Y Cyfarfod Llawn
Plenary
18/03/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Dyw'r Ysgrifennydd Cabinet ddim yma. [Torri ar draws.] Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yma. [Chwerthin.] Felly, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyrraedd mewn amser i ateb ei gwestiynau. Ac os caf i ddweud hefyd—
Roeddwn innau ychydig yn hwyr hefyd, a chredaf fod yr un broblem wedi drysu'r ddau ohonom, gan nad yw'r clychau'n gweithio, a ninnau wedi dod i ddibynnu arnynt. A chredaf ei bod yn broblem barhaol y bydd yn rhaid inni fyw gyda hi tan ddiwedd y Senedd nawr, felly nodyn i mi fy hun yw edrych ar fy oriawr neu fy ffôn, fel y gwnawn y dyddiau hyn, yn hytrach na dibynnu ar y gloch. Beth bynnag, fe wnawn ddechrau nawr.
Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan—
sydd yma.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad trafnidiaeth i ysbytai? OQ64015
Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru’n nodi cynllun clir iawn ar gyfer gwella mynediad at drafnidiaeth i bob gwasanaeth allweddol, gan gynnwys ysbytai. I gyflawni hyn, rydym yn ariannu cynghorau i gyflawni eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, gan flaenoriaethu mynediad at wasanaethau hanfodol.
Diolch am yr ateb.
Fel y gwyddoch, mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan yn fy etholaeth i. Mae'n hynod o brysur, ac yn aml, dywedir ei bod yn amhosib parcio yno. Ac mae cyfleuster parcio a theithio i'r ysbyty wedi bod ar waith yn nwyrain Caerdydd, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond y sôn nawr yw y bydd hwnnw'n cau ac na fydd hynny'n bosib mwyach er mwyn i gleifion a staff gael mynediad i ysbyty'r Mynydd Bychan. Felly, tybed a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â'r mater hwn, gan y bydd yn achosi problem fawr.
A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn ac am godi'r mater pwysig hwn? Rwy'n deall bod y cyhoedd wedi ymateb yn gryf mewn perthynas â'r mater, ac rwy'n ymwybodol fod Cyngor Caerdydd yn y broses o ystyried y cais cynllunio ar gyfer ailddatblygu safle ysbyty'r Mynydd Bychan, nad yw'n cynnwys cyfleuster parcio a theithio. Ond rwy'n deall bod swyddogion y cyngor yn cyfarfod yn rheolaidd â'r bwrdd iechyd i drafod materion gan gynnwys hyn, ac maent yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod cyfleuster parcio a theithio yn cael ei gadw ar safle arall.
Yn y tymor hwy, rwy'n credu bod yn rhaid inni achub ar y cyfleoedd y bydd masnachfreinio'r bysiau yn eu cynnig i ni—byddwn yn gallu llunio rhwydwaith gwell sy'n cysylltu cymunedau ag ysbytai. Yn y cyfamser, rydym yn defnyddio gwasanaethau TrawsCymru ledled Cymru i gysylltu cymunedau yn well â'n hysbytai.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae un o bob pedwar o bobl sy'n defnyddio bysiau naill ai'n hŷn neu'n anabl, ac yn aml, nid oes ganddynt gerbyd preifat at eu defnydd. Fe wyddoch hefyd fod dros 220 yn llai o wasanaethau bysiau ledled Cymru o gymharu â phum mlynedd yn ôl. Nawr, yn fy etholaeth i, rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn pryderu na allant gael mynediad hawdd at wasanaeth bws i gyrraedd yr ysbyty. Felly, gyda hynny mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau nad yw cleifion oedrannus ac anabl mewn ardaloedd gwledig, sy'n dibynnu'n anghymesur ar fysiau, yn cael eu hynysu oherwydd y gostyngiad yn y rhwydweithiau bysiau wrth deithio i apwyntiadau ysbyty?
Rwy'n credu bod Peter Fox yn gwneud pwynt pwysig fod gwasanaethau gwledig wedi cael eu taro'n arbennig o galed o dan y system sydd wedi bod ar waith gennym ers y 1980au, a fydd yn dod i ben cyn bo hir o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026.
Rydym eisoes yn gweithredu nifer o wasanaethau TrawsCymru, fel rwyf eisoes wedi'i amlinellu i Julie Morgan, sy'n cysylltu cymunedau'n well ag ysbytai. Maent yn cynnwys y bws T1, y bws T2, y T3 a'r T51. Ond bydd bwrw ymlaen gyda masnachfreinio yn ein galluogi i lunio rhwydwaith gwell sy'n diwallu anghenion y bobl fwyaf agored i niwed. Ac mae'r Aelod yn llygad ei le, mae yna nifer enfawr o bobl nad oes ganddynt gar preifat at eu defnydd, a bydd masnachfreinio bysiau yn ein galluogi i sicrhau bod y rhwydwaith bysiau yn gwasanaethu eu hanghenion yn hytrach na blaenoriaethu elw fel sy'n digwydd o dan y system bresennol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf innau hefyd wedi codi'r cyfleuster parcio a theithio gyda chi. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr ateb a gefais gennych. Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at adrannau brys, ac mae hynny'n sicr yn wir am bobl ym Mro Morgannwg. O Sili, gall gymryd awr a hanner i gyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus, awr a hanner hefyd i Ysbyty Tywysoges Cymru, a dros ddwy awr i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Byddai heriau mor sylweddol yn llai pe baem yn defnyddio mwy ar ein hunedau mân anafiadau. Yn y Barri, sydd ond 4 milltir o Sili, gwelwyd 100 y cant o gleifion o fewn y targed pedair awr. Felly, maent yn llwyddiannus iawn, yr unedau mân anafiadau hyn. A wnewch chi drafod gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet sut y gallwn wneud gwell defnydd o'n hunedau mân anafiadau, y gellir eu cyrraedd yn llawer haws ar drafnidiaeth gyhoeddus, fel nad yw pobl yn wynebu rhwystr rhag cael y gwasanaethau brys sydd eu hangen arnynt? Diolch yn fawr.
Yn sicr. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn—nad ein prif ysbytai yn unig y dylem fod yn eu hystyried wrth lunio'r rhwydwaith, mae angen inni ystyried yr unedau mân anafiadau hefyd, ac yn wir, practisau meddygon teulu. Mae angen inni allu tynnu'r straen oddi ar ysbytai lle bynnag y gallwn. Felly, bydd gallu llunio rhwydwaith sy'n ymateb i anghenion cleifion, ble bynnag y byddant yn ceisio'i gyrraedd, yn hanfodol bwysig.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r rhwydwaith ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63990
Mae ein strategaeth drafnidiaeth yn nodi ein huchelgais am system drafnidiaeth well, fwy—[Torri ar draws.]—system drafnidiaeth well, fwy cysylltiedig ledled Cymru. Ym Mhreseli Sir Benfro, byddwn yn cyflawni prosiectau drwy ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Rydym yn cefnogi arweinyddiaeth leol drwy gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, gan alluogi cymunedau i lunio blaenoriaethau sy'n adlewyrchu eu hanghenion.
Mae'n swnio fel lori'n bacio'n ôl yn rhywle, ond nid wyf yn rhy siŵr beth yw—. Rwy'n siŵr y caiff ei ddatrys cyn bo hir. Parhewch gyda'ch cwestiwn atodol.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Fel y gwyddoch, cyfarfûm yn ddiweddar â swyddogion Llywodraeth Cymru gydag Aelod Seneddol Ceredigion Preseli, Ben Lake, a Chyngor Tref Abergwaun ac Wdig, i drafod y problemau ffyrdd hirhoedlog sy'n wynebu cymuned Cwm Abergwaun. Cawsom gyfarfod safle cadarnhaol iawn, ac wrth inni ymgynnull ar gyfer y cyfarfod hwnnw, aeth lori'n sownd, gan achosi tagfeydd i'r ddau gyfeiriad. Felly, os bu erioed arddangosiad go iawn o'r problemau y mae'r gymuned yn eu hwynebu, dyma ni. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig fod camau ystyrlon yn cael eu cymryd nawr i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu'r gymuned leol, yn enwedig gan fod swyddogion bellach wedi gweld y problemau hyn drostynt eu hunain. Felly, a allwch chi ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru’n mynd i'r afael â'r materion hyn yn dilyn yr ymweliad safle diweddar, er mwyn cefnogi'r gymuned leol?
A gaf i ddiolch i Paul Davies am ei gwestiwn, a hefyd am weithio mor adeiladol gyda Ben Lake? Mae bob amser yn ddefnyddiol pan allwch weithio ar draws y pleidiau gwleidyddol ar faterion fel hyn. Rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad yn ystod yr ymweliad hwnnw. Roeddwn yn falch fod swyddogion o'r adran drafnidiaeth wedi gallu dod gyda chi i Gwm Abergwaun.
Nawr, fel y nodoch chi, mae'r problemau yno'n rhai hirhoedlog. Maent yn hynod gymhleth ac wedi'u gwreiddio mewn hen heriau seilwaith y mae angen i ni eu goresgyn. Nid oes un ateb peirianyddol uniongyrchol heb ymyrraeth enfawr. Fodd bynnag, ar y sefyllfa bresennol, a'r rhwystrau, rydym yn cydnabod difrifoldeb y mater hwn. Ar ôl ymweld â'r safle yn ddiweddar, mae swyddogion yn ymwybodol iawn o'r cyfyngiadau ffisegol a'r angen am ddull mesuredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Felly, yn dilyn yr ymweliad safle hwnnw, rydym wedi nodi cyllid i sicrhau ein bod yn cynnal gwaith archwiliol. Byddwn yn monitro'r ardal fel y gallwn ddeall symudiadau cerbydau yn wrthrychol a thargedu ymyriadau'n effeithiol. Byddwn yn edrych ar orfodi hefyd, a byddwn yn gweithio ar y materion a godwyd ynghylch y bont droed. Felly, bydd pecyn enfawr o waith yn cael ei wneud o ganlyniad i'r problemau a godwyd ar draws y Siambr.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru yn gyntaf—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Mae cynllun Llywodraeth Cymru i ddiwygio bysiau yn nodi, ar gamau cychwynnol y broses gyflwyno, y bydd cyfres o gyfleoedd masnachfraint ar gael ym mhob parth masnachfraint. A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae'r cyfleoedd masnachfraint hyn ym mhob parth wedi'u cynllunio a'u pecynnu, a pha feini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu ar eu strwythur?
Wrth gwrs. Mae'r parthau masnachfraint a'r pecynnau'n cael eu cynllunio, ar y cyd â gweithredwyr bysiau, gan Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs. Nhw sydd yn y sefyllfa orau, fel yr arbenigwyr yn y maes, i allu llunio system sydd nid yn unig yn diwallu anghenion teithwyr, ond sydd hefyd yn darparu'r cyfle mwyaf sy'n bosib i weithredwyr presennol yng Nghymru.
Diolch yn fawr am eich esboniad. Rwy'n deall bod y broses becynnu wedi'i hasesu drwy nifer o lensys, gan gynnwys integreiddio darparwyr busnesau bach a chanolig eu maint a darpariaeth teithio gan ddysgwyr. Yn ystod y gwaith o basio a chraffu ar y ddeddfwriaeth, codais bryderon ynghylch sicrhau bod diwygio bysiau yng Nghymru yn cefnogi hyfywedd y gweithredwyr bysiau bach a chanolig hynny, yn enwedig o ystyried y profiad o fasnachfreinio ym Manceinion. Yn yr un modd, galwodd Plaid Cymru yn gyson am ymgorffori cludiant i'r ysgol yn y Bil. A allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae'r cyfleoedd masnachfraint wedi'u pecynnu i gefnogi hyfywedd darparwyr bysiau bach a chanolig lleol, a sut y mae'r dull hwn yn gweithio'n ymarferol hyd yn hyn yn ne-orllewin Cymru? Ac yn ogystal, sut y mae'r angen am gludiant i ddysgwyr wedi'i adlewyrchu yn y pecynnau contract hynny, a pha gynlluniau wrth gefn sydd ar waith os na all darparwyr cludiant i'r ysgol presennol barhau i weithredu o dan y trefniadau newydd?
Wel, mae llawer o gwestiynau yn hyn, ac maent yn gwestiynau dilys iawn. Rwyf am geisio ateb yr hyn y mae'r Aelod wedi'i amlinellu. Yn gyntaf oll, bydd hyfywedd busnesau bach a chanolig yn seiliedig ar eu gallu i ddarparu pecyn o lwybrau a phecyn o wasanaethau. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych yn fanwl ar y tirlun presennol o ran y llwybrau sy'n bodoli fel y rhwydwaith sylfaenol, yn ogystal â bodolaeth gweithredwyr busnesau bach a chanolig, ac wrth gwrs, y gweithredwyr mwy, er mwyn gallu llunio pecynnau sy'n addas i anghenion a chyfleoedd pob busnes.
Yn ystod y broses o basio’r Bil, cafwyd llawer o drafod a dadlau ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol. Mae’r Bil, drwy welliannau, yn cydnabod yr angen i sicrhau bod y rhwydwaith yn ymateb i’r angen i allu symud pobl rhwng gofal hanfodol, gofal iechyd hanfodol, ac addysg wrth gwrs—nid yn unig ysgolion, ond addysg uwch ac addysg bellach hefyd. A chyfrifoldeb Trafnidiaeth Cymru fydd sicrhau bod y rhwydwaith, y rhwydwaith sylfaenol, yn gwneud yn union hynny, a bod busnesau bach a chanolig yn cael eu galluogi a’u grymuso a’u cefnogi i allu cynnig am y contractau hynny, a chyflawni eu cyfrifoldebau yn unol â hynny, mewn ffordd gynaliadwy.
Yn y pen draw, y Llywodraeth nesaf fydd yn penderfynu ar lefel y cyllid a gaiff ei ddarparu i'r rhwydwaith ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag a gaiff eu hethol ym mis Mai yn ymrwymo i gyllid sylweddol ar gyfer y rhwydwaith bysiau, oherwydd, fel y mae Peter Fox wedi'i nodi heddiw, ac fel y mae llawer wedi'i nodi dros y blynyddoedd, y bobl fwyaf agored i niwed yw'r bobl sy'n dibynnu fwyaf ar ein rhwydwaith bysiau. Ac felly, yn fy marn i, mae'n galw am, ac mae'n haeddu cymorth sylweddol.
Diolch yn fawr. Yn fwy cyffredinol, felly, a yw'r Llywodraeth—ac yn amlwg, drwy Trafnidiaeth Cymru a'ch sgyrsiau â Trafnidiaeth Cymru, a dwyn Trafnidiaeth Cymru i gyfrif—wedi dod ar draws unrhyw heriau yn y cyfnod cynnar o gyflwyno diwygio bysiau yn ne-orllewin Cymru? Ac yng ngoleuni'r profiad yn ne-orllewin Cymru, a fyddech chi'n ystyried gwneud unrhyw newidiadau i'r prosesau pecynnu neu dendro cyn cam nesaf ei gyflwyno yng ngogledd Cymru? Ac yn benodol, a oes unrhyw agweddau ar y broses dendro yn ne-orllewin Cymru y mae'n rhaid i'r Llywodraeth eu diwygio neu eu hailystyried? Ac os felly, beth oeddent, a sut rydych chi wedi llwyddo i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatrys y pethau hynny?
Diolch. Gyda'ch caniatâd, a gaf i ddiolch i Peredur, a hefyd i Delyth, am fod yn llefarwyr yr wrthblaid yn ystod fy amser yn y swydd hon? Bu rhai adegau o wrthdaro, ond ar y cyfan, rwy'n credu ein bod wedi gweithio'n gydweithredol, ac rwy'n hynod ddiolchgar am yr her a roesoch, ond hefyd, y gefnogaeth a roesoch ar feysydd cyflawni allweddol, yn enwedig y Bil bysiau.
Rwy'n credu mai cyfrifoldeb Trafnidiaeth Cymru yn bennaf yw gallu ateb y cwestiynau ynghylch cyflawni. Buaswn yn dweud, ar hyn o bryd, ei bod yn rhy gynnar i ddweud pa wersi y gellid eu dysgu o dde-orllewin Cymru, gan fod y broses mor gynnar yn y cyfnodau caffael. Felly, byddwn ni neu'r Llywodraeth nesaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y broses wrth iddi ddatblygu. Ond ar hyn o bryd, rwy'n credu ei bod yn rhy gynnar i ddweud.
Llefarydd y Blaid Geidwadol, Gareth Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Coridor yr A55 yw asgwrn cefn economaidd y gogledd, gyda'r economi drawsffiniol, yn ymestyn o Ynys Môn i swydd Gaer a Manceinion, gan gefnogi miloedd o swyddi gweithgynhyrchu a logisteg ar hyd y llwybr hwnnw. Ond nid yw cynhyrchiant yng ngogledd-orllewin Lloegr, Wrecsam a sir y Fflint, sy'n uwch na chyfartaledd y DU, yn parhau ymhellach ar hyd coridor yr A55. Mae cynhyrchiant economaidd yng Nghonwy a sir Ddinbych ychydig dros 71 y cant o ffigur y DU, sef y pumed isaf yn y DU, ac mae hyd yn oed yn is yng Ngwynedd, ar ychydig o dan 70 y cant.
O dan Lywodraeth Lafur y DU, rydym hefyd wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol, o 6.9 miliwn i'r nifer uchaf erioed o 8 miliwn. Ym mis Medi y llynedd, adroddodd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, ers ei lansio yn 2020, mai dim ond 35 o swyddi y mae bargen twf gogledd Cymru, neu uchelgais gogledd Cymru, wedi'u creu hyd yn hyn ac mai dim ond £1.8 miliwn mewn buddsoddiad preifat y mae wedi'i ddenu. Mae'r canlyniadau hyn yn syfrdanol o wael, ac mae'r fargen wedi ymhell iawn o fod wedi cyflawni ei huchelgais.
Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i gynhyrchiant sy'n lleihau a dibyniaeth gynyddol ar y wladwriaeth yng ngogledd Cymru, ac os yw'n dal yn ei swydd ar ôl yr etholiad, sut y mae'n mynd i wrthdroi'r duedd honno?
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Gareth am y cyfnod y mae wedi bod yn fy nghysgodi? Hefyd, gwn nad yw Sam yma heddiw, ond diolch hefyd i Sam, ac wrth gwrs i Natasha. Yn yr un modd, rydych chi wedi—. O, a Sam hefyd. A chi. Ie, pob un ohonoch. [Chwerthin.] Rydych chi wedi darparu her gynhyrchiol ar bob cyfle, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.
Rwy'n teimlo fy mod wedi fy ngadael allan.
A chithau, wrth gwrs, Paul. Gareth, rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn am y cysylltiad rhwng trafnidiaeth gyhoeddus, neu drafnidiaeth yn gyffredinol—seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau trafnidiaeth—a chynhyrchiant ac anweithgarwch economaidd hefyd. Mae gormod o bobl—oddeutu 20 y cant o bobl ifanc yn yr ardal a nodwyd gennych—heb fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd i fynd i gyfweliadau swyddi, neu'n methu ei fforddio. Nawr, mae hynny'n gwbl annerbyniol. Ni ddylai uchelgais pobl ifanc gael ei ddifetha oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, bydd gwella'r rhwydwaith bysiau yn hanfodol bwysig.
Nawr, rydym wedi gweld buddsoddiad ym mharth buddsoddi Wrecsam a sir y Fflint sy'n datgloi pecyn o gymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau, ac a fydd yn cysylltu'r ardaloedd sydd wedi cael eu gwasanaethu'n wael hyd yn hyn gan fysiau â'r ardaloedd lle mae'r cyfleoedd cyflogaeth mwyaf, h.y. ystad ddiwydiannol Wrecsam a pharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth sylweddol yn y gogledd ddwyrain. Ond wrth inni deithio ymhellach i'r gorllewin, mae'n hanfodol bwysig fod astudiaeth wydnwch yr A55 yn cael ei chwblhau cyn gynted â phosib er mwyn i'r Llywodraeth newydd allu gweithredu arni, ac fel y gallwn wneud cynnydd da ar y rheilffyrdd hefyd.
Ar y rheilffyrdd, rwy'n falch iawn o ddweud bod yr ymrwymiad a wnaed lai na dwy flynedd yn ôl gan Lywodraeth y DU wedi'i gyflawni. O ganlyniad i hynny, byddwn yn gweld 50 y cant yn fwy o wasanaethau rheilffyrdd gan Trafnidiaeth Cymru o fis Mai ymlaen. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr. Dyma'r cynnydd mwyaf yng ngwasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl allu cael mynediad at swyddi.
Wrth gwrs, mae gennym yr ardal twf AI hefyd, ac mae gennym y porthladd rhydd, ac mae gennym adweithyddion modiwlar bach yn dod i Ynys Môn. Felly, o ran cynhyrchiant, bydd y swyddi gwerth uchel hynny ar gael, ac o ran cael mynediad atynt, rydym yn gwneud newid hanesyddol i wella trafnidiaeth gyhoeddus, boed hynny ar y trên neu ar y bws.
Diolch am eich ymateb cynhwysfawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r rhwystrau mwyaf a wynebwyd yn ddiweddar o dan wasanaeth bws newydd Trafnidiaeth Cymru yw'r gwasanaeth T51 o'r Rhyl i Wrecsam, sy'n amlwg yn mynd drwy barc busnes Llanelwy, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw osgoi pen isaf Llanelwy. Cafwyd cryn dipyn o gyhoeddusrwydd yn lleol yn yr ardal honno ac mewn cymunedau ehangach i'r ffordd nad yw'r gwasanaeth T51 yn mynd drwy rai o brif aneddiadau'r llwybr hwnnw, sy'n amlwg yn cael effaith ar uchelgeisiau pobl, pe bai rhywun yn ystyried y llwybr hwnnw i bontio'r bwlch o ran cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant, addysg ac ati. Felly, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael fel Ysgrifennydd y Cabinet gyda swyddogion yn Trafnidiaeth Cymru i sicrhau y gallwn fireinio'r gwasanaethau hynny'n well yng ngogledd Cymru, y gall y llwybrau adlewyrchu anghenion pobl mewn gwirionedd, a bod yn sefyllfa fyw iawn, lle gellir datrys problemau yn eithaf cyflym os ydynt yn codi?
Mae Gareth yn gwneud pwynt pwysig iawn, fod yn rhaid ichi fod yn ymatebol pan fyddwch chi'n gweithredu rhwydwaith bysiau a bod yn rhaid ichi wneud newidiadau os oes angen newidiadau. Fel rwyf eisoes wedi'i nodi, mae'r T51 eisoes yn darparu mynediad da at gyfleusterau gofal iechyd eilaidd, ond os oes problemau ynghylch rhan isaf Llanelwy, rwy'n fwy na pharod i'w codi gyda Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n ymwybodol y bydd y Senedd yn cael ei diddymu cyn bo hir, felly fe wnawn hynny ar frys, a threfnu cyfarfod gyda chi efallai i drafod a ellid alinio'r bws T51 yn well â'r cymunedau ar ei lwybr.
Drwy Trafnidiaeth Cymru, rydym yn ceisio gwasanaethu anghenion cymunedau drwy ymgysylltu ag awdurdodau lleol hefyd, ac yn y cynghorau—mae hyn yn rhywbeth y mae Carolyn Thomas wedi'i godi'n rheolaidd—yn y cynghorau mae gennym arbenigedd, sy'n llywio'r rhwydweithiau bysiau wedyn. Felly, fe geisiwn hwyluso cyfarfod gyda Trafnidiaeth Cymru, a'r awdurdod lleol hefyd o bosib.
Diolch yn fawr unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cysylltiad annatod rhwng economi'r gogledd a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae chwarter y gweithwyr yn y rhanbarth yn croesi'r ffin i weithio, ac mae busnesau'n dibynnu ar fasnach a chadwyni cyflenwi di-dor â chanolfannau economaidd mawr yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae gweithgynhyrchu a thwristiaeth yn y gogledd yn dibynnu'n fawr ar y cysylltiadau trawsffiniol hynny, a byddai unrhyw rwystrau i symudiadau masnach neu fuddsoddiad yn creu ansicrwydd gwirioneddol i fusnesau a gweithwyr fel ei gilydd ac yn creu datgymhellion pellach i fuddsoddi yno.
Gŵyr pob un ohonom mai nod Plaid Cymru yn y pen draw yw annibyniaeth i Gymru a'u bod yn awyddus i ddechrau'r 'daith' honno, fel y maent yn ei galw, a byddai'r effaith economaidd a diwylliannol yn ddinistriol i'n hardal. Ar adeg pan fo economi Cymru eisoes yn wynebu heriau cynhyrchiant a buddsoddi, y peth olaf sydd ei angen ar gymunedau yn y gogledd yw'r bygythiad o ymwahaniaeth. Gyda'n diffyg cyllidol net o £21.5 biliwn, byddai'n golygu toriadau digynsail i'r sector cyhoeddus. Byddai teuluoedd Cymru £11,000 y flwyddyn yn waeth eu byd ar gyfartaledd. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryderon ynghylch bygythiad ymwahaniaeth i'n rhanbarth? Ac a yw'n cytuno â mi mai'r polisi mwyaf dinistriol y gellid ei weithredu ar gyfer y gogledd fyddai annibyniaeth i Gymru mewn gwirionedd?
Mae'n bleser gorffen yn gytûn â llefarwyr y gwrthbleidiau. Ydw—[Torri ar draws.] Na, rwy'n cytuno. Rwy'n cytuno bod y symudiadau trawsffiniol hynny'n gwbl hanfodol i'n heconomi, ac rydych chi'n llygad eich lle, mae'r gyfran honno o'r gweithlu'n croesi'r ffin honno bob dydd. Ni allwn ganiatáu i len lechen gael ei chodi ar draws y ffin. Ni allwn ganiatáu i wasanaethau gael eu diddymu ar sail drawsffiniol. Dyna pam ein bod yn bwrw ymlaen â gwasanaethau metro uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl. Dyna pam ein bod yn bwrw ymlaen â thrydaneiddio clyfar ar brif linell reilffordd y gogledd, yn delio â'r rhwystr yng ngorsaf Caer, a thrydaneiddio llinell reilffordd y Gororau hefyd.
Gwn fod y buddsoddiad yn rheilffyrdd Northern Powerhouse wedi'i feirniadu yn y Siambr hon. Ond y gwir amdani yw y bydd rheilffyrdd Northern Powerhouse yn lleihau amseroedd teithio rhwng gogledd Cymru, maes awyr Manceinion, maes awyr Lerpwl, a lleoliadau allweddol yng ngogledd-orllewin Lloegr yr ydym yn dibynnu arnynt ac yr ydym yn gweithio gyda nhw yn enw ffyniant economaidd. Felly, bydd rheilffyrdd Northern Powerhouse, er efallai nad ydynt yng Nghymru, o fudd i bobl Cymru heb os, ac yn fy marn i, mae cwyno am hynny'n eithaf cul ac ynysig, ac yn eithaf peryglus. [Torri ar draws.] Mae Gareth Davies yn tynnu sylw at gost—ac mae Mike Hedges newydd ei nodi eto—cost annibyniaeth. Rwy'n cytuno y byddai cost annibyniaeth yn ormodol. Pa un a yw'n syniad da o ran ein diogelwch cenedlaethol ai peidio, sef yr hyn rwy'n poeni fwyaf amdano ar hyn o bryd, byddai cost annibyniaeth yn ormodol.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth yn Nwyrain De Cymru? OQ63988
Wel, rydym yn cymryd camau sylweddol a gweladwy i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth yn y de-ddwyrain. Bydd chwe gorsaf drenau newydd yn cael eu hadeiladu yn y de-ddwyrain, fel rhan o ymrwymiad ariannu hanesyddol o £14 biliwn gan Lywodraeth y DU. A heddiw, cyhoeddais oddeutu £50 miliwn ar gyfer uchelgeisiau trafnidiaeth cynghorau yn y rhanbarth.
Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch yn fawr hefyd am eich geiriau caredig. Roedd yn bleser pur gweithio gyda chi am y cyfnod byr y buom yn gweithio ar drafnidiaeth gyda'n gilydd.
A dweud y gwir, ychydig iawn y mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi'i wneud, yn fy marn i, i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth yn fy ardal i. Mewn gwirionedd, mae wedi gwaethygu pethau, yn enwedig yng Nghasnewydd. Mae gennym gynlluniau chwerthinllyd a digroeso i gael gwared ar gylchfan Old Green yng nghanol y ddinas a gosod goleuadau traffig a chyffordd a reolir yn ei lle. Mae gennym brosiect gwarthus yn yr arfaeth i leihau'r nifer o lonydd traffig ar yr A48 rhwng Casnewydd a Chaerdydd i wneud lle ar gyfer lonydd beicio a bysiau. Mae gennym derfynau cyflymder 20 mya mewn mannau lle na ddylent fod. Yn syml, rwy'n teimlo bod gwleidyddion Llafur, gyda chymorth eu ffrindiau ym Mhlaid Cymru, wedi bod yn ymosod ar fodurwyr ers llawer gormod o amser, ac mae Reform bellach wedi ymuno â'r ymosodiad ar fodurwyr.
Mae Reform wedi addo adeiladu ffordd liniaru'r M4, ond maent yn mynd i gosbi gyrwyr drwy godi tollau, tra bo'r Ceidwadwyr Cymreig, mewn gwrthgyferbyniad llwyr, wedi addo llu o welliannau trafnidiaeth, gan gynnwys ffordd liniaru'r M4, ac ni fyddwn yn gwasgu arian allan o bobl i'w defnyddio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried na ellir ymddiried yn Llafur a Phlaid Cymru i gyflawni gwelliannau trafnidiaeth, a'i bod yn amlwg nad yw Reform ar ochr y modurwr, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r unig ffordd i gael Cymru i symud eto yw ethol Llywodraeth Geidwadol i Gaerdydd ym mis Mai?
Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf gytuno â'r Aelod ar yr achlysur hwn. Ond na, mae hynny'n ddiddorol iawn. Mae'r Ceidwadwyr yn addo darparu ffordd liniaru'r M4, ond nid ydynt wedi gallu ei chostio eto, a byddai'r gost yn enfawr. Mae Reform yn addo darparu ffordd liniaru'r M4 y bydd modurwyr yn talu amdani. Rydym wedi sicrhau'r cyllid i allu darparu dewis arall cynaliadwy, ac rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu gorsafoedd newydd a gwasanaethau rheilffordd newydd. Mae gennym y chwe gorsaf newydd a fydd yn cael eu hadeiladu yn y de-ddwyrain, gan leddfu tagfeydd ar yr M4, ond yn hollbwysig hefyd—yn hollbwysig hefyd—rydym yn dechrau'r astudiaeth o wydnwch yr M4, a fydd yn rhoi gwybod i'r Llywodraeth nesaf beth arall y gellir ei wneud i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 ac i'w pharatoi ar gyfer y dyfodol o ran newid hinsawdd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n debyg mai dyma'r cwestiwn olaf y byddaf yn ei ofyn i chi yn y Senedd hon, felly hoffwn ddiolch i chi am eich ymgysylltiad ar lawer o faterion, ac yn enwedig ar y mater rwyf ar fin eich holi yn ei gylch, sef hygyrchedd trafnidiaeth. Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn hygyrch i bawb, ond yn rhy aml, gall prinder goleuadau stryd digonol roi menywod mewn sefyllfaoedd agored i niwed, gan eu hatal rhag defnyddio'r gwasanaethau hyn. Yn yr un modd, gall diffyg cyhoeddiadau sain ar fysiau neu orsafoedd sydd wedi'u cynllunio'n wael wneud pobl sy'n ddall neu sy'n gweld yn rhannol yn fwy agored i niwed, a gall prinder lifftiau eithrio pobl mewn cadeiriau olwyn rhag gallu cael mynediad diogel at y rhwydwaith. Ym mhob un o'r achosion hyn, mae'r ffordd y mae ein cymdeithas wedi'i chynllunio yn allgáu pobl neu'n eu gwneud yn agored i niwed. Nid yw eu hallgáu na'u gwneud yn agored i niwed yn anochel mewn unrhyw fodd; ein dewisiadau ni sy'n eu gwneud felly. Ac mae cymaint y gallwn ei wneud i'w newid. A ydych chi'n cytuno â mi fod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru, ein rhwydwaith bysiau, awdurdodau lleol a'r Llywodraeth nesaf wneud popeth yn eu gallu i newid hyn ac i herio'r rhagdybiaethau hynny ynghylch pwy sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas a gwneud newidiadau fel bod trafnidiaeth gyhoeddus o ddifrif yn gweithio i bawb?
Rwy'n falch iawn fod Delyth wedi cyflwyno'r cwestiwn hwn, gan ei fod yn rhoi cyfle arall imi ddiolch iddi am bopeth y mae wedi'i wneud. Rwy'n credu ein bod wedi gweithio'n dda iawn gyda'n gilydd ar yr agenda 'Teithio i bawb', ac rydym wedi cael nifer o gyfarfodydd am hygyrchedd, ac rwy'n falch o'r cynnydd a wnaethom. Ond mae'n rhaid cynnal y cynnydd hwnnw y tu hwnt i fis Mai. Cefais gyfarfod pedairochrog yn gynharach yr wythnos hon gyda Gweinidogion eraill. Fiona Hyslop yw Gweinidog trafnidiaeth yr Alban ac mae'n ymddeol yn yr etholiad hwn. Rwyf wedi gweithio'n agos gyda hi yn y maes hwn, ac wrth gwrs, gyda Heidi Alexander yn San Steffan. Un o eitemau'r agenda oedd diogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae pob un ohonom yn bryderus, nid yn unig am ddiogelwch i deithwyr, ond diogelwch i'r gweithlu hefyd. Cyfarfûm yn ddiweddar ag Undeb Unite, a gododd bryderon ynghylch diogelwch i yrwyr bysiau, a boed yn berygl canfyddedig neu real, mae'n rhwystr mawr ac yn atal menywod rhag dod yn yrwyr bysiau. Dim ond 7 y cant o yrwyr bysiau yn un o fflydoedd bysiau mwyaf Cymru sy'n fenywod. Ni ddylai ofn mynd i'r gwaith atal unrhyw un rhag gwneud cais am swydd, ac felly fe wnaethom ymrwymo yn y cyfarfod pedairochrog hwnnw i weithio gyda'n gilydd y tu hwnt i etholiadau i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu diogelwch i deithwyr ac i'r gweithlu.
Mae gennym y panel mynediad a chynhwysiant ar waith yn Trafnidiaeth Cymru, ac rydym wedi'i rymuso hefyd yn y 24 mis diwethaf, gan sicrhau ei fod wrth wraidd yr holl waith cynllunio a chyflenwi, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn wella diogelwch yn y 23,000 o safleoedd bysiau a chysgodfannau bysiau sydd gennym ledled Cymru. Rydym yn cynnal yr archwiliad hwnnw ar hyn o bryd, ac o ganlyniad i rai o'r newidiadau a wnaethom mewn perthynas â grantiau trafnidiaeth rhanbarthol, ac yn benodol grantiau teithio llesol, mae mwy wedi'i wneud eleni i wneud newidiadau pwysig ar lawr gwlad, boed yn osod mwy o balmentydd botymog neu wella goleuadau stryd, neu rai o'r pethau symlach hyd yn oed, fel sicrhau bod gennych seddi ar hyd y llwybr tuag at safle bws—mae'r cyfan yn gwneud gwahaniaeth. Unwaith eto, boed yn real neu'n ganfyddedig, mae'r bygythiad o gael eich cam-drin neu wynebu ymosodiad yn rhwystr mawr i bobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus y mae'n rhaid inni ei flaenoriaethu a gwneud mwy o waith arno yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymwybodol fod arweinydd Cyngor Sir Fynwy wedi ysgrifennu atoch ddechrau'r mis, rwy'n credu, ynglŷn â'r angen am ffordd gyswllt fach i gysylltu'r M48 â gorsaf drenau parcio a theithio Cyffordd Twnnel Hafren yn Rogiet yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd. Nid yw gorsaf twnnel Hafren yn cael ei defnyddio i'w chapasiti llawn ar hyn o bryd, ac mewn gwirionedd, mae yno faes parcio eithaf mawr, newydd ei adeiladu sydd bron yn wag. Byddai ffordd gyswllt yn ei gwneud yn opsiwn llawer mwy ymarferol a deniadol i bobl yn ne sir Fynwy, yn enwedig, sy'n teithio i Gasnewydd, Caerdydd, Bryste a Chaerloyw. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r problemau, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir, rydych chi wedi mynegi cefnogaeth i ffordd gyswllt o'r fath yn y gorffennol. Tybed beth y gallwch chi ei ddweud ynglŷn â'r camau nesaf y gallech eu cymryd yn Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Chyngor Sir Fynwy, i wireddu'r ffordd gyswllt honno.
Diolch i John Griffiths am ei gwestiwn. Rwy'n gefnogol iawn i'r mesur hwn ac rwyf wedi cyfarfod ag arweinydd y cyngor ar sawl achlysur, a'r aelod arweiniol dros drafnidiaeth hefyd. Y cam nesaf fydd llunio cynllun manwl cyn adeiladu. Wrth gwrs, mater i'r Llywodraeth nesaf fydd darparu'r cymorth ar gyfer hynny, ond rwy'n gefnogol iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n Weinidog trafnidiaeth ar ôl mis Mai yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn gyflym iawn, oherwydd mae'n seilwaith hanfodol ac yn brosiect hanfodol, nid yn unig i'r awdurdod lleol, ond i'r rhanbarth ehangach hefyd.
Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddiolch am y diddordeb rydych chi wedi'i ddangos a'r gwaith rydych chi wedi'i wneud ar faterion penodol yn fy rhanbarth ar drafnidiaeth? Mae wedi bod yn wych gweithio gyda chi.
Ond rwy'n falch hefyd eich bod chi'n cytuno â mi mai polisi economaidd cefn pecyn sigaréts yw'r hyn rydym newydd ei glywed gan y Torïaid, onid e? Mae Reform yn blaid sy'n paratoi ar gyfer llywodraeth gyda chynllun credadwy wedi'i gostio sydd o ddifrif ynglŷn â chyflawni ffordd liniaru hirddisgwyliedig yr M4.
'Bydd angen rhyw fath o ffordd liniaru'—
nid fy ngeiriau i, Ysgrifennydd y Cabinet, ond geiriau eich arweinydd Llafur eich hun yng Nghyngor Dinas Casnewydd. Nid oes gan nifer o'r bobl sy'n defnyddio'r M4 unrhyw opsiwn heblaw ei defnyddio. Ar gyfer cludo nwyddau, ar gyfer twristiaeth, ar gyfer mewnfuddsoddiad, ar gyfer swyddi, mae'n ffordd hanfodol. Y rhan hon o'r M4 yng Nghasnewydd yw'r porth economaidd, dyma'r ffordd brifwythiennol i mewn i Gymru. Mae angen inni ei dadflocio, mae angen inni ei hagor a darparu ffordd liniaru'r M4 a fydd yn darparu buddion economaidd, swyddi a hwylustod i fy etholwyr a phobl Cymru. Bydd Reform yn ei chyflawni. Gwariodd eich plaid eich hun filiynau yn paratoi i'w hadeiladu a gwastraffu miliynau o arian trethdalwyr wedyn pan wnaethoch chi ei dileu. Onid ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, na allwn gael mwy o oedi? Mae angen ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd i sicrhau ffyniant, ac mae ei hangen arnom nawr. Diolch.
A gaf i ddiolch i Laura Anne Jones am ei chwestiwn a hefyd am y cwestiynau a'r heriau niferus y mae hi wedi'u rhoi i mi dros y blynyddoedd, ac am drefnu un o'r ymweliadau safle mwyaf diddorol a gefais? Dangosodd Laura Anne Jones brosiect teithio llesol diddorol iawn i mi yr haf diwethaf.
Edrychwch, rwyf wedi cael breuddwydion rhyfedd iawn yn ystod y misoedd diwethaf, ond nid oes unrhyw beth yn cymharu â'r hyn rwyf newydd ei weld rhyngoch chi a'r Torïaid, yr ymosod a'r gwrth-ymosod. Ar yr M4, mae'r ddadl hon wedi bod ac wedi mynd, ac rydym yn bwrw ymlaen â chynlluniau hynod uchelgeisiol i wella cysylltedd drwy drafnidiaeth gyhoeddus, cysylltedd cynaliadwy. Byddai'r gost o adeiladu ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd yn enfawr, ac mae angen iddo fod yn gynnig wedi'i gostio, rwy'n credu, ac ni all fod yn gynnig cefn pecyn sigaréts boed gennych chi neu'r Ceidwadwyr. Ac o ran gwneud addewidion, mae cymaint o addewidion wedi'u gwneud gan Reform a chywiriadau wedi'u gwneud wedyn gan Nigel Farage fel ei bod yn ymddangos mai dim ond Nigel Farage sydd â llais dros bolisi, ac mae hynny'n cynnwys polisi yma yng Nghymru, mae arnaf ofn.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ64006
Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i wella diogelwch ar y ffyrdd. Drwy ein cyllid grant, rydym yn cefnogi cynlluniau seilwaith diogelwch ar y ffyrdd, cynlluniau addysg, a hefyd amodau mwy diogel ar gyfer teithio llesol. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar welliannau diogelwch ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
Mae gan yr A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin hanes anhygoel o wael o ran diogelwch. Yn y cyfnod o 10 mlynedd tan 2018, er enghraifft, cofnodwyd bron i 900 o wrthdrawiadau traffig, ac rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet sawl gwaith ar hyn. Yn ystadegol, mae pethau'n gwaethygu. Ar gyfartaledd, ceir digwyddiad oddeutu bob yn ail ddiwrnod. Mae'n anhygoel fod chwe blynedd ers i gam 1 o broses yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru ddechrau mewn perthynas â'r ffordd hon. Rwy'n defnyddio'r cyffyrdd hyn. Mae'n brofiad hollol frawychus pan fyddwch chi ar eich pen eich hun, a phan fo gennych blant yn y car hefyd, mae'n gwbl annerbyniol.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth opsiynau yr wythnos diwethaf, ac mae hynny i'w groesawu, ond o ystyried pa mor araf y mae'r broses wedi bod hyd yma, pryd y gall fy etholwyr yn sir Gaerfyrddin ddisgwyl gweld gweithredu ar yr opsiynau hyn, fel y gallwn wella diogelwch ar y ffordd hon?
A gaf i ddiolch i Adam am ei gwestiwn? Hoffwn ei atgoffa bod dros £900,000 wedi'i ddarparu i Gaerfyrddin i gyflawni cynlluniau cyfalaf diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2018. Mae hynny'n cynnwys ar yr A485, y B4333, a nifer o ffyrdd eraill, ac ar ben hynny, rydym hefyd wedi darparu cyllid refeniw i Gaerfyrddin i gyflawni mentrau diogelwch ar y ffyrdd. Mae'r Aelod yn hollol gywir, fe gomisiynwyd yr astudiaeth WelTAG ar ddiogelwch y rhan hon o'r A48 beth amser yn ôl, ond o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi'i wneud, rwy'n falch o ddweud bod swyddogion ar hyn o bryd yn gwerthuso cyfres o welliannau ffordd ar yr A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth nesaf yn eu cyflawni'n gyflym.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella llif traffig ar yr M4 o amgylch Abertawe? OQ63984
Rydym yn bwrw ymlaen â'r cynllun adnewyddu asedau mawr yng nghyffyrdd 45 i 46 ac yn cynnal adolygiad ehangach o wydnwch yr M4 i nodi gwelliannau mwy hirdymor ar gyfer dibynadwyedd a thagfeydd. Mae'r mesurau hyn yn cael eu cefnogi'n ddyddiol gan swyddogion traffig Llywodraeth Cymru, sy'n patrolio'r M4 ac yn rheoli digwyddiadau'n gyflym er mwyn cadw traffig i lifo o amgylch Abertawe.
A gaf i ddiolch i chi am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch i swyddogion traffig yr M4 am eu gwaith? Maent yn gwneud gwaith gwych. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi gofyn i chi ar sawl achlysur ynglŷn â'r gwaith uwchraddio arfaethedig ar y cyffyrdd ar hyd yr M4—cyffordd 45 yn Ynysforgan, 47 ym Mhenlle'r-gaer, a 48 ger Pontarddulais—a addawyd fel rhan o becyn ffordd liniaru'r M4, ac yna pan ganslwyd ffordd liniaru'r M4 gan Lywodraeth Cymru, ni fwriwyd ymlaen â'r uwchraddiadau i'r cyffyrdd yn ardal Abertawe, ac mewn mannau eraill ar hyd yr M4. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ers ichi fod yn y swydd, rwyf wedi gofyn i chi edrych ar y penderfyniad hwnnw eto, fel bod modd adfywio gwaith uwchraddio'r cyffyrdd hyn gan Lywodraeth Cymru, hyd yn oed os na fydd prosiect ffordd liniaru'r M4 yn cael ei adfywio, oherwydd mae llawer o fy etholwyr yn eistedd mewn traffig, mewn mannau fel Penlle'r-gaer a chylchfan Ynysforgan oherwydd y problemau capasiti sy'n bodoli ar hyn o bryd ar y cyffyrdd hynny, a dyna pam roedd yr uwchraddiadau hyn i'r cyffyrdd yn rhan o'r cynllun i uwchraddio'r M4 cyn i brosiect ffordd liniaru'r M4 gael ei ganslo. Felly, o ystyried mai hon yw'r sesiwn gwestiynau olaf a gawn cyn etholiad y Senedd, a'ch bod wedi dweud yn y gorffennol y byddwch chi'n edrych arno, beth yw'r ateb?
Wel, rwy'n falch o ddweud bod gwaith cynllunio a datblygu yn parhau ar gyffyrdd 45 a 46. O ran mannau eraill ar yr M4 o amgylch Abertawe, wrth gwrs, mae gennym yr astudiaeth wydnwch sy'n mynd i lywio'r Llywodraeth newydd. Yn ogystal â hyn, mae gennym ymrwymiad nawr i ddarparu metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, a fydd yn gweld cyfres o orsafoedd rheilffordd yn cael eu hagor, a thrydaneiddio clyfar ar draws y rhanbarth, a fydd yn ei dro yn helpu i liniaru tagfeydd ar y ffyrdd, nid yn unig yr M4, ond ffyrdd lleol hefyd.
Mae llif traffig traffyrdd yn cael ei effeithio gan gyffyrdd, bryniau, lorïau sy'n symud yn araf a nifer y lonydd. Lle mae gennych fryniau, dim ond dwy lôn a chyffyrdd yn agos at ei gilydd, rydych chi'n cael traffig yn symud yn araf. O amgylch Abertawe, mae cyffyrdd ar gyfer canol y ddinas, ar gyfer bae Abertawe a'r ardal fenter, yn Llandarcy mae cyfnewidfa Blaenau'r Cymoedd â'r M4, ac yn Ynysforgan, cyfnewidfa'r draffordd â'r ffordd i Ddyffryn Tawe. Rwyf wedi awgrymu o'r blaen na ddylid caniatáu i lorïau ddefnyddio'r ail lôn ar adegau brig. Rhywbeth a fyddai'n helpu i wella llif y traffig fyddai gwaith hirddisgwyliedig ar osod wyneb newydd o Langyfelach i Ynysforgan. A oes dyddiad ar gyfer y gwaith?
A gaf i ddiolch i Mike Hedges? Mae'n hollol gywir: mae yna nifer o ffactorau sy'n effeithio ar lif traffig ar y draffordd, gan gynnwys cyflwr y ffordd, fel y nododd. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi gwario symiau sylweddol o arian yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn gwella cyflwr y rhwydwaith ffyrdd strategol, a ffyrdd lleol hefyd yn wir. Fe wnaethom drwsio neu atal 200,000 o dyllau yn y ffyrdd. Oherwydd bod cymaint o dyllau yn ddiweddar, pe na baem wedi gwneud y gwaith hwnnw, byddai'r ffyrdd wedi bod mewn cyflwr llawer gwaeth. Felly, mae'n hollol hanfodol fod pwy bynnag sy'n cael ei ethol ar ôl mis Mai yn parhau â'r gwaith da hwnnw ar wella wyneb ffyrdd.
Mae'r gwaith ar wyneb ffyrdd y mae Mike wedi'i nodi yn mynd i fod yn rhan o'r rhaglen adnewyddu asedau mawr a phan fydd y gwaith cynllunio wedi'i gwblhau, byddaf yn darparu dyddiadau penodol ar gyfer y gwaith o osod wyneb newydd. Mae rhai rhannau, yn enwedig rhwng cyffyrdd 45 a 46, wedi cael wyneb newydd yn ddiweddar, yn fwyaf arbennig y brif lôn ddynesu tua'r dwyrain a'r ffordd ymadael tua'r gorllewin o gyffordd 45, ond rydym yn awyddus i wneud yn siŵr fod cyflwr y rhan gyfan yn cael ei wella.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar yr effaith y bydd cymeradwyo'r achos busnes ar gyfer parth strategaeth ddiwydiannol Caerdydd a Chasnewydd yn ei chael ar gynigion Parcffordd Caerdydd? OQ63986
Wrth gwrs. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU a Trafnidiaeth Cymru i gyflawni'r gorsafoedd hyn a'r gorsafoedd eraill ar draws de-ddwyrain Cymru fel rhan o argymhellion Burns. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r rhanbarth, gyda'r awdurdod lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y dyfodol i wireddu'r dyheadau enfawr hyn.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i chi am eich cwrteisi, eich uniondeb a'ch cyfeillgarwch drwy gydol fy amser yn y lle hwn? Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â chynigion parcffordd Caerdydd, nid yn unig oherwydd fy nghwestiynau mynych, ond wrth gwrs mae'n barc busnes wedi'i alluogi gan orsaf newydd i ddarparu mynediad i'r brif linell o fewn y parth strategaeth ddiwydiannol. Yn bwysig, fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phrifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae bellach wedi pasio drwy gam diweddaraf yr achos busnes, ac rwy'n awyddus i weld cynnydd yn cael ei wneud ar y cynnig ehangach, sydd â'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ganolog ynddo, cyfleoedd yma yn ne Caerdydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesi, a chyfle'r parcffordd ei hun. Mae cadarnhau cyllid i'r parcffordd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn hynod bwysig ac i'w groesawu.
A gaf i ofyn dau bwynt penodol i Ysgrifennydd y Cabinet? Mae gwaith alinio'r llinell liniaru'n fater a gadwyd yn ôl a bydd llwyddiant yn ddibynnol ar bartneriaeth â Llywodraeth y DU a Network Rail. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi pryd y mae'n disgwyl i waith cynllunio a chyflawni manylach ddechrau ar yr agwedd hon o'r cynnig? A pha waith y mae ei swyddogion yn ei wneud gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru ar y rôl y gall Trafnidiaeth Cymru ei chwarae yng nghyflawniad a gweithrediad yr orsaf newydd, yn enwedig o ystyried y gwaith y mae'r tîm sydd wedi ennill gwobrau yn Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi'i gyflawni ar brosiect metro de Cymru?
Wel, a gaf i ddiolch i Vaughan Gething am ei gwestiwn a'i ddiddordeb a'r modd y mae wedi hyrwyddo'r cynllun hwn, a diolch iddo hefyd, wrth iddo adael y Senedd yn yr etholiad nesaf, am ei gyfeillgarwch a'i gyfraniad aruthrol dros nifer o flynyddoedd i ddemocratiaeth Cymru? Mae'r orsaf y mae Vaughan wedi'i hyrwyddo, parcffordd Caerdydd, yn hanfodol bwysig i ddyfodol economaidd y rhanbarth. Bydd yn datgloi cyfleoedd swyddi enfawr ac yn darparu gwell cysylltedd rhwng cymunedau allweddol. Rwy'n falch o ddweud bod yr achos busnes yn cael ei gwblhau. Rwy'n deall y bydd yn cael ei gyflwyno y mis hwn i'w gymeradwyo'n derfynol. Bydd gwaith cynllunio'n digwydd ac yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn galendr hon, a bydd y gwaith adeiladu'n digwydd rhwng 2027 a 2029. Mae Vaughan Gething yn hollol iawn y bydd angen dull un tîm o weithredu. Felly, rydym wedi sefydlu un tîm i gyflawni'r gwaith hwn, a fydd yn gweld Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn gweithio gyda'i gilydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn mabwysiadu rôl arweiniol benodol ar gynllunio gorsafoedd. Bydd Network Rail, wrth gwrs, gan y bydd yn rheilffordd drom, yn arwain ar waith ar y llinell ei hun, ond byddant yn gweithio'n ddi-dor fel un tîm ar draws y rhanbarth.
Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Fe fentrais nad oeddech chi'n mynd i fy ngalw ar hynny, oherwydd rydym wedi mynd heibio i gwestiwn 5. Iawn, mae'n well i fi feddwl—
Rwyf wedi dal Andrew R.T. Davies ar y droed ôl o'r diwedd. [Chwerthin.]
Wrth sôn am barciau busnes, Weinidog trafnidiaeth, mae'n dda clywed bod parcffordd Caerdydd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, ac mae'n hen bryd, ond y gair allweddol a ddefnyddiodd yr Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth yno oedd bod y parcffordd yn ei gwneud hi'n bosib i'r parc busnes ddatblygu. Yn fy rhanbarth yn gyffredinol, mae sawl parc busnes a fyddai'n elwa o well cysylltiadau trafnidiaeth. Yn Sain Tathan, rwyf wedi gofyn i chi ar sawl achlysur pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy brwd ei chefnogaeth i roi gorsaf ym mhentref Sain Tathan a fyddai'n galluogi mwy o ddatblygu ar safle RAF Sain Tathan a hen safle Aberddawan. Nawr, yn anffodus, nid yw Llywodraeth Lafur y DU wedi rhoi unrhyw gamau ar waith i symud hyn yn ei flaen. O dan Alun Cairns, AS Bro Morgannwg, roedd yr achos busnes yn cael ei ddatblygu. Ar ôl yr etholiad cyffredinol, daeth i stop. Pam y mae Llafur Cymru mor wrthwynebus i'r orsaf yn Sain Tathan?
Wel, rydym yn trafod hyn yn rheolaidd gyda'n gilydd, Jane Hutt a minnau, ac rwy'n falch iawn o ddweud, o ganlyniad i'r cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, fe welsom ymrwymiad yn y cyhoeddiad 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' i fwrw ymlaen â'r orsaf honno yn Sain Tathan. Bydd yn hynod werthfawr, unwaith eto, nid yn unig i'r gymuned ei hun, ond i'r rhanbarth ehangach. Rwy'n falch iawn ei fod yn digwydd o ganlyniad i ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyflawni pecyn gwerth £14 biliwn o brosiectau ledled Cymru.
Cefnogwyd cynigion parcffordd Caerdydd gan Lywodraeth Cymru ar y sail y byddai'r elfennau rheilffyrdd yn cael eu hariannu'n llawn gan y sector preifat. Fel rhan o'r weledigaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer rheilffyrdd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd parcffordd Caerdydd bellach yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru wedi'r cyfan, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a buddsoddwyr preifat.
Mewn ateb ysgrifenedig i mi, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'r cyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru yn dibynnu ar y gwaith datblygu. Beth yw'r rhagdybiaethau o gyfran y costau y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'w talu—ni allaf gredu ein bod wedi llofnodi siec wag—a beth yw'r rhagdybiaeth fras o faint o gyllid o'r cyllidebau trafnidiaeth y bydd ei angen ar gyfer hyn?
Nid oes siec wag wedi'i llofnodi. Mae'n drueni fod cwestiynau o'r natur hon yn cael eu gofyn, oherwydd, mewn gwirionedd, y swyddi sy'n cyfrif, y cyfle sy'n cyfrif i bobl. Bydd hyn yn alluogwr mawr ar gyfer ffyniant economaidd yn y rhanbarth. Mabwysiadir dull a fydd yn gweld cyllid y sector preifat, cyllid Llywodraeth y DU a chyllid Llywodraeth Cymru yn cyflawni. Ond yn amlwg, rydym yn awyddus i wneud y mwyaf o gyfraniad y sector preifat ac i sicrhau, drwy waith datblygu, ein bod yn lleihau'r gost i'r trethdalwr. Ond drwy weithio gyda'n gilydd ar draws Llywodraethau a chyda'r sector preifat, byddwn yn bwrw ymlaen â chwe gorsaf, nid pump, yn ne-ddwyrain Cymru, gan liniaru tagfeydd ar yr M4 a sicrhau ein bod yn darparu swyddi o ansawdd uchel i bobl sydd wedi'u cloi allan o'r farchnad swyddi ar hyn o bryd.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhwydwaith cefnffyrdd yng ngorllewin Cymru? OQ63993
Mae ein strategaeth drafnidiaeth yn nodi ein gweledigaeth i wella trafnidiaeth ledled Cymru. Byddwn yn cyflawni'r weledigaeth hon yng ngorllewin Cymru drwy'r prosiectau a nodir yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Rydym hefyd yn grymuso arweinwyr lleol drwy gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol i lunio blaenoriaethau trafnidiaeth sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi mater cefnffordd yr A477 yn y Siambr hon gyda chi ar sawl achlysur. Mae'n llwybr prifwythiennol i mewn ac allan o sir Benfro, sy'n cysylltu â llwybrau allweddol fel yr M4 a'r fferi i Rosslare o Ddoc Penfro. Un o'r cyflawniadau rwy'n fwyaf balch ohonynt yn ystod y chweched Senedd yw gwella diogelwch yng nghyffordd Mynegbost Nash, a oedd, fel y gwyddoch, yn lleoliad nifer o ddamweiniau difrifol a marwolaethau yn y gorffennol. Digwyddodd hyn yn sgil swnian parhaus gennyf i a deiseb gyda dros 10,000 o lofnodion. Mae'r system goleuadau traffig clyfar a'r gwelliannau wedi bod yn drawsnewidiol. Fodd bynnag, mae problemau diogelwch yn parhau mewn mannau allweddol eraill ar y llwybr: goryrru yn Milton, troad Cosheston, ac a fydd yr arwyddion newydd ar gyffordd Rhos-goch yn gwneud gwahaniaeth ai peidio. Dyna pam y gelwais am adolygiad llawn o ddiogelwch yr A477 o Ddoc Penfro i Sanclêr. Yn un o'ch gweithredoedd terfynol fel Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth o bosib, a wnewch chi gymeradwyo'r adolygiad hwnnw fel bod teithwyr ar hyd yr A477 yn cael sicrwydd fod y ffordd honno'n ddiogel?
A gaf i ddiolch i Sam am ei gwestiwn? Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn buddsoddi mor helaeth yn ne-orllewin Cymru, ac yn ei etholaeth ef yn benodol. Mae gwella ffyrdd a thrwsio ffyrdd wedi bod yn brif flaenoriaeth i'r Prif Weinidog. O ganlyniad i hynny, rydym wedi gweld ffyrdd newydd yn agor; rydym wedi gweld wyneb newydd ar ffyrdd, rydym wedi gweld tyllau'n cael eu trwsio a'u hatal. Rwy'n falch iawn o glywed yr hyn y mae'r Aelod wedi'i nodi am fanteision gwelliannau A477 Nash. Yn amlwg, bydd archwiliad monitro a diogelwch llawn ar ôl y gwaith adeiladu yn cael ei gynnal, ond mae'r canfyddiadau cychwynnol yn gadarnhaol iawn mewn gwirionedd, fel y nododd yr Aelod.
Mewn mannau eraill ar yr A477, yn Rhos-goch, rydym wedi gosod mesurau diogelwch newydd ar y gyffordd, gan gynnwys signalau ac arwyddion llawer gwell. Rydym wedi gwella'r marciau a'r bolardiau i dynnu sylw at y gyffordd. Dyna'r cyntaf o'i fath ar y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru, felly mae'n mynd i fod yn gynllun braenaru ar gyfer ardaloedd eraill. Mae adeiladu'r gilfan gorfodi cyflymder i helpu i ostwng cyflymder cerbydau ar y ffyrdd dynesu bron wedi'i gwblhau a bydd yn cael ei gwblhau yn y flwyddyn ariannol hon. Byddwn yn cynnal ymarfer monitro ar ôl cwblhau'r cynllun yn 2026-27, yn unol â'r gofynion a'r broses archwilio diogelwch ffyrdd.
Yn amlwg, mae yna bethau eraill sy'n peri pryder—mae'r Aelod wedi eu hamlinellu—gan gynnwys goryrru ar yr A477 yn Milton. Rwy'n credu bod swyddogion eisoes wedi cadarnhau bod arolwg cyflymder ar y pwynt penodol hwnnw wedi'i ariannu, felly fe arhoswn am y gwaith ar hynny. Hefyd, byddwn yn gweithio gyda GoSafe i archwilio i weld a oes angen camera cyflymder ar yr A477 yn Milton.
8. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gydlynu cymorth i aelwydydd ledled gogledd Cymru y mae prisiau ynni uwch yn effeithio arnynt? OQ63998
Rwy'n falch o ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cyhoeddi datganiad y bore yma yn nodi sut rydym yn defnyddio ein cyllidebau ein hunain eleni i gynyddu cymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng ariannol nawr, gan gynnwys codi'r cymorth ariannol y gellir ei ddarparu ar gyfer tanwydd oddi ar y grid tra bod prisiau'n uchel ar hyn o bryd.
Diolch. Wrth gwrs, rydym yn mynd yn ôl i'ch dyddiau fel uwch ohebydd ar y Flintshire Evening Leader. Yr wythnos diwethaf, cysylltwyd â mi ar ran pensiynwyr a theuluoedd incwm isel yn Nhrelawnyd a'r ardaloedd cyfagos yn sir y Fflint, y mae eu pris olew gwresogi wedi codi o £300 i bron i £800 am 500 litr, ac sy'n cael trafferth llenwi eu tanciau. Ar Ynys Môn, nid yw 53 y cant o aelwydydd, a 49 y cant o aelwydydd yng Ngwynedd, wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad nwy, gyda llawer ohonynt yn dibynnu ar olew gwresogi am gynhesrwydd a dŵr poeth. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn adrodd bod un preswylydd lleol ar Ynys Môn wedi cael gwybod y byddai llenwi eu tanc olew gwresogi'n costio £1,000, i fyny o £370 gwta ddau fis cyn hynny. Mae hwn yn argyfwng dros nos i deuluoedd gwledig.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i dderbyn £3.8 miliwn o becyn cymorth newydd Llywodraeth y DU ar gyfer olew gwresogi, a dywedodd Llywodraeth yr Alban y bydd yn mwy na dyblu'r £4.6 miliwn a gynigir i'r Alban. Ond nid yw'r Ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol yma, yn y datganiad y cyfeirioch chi ato, ond wedi datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu opsiynau ar gyfer ei ddefnyddio. Sut, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn targedu'r cymorth hwnnw i gyrraedd y rhai sydd fwyaf o'i angen? Ar ba ffurf? Ac a fydd yn cael ei gyfyngu i'r rhai sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau, a allai eithrio pobl ar incwm isel tebyg fel pensiynau salwch?
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn? Wrth gwrs, y rheswm pam ein bod ni yn y sefyllfa hon yw oherwydd y gwrthdaro sy'n digwydd yn y dwyrain canol. Mae'n wrthdaro y credaf fod y Prif Weinidog yn hollol iawn i beidio ag ymrwymo lluoedd arfog Prydain iddo. Rwy'n gwybod bod y Ceidwadwyr wedi dweud y dylem fod wedi bod yno o'r cychwyn cyntaf; rwy'n credu bod Keir Starmer yn hollol gywir i sicrhau buddiannau gorau Prydain.
O ran yr effaith y mae'n ei chael, mae tua 100,000 o aelwydydd yng Nghymru yn dibynnu ar olew gwresogi. Oes, mae llawer o gymunedau mewn ardaloedd mynyddig a gwledig, gan gynnwys y rhai y mae Mark Isherwood wedi'u nodi, yn dibynnu'n llwyr ar olew gwresogi, gan gynnwys aelodau o fy nheulu yng Nghilcain a Pant-y-mwyn, y gwn fod yr Aelod yn gyfarwydd iawn â nhw. Mae'r gyfran ar draws rhai etholaethau yn eithaf syfrdanol: Ynys Môn 21.6 y cant, Gwynedd 16.9 y cant—nifer enfawr o dai sy'n dibynnu ar olew gwresogi.
Bydd fy ffrind a fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn ateb cwestiynau cyn bo hir, ond gallaf ddweud bod hyn yn destun trafodaeth yn y Cabinet ddydd Llun. Mae Jane Hutt yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi aelwydydd sy'n dibynnu ar olew ar gyfer gwresogi a dŵr poeth, gan ddefnyddio'r arian y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu, ond hefyd gan ddefnyddio rhywfaint o'r cronfeydd sydd gennym yn barod, sydd wedi bod mor allweddol dros y blynyddoedd.
Pan edrychaf ar rôl y gronfa cymorth dewisol yn ystod COVID, roedd yn achub bywydau. Bydd y gronfa honno'n cael ei defnyddio i gyflawni dau beth, rwy'n credu: y cynnydd mewn cymorth ariannol, a hefyd byddant yn ystyried cynyddu pa mor aml y gall pobl hawlio cymorth o unwaith i ddwywaith mewn cyfnod treigl o 12 mis. Mae hynny'n mynd i fod yn hynod bwysig i aelwydydd ledled Cymru. Ond efallai ei bod yn well i mi adael y cwestiynau manwl am yr argyfwng penodol hwn ac ymateb Llywodraeth Cymru i fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod Jane Hutt.
Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mudiadau trydydd sector yng Nghanol De Cymru? OQ63992
Diolch yn fawr, Heledd. Rydym wedi darparu £10.9 miliwn i Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn 2025–26 i gryfhau cefnogaeth i sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru. O hyn, mae bron i £800,000 wedi mynd i gynghorau gwirfoddol sirol yn Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd a'r Fro i helpu grwpiau lleol gyda chodi arian, llywodraethu, diogelu a gwirfoddoli.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyd-ddatganiad diweddar gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cwmpas, sy'n lleisio rhybuddion clir gan sectorau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol Cymru, ac sydd hefyd yn adleisio tystiolaeth gynyddol a glywaf gan sefydliadau lleol am argyfwng ar y gorwel o ran argaeledd cyllid. Mae gormod o sefydliadau sy'n chwarae rôl mor hanfodol yn darparu gwasanaethau yn ein cymunedau yn rhybuddio efallai na fyddant yn gallu parhau, y gallai fod yn rhaid iddynt gau'n llwyr, ac mae'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y rhai a gefnogant yn amhosib ei dirnad. Felly, pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r trydydd sector ac atal staff medrus a gwasanaethau ataliol hanfodol rhag cael eu colli yn y dyfodol agos?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Wrth gwrs, nid oes amheuaeth fod y trydydd sector yn darparu gwasanaethau mor bwysig a gwerthfawr i'r cymunedau a'r bobl sydd fwyaf o angen cefnogaeth. Rydym yn ymwybodol fod y trydydd sector yn wynebu galw cynyddol am wasanaethau, pwysau ar incwm, fel y dywedoch chi, costau a heriau cynyddol. Yn ddiweddar iawn, cyfarfûm â chyngor partneriaeth y trydydd sector yr wyf yn ei gadeirio, a chlywais farn gan bob un o'r sectorau a gynrychiolwyd. Wrth gwrs, mae wedi bod yn bwysig iawn ein bod wedi cyhoeddi'r cod ymarfer newydd hwn ar gyfer cyllid, gan weithio i sicrhau bod y trydydd sector yn arbennig yn elwa o drefniadau cyllido aml-flwyddyn, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru o ran y cyllid yr wyf eisoes wedi'i gyhoeddi, ond gan annog pob partner statudol arall sy'n ariannu'r sector hefyd. Mae hyn yn rhywbeth lle rwy'n credu bod ein rhaglen cyfleusterau cymunedol, sy'n darparu grantiau cyfalaf, wedi bod yn hanfodol bwysig.
Mae'n fater o weithio gyda'r sector i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y cymorth, fel y rhaglen Newid gwerth £1.5 miliwn. Mewn gwirionedd, partneriaeth yw honno gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ProMo Cymru a Cwmpas i ddarparu cefnogaeth, gan gynnwys mentora, hyfforddiant a sgiliau digidol. Hefyd, rwy'n falch iawn ein bod wedi ymestyn y gronfa benthyciadau asedau cymunedol gyda £10.5 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol. Felly, mae yna ffyrdd lle rydym yn rhoi mwy o gyllid i'r trydydd sector, ond gan bwysleisio'r angen i awdurdodau sy'n ariannu'r trydydd sector weithredu'r cod ymarfer.
2. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y mae'r nifer gynyddol o fenywod ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ei chael ar gydraddoldeb, tlodi a ffyniant? OQ63991
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd i fenywod ifanc, fel Cymunedau am Waith a Mwy, Twf Swyddi Cymru a blaengaredd anweithgarwch economaidd. Mae'r rhaglenni hyn yn cefnogi menywod ifanc yn uniongyrchol drwy ymgysylltu'n weithredol â nhw a darparu cymorth wedi'i deilwra i fynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae yna newyddion da, yn ôl data Llywodraeth Cymru, fod nifer y dynion ifanc nad ydynt yn cyfranogi yn yr economi yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2022, ond nid yw hynny wedi bod yn wir yn achos menywod ifanc. Mae'r niferoedd hynny wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2022. Mae canran y menywod ifanc yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant bellach yn ymddangos yn waeth na'r hyn ydoedd yn ystod y cyfyngiadau symud, yn ôl data dros dro Llywodraeth Cymru.
Pan fydd menywod yn byw mewn tlodi, fe wyddom wrth gwrs ei fod yn effeithio ar fwy na nhw'n unig—mae'n fwy tebygol o effeithio ar y teulu cyfan ac arwain at blant yn byw mewn tlodi, rhywbeth y clywn amdano'n aml yn y lle hwn, am nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Bydd hefyd, wrth gwrs, yn eu dilyn drwy gydol eu hoes. Amcangyfrifir bod y bwlch pensiwn rhwng y rhywiau yn y DU ddwywaith mor fawr â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod y rhesymau dros y duedd yng Nghymru ymhlith menywod ifanc ers 2022, a beth sy'n digwydd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb economaidd i fenywod yng Nghymru yr ymddengys ei fod ar gynnydd? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi casglu ac adolygu tystiolaeth ynghylch nifer y menywod ifanc rhwng 19 a 24 oed sy'n NEET—nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant—ac rydym yn ystyried yr effaith y mae'r duedd hon wedi'i chael ar gydraddoldeb, tlodi a ffyniant hirdymor Cymru wrth inni weithio ar y rhaglenni presennol a'r rhaglen gymorth cyflogadwyedd newydd.
Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o Cymunedau am Waith a Mwy. Mae'r mentoriaid sy'n gweithio'n lleol yn ymgysylltu'n rhagweithiol â menywod ifanc. Maent yn ymgysylltu â nhw mewn canolfannau hamdden, wrth fynedfeydd ysgolion, cyfleusterau gofal plant, canolfannau teuluoedd, banciau bwyd a digwyddiadau lleol. Mae'n ddull wedi'i dargedu i hwyluso cysylltiadau ystyrlon â menywod, yn enwedig mamau a gofalwyr, a allai wynebu heriau wrth fynychu apwyntiadau wedi'u trefnu yn ystod oriau gweithredu safonol. Wrth gwrs, mae hon yn ymdrech ar y cyd â Llywodraeth y DU o ran cyfrifoldeb yr Adran Gwaith a Phensiynau dros fudd-daliadau, amodoldeb, gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith, ac ati.
Rwy'n credu bod gennym astudiaethau achos da. Er enghraifft, cyfeiriwyd menyw ifanc 23 oed a fu'n ddi-waith yn hirdymor at Cymunedau am Waith a Mwy gan brosiect cymorth Rhondda Cynon Taf i ofalwyr sy'n oedolion ifanc. Roedd hi wedi bod yn gofalu am ei mam er pan oedd hi'n chwech oed ac roedd hi'n profi gorbryder a diffyg hyder cymdeithasol ynghylch mynd i mewn i'r farchnad lafur. Canolbwyntiai'r cymorth ar ei helpu i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddol i feithrin profiad, sgiliau a hyder fel cam cyntaf tuag at gyflogaeth yn y dyfodol.
Ond yn olaf, buaswn yn dweud bod y warant i bobl ifanc yn hanfodol o ran cyfleoedd i bobl ifanc o dan 25 oed: llwybrau hyblyg wedi'u teilwra yn ôl i mewn i addysg, hyfforddiant neu waith, a chydnabod y gallai rhieni a gofalwyr ifanc fod angen cymorth i gael mynediad at ofal plant wrth gwrs. Ac rydym wedi gwneud gwaith cyllidebu ar sail rhywedd ar hyn hefyd gyda chofnodion dysgu personol.
Diolch i Rhys ab Owen am ofyn y cwestiwn hwn gan fod hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, yn feirniadaeth ddamniol arall o 27 mlynedd o fethiant Llywodraeth Lafur Cymru. Nid yn unig fod gennym system iechyd sydd ar ei gliniau, mae ein system addysg wedi paratoi pobl ifanc ar gyfer diweithdra drwy ddiffyg ffocws ar gyrhaeddiad, cymorth galwedigaethol, neu gymorth ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Nid yw hyn yn adlewyrchiad o gwbl ar yr athrawon gweithgar sydd, ddydd ar ôl dydd, yn gwneud eu gorau glas ar ran ein plant a'n pobl ifanc, ond sydd eto wedi wynebu'r pwysau anfesuradwy a roddwyd arnynt gan bolisïau eich Llywodraeth.
Ar ben hynny, dangoswyd bod cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a'r isafswm cyflog, a gyflwynwyd gan eich cyd-Aelodau o'r blaid Lafur yn San Steffan, wedi gwthio pobl ifanc allan o gyflogaeth mewn gwirionedd, wrth i gyflogwyr geisio lleihau eu costau cyflogi drwy gael gwared ar rolau lefel mynediad a rhan-amser. Nawr, mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn 16.3 y cant—i fyny bron i 10 y cant o 2014.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni popeth a ddywedais hyd yma, a fyddech chi'n cytuno â mi fod Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru wedi llesteirio canlyniadau menywod ifanc yma yng Nghymru? Diolch.
Wel, gwn eich bod yn darllen sgript, sy'n dod cyn bob cwestiwn gan Geidwadwr, ond Natasha, hoffwn pe baech chi efallai'n gwrando ar fy atebion i Rhys ab Owen, pan fyddaf yn sôn am y ffyrdd rhagweithiol yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â'r materion gwirioneddol bwysig. Gwn ein bod yn rhannu'r pryder am fenywod ifanc—rydym yn rhannu hynny. Nawr, gadewch inni symud ymlaen yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol at yr hyn a wnawn yn ei gylch. Rwyf wedi sôn am Cymunedau am Waith a Mwy, rwyf wedi sôn, wrth gwrs, am y warant i bobl ifanc a'r ffaith ein bod yn gweithio drwy ein rhaglen cymorth cyflogadwyedd newydd.
Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn edrych ar y warant i bobl ifanc, gan ei bod yn sicrhau y gall menywod ifanc hyd at 25 oed gael mynediad at gymorth cydgysylltiedig, ac mae'n ymwneud ag adlewyrchu eu hamgylchiadau unigol. Ac yn gyffredinol, mae'r warant i bobl ifanc wedi cefnogi 64,000 o bobl ifanc ers mis Tachwedd 2021, gan gynnwys 10,000 o bobl ifanc, i symud ymlaen i gyflogaeth.
Felly, rydym eisiau—. Rwy'n siŵr eich bod chi eisiau gweld beth sy'n gweithio a datblygu hynny. A chredaf hefyd ei bod yn bwysig dweud bod y rhai sy'n hybu blaengaredd ym maes anweithgarwch economaidd—sy'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, Castell-nedd Port Talbot, sir Ddinbych a Blaenau Gwent, a gwn fod diddordeb gennych yn hynny—yn profi dulliau gweithredu newydd gyda phobl ifanc. Ac maent yn edrych ar rwystrau i waith, fel cyflyrau iechyd, a gweld a oes dyletswyddau gofalu a phroblemau iechyd a all eu hatal rhag mynd yn ôl i'r gwaith mewn gwirionedd. Ond rwy'n gobeithio y gwelwch, o ganlyniad i'r holl ymyriadau hyn, ei fod yn cael effaith gadarnhaol i alluogi menywod ifanc i gael gwaith ac addysg.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Wrth i dymor y Senedd hon ddod i ben, mae un methiant yn fwy na phob un arall yn fy marn i yn staen ar ei chyflawniad: ar ôl mwy na chwarter canrif o Lywodraeth Lafur Cymru, mae un o bob tri o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi. Ac mae'r rhagolygon hyd yn oed yn waeth. Mae dadansoddiad Sefydliad Bevan mewn adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos y rhagwelir y bydd tlodi plant yn codi i 34.5 y cant erbyn 2029, hyd yn oed ar ôl dileu'r cap dau blentyn, cam i'w groesawu yr oedd yn hen bryd ei wneud, ac yn nodi bod strategaethau Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy eang, yn hen ffasiwn, yn ddi-ffocws ac yn brin o dargedau mesuradwy.
Dywed yr adroddiad hefyd fod llawer o'r camau mwyaf effeithiol a gymerwyd gan wahanol Lywodraethau Llafur Cymru wedi'u cymryd o ganlyniad i gytundebau ad hoc gyda'r gwrthbleidiau, yn aml yn dilyn pwysau cyhoeddus, megis darparu prydau ysgol am ddim i blant cynradd gyda Phlaid Cymru, yn hytrach nag o ganlyniad i ddull gweithredu strategol. Felly, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y dylai'r Llywodraeth hon fod wedi'i wneud yn wahanol o ran ei strategaeth i leihau tlodi plant?
Diolch am eich cwestiwn, ac rwy'n croesawu'r cwestiwn. Rhaid imi ddweud, ar ôl cael llawer iawn o gwestiynau dros y blynyddoedd, mae'n wirioneddol bwysig craffu ar sail tystiolaeth ac ymgysylltu, felly rwy'n croesawu'r cwestiwn, gan fy mod innau hefyd, yn amlwg, wedi gweld yr adroddiad hwn gan Sefydliad Bevan. Rwyf bob amser yn edrych ar y dystiolaeth y gallwn ei chasglu ar gyfer y rhai sy'n dioddef. Rwy'n gwerthfawrogi Sefydliad Bevan yn fawr, a llawer o sefydliadau eraill, ond mae'n gorff ymchwil gymdeithasol arbennig o bwysig i ni droi ato.
Rwy'n cydnabod y ffordd bell y mae angen inni fynd er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant. Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i atal pobl rhag cwympo i dlodi, yn enwedig plant a phobl ifanc. Ond yn amlwg, buaswn hefyd yn dweud ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd yn adeiladol iawn, onid ydym, i gyflwyno prydau ysgol am ddim i'n holl ddisgyblion ysgol gynradd. Nid yn unig y fenter benodol honno, a oedd yn rhan o gytundeb cydweithio strategol—sy'n bwysig iawn o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu i fynd i'r afael â thlodi—ond hefyd, wrth gwrs, chwaraeais fy rhan gyda thasglu tlodi plant y DU, gan bwyso a phwyso. Roeddwn yn falch fy mod wedi cael cefnogaeth i wneud hynny, gan fy nghyd-Aelodau Llafur Cymru, a gennych chi yn wir, a'n bod wedi cael gwared ar y cap dau fudd-dal, fel bod 69,000 o blant bellach yn elwa o hynny ac yn cael eu codi allan o dlodi.
Felly, oes, mae mwy y gallwn ei wneud, ond rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn rhwng 2022 a 2026 i gefnogi aelwydydd, drwy raglenni i leddfu pwysau ariannol. Mae'n amlwg iawn fod ein strategaeth tlodi plant, a chael y strategaeth honno, wedi dod drwy ein Mesur hawliau plant, yn ôl yn 2011. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn edrych ar y strategaeth tlodi plant honno ac yn ei chyflawni, oherwydd fe ddaeth y dystiolaeth ar gyfer yr amcanion a'r camau gweithredu hynny gan blant a phobl ifanc eu hunain.
Diolch. Rwyf am droi nawr at gynnydd Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae 'gofyn a gweithredu' yn fenter hyfforddi allweddol, orfodol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy'n hyfforddi staff y sector cyhoeddus i nodi ac ymateb i gam-drin, ac mae'n rhan allweddol o strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru. Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth a wnaed gan Cymorth i Fenywod Cymru wedi canfod anghysondeb enfawr a brawychus yn nifer y bobl sy'n manteisio ar hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar draws GIG Cymru, gan amrywio o 74 y cant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i 2 y cant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Yn fwyaf syfrdanol, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oeddent yn ymwybodol fod yr hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gael, ac felly fod nifer eu staff sydd wedi'u hyfforddi yn 0 y cant. A ydych chi wedi bod yn monitro faint o bobl sy'n manteisio ar yr hyfforddiant hanfodol a gorfodol hwn, a sut roeddech chi'n disgwyl i'ch strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol lwyddo, o ystyried y methiant hwn i sicrhau bod staff ar draws y byrddau iechyd wedi'u hyfforddi i nodi'r arwyddion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i wneud ymholiadau wedi'u targedu i gefnogi dioddefwyr?
Yn amlwg, mae'r hyfforddiant yn gwbl hanfodol, oherwydd y dyletswyddau statudol sydd gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Credaf ei bod yn galonogol iawn, o ran y cynllun iechyd menywod a'r hybiau iechyd menywod sydd bellach yn cael eu sefydlu, fod trais domestig, mewn gwirionedd, yn rhan o ddisgwyliadau'r hybiau iechyd, i edrych ar hyn o safbwynt iechyd. Ond credaf ei bod yn bwysig edrych ar y fframwaith hyfforddi cenedlaethol, sy'n rhan o'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—y fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Rydym wedi darparu £1.6 miliwn drwy'r fframwaith hwnnw ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gael mynediad at yr hyfforddiant perthnasol hwnnw. Mae'r canllawiau statudol yn nodi bod yn rhaid iddynt fynd i'r afael â'r hyfforddiant hwn. Mae contractau wedi'u dyfarnu ar gyfer yr hyfforddiant dros y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, 'gofyn a gweithredu' yw'r broses o gynnal ymholiadau wedi'u targedu ar draws yr awdurdodau perthnasol a enwir yn y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Rydym wedi cynnal gwerthusiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac o ganlyniad i hynny, rydym wedi datblygu hyfforddiant ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol wedi'i deilwra hefyd. Wrth gwrs, drwy weithio'n agos iawn gyda'n sector arbenigol, Cymorth i Fenywod Cymru, BAWSO, a gynrychiolir ar ein bwrdd strategaeth cenedlaethol yr wyf yn ei gyd-gadeirio gydag Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fe welwn lle mae angen inni sicrhau bod gennym ddarpariaeth gynhwysfawr, ar sail statudol, ac mae hyfforddiant, yn enwedig, yn bwysig iawn.
Ni wnaethoch ateb fy nghwestiwn ynglŷn ag a fyddech yn monitro i weld a ddigwyddodd yr hyfforddiant hwnnw. Efallai y gallwch fynd i'r afael â hynny yn eich ateb nesaf.
Buaswn yn dweud mai un o brif fethiannau eraill Llywodraethau Llafur Cymru olynol, sydd wedi cyfrannu at danseilio eich polisïau cyfiawnder cymdeithasol, yw'r methiant i ddatganoli cyfiawnder i Gymru. Rydym wedi siarad yn aml, onid ydym, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y sesiynau holi hyn, am effaith yr ymyl garw ar rai o ddinasyddion mwyaf agored i niwed Cymru.
Gwnaeth comisiwn Thomas ar gyfiawnder yng Nghymru 78 o argymhellion. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn adroddiad diweddar Dr Rob Jones, a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a roddai ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o argymhellion y comisiwn ers 2019, dim ond tri sydd wedi'u gweithredu'n llawn. Fel y gwyddom, mae menywod yn y system gyfiawnder yn cael eu heffeithio'n arbennig. Yn 2024, cafodd 38 y cant o fenywod a oedd ar brawf yn Llys y Goron eu remandio—y gyfradd uchaf ers dechrau cadw cofnodion—tra bo dedfrydau o garchar ar unwaith i fenywod wedi codi 13 y cant, a dedfrydau byr wedi codi 51 y cant.
Yn ei gasgliad, mae Dr Rob Jones yn datgan:
'mae'n drueni nad yw adroddiad y Comisiwn wedi gweithredu fel sail ddeallusol a dylanwad arweiniol cryfach dros waith Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder yn y Chweched Senedd. Er bod ei huchelgais i fynd ar drywydd datganoli deddfwriaethol wedi'i rhwystro yn y pen draw gan amharodrwydd Llywodraeth y DU i ymgysylltu o ddifrif â materion cyfansoddiadol, mae methiant Llywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion sydd o fewn ei chylch gwaith yn sicr yn gyfle a gollwyd.'
Pam y credwch chi na wnaed cynnydd ar hyn yn y chweched Senedd?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Wel, mae'r cynnydd a wnaed, pan fo'n ymyl garw, ac rydych chi'n llygad eich lle, nid yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli—. Ble mae gennym gyfrifoldebau, fe wnaethom ddatblygu glasbrint, gyda Llywodraeth y DU, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, i gyflawni glasbrint cyfiawnder menywod. Ac o ganlyniad i hynny, mae buddsoddiad a chefnogaeth i fenywod, i'w cadw allan o'r system gyfiawnder, wedi bod yn effeithiol iawn.
Ond mae'n rhaid imi ddweud hefyd fod ffeil ffeithiau ddiwethaf Dr Robert Jones yn dangos tueddiadau sy'n peri cryn bryder o ran menywod yn cael eu dal yn y system gyfiawnder, yn enwedig ar remánd ac mewn dedfrydau byr, sy'n gwbl wrthgynhyrchiol o ran menywod, eu hamgylchiadau eu hunain, ac yn enwedig plant. Yna, fe wnaethom gynnal cyfarfod bord gron, lle siaradodd Rob Jones—Dr Jones—gyda phobl o'r llysoedd, o'r heddlu, o'r gwasanaethau cymdeithasol, o'r sector iechyd, o'r sector arbenigol, lle buom yn trafod sut y gallem oresgyn y problemau hyn.
Wrth gwrs, rydym yn gwneud cynnydd gyda chanolfan breswyl i fenywod yn Abertawe, a gobeithio eich bod wedi gweld yr adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, ynghylch y bwrdd cyfiawnder menywod, lle roedd gennym gynrychiolydd o Gymru, ac argymhellion pwysig iawn, sy'n cyd-fynd yn agos â'r materion yr ydym am fynd i'r afael â nhw.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Altaf Hussain.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai dyma'r tro olaf y byddaf yn eich holi fel hyn, roeddwn eisiau diolch i chi am y briffiau ac ati dros y blynyddoedd. Ac er nad ydym bob amser wedi cytuno â'n gilydd, mae ein trafodaethau wedi bod yn broffesiynol ac yn gwrtais.
Ym munudau olaf y chweched Senedd, dylem achub ar y cyfle i edrych yn ôl ar ein cyflawniadau dros y pum mlynedd diwethaf. Un o'ch blaenoriaethau oedd gwneud Cymru'n fwy diogel i fenywod a phlant. Sut aeth hynny yn eich barn chi?
Diolch yn fawr, a diolch am eich caredigrwydd a'ch cwrteisi, yn wir, yn eich rôl gysgodol ar gyfiawnder cymdeithasol, sydd hefyd wedi bod yn fuddiol iawn, gan y gallwn bob amser ddysgu oddi wrth ein gilydd a symud ymlaen gyda'n gilydd.
Rwy'n rhwystredig iawn ynghylch y ffaith ein bod yn dal i fyw mewn cyfnod lle mae menywod o hyd—. Wel, mae trais yn erbyn menywod cynddrwg ag erioed, os nad yn gwaethygu. Ac rwy'n credu bod hyn yn symptom o'r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, ac felly—. Ac rydym newydd gael cwestiynau perthnasol iawn am ein hymyriadau, nid yn unig o ran deddfwriaeth arloesol fel Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, 10 mlynedd yn ddiweddarach, ond dyletswyddau statudol, gwaith monitro, ar bob agwedd, ac yn sicr, gwaith monitro ar hyfforddiant hefyd i bawb sydd â dyletswyddau statudol.
Ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn gweld hyn yn flaenoriaeth. Rwy'n credu ei bod yn flaenoriaeth sy'n cael ei rhannu ar draws y Siambr hon—mae wedi bod—o ran cefnogaeth i ymgyrch y Rhuban Gwyn bob blwyddyn, a chydnabod hefyd fod hyn yn rhywbeth lle mae angen llywodraeth leol arnom, mae angen mwy o bwerau arnom mewn perthynas â chyfiawnder, a'r sector arbenigol, ac wrth gwrs, mae cyllid i'r sector arbenigol wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw Cymru'n ddiogel. Ar draws y Deyrnas Unedig y llynedd, llofruddiwyd 90 o fenywod gan eu partneriaid; roedd 10 o'r rheini yng Nghymru. Rydym wedi gweld cynnydd mewn trais rhywiol yng Nghymru, a dros 40,000 o fenywod a merched yn wynebu stelcio ac aflonyddu rhywiol. Un o'r achosion sylfaenol yw'r cynnydd enfawr mewn misogynedd ymhlith dynion a bechgyn Cenhedlaeth Z: mae dynion 16 i 24 oed yn llawer mwy tebygol o gredu y dylai menywod ufuddhau iddynt nag unrhyw genedlaethau cyfredol eraill. Mae hyn yn cael ei achosi'n rhannol gan algorithmau'r cyfryngau cymdeithasol—algorithmau Meta a TikTok ac ati—ar gyfer eu cenhedlaeth nhw. Gyda chwmnïau fel Meta a TikTok yn gwneud penderfyniadau sy'n caniatáu cynnwys mwy niweidiol ar sgriniau pobl, ar ôl i ymchwil fewnol i'w halgorithmau ddangos sut y mae dicter yn arwain at ymgysylltu, ac felly'n cryfhau eu mantolenni, sut rydych chi'n gweithio ar draws y Llywodraeth i frwydro yn erbyn y duedd hon sy'n peri gofid?
Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Wrth gwrs, mae'n eithaf clir fod Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn gwbl ymrwymedig i roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod a merched, a dyna pam fod gennym yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gryfhau'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mewn gwirionedd, mae'n canolbwyntio nid yn unig ar drais yn erbyn menywod yn y cartref, ond ar y stryd ac yn y gweithle, er mwyn sicrhau bod Cymru’n lle diogel i fenywod fyw.
Rwy'n credu bod yr ymyriadau yr ydym wedi bod yn eu trafod yn wirioneddol bwysig, fel ein llinell gymorth Byw Heb Ofn, gwasanaeth 24/7 am ddim i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Hefyd, mae'n codi ymwybyddiaeth o stelcio, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod a merched ym mhob agwedd ar fywyd.
Ond rwy'n falch eich bod hefyd wedi cydnabod a chanolbwyntio ar y cynnydd mewn misogynedd. Rwyf wedi dweud bod hon yn broblem gymdeithasol. Rwy'n falch hefyd ein bod wedi buddsoddi yn ein hymgyrch Iawn, sy'n targedu dynion yn uniongyrchol, gan ymgysylltu â dynion, a dynion ifanc yn arbennig, i geisio mynd i'r afael â'r gwrywdod gwenwynig sy'n arwain at fisogynedd a cham-drin menywod.
Rwy'n credu bod—. Bythefnos yn unig yn ôl, roeddem allan ar y grisiau yn nodi pum mlynedd ers llofruddiaeth erchyll Sarah Everard. Yr wythnos hon, gwelsom y penawdau erchyll am y fenyw ifanc a lofruddiwyd gan ei gŵr oherwydd cenfigen a'i chladdu yn yr ardd. Mae hyn yn erchyll yn yr unfed ganrif ar hugain ac yn y byd sydd ohoni. Ond rwy'n falch eich bod wedi sôn am y materion hynny, gan fod hyn yn ymwneud ag addysg a sicrhau bod ein plant yn tyfu i fyny i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus sy'n parchu ei gilydd. Dyna'n sicr yw pwynt ac amcan ein cwricwlwm, sydd bellach yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ar gyfer plant tair oed a hŷn, ac sy'n gwneud gwahaniaeth.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, San Steffan sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r liferi i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn trais rhywiol. Fodd bynnag, gyda nifer o Aelodau Seneddol Llafur uchel eu statws yn destun ymchwiliadau ar hyn o bryd am drais rhywiol neu gysylltiadau â phedoffiliaid, a allwn ni ymddiried ynddynt i fynd i'r afael â'r mater yn uniongyrchol? Mae chwythwr chwiban wedi tynnu sylw at y ffordd y gwnaeth uwch ffigurau Llafur atal ymchwiliadau i gangiau treisio mewn nifer o ddinasoedd ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o ddiogelu menywod a merched yw cynnal ymchwiliad annibynnol Cymru gyfan i gangiau grŵmio. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr drwy alw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sefydlu ymchwiliad o'r fath ar frys? Diolch yn fawr.
Rydym newydd lansio ein strategaeth 10 mlynedd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Rwy'n gobeithio eich bod wedi ei gweld. Mae'r ffocws yn parhau ar gyflawni argymhellion yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol. Mae'n bwysig ein bod yn caniatáu i'r strategaeth honno ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol gael ei rhoi ar waith nawr.
3. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r ddarpariaeth gwasanaethau cymorth ymosodiadau rhywiol yng ngogledd Cymru? OQ64003
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor am eich cwestiwn pwysig iawn.
Dros dymor y Senedd hon, rydym wedi darparu dros £1 filiwn o gyllid i sefydliadau arbenigol ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng ngogledd Cymru, yn ogystal â dros £2 filiwn mewn cyllid cyfalaf ar gyfer yr uned ddiogelwch cam-drin domestig. Yn ogystal, rydym wedi darparu dros £3.8 miliwn mewn cyllid craidd i ranbarth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gogledd Cymru.
Rwyf wedi cael gwybod am achosion yn y gogledd lle mae dioddefwyr, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn gorfod teithio allan o'r ardal i Lannau Mersi ar gyfer archwiliadau meddygol fforensig yn dilyn ymosodiad rhywiol oherwydd prinder archwilwyr meddygol fforensig yn y gogledd. Cafodd un dioddefwr diweddar ei drygio a'i threisio ar ddydd Iau, ond ni allai fynychu'r ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol tan y prynhawn dydd Sadwrn, gan nad oedd archwiliwr meddygol fforensig ar gael yn y gogledd. Roedd hyn yn golygu nad oedd yn cael ymolchi am 36 awr, ac ni chymerwyd unrhyw waed ganddi tan y dydd Sadwrn, sy'n allweddol pan honnir bod cyffuriau wedi'u defnyddio. O ystyried y gofid y mae hyn yn ei achosi a'r rhwystrau y mae'n eu creu rhag ymgysylltu â'r system cyfiawnder troseddol, pa gamau rydych chi'n eu cymryd ar frys i wella mynediad at ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, ac yn bwysicach fyth yn yr achos hwn, i sicrhau bod digon o archwilwyr meddygol fforensig ar gael yng ngogledd Cymru?
Wel, mae'n drueni eich bod yn gorfod rhannu profiad erchyll y goroeswr dan sylw, a diolch am ei rannu gyda ni. Mae'n dangos maint y broblem y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hi, ac mae'n broblem ddifrifol lle mae'n rhaid i bawb mewn awdurdod gymryd cyfrifoldeb. O ran gogledd Cymru, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru’n darparu refeniw a chyllid i sefydliadau arbenigol. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r ganolfan gymorth trais a cham-drin rhywiol (RASASC) a Cerrig Camu. Maent yn cynnig cymorth pwrpasol i oroeswyr trais rhywiol. Ond unwaith eto, ar gyfer cyllid yn y dyfodol—gan fod cyllid yn aml hefyd yn sail i fynediad at y cymorth yr oedd ei angen ar y goroeswr dan sylw—rydym yn cynnal adolygiad ac ymarfer mapio ledled Cymru o wasanaethau cymorth a mynediad i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol.
A gaf i dynnu sylw’n sydyn at y cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol? Maent yn hanfodol wrth gefnogi dioddefwyr trais rhywiol drwy’r system cyfiawnder troseddol. Maent yno gyda’r goroeswr. A dylwn ddweud, wrth gwrs, fel rwyf wedi’i ddweud, fod yn rhaid i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol fod yn gyfrifoldeb a rennir. Rhaid iddo gael ymrwymiad a buddsoddiad parhaus gan bob partner, yn cynnwys plismona, y llysoedd a’r system gyfiawnder.
Roedd pryderon dwys ynghylch diswyddiadau torfol a chau canolfannau argyfwng trais, a oedd yn wynebu ymyl dibyn o ran cyllid ym mis Mawrth 2026. Dylwn nodi'n glir fod y rhain yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Diolch i waith ymgyrchwyr, fe wnaethant lwyddo i sicrhau cyllid am ddwy flynedd arall, ond mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru’n llenwi bylchau a adawyd gan Lywodraeth y DU drwy'r canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol a ariennir drwy'r GIG. Yn anffodus, mae'r duedd ddigalon yn dangos bod y galw am wasanaethau cymorth ymosodiadau rhywiol yn cynyddu, ac y gall rhestrau aros am gwnsela fod yn hir. Mae sefydliadau trydydd sector, fel RASASC, neu Cerrig Camu ar gyfer dioddefwyr sy'n blant, yn darparu cymorth hanfodol ac mae'n hollbwysig ac weithiau'n achub bywydau os yw cymorth yn cael ei ddarparu i ddioddefwyr ar unwaith. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi gwaith elusennau yn y gogledd sy'n cefnogi dioddefwyr trais ac ymosodiadau rhywiol ac yn sicrhau bod dioddefwyr yn gwbl ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt ac yn cael eu hatgyfeirio ato?
Diolch am eich cwestiwn dilynol pwysig a pherthnasol iawn, Gareth. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi dyrannu dros £10 miliwn mewn refeniw a £3 miliwn mewn cyfalaf i gefnogi gwasanaethau trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol. Rhaid inni fynd yn ôl at ddyletswyddau statudol yma. Mae hyn yn un o ddyletswyddau statudol yr awdurdodau lleol yn y gogledd a'r bwrdd iechyd, bwrdd Betsi Cadwaladr. Mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol. Ac nid yw hyn yn cael ei gydnabod yn aml—30, 40 mlynedd yn ôl, nid oedd gennym unrhyw un o'r dyletswyddau cyfreithiol hyn, felly roedd yn rhaid i grwpiau ymgyrchu. Mae gennym ddyletswyddau cyfreithiol ar y cyrff hyn i asesu a diwallu anghenion eu poblogaeth, ac mae hynny'n cynnwys darparu gwasanaethau ymosodiadau rhywiol. Nawr, rydym eisiau cryfhau ac atgyfnerthu'r cyfrifoldeb hwn, felly rydym yn ymgynghori ar ganllawiau statudol, ond unwaith eto, fel y dywedaf, yng ngogledd Cymru, rydym yn cefnogi cyllid refeniw i'r sefydliadau y sonioch chi amdanynt, RASASC a Cerrig Camu.
4. Pa drafodaethau fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth y DU yn dilyn pleidlais y Senedd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona? OQ64010
Diolch yn fawr, Adam. Mae'r Bil Troseddu a Phlismona yn cefnogi ymrwymiadau hanfodol a fyddai o fudd i ddinasyddion Cymru, gan gynnwys gorchmynion parch, trosedd benodol o ymosod ar weithiwr manwerthu, ac mae'n cryfhau pwerau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu a therfysgaeth. Felly, roedd yn siomedig fod y Senedd wedi pleidleisio yn erbyn y Bil hwn yr wythnos diwethaf, Bil a gâi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs.
Ie, ond y cwestiwn yw: beth sy'n mynd i ddigwydd nawr, Ysgrifennydd y Cabinet? Oherwydd mae'r Bil yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Os oes newidiadau i fod, mae'n rhaid iddynt ddigwydd nawr, yn yr ychydig ddyddiau nesaf. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU? Pa awgrymiadau a wnaethoch fel Llywodraeth yn dilyn y bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y newidiadau rydych chi'n eu cynnig? A fyddwch chi'n gwneud datganiad i'r Senedd yr wythnos nesaf? Oherwydd, yn amlwg, bydd yn cael ei diddymu cyn hir. Ac yn seiliedig ar y trafodaethau yr ydych eisoes wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, a ydych chi'n disgwyl iddynt barchu confensiwn Sewel? Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ynghylch rhoi confensiwn Sewel ar sail gadarnach. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau, ond nid ydynt wedi'u cwblhau ar hyn o bryd. A ydych chi'n disgwyl y bydd Llywodraeth y DU, yn yr achos hwn, yn parchu confensiwn Sewel, a pha opsiynau rydych chi'n eu cynnig er mwyn adlewyrchu'r bleidlais yn y Senedd?
Wel, wrth gwrs, roedd y bleidlais honno'n siomedig dros ben—yn siomedig dros ben—gan mai'r ymrwymiadau hanfodol hynny a fydd o fudd i ddinasyddion Cymru. Rwyf eisoes wedi sôn fy mod wedi siarad â nhw yr wythnos diwethaf. Roeddwn yn siomedig iawn, gan imi gynnig briffiau, cyfarfûm â chyd-Aelodau. Ac mae hyn yn rhywbeth sy'n gyfrifoldeb ar Gomisiwn y Senedd i gysylltu â Senedd y DU i roi gwybod iddynt am ganlyniad y bleidlais. Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i roi gwybod iddynt am y canlyniad, ac mae pwyntiau a godwyd yn y ddadl, wrth gwrs, wedi'u rhannu gyda nhw, a byddant yn cael eu trafod. Y peth arall, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yw fy mod yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor llywodraeth leol a phwyllgor y cyfansoddiad, gan inni fynd yn ôl ac ymlaen, cawsom gynigion cydsyniad deddfwriaethol atodol, ymatebais i ohebiaeth, ac roeddwn o ddifrif eisiau sicrhau bod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei drafod fel y gallem gael y pwerau hynny yng Nghymru. Yn amlwg, gwrandewais ar bryderon ac ymatebais iddynt.
Felly, mae hwn yn lle anodd iawn, ond mae'n rhaid imi ddweud mai'r pryder yw bod y Bil hwn yn ceisio diogelu plant ac oedolion agored i niwed, yn creu troseddau newydd o gamfanteisio troseddol ar blant, cogio a chelu mewnol dan orfodaeth, troseddau newydd yn ymwneud â thynnu lluniau personol heb ganiatâd, gwneud ymddygiad grŵmio'n ffactor gwaethygol statudol—pam na chafodd hyn ei gydnabod ar draws y Siambr? Siomedig iawn. Ydy, mae'n rhywbeth lle gwnaethom drafod, a chlywais eich pryderon, ond roedd y Bil hwn yn rhywbeth ar ddiwedd ein chweched weinyddiaeth, y chweched Senedd, a allai fod wedi rhoi mwy o bwerau a diwygiadau i atebolrwydd plismona.
Rwy'n deall, Weinidog, eich bod chi'n siomedig ynghylch canlyniad y bleidlais, ond gofynnodd Adam Price i chi am ganlyniadau'r bleidlais honno, ac aethoch ymlaen i ail-greu'r dadleuon a gawsom o'r blaen. Clywodd y Senedd y dadleuon hynny a phenderfynu peidio â rhoi cydsyniad i'r Bil Troseddu a Phlismona. Mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i newid cyfeiriad mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i wrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma yn y Senedd. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn dadlau dros gyflwyno llais y Senedd i wneud hynny chwaith. Mae'n ymddangos yn amlwg iawn, pan fo hyn wedi digwydd yn y gorffennol, mai Llywodraethau Ceidwadol oedd yn San Steffan ac fe aeth Gweinidogion yn y Siambr hon mor bell â galw'r ffordd yr anwybyddai Llywodraeth y DU gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymosodiad ar ddatganoli, ond mae'r iaith honno'n gwbl absennol yn eich ymateb chi heddiw ac ymateb Llywodraeth Cymru yn ehangach. Felly, pam eich bod chi mor benderfynol o osgoi codi llais pan fydd angen sefyll dros Gymru yn erbyn Llywodraeth Lafur y DU?
Pam na wnaethoch chi drafod y materion gyda mi? Rwy'n siomedig iawn. Cefais gyfarfod gydag Altaf Hussain. Ni soniwyd gair wrthyf i. Ni soniwyd gair wrthyf am gwestiynau. [Torri ar draws.] Ni soniwyd gair wrthyf am gwestiynau. Mae gennyf ddiddordeb mawr, oherwydd rwy'n credu bod angen inni edrych ar hyn. Dyma ddiwedd y weinyddiaeth hon. Mae'n rhaid i mi ddweud, o ran dadl yr Arglwyddi, Ceidwadwyr Llywodraeth y DU, a'r materion a gododd Altar, dim ond nodi'r materion a oedd yn peri pryder a wnaethant. Ni wnaethant y pwyntiau a wnaed yr wythnos diwethaf, a oedd yn annisgwyl iawn i mi. Ni chefais unrhyw drafodaeth flaenorol ar y materion hyn, oherwydd buaswn wedi bod eisiau i ni allu cytuno i gael y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn drwodd. Rydym mewn sefyllfa anodd iawn, a mater i Gomisiwn y Senedd nawr, fel y dywedais, yw cysylltu â Senedd y DU i'w hysbysu am ganlyniad y bleidlais. Ac fel y dywedais, rydym yn siarad â Llywodraeth y DU, ond mae'n anodd iawn gwybod beth y gallwn ei wneud yn yr ychydig ddyddiau olaf.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dull newydd o fynd i'r afael â throseddu gan fenywod? OQ64001
Diolch, Lesley Griffiths. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion Cyfiawnder Llywodraeth y DU ac yn dadlau'n gyson dros agor y ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe. Yn gadarnhaol, argymhellodd adroddiad y bwrdd cyfiawnder menywod cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Arglwydd Ganghellor fod y ganolfan yn safle profi ar gyfer llety wrth remandio.
Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n parhau i gael y trafodaethau hynny, ond mae'n hynod siomedig nad oes gennym ganolfan i fenywod yn Abertawe o hyd. Clywais eich ateb yr wythnos diwethaf, yn eich rôl fel Trefnydd, fod y caniatâd adeiladu a chynllunio wedi'i gadarnhau. Rwy'n gwybod bod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn ledled Abertawe, ac nid yw'n ddigon da nad oes gennym y ddarpariaeth hon yng Nghymru o hyd. Erbyn hyn, roeddwn yn gobeithio y byddai gennym, neu y byddem yn cynllunio, darpariaeth debyg yng ngogledd Cymru. Rwy'n gwybod am eich ymroddiad i'r gwasanaethau hyn, ac mae'n amlwg fod rhywbeth yn llesteirio cynnydd. Felly, efallai y gallech chi gael trafodaeth bellach gyda Llywodraeth y DU, yn nyddiau olaf y weinyddiaeth hon, oherwydd mater i Lywodraeth y DU yw bod yn gyfrifol am sicrhau bod y ddarpariaeth yn ymestyn i gynnwys Cymru gyfan.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Dros y dyddiau diwethaf, cefais drafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Cyfarfûm â'r Arglwydd Timpson bythefnos yn ôl a phwysleisiais y brys i weld cynnydd ar y ganolfan breswyl i fenywod. Ddoe, cyfarfûm ag Ian Barrow, prif weithredwr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, a hefyd, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Arglwyddes Edwina Grosvenor a Claire Hubberstey o ganolfan menywod Hope Street yn Southampton, ynghyd â Bernie Bowen-Thomson, prif weithredwr Cymru Ddiogelach.
Mewn gwirionedd, sonnir am fodel Hope Street yn argymhellion y bwrdd cyfiawnder menywod, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n gyhoeddus, felly rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau sydd â diddordeb yn hyn wedi ei weld. Roeddwn yn falch o weld y gallai'r ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe fod yn ganolfan brawf ar gyfer menywod ar remánd. Rhaid inni wneud cynnydd nawr, ac mae cryfder y teimlad yn y Senedd hon, rwy'n gwybod, yn ddefnyddiol i sicrhau'r pwysau hwnnw yn yr ychydig ddyddiau olaf hyn.
Wrth gwrs, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid ychwanegol i ddargyfeirio menywod o fywyd o droseddu: defnyddiwyd cyllid ychwanegol o £31.6 miliwn i gynnig cymorth cyffuriau, cyflogaeth a thai. Rydym yn gwybod nad oes carchardai yng Nghymru i fenywod a cheir diffyg cyfleusterau arbenigol, ac mae hyn yn rhwystro adsefydlu. Roedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU wedi bod yn gweithio i gyflwyno canolfan i gartrefu menywod a ddedfrydwyd i'r ddalfa, gyda chyllid ychwanegol o £2.5 miliwn yn cael ei ddarparu yn 2020—felly, bron i chwe blynedd yn ôl. Felly, ers dwy flynedd nawr, rydych chi wedi cael eich Llywodraeth Lafur yn Rhif 10, a allwch chi ddweud wrthyf pam nad ydych chi wedi symud ymlaen â'r fenter hon yn llawer cynt? Mae'n amser hir, dwy flynedd, i'r menywod hynny y gallai eu bywydau gael eu newid yn llwyr.
Rwyf wedi sôn am y glasbrint cyfiawnder menywod, ac roedd yn lasbrint lle buom yn gweithio gyda'r Llywodraeth Geidwadol flaenorol i ddatblygu glasbrint menywod a glasbrint cyfiawnder ieuenctid, gyda chynlluniau gweithredu pum mlynedd. Mae'r glasbrint cyfiawnder menywod wedi arwain at ganlyniadau pwysig iawn: cynlluniau dargyfeirio ar gyfer menywod agored i niwed ar draws y pedwar heddlu o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Rwyf wedi sôn am y cynghorwyr annibynnol ar drais domestig. Maent yn y carchardai y tu allan i Gymru—nid oes gennym garchar i fenywod ac rwy'n gobeithio na fydd gennym ni byth garchar i fenywod yng Nghymru—yng ngharchar Eastwood Park a charchar Styal, fel y gall menywod gael cefnogaeth. Hefyd, yng Nghymru, wrth gwrs, rydym yn sicrhau y gall menywod sy'n treulio dedfrydau o garchar aros ar Buvidal i drin dibyniaeth opioid. Mae gennym raglen ymgysylltu gydag ynadon, dedfrydwyr a gweithwyr llys proffesiynol allweddol eraill. Ac mae gennym fwrdd cyfiawnder menywod ar gyfer Cymru gyfan.
Rwy'n eich annog i ddarllen hwn, Janet Finch-Saunders, oherwydd bydd yn dangos yn glir i chi yr argymhellion i Lywodraeth y DU ar gyfer gweithredu nawr, a gwn fod y Dirprwy Brif Weinidog a'r Arglwydd Ganghellor wedi'u gweld. Mae'n adroddiad annibynnol, ond wedi'i gyhoeddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r fenter arloesol Ymweld â Mam a'r cynllun cysylltiadau teuluol yng ngharchar Eastwood Park a charchar Styal, sydd, wrth gwrs, yn gwasanaethu menywod o ogledd Cymru.
Yn y materion hyn, rwy'n rhwystredig nad ydym wedi gwneud mwy o gynnydd. Y peth allweddol—ac rwy'n gobeithio y bydd pawb ar draws y Siambr hon yn fy nghefnogi ar hyn—yw y dylem gael rhywfaint o eglurder ynglŷn ag agor ein canolfan breswyl i fenywod yn ne Cymru, ac yna gallwn wneud yn siŵr y gellir ailadrodd hynny yng ngogledd Cymru hefyd.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn lliniaru tlodi tanwydd? OQ63994
Diolch yn fawr, Samuel Kurtz. Mae Llywodraeth Cymru yma i helpu aelwydydd sy'n cael trafferth, a heddiw, cyhoeddais ddatganiad yn nodi sut rydym yn gweithredu nawr i gynyddu cymorth i bobl mewn argyfwng ariannol, gan gynnwys codi'r cymorth ariannol dros dro ar gyfer ein tanwydd oddi ar y grid tra bod prisiau'n uchel, gan ddefnyddio ein cyllidebau ein hunain eleni.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r gwrthdaro parhaus yn y dwyrain canol unwaith eto wedi datgelu pa mor agored yw prisiau olew gwresogi i siociau allanol, ond roeddwn yn falch o weld bod prif weithredwr RenewableUK hyd yn oed wedi annog Ed Miliband i gynyddu cynhyrchiant olew a nwy môr y Gogledd.
Yn ôl ffigurau gan Cyngor ar Bopeth, mae 75 y cant o aelwydydd yng Ngheredigion a 41 y cant yn sir Benfro oddi ar y grid, gyda'r mwyafrif helaeth yn dibynnu ar olew gwresogi i wresogi eu cartrefi. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â gweithredoedd BoilerJuice, a gadarnhaodd archebion, cymryd taliad, a chanslo cyflenwadau wedyn, gan feio newidiadau yn y farchnad, a gadael cwsmeriaid heb danwydd y credent eu bod wedi'i brynu a thorri contract o bosib. I aelwydydd agored i niwed a gwledig, mae hyn nid yn unig yn ofidus, mae hefyd yn creu risg o'u gwthio ymhellach i dlodi tanwydd. Felly, pa waith rydych chi'n ei wneud i lobïo Llywodraeth y DU i gynyddu, yn gyntaf, cynhyrchiant môr y Gogledd a chefnogi cartrefi oddi ar y grid rhag prisiau gormodol neu arferion busnes gwael?
Wel, diolch am groesawu'r camau—rwy'n tybio eich bod yn croesawu'r camau sydd wedi'u cymryd, y £3.8 miliwn sy'n dod i helpu aelwydydd i dalu am eu holew gwresogi. Yn wir, cyfarfûm â Gweinidog Defnyddwyr Ynni y DU heddiw i fynegi diolch am y cyllid y maent yn ei ddarparu y flwyddyn nesaf, i esbonio'r cymorth sydd ar gael yma yng Nghymru, a hefyd i'w hannog i weithio gyda'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ar yr union faterion yr ydych yn eu codi, er enghraifft, yr angen am reoleiddiwr. Nid oes rheoleiddiwr ar gyfer tanwydd oddi ar y grid, ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n cytuno â mi fod hynny'n rhywbeth y dylem alw amdano. Roeddwn i'n sicr yn galw amdano heddiw.
Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar sut y gallwn estyn allan at yr aelwydydd sydd angen cymorth nawr. Gallwn wneud hynny drwy ein cronfa cymorth dewisol. Rwyf wedi dyrannu £1 filiwn ychwanegol i'r gronfa cymorth dewisol eleni, ac mae bellach yn £39.5 miliwn i gyd, a byddwn yn cynyddu nifer y taliadau o'r gronfa cymorth dewisol, ond hefyd y Sefydliad Banc Tanwydd, yr ydym yn dyrannu cyllid iddo ar gyfer eu cymorth nhw. Felly, mae'n rhywbeth lle rwy'n siŵr y gallwn wneud gwahaniaeth i ddiwallu anghenion yr aelwydydd hynny. Wrth gwrs, rwy'n gwadu eich pwynt am olew môr y Gogledd yn llwyr. Dyma lle mae angen inni weithio ar yr hyn sydd gennym, ac mae ein hynni adnewyddadwy yn allweddol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hefyd i Lywodraeth y DU am weithredu'n gyflym yn y gofod hwn a'r £3.8 miliwn a fydd bellach ar gael i gefnogi'r rhai yn fy ardal i sy'n ddibynnol iawn ar olew, nid yn unig i wresogi eu cartrefi, ond ar gyfer coginio a'r holl bethau eraill. Rydym yn gwybod bod y cap prisiau i'r rhai sydd ar y grid eisoes yn mynd i ddod i rym, felly mae'r bobl hynny eisoes wedi'u diogelu, ond nid yw'r bobl hyn wedi'u diogelu.
Mae llawer o bobl wedi bod yn cysylltu â mi yn nerfus iawn, a chlywais am bobl y cafodd eu cyflenwadau eu atal, er iddynt dalu amdanynt, a phobl sy'n cael eu dal yn wystlon bron gan y cynnydd i deirgwaith y pris. Felly, mae yna lawer o agweddau i hyn, ond y cymorth mwyaf y gallwn ei roi yw'r help yr ydym yn ei roi. Oherwydd ein bod yn cynnig cymorth sylweddol gyda chynnydd i £750 y pen nawr, sydd ar gael iddynt, yr hyn yr hoffem ei wybod yw: beth a wnawn i roi gwybod i'r bobl hynny am y cymorth sydd yno i'r rhai mwyaf agored i niwed a ddylai fod yn ei gael ac a ddylai fod yn ei hawlio?
Diolch yn fawr, Joyce Watson, a diolch am y cwestiwn hwnnw. Fe wnaethoch chi ei godi fel cwestiwn yn gynharach yr wythnos hon, ar ôl i'r £3.8 miliwn gael ei gyhoeddi. Yr hyn sy'n bwysig yw fy mod wedi cyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig hwn heddiw, ac a gaf i annog pawb i rannu hwnnw mor eang â phosib, ac annog pawb sy'n ei chael hi'n anodd i gysylltu â llinell gymorth 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' Advice Link Cymru, i weld pa gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo? Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mwy na mynediad at y gronfa cymorth dewisol, y Sefydliad Banc Tanwydd. Ar y gronfa cymorth dewisol, mae gennym 500 o bartneriaid sy'n gallu cyfeirio pobl i wneud cais i'r gronfa cymorth dewisol, ac maent yn cynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol, ASau ac Aelodau'r Senedd, sefydliadau, cymdeithasau hawliau lles, a'r mudiadau gwirfoddol. Felly, mae hyn bellach yn cyrraedd pawb sydd wedi ymgysylltu â phobl a allai fod yn agored i niwed, ond rwy'n gofyn i gyd-Aelodau ar draws y Siambr hyrwyddo'r datganiad ysgrifenedig hwn.
Os caf wneud y pwynt unwaith eto, i'r rhai sy'n defnyddio tanwydd oddi ar y grid, rydym yn codi'r swm dros dro i £750 y dyfarniad ac yn cynyddu'r amlder y gellir darparu'r taliadau hyn o unwaith i ddwywaith mewn cyfnod treigl o 12 mis, o leiaf dri mis ar wahân. Hefyd, ar gynllun cronfa wres genedlaethol y Sefydliad Banc Tanwydd, mae honno'n darparu talebau tanwydd ar gyfer cyflenwadau olew neu nwy i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy. Felly, dylai hynny barhau i gefnogi aelwydydd yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig yr effeithir arnynt.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd sydd mewn perygl o dlodi? OQ64005
Diolch yn fawr, Cefin. Rydym yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru, gan gynnwys Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan dargedu cymorth i'r rhai mewn angen. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn Dechrau'n Deg, y gronfa gynghori sengl, y cynnig gofal plant, a'r gronfa cymorth dewisol. Rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn i leddfu pwysau ariannol a rhoi hwb i incwm aelwydydd, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mhocedi pobl.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn drafod tlodi tanwydd yn benodol, a dilyn ymlaen o'r nifer o bwyntiau a godwyd eisoes gan gyd-Aelodau. Yng Nghaerfyrddin, nid yw tua 57 y cant o aelwydydd wedi'u cysylltu â'r grid nwy, gan gynnwys—ac rwy'n datgan diddordeb—fy nghartref i yn nyffryn Tywi, o'i gymharu â'r cyfartaledd o 15.7 y cant ar draws Prydain. Mae'r ffigur hwn yn codi i 72 y cant yng Ngheredigion Preseli. Yn anochel, felly, bydd llawer mwy o deuluoedd yng ngorllewin Cymru yn ddibynnol ar olew gwresogi, y mae ei bris wedi mwy na dyblu mewn llawer o achosion yn ystod yr wythnos ddiwethaf, fel y gwyddoch, oherwydd rhyfel byrbwyll, dibwrpas ac anghyfreithlon Trump yn Iran. A gadewch inni beidio ag anghofio pa mor gyflym y dechreuodd y Ceidwadwyr a Reform ddawnsio i guriad drwm rhyfel Trump, gan fynd mor bell â galw ar y DU i ymuno mewn ymosodiadau ymosodol. Rhaid imi fod yn onest; eu hargyfwng cyfunol nhw yw hwn. Rydym eisoes wedi clywed am y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed ar gyfer olew gwresogi, ac mae i'w groesawu—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Rwy'n dod at y cwestiwn.
Nawr, os gwelwch yn dda.
O ran teuluoedd sy'n cael trafferth, a yw Llywodraeth Cymru felly'n derbyn nad yw'r rhai a gaiff eu dosbarthu fel rhai sy'n agored i niwed yn ddigon i fynd i'r afael ag ansicrwydd tanwydd mewn ardaloedd gwledig, neu a ydych chi'n fodlon caniatáu i deuluoedd yn y cymunedau hyn gael eu gwthio ymhellach i dlodi?
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Cefin, ynglŷn â'r risgiau gwirioneddol yn y cymunedau rydych chi'n eu cynrychioli. Wrth edrych ar y cyfrifiad ar gyfer 2021, Ceredigion yw'r uchaf o'r rheini o ran dibyniaeth ar olew gwresogi, ar 35.30 y cant, Powys ar 27.70 y cant, sir Gaerfyrddin 23.70 y cant, sir Benfro 22. Gorllewin Cymru, fel y dywedodd Joyce Watson, yw'r mwyaf agored i niwed yn yr amgylchiadau hynny.
Gallaf eich sicrhau y bydd yr arian ychwanegol yn y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf, y £3.8 miliwn, yn mynd i'r aelwydydd hynny, a gallant ddod o hyd i'r cymorth drwy'r gronfa cymorth dewisol a'r Sefydliad Banc Tanwydd. Gallaf roi gwybodaeth i chi, ac fe wnaf wedi'r cyfarfod hwn, am bawb sydd wedi'u hawdurdodi i sicrhau y gall aelwydydd gysylltu â nhw i gael mynediad at y gronfa cymorth dewisol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Paul Davies.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63989
Diolch yn fawr, Paul Davies. Rydym wedi darparu £10.9 miliwn i Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn 2025–26 i gryfhau'r gefnogaeth i fudiadau gwirfoddol ledled Cymru. O hyn, mae £224,000 wedi mynd i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i helpu grwpiau lleol gyda chodi arian, llywodraethu, diogelu a gwirfoddoli.
Ysgrifennydd y Cabinet, ddiwedd y llynedd, cefais gyfle i ymweld â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, sydd, fel y gwyddoch, yn chwarae rhan hanfodol yn cryfhau cymunedau lleol yn sir Benfro drwy ddarparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth ymarferol i sefydliadau ac unigolion sy'n rhoi o'u hamser i helpu eraill. Mae eu gwaith yn aml yn digwydd y tu ôl i'r llenni, ond mae ei effaith i'w deimlo bob dydd ym mywydau pobl ledled y sir.
Ar hyn o bryd maent yn cynnal ymgyrch i hyrwyddo Wythnos Neuaddau Pentref, sydd, drwy lwc, yn digwydd yr wythnos hon ac yn taflu goleuni ar y cyfraniad y mae neuaddau pentref yn ei wneud i gymunedau gwledig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro am y gwaith partneriaeth rhagorol y mae'n ei wneud ledled sir Benfro, ac a wnewch chi ymuno â mi hefyd i ddathlu Wythnos Neuaddau Pentref drwy gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau lleol?
Diolch yn fawr. Dyna gwestiwn olaf hynod gadarnhaol. Gobeithio mai dyma yw fy nghwestiwn olaf y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ymuno â chi i ddathlu Wythnos Neuaddau Pentref a'r holl neuaddau pentref ledled Cymru. A gaf i wneud un pwynt yn unig? Soniais am y cyllid a roddwn i'n cynghorau gwirfoddol sirol; nid oes cyllid o'r fath yn digwydd yn unman arall yn y DU. Yng Nghymru, ymhob tywydd, drwy gydol eich cyni ariannol, am 14 mlynedd, rydym wedi parhau i ariannu ein cynghorau gwirfoddol sirol, ac rydym wedi eu hariannu am eu bod yn gwneud gwaith mor dda. A gaf i ddweud, Paul, fy mod i'n gwybod y byddech chi'n croesawu—? A gaf i ddweud bod Cymdeithas Pentref Eglwyswrw, sydd yn eich rhan chi o'r byd, wedi'i cael—? Mae hon yn neges olaf gadarnhaol iawn. Cafodd £19,500 ym mis Medi 2023 i adnewyddu'r hen adeilad ysgol gyda ffenestri a drysau newydd i wella'r effeithlonrwydd ynni. Un o bartneriaid allweddol y prosiect yw Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw. Roeddent yn cael trafferth cadw'r neuadd bentref honno'n gynnes. Nid af ymlaen at bob un o'r neuaddau pentref eraill yn eich etholaeth, ond mae hynny'n deillio o gyllid y rhaglen cyfleusterau cymunedol. Rwy'n annog cyd-Aelodau ar draws y Siambr i barhau i ddefnyddio'r gronfa cyfleusterau cymunedol, oherwydd mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth i'r neuaddau pentref hyn. Diolch yn fawr.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Er efallai mai dyna oedd eich cwestiwn llafar olaf i'r Gweinidog, rwy'n siŵr nad dyna oedd eich cyfraniad olaf yn y Senedd hon.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Galwaf ar Samuel Kurtz i ofyn cwestiwn 1.
1. Pa waith paratoi y mae'r Comisiwn wedi'i wneud ar gyfer cefnogi busnes y Senedd, gan gynnwys Cyfarfodydd Llawn, yn y Seithfed Senedd? OQ63999
Mae'r Comisiwn wedi cymryd camau gweithdrefnol ac ymarferol i gefnogi'r seithfed Senedd i ymgymryd â'r busnes. Bydd Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith mae'r Pwyllgor Busnes wedi'i gyflawni ynghylch newidiadau i Reolau Sefydlog a'r adroddiad gwaddol. Mawr obeithiaf bydd yr adroddiad o ddefnydd i lywio'r trafodaethau Pwyllgor Busnes nesaf. Yn ogystal, mae'r gwaith i gwblhau'r Siambr yma wedi ei wneud, ac mae swyddogion yn parhau i weithio tu ôl i'r llenni ar fonitro pob agwedd a datblygiadau pellach ar y cyfleusterau ar gyfer y Senedd nesaf.
Diolch yn fawr iawn ichi, Llywydd.
Gan gydnabod gwaith y Pwyllgor Busnes a'r gwaith ar y Rheolau Sefydlog, rwyf wedi dysgu llawer dros y pum mlynedd diwethaf y bûm yma, ac rwy'n credu bod llawer y gall y Senedd hon ei wneud ychydig yn well i wneud yn siŵr ei bod yn cynrychioli Cymru ychydig mwy. Felly, efallai y gallwn rannu rhai o'r meddyliau sydd gennyf ynglŷn â sut y gall y lle hwn wneud hynny ychydig yn well.
Rwy'n cyfeirio at yr ymweliad a gawsom â'r Dáil, yn Nhŷ Leinster, lle mae'r terfyn amser yn derfynol, a chaiff y Gweinidogion eu hamseru hefyd yn eu hatebion gweinidogol, a fyddai'n cael ei groesawu'n fawr gan rai o'r Aelodau yn y lle hwn, rwy'n credu. Yn bersonol hefyd, hoffwn weld diwedd ar gyfraniadau hybrid y Siambr, ond o leiaf, rwyf am weld diwedd ar Aelodau'n dod i mewn ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog, yn cael eu clip ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ac yna'n gallu dychwelyd adref a phleidleisio ar-lein. Rwy'n credu bod hynny'n gwneud cam â'r bobl sy'n ein hethol i'r lle hwn.
Ac yn olaf, yr wythnos waith. Rydym yn cyfarfod ar ddyddiau Mawrth a dyddiau Mercher am 13:30. Rwy'n credu bod angen inni ymestyn yr wythnos waith honno yn y dyfodol. Rwy'n credu bod angen inni gyfarfod ar ddydd Iau wrth inni fynd yn ein blaenau. Mae Seneddau eraill yn y Deyrnas Unedig yn cyfarfod am fwy o amser yn ystod wythnosau'r Cyfarfod Llawn. Rwy'n credu ei bod yn hollol iawn ein bod ni, fel Senedd Cymru, yn cyfarfod yn hirach i gynrychioli pobl Cymru. Dyna rai o fy meddyliau ar gyfer y seithfed Senedd, Lywydd.
Edrychaf ymlaen at weld y meddyliau hynny wedi'u clipio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Fel y dywedwch, mae'n dod yn arfer i lawer o Aelodau yn y Senedd hon. Diolch am eich meddyliau. Mae rhai ohonynt wedi cael eu hystyried gennym fel Pwyllgor Busnes. Fe fyddwch yn falch o wybod fod rhai ohonynt wedi'u cynnwys yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes. Mae'r Pwyllgor Busnes, yn yr adroddiad etifeddiaeth, yn argymell i'r Senedd nesaf—gan na chawn wneud mwy nag argymell—ei bod yn cyfarfod ar ddydd Iau hefyd, mewn cylch tair wythnos o gyfarfodydd sy'n cynnwys dydd Iau ar gyfer gwaith pwyllgor ac ar gyfer gwaith etholaethol hefyd. Gobeithio y byddwch chi a minnau'n dychwelyd i'r Senedd honno. Cyn hynny, byddaf yn eich gweld ar y strydoedd ac ym mhentrefi a threfi Ceredigion Penfro, lle byddwn yn ymgyrchu i wneud yn siŵr ein bod yn cael ein hethol i'r seithfed Senedd. Fel y gwyddoch, Samuel Kurtz, eich meddyliau chi ydynt am y tro ac maent wedi bod yn drafodaethau a gawsom yn y Pwyllgor Busnes, ond yn y pen draw, byddant yn faterion ar gyfer y seithfed Senedd. Efallai y byddaf yn eich gweld chi yno, efallai na wnaf.
2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella cyfleusterau ar gyfer bwydo ar y fron yn y Senedd? OQ64016
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Julie, ac am eich pwysau parhaus arnom i wneud rhywbeth am hyn, a chan Jenny Rathbone, hefyd. Rwy'n ei groesawu, oherwydd mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod y Senedd yn groesawgar ac yn gynhwysol, ac mae hynny wrth gwrs yn cynnwys bwydo ar y fron. Mae bwydo ar y fron yn cael ei groesawu ym mhob rhan o'r ystad hon ac mae'n cael ei hyrwyddo ar ein gwefan, ond rhaid inni gydnabod nad yw'r arwyddion yn glir, ac fe godwyd hynny yng nghyfarfod ein Comisiwn yr wythnos hon. Felly, mae yna ymrwymiad y bydd yr arwyddion hynny'n cael eu newid.
Roedd cydnabyddiaeth hefyd fod ystafell ar gael ar gyfer bwydo ar y fron—os gallwch ddod o hyd iddi, hynny yw—ac mae yno'n benodol ar gyfer hynny. Y broblem yw ei bod yn cael ei rhannu mewn gwirionedd, a'r unig gyfleuster ynddi hyd y gallaf weld yw cadair ar gyfer bwydo ar y fron, sy'n gwbl annigonol. Yr hyn yr hoffwn ei weld fel y Comisiynydd sydd wedi bod yn gyfrifol am hyn ers 10 mlynedd yw ymrwymiad gwirioneddol gan y Comisiwn i uwchraddio'r cyfleusterau hynny, i'w gwneud yn gliriach, i roi, fel yr awgrymodd fy nghyd-Aelod sy'n siarad draw yno, Janet Finch-Saunders, cyfleusterau ymolchi a chyfleusterau toiled i mewn hefyd i rieni gyda'r plant y maent yn ceisio eu bwydo ar y fron.
Felly, er na allaf newid pethau nawr, rwy'n argymell yn gryf fod sylw difrifol yn cael ei roi i'r mater hwn. Mae'n argymhelliad yn yr adroddiad ar y Senedd ystyriol o deuluoedd a gadeiriais. Ni allwn alw ein hunain yn wirioneddol gynhwysol os yw'r hyn a ddarparwn i famau sy'n bwydo ar y fron yn gwbl annigonol, ac yn fy marn i, mae'n gwbl annigonol.
Diolch yn fawr i Joyce Watson am yr ymateb hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn. Yn ddiweddar, cerddais o amgylch adeilad y Senedd yn edrych am unrhyw beth a fyddai'n gwneud i ni feddwl, 'O, mae hwn yn adeilad sy'n croesawu bwydo ar y fron'. Rwy'n gwybod bod Joyce eisoes wedi sôn bod yna ystafell, ystafell dawel gyda chadair ynddi, ond nid oes unrhyw ffordd i unrhyw un wybod bod y gadair honno yno, hyd y gallaf weld. Nid oes arwyddion i ddweud, os oes angen rhywle tawel arnoch ar gyfer bwydo ar y fron—er bod croeso i chi wneud hynny mewn unrhyw ran o ystad y Senedd—fod lle preifat ar gael i chi fynd iddo. Tybed a oedd hi wedi meddwl am arwyddion i alluogi menywod i ddod o hyd i'r lle penodol. Mae arwydd yng nghaffi'r Senedd i ddweud bod bwydo ar y fron yn cael ei groesawu, ond yn bersonol rwy'n credu y gallai'r arwydd hwnnw fod yn gliriach, er ei fod yn arwydd a welir gan bawb. Tybed hefyd a oes arwydd o'r fath yn ffreutur yr Aelodau, er enghraifft. Nid wyf yn siŵr fod arwydd yno chwaith. Rwy'n credu ei bod yn hollol gywir y dylid gwneud ymdrech wirioneddol nawr i sicrhau bod pawb yn gwybod bod hwn yn sefydliad bwydo ar y fron, a'n bod yn croesawu bwydo ar y fron, oherwydd—
Diolch, Julie.
—mae mor bwysig i'n plant.
Rwy'n cytuno'n llwyr, yn enwedig gan fod cyfleuster crèche pwrpasol yn mynd i fod ar y safle erbyn hyn. Byddai'n beth da pe baem yn priodi'r ddau beth gyda'i gilydd.
Rwy'n falch iawn o glywed bod arwydd yn y caffi bellach sy'n dweud bod bwydo ar y fron yn cael ei groesawu yma. Yn amlwg, mae angen iddo fod ychydig yn fwy o faint, oherwydd nid wyf wedi ei weld eto. Rwy'n credu bod dau beth yma. Mae bron i 40 mlynedd ers i mi gael fy mhlentyn cyntaf. Fi oedd y stiward llawr gwaith yn y cwmni teledu lle roeddwn i'n gweithio a dywedwyd wrthyf nad oeddwn i i ddod yn ôl i negodi gyda fy merch tra oeddwn i'n bwydo ar y fron yn dawel bach o dan siôl, sy'n hollol chwerthinllyd. Mae hwn yn weithgaredd normal y mae angen i bob menyw sy'n cael babi ei wneud. Felly, rwy'n credu y dylid cael newid diwylliant yn ogystal â lleoliad a ddylai fod ar gael i'r rhai sy'n dymuno bwydo ar y fron yn breifat. Ond dylai fod yn berffaith bosib i bobl allu bwydo ar y fron naill ai yn y caffi neu ger y Lego, sy'n amlwg yn lle sy'n rhaid i chi fod os oes gennych blentyn hŷn. Mae yna lefydd lle dylai pobl deimlo ei fod yn weithgaredd hollol normal. A phwrpas bronnau yw bwydo, nid gwerthu papurau newydd.
Diolch am hynny, ond dyna'r sefyllfa ar yr ystad hon. Mae'n berffaith dderbyniol i bobl fwydo ar y fron yn unrhyw le yn yr adeilad. Yr hyn nad ydynt yn ddigon da yn fy marn i, yw'r arwyddion, nad ydynt yn amlwg, ac mae hefyd angen gwella'r cyfleusterau a ddarperir ar hyn o bryd—nid oes dianc rhag hynny. Ac fel y dywedais, er na allaf newid y pethau hynny nawr yn y rôl hon, gan fy mod yn camu i lawr ohoni, rwy'n cael fy nghefnogi gan gyd-Aelodau eraill a fydd yn aros. Ac mae'r 'Adroddiad ar yr Adolygiad o Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd' yn tynnu sylw at hyn hefyd.
A chwestiwn 3, Hannah Blythyn.
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau'r Senedd i gaffael a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru ar ystad y Senedd? OQ64013
Mae cynnyrch Cymreig yn ofyniad sy'n rhan o'n contract gwasanaethau arlwyo gydag ESS Compass, ac rydym yn monitro perfformiad yn rheolaidd. Ar hyn o bryd, mae 76 y cant o'r holl fwyd a diod ar ystad y Senedd o gyflenwyr Cymreig. Rydym ni'n parhau i weithio gyda'r contractwr i wella'r lefel honno wrth hyrwyddo bwyd a diod o Gymru, ac rydym yn hyderus y gwelwn gynnydd a bod cyflawni canran o dros 80 y cant yn gyraeddadwy.
Diolch am eich ateb.
Mae gennym gynnig bwyd a diod gwych sy'n tyfu yma yng Nghymru heddiw, o winoedd Cymreig gwych i ddatblygiad distyllfeydd a microfragdai a mwy. A gwn fod gennych Winllan Llaethliw, sydd wedi ennill gwobrau, yn eich etholaeth chi, Lywydd. Hoffwn ein gweld yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd i wneud mwy i gefnogi ac arddangos y sector hwn ar ystad y Senedd. Er enghraifft, beth am gael cynhyrchion gwadd neu gynhyrchion arbennig yn y siop, yn cylchdroi drwy etholaethau newydd y Senedd yn ystod y seithfed Senedd?
Gallem chwarae ein rhan hefyd yn hyrwyddo gwin a chynhyrchion eraill Cymru yn yr hyn sy'n cael ei weini mewn digwyddiadau, a hefyd pan fydd gennym westeion sy'n ymweld o Gymru neu du hwnt. Dylem fod yn taflu goleuni ar gynhyrchion Cymru yn Senedd Cymru, a chredaf fod cyfle enfawr yma. Felly, Lywydd, hoffwn i chi amlinellu sut a phryd y bydd y Comisiwn yn gwneud i hyn ddigwydd. Diolch.
Ymddengys bod hon yn sesiwn i Aelodau awgrymu syniadau ar gyfer y Senedd nesaf, ac rydym yn cael syniadau gwych. Ac fel y dywedais, rydym yn gweithio gyda'r contractwr arlwyo i gynyddu'r lefel o gynhyrchion bwyd a diod sy'n dod o Gymru o 76 y cant, fel y soniais, i fwy nag 80 y cant. Rwy'n hoffi'r syniad rydych chi newydd ei grybwyll o gael cynhyrchion gwadd mewn ffordd gylchol, efallai wedi'u paru ag etholaethau newydd, a gallai honno fod yn ffordd o dynnu sylw at gynhyrchion newydd a chynhyrchion sydd wedi ennill gwobrau, fel Gwinllan Llaethliw yn fy etholaeth i.
Rwy'n fwy na pharod i gynnig Ceredigion Penfro fel yr etholaeth gyntaf, o bosib, i fod ar y rhestr o gynhyrchwyr gwadd, os wyf yma wrth gwrs, i gynrychioli'r etholaeth honno. Ond ydw, rwy'n cytuno bod angen inni hyrwyddo bwyd a diod o Gymru yn well yn y Senedd ac yng Nghymru yn fwy cyffredinol a thu hwnt.
Diolch i'r Llywydd a Joyce Watson.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Dim ond un sydd heddiw, a galwaf ar Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, nos Wener diwethaf, fe fynychais noson i ddathlu 75 mlynedd o addysg Gymraeg yn y Rhondda, yng Ngwesty Parc Treftadaeth y Rhondda. Mi oedd o'n gyfle hyfryd i ddathlu'r cwbl sydd wedi'i gyflawni, gan gynnwys y llu o ddisgyblion sydd wedi elwa dros y degawdau.
Fel ein hatgoffwyd gan Cennard Davies, bu'r frwydr i sefydlu addysg Gymraeg yn hir a chwerw, gyda'r llenor Kitchener Davies, a'i wraig, Mair, yn chwarae rhan allweddol wrth gael y cyngor i gytuno i agor Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen yn 1950. Dim ond yn 1988 y daeth yr ysgol uwchradd. Dechreuodd 38 o blant ar 27 Mehefin 1950; heddiw, mae bron i 2,000 o blant yn derbyn addysg trwy'r Gymraeg. Mi oedd hi'n emosiynol clywed Megan Tudur, un o'r 38 gwreiddiol, a merch i Mair a Kitchener Davies, yn rhannu ei hatgofion hi fel rhan o'r dathliadau, ochr yn ochr â Carys Whelan.
Er gwaethaf llwyddiant ysgolion Bodringallt, Ynyswen, Bronllwyn, Llyn y Forwyn, Llwyncelyn ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, mae'r frwydr yn parhau. Nid yw pob disgybl, hyd heddiw, yn cael y cyfle i gael addysg Gymraeg. Mi hoffwn i ddiolch o galon i bawb a fu'n ymladd dros addysg Gymraeg dros y degawdau, ac i'r athrawon, y disgyblion a'r rhieni, yn enwedig y rhai di-Gymraeg, sydd wedi sicrhau bod eu plant yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith.
I gloi gyda geiriau Tudur Dylan Jones, o'i gerdd i ddathlu'r pen-blwydd,
'Mae calon y "cwm culach" / Nawr yn well, yn curo'n iach, / Mae pawb o hyd, mae pob oed / Wir angen yr ieuengoed; / Cof y rhain yw cyfrinach / Rhondda Fawr a Rhondda Fach.'
Diolch, Heledd.
Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Pumed adroddiad ar hugain i’r chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM9217 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Pumed adroddiad ar hugain i'r Chweched Senedd', a osodwyd gerbron y Senedd ar 11 Mawrth 2026 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Janet Finch-Saunders AS am gamddefnyddio adnoddau'r Senedd. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor ein bod yn ystyried bod yr Aelod wedi torri'r cod ymddygiad ac y dylid ei cheryddu. Mae'r ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r gŵyn a rheswm y pwyllgor dros ei argymhelliad wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i atgoffa'r holl Aelodau o bwysigrwydd sicrhau ein bod yn gyfarwydd â'r rheolau sy'n llywodraethu pryd a ble y gellir defnyddio adnoddau'r Senedd. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, fel cynrychiolwyr etholedig, i ddeall y gwahaniaeth rhwng gweithgarwch gwleidyddol a chyflawni ein dyletswyddau fel Aelodau. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor. Diolch.
Does dim siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 7 ac 8 eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes gwrthwynebiad.
Felly, galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i wneud y cynigion—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM9218 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr adolygiad o'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth.
2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a osodwyd ar 11 Mawrth 2026, i ddod i rym ar ddechrau'r Seithfed Senedd.
3. Yn nodi’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad a nodir yn atodiad B i’r adroddiad.
Cynnig NDM9219 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2026.
2. Yn penderfynu bod y gwerthoedd a'r meini prawf penodedig y gall y Senedd gytuno arnynt drwy benderfyniad o dan baragraff 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 fel y'u nodir yn y Canllawiau.
3. Yn cytuno y bydd y Canllawiau'n dod i rym ar ddechrau'r Seithfed Senedd.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth wneud y cynigion hyn heddiw, gofynnaf i'r Senedd fabwysiadu'r cod ymddygiad diwygiedig a'r canllawiau diwygiedig ar gofrestru a datgan buddiannau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2026.
Un o'r prif bethau y mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi canolbwyntio arnynt drwy gydol y chweched Senedd yw datblygu fframwaith safonau cliriach, cryfach a mwy tryloyw. Mae’r cod ymddygiad a’r dogfennau sy’n ei gefnogi yn rhan allweddol o’r gwaith hwn. Roeddem yn awyddus i sicrhau bod y fframwaith safonau nid yn unig yn adlewyrchu arferion gorau, ond hefyd y disgwyliadau a osodir arnom, yn gywir ddigon, fel Aelodau etholedig. Mae ein gwaith ar urddas a pharch, yn ogystal â goblygiadau Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), wedi siapio’r darpariaethau hyn yn sylweddol.
Wrth ddiweddaru'r cod, rydym wedi ystyried profiad y pwyllgor, adroddiadau'r comisiynydd safonau yn ystod y Senedd hon ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid, aelodau'r cyhoedd a'r Aelodau eu hunain. Ein nod o'r cychwyn cyntaf oedd cael gwared ar amwysedd, cryfhau atebolrwydd a mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r materion sydd wedi codi yn y tymor hwn. Mae'r cod diwygiedig yn parhau i nodi'r egwyddorion ymddygiad trosfwaol, sy'n dal i fod wedi'u seilio ar egwyddorion Nolan, sy'n arwain dehongliad o'r rheolau, ac sy'n berthnasol lle nad yw ymddygiad cystal â'r disgwyl, hyd yn oed os nad yw'n mynd yn groes i un rheol benodol. Mae'r rheolau hyn, nad ydynt yn rhestr gyflawn, wedi'u diwygio, eu hegluro, ac mewn rhai achosion, wedi eu hehangu, gyda rheolau newydd wedi'u cyflwyno lle bo angen.
Un o'r newidiadau mwyaf sylweddol yw rhannu'r hen reol 2 yn ddwy ddyletswydd ar wahân. Bydd gan yr Aelodau rwymedigaeth benodol nawr i beidio â gwneud datganiadau camarweiniol yn fwriadol, a dyletswydd gyfatebol i gywiro anghywirdebau ffeithiol cyn gynted â phosib. Mae hyn yn gwneud disgwyliadau ynghylch gonestrwydd yn fwy tryloyw ac yn darparu sail gliriach ar gyfer asesu ymddygiad lle gall fod amheuon ynghylch bwriad. Rydym hefyd wedi mireinio'r rheolau ar gyfrinachedd. Mae'r cod wedi'i ddiweddaru yn nodi'n glir mai dim ond tra bo cwyn yn cael ei hymchwilio y mae cyfrinachedd yn berthnasol. Ar ôl i fater gael ei gwblhau neu ei wrthod, bydd yr Aelodau'n rhydd i ymateb yn gyhoeddus i honiadau mewn modd cymesur a phriodol.
Mae'r cod hefyd yn adlewyrchu realiti cyfathrebu modern. Bydd yr Aelodau bellach yn atebol yn bersonol am yr holl gynnwys a gyhoeddir yn eu henw, boed wedi'i bostio ganddynt eu hunain neu gan aelod o staff sy'n gweithredu ar eu rhan. Mae hyn yn cau'r bwlch a nodwyd mewn achosion diweddar, ac yn atgyfnerthu'r egwyddor na ellir dirprwyo atebolrwydd.
Mae ychwanegiad pellach yn cydnabod pwysigrwydd cyfrifoldebau’r Aelodau fel cyflogwyr. Mae rheol newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Aelodau weithredu fel cyflogwyr cyfrifol, gyda chefnogaeth canllawiau, a chynnal codau ymddygiad staff, gan ddarparu llawlyfrau staff cynhwysfawr a chwblhau hyfforddiant ar urddas a pharch. Gall methiant i ymgymryd â'r hyfforddiant hwn gael ei ystyried mewn achosion safonau yn y dyfodol.
Rydym hefyd wedi darparu eglurder ar y broses ar gyfer cwynion yn ymwneud â datganiadau o fuddiant. Er bod ymddygiad mewn Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau'n parhau i fod yn fater i'r Llywydd neu'r Cadeiryddion, bydd cwynion am ddatganiadau o fuddiant bellach yn cael eu cyfeirio'n uniongyrchol at y comisiynydd.
Mae'r rheol ar ymyrryd â chwynion wedi'i chryfhau. Ni ddylai Aelodau annog, dylanwadu na chymell unrhyw unigolyn i beidio â gwneud cwyn, nac atal unrhyw un rhag rhoi tystiolaeth. Mae'r rheol bellach yn egluro hefyd na ddylid defnyddio cytundebau peidio â datgelu i atal staff, neu gyn-staff, rhag codi pryderon ynghylch ymddygiad Aelod.
Yn olaf, mae'r cod bellach yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan buddiannau perthnasol neu gofrestradwy, nid yn unig yn ystod trafodion y Senedd, ond hefyd wrth wneud sylwadau y tu allan i fusnes ffurfiol, er enghraifft wrth gyfathrebu â Gweinidogion, swyddogion cyhoeddus neu eraill sy'n ymwneud â pholisi cyhoeddus. Mae hyn yn dod â ni'n agosach at arferion yn neddfwrfeydd eraill y DU, ac yn gwella tryloywder yn ymwneud allanol yr Aelodau.
Yn ogystal â diwygio'r cod ymddygiad, mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi diweddaru'r canllawiau ar gofrestru datganiadau o fuddiant, gan adlewyrchu adroddiadau a gynhyrchwyd gennym yn y Senedd hon a'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog a gytunwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r gofynion wedi'u diwygio i symleiddio'r rheolau a gwneud y gofynion ynghylch buddiannau'r Aelodau'n gliriach ac yn fwy tryloyw. Mae'r categorïau wedi'u hailgynllunio i sicrhau bod y gofrestr yn haws i'w deall, ac mae categori gwirfoddol wedi'i ychwanegu i ganiatáu i Aelodau gofnodi buddiannau nad ydynt yn ofynnol yn ôl y gofrestr, ond sy'n berthnasol i'w gwaith fel Aelodau'r Senedd.
Mae'r gwaith hwn hefyd wedi symleiddio'r gofynion datgan o dan y Rheolau Sefydlog. Nid yw Aelodau bellach wedi'u gwahardd rhag pleidleisio os ydynt wedi datgan buddiant cofrestradwy o dan Reolau Sefydlog 2.6 a 2.7. Nid yw hyn yn newid y gofyniad i ddatgan buddiant, ond mae'n dileu rheol nad yw erioed wedi'i sbarduno ac sy'n anghyson ag arferion mewn Seneddau eraill.
Mae'r canllawiau diwygiedig hefyd yn egluro'r gofyniad i Aelodau ddatgan buddiannau perthnasol, a lefel y manylder sy'n ofynnol mewn datganiadau o'r fath, gan gynnwys wrth gydymffurfio â'r gofyniad newydd yn y Rheol Sefydlog i ddatgan buddiant wrth gyflwyno busnes y Senedd. Mae canllawiau ychwanegol hefyd wedi'u cynnwys i Aelodau ynghylch y ffaith bod y mater hwn yn cael ei ystyried wrth benderfynu a oes angen datganiad.
Hoffwn ddiolch i Aelodau'r pwyllgor am eu gwaith, ac i swyddogion y pwyllgor ledled y Senedd hon, a phawb a gyfrannodd dystiolaeth yn y broses hon. Os cânt eu derbyn, bydd y cod a'r canllawiau newydd yn dod i rym o ddiwrnod cyntaf y seithfed Senedd. Diolch.
Unwaith eto, does dim siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 sydd nesaf. Nid yw'r Gweinidog Llywodraeth sy'n ymateb yn bresennol yn y Siambr ar hyn o bryd. Felly, fe wnawn ni atal y cyfarfod am bum munud i ganiatáu i'r Gweinidog fod yn bresennol. Diolch. Fe wnawn ni atal y cyfarfod am bum munud.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:43.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:47, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Eitem 9 ar ein hagenda ni heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cenhadaeth Cymru: Egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Delyth Jewell.
Cynnig NDM9216 Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Cenhadaeth Cymru: Egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf siarad am ein hadroddiad olaf fel pwyllgor ar faterion rhyngwladol, sef 'Mission Cymru'. Hoffwn ddiolch i dîm y pwyllgor am eu cymorth, yn enwedig Sara Moran am baratoi yr adroddiad, a hefyd ein tîm clercio, Richard a Haidee. Diolch yn fawr iawn iddynt, a hefyd i bawb oedd wedi rhoi tystiolaeth.
Mae'n cysylltiadau rhyngwladol fel gwlad yn ôl-ddyddio, wrth gwrs, i gyfnod cyn datganoli, a chyn ffurfio'r deyrnas rydym ni'n rhan ohono. Mae gennym rôl bwysig i'w chwarae ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae'n rhaid manteisio ar y cyfleoedd sydd gennym.
Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, efallai nad yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater datganoledig, ond mae'n bwysig. Rwy'n gwahodd yr Aelodau i groesawu Conswl Cyffredinol Llywodraeth Iwerddon, Denise McQuade, sydd yn yr oriel gyhoeddus.
Mae croeso mawr i chi.
Rydym yn diolch i chi am eich cyfraniad at waith y Senedd hon, ac rydym yn dymuno'r gorau i chi yn y dyfodol wrth ichi symud ymlaen o'ch rôl yn nes ymlaen eleni. Ar lefel bersonol, hoffwn ddiolch i chi am eich ymroddiad, eich dycnwch a'ch cyfeillgarwch. Bydd colled ar eich ôl.
Mae'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon yn enghraifft gadarnhaol o gydweithredu ystyrlon, sy'n dangos gwerth ein partneriaethau rhyngwladol. Roeddem yn falch iawn o nodi Dydd Gŵyl Sant Padrig ddoe drwy gyhoeddi ein hail adroddiad ar y berthynas. Mae fy mhwyllgor bob amser wedi ymdrechu i wneud cyfraniad cadarnhaol ac adeiladol at stori ryngwladol Cymru, un a fydd yn sefyll prawf amser. Mae'r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth i'r ymchwiliad hwn ac ar ein profiad ein hunain.
Gan edrych tua'r dyfodol, rydyn ni'n gosod 12 egwyddor ar gyfer Llywodraethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar fod y Prif Weinidog, wrth ymateb i'n hadroddiad, wedi derbyn dau ohonynt a derbyn y lleill mewn egwyddor. Mae hynny yn sicr i'w groesawu.
Credwn y byddai mabwysiadu 'Cenhadaeth Cymru' yn gwarantu bod Cymru'n cyflawni ei huchelgais ryngwladol ac yn gwireddu ei photensial. Mae ei hegwyddorion yn cwmpasu pob agwedd ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru: cyfrifoldeb y Cabinet, strategaethau, adrodd, cyflawniad ac adnoddau. Rydym yn cytuno â'r rheini sy'n dadlau y dylai Cymru fod â mwy o hyder ar lwyfan y byd. Ni ellir cymryd hyn yn ganiataol na'i adael i siawns.
Felly, at ein canfyddiadau. Cyhoeddwyd strategaeth ryngwladol a phum cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn 2020, a chyhoeddwyd ei chynllun cyflawni rhyngwladol yn 2025. Gyda'i gilydd, maent yn nodi bron i 300 o ymrwymiadau a nodau. Mae 'Cenhadaeth Cymru' yn galw am ddull ag iddo fwy o ffocws. Nid yw Llywodraeth Cymru’n adrodd ar ei gweithgarwch rhyngwladol mewn un lle. Nid yw ei hadroddiadau'n cyfeirio at gyflawni ymrwymiadau a nodau penodol, ac mae hynny wedi cyflwyno heriau wrth ganfod beth sydd wedi'i gyflawni a beth nad yw wedi'i gyflawni. Roedd tystion i'n hymchwiliad wedi profi'r un heriau weithiau, fel y dangosir gan fylchau mewn adrodd ac weithiau mewn ymwybyddiaeth isel.
Am dros 18 mis, gofynnodd ein pwyllgor am ddiweddariad ar y cyflawniad, a ddarparwyd gan y Prif Weinidog ym mis Tachwedd 2025. Byddai manteision cael diweddariadau cyfredol drwy gydol y chweched Senedd wedi bod yn amlwg, wrth gwrs, ac yn niferus. Rydym yn cytuno â thystion ynglŷn â phwysigrwydd egluro gwaith rhyngwladol i'r cyhoedd, gan gynnwys meithrin hyder, cefnogaeth ac atal camddealltwriaeth. Wrth gwrs, mae wedi bod yn anffodus fod gwaith craffu ein pwyllgor, ar adegau, wedi'i lesteirio gan ymdrechion i gael gafael ar wybodaeth. Mae'n drueni y gwrthodwyd cyfle inni gefnogi a dathlu cerrig milltir rhyngwladol a roddwyd i Lywodraeth Cymru a phartneriaid. Yn 'Cenhadaeth Cymru', rydym yn dweud na ddylai Llywodraethau'r dyfodol osgoi cyfleu ymdrechion i arddangos Cymru ar lwyfan y byd. Dylid gweld y Senedd fel cynghreiriad pwysig.
Ddirprwy Lywydd, fe gofiwch fod y Prif Weinidog bob amser wedi bod yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru, ac eithrio, wrth gwrs, swydd benodol yn y Cabinet a ddaliwyd gan y Prif Weinidog presennol o 2018 i 2020. Nawr, rydym wedi clywed am gryfderau a gwendidau'r ddau fodel gan randdeiliaid, ac mae'r Prif Weinidog yn nodi ei barn ei hun yn yr ymateb. Nawr, mae fy mhwyllgor wedi craffu ar nifer o Brif Weinidogion, ac rydym wedi'u beirniadu am beidio ag ymddangos yn bersonol i roi tystiolaeth y tu hwnt i un sesiwn graffu flynyddol, yn enwedig mewn perthynas â chyllidebau. Nawr, mae'r ffaith nad oes unrhyw Brif Weinidog wedi manteisio ar y cyfle pwysig i eirioli'n bersonol dros gysylltiadau rhyngwladol y Llywodraeth yn y ffordd honno wedi bod yn rhwystr arall, mae arnaf ofn, i'n dealltwriaeth o gyflawniad rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Yn 'Cenhadaeth Cymru', rydym yn ailadrodd ein safbwynt, fel mater o egwyddor, os yw Prif Weinidog yn dewis ymgymryd â'r cyfrifoldebau polisi hynny, y dylent fod ar gael i'w dwyn i gyfrif amdanynt yn bersonol.
Ond Ddirprwy Lywydd, mae llythyr eglurhaol y Prif Weinidog sy'n mynd gyda'r ymateb, yn gwneud sylwadau pwysig. Hoffwn drafod rhai ohonynt. Mae'n darparu manylion defnyddiol, gan gynnwys barn y Prif Weinidog fod cyflawniad rhyngwladol wedi mynd o nerth i nerth. Mae hefyd yn nodi ble mae'r Prif Weinidog yn credu nad yw gwaith Llywodraeth Cymru wedi'i gynrychioli'n glir gan fy mhwyllgor. Rwy'n ofni y gallai'r llythyr egluro ymhellach rai o'r materion yr ydym wedi'u hwynebu. Er enghraifft, mae'r llythyr yn egluro, ar gyllidebau, fod Prif Weinidogion olynol wedi darparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar ar 14 achlysur gwahanol. Nawr, mae hynny'n tynnu sylw at ddau o'n prif rwystredigaethau. Yn gyntaf, fod gwybodaeth ysgrifenedig yn aml yn anghyflawn, heb fod yn glir bob amser, ac yn ail, fod ymddangosiadau personol blynyddol yn digwydd y tu allan i gylchoedd craffu cyllidebol. Nawr, fel y dywedwn yn 'Cenhadaeth Cymru', er ei fod yn aml yn ddefnyddiol wrth gwrs, nid yw craffu drwy ohebiaeth yn cymryd lle sesiynau holi personol.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno y dylai penderfynu beth sy'n cyfrif fel craffu priodol ac effeithiol a sut y dylid cynnal gwaith craffu o'r fath fod yn fater i'r Senedd, nid Llywodraeth Cymru. Nawr, dyna gasgliad allweddol arall. Rydym yn nodi'r egwyddor yn glir, yn y dyfodol, y dylai pwy bynnag yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes hwn fod yn destun craffu ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru yn yr un modd â Gweinidogion portffolio eraill.
Ond yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ar adnoddau, mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb gymharol fach ar gyfer gweithgarwch rhyngwladol. Soniodd rhanddeiliaid am gyflawni ar adnoddau cyfyngedig, mater y credwn y gellid mynd i'r afael ag ef drwy gronni adnoddau. Mae hyn yn gwneud yr wybodaeth ariannol a ddarperir i'r Senedd hyd yn oed yn bwysicach. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi codi sawl mater. Yn wir, fe wneuthum fy sylwadau olaf ar y pwnc yn y Siambr yn ystod y ddadl ar y gyllideb ym mis Ionawr, pan nodais fod ymateb y Llywodraeth wedi dod i law ddwy awr yn unig cyn imi siarad.
Rydym o'r farn, fel pwyllgor, ein bod ar adegau wedi cael ein hatal rhag gallu craffu'n hyderus ar dros £58 miliwn o arian cyhoeddus a ddyrannwyd i'r maes hwn. Os cânt eu mabwysiadu, byddai egwyddorion 'Cenhadaeth Cymru' yn trawsnewid y broses o graffu ar y gyllideb ar gyfer pwyllgor Senedd sy'n gyfrifol yn y dyfodol. Ond hoffwn ddweud, wrth gloi'r sylwadau agoriadol hyn, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn gwybod bod gwaith da'n digwydd. Rydym wedi gweld y llawer iawn o ewyllys da, angerdd ac arbenigedd yn hyrwyddo cysylltiadau rhyngwladol Cymru bob dydd. Wrth inni wynebu cyfnod o fwy o gythrwfl o ran y cysylltiadau sy'n clymu cenhedloedd ynghyd, mae'r angen am egwyddorion clir ar gyfer gweithgarwch yn ymwneud â'n cysylltiadau rhyngwladol ein hunain yn fwy nag erioed. Efallai fod daearyddiaeth wedi ein gosod ar ymyl cyfandir, ond ni ddylai llais Cymru byth fod yn ymylol. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau yn y ddadl hon. Diolch.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n cofio'n iawn, pan ddechreuodd datganoli yng Nghymru oddeutu 27 mlynedd yn ôl, Ddirprwy Lywydd, pan oedd rhai'n ofni y byddai datganoli yng Nghymru yn fewnblyg ac yn blwyfol, ac rwy'n credu bod y profiad wedi bod ymhell iawn o hynny. Mewn gwirionedd, mae wedi agor, neu wedi helpu i agor, Cymru i'r byd a'r byd i Gymru. Ac mae hynny mor gadarnhaol mewn cynifer o ffyrdd. Roeddwn yn falch iawn o glywed Cadeirydd y pwyllgor yn sôn am Weriniaeth Iwerddon, gan y ganwyd fy mam yn swydd Kerry yn Iwerddon, a chredaf fod honno wedi bod yn berthynas gref, hirsefydlog, rhwng Cymru ac Iwerddon, a gobeithio y bydd yn parhau, ac rwy'n siŵr y bydd, i'r seithfed Senedd, ac yn cryfhau yn sefydliadol, yn llywodraethol, yn seneddol, ac o gymuned i gymuned.
Rwy'n credu bod ymagwedd o'r fath at gysylltiadau rhyngwladol, Ddirprwy Lywydd, yn rhan annatod o raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Affrica, yr wyf yn falch iawn ohoni'n bersonol. Yn gynnar iawn yn y cyfnod datganoli, gwnaed penderfyniad dewr iawn, o ystyried mai cyfrifoldeb i Lywodraeth y DU yn hytrach na chyfrifoldeb datganoledig yw datblygu rhyngwladol—rwy'n credu bod penderfyniad dewr wedi'i wneud i sefydlu cyllideb a chydnabod y gallai Cymru, y Senedd, Llywodraeth Cymru, ychwanegu gwerth o ran cysylltiadau rhyngwladol, a'n bod mor ffodus, fel rhan gymharol ffyniannus, sefydlog a heddychlon o'r byd, ac mae'n rhoi cyfrifoldeb moesol inni helpu cenhedloedd eraill sy'n llai ffodus, er enghraifft yn Affrica Is-Sahara.
Yr agwedd ar gysylltiadau rhyngwladol yr wyf yn fwyaf cyfarwydd â hi yw yn Mbale yn Uganda. Rwyf wedi bod yn ffodus i fynd yno ddwywaith ac i weld y gwaith da iawn sy'n digwydd drwy Lywodraeth Cymru: ymweliadau cyfnewid addysgol ac iechyd, fel bod budd i'r ddwy ochr, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yma ac yn Mbale yn cael profiad cyfoethog o ymweliadau cyfnewid, cyfeillgarwch a chyfathrebu parhaus; mae disgyblion yn mynd ar ymweliadau cyfnewid. Mae wedi tyfu cymaint i ymgorffori datblygu cymunedol, amaethyddiaeth a llawer mwy. A hefyd, wrth gwrs, gwaith PONT ym Mhontypridd, etholaeth Mick Antoniw, elusen anhygoel sydd wedi gwneud cymaint. Mae mor galonogol ymweld â Mbale a gweld y gwaith rhagorol gan PONT, unwaith eto gydag agweddau iechyd, gydag agweddau addysgol. Maent yn cynhyrchu ambiwlansys beic modur i fynd i fyny i'r mynyddoedd a chludo pobl i ysbytai a chlinigau iechyd mewn argyfyngau, neu'n wir, yn fwy rheolaidd. Mae ganddynt bentref eco ar gyfer llety i dwristiaid gydag anifeiliaid a sw hefyd ar gyfer ymweliadau addysgol ac i gysylltu pobl leol â natur. Ac mae'r incwm hwnnw wedyn yn darparu llawer o adnoddau ar gyfer cyflogi pobl leol o amgylch y prosiectau hynny. Mae'n gwbl anhygoel gweld sut y mae'r berthynas o gymuned i gymuned honno wedi tyfu dros gyfnod estynedig o amser, ac mae bellach yn gryfach nag erioed.
Rwy'n credu o ddifrif, Ddirprwy Lywydd, fod y rhaglen ar gyfer Affrica yn enghraifft werthfawr a da iawn o gysylltiadau rhyngwladol cryf a'r cyfan y gall hynny ei gynnig i Gymru a'r gwledydd yr ydym yn gysylltiedig â nhw. Rwy'n gobeithio'n fawr, yn y seithfed Senedd, y gwelwn Lywodraeth Cymru’n parhau ac yn cryfhau'r rhaglen ar gyfer Affrica, ac yn gyffredinol, y byddwn yn gweld y Senedd yn chwarae rhan flaenllaw, yn helpu cymunedau yng Nghymru i fod yn rhan o'r cysylltiadau rhyngwladol hynny, gan y gallai fod, a dylai fod, ac mae yn llawer cryfach na chysylltiadau sefydliadol, cysylltiadau Llywodraethol, a chysylltiadau seneddol. Mae angen iddo ledaenu'n eang drwy wead ein gwlad yma yng Nghymru, i gyrraedd pob rhan o'r gymuned, ac os bydd yn gwneud hynny, ac mae wedi gwneud hynny i raddau helaeth, bydd yn gryfach fyth, yn hytrach na bod yn gyfyngedig i unrhyw sefydliad neu unrhyw gorff.
Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i bawb yn y pwyllgor am eu gwaith ar adroddiad 'Cenhadaeth Cymru'. Gan fod y pwyllgor wedi cael ei sesiwn olaf yr wythnos diwethaf, mae hefyd yn iawn fy mod yn cofnodi fy niolch diffuant i'r holl Aelodau sydd wedi gwasanaethu arno, ac yn enwedig i'r Cadeirydd, Delyth Jewell, am ei harweinyddiaeth a'i hymrwymiad i waith y pwyllgor.
Fel y dywed ar y dechrau, nid adroddiad pwyllgor nodweddiadol yw hwn. Nid yw'n cynnig rhestr o argymhellion ar gyfer gweithredu ar unwaith; yn hytrach, mae'n ceisio sefydlu fframwaith a set o egwyddorion i lywio ymagwedd Llywodraethau Cymru yn y dyfodol tuag at gysylltiadau rhyngwladol.
Rydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yn cefnogi'r egwyddor y dylai Cymru fod yn wlad sy'n edrych allan, ar yr amod nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd y tu hwnt i'w chyfrifoldebau datganoledig. Dylem fod yn hyderus ar lwyfan y byd, gan adeiladu cysylltiadau, denu buddsoddiad, hyrwyddo ein diwylliant a denu ymwelwyr. Ond nid yw hyder yn unig yn ddigon; mae angen cynllun arnoch ac mae angen atebolrwydd. Yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud yn glir yw bod rhaid cael eglurder, cymhwysedd ac yn anad dim, atebolrwydd i gyd-fynd â'r hyder hwnnw.
Mae'r pwyllgor yn onest yn ei asesiad ein bod, ers 2020, wedi gweld strategaeth ryngwladol, cynlluniau gweithredu lluosog, cynllun cyflawni a channoedd o gamau gweithredu unigol—278 i gyd—wedi'u dilyn gan gynllun arall eto fyth. Mae hyn yn creu dull dryslyd a niwlog, heb gyfeiriad clir na chanlyniadau da. Rwy'n ofni mai dyma fu stori Llywodraeth Cymru yn rhy aml: cynllun gweithredu ar ben cynllun gweithredu, a ddethlir am eu bwriad, ond nad ydynt yn cyflawni, ac sy'n cael eu hysgubo o dan y mat. Os nad yw rhanddeiliaid, y cyhoedd, ac Aelodau'r Senedd hon yn wir, yn gallu deall yn hawdd beth yw blaenoriaethau'r Llywodraeth, mae rhywbeth wedi mynd o'i le'n drychinebus. [Torri ar draws.] Ie, Alun.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad byr. Rwy'n credu ichi ddweud bod yna fethiannau sylweddol, a gafodd eu sgubo o dan y mat. Efallai y gallech restru i ni'r methiannau yr ystyriwch chi'n fwyaf arwyddocaol.
Pa fethiannau? [Torri ar draws.] Fe ehangaf yn fwy wrth imi fynd drwy fy araith.
Fel roeddwn i'n dweud, os nad yw Aelodau'n gallu deall yn hawdd beth yw blaenoriaethau'r Llywodraeth, mae rhywbeth mawr o'i le. Ond efallai fod y pryderon mwyaf difrifol a godwyd yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â chraffu a thryloywder. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir na chafwyd craffu priodol. Dylai'r Gweinidog cyfrifol gael ei ddwyn i gyfrif fel unrhyw Ysgrifennydd Cabinet arall, ond mae cysylltiadau rhyngwladol yn dod o fewn briff y Prif Weinidog, heb unrhyw Weinidog wedi'i neilltuo ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol y gellir ei ddwyn i gyfrif. Rhoddodd y British Council dystiolaeth i'r pwyllgor, gan siarad am bwysigrwydd cael tîm cysylltiadau rhyngwladol pwrpasol o fewn y Llywodraeth. Mynegodd y pwyllgor ei siom fod pob un o'r tri Phrif Weinidog wedi gwrthod ymddangos gerbron y pwyllgor i roi tystiolaeth lafar ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft, ac mae'n codi'r angen am Weinidog cyfrifol y gellir ei graffu. Os yw cysylltiadau rhyngwladol yn faes y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno mynd ar ei drywydd, rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i'r un lefel o graffu ag iechyd, addysg neu'r economi.
Mae'r pryderon am dryloywder, os rhywbeth, yn destun mwy o bryder fyth. Ni allodd y pwyllgor gael rhestr gyflawn o gytundebau rhyngwladol Llywodraeth Cymru, er gwaethaf nifer o geisiadau, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Dylid eu cyhoeddi er mwyn caniatáu i'r Senedd graffu arnynt yn iawn, fel bod pobl Cymru'n deall sut y maent yn fuddiol neu heb fod yn fuddiol i'w buddiannau.
Mae'r un peth yn berthnasol i wariant. Nid yw'r pwyllgor wedi gallu craffu ar werth dros £58 miliwn o wariant ar weithgarwch rhyngwladol yn ystod tymor y Senedd, ac mae hwnnw'n swm sylweddol o arian cyhoeddus. Hefyd, mae gennym rwydwaith o swyddfeydd tramor, staff a chyllidebau gweithredol, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo cau'r rhain, ond os yw Llywodraeth Cymru am ddadlau dros eu gwerth am arian, mae angen iddynt ddangos hyn gyda sylfaen dystiolaeth gref.
Ar adeg pan fo pob punt o arian cyhoeddus yn bwysig, mae'r diffyg tryloywder yn destun pryder. Dylai Cymru ymgysylltu'n rhyngwladol, adeiladu partneriaethau a denu buddsoddiad, ond rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n gydlynol, ag iddi gyfeiriad a nodau, un sy'n dryloyw, yn atebol ac yn gosteffeithiol. Dyna pam y mae'r adroddiad hwn yn bwysig. Mae'r egwyddorion a nodir o dan 'Cenhadaeth Cymru' yn ein cyfeirio'n ôl at hanfodion strategaeth glir a chyson, craffu priodol a rheolaidd, cydweithrediad adeiladol â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, agwedd agored ynghylch cytundebau a gweithgaredd, a ffocws llawer cryfach ar fesur effaith a gwerth am arian. Dyma hanfodion llywodraethu da.
Wrth inni nesu at dymor seneddol newydd, fy ngobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn siapio sut y caiff cysylltiadau rhyngwladol eu cyflawni yn y dyfodol, oherwydd nid adroddiad am broses er ei mwyn ei hun yw hwn, ond adroddiad i sicrhau bod ymgysylltu rhyngwladol yn cynhyrchu'r canlyniadau gorau i bobl Cymru, ac y gellir deall yr ymdrechion hynny'n glir a'u craffu'n briodol. Diolch yn fawr.
Yn fy marn i, mae'r adroddiad hwn yn un o'r rhai pwysicaf i'w gosod gerbron y Senedd eleni. Fe gyfyngaf fy nghyfraniad i ychydig o bwyntiau penodol. Mae'r byd yn newid. Mae grymoedd geowleidyddol yn doredig. Mae cysyniadau hirsefydledig ynghylch rheolaeth y gyfraith, cyfraith ryngwladol, a chysylltiadau economaidd a diwylliannol yn newid. Mae goresgyniad Rwsia ar Wcráin a chamweithredu arlywyddiaeth Unol Daleithiau America, a thwf y dde eithafol rhyngwladol a ffasgaeth gartref a thramor yn ansefydlogi democratiaeth yn fwriadol. Mae Brexit nid yn unig wedi cael effaith economaidd a diwylliannol drychinebus ar y Deyrnas Unedig; mae hefyd wedi cael effaith anghymesur ar Gymru. Rydym hefyd wedi colli ein statws is-genedlaethol yn yr Undeb Ewropeaidd, mewn DU sydd wedi canoli llywodraethiant yn gynyddol.
Bydd gan y Senedd nesaf ddyletswydd i ailsefydlu ein hunaniaeth Gymreig, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol, yn rhyngwladol, fel rhan o'r DU, ond gyda'n diddordebau a'n hunaniaeth benodol Gymreig. Mae'r adroddiad yn fframwaith ar gyfer y Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn ffaith sy'n cael ei derbyn yn gyffredin nawr gan y mwyafrif o'r boblogaeth ein bod wedi cael ein camarwain yn refferendwm Brexit, ac y bydd Brexit yn cael ei ystyried yn gamgymeriad hanesyddol enfawr.
Credaf fod angen i'r DU ailymuno â'r farchnad sengl a dechrau trafodaethau ar ailymuno â'r UE. Rwy'n credu ein bod yn symud yn agosach ac yn agosach at gymryd y camau hyn, ac mae'n rhaid i Gymru fod yn barod, felly, i wneud ein rhan. Yn y Senedd estynedig a'r Llywodraeth nesaf, mae angen inni sicrhau bod yna Weinidog â chyfrifoldeb penodol am faterion rhyngwladol i hyrwyddo Cymru ac i gydlynu ein hymgysylltiad rhyngwladol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar draws y Llywodraeth. Gyda llaw, dyma yw un o argymhellion maniffesto Cymru dros Ewrop, a lansiwyd heddiw yng Nghaerdydd ar y cyd â grŵp trawsbleidiol y Senedd ar Ewrop.
Mae angen inni godi ein proffil yn Ewrop. Mae cymaint o gyfleoedd yn dod i'r amlwg fod angen strategaeth Ewropeaidd benodol, ac mae angen inni fachu ar y cyfleoedd ar gyfer partneriaethau ymchwil ac arloesi a ddaw i'r amlwg, ar gyfer y cyfleoedd economaidd a thechnegol sy'n ymddangos ar gyfer creu strategaeth amddiffyn Ewropeaidd hanfodol.
Wrth gwrs, rydym yn rhan o ymgysylltiad ehangach yn y DU, ond rhaid inni sicrhau ein bod ar flaen y gad yn yr ymgysylltiad hwnnw, felly rhaid i ni gael ein strategaeth ryngwladol ac Ewropeaidd ein hunain. Mae angen inni weithio gyda sefydliadau fel British Council Cymru, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol ar gymell tawel ymgysylltiad rhyngwladol. Rwy'n nodi bod y pwyllgor, wrth gwrs, wedi ysgrifennu ddwywaith at y Swyddfa Dramor i bwysleisio pwysigrwydd cyllid priodol i'w galluogi i barhau â'r gwaith hwnnw.
Yn olaf, fel cyfle olaf i mi siarad am Wcráin yn y Senedd hon, hoffwn ddiolch i'r Senedd a Llywodraeth Cymru am y cyfraniad pwysig a wnaethom gyda'n gilydd i gefnogi dros 8,000 o fenywod a phlant yn bennaf o Wcráin a wnaeth ffoi rhag goresgyniad Rwsia, a hefyd i'r grŵp trawsbleidiol, i Darren, i Rhun, i Eluned, ac i bawb sydd wedi cefnogi ymdrechion Wcreinaidd y grŵp trawsbleidiol, gan gyflenwi dros 55 o gerbydau, a miliynau o bunnoedd o gymorth meddygol a strategol i undebau llafur Wcráin ac amddiffynwyr y rheng flaen. Ac yn olaf, am y cyllid ar gyfer cofeb Gareth Jones i'w dadorchuddio yn Kyiv, yn Stryd Gareth Jones, i nodi'r Holodomor erchyll, a fydd yn digwydd ym mis Tachwedd eleni. Bydd hon yn gofeb dairieithog 2m o uchder mewn llechi naturiol Cymreig, a fydd yn deyrnged hirhoedlog i arwr Cymreig a wnaeth, drwy newyddiaduraeth foesegol ac ymchwiliol, ddatgelu arswyd newyn Stalin. Ddirprwy Lywydd, Cymru yw'r unig Senedd yn y DU sydd wedi datgan bod yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad. Ac rwy'n gobeithio, Brif Weinidog, y gallwch chi gynrychioli Cymru yn nadorchuddiad cofeb Gareth Jones yn Kyiv ym mis Tachwedd, cofeb a fydd yn deyrnged barhaol i'r undod rhwng Cymru ac Wcráin. Diolch yn fawr.
Fel aelod o'r pwyllgor, dwi'n falch i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac mi hoffwn innau ddechrau drwy ddiolch i bawb roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, a hefyd, wrth gwrs, i'r tîm ymchwil a'r clercod sydd wedi cefnogi ein gwaith craffu. Mi hoffwn ddiolch hefyd i’r Prif Weinidog am ymateb i'n hadroddiad ac am fod yma heddiw. Mae'n dda cael y cyfle i drafod materion rhyngwladol ar lawr y Senedd a gyda'r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y maes. Dwi'n falch iawn bod y Cadeirydd, wrth ddechrau'r ddadl hon hefyd, wedi cyfeirio at y ffaith mai hi hefyd oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am faterion rhyngwladol. Doeddwn i ddim yn Aelod o'r Senedd hon bryd hynny, ond dwi'n cofio'r cyffro a oedd yna ein bod ni'n mynd i gael strategaeth ryngwladol, ac ymroddiad hefyd y Prif Weinidog, fel y Gweinidog â chyfrifoldeb ar y pryd, i sicrhau bod gennym ni strategaeth ryngwladol.
Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, dwi ddim yn medru croesawu mai'r ymateb i'r mwyafrif o'n hargymhellion heddiw ydy 'derbyn mewn egwyddor', nac ychwaith rhai o sylwadau'r Prif Weinidog i'r pwyllgor yn y llythyr sy'n cyd-fynd â'r ymateb. Ein bwriad oedd bod yn adeiladol a gwneud ein gwaith craffu mewn modd trylwyr. Mae hynny wedi bod yn anodd heb gyfle i gwrdd gyda, a chraffu, yn rheolaidd. Fel sydd wedi'i nodi'n barod, mae'r pwyllgor yn galw am fwy o eglurder, mwy o atebolrwydd a mwy o gysondeb yn y ffordd y mae Cymru'n gweithredu ar y llwyfan rhyngwladol. Ond yn rhy aml, mae ymateb y Llywodraeth yn pwysleisio hyblygrwydd y gweithredu heb werthfawrogi hefyd yr angen sydd gan y Senedd i graffu'n effeithiol.
Dirprwy Lywydd, gadewch imi droi'n benodol at fater craffu gweinidogol. Mae'r Llywodraeth yn derbyn mewn egwyddor y dylai trefniadau craffu ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol fod yn gyfartal â phob portffolio arall, ond wedyn yn amddiffyn trefniant lle mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd gyda'r Prif Weinidog, gan gyfyngu'n ymarferol ar amser i ymddangos gerbron pwyllgor perthnasol y Senedd. Nid yw craffu drwy gwestiynau'r Prif Weinidog unwaith yr wythnos yr un fath â chraffu pwrpasol, manwl ac amserol. Fel rydyn ni eisoes wedi'i glywed, mae safbwynt y pwyllgor yn glir, ac mae'n siomedig nad yw'r ymateb yn symud y drafodaeth honno ymlaen yn ymarferol.
Yn yr un modd, o ran adrodd a gwerthuso, mae'r Llywodraeth yn derbyn bod angen trefniadau adrodd cliriach yn y dyfodol, ond eto'n pwysleisio cyfyngiadau adnoddau fel rheswm dros beidio â gwneud mwy rŵan. Mae'r pwyllgor yn cydnabod yn llawn fod adnoddau'n brin, ond dyna'n union pam mae angen system gliriach o flaenoriaethu gyda thargedau mesuradwy a thryloyw, fel bod y Senedd a'r cyhoedd yn deall ble mae gwerth yn cael ei greu.
O ran cytundebau dwyochrog, mae'r Llywodraeth yn honni bod gwybodaeth wedi'i chyhoeddi, ond mae'r pwyllgor wedi bod yn glir bod y wybodaeth honno'n aml yn anghyflawn, yn anodd ei chanfod, neu heb gyd-destun clir. Mae derbyn mewn egwyddor yr angen am well argaeledd gwybodaeth, ond heb ymrwymiad pendant i fframwaith clir, yn tanseilio pwrpas yr egwyddorion eu hunain.
Mi ydw i hefyd am gyffwrdd â thôn yr ymateb mewn rhai mannau. Mae'n peri pryder gweld bod craffu democrataidd yn cael ei fframio weithiau fel rhwystr i gyflawni yn hytrach na fel rhan annatod o lywodraethiant effeithiol. Mae'r pwyllgor hwn wedi gweithredu'n adeiladol drwy gydol y tymor ac mae'n bwysig nad ydy hyn yn cael ei bortreadu fel ein bod yn gweithredu dim ond i fod yn lletchwith, fel y mae'r ymateb yn awgrymu o bryd i'w gilydd. Mae yna sylw penodol yn llythyr y Prif Weinidog i'r Cadeirydd o ran partneriaid, a dwi'n cael hynny'n arbennig o siomedig, gan fod yr hyn rydyn ni'n ei nodi yn yr adroddiad yn deillio o'r hyn y clywsom ni gan randdeiliaid, gan y partneriaid eu hunain. Oes, fel gwnaeth y Cadeirydd gydnabod, mae yna enghreifftiau gwych o gydweithio fel tîm Cymru, ond yr hyn rydym ni wedi'i glywed gan bartneriaid ydy y gallai fod hyd yn oed yn well pe byddai'r Llywodraeth yn gweithredu ar yr hyn y dywedodd y rhanddeiliaid wrthym ni.
Dirprwy Lywydd, mae 'Cenhadaeth Cymru' yn cynnig cyfle go iawn, cyfle i osod sylfaen gadarn ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Cymru dros Lywodraethau’r dyfodol, beth bynnag fo’u lliw gwleidyddol. Ond ni ellir manteisio’n llawn ar y cyfle hwnnw os yw’r Llywodraeth yn dewis parhau i dderbyn egwyddorion yn ddamcaniaethol heb ymrwymo’n glir i’w gweithredu. Mae’n glir i ni o'n craffu bod angen trefniadau craffu cliriach a thecach, mwy o dryloywder ar gytundebau a chyllid, a dull strategol sydd wir yn atebol i’r Senedd. Mae Cymru’n haeddu polisi rhyngwladol uchelgeisiol, ond hefyd un sy’n dryloyw, yn ddemocrataidd ac yn destun craffu ystyrlon. Dyna ydy 'Cenhadaeth Cymru'.
Fel eraill yn y ddadl hon, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Delyth am ei harweinyddiaeth dros y pum mlynedd diwethaf. Rwy'n credu mai ni yw'r unig ddau aelod o'r pwyllgor sydd wedi bwrw dedfryd lawn. Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol. Diolch hefyd i holl staff y pwyllgor sydd wedi gwasanaethu gwaith y pwyllgor dros y cyfnod hwnnw.
Mewn sawl ffordd, nid adroddiad yn unig yw hwn, mae'n her. Mae'n her i bawb, mae'n her i bob un ohonom, mae'n sicr yn her i'r Llywodraeth. Ond mae hefyd yn her i'r holl bobl hynny sydd â golwg gul o Gymru a'n lle yn y byd. Mae'n debyg nad oes fawr o lefydd lle mae'n fwy priodol cael y ddadl hon na Bae Caerdydd. Caerdydd oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd ac fe wnaeth greu a dyfeisio globaleiddio cyn inni wybod beth oedd ystyr y gair. Ond er bod hwn yn lle priodol iawn i ddathlu ac i drafod yr adroddiad hwn, gallem hefyd fod wedi dewis eglwys gadeiriol Dewi Sant yn sir Benfro, lle byddai Dewi Sant—ac fe wnaethom ddathlu Sant Padrig ddoe—wedi cydnabod yr un eglwys a byddai wedi deall yr un lleoedd. Iddynt hwy, nid rhwystr oedd y môr, ond pont. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud heddiw yn cydnabod y dreftadaeth Gristnogol wych a rannwn â gwledydd Celtaidd eraill.
Rwy'n talu teyrnged i waith Darren Millar gyda brecwast gweddi seneddol Dewi Sant y mae'n ei wneud, sef un o'r digwyddiadau rhyngwladol mwyaf yng nghalendr blynyddol y Senedd. Ond efallai hefyd y gallem fod wedi dewis Merthyr Tudful, y dref haearn fwyaf yn y byd ar sawl adeg, a'r lle y gadawodd John Hughes er mwyn creu diwydiant haearn a dur Wcráin. Gallem hefyd fod wedi mynd adref i Dredegar, y lle y gadawodd Rhys Davies er mwyn creu'r diwydiant haearn a dur ar lannau afon James yn Virginia, gan greu, siapio a dylanwadu ar le Cymru yn y byd.
Drwy gydol yr holl hanes hwnnw, am y rhan fwyaf o'n hanes, am bron y cyfan o'n hanes mewn gwirionedd, mae lle Cymru yn y byd wedi'i ddiffinio gan Gymru—nid gan Lywodraethau, nid gan Weinidogion, ond Cymru fel cenedl, fel gwlad, fel pobl, rhoi ein hunain, mewnosod ein hunain, mewn hanes, a gwneud yn siŵr, lle bynnag yr oedd gwaith diwydiannol yn cael ei ddechrau yn unrhyw le yn y byd, fod rhywun o Gymru yno gyda'r modd i helpu i ddatblygu hynny. Mae hwnnw'n hanes pwysig, oherwydd mae'n ein gosod mewn lle penodol. Mae'n ein gwneud yn wlad a ddiffinnir gan ein rhyngwladoliaeth. Dyna pam y mae 'Cenhadaeth Cymru' mor bwysig: gweledigaeth o Gymru yn y byd, gweledigaeth gadarnhaol, ac nid y diflastod ynysig a glywaf yn rhy aml gan yr asgell dde.
Rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn rhoi Cymru yn ôl ar lwyfan y byd, yn fwy sicr weithiau. Ond wedi dweud hynny, roeddwn i'n mwynhau ac yn falch o fod yn Qatar yng nghwpan y byd, gwylio Cymru'n chwarae pêl-droed, ond gwylio gwaith Llywodraeth Cymru yno hefyd, a'r hyn y gallent ei gyflawni. A'r un peth yn y Swistir yr haf diwethaf, dathlu cyflawniadau Cymru ym myd chwaraeon, ond ar draws y byd.
Ond hefyd, un peth yr hoffwn i Lywodraeth Cymru ei wneud yn well yw dathlu gwaith ei rhwydwaith rhyngwladol o swyddfeydd, sy'n rhoi ymdeimlad o Gymru mewn gwahanol rannau o'r byd. Mae'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei wneud yn amlach. Yr ymdeimlad hwn o ryngwladoliaeth gadarnhaol, optimistaidd a all helpu i ddiffinio'r hyn a wnawn yn y dyfodol. Mae yna fyd—ac mae Mick Antoniw wedi siarad amdano eisoes—sy'n cael ei ddiffinio gan ymdeimlad cul o anoddefgarwch, ymdeimlad meddwl bach o Gymru fel gwlad ynysig sy'n methu edrych allan. Nid wyf yn credu bod hynny'n creu argraff ar unrhyw un, ac nid yw'n adlewyrchiad o'n hanes chwaith. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio.
Diolch yn fawr. Rydych chi'n sôn am gulni meddwl ar y dde a phopeth arall, ac elfennau o hynny. Ac rydych chi'n sôn am genhedloedd Celtaidd, ond rydych chi'n hapus i anwybyddu Lloegr. A fyddech chi'n dweud y byddai hynny'n cael ei alw'n gulni meddwl?
Cwmni, ein cymdogion, Dorman Long, a wnaeth y dur ar gyfer Pont Harbwr Sydney. Felly, ble mae hynny'n dod i ben? Os yw Cymru'n mynd i fod ar —. Os ydym yn mynd i siarad am—
Gareth, ymyriad ydyw, nid araith.
—yng nghyd-destun y DU gyfan, yn hytrach na cheisio dewis a dethol rhai cenhedloedd Celtaidd rydych chi'n gallu alinio mwy â nhw'n wleidyddol eich hun o bosib.
Bydd y Dirprwy Lywydd wedi sylwi bod yr ymyriad wedi cymryd dros funud, ac ni ddysgasom ddim.
O ran ble rydym ni'n symud ymlaen, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo llwyddiant ei rhwydwaith rhyngwladol, fel y dywedais. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gweledigaeth ryngwladol, ond un sy'n cael ei hategu gan strategaeth glir o ble rydym am i Gymru fod. Ar hyn o bryd, fel y dywedwyd eisoes yn y ddadl hon, mae angen strategaeth ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i ac Adam Price ym Mrwsel yr wythnos hon yn cynrychioli Cymru yn y bartneriaeth seneddol ac ym Mhwyllgor y Rhanbarthau. Mae angen strategaeth glir arnom i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ym Mrwsel, fod llais Cymru'n cael ei glywed yn sefydliadau'r UE, a bod llais Cymru'n helpu i lunio polisi yn y dyfodol.
Yn y modd hwnnw, mae gwaith y British Council y cyfeiriwyd ato heddiw yn gwbl hanfodol. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn talu teyrnged i waith y British Council yng Nghymru a'i allu i fynd â'n diwylliant o gymell tawel i fannau eraill ledled y byd. Ac rwy'n gobeithio, i gloi, Ddirprwy Lywydd, nid yn unig y gallwn drafod yr adroddiad hwn, ond derbyn ei her.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw ar adroddiad y pwyllgor. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor. Rwyf wedi mynychu unwaith neu ddwywaith fel dirprwy, ond nid wyf yn aelod o'r pwyllgor. Ond roeddwn i'n meddwl y byddai'n gyfle gwych i dynnu sylw, fel y mae John wedi'i wneud, at rywfaint o'r gwaith rhyngwladol sydd wedi'i wneud yn rhaglen Cymru ac Affrica.
Wrth ddarllen yr adroddiad, sylwais ei fod yn dweud bod Claire O'Shea wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, ond yn anffodus bu farw cyn iddi allu rhoi tystiolaeth ar lafar. Roedd hi'n gwneud hynny yn ei rôl fel cadeirydd grŵp asiantaethau tramor Cymru, ond rwy'n deall bod ei thystiolaeth wedi cael ei defnyddio'n helaeth yn yr adroddiad. Fe soniais yn y cwestiynau busnes ddoe am y digwyddiad a drefnwyd yn y Deml Heddwch gan Hub Cymru Affrica, lle cafwyd teyrnged wych i Claire, a'i dangosodd hi'n siarad am ei gwaith. Ond roeddwn i'n meddwl ei bod yn werth dweud hynny eto—am eiriolwr aruthrol oedd hi dros ddatblygiad rhyngwladol, o weld ei bod wedi cael cryn ddylanwad ar yr adroddiad hwn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn pan fyddwn yn siarad am ddatblygiad rhyngwladol ein bod yn edrych—yn ogystal ag ar y swyddfeydd, sy'n bwysig iawn, a chytuniadau—ar y gwaith rhwng un gymuned a'r llall y mae John eisoes wedi cyfeirio ato. Mae cymaint o gynlluniau gwych yn digwydd yng Nghymru. Rwy'n credu bod adeiladu gwahanol grwpiau bach unigol gyda grwpiau eraill yn ffordd go iawn o wneud cysylltiadau rhyngwladol Cymru yn wirioneddol ystyrlon.
Mae John wedi sôn am y gwaith yn Uganda a grymuso menywod a merched. Hoffwn sôn am Life for African Mothers, a ddechreuwyd gan yr ysbrydoledig Angela Gorman, a lle roeddwn i'n ymddiriedolwr am flynyddoedd lawer, a PONT, sydd wedi cael ei grybwyll gan John wrth gwrs. Mae'r rhain i gyd yn raglenni hollol wych sydd mor bwysig i Gymru yn fy marn i ac mor bwysig i'r byd.
Hoffwn sôn yn arbennig am brosiect arall, prosiect gwych sydd ar y gweill yn mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd yn Malawi a Chymru. Mae rhaglen Cymru ac Affrica wedi cefnogi'r bartneriaeth hon rhwng gweithwyr proffesiynol fferyllol yn Malawi a Chymru i hyfforddi gyda'i gilydd ac i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy addysg a hyfforddiant. Mae'r prosiect yn gweithredu mewn sawl ysbyty ledled Malawi a chaiff ei arwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Nghymru, gyda chyfranogiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Rwy'n credu bod y prosiect hwn wedi gwella rôl Cymru mewn cysylltiadau iechyd byd-eang, ac mae fferyllwyr o Gymru wedi elwa o gyfleoedd datblygu proffesiynol drwy'r cydweithrediad rhyngwladol hwn.
Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt mor bwysig: mae'r holl brosiectau hyn wedi bod o fudd enfawr i'r gweithwyr proffesiynol Cymreig sydd wedi bod yn rhan ohonynt. Mae o fudd i'r ddwy ochr, ac rwy'n credu ei bod mor bwysig ein bod ni'n siarad am y prosiectau hyn, fel y gellir cywiro unrhyw gamddealltwriaeth gyhoeddus amdanynt, oherwydd maent o fudd enfawr i Gymru, yn ogystal â'r gwledydd yr ydym yn ymwneud â nhw. Mae'r prosiect penodol hwn gyda fferyllwyr wedi arddangos ymarfer fferyllol yng Nghymru, ac mae fferyllwyr yn cael eu cydnabod yn arweinwyr clinigol yn y maes hwn. Dyma ychydig o enghreifftiau o beth o'r gwaith rhyngwladol y credaf ei fod mor bwysig, ac roeddwn eisiau bachu ar y cyfle i'w codi heddiw.
Ond mae'n rhaid imi ddweud mai un peth a wnaeth argraff fawr arnaf yn adroddiad y pwyllgor oedd y dyfyniad gan Jan Morris, yn dweud bod gan Gymru ffin agored a bod gan Gymru ddrws agored i'r byd. Dyna sut rwy'n meddwl y dylem weithredu: fel drws agored i'r byd. Diolch.
Galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad terfynol ar ymgysylltu rhyngwladol ac am ei ymrwymiad diflino i graffu ar y maes pwysig hwn o waith. Dwi eisiau diolch hefyd i Delyth am ei harweinyddiaeth o'r pwyllgor. Dwi'n gwybod bod hwnnw wedi cael ei werthfawrogi gan Aelodau.
Mewn cyfnod o ansicrwydd, rhaniad a gwrthdaro ar lefel byd-eang, mae Cymru'n parhau i anfon neges glir a hyderus ein bod ni yn wlad sy'n edrych allan i'r byd, yn ymrwymedig i bartneriaethau rhyngwladol ystyrlon, ac yn benderfynol o sicrhau manteision gwirioneddol i'n cymunedau cartref.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud ein bod yn glir yn ein blaenoriaethau yn y strategaeth ryngwladol wreiddiol—strategaeth yr oeddwn yn falch iawn o'i harwain fel y Gweinidog cyntaf dros gysylltiadau rhyngwladol a benodwyd erioed, rwy'n credu. Roedd hynny'n rhywbeth y gwnaethoch ei nodi yn eich egwyddor 4 o argymhellion y pwyllgor. Rwyf am ddweud yn glir fod llawer o'ch argymhellion yn ymwneud â'r hyn a ddylai ddigwydd nesaf yn y Senedd nesaf. Felly, i fod yn glir, mae hyn yn mynd i fod yn rhywbeth ar gyfer y Senedd nesaf, a dyna pam roedd llawer ohonynt mewn egwyddor. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n glir ynglŷn â hynny.
Ond gadewch inni fynd drwy'r blaenoriaethau hynny: codi proffil Cymru, tyfu ein heconomi a sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang. Felly, roedd yna ffocws iddynt. Roedd tri pheth yn glir iawn. Ac yna beth a ddigwyddodd? Fe wnaethom gyhoeddi'r strategaeth ychydig cyn i'r pandemig COVID daro a mwy neu lai yr un pryd ag y digwyddodd Brexit. Ac roedd hynny ymhell cyn goresgyniad Wcráin, a chwalodd bopeth hefyd, chwyddiant enfawr, ac yn amlwg ymhell cyn y gwrthdaro presennol yn y dwyrain canol. Un o'r problemau gyda materion rhyngwladol yw digwyddiadau. Mae pethau'n digwydd sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth. Beth bynnag yw eich bwriadau, gallant gael eu chwalu. A gadewch imi ddweud wrthych, rwy'n cofio eistedd yng nghanol y pandemig COVID, yn torri fy nghyllideb i'r asgwrn, oherwydd bod angen iddo fynd tuag at iechyd, ac oherwydd, yn onest, ni allech wneud unrhyw waith yn rhyngwladol. Felly, beth bynnag oedd ein bwriadau, beth bynnag oedd ein huchelgeisiau, roedd yna bethau ymarferol a oedd yn mynd yn y ffordd. Felly, o fewn wythnosau, roedd yn rhaid oedi llawer o'r gweithgaredd a gynlluniwyd gennym, ei ail-siapio neu ei adael yn gyfan gwbl, a'r pwynt yw bod yn rhaid i'r tîm addasu i ddigwyddiadau byd-eang. Ac rwy'n credu eu bod wedi bachu ar gyfleoedd na allem fod wedi'u rhagweld. Felly, pethau fel tîm pêl-droed menywod Cymru yn mynd drwodd i'r Ewros—ni allwch gynllunio ar gyfer hynny, ni wyddem fod hynny'n mynd i ddigwydd pan wnaethom gyhoeddi'r adroddiad hwn gyntaf, ond rhaid i chi fod yn barod i fachu ar y cyfle. Yr un peth gyda thîm pêl-droed y dynion yn mynd drwodd i gwpan y byd—cododd hynny ein proffil yn llawer uwch nag unrhyw beth y gallem fod wedi'i roi yn y strategaeth ar y cychwyn. Felly, rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud o ran 'Iawn, nodwch beth rydych chi am ei gyflawni', ond weithiau mae'n rhaid i chi fanteisio ar y cyfleoedd sy'n codi.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn rydych chi'n ei ddweud, Brif Weinidog, ni allwn ragweld y rhain, ond un o'r pethau sydd wedi dod drwodd yn ein sesiynau craffu yw swyddogion yn dweud wrthym nad ydynt wedi bod yn cynllunio rhag ofn i'r rhain ddigwydd, neu fod y cynlluniau'n barod i fynd, ac mewn gwirionedd yn cyfaddef wrthym eu bod wedi cynllunio gwaddol ar ôl digwyddiadau. Felly, a fyddech chi'n derbyn bod rhywfaint o waith i ni ei wneud a bod yn hyderus y bydd Cymru'n mynd drwodd, fel ein bod mewn sefyllfa well i allu bod yn barod i fynd, fel petai, pan fyddwn yn mynd drwodd a gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny mewn gwirionedd?
Edrychwch, mae miliwn o bethau y buaswn wedi hoffi eu gwneud yn y strategaeth ryngwladol. Mae cymaint o gyfleoedd inni godi ein proffil yn rhyngwladol. Rydym yn siarad am gyllideb fach a nifer fach o bobl yn ei wneud. Nawr, gallem baratoi ar gyfer llwyth o bosibiliadau—bob tro rydych chi'n gwneud hynny, nid ydych chi'n bwrw ymlaen â'r hyn sydd gennych o'ch blaen. Felly, rydych chi'n iawn, fe allwn baratoi, ond byddai'n tynnu oddi wrth y gwaith arall pan fo'ch adnoddau'n fach iawn. Felly, edrychwch, mae'r rhain i gyd yn ddewisiadau, ac rydych chi'n iawn i graffu arnom gyda'r dewisiadau hynny, ond o ystyried fy amser eto, buaswn i'n dweud, 'Wyddoch chi beth? Nid ydych yn gwybod, felly yn y cyfamser, parhewch â'ch swydd o ddydd i ddydd, ac os ydynt yn ennill, symudwch yn gyflym', a dyna a wnaethant. Dyna'n union a wnaethant—fe wnaethant symud yn gyflym ac roeddem yn amlwg yn yr Ewros; roeddem yn amlwg yn y Swistir.
Nawr, rwy'n credu y gall ymateb i'r cyfleoedd heb eu cynllunio hynny greu'r canfyddiad o lai o dryloywder neu anallu i gadw at y strategaeth—rwy'n deall hynny, rwy'n deall sut y mae'n edrych. Ond cawsom ein llesteirio o'r dechrau; cawsom bron i ddwy flynedd o beidio â gallu gwneud llawer o gwbl. Ac mewn gwirionedd, y newid a wnaethom, ar ein hallforion rhyngwladol—roedd gennym lwyth o deithiau allforio wedi'u cynllunio; cawsant eu canslo dros nos, ni allech fynd i unman. Ond beth a wnaethom? Fe wnaethom lwyth ohonynt yn rhithwir, fe ddaethom o hyd i ffordd hollol newydd o wneud pethau. Felly, mae'r hyblygrwydd hwnnw'n bwysig yn fy marn i.
Nawr, pan ddaw'n fater o dyfu ein heconomi, rwy'n credu bod yr hanes yn siarad drosto'i hun. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae Cymru wedi sicrhau dros £16 biliwn o fewnfuddsoddiad, ac fe wnaethom gynnal uwchgynhadledd fuddsoddi gyntaf Cymru yn llwyddiannus. Nawr, unwaith eto, nid oedd hyn yn y strategaeth yn wreiddiol, ond y gwir amdani yw bod yr uwchgynhadledd wedi bod yn llwyddiant mawr ac fe ddaeth ar ben cynnydd o 30 y cant yn nifer y swyddi a grëwyd drwy fewnfuddsoddiad, hyd yn oed cyn yr uwchgynhadledd, gan ragori'n helaeth ar berfformiad mewn mannau eraill yn y DU.
Nawr, ers 2020, mae Cymru wedi denu 280 o brosiectau buddsoddi gan gwmnïau sy'n berchnogion tramor, gan greu a diogelu mwy na 24,000 o swyddi. Heddiw, mae 176,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan fwy na 1,500 o gwmnïau o berchnogaeth dramor ledled Cymru, a dwi eisiau gweld mwy ohonyn nhw.
Mae hyn yn dangos llwyddiant hirdymor parhaus yn denu a chadw buddsoddiad gwerth uchel, a gallaf roi llwyth o enghreifftiau i chi. Mae gennym Siemens yn Llanberis, mae gennym Shotton yng ngogledd Cymru, mae gennym KLA. A'r bore yma, rwyf wedi bod yn gweld cannoedd o filiynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi gan Tata Steel yn y ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot. Nawr, nid yw'r buddsoddiadau hyn yn ddamweiniol, yn gyffredinol maent yn ganlyniad dull tîm Cymru—ein rhwydwaith tramor, ein timau buddsoddi, ein Gweinidogion a'r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw'n strategol, yn hyderus ac yn gydweithredol. Ac os edrychwch ar bethau fel Vishay—buddsoddiad o £200 miliwn yn dilyn gwaith cydgysylltiedig.
Ac os edrychwch ar allforion, rydym wedi cynhyrchu £112 miliwn mewn archebion newydd, sydd eisoes yn rhagori ar y llynedd—eleni yw hynny, gyda chwarter blwyddyn i fynd o hyd. Felly, rwy'n credu bod llwyddiannau'n bwysig. Rwy'n credu ei fod hefyd yn dangos nad yw ymgysylltu rhyngwladol yn opsiynol, a gadewch inni fod yn glir yma, mae yna bobl yn y Siambr hon heddiw a phobl sydd eisiau bod yn y Siambr yfory a fyddai'n rhoi'r gorau i'r holl bethau hyn. Mae'n bwysig iawn cofio, mewn gwirionedd, fod chwistrelliad o £112 miliwn i'n heconomi o ganlyniad i allforion yn bwysig. Felly, mae'r llwyddiannau hyn yn rhai o bwys.
Pan ddaw'n fater o gydnabod Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn parhau i ysbrydoli Llywodraethau ledled y byd, ac mae bellach yn llywio gwaith yr UE ar degwch rhwng cenedlaethau. Mae gennym raglen Taith, sy'n trawsnewid bywydau, ac sydd wedi cael ei chydnabod gan Senedd Ewrop fel model, yn enwedig ar gyfer cyrraedd dysgwyr difreintiedig.
Mae ein rhwydwaith tramor yn ganolog i effaith ryngwladol gynyddol Cymru. Felly, i roi enghraifft i chi o'r mathau o bethau y maent yn mynd ar eu trywydd, yn swyddfa Gogledd America, fe glywsant am Martha Hughes Cannon, llamu ar y cyfle a chreu cysylltiadau mawr nawr gyda cherflun, rwy'n credu, yn Llandudno. Mae swyddfa Paris wedi llamu ar y cyfleoedd mewn perthynas ag UNESCO. Ac weithiau down ar draws argyfyngau. Mae'n wych gweld Denise yma a'i thîm, ac rwy'n dymuno'r gorau iddi a diolch iddi am bopeth y mae hi wedi'i wneud dros y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon. Dydd Sant Padrig hapus ar gyfer ddoe. Ond dyna enghraifft o ble roedd argyfwng go iawn gyda'r porthladdoedd, roedd yn broblem go iawn. Ond fe aethom i'r afael â phethau ar unwaith, ac o ganlyniad i hynny, rydym wedi creu seilwaith hollol newydd i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Ond unwaith eto, ni allwch roi hynny mewn strategaeth ryngwladol. Nid oeddem yn gwybod y byddai methiannau yn y porthladd, ond yr hyn oedd gennym oedd strwythur i'w datrys pan ddigwyddodd hynny.
Nid yw ein llwyddiant rhyngwladol byth yn cael ei gyflawni ar ein pen ein hunain. Mae ein rhanddeiliaid, ein partneriaid strategol yn rhan hanfodol o dîm Cymru, felly roeddwn i'n meddwl ei bod ychydig yn siomedig na chafodd gwaith cydweithredol ein partneriaid strategol ei gydnabod na'i adlewyrchu'n benodol yn adroddiad y pwyllgor, oherwydd tîm Cymru yw'r ffordd y'i gwnawn. Mae wedi cael ei arddangos yng Nghyngres y Byd ar Ddiplomyddiaeth mewn Chwaraeon yng Ngwlad y Basg, a chafodd ein dull ehangach o weithredu cysylltiadau rhyngwladol ei broffilio mewn symposiwm yn Washington D.C. Mae yna lwyth o bartneriaethau y gweithiwn gyda nhw, Hijinx Theatre, yr Urdd—
Weinidog, rwyf wedi bod yn garedig.
Iawn. Mae gennyf gymaint mwy i'w ddweud—
Ac nid oes gennych amser.
Gadewch i mi orffen gyda hyn, felly. Mewn gwirionedd, mae'r swm a wariwn ar hyn yn fach iawn. Mae oddeutu £8 miliwn y flwyddyn. Nid yw'n swm enfawr, ac ar gyfer hynny roedd gennym 300 o gamau y ceisiem eu gweithredu. Rwy'n credu bod y tîm wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn codi ein proffil yn rhyngwladol. Rwy'n eich clywed pan ddywedwch eich bod chi eisiau craffu. Rwy'n deall hynny. Mae'n bwysig craffu. Rydym yn sôn am gyllideb o 0.03 y cant o gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru. Mae'n hollol iawn eich bod chi'n craffu arno. Mae'n hollol iawn eich bod chi'n gwerthfawrogi pwysigrwydd hynny yn rhyngwladol.
Ond rwyf eisiau ailadrodd bod yna bobl sydd eisiau dod i mewn yma sydd eisiau cael gwared ar yr holl waith hwn, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ymladd drosto. Mae'n rhaid inni frwydro i'n llais gael ei glywed yn rhyngwladol ac i wneud yn siŵr fod pobl yn deall y bydd yr hyn sy'n digwydd dramor yn cael effaith yma. Os nad oeddech chi'n credu hynny cyn nawr, dylech fod wedi ei gredu ers yr aflonyddwch yn y dwyrain canol. Mae'n cael effaith uniongyrchol arnom ni. Mae angen inni wybod beth sy'n digwydd, ac mae angen inni chwarae ein rhan yn rhyngwladol. Diolch yn fawr iawn.
A galwaf ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Am ddadl bwysig ac amserol.
Cawsom ddathliad o lwyddiannau gwaith a phrojectau rhyngwladol, ac, ie, dyna'r hyn dŷn ni wedi eisiau bod yn ei weld.
Dyna'n union beth y buom yn dymuno ei wneud ac arfogi ein hunain â'r wybodaeth er mwyn gwneud hynny.
Diolch i John am eich sylwadau.
Diolch am sôn am rai o gysylltiadau rhyngwladol eich teulu eich hun, ac mae'r cysylltiadau hynny'n cyfoethogi cymaint o'n bywydau. Fel gydag unigolion, felly hefyd gyda Llywodraethau wrth gwrs, felly hefyd gyda Seneddau. Diolch am sôn am waith Llywodraeth Cymru yn Affrica. Rwyf innau hefyd yn difaru'n fawr fod y prosiectau hanfodol bwysig hyn sy'n achub bywydau ac yn newid bywydau wedi cael eu defnyddio fel arf gan ormod o bobl mewn dadleuon gwleidyddol, fel pe bai helpu pobl mewn rhannau eraill o'n byd bregus yn ein gwneud ni'n dlotach, lle mae'n ein cyfoethogi mewn gwirionedd ac yn ein diogelu ni i gyd yn y byd hwn sy'n fwy bregus nag y sylweddolwn.
Diolch, Gareth, am nodi eich safbwynt ar hyn a sut y dylid cael eglurder i gyd-fynd â hyder, ac fe siaradoch chi ynghylch y ffordd y mae diffyg cyfeiriad clir wedi rhwystro ein gwaith ar adegau a phwysigrwydd craffu effeithiol yn wir. A diolch am ddyfynnu'r British Council, sydd mor allweddol yn hyn i gyd wrth gwrs. Ac fel y dywedodd Gareth, nid mater o broses er mwyn proses yw hyn, ond sicrhau ein bod ni'n gweld y canlyniadau lle maent yn bodoli.
Felly, diolch yn fawr iawn, Gareth, ac am eich geiriau caredig.
Amlinellodd Mick pam y mae'r cyd-destun rhyngwladol yn gwneud yr adroddiad hwn mor bwysig ac mor amserol eto. Ni ddylid byth dawelu ein llais, ni ddylid colli ein hunaniaeth. Rwy'n dweud eto, efallai ein bod wedi ein lleoli ar ymyl cyfandir, ond ni ddylai ein llais byth fod yn ymylol. Dylai 'Cenhadaeth Cymru' a'i hegwyddorion fod yn lasbrint, a barn Mick, wrth gwrs, y dylai'r Llywodraeth nesaf ystyried cael Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol annibynnol—dylai'r Llywodraeth yn y dyfodol ystyried hyn, er na wnaethom ffurfio barn derfynol ar hyn fel pwyllgor wrth gwrs. Ond diolch, Mick ac Alun, am eich arweinyddiaeth ar ran y Senedd mewn ymdrechion i gefnogi Wcráin. Bydd y gofeb yn deyrnged nid yn unig i Gareth Jones, ond i'ch gwaith chi hefyd, a'r solidariaeth rydych chi wedi helpu i'w ffurfio a'i meithrin.
Diolch i'r ddau ohonoch chi.
Soniodd Heledd am y rhwystredigaeth gyda rhai o'r elfennau o'r ymatebion a gawsom. Bod yn adeiladol—wrth gwrs, dyna sydd wedi bod yn nod i ni erioed, ac mae angen cael craffu pwrpasol ar y materion hyn, sydd efallai hefyd yn rheswm dros edrych ar hyn ac nid dim ond asesu hyn ymhob Senedd, ond mae'n rhaid inni sicrhau, oherwydd y llwyddiannau dŷn ni'n clywed amdanyn nhw, oherwydd pwysigrwydd hyn, beth sydd yn y fantol. Ac, ydyn, rŷn ni'n cydnabod, wrth gwrs, fod adnoddau yn brin, a dyna pam dŷn ni angen deall yn gliriach ble mae'r enillion wedi bod. Diolch, Heledd, unwaith eto am hynny.
Dywedodd Alun, wrth gwrs, mai ni yw'r unig ddau Aelod sydd wedi bod ar y pwyllgor am y tymor llawn. Gallwn wneud jôc am ymddygiad da; fe adawaf i bawb arall lenwi'r bylchau—[Chwerthin.]—ond mae wedi bod yn bleser. Mae gennym un ddadl bwyllgor arall i fynd, felly nid dyma'r ddadl bwyllgor olaf. Mae honno yr wythnos nesaf, felly bydd yn rhaid i mi ddweud y cyfan eto. Taflodd Alun olwg hir yn ôl at amser y seintiau, pan oedd y môr yn bont yn hytrach na rhwystr, fel y dywedodd Alun. Fe'm hatgoffai o'r ddelwedd wych yn y Mabinogi—Bendigeidfran yn creu pont o'i gorff i gysylltu'r ynysoedd. Yn y stori, fe ddigwyddodd mewn cyfnod o ryfel, ond ni wnawn adael i'r trosiad gael ei ddifetha gan y ffaith fach anghyfleus honno; mae'n ddelwedd sydd wedi goroesi'r canrifoedd. Ac ydy, Alun, mae lle Cymru yn y byd wedi cael ei ddiffinio gan ein pobl yn mewnosod ein hunain mewn hanes, gan greu'r hanes hwnnw, yn ffisegol weithiau. Ac yn wir, cawn ein diffinio yng Nghymru gan ein rhyngwladoliaeth a'n gweledigaeth o Gymru yn y byd. Amen i hynny.
Nawr, mae Julie wedi bod yn aelod anrhydeddus. Mae gennym rai aelodau anrhydeddus o'r pwyllgor sydd wedi gwasanaethu ar adegau penodol neu mewn sesiynau penodol, felly diolch yn fawr am siarad ac am dynnu sylw at lwyddiannau Cymru ac Affrica eto. Mae llawer o'r prosiectau hyn wedi achub bywydau, maent wedi gwella bywydau pobl, maent yn bwysig. A diolch am sôn am Claire O'Shea, y cyfoethogodd ei geiriau ein gwaith yn fawr. Bu farw Claire cyn iddi allu rhoi tystiolaeth lafar i ni, ond roedd yr hyn a anfonodd atom yn amhrisiadwy. Boed i'w gwaddol barhau. A diolch am sôn am eiriau gwych Jan Morris—maent yn eiriau rwyf innau'n eu hoffi'n fawr hefyd.
Diolch, Brif Weinidog, am eich ymateb, wrth gwrs, a'ch geiriau caredig. Gwlad fechan ydym sydd yn edrych mas o hyd.
A diolch am egluro sut y cafodd rhai o'r argymhellion eu derbyn mewn egwyddor yn unig wrth gwrs. I aralleirio Harold—ai Harold Macmillan ydoedd—'Digwyddiadau, Senedd annwyl, digwyddiadau.' Wrth gwrs, mae'n rhaid cael hyblygrwydd oherwydd y digwyddiadau hynny. Rhaid i unrhyw long sy'n addas i hwylio ar y môr allu gwrthsefyll stormydd, a dyna pam y mae'r angor a'r hwyliau mor bwysig—angor i gadw pethau'n sefydlog ar adegau helbulus, hwyliau i'w helpu i symud yn gyflym.
Felly, diolch yn fawr iawn.
Rwyf am ategu'n gyfan gwbl y geiriau a ddywedoch chi ar y diwedd am ble rydym yn sefyll ar y foment fregus hon mewn amser.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, efallai y bydd yna feysydd yma lle rydym yn anghytuno, ond caf fy nghalonogi mai'r rheswm am hynny yw am ein bod ni i gyd eisiau'r un canlyniad yma: i Gymru ragori ar lwyfan y byd. Dyna pam ein bod wedi ailadrodd ein casgliad fod Llywodraeth Cymru weithiau wedi gwneud cam â hi ei hun drwy beidio â chrisialu ei gwaith i ni mor glir ag y gallai bob amser. Rydym i gyd yn gwybod pa mor hanfodol yw hi i Gymru gael y dull gorau—mae hynny mor bwysig, ein bod yn ei wneud yn iawn. Credwn mai mabwysiadu 'Cenhadaeth Cymru' fyddai'r ffordd orau o osod pennod ryngwladol nesaf Llywodraethau Cymru yn y dyfodol. A geiriau'r Prif Weinidog, ei bod yn helpu i ddarparu canllawiau defnyddiol i Lywodraethau'r dyfodol—mae'r rheini hefyd yn bwysig. Bydd ymateb y Prif Weinidog yn helpu i'w tywys. Wrth inni edrych tua'r dyfodol hwnnw, bydd yn ddyletswydd ar ein holynwyr i ystyried a yw'r egwyddorion yn cael eu bodloni, ac rwy'n gobeithio y bydd pwyllgor yn y dyfodol yn parhau â'n gwaith ac yn parhau i ddibynnu ar y corff cyfoethog o dystiolaeth a gasglwyd gennym, ac i ddychwelyd at Bendigeidfran, 'A fo ben bid bont.'
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Ystyried Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark Isherwood.
Cynnig NDM9215 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Ystyried Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd pandemig COVID-19 yn un o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol a dinistriol o fewn cof. Fe wnaeth gyffwrdd â phob cymuned ledled Cymru, hawlio bywydau, tarfu ar fusnesau a rhoi straen ddigynsail ar ein systemau iechyd, gofal ac addysg, yn ogystal â'n heconomi a'n cyllid cyhoeddus. I lawer, mae ei ganlyniadau'n parhau i gael eu teimlo, a byddant yn parhau am ddegawdau i ddod. Fel Senedd, mae'n ddyletswydd arnom i archwilio'r penderfyniadau a roddodd siâp i brofiad Cymru o'r pandemig, a sicrhau bod y penderfyniadau hynny'n destun craffu cadarn a thryloyw.
Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yw ein cyfraniad i'r dasg hanfodol hon. Mae'n adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad modiwl 1 ymchwiliad COVID-19 y DU a'r bylchau ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a nodwyd gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru. Wrth ymgymryd â'n gwaith, fe wnaethom archwilio i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion modiwl 1, digonolrwydd y newidiadau a wnaed i'w chynlluniau argyfyngau sifil posib, a pha mor barod yw hi ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad ddoe ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad modiwl 1 ymchwiliad COVID-19 y DU. Gan fod adroddiad ein pwyllgor yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i fodiwl 1 yn unig, fe wnaf ganolbwyntio ar y materion hynny'n unig yn ystod ein dadl heddiw. Bydd ystyriaeth a chraffu ar y naw modiwl sy'n weddill o ymchwiliad COVID-19 y DU yn fater i'r Senedd nesaf. O ystyried arwyddocâd y gwaith hwn, a phwysigrwydd sicrhau bod y gwersi o'r pandemig yn cael eu dysgu a'u hymgorffori, mae'r pwyllgor yn credu ei bod yn hanfodol i'r rhaglen graffu hon barhau.
Felly, fe ddechreuaf drwy ailadrodd fy niolch i bawb a roddodd dystiolaeth, yn enwedig yr unigolion a'r teuluoedd a rannodd brofiadau personol iawn, ac i Dr Simon Williams, cynghorydd arbenigol annibynnol y pwyllgor, am ei fewnwelediad amhrisiadwy. Rwyf hefyd yn cydnabod galwadau gan grŵp ymgyrchu COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, a llawer o bobl eraill, i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus pwrpasol i ymdrin â phandemig COVID-19 yng Nghymru. Mae'n bwysig pwysleisio o'r cychwyn cyntaf nad yw ein gwaith yn cymryd lle ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Mae'r penderfyniad ynghylch comisiynu ymchwiliad cyhoeddus statudol yng Nghymru hefyd yn y pen draw yn un i Lywodraeth Cymru, ac nid i'r Senedd. Wedi dweud hynny, fe wnaethom ymdrechu i ddefnyddio'r amser cyfyngedig a oedd ar gael i dynnu sylw at feysydd i'w gwella er mwyn sicrhau bod Cymru'n fwy gwydn ac yn fwy parod i ymateb i argyfyngau yn y dyfodol.
Drwy ein hymchwiliad, clywsom am y diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno ers y pandemig, gan gynnwys datblygu fframwaith gwydnwch Cymru, ailgyfansoddi fforwm gwydnwch Cymru, a'r camau y mae wedi'u cymryd i gryfhau llywodraethiant a rheoli risg. Ond er bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud, clywsom fod pryderon yn parhau ynghylch absenoldeb craffu annibynnol i asesu trefniadau gwydnwch a pharodrwydd diwygiedig Cymru. Roedd rhanddeiliaid yn teimlo bod llawer o adroddiadau Llywodraeth Cymru ar gynnydd yn rhy ddibynnol ar hunanasesu. Er y gallai strwythurau fod wedi'u symleiddio ar bapur, clywsom nad oes digon o dystiolaeth wedi'i rhyddhau i'r cyhoedd i ddangos pa mor effeithiol y mae'r systemau diwygiedig hyn yn gweithio'n ymarferol, ac a fyddent yn gwrthsefyll pwysau argyfwng mawr arall.
Dylai pobl Cymru deimlo'n hyderus y bydd ein systemau'n wydn o dan bwysau, ac mae'n hanfodol gwneud cynlluniau argyfwng yn ddarostyngedig i graffu allanol er mwyn adeiladu gwydnwch gwirioneddol. Mae'r system ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau argyfyngau sifil posib yng Nghymru yn parhau heb fod yn ddigon cadarn. Rydym wedi canfod ei fod yn dibynnu'n helaeth ar farn ansoddol, megis adborth heb ei gyhoeddi gan ymatebwyr neu absenoldeb aflonyddwch amlwg yn ystod digwyddiadau diweddar, yn hytrach na thystiolaeth fesuradwy, wedi'i phrofi'n annibynnol. Felly, rydym wedi argymell y dylid cyflwyno dangosyddion perfformiad clir, mesuradwy, wedi'u modelu ar arferion gorau rhyngwladol, i ddangos yn bendant a ydym yn gweld gwelliannau mesuradwy yn y ffordd yr ymatebwn i argyfyngau. Rydym yn galw hefyd am adolygiadau annibynnol rheolaidd o drefniadau argyfyngau sifil posib Cymru, a bod canfyddiadau'r adolygiadau hyn ar gael i'r cyhoedd i wella tryloywder a galluogi craffu effeithiol. Byddai hyn yn rhoi sicrwydd go iawn i bobl Cymru fod ein systemau ymateb brys yn gwella'n barhaus, yn dysgu o brofiad, ac yn gweithio cystal ag y gallant.
Er gwaethaf diwygiadau sylweddol ers y pandemig, clywsom hefyd fod system argyfyngau sifil posib Cymru yn parhau i fod yn gymhleth, gyda phwysau sylweddol ar ymatebwyr cenedlaethol, y disgwylir iddynt wasanaethu sawl strwythur ymateb lleol ar yr un pryd. Felly, rydym wedi gwneud argymhellion gyda'r nod o wella cydlyniant y rhai sy'n ymwneud ag ymateb brys ar lefel leol a chenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys mapio strwythurau argyfyngau sifil posib yn fanwl i nodi mewn termau syml sut y dylent weithredu yn ystod ac ar ôl sefyllfa o argyfwng. Byddai hyn yn darparu gwybodaeth glir, hygyrch i ymatebwyr am rolau a chyfrifoldebau, protocolau codi lefel rhybudd, hierarchaethau gwneud penderfyniadau, llinellau atebolrwydd a llif cyfathrebu—sydd oll yn bethau a dynnwyd i'n sylw.
Gan droi at rannau eraill o'n hadroddiad, clywsom sut y mae ymarferion parodrwydd rheolaidd yn hanfodol i sicrhau bod profion straen yn cael eu gwneud ar ein systemau ymateb a'u bod yn barod i ymateb i amrywiaeth eang o senarios argyfwng posib. Ond rydym yn parhau i bryderu am yr heriau o ran adnoddau sy'n wynebu ymatebwyr brys sy'n gorfod cydbwyso'r gwaith o gynnal gwasanaethau rheng flaen â pharatoi ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu uned hyfforddi ac ymarfer amlasiantaethol genedlaethol, yn debyg i'r un yn yr Alban. Dywedodd ymatebwyr wrthym fod y gefnogaeth hon ar lefel genedlaethol yn hanfodol nid yn unig i leddfu'r pwysau a wynebant o ran adnoddau, ond hefyd i gadw cof sefydliadol a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a'u rhannu'n gyson ar draws yr asiantaethau partner.
Roedd ein gwaith yn tynnu sylw at y rôl anhepgor y mae mudiadau gwirfoddol Cymru yn ei chwarae yn cryfhau gwydnwch cenedlaethol Cymru. Ond mae'r un mor amlwg nad yw potensial y sector hwn i gefnogi ein hymdrechion ymateb ac adfer yn cael ei wireddu'n llawn, gyda sefydliadau gwirfoddol yn rhy aml yn aros ar gyrion y broses o wneud penderfyniadau, strwythurau cynllunio rhag argyfyngau ac adnoddau. Clywsom bryderon dro ar ôl tro hefyd fod rhwystrau i rannu data yn llesteirio eu gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Un enghraifft o hyn oedd y Groes Goch Brydeinig, a ddywedodd na allent gefnogi dioddefwyr llifogydd sir Fynwy y llynedd, er eu bod yn barod i wneud hynny ac yn gallu gwneud hynny, am nad oedd asiantaethau statudol yn fodlon rhannu data perthnasol gyda nhw.
Ond nid yw'r materion hyn yn anorchfygol. Clywsom enghreifftiau o fentrau a sefydlwyd yn ystod y pandemig, fel danfoniadau presgripsiwn ar gyfer pobl sy'n agored i niwed yn glinigol a oedd yn cysgodi, a ddangosodd y gellir goresgyn yr heriau rhannu data hyn lle ceir ewyllys i wneud hynny. Mae ein pwyllgor yn credu y dylai'r enghreifftiau hyn fod yn norm yn hytrach nag eithriadau. Rydym yn gwneud nifer o argymhellion gyda'r nod o sbarduno integreiddiad mwy systematig y sector gwirfoddol yn nhrefniadau argyfyngau sifil posib Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys mecanweithiau gwell ar gyfer rhannu data yn gyfreithlon ac yn amserol, a model cyllido cynaliadwy sy'n sicrhau bod y sector yn cael adnoddau digonol ac yn gallu cyfeirio arian i ble mae fwyaf o'i angen.
Ddirprwy Lywydd, datgelodd y pandemig anghydraddoldebau wedi'u gwreiddio'n ddwfn ar draws ein cymdeithas. Roedd oedran, ethnigrwydd, anabledd a statws economaidd-gymdeithasol yn ffactorau allweddol a bennai pa mor debygol oedd unigolyn o gael salwch difrifol neu o farw o COVID-19. Clywsom dystiolaeth hefyd am effaith anghymesur y pandemig ar wahanol grwpiau nodweddion gwarchodedig. Thema a godai dro ar ôl tro oedd methiant canllawiau a chyfathrebiadau swyddogol i ddarparu ar gyfer anghenion a phrofiad penodol y grwpiau hyn.
Fel Aelodau, fe wnaethom fyfyrio ar ein profiadau ein hunain yn ystod y pandemig a'r sylwadau a gawsom gan ystod eang o sefydliadau ar y mater hwn. Er enghraifft, roedd canllawiau a chyfathrebiadau'r Llywodraeth yn aml yn methu diwallu anghenion cyfathrebu pobl anabl. Anfonwyd gwybodaeth hanfodol, fel llythyrau apwyntiad ynghylch cysgodi a brechu, mewn fformatau print safonol na allent eu darllen yn annibynnol at bobl ddall a phobl a oedd yn gweld yn rhannol. Nodwyd absenoldeb darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain yn gyson, ar sianeli darlledu a chyfryngau cymdeithasol, fel rhwystr i fynediad pobl fyddar at wybodaeth hanfodol drwy gydol y pandemig. Rhaid gwneud mwy felly i sicrhau bod sefydliadau ag arbenigedd perthnasol yn gallu cyfrannu eu mewnwelediad gwerthfawr i wella ein gwydnwch. Dyna pam ein bod wedi gwneud nifer o argymhellion gyda'r nod o hwyluso ymgysylltiad a chydgynhyrchu cyson gyda grwpiau a nodwyd fel rhai sy'n fwy agored i argyfyngau penodol fel bod ein systemau gwydnwch yn cael eu paratoi'n well yn y dyfodol. Ni all Cymru fforddio gweld effaith argyfyngau yn y dyfodol yn cael ei deimlo fwyaf gan gymunedau penodol neu'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, fel pwyllgor, aethom i'r afael â'r gwaith hwn gyda bwriad clir—i sicrhau bod gwersi anodd y pandemig yn arwain at welliannau gwirioneddol a pharhaol i bobl Cymru. Ein nod oedd nid yn unig craffu, ond cyfrannu'n adeiladol hefyd at ddatblygu system argyfyngau sifil posib y gwnaed profion straen arni, system gadarn wedi'i chraffu'n annibynnol sy'n gallu diogelu ein cymunedau. Mae ein hadroddiad yn nodi'r gwersi y dylid eu dysgu o'r pandemig i sicrhau bod Cymru'n fwy gwydn ac yn gallu ymateb yn effeithiol i'r heriau y byddwn yn anochel yn eu hwynebu yn y dyfodol. Mae pobl Cymru'n haeddu hynny, a dim byd llai. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn fynegi fy nghydymdeimladau dwysaf gyda phawb a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig a hefyd gyda'r rhai hynny sy'n parhau i fyw gyda'i ganlyniadau, gan gynnwys y miloedd sy'n dioddef o COVID hir.
Rwyf innau hefyd eisiau diolch i'r pwyllgor am ei waith, er, wrth gwrs, mae hwn yn adroddiad na ddylai fod wedi bod angen ei ysgrifennu, oherwydd mae'r ffaith bod y cyfrifoldeb wedi dod i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn bryderus iawn. Mae'n adlewyrchu nid yn unig methiant y pwyllgor diben arbennig i gyflawni ei gylch gorchwyl, ond patrwm ehangach a mwy pryderus hefyd—Llywodraeth sy'n rhy amharod i gofleidio atebolrwydd, ac yn rhy anfodlon i wynebu'n onest yr hyn a adawodd y pandemig yn ei sgil.
Gadewch imi fod yn glir. Roedd Llywodraeth Cymru yn iawn i ddefnyddio ei phwerau datganoledig i fynd ar drywydd ymateb wedi'i deilwra. Mewn rhai achosion, roedd y dull hwnnw'n diogelu Cymru rhag gormodedd gwaethaf y penderfyniadau diystyr a welsom o dan Boris Johnson. Ond ni allwn anwybyddu ochr arall y cyfrif hwnnw. Fe wnaed camgymeriadau difrifol, camgymeriadau y gellid bod wedi eu hosgoi, ac fe wnaethom drafod y rheini'n glir ddoe. Dyna pam nad yw'n gredadwy hawlio ar y naill law yr hawl i wneud pethau'n wahanol, gan fynnu ar y llaw arall fod ymchwiliad ledled y DU, un y mae ei gadeirydd eisoes wedi cydnabod na all archwilio profiad Cymru yn llawn, yn ddigonol.
Mae canfyddiadau'r pwyllgor yn dangos yn glir fod canlyniadau i hyn yn y byd go iawn. Fel y dywed y cadeirydd yn y rhagair:
'[nid] yw system Cymru ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd ei threfniadau argyfyngau sifil posibl yn ddigon cadarn o hyd, gyda gorddibyniaeth ar hunanadrodd'.
Mae'r adroddiad yn mynd rhagddo i gasglu nad oes digon o dystiolaeth ar gael i'r cyhoedd i ddangos a yw'r systemau hyn yn wirioneddol effeithiol,
'neu a fyddent yn gwrthsefyll pwysau argyfwng mawr arall.'
Felly, dyma ni, bron i bedair blynedd ar ôl codi'r cyfyngiadau terfynol, ac nid ydym lle mae angen i ni fod o hyd. Ni allwn ddweud yn hyderus ein bod yn gwbl barod. Ni allwn ddweud gyda sicrwydd fod gwersi'r pandemig wedi'u gwreiddio. Yn hytrach, gofynnir i ni gredu gair y Llywodraeth. Ond nid yw eu gair yn unig yn ddigon, oherwydd dro ar ôl tro rydym wedi gweld bwlch rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud a'r hyn sy'n cael ei gyflawni. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â'r pwyllgor y dylai'r Llywodraeth gyhoeddi dangosyddion perfformiad clir, meintiol ar gyfer argyfyngau sifil posib, fel y gall y cyhoedd weld mewn ffordd fesuradwy pa mor barod rydym ni mewn gwirionedd, ac os felly, a fydd hynny'n cael ei wneud cyn yr etholiad? Ac ochr yn ochr â hynny, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i gyhoeddi cofrestr risg Cymru ar gyfer y cyhoedd, i nodi nid yn unig y risgiau sy'n ein hwynebu, ond y camau y byddai'n eu cymryd i ymateb iddynt? Os na, beth sy'n atal y Llywodraeth rhag gwneud hyn?
Yn y pen draw, mae'n fater o ddewis gwleidyddol. Mae'r Llywodraeth wedi dewis peidio â gwneud ei chyflawniad ar y pandemig yn destun craffu llawn penodol i Gymru, yn wahanol i'r dull a weithredwyd yn yr Alban. Os cawn gyfle i arwain y Llywodraeth nesaf yng Nghymru, fe fyddwn ni'n dewis llwybr gwahanol. Byddwn yn gweithredu argymhelliad canolog yr adroddiad hwn drwy sicrhau bod y Senedd yn archwilio pob modiwl ymchwilio sy'n weddill drwy lens Gymreig. Ac yn fwy na hynny, fe sefydlwn adolygiad pwrpasol penodol i Gymru o'r ymateb i'r pandemig i lenwi'r bylchau a adawyd gan ymchwiliad y DU, gan gynnwys materion allweddol fel profion mewn cartrefi gofal. Byddwn hefyd yn gweithredu ar rybudd yr adroddiad ynghylch gor-gymhlethdod y system bresennol, drwy gyflwyno dull gwasanaeth cyhoeddus Cymru'n un, gan ddod â mwy o eglurder, cydgysylltiad ac atebolrwydd i'r modd y cynlluniwn ar gyfer argyfyngau a'r modd yr ymatebwn iddynt.
Nid mater o nodi bai yw hyn. Nid mater o aildrafod pob penderfyniad. Mae'n ymwneud â rhywbeth llawer pwysicach na hynny. Mae'n ymwneud â gonestrwydd. Mae'n ymwneud ag atebolrwydd. Ac yn anad dim, mae'n ymwneud â sicrhau nad oedd y dioddefaint a ddioddefwyd gan gymaint o deuluoedd ledled Cymru yn ofer, ond yn hytrach, ei fod yn arwain at system sy'n gryfach, yn fwy tryloyw ac wedi'i pharatoi'n well ar gyfer beth bynnag a ddaw nesaf.
Roedd ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn fyr, ac wedi'i gyfyngu, yn rhannol o leiaf, gan ddyddiad diddymu'r Senedd. Rwy'n bwriadu tynnu sylw at rai pwyntiau yn yr adroddiad cyn rhoi COVID-19 mewn cyd-destun.
Tynnodd rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor sylw at effaith anghymesur y pandemig ar gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig, aelwydydd amlfeddiannaeth, a gweithwyr ar gyflog isel neu ddibynnol ar fisa. A yw hynny'n syndod i unrhyw un? Pwysleisiodd mudiadau gwirfoddol fod gwydnwch yn edrych yn wahanol i gymunedau gwahanol, ac rwy'n cytuno â'r Groes Goch Brydeinig, a alwodd am fapio'r anghenion a'r mecanweithiau hyn yn ddeallus i ddarparu cymorth wedi'i deilwra.
Clywodd y pwyllgor lawer o enghreifftiau o sut yr effeithiodd y pandemig yn wahanol ar gymunedau. Dywedodd Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru wrth y pwyllgor nad oedd profiadau bywyd amrywiol yn cael eu hystyried yn ddigonol yn yr ymateb cychwynnol ac argymhellodd ymgorffori arferion cydgynhyrchu mewn cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Adleisiwyd hyn gan Race Council Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd cynnwys cymunedau o'r cychwyn cyntaf.
Mae adroddiad modiwl 1 ymchwiliad COVID-19 y DU yn pwysleisio bod paratoi'n effeithiol ar gyfer argyfyngau'n dibynnu ar fynediad at ddata cyfredol dibynadwy o ansawdd uchel. Mae'r adroddiad yn pwysleisio, o gamau cynharaf pandemig neu argyfwng sifil mawr arall, fod angen gwybodaeth ddibynadwy ar wneuthurwyr penderfyniadau am alluoedd systemau, effeithiau posib ar grwpiau agored i niwed, risgiau sy'n dod i'r amlwg ac sy'n bodoli ar yr un pryd, a natur y bygythiad ei hun. Roedd yr ymchwiliad yn tynnu sylw at yr angen am systemau casglu data cryf, a all ddarparu data gweinyddol ar bethau fel nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael, ac ymchwil wyddonol, fel effeithiolrwydd gwrthfesurau, i fod ar waith cyn i argyfwng ddechrau. Heb fynediad at ddata o'r fath, mae'r rhai sy'n rheoli argyfwng yn wynebu ansicrwydd sylweddol. Argymhellodd sefydlu mecanweithiau ar gyfer casglu, dadansoddi, rhannu a defnyddio data dibynadwy yn amserol ar gyfer llywio ymatebion brys, cyn i bandemigau ddigwydd yn y dyfodol. Galwodd yr ymchwiliad hefyd am well cydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig, yn enwedig mewn perthynas â rhannu data.
Roedd COVID yn sioc. Roedd sawl pandemig posib wedi bod, ond prin yr effeithiodd yr un ohonynt ers ffliw Sbaen yn ddifrifol ar Brydain. A ydych chi'n cofio'r Llywodraeth yn gwario miliynau o bunnoedd yn prynu Tamiflu yn wyneb y bygythiad diweddaraf, nad oedd yn fygythiad yn y diwedd? Y tro diwethaf inni gael niferoedd enfawr o achosion o ffliw oedd yn 1957, ac achosodd hwnnw filiwn o farwolaethau ledled y byd. Ar ôl 1 Ebrill 2025, mae'r nifer o farwolaethau byd-eang y cadarnhawyd eu bod wedi'u priodoli i COVID-19 dros 7 miliwn, i'w roi mewn rhyw fath o gyd-destun.
Dywedwyd wrthym,
'o'r dechrau, roedd hi'n amlwg fod y coronafeirws yn trosglwyddo drwy aerosol, ac eto roedd pawb yn gwadu ei fod yn aerosol.'
Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un wedi gwadu hynny.
'Roeddent yn mynnu mai defnynnau ydoedd, felly roeddent yn dweud wrthym i gyd am olchi ein dwylo a sychu ein siopa. Nid yw hynny'n eich diogelu rhag COVID. Dyma'r trychineb iechyd cyhoeddus mwyaf erioed, ac fe gawsant y dull trosglwyddo'n anghywir.'
Nid yn unig fod hynny'n anghywir, mae'n beryglus. Gall defnynnau o'r geg a'r trwyn halogi dwylo, cwpanau, teganau, eitemau bwyd neu unrhyw eitemau eraill y mae pobl yn eu cyffwrdd. Ac os ydynt yn eu cyffwrdd ac yna'n cyffwrdd â'u trwyn neu eu ceg, gall y rhain dreiddio'n ddwfn i'r ysgyfaint. Enghreifftiau o heintiau sy'n cael eu lledaenu yn y modd hwn yw annwyd cyffredin, COVID-19 a ffliw. Dyna pam roedd golchi dwylo a glanhau siopa'n bwysig.
A gaf i ddweud, mae golchi dwylo bob amser yn bwysig? Ac mae hynny'n rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi ei gyfleu'n llwyr ac nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei gyfleu, pwysigrwydd golchi dwylo, golchi dwylo rheolaidd, a diheintio dwylo. Mae'n beth pwysig iawn i bobl ei wneud ac ychydig iawn o bobl sy'n ei wneud. Dyma hefyd pam y mae gwisgo masg yn bwysig. Rwy'n byw yn ninas brifysgol Abertawe ac mae'n gyffredin gweld pobl o dde-ddwyrain Asia yn gwisgo masg. Iddynt hwy, mae'n beth naturiol i'w wneud. Os ydynt yn cerdded i lawr y ffordd, maent yn gwisgo masg.
Tri darn o gyngor: roedd galw'r feirws yn 'COVID', 'COVID-19', 'coronafirws' a 'SARS' nid yn unig yn drysu pobl, golygai fod pobl yn dweud, 'Nid ydynt yn gwybod beth ydyw.' Mae angen i'r un enw gael ei ddefnyddio gan bawb, fel bod y cyhoedd yn deall yn union beth sy'n digwydd.
Rhywbeth y mae angen inni ei wneud yn gyffredinol yw gwahaniaethu rhwng annwyd a'r ffliw. Rydym yn gwybod am bobl sy'n dweud bod ganddynt 'dwtsh o ffliw', ond pe baech chi wedi dal y ffliw, ni allech wneud dim byd. Cefais y ffliw pan oeddwn yn fy 30au cynnar ac fe wnaeth fy llorio am dros wythnos. Efallai y bydd rhai pobl yn cofio—gan eich cynnwys chi, Lywydd—ychydig wythnosau yn ôl, roedd gennyf beswch ac annwyd, nad oedd yn helpu pethau. Nid ffliw oedd hwnnw. Pe bai'n ffliw, ni fyddwn wedi gallu gyrru allan o fy stryd, heb sôn am yrru i Gaerdydd.
Yn olaf, nid oes unrhyw ardal yn imiwn rhag feirws tebyg i ffliw. Gosodwch gyfyngiadau cynnar i atal trosglwyddiad os nad yw ardal wedi ei gael, a byddai bron yn sicr nad mater o imiwnedd lleol fyddai hynny, ond oherwydd na fyddai wedi cyrraedd yno eto. Mae gwir angen inni ddod i'r arfer o ofalu am ein hiechyd. A hyd nes y gwnawn ddechrau gwneud hynny, byddwn bob amser yn wynebu risg o feirws tebyg i ffliw.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sydd yn cyfrannu nawr. Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a'r pwyllgor a'r holl aelodau, am eu gwaith yn archwilio ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad ymchwiliad COVID-19 y DU, a'u hargymhellion ynghylch parodrwydd? Mae'r rhain yn ganfyddiadau pwysig a fydd yn helpu i gryfhau gallu Cymru ymhellach i baratoi ar gyfer pandemigau ac argyfyngau yn y dyfodol ac i ymateb iddynt. Fel y mae'r pwyllgor yn cydnabod, mater i'r Llywodraeth nesaf fydd ymateb yn ffurfiol i'w hargymhellion. Fodd bynnag, mae'r prynhawn yma'n gyfle i mi nodi'r camau rydym eisoes wedi'u cymryd a'r gwaith sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r meysydd gwella y mae'r pwyllgor wedi'u nodi yn ystod ei ymchwiliad.
Dechreuodd y gwaith o gryfhau parodrwydd Cymru cyn i ymchwiliad COVID-19 y DU gyhoeddi ei adroddiad modiwl 1 a'i argymhellion yn 2024. Fe wnaethom ddechrau gweithio'n syth ar ôl y pandemig, ond cafodd y gwaith hwnnw ei ddwysáu ac mae wedi'i atgyfnerthu gan y broses ymchwilio a'r argymhellion.
Mae Cymru wedi cryfhau'r ffordd y mae'r gwasanaethau brys, cyrff cyhoeddus a'r Llywodraeth ei hun yn paratoi ar gyfer digwyddiadau mawr ac yn ymateb iddynt. Wedi ein harwain gan fframwaith gwydnwch Cymru, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Mai 2025, rydym wedi adeiladu dull cenedlaethol mwy cadarn o reoli risg, parodrwydd ac ymateb. Mae hyn yn cynnwys darlun a rennir o risg, protocolau ymateb cliriach, trefniadau arweinyddiaeth a goruchwylio cryfach, ymarferion rheolaidd ar y cyd a chraffu annibynnol ar ein gwaith.
Mae'r fframwaith yn ymgorffori set o egwyddorion craidd ar gyfer gweithgarwch gwydnwch yng Nghymru, gan gynnwys dull unwaith i Gymru, sy'n golygu bod pob partner wedi ymrwymo i fabwysiadu dull unedig, cyson, system gyfan i fynd i'r afael â risgiau a chryfhau parodrwydd, gan sicrhau bod camau gweithredu'n cael eu gwneud unwaith, wedi'u cymhwyso'n dda ym mhobman, ar gyfer yr effaith fwyaf sy'n bosib. Mae'r dull hwn wedi'i brofi'n drylwyr mewn ymateb i gyfres o argyfyngau yn y byd go iawn a'r hydref diwethaf yn ymarfer pandemig y pedair gwlad, Ymarfer Pegasws. Mae'r dystiolaeth, gan gynnwys gan y gwasanaethau brys, yn dangos bod y diwygiadau hyn wedi galluogi gwell parodrwydd a chydlyniant amlasiantaethol cyflymach yn ystod llifogydd a thoriadau mawr yn y cyflenwad dŵr, stormydd difrifol, tarfu ar seilwaith trafnidiaeth, ymosodiadau seiber, a bygythiadau sy'n dod i'r amlwg i iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid.
Lywydd, rydym wedi lansio rhaglen ddiwygio sylweddol, wedi'i harwain gan y gwersi a ddysgwyd yn y pandemig, argyfyngau diweddar eraill, ac argymhellion modiwl 1. Diolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac i ymchwiliad y DU.
Yn 2023, fe wnaethom gwblhau adolygiad annibynnol o drefniadau argyfyngau sifil posib Cymru ac yn 2024, fe wnaethom sefydlu'r pwyllgor risg a pharodrwydd. Mae'r grŵp trawslywodraethol hwn yn cyfarfod bob chwarter a gall drosglwyddo'n gyflym o oruchwylio risg i ymateb i argyfwng. Rydym hefyd wedi lansio rhaglen galluoedd gwydnwch sylweddol, mewn partneriaeth ag Academi Gwydnwch y DU, i ddarparu cynnydd mewn galluoedd strwythuredig ledled Cymru, gan gynnwys parodrwydd, ymarfer rheoli gwersi, a swyddogaethau rheoli argyfwng a risg. Fe wnaethom sefydlu'r rhaglen i ddarparu platfform cydlynol ar gyfer proffesiynoli gwaith gwydnwch yng Nghymru.
Rydym yn benderfynol ar y lefel weinidogol i sicrhau bod—. Wel, nid yn unig gan fod y Prif Weinidog yn ei gadeirio, ond mae'r Cabinet wedi ymrwymo i sesiynau Cabinet blynyddol i ganolbwyntio ar barodrwydd ar gyfer argyfyngau. Felly, nawr, mae'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad blynyddol i'r Senedd ar wydnwch, ac fe geir adroddiad bob tymor o'r Senedd ar gyflwr gwydnwch Cymru.
Cafodd Cymru ei chofrestr risg bwrpasol gyntaf yn ôl dosbarth yn 2024, a gynhyrchwyd ar y cyd â grwpiau risg y pedwar fforwm gwydnwch lleol ac sy'n adlewyrchu nodweddion penodol i Gymru. Mae'n pwyso ar asesiad risg diogelwch gwladol y DU, ond mae'n addasu ar gyfer cyfrifoldebau datganoledig a chyd-destun lleol. Mae'r gofrestr risg wedi'i hadolygu'n annibynnol i ddarparu asesiad cadarn, dosbarthiadol penodol i Gymru, i ddarparu dadansoddiad manwl o risgiau a'u goblygiadau, ac i alluogi cynlluniau manwl gan ymatebwyr a'r Llywodraeth yn erbyn y risgiau sy'n ein hwynebu dros y pum mlynedd nesaf.
Ond mae'n bwysig ein bod wedi ymrwymo i dryloywder, ac mae'n bwysig dweud hefyd fod cylch gorchwyl a nodiadau cryno ar gyfer fforwm a phartneriaeth gwydnwch Cymru ar gael i'r cyhoedd ar wefan Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais, bydd y Prif Weinidog yn darparu datganiadau blynyddol ac adroddiadau cyfnodol ar gyflwr gwydnwch i'r Senedd.
Rydym yn ymgysylltu â phob rhan o'r gymuned ymatebwyr, gan gynnwys y sector gwirfoddol, ac yn 2025, diwygiwyd fforwm gwydnwch Cymru i uno arweinwyr o sefydliadau ymatebwyr brys categori 1 a chategori 2 a'r trydydd sector. Mae'r sector gwirfoddol a'r trydydd sector yn chwarae rôl allweddol yn cryfhau gwydnwch Cymru, gan adlewyrchu'n fwyaf arbennig anghenion rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Maent yn cael eu cynrychioli ar fforymau gwydnwch lleol, partneriaeth gwydnwch Cymru, ond rydym am fynd ymhellach, ac rwy'n croesawu hyn yn fawr fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, sy'n gyfrifol am y trydydd sector.
Byddwn yn dyfnhau ein partneriaeth â'r sector, ac mae hyn yn cynnwys gwella mynediad i blatfformau fel ResilienceDirect, a chynyddu cyfleoedd i gyfrannu at gofrestr risg Cymru, gwella trefniadau rhannu data a chyfrannu eu harbenigedd wrth ymarfer parodrwydd. Rydym hefyd yn archwilio sut y gellir gwneud mecanweithiau cyllido brys yn fwy amserol. Mae cyfraniad y sector yn ystod Ymarfer Pegasws a digwyddiadau yn y byd go iawn wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydym wedi ymrwymo i gryfhau'r berthynas hon ymhellach.
Lywydd, mae argyfyngau sifil posib yn gynhenid gymhleth, ac mae mwy na 100 o risgiau wedi'u cofnodi yng nghofrestr risg Cymru, sy'n cynnwys mwy na 50 o ymatebwyr statudol mewn ystod eang o ddisgyblaethau. Mae goruchwyliaeth effeithiol yn dibynnu ar grwpiau arbenigol a galluoedd proffesiynol lluosog, a nodwn yr ystyriaeth i'r pwyllgor fod mwy i'w wneud yn hyn o beth i leihau'r cymhlethdod i'r rhai sy'n ymwneud â'r strwythurau.
Fe wnaethom gwblhau cofrestr risg bwrpasol gyntaf Cymru ar gyfer argyfyngau sifil posib ar ddiwedd 2024. Mae wedi'i hadolygu'n annibynnol i ddarparu asesiad cadarn, dosbarthiadol sy'n benodol i Gymru, i ddarparu dadansoddiad manwl o risgiau a'u goblygiadau, ac i alluogi cynlluniau manwl gan ymatebwyr a'r Llywodraeth yn erbyn y risgiau a wynebwn dros y pum mlynedd nesaf.
Mae adroddiadau ar ragolygon gwydnwch chwe misol yn sicrhau bod asesiadau'n gyfredol a bod ffocws iddynt, ac rydym yn cydweithio â Llywodraethau'r DU a Llywodraethau datganoledig ar wella methodolegau risg. Eleni, rydym yn datblygu cyngor a chanllawiau newydd i'r cyhoedd, fel eu bod yn cael eu hysbysu'n llawn ynghylch y risgiau a wynebwn a sut y gallant baratoi yn y ffordd orau ar gyfer argyfyngau.
Rydym yn cryfhau'r ffordd y mae cydraddoldeb yn cael ei ymgorffori yn ein hymateb brys. Mae asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb bellach wedi'u hymgorffori mewn diweddariadau sefyllfa ar gyfer digwyddiadau risg uchel, ac mae ein cysyniad diwygiedig o weithrediadau yn cynnwys cell cydraddoldeb a thegwch. Yn ystod Ymarfer Pegasws, fe wnaethom dreialu model tasglu parhaol a oedd yn cynnwys tîm cydraddoldeb i sicrhau bod anghenion grwpiau agored i niwed a grwpiau sy'n wynebu risg yn cael eu hystyried yn weithredol.
Rydym yn gwella prosesau rhannu data drwy offer digidol, yn cryfhau gallu data iechyd a gofal cymdeithasol i ryngweithredu drwy set ddata gofal brys Cymru, ac yn gwella protocolau rhannu data. Mae gennym dîm pwrpasol ar gyfer cynllunio gwelliant i'r effaith ar gydraddoldeb sydd bellach yn arwain asesiad o'r effaith ar draws y sefydliad.
Yn olaf, Lywydd, rwy'n sicrhau ein cyd-Aelodau a'r pwyllgor fod llywodraethiant cadarn ar waith ar gyfer y rhaglen diogelu iechyd digidol dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chefnogaeth £2.29 miliwn o gyllid, ac mae disgwyl i waith datblygu cyntaf y system Tarian 2 newydd, a luniwyd i gefnogi'r broses o reoli achosion, profion torfol ac olrhain cysylltiadau, gael ei gwblhau yn hydref 2026.
Lywydd, yr wythnos hon rydym wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiad ac argymhellion modiwl 2 yr ymchwiliad COVID-19 yn y DU ynglŷn â phroses wneud penderfyniadau'r Llywodraeth. Heddiw, fe gawsom ac fe drafodwyd yr adroddiad gwerthfawr hwn gan ein pwyllgor Senedd ein hunain gyda myfyrdodau pellach ar sut y gallwn gryfhau parodrwydd a gwydnwch. Yfory, rydym yn disgwyl yr adroddiad a'r set o argymhellion nesaf gan ymchwiliad COVID-19 y DU am effaith y pandemig ar ein system gofal iechyd.
Mae pob un o'r rhain yn gyfle i fyfyrio, i ddysgu, i wneud newidiadau fel y gallwn wynebu'r dyfodol yn gryfach. Ond fe wnawn hynny gan dosturio at bawb yr effeithiwyd arnynt ac sy'n parhau i gael eu heffeithio gan y pandemig. Diolch yn fawr.
Mark Isherwood nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r holl gyfranwyr. Yn briodol ddigon, mynegodd Mabon ap Gwynfor gydymdeimlad â phawb a gollodd anwyliaid ac mae pawb ohonom ar draws y Siambr yn meddwl am y rhai sy'n dioddef o COVID hir. Fel y dywedodd, ni ddylai fod angen ysgrifennu'r adroddiad hwn. Roedd yn datgelu'r modd ehangach y gwrthododd Llywodraeth Cymru graffu ac atebolrwydd llawn. Gwnaed camgymeriadau difrifol y gellid bod wedi eu hosgoi, ac nid yw'n gredadwy cyhoeddi hawl i wneud pethau'n wahanol a dibynnu wedyn ar ymchwiliad ledled y DU.
Cyfeiriodd at y bwlch rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud a'r hyn sy'n cael ei gyflawni, a'r angen am ddangosyddion perfformiad a dangosyddion risg Cymreig. Cyfeiriodd at faterion allweddol, fel profion ar gyfer cartrefi gofal. Wrth gwrs, bydd hynny'n destun modiwl pellach. Nid oedd y mater penodol hwn yn rhan o'r parodrwydd, er iddo gael ei adlewyrchu yn rhai o'n canfyddiadau. Mae angen dosrannu bai yn gadarn, rwy'n credu iddo ddweud, os wyf yn gywir, ac mae'n ymwneud ag atebolrwydd gonest a sicrhau nad oedd dioddefaint y teuluoedd yn ofer.
Diolch i Mike Hedges, nid yn unig am ei araith heddiw, ond am ei gyfraniad i'r ymchwiliad, cyfraniad a gafodd ei werthfawrogi. Cyfeiriodd at sawl corff gwahanol, gan gynnwys Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, ac nad oedd profiad amrywiol wedi'i wreiddio'n ddigonol. Cyfeiriodd at yr angen am fynediad at ddata cyfredol o ansawdd uchel. Pwysleisiodd yn gywir ddigon fod y feirws yn trosglwyddo drwy aerosol ac oddi ar arwynebau; nid oedd yn naill ai/neu. Buaswn yn dweud bod COVID-19 Bereaved Families for Justice wedi cadarnhau ers hynny mai dyna yw eu dealltwriaeth nhw.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, diolch am eich ymateb ac am gydnabod—[Torri ar draws.] Carolyn Thomas, ie.
Roeddwn i'n gwrando ar y ddadl ac roedd yn fy atgoffa o ddeiseb a gawsom ynglŷn â COVID hir. Cefais fy syfrdanu gan faint o bobl sydd â COVID hir nawr a fyddai'n hoffi ymuno â'r gweithlu ond gyda hyblygrwydd. Mae'r rhain yn bobl sydd wedi gweithio i'r gwasanaeth iechyd, neu'n athrawon ac a hoffai weithio oherwydd bod angen iddynt ennill incwm, ond mae angen hyblygrwydd arnynt. Ac roeddwn i'n meddwl tybed a yw hynny'n rhywbeth y gwnaeth eich ymchwiliad gyffwrdd ag ef. Diolch am adael i mi ymyrryd.
Diolch. Cyfeiriwyd ato, ond cafodd ei grisialu'n well gan y sylw ehangach, y cyfeiriais ato, i bobl anabl, pobl â nodweddion gwarchodedig. Rwy'n gwybod bod pobl sy'n dioddef COVID hir yn gweithio gyda'r gymuned ME, er enghraifft, ac mae yna lawer o fathau o anableddau cudd a chyflyrau y mae angen inni eu cefnogi'n well os ydym yn mynd i gael gwared ar y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cyfrannu fel y dymunant.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, fodd bynnag, mae'r rhain yn ganfyddiadau pwysig sy'n helpu paratoadau Llywodraeth nesaf Cymru ar gyfer pandemigau ac argyfyngau yn y dyfodol. Amlinellodd y camau a gymerwyd hyd yma gan Lywodraeth bresennol Cymru, ac wrth gwrs, fe wnaeth fy araith gydnabod rhai o'r rheini, yn enwedig y diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys datblygu fframwaith gwydnwch Cymru, ailgyfansoddiad o fforwm gwydnwch Cymru a'r camau a gymerwyd i gryfhau llywodraethiant a rheoli risg. Wrth gwrs, amlinellodd a datblygodd Ysgrifennydd y Cabinet y rheini y tu hwnt i hynny hefyd.
Dywedodd, fodd bynnag, fod tystiolaeth ac argymhellion eraill yn ymwneud â'r sefyllfa nawr, ar ôl llawer o'r rhain—. Fy nodyn i mi fy hun oedd hwnnw—rwy'n ymddiheuro, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd ein hargymhellion, wrth gwrs, yn ymwneud â'r sefyllfa nawr, ar ôl i lawer o'r camau hyn gael eu cymryd. Roedd y dystiolaeth a gawsom gan nifer o gyrff, gan gynnwys ymatebwyr, y trydydd sector ac eraill, yng nghyd-destun lle rydym ni arni ar ôl y camau hynny, gan gynnwys y camau rydych chi'n eu disgrifio yn 2024 ac yn y blaen, sydd i'w croesawu. Fel y dywedoch chi'n gywir ddigon, mae'r sector gwirfoddol yn chwarae rhan allweddol yn cyfrannu at wydnwch Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi fynd ar drywydd a chytuno â'n canfyddiadau mewn perthynas â'r sector gwirfoddol a'r newidiadau y mae angen inni eu gwneud i sicrhau eu bod wedi'u gwreiddio mewn cydgynhyrchu go iawn, gan gynllunio a chyflawni ar sail systematig a'u cynnwys mewn monitro a phrofion straen, ochr yn ochr ag ymatebwyr ac eraill, yn y dyfodol.
Fel y dywedais, rydym yn parhau i fod yn bryderus ynghylch heriau o ran adnoddau sy'n wynebu ymatebwyr brys a rhai o'r materion eraill a nodwyd ganddynt. Dywedais eto ei bod yr un mor amlwg nad yw potensial ymdrechion cymorth neu ymateb ac adfer y sector gwirfoddol yn cael ei wireddu'n llawn. Soniais am absenoldeb craffu annibynnol i asesu trefniadau gwydnwch a pharodrwydd diwygiedig Cymru. Ac roedd yna argymhellion ar gyfer hwyluso ymgysylltiad a chydgynhyrchu cyson gyda grwpiau a nodwyd fel rhai sy'n fwy agored i argyfyngau penodol. Fel y dywedais, rydym yn mynd i'r afael â hyn i sicrhau bod gwersi anodd y pandemig yn arwain at welliannau gwirioneddol a pharhaol i bobl Cymru. Nid gweld bai yw ein rôl ni, ond dysgu a gweld y gwersi o hyn yn cael eu datblygu yn y dyfodol, gobeithio, nid yn unig ar gyfer craffu ond ar gyfer cyfrannu'n adeiladol at ddatblygu system argyfyngau sifil posib y cynhaliwyd profion straen arni, system gadarn wedi'i chraffu'n annibynnol ac sydd â'r gallu i ddiogelu ein cymunedau.
Yn olaf, fe nodaf y cyfeiriad a wneuthum, ac a wnaeth Mabon ap Gwynfor, mewn perthynas ag ymchwiliad COVID. Unwaith eto, nid mater i ni oedd argymell ymchwiliad COVID, ond yn hytrach i gydnabod y safbwyntiau a fynegwyd yn gryf gan nifer o dystion, gan gynnwys y teuluoedd, fod angen ymchwiliad COVID penodol i Gymru o hyd. Bydd cydnabod y penderfyniad ynglŷn ag a ddylid comisiynu hyn yn fater ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru yn y pen draw, ac os tynnaf fy het Cadeirydd am eiliad a siarad yn annibynnol, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae hwnna wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Dadl Plaid Cymru sydd nesaf, ar wariant Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yng Nghymru. Heledd Fychan sy'n gwneud y cynnig.
Cynnig NDM9220 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU wneud penderfyniadau gwariant yng Nghymru pan fydd Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n gyfle i ni fel Senedd uno a sefyll, nid drosom ein hunain ond dros y sefydliad democrataidd hwn. Mae'n gyfle i anfon neges glir i Lywodraeth y DU na ddylent wneud penderfyniadau gwariant yng Nghymru pan fo Llywodraeth Cymru'n gwrthwynebu'r penderfyniadau hynny. Roeddem yn gobeithio, drwy gynnig hon fel ein dadl wrthblaid olaf cyn yr etholiad, y gallem siarad ag un llais fel Senedd ar rywbeth a ddylai fod yn fater o egwyddor i bob plaid fel ei gilydd. Ac ni allaf help ond cael fy siomi gan y gwelliant a gyflwynwyd gan yr union Lywodraeth yr ydym yn sefyll drosti. Ac i fod yn glir, ni allwn gefnogi safbwynt mor denau a gwan. Mae Cymru'n haeddu gwell gan Lywodraeth y DU ac mae'r Senedd hon yn haeddu gwell gan ei Llywodraeth ei hun.
Sawl gwaith y clywsom Aelodau Llafur yma'n disgrifio eu plaid fel plaid datganoli? Mae'r honiadau hynny'n ymddangos mor wag nawr, yn enwedig yng ngoleuni'r memo a ddaeth i'r golwg yr wythnos diwethaf. Ni fydd y rhai sy'n gwybod eu hanes, fodd bynnag, yn cael eu synnu gan safbwynt Plaid Lafur y DU. Mae sgeptigiaeth wreiddiedig a hyd yn oed gelyniaeth lwyr tuag at y syniad o hunanlywodraeth Gymreig, a ymgorfforwyd gan bwysigion fel Neil Kinnock, wedi bodoli yn y Blaid Lafur ers degawdau. Ond o dan arweinyddiaeth Keir Starmer, rydym wedi gweld lleisiau o blaid datganoli yn y Blaid Lafur yn cael eu gwthio ymhellach i'r cyrion, a chynnydd math o unoliaetholdeb cyhyrog gwrth-ddatganoli, sydd nid yn unig yn ymddangos yn barod i danseilio awdurdod y Senedd, ond sydd i'w weld fel pe bai'n ymhyfrydu mewn tanseilio awdurdod y Senedd.
Roedd yr arwyddion rhybudd yn amlwg hyd yn oed cyn yr etholiad cyffredinol. Cafodd yr achos cymhellol dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona ei wrthod, er gwaethaf tystiolaeth gref y byddai gwneud hynny'n arwain at ganlyniadau gwell i gymunedau ledled Cymru. Ciliodd y blaid o ymrwymiadau sefydledig i ddiwygio'r fframwaith cyllidol cyfyngol sy'n parhau i roi Cymru dan anfantais o'i chymharu â deddfwrfeydd eraill. Cafodd ymgeiswyr heb fawr o ddealltwriaeth o ddatganoli eu parasiwtio i mewn i etholaethau Cymru—rhywbeth a adlewyrchwyd yn ddiweddarach yn eu sylwadau dryslyd ar feysydd datganoledig, fel iechyd a'r dreth gyngor. Ac ers yr etholiad, mae'r pryderon hyn wedi dwysáu, oherwydd nid yn unig nad yw Llywodraeth bresennol y DU wedi gwneud unrhyw ymdrech i ddadwneud tueddiadau niweidiol ei rhagflaenwyr i sathru ar y setliad datganoli, yn cynnwys drwy gynnal Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, maent wedi mynd ati'n weithredol ac yn ddigywilydd i ymestyn y pwerau y mae San Steffan yn eu bachu mewn ffyrdd na fyddid wedi'u dychmygu ychydig flynyddoedd yn ôl.
Rydym wedi gweld pob AS Llafur o Gymru yn pleidleisio'n unfrydol i amddifadu Cymru o'r gallu a roddwyd yn barod i'r Alban elwa o'i hadnoddau naturiol ei hun drwy ddatganoli Ystad y Goron, yn groes i farn pob awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym wedi clywed ymateb syfrdanol yr Ysgrifennydd Cartref i'r awgrym y gallai'r Papur Gwyn ar ddiwygio'r heddlu fod yn gyfle i ailymgysylltu â'r achos dros drosglwyddo pwerau dros blismona i Gymru, a thrwy hynny beryglu canlyniad yr hyn sydd i fod yn ymgynghoriad annibynnol. Rydym wedi gweld cyflwyniad y rhaglen Balchder Bro sydd nid yn unig yn ddynwarediad hyd yn oed yn salach o ddynwarediad gwael o gyllid strwythurol yr UE, ond sydd hefyd yn her uniongyrchol i gymwyseddau datganoledig, a gafodd ei beirniadu, yn briodol ddigon, gan 11 AS Llafur. Gwelsom benodi'r Ysgrifennydd Cymru mwyaf gwrthwynebus i ddatganoli mewn dros hanner canrif, wedi'i thorri o'r un brethyn â Neil Kinnock—nid fy ngeiriau i, ond geiriau'r Aelod dros Lanelli.
A nawr, yn fwyaf damniol memorandwm yn cael ei ryddhau'n answyddogol yn cyfarwyddo Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU i ymyrryd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig hyd yn oed pan allai hynny wrthdaro â pholisi Llywodraeth Cymru. Mae haerllugrwydd yr ymagwedd 'San Steffan sy'n gwybod orau' yn amlwg iawn i bawb ei gweld. Yr hyn sy'n arbennig o ddigalon yw'r cyferbyniad llwyr ag ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli yn Lloegr. Mae llefydd fel Cumbria, swydd Gaer, Essex, Hampshire, East Anglia a Sussex i gyd wedi cael eu rhoi ar lwybr carlam ar gyfer datganoli heb oedi, tra bod ein taith ddatganoli ni yng Nghymru'n cael ei gwrthdroi. Yn anffodus, yn hytrach na dangos yr arweinyddiaeth gref sydd ei hangen ar Gymru, mae ymateb Prif Weinidog Cymru wedi dangos nad yw'r ffordd goch Gymreig yn ddim mwy na slogan, fel y mae'r bartneriaeth mewn grym fel y'i gelwir yn ddim mwy na geiriau gwag.
Beth fu'r ymateb? Gwadu, amddiffyn a gwyro ar ran pencadlys y Blaid Lafur yn hytrach na lladd ar y memorandwm gyda'r ffyrnigrwydd yr oedd yn ei haeddu. Yn wir, aeth Prif Weinidog Cymru ymhellach nag ymateb swyddogol ei phenaethiaid yn San Steffan drwy geisio esgusodi cynnwys y memorandwm, a honni ei fod yn cyfeirio at faterion a gadwyd yn ôl yn unig, er nad oedd y testun yn gwneud unrhyw honiad o'r fath.
Fel y gwelsom gyda naratif Prif Weinidog Cymru ar raglen hybiau llawfeddygol y Llywodraeth, mae gafael llac y Prif Weinidog ar fanylion, hyd yn oed ar faterion o bwys sylfaenol fel hyn, yn frawychus. Ar ben hynny, fel y gwelsom eisoes gyda gweithredu'r rhaglen Balchder Bro, caiff dehongliad y Prif Weinidog ei wrth-ddweud yn llwyr gan y dystiolaeth ei hun. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod y Llywodraeth Lafur hon yn y DU yn benderfynol o ddal ei gafael ar liferi grym ar draul y gweinyddiaethau datganoledig. Mewn gwirionedd mae'n un o'r ychydig bethau y mae wedi dangos unrhyw fesur o gysondeb yn eu cylch drwy gydol ei chyfnod mewn grym.
Os ydym yn nesu at ddiwedd teyrnasiad Llafur yng Nghymru, fel y mae'r holl arolygon barn yn ei awgrymu, nid y memorandwm hwn fydd yr unig achos. Gosodwyd trywydd eu dirywiad a'u cwymp beth amser ynghynt. Ond yn y blynyddoedd i ddod, bydd yn dyst i hunanfodlonrwydd Plaid Lafur a ragdybiodd y gallai gymryd Cymru a'i phleidleiswyr yn ganiataol, a'r foment pan chwalwyd y rhith o hoffter ymddangosiadol Llafur o ddatganoli am byth.
Ac fel y dangosir gan nifer y cyn-bleidleiswyr Llafur sy'n dod drosodd at Blaid Cymru, mae yna awydd amlwg ymhlith yr etholwyr am newid o'r status quo, status quo sy'n awgrymu bod derbyn goruchafiaeth San Steffan yn normal rywsut. I ni, nid slogan wag yw sefyll dros Gymru i'w gwrthod neu ei bychanu pan fydd yn wleidyddol anghyfleus. Dyma ein pwrpas. Rydym yn parhau i fod yn ddiwyro yn ein cred y dylai pŵer fod wedi'i wreiddio yn ein cymunedau a bod datganoli ystyrlon yn hanfodol i gyflawni newid gwirioneddol i bobl Cymru. Rydym yn parhau i fod yn ddiwyro yn ein cred fod yn rhaid diogelu ein democratiaeth yma yng Nghymru ac uniondeb y Senedd hon. Rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd i gefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd a gwrthod y gwelliant heddiw.
Rwyf i wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Dirprwy Brif Weinidog i gynnig y gwelliant yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU wneud penderfyniadau ar wariant mewn meysydd cyfrifoldeb sydd wedi’u datganoli yng Nghymru heb gydsyniad Llywodraeth Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Ydy, mae e wedi ei gyflwyno, felly. Paul Davies nesaf.
Diolch, Lywydd. Ni ddylai fod yn syndod y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r cynnig hwn y prynhawn yma. Nawr, pa un a yw'r cenedlaetholwyr yn ei hoffi ai peidio, mae'n ffaith bod pobl Cymru’n cael eu gwasanaethu gan ddwy Lywodraeth. Er bod Plaid Cymru'n dadlau y dylai Cymru gael feto dros benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU, mae'n ffaith bod Aelodau Seneddol y DU hefyd yn cael eu hethol yn ddemocrataidd gan bobl Cymru. Y gwir amdani yw bod Cymru'n gryfach am fod ganddi ddwy Lywodraeth yn gweithio ar ran ei phobl—Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd a Llywodraeth y DU yn San Steffan.
Ni chafodd datganoli mo'i gynllunio i greu dwy wladwriaeth sy'n cystadlu o fewn y Deyrnas Unedig. Fe'i cynlluniwyd i ddod â'r broses o wneud penderfyniadau yn nes at y bobl, gan gadw cryfder y DU yn ei chyfanrwydd, a chredaf fod y cydbwysedd hwnnw'n bwysig. Mae'r model cydweithredol hwn yn hyrwyddo sefydlogrwydd a chyfrifoldeb ar y cyd. Er bod gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru gyda'i gilydd hanes trychinebus o gyflawni gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, y gwir amdani yw mai'r dewis arall yw annibyniaeth, a fyddai'n gatastroffig i bobl Cymru.
Nawr, fel y gwyddom, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am nifer o feysydd polisi hynod bwysig, fel iechyd, addysg a thai, ond daw swm sylweddol o gyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny gan Lywodraeth y DU drwy'r grant bloc, felly yn y bôn, mae adnoddau'r Deyrnas Unedig gyfan yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig gan fod Cymru'n gyson yn derbyn mwy o wariant cyhoeddus y pen na chyfartaledd y DU. Yn wir, fel y gŵyr yr Aelodau, am bob £1 a werir yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru’n derbyn £1.20 i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus Cymru. Nawr, pa un a yw rhai pobl yn derbyn hyn ai peidio, y gwir amdani yw bod ein cysylltiad ag economi ehangach y DU yn talu am y gwahaniaeth rhwng yr arian a wariwn a'r arian a godwn yng Nghymru, a chredaf mai dyma un o gryfderau mawr y Deyrnas Unedig, gan ei fod yn golygu bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru'n elwa o gryfder economaidd cyfunol y DU gyfan. Oherwydd beth yw'r dewis arall? Pe bai Plaid Cymru'n cael eu ffordd, byddai'r bartneriaeth honno'n cael ei dinistrio, gan mai eu nod yw dinistrio'r Deyrnas Unedig. Fe ildiaf i'r Aelod dros Flaenau Gwent.
Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Roeddech chi'n dadlau bod gennym ddewis rhwng y model sydd gennym heddiw neu annibyniaeth. Oni fyddech yn cytuno bod trydedd ffordd mewn gwirionedd, sef datrysiad ffederal sy'n gwarantu pwerau penodol ar gyfer y lle hwn ac ar gyfer San Steffan?
Edrychwch, nid yw'n gyfrinach fy mod yn credu mewn datganoli; dyna pam fy mod yn y lle hwn. Ond byddai annibyniaeth yn gwbl drychinebus i ni ac i Gymru gyfan. A gadewch imi ddweud wrth y cenedlaetholwyr, pe bai angen cydsyniad Llywodraeth Cymru ar bob un o benderfyniadau'r DU sy'n effeithio ar Gymru, byddem yn cyfnewid cydweithredu am wrthdaro cyfansoddiadol. Ond wrth gwrs, dyna maent ei eisiau. Yn bwysicach fyth, ni fyddai mynnu feto yn cyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru. Nid ymrafael cyfansoddiadol yw'r hyn sy'n bwysig i deuluoedd yng Nghaerdydd, ffermwyr yng Ngheredigion a busnesau ym Mae Colwyn, ond ble mae'r Llywodraethau'n cyflawni, a'r gwir amdani yw bod llawer o'r buddsoddiadau sy'n cefnogi ein pobl a'n busnesau yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU. Boed yn gyllid ar gyfer seilwaith mawr, cymorth i ddiwydiant fel rhaglen y porthladdoedd rhydd, neu raglenni'r DU gyfan sy'n fuddiol i gymunedau Cymru, mae pobl Cymru’n elwa o fod yn rhan o economi'r DU.
Mae yna lawer o feysydd polisi hefyd lle mae cyfrifoldebau'n cael eu rhannu neu wedi'u cydgysylltu. Yn aml, mae angen cydlynu prosiectau ynni mewn meysydd fel ynni gwynt alltraeth a datblygu economaidd ar draws y DU gyfan. Yn fy marn i, byddai rhannu'r materion hyn yn anhyblyg ar hyd ffiniau cyfansoddiadol yn arafu penderfyniadau ac yn dal Cymru yn ôl. Fe ildiaf i'r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd.
Felly, rwy'n cymryd bod y cenedlaetholwyr Prydeinig draw yn y fan acw yn dweud, pe baech chi'n ffurfio Llywodraeth yma, y byddech chi'n hapus ac yn fodlon fod Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn sathru ar eich dymuniadau ac yn ariannu pethau yng Nghymru yn erbyn eich ewyllys. Rwy'n cymryd felly eich bod yn derbyn nad ydych chi byth yn mynd i ffurfio Llywodraeth yma.
Wel, mae gan Blaid Cymru wyneb yn cyflwyno cynnig ar gyllid cyfansoddiadol, o ystyried y byddai eu cynlluniau ar gyfer annibyniaeth yn drychineb ariannol i bobl Cymru. Mae'n economeg ffantasi. Nid dadleuon cyfansoddiadol diddiwedd sydd eu hangen ar Gymru, mae arnom angen cyflawniad. Ni ddylai dwy Lywodraeth olygu bod dwy Lywodraeth yn ymladd ei gilydd; mewn gwirionedd, dylai olygu dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, yn gwasanaethu'r bobl—er nad yw hynny'n gweithio ar hyn o bryd, ond bai'r Blaid Lafur yw hynny, onid e? Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau yn y meysydd y mae'n eu rheoli, trwsio ein GIG, lleihau rhestrau aros, gwella safonau addysgol a chryfhau cymunedau lleol.
Ar yr un pryd, rwy'n credu y dylai Llywodraeth y DU barhau i fuddsoddi yng Nghymru, cryfhau ein heconomi a sicrhau bod Cymru'n elwa o gyfleoedd y Deyrnas Unedig gyfan. Y bartneriaeth honno, nid ymwahanu, yw'r hyn sy'n gweithio, gan fod y gwir yn syml: nid yw Cymru'n dioddef o gael dwy Lywodraeth; mae'n elwa o fod yn rhan o Deyrnas Unedig sy'n rhannu adnoddau, yn rhannu risgiau ac yn buddsoddi ar draws ei holl genhedloedd. Felly, yn hytrach nag adeiladu rhwystrau cyfansoddiadol rhwng Bae Caerdydd a San Steffan, dylem fod yn adeiladu cydweithrediad, dwy Lywodraeth, un Deyrnas Unedig, yn gweithio gyda'i gilydd ar ran pobl Cymru.
Rwy'n ceisio gwneud synnwyr o'r cyfraniad hwnnw. Fe sonioch chi am bwysigrwydd partneriaeth. Edrychwch, rwy'n cytuno â chi—yn y sefyllfa bresennol, rhaid i bartneriaeth fod yn flaenoriaeth. Nid dyna mae'r cynnig yn ei nodi, serch hynny. Os edrychwch ar y memo a welsom gan Lywodraeth y DU, rwy'n credu ei fod yn profi, mewn gwirionedd, nad oes partneriaeth yma o gwbl. Mae'n un o'r nifer o wersi y gallwn eu dysgu o'r memo hwnnw. A'r wers arall y gallwn ei dysgu o'r memo, wrth gwrs, yw nad yw'r llwyth o gonfensiynau sydd gennym sydd i fod yno i alluogi'r bartneriaeth honno yn golygu unrhyw beth o gwbl—dim byd o gwbl. Nid ydynt wedi diogelu a gwarchod datganoli. Nid ydynt wedi parchu democratiaeth Cymru. Felly, iawn, gadewch inni gael partneriaeth, ond gadewch inni ei chael ar y telerau cyfartal y mae hi i fod i weithio arnynt. Nid yw Llywodraethau olynol y DU, yn goch a glas, wedi oedi o gwbl cyn ymyrryd mewn meysydd datganoledig. Mae'n amlwg nad yw'r llinellau credem eu bod yn bodoli yn golygu unrhyw beth o gwbl. Maent bellach yn cael eu croesi'n fwyfwy rheolaidd a mwyfwy di-hid, tra bo defnyddio pwerau Harri'r Wythfed unochrog wedi dod yn gwbl normal.
A gadewch inni beidio ag anghofio chwaith—rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae pob Aelod yn y Siambr yn ei anghofio yn y Siambr nawr—fod posibilrwydd gwirioneddol, ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, y bydd gennym blaid sydd hyd yn oed yn fwy gwrthwynebus i ddatganoli wrth y llyw yn Rhif 10. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei gymryd o ddifrif. Dyna pam fod angen inni edrych ar y sefyllfa hon a bod yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'r hyn a ddywedir yn y memo. Mae'n ddyletswydd arnom i bobl Cymru, a ddaeth â'r lle hwn i fodolaeth drwy ddau refferendwm, i wneud safiad pendant ar hyn nawr cyn ei bod yn rhy hwyr.
Ar ôl yr etholiad nesaf, bydd y Senedd hon o'r diwedd yn dod i oed, wrth i sylfeini ein democratiaeth gael eu huwchraddio i adlewyrchu anghenion democratiaeth fodern ac aeddfed, a chyda'r newid hwn, mae'r achos dros roi ein perthynas gyfansoddiadol ar sail statudol wedi'i diffinio'n glir yn dod yn fwy a mwy cymhellol, fel y nodwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae'n farn y gwn fod yr Aelod dros Bontypridd yn ei rhannu, ac rwy'n siŵr y byddai'r 10 AS Llafur arall a feirniadodd eu cyd-Aelodau yn San Steffan yn gywir ddigon am danseilio datganoli mewn modd mor gywilyddus, yn dod i gasgliad tebyg iddo. Ar ddiwedd 2024, dyna a ysgogodd Plaid Cymru pan wnaethom alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno Bil Cymru newydd. Byddai hyn nid yn unig wedi mynd i'r afael ag anghymesuredd datganoli ar draws yr ynysoedd hyn drwy roi pwerau cydradd â'r Alban i'r Senedd, byddai hefyd wedi sefydlu mesurau diogelwch cyfreithiol cadarn yn erbyn gorgyrraedd San Steffan.
Nawr, yn anffodus, mewn arwydd o bethau i ddod—nid oeddem yn sylweddoli hynny ar y pryd—ni fanteisiodd Aelodau Llafur ar y cyfle hwnnw i gefnogi'r alwad honno, gan bleidleisio gyda'i gilydd dros welliant haws i'w meistri yn Llundain ei stumogi. Ond gyda bygythiad uniongyrchol i'r lle hwn gan Lywodraeth Lafur y DU bellach ar bapur mewn du a gwyn, ni allai fod yn gliriach. Rwy'n mawr obeithio eu bod bellach yn sylweddoli eu camgymeriad ac yn cydnabod yr angen i ddangos herfeiddiwch yn hytrach na thaeogrwydd. Fel arall, dim ond crib y rhewfryn fydd goblygiadau'r memo.
Ac i Lywodraeth Cymru, ac i'r Prif Weinidog yn arbennig, dylai'r memo hwnnw fod yn alwad amserol iddynt ailystyried eu hagweddau tuag at eu partneriaid mewn grym honedig. Ac rwyf am wneud gwaith y Torïaid drostynt. Gŵyr pob un ohonom yma beth fyddai'r ymateb wedi bod pe bai Tori o Brif Weinidog yn y DU wedi cyhoeddi'r memo hwnnw. Byddem wedi cael dicter oddi ar feinciau Llafur. Byddem wedi cael datganiadau i'r wasg. Byddem wedi cael geiriau cryf yn y Siambr, llythyrau, a chondemniadau gan bob un o Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion y Llywodraeth. Ond beth a gawsom gan y Llywodraeth mewn gwirionedd? Cawsom dawelwch ac fe gawsom esgusodion. Ni allwch ei chael hi'r ddwy ffordd. Ni allwch honni eich bod yn hyrwyddwyr datganoli a dal i ddangos teyrngarwch digwestiwn i Keir Starmer fel rhyw fath o ffrind i Gymru, a gorau po gyntaf y gwnewch chi sylweddoli hynny.
Byddaf yn cefnogi gwelliant 1 am ei fod yn ymwneud â'r byd fel y mae, yn hytrach na'r byd fel y byddai rhai Aelodau'n hoffi iddo fod. Rydym yn byw mewn gwladwriaeth sydd wedi'i gorganoli'n llwyr, lle mae cyfoeth a chyfle wedi'u crynhoi'n rhy agos yn ne Lloegr, yn bennaf yn ne-ddwyrain Lloegr, neu goridor twf Rhydychen a Chaergrawnt, neu fersiynau eraill ohono, yn enwedig lle mae penderfyniadau'n cael eu dominyddu gan y Trysorlys, sy'n pennu ble yw'r lle gorau i fuddsoddi mewn ardaloedd sy'n darparu'r enillion gorau ar fuddsoddiad. Rhaid inni symud ymlaen o hynny a dechrau edrych ar sut rydym yn dosbarthu cyfoeth ledled ein gwlad.
Ddoe, rhoddodd Canghellor y Trysorlys araith mewn prifysgol yn Llundain, ac adroddodd un papur newydd ei bod wedi dweud y byddai meiri Lloegr yn cael cyfran o refeniw treth genedlaethol, ac un arall y byddai dinasoedd Lloegr yn cael mwy o bŵer dros eu harian eu hunain. Felly, rhuthrais i edrych ar yr hyn a ddywedodd mewn gwirionedd, ac i weld a oedd yn cynnwys cyfran well o ymyl garw datblygu economaidd i Gymru. Ni soniodd o gwbl am ddatganoli arian na phwerau i feiri Lloegr yn ei haraith mewn gwirionedd. Rhaid bod hynny wedi digwydd yn y sesiwn holi ac ateb a gynhaliwyd wedyn. Ond fe'i dyfynnwyd yn y Financial Times, ac felly rwy'n credu ei fod yn gywir,
'Bydd diwygiadau'n ariannol niwtral, yn canolbwyntio ar rannu a chadw cyfran o refeniw presennol, gyda'r elw o dwf o fudd i'r lleoedd a gynhyrchodd y twf hwnnw'.
Nid wyf yn siŵr am y gair 'cyfran', ond mae hefyd yn dweud wrthym y bydd y rhai sydd â mwy yn cael mwy, a'r rhai nad oes ganddynt ddim yn cael dim. Felly, ble mae hynny'n gadael ein cymunedau, ac eraill, sy'n dal i ddioddef yn sgil dinistr Thatcheriaeth neu ddad-ddiwydiannu heb adeiladu'r amodau ar gyfer ffyniant i bawb? Felly, ni all strategaeth ranbarthol ddifrifol ymwneud ag ailddosbarthu yn unig. Mae'n rhaid iddi ymwneud hefyd ag adeiladu capasiti, gan fod erthygl ddiweddar mewn melin drafod—o'r enw 'cyfleoedd economaidd gofodol' rwy'n credu—yn cynnwys mapiau sy'n dangos yn glir fod yr holl gyfoeth wedi'i ganoli yn ne Lloegr, ac ychydig mwy ar ochr orllewinol Lloegr, ond yn y bôn, ychydig iawn y mae Cymru a gogledd-ddwyrain Lloegr yn ei gael. A dyma'r ardaloedd sy'n amlwg wedi'u dinistrio gan yr holl ddad-ddiwydiannu. Felly, yr hyn y maent yn sôn amdano yw'r angen i adeiladu capasiti, sy'n golygu bod yr arian hefyd yn galluogi pobl i gynhyrchu'r arloesedd lleol y maent ei eisiau. Maent yn dweud bod Prydain nid yn unig yn wynebu dewis rhwng rhagoriaeth a thegwch, ond rhwng parhau i sybsideiddio crynodiad adnoddau, boed yng Nghaerdydd neu yn ne-ddwyrain Lloegr. Ond mae’n rhaid inni sicrhau bod polisi arloesi yn wirioneddol genedlaethol. Ac felly, y cwestiwn sy'n rhaid inni ei ofyn i ni'n hunain yw: pwy sy'n mynd i dalu am yr anhrefn hunanwneuthuredig a grëwyd gan Netanyahu a Trump, sy'n plymio'r byd i argyfwng economaidd byd-eang sydd ond megis dechrau? Yn anffodus, bydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru wynebu sefyllfa anhygoel o heriol.
Felly, fe drof yn awr at Fiona Hill, cyn-gynghorydd Trump ar Rwsia, sy'n dod yn wreiddiol o hen gymuned lo Bishop Auckland, y mae ei llyfr, There is Nothing for You Here, yn crynhoi'r cyngor a roddwyd iddi gan ei thad ar ôl i'r meysydd glo gau. Mae'n sôn am gyni cyfle a sut y mae'n rhaid i Lywodraethau ledled y byd fuddsoddi yn seilwaith cyfle i atal pobl sy'n llwyddo i wneud yn dda, yn addysgol, rhag gadael eu cymunedau a pheidio â galluogi'r cymunedau hynny i ffynnu. Mae hyn yn rhywbeth yr oedd Jeremy Seabrook yn sôn amdano'n aml pan oeddwn yn y brifysgol. Yn anffodus, nid yw gyda ni mwyach. Ond yn bwysig, mae hi hefyd yn dweud bod yn rhaid inni ailddiffinio cymunedau ôl-ddiwydiannol ledled y byd a lladd ffasgaeth cyn iddo dyfu drwy atal yr anobaith sy'n ei danio. Felly, mae angen rhaglenni cenedlaethol a gweithredu gan y Llywodraeth ac atebolrwydd i symud i lawr o'r brig—
Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda, Jenny.
—i lawr gwlad i mewn i drefi bach a chymdogaethau, fel bod angen i bobl weld eu huchelgeisiau yn cael eu hadlewyrchu yn y bobl ar y brig. Ac mae'n rhaid i ni, felly, fuddsoddi mewn pobl lle maent yn byw, boed ym Mlaenau Gwent neu yn Adamsdown neu ble bynnag y mae pobl yn ei chael hi'n fwyaf anodd. Ac ar hyn o bryd—
Gorffennwch nawr, os gwelwch yn dda.
—nid dyna sydd gennym.
Beth yw diben y lle hwn, y Senedd hon? Efallai fod y ddadl wedi'i hysgogi gan femo a ddatgelwyd yn answyddogol oddi ar ddesg Prif Weinidog presennol y DU, ond dim ond y wreichionen ddiweddaraf yw hon o dân sydd wedi bod yn mudlosgi ers blynyddoedd lawer. Ers ei sefydlu, mae'r Senedd hon wedi gorfod ymdopi â chwynion am ei dilysrwydd ei hun. Fel ein hiaith, mae'r frwydr dros ein democratiaeth wedi bod yn galed.
Er gwaethaf geiriau Gerallt, mi wnaeth sŵn ennill Senedd. Ac wedi'r canrifoedd mudan, yn wir, chwedl Waldo, fe ddaeth gorfoledd, ac wedi tawelwch, elwch fu. Ond mae'r hyn a enillwyd nawr yn y fantol. I rai, mae'r frwydr heb ei hennill yn llawn.
Gwyddom fod lleisiau'n bodoli yn ein gwleidyddiaeth sy'n ceisio difrïo a bychanu'r Senedd hon. Ond pwy a wyddai fod Prif Weinidog y DU yn un ohonynt? Mae misoedd lawer bellach ers i bron i bob Aelod ar feinciau cefn Llafur Cymru yn y lle hwn lofnodi llythyr at Keir Starmer, arweinydd eu plaid yn y DU, yn mynnu ei fod yn parchu ffiniau ein setliad datganoli, ei fod yn cydnabod swyddogaethau'r Senedd hon a realiti llywodraethu datganoledig ar yr ynysoedd hyn. Ni chafwyd ateb ffurfiol, yn union fel pe bai'r llythyr hwnnw wedi cwympo i wacter, nes i'r memo hwn gael ei ddatgelu'n answyddogol, gan ddangos yn glir mai safbwynt Keir Starmer yw bod datganoli'n rhwystr i'w osgoi pan fo angen, ac y gellir tawelu lleisiau cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru. I Keir Starmer, mae'r Cymry, fel yr Albanwyr, y tu allan i'w weledigaeth. Gall anwybyddu'r hyn y mae'r Senedd hon yn ei ddweud. Dyna'n amlwg yw ei farn. Mae'r memo a ddatgelwyd yn answyddogol wedi dangos hynny'n glir. Fel Boris Johnson o'i flaen, mae synnwyr Keir Starmer o ddemocratiaeth yn cynnwys cafeatau: 'Nid oes yr un dylanwad gan y Cymry. Anwybyddwch nhw os oes angen.' Dyna'r hyn y mae wedi'i ddweud wrth gyd-aelodau o'i Gabinet: 'Gadewch i'r Senedd dewi. Dylai'r Cymry wybod eu lle.'
Dyna yw Cymru wedi bod i San Steffan erioed—y bobl ar y cyrion. Ein stori ni, sydd wedi ein harwain drwy heriau a Thryweryn, drwy linellau piced ac ysgyfaint a wenwynwyd, glowyr a lwgwyd a thomenni slag. O, mae pobl y genedl hon yn gwybod sut y mae San Steffan wedi methu ar eu rhan. Mae'r creithiau'n dal i'w gweld ar ein cymunedau, a dim ond y bennod ddiweddaraf yw'r sarhad hwn. Ein dewis ni yw beth sy'n dod nesaf. A wnawn ni ganiatáu i San Steffan ddiystyru ein democratiaeth, lleihau ein pwerau a diystyru'r dewisiadau a wnawn, neu a oes arnom eisiau Senedd a fydd yn sefyll dros y pwerau sydd gennym?
Nid rhodd a roddwyd i ni drwy haelioni San Steffan oedd y Senedd hon. Mae'n eiddo i'n pobl, eu llais. Fe'i henillwyd drwy waith caled wedi'r holl ganrifoedd mudan—llais y mae'n rhaid inni ei ddefnyddio, neu fel arall, fe gaiff ei golli. Mae un Aelod wedi dweud bod yn rhaid inni dderbyn y byd fel y mae, ond beth am y Gymru rydym yn dymuno bod? Mae pleidlais heddiw yn nyddiau olaf y Senedd hon yn rhoi cyfle inni anfon neges unedig i Lundain y bydd ein lleisiau'n cael eu clywed. Fy nghyd-Aelodau, gofynnaf i chi, a wnewch chi sefyll gyda Chymru a phrotestio yn erbyn yr ymgais ffiaidd a digywilydd hon i gipio grym? Rwy'n gofyn ar ran y genedl.
Hoffwn ddweud y bu'n rhyddhad enfawr cael cyllid yn ôl i mewn i wasanaethau cyhoeddus dros yr 20 mis diwethaf o dan Lywodraeth Lafur y DU. Mae 90 y cant o wariant Llywodraeth Cymru'n mynd ar wasanaethau cyhoeddus, ac mae cynnydd wedi bod mewn benthyca o dan Lywodraeth Lafur newydd y DU. Mae arian wedi mynd i'r GIG i adeiladu a buddsoddi mewn cyfleusterau meddygol newydd, i leihau rhestrau aros, i ariannu seilwaith priffyrdd sydd wedi cael ei esgeuluso ers llawer gormod o amser.
Gwahaniaeth arall yw bod y cyllid a gyhoeddwyd ar gyfer pobl sy'n defnyddio olew i gynhesu eu cartrefi yn dod i Gymru yn ôl y boblogaeth sydd ei angen, nid fformiwla Barnett. Rhoddir cyllid canlyniadol ar gyfer codiadau cyflogau'r sector cyhoeddus ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol o dan Lywodraeth Lafur newydd y DU. Rwy'n cofio, yn y gorffennol, fod cyllid yn aml yn cael ei ganfod i lawr cefn y soffa ac o fewn adrannau, felly ni fyddem yn cael unrhyw gyllid canlyniadol. Mae newid wedi bod.
Rhaid imi ddweud, fe fyddaf yn ymladd gyda chi hefyd am gyllid, ond nid ydym bob amser yn cael yr hyn rydym ei eisiau, boed yn blentyn yn gofyn i riant, neu'n weithiwr yn gofyn i'w gyflogwr am godiad cyflog neu am fwy o hyblygrwydd. Fel aelod o'r meinciau cefn mewn Llywodraeth, er fy mod yn yr un grŵp, mae pob un ohonom yn lobïo. Rhaid inni ddadlau'r achos, ond mae'n well lobïo o'r tu mewn i'r gwersyll hwnnw nag o'r tu allan, gyda deialog agored.
Mae rhwydwaith gogledd Cymru bellach yn cael ei gyflawni ar draws y Llywodraeth gan ddefnyddio cyllid o'r adolygiad o wariant, o grantiau, gan gydweithio â'r bwrdd rheilffyrdd sydd wedi'i sefydlu, ar draws y Llywodraeth, gan fanteisio ar arbeniged a defnyddio'r camau a nodwyd yng nghynllun 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' Trafnidiaeth Cymru. Mae gymaint yn well nawr na phan oedd ein ceisiadau am gyllid ffyniant bro yn arfer cael eu gwrthod, a phrosiectau'n diflannu dros nos.
Mae Llywodraethau Cymru wedi lobïo ynghylch cyllid tecach a chael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Mae cael Llywodraeth y DU sy'n malio am les a chyllid cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth enfawr, ac ni fyddai hynny wedi digwydd o'r blaen.
Mae Cymru’n cael mwy na £0.5 biliwn o gyllid strwythurol ôl-UE yn y gronfa twf lleol. Mae'n fuddsoddiad mawr yn y cymunedau, ac unwaith eto, mae'n dod yn ôl drwy Lywodraeth Cymru fel y gellir ariannu rhai cynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol eto. A bydd hynny'n cael ei ddatblygu gyda llywodraeth leol, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, elusennau, addysg bellach ac uwch—byddant wrth wraidd y gwaith o siapio'r rhaglen hon. Y £5 biliwn—[Torri ar draws.] Ie, Mabon.
Felly, gan eich bod yn rhestru rhywfaint o'r cyllid a gawn yng Nghymru, a ydych chi'n derbyn bod y cyllid a gawn ni nawr gan Lywodraeth y DU yn llai na'r hyn a gawsom o dan Sunak ac o dan Ewrop, ac felly, fod y cyllid a gawn yn lleihau? Rydym yn cael llai o arian cyfalaf gan Lywodraeth y DU a dywedir wrthym nawr fod Llywodraeth y DU yn barod i sathru dros benderfyniadau a wneir yma. A yw hynny'n dderbyniol?
Nid wyf yn derbyn hynny. Mae'n arian y gwthiwyd amdano. Nid yw'n dod drwy fformiwla Barnett chwaith, mae'n dod drwy fformiwla wahanol, lle mae Cymru'n derbyn mwy na'r Alban o dan y fformiwla newydd hon mewn gwirionedd. Ac mae ein Prif Weinidog wedi ymladd dros hynny, gan weithio gyda Llywodraeth y DU.
Mae cyllid Balchder Bro i'w gael hefyd, er ei fod yn cael ei ddarparu drwy Aelodau Seneddol y DU, fel y'i sefydlwyd o dan y Ceidwadwyr. Ond yn fy ardal i yn sir Ddinbych, rwy'n gwybod ei fod yn cael ei wario ar yr hyn y mae'r gymuned ei eisiau—mae'n cael ei wario ar gadw toiledau cyhoeddus ar agor, sy'n wirioneddol bwysig. Er ein bod eisiau newid, ac rydym yn ymladd drosto, ac fe lofnodais y llythyr hwnnw, yr hyn sy'n bwysig yn y pen draw, ac rwy'n falch iawn o hynny, yw bod gwasanaethau cyhoeddus a'r toiledau'n cael eu cadw ar agor—dyna sy'n bwysig i'r trigolion a wasanaethwn.
Byddai'n wych, fel y dywedodd Jenny—. Hoffwn fyfyrio ar yr hyn a ddywedodd Jenny ynglŷn â sicrhau bod cyllid yn mynd yn ôl i'n cymunedau. Yn ystod Llywodraeth Attlee, roedd gennym raglenni adeiladu tai cyngor helaeth—adeiladwyd 230,000 o dai cyngor. Sefydlwyd y GIG, a pharciau cenedlaethol—gan sicrhau fod pobl yn cerdded ac yn iach. Byddai'n wych gweld y buddsoddiad real hwnnw'n mynd yn ôl i mewn i wasanaethau cyhoeddus unwaith eto.
Fel rhywun sydd wedi bod mewn llywodraeth leol, mae wedi bod yn 14 mlynedd anodd, ac rwyf wedi sôn am gyni bob wythnos yma, ond mae gwahaniaeth wedi bod nawr. Gallaf weld y gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi'i wneud, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, a rhoi'r buddsoddiad hwnnw yn ôl i mewn i wasanaethau cyhoeddus. Diolch.
Mae'r memo a ddatgelwyd yn answyddogol yr wythnos diwethaf yn dangos yn glir fod Keir Starmer wedi briffio ei Weinidogion ar y pwerau a roddir iddynt gan Ddeddf marchnad fewnol y DU, ac yn disgwyl iddynt eu defnyddio. Mae hon yn Ddeddf sy'n tynnu datganoli yn ôl, ac fe'i gwrthwynebwyd gan bob Llywodraeth ddatganoledig, a'i phasio heb gydsyniad y lle hwn. Ar ben hynny, mae Prif Weinidog y DU yn disgwyl i'w Weinidogion anwybyddu Llywodraethau datganoledig pan fyddant yn anghytuno â hyn.
Nawr, rwy'n credu bod Prif Weinidog Cymru wedi bod yn eithaf hael yn ei dehongliad o'r memo. Mae'r Prif Weinidog wedi mynnu mai sôn yn unig oedd Keir Starmer am
'faterion a gedwir yn ôl fel rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth y DU.'
Mae'n mynd rhagddi i ddweud:
'Pensiynau, budd-daliadau, materion cartref, mewnfudo, materion tramor, y mathau hynny o feysydd.'
Dywedaf 'eithaf hael', gan nad dyna y mae Keir Starmer wedi'i ddweud mewn ymateb i ddatgelu'r memo'n answyddogol, ac yn sicr, nid dyna fy nehongliad i o'r memo. Gadewch imi ddyfynnu'r memo.
'Mae canllawiau wedi'u rhannu â swyddogion ar draws y Llywodraeth ar lunio polisïau ar gyfer y DU gyfan, ac ar ddefnyddio'r Pŵer Cymorth Ariannol.'
Nawr, beth yw'r pŵer cymorth ariannol? Wel, mae'n rhan o Ddeddf marchnad fewnol y DU. A dyma a ddywed: gall Gweinidogion Llywodraeth y DU ddarparu ar gyfer datblygu economaidd, seilwaith, diwylliant ac addysg yn unrhyw le yn y DU. Mae'r Ddeddf yn egluro bod seilwaith yn cynnwys trafnidiaeth, iechyd, addysg, cyfleusterau diwylliannol a chwaraeon, a thai. Dyma feysydd sy'n gwbl ganolog i'r setliad datganoli. A dyna'r pŵer y mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi cael eu briffio ar ei ddefnyddio. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn y mae'r pŵer cymorth ariannol yn ei gwmpasu eisoes wedi'i ddatganoli i Gymru. A'r gweddill? Wel, mae gan Lywodraeth y DU bŵer drosto eisoes. Felly, pam briffio ar ei ddefnyddio? Pam rhybuddio y gallai Llywodraethau datganoledig ei wrthwynebu? Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr rhesymegol o gwbl os mai bwriad Keir Starmer oedd ei ddefnyddio mewn perthynas â phensiynau, budd-daliadau, materion cartref, mewnfudo, materion tramor—y mathau hynny o feysydd. Nid dyna'r dehongliad cywir.
Safbwynt swyddogol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Llywodraeth yr Alban, yw y dylid diddymu Deddf marchnad fewnol y DU. Mae'r memo'n dangos yn glir mai safbwynt answyddogol Llywodraeth y DU yw y dylent ddefnyddio pwerau Deddf y farchnad fewnol. A pheidiwch â phoeni os nad yw Llywodraethau datganoledig yn hoffi'r hyn rydych chi'n ei wneud—anwybyddwch nhw. Mae hynny'n gwbl wahanol i'r hyn a addawyd i ni cyn yr etholiad cyffredinol am ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth. Mae cynnig Plaid Cymru yn galw am wrando ar ein harweinwyr pan fyddant yn sefyll dros Gymru. Rhoddodd Paul Davies ddarllediad gwleidyddol da iawn i'r Blaid Lafur yn San Steffan drwy ddweud pa mor wych oedd y Blaid Lafur yn San Steffan. Da iawn. Da iawn, Paul.
Mae gwelliant Llywodraeth Cymru, ar y llaw arall, yn ildio popeth bron gan anwybyddu—ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfraniadau heddiw wedi anwybyddu—y materion ehangach sy'n codi. Nid yw ond yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU barchu'r setliad datganoli a'r cyfreithiau'n ymwneud â phwerau a gedwir yn ôl a phwerau datganoledig. Ar wahân i hyn, y gwir amdani yw ei fod yn anwybyddu materion lle mae gan Lywodraeth Cymru fewnwelediad y dylid gwrando arno ar faterion a gedwir yn ôl sy'n effeithio ar Gymru, ac mae'r awgrym yn amherthnasol i raddau helaeth pan fydd Llywodraeth y DU yn drafftio cyfraith, ac yn achos pwerau Deddf marchnad fewnol y DU, yn newid y cyfreithiau sy'n effeithio ar y setliad datganoli heb ganiatâd Llywodraethau datganoledig. Gall y gyfraith newid, ac mae wedi newid. Ai safbwynt Llafur Cymru bob amser fydd, 'Wel, fe wnawn ufuddhau i'r gyfraith a'r setliad datganoli, beth bynnag y bo, ond fe all Llywodraeth y DU ei newid drwy orfodaeth'? [Torri ar draws.] Buaswn—. Os ydych chi eisiau ymyrryd, Mike, gwnewch ymyriad, os gwelwch yn dda. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed datganiad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a ydynt yn gwrthwynebu defnydd Gweinidogion Llywodraeth y DU o'r pwerau cymorth ariannol, o ystyried eu bod eisiau i'r ddeddfwriaeth y mae'n rhan ohoni gael ei diddymu.
Mewn ymateb i'r memo a ddatgelwyd yn answyddogol, dywedodd John Swinney, Prif Weinidog yr Alban, 'Mae Llafur yn fygythiad i ddatganoli'. Wel, rwy'n anghytuno â John Swinney. Nid yw hynny'n wir am y rhan fwyaf o Aelodau Llafur y lle hwn. Dangoswyd hynny yn y llythyr at Keir Starmer y llynedd. Ond mae'n wir am Lafur yn San Steffan, o'r Blaid Lafur seneddol i fyny—y mwyafrif helaeth ohonynt, yn sicr. Rwy'n siŵr nad yw'r Prif Weinidog yn dal yn ôl yn ei sgyrsiau â Keir Starmer. Mae'n bryd inni glywed mwy o hynny, yn hytrach nag amddiffyniad gwan sy'n chwalu yn wyneb ystyriaeth wrthrychol. Diolch yn fawr.
Yn ei hanfod—[Torri ar draws.]
Ni chawn sgyrsiau ar draws y Siambr. Mae Aelod ar fin dechrau ei gyfraniad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ei hanfod, mae'r cynnig hwn yn syml. Nid yw'n gofyn am driniaeth arbennig, nid yw'n gofyn am fraint; mae'n gofyn am barch—parch i'r Senedd hon, parch i bobl Cymru, a pharch i'r egwyddor na ddylid gorfodi penderfyniadau am Gymru ar Gymru yn erbyn ein hewyllys.
Oherwydd yr hyn rydym yn ei drafod heddiw yw egwyddor, yr egwyddor sydd wrth wraidd datganoli, sef, pan gaiff pwerau eu datganoli, nid ydynt yn amodol, nid ydynt yn ddewisol ac nid ydynt yno i'w diystyru pan fo hynny'n gyfleus i Lywodraeth yn San Steffan. Ac eto, dyna'n union sy'n digwydd. Er enghraifft, mae rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU yn cael ei chyflwyno fel rhywbeth sy'n grymuso, ond mewn gwirionedd, mae'n atgyfnerthu rheolaeth. Mae'n fecanwaith lle mae penderfyniadau mewn meysydd wedi'u datganoli'n llawn, fel adfywio trefi, yn cael eu cipio o ddwylo Cymru a'u rhoi'n ôl i Whitehall—nid gyda chydsyniad, nid gyda chytundeb, ond mewn gwrthwynebiad uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.
Nawr, gadewch inni oedi am funud, oherwydd os daw hynny'n norm, os gall Llywodraeth y DU benderfynu gwario arian mewn meysydd datganoledig yn erbyn ewyllys glir Llywodraeth etholedig Cymru, beth yn union yw gwerth datganoli? Beth yw diben y Senedd hon? A pha neges y mae hynny'n ei hanfon at y bobl a'n hetholodd i'r lle hwn? Oherwydd nid yw hyn yn ddamcaniaethol. Rydym eisoes yn gweld y canlyniadau: modelau ariannu sy'n gadael Cymru'n waeth ei byd; addewidion toredig na fyddem geiniog yn waeth ein byd ar ôl Brexit, ond eto, £4 biliwn wedi'i golli yn ein heconomi—£3,000 yr aelwyd. Rydym yn gweld rhaglenni yn lle cyllid yr UE sy'n brin o dros £1 biliwn. A nawr, fe welwn doriadau pellach, gostyngiad o 13 y cant i gronfeydd y mae ein cymunedau'n dibynnu arnynt, yn rhannol er mwyn ariannu cynllun sy'n osgoi'r Senedd hon yn gyfan gwbl. Ac felly, mae’n rhaid inni alw hyn wrth ei enw—nid partneriaeth, ond gorgyrraedd, nid cydweithrediad ond gwrthddywediad, gan na allwch honni eich bod yn parchu datganoli gan fwrw iddi'n weithredol i weithio o'i gwmpas. Ni allwch siarad am bartneriaeth gan anwybyddu llais etholedig Cymru. Ni allwch honni eich bod yn grymuso cymunedau gan wadu llais i'w senedd genedlaethol yn y ffordd y caiff eu dyfodol ei lunio.
Ddirprwy Lywydd, mae'r cynnig hwn yn ymwneud â safon ddemocrataidd sylfaenol: pan fydd Llywodraeth Cymru, sy'n atebol i'r Senedd hon, yn gwrthwynebu dull gweithredu, rhaid bod pwysau i'r safbwynt hwnnw. Mae'n rhaid iddo olygu rhywbeth, oherwydd fel arall, daw datganoli'n rhywbeth addurniadol, yn haen o gyfansoddiad heb ganlyniad. A gadewch inni fod yn glir: nid dyma sut y mae datganoli'n gweithio mewn mannau eraill. Yng Ngogledd Iwerddon, ymddiriedir yn llawn yn y Weithrediaeth ynghylch y ffordd y caiff cyllid ei wario—rheolaeth lawn, parch llawn. Felly, unwaith eto, mae'r cwestiwn yn codi: pam ddim yng Nghymru? Oherwydd yr hyn a welwn yw patrwm, patrwm lle mae Cymru'n eithriad yn rhy aml, ond byth o'n plaid, lle mae penderfyniadau'n cael eu canoli, lle caiff pwerau eu hosgoi, lle mae ein sefydliadau'n cael eu hanwybyddu, a lle mae ymateb y rhai a ddylai amddiffyn Cymru wedi bod yn dawel yn rhy aml.
Mae'r cynnig hwn yn tynnu llinell. Mae'n dweud, os yw polisi'n cael ei wrthwynebu gan Lywodraeth Cymru, os yw'n torri ar draws cyfrifoldebau datganoledig, os yw'n tanseilio awdurdod y Senedd hon, ni ddylai fynd yn ei flaen—nid yma, nid yng Nghymru. Oherwydd ni chrëwyd datganoli fel rhywbeth i'w reoli o bell. Ni chafodd ei greu i'w ddiystyru pan fyddai'n anghyfleus. Fe'i sefydlwyd er mwyn i bobl Cymru allu llunio eu dyfodol eu hunain drwy'r sefydliad hwn, drwy eu cynrychiolwyr etholedig a thrwy benderfyniadau a wneir yng Nghymru.
Felly, heddiw, mae'n ymwneud ag a ydym yn amddiffyn uniondeb y Senedd, a ydym yn cynnal egwyddor cydsyniad democrataidd, ac a ydym yn barod i ddweud, yn glir ac yn hyderus, na fydd Cymru’n derbyn penderfyniadau a orfodir arni yn groes i ewyllys ei Llywodraeth ei hun. Rwy'n annog Aelodau ar draws y Siambr hon i sefyll o blaid datganoli, i sefyll o blaid atebolrwydd democrataidd ac i sefyll o blaid Gymru: cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.
Wyddoch chi, rwy'n credu mai'r peth olaf sydd ei angen ar y bobl y mae pob un ohonom yn ceisio eu cynrychioli ar hyn o bryd yw dadl ddiflas ac anniddorol, a diffrwyth yn y pen draw, rhwng unoliaetholdeb cyhyrog ac annibyniaeth? Rwy'n tybio eu bod am inni wneud ychydig yn well na hynny.
Ar ddechrau fy sylwadau heno, hoffwn drafod pwynt a wnaed gan Paul Davies yn ei gyfraniad. Beirniadodd Paul yr hyn a alwodd yn ymrafael cyfansoddiadol. Gadewch imi ddweud hyn wrth Paul: rwy'n credu bod gwleidyddiaeth pŵer yn hollbwysig i'r rheswm pam y dylai unrhyw un ohonom fod yn eistedd yn y lle hwn. Roedd y bennod gyntaf a ysgrifennodd Aneurin Bevan yn In Place of Fear yn ymwneud â'i ymdrech i ddod o hyd i wraidd pŵer gwleidyddol. I unrhyw un ohonom sy'n ceisio newid y cymdeithasau lle rydym yn byw, mae'r gallu i ddod o hyd i bŵer gwleidyddol a'i ddefnyddio yn hanfodol. A pha bynnag ochr i'r ddadl a ddewiswn, nid wyf yn credu y dylem byth gondemnio na diystyru gwleidyddiaeth pŵer gwleidyddol, gan ei bod yn hanfodol i ba bynnag fath o gymdeithas y dymunwn ei chreu.
Ond mae'n amlwg i mi nad yw fframwaith ariannol presennol y DU yn addas i’r diben mwyach. Rydym wedi clywed, ac mae pob un ohonom—pob un ohonom bron, rwy'n credu, yn sicr yma yn y Siambr—wedi siarad am HS2, a'r sgandal wirioneddol nad yw Cymru wedi derbyn cyllid canlyniadol yn sgil hynny. Ond wrth gwrs, roedd yr un mor wir yn ystod Gemau Olympaidd Llundain, pan wnaed penderfyniad tebyg, ac ni chafodd Cymru gyllid canlyniadol yn sgil hynny. Y rheswm am hynny yw bod y Trysorlys, yn y pen draw, yn gallu gwneud y penderfyniadau hyn heb gyfeirio at y lle hwn—heb gyfeirio at Dŷ'r Cyffredin chwaith, cofiwch—nac unrhyw un arall o'n sefydliadau democrataidd. Felly, mae angen strwythur gwahanol iawn arnom, gydag atebolrwydd democrataidd am y mathau o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Deyrnas Unedig.
I mi, mae'r man cychwyn yn syml iawn. Rwy'n credu y dylid trin y wlad hon yn rhan gyfartal o'r Deyrnas Unedig, cenedl gyfartal o fewn Prydain, gyda'r un hawliau, cyfrifoldebau, pwerau ac adnoddau a chronfeydd â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig—fel Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ac eto, fe wyddom nad yw hynny'n wir heddiw. Pan negododd Gogledd Iwerddon fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion, darparodd Llywodraeth y DU fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Pan ddywed Gweinidogion Cymru, 'Mae arnom angen fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion', cânt eu hanwybyddu, a chânt eu hanwybyddu ni waeth pa blaid sydd mewn grym yn San Steffan. Ac mae angen i ni—ac yn enwedig pobl sy'n aelodau o bleidiau Unoliaethol—ddweud bod hynny'n annerbyniol. Mae'n annerbyniol fod fy etholwyr yn y Deyrnas Unedig yn cael eu trin yn wahanol i etholwyr mewn mannau eraill oherwydd lle maent yn byw, ac mae'n annerbyniol nad yw'r pwerau sydd ar gael i'r Llywodraeth hon i fuddsoddi naill ai yn ein gwasanaethau cyhoeddus neu yn ein seilwaith yn mwynhau'r un hyblygrwydd na'r un cyllid â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ac er fy mod yn cefnogi ac yn croesawu'r penderfyniadau a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru ar reilffyrdd yn yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, Cymru yw'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig heb bwerau i greu ei system drafnidiaeth integredig ei hun. Rhaid bod hynny'n annerbyniol. Rhaid bod hynny'n annerbyniol. Mae'r rhain yn bwerau sydd gan y rhan fwyaf o ddinasoedd ar dir mawr Ewrop, ac mae angen i ninnau allu dweud hynny.
Mae angen i ni hefyd ddweud yn glir iawn, ac rwy'n talu teyrnged i'r cyn-Gwnsler Cyffredinol, yr Aelod dros Gastell-nedd, a ddywedodd yn glir iawn—fe wnaeth hynny ei ddeffro—fod Deddf Marchnad Fewnol y DU yn annerbyniol. Ond yr hyn sydd gennyf i'w ddweud wrth y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n ymateb i'r ddadl hon yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw, os oedd y Ddeddf honno'n annerbyniol pan gafodd ei rhoi mewn grym gan y Ceidwadwyr, mae hi'r un mor annerbyniol pan gaiff ei defnyddio gan Lywodraeth Lafur. Rhaid inni ddweud hynny a rhaid inni fod yn glir, oherwydd i mi, y rheswm pam fy mod yma yw i sefyll dros bobl Cymru ac i sefyll dros bobl Blaenau Gwent, a Blaenau Gwent Caerffili Rhymni, gobeithio, yn y Senedd nesaf. Mae'n rhaid inni ddweud hynny ac mae’n rhaid inni fod yn glir.
Gadewch imi gloi drwy ddweud hyn: rwy'n cofio'n iawn pan wahoddodd y Prif Weinidog Elystan Morgan i siarad yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno rai blynyddoedd yn ôl—ychydig cyn i ni ei golli, mewn gwirionedd. Fe siaradodd, ac fe fydd y Prif Weinidog yn cofio ei areithiau; roeddent yn areithiau pwerus iawn. A chofiaf un peth a ddywedodd, sef efallai fod amser datganoli yn mynd heibio, efallai fod amser Llywodraeth ddatganoledig, pŵer wedi'i ddatganoli, pŵer a gadwyd yn ôl, yn mynd heibio, ac efallai mai'r hyn sydd ei angen arnom nawr yw chwilio am setliad newydd. Bydd y Prif Weinidog yn cofio iddo awgrymu statws dominiwn i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond wrth gwrs, fe roddwyd statws dominiwn gan Statud San Steffan ym 1931, ac mae'n bosib iawn mai'r hyn sydd ei angen arnom yw setliad cyfansoddiadol newydd—mae fy ffrind yr Aelod dros Bontypridd eisoes wedi dweud hyn. Efallai fod angen statud San Steffan newydd arnom heddiw sy'n gwarantu ac yn ategu cydraddoldeb i bawb yn y Deyrnas Unedig—
Ac ar y pwynt hwnnw, Alun, rydych chi'n mynd i ddirwyn i ben.
—a holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, Ddirprwy Brif Weinidog.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n dechrau fy ymateb i'r ddadl y prynhawn yma drwy ddatgan yn bendant y dylai'r penderfyniadau am sut i wario arian mewn meysydd cyfrifoldeb sydd wedi eu datganoli gael eu gwneud yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon.
Gadewch imi ddweud yn glir, wrth ymateb i'r ddadl hon: nid herfeiddiwch neu daeogrwydd yw'r unig opsiynau. Mae cydweithredu, parch a chydweithio i sicrhau gwelliannau real i fywydau pobl Cymru yn ddewis llawer gwell. A gadewch imi ddweud yn glir iawn: rydym bob amser wedi bod yn glir ac yn benderfynol nad oes angen pwerau cymorth ariannol Deddf marchnad fewnol y DU—canlyniad, gyda llaw, i Brexit, a ddeddfwyd gan y gyfundrefn Geidwadol flaenorol, sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU wario'n uniongyrchol mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig—ac fe ddylid eu diddymu. Beth sy'n aneglur am hynny? Mae'n glir dros ben. Maent yn gwbl ddiangen ar gyfer gweithrediad y farchnad fewnol. Mater i Weinidogion Cymru a'r Senedd yw gwneud penderfyniadau am gyfrifoldebau datganoledig sy'n adlewyrchu blaenoriaethau, anghenion ac amgylchiadau ein cenedl yma yng Nghymru.
Nawr, yn hanesyddol, cafwyd consensws ar draws y Senedd ar y pwynt sylfaenol hwn. A chyda llaw, rwy'n ymateb i'r ddadl heddiw am fod fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd cyllid yn Belfast yn cyfarfod â Gweinidogion cyllid eraill y DU, lle byddant yn trafod, ymhlith pethau eraill, y defnydd o'r pwerau hyn. Bydd ef a'r Llywodraethau datganoledig eraill yn parhau i ddadlau'r pwyntiau hyn gyda Llywodraeth y DU.
Nawr, os yw Llywodraeth y DU yn mynnu bod yn rhaid iddi gadw pwerau cymorth ariannol Deddf marchnad fewnol y DU, yna—ac rydym wedi bod yn glir ynglŷn â hyn—ni ddylid ond eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol, a dim ond gyda chydsyniad Llywodraeth Cymru. Credwn y dylid nodi trefniadau ar gyfer defnyddio'r pwerau hyn mewn cytundeb rhynglywodraethol, os nad ydym yn fodlon cael gwared arnynt, cytundeb sy'n adlewyrchu ein trefniadau cyfansoddiadol, ac sy'n sicrhau bod y setliad datganoli a rôl y Senedd hon yn cael eu cydnabod a'u parchu.
Dylai'r cytundeb hwn fod yn gyson ag egwyddor cyd-barch y berthynas rynglywodraethol. Byddai hyn yn darparu fframwaith i sicrhau bod y defnydd o'r pwerau hyn yn dryloyw ac yn amodol ar fecanweithiau cydsyniad ac ymgysylltu ystyrlon. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni a'r Llywodraethau datganoledig eraill yn cytuno yn ei gylch, ac rydym yn glir fod yn rhaid parchu datganoli. Ac mae'n rhaid imi ddweud y byddai hyn yn cyd-fynd â mecanweithiau cydweithredol eraill sydd wedi'u hen sefydlu, y gall Llywodraeth y DU eu defnyddio i gefnogi buddsoddiad yng Nghymru, ac sy'n parchu datganoli, gyda llaw, ac yn sicrhau'r canlyniadau gorau posib i bobl Cymru. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, bargeinion dinesig a thwf; porthladdoedd rhydd, a luniwyd, gyda llaw, gan fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, wrth iddynt gael eu cyflwyno; parthau buddsoddi, ac yn wir, ein rhaglen flaengaredd ar gyfer anweithgarwch economaidd.
Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio a bydd yn parhau i weithio'n llwyddiannus ac ar y cyd â Llywodraeth y DU drwy'r trefniadau hyn i alluogi cyllid i lifo i mewn i Gymru at ddibenion penodol a chyda chydsyniad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fe ildiaf.
Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Rydych chi'n sôn am barch gan Lywodraeth y DU, ond mae'r memo'n nodi, os gallaf ddod o hyd iddo:
'Fodd bynnag, mae dull rhy ymostyngar neu laissez-faire o ymgysylltu â llywodraethau datganoledig bron yn anochel yn creu heriau gwleidyddol neu'n methu cyfleoedd cadarnhaol.
'Dylem fod yn hyderus yn ein gallu i gyflawni'n uniongyrchol yn y gwledydd hynny, gan gynnwys drwy wariant uniongyrchol, hyd yn oed pan fydd llywodraethau datganoledig, o bosib, yn gwrthwynebu hyn.'
A yw hynny'n swnio fel parch?
Dof at y memo mewn munud. Ond gadewch imi ddweud mai un o'r pethau nad ydym wedi'u clywed gan Blaid Cymru heddiw yw lle mae'r cydweithredu a'r consensws yn gweithio'n dda, lle mae gennym enghreifftiau profedig o ble mae'r rhain yn gweithio. Er enghraifft, pan gawsom y buddsoddiad ym morglawdd Caergybi, roedd hwnnw'n gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; lle cawsom y cynlluniau blaengaredd anweithgarwch economaidd, a chydweithio rhwng swyddogaethau datganoledig a swyddogaethau a gedwir yn ôl; lle rydym wedi cael cyhoeddiad yr wythnos hon gan Lywodraeth y DU am gyllid cymorth tanwydd—gallent fod wedi dewis ein hosgoi'n llwyr, ond ni wnaethant; fe wnaethant ddewis pasbortio'r arian hwnnw i ni, fel y gallem ei wneud i weithio yn y ffordd orau yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud i hyn weithio, ond gadewch inni fod yn glir, rydym yn gwbl glir na ddylai adrannau Whitehall fod yn gosod amcanion unochrog ar gyfer cyflwyno rhaglenni yng Nghymru, nac yn cyfeirio cyllid at sefydliadau yng Nghymru mewn unrhyw faes cyfrifoldeb datganoledig, gan fod gwneud hynny, Ddirprwy Lywydd, yn creu tirwedd ddryslyd i sefydliadau, a gall greu risg o ddyblygu cyllid neu greu sefyllfa lle mae cyllid yn gwrthdaro'n uniongyrchol â buddsoddiad datganoledig. Yn syml, nid yw'n sicrhau gwerth da i bwrs y wlad.
Gadewch imi droi at y memo, gan ein bod wedi clywed cymaint heddiw am y memo drwgenwog. Mae'n debyg mai'r Prif Weinidog yw'r unig un sydd wedi siarad yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU ynglŷn â hyn, ac mae Prif Weinidog y DU wedi egluro'i fod yn ymwneud â gwariant mewn meysydd a gedwir yn ôl, nid meysydd datganoledig. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn glir ei bod eisiau perthynas waith barchus â Chymru. Mae eisiau cynyddu gwariant yng Nghymru mewn meysydd a gedwir yn ôl. Wyddoch chi, rydym yn croesawu hynny? Nid oes unrhyw beth gennym yn erbyn hynny. Rydym eisiau'r buddsoddiad yn y meysydd hynny. Mewn gwirionedd, Ddirprwy Lywydd, mae'n adlewyrchiad o'n safbwynt ar wariant mewn meysydd datganoledig. Yn union fel y mae'n rhaid inni gadw cyfrifoldeb am benderfyniadau ar faterion sydd wedi'u datganoli i'r Senedd, felly hefyd y mae Llywodraeth y DU yn cadw cyfrifoldeb am benderfyniadau ar faterion a gedwir yn ôl, ac fe ddof at rai o'r rheini mewn eiliad. Lle mae'r cyfrifoldebau hynny'n gorgyffwrdd, dylem bob amser geisio bwrw ymlaen ar sail cytundeb, ond bydd achosion prin yn codi. Ar yr achlysuron prin hynny lle na ellir dod i gytundeb, credwn fod yn rhaid i'r penderfyniadau datganoledig gael eu gwneud yng Nghymru a bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gadw cyfrifoldebau a gedwir yn ôl, ac ymddengys bod cynnig Plaid Cymru’n methu'r pwynt cyfansoddiadol a democrataidd yn llwyr. Dyna sut y mae'r cyfansoddiad a datganoli a llywodraeth yn gweithio, ac am reswm da iawn. Ond wrth gwrs, rydym yn gwneud popeth a allwn gyda'r liferi a'r cyllid sydd ar gael i ni.
Ond mae Cymru angen, ac mae Cymru’n llawn haeddu, y pŵer gwario ychwanegol y gall Llywodraeth y DU ei gynnig. Nawr, o’r diwedd, mae gennym Lywodraeth sy’n barod ac yn fodlon buddsoddi mewn swyddi a ffyniant yng Nghymru mewn meysydd cyfrifoldeb a gedwir yn ôl sydd wedi cael eu hanwybyddu ers llawer gormod o amser. Rydym wedi cynyddu sefydlogrwydd ariannol y DU a Chymru ar ôl 14 mlynedd—ac ni allwn ddianc rhagddo—o gyni gan y Llywodraeth ddiwethaf, a fu'n hynod fyrbwyll gyda chyllid cyhoeddus. Ers ethol Llywodraeth Lafur y DU, rydym wedi sicrhau cyllid ychwanegol sylweddol i Gymru. Mae ein setliad yma yng Nghymru nawr dros y tair blynedd nesaf bron i £6 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y cynlluniau gwariant a nodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU ym mis Mawrth 2024.
Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu pecyn blaengar o fesurau nawr i gefnogi'r rhai sydd fwyaf o'i angen. Bydd pobl sy'n gwrando ar y ddadl hon eisiau deall sut y bydd yr arian hwnnw'n gwella eu bywydau, gan roi arian ym mhocedi pobl, a bod o fudd i bobl ledled Cymru. Felly, rydym wedi gweld cynnydd yn yr isafswm cyflog a'r cyflog byw cenedlaethol, cynnydd ym mhensiwn y wladwriaeth, cymorth ar gyfer biliau ynni y gallwn ei siapio yma yng Nghymru, dileu'r terfyn dau blentyn, codi miloedd o blant allan o dlodi. Ac mae mwy: y ddwy ardal twf AI, y buddsoddiad £14 biliwn mewn seilwaith rheilffyrdd, bargen twf amddiffyn gwerth £50 miliwn, buddsoddiad mewn ynni niwclear newydd yn Wylfa. A ydym yn mynd i daflu'r rheini'n ôl i wyneb Llywodraeth y DU? Nid wyf yn credu hynny.
Dyma ganlyniad dwy Lywodraeth yn cydweithio i adeiladu economi gref a diogel, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol a gweladwy i fywydau pobl a theuluoedd. Ac mae hwn yn newid i'w groesawu—. Ddirprwy Lywydd, ymddiheuriadau, rwy'n gwybod fy mod wedi derbyn ymyriad.
Ac rwyf wedi rhoi'r amser i chi am hynny, felly mae'n bryd dirwyn i ben.
Mae'n newid i'w groesawu o gymharu â'r Llywodraeth flaenorol, a roddodd £1 biliwn yn llai o gyllid ôl-Ewropeaidd i Gymru yn dilyn Brexit, er iddynt ddweud wrth bobl Cymru na fyddent geiniog yn waeth eu byd. Felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i unioni hyn—
Mae angen ichi ddirwyn i ben.
Rwy'n cloi, Dirprwy Lywydd, drwy ailadrodd mai egwyddor sylfaenol datganoli yw bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mor agos â phosib at y bobl sy'n cael eu heffeithio, a bod gan y Senedd hon rôl gyfansoddiadol wrth graffu ar y penderfyniadau hynny. Rhaid parchu ein setliad datganoli. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar Adam Price i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bob Aelod sydd wedi siarad. Hoffwn ddechrau drwy ymateb yn uniongyrchol i'r Dirprwy Brif Weinidog, os caf, gan ei fod wedi fy ysbrydoli i ymateb yn y termau hyn. Sawl gwaith y mae pobl yn y Siambr hon wedi dadlau dros gyfran deg i Gymru o wariant Llywodraeth y DU? Oherwydd dro ar ôl tro, mewn llawer o'r meysydd y clywsom gyfeirio atynt, o reilffyrdd i ymchwil a datblygu, arloesi, prif ysgogwyr llwyddiant economaidd, nid ydym erioed wedi cael ein cyfran deg o dan Lywodraethau Llafur na Llywodraethau Ceidwadol. Nid yw'n syndod felly fod Cymru lle rydym yn y tabl economaidd.
Felly, gadewch inni fod yn glir ynglŷn â'r hyn rydym yn sôn amdano. Rydym am i Lywodraeth y DU yn y meysydd y mae'n gyfrifol amdanynt wneud yr hyn nad yw unrhyw Lywodraeth yn y DU erioed wedi'i wneud a gwario ar y lefel sydd ei angen arnom. Yr hyn nad ydym am ei weld yw ymyrraeth yn ein system ddemocrataidd sy'n tanseilio ein gallu ein hunain yn y meysydd yr ydym yn gyfrifol am eu cyflawni.
Gwrandewais yn ofalus ar Paul Davies. Roeddwn yn mynd i obeithio—. Efallai ei bod yn rhy agos at etholiad, ond roeddwn yn gobeithio y byddai mwy o dir cyffredin o amgylch y Siambr, ond yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli y bydd Ceidwadwyr yn siarad o safbwynt unoliaethol. Gall dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd fod yn gryfder, yn bendant, cyn belled â bod y ddwy Lywodraeth yn cael eu trin fel Llywodraethau, nid un fel yr uwch bartner a'r llall fel ymgynghorai neu hyd yn oed fel plentyn i'w anwybyddu a'i esgeuluso. Mae'r hyn a ddisgrifiodd Paul Davies fel cydweithio yn golygu'n rhy aml fod disgwyl i Gymru gytuno tra bo San Steffan yn diffinio'r genhadaeth, yn rheoli'r arian ac yn hawlio'r clod. Nid yw honno'n bartneriaeth gyfartal; mae'n hierarchaeth wedi'i gwisgo fel cytgord, ac os na all Ceidwadwyr Cymru ddweud y gwahaniaeth, y rheswm am hynny, pan fo'r dewis rhwng Cymru’n cael llais a San Steffan yn cael y gair olaf, yw ei bod hi'n ymddangos fel pe baech chi'n dewis San Steffan bob tro.
Mae'n rhaid imi ddweud wrth Jenny Rathbone fy mod yn deall eich bod yn dadlau bod y gwelliant yn adlewyrchu'r byd cyfansoddiadol sydd ohoni. Ni chredaf ei fod yn adlewyrchu realiti bywyd yng Nghymru ar hyn o bryd, a dyna pam nad yw'r gwelliant yn ddigonol am reswm penodol iawn, gan fod y gwelliant yn tybio bod gorgyrraedd cyfansoddiadol yn hawdd ei nodi, bron fel pe bai nodyn arno'n dweud, 'Mae hyn wedi'i ddatganoli, peidiwch â chyffwrdd.' Nid dyna sut y mae'n gweithio nawr. Fel y nododd Rhys ab Owen, gydag offeryn adran 50 Deddf y farchnad fewnol, mae democratiaeth Cymru yn 2026 bellach yn wynebu sefyllfa lle nad yw'r bygythiad yn dod drwy'r drws blaen gyda bathodyn enw, mae'n dod drwy orgyffwrdd, drwy amwysedd, drwy genadaethau a mandadau sydd wedi'u llunio mor eang fel eu bod yn cyrraedd pob cornel o fywyd cyhoeddus Cymru, hyd yn oed pan fyddant yn honni nad ydynt yn eu cyffwrdd. A dyna'r patrwm a welwn, onid e? Bachu pwerau, i bob pwrpas, mewn termau cyfansoddiadol, a dyna'r broblem nad yw'r gwelliant yn ei datrys ac y mae'r cynnig gwreiddiol yn ei datrys.
Yr hyn y dadleuwn drosto, rwy'n credu, yw rhywbeth eithaf sylfaenol i iechyd ein democratiaeth yn y dyfodol, sef na ddylai Llywodraeth y DU ddefnyddio ei phŵer gwario i osgoi dewis democrataidd Cymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli'n ddeddfwriaethol, yn swyddogaethol, yn anwahanadwy oddi wrth gyfrifoldebau datganoledig, gan mai dyma'r anghymesuredd cyfansoddiadol sy'n rhedeg drwy'r ddadl gyfan hon, mewn gwirionedd. Pan ofynnwn am bŵer gan San Steffan, doir o hyd i bob rhybudd pob rheswm dros wrthod; canfyddir pob rhybudd; daw pob ffin yn anhyblyg; defnyddir pob dadl dros ymatal. Ond pan fydd San Steffan yn penderfynu eu bod am ymyrryd, mae'r iaith yn newid yn llwyr, onid yw? Bryd hynny mae'n ymwneud â thwf, seilwaith, y genhadaeth genedlaethol. 'Sut y gallech chi anghytuno â hynny?' Mae'r cwmpas yn ehangu, mae'r terfynau'n aneglur, ac mae'r canlyniad bob amser yr un fath: mae pŵer yn cael ei drin fel rhywbeth cul pan fyddwn ni'n ei geisio, ac fel rhywbeth eang pan fydd San Steffan eisiau ei ddefnyddio. Ac nid partneriaeth yw hynny, ond olwyn glicied sydd ond yn symud i un cyfeiriad, a dyna'n union a gadarnhawyd mewn du a gwyn yn y memorandwm a ddatgelwyd yn answyddogol, yn union fel adran 50 o Ddeddf y farchnad fewnol.
Nid eithriad yw hyn; mae'n athrawiaeth. Mae'n fyd-olwg sy'n ein rhoi ar waelod y pentwr, yn anffodus. A phan ddywedir wrth Weinidogion am fod yn hyderus y gallant weithredu'n uniongyrchol yng Nghymru, hyd yn oed lle mae Llywodraethau datganoledig yn gwrthwynebu hynny, nid ydym bellach yn nhiriogaeth cydweithredu; rydym yn nhiriogaeth dictadau, ymyrraeth heb ganiatâd. Ac ni all datganoli olygu ymgynghori â Chymru ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud; ni all olygu y gall Gweinidogion Cymru brotestio, ond y gall Whitehall fwrw ymlaen er hynny. Ni all olygu bod y Senedd hon yn bodoli i gadarnhau'r hyn sydd eisoes wedi'i benderfynu yn rhywle arall. Fel arall, sut y gallwn gyflawni ein prif bwrpas mewn gwirionedd? Os mai dyna'r cyfan y mae'n ei olygu, nid hunanlywodraeth sydd gennym, ond gweinyddiaeth drwy oddefiad. Mae'r gwelliant yn cydnabod y rheol fel y mae a'r map cyfansoddiadol fel yr hoffai San Steffan ei ddychmygu. Mae ein cynnig ni'n mynd i'r afael â'r realiti wleidyddol, sef bod y rheol fel yr oedd hi'n cael ei hestyn; mae'n cael ei chymylu; mae'n cael ei hosgoi, ac nid yw o'n plaid.
Felly, nid yw'r cwestiwn sydd ger ein bron heno yn un cymhleth yn ein barn ni. A ydym yn datgan, fel Senedd, fod gan Gymru hawl i nodi ei blaenoriaethau ei hun drwy ei sefydliadau democrataidd ei hun, nid yn ddamcaniaethol yn unig, ond yn y byd fel y mae? Neu a ydym yn cytuno ar welliant lle mae datganoli'n cael ei anrhydeddu, efallai, yn llythrennol—er nad yn y llythyr hwnnw—ond yn ddiystyr yn ymarferol? I ni ym Mhlaid Cymru, nid cwestiwn haniaethol yw hwn: pan fydd blaenoriaethau Cymru’n cael eu disodli gan flaenoriaethau San Steffan, y bobl sydd ar eu colled, nid Llywodraethau. Y cymunedau. Nid niwed symbolaidd mohono; mae'n cael ei deimlo yn y ffordd y mae lleoedd yn cael eu hadfywio ai peidio, sut y caiff arian ei gyfeirio, sut y mae eu llais yn cyfrif. Nid slogan yw sefyll dros Gymru i ni; dyma'r rheswm pam ein bod yma. Rydym yn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig gwreiddiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohirir y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Dim ond ar eitem 11 byddwn yn pleidleisio heno, dadl Plaid Cymru, gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 11. Dadl Plaid Cymru - Gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf nesaf am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, a 24 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 11. Dadl Plaid Cymru - Gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliant i'r cynnig, caiff y cynnig ei wrthod. Diolch yn fawr.
Byddwn yn symud ymlaen i'r ddadl fer, a galwaf ar Hannah Blythyn.
Mae'n fraint gwasanaethu'r gymuned a wnaeth fy siapio yma yn y Senedd. Weithiau rwy'n ei chael hi'n anodd credu fy mod i wedi sefyll i gael fy ethol ddegawd yn ôl. Ar yr yr adeg honno, gallwn gael fy ngalw'n ifanc, ac rwy'n gwybod nawr fy mod yn ddigon ffodus i edrych yn iau nag oeddwn i. Ond gyda hynny daeth yr angen i herio canfyddiadau pobl. Yn gyntaf, fy mod wedi cael y profiad i wneud yr hyn yr oeddwn yn gofyn i bobl fy ethol i'w wneud, ond yn fwy na hynny, ynghylch eu barn o bwy a beth oedd gwleidydd. Rwy'n cofio sgwrs ar ôl sgwrs lle roedd pobl yn dweud nad oeddwn i'n beth roeddent yn ei ddisgwyl mewn gwleidydd, a phan ofynnais sut roeddent yn disgwyl i wleidydd fod neu ymddwyn, roedd yr ymateb yn negyddol i raddau helaeth, gwaetha'r modd.
Mae'r profiadau cynnar hyn bob amser wedi aros gyda mi, ac mae'r awydd am fath gwahanol o wleidyddiaeth bob amser wedi fy sbarduno. 'Maent i gyd yr un fath' yw un o'r cwynion mwyaf cyffredin am wleidyddion, gyda'r awgrym ein bod ond yn y maes er ein mwyn ein hunain ac nad ydym yn malio neu ein bod allan o gysylltiad â phobl gyffredin. Yn y cyd-destun hwn, mae 'yr un peth' yn golygu 'yr un mor ddrwg', nid 'da', mae'n magu sinigiaeth mewn gwleidyddiaeth, yn ddrwg i ddemocratiaeth, mae'n creu diffyg hyder mewn gwleidyddion a gallu gwleidyddiaeth i wneud gwahaniaeth, ac mae'n caniatáu i weithredwyr ymrannol ffynnu yn ein cymunedau ac yn ein gwlad. Mae eithafiaeth yn ffynnu lle mae ffydd mewn democratiaeth yn lleihau.
Felly sut mae gwrthsefyll hyn? I fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn awgrymu bod gennyf yr holl atebion i'r hyn sy'n broblem ddirfodol i ryw raddau, ond credaf fod gan bob un ohonom ddyletswydd fel unigolion a chyfrifoldeb ar y cyd i chwarae ein rhan i newid y canfyddiad hwn. Yn ganolog i hyn mae hyder a thryloywder ar lefel unigol a sefydliadol, ynghyd â newid diwylliannol ehangach. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwyf wedi bod yn rhan o'r gwaith y bwriedir iddo wneud hynny, gan gynnwys ar adalw, cryfhau ein cod ymddygiad presennol, ac adroddiad diweddaraf y pwyllgor sy'n gwneud argymhellion ar yr angen am fwy o annibyniaeth a chymorth i fynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu.
Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn y gwaith. Dylai hynny fod yn wir am ein democratiaeth ddatganoledig a phawb sy'n dod i gysylltiad â'r rhai a etholwyd i wasanaethu yma. Mewn unrhyw sefydliad neu lwybr bywyd, nid yw'n hawdd camu ymlaen i godi pryderon am fwlio ac aflonyddu. Ond mae anghydbwysedd grym yn cael ei chwyddo mewn lleoliad gwleidyddol. Dylid cael polisi dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhriodol. Mae hynny'n golygu cael cymorth a sancsiynau ar waith, cyflwyno rôl gwarcheidwad lled-annibynnol, llinell gymorth, defnyddio arbenigedd annibynnol mewn achosion o aflonyddu rhywiol a bwlio, cyflwyno cymorth sy'n ystyriol o drawma, polisi gwahardd yn seiliedig ar risg, hyfforddiant parhaus a mwy.
Yn bersonol, rwy'n credu bod angen gwneud mwy o ran cymorth bugeiliol priodol. Ar hyn o bryd, mae'n arferol i rôl gofal bugeiliol berthyn i brif chwipiau, ond maent hefyd yn gyfrifol am ddisgyblaeth plaid. Ar y gorau, mae yna groes-ddweud ymhlyg yn hyn. Mewn achosion o gwynion am ymddygiad Aelodau, nid wyf yn siŵr fod hyn yn gweithio'n dda neu er budd unrhyw unigolyn dan sylw. Yn hytrach, dylai fod cefnogaeth fugeiliol benodol ar wahân i rôl y prif chwip.
Rwy'n credu bod angen inni gael safbwynt cliriach hefyd ar y ffordd y mae prosesau disgyblu a chwynion y pleidiau gwleidyddol yn gweithio ochr yn ochr â system y Senedd. Os yw cwyn yn ymwneud ag Aelod, a ddylai proses y Senedd gael blaenoriaeth? Rwy'n tueddu i feddwl bod prosesau cydamserol sy'n caniatáu mwy o risg y caiff achos ei wleidyddoli yn tanseilio hyder yn y broses gyfan yn ogystal â'r canlyniad.
Yn yr holl waith hwn, rwyf wedi ceisio ei weld o safbwynt rhywun arall, i roi fy hun yn esgidiau, dyweder, aelod ifanc o staff yn y Senedd heddiw. Rwy'n ddigon ffodus i feddu ar rywfaint o bŵer a braint nawr, ac mae'n ddyletswydd arnaf i ddefnyddio fy mhlatfform i bwrpas. Ond roeddwn i'n aelod ifanc o staff ar un adeg, dros 20 mlynedd yn ôl, yn San Steffan, ac wrth edrych yn ôl, rwy'n sylweddoli fy mod wedi profi beth fyddai wedi bod yn ymddygiad amhriodol yn y gweithle dro ar ôl tro.
Felly, gofynnais i mi fy hun, pe bawn i'n dal i fod yn fenyw ifanc, beth fyddai'n gwneud i mi deimlo'n fwy cyfforddus a hyderus i gamu ymlaen? System lle cawn fy nghymryd o ddifrif, lle câi pryderon eu trin yn sensitif, a lle gallwn leisio pryderon cychwynnol yn gyfrinachol. I allu cael cefnogaeth a siarad â rhywun sydd â dealltwriaeth, arbenigedd priodol, a allai hyd yn oed roi eu hunain yn fy esgidiau i pan fyddwn i'n rhannu rhywbeth a allai fod yn hynod ofidus. Dyna beth y gobeithiaf fod ein pwyllgor wedi mynd rywfaint o'r ffordd i'w wneud yn ei argymhellion diweddar, ond ni ddylai ddod i ben yno. Rwy'n erfyn ar y seithfed Senedd i beidio â thynnu ei throed oddi ar y sbardun ar hyn ac i barhau i roi'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu i'r mater.
Yr hyn nad yw'n dangos unrhyw arwydd o arafu yw dylanwad platfformau cyfryngau cymdeithasol, cam-drin ar-lein, ac effaith deallusrwydd artiffisial, gyda'r holl oblygiadau a ddaw yn ei sgil i wleidyddiaeth a gwleidyddion. Mae'n briodol y dylai Aelodau gael eu mesur yn ôl safon uwch o ran ein hymddygiad ar-lein, fel pan fyddwn all-lein. Rydym yn gyfrifol ac yn atebol am unrhyw beth a bostir neu a rennir yn ein henw. Ond mae'r cam-drin ar-lein, yn enwedig i wleidyddion benywaidd, yn endemig ac yn eang.
Fe roddaf gipolwg bach, gan edrych yn ôl ar rai o fy mhostiadau a rhai o'r sylwadau yno. Mentrais bostio am Fis Hanes LHDT y mis diwethaf, a dywedwyd wrthyf mewn ymateb mai gwaith y Diafol yw cyfunrywioldeb. Nid wyf yn mynd i ailadrodd rhai o'r pethau yno, ond roedd rhywbeth arall fel 'rug munching' hefyd. Ac ar bostiad diniwed am gyflwyno cylchlythyr, dywedodd rhywun wrthyf am fynd i wneud paned o de i fy ngŵr.
Ond gellir anghytuno â rhywun yn wleidyddol heb fod yn greulon a cham-drin yn eiriol. Mae'r cynllun peilot sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Senedd i fonitro a nodi iaith fygythiol a sarhaus i'w groesawu, ond mae angen gweithredu y tu allan i'r lle hwn i'w gwneud hi'n anos traethu casineb yn y lle cyntaf. Mae'n llawer rhy hawdd casáu a chuddio ar-lein. Mae angen i bobl a phlatfformau gael eu dwyn i gyfrif lawer mwy. Gadewch inni fod yn glir, nid oes a wnelo hyn â diwylliant canslo fel y'i gelwir. Mae'n ymwneud â safonau sylfaenol o barch dynol a'n hymddygiad tuag at ein gilydd.
Gallwn sicrhau bod safonau a sancsiynau ar waith o ran yr Aelodau a chamwybodaeth. Mewn gwirionedd, yr wythnos hon rydym wedi gwneud newidiadau i'r cod ymddygiad ac wedi cytuno ar ddeddfwriaeth newydd ar hyn. Gellid cymryd camau pellach hefyd ar lefel ddomestig i reoli hysbysebu gwleidyddol ar-lein. Ar hyn o bryd mae rheolau llym yn y cyfnod cyn etholiad mewn perthynas ag ymgyrchu traddodiadol a'n taflenni, ond dim byd ar y gofod ar-lein. Mae ymgyrchu gwleidyddol wedi newid, felly mae angen i'r rheolau ynghylch y ffordd y caiff ei lywodraethu newid hefyd. Ond yn fwy eang, mae camwybodaeth a ffugiadau dwfn yn broblem fyd-eang gynyddol sy'n galw am weithredu, deddfwriaeth, rheoleiddio a chanlyniadau cyfunol a beiddgar.
Mae gan ddeallusrwydd artiffisial botensial i wella ein Senedd, ond mae angen canllawiau clir arnom o ran ei ddefnydd yn y Senedd a chan Aelodau'r Senedd, a dylem fod yn onest ac yn agored ynglŷn â'i ddefnydd. A ddylem orfod dweud yn glir pan gaiff deallusrwydd artiffisial ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n cysylltu â'r cyhoedd a'n rhyngweithio â'r cyhoedd? Ble mae tynnu'r llinell—sgwrsfotiaid ASau i gynnal cymhorthfeydd cyngor, neu gyfrannu mewn pwyllgorau? Efallai fod y pwyntiau hyn yn swnio'n eithafol, ond dim ond nawr yr awn ati i ddiweddaru ein cod ymddygiad i gyfeirio'n benodol at gyfryngau cymdeithasol. Byddai'n ffôl ac yn creu perygl o erydu hyder ymhellach pe baem yn cerdded i mewn i ddatblygiadau technolegol â'n llygaid ar gau.
Ddirprwy Lywydd, os ewch ar daith o amgylch yr adeilad hwn, mae'n debyg y byddwch yn dysgu bod y defnydd eang o wydr ar yr adeilad ei hun yn symbolaidd i gynrychioli senedd dryloyw. Ond a ydym yn ddigon tryloyw? Beth arall sydd o fewn ein gallu i'w wella? Rwy'n awgrymu un neu ddau o bethau fel man cychwyn. Cap a mwy o ganllawiau ar swm a natur rhoddion gan unigolion, gweithredu i fynd i'r afael â'r ffaith ein bod ar hyn o bryd ar ei hôl hi fel deddfwrfa am nad oes gennym gofrestr lobïo neu ryw fath o reoleiddio, a pharhau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gynnwys ac ennyn diddordeb mwy o bobl yn yr hyn a wnawn yma.
Mae tryloywder a hyder yn ein prosesau, ein gwleidyddion a'n gwleidyddiaeth yn mynd law yn llaw. Mae gan bob un ohonom ein rhan ein hunain i'w chwarae yn ailysgrifennu'r naratif negyddol hwnnw, yn ein hymddygiad ein hunain a'r dewisiadau a wnawn. I beidio â lladd ar y lle hwn a gwleidyddiaeth yn ei chyfanrwydd. Ond carwn rybuddio na allwn byth adael i bryder rhag cael ein beirniadu olygu nad ydym yn gallu dysgu gwersi pan a lle bo angen. Ni ddylai fod ofn na ffafr yn hyn o beth. Ni ddylai'r sefydliad hwn byth osgoi her, newid a thryloywder adeiladol oherwydd sylw negyddol. Nid yw hynny'n diogelu enw da'r Senedd, mae'n gwneud i'r gwrthwyneb. Nid yw'n diogelu ein democratiaeth, mae'n gwneud cam â hi.
Rwyf am orffen lle dechreuais. Wrth dyfu i fyny, ni feddyliais erioed y byddwn i'n wleidydd. Nid oedd gwleidydd i'w weld i mi yn rhywun tebyg i mi. Nid oeddent yn edrych yn debyg i mi, yn siarad yn debyg i mi nac yn dod o'r un lle â mi. Roedd yna stereoteip o ddelwedd gwleidydd, fel gyda gwleidyddiaeth ei hun. Mae gwelededd yn bwysig, ochr yn ochr â'r cyfrifoldeb i herio a newid. Dull gwleidyddol o weithredu sy'n seiliedig ar waith caled, nid wedi'i adeiladu ar siarad rhodresgar. Oherwydd, fel datganoli ei hun, proses yw cryfhau ein Senedd, nid digwyddiad, ac mae'n un na ddylem ac na allwn gilio rhagddi. Diolch.
Diolch, Hannah, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n ddadl amserol iawn, oherwydd, wrth inni nesu at etholiad nesaf y Senedd, mae gennym ni, fel gwleidyddion, allu unigryw i allu gwneud rhywbeth nad yw llawer o swyddi eraill a llawer o broffesiynau eraill yn gallu ei wneud, sef newid bywydau pobl yn sylweddol mewn ffordd y gallant ei theimlo ac y gallant ei gweld.
Ond wrth nesu at etholiad, pan fyddwn ni'n gwneud addewidion, pan fyddwn ni'n dweud wrth etholwyr dros beth y safwn, fe wyddom fod yna lefel ddofn o sinigiaeth pan fyddwn ni'n dweud y pethau hynny. Mae'n fater o sut y gallwn ni adennill y synnwyr hwnnw, sut y gallwn ni wneud i bobl weld pŵer gwleidyddiaeth y gŵyr pawb ohonom ei fod yn bodoli? Hoffwn grybwyll dau syniad.
Yn gyntaf oll, rwy'n credu ein bod ni'n rhy ddiffiniedig yn ein gwleidyddiaeth—yn enwedig yn yr oes ôl-Brexit, ôl-Trump, cyfryngau cymdeithasol—am y pethau yr ydym yn anghytuno â nhw, y bobl yr ydym yn anghytuno â nhw, yn hytrach na'r pethau yr ydym yn cytuno yn eu cylch. Rydym yn sefyll mewn Senedd, y farchnad syniadau, a rhaid rhoi blaenoriaeth i gyfnewid y syniadau hynny, nid dim ond y pethau yr ydym yn eu herbyn.
Yn ail, rwy'n credu ein bod mewn llawer o achosion wedi colli'r gallu i anghytuno'n gwrtais. Byddwn yn anghytuno ar y syniadau hynny weithiau a byddwn yn dweud wrth ein gilydd ein bod yn anghytuno, ond mae angen inni wneud hynny mewn ffordd garedig a pharchus. Oherwydd rydym i gyd eisiau cyrraedd yr un lle, sef dyfodol gwell i'n hetholwyr ac i bobl Cymru. Yr hyn yr anghytunwn yn ei gylch weithiau yw'r ffordd o'i wneud. Os gallwn fynd i'r afael â'r ddau beth hynny, rwy'n credu y gallwn wrthsefyll y sinigiaeth y sonioch chi amdani yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Rydym i gyd wedi ei glywed, fel y dywedodd Hannah, 'Rydych chi i gyd yr un fath.' Ac os ydym yn onest, nid yw'r sinigiaeth yn dod o unman, mae'n dod o'r troeon mynych y mae gwleidyddion a gwleidyddiaeth wedi methu cyrraedd y safonau y mae pobl yn eu disgwyl. Ond yma yng Nghymru, gallwn gael rhywbeth gwahanol a rhywbeth gwell i adeiladu arno. Mae'r gwaith y mae'r tri ohonom ac eraill wedi'i wneud yn y pwyllgor safonau wedi dangos nad sloganau'n unig sy'n ailfeithrin hyder, caiff ei fethrin gan systemau a phrosesau, codau ymddygiad cryfach, datganiadau clir o fuddiant, llai o ddylanwad gan lobïwyr a mwy o oruchwyliaeth annibynnol ar gwynion ac ymddygiad, gan ein mesur ni i gyd yn erbyn safon uwch. Nid gostwng disgwyliadau, ond cynyddu atebolrwydd. Ac mae hynny'n bwysig iawn. Oherwydd mae ein gwleidyddiaeth bob amser wedi'i gwreiddio yn ein cymunedau, mewn uniondeb ac yn y gred y dylai grym gael ei arfer gyda'r bobl, nid ei wneud iddynt. Mae'r Siambr hon wedi'i hadeiladu ar gyfer consensws. Mae wedi'i hadeiladu mewn cylch. Mae yna reswm am hynny; dyna sut y dylid cyflawni ein gwleidyddiaeth. Felly, pan fydd pobl yn dweud, 'Maent i gyd yr un fath', mae angen inni ateb, 'Nid yma, nid yng Nghymru', nid os oes gennym ddewrder i barhau i godi safonau, i wneud ein sefydliadau'n fwy agored a phrofi, drwy ein gweithredoedd, drwy ein hiaith a thrwy ein hymddygiad, y gall gwleidyddiaeth fod yn rym er daioni. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Hannah Blythyn am godi'r pwnc pwysig hwn, ac i Tom a Peredur am gyfrannu at y ddadl hon heno.
Wrth inni nesu at yr etholiad ym mis Mai, rwy'n gwybod y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gobeithio y bydd nifer y pleidleiswyr yn codi. Rydym i gyd eisiau i Gymru gael ei llais wedi'i glywed drwy ddod allan ar 7 Mai a bwrw eu pleidlais. Fodd bynnag, fel mewn llawer o etholiadau, fe wyddom y bydd rhai pobl yn teimlo nad oes unrhyw bwynt, nad oes ots pwy fyddant yn eu hethol, ein bod i gyd yr un fath. Ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, a'r holl ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad hwn, i newid meddyliau pobl, i ymgysylltu â nhw ar y materion sy'n bwysig, ac i feithrin hyder a pherthynas â phobl Cymru. Nawr, rydym i gyd yn gwybod ei bod hi'n anos goresgyn sinigiaeth na'i annog. Mae annog pobl i ymddiried ynom a'r lle hwn i wella eu bywydau yn mynd i alw am waith caled. Y gydnabyddiaeth honno sy'n gyrru llawer o'n gwaith ar hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer cefnogi cymunedau ledled Cymru, gyda rhai ohonynt yn wynebu rhwystrau lluosog i gyfranogiad.
Mae ein grant ymgysylltu â democratiaeth yn ariannu sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn ein hysgolion, gan eu cysylltu â chynrychiolwyr etholedig, i feithrin hyder ac annog deialog, ac rwyf wedi rhannu gyda'r Aelodau yr holl waith sy'n digwydd yn y maes hwn. Yn ddiweddar, cyfarfûm â myfyrwyr yn Ysgol y Bont-faen. Gofynnodd y bobl ifanc ddeallus a chwilfrydig hyn i mi am fy nghefndir gan ddangos diddordeb yn y ffordd y deuthum i mewn i fyd gwleidyddiaeth. Fe wnaethant ofyn llawer o gwestiynau heriol iawn i mi hefyd. Roeddent yn synnu fy mod i'n dod o gefndir dosbarth gweithiol ac mai fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol. Roedd rhai wedi rhagdybio bod pob gwleidydd yn raddedigion o Rydychen neu Gaergrawnt a addysgwyd yn breifat. Ac nid fy llwyddiant yw fy mhwynt, ond y rhagdybiaethau yr ydym yn eu denu. Bydd sgyrsiau a chysylltiadau personol yn helpu cenedlaethau iau i ymgysylltu â democratiaeth gyda llai o ragdybiaethau a llai o sinigiaeth, gobeithio.
Rydym hefyd yn cydnabod efallai ein bod i gyd yn edrych yr un fath i rai pobl. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn wyn ac yn hŷn—ac nid wyf yn edrych ar unrhyw un yn benodol yma—ac mae anableddau—rwy'n mynd i barhau i edrych i lawr—yn eithaf anweledig. Rydym yn gwybod bod sefydliadau ar eu cryfaf pan fyddant yn adlewyrchu'r bobl y maent yn eu gwasanaethu. Rydym yn clywed gan bartneriaid fod pleidleiswyr apathetig yn aml yn pwyntio at ymgeiswyr nad ydynt yn teimlo eu bod yn perthyn i'w cymuned. Pan fydd pobl yn chwilio am ymgeiswyr sy'n edrych yn debyg iddynt hwy ac wedi rhannu eu profiadau, mae'n herio'r gred mai rhywbeth ar gyfer ychydig bach o bobl yn unig yw gwleidyddiaeth. A dyna sy'n sail i'r canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2025. Nid ticio blwch yw annog pleidiau gwleidyddol i ddatblygu a chyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, mae'n eu helpu i gynyddu cynrychiolaeth etholedig grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Dyma hefyd sy'n sail i gynllun peilot y grant amrywiaeth ymgeiswyr. Rydym nid yn unig yn cyflawni'r ddyletswydd o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, rydym yn gweithio gyda sefydliadau sydd â'r profiad a'r rhwydweithiau i ymgysylltu â phobl mewn ffyrdd arloesol, a chael gwared ar rwystrau i grwpiau sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sefydliadau democrataidd.
Mae'r sefydliadau a ariennir ar gael i gefnogi ymgeiswyr yn etholiad y Senedd 2026 ac etholiadau llywodraeth leol 2027, gan sicrhau nad oes neb yn teimlo bod ymgeisio am swydd etholedig y tu hwnt i'w cyrraedd. Drwy gynllun peilot y grant amrywiaeth ymgeiswyr, rydym yn ariannu Shout Out UK i gydlynu a llunio canllaw i ymgeiswyr ar wydnwch i fynd i'r afael â cham-drin a bygythiadau ar-lein, y gwyddom ei fod yn effeithio ar lawer o ymgeiswyr. Mae pawb ohonom yn gwybod bod sefyll etholiad yn cael effaith ariannol, a hyd yn oed yn fwy felly i ymgeiswyr anabl. Mae ein cronfa mynediad at swyddi etholedig a ddarperir drwy Anabledd Cymru yn helpu i gael gwared ar rwystrau ariannol i ymgeiswyr anabl. Rwy'n gwybod bod gan bobl sydd eisiau sefyll dros y Senedd lai na mis i fynd cyn i'r enwebiadau gau ar 9 Ebrill, ond mae gennym dros flwyddyn i annog pobl i sefyll yn etholiadau'r cynghorau. Rwy'n gobeithio y bydd pawb sy'n gwylio neu yn y Siambr yn meddwl sut y gallant ofyn i bobl sefyll a allai ddarparu gwasanaeth i'w cymuned. Mae adroddiad y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth, a gyhoeddwyd ddoe, yn atgyfnerthu'r pwynt hyd yn oed yn gryfach. Mae'n tanlinellu pwysigrwydd cryfhau'r strwythurau a'r arferion sy'n cefnogi cyfranogiad—pan fydd sefydliadau'n agor lle i alluogi cyfranogiad ystyrlon, mae hyder mewn gwleidyddiaeth yn tyfu.
Rwy'n rhannu pryderon yr Aelodau am y cynnydd mewn deallusrwydd artiffisial a dylanwad camwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Nid ydym o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â'r bygythiad y mae'n ei greu i ddemocratiaeth yma yng Nghymru. Er nad yw rheoleiddio'r cyfryngau wedi'i ddatganoli i Gymru, rydym yn parhau i gydweithio â phartneriaid ar draws Llywodraethau, y Comisiwn Etholiadol, yr heddlu a chymdeithas sifil i ddiogelu ein democratiaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Gyda chynnydd ffugiadau dwfn a chamwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol, mae yna waith yr ydym ni a'n partneriaid yn ei wneud i gryfhau sgiliau ein hetholwyr i allu nodi'r mathau hyn o bostiadau, yn ogystal â gwybod ble i gael mynediad at wybodaeth ddilys.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o'r adolygiad o Senedd sy'n gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd yn dystiolaeth bellach na allwn gael cyfle cyfartal gwirioneddol mewn bywyd cyhoeddus heb wrthsefyll bygythiadau. O'r holl rwystrau sy'n atal grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol rhag cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, nid oes unrhyw rwystr mor ffiaidd â'r hyn sy'n gwneud i ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig ofni am eu diogelwch. Hoffwn ddiolch i Joyce Watson a'i chyd-Aelodau am eu gwaith ar yr adolygiad pwysig hwn.
Dylai diwygiadau i'n system ddemocrataidd feithrin hyder hefyd. Bydd cynyddu nifer Aelodau'r Senedd yn darparu mwy o gapasiti i graffu, gan alluogi gwell goruchwyliaeth ar benderfyniadau'r Llywodraeth a dwyn Gweinidogion i gyfrif am y penderfyniadau hynny. Cymerodd y Senedd gam arwyddocaol ymlaen ddoe drwy basio Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Bydd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud diwygiadau pwysig i'r broses safonau ar gyfer y Senedd, yn cynnwys cyflwyno system adalw sy'n rhoi'r gair olaf i'r etholwyr ynglŷn ag a ddylid diswyddo Aelod y canfuwyd bod eu hymddygiad yn tramgwyddo'r safonau disgwyliedig yn ddifrifol. A bydd cryfhau mesurau atebolrwydd yn rhoi mwy o hyder i bleidleiswyr fod rhaid i'r rhai a etholir i'w cynrychioli fodloni disgwyliadau clir o ran ymddygiad, tryloywder ac uniondeb.
Mae'r Bil hefyd yn gwneud diwygiadau eraill i gryfhau'r broses safonau drwy roi'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar sail statudol, gan ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd benodi aelodau lleyg i'r pwyllgor, gan ddarparu elfen o annibyniaeth ac arbenigedd arbenigol, a darparu gallu i'r comisiynydd safonau gynnal ymchwiliadau ar eu liwt eu hunain.
Hoffwn ddiolch i Hannah yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac aelodau eraill y pwyllgor, am eu gwaith rhagorol ar atebolrwydd aelodau unigol, ac ymchwiliad diweddar y pwyllgor i urddas a pharch, sydd wedi arwain at argymhellion pwysig i'r Senedd nesaf eu hystyried. Nod yr argymhellion yw gwella proses safonau'r Senedd, gan sicrhau mwy o hyder a thryloywder a gwell cefnogaeth i'r rhai sy'n lleisio cwynion. Gobeithio y bydd yr argymhellion yn cael ystyriaeth sylweddol gan y seithfed Senedd.
Er bod llawer o waith yn cael ei wneud, mae mwy i'w wneud yn y dyfodol. Rhaid inni barhau i gefnogi cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan wella arferion gwaith ar gyfer swyddogion etholedig, a chael gwared ar rwystrau sy'n gwneud cyfranogiad gwleidyddol yn anodd. Rhaid inni barhau i gryfhau mesurau diogelu, hybu cwrteisi, meithrin hyder a hyrwyddo amrywiaeth. Ac yn y pen draw, mae meithrin hyder yn galw am ddangos bod democratiaeth yn perthyn i bawb. Mae'n galw am ddangos bod uniondeb a gonestrwydd yn sail i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, a bod y bobl sy'n camu ymlaen i wasanaethu yn gwneud hynny gydag ymdeimlad o gyfrifoldeb a pharch.
Beth bynnag sy'n digwydd yn yr etholiad sydd ar y gorwel—ac rwy'n golygu o ran cyfranogiad yn ogystal â'r canlyniadau—mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu'r gwersi. Dyna pam fy mod wedi gofyn i swyddogion baratoi adroddiad, gan gynnwys dysgu gwersi o gynlluniau mewn mannau eraill i hyrwyddo cyfranogiad, ar gyfer Gweinidog perthnasol llywodraeth newydd ac i lywio adolygiad gan y pwyllgor perthnasol.
Drwy weithio gyda'n gilydd fel Llywodraeth, cymunedau, sefydliadau ac unigolion, gallwn ddangos y gall gwleidyddiaeth fod yn ofod lle mae pobl yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a'u cynrychioli, a bydd y camau sy'n cael eu cymryd yn helpu i siapio democratiaeth fwy hyderus, fwy cynhwysol ar gyfer y dyfodol, a bydd y gwaith yn parhau cyn belled â bod hyder yn parhau i fod yn werth ei feithrin. Diolch.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.
Gobeithio y cewch chi benwythnos diogel.
Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:55.