Pwyllgor o'r Senedd Gyfan - Y Chweched Senedd

Committee of the Whole Senedd - Sixth Senedd

14/01/2026

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.

Dechreuodd y cyfarfod am 13:00.

1. Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) - Cyfnod 2: Ystyriaeth o Welliannau

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r cyfarfod. Cyfnod 2 y Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yw'r eitem gyntaf y prynhawn yma, ac felly fe fyddwn ni yn symud i'r gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno.

Grŵp 1: Ystyr 'ymarferydd meddygol cofrestredig' (Gwelliant 1)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau ar ystyr 'ymarferydd meddygol cofrestredig'. Gwelliant 1 yw'r prif a'r unig welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Adam Price i gynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Adam Price).

13:05
13:10

Tynnwyd gwelliant 1 yn ôl gyda chaniatâd y pwyllgor.

Grŵp 2: Hyfforddiant a chanllawiau ar gyfer aelodau meddygol nad oes ganddynt drwydded i ymarfer (Gwelliant 2)

Grŵp 2 sydd nesaf, felly. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â hyfforddiant a chanllawiau ar gyfer aelodau meddygol nad oes ganddynt drwydded i ymarfer. Gwelliant 2 yw'r gwelliant, ac Adam Price eto i gynnig y gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 2 (Adam Price).

13:15
13:20

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl gyda chaniatâd y pwyllgor.

Rŷn ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth ar Gyfnod 2 o Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth), a dwi'n datgan bod pob adran o'r Bil wedi eu derbyn. Bydd Cyfnod 3 yn dechrau ar unwaith, gyda'r trafodion yn digwydd yn ddiweddarach heddiw. Yr amser cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw 5 o'r gloch y prynhawn yma.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Mae'r cyfarfod yma ar ben, felly, a bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau mewn tua 10 munud. Mae angen yr amser yna arnon ni i wneud y trefniadau trosglwyddo ymarferol, a bydd y gloch yn canu pum munud cyn cychwyn y Cyfarfod Llawn. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 13:24.