluogi i astudio effaith morlyn llanw ar ei gynefin naturiol ac ar y rhywogaethau sy'n byw ynddo, gan fynd rywfaint o’r ffordd at ddiwallu pryderon dilys grwpiau amgylcheddol.

Mae gan y prosiect morlyn llanw y cyfle i newid y ffordd yr ydym yn cynhyrchu ynni. Mae ganddo’r cyfle i drawsnewid, bywiogi ac ail-gydbwyso ein heconomi, a gyda'r cyfle a gyflwynir gan ddefnyddio morlyn llanw bae Abertawe fel cynllun braenaru, mae gennym y cyfle i wneud hyn yn iawn. Rwy’n gobeithio y bydd consensws Cymru y tu ôl i’r ddadl hon heddiw yn darparu'r catalydd fel y gall Llywodraeth y DU nawr symud y prosiect yn ei flaen. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl—Ken Skates.

Member
Ken Skates 18:29:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Lywydd. A gaf ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol iawn at y ddadl bwysig hon heddiw? Mae'n beth prin bod gennym gytundeb ar draws y Siambr dros egwyddorion llawer o brosiectau ynni, o ystyried natur ddadleuol ynni gwynt ar y tir ac ynni niwclear, ond rwy’n meddwl bod gennym gytundeb trawsbleidiol cryf ar y mater hwn. Fel y dywedodd fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wrth agor y ddadl hon, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad Hendry, ac rwy’n rhannu teimladau pobl eraill sy’n gweld hwn fel ymchwiliad ac adroddiad rhagorol. Mae'r broses wedi cael ei chynnal yn y ffordd orau bosibl gan Charles Hendry.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

O safbwynt economaidd, rwy’n gweld y potensial enfawr o'n blaenau. Rwy’n cydnabod sut y gallai prosiectau ynni morol fod yn gatalydd i sicrhau buddion etifeddol hirbarhaol i’r economi, ac rwy’n deall sut y gallent ddarparu’r cyfle am swyddi a buddsoddiad mewn economïau lleol a rhanbarthol ledled Cymru—yr economïau hynny y mae llawer o’r Aelodau wedi sôn amdanynt ac yn eu cynrychioli. Rwyf hefyd yn gweld sut y gallent ein helpu i newid i economi carbon isel. Ac rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn rhoi Cymru ar flaen y gad yn y sector cyffrous hwn, yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran technolegau llanw newydd, cyn belled, wrth gwrs, â bod y prosiectau hynny'n cael y gymeradwyaeth ofynnol.

Nawr, rydym eisoes yn cefnogi busnesau i helpu Cymru i achub ar y cyfle i ddod yn arweinydd ym maes datblygu prosiectau morlynnoedd llanw, i sicrhau etifeddiaeth barhaol i ddatblygu diwydiant cynaliadwy i Gymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nawr, mae un maes gweithgaredd a nodwyd yn benodol yn adroddiad Charles Hendry yn ymwneud â'r prosiectau sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru, yn arbennig y prosiect braenaru, ac rydym yn cytuno â'r dull a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer prosiect braenaru ar raddfa fach cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl, er mwyn deall effeithiau datblygiadau o'r fath. Ac rydym yn sicr yn croesawu arsylwad Charles Hendry o'r achos cryf iawn o blaid dewis morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe i fod y prosiect braenaru graddfa fach hwnnw, gan mai hwn yw’r unig brosiect ar hyn o bryd sydd mewn cyflwr paratoi datblygedig sydd ei angen i ddod yn gynllun braenaru yn y dyfodol agos. Ond mae'n amlwg, cyn y gall y prosiect hwnnw fynd yn ei flaen, bod angen sicrhau nifer o gymeradwyaethau a chaniatadau. Mae'r rheini wedi cael eu hamlinellu gan Aelodau heddiw ac maent yn cynnwys y pris taro, trwydded forol, a hefyd brydles gwely'r môr gan Ystâd y Goron. Hefyd, ceir mater datgomisiynu diwedd oes, sydd heb ei gytuno rhwng y cwmni a Llywodraeth y DU hyd yn hyn. Mae fy swyddogion wedi bod yn cyfarfod â Tidal Lagoon Power Ltd ar eu prosiect arfaethedig yn Abertawe ers nifer o flynyddoedd ar draws ystod o feysydd i sicrhau bod Cymru a busnesau Cymru a’r economïau yr ydym yn eu cynrychioli yn gallu cael y budd mwyaf o'r prosiect. Yn y pen draw, mae'r cwmni’n amcangyfrif y bydd eu fflyd arfaethedig o forlynnoedd llanw’n cyfrannu £27 biliwn at CMC y DU, a £3 biliwn y flwyddyn unwaith y byddant ar waith, ac y byddant yn bodloni hyd at 8 y cant o'r galw am drydan yn y DU.

Maes arall a amlygwyd yn benodol yn adroddiad Hendry yw cydnabyddiaeth o'r ymagwedd integredig yr ydym wedi’i dangos at sgiliau a datblygu'r gadwyn gyflenwi i gefnogi'r sector pwysig hwn. Er enghraifft, rydym wedi buddsoddi yn yr adroddiadau galw a chyflenwad sgiliau ar gyfer datblygiad morlyn arfaethedig bae Abertawe. Rydym wedi hwyluso ymgysylltiad cynnar â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys, yn hanfodol, y partneriaethau sgiliau a rhoi mynediad cynnar iddynt at adroddiadau gwybodaeth y farchnad lafur, sydd wedi eu galluogi i fod yn ymwybodol o anghenion sgiliau’r prosiect.

Hoffwn ei gwneud yn glir iawn mai bwriad Llywodraeth Cymru yw gwneud popeth o fewn ei gallu i fanteisio ar y cyfle sydd o'n blaenau. Mae Cymru, fel y mae llawer o Aelodau wedi ei nodi heddiw, yn wlad llanw, a'r flwyddyn nesaf, rydym wedi ei dynodi hi’n Flwyddyn y Môr. Hoffem i Gymru gael ei dathlu am ei harfordir anhygoel, ond hoffem hefyd iddi fod yn arweinydd byd-eang mewn prosiectau ynni morol. Tra bo Llywodraeth y DU yn ystyried canfyddiadau adroddiad Hendry, bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu’n gyson â Tidal Lagoon Power ac, yn wir, datblygwyr morlynnoedd llanw posibl eraill er mwyn sicrhau, pe bai’r prosiect yn cael y cymeradwyaethau a'r caniatadau angenrheidiol, y bydd busnesau Cymru, ac yn benodol economïau lleol Cymru, yn cael y budd mwyaf posibl i’n gwlad.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na? Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. 9. Dadl: Setliad yr Heddlu 2017-18

Rydym yn symud ymlaen at y ddadl olaf y prynhawn yma, sef dadl am setliad yr heddlu ar gyfer 2017-18, ac rwyf yn galw ar Jane Hutt i gynnig y cynnig—Jane.

Cynnig NDM6235 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-2018 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Ddirprwy Lywydd, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, rwyf heddiw yn cyflwyno i'r Cynulliad, iddynt ei gymeradwyo, fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2017-18. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd, sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi’u datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei bennu a’i sbarduno gan y Swyddfa Gartref. Felly, mae'r dull a sefydlwyd i bennu a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru wedi bod yn seiliedig ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad terfynol setliad yr heddlu ar 1 Chwefror, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2017-18 yn £350 miliwn. Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn, drwy'r grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu, yn £139 miliwn a dyma’r arian y mae gofyn ichi ei gymeradwyo heddiw.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu dull terfyn isaf ar ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2017-18, y bydd comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr i gyd yn cael yr un gostyngiad canrannol o 1.4 y cant yn eu cyllid refeniw craidd, o'i gymharu â 2016-17. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn darparu grant atodol, sef cyfanswm o £5.9 miliwn, er mwyn sicrhau bod y heddlu Dyfed-Powys a heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y terfyn isaf.

Bydd yr aelodau'n cofio, fel rhan o adolygiad gwariant 2015, bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarparu, drwy gydol cyfnod yr adolygiad o wariant, cyllid arian parod cyffredinol ar gyfer pob comisiynydd heddlu a throseddu, o'i gymharu â 2015-16. Mae'r setliad ar gyfer 2017-18 yn cynnal y lefel arfaethedig o gyllid, ond yn tybio bod y Comisiynwyr yn cynyddu eu praesept treth gyngor 2 y cant yn 2016-17 ac y byddent yn gwneud hynny eto yn 2017-18.

Mae'r dreth gyngor yn fater datganoledig a chyfrifoldeb y Comisiynwyr yw gosod eu praeseptau. Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain am gynyddu’r dreth gyngor ac nid ydynt yn ddarostyngedig i’r terfynau sy'n gymwys yn Lloegr. Wrth fewnosod eu helfen o’r dreth gyngor, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob comisiynydd heddlu a throseddu weithredu mewn modd rhesymol o ystyried y pwysau sydd ar aelwydydd sy’n wynebu caledi.

Rydym yn deall bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynwyr a phrif gwnstabliaid i sicrhau y rheolir gostyngiadau cyllido mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ar gyfer blwyddyn arall o gyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a gafodd eu recriwtio o dan y rhaglen flaenorol ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth. Mae swm o £16.8 miliwn wedi’i glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i barhau i roi’r ymrwymiad hwn. Mae’r cyflenwad llawn o swyddogion wedi cael ei ddefnyddio ers mis Hydref 2013 ac maent yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Rhan hanfodol o'u gwaith yw mynd ati i ymgysylltu â phartneriaid a sefydliadau cymunedol i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgareddau troseddol cysylltiedig, ond maent yn gwneud cyfraniad pwysig iawn at wariant ataliol, gan weithio mewn partneriaeth â chymunedau ac awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â phedwar heddlu Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, hefyd wedi cyflwyno’r adnodd ychwanegol hwn ac yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng Nghymru.

I edrych ymlaen at drefniadau ariannu yn y dyfodol, yn ddiweddar, mae'r Swyddfa Gartref wedi ailgychwyn adolygiad o fformiwla ariannu'r heddlu, wedi iddo gael ei atal dros dro yn 2015, ar ôl i wallau ystadegol gael eu darganfod yn y deunydd ymgynghori. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y broses hon ac yn gweithio'n agos gyda Chomisiynwyr Cymru i sicrhau bod yr adolygiad yn rhoi ystyriaeth lawn i safbwyntiau Llywodraeth Cymru ac i drefniadau ariannu polisi a phlismona yng Nghymru.

Ddirprwy Lywydd, i ddychwelyd at ddiben dadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

Mae'r gostyngiad cyllid 1.4 y cant yn setliad heddlu 2017-18 ar draws pob heddlu yng Nghymru a Lloegr yn dod ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau ers 2010. Rydym wedi gweld gostyngiadau termau real o 26 y cant mewn cyllid i heddluoedd yng Nghymru. Mae heddluoedd yng Nghymru wedi crebachu. Yn fy ardal i, mae gweithlu Heddlu Gwent wedi lleihau 14 y cant ers 2010. Mae datganoli ffracsiynol plismona, lle mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyfrannu cyfran fach o gyllid heddluoedd yng Nghymru, ond heb gael y grym i bennu blaenoriaethau na strategaeth, yn gyfaddawd anfoddhaol. San Steffan sy’n parhau i fod â’r rheolaeth bennaf dros bolisi. Ac mae'n siomedig ein bod wedi gweld Bil Cymru arall eto fyth yn mynd a dod heb ddatganoli pwerau dros blismona yn llawn i'r wlad hon—o hyd, y wlad olaf yn yr ynysoedd heb fod â rheolaeth dros blismona. Nid yn unig y byddai hyn o’r diwedd yn rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru i lunio polisi sy'n ymateb i anghenion unigryw cymunedau Cymru, a hefyd i’w gydlynu â swyddogaethau datganoledig eraill, byddai hefyd yn galluogi gwell cydweithio ar draws sectorau.

Byddai datganoli plismona hefyd yn gadael heddluoedd Cymru yn well eu byd. Oedodd Llywodraeth y DU cyn cyflwyno fformiwla ariannu newydd ar gyfer yr heddlu ar ôl canfod gwall ystadegol a fyddai wedi gadael Cymru £32 miliwn yn waeth eu byd. Byddai fformiwla newydd sy’n rhoi gwell adlewyrchiad o dueddiadau poblogaeth Cymru yn arwain at £25 miliwn ychwanegol ar gyfer heddluoedd Cymru. Felly, nid dim ond mater o egwyddor neu bragmatiaeth polisi yw datganoli plismona, ond mater o bragmatiaeth ariannol hefyd. Byddai datganoli plismona hefyd yn diogelu heddluoedd Cymru rhag rhaglen barhaus o doriadau San Steffan, ac yn rhoi'r grym i Lywodraeth Cymru i bennu blaenoriaethau plismona sydd wedi'u teilwra i anghenion Cymru.

Wrth i’r Swyddfa Gartref barhau i droshaenu dull terfyn isaf ar eu fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion, clywsom y bydd yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael yr un gostyngiad 1.4 y cant yn 2017-18. Rydym yn nodi bod y setliad tair ffordd ar gyfer cyllid yr heddlu yng Nghymru, sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor, yn dilyn ymgynghoriad â’r pedwar heddlu yng Nghymru, a bod £349.9 miliwn wedi’i ddyrannu i'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Wedi i Ffederasiwn Heddlu De Cymru ddatgan y llynedd bod y bwlch rhwng eu praesept treth gyngor nhw a heddluoedd eraill Cymru bellach wedi ei gau, bydd hyn yn cyflawni cynnydd yn y swm a delir tuag at wasanaethau heddlu gan dalwyr y dreth gyngor o 3.79 y cant yn y gogledd, 3.99 y cant yng Ngwent, 4 y cant yn y de, ond 6.9 y cant yn Nyfed-Powys.

Dywedir bod y ffigur olaf hwn yn adlewyrchu'r rhewi cyllido blaenorol yn Nyfed-Powys, lle dywedodd y comisiynydd heddlu a throseddu a oedd yn gadael ei fod wedi cyflwyno mwy o swyddogion ar rowndiau gwledig am fwy o amser, am lai o arian. Mae gwefannau Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Caerfyrddin yn nodi bod lefel troseddu yn Nyfed-Powys yn isel o'i gymharu ag ardaloedd heddluoedd eraill, sy'n ei gwneud y lle mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae'r cyngor yn ychwanegu, ‘Mae'n rhaid inni beidio â llaesu dwylo’. Er ein bod felly yn cydnabod pryder am faint y cynnydd yn eu praesept, rydym felly hefyd yn cydnabod bod angen diogelu lefel y gwasanaethau.

O dan Lafur, roedd ein heddlu at eu clustiau mewn gwaith papur. Mae Llywodraeth y DU wedi lleihau biwrocratiaeth a rhoi dim ond un targed syml i’r heddlu—lleihau troseddu. Fel y dywedais y llynedd, roedd troseddu wedi gostwng dros 30 y cant ers 2010 yn ôl yr arolwg troseddu annibynnol ar gyfer Cymru a Lloegr. Er bod cyfanswm y troseddu a gofnodwyd gan yr heddlu ledled Cymru, ac eithrio twyll, i fyny 6 y cant yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2016, canfu asesiad gan Awdurdod Ystadegau y DU nad oedd data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn bodloni’r safon ofynnol, ac nad ydynt yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn fesur dibynadwy. Ar y llaw arall, cadarnhawyd ym mis Rhagfyr 2016 bod data o arolwg troseddu Cymru a Lloegr wedi cadw ei fathodyn ystadegau cenedlaethol. Dangosodd y data hyn tua 6.2 miliwn o achosion o droseddu yn ystod y flwyddyn yn gorffen Medi 2016, gostyngiad 6 y cant ar y flwyddyn flaenorol.

Yn y gogledd, bydd 17 o swyddogion heddlu ychwanegol a chwe aelod ychwanegol o staff yn cael eu recriwtio. Mewn briff gan Heddlu Gogledd Cymru y mis diwethaf, clywsom, er bod rhaid iddynt gyflwyno arbedion cynlluniedig pellach o £7.3 miliwn hyd at 2020, y byddai rhoi argymhellion eu hadolygiad effeithlonrwydd ar waith yn cyflwyno dyraniadau adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn gwella ansawdd y gwasanaeth ac yn buddsoddi £1.2 miliwn mewn pwysau twf. Gwnaethant hefyd dynnu sylw at ganfyddiadau arolwg troseddu o lai o risg o droseddu personol a throseddu yn y cartref yn y rhanbarth a chynnydd yn nifer y cwnstabliaid arbennig, gwirfoddolwyr arbennig yr heddlu a chadetiaid heddlu gwirfoddol.

Mae'r Swyddfa Gartref yn adolygu fformiwla ariannu'r heddlu ar ôl i gynigion diwygiedig yn 2015 gael eu hatal. Byddai'r rhain wedi golygu y byddai’r gyfran o'r swm a ddosberthir gan y fformiwla i bedwar heddlu Cymru yn gostwng 9 y cant, ac y byddai gogledd Cymru yn cael 0.88 y cant o'r swm a ddosberthir i'r 43 o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr. Maent nawr yn cael 1.03 y cant; mae’r swm a dderbynnir y pen yn eu rhoi yn safle 23 o’r 43 wrth ystyried grant etifeddiaeth y dreth gyngor.

Diolch i bolisi Llywodraeth Cymru, mae dros £0.5 biliwn o bunnoedd mewn grantiau etifeddiaeth y dreth gyngor sy’n cael ei ddarparu i heddluoedd yn Lloegr yn 2017-18 ond na fydd ar gael i heddluoedd yng Nghymru. Rwyf wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i bwysleisio bod fformiwla ariannu'r heddlu yn rhy ddibynnol ar nifer bach o fesurau i adlewyrchu anghenion cymharol y 43 o heddluoedd ac na ddylid anwybyddu amddifadedd ac adfyd gwledig.

Er bod Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud wrthym y dylai heddluoedd yng Nghymru, fel yn Lloegr, allu cael mynediad at yr ardoll prentisiaethau drwy eu cyfrif digidol newydd, a all wedyn gyfrannu at y Coleg Plismona, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod hyn. Dywedodd comisiynydd heddlu a throseddu’r gogledd wrthyf y mis hwn y byddai hyn yn costio dros £2 filiwn y flwyddyn i heddluoedd Cymru.

Pan heriais y Gweinidog sgiliau ynglŷn â hyn yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrthym y byddai Llywodraeth Cymru yn taro trefniant grant neu gontract yn lle hynny, ond nad oedd y comisiynwyr yn ôl pob tebyg yn gwybod union fanylion hynny. Nid yw hynny'n llywodraethu da. Hefyd, rhoddodd Heddlu Gogledd Cymru fanylion am eu cydweithrediad â heddluoedd Glannau Mersi a Swydd Gaer, sy’n cydnabod realiti gweithredol ac yn atgyfnerthu pam byddai datganoli heddlu yn ddrwg i Gymru.

Diolch, Weinidog, am y setliad arfaethedig yr ydych wedi’i gyflwyno i'r Siambr heddiw. Yn gyffredinol, rydyn ni yn UKIP yn rhannu awydd y cyhoedd yn gyffredinol i gynnal niferoedd swyddogion heddlu, yn enwedig swyddogion ar y stryd. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod bod canfyddiad y cyhoedd o droseddu ac atal troseddau yn ffactor pwysig wrth gadw ymddiriedaeth y cyhoedd a chadw cymunedau cydlynol. Felly, rydym yn croesawu niferoedd swyddogion gweladwy ac yn croesawu'r ymrwymiad i gadw 500 PCSO ychwanegol ar y stryd yng Nghymru. Yr hyn y mae angen inni geisio ei gyflawni, cyn belled ag y gallwn, yw rhyddhau swyddogion rhag gweinyddu a chaniatáu iddynt fod yn rhan o atal a chanfod troseddau.

Yn ardal Heddlu Gwent, bu datblygiad i'w groesawu yn ddiweddar, sef creu un orsaf gwasanaethau brys, sy’n dod â’r gwasanaethau heddlu, tân ac ambiwlans ynghyd yn Abertyleri. Mae'r ganolfan yn gwasanaethu holl ardal Blaenau Gwent. Rydym wedi trafod cydleoli yn y gwasanaeth iechyd a gallai hyn fod yn enghraifft dda o gydleoli yn y gwasanaethau brys. Felly, yn gyffredinol, hoffem weld gwario llai ar weinyddu a mwy ar wasanaethau rheng flaen. Rwy’n sylweddoli nad yw plismona’n fater datganoledig, felly mae hynny’n cyfyngu ar ba mor bell y gallwn ddylanwadu ar y pethau hyn, fel yr amlinellodd Steffan Lewis yn gynharach, ond rwy’n teimlo bod y ddadl am blismona datganoledig ar gyfer diwrnod arall. Yn y cyfamser, rydym yn cefnogi setliad yr heddlu heddiw.

Diolch yn fawr iawn ac rwy’n galw ar Jane Hutt i ymateb i'r ddadl. Jane.

Diolch yn fawr iawn. Fel yr ydym wedi’i amlinellu yn ein rhaglen lywodraethu 'Symud Cymru Ymlaen', mae diogelwch cymunedol yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon. Ydy, mae'r setliad yn un heriol arall i'r heddlu ac yn un llymach nag yr oedd y Comisiynwyr yn ei ddisgwyl. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r Comisiynwyr a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod y gostyngiadau hynny’n cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau’r effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona rheng flaen yng Nghymru.

Diolch i Steffan Lewis am ei sylwadau. Gan nad yw cyllid yr heddlu wedi'i ddatganoli’n llwyr, y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am bennu a llywio’r cynlluniau gwariant cyffredinol ar gyfer yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Rydym wedi gwneud yn glir ein bod o blaid datganoli plismona ac mae'n bwysig cofnodi hynny heddiw, oherwydd plismona yw'r unig wasanaeth brys nad yw wedi’i ddatganoli. Pe baem yn datrys hyn, byddai'n galluogi cydweithio cryfach â’r gwasanaethau brys eraill yng Nghymru. Dywedodd Gareth Bennett—[Torri ar draws.]

A allech gadarnhau ai dyna yw polisi'r Blaid Lafur yn Llundain yn ogystal—datganoli plismona?

Yr hyn yr oeddwn yn mynd i fynd ymlaen i’w ddweud yw ei fod hefyd yn un o argymhellion comisiwn Silk, a oedd yn cynnwys y Ceidwadwyr Cymreig yn ogystal â'r holl bartïon eraill. Ond rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn gweld hyn o safbwynt ymarferol o ran cydweithio. Byddai datganoli plismona, wrth gwrs, hefyd yn ein galluogi i sicrhau bod deddfwriaeth bellach yn y dyfodol sy'n effeithio ar yr heddlu a diogelwch cymunedol wedi’i theilwra’n briodol i amgylchiadau Cymru, sef y pwynt yr oedd Steffan Lewis yn ei wneud.

Rwy'n cydnabod bod Steffan Lewis a Mark Isherwood ill dau wedi cyfeirio at adolygiad y fformiwla ariannu, ac mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn hyn. Y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am fformiwla graidd dyrannu grantiau yr heddlu a'r goblygiadau i ddosbarthu y gallai’r fformiwla honno eu hachosi a beth allai godi o hynny. Felly, mae Llywodraeth Cymru bellach yn cael eu cynrychioli yn y broses. Yn wir, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Cabinet at y Gweinidog Gwladol dros Blismona a'r Gwasanaeth Tân i danlinellu pwysigrwydd hynny, oherwydd ailgychwyn neu adolygu’r fformiwla honno, ac felly rydym yn cydweithio'n agos ar hyn.

Hefyd, tynnodd Mark Isherwood sylw at y trefniadau ariannu presennol o ran yr hyblygrwydd y mae comisiynwyr heddlu a throseddu wedi’i gael ac a roddir o ran eu rôl a'u swyddogaeth. Ond os edrychwch ar y sefyllfa yn Nyfed-Powys, y gwnaethoch dynnu sylw ati, mae’r cynnydd arfaethedig yn Nyfed-Powys ar gyfer 2017 yn dilyn gostwng a rhewi’r swm yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Felly, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd Dyfed-Powys, a etholwyd fis Mai diwethaf, nawr yn gallu darparu’r gwasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt.

Rwy’n meddwl yr hoffwn ddiolch i Gareth Bennett am groesawu'r ffaith ein bod yn parhau i ddefnyddio yn llwyddiannus—ac rwy’n meddwl, yn ôl pob tebyg, bod rhaid cytuno ar hyn ar draws y Siambr hon—500 o swyddogion cymorth cymunedol yng Nghymru, o ganlyniad i’r ffaith ein bod ni, unwaith eto, fel Llywodraeth Lafur Cymru, wedi penderfynu bod hyn yn flaenoriaeth, wedi gwrando ar y bobl ar lawr gwlad sy'n gweithio gyda’r swyddogion cymorth cymunedol hynny, ac wedi cydnabod y rhan y maent yn ei chwarae. Yn ôl at bartneriaeth, unwaith eto—cydweithio ar lefel leol. Ac ar y sail honno, ac o ran y swyddogaeth a'r pŵer sydd gennym, er eu bod efallai’n gyfyngedig, rwy’n falch o gymeradwyo'r setliad hwn i'r Cynulliad.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu? Iawn, diolch. Byddwn yn gohirio'r eitem honno tan yr amser pleidleisio. Mae’r amser pleidleisio yn awr ar ddiwedd y sesiwn, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y bleidlais. Iawn, diolch yn fawr iawn i chi.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. 10. Cyfnod Pleidleisio

Byddwn yn pleidleisio yn gyntaf ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 43, yn erbyn wyth, dim ymatal. Felly, caiff y cynnig ei basio.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 43, Yn erbyn 8, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6233.

Rydym nawr yn symud at bleidleisio ar y ddadl am setliad yr heddlu, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 43, neb yn erbyn, naw yn ymatal. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 43, Yn erbyn 0, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6235.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:53.