Y Cyfarfod Llawn
Plenary
04/02/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg sydd gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.
Good afternoon and welcome to this Plenary meeting. The first item today will be questions to the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language. The first question is from Andrew R.T. Davies.
1. Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ariannu ymrwymiadau portffolio'r economi o'r rhaglen lywodraethu wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27? OQ63788
1. What consideration did the Cabinet Secretary give to funding the economy portfolio's programme for government commitments when setting the Welsh Government's budget for 2026-27? OQ63788
I thank the Member for the question. Llywydd, the 2026-27 budget continues or completes the programme for government for this Senedd term. It funds key economy portfolio investments in skills, apprenticeships, regional economic development and business support.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Lywydd, mae cyllideb 2026-27 yn parhau neu'n cwblhau'r rhaglen lywodraethu ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae'n ariannu buddsoddiadau allweddol portffolio'r economi mewn sgiliau, prentisiaethau, datblygu economaidd rhanbarthol a chymorth i fusnesau.
Thank you for that answer, finance Secretary. I appreciate any budget is about choices, and there's a limited pot of money that you can allocate for those choices. One of the key commitments that the Welsh Government have is in relation to the young person's guarantee, which, obviously, is about education and offering opportunities in skills and apprenticeships. Medr, the funding body for further education here in Wales, has indicated that they believe that there's a £25 million shortfall in money that's available to further education colleges. The final budget allocated £5 million additional moneys to the budget, over and above what the draft budget indicated. But with such a significant deficit in that funding for apprenticeships and skills, does the finance Secretary believe that that financial allocation will, in the words of the chief executive of Medr, undermine the Government's commitment for every young person to be offered a place in education, training or work?
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd cyllid. Rwy'n sylweddoli bod unrhyw gyllideb yn golygu gwneud dewisiadau, ac mai pot cyfyngedig o arian y gallwch ei ddyrannu ar gyfer y dewisiadau hynny. Mae un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r warant i bobl ifanc, sy'n amlwg yn ymwneud ag addysg a chynnig cyfleoedd mewn sgiliau a phrentisiaethau. Mae Medr, y corff cyllido ar gyfer addysg bellach yma yng Nghymru, wedi nodi eu bod yn credu bod diffyg o £25 miliwn yn yr arian sydd ar gael i golegau addysg bellach. Dyrannodd y gyllideb derfynol £5 miliwn o arian ychwanegol i'r gyllideb, yn ychwanegol at yr hyn a nododd y gyllideb ddrafft. Ond gyda diffyg mor sylweddol yn y cyllid hwnnw ar gyfer prentisiaethau a sgiliau, a yw'r Ysgrifennydd cyllid yn credu y bydd y dyraniad ariannol hwnnw, yng ngeiriau prif weithredwr Medr, yn tanseilio ymrwymiad y Llywodraeth i bob unigolyn ifanc gael cynnig lle mewn addysg, hyfforddiant neu waith?
Llywydd, just to be clear, there is no shortfall in funding for apprenticeships. There was an additional £5 million in the final budget for apprenticeships, as well as a £5 million investment in further education. The apprenticeship investment means that we will meet the target of 100,000 apprenticeships, as set out in the programme for government. The budget also includes a further £3 million—the final budget—an extra £1 million in the final budget and £2 million extra in the draft budget for Jobs Growth Wales, again a key commitment in relation to employability programmes for young people.
The challenge faced by the further education sector is a challenge of success. The enrolments in September of last year exceeded Medr's expectations significantly. That's good news. It means more young people are coming back into education and training. The growth has been particularly strong in vocational courses, where there isn't as much capacity as there is in some other courses simply to have more young people in the same classroom, because you have to have all the things that go with it if you're learning a trade, and so on. But we will continue to work with Medr. That's why they have more money in the final budget. They, as the Member said, like any other budget holder, will have to do some prioritising in order to make sure that it puts its very considerable funds in those parts of the sector where they are most needed.
Lywydd, i fod yn glir, nid oes diffyg yn y cyllid ar gyfer prentisiaethau. Roedd £5 miliwn ychwanegol yn y gyllideb derfynol ar gyfer prentisiaethau, yn ogystal â buddsoddiad o £5 miliwn mewn addysg bellach. Mae'r buddsoddiad mewn prentisiaethau yn golygu y byddwn yn cyrraedd y targed o 100,000 o brentisiaethau, fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu. Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys £3 miliwn ychwanegol—y gyllideb derfynol—£1 filiwn ychwanegol yn y gyllideb derfynol a £2 filiwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer Twf Swyddi Cymru, sydd unwaith eto'n ymrwymiad allweddol mewn perthynas â rhaglenni cyflogadwyedd i bobl ifanc.
Mae'r her sy'n wynebu'r sector addysg bellach yn her sy'n cael ei goresgyn gyda chryn lwyddiant. Roedd nifer y cofrestriadau ym mis Medi y llynedd yn sylweddol uwch na disgwyliadau Medr. Mae hynny'n newyddion da. Mae'n golygu bod mwy o bobl ifanc yn dod yn ôl i addysg a hyfforddiant. Mae'r twf wedi bod yn arbennig o gryf mewn cyrsiau galwedigaethol, lle nad oes cymaint o gapasiti ag mewn rhai cyrsiau eraill ddim ond i gael mwy o bobl ifanc yn yr un ystafell ddosbarth, gan fod yn rhaid ichi gael yr holl bethau sy'n mynd gyda hynny os ydych chi'n dysgu crefft, ac yn y blaen. Ond byddwn yn parhau i weithio gyda Medr. Dyna pam fod ganddynt fwy o arian yn y gyllideb derfynol. Fel y dywedodd yr Aelod, fel unrhyw ddeiliad cyllideb arall, bydd yn rhaid iddynt wneud rhywfaint o flaenoriaethu er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi eu swm sylweddol iawn o gyllid yn y rhannau hynny o'r sector lle mae ei angen fwyaf.
Of course, one of the biggest challenges facing apprenticeship providers has been the impact of Brexit and the loss of European funding. In terms of the regional development funds that you referred to in your initial answer to Andrew R.T. Davies, I'm concerned to ensure that the Tech Valleys initiative reaches its full potential and actually drives forward the economic investments that we need to make in the people and communities across the whole of the Heads of the Valleys. This is something I've already discussed with your colleague the Minister for the economy. But would it be possible to meet with you as well, to look at how we can maximise the funds that are being invested by the Welsh Government in our communities to ensure that we achieve the maximum impact possible for every penny spent?
Wrth gwrs, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu darparwyr prentisiaethau yw effaith Brexit a cholli cyllid Ewropeaidd. O ran y cronfeydd datblygu rhanbarthol y cyfeirioch chi atynt yn eich ateb cychwynnol i Andrew R.T. Davies, rwy'n awyddus i sicrhau bod menter y Cymoedd Technoleg yn cyflawni ei photensial ac yn hybu'r buddsoddiadau economaidd y mae angen inni eu gwneud yn y bobl a'r cymunedau ar draws ardal Blaenau'r Cymoedd. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf eisoes wedi'i drafod gyda'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr economi. Ond a fyddai modd cyfarfod â chi hefyd, i edrych ar sut y gallwn sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi cymaint â phosib o arian yn ein cymunedau er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r effaith fwyaf sy'n bosib am bob ceiniog a werir?
Llywydd, thank you to the Member for that further question. He is right to point to the fact that all the investments we're talking about have suffered because that part of Wales is no longer able to claim post-European funding in the way that we had been promised Wales would not be a penny worse off. You remember that, I'm sure, and how untrue that has turned out to be. But I'm very happy to meet with the Member, of course. I have long signed up to the slogan that he has used so often about the Heads of the Valleys road: 'More than just a road; a catalyst for economic development'. We need to ensure that that investment—the investment in Tech Valleys—and other investments that the Welsh Government is making through the south Wales metro and so on, that all of those contribute to new economic opportunities for people who live in those communities, and I'd be very pleased indeed to meet the Member to discuss that further.
Lywydd, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn pellach. Mae'n llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod yr holl fuddsoddiadau y soniwn amdanynt wedi dioddef am nad yw'r rhan honno o Gymru bellach yn gallu hawlio cyllid ôl-Ewropeaidd yn y ffordd yr addawyd i ni na fyddai Cymru geiniog yn waeth ein byd. Rydych chi'n cofio hynny, rwy'n siŵr, ac roedd mor anghywir. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod, wrth gwrs. Rwyf wedi bod yn gefnogwr ers tro i'r slogan y mae wedi'i ddefnyddio mor aml am ffordd Blaenau'r Cymoedd: 'Mwy na ffordd yn unig; catalydd ar gyfer datblygiad economaidd'. Mae angen inni sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw—y buddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg—a buddsoddiadau eraill y mae Llywodraeth Cymru’n eu gwneud drwy fetro de Cymru ac yn y blaen, fod pob un o'r rheini'n cyfrannu at gyfleoedd economaidd newydd i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod hynny ymhellach.
Cabinet Secretary, I am concerned about the UK Government classifying England-only rail infrastructure projects as 'England and Wales', resulting in no Barnett consequentials to help fund rail infrastructure here in our country. In Newport East, this makes it very difficult to proceed with necessary pace and scale in implementing the recommendations of the Burns commission for enhanced rail services and new stations to support economic growth, accessibility and green objectives. Given this situation, Cabinet Secretary, do you feel the Welsh Government will be able to secure fair funding from the UK Government for rail infrastructure here in Wales to enable progress on those vital recommendations of the Burns commission?
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n pryderu ynglŷn â'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn dosbarthu prosiectau seilwaith rheilffyrdd Lloegr yn unig fel rhai 'Lloegr a Chymru', gan arwain at ddiffyg cyllid canlyniadol Barnett i helpu i ariannu seilwaith rheilffyrdd yma yn ein gwlad. Yn Nwyrain Casnewydd, mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn mynd ati gyda'r cyflymder ac ar y raddfa angenrheidiol i weithredu argymhellion comisiwn Burns ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd gwell a gorsafoedd newydd i gefnogi twf economaidd, hygyrchedd ac amcanion gwyrdd. O ystyried y sefyllfa hon, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n teimlo y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu sicrhau cyllid teg gan Lywodraeth y DU ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru er mwyn galluogi cynnydd ar argymhellion hanfodol comisiwn Burns?
I remain personally very committed to the conclusions of the Burns report, having been involved in its establishment and having discussed its work with Lord Burns on a number of occasions as his thinking developed. We do have £445 million in rail investment that we had never previously secured, and that's a welcome first step in addressing the historical underfunding of rail in Wales. This Government is committed to the delivery of all the Burns stations, but £445 million will not do that. We know that. It will allow a lot of initial work to be done, a lot of work that will need to be built on beyond the current comprehensive spending review period. The Chancellor of the Exchequer was clear when she came to Wales that the UK Government will fund the delivery of the Burns stations. That means that we have a legitimate expectation of further funding beyond the period of the spending review, which will deliver what John Griffiths has outlined this afternoon, Llywydd. The Burns review produced a bold, generational scheme that would change the way in which traffic flows around the south-east of Wales. We can make a start with what we've got. We have a genuine and legitimate expectation that the UK Government will provide the completion of that programme.
Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig iawn i gasgliadau adroddiad Burns, a minnau wedi cyfrannu at y gwaith o'i sefydlu a thrafod ei waith gyda'r Arglwydd Burns ar nifer o achlysuron wrth i'w syniadau ddatblygu. Mae gennym £445 miliwn mewn buddsoddiad rheilffyrdd nad ydym erioed wedi llwyddo i'w sicrhau o'r blaen, ac mae hynny'n gam cyntaf i'w groesawu wrth fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol y rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddarparu holl orsafoedd Burns, ond ni fydd £445 miliwn yn gwneud hynny. Rydym yn gwybod hynny. Fe fydd yn caniatáu llawer o waith cychwynnol, llawer o waith y bydd angen adeiladu arno y tu hwnt i gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol. Nododd Canghellor y Trysorlys yn glir pan ddaeth i Gymru y bydd Llywodraeth y DU yn ariannu gorsafoedd Burns. Golyga hynny ei bod hi'n deg inni ddisgwyl cyllid pellach y tu hwnt i gyfnod yr adolygiad o wariant, a fydd yn cyflawni'r hyn y mae John Griffiths wedi'i amlinellu y prynhawn yma, Lywydd. Cynhyrchodd adolygiad Burns gynllun beiddgar, unwaith mewn cenhedlaeth a fyddai'n newid y ffordd y mae traffig yn llifo yn ne-ddwyrain Cymru. Gallwn ddechrau arni gyda'r hyn sydd gennym. Gallwn ddisgwyl yn ddilys a theilwng y bydd Llywodraeth y DU yn darparu'r hyn sydd ei angen i gwblhau'r rhaglen honno.
2. Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cefnogi busnesau yng ngorllewin Cymru? OQ63771
2. What is the Cabinet Secretary doing to ensure that the Welsh Government's budget for 2026-27 supports businesses in west Wales? OQ63771
Again, I thank the Member for that question, Llywydd. West Wales businesses benefit from advice through Business Wales, funding from the development bank, favourable tax arrangements at the Celtic free port, the investment secured through the Swansea city deal, and the multi-million-pound investment that Welsh taxpayers provide to reduce the cost of business rates.
Unwaith eto, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, Lywydd. Mae busnesau gorllewin Cymru yn elwa o gyngor drwy Busnes Cymru, cyllid gan y banc datblygu, trefniadau treth ffafriol yn y porthladd rhydd Celtaidd, y buddsoddiad a sicrhawyd drwy fargen ddinesig Abertawe, a'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd y mae trethdalwyr Cymru'n ei ddarparu i leihau cost ardrethi busnes.
Cabinet Secretary, as you know, I recently held an online business advice forum with my colleague Samuel Kurtz with many businesses in Pembrokeshire, and we heard just how tough the current landscape is for them. You recently announced some additional support, which is very welcome, but, until there is a wide-scale reform of the system, some businesses in west Wales will still struggle to survive. Organisations such as UKHospitality Cymru and the Federation of Small Businesses are right to say that this temporary reprieve, while welcome, still doesn't change the fact that the system needs proper reform. So, Cabinet Secretary, will you now commit to reforming the business rates system in Wales so that hospitality businesses are not reliant on short-term fixes and piecemeal cash injections from the Welsh Government in order to protect the sector's sustainability for the future?
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, cynhaliais fforwm cyngor busnes ar-lein yn ddiweddar gyda fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz gyda llawer o fusnesau yn sir Benfro, a chlywsom pa mor anodd yw'r dirwedd bresennol iddynt. Fe wnaethoch chi gyhoeddi peth cymorth ychwanegol yn ddiweddar, sydd i'w groesawu, ond hyd nes y ceir diwygio eang i'r system, bydd rhai busnesau yng ngorllewin Cymru’n dal i'w chael hi'n anodd goroesi. Mae sefydliadau fel UKHospitality Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn iawn i ddweud, er bod y seibiant dros dro hwn i'w groesawu, nad yw'n newid y ffaith bod angen diwygio'r system yn iawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo nawr i ddiwygio'r system ardrethi busnes yng Nghymru fel nad yw busnesau lletygarwch yn ddibynnol ar atebion tymor byr a chwistrelliadau darniog o arian parod gan Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol?
I thank the Member for what he said about the announcement we were able to make yesterday about further support for the hospitality sector in Wales. The industry itself, their assessment is that two thirds of hospitality businesses in Wales pay no business rates at all. Two thirds of them pay nothing at all because they benefit from the permanent rate relief scheme that we have here in Wales. Now, personally, I agree that business rates do need fundamental reform. It will fall to a next Senedd to engage in that. Whether we have the same idea as to what reform should be about may be a different matter, but if you ask me whether I think a system that has so many overlapping forms of relief for businesses and makes no distinction at all between businesses for whom that help is essential and businesses that would trade perfectly profitably without any help, then I agree: I think there are some fundamental things about the system that deserve a deeper consideration.
Now, in this term, we've made many changes to business rates in order to try to make the system work more smoothly for businesses to be able to appeal and get answers more quickly if they feel they've been wrongly categorised and so on. Those are improvements to the current system, and I think what Paul Davies is suggesting is that a future Government might want to step back from the system and look at it more fundamentally.
Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am y cyhoeddiad a wnaethom ddoe ynglŷn â chymorth pellach i'r sector lletygarwch yng Nghymru. O ran y diwydiant ei hun, eu hasesiad nhw yw nad yw dwy ran o dair o fusnesau lletygarwch yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Nid yw dwy ran o dair ohonynt yn talu unrhyw beth o gwbl gan eu bod yn elwa o'r cynllun rhyddhad ardrethi parhaol sydd gennym yma yng Nghymru. Nawr, yn bersonol, rwy'n cytuno bod angen diwygio ardrethi busnes yn sylfaenol. Mater i'r Senedd nesaf fydd ymdrin â hynny. Efallai y bydd gennym syniadau gwahanol ynglŷn â'r hyn y dylai diwygio ei olygu, ond os ydych chi'n gofyn i mi a wyf i'n credu bod system sydd â chymaint o ffurfiau'n gorgyffwrdd o ryddhad i fusnesau ac nad yw'n gwahaniaethu o gwbl rhwng busnesau y mae'r cymorth hwnnw'n hanfodol iddynt a busnesau a fyddai'n masnachu'n berffaith broffidiol heb unrhyw gymorth, yna rwy'n cytuno: rwy'n credu bod rhai pethau sylfaenol am y system sy'n haeddu ystyriaeth ddyfnach.
Nawr, yn y tymor hwn, rydym wedi gwneud llawer o newidiadau i ardrethi busnes er mwyn ceisio gwneud i'r system weithio'n fwy llyfn i fusnesau allu apelio a chael atebion yn gyflymach os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu categoreiddio'n anghywir ac yn y blaen. Mae'r rheini'n welliannau i'r system bresennol, a chredaf mai'r hyn y mae Paul Davies yn ei awgrymu yw y gallai Llywodraeth yn y dyfodol fod eisiau cymryd cam yn ôl ac edrych ar y system yn fwy sylfaenol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Questions now from the party spokespeople. The Conservative spokesperson, Sam Rowlands.
Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, the First Minister recently said that your interest has never been in the economy. Is she wrong?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar nad ydych chi erioed wedi bod â diddordeb yn yr economi. A yw hi'n anghywir?
All Ministers in the Welsh Government, Llywydd, have an interest in the economy, making sure that the economy in Wales is successful, and all Ministers have an interest in making sure that the fruits of that success are shared fairly amongst the Welsh population so that we can support our public services on which so many of our fellow citizens rely.
Lywydd, mae gan bob Gweinidog yn Llywodraeth Cymru ddiddordeb yn yr economi, ac mewn sicrhau bod yr economi yng Nghymru yn llwyddiannus, ac mae gan bob Gweinidog ddiddordeb mewn sicrhau bod y llwyddiant hwnnw'n cael ei rannu'n deg ymhlith poblogaeth Cymru fel y gallwn gefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus y mae cymaint o'n cyd-ddinasyddion yn dibynnu arnynt.
Thank you for your response, Cabinet Secretary. The First Minister was refreshingly honest in her assessment, I would say. And perhaps it's not your fault, though, because, of course, you're a socialist, and so are Plaid Cymru to your side, who have been propping up the Labour Government here in Wales for so long, and socialists just don't see the economy as a priority whatsoever. You did, of course, yesterday, announce, following the UK Government decision on rate relief, that pubs, restaurants, cafes, bars and live music venues across Wales will also benefit from additional business rates support. We know that the nation's hospitality sector has been demanding more help amid rising costs and closures, and we do welcome the 15 per cent relief, but they're saying that this does not go far enough. The focus on the economy just is not there. For a start, this relief is only for a year, compared to the three years that has been offered in England. And Welsh hospitality faces an April cliff edge due to huge rates hikes. And those businesses are saying that 15 per cent relief for a year is not going to cut it. They're worried about the job losses that may ensue. They're worried about the costs being pushed onto customers here in Wales. On these benches, we'd scrap business rates for those smaller businesses to incentivise growth and create the right environment for investment in business in Wales. We believe it's a small price to pay to protect jobs, get our economy growing and to fund our public services. Why won't you do the same?
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd y Prif Weinidog yn onest iawn yn ei hasesiad, buaswn yn dweud. Ac efallai nad eich bai chi yw hynny, oherwydd, wrth gwrs, rydych chi'n sosialydd, ac felly hefyd Plaid Cymru wrth eich ymyl, sydd wedi bod yn cynnal Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru ers cyhyd, ac nid yw sosialwyr yn gweld yr economi fel blaenoriaeth o gwbl. Fe gyhoeddoch chi ddoe, wrth gwrs, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU ar ryddhad ardrethi, y bydd tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru hefyd yn elwa o gymorth ardrethi busnes ychwanegol. Gwyddom fod sector lletygarwch y genedl wedi bod yn galw am fwy o gymorth yn sgil costau cynyddol a busnesau'n gorfod cau, ac rydym yn croesawu'r rhyddhad o 15 y cant, ond maent yn dweud nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Nid yw'r ffocws ar yr economi yno o gwbl. I ddechrau, dim ond am flwyddyn y mae'r rhyddhad hwn ar gael, o gymharu â'r tair blynedd a gynigiwyd yn Lloegr. Ac mae lletygarwch yng Nghymru yn wynebu ymyl dibyn ym mis Ebrill oherwydd codiadau treth enfawr. Ac mae'r busnesau hynny'n dweud na fydd rhyddhad o 15 y cant am flwyddyn yn ddigon. Maent yn poeni am y swyddi a allai gael eu colli. Maent yn poeni am y costau sy'n cael eu gorfodi ar gwsmeriaid yma yng Nghymru. Ar y meinciau hyn, byddem yn cael gwared ar ardrethi busnes i'r busnesau llai hynny i gymell twf a chreu'r amgylchedd cywir ar gyfer buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru. Rydym yn credu ei fod yn bris bach i'w dalu i ddiogelu swyddi, sicrhau bod ein heconomi'n tyfu ac i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Pam na wnewch chi'r un peth?
Well, Llywydd, I am a socialist. I'm very proud to be one, because socialists understand that economies thrive when societies are more equal—when everybody has a chance to contribute to the successful economy we all want to see. And that is the message that neo-liberals have so patently failed to understand when you have economies as badly skewed as that in the United Kingdom, and therefore sclerotic growth, which is the legacy, of course, of the last Conservative Government.
Let me just enumerate for a moment the sources of help that businesses in Wales have. They have the permanent £250 million worth of business rate relief that we provide every year—that the taxpayer in Wales provides every year. We have £116 million over the next two years to help with a transitional scheme as a result of rates revaluation. We have a lower multiplier for high-street businesses. We have the decisions made during this Senedd term alone in relation to the multiplier, which have cost £500 million—£500 million that has stayed in the pockets of businesses in Wales, which, had we simply applied the normal multiplier rules, would have been collected from Welsh businesses and been available to this Senedd for other purposes. And now we have the further relief that we announced yesterday to help the sector.
The Member asks why not a three-year scheme. Well, we will know, when the final supplementary estimates are published by the UK Government, exactly how much money will come to Wales as a result of the Chancellor's decisions in England, and then there will be an opportunity for a three-year scheme here in Wales. I can't set a three-year scheme when I don't know what money will be available to Wales in years 2 and 3. That will be confirmed pretty quickly, and then we'll be able to make some further decisions.
Why would we not abandon business rates altogether? Because business rates are a contribution that businesses make in recognition of the services that they receive from the collective effort that the Welsh community makes. The pavements that people walk on to small businesses, the roads that people drive on to get to them, the skilled workers that they are able to employ, the fact that there is a health service that looks after those workers when they fall ill—those are the collective provisions that we all make together, and it is right and proper that businesses make a contribution to that effort, where they are able to do so. To abandon business rates altogether would mean that those businesses that are perfectly capable of making their contribution would not be asked to do so at all. That's the very opposite of socialism, and it's quite certainly why we won't be doing it.
Wel, Lywydd, rwy'n sosialydd. Rwy'n falch iawn o fod yn un, gan fod sosialwyr yn deall bod economïau'n ffynnu pan fydd cymdeithasau'n fwy cyfartal—pan fydd cyfle gan bawb i gyfrannu at yr economi lwyddiannus y mae pob un ohonom eisiau ei gweld. A dyna'r neges y mae neo-ryddfrydwyr wedi methu'n llwyr â'i deall pan fydd gennych economïau mor anghytbwys â'r un yn y Deyrnas Unedig, ac felly twf sglerotig, sef gwaddol y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, wrth gwrs.
Gadewch imi gymryd eiliad i restru'r ffynonellau cymorth sydd gan fusnesau yng Nghymru. Mae ganddynt y gwerth £250 miliwn o ryddhad ardrethi busnes parhaol yr ydym yn ei ddarparu bob blwyddyn—yr hyn y mae'r trethdalwr yng Nghymru yn ei ddarparu bob blwyddyn. Mae gennym £116 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i helpu gyda chynllun pontio o ganlyniad i ailbrisio ardrethi. Mae gennym luosydd is ar gyfer busnesau'r stryd fawr. Mae gennym y penderfyniadau a wnaed yn nhymor y Senedd hon yn unig mewn perthynas â'r lluosydd, sydd wedi costio £500 miliwn—£500 miliwn sydd wedi aros ym mhocedi busnesau yng Nghymru, a fyddai, pe baem wedi defnyddio rheolau'r lluosydd arferol, wedi'i gasglu oddi ar fusnesau Cymru ac wedi bod ar gael i'r Senedd hon at ddibenion eraill. A nawr, mae gennym y rhyddhad pellach a gyhoeddwyd gennym ddoe i helpu'r sector.
Mae'r Aelod yn gofyn pam nad yw'n gynllun tair blynedd. Wel, fe fyddwn yn gwybod, pan fydd yr amcangyfrifon atodol terfynol yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, faint yn union o arian fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i benderfyniadau'r Canghellor yn Lloegr, ac yna bydd cyfle i gael cynllun tair blynedd yma yng Nghymru. Ni allaf osod cynllun tair blynedd pan nad wyf yn gwybod pa arian fydd ar gael i Gymru ym mlynyddoedd 2 a 3. Bydd hynny'n cael ei gadarnhau yn eithaf buan, ac yna gallwn wneud penderfyniadau pellach.
Pam na fyddem yn cael gwared ar ardrethi busnes yn gyfan gwbl? Oherwydd bod ardrethi busnes yn gyfraniad y mae busnesau'n ei wneud i gydnabod y gwasanaethau y maent yn eu derbyn drwy'r ymdrech gyfunol y mae'r gymuned Gymreig yn ei gwneud. Y palmentydd y mae pobl yn cerdded arnynt i fusnesau bach, y ffyrdd y mae pobl yn gyrru arnynt i'w cyrraedd, y gweithwyr medrus y maent yn gallu eu cyflogi, y ffaith bod gwasanaeth iechyd gennym sy'n gofalu am y gweithwyr hynny pan fyddant yn sâl—dyna'r darpariaethau cyfunol mae pob un ohonom yn eu gwneud gyda'n gilydd, ac mae'n iawn ac yn briodol i fusnesau gyfrannu at yr ymdrech honno, lle gallant wneud hynny. Byddai cael gwared ar ardrethi busnes yn gyfan gwbl yn golygu na fyddai gofyn i fusnesau sy'n gallu gwneud eu cyfraniad wneud hynny o gwbl. Mae hynny'n gwbl groes i sosialaeth, a dyna'n sicr pam na fyddwn yn ei wneud.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Plaid Cymru spokesperson, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, last year, the Deputy First Minister—and I'm pleased that he's here for this question—publicly announced that a meeting had been secured with the UK Government on Barnett reform. It has since become clear that this is simply the routine meeting of the Finance: Interministerial Standing Committee in February.
Given your previous criticism of using the FISC as a vehicle for pursuing Barnett reform, could you set out the specific proposals you intend to bring forward, what discussions you've held with other devolved Governments, and how you plan to escalate the issue if this meeting results in no progress?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog—ac rwy'n falch ei fod yma ar gyfer y cwestiwn hwn—yn gyhoeddus fod cyfarfod wedi'i sicrhau gyda Llywodraeth y DU ar ddiwygio fformiwla Barnett. Mae wedi dod i'r amlwg ers hynny mai dim ond cyfarfod rheolaidd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid ym mis Chwefror yw hwn.
O ystyried eich beirniadaeth flaenorol o ddefnyddio'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid fel cyfrwng i fynd ar drywydd diwygio fformiwla Barnett, a allech chi nodi'r cynigion penodol y bwriadwch eu cyflwyno, pa drafodaethau a gynhaliwyd gennych gyda Llywodraethau datganoledig eraill, a sut y bwriadwch uwchgyfeirio'r mater os na fydd y cyfarfod hwn yn arwain at unrhyw gynnydd?
Well, Llywydd, what we have secured is that the reform of the current Barnett formula, the way the current formula operates, will be a major item on the agenda of the next FISC—not just an item, but a major item, probably the item to which the greatest amount of time will be devoted at that next meeting. And I certainly have had further conversations with both Scottish and Northern Irish Ministers about the proposals that we will put on the table at the FISC.
And I just want to be clear with the Member: these are not proposals for an alternative to Barnett. There was no support amongst other devolved Governments for a paper of that sort. This is a paper that will look at how the current system can be made to work better. And amongst the issues that we will discuss there will be transparency. As you know, the Barnett formula is driven by what are called 'comparability factors'—what percentage of an English department's budget is comparable with devolved Governments. It's not always easy to understand how those comparability factors are derived, what lies behind them. We will argue for a process that makes that a lot more understandable and transparent for anybody who wants to look at it, and therefore more open to challenge.
So, a second proposal, amongst others, will be a greater element of independence in any challenge. If a devolved Government believes that the Barnett formula is not being operated correctly, then we need to have a system in which that complaint will be looked at and adjudicated with a degree of independence that the current system quite certainly lacks. There will be other proposals as well.
Wel, Lywydd, yr hyn rydym wedi'i sicrhau yw y bydd diwygio'r fformiwla Barnett bresennol, y ffordd y mae'r fformiwla bresennol yn gweithredu, yn eitem bwysig ar agenda'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid nesaf—nid eitem yn unig, ond eitem bwysig, yr eitem y bydd y mwyaf o amser yn cael ei neilltuo iddi, mae'n debyg, yn y cyfarfod nesaf hwnnw. Ac yn sicr, rwyf wedi cael sgyrsiau pellach gyda Gweinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon ynglŷn â'r cynigion y byddwn yn eu cyflwyno yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid.
A hoffwn ddweud yn glir wrth yr Aelod: nid cynigion am ddewis arall yn lle fformiwla Barnett yw'r rhain. Nid oedd unrhyw gefnogaeth ymhlith Llywodraethau datganoledig eraill i bapur o'r math hwnnw. Mae hwn yn bapur a fydd yn edrych ar sut y gellir gwneud i'r system bresennol weithio'n well. A bydd tryloywder yn un o'r materion y byddwn yn eu trafod. Fel y gwyddoch, mae fformiwla Barnett yn seiliedig ar yr hyn a elwir yn 'ffactorau cymharedd'—pa ganran o gyllideb un o adrannau Lloegr sy'n gymharol â Llywodraethau datganoledig. Nid yw bob amser yn hawdd deall sut y mae'r ffactorau cymharedd hynny'n cael eu cyfrifo, beth sydd y tu ôl iddynt. Byddwn yn dadlau dros broses sy'n gwneud hynny'n llawer mwy dealladwy a thryloyw i unrhyw un sydd am edrych arni, ac felly'n fwy agored i her.
Felly, bydd ail gynnig, ymhlith eraill, yn ymwneud ag elfen fwy o annibyniaeth mewn unrhyw her. Os oes Llywodraeth ddatganoledig yn credu nad yw fformiwla Barnett yn cael ei gweithredu'n gywir, yna mae angen system arnom lle bydd y gŵyn honno'n cael ei hystyried a'i dyfarnu gyda mesur o annibyniaeth sy'n bendant ar goll yn y system bresennol. Bydd yna gynigion eraill hefyd.
Thank you for that clarity, and I'm sure all of us will be looking forward to hearing progress following that FISC meeting.
Obviously, we've well rehearsed the unfairness of the Barnett formula, and this was evident, of course, when it came to the reimbursement of employer national insurance contributions, which, as we've rehearsed many a time, has created a shortfall of £72 million in this year's budget alone—a gap that will widen annually unless this injustice is addressed.
So, I would like to ask: have you estimated how much this shortfall is projected to increase over the next Senedd term, and how confident are you that the UK Government will change its position? And will this be discussed at the upcoming FISC meeting?
Diolch am yr eglurder hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom yn edrych ymlaen at glywed am gynnydd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid.
Yn amlwg, rydym wedi trafod annhegwch fformiwla Barnett droeon, ac roedd hyn yn amlwg, wrth gwrs, mewn perthynas ag ad-dalu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sydd, fel y nodwyd gennym sawl gwaith, wedi creu diffyg o £72 miliwn yng nghyllideb eleni'n unig—bwlch a fydd yn ehangu'n flynyddol onid eir i'r afael â'r anghyfiawnder hwn.
Felly, hoffwn ofyn: a ydych chi wedi amcangyfrif faint y rhagwelir y bydd y diffyg hwn yn cynyddu dros dymor y Senedd nesaf, a pha mor hyderus ydych chi y bydd Llywodraeth y DU yn newid ei safbwynt? Ac a fydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfarfod sydd ar y ffordd o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid?
I would be very surprised if it wasn't mentioned again at the FISC because both Scotland and Northern Ireland were even more adversely affected by the decisions of the UK Government than we were here in Wales, and other colleagues have very regularly raised their continuing concerns about it. We continue to make provision next year for the £36 million that we were able to provide in this year. Unless there are changes in the UK Government's position on this matter, I don't see that figure altering materially over the rest of the next Senedd term. We continue to make the case. It is part of the paper we will submit in relation to Barnett, that Barnett must be consistently applied according to the rules in the funding formula. We don't believe they were properly applied in this instance, but without an element of independence in adjudicating that sort of complaint, the Treasury simply ends up marking its own homework.
Buaswn yn synnu'n fawr pe na bai'n cael ei grybwyll eto yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, gan i'r Alban a Gogledd Iwerddon gael eu heffeithio hyd yn oed yn waeth gan benderfyniadau Llywodraeth y DU na ninnau yma yng Nghymru, ac mae cyd-Aelodau eraill wedi codi eu pryderon parhaus am hyn yn rheolaidd iawn. Rydym yn parhau i wneud darpariaeth y flwyddyn nesaf ar gyfer y £36 miliwn y bu modd i ni ei ddarparu eleni. Oni cheir newidiadau yn safbwynt Llywodraeth y DU ar y mater hwn, nid wyf yn gweld y ffigur hwnnw'n newid yn sylweddol dros weddill tymor y Senedd nesaf. Rydym yn parhau i ddadlau'r achos. Mae'n rhan o'r papur y byddwn yn ei gyflwyno mewn perthynas â fformiwla Barnett, fod yn rhaid cymhwyso fformiwla Barnett yn gyson yn unol â'r rheolau yn y fformiwla gyllido. Nid ydym yn credu iddynt gael eu cymhwyso'n briodol yn yr achos hwn, ond heb elfen o annibyniaeth wrth ddyfarnu cwyn o'r fath, mae'r Trysorlys yn marcio ei waith cartref ei hun i bob pwrpas.
Certainly, Cabinet Secretary, you have Plaid Cymru's full support in trying to get that full reimbursement because it does leave our budgets with a shortfall in future years and a concerning picture.
In terms of the issue of student finance in particular, I'm sure a lot of graduates welcomed the First Minister's clarity yesterday that the Welsh Government will not freeze student loan repayment thresholds yourselves. Can I ask what discussions took place between the Welsh Government and the UK Treasury on this very matter prior to the announcement being made, and also how you intend progressing this? Because it will be a divergence between England and Wales—rightly so, since this is an issue that's devolved—but it doesn't seem that Wales was consulted prior to this announcement being made. I'd welcome clarity on that matter.
Yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych gefnogaeth lawn Plaid Cymru i geisio'r ad-daliad llawn hwnnw, gan ei fod yn gadael ein cyllidebau gyda diffyg yn y blynyddoedd i ddod, a darlun sy'n peri cryn bryder.
O ran mater cyllid myfyrwyr yn enwedig, rwy'n siŵr fod llawer o raddedigion wedi croesawu eglurder y Prif Weinidog ddoe na fydd Llywodraeth Cymru’n rhewi trothwyon ad-dalu benthyciadau myfyrwyr eich hunain. A gaf i ofyn pa drafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys y DU ar yr union fater hwn cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud, a hefyd sut y bwriadwch fwrw ymlaen â hyn? Oherwydd bydd gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr—yn briodol felly, gan fod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli—ond nid yw'n ymddangos y bu unrhyw ymgynghori â Chymru cyn gwneud y cyhoeddiad hwn. Buaswn yn croesawu eglurder ar y mater.
I thank the Member for that question. The initial discussions on this matter were not held with the Treasury, they were held between the Department for Education in England and Ministers here in the Welsh Government. There has been a subsequent meeting involving Treasury Ministers, and I, therefore, attended that meeting. Discussions continue at official level and I have no doubt that Ministers will be drawn into further discussions as the consequences of a different system in Wales—. And there's nothing different about there being a different system; it's been like that since the system of student loans was first established. The detail of this divergence continues to be discussed, as I say, between officials at the present moment and will, no doubt, between Ministers as those conversations develop.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ni chynhaliwyd y trafodaethau cychwynnol ar y mater gyda'r Trysorlys, fe'u cynhaliwyd rhwng yr Adran Addysg yn Lloegr a Gweinidogion yma yn Llywodraeth Cymru. Cafwyd cyfarfod wedi hynny gyda Gweinidogion y Trysorlys, ac felly, mynychais y cyfarfod hwnnw. Mae trafodaethau'n parhau ar lefel swyddogol ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Gweinidogion yn cael eu tynnu i mewn i drafodaethau pellach wrth i ganlyniadau system wahanol yng Nghymru—. Ac nid oes unrhyw beth yn wahanol am fod â system wahanol; mae wedi bod felly ers sefydlu system fenthyciadau myfyrwyr. Fel y dywedaf, mae manylion y gwahaniaeth hwn yn parhau i gael eu trafod rhwng swyddogion ar hyn o bryd, a heb os, byddant yn cael eu trafod rhwng Gweinidogion wrth i'r sgyrsiau hynny ddatblygu.
3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar fusnesau yn sgil newidiadau i werthoedd ardrethol? OQ63783
3. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact on businesses of changes to rateable values? OQ63783
Llywydd, revaluations maintain fairness in the system. No additional revenue is raised through revaluation. Some bills increase, some decrease and many do not change. That reflects relative movement in the non-domestic property market and the continued provision of permanent reliefs. We will provide £116 million in transitional relief over the next two years.
Lywydd, mae ailbrisiadau'n cynnal tegwch yn y system. Ni chodir unrhyw refeniw ychwanegol drwy ailbrisio. Mae rhai biliau'n cynyddu, mae rhai'n lleihau a cheir llawer nad ydynt yn newid. Mae hynny'n adlewyrchu symudiad cymharol yn y farchnad eiddo annomestig a'r ddarpariaeth barhaus o ryddhadau parhaol. Byddwn yn darparu £116 miliwn mewn cymorth pontio dros y ddwy flynedd nesaf.
Thank you, Cabinet Secretary. Yesterday, the First Minister suggested that people should get off Netflix to support their local pubs. However, the difficulties facing Welsh pubs are not the fault of the punters, they are the fault of this Government actively working against them. That's the clear message that Paul Davies and I heard from more than 100 businesses at our recent online business forum, that business rates are the single greatest concern they face at present. While the Cabinet Secretary's announcement yesterday of a further £8 million of support for the hospitality sector is welcome, it merely defers the problem rather than addressing it. It also does nothing for other high-street businesses, which are struggling under the combined pressures of increased business rates, higher national insurance contributions, and inflation higher now than it was 12 months ago. These businesses are fundamental to the success of our high streets, town centres and rural communities. The First Minister said that the Cabinet Secretary's interest has never been in the economy, but what would you say to those businesses in west Wales that are on the cusp of closing for good?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, awgrymodd y Prif Weinidog y dylai pobl roi'r gorau i wylio Netflix a chefnogi eu tafarndai lleol. Fodd bynnag, nid bai'r cwsmeriaid yw'r anawsterau sy'n wynebu tafarndai Cymru, ond bai'r Llywodraeth hon sy'n mynd ati'n weithredol i weithio yn eu herbyn. Dyna'r neges glir a glywais i a Paul Davies gan fwy na 100 o fusnesau yn ein fforwm busnes ar-lein yn ddiweddar, mai ardrethi busnes yw'r pryder mwyaf y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd. Er bod cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet ddoe ynglŷn ag £8 miliwn pellach o gymorth i'r sector lletygarwch i'w groesawu, dim ond gohirio'r broblem y mae'n ei wneud yn hytrach na mynd i'r afael â hi. Nid yw'n gwneud unrhyw beth i fusnesau eraill y stryd fawr chwaith, sy'n ei chael hi'n anodd delio â phwysau cyfunol ardrethi busnes uwch, cyfraniadau yswiriant gwladol uwch, a lefelau chwyddiant sy'n uwch nawr na'r hyn oeddent 12 mis yn ôl. Mae'r busnesau hyn yn hanfodol i lwyddiant ein strydoedd mawr, canol ein trefi a chymunedau gwledig. Dywedodd y Prif Weinidog nad yw Ysgrifennydd y Cabinet erioed wedi bod â diddordeb yn yr economi, ond beth y byddech chi'n ei ddweud wrth y busnesau hynny yng ngorllewin Cymru sydd ar fin cau am byth?
Llywydd, I was very happy to agree that Welsh Government officials should attend the meeting that the Member held with Paul Davies. And when he isn't in rhetorical overdrive, there were some sensible points in what he said. It's true that challenges facing business are multifaceted, and business rates is one, but by no means the only component in the challenges that people face. Twenty-five per cent of all pubs in Wales pay no business rates at all. That was true before yesterday. Just under half of them receive help from the permanent scheme of business rate relief here in Wales. If business rates were the only thing that was making a difference in the sector, that really couldn't possibly be the case.
Now, the First Minister was making a sensible point when she said that changing patterns of the way in which people spend their leisure time have an impact upon hospitality businesses. It would be foolish to deny that, wouldn't it? If you just simply look at what the British social attitudes survey and other surveys tell us, they tell us that people are spending more time at home and less time out in ways in which they would have done in the past. One of the ways in which people who are concerned about local businesses can support those local businesses is to use them more often. It was a very sensible and straightforward point that the First Minister made.
Businesses in west Wales, particularly in relation to revaluation, the question that the Member had on the order paper, will benefit from the fact that, here in Wales, we have a scheme that will give over £100 million—£100 million more—over the next three years to smooth the path for the less than half of Welsh businesses that find that their total rates liability has gone up this year. That's a very significant investment that the public is making.
Lywydd, roeddwn yn fwy na pharod i gytuno y dylai swyddogion Llywodraeth Cymru fynychu'r cyfarfod a gynhaliodd yr Aelod gyda Paul Davies. A phan nad yw'n pregethu ei rethreg, roedd rhai pwyntiau synhwyrol yn yr hyn a ddywedodd. Mae'n wir fod yr heriau sy'n wynebu busnesau'n amlweddog, ac mae ardrethi busnes yn un ohonynt, ond nid dyna'r unig her y mae pobl yn ei hwynebu o bell ffordd. Nid yw 25 y cant o'r holl dafarndai yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Roedd hynny'n wir cyn ddoe. Mae ychydig o dan eu hanner yn cael cymorth drwy'r cynllun parhaol o ryddhad ardrethi busnes yma yng Nghymru. Os mai ardrethi busnes fyddai'r unig beth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth yn y sector, ni allai hynny fod yn wir mewn gwirionedd.
Nawr, roedd y Prif Weinidog yn gwneud pwynt synhwyrol pan ddywedodd fod patrymau newidiol y ffordd y mae pobl yn treulio eu hamser hamdden yn cael effaith ar fusnesau lletygarwch. Byddai'n ffôl gwadu hynny, oni fyddai? Os edrychwch ar yr hyn y mae arolwg o agweddau cymdeithasol Prydain ac arolygon eraill yn ei ddweud wrthym, maent yn dweud wrthym fod pobl yn treulio mwy o amser gartref a llai o amser allan yn y ffordd y byddent wedi'i wneud yn y gorffennol. Un o'r ffyrdd y gall pobl sy'n poeni am fusnesau lleol gefnogi'r busnesau lleol hynny yw eu defnyddio'n amlach. Roedd y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog yn synhwyrol a syml iawn.
Bydd busnesau yng ngorllewin Cymru, yn enwedig mewn perthynas ag ailbrisio, y cwestiwn a oedd gan yr Aelod ar y papur trefn, yn elwa o'r ffaith bod gennym gynllun yma yng Nghymru a fydd yn rhoi dros £100 miliwn—£100 miliwn yn fwy—dros y tair blynedd nesaf i lyfnhau'r llwybr ar gyfer y llai na hanner o fusnesau Cymru sy'n wynebu ardrethi uwch eleni. Mae'r buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud yn sylweddol iawn.
On Monday evening I had the pleasure of meeting with Prestatyn business owners who are the backbone of our local communities and economy. It was an important opportunity to listen to their experiences, understand the pressures they are facing, and discuss the support that's available from this Welsh Labour Government. Cabinet Secretary, could you explain how the Welsh Government has supported Welsh businesses through the retail, leisure and hospitality rates relief? They also asked if there could be greater transparency why some have total rates relief and others don't.
Nos Lun, cefais y pleser o gyfarfod â pherchnogion busnesau ym Mhrestatyn sy'n asgwrn cefn i'n heconomi a'n cymunedau lleol. Roedd yn gyfle pwysig i wrando ar eu profiadau, deall y pwysau y maent yn ei wynebu, a thrafod y cymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi egluro sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi busnesau Cymru drwy ryddhad ardrethi i'r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch? Fe wnaethant ofyn hefyd am fwy o dryloywder ynghylch pam y mae rhai, ac nid eraill, cael rhyddhad ardrethi llawn.
I thank Carolyn Thomas for that. Look, I accept that, for many businesses, understanding the pattern of small businesses' rates liability and rate relief is a complex matter. The bill you get is a combination of your rateable value and the level of the multiplier. Rateable value is reassessed every three years, not by the Welsh Government, but by the Valuation Office Agency, an independent organisation that does that on our behalf.
For the first time since 2010, the multiplier has gone down for every business in Wales next year, and we have taken the opportunity, with new powers that we have in Wales, to set differential multipliers for the first time, so that high-street shops, small and medium-sized high-street shops, will have an even lower multiplier than the rest of Welsh businesses. That's because they face unique challenges, because the business that they do can more easily be carried out online than, for example, hospitality businesses. Was it here I said in the Chamber before that you can't eat a lasagne online? But you can buy a book online. And if you're a high-street shop that's a bookseller, then maybe 25 per cent of your business in 2026 is being conducted in that way, compared to what it would have been a decade ago. That's why we have provided that extra help for them.
And then yesterday, we were able to announce an £8 million investment for the next financial year. Five million pounds of that is the money we know we will get as a result of the UK scheme; £3 million of it is money that comes from the Welsh Government's budget. So, we are providing that 15 per cent relief not simply for pubs and music venues, as in England, but for the whole of the hospitality sector. I'm glad we are able to do it, even if, as the Member rightly points out, it adds another layer of complexity into the system.
Diolch i Carolyn Thomas. Edrychwch, rwy'n derbyn, i lawer o fusnesau, fod deall patrwm rhwymedigaeth ardrethi a rhyddhad ardrethi busnesau bach yn fater cymhleth. Mae'r bil a gewch yn gyfuniad o'ch gwerth ardrethol a lefel y lluosydd. Caiff gwerth ardrethol ei ailasesu bob tair blynedd, nid gan Lywodraeth Cymru, ond gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sefydliad annibynnol sy'n gwneud hynny ar ein rhan.
Am y tro cyntaf ers 2010, mae'r lluosydd wedi lleihau ar gyfer pob busnes yng Nghymru y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi achub ar y cyfle, gyda phwerau newydd sydd gennym yng Nghymru, i osod lluosyddion gwahaniaethol am y tro cyntaf, fel y bydd gan siopau'r stryd fawr, siopau bach a chanolig eu maint ar y stryd fawr, luosydd hyd yn oed yn is na gweddill busnesau Cymru. Y rheswm am hynny yw eu bod yn wynebu heriau unigryw, gan y gellir cynnal y busnes a wnânt yn haws ar-lein na busnesau lletygarwch, er enghraifft. Ai yma yn y Siambr y dywedais na allwch fwyta lasagne ar-lein? Ond gallwch brynu llyfr ar-lein. Ac os ydych chi'n siop sy'n gwerthu llyfrau ar y stryd fawr, efallai fod 25 y cant o'ch busnes yn 2026 yn cael ei gynnal yn y ffordd honno, o gymharu â'r hyn y byddai'r ffigur wedi bod ddegawd yn ôl. Dyna pam ein bod wedi darparu'r cymorth ychwanegol hwnnw iddynt.
Ac yna ddoe, fe wnaethom gyhoeddi buddsoddiad o £8 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Daw £5 miliwn o hynny o'r arian y gwyddom y byddwn yn ei gael o ganlyniad i gynllun y DU; mae £3 miliwn ohono’n dod o gyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn darparu’r rhyddhad o 15 y cant hwnnw nid yn unig i dafarndai a lleoliadau cerddoriaeth, fel sy'n digwydd yn Lloegr, ond i’r sector lletygarwch cyfan. Rwy’n falch ein bod wedi gallu gwneud hynny, hyd yn oed os yw'n ychwanegu haen arall o gymhlethdod i’r system, fel y mae’r Aelod yn ei nodi’n gywir ddigon.
4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch cynllyn 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OQ63801
4. What discussions has the Cabinet Secretary had with Cabinet colleagues regarding the Welsh Government's 'Cymraeg 2050' plan to reach 1 million Welsh speakers by 2050? OQ63801
I thank Lindsay Whittle for the question, Llywydd. We operate across all Government departments to ensure that the Welsh language is mainstreamed in all policy areas. Each Cabinet Secretary has a responsibility to support 'Cymraeg 2050', and I meet regularly with each Cabinet Secretary to discuss developments relevant to their portfolio.
Diolch i Lindsay Whittle am ei gwestiwn, Lywydd. Rydym yn gweithredu ar draws pob un o adrannau'r Llywodraeth i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio ym mhob maes polisi. Mae gan bob Ysgrifennydd Cabinet gyfrifoldeb i gefnogi 'Cymraeg 2050', ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phob Ysgrifennydd Cabinet i drafod datblygiadau sy'n berthnasol i'w portffolio.
I thank the Cabinet Secretary. I like to think positively myself. I look forward to 2050 to witness personally the success of the 'Cymraeg 2050' strategy; I shall be a mere 98 years young. But with the latest annual population survey revealing a worrying loss of 60,000 Welsh speakers in the last few years, it's clear it's not quite as successful in taking root in our communities as we would wish. Given that a language cannot survive solely as a Government milestone or a classroom-only subject, can you please lobby Westminster to ensure that Wales receives its fair share of funding from the digital services tax revenue, and use that budget to support Welsh-medium digital content and services, ensuring that Welsh indeed does become a vibrant, viable choice in our digital and physical spaces?
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n hoffi meddwl yn gadarnhaol fy hun. Rwy'n edrych ymlaen at 2050 i weld llwyddiant y strategaeth 'Cymraeg 2050' drosof fy hun; dim ond 98 oed fyddaf i. Ond gyda'r arolwg poblogaeth blynyddol diweddaraf yn datgelu colled bryderus o 60,000 o siaradwyr Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg nad yw'n gwreiddio mor llwyddiannus yn ein cymunedau ag y byddem yn dymuno. O ystyried na all iaith oroesi fel carreg filltir i Lywodraeth yn unig neu'n bwnc ystafell ddosbarth, a wnewch chi lobïo San Steffan i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid o refeniw'r dreth gwasanaethau digidol, a defnyddio'r gyllideb honno i gefnogi cynnwys a gwasanaethau digidol cyfrwng Cymraeg, i sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn ddewis bywiog a hyfyw yn ein gofodau digidol a ffisegol?
I thank Lindsay Whittle for that. He mentioned the annual population survey. It was a disappointment to see numbers go down a little in it. The decrease is not statistically significant, and the figures do need careful interpretation. As you know, they're no longer official statistics because the response rate to the annual population survey has diminished significantly. They're not as reliable as they were, and the switch to online methods of surveying the population I think can have a particularly unhappy impact on people who report their ability to speak and write Welsh.
So, the figures need to be taken carefully, but I very much agree with the general point that the Member made. The challenge for us in Wales is to make sure that Welsh is a living language, a language of every day, that the many, many young people who learn the language in school are confident to use it in other parts of their lives. We know from recent reports that there are some parts of young people's lives where they're more likely to feel comfortable using the Welsh language—in sport, in culture and so on. But making sure that it is just as easy to use the Welsh language in the new digital world that some of us are having to get used to is absolutely essential.
If English-driven algorithms mean that every time you try and use something, the English language is pressed in front of you and you have to go hunting for the Welsh way of doing things, then that means that young people will not do that. The investment we are able to make in making sure that the digital world is a bilingual world, a world in which the choice of using the Welsh language is as easy as it is to use any other language, is absolutely essential if we're going to, as the Member said, make sure that Welsh is a language that is used in every aspect of our lives.
Diolch i Lindsay Whittle am hynny. Soniodd am yr arolwg poblogaeth blynyddol. Roedd yn siom gweld niferoedd yn gostwng ychydig ynddo. Nid yw'r gostyngiad yn ystadegol arwyddocaol, ac mae angen dehongli'r ffigurau'n ofalus. Fel y gwyddoch, nid ydynt bellach yn ystadegau swyddogol am fod y gyfradd a ymatebodd i'r arolwg poblogaeth blynyddol wedi lleihau'n sylweddol. Nid ydynt mor ddibynadwy ag yr oeddent, ac yn fy marn i mae'r newid i ddulliau ar-lein o arolygu'r boblogaeth yn gallu cael effaith arbennig o anesmwyth ar bobl sy'n adrodd eu gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg.
Felly, mae angen bod yn ofalus ynghylch y ffigurau, ond rwy'n cytuno'n fawr â'r pwynt cyffredinol a wnaeth yr Aelod. Yr her i ni yng Nghymru yw sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, yn iaith bob dydd, fod y bobl ifanc niferus sy'n dysgu'r iaith yn yr ysgol yn hyderus i'w defnyddio mewn rhannau eraill o'u bywydau. Gwyddom o adroddiadau diweddar fod rhai rhannau o fywydau pobl ifanc lle maent yn fwy tebygol o deimlo'n gyfforddus i ddefnyddio'r Gymraeg—mewn chwaraeon, mewn diwylliant ac yn y blaen. Ond mae gwneud yn siŵr ei bod yr un mor hawdd defnyddio'r Gymraeg yn y byd digidol newydd y mae rhai ohonom yn gorfod dod i arfer ag ef yn hollol hanfodol.
Os yw algorithmau Saesneg yn golygu bod yr iaith Saesneg yn cael ei wthio o'ch blaen bob tro y byddwch chi'n ceisio defnyddio rhywbeth, a bod yn rhaid i chi fynd i chwilio am y ffordd Gymraeg o wneud pethau, mae hynny'n golygu na fydd pobl ifanc yn gwneud hynny. Mae'r buddsoddiad y gallwn ei wneud i sicrhau bod y byd digidol yn fyd dwyieithog, byd lle mae'r dewis i ddefnyddio'r Gymraeg mor hawdd ag y mae defnyddio unrhyw iaith arall, yn gwbl hanfodol os ydym yn mynd i wneud yn siŵr fod y Gymraeg yn iaith sy'n cael ei defnyddio ym mhob agwedd ar ein bywydau.
Ysgrifennydd Cabinet, dros y pum mlynedd diwethaf, mae yna lawer o bethau y mae'r ddau ohonom ni wedi anghytuno arnynt, ond un peth rydym ni yn cytuno arno yw pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a phwysigrwydd targed 'Cymraeg 2050'. Tua blwyddyn yn ôl, roeddem ni wedi gweld arweinydd plaid Reform, Nigel Farage, yn dweud ei fod e'n moyn cael gwared ar y targed 'Cymraeg 2050'. Dŷn ni'n gwybod, fel Ceidwadwyr Cymreig, yr un peth rydych chi'n gwybod, sef bod cael targed yng nghanol y Llywodraeth yn sicrhau bod yr holl Lywodraeth yn symud tuag at gyrraedd y targed hwn. Heb darged, byddai'n anodd gweld sut ydym ni'n mynd i dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru. Felly, pa mor bwysig ydych chi'n meddwl yw hi nad yw ein hiaith Gymraeg ddim yn cael ei defnyddio fel pêl-droed wleidyddol, sef beth mae plaid Reform yn moyn ei wneud, ond yn fater sy'n digwydd yn drawsbleidiol y mae pawb yng Nghymru yn prynu mewn iddo?
Cabinet Secretary, over the past five years, there are many things that we have disagreed on, but one thing that we do agree on is the importance of the Welsh language and the importance of the 'Cymraeg 2050' target. Around a year ago, we saw the leader of the Reform party, Nigel Farage, say that he wanted to scrap the 'Cymraeg 2050' target. We as Welsh Conservatives know, as you know, that having a target at the heart of Government means that the whole Government is moving towards achieving that target. Without a target, it would be difficult to see how we could grow the number of Welsh speakers here in Wales. So, how important do you think it is that our Welsh language isn't used as a political football, which is what Reform want to do, but that it is a cross-party issue and that everyone in Wales should buy into it?
Diolch yn fawr i Tom Giffard am y cwestiwn. Pan oedd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) o flaen y Senedd y flwyddyn diwethaf, roeddwn i'n falch ein bod ni wedi gallu pasio'r Bil yn unfrydol dros y Siambr i gyd. Roedd hynny'n rhywbeth pwysig, i ddangos i bobl yng Nghymru ein bod ni yma yn y Siambr presennol i gyd, bron, tu ôl i'r iaith Gymraeg, yn cefnogi'r iaith Gymraeg, a ddim yn defnyddio'r iaith Gymraeg, fel rwyt ti'n dweud, fel rhywbeth gwleidyddol. Dwi'n teimlo'n siomedig y bydd un parti yn yr etholiadau ar gyfer y Senedd ym mis Mai eisiau defnyddio'r iaith Gymraeg fel yna—nid yn uno pobl, ond yn trio perswadio rhai pobl nad yw'r iaith Gymraeg ddim yn bwysig iddyn nhw. Rŷn ni'n gwybod bod pobl yng Nghymru, pobl sy'n siarad Cymraeg a phobl sydd ddim yn siarad Cymraeg, yn falch bod iaith gyda ni yma yng Nghymru, a dyna beth dwi eisiau ei weld yn y dyfodol.
I thank Tom Giffard for that question. When the Welsh Language and Education (Wales) Bill was going through the Senedd last term, we were pleased to pass the Bill unanimously across the Chamber. That was an important thing, to show the people of Wales that, here in the current Chamber, we are nearly all behind the Welsh language and support it, and we don't use the Welsh language, as you said, as a political football. I am disappointed that one party in the May election for the Senedd will want to use the language in that way—not to unify people, but to persuade some people that the Welsh language isn't important to them. We know that the people of Wales, those who speak Welsh and those who don't speak Welsh, are proud that we have our own language here in Wales, and that's what I want to see in the future.
Mae cwestiwn 5 [OQ63800] wedi'i dynnu nôl.
Question 5 [OQ63800] has been withdrawn.
6. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i effaith ei gofyniad gosod 182 diwrnod ar hyfywedd busnesau hunanarlwyo? OQ63796
6. What consideration has the Welsh Government given to the impact of its 182-day letting requirement on the viability of self-catering businesses? OQ63796
The regulatory impact assessment for this policy was published alongside the associated legislation in May 2022. Following implementation of changes, we now know that 60 per cent of holiday lets have met the revised letting criteria, more than predicted by the industry or indeed anticipated in the RIA.
Cyhoeddwyd yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y polisi hwn ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth gysylltiedig ym mis Mai 2022. Ar ôl gweithredu'r newidiadau, rydym bellach yn gwybod bod 60 y cant o lety gwyliau wedi bodloni'r meini prawf diwygiedig ar gyfer gosod, mwy nag a ragwelwyd gan y diwydiant neu a ragwelwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Thank you for your answer, Cabinet Secretary. A constituent, Mr Daniel Gwatkin, who runs a small business, Tŷ Poeth Holiday Lets, just outside Machynlleth, contacted me last week. He has reviewed the Welsh Government's latest position and has said that, having reviewed carefully against the operational reality of his own business, these changes do not prevent failure for many small rural holiday let businesses. He goes on to explain that Tŷ Poeth is a historic property subdivided into several small self-catering units operated as one integrated rural business, and the current framework continues to treat each unit in isolation. I mention this because there are many businesses that have raised that exact same example with me. For him, he says the system assumes all-year-round demand exists across rural Wales, which it doesn't, and it penalises diversification and creates a cliff edge where marginal shortfalls mean the collapse of small businesses such as his. I wonder, Cabinet Secretary, if you could advise me how I should respond to this constituent. Would you be willing to look at his specific situation? Can I forward this e-mail exchange to you in order that you and your officials can review it and see this as not just one business, but as an example of the situation that many businesses are in?
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Daeth etholwr, Mr Daniel Gwatkin, sy'n rhedeg busnes bach, Tŷ Poeth Holiday Lets, ychydig y tu allan i Fachynlleth, i gysylltiad â mi yr wythnos diwethaf. Mae wedi adolygu safbwynt diweddaraf Llywodraeth Cymru ac wedi dweud, ar ôl adolygu'n ofalus yn erbyn realiti gweithredol ei fusnes ei hun, nad yw'r newidiadau hyn yn atal methiant i lawer o fusnesau llety gwyliau gwledig bach. Mae'n mynd rhagddo i egluro bod Tŷ Poeth yn eiddo hanesyddol wedi'i rannu'n nifer o unedau hunanddarpar bach sy'n cael eu gweithredu fel un busnes gwledig integredig, ac mae'r fframwaith presennol yn parhau i drin pob uned ar wahân. Rwy'n sôn am hyn am fod llawer o fusnesau wedi codi'r un enghraifft yn union. Iddo ef, mae'n dweud bod y system yn cymryd yn ganiataol fod galw drwy gydol y flwyddyn ar draws y Gymru wledig, ac nid yw hynny'n wir, ac mae'n cosbi arallgyfeirio ac yn creu ymyl dibyn lle mae diffygion ymylol yn golygu bod busnesau bach fel ei un ef yn methu. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthyf sut y dylwn ymateb i'r etholwr dan sylw. A fyddech chi'n fodlon edrych ar ei sefyllfa benodol ef? A gaf i anfon yr ohebiaeth e-bost hon atoch er mwyn i chi a'ch swyddogion allu ei hadolygu a gweld hwn nid fel un busnes, ond fel enghraifft o'r sefyllfa y mae llawer o fusnesau ynddi?
On the final point the Member raised, of course, I am always willing to look at any examples that Members here would raise. Mr George says that this is a small business. Nothing prevents the small business from operating if it doesn’t take customers for 182 days a year. It simply means that that business isn’t able to claim small business rate relief. Nobody is prevented from letting a property for 180 days, but you are not able to claim small business rate relief if you are not taking customers for half the year. That seems to me to not be an unreasonable expectation of a business.
The changes that I announced on 21 January do deal with the cliff edge issue that the Member raised. I’ve heard that as well from the sector and I’m sympathetic to it. I understand that this is an industry that is affected by different summers. You get a good summer, you get more customers, you get a poor summer and you have fewer. As a result, we no longer require businesses to let for 182 days every year. They can even that out over a three-year period, which takes account of the fact that it is a cyclical business in that way and the cliff edge therefore has been addressed.
The cliff edge is addressed in a second way in the changes as well. I am sympathetic as well to what I have heard from the sector. If you fall below 182 days and you now have to pay council tax like everybody else, then not only do you have to pay the council tax, but in many parts of Wales you have to pay a premium as well. That’s a significant sum of money, so we will legislate so that, in the first year that a business isn’t operating at 182 days over that extended period, they will only be charged the council tax simple, with no premiums attached to it, and that's also designed to avoid the cliff edge in the way that Russell George has outlined.
While I'm very happy to look at the case that he has highlighted this afternoon, I would say to him that the changes we have introduced are exactly designed to attend to the point that he raised.
Ar y pwynt olaf a gododd yr Aelod, wrth gwrs, rwyf bob amser yn barod i edrych ar unrhyw enghreifftiau y byddai'r Aelodau yma yn eu codi. Mae Mr George yn dweud bod hwn yn fusnes bach. Nid oes unrhyw beth yn atal y busnes bach rhag gweithredu os nad yw'n derbyn cwsmeriaid am 182 diwrnod y flwyddyn. Mae'n golygu'n syml nad yw'r busnes hwnnw'n gallu hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach. Nid oes unrhyw un yn cael ei atal rhag gosod eiddo am 180 diwrnod, ond ni allwch hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach os nad ydych chi'n derbyn cwsmeriaid am hanner y flwyddyn. Nid yw'n ymddangos i mi fod hynny'n rhywbeth afresymol i'w ddisgwyl gan fusnes.
Mae'r newidiadau a gyhoeddais ar 21 Ionawr yn ymdrin â'r mater ymyl dibyn a gododd yr Aelod. Clywais innau hynny gan y sector ac rwy'n cydymdeimlo. Rwy'n deall bod hwn yn ddiwydiant yr effeithir arno gan hafau gwahanol. Rydych chi'n cael haf da, rydych chi'n cael mwy o gwsmeriaid, rydych chi'n cael haf gwael ac mae gennych chi lai. O ganlyniad, nid ydym bellach yn gofyn i fusnesau osod am 182 diwrnod bob blwyddyn. Gallant gyfartalu hynny dros gyfnod o dair blynedd, sy'n ystyried y ffaith ei fod yn fusnes cylchol yn y ffordd honno ac felly mae ymyl y dibyn wedi cael sylw.
Ymdrinnir ag ymyl y dibyn mewn ail ffordd yn y newidiadau hefyd. Rwy'n cydymdeimlo hefyd â'r hyn a glywais i gan y sector. Os ydych chi'n disgyn islaw 182 diwrnod ac yn gorfod talu'r dreth gyngor fel pawb arall nawr, nid yn unig y mae'n rhaid i chi dalu'r dreth gyngor, mewn sawl rhan o Gymru rhaid i chi dalu premiwm hefyd. Mae hwnnw'n swm sylweddol o arian, felly byddwn yn deddfu fel mai dim ond y dreth gyngor yn syml a fydd yn daladwy yn y flwyddyn gyntaf nad yw busnes yn gweithredu ar 182 diwrnod dros y cyfnod estynedig hwnnw, heb unrhyw bremiymau ynghlwm wrtho, ac mae hynny hefyd wedi'i gynllunio i osgoi ymyl dibyn yn y ffordd y mae Russell George wedi'i nodi.
Er fy mod yn hapus iawn i edrych ar yr achos y mae wedi'i ddisgrifio y prynhawn yma, hoffwn ddweud wrtho fod y newidiadau a gyflwynwyd gennym wedi'u llunio'n llwyr i ateb y pwynt a gododd.
The Welsh Government proposes to enable an allowance of up to 14 days per year for charitable donations to count towards the letting criteria. The intention, I am told, is to avoid disincentivising such donations, which will support a broader public benefit for disadvantaged people, rather than to make them a specific requirement. Why 14 days? Why can't the Government allow providers to provide unlimited charitable use? Allowing cheap or free use to people from disadvantaged backgrounds appears to me a good outcome.
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell galluogi lwfans o hyd at 14 diwrnod y flwyddyn i roddion elusennol gyfrif tuag at y meini prawf gosod. Dywedir wrthyf mai'r bwriad yw osgoi datgymell rhoddion o'r fath, a fydd yn cefnogi budd cyhoeddus ehangach i bobl dan anfantais, yn hytrach na'u gwneud yn ofyniad penodol. Pam 14 diwrnod? Pam na all y Llywodraeth ganiatáu i ddarparwyr ddarparu defnydd elusennol diderfyn? Mae caniatáu defnydd rhad neu am ddim i bobl o gefndiroedd difreintiedig i'w weld i mi yn ganlyniad da.
Because that would be a barn door to abuse. That's why I wouldn't be prepared to allow for unlimited use for charitable purposes. This is a self-assessment system. There are no Welsh Government officials or letting police going around checking whether businesses actually are offering accommodation free for 14 days. I'm told by the industry that they do, and that that would be a standard sort of approach, and, again, I'm willing to go with the industry on that. But the only way we will know it is because that's what the business tells us is happening. If there was unlimited relief, I'm quite sure we would hear from more businesses who would be apparently operating on a charitable basis all year around. The reason why we have 14 days is because that protects the taxpayer and responds to what the industry itself has said. I'm very much wanting to encourage those businesses who do offer accommodation for those charitable purposes, and I think 14 days is a reasonable amount of time to recognise the contribution they make.
Oherwydd byddai hynny'n agor y drws i gamfanteisio. Dyna pam na fyddwn yn barod i ganiatáu defnydd diderfyn at ddibenion elusennol. Mae hon yn system hunanasesu. Nid oes unrhyw swyddogion Llywodraeth Cymru na heddlu gosod llety'n mynd o gwmpas i wirio a yw busnesau'n cynnig llety am ddim am 14 diwrnod mewn gwirionedd. Mae'r diwydiant yn dweud wrthyf eu bod nhw'n gwneud, ac y byddai hynny'n fath o ddull safonol, ac unwaith eto, rwy'n barod i fynd gyda'r diwydiant ar hynny. Ond yr unig ffordd y byddwn ni'n gwybod yw oherwydd mai dyna mae'r busnes yn ei ddweud wrthym sy'n digwydd. Pe bai rhyddhad diderfyn, rwy'n eithaf siŵr y byddem yn clywed gan fwy o fusnesau a fyddai'n gweithredu ar sail elusennol drwy gydol y flwyddyn yn ôl pob golwg. Y rheswm pam y mae gennym 14 diwrnod yw oherwydd bod hynny'n diogelu'r trethdalwr ac yn ymateb i'r hyn y mae'r diwydiant ei hun wedi'i ddweud. Rwy'n awyddus iawn i annog y busnesau sy'n cynnig llety at y dibenion elusennol hyn, ac rwy'n credu bod 14 diwrnod yn gyfnod rhesymol o amser i gydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud.
Cabinet Secretary, the 182-day rule has been an absolute disaster for many self-catering businesses and tourism across Wales. On top of everything that Labour are doing to punish businesses across our country, businesses have closed down, jobs have been lost, and across Wales, Welsh tourism has been negatively impacted in a lot of areas in my region and across Wales. Industry bodies themselves warned that this policy could wipe out the tourism sector.
Near my home in Monmouthshire, there's a beautiful windmill—you might be aware of it—in Llancayo. It's self-catering accommodation, and that has been negatively impacted. Monmouthshire County Council itself use it in pictures to highlight how wonderful Monmouthshire is, and yet that business is now in jeopardy because of not being able to review these businesses on a case-by-case basis, which they really need to be. They are individual and all different, as the Member outlined just now.
I would like you, Cabinet Secretary, if possible, to commit to a publishing an up-to-date statement showing the impact this policy has had on tourism, including business closures, job losses and changes to local authority revenue. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rheol 182 diwrnod wedi bod yn drychineb llwyr i lawer o fusnesau hunanddarpar a thwristiaeth ledled Cymru. Yn ogystal â phopeth y mae Llafur yn ei wneud i gosbi busnesau ledled ein gwlad, mae busnesau wedi cau, swyddi wedi'u colli, ac mae twristiaeth Cymru wedi cael ei heffeithio'n negyddol mewn llawer o ardaloedd yn fy rhanbarth i ac ar draws Cymru. Rhybuddiodd cyrff diwydiant eu hunain y gallai'r polisi hwn ddinistrio'r sector twristiaeth.
Ger fy nghartref yn sir Fynwy, mae yna felin wynt hardd—efallai eich bod chi'n gwybod amdani—yn Llancaeo. Mae'n llety hunanddarpar, ac mae hynny wedi cael ei effeithio'n negyddol. Mae Cyngor Sir Fynwy ei hun yn ei defnyddio mewn lluniau i dynnu sylw at ba mor wych yw sir Fynwy, ac eto mae'r busnes hwnnw bellach mewn perygl am na allant adolygu'r busnesau hyn fesul achos, ac mae angen iddynt allu gwneud hynny. Maent yn unigryw a phob un yn wahanol, fel y nododd yr Aelod nawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, os yn bosib, hoffwn i chi ymrwymo i gyhoeddi datganiad cyfredol sy'n dangos yr effaith y mae'r polisi hwn wedi'i chael ar dwristiaeth, gan gynnwys cau busnesau, colli swyddi a newidiadau i refeniw awdurdodau lleol. Diolch.
In my original answer, I gave the Member some facts about what the impact of the change has been. Sixty per cent of Welsh businesses meet the 182-day threshold. That's more than we expected. It's more than the industry expected. Let me remind her why this change was necessary. The number of short-term lets in Wales doubled between 2013 and 2019. There was a further 60 per cent increase from 2019 to 2023. That was an absolutely unsustainable growth. Here are the three reasons why change was needed.
First of all, it created a significant oversupply in the Welsh market. There simply were too many businesses chasing too few people wanting to book accommodation at them. Secondly, it led to a significant impact on the revenues available to local authorities as those properties moved out of paying council tax and claimed small business rate relief. Thirdly, it had a detrimental impact on the communities in which that industry has to operate. Every property that switched into short-term letting was a property not available for sale and not available for long-term rent in communities where people wanted to remain, wanted to live their lives and found themselves prevented from doing so by the headlong way in which properties were being moved into the short-term letting market. That was completely unsustainable and that's why the change was necessary.
Yn fy ateb gwreiddiol, rhoddais rai ffeithiau i'r Aelod ynglŷn â beth yw effaith y newid. Mae 60 y cant o fusnesau Cymru yn cyrraedd y trothwy o 182 diwrnod. Mae hynny'n fwy nag y disgwyliem. Mae'n fwy nag y disgwyliai'r diwydiant. Gadewch imi ei hatgoffa pam y mae'r newid hwn yn angenrheidiol. Dyblodd nifer y darpariaethau llety gosod tymor byr yng Nghymru rhwng 2013 a 2019. Bu cynnydd pellach o 60 y cant rhwng 2019 a 2023. Roedd hwnnw'n dwf hollol anghynaladwy. Dyma'r tri rheswm pam y mae angen newid.
Yn gyntaf oll, creodd orgyflenwad sylweddol yn y farchnad Gymreig. Yn syml, roedd gormod o fusnesau'n cystadlu am nifer rhy fach o bobl a oedd eisiau archebu llety ynddynt. Yn ail, arweiniodd at effaith sylweddol ar y refeniw sydd ar gael i awdurdodau lleol wrth i'r eiddo symud o dalu'r dreth gyngor a hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach. Yn drydydd, cafodd effaith niweidiol ar y cymunedau y mae'n rhaid i'r diwydiant hwnnw weithredu ynddynt. Roedd pob eiddo a newidiodd yn llety gosod tymor byr yn eiddo nad oedd ar gael i'w werthu ac nad oedd ar gael i'w osod ar rent yn hirdymor mewn cymunedau lle roedd pobl eisiau aros, eisiau byw eu bywydau, a chaent eu hatal rhag gwneud hynny gan y ffordd ddifeddwl yr oedd eiddo'n cael ei symud i'r farchnad lety gosod tymor byr. Roedd hynny'n gwbl anghynaliadwy a dyna pam yr oedd angen y newid.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i newid ei pholisi trethiant i gefnogi'r sector lletygarwch? OQ63785
7. What plans does the Welsh Government have to alter its taxation policy to support the hospitality sector? OQ63785
I thank the Member, Llywydd. Following the UK Government’s announcement last week, the Welsh Government has confirmed the additional non-domestic rates relief we will provide in Wales. Sector representatives have estimated that around two thirds of hospitality properties in Wales are likely to already attract relief from existing schemes.
Diolch i'r Aelod, Lywydd. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r rhyddhad ardrethi annomestig ychwanegol y byddwn yn ei ddarparu yng Nghymru. Mae cynrychiolwyr y sector wedi amcangyfrif bod tua dwy ran o dair o eiddo lletygarwch yng Nghymru eisoes yn debygol o ddenu rhyddhad o gynlluniau presennol.
Thank you for the response, Cabinet Secretary. No-one could have failed to hear the pleas of the hospitality sector in recent months. Every week, we hear of another hospitality business going under. Sadly, your one-year 15 per cent discount is too little too late. At the weekend, the Wales director for the Society of Independent Brewers laid bare the reasons for the dire state of the sector in Wales. He pointed out that if his brewery were on the other side of the Bristol channel, he would pay no business rates at all. Cabinet Secretary, will you now accept that business taxation and non-domestic rates policies are actually harming Welsh food and drink businesses? Rather than one-off reductions, will you now look at a root-and-branch reform of the way we tax hospitality businesses before the pub becomes a thing of the past?
Diolch am yr ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni allai neb fod wedi methu clywed ple'r sector lletygarwch yn ystod y misoedd diwethaf. Bob wythnos, clywn am fusnes lletygarwch arall yn methu. Yn anffodus, mae eich gostyngiad blwyddyn o 15 y cant yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Ar y penwythnos, datgelodd cyfarwyddwr Cymru o Gymdeithas y Bragwyr Annibynnol y rhesymau dros gyflwr difrifol y sector yng Nghymru. Nododd na fyddai'n talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl pe bai ei fragdy ar yr ochr arall i fôr Hafren. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn nawr fod polisïau trethiant busnes ac ardrethi annomestig yn niweidio busnesau bwyd a diod yng Nghymru? Yn hytrach na gostyngiadau untro, a wnewch chi edrych nawr ar ddiwygiadau sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn trethu busnesau lletygarwch cyn i'r dafarn ddod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol?
Well, Llywydd, I think I've already tried to explain this afternoon some of the complexities that lie behind the challenges faced by the sector. But I'll say to Members on the Conservative benches that one of the problems faced by the sector in Wales is the constant talking down of it by people that we've heard from this afternoon. You haven't had a good word to say about hospitality in Wales. Time after time, you stand up and all you have to tell me—[Interruption.]—all you have to tell me is that it's in crisis, that it's about to go under. And sometimes—sometimes—it's important to speak up for this industry, to explain the good that it does, the reasons why there are so many successful businesses in Wales. And just once in a while, if one Member of the Welsh Conservative Party could find it in them to say a good word for a Welsh business, that would help them as well.
Wel, Lywydd, rwy'n credu fy mod eisoes y prynhawn yma wedi ceisio esbonio rhai o'r cymhlethdodau sy'n sail i'r heriau sy'n wynebu'r sector. Ond fe ddywedaf wrth Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr mai un o'r problemau sy'n wynebu'r sector yng Nghymru yw'r lladd cyson arno gan bobl y clywsom ganddynt y prynhawn yma. Nid oes gennych air da i'w ddweud am letygarwch yng Nghymru. Dro ar ôl tro, rydych chi'n codi a'r cyfan sydd gennych i'w ddweud wrthyf—[Torri ar draws.]—y cyfan sydd gennych i'w ddweud wrthyf yw ei fod mewn argyfwng, ei fod ar fin methu. Ac weithiau—weithiau—mae'n bwysig siarad dros y diwydiant hwn, i esbonio'r daioni y mae'n ei wneud, y rhesymau pam y ceir cymaint o fusnesau llwyddiannus yng Nghymru. Ac unwaith yn y pedwar gwynt, pe bai un Aelod o'r Blaid Geidwadol Gymreig yn gallu dod o hyd i air da i'w ddweud am fusnes yng Nghymru, byddai hynny'n eu helpu nhw hefyd.
8. Pa fanteision y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn eu darparu i bobl yng Ngogledd Cymru? OQ63782
8. What benefits will the Welsh Government's budget for 2026-27 deliver for people in North Wales? OQ63782
Llywydd, the 2026-27 final budget ensures that critical public services, on which the people of north Wales rely on, have certainty and the funding to deliver on their priorities. It increases funding for the NHS, it strengthens councils so that they can protect schools, social care and important local services.
Lywydd, mae cyllideb derfynol 2026-27 yn sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus allweddol, y mae pobl gogledd Cymru yn dibynnu arnynt, sicrwydd a chyllid i gyflawni eu blaenoriaethau. Mae'n cynyddu cyllid i'r GIG, mae'n cryfhau cynghorau fel y gallant ddiogelu ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau lleol pwysig.
Thank you for your response, Cabinet Secretary. One of the important areas that people in north Wales are concerned about is public transport and transport more broadly. It was announced in May of last year that it would be a £2.1 billion spent on network north Wales—the north Wales version of the metro that we see down here in south Wales. Now, of that £2.1 billion, Welsh Government have committed just £13 million to see that delivered—that's less than 1 per cent of the funding required to see a metro in north Wales. That compares to nearly £1 billion committed and spent here in south Wales for the south Wales metro. People in north Wales feel like the Welsh Government here—the Labour Welsh Government specifically—do not think about them up in north Wales, and we can see why, when less than 1 per cent of the funding required is not being committed. Do you regret not ensuring that funding is committed for the north Wales metro?
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r meysydd pwysig y mae pobl gogledd Cymru yn poeni amdano yw trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth yn ehangach. Cyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd y byddai £2.1 biliwn yn cael ei wario ar rwydwaith gogledd Cymru—fersiwn gogledd Cymru o'r metro a welwn yma yn ne Cymru. Nawr, o'r £2.1 biliwn hwnnw, nid yw Llywodraeth Cymru ond wedi ymrwymo £13 miliwn er mwyn ei weld yn cael ei gyflawni—mae hynny'n llai nag 1 y cant o'r cyllid sydd ei angen i weld metro yng ngogledd Cymru. Mae hynny'n cymharu â bron i £1 biliwn wedi'i ymrwymo a'i wario yma yn ne Cymru ar gyfer metro de Cymru. Mae pobl gogledd Cymru'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru yma—Llywodraeth Lafur Cymru—yn meddwl amdanynt yng ngogledd Cymru, a gallwn weld pam, pan fo llai nag 1 y cant o'r cyllid sydd ei angen yn cael ei ymrwymo. A ydych chi'n difaru peidio â sicrhau bod cyllid yn cael ei ymrwymo ar gyfer metro gogledd Cymru?
Llywydd, the £13 million is a figure for investment in this financial year, not in the 2026-27 budget, and there's further money in that budget for the delivery of the network north Wales metro, a very important scheme to which the Minister for north Wales is strongly committed.
More generally, Llywydd, across north Wales, people will see the investments that this Welsh Labour Government is making, whether that is the money for the Royal Alexandra Hospital in next year's budget, the orthopaedic surgery hub at Llandudno in next year's budget, money to invest in Bangor city centre in next year's budget, or the money that we are providing the twenty-first century schools programme across the whole of north Wales. In every north Wales community, there are visible examples of the investment that this Welsh Government has made in communities across north Wales. That's what people in north Wales will see for themselves.
Lywydd, mae'r £13 miliwn yn ffigur ar gyfer buddsoddiad yn y flwyddyn ariannol hon, nid yng nghyllideb 2026-27, ac mae arian pellach yn y gyllideb honno ar gyfer cyflawni rhwydwaith metro gogledd Cymru, cynllun pwysig iawn y mae Gweinidog gogledd Cymru wedi ymrwymo'n gryf iddo.
Yn fwy cyffredinol, Lywydd, ar draws gogledd Cymru, bydd pobl yn gweld y buddsoddiadau y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn eu gwneud, boed yn arian ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, yr hyb llawfeddygaeth orthopedig yn Llandudno yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, arian i'w fuddsoddi yng nghanol dinas Bangor yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, neu'r arian a ddarparwn i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar draws gogledd Cymru gyfan. Ym mhob cymuned yng ngogledd Cymru, ceir enghreifftiau gweladwy o'r buddsoddiad y mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi'i wneud mewn cymunedau ar draws y gogledd. Dyna fydd pobl yn y gogledd yn ei weld drostynt eu hunain.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Cefin Campbell.
Finally, question 9, Cefin Campbell.
9. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni argymhellion adroddiad y Comisiwn Cyntaf ar gyfer Cymunedau Cymraeg? OQ63780
9. What progress has been made to achieve the recommendations of the report of the First Commission for Welsh-speaking Communities? OQ63780
Diolch yn fawr i Cefin Campbell, Llywydd. Ers cyhoeddi ein hymateb i adroddiad y comisiwn, rydym wedi bod yn gweithio yn drawsadrannol i wireddu yr argymhellion. Rwyf hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda nifer o randdeiliaid a’m cyd-Weinidogion. Byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd ar gynnydd y gwaith ar 24 Chwefror.
I thank Cefin Campbell, Llywydd. Since publishing our response to the commission's report, we have been working across departments to implement the recommendations. I have also held discussions with a number of stakeholders and my fellow Ministers. I will be making a statement to the Senedd on the progress of the work on 24 February.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr adroddiad cynnydd yna. Fe gofiwch chi fod eich rhagflaenydd chi, Jeremy Miles, oedd wedi dal y portffolio am yr iaith Gymraeg, wedi comisiynu'r gwaith pwysig yma, achos roedd e, fel nifer ohonom ni sydd yn byw mewn cymunedau Cymraeg, wedi gweld dirywiad dros ddegawdau lawer, i'r pwynt lle mae yna argyfwng nawr o safbwynt cynnal y Gymraeg fel iaith fyw yn y math yna o gymunedau, lle mae yna ddwysedd cymharol uchel o siaradwyr.
Nawr, fe gawson ni ymateb y Llywodraeth, wrth gwrs, yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd, a derbynioch chi mewn egwyddor yr argymhellion bron i gyd. Ond beth oedd ar goll, wrth gwrs, oedd cynllun gweithredu ac amserlen glir, a nes eich bod chi'n dweud eich bod chi'n mynd i roi adroddiad cynnydd, dwi wedi bod yn ei gweld hi'n anodd iawn gweld beth yn union ŷch chi wedi bod yn ei wneud dros y naw mis diwethaf o ran rhoi'r argymhellion yna ar waith, a dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, mewn gwirionedd, i sefyllfa'r Gymraeg yn y cymunedau o ddwysedd uchel. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed eich diweddariad chi, gan obeithio ei fod e'n ymateb mewn ffordd frys. Ydych chi'n gallu rhoi, felly, ryw syniad i ni o beth sydd yn debygol o fod yn yr adroddiad yna y prynhawn yma?
Thank you very much, and I very much look forward to that progress report. You will bear in mind that your predecessor, Jeremy Miles, who held the portfolio for the Welsh language, commissioned this important work, because he, like many of us who live in Welsh-speaking communities, had seen a decline over a period of many decades, to the point where there is now a crisis in terms of sustaining the Welsh language as a living language in those kinds of communities, where there is a relatively high percentage of speakers.
Now, we had the Government's response at the Urdd Eisteddfod last year, and you accepted, in principle, almost all of the recommendations. But what was missing, of course, was an action plan and a clear schedule, and until you say that you are going to provide a progress report, I have found it very difficult to see exactly what you have been doing over the past nine months in terms of implementing those recommendations and starting to make a real difference to the situation of the Welsh language in those high-density communities. So, I look forward to hearing your update, in the hope that it will respond in an urgent manner. Can you therefore give us some idea of what's likely to be contained in that report here this afternoon?
Dwi'n ddiolchgar i Cefin Campbell. Gallaf i ddweud wrth yr Aelod, ar ôl beth ddywedais i yn Eisteddfod yr Urdd nôl ym mis Mai, ers hynny i fyny at heddiw, rydym ni wedi gallu cyflawni 11 argymhelliad ac yn gobeithio cwblhau chwech arall cyn diwedd tymor y Senedd hon. So, rŷn ni wedi mynd ati'n barod. Wrth gwrs, mae mwy o argymhellion sy'n mynd i gwympo i'r Senedd nesaf, ac yn y datganiad sydd gyda fi ar 24 Chwefror, dwi eisiau tynnu sylw at y gwaith rŷn ni'n ei wneud nawr i greu'r cyd-destun i'r Llywodraeth ar ôl mis Mai i fwrw ymlaen gyda rhai o'r argymhellion eraill. Dwi'n mynd i ganolbwyntio yn y datganiad ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch a sut i ddynodi'r ardaloedd yna, ond bydd mwy yn y datganiad na hynny.
I thank Cefin Campbell for that. I can tell the Member, after what I said at the Urdd Eisteddfod back in May, that since then up until today, we've been able to deliver on 11 recommendations and hope to complete another six before the end of this Senedd term. So, we have already made some progress. Of course, there are more recommendations that will fall to the next Senedd, and in the statement that I will make on 24 February, I want to draw attention to the work that we're doing now to create the context for the Government after May to press ahead with some of the other recommendations. I'm going to focus in the statement on high-density areas of linguistic significance and how to designate those areas, but there will be more in the statement than that.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
I'm almost tempted to say we should all go to the pub after that question session. [Laughter.] No, we won't do that.
Bron na chaf fy nhemtio i ddweud y dylem i gyd fynd i'r dafarn ar ôl y sesiwn holi honno. [Chwerthin.] Na, ni wnawn hynny.
We'll move on to item 2.
Symudwn ymlaen at eitem 2.
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf, John Griffiths.
Questions to the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs. The first question is from John Griffiths.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diogelu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent yn sgil y ceisiadau parhaus ar gyfer ffermydd solar ar raddfa fawr? OQ63797
1. What discussions has the Welsh Government had with the UK Government on the protection of the Gwent Levels' Sites of Special Scientific Interest in light of the ongoing applications for large-scale solar farms? OQ63797
Thank you for the question, John. The Gwent levels are nationally important for biodiversity. The Welsh Government is committed to ensuring that our SSSIs are better protected and managed for the future. We will shortly be consulting on planning guidance for the Gwent levels to ensure that the right development is in the right place and to avoid unacceptable biodiversity impacts.
Diolch am y cwestiwn, John. Mae gwastadeddau Gwent o bwys cenedlaethol ar gyfer bioamrywiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein SoDdGAoedd yn cael eu gwarchod a'u rheoli'n well ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn ymgynghori'n fuan ar ganllawiau cynllunio ar gyfer gwastadeddau Gwent i sicrhau bod y datblygiad cywir yn y lle cywir ac i osgoi effeithiau annerbyniol ar fioamrywiaeth.
Thank you for that. Sites of special scientific interest cover just 12 per cent of Wales and are, of course, designated because of their national importance for wildlife, habitats and geology. The Gwent levels are one of the most extensive areas of reclaimed wet pasture in Great Britain, and support some 43 nationally rare or notable species. The historic reens are rich in plant life and the aquatic invertebrate fauna is exceptionally diverse. This is a fragile and highly managed landscape where small changes can have cumulative impacts, and failure to protect against the risks do, unfortunately, often result in irreversible biodiversity loss and ultimately the degradation of the SSI designation itself.
Under 'Planning Policy Wales', development on land within or adjacent to SSSIs must not have an adverse effect, either individually or cumulatively, including alongside other developments. But despite this policy framework, we are seeing widely differing interpretations of SSSI protections by developers and by planning inspectors. Given these inconsistent interpretations and the risk that they pose, I wonder, Cabinet Secretary, as a matter of urgency and in the interests of all concerned, whether you might consider issuing formal clarification or additional guidance over the key provisions of chapter 6 of 'Planning Policy Wales' in terms of this vital SSSI protection.
Diolch am hynny. Prin 12 y cant o Gymru sy'n safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac wrth gwrs, cânt eu dynodi oherwydd eu pwysigrwydd cenedlaethol i fywyd gwyllt, cynefinoedd a daeareg. Mae gwastadeddau Gwent yn un o'r ardaloedd mwyaf eang o dir pori gwlyb wedi'i adfer ym Mhrydain, ac maent yn cynnal tua 43 o rywogaethau prin neu rywogaethau a nodir yn genedlaethol. Mae'r ffosydd dyfrio hanesyddol yn llawn planhigion ac mae ffawna infertebratau dyfrol yn eithriadol o amrywiol. Mae hon yn dirwedd fregus ac wedi'i rheoli'n llym lle gall newidiadau bach gael effeithiau cronnol, ac yn anffodus, mae methiant i ddiogelu rhag y risgiau'n aml yn arwain at golli bioamrywiaeth heb fod modd ei hadfer ac yn y pen draw at ddiraddio'r dynodiad safle o ddiddordeb gwyddonol ei hun.
O dan 'Polisi Cynllunio Cymru', ni ddylai datblygiad ar dir o fewn neu'n gyfagos i SoDdGA gael effaith andwyol, naill ai'n unigol neu'n gronnol, yn cynnwys ochr yn ochr â datblygiadau eraill. Ond er gwaethaf y fframwaith polisi hwn, rydym yn gweld dehongliadau gwahanol iawn o warchodaeth i SoDdGAoedd gan ddatblygwyr a chan arolygwyr cynllunio. O ystyried y dehongliadau anghyson hyn a'r risg y maent yn ei hachosi, Ysgrifennydd y Cabinet, fel mater o frys ac er budd pawb dan sylw, tybed a allech chi ystyried cyhoeddi eglurhad ffurfiol neu ganllawiau ychwanegol ynghylch darpariaethau allweddol pennod 6 o 'Polisi Cynllunio Cymru' o ran y warchodaeth i'r SoDdGA hanfodol hwn.
Thank you, John. I think I can give you some assurance. But, first of all, can I just thank you for your relentless commitment to the Gwent levels and also your leadership of the Gwent levels working group since 2020? You have been daily, weekly, yearly, incessantly, a champion for the Gwent levels, speaking out for all those organisations that are so concerned with the biodiversity and the environmental stewardship of the Gwent levels.
Now, planning policy, of course, as you will understand, John, is the responsibility of my colleague the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, but I'm sure the Cabinet Secretary will also have heard his words as well. 'Planning Policy Wales' is clear that development that is not for the management of the SSSI is unacceptable. As a matter of principle in SSSIs, SSSIs must be excluded from site searches undertaken by developers and reasonable alternatives to such locations must be demonstrated, and this element of policy must be applied by decision makers. It is not acceptable to ignore poor site location choices where these cannot be justified in policy terms.
Just as a word of reassurance to you, John, the strategic guidance being produced for the Gwent levels will further reiterate the clear line for protecting SSSIs contained in 'Planning Policy Wales'.
Diolch, John. Rwy'n credu y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd i chi. Ond, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i chi am eich ymrwymiad di-ildio i wastadeddau Gwent a hefyd eich arweinyddiaeth ar weithgor gwastadeddau Gwent ers 2020? Rydych chi wedi bod yn hyrwyddwr dyddiol, wythnosol, blynyddol di-baid ar ran gwastadeddau Gwent, gan siarad ar ran yr holl sefydliadau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth a stiwardiaeth amgylcheddol gwastadeddau Gwent.
Nawr, fel y deallwch, John, un o gyfrifoldebau fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yw polisi cynllunio, ond rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi clywed ei eiriau hefyd. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn glir fod datblygiad nad yw o blaid rheoli'r SoDdGA yn annerbyniol. Fel mater o egwyddor mewn SoDdGAoedd, rhaid iddynt gael eu heithrio o chwiliadau safle a gynhelir gan ddatblygwyr a rhaid dangos dewisiadau amgen rhesymol i leoliadau o'r fath, a rhaid i'r elfen hon o bolisi gael ei chymhwyso gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Nid yw'n dderbyniol anwybyddu dewisiadau lleoli safleoedd gwael lle na ellir cyfiawnhau'r rhain yn nhermau polisi.
Fel gair o sicrwydd i chi, John, bydd y canllawiau strategol sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer gwastadeddau Gwent yn cadarnhau ymhellach y llinell glir ar gyfer diogelu SoDdGAoedd a gynhwysir yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.
I've known John Griffiths since 1999, and I doubt very much he is rude enough to walk out midway through your answer to him. [Laughter.] Oh, he's back, so he must have pressed a button inadvertently there. I'm sure he'll want to apologise for that at some point, and he's doing it as we speak, probably. Peter Fox next.
Rwy'n adnabod John Griffiths ers 1999, ac rwy'n amau'n fawr ei fod yn ddigon anghwrtais i gerdded allan hanner ffordd drwy eich ateb iddo. [Chwerthin.] O, mae'n ei ôl, felly mae'n rhaid ei fod wedi pwyso botwm yn ddiarwybod. Rwy'n siŵr y bydd eisiau ymddiheuro am hynny ar ryw bwynt, ac mae'n gwneud hynny wrth inni siarad, siŵr o fod. Peter Fox nesaf.
Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, you would have obviously been engaging with the UK Government regarding protection for the Gwent levels, SSSIs, but communities in Monmouthshire, Torfaen and Newport are facing very similar pressures from large-scale solar applications, as John Griffiths has talked about several times within the Gwent levels. Indeed, there is a proposed large 300-acre site coming to a village called Ponthir in our constituency. Now, local residents are seeing proposals that raise serious concerns about the loss of wildlife, the impact on farmland and much more. Many think the environmental rules the Welsh Government always refer to would apply, but they don't appear to be keeping pace with the scale of these applications. The Welsh Government are seemingly set on sacrificing one set of environmental principles in the pursuit of another, which makes no sense.
Given the Welsh Government's responsibilities, what assurances can you provide to the people in my constituency and further afield that protection for environmentally valuable sites will not fall through the cracks? Crucially, in the discussions you've had with the UK Government around the Gwent levels, have you raised this wider principle that while the transition to renewable energy is accepted, it cannot come at any cost, especially with the careless disposal of prime rural land?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddech chi'n amlwg wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwarchodaeth i wastadeddau Gwent, SoDdGAoedd, ond mae cymunedau yn sir Fynwy, Torfaen a Chasnewydd yn wynebu pwysau tebyg iawn gan ddatblygiadau solar ar raddfa fawr, fel y mae John Griffiths wedi siarad amdanynt sawl gwaith ar wastadeddau Gwent. Yn wir, mae safle mawr 300 erw arfaethedig yn dod i bentref o'r enw Pont-hir yn ein hetholaeth ni. Nawr, mae trigolion lleol yn gweld cynigion sy'n codi pryderon difrifol am golli bywyd gwyllt, yr effaith ar dir fferm a llawer mwy. Mae nifer o'r farn y byddai'r rheolau amgylcheddol y mae Llywodraeth Cymru bob amser yn cyfeirio atynt yn gymwys, ond nid yw'n ymddangos eu bod yn cyfateb i raddfa'r ceisiadau hyn. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o aberthu un set o egwyddorion amgylcheddol wrth fynd ar drywydd un arall, ac nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr.
O ystyried cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r bobl yn fy etholaeth ac ymhellach i ffwrdd na fydd gwarchodaeth i safleoedd sy'n werthfawr yn amgylcheddol yn syrthio drwy'r craciau? Yn hanfodol, yn y trafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch gwastadeddau Gwent, a ydych chi wedi codi'r egwyddor ehangach, er bod y trawsnewidiad i ynni adnewyddadwy'n cael ei dderbyn, na all ddod ar unrhyw gost, yn enwedig cael gwared yn ddiofal ar dir gwledig o ansawdd da?
Thank you, Peter. You'll understand I am not able to comment on any live applications or individual developments, but, indeed, we do engage with this with the UK Government as well, because there is a devolved piece and a reserved piece here within consenting. But just to be crystal clear: impact on SSSIs are considered as part of the UK nationally significant infrastructure projects consenting system through the environmental impact assessment process. The Secretary of State should take into account section 6 of the Environment (Wales) Act 2016 and thereby seek to maintain and enhance biodiversity and, in so doing, promote the resilience of ecosystems. Additionally, by the way, Peter, local authorities and NRW are also identified in that process as statutory consultees, and they have an opportunity to make representations then to any examining authority, to ensure that both planning at a national and a local scale, and any environmental concerns, are considered as part of the determination of any application. Just finally, under both the NSIP process and the Infrastructure (Wales) Act 2024 process, the applicant is required to consult with people and organisations in the area, and they have to create detailed documents about the impact that the project could have on the environment.
I just wanted to add one thing out of interest to Peter and to other Members concerning the Gwent levels, but, generally, this approach to planning: I'll be attending the Inter-ministerial Group for Environment, Food and Rural Affairs meeting tomorrow. One of the aspects of that meeting is a deep-dive on biodiversity. This will provide an opportunity to discuss with Ministers across the UK how we can then accelerate action to improve the resilience of ecosystems like the Gwent levels. So, I'm looking forward to that discussion.
Diolch, Peter. Fe fyddwch chi'n deall na allaf wneud sylwadau ar unrhyw geisiadau byw neu ddatblygiadau unigol, ond rydym yn ymwneud â Llywodraeth y DU ar hyn hefyd, oherwydd mae yna elfen ddatganoledig ac elfen a gadwyd yn ôl yma o ran cydsynio. Ond i fod yn glir iawn: ystyrir effaith ar SoDdGA yn rhan o system cydsyniad y DU i brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol drwy'r broses asesu effaith amgylcheddol. Dylai'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a thrwy hynny geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth, a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau wrth wneud hynny. Yn ogystal, gyda llaw, Peter, caiff awdurdodau lleol a CNC hefyd eu nodi yn y broses honno fel ymgyngoreion statudol, ac mae ganddynt gyfle i wneud sylwadau wedyn i unrhyw awdurdod archwilio, er mwyn sicrhau bod cynllunio ar raddfa genedlaethol a lleol, ac unrhyw bryderon amgylcheddol, yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses o benderfynu ar unrhyw gais. Yn olaf, o dan broses prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol a phroses Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, mae'n ofynnol i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau yn yr ardal, ac mae'n rhaid iddynt greu dogfennau manwl am yr effaith y gallai'r prosiect ei chael ar yr amgylchedd.
Roeddwn eisiau ychwanegu un peth o ddiddordeb i Peter ac Aelodau eraill ynglŷn â gwastadeddau Gwent, ond yn gyffredinol, y dull hwn o gynllunio: byddaf yn mynychu cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yfory. Un o elfennau'r cyfarfod hwnnw yw archwiliad dwfn i fioamrywiaeth. Bydd yn gyfle i drafod gyda Gweinidogion ledled y DU sut y gallwn gyflymu camau i wella gwydnwch ecosystemau fel gwastadeddau Gwent. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y drafodaeth honno.
I'd like to echo and align myself with what John said in his supplementary question. The SSSI area must be protected. In principle, I strongly support renewable energy and it's an important component of combating the climate crisis, but, as Mike Webb of Gwent Wildlife Trust has said, you can't destroy the environment to save the environment. I echo the calls to issue formal clarification and guidance over SSSI protections, with a view to this legislation being applied to its full power to offer more protection to these unique habitats. But what is to happen when onshore projects are placed just over the threshold of 350 MW for being determined by a Welsh authority? Well, as with many things, Westminster will have the final word. Like me, do you find this totally unacceptable and, quite frankly, condescending? What dialogue are you having with your party colleagues in Westminster to ensure that final decisions about Welsh energy projects are determined in Wales?
Hoffwn adleisio a chytuno â'r hyn a ddywedodd John yn ei gwestiwn atodol. Rhaid gwarchod yr ardal SoDdGA. Mewn egwyddor, rwy'n cefnogi ynni adnewyddadwy ac mae'n elfen bwysig yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, ond fel y dywedodd Mike Webb o Ymddiriedolaeth Natur Gwent, ni allwch ddinistrio'r amgylchedd i achub yr amgylchedd. Rwy'n adleisio'r galwadau am gyhoeddi eglurhad a chanllawiau ffurfiol ar warchodaeth SoDdGA, a chymhwyso'r ddeddfwriaeth hon yn llawn i gynnig mwy o warchodaeth i'r cynefinoedd unigryw hyn. Ond beth sydd i ddigwydd pan fydd prosiectau ar y tir ychydig dros y trothwy o 350 MW ar gyfer penderfynu arnynt gan awdurdod yng Nghymru? Wel, fel gyda llawer o bethau, San Steffan fydd â'r gair olaf. Fel finnau, onid ydych chi'n gweld hyn yn hollol annerbyniol ac i fod yn onest, yn nawddoglyd? Pa drafodaeth rydych chi'n ei chael gyda'ch chyd-bleidwyr yn San Steffan i sicrhau bod penderfyniadau terfynol am brosiectau ynni Cymru yn cael eu penderfynu yng Nghymru?
Llywydd, I don't want to repeat—not out of discourtesy to the Member, but—the points that I made in the previous answer to Peter Fox on the engagement we have in the UK Government, but also the context in which this is set of statutory consultees, referral to our duties here within Wales as well, and the protection of SSSIs as well. Indeed, the Gwent levels is identified as one of nine designated national natural resource areas by policy 9 of 'Future Wales' too.
But there are other things we can do in working with the community, I have to say as well, as well as engaging with the UK Government. We were very pleased, Pred, to agree funding for the RSPB-led Living Levels partnership project, which provides funding for the vital work of that project to continue. But we've also match-funded the development work needed for the Gwent Wildlife Trust to take forward a community asset transfer of Welsh Government-owned farmland on the Gwent levels. Why is this important? Because this is a chance to contribute towards the effective management of those SSSIs on the Gwent levels. So, I'm pleased we've had this discussion today. We have engagement with the UK Government. It's also what we do within our planning context here in Wales as well.
Lywydd, nid wyf am ailadrodd—nid o anghwrteisi i'r Aelod, ond—y pwyntiau a wneuthum yn yr ateb blaenorol i Peter Fox ar ein hymwneud â Llywodraeth y DU, ond hefyd y cyd-destun y mae hyn wedi'i osod ynddo o ymgyngoreion statudol, cyfeirio at ein dyletswyddau yma yng Nghymru, a gwarchodaeth SoDdGAoedd hefyd. Yn wir, mae gwastadeddau Gwent wedi'i nodi fel un o naw ardal adnoddau naturiol cenedlaethol dynodedig gan bolisi 9 'Cymru'r Dyfodol' hefyd.
Ond mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud wrth weithio gyda'r gymuned, mae'n rhaid imi ddweud, yn ogystal ag ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Roeddem yn falch iawn, Pred, o gytuno ar gyllid ar gyfer y prosiect partneriaeth Gwastadeddau Byw dan arweiniad yr RSPB, sy'n darparu cyllid ar gyfer parhau gwaith hanfodol y prosiect hwnnw. Ond rydym hefyd wedi rhoi arian cyfatebol i'r gwaith datblygu sydd ei angen ar Ymddiriedolaeth Natur Gwent i fwrw ymlaen â throsglwyddiad ased cymunedol tir fferm sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar wastadeddau Gwent. Pam y mae hyn yn bwysig? Oherwydd ei fod yn gyfle i gyfrannu tuag at reolaeth effeithiol y SoDdGAoedd hynny ar wastadeddau Gwent. Felly, rwy'n falch ein bod wedi cael y drafodaeth hon heddiw. Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn ymwneud â'r hyn a wnawn o fewn ein cyd-destun cynllunio yma yng Nghymru.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithredu strategaeth bwyd cymunedol Llywodraeth Cymru? OQ63778
2. Will the Cabinet Secretary provide an update on the implementation of the Welsh Government's community food strategy? OQ63778
Diolch, Cefin. We continue to implement the community food strategy by allocating grant funding to local food partnerships right across Wales. All local authorities now have a local food partnership in place. The core community food strategy ministerial advisory group overseeing delivery held its first meeting in December, and will support co-ordination now of community-led initiatives.
Diolch, Cefin. Rydym yn parhau i weithredu'r strategaeth bwyd cymunedol drwy ddyrannu cyllid grant i bartneriaethau bwyd lleol ledled Cymru. Mae gan bob awdurdod lleol bartneriaeth bwyd lleol ar waith bellach. Cynhaliodd grŵp cynghori'r Gweinidog ar y strategaeth bwyd cymunedol graidd, sy'n goruchwylio cyflawniad, ei gyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr, a bydd yn cefnogi'r gwaith o gydlynu mentrau a arweinir gan y gymuned.
Diolch yn fawr iawn. Yn fy marn i, mae strategaeth bwyd cymunedol y Llywodraeth yn cydnabod, wrth gwrs, rôl mentrau bwyd, ond mae'n methu mynd i'r afael â'r newid sydd ei angen ar Gymru yn ddigonol. Er gwaethaf cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, mae gormod o bobl yng Nghymru'n dal i gael trafferth cael gafael ar fwyd maethlon a fforddiadwy, gan ddibynnu'n fawr ar fewnforion o wledydd eraill. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig, lle mae pellter ac incwm isel yn gwneud bwyd iach yn anoddach i'w gyrraedd. Dyw'r strategaeth bresennol ddim chwaith yn mynd i'r afael yn ddigonol â fforddiadwyedd a hybu cynnyrch lleol, achos mae ymchwil gan y Countryside Alliance yn dangos bod llawer o'r cyw iâr sy'n cael ei weini mewn ysgolion yng Nghymru yn dod o Wlad y Thai, yn hytrach na'n bod ni'n annog ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu'r math hyn o gyw iâr. Felly, ydych chi'n cytuno nad yw'r strategaeth bwyd cymunedol yn mynd yn ddigon pell a bod angen rhywbeth mwy cynhwysfawr ar Gymru?
Thank you very much. In my view, the Government's community food strategy recognises, of course, the role of food enterprises, but it fails to address the change that's required in Wales sufficiently. Now, despite producing high-quality food, there are too many people in Wales who still have difficulty in accessing nutritious and affordable food, being very reliant on imports from abroad. This is particularly true in rural areas, where low income and long travel distances make healthy food harder to access. The current strategy doesn't adequately cover affordability and promoting local produce, because research by the Countryside Alliance shows that much of the chicken served in schools in Wales comes from Thailand, rather than our encouraging farmers in Wales to produce that kind of chicken. So, do you agree that the community food strategy doesn't go far enough and that we need something more comprehensive for Wales?
The community food strategy, I think, is powerful and wide ranging, and very deep and impactful as well. But, just to say, on the food poverty issue, just to remind colleagues, with the support of the Senedd, the Welsh Government has allocated over £29 million since 2019 to support community food organisations to tackle food insecurity and to provide a wider range of services, helping individuals and households maximise their income and build that resilience. It's over £4 million this last year alone, by the way, on that.
But, in terms of the local food partnerships, I said that it was now in all 22 local food partnerships. They've all been awarded funding. What this includes, by the way, is things such as the trialling of farmers' markets and local veg box schemes, connecting communities to farmers and local food production through farm visits and events, skills development, cooking classes, engagement with campaigns that embed grass-roots community voices and organisations in local food charters and strategies, so joining up the dots on a local basis to build that food resilience.
We've made up to just short of £0.25 million available for local food partnerships to work together on larger projects with a shared interest. For example, Bwyd Powys is leading a project covering mid and west Wales, including four local food partnerships. It's a very pioneering food resilience approach. They've started on the activities now to address this challenge on the ground. So, I think, building on what we've already done on food poverty and resilience, the local food partnerships will take us a lot further, and the more mature food partnerships will do that collaborative space, where they bring organisations together.
In terms of the use of imported foodstuffs, I agree with you—the approach we are going with in Welsh Government, both through procurement and working with the supply chain, is to get more and more of our own produce onto those plates and tables; you're absolutely right. But it's not an overnight fix. But I would encourage all those procurement officers, local authorities, public bodies and whatever to look more at using our own fresh, nutritious produce from within Wales.
Rwy'n credu bod y strategaeth bwyd cymunedol yn bwerus ac yn eang, ac yn ddwfn ac effeithiol iawn hefyd. Ond ar fater tlodi bwyd, i atgoffa cyd-Aelodau, gyda chefnogaeth y Senedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £29 miliwn ers 2019 i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i fynd i'r afael â diffyg diogeledd bwyd ac i ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau, gan helpu unigolion ac aelwydydd i wneud y mwyaf o'u hincwm a meithrin y gwydnwch hwnnw. Mae dros £4 miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gyda llaw.
Ond ar y partneriaethau bwyd lleol, dywedais ei fod bellach ym mhob un o'r 22 partneriaeth bwyd lleol. Maent i gyd wedi cael cyllid. Yr hyn y mae hyn yn ei gynnwys, gyda llaw, yw pethau fel treialu marchnadoedd ffermwyr a chynlluniau bocsys llysiau lleol, cysylltu cymunedau â ffermwyr a chynhyrchiant bwyd lleol drwy ymweliadau â ffermydd a digwyddiadau, datblygu sgiliau, dosbarthiadau coginio, ymgysylltu ag ymgyrchoedd sy'n ymgorffori lleisiau a sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad mewn siarteri a strategaethau bwyd lleol, felly uno'r dotiau'n lleol i feithrin y gwydnwch bwyd hwnnw.
Rydym wedi sicrhau bod bron i £0.25 miliwn ar gael i bartneriaethau bwyd lleol i weithio gyda'i gilydd ar brosiectau mwy sydd â diddordeb cyffredin. Er enghraifft, mae Bwyd Powys yn arwain prosiect sy'n cwmpasu canolbarth a gorllewin Cymru, gan gynnwys pedair partneriaeth fwyd lleol. Mae'n ddull arloesol iawn o sicrhau gwydnwch bwyd. Maent wedi dechrau ar y gweithgareddau erbyn hyn i fynd i'r afael â'r her hon ar lawr gwlad. Felly, rwy'n credu, gan adeiladu ar yr hyn rydym eisoes wedi'i wneud ar dlodi a gwydnwch bwyd, bydd y partneriaethau bwyd lleol yn mynd â ni ymhellach o lawer, a bydd y partneriaethau bwyd mwy aeddfed yn darparu'r gofod cydweithredol lle dônt â sefydliadau at ei gilydd.
O ran y defnydd o fwydydd wedi'u mewnforio, rwy'n cytuno â chi—y dull a gefnogwn yn Llywodraeth Cymru, drwy gaffael a gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi, yw cael mwy a mwy o'n cynnyrch ein hunain ar blatiau a byrddau; rydych chi'n hollol iawn. Ond nid yw'n ateb dros nos. Ond rwy'n annog yr holl swyddogion caffael, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus ac ati i edrych mwy ar ddefnyddio ein cynnyrch ffres, maethlon ein hunain yng Nghymru.
Firstly, can I pay tribute to PLANED and the fantastic work that they've done with the Pembrokeshire local food partnership over the last few years? I've had the honour of cutting the ribbon at two of their community vending machines in Llanteg and in Whitland. I'd also pay tribute at this point to Iwan Thomas, the outgoing CEO of PLANED, who's been with the organisation for seven years.
This is a discussion we've had previously, before, when Peter Fox was bringing through this place his food Bill. The second biggest advocate for Peter's food Bill, other than Peter himself, was you, Cabinet Secretary, when you were a backbencher. So, what work have you done from Peter Fox's food Bill? Now that you're in a position of power within the Government, what did you learn during the process of Peter Fox's food Bill and what have you taken forward? And what have you changed within the Welsh Government because of it?
Yn gyntaf, a gaf i dalu teyrnged i PLANED a'r gwaith gwych y maent wedi'i wneud gyda phartneriaeth bwyd lleol sir Benfro dros y blynyddoedd diwethaf? Cefais yr anrhydedd o dorri'r rhuban ar ddau o'u peiriannau gwerthu cymunedol yn Llanteg ac yn Hendy-gwyn ar Daf. Rwyf hefyd yn talu teyrnged ar y pwynt hwn i Iwan Thomas, prif swyddog gweithredol ymadawol PLANED, sydd wedi bod gyda'r sefydliad ers saith mlynedd.
Mae hon yn drafodaeth a gawsom o'r blaen pan oedd Peter Fox yn dod â'i Fil bwyd drwy'r lle hwn. Yr ail eiriolwr mwyaf dros Fil bwyd Peter, heblaw Peter ei hun, oeddech chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pan oeddech chi'n aelod o'r meinciau cefn. Felly, pa waith a wnaethoch o Fil bwyd Peter Fox? Gan fod gennych swydd o fewn y Llywodraeth bellach, beth a ddysgwyd gennych dros broses Bil bwyd Peter Fox a beth a ddatblygwyd gennych? A beth ydych chi wedi'i newid yn Llywodraeth Cymru o'i herwydd?
I'll give you just one example, because I am indeed a supporter of many of the elements within Peter's proposal. We've actually brought it forward in 'Food Matters', the overarching food strategy, and also within the community food strategy itself. But let me just give you one example, because I don't have loads of time, Llywydd. Let's turn to public procurement. The Welsh Veg in Schools project, led by Food Sense Wales, has demonstrated already that a small increase in school meal budgets unlocks significant local economic impact and jobs and environmental gain. We've had now over 200,000, Sam, organic Welsh vegetable portions delivered to schools in seven local authorities. And what does that do? It supports our local Welsh growers. It improves child nutrition through having fresh, locally sourced food. It's resulted in a 20 per cent increase in land use to grow vegetables in Wales—a 20 per cent increase—while the rest of the UK, by the way, has seen a decline in the land allocated for that. In that procurement space, we've improved access to public sector markets for 52 Welsh food businesses through the food accreditation grant scheme run by Mentera. We've created, through that, over 1,200 jobs, and enabled long-term growth and sustainability for those businesses. And the work that we've done, which I know you've seen as well, Sam, working with the supply chain—people like Castell Howell and Harlech Foodservice—on that procurement piece, where they work with local growers and producers to increase the amount of supply of Welsh products to schools and hospitals and others—. Castell Howell has reported, now, spend on Welsh food increasing by nearly 175 per cent from 2021 to 2024. Harlech Foodservice has reported an increase in that same period of 90 per cent for Welsh meat, 120 per cent for Welsh milk, and nearly 65 per cent for Welsh school drinks. So, what are we doing? I could go on, but there's just one aspect in procurement; we are making a transformative change to our local food system.
Rhoddaf un enghraifft i chi, oherwydd rwy'n cefnogi llawer o'r elfennau yng nghynnig Peter. Rydym wedi ei gyflwyno yn 'Bwyd o Bwys', y strategaeth fwyd drosfwaol, a hefyd yn y strategaeth bwyd cymunedol ei hun. Ond gadewch i mi roi un enghraifft i chi, oherwydd nid oes gennyf lawer o amser, Lywydd. Gadewch inni droi at gaffael cyhoeddus. Mae prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, dan arweiniad Synnwyr Bwyd Cymru, eisoes wedi dangos bod cynnydd bach mewn cyllidebau prydau ysgol yn datgloi effaith economaidd leol sylweddol a budd o ran swyddi a'r amgylchedd. Erbyn hyn, rydym wedi cael dros 200,000 o ddognau llysiau organig o Gymru, Sam, wedi'u dosbarthu i ysgolion mewn saith awdurdod lleol. A beth y mae hynny'n ei wneud? Mae'n cefnogi ein tyfwyr lleol yng Nghymru. Mae'n gwella maeth plant drwy gael bwyd ffres, lleol. Mae wedi arwain at gynnydd o 20 y cant yn y defnydd tir i dyfu llysiau yng Nghymru—cynnydd o 20 y cant—tra bod gweddill y DU, gyda llaw, wedi gweld gostyngiad yn y tir a ddyrannwyd ar gyfer hynny. Yn y maes caffael, rydym wedi gwella mynediad i farchnadoedd sector cyhoeddus at 52 o fusnesau bwyd yng Nghymru drwy'r cynllun grant achredu bwyd sy'n cael ei redeg gan Mentera. Drwyddo, rydym wedi creu dros 1,200 o swyddi, ac wedi galluogi twf a chynaliadwyedd hirdymor ar gyfer y busnesau hynny. Ac mae'r gwaith a wnaethom, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi'i weld hefyd, Sam, yn gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi—pobl fel Castell Howell a Gwasanaeth Bwyd Harlech—ar y gwaith caffael hwnnw, lle maent yn gweithio gyda thyfwyr a chynhyrchwyr lleol i gynyddu faint o gynnyrch Cymreig sy'n cael ei ddosbarthu i ysgolion ac ysbytai ac eraill—. Mae Castell Howell wedi adrodd nawr fod gwariant ar fwyd o Gymru wedi cynyddu bron i 175 y cant rhwng 2021 a 2024. Mae Gwasanaeth Bwyd Harlech wedi adrodd cynnydd o 90 y cant yn yr un cyfnod ar gyfer cig Cymreig, 120 y cant ar gyfer llaeth Cymreig, a bron i 65 y cant ar gyfer diodydd ysgol Cymreig. Felly, beth rydym yn ei wneud? Gallwn barhau, ond dim ond un elfen yw caffael; rydym yn gwneud newid trawsnewidiol i'n system fwyd leol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Questions now from the party spokespeople. Conservative spokesperson, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Recently, I was shocked to learn—and you agreed this; you confirmed it—that there are no official measurements being taken on a regular basis of the levels of plastic pollution in our Welsh waters. We've seen plastic disks from water treatment works released into the sea in Swansea; plastic making up 80 per cent of litter on our beaches; microplastics picked up in our species and fish and birds in the River Taff. This pollution is serious, with plastics making it into our food supply, meaning we are ingesting this.
There are currently 100 times more microplastics now in the UK coastline over the last 10 years, with seagulls being found to have ingested glitter. Animals are mistaking these plastics for food, yet the Welsh Government and Natural Resources Wales have continuously been focused on the pollution of our waters by farmers, in the water supply. And we know that that is not the case. However, as shown through the leaks from water treatment works, plastics are being introduced through numerous sources. Will the Cabinet Secretary commit to working with NRW to ensure that the levels of plastic pollution in our waters are measured, recorded and published?
Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, synnais glywed—ac fe wnaethoch chi gytuno ar hyn; fe wnaethoch ei gadarnhau—nad oes unrhyw fesuriadau swyddogol yn cael eu cymryd yn rheolaidd o lefelau llygredd plastig yn ein dyfroedd yng Nghymru. Rydym wedi gweld disgiau plastig o waith trin dŵr yn cael eu rhyddhau i'r môr yn Abertawe; mae 80 y cant o'r sbwriel ar ein traethau'n blastig; microblastigau wedi'u cofnodi yn ein rhywogaethau a physgod ac adar yn afon Taf. Mae'r llygredd hwn yn ddifrifol, gyda phlastigau'n cyrraedd ein cyflenwad bwyd, sy'n golygu ein bod yn ei fwyta.
Ar hyn o bryd, mae 100 gwaith yn fwy o ficroblastigau ar arfordir y DU nawr dros y 10 mlynedd diwethaf, a gwelwyd bod gwylanod wedi llyncu gliter. Mae anifeiliaid yn camgymryd mai bwyd yw'r plastigau hyn, ond mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi canolbwyntio'n barhaus ar lygru ein dyfroedd gan ffermwyr, yn y cyflenwad dŵr. Ac rydym yn gwybod nad yw hynny'n wir. Fodd bynnag, fel y dangosir drwy'r gollyngiadau o waith trin dŵr, mae plastigau'n cael eu cyflwyno drwy nifer o ffynonellau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i weithio gyda CNC i sicrhau bod lefelau llygredd plastig yn ein dyfroedd yn cael eu mesur, eu cofnodi a'u cyhoeddi?
Yes, well, just to contradict one thing you say, we don't always—. You have a fixation with farmers and agricultural pollution, because you keep bringing it up regularly. What we focus on is all sources of pollution in our rivers, and that could be development pollution, it could be the water companies—as with our launch, this week, of the clean water Green Paper—but it can also be agricultural pollution, where we need to fix that as well, and it has to be all together. So, I don't share your fixation on one source of pollution. You're always going on about agricultural pollution; we need to focus on all of them.
Now, plastic pollution is indeed a—. There is a growing awareness of this. This is why Welsh Government puts so much funding not only into things such as our unique scheme of collecting plastics from the fisheries fleet—working with skippers, collecting it on the dockside and then actually recycling it—but the work we do, actually, in promoting the work of local volunteers and supporting the work of local volunteers—we've all been on them, the litter picks on the lines—and also the research that NRW is doing alongside the Department for Environment, Food and Rural Affairs and European counterparts into microplastics.
Several Members have mentioned this on recent occasions. We need to build the evidence base and do the analysis on microplastics specifically, because we are finding them at the bottom of the Mariana Trench and on the top of the mountains, and also within not just our ecosystems, but our bodily systems as well. So, we share your passion to tackle this issue and we need to do it in every possible way.
Ie, wel, os caf wrth-ddweud un peth a ddywedwch, nid ydym bob amser—. Mae gennych obsesiwn gyda ffermwyr a llygredd amaethyddol, oherwydd rydych chi'n parhau i godi hynny'n rheolaidd. Yr hyn rydym yn canolbwyntio arno yw pob ffynhonnell o lygredd yn ein hafonydd, a gallai hynny fod yn llygredd o ddatblygiadau, gallai fod yn gwmnïau dŵr—fel gyda'n lansiad, yr wythnos hon, o'r Papur Gwyrdd ar ddŵr glân—ond gall hefyd fod yn llygredd amaethyddol, lle mae angen inni unioni hynny hefyd, ac mae'n rhaid iddo fod i gyd gyda'i gilydd. Felly, nid wyf yn rhannu eich obsesiwn ag un ffynhonnell o lygredd. Rydych chi bob amser yn codi llygredd amaethyddol; mae angen inni ganolbwyntio ar bob un ohonynt.
Nawr, mae llygredd plastig yn sicr yn—. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o hyn. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymaint o arian nid yn unig i bethau fel ein cynllun unigryw ar gyfer casglu plastigau o'r fflyd pysgodfeydd—gan weithio gyda chapteiniaid, ei gasglu ar ochr y dociau ac yna ei ailgylchu—ond y gwaith a wnawn yn hyrwyddo gwaith gwirfoddolwyr lleol a chefnogi gwaith gwirfoddolwyr lleol—rydym i gyd wedi bod yn rhan ohonynt, y digwyddiadau casglu sbwriel ar y glannau—a hefyd yr ymchwil y mae CNC yn ei wneud ochr yn ochr ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chymheiriaid Ewropeaidd i ficroblastigau.
Mae sawl Aelod wedi sôn am hyn yn ddiweddar. Mae angen inni adeiladu'r sylfaen dystiolaeth a gwneud y dadansoddiadau ar ficroblastigau'n benodol, oherwydd down o hyd iddynt ar waelod Ffos Mariana ac ar ben y mynyddoedd, a hefyd nid yn unig yn ein hecosystemau, ond yn systemau'r corff hefyd. Felly, rydym yn rhannu eich angerdd dros fynd i'r afael â'r mater hwn ac mae angen inni wneud hynny ym mhob ffordd sy'n bosib.
Thank you, Cabinet Secretary. I do think that it was a little bit rich for you to say that after the way you've penalised our farmers with nitrate vulnerable zones and the heavy-handed approach you took there.
Now, yesterday, as you've just said, you published the Green Paper, 'Shaping the Future of Water Governance in Wales'. We've seen that £56 million has already been spent to tackle water quality since 2022, the Cunliffe review has 88 recommendations, and there have been 155 pollution incidents by Dŵr Cymru in 2024, with Dŵr Cymru being fined £1.35 million for pleading guilty to over 800 breaches of its sewage discharge permits. So, I think it's fair to say that maybe you should be focusing more on the water companies and less on going after farmers.
Now, this Bill is only coming forward now, as we are weeks away from the end of the sixth Senedd term. I feel that this delay is a significant failing of the Welsh Government. So, will you confirm, Cabinet Secretary, why there was such a delay in bringing this Bill forward, and what are the timescales for the new Green Paper that you introduced yesterday?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod gennych wyneb yn dweud hynny braidd ar ôl y ffordd rydych chi wedi cosbi ein ffermwyr gyda pharthau perygl nitradau a'r dull llawdrwm o gyflawni hynny.
Nawr, ddoe, fel y dywedoch chi, fe wnaethoch chi gyhoeddi'r Papur Gwyrdd, 'Llunio Dyfodol Llywodraethiant Dŵr yng Nghymru'. Rydym wedi gweld bod £56 miliwn eisoes wedi'i wario ar fynd i'r afael ag ansawdd dŵr ers 2022; mae gan adolygiad Cunliffe 88 o argymhellion, ac mae 155 o ddigwyddiadau llygredd wedi bod gan Dŵr Cymru yn 2024, gyda Dŵr Cymru yn cael dirwy o £1.35 miliwn am bledio'n euog i dorri amodau ei drwyddedau gollwng carthffosiaeth dros 800 o weithiau. Felly, rwy'n credu ei bod yn deg dweud efallai y dylech chi fod yn canolbwyntio mwy ar y cwmnïau dŵr a llai ar fynd ar ôl ffermwyr.
Nawr y mae'r Bil hwn yn ymddangos a dim ond wythnosau i fynd cyn diwedd chweched tymor y Senedd. Rwy'n teimlo bod yr oedi yn fethiant sylweddol ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y bu cymaint o oedi cyn cyflwyno'r Bil hwn, a beth yw'r amserlenni ar gyfer y Papur Gwyrdd newydd a gyflwynwyd gennych ddoe?
I'm happy to lay out the timescales, but it may be a misunderstanding, which I'm happy to clarify, on your part. So, Sir Jon Cunliffe and the independent review reported last year. The UK Government brought forward its White Paper very recently—very recently—on the back of that. We needed to work with the UK Government on that, and we've been involved in their White Paper, but we needed to wait for that to be laid before we brought forward our Green Paper. It's important that it's a Green Paper, with very white edges, because it's set a direction of travel, and because it allows the people of Wales now to put their ideas in. And those ideas could well come from landowners, farmers, water companies, but also citizens of Wales, and some of those people who are passionate about their river quality, as well as issues of affordability as well. So, there's no delay on this. It's actually coming forward in a set chronology, and we had to wait for Sir Jon Cunliffe to report, for the UK Government to bring its White Paper, and then we brought it forward within weeks of that. And now we're out to the Green Paper, and we'd stress to people, 'Please, put your ideas in. We're open to ideas within that Green Paper.'
On the broad timescale of this, we can see that, by the time the UK Government has finished its consultation—bearing in mind there's also a piece in here about actually devolving the powers to Wales in terms of bringing forward our own regulator, and not based on what we would describe as the outdated, complex regulatory system of the 1980s, but one that is much more in keeping with our Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, so environmental, as well as economic—we will be looking at two or three years down the line to bring forward one of the most major pieces of transformative legislation that looks at water as an asset in this country, that gives voice to the public over this, and then deals with it in a systems approach where every aspect of water is considered, and is not based on that old complex model of regulation that we've lived with for about 30 years.
Rwy'n hapus i osod yr amserlenni, ond efallai ei fod yn gamddealltwriaeth yr wyf yn hapus i'w egluro, ar eich rhan chi. Felly, adroddodd Syr Jon Cunliffe a'r adolygiad annibynnol y llynedd. Cyflwynodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn yn ddiweddar iawn—yn ddiweddar iawn—ar gefn hynny. Roedd angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, ac rydym wedi bod yn rhan o'r gwaith ar eu Papur Gwyn, ond roedd angen i ni aros iddo gael ei gyflwyno cyn inni gyflwyno ein Papur Gwyrdd. Mae'n bwysig ei fod yn Bapur Gwyrdd, gydag ymylon gwyn iawn, oherwydd ei fod wedi gosod cyfeiriad teithio, ac oherwydd ei fod yn caniatáu nawr i bobl Cymru roi eu syniadau. A gallai'r syniadau hynny ddod gan dirfeddianwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr, ond hefyd dinasyddion Cymru, a rhai o'r bobl sy'n teimlo'n angerddol am ansawdd eu hafonydd, yn ogystal â materion fforddiadwyedd hefyd. Felly, nid oes oedi ar hyn. Mae'n cael ei gyflwyno mewn cronoleg benodol, ac roedd yn rhaid inni aros i Syr Jon Cunliffe adrodd, i Lywodraeth y DU gyflwyno ei Phapur Gwyn, ac yna fe wnaethom ei gyflwyno o fewn wythnosau o hynny. A bellach rydym yn ymgynghori ar y Papur Gwyrdd, ac yn pwysleisio wrth bobl, 'Rhowch eich syniadau. Rydym yn agored i syniadau yn y Papur Gwyrdd.'
O ran yr amserlen fras ar gyfer hyn, gallwn weld, erbyn i Lywodraeth y DU orffen ei hymgynghoriad—o gofio bod elfen yma hefyd ynglŷn â datganoli'r pwerau i Gymru i gyflwyno ein rheoleiddiwr ein hunain, ac nid yn seiliedig ar yr hyn y byddem yn ei ddisgrifio fel system reoleiddio hen ffasiwn, gymhleth o'r 1980au, ond un sy'n cyd-fynd yn llawer gwell â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, felly amgylcheddol, yn ogystal ag economaidd—byddwn yn edrych ar ddwy neu dair blynedd eto i gyflwyno un o'r darnau mwyaf pwysig o ddeddfwriaeth drawsnewidiol sy'n edrych ar ddŵr fel ased yn y wlad hon, sy'n rhoi llais i'r cyhoedd dros hyn, ac yna'n delio ag ef drwy ddull systemau lle mae pob agwedd ar ddŵr yn cael ei hystyried, ac nid yw'n seiliedig ar yr hen fodel cymhleth o reoleiddio yr ydym wedi byw gydag ef ers tua 30 mlynedd.
Thank you. Now, for Dŵr Cymru customers, they're now set to receive a 4.8 per cent increase in their water bills, and this on top of other cost-of-living pressures as a result of this Welsh Labour Government here, and in London. They'll be rising from £652 on average to £683. Yet, in Aberconwy, and north Wales as a whole, we have seen a series of burst water pipes that have caused residents much misery to be without water. Only the day before yesterday, we had one in Glan Conwy. There's another one I've seen this morning. It's happening all the time. Also, when people report leaks, it can take ages for leaks, or even pollution incidents, to be dealt with by Dŵr Cymru or NRW. But we all know that this clearly demonstrates that the existing infrastructure is not up to standard. Now, part of the money that's been received by Dŵr Cymru, and, indeed, the extra costs they're putting on people's bills, is, they say, because they're going to massively upgrade the infrastructure that is so outdated. Cabinet Secretary, what happens if the Welsh Labour Government isn't re-elected, as regards the Green Bill? Also, how will you take Dŵr Cymru to task if the moneys that they have had from the Welsh Government and the moneys they're having from our residents does not mightily improve the infrastructure of our water systems? Diolch.
Diolch. Nawr, i gwsmeriaid Dŵr Cymru, maent ar fin gweld cynnydd o 4.8 y cant yn eu biliau dŵr, a hyn yn ychwanegol at bwysau costau byw eraill o ganlyniad i Lywodraeth Lafur Cymru yma, ac yn Llundain. Byddant yn codi o £652 ar gyfartaledd i £683. Eto, yn Aberconwy, a gogledd Cymru yn gyffredinol, rydym wedi gweld cyfres o bibellau dŵr yn torri sydd wedi achosi llawer o drallod i drigolion wrth iddynt fod heb ddŵr. Dim ond y diwrnod o'r blaen, cawsom un yng Nglan Conwy. Mae yna un arall a welais y bore yma. Mae'n digwydd drwy'r amser. Hefyd, pan fo pobl yn adrodd am ollyngiadau, gall gymryd oesoedd i ollyngiadau, neu hyd yn oed ddigwyddiadau llygredd, gael eu trin gan Dŵr Cymru neu CNC. Ond rydym i gyd yn gwybod bod hyn yn dangos yn glir nad yw'r seilwaith presennol yn cyrraedd y safon. Nawr, mae Dŵr Cymru'n dweud bod rhan o'r arian a gawsant, ac yn wir, y costau ychwanegol y maent yn eu rhoi ar filiau pobl, yn mynd i gynnal gwaith uwchraddio enfawr ar y seilwaith, sydd mor hen ffasiwn. Ysgrifennydd y Cabinet, beth sy'n digwydd os nad yw Llywodraeth Lafur Cymru'n cael ei hailethol, o ran y Bil Gwyrdd? Hefyd, sut y byddwch chi'n ceryddu Dŵr Cymru os nad fydd yr arian a gawsant gan Lywodraeth Cymru a'r arian a gânt gan ein trigolion yn gwella seilwaith ein systemau dŵr yn helaeth? Diolch.
Thanks, Janet. Look, the first thing to say is that we don't need to wait for the outcomes of the Green Paper, or new legislation, to get on with fixing the problems with the infrastructure, the levels of customer satisfaction, the leakage, and so on. The pressure is on both of our water companies to perform for the customers who have seen over the last year and now are going to see those bigger bills landing. Now, that does deliver £6 billion investment, so we absolutely need to see that being delivered—not waiting, but, in this price period, actually investing in the priorities that will stop those combined sewer overflows polluting the river, stop the sewage outfalls, and right across the piste as well. We've got a new chief executive officer in place and a new chair in place as well. There is an opportunity here for them to actually deliver now, and from today onwards, and to make that £6 billion investment work.
You asked about what comes after the next Government. We can never forecast in a range of policy areas. But what I do know is that the Green Paper that we launched and the direction of travel that we set out has been warmly welcomed by all those stakeholders out there—those stakeholders from environmental organisations, the land managers, the water companies and everybody else—because I think it takes the right approach to say, 'Let's take an approach that not only has stability within the regulatory environment to get the investment in to do what we need to do, but also can deal with those other public imperatives, such as the quality of our rivers, the affordability of bills and everything else'. So, I think—I think—that the public out there, as well as the wider stakeholders, will hold any future Government's feet to the fire and say, 'Deliver on this. Give us the powers that we need to drive a different way forward away from the complex, outdated regulatory structure we have, to a much more systems-planning approach where you value water and you look after it, and we have those pristine rivers and coastlines and marine environment as well.'
Diolch, Janet. Edrychwch, y peth cyntaf i'w ddweud yw nad oes angen inni aros am ganlyniadau'r Papur Gwyrdd, neu ddeddfwriaeth newydd, i ddatrys y problemau gyda'r seilwaith, lefelau boddhad cwsmeriaid, y gollyngiadau, ac yn y blaen. Mae'r pwysau ar ein dau gwmni dŵr i berfformio ar ran y cwsmeriaid sydd wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn mynd i weld y biliau mwy hynny'n dod nawr. Nawr, mae hynny'n darparu buddsoddiad o £6 biliwn, felly mae angen inni weld hynny'n cael ei gyflawni—nid aros, ond yn y cyfnod pris hwn, buddsoddi yn y blaenoriaethau a fydd yn atal gorlifiadau carthffosydd cyfun rhag llygru'r afon, atal gollyngiadau carthffosiaeth, ac ar draws y cyfan hefyd. Mae gennym brif swyddog gweithredol newydd a chadeirydd newydd. Mae cyfle yma iddynt gyflawni nawr, ac o heddiw ymlaen, a gwneud i'r buddsoddiad o £6 biliwn weithio.
Roeddech chi'n gofyn beth a ddaw ar ôl y Llywodraeth nesaf. Ni allwn ddarogan mewn amrywiaeth o feysydd polisi. Ond yr hyn a wn yw bod y Papur Gwyrdd a lansiwyd gennym a'r cyfeiriad teithio a osodwyd gennym wedi cael croeso cynnes gan yr holl randdeiliaid allan yno—y rhanddeiliaid o sefydliadau amgylcheddol, y rheolwyr tir, y cwmnïau dŵr a phawb arall—oherwydd rwy'n credu ei fod yn mabwysiadu'r dull cywir drwy ddweud, 'Gadewch inni fabwysiadu dull sydd nid yn unig â sefydlogrwydd o fewn yr amgylchedd rheoleiddiol i gael y buddsoddiad i wneud yr hyn sydd angen inni ei wneud, ond a fydd hefyd yn gallu delio â'r hanfodion eraill hynny i'r cyhoedd, megis ansawdd ein hafonydd, fforddiadwyedd biliau a phopeth arall'. Felly, rwy'n credu—rwy'n credu—y bydd y cyhoedd allan yno, yn ogystal â'r rhanddeiliaid ehangach, yn dal unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol i gyfrif ac yn dweud, 'Cyflawnwch hyn. Rhowch y pwerau sydd eu hangen arnom i sbarduno ffordd wahanol ymlaen i ffwrdd o'r strwythur rheoleiddiol cymhleth, hen ffasiwn sydd gennym, i ddull sy'n ymwneud llawer mwy â chynllunio systemau lle rydych chi'n gwerthfawrogi dŵr ac rydych chi'n gofalu amdano, a lle mae gennym afonydd ac arfordiroedd ac amgylchedd morol dilychwin.'
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
The Plaid Cymru spokesperson, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Rwy'n mynd i aros gyda thema dŵr, oherwydd dydy ein system ddŵr ddim yn gweithio er budd pobl. Rŷn ni wedi clywed yn barod, wrth gwrs, am y cynnydd mewn biliau dŵr. Dydy'r pwysau, wrth gwrs, ddim yn lleihau, oherwydd bydd y cynnydd ar gyfartaledd mewn biliau dŵr yn £33 y flwyddyn, ond bydd cwsmeriaid Hafren Dyfrdwy yn wynebu biliau fydd yn cynyddu o £54. Rŷn ni hefyd wedi gweld nifer y cwynion i’r cyngor cwsmeriaid dŵr yn cynyddu mwy na 50 y cant y llynedd. Mae tlodi dŵr yn mynd yn broblem ddiysgog. A gaf i ofyn, ymhellach i'r hyn rŷch chi newydd ei ddweud, beth ŷch chi'n gobeithio bydd y Llywodraeth yn gallu ei wneud i gydsefyll gydag aelwydydd Cymreig sy’n cael eu gofyn wastad i dalu mwy am rywbeth sy’n hanfodol i’w bywydau? A pha rannau o'r Papur Gwyrdd rŷch chi'n meddwl fydd yn gallu ymbweru cwsmeriaid Cymru fwyaf?
Thank you, Llywydd. I'm going to remain with the theme of water, because our water system is not working for people, and we've heard already about the increase in water bills. But the pressure is not relenting, because the average increase in bills will be around £33 a year, but customers of Hafren Dyfrdwy will face bills that will increase by £54. We've also seen an increase in the number of complaints to the water consumer council of more than 50 per cent last year, and water poverty is becoming a persistent problem. Further to what you've just said, could I ask what do you hope that the Government will be able to do to stand together with Welsh households who are being asked to pay more for something that is essential to their lives? And what parts of the Green Paper do you think will be able to empower customers in Wales the most?
Thank you for that, and just a couple of quick responses without repeating what I've said already. One of the proposals within the Green Paper is that we bring forward bespoke proposals here that strengthen the voice of the consumer but also the citizen of Wales as well—so, the consumer in terms of affordability and having that strong voice to help shape future investment as well. It's important that this is not done to people, but people are brought along and they understand if there's a £6 billion uplift and it's impacting on their bills, well, what's that going to go to? Do they agree with it in future, in the next price determination round? Can they help shape that? Interestingly, some of the consumer analysis is saying that consumers would not be against a small uplift in their bills as long as they knew it was going to deliver the increased performance on a range of areas. That's one thing. So, that's within the Green Paper. The second aspect is, as I said, even in this price review period in front of us now, with the larger bills landing on people's doorsteps, we need to make use of this £6 billion right now and show those improvements over the next few years.
And the final thing I'd want to say to you is that we need to get the social tariffs right as well for those who are most vulnerable. We do have, I have to say, within Wales, examples of some of the more progressive side of social tariffs. We don't want to lose the gains. It is better than many of the companies across the border in England. But Sir Jon Cunliffe did say, 'You should look at that and see if there is a better way to do it, a more consistent way'. We have two water companies here in Wales. So I think, again, this Green Paper gives the opportunity for people to put their voices in and say, 'Is there a better way to look at social tariffs for the more vulnerable?'
Diolch am hynny, a dim ond cwpl o ymatebion cyflym heb ailadrodd yr hyn a ddywedais eisoes. Un o'r cynigion yn y Papur Gwyrdd yw ein bod yn cyflwyno cynigion pwrpasol yma sy'n cryfhau llais y defnyddiwr ond hefyd dinasyddion Cymru—felly, y defnyddiwr o ran fforddiadwyedd a chael y llais cryf hwnnw i helpu i lunio buddsoddiad yn y dyfodol hefyd. Mae'n bwysig nad yw hyn yn cael ei wneud i bobl, ond bod pobl yn cael eu dwyn gyda ni a'u bod yn deall os oes cynnydd o £6 biliwn a'i fod yn effeithio ar eu biliau, wel, beth fydd hynny'n mynd tuag ato? A ydynt yn cytuno ag ef yn y dyfodol, yn y rownd nesaf o benderfyniadau prisio? A allant helpu i siapio hynny? Yn ddiddorol, mae ychydig o'r dadansoddiadau defnyddwyr yn dweud na fyddai defnyddwyr yn erbyn cynnydd bach yn eu biliau cyn belled â'u bod yn gwybod ei fod yn mynd tuag at gyflawni perfformiad gwell mewn amrywiaeth o feysydd. Dyna un peth. Felly, mae hynny o fewn y Papur Gwyrdd. Yr ail agwedd, fel y dywedais, hyd yn oed yn y cyfnod adolygu prisiau sydd o'n blaenau nawr, gyda'r biliau uwch yn glanio drwy ddrysau pobl, yw bod angen inni wneud defnydd o'r £6 biliwn hwn nawr a dangos y gwelliannau hynny dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
A'r peth olaf yr hoffwn ei ddweud wrthych yw bod angen inni gael y tariffau cymdeithasol yn iawn hefyd i'r rhai mwyaf agored i niwed. Rhaid dweud, yng Nghymru, mae gennym enghreifftiau o rai o'r tariffau cymdeithasol mwy blaengar. Nid ydym am golli'r enillion. Mae'n well na llawer o'r cwmnïau ar draws y ffin yn Lloegr. Ond dywedodd Syr Jon Cunliffe, 'Dylech edrych ar hynny a gweld a oes ffordd well o wneud hynny, ffordd fwy cyson'. Mae gennym ddau gwmni dŵr yma yng Nghymru. Felly rwy'n credu, eto, fod y Papur Gwyrdd hwn yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu eu lleisiau a dweud, 'A oes ffordd well o edrych ar dariffau cymdeithasol i'r rhai mwy agored i niwed?'
Diolch. Dwi'n croesawu hwnna. I droi at y rheoleiddiwr dŵr sy'n cael ei greu, felly, un ffordd o drwsio'r system yma yw, wrth gwrs, gwneud y prisiau yn decach.
Thank you. I welcome that. Turning now to the water regulator to be established, one way of fixing this system, of course, would be to make the prices fairer.
For example, the rising block tariff model that's used in cities like Athens, Seville, Los Angeles, Singapore, ensures the first amount of water that covers basic need is free. Higher use is then charged progressively more, and that means it treats water as an essential need rather than a luxury. Do you hope that the new regulator will be able to follow from these examples and explore, possibly, a way of introducing a rising block tariff model to make those water bills fairer? You are smiling at me.
And secondly, in terms of accountability, will the new regulator have the power to challenge excessive executive pay and ensure that families are not paying prices that are higher for salaries and bonuses?
Er enghraifft, mae'r model tariff bloc cynyddol a ddefnyddir mewn dinasoedd fel Athen, Sevilla, Los Angeles, Singapore, yn sicrhau bod y swm cyntaf o ddŵr sy'n cwmpasu anghenion sylfaenol am ddim. Mae defnydd uwch wedyn yn cael ei godi'n gynyddol, ac mae hynny'n golygu ei fod yn trin dŵr fel angen hanfodol yn hytrach na moethusrwydd. A ydych chi'n gobeithio y bydd y rheoleiddiwr newydd yn gallu dilyn o'r enghreifftiau hyn ac archwilio, o bosib, ffordd o gyflwyno model tariff bloc cynyddol i wneud y biliau dŵr hynny'n decach? Rydych chi'n gwenu arnaf.
Ac yn ail, o ran atebolrwydd, a fydd gan y rheoleiddiwr newydd bŵer i herio cyflog gormodol i swyddogion gweithredol a sicrhau nad yw teuluoedd yn talu prisiau uwch ar gyfer cyflogau a bonysau?
I'm only smiling purely because I think that we have kicked off the consultation on the Green Paper already here today in the Senedd Chamber—[Interruption.] Indeed. And what I hope is that, in the Green Paper—. We've deliberately done it as a Green Paper, rather than being entirely prescriptive, so that ideas can be put in to that. So, I would welcome you and others putting your thoughts in to this. And certainly, as we bring forward the proposals then on the regulator, the regulator can be shaped for us in Wales in a way that fits us here in Wales. Sir Jon Cunliffe was very, very clear that we have a different policy and legislative framework here in Wales. We can make decisions that fit the demands of the public not only to have a 1980s-style economic regulator but also to do bigger things as well, and that could include proposals that people can put forward on the type of tariffs that we can do, the type of regulator that we would want to see. So, thank you for those suggestions, but I don't want to pre-empt where this Green Paper might go. But it's certainly a Green Paper with white edges. We're setting the direction of travel, but we want to hear from people.
Rwyf ond yn gwenu oherwydd fy mod yn meddwl ein bod wedi dechrau'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd yma heddiw yn Siambr y Senedd—[Torri ar draws.] Yn wir. A'r hyn rwy'n ei obeithio yw, yn y Papur Gwyrdd—. Rydym wedi ei wneud yn Bapur Gwyrdd fwriadol, yn hytrach na bod yn gwbl gyfarwyddol, fel y gellir rhoi syniadau tuag at hynny. Felly, buaswn yn falch o'ch gweld chi ac eraill yn rhoi eich syniadau i mewn. Ac yn sicr, wrth inni gyflwyno'r cynigion wedyn ar y rheoleiddiwr, gall y rheoleiddiwr gael ei siapio ar ein cyfer yng Nghymru mewn ffordd sy'n gweddu i ni yma yng Nghymru. Roedd Syr Jon Cunliffe yn glir iawn fod gennym fframwaith polisi a deddfwriaethol gwahanol yma yng Nghymru. Gallwn wneud penderfyniadau sy'n cyd-fynd â gofynion y cyhoedd nid yn unig i gael rheoleiddiwr economaidd tebyg i'r 1980au ond hefyd i wneud pethau mwy yn ogystal, a gallai hynny gynnwys cynigion y gall pobl eu cyflwyno ar y math o dariffau y gallwn eu gwneud, y math o reoleiddiwr y byddwn am ei weld. Felly, diolch am yr awgrymiadau hynny, ond nid wyf am ragflaenu ble y gallai'r Papur Gwyrdd hwn fynd. Ond mae'n sicr yn Bapur Gwyrdd gydag ymylon gwyn. Rydym yn gosod y cyfeiriad teithio, ond rydym am glywed gan bobl.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â mater tir halogedig? OQ63769
3. What action is the Welsh Government taking to support local authorities to tackle the issue of contaminated land? OQ63769
Thank you, Delyth. The Welsh Government does recognise the challenges posed by our industrial past. It's a burden unfortunately shared by local authorities not just here in Wales, but right across the UK. In Wales, we continue to support the redevelopment of land impacted by contamination, where possible, through the planning process, and we assist regulators by funding training and developing technical guidance.
Diolch, Delyth. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â'n gorffennol diwydiannol. Mae'n faich sydd, yn anffodus, yn cael ei rannu gan awdurdodau lleol nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Yng Nghymru, rydym yn parhau i gefnogi ailddatblygu tir yr effeithir arno gan halogiad drwy'r broses gynllunio lle bo hynny'n bosib, ac rydym yn cynorthwyo rheoleiddwyr drwy ariannu hyfforddiant a datblygu canllawiau technegol.
Well, this is such an important issue, of course, I welcome what is happening, because contaminated land is a hidden scar on the skin of our scenery. It's left so many of our mountains, valleys, rivers poisoned with pollution that we can't see. So-called forever chemicals are oil resistant. They can be toxic and they linger on landscapes for years. Many were dumped by companies like Monsanto in quarries and landfill sites across the UK, and one such site is Tŷ Llwyd quarry near Ynysddu. At times of heavy rain, leachate leaks out of the site and dirty brown, sometimes orange, liquid flows down the mountain towards the Sirhowy river. Questions remain about how much testing is happening and whether the site will be officially recorded as contaminated land, which seems baffling to those of us who have seen the orange liquid ourselves. Now, it's been announced that the UK will increase testing for these forever chemicals. Surely, though, they should be banned, not just tested for. They can be carcinogenic. Would you use your influence with the UK Government to ban the use of these chemicals once and for all?
Wel, mae hwn yn fater mor bwysig, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r hyn sy'n digwydd, oherwydd mae tir halogedig yn graith gudd ar groen ein golygfeydd. Mae wedi gadael cymaint o'n mynyddoedd, dyffrynnoedd, afonydd wedi'u gwenwyno â llygredd na allwn ei weld. Mae cemegau am byth fel y'u gelwir yn gallu gwrthsefyll olew. Gallant fod yn wenwynig ac maent yn aros ar dirweddau am flynyddoedd. Cafodd llawer ohonynt eu gollwng gan gwmnïau fel Monsanto mewn chwareli a safleoedd tirlenwi ledled y DU, ac un safle o'r fath yw chwarel Tŷ Llwyd ger Ynys-ddu. Ar adegau o law trwm, mae trwytholch yn gollwng allan o'r safle ac mae hylif brown budr, weithiau oren, yn llifo i lawr y mynydd tuag at afon Sirhywi. Mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â faint o brofion a wneir ac a fydd y safle yn cael ei gofnodi'n swyddogol fel tir halogedig, sy'n ymddangos yn annealladwy i'r rhai ohonom sydd wedi gweld yr hylif oren ein hunain. Nawr, cyhoeddwyd y bydd y DU yn cynyddu profion ar gyfer y cemegau am byth hyn. Ond yn sicr, fe ddylid eu gwahardd, nid dim ond cynnal profion i weld a ydynt yn bresennol. Gallant fod yn garsinogenig. A wnewch chi defnyddio eich dylanwad gyda Llywodraeth y DU i wahardd y defnydd o'r cemegau hyn unwaith ac am byth?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
Thank you, Delyth. First of all, can I urge you to keep in contact with Caerphilly County Borough Council in terms of Tŷ Llwyd? We've certainly had several exchanges on this issue and the work that has been done there and whether or not it should be defined as contaminated land or not, so I won't rehearse that. But, certainly, in terms of the per- and poly-fluoroalkyl substances plan, which was announced on Tuesday this week, this is the first comprehensive statement of the UK Government's approach to managing PFAS, and it does have clear benefits to Wales. So, the Department for Environment, Food and Rural Affairs has worked with us and with other devolved Governments to jointly develop the plan. It brings together work across a wide range of PFAS-related policy areas, and, for the first time ever, this plan sets out a UK-wide approach to minimising the harmful effects of PFAS while supporting that transition to safer alternatives.
Now, I know some people are calling for an outright ban right here, right now, but what we believe is that, first of all, crucially, this plan's approach aligns with the Welsh Government priorities for public health and environmental protection and the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 as well. It's consistent with our long-term goals. Our interests have been considered and incorporated throughout the development. We do believe that this is a step forward and it's an evidence-led and proportionate approach that helps us in Wales address the PFAS challenge effectively. So, we will always keep this live and under review, and it's good to see, by the way, the focus that is now coming onto this, including by outside organisations as well. We do have to address this. This is a definite step forward, and we're pleased we've had engagement with the UK Government in bringing it forward.
Diolch, Delyth. Yn gyntaf oll, a gaf i eich annog i gadw mewn cysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o ran Tŷ Llwyd? Yn sicr, rydym wedi cael sawl sgwrs ar y mater a'r gwaith sydd wedi'i wneud yno ac a ddylid ei ddiffinio fel tir halogedig ai peidio, felly ni wnaf ailadrodd hynny. Ond yn sicr, o ran y cynllun sylweddau per- a pholyfflworoalcyl (PFAS), a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yr wythnos hon, dyma'r datganiad cynhwysfawr cyntaf o ddull Llywodraeth y DU o reoli sylweddau PFAS, ac mae ganddo fanteision clir i Gymru. Felly, mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi gweithio gyda ni a chyda Llywodraethau datganoledig eraill i ddatblygu'r cynllun ar y cyd. Mae'n dwyn gwaith ynghyd ar draws amrywiaeth eang o feysydd polisi sy'n gysylltiedig â PFAS, ac am y tro cyntaf erioed, mae'r cynllun hwn yn nodi dull ledled y DU o leihau effeithiau niweidiol PFAS gan gefnogi trawsnewid i ddewisiadau amgen mwy diogel.
Nawr, rwy'n gwybod bod rhai pobl yn galw am waharddiad llwyr yma, ar unwaith, ond yn gyntaf oll, ac yn hollbwysig, credwn fod dull y cynllun hwn yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd y cyhoedd a diogelu'r amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd. Mae'n gyson â'n nodau hirdymor. Mae ein buddiannau wedi'u hystyried a'u hymgorffori drwy gydol y datblygiad. Credwn fod hwn yn gam ymlaen ac mae'n ddull cymesur a arweinir gan dystiolaeth sy'n ein helpu yng Nghymru i fynd i'r afael â her PFAS yn effeithiol. Felly, byddwn bob amser yn cadw hyn yn fyw ac wedi'i adolygu, ac mae'n dda gweld, gyda llaw, y ffocws i hyn nawr, gan gynnwys gan sefydliadau allanol hefyd. Rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Mae hwn yn gam pendant ymlaen, ac rydym yn falch ein bod wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU i'w gyflwyno.
I'd like to thank Delyth Jewell for raising this question. I hosted an event in the Senedd with Michael Sheen last week, which looked at the issue of contaminated land. It will feature in a two-part documentary called Buried. I also attended a Friends of the Earth Ruthin event last week, where they screened Dark Waters. The use of forever chemicals by large corporates, and the way they try to avoid responsibility for the harm that they cause to land and to the natural environment and people is disturbing, and not just impacting south Wales, but also areas of north Wales as well. I was surprised how widespread this is. I will write to you with more detail, but would you follow this up with the UK Government? Because we talk about 'polluter pays', and I think that we should be chasing these big corporations like Monsanto to pay for testing, which is expensive—we were told it's about £1,000 for each test to test for those PFAS—and also for any remediation that's needed in the future, because local authorities can't afford that remediation. And I would also support a ban on glyphosate, which continues to be used by local authorities. It's not necessary. Thank you.
Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am godi'r cwestiwn hwn. Cynhaliais ddigwyddiad yn y Senedd gyda Michael Sheen yr wythnos diwethaf, a oedd yn edrych ar fater tir halogedig. Bydd yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen ddwy ran o'r enw Buried. Yn ogystal, fe wneuthum fynychu digwyddiad Cyfeillion y Ddaear yn Rhuthun yr wythnos diwethaf, lle gwnaethant ddangos Dark Waters. Mae'r defnydd o gemegau am byth gan gwmnïau mawr, a'r ffordd y maent yn ceisio osgoi cyfrifoldeb am y niwed y maent yn ei achosi i'r tir ac i'r amgylchedd naturiol a phobl yn peri pryder, ac nid yn unig yn effeithio ar dde Cymru, ond hefyd ar ardaloedd o ogledd Cymru. Roeddwn yn synnu pa mor eang yw hyn. Byddaf yn ysgrifennu atoch gyda mwy o fanylion, ond a wnewch chi fynd ar drywydd hyn gyda Llywodraeth y DU? Oherwydd rydym yn siarad am 'y llygrydd yn talu', ac rwy'n credu y dylem fynd ar drywydd y corfforaethau mawr fel Monsanto i dalu am brofion, sy'n ddrud—dywedwyd wrthym ei fod tua £1,000 am bob prawf i brofi am y PFAS hynny—a hefyd am unrhyw waith adfer sydd ei angen yn y dyfodol, oherwydd ni all awdurdodau lleol fforddio'r gwaith adfer hwnnw. A buaswn yn cefnogi gwaharddiad ar glyffosad, sy'n parhau i gael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol. Mae'n ddiangen. Diolch.
First of all, Carolyn, we absolutely noted that event that took place that you hosted last week, and it's really good to see not just Michael Sheen, but actually several people, campaigners over recent years, who've highlighted this, including work that's been done on the BBC as well, with documentaries on this. And we welcome this, because it brings it into real sharp focus for policy makers right across the UK. And this is a UK issue. We recognise this is really complex. There isn't an overnight fix on this one, but we've got to do everything we can do to minimise the impact and then drive forward change.
You raise the important point about what we can do together, working with other nations who are equally affected by this, because all the nations now recognise we need to act together on this. So, the recent publication, indeed, of the UK PFAS plan is a real step forward, and it's an example of Governments coming together to pave the way forward from this emerging environmental threat.
Now, just to let the Siambr know, I intend to seek a similar collaborative UK approach to contaminated land and land contamination at the next inter-ministerial group meeting, which is tomorrow. We've already taken decisive action on tackling threats in other areas, for example, spoil heaps. We want to learn from this approach and see if we can have a UK approach on this as well. My officials are also continuing to work with local authorities and Public Health Wales and others, but I think there's a piece of work we can do at a UK level, because it's affecting all of us.
Yn gyntaf, Carolyn, yn sicr fe wnaethom nodi'r digwyddiad a gynhaliwyd gennych yr wythnos diwethaf, ac mae'n dda iawn gweld nid yn unig Michael Sheen, ond sawl un mewn gwirionedd, ymgyrchwyr dros y blynyddoedd diwethaf, yn tynnu sylw at hyn, gan gynnwys gwaith a wnaed ar y BBC hefyd, gyda rhaglenni dogfen ar hyn. Ac rydym yn croesawu hyn, gan ei fod yn rhoi ffocws clir iawn ar y mater i lunwyr polisi ledled y DU. Ac mae hwn yn fater ar gyfer y DU gyfan. Rydym yn cydnabod ei fod yn gymhleth iawn. Nid oes ateb dros nos i'r broblem hon, ond mae’n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i leihau'r effaith ac yna i hybu newid.
Rydych chi'n codi'r pwynt pwysig ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd, gan weithio gyda gwledydd eraill sydd wedi'u heffeithio i'r un graddau gan hyn, gan fod yr holl wledydd bellach yn cydnabod bod angen inni weithredu gyda'n gilydd ar hyn. Felly, mae cyhoeddi cynllun sylweddau poly- a perfflworoalcyl y DU yn ddiweddar yn gam go iawn ymlaen, ac mae'n enghraifft o Lywodraethau'n dod ynghyd i baratoi'r ffordd ymlaen mewn ymateb i'r bygythiad amgylcheddol hwn sy'n dod i'r amlwg.
Nawr, er gwybodaeth i'r Siambr, rwy'n bwriadu ceisio dull cydweithredol tebyg ar lefel y DU ar gyfer tir halogedig a halogi tir yng nghyfarfod nesaf y grŵp rhyngweinidogol, a fydd yn cael ei gynnal yfory. Rydym eisoes wedi cymryd camau pendant i fynd i'r afael â bygythiadau mewn meysydd eraill, er enghraifft, pentyrrau sborion. Rydym am ddysgu o'r dull gweithredu hwn a gweld a allwn gael dull gweithredu i fynd i'r afael â hyn ar lefel y DU hefyd. Mae fy swyddogion hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill, ond credaf fod gwaith y gallwn ei wneud ar lefel y DU, gan ei fod yn effeithio ar bob un ohonom.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ffermio yng ngorllewin Cymru? OQ63772
4. What is the Welsh Government doing to support the farming sector in west Wales? OQ63772
Diolch, Paul. We're supporting a sustainable and productive agricultural industry in all of Wales, including west Wales, through the sustainable farming scheme. In west Wales, farm businesses have received basic payment scheme 2025 payments worth over £65.6 million, and support is also available through our rural investment schemes and via Farming Connect.
Diolch, Paul. Rydym yn cefnogi diwydiant amaethyddol cynaliadwy a chynhyrchiol yng Nghymru gyfan, gan gynnwys gorllewin Cymru, drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Yng ngorllewin Cymru, mae busnesau fferm wedi derbyn gwerth dros £65.6 miliwn o daliadau drwy gynllun y taliad sylfaenol yn 2025, ac mae cymorth hefyd ar gael drwy ein cynlluniau buddsoddi gwledig a thrwy Cyswllt Ffermio.
Well, Cabinet Secretary, I've been contacted by a farmer who is very concerned about the Welsh Government's sustainable farming scheme and what it would mean for his farm. He explained that the scheme in its current form will reduce his subsidy by 19 per cent, and, at the same time, this farmer will have to pay an increasing amount in costs to comply with the scheme. For example, he'll have to pay costs to establish a herbal ley, costs to pay a vet to develop a biosecurity plan, and costs to union representatives to help complete his paperwork. And on top of that, he will lose a day's pay to do the six hours of continuous professional development requirement, which is a key universal action for compliance. So, Cabinet Secretary, do you understand the frustration of small commercial farmers, like my constituent, who will be hit hard financially to comply with your Government scheme? And what message do you have for farmers who have concerns like this?
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, mae ffermwr wedi cysylltu â mi i fynegi pryder am gynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru a'r hyn y byddai'n ei olygu i'w fferm. Esboniodd y bydd y cynllun ar ei ffurf bresennol yn lleihau ei gymhorthdal 19 y cant, ac ar yr un pryd, bydd yn rhaid i'r ffermwr hwn dalu mwy mewn costau er mwyn cydymffurfio â'r cynllun. Er enghraifft, bydd yn rhaid iddo dalu costau i sefydlu gwyndwn llysieuol, costau i dalu milfeddyg i ddatblygu cynllun bioddiogelwch, a chostau i gynrychiolwyr undeb ei helpu i gwblhau ei waith papur. Ac ar ben hynny, bydd yn colli diwrnod o gyflog er mwyn cyflawni'r gofyniad o chwe awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus, sy'n gam cyffredinol allweddol ar gyfer cydymffurfio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n deall rhwystredigaeth ffermwyr masnachol bach, fel fy etholwr, a fydd yn cael eu taro'n galed yn ariannol er mwyn cydymffurfio â chynllun eich Llywodraeth? A pha neges sydd gennych i ffermwyr sydd â phryderon o'r fath?
The message I have for all farmers is that we've designed, in collaboration with the ministerial round-table, with the officials group working, a scheme that is available to all farmers and accessible to all farmers as well. And there is also support out there, Paul, for all those farmers, and they can turn to Farming Connect and our advisers to help them work through how it will work for them.
By the way, things such as—. And it is worth that individual and others picking this up with our farm advisers, and with the unions, who've been very good in this space providing advice as well, because on things such as the benchmarking, things such as the continuing professional development, we've made it very clear that many farmers are already doing aspects of this. But helping them identify what they're doing and how that can count towards it makes some of those measures more understandable. But they need to have a one-to-one conversation and work through this.
To be crystal clear, we've not only sustained the BPM payments going forward over the last couple of years, sometimes at risk in budgets as well, something that was not happening across the border in England, but we've also made sure that the quantum of funding is there now, going forward, both in the universal layer and also in the optional and collaborative. Bear in mind, Paul, all of this funding is there to do a whole-farm approach. So, it's productive farms producing really good food, viable businesses, and also doing things such as climate resilience for the good of that farm, as well as for the wider good, and also nature and biodiversity. It's right that funds go into farms to help them do all of these things. We'll continue to do that, and I would say to that farmer, but also to all others, 'It may not be absolutely perfect for every single farmer', but, I have to say, the broad response we've had from the over 2,000 farmers that have attended the roadshows, and the many, many farmers who've gone on to the ready reckoners has been, 'This can work for us', including, by the way, some in the dairy intensive sector, who've had difficulties previously in accessing the scheme and are now looking at this and saying, 'Well, I think we can make this work.'
Y neges sydd gennyf i bob ffermwr yw ein bod ni, mewn cydweithrediad â'r ford gron weinidogol, gyda'r grŵp swyddogion, wedi llunio cynllun sydd ar gael i bob ffermwr ac yn hygyrch i bob ffermwr. Ac mae cymorth ar gael hefyd, Paul, i'r holl ffermwyr hynny, a gallant droi at Cyswllt Ffermio a'n cynghorwyr i'w helpu i weithio drwy sut y bydd yn gweithio iddynt hwy.
Gyda llaw, pethau fel—. Ac mae'n werth i'r unigolyn hwnnw ac eraill godi hyn gyda'n cynghorwyr fferm, a chyda'r undebau llafur, sydd wedi bod yn dda iawn yn rhoi cyngor yn y maes hwn hefyd, oherwydd ar bethau fel y meincnodi, pethau fel y datblygiad proffesiynol parhaus, rydym wedi nodi'n glir iawn fod llawer o ffermwyr eisoes yn cyflawni agweddau ar hyn. Ond mae eu helpu i nodi beth y maent yn ei wneud a sut y gall hynny gyfrif tuag ato yn gwneud rhai o'r mesurau hynny'n fwy dealladwy. Ond mae angen iddynt gael sgwrs un i un a gweithio drwy hyn.
I fod yn gwbl glir, nid yn unig ein bod wedi cynnal taliadau cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer y dyfodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hwythau o dan fygythiad weithiau mewn cyllidebau, rhywbeth nad oedd yn digwydd dros y ffin yn Lloegr, ond rydym hefyd wedi sicrhau bod y swm o gyllid yno nawr, yn y dyfodol, yn yr haen gyffredinol ac yn yr haen opsiynol a chydweithredol. Cofiwch, Paul, fod yr holl gyllid hwn yno i er mwyn rhoi dull fferm gyfan ar waith. Felly, mae a wnelo â ffermydd cynhyrchiol yn cynhyrchu bwyd da iawn, busnesau hyfyw, yn ogystal â sicrhau pethau fel gwydnwch hinsawdd er lles y fferm honno, yn ogystal ag er lles ehangach, a hefyd natur a bioamrywiaeth. Mae'n iawn fod arian yn mynd i ffermydd i'w helpu i wneud yr holl bethau hyn. Byddwn yn parhau i wneud hynny, a hoffwn ddweud wrth y ffermwr hwnnw, ond hefyd wrth bawb arall, 'Efallai nad yw'n gwbl berffaith i bob un ffermwr', ond mae'n rhaid imi ddweud, yr ymateb cyffredinol a gawsom gan y dros 2,000 o ffermwyr sydd wedi mynychu'r sioeau teithiol, a'r nifer fawr o ffermwyr sydd wedi mynd yn eu blaenau i ddefnyddio'r canllaw cyflym yw, 'Gall hyn weithio i ni', gan gynnwys rhai yn y sector godro dwys, gyda llaw, sydd wedi'i chael hi'n anodd cael mynediad at y cynllun yn y gorffennol ac sydd bellach yn edrych ar hyn ac yn dweud, 'Wel, rwy'n credu y gallwn wneud i hyn weithio.'
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar adfer mwyngloddiau brig yng Ngorllewin De Cymru? OQ63794
5. Will the Cabinet Secretary provide an update on opencast mine restoration in South Wales West? OQ63794
Diolch, Sioned. Welsh Government is committed to ensuring all legacy mining sites are safe and don't cause environmental harm, including former opencast sites. To support this, I have asked officials to establish a new working group to consider the challenges and the opportunities associated with reclamation and regeneration of mining legacy sites.
Diolch, Sioned. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob hen safle mwyngloddio yn ddiogel ac nad ydynt yn achosi niwed amgylcheddol, gan gynnwys hen safleoedd glo brig. I gefnogi hyn, rwyf wedi gofyn i swyddogion sefydlu gweithgor newydd i ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag adfer ac adfywio hen safleoedd mwyngloddio.
Diolch yn fawr am yr ateb. Mae hynny'n newyddion da achos, fel rŷch chi'n gwybod, er gwaethaf blynyddoedd o godi pryderon ynghylch cyn-lofa brig East Pit yn fy rhanbarth i, mae nifer o fy etholwyr wedi mynegi pryderon difrifol am ddiogelwch hirdymor y safle, a dŷn nhw ddim wedi derbyn lot o atebion hyd yma. Rwyf wedi codi hyn sawl gwaith gyda Llywodraeth Cymru a hefyd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a chyrff ac awdurdodau eraill, yn sôn am yr angen yna am asesiadau annibynnol o hydroleg a risg seismig, ond ychydig iawn o weithredu sydd wedi bod hyd yma. Ac i bobl sy'n byw yn y cymunedau o gwmpas Gwauncaegurwen, Cwmllynfell a Thairgwaith, wrth ymyl y gwagle enfawr yma sydd wedi cael ei adael gan y lofa a nawr sydd yn llawn dŵr, mae'r ansicrwydd yn peri pryder. Mae angen sicrwydd arnyn nhw fod cyrff cyhoeddus yn cydweithio, yn rhannu gwybodaeth, ac yn dryloyw yn y ffordd maen nhw'n ymateb i'w pryderon. Felly, pa gefnogaeth bellach all Llywodraeth Cymru ei chynnig i gryfhau y cydweithio yma, a beth yn union fydd y grŵp gwaith newydd yma yn edrych arno yn gyntaf?
Thank you for that response. That's good news because, as you know, despite years of raising concerns about the former East Pit opencast site in my own region, many of my constituents have expressed serious concerns about the long-term safety of the site, and they haven't received many answers to date. I've raised this several times with the Welsh Government and Neath Port Talbot Council and other bodies and authorities, talking about that need for independent assessments of hydrology and seismic risk, but there's been very little action to date. And for people who live in the communities around Gwaun-Cae-Gurwen, Cwmllynfell and Tairgwaith, near this huge void that has been left by the opencast and is now full of water, the uncertainty is causing concern. They do need assurances that public bodies are working together, are sharing information, and are responding to their concerns in a transparent manner. So, what further support can the Welsh Government offer to strengthen this collaboration, and what exactly will this new working group be looking at first?
Thank you for that supplementary. First of all to say, in terms of East Pit itself, and many of us live within the shadow of these former disused and abandoned, sometimes, sites as well, and have to work through how you see a future for these sites for the betterment of the community as well, particularly—. But, in terms of East Pit, my officials have previously engaged with Neath Port Talbot Council to discuss the concerns on things such as stability and flooding hazards at the site, in particular with respect to the flooded excavation on that site. I'm very happy that continuing engagement goes on between Welsh Government and local government on that. In fact, Welsh Government has offered support to the council in their response to the concerns that are currently being raised at East Pit. So, we want to keep engaged in this within the powers that we have.
But on the bigger issue, because this is not just an issue that affects East Pit, but other parts of Wales as well, as we know, and also other parts of the UK as well, the mining legacy group that we're establishing will draw together, we think, the right group of stakeholders to consider the challenges—and they are complex, as we know; there is not an easy overnight solution to this—but also the opportunities to resolve this, which are associated with the management and the reclamation and the regeneration of mining legacy sites. So, the long-term strategic aim is to ensure that disused tips, as we've done with the work that we are doing separate from this, and other mining legacy sites, including former opencast sites, become beneficial assets for communities, supporting local economies and the wider environment. So, that's what we're trying to do in the mining legacy group, but I don't want to overhype expectations that they will resolve the problem tomorrow, because some of these problems have been going back decades. But we're setting that group up in order to explore what the challenges are, what the best way forward is, and that might mean also picking up the phone to UK Government and saying, 'We need to think about this together as well.'
Diolch am eich cwestiwn atodol. Yn gyntaf oll, o ran Pwll y Dwyrain ei hun, ac mae llawer ohonom yn byw yng nghysgod yr hen safleoedd segur hyn, ac mae'n rhaid inni weithio drwy sut y gwelwch ddyfodol i'r safleoedd hyn er lles y gymuned hefyd, yn enwedig—. Ond o ran Pwll y Dwyrain, mae fy swyddogion wedi ymgysylltu â Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn y gorffennol i drafod y pryderon ynghylch pethau fel sefydlogrwydd a pheryglon llifogydd ar y safle, yn enwedig o ran y cloddfeydd llawn dŵr ar y safle hwnnw. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn ymgysylltu'n barhaus ar hynny. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth i'r cyngor gyda'u hymateb i'r pryderon sy'n codi ar hyn o bryd ym Mhwll y Dwyrain. Felly, rydym am barhau i ymgysylltu ar hyn o fewn y pwerau sydd gennym.
Ond ar y mater mwy, gan nad mater sy'n effeithio ar Bwll y Dwyrain yn unig mo hwn, ond rhannau eraill o Gymru hefyd, fel y gwyddom, a rhannau eraill o'r DU hefyd, credwn y bydd y grŵp gwaddol mwyngloddio yr ydym yn ei sefydlu yn dwyn ynghyd y grŵp cywir o randdeiliaid i ystyried yr heriau—ac maent yn gymhleth, fel y gwyddom; nid oes ateb hawdd dros nos—ond hefyd y cyfleoedd i ddatrys hyn, sy'n gysylltiedig â rheoli ac adfer ac adfywio safleoedd gwaddol mwyngloddio. Felly, y nod strategol hirdymor yw sicrhau bod tomenni nas defnyddir, fel rydym wedi'i wneud gyda'r gwaith a wnawn ar wahân i hyn, a safleoedd gwaddol mwyngloddio eraill, gan gynnwys hen safleoedd glo brig, yn dod yn asedau buddiol i gymunedau, gan gefnogi economïau lleol a'r amgylchedd ehangach. Felly, dyna y ceisiwn ei wneud yn y grŵp gwaddol mwyngloddio, ond nid wyf am orbwysleisio disgwyliadau y byddant yn datrys y broblem yfory, gan fod rhai o'r problemau hyn yn mynd yn ôl ddegawdau. Ond rydym yn sefydlu'r grŵp hwnnw er mwyn archwilio beth yw'r heriau, beth yw'r ffordd orau ymlaen, a gallai hynny olygu codi'r ffôn a dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Mae angen inni feddwl am hyn gyda'n gilydd yn ogystal.'
You will know, Cabinet Secretary, that in August 2024 the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee prepared the 'Restoration of opencast mining sites' report. It was fascinating to read. Thank you, Llyr. In it, it had 26 recommendations that it made of Welsh Government. Can you tell us how many of those have been accepted and implemented, 18 months on?
Fe wyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi paratoi'r adroddiad 'Adfer safleoedd glo brig' ym mis Awst 2024. Roedd yn ddiddorol iawn i'w ddarllen. Diolch, Llyr. Ynddo, roedd yn gwneud 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. A allwch chi ddweud wrthym faint o'r rheini sydd wedi'u derbyn a'u rhoi ar waith, 18 mis yn ddiweddarach?
I can't, off the top of my head, and you wouldn't expect me to, off the top of my head, give a numerical answer to that. What I can say is we've taken forward recently the legislation that deals with the safety and welfare of communities affected by the legacy of our industrial past, including the establishment of a new authority with a specific aim of that, protecting the welfare and safety of those communities.
We've also put a quantum of funding into the restoration of these former coal tips that has never been seen before. It's a quantum of funding that the Welsh Government, I have to say, with the support of the Senedd Chamber, has been putting in for the last five years, since Tylorstown, to walk and inspect and monitor and put forward solutions since we had the Tylorstown tip. And now we've been reached out to, last year, by the UK Labour Government, who have come in and actually reached into their pockets and put a substantial instalment—I do call it an instalment—into this as well. So, we will be spending well over £200 million over the next few years on restoration. So, I can't give you a numerical answer, but I can give you a substantive answer: we are cracking on with this at pace.
Na allaf, o fy nghof, ac ni fyddech y disgwyl imi ateb hynny gyda ffigur o fy nghof chwaith. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod wedi bwrw ymlaen yn ddiweddar â'r ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â diogelwch a lles cymunedau yr effeithir arnynt gan waddol ein gorffennol diwydiannol, gan gynnwys sefydlu awdurdod newydd gyda'r nod penodol o warchod lles a diogelwch y cymunedau hynny.
Rydym hefyd wedi darparu swm digynsail o gyllid i adfer yr hen domenni glo hyn. Mae'n swm o gyllid y mae Llywodraeth Cymru, rhaid imi ddweud, gyda chefnogaeth Siambr y Senedd, wedi bod yn ei ddarparu am y pum mlynedd diwethaf, ers Tylorstown, i gerdded ac archwilio a monitro a chyflwyno atebion ers y digwyddiad gyda thomen Tylorstown. A bellach, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cysylltu â ni y llynedd, ac wedi estyn i'w pocedi a rhoi rhandaliad sylweddol—rwy'n ei alw'n rhandaliad—tuag at hyn hefyd. Felly, byddwn yn gwario ymhell dros £200 miliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ar adfer. Felly, ni allaf roi ffigur yn ateb i chi, ond gallaf roi ateb cadarn i chi: rydym yn bwrw ymlaen â hyn yn gyflym.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau mynediad microblastigau i ddyfrffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ63792
6. What steps is the Welsh Government taking to reduce the entry of microplastics into waterways in north Wales? OQ63792
Diolch, Gareth. The Welsh Government recognises microplastics as an emerging threat to water quality and the wider environment. We know that microplastics enter waterways via run-off and waste water, though treatment removes over 99 per cent. Now, whilst there is no current monitoring requirement, Welsh Government and NRW are assessing the emerging evidence to inform future standards, monitoring and action.
Diolch, Gareth. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod microblastig yn fygythiad cynyddol i ansawdd dŵr a'r amgylchedd ehangach. Gwyddom fod microblastig yn mynd i mewn i ddyfrffyrdd drwy ddŵr ffo a dŵr gwastraff, er bod gwaith trin dŵr gwastraff yn cael gwared ar dros 99 y cant ohonynt. Nawr, er nad oes gofyniad i fonitro ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru a CNC yn asesu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg er mwyn llywio safonau, monitro a chamau gweithredu yn y dyfodol.
Thank you very much, Cabinet Secretary. Microplastics are accumulating on the surface of our seas, rivers, tap water, in our soil, food, and, most importantly, in our bodies. Every single person in the UK has microplastics present in their body, which is an uncomfortable fact to learn. The University of Portsmouth's Global Plastics Policy Centre outlined the growing scale of the crisis, calling for a co-ordinated UK road map with clear targets and timelines. They warned that, without immediate intervention, the UK risks falling behind global leaders such as the EU and the US, which are already introducing enforceable targets and limits on microplastics in water and industrial processes.
I appreciate that the Welsh Government has taken action on single-use plastics and the UK Government banned microbeads in 2017, but much more needs to be done, collaboratively, in order to reduce the amount of microplastics entering our ecosystem, leaving a cleaner environment for the next generation, as currently infants are ingesting plastic almost from birth. The Marine Conservation Society has proposed mandatory microfibre filters for washing machines, which are large contributors to microplastics in our waterways. [Interruption.] I'm on my question now. So, what other measures has the Welsh Government considered, such as washing machine filters, to reduce the number of microplastics entering our ecosystem?
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae microblastig yn cronni ar wyneb ein moroedd, ein hafonydd, ein dŵr tap, yn ein pridd, ein bwyd, ac yn bwysicaf oll, yn ein cyrff. Mae gan bob unigolyn yn y DU ficroblastig yn eu corff, sy'n ffaith anghyfforddus i'w dysgu. Amlinellodd y Global Plastics Policy Centre ym Mhrifysgol Portsmouth raddfa gynyddol yr argyfwng, gan alw am gynllun cydgysylltiedig ar gyfer y DU gyda thargedau ac amserlenni clir. Fe wnaethant rybuddio, heb ymyrraeth ar unwaith, fod y DU mewn perygl o syrthio ar ôl arweinwyr byd-eang fel yr UE a'r Unol Daleithiau, sydd eisoes yn cyflwyno targedau a chyfyngiadau gorfodadwy ar ficroblastig mewn dŵr a phrosesau diwydiannol.
Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith ar gynhyrchion plastig untro a bod Llywodraeth y DU wedi gwahardd microbelenni yn 2017, ond mae angen gwneud llawer mwy, ar y cyd, er mwyn lleihau faint o ficroblastig sy'n mynd i mewn i'n hecosystem a gadael amgylchedd glanach i'r genhedlaeth nesaf, gan fod babanod ar hyn o bryd yn llyncu plastig bron o'r adeg y cânt eu geni. Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi argymell hidlwyr microffibr gorfodol ar gyfer peiriannau golchi, sy'n cyfrannu'n sylweddol at ficroblastig yn ein dyfrffyrdd. [Torri ar draws.] Rwy'n gofyn fy nghwestiwn nawr. Felly, pa fesurau eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried, fel hidlwyr peiriannau golchi, i leihau faint o ficroblastig sy'n mynd i mewn i'n hecosystem?
On that last question, there could be some interesting innovations within appliances, and that would need to be addressed not just at a Wales level, but at a UK and a European level as well, so that we have the design of the appliances actually filtering microplastics out at source there. It's bigger than a Welsh devolved issue there. But more than happy to confirm that we would certainly be supporting innovations in technology.
What we can do is, though, because of the importance of this issue, we can actually work both here within Wales and across the UK. The most recent phase of the chemical investigation programme, the CIP, is a national project that brings together water companies, regulators, research experts, consultants, investigating chemicals in the environment, including microplastics. As I mentioned in my response to you initially, they found that 99 per cent, just to be clear, of microplastics are removed through waste water treatment processes at tested sites. Welsh Water's 2025-30 business plan commits over £4 billion in investment, including £2.5 billion for environmental improvements, and nearly £900 million specifically to tackle storm overflows. That shows the scale of action under way.
NRW is working directly with the water industry in Wales to further cut microplastic pollution, including projects to identify sources from waste water treatment and reduce microplastics in biosolids ahead of the next planning cycle. NRW is also working on prevention methods with other research partners, including the UK Government's Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science, to strengthen the evidence base on risks and impacts. There's a lot more to do in this space as the evidence emerges, but we're not waiting for it, we're getting on with it.
Ar y cwestiwn olaf, gallai fod rhai datblygiadau diddorol mewn peiriannau, a byddai angen mynd i'r afael â hynny nid yn unig ar lefel Cymru, ond ar lefel y DU ac Ewrop hefyd, fel bod lluniad y peiriannau'n hidlo microblastig allan yn llygad y ffynnon. Mae'n fwy na mater datganoledig i Gymru. Ond rwy'n fwy na pharod i gadarnhau y byddem yn sicr yn cefnogi datblygiadau mewn technoleg.
Yr hyn y gallwn ei wneud, fodd bynnag, oherwydd pwysigrwydd y mater, yw gweithio yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Cam diweddaraf y rhaglen ymchwilio i gemegau yw prosiect cenedlaethol sy'n dwyn ynghyd y cwmnïau dŵr, rheoleiddwyr, arbenigwyr ymchwil, ymgynghorwyr, sy'n ymchwilio i gemegau yn yr amgylchedd, gan gynnwys microblastigau. Fel y soniais yn fy ymateb cychwynnol i chi, fe wnaethant ganfod fod prosesau trin dŵr gwastraff, i fod yn glir, yn cael gwared ar 99 y cant o ficroblastigau mewn safleoedd a fu'n destun profion. Mae cynllun busnes Dŵr Cymru ar gyfer 2025-30 yn ymrwymo dros £4 biliwn o fuddsoddiad, yn cynnwys £2.5 biliwn ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, a bron i £900 miliwn yn benodol i fynd i'r afael â gorlifoedd storm. Mae hynny'n dangos graddau'r camau gweithredu sydd ar y gweill.
Mae CNC yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r diwydiant dŵr yng Nghymru i leihau llygredd microblastig ymhellach, gan gynnwys prosiectau i nodi ffynonellau o weithfeydd trin dŵr gwastraff a lleihau microblastigau mewn biosolidau cyn y cylch cynllunio nesaf. Mae CNC hefyd yn gweithio ar ddulliau atal gyda phartneriaid ymchwil eraill, gan gynnwys Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu Llywodraeth y DU, i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar risgiau ac effeithiau. Mae llawer mwy i'w wneud yn y maes hwn wrth i'r dystiolaeth ddod i'r amlwg, ond nid dim ond aros amdani a wnawn, rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effeithiau hirdymor ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd yn deillio o achosion hanesyddol o ddympio biffenylau polyclorinedig? OQ63781
7. What assessment has the Welsh Government made of the long-term environmental and public health impacts of the historical dumping of polychlorinated biphenyls? OQ63781
The Welsh Government is committed to tackling potential pollution associated with historical waste disposal sites. Our overarching aims are the protection of human health and the environment. We continue to provide support to local authorities and Natural Resources Wales as they address sites that are suspected of causing pollution.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â llygredd posib sy'n gysylltiedig â safleoedd gwaredu gwastraff hanesyddol. Ein hamcanion cyffredinol yw diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â safleoedd yr amheuir eu bod yn achosi llygredd.
Diolch am yr ateb.
Thank you for that response.
Of course, this question was very much submitted in response to the event that was sponsored by Carolyn Thomas just a few weeks ago. In that event, we learnt that 45,000 sites across Wales could be contaminated with PCBs, but in reality we only have 82 sites that have been fully examined and formally classified as contaminated.
We know that the company Monsanto was heavily involved. We knew that they were aware of environmental and health dangers as early as the 1960s, but continued to produce PCBs in Wales until 1977. We've talked much about how the polluter needs to pay; well, we need to hold them accountable for that. They were quick enough to make a profit off our communities, they should be held accountable and they should come back for the clean-up.
What also came through to me in that event was the need for clarity and alignment between local authorities, Natural Resources Wales, the Senedd and the UK Government on responsibility and enforcement, and about securing the resources that are needed to ensure that those toxic chemicals are not leaching into our waterways and land.
I welcome what the Cabinet Secretary said in response to Carolyn Thomas in terms of his intention to raise that in the inter-ministerial group. How does he see that progressing once it's been raised and what does he believe the timeline would be to ensure that that partnership working takes place?
Wrth gwrs, cyflwynwyd y cwestiwn hwn mewn ymateb i'r digwyddiad a noddwyd gan Carolyn Thomas ychydig wythnosau yn ôl. Yn y digwyddiad hwnnw, fe wnaethom ddysgu y gallai 45,000 o safleoedd ledled Cymru fod wedi'u halogi â biffenylau polyclorinedig, ond mewn gwirionedd, dim ond 82 o safleoedd sydd gennym sydd wedi'u harchwilio'n llawn a'u dosbarthu'n ffurfiol fel rhai halogedig.
Gwyddom fod cwmni Monsanto wedi bod yn rhan fawr o hyn. Roeddem yn gwybod eu bod yn ymwybodol o beryglon amgylcheddol ac iechyd mor bell yn ôl â'r 1960au, ond eu bod wedi parhau i gynhyrchu biffenylau polyclorinedig yng Nghymru tan 1977. Rydym wedi siarad llawer ynglŷn â sut y mae angen i'r llygrwr dalu; wel, mae angen inni eu dwyn nhw i gyfrif am hynny. Roeddent yn ddigon parod i wneud elw ar draul ein cymunedau, dylent gael eu dwyn i gyfrif a dylent ddod yn ôl i lanhau eu llanast.
Yr hyn a ddaeth i fy meddwl yn y digwyddiad hwnnw hefyd oedd yr angen am eglurder a chydgysylltu rhwng awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Senedd a Llywodraeth y DU ar gyfrifoldeb a gorfodaeth, ac ynghylch sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen i wneud yn siŵr nad yw'r cemegau gwenwynig hynny'n treiddio i'n dyfrffyrdd a'n tir.
Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mewn ymateb i Carolyn Thomas a'i fwriad i godi hynny yn y grŵp rhyngweinidogol. Sut y mae'n gweld hynny'n datblygu ar ôl iddo gael ei godi, a beth y mae'n tybio fyddai'r amserlen i sicrhau y ceir y gweithio mewn partneriaeth hwnnw?
I'm happy to report back after that IMG meets to see whether there's agreement that we should take forward work on this and what that work might entail. If you can leave me to bring that back, we can bring back some more of the detail on it, but we have to have that discussion first. In principle, I agree with you; those companies that originally were the polluters on these sites, I absolutely agree with the principle that they should be held to account. The question is how. [Interruption.] No, the question is how. [Interruption.] Indeed—
Rwy'n fwy na pharod i adrodd yn ôl ar ôl i'r grŵp rhyngweinidogol gyfarfod i weld a oes cytundeb y dylem fwrw ymlaen â gwaith ar hyn a beth y gallai'r gwaith hwnnw ei olygu. Os gallwch adael imi ddod yn ôl ar hynny, gallwn ddod â mwy o fanylion yn ôl yn ei gylch, ond mae’n rhaid inni gael y drafodaeth honno yn gyntaf. Mewn egwyddor, rwy'n cytuno â chi; rwy'n cytuno'n llwyr â'r egwyddor y dylid dwyn y cwmnïau a oedd yn llygrwyr gwreiddiol ar y safleoedd hyn i gyfrif. Y cwestiwn yw sut. [Torri ar draws.] Na, y cwestiwn yw sut. [Torri ar draws.] Yn wir—
There's no conversation. From the Minister as well.
Nid sgwrs yw hon. Nac i'r Gweinidog chwaith.
But this is one of the fundamental challenges, particularly those companies who knew what they were doing. It seems that there is a moral obligation for them to step up and actually make good on this. The question is, legally, how can you hold them to account. But there is also a wider piece of work. Because I think what we can do right here, right now, is work with our local authorities, both in identifying the sites and what we can do to mitigate the impacts of the potential health and wider environmental impacts.
My officials are working with local authorities, NRW, Public Health Wales and other stakeholders to understand right here, right now, what options are available in dealing with these historical landfill and post-industrial sites. But you're right in saying—and I think the public get it quite deeply as well—that if organisations and companies out there knew what they were doing, my goodness, they have a moral responsibility to step up to the mark.
Ond dyma un o'r heriau sylfaenol, yn enwedig y cwmnïau hynny a oedd yn gwybod beth roeddent yn ei wneud. Ymddengys bod rhwymedigaeth foesol arnynt i gwympo ar eu bai a gwneud iawn am hyn. Y cwestiwn yw, yn gyfreithiol, sut y gallwch chi eu dwyn i gyfrif. Ond mae gwaith ehangach i'w wneud yma hefyd. Oherwydd credaf mai'r hyn y gallwn ei wneud yma, nawr, yw gweithio gyda'n hawdurdodau lleol, i nodi'r safleoedd a'r hyn y gallwn ei wneud i liniaru effeithiau posib i iechyd, a'r amgylchedd yn ehangach.
Mae fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol, CNC, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddeall yma, nawr, pa opsiynau sydd ar gael i ddelio â'r safleoedd tirlenwi hanesyddol ac ôl-ddiwydiannol hyn. Ond rydych chi'n iawn i ddweud—ac rwy'n credu bod y cyhoedd yn deall hyn yn iawn hefyd—os oedd sefydliadau a chwmnïau yn gwybod beth roeddent ei wneud, mawredd, mae ganddynt gyfrifoldeb moesol i wneud eu dyletswydd.
8. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan oergelloedd mewn archfarchnadoedd ddrysau arnynt? OQ63770
8. What work is the Welsh Government doing to ensure supermarket fridges have doors on them? OQ63770
The Welsh Government supports retailers to reduce their energy use through practical training tools and funding support. These training resources guide retailer decision making on efficient refrigeration, including closed‑door options where they are included. We focus on evidence, advice and partnership with retailers to improve energy performance.
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi manwerthwyr i leihau eu defnydd o ynni drwy offer hyfforddi ymarferol a chymorth ariannol. Mae'r adnoddau hyfforddi hyn yn llywio penderfyniadau manwerthwyr ar oeri effeithlon, gan gynnwys opsiynau drws caeedig lle maent wedi'u cynnwys. Rydym yn canolbwyntio ar dystiolaeth, cyngor a phartneriaeth â manwerthwyr i wella perfformiad ynni.
I'm sure you've heard yourself ask a younger member of the family, Dirprwy Brif Weinidog, to close the fridge door. I certainly do that on a regular basis. But—and I know this question brought some laughter when I asked it—at many supermarkets, there are no doors at all. This is serious. Campaigners say that if the top five supermarkets put doors on their fridges, the UK would cut its total electricity usage by 1 per cent. In 2023, gas set the price for energy in the UK 98 per cent of the time. There'll be hours when that 1 per cent from supermarket fridges makes the difference as to whether we rely on renewable energy, which is cheap, or on gas, which isn't. So, it is a serious question. The Co-op put doors on their fridges back in 2012. They then reported a £50 million saving because of the doors. But some retailers are hesitant, because they want people to do the impulse buying, and of course, stopping the impulse buying would probably stop a lot of food waste. So, is there something the Welsh Government is considering, and are they willing to look at intervention, rather than waiting to see if things improve? Diolch yn fawr.
Rwy'n siŵr eich bod wedi clywed eich hun yn gofyn i aelod iau o'r teulu gau drws yr oergell, Ddirprwy Brif Weinidog. Rwy'n sicr yn gwneud hynny'n rheolaidd. Ond—a gwn fod y cwestiwn hwn wedi achosi peth chwerthin pan wneuthum ei ofyn—mewn llawer o archfarchnadoedd, nid oes unrhyw ddrysau o gwbl. Rwyf o ddifrif. Yn ôl ymgyrchwyr, pe bai'r pum archfarchnad fwyaf yn rhoi drysau ar eu hoergelloedd, byddai'r DU yn lleihau ei defnydd o drydan 1 y cant. Yn 2023, nwy oedd yn gosod pris ynni yn y DU 98 y cant o'r amser. Bydd oriau pan fydd yr 1 y cant hwnnw o oergelloedd archfarchnadoedd yn gwneud y gwahaniaeth i'n dibyniaeth ar ynni adnewyddadwy, sy'n rhad, neu ar nwy, nad yw'n rhad. Felly, mae'n gwestiwn difrifol. Rhoddodd y Co-op ddrysau ar eu hoergelloedd nhw yn ôl yn 2012. Yna, fe wnaethant nodi arbediad o £50 miliwn oherwydd y drysau. Ond mae rhai manwerthwyr yn betrusgar, am eu bod eisiau i bobl brynu'n fyrbwyll, ac wrth gwrs, byddai rhoi'r gorau i'r prynu byrbwyll yn atal cryn dipyn o wastraff bwyd yn ôl pob tebyg. Felly, a oes rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ystyried, ac a ydynt yn barod i edrych ar ymyrraeth, yn hytrach nag aros i weld a yw pethau'n gwella? Diolch yn fawr.
We're definitely not waiting to see things improve. This is a really serious question—it really is. I was surprised at the little bits of laughter, because it's a really good question. It goes back to a campaign that kicked off back in 2019 on shutting the fridge door. What we are doing here in Wales is providing support for retailers, including funding and diagnostics, because every store is slightly different, and we know the arguments around this.
Retailers can access not just practical support, but also finance to help them invest in efficient refrigeration where it suits their business. The climate adaptation readiness assessment tool that we have helps retailers identify their energy risks, which can indeed include inefficient refrigeration practices, and choose effective options. They can also access practical support through the green business loan scheme and the futureproofing fund, alongside our wider adaptation and emissions reduction tools.
I do agree with you. I think not only the Co-op—the Co-op is brilliant, absolutely, in what they've done here—but Aldi as well, and others, are starting to head in that direction. We will support, we will work with retailers, through those funding routes, through that advice and support, and help them to make the informed decision. We do this through things such as the retail forum. We do it by working through that with the retail chain, to try and explain to them that there could be savings here for their business, and it'll be thoroughly approved of by their customer base as well.
Yn bendant, nid ydym yn aros i bethau wella. Mae hwn yn gwestiwn difrifol iawn—yn sicr. Cefais fy synnu gan y chwerthin, gan ei fod yn gwestiwn da iawn. Mae'n mynd yn ôl at ymgyrch a ddechreuodd yn ôl yn 2019 ar gau drws yr oergell. Yr hyn a wnawn yma yng Nghymru yw darparu cymorth i fanwerthwyr, gan gynnwys cyllid a diagnosteg, gan fod pob siop ychydig yn wahanol, ac rydym yn ymwybodol o'r dadleuon mewn perthynas â hyn.
Gall manwerthwyr gael mynediad nid yn unig at gymorth ymarferol, ond hefyd at gyllid i'w helpu i fuddsoddi mewn oeri effeithlon lle mae hynny'n gweddu i'w busnes. Mae'r offeryn asesu parodrwydd i addasu i’r hinsawdd sydd gennym yn helpu manwerthwyr i nodi eu risgiau ynni, a all gynnwys arferion oeri aneffeithlon, a dewis opsiynau effeithiol. Gallant hefyd gael mynediad at gymorth ymarferol drwy'r cynllun benthyciadau busnes gwyrdd a'r gronfa paratoi at y dyfodol, ochr yn ochr â'n hoffer addasu a lleihau allyriadau ehangach.
Rwy'n cytuno â chi. Rwy'n credu bod nid yn unig y Co-op—mae'r Co-op yn wych, yn sicr, yn yr hyn y maent wedi'i wneud yma—ond mae Aldi hefyd, ac eraill, yn dechrau mynd i'r cyfeiriad hwnnw. Byddwn yn cefnogi, byddwn yn gweithio gyda manwerthwyr, drwy'r llwybrau cyllido hynny, drwy'r cyngor a'r cymorth hwnnw, ac yn eu helpu i wneud y penderfyniad gwybodus. Rydym yn gwneud hyn drwy bethau fel y fforwm adwerthu. Rydym yn ei wneud drwy weithio drwy hynny gyda'r gadwyn fanwerthu, i geisio egluro iddynt y gallai fod arbedion yma i'w busnes, ac y bydd eu sylfaen gwsmeriaid yn cefnogi hyn i'r carn hefyd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
No topical questions were accepted today.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Alun Davies.
We'll move to item 4, the 90-second statements. The first statement is from Alun Davies.
Thank you, Deputy Presiding Officer. This month marks the sixtieth anniversary of the publication of a White Paper, 'University of the Air', which led to the establishment in 1969 of the Open University. The vision, of course, was driven by Jennie Lee, the arts Minister in Harold Wilson's Labour Government, and, when she was elected in 1929, the youngest woman MP in the House of Commons. In fact, her first contribution to the House of Commons was to attack Winston Churchill. She described him as 'cant, corrupt and incompetent', and so she established herself as one of the most formidable politicians of the twentieth century. And, of course, in publishing the White Paper, she delivered on the Robbins principle, which many of us still hold to today, that higher education should be available to all who are qualified and who wish to take part, irrespective of the means of payment.
Six decades on, the case that Jennie Lee made in the 1960s feels more urgent than ever. We need more flexible learning and more people able to return to education throughout their lives, and we need a renewed commitment to learning rooted in communities. But make no doubt about it, Jennie fought for the Open University, and she fought against the establishment, in the same way as Nye did in establishing the NHS himself. When her ashes were scattered on the same place as Nye, high above Trefil in my constituency, in 1988, what we saw was a politician who had fought for ordinary people, fought for their right to an education, and left a legacy that today we can all be proud of.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r mis hwn yn nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi Papur Gwyn, 'University of the Air', a arweiniodd at sefydlu'r Brifysgol Agored ym 1969. Wrth gwrs, Jennie Lee, Gweinidog y celfyddydau yn Llywodraeth Lafur Harold Wilson, oedd yn gyfrifol am y weledigaeth, a phan gafodd ei hethol ym 1929, hi oedd yr AS benywaidd ieuengaf yn Nhŷ'r Cyffredin. Mewn gwirionedd, ei chyfraniad cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin oedd ymosodiad ar Winston Churchill. Fe'i disgrifiodd fel 'rhagrithiol, llwgr a di-glem', gan sefydlu ei hun yn un o wleidyddion mwyaf gwydn yr ugeinfed ganrif. Ac wrth gwrs, wrth gyhoeddi'r Papur Gwyn, cyflawnodd egwyddor Robbins, y mae llawer ohonom yn dal i lynu wrthi heddiw, y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb sy'n gymwys ac sy'n dymuno cymryd rhan, ni waeth beth fo'u gallu i dalu.
Chwe degawd yn ddiweddarach, mae'r achos a wnaeth Jennie Lee yn y 1960au yn teimlo'n fwy dybryd nag erioed. Mae arnom angen dysgu mwy hyblyg fel bod mwy o bobl yn gallu dychwelyd at addysg drwy gydol eu hoes, ac mae angen ymrwymiad newydd i ddysgu wedi'i wreiddio yn y cymunedau. Ond nid oes dwywaith amdani fod Jennie wedi ymladd dros y Brifysgol Agored, ac wedi ymladd yn erbyn y sefydliad, yn yr un modd ag y gwnaeth Nye wrth sefydlu'r GIG ei hun. Pan wasgarwyd ei lludw yn yr un lle â Nye, uwchlaw Trefil yn fy etholaeth i, ym 1988, yr hyn a welsom oedd gwleidydd a ymladdodd dros bobl gyffredin, dros eu hawl i addysg, ac a adawodd waddol y gall pob un ohonom fod yn falch ohono heddiw.
Mae'n bleser gen i sefyll yma heddiw i nodi pen-blwydd gwirioneddol hanesyddol, gan ei bod hi yn 150 o flynyddoedd ers sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ar 2 Chwefror 1876, yng ngwesty'r Wynnstay yn Wrecsam, mi ddaeth criw bach at ei gilydd oedd â gweledigaeth fawr, ac o'r cyfarfod hwnnw fe anwyd y drydedd gymdeithas bêl-droed genedlaethol hynaf yn y byd.
O’r cychwyn, roedd hwn yn fwy na mater o chwaraeon. Roedd yn ddatganiad o hyder—fod gan Gymru ei hunaniaeth ei hun, ei thîm pêl-droed ei hun, a’i lle haeddiannol ei hun ar y llwyfan rhyngwladol. A thrwy’r ganrif a hanner ers hynny, mae’r crys coch a’r ddraig goch arno wedi dod yn symbol o bwy ydym ni. Fuodd hi ddim yn daith hawdd ar adegau, wrth gwrs—rŷm ni i gyd yn cofio ambell i gyfnod rhwystredig, a dweud y lleiaf—ond rŷm ni hefyd wedi cael adegau euraidd, adegau sydd wedi ddiffinio cenedlaethau, o Gwpan y Byd 1958, i'r Ewros yn 2016, ac Ewros y merched yn 2025, achlysuron epig pan unodd y genedl gyfan y tu ôl i’r tîm cenedlaethol.
Nid ar y cae yn unig mae dylanwad y gymdeithas. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi rhoi’r Gymraeg a’n diwylliant wrth galon pob dim. Mae'r gymdeithas wedi dangos bod chwaraeon yn gallu bod, ie, yn rym diwylliannol, ond hefyd yn rym economaidd a chymdeithasol cadarnhaol.
Heddiw, rŷm ni'n diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith—yn chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a chymunedau cyfan. Mae Cymdeithas Bêl‑droed Cymru wedi gwneud mwy na threfnu gemau; mae wedi helpu siapio ein cenedl. Mae’r daith honno’n parhau, oherwydd er gwaethaf pawb a phopeth, rŷm ni yma o hyd. Felly, pen-blwydd hapus a diolch i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru, ac ymlaen i’r 150 nesaf.
It gives me great pleasure to stand here today to celebrate a truly historic anniversary, because it's 150 years since the founding of the Football Association of Wales. On 2 February 1876, at the Wynnstay hotel in Wrexham, a small group came together with a big vision. That meeting led to the birth of the third-oldest national football association in the world.
From the outset, this was about more than sport. It was a statement of confidence—that Wales has its own identity, its own football team, and its own rightful place on the international stage. And throughout the century and a half since then, the red shirt bearing the red dragon has become a symbol of who we are. It hasn’t been an easy journey at times—we all remember some periods of frustration, to say the least—but there have also been golden moments that have defined generations, from the 1958 World Cup, to the 2016 Euros, and the women's Euros in 2025, epic nights when the whole nation united behind the team.
It is not only on the field that we see the influence of the association. In recent years, it has put the Welsh language and our culture at the heart of everything. The association has shown that, yes, sport can be a cultural force, but also a positive economic and social force.
Today, we thank everyone who has been part of that journey—players, coaches, referees, volunteers, fans and whole communities. The FAW has done more than just organise matches; it has helped to shape our nation. That journey continues, because despite everyone and everything, we are still here. So, happy anniversary and thank you, FAW, and onward now to the next 150.
Llongyfarchiadau, big congrats, to Merched y Môr, a four‑woman rowing team from Pembrokeshire. They have just completed the world’s toughest row, Atlantic, one of the most demanding endurance races in the world, and they are the first all‑Wales female crew to attempt it. Denise Leonard, Helen Heaton, Liz Collyer and Heledd Williams rowed an amazing 3,000‑mile unaided journey across the Atlantic, starting from La Gomera in the Canaries on 14 December, and reaching Antigua on Monday, 50 days, 14 hours and 43 minutes later.
When we were all eating our Christmas lunch, or watching The Traitors through January, these four Pembrokeshire women were out rowing the Atlantic. They rowed in pairs in an intense two hours on, two hours off rota around the clock. They averaged 12 hours of rowing per day with minimal sleep, 20 ft waves, severe sickness and storms—four ordinary women who have achieved the extraordinary. They are not elite athletes. They wanted to show that gender, ageing bodies, even their own minds, could not stop them from achieving great things and raise money for charity.
Llongyfarchiadau mawr i Ferched y Môr, tîm rhwyfo pedair menyw o sir Benfro. Maent newydd gwblhau llwybr rhwyfo anoddaf y byd, sef yr Iwerydd, un o rasys dygnwch mwyaf heriol y byd, a nhw yw'r criw benywaidd cyntaf o Gymru i roi cynnig arni. Rhwyfodd Denise Leonard, Helen Heaton, Liz Collyer a Heledd Williams daith anhygoel o 3,000 milltir heb gymorth ar draws yr Iwerydd, gan ddechrau o La Gomera yn yr Ynysoedd Dedwydd ar 14 Rhagfyr, a chyrraedd Antigua ddydd Llun, 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud yn ddiweddarach.
Pan oeddem ni'n bwyta ein cinio Nadolig, neu'n gwylio The Traitors ym mis Ionawr, roedd y pedair menyw hyn o sir Benfro allan yn rhwyfo ar fôr yr Iwerydd. Roeddent yn rhwyfo mewn parau ar rota ddwys o ddwy awr o gwmpas y cloc. Roeddent yn rhwyfo 12 awr y dydd ar gyfartaledd gyda fawr iawn o gwsg, tonnau 20 troedfedd, salwch difrifol a stormydd—pedair menyw gyffredin sydd wedi cyflawni rhywbeth anghyffredin. Nid ydynt yn athletwyr elitaidd. Roeddent eisiau dangos na allai rhywedd, cyrff sy'n heneiddio, hyd yn oed eu meddyliau eu hunain, eu hatal rhag cyflawni pethau gwych a chodi arian at elusen.
Fe ddywedodd y capten, Denise, ar ddechrau’r daith eu bod nhw wedi bod yn cynllunio a hyfforddi ar gyfer y daith am bum mlynedd, a'u bod nhw'n moyn gwneud Cymru yn browd. Wel, mae Cymru yn sicr yn browd o Merched y Môr. Ar ran y Senedd, felly, llongyfarchiadau mawr i’r pedair menyw ddewr, wydn yma o sir Benfro, ac i’w cwch, Cariad.
The captain, Denise, said at the start of the journey that they had been planning and training for five years, and that they wanted to make Wales proud. Well, Wales is certainly proud of Merched y Môr. On behalf of the Senedd, huge congratulations to these four brave, resilient women from Pembrokeshire, and to their boat, Cariad.
Diolch, bawb.
Thank you, all.
Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Buffy Williams.
Item 5 today is a debate on the Children, Young People and Education Committee report, 'Routes into post-16 education and training'. I call on the Chair of the committee to move the motion—Buffy Williams.
Cynnig NDM9134 Buffy Williams
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2025.
Motion NDM9134 Buffy Williams
To propose that the Senedd:
Notes the report of the Children, Young People and Education Committee ‘Routes into post-16 education and training’ which was laid in the Table Office on 12 November 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I would like to begin by placing on record my thanks to everyone who contributed to this inquiry, from those who welcomed us on visits to my fellow committee members, for the constructive way they approached this work. But most of all, I want to thank the young people and parents who took the time to share their experiences with us. Their honesty, their courage and their insight shaped every stage of this inquiry, and their voices must continue to guide the changes that follow.
When the committee began this inquiry, our aim was simple: to understand what young people actually experience when they move from compulsory schooling into post-16 education and training. Over the course of nearly a year, through written evidence, oral sessions, visits across Wales and the voices of hundreds of young people and parents, a clear picture emerged. We saw a system with real strengths and real potential, but also a system held back by inconsistency, complexity and structural barriers that too often put institutions ahead of learners.
As a committee focused on children and young people, we chose to follow the journey that learners themselves take. We looked at what happens as they prepare to leave year 11, what choices they face at 16, and what support they get as they move into college, sixth form, apprenticeships or work. The complexity of the report reflects the complexity of the system they are expected to navigate.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn, o'r rheini a'n croesawodd ar ymweliadau i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, am y ffordd adeiladol yr aethant ati i wneud y gwaith hwn. Ond yn fwy na dim, hoffwn ddiolch i'r bobl ifanc a'r rhieni a roddodd amser i rannu eu profiadau gyda ni. Fe wnaeth eu gonestrwydd, eu dewrder a'u mewnwelediad siapio pob cam o'r ymchwiliad hwn, ac mae’n rhaid i'w lleisiau barhau i arwain y newidiadau sydd i ddilyn.
Pan ddechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad hwn, roedd ein nod yn syml: deall beth y mae pobl ifanc yn ei brofi mewn gwirionedd wrth symud o addysg orfodol i addysg a hyfforddiant ôl-16. Dros gyfnod o bron i flwyddyn, drwy dystiolaeth ysgrifenedig, sesiynau llafar, ymweliadau ledled Cymru a lleisiau cannoedd o bobl ifanc a rhieni, daeth darlun clir i'r amlwg. Gwelsom system â chryfderau gwirioneddol a photensial gwirioneddol, ond hefyd system a gâi ei dal yn ôl gan anghysondeb, cymhlethdod a rhwystrau strwythurol sy'n rhoi blaenoriaeth i sefydliadau ar draul dysgwyr yn rhy aml.
Fel pwyllgor sy'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, fe wnaethom ddewis canolbwyntio ar y daith y mae dysgwyr eu hunain yn ei gwneud. Fe wnaethom edrych ar yr hyn sy'n digwydd wrth iddynt baratoi i adael blwyddyn 11, pa ddewisiadau a wynebant yn 16 oed, a pha gefnogaeth a gânt wrth iddynt fynd i'r coleg, i chweched dosbarth, i brentisiaethau neu i mewn i waith. Mae cymhlethdod yr adroddiad yn adlewyrchu cymhlethdod y system y disgwylir iddynt lywio drwyddi.
One of the strongest themes to emerge was the need for genuine parity of esteem between academic and vocational routes. Young people should be able to choose the route that suits them, whether this is academic, vocational or a blend of both, without that choice limiting what they can do next. But we heard very clearly that this isn't the reality yet. Too many learners still feel pushed towards A-levels because of how the system works, not because it's right for them. Others find that vocational routes are undervalued or unavailable. This must change. This lack of parity has real consequences. Participation in post-16 education and training in Wales is still too low, and not enough young people leave with a level 3 qualification. We are concerned that we don't fully understand why, because we don't collect the detailed data we need to track learner journeys properly. So, this isn't just about fairness between routes, it's about whether young people stay in education and get the qualifications that open doors for them.
A second theme was the need for better preparation, information and advice. Young people need good information and support to make decisions about their futures, and so do their families. Careers advice should start early and be consistent. But we found that the quality of advice varies widely. We were particularly struck by the fact that only around a quarter of young people get a chance to do work experience. That is a huge missed opportunity. Work experience is one of the most powerful ways for young people to understand the world of work. We need to better understand what's preventing our young people gaining work experience and remove the barriers currently preventing access.
The third theme was the importance of collaboration. A strong post-16 system depends on schools, colleges and training providers working together. Yet the current funding system can unintentionally create competition instead of collaboration. It can even influence the advice young people receive. We believe this must be addressed. Institutions should be supported and encouraged to work together to offer the best possible outcome and opportunities for learners.
Our report sets out six focused and realistic recommendations that reflect these themes. They include a call for a national strategy for post-16 education and training. They also call for an expansion of the junior apprenticeships. We ask for a review of the post-16 funding system and for a stronger 14 to 16 learner entitlement. Finally, we want better data on learner pathways and a clearer understanding of why so many young people who want apprenticeships still can't access them.
Since publishing our report, we have received responses from the Welsh Government and Medr. More recently, the Minister for Further and Higher Education launched 'The future of tertiary education in Wales: five challenges and calls for submission'. Taken together, these show that our work has been heard, that our work is being taken seriously, and that the issues we raised are now firmly part of the national conversation about the future of post-16 education in Wales.
We welcome much of the Welsh Government's response. The Government accepts many of our recommendations, at least in full or in principle. The commitments to strengthen the 14 to 16 learner entitlement, to evaluate the impact of the £1 bus pilot on access to post-16 education and training, and to acknowledge the distortions created by the current funding system all point in the right direction. The Minister's written statement on the future of tertiary education is also encouraging. She identifies the major challenges facing the tertiary system: participation, sustainability, progression and workforce pressures. She explicitly draws on our work as part of the evidence base.
It is good to see our findings feeding directly into the wider national conversation. But it is important to be clear that acceptance in principle is not the same as a commitment to delivery. In several areas, the Government has signalled broad agreement, without yet providing the detail or the clarity that young people and providers need. So, while these are positive signals, they remain only that—signals. We must also be honest about where the Welsh Government's response falls short. The decision not to commission an Estyn review of Careers Wales is a missed opportunity. Our concern has never been about the targeted support Careers Wales provides—that support is widely praised—the issue is the standard offer available to the majority of learners, especially in schools where financial pressures can unintentionally shape the advice young people receive. Independent scrutiny would have provided reassurance at a time when careers advice is under real strain.
We are also disappointed by the refusal to commission research into employer barriers to work experience. Work experience is consistently described as transformative, yet only a quarter of young people access it. Without a deeper understanding of why employers do not offer placements, progress will be limited. Existing surveys and guidance do not give us the Wales-specific insight needed to drive meaningful change.
Whilst the Government acknowledges the problems created by the current post-16 funding system, its response lacks urgency and detail. Without meaningful change, the system will continue to incentivise competition over collaboration and parity of esteem will remain out of reach.
Something that has been a constant theme throughout all our work in this Senedd is that data remains a weakness. The Government recognises the issue, but its commitments do not yet match the ambitions set out by Medr. So, the path forward remains unclear. Without robust timely data on participation, progression and destinations, we cannot design a system that truly meets the needs of learners.
In summary, the picture that emerges is one of partial alignment. The committee's work has clearly shaped the thinking of both the Government and Medr. There is shared recognition of the challenges, and there are welcome commitments that will make a difference, but there are also gaps in scrutiny, in evidence, in urgency, and in clarity about what happens next.
Our role now is to make sure that momentum generated by this inquiry is not lost. Young people in Wales are ambitious, capable and eager to explore a wide range of pathways. They deserve a system that supports those ambitions consistently and fairly. As we look ahead to the next Senedd term, I hope that both our successor committee and the next Welsh Government will continue to take this agenda forward with the focus and urgency that young people deserve. Diolch.
Un o'r themâu cryfaf i ddod i'r amlwg oedd yr angen am barch cydradd go iawn rhwng llwybrau academaidd a llwybrau galwedigaethol. Dylai pobl ifanc allu dewis y llwybr sy'n addas iddynt hwy, boed yn academaidd, yn alwedigaethol neu'n gymysgedd o'r ddau, heb i'r dewis hwnnw gyfyngu ar yr hyn y gallant ei wneud nesaf. Ond clywsom yn glir iawn nad dyma'r realiti. Mae gormod o ddysgwyr yn dal i deimlo eu bod yn cael eu gwthio tuag at Safon Uwch oherwydd y ffordd y mae'r system yn gweithio, nid oherwydd ei fod yn iawn iddynt hwy. Mae eraill yn teimlo bod llwybrau galwedigaethol wedi'u tanbrisio neu heb fod ar gael. Rhaid i hyn newid. Mae'r diffyg cydraddoldeb hwn yn cael canlyniadau gwirioneddol. Mae cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru yn dal i fod yn rhy isel, ac nid oes digon o bobl ifanc yn gadael gyda chymhwyster lefel 3. Pryderwn nad ydym yn deall yn iawn pam, am nad ydym yn casglu'r data manwl sydd ei angen arnom i olrhain teithiau dysgwyr yn iawn. Felly, mae'n ymwneud â mwy na thegwch rhwng llwybrau'n unig, mae'n ymwneud â pha un a yw pobl ifanc yn aros mewn addysg ac yn cael y cymwysterau sy'n agor drysau iddynt.
Ail thema oedd yr angen am baratoi, gwybodaeth a chyngor gwell. Mae angen gwybodaeth a chefnogaeth dda ar bobl ifanc, a'u teuluoedd hefyd, i wneud penderfyniadau am eu dyfodol. Dylai cyngor gyrfaoedd ddechrau'n gynnar a bod yn gyson. Ond gwelsom fod ansawdd y cyngor yn amrywio'n fawr. Cawsom ein synnu'n arbennig gan y ffaith mai tua chwarter y bobl ifanc yn unig sy'n cael cyfle i wneud profiad gwaith. Mae hwnnw'n gyfle enfawr a gollwyd. Profiad gwaith yw un o'r ffyrdd mwyaf pwerus i bobl ifanc ddeall y byd gwaith. Mae angen inni ddeall yn well beth sy'n atal ein pobl ifanc rhag ennill profiad gwaith a chael gwared ar y rhwystrau sy'n atal mynediad ar hyn o bryd.
Y drydedd thema oedd pwysigrwydd cydweithio. Mae system ôl-16 gref yn dibynnu ar ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant yn gweithio gyda'i gilydd. Ond gall y system ariannu bresennol greu cystadleuaeth anfwriadol yn hytrach na chydweithrediad. Gall hyd yn oed ddylanwadu ar y cyngor y mae pobl ifanc yn ei gael. Credwn fod yn rhaid mynd i'r afael â hyn. Dylid cefnogi ac annog sefydliadau i weithio gyda'i gilydd i gynnig y canlyniad a'r cyfleoedd gorau posib i ddysgwyr.
Mae ein hadroddiad yn nodi chwe argymhelliad realistig manwl sy'n adlewyrchu'r themâu hyn. Maent yn cynnwys galwad am strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16. Maent hefyd yn galw am ehangu'r prentisiaethau iau. Gofynnwn am adolygiad o'r system ariannu ôl-16 ac am hawl i ddysgu 14 i 16 sy'n gryfach. Yn olaf, rydym eisiau gwell data ar lwybrau dysgwyr a dealltwriaeth gliriach o'r rhesymau pam y mae cymaint o bobl ifanc sydd eisiau prentisiaethau yn dal i fethu cael mynediad atynt.
Ers cyhoeddi ein hadroddiad, rydym wedi cael ymatebion gan Lywodraeth Cymru a Medr. Yn fwy diweddar, lansiodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch 'Dyfodol addysg drydyddol yng Nghymru: 5 her a galwad am gyflwyniadau'. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn dangos bod ein gwaith wedi cael ei glywed, fod ein gwaith yn cael ei gymryd o ddifrif, a bod y materion a godwyd gennym bellach yn rhan gadarn o'r sgwrs genedlaethol am ddyfodol addysg ôl-16 yng Nghymru.
Rydym yn croesawu llawer o ymateb Llywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn derbyn llawer o'n hargymhellion yn llawn neu mewn egwyddor. Mae'r ymrwymiadau i gryfhau'r hawl i ddysgu 14 i 16 oed, i werthuso effaith y cynllun peilot tocyn bws £1 ar fynediad at addysg a hyfforddiant ôl-16, ac i gydnabod yr afluniad a grëir gan y system ariannu bresennol i gyd yn pwyntio i'r cyfeiriad cywir. Mae datganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar ddyfodol addysg drydyddol hefyd yn galonogol. Mae hi'n nodi'r heriau mawr sy'n wynebu'r system drydyddol: cyfranogiad, cynaliadwyedd, cynnydd a phwysau ar y gweithlu. Mae hi'n pwyso ar ein gwaith ni'n benodol fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth.
Mae'n dda gweld ein canfyddiadau'n bwydo'n uniongyrchol i'r sgwrs genedlaethol ehangach. Ond mae'n bwysig bod yn glir nad yw derbyn mewn egwyddor yr un peth ag ymrwymiad i gyflawni. Mewn sawl maes, mae'r Llywodraeth wedi nodi cytundeb cyffredinol, heb ddarparu'r manylion hyd yma na'r eglurder sydd eu hangen ar bobl ifanc a darparwyr. Felly, er bod y rhain yn arwyddion cadarnhaol, dyna ydynt o hyd—arwyddion. Rhaid inni fod yn onest hefyd ynglŷn â lle mae ymateb Llywodraeth Cymru yn methu cyrraedd y nod. Mae'r penderfyniad i beidio â chomisiynu adolygiad Estyn o Gyrfa Cymru yn gyfle a gollwyd. Nid ydym erioed wedi pryderu ynglŷn â'r cymorth wedi'i dargedu y mae Gyrfa Cymru yn ei ddarparu—mae'r cymorth hwnnw'n cael ei ganmol yn eang—y mater dan sylw yw'r cynnig safonol sydd ar gael i'r mwyafrif o ddysgwyr, yn enwedig mewn ysgolion lle gall pwysau ariannol siapio'n anfwriadol y cyngor y mae pobl ifanc yn ei gael. Byddai craffu annibynnol wedi rhoi sicrwydd ar adeg pan fo cyngor gyrfaoedd o dan bwysau go iawn.
Rydym hefyd yn siomedig ynghylch y gwrthodiad i gomisiynu ymchwil i'r hyn sy'n rhwystro cyflogwyr rhag cynnig profiad gwaith. Mae profiad gwaith yn cael ei ddisgrifio'n gyson fel rhywbeth trawsnewidiol, ond chwarter y bobl ifanc yn unig sy'n cael manteisio arno. Heb ddealltwriaeth ddyfnach o'r rhesymau pam nad yw cyflogwyr yn cynnig lleoliadau, bydd cynnydd yn gyfyngedig. Nid yw arolygon a chanllawiau presennol yn rhoi'r mewnwelediad penodol i Gymru sydd ei angen i sbarduno newid ystyrlon.
Er bod y Llywodraeth yn cydnabod y problemau a grëir gan y system ariannu ôl-16 bresennol, nid oes brys na manylder yn perthyn i'w hymateb. Heb newid ystyrlon, bydd y system yn parhau i gymell cystadleuaeth dros gydweithredu a bydd parch cydradd yn parhau i fod y tu hwnt i gyrraedd.
Rhywbeth a fu'n thema gyson drwy ein holl waith yn y Senedd hon yw bod data'n parhau i fod yn wendid. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod y broblem, ond nid yw ei hymrwymiadau hyd yma'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau a nodwyd gan Medr. Felly, mae'r llwybr ymlaen yn parhau i fod yn aneglur. Heb ddata amserol cadarn ar gyfranogiad, cynnydd a chyrchnodau, ni allwn lunio system sydd mewn gwirionedd yn diwallu anghenion dysgwyr.
Yn gryno, mae'r darlun a ddaw i'r amlwg yn un o aliniad rhannol. Mae gwaith y pwyllgor yn amlwg wedi siapio meddylfryd y Llywodraeth a Medr. Ceir cydnabyddiaeth gyffredin o'r heriau, a cheir ymrwymiadau i'w croesawu a fydd yn gwneud gwahaniaeth, ond ceir bylchau hefyd o ran craffu, mewn tystiolaeth, o ran brys ac eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd nesaf.
Ein rôl nawr yw sicrhau nad yw'r momentwm a gynhyrchwyd gan yr ymchwiliad hwn yn cael ei golli. Mae pobl ifanc yng Nghymru yn uchelgeisiol, yn alluog ac yn awyddus i archwilio ystod eang o lwybrau. Maent yn haeddu system sy'n cefnogi'r uchelgeisiau hynny yn gyson ac yn deg. Wrth inni edrych ymlaen at dymor nesaf y Senedd, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor a fydd yn ein holynu a Llywodraeth nesaf Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â'r agenda hon gyda'r ffocws a'r brys y mae pobl ifanc yn eu haeddu. Diolch.
I'm delighted to be able to speak today on the Children, Young People and Education Committee's report into routes into post-16 education. Can I please take this opportunity to thank the committee clerks, the Chair, as well as all the committee members for their hard work, and all those involved in the report?
It is truly disappointing to see successive Welsh Governments failing to support the different options for post-16 education and, ultimately, all career paths for young people. What was clear to the committee is that vocational education isn't getting parity of esteem with academic education, and there is a bias that leans towards a traditional academic route. This, in turn, sadly leaves thousands of young people without the support to having fulfilling careers that are right for them. This lack of parity of esteem was highlighted by a number of witnesses that came to the committee, as well as the fact that routes from vocational education to higher education are difficult to navigate. For example, Careers Wales said to us that these pathways were less linear and less well understood than pure academic routes. Furthermore, a lack of cohesive vocational strategy has a trickle-down effect to unemployment. UK-wide, nearly half, or 45 per cent, of engineering employers do not think the education system in Wales is fit for purpose. In Wales, just 44 per cent of employers think the education system is fit for purpose. I note that the Cabinet Secretary made an oral statement last November about an overarching vocational strategy for young people, but this is a little bit too late. We are now heading for the end of the Senedd term, so how is this able to ensure that vocational education is placed on an equal footing to academic education by this autumn?
I also note the intention to introduce vocational certificate of secondary education by 2027, but has this been thought out properly? The committee has heard from a number of concerned stakeholders who outline that there is a lack of capacity and expertise to teach VCSEs in schools in Wales, that they could create a two-tier system, and that they are tasters rather than a concrete route into employment. One teaching union has also directly said to me, while VCSEs are great in principle, more detail is needed as to what they look like, for example whether they are general studies, or if they are focused on meaningful study and actually focused on vocation. I would like to know how VCSEs also fit into A-levels. Cabinet Secretary, I see that your partners in Westminster are intending to introduce V-levels as well. Is that something that we're going to be looking at introducing here in Wales?
In your response to the committee, you also heavily focused on the role of Medr in delivering post-16 routes into vocational education. My concern is that Medr is also kicking the can down the road on important issues. Take degree apprenticeships, for example: years after introducing them, they are still limited to engineering and cyber security careers. We all know that they need to be reformed, yet now new degree apprenticeships aren't going to be introduced until 2027—a year into the new Senedd term. As a result, Wales's young people are missing out on vital opportunities to go to university, learn on-the-job skills, and Welsh universities are losing out on students who could be learning here, because the UK has a far wider array of choice compared to many other countries out there.
Turning to careers advice—and I know the Chair touched upon this—the committee heard that, despite the Cabinet Secretary's aim of discussing careers from a young age, the vast majority of learners first discuss their post-year-11 options either in year 10 or year 11. And we heard from stakeholders that the quality of careers advice across Wales was inconsistent, with the Welsh Local Government Association stating that the advice was patchy with pockets of excellent practice. That says to me that careers advice is still disjointed and left to the last minute, often after GCSEs have been chosen, and, in some cases, even whilst they're being taken.
I also see that you rejected the committee's recommendation of a thematic review into Careers Wales, because the body is evaluating their offer for a new strategy. When is this strategy going to be implemented, then? Any guesses, anyone? It's 2027. I see a slight pattern forming here, because personally I feel this is just another example of the Welsh Government wasting valuable time when it comes to post-16 education and the options available to children and young people, as when they start to think about what happens after they turn 16—it may be too late.
On apprenticeships, I was fascinated by the response to recommendation 11 on the barriers for employers to provide these, and I quote:
'wider economic pressures and UK Government policies on National Insurance and minimum wage have limited the number of opportunities available.'
End quote. Cabinet Secretary, is this an admission that your partners in Westminster, though substantially increasing national insurance and minimum wages, have, at the same time, actually priced out young people from gaining valuable work experience? This absolutely typifies the lack of co-ordination between you and the UK Labour Government, because, ultimately, it is young people who are suffering from a lack of opportunity, because of ill-thought-out policy.
Finally, I wish to highlight the committee's findings on the financial stability of higher education institutions, because they are certainly not out of the woods yet. Again, national insurance contributions are featured heavily in the difficulties that they are facing, with the University of South Wales and Cardiff Metropolitan University estimating to the Welsh Affairs Select Committee in 2025 that this costs them £2.5 million and £1.6 million respectively, and on top of inflation increases. As we are all acutely aware, Welsh universities had a collective deficit of £100 million in 2024, with your higher education Minister admitting that the tuition fees rises then were offset by national insurance rises. We are also seeing a mass redundancy in some universities, with Cardiff University spending a whopping £24 million on redundancies, and Swansea University looking to make one in five of their academics redundant.
This is the reality, Cabinet Secretary, so what urgent steps are you now taking with Medr to ensure that this sector remains vibrant and becomes sustainable? There are plenty more areas that I could touch upon, Deputy Presiding Officer, but I won't, rest assured. We really do need to work hard collectively, and we need to work hard now to enable a smooth transition from education into work for thousands of young people who need that support and truly deserve it. Thank you very much.
Rwy'n falch iawn o allu siarad heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar lwybrau i addysg ôl-16. A gaf i achub ar y cyfle i ddiolch i glercod y pwyllgor, y Cadeirydd, yn ogystal â holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled, a phawb a oedd yn rhan o'r adroddiad?
Mae'n wirioneddol siomedig gweld Llywodraethau Cymru olynol yn methu cefnogi'r gwahanol opsiynau ar gyfer addysg ôl-16, a phob llwybr gyrfa i bobl ifanc yn y pen draw. Yr hyn a oedd yn amlwg i'r pwyllgor yw nad yw addysg alwedigaethol yn cael parch cydradd ag addysg academaidd, ac mae yna duedd sy'n gogwyddo tuag at lwybr academaidd traddodiadol. Mae hyn, yn ei dro, yn gadael miloedd o bobl ifanc heb y gefnogaeth i gael y gyrfaoedd boddhaol sy'n iawn iddynt hwy. Tynnwyd sylw at y diffyg parch cydradd hwn gan nifer o dystion a ddaeth i'r pwyllgor, yn ogystal â'r ffaith bod llwybrau o addysg alwedigaethol i addysg uwch yn anodd eu llywio. Er enghraifft, dywedodd Gyrfa Cymru wrthym fod y llwybrau hyn yn llai llinol a heb eu deall i'r un graddau â llwybrau academaidd pur. Ar ben hynny, mae diffyg strategaeth alwedigaethol gydlynol yn cael effaith ddiferu i lawr ar ddiweithdra. Nid yw bron i hanner, neu 45 y cant, o gyflogwyr peirianneg ledled y DU yn credu bod y system addysg yng Nghymru yn addas i'r diben. Yng Nghymru, dim ond 44 y cant o gyflogwyr sy'n credu bod y system addysg yn addas i'r diben. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud datganiad ar lafar fis Tachwedd diwethaf am strategaeth alwedigaethol drosfwaol i bobl ifanc, ond mae hyn ychydig yn rhy hwyr. Rydym bellach yn anelu at ddiwedd tymor y Senedd, felly sut y gall hyn sicrhau bod addysg alwedigaethol yn cael ei rhoi ar sail gyfartal ag addysg academaidd erbyn yr hydref hwn?
Nodaf hefyd y bwriad i gyflwyno tystysgrif addysg uwchradd alwedigaethol erbyn 2027, ond a oes digon o feddwl wedi'i roi i hyn? Clywodd y pwyllgor gan nifer o randdeiliaid pryderus sy'n nodi prinder capasiti ac arbenigedd i addysgu tystysgrifau addysg uwchradd alwedigaethol mewn ysgolion yng Nghymru, y gallent greu system ddwy haen, a'u bod yn cynnig blas yn hytrach na llwybr pendant i gyflogaeth. Mae un undeb athrawon hefyd wedi dweud yn uniongyrchol wrthyf, er bod tystysgrifau addysg uwchradd galwedigaethol yn wych mewn egwyddor, fod angen mwy o fanylion ynglŷn â'r hyn ydynt, er enghraifft a ydynt yn astudiaethau cyffredinol, neu a ydynt yn canolbwyntio ar astudiaeth ystyrlon ac yn canolbwyntio ar alwedigaeth mewn gwirionedd. Hoffwn wybod sut y mae tystysgrifau addysg uwchradd galwedigaethol hefyd yn cyd-fynd â Safon Uwch. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gweld bod eich partneriaid yn San Steffan yn bwriadu cyflwyno cymwysterau Safon Uwch galwedigaethol hefyd. A yw hynny'n rhywbeth y byddwn yn ystyried ei gyflwyno yma yng Nghymru?
Yn eich ymateb i'r pwyllgor, fe wnaethoch chi hefyd ganolbwyntio'n fawr ar rôl Medr yn darparu llwybrau ôl-16 i addysg alwedigaethol. Fy mhryder i yw bod Medr hefyd yn gohirio ystyried materion pwysig. Cymerwch radd-brentisiaethau, er enghraifft: flynyddoedd ar ôl eu cyflwyno, maent yn dal i fod wedi'u cyfyngu i yrfaoedd peirianneg a seiberddiogelwch. Rydym i gyd yn gwybod bod angen eu diwygio, ond nawr ni chyflwynir gradd-brentisiaethau newydd tan 2027—flwyddyn i mewn i dymor newydd y Senedd. O ganlyniad, mae pobl ifanc Cymru'n colli cyfleoedd hanfodol i fynd i'r brifysgol, dysgu sgiliau yn y gwaith, ac mae prifysgolion Cymru yn colli myfyrwyr a allai fod yn dysgu yma, am fod gan y DU amrywiaeth lawer ehangach o ddewis o'i gymharu â llawer o wledydd eraill.
Gan droi at gyngor gyrfaoedd—ac rwy'n gwybod bod y Cadeirydd wedi cyffwrdd â hyn—er gwaethaf nod Ysgrifennydd y Cabinet i drafod gyrfaoedd o oedran ifanc, clywodd y pwyllgor fod y mwyafrif helaeth o ddysgwyr yn trafod eu hopsiynau ar ôl blwyddyn 11 yn gyntaf naill ai ym mlwyddyn 10 neu flwyddyn 11. A chlywsom gan randdeiliaid fod ansawdd y cyngor gyrfaoedd ledled Cymru yn anghyson, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi bod y cyngor yn ddarniog gyda phocedi o arfer rhagorol. Mae hynny'n dweud wrthyf fod cyngor gyrfaoedd yn dal i fod yn wasgarog ac wedi'i adael tan y funud olaf, yn aml ar ôl i bynciau TGAU gael eu dewis, ac mewn rhai achosion, tra byddant yn cael eu dilyn hyd yn oed.
Gwelaf hefyd eich bod wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor o adolygiad thematig ar Gyrfa Cymru, am fod y corff yn gwerthuso eu cynnig ar gyfer strategaeth newydd. Pryd y caiff y strategaeth hon ei gweithredu, felly? A hoffai unrhyw un ddyfalu? Yn 2027. Rwy'n gweld patrwm bach yn ffurfio yma, oherwydd yn bersonol, rwy'n teimlo mai enghraifft arall yw hon o Lywodraeth Cymru yn gwastraffu amser gwerthfawr o ran addysg ôl-16 a'r opsiynau sydd ar gael i blant a phobl ifanc, a phan fyddant yn dechrau meddwl am yr hyn sy'n digwydd ar ôl iddynt droi'n 16 oed, gallai fod yn rhy hwyr.
Ar brentisiaethau, cefais fy synnu gan yr ymateb i argymhelliad 11 ar y rhwystrau i gyflogwyr ddarparu'r rhain, ac rwy'n dyfynnu:
'mae pwysau economaidd ehangach a pholisïau Llywodraeth y DU ar Yswiriant Gwladol ac isafswm cyflog wedi cyfyngu ar nifer y cyfleoedd sydd ar gael.'
Ysgrifennydd y Cabinet, ai cyfaddefiad yw hwn fod eich partneriaid yn San Steffan, er eu bod wedi cynyddu yswiriant gwladol ac isafswm cyflog yn sylweddol, ar yr un pryd wedi prisio pobl ifanc allan o ennill profiad gwaith gwerthfawr? Mae hyn yn gwbl nodweddiadol o'r diffyg cydgysylltiad rhyngoch chi a Llywodraeth Lafur y DU, oherwydd, yn y pen draw, pobl ifanc sy'n dioddef o ddiffyg cyfleoedd oherwydd polisi difeddwl.
Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at ganfyddiadau'r pwyllgor ar sefydlogrwydd ariannol sefydliadau addysg uwch, oherwydd yn sicr nid ydynt wedi cefnu ar yr adegau anodd eto. Unwaith eto, mae cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael sylw mawr yn yr anawsterau a wynebant, gyda Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn amcangyfrif i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn 2025 ei fod yn costio £2.5 miliwn a £1.6 miliwn iddynt yn y drefn honno, ac yn ychwanegol at y cynnydd mewn chwyddiant. Fel y gwyddom i gyd, roedd gan brifysgolion Cymru ddiffyg cyfunol o £100 miliwn yn 2024, gyda'ch Gweinidog addysg uwch yn cyfaddef bod y codiadau i ffioedd dysgu bryd hynny wedi'u gwrthbwyso gan godiadau i yswiriant gwladol. Rydym hefyd yn gweld diswyddo torfol mewn rhai prifysgolion, gyda Phrifysgol Caerdydd yn gwario £24 miliwn ar ddiswyddiadau, a Phrifysgol Abertawe yn ystyried diswyddo un o bob pump o'u hacademyddion.
Dyma'r realiti, Ysgrifennydd y Cabinet, felly pa gamau brys a gymerwch chi nawr gyda Medr i sicrhau bod y sector hwn yn parhau i fod yn fywiog ac yn dod yn gynaliadwy? Mae yna lawer mwy o feysydd y gallwn gyffwrdd â nhw, Ddirprwy Lywydd, ond fe fyddwch yn falch o glywed na wnaf. Mae angen inni weithio'n galed gyda'n gilydd, ac mae angen inni weithio'n galed nawr i alluogi pontio llyfn o addysg i mewn i waith i filoedd o bobl ifanc sydd angen y gefnogaeth honno ac sy'n ei llwyr haeddu. Diolch yn fawr.
Can I just reiterate the thanks as well, as a member of the Children, Young People and Education Committee? This has been an extremely important report, and I thank everybody—Members and officials—who have played their part in this.
In many ways, it's an appraisal of 27 years of Welsh Government and the skills landscape that they've left young people in Wales with. Now, let's provide some context. I'm just going to take some little bits from the data we have looked at as a committee. Just 33 per cent of learners go on to do A-levels. In England, the corresponding figure is 47 per cent. Now, this may account for our entry rate to HE being the second worst in the UK. For example, the percentage of Welsh domiciled 18-year-olds entering HE in 2023-24 was 29.9 per cent, compared to 49.5 per cent in London and 40.2 per cent in Northern Ireland, and Scotland is roughly about 38 per cent. So, in the UK overall, in terms of those in the most deprived communities that go on to university, it is about 26 per cent. In Wales, it's 18.9 per cent. So, clearly, there's a long way to go.
Now, participation after 16 is also falling, and we've consistently had one of the highest rates in the UK of young people not in education, employment or training. Now, time and time again, Plaid Cymru have called upon this Government to implement a skills strategy, and, within that, a vocational skills strategy. And reiterating the point made by Natasha, the vocational skills strategy needs to have that parity of esteem with the more traditional academic routes.
And I'm glad to see that a call for a skills strategy has been echoed in this report. As the 2023 Sharron Lusher report, which this Government has failed to implement the recommendations of—. Now, Ministers have described implementing the skills strategy as being something long term. Well, I'm afraid this doesn't show the degree of urgency we need for young people making life-changing decisions at 16. They can't wait that long. That's why the young people who'll be voting for Plaid Cymru in May will be voting for a Government that has a skills strategy ready to go, including carrying out a skills audit, and showing ambition and urgency as well.
A gaf i ailadrodd y diolch hefyd, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? Mae hwn wedi bod yn adroddiad hynod bwysig, a diolch i bawb—yn Aelodau a swyddogion—sydd wedi chwarae eu rhan yn hyn.
Mewn sawl ffordd, mae'n arfarniad o 27 mlynedd o Lywodraeth Cymru a'r dirwedd sgiliau y maent wedi'i gadael i bobl ifanc Cymru. Nawr, gadewch inni ddarparu rhywfaint o gyd-destun. Fe gymeraf ambell ddarn bach o'r data y gwnaethom edrych arno fel pwyllgor. Dim ond 33 y cant o ddysgwyr sy'n mynd ymlaen i wneud Safon Uwch. Yn Lloegr, y ffigur cyfatebol yw 47 y cant. Nawr, efallai mai dyma'r rheswm pam y mae ein cyfradd mynediad i addysg uwch yn ail waethaf yn y DU. Er enghraifft, canran y bobl ifanc 18 oed yng Nghymru a aeth ymlaen i addysg uwch yn 2023-24 oedd 29.9 y cant, o'i gymharu â 49.5 y cant yn Llundain a 40.2 y cant yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'r ffigur yn yr Alban oddeutu 38 y cant. Yn y DU yn gyffredinol, o ran y rhai yn y cymunedau mwyaf difreintiedig sy'n mynd ymlaen i brifysgol, mae'r lefel oddeutu 26 y cant. Yng Nghymru, mae'n 18.9 y cant. Felly, yn amlwg, mae ffordd bell i fynd.
Nawr, mae cyfranogiad ar ôl 16 hefyd yn gostwng, ac rydym wedi cael un o'r cyfraddau uchaf yn y DU o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Nawr, dro ar ôl tro, mae Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth hon i weithredu strategaeth sgiliau, a strategaeth sgiliau galwedigaethol o fewn hynny. Ac i ailadrodd y pwynt a wnaeth Natasha, mae angen i'r strategaeth sgiliau galwedigaethol gael parch cydradd â'r llwybrau academaidd mwy traddodiadol.
Ac rwy'n falch o weld bod galwad am strategaeth sgiliau wedi'i hadleisio yn yr adroddiad hwn. Fel adroddiad Sharron Lusher 2023, y mae'r Llywodraeth hon wedi methu gweithredu ei argymhellion—. Nawr, mae Gweinidogion wedi disgrifio gweithredu'r strategaeth sgiliau fel rhywbeth hirdymor. Wel, rwy'n ofni nad yw hynny'n dangos faint o frys sydd ei angen arnom i bobl ifanc sy'n gwneud penderfyniadau sy'n newid bywyd yn 16 oed. Ni allant aros gyn hired â hynny. Dyna pam y bydd y bobl ifanc a fydd yn pleidleisio dros Blaid Cymru ym mis Mai yn pleidleisio dros Lywodraeth sydd â strategaeth sgiliau yn barod i fynd, gan gynnwys cynnal archwiliad sgiliau, ac sy'n dangos uchelgais a brys hefyd.
Dwi’n mynd i droi at y Gymraeg, achos mae llawer iawn o’r argymhellion yn ymwneud â’r cyngor gyrfaol sydd yn cael ei roi i bobl ifanc, ac mae yna ddiffygion amlwg wedi cael eu nodi fel tystiolaeth i ni fel pwyllgor. Ac nid yn unig bod hyn yn bwysig er mwyn rhoi cyngor i bobl ifanc am eu dyfodol, ond y mwyaf o wybodaeth a phrofiadau sy’n cael eu rhoi mae e’n cryfhau'r llinellau yna o ran cyflenwi lleol a chefnogi busnesau lleol. Ac mae tynnu busnesau lleol i mewn a chynnal awdit sgiliau a rhannu’r wybodaeth yna gyda phobl ifanc mor bwysig hefyd er mwyn sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael eu cyflogi yn lleol. Felly, rwy’n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod derbyn yr argymhelliad arbennig yma gan y pwyllgor.
A’r pwynt olaf dwi eisiau ei wneud, Dirprwy Lywydd, yw ynglŷn ag addysg Gymraeg. Fe glywon ni dystiolaeth bod dilema yn wynebu pobl 16 oed sydd wedi cael addysg Gymraeg, yn arbennig y rhai sydd eisiau, efallai, mynd i goleg addysg bellach yn hytrach nag aros mewn chweched dosbarth. Mae’r diffyg darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg yn eu rhwystro nhw rhag parhau ar hyd y llwybr ieithyddol hwnnw. Felly, mae hwn yn rhywbeth mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag e fel cenedl. A’r pwynt olaf, o ran hynny yn arbennig, yw: mae’n rhaid i ni roi hyder i bobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg fod yna lwybr gyrfa ar gael iddyn nhw i’r sector addysg bellach, a hyd yn oed i'r sector addysg uwch.
Felly, y geiriau olaf mewn gwirionedd yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod y diffygion yma yn cael eu delio â nhw, ac mae'n rhaid i ni greu system sydd yn cael ei seilio ar degwch, uchelgais a chefnogaeth i’r Gymraeg a chyfleoedd gwirioneddol i bobl ifanc ddatblygu eu hyder a’u sgiliau. Diolch.
I will turn to the Welsh language, because many of the recommendations relate to the careers advice provided to young people, and clear deficiencies have been noted in evidence to us as a committee. And this is not only important in order to provide advice to young people on their future, but the more information and experiences are shared with young people that strengthens those supply lines locally and supports local businesses. And bringing local businesses in and holding skills audits and sharing that information with young people is so important in order to ensure that more young people are employed locally. So, I'm very disappointed that the Welsh Government has not accepted this particular recommendation made by the committee.
And the final point I'd like to make, Dirprwy Lywydd, is on Welsh-medium education. We heard evidence that there is a dilemma facing those at 16 years of age who have had Welsh-medium education, particularly those who want to go an FE college rather than staying in the sixth form. The lack of post-16 provision through the medium of Welsh is a barrier for them in continuing along that language route. So, that is something that we must address as a nation. And my final point, in relation to that particularly, is that we must give young people the confidence that there is a career path available for them through the medium of Welsh through the FE sector, and even the HE sector.
So, my final contribution would be that we must ensure that these problems are addressed, and that we must create a system that is based on fairness, ambition and support for the Welsh language and real and meaningful opportunities for young people to develop their confidence and skills. Thank you.
I very much welcome this committee report and believe that if Welsh Government is to make sufficient progress in improving life chances, reducing the numbers not in education, employment or training and meeting Wales's future skills needs, then vocational education and training must sit at the very heart of our pre- and post-16 system. This includes better advice and guidance at an earlier age—a much earlier age. As the report identifies, if that does happen, then it helps tackle gender inequality, it supports learners with additional learning needs, and it prevents disengagement before it becomes entrenched.
Our curriculum here in Wales is clear that careers and work-related experiences should be embedded from the age of three. This is welcome and overdue, I believe. Evidence shows that young people form limiting and stereotypical views about careers by the end of primary school. And the committee report states that schools struggle with capacity and time, and that is why independent, in-person advice and guidance is so important. Colleges and training providers must be enabled to access schools directly, so learners can understand the full range of academic and vocational options available to them, not just the ones their school happens to offer. And good advice is not about steering learners away from academic routes; it's about ensuring vocational routes are equally visible, credible and valued. And, of course, we have long recognised the need for parity of esteem, and others have already spoken of that.
As the chair of the further education and skills cross-party group, I've heard first-hand from colleges about the need to improve vocational pathways and the success that junior apprenticeships are having in the areas in which they take place. Estyn found that those junior apprenticeships are highly effective at re-engaging learners at risk of becoming NEET and are associated with excellent attendance and attainment, and also they are successful in supporting progression into post-16 education, training and employment. Programmes in Cardiff, Bridgend and elsewhere in Wales show their clear value. Yet, despite that success, junior apprenticeships are only available in five local authorities, and I very much support recommendation 3 of the report that junior apprenticeships should be expanded so that they are available across Wales. And I'm very glad the Welsh Government has accepted that recommendation, but, along with that, funding of course—adequate funding—is necessary, and £1 million, as stipulated in the Welsh Government's response, is not, I'm afraid, adequate. So, I hope that that can be added to and built upon.
In conclusion, Dirprwy Lywydd, we have an opportunity to build a coherent, credible and inclusive vocational system that really does improve life chances. But it will only happen if we invest in what works, if we're honest about capacity and delivery challenges, and if we place vocational education at the centre of our reform agenda.
Rwy'n croesawu'r adroddiad pwyllgor hwn yn fawr ac yn credu, os yw Llywodraeth Cymru am wneud cynnydd digonol ar wella cyfleoedd bywyd, lleihau'r niferoedd nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a diwallu anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol, rhaid i addysg a hyfforddiant galwedigaethol gael rhan ganolog yn ein system cyn- ac ôl-16. Mae hyn yn cynnwys gwell cyngor ac arweiniad yn gynharach—ar oedran llawer cynharach. Fel y mae'r adroddiad yn nodi, os yw hynny'n digwydd, mae'n helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae'n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'n atal ymddieithriad cyn iddo wreiddio.
Mae ein cwricwlwm yma yng Nghymru yn glir y dylai gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith gael eu gwreiddio o dair oed ymlaen. Mae hyn i'w groesawu ac yn hen bryd ei wneud yn fy marn i. Dengys tystiolaeth fod pobl ifanc yn ffurfio safbwyntiau cyfyngol ac ystrydebol am yrfaoedd erbyn diwedd yr ysgol gynradd. Ac mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod ysgolion yn cael trafferth gyda chapasiti ac amser, a dyna pam y mae cyngor ac arweiniad annibynnol wyneb yn wyneb mor bwysig. Rhaid galluogi colegau a darparwyr hyfforddiant i gael mynediad at ysgolion yn uniongyrchol, fel y gall dysgwyr ddeall yr ystod lawn o opsiynau academaidd a galwedigaethol sydd ar gael iddynt, nid dim ond y rhai y mae eu hysgol yn digwydd eu cynnig. Ac nid llywio dysgwyr i ffwrdd o lwybrau academaidd yw nod cyngor da, ond sicrhau bod llwybrau galwedigaethol yr un mor weladwy a chredadwy ac yn cael eu gwerthfawrogi i'r un graddau. Ac wrth gwrs, rydym wedi cydnabod yr angen am barch cydradd ers amser maith, ac mae eraill eisoes wedi siarad am hynny.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar addysg bellach a sgiliau, rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan golegau am yr angen i wella llwybrau galwedigaethol a'r llwyddiant y mae prentisiaethau iau yn ei gael yn y meysydd lle maent yn digwydd. Canfu Estyn fod y prentisiaethau iau hynny'n effeithiol iawn am ailennyn diddordeb dysgwyr sydd mewn perygl o ddod yn NEET ac mae cysylltiad rhyngddynt â phresenoldeb a chyrhaeddiad rhagorol, ac maent yn llwyddiannus hefyd wrth gefnogi cynnydd i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ôl-16. Mae rhaglenni yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a mannau eraill yng Nghymru yn dangos eu gwerth clir. Eto, er gwaethaf y llwyddiant hwnnw, dim ond mewn pum awdurdod lleol y mae prentisiaethau iau ar gael, ac rwy'n hynod gefnogol i argymhelliad 3 yn yr adroddiad y dylid ehangu prentisiaethau iau fel eu bod ar gael ledled Cymru. Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond yn ogystal â hynny, mae angen cyllid wrth gwrs—cyllid digonol—ac mae arnaf ofn nad yw £1 filiwn, fel y nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru, yn ddigon. Felly, rwy'n gobeithio y gellir ychwanegu ato ac adeiladu arno.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae gennym gyfle i adeiladu system alwedigaethol gydlynol, gredadwy a chynhwysol sydd o ddifrif yn gwella cyfleoedd bywyd. Ond ni fydd ond yn digwydd os buddsoddwn yn yr hyn sy'n gweithio, os ydym yn onest am heriau capasiti a chyflawni, ac os ydym yn rhoi addysg alwedigaethol yn y canol yn ein hagenda ddiwygio.
Of course, we want to see, as the report highlights, parity of esteem between vocational and academic paths, but I believe that parity of esteem is unachievable currently in Wales. Firstly, it is difficult or impossible to find a level 6 or level 7 apprenticeship, that is, apprenticeships that are equivalent to an undergraduate or Master's degree. I've raised this on several occasions with regard to solicitor qualifications in Wales. Secondly, junior apprenticeships are not guaranteed stepping stones to higher level qualifications, as the report highlighted. And finally, again as the report says, there is a lack of explanation as to what qualifications are equivalent, and a lack of available information about mapping out your career through apprenticeship levels.
Universities in Wales are also concerned that not enough learners taking vocational qualifications are moving on to university level. There's obviously an issue here. We cannot expect young learners to view vocational and academic routes of qualification as equal unless they are truly equal, and I don't think they are. There is no parity at the moment in Wales.
Wrth gwrs, fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, rydym am weld parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd, ond nid wyf yn credu bod modd cyflawni parch cydradd yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn gyntaf, mae'n anodd neu'n amhosib dod o hyd i brentisiaeth lefel 6 neu lefel 7, hynny yw, prentisiaethau sy'n cyfateb i radd israddedig neu radd Meistr. Rwyf wedi codi hyn ar sawl achlysur mewn perthynas â chymwysterau cyfreithwyr yng Nghymru. Yn ail, nid yw prentisiaethau iau yn sicr o fod yn gam i gymwysterau lefel uwch, fel y nododd yr adroddiad. Ac yn olaf, eto fel y dywed yr adroddiad, ni cheir digon o esboniad ynghylch pa gymwysterau sy'n gyfatebol, na digon o wybodaeth ynghylch mapio eich gyrfa drwy lefelau prentisiaeth.
Mae prifysgolion yng Nghymru hefyd yn pryderu nad oes digon o ddysgwyr sy'n mynd ar drywydd cymwysterau galwedigaethol yn symud ymlaen i lefel prifysgol. Yn amlwg, mae yna broblem yma. Ni allwn ddisgwyl i ddysgwyr ifanc ystyried llwybrau cymwysterau galwedigaethol ac academaidd yn gyfartal oni bai eu bod yn wirioneddol gyfartal, ac nid wyf yn credu eu bod. Nid oes cydraddoldeb yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dwi'n cytuno gyda sylwadau Cefin am yr hyn ddywedodd e am y Gymraeg, ond mae'n rhaid i mi ddweud, Cefin, dwi'n siomedig nad oedd unrhyw argymhellion am y Gymraeg yn yr adroddiad, oherwydd mae'n amlwg bod hyn yn broblem. Mae'n broblem bod cynifer o bobl ifanc yn teimlo bod rhaid iddyn nhw droi at y Saesneg ar ôl troi'n 16, fod troi i'r Saesneg o fantais iddyn nhw. Dywedodd un dysgwr a roddodd dystiolaeth fod angen fwy o gefnogaeth ar bobl ifanc sy'n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw newid ieithoedd. Nawr, dwi'n credu bod hon yn her ymarferol. Mae myfyrwyr yn gofyn am gymorth. Mae'n fwy na dim ond codi ymwybyddiaeth, yn fy marn i, o'u dewisiadau nhw. Mae'n rhaid inni wybod pam maen nhw'n teimlo hyn.
I agree with Cefin's comments in relation to what he said about the Welsh language, but I have to say, Cefin, that I'm disappointed that there are no recommendations on the Welsh language in the report, because it is clear that this is a problem. It's a problem that so many young people feel that they do have to turn to English-medium provision once they reach the age of 16, and they see that as an advantage to them. One learner who provided evidence said that more support is required for young people who feel that they have to change language. Now, I think that this is a practical challenge. Students are seeking support. It's more than just a matter of awareness raising, in my view, in terms of their choices. We have to know why they feel this way.
And then I want to just talk about applications to universities and Seren. Welsh students across all levels of deprivation apply to universities at either the lowest number in the UK or within 1 per cent of being the lowest. Now, we've heard reasons given why that is the case, but it is disappointing that none of the recommendations explicitly focus on that figure. Instead, the report contains Welsh universities' criticism of Seren. The programme supports the most academically gifted Welsh children to apply to top universities in the UK, which they called the ‘study in England’ campaign, which disadvantaged the Welsh higher education sector.
Now, Cefin and I will disagree on this. We agree on most points, but we will disagree on the Seren point. It will be in the best interests of some Welsh students, especially Welsh students from a deprived background, to apply to institutions outside of Wales. Many of us here benefited from going to universities outside of Wales before returning to Wales to live, to work and to raise our families. We should not be depriving Welsh children from deprived backgrounds of having those opportunities, of opening that door. I don’t think saying that makes you less of a nationalist; I think it makes you more of a Welsh patriot, saying that we should have Welsh ambassadors going out of Wales and then coming back. Of course we need to make Welsh institutions more attractive to our young people, but the proportion of Welsh students who apply and get admitted to Oxbridge is already lower than the rest of the UK. That’s why Seren exists, and that's why we need—. Seren isn’t perfect, but that’s why we need to work to make Seren a better institution. But that figure is surely linked to the fact that a lower proportion of Welsh students apply overall to university in the first place. We need action to know about that.
Finally, the gender data on young people. The report was surprised to see the swap between young men and young women. It was therefore surprising to me, Chair of the committee, why you then highlighted about young men, even though the report said the data showed that it was young women last year that were most—. There’s a huge swing of 7 per cent, and I’d like to know more about it, because the Welsh Government response dealt with English data. I’d like to know why that is the case, are the figures correct, and how can we deal with that.
Dirprwy Lywydd, I’ll finish there. The report raises really important issues, really important findings. What we need now is urgency and practical intervention. Diolch yn fawr.
Ac rwyf eisiau siarad am geisiadau i brifysgolion a Seren. Mae nifer y myfyrwyr o Gymru ar draws pob lefel o amddifadedd sy'n gwneud cais i brifysgolion naill ai ar y lefel isaf yn y DU neu o fewn 1 y cant i fod ar y lefel isaf. Nawr, rydym wedi clywed rhesymau pam y mae hynny'n wir, ond mae'n siomedig nad oes unrhyw un o'r argymhellion yn canolbwyntio'n benodol ar y ffigur hwnnw. Yn hytrach, mae'r adroddiad yn cynnwys beirniadaeth prifysgolion Cymru o Seren. Mae'r rhaglen yn cefnogi'r plant mwyaf dawnus o Gymru i wneud cais i brifysgolion gorau y DU, a alwyd ganddynt yn ymgyrch 'astudio yn Lloegr', a oedd yn rhoi sector addysg uwch Cymru dan anfantais.
Nawr, bydd Cefin a minnau'n anghytuno ar hyn. Rydym yn cytuno ar y rhan fwyaf o bwyntiau, ond byddwn yn anghytuno ar y pwynt ynghylch Seren. Y budd gorau i rai myfyrwyr o Gymru, yn enwedig myfyrwyr o Gymru o gefndir difreintiedig, fydd gwneud cais i sefydliadau y tu allan i Gymru. Mae llawer ohonom yma wedi elwa o fynd i brifysgolion y tu allan i Gymru cyn dychwelyd i Gymru i fyw, i weithio ac i fagu ein teuluoedd. Ni ddylem amddifadu plant Cymru o gefndiroedd difreintiedig o'r cyfleoedd hynny, o agor y drws hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod dweud hynny'n eich gwneud chi'n llai o genedlaetholwr; rwy'n credu ei fod yn eich gwneud chi'n fwy o wladgarwr Cymreig, dweud y dylem gael llysgenhadon Cymreig yn mynd allan o Gymru ac yn dod yn eu holau wedyn. Wrth gwrs, mae angen inni wneud sefydliadau Cymreig yn fwy deniadol i'n pobl ifanc, ond mae cyfran y myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais ac yn cael eu derbyn i Rydychen neu Gaergrawnt eisoes yn is na gweddill y DU. Dyna pam y mae Seren yn bodoli, a dyna pam y mae angen inni—. Nid yw Seren yn berffaith, ond dyna pam y mae angen inni weithio i wneud Seren yn sefydliad gwell. Ond mae'r ffigur hwnnw'n sicr yn gysylltiedig â'r ffaith bod cyfran is o fyfyrwyr Cymru yn gwneud cais i fynd i brifysgol yn y lle cyntaf. Mae angen gweithredu i wybod am hynny.
Yn olaf, y data ar sail rhywedd ar gyfer pobl ifanc. Roedd yr adroddiad yn synnu gweld y cyfnewid rhwng dynion ifanc a menywod ifanc. Felly, roedd yn syndod i mi, Gadeirydd y pwyllgor, pam y gwnaethoch chi wedyn dynnu sylw at ddynion ifanc, er bod yr adroddiad yn dweud bod y data'n dangos y llynedd mai menywod ifanc oedd y mwyaf—. Mae yna ogwydd enfawr o 7 y cant, a hoffwn wybod mwy amdano, oherwydd roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn ymwneud â data o Loegr. Hoffwn wybod pam y mae hynny'n digwydd, a yw'r ffigurau'n gywir, a sut y gallwn ddelio â hynny.
Ddirprwy Lywydd, fe ddof i ben yno. Mae'r adroddiad yn codi materion pwysig iawn, canfyddiadau pwysig iawn. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw brys ac ymyrraeth ymarferol. Diolch yn fawr.
I'd just like to start by paying tribute to our friend and colleague Hefin David, and his report, ‘Transitions to employment’. I’d also like to thank the Chair, Members, the committee team, the organisations, parents, guardians and young people who gave evidence and took part in the inquiry. Those round-table conversations were impactful and incredibly important in helping us understand the barriers facing young people and in shaping our recommendations.
We heard there is still biased advice in the system, alongside competition between schools to retain students in sixth form and further education, as funding follows the pupil. Pupils and parents, who are such a strong influence, need clear, unbiased and relevant information about what jobs are available and which education routes lead to them. This could be supported by a dedicated website and by providing information stands at parents' evenings.
Earlier, I talked to the Civil Engineering Contractors Association, who said they are desperate to get into schools, but they find it very difficult. They would also like to know when large projects are coming forward, so that they can work on a forward plan and also look at recruiting apprentices.
Transport is a huge barrier, but it also can be an enabler. I welcome the £1 bus fare for under-21s and the passing of the bus Bill, which will ensure that routes are planned and mapped based on need going forward.
Work experience is vital, yet access to it is lacking. I heard from one parent whose daughter was disengaging with mainstream education and was offered work experience in the natural environment. This inspired and re-engaged her, and she went on to achieve qualifications through a combination of work and education in an area that she enjoyed.
We also heard that Careers Wales advice and support is inconsistent, and I believe that Estyn should carry out a thematic review. Funding has probably made an impact. I am pleased the Welsh Government has invested in the junior apprenticeship scheme, which seems to be really successful, and that the funding has doubled recently.
We continue to see announcements about investment in renewable energy, including offshore windfarms, which raises important questions about what skills will be needed: marine engineers, welders, electricians. I understand that there is now a ministerial group developing a tertiary approach to skills, and this work must align closely with future labour needs.
I was pleased to hear this morning at the CYPE committee that the North Wales Tertiary Alliance has been formed, and that the Minister for Further and Higher Education, Vikki Howells, spoke about a mapping exercise that's taken place, which is really positive. Our public services, including health, have significant vacancies as well and should be included in any skills mapping, and we've just completed an inquiry into teacher recruitment and retention. So, I think that should all be part of the workforce plan.
We heard positive examples from the Cardiff Commitment and the Ynys Môn career pathways pilot. The Cardiff Commitment brings together 400 organisations who've pledged to work collaboratively to improve educational outcomes and career prospects, particularly for young people from disadvantaged backgrounds, and they intend to reintroduce career pathways into schools. This work was funded through the shared prosperity fund, and while the replacement local growth funds will focus on helping young people into employment, there is concern it's weighted towards capital investment. So, I hope that there will be transition support for this good work to continue. Between 2022 and 2024, the Cardiff Commitment achieved 152 work placements with 100 per cent positive feedback in student readiness for work, which was really useful. And the Ynys Môn career pathways pilot enhances local career readiness by helping young people understand the full range of local opportunities.
We know that there is a shortage of plumbers, electricians and joiners. We heard that NVQ students are struggling to secure work experience placements needed to complete their studies. We must remove barriers and friction, so that sole traders can pass on their practical knowledge and experience to young people. There's nothing like learning on the job. At present, issues such as insurance, policies and paperwork are too prohibitive.
Finally, I believe the Welsh Government should commission a focused piece of research to understand why employers are unable to offer work experience placements and what steps are needed to overcome these barriers. If it's not something for the education department, perhaps it's something for the economy or for the Minister for Delivery to help on. Thank you.
Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n ffrind a'n cyd-Aelod Hefin David, a'i adroddiad, 'Pontio i gyflogaeth'. Hefyd, hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, yr aelodau, tîm y pwyllgor, y sefydliadau, rhieni, gwarcheidwaid a'r bobl ifanc a roddodd dystiolaeth ac a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Roedd y sgyrsiau bord gron hynny'n effeithiol ac yn hynod bwysig i'n helpu i ddeall y rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc ac wrth siapio ein hargymhellion.
Clywsom fod cyngor unochrog yn y system o hyd, ochr yn ochr â chystadleuaeth rhwng ysgolion i gadw myfyrwyr yn y chweched dosbarth ac addysg bellach, gan fod cyllid yn dilyn y disgybl. Mae disgyblion a rhieni, sy'n ddylanwad mor gryf, angen gwybodaeth glir, ddiduedd a pherthnasol am ba swyddi sydd ar gael a pha lwybrau addysg sy'n arwain atynt. Gellid cefnogi hyn drwy wefan bwrpasol a thrwy ddarparu stondinau gwybodaeth mewn nosweithiau rhieni.
Yn gynharach, siaradais â'r Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil, a ddywedodd eu bod yn awyddus iawn i fynd i ysgolion, ond maent yn ei chael hi'n hynod o anodd gwneud hynny. Hoffent wybod hefyd pryd y caiff prosiectau mawr eu cyflwyno, fel y gallant weithio ar flaengynllun ac edrych hefyd ar recriwtio prentisiaid.
Mae trafnidiaeth yn rhwystr enfawr, ond gall fod yn alluogwr hefyd. Rwy'n croesawu'r tocyn bws o £1 i rai dan 21 oed a phasio'r Bil bysiau, a fydd yn sicrhau bod llwybrau'n cael eu cynllunio a'u mapio'n seiliedig ar angen yn y dyfodol.
Mae profiad gwaith yn hanfodol, ond mae mynediad ato'n ddiffygiol. Clywais gan un rhiant i ferch a oedd yn ymddieithrio rhag addysg brif ffrwd, a chafodd gynnig profiad gwaith yn yr amgylchedd naturiol. Fe wnaeth hyn ei hysbrydoli ac ailennyn ei diddordeb, ac aeth ymlaen i ennill cymwysterau drwy gyfuniad o waith ac addysg mewn maes yr oedd hi'n ei fwynhau.
Clywsom hefyd fod cyngor a chymorth Gyrfa Cymru yn anghyson, ac rwy'n credu y dylai Estyn gynnal adolygiad thematig. Mae'n debygol fod cyllid wedi cael effaith. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y cynllun prentisiaethau iau, sydd i'w weld yn llwyddiannus iawn, a bod y cyllid wedi dyblu yn ddiweddar.
Rydym yn parhau i weld cyhoeddiadau am fuddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ffermydd gwynt ar y môr, sy'n codi cwestiynau pwysig am ba sgiliau y bydd eu hangen: peirianwyr morol, weldwyr, trydanwyr. Rwy'n deall bod yna grŵp cynghori'r Gweinidog wrthi'n datblygu llwybr trydyddol at sgiliau, ac mae'n rhaid i'r gwaith hwn gyd-fynd yn agos ag anghenion llafur yn y dyfodol.
Roeddwn yn falch o glywed y bore yma yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod Cynghrair Drydyddol Gogledd Cymru wedi'i ffurfio, a bod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, wedi siarad am ymarfer mapio sydd wedi digwydd, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn. Mae gan ein gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys iechyd, nifer sylweddol o swyddi gwag hefyd a dylid eu cynnwys mewn unrhyw waith mapio sgiliau, ac rydym newydd gwblhau ymchwiliad i recriwtio a chadw athrawon. Felly, rwy'n credu y dylai hynny i gyd fod yn rhan o'r cynllun ar gyfer y gweithlu.
Clywsom enghreifftiau cadarnhaol o Ymrwymiad Caerdydd a chynllun peilot llwybrau gyrfa Ynys Môn. Mae Ymrwymiad Caerdydd yn dwyn ynghyd 400 o sefydliadau sydd wedi addo gweithio ar y cyd i wella canlyniadau addysgol a rhagolygon gyrfa, yn enwedig i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, ac maent yn bwriadu ailgyflwyno llwybrau gyrfa mewn ysgolion. Ariannwyd y gwaith hwn drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, ac er y bydd y cronfeydd twf lleol a ddaeth yn ei lle yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i gael gwaith, mae pryder ei fod wedi'i bwysoli tuag at fuddsoddiad cyfalaf. Felly, rwy'n gobeithio y ceir cymorth pontio er mwyn i'r gwaith da hwn barhau. Rhwng 2022 a 2024, cyflawnodd Ymrwymiad Caerdydd 152 o leoliadau gwaith gydag adborth cadarnhaol 100 y cant o ran parodrwydd myfyrwyr ar gyfer gwaith, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Ac mae cynllun peilot llwybrau gyrfa Ynys Môn yn gwella parodrwydd lleol ar gyfer gyrfaoedd drwy helpu pobl ifanc i ddeall yr ystod lawn o gyfleoedd lleol.
Gwyddom fod yna brinder plymwyr, trydanwyr a seiri. Clywsom fod myfyrwyr NVQ yn cael trafferth sicrhau lleoliadau profiad gwaith sydd eu hangen i gwblhau eu hastudiaethau. Rhaid inni gael gwared ar rwystrau a gwrthdaro, fel y gall unig fasnachwyr drosglwyddo eu gwybodaeth a'u profiad ymarferol i bobl ifanc. Nid oes dim yn debyg i ddysgu yn y gwaith. Ar hyn o bryd, mae materion fel yswiriant, polisïau a gwaith papur yn rhy waharddol.
Yn olaf, rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil manwl i ddeall pam nad yw cyflogwyr yn gallu cynnig lleoliadau profiad gwaith a pha gamau sydd eu hangen i oresgyn y rhwystrau hyn. Os nad yw'n rhywbeth i'r adran addysg ei wneud, efallai ei fod yn rhywbeth i adran yr economi neu'r Gweinidog cyflawni helpu gydag ef. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
I call on the Cabinet Secretary for Education, Lynne Neagle.
Thank you, Dirprwy Lywydd. I'm grateful to the Children, Young People and Education Committee for their report on their inquiry into routes into post-16 education and training. They have produced a significant piece of work with a wide-ranging scope, covering the portfolios of myself, the Minister for Further and Higher Education and the Minister for Culture, Skills and Social Partnership. I would also like to thank those who gave evidence to the committee, and in particular the young people themselves. We all share a common goal: to ensure every young person in Wales can progress along their chosen educational pathway, gain higher level skills, fulfil their potential and contribute to a strong, sustainable economy. This inquiry came at an important time. The tertiary education sector in Wales must change, becoming more sustainable, more accessible, more integrated and better aligned with future demographic, economic and skills needs.
In November, the Minister for Further and Higher Education set out five pressing challenges facing Wales's tertiary sector and has now published a detailed evidence paper and launched a call for submissions. We've established a ministerial advisory group, made up of stakeholders from across the sector, to focus on the strategic priorities for tertiary education, in particular on increasing participation rates across post-16 education and stabilising finances. We've designed the call for submissions to give us a much clearer picture of the pressures and opportunities across the system. The feedback, alongside other evidence, including this important report from the committee, will help shape our future policy direction. This Government accepts the central challenge set by the committee. We must make the post-16 system more collaborative and easier for young people to navigate. That is why we established Medr in 2024, to plan, fund and assure quality across a coherent tertiary system in Wales.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad ar eu hymchwiliad i lwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16. Maent wedi cynhyrchu gwaith sylweddol ac iddo gwmpas eang, sy'n cwmpasu fy mhortffolio i a phortffolios y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, ac yn enwedig y bobl ifanc eu hunain. Mae pob un ohonom yn rhannu nod cyffredin: sicrhau y gall pob unigolyn ifanc yng Nghymru gamu ymlaen ar hyd llwybr addysgol o'u dewis, ennill sgiliau lefel uwch, cyflawni eu potensial a chyfrannu at economi gref a chynaliadwy. Daeth yr ymchwiliad hwn ar adeg bwysig. Rhaid i'r sector addysg drydyddol yng Nghymru newid a dod yn fwy cynaliadwy, yn fwy hygyrch, yn fwy integredig ac wedi'i alinio'n well ag anghenion demograffig, economaidd a sgiliau'r dyfodol.
Ym mis Tachwedd, nododd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch bum her bwysig sy'n wynebu sector trydyddol Cymru ac mae bellach wedi cyhoeddi papur tystiolaeth manwl ac wedi lansio galwad am gyflwyniadau. Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori'r Gweinidog, sy'n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector, i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol, yn enwedig ar gynyddu cyfraddau cyfranogiad ar draws addysg ôl-16 a sefydlogi cyllid. Rydym wedi cynllunio'r alwad am gyflwyniadau i roi darlun llawer cliriach i ni o'r pwysau a'r cyfleoedd ar draws y system. Bydd yr adborth, ynghyd â thystiolaeth arall, gan gynnwys yr adroddiad pwysig hwn gan y pwyllgor, yn helpu i siapio cyfeiriad ein polisi yn y dyfodol. Mae'r Llywodraeth hon yn derbyn yr her ganolog a osodwyd gan y pwyllgor. Rhaid inni wneud y system ôl-16 yn fwy cydweithredol ac yn haws i bobl ifanc ei llywio. Dyna pam y gwnaethom sefydlu Medr yn 2024, i gynllunio, ariannu a sicrhau ansawdd ar draws system drydyddol gydlynol yng Nghymru.
The Welsh Government has responded to each of the recommendations addressed to us in this report in writing. Today, I will set out our broad response to the various sections of the report. First, the committee recommends that an overarching strategy for post-16 education, encompassing both academic and vocational pathways, is developed. The strategic direction for vocational education and training in Wales will be published prior to the pre-election period. It will reflect the conclusions of our stakeholder reference group on how to strengthen vocational education and training in Wales. The decision on whether to produce a broad tertiary strategy or a specific vocational strategy will depend on the outcome of our call for submissions. However, the strategic direction for vocational learning will provide a strong foundation for that work.
Secondly, the report addresses pre-16 education. We accept the recommendation to continue to grow the junior apprenticeship programme and fully share the committee's view of its impact. Junior apprenticeships are now offered in seven colleges and I am really keen that they are available to even more learners across Wales. An Estyn report on junior apprenticeships in May 2024 described how they have a transformational impact on learners at risk of disengaging. Our draft budget therefore increased our funding for this programme to £1 million in 2026-27—more than double the budget of three years ago. And I know that many Members of this Chamber have seen the scheme in action and have been as impressed with it as I am.
We also accept the need to clarify our approach to pre-16 vocational education. We will continue to encourage schools to work in partnership with each other and with FE and HE institutions, and are currently exploring how best to support the implementation of our new made-for-Wales vocational certificates of secondary education. The report makes a series of recommendations about transitions to 16 to 18 education and training. Our 14 to 16 learner entitlement sets out the advice, guidance and experiences that learners should receive. We accept in principle the recommendation to expand this, and the Government will work with stakeholders to consider strengthening guidance to set out more clearly our expectations about how learners should hear directly from colleges, work-based providers and universities about post-16 opportunities.
Whilst we do not disagree with the committee's concerns about the importance of Careers Wales advice and barriers to work experience, the work proposed by the committee would duplicate recent work that has already taken place. For this reason, we cannot accept the calls for additional further analysis in these areas. In relation to recommendation 7, Estyn undertook a review of careers guidance in secondary schools in 2022. Careers Wales is evaluating its current offer to inform its new strategy for implementation in 2027. Commissioning another review now would risk duplicating work. Since September 2024, Careers Wales have offered a careers guidance interview to all key stage 4 learners before they leave compulsory education. This is alongside targeted additional support for those most at risk. This offer was not in place in time to be reflected within the committee's inquiry. Careers Wales provided careers guidance to over 86 per cent of year 11 learners in the 2024-25 cohort.
In relation to recommendation 8, significant work has been undertaken to understand employer perspectives on work experience. Comprehensive new work experience placement guides for employers, young people, parents and schools will be launched by the Minister for Culture, Skills and Social Partnership later this month. These guides directly address a number of the issues that employers have raised.
In response to the committee's recommendation on learner transport, we agree that the independent evaluation of the £1 single and £3 daily bus fare pilot must examine its impact on access to education and training.
The committee is correct that there is a gap for 16 to 18-year-olds, between learner interest in apprenticeships and the opportunities available. Barriers for employers, especially SMEs, are real. We are strengthening impartial high-quality guidance through Careers Wales, but we also recognise Medr's pivotal role in creating a more coherent system that better aligns demand with employer need. Yesterday, we launched our consultation on 16 to 18 local curricula guidance. This will provide the basis for a more collaborative learner-centred tertiary education system, with Medr working in partnership with local authorities, schools and FE institutions as they assume responsibility for local curricula for 16 to 18-year-old learners from April.
Finally, the report considers transition to post-16 education and training. In response to the committee, we have set out expectations of how post-16 education and training providers should continue to provide their learners with careers information. This includes access to both guidance materials and up-to-date resources.
Our response also describes our ongoing discussions with the UK Government on the financial pressures facing HE, including the implications of their post-16 White Paper. We have confirmed that the international student levy will not apply in Wales, whilst aligning tuition fees with inflation, which will generate around £19 million for Welsh institutions over the next academic year, and these decisions have been warmly welcomed by the sector.
Dirprwy Lywydd, improving participation across all pathways is one of my top priorities. We know there are real challenges, so we are taking a strategic, collaborative, evidence-led approach to help learners access the right pathways and make informed choices to ensure every one of them reaches their full potential. I am extremely grateful to the committee for their invaluable support and advocacy in this endeavour. Diolch.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ysgrifenedig i bob un o'r argymhellion a wnaed i ni yn yr adroddiad hwn. Heddiw, byddaf yn nodi ein hymateb cyffredinol i wahanol adrannau'r adroddiad. Yn gyntaf, mae'r pwyllgor yn argymell datblygu strategaeth drosfwaol ar gyfer addysg ôl-16 sy'n cwmpasu llwybrau academaidd a galwedigaethol. Bydd y cyfeiriad strategol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Bydd yn adlewyrchu casgliadau ein grŵp cyfeirio rhanddeiliaid ar sut i gryfhau addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru. Bydd y penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cynhyrchu strategaeth drydyddol gyffredinol neu strategaeth alwedigaethol benodol yn dibynnu ar ganlyniad ein galwad am gyflwyniadau. Fodd bynnag, bydd y cyfeiriad strategol ar gyfer dysgu galwedigaethol yn darparu sylfaen gref ar gyfer y gwaith hwnnw.
Yn ail, mae'r adroddiad yn trafod addysg cyn-16. Rydym yn derbyn yr argymhelliad i barhau i dyfu'r rhaglen brentisiaethau iau ac yn rhannu barn y pwyllgor yn llawn am ei heffaith. Cynigir prentisiaethau iau mewn saith coleg bellach, ac rwy'n awyddus iawn iddynt fod ar gael i fwy fyth o ddysgwyr ledled Cymru. Nododd adroddiad Estyn ar brentisiaethau iau ym mis Mai 2024 sut y cânt effaith drawsnewidiol ar ddysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio. O'r herwydd, cynyddodd ein cyllideb ddrafft ein cyllid ar gyfer y rhaglen hon i £1 filiwn yn 2026-27—mwy na dwbl y gyllideb dair blynedd yn ôl. A gwn fod llawer o Aelodau'r Siambr hon wedi gweld y cynllun ar waith a'i fod wedi creu llawn cymaint o argraff arnynt ag arnaf innau.
Rydym hefyd yn derbyn yr angen i egluro ein dull gweithredu mewn perthynas ag addysg alwedigaethol cyn-16. Byddwn yn parhau i annog ysgolion i weithio mewn partneriaeth â'i gilydd a chyda sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, ac ar hyn o bryd, rydym yn archwilio'r ffordd orau o gefnogi gweithrediad ein tystysgrifau addysg uwchradd galwedigaethol newydd a luniwyd ar gyfer Cymru. Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ynghylch pontio i addysg a hyfforddiant 16 i 18. Mae ein hawl i ddysgu 14 i 16 yn nodi'r cyngor, yr arweiniad a'r profiadau y dylai dysgwyr eu cael. Rydym yn derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i ehangu hyn, a bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried cryfhau canllawiau i nodi ein disgwyliadau yn gliriach ynghylch sut y dylai dysgwyr glywed yn uniongyrchol gan golegau, darparwyr seiliedig ar waith a phrifysgolion am gyfleoedd ôl-16.
Er nad ydym yn anghytuno â phryderon y pwyllgor ynghylch pwysigrwydd cyngor Gyrfa Cymru a rhwystrau i brofiad gwaith, byddai'r gwaith a argymhellwyd gan y pwyllgor yn dyblygu gwaith diweddar sydd eisoes wedi digwydd. Am y rheswm hwn, ni allwn dderbyn y galwadau am ddadansoddiad pellach yn y meysydd hyn. Mewn perthynas ag argymhelliad 7, cynhaliodd Estyn adolygiad o gyfarwyddyd gyrfaoedd mewn ysgolion uwchradd yn 2022. Mae Gyrfa Cymru yn gwerthuso eu cynnig presennol i lywio eu strategaeth newydd i'w rhoi ar waith yn 2027. Mae perygl y byddai comisiynu adolygiad arall nawr yn dyblygu gwaith. Ers mis Medi 2024, mae Gyrfa Cymru wedi cynnig cyfweliad cyfarwyddyd gyrfaoedd i bob dysgwr cyfnod allweddol 4 cyn iddynt adael addysg orfodol. Daw hyn ynghyd â chymorth ychwanegol wedi'i dargedu ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Nid oedd y cynnig hwn ar waith mewn pryd i gael ei adlewyrchu yn ymchwiliad y pwyllgor. Darparodd Gyrfa Cymru gyfarwyddyd gyrfaoedd i dros 86 y cant o ddysgwyr blwyddyn 11 yng ngharfan 2024-25.
O ran argymhelliad 8, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i ddeall safbwyntiau cyflogwyr ar brofiad gwaith. Bydd canllawiau cynhwysfawr newydd ar leoliadau profiad gwaith ar gyfer cyflogwyr, pobl ifanc, rhieni ac ysgolion yn cael eu lansio gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn nes ymlaen y mis hwn. Mae'r canllawiau hyn yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â nifer o'r materion y mae cyflogwyr wedi'u codi.
Mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor ar gludiant i ddysgwyr, rydym yn cytuno bod yn rhaid i'r gwerthusiad annibynnol o'r cynllun peilot tocynnau bws sengl £1 a thocyn teithio dyddiol £3 archwilio ei effaith ar fynediad at addysg a hyfforddiant.
Mae'r pwyllgor yn iawn fod bwlch i bobl ifanc 16 i 18 oed, rhwng diddordeb dysgwyr mewn prentisiaethau a'r cyfleoedd sydd ar gael. Mae'r rhwystrau i gyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig, yn real. Rydym yn cryfhau canllawiau diduedd o ansawdd uchel drwy Gyrfa Cymru, ond rydym hefyd yn cydnabod rôl ganolog Medr yn creu system fwy cydlynol sy'n alinio'r galw'n well ag anghenion cyflogwyr. Ddoe, lansiwyd ein hymgynghoriad ar ganllawiau cwricwla lleol 16 i 18. Bydd hyn yn darparu'r sail ar gyfer system addysg drydyddol fwy cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, gyda Medr yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach wrth iddynt ddod yn gyfrifol am gwricwla lleol ar gyfer dysgwyr 16 i 18 oed o fis Ebrill ymlaen.
Yn olaf, mae'r adroddiad yn ystyried trefniadau pontio i addysg a hyfforddiant ôl-16. Mewn ymateb i'r pwyllgor, rydym wedi nodi disgwyliadau ynghylch y ffordd y dylai darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 barhau i ddarparu gwybodaeth am yrfaoedd i'w dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ddeunyddiau cyfarwyddyd ac adnoddau cyfredol.
Mae ein hymateb hefyd yn disgrifio ein trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r pwysau ariannol sy'n wynebu addysg uwch, gan gynnwys goblygiadau eu Papur Gwyn ôl-16. Rydym wedi cadarnhau na fydd yr ardoll myfyrwyr rhyngwladol yn cael ei gweithredu yng Nghymru, ac rydym yn cynyddu ffioedd dysgu yn unol â chwyddiant, a fydd yn cynhyrchu oddeutu £19 miliwn i sefydliadau Cymru dros y flwyddyn academaidd nesaf, ac mae'r penderfyniadau hyn wedi cael croeso cynnes gan y sector.
Ddirprwy Lywydd, mae gwella cyfranogiad ar draws pob llwybr yn un o fy mhrif flaenoriaethau. Gwyddom fod heriau gwirioneddol yn bodoli, felly rydym yn mabwysiadu dull gweithredu strategol, cydweithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i gynorthwyo dysgwyr i gael mynediad at y llwybrau cywir a gwneud dewisiadau gwybodus er mwyn sicrhau bod pob un ohonynt yn cyflawni eu potensial llawn. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r pwyllgor am eu cefnogaeth a'u heiriolaeth amhrisiadwy yn yr ymdrech hon. Diolch.
Galwaf ar Buffy Williams i ymateb i'r ddadl.
I call on Buffy Williams to reply to the debate.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I'd like to put on record my thanks to the Cabinet Secretary for her response, and I'd also like to thank all Members for their contributions today.
Natasha, I agree about the concerns about the VCSEs. We had a lot of mixed responses on this, as you know. Young people and educators need to see these qualifications as worth while, and right now, as we heard, they're not.
Cefin mentioned that cohort of young people who drop off the grid. We need to know where these young people are ending up and why they are choosing not to go into further education. It's a real worry, especially after our report, 'Children on the margins'. We know how important it is to keep track of these young people and to see what pathway they are taking in life.
John highlighted how important it is for young people to receive careers advice as early as possible, and that must be quality advice. That word is so important for our young people. It must be quality advice, because it really does make a difference. As Rhys pointed out, there is confusion for young people when deciding what qualification is more suitable for them. Again, this is why quality advice is essential, and quality advice at the youngest possible starting age.
Carolyn spoke about advice for parents and pupils. We heard time and time again that parents feel left out and don't know where to go for advice. That has to be something that is at the forefront of every young person's educational journey. They must be able to know where to go for that all-important advice.
You also touched on learner travel, and, as you know, it was something that we all wanted to do. Unfortunately, we ran out of time as a committee. We know how important learner travel is for our young people. We know the barriers that our young people face, and learner travel is definitely one of those barriers. I hope the next Welsh Government look closely at how we can make learner travel far more affordable than it is today.
This debate has shown how strongly we all feel about supporting young people as they move into post-16 education and training. I would also like to say a big 'thank you' to my fellow committee members for working so collaboratively across the parties, because I think at the end of every single session we came to the same conclusion, and that was that our young people need quality, expert advice to ensure they are moving in the right direction, on the right pathway, and they're not having to go back into higher education in their 30s, in their 40s; that they get it right the first time off the blocks.
Throughout the debate, we have heard clear support for the themes at the heart of our report: the need for genuine parity of esteem between vocational and academic routes, the importance of strong and consistent careers advice, including access to work experience, and the need for a system built on collaboration rather than competition. We have also heard concerns about the areas where we feel the Welsh Government's response could go further, especially around careers advice, work experience, and funding reform.
At the same time, we should recognise the positive steps the Government has taken in recognising the necessary expansion of junior apprenticeships, strengthening the 14 to 16 learner entitlement, and launching the evidence paper and calls for submissions. The Minister's written statement makes clear that our work is already shaping national policy measures. Medr's response has also been encouraging. Their commitments on data, progression, apprenticeships and collaboration give us a strong foundation for future reform.
I want to end by again thanking the young people, parents, teachers, employers and organisations who contributed to this inquiry. Their lived experience has not only shaped this report, they have given it purpose. What they shared with us should serve as a catalyst for the reforms that must now follow. Their voices show us where the system is falling short, and they point us directly to the changes that need to be made. It's their experience that must continue to drive this work forward. We look forward to our successor committee working with the future Welsh Government to deliver the post-16 system that young people deserve. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gofnodi fy niolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, a hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw.
Natasha, rwy'n cytuno ynglŷn â'r pryderon ynglŷn â'r tystysgrifau addysg uwchradd galwedigaethol. Cawsom lawer o ymatebion cymysg ar hyn, fel y gwyddoch. Mae angen i bobl ifanc ac addysgwyr weld y cymwysterau hyn fel rhai gwerth chweil, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, fel y clywsom.
Soniodd Cefin am y garfan o bobl ifanc sy'n cwympo oddi ar y grid. Mae angen inni wybod beth sy'n digwydd i'r bobl ifanc hyn a pham eu bod yn dewis peidio â chamu ymlaen at addysg bellach. Mae'n bryder gwirioneddol, yn enwedig ar ôl ein hadroddiad, 'Plant sydd ar yr ymylon'. Gwyddom pa mor bwysig yw cadw golwg ar y bobl ifanc hyn a gweld pa lwybr a ddewisant mewn bywyd.
Tynnodd John sylw at ba mor bwysig yw hi fod pobl ifanc yn cael cyngor gyrfaoedd cyn gynted â phosib, a bod yn rhaid i'r cyngor hwnnw fod yn gyngor o safon. Mae'r gair hwnnw mor bwysig i'n pobl ifanc. Rhaid iddo fod yn gyngor o safon, gan ei fod yn sicr yn gwneud gwahaniaeth. Fel y nododd Rhys, mae dryswch i bobl ifanc wrth benderfynu pa gymhwyster sydd fwyaf addas iddynt. Unwaith eto, dyma pam y mae cyngor o safon yn hanfodol, a chyngor o safon ar yr oedran ieuengaf posib.
Soniodd Carolyn am gyngor i rieni a disgyblion. Clywsom dro ar ôl tro fod rhieni'n teimlo eu bod wedi'u hallgáu ac nad ydynt yn gwybod ble i fynd am gyngor. Rhaid i hynny fod yn rhywbeth hollbwysig yn nhaith addysgol pob unigolyn ifanc. Rhaid iddynt allu gwybod ble i fynd am y cyngor hollbwysig hwnnw.
Fe sonioch chi hefyd am deithio gan ddysgwyr, ac fel y gwyddoch, roedd yn rhywbeth yr oedd pob un ohonom eisiau ei wneud. Yn anffodus, fe wnaethom redeg allan o amser fel pwyllgor. Gwyddom pa mor bwysig yw teithio gan ddysgwyr i'n pobl ifanc. Gwyddom beth yw'r rhwystrau y mae ein pobl ifanc yn eu hwynebu, ac mae teithio gan ddysgwyr yn bendant yn un o'r rhwystrau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn edrych yn ofalus ar sut y gallwn wneud teithio gan ddysgwyr yn llawer mwy fforddiadwy nag y mae heddiw.
Mae'r ddadl hon wedi dangos pa mor gryf y mae pob un ohonom yn teimlo am gefnogi pobl ifanc wrth iddynt gamu ymlaen i addysg a hyfforddiant ôl-16. Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am weithio mor gydweithredol ar draws y pleidiau, gan y credaf inni ddod i'r un casgliad ar ddiwedd pob sesiwn, sef bod angen cyngor arbenigol o safon ar ein pobl ifanc i sicrhau eu bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ar y llwybr cywir, ac nad oes rhaid iddynt droi'n ôl at addysg uwch yn eu 30au, yn eu 40au; eu bod yn ei gael yn iawn y tro cyntaf.
Drwy gydol y ddadl, clywsom gefnogaeth glir i'r themâu sydd wrth wraidd ein hadroddiad: yr angen am barch gwirioneddol gydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd, pwysigrwydd cyngor gyrfaoedd cryf a chyson, gan gynnwys mynediad at brofiad gwaith, a'r angen am system sy'n seiliedig ar gydweithredu yn hytrach na chystadleuaeth. Clywsom hefyd am bryderon ynghylch y mannau lle teimlwn y gallai ymateb Llywodraeth Cymru fynd ymhellach, yn enwedig ynghylch cyngor gyrfaoedd, profiad gwaith, a diwygio cyllid.
Ar yr un pryd, dylem gydnabod y camau cadarnhaol y mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd i gydnabod yr angen i ehangu prentisiaethau iau, cryfhau'r hawl i ddysgu 14 i 16 oed, a lansio'r papur tystiolaeth a'r galwadau am gyflwyniadau. Mae datganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn dweud yn glir fod ein gwaith eisoes yn siapio mesurau polisi cenedlaethol. Mae ymateb Medr hefyd wedi bod yn galonogol. Mae eu hymrwymiadau ar ddata, cynnydd, prentisiaethau a chydweithio yn rhoi sylfaen gref i ni ar gyfer diwygio yn y dyfodol.
Hoffwn gloi drwy ddiolch eto i'r bobl ifanc, rhieni, athrawon, cyflogwyr a sefydliadau a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn. Nid yn unig fod eu profiad bywyd wedi llunio'r adroddiad hwn, maent wedi rhoi pwrpas iddo. Dylai'r hyn a rannwyd gyda ni fod yn gatalydd ar gyfer y diwygiadau y mae'n rhaid iddynt ddilyn nawr. Mae eu lleisiau'n dangos i ni ble mae'r system yn methu, ac maent yn ein cyfeirio'n uniongyrchol at y newidiadau sydd angen eu gwneud. Rhaid i'w profiad barhau i lywio'r gwaith hwn. Edrychwn ymlaen at weld y pwyllgor sy'n ein holynu'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru y dyfodol i ddarparu'r system ôl-16 y mae pobl ifanc yn ei haeddu. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Andrew R.T. Davies.
Item 6 is next, a debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee report, 'Digging the dirt: Improving Wales’ soil health'. I call on the Chair of the committee to move the motion. Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM9133 Andrew Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ‘Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 28 Ionawr 2026.
Motion NDM9133 Andrew Davies
To propose that the Senedd:
Notes the report of the Economy, Trade and Rural Affairs Committee ‘Digging the dirt: Improving Wales’ soil health’, which was laid in the Table Office on 18 November 2025, and on which the Welsh Government laid its response on 28 January 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I move the motion in my name under the title 'Digging the dirt: Improving Wales’ soil health', the debate tabled by the Economy, Trade and Rural Affairs Committee.
Soil is a vital resource. It is the biggest capital asset of any farmer, but its value is often overlooked by policy makers. Healthy soil is absolutely vital for food production but also flood prevention, carbon storage and biodiversity. Soil degradation is also costing us money; the annual cost across Wales and England is estimated to be £1.2 billion. Soil is also incredibly slow to build up. This means from a practical perspective, it is essential and a finite resource. Professor Emmett told us that, for those reasons, every time you see soil running off a field, it should make you cry.
If you wish to have enough quality land to feed our children and the generations to come, the Welsh Government must urgently act to ensure our soil is a priority and its health is not just protected, but improved. This is why we held the inquiry and drafted this report. The report makes seven recommendations and draws six conclusions aimed at protecting and improving Welsh soil health. Testing will be a key cornerstone helping us to stop further degradation and to improve our soil. We welcome the soil testing elements of the sustainable farming scheme; however, unless it is acted on, there is little point in collecting the data. This is why the focus of several recommendations and conclusions is around ensuring soil health is working and the data is appropriately shared.
We heard that tenant farmers were less likely to undertake soil testing as they were less able to improve the soil health of their farms. We also heard that the increase in shorter tenancy deals was exacerbating this issue. This is why recommendation 2 calls for specific support to help tenant farmers to improve their soil. I was pleased to see that all of these recommendations and conclusions were accepted, though I did slightly shudder at the 'in principle' clarifier. I really hope—and I hope that the Deputy First Minister can confirm today—that this report is being used by his team and that they're working on the policy to inform the development of the sustainable farming scheme.
I would also like to underline that the support for tenant farmers need not just be through the SFS. We were interested to hear how National Trust Cymru supports its tenants to join schemes like Pasture for Life or the organic scheme, which help them improve the land and get a premium for their produce. Has the Deputy First Minister considered promoting options like this more widely to tenant farmers?
As with many issues, planning was raised as a threat to our best agricultural land. There will always be a natural tension between the need to grow food and use land for other important purposes such as housing or infrastructure. I also accept that the Welsh Government has done work here. But at the end of the day, our best and most versatile agricultural land is a precious resource that needs to be protected. I am sure that the Deputy First Minister will reiterate his points from the evidence he gave to the inquiry and from his response to our report that Wales is ahead of the curve on protecting our best agricultural land.
However, we heard a lot of evidence that there was more that could be done. As such, I was disappointed that the Welsh Government rejected recommendation 3 to develop a framework to support planning officers to support existing planning regulations around protecting the best quality land. We heard this point being made this afternoon in questions to the Minister from the Member for Newport East, John Griffiths. Whilst we may be doing better than our neighbours, it is clear from the evidence we received that more can be done and more should be done.
Food security is going to be such an important issue in the future, and when our best agricultural land is built on, it is gone. So, we shouldn't be resting on our laurels, we should be ensuring that we do not lose any more top-quality land and make sure that it has the protections it deserves. Thank you, Deputy Presiding Officer—and now the Presiding Officer, who, because of our report, has come in, because she's so excited to hear it. I thank Members for taking part in the debate and I look forward to listening to their contributions.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i o dan y teitl 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru', y ddadl a gyflwynwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
Mae pridd yn adnodd hanfodol. Dyma ased cyfalaf mwyaf unrhyw ffermwr, ond mae ei werth yn aml yn cael ei anwybyddu gan lunwyr polisi. Mae pridd iach yn gwbl hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd ond hefyd ar gyfer atal llifogydd, storio carbon a bioamrywiaeth. Mae dirywiad pridd hefyd yn costio arian i ni; amcangyfrifir bod y gost flynyddol ledled Cymru a Lloegr yn £1.2 biliwn. Mae pridd hefyd yn cronni'n anhygoel o araf. Golyga hyn, o safbwynt ymarferol, ei fod yn hanfodol ac yn adnodd cyfyngedig. Dywedodd yr Athro Emmett wrthym, am y rhesymau hynny, bob tro y gwelwch bridd yn cael ei olchi oddi ar gae, y dylai wneud ichi grio.
Os ydych chi eisiau digon o dir o ansawdd i fwydo ein plant a'r cenedlaethau i ddod, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i sicrhau bod ein pridd yn flaenoriaeth a bod ei iechyd nid yn unig yn cael ei ddiogelu, ond ei wella. Dyma pam y gwnaethom gynnal yr ymchwiliad a drafftio'r adroddiad hwn. Mae'r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad ac yn dod i chwe chasgliad gyda'r nod o ddiogelu a gwella iechyd pridd Cymru. Bydd cynnal profion yn allweddol i'n helpu i atal dirywiad pellach ac i wella ein pridd. Rydym yn croesawu elfennau profi pridd y cynllun ffermio cynaliadwy; fodd bynnag, oni bai y gwneir hynny, nid oes fawr o bwynt casglu'r data. Dyma pam y mae ffocws sawl argymhelliad a chasgliad ar sicrhau bod iechyd pridd yn gweithio a bod y data'n cael ei rannu'n briodol.
Clywsom fod ffermwyr tenant yn llai tebygol o gynnal profion ar bridd gan eu bod yn llai abl i wella iechyd pridd eu ffermydd. Clywsom hefyd fod y cynnydd mewn cytundebau tenantiaeth byrrach yn gwaethygu'r mater. Dyma pam fod argymhelliad 2 yn galw am gymorth penodol i helpu ffermwyr tenant i wella eu pridd. Roeddwn yn falch o weld bod yr holl argymhellion a chasgliadau hyn wedi'u derbyn, er imi arswydo braidd wrth glywed yr amod 'mewn egwyddor'. Rwy'n mawr obeithio—ac yn gobeithio y gall y Dirprwy Brif Weinidog gadarnhau heddiw—fod yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan ei dîm, a'u bod yn gweithio ar y polisi i lywio datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy.
Hoffwn danlinellu hefyd nad oes angen i'r cymorth i ffermwyr tenant ddod drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy yn unig. Roeddem yn awyddus i glywed sut y mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cefnogi ei thenantiaid i ymuno â chynlluniau fel Pasture for Life neu'r cynllun organig, sy'n eu helpu i wella'r tir a chael pris uchel am eu cynnyrch. A yw'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ystyried hyrwyddo opsiynau o'r fath yn ehangach i ffermwyr tenant?
Fel gyda llawer o faterion, codwyd cynllunio fel bygythiad i'n tir amaethyddol gorau. Bydd tensiwn naturiol bob amser rhwng yr angen i dyfu bwyd a defnyddio tir at ddibenion pwysig eraill fel tai neu seilwaith. Rwyf hefyd yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith yma. Ond yn y pen draw, mae ein tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas yn adnodd gwerthfawr y mae angen ei ddiogelu. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ailadrodd ei bwyntiau o'r dystiolaeth a roddodd i'r ymchwiliad ac o'i ymateb i'n hadroddiad fod Cymru ar flaen y gad o ran diogelu ein tir amaethyddol gorau.
Fodd bynnag, clywsom lawer o dystiolaeth fod mwy y gellid ei wneud. O'r herwydd, roeddwn yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 3 i ddatblygu fframwaith i gynorthwyo swyddogion cynllunio i gefnogi rheoliadau cynllunio presennol ynghylch diogelu tir o'r ansawdd gorau. Clywsom y pwynt hwn yn cael ei wneud y prynhawn yma mewn cwestiynau i'r Gweinidog gan yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, John Griffiths. Er ein bod efallai'n gwneud yn well na'n cymdogion, mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gawsom y gellir gwneud mwy ac y dylid gwneud mwy.
Bydd diogeledd bwyd yn fater mor bwysig yn y dyfodol, a phan fydd adeiladu'n digwydd ar ein tir amaethyddol gorau, fe fydd wedi mynd. Felly, ni ddylem orffwys ar ein bri, dylem sicrhau nad ydym yn colli mwy o dir o'r ansawdd uchaf a sicrhau bod iddo'r warchodaeth y mae'n ei haeddu. Diolch, Ddirprwy Lywydd—a nawr y Llywydd, sydd, oherwydd ein hadroddiad, wedi dod i mewn, gan ei bod yn edrych ymlaen at ei glywed. Diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl ac edrychaf ymlaen at wrando ar eu cyfraniadau.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
I'll have you know, Chair of the committee, that I've had constituents write to me about the importance of this report, and I'm very keen to be here to listen to the debate.
Rwyf am ichi wybod, Gadeirydd y pwyllgor, fod etholwyr wedi ysgrifennu ataf ynghylch pwysigrwydd yr adroddiad hwn, ac rwy'n awyddus iawn i fod yma i wrando ar y ddadl.
Dwi'n falch iawn i gyfrannu at y ddadl yma ac yn diolch i'r pwyllgor am eu gwaith. Fel rydyn ni wedi clywed, mae iechyd y pridd yn fater sylfaenol, onid yw e? Mae'n bwysig i ddyfodol amaethyddiaeth, yr amgylchedd a'r economi wledig ehangach. Ond, yn y gorffennol, mae yn fater sydd ddim wedi cael y sylw dyledus, fel roedd Cadeirydd y pwyllgor yn ei ddweud. Mae hynny yn raddol newid, ac mae'r ymchwiliad mae'r pwyllgor wedi ei wneud a'r adroddiad rydyn ni'n ei drafod heddiw yn mynd i gyfrannu at godi'r ymwybyddiaeth yna.
Y gwir amdani yw bod ansawdd pridd a chael pridd iach yn sail i gymaint o fuddion. Pan mae'n dod i gynhyrchu bwyd, i atal llifogydd, gwella ansawdd dŵr, adfer bioamrywiaeth, storio carbon ac yn y blaen, mae'r pridd yn chwarae rhan ganolog i'r rhain i gyd. Ond dyw pridd, wrth gwrs, ddim yn adnewyddadwy, ac yn rhy aml o lawer, rydyn ni wedi bod yn mwyngloddio'r pridd—hynny yw, yn echdynnu’r maetholion mas o'r pridd a thrio eu rhoi nhw nôl mewn modd artiffisial, yn hytrach na gweithio gyda graen natur a meithrin y pridd mewn proses mwy naturiol.
Mae’r arwyddion o ddirywiad i'w gweld yn glir, ac yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad, wrth gwrs. Dim ond oddeutu 10 i 15 y cant o'n tir ni sy'n bridd o ansawdd uchel erbyn hyn, ac mae tua 40 y cant mewn perygl o gywasgiad, a 7 y cant mewn perygl o erydiad hefyd. Ac mae yna gost i hynny oll. Mae pridd o ansawdd is yn rhoi cynhyrchiant is, wrth gwrs, ac yn mynnu mwy o fewnbynnau. Mae hynny'n double-whammy ariannol i unrhyw fusnes sy'n trio gwneud bywoliaeth o'r tir.
Mae yna gost amgylcheddol hefyd, gan fod pridd gyda llai o ddraeniad yn arwain at fwy o lifogydd, a phridd o ansawdd is yn dal llai o garbon, ac yn y blaen. Mae tystiolaeth wyddonol o brifysgolion a chyrff monitro yn dangos dirywiad mewn dangosyddion allweddol fel pH, stoc garbon a deunydd organig. Mae hyn yn tanlinellu’r angen i symud o ymateb i broblemau i drio eu hatal nhw mewn modd rhagweithiol: cynnal a meithrin y pridd, ei wella a'i ddiogelu fel ased hirdymor, oherwydd ased yw e.
Gyda hynny mewn golwg, dwi'n croesawu llawer iawn o'r argymhellion y mae'r pwyllgor wedi eu cyflwyno. Mae'r gofyniad i brofi pridd yn y cynllun ffermio cynaliadwy yn sicr yn gam positif ymlaen, ond mae'n bwysig wedyn, wrth gwrs, fod mynediad i gefnogaeth a datblygu strategaethau er mwyn gwella'r pridd yn sgil y profi hynny. Mae'n dda gweld argymhelliad yn yr adroddiad yn cyfeirio at rai o awgrymiadau'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur ar gyfer gwella iechyd y pridd, a sut y gellid ymgorffori peth o hynny, efallai, yn y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol, o bosib.
Mi ges i'r cyfle jest yr wythnos diwethaf fan hyn yn y Senedd i noddi digwydd gan y rhwydwaith, a oedd yn amlygu'r gwaith sydd eisoes yn digwydd ar ffermydd yma yng Nghymru. Fe glywon ni gan arbenigwyr yn y maes am y wyddoniaeth a'r buddion sy'n dod o wella ansawdd pridd, ond hefyd wedyn, wrth gwrs, clywed gan ffermwyr am y manteision di-ri maen nhw eisoes yn eu gwireddu o safbwynt eu busnesau nhw drwy fabwysiadu rhai o'r dulliau yma. Roedden nhw'n enghreifftiau cwbl ysbrydoledig oedd yn dangos bod yna ddulliau rhatach oedd yn fwy llesol i'r amgylchedd ar gael, a fyddai wedyn yn arwain at gynyddu cynhyrchiant ar gost is.
Dwi hefyd yn croesawu'r argymhellion ar sicrhau bod cyngor o ansawdd uchel ar gael i ffermwyr sy'n archwilio'r farchnad credyd carbon a'r rôl y gallai'r sector breifat hefyd ei chwarae yn hynny o beth. Mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, sydd wedi cael ei drafod yn gyson fan hyn yn y Senedd, ond dŷn ni'n sicr ddim wedi gweld y cynnydd buasai nifer ohonom ni, dwi'n siŵr, yn dymuno ei weld yn y maes yma.
Mi wnaf i sôn yn fyr am un cwmni yn benodol y cefais i gyfle i ymweld â nhw yn ddiweddar. Mae BionerG yn gwmni sy'n helpu i droi gwastraff coedwigaeth yn offeryn pwerus iawn ar gyfer cynaliadwyedd, cyfoethogi pridd ac atafaelu carbon yng Nghymru.
I am very pleased to contribute to this debate, and I thank the committee for its work. As we've heard, soil health is a fundamental issue. It's important to the future of agriculture, the environment and the wider rural economy. But in the past, it has been an issue that has not received the attention it deserves, as the committee Chair has said. That is gradually changing, and the committee's inquiry and the report have contributed to raising that awareness.
The truth is that soil quality and having healthy soil underpins so many benefits. When it comes to food production, flood prevention, improving water quality, restoring biodiversity and carbon storage, soil plays a central role in all of these. But soil, of course, is not a renewable resource and, far too often, we have been mining the soil—that is, extracting the nutrients out of the soil and putting them back in in an artificial way, rather than working with nature's grain and cultivating the soil in a more natural process.
The signs of decline are clearly visible and are highlighted in the report. Only around 10 to 15 per cent of our land is now high-quality soil, and around 40 per cent is at risk of compaction and 7 per cent is at risk of erosion as well. And there is a cost to all of this. Lower quality soil provides lower productivity and requires more inputs. So, that's a financial double-whammy for any business trying to make a living from the soil.
There is also an environmental cost, as soil with less drainage leads to more flooding, and lower quality soil holds less carbon, and so forth. Scientific evidence from universities and monitoring bodies shows a decline in key indicators, such as pH, carbon stock and organic matter. And this highlights the need to move from reacting to problems to preventing them proactively: maintaining and nurturing the soil, improving it and protecting it as a long-term asset, because it is an asset.
With that in mind, I welcome many of the recommendations made by the committee. The soil testing requirement in the sustainable farming scheme is certainly a positive step forward, but it is then important to have access to support to develop strategies in order to improve the soil as a result of that testing. It's good to see a recommendation in the report referring to the suggestions of the Nature Friendly Farming Network for improving the health of the soil and how some of that could possibly be incorporated into the sustainable farming scheme in the future.
I had the opportunity just last week in the Senedd to sponsor a network event in the Senedd, which highlighted the work that's already happening on farms in Wales. We heard from experts in the area about the science and the benefits that stem from improving soil quality, but we then heard from farmers about the countless benefits that they are already realising in terms of their farm businesses by adopting some of these approaches. Those were very inspiring examples that showed that cheaper methods that were more beneficial to the environment were available, which could then increase production at a lower cost.
I also welcome the recommendations on ensuring that high-quality advice is available to farmers exploring the carbon credit market and the role that the private sector could play in that. This is something that has been discussed for many years here in the Senedd, but we have not seen the progress that I think many of us would like to see in this area.
I will briefly mention one specific company that I had the opportunity to visit recently. BionerG is a company that helps turn forestry waste into a powerful tool for sustainability, soil enrichment and carbon sequestration here in Wales.
BionerG provides a modular system of pyrolysis, which makes biochar production a viable opportunity for smallholder farmers and communities, wherever they're located. You take forestry waste and turn it into a form of charcoal; in other words, you convert biomass into a stable form of carbon. In fact, approximately 70 per cent of biochar's composition is carbon. So, by adding biochar to soil, carbon is locked away in a stable form, reducing greenhouse gases and helping mitigate climate change.
The reason I'm telling you this in this particular debate, of course, is because biochar is primarily used to improve soil health. Its porous structure enhances soil aeration. It increases water retention and improves nutrient availability, which can lead to increased agricultural productivity, which is exactly, of course, what we're discussing here today. But BionerG goes further, by the way. Through its integrated digital platform, all the carbon removal is measured. It's validated and tokenised for transparent trading on global markets. So, not only does it improve the soil and increase productivity, it opens up a carbon trading income stream for those farmers, foresters and communities as well.
Mae BionerG yn darparu system fodiwlar o byrolysis, sy'n gwneud cynhyrchu bio-olosg yn gyfle hyfyw i ffermwyr tyddyn a chymunedau, ble bynnag y bônt. Rydych chi'n troi gwastraff coedwigaeth yn fath o siarcol; mewn geiriau eraill, rydych chi'n trosi biomas yn ffurf sefydlog o garbon. Mewn gwirionedd, mae oddeutu 70 y cant o gyfansoddiad bio-olosg yn garbon. Felly, drwy ychwanegu bio-olosg at bridd, caiff carbon ei gloi i mewn ar ffurf sefydlog, gan leihau nwyon tŷ gwydr a helpu i liniaru newid hinsawdd.
Y rheswm pam rwy'n dweud hyn wrthych yn y ddadl benodol hon, wrth gwrs, yw am fod bio-olosg yn cael ei ddefnyddio'n bennaf i wella iechyd pridd. Mae ei strwythur mân-dyllog yn gwella awyriad pridd. Mae'n cynyddu faint o ddŵr sy'n cael ei gadw ac yn gwella argaeledd maethynnau, a all arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant amaethyddol, sef yr hyn a drafodwn yma heddiw, wrth gwrs. Ond mae BionerG yn mynd ymhellach, gyda llaw. Drwy ei blatfform digidol integredig, mesurir yr holl garbon sy'n cael ei dynnu allan. Caiff ei ddilysu a'i docyneiddio ar gyfer masnachu tryloyw ar farchnadoedd byd-eang. Felly, nid yn unig ei fod yn gwella'r pridd ac yn cynyddu cynhyrchiant, mae'n agor ffrwd incwm masnachu carbon i'r ffermwyr, y coedwigwyr a'r cymunedau hynny hefyd.
Mae'r adroddiad yma yn dangos i ffordd i ni, ac os llwyddwn ni i wella iechyd y pridd yn barhaol, yna mi fydd hynny'n dod â buddion i ffermwyr, i'r economi, i'r amgylchedd ac i hyfywedd ein cymunedau gwledig. Diolch.
This report shows us the way, and if we succeed in improving soil health permanently, that'll bring benefits to farmers, to the economy, to the environment and the viability of our rural communities. Thank you.
Firstly, can I thank the Chair and all witnesses who gave evidence to the Economy, Trade and Rural Affairs Committee into this report, 'Digging the dirt: Improving Wales' soil health'? As a farmer's son, I appreciate it, although on a clifftop in north Pembrokeshire there's very minimal depth of soil where we are. If we could make money out of rocks, we'd be doing very, very well. But we have soil, and what we have got we try as best as we can to make use of that soil, and look after it, making sure that it's there not just for us to benefit, but for the next generation on as well.
We've heard quite rightly from the Chair and from Llyr Gruffydd the importance of good quality soil, and how sometimes that maybe hasn't been at the forefront of the discussion when talking about farm sustainability, when talking about productivity and when talking about the ability of Welsh agriculture to continue to be on the journey to being the very best in terms of traceability, sustainability and quality of produce as well.
There's something I found quite interesting in terms of this report is. Last week, I was up in Aberystwyth at the IBERS department at Aberystwyth University for a CARAS conference, where I heard three farmers speaking: Aled Rees from Whitland, Charles George from Pembrokeshire and Gwion Owen from north Wales. The title of the conference was 'Will regenerative farming feed the nation?' One of the first things that they found was that there's no set definition for 'regenerative farming'. But the takeaway from all three of their presentations was that each one of them, in very different farming systems, all mentioned the importance of soil health—be that in dairy, beef, sheep, arable. And one quote that stuck with me, from one of the panellists was, 'I cared about what was happening above ground. Now I care more about what's happening below ground.' That I think just goes to show the importance of understanding, in terms of your farm management, how vital good-quality soil is to the productivity and overall health of your farm. Another panellist was Simon Thelwell from Harper Adams, and there was a question put to him about where is Wales in comparison to other countries, not just in the United Kingdom, but across Europe as well, in terms of our wider 'sustainability' within agriculture, soil health included. It's difficult to compare because benchmarking is few and far between. We know that with carbon calculators. There are so many out there available that one gives you a very different answer to another, and some sort of streamlining around this would be very welcome. And we also know from previous freedom of information requests that have been raised in the place that we in Wales don't know the carbon currently sequestered in Welsh soil. So, when looking at moving forward and understanding the value of our soil, in terms of carbon sequestration, we should have a good knowledge of where we currently are so that we can measure what benefits are being undertaken, be they through the sustainable farming scheme, be they through alternative measures. There are a lot of producers at the moment—First Milk, for example, in Pembrokeshire—doing a lot around regenerative farming themselves. Again, I come back to the point that there's no set definition on 'regenerative', but trying to get productivity up without exploiting the natural resources that exist. And that leads well into the recommendation around soil testing and ensuring that we do have the correct skills to undertake this, at pace, across Wales—the SFS is an opportunity for this—and knowing that we need to have that good knowledge of what exists.
And then there's recommendation 4, the review of ALC, agricultural land classification data. Now, in my office in Tŷ Hywel here, I have behind me and my desk a big map of Wales and the classification of agricultural land in Wales, and it's very multicoloured. But what's quite evident is that only 10 per cent to 15 per cent of land in Wales is classed as 'best and most versatile', so roughly grades 1, 2, 3a. But we know, and those that work land know that grades 3b through to 5 can be just as productive if looked after, if nurtured, if supported in the right way. And that comes to the point that was raised by the Chair, in his opening point, around protecting some of that important agricultural land, that grade 1, 2, 3a land, ensuring that that's not lost in construction, not lost in development, and where land or soils are removed, how are they recycled? That was a point that was brought up in the discussion within committee and during the inquiries—the recycling of soil. If that development is necessary, how can we make sure that that soil isn't lost, and we don't cry, as the Chair says, when we see that soil being washed away?
But I'm genuinely pleased that this is on the floor of the Chamber, if only for half an hour, because while I share the frustration of the 'agree in principle' responses from the Government, I understand that there are only 90-odd days until the election, not to remind us all here in the Chamber. But while the Deputy First Minister is still in post, and whomever may take that position in the future—this document, I hope, goes some way to supporting the future development of the SFS and the future support for agriculture to ensure that soil health is maintained and improved, and Welsh agriculture can continue to be proud of its efforts here in Wales.
Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Cadeirydd a'r holl dystion a roddodd dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr adroddiad hwn, 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru'? Fel mab fferm, rwy'n ei werthfawrogi, er nad yw'r pridd yn ddwfn iawn ar ein fferm ni ar glogwyn yng ngogledd sir Benfro. Pe gallem wneud arian o greigiau, byddem yn gwneud yn dda dros ben. Ond mae gennym bridd, ac rydym yn gwneud ein gorau gyda'r hyn sydd gennym i wneud defnydd o'r pridd hwnnw, a gofalu amdano, gan sicrhau ei fod yno nid yn unig er ein budd ni, ond i'r genhedlaeth nesaf hefyd.
Rydym wedi clywed, yn gywir ddigon, gan y Cadeirydd a chan Llyr Gruffydd, am bwysigrwydd pridd o ansawdd da, a sut nad yw hynny weithiau efallai wedi bod yn rhan fawr o'r drafodaeth wrth siarad am gynaliadwyedd ffermydd, wrth siarad am gynhyrchiant a phan fyddwn yn siarad am allu amaethyddiaeth Cymru i barhau ar y daith i fod ar y brig o ran cynaliadwyedd, ansawdd a'r gallu i olrhain cynnyrch hefyd.
Mae rhywbeth a oedd yn ddiddorol iawn i mi yn yr adroddiad hwn. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn adran Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer cynhadledd CARAS, lle clywais dri ffermwr yn siarad: Aled Rees o Hendy-gwyn ar Daf, Charles George o sir Benfro a Gwion Owen o ogledd Cymru. Teitl y gynhadledd oedd 'A fydd ffermio adfywiol yn bwydo'r genedl?' Un o'r pethau cyntaf a ganfuwyd ganddynt oedd nad oes diffiniad pendant ar gyfer 'ffermio adfywiol'. Ond y peth a ddysgwyd o'r tri chyflwyniad oedd bod pob un ohonynt, mewn systemau ffermio gwahanol iawn, yn sôn am bwysigrwydd iechyd pridd—boed yn llaeth, cig eidion, defaid neu âr. Ac un dyfyniad a arhosodd gyda mi gan un o'r panelwyr oedd, 'Roeddwn yn poeni ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd uwchben y ddaear. Nawr rwy'n poeni mwy ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd o dan y ddaear.' Rwy'n credu bod hynny'n dangos pwysigrwydd deall, o ran rheoli eich fferm, pa mor hanfodol yw pridd o ansawdd da i gynhyrchiant ac iechyd cyffredinol eich fferm. Panelwr arall oedd Simon Thelwell o Harper Adams, a gofynnwyd cwestiwn iddo ynglŷn â ble mae Cymru arni o gymharu â gwledydd eraill, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond ledled Ewrop hefyd, o ran ein 'cynaliadwyedd' yn fwy cyffredinol mewn amaethyddiaeth, gan gynnwys iechyd pridd. Mae'n anodd cymharu am nad oes llawer o feincnodi wedi'i wneud. Gwyddom hynny drwy gyfrifianellau carbon. Mae cymaint ohonynt ar gael fel bod un yn rhoi ateb gwahanol iawn i'r llall, a byddai rhyw fath o symleiddio mewn perthynas â hyn i'w groesawu. A gwyddom hefyd o geisiadau rhyddid gwybodaeth blaenorol a wnaed yn y lle hwn nad ydym ni yng Nghymru yn gwybod faint o garbon sydd wedi'i storio ym mhridd Cymru ar hyn o bryd. Felly, wrth edrych ar symud ymlaen a deall gwerth ein pridd, o ran storio carbon, dylem fod â gwybodaeth dda ynglŷn â ble rydym arni ar hyn o bryd fel y gallwn fesur pa fuddion sy'n cael eu sicrhau, boed hynny drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, boed hynny drwy fesurau amgen. Mae llawer o gynhyrchwyr ar hyn o bryd—First Milk, er enghraifft, yn sir Benfro—yn gwneud llawer o waith ar ffermio adfywiol eu hunain. Unwaith eto, dof yn ôl at y pwynt nad oes diffiniad pendant o 'adfywiol', ond mae a wnelo â cheisio cynyddu cynhyrchiant heb ddihysbyddu'r adnoddau naturiol. Ac mae hynny'n arwain yn dda at yr argymhelliad ynghylch profi pridd a sicrhau bod gennym y sgiliau cywir i ymgymryd â hyn, yn gyflym, ledled Cymru—mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn gyfle i wneud hyn—a gwybod bod angen inni gael yr wybodaeth dda honno am yr hyn sy'n bodoli.
Ac yna fe geir argymhelliad 4, yr adolygiad o ddata dosbarthiad tir amaethyddol. Nawr, yn fy swyddfa yma yn Nhŷ Hywel, mae gennyf fap mawr o Gymru a dosbarthiad tir amaethyddol yng Nghymru y tu ôl i mi a fy nesg, ac mae'n amryliw. Ond yr hyn sy'n eithaf amlwg yw mai dim ond 10 y cant i 15 y cant o dir Cymru sydd wedi'i ddosbarthu'n 'dir gorau a mwyaf amlbwrpas', felly graddau 1, 2, 3a yn fras. Ond fe wyddom, ac mae'r rhai sy'n gweithio'r tir yn gwybod, y gall graddau 3b i 5 fod yr un mor gynhyrchiol os caiff ofal, os caiff ei faethu, os caiff ei gynnal yn y ffordd gywir. A daw hynny at y pwynt a godwyd gan y Cadeirydd, yn ei bwynt agoriadol, ynghylch diogelu rhywfaint o'r tir amaethyddol pwysig hwnnw, y tir gradd 1, 2, 3a hwnnw, a sicrhau na chaiff ei golli i waith adeiladu, na chaiff ei golli i waith datblygu, a lle caiff tir neu bridd ei symud, sut y caiff ei ailgylchu? Roedd hwnnw'n bwynt a godwyd yn y drafodaeth yn y pwyllgor ac yn ystod yr ymchwiliadau—ailgylchu pridd. Os yw datblygiad yn angenrheidiol, sut y gallwn sicrhau nad yw'r pridd hwnnw'n cael ei golli, ac nad ydym yn crio, fel y dywed y Cadeirydd, pan welwn y pridd hwnnw'n cael ei olchi ymaith?
Ond rwy'n wirioneddol falch fod hyn ar lawr y Siambr, hyd yn oed am hanner awr yn unig, oherwydd er fy mod yn rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch yr ymatebion 'cytuno mewn egwyddor' gan y Llywodraeth, rwy'n deall mai dim ond oddeutu 90 diwrnod sydd tan yr etholiad, i'n hatgoffa ni i gyd yma yn y Siambr. Ond tra bo'r Dirprwy Brif Weinidog yn dal yn ei swydd, a phwy bynnag a ddaw i'r swydd honno yn y dyfodol—rwy'n gobeithio bod y ddogfen hon yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at gefnogi datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol a'r cymorth i amaethyddiaeth yn y dyfodol i sicrhau bod iechyd pridd yn cael ei gynnal a'i wella, ac y gall amaethyddiaeth Cymru barhau i fod yn falch o'i hymdrechion yma yng Nghymru.
I welcome the report and the work of the committee. Thank you, Chair. Healthy soil is not just dirt beneath our feet, it's a living ecosystem. It regulates water flows, sustains plant and animal life, sequesters carbon and filters pollutants. When soil is healthy, it quietly supports everything that we depend on. When it's not, the consequences are visible and costly. Unhealthy soil becomes eroded, washing into rivers, onto highways and blocking gullies. During monsoon rainfall, compacted earth cannot absorb water, so it just simply runs off, contributing directly to flooding.
I found the evidence given by Professor Bridget Emmett particularly powerful. She explained that every time soil runs off our fields and into our rivers, we are losing hundreds of years of nature's work in a single event. Professor Emmett went on to remind us that around 60 per cent of global biodiversity is thought to live in our soils. Just think about that. Yet, in many of our biodiversity strategies, soil biodiversity is barely mentioned in them. Many of the most commonly used antibiotics have been derived from soil micro-organisms, so protecting soil is therefore essential not only for our food system and farming industry, but for human life itself. If we fail to take measures to protect soil health, irreversible degradation can occur, and that's why I welcome the inclusion of soil testing in the sustainable farming scheme, and I strongly believe that the data and learning gained should be shared. With approximately 90 per cent of our land being farm land, how that land is managed matters enormously. We must engage and inform farmers about soil testing, including those not currently part of the scheme. I think farming unions could play a vital role in supporting that outreach work.
The continual use of fertilisers to grow better grass crops can exhaust soil over time as well, and practices such as reducing tillage, rotating crops and improving organic matter do make a real difference. The importance of hedges and edges and wider field margins should not be underestimated. And those are part of the sustainable farming scheme as well. I recall attending a briefing where it was explained how much healthier soil is in those margins, better at holding moisture, richer in ecosystems, and supporting biodiversity both above and below ground.
Beyond farm land, wildflower meadows, peatlands, our road verges, amenity grassland, and community spaces such as allotments and orchards are also crucial. I'm pleased that the Welsh Government has made funding available through Nature Networks and the Local Places for Nature grants to support this work, engaging with people as well in an education system so that they connect with nature and have a better understanding.
The National Farmers Union has highlighted the impact of development, and rightly so. Too often, greenfield sites are chosen because they are cheaper and easier than brownfield land. When economic convenience takes precedence over nature, we all lose. And that said, with 90 per cent of land in Wales being farmed, I want to pay tribute to all the landowners who actively manage their land for nature, because without nature, there is no economy. Without biodiversity and thriving ecosystems, we are all at risk. We're all part of those.
Rwy'n croesawu'r adroddiad a gwaith y pwyllgor. Diolch, Gadeirydd. Nid baw o dan ein traed yn unig yw pridd iach, mae'n ecosystem fyw. Mae'n rheoleiddio llif dŵr, yn cynnal bywyd planhigion ac anifeiliaid, yn storio carbon ac yn hidlo llygredd. Pan fydd pridd yn iach, mae'n tawel gynnal popeth y dibynnwn arno. Pan nad yw'n iach, mae'r canlyniadau'n weladwy ac yn gostus. Mae pridd nad yw'n iach yn erydu, gan olchi i afonydd, ar briffyrdd a rhwystro gylïau. Yn ystod glawiad monsŵn, ni all daear gywasgedig amsugno dŵr, felly mae'n rhedeg ymaith, gan gyfrannu'n uniongyrchol at lifogydd.
Roedd y dystiolaeth a roddwyd gan yr Athro Bridget Emmett yn arbennig o bwerus. Eglurodd ein bod yn colli cannoedd o flynyddoedd o waith natur mewn un digwyddiad bob tro y bydd pridd yn rhedeg oddi ar ein caeau ac i mewn i'n hafonydd. Aeth yr Athro Emmett yn ei blaen i'n hatgoffa y credir bod tua 60 y cant o fioamrywiaeth fyd-eang yn byw yn ein priddoedd. Meddyliwch am hynny. Eto, yn llawer o'n strategaethau bioamrywiaeth, prin y sonnir am fioamrywiaeth pridd. Mae llawer o'r gwrthfiotigau a ddefnyddir amlaf wedi deillio o ficro-organebau pridd, felly mae gwarchod pridd yn hanfodol nid yn unig i'n system fwyd a'n diwydiant ffermio, ond ar gyfer bywyd dynol ei hun. Os na roddwn gamau ar waith i warchod iechyd pridd, gall diraddiad anadferadwy ddigwydd, a dyna pam rwy'n croesawu cynnwys profion pridd yn y cynllun ffermio cynaliadwy, ac rwy'n credu'n gryf y dylid rhannu'r data a'r dysgu a geir o hynny. Gydag oddeutu 90 y cant o'n tir yn dir fferm, mae sut y caiff y tir hwnnw ei reoli'n bwysig iawn. Rhaid inni ymgysylltu â ffermwyr a'u hysbysu ynglŷn â chynnal profion pridd, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn rhan o'r cynllun ar hyn o bryd. Rwy'n credu y gallai undebau ffermio chwarae rhan allweddol yn cefnogi'r gwaith allgymorth hwnnw.
Gall y defnydd parhaus o wrtaith i dyfu cnydau glaswellt gwell ddihysbyddu pridd dros amser hefyd, ac mae arferion fel cyfyngu ar droi tir, cylchdroi cnydau a gwella deunydd organig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd perthi ac ymylon caeau. Ac mae'r rhain yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy hefyd. Rwy'n cofio mynychu sesiwn friffio lle esboniwyd cymaint iachach yw pridd ar yr ymylon caeau hynny, yn well am ddal lleithder, yn cynnwys mwy o ecosystemau, ac yn cefnogi bioamrywiaeth uwchben ac o dan y ddaear.
Ar wahân i dir fferm, mae dolydd blodau gwyllt, mawndiroedd, ymylon ffyrdd, glaswelltir amwynderau a mannau cymunedol fel rhandiroedd a pherllannau hefyd yn hanfodol. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy grantiau Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i gefnogi'r gwaith hwn, gan ymgysylltu â phobl yn ogystal mewn system addysg fel eu bod yn cysylltu â natur a chael gwell dealltwriaeth.
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi tynnu sylw at effaith datblygiad, ac yn briodol felly. Yn rhy aml, dewisir safleoedd tir glas am eu bod yn rhatach ac yn haws na thir llwyd. Pan fydd cyfleustra economaidd yn cael blaenoriaeth dros natur, rydym i gyd ar ein colled. Ac wedi dweud hynny, gyda 90 y cant o'r tir yng Nghymru'n cael ei ffermio, rwyf am dalu teyrnged i'r holl dirfeddianwyr sy'n rheoli eu tir yn weithredol ar gyfer natur, oherwydd heb natur, ni cheir economi. Heb fioamrywiaeth ac ecosystemau ffyniannus, rydym i gyd mewn perygl. Rydym i gyd yn rhan o'r rheini.
I want to thank the Chair and the committee for their final report and for highlighting the very real issue of Wales's soil health. Well-managed and high-quality soil is vital for our food production, carbon capture and biodiversity, and it must be protected. I note that the Welsh Government agrees. However, while the report focuses on farm land, I wish to draw attention to the importance of soil health across other areas of arable land.
Wales is pursuing ambitious climate change targets, with solar power playing a vital role. However, recent evidence, including the Welsh Government's commissioned report on the impact of the solar photovoltaic sites on agricultural soils makes clear that we must pay much more attention to how land is managed where solar farms are built.
Under the Environment (Wales) Act 2016, soil is rightly recognised as a natural resource. The Bill itself places a duty on local authorities to pursue the sustainable management of natural resources, and broadly requires the decision makers to prevent environmental damage and maintain ecosystem resilience, yet the evidence shows a gap between the principles and practice.
Currently, legislation and planning frameworks do not explicitly address the soil risks posed by the heavy machinery used during construction, routine maintenance and eventual decommissioning of solar sites. We know that soil compaction is a significant concern, particularly on high-quality agricultural land. Reports suggest a 10 tonne axle load can compact soil to 50 cm, causing persistent damage that impairs structure, water infiltration, biodiversity and long-term productivity. In some cases, it is irreversible. While mitigation is possible through careful designs, restricted vehicle movements, soil management plans and monitoring, these measures are not consistently required or enforced, creating a policy blind spot. Therefore, the Environment (Principles, Governance and Biodiversity Targets) (Wales) Bill offers an opportunity to tackle this issue. I urge the environmental principles be strengthened by explicitly recognising soil compaction risks and introducing clearer land-management duties for renewable energy developments. If we are serious about sustainability, rather than pursuing targets, our renewable transition must protect the soil beneath our solar panels, not quietly degrade it. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am eu hadroddiad terfynol ac am dynnu sylw at fater gwirioneddol bwysig iechyd pridd yng Nghymru. Mae pridd wedi'i reoli'n dda ac o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd, dal carbon a bioamrywiaeth, ac mae'n rhaid ei warchod. Nodaf fod Llywodraeth Cymru'n cytuno. Fodd bynnag, er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar dir fferm, hoffwn dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd pridd ar draws ardaloedd eraill o dir âr.
Mae gan Gymru dargedau uchelgeisiol ar newid hinsawdd, gydag ynni solar yn chwarae rhan hanfodol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth ddiweddar, gan gynnwys adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar effaith y safleoedd solar ffotofoltäig ar briddoedd amaethyddol, yn dweud yn glir fod yn rhaid inni roi llawer mwy o sylw i sut y caiff tir ei reoli lle caiff ffermydd solar eu hadeiladu.
O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ceir cydnabyddiaeth briodol fod pridd yn adnodd naturiol. Mae'r Bil ei hun yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fynd ar drywydd rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol yn gyffredinol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau atal niwed amgylcheddol a chynnal gwydnwch ecosystemau, ond mae'r dystiolaeth yn dangos bwlch rhwng yr egwyddorion a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol.
Ar hyn o bryd, nid yw deddfwriaeth a fframweithiau cynllunio yn mynd i'r afael yn bendant â'r risgiau i bridd a achosir gan y peiriannau trwm a ddefnyddir wrth adeiladu safleoedd solar, wrth wneud gwaith cynnal a chadw arferol arnynt, ac wrth ddatgomisiynu safleoedd solar yn y pen draw. Gwyddom fod cywasgu pridd yn bryder sylweddol, yn enwedig ar dir amaethyddol o ansawdd uchel. Mae adroddiadau'n awgrymu y gall llwyth echel o 10 tunnell gywasgu pridd i 50 cm, gan achosi niwed parhaus sy'n amharu ar strwythur, ymdreiddiad dŵr, bioamrywiaeth a chynhyrchiant hirdymor. Mewn rhai achosion, mae'n anadferadwy. Er bod lliniaru'n bosib drwy gynllunio gofalus, cyfyngu ar symudiadau cerbydau, cynlluniau rheoli pridd a monitro, nid yw'r mesurau hyn yn ofynnol neu'n cael eu gorfodi'n gyson, gan greu man dall o ran polisi. Felly, mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r mater. Rwy'n annog cryfhau'r egwyddorion amgylcheddol drwy gydnabod yn glir y risgiau o gywasgu pridd a chyflwyno dyletswyddau rheoli tir cliriach ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chynaliadwyedd, yn hytrach na mynd ar drywydd targedau, rhaid i drawsnewid i ynni adnewyddadwy warchod y pridd o dan ein paneli solar, nid ei ddiraddio'n dawel bach. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb—Huw Irranca-Davies.
The Cabinet Secretary to reply—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd, a diolch yn fawr iawn am roi'r cyfle imi ymateb i'r adroddiad a phwysleisio pwysigrwydd pridd ar gyfer bywyd a lles yng Nghymru.
Thank you, Llywydd, and thank you for giving me the opportunity to respond to this report and to emphasise the importance of soil for life and well-being in Wales.
I really enjoyed the contributions from all Members here in this debate, and it's great to have soil being debated and being the subject of a committee's report as well. From a Welsh Government perspective, we're absolutely committed to a bright and sustainable future for Welsh agriculture and the role that soil will play in this: that foundational role, underpinning farming—good soil underpinning farming—and forestry and biodiversity and water management and decarbonisation as well. Soil is pivotal to all of these.
I just want to begin by expressing my thanks to the Chair and also the other members of the committee and other Members who have contributed today to this thoughtful and wide-ranging inquiry into soil health and agriculture, and for the recommendations. And just to say, when we sometimes disagree, it's not because we're disagreeing for the sake of it; we do try to put forward a rational reason why we've disagreed on one. And when we agree in principle, it's because sometimes we're doing stuff in that space, and I'll explain that now. My thanks to those who also took the time to give evidence as well and perspectives for the committee to assess.
Let me turn to the detail of the report. In the opening line of the report, the committee is right to point out that the critical role of healthy soil in promoting sustainability is often overlooked. It's not often enough debated here, I have to say, as well. Soil, of course, is everywhere. It's hidden beneath our feet, it's out of sight and it's diverse in nature, and it's often very under-appreciated. So, Welsh Government shares the committee's commitment to ensuring that we are proactive when enhancing and restoring and protecting our existing resource of soil—not having it running off into the rivers, not having it degraded or compacted as well.
So, I've carefully considered every recommendation and the context of the evidence received by the committee, but also the work we've been doing with ERAMMP—the environment and rural affairs monitoring and modelling programme—and the soil policy evidence programme. So, let me start by addressing the single recommendation that we're not able to agree with.
So, recommendation 3, on the matter of developing a framework to support planning officers making decisions on applications for use of best and most versatile agricultural land—we believe the existing planning framework provides a robust structure to balance the various land-use considerations and Government priorities. So, in effect, what the planning system does is it seeks that 'worst land first' policy approach, to use poorer quality agricultural land when an alternative use is proposed, in preference to the best and most versatile agricultural land. As has been pointed out, Llywydd, the area of best and most versatile land represents in the region of 10 per cent to 15 per cent of Wales. But it is worth pointing out that the best and most versatile land classification on its own does not mean that that's a ban on the use of that land. The planning system cannot do that. It does, however, set a very high bar. So, each case must be taken on its merits, balancing agricultural interest against other considerations.
We believe we've struck the right balance by maintaining the strongest level of protection for high-quality agricultural land in the UK, complemented by producing the first digital agricultural land quality maps, the ongoing review of the agricultural land classification system to ensure it remains fit for purpose in a changing climate, and by my officials routinely making representations in national interest cases to ensure that best and most versatile land is given the significant weight that it absolutely deserves.
But, of course, we do keep the protections afforded by 'Planning Policy Wales' under review. We reviewed them in 2011 and again in 2020, and my officials will be, by the way, soon scoping the requirements for the next study to coincide with a wider agricultural land classification system technical review. It's a project we're jointly undertaking with DEFRA to ensure the identification of high-quality land remains fit for the next 25 and 30 years.
Fe fwynheais gyfraniadau'r holl Aelodau yma yn y ddadl hon, ac mae'n wych fod pridd yn cael ei drafod ac yn destun adroddiad pwyllgor hefyd. O safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddyfodol disglair a chynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru a'r rôl y bydd pridd yn ei chwarae yn hyn: y rôl sylfaenol honno, sy'n sail i ffermio—pridd da sy'n sail i ffermio—a choedwigaeth a bioamrywiaeth a rheoli dŵr a datgarboneiddio hefyd. Mae pridd yn allweddol i bob un o'r rhain.
Rwyf am ddechrau drwy fynegi fy niolch i'r Cadeirydd a hefyd i aelodau eraill y pwyllgor ac Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu heddiw at yr ymchwiliad meddylgar a phellgyrhaeddol hwn i iechyd pridd ac amaethyddiaeth, ac am yr argymhellion. Ac os caf ddweud, pan fyddwn yn anghytuno weithiau, nid anghytuno er mwyn anghytuno a wnawn; rydym yn ceisio cyflwyno rheswm rhesymegol pam ein bod wedi anghytuno ag un o'r argymhellion. A phan fyddwn yn cytuno mewn egwyddor, y rheswm am hynny yw ein bod yn gwneud pethau yn y gofod hwnnw, ac fe egluraf hynny nawr. Diolch i'r rhai a roddodd amser i roi tystiolaeth a safbwyntiau i'r pwyllgor eu hasesu.
Gadewch imi droi at fanylion yr adroddiad. Yn llinell agoriadol yr adroddiad, mae'r pwyllgor yn iawn i nodi bod rôl hanfodol pridd iach yn hyrwyddo cynaliadwyedd yn aml yn cael ei hanwybyddu. Nid yw'n destun dadl yma'n ddigon aml, rhaid imi ddweud. Mae pridd, wrth gwrs, ym mhobman. Mae wedi'i guddio o dan ein traed, mae allan o'r golwg ac mae'n amrywiol ei natur, ac yn aml, ni chaiff ei werthfawrogi'n ddigonol. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn rhannu ymrwymiad y pwyllgor i sicrhau ein bod yn rhagweithiol wrth fynd ati i wella ac adfer a gwarchod ein hadnodd pridd presennol—peidio â'i adael i redeg i afonydd, peidio â'i ddiraddio neu ei gywasgu hefyd.
Felly, rwyf wedi ystyried pob argymhelliad a chyd-destun y dystiolaeth a ddaeth i law gan y pwyllgor yn ofalus, ond hefyd y gwaith y buom yn ei wneud gydag ERAMMP—rhaglen fonitro a modelu'r amgylchedd a materion gwledig—a rhaglen dystiolaeth y polisi pridd. Felly, gadewch imi ddechrau drwy fynd i'r afael â'r un argymhelliad na allwn gytuno ag ef.
Felly, argymhelliad 3, ar fater datblygu fframwaith i gefnogi swyddogion cynllunio i wneud penderfyniadau ar geisiadau ar gyfer defnydd o'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas—credwn fod y fframwaith cynllunio presennol yn darparu strwythur cadarn i gydbwyso'r gwahanol ystyriaethau defnydd tir a blaenoriaethau'r Llywodraeth. Felly, mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r system gynllunio yn ei wneud yw mynd ar drywydd y dull polisi 'tir gwaethaf yn gyntaf', i ddefnyddio tir amaethyddol o ansawdd gwael pan argymhellir defnydd amgen, yn hytrach na'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas. Fel y nodwyd, Lywydd, mae oddeutu 10 y cant i 15 y cant o arwynebedd Cymru yn dir gorau a mwyaf amlbwrpas. Ond mae'n werth nodi nad yw'r dosbarthiad tir gorau a mwyaf amlbwrpas ar ei ben ei hun yn golygu bod gwaharddiad ar ddefnyddio'r tir hwnnw. Ni all y system gynllunio wneud hynny. Ond mae'n gosod y bar yn uchel iawn. Felly, rhaid ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau, gan gydbwyso buddiannau amaethyddol yn erbyn ystyriaethau eraill.
Credwn ein bod wedi taro'r cydbwysedd cywir drwy gynnal y lefel gryfaf o warchodaeth i dir amaethyddol o ansawdd uchel yn y DU, wedi'i ategu drwy gynhyrchu'r mapiau digidol cyntaf o ansawdd tir amaethyddol, yr adolygiad parhaus o'r system ddosbarthu tir amaethyddol i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn addas i'r diben mewn hinsawdd sy'n newid, a thrwy'r modd y mae fy swyddogion yn gwneud sylwadau rheolaidd mewn achosion budd cenedlaethol i sicrhau bod y tir gorau a mwyaf amlbwrpas yn cael ei ystyried yn bwysig iawn, fel y mae'n sicr yn ei haeddu.
Ond wrth gwrs, rydym yn cadw'r warchodaeth a roddir gan 'Polisi Cynllunio Cymru' dan adolygiad. Fe wnaethom ei hadolygu yn 2011 ac eto yn 2020, a chyda llaw, cyn hir bydd fy swyddogion yn cwmpasu'r gofynion ar gyfer yr astudiaeth nesaf i gyd-fynd ag adolygiad technegol ehangach o'r system ddosbarthu tir amaethyddol. Mae'n brosiect yr ydym yn ymgymryd ag ef ar y cyd â DEFRA i sicrhau bod y broses o nodi tir o ansawdd uchel yn parhau i fod yn addas ar gyfer y 25 a 30 mlynedd nesaf.
Thank you, Minister, for taking the intervention. It is a real concern, this loss of quality agricultural land. I can take you to the Vale of Glamorgan now and take you to five sites that were growing wheat and potatoes that are either under construction or have sites on them with solar developments, and that renewables aspect is the battering ram that knocks down the door. So, how do your officials work with the Minister for the economy, where she has planning responsibility, to make sure that this land is protected, rather than, obviously, your department saying it should be protected and it's not carried out in the planning system?
Diolch am dderbyn yr ymyriad, Weinidog. Mae'n bryder gwirioneddol, colli tir amaethyddol o safon yn y ffordd hon. Gallaf fynd â chi i Fro Morgannwg nawr a mynd â chi i bum safle lle'r arferid tyfu gwenith a thatws lle mae gwaith adeiladu ar y gweill neu sydd â safleoedd arnynt gyda datblygiadau solar, a'r elfen ynni adnewyddadwy honno yw'r hyn sy'n agor y drws. Felly, sut y mae eich swyddogion yn gweithio gyda Gweinidog yr economi, lle mae ganddi gyfrifoldeb cynllunio, i wneud yn siŵr fod y tir hwn yn cael ei warchod, yn hytrach na bod eich adran yn dweud y dylid ei warchod ac nad yw'n cael ei gyflawni yn y system gynllunio?
As you know, this falls within the planning policy and the planning decisions of the Planning Inspectorate. However, we make representations, and where we consider that there are good reasons to oppose the development of the land, those are put forward in every single case there. But it's the planning process that actually balances up the final decisions on it.
Now, just to turn to the area where we agree, actually, with the majority of the committee's report, Llywydd. Amongst the committee's recommendations, we've got several accepted directly, either in full or in principle. These include recommendations related to soil testing, monitoring, knowledge exchange, agricultural land classification data, scheme rules, regulation and carbon markets. A point that's been well made, by the way—in the sustainable farming scheme, soil testing is, of course, now a part of it, in the universal layer, but there are also the opportunities for farmers then to go further with the optional layer as well. I think that goes very much in line with the grain of the committee's report.
So, Welsh Government is very committed to working with the farming and the environmental sectors to implement and build on these recommendations in a way that reflects the evolving needs and uses of our soils, whilst maintaining flexibility of approach, given their diverse nature. It's not one type of soil in Wales and one application agriculturally; it's very diverse. But this collaborative position demonstrates our shared intention to keep soils as a central focus here in Wales.
Now, our agreement in principle reflects our support for the direction of travel, even where the precise mechanisms or the timing may require some further consideration and discussion. So, for example, we welcome recommendations relating to how suggestions from the agricultural sector for improving soil health could be incorporated into future iterations of the sustainable farming scheme. Indeed, work is already under way to scope out the future SFS soil offer as part of the—yes, we're already doing this—SFS phase 2 development programme. The work never stops. So, we're committed to working with stakeholders, through the ministerial round-table and the officials' group, to develop this offer. Now, as part of this work, we'll be looking at actions in the round, including how they relate to scheme rules, scheme outcomes, reporting, targeting, data requirements and knowledge transfer support.
We also welcome, by the way, the committee's recognition of Wales as a leader in soil testing and its acknowledgement of the need to review monitoring requirements, including carbon at depth, soil biodiversity, and greater clarity around soil health metrics, as we work to refine and develop our sustainable land management indicators.
I've only got a couple more comments, Llywydd. By agreeing in principle to these recommendations, we're signalling our willingness to move forward constructively, in concert with our stakeholders. So, I just want to assure Members that Welsh Government is fully committed to enhancing and restoring and protecting what we now have in this finite soil resource. We hope our commitment to achieving this is evident from our actions in publishing Wales's first agricultural soil policy statement, with that focus on long-term soil monitoring through ERAMMP, the full range of soil-related SFS actions and their ongoing development, the strongest provisions in the UK for the protection of high-quality agricultural land, and the continuing commitment, don't forget, to the national peatland action programme, with its five-year plan recently published on World Soils Day.
So, in closing, just, again, my thanks to the Chair and to the committee for some constructive challenge, but also scrutiny of such a vital and yet overlooked natural resource. We may not agree on every recommendation, but we do agree on the way forward and the critical role that healthy soils play in promoting sustainability and, frankly, a successful future for our Welsh agriculture and a natural environment on which we all depend. Diolch yn fawr.
Fel y gwyddoch, daw hyn o fewn y polisi cynllunio a phenderfyniadau cynllunio'r Arolygiaeth Gynllunio. Fodd bynnag, rydym yn gwneud sylwadau, a lle rydym o'r farn fod rhesymau da dros wrthwynebu datblygu'r tir, caiff y rheini eu cyflwyno ym mhob achos yno. Ond y broses gynllunio sy'n pwyso a mesur y penderfyniadau terfynol yn ei gylch.
Nawr, os caf droi at y maes lle rydym yn cytuno â'r rhan fwyaf o adroddiad y pwyllgor, Lywydd. Ymhlith argymhellion y pwyllgor, mae sawl un wedi'u derbyn yn uniongyrchol, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion sy'n ymwneud â phrofion pridd, monitro, cyfnewid gwybodaeth, data dosbarthu tir amaethyddol, rheolau cynlluniau, rheoleiddio a marchnadoedd carbon. Pwynt sydd wedi'i wneud yn dda, gyda llaw—yn y cynllun ffermio cynaliadwy, mae profion pridd bellach yn rhan ohono wrth gwrs, yn yr haen gyffredinol, ond mae yna hefyd gyfleoedd i ffermwyr fynd ymhellach gyda'r haen opsiynol yn ogystal. Rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd yn agos â chyfeiriad adroddiad y pwyllgor.
Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n fawr i weithio gyda'r sector ffermio a'r sector amgylcheddol i weithredu ac adeiladu ar yr argymhellion hyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion a defnydd esblygol o'n priddoedd, gan gynnal dull hyblyg o weithredu, o ystyried eu natur amrywiol. Nid un math o bridd a geir yng Nghymru ac un defnydd amaethyddol; mae'n amrywiol iawn. Ond mae'r safbwynt cydweithredol hwn yn dangos ein bwriad cyffredin i gadw priddoedd yn ffocws canolog yma yng Nghymru.
Nawr, mae ein cytundeb mewn egwyddor yn adlewyrchu ein cefnogaeth i'r cyfeiriad teithio, hyd yn oed lle gall yr union fecanweithiau neu'r amseru fod angen ystyriaeth a thrafodaeth bellach. Felly, er enghraifft, rydym yn croesawu argymhellion sy'n ymwneud â sut y gellid ymgorffori awgrymiadau gan y sector amaethyddol ar gyfer gwella iechyd pridd yn iteriadau'r cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol. Yn wir, mae gwaith eisoes ar y gweill i gwmpasu cynnig pridd y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol fel rhan o raglen ddatblygu cam 2 y cynllun ffermio cynaliadwy—ydym, rydym eisoes yn gwneud hyn. Nid yw'r gwaith byth yn dod i ben. Felly, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid, drwy'r trafodaethau bord gron gweinidogol a'r grŵp swyddogion, i ddatblygu'r cynnig hwn. Nawr, yn rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn edrych ar gamau gweithredu yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys sut y maent yn ymwneud â rheolau'r cynllun, canlyniadau'r cynllun, adrodd, targedu, gofynion data a chymorth trosglwyddo gwybodaeth.
Rydym hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor i'r ffaith bod Cymru yn arweinydd ym maes profion pridd a'i gydnabyddiaeth i'r angen i adolygu gofynion monitro, gan gynnwys carbon ar ddyfnder, bioamrywiaeth pridd, a mwy o eglurder ynghylch metrigau iechyd pridd, wrth inni weithio i fireinio a datblygu ein dangosyddion rheoli tir yn gynaliadwy.
Un neu ddau o sylwadau eraill sydd gennyf, Lywydd. Drwy gytuno mewn egwyddor i'r argymhellion hyn, rydym yn nodi ein parodrwydd i symud ymlaen yn adeiladol, ar y cyd â'n rhanddeiliaid. Felly, rwyf am sicrhau'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wella ac adfer a gwarchod yr hyn sydd gennym yn yr adnodd pridd cyfyngedig hwn. Rydym yn gobeithio bod ein hymrwymiad i gyflawni hyn yn amlwg yn ein camau gweithredu drwy gyhoeddi datganiad polisi amaethyddol cyntaf Cymru ar bridd, gyda'r ffocws ar fonitro pridd yn hirdymor drwy ERAMMP, yr ystod lawn o gamau gweithredu'r cynllun ffermio cynaliadwy sy'n gysylltiedig â phridd a'u datblygiad parhaus, y darpariaethau cryfaf yn y DU ar gyfer gwarchod tir amaethyddol o ansawdd uchel, a'r ymrwymiad parhaus, peidiwch ag anghofio, i'r rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd, gyda'i chynllun pum mlynedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Ddiwrnod Pridd y Byd.
Felly, i gloi, diolch eto i'r Cadeirydd ac i'r pwyllgor am ei her adeiladol, ond hefyd am graffu ar adnodd naturiol sydd mor hanfodol ond sydd eto i gyd yn cael ei anghofio. Efallai na fyddwn yn cytuno ar bob argymhelliad, ond rydym yn cytuno ar y ffordd ymlaen a'r rôl hanfodol y mae priddoedd iach yn ei chwarae yn hyrwyddo cynaliadwyedd, a dyfodol llwyddiannus i'n hamaethyddiaeth yng Nghymru ac amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn dibynnu arno. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb. Andrew R.T. Davies.
The committee Chair to reply. Andrew R.T. Davies.
Thank you, Presiding Officer. It's always pleasing, when you have a committee report, that there are Members who aren't members of the committee contributing, and I thank Carolyn and Altaf for their contributions to this debate this afternoon, and also the Minister, in his closing remarks, highlighting the importance of soil. I had some people make a quip, 'What on earth is the economy committee doing doing a report on soil health?' If you actually had a committee looking at the importance of fuel, energy, people say that's really important work for this Senedd to undertake. Soil is the nucleus of the food we eat and the biodiversity that Carolyn talked about. Sixty per cent of biodiversity is dependent on good, healthy soil for its creation. And also some antibiotics are derived from, obviously, the soil that those micro-organisms live in that are the basis of the antibiotics.
So, it is vital that we understand the pressures that are on our natural environment and the soil that underpins that environment. That's why the committee spent so much time looking at the planning system in particular, because of the pressures on demand for land that wouldn't be traditionally considered part of the countryside. So, it is disappointing that the Minister wasn't able to accept that particular recommendation. I heard the arguments he made, and in particular how his officials, obviously, keep it under constant review. But obviously there needs to be a joined-up approach with the Minister for planning to make sure that the safeguards that are put in place—. And I see the Member for Ynys Môn is here. Obviously, the solar development in Ynys Môn is being built on some prime agricultural land, and so there is a real deficiency in those safeguards. As I said to the Minister, I could take him to the Vale of Glamorgan now and take him to five sites that, basically, were growing wheat and potatoes that are now hosting solar farms, or have planning for solar farms. So, there is a deficiency there. It's there for us to see, and we need to try and close that off so that we strike the right balance.
Llyr, in his contribution to the debate this afternoon, said that this report shows us the way. I think you could almost end on that as such, then, because if you have an endorsement of such a report from a committee perspective your work has been productive. That's why I was so pleased that, on other recommendations, the Minister did acknowledge the importance of those recommendations, and did accept them.
Sam touched on the quality of the land, that only 10 per cent to 15 per cent in Wales is quality agricultural land. That really does show that we have to have these protections in place, because we haven't got an abundance of it, and it's not something that they're making any more of. So, we have to make sure that, from a Government perspective, those policies are in place to protect the land, so that we can feed the nation and enhance the environment.
And then, obviously, there was a contribution from Altaf, who highlighted some of the pressures of development in his own area of South Wales West, and his concerns about compaction and erosion of the land, and how it reinstated after some of the uses of the farmland that has been taken for granted for many generations.
So, it's been a productive debate for people to contribute in. I hope it has stimulated the debate around what we need to be doing around soil health and people's understanding of its importance to the structure or basis of life, which provides our food, helps clean our air and, obviously, holds carbon as well. As Sam Kurtz touched on, there are now some exciting opportunities around carbon trading and carbon capture, which are little understood at the moment, but in an ideal world could open up a huge opportunity for some farms to develop alternative streams of income.
So, I commend the report to the Senedd. I would like to thank the committee clerks and the witnesses who contributed to the work of this report, and hopefully it will stand the test of time and be something that will show that we have made a difference when it comes to improving the soils and soil structures here in Wales.
Diolch, Lywydd. Mae bob amser yn bleser, pan fydd gennych adroddiad pwyllgor, fod yna Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor yn cyfrannu, a diolch i Carolyn ac Altaf am eu cyfraniadau i'r ddadl hon y prynhawn yma, a hefyd i'r Gweinidog, yn ei sylwadau clo, am dynnu sylw at bwysigrwydd pridd. Clywais rai'n synnu, 'Beth ar y ddaear y mae'r pwyllgor economi'n ei wneud yn gwneud adroddiad ar iechyd pridd?' Os oes gennych bwyllgor sy'n edrych ar bwysigrwydd tanwydd, ynni, mae pobl yn dweud bod hwnnw'n waith pwysig iawn i'r Senedd hon ei wneud. Pridd yw cnewyllyn y bwyd yr ydym yn ei fwyta a'r fioamrywiaeth y soniodd Carolyn amdani. Mae 60 y cant o fioamrywiaeth yn dibynnu ar bridd da, iach ar gyfer ei greu. A hefyd mae rhai gwrthfiotigau yn deillio o'r pridd y mae'r micro-organebau hynny'n byw ynddo sy'n sail i'r gwrthfiotigau.
Felly, mae'n hanfodol ein bod yn deall y pwysau sydd ar ein hamgylchedd naturiol a'r pridd sy'n sail i'r amgylchedd hwnnw. Dyna pam y treuliodd y pwyllgor gymaint o amser yn edrych ar y system gynllunio yn enwedig, oherwydd y pwysau ar y galw am dir na fyddai'n cael ei ystyried yn draddodiadol yn rhan o gefn gwlad. Felly, mae'n siomedig na fu modd i'r Gweinidog dderbyn yr argymhelliad penodol hwnnw. Clywais y dadleuon a wnaeth, ac yn enwedig y ffordd y mae ei swyddogion yn ei gadw dan adolygiad parhaus. Ond yn amlwg mae angen dull cydgysylltiedig gyda'r Gweinidog cynllunio i wneud yn siŵr fod mesurau diogelu'n cael eu rhoi ar waith—. Ac rwy'n gweld bod yr Aelod dros Ynys Môn yma. Yn amlwg, mae'r datblygiad solar ar Ynys Môn yn cael ei adeiladu ar dir amaethyddol o'r radd flaenaf, ac felly mae diffyg gwirioneddol yn y mesurau diogelu hynny. Fel y dywedais wrth y Gweinidog, gallwn fynd ag ef i Fro Morgannwg nawr a mynd ag ef i bum safle lle'r arferid tyfu gwenith a thatws sydd bellach yn cynnal ffermydd solar, neu sydd wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ffermydd solar. Felly, mae diffyg yno. Mae yno i ni ei weld, ac mae angen inni geisio cael ei wared fel ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir.
Yn ei gyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma, dywedodd Llyr fod yr adroddiad hwn yn dangos y ffordd i ni. Rwy'n credu y gallech chi ddod i ben ar hynny fel y cyfryw, bron iawn, oherwydd os cewch gymeradwyaeth i adroddiad o'r fath o bersbectif pwyllgor mae eich gwaith wedi bod yn gynhyrchiol. Dyna pam fy mod mor falch fod y Gweinidog wedi cydnabod pwysigrwydd argymhellion eraill, ac wedi eu derbyn.
Cyfeiriodd Sam at ansawdd y tir, mai dim ond 10 y cant i 15 y cant yng Nghymru sy'n dir amaethyddol o safon. Mae hynny'n dangos bod yn rhaid inni gael y warchodaeth ar waith, oherwydd nid oes gennym ddigonedd ohono, ac nid yw'n rhywbeth y maent yn gwneud mwy ohono. Felly, rhaid inni wneud yn siŵr, o bersbectif Llywodraeth, fod y polisïau hynny ar waith i warchod y tir, fel y gallwn fwydo'r genedl a gwella'r amgylchedd.
Ac yna, cafwyd cyfraniad gan Altaf, a nododd ychydig o'r pwysau yn sgil datblygiadau yn ei ardal ei hun yng Ngorllewin De Cymru, a'i bryderon ynghylch cywasgu ac erydu'r tir, a sut y cafodd ei adfer ar ôl rhai o'r gwahanol fathau o ddefnydd tir fferm a gymerwyd yn ganiataol ers cenedlaethau lawer.
Felly, mae wedi bod yn ddadl gynhyrchiol i bobl gyfrannu ynddi. Rwy'n gobeithio ei bod wedi ysgogi'r ddadl ynglŷn â'r hyn y mae angen inni ei wneud ynghylch iechyd pridd a dealltwriaeth pobl o'i bwysigrwydd i strwythur neu sylfaen bywyd, sy'n darparu ein bwyd, yn helpu i lanhau ein haer, ac yn dal carbon hefyd wrth gwrs. Fel y crybwyllodd Sam Kurtz, mae yna gyfleoedd cyffrous yn gysylltiedig â masnachu carbon a dal carbon, nad ydynt yn cael eu deall yn dda ar hyn o bryd, ond mewn byd delfrydol gallai agor cyfle enfawr i rai ffermydd ddatblygu ffrydiau incwm amgen.
Felly, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Senedd. Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r tystion a gyfrannodd at waith yr adroddiad, a gobeithio y bydd yn parhau'n berthnasol ac yn rhywbeth a fydd yn dangos ein bod wedi gwneud gwahaniaeth o ran gwella priddoedd a strwythurau pridd yma yng Nghymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw James Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-dethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.
The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt, amendment 2 in the name of Paul Davies, and amendment 3 in the name of James Evans. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. If amendment 2 is agreed, amendment 3 will be deselected.
Eitem 7 sydd nesaf. Dadl Plaid Cymru ar lywodraethiant byrddau iechyd yw'r eitem yma, a dwi'n galw ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.
Item 7 is next, the Plaid Cymru debate on health board governance, and I call on Mabon ap Gwynfor to move the motion.
Cynnig NDM9135 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod y mis hwn yn nodi tair blynedd ers dychwelyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig; a
b) bod pob bwrdd iechyd mawr arall yng Nghymru o dan ryw fath o ymyrraeth wedi'i thargedu.
2. Yn gresynu:
a) bod Betsi Cadwaladr wedi treulio dros ddwy ran o dair o’i oes mewn mesurau arbennig—yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall yn hanes y GIG, a
b) bod pobl gogledd Cymru yn parhau i wynebu safonau gwael, amseroedd aros annerbyniol a diffygion sefydliadol parhaus o dan Lywodraeth Lafur Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cryfhau ei harweinyddiaeth wleidyddol i wella safonau a dal y bwrdd iechyd i gyfrif;
b) gweithredu argymhellion adroddiad Plaid Cymru 'System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant' i ddiwygio trefniadau llywodraethiant y GIG;
c) cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau mewn data rhestrau aros Betsi Cadwaladr; a
d) cyflymu sefydlu hybiau llawfeddygol wedi'u staffio'n llawn o fewn Betsi Cadwaladr.
Motion NDM9135 Heledd Fychan
To propose that the Senedd:
1. Notes that:
a) this month marks three years since Betsi Cadwaladr University Health Board was returned to special measures: and
b) all other major health boards in Wales are currently in some form of targeted intervention.
2. Regrets that:
a) Betsi Cadwaladr has spent over two‑thirds of its existence in special measures—longer than any other health board in NHS history; and
b) people in the north of Wales continue to face failing standards, excessive waits for treatment and long‑standing organisational dysfunction under the Welsh Labour Government.
3. Calls on the Welsh Government to:
a) strengthen its political leadership to drive up standards and hold the health board to account;
b) implement the recommendations of Plaid Cymru’s report 'The Welsh Health System: Accountability, Performance and Culture' to reform NHS governance;
c) publish the findings of the recent independent investigation into gaps in Betsi Cadwaladr’s waiting list data; and
d) accelerate the establishment of fully-staffed surgical hubs within Betsi Cadwaladr.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Llywydd. Wythnos diwethaf, roeddwn i'n cerdded strydoedd y Bala yn cnocio drysau tai pobl, yn cael sgyrsiau efo pobl yn y dref, ac un o'r tai hynny oedd hen dŷ Betsi Cadwaladr ei hun. Mae rhywun yn meddwl am y blynyddoedd ffurfiannol hynny a greodd y ferch ifanc a aeth ymlaen i fod yn nyrs nodedig, a achubodd fywydau nifer o bobl. Yn 2016, cafodd ei chydnabod yn haeddiannol fel un o 50 o fawrion hanes Cymru. Ond heddiw, yn anffodus, mae'r enw Betsi Cadwaladr wedi dod i olygu rhywbeth cwbl wahanol i lawer gormod o bobl yng Nghymru. Mae wedi dod yn gyfystyr nid â rhagoriaeth glinigol, ond â system iechyd sydd wedi colli ei ffordd.
Gadewch i mi fod yn glir o’r dechrau: nid bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ydy gwraidd problemau’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac nid yno maen nhw’n gorffen chwaith. Nid oes yr un bwrdd iechyd yng Nghymru heddiw mewn sefyllfa o fusnes arferol. Yn wir, yn Betsi ei hun rydym ni wedi gweld pum prif weithredwr gwahanol, pedwar cadeirydd, ac uwch swyddogion yn mynd ac yn dod mewn cylch bron di-ben-draw dros y blynyddoedd diweddar. Ac mewn mannau eraill ar hyd a lled Cymru, mae pobl wahanol, strwythurau gwahanol, systemau gwahanol a phoblogaethau gwahanol, ond mae pob un o’n byrddau iechyd bellach mewn rhyw fath o fesurau arbennig neu ymyrraeth estynedig. Er gwaetha’r holl wahaniaethau hyn rhwng y byrddau iechyd ac yn fewnol, mae yna un peth yn gyson drwy’r ansicrwydd a’r tanberfformiad cyfan, sef presenoldeb parhaus Llywodraeth Lafur Cymru wrth y llyw.
Ac mae’r methiannau yma ar eu mwyaf amlwg ac eithafol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Gallwn ni weld hynny gyda’r ffeithiau. Mae bron i hanner cleifion canser gogledd Cymru yn methu dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod, bron i chwarter cleifion mewn adrannau brys mawr yn aros dros 12 awr cyn cael eu gweld, a dros 4,000 o lwybrau gofal yn Betsi wedi bod yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, er gwaethaf addewidion dro ar ôl tro gan y Llywodraeth y byddai’r arosfannau hyn wedi’u dileu ers talwm. Ond efallai’r ffaith fwyaf damniol oll ydy hyn: fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi treulio dros ddwy ran o dair o’i fodolaeth gyfan mewn mesurau arbennig—y cyfnod hiraf i unrhyw fwrdd iechyd yn hanes yr NHS. Unwaith eto, felly, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyddo i greu hanes, am yr holl resymau anghywir.
A gadewch inni fod yn gwbl glir: nid bai’r staff ydy hyn. Mae’r meddygon, nyrsys, therapyddion a gweithwyr cefnogol, y rheolwyr yn Betsi, yn parhau i roi mwy na’r hyn sy’n rhesymol bosib ddydd ar ôl dydd, mewn amgylchiadau hynod o heriol. Yr hyn sy’n torri calon ydy gweld eu hymdrechion yn cael eu tanseilio’n gyson gan anhrefn, diffyg cyfeiriad a methiant arweinyddiaeth wleidyddol gadarn, o fethiannau dychrynllyd gwasanaethau iechyd meddwl Tawel Fan i adroddiad Ockenden, a nododd ddiwylliant o gamdriniaeth gorfforaethol, i’r penderfyniad gwleidyddol, cywilyddus i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig, yn groes i gyngor clir yr archwilydd cyffredinol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, dim ond i weld y bwrdd yn dychwelyd i fesurau arbennig ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac, yn fwy diweddar byth, y ffaith bod y bwrdd iechyd wedi’i roi, i bob pwrpas, mewn haen o ymyrraeth sy’n mynd ymhell y tu hwnt i fesurau arbennig, heb sôn am y smonach lwyr a welom ni yn ddiweddar gyda bylchau difrifol mewn data yn y rhestrau aros. Fe allwn i barhau.
Er mwyn deall beth sy’n mynd o’i le, mae’n rhaid inni edrych ar ddiffygion diwylliannol a sefydliadol, sydd yn eu tro yn tarddu o wendidau dwfn mewn arweinyddiaeth wleidyddol dros gyfnod maith.
Thank you, Llywydd. Last week, I was walking the streets of Bala, knocking on people's doors and having conversations with people in the town, and one of those houses was Betsi Cadwaladr's own former home. One thinks of those formative years that created the young woman who went on to be a distinguished nurse, who saved many lives. In 2016, she was recognised, deservedly, as one of the 50 giants of Welsh history. But today, unfortunately, the name Betsi Cadwaladr has come to mean something very different for far too many people in Wales. It has become synonymous not with clinical excellence, but with a health system that has lost its way.
Let me be absolutely clear from the outset: Betsi Cadwaladr health board is not the root cause of the problems in the health service in Wales, nor do the problems end there. There is not one health board in Wales today in a position of business as usual. Indeed, in Betsi itself we have seen five different chief executives, four chairs, and senior officers come and go in an almost endless cycle over recent years. Elsewhere, throughout Wales, there are different people, different structures, different systems and different populations, but all of our health boards are now in some form of special measures or extended intervention. Despite all of those differences between the health boards and internally, one thing remains constant through all of this uncertainty and underperformance, namely the continued presence of the Welsh Labour Government at the helm.
These failures are at their most obvious and extreme in Betsi Cadwaladr health board. We can see that clearly in the facts. Almost half of the cancer patients in north Wales are unable to start treatment within the 62-day target, almost a quarter of patients in large emergency departments wait over 12 hours before being seen, and over 4,000 care pathways in Betsi have been waiting for two years for treatment, despite repeated pledges from the Government that these waits would have been removed long ago. But perhaps the most damning fact of all is this: Betsi Cadwaladr health board has spent over two thirds of its entire existence in special measures, the longest tenure for any health board in the history of the NHS. Once again, therefore, the Welsh Labour Government has succeeded in making history, but for all the wrong reasons.
And let's be absolutely clear: the staff are not to blame for this. Doctors, nurses, therapists and support workers and the managers at Betsi continue to give more than is reasonably possible day after day, in extremely challenging circumstances. What is heartbreaking is seeing their efforts being constantly undermined by chaos, a lack of direction and a failure to provide firm leadership, from the appalling failures of mental health services in Tawel Fan to the Ockenden report, which identified a culture of corporate abuse, to the shameful political decision to take Betsi out of special measures, contrary to the clear advice provided by the auditor general and Healthcare Inspectorate Wales, only to see the board revert to special measures just over two years later, and, more recently, the fact that the health board has, effectively, been placed in a tier of intervention that goes far beyond special measures, never mind the complete shambles that we saw recently with serious gaps in the data on waiting lists—. I could go on.
To understand what is going wrong, you have to look at cultural and organisational shortcomings, which in turn originate from deep weaknesses in political leadership over a long period.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.
Under this Government, what we have seen is a culture of learned helplessness being allowed to fester and grow. And is it any wonder? Because this is exactly what we get week in, week out in this Chamber from this Government. Instead of demanding better, believing that better can be delivered by Wales in Wales, what we see a culture where we are told that we can’t do it ourselves and we depend on others to do things for us. In Betsi Cadwaladr this is embodied in the fact that there is a persistent tendency to outsource patients to England, be they urology, mental health, vascular or any other number of treatments and specialisms that have either been allowed to go from north Wales or have not been invested in to develop, or the ongoing practice to insource private providers, steadily draining investment away from local services instead of strengthening them. In the case of Betsi’s insourcing arrangements with ID Medical to reduce waiting lists, clinicians within the health board have been explicitly excluded from any role in delivering that work, contrary to the advice of the health ombudsman. This has resulted in unnecessary duplication, further delays to treatment, and, as acknowledged by the board’s own finance director, poor service delivery and poor value for money.
O dan y Llywodraeth hon, yr hyn a welsom yw diwylliant o ddiymadferthedd a ddysgwyd y caniatawyd iddo gasglu a thyfu. Ac a yw'n syndod? Oherwydd dyma'n union beth a gawn wythnos ar ôl wythnos yn y Siambr gan y Llywodraeth hon. Yn hytrach na mynnu gwell, credu y gall Cymru gyflawni gwell yng Nghymru, yr hyn a welwn yw diwylliant lle dywedir wrthym na allwn ei wneud ein hunain a'n bod yn dibynnu ar eraill i wneud pethau ar ein rhan. Yn Betsi Cadwaladr ymgorfforir hyn yn y ffaith bod tueddiad parhaus i allanoli cleifion i Loegr, boed yn gleifion wroleg, iechyd meddwl, fasgwlaidd neu unrhyw un o nifer o driniaethau ac arbenigeddau sydd naill ai wedi cael eu gadael i fynd o ogledd Cymru neu na fuddsoddwyd ynddynt i ddatblygu, neu'r arfer parhaus o dynnu darparwyr preifat i mewn, gan ddraenio buddsoddiad yn raddol oddi wrth wasanaethau lleol yn hytrach na'u cryfhau. Yn achos trefniadau mewnoli Betsi Cadwaladr gydag ID Medical i leihau rhestrau aros, mae clinigwyr o fewn y bwrdd iechyd wedi'u gwahardd yn benodol rhag ymgymryd ag unrhyw rôl yn cyflawni'r gwaith hwnnw, yn groes i gyngor yr ombwdsmon iechyd. Mae hyn wedi arwain at ddyblygu diangen, at oedi pellach i driniaethau, ac fel y cydnabu cyfarwyddwr cyllid y bwrdd ei hun, at ddarparu gwasanaethau gwael a gwerth gwael am arian.
Would you take an intervention, Mabon?
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mabon?
Yes.
Gwnaf.
On that point of waiting times, and outsourcing to England, and using external and perhaps private companies in that sense, what we seem to have been finding in official responses from Government Ministers is those very facts missing in their responses. So, would you be calling for that accuracy from Ministers in their responses to make sure that we're in a picture of being fully accurate about the realities of the situation facing Betsi Cadwaladr?
Ar y pwynt am amseroedd aros, ac allanoli i Loegr, a defnyddio cwmnïau allanol a phreifat efallai yn yr ystyr honno, yr hyn yr ymddengys ein bod wedi ei ddarganfod mewn ymatebion swyddogol gan Weinidogion y Llywodraeth yw'r union ffeithiau sydd ar goll yn eu hymatebion. Felly, a wnewch chi alw am y manylder hwnnw gan Weinidogion yn eu hymatebion i wneud yn siŵr ein bod yn cael darlun cwbl gywir o realiti'r sefyllfa sy'n wynebu Betsi Cadwaladr?
Yes, I think that's a fair charge there. What we have in Wales is a lack of data, and we need improved data to understand what's going on, so that we have better policy and better outcome.
But referring to that insourcing, in this instance, ID Medical in Betsi Cadwaladr, who mandated this policy? The Welsh Government, as part of the planned care recovery plan. This Government can't wash its hands of these failures. The special measures have resulted in both directives and appointments from this Government. There are only so many people you can sack and point the finger of blame at before you run out of people to blame. A fish rots from its head, and this Government has headed the health board for the best part of 10 years.
But there is an alternative. In 2026, the people of north Wales will have the opportunity to choose real change. Plaid Cymru has already set out a bold and credible agenda to improve this culture of learnt helplessness. Last year, we published our report, 'The Welsh Health System: Accountability, Performance and Culture', born out of our deep frustration with the Welsh Government’s repeated refusal to take responsibility for failures at Betsi Cadwaladr. It sets out clear proposals to strengthen governance and accountability in the NHS, reforming the special measures framework, introducing consistent standards of conduct for senior leaders and delivering genuine transparency in health data.
We have also brought forward a targeted plan to tackle Labour’s waiting lists, which are particularly acute in Betsi Cadwaladr, including new elective care hubs to accelerate treatment, create centres of excellence in long-neglected specialisms, and improve referral and triage systems. And we must rebuild that confidence in ourselves again and invest in growing our own to give us that ability to develop specialisms in the north.
For over 15 years, the people of north Wales have been forced to endure unacceptable standards of care, while staff have been let down time and again by this Government's failure. As one staff member so powerfully put it:
'There are a huge number of good people working for Betsi Cadwaladr University Health Board who give above and beyond every day. They work in circumstances they often know to be inferior to what is provided in the other nations of the UK, but the bonds which keep them here are family, friends and the knowledge it is their healthcare they are trying to preserve.'
Let's ensure that their dedication has not been in vain, and let's make sure that, after 2026, a brighter, fairer and more competent chapter for patients across north Wales and Wales as a whole will materialise. Diolch.
Rwy'n credu bod hynny'n gyhuddiad teg. Yr hyn sydd gennym yng Nghymru yw diffyg data, ac mae angen gwell data arnom i ddeall beth sy'n digwydd, fel bod gennym well polisi a gwell canlyniad.
Ond gan gyfeirio at y mewnoli hwnnw, yn yr achos hwn, ID Medical yn Betsi Cadwaladr, pwy wnaeth orchymyn y polisi hwn? Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r cynllun adfer gofal a gynlluniwyd. Ni all y Llywodraeth hon olchi ei dwylo o'r methiannau hyn. Mae'r mesurau arbennig wedi arwain at gyfarwyddebau a phenodiadau gan y Llywodraeth hon. Hyn a hyn o bobl y gallwch chi eu diswyddo a'u beio cyn i chi redeg allan o bobl i'w beio. Mae pysgodyn yn pydru o'i ben, ac mae'r Llywodraeth hon wedi arwain y bwrdd iechyd am y rhan orau o 10 mlynedd.
Ond mae dewis arall. Yn 2026, bydd pobl gogledd Cymru yn cael cyfle i ddewis newid go iawn. Mae Plaid Cymru eisoes wedi gosod agenda feiddgar a chredadwy i wella'r diwylliant hwn o ddiymadferthedd a ddysgwyd. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad, 'System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant', a aned o'n rhwystredigaeth ddofn gyda gwrthodiad Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gymryd cyfrifoldeb am fethiannau yn Betsi Cadwaladr. Mae'n nodi cynigion clir i gryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd yn y GIG, diwygio'r fframwaith mesurau arbennig, cyflwyno safonau ymddygiad cyson ar gyfer uwch arweinwyr a chyflawni tryloywder go iawn mewn data iechyd.
Rydym hefyd wedi cyflwyno cynllun wedi'i dargedu i fynd i'r afael â rhestrau aros Llafur, sy'n arbennig o wael yn Betsi Cadwaladr, gan gynnwys hybiau gofal a gynlluniwyd newydd i gyflymu triniaeth, creu canolfannau rhagoriaeth mewn arbenigeddau sydd wedi'u hesgeuluso ers amser maith, a gwella systemau atgyfeirio a brysbennu. Ac mae'n rhaid inni ailadeiladu hyder ynom ein hunain eto a buddsoddi er mwyn tyfu ein gallu ein hunain i ddatblygu arbenigedd yn y gogledd.
Ers dros 15 mlynedd, mae pobl gogledd Cymru wedi cael eu gorfodi i ddioddef safonau gofal annerbyniol, tra bod staff wedi cael eu siomi dro ar ôl tro gan fethiant y Llywodraeth hon. Fel y dywedodd un aelod o staff mor bwerus:
'Mae nifer enfawr o bobl dda yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n mynd y tu hwnt i'r galw bob dydd. Maent yn gweithio mewn amgylchiadau y gwyddant yn aml eu bod yn israddol i'r hyn sy'n cael ei ddarparu yng ngwledydd eraill y DU, ond y rhwymau sy'n eu cadw yma yw teulu, ffrindiau a'r wybodaeth mai eu gofal iechyd nhw y maent yn ceisio ei warchod.'
Gadewch inni sicrhau nad yw eu hymroddiad wedi bod yn ofer, a gadewch inni wneud yn siŵr, ar ôl 2026, y bydd pennod ddisgleiriach, decach a mwy cymwys yn agor i gleifion ar draws gogledd Cymru a Chymru gyfan. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
I have selected the amendments to the motion. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be de-selected. If amendment 2 is agreed, amendment 3 will be de-selected. I call on the Cabinet Secretary for Health and Social Care to move amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod cynnydd wedi’i wneud o ran arweinyddiaeth, llywodraethiant corfforaethol, ansawdd a diogelwch, rheolaeth ariannol, ac ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi o dan fesurau arbennig eto yn 2023; a
b) bod cynnydd yn cael ei wneud gan bob bwrdd iechyd sydd wedi’i uwchgyfeirio.
2. Yn cydnabod y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau yn nata rhestrau aros Betsi Cadwaladr, a’r adroddiad cynnydd diweddaraf ar y mesurau arbennig, ym mis Mawrth.
3. Yn cefnogi aelodau ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddynt barhau i weithio dan bwysau i ddiwallu anghenion cleifion.
Amendment 1—Jane Hutt
Delete all and replace with:
To propose that the Senedd:
1. Notes that:
a) progress has been made in leadership, corporate governance, quality and safety, financial management, and patient and stakeholder engagement since Betsi Cadwaladr University Health Board was returned to special measures in 2023; and
b) progress is being made by all health boards in escalation.
2. Acknowledges that the Welsh Government will publish the findings of the recent independent investigation into gaps in Betsi Cadwaladr’s waiting list data, and the latest special measures progress report, in March.
3. Supports the health and social care workforce as they continue to work under pressure to meet the needs of patients.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.
Yn ffurfiol.
Formally.
Galwaf ar Peter Fox i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
I call on Peter Fox to move amendment 2, tabled in the name of Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) derbyn cyfrifoldeb am y methiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ymddiheuro am fethu â mynd i'r afael â'r diffygion ym maes gofal iechyd yng ngogledd Cymru;
b) datgan argyfwng iechyd;
c) cynyddu capasiti gwelyau i sicrhau diogelwch cleifion a gwella mynediad at ofal brys;
d) sefydlu canolfannau llawfeddygol ar frys i helpu i glirio'r ôl-groniad o ran amseroedd aros;
e) diogelu a gwella'r rhwydwaith ysbytai cymunedol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys darparu ysbyty cymunedol gogledd Sir Ddinbych, a mwy o unedau mân anafiadau; ac
f) cychwyn ymchwiliad annibynnol i fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddysgu gwersi, dal pobl i gyfrif am fethiannau, a sicrhau y gellir cyflawni a chynnal gwelliant sylweddol.
Amendment 2—Paul Davies
Delete point 3 and replace with:
Calls on the Welsh Government to:
a) accept responsibility for the failings at the Betsi Cadwaladr University Health Board and apologise for failing to address the shortcomings in healthcare in north Wales;
b) declare a health emergency;
c) surge bed capacity to ensure patient safety and improve access to emergency care;
d) urgently establish surgical hubs to help clear the waiting time backlog;
e) protect and enhance the community hospital network in north Wales, including the delivery of the north Denbighshire community hospital, and more minor injuries units; and
f) initiate an independent inquiry into failings at the Betsi Cadwaladr University Health Board to learn lessons, hold people to account for failures, and ensure that significant improvement can be achieved and maintained.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Amendment 2 moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I move the amendment in the name of Paul Davies.
Can I thank Plaid Cymru for bringing forward this debate today? We all know that our healthcare system is on its knees. Every health board in the country is in some sort of special measures or intervention. A poor legacy of 27 years of Labour control. For far too long, successive Welsh Labour Governments have failed to get to grips with the scale of the crisis across the country, choosing instead often to play party politics that deflect from making the real changes that we all need to see. We know all Welsh health boards are in crisis, as I said, under intervention. From my experience, when organisations consistently fail, it points to a serious lack of leadership, a leadership issue, and often system failure, and the Government is key to that leadership.
When looking at Betsi Cadwaladr, Dirprwy Lywydd, the Welsh Government must accept and own up to the main failings at the health board and apologise to the people of north Wales for failing to address the shortcomings in healthcare. Not to do so demonstrates a continued denial of that situation. These failings at the health board are no secret and have frequently made the news. There have been considerable concerns surrounding the leadership, with ongoing instability in the executive team and gaps in the wider senior leadership structures, as well as overspending on the budget to the tune, I believe, of over £24 million between 2021 and 2024. And to make matters worse, the health board has had several different chief execs since 2015. Clearly, there is something fundamentally wrong with the running of the health board, and ultimately the buck stops at the Welsh Government, as it has ultimate responsibility for the performance management of our health system.
Dirprwy Lywydd, when the running of the health board is so flawed, it has very real consequences for the people of north Wales, who are sick and tired of having to put up with this. Last year's delayed health statistics are just one of the scandals at the health board. We have seen tragic incidents of a patient having an unnecessary amputation, another amputee needing to be carried to the toilet by his wife after being discharged without a care plan, and almost 1,700 mental health patients wrongly discharged from support services during the pandemic. Dirprwy Lywydd, if this isn't the definition of a crisis, I don't know what is. It's clear that the running of our Welsh health system cannot continue in this way.
The Welsh Conservatives have a plan to put things right. We need a Government willing to acknowledge that there is a health emergency, for it is only when—
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies.
A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Rydym i gyd yn gwybod bod ein system gofal iechyd ar ei gliniau. Mae pob bwrdd iechyd yn y wlad mewn rhyw fath o fesur neu ymyrraeth arbennig. Gwaddol gwael wedi 27 mlynedd o reolaeth Llafur. Am lawer gormod o amser, mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu mynd i'r afael â maint yr argyfwng ledled y wlad, gan ddewis chwarae gwleidyddiaeth bleidiol yn lle hynny'n aml gan wyro rhag gwneud y newidiadau go iawn y mae angen i bawb ohonom eu gweld. Rydym yn gwybod bod holl fyrddau iechyd Cymru mewn argyfwng, fel y dywedais, dan ymyrraeth. Yn fy mhrofiad i, pan fydd sefydliadau'n methu'n gyson, mae'n tynnu sylw at ddiffyg arweinyddiaeth difrifol, problem gyda'r arweinyddiaeth, a methiant system yn aml, ac mae'r Llywodraeth yn allweddol i'r arweinyddiaeth honno.
Wrth edrych ar Betsi Cadwaladr, Ddirprwy Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn a chyfaddef y prif fethiannau yn y bwrdd iechyd ac ymddiheuro i bobl gogledd Cymru am fethu mynd i'r afael â'r diffygion mewn gofal iechyd. Mae peidio â gwneud hynny'n dangos eu bod yn parhau i wadu'r sefyllfa honno. Nid yw'r methiannau hyn yn y bwrdd iechyd yn gyfrinach ac maent wedi cyrraedd y newyddion yn aml. Bu cryn bryderon ynglŷn â'r arweinyddiaeth, gydag ansefydlogrwydd parhaus yn y tîm gweithredol a bylchau yn yr uwch strwythurau arweinyddiaeth ehangach, yn ogystal â dros £24 miliwn o orwariant yn y gyllideb rhwng 2021 a 2024. Ac i wneud pethau'n waeth, mae'r bwrdd iechyd wedi cael sawl prif weithredwr gwahanol ers 2015. Yn amlwg, mae rhywbeth o'i le'n sylfaenol ynghylch y ffordd y caiff y bwrdd iechyd ei redeg, ac yn y pen draw Llywodraeth Cymru sy'n atebol, gan mai ganddi hi y mae'r cyfrifoldeb terfynol am reoli perfformiad ein system iechyd.
Ddirprwy Lywydd, pan fydd y modd y caiff y bwrdd iechyd ei redeg mor ddiffygiol, mae'n cael canlyniadau real iawn i bobl gogledd Cymru, sydd wedi cael llond bol ar orfod goddef hyn. Dim ond un o'r sgandalau yn y bwrdd iechyd yw'r oedi i ystadegau iechyd y llynedd. Rydym wedi gweld digwyddiadau trasig fel y claf a gafodd drychiad diangen, claf arall a oedd wedi cael trychiad yn gorfod cael ei gario i'r toiled gan ei wraig ar ôl cael ei ryddhau heb gynllun gofal, a bron i 1,700 o gleifion iechyd meddwl wedi'u rhyddhau ar gam o wasanaethau cymorth yn ystod y pandemig. Ddirprwy Lywydd, os nad dyma'r diffiniad o argyfwng, nid wyf yn gwybod beth sydd. Mae'n amlwg na all ein system iechyd yng Nghymru barhau i gael ei rhedeg fel hyn.
Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i wneud pethau'n iawn. Mae angen Llywodraeth sy'n barod i gydnabod bod yna argyfwng iechyd, oherwydd—
Would you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Sorry. Yes, I would, James.
Mae'n ddrwg gennyf. Iawn, fe wnaf, James.
I'm just interested—. I was the shadow health Minister for over 12 months and I'm not quite sure what the health emergency actually meant in Welsh Conservative policy, so I'm just interested, since you've taken on the brief, whether you could explain what a health emergency actually is.
Mae gennyf ddiddordeb—. Roeddwn i'n llefarydd iechyd am dros 12 mis ac nid wyf yn hollol siŵr beth oedd yr argyfwng iechyd yn ei olygu mewn gwirionedd ym mholisi'r Ceidwadwyr Cymreig, felly gan mai chi sydd wedi ymgymryd â'r briff, a wnewch chi esbonio beth yw argyfwng iechyd mewn gwirionedd.
Yes, well, thank you very much. From a health emergency—. With any situation that has been ongoing for many years, if the leadership cadre don’t acknowledge the importance of that situation, you're never going to focus the resource and mindset to putting it right. Declaring that health emergency focuses every part of the system on the need to start putting its mind, its resources, its capacity and its best efforts to start driving the change we need to see. And that's why we're seeing already local councils declaring health emergencies, and more will do that, because it's resonating through to every citizen across Wales. So, when you have that solid focus from everybody who can put things right, as we did in COVID, then you know that you can start taking some steps to improvement. And that's what I believe a health emergency is and why it's so important.
We need a Government willing to accept, then, that there is a need for that health emergency; it is only then that we can begin to tackle the full extent of the problems at Betsi Cadwaladr and, indeed, across our whole health system. Regarding Betsi Cadwaladr, we need to see an independent inquiry into the failings at the health board to learn lessons and hold people to account for the utter failure of its management, as well as ensuring that significant improvements can be achieved and maintained. The Welsh Government must bring about a surge in bed capacity across Wales to ensure patient safety and improved access to emergency care. We must also see the urgent establishment of surgical hubs to clear the appalling waiting time backlog. And finally, we must protect and enhance the community hospital network in north Wales, including the delivery of the north Denbighshire community hospital and more minor injuries units.
Dirprwy Lywydd, the people of north Wales deserve better than what Labour have offered them when it comes to their healthcare, and this applies to all areas of Wales. Enough is enough. We need accountability and an improvement, and sadly, that doesn't seem likely under this Labour Government. Diolch.
Ie, wel, diolch yn fawr. O argyfwng iechyd—. Gydag unrhyw sefyllfa sydd wedi bod yn parhau ers blynyddoedd lawer, os nad yw'r cnewyllyn o arweinwyr yn cydnabod pwysigrwydd y sefyllfa honno, ni wnewch chi byth ganolbwyntio'r adnoddau a'r meddylfryd ar ei ddatrys. Mae datgan argyfwng iechyd yn canolbwyntio pob rhan o'r system ar yr angen i ddechrau rhoi ei meddwl, ei hadnoddau, ei gallu a'i hymdrechion gorau ar waith i ddechrau gyrru'r newid sydd angen i ni ei weld. A dyna pam ein bod yn gweld cynghorau lleol eisoes yn datgan argyfyngau iechyd, a bydd mwy yn gwneud hynny, oherwydd mae'n atseinio i bob dinesydd ledled Cymru. Felly, pan fydd gennych y ffocws cadarn hwnnw gan bawb sy'n gallu unioni pethau, fel y gwnaethom yn ystod COVID, rydych chi'n gwybod y gallwch chi ddechrau rhoi camau ar waith i wella. A dyna beth y credaf i yw argyfwng iechyd a pham ei fod mor bwysig.
Mae arnom angen Llywodraeth sy'n barod i dderbyn, felly, fod angen yr argyfwng iechyd hwnnw; dim ond wedyn y gallwn ddechrau mynd i'r afael â gwir faint y problemau yn Betsi Cadwaladr, ac ar draws ein system iechyd gyfan yn wir. O ran Betsi Cadwaladr, mae angen inni weld ymchwiliad annibynnol i'r methiannau yn y bwrdd iechyd i ddysgu gwersi a dwyn pobl i gyfrif am fethiant llwyr ei reolwyr, yn ogystal â sicrhau y gellir cyflawni a chynnal gwelliannau sylweddol. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau cynnydd mawr yn y capasiti gwelyau ledled Cymru i sicrhau diogelwch cleifion a gwell mynediad at ofal brys. Rhaid inni hefyd weld hybiau llawfeddygol yn cael eu sefydlu ar frys i glirio'r ôl-groniad ofnadwy yn yr amseroedd aros. Ac yn olaf, rhaid inni ddiogelu a gwella'r rhwydwaith ysbytai cymunedol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys darparu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych a mwy o unedau mân anafiadau.
Ddirprwy Lywydd, mae pobl gogledd Cymru'n haeddu gwell na'r hyn y mae Llafur wedi'i gynnig iddynt o ran eu gofal iechyd, ac mae hyn yn berthnasol i bob ardal o Gymru. Digon yw digon. Mae angen atebolrwydd a gwelliant, ac yn anffodus, nid yw hynny'n ymddangos yn debygol o dan y Llywodraeth Lafur hon. Diolch.
Galwaf ar James Evans i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn ei enw.
I call on James Evans to move amendment 3, tabled in his own name.
Gwelliant 3—James Evans
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:
cynnal adolygiad cynhwysfawr o drefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gyda'r bwriad o gryfhau goruchwyliaeth, gwella perfformiad, a sicrhau safonau gofal cyson i gleifion.
Amendment 3—James Evans
In point 3, delete sub-point (b) and replace with:
undertake a comprehensive review of governance, leadership, and accountability arrangements across all NHS organisations in Wales, with a view to strengthening oversight, improving performance, and ensuring consistent standards of care for patients.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Amendment 3 moved.
Diolch, Deputy Presiding Officer. I move the amendment tabled in my name.
Let us be clear about what we are debating today: Plaid Cymru's motion correctly identifies a health system in crisis, but it proposes solutions that fall short of the scale of the crisis. It focuses narrowly on one health board and asks us to endorse a party political report when what Wales needs is fundamental system-wide change.
The situation at Betsi Cadwaladr University Health Board is a national scandal. Spending more than two thirds of its existence in special measures is not just failure, it's institutional collapse, but we must not pretend that this is a problem confined to north Wales. This is not a localised issue, it is a systemic one that runs deep through the entire Welsh NHS, from the north coast to the heart of Cardiff Bay. The motion notes that every major health board in Wales has now been subject to some form targeted intervention, and let us translate that into plain English: the Welsh Government has had its hands on the wheel of every health board in Wales, and yet after years of intervention, escalation and special measures, patients are still waiting longer, staff are still under intolerable pressure, and standards remain unacceptably low.
That is why my amendment matters. It calls for a comprehensive review of governance, leadership and accountability across all NHS organisations in Wales. We do not need more targeted tinkering around the edges, we need to confront a culture that has normalised failure, hidden behind bureaucracy and punished transparency. And if Members want a live example of what is wrong with the Welsh NHS and governance in Wales, they need to look no further than Velindre University NHS Trust. In recent months, we've seen the sudden departure of its chief executive after barely a year in post and serious whistleblowing allegations, involving criminality and governance failures within the NHS Wales Shared Services Partnership, dismissed. So, let us ask the obvious question: how can this Senedd have confidence in NHS governance when a chief executive who raises concerns about wrongdoing appears to be pushed out? This is a system that treats whistleblowers as the problem, transparency as a threat and bureaucracy as a shield. This is not accountability; it is institutional self-protection.
Plaid Cymru asks us to implement the recommendations of its own report. Whilst I acknowledge the work that has gone into it, reforming the Welsh NHS cannot be reduced to a partisan homework exercise. What Wales needs is an independent, whole-system review, one that tackles silo cultures, the obsolete systems and the reality that, in 2026, parts of our NHS still rely on paper records and fax machines. That is totally inappropriate.
Some Members argue in this Chamber that a public inquiry into Betsi Cadwaladr University Health Board is the answer. I fundamentally disagree. A public inquiry would take years, cost millions of pounds and absorb vast amounts of management time and also tell us what we already know, that leadership has been weak, governance fragmented, data unreliable and accountability has been blurred. While lawyers and consultants would benefit from a public inquiry, patients would not.
The Welsh NHS does not suffer from a lack of diagnosis, it suffers from a lack of consequences. What we need to see here is a system in Wales where Ministers and senior executives face real consequences for failure, the bloated management structures are reduced so resources can be redirected to the front line, more doctors, nurses and paramedics, and we need to increase transparency so it's the default across the NHS, not something that is dragged out through leaks, FOIs and whistleblowers risking their own careers to try and improve the NHS here in Wales. Deputy—[Interruption.] I will take an intervention, Gareth, yes.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i.
Gadewch inni fod yn glir ynglŷn â'r hyn a drafodwn heddiw: mae cynnig Plaid Cymru yn gywir i nodi system iechyd mewn argyfwng, ond mae'n cynnig atebion sy'n methu ymateb i faint yr argyfwng. Mae'n canolbwyntio'n gul ar un bwrdd iechyd ac yn gofyn i ni gymeradwyo adroddiad pleidiol wleidyddol er mai'r hyn sydd ei angen ar Gymru yw newid sylfaenol ledled y system.
Mae'r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sgandal genedlaethol. Nid methiant yn unig yw treulio mwy na dwy ran o dair o'i fodolaeth mewn mesurau arbennig, ond rhaid inni beidio ag esgus bod hon yn broblem sydd wedi'i chyfyngu i ogledd Cymru. Nid mater lleol yw hwn, mae'n un systemig sy'n rhedeg yn ddwfn drwy GIG Cymru yn ei gyfanrwydd, o arfordir y gogledd i ganol Bae Caerdydd. Mae'r cynnig yn nodi bod pob bwrdd iechyd mawr yng Nghymru bellach wedi bod yn destun rhyw fath o ymyrraeth wedi'i thargedu, a gadewch inni drosi hynny i iaith blaen: mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei dwylo ar olwyn pob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac eto ar ôl blynyddoedd o ymyrraeth, uwchgyfeirio a mesurau arbennig, mae cleifion yn dal i aros yn hirach, mae staff yn dal i fod o dan bwysau annioddefol, ac mae'r safonau'n parhau i fod yn annerbyniol o isel.
Dyna pam y mae fy ngwelliant yn bwysig. Mae'n galw am adolygiad cynhwysfawr o lywodraethiant, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Nid oes angen mwy o dincran wedi'i dargedu o gwmpas yr ymylon, mae angen inni wrthsefyll diwylliant sydd wedi normaleiddio methiant, wedi cuddio y tu ôl i fiwrocratiaeth ac wedi cosbi tryloywder. Ac os yw'r Aelodau eisiau enghraifft fyw o'r hyn sydd o'i le gyda GIG Cymru a llywodraethiant yng Nghymru, nid oes angen iddynt edrych yn bellach nag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld ymadawiad sydyn ei brif weithredwr ar ôl prin flwyddyn yn y swydd a honiadau difrifol yn sgil chwythu'r chwiban, yn ymwneud â throseddolrwydd a methiannau llywodraethiant ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yn cael eu diystyru. Felly, gadewch inni ofyn y cwestiwn amlwg: sut y gall y Senedd hon fod â hyder yn llywodraethiant y GIG pan fydd hi'n ymddangos fel pe bai prif weithredwr sy'n codi pryderon am gamymddwyn yn cael eu gwthio allan? Mae hon yn system sy'n trin chwythwyr chwiban fel y broblem, tryloywder fel bygythiad a biwrocratiaeth fel tarian. Nid atebolrwydd yw hyn, ond hunanamddiffyn sefydliadol.
Mae Plaid Cymru yn gofyn i ni weithredu argymhellion ei hadroddiad ei hun. Er fy mod yn cydnabod y gwaith sydd wedi mynd tuag at ei greu, ni ellir gwneud diwygio GIG Cymru yn ymarfer gwaith cartref pleidiol. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw adolygiad annibynnol, system gyfan, un sy'n mynd i'r afael â diwylliannau seilo, y systemau darfodedig a'r realiti, yn 2026, fod rhannau o'n GIG yn dal i ddibynnu ar gofnodion papur a pheiriannau ffacs. Mae hynny'n hollol amhriodol.
Mae rhai Aelodau yn dadlau yn y Siambr hon mai ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r ateb. Rwy'n anghytuno'n sylfaenol. Byddai ymchwiliad cyhoeddus yn cymryd blynyddoedd, yn costio miliynau o bunnoedd ac yn amsugno llawer iawn o amser rheoli a hefyd yn dweud wrthym yr hyn a wyddom eisoes, fod yr arweinyddiaeth wedi bod yn wan, llywodraethiant yn dameidiog, data'n annibynadwy ac atebolrwydd yn aneglur. Er y byddai cyfreithwyr ac ymgynghorwyr yn elwa o ymchwiliad cyhoeddus, ni fyddai cleifion.
Nid yw GIG Cymru yn dioddef o ddiffyg diagnosis, mae'n dioddef o ddiffyg canlyniadau. Yr hyn sydd angen inni ei weld yma yw system yng Nghymru lle mae Gweinidogion ac uwch swyddogion gweithredol yn wynebu canlyniadau go iawn am fethiant, lle mae'r strwythurau rheoli chwyddedig yn cael eu lleihau fel y gellir ailgyfeirio adnoddau i'r rheng flaen, mwy o feddygon, nyrsys a pharafeddygon, ac mae angen inni gynyddu tryloywder fel ei fod yn ddiofyn ar draws y GIG, nid yn rhywbeth sy'n cael ei lusgo allan drwy ryddhau gwybodaeth yn answyddogol, ceisiadau rhyddid gwybodaeth a chwythwyr chwiban yn peryglu eu gyrfaoedd eu hunain i geisio gwella'r GIG yma yng Nghymru. Ddirprwy—[Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad, Gareth, iawn.
Thank you very much. You're outlining there what the benefits are to what a public inquiry would achieve, because those people who would give evidence would be swearing on oath for some of those failures, and then the recommendations of a public inquiry would be there to hold people's feet to the fire, and if they were not fulfilling those recommendations, then they would be indeed held accountable. That's why the Welsh Conservatives—. And when you were health spokesperson for the Welsh Conservatives, that's the policy that we were looking to achieve. We agree that this systematic failure needs to stop and individuals' feet need to be put to the fire, so that's the very reason that we've sworn to that policy.
Diolch yn fawr. Rydych chi'n amlinellu yno beth yw'r manteision i'r hyn y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn ei gyflawni, oherwydd byddai'r bobl a fyddai'n rhoi tystiolaeth yn tyngu llw am rai o'r methiannau hynny, ac yna byddai argymhellion ymchwiliad cyhoeddus yno i gynnal y pwysau ar bobl, ac os na fyddent yn cyflawni'r argymhellion hynny, byddent yn sicr yn cael eu dwyn i gyfrif. Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig—. A phan oeddech chi'n llefarydd iechyd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dyna'r polisi yr oeddem yn awyddus i'w gyflawni. Rydym yn cytuno bod angen rhoi diwedd ar y methiant systematig hwn a bod angen cynnal y pwysau ar unigolion, felly dyna'r union reswm pam ein bod wedi ymrwymo i'r polisi hwnnw.
Well, the reason is I've had my shackles released from me now, so I can say what I think a little bit more. Actually, a public inquiry would take years and years to come to a conclusion while patients and people were suffering, and we already know what the problems are in Betsi. We discuss them in this Chamber almost every single week in one form or another. I do not think a public inquiry is going to tell us anything more than we already know, other than to waste taxpayers' money.
Deputy Presiding Officer, I think the people of Wales are tired of being told that things are improving while they wait on trolleys in A&E departments in corridors. They're tired of Welsh Government press releases that talk up progress while lived experience tells a very different story, and they're tired of a Government that manages decline rather than delivering real changes for the people of Wales. If we're serious about restoring trust in the NHS, we must stop the excuses and end the culture of cover-up, including what we've seen currently across the NHS, and this is why I urge Members to support my amendment today.
Wel, y rheswm yw fy mod wedi cael fy hualau wedi'u tynnu oddi wrthyf nawr, felly gallaf ddweud ychydig bach mwy o'r hyn rwy'n ei feddwl. Mewn gwirionedd, byddai ymchwiliad cyhoeddus yn cymryd blynyddoedd i ddod i gasgliad tra bod cleifion a phobl yn dioddef, ac rydym eisoes yn gwybod beth yw'r problemau ym mwrdd Betsi. Rydym yn eu trafod yn y Siambr hon bron bob wythnos ar ryw ffurf neu'i gilydd. Nid wyf yn credu bod ymchwiliad cyhoeddus yn mynd i ddweud unrhyw beth yn fwy wrthym na'r hyn a wyddom eisoes, heblaw gwastraffu arian trethdalwyr.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod pobl Cymru wedi blino clywed bod pethau'n gwella wrth iddynt aros ar drolïau yng nghoridorau adrannau damweiniau ac achosion brys. Maent wedi blino ar ddatganiadau i'r wasg gan Lywodraeth Cymru sy'n sôn am gynnydd tra bod profiad bywyd yn adrodd stori wahanol iawn, ac maent wedi blino ar Lywodraeth sy'n rheoli dirywiad yn hytrach na chyflawni newidiadau gwirioneddol i bobl Cymru. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag adfer ymddiriedaeth yn y GIG, rhaid inni roi'r gorau i'r esgusodion a rhoi diwedd ar y diwylliant o guddio, gan gynnwys yr hyn a welsom yn gyfredol ar draws y GIG, a dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant heddiw.
Mae'r ddadl hon, wrth gwrs, yn ymwneud â mwy na ffigurau ar ddarn o bapur, mae hi'n ymwneud â phobl, pobl go iawn, nifer ohonyn nhw sy'n byw mewn poen, pobl sydd efallai'n methu â gweithio yn sgil hynny, a phobl sydd yn sicr wedi gweld eu bywydau'n cael eu rhoi ar stop oherwydd system sydd ddim yn eu trin nhw fel y dylai wneud. Rŷn ni'n clywed dro ar ôl tro am y llanast llwyr y mae'r Llywodraeth Lafur wedi ei wneud wrth redeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond does unman lle mae canlyniadau'r gamreolaeth honno yn fwy amlwg nag ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fy mwrdd iechyd lleol i a bwrdd iechyd pobl gogledd Cymru.
Mi gawsom ni addewidion mawr y llynedd y byddai'r rhestrau aros hiraf wedi'u dileu erbyn diwedd 2025. Addewid uchelgeisiol, canmoladwy, ond breuddwyd ffŵl arall oedd honno wrth gwrs. Dŷn ni ddim wedi gweld y newid rôn ni am ei weld, ac yn sicr ddim y gwelliant oedd pobl yn dymuno ei weld hefyd. Beth yw'r sefyllfa heddiw? Wel, mae miloedd yn dal i aros dros ddwy flynedd am driniaeth, a mae hynny yn warth, a dweud y gwir. O gymharu â Lloegr, mae cyfradd yr arosiadau hiraf yng Nghymru tua 2,400 y cant yn uwch, tystiolaeth glir o flynyddoedd o dangyflawni a chynllunio diffygiol. Felly, mae'r cwestiwn yn parhau, onid yw e? Pam bod cymaint o fwlch rhwng yr hyn sy'n cael ei addo i ni a'r hyn sy'n cael ei gyflawni? Pam fod trigolion gogledd Cymru yn cael eu gadael dro ar ôl tro gydag addewidion gwag? Mae pobl wedi blino ar glywed bod pethau ar y gweill; maen nhw eisiau gweld canlyniadau.
Enghraifft glir o'r broblem i fi yw datblygiad hwb orthopedeg Llandudno. Mae gan y prosiect yma botensial i drawsnewid gwasanaethau orthopedeg yng ngogledd Cymru. Rŷn ni ym Mhlaid Cymru wedi cefnogi'r syniad o hybiau triniaeth arbenigol ers amser maith, oherwydd mewn mannau eraill rŷn ni wedi gweld eu bod nhw wedi bod yn allweddol i leihau'r rhestrau aros. Ond mae'n rhaid i ddatblygiadau o'r fath, wrth gwrs, gymryd ystyriaeth lawn o farn arbenigwyr clinigol. Nhw sy'n deall sut i gynllunio gwasanaeth sy'n gweithio yn ymarferol. Heb eu harweiniad nhw, mae yna berygl i brosiectau fethu ar lawr gwlad. Yn anffodus, mae'n ymddangos mai dyna sydd wedi digwydd yn achos Llandudno.
Ar ôl siarad gyda phobl oedd yn agos i'r prosiect yma, dwi ddim yn hollol hyderus bod mewnbwn clinigol digonol wedi bod wrth lunio'r achos busnes. Er gwaethaf eu rhybuddion nhw am ddiffygion staffio a chapasiti, mae'n ymddangos nad oedd y bwrdd yn ddigon ymatebol i'r pryderon yma. Felly, mi fyddwn i yn gwerthfawrogi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ymateb i'r ddadl yma os ydy e wedi clywed pryderon tebyg wedi'u mynegi, ac os yw hyn wir wrth wraidd y gohiriadau rŷn ni wedi'u gweld wrth agor yr hwb. O ganlyniad, mae'r prosiect wedi ei ohirio dro ar ôl tro. Hyd yn oed pan fydd y hwb yn agor eleni, mae yna bryderon difrifol na fydd digon o staff i'w redeg e'n llawn. Prosiect yw hwn, wrth gwrs, sydd werth bron £30 miliwn, ond mewn peryg o fethu oherwydd camgymeriadau cynllunio sylfaenol.
Mae e yn codi cwestiynau pwysig, onid yw e? Pam na sicrhawyd arweinyddiaeth glinigol o'r cychwyn? Pwy wnaeth y penderfyniadau yma? A phwy fydd yn atebol os na chaiff yr hyn a addawyd ei wireddu? Nid codi adeilad newydd yw'r nod fan hyn, wrth gwrs, ond sicrhau triniaethau cynt, sicrhau bod yna lai o aros, a sicrhau bod gwell gofal i gleifion.
Heb y bobl a'r adnoddau cywir yn eu lle, yna mae hynny i gyd yn y fantol. Mae gan hwb Llandudno botensial gwirioneddol, fel dwi'n dweud, ond allwn ni ddim caniatáu iddo fe gael ei wastraffu oherwydd y diffyg cynllunio a diffyg gwrando ar arbenigedd glinigol. Mae angen atebolrwydd clir ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Yn y pen draw, wrth gwrs, rŷn ni i gyd yn gwybod mai'r Llywodraeth Lafur sydd â throsolwg dros y bwrdd. Mae angen sicrwydd, felly, na fydd yr un camgymeriadau yn cael eu gwneud eto.
Mae pobl gogledd Cymru wedi aros yn rhy hir yn barod, ac mae hynny'n llythrennol, wrth gwrs—aros pan mae'n dod i gael eu triniaethau. Maen nhw'n haeddu gwell na hynny. Maen nhw'n haeddu system iechyd sy'n gweithio iddyn nhw, nid un sy'n eu gadael nhw i lawr dro ar ôl tro. Dyna'r neges dwi am i'r Llywodraeth ei chlywed heddiw, a dyna'r neges, gobeithio, dwi eisiau i'r Senedd ei hanfon drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma.
This debate, of course, is about more than numbers on a piece of paper, it's about people, real people, a number of them living in pain, people who maybe cannot work because of that, and people who have certainly seen their lives put on hold because of a system that doesn't treat them the way that it should. We hear time and again about the shambles that the Labour Government is making of the task of running the NHS in Wales, but there is nowhere where the results of that mismanagement are more evident than in Betsi Cadwaladr health board, my local health board and the health board of the people of north Wales.
We heard major pledges last year that the longest waiting lists would be eliminated by the end of 2025. An ambitious pledge, a praiseworthy pledge, but it was just another pipe dream, of course. We haven't seen the change that we wanted to see, and certainly not the improvement that people wanted to see as well. And what is the situation today? Well, thousands are still waiting over two years for treatment, and that is a disgrace. Compared to England, the rate of the longest stays in Wales is around 2,400 per cent higher, clear evidence of years of underinvestment and poor planning. So, the question remains, doesn't it? Why is there such a gap between what is promised to us and what is delivered? Why are the residents of north Wales repeatedly left time and again with what feel like empty pledges? People are tired of hearing that things are on track; they want to see results.
A clear example of the problem for me is the development of the orthopaedic hub in Llandudno. This project has the potential to transform orthopaedic services in north Wales. We in Plaid Cymru have supported the idea of specialist treatment hubs for a long time, because in other places, we've seen them be a vital part of reducing waiting lists. But developments of this kind, of course, must take full account of the opinions of clinical experts. They are the ones who understand how to plan services that work in practice. Without their guidance, there is a risk of projects failing on the ground. Unfortunately, it appears that is what has happened in the case of Llandudno.
Having spoken to people close to this project, I'm not confident that clinical leaders had meaningful formal input in drawing up the original business case. Despite the concerns over staffing capacity, it appears that the board wasn't responsive enough to those concerns. So, I'd appreciate hearing from the Cabinet Secretary in his response to this debate if he has heard these concerns expressed and whether this is at the root of the delays in terms of opening the hub. As a result, the project has been delayed time and time again. Even when this hub will be opened, there are concerns there won't be enough staff to run it properly. This is a £30 million project, of course, but it's at risk of failure due to fundamental planning errors.
This does raise fundamental questions. Why was clinical leadership not secured from the outset? Who made these decisions, and who will be liable if what was promised is not delivered? Erecting a new building is not the aim here, of course, but ensuring quicker treatments, ensuring that there's less waiting, and better care for patients.
Without the right people and resources in place, then it's all in the balance. The Llandudno hub has real potential, as I said, but we can't allow it to be wasted because of a lack of planning and a lack of listening to clinical expertise. We need clear accountability for Betsi Cadwaladr. Ultimately, we all know that the Labour Government has oversight of the board. We need assurances, therefore, that the same mistakes will not be made again.
The people of north Wales have already waited too long—quite literally, of course, when it comes to getting treatments. They deserve better than that. They deserve a health system that works for them, not one that lets them down time and again. That is the message that I want the Government to hear today, and that is the message that I want the Senedd to send by supporting Plaid Cymru's motion this afternoon.
I am pleased that we have just passed a Welsh Labour budget that invests in our front-line services in local government and in health. The increased NHS funding delivered by the 1997-2010 Labour Government, through the NHS plan, alongside the success of the 18-week referral to treatment initiative, led to very significant reductions in NHS waiting times. However, stagnation in NHS funding since 2010 has resulted in those gains being lost.
If UK spending per person had matched the average across the EU14 during that decade, total UK spending would have been around £40 billion higher each year. We have increasing need, a growing elderly population, new medicines that need funding. Thanks to investment from the new UK Labour Government, waiting lists are now coming down. People regularly tell me about operations being brought forward, about pain-relief clinics, physiotherapy and national exercise referrals, schemes that are making a real difference to their lives. I know that more needs to be done, but there is positive movement, and I want to make sure that we give people hope as well, for those who are on waiting lists, that hopefully their appointment will be brought forward.
More intermediate care beds are being provided by the health board, working in partnership with the Welsh Government and local councils, such as the one in Marleyfield House. I'm looking forward to the new orthopaedic hub opening in Llandudno soon, as Llyr mentioned, and I was pleased to hear about the new 56-bed care facility that has recently opened in Flint. The recent planning permission for the Royal Alexandra Hospital in Rhyl is also very positive news and an important step forward. The plans include a minor injuries unit, which will relieve pressure on Ysbyty Glan Clwyd, as well as intermediate care beds, which offer step-up and step-down care. This flexible short-term care will help bridge gaps between health and social care and is extremely valuable. I was pleased to hear the Cabinet Secretary—[Interruption.] Not from him. No, thank you. I was pleased to hear the Cabinet Secretary for finance mention this morning investment in the Royal Alexandra Hospital in the upcoming budget, when he was talking about investment in north Wales. So, fingers crossed that that is actually happening and that we'll have an announcement soon.
Betsi is one of the largest employers in north Wales, employing around 19,000 people. Sometimes, I feel we need to stop talking the health board down, because it makes recruitment really difficult. I heard what Llyr said about the orthopaedic unit, and we need to make sure that we've got enough people who want to come and work in our beautiful north Wales. It's a lovely place to live, work, bring up your family. So, we need to talk it up.
On improving performance and governance, I was contacted a couple of years ago by a retired NHS manager who wanted to help. She told me that, in her experience, basic systems and procedures had not fully returned since COVID. She offered to lend her expertise and spoke about the importance of management and accountability through service-led performance reviews, effective commissioning and clear expectations for individual managers across services and departments. These systems already exist, and need to be used properly again. She said that managers also require training, supervision and ongoing support. It needs to be there for them. It's the only way to deliver the reform and transformation needed to turn the situation around.
She also suggested a number of practical ways to improve patients' experiences in A&E—small systemic changes that could make an extremely stressful time more comfortable for them. These include improved intercom systems so people can clearly hear when they are called for assessment or treatment, more comfortable seating, pressure relief pads for elderly patients, better access to toilets, washing facilities, and guaranteed availability of food and drink while they're waiting. These are basic human needs and should always be met, particularly when people face long waits. There also need to be better patient records for continuation of care, for repeat admissions and for their continued pathways. I've heard about that, as well, being an issue.
Such changes would significantly improve the patient experience and would be immediately noticeable. This, in turn, would create the headroom needed to tackle the bigger challenges across the whole patient journey, from primary care through hospital treatment and back into social care into the community. She emphasised that healthcare should draw on existing management and strategic expertise within universities and local businesses as well, rather than relying on expensive external consultants, which means training and empowering managers to oversee the whole system, resolve problems across departments and ensure that patients move smoothly through care.
In conclusion, improving our health service is not about quick fixes or talking it down, but about sustained investment, strong leadership and using the expertise we already have by supporting our workforce, holding systems to account, and making practical changes that improve the patient experience now. We can rebuild confidence and deliver that high-quality, compassionate care people across north Wales deserve. This is the responsibility of Government, health boards, and all of us in this Chamber, and it's one I'm committed to seeing through. Thank you.
Rwy'n falch ein bod newydd basio cyllideb Llafur Cymru sy'n buddsoddi yn ein gwasanaethau rheng flaen mewn llywodraeth leol ac mewn iechyd. Arweiniodd y cynnydd yn y cyllid GIG a ddarparwyd gan Lywodraeth Lafur 1997-2010, drwy gynllun y GIG, ochr yn ochr â llwyddiant y cynllun 18 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth, at ostyngiadau sylweddol iawn yn amseroedd aros y GIG. Fodd bynnag, mae diffyg cynnydd i gyllid y GIG ers 2010 wedi arwain at golli'r enillion hynny.
Pe bai gwariant y pen y DU wedi cyfateb i'r cyfartaledd ar draws yr UE14 yn ystod y degawd hwnnw, byddai cyfanswm gwariant y DU wedi bod tua £40 biliwn yn uwch bob blwyddyn. Mae gennym angen cynyddol, poblogaeth oedrannus sy'n tyfu, meddyginiaethau newydd sydd angen cyllid. Diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur newydd y DU, mae rhestrau aros yn gostwng bellach. Mae pobl yn dweud wrthyf yn rheolaidd am lawdriniaethau'n cael eu cynnig yn gynt, am glinigau lleddfu poen, ffisiotherapi ac atgyfeiriadau i'r rhaglen ymarfer genedlaethol, cynlluniau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau. Rwy'n gwybod bod angen gwneud mwy, ond mae yna symud cadarnhaol, ac rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn rhoi gobaith i bobl hefyd, i'r rhai sydd ar restrau aros, y gobaith y bydd eu hapwyntiad yn cael ei gynnig yn gynt.
Mae mwy o welyau gofal canolraddol yn cael eu darparu gan y bwrdd iechyd, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol, fel yn Nhŷ Marleyfield. Rwy'n edrych ymlaen at agor yr hyb orthopedig newydd yn Llandudno yn fuan, fel y soniodd Llyr, ac roeddwn yn falch o glywed am y cyfleuster gofal 56 gwely newydd sydd wedi agor yn y Fflint yn ddiweddar. Mae'r caniatâd cynllunio diweddar ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl hefyd yn newyddion cadarnhaol iawn ac yn gam pwysig ymlaen. Mae'r cynlluniau'n cynnwys uned mân anafiadau, a fydd yn lleddfu'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd, yn ogystal â gwelyau gofal canolradd, sy'n cynnig gofal cam-i-fyny a cham-i-lawr. Bydd y gofal tymor byr hyblyg hwn yn helpu i bontio bylchau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ac mae'n hynod werthfawr. Roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Nid ganddo ef. Na, dim diolch. Roeddwn i'n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn sôn am fuddsoddiad yn Ysbyty Brenhinol Alexandra y bore yma yn y gyllideb sydd ar y ffordd, pan oedd yn sôn am fuddsoddi yng ngogledd Cymru. Felly, croeswn ein bysedd fod hynny'n digwydd mewn gwirionedd ac y cawn gyhoeddiad cyn bo hir.
Betsi Cadwaladr yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng ngogledd Cymru, ac mae'n cyflogi tua 19,000 o bobl. Weithiau, rwy'n teimlo bod angen i ni roi'r gorau i ladd ar y bwrdd iechyd oherwydd mae'n gwneud recriwtio'n anodd iawn. Clywais yr hyn a ddywedodd Llyr am yr uned orthopedig, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym ddigon o bobl sydd eisiau dod i weithio yn harddwch gogledd Cymru. Mae'n lle hyfryd i fyw, gweithio, magu eich teulu. Felly, mae angen inni ei ganmol.
Ar wella perfformiad a llywodraethiant, ychydig flynyddoedd yn ôl cysylltodd cyn-reolwr GIG wedi ymddeol â mi i ddweud ei bod eisiau helpu. Dywedodd wrthyf, yn ei phrofiad hi, nad oedd systemau a gweithdrefnau sylfaenol wedi dychwelyd yn llawn ers COVID. Cynigiodd ei harbenigedd a siaradodd am bwysigrwydd rheoli ac atebolrwydd drwy adolygiadau perfformiad dan arweiniad y gwasanaeth, comisiynu effeithiol a disgwyliadau clir ar gyfer rheolwyr unigol ar draws gwasanaethau ac adrannau. Mae'r systemau hyn eisoes yn bodoli, ac mae angen eu defnyddio'n briodol eto. Dywedodd fod angen hyfforddiant, goruchwyliaeth a chefnogaeth barhaus ar reolwyr hefyd. Mae angen iddo fod yno iddynt. Dyna'r unig ffordd i gyflawni'r diwygiadau a'r trawsnewid sydd eu hangen i wella'r sefyllfa.
Awgrymodd nifer o ffyrdd ymarferol hefyd o wella profiadau cleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys—newidiadau systemig bach a allai wneud adeg o straen ddirdynnol yn fwy cyfforddus iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys systemau intercom gwell fel y gall pobl glywed yn glir pan gânt eu galw am asesiad neu driniaeth, seddi mwy cyfforddus, padiau lleddfu pwysau ar gyfer cleifion oedrannus, gwell mynediad i doiledau, cyfleusterau golchi, a sicrwydd fod bwyd a diod ar gael tra byddant yn aros. Mae'r rhain yn anghenion dynol sylfaenol a dylid eu diwallu bob amser, yn enwedig pan fydd pobl yn wynebu amseroedd aros hir. Hefyd, mae angen gwell cofnodion cleifion ar gyfer dilyniant mewn gofal, ar gyfer aildderbyniadau i'r ysbyty ac ar gyfer eu llwybrau parhaus. Clywais fod hynny hefyd yn fater sy'n codi.
Byddai newidiadau o'r fath yn gwella profiad y claf yn sylweddol a byddent yn amlwg ar unwaith. Byddai hyn, yn ei dro, yn creu'r lle i anadlu sydd ei angen i fynd i'r afael â'r heriau mwy ar draws taith gyfan y claf, o ofal sylfaenol drwy driniaeth ysbyty ac yn ôl i ofal cymdeithasol i mewn i'r gymuned. Pwysleisiodd y dylai gofal iechyd bwyso ar arbenigedd rheoli ac arbenigedd strategol sy'n bodoli'n barod mewn prifysgolion a busnesau lleol hefyd, yn hytrach na dibynnu ar ymgynghorwyr allanol costus, sy'n golygu hyfforddi a grymuso rheolwyr i oruchwylio'r system gyfan, datrys problemau ar draws adrannau a sicrhau bod cleifion yn symud yn esmwyth drwy ofal.
I gloi, nid cynnig atebion cyflym neu ladd arno yw'r ffordd i wella ein gwasanaeth iechyd, ond yn hytrach, sicrhau buddsoddiad parhaus, arweinyddiaeth gref a defnyddio'r arbenigedd sydd gennym eisoes drwy gefnogi ein gweithlu, dwyn systemau i gyfrif, a gwneud newidiadau ymarferol sy'n gwella profiad y claf nawr. Gallwn ailadeiladu hyder a darparu'r gofal tosturiol o ansawdd uchel y mae pobl ledled gogledd Cymru yn ei haeddu. Mae hyn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth, byrddau iechyd, a phob un ohonom yn y Siambr hon, ac mae'n un yr wyf i wedi ymrwymo iddo. Diolch.
Mae'r problemau rydyn ni wedi clywed amdanynt yn barod heddiw ym mwrdd iechyd Betsi yn ficrocosm, efallai, o rai heriau sy’n digwydd dros y wlad. Mae pob un o'n byrddau iechyd yn wynebu rhyw fath o ymyrraeth wedi’i dargedu. Yn anffodus, mae safonau wedi cwympo mewn sawl safle, er gwaetha'r gwaith caled mae staff rheng flaen yn ei wneud.
Yn ystod y misoedd diweddar, mae ymyrraeth wedi cael ei dwysáu ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, oherwydd sefyllfa gyllidol sy'n gwaethygu, ac oherwydd pryderon am ofal brys. Mae'r diffyg ariannol o £18 miliwn wrth gwrs yn destun pryder. Mae hyn wedi'i fflagio, mae'n debyg, ers amser. O edrych ar nodiadau'r cyfarfod bwrdd ym mis Ionawr, dydy'r bwrdd iechyd dal heb dderbyn fframwaith sy'n gosod mas mesuriadau er mwyn gwella'r sefyllfa, a gwrthdroi'r escalation sydd wedi digwydd o ran ymyrraeth, er i'r bwrdd ofyn i'r Llywodraeth am y fath arweiniad.
The problems that we've heard about already today in the Betsi Cadwaladr health board are a microcosm, perhaps, of some challenges that are emerging across the country. All of our health boards are facing some form of targeted intervention. Unfortunately, standards have fallen in many areas, despite the hard work that front-line staff are doing.
In recent months, intervention has been intensified at the Aneurin Bevan health board due to a deteriorating financial situation and due to concerns about emergency care. The financial deficit of £18 million is of course a cause for concern. This has been flagged up, apparently, for some time. Looking at the minutes of the board meeting held in January, the health board still hasn't accepted a framework that sets out further metrics for improving the situation and reversing the escalation that has occurred in terms of intervention, even though the board has asked the Government for such guidance.
One of the other concerns raised was about emergency care at the health board. This is an area of particular concern for many of us. Over years, locally based services have disappeared, forcing more and more patients to travel longer distances to get to the care they need. [Interruption.] It's a shame that anyone would find this funny. People have to travel that longer distance. When the miners hospital closed in Caerphilly, it was not replaced by a general hospital, but a minor injuries unit at Ystrad Mynach. It was strange, because the road layout—even the road signs—originally implied that there would be an A&E at that hospital, but that never materialised. And now patients from across the Rhymney valley have to travel to the Grange in Cwmbran for emergency care. If you don't have access to a car, that can take hours on public transport.
Emergency services at the Grange regularly make headlines for all the wrong reasons. Patients are having to face unsafe corridor care, long waits for urgent treatment, and all the pain and anxiety that that entails. This is not the fault of front-line staff, but they, too, like patients, are suffering. An FOI we submitted recently exposed how badly the stresses and strains of the system are affecting the workforce. In 2025, 279,889 full-time equivalent days were lost in Aneurin Bevan due to staff sickness. That is the equivalent of 766 years of lost time. When it comes to fixing these problems, we know that radicalism isn't simply an option, but an obligation, and we are determined to rise to this challenge to restore the NHS to its rightful place as the pride of our nation.
Roedd un o'r pryderon eraill a godwyd yn ymwneud â gofal brys yn y bwrdd iechyd. Mae hwn yn faes sy'n peri pryder arbennig i lawer ohonom. Dros flynyddoedd, mae gwasanaethau lleol wedi diflannu, gan orfodi mwy a mwy o gleifion i deithio pellteroedd hirach i gyrraedd y gofal sydd ei angen arnynt. [Torri ar draws.] Mae'n drueni y byddai unrhyw un yn gweld hyn yn ddoniol. Rhaid i bobl deithio'r pellter hirach hwnnw. Pan gaeodd ysbyty'r glowyr yng Nghaerffili, nid ysbyty cyffredinol a agorwyd yn ei le, ond uned mân anafiadau yn Ystrad Mynach. Roedd yn rhyfedd, oherwydd roedd y cynllun ffordd—hyd yn oed yr arwyddion ffordd—yn awgrymu'n wreiddiol y byddai uned damweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty hwnnw, ond ni wireddwyd hynny erioed. A nawr, rhaid i gleifion o bob rhan o gwm Rhymni deithio i'r Faenor yng Nghwmbrân i gael gofal brys. Os nad oes gennych gar at eich defnydd, gall hynny gymryd oriau ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae gwasanaethau brys yn y Faenor yn cyrraedd y penawdau yn rheolaidd am yr holl resymau anghywir. Mae cleifion yn gorfod wynebu gofal anniogel mewn coridorau, amseroedd aros hir am driniaeth frys, a'r holl boen a phryder y mae hynny'n ei achosi. Nid bai staff rheng flaen yw hyn, ond maent hwy hefyd, fel y cleifion, yn dioddef. Mae cais rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd gennym yn ddiweddar yn datgelu cymaint y mae'r pwysau a'r straen yn y system yn effeithio ar y gweithlu. Yn 2025, collwyd 279,889 o ddiwrnodau cyfwerth ag amser llawn yn Aneurin Bevan oherwydd salwch staff. Mae hynny'n cyfateb i 766 mlynedd o amser a gollwyd. Pan ddaw'n fater o ddatrys y problemau hyn, gwyddom nad opsiwn yn unig yw gweithredu radical, ond rheidrwydd, ac rydym yn benderfynol o ymateb i'r her hon i adfer y GIG i'w le dilys fel testun balchder ein cenedl.
Wrth gwrs, bydd pawb yn y Siambr hon eisiau i'r sefyllfa wella. Rwy'n deall hynny. Rwy'n cydnabod hynny. Ond pam mae cymaint o broblemau wedi digwydd ers cymaint o amser ac rŷn ni'n parhau i weld y sefyllfa yn gwaethygu, nid yn gwella, mae'n rhaid inni ffeindio ffordd o roi gobaith i'r cleifion, wrth gwrs, ond hefyd i'r staff rheng flaen sydd yn gweithio mor galed i wella bywydau pobl pan fyddan nhw ei angen fwyaf.
Of course, everyone in this Chamber will want the situation to improve. I understand that. I recognise that. But when so many problems have emerged over such a long time and we continue to see the situation deteriorating, not improving, we have to find a way of giving hope to patients, but also to the front-line staff who work so hard to improve the lives of people when they need it most.
I'm pleased to be taking part in this debate this afternoon. I'm pleased to have the opportunity to argue for our amendments, the Welsh Conservative amendments, firstly seeking a mea culpa from the Welsh Government and an apology to my constituents. They know better than anyone the shortcomings of having a health board in crisis, with the worst waiting times in the UK. The health board has been in and out of special measures and enhanced monitoring for the best part of 11 years, and the Welsh Government still haven't got to grips with the problems plaguing it.
The Welsh Conservatives have set out how we would fix these problems, starting with the declaration of a health emergency. Labour voted down our motion to do this last year. But local authorities in north Wales agree with us. Just two weeks ago, Conwy County Borough Council became the second local authority in north Wales to declare a health emergency, after Denbighshire County Council did so in November. And just to put some political reality into that, there's a high portion of Labour councillors who voted for that, and Denbighshire County Council is Labour run, so I would certainly advise the Cabinet Secretary that it's your own party making these sentiments, so it's quite telling in that regard. So, north Wales councillors can see on the ground that the health service is floundering and needs drastic action to fix it, but Labour politicians in Cardiff Bay are happy to turn a blind eye because of the optics of acknowledging that they are responsible for the problems in Betsi. They have failed to turn it around in three years since it was returned to special measures.
Bed capacity could have been alleviated years ago by the Welsh Government if they had built the new hospital on the Royal Alexandra site in Rhyl. But after more than 10 years of dragging their feet, we have a repackaged deal that is vastly scaled down from what residents were originally offered, and it hasn't even started construction yet. I heard the Member for North Wales boasting about this earlier on in her contribution, but with no guarantees that this would be delivered in 2026. Like I say, we haven't even had a spade in the ground yet, and my constituents are quite rightly frustrated. There's quite a strong possibility, while Labour's vote share dropped by 48.5 per cent in Leeswood, in Flintshire, in a seat that you previously held—[Interruption.] So, I would be highlighting those political realities, and I'm very much looking forward to the fate that your party will have, on this track record, in Denbighshire in the next few months. 'Bring it on', I say.
The Audit Wales report also tells a damning story—things we mostly knew: medically fit patients occupying beds; eye-watering overspends; unstable leadership structures; failures in delivery, amongst many other concerns. Emergency department performance against the four-hour target fell from August 2024 to August 2025. We've seen cancer performance drop in the past 18 months, and waiting times remain the longest in Wales. So, Betsi is still not progressing as it should, despite being in special measures, and there's a long road to go.
So, in closing, I'd like to reiterate the Welsh Conservative plan to declare a health emergency, surge bed capacity, establish surgical hubs to clear the backlog, build the north Denbighshire community hospital, and actually mean it, and initiate an inquiry into the failings at Betsi. The Welsh Government have refused to entertain this plan and are, we are left to assume, happy with the snails-pace progress we are seeing. But the most important thing I want to hear from the Cabinet Secretary is an admission that the Welsh Government is responsible for the lack of progress, and an apology to my constituents for the inhuman delays to vital care that they've had to endure for way too long. Thank you very much.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwy'n falch o gael cyfle i ddadlau dros ein gwelliannau, gwelliannau'r Ceidwadwyr Cymreig, gan ofyn yn gyntaf am mea culpa gan Lywodraeth Cymru ac ymddiheuriad i fy etholwyr. Maent yn gwybod yn well na neb am y diffygion o gael bwrdd iechyd mewn argyfwng, gyda'r amseroedd aros gwaethaf yn y DU. Mae'r bwrdd iechyd wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig a monitro estynedig am y rhan fwyaf o 11 mlynedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod heb lwyddo i fynd i'r afael â'r problemau sy'n ei felltithio.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi nodi sut y byddem yn datrys y problemau hyn, gan ddechrau gyda datgan argyfwng iechyd. Pleidleisiodd Llafur yn erbyn ein cynnig i wneud hyn y llynedd. Ond mae awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru yn cytuno â ni. Bythefnos yn ôl, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yr ail awdurdod lleol yng ngogledd Cymru i ddatgan argyfwng iechyd, ar ôl i Gyngor Sir Ddinbych wneud hynny ym mis Tachwedd. Ac i ddod â rhywfaint o realiti gwleidyddol i mewn i hynny, fe bleidleisiodd cyfran uchel o gynghorwyr Llafur dros hynny, ac mae Cyngor Sir Ddinbych yn cael ei redeg gan Lafur, felly rwy'n sicr yn nodi wrth Ysgrifennydd y Cabinet mai eich plaid chi eich hun sy'n teimlo fel hyn, felly mae'n siarad cyfrolau yn hynny o beth. Felly, gall cynghorwyr gogledd Cymru weld ar lawr gwlad fod y gwasanaeth iechyd yn dihoeni ac mae angen camau llym i'w drwsio, ond mae gwleidyddion Llafur ym Mae Caerdydd yn hapus i droi llygad dall rhag cael eu gweld yn cydnabod mai nhw sy'n gyfrifol am y problemau ym mwrdd Betsi. Maent wedi methu gwella'r sefyllfa yn y tair blynedd ers iddo gael ei ddychwelyd i fesurau arbennig.
Gallai capasiti gwelyau fod wedi cael ei liniaru flynyddoedd yn ôl gan Lywodraeth Cymru pe baent wedi adeiladu'r ysbyty newydd ar safle Royal Alexandra yn y Rhyl. Ond ar ôl mwy na 10 mlynedd o lusgo traed, mae gennym gynllun wedi'i ailbecynnu sydd ar raddfa gryn dipyn yn llai na'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol i drigolion, ac nid yw'r gwaith adeiladu wedi dechrau eto hyd yn oed. Clywais yr Aelod dros Ogledd Cymru yn brolio am hyn yn gynharach yn ei chyfraniad, ond heb unrhyw sicrwydd y byddai'n cael ei gyflawni yn 2026. Fel y dywedais, ni chafwyd rhaw yn y ddaear eto, ac mae fy etholwyr yn hollol iawn i deimlo'n rhwystredig. Mae posibilrwydd eithaf cryf, tra bod cyfran y bleidlais Lafur wedi gostwng 48.5 y cant yng Nghoed-llai, yn sir y Fflint, mewn sedd a ddaliwyd gennych chi o'r blaen—[Torri ar draws.] Felly, gyda'r hanes hwn o gyflawniad, rwy'n tynnu sylw at y realiti gwleidyddol, ac yn edrych ymlaen yn fawr at dynged eich plaid yn sir Ddinbych yn y misoedd nesaf. 'Brysied y dydd,' meddaf i.
Mae adroddiad Archwilio Cymru hefyd yn adrodd stori ddamniol—pethau y gwyddem amdanynt yn bennaf: gwelyau mewn defnydd gan gleifion ffit yn feddygol; gorwariant sy'n tynnu dŵr i'r llygaid; strwythurau arweinyddiaeth ansefydlog; methiant i gyflawni, ymhlith llawer o bryderon eraill. Gostyngodd perfformiad yr adran achosion brys yn erbyn y targed pedair awr rhwng mis Awst 2024 a mis Awst 2025. Gwelsom berfformiad ar ganser yn gostwng yn ystod y 18 mis diwethaf, ac mae amseroedd aros yn parhau i fod yn hirach nag unman arall yng Nghymru. Felly, mae Betsi Cadwaladr yn dal i fethu symud ymlaen fel y dylai, er ei fod mewn mesurau arbennig, ac mae ffordd hir i fynd.
Felly, i gloi, hoffwn ailadrodd cynllun y Ceidwadwyr Cymreig i ddatgan argyfwng iechyd, sicrhau cynnydd mawr i gapasiti gwelyau, sefydlu hybiau llawfeddygol i glirio'r ôl-groniad, adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych, a golygu hynny mewn gwirionedd, a dechrau ymchwiliad i'r methiannau yn Betsi Cadwaladr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ystyried y cynllun hwn a rhaid inni dybio eu bod yn hapus ynghylch y cynnydd malwennaidd a welwn. Ond y peth pwysicaf yr hoffwn ei glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet yw cyfaddefiad mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd, ac ymddiheuriad i fy etholwyr am yr oedi annynol i ofal hanfodol y maent wedi gorfod ei ddioddef am lawer gormod o amser. Diolch yn fawr.
[Inaudible.]
[Anghlywadwy.]
I'll take a point of order at the end of the debate, okay? Rhun ap Iorwerth.
Fe gymeraf y pwynt o drefn ar ddiwedd y ddadl, iawn? Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. O'r 12 mlynedd a hanner dwi wedi cynrychioli Ynys Môn yn fan hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod mewn rhyw fath o fesurau arbennig mewn wyth mlynedd a hanner o'r rheini. Ac mae'n werth ychwanegu mai dim ond am resymau gwleidyddol neu etholiadol oedd o ddim mewn mesur arbennig am gyfnod hirach na hynny.
Fel mae nifer wedi cyfeirio ato fo'n barod, ac fel dwi'n ei brofi drwy'r gwaith achos mae fy swyddfa i yn parhau i'w dderbyn yn gyson, mae yna effaith go iawn ar bobl, ar deuluoedd pan mae gwasanaeth iechyd yn tanberfformio. Mae pobl yn gorfod, ie, aros yn rhy hir am driniaeth, yn enwedig mewn rhai meysydd arbenigedd. Mae colled gwasanaethau arbenigol yn golygu mwy o deithio am driniaeth. Mae diffyg argaeledd gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn creu problemau neilltuol yn y llefydd hynny. A dŷn ni'n gweld effaith arafwch wrth wneud penderfyniadau, arafwch wrth wneud buddsoddiadau allweddol mewn gwasanaethau ac isadeiledd, fel yr hwb iechyd yng Nghaergybi, rhywbeth dŷn ni wir ei angen, ond lle does yna'n dal ddim achos busnes llawn yn ei le, dros chwe blynedd ar ôl i argyfwng mewn gofal sylfaenol yn y dre ddod i'r amlwg.
Ond y tu hwnt i hynny, dwi'n ofni bod y problemau sy'n bodoli yn Betsi Cadwaladr yn ddyfnach na dim ond safon y gwasanaeth o ddydd i ddydd erbyn hyn. Mae o'n teimlo i fi fel mater o hyder neu, i fod yn fanwl gywir, o ddiffyg hyder ymhlith cleifion ac ymhlith staff, ymhob haen o'r sefydliad, fod pethau am newid am y gorau o dan warchodaeth y Llywodraeth bresennol.
Mae gen i barch gwirioneddol at y staff hynny, a dwi'n gwybod bod hynny'n wir ar bob lefel. Dwi'n gwybod bod yr uwchreolwyr yn awchu i weld cornel yn cael ei throi hefyd. Ond y gwir amdani ydy fod Llafur wedi cael bron i 27 mlynedd i drio creu'r amgylchiadau i greu gwasanaeth safonol, sefydlog, cynaliadwy yn y gogledd, ac maen nhw wedi methu, a dirywio mae'r ddarpariaeth wedi gwneud yn y cyfnod hwnnw.
Ond fel mae'r cynnig heddiw yma yn ei nodi, mae yna ffordd ymlaen dwi'n credu fyddai'n cynnig gobaith o ddyfodol gwell i'r bwrdd iechyd, cyfle i droi cornel go iawn. Wrth gwrs, beth dŷn ni'n chwilio amdano fo ydy, drwy hynny, ganlyniadau gwell i'r cleifion ac i staff yn y byr a'r hirdymor. Mi fyddai cynlluniau Plaid Cymru i sefydlu rhwydwaith o ganolfannau llawfeddygaeth yn mynd i'r afael â rhestrau aros sydd wedi tyfu cymaint yng ngogledd Cymru dros y blynyddoedd. Mi fyddai'n cynlluniau ni i sefydlu rhaglen delefeddygaeth cenedlaethol yn sicrhau bod pobl o gymunedau gwledig ddim yn colli allan ar y gofal gorau dim ond oherwydd ble maen nhw'n digwydd byw. Mi fyddai'r ffordd y gwnawn ni weithredu ar argymhellion ein hadroddiad ni ar system iechyd Cymru yn arwain at wella llywodraethiant, gwella atebolrwydd a gweithio mewn partneriaeth ar draws byrddau iechyd yn y tymor hir. Ond yn fwy na dim, efallai, mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd o ddifri yr angen am arweinyddiaeth wleidyddol go iawn wrth ddwyn ein byrddau iechyd i gyfri—peidio ag osgoi heriau, dim claddu pen yn y tywod, ond cymryd camau gweithredu go iawn pan mae problemau'n codi, nid rhoi cic iddyn nhw lawr y ffordd, fel sydd wedi digwydd yn rhy aml.
Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yma yn bleidlais i gefnogi cyfeiriad newydd i Betsi Cadwaladr a llywodraethiant ein byrddau iechyd ni ar draws Cymru. A dwi'n annog pawb yma i gefnogi'r cynnig yma, a hynny er mwyn pawb sy'n gweithio yn Betsi Cadwaladr ac ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac, wrth gwrs, pawb maen nhw'n eu gwasanaethu.
Thank you, Dirprwy Lywydd. Of the 12 and a half years I've been the representative for Ynys Môn here, the Betsi Cadwaladr University Health Board has been in some kind of special measures in eight and a half of those years. And it's worth adding that only for political or electoral reasons was it not in special measures for even longer than that.
As many have already mentioned, and as I experience through the casework that my office continues to receive regularly, there's a real impact on people, on families, when health services underperform. People, yes, have to wait too long for treatment, particularly in certain areas of expertise. The loss of specialist services means more travel for treatment. The lack of availability of services in rural areas creates particular problems in those areas. And we see the impact of delays in making decisions, in making key investments, such as the health hub in Holyhead, something that we really need, but where a full business case is still not in place, over six years since a crisis in primary care in the town emerged.
But beyond that, I fear that the problems that exist in Betsi Cadwaladr go deeper than just the quality of service provided on a day-to-day basis. It feels to me that it's an issue of confidence or, to be more accurate, a lack of confidence among patients and among staff at all levels of the organisation that things will change for the better under the leadership of the current Government.
I have great respect for those staff, and I know that that's true on all levels. I know that the senior management are desperate to see a corner turned. But the truth of the matter is that Labour has had almost 27 years to try and create the circumstances whereby quality, stable and sustainable services can be provided in north Wales, and they have failed, and the provision has been in decline over that period.
But as today's motion notes, there is a way forward that I believe would provide hope of a better future for the health board, an opportunity to truly turn the corner. Of course, what we're seeking, through that, are better outcomes for patients and staff in the shorter and longer term. Plaid Cymru's idea of creating surgical hubs would actually address the issue of waiting times that have grown so much in north Wales over the years. Our plans to establish a national telemedicine programme would mean that people in rural communities wouldn't miss out on the best care just because of where they happen to live. The way that we will implement recommendations in our own report on the Welsh health system will lead to improvement in governance, accountability and partnership working across health boards in the longer term. But more than anything, perhaps, a Plaid Cymru Government would take seriously the need for political leadership in holding our health boards to account—not evading challenges and putting our heads in the stand, but taking real action when problems arise, not kicking them into the long grass, as has happened far too often.
The Plaid Cymru motion today is a vote to support a new direction for Betsi Cadwaladr and for the governance of our health boards across Wales. I encourage everyone here to support this motion and to do so for the sake of everyone who works in Betsi Cadwaladr and across our health service in Wales, and also, of course, for everyone that they serve.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.
I call on the Cabinet Secretary for Health and Social Care, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau drwy gydnabod ymroddiad pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng ngogledd Cymru. Maen nhw'n gwneud hynny o dan bwysau mawr, ac mae eu gwaith nhw'n haeddu ein diolch ni i gyd. Mae'n bwysig ein bod ni yn cefnogi ymdrechion y miloedd o staff a'r bwrdd yn adeiladol ac ar y cyd wrth iddyn nhw barhau i wneud gwelliannau i wasanaethau ar draws bwrdd iechyd mwyaf Cymru.
Mae'n iawn ein bod ni yn cydnabod y daith y mae'r bwrdd iechyd arni. Rydyn ni yn cydnabod ac yn dathlu'r gwelliannau. Rydyn ni'n cydnabod, yn sicr, ble mae angen mwy o waith, ac rŷn ni'n agored ac yn dryloyw am yr heriau sy'n parhau. Yn groes i lawer o'r cyfraniadau y prynhawn yma, mae'r sefydliad wedi dod yn bell, ond mae'r cynnydd mewn rhai meysydd yn gymysg, ac mewn meysydd eraill mae heriau sylweddol a phwysig yn parhau.
Dair blynedd yn ôl, galwodd Archwilio Cymru am gamau adferol ar unwaith i fynd i'r afael â'r hyn a ddisgrifiodd fel 'dynamig bwrdd camweithredol'. Mae'r camau hynny wedi'u cymryd. Erbyn hyn, mae'r bwrdd sefydlog ar waith, ac mae'r tîm gweithredol wedi'i gryfhau ymhellach, gyda phrif swyddog gweithredu, cyfarwyddwr meddygol gweithredol a chyfarwyddwr y gweithlu newydd. Dair blynedd yn ôl, roedd diffyg cydlyniad ym mhrosesau llywodraethu corfforaethol a gwneud penderfyniadau. Roedd yr asesiad strwythuredig diwethaf gan Archwilio Cymru yn cydnabod y systemau corfforaethol cryfach o sicrwydd, fframweithiau risg a pherfformiad cliriach a chraffu mwy cydlynol gan y bwrdd.
Mae llywodraethu ariannol wedi gwella drwy gryfhau rheolaethau mewnol a phrosesau archwilio gwell. Cyhoeddodd y bwrdd ymateb am y gwersi a ddysgwyd o faterion cyfrifyddu hanesyddol fis Gorffennaf diwethaf. Mae cyflawni barn archwilio ddiamod gwir a theg ar gyfer y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf yn arwydd o welliant sylweddol.
Thank you, Dirprwy Lywydd. I'd like to start by recognising the commitment of everyone who works in health and care in north Wales. They do so under huge pressures, and their work is deserving of our thanks. It is important that we constructively and jointly support the efforts of the thousands of staff as they continue to make improvements to services across Wales's largest health board.
It is only right that we recognise the journey that the health board is on. We do recognise and celebrate the improvements, and we certainly have identified where more work is needed, and we are open and transparent about the challenges that remain. Contrary to many of the contributions this afternoon, the institution has come a long way, but progress in some areas is mixed, and in other areas significant and important challenges remain.
Three years ago, Audit Wales called for remedial action to deal with what was described as 'dysfunctional board dynamics'. Those steps have been taken. By now, there is a stable board in place, and the executive team has been further strengthened with a chief operating officer, an executive medical officer and a new workforce director. Three years ago, there was a lack of co-ordinated corporate governance processes and decision making. The last structural assessment by Audit Wales did recognise the stronger corporate systems of assurances, risk and performance frameworks and more co-ordinated scrutiny by the board.
Financial governance has improved by strengthening internal governance and improved audit procedures. The board published a response on the lessons learnt from the historic accounting issues in July of last year. Delivering a true and fair unqualified audit opinion for the last two years is a signal of significant improvement.
Dirprwy Lywydd, the board delivered an improved in-year financial deficit trajectory last year and showed further ambition by submitting a financially balanced plan for this year. Disappointingly, it has been unable to deliver this, and is now forecasting a £17.4 million deficit this year. Digital services are improving, but the governance required to deliver the new laboratory information management system, Digital Maternity Cymru, and Welsh intensive care systems remains fragile.
As we heard in the debate, data quality also needs continued focus. The suspension of referral-to-treatment waiting list statistics for the health board in November because of concerns about their integrity of course underscores this point. But by now, as all Members know, all concerns about the waiting times data have been rectified and reporting resumed last month. The final report from the external review team will be published next month, and I will also publish the third annual report on special measures progress next month.
Dirprwy Lywydd, there has been progress on access to planned care over the last three years. Long waits have fallen by 60 per cent and two-year waits are down 81 per cent for orthopaedic treatment, down 54 per cent for general surgery and 65 per cent for ear, nose and throat, as a result of better theatre productivity and outsourcing. One-year waits for an out-patient appointment have fallen by almost 60 per cent over the last 12 months to just over 12,000 and more than 45,000 additional weekend appointments have been offered since September last year, with more than 36,000 people seen. But people are still waiting too long to be seen for many services, especially for cancer treatment and for urgent and emergency care. The health board has to do better.
Three years ago, there were significant quality concerns, but improvements have been made here too through the introduction of the new integrated concerns policy. Patient safety has improved through better incident handling, compliance with the duty of candour and strengthened mortality review processes. The number of prevention of future deaths notices issued has fallen from 22 in 2023 to five in 2025. Still too many, of course, but an improvement. Clinical services show encouraging signs of improvement in maternity, diabetes and renal care. But sustained improvement in outcomes will require continued investment, strengthened workforce models and more consistent clinical leadership. Significant challenges remain in stroke, urology, cancer and vascular services. Leadership and management of mental health services has been strengthened through senior appointments and considerable progress has been made in response to the findings of the review undertaken by the Royal College of Psychiatrists. The board has become more open and transparent.
Dirprwy Lywydd, despite these real signs of progress, performance has not improved at the pace I want to see and that the public have a right to see. The foundations laid across urgent care, planned care, diagnostics, maternity and community services must be translated into visible and sustained improvement. To support this, I introduced a new team of experts to work alongside the health board, chief executive and the board itself, to drive rapid improvements in key service areas. The route to improvement is clear. With strengthened leadership capacity and additional support in place, there is a firm expectation of immediate, consistent and disciplined delivery.
The people of north Wales deserve a health service that meets their needs and earns their confidence and if I may say, contrary, I'm afraid, to some contributions in the debate, a public discussion that puts patients before politics. The health board's leadership must demonstrate the focus, grip and urgency required to drive the long-overdue improvements and deliver and sustain meaningful change.
Ddirprwy Lywydd, darparodd y bwrdd daflwybr diffyg ariannol canol blwyddyn gwell y llynedd, a dangosodd uchelgais pellach drwy gyflwyno cynllun wedi'i fantoli'n ariannol ar gyfer eleni. Mae'n siomedig nad yw wedi gallu cyflawni hyn, ac mae bellach yn rhagweld diffyg o £17.4 miliwn eleni. Mae gwasanaethau digidol yn gwella, ond mae'r llywodraethiant sydd ei angen i gyflawni'r system rheoli gwybodaeth labordy newydd, Mamolaeth Ddigidol Cymru, a systemau gofal dwys Cymru’n parhau i fod yn fregus.
Fel y clywsom yn y ddadl, mae angen canolbwyntio’n barhaus ar ansawdd data hefyd. Mae atal ystadegau amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar gyfer y bwrdd iechyd ym mis Tachwedd oherwydd pryderon ynghylch eu cywirdeb yn tanlinellu’r pwynt hwn wrth gwrs. Ond erbyn hyn, fel y gŵyr yr holl Aelodau, mae’r holl bryderon ynghylch data amseroedd aros wedi’u cywiro ac adrodd wedi ailddechrau y mis diwethaf. Bydd yr adroddiad terfynol gan y tîm adolygu allanol yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, a byddaf hefyd yn cyhoeddi’r trydydd adroddiad blynyddol ar gynnydd mesurau arbennig y mis nesaf.
Ddirprwy Lywydd, bu cynnydd o ran mynediad at ofal wedi'i gynllunio dros y tair blynedd diwethaf. Mae arosiadau hir wedi gostwng 60 y cant ac mae arosiadau dwy flynedd i lawr 81 y cant ar gyfer triniaethau orthopedig, i lawr 54 y cant ar gyfer llawdriniaeth gyffredinol a 65 y cant ar gyfer triniaethau clust, trwyn a gwddf, o ganlyniad i well cynhyrchiant theatr ac allanoli. Mae arosiadau blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol wedi gostwng bron i 60 y cant dros y 12 mis diwethaf i ychydig dros 12,000 ac mae mwy na 45,000 o apwyntiadau penwythnos ychwanegol wedi'u cynnig ers mis Medi y llynedd, gyda mwy na 36,000 o bobl wedi'u gweld. Ond mae pobl yn dal i aros yn rhy hir i gael eu gweld am lawer o wasanaethau, yn enwedig ar gyfer triniaeth canser ac ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng. Rhaid i'r bwrdd iechyd wneud yn well.
Dair blynedd yn ôl, roedd pryderon sylweddol ynghylch ansawdd, ond mae gwelliannau wedi'u gwneud yma hefyd drwy gyflwyno'r polisi materion integredig newydd. Mae diogelwch cleifion wedi gwella drwy ymdrin â digwyddiadau'n well, cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd gonestrwydd a phrosesau adolygu marwolaethau cryfach. Mae nifer yr hysbysiadau atal marwolaethau yn y dyfodol wedi gostwng o 22 yn 2023 i bump yn 2025. Mae'n dal i fod yn ormod, wrth gwrs, ond mae'n welliant. Mae gwasanaethau clinigol yn dangos arwyddion calonogol o welliant mewn gofal mamolaeth, diabetes a gofal yr arennau. Ond er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy mewn canlyniadau, bydd angen buddsoddiad parhaus, modelau gweithlu cryfach ac arweinyddiaeth glinigol fwy cyson. Mae heriau sylweddol yn parhau yn y gwasanaethau fasgwlaidd, strôc, wroleg a chanser. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u cryfhau drwy benodiadau uwch ac mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn ymateb i ganfyddiadau'r adolygiad a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'r bwrdd bellach yn fwy agored a thryloyw.
Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf yr arwyddion gwirioneddol hyn o gynnydd, nid yw perfformiad wedi gwella ar y cyflymder yr hoffwn ei weld ac y mae gan y cyhoedd hawl i'w weld. Rhaid trosi'r sylfeini a osodwyd ar draws gofal brys, gofal wedi'i gynllunio, diagnosteg, mamolaeth a gwasanaethau cymunedol yn welliant gweladwy a pharhaol. I gefnogi hyn, cyflwynais dîm newydd o arbenigwyr i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd, y prif weithredwr a'r bwrdd ei hun, i hybu gwelliannau cyflym mewn meysydd gwasanaeth allweddol. Mae'r llwybr tuag at welliant yn glir. Gyda chapasiti arweinyddiaeth cryfach a chefnogaeth ychwanegol ar waith, mae disgwyliad cadarn o ddarpariaeth gyson a disgybledig ar unwaith.
Mae pobl y gogledd yn haeddu gwasanaeth iechyd sy'n diwallu eu hanghenion ac yn ennyn eu hyder, ac os caf ddweud, yn wahanol i rai o'r cyfraniadau yn y ddadl mae arnaf ofn, maent yn haeddu trafodaeth gyhoeddus sy'n rhoi cleifion o flaen gwleidyddiaeth. Rhaid i arweinyddiaeth y bwrdd iechyd ddangos y ffocws, y gafael a'r brys sydd eu hangen i yrru'r gwelliannau hirddisgwyliedig a chyflawni a chynnal newid ystyrlon.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
I call on Mabon ap Gwynfor to respond to the debate.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma ar ddarpariaeth iechyd a llywodraethiant y bwrdd iechyd sydd gennym ni yng ngogledd Cymru.
Thank you, Dirprwy Lywydd, and I thank everyone who has taken part in this important debate on health provision and governance in the health board that we have in north Wales.
Peter was quite right in pointing out that leadership, and the leadership of Government specifically, is key. It's something we've heard time and time again. And there's no point just pointing the finger of blame at individuals in any one health board if that leadership doesn't come directly from Government. And that's what we need to see. I'm glad to hear that the Conservatives support much of what we have said around surgical hubs, for instance.
There was a little discussion, a little spat, going on between former Conservative Member James Evans and various Conservative Members on the health emergency. Of course, this Government has declared a housing emergency, they have declared a nature emergency, they've declared a climate emergency and other emergencies. There is certainly a health emergency when it comes to issues in north Wales, which is why we're discussing this.
Now, James's contribution I think was interesting. Because on the one hand, James, you said that this motion is specifically about Betsi Cadwaladr, then you went on to say that the motion talks about every other health board. So, it can't be one or the other, it is actually both. [Interruption.] Yes, James.
Roedd Peter yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod arweinyddiaeth, ac arweinyddiaeth y Llywodraeth yn benodol, yn allweddol. Mae'n rhywbeth a glywsom dro ar ôl tro. Ac nid oes diben pwyntio bys at unigolion mewn unrhyw fwrdd iechyd os nad yw'r arweinyddiaeth honno'n dod yn uniongyrchol gan y Llywodraeth. A dyna sydd angen i ni ei weld. Rwy'n falch o glywed bod y Ceidwadwyr yn cefnogi llawer o'r hyn rydym wedi'i ddweud ynghylch hybiau llawfeddygol, er enghraifft.
Bu rhywfaint o drafod, rhywfaint o gecru, rhwng y cyn-Aelod Ceidwadol James Evans ac amryw Aelodau Ceidwadol ar yr argyfwng iechyd. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon wedi datgan argyfwng tai, maent wedi datgan argyfwng natur, maent wedi datgan argyfwng hinsawdd ac argyfyngau eraill. Yn sicr, mae yna argyfwng iechyd o ran y materion sy'n codi yng ngogledd Cymru, a dyna pam ein bod yn trafod hyn.
Nawr, rwy'n credu bod cyfraniad James yn ddiddorol. Oherwydd ar y naill law, James, fe ddywedoch chi fod y cynnig yn ymwneud yn benodol â bwrdd Betsi Cadwaladr, yna fe aethoch yn eich blaen i ddweud bod y cynnig yn sôn am bob bwrdd iechyd arall. Felly, ni all fod yn un neu'r llall, mae'n sôn am y ddau beth, mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Ie, James.
[Inaudible.]—I've got my speech in front of me and I'm quite happy to share it with you after.
[Anghlywadwy.]—mae fy araith o'm blaen ac rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gyda chi wedyn.
That's fine, and I'll check the Record, because these are contemporaneous notes that I've taken. I'm pretty clear that's what you said. But nevertheless, I would suggest that you read Plaid Cymru's report, which does talk about the governance across the whole of the NHS in Wales, which is why we need to see system change here when it comes to improving outcomes.
Mae hynny'n iawn, ac fe wiriaf y Cofnod, gan mai nodiadau a wneuthum ar y pryd yw'r rhain. Rwy’n eithaf siŵr mai dyna a ddywedoch chi. Serch hynny, buaswn yn awgrymu eich bod yn darllen adroddiad Plaid Cymru, sy'n sôn am lywodraethiant ar draws y GIG cyfan yng Nghymru, a dyna pam y mae angen inni weld newid i'r system yma er mwyn gwella canlyniadau.
Ac mae Llyr yn berffaith gywir: roedd yn frawychus i glywed yr ystadegyn yna roedd Llyr wedi ei roi, sydd yn ein hatgoffa ni o faint yr her sydd yn ein hwynebu, fod cymaint yn fwy o bobl ar restrau aros gennym ni yng Nghymru, yn benodol felly yn Betsi Cadwaladr, na beth sydd dros y ffin yn Lloegr—ac mae Lloegr, wrth gwrs, yn wlad sydd cymaint yn fwy o faint na ni—unwaith eto yn dangos yr angen i fynd i'r afael â hyn ar fyrder.
And Llyr is perfectly right: it was shocking to hear that statistic that Llyr gave us, which reminds us of the scale of the challenge facing us, that so many more people are on waiting lists in Wales, specifically in Betsi Cadwaladr, than is the case over the border in England—and England is so much bigger than us, of course—once again showing the need to tackle this urgently.
Carolyn, I think, made an important contribution, because, Carolyn, I think you're right: when you talked about I think it was your friend, or someone you knew, who spoke to you about improvement or suggestions for improvement, that's what we've spoken about in our report. We're talking about effective commissioning, clear targets, better sharing of data and information. That's exactly what we need to do. That's what we've put forward. That's what we're discussing today. So, I hope you'll consider supporting the motion without any amendments, as it stands.
At the same time, we've touched on the problems across Wales, and Delyth referenced those specifically in Aneurin Bevan and the fact that the Welsh Government still haven't provided Aneurin Bevan with the framework necessary in order for them to carry out the steps that they need to do to answer the financial gaps that they have.
Gareth, I appreciate the contribution and the passion that you put into your contribution, but I think—
Rwy'n credu bod Carolyn wedi gwneud cyfraniad pwysig, gan y credaf eich bod chi'n iawn, Carolyn: pan sonioch chi am eich ffrind, neu rywun roeddech chi'n eu hadnabod, a siaradodd â chi am welliant neu awgrymiadau ar gyfer gwelliant, dyna rydym ni wedi sôn amdano yn ein hadroddiad ni. Rydym yn sôn am gomisiynu effeithiol, targedau clir, rhannu data a gwybodaeth yn well. Dyna'n union sydd angen inni ei wneud. Dyna'r hyn rydym ni wedi'i gyflwyno. Dyna'r hyn rydym yn ei drafod heddiw. Felly, gobeithio y gwnewch chi ystyried cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio, fel y mae.
Ar yr un pryd, rydym wedi cyffwrdd â'r problemau ledled Cymru, a chyfeiriodd Delyth at y problemau penodol ym mwrdd Aneurin Bevan a'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r fframwaith angenrheidiol i fwrdd Aneurin Bevan eto iddynt allu cymryd y camau sydd angen iddynt eu cymryd i fynd i'r afael â'r bylchau ariannol sydd ganddynt.
Gareth, rwy'n gwerthfawrogi'r cyfraniad a'ch angerdd wrth ichi wneud eich cyfraniad, ond rwy'n credu—
Mabon. Mabon, one second. There are too many conversations going on around the Chamber, and I would hope you'd all be listening to Mabon's contribution as he closes the debate. Mabon.
Mabon. Mabon, un eiliad. Mae gormod o sgyrsiau'n digwydd o gwmpas y Siambr, a buaswn yn gobeithio y byddai pob un ohonoch yn gwrando ar gyfraniad Mabon wrth iddo gloi'r ddadl. Mabon.
Diolch, Dirprwy Lywydd. And I would say, with your contribution, Gareth, that they were really brave words you said there about bringing it on for a political fight, because I'm not convinced that the Conservatives are in a position to win any political fights coming forward in the near future, at least.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A buaswn yn dweud, gyda'ch cyfraniad chi, Gareth, eu bod yn eiriau dewr iawn gennych ynglŷn â chroesawu'r frwydr wleidyddol, gan nad wyf yn argyhoeddedig fod y Ceidwadwyr mewn sefyllfa i ennill unrhyw frwydrau gwleidyddol, yn y dyfodol agos o leiaf.
[Inaudible.]—you were on Denbighshire County Council yourself, like I was before becoming an MS; you know full well the problems in north Denbighshire. The point that I'm getting at in that regard is that actions speak for themselves in that regard. Regardless of the performance of the Welsh Conservatives, this is a fundamental failure of the Labour Party, and that's more the point that I'm trying to make, in that sense, anyway.
[Anghlywadwy.]—roeddech chi ar Gyngor Sir Ddinbych eich hun, fel roeddwn innau cyn dod yn AS; rydych chi'n gwybod yn iawn am y problemau yng ngogledd sir Ddinbych. Fy mhwynt i yw bod gweithredoedd yn siarad drostynt eu hunain yn hynny o beth. Beth bynnag am berfformiad y Ceidwadwyr Cymreig, mae hyn yn fethiant sylfaenol gan y Blaid Lafur, a dyna'r pwynt rwy'n ceisio'i wneud ar hynny.
Diolch. I appreciate that, but that speaks to the fact that local authorities are having to deal with a lot of the problems arising from the problems that we have in the health service, because they can't find the care packages required for people leaving hospitals because of a lack of co-operation between some of the local authorities and health boards. I think that's the point you were speaking to, and I accept that.
Diolch. Rwy'n derbyn hynny, ond mae hynny'n nodi'r ffaith bod awdurdodau lleol yn gorfod delio â llawer o'r problemau sy'n deillio o'r problemau sydd gennym yn y gwasanaeth iechyd, am na allant ddod o hyd i'r pecynnau gofal sydd eu hangen ar bobl sy'n gadael ysbytai oherwydd diffyg cydweithrediad rhwng rhai o'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt roeddech chi'n ei wneud, ac rwy'n derbyn hynny.
Ac ar yr un pryd, diolch yn fawr iawn, Rhun. Dwi'n meddwl bod Rhun wedi gwneud y pwynt pwysig yna y mae eisiau inni atgoffa ein hunain ohono drwy'r amser fan hyn, sef, yng nghanol hyn i gyd, mae gennym ni weithlu sydd yn gweithio'n ddiwyd, yn gweithio dan amgylchiadau anodd iawn, a rheini'n weithlu sydd yn borthorion, yn feddygon ac yn rheolwyr ac yn uwch reolwyr sydd oll yn trio gweithio mewn amgylchiadau anodd. Fe ddaru i'r Ysgrifennydd Cabinet wneud y pwynt yna, a dwi'n derbyn ac yn cydnabod y sefyllfa yna, fod yn rhaid diolch am y gwaith hynny, ond ddylen nhw ddim fod yn y sefyllfa anodd yna o orfod gweithio mewn—fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud—amgylchiadau anodd.
And at the same time, thank you, Rhun. I think Rhun made the important point that we need to remind ourselves of all the time here, that we have a workforce that works hard and under very difficult circumstances, and that is a workforce that is porters and doctors and managers and senior managers, who are all trying to work in very difficult circumstances. The Cabinet Secretary did make that point, and I do accept and recognise that situation, that we have to thank those people for that work, but they shouldn't be in that difficult situation of having to work in—as the Cabinet Secretary said—difficult circumstances.
We heard the Cabinet Secretary talking about some of the statistics about certain improvements, and any improvement is to be welcomed. But, nevertheless, we have targets that are missed time and time again when it comes to Betsi Cadwaladr, and that results in poorer patient outcomes. At the end of the day, this is what we have to keep in mind: that we have patients, we have people, we have loved ones—I live in that health board myself—at the root of all of this and we need to see improved outcomes for their sake.
Clywsom Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am rai o'r ystadegau mewn perthynas â rhai gwelliannau, ac mae unrhyw welliant i'w groesawu. Ond serch hynny, mae gennym dargedau sy'n cael eu methu dro ar ôl tro ym mwrdd Betsi Cadwaladr, ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwaeth i gleifion. Yn y pen draw, dyma sy'n rhaid i ni ei gofio: fod gennym gleifion, fod gennym bobl, fod gennym anwyliaid—rwy'n byw yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw fy hun—wrth wraidd hyn oll, ac mae angen inni weld canlyniadau gwell er eu mwyn nhw.
Os ydym ni, felly, eisiau gweld cynlluniau i gryfhau atebolrwydd, eisiau cryfhau llais y claf, eisiau gwella safonau, eisiau cyflwyno hybiau triniaeth ar draws yr ardal, eisiau defnydd mwy effeithiol o'r gweithlu, yna mae'n rhaid inni gefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni er mwyn rhoi'r brys angenrheidiol i'r mater yma. Diolch yn fawr iawn.
If we, therefore, want to see plans to strengthen accountability, want to strengthen the voice of the patients, want to improve standards, introduce treatment hubs across the area and make better use of the workforce, then we have to support the motion before us today in order to give this issue the necessary urgency. Thank you.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] There are objections. I will therefore defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
You wished to make a point of order, Carolyn.
Roeddech chi'n dymuno gwneud pwynt o drefn, Carolyn.
Yes, please. I haven't checked the record fully, but I believe the Member referred to a seat that was lost in Leeswood that I previously held. I did not hold that seat before; I was a councillor for Treuddyn. I don't know what that has to do with the debate, and personal attacks should not be part of debate. I am still awaiting an apology from his previous attack, which had to be corrected on the public record. Thank you.
Oeddwn, os gwelwch yn dda. Nid wyf wedi gwirio'r cofnod yn llawn, ond credaf fod yr Aelod wedi cyfeirio at sedd a gollwyd yng Nghoed-llai a ddaliwyd gennyf i o'r blaen. Nid wyf wedi dal y sedd honno o'r blaen; roeddwn yn gynghorydd dros Dreuddyn. Nid wyf yn gwybod beth sydd a wnelo hynny â'r ddadl, ac ni ddylai ymosodiadau personol fod yn rhan o'r ddadl. Rwy'n dal i aros am ymddiheuriad am ei ymosodiad blaenorol, y bu'n rhaid ei gywiro ar y cofnod cyhoeddus. Diolch.
Thank you for that.
Diolch.
Can I respond to the point of order?
A gaf i ymateb i'r pwynt o drefn?
I've got to judge the point of order first, Gareth.
You've made your point. I'm not clear it's a point of order, but I will need to check the record, obviously, as to what he said. We're not sure of that. I had a look online; it's not up yet. So, we need to check the record, okay. So, we'll come back to you on that.
Rhaid imi ystyried y pwynt o drefn yn gyntaf, Gareth.
Rydych chi wedi gwneud eich pwynt. Nid wyf yn siŵr a yw'n bwynt o drefn, ond bydd angen imi wirio'r cofnod, yn amlwg, ynglŷn â'r hyn a ddywedodd. Nid ydym yn siŵr o hynny. Edrychais ar-lein; nid yw yno eto. Felly, mae angen inni wirio'r cofnod, iawn. Felly, fe ddown yn ôl atoch ynglŷn â hynny.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
That brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting.
Bydd y bleidlais heno ar eitem 7, dadl Plaid Cymru. A galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
The vote this evening will be on item 7, the Plaid Cymru debate. And I call for a vote on the motion tabled in the name of Heledd Fychan. If the motion is not agreed, we will vote on the amendments tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. In favour, 11, no abstentions, 34 against. Therefore, the motion is not agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 11, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Item 7. Plaid Cymru Debate - Health board governance. Motion without amendment.: For: 11, Against: 34, Abstain: 0
Motion has been rejected
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
I now call for a vote on amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. Open the vote. Close the vote. In favour 22, no abstentions and 23 against. Therefore, amendment 1 is not agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.: O blaid: 22, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 7. Plaid Cymru Debate - Health board governance. Amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.: For: 22, Against: 23, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 2, yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, dau yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
I now call for a vote on amendment 2, in the name of Paul Davies. If amendment 2 is agreed, amendment 3 will be deselected. Open the vote. Close the vote. In favour 10, two abstentions and 33 against. Therefore, amendment 2 is not agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.: O blaid: 10, Yn erbyn: 33, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 7. Plaid Cymru Debate - Health board governance. Amendment 2, tabled in the name of Paul Davies.: For: 10, Against: 33, Abstain: 2
Amendment has been rejected
A galwaf am bleidlais ar welliant 3, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.
I now call for a vote on amendment 3, tabled in the name of James Evans. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions and 32 against. Therefore, amendment 3 is not agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw James Evans.: O blaid: 13, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 7. Plaid Cymru Debate - Health board governance. Amendment 3, tabled in the name of James Evans.: For: 13, Against: 32, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gafodd eu cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod. A dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni heno.
As the Senedd has not agreed the motion without amendment, and has not agreed the amendments tabled to the motion, the motion is therefore not agreed. And that concludes voting for this evening.
Mae eitem 9, y ddadl fer, wedi ei gohirio tan 11 Chwefror.
Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Item 9, the short debate, is postponed until 11 February.
So that brings today's proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:54.
The meeting ended at 17:54.