Pwyllgor o'r Senedd Gyfan - Y Chweched Senedd
Committee of the Whole Senedd - Sixth Senedd
14/01/2026Cynnwys
Contents
Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 13:00.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r cyfarfod. Cyfnod 2 y Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yw'r eitem gyntaf y prynhawn yma, ac felly fe fyddwn ni yn symud i'r gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno.
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau ar ystyr 'ymarferydd meddygol cofrestredig'. Gwelliant 1 yw'r prif a'r unig welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Adam Price i gynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Adam Price).
Y Cwnsler Cyffredinol.
Tynnwyd gwelliant 1 yn ôl gyda chaniatâd y pwyllgor.
Grŵp 2 sydd nesaf, felly. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â hyfforddiant a chanllawiau ar gyfer aelodau meddygol nad oes ganddynt drwydded i ymarfer. Gwelliant 2 yw'r gwelliant, ac Adam Price eto i gynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Adam Price).
Cwnsler Cyffredinol.
Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl gyda chaniatâd y pwyllgor.
Rŷn ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth ar Gyfnod 2 o Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth), a dwi'n datgan bod pob adran o'r Bil wedi eu derbyn. Bydd Cyfnod 3 yn dechrau ar unwaith, gyda'r trafodion yn digwydd yn ddiweddarach heddiw. Yr amser cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw 5 o'r gloch y prynhawn yma.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
Mae'r cyfarfod yma ar ben, felly, a bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau mewn tua 10 munud. Mae angen yr amser yna arnon ni i wneud y trefniadau trosglwyddo ymarferol, a bydd y gloch yn canu pum munud cyn cychwyn y Cyfarfod Llawn. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 13:24.