Y Cyfarfod Llawn

Plenary

04/02/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg sydd gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.

Portffolio'r Economi

1. Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ariannu ymrwymiadau portffolio'r economi o'r rhaglen lywodraethu wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27? OQ63788

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Lywydd, mae cyllideb 2026-27 yn parhau neu'n cwblhau'r rhaglen lywodraethu ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae'n ariannu buddsoddiadau allweddol portffolio'r economi mewn sgiliau, prentisiaethau, datblygu economaidd rhanbarthol a chymorth i fusnesau.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd cyllid. Rwy'n sylweddoli bod unrhyw gyllideb yn golygu gwneud dewisiadau, ac mai pot cyfyngedig o arian y gallwch ei ddyrannu ar gyfer y dewisiadau hynny. Mae un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r warant i bobl ifanc, sy'n amlwg yn ymwneud ag addysg a chynnig cyfleoedd mewn sgiliau a phrentisiaethau. Mae Medr, y corff cyllido ar gyfer addysg bellach yma yng Nghymru, wedi nodi eu bod yn credu bod diffyg o £25 miliwn yn yr arian sydd ar gael i golegau addysg bellach. Dyrannodd y gyllideb derfynol £5 miliwn o arian ychwanegol i'r gyllideb, yn ychwanegol at yr hyn a nododd y gyllideb ddrafft. Ond gyda diffyg mor sylweddol yn y cyllid hwnnw ar gyfer prentisiaethau a sgiliau, a yw'r Ysgrifennydd cyllid yn credu y bydd y dyraniad ariannol hwnnw, yng ngeiriau prif weithredwr Medr, yn tanseilio ymrwymiad y Llywodraeth i bob unigolyn ifanc gael cynnig lle mewn addysg, hyfforddiant neu waith?

Lywydd, i fod yn glir, nid oes diffyg yn y cyllid ar gyfer prentisiaethau. Roedd £5 miliwn ychwanegol yn y gyllideb derfynol ar gyfer prentisiaethau, yn ogystal â buddsoddiad o £5 miliwn mewn addysg bellach. Mae'r buddsoddiad mewn prentisiaethau yn golygu y byddwn yn cyrraedd y targed o 100,000 o brentisiaethau, fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu. Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys £3 miliwn ychwanegol—y gyllideb derfynol—£1 filiwn ychwanegol yn y gyllideb derfynol a £2 filiwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer Twf Swyddi Cymru, sydd unwaith eto'n ymrwymiad allweddol mewn perthynas â rhaglenni cyflogadwyedd i bobl ifanc.

Mae'r her sy'n wynebu'r sector addysg bellach yn her sy'n cael ei goresgyn gyda chryn lwyddiant. Roedd nifer y cofrestriadau ym mis Medi y llynedd yn sylweddol uwch na disgwyliadau Medr. Mae hynny'n newyddion da. Mae'n golygu bod mwy o bobl ifanc yn dod yn ôl i addysg a hyfforddiant. Mae'r twf wedi bod yn arbennig o gryf mewn cyrsiau galwedigaethol, lle nad oes cymaint o gapasiti ag mewn rhai cyrsiau eraill ddim ond i gael mwy o bobl ifanc yn yr un ystafell ddosbarth, gan fod yn rhaid ichi gael yr holl bethau sy'n mynd gyda hynny os ydych chi'n dysgu crefft, ac yn y blaen. Ond byddwn yn parhau i weithio gyda Medr. Dyna pam fod ganddynt fwy o arian yn y gyllideb derfynol. Fel y dywedodd yr Aelod, fel unrhyw ddeiliad cyllideb arall, bydd yn rhaid iddynt wneud rhywfaint o flaenoriaethu er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi eu swm sylweddol iawn o gyllid yn y rhannau hynny o'r sector lle mae ei angen fwyaf.

Wrth gwrs, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu darparwyr prentisiaethau yw effaith Brexit a cholli cyllid Ewropeaidd. O ran y cronfeydd datblygu rhanbarthol y cyfeirioch chi atynt yn eich ateb cychwynnol i Andrew R.T. Davies, rwy'n awyddus i sicrhau bod menter y Cymoedd Technoleg yn cyflawni ei photensial ac yn hybu'r buddsoddiadau economaidd y mae angen inni eu gwneud yn y bobl a'r cymunedau ar draws ardal Blaenau'r Cymoedd. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf eisoes wedi'i drafod gyda'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr economi. Ond a fyddai modd cyfarfod â chi hefyd, i edrych ar sut y gallwn sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi cymaint â phosib o arian yn ein cymunedau er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r effaith fwyaf sy'n bosib am bob ceiniog a werir?

Lywydd, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn pellach. Mae'n llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod yr holl fuddsoddiadau y soniwn amdanynt wedi dioddef am nad yw'r rhan honno o Gymru bellach yn gallu hawlio cyllid ôl-Ewropeaidd yn y ffordd yr addawyd i ni na fyddai Cymru geiniog yn waeth ein byd. Rydych chi'n cofio hynny, rwy'n siŵr, ac roedd mor anghywir. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod, wrth gwrs. ​​Rwyf wedi bod yn gefnogwr ers tro i'r slogan y mae wedi'i ddefnyddio mor aml am ffordd Blaenau'r Cymoedd: 'Mwy na ffordd yn unig; catalydd ar gyfer datblygiad economaidd'. Mae angen inni sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw—y buddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg—a buddsoddiadau eraill y mae Llywodraeth Cymru’n eu gwneud drwy fetro de Cymru ac yn y blaen, fod pob un o'r rheini'n cyfrannu at gyfleoedd economaidd newydd i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod hynny ymhellach.

13:35

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n pryderu ynglŷn â'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn dosbarthu prosiectau seilwaith rheilffyrdd Lloegr yn unig fel rhai 'Lloegr a Chymru', gan arwain at ddiffyg cyllid canlyniadol Barnett i helpu i ariannu seilwaith rheilffyrdd yma yn ein gwlad. Yn Nwyrain Casnewydd, mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn mynd ati gyda'r cyflymder ac ar y raddfa angenrheidiol i weithredu argymhellion comisiwn Burns ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd gwell a gorsafoedd newydd i gefnogi twf economaidd, hygyrchedd ac amcanion gwyrdd. O ystyried y sefyllfa hon, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n teimlo y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu sicrhau cyllid teg gan Lywodraeth y DU ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru er mwyn galluogi cynnydd ar argymhellion hanfodol comisiwn Burns?

Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig iawn i gasgliadau adroddiad Burns, a minnau wedi cyfrannu at y gwaith o'i sefydlu a thrafod ei waith gyda'r Arglwydd Burns ar nifer o achlysuron wrth i'w syniadau ddatblygu. Mae gennym £445 miliwn mewn buddsoddiad rheilffyrdd nad ydym erioed wedi llwyddo i'w sicrhau o'r blaen, ac mae hynny'n gam cyntaf i'w groesawu wrth fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol y rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddarparu holl orsafoedd Burns, ond ni fydd £445 miliwn yn gwneud hynny. Rydym yn gwybod hynny. Fe fydd yn caniatáu llawer o waith cychwynnol, llawer o waith y bydd angen adeiladu arno y tu hwnt i gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol. Nododd Canghellor y Trysorlys yn glir pan ddaeth i Gymru y bydd Llywodraeth y DU yn ariannu gorsafoedd Burns. Golyga hynny ei bod hi'n deg inni ddisgwyl cyllid pellach y tu hwnt i gyfnod yr adolygiad o wariant, a fydd yn cyflawni'r hyn y mae John Griffiths wedi'i amlinellu y prynhawn yma, Lywydd. Cynhyrchodd adolygiad Burns gynllun beiddgar, unwaith mewn cenhedlaeth a fyddai'n newid y ffordd y mae traffig yn llifo yn ne-ddwyrain Cymru. Gallwn ddechrau arni gyda'r hyn sydd gennym. Gallwn ddisgwyl yn ddilys a theilwng y bydd Llywodraeth y DU yn darparu'r hyn sydd ei angen i gwblhau'r rhaglen honno.

Busnesau yn y Gorllewin

2. Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cefnogi busnesau yng ngorllewin Cymru? OQ63771

Unwaith eto, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, Lywydd. Mae busnesau gorllewin Cymru yn elwa o gyngor drwy Busnes Cymru, cyllid gan y banc datblygu, trefniadau treth ffafriol yn y porthladd rhydd Celtaidd, y buddsoddiad a sicrhawyd drwy fargen ddinesig Abertawe, a'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd y mae trethdalwyr Cymru'n ei ddarparu i leihau cost ardrethi busnes.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, cynhaliais fforwm cyngor busnes ar-lein yn ddiweddar gyda fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz gyda llawer o fusnesau yn sir Benfro, a chlywsom pa mor anodd yw'r dirwedd bresennol iddynt. Fe wnaethoch chi gyhoeddi peth cymorth ychwanegol yn ddiweddar, sydd i'w groesawu, ond hyd nes y ceir diwygio eang i'r system, bydd rhai busnesau yng ngorllewin Cymru’n dal i'w chael hi'n anodd goroesi. Mae sefydliadau fel UKHospitality Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn iawn i ddweud, er bod y seibiant dros dro hwn i'w groesawu, nad yw'n newid y ffaith bod angen diwygio'r system yn iawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo nawr i ddiwygio'r system ardrethi busnes yng Nghymru fel nad yw busnesau lletygarwch yn ddibynnol ar atebion tymor byr a chwistrelliadau darniog o arian parod gan Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol?

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am y cyhoeddiad a wnaethom ddoe ynglŷn â chymorth pellach i'r sector lletygarwch yng Nghymru. O ran y diwydiant ei hun, eu hasesiad nhw yw nad yw dwy ran o dair o fusnesau lletygarwch yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Nid yw dwy ran o dair ohonynt yn talu unrhyw beth o gwbl gan eu bod yn elwa o'r cynllun rhyddhad ardrethi parhaol sydd gennym yma yng Nghymru. Nawr, yn bersonol, rwy'n cytuno bod angen diwygio ardrethi busnes yn sylfaenol. Mater i'r Senedd nesaf fydd ymdrin â hynny. Efallai y bydd gennym syniadau gwahanol ynglŷn â'r hyn y dylai diwygio ei olygu, ond os ydych chi'n gofyn i mi a wyf i'n credu bod system sydd â chymaint o ffurfiau'n gorgyffwrdd o ryddhad i fusnesau ac nad yw'n gwahaniaethu o gwbl rhwng busnesau y mae'r cymorth hwnnw'n hanfodol iddynt a busnesau a fyddai'n masnachu'n berffaith broffidiol heb unrhyw gymorth, yna rwy'n cytuno: rwy'n credu bod rhai pethau sylfaenol am y system sy'n haeddu ystyriaeth ddyfnach.

Nawr, yn y tymor hwn, rydym wedi gwneud llawer o newidiadau i ardrethi busnes er mwyn ceisio gwneud i'r system weithio'n fwy llyfn i fusnesau allu apelio a chael atebion yn gyflymach os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu categoreiddio'n anghywir ac yn y blaen. Mae'r rheini'n welliannau i'r system bresennol, a chredaf mai'r hyn y mae Paul Davies yn ei awgrymu yw y gallai Llywodraeth yn y dyfodol fod eisiau cymryd cam yn ôl ac edrych ar y system yn fwy sylfaenol.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar nad ydych chi erioed wedi bod â diddordeb yn yr economi. A yw hi'n anghywir?

Lywydd, mae gan bob Gweinidog yn Llywodraeth Cymru ddiddordeb yn yr economi, ac mewn sicrhau bod yr economi yng Nghymru yn llwyddiannus, ac mae gan bob Gweinidog ddiddordeb mewn sicrhau bod y llwyddiant hwnnw'n cael ei rannu'n deg ymhlith poblogaeth Cymru fel y gallwn gefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus y mae cymaint o'n cyd-ddinasyddion yn dibynnu arnynt.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd y Prif Weinidog yn onest iawn yn ei hasesiad, buaswn yn dweud. Ac efallai nad eich bai chi yw hynny, oherwydd, wrth gwrs, rydych chi'n sosialydd, ac felly hefyd Plaid Cymru wrth eich ymyl, sydd wedi bod yn cynnal Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru ers cyhyd, ac nid yw sosialwyr yn gweld yr economi fel blaenoriaeth o gwbl. Fe gyhoeddoch chi ddoe, wrth gwrs, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU ar ryddhad ardrethi, y bydd tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru hefyd yn elwa o gymorth ardrethi busnes ychwanegol. Gwyddom fod sector lletygarwch y genedl wedi bod yn galw am fwy o gymorth yn sgil costau cynyddol a busnesau'n gorfod cau, ac rydym yn croesawu'r rhyddhad o 15 y cant, ond maent yn dweud nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Nid yw'r ffocws ar yr economi yno o gwbl. I ddechrau, dim ond am flwyddyn y mae'r rhyddhad hwn ar gael, o gymharu â'r tair blynedd a gynigiwyd yn Lloegr. Ac mae lletygarwch yng Nghymru yn wynebu ymyl dibyn ym mis Ebrill oherwydd codiadau treth enfawr. Ac mae'r busnesau hynny'n dweud na fydd rhyddhad o 15 y cant am flwyddyn yn ddigon. Maent yn poeni am y swyddi a allai gael eu colli. Maent yn poeni am y costau sy'n cael eu gorfodi ar gwsmeriaid yma yng Nghymru. Ar y meinciau hyn, byddem yn cael gwared ar ardrethi busnes i'r busnesau llai hynny i gymell twf a chreu'r amgylchedd cywir ar gyfer buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru. Rydym yn credu ei fod yn bris bach i'w dalu i ddiogelu swyddi, sicrhau bod ein heconomi'n tyfu ac i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Pam na wnewch chi'r un peth?

Wel, Lywydd, rwy'n sosialydd. Rwy'n falch iawn o fod yn un, gan fod sosialwyr yn deall bod economïau'n ffynnu pan fydd cymdeithasau'n fwy cyfartal—pan fydd cyfle gan bawb i gyfrannu at yr economi lwyddiannus y mae pob un ohonom eisiau ei gweld. A dyna'r neges y mae neo-ryddfrydwyr wedi methu'n llwyr â'i deall pan fydd gennych economïau mor anghytbwys â'r un yn y Deyrnas Unedig, ac felly twf sglerotig, sef gwaddol y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, wrth gwrs.

Gadewch imi gymryd eiliad i restru'r ffynonellau cymorth sydd gan fusnesau yng Nghymru. Mae ganddynt y gwerth £250 miliwn o ryddhad ardrethi busnes parhaol yr ydym yn ei ddarparu bob blwyddyn—yr hyn y mae'r trethdalwr yng Nghymru yn ei ddarparu bob blwyddyn. Mae gennym £116 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i helpu gyda chynllun pontio o ganlyniad i ailbrisio ardrethi. Mae gennym luosydd is ar gyfer busnesau'r stryd fawr. Mae gennym y penderfyniadau a wnaed yn nhymor y Senedd hon yn unig mewn perthynas â'r lluosydd, sydd wedi costio £500 miliwn—£500 miliwn sydd wedi aros ym mhocedi busnesau yng Nghymru, a fyddai, pe baem wedi defnyddio rheolau'r lluosydd arferol, wedi'i gasglu oddi ar fusnesau Cymru ac wedi bod ar gael i'r Senedd hon at ddibenion eraill. A nawr, mae gennym y rhyddhad pellach a gyhoeddwyd gennym ddoe i helpu'r sector.

Mae'r Aelod yn gofyn pam nad yw'n gynllun tair blynedd. Wel, fe fyddwn yn gwybod, pan fydd yr amcangyfrifon atodol terfynol yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, faint yn union o arian fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i benderfyniadau'r Canghellor yn Lloegr, ac yna bydd cyfle i gael cynllun tair blynedd yma yng Nghymru. Ni allaf osod cynllun tair blynedd pan nad wyf yn gwybod pa arian fydd ar gael i Gymru ym mlynyddoedd 2 a 3. Bydd hynny'n cael ei gadarnhau yn eithaf buan, ac yna gallwn wneud penderfyniadau pellach.

Pam na fyddem yn cael gwared ar ardrethi busnes yn gyfan gwbl? Oherwydd bod ardrethi busnes yn gyfraniad y mae busnesau'n ei wneud i gydnabod y gwasanaethau y maent yn eu derbyn drwy'r ymdrech gyfunol y mae'r gymuned Gymreig yn ei gwneud. Y palmentydd y mae pobl yn cerdded arnynt i fusnesau bach, y ffyrdd y mae pobl yn gyrru arnynt i'w cyrraedd, y gweithwyr medrus y maent yn gallu eu cyflogi, y ffaith bod gwasanaeth iechyd gennym sy'n gofalu am y gweithwyr hynny pan fyddant yn sâl—dyna'r darpariaethau cyfunol mae pob un ohonom yn eu gwneud gyda'n gilydd, ac mae'n iawn ac yn briodol i fusnesau gyfrannu at yr ymdrech honno, lle gallant wneud hynny. Byddai cael gwared ar ardrethi busnes yn gyfan gwbl yn golygu na fyddai gofyn i fusnesau sy'n gallu gwneud eu cyfraniad wneud hynny o gwbl. Mae hynny'n gwbl groes i sosialaeth, a dyna'n sicr pam na fyddwn yn ei wneud.

13:45

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog—ac rwy'n falch ei fod yma ar gyfer y cwestiwn hwn—yn gyhoeddus fod cyfarfod wedi'i sicrhau gyda Llywodraeth y DU ar ddiwygio fformiwla Barnett. Mae wedi dod i'r amlwg ers hynny mai dim ond cyfarfod rheolaidd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid ym mis Chwefror yw hwn.

O ystyried eich beirniadaeth flaenorol o ddefnyddio'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid fel cyfrwng i fynd ar drywydd diwygio fformiwla Barnett, a allech chi nodi'r cynigion penodol y bwriadwch eu cyflwyno, pa drafodaethau a gynhaliwyd gennych gyda Llywodraethau datganoledig eraill, a sut y bwriadwch uwchgyfeirio'r mater os na fydd y cyfarfod hwn yn arwain at unrhyw gynnydd?

Wel, Lywydd, yr hyn rydym wedi'i sicrhau yw y bydd diwygio'r fformiwla Barnett bresennol, y ffordd y mae'r fformiwla bresennol yn gweithredu, yn eitem bwysig ar agenda'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid nesaf—nid eitem yn unig, ond eitem bwysig, yr eitem y bydd y mwyaf o amser yn cael ei neilltuo iddi, mae'n debyg, yn y cyfarfod nesaf hwnnw. Ac yn sicr, rwyf wedi cael sgyrsiau pellach gyda Gweinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon ynglŷn â'r cynigion y byddwn yn eu cyflwyno yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid.

A hoffwn ddweud yn glir wrth yr Aelod: nid cynigion am ddewis arall yn lle fformiwla Barnett yw'r rhain. Nid oedd unrhyw gefnogaeth ymhlith Llywodraethau datganoledig eraill i bapur o'r math hwnnw. Mae hwn yn bapur a fydd yn edrych ar sut y gellir gwneud i'r system bresennol weithio'n well. A bydd tryloywder yn un o'r materion y byddwn yn eu trafod. Fel y gwyddoch, mae fformiwla Barnett yn seiliedig ar yr hyn a elwir yn 'ffactorau cymharedd'—pa ganran o gyllideb un o adrannau Lloegr sy'n gymharol â Llywodraethau datganoledig. Nid yw bob amser yn hawdd deall sut y mae'r ffactorau cymharedd hynny'n cael eu cyfrifo, beth sydd y tu ôl iddynt. Byddwn yn dadlau dros broses sy'n gwneud hynny'n llawer mwy dealladwy a thryloyw i unrhyw un sydd am edrych arni, ac felly'n fwy agored i her.

Felly, bydd ail gynnig, ymhlith eraill, yn ymwneud ag elfen fwy o annibyniaeth mewn unrhyw her. Os oes Llywodraeth ddatganoledig yn credu nad yw fformiwla Barnett yn cael ei gweithredu'n gywir, yna mae angen system arnom lle bydd y gŵyn honno'n cael ei hystyried a'i dyfarnu gyda mesur o annibyniaeth sy'n bendant ar goll yn y system bresennol. Bydd yna gynigion eraill hefyd.

Diolch am yr eglurder hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom yn edrych ymlaen at glywed am gynnydd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid.

Yn amlwg, rydym wedi trafod annhegwch fformiwla Barnett droeon, ac roedd hyn yn amlwg, wrth gwrs, mewn perthynas ag ad-dalu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sydd, fel y nodwyd gennym sawl gwaith, wedi creu diffyg o £72 miliwn yng nghyllideb eleni'n unig—bwlch a fydd yn ehangu'n flynyddol onid eir i'r afael â'r anghyfiawnder hwn.

Felly, hoffwn ofyn: a ydych chi wedi amcangyfrif faint y rhagwelir y bydd y diffyg hwn yn cynyddu dros dymor y Senedd nesaf, a pha mor hyderus ydych chi y bydd Llywodraeth y DU yn newid ei safbwynt? Ac a fydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfarfod sydd ar y ffordd o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid?

13:50

Buaswn yn synnu'n fawr pe na bai'n cael ei grybwyll eto yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, gan i'r Alban a Gogledd Iwerddon gael eu heffeithio hyd yn oed yn waeth gan benderfyniadau Llywodraeth y DU na ninnau yma yng Nghymru, ac mae cyd-Aelodau eraill wedi codi eu pryderon parhaus am hyn yn rheolaidd iawn. Rydym yn parhau i wneud darpariaeth y flwyddyn nesaf ar gyfer y £36 miliwn y bu modd i ni ei ddarparu eleni. Oni cheir newidiadau yn safbwynt Llywodraeth y DU ar y mater hwn, nid wyf yn gweld y ffigur hwnnw'n newid yn sylweddol dros weddill tymor y Senedd nesaf. Rydym yn parhau i ddadlau'r achos. Mae'n rhan o'r papur y byddwn yn ei gyflwyno mewn perthynas â fformiwla Barnett, fod yn rhaid cymhwyso fformiwla Barnett yn gyson yn unol â'r rheolau yn y fformiwla gyllido. Nid ydym yn credu iddynt gael eu cymhwyso'n briodol yn yr achos hwn, ond heb elfen o annibyniaeth wrth ddyfarnu cwyn o'r fath, mae'r Trysorlys yn marcio ei waith cartref ei hun i bob pwrpas.

Yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych gefnogaeth lawn Plaid Cymru i geisio'r ad-daliad llawn hwnnw, gan ei fod yn gadael ein cyllidebau gyda diffyg yn y blynyddoedd i ddod, a darlun sy'n peri cryn bryder.

O ran mater cyllid myfyrwyr yn enwedig, rwy'n siŵr fod llawer o raddedigion wedi croesawu eglurder y Prif Weinidog ddoe na fydd Llywodraeth Cymru’n rhewi trothwyon ad-dalu benthyciadau myfyrwyr eich hunain. A gaf i ofyn pa drafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys y DU ar yr union fater hwn cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud, a hefyd sut y bwriadwch fwrw ymlaen â hyn? Oherwydd bydd gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr—yn briodol felly, gan fod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli—ond nid yw'n ymddangos y bu unrhyw ymgynghori â Chymru cyn gwneud y cyhoeddiad hwn. Buaswn yn croesawu eglurder ar y mater.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ni chynhaliwyd y trafodaethau cychwynnol ar y mater gyda'r Trysorlys, fe'u cynhaliwyd rhwng yr Adran Addysg yn Lloegr a Gweinidogion yma yn Llywodraeth Cymru. Cafwyd cyfarfod wedi hynny gyda Gweinidogion y Trysorlys, ac felly, mynychais y cyfarfod hwnnw. Mae trafodaethau'n parhau ar lefel swyddogol ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Gweinidogion yn cael eu tynnu i mewn i drafodaethau pellach wrth i ganlyniadau system wahanol yng Nghymru—. Ac nid oes unrhyw beth yn wahanol am fod â system wahanol; mae wedi bod felly ers sefydlu system fenthyciadau myfyrwyr. Fel y dywedaf, mae manylion y gwahaniaeth hwn yn parhau i gael eu trafod rhwng swyddogion ar hyn o bryd, a heb os, byddant yn cael eu trafod rhwng Gweinidogion wrth i'r sgyrsiau hynny ddatblygu.

Newidiadau i Werthoedd Ardrethol

3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar fusnesau yn sgil newidiadau i werthoedd ardrethol? OQ63783

Lywydd, mae ailbrisiadau'n cynnal tegwch yn y system. Ni chodir unrhyw refeniw ychwanegol drwy ailbrisio. Mae rhai biliau'n cynyddu, mae rhai'n lleihau a cheir llawer nad ydynt yn newid. Mae hynny'n adlewyrchu symudiad cymharol yn y farchnad eiddo annomestig a'r ddarpariaeth barhaus o ryddhadau parhaol. Byddwn yn darparu £116 miliwn mewn cymorth pontio dros y ddwy flynedd nesaf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, awgrymodd y Prif Weinidog y dylai pobl roi'r gorau i wylio Netflix a chefnogi eu tafarndai lleol. Fodd bynnag, nid bai'r cwsmeriaid yw'r anawsterau sy'n wynebu tafarndai Cymru, ond bai'r Llywodraeth hon sy'n mynd ati'n weithredol i weithio yn eu herbyn. Dyna'r neges glir a glywais i a Paul Davies gan fwy na 100 o fusnesau yn ein fforwm busnes ar-lein yn ddiweddar, mai ardrethi busnes yw'r pryder mwyaf y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd. Er bod cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet ddoe ynglŷn ag £8 miliwn pellach o gymorth i'r sector lletygarwch i'w groesawu, dim ond gohirio'r broblem y mae'n ei wneud yn hytrach na mynd i'r afael â hi. Nid yw'n gwneud unrhyw beth i fusnesau eraill y stryd fawr chwaith, sy'n ei chael hi'n anodd delio â phwysau cyfunol ardrethi busnes uwch, cyfraniadau yswiriant gwladol uwch, a lefelau chwyddiant sy'n uwch nawr na'r hyn oeddent 12 mis yn ôl. Mae'r busnesau hyn yn hanfodol i lwyddiant ein strydoedd mawr, canol ein trefi a chymunedau gwledig. Dywedodd y Prif Weinidog nad yw Ysgrifennydd y Cabinet erioed wedi bod â diddordeb yn yr economi, ond beth y byddech chi'n ei ddweud wrth y busnesau hynny yng ngorllewin Cymru sydd ar fin cau am byth?

Lywydd, roeddwn yn fwy na pharod i gytuno y dylai swyddogion Llywodraeth Cymru fynychu'r cyfarfod a gynhaliodd yr Aelod gyda Paul Davies. A phan nad yw'n pregethu ei rethreg, roedd rhai pwyntiau synhwyrol yn yr hyn a ddywedodd. Mae'n wir fod yr heriau sy'n wynebu busnesau'n amlweddog, ac mae ardrethi busnes yn un ohonynt, ond nid dyna'r unig her y mae pobl yn ei hwynebu o bell ffordd. Nid yw 25 y cant o'r holl dafarndai yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Roedd hynny'n wir cyn ddoe. Mae ychydig o dan eu hanner yn cael cymorth drwy'r cynllun parhaol o ryddhad ardrethi busnes yma yng Nghymru. Os mai ardrethi busnes fyddai'r unig beth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth yn y sector, ni allai hynny fod yn wir mewn gwirionedd.

Nawr, roedd y Prif Weinidog yn gwneud pwynt synhwyrol pan ddywedodd fod patrymau newidiol y ffordd y mae pobl yn treulio eu hamser hamdden yn cael effaith ar fusnesau lletygarwch. Byddai'n ffôl gwadu hynny, oni fyddai? Os edrychwch ar yr hyn y mae arolwg o agweddau cymdeithasol Prydain ac arolygon eraill yn ei ddweud wrthym, maent yn dweud wrthym fod pobl yn treulio mwy o amser gartref a llai o amser allan yn y ffordd y byddent wedi'i wneud yn y gorffennol. Un o'r ffyrdd y gall pobl sy'n poeni am fusnesau lleol gefnogi'r busnesau lleol hynny yw eu defnyddio'n amlach. Roedd y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog yn synhwyrol a syml iawn.

Bydd busnesau yng ngorllewin Cymru, yn enwedig mewn perthynas ag ailbrisio, y cwestiwn a oedd gan yr Aelod ar y papur trefn, yn elwa o'r ffaith bod gennym gynllun yma yng Nghymru a fydd yn rhoi dros £100 miliwn—£100 miliwn yn fwy—dros y tair blynedd nesaf i lyfnhau'r llwybr  ar gyfer y llai na hanner o fusnesau Cymru sy'n wynebu ardrethi uwch eleni. Mae'r buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud yn sylweddol iawn.

13:55

Nos Lun, cefais y pleser o gyfarfod â pherchnogion busnesau ym Mhrestatyn sy'n asgwrn cefn i'n heconomi a'n cymunedau lleol. Roedd yn gyfle pwysig i wrando ar eu profiadau, deall y pwysau y maent yn ei wynebu, a thrafod y cymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi egluro sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi busnesau Cymru drwy ryddhad ardrethi i'r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch? Fe wnaethant ofyn hefyd am fwy o dryloywder ynghylch pam y mae rhai, ac nid eraill, cael rhyddhad ardrethi llawn.

Diolch i Carolyn Thomas. Edrychwch, rwy'n derbyn, i lawer o fusnesau, fod deall patrwm rhwymedigaeth ardrethi a rhyddhad ardrethi busnesau bach yn fater cymhleth. Mae'r bil a gewch yn gyfuniad o'ch gwerth ardrethol a lefel y lluosydd. Caiff gwerth ardrethol ei ailasesu bob tair blynedd, nid gan Lywodraeth Cymru, ond gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sefydliad annibynnol sy'n gwneud hynny ar ein rhan.

Am y tro cyntaf ers 2010, mae'r lluosydd wedi lleihau ar gyfer pob busnes yng Nghymru y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi achub ar y cyfle, gyda phwerau newydd sydd gennym yng Nghymru, i osod lluosyddion gwahaniaethol am y tro cyntaf, fel y bydd gan siopau'r stryd fawr, siopau bach a chanolig eu maint ar y stryd fawr, luosydd hyd yn oed yn is na gweddill busnesau Cymru. Y rheswm am hynny yw eu bod yn wynebu heriau unigryw, gan y gellir cynnal y busnes a wnânt yn haws ar-lein na busnesau lletygarwch, er enghraifft. Ai yma yn y Siambr y dywedais na allwch fwyta lasagne ar-lein? Ond gallwch brynu llyfr ar-lein. Ac os ydych chi'n siop sy'n gwerthu llyfrau ar y stryd fawr, efallai fod 25 y cant o'ch busnes yn 2026 yn cael ei gynnal yn y ffordd honno, o gymharu â'r hyn y byddai'r ffigur wedi bod ddegawd yn ôl. Dyna pam ein bod wedi darparu'r cymorth ychwanegol hwnnw iddynt.

Ac yna ddoe, fe wnaethom gyhoeddi buddsoddiad o £8 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Daw £5 miliwn o hynny o'r arian y gwyddom y byddwn yn ei gael o ganlyniad i gynllun y DU; mae £3 miliwn ohono’n dod o gyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn darparu’r rhyddhad o 15 y cant hwnnw nid yn unig i dafarndai a lleoliadau cerddoriaeth, fel sy'n digwydd yn Lloegr, ond i’r sector lletygarwch cyfan. Rwy’n falch ein bod wedi gallu gwneud hynny, hyd yn oed os yw'n ychwanegu haen arall o gymhlethdod i’r system, fel y mae’r Aelod yn ei nodi’n gywir ddigon.

'Cymraeg 2050'

4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch cynllyn 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OQ63801

Diolch i Lindsay Whittle am ei gwestiwn, Lywydd. Rydym yn gweithredu ar draws pob un o adrannau'r Llywodraeth i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio ym mhob maes polisi. Mae gan bob Ysgrifennydd Cabinet gyfrifoldeb i gefnogi 'Cymraeg 2050', ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phob Ysgrifennydd Cabinet i drafod datblygiadau sy'n berthnasol i'w portffolio.

14:00

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n hoffi meddwl yn gadarnhaol fy hun. Rwy'n edrych ymlaen at 2050 i weld llwyddiant y strategaeth 'Cymraeg 2050' drosof fy hun; dim ond 98 oed fyddaf i. Ond gyda'r arolwg poblogaeth blynyddol diweddaraf yn datgelu colled bryderus o 60,000 o siaradwyr Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg nad yw'n gwreiddio mor llwyddiannus yn ein cymunedau ag y byddem yn dymuno. O ystyried na all iaith oroesi fel carreg filltir i Lywodraeth yn unig neu'n bwnc ystafell ddosbarth, a wnewch chi lobïo San Steffan i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid o refeniw'r dreth gwasanaethau digidol, a defnyddio'r gyllideb honno i gefnogi cynnwys a gwasanaethau digidol cyfrwng Cymraeg, i sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn ddewis bywiog a hyfyw yn ein gofodau digidol a ffisegol? 

Diolch i Lindsay Whittle am hynny. Soniodd am yr arolwg poblogaeth blynyddol. Roedd yn siom gweld niferoedd yn gostwng ychydig ynddo. Nid yw'r gostyngiad yn ystadegol arwyddocaol, ac mae angen dehongli'r ffigurau'n ofalus. Fel y gwyddoch, nid ydynt bellach yn ystadegau swyddogol am fod y gyfradd a ymatebodd i'r arolwg poblogaeth blynyddol wedi lleihau'n sylweddol. Nid ydynt mor ddibynadwy ag yr oeddent, ac yn fy marn i mae'r newid i ddulliau ar-lein o arolygu'r boblogaeth yn gallu cael effaith arbennig o anesmwyth ar bobl sy'n adrodd eu gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg.

Felly, mae angen bod yn ofalus ynghylch y ffigurau, ond rwy'n cytuno'n fawr â'r pwynt cyffredinol a wnaeth yr Aelod. Yr her i ni yng Nghymru yw sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, yn iaith bob dydd, fod y bobl ifanc niferus sy'n dysgu'r iaith yn yr ysgol yn hyderus i'w defnyddio mewn rhannau eraill o'u bywydau. Gwyddom o adroddiadau diweddar fod rhai rhannau o fywydau pobl ifanc lle maent yn fwy tebygol o deimlo'n gyfforddus i ddefnyddio'r Gymraeg—mewn chwaraeon, mewn diwylliant ac yn y blaen. Ond mae gwneud yn siŵr ei bod yr un mor hawdd defnyddio'r Gymraeg yn y byd digidol newydd y mae rhai ohonom yn gorfod dod i arfer ag ef yn hollol hanfodol.

Os yw algorithmau Saesneg yn golygu bod yr iaith Saesneg yn cael ei wthio o'ch blaen bob tro y byddwch chi'n ceisio defnyddio rhywbeth, a bod yn rhaid i chi fynd i chwilio am y ffordd Gymraeg o wneud pethau, mae hynny'n golygu na fydd pobl ifanc yn gwneud hynny. Mae'r buddsoddiad y gallwn ei wneud i sicrhau bod y byd digidol yn fyd dwyieithog, byd lle mae'r dewis i ddefnyddio'r Gymraeg mor hawdd ag y mae defnyddio unrhyw iaith arall, yn gwbl hanfodol os ydym yn mynd i wneud yn siŵr fod y Gymraeg yn iaith sy'n cael ei defnyddio ym mhob agwedd ar ein bywydau.

Ysgrifennydd Cabinet, dros y pum mlynedd diwethaf, mae yna lawer o bethau y mae'r ddau ohonom ni wedi anghytuno arnynt, ond un peth rydym ni yn cytuno arno yw pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a phwysigrwydd targed 'Cymraeg 2050'. Tua blwyddyn yn ôl, roeddem ni wedi gweld arweinydd plaid Reform, Nigel Farage, yn dweud ei fod e'n moyn cael gwared ar y targed 'Cymraeg 2050'. Dŷn ni'n gwybod, fel Ceidwadwyr Cymreig, yr un peth rydych chi'n gwybod, sef bod cael targed yng nghanol y Llywodraeth yn sicrhau bod yr holl Lywodraeth yn symud tuag at gyrraedd y targed hwn. Heb darged, byddai'n anodd gweld sut ydym ni'n mynd i dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru. Felly, pa mor bwysig ydych chi'n meddwl yw hi nad yw ein hiaith Gymraeg ddim yn cael ei defnyddio fel pêl-droed wleidyddol, sef beth mae plaid Reform yn moyn ei wneud, ond yn fater sy'n digwydd yn drawsbleidiol y mae pawb yng Nghymru yn prynu mewn iddo?

Diolch yn fawr i Tom Giffard am y cwestiwn. Pan oedd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) o flaen y Senedd y flwyddyn diwethaf, roeddwn i'n falch ein bod ni wedi gallu pasio'r Bil yn unfrydol dros y Siambr i gyd. Roedd hynny'n rhywbeth pwysig, i ddangos i bobl yng Nghymru ein bod ni yma yn y Siambr presennol i gyd, bron, tu ôl i'r iaith Gymraeg, yn cefnogi'r iaith Gymraeg, a ddim yn defnyddio'r iaith Gymraeg, fel rwyt ti'n dweud, fel rhywbeth gwleidyddol. Dwi'n teimlo'n siomedig y bydd un parti yn yr etholiadau ar gyfer y Senedd ym mis Mai eisiau defnyddio'r iaith Gymraeg fel yna—nid yn uno pobl, ond yn trio perswadio rhai pobl nad yw'r iaith Gymraeg ddim yn bwysig iddyn nhw. Rŷn ni'n gwybod bod pobl yng Nghymru, pobl sy'n siarad Cymraeg a phobl sydd ddim yn siarad Cymraeg, yn falch bod iaith gyda ni yma yng Nghymru, a dyna beth dwi eisiau ei weld yn y dyfodol.

14:05
Busnesau Hunanarlwyo

6. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i effaith ei gofyniad gosod 182 diwrnod ar hyfywedd busnesau hunanarlwyo? OQ63796

Cyhoeddwyd yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y polisi hwn ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth gysylltiedig ym mis Mai 2022. Ar ôl gweithredu'r newidiadau, rydym bellach yn gwybod bod 60 y cant o lety gwyliau wedi bodloni'r meini prawf diwygiedig ar gyfer gosod, mwy nag a ragwelwyd gan y diwydiant neu a ragwelwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. 

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Daeth etholwr, Mr Daniel Gwatkin, sy'n rhedeg busnes bach, Tŷ Poeth Holiday Lets, ychydig y tu allan i Fachynlleth, i gysylltiad â mi yr wythnos diwethaf. Mae wedi adolygu safbwynt diweddaraf Llywodraeth Cymru ac wedi dweud, ar ôl adolygu'n ofalus yn erbyn realiti gweithredol ei fusnes ei hun, nad yw'r newidiadau hyn yn atal methiant i lawer o fusnesau llety gwyliau gwledig bach. Mae'n mynd rhagddo i egluro bod Tŷ Poeth yn eiddo hanesyddol wedi'i rannu'n nifer o unedau hunanddarpar bach sy'n cael eu gweithredu fel un busnes gwledig integredig, ac mae'r fframwaith presennol yn parhau i drin pob uned ar wahân. Rwy'n sôn am hyn am fod llawer o fusnesau wedi codi'r un enghraifft yn union. Iddo ef, mae'n dweud bod y system yn cymryd yn ganiataol fod galw drwy gydol y flwyddyn ar draws y Gymru wledig, ac nid yw hynny'n wir, ac mae'n cosbi arallgyfeirio ac yn creu ymyl dibyn lle mae diffygion ymylol yn golygu bod busnesau bach fel ei un ef yn methu. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthyf sut y dylwn ymateb i'r etholwr dan sylw. A fyddech chi'n fodlon edrych ar ei sefyllfa benodol ef? A gaf i anfon yr ohebiaeth e-bost hon atoch er mwyn i chi a'ch swyddogion allu ei hadolygu a gweld hwn nid fel un busnes, ond fel enghraifft o'r sefyllfa y mae llawer o fusnesau ynddi?

Ar y pwynt olaf a gododd yr Aelod, wrth gwrs, rwyf bob amser yn barod i edrych ar unrhyw enghreifftiau y byddai'r Aelodau yma yn eu codi. Mae Mr George yn dweud bod hwn yn fusnes bach. Nid oes unrhyw beth yn atal y busnes bach rhag gweithredu os nad yw'n derbyn cwsmeriaid am 182 diwrnod y flwyddyn. Mae'n golygu'n syml nad yw'r busnes hwnnw'n gallu hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach. Nid oes unrhyw un yn cael ei atal rhag gosod eiddo am 180 diwrnod, ond ni allwch hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach os nad ydych chi'n derbyn cwsmeriaid am hanner y flwyddyn. Nid yw'n ymddangos i mi fod hynny'n rhywbeth afresymol i'w ddisgwyl gan fusnes.

Mae'r newidiadau a gyhoeddais ar 21 Ionawr yn ymdrin â'r mater ymyl dibyn a gododd yr Aelod. Clywais innau hynny gan y sector ac rwy'n cydymdeimlo. Rwy'n deall bod hwn yn ddiwydiant yr effeithir arno gan hafau gwahanol. Rydych chi'n cael haf da, rydych chi'n cael mwy o gwsmeriaid, rydych chi'n cael haf gwael ac mae gennych chi lai. O ganlyniad, nid ydym bellach yn gofyn i fusnesau osod am 182 diwrnod bob blwyddyn. Gallant gyfartalu hynny dros gyfnod o dair blynedd, sy'n ystyried y ffaith ei fod yn fusnes cylchol yn y ffordd honno ac felly mae ymyl y dibyn wedi cael sylw.

Ymdrinnir ag ymyl y dibyn mewn ail ffordd yn y newidiadau hefyd. Rwy'n cydymdeimlo hefyd â'r hyn a glywais i gan y sector. Os ydych chi'n disgyn islaw 182 diwrnod ac yn gorfod talu'r dreth gyngor fel pawb arall nawr, nid yn unig y mae'n rhaid i chi dalu'r dreth gyngor, mewn sawl rhan o Gymru rhaid i chi dalu premiwm hefyd. Mae hwnnw'n swm sylweddol o arian, felly byddwn yn deddfu fel mai dim ond y dreth gyngor yn syml a fydd yn daladwy yn y flwyddyn gyntaf nad yw busnes yn gweithredu ar 182 diwrnod dros y cyfnod estynedig hwnnw, heb unrhyw bremiymau ynghlwm wrtho, ac mae hynny hefyd wedi'i gynllunio i osgoi ymyl dibyn yn y ffordd y mae Russell George wedi'i nodi.

Er fy mod yn hapus iawn i edrych ar yr achos y mae wedi'i ddisgrifio y prynhawn yma, hoffwn ddweud wrtho fod y newidiadau a gyflwynwyd gennym wedi'u llunio'n llwyr i ateb y pwynt a gododd.

14:10

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell galluogi lwfans o hyd at 14 diwrnod y flwyddyn i roddion elusennol gyfrif tuag at y meini prawf gosod. Dywedir wrthyf mai'r bwriad yw osgoi datgymell rhoddion o'r fath, a fydd yn cefnogi budd cyhoeddus ehangach i bobl dan anfantais, yn hytrach na'u gwneud yn ofyniad penodol. Pam 14 diwrnod? Pam na all y Llywodraeth ganiatáu i ddarparwyr ddarparu defnydd elusennol diderfyn? Mae caniatáu defnydd rhad neu am ddim i bobl o gefndiroedd difreintiedig i'w weld i mi yn ganlyniad da.

Oherwydd byddai hynny'n agor y drws i gamfanteisio. Dyna pam na fyddwn yn barod i ganiatáu defnydd diderfyn at ddibenion elusennol. Mae hon yn system hunanasesu. Nid oes unrhyw swyddogion Llywodraeth Cymru na heddlu gosod llety'n mynd o gwmpas i wirio a yw busnesau'n cynnig llety am ddim am 14 diwrnod mewn gwirionedd. Mae'r diwydiant yn dweud wrthyf eu bod nhw'n gwneud, ac y byddai hynny'n fath o ddull safonol, ac unwaith eto, rwy'n barod i fynd gyda'r diwydiant ar hynny. Ond yr unig ffordd y byddwn ni'n gwybod yw oherwydd mai dyna mae'r busnes yn ei ddweud wrthym sy'n digwydd. Pe bai rhyddhad diderfyn, rwy'n eithaf siŵr y byddem yn clywed gan fwy o fusnesau a fyddai'n gweithredu ar sail elusennol drwy gydol y flwyddyn yn ôl pob golwg. Y rheswm pam y mae gennym 14 diwrnod yw oherwydd bod hynny'n diogelu'r trethdalwr ac yn ymateb i'r hyn y mae'r diwydiant ei hun wedi'i ddweud. Rwy'n awyddus iawn i annog y busnesau sy'n cynnig llety at y dibenion elusennol hyn, ac rwy'n credu bod 14 diwrnod yn gyfnod rhesymol o amser i gydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rheol 182 diwrnod wedi bod yn drychineb llwyr i lawer o fusnesau hunanddarpar a thwristiaeth ledled Cymru. Yn ogystal â phopeth y mae Llafur yn ei wneud i gosbi busnesau ledled ein gwlad, mae busnesau wedi cau, swyddi wedi'u colli, ac mae twristiaeth Cymru wedi cael ei heffeithio'n negyddol mewn llawer o ardaloedd yn fy rhanbarth i ac ar draws Cymru. Rhybuddiodd cyrff diwydiant eu hunain y gallai'r polisi hwn ddinistrio'r sector twristiaeth.

Ger fy nghartref yn sir Fynwy, mae yna felin wynt hardd—efallai eich bod chi'n gwybod amdani—yn Llancaeo. Mae'n llety hunanddarpar, ac mae hynny wedi cael ei effeithio'n negyddol. Mae Cyngor Sir Fynwy ei hun yn ei defnyddio mewn lluniau i dynnu sylw at ba mor wych yw sir Fynwy, ac eto mae'r busnes hwnnw bellach mewn perygl am na allant adolygu'r busnesau hyn fesul achos, ac mae angen iddynt allu gwneud hynny. Maent yn unigryw a phob un yn wahanol, fel y nododd yr Aelod nawr.

Ysgrifennydd y Cabinet, os yn bosib, hoffwn i chi ymrwymo i gyhoeddi datganiad cyfredol sy'n dangos yr effaith y mae'r polisi hwn wedi'i chael ar dwristiaeth, gan gynnwys cau busnesau, colli swyddi a newidiadau i refeniw awdurdodau lleol. Diolch. 

Yn fy ateb gwreiddiol, rhoddais rai ffeithiau i'r Aelod ynglŷn â beth yw effaith y newid. Mae 60 y cant o fusnesau Cymru yn cyrraedd y trothwy o 182 diwrnod. Mae hynny'n fwy nag y disgwyliem. Mae'n fwy nag y disgwyliai'r diwydiant. Gadewch imi ei hatgoffa pam y mae'r newid hwn yn angenrheidiol. Dyblodd nifer y darpariaethau llety gosod tymor byr yng Nghymru rhwng 2013 a 2019. Bu cynnydd pellach o 60 y cant rhwng 2019 a 2023. Roedd hwnnw'n dwf hollol anghynaladwy. Dyma'r tri rheswm pam y mae angen newid.

Yn gyntaf oll, creodd orgyflenwad sylweddol yn y farchnad Gymreig. Yn syml, roedd gormod o fusnesau'n cystadlu am nifer rhy fach o bobl a oedd eisiau archebu llety ynddynt. Yn ail, arweiniodd at effaith sylweddol ar y refeniw sydd ar gael i awdurdodau lleol wrth i'r eiddo symud o dalu'r dreth gyngor a hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach. Yn drydydd, cafodd effaith niweidiol ar y cymunedau y mae'n rhaid i'r diwydiant hwnnw weithredu ynddynt. Roedd pob eiddo a newidiodd yn llety gosod tymor byr yn eiddo nad oedd ar gael i'w werthu ac nad oedd ar gael i'w osod ar rent yn hirdymor mewn cymunedau lle roedd pobl eisiau aros, eisiau byw eu bywydau, a chaent eu hatal rhag gwneud hynny gan y ffordd ddifeddwl yr oedd eiddo'n cael ei symud i'r farchnad lety gosod tymor byr. Roedd hynny'n gwbl anghynaliadwy a dyna pam yr oedd angen y newid. 

14:15
Y Sector Lletygarwch

7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i newid ei pholisi trethiant i gefnogi'r sector lletygarwch? OQ63785

Diolch i'r Aelod, Lywydd. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r rhyddhad ardrethi annomestig ychwanegol y byddwn yn ei ddarparu yng Nghymru. Mae cynrychiolwyr y sector wedi amcangyfrif bod tua dwy ran o dair o eiddo lletygarwch yng Nghymru eisoes yn debygol o ddenu rhyddhad o gynlluniau presennol.

Diolch am yr ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni allai neb fod wedi methu clywed ple'r sector lletygarwch yn ystod y misoedd diwethaf. Bob wythnos, clywn am fusnes lletygarwch arall yn methu. Yn anffodus, mae eich gostyngiad blwyddyn o 15 y cant yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Ar y penwythnos, datgelodd cyfarwyddwr Cymru o Gymdeithas y Bragwyr Annibynnol y rhesymau dros gyflwr difrifol y sector yng Nghymru. Nododd na fyddai'n talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl pe bai ei fragdy ar yr ochr arall i fôr Hafren. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn nawr fod polisïau trethiant busnes ac ardrethi annomestig yn niweidio busnesau bwyd a diod yng Nghymru? Yn hytrach na gostyngiadau untro, a wnewch chi edrych nawr ar ddiwygiadau sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn trethu busnesau lletygarwch cyn i'r dafarn ddod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol?

Wel, Lywydd, rwy'n credu fy mod eisoes y prynhawn yma wedi ceisio esbonio rhai o'r cymhlethdodau sy'n sail i'r heriau sy'n wynebu'r sector. Ond fe ddywedaf wrth Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr mai un o'r problemau sy'n wynebu'r sector yng Nghymru yw'r lladd cyson arno gan bobl y clywsom ganddynt y prynhawn yma. Nid oes gennych air da i'w ddweud am letygarwch yng Nghymru. Dro ar ôl tro, rydych chi'n codi a'r cyfan sydd gennych i'w ddweud wrthyf—[Torri ar draws.]—y cyfan sydd gennych i'w ddweud wrthyf yw ei fod mewn argyfwng, ei fod ar fin methu. Ac weithiau—weithiau—mae'n bwysig siarad dros y diwydiant hwn, i esbonio'r daioni y mae'n ei wneud, y rhesymau pam y ceir cymaint o fusnesau llwyddiannus yng Nghymru. Ac unwaith yn y pedwar gwynt, pe bai un Aelod o'r Blaid Geidwadol Gymreig yn gallu dod o hyd i air da i'w ddweud am fusnes yng Nghymru, byddai hynny'n eu helpu nhw hefyd.

Y Gyllideb a Gogledd Cymru

8. Pa fanteision y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn eu darparu i bobl yng Ngogledd Cymru? OQ63782

Lywydd, mae cyllideb derfynol 2026-27 yn sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus allweddol, y mae pobl gogledd Cymru yn dibynnu arnynt, sicrwydd a chyllid i gyflawni eu blaenoriaethau. Mae'n cynyddu cyllid i'r GIG, mae'n cryfhau cynghorau fel y gallant ddiogelu ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau lleol pwysig.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r meysydd pwysig y mae pobl gogledd Cymru yn poeni amdano yw trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth yn ehangach. Cyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd y byddai £2.1 biliwn yn cael ei wario ar rwydwaith gogledd Cymru—fersiwn gogledd Cymru o'r metro a welwn yma yn ne Cymru. Nawr, o'r £2.1 biliwn hwnnw, nid yw Llywodraeth Cymru ond wedi ymrwymo £13 miliwn er mwyn ei weld yn cael ei gyflawni—mae hynny'n llai nag 1 y cant o'r cyllid sydd ei angen i weld metro yng ngogledd Cymru. Mae hynny'n cymharu â bron i £1 biliwn wedi'i ymrwymo a'i wario yma yn ne Cymru ar gyfer metro de Cymru. Mae pobl gogledd Cymru'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru yma—Llywodraeth Lafur Cymru—yn meddwl amdanynt yng ngogledd Cymru, a gallwn weld pam, pan fo llai nag 1 y cant o'r cyllid sydd ei angen yn cael ei ymrwymo. A ydych chi'n difaru peidio â sicrhau bod cyllid yn cael ei ymrwymo ar gyfer metro gogledd Cymru?

Lywydd, mae'r £13 miliwn yn ffigur ar gyfer buddsoddiad yn y flwyddyn ariannol hon, nid yng nghyllideb 2026-27, ac mae arian pellach yn y gyllideb honno ar gyfer cyflawni rhwydwaith metro gogledd Cymru, cynllun pwysig iawn y mae Gweinidog gogledd Cymru wedi ymrwymo'n gryf iddo.

Yn fwy cyffredinol, Lywydd, ar draws gogledd Cymru, bydd pobl yn gweld y buddsoddiadau y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn eu gwneud, boed yn arian ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, yr hyb llawfeddygaeth orthopedig yn Llandudno yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, arian i'w fuddsoddi yng nghanol dinas Bangor yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, neu'r arian a ddarparwn i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar draws gogledd Cymru gyfan. Ym mhob cymuned yng ngogledd Cymru, ceir enghreifftiau gweladwy o'r buddsoddiad y mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi'i wneud mewn cymunedau ar draws y gogledd. Dyna fydd pobl yn y gogledd yn ei weld drostynt eu hunain.

14:20
Comisiwn Cymunedau Cymraeg

9. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni argymhellion adroddiad y Comisiwn Cyntaf ar gyfer Cymunedau Cymraeg? OQ63780

Diolch yn fawr i Cefin Campbell, Llywydd. Ers cyhoeddi ein hymateb i adroddiad y comisiwn, rydym wedi bod yn gweithio yn drawsadrannol i wireddu yr argymhellion. Rwyf hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda nifer o randdeiliaid a’m cyd-Weinidogion. Byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd ar gynnydd y gwaith ar 24 Chwefror.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr adroddiad cynnydd yna. Fe gofiwch chi fod eich rhagflaenydd chi, Jeremy Miles, oedd wedi dal y portffolio am yr iaith Gymraeg, wedi comisiynu'r gwaith pwysig yma, achos roedd e, fel nifer ohonom ni sydd yn byw mewn cymunedau Cymraeg, wedi gweld dirywiad dros ddegawdau lawer, i'r pwynt lle mae yna argyfwng nawr o safbwynt cynnal y Gymraeg fel iaith fyw yn y math yna o gymunedau, lle mae yna ddwysedd cymharol uchel o siaradwyr.

Nawr, fe gawson ni ymateb y Llywodraeth, wrth gwrs, yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd, a derbynioch chi mewn egwyddor yr argymhellion bron i gyd. Ond beth oedd ar goll, wrth gwrs, oedd cynllun gweithredu ac amserlen glir, a nes eich bod chi'n dweud eich bod chi'n mynd i roi adroddiad cynnydd, dwi wedi bod yn ei gweld hi'n anodd iawn gweld beth yn union ŷch chi wedi bod yn ei wneud dros y naw mis diwethaf o ran rhoi'r argymhellion yna ar waith, a dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, mewn gwirionedd, i sefyllfa'r Gymraeg yn y cymunedau o ddwysedd uchel. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed eich diweddariad chi, gan obeithio ei fod e'n ymateb mewn ffordd frys. Ydych chi'n gallu rhoi, felly, ryw syniad i ni o beth sydd yn debygol o fod yn yr adroddiad yna y prynhawn yma?

Dwi'n ddiolchgar i Cefin Campbell. Gallaf i ddweud wrth yr Aelod, ar ôl beth ddywedais i yn Eisteddfod yr Urdd nôl ym mis Mai, ers hynny i fyny at heddiw, rydym ni wedi gallu cyflawni 11 argymhelliad ac yn gobeithio cwblhau chwech arall cyn diwedd tymor y Senedd hon. So, rŷn ni wedi mynd ati'n barod. Wrth gwrs, mae mwy o argymhellion sy'n mynd i gwympo i'r Senedd nesaf, ac yn y datganiad sydd gyda fi ar 24 Chwefror, dwi eisiau tynnu sylw at y gwaith rŷn ni'n ei wneud nawr i greu'r cyd-destun i'r Llywodraeth ar ôl mis Mai i fwrw ymlaen gyda rhai o'r argymhellion eraill. Dwi'n mynd i ganolbwyntio yn y datganiad ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch a sut i ddynodi'r ardaloedd yna, ond bydd mwy yn y datganiad na hynny.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Bron na chaf fy nhemtio i ddweud y dylem i gyd fynd i'r dafarn ar ôl y sesiwn holi honno. [Chwerthin.] Na, ni wnawn hynny.

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Symudwn ymlaen at eitem 2.

Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf, John Griffiths.

Ffermydd Solar ar Wastadeddau Gwent

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diogelu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent yn sgil y ceisiadau parhaus ar gyfer ffermydd solar ar raddfa fawr? OQ63797

Member
Huw Irranca-Davies 14:24:09
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch am y cwestiwn, John. Mae gwastadeddau Gwent o bwys cenedlaethol ar gyfer bioamrywiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein SoDdGAoedd yn cael eu gwarchod a'u rheoli'n well ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn ymgynghori'n fuan ar ganllawiau cynllunio ar gyfer gwastadeddau Gwent i sicrhau bod y datblygiad cywir yn y lle cywir ac i osgoi effeithiau annerbyniol ar fioamrywiaeth.

Diolch am hynny. Prin 12 y cant o Gymru sy'n safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac wrth gwrs, cânt eu dynodi oherwydd eu pwysigrwydd cenedlaethol i fywyd gwyllt, cynefinoedd a daeareg. Mae gwastadeddau Gwent yn un o'r ardaloedd mwyaf eang o dir pori gwlyb wedi'i adfer ym Mhrydain, ac maent yn cynnal tua 43 o rywogaethau prin neu rywogaethau a nodir yn genedlaethol. Mae'r ffosydd dyfrio hanesyddol yn llawn planhigion ac mae ffawna infertebratau dyfrol yn eithriadol o amrywiol. Mae hon yn dirwedd fregus ac wedi'i rheoli'n llym lle gall newidiadau bach gael effeithiau cronnol, ac yn anffodus, mae methiant i ddiogelu rhag y risgiau'n aml yn arwain at golli bioamrywiaeth heb fod modd ei hadfer ac yn y pen draw at ddiraddio'r dynodiad safle o ddiddordeb gwyddonol ei hun.

O dan 'Polisi Cynllunio Cymru', ni ddylai datblygiad ar dir o fewn neu'n gyfagos i SoDdGA gael effaith andwyol, naill ai'n unigol neu'n gronnol, yn cynnwys ochr yn ochr â datblygiadau eraill. Ond er gwaethaf y fframwaith polisi hwn, rydym yn gweld dehongliadau gwahanol iawn o warchodaeth i SoDdGAoedd gan ddatblygwyr a chan arolygwyr cynllunio. O ystyried y dehongliadau anghyson hyn a'r risg y maent yn ei hachosi, Ysgrifennydd y Cabinet, fel mater o frys ac er budd pawb dan sylw, tybed a allech chi ystyried cyhoeddi eglurhad ffurfiol neu ganllawiau ychwanegol ynghylch darpariaethau allweddol pennod 6 o 'Polisi Cynllunio Cymru' o ran y warchodaeth i'r SoDdGA hanfodol hwn.

14:25

Diolch, John. Rwy'n credu y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd i chi. Ond, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i chi am eich ymrwymiad di-ildio i wastadeddau Gwent a hefyd eich arweinyddiaeth ar weithgor gwastadeddau Gwent ers 2020? Rydych chi wedi bod yn hyrwyddwr dyddiol, wythnosol, blynyddol di-baid ar ran gwastadeddau Gwent, gan siarad ar ran yr holl sefydliadau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth a stiwardiaeth amgylcheddol gwastadeddau Gwent.

Nawr, fel y deallwch, John, un o gyfrifoldebau fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yw polisi cynllunio, ond rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi clywed ei eiriau hefyd. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn glir fod datblygiad nad yw o blaid rheoli'r SoDdGA yn annerbyniol. Fel mater o egwyddor mewn SoDdGAoedd, rhaid iddynt gael eu heithrio o chwiliadau safle a gynhelir gan ddatblygwyr a rhaid dangos dewisiadau amgen rhesymol i leoliadau o'r fath, a rhaid i'r elfen hon o bolisi gael ei chymhwyso gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Nid yw'n dderbyniol anwybyddu dewisiadau lleoli safleoedd gwael lle na ellir cyfiawnhau'r rhain yn nhermau polisi.

Fel gair o sicrwydd i chi, John, bydd y canllawiau strategol sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer gwastadeddau Gwent yn cadarnhau ymhellach y llinell glir ar gyfer diogelu SoDdGAoedd a gynhwysir yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.

Rwy'n adnabod John Griffiths ers 1999, ac rwy'n amau'n fawr ei fod yn ddigon anghwrtais i gerdded allan hanner ffordd drwy eich ateb iddo. [Chwerthin.] O, mae'n ei ôl, felly mae'n rhaid ei fod wedi pwyso botwm yn ddiarwybod. Rwy'n siŵr y bydd eisiau ymddiheuro am hynny ar ryw bwynt, ac mae'n gwneud hynny wrth inni siarad, siŵr o fod. Peter Fox nesaf.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddech chi'n amlwg wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwarchodaeth i wastadeddau Gwent, SoDdGAoedd, ond mae cymunedau yn sir Fynwy, Torfaen a Chasnewydd yn wynebu pwysau tebyg iawn gan ddatblygiadau solar ar raddfa fawr, fel y mae John Griffiths wedi siarad amdanynt sawl gwaith ar wastadeddau Gwent. Yn wir, mae safle mawr 300 erw arfaethedig yn dod i bentref o'r enw Pont-hir yn ein hetholaeth ni. Nawr, mae trigolion lleol yn gweld cynigion sy'n codi pryderon difrifol am golli bywyd gwyllt, yr effaith ar dir fferm a llawer mwy. Mae nifer o'r farn y byddai'r rheolau amgylcheddol y mae Llywodraeth Cymru bob amser yn cyfeirio atynt yn gymwys, ond nid yw'n ymddangos eu bod yn cyfateb i raddfa'r ceisiadau hyn. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o aberthu un set o egwyddorion amgylcheddol wrth fynd ar drywydd un arall, ac nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr.

O ystyried cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r bobl yn fy etholaeth ac ymhellach i ffwrdd na fydd gwarchodaeth i safleoedd sy'n werthfawr yn amgylcheddol yn syrthio drwy'r craciau? Yn hanfodol, yn y trafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch gwastadeddau Gwent, a ydych chi wedi codi'r egwyddor ehangach, er bod y trawsnewidiad i ynni adnewyddadwy'n cael ei dderbyn, na all ddod ar unrhyw gost, yn enwedig cael gwared yn ddiofal ar dir gwledig o ansawdd da?

Diolch, Peter. Fe fyddwch chi'n deall na allaf wneud sylwadau ar unrhyw geisiadau byw neu ddatblygiadau unigol, ond rydym yn ymwneud â Llywodraeth y DU ar hyn hefyd, oherwydd mae yna elfen ddatganoledig ac elfen a gadwyd yn ôl yma o ran cydsynio. Ond i fod yn glir iawn: ystyrir effaith ar SoDdGA yn rhan o system cydsyniad y DU i brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol drwy'r broses asesu effaith amgylcheddol. Dylai'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a thrwy hynny geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth, a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau wrth wneud hynny. Yn ogystal, gyda llaw, Peter, caiff awdurdodau lleol a CNC hefyd eu nodi yn y broses honno fel ymgyngoreion statudol, ac mae ganddynt gyfle i wneud sylwadau wedyn i unrhyw awdurdod archwilio, er mwyn sicrhau bod cynllunio ar raddfa genedlaethol a lleol, ac unrhyw bryderon amgylcheddol, yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses o benderfynu ar unrhyw gais. Yn olaf, o dan broses prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol a phroses Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, mae'n ofynnol i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau yn yr ardal, ac mae'n rhaid iddynt greu dogfennau manwl am yr effaith y gallai'r prosiect ei chael ar yr amgylchedd.

Roeddwn eisiau ychwanegu un peth o ddiddordeb i Peter ac Aelodau eraill ynglŷn â gwastadeddau Gwent, ond yn gyffredinol, y dull hwn o gynllunio: byddaf yn mynychu cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yfory. Un o elfennau'r cyfarfod hwnnw yw archwiliad dwfn i fioamrywiaeth. Bydd yn gyfle i drafod gyda Gweinidogion ledled y DU sut y gallwn gyflymu camau i wella gwydnwch ecosystemau fel gwastadeddau Gwent. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y drafodaeth honno.

14:30

Hoffwn adleisio a chytuno â'r hyn a ddywedodd John yn ei gwestiwn atodol. Rhaid gwarchod yr ardal SoDdGA. Mewn egwyddor, rwy'n cefnogi ynni adnewyddadwy ac mae'n elfen bwysig yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, ond fel y dywedodd Mike Webb o Ymddiriedolaeth Natur Gwent, ni allwch ddinistrio'r amgylchedd i achub yr amgylchedd. Rwy'n adleisio'r galwadau am gyhoeddi eglurhad a chanllawiau ffurfiol ar warchodaeth SoDdGA, a chymhwyso'r ddeddfwriaeth hon yn llawn i gynnig mwy o warchodaeth i'r cynefinoedd unigryw hyn. Ond beth sydd i ddigwydd pan fydd prosiectau ar y tir ychydig dros y trothwy o 350 MW ar gyfer penderfynu arnynt gan awdurdod yng Nghymru? Wel, fel gyda llawer o bethau, San Steffan fydd â'r gair olaf. Fel finnau, onid ydych chi'n gweld hyn yn hollol annerbyniol ac i fod yn onest, yn nawddoglyd? Pa drafodaeth rydych chi'n ei chael gyda'ch chyd-bleidwyr yn San Steffan i sicrhau bod penderfyniadau terfynol am brosiectau ynni Cymru yn cael eu penderfynu yng Nghymru?

Lywydd, nid wyf am ailadrodd—nid o anghwrteisi i'r Aelod, ond—y pwyntiau a wneuthum yn yr ateb blaenorol i Peter Fox ar ein hymwneud â Llywodraeth y DU, ond hefyd y cyd-destun y mae hyn wedi'i osod ynddo o ymgyngoreion statudol, cyfeirio at ein dyletswyddau yma yng Nghymru, a gwarchodaeth SoDdGAoedd hefyd. Yn wir, mae gwastadeddau Gwent wedi'i nodi fel un o naw ardal adnoddau naturiol cenedlaethol dynodedig gan bolisi 9 'Cymru'r Dyfodol' hefyd.

Ond mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud wrth weithio gyda'r gymuned, mae'n rhaid imi ddweud, yn ogystal ag ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Roeddem yn falch iawn, Pred, o gytuno ar gyllid ar gyfer y prosiect partneriaeth Gwastadeddau Byw dan arweiniad yr RSPB, sy'n darparu cyllid ar gyfer parhau gwaith hanfodol y prosiect hwnnw. Ond rydym hefyd wedi rhoi arian cyfatebol i'r gwaith datblygu sydd ei angen ar Ymddiriedolaeth Natur Gwent i fwrw ymlaen â throsglwyddiad ased cymunedol tir fferm sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar wastadeddau Gwent. Pam y mae hyn yn bwysig? Oherwydd ei fod yn gyfle i gyfrannu tuag at reolaeth effeithiol y SoDdGAoedd hynny ar wastadeddau Gwent. Felly, rwy'n falch ein bod wedi cael y drafodaeth hon heddiw. Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn ymwneud â'r hyn a wnawn o fewn ein cyd-destun cynllunio yma yng Nghymru.

Strategaeth Bwyd Cymunedol

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithredu strategaeth bwyd cymunedol Llywodraeth Cymru? OQ63778

Diolch, Cefin. Rydym yn parhau i weithredu'r strategaeth bwyd cymunedol drwy ddyrannu cyllid grant i bartneriaethau bwyd lleol ledled Cymru. Mae gan bob awdurdod lleol bartneriaeth bwyd lleol ar waith bellach. Cynhaliodd grŵp cynghori'r Gweinidog ar y strategaeth bwyd cymunedol graidd, sy'n goruchwylio cyflawniad, ei gyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr, a bydd yn cefnogi'r gwaith o gydlynu mentrau a arweinir gan y gymuned.

Diolch yn fawr iawn. Yn fy marn i, mae strategaeth bwyd cymunedol y Llywodraeth yn cydnabod, wrth gwrs, rôl mentrau bwyd, ond mae'n methu mynd i'r afael â'r newid sydd ei angen ar Gymru yn ddigonol. Er gwaethaf cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, mae gormod o bobl yng Nghymru'n dal i gael trafferth cael gafael ar fwyd maethlon a fforddiadwy, gan ddibynnu'n fawr ar fewnforion o wledydd eraill. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig, lle mae pellter ac incwm isel yn gwneud bwyd iach yn anoddach i'w gyrraedd. Dyw'r strategaeth bresennol ddim chwaith yn mynd i'r afael yn ddigonol â fforddiadwyedd a hybu cynnyrch lleol, achos mae ymchwil gan y Countryside Alliance yn dangos bod llawer o'r cyw iâr sy'n cael ei weini mewn ysgolion yng Nghymru yn dod o Wlad y Thai, yn hytrach na'n bod ni'n annog ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu'r math hyn o gyw iâr. Felly, ydych chi'n cytuno nad yw'r strategaeth bwyd cymunedol yn mynd yn ddigon pell a bod angen rhywbeth mwy cynhwysfawr ar Gymru?

14:35

Rwy'n credu bod y strategaeth bwyd cymunedol yn bwerus ac yn eang, ac yn ddwfn ac effeithiol iawn hefyd. Ond ar fater tlodi bwyd, i atgoffa cyd-Aelodau, gyda chefnogaeth y Senedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £29 miliwn ers 2019 i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i fynd i'r afael â diffyg diogeledd bwyd ac i ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau, gan helpu unigolion ac aelwydydd i wneud y mwyaf o'u hincwm a meithrin y gwydnwch hwnnw. Mae dros £4 miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gyda llaw.

Ond ar y partneriaethau bwyd lleol, dywedais ei fod bellach ym mhob un o'r 22 partneriaeth bwyd lleol. Maent i gyd wedi cael cyllid. Yr hyn y mae hyn yn ei gynnwys, gyda llaw, yw pethau fel treialu marchnadoedd ffermwyr a chynlluniau bocsys llysiau lleol, cysylltu cymunedau â ffermwyr a chynhyrchiant bwyd lleol drwy ymweliadau â ffermydd a digwyddiadau, datblygu sgiliau, dosbarthiadau coginio, ymgysylltu ag ymgyrchoedd sy'n ymgorffori lleisiau a sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad mewn siarteri a strategaethau bwyd lleol, felly uno'r dotiau'n lleol i feithrin y gwydnwch bwyd hwnnw.

Rydym wedi sicrhau bod bron i £0.25 miliwn ar gael i bartneriaethau bwyd lleol i weithio gyda'i gilydd ar brosiectau mwy sydd â diddordeb cyffredin. Er enghraifft, mae Bwyd Powys yn arwain prosiect sy'n cwmpasu canolbarth a gorllewin Cymru, gan gynnwys pedair partneriaeth fwyd lleol. Mae'n ddull arloesol iawn o sicrhau gwydnwch bwyd. Maent wedi dechrau ar y gweithgareddau erbyn hyn i fynd i'r afael â'r her hon ar lawr gwlad. Felly, rwy'n credu, gan adeiladu ar yr hyn rydym eisoes wedi'i wneud ar dlodi a gwydnwch bwyd, bydd y partneriaethau bwyd lleol yn mynd â ni ymhellach o lawer, a bydd y partneriaethau bwyd mwy aeddfed yn darparu'r gofod cydweithredol lle dônt â sefydliadau at ei gilydd.

O ran y defnydd o fwydydd wedi'u mewnforio, rwy'n cytuno â chi—y dull a gefnogwn yn Llywodraeth Cymru, drwy gaffael a gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi, yw cael mwy a mwy o'n cynnyrch ein hunain ar blatiau a byrddau; rydych chi'n hollol iawn. Ond nid yw'n ateb dros nos. Ond rwy'n annog yr holl swyddogion caffael, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus ac ati i edrych mwy ar ddefnyddio ein cynnyrch ffres, maethlon ein hunain yng Nghymru.

Yn gyntaf, a gaf i dalu teyrnged i PLANED a'r gwaith gwych y maent wedi'i wneud gyda phartneriaeth bwyd lleol sir Benfro dros y blynyddoedd diwethaf? Cefais yr anrhydedd o dorri'r rhuban ar ddau o'u peiriannau gwerthu cymunedol yn Llanteg ac yn Hendy-gwyn ar Daf. Rwyf hefyd yn talu teyrnged ar y pwynt hwn i Iwan Thomas, prif swyddog gweithredol ymadawol PLANED, sydd wedi bod gyda'r sefydliad ers saith mlynedd.

Mae hon yn drafodaeth a gawsom o'r blaen pan oedd Peter Fox yn dod â'i Fil bwyd drwy'r lle hwn. Yr ail eiriolwr mwyaf dros Fil bwyd Peter, heblaw Peter ei hun, oeddech chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pan oeddech chi'n aelod o'r meinciau cefn. Felly, pa waith a wnaethoch o Fil bwyd Peter Fox? Gan fod gennych swydd o fewn y Llywodraeth bellach, beth a ddysgwyd gennych dros broses Bil bwyd Peter Fox a beth a ddatblygwyd gennych? A beth ydych chi wedi'i newid yn Llywodraeth Cymru o'i herwydd?

Rhoddaf un enghraifft i chi, oherwydd rwy'n cefnogi llawer o'r elfennau yng nghynnig Peter. Rydym wedi ei gyflwyno yn 'Bwyd o Bwys', y strategaeth fwyd drosfwaol, a hefyd yn y strategaeth bwyd cymunedol ei hun. Ond gadewch i mi roi un enghraifft i chi, oherwydd nid oes gennyf lawer o amser, Lywydd. Gadewch inni droi at gaffael cyhoeddus. Mae prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, dan arweiniad Synnwyr Bwyd Cymru, eisoes wedi dangos bod cynnydd bach mewn cyllidebau prydau ysgol yn datgloi effaith economaidd leol sylweddol a budd o ran swyddi a'r amgylchedd. Erbyn hyn, rydym wedi cael dros 200,000 o ddognau llysiau organig o Gymru, Sam, wedi'u dosbarthu i ysgolion mewn saith awdurdod lleol. A beth y mae hynny'n ei wneud? Mae'n cefnogi ein tyfwyr lleol yng Nghymru. Mae'n gwella maeth plant drwy gael bwyd ffres, lleol. Mae wedi arwain at gynnydd o 20 y cant yn y defnydd tir i dyfu llysiau yng Nghymru—cynnydd o 20 y cant—tra bod gweddill y DU, gyda llaw, wedi gweld gostyngiad yn y tir a ddyrannwyd ar gyfer hynny. Yn y maes caffael, rydym wedi gwella mynediad i farchnadoedd sector cyhoeddus at 52 o fusnesau bwyd yng Nghymru drwy'r cynllun grant achredu bwyd sy'n cael ei redeg gan Mentera. Drwyddo, rydym wedi creu dros 1,200 o swyddi, ac wedi galluogi twf a chynaliadwyedd hirdymor ar gyfer y busnesau hynny. Ac mae'r gwaith a wnaethom, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi'i weld hefyd, Sam, yn gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi—pobl fel Castell Howell a Gwasanaeth Bwyd Harlech—ar y gwaith caffael hwnnw, lle maent yn gweithio gyda thyfwyr a chynhyrchwyr lleol i gynyddu faint o gynnyrch Cymreig sy'n cael ei ddosbarthu i ysgolion ac ysbytai ac eraill—. Mae Castell Howell wedi adrodd nawr fod gwariant ar fwyd o Gymru wedi cynyddu bron i 175 y cant rhwng 2021 a 2024. Mae Gwasanaeth Bwyd Harlech wedi adrodd cynnydd o 90 y cant yn yr un cyfnod ar gyfer cig Cymreig, 120 y cant ar gyfer llaeth Cymreig, a bron i 65 y cant ar gyfer diodydd ysgol Cymreig. Felly, beth rydym yn ei wneud? Gallwn barhau, ond dim ond un elfen yw caffael; rydym yn gwneud newid trawsnewidiol i'n system fwyd leol.

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, synnais glywed—ac fe wnaethoch chi gytuno ar hyn; fe wnaethoch ei gadarnhau—nad oes unrhyw fesuriadau swyddogol yn cael eu cymryd yn rheolaidd o lefelau llygredd plastig yn ein dyfroedd yng Nghymru. Rydym wedi gweld disgiau plastig o waith trin dŵr yn cael eu rhyddhau i'r môr yn Abertawe; mae 80 y cant o'r sbwriel ar ein traethau'n blastig; microblastigau wedi'u cofnodi yn ein rhywogaethau a physgod ac adar yn afon Taf. Mae'r llygredd hwn yn ddifrifol, gyda phlastigau'n cyrraedd ein cyflenwad bwyd, sy'n golygu ein bod yn ei fwyta.

Ar hyn o bryd, mae 100 gwaith yn fwy o ficroblastigau ar arfordir y DU nawr dros y 10 mlynedd diwethaf, a gwelwyd bod gwylanod wedi llyncu gliter. Mae anifeiliaid yn camgymryd mai bwyd yw'r plastigau hyn, ond mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi canolbwyntio'n barhaus ar lygru ein dyfroedd gan ffermwyr, yn y cyflenwad dŵr. Ac rydym yn gwybod nad yw hynny'n wir. Fodd bynnag, fel y dangosir drwy'r gollyngiadau o waith trin dŵr, mae plastigau'n cael eu cyflwyno drwy nifer o ffynonellau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i weithio gyda CNC i sicrhau bod lefelau llygredd plastig yn ein dyfroedd yn cael eu mesur, eu cofnodi a'u cyhoeddi?

Ie, wel, os caf wrth-ddweud un peth a ddywedwch, nid ydym bob amser—. Mae gennych obsesiwn gyda ffermwyr a llygredd amaethyddol, oherwydd rydych chi'n parhau i godi hynny'n rheolaidd. Yr hyn rydym yn canolbwyntio arno yw pob ffynhonnell o lygredd yn ein hafonydd, a gallai hynny fod yn llygredd o ddatblygiadau, gallai fod yn gwmnïau dŵr—fel gyda'n lansiad, yr wythnos hon, o'r Papur Gwyrdd ar ddŵr glân—ond gall hefyd fod yn llygredd amaethyddol, lle mae angen inni unioni hynny hefyd, ac mae'n rhaid iddo fod i gyd gyda'i gilydd. Felly, nid wyf yn rhannu eich obsesiwn ag un ffynhonnell o lygredd. Rydych chi bob amser yn codi llygredd amaethyddol; mae angen inni ganolbwyntio ar bob un ohonynt.

Nawr, mae llygredd plastig yn sicr yn—. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o hyn. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymaint o arian nid yn unig i bethau fel ein cynllun unigryw ar gyfer casglu plastigau o'r fflyd pysgodfeydd—gan weithio gyda chapteiniaid, ei gasglu ar ochr y dociau ac yna ei ailgylchu—ond y gwaith a wnawn yn hyrwyddo gwaith gwirfoddolwyr lleol a chefnogi gwaith gwirfoddolwyr lleol—rydym i gyd wedi bod yn rhan ohonynt, y digwyddiadau casglu sbwriel ar y glannau—a hefyd yr ymchwil y mae CNC yn ei wneud ochr yn ochr ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chymheiriaid Ewropeaidd i ficroblastigau.

Mae sawl Aelod wedi sôn am hyn yn ddiweddar. Mae angen inni adeiladu'r sylfaen dystiolaeth a gwneud y dadansoddiadau ar ficroblastigau'n benodol, oherwydd down o hyd iddynt ar waelod Ffos Mariana ac ar ben y mynyddoedd, a hefyd nid yn unig yn ein hecosystemau, ond yn systemau'r corff hefyd. Felly, rydym yn rhannu eich angerdd dros fynd i'r afael â'r mater hwn ac mae angen inni wneud hynny ym mhob ffordd sy'n bosib.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod gennych wyneb yn dweud hynny braidd ar ôl y ffordd rydych chi wedi cosbi ein ffermwyr gyda pharthau perygl nitradau a'r dull llawdrwm o gyflawni hynny.

Nawr, ddoe, fel y dywedoch chi, fe wnaethoch chi gyhoeddi'r Papur Gwyrdd, 'Llunio Dyfodol Llywodraethiant Dŵr yng Nghymru'. Rydym wedi gweld bod £56 miliwn eisoes wedi'i wario ar fynd i'r afael ag ansawdd dŵr ers 2022; mae gan adolygiad Cunliffe 88 o argymhellion, ac mae 155 o ddigwyddiadau llygredd wedi bod gan Dŵr Cymru yn 2024, gyda Dŵr Cymru yn cael dirwy o £1.35 miliwn am bledio'n euog i dorri amodau ei drwyddedau gollwng carthffosiaeth dros 800 o weithiau. Felly, rwy'n credu ei bod yn deg dweud efallai y dylech chi fod yn canolbwyntio mwy ar y cwmnïau dŵr a llai ar fynd ar ôl ffermwyr.

Nawr y mae'r Bil hwn yn ymddangos a dim ond wythnosau i fynd cyn diwedd chweched tymor y Senedd. Rwy'n teimlo bod yr oedi yn fethiant sylweddol ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y bu cymaint o oedi cyn cyflwyno'r Bil hwn, a beth yw'r amserlenni ar gyfer y Papur Gwyrdd newydd a gyflwynwyd gennych ddoe?

14:45

Rwy'n hapus i osod yr amserlenni, ond efallai ei fod yn gamddealltwriaeth yr wyf yn hapus i'w egluro, ar eich rhan chi. Felly, adroddodd Syr Jon Cunliffe a'r adolygiad annibynnol y llynedd. Cyflwynodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn yn ddiweddar iawn—yn ddiweddar iawn—ar gefn hynny. Roedd angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, ac rydym wedi bod yn rhan o'r gwaith ar eu Papur Gwyn, ond roedd angen i ni aros iddo gael ei gyflwyno cyn inni gyflwyno ein Papur Gwyrdd. Mae'n bwysig ei fod yn Bapur Gwyrdd, gydag ymylon gwyn iawn, oherwydd ei fod wedi gosod cyfeiriad teithio, ac oherwydd ei fod yn caniatáu nawr i bobl Cymru roi eu syniadau. A gallai'r syniadau hynny ddod gan dirfeddianwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr, ond hefyd dinasyddion Cymru, a rhai o'r bobl sy'n teimlo'n angerddol am ansawdd eu hafonydd, yn ogystal â materion fforddiadwyedd hefyd. Felly, nid oes oedi ar hyn. Mae'n cael ei gyflwyno mewn cronoleg benodol, ac roedd yn rhaid inni aros i Syr Jon Cunliffe adrodd, i Lywodraeth y DU gyflwyno ei Phapur Gwyn, ac yna fe wnaethom ei gyflwyno o fewn wythnosau o hynny. A bellach rydym yn ymgynghori ar y Papur Gwyrdd, ac yn pwysleisio wrth bobl, 'Rhowch eich syniadau. Rydym yn agored i syniadau yn y Papur Gwyrdd.'

O ran yr amserlen fras ar gyfer hyn, gallwn weld, erbyn i Lywodraeth y DU orffen ei hymgynghoriad—o gofio bod elfen yma hefyd ynglŷn â datganoli'r pwerau i Gymru i gyflwyno ein rheoleiddiwr ein hunain, ac nid yn seiliedig ar yr hyn y byddem yn ei ddisgrifio fel system reoleiddio hen ffasiwn, gymhleth o'r 1980au, ond un sy'n cyd-fynd yn llawer gwell â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, felly amgylcheddol, yn ogystal ag economaidd—byddwn yn edrych ar ddwy neu dair blynedd eto i gyflwyno un o'r darnau mwyaf pwysig o ddeddfwriaeth drawsnewidiol sy'n edrych ar ddŵr fel ased yn y wlad hon, sy'n rhoi llais i'r cyhoedd dros hyn, ac yna'n delio ag ef drwy ddull systemau lle mae pob agwedd ar ddŵr yn cael ei hystyried, ac nid yw'n seiliedig ar yr hen fodel cymhleth o reoleiddio yr ydym wedi byw gydag ef ers tua 30 mlynedd.

Diolch. Nawr, i gwsmeriaid Dŵr Cymru, maent ar fin gweld cynnydd o 4.8 y cant yn eu biliau dŵr, a hyn yn ychwanegol at bwysau costau byw eraill o ganlyniad i Lywodraeth Lafur Cymru yma, ac yn Llundain. Byddant yn codi o £652 ar gyfartaledd i £683. Eto, yn Aberconwy, a gogledd Cymru yn gyffredinol, rydym wedi gweld cyfres o bibellau dŵr yn torri sydd wedi achosi llawer o drallod i drigolion wrth iddynt fod heb ddŵr. Dim ond y diwrnod o'r blaen, cawsom un yng Nglan Conwy. Mae yna un arall a welais y bore yma. Mae'n digwydd drwy'r amser. Hefyd, pan fo pobl yn adrodd am ollyngiadau, gall gymryd oesoedd i ollyngiadau, neu hyd yn oed ddigwyddiadau llygredd, gael eu trin gan Dŵr Cymru neu CNC. Ond rydym i gyd yn gwybod bod hyn yn dangos yn glir nad yw'r seilwaith presennol yn cyrraedd y safon. Nawr, mae Dŵr Cymru'n dweud bod rhan o'r arian a gawsant, ac yn wir, y costau ychwanegol y maent yn eu rhoi ar filiau pobl, yn mynd i gynnal gwaith uwchraddio enfawr ar y seilwaith, sydd mor hen ffasiwn. Ysgrifennydd y Cabinet, beth sy'n digwydd os nad yw Llywodraeth Lafur Cymru'n cael ei hailethol, o ran y Bil Gwyrdd? Hefyd, sut y byddwch chi'n ceryddu Dŵr Cymru os nad fydd yr arian a gawsant gan Lywodraeth Cymru a'r arian a gânt gan ein trigolion yn gwella seilwaith ein systemau dŵr yn helaeth? Diolch.

Diolch, Janet. Edrychwch, y peth cyntaf i'w ddweud yw nad oes angen inni aros am ganlyniadau'r Papur Gwyrdd, neu ddeddfwriaeth newydd, i ddatrys y problemau gyda'r seilwaith, lefelau boddhad cwsmeriaid, y gollyngiadau, ac yn y blaen. Mae'r pwysau ar ein dau gwmni dŵr i berfformio ar ran y cwsmeriaid sydd wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn mynd i weld y biliau mwy hynny'n dod nawr. Nawr, mae hynny'n darparu buddsoddiad o £6 biliwn, felly mae angen inni weld hynny'n cael ei gyflawni—nid aros, ond yn y cyfnod pris hwn, buddsoddi yn y blaenoriaethau a fydd yn atal gorlifiadau carthffosydd cyfun rhag llygru'r afon, atal gollyngiadau carthffosiaeth, ac ar draws y cyfan hefyd. Mae gennym brif swyddog gweithredol newydd a chadeirydd newydd. Mae cyfle yma iddynt gyflawni nawr, ac o heddiw ymlaen, a gwneud i'r buddsoddiad o £6 biliwn weithio.

Roeddech chi'n gofyn beth a ddaw ar ôl y Llywodraeth nesaf. Ni allwn ddarogan mewn amrywiaeth o feysydd polisi. Ond yr hyn a wn yw bod y Papur Gwyrdd a lansiwyd gennym a'r cyfeiriad teithio a osodwyd gennym wedi cael croeso cynnes gan yr holl randdeiliaid allan yno—y rhanddeiliaid o sefydliadau amgylcheddol, y rheolwyr tir, y cwmnïau dŵr a phawb arall—oherwydd rwy'n credu ei fod yn mabwysiadu'r dull cywir drwy ddweud, 'Gadewch inni fabwysiadu dull sydd nid yn unig â sefydlogrwydd o fewn yr amgylchedd rheoleiddiol i gael y buddsoddiad i wneud yr hyn sydd angen inni ei wneud, ond a fydd hefyd yn gallu delio â'r hanfodion eraill hynny i'r cyhoedd, megis ansawdd ein hafonydd, fforddiadwyedd biliau a phopeth arall'. Felly, rwy'n credu—rwy'n credu—y bydd y cyhoedd allan yno, yn ogystal â'r rhanddeiliaid ehangach, yn dal unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol i gyfrif ac yn dweud, 'Cyflawnwch hyn. Rhowch y pwerau sydd eu hangen arnom i sbarduno ffordd wahanol ymlaen i ffwrdd o'r strwythur rheoleiddiol cymhleth, hen ffasiwn sydd gennym, i ddull sy'n ymwneud llawer mwy â chynllunio systemau lle rydych chi'n gwerthfawrogi dŵr ac rydych chi'n gofalu amdano, a lle mae gennym afonydd ac arfordiroedd ac amgylchedd morol dilychwin.'

14:50

Diolch, Llywydd. Rwy'n mynd i aros gyda thema dŵr, oherwydd dydy ein system ddŵr ddim yn gweithio er budd pobl. Rŷn ni wedi clywed yn barod, wrth gwrs, am y cynnydd mewn biliau dŵr. Dydy'r pwysau, wrth gwrs, ddim yn lleihau, oherwydd bydd y cynnydd ar gyfartaledd mewn biliau dŵr yn £33 y flwyddyn, ond bydd cwsmeriaid Hafren Dyfrdwy yn wynebu biliau fydd yn cynyddu o £54. Rŷn ni hefyd wedi gweld nifer y cwynion i’r cyngor cwsmeriaid dŵr yn cynyddu mwy na 50 y cant y llynedd. Mae tlodi dŵr yn mynd yn broblem ddiysgog. A gaf i ofyn, ymhellach i'r hyn rŷch chi newydd ei ddweud, beth ŷch chi'n gobeithio bydd y Llywodraeth yn gallu ei wneud i gydsefyll gydag aelwydydd Cymreig sy’n cael eu gofyn wastad i dalu mwy am rywbeth sy’n hanfodol i’w bywydau? A pha rannau o'r Papur Gwyrdd rŷch chi'n meddwl fydd yn gallu ymbweru cwsmeriaid Cymru fwyaf? 

Diolch am hynny, a dim ond cwpl o ymatebion cyflym heb ailadrodd yr hyn a ddywedais eisoes. Un o'r cynigion yn y Papur Gwyrdd yw ein bod yn cyflwyno cynigion pwrpasol yma sy'n cryfhau llais y defnyddiwr ond hefyd dinasyddion Cymru—felly, y defnyddiwr o ran fforddiadwyedd a chael y llais cryf hwnnw i helpu i lunio buddsoddiad yn y dyfodol hefyd. Mae'n bwysig nad yw hyn yn cael ei wneud i bobl, ond bod pobl yn cael eu dwyn gyda ni a'u bod yn deall os oes cynnydd o £6 biliwn a'i fod yn effeithio ar eu biliau, wel, beth fydd hynny'n mynd tuag ato? A ydynt yn cytuno ag ef yn y dyfodol, yn y rownd nesaf o benderfyniadau prisio? A allant helpu i siapio hynny? Yn ddiddorol, mae ychydig o'r dadansoddiadau defnyddwyr yn dweud na fyddai defnyddwyr yn erbyn cynnydd bach yn eu biliau cyn belled â'u bod yn gwybod ei fod yn mynd tuag at gyflawni perfformiad gwell mewn amrywiaeth o feysydd. Dyna un peth. Felly, mae hynny o fewn y Papur Gwyrdd. Yr ail agwedd, fel y dywedais, hyd yn oed yn y cyfnod adolygu prisiau sydd o'n blaenau nawr, gyda'r biliau uwch yn glanio drwy ddrysau pobl, yw bod angen inni wneud defnydd o'r £6 biliwn hwn nawr a dangos y gwelliannau hynny dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

A'r peth olaf yr hoffwn ei ddweud wrthych yw bod angen inni gael y tariffau cymdeithasol yn iawn hefyd i'r rhai mwyaf agored i niwed. Rhaid dweud, yng Nghymru, mae gennym enghreifftiau o rai o'r tariffau cymdeithasol mwy blaengar. Nid ydym am golli'r enillion. Mae'n well na llawer o'r cwmnïau ar draws y ffin yn Lloegr. Ond dywedodd Syr Jon Cunliffe, 'Dylech edrych ar hynny a gweld a oes ffordd well o wneud hynny, ffordd fwy cyson'. Mae gennym ddau gwmni dŵr yma yng Nghymru. Felly rwy'n credu, eto, fod y Papur Gwyrdd hwn yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu eu lleisiau a dweud, 'A oes ffordd well o edrych ar dariffau cymdeithasol i'r rhai mwy agored i niwed?'

Diolch. Dwi'n croesawu hwnna. I droi at y rheoleiddiwr dŵr sy'n cael ei greu, felly, un ffordd o drwsio'r system yma yw, wrth gwrs, gwneud y prisiau yn decach. 

Er enghraifft, mae'r model tariff bloc cynyddol a ddefnyddir mewn dinasoedd fel Athen, Sevilla, Los Angeles, Singapore, yn sicrhau bod y swm cyntaf o ddŵr sy'n cwmpasu anghenion sylfaenol am ddim. Mae defnydd uwch wedyn yn cael ei godi'n gynyddol, ac mae hynny'n golygu ei fod yn trin dŵr fel angen hanfodol yn hytrach na moethusrwydd. A ydych chi'n gobeithio y bydd y rheoleiddiwr newydd yn gallu dilyn o'r enghreifftiau hyn ac archwilio, o bosib, ffordd o gyflwyno model tariff bloc cynyddol i wneud y biliau dŵr hynny'n decach? Rydych chi'n gwenu arnaf.

Ac yn ail, o ran atebolrwydd, a fydd gan y rheoleiddiwr newydd bŵer i herio cyflog gormodol i swyddogion gweithredol a sicrhau nad yw teuluoedd yn talu prisiau uwch ar gyfer cyflogau a bonysau? 

14:55

Rwyf ond yn gwenu oherwydd fy mod yn meddwl ein bod wedi dechrau'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd yma heddiw yn Siambr y Senedd—[Torri ar draws.] Yn wir. A'r hyn rwy'n ei obeithio yw, yn y Papur Gwyrdd—. Rydym wedi ei wneud yn Bapur Gwyrdd fwriadol, yn hytrach na bod yn gwbl gyfarwyddol, fel y gellir rhoi syniadau tuag at hynny. Felly, buaswn yn falch o'ch gweld chi ac eraill yn rhoi eich syniadau i mewn. Ac yn sicr, wrth inni gyflwyno'r cynigion wedyn ar y rheoleiddiwr, gall y rheoleiddiwr gael ei siapio ar ein cyfer yng Nghymru mewn ffordd sy'n gweddu i ni yma yng Nghymru. Roedd Syr Jon Cunliffe yn glir iawn fod gennym fframwaith polisi a deddfwriaethol gwahanol yma yng Nghymru. Gallwn wneud penderfyniadau sy'n cyd-fynd â gofynion y cyhoedd nid yn unig i gael rheoleiddiwr economaidd tebyg i'r 1980au ond hefyd i wneud pethau mwy yn ogystal, a gallai hynny gynnwys cynigion y gall pobl eu cyflwyno ar y math o dariffau y gallwn eu gwneud, y math o reoleiddiwr y byddwn am ei weld. Felly, diolch am yr awgrymiadau hynny, ond nid wyf am ragflaenu ble y gallai'r Papur Gwyrdd hwn fynd. Ond mae'n sicr yn Bapur Gwyrdd gydag ymylon gwyn. Rydym yn gosod y cyfeiriad teithio, ond rydym am glywed gan bobl.

Tir Halogedig

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â mater tir halogedig? OQ63769

Diolch, Delyth. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â'n gorffennol diwydiannol. Mae'n faich sydd, yn anffodus, yn cael ei rannu gan awdurdodau lleol nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Yng Nghymru, rydym yn parhau i gefnogi ailddatblygu tir yr effeithir arno gan halogiad drwy'r broses gynllunio lle bo hynny'n bosib, ac rydym yn cynorthwyo rheoleiddwyr drwy ariannu hyfforddiant a datblygu canllawiau technegol. 

Wel, mae hwn yn fater mor bwysig, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r hyn sy'n digwydd, oherwydd mae tir halogedig yn graith gudd ar groen ein golygfeydd. Mae wedi gadael cymaint o'n mynyddoedd, dyffrynnoedd, afonydd wedi'u gwenwyno â llygredd na allwn ei weld. Mae cemegau am byth fel y'u gelwir yn gallu gwrthsefyll olew. Gallant fod yn wenwynig ac maent yn aros ar dirweddau am flynyddoedd. Cafodd llawer ohonynt eu gollwng gan gwmnïau fel Monsanto mewn chwareli a safleoedd tirlenwi ledled y DU, ac un safle o'r fath yw chwarel Tŷ Llwyd ger Ynys-ddu. Ar adegau o law trwm, mae trwytholch yn gollwng allan o'r safle ac mae hylif brown budr, weithiau oren, yn llifo i lawr y mynydd tuag at afon Sirhywi. Mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â faint o brofion a wneir ac a fydd y safle yn cael ei gofnodi'n swyddogol fel tir halogedig, sy'n ymddangos yn annealladwy i'r rhai ohonom sydd wedi gweld yr hylif oren ein hunain. Nawr, cyhoeddwyd y bydd y DU yn cynyddu profion ar gyfer y cemegau am byth hyn. Ond yn sicr, fe ddylid eu gwahardd, nid dim ond cynnal profion i weld a ydynt yn bresennol. Gallant fod yn garsinogenig. A wnewch chi defnyddio eich dylanwad gyda Llywodraeth y DU i wahardd y defnydd o'r cemegau hyn unwaith ac am byth?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch, Delyth. Yn gyntaf oll, a gaf i eich annog i gadw mewn cysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o ran Tŷ Llwyd? Yn sicr, rydym wedi cael sawl sgwrs ar y mater a'r gwaith sydd wedi'i wneud yno ac a ddylid ei ddiffinio fel tir halogedig ai peidio, felly ni wnaf ailadrodd hynny. Ond yn sicr, o ran y cynllun sylweddau per- a pholyfflworoalcyl (PFAS), a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yr wythnos hon, dyma'r datganiad cynhwysfawr cyntaf o ddull Llywodraeth y DU o reoli sylweddau PFAS, ac mae ganddo fanteision clir i Gymru. Felly, mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi gweithio gyda ni a chyda Llywodraethau datganoledig eraill i ddatblygu'r cynllun ar y cyd. Mae'n dwyn gwaith ynghyd ar draws amrywiaeth eang o feysydd polisi sy'n gysylltiedig â PFAS, ac am y tro cyntaf erioed, mae'r cynllun hwn yn nodi dull ledled y DU o leihau effeithiau niweidiol PFAS gan gefnogi trawsnewid i ddewisiadau amgen mwy diogel.

Nawr, rwy'n gwybod bod rhai pobl yn galw am waharddiad llwyr yma, ar unwaith, ond yn gyntaf oll, ac yn hollbwysig, credwn fod dull y cynllun hwn yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd y cyhoedd a diogelu'r amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd. Mae'n gyson â'n nodau hirdymor. Mae ein buddiannau wedi'u hystyried a'u hymgorffori drwy gydol y datblygiad. Credwn fod hwn yn gam ymlaen ac mae'n ddull cymesur a arweinir gan dystiolaeth sy'n ein helpu yng Nghymru i fynd i'r afael â her PFAS yn effeithiol. Felly, byddwn bob amser yn cadw hyn yn fyw ac wedi'i adolygu, ac mae'n dda gweld, gyda llaw, y ffocws i hyn nawr, gan gynnwys gan sefydliadau allanol hefyd. Rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Mae hwn yn gam pendant ymlaen, ac rydym yn falch ein bod wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU i'w gyflwyno.

Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am godi'r cwestiwn hwn. Cynhaliais ddigwyddiad yn y Senedd gyda Michael Sheen yr wythnos diwethaf, a oedd yn edrych ar fater tir halogedig. Bydd yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen ddwy ran o'r enw Buried. Yn ogystal, fe wneuthum fynychu digwyddiad Cyfeillion y Ddaear yn Rhuthun yr wythnos diwethaf, lle gwnaethant ddangos Dark Waters. Mae'r defnydd o gemegau am byth gan gwmnïau mawr, a'r ffordd y maent yn ceisio osgoi cyfrifoldeb am y niwed y maent yn ei achosi i'r tir ac i'r amgylchedd naturiol a phobl yn peri pryder, ac nid yn unig yn effeithio ar dde Cymru, ond hefyd ar ardaloedd o ogledd Cymru. Roeddwn yn synnu pa mor eang yw hyn. Byddaf yn ysgrifennu atoch gyda mwy o fanylion, ond a wnewch chi fynd ar drywydd hyn gyda Llywodraeth y DU? Oherwydd rydym yn siarad am 'y llygrydd yn talu', ac rwy'n credu y dylem fynd ar drywydd y corfforaethau mawr fel Monsanto i dalu am brofion, sy'n ddrud—dywedwyd wrthym ei fod tua £1,000 am bob prawf i brofi am y PFAS hynny—a hefyd am unrhyw waith adfer sydd ei angen yn y dyfodol, oherwydd ni all awdurdodau lleol fforddio'r gwaith adfer hwnnw. A buaswn yn cefnogi gwaharddiad ar glyffosad, sy'n parhau i gael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol. Mae'n ddiangen. Diolch.

15:00

Yn gyntaf, Carolyn, yn sicr fe wnaethom nodi'r digwyddiad a gynhaliwyd gennych yr wythnos diwethaf, ac mae'n dda iawn gweld nid yn unig Michael Sheen, ond sawl un mewn gwirionedd, ymgyrchwyr dros y blynyddoedd diwethaf, yn tynnu sylw at hyn, gan gynnwys gwaith a wnaed ar y BBC hefyd, gyda rhaglenni dogfen ar hyn. Ac rydym yn croesawu hyn, gan ei fod yn rhoi ffocws clir iawn ar y mater i lunwyr polisi ledled y DU. Ac mae hwn yn fater ar gyfer y DU gyfan. Rydym yn cydnabod ei fod yn gymhleth iawn. Nid oes ateb dros nos i'r broblem hon, ond mae’n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i leihau'r effaith ac yna i hybu newid.

Rydych chi'n codi'r pwynt pwysig ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd, gan weithio gyda gwledydd eraill sydd wedi'u heffeithio i'r un graddau gan hyn, gan fod yr holl wledydd bellach yn cydnabod bod angen inni weithredu gyda'n gilydd ar hyn. Felly, mae cyhoeddi cynllun sylweddau poly- a perfflworoalcyl y DU yn ddiweddar yn gam go iawn ymlaen, ac mae'n enghraifft o Lywodraethau'n dod ynghyd i baratoi'r ffordd ymlaen mewn ymateb i'r bygythiad amgylcheddol hwn sy'n dod i'r amlwg.

Nawr, er gwybodaeth i'r Siambr, rwy'n bwriadu ceisio dull cydweithredol tebyg ar lefel y DU ar gyfer tir halogedig a halogi tir yng nghyfarfod nesaf y grŵp rhyngweinidogol, a fydd yn cael ei gynnal yfory. Rydym eisoes wedi cymryd camau pendant i fynd i'r afael â bygythiadau mewn meysydd eraill, er enghraifft, pentyrrau sborion. Rydym am ddysgu o'r dull gweithredu hwn a gweld a allwn gael dull gweithredu i fynd i'r afael â hyn ar lefel y DU hefyd. Mae fy swyddogion hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill, ond credaf fod gwaith y gallwn ei wneud ar lefel y DU, gan ei fod yn effeithio ar bob un ohonom.

Cefnogi'r Sector Ffermio

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ffermio yng ngorllewin Cymru? OQ63772

Diolch, Paul. Rydym yn cefnogi diwydiant amaethyddol cynaliadwy a chynhyrchiol yng Nghymru gyfan, gan gynnwys gorllewin Cymru, drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Yng ngorllewin Cymru, mae busnesau fferm wedi derbyn gwerth dros £65.6 miliwn o daliadau drwy gynllun y taliad sylfaenol yn 2025, ac mae cymorth hefyd ar gael drwy ein cynlluniau buddsoddi gwledig a thrwy Cyswllt Ffermio.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, mae ffermwr wedi cysylltu â mi i fynegi pryder am gynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru a'r hyn y byddai'n ei olygu i'w fferm. Esboniodd y bydd y cynllun ar ei ffurf bresennol yn lleihau ei gymhorthdal 19 y cant, ac ar yr un pryd, bydd yn rhaid i'r ffermwr hwn dalu mwy mewn costau er mwyn cydymffurfio â'r cynllun. Er enghraifft, bydd yn rhaid iddo dalu costau i sefydlu gwyndwn llysieuol, costau i dalu milfeddyg i ddatblygu cynllun bioddiogelwch, a chostau i gynrychiolwyr undeb ei helpu i gwblhau ei waith papur. Ac ar ben hynny, bydd yn colli diwrnod o gyflog er mwyn cyflawni'r gofyniad o chwe awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus, sy'n gam cyffredinol allweddol ar gyfer cydymffurfio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n deall rhwystredigaeth ffermwyr masnachol bach, fel fy etholwr, a fydd yn cael eu taro'n galed yn ariannol er mwyn cydymffurfio â chynllun eich Llywodraeth? A pha neges sydd gennych i ffermwyr sydd â phryderon o'r fath?

Y neges sydd gennyf i bob ffermwr yw ein bod ni, mewn cydweithrediad â'r ford gron weinidogol, gyda'r grŵp swyddogion, wedi llunio cynllun sydd ar gael i bob ffermwr ac yn hygyrch i bob ffermwr. Ac mae cymorth ar gael hefyd, Paul, i'r holl ffermwyr hynny, a gallant droi at Cyswllt Ffermio a'n cynghorwyr i'w helpu i weithio drwy sut y bydd yn gweithio iddynt hwy.

Gyda llaw, pethau fel—. Ac mae'n werth i'r unigolyn hwnnw ac eraill godi hyn gyda'n cynghorwyr fferm, a chyda'r undebau llafur, sydd wedi bod yn dda iawn yn rhoi cyngor yn y maes hwn hefyd, oherwydd ar bethau fel y meincnodi, pethau fel y datblygiad proffesiynol parhaus, rydym wedi nodi'n glir iawn fod llawer o ffermwyr eisoes yn cyflawni agweddau ar hyn. Ond mae eu helpu i nodi beth y maent yn ei wneud a sut y gall hynny gyfrif tuag ato yn gwneud rhai o'r mesurau hynny'n fwy dealladwy. Ond mae angen iddynt gael sgwrs un i un a gweithio drwy hyn.

I fod yn gwbl glir, nid yn unig ein bod wedi cynnal taliadau cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer y dyfodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hwythau o dan fygythiad weithiau mewn cyllidebau, rhywbeth nad oedd yn digwydd dros y ffin yn Lloegr, ond rydym hefyd wedi sicrhau bod y swm o gyllid yno nawr, yn y dyfodol, yn yr haen gyffredinol ac yn yr haen opsiynol a chydweithredol. Cofiwch, Paul, fod yr holl gyllid hwn yno i er mwyn rhoi dull fferm gyfan ar waith. Felly, mae a wnelo â ffermydd cynhyrchiol yn cynhyrchu bwyd da iawn, busnesau hyfyw, yn ogystal â sicrhau pethau fel gwydnwch hinsawdd er lles y fferm honno, yn ogystal ag er lles ehangach, a hefyd natur a bioamrywiaeth. Mae'n iawn fod arian yn mynd i ffermydd i'w helpu i wneud yr holl bethau hyn. Byddwn yn parhau i wneud hynny, a hoffwn ddweud wrth y ffermwr hwnnw, ond hefyd wrth bawb arall, 'Efallai nad yw'n gwbl berffaith i bob un ffermwr', ond mae'n rhaid imi ddweud, yr ymateb cyffredinol a gawsom gan y dros 2,000 o ffermwyr sydd wedi mynychu'r sioeau teithiol, a'r nifer fawr o ffermwyr sydd wedi mynd yn eu blaenau i ddefnyddio'r canllaw cyflym yw, 'Gall hyn weithio i ni', gan gynnwys rhai yn y sector godro dwys, gyda llaw, sydd wedi'i chael hi'n anodd cael mynediad at y cynllun yn y gorffennol ac sydd bellach yn edrych ar hyn ac yn dweud, 'Wel, rwy'n credu y gallwn wneud i hyn weithio.'

15:05
Adfer Mwyngloddiau Brig

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar adfer mwyngloddiau brig yng Ngorllewin De Cymru? OQ63794

Diolch, Sioned. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob hen safle mwyngloddio yn ddiogel ac nad ydynt yn achosi niwed amgylcheddol, gan gynnwys hen safleoedd glo brig. I gefnogi hyn, rwyf wedi gofyn i swyddogion sefydlu gweithgor newydd i ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag adfer ac adfywio hen safleoedd mwyngloddio.

Diolch yn fawr am yr ateb. Mae hynny'n newyddion da achos, fel rŷch chi'n gwybod, er gwaethaf blynyddoedd o godi pryderon ynghylch cyn-lofa brig East Pit yn fy rhanbarth i, mae nifer o fy etholwyr wedi mynegi pryderon difrifol am ddiogelwch hirdymor y safle, a dŷn nhw ddim wedi derbyn lot o atebion hyd yma. Rwyf wedi codi hyn sawl gwaith gyda Llywodraeth Cymru a hefyd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a chyrff ac awdurdodau eraill, yn sôn am yr angen yna am asesiadau annibynnol o hydroleg a risg seismig, ond ychydig iawn o weithredu sydd wedi bod hyd yma. Ac i bobl sy'n byw yn y cymunedau o gwmpas Gwauncaegurwen, Cwmllynfell a Thairgwaith, wrth ymyl y gwagle enfawr yma sydd wedi cael ei adael gan y lofa a nawr sydd yn llawn dŵr, mae'r ansicrwydd yn peri pryder. Mae angen sicrwydd arnyn nhw fod cyrff cyhoeddus yn cydweithio, yn rhannu gwybodaeth, ac yn dryloyw yn y ffordd maen nhw'n ymateb i'w pryderon. Felly, pa gefnogaeth bellach all Llywodraeth Cymru ei chynnig i gryfhau y cydweithio yma, a beth yn union fydd y grŵp gwaith newydd yma yn edrych arno yn gyntaf?

Diolch am eich cwestiwn atodol. Yn gyntaf oll, o ran Pwll y Dwyrain ei hun, ac mae llawer ohonom yn byw yng nghysgod yr hen safleoedd segur hyn, ac mae'n rhaid inni weithio drwy sut y gwelwch ddyfodol i'r safleoedd hyn er lles y gymuned hefyd, yn enwedig—. Ond o ran Pwll y Dwyrain, mae fy swyddogion wedi ymgysylltu â Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn y gorffennol i drafod y pryderon ynghylch pethau fel sefydlogrwydd a pheryglon llifogydd ar y safle, yn enwedig o ran y cloddfeydd llawn dŵr ar y safle hwnnw. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn ymgysylltu'n barhaus ar hynny. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth i'r cyngor gyda'u hymateb i'r pryderon sy'n codi ar hyn o bryd ym Mhwll y Dwyrain. Felly, rydym am barhau i ymgysylltu ar hyn o fewn y pwerau sydd gennym.

Ond ar y mater mwy, gan nad mater sy'n effeithio ar Bwll y Dwyrain yn unig mo hwn, ond rhannau eraill o Gymru hefyd, fel y gwyddom, a rhannau eraill o'r DU hefyd, credwn y bydd y grŵp gwaddol mwyngloddio yr ydym yn ei sefydlu yn dwyn ynghyd y grŵp cywir o randdeiliaid i ystyried yr heriau—ac maent yn gymhleth, fel y gwyddom; nid oes ateb hawdd dros nos—ond hefyd y cyfleoedd i ddatrys hyn, sy'n gysylltiedig â rheoli ac adfer ac adfywio safleoedd gwaddol mwyngloddio. Felly, y nod strategol hirdymor yw sicrhau bod tomenni nas defnyddir, fel rydym wedi'i wneud gyda'r gwaith a wnawn ar wahân i hyn, a safleoedd gwaddol mwyngloddio eraill, gan gynnwys hen safleoedd glo brig, yn dod yn asedau buddiol i gymunedau, gan gefnogi economïau lleol a'r amgylchedd ehangach. Felly, dyna y ceisiwn ei wneud yn y grŵp gwaddol mwyngloddio, ond nid wyf am orbwysleisio disgwyliadau y byddant yn datrys y broblem yfory, gan fod rhai o'r problemau hyn yn mynd yn ôl ddegawdau. Ond rydym yn sefydlu'r grŵp hwnnw er mwyn archwilio beth yw'r heriau, beth yw'r ffordd orau ymlaen, a gallai hynny olygu codi'r ffôn a dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Mae angen inni feddwl am hyn gyda'n gilydd yn ogystal.'

15:10

Fe wyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi paratoi'r adroddiad 'Adfer safleoedd glo brig' ym mis Awst 2024. Roedd yn ddiddorol iawn i'w ddarllen. Diolch, Llyr. Ynddo, roedd yn gwneud 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. A allwch chi ddweud wrthym faint o'r rheini sydd wedi'u derbyn a'u rhoi ar waith, 18 mis yn ddiweddarach?

Na allaf, o fy nghof, ac ni fyddech y disgwyl imi ateb hynny gyda ffigur o fy nghof chwaith. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod wedi bwrw ymlaen yn ddiweddar â'r ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â diogelwch a lles cymunedau yr effeithir arnynt gan waddol ein gorffennol diwydiannol, gan gynnwys sefydlu awdurdod newydd gyda'r nod penodol o warchod lles a diogelwch y cymunedau hynny.

Rydym hefyd wedi darparu swm digynsail o gyllid i adfer yr hen domenni glo hyn. Mae'n swm o gyllid y mae Llywodraeth Cymru, rhaid imi ddweud, gyda chefnogaeth Siambr y Senedd, wedi bod yn ei ddarparu am y pum mlynedd diwethaf, ers Tylorstown, i gerdded ac archwilio a monitro a chyflwyno atebion ers y digwyddiad gyda thomen Tylorstown. A bellach, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cysylltu â ni y llynedd, ac wedi estyn i'w pocedi a rhoi rhandaliad sylweddol—rwy'n ei alw'n rhandaliad—tuag at hyn hefyd. Felly, byddwn yn gwario ymhell dros £200 miliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ar adfer. Felly, ni allaf roi ffigur yn ateb i chi, ond gallaf roi ateb cadarn i chi: rydym yn bwrw ymlaen â hyn yn gyflym.

Microblastigau mewn Dyfrffyrdd

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau mynediad microblastigau i ddyfrffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ63792

Diolch, Gareth. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod microblastig yn fygythiad cynyddol i ansawdd dŵr a'r amgylchedd ehangach. Gwyddom fod microblastig yn mynd i mewn i ddyfrffyrdd drwy ddŵr ffo a dŵr gwastraff, er bod gwaith trin dŵr gwastraff yn cael gwared ar dros 99 y cant ohonynt. Nawr, er nad oes gofyniad i fonitro ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru a CNC yn asesu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg er mwyn llywio safonau, monitro a chamau gweithredu yn y dyfodol.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae microblastig yn cronni ar wyneb ein moroedd, ein hafonydd, ein dŵr tap, yn ein pridd, ein bwyd, ac yn bwysicaf oll, yn ein cyrff. Mae gan bob unigolyn yn y DU ficroblastig yn eu corff, sy'n ffaith anghyfforddus i'w dysgu. Amlinellodd y Global Plastics Policy Centre ym Mhrifysgol Portsmouth raddfa gynyddol yr argyfwng, gan alw am gynllun cydgysylltiedig ar gyfer y DU gyda thargedau ac amserlenni clir. Fe wnaethant rybuddio, heb ymyrraeth ar unwaith, fod y DU mewn perygl o syrthio ar ôl arweinwyr byd-eang fel yr UE a'r Unol Daleithiau, sydd eisoes yn cyflwyno targedau a chyfyngiadau gorfodadwy ar ficroblastig mewn dŵr a phrosesau diwydiannol.

Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith ar gynhyrchion plastig untro a bod Llywodraeth y DU wedi gwahardd microbelenni yn 2017, ond mae angen gwneud llawer mwy, ar y cyd, er mwyn lleihau faint o ficroblastig sy'n mynd i mewn i'n hecosystem a gadael amgylchedd glanach i'r genhedlaeth nesaf, gan fod babanod ar hyn o bryd yn llyncu plastig bron o'r adeg y cânt eu geni. Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi argymell hidlwyr microffibr gorfodol ar gyfer peiriannau golchi, sy'n cyfrannu'n sylweddol at ficroblastig yn ein dyfrffyrdd. [Torri ar draws.] Rwy'n gofyn fy nghwestiwn nawr. Felly, pa fesurau eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried, fel hidlwyr peiriannau golchi, i leihau faint o ficroblastig sy'n mynd i mewn i'n hecosystem?

Ar y cwestiwn olaf, gallai fod rhai datblygiadau diddorol mewn peiriannau, a byddai angen mynd i'r afael â hynny nid yn unig ar lefel Cymru, ond ar lefel y DU ac Ewrop hefyd, fel bod lluniad y peiriannau'n hidlo microblastig allan yn llygad y ffynnon. Mae'n fwy na mater datganoledig i Gymru. Ond rwy'n fwy na pharod i gadarnhau y byddem yn sicr yn cefnogi datblygiadau mewn technoleg.

Yr hyn y gallwn ei wneud, fodd bynnag, oherwydd pwysigrwydd y mater, yw gweithio yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Cam diweddaraf y rhaglen ymchwilio i gemegau yw prosiect cenedlaethol sy'n dwyn ynghyd y cwmnïau dŵr, rheoleiddwyr, arbenigwyr ymchwil, ymgynghorwyr, sy'n ymchwilio i gemegau yn yr amgylchedd, gan gynnwys microblastigau. Fel y soniais yn fy ymateb cychwynnol i chi, fe wnaethant ganfod fod prosesau trin dŵr gwastraff, i fod yn glir, yn cael gwared ar 99 y cant o ficroblastigau mewn safleoedd a fu'n destun profion. Mae cynllun busnes Dŵr Cymru ar gyfer 2025-30 yn ymrwymo dros £4 biliwn o fuddsoddiad, yn cynnwys £2.5 biliwn ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, a bron i £900 miliwn yn benodol i fynd i'r afael â gorlifoedd storm. Mae hynny'n dangos graddau'r camau gweithredu sydd ar y gweill.

Mae CNC yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r diwydiant dŵr yng Nghymru i leihau llygredd microblastig ymhellach, gan gynnwys prosiectau i nodi ffynonellau o weithfeydd trin dŵr gwastraff a lleihau microblastigau mewn biosolidau cyn y cylch cynllunio nesaf. Mae CNC hefyd yn gweithio ar ddulliau atal gyda phartneriaid ymchwil eraill, gan gynnwys Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu Llywodraeth y DU, i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar risgiau ac effeithiau. Mae llawer mwy i'w wneud yn y maes hwn wrth i'r dystiolaeth ddod i'r amlwg, ond nid dim ond aros amdani a wnawn, rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith.

15:15
Llygredd o Safleoedd Gwaredu Gwastraff

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effeithiau hirdymor ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd yn deillio o achosion hanesyddol o ddympio biffenylau polyclorinedig? OQ63781

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â llygredd posib sy'n gysylltiedig â safleoedd gwaredu gwastraff hanesyddol. Ein hamcanion cyffredinol yw diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â safleoedd yr amheuir eu bod yn achosi llygredd.

Diolch am yr ateb. 

Wrth gwrs, cyflwynwyd y cwestiwn hwn mewn ymateb i'r digwyddiad a noddwyd gan Carolyn Thomas ychydig wythnosau yn ôl. Yn y digwyddiad hwnnw, fe wnaethom ddysgu y gallai 45,000 o safleoedd ledled Cymru fod wedi'u halogi â biffenylau polyclorinedig, ond mewn gwirionedd, dim ond 82 o safleoedd sydd gennym sydd wedi'u harchwilio'n llawn a'u dosbarthu'n ffurfiol fel rhai halogedig.

Gwyddom fod cwmni Monsanto wedi bod yn rhan fawr o hyn. Roeddem yn gwybod eu bod yn ymwybodol o beryglon amgylcheddol ac iechyd mor bell yn ôl â'r 1960au, ond eu bod wedi parhau i gynhyrchu biffenylau polyclorinedig yng Nghymru tan 1977. Rydym wedi siarad llawer ynglŷn â sut y mae angen i'r llygrwr dalu; wel, mae angen inni eu dwyn nhw i gyfrif am hynny. Roeddent yn ddigon parod i wneud elw ar draul ein cymunedau, dylent gael eu dwyn i gyfrif a dylent ddod yn ôl i lanhau eu llanast.

Yr hyn a ddaeth i fy meddwl yn y digwyddiad hwnnw hefyd oedd yr angen am eglurder a chydgysylltu rhwng awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Senedd a Llywodraeth y DU ar gyfrifoldeb a gorfodaeth, ac ynghylch sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen i wneud yn siŵr nad yw'r cemegau gwenwynig hynny'n treiddio i'n dyfrffyrdd a'n tir.

Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mewn ymateb i Carolyn Thomas a'i fwriad i godi hynny yn y grŵp rhyngweinidogol. Sut y mae'n gweld hynny'n datblygu ar ôl iddo gael ei godi, a beth y mae'n tybio fyddai'r amserlen i sicrhau y ceir y gweithio mewn partneriaeth hwnnw?

Rwy'n fwy na pharod i adrodd yn ôl ar ôl i'r grŵp rhyngweinidogol gyfarfod i weld a oes cytundeb y dylem fwrw ymlaen â gwaith ar hyn a beth y gallai'r gwaith hwnnw ei olygu. Os gallwch adael imi ddod yn ôl ar hynny, gallwn ddod â mwy o fanylion yn ôl yn ei gylch, ond mae’n rhaid inni gael y drafodaeth honno yn gyntaf. Mewn egwyddor, rwy'n cytuno â chi; rwy'n cytuno'n llwyr â'r egwyddor y dylid dwyn y cwmnïau a oedd yn llygrwyr gwreiddiol ar y safleoedd hyn i gyfrif. Y cwestiwn yw sut. [Torri ar draws.] Na, y cwestiwn yw sut. [Torri ar draws.] Yn wir—

Ond dyma un o'r heriau sylfaenol, yn enwedig y cwmnïau hynny a oedd yn gwybod beth roeddent yn ei wneud. Ymddengys bod rhwymedigaeth foesol arnynt i gwympo ar eu bai a gwneud iawn am hyn. Y cwestiwn yw, yn gyfreithiol, sut y gallwch chi eu dwyn i gyfrif. Ond mae gwaith ehangach i'w wneud yma hefyd. Oherwydd credaf mai'r hyn y gallwn ei wneud yma, nawr, yw gweithio gyda'n hawdurdodau lleol, i nodi'r safleoedd a'r hyn y gallwn ei wneud i liniaru effeithiau posib i iechyd, a'r amgylchedd yn ehangach.

Mae fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol, CNC, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddeall yma, nawr, pa opsiynau sydd ar gael i ddelio â'r safleoedd tirlenwi hanesyddol ac ôl-ddiwydiannol hyn. Ond rydych chi'n iawn i ddweud—ac rwy'n credu bod y cyhoedd yn deall hyn yn iawn hefyd—os oedd sefydliadau a chwmnïau yn gwybod beth roeddent ei wneud, mawredd, mae ganddynt gyfrifoldeb moesol i wneud eu dyletswydd.

Oergelloedd mewn Archfarchnadoedd

8. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan oergelloedd mewn archfarchnadoedd ddrysau arnynt? OQ63770

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi manwerthwyr i leihau eu defnydd o ynni drwy offer hyfforddi ymarferol a chymorth ariannol. Mae'r adnoddau hyfforddi hyn yn llywio penderfyniadau manwerthwyr ar oeri effeithlon, gan gynnwys opsiynau drws caeedig lle maent wedi'u cynnwys. Rydym yn canolbwyntio ar dystiolaeth, cyngor a phartneriaeth â manwerthwyr i wella perfformiad ynni.

Rwy'n siŵr eich bod wedi clywed eich hun yn gofyn i aelod iau o'r teulu gau drws yr oergell, Ddirprwy Brif Weinidog. Rwy'n sicr yn gwneud hynny'n rheolaidd. Ond—a gwn fod y cwestiwn hwn wedi achosi peth chwerthin pan wneuthum ei ofyn—mewn llawer o archfarchnadoedd, nid oes unrhyw ddrysau o gwbl. Rwyf o ddifrif. Yn ôl ymgyrchwyr, pe bai'r pum archfarchnad fwyaf yn rhoi drysau ar eu hoergelloedd, byddai'r DU yn lleihau ei defnydd o drydan 1 y cant. Yn 2023, nwy oedd yn gosod pris ynni yn y DU 98 y cant o'r amser. Bydd oriau pan fydd yr 1 y cant hwnnw o oergelloedd archfarchnadoedd yn gwneud y gwahaniaeth i'n dibyniaeth ar ynni adnewyddadwy, sy'n rhad, neu ar nwy, nad yw'n rhad. Felly, mae'n gwestiwn difrifol. Rhoddodd y Co-op ddrysau ar eu hoergelloedd nhw yn ôl yn 2012. Yna, fe wnaethant nodi arbediad o £50 miliwn oherwydd y drysau. Ond mae rhai manwerthwyr yn betrusgar, am eu bod eisiau i bobl brynu'n fyrbwyll, ac wrth gwrs, byddai rhoi'r gorau i'r prynu byrbwyll yn atal cryn dipyn o wastraff bwyd yn ôl pob tebyg. Felly, a oes rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ystyried, ac a ydynt yn barod i edrych ar ymyrraeth, yn hytrach nag aros i weld a yw pethau'n gwella? Diolch yn fawr.

15:20

Yn bendant, nid ydym yn aros i bethau wella. Mae hwn yn gwestiwn difrifol iawn—yn sicr. Cefais fy synnu gan y chwerthin, gan ei fod yn gwestiwn da iawn. Mae'n mynd yn ôl at ymgyrch a ddechreuodd yn ôl yn 2019 ar gau drws yr oergell. Yr hyn a wnawn yma yng Nghymru yw darparu cymorth i fanwerthwyr, gan gynnwys cyllid a diagnosteg, gan fod pob siop ychydig yn wahanol, ac rydym yn ymwybodol o'r dadleuon mewn perthynas â hyn.

Gall manwerthwyr gael mynediad nid yn unig at gymorth ymarferol, ond hefyd at gyllid i'w helpu i fuddsoddi mewn oeri effeithlon lle mae hynny'n gweddu i'w busnes. Mae'r offeryn asesu parodrwydd i addasu i’r hinsawdd sydd gennym yn helpu manwerthwyr i nodi eu risgiau ynni, a all gynnwys arferion oeri aneffeithlon, a dewis opsiynau effeithiol. Gallant hefyd gael mynediad at gymorth ymarferol drwy'r cynllun benthyciadau busnes gwyrdd a'r gronfa paratoi at y dyfodol, ochr yn ochr â'n hoffer addasu a lleihau allyriadau ehangach.

Rwy'n cytuno â chi. Rwy'n credu bod nid yn unig y Co-op—mae'r Co-op yn wych, yn sicr, yn yr hyn y maent wedi'i wneud yma—ond mae Aldi hefyd, ac eraill, yn dechrau mynd i'r cyfeiriad hwnnw. Byddwn yn cefnogi, byddwn yn gweithio gyda manwerthwyr, drwy'r llwybrau cyllido hynny, drwy'r cyngor a'r cymorth hwnnw, ac yn eu helpu i wneud y penderfyniad gwybodus. Rydym yn gwneud hyn drwy bethau fel y fforwm adwerthu. Rydym yn ei wneud drwy weithio drwy hynny gyda'r gadwyn fanwerthu, i geisio egluro iddynt y gallai fod arbedion yma i'w busnes, ac y bydd eu sylfaen gwsmeriaid yn cefnogi hyn i'r carn hefyd.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 eiliad

Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Alun Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r mis hwn yn nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi Papur Gwyn, 'University of the Air', a arweiniodd at sefydlu'r Brifysgol Agored ym 1969. Wrth gwrs, Jennie Lee, Gweinidog y celfyddydau yn Llywodraeth Lafur Harold Wilson, oedd yn gyfrifol am y weledigaeth, a phan gafodd ei hethol ym 1929, hi oedd yr AS benywaidd ieuengaf yn Nhŷ'r Cyffredin. Mewn gwirionedd, ei chyfraniad cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin oedd ymosodiad ar Winston Churchill. Fe'i disgrifiodd fel 'rhagrithiol, llwgr a di-glem', gan sefydlu ei hun yn un o wleidyddion mwyaf gwydn yr ugeinfed ganrif. Ac wrth gwrs, wrth gyhoeddi'r Papur Gwyn, cyflawnodd egwyddor Robbins, y mae llawer ohonom yn dal i lynu wrthi heddiw, y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb sy'n gymwys ac sy'n dymuno cymryd rhan, ni waeth beth fo'u gallu i dalu.

Chwe degawd yn ddiweddarach, mae'r achos a wnaeth Jennie Lee yn y 1960au yn teimlo'n fwy dybryd nag erioed. Mae arnom angen dysgu mwy hyblyg fel bod mwy o bobl yn gallu dychwelyd at addysg drwy gydol eu hoes, ac mae angen ymrwymiad newydd i ddysgu wedi'i wreiddio yn y cymunedau. Ond nid oes dwywaith amdani fod Jennie wedi ymladd dros y Brifysgol Agored, ac wedi ymladd yn erbyn y sefydliad, yn yr un modd ag y gwnaeth Nye wrth sefydlu'r GIG ei hun. Pan wasgarwyd ei lludw yn yr un lle â Nye, uwchlaw Trefil yn fy etholaeth i, ym 1988, yr hyn a welsom oedd gwleidydd a ymladdodd dros bobl gyffredin, dros eu hawl i addysg, ac a adawodd waddol y gall pob un ohonom fod yn falch ohono heddiw.

Mae'n bleser gen i sefyll yma heddiw i nodi pen-blwydd gwirioneddol hanesyddol, gan ei bod hi yn 150 o flynyddoedd ers sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ar 2 Chwefror 1876, yng ngwesty'r Wynnstay yn Wrecsam, mi ddaeth criw bach at ei gilydd oedd â gweledigaeth fawr, ac o'r cyfarfod hwnnw fe anwyd y drydedd gymdeithas bêl-droed genedlaethol hynaf yn y byd.

O’r cychwyn, roedd hwn yn fwy na mater o chwaraeon. Roedd yn ddatganiad o hyder—fod gan Gymru ei hunaniaeth ei hun, ei thîm pêl-droed ei hun, a’i lle haeddiannol ei hun ar y llwyfan rhyngwladol. A thrwy’r ganrif a hanner ers hynny, mae’r crys coch a’r ddraig goch arno wedi dod yn symbol o bwy ydym ni. Fuodd hi ddim yn daith hawdd ar adegau, wrth gwrs—rŷm ni i gyd yn cofio ambell i gyfnod rhwystredig, a dweud y lleiaf—ond rŷm ni hefyd wedi cael adegau euraidd, adegau sydd wedi ddiffinio cenedlaethau, o Gwpan y Byd 1958, i'r Ewros yn 2016, ac Ewros y merched yn 2025, achlysuron epig pan unodd y genedl gyfan y tu ôl i’r tîm cenedlaethol.

Nid ar y cae yn unig mae dylanwad y gymdeithas. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi rhoi’r Gymraeg a’n diwylliant wrth galon pob dim. Mae'r gymdeithas wedi dangos bod chwaraeon yn gallu bod, ie, yn rym diwylliannol, ond hefyd yn rym economaidd a chymdeithasol cadarnhaol.

Heddiw, rŷm ni'n diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith—yn chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a chymunedau cyfan. Mae Cymdeithas Bêl‑droed Cymru wedi gwneud mwy na threfnu gemau; mae wedi helpu siapio ein cenedl. Mae’r daith honno’n parhau, oherwydd er gwaethaf pawb a phopeth, rŷm ni yma o hyd. Felly, pen-blwydd hapus a diolch i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru, ac ymlaen i’r 150 nesaf.

15:25

Llongyfarchiadau mawr i Ferched y Môr, tîm rhwyfo pedair menyw o sir Benfro. Maent newydd gwblhau llwybr rhwyfo anoddaf y byd, sef yr Iwerydd, un o rasys dygnwch mwyaf heriol y byd, a nhw yw'r criw benywaidd cyntaf o Gymru i roi cynnig arni. Rhwyfodd Denise Leonard, Helen Heaton, Liz Collyer a Heledd Williams daith anhygoel o 3,000 milltir heb gymorth ar draws yr Iwerydd, gan ddechrau o La Gomera yn yr Ynysoedd Dedwydd ar 14 Rhagfyr, a chyrraedd Antigua ddydd Llun, 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud yn ddiweddarach.

Pan oeddem ni'n bwyta ein cinio Nadolig, neu'n gwylio The Traitors ym mis Ionawr, roedd y pedair menyw hyn o sir Benfro allan yn rhwyfo ar fôr yr Iwerydd. Roeddent yn rhwyfo mewn parau ar rota ddwys o ddwy awr o gwmpas y cloc. Roeddent yn rhwyfo 12 awr y dydd ar gyfartaledd gyda fawr iawn o gwsg, tonnau 20 troedfedd, salwch difrifol a stormydd—pedair menyw gyffredin sydd wedi cyflawni rhywbeth anghyffredin. Nid ydynt yn athletwyr elitaidd. Roeddent eisiau dangos na allai rhywedd, cyrff sy'n heneiddio, hyd yn oed eu meddyliau eu hunain, eu hatal rhag cyflawni pethau gwych a chodi arian at elusen.

Fe ddywedodd y capten, Denise, ar ddechrau’r daith eu bod nhw wedi bod yn cynllunio a hyfforddi ar gyfer y daith am bum mlynedd, a'u bod nhw'n moyn gwneud Cymru yn browd. Wel, mae Cymru yn sicr yn browd o Merched y Môr. Ar ran y Senedd, felly, llongyfarchiadau mawr i’r pedair menyw ddewr, wydn yma o sir Benfro, ac i’w cwch, Cariad.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16'

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Buffy Williams. 

Cynnig NDM9134 Buffy Williams

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn, o'r rheini a'n croesawodd ar ymweliadau i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, am y ffordd adeiladol yr aethant ati i wneud y gwaith hwn. Ond yn fwy na dim, hoffwn ddiolch i'r bobl ifanc a'r rhieni a roddodd amser i rannu eu profiadau gyda ni. Fe wnaeth eu gonestrwydd, eu dewrder a'u mewnwelediad siapio pob cam o'r ymchwiliad hwn, ac mae’n rhaid i'w lleisiau barhau i arwain y newidiadau sydd i ddilyn.

Pan ddechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad hwn, roedd ein nod yn syml: deall beth y mae pobl ifanc yn ei brofi mewn gwirionedd wrth symud o addysg orfodol i addysg a hyfforddiant ôl-16. Dros gyfnod o bron i flwyddyn, drwy dystiolaeth ysgrifenedig, sesiynau llafar, ymweliadau ledled Cymru a lleisiau cannoedd o bobl ifanc a rhieni, daeth darlun clir i'r amlwg. Gwelsom system â chryfderau gwirioneddol a photensial gwirioneddol, ond hefyd system a gâi ei dal yn ôl gan anghysondeb, cymhlethdod a rhwystrau strwythurol sy'n rhoi blaenoriaeth i sefydliadau ar draul dysgwyr yn rhy aml.

Fel pwyllgor sy'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, fe wnaethom ddewis canolbwyntio ar y daith y mae dysgwyr eu hunain yn ei gwneud. Fe wnaethom edrych ar yr hyn sy'n digwydd wrth iddynt baratoi i adael blwyddyn 11, pa ddewisiadau a wynebant yn 16 oed, a pha gefnogaeth a gânt wrth iddynt fynd i'r coleg, i chweched dosbarth, i brentisiaethau neu i mewn i waith. Mae cymhlethdod yr adroddiad yn adlewyrchu cymhlethdod y system y disgwylir iddynt lywio drwyddi.

Un o'r themâu cryfaf i ddod i'r amlwg oedd yr angen am barch cydradd go iawn rhwng llwybrau academaidd a llwybrau galwedigaethol. Dylai pobl ifanc allu dewis y llwybr sy'n addas iddynt hwy, boed yn academaidd, yn alwedigaethol neu'n gymysgedd o'r ddau, heb i'r dewis hwnnw gyfyngu ar yr hyn y gallant ei wneud nesaf. Ond clywsom yn glir iawn nad dyma'r realiti. Mae gormod o ddysgwyr yn dal i deimlo eu bod yn cael eu gwthio tuag at Safon Uwch oherwydd y ffordd y mae'r system yn gweithio, nid oherwydd ei fod yn iawn iddynt hwy. Mae eraill yn teimlo bod llwybrau galwedigaethol wedi'u tanbrisio neu heb fod ar gael. Rhaid i hyn newid. Mae'r diffyg cydraddoldeb hwn yn cael canlyniadau gwirioneddol. Mae cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru yn dal i fod yn rhy isel, ac nid oes digon o bobl ifanc yn gadael gyda chymhwyster lefel 3. Pryderwn nad ydym yn deall yn iawn pam, am nad ydym yn casglu'r data manwl sydd ei angen arnom i olrhain teithiau dysgwyr yn iawn. Felly, mae'n ymwneud â mwy na thegwch rhwng llwybrau'n unig, mae'n ymwneud â pha un a yw pobl ifanc yn aros mewn addysg ac yn cael y cymwysterau sy'n agor drysau iddynt.

Ail thema oedd yr angen am baratoi, gwybodaeth a chyngor gwell. Mae angen gwybodaeth a chefnogaeth dda ar bobl ifanc, a'u teuluoedd hefyd, i wneud penderfyniadau am eu dyfodol. Dylai cyngor gyrfaoedd ddechrau'n gynnar a bod yn gyson. Ond gwelsom fod ansawdd y cyngor yn amrywio'n fawr. Cawsom ein synnu'n arbennig gan y ffaith mai tua chwarter y bobl ifanc yn unig sy'n cael cyfle i wneud profiad gwaith. Mae hwnnw'n gyfle enfawr a gollwyd. Profiad gwaith yw un o'r ffyrdd mwyaf pwerus i bobl ifanc ddeall y byd gwaith. Mae angen inni ddeall yn well beth sy'n atal ein pobl ifanc rhag ennill profiad gwaith a chael gwared ar y rhwystrau sy'n atal mynediad ar hyn o bryd.

Y drydedd thema oedd pwysigrwydd cydweithio. Mae system ôl-16 gref yn dibynnu ar ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant yn gweithio gyda'i gilydd. Ond gall y system ariannu bresennol greu cystadleuaeth anfwriadol yn hytrach na chydweithrediad. Gall hyd yn oed ddylanwadu ar y cyngor y mae pobl ifanc yn ei gael. Credwn fod yn rhaid mynd i'r afael â hyn. Dylid cefnogi ac annog sefydliadau i weithio gyda'i gilydd i gynnig y canlyniad a'r cyfleoedd gorau posib i ddysgwyr.

Mae ein hadroddiad yn nodi chwe argymhelliad realistig manwl sy'n adlewyrchu'r themâu hyn. Maent yn cynnwys galwad am strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16. Maent hefyd yn galw am ehangu'r prentisiaethau iau. Gofynnwn am adolygiad o'r system ariannu ôl-16 ac am hawl i ddysgu 14 i 16 sy'n gryfach. Yn olaf, rydym eisiau gwell data ar lwybrau dysgwyr a dealltwriaeth gliriach o'r rhesymau pam y mae cymaint o bobl ifanc sydd eisiau prentisiaethau yn dal i fethu cael mynediad atynt.

Ers cyhoeddi ein hadroddiad, rydym wedi cael ymatebion gan Lywodraeth Cymru a Medr. Yn fwy diweddar, lansiodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch 'Dyfodol addysg drydyddol yng Nghymru: 5 her a galwad am gyflwyniadau'. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn dangos bod ein gwaith wedi cael ei glywed, fod ein gwaith yn cael ei gymryd o ddifrif, a bod y materion a godwyd gennym bellach yn rhan gadarn o'r sgwrs genedlaethol am ddyfodol addysg ôl-16 yng Nghymru.

Rydym yn croesawu llawer o ymateb Llywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn derbyn llawer o'n hargymhellion yn llawn neu mewn egwyddor. Mae'r ymrwymiadau i gryfhau'r hawl i ddysgu 14 i 16 oed, i werthuso effaith y cynllun peilot tocyn bws £1 ar fynediad at addysg a hyfforddiant ôl-16, ac i gydnabod yr afluniad a grëir gan y system ariannu bresennol i gyd yn pwyntio i'r cyfeiriad cywir. Mae datganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar ddyfodol addysg drydyddol hefyd yn galonogol. Mae hi'n nodi'r heriau mawr sy'n wynebu'r system drydyddol: cyfranogiad, cynaliadwyedd, cynnydd a phwysau ar y gweithlu. Mae hi'n pwyso ar ein gwaith ni'n benodol fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth.

Mae'n dda gweld ein canfyddiadau'n bwydo'n uniongyrchol i'r sgwrs genedlaethol ehangach. Ond mae'n bwysig bod yn glir nad yw derbyn mewn egwyddor yr un peth ag ymrwymiad i gyflawni. Mewn sawl maes, mae'r Llywodraeth wedi nodi cytundeb cyffredinol, heb ddarparu'r manylion hyd yma na'r eglurder sydd eu hangen ar bobl ifanc a darparwyr. Felly, er bod y rhain yn arwyddion cadarnhaol, dyna ydynt o hyd—arwyddion. Rhaid inni fod yn onest hefyd ynglŷn â lle mae ymateb Llywodraeth Cymru yn methu cyrraedd y nod. Mae'r penderfyniad i beidio â chomisiynu adolygiad Estyn o Gyrfa Cymru yn gyfle a gollwyd. Nid ydym erioed wedi pryderu ynglŷn â'r cymorth wedi'i dargedu y mae Gyrfa Cymru yn ei ddarparu—mae'r cymorth hwnnw'n cael ei ganmol yn eang—y mater dan sylw yw'r cynnig safonol sydd ar gael i'r mwyafrif o ddysgwyr, yn enwedig mewn ysgolion lle gall pwysau ariannol siapio'n anfwriadol y cyngor y mae pobl ifanc yn ei gael. Byddai craffu annibynnol wedi rhoi sicrwydd ar adeg pan fo cyngor gyrfaoedd o dan bwysau go iawn.

Rydym hefyd yn siomedig ynghylch y gwrthodiad i gomisiynu ymchwil i'r hyn sy'n rhwystro cyflogwyr rhag cynnig profiad gwaith. Mae profiad gwaith yn cael ei ddisgrifio'n gyson fel rhywbeth trawsnewidiol, ond chwarter y bobl ifanc yn unig sy'n cael manteisio arno. Heb ddealltwriaeth ddyfnach o'r rhesymau pam nad yw cyflogwyr yn cynnig lleoliadau, bydd cynnydd yn gyfyngedig. Nid yw arolygon a chanllawiau presennol yn rhoi'r mewnwelediad penodol i Gymru sydd ei angen i sbarduno newid ystyrlon.

Er bod y Llywodraeth yn cydnabod y problemau a grëir gan y system ariannu ôl-16 bresennol, nid oes brys na manylder yn perthyn i'w hymateb. Heb newid ystyrlon, bydd y system yn parhau i gymell cystadleuaeth dros gydweithredu a bydd parch cydradd yn parhau i fod y tu hwnt i gyrraedd.

Rhywbeth a fu'n thema gyson drwy ein holl waith yn y Senedd hon yw bod data'n parhau i fod yn wendid. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod y broblem, ond nid yw ei hymrwymiadau hyd yma'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau a nodwyd gan Medr. Felly, mae'r llwybr ymlaen yn parhau i fod yn aneglur. Heb ddata amserol cadarn ar gyfranogiad, cynnydd a chyrchnodau, ni allwn lunio system sydd mewn gwirionedd yn diwallu anghenion dysgwyr.

Yn gryno, mae'r darlun a ddaw i'r amlwg yn un o aliniad rhannol. Mae gwaith y pwyllgor yn amlwg wedi siapio meddylfryd y Llywodraeth a Medr. Ceir cydnabyddiaeth gyffredin o'r heriau, a cheir ymrwymiadau i'w croesawu a fydd yn gwneud gwahaniaeth, ond ceir bylchau hefyd o ran craffu, mewn tystiolaeth, o ran brys ac eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd nesaf.

Ein rôl nawr yw sicrhau nad yw'r momentwm a gynhyrchwyd gan yr ymchwiliad hwn yn cael ei golli. Mae pobl ifanc yng Nghymru yn uchelgeisiol, yn alluog ac yn awyddus i archwilio ystod eang o lwybrau. Maent yn haeddu system sy'n cefnogi'r uchelgeisiau hynny yn gyson ac yn deg. Wrth inni edrych ymlaen at dymor nesaf y Senedd, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor a fydd yn ein holynu a Llywodraeth nesaf Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â'r agenda hon gyda'r ffocws a'r brys y mae pobl ifanc yn eu haeddu. Diolch.

15:35

Rwy'n falch iawn o allu siarad heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar lwybrau i addysg ôl-16. A gaf i achub ar y cyfle i ddiolch i glercod y pwyllgor, y Cadeirydd, yn ogystal â holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled, a phawb a oedd yn rhan o'r adroddiad?

Mae'n wirioneddol siomedig gweld Llywodraethau Cymru olynol yn methu cefnogi'r gwahanol opsiynau ar gyfer addysg ôl-16, a phob llwybr gyrfa i bobl ifanc yn y pen draw. Yr hyn a oedd yn amlwg i'r pwyllgor yw nad yw addysg alwedigaethol yn cael parch cydradd ag addysg academaidd, ac mae yna duedd sy'n gogwyddo tuag at lwybr academaidd traddodiadol. Mae hyn, yn ei dro, yn gadael miloedd o bobl ifanc heb y gefnogaeth i gael y gyrfaoedd boddhaol sy'n iawn iddynt hwy. Tynnwyd sylw at y diffyg parch cydradd hwn gan nifer o dystion a ddaeth i'r pwyllgor, yn ogystal â'r ffaith bod llwybrau o addysg alwedigaethol i addysg uwch yn anodd eu llywio. Er enghraifft, dywedodd Gyrfa Cymru wrthym fod y llwybrau hyn yn llai llinol a heb eu deall i'r un graddau â llwybrau academaidd pur. Ar ben hynny, mae diffyg strategaeth alwedigaethol gydlynol yn cael effaith ddiferu i lawr ar ddiweithdra. Nid yw bron i hanner, neu 45 y cant, o gyflogwyr peirianneg ledled y DU yn credu bod y system addysg yng Nghymru yn addas i'r diben. Yng Nghymru, dim ond 44 y cant o gyflogwyr sy'n credu bod y system addysg yn addas i'r diben. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud datganiad ar lafar fis Tachwedd diwethaf am strategaeth alwedigaethol drosfwaol i bobl ifanc, ond mae hyn ychydig yn rhy hwyr. Rydym bellach yn anelu at ddiwedd tymor y Senedd, felly sut y gall hyn sicrhau bod addysg alwedigaethol yn cael ei rhoi ar sail gyfartal ag addysg academaidd erbyn yr hydref hwn?

Nodaf hefyd y bwriad i gyflwyno tystysgrif addysg uwchradd alwedigaethol erbyn 2027, ond a oes digon o feddwl wedi'i roi i hyn? Clywodd y pwyllgor gan nifer o randdeiliaid pryderus sy'n nodi prinder capasiti ac arbenigedd i addysgu tystysgrifau addysg uwchradd alwedigaethol mewn ysgolion yng Nghymru, y gallent greu system ddwy haen, a'u bod yn cynnig blas yn hytrach na llwybr pendant i gyflogaeth. Mae un undeb athrawon hefyd wedi dweud yn uniongyrchol wrthyf, er bod tystysgrifau addysg uwchradd galwedigaethol yn wych mewn egwyddor, fod angen mwy o fanylion ynglŷn â'r hyn ydynt, er enghraifft a ydynt yn astudiaethau cyffredinol, neu a ydynt yn canolbwyntio ar astudiaeth ystyrlon ac yn canolbwyntio ar alwedigaeth mewn gwirionedd. Hoffwn wybod sut y mae tystysgrifau addysg uwchradd galwedigaethol hefyd yn cyd-fynd â Safon Uwch. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gweld bod eich partneriaid yn San Steffan yn bwriadu cyflwyno cymwysterau Safon Uwch galwedigaethol hefyd. A yw hynny'n rhywbeth y byddwn yn ystyried ei gyflwyno yma yng Nghymru?

Yn eich ymateb i'r pwyllgor, fe wnaethoch chi hefyd ganolbwyntio'n fawr ar rôl Medr yn darparu llwybrau ôl-16 i addysg alwedigaethol. Fy mhryder i yw bod Medr hefyd yn gohirio ystyried materion pwysig. Cymerwch radd-brentisiaethau, er enghraifft: flynyddoedd ar ôl eu cyflwyno, maent yn dal i fod wedi'u cyfyngu i yrfaoedd peirianneg a seiberddiogelwch. Rydym i gyd yn gwybod bod angen eu diwygio, ond nawr ni chyflwynir gradd-brentisiaethau newydd tan 2027—flwyddyn i mewn i dymor newydd y Senedd. O ganlyniad, mae pobl ifanc Cymru'n colli cyfleoedd hanfodol i fynd i'r brifysgol, dysgu sgiliau yn y gwaith, ac mae prifysgolion Cymru yn colli myfyrwyr a allai fod yn dysgu yma, am fod gan y DU amrywiaeth lawer ehangach o ddewis o'i gymharu â llawer o wledydd eraill.

Gan droi at gyngor gyrfaoedd—ac rwy'n gwybod bod y Cadeirydd wedi cyffwrdd â hyn—er gwaethaf nod Ysgrifennydd y Cabinet i drafod gyrfaoedd o oedran ifanc, clywodd y pwyllgor fod y mwyafrif helaeth o ddysgwyr yn trafod eu hopsiynau ar ôl blwyddyn 11 yn gyntaf naill ai ym mlwyddyn 10 neu flwyddyn 11. A chlywsom gan randdeiliaid fod ansawdd y cyngor gyrfaoedd ledled Cymru yn anghyson, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi bod y cyngor yn ddarniog gyda phocedi o arfer rhagorol. Mae hynny'n dweud wrthyf fod cyngor gyrfaoedd yn dal i fod yn wasgarog ac wedi'i adael tan y funud olaf, yn aml ar ôl i bynciau TGAU gael eu dewis, ac mewn rhai achosion, tra byddant yn cael eu dilyn hyd yn oed.

Gwelaf hefyd eich bod wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor o adolygiad thematig ar Gyrfa Cymru, am fod y corff yn gwerthuso eu cynnig ar gyfer strategaeth newydd. Pryd y caiff y strategaeth hon ei gweithredu, felly? A hoffai unrhyw un ddyfalu? Yn 2027. Rwy'n gweld patrwm bach yn ffurfio yma, oherwydd yn bersonol, rwy'n teimlo mai enghraifft arall yw hon o Lywodraeth Cymru yn gwastraffu amser gwerthfawr o ran addysg ôl-16 a'r opsiynau sydd ar gael i blant a phobl ifanc, a phan fyddant yn dechrau meddwl am yr hyn sy'n digwydd ar ôl iddynt droi'n 16 oed, gallai fod yn rhy hwyr.

Ar brentisiaethau, cefais fy synnu gan yr ymateb i argymhelliad 11 ar y rhwystrau i gyflogwyr ddarparu'r rhain, ac rwy'n dyfynnu:

'mae pwysau economaidd ehangach a pholisïau Llywodraeth y DU ar Yswiriant Gwladol ac isafswm cyflog wedi cyfyngu ar nifer y cyfleoedd sydd ar gael.'

Ysgrifennydd y Cabinet, ai cyfaddefiad yw hwn fod eich partneriaid yn San Steffan, er eu bod wedi cynyddu yswiriant gwladol ac isafswm cyflog yn sylweddol, ar yr un pryd wedi prisio pobl ifanc allan o ennill profiad gwaith gwerthfawr? Mae hyn yn gwbl nodweddiadol o'r diffyg cydgysylltiad rhyngoch chi a Llywodraeth Lafur y DU, oherwydd, yn y pen draw, pobl ifanc sy'n dioddef o ddiffyg cyfleoedd oherwydd polisi difeddwl.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at ganfyddiadau'r pwyllgor ar sefydlogrwydd ariannol sefydliadau addysg uwch, oherwydd yn sicr nid ydynt wedi cefnu ar yr adegau anodd eto. Unwaith eto, mae cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael sylw mawr yn yr anawsterau a wynebant, gyda Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn amcangyfrif i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn 2025 ei fod yn costio £2.5 miliwn a £1.6 miliwn iddynt yn y drefn honno, ac yn ychwanegol at y cynnydd mewn chwyddiant. Fel y gwyddom i gyd, roedd gan brifysgolion Cymru ddiffyg cyfunol o £100 miliwn yn 2024, gyda'ch Gweinidog addysg uwch yn cyfaddef bod y codiadau i ffioedd dysgu bryd hynny wedi'u gwrthbwyso gan godiadau i yswiriant gwladol. Rydym hefyd yn gweld diswyddo torfol mewn rhai prifysgolion, gyda Phrifysgol Caerdydd yn gwario £24 miliwn ar ddiswyddiadau, a Phrifysgol Abertawe yn ystyried diswyddo un o bob pump o'u hacademyddion.

Dyma'r realiti, Ysgrifennydd y Cabinet, felly pa gamau brys a gymerwch chi nawr gyda Medr i sicrhau bod y sector hwn yn parhau i fod yn fywiog ac yn dod yn gynaliadwy? Mae yna lawer mwy o feysydd y gallwn gyffwrdd â nhw, Ddirprwy Lywydd, ond fe fyddwch yn falch o glywed na wnaf. Mae angen inni weithio'n galed gyda'n gilydd, ac mae angen inni weithio'n galed nawr i alluogi pontio llyfn o addysg i mewn i waith i filoedd o bobl ifanc sydd angen y gefnogaeth honno ac sy'n ei llwyr haeddu. Diolch yn fawr.

15:40

A gaf i ailadrodd y diolch hefyd, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? Mae hwn wedi bod yn adroddiad hynod bwysig, a diolch i bawb—yn Aelodau a swyddogion—sydd wedi chwarae eu rhan yn hyn.

Mewn sawl ffordd, mae'n arfarniad o 27 mlynedd o Lywodraeth Cymru a'r dirwedd sgiliau y maent wedi'i gadael i bobl ifanc Cymru. Nawr, gadewch inni ddarparu rhywfaint o gyd-destun. Fe gymeraf ambell ddarn bach o'r data y gwnaethom edrych arno fel pwyllgor. Dim ond 33 y cant o ddysgwyr sy'n mynd ymlaen i wneud Safon Uwch. Yn Lloegr, y ffigur cyfatebol yw 47 y cant. Nawr, efallai mai dyma'r rheswm pam y mae ein cyfradd mynediad i addysg uwch yn ail waethaf yn y DU. Er enghraifft, canran y bobl ifanc 18 oed yng Nghymru a aeth ymlaen i addysg uwch yn 2023-24 oedd 29.9 y cant, o'i gymharu â 49.5 y cant yn Llundain a 40.2 y cant yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'r ffigur yn yr Alban oddeutu 38 y cant. Yn y DU yn gyffredinol, o ran y rhai yn y cymunedau mwyaf difreintiedig sy'n mynd ymlaen i brifysgol, mae'r lefel oddeutu 26 y cant. Yng Nghymru, mae'n 18.9 y cant. Felly, yn amlwg, mae ffordd bell i fynd.

Nawr, mae cyfranogiad ar ôl 16 hefyd yn gostwng, ac rydym wedi cael un o'r cyfraddau uchaf yn y DU o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Nawr, dro ar ôl tro, mae Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth hon i weithredu strategaeth sgiliau, a strategaeth sgiliau galwedigaethol o fewn hynny. Ac i ailadrodd y pwynt a wnaeth Natasha, mae angen i'r strategaeth sgiliau galwedigaethol gael parch cydradd â'r llwybrau academaidd mwy traddodiadol.

Ac rwy'n falch o weld bod galwad am strategaeth sgiliau wedi'i hadleisio yn yr adroddiad hwn. Fel adroddiad Sharron Lusher 2023, y mae'r Llywodraeth hon wedi methu gweithredu ei argymhellion—. Nawr, mae Gweinidogion wedi disgrifio gweithredu'r strategaeth sgiliau fel rhywbeth hirdymor. Wel, rwy'n ofni nad yw hynny'n dangos faint o frys sydd ei angen arnom i bobl ifanc sy'n gwneud penderfyniadau sy'n newid bywyd yn 16 oed. Ni allant aros gyn hired â hynny. Dyna pam y bydd y bobl ifanc a fydd yn pleidleisio dros Blaid Cymru ym mis Mai yn pleidleisio dros Lywodraeth sydd â strategaeth sgiliau yn barod i fynd, gan gynnwys cynnal archwiliad sgiliau, ac sy'n dangos uchelgais a brys hefyd.

Dwi’n mynd i droi at y Gymraeg, achos mae llawer iawn o’r argymhellion yn ymwneud â’r cyngor gyrfaol sydd yn cael ei roi i bobl ifanc, ac mae yna ddiffygion amlwg wedi cael eu nodi fel tystiolaeth i ni fel pwyllgor. Ac nid yn unig bod hyn yn bwysig er mwyn rhoi cyngor i bobl ifanc am eu dyfodol, ond y mwyaf o wybodaeth a phrofiadau sy’n cael eu rhoi mae e’n cryfhau'r llinellau yna o ran cyflenwi lleol a chefnogi busnesau lleol. Ac mae tynnu busnesau lleol i mewn a chynnal awdit sgiliau a rhannu’r wybodaeth yna gyda phobl ifanc mor bwysig hefyd er mwyn sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael eu cyflogi yn lleol. Felly, rwy’n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod derbyn yr argymhelliad arbennig yma gan y pwyllgor.

A’r pwynt olaf dwi eisiau ei wneud, Dirprwy Lywydd, yw ynglŷn ag addysg Gymraeg. Fe glywon ni dystiolaeth bod dilema yn wynebu pobl 16 oed sydd wedi cael addysg Gymraeg, yn arbennig y rhai sydd eisiau, efallai, mynd i goleg addysg bellach yn hytrach nag aros mewn chweched dosbarth. Mae’r diffyg darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg yn eu rhwystro nhw rhag parhau ar hyd y llwybr ieithyddol hwnnw. Felly, mae hwn yn rhywbeth mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag e fel cenedl. A’r pwynt olaf, o ran hynny yn arbennig, yw: mae’n rhaid i ni roi hyder i bobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg fod yna lwybr gyrfa ar gael iddyn nhw i’r sector addysg bellach, a hyd yn oed i'r sector addysg uwch.

Felly, y geiriau olaf mewn gwirionedd yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod y diffygion yma yn cael eu delio â nhw, ac mae'n rhaid i ni greu system sydd yn cael ei seilio ar degwch, uchelgais a chefnogaeth i’r Gymraeg a chyfleoedd gwirioneddol i bobl ifanc ddatblygu eu hyder a’u sgiliau. Diolch.

15:45

Rwy'n croesawu'r adroddiad pwyllgor hwn yn fawr ac yn credu, os yw Llywodraeth Cymru am wneud cynnydd digonol ar wella cyfleoedd bywyd, lleihau'r niferoedd nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a diwallu anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol, rhaid i addysg a hyfforddiant galwedigaethol gael rhan ganolog yn ein system cyn- ac ôl-16. Mae hyn yn cynnwys gwell cyngor ac arweiniad yn gynharach—ar oedran llawer cynharach. Fel y mae'r adroddiad yn nodi, os yw hynny'n digwydd, mae'n helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae'n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'n atal ymddieithriad cyn iddo wreiddio.

Mae ein cwricwlwm yma yng Nghymru yn glir y dylai gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith gael eu gwreiddio o dair oed ymlaen. Mae hyn i'w groesawu ac yn hen bryd ei wneud yn fy marn i. Dengys tystiolaeth fod pobl ifanc yn ffurfio safbwyntiau cyfyngol ac ystrydebol am yrfaoedd erbyn diwedd yr ysgol gynradd. Ac mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod ysgolion yn cael trafferth gyda chapasiti ac amser, a dyna pam y mae cyngor ac arweiniad annibynnol wyneb yn wyneb mor bwysig. Rhaid galluogi colegau a darparwyr hyfforddiant i gael mynediad at ysgolion yn uniongyrchol, fel y gall dysgwyr ddeall yr ystod lawn o opsiynau academaidd a galwedigaethol sydd ar gael iddynt, nid dim ond y rhai y mae eu hysgol yn digwydd eu cynnig. Ac nid llywio dysgwyr i ffwrdd o lwybrau academaidd yw nod cyngor da, ond sicrhau bod llwybrau galwedigaethol yr un mor weladwy a chredadwy ac yn cael eu gwerthfawrogi i'r un graddau. Ac wrth gwrs, rydym wedi cydnabod yr angen am barch cydradd ers amser maith, ac mae eraill eisoes wedi siarad am hynny.

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar addysg bellach a sgiliau, rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan golegau am yr angen i wella llwybrau galwedigaethol a'r llwyddiant y mae prentisiaethau iau yn ei gael yn y meysydd lle maent yn digwydd. Canfu Estyn fod y prentisiaethau iau hynny'n effeithiol iawn am ailennyn diddordeb dysgwyr sydd mewn perygl o ddod yn NEET ac mae cysylltiad rhyngddynt â phresenoldeb a chyrhaeddiad rhagorol, ac maent yn llwyddiannus hefyd wrth gefnogi cynnydd i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ôl-16. Mae rhaglenni yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a mannau eraill yng Nghymru yn dangos eu gwerth clir. Eto, er gwaethaf y llwyddiant hwnnw, dim ond mewn pum awdurdod lleol y mae prentisiaethau iau ar gael, ac rwy'n hynod gefnogol i argymhelliad 3 yn yr adroddiad y dylid ehangu prentisiaethau iau fel eu bod ar gael ledled Cymru. Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond yn ogystal â hynny, mae angen cyllid wrth gwrs—cyllid digonol—ac mae arnaf ofn nad yw £1 filiwn, fel y nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru, yn ddigon. Felly, rwy'n gobeithio y gellir ychwanegu ato ac adeiladu arno.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae gennym gyfle i adeiladu system alwedigaethol gydlynol, gredadwy a chynhwysol sydd o ddifrif yn gwella cyfleoedd bywyd. Ond ni fydd ond yn digwydd os buddsoddwn yn yr hyn sy'n gweithio, os ydym yn onest am heriau capasiti a chyflawni, ac os ydym yn rhoi addysg alwedigaethol yn y canol yn ein hagenda ddiwygio.

15:50

Wrth gwrs, fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, rydym am weld parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd, ond nid wyf yn credu bod modd cyflawni parch cydradd yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn gyntaf, mae'n anodd neu'n amhosib dod o hyd i brentisiaeth lefel 6 neu lefel 7, hynny yw, prentisiaethau sy'n cyfateb i radd israddedig neu radd Meistr. Rwyf wedi codi hyn ar sawl achlysur mewn perthynas â chymwysterau cyfreithwyr yng Nghymru. Yn ail, nid yw prentisiaethau iau yn sicr o fod yn gam i gymwysterau lefel uwch, fel y nododd yr adroddiad. Ac yn olaf, eto fel y dywed yr adroddiad, ni cheir digon o esboniad ynghylch pa gymwysterau sy'n gyfatebol, na digon o wybodaeth ynghylch mapio eich gyrfa drwy lefelau prentisiaeth. 

Mae prifysgolion yng Nghymru hefyd yn pryderu nad oes digon o ddysgwyr sy'n mynd ar drywydd cymwysterau galwedigaethol yn symud ymlaen i lefel prifysgol. Yn amlwg, mae yna broblem yma. Ni allwn ddisgwyl i ddysgwyr ifanc ystyried llwybrau cymwysterau galwedigaethol ac academaidd yn gyfartal oni bai eu bod yn wirioneddol gyfartal, ac nid wyf yn credu eu bod. Nid oes cydraddoldeb yng Nghymru ar hyn o bryd. 

Dwi'n cytuno gyda sylwadau Cefin am yr hyn ddywedodd e am y Gymraeg, ond mae'n rhaid i mi ddweud, Cefin, dwi'n siomedig nad oedd unrhyw argymhellion am y Gymraeg yn yr adroddiad, oherwydd mae'n amlwg bod hyn yn broblem. Mae'n broblem bod cynifer o bobl ifanc yn teimlo bod rhaid iddyn nhw droi at y Saesneg ar ôl troi'n 16, fod troi i'r Saesneg o fantais iddyn nhw. Dywedodd un dysgwr a roddodd dystiolaeth fod angen fwy o gefnogaeth ar bobl ifanc sy'n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw newid ieithoedd. Nawr, dwi'n credu bod hon yn her ymarferol. Mae myfyrwyr yn gofyn am gymorth. Mae'n fwy na dim ond codi ymwybyddiaeth, yn fy marn i, o'u dewisiadau nhw. Mae'n rhaid inni wybod pam maen nhw'n teimlo hyn.

Ac rwyf eisiau siarad am geisiadau i brifysgolion a Seren. Mae nifer y myfyrwyr o Gymru ar draws pob lefel o amddifadedd sy'n gwneud cais i brifysgolion naill ai ar y lefel isaf yn y DU neu o fewn 1 y cant i fod ar y lefel isaf. Nawr, rydym wedi clywed rhesymau pam y mae hynny'n wir, ond mae'n siomedig nad oes unrhyw un o'r argymhellion yn canolbwyntio'n benodol ar y ffigur hwnnw. Yn hytrach, mae'r adroddiad yn cynnwys beirniadaeth prifysgolion Cymru o Seren. Mae'r rhaglen yn cefnogi'r plant mwyaf dawnus o Gymru i wneud cais i brifysgolion gorau y DU, a alwyd ganddynt yn ymgyrch 'astudio yn Lloegr', a oedd yn rhoi sector addysg uwch Cymru dan anfantais.

Nawr, bydd Cefin a minnau'n anghytuno ar hyn. Rydym yn cytuno ar y rhan fwyaf o bwyntiau, ond byddwn yn anghytuno ar y pwynt ynghylch Seren. Y budd gorau i rai myfyrwyr o Gymru, yn enwedig myfyrwyr o Gymru o gefndir difreintiedig, fydd gwneud cais i sefydliadau y tu allan i Gymru. Mae llawer ohonom yma wedi elwa o fynd i brifysgolion y tu allan i Gymru cyn dychwelyd i Gymru i fyw, i weithio ac i fagu ein teuluoedd. Ni ddylem amddifadu plant Cymru o gefndiroedd difreintiedig o'r cyfleoedd hynny, o agor y drws hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod dweud hynny'n eich gwneud chi'n llai o genedlaetholwr; rwy'n credu ei fod yn eich gwneud chi'n fwy o wladgarwr Cymreig, dweud y dylem gael llysgenhadon Cymreig yn mynd allan o Gymru ac yn dod yn eu holau wedyn. Wrth gwrs, mae angen inni wneud sefydliadau Cymreig yn fwy deniadol i'n pobl ifanc, ond mae cyfran y myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais ac yn cael eu derbyn i Rydychen neu Gaergrawnt eisoes yn is na gweddill y DU. Dyna pam y mae Seren yn bodoli, a dyna pam y mae angen inni—. Nid yw Seren yn berffaith, ond dyna pam y mae angen inni weithio i wneud Seren yn sefydliad gwell. Ond mae'r ffigur hwnnw'n sicr yn gysylltiedig â'r ffaith bod cyfran is o fyfyrwyr Cymru yn gwneud cais i fynd i brifysgol yn y lle cyntaf. Mae angen gweithredu i wybod am hynny.

Yn olaf, y data ar sail rhywedd ar gyfer pobl ifanc. Roedd yr adroddiad yn synnu gweld y cyfnewid rhwng dynion ifanc a menywod ifanc. Felly, roedd yn syndod i mi, Gadeirydd y pwyllgor, pam y gwnaethoch chi wedyn dynnu sylw at ddynion ifanc, er bod yr adroddiad yn dweud bod y data'n dangos y llynedd mai menywod ifanc oedd y mwyaf—. Mae yna ogwydd enfawr o 7 y cant, a hoffwn wybod mwy amdano, oherwydd roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn ymwneud â data o Loegr. Hoffwn wybod pam y mae hynny'n digwydd, a yw'r ffigurau'n gywir, a sut y gallwn ddelio â hynny.

Ddirprwy Lywydd, fe ddof i ben yno. Mae'r adroddiad yn codi materion pwysig iawn, canfyddiadau pwysig iawn. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw brys ac ymyrraeth ymarferol. Diolch yn fawr.

15:55

Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n ffrind a'n cyd-Aelod Hefin David, a'i adroddiad, 'Pontio i gyflogaeth'. Hefyd, hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, yr aelodau, tîm y pwyllgor, y sefydliadau, rhieni, gwarcheidwaid a'r bobl ifanc a roddodd dystiolaeth ac a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Roedd y sgyrsiau bord gron hynny'n effeithiol ac yn hynod bwysig i'n helpu i ddeall y rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc ac wrth siapio ein hargymhellion.

Clywsom fod cyngor unochrog yn y system o hyd, ochr yn ochr â chystadleuaeth rhwng ysgolion i gadw myfyrwyr yn y chweched dosbarth ac addysg bellach, gan fod cyllid yn dilyn y disgybl. Mae disgyblion a rhieni, sy'n ddylanwad mor gryf, angen gwybodaeth glir, ddiduedd a pherthnasol am ba swyddi sydd ar gael a pha lwybrau addysg sy'n arwain atynt. Gellid cefnogi hyn drwy wefan bwrpasol a thrwy ddarparu stondinau gwybodaeth mewn nosweithiau rhieni.

Yn gynharach, siaradais â'r Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil, a ddywedodd eu bod yn awyddus iawn i fynd i ysgolion, ond maent yn ei chael hi'n hynod o anodd gwneud hynny. Hoffent wybod hefyd pryd y caiff prosiectau mawr eu cyflwyno, fel y gallant weithio ar flaengynllun ac edrych hefyd ar recriwtio prentisiaid.

Mae trafnidiaeth yn rhwystr enfawr, ond gall fod yn alluogwr hefyd. Rwy'n croesawu'r tocyn bws o £1 i rai dan 21 oed a phasio'r Bil bysiau, a fydd yn sicrhau bod llwybrau'n cael eu cynllunio a'u mapio'n seiliedig ar angen yn y dyfodol.

Mae profiad gwaith yn hanfodol, ond mae mynediad ato'n ddiffygiol. Clywais gan un rhiant i ferch a oedd yn ymddieithrio rhag addysg brif ffrwd, a chafodd gynnig profiad gwaith yn yr amgylchedd naturiol. Fe wnaeth hyn ei hysbrydoli ac ailennyn ei diddordeb, ac aeth ymlaen i ennill cymwysterau drwy gyfuniad o waith ac addysg mewn maes yr oedd hi'n ei fwynhau.

Clywsom hefyd fod cyngor a chymorth Gyrfa Cymru yn anghyson, ac rwy'n credu y dylai Estyn gynnal adolygiad thematig. Mae'n debygol fod cyllid wedi cael effaith. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y cynllun prentisiaethau iau, sydd i'w weld yn llwyddiannus iawn, a bod y cyllid wedi dyblu yn ddiweddar.

Rydym yn parhau i weld cyhoeddiadau am fuddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ffermydd gwynt ar y môr, sy'n codi cwestiynau pwysig am ba sgiliau y bydd eu hangen: peirianwyr morol, weldwyr, trydanwyr. Rwy'n deall bod yna grŵp cynghori'r Gweinidog wrthi'n datblygu llwybr trydyddol at sgiliau, ac mae'n rhaid i'r gwaith hwn gyd-fynd yn agos ag anghenion llafur yn y dyfodol. 

Roeddwn yn falch o glywed y bore yma yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod Cynghrair Drydyddol Gogledd Cymru wedi'i ffurfio, a bod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, wedi siarad am ymarfer mapio sydd wedi digwydd, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn. Mae gan ein gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys iechyd, nifer sylweddol o swyddi gwag hefyd a dylid eu cynnwys mewn unrhyw waith mapio sgiliau, ac rydym newydd gwblhau ymchwiliad i recriwtio a chadw athrawon. Felly, rwy'n credu y dylai hynny i gyd fod yn rhan o'r cynllun ar gyfer y gweithlu.

Clywsom enghreifftiau cadarnhaol o Ymrwymiad Caerdydd a chynllun peilot llwybrau gyrfa Ynys Môn. Mae Ymrwymiad Caerdydd yn dwyn ynghyd 400 o sefydliadau sydd wedi addo gweithio ar y cyd i wella canlyniadau addysgol a rhagolygon gyrfa, yn enwedig i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, ac maent yn bwriadu ailgyflwyno llwybrau gyrfa mewn ysgolion. Ariannwyd y gwaith hwn drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, ac er y bydd y cronfeydd twf lleol a ddaeth yn ei lle yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i gael gwaith, mae pryder ei fod wedi'i bwysoli tuag at fuddsoddiad cyfalaf. Felly, rwy'n gobeithio y ceir cymorth pontio er mwyn i'r gwaith da hwn barhau. Rhwng 2022 a 2024, cyflawnodd Ymrwymiad Caerdydd 152 o leoliadau gwaith gydag adborth cadarnhaol 100 y cant o ran parodrwydd myfyrwyr ar gyfer gwaith, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Ac mae cynllun peilot llwybrau gyrfa Ynys Môn yn gwella parodrwydd lleol ar gyfer gyrfaoedd drwy helpu pobl ifanc i ddeall yr ystod lawn o gyfleoedd lleol.

Gwyddom fod yna brinder plymwyr, trydanwyr a seiri. Clywsom fod myfyrwyr NVQ yn cael trafferth sicrhau lleoliadau profiad gwaith sydd eu hangen i gwblhau eu hastudiaethau. Rhaid inni gael gwared ar rwystrau a gwrthdaro, fel y gall unig fasnachwyr drosglwyddo eu gwybodaeth a'u profiad ymarferol i bobl ifanc. Nid oes dim yn debyg i ddysgu yn y gwaith. Ar hyn o bryd, mae materion fel yswiriant, polisïau a gwaith papur yn rhy waharddol.

Yn olaf, rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil manwl i ddeall pam nad yw cyflogwyr yn gallu cynnig lleoliadau profiad gwaith a pha gamau sydd eu hangen i oresgyn y rhwystrau hyn. Os nad yw'n rhywbeth i'r adran addysg ei wneud, efallai ei fod yn rhywbeth i adran yr economi neu'r Gweinidog cyflawni helpu gydag ef. Diolch.

16:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad ar eu hymchwiliad i lwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16. Maent wedi cynhyrchu gwaith sylweddol ac iddo gwmpas eang, sy'n cwmpasu fy mhortffolio i a phortffolios y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, ac yn enwedig y bobl ifanc eu hunain. Mae pob un ohonom yn rhannu nod cyffredin: sicrhau y gall pob unigolyn ifanc yng Nghymru gamu ymlaen ar hyd llwybr addysgol o'u dewis, ennill sgiliau lefel uwch, cyflawni eu potensial a chyfrannu at economi gref a chynaliadwy. Daeth yr ymchwiliad hwn ar adeg bwysig. Rhaid i'r sector addysg drydyddol yng Nghymru newid a dod yn fwy cynaliadwy, yn fwy hygyrch, yn fwy integredig ac wedi'i alinio'n well ag anghenion demograffig, economaidd a sgiliau'r dyfodol.

Ym mis Tachwedd, nododd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch bum her bwysig sy'n wynebu sector trydyddol Cymru ac mae bellach wedi cyhoeddi papur tystiolaeth manwl ac wedi lansio galwad am gyflwyniadau. Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori'r Gweinidog, sy'n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector, i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol, yn enwedig ar gynyddu cyfraddau cyfranogiad ar draws addysg ôl-16 a sefydlogi cyllid. Rydym wedi cynllunio'r alwad am gyflwyniadau i roi darlun llawer cliriach i ni o'r pwysau a'r cyfleoedd ar draws y system. Bydd yr adborth, ynghyd â thystiolaeth arall, gan gynnwys yr adroddiad pwysig hwn gan y pwyllgor, yn helpu i siapio cyfeiriad ein polisi yn y dyfodol. Mae'r Llywodraeth hon yn derbyn yr her ganolog a osodwyd gan y pwyllgor. Rhaid inni wneud y system ôl-16 yn fwy cydweithredol ac yn haws i bobl ifanc ei llywio. Dyna pam y gwnaethom sefydlu Medr yn 2024, i gynllunio, ariannu a sicrhau ansawdd ar draws system drydyddol gydlynol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ysgrifenedig i bob un o'r argymhellion a wnaed i ni yn yr adroddiad hwn. Heddiw, byddaf yn nodi ein hymateb cyffredinol i wahanol adrannau'r adroddiad. Yn gyntaf, mae'r pwyllgor yn argymell datblygu strategaeth drosfwaol ar gyfer addysg ôl-16 sy'n cwmpasu llwybrau academaidd a galwedigaethol. Bydd y cyfeiriad strategol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Bydd yn adlewyrchu casgliadau ein grŵp cyfeirio rhanddeiliaid ar sut i gryfhau addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru. Bydd y penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cynhyrchu strategaeth drydyddol gyffredinol neu strategaeth alwedigaethol benodol yn dibynnu ar ganlyniad ein galwad am gyflwyniadau. Fodd bynnag, bydd y cyfeiriad strategol ar gyfer dysgu galwedigaethol yn darparu sylfaen gref ar gyfer y gwaith hwnnw.

Yn ail, mae'r adroddiad yn trafod addysg cyn-16. Rydym yn derbyn yr argymhelliad i barhau i dyfu'r rhaglen brentisiaethau iau ac yn rhannu barn y pwyllgor yn llawn am ei heffaith. Cynigir prentisiaethau iau mewn saith coleg bellach, ac rwy'n awyddus iawn iddynt fod ar gael i fwy fyth o ddysgwyr ledled Cymru. Nododd adroddiad Estyn ar brentisiaethau iau ym mis Mai 2024 sut y cânt effaith drawsnewidiol ar ddysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio. O'r herwydd, cynyddodd ein cyllideb ddrafft ein cyllid ar gyfer y rhaglen hon i £1 filiwn yn 2026-27—mwy na dwbl y gyllideb dair blynedd yn ôl. A gwn fod llawer o Aelodau'r Siambr hon wedi gweld y cynllun ar waith a'i fod wedi creu llawn cymaint o argraff arnynt ag arnaf innau.

Rydym hefyd yn derbyn yr angen i egluro ein dull gweithredu mewn perthynas ag addysg alwedigaethol cyn-16. Byddwn yn parhau i annog ysgolion i weithio mewn partneriaeth â'i gilydd a chyda sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, ac ar hyn o bryd, rydym yn archwilio'r ffordd orau o gefnogi gweithrediad ein tystysgrifau addysg uwchradd galwedigaethol newydd a luniwyd ar gyfer Cymru. Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ynghylch pontio i addysg a hyfforddiant 16 i 18. Mae ein hawl i ddysgu 14 i 16 yn nodi'r cyngor, yr arweiniad a'r profiadau y dylai dysgwyr eu cael. Rydym yn derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i ehangu hyn, a bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried cryfhau canllawiau i nodi ein disgwyliadau yn gliriach ynghylch sut y dylai dysgwyr glywed yn uniongyrchol gan golegau, darparwyr seiliedig ar waith a phrifysgolion am gyfleoedd ôl-16.

Er nad ydym yn anghytuno â phryderon y pwyllgor ynghylch pwysigrwydd cyngor Gyrfa Cymru a rhwystrau i brofiad gwaith, byddai'r gwaith a argymhellwyd gan y pwyllgor yn dyblygu gwaith diweddar sydd eisoes wedi digwydd. Am y rheswm hwn, ni allwn dderbyn y galwadau am ddadansoddiad pellach yn y meysydd hyn. Mewn perthynas ag argymhelliad 7, cynhaliodd Estyn adolygiad o gyfarwyddyd gyrfaoedd mewn ysgolion uwchradd yn 2022. Mae Gyrfa Cymru yn gwerthuso eu cynnig presennol i lywio eu strategaeth newydd i'w rhoi ar waith yn 2027. Mae perygl y byddai comisiynu adolygiad arall nawr yn dyblygu gwaith. Ers mis Medi 2024, mae Gyrfa Cymru wedi cynnig cyfweliad cyfarwyddyd gyrfaoedd i bob dysgwr cyfnod allweddol 4 cyn iddynt adael addysg orfodol. Daw hyn ynghyd â chymorth ychwanegol wedi'i dargedu ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Nid oedd y cynnig hwn ar waith mewn pryd i gael ei adlewyrchu yn ymchwiliad y pwyllgor. Darparodd Gyrfa Cymru gyfarwyddyd gyrfaoedd i dros 86 y cant o ddysgwyr blwyddyn 11 yng ngharfan 2024-25.

O ran argymhelliad 8, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i ddeall safbwyntiau cyflogwyr ar brofiad gwaith. Bydd canllawiau cynhwysfawr newydd ar leoliadau profiad gwaith ar gyfer cyflogwyr, pobl ifanc, rhieni ac ysgolion yn cael eu lansio gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn nes ymlaen y mis hwn. Mae'r canllawiau hyn yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â nifer o'r materion y mae cyflogwyr wedi'u codi.

Mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor ar gludiant i ddysgwyr, rydym yn cytuno bod yn rhaid i'r gwerthusiad annibynnol o'r cynllun peilot tocynnau bws sengl £1 a thocyn teithio dyddiol £3 archwilio ei effaith ar fynediad at addysg a hyfforddiant.

Mae'r pwyllgor yn iawn fod bwlch i bobl ifanc 16 i 18 oed, rhwng diddordeb dysgwyr mewn prentisiaethau a'r cyfleoedd sydd ar gael. Mae'r rhwystrau i gyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig, yn real. Rydym yn cryfhau canllawiau diduedd o ansawdd uchel drwy Gyrfa Cymru, ond rydym hefyd yn cydnabod rôl ganolog Medr yn creu system fwy cydlynol sy'n alinio'r galw'n well ag anghenion cyflogwyr. Ddoe, lansiwyd ein hymgynghoriad ar ganllawiau cwricwla lleol 16 i 18. Bydd hyn yn darparu'r sail ar gyfer system addysg drydyddol fwy cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, gyda Medr yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach wrth iddynt ddod yn gyfrifol am gwricwla lleol ar gyfer dysgwyr 16 i 18 oed o fis Ebrill ymlaen.

Yn olaf, mae'r adroddiad yn ystyried trefniadau pontio i addysg a hyfforddiant ôl-16. Mewn ymateb i'r pwyllgor, rydym wedi nodi disgwyliadau ynghylch y ffordd y dylai darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 barhau i ddarparu gwybodaeth am yrfaoedd i'w dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ddeunyddiau cyfarwyddyd ac adnoddau cyfredol.

Mae ein hymateb hefyd yn disgrifio ein trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r pwysau ariannol sy'n wynebu addysg uwch, gan gynnwys goblygiadau eu Papur Gwyn ôl-16. Rydym wedi cadarnhau na fydd yr ardoll myfyrwyr rhyngwladol yn cael ei gweithredu yng Nghymru, ac rydym yn cynyddu ffioedd dysgu yn unol â chwyddiant, a fydd yn cynhyrchu oddeutu £19 miliwn i sefydliadau Cymru dros y flwyddyn academaidd nesaf, ac mae'r penderfyniadau hyn wedi cael croeso cynnes gan y sector.

Ddirprwy Lywydd, mae gwella cyfranogiad ar draws pob llwybr yn un o fy mhrif flaenoriaethau. Gwyddom fod heriau gwirioneddol yn bodoli, felly rydym yn mabwysiadu dull gweithredu strategol, cydweithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i gynorthwyo dysgwyr i gael mynediad at y llwybrau cywir a gwneud dewisiadau gwybodus er mwyn sicrhau bod pob un ohonynt yn cyflawni eu potensial llawn. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r pwyllgor am eu cefnogaeth a'u heiriolaeth amhrisiadwy yn yr ymdrech hon. Diolch.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gofnodi fy niolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, a hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw.

Natasha, rwy'n cytuno ynglŷn â'r pryderon ynglŷn â'r tystysgrifau addysg uwchradd galwedigaethol. Cawsom lawer o ymatebion cymysg ar hyn, fel y gwyddoch. Mae angen i bobl ifanc ac addysgwyr weld y cymwysterau hyn fel rhai gwerth chweil, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, fel y clywsom.

Soniodd Cefin am y garfan o bobl ifanc sy'n cwympo oddi ar y grid. Mae angen inni wybod beth sy'n digwydd i'r bobl ifanc hyn a pham eu bod yn dewis peidio â chamu ymlaen at addysg bellach. Mae'n bryder gwirioneddol, yn enwedig ar ôl ein hadroddiad, 'Plant sydd ar yr ymylon'. Gwyddom pa mor bwysig yw cadw golwg ar y bobl ifanc hyn a gweld pa lwybr a ddewisant mewn bywyd.

Tynnodd John sylw at ba mor bwysig yw hi fod pobl ifanc yn cael cyngor gyrfaoedd cyn gynted â phosib, a bod yn rhaid i'r cyngor hwnnw fod yn gyngor o safon. Mae'r gair hwnnw mor bwysig i'n pobl ifanc. Rhaid iddo fod yn gyngor o safon, gan ei fod yn sicr yn gwneud gwahaniaeth. Fel y nododd Rhys, mae dryswch i bobl ifanc wrth benderfynu pa gymhwyster sydd fwyaf addas iddynt. Unwaith eto, dyma pam y mae cyngor o safon yn hanfodol, a chyngor o safon ar yr oedran ieuengaf posib.

Soniodd Carolyn am gyngor i rieni a disgyblion. Clywsom dro ar ôl tro fod rhieni'n teimlo eu bod wedi'u hallgáu ac nad ydynt yn gwybod ble i fynd am gyngor. Rhaid i hynny fod yn rhywbeth hollbwysig yn nhaith addysgol pob unigolyn ifanc. Rhaid iddynt allu gwybod ble i fynd am y cyngor hollbwysig hwnnw.

Fe sonioch chi hefyd am deithio gan ddysgwyr, ac fel y gwyddoch, roedd yn rhywbeth yr oedd pob un ohonom eisiau ei wneud. Yn anffodus, fe wnaethom redeg allan o amser fel pwyllgor. Gwyddom pa mor bwysig yw teithio gan ddysgwyr i'n pobl ifanc. Gwyddom beth yw'r rhwystrau y mae ein pobl ifanc yn eu hwynebu, ac mae teithio gan ddysgwyr yn bendant yn un o'r rhwystrau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn edrych yn ofalus ar sut y gallwn wneud teithio gan ddysgwyr yn llawer mwy fforddiadwy nag y mae heddiw.

Mae'r ddadl hon wedi dangos pa mor gryf y mae pob un ohonom yn teimlo am gefnogi pobl ifanc wrth iddynt gamu ymlaen i addysg a hyfforddiant ôl-16. Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am weithio mor gydweithredol ar draws y pleidiau, gan y credaf inni ddod i'r un casgliad ar ddiwedd pob sesiwn, sef bod angen cyngor arbenigol o safon ar ein pobl ifanc i sicrhau eu bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ar y llwybr cywir, ac nad oes rhaid iddynt droi'n ôl at addysg uwch yn eu 30au, yn eu 40au; eu bod yn ei gael yn iawn y tro cyntaf.

Drwy gydol y ddadl, clywsom gefnogaeth glir i'r themâu sydd wrth wraidd ein hadroddiad: yr angen am barch gwirioneddol gydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd, pwysigrwydd cyngor gyrfaoedd cryf a chyson, gan gynnwys mynediad at brofiad gwaith, a'r angen am system sy'n seiliedig ar gydweithredu yn hytrach na chystadleuaeth. Clywsom hefyd am bryderon ynghylch y mannau lle teimlwn y gallai ymateb Llywodraeth Cymru fynd ymhellach, yn enwedig ynghylch cyngor gyrfaoedd, profiad gwaith, a diwygio cyllid.

Ar yr un pryd, dylem gydnabod y camau cadarnhaol y mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd i gydnabod yr angen i ehangu prentisiaethau iau, cryfhau'r hawl i ddysgu 14 i 16 oed, a lansio'r papur tystiolaeth a'r galwadau am gyflwyniadau. Mae datganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn dweud yn glir fod ein gwaith eisoes yn siapio mesurau polisi cenedlaethol. Mae ymateb Medr hefyd wedi bod yn galonogol. Mae eu hymrwymiadau ar ddata, cynnydd, prentisiaethau a chydweithio yn rhoi sylfaen gref i ni ar gyfer diwygio yn y dyfodol.

Hoffwn gloi drwy ddiolch eto i'r bobl ifanc, rhieni, athrawon, cyflogwyr a sefydliadau a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn. Nid yn unig fod eu profiad bywyd wedi llunio'r adroddiad hwn, maent wedi rhoi pwrpas iddo. Dylai'r hyn a rannwyd gyda ni fod yn gatalydd ar gyfer y diwygiadau y mae'n rhaid iddynt ddilyn nawr. Mae eu lleisiau'n dangos i ni ble mae'r system yn methu, ac maent yn ein cyfeirio'n uniongyrchol at y newidiadau sydd angen eu gwneud. Rhaid i'w profiad barhau i lywio'r gwaith hwn. Edrychwn ymlaen at weld y pwyllgor sy'n ein holynu'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru y dyfodol i ddarparu'r system ôl-16 y mae pobl ifanc yn ei haeddu. Diolch yn fawr.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru'

Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM9133 Andrew Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ‘Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 28 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i o dan y teitl 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru', y ddadl a gyflwynwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Mae pridd yn adnodd hanfodol. Dyma ased cyfalaf mwyaf unrhyw ffermwr, ond mae ei werth yn aml yn cael ei anwybyddu gan lunwyr polisi. Mae pridd iach yn gwbl hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd ond hefyd ar gyfer atal llifogydd, storio carbon a bioamrywiaeth. Mae dirywiad pridd hefyd yn costio arian i ni; amcangyfrifir bod y gost flynyddol ledled Cymru a Lloegr yn £1.2 biliwn. Mae pridd hefyd yn cronni'n anhygoel o araf. Golyga hyn, o safbwynt ymarferol, ei fod yn hanfodol ac yn adnodd cyfyngedig. Dywedodd yr Athro Emmett wrthym, am y rhesymau hynny, bob tro y gwelwch bridd yn cael ei olchi oddi ar gae, y dylai wneud ichi grio.

Os ydych chi eisiau digon o dir o ansawdd i fwydo ein plant a'r cenedlaethau i ddod, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i sicrhau bod ein pridd yn flaenoriaeth a bod ei iechyd nid yn unig yn cael ei ddiogelu, ond ei wella. Dyma pam y gwnaethom gynnal yr ymchwiliad a drafftio'r adroddiad hwn. Mae'r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad ac yn dod i chwe chasgliad gyda'r nod o ddiogelu a gwella iechyd pridd Cymru. Bydd cynnal profion yn allweddol i'n helpu i atal dirywiad pellach ac i wella ein pridd. Rydym yn croesawu elfennau profi pridd y cynllun ffermio cynaliadwy; fodd bynnag, oni bai y gwneir hynny, nid oes fawr o bwynt casglu'r data. Dyma pam y mae ffocws sawl argymhelliad a chasgliad ar sicrhau bod iechyd pridd yn gweithio a bod y data'n cael ei rannu'n briodol.

Clywsom fod ffermwyr tenant yn llai tebygol o gynnal profion ar bridd gan eu bod yn llai abl i wella iechyd pridd eu ffermydd. Clywsom hefyd fod y cynnydd mewn cytundebau tenantiaeth byrrach yn gwaethygu'r mater. Dyma pam fod argymhelliad 2 yn galw am gymorth penodol i helpu ffermwyr tenant i wella eu pridd. Roeddwn yn falch o weld bod yr holl argymhellion a chasgliadau hyn wedi'u derbyn, er imi arswydo braidd wrth glywed yr amod 'mewn egwyddor'. Rwy'n mawr obeithio—ac yn gobeithio y gall y Dirprwy Brif Weinidog gadarnhau heddiw—fod yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan ei dîm, a'u bod yn gweithio ar y polisi i lywio datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy.

Hoffwn danlinellu hefyd nad oes angen i'r cymorth i ffermwyr tenant ddod drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy yn unig. Roeddem yn awyddus i glywed sut y mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cefnogi ei thenantiaid i ymuno â chynlluniau fel Pasture for Life neu'r cynllun organig, sy'n eu helpu i wella'r tir a chael pris uchel am eu cynnyrch. A yw'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ystyried hyrwyddo opsiynau o'r fath yn ehangach i ffermwyr tenant?

Fel gyda llawer o faterion, codwyd cynllunio fel bygythiad i'n tir amaethyddol gorau. Bydd tensiwn naturiol bob amser rhwng yr angen i dyfu bwyd a defnyddio tir at ddibenion pwysig eraill fel tai neu seilwaith. Rwyf hefyd yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith yma. Ond yn y pen draw, mae ein tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas yn adnodd gwerthfawr y mae angen ei ddiogelu. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ailadrodd ei bwyntiau o'r dystiolaeth a roddodd i'r ymchwiliad ac o'i ymateb i'n hadroddiad fod Cymru ar flaen y gad o ran diogelu ein tir amaethyddol gorau.

Fodd bynnag, clywsom lawer o dystiolaeth fod mwy y gellid ei wneud. O'r herwydd, roeddwn yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 3 i ddatblygu fframwaith i gynorthwyo swyddogion cynllunio i gefnogi rheoliadau cynllunio presennol ynghylch diogelu tir o'r ansawdd gorau. Clywsom y pwynt hwn yn cael ei wneud y prynhawn yma mewn cwestiynau i'r Gweinidog gan yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, John Griffiths. Er ein bod efallai'n gwneud yn well na'n cymdogion, mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gawsom y gellir gwneud mwy ac y dylid gwneud mwy.

Bydd diogeledd bwyd yn fater mor bwysig yn y dyfodol, a phan fydd adeiladu'n digwydd ar ein tir amaethyddol gorau, fe fydd wedi mynd. Felly, ni ddylem orffwys ar ein bri, dylem sicrhau nad ydym yn colli mwy o dir o'r ansawdd uchaf a sicrhau bod iddo'r warchodaeth y mae'n ei haeddu. Diolch, Ddirprwy Lywydd—a nawr y Llywydd, sydd, oherwydd ein hadroddiad, wedi dod i mewn, gan ei bod yn edrych ymlaen at ei glywed. Diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl ac edrychaf ymlaen at wrando ar eu cyfraniadau.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:20

Rwyf am ichi wybod, Gadeirydd y pwyllgor, fod etholwyr wedi ysgrifennu ataf ynghylch pwysigrwydd yr adroddiad hwn, ac rwy'n awyddus iawn i fod yma i wrando ar y ddadl.

Dwi'n falch iawn i gyfrannu at y ddadl yma ac yn diolch i'r pwyllgor am eu gwaith. Fel rydyn ni wedi clywed, mae iechyd y pridd yn fater sylfaenol, onid yw e? Mae'n bwysig i ddyfodol amaethyddiaeth, yr amgylchedd a'r economi wledig ehangach. Ond, yn y gorffennol, mae yn fater sydd ddim wedi cael y sylw dyledus, fel roedd Cadeirydd y pwyllgor yn ei ddweud. Mae hynny yn raddol newid, ac mae'r ymchwiliad mae'r pwyllgor wedi ei wneud a'r adroddiad rydyn ni'n ei drafod heddiw yn mynd i gyfrannu at godi'r ymwybyddiaeth yna.

Y gwir amdani yw bod ansawdd pridd a chael pridd iach yn sail i gymaint o fuddion. Pan mae'n dod i gynhyrchu bwyd, i atal llifogydd, gwella ansawdd dŵr, adfer bioamrywiaeth, storio carbon ac yn y blaen, mae'r pridd yn chwarae rhan ganolog i'r rhain i gyd. Ond dyw pridd, wrth gwrs, ddim yn adnewyddadwy, ac yn rhy aml o lawer, rydyn ni wedi bod yn mwyngloddio'r pridd—hynny yw, yn echdynnu’r maetholion mas o'r pridd a thrio eu rhoi nhw nôl mewn modd artiffisial, yn hytrach na gweithio gyda graen natur a meithrin y pridd mewn proses mwy naturiol. 

Mae’r arwyddion o ddirywiad i'w gweld yn glir, ac yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad, wrth gwrs. Dim ond oddeutu 10 i 15 y cant o'n tir ni sy'n bridd o ansawdd uchel erbyn hyn, ac mae tua 40 y cant mewn perygl o gywasgiad, a 7 y cant mewn perygl o erydiad hefyd. Ac mae yna gost i hynny oll. Mae pridd o ansawdd is yn rhoi cynhyrchiant is, wrth gwrs, ac yn mynnu mwy o fewnbynnau. Mae hynny'n double-whammy ariannol i unrhyw fusnes sy'n trio gwneud bywoliaeth o'r tir.

Mae yna gost amgylcheddol hefyd, gan fod pridd gyda llai o ddraeniad yn arwain at fwy o lifogydd, a phridd o ansawdd is yn dal llai o garbon, ac yn y blaen. Mae tystiolaeth wyddonol o brifysgolion a chyrff monitro yn dangos dirywiad mewn dangosyddion allweddol fel pH, stoc garbon a deunydd organig. Mae hyn yn tanlinellu’r angen i symud o ymateb i broblemau i drio eu hatal nhw mewn modd rhagweithiol: cynnal a meithrin y pridd, ei wella a'i ddiogelu fel ased hirdymor, oherwydd ased yw e.

Gyda hynny mewn golwg, dwi'n croesawu llawer iawn o'r argymhellion y mae'r pwyllgor wedi eu cyflwyno. Mae'r gofyniad i brofi pridd yn y cynllun ffermio cynaliadwy yn sicr yn gam positif ymlaen, ond mae'n bwysig wedyn, wrth gwrs, fod mynediad i gefnogaeth a datblygu strategaethau er mwyn gwella'r pridd yn sgil y profi hynny. Mae'n dda gweld argymhelliad yn yr adroddiad yn cyfeirio at rai o awgrymiadau'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur ar gyfer gwella iechyd y pridd, a sut y gellid ymgorffori peth o hynny, efallai, yn y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol, o bosib.

Mi ges i'r cyfle jest yr wythnos diwethaf fan hyn yn y Senedd i noddi digwydd gan y rhwydwaith, a oedd yn amlygu'r gwaith sydd eisoes yn digwydd ar ffermydd yma yng Nghymru. Fe glywon ni gan arbenigwyr yn y maes am y wyddoniaeth a'r buddion sy'n dod o wella ansawdd pridd, ond hefyd wedyn, wrth gwrs, clywed gan ffermwyr am y manteision di-ri maen nhw eisoes yn eu gwireddu o safbwynt eu busnesau nhw drwy fabwysiadu rhai o'r dulliau yma. Roedden nhw'n enghreifftiau cwbl ysbrydoledig oedd yn dangos bod yna ddulliau rhatach oedd yn fwy llesol i'r amgylchedd ar gael, a fyddai wedyn yn arwain at gynyddu cynhyrchiant ar gost is.

Dwi hefyd yn croesawu'r argymhellion ar sicrhau bod cyngor o ansawdd uchel ar gael i ffermwyr sy'n archwilio'r farchnad credyd carbon a'r rôl y gallai'r sector breifat hefyd ei chwarae yn hynny o beth. Mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, sydd wedi cael ei drafod yn gyson fan hyn yn y Senedd, ond dŷn ni'n sicr ddim wedi gweld y cynnydd buasai nifer ohonom ni, dwi'n siŵr, yn dymuno ei weld yn y maes yma.

Mi wnaf i sôn yn fyr am un cwmni yn benodol y cefais i gyfle i ymweld â nhw yn ddiweddar. Mae BionerG yn gwmni sy'n helpu i droi gwastraff coedwigaeth yn offeryn pwerus iawn ar gyfer cynaliadwyedd, cyfoethogi pridd ac atafaelu carbon yng Nghymru.

Mae BionerG yn darparu system fodiwlar o byrolysis, sy'n gwneud cynhyrchu bio-olosg yn gyfle hyfyw i ffermwyr tyddyn a chymunedau, ble bynnag y bônt. Rydych chi'n troi gwastraff coedwigaeth yn fath o siarcol; mewn geiriau eraill, rydych chi'n trosi biomas yn ffurf sefydlog o garbon. Mewn gwirionedd, mae oddeutu 70 y cant o gyfansoddiad bio-olosg yn garbon. Felly, drwy ychwanegu bio-olosg at bridd, caiff carbon ei gloi i mewn ar ffurf sefydlog, gan leihau nwyon tŷ gwydr a helpu i liniaru newid hinsawdd.

Y rheswm pam rwy'n dweud hyn wrthych yn y ddadl benodol hon, wrth gwrs, yw am fod bio-olosg yn cael ei ddefnyddio'n bennaf i wella iechyd pridd. Mae ei strwythur mân-dyllog yn gwella awyriad pridd. Mae'n cynyddu faint o ddŵr sy'n cael ei gadw ac yn gwella argaeledd maethynnau, a all arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant amaethyddol, sef yr hyn a drafodwn yma heddiw, wrth gwrs. Ond mae BionerG yn mynd ymhellach, gyda llaw. Drwy ei blatfform digidol integredig, mesurir yr holl garbon sy'n cael ei dynnu allan. Caiff ei ddilysu a'i docyneiddio ar gyfer masnachu tryloyw ar farchnadoedd byd-eang. Felly, nid yn unig ei fod yn gwella'r pridd ac yn cynyddu cynhyrchiant, mae'n agor ffrwd incwm masnachu carbon i'r ffermwyr, y coedwigwyr a'r cymunedau hynny hefyd.

Mae'r adroddiad yma yn dangos i ffordd i ni, ac os llwyddwn ni i wella iechyd y pridd yn barhaol, yna mi fydd hynny'n dod â buddion i ffermwyr, i'r economi, i'r amgylchedd ac i hyfywedd ein cymunedau gwledig. Diolch.

16:25

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Cadeirydd a'r holl dystion a roddodd dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr adroddiad hwn, 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru'? Fel mab fferm, rwy'n ei werthfawrogi, er nad yw'r pridd yn ddwfn iawn ar ein fferm ni ar glogwyn yng ngogledd sir Benfro. Pe gallem wneud arian o greigiau, byddem yn gwneud yn dda dros ben. Ond mae gennym bridd, ac rydym yn gwneud ein gorau gyda'r hyn sydd gennym i wneud defnydd o'r pridd hwnnw, a gofalu amdano, gan sicrhau ei fod yno nid yn unig er ein budd ni, ond i'r genhedlaeth nesaf hefyd.

Rydym wedi clywed, yn gywir ddigon, gan y Cadeirydd a chan Llyr Gruffydd, am bwysigrwydd pridd o ansawdd da, a sut nad yw hynny weithiau efallai wedi bod yn rhan fawr o'r drafodaeth wrth siarad am gynaliadwyedd ffermydd, wrth siarad am gynhyrchiant a phan fyddwn yn siarad am allu amaethyddiaeth Cymru i barhau ar y daith i fod ar y brig o ran cynaliadwyedd, ansawdd a'r gallu i olrhain cynnyrch hefyd.

Mae rhywbeth a oedd yn ddiddorol iawn i mi yn yr adroddiad hwn. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn adran Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer cynhadledd CARAS, lle clywais dri ffermwr yn siarad: Aled Rees o Hendy-gwyn ar Daf, Charles George o sir Benfro a Gwion Owen o ogledd Cymru. Teitl y gynhadledd oedd 'A fydd ffermio adfywiol yn bwydo'r genedl?' Un o'r pethau cyntaf a ganfuwyd ganddynt oedd nad oes diffiniad pendant ar gyfer 'ffermio adfywiol'. Ond y peth a ddysgwyd o'r tri chyflwyniad oedd bod pob un ohonynt, mewn systemau ffermio gwahanol iawn, yn sôn am bwysigrwydd iechyd pridd—boed yn llaeth, cig eidion, defaid neu âr. Ac un dyfyniad a arhosodd gyda mi gan un o'r panelwyr oedd, 'Roeddwn yn poeni ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd uwchben y ddaear. Nawr rwy'n poeni mwy ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd o dan y ddaear.' Rwy'n credu bod hynny'n dangos pwysigrwydd deall, o ran rheoli eich fferm, pa mor hanfodol yw pridd o ansawdd da i gynhyrchiant ac iechyd cyffredinol eich fferm. Panelwr arall oedd Simon Thelwell o Harper Adams, a gofynnwyd cwestiwn iddo ynglŷn â ble mae Cymru arni o gymharu â gwledydd eraill, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond ledled Ewrop hefyd, o ran ein 'cynaliadwyedd' yn fwy cyffredinol mewn amaethyddiaeth, gan gynnwys iechyd pridd. Mae'n anodd cymharu am nad oes llawer o feincnodi wedi'i wneud. Gwyddom hynny drwy gyfrifianellau carbon. Mae cymaint ohonynt ar gael fel bod un yn rhoi ateb gwahanol iawn i'r llall, a byddai rhyw fath o symleiddio mewn perthynas â hyn i'w groesawu. A gwyddom hefyd o geisiadau rhyddid gwybodaeth blaenorol a wnaed yn y lle hwn nad ydym ni yng Nghymru yn gwybod faint o garbon sydd wedi'i storio ym mhridd Cymru ar hyn o bryd. Felly, wrth edrych ar symud ymlaen a deall gwerth ein pridd, o ran storio carbon, dylem fod â gwybodaeth dda ynglŷn â ble rydym arni ar hyn o bryd fel y gallwn fesur pa fuddion sy'n cael eu sicrhau, boed hynny drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, boed hynny drwy fesurau amgen. Mae llawer o gynhyrchwyr ar hyn o bryd—First Milk, er enghraifft, yn sir Benfro—yn gwneud llawer o waith ar ffermio adfywiol eu hunain. Unwaith eto, dof yn ôl at y pwynt nad oes diffiniad pendant o 'adfywiol', ond mae a wnelo â cheisio cynyddu cynhyrchiant heb ddihysbyddu'r adnoddau naturiol. Ac mae hynny'n arwain yn dda at yr argymhelliad ynghylch profi pridd a sicrhau bod gennym y sgiliau cywir i ymgymryd â hyn, yn gyflym, ledled Cymru—mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn gyfle i wneud hyn—a gwybod bod angen inni gael yr wybodaeth dda honno am yr hyn sy'n bodoli.

Ac yna fe geir argymhelliad 4, yr adolygiad o ddata dosbarthiad tir amaethyddol. Nawr, yn fy swyddfa yma yn Nhŷ Hywel, mae gennyf fap mawr o Gymru a dosbarthiad tir amaethyddol yng Nghymru y tu ôl i mi a fy nesg, ac mae'n amryliw. Ond yr hyn sy'n eithaf amlwg yw mai dim ond 10 y cant i 15 y cant o dir Cymru sydd wedi'i ddosbarthu'n 'dir gorau a mwyaf amlbwrpas', felly graddau 1, 2, 3a yn fras. Ond fe wyddom, ac mae'r rhai sy'n gweithio'r tir yn gwybod, y gall graddau 3b i 5 fod yr un mor gynhyrchiol os caiff ofal, os caiff ei faethu, os caiff ei gynnal yn y ffordd gywir. A daw hynny at y pwynt a godwyd gan y Cadeirydd, yn ei bwynt agoriadol, ynghylch diogelu rhywfaint o'r tir amaethyddol pwysig hwnnw, y tir gradd 1, 2, 3a hwnnw, a sicrhau na chaiff ei golli i waith adeiladu, na chaiff ei golli i waith datblygu, a lle caiff tir neu bridd ei symud, sut y caiff ei ailgylchu? Roedd hwnnw'n bwynt a godwyd yn y drafodaeth yn y pwyllgor ac yn ystod yr ymchwiliadau—ailgylchu pridd. Os yw datblygiad yn angenrheidiol, sut y gallwn sicrhau nad yw'r pridd hwnnw'n cael ei golli, ac nad ydym yn crio, fel y dywed y Cadeirydd, pan welwn y pridd hwnnw'n cael ei olchi ymaith?

Ond rwy'n wirioneddol falch fod hyn ar lawr y Siambr, hyd yn oed am hanner awr yn unig, oherwydd er fy mod yn rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch yr ymatebion 'cytuno mewn egwyddor' gan y Llywodraeth, rwy'n deall mai dim ond oddeutu 90 diwrnod sydd tan yr etholiad, i'n hatgoffa ni i gyd yma yn y Siambr. Ond tra bo'r Dirprwy Brif Weinidog yn dal yn ei swydd, a phwy bynnag a ddaw i'r swydd honno yn y dyfodol—rwy'n gobeithio bod y ddogfen hon yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at gefnogi datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol a'r cymorth i amaethyddiaeth yn y dyfodol i sicrhau bod iechyd pridd yn cael ei gynnal a'i wella, ac y gall amaethyddiaeth Cymru barhau i fod yn falch o'i hymdrechion yma yng Nghymru.

16:30

Rwy'n croesawu'r adroddiad a gwaith y pwyllgor. Diolch, Gadeirydd. Nid baw o dan ein traed yn unig yw pridd iach, mae'n ecosystem fyw. Mae'n rheoleiddio llif dŵr, yn cynnal bywyd planhigion ac anifeiliaid, yn storio carbon ac yn hidlo llygredd. Pan fydd pridd yn iach, mae'n tawel gynnal popeth y dibynnwn arno. Pan nad yw'n iach, mae'r canlyniadau'n weladwy ac yn gostus. Mae pridd nad yw'n iach yn erydu, gan olchi i afonydd, ar briffyrdd a rhwystro gylïau. Yn ystod glawiad monsŵn, ni all daear gywasgedig amsugno dŵr, felly mae'n rhedeg ymaith, gan gyfrannu'n uniongyrchol at lifogydd.

Roedd y dystiolaeth a roddwyd gan yr Athro Bridget Emmett yn arbennig o bwerus. Eglurodd ein bod yn colli cannoedd o flynyddoedd o waith natur mewn un digwyddiad bob tro y bydd pridd yn rhedeg oddi ar ein caeau ac i mewn i'n hafonydd. Aeth yr Athro Emmett yn ei blaen i'n hatgoffa y credir bod tua 60 y cant o fioamrywiaeth fyd-eang yn byw yn ein priddoedd. Meddyliwch am hynny. Eto, yn llawer o'n strategaethau bioamrywiaeth, prin y sonnir am fioamrywiaeth pridd. Mae llawer o'r gwrthfiotigau a ddefnyddir amlaf wedi deillio o ficro-organebau pridd, felly mae gwarchod pridd yn hanfodol nid yn unig i'n system fwyd a'n diwydiant ffermio, ond ar gyfer bywyd dynol ei hun. Os na roddwn gamau ar waith i warchod iechyd pridd, gall diraddiad anadferadwy ddigwydd, a dyna pam rwy'n croesawu cynnwys profion pridd yn y cynllun ffermio cynaliadwy, ac rwy'n credu'n gryf y dylid rhannu'r data a'r dysgu a geir o hynny. Gydag oddeutu 90 y cant o'n tir yn dir fferm, mae sut y caiff y tir hwnnw ei reoli'n bwysig iawn. Rhaid inni ymgysylltu â ffermwyr a'u hysbysu ynglŷn â chynnal profion pridd, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn rhan o'r cynllun ar hyn o bryd. Rwy'n credu y gallai undebau ffermio chwarae rhan allweddol yn cefnogi'r gwaith allgymorth hwnnw.

Gall y defnydd parhaus o wrtaith i dyfu cnydau glaswellt gwell ddihysbyddu pridd dros amser hefyd, ac mae arferion fel cyfyngu ar droi tir, cylchdroi cnydau a gwella deunydd organig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd perthi ac ymylon caeau. Ac mae'r rhain yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy hefyd. Rwy'n cofio mynychu sesiwn friffio lle esboniwyd cymaint iachach yw pridd ar yr ymylon caeau hynny, yn well am ddal lleithder, yn cynnwys mwy o ecosystemau, ac yn cefnogi bioamrywiaeth uwchben ac o dan y ddaear.

Ar wahân i dir fferm, mae dolydd blodau gwyllt, mawndiroedd, ymylon ffyrdd, glaswelltir amwynderau a mannau cymunedol fel rhandiroedd a pherllannau hefyd yn hanfodol. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy grantiau Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i gefnogi'r gwaith hwn, gan ymgysylltu â phobl yn ogystal mewn system addysg fel eu bod yn cysylltu â natur a chael gwell dealltwriaeth.

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi tynnu sylw at effaith datblygiad, ac yn briodol felly. Yn rhy aml, dewisir safleoedd tir glas am eu bod yn rhatach ac yn haws na thir llwyd. Pan fydd cyfleustra economaidd yn cael blaenoriaeth dros natur, rydym i gyd ar ein colled. Ac wedi dweud hynny, gyda 90 y cant o'r tir yng Nghymru'n cael ei ffermio, rwyf am dalu teyrnged i'r holl dirfeddianwyr sy'n rheoli eu tir yn weithredol ar gyfer natur, oherwydd heb natur, ni cheir economi. Heb fioamrywiaeth ac ecosystemau ffyniannus, rydym i gyd mewn perygl. Rydym i gyd yn rhan o'r rheini.

16:35

Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am eu hadroddiad terfynol ac am dynnu sylw at fater gwirioneddol bwysig iechyd pridd yng Nghymru. Mae pridd wedi'i reoli'n dda ac o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd, dal carbon a bioamrywiaeth, ac mae'n rhaid ei warchod. Nodaf fod Llywodraeth Cymru'n cytuno. Fodd bynnag, er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar dir fferm, hoffwn dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd pridd ar draws ardaloedd eraill o dir âr.

Mae gan Gymru dargedau uchelgeisiol ar newid hinsawdd, gydag ynni solar yn chwarae rhan hanfodol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth ddiweddar, gan gynnwys adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar effaith y safleoedd solar ffotofoltäig ar briddoedd amaethyddol, yn dweud yn glir fod yn rhaid inni roi llawer mwy o sylw i sut y caiff tir ei reoli lle caiff ffermydd solar eu hadeiladu.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ceir cydnabyddiaeth briodol fod pridd yn adnodd naturiol. Mae'r Bil ei hun yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fynd ar drywydd rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol yn gyffredinol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau atal niwed amgylcheddol a chynnal gwydnwch ecosystemau, ond mae'r dystiolaeth yn dangos bwlch rhwng yr egwyddorion a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol.

Ar hyn o bryd, nid yw deddfwriaeth a fframweithiau cynllunio yn mynd i'r afael yn bendant â'r risgiau i bridd a achosir gan y peiriannau trwm a ddefnyddir wrth adeiladu safleoedd solar, wrth wneud gwaith cynnal a chadw arferol arnynt, ac wrth ddatgomisiynu safleoedd solar yn y pen draw. Gwyddom fod cywasgu pridd yn bryder sylweddol, yn enwedig ar dir amaethyddol o ansawdd uchel. Mae adroddiadau'n awgrymu y gall llwyth echel o 10 tunnell gywasgu pridd i 50 cm, gan achosi niwed parhaus sy'n amharu ar strwythur, ymdreiddiad dŵr, bioamrywiaeth a chynhyrchiant hirdymor. Mewn rhai achosion, mae'n anadferadwy. Er bod lliniaru'n bosib drwy gynllunio gofalus, cyfyngu ar symudiadau cerbydau, cynlluniau rheoli pridd a monitro, nid yw'r mesurau hyn yn ofynnol neu'n cael eu gorfodi'n gyson, gan greu man dall o ran polisi. Felly, mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r mater. Rwy'n annog cryfhau'r egwyddorion amgylcheddol drwy gydnabod yn glir y risgiau o gywasgu pridd a chyflwyno dyletswyddau rheoli tir cliriach ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chynaliadwyedd, yn hytrach na mynd ar drywydd targedau, rhaid i drawsnewid i ynni adnewyddadwy warchod y pridd o dan ein paneli solar, nid ei ddiraddio'n dawel bach. Diolch yn fawr. 

16:40

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb—Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 16:41:12
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Llywydd, a diolch yn fawr iawn am roi'r cyfle imi ymateb i'r adroddiad a phwysleisio pwysigrwydd pridd ar gyfer bywyd a lles yng Nghymru.

Fe fwynheais gyfraniadau'r holl Aelodau yma yn y ddadl hon, ac mae'n wych fod pridd yn cael ei drafod ac yn destun adroddiad pwyllgor hefyd. O safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddyfodol disglair a chynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru a'r rôl y bydd pridd yn ei chwarae yn hyn: y rôl sylfaenol honno, sy'n sail i ffermio—pridd da sy'n sail i ffermio—a choedwigaeth a bioamrywiaeth a rheoli dŵr a datgarboneiddio hefyd. Mae pridd yn allweddol i bob un o'r rhain.

Rwyf am ddechrau drwy fynegi fy niolch i'r Cadeirydd a hefyd i aelodau eraill y pwyllgor ac Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu heddiw at yr ymchwiliad meddylgar a phellgyrhaeddol hwn i iechyd pridd ac amaethyddiaeth, ac am yr argymhellion. Ac os caf ddweud, pan fyddwn yn anghytuno weithiau, nid anghytuno er mwyn anghytuno a wnawn; rydym yn ceisio cyflwyno rheswm rhesymegol pam ein bod wedi anghytuno ag un o'r argymhellion. A phan fyddwn yn cytuno mewn egwyddor, y rheswm am hynny yw ein bod yn gwneud pethau yn y gofod hwnnw, ac fe egluraf hynny nawr. Diolch i'r rhai a roddodd amser i roi tystiolaeth a safbwyntiau i'r pwyllgor eu hasesu.

Gadewch imi droi at fanylion yr adroddiad. Yn llinell agoriadol yr adroddiad, mae'r pwyllgor yn iawn i nodi bod rôl hanfodol pridd iach yn hyrwyddo cynaliadwyedd yn aml yn cael ei hanwybyddu. Nid yw'n destun dadl yma'n ddigon aml, rhaid imi ddweud. Mae pridd, wrth gwrs, ym mhobman. Mae wedi'i guddio o dan ein traed, mae allan o'r golwg ac mae'n amrywiol ei natur, ac yn aml, ni chaiff ei werthfawrogi'n ddigonol. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn rhannu ymrwymiad y pwyllgor i sicrhau ein bod yn rhagweithiol wrth fynd ati i wella ac adfer a gwarchod ein hadnodd pridd presennol—peidio â'i adael i redeg i afonydd, peidio â'i ddiraddio neu ei gywasgu hefyd.

Felly, rwyf wedi ystyried pob argymhelliad a chyd-destun y dystiolaeth a ddaeth i law gan y pwyllgor yn ofalus, ond hefyd y gwaith y buom yn ei wneud gydag ERAMMP—rhaglen fonitro a modelu'r amgylchedd a materion gwledig—a rhaglen dystiolaeth y polisi pridd. Felly, gadewch imi ddechrau drwy fynd i'r afael â'r un argymhelliad na allwn gytuno ag ef.

Felly, argymhelliad 3, ar fater datblygu fframwaith i gefnogi swyddogion cynllunio i wneud penderfyniadau ar geisiadau ar gyfer defnydd o'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas—credwn fod y fframwaith cynllunio presennol yn darparu strwythur cadarn i gydbwyso'r gwahanol ystyriaethau defnydd tir a blaenoriaethau'r Llywodraeth. Felly, mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r system gynllunio yn ei wneud yw mynd ar drywydd y dull polisi 'tir gwaethaf yn gyntaf', i ddefnyddio tir amaethyddol o ansawdd gwael pan argymhellir defnydd amgen, yn hytrach na'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas. Fel y nodwyd, Lywydd, mae oddeutu 10 y cant i 15 y cant o arwynebedd Cymru yn dir gorau a mwyaf amlbwrpas. Ond mae'n werth nodi nad yw'r dosbarthiad tir gorau a mwyaf amlbwrpas ar ei ben ei hun yn golygu bod gwaharddiad ar ddefnyddio'r tir hwnnw. Ni all y system gynllunio wneud hynny. Ond mae'n gosod y bar yn uchel iawn. Felly, rhaid ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau, gan gydbwyso buddiannau amaethyddol yn erbyn ystyriaethau eraill.

Credwn ein bod wedi taro'r cydbwysedd cywir drwy gynnal y lefel gryfaf o warchodaeth i dir amaethyddol o ansawdd uchel yn y DU, wedi'i ategu drwy gynhyrchu'r mapiau digidol cyntaf o ansawdd tir amaethyddol, yr adolygiad parhaus o'r system ddosbarthu tir amaethyddol i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn addas i'r diben mewn hinsawdd sy'n newid, a thrwy'r modd y mae fy swyddogion yn gwneud sylwadau rheolaidd mewn achosion budd cenedlaethol i sicrhau bod y tir gorau a mwyaf amlbwrpas yn cael ei ystyried yn bwysig iawn, fel y mae'n sicr yn ei haeddu.

Ond wrth gwrs, rydym yn cadw'r warchodaeth a roddir gan 'Polisi Cynllunio Cymru' dan adolygiad. Fe wnaethom ei hadolygu yn 2011 ac eto yn 2020, a chyda llaw, cyn hir bydd fy swyddogion yn cwmpasu'r gofynion ar gyfer yr astudiaeth nesaf i gyd-fynd ag adolygiad technegol ehangach o'r system ddosbarthu tir amaethyddol. Mae'n brosiect yr ydym yn ymgymryd ag ef ar y cyd â DEFRA i sicrhau bod y broses o nodi tir o ansawdd uchel yn parhau i fod yn addas ar gyfer y 25 a 30 mlynedd nesaf.

16:45

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Weinidog. Mae'n bryder gwirioneddol, colli tir amaethyddol o safon yn y ffordd hon. Gallaf fynd â chi i Fro Morgannwg nawr a mynd â chi i bum safle lle'r arferid tyfu gwenith a thatws lle mae gwaith adeiladu ar y gweill neu sydd â safleoedd arnynt gyda datblygiadau solar, a'r elfen ynni adnewyddadwy honno yw'r hyn sy'n agor y drws. Felly, sut y mae eich swyddogion yn gweithio gyda Gweinidog yr economi, lle mae ganddi gyfrifoldeb cynllunio, i wneud yn siŵr fod y tir hwn yn cael ei warchod, yn hytrach na bod eich adran yn dweud y dylid ei warchod ac nad yw'n cael ei gyflawni yn y system gynllunio?

Fel y gwyddoch, daw hyn o fewn y polisi cynllunio a phenderfyniadau cynllunio'r Arolygiaeth Gynllunio. Fodd bynnag, rydym yn gwneud sylwadau, a lle rydym o'r farn fod rhesymau da dros wrthwynebu datblygu'r tir, caiff y rheini eu cyflwyno ym mhob achos yno. Ond y broses gynllunio sy'n pwyso a mesur y penderfyniadau terfynol yn ei gylch.

Nawr, os caf droi at y maes lle rydym yn cytuno â'r rhan fwyaf o adroddiad y pwyllgor, Lywydd. Ymhlith argymhellion y pwyllgor, mae sawl un wedi'u derbyn yn uniongyrchol, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion sy'n ymwneud â phrofion pridd, monitro, cyfnewid gwybodaeth, data dosbarthu tir amaethyddol, rheolau cynlluniau, rheoleiddio a marchnadoedd carbon. Pwynt sydd wedi'i wneud yn dda, gyda llaw—yn y cynllun ffermio cynaliadwy, mae profion pridd bellach yn rhan ohono wrth gwrs, yn yr haen gyffredinol, ond mae yna hefyd gyfleoedd i ffermwyr fynd ymhellach gyda'r haen opsiynol yn ogystal. Rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd yn agos â chyfeiriad adroddiad y pwyllgor.

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n fawr i weithio gyda'r sector ffermio a'r sector amgylcheddol i weithredu ac adeiladu ar yr argymhellion hyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion a defnydd esblygol o'n priddoedd, gan gynnal dull hyblyg o weithredu, o ystyried eu natur amrywiol. Nid un math o bridd a geir yng Nghymru ac un defnydd amaethyddol; mae'n amrywiol iawn. Ond mae'r safbwynt cydweithredol hwn yn dangos ein bwriad cyffredin i gadw priddoedd yn ffocws canolog yma yng Nghymru.

Nawr, mae ein cytundeb mewn egwyddor yn adlewyrchu ein cefnogaeth i'r cyfeiriad teithio, hyd yn oed lle gall yr union fecanweithiau neu'r amseru fod angen ystyriaeth a thrafodaeth bellach. Felly, er enghraifft, rydym yn croesawu argymhellion sy'n ymwneud â sut y gellid ymgorffori awgrymiadau gan y sector amaethyddol ar gyfer gwella iechyd pridd yn iteriadau'r cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol. Yn wir, mae gwaith eisoes ar y gweill i gwmpasu cynnig pridd y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol fel rhan o raglen ddatblygu cam 2 y cynllun ffermio cynaliadwy—ydym, rydym eisoes yn gwneud hyn. Nid yw'r gwaith byth yn dod i ben. Felly, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid, drwy'r trafodaethau bord gron gweinidogol a'r grŵp swyddogion, i ddatblygu'r cynnig hwn. Nawr, yn rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn edrych ar gamau gweithredu yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys sut y maent yn ymwneud â rheolau'r cynllun, canlyniadau'r cynllun, adrodd, targedu, gofynion data a chymorth trosglwyddo gwybodaeth.

Rydym hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor i'r ffaith bod Cymru yn arweinydd ym maes profion pridd a'i gydnabyddiaeth i'r angen i adolygu gofynion monitro, gan gynnwys carbon ar ddyfnder, bioamrywiaeth pridd, a mwy o eglurder ynghylch metrigau iechyd pridd, wrth inni weithio i fireinio a datblygu ein dangosyddion rheoli tir yn gynaliadwy.

Un neu ddau o sylwadau eraill sydd gennyf, Lywydd. Drwy gytuno mewn egwyddor i'r argymhellion hyn, rydym yn nodi ein parodrwydd i symud ymlaen yn adeiladol, ar y cyd â'n rhanddeiliaid. Felly, rwyf am sicrhau'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wella ac adfer a gwarchod yr hyn sydd gennym yn yr adnodd pridd cyfyngedig hwn. Rydym yn gobeithio bod ein hymrwymiad i gyflawni hyn yn amlwg yn ein camau gweithredu drwy gyhoeddi datganiad polisi amaethyddol cyntaf Cymru ar bridd, gyda'r ffocws ar fonitro pridd yn hirdymor drwy ERAMMP, yr ystod lawn o gamau gweithredu'r cynllun ffermio cynaliadwy sy'n gysylltiedig â phridd a'u datblygiad parhaus, y darpariaethau cryfaf yn y DU ar gyfer gwarchod tir amaethyddol o ansawdd uchel, a'r ymrwymiad parhaus, peidiwch ag anghofio, i'r rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd, gyda'i chynllun pum mlynedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Ddiwrnod Pridd y Byd.

Felly, i gloi, diolch eto i'r Cadeirydd ac i'r pwyllgor am ei her adeiladol, ond hefyd am graffu ar adnodd naturiol sydd mor hanfodol ond sydd eto i gyd yn cael ei anghofio. Efallai na fyddwn yn cytuno ar bob argymhelliad, ond rydym yn cytuno ar y ffordd ymlaen a'r rôl hanfodol y mae priddoedd iach yn ei chwarae yn hyrwyddo cynaliadwyedd, a dyfodol llwyddiannus i'n hamaethyddiaeth yng Nghymru ac amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn dibynnu arno. Diolch yn fawr.

Diolch, Lywydd. Mae bob amser yn bleser, pan fydd gennych adroddiad pwyllgor, fod yna Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor yn cyfrannu, a diolch i Carolyn ac Altaf am eu cyfraniadau i'r ddadl hon y prynhawn yma, a hefyd i'r Gweinidog, yn ei sylwadau clo, am dynnu sylw at bwysigrwydd pridd. Clywais rai'n synnu, 'Beth ar y ddaear y mae'r pwyllgor economi'n ei wneud yn gwneud adroddiad ar iechyd pridd?' Os oes gennych bwyllgor sy'n edrych ar bwysigrwydd tanwydd, ynni, mae pobl yn dweud bod hwnnw'n waith pwysig iawn i'r Senedd hon ei wneud. Pridd yw cnewyllyn y bwyd yr ydym yn ei fwyta a'r fioamrywiaeth y soniodd Carolyn amdani. Mae 60 y cant o fioamrywiaeth yn dibynnu ar bridd da, iach ar gyfer ei greu. A hefyd mae rhai gwrthfiotigau yn deillio o'r pridd y mae'r micro-organebau hynny'n byw ynddo sy'n sail i'r gwrthfiotigau.

Felly, mae'n hanfodol ein bod yn deall y pwysau sydd ar ein hamgylchedd naturiol a'r pridd sy'n sail i'r amgylchedd hwnnw. Dyna pam y treuliodd y pwyllgor gymaint o amser yn edrych ar y system gynllunio yn enwedig, oherwydd y pwysau ar y galw am dir na fyddai'n cael ei ystyried yn draddodiadol yn rhan o gefn gwlad. Felly, mae'n siomedig na fu modd i'r Gweinidog dderbyn yr argymhelliad penodol hwnnw. Clywais y dadleuon a wnaeth, ac yn enwedig y ffordd y mae ei swyddogion yn ei gadw dan adolygiad parhaus. Ond yn amlwg mae angen dull cydgysylltiedig gyda'r Gweinidog cynllunio i wneud yn siŵr fod mesurau diogelu'n cael eu rhoi ar waith—. Ac rwy'n gweld bod yr Aelod dros Ynys Môn yma. Yn amlwg, mae'r datblygiad solar ar Ynys Môn yn cael ei adeiladu ar dir amaethyddol o'r radd flaenaf, ac felly mae diffyg gwirioneddol yn y mesurau diogelu hynny. Fel y dywedais wrth y Gweinidog, gallwn fynd ag ef i Fro Morgannwg nawr a mynd ag ef i bum safle lle'r arferid tyfu gwenith a thatws sydd bellach yn cynnal ffermydd solar, neu sydd wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ffermydd solar. Felly, mae diffyg yno. Mae yno i ni ei weld, ac mae angen inni geisio cael ei wared fel ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir.

Yn ei gyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma, dywedodd Llyr fod yr adroddiad hwn yn dangos y ffordd i ni. Rwy'n credu y gallech chi ddod i ben ar hynny fel y cyfryw, bron iawn, oherwydd os cewch gymeradwyaeth i adroddiad o'r fath o bersbectif pwyllgor mae eich gwaith wedi bod yn gynhyrchiol. Dyna pam fy mod mor falch fod y Gweinidog wedi cydnabod pwysigrwydd argymhellion eraill, ac wedi eu derbyn.

Cyfeiriodd Sam at ansawdd y tir, mai dim ond 10 y cant i 15 y cant yng Nghymru sy'n dir amaethyddol o safon. Mae hynny'n dangos bod yn rhaid inni gael y warchodaeth ar waith, oherwydd nid oes gennym ddigonedd ohono, ac nid yw'n rhywbeth y maent yn gwneud mwy ohono. Felly, rhaid inni wneud yn siŵr, o bersbectif Llywodraeth, fod y polisïau hynny ar waith i warchod y tir, fel y gallwn fwydo'r genedl a gwella'r amgylchedd.

Ac yna, cafwyd cyfraniad gan Altaf, a nododd ychydig o'r pwysau yn sgil datblygiadau yn ei ardal ei hun yng Ngorllewin De Cymru, a'i bryderon ynghylch cywasgu ac erydu'r tir, a sut y cafodd ei adfer ar ôl rhai o'r gwahanol fathau o ddefnydd tir fferm a gymerwyd yn ganiataol ers cenedlaethau lawer.

Felly, mae wedi bod yn ddadl gynhyrchiol i bobl gyfrannu ynddi. Rwy'n gobeithio ei bod wedi ysgogi'r ddadl ynglŷn â'r hyn y mae angen inni ei wneud ynghylch iechyd pridd a dealltwriaeth pobl o'i bwysigrwydd i strwythur neu sylfaen bywyd, sy'n darparu ein bwyd, yn helpu i lanhau ein haer, ac yn dal carbon hefyd wrth gwrs. Fel y crybwyllodd Sam Kurtz, mae yna gyfleoedd cyffrous yn gysylltiedig â masnachu carbon a dal carbon, nad ydynt yn cael eu deall yn dda ar hyn o bryd, ond mewn byd delfrydol gallai agor cyfle enfawr i rai ffermydd ddatblygu ffrydiau incwm amgen.

Felly, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Senedd. Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r tystion a gyfrannodd at waith yr adroddiad, a gobeithio y bydd yn parhau'n berthnasol ac yn rhywbeth a fydd yn dangos ein bod wedi gwneud gwahaniaeth o ran gwella priddoedd a strwythurau pridd yma yng Nghymru.

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Llywodraethiant byrddau iechyd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw James Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-dethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.

Eitem 7 sydd nesaf. Dadl Plaid Cymru ar lywodraethiant byrddau iechyd yw'r eitem yma, a dwi'n galw ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9135 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod y mis hwn yn nodi tair blynedd ers dychwelyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig; a

b) bod pob bwrdd iechyd mawr arall yng Nghymru o dan ryw fath o ymyrraeth wedi'i thargedu.

2. Yn gresynu:

a) bod Betsi Cadwaladr wedi treulio dros ddwy ran o dair o’i oes mewn mesurau arbennig—yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall yn hanes y GIG, a

b) bod pobl gogledd Cymru yn parhau i wynebu safonau gwael, amseroedd aros annerbyniol a diffygion sefydliadol parhaus o dan Lywodraeth Lafur Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cryfhau ei harweinyddiaeth wleidyddol i wella safonau a dal y bwrdd iechyd i gyfrif;

b) gweithredu argymhellion adroddiad Plaid Cymru 'System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant' i ddiwygio trefniadau llywodraethiant y GIG;

c) cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau mewn data rhestrau aros Betsi Cadwaladr; a

d) cyflymu sefydlu hybiau llawfeddygol wedi'u staffio'n llawn o fewn Betsi Cadwaladr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Wythnos diwethaf, roeddwn i'n cerdded strydoedd y Bala yn cnocio drysau tai pobl, yn cael sgyrsiau efo pobl yn y dref, ac un o'r tai hynny oedd hen dŷ Betsi Cadwaladr ei hun. Mae rhywun yn meddwl am y blynyddoedd ffurfiannol hynny a greodd y ferch ifanc a aeth ymlaen i fod yn nyrs nodedig, a achubodd fywydau nifer o bobl. Yn 2016, cafodd ei chydnabod yn haeddiannol fel un o 50 o fawrion hanes Cymru. Ond heddiw, yn anffodus, mae'r enw Betsi Cadwaladr wedi dod i olygu rhywbeth cwbl wahanol i lawer gormod o bobl yng Nghymru. Mae wedi dod yn gyfystyr nid â rhagoriaeth glinigol, ond â system iechyd sydd wedi colli ei ffordd.

Gadewch i mi fod yn glir o’r dechrau: nid bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ydy gwraidd problemau’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac nid yno maen nhw’n gorffen chwaith. Nid oes yr un bwrdd iechyd yng Nghymru heddiw mewn sefyllfa o fusnes arferol. Yn wir, yn Betsi ei hun rydym ni wedi gweld pum prif weithredwr gwahanol, pedwar cadeirydd, ac uwch swyddogion yn mynd ac yn dod mewn cylch bron di-ben-draw dros y blynyddoedd diweddar. Ac mewn mannau eraill ar hyd a lled Cymru, mae pobl wahanol, strwythurau gwahanol, systemau gwahanol a phoblogaethau gwahanol, ond mae pob un o’n byrddau iechyd bellach mewn rhyw fath o fesurau arbennig neu ymyrraeth estynedig. Er gwaetha’r holl wahaniaethau hyn rhwng y byrddau iechyd ac yn fewnol, mae yna un peth yn gyson drwy’r ansicrwydd a’r tanberfformiad cyfan, sef presenoldeb parhaus Llywodraeth Lafur Cymru wrth y llyw.

Ac mae’r methiannau yma ar eu mwyaf amlwg ac eithafol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Gallwn ni weld hynny gyda’r ffeithiau. Mae bron i hanner cleifion canser gogledd Cymru yn methu dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod, bron i chwarter cleifion mewn adrannau brys mawr yn aros dros 12 awr cyn cael eu gweld, a dros 4,000 o lwybrau gofal yn Betsi wedi bod yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, er gwaethaf addewidion dro ar ôl tro gan y Llywodraeth y byddai’r arosfannau hyn wedi’u dileu ers talwm. Ond efallai’r ffaith fwyaf damniol oll ydy hyn: fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi treulio dros ddwy ran o dair o’i fodolaeth gyfan mewn mesurau arbennig—y cyfnod hiraf i unrhyw fwrdd iechyd yn hanes yr NHS. Unwaith eto, felly, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyddo i greu hanes, am yr holl resymau anghywir.

A gadewch inni fod yn gwbl glir: nid bai’r staff ydy hyn. Mae’r meddygon, nyrsys, therapyddion a gweithwyr cefnogol, y rheolwyr yn Betsi, yn parhau i roi mwy na’r hyn sy’n rhesymol bosib ddydd ar ôl dydd, mewn amgylchiadau hynod o heriol. Yr hyn sy’n torri calon ydy gweld eu hymdrechion yn cael eu tanseilio’n gyson gan anhrefn, diffyg cyfeiriad a methiant arweinyddiaeth wleidyddol gadarn, o fethiannau dychrynllyd gwasanaethau iechyd meddwl Tawel Fan i adroddiad Ockenden, a nododd ddiwylliant o gamdriniaeth gorfforaethol, i’r penderfyniad gwleidyddol, cywilyddus i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig, yn groes i gyngor clir yr archwilydd cyffredinol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, dim ond i weld y bwrdd yn dychwelyd i fesurau arbennig ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac, yn fwy diweddar byth, y ffaith bod y bwrdd iechyd wedi’i roi, i bob pwrpas, mewn haen o ymyrraeth sy’n mynd ymhell y tu hwnt i fesurau arbennig, heb sôn am y smonach lwyr a welom ni yn ddiweddar gyda bylchau difrifol mewn data yn y rhestrau aros. Fe allwn i barhau.

Er mwyn deall beth sy’n mynd o’i le, mae’n rhaid inni edrych ar ddiffygion diwylliannol a sefydliadol, sydd yn eu tro yn tarddu o wendidau dwfn mewn arweinyddiaeth wleidyddol dros gyfnod maith.

16:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

O dan y Llywodraeth hon, yr hyn a welsom yw diwylliant o ddiymadferthedd a ddysgwyd y caniatawyd iddo gasglu a thyfu. Ac a yw'n syndod? Oherwydd dyma'n union beth a gawn wythnos ar ôl wythnos yn y Siambr gan y Llywodraeth hon. Yn hytrach na mynnu gwell, credu y gall Cymru gyflawni gwell yng Nghymru, yr hyn a welwn yw diwylliant lle dywedir wrthym na allwn ei wneud ein hunain a'n bod yn dibynnu ar eraill i wneud pethau ar ein rhan. Yn Betsi Cadwaladr ymgorfforir hyn yn y ffaith bod tueddiad parhaus i allanoli cleifion i Loegr, boed yn gleifion wroleg, iechyd meddwl, fasgwlaidd neu unrhyw un o nifer o driniaethau ac arbenigeddau sydd naill ai wedi cael eu gadael i fynd o ogledd Cymru neu na fuddsoddwyd ynddynt i ddatblygu, neu'r arfer parhaus o dynnu darparwyr preifat i mewn, gan ddraenio buddsoddiad yn raddol oddi wrth wasanaethau lleol yn hytrach na'u cryfhau. Yn achos trefniadau mewnoli Betsi Cadwaladr gydag ID Medical i leihau rhestrau aros, mae clinigwyr o fewn y bwrdd iechyd wedi'u gwahardd yn benodol rhag ymgymryd ag unrhyw rôl yn cyflawni'r gwaith hwnnw, yn groes i gyngor yr ombwdsmon iechyd. Mae hyn wedi arwain at ddyblygu diangen, at oedi pellach i driniaethau, ac fel y cydnabu cyfarwyddwr cyllid y bwrdd ei hun, at ddarparu gwasanaethau gwael a gwerth gwael am arian.  

Ar y pwynt am amseroedd aros, ac allanoli i Loegr, a defnyddio cwmnïau allanol a phreifat efallai yn yr ystyr honno, yr hyn yr ymddengys ein bod wedi ei ddarganfod mewn ymatebion swyddogol gan Weinidogion y Llywodraeth yw'r union ffeithiau sydd ar goll yn eu hymatebion. Felly, a wnewch chi alw am y manylder hwnnw gan Weinidogion yn eu hymatebion i wneud yn siŵr ein bod yn cael darlun cwbl gywir o realiti'r sefyllfa sy'n wynebu Betsi Cadwaladr?

17:00

Rwy'n credu bod hynny'n gyhuddiad teg. Yr hyn sydd gennym yng Nghymru yw diffyg data, ac mae angen gwell data arnom i ddeall beth sy'n digwydd, fel bod gennym well polisi a gwell canlyniad.

Ond gan gyfeirio at y mewnoli hwnnw, yn yr achos hwn, ID Medical yn Betsi Cadwaladr, pwy wnaeth orchymyn y polisi hwn? Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r cynllun adfer gofal a gynlluniwyd. Ni all y Llywodraeth hon olchi ei dwylo o'r methiannau hyn. Mae'r mesurau arbennig wedi arwain at gyfarwyddebau a phenodiadau gan y Llywodraeth hon. Hyn a hyn o bobl y gallwch chi eu diswyddo a'u beio cyn i chi redeg allan o bobl i'w beio. Mae pysgodyn yn pydru o'i ben, ac mae'r Llywodraeth hon wedi arwain y bwrdd iechyd am y rhan orau o 10 mlynedd.

Ond mae dewis arall. Yn 2026, bydd pobl gogledd Cymru yn cael cyfle i ddewis newid go iawn. Mae Plaid Cymru eisoes wedi gosod agenda feiddgar a chredadwy i wella'r diwylliant hwn o ddiymadferthedd a ddysgwyd. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad, 'System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant', a aned o'n rhwystredigaeth ddofn gyda gwrthodiad Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gymryd cyfrifoldeb am fethiannau yn Betsi Cadwaladr. Mae'n nodi cynigion clir i gryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd yn y GIG, diwygio'r fframwaith mesurau arbennig, cyflwyno safonau ymddygiad cyson ar gyfer uwch arweinwyr a chyflawni tryloywder go iawn mewn data iechyd.

Rydym hefyd wedi cyflwyno cynllun wedi'i dargedu i fynd i'r afael â rhestrau aros Llafur, sy'n arbennig o wael yn Betsi Cadwaladr, gan gynnwys hybiau gofal a gynlluniwyd newydd i gyflymu triniaeth, creu canolfannau rhagoriaeth mewn arbenigeddau sydd wedi'u hesgeuluso ers amser maith, a gwella systemau atgyfeirio a brysbennu. Ac mae'n rhaid inni ailadeiladu hyder ynom ein hunain eto a buddsoddi er mwyn tyfu ein gallu ein hunain i ddatblygu arbenigedd yn y gogledd. 

Ers dros 15 mlynedd, mae pobl gogledd Cymru wedi cael eu gorfodi i ddioddef safonau gofal annerbyniol, tra bod staff wedi cael eu siomi dro ar ôl tro gan fethiant y Llywodraeth hon. Fel y dywedodd un aelod o staff mor bwerus: 

'Mae nifer enfawr o bobl dda yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n mynd y tu hwnt i'r galw bob dydd. Maent yn gweithio mewn amgylchiadau y gwyddant yn aml eu bod yn israddol i'r hyn sy'n cael ei ddarparu yng ngwledydd eraill y DU, ond y rhwymau sy'n eu cadw yma yw teulu, ffrindiau a'r wybodaeth mai eu gofal iechyd nhw y maent yn ceisio ei warchod.'

Gadewch inni sicrhau nad yw eu hymroddiad wedi bod yn ofer, a gadewch inni wneud yn siŵr, ar ôl 2026, y bydd pennod ddisgleiriach, decach a mwy cymwys yn agor i gleifion ar draws gogledd Cymru a Chymru gyfan. Diolch.

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cynnydd wedi’i wneud o ran arweinyddiaeth, llywodraethiant corfforaethol, ansawdd a diogelwch, rheolaeth ariannol, ac ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi o dan fesurau arbennig eto yn 2023; a

b) bod cynnydd yn cael ei wneud gan bob bwrdd iechyd sydd wedi’i uwchgyfeirio.

2. Yn cydnabod y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau yn nata rhestrau aros Betsi Cadwaladr, a’r adroddiad cynnydd diweddaraf ar y mesurau arbennig, ym mis Mawrth.

3. Yn cefnogi aelodau ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddynt barhau i weithio dan bwysau i ddiwallu anghenion cleifion.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) derbyn cyfrifoldeb am y methiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ymddiheuro am fethu â mynd i'r afael â'r diffygion ym maes gofal iechyd yng ngogledd Cymru;

b) datgan argyfwng iechyd;

c) cynyddu capasiti gwelyau i sicrhau diogelwch cleifion a gwella mynediad at ofal brys;

d) sefydlu canolfannau llawfeddygol ar frys i helpu i glirio'r ôl-groniad o ran amseroedd aros;

e) diogelu a gwella'r rhwydwaith ysbytai cymunedol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys darparu ysbyty cymunedol gogledd Sir Ddinbych, a mwy o unedau mân anafiadau; ac

f) cychwyn ymchwiliad annibynnol i fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddysgu gwersi, dal pobl i gyfrif am fethiannau, a sicrhau y gellir cyflawni a chynnal gwelliant sylweddol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies.

A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Rydym i gyd yn gwybod bod ein system gofal iechyd ar ei gliniau. Mae pob bwrdd iechyd yn y wlad mewn rhyw fath o fesur neu ymyrraeth arbennig. Gwaddol gwael wedi 27 mlynedd o reolaeth Llafur. Am lawer gormod o amser, mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu mynd i'r afael â maint yr argyfwng ledled y wlad, gan ddewis chwarae gwleidyddiaeth bleidiol yn lle hynny'n aml gan wyro rhag gwneud y newidiadau go iawn y mae angen i bawb ohonom eu gweld. Rydym yn gwybod bod holl fyrddau iechyd Cymru mewn argyfwng, fel y dywedais, dan ymyrraeth. Yn fy mhrofiad i, pan fydd sefydliadau'n methu'n gyson, mae'n tynnu sylw at ddiffyg arweinyddiaeth difrifol, problem gyda'r arweinyddiaeth, a methiant system yn aml, ac mae'r Llywodraeth yn allweddol i'r arweinyddiaeth honno.

Wrth edrych ar Betsi Cadwaladr, Ddirprwy Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn a chyfaddef y prif fethiannau yn y bwrdd iechyd ac ymddiheuro i bobl gogledd Cymru am fethu mynd i'r afael â'r diffygion mewn gofal iechyd. Mae peidio â gwneud hynny'n dangos eu bod yn parhau i wadu'r sefyllfa honno. Nid yw'r methiannau hyn yn y bwrdd iechyd yn gyfrinach ac maent wedi cyrraedd y newyddion yn aml. Bu cryn bryderon ynglŷn â'r arweinyddiaeth, gydag ansefydlogrwydd parhaus yn y tîm gweithredol a bylchau yn yr uwch strwythurau arweinyddiaeth ehangach, yn ogystal â dros £24 miliwn o orwariant yn y gyllideb rhwng 2021 a 2024. Ac i wneud pethau'n waeth, mae'r bwrdd iechyd wedi cael sawl prif weithredwr gwahanol ers 2015. Yn amlwg, mae rhywbeth o'i le'n sylfaenol ynghylch y ffordd y caiff y bwrdd iechyd ei redeg, ac yn y pen draw Llywodraeth Cymru sy'n atebol, gan mai ganddi hi y mae'r cyfrifoldeb terfynol am reoli perfformiad ein system iechyd.

Ddirprwy Lywydd, pan fydd y modd y caiff y bwrdd iechyd ei redeg mor ddiffygiol, mae'n cael canlyniadau real iawn i bobl gogledd Cymru, sydd wedi cael llond bol ar orfod goddef hyn. Dim ond un o'r sgandalau yn y bwrdd iechyd yw'r oedi i ystadegau iechyd y llynedd. Rydym wedi gweld digwyddiadau trasig fel y claf a gafodd drychiad diangen, claf arall a oedd wedi cael trychiad yn gorfod cael ei gario i'r toiled gan ei wraig ar ôl cael ei ryddhau heb gynllun gofal, a bron i 1,700 o gleifion iechyd meddwl wedi'u rhyddhau ar gam o wasanaethau cymorth yn ystod y pandemig. Ddirprwy Lywydd, os nad dyma'r diffiniad o argyfwng, nid wyf yn gwybod beth sydd. Mae'n amlwg na all ein system iechyd yng Nghymru barhau i gael ei rhedeg fel hyn.

Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i wneud pethau'n iawn. Mae angen Llywodraeth sy'n barod i gydnabod bod yna argyfwng iechyd, oherwydd—

17:05

Mae gennyf ddiddordeb—. Roeddwn i'n llefarydd iechyd am dros 12 mis ac nid wyf yn hollol siŵr beth oedd yr argyfwng iechyd yn ei olygu mewn gwirionedd ym mholisi'r Ceidwadwyr Cymreig, felly gan mai chi sydd wedi ymgymryd â'r briff, a wnewch chi esbonio beth yw argyfwng iechyd mewn gwirionedd.

Ie, wel, diolch yn fawr. O argyfwng iechyd—. Gydag unrhyw sefyllfa sydd wedi bod yn parhau ers blynyddoedd lawer, os nad yw'r cnewyllyn o arweinwyr yn cydnabod pwysigrwydd y sefyllfa honno, ni wnewch chi byth ganolbwyntio'r adnoddau a'r meddylfryd ar ei ddatrys. Mae datgan argyfwng iechyd yn canolbwyntio pob rhan o'r system ar yr angen i ddechrau rhoi ei meddwl, ei hadnoddau, ei gallu a'i hymdrechion gorau ar waith i ddechrau gyrru'r newid sydd angen i ni ei weld. A dyna pam ein bod yn gweld cynghorau lleol eisoes yn datgan argyfyngau iechyd, a bydd mwy yn gwneud hynny, oherwydd mae'n atseinio i bob dinesydd ledled Cymru. Felly, pan fydd gennych y ffocws cadarn hwnnw gan bawb sy'n gallu unioni pethau, fel y gwnaethom yn ystod COVID, rydych chi'n gwybod y gallwch chi ddechrau rhoi camau ar waith i wella. A dyna beth y credaf i yw argyfwng iechyd a pham ei fod mor bwysig.

Mae arnom angen Llywodraeth sy'n barod i dderbyn, felly, fod angen yr argyfwng iechyd hwnnw; dim ond wedyn y gallwn ddechrau mynd i'r afael â gwir faint y problemau yn Betsi Cadwaladr, ac ar draws ein system iechyd gyfan yn wir. O ran Betsi Cadwaladr, mae angen inni weld ymchwiliad annibynnol i'r methiannau yn y bwrdd iechyd i ddysgu gwersi a dwyn pobl i gyfrif am fethiant llwyr ei reolwyr, yn ogystal â sicrhau y gellir cyflawni a chynnal gwelliannau sylweddol. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau cynnydd mawr yn y capasiti gwelyau ledled Cymru i sicrhau diogelwch cleifion a gwell mynediad at ofal brys. Rhaid inni hefyd weld hybiau llawfeddygol yn cael eu sefydlu ar frys i glirio'r ôl-groniad ofnadwy yn yr amseroedd aros. Ac yn olaf, rhaid inni ddiogelu a gwella'r rhwydwaith ysbytai cymunedol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys darparu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych a mwy o unedau mân anafiadau.

Ddirprwy Lywydd, mae pobl gogledd Cymru'n haeddu gwell na'r hyn y mae Llafur wedi'i gynnig iddynt o ran eu gofal iechyd, ac mae hyn yn berthnasol i bob ardal o Gymru. Digon yw digon. Mae angen atebolrwydd a gwelliant, ac yn anffodus, nid yw hynny'n ymddangos yn debygol o dan y Llywodraeth Lafur hon. Diolch.

Gwelliant 3—James Evans

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:

cynnal adolygiad cynhwysfawr o drefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gyda'r bwriad o gryfhau goruchwyliaeth, gwella perfformiad, a sicrhau safonau gofal cyson i gleifion.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i.

Gadewch inni fod yn glir ynglŷn â'r hyn a drafodwn heddiw: mae cynnig Plaid Cymru yn gywir i nodi system iechyd mewn argyfwng, ond mae'n cynnig atebion sy'n methu ymateb i faint yr argyfwng. Mae'n canolbwyntio'n gul ar un bwrdd iechyd ac yn gofyn i ni gymeradwyo adroddiad pleidiol wleidyddol er mai'r hyn sydd ei angen ar Gymru yw newid sylfaenol ledled y system.

Mae'r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sgandal genedlaethol. Nid methiant yn unig yw treulio mwy na dwy ran o dair o'i fodolaeth mewn mesurau arbennig, ond rhaid inni beidio ag esgus bod hon yn broblem sydd wedi'i chyfyngu i ogledd Cymru. Nid mater lleol yw hwn, mae'n un systemig sy'n rhedeg yn ddwfn drwy GIG Cymru yn ei gyfanrwydd, o arfordir y gogledd i ganol Bae Caerdydd. Mae'r cynnig yn nodi bod pob bwrdd iechyd mawr yng Nghymru bellach wedi bod yn destun rhyw fath o ymyrraeth wedi'i thargedu, a gadewch inni drosi hynny i iaith blaen: mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei dwylo ar olwyn pob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac eto ar ôl blynyddoedd o ymyrraeth, uwchgyfeirio a mesurau arbennig, mae cleifion yn dal i aros yn hirach, mae staff yn dal i fod o dan bwysau annioddefol, ac mae'r safonau'n parhau i fod yn annerbyniol o isel.

Dyna pam y mae fy ngwelliant yn bwysig. Mae'n galw am adolygiad cynhwysfawr o lywodraethiant, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Nid oes angen mwy o dincran wedi'i dargedu o gwmpas yr ymylon, mae angen inni wrthsefyll diwylliant sydd wedi normaleiddio methiant, wedi cuddio y tu ôl i fiwrocratiaeth ac wedi cosbi tryloywder. Ac os yw'r Aelodau eisiau enghraifft fyw o'r hyn sydd o'i le gyda GIG Cymru a llywodraethiant yng Nghymru, nid oes angen iddynt edrych yn bellach nag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld ymadawiad sydyn ei brif weithredwr ar ôl prin flwyddyn yn y swydd a honiadau difrifol yn sgil chwythu'r chwiban, yn ymwneud â throseddolrwydd a methiannau llywodraethiant ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yn cael eu diystyru. Felly, gadewch inni ofyn y cwestiwn amlwg: sut y gall y Senedd hon fod â hyder yn llywodraethiant y GIG pan fydd hi'n ymddangos fel pe bai prif weithredwr sy'n codi pryderon am gamymddwyn yn cael eu gwthio allan? Mae hon yn system sy'n trin chwythwyr chwiban fel y broblem, tryloywder fel bygythiad a biwrocratiaeth fel tarian. Nid atebolrwydd yw hyn, ond hunanamddiffyn sefydliadol.

Mae Plaid Cymru yn gofyn i ni weithredu argymhellion ei hadroddiad ei hun. Er fy mod yn cydnabod y gwaith sydd wedi mynd tuag at ei greu, ni ellir gwneud diwygio GIG Cymru yn ymarfer gwaith cartref pleidiol. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw adolygiad annibynnol, system gyfan, un sy'n mynd i'r afael â diwylliannau seilo, y systemau darfodedig a'r realiti, yn 2026, fod rhannau o'n GIG yn dal i ddibynnu ar gofnodion papur a pheiriannau ffacs. Mae hynny'n hollol amhriodol.

Mae rhai Aelodau yn dadlau yn y Siambr hon mai ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r ateb. Rwy'n anghytuno'n sylfaenol. Byddai ymchwiliad cyhoeddus yn cymryd blynyddoedd, yn costio miliynau o bunnoedd ac yn amsugno llawer iawn o amser rheoli a hefyd yn dweud wrthym yr hyn a wyddom eisoes, fod yr arweinyddiaeth wedi bod yn wan, llywodraethiant yn dameidiog, data'n annibynadwy ac atebolrwydd yn aneglur. Er y byddai cyfreithwyr ac ymgynghorwyr yn elwa o ymchwiliad cyhoeddus, ni fyddai cleifion.

Nid yw GIG Cymru yn dioddef o ddiffyg diagnosis, mae'n dioddef o ddiffyg canlyniadau. Yr hyn sydd angen inni ei weld yma yw system yng Nghymru lle mae Gweinidogion ac uwch swyddogion gweithredol yn wynebu canlyniadau go iawn am fethiant, lle mae'r strwythurau rheoli chwyddedig yn cael eu lleihau fel y gellir ailgyfeirio adnoddau i'r rheng flaen, mwy o feddygon, nyrsys a pharafeddygon, ac mae angen inni gynyddu tryloywder fel ei fod yn ddiofyn ar draws y GIG, nid yn rhywbeth sy'n cael ei lusgo allan drwy ryddhau gwybodaeth yn answyddogol, ceisiadau rhyddid gwybodaeth a chwythwyr chwiban yn peryglu eu gyrfaoedd eu hunain i geisio gwella'r GIG yma yng Nghymru. Ddirprwy—[Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad, Gareth, iawn.

17:10

Diolch yn fawr. Rydych chi'n amlinellu yno beth yw'r manteision i'r hyn y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn ei gyflawni, oherwydd byddai'r bobl a fyddai'n rhoi tystiolaeth yn tyngu llw am rai o'r methiannau hynny, ac yna byddai argymhellion ymchwiliad cyhoeddus yno i gynnal y pwysau ar bobl, ac os na fyddent yn cyflawni'r argymhellion hynny, byddent yn sicr yn cael eu dwyn i gyfrif. Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig—. A phan oeddech chi'n llefarydd iechyd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dyna'r polisi yr oeddem yn awyddus i'w gyflawni. Rydym yn cytuno bod angen rhoi diwedd ar y methiant systematig hwn a bod angen cynnal y pwysau ar unigolion, felly dyna'r union reswm pam ein bod wedi ymrwymo i'r polisi hwnnw.

Wel, y rheswm yw fy mod wedi cael fy hualau wedi'u tynnu oddi wrthyf nawr, felly gallaf ddweud ychydig bach mwy o'r hyn rwy'n ei feddwl. Mewn gwirionedd, byddai ymchwiliad cyhoeddus yn cymryd blynyddoedd i ddod i gasgliad tra bod cleifion a phobl yn dioddef, ac rydym eisoes yn gwybod beth yw'r problemau ym mwrdd Betsi. Rydym yn eu trafod yn y Siambr hon bron bob wythnos ar ryw ffurf neu'i gilydd. Nid wyf yn credu bod ymchwiliad cyhoeddus yn mynd i ddweud unrhyw beth yn fwy wrthym na'r hyn a wyddom eisoes, heblaw gwastraffu arian trethdalwyr.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod pobl Cymru wedi blino clywed bod pethau'n gwella wrth iddynt aros ar drolïau yng nghoridorau adrannau damweiniau ac achosion brys. Maent wedi blino ar ddatganiadau i'r wasg gan Lywodraeth Cymru sy'n sôn am gynnydd tra bod profiad bywyd yn adrodd stori wahanol iawn, ac maent wedi blino ar Lywodraeth sy'n rheoli dirywiad yn hytrach na chyflawni newidiadau gwirioneddol i bobl Cymru. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag adfer ymddiriedaeth yn y GIG, rhaid inni roi'r gorau i'r esgusodion a rhoi diwedd ar y diwylliant o guddio, gan gynnwys yr hyn a welsom yn gyfredol ar draws y GIG, a dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant heddiw.

Mae'r ddadl hon, wrth gwrs, yn ymwneud â mwy na ffigurau ar ddarn o bapur, mae hi'n ymwneud â phobl, pobl go iawn, nifer ohonyn nhw sy'n byw mewn poen, pobl sydd efallai'n methu â gweithio yn sgil hynny, a phobl sydd yn sicr wedi gweld eu bywydau'n cael eu rhoi ar stop oherwydd system sydd ddim yn eu trin nhw fel y dylai wneud. Rŷn ni'n clywed dro ar ôl tro am y llanast llwyr y mae'r Llywodraeth Lafur wedi ei wneud wrth redeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond does unman lle mae canlyniadau'r gamreolaeth honno yn fwy amlwg nag ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fy mwrdd iechyd lleol i a bwrdd iechyd pobl gogledd Cymru.

Mi gawsom ni addewidion mawr y llynedd y byddai'r rhestrau aros hiraf wedi'u dileu erbyn diwedd 2025. Addewid uchelgeisiol, canmoladwy, ond breuddwyd ffŵl arall oedd honno wrth gwrs. Dŷn ni ddim wedi gweld y newid rôn ni am ei weld, ac yn sicr ddim y gwelliant oedd pobl yn dymuno ei weld hefyd. Beth yw'r sefyllfa heddiw? Wel, mae miloedd yn dal i aros dros ddwy flynedd am driniaeth, a mae hynny yn warth, a dweud y gwir. O gymharu â Lloegr, mae cyfradd yr arosiadau hiraf yng Nghymru tua 2,400 y cant yn uwch, tystiolaeth glir o flynyddoedd o dangyflawni a chynllunio diffygiol. Felly, mae'r cwestiwn yn parhau, onid yw e? Pam bod cymaint o fwlch rhwng yr hyn sy'n cael ei addo i ni a'r hyn sy'n cael ei gyflawni? Pam fod trigolion gogledd Cymru yn cael eu gadael dro ar ôl tro gydag addewidion gwag? Mae pobl wedi blino ar glywed bod pethau ar y gweill; maen nhw eisiau gweld canlyniadau.

Enghraifft glir o'r broblem i fi yw datblygiad hwb orthopedeg Llandudno. Mae gan y prosiect yma botensial i drawsnewid gwasanaethau orthopedeg yng ngogledd Cymru. Rŷn ni ym Mhlaid Cymru wedi cefnogi'r syniad o hybiau triniaeth arbenigol ers amser maith, oherwydd mewn mannau eraill rŷn ni wedi gweld eu bod nhw wedi bod yn allweddol i leihau'r rhestrau aros. Ond mae'n rhaid i ddatblygiadau o'r fath, wrth gwrs, gymryd ystyriaeth lawn o farn arbenigwyr clinigol. Nhw sy'n deall sut i gynllunio gwasanaeth sy'n gweithio yn ymarferol. Heb eu harweiniad nhw, mae yna berygl i brosiectau fethu ar lawr gwlad. Yn anffodus, mae'n ymddangos mai dyna sydd wedi digwydd yn achos Llandudno.

Ar ôl siarad gyda phobl oedd yn agos i'r prosiect yma, dwi ddim yn hollol hyderus bod mewnbwn clinigol digonol wedi bod wrth lunio'r achos busnes. Er gwaethaf eu rhybuddion nhw am ddiffygion staffio a chapasiti, mae'n ymddangos nad oedd y bwrdd yn ddigon ymatebol i'r pryderon yma. Felly, mi fyddwn i yn gwerthfawrogi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ymateb i'r ddadl yma os ydy e wedi clywed pryderon tebyg wedi'u mynegi, ac os yw hyn wir wrth wraidd y gohiriadau rŷn ni wedi'u gweld wrth agor yr hwb. O ganlyniad, mae'r prosiect wedi ei ohirio dro ar ôl tro. Hyd yn oed pan fydd y hwb yn agor eleni, mae yna bryderon difrifol na fydd digon o staff i'w redeg e'n llawn. Prosiect yw hwn, wrth gwrs, sydd werth bron £30 miliwn, ond mewn peryg o fethu oherwydd camgymeriadau cynllunio sylfaenol.

Mae e yn codi cwestiynau pwysig, onid yw e? Pam na sicrhawyd arweinyddiaeth glinigol o'r cychwyn? Pwy wnaeth y penderfyniadau yma? A phwy fydd yn atebol os na chaiff yr hyn a addawyd ei wireddu? Nid codi adeilad newydd yw'r nod fan hyn, wrth gwrs, ond sicrhau triniaethau cynt, sicrhau bod yna lai o aros, a sicrhau bod gwell gofal i gleifion.

Heb y bobl a'r adnoddau cywir yn eu lle, yna mae hynny i gyd yn y fantol. Mae gan hwb Llandudno botensial gwirioneddol, fel dwi'n dweud, ond allwn ni ddim caniatáu iddo fe gael ei wastraffu oherwydd y diffyg cynllunio a diffyg gwrando ar arbenigedd glinigol. Mae angen atebolrwydd clir ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Yn y pen draw, wrth gwrs, rŷn ni i gyd yn gwybod mai'r Llywodraeth Lafur sydd â throsolwg dros y bwrdd. Mae angen sicrwydd, felly, na fydd yr un camgymeriadau yn cael eu gwneud eto.

Mae pobl gogledd Cymru wedi aros yn rhy hir yn barod, ac mae hynny'n llythrennol, wrth gwrs—aros pan mae'n dod i gael eu triniaethau. Maen nhw'n haeddu gwell na hynny. Maen nhw'n haeddu system iechyd sy'n gweithio iddyn nhw, nid un sy'n eu gadael nhw i lawr dro ar ôl tro. Dyna'r neges dwi am i'r Llywodraeth ei chlywed heddiw, a dyna'r neges, gobeithio, dwi eisiau i'r Senedd ei hanfon drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma.

17:15

Rwy'n falch ein bod newydd basio cyllideb Llafur Cymru sy'n buddsoddi yn ein gwasanaethau rheng flaen mewn llywodraeth leol ac mewn iechyd. Arweiniodd y cynnydd yn y cyllid GIG a ddarparwyd gan Lywodraeth Lafur 1997-2010, drwy gynllun y GIG, ochr yn ochr â llwyddiant y cynllun 18 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth, at ostyngiadau sylweddol iawn yn amseroedd aros y GIG. Fodd bynnag, mae diffyg cynnydd i gyllid y GIG ers 2010 wedi arwain at golli'r enillion hynny.

Pe bai gwariant y pen y DU wedi cyfateb i'r cyfartaledd ar draws yr UE14 yn ystod y degawd hwnnw, byddai cyfanswm gwariant y DU wedi bod tua £40 biliwn yn uwch bob blwyddyn. Mae gennym angen cynyddol, poblogaeth oedrannus sy'n tyfu, meddyginiaethau newydd sydd angen cyllid. Diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur newydd y DU, mae rhestrau aros yn gostwng bellach. Mae pobl yn dweud wrthyf yn rheolaidd am lawdriniaethau'n cael eu cynnig yn gynt, am glinigau lleddfu poen, ffisiotherapi ac atgyfeiriadau i'r rhaglen ymarfer genedlaethol, cynlluniau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau. Rwy'n gwybod bod angen gwneud mwy, ond mae yna symud cadarnhaol, ac rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn rhoi gobaith i bobl hefyd, i'r rhai sydd ar restrau aros, y gobaith y bydd eu hapwyntiad yn cael ei gynnig yn gynt.

Mae mwy o welyau gofal canolraddol yn cael eu darparu gan y bwrdd iechyd, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol, fel yn Nhŷ Marleyfield. Rwy'n edrych ymlaen at agor yr hyb orthopedig newydd yn Llandudno yn fuan, fel y soniodd Llyr, ac roeddwn yn falch o glywed am y cyfleuster gofal 56 gwely newydd sydd wedi agor yn y Fflint yn ddiweddar. Mae'r caniatâd cynllunio diweddar ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl hefyd yn newyddion cadarnhaol iawn ac yn gam pwysig ymlaen. Mae'r cynlluniau'n cynnwys uned mân anafiadau, a fydd yn lleddfu'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd, yn ogystal â gwelyau gofal canolradd, sy'n cynnig gofal cam-i-fyny a cham-i-lawr. Bydd y gofal tymor byr hyblyg hwn yn helpu i bontio bylchau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ac mae'n hynod werthfawr. Roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Nid ganddo ef. Na, dim diolch. Roeddwn i'n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn sôn am fuddsoddiad yn Ysbyty Brenhinol Alexandra y bore yma yn y gyllideb sydd ar y ffordd, pan oedd yn sôn am fuddsoddi yng ngogledd Cymru. Felly, croeswn ein bysedd fod hynny'n digwydd mewn gwirionedd ac y cawn gyhoeddiad cyn bo hir.

Betsi Cadwaladr yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng ngogledd Cymru, ac mae'n cyflogi tua 19,000 o bobl. Weithiau, rwy'n teimlo bod angen i ni roi'r gorau i ladd ar y bwrdd iechyd oherwydd mae'n gwneud recriwtio'n anodd iawn. Clywais yr hyn a ddywedodd Llyr am yr uned orthopedig, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym ddigon o bobl sydd eisiau dod i weithio yn harddwch gogledd Cymru. Mae'n lle hyfryd i fyw, gweithio, magu eich teulu. Felly, mae angen inni ei ganmol.

Ar wella perfformiad a llywodraethiant, ychydig flynyddoedd yn ôl cysylltodd cyn-reolwr GIG wedi ymddeol â mi i ddweud ei bod eisiau helpu. Dywedodd wrthyf, yn ei phrofiad hi, nad oedd systemau a gweithdrefnau sylfaenol wedi dychwelyd yn llawn ers COVID. Cynigiodd ei harbenigedd a siaradodd am bwysigrwydd rheoli ac atebolrwydd drwy adolygiadau perfformiad dan arweiniad y gwasanaeth, comisiynu effeithiol a disgwyliadau clir ar gyfer rheolwyr unigol ar draws gwasanaethau ac adrannau. Mae'r systemau hyn eisoes yn bodoli, ac mae angen eu defnyddio'n briodol eto. Dywedodd fod angen hyfforddiant, goruchwyliaeth a chefnogaeth barhaus ar reolwyr hefyd. Mae angen iddo fod yno iddynt. Dyna'r unig ffordd i gyflawni'r diwygiadau a'r trawsnewid sydd eu hangen i wella'r sefyllfa.

Awgrymodd nifer o ffyrdd ymarferol hefyd o wella profiadau cleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys—newidiadau systemig bach a allai wneud adeg o straen ddirdynnol yn fwy cyfforddus iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys systemau intercom gwell fel y gall pobl glywed yn glir pan gânt eu galw am asesiad neu driniaeth, seddi mwy cyfforddus, padiau lleddfu pwysau ar gyfer cleifion oedrannus, gwell mynediad i doiledau, cyfleusterau golchi, a sicrwydd fod bwyd a diod ar gael tra byddant yn aros. Mae'r rhain yn anghenion dynol sylfaenol a dylid eu diwallu bob amser, yn enwedig pan fydd pobl yn wynebu amseroedd aros hir. Hefyd, mae angen gwell cofnodion cleifion ar gyfer dilyniant mewn gofal, ar gyfer aildderbyniadau i'r ysbyty ac ar gyfer eu llwybrau parhaus. Clywais fod hynny hefyd yn fater sy'n codi.

Byddai newidiadau o'r fath yn gwella profiad y claf yn sylweddol a byddent yn amlwg ar unwaith. Byddai hyn, yn ei dro, yn creu'r lle i anadlu sydd ei angen i fynd i'r afael â'r heriau mwy ar draws taith gyfan y claf, o ofal sylfaenol drwy driniaeth ysbyty ac yn ôl i ofal cymdeithasol i mewn i'r gymuned. Pwysleisiodd y dylai gofal iechyd bwyso ar arbenigedd rheoli ac arbenigedd strategol sy'n bodoli'n barod mewn prifysgolion a busnesau lleol hefyd, yn hytrach na dibynnu ar ymgynghorwyr allanol costus, sy'n golygu hyfforddi a grymuso rheolwyr i oruchwylio'r system gyfan, datrys problemau ar draws adrannau a sicrhau bod cleifion yn symud yn esmwyth drwy ofal.

I gloi, nid cynnig atebion cyflym neu ladd arno yw'r ffordd i wella ein gwasanaeth iechyd, ond yn hytrach, sicrhau buddsoddiad parhaus, arweinyddiaeth gref a defnyddio'r arbenigedd sydd gennym eisoes drwy gefnogi ein gweithlu, dwyn systemau i gyfrif, a gwneud newidiadau ymarferol sy'n gwella profiad y claf nawr. Gallwn ailadeiladu hyder a darparu'r gofal tosturiol o ansawdd uchel y mae pobl ledled gogledd Cymru yn ei haeddu. Mae hyn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth, byrddau iechyd, a phob un ohonom yn y Siambr hon, ac mae'n un yr wyf i wedi ymrwymo iddo. Diolch.

17:20

Mae'r problemau rydyn ni wedi clywed amdanynt yn barod heddiw ym mwrdd iechyd Betsi yn ficrocosm, efallai, o rai heriau sy’n digwydd dros y wlad. Mae pob un o'n byrddau iechyd yn wynebu rhyw fath o ymyrraeth wedi’i dargedu. Yn anffodus, mae safonau wedi cwympo mewn sawl safle, er gwaetha'r gwaith caled mae staff rheng flaen yn ei wneud.

Yn ystod y misoedd diweddar, mae ymyrraeth wedi cael ei dwysáu ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, oherwydd sefyllfa gyllidol sy'n gwaethygu, ac oherwydd pryderon am ofal brys. Mae'r diffyg ariannol o £18 miliwn wrth gwrs yn destun pryder. Mae hyn wedi'i fflagio, mae'n debyg, ers amser. O edrych ar nodiadau'r cyfarfod bwrdd ym mis Ionawr, dydy'r bwrdd iechyd dal heb dderbyn fframwaith sy'n gosod mas mesuriadau er mwyn gwella'r sefyllfa, a gwrthdroi'r escalation sydd wedi digwydd o ran ymyrraeth, er i'r bwrdd ofyn i'r Llywodraeth am y fath arweiniad.

Roedd un o'r pryderon eraill a godwyd yn ymwneud â gofal brys yn y bwrdd iechyd. Mae hwn yn faes sy'n peri pryder arbennig i lawer ohonom. Dros flynyddoedd, mae gwasanaethau lleol wedi diflannu, gan orfodi mwy a mwy o gleifion i deithio pellteroedd hirach i gyrraedd y gofal sydd ei angen arnynt. [Torri ar draws.] Mae'n drueni y byddai unrhyw un yn gweld hyn yn ddoniol. Rhaid i bobl deithio'r pellter hirach hwnnw. Pan gaeodd ysbyty'r glowyr yng Nghaerffili, nid ysbyty cyffredinol a agorwyd yn ei le, ond uned mân anafiadau yn Ystrad Mynach. Roedd yn rhyfedd, oherwydd roedd y cynllun ffordd—hyd yn oed yr arwyddion ffordd—yn awgrymu'n wreiddiol y byddai uned damweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty hwnnw, ond ni wireddwyd hynny erioed. A nawr, rhaid i gleifion o bob rhan o gwm Rhymni deithio i'r Faenor yng Nghwmbrân i gael gofal brys. Os nad oes gennych gar at eich defnydd, gall hynny gymryd oriau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gwasanaethau brys yn y Faenor yn cyrraedd y penawdau yn rheolaidd am yr holl resymau anghywir. Mae cleifion yn gorfod wynebu gofal anniogel mewn coridorau, amseroedd aros hir am driniaeth frys, a'r holl boen a phryder y mae hynny'n ei achosi. Nid bai staff rheng flaen yw hyn, ond maent hwy hefyd, fel y cleifion, yn dioddef. Mae cais rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd gennym yn ddiweddar yn datgelu cymaint y mae'r pwysau a'r straen yn y system yn effeithio ar y gweithlu. Yn 2025, collwyd 279,889 o ddiwrnodau cyfwerth ag amser llawn yn Aneurin Bevan oherwydd salwch staff. Mae hynny'n cyfateb i 766 mlynedd o amser a gollwyd. Pan ddaw'n fater o ddatrys y problemau hyn, gwyddom nad opsiwn yn unig yw gweithredu radical, ond rheidrwydd, ac rydym yn benderfynol o ymateb i'r her hon i adfer y GIG i'w le dilys fel testun balchder ein cenedl.

Wrth gwrs, bydd pawb yn y Siambr hon eisiau i'r sefyllfa wella. Rwy'n deall hynny. Rwy'n cydnabod hynny. Ond pam mae cymaint o broblemau wedi digwydd ers cymaint o amser ac rŷn ni'n parhau i weld y sefyllfa yn gwaethygu, nid yn gwella, mae'n rhaid inni ffeindio ffordd o roi gobaith i'r cleifion, wrth gwrs, ond hefyd i'r staff rheng flaen sydd yn gweithio mor galed i wella bywydau pobl pan fyddan nhw ei angen fwyaf. 

17:25

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwy'n falch o gael cyfle i ddadlau dros ein gwelliannau, gwelliannau'r Ceidwadwyr Cymreig, gan ofyn yn gyntaf am mea culpa gan Lywodraeth Cymru ac ymddiheuriad i fy etholwyr. Maent yn gwybod yn well na neb am y diffygion o gael bwrdd iechyd mewn argyfwng, gyda'r amseroedd aros gwaethaf yn y DU. Mae'r bwrdd iechyd wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig a monitro estynedig am y rhan fwyaf o 11 mlynedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod heb lwyddo i fynd i'r afael â'r problemau sy'n ei felltithio.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi nodi sut y byddem yn datrys y problemau hyn, gan ddechrau gyda datgan argyfwng iechyd. Pleidleisiodd Llafur yn erbyn ein cynnig i wneud hyn y llynedd. Ond mae awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru yn cytuno â ni. Bythefnos yn ôl, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yr ail awdurdod lleol yng ngogledd Cymru i ddatgan argyfwng iechyd, ar ôl i Gyngor Sir Ddinbych wneud hynny ym mis Tachwedd. Ac i ddod â rhywfaint o realiti gwleidyddol i mewn i hynny, fe bleidleisiodd cyfran uchel o gynghorwyr Llafur dros hynny, ac mae Cyngor Sir Ddinbych yn cael ei redeg gan Lafur, felly rwy'n sicr yn nodi wrth Ysgrifennydd y Cabinet mai eich plaid chi eich hun sy'n teimlo fel hyn, felly mae'n siarad cyfrolau yn hynny o beth. Felly, gall cynghorwyr gogledd Cymru weld ar lawr gwlad fod y gwasanaeth iechyd yn dihoeni ac mae angen camau llym i'w drwsio, ond mae gwleidyddion Llafur ym Mae Caerdydd yn hapus i droi llygad dall rhag cael eu gweld yn cydnabod mai nhw sy'n gyfrifol am y problemau ym mwrdd Betsi. Maent wedi methu gwella'r sefyllfa yn y tair blynedd ers iddo gael ei ddychwelyd i fesurau arbennig.

Gallai capasiti gwelyau fod wedi cael ei liniaru flynyddoedd yn ôl gan Lywodraeth Cymru pe baent wedi adeiladu'r ysbyty newydd ar safle Royal Alexandra yn y Rhyl. Ond ar ôl mwy na 10 mlynedd o lusgo traed, mae gennym gynllun wedi'i ailbecynnu sydd ar raddfa gryn dipyn yn llai na'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol i drigolion, ac nid yw'r gwaith adeiladu wedi dechrau eto hyd yn oed. Clywais yr Aelod dros Ogledd Cymru yn brolio am hyn yn gynharach yn ei chyfraniad, ond heb unrhyw sicrwydd y byddai'n cael ei gyflawni yn 2026. Fel y dywedais, ni chafwyd rhaw yn y ddaear eto, ac mae fy etholwyr yn hollol iawn i deimlo'n rhwystredig. Mae posibilrwydd eithaf cryf, tra bod cyfran y bleidlais Lafur wedi gostwng 48.5 y cant yng Nghoed-llai, yn sir y Fflint, mewn sedd a ddaliwyd gennych chi o'r blaen—[Torri ar draws.] Felly, gyda'r hanes hwn o gyflawniad, rwy'n tynnu sylw at y realiti gwleidyddol, ac yn edrych ymlaen yn fawr at dynged eich plaid yn sir Ddinbych yn y misoedd nesaf. 'Brysied y dydd,' meddaf i.

Mae adroddiad Archwilio Cymru hefyd yn adrodd stori ddamniol—pethau y gwyddem amdanynt yn bennaf: gwelyau mewn defnydd gan gleifion ffit yn feddygol; gorwariant sy'n tynnu dŵr i'r llygaid; strwythurau arweinyddiaeth ansefydlog; methiant i gyflawni, ymhlith llawer o bryderon eraill. Gostyngodd perfformiad yr adran achosion brys yn erbyn y targed pedair awr rhwng mis Awst 2024 a mis Awst 2025. Gwelsom berfformiad ar ganser yn gostwng yn ystod y 18 mis diwethaf, ac mae amseroedd aros yn parhau i fod yn hirach nag unman arall yng Nghymru. Felly, mae Betsi Cadwaladr yn dal i fethu symud ymlaen fel y dylai, er ei fod mewn mesurau arbennig, ac mae ffordd hir i fynd.

Felly, i gloi, hoffwn ailadrodd cynllun y Ceidwadwyr Cymreig i ddatgan argyfwng iechyd, sicrhau cynnydd mawr i gapasiti gwelyau, sefydlu hybiau llawfeddygol i glirio'r ôl-groniad, adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych, a golygu hynny mewn gwirionedd, a dechrau ymchwiliad i'r methiannau yn Betsi Cadwaladr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ystyried y cynllun hwn a rhaid inni dybio eu bod yn hapus ynghylch y cynnydd malwennaidd a welwn. Ond y peth pwysicaf yr hoffwn ei glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet yw cyfaddefiad mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd, ac ymddiheuriad i fy etholwyr am yr oedi annynol i ofal hanfodol y maent wedi gorfod ei ddioddef am lawer gormod o amser. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. O'r 12 mlynedd a hanner dwi wedi cynrychioli Ynys Môn yn fan hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod mewn rhyw fath o fesurau arbennig mewn wyth mlynedd a hanner o'r rheini. Ac mae'n werth ychwanegu mai dim ond am resymau gwleidyddol neu etholiadol oedd o ddim mewn mesur arbennig am gyfnod hirach na hynny.

Fel mae nifer wedi cyfeirio ato fo'n barod, ac fel dwi'n ei brofi drwy'r gwaith achos mae fy swyddfa i yn parhau i'w dderbyn yn gyson, mae yna effaith go iawn ar bobl, ar deuluoedd pan mae gwasanaeth iechyd yn tanberfformio. Mae pobl yn gorfod, ie, aros yn rhy hir am driniaeth, yn enwedig mewn rhai meysydd arbenigedd. Mae colled gwasanaethau arbenigol yn golygu mwy o deithio am driniaeth. Mae diffyg argaeledd gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn creu problemau neilltuol yn y llefydd hynny. A dŷn ni'n gweld effaith arafwch wrth wneud penderfyniadau, arafwch wrth wneud buddsoddiadau allweddol mewn gwasanaethau ac isadeiledd, fel yr hwb iechyd yng Nghaergybi, rhywbeth dŷn ni wir ei angen, ond lle does yna'n dal ddim achos busnes llawn yn ei le, dros chwe blynedd ar ôl i argyfwng mewn gofal sylfaenol yn y dre ddod i'r amlwg.

Ond y tu hwnt i hynny, dwi'n ofni bod y problemau sy'n bodoli yn Betsi Cadwaladr yn ddyfnach na dim ond safon y gwasanaeth o ddydd i ddydd erbyn hyn. Mae o'n teimlo i fi fel mater o hyder neu, i fod yn fanwl gywir, o ddiffyg hyder ymhlith cleifion ac ymhlith staff, ymhob haen o'r sefydliad, fod pethau am newid am y gorau o dan warchodaeth y Llywodraeth bresennol.

Mae gen i barch gwirioneddol at y staff hynny, a dwi'n gwybod bod hynny'n wir ar bob lefel. Dwi'n gwybod bod yr uwchreolwyr yn awchu i weld cornel yn cael ei throi hefyd. Ond y gwir amdani ydy fod Llafur wedi cael bron i 27 mlynedd i drio creu'r amgylchiadau i greu gwasanaeth safonol, sefydlog, cynaliadwy yn y gogledd, ac maen nhw wedi methu, a dirywio mae'r ddarpariaeth wedi gwneud yn y cyfnod hwnnw.

Ond fel mae'r cynnig heddiw yma yn ei nodi, mae yna ffordd ymlaen dwi'n credu fyddai'n cynnig gobaith o ddyfodol gwell i'r bwrdd iechyd, cyfle i droi cornel go iawn. Wrth gwrs, beth dŷn ni'n chwilio amdano fo ydy, drwy hynny, ganlyniadau gwell i'r cleifion ac i staff yn y byr a'r hirdymor. Mi fyddai cynlluniau Plaid Cymru i sefydlu rhwydwaith o ganolfannau llawfeddygaeth yn mynd i'r afael â rhestrau aros sydd wedi tyfu cymaint yng ngogledd Cymru dros y blynyddoedd. Mi fyddai'n cynlluniau ni i sefydlu rhaglen delefeddygaeth cenedlaethol yn sicrhau bod pobl o gymunedau gwledig ddim yn colli allan ar y gofal gorau dim ond oherwydd ble maen nhw'n digwydd byw. Mi fyddai'r ffordd y gwnawn ni weithredu ar argymhellion ein hadroddiad ni ar system iechyd Cymru yn arwain at wella llywodraethiant, gwella atebolrwydd a gweithio mewn partneriaeth ar draws byrddau iechyd yn y tymor hir. Ond yn fwy na dim, efallai, mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd o ddifri yr angen am arweinyddiaeth wleidyddol go iawn wrth ddwyn ein byrddau iechyd i gyfri—peidio ag osgoi heriau, dim claddu pen yn y tywod, ond cymryd camau gweithredu go iawn pan mae problemau'n codi, nid rhoi cic iddyn nhw lawr y ffordd, fel sydd wedi digwydd yn rhy aml.

Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yma yn bleidlais i gefnogi cyfeiriad newydd i Betsi Cadwaladr a llywodraethiant ein byrddau iechyd ni ar draws Cymru. A dwi'n annog pawb yma i gefnogi'r cynnig yma, a hynny er mwyn pawb sy'n gweithio yn Betsi Cadwaladr ac ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac, wrth gwrs, pawb maen nhw'n eu gwasanaethu.

17:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau drwy gydnabod ymroddiad pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng ngogledd Cymru. Maen nhw'n gwneud hynny o dan bwysau mawr, ac mae eu gwaith nhw'n haeddu ein diolch ni i gyd. Mae'n bwysig ein bod ni yn cefnogi ymdrechion y miloedd o staff a'r bwrdd yn adeiladol ac ar y cyd wrth iddyn nhw barhau i wneud gwelliannau i wasanaethau ar draws bwrdd iechyd mwyaf Cymru.

Mae'n iawn ein bod ni yn cydnabod y daith y mae'r bwrdd iechyd arni. Rydyn ni yn cydnabod ac yn dathlu'r gwelliannau. Rydyn ni'n cydnabod, yn sicr, ble mae angen mwy o waith, ac rŷn ni'n agored ac yn dryloyw am yr heriau sy'n parhau. Yn groes i lawer o'r cyfraniadau y prynhawn yma, mae'r sefydliad wedi dod yn bell, ond mae'r cynnydd mewn rhai meysydd yn gymysg, ac mewn meysydd eraill mae heriau sylweddol a phwysig yn parhau.

Dair blynedd yn ôl, galwodd Archwilio Cymru am gamau adferol ar unwaith i fynd i'r afael â'r hyn a ddisgrifiodd fel 'dynamig bwrdd camweithredol'. Mae'r camau hynny wedi'u cymryd. Erbyn hyn, mae'r bwrdd sefydlog ar waith, ac mae'r tîm gweithredol wedi'i gryfhau ymhellach, gyda phrif swyddog gweithredu, cyfarwyddwr meddygol gweithredol a chyfarwyddwr y gweithlu newydd. Dair blynedd yn ôl, roedd diffyg cydlyniad ym mhrosesau llywodraethu corfforaethol a gwneud penderfyniadau. Roedd yr asesiad strwythuredig diwethaf gan Archwilio Cymru yn cydnabod y systemau corfforaethol cryfach o sicrwydd, fframweithiau risg a pherfformiad cliriach a chraffu mwy cydlynol gan y bwrdd.

Mae llywodraethu ariannol wedi gwella drwy gryfhau rheolaethau mewnol a phrosesau archwilio gwell. Cyhoeddodd y bwrdd ymateb am y gwersi a ddysgwyd o faterion cyfrifyddu hanesyddol fis Gorffennaf diwethaf. Mae cyflawni barn archwilio ddiamod gwir a theg ar gyfer y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf yn arwydd o welliant sylweddol.

Ddirprwy Lywydd, darparodd y bwrdd daflwybr diffyg ariannol canol blwyddyn gwell y llynedd, a dangosodd uchelgais pellach drwy gyflwyno cynllun wedi'i fantoli'n ariannol ar gyfer eleni. Mae'n siomedig nad yw wedi gallu cyflawni hyn, ac mae bellach yn rhagweld diffyg o £17.4 miliwn eleni. Mae gwasanaethau digidol yn gwella, ond mae'r llywodraethiant sydd ei angen i gyflawni'r system rheoli gwybodaeth labordy newydd, Mamolaeth Ddigidol Cymru, a systemau gofal dwys Cymru’n parhau i fod yn fregus.

Fel y clywsom yn y ddadl, mae angen canolbwyntio’n barhaus ar ansawdd data hefyd. Mae atal ystadegau amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar gyfer y bwrdd iechyd ym mis Tachwedd oherwydd pryderon ynghylch eu cywirdeb yn tanlinellu’r pwynt hwn wrth gwrs. Ond erbyn hyn, fel y gŵyr yr holl Aelodau, mae’r holl bryderon ynghylch data amseroedd aros wedi’u cywiro ac adrodd wedi ailddechrau y mis diwethaf. Bydd yr adroddiad terfynol gan y tîm adolygu allanol yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, a byddaf hefyd yn cyhoeddi’r trydydd adroddiad blynyddol ar gynnydd mesurau arbennig y mis nesaf.

Ddirprwy Lywydd, bu cynnydd o ran mynediad at ofal wedi'i gynllunio dros y tair blynedd diwethaf. Mae arosiadau hir wedi gostwng 60 y cant ac mae arosiadau dwy flynedd i lawr 81 y cant ar gyfer triniaethau orthopedig, i lawr 54 y cant ar gyfer llawdriniaeth gyffredinol a 65 y cant ar gyfer triniaethau clust, trwyn a gwddf, o ganlyniad i well cynhyrchiant theatr ac allanoli. Mae arosiadau blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol wedi gostwng bron i 60 y cant dros y 12 mis diwethaf i ychydig dros 12,000 ac mae mwy na 45,000 o apwyntiadau penwythnos ychwanegol wedi'u cynnig ers mis Medi y llynedd, gyda mwy na 36,000 o bobl wedi'u gweld. Ond mae pobl yn dal i aros yn rhy hir i gael eu gweld am lawer o wasanaethau, yn enwedig ar gyfer triniaeth canser ac ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng. Rhaid i'r bwrdd iechyd wneud yn well.

Dair blynedd yn ôl, roedd pryderon sylweddol ynghylch ansawdd, ond mae gwelliannau wedi'u gwneud yma hefyd drwy gyflwyno'r polisi materion integredig newydd. Mae diogelwch cleifion wedi gwella drwy ymdrin â digwyddiadau'n well, cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd gonestrwydd a phrosesau adolygu marwolaethau cryfach. Mae nifer yr hysbysiadau atal marwolaethau yn y dyfodol wedi gostwng o 22 yn 2023 i bump yn 2025. Mae'n dal i fod yn ormod, wrth gwrs, ond mae'n welliant. Mae gwasanaethau clinigol yn dangos arwyddion calonogol o welliant mewn gofal mamolaeth, diabetes a gofal yr arennau. Ond er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy mewn canlyniadau, bydd angen buddsoddiad parhaus, modelau gweithlu cryfach ac arweinyddiaeth glinigol fwy cyson. Mae heriau sylweddol yn parhau yn y gwasanaethau fasgwlaidd, strôc, wroleg a chanser. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u cryfhau drwy benodiadau uwch ac mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn ymateb i ganfyddiadau'r adolygiad a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'r bwrdd bellach yn fwy agored a thryloyw.

Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf yr arwyddion gwirioneddol hyn o gynnydd, nid yw perfformiad wedi gwella ar y cyflymder yr hoffwn ei weld ac y mae gan y cyhoedd hawl i'w weld. Rhaid trosi'r sylfeini a osodwyd ar draws gofal brys, gofal wedi'i gynllunio, diagnosteg, mamolaeth a gwasanaethau cymunedol yn welliant gweladwy a pharhaol. I gefnogi hyn, cyflwynais dîm newydd o arbenigwyr i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd, y prif weithredwr a'r bwrdd ei hun, i hybu gwelliannau cyflym mewn meysydd gwasanaeth allweddol. Mae'r llwybr tuag at welliant yn glir. Gyda chapasiti arweinyddiaeth cryfach a chefnogaeth ychwanegol ar waith, mae disgwyliad cadarn o ddarpariaeth gyson a disgybledig ar unwaith.

Mae pobl y gogledd yn haeddu gwasanaeth iechyd sy'n diwallu eu hanghenion ac yn ennyn eu hyder, ac os caf ddweud, yn wahanol i rai o'r cyfraniadau yn y ddadl mae arnaf ofn, maent yn haeddu trafodaeth gyhoeddus sy'n rhoi cleifion o flaen gwleidyddiaeth. Rhaid i arweinyddiaeth y bwrdd iechyd ddangos y ffocws, y gafael a'r brys sydd eu hangen i yrru'r gwelliannau hirddisgwyliedig a chyflawni a chynnal newid ystyrlon.

17:40

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma ar ddarpariaeth iechyd a llywodraethiant y bwrdd iechyd sydd gennym ni yng ngogledd Cymru.

Roedd Peter yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod arweinyddiaeth, ac arweinyddiaeth y Llywodraeth yn benodol, yn allweddol. Mae'n rhywbeth a glywsom dro ar ôl tro. Ac nid oes diben pwyntio bys at unigolion mewn unrhyw fwrdd iechyd os nad yw'r arweinyddiaeth honno'n dod yn uniongyrchol gan y Llywodraeth. A dyna sydd angen i ni ei weld. Rwy'n falch o glywed bod y Ceidwadwyr yn cefnogi llawer o'r hyn rydym wedi'i ddweud ynghylch hybiau llawfeddygol, er enghraifft.

Bu rhywfaint o drafod, rhywfaint o gecru, rhwng y cyn-Aelod Ceidwadol James Evans ac amryw Aelodau Ceidwadol ar yr argyfwng iechyd. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon wedi datgan argyfwng tai, maent wedi datgan argyfwng natur, maent wedi datgan argyfwng hinsawdd ac argyfyngau eraill. Yn sicr, mae yna argyfwng iechyd o ran y materion sy'n codi yng ngogledd Cymru, a dyna pam ein bod yn trafod hyn.

Nawr, rwy'n credu bod cyfraniad James yn ddiddorol. Oherwydd ar y naill law, James, fe ddywedoch chi fod y cynnig yn ymwneud yn benodol â bwrdd Betsi Cadwaladr, yna fe aethoch yn eich blaen i ddweud bod y cynnig yn sôn am bob bwrdd iechyd arall. Felly, ni all fod yn un neu'r llall, mae'n sôn am y ddau beth, mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Ie, James.

[Anghlywadwy.]—mae fy araith o'm blaen ac rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gyda chi wedyn.

Mae hynny'n iawn, ac fe wiriaf y Cofnod, gan mai nodiadau a wneuthum ar y pryd yw'r rhain. Rwy’n eithaf siŵr mai dyna a ddywedoch chi. Serch hynny, buaswn yn awgrymu eich bod yn darllen adroddiad Plaid Cymru, sy'n sôn am lywodraethiant ar draws y GIG cyfan yng Nghymru, a dyna pam y mae angen inni weld newid i'r system yma er mwyn gwella canlyniadau.

Ac mae Llyr yn berffaith gywir: roedd yn frawychus i glywed yr ystadegyn yna roedd Llyr wedi ei roi, sydd yn ein hatgoffa ni o faint yr her sydd yn ein hwynebu, fod cymaint yn fwy o bobl ar restrau aros gennym ni yng Nghymru, yn benodol felly yn Betsi Cadwaladr, na beth sydd dros y ffin yn Lloegr—ac mae Lloegr, wrth gwrs, yn wlad sydd cymaint yn fwy o faint na ni—unwaith eto yn dangos yr angen i fynd i'r afael â hyn ar fyrder.

Rwy'n credu bod Carolyn wedi gwneud cyfraniad pwysig, gan y credaf eich bod chi'n iawn, Carolyn: pan sonioch chi am eich ffrind, neu rywun roeddech chi'n eu hadnabod, a siaradodd â chi am welliant neu awgrymiadau ar gyfer gwelliant, dyna rydym ni wedi sôn amdano yn ein hadroddiad ni. Rydym yn sôn am gomisiynu effeithiol, targedau clir, rhannu data a gwybodaeth yn well. Dyna'n union sydd angen inni ei wneud. Dyna'r hyn rydym ni wedi'i gyflwyno. Dyna'r hyn rydym yn ei drafod heddiw. Felly, gobeithio y gwnewch chi ystyried cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio, fel y mae.

Ar yr un pryd, rydym wedi cyffwrdd â'r problemau ledled Cymru, a chyfeiriodd Delyth at y problemau penodol ym mwrdd Aneurin Bevan a'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r fframwaith angenrheidiol i fwrdd Aneurin Bevan eto iddynt allu cymryd y camau sydd angen iddynt eu cymryd i fynd i'r afael â'r bylchau ariannol sydd ganddynt.

Gareth, rwy'n gwerthfawrogi'r cyfraniad a'ch angerdd wrth ichi wneud eich cyfraniad, ond rwy'n credu—

17:45

Mabon. Mabon, un eiliad. Mae gormod o sgyrsiau'n digwydd o gwmpas y Siambr, a buaswn yn gobeithio y byddai pob un ohonoch yn gwrando ar gyfraniad Mabon wrth iddo gloi'r ddadl. Mabon.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A buaswn yn dweud, gyda'ch cyfraniad chi, Gareth, eu bod yn eiriau dewr iawn gennych ynglŷn â chroesawu'r frwydr wleidyddol, gan nad wyf yn argyhoeddedig fod y Ceidwadwyr mewn sefyllfa i ennill unrhyw frwydrau gwleidyddol, yn y dyfodol agos o leiaf.

[Anghlywadwy.]—roeddech chi ar Gyngor Sir Ddinbych eich hun, fel roeddwn innau cyn dod yn AS; rydych chi'n gwybod yn iawn am y problemau yng ngogledd sir Ddinbych. Fy mhwynt i yw bod gweithredoedd yn siarad drostynt eu hunain yn hynny o beth. Beth bynnag am berfformiad y Ceidwadwyr Cymreig, mae hyn yn fethiant sylfaenol gan y Blaid Lafur, a dyna'r pwynt rwy'n ceisio'i wneud ar hynny.

Diolch. Rwy'n derbyn hynny, ond mae hynny'n nodi'r ffaith bod awdurdodau lleol yn gorfod delio â llawer o'r problemau sy'n deillio o'r problemau sydd gennym yn y gwasanaeth iechyd, am na allant ddod o hyd i'r pecynnau gofal sydd eu hangen ar bobl sy'n gadael ysbytai oherwydd diffyg cydweithrediad rhwng rhai o'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt roeddech chi'n ei wneud, ac rwy'n derbyn hynny.

Ac ar yr un pryd, diolch yn fawr iawn, Rhun. Dwi'n meddwl bod Rhun wedi gwneud y pwynt pwysig yna y mae eisiau inni atgoffa ein hunain ohono drwy'r amser fan hyn, sef, yng nghanol hyn i gyd, mae gennym ni weithlu sydd yn gweithio'n ddiwyd, yn gweithio dan amgylchiadau anodd iawn, a rheini'n weithlu sydd yn borthorion, yn feddygon ac yn rheolwyr ac yn uwch reolwyr sydd oll yn trio gweithio mewn amgylchiadau anodd. Fe ddaru i'r Ysgrifennydd Cabinet wneud y pwynt yna, a dwi'n derbyn ac yn cydnabod y sefyllfa yna, fod yn rhaid diolch am y gwaith hynny, ond ddylen nhw ddim fod yn y sefyllfa anodd yna o orfod gweithio mewn—fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud—amgylchiadau anodd.

Clywsom Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am rai o'r ystadegau mewn perthynas â rhai gwelliannau, ac mae unrhyw welliant i'w groesawu. Ond serch hynny, mae gennym dargedau sy'n cael eu methu dro ar ôl tro ym mwrdd Betsi Cadwaladr, ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwaeth i gleifion. Yn y pen draw, dyma sy'n rhaid i ni ei gofio: fod gennym gleifion, fod gennym bobl, fod gennym anwyliaid—rwy'n byw yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw fy hun—wrth wraidd hyn oll, ac mae angen inni weld canlyniadau gwell er eu mwyn nhw.

Os ydym ni, felly, eisiau gweld cynlluniau i gryfhau atebolrwydd, eisiau cryfhau llais y claf, eisiau gwella safonau, eisiau cyflwyno hybiau triniaeth ar draws yr ardal, eisiau defnydd mwy effeithiol o'r gweithlu, yna mae'n rhaid inni gefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni er mwyn rhoi'r brys angenrheidiol i'r mater yma. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oeddwn, os gwelwch yn dda. Nid wyf wedi gwirio'r cofnod yn llawn, ond credaf fod yr Aelod wedi cyfeirio at sedd a gollwyd yng Nghoed-llai a ddaliwyd gennyf i o'r blaen. Nid wyf wedi dal y sedd honno o'r blaen; roeddwn yn gynghorydd dros Dreuddyn. Nid wyf yn gwybod beth sydd a wnelo hynny â'r ddadl, ac ni ddylai ymosodiadau personol fod yn rhan o'r ddadl. Rwy'n dal i aros am ymddiheuriad am ei ymosodiad blaenorol, y bu'n rhaid ei gywiro ar y cofnod cyhoeddus. Diolch.

Rhaid imi ystyried y pwynt o drefn yn gyntaf, Gareth.

Rydych chi wedi gwneud eich pwynt. Nid wyf yn siŵr a yw'n bwynt o drefn, ond bydd angen imi wirio'r cofnod, yn amlwg, ynglŷn â'r hyn a ddywedodd. Nid ydym yn siŵr o hynny. Edrychais ar-lein; nid yw yno eto. Felly, mae angen inni wirio'r cofnod, iawn. Felly, fe ddown yn ôl atoch ynglŷn â hynny.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Bydd y bleidlais heno ar eitem 7, dadl Plaid Cymru. A galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 11, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.: O blaid: 22, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 2, yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, dau yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.: O blaid: 10, Yn erbyn: 33, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

A galwaf am bleidlais ar welliant 3, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw James Evans.: O blaid: 13, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gafodd eu cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod. A dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni heno.

9. Dadl Fer

Mae eitem 9, y ddadl fer, wedi ei gohirio tan 11 Chwefror.

Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:54.