Y Cyfarfod Llawn
Plenary
20/01/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella hygyrchedd ffyrdd i bobl anabl? OQ63711
Mae ein dull 'Teithio i bawb' yn gwneud i'n rhwydweithiau trafnidiaeth deimlo'n fwy diogel, yn fwy cynhwysol, ac rydym ni'n gwneud ymdrech fawr i gynnwys pobl anabl yn y gwaith o lunio ein polisïau trafnidiaeth yn unol â'n cynllun gweithredu hawliau pobl anabl. Rydyn ni wedi dyrannu symiau sylweddol o arian i helpu awdurdodau lleol i gyflawni camau syml ond effeithiol fel mwy o groesfannau, cyrbiau isel a goleuadau gwell i wneud gwelliannau ar unwaith.
Diolch am yr ateb.
Prif Weinidog, mae llawer o etholwyr wedi ysgrifennu ataf ac wedi dod i mewn i fy ngweld i ynglŷn â'r anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu wrth lywio'r strydoedd, naill ai mewn cadeiriau olwyn neu gyda chadeiriau gwthio, yn enwedig oherwydd parcio ar balmentydd. Mae cerddwyr yn cael eu gorfodi i symud allan ar ffyrdd prysur er mwyn mynd o gwmpas ceir sydd wedi cael eu parcio ar y palmant ac nad ydyn nhw wedi gadael unrhyw le iddyn nhw fynd heibio. Ac, yn amlwg, mae hyn yn arbennig o anodd i ddefnyddwyr cadair olwyn, efallai nad ydyn nhw'n gallu dod o hyd i gyrb isel addas ger y car sydd wedi'i barcio. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthyf pa gynlluniau a allai fod ganddi i gyflwyno gwaharddiad ar barcio ar balmentydd yng Nghymru?
Wel, hoffwn ddiolch i Julie am ei hymrwymiad hirsefydlog i'r mater hwn. Rwy'n credu bod angen i ni gael y cydbwysedd yn iawn, oherwydd mae pobl nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis heblaw parcio o flaen eu cartrefi, ac mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cynnwys. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod llawer o wrando. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl anabl yn gallu mynd heibio ar y palmant—nid pobl anabl yn unig, a dweud y gwir, ond mamau â chadeiriau gwthio hefyd. Felly, rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn bwriadu rhoi pwerau i awdurdodau lleol weithredu yn erbyn achosi rhwystr diangen ar balmentydd ac, yn amlwg, byddwn yn ystyried a ydym ni eisiau mynd ymhellach i fynd i'r afael â'r materion hyn yma.
Prif Weinidog, mae'r mater o barcio ar balmentydd wedi bod yn falltod i'r gymuned pobl anabl ers blynyddoedd. Bu bron i bedair blynedd ers i grŵp tasglu parcio ar balmentydd Cymru argymell cyflwyno is-ddeddfwriaeth i alluogi camau gorfodi ar barcio ar balmentydd i wneud strydoedd yn ddiogel i bobl anabl. Bu bron i dair blynedd ers i Lywodraeth Cymru ymrwymo i newid y gyfraith. Prif Weinidog, mae pobl anabl wedi cael llond bol o aros. A wnewch chi ymrwymo nawr i gyflwyno'r newidiadau hyn cyn yr etholiad?
Dydw i ddim yn meddwl bod gennym ni amser cyn yr etholiad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, fodd bynnag, bod yna ymgynghoriad ar ganllawiau teithio llesol, sydd ar agor tan 13 Chwefror, ac mae hynny'n cynnwys ffyrdd o wneud strydoedd yn fwy diogel, ac rydym yn gweithio gyda phobl anabl i lunio'r canllawiau hynny.
Prif Weinidog, mae Llafur wedi cael 26 mlynedd faith i weithio gyda chynghorau i wella hygyrchedd i bobl anabl, 26 mlynedd faith i weithio gyda chynghorau i sicrhau bod safleoedd bws yn cael eu gwella, i sicrhau mynediad diogel i bawb, 26 mlynedd faith i ddarparu gwelliannau gweledol, clyw, echddygol neu wybyddol i bobl deithio'n ddiogel ac yn annibynnol, fel y gorchmynnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a 26 mlynedd i sicrhau bod ein gorsafoedd rheilffordd yn gwbl hygyrch i'r rhai ag anableddau. Ond rydych chi wedi methu o ran bob un ohonyn nhw. Yn fy ardal i, nid oes gan orsaf reilffordd Cas-gwent lifft na mynediad di-risiau, sy'n golygu bod yn rhaid i drigolion anabl deithio i Loegr ac yna yn ôl i Gymru er mwyn dod oddi ar y trên yng Nghas-gwent. Mae hyn yn fethiant llwyr gan eich Llywodraeth ac nid yw'n iawn. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ba sgyrsiau y mae hi neu ei Llywodraeth yn eu cael gyda Network Rail i unioni'r sefyllfa hon? Mae fy etholwyr yn sir Fynwy wedi dioddef yn ddigon hir, ac mae hyn yn niweidiol i dwristiaeth yn fy sir enedigol. Diolch.
Wel, mae hyn yn newydd, on'd yw e', clywed Reform, o'r holl bleidiau, yn sôn am gydraddoldeb. Mae hynny'n ymadawiad newydd. Edrychwch, rwy'n credu bod pethau'n llawer gwell nag y maen nhw wedi bod yn y gorffennol o ran anabledd. Rydyn ni wedi datblygu cynllun cynhwysfawr iawn o ran anabledd—y cynllun gweithredu anabledd. Mae'n nodi'n union ble'r ydym ni'n bwriadu mynd nesaf, i ategu'r gwaith trawsnewidiol sydd eisoes yn cael ei wneud yn y meysydd rheilffordd lle mae gennym ni gyfrifoldeb, ar y safleoedd bysiau lle mae gennym ni gyfrifoldeb. Mae yna feysydd lle nad ydym yn gyfrifol, sy'n anoddach i ni. Ond, lle mae gennym ni gyfrifoldeb, gallaf eich sicrhau chi ein bod ni'n gweithio'n agos iawn gyda phobl anabl i wneud yn siŵr ein bod ni'n llunio system sy'n gweithio iddyn nhw.
Diolch yn fawr i Julie Morgan am godi'r mater pwysig yma. Yn ddiweddar, fe welais i berson dall yn cerdded lawr Cowbridge Road East, a sylwi, wrth iddi fynd â'r ffon wen, gymaint o rwystrau a oedd yn ei hwynebu. Un o'r rheini oedd ceir wedi eu parcio ar y palmant. Nawr, dyw hwn ddim yn beth newydd. Nôl yn 2019, fe wnaeth Lee Waters sefydlu tasglu i ddelio â'r mater yma. Fe gyhoeddwyd adroddiad yn Hydref 2020, â'r nod o ddechrau cosbi yng Ngorffennaf 2022. Ar ddechrau Ionawr 2023, fe gyhoeddodd y Llywodraeth eu bod nhw wedi derbyn pob un o argymhellion y tasglu, â'r bwriad o gyflwyno deddfwriaeth erbyn diwedd 2023.
Nawr, dwi'n gwybod ei fod e'n gymhleth, a dwi'n gwybod bod yna dai, er enghraifft, yng Nghaerdydd, ble nad oes modd parcio ar y stryd, dim ond ar y palmant. Ond mae e wedi gweithio yn yr Alban. Llwyddodd y Llywodraeth yn yr Alban i gyflwyno a chytuno ar ddeddfwriaeth yn gwahardd parcio ar y stryd o fewn chwe mis yn 2019. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn gweithio yng Nghaeredin. Brif Weinidog, chwe mlynedd yn ddiweddarach, pam mae pobl fel y person dall ar Cowbridge Road yn dal i ddioddef? Diolch yn fawr.
Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn sensitif i bobl sydd yn ei ffeindio hi'n anodd i fynd ar y palmentydd, ac nid yn unig pobl sydd ag anabledd, ond hefyd famau â phramiau a phethau. [Torri ar draws.] A thadau—fair enough. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cymryd hynny mewn i ystyriaeth. Ond, fel rŷch chi'n dweud, mae yna strydoedd lle nad yw hi'n bosib i wneud unrhyw beth ond parcio ar y palmentydd. Felly, mae'n rhaid cael y balans yna'n iawn, a dwi'n meddwl mai dyna beth sydd angen edrych arno yn y dyfodol.
2. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at sicrhau datganoli cyllid rheilffyrdd o Lywodraeth y DU? OQ63705
O gymharu â'r Llywodraeth Dorïaidd flaenorol, rydyn ni wedi sicrhau cyllid ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y DU. Ond rydyn ni'n eglur iawn ein bod ni'n disgwyl iddyn nhw fynd ymhellach a'n bod ni eisiau derbyn ein cyfran deg o gyllid. O ran datganoli rheilffyrdd, mae ein safbwynt yn dal i fod yr un fath: rydyn ni eisiau gweld hyn yn digwydd, ond byddai datganoli rheilffyrdd heb fuddsoddiad enfawr i wneud iawn am y blynyddoedd o danariannu, am dros ddegawd o dan y Torïaid, yn arwain i ni orfod gostwng cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel ysbytai ac ysgolion, a dydyn ni ddim yn barod i wneud hynny.
Wrth gwrs, mae'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn ddyledus i ni. Mor aml yn y siambr hon, Prif Weinidog, mae Aelodau'n cael eu beirniadu am ofyn am fwy i Gymru—mwy nag y gallwn ni ei fforddio, mae'n debyg. Mae biliynau yn ddyledus i Gymru o linell cyflymder uchel 2. Mae biliynau yn ddyledus i ni gan San Steffan nid yn unig oherwydd HS2, ond rheilffordd Rhydychen i Gaergrawnt a Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr. Mae'r prosiectau hyn yn Lloegr wedi cael eu dynodi fel rhai 'Cymru a Lloegr'. Ni fydd modfedd o'r traciau hyn yng Nghymru, ac eto rydym ni'n helpu i dalu'r bil tra bod ein rheilffyrdd ni yn mynd heb yr arian hwnnw. Meddyliwch am yr holl orsafoedd y gallem ni eu hailagor pe bai gennym ni'r arian sy'n ddyledus i ni—pethau yr wyf i wedi galw amdanyn nhw, pethau y mae Aelodau eraill wedi galw amdanyn nhw: ailagor rheilffordd Nelson i Ystrad Mynach, y gangen i Abertyleri. Bydd enghreifftiau ar draws ein cenedl lle gallai cymunedau fod wedi'u cysylltu'n well gyda'r biliynau hynny. Ffeithiau yw'r rheini; nid safbwyntiau ydyn nhw. Felly, beth wnewch chi, os gwelwch yn dda, yn wythnosau olaf y Senedd hon, i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i roi terfyn ar y gwarth hwn, oherwydd mae pobl Cymru yn haeddu'r hyn sy'n ddyledus i ni?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, ac rwyf i wedi cydnabod dro ar ôl tro, y tanariannu—y tanariannu cywilyddus—sydd wedi digwydd o ran seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Roedd yn wael iawn. Fe'i gadawyd i ddirywio o dan y Torïaid am dros ddegawd, ac mae'n mynd i gymryd amser i'w adeiladu yn ôl. Nawr, yr hyn nad wyf i'n barod i'w wneud yw eistedd o'r neilltu ac aros a dweud, 'Dewch, rhowch y seilwaith yna i ni mewn cyflwr mor wael'. Rwyf i eisiau arian. Rwyf i eisiau arian gan Lywodraeth Lafur y DU. Rwyf i eisiau arian sy'n dechrau dod, ond mae ar y cychwyn. A wyf i eisiau mwy? Heb os nac oni bai rwyf i eisiau mwy. A wnaf i ofyn am fwy? Heb os nac oni bai fe wnaf i ofyn am fwy. Mae hyn yn rhywbeth sy'n sylfaenol. Mae yna annhegwch yn y system. Mae pawb yn cydnabod hynny. Rwyf i eisiau i Lywodraeth y DU fynd ymhellach, a byddaf yn pwyso arnyn nhw i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud hynny.
Yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed yn y cwestiwn gan Blaid Cymru eto yw eu hobsesiwn gyda'r trefniadau cyfansoddiadol, yn hytrach na chyflawni dros bobl Cymru. Ac un o'r pethau hynny y gellid eu cyflawni, Prif Weinidog, dros bobl Cymru, o ran trafnidiaeth yma yng Nghymru, yw bod y Blaid Geidwadol wedi ymrwymo i £1 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Pan ddaeth Llafur i rym, fe wnaethon nhw benderfynu diddymu hynny ar unwaith, sy'n ofnadwy i bobl y gogledd. Felly, Prif Weinidog, beth ydych chi'n ei wneud i geisio cael y £1 biliwn hwnnw wedi'i ail-fuddsoddi yn ôl ym mhrif reilffordd gogledd Cymru, fel y gallwn ni weld y rheilffordd honno yn cael ei thrydaneiddio?
Edrychwch, y cwbl wnaeth eich plaid chi oedd cyhoeddiadau ac nid oedd unrhyw sylwedd yn sail iddyn nhw o gwbl. Rydyn ni'n gwybod hynny. Gofynnwch i bobl Abertawe, yr addawyd trydaneiddio iddyn nhw. A ddigwyddodd hynny? Ni ddaeth erioed. Yr un peth o dan drydaneiddio gogledd Cymru. Ond o dan Lywodraeth y DU—. A gwrandewch, dydw i ddim yn mynd i sefyll yma bob wythnos a'u hamddiffyn nhw; nid fy nghyfrifoldeb i yw hynny. Fe wnaf i amddiffyn fy Llywodraeth i, ond nid fy nghyfrifoldeb i yw amddiffyn y Llywodraeth honno bob wythnos. Datganoli yw hyn ac fe wnaf i ymateb i fy nghyfrifoldebau i. Rwy'n gobeithio bod pobl yn gwrando ac yn gwylio ac yn cydnabod lle mae'r cyfrifoldebau wedi'u lleoli, oherwydd, fe ddywedaf i wrthych chi beth, lle mae gennym ni gyfrifoldeb o dan reilffyrdd, rydym ni'n llwyddiannus iawn: mae 86 y cant o bobl ar linellau'r Cymoedd yn deithwyr bodlon, mae 89 y cant o drenau yn cyrraedd o fewn tri munud, y rhwydwaith sy'n perfformio orau o ran prydlondeb yn y Deyrnas Unedig. Fe wnaf i amddiffyn fy record. Mater i Lywodraeth y DU yw amddiffyn eu record nhw.
Mae datganoli seilwaith rheilffyrdd, wrth gwrs, yn rheidrwydd brys. Mae hanes dau gwm yn fy etholaeth newydd i, yr wyf i'n gobeithio ei chynrychioli ar ôl yr etholiad: yn gyntaf oll, yng nghwm Rhymni, lle mae'r llinell wedi'i datganoli ac y bu ail-fuddsoddi, mewn trydaneiddio ac mewn cerbydau newydd, ac yn natblygiad y metro; ac yna llinell Glynebwy, yr wyf i'n ei gynrychioli ar hyn o bryd, nad yw wedi cael y buddsoddiad hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn ac wedi darparu benthyciadau i Flaenau Gwent i alluogi rheilffordd cwm Ebwy i ddal i fyny â rheilffyrdd datganoledig eraill lle'r ydym ni'n gweld y buddsoddiad hwnnw. Felly, mae hwn yn rheidrwydd brys i bobl ac mae'n ymwneud â thegwch. Mae'n ymwneud â chydraddoldeb—cydraddoldeb i Gymru yn y Deyrnas Unedig. Mae'n iawn ac yn briodol bod Cymru yn derbyn yr un lefel o fuddsoddiad mewn rheilffyrdd â Lloegr, â'r Alban, â Gogledd Iwerddon, ac rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n digwydd. Rydym ni'n gwybod nad yw wedi digwydd yn hanesyddol, rydym ni'n gwybod nad yw'n digwydd heddiw. Mae gan y Llywodraeth hon ymrwymiad i ddatganoli seilwaith rheilffyrdd ac mae'n bryd i hynny gael ei gyflawni. Diolch.
Rydyn ni'n Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i ddatganoli seilwaith rheilffyrdd. Rydyn ni wedi dweud hynny dro ar ôl tro. Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod ni'n cydnabod, os ydym ni eisiau hynny, bod yr arian yn dilyn, oherwydd os yw hynny gennych chi heb yr arian, rydych chi'n paratoi eich hun ar gyfer trychineb. A gadewch i mi fod yn eglur y gwnaf i barhau i wthio Llywodraeth y DU ar hyn. Mae'r cytundeb yr ydym ni wedi ei gael hyd yma yn welliant ar yr hyn a oedd yno'n flaenorol, ond mae angen iddo fynd llawer ymhellach.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall cleifion canser yng Nghymru gael mynediad prydlon at y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw?
Wel, rydyn ni wedi datblygu cynllun canser cynhwysfawr iawn ar gyfer Cymru. Mae'r ystadegau'n gwella. Bu gwelliannau ar draws llawer o fyrddau iechyd, yn enwedig ers y pandemig, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld bod pobl yng Nghymru yn cael y driniaeth y maen nhw'n ei haeddu.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond nid yw cynlluniau sy'n eistedd ar silffoedd yn casglu llwch yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. Fel yr ydych chi a fi'n gwybod, mae triniaeth brydlon yn bwysig iawn i gleifion i sicrhau'r canlyniad gorau posibl iddyn nhw os ydyn nhw wedi cael diagnosis o ganser. Ac eto, nid yw eich targedau ar gyfer dechrau triniaeth canser yng Nghymru yn cael eu bodloni o hyd, ac mae hyn bedair blynedd ers eu cyflwyno. A dweud y gwir, dydy pedwar o bob 10 claf—pedwar o bob 10 claf—ddim yn dechrau eu triniaeth o fewn y targed 62 diwrnod o'r amheuaeth gyntaf o ganser. Y targed, wrth gwrs, yw 75 y cant yn gallu dechrau eu triniaeth. Gadewch i mi roi enghraifft i chi o ŵr yn fy etholaeth fy hun. Cafodd ddiagnosis o ganser y prostad. Aeth i weld ei feddyg teulu yn ôl ym mis Mawrth y llynedd. Roedd hi'n 158 diwrnod o'r adeg honno tan iddo gael y llawdriniaeth yr oedd ei angen arno. Cafodd y llawdriniaeth honno ym mis Awst. Roedd yn cael ei fonitro gan weithwyr iechyd proffesiynol. Sylwodd y gweithwyr iechyd proffesiynol hynny gynnydd sylweddol—gan ei fod wedi cael diagnosis o ganser y prostad—i'w lefelau PSA ddechrau mis Ionawr. Fe wnaethon nhw ddweud, 'Mae angen i ni eich trin chi, oherwydd mae gennych ganser y prostad ymosodol iawn.' Nid yw wedi dechrau triniaeth eto. Nid yw wedi dechrau triniaeth eto ers cael gwybod hynny. Pam? Oherwydd bod y bwrdd iechyd mewn cythrwfl llwyr o dan eich goruchwyliaeth chi. Mae mewn mesurau arbennig. Mae wedi gwneud llanast o'r sefyllfa o ran mynediad at sganiau PET, sef yr hyn sydd ei angen arno cyn y gall gael y cynllun triniaeth wedi'i drefnu. A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw eich neges i'r gŵr hwn a'r bobl niferus eraill tebyg iddo ledled Cymru nad ydyn nhw'n cael mynediad at y driniaeth yn yr amser y mae eich Llywodraeth yn ei osod fel targed?
Wel, mae hwnnw'n gyfnod annerbyniol o amser i aros, ac rwyf i'n mynd i'ch annog i gysylltu â'r Ysgrifennydd iechyd i fynd i'r afael â'r achos unigol penodol hwnnw.
Edrychwch, rydyn ni wedi rhoi swm sylweddol o gyllid ychwanegol i'r GIG yng Nghymru. Rydym ni'n gwario 12 y cant yn fwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Mae hynny'n uwch na'r Alban, yn uwch na Lloegr ac yn uwch na Gogledd Iwerddon. 19 wythnos yw'r amser aros cyfartalog cyffredinol yn y GIG yng Nghymru am driniaeth, felly rydym ni'n gweld gwelliant o ran ystadegau yn ymwneud ag iechyd.
Rydych chi'n dweud eich bod chi'n gwario 12 y cant yn fwy fesul claf yng Nghymru na dros y ffin yn Lloegr, ond rydych chi'n derbyn gan Lywodraeth y DU, drwy'r grant bloc, 20 y cant yn fwy, ac rydych chi'n dewis peidio â buddsoddi hwnnw yn ein gwasanaeth iechyd. Nawr, un o'r pethau eraill y mae cleifion canser, a chleifion canser y prostad yn arbennig, yn dweud wrthyf i amdano yw'r mynediad annigonol at gyffuriau chwalu canser modern. Rydyn ni wedi galw ers blynyddoedd lawer bellach am gronfa cyffuriau canser benodol yng Nghymru i alluogi cleifion canser i gael mynediad at gyffuriau arloesol pan fydd eu hangen arnyn nhw. Nawr, dros y ffin yn Lloegr, cafodd dioddefwyr canser yno, dioddefwyr canser y prostad, newyddion da iawn yr wythnos diwethaf gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi cytuno y bydd abiraterone ar gael i'r rhai sy'n dioddef o ganser y prostad. Bydd tua 9,000 o ddynion ar draws y ffin yn Lloegr yn elwa o'r cyffur hwnnw, a bydd yn rhoi gwell siawns iddyn nhw gael bywyd hirach gyda'r canser y maen nhw'n dioddef ohono. Nid oes gan gleifion yng Nghymru, fel yr wyf i'n ei ddeall, fynediad at y cyffur hwn. A allwch chi ddweud wrthym ni pryd y byddan nhw'n cael mynediad, neu a ydych chi'n mynd i ganiatáu i'r loteri cod post hon barhau i fodoli?
Rwy'n falch iawn bod gennym ni gronfa driniaeth newydd yng Nghymru. Mae'n eithriadol o lwyddiannus. Mae'n golygu bod pobl yn cael mynediad at gyffuriau yn llawer cyflymach. Byddwch wedi gweld ar y teledu yr wythnos diwethaf bod pobl yn Lloegr wedi bod yn aros am gyffuriau'r prostad ers dwy flynedd. Maen nhw wedi eu cael nhw yng Nghymru yn llawer cyflymach na hynny. Felly, ceir enghreifftiau lle'r ydym ni'n gwneud pethau ychydig yn wahanol. Ond mae gennym ni'r gronfa driniaeth newydd honno, sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau buddsoddi mewn iechyd. Rydych chi eisiau cyflwyno cymorth i bobl â'r tai mwyaf yng Nghymru. Dyna wnaethoch chi ofyn amdano yn y gyllideb. Gadewch i mi fod yn eglur ein bod ni'n canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Byddwn yn awgrymu eich bod chi'n gwneud yr un peth. Byddwn yn awgrymu eich bod chi'n meddwl am—. Mae canser, wrth gwrs, a'r GIG yn bwysig, ond roeddech chi eisiau rhoi'r arian nid i'r GIG ond ym mhocedi'r bobl sydd â'r cartrefi mwyaf yng Nghymru. Dyna oedd eich prif gais, Darren, yn y gyllideb.
Gadewch i mi ddweud fy mod i'n credu y dylech chi fod yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd ar eich meinciau cefn eich hun ar hyn o bryd. Mae bradwyr ar y teledu. Mae bradwyr yn eich plaid eich hun. Mae mwy o ymladd mewnol yn eich plaid chi nag yn y teulu Beckham. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod bod cyfnod o aflonyddwch. Dylem ni fod yn canolbwyntio ar y pethau sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru. Y gwasanaeth iechyd yw hwnnw. Rydym ni'n rhoi mwy o arian iddo. Roeddech chi eisiau ei roi ym mhocedi'r bobl sydd â'r tai mwyaf yng Nghymru.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Yng ngoleuni'r newyddion bod James Evans wedi colli'r chwip Ceidwadol am fflyrtio gyda phlaid y gwnaeth ei alw ar un adeg yn 'annifrifol', â rhethreg 'beryglus', edrychaf ymlaen at gymryd fy lle fel yr arweinydd gwrthblaid cyntaf i ofyn cwestiynau yr wythnos nesaf.
Nawr, Llywydd, yn yr ymosodiadau coch-ar-goch diweddaraf, mae'r Prif Weinidog wedi honni na fu gan yr Ysgrifennydd cyllid ddiddordeb yn yr economi erioed—cryn ddatganiad, o gofio bod y Brif Weinidog honno yn gyfrifol, tan yn ddiweddar, am economi Cymru. Fel erioed, rwy'n ddiolchgar iddi, wrth gwrs, am fy helpu i danlinellu lle mae Llafur wedi colli ei ffordd, ond, a bod yn onest, mae gen i lai o ddiddordeb yn yr hyn y mae hi'n ei feddwl am ei chydweithwyr a mwy o ddiddordeb yn yr hyn y mae wedi ei wneud ei hun. Pan safodd i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn 2018, addawodd mai'r economi fyddai ei blaenoriaeth. A yw'n cofio beth oedd yn ei phrosbectws bryd hynny a faint o'r syniadau hynny mae hi wedi eu rhoi ar waith nawr ei bod wedi cael y cyfle i wneud hynny?
Wel, rydym ni o ddifrif am yr economi. Mae mwy o bobl yn cael eu cyflogi yng Nghymru heddiw nag oedd y llynedd. Rydych chi wedi gweld cyfraddau llog yn gostwng, rydych chi wedi gweld morgeisi yn gostwng, rydych chi wedi gweld busnesau sy'n gallu buddsoddi mwy oherwydd y morgeisi rhatach hynny, rydych chi wedi gweld chwyddiant yn gostwng, rydych chi wedi gweld biliau ynni yn is. Fe ddywedaf i wrthych chi beth mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud: 46,000 o swyddi. Dyna'r hyn yr ydym ni wedi helpu i'w gynhyrchu. Un o'r pethau allweddol ers i mi ddod yn Brif Weinidog oedd yr uwchgynhadledd fuddsoddi honno—£16 biliwn o fuddsoddiad, 100,000 o brentisiaid yn y tymor Senedd hwn, 100,000 cyn hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod, yn enwedig ar yr adeg ddifrifol ac anodd iawn hon, pan fo gennym ni aflonyddwch yn rhyngwladol, bod yr economi yn bwysig mewn gwirionedd. Rydyn ni wedi gweld Trump yn bygwth yr Ynys Las yr wythnos hon ac yn bygwth ein gwlad ni. Mae ein gwlad ni wedi ei chynnwys yn hyn. Mae yna 1,000 o gwmnïau sy'n allforio i'r Unol Daleithiau. Os byddan nhw'n cael tariffau mwy, yna bydd effaith ar swyddi yn y wlad hon, ac mae'n bwysig ein bod ni'n sefyll yn gadarn o ran ein rhwymedigaethau rhyngwladol, ein bod ni'n parchu cyfraith ryngwladol a'n bod ni'n gofyn i'r bobl sy'n gynghreiriaid i ni i wneud yr un fath.
Fe wnaf i ddweud wrthych chi beth mae busnesau yn ei ddweud wrthyf i bob dydd: maen nhw'n dweud eu bod nhw mewn angen taer am gyfeiriad newydd ac arweinyddiaeth newydd. Gadewch i mi roi blas i chi o'r hyn a addawodd y Brif Weinidog hon—dim ond un neu ddau o bethau. Addawodd Weinidog cynhyrchiant a chorff hyd braich newydd yn canolbwyntio ar fewnfuddsoddi ac allforio. Nid yw'r naill na'r llall o'r syniadau hynny ar yr economi wedi cael eu gwireddu, wrth gwrs. Rwy'n siŵr y byddai'r Ysgrifennydd cyllid yn gweld yr eironi yn y fan honno. Yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed gan y Prif Weinidog yw croeso pendant i gronfa twf lleol Llywodraeth Lafur y DU, er ei bod yn werth llai i Gymru na'i ragflaenydd o dan y Ceidwadwyr. Nawr, ar ei galwad am y corff mewnfuddsoddi ac allforio hyd braich hwnnw, nid yw mor feiddgar â chynllun Plaid Cymru ar gyfer asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd, ond byddai wedi bod yn gychwyn. Y broblem yw: ble mae ef? Nawr, yn ystod 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru, byddwn yn cyflwyno ein cylch gwaith ar gyfer yr asiantaeth ddatblygu newydd, gan fynd ati ar unwaith i greu swyddi, helpu busnesau i dyfu, i greu ffyniant newydd, oherwydd, pan fyddaf i'n dweud y gwnaf i wneud rhywbeth mewn Llywodraeth, rwy'n ei olygu. Pam nad yw'r Prif Weinidog?
Wel, fel wnes i gynhyrchu'r uwchgynhadledd fuddsoddi fwyaf y mae'r wlad hon wedi ei gweld erioed. Cyflawni yw hynny. Roeddem ni'n siarad am gynhyrchiant yno. Dyna fu un o'r meysydd allweddol yr wyf i'n gwybod y mae Ysgrifennydd yr economi wedi ei ysgogi. Rydyn ni wedi gweld bod masnach yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol. Rydym ni'n cefnogi'r cenadaethau masnach hynny. Mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei gefnogi gan ein swyddfeydd ledled y byd, swyddfeydd y mae Reform a'r Torïaid eisiau eu cau. A gadewch i ni beidio ag anghofio, dim ond o ran yr Unol Daleithiau, bod £4.6 biliwn o gyllid ynghlwm â'n masnach gyda'r Unol Daleithiau.
Mae'n ddrwg gen i, ond y cwbl yr ydym ni wedi ei weld o dan Lywodraethau Llafur yw diffyg twf. Mae'n rhaid i hynny ddod i ben. A'r gwir amdani yw bod Llafur wedi bod yn cuddio y tu ôl i roi'r bai ar y Torïaid ers degawd a mwy, ac nawr nad oes ganddyn nhw fwy o hyblygrwydd, beth yw esgus y Prif Weinidog? Mae'n awgrymu bod y Prif Weinidog blaenorol yn anghywir wrth ganolbwyntio gormod ar fynd i'r afael â thlodi. Prin y gallaf i gredu fy mod i'n dweud hynny: arweinydd Llafur yn dweud y dylai'r pwyslais symud oddi wrth mynd i'r afael â thlodi. Nid yw'n fater o naill ai/neu, ac mae tlodi plant yn syfrdanol o uchel o dan Lafur. Mae Plaid Cymru yn benderfynol o fynd i'r afael ag ef ac ailadeiladu ein heconomi, oherwydd, ar y llaw arall, er bod y Brif Weinidog bresennol yn awgrymu ei bod wedi bod yn iawn i ganolbwyntio ar dwf a chreu swyddi, mae ein lefelau cyfoeth yn dal i fod mor bell y tu ôl i weddill y DU—cynnyrch domestig gros y pen yn llai na thri chwarter cyfartaledd y DU—onid yw'n wir bod y Llywodraeth Lafur wedi methu o'r ddau safbwynt?
Wel, mae gennych chi ddiddordeb mewn rhoi terfyn ar ddichell mewn gwleidyddiaeth ac rwyf innau hefyd, ac mae awgrymu nad oes gen i ddiddordeb mewn mynd i'r afael â thlodi—. Y rheswm pam rwyf i eisiau gweld twf yn yr economi yng Nghymru yw yn union oherwydd fy mod i eisiau mynd i'r afael â thlodi. A phan fyddwch chi'n gorwedd yn y gwely yn y nos yn breuddwydio am fod yn Brif Weinidog, rwy'n credu bod yn rhaid i chi ofyn rhai cwestiynau i chi'ch hun ynghylch yr economi, hyd yn oed yn eich etholaeth eich hun. Gadewch i ni feddwl am Wylfa a beth mae hynny'n ei olygu: a ydych chi'n mynd i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r nifer fwyaf posibl o swyddi yn Wylfa, neu a fyddai cydweithredu yn gam yn rhy bell? A ydych chi'n mynd i adeiladu trydedd bont ar draws afon Menai? Os felly, faint mae'n mynd i'w gostio? [Torri ar draws.] Faint mae'n mynd i'w gostio? O, felly rydych chi'n mynd i ailgyflwyno pont ar draws afon Menai. Faint? Pryd? Dyma'r cwestiynau y bydd yn rhaid i chi ddechrau eu hateb. Nid ydych chi'n hoffi'r pwysau, ond dyna'r gêm newydd sydd ohoni. Bydd yn rhaid i chi ddechrau ateb cwestiynau y mae'r cyhoedd eisiau atebion iddyn nhw.
Ac o ran ynni adnewyddadwy, cawsom newyddion gwych am gynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn y gogledd a sir Benfro yr wythnos diwethaf. A ydych chi'n mynd i gefnogi'r seilwaith sy'n angenrheidiol i wneud y rhain yn realiti? Dyna'r cwestiynau y mae pobl Cymru eisiau atebion iddyn nhw o ran yr economi yng Nghymru. Gallwch chi ei gyfleu ym mha bynnag ffordd yr hoffwch, ond nawr mae'r pwysau arnoch chi: maen nhw eisiau atebion, ac, ar hyn o bryd, dydych chi ddim yn eu rhoi nhw.
Cwestiwn 3, Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a phrynhawn da, Prif Weinidog.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau lletygarwch? OQ63710
Mae tafarndai yn ganolog i gynifer o'n cymunedau ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, os yw pobl eisiau iddyn nhw aros, bod angen iddyn nhw eu defnyddio. Mae'r sector lletygarwch yn hanfodol i economi Cymru, gan gefnogi tua 123,000 o swyddi a chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau lleol ac yn yr economi ymwelwyr. Rydym ni'n cydnabod bod y sector yn wynebu heriau, gan gynnwys costau cynyddol ar gyfer ynni a gostyngiad i nifer y bobl sy'n mynd i dafarndai, felly mae'r Llywodraeth yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig sylweddol, ochr yn ochr â miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad o'n rhaglen Trawsnewid Trefi.
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi yn llygad eich lle; mae'r tafarndai yn hanfodol i'n cymunedau. Ond mae llawer ohonyn nhw'n cau oherwydd y diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni'n gweld yn Lloegr gwahanol ddull o ymdrin â'n tafarndai sydd mewn argyfwng. Mae Canghellor y DU yn paratoi ei hymateb ei hun i'r argyfwng hwn, gan addo gweithio gyda'r sector lletygarwch i gyfyngu ardrethi. Ac eto, yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diddymu rhyddhad ardrethi, er bod y pwysau ar letygarwch yn llawer mwy nag y maen nhw yn Lloegr. Fe wnaeth Gwesty'r Sun, er enghraifft, yn Llansantffraid ym Mhowys, a enwyd yn Dafarndy y Flwyddyn Powys ddwywaith, gau'n barhaol ym mis Tachwedd. Nid oedd hynny gan nad oedd yn cael ei ddefnyddio; roedd yn fusnes teuluol â chwsmeriaid ffyddlon, staff ymroddedig ac enw da iawn. A doedd hynny dal ddim yn ddigon i'w achub.
Mae yna argyfwng gwirioneddol ym maes lletygarwch yma yng Nghymru. Byddwn yn colli ein tafarndai ac felly bydd ein cymunedau a'n pentrefi yn dioddef colled enfawr. Rwyf i a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn mynnu ar newid sylfaenol i ymestyn a gwella cymorth lletygarwch yn barhaol. Felly, a fyddwch chi'n gwneud yr un fath â'r Canghellor yn Lloegr? Diolch yn fawr iawn.
Wel, rwy'n credu ei bod hi'n anghywir awgrymu y bu diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru o ran lletygarwch. A dim ond i roi syniad i chi o raddfa'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ers 2020 rydym ni wedi gwario mwy nag £1 biliwn mewn cymorth ardrethi busnes mewn busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru, sy'n llawer mwy hael nag y bu yn Lloegr. Dim ond i roi syniad o'r hyn sy'n digwydd ar ôl mis Ebrill, bydd o leiaf hanner y tafarndai yng Nghymru yn cael cymorth i dalu eu biliau ardrethi busnes ac ni fydd chwarter ohonyn nhw'n talu unrhyw ardrethi o gwbl. A wnawn ni gymryd camau cyfatebol i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran ardrethi busnes? Wel, allwn ni ddim dweud 'gwnawn' na 'na wnawn' tan eu bod nhw wedi cyhoeddi manylion yr hyn y maen nhw'n mynd i'w wneud a pha un a fyddwn ni'n cael arian canlyniadol.
Prif Weinidog, yr wythnos nesaf, bydd Paul Davies a minnau yn cynnal sesiwn briffio busnes ar gyfer dros 100 o fusnesau o bob rhan o orllewin Cymru sy'n bryderus, yn rhwystredig ac yn ddig am newidiadau i ardrethi busnes. Bydd ardrethi un gwesty lleol yn codi o £10,000 i £33,000. Mae hynny'n gynnydd o 230 y cant.
Nawr, ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn dilyn y tro pedol gan Lywodraeth Lafur y DU ar ardrethi, gan annog Llywodraeth Lafur Cymru i wneud yr un peth. Mae busnesau eisoes yn cau ac mae swyddi eisoes yn cael eu colli, felly a wnewch chi wrando ar y sector a newid trywydd ar hyn ar unwaith, cyn i niwed anadferadwy gael ei wneud i'r sector lletygarwch?
Mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi cynorthwyo busnesau bach ym maes lletygarwch ers blynyddoedd, tra bod cyfraddau llog yn cynyddu'n ofnadwy o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU, gan daro nid yn unig busnesau ond hefyd y rhan fwyaf o deuluoedd hefyd.
A dim ond o ran cymorth busnes, rwyf i wedi nodi y bydd hanner y tafarndai yn cael cymorth i'w helpu i dalu eu biliau ardrethi busnes. Ni fydd chwarter ohonyn nhw'n talu unrhyw ardrethi o gwbl, ac o ran ailbrisio—mae hwnnw'n ddull o gyfrifo faint y dylen nhw ei dalu—rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth nodi mai yng Nghymru, £12,000 yw'r swm canolrifol o ran y gwerth ardrethol ar gyfer tafarn. Mae'n £25,000 yn Lloegr.
Rwyf i yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog o ran os ydym ni eisiau gweld ein tafarndai yn goroesi ac yn ffynnu, yna mae angen i ni eu defnyddio nhw. Y gwir amdani yw bod pobl yn eu defnyddio nhw. Mae pobl yn mynd i'w tafarndai. Maen nhw'n mynd i'w bwytai lleol. Dewch i stryd fawr Pen-y-bont ar Ogwr ac fe welwch chi nhw'n hollol llawn. Ond maen nhw'n dal i gael eu taro gan y costau hynny sy'n eu gwneud nhw, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn anghynaliadwy fel busnesau. Er gwaethaf popeth y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud yn y fan yna am y blynyddoedd o gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu iddyn nhw, maen nhw'n dal i gael eu hunain mewn sefyllfa nawr lle maen nhw'n gofyn y cwestiwn iddyn nhw eu hunain, 'A ydyn nhw'n gallu parhau?'
Mae effeithiau bywyd go iawn rhai o'r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn hawdd eu gweld mewn adroddiad diweddar gan y BBC. Esboniodd James Graham, perchennog tafarn ym Mhort Talbot, y bu'n rhaid iddo ddibynnu ar ei blant i weithio shifftiau, oherwydd nad yw'n gallu fforddio staff. Ac rydym ni'n gweld yr effaith honno yn y farchnad llafur ieuenctid. Mae llawer o bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n chwilio am waith rhan-amser yn dod o hyd i lawer llai o gyfleoedd—y mathau o gyfleoedd y gwnaeth pob un ohonom ni yma, rwy'n credu ei bod hi'n deg i mi ddweud, ddibynnu arnyn nhw ar gyfer ein swyddi cyntaf. Felly, fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog yw: pa fath o neges mae hi'n meddwl ei bod hi'n ei hanfon i'r sector ar hyn o bryd, pan fyddan nhw'n dweud eu bod nhw mewn trafferthion, ond ei bod yn gwbl sicr ei bod yn gwneud digon i'w cynorthwyo?
Wel, gwrandewch, byddwn i wrth fy modd yn gwneud mwy i'w cynorthwyo. Mae hwn yn fater o gydnabod bod cronfa gyfyngedig o arian a phan fydd eich breuddwydion o lywodraethu Cymru wir mewn sefyllfa lle efallai y bydd yn rhaid i chi wynebu rhai o'r gwirioneddau hyn, mae angen i chi gydnabod mewn gwirionedd o ble mae'r arian hwnnw yn mynd i ddod. Nid oes coeden arian hud. Nid dyna sut mae'r system yn gweithio.
Felly, rydym ni'n cefnogi ardrethi annomestig ar gyfanswm o £335 miliwn dim ond eleni. Os ydych chi eisiau talu mwy, mae'n rhaid i chi ddweud o le mae'r toriadau yn mynd i ddod. Mae hynny eto yn bwysau na ofynnwyd i chi erioed o'r blaen. Ond nawr, pan fyddwch chi'n mynd allan i'ch tafarndai ac yn dweud, 'Rydym ni'n mynd i'ch cynorthwyo chi', rydych chi'n ei gwneud hi'n eglur sut a ble—o le mae'r toriadau hynny yn mynd i ddod—oherwydd dyna'r cwestiynau yr ydych chi'n eu gofyn i mi yn feunyddiol. Mae angen i chi ofyn y cwestiynau hynny i chi'ch hun.
Roeddwn i fwy neu lai'n gallu eich gweld chi o gwmpas y piler, Prif Weinidog. Rwy'n deall beth roedd Andrew R.T. Davies yn ei ddweud nawr, am y piler hwn yn y ffordd.
Ond fel rhywun sy'n hoffi mynd allan am beint fy hun yn fy etholaeth fy hun ar y rhan fwyaf o benwythnosau, mae llawer o'r bobl hynny yn fy etholaeth yn dweud wrthyf i fod y cynnydd i yswiriant gwladol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur y DU yn rhoi pwysau difrifol a phrinder staff yn y sector. Rydych chi wedi sôn o'r blaen am ddwy Lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda'i gilydd, felly hoffwn wybod: pa bwysau ydych chi'n ei roi ar gydweithwyr yn San Steffan i geisio newid eu cyfraniadau yswiriant gwladol i gynorthwyo ein busnesau lletygarwch ledled Cymru?
Wel, mae'n hyfryd siarad â chi, James, ac mae'n hyfryd meddwl y gallech chi fod yn mynd allan i'r dafarn gyda'ch ffrind mawr Robert Jenrick, y clywsom ni gymaint amdano ar y teledu. Mae'n bwysig, rwy'n credu, i bobl Cymru gydnabod y rhuthr sy'n digwydd nawr o'r blaid Dorïaidd i Reform: Andrew Rosindell, Nadhim Zahawi, Lee Anderson, Nadine Dorries, Danny Kruger, Jonathan Gullis, Andrea Jenkyns, Jake Berry, Lucy Allan, Anne Marie Morris, Marco Longhi, Ross Thomson, Chris Green, Lia Nici, Ben Bradley, ac, yma yng Nghymru, David Jones, Laura Anne Jones a phwy a ŵyr, efallai rywbryd yn fuan, James Evans. Mae Reform yn llawn Torïaid sydd wedi methu, ac rwy'n gobeithio bod pobl Cymru yn gwylio ac yn cydnabod y bydd eu holl addewidion, o ran sut maen nhw'n mynd i ddiwygio'r genedl hon, yn dod i ddim, fel y gwnaeth eu haddewidion ynghylch Brexit.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng gofal mewn coridor? OQ63678
Nid oes unrhyw un ohonom ni eisiau gweld ein hanwyliaid yn cael eu trin mewn coridorau, ac rydyn ni wedi ei gwneud hi'n eglur nad yw'n rhywbeth sy'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni'n cynorthwyo byrddau iechyd i leihau gofal mewn mannau dros dro mewn ysbytai, gan gynnwys coridorau, drwy eu helpu i ehangu capasiti clinigol, i wella llif cleifion, ac i nodi ffyrdd iddyn nhw gyflymu llwybrau rhyddhau diogel.
Fel aelod ffyddlon o Blaid Cymru, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog? Mae'r mater o ofal mewn coridorau yn ein hysbytai, wrth gwrs, yn ddangosydd brawychus iawn o'r pwysau difrifol sy'n wynebu GIG Cymru. Mae'n fethiant sylfaenol i gynnal urddas a chysur sylfaenol cleifion agored i niwed. Gallaf enwi nifer o unigolion sydd wedi dod ataf, ers i mi gael fy ethol, sydd wedi dioddef y lefel annerbyniol hon o ofal yn ein byrddau iechyd—un yn hen ffrind ysgol, a fu farw yn drist iawn. Mae hyn yn annerbyniol, ac nid dyma'r safon o ofal y mae pobl Cymru yn ei haeddu, ac mae'n atgof poenus na ddylai unrhyw deulu orfod ei ddioddef.
Mae hyn yn ysgogi gorflino, mae'n gwaethygu heriau cadw staff, ac yn rhoi straen fwy fyth ar weithlu sydd eisoes wedi'i or-ymestyn. Mae'n rhaid felly i gamau i fynd i'r afael â gofal mewn coridorau nid yn unig gynnwys gweithredu ar unwaith i ddiogelu urddas cleifion, ond ymrwymiad difrifol i gefnogi, gwerthfawrogi a chadw'r staff sy'n dal ein gwasanaeth iechyd gyda'i gilydd o dan bwysau annioddefol.
Prif Weinidog, efallai mai Lindsay Whittle wnaeth ddarllen y datganiad diwethaf yna, ond yr hyn sy'n wirioneddol galonogol yw bod y pryderon hynny wedi dod gan ddau o'r cleifion yr wyf i wedi siarad amdanyn nhw yn ddiweddar. Doedden nhw ddim yn poeni amdanyn nhw eu hunain, er bod eu teuluoedd yn poeni, yn amlwg, roedden nhw'n poeni am y staff a fu'n gofalu amdanyn nhw. A gaf i ofyn fel cwestiwn, cwestiwn olaf: beth ydych chi'n ei wneud i ofyn i gadeiryddion y byrddau iechyd beth maen nhw'n ei wneud am y mater hwn, os gwelwch yn dda?
Mae'r pwysau ar y byrddau iechyd yn aruthrol, ac yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ac rydyn ni'n cydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau nad ydym ni'n gweld y gofal hwnnw mewn coridorau sy'n peryglu preifatrwydd ac urddas cleifion. Rydyn ni wedi rhoi £200 miliwn mewn cymorth eleni i fyrddau iechyd a phartneriaethau rhanbarthol. Rydych chi'n gofyn am staffio, wel, yng Nghymru, mae gennym ni 4.2 y cant yn fwy o nyrsys cofrestredig yn gweithio yng Nghymru eleni. O ran meddygaeth frys yn benodol, sef lle mae llawer o'r gofal mewn coridorau hwnnw yn digwydd, rydyn ni wedi gweld cynnydd o 7.7 y cant yn y fan honno.
Felly, rydyn ni'n cyfrannu'r adnoddau ychwanegol, ac rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth nodi hefyd y ffaith ein bod ni'n cyflwyno gwasanaethau newydd. Felly, os edrychwch chi ar y gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod, mae'r rheini wedi tyfu dros y 12 mis diwethaf: mae 100,000 o bobl yn manteisio ar y gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod hynny, a rhyddhawyd 80 y cant ohonyn nhw i'w cartrefi ar yr un diwrnod. Felly, rydym ni'n rhoi'r mesurau hyn ar waith. Mae'r cwbl yn ymwneud â llif. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyrraedd. Felly, cael pobl i mewn ac allan o'r ysbyty yw sut yr ydym ni'n mynd i'w wneud mewn gwirionedd. A dyna pam rydym ni'n gwneud yn siŵr bod mwy o gymorth ychwanegol i'n hysbytai ac, yn benodol, i'r bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau brys hynny.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Nhaf Elái? OQ63687
Un enghraifft wych o fuddsoddiad yn Nhaf Elái yw Parc Coed Elái, prosiect adfywio blaenllaw gan Lywodraeth Cymru sy'n dangos ein hymrwymiad hirdymor i gefnogi swyddi, buddsoddiad a thwf economaidd cynaliadwy yn Nhaf Elái. Rydym ni wedi buddsoddi tua £4 miliwn mewn seilwaith modern yn hen weithfeydd glo a golosg Coed Elái, gan ddarparu priffyrdd, cyfleustodau, draenio, tirlunio a mannau agored cyhoeddus newydd i ddatgloi'r safle at ddefnydd cyflogaeth.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Dau, rwy'n meddwl, o brosiectau gwirioneddol lwyddiannus Llafur Cymru fu, yn gyntaf, y buddsoddiad yn y metro a'r effaith y mae hynny wedi ei chael yn fy etholaeth i, a'r ail yw ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Nawr, rydym ni eisoes yn gweld y manteision yn y nifer cynyddol o deithwyr, a chyda'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) posibl, y cysylltedd, mae wir yn edrych ymlaen at weddnewid trafnidiaeth gyhoeddus yn wirioneddol.
Ond a gaf i ofyn i chi am ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Rwyf i wedi gweld nad oes unrhyw bleidiau gwleidyddol eraill wedi rhoi'r ymrwymiad y mae Llafur Cymru wedi ei roi i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Yn fy etholaeth i yn unig, gwariwyd cannoedd o filiynau o bunnoedd ar adfer, adnewyddu ac ailwampio'r seilwaith ysgolion yn fy etholaeth yn llwyr; £2.4 biliwn ledled Cymru dros y degawd diwethaf. A phe bai hwnnw'n brosiect yn Lloegr, byddai'n gyfystyr â £55 biliwn. Nawr, a allwch chi roi sicrwydd y bydd ymrwymiad? Oherwydd nid yw hwn yn rhywbeth a all ddod i ben nawr pan ddaw'r etholiadau hyn; mae hwn yn rhywbeth yr wyf i eisiau ei weld yn parhau, ac nid wyf i wedi gweld unrhyw ymrwymiadau eraill i hynny. A allwch chi roi ymrwymiad bod y prosiect hwn—ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—a'r datblygiad metro yn mynd i barhau dros y pum mlynedd nesaf?
Rydych chi'n gwbl gywir i dynnu sylw at y ddwy fenter hynny fel rhai o'n cyflawniadau mwyaf balch. Mae'r system metro yn drawsnewidiol, rwy'n credu, i bobl y Cymoedd. Mae'n drawsnewidiol i'w gallu i gael swyddi, i ddod i Gaerdydd, i fynd yn ôl i'r Cymoedd, i weithio mewn gwahanol leoedd o fewn y cymunedau hynny. Y system drafnidiaeth reolaidd honno, a sicrhawyd oherwydd mai'r hyn yr ydych chi wedi ei weld yw Llafur mewn grym ers 26 mlynedd, yn gwneud yr ymrwymiadau hirdymor hynny sy'n gwneud gwahaniaeth. Ac rydych chi yn llygad eich lle, mae newid pethau drwy'r amser yn drychineb, a dyna pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr mai'r hyn yr ydym ni'n ei weld yw'r ymrwymiadau hirdymor hynny.
Rydym ni'n falch iawn o'r ffaith bod £1.5 biliwn wedi cael ei wario dim ond yn y tymor Senedd hwn i'n cadw ar y trywydd iawn i gyflawni ein hymrwymiad i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i'r Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Rwyf i wedi bod i lawer o'r ysgolion hynny yn eich etholaeth, lle'r ydym ni wedi agor ysgolion newydd. Hynny yw, cyrhaeddodd y pwynt lle'r oeddem ni'n agor un bob mis. Roedd mor rheolaidd eu bod nhw'n adeiladu ac yn trawsnewid bywydau plant yn y cymunedau hynny mewn gwirionedd. Dyna un o gyflawniadau mwyaf balch Llywodraeth Lafur Cymru, ond bydd yn rhaid i chi aros, Mick, i glywed am yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud yn ein maniffesto.
Eto, Prif Weinidog, hoffwn dynnu eich sylw, fel y gwnes i yr wythnos diwethaf, at y ffaith mai bargen ddinesig Llywodraeth y DU yw'r metro, a gyflwynwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, sydd wedi darparu'r cynllun metro hwnnw ar draws Cymoedd de Cymru gyfan. Felly, rhowch y clod lle mae'n ddyledus: Llywodraeth y DU oedd sylfaenydd y fargen ddinesig honno, ac mae angen i ni ganolbwyntio ar hynny a'r rhan a chwaraeodd y Ceidwadwyr.
Mae buddsoddiad mewn seilwaith cymunedol yn rhan hanfodol o unrhyw gymuned, a'r pwynt sydd wedi cael ei godi gan nifer o siaradwyr yma y prynhawn yma am y gonglfaen y mae'r dafarn gymunedol yn ei chwarae o ran darparu'r seilwaith cymunedol hwnnw. Clywais yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn ymateb i bobl eraill. Rydym ni'n disgwyl y pedwerydd tro pedol ar ddeg gan Ganghellor y Trysorlys o ran ardrethi busnes yn Lloegr a'r cymorth y mae'n barod i'w wneud ar gael i gynorthwyo tafarndai yn Lloegr. Felly, pan ddaw'r cyhoeddiad hwnnw, a wnewch chi ymrwymo y prynhawn yma i drosglwyddo'n uniongyrchol unrhyw arian canlyniadol sy'n cyrraedd Trysorlys Cymru i gefnogi'r dafarn gymunedol yma yng Nghymru, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i fod yn gonglfaen i'n cymunedau, boed hynny yn Nhaf Elái neu ar draws gweddill Cymru?
Wel, rydych chi'n gwbl gywir o ran y metro bod y Deyrnas Unedig yn cyfrannu mewn gwirionedd. Rydym ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n gwbl hapus iddyn nhw gyfrannu at ein seilwaith yng Nghymru. Rydym ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Nid oes gen i gywilydd o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Rwyf i eisiau iddyn nhw roi ein cyfran deg i ni, ond mae'n bwysig cydnabod eu bod nhw wedi gwneud cyfraniad at y metro. Ond Llywodraeth Cymru sydd wedi bwrw ymlaen â'r prosiect hwnnw ers dros ddegawd, i wneud yn siŵr bod yr hyn y mae pobl yn ei weld yn eu cymunedau heddiw yn rhywbeth sy'n cael ei gydnabod fel prosiect trawsnewidiol yn eu hardal.
O ran yr ymrwymiad y mae Canghellor y DU wedi ei wneud ar gynorthwyo tafarndai, tan y byddwn ni'n cael yr eglurder hwnnw ar yr hyn sy'n cael ei gynnig, ni allaf wneud yr ymrwymiad hwnnw. Yn amlwg, nid dyna'r ffordd y mae datganoli yn gweithio. Pan ac os byddwn ni'n cael yr ymrwymiad hwnnw, byddwn yn ystyried fel Llywodraeth ble mae'r flaenoriaeth honno yn mynd.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl adeiladau llyfrgell o ran darparu gwasanaethau statudol ar y safle a buddion cymunedol ychwanegol yn Islwyn? OQ63709
Mae llyfrgelloedd ymhlith y lleoliadau cyhoeddus sy'n ennyn yr ymddiriedaeth fwyaf ac maen nhw'n darparu lleoliadau hygyrch, yn rhad ac am ddim, lle gall pobl ymgysylltu â gwasanaethau hanfodol. Mae eu hadeiladau yn cefnogi argaeledd gwybodaeth, adnoddau digidol, a chyfranogiad democrataidd, gyda staff yn cynnig arweiniad sy'n helpu pobl i lywio'r gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae llyfrgelloedd yn gweithredu fel canolfannau cymunedol hanfodol. Maen nhw'n lleihau ynysu cymdeithasol, yn cefnogi dysgu, iechyd a lles, ac maen nhw'n cynnig mannau diogel lle gall pobl ddod at ei gilydd.
Prif Weinidog, byddwch yn gwybod bod llyfrgelloedd, fel y dywedoch chi, yn asedau cymunedol o bwys ledled Islwyn a Chymru. Fel gwyddoch chi, mae'r drafodaeth ynglŷn â chynigion o ran llyfrgelloedd yn un barhaus yn Islwyn. Yn fy marn i, mae'n rhaid i ni gael ymwared ar y gwleidydda cyson ynghylch y penderfyniad hanfodol hwn, sydd wedi mynd at adolygiad barnwrol erbyn hyn, gyda'r pedair llyfrgell sydd ar agor ar hyn o bryd. A yw'r Prif Weinidog yn teimlo bod safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn ddigon cadarn a bod fframwaith statudol Llywodraeth Cymru sy'n diogelu gwasanaethau llyfrgell yn addas i'r diben, ac yn gallu sicrhau bod gwasanaethau llyfrgell hygyrch yn cael eu cynnal i bawb, er mwyn i ddinasyddion Cymru ac Islwyn allu profi'r llawenydd o ddarllen mewn llecyn cynnes, cymdeithasol, lleol sy'n ddiogel, a lle gall trigolion, beth bynnag fo'u cefndir, astudio, dysgu a chael gafael ar y gwasanaethau digidol ac ar-lein hynny mewn oes pan fo gwasanaethau digidol mor hanfodol yn ogystal â bodolaeth allgáu digidol? Ac os caf i ofyn, a wnaiff hi sylwadau ar y sylwadau ar ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar sydd wedi bod yn mynd o amgylch? Diolch i chi.
Diolch. Fel y dywedodd y Manic Street Preachers yn eu cân wych, 'A Design for Life', 'libraries gave us power', ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod pa mor drawsnewidiol y gall llyfrgelloedd fod ym mywydau llawer o bobl yn ein cymunedau. Maen nhw'n llawer mwy nag adeiladau gyda llyfrau ynddyn nhw; maen nhw'n lleoedd o gynhesrwydd a chroeso.
Os nad yw pobl wedi bod i'w llyfrgell yn ddiweddar, fe fyddwn i'n eu hannog nhw i fynd i ymweld â'r lle, oherwydd maen nhw'n wahanol iawn i'r hyn yr oedden nhw pan oeddwn i'n tyfu i fyny, lle'r oedd yn rhaid i chi fod yn dawel ac roedd yn rhaid i chi fyhafio eich hun. Maen nhw'n lleoedd llawn llawenydd y dyddiau hyn, a chyfleoedd. Fe fyddwn i'n annog pobl i edrych unwaith eto ar sut y gwelsom ni'r trawsnewidiad hwn.
Fel gwyddoch chi, mae'r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon gyda'r awdurdod lleol, ond gyda hynny fe ddaw dyletswydd i fodloni Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, i sicrhau yr ymgynghorir yn briodol â phobl ac i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i fod yn hygyrch.
Diolch am ofyn hefyd am gynllun Dechrau Da. Rwyf i am fanteisio ar y cyfle hwn i egluro'r sefyllfa yn hynny o beth. Roedd yna, rwy'n credu, rywfaint o wybodaeth ffug a fu'n cylchredeg yr wythnos diwethaf y byddai cynllun Dechrau Da yn cael ei ddirwyn i ben yn fuan iawn. Nid yw hynny'n wir. Fe fyddwn ni'n gweithio gydag Adnodd i sicrhau parhad yn gyson wrth i ni roi trefniadau newydd ar waith, ac fe fyddwn ni'n dal ati i gefnogi plant i fod â'r llawenydd hwnnw o ddarllen o oedran mor ifanc.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau o ddata iechyd meddwl yng Nghymru? OQ63708
Fe gafodd yr adolygiad ei gynnal yn rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru er mwyn manteisio i'r eithaf ar werth ystadegau swyddogol. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth i wella data iechyd meddwl yng Nghymru. Rŷn ni wedi gwneud gwelliannau i'r ffordd mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, ac mae'r strategaeth iechyd meddwl a llesiant yn nodi trywydd uchelgeisiol ar gyfer sut y byddwn ni'n parhau i wella. Mae'n hanfodol cael data o ansawdd uchel er mwyn mesur y gwaith trawsnewid yma a chael y budd gorau ohono fe.
Mae'r adroddiad yn darlunio sefyllfa sydd yn sobreiddiol o wael, gyda data naill ai'n gyfyngedig neu ddim ar gael o gwbl mewn meysydd allweddol fel mynychder, tueddiadau dros amser, canlyniadau, gwariant a'r gweithlu, i'r fath raddau bod yr adroddiad yn dweud bod defnyddwyr yn aml yn troi at ddata Lloegr fel rhyw fath o brocsi. Un o'r rhesymau canolog am hyn yw nad yw casglu'r data gan y byrddau iechyd ddim yn orfodol. Oni bai am hynny, dyw e ddim yn aml yn mynd i gael ei drin fel blaenoriaeth. A ydy Llywodraeth Cymru yn fodlon ymrwymo i'w wneud e'n orfodol, fel mae e mewn llefydd eraill? Achos oni bai am hynny, sut ŷn ni o ddifrif yn gallu dweud ein bod ni'n trin iechyd meddwl yn gydradd gydag iechyd corfforol o ran pwysigrwydd a pharch?
Cyn inni ddod ymlaen at ddata, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n adlewyrchu ar lwyddiant y Llywodraeth yma i wella llwybrau i gael cymorth iechyd meddwl.
Fe hoffwn i ddweud gair bach i roi ymdeimlad i chi o sut mae pethau wedi gwella o ran cymorth iechyd meddwl yng Nghymru. O ran asesiadau ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, mae 96 y cant ohonyn nhw'n cael eu gwneud o fewn 28 diwrnod. O ran dechrau ar therapi, mae 72 y cant o hynny'n digwydd o fewn 28 diwrnod. O ran oedolion, mae 91 y cant ohonyn nhw'n cael eu gweld o fewn 28 diwrnod. Mae hwn yn drawsnewidiad o'i gymharu â'r hyn a oedd yn digwydd yn flaenorol. Fe hoffwn i roi teyrnged i'r Gweinidogion sydd wedi ysgogi'r newid hwnnw, sef Lynne a Sarah.
Er ein bod ni'n gallu dathlu'r llwyddiant hwnnw, rydym ni'n cydnabod bod rhagor i'w wneud bob amser. Dyna pam y gwnaethom ni gomisiynu'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau i gyflawni'r gwaith o ran data ar ein cyfer ni. Rydym ni'n cydnabod bod trawsnewidiad digidol yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl cynaliadwy, o ansawdd da. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cyd-fynd â'r camau gweithredu sydd yn ein strategaeth iechyd meddwl a lles.
Cwestiwn 8 yn olaf—Jenny Rathbone.
8. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o effaith Dechrau'n Deg ar leihau tlodi plant yng Nghanol Caerdydd dros y 15 mlynedd diwethaf? OQ63712
Mae ein buddsoddiad yn Dechrau'n Deg yn trawsnewid bywydau teuluoedd, babanod a phlant ifanc, yn enwedig y rhai sydd yn yr angen mwyaf. Mae hwn yn ddull unigryw o roi gofal i blant, sy'n rhoi cymorth iechyd a lleferydd i'r plant yn ogystal â chefnogaeth uniongyrchol i rieni. Comisiynwyd gwerthusiad tair blynedd cenedlaethol o Dechrau'n Deg ym mis Tachwedd 2024. Fe gaiff yr adroddiad am flwyddyn 1 ei gyhoeddi ym mis Chwefror.
Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n edrych ymlaen at hynny. Roedd fy nghwestiwn cyntaf i erioed yn y Senedd yn 2011 i'r Prif Weinidog ar y pryd ar y pwnc hwn yn union. Pa mor hir fyddai hi'n ei chymryd i ddyblu maint Dechrau'n Deg oedd fy nghwestiwn i Carwyn Jones. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Carwyn Jones wedi cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, ac mae teuluoedd sy'n byw yn Llanedern a Phentwyn wedi elwa ar Lywodraeth Cymru yn gwneud yn ôl ei haddewid. Pa wahaniaeth a ydych chi'n gallu dweud wrthym ni amdano ar y cam hwn, o ystyried na chafodd y gwerthusiad ei gyhoeddi, er enghraifft, o ran cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron neu leihau nifer y plant sy'n cychwyn yn y dosbarth derbyn â'u datblygiad iaith wedi'i ohirio?
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny, a diolch i chi am ofyn y cwestiwn hwnnw yr holl flynyddoedd hynny'n ôl. Diolch i chi am eich dyfalbarhad mewn maes y gwn ei fod yn wirioneddol bwysig i chi a'r bobl yn eich etholaeth. Rydych chi wedi bod yn hyrwyddwr gwirioneddol i Dechrau'n Deg o'r cychwyn. Mae'n cefnogi 38,500 o blant a'u teuluoedd nhw ledled Cymru erbyn hyn. Rwy'n credu bod hynny, i mi, yn adlewyrchu cred greiddiol y Blaid Lafur fod cefnogaeth gynnar yn bwysig, ac na ddylai'r fan lle mae plentyn yn tyfu fyth fod yn gyfyngiad ar ei gyfleoedd.
Ond weithiau mae angen i ni roi'r gefnogaeth ychwanegol honno ar waith. Mae angen i bobl gael eu cefnogi i fagu eu plant, a dyna beth mae'r Blaid Lafur yn ei wneud. Mae'n camu i'r adwy ac yn rhoi'r gefnogaeth honno. Rydyn ni'n gweld arwyddion calonogol o newid, nid yn unig o ran datblygiad lleferydd, sy'n sylfaenol i'r cynnig gofal plant yn Dechrau'n Deg, ond o ran cyfraddau bwydo ar y fron hefyd.
Ledled Cymru yn 2024, roedd cyfraddau bwydo ar y fron ar eu cyfradd uchaf erioed. Yng Nghaerdydd, mae'r cynnydd o ran bwydo ar y fron ar ôl 10 diwrnod wedi bod yn fwy dros amser mewn ardaloedd lle mae Dechrau'n Deg ar waith nag mewn ardaloedd lle nad oes Dechrau'n Deg. Felly, dyma eich ateb chi, Jenny. A yw hyn yn gwneud gwahaniaeth? Yn sicr, mae hyn yn gwneud gwahaniaeth, ond mae'n rhaid i chi roi'r gofal ychwanegol hwnnw i mewn weithiau, y gefnogaeth ychwanegol honno, fel bydd pobl â'r hyder i barhau, i wybod mai'r hyn maen nhw'n ei wneud yw'r peth gorau i'w plentyn. Mae hynny'n dangos, yn fy marn i, fod cymorth ataliol cynnar yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
I gryfhau ein dealltwriaeth ni eto, rydyn ni wedi comisiynu gwerthusiad tair blynedd annibynnol o Dechrau'n Deg. Fe fyddwn ni'n cysylltu'r canlyniadau a ddaw o hwnnw â banc data SAIL, fel y gellir bwydo hyn i gyd i mewn i systemau lle gallwn ni weld y gwahaniaeth y mae'r rhaglenni hyn yn ei wneud i'r bobl yn ein cymunedau, ond yn enwedig o ran cyfleoedd bywyd i blant yn ein cymunedau tlotaf.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Mae'r datganiad i'w wneud gan Jane Hutt, y Trefnydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, fel sydd wedi'i nodi ar agendâu'r Cyfarfodydd Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflawni cymwysterau galwedigaethol yma yng Nghymru. Ddoe, fe ymwelais i â chanolfan dysgu ar y tir yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd gyda fy nghydweithiwr Samuel Kurtz. Fe wnaethom ni ddysgu am yr ystod o gyrsiau amaethyddiaeth a gofal a rheoli anifeiliaid y mae'r coleg yn eu cynnig erbyn hyn. Mae'r cyrsiau hyn yn boblogaidd iawn, cymaint felly fel bod y gyfadran wedi gweld cynnydd o bron i 50 y cant yn y dysgwyr presennol o'i gymharu â'r nod a bennwyd gan y coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Mae'r coleg wedi sefydlu partneriaethau cryf gyda rhai busnesau lleol hefyd, sy'n cynnig profiad gwaith gwerthfawr i ddysgwyr ac yn helpu i ddatblygu eu sgiliau nhw ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Trefnydd, fe ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i gefnogi a hyrwyddo'r mathau hyn o gymwysterau a chyflwyno arfer gorau lle bo hynny'n bosibl. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad ar gymwysterau galwedigaethol er mwyn dysgu rhagor ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr yn ein cymunedau.
Diolch yn fawr i chi, Paul Davies, a diolch i chi am roi'r adborth cadarnhaol hwnnw ar ôl eich ymweliad â Choleg Sir Benfro, lle roeddech chi'n gweld bod cyflenwad gwirioneddol o gymwysterau galwedigaethol sy'n berthnasol i'r economi leol i raddau helaeth iawn, i gefn gwlad Cymru a'r sgiliau sy'n angenrheidiol. Byddaf yn rhannu hyn gyda'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, oherwydd fe wn i am ei hymrwymiad angerddol hi i hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol a'r llwybr hwnnw at sgiliau a chyflogadwyedd, a Jack Sargeant hefyd wrth gwrs, gan gydnabod hynny hefyd, oherwydd fe fydd llawer o'r myfyrwyr hynny'n mynd ymlaen i brentisiaethau a swyddi mewn cymunedau. Diolch i chi am godi hynny y prynhawn yma.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y cynnydd a fu o ran darparu'r cynllun cyflawni atal hunanladdiad a hunan-niweidio i Gymru a gyhoeddwyd y llynedd, a'r cynnydd sydd wedi bod yn benodol ar sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo adrodd cadarnhaol yn y cyfryngau ac yn cyfyngu ar gamwybodaeth drwy adolygu y canllawiau i'r cyfryngau, a sefydlu gweithdrefnau hyfforddi, monitro a chyfeirio.
Fel gwyddoch chi, mae mwy na 400 o deuluoedd yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan hunanladdiad yn flynyddol, ac mae tystiolaeth yn dangos bod y rhai sy'n cael eu heffeithio gan hunanladdiad ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu salwch meddwl a bron i bedair gwaith yn fwy tebygol o gymryd eu bywydau eu hunain. Mae ymchwil yn dangos hefyd y gall rhai mathau o ddarluniau yn y cyfryngau, megis disgrifiad o fodd penodol ac adrodd llawn cyffro gormodol, arwain at ymddygiad efelychiadol hunanladdol ymhlith pobl agored i niwed.
Mae pum mlynedd wedi bod ers i Samariaid Cymru gyhoeddi eu canllawiau i'r cyfryngau ar gyfer adrodd ar hunanladdiad, ac eto rydym ni'n dal i weld adroddiadau anghyfrifol. Mae hyn wedi cael sylw penodol yr wythnos hon gyda'r adroddiad am farwolaeth ein cyd-Aelod a'n cyfaill, Hefin David. Felly, hoffwn i wybod pa drafodaethau sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru ac allfeydd y cyfryngau yng Nghymru i sicrhau eu bod nhw'n gwneud eu rhan wrth gyflawni'r ymrwymiad a wnaeth y Llywodraeth.
Fe hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Heledd Fychan am godi'r cwestiwn hwn gyda mi'r prynhawn yma, ac unwaith eto, rwy'n credu, i ni achub ar y cyfle i fynegi ein cydymdeimlad dwys o'n calon â theulu Hefin David, â'n cyd-Aelod annwyl yr effeithiwyd arni cymaint hefyd, Vikki Howells. Ac rwy'n credu ei fod yn rhoi eiliad i bob un ohonom ni fyfyrio a chydymdeimlo ac ystyried heddiw.
Diolch i chi am godi'r cwestiwn hwn, oherwydd mae'n gwestiwn pwysig. Mae ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio 10 mlynedd ar gyfer Cymru yn nodi ein hamcanion strategol i gyflawni ein huchelgeisiau o ran creu dealltwriaeth fwy trugarog am hunanladdiad a hunan-niweidio, a lleihau nifer y bobl sy'n marw trwy hunanladdiad, a darparu cymorth cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy'n hunan-niweidio, a chefnogi'r rhai y mae hunan-niweidio a hunanladdiad yn effeithio arnynt. Ac er bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am hunanladdiad a'i pholisi hunan-niweidio yng Nghymru, nid oes gennym ni'r awdurdodaeth o gael effaith ar y sylw yn y cyfryngau. Ond o dan amcan 2 y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, rydym ni'n gweithio gyda Samariaid Cymru i hyrwyddo cymorth ar adrodd gan y cyfryngau, ac rydyn ni'n cefnogi eu dull nhw o weithio gyda'r cyfryngau a sefydliadau cyhoeddus.
Felly, diolch i chi unwaith eto am dynnu sylw at hyn, oherwydd yn ein cynllun cyflawni cysylltiedig ar gyfer tair blynedd gyntaf y strategaeth—hynny yw o 2025 i 2028—fe wnaethom ni ymrwymo i gam gweithredu i ddatblygu a sefydlu protocol uwchgyfeirio i rai sy'n pryderu ynglŷn â sut y caiff hunanladdiad a hunan-niweidio eu hadrodd yn y cyfryngau. Ac roedd disgwyl i hyn gael ei gyflawni ym mlwyddyn 3 o'r cynllun cyflawni, ond o ystyried pwysigrwydd y gwaith hwn, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac fe fydd hyn yn cael ei gyflawni erbyn diwedd blwyddyn 1 bellach. Ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod profedigaeth wedi hunanladdiad yn gallu bod yn arbennig o ddinistriol, ac mae'n hanfodol bod pobl yn gallu cael gafael ar gymorth.
Felly, fe hoffwn i rannu'r ffaith gyda'r Aelodau unwaith eto hefyd sef ein bod ni wedi comisiynu Sefydliad Jac Lewis i ddarparu gwasanaeth cynghori a chyswllt arbenigol i ymateb i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth oherwydd marwolaethau sydyn sy'n anesboniadwy neu yr amheuir eu bod yn achosion o hunanladdiad. Ac mae'r gwasanaeth cynghori a chyswllt cenedlaethol hwn yn sicrhau cefnogaeth gyson, amserol a rhagweithiol sy'n cael ei chynnig i bobl yr effeithir arnynt gan farwolaethau sydyn, neu heb unrhyw esboniad, neu pan yr amheuir hunanladdiad, sy'n gynnwys cymorth ymarferol fel llywio drwy broses y cwêst.
Roedd hi'n bwysig, Llywydd, fy mod yn rhoi'r ateb llawn hwnnw'r prynhawn yma, ond rwy'n troi, yn olaf, yn ôl at y ffaith i'r cwestiwn hwn gael ei godi, yn enwedig o ran sylw yn y cyfryngau a sut mae hynny'n cael ei drin. Ac fe fyddwn ni'n ymwybodol o hyn, pob un ohonom ni yma'n arbennig yr wythnos hon. Ac nid wyf i am sôn, yn amlwg, am y sianeli cyfryngau hynny, ond fe wyddom fod yna un sianel yn y cyfryngau a wnaeth barchu'r canllawiau. Ac rydyn ni'n gobeithio y bydd gwneud y datganiad hwn, a fy ymateb i chi'r prynhawn yma, yn cynnig rhywfaint o sicrwydd bod hwn yn bwynt cadarn lle mae angen ac mae cyfrifoldeb arnom i graffu a bwrw ymlaen â hyn, ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant am fod yma yn y Siambr gyda ni'r prynhawn yma.
Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, a gaf i ddatganiad ar sut mae Cyngor Abertawe yn cynnal urddas mislif mewn ysgolion, canolfannau hamdden a lleoliadau eraill yn Abertawe o ganlyniad i gyllid Llywodraeth Cymru?
A gaf i ddatganiad am y prifysgolion yn Abertawe hefyd? Yn y flwyddyn academaidd 2022-23, roedd gan Brifysgol Abertawe oddeutu 20,000 o fyfyrwyr ac roedd yn cyflogi dros 3,800 o staff. Yn 2022-23, adroddwyd bod gan gampws Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 13,417 o fyfyrwyr amser llawn a 3,305 o fyfyrwyr rhan-amser, a 1,500 o staff. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd hyn i'n heconomi. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau iechyd parhaus y sector hwn?
Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges, am ddau gwestiwn pwysig iawn sy'n effeithio ar eich dinas a'ch etholwyr, y bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli. Rwy'n falch iawn o ddweud bod y grant urddas mislif yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ystod o gymunedau a danwasanaethir, trwy'r cyllid yr ydym ni'n ei ddarparu i arweinwyr urddas mislif yr awdurdod lleol, sy'n gwneud gwaith arloesol. Mae hwn yn fater y mae Cyngor Abertawe, rwy'n gwybod, yn gweithio arno gydag ystod eang o sefydliadau'r trydydd sector, a chyfleusterau cymunedol, fel banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau blynyddoedd cynnar, i sicrhau bod y cynnyrch ar gael i'r rhai sydd ei angen. Mae hyn yn ymwneud ag urddas mislif, ond nid pethau moethus mo cynhyrchion mislif—fe ddylen nhw fod ar gael i bawb sydd eu hangen. Mae hyn yn bwysicach nag erioed, gan fod llawer yn cael trafferthion yn ystod yr argyfwng costau byw. Rwy'n cadeirio ac yn mynychu cyfarfodydd bord gron gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae yna rai astudiaethau achos rhagorol, ac rwy'n gobeithio, ar draws y Siambr hon, y bydd pawb yn ymgysylltu ac yn cael gwybod beth mae eu hawdurdod lleol nhw'n ei wneud gyda'r cyllid yr ydym ni wedi'i ddarparu. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu canolbwyntio ar Gyngor Abertawe, a ddyfarnodd grantiau urddas mislif i 44 o sefydliadau, gan wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.
O ran Prifysgol Abertawe, wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod bod heriau yn wynebu'r sector. Nawr, mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cyhoeddi grŵp cynghori gweinidogol newydd, i'w chynghori ar ddyfodol y sector. O ran Prifysgol Abertawe, mae yna faterion sy'n ymwneud â'r gweithlu, ond wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth sy'n heriol ar draws y sector. Rwy'n credu mai dyna pam mae darparu £28.5 miliwn ychwanegol o gyllid Llywodraeth Cymru yn 2024-25 yn dod â chyfanswm y cymorth grant i'r sector i dros £200 miliwn. Mae Medr yn ymgysylltu yn agos â'r prifysgolion i gyd er mwyn deall eu safbwyntiau unigol, yn enwedig o ran Prifysgol Abertawe. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater y maen nhw'n gweithio yn glòs iawn yn ei gylch mewn partneriaeth gymdeithasol â'u gweithlu, ac, wrth gwrs, am fod Abertawe yn sefydliad addysg uwch mor ardderchog a phoblogaidd ymhlith ei fyfyrwyr a'r gymdeithas yn ninas Abertawe.
Fe hoffwn i alw am ddatganiad y prynhawn yma gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Daeth etholwr i gysylltiad â mi a oedd wedi cael gwybod i ddechrau y byddai'n rhaid aros 30 i 36 o fisoedd am driniaeth, dim ond i ddarganfod wedyn, wedi mynd yn ôl at y bwrdd iechyd i ofyn dro ar ôl tro, fod y driniaeth wedi ei gohirio am gyfnod amhenodol. Ni fu unrhyw gyfathrebu rhagweithiol ac rydym ni'n nesáu erbyn hyn at bum mlynedd wedi'r atgyfeirio. Y pryder sydd gan fy etholwr i yw a yw triniaethau sy'n cael eu canslo neu eu gohirio am gyfnod amhenodol mewn perygl o gael eu heithrio o ddata amseroedd aros yn llwyr, gan roi'r argraff bod amseroedd aros wedi gwella. Mae'r pryderon hyn yn cael eu hategu gan adroddiadau diweddar fod y bwrdd iechyd wedi tangyfrif mwy na 11,600 o achosion cronnol rhwng mis Ebrill a mis Awst y llynedd. Er i ni gael sicrwydd bod prosesau adrodd a chofnodi wedi cael eu cryfhau, mae rhoi hyder i'r cyhoedd yn gofyn mwy na dim ond sicrwydd nad yw'r bwrdd iechyd yn addasu'r ffigurau hyn. Fe fyddai trigolion yn y gogledd yn gwerthfawrogi tystiolaeth fanwl i arddangos bod prosesau wedi newid. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i nodi sut mae prosesau o ran cofnodi data amseroedd aros wedi newid a sut y caiff triniaethau a gafodd eu canslo neu eu gohirio yn cael eu trin yn y data yma? Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw, Gareth Davies. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol, wrth gwrs, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar amseroedd aros—ac efallai y bydd yn gwneud y datganiad hwnnw'r wythnos nesaf—ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, ac fe fydd y cyfle hwnnw gennych chi, i godi cwestiynau ynglŷn â Betsi Cadwaladr. Ond rwy'n nodi hefyd y cyflawniadau allweddol, o ran Betsi Cadwaladr, o ran byrhau arosiadau hir: mae aros am 104 wythnos i lawr 54 y cant; mae tair blynedd o aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gostwng 80 y cant; mae aros dros 14 wythnos am therapi i lawr 65 y cant o un flwyddyn i'r un ddilynol; a bu gostyngiad o 42 y cant o ran cleifion allanol yn aros am 52 wythnos. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig hefyd—. Rydym ni'n siarad yn aml, ac fe wn i chi fod yn cydnabod hyn, am ymrwymiad llwyr ein staff ni yn y GIG. Gadewch i ni gydnabod bod pedwar aelod o staff Betsi Cadwaladr wedi ennill gwobrau nyrs y flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, a gwobr genedlaethol tîm rheoli risg y flwyddyn hefyd. Felly, gadewch i ni ganmol a chydnabod y staff sy'n gweithio ar flaen y gad hefyd o ran y pwysau a'r anghenion iechyd ymhlith cymdeithas a phoblogaeth Betsi Cadwaladr yn y gogledd.
Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Mae'r un cyntaf yn ymwneud â rheoliadau ynghylch pympiau gwres. Daeth etholwr i gysylltiad â mi a gafodd fenthyciad o gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru ond nid yw'n gallu ei ddefnyddio, am ei fod yn disgwyl am ddileu y rheol 3m ar gyfer gosodiadau. Fe gafodd ei galonogi gan ddatganiadau cynharach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â dileu'r rheol, ond nid oes unrhyw gynnydd wedi bod ers canol y flwyddyn y llynedd. Felly, a allai hi fod yn bosibl i Lywodraeth Cymru egluro a yw'r rheol 3m hon wedi cael ei dileu erbyn hyn?
Ac yna fe hoffwn i ofyn hefyd am ymateb gan y Llywodraeth ar Iran. Daeth dirprwyaeth o bobl o Iran gyda deiseb i swyddfa fy etholaeth i'n gynharach yr wythnos hon. Roedden nhw'n ymweld â mi i rannu eu gofid a'u tristwch am iddyn nhw, dros y 10 diwrnod diwethaf, fethu â siarad na chysylltu â'u hanwyliaid yn Iran. Nid ydyn nhw wedi gallu darganfod beth sy'n digwydd ac nid ydyn nhw wedi gweld dim ond yr hyn a welsom ni i gyd—y lluniau dirdynnol iawn ar y newyddion. Fe wnaethon nhw rannu eu gofidiau a'r hyn sy'n digwydd i brotestwyr yn Iran. Felly, roedden nhw'n gofyn i mi godi hyn yma yn y Senedd, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i helpu i sicrhau heddwch a democratiaeth yn Iran.
Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan. I ymateb i'ch cwestiwn cyntaf chi ar gymorthdaliadau pympiau gwres, rwy'n deall ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a Banc Datblygu Cymru ar ddatblygu pecyn o gymorth ariannol i bobl sy'n barod i newid i bwmp gwres. Mae'r dull hwnnw'n cynnwys helpu aelwydydd i gynllunio, ariannu a gosod systemau sy'n perfformio yn dda ac yn cyflawni gostyngiadau ystyrlon o ran allyriadau am gost sy'n fforddiadwy. Nawr, mae'r cynllun hwn ar gyfer uwchraddio boeleri, fel gwyddoch chi, yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr. Mae hwnnw'n darparu grantiau hyd at £7,500 i leihau cost ddechreuol gosod pympiau gwres, ac mae'n helpu cartrefi i drosglwyddo at wresogi carbon isel. Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ategu hyn drwy gynnig asesiadau ôl-osod cartrefi cyfan yn rhad ac am ddim yn ogystal â benthyciadau di-log. Rwy'n credu y byddai hi'n bwysig i chi gyfeirio eich etholwr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol o ran achos penodol, oherwydd nid ydym ni'n ymwybodol bod yr oedi hwn o ran gallu gwneud y gwaith hwnnw, ond mae hi'n dda o beth eich bod chi wedi tynnu sylw at hyn heddiw, fel rhwystr y gallwn ni fynd ar ei ôl, ac yna fe all yr Ysgrifennydd Cabinet roi ymateb llawn i chi a'ch etholwr.
Rydych chi wedi codi cwestiwn pwysig iawn am y trais a'r gormes ar strydoedd Iran, sy'n bryderus iawn. Heddiw ac yn barhaus, fe ddylem ni ddwyn i gof y teuluoedd o Iran sydd yng Nghymru ac a ddaeth i ymweld â chi, sy'n ceisio cysylltu â'u teuluoedd a'u ffrindiau yn Iran, heb allu cael gafael arnyn nhw na chysylltu hyd yn oed. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi condemnio hyd yr eithaf dienyddio erchyll a chreulon protestwyr yn Iran, ac wedi mynnu bod awdurdodau Iran yn parchu hawliau a rhyddid sylfaenol eu dinasyddion. Mae ein cymuned Iranaidd-Gymreig yn cael trafferthion mawr, fel roeddech chi'n dweud, i gysylltu ag aelodau o'u teuluoedd yn Iran oherwydd bod y rhyngrwyd wedi'i gau, ac mae hyn o reidrwydd yn ofidus iawn iddyn nhw ac yn peri ansicrwydd mawr. Rydyn ni'n annog aelodau o'r gymuned i ofyn am gymorth hefyd gan ddefnyddio llinell gymorth Iechyd Meddwl CALL os ydyn nhw mewn trafferthion. Fe allan nhw ddefnyddio 0800 132737 neu call@helpline.wales. Ond fel Llywodraeth yng Nghymru, rydyn ni'n cefnogi hawliau dynol cyffredinol, gan gynnwys, wrth gwrs, yr hawl i brotestio yn heddychlon, a gwrthsefyll pob agwedd ar ormes.
Prynhawn da, Trefnydd. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ar ddatganoli rheilffyrdd. Fe glywsom ni lawer ynglŷn â hynny yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, ac rwy'n dyfalu y bydd y pwnc yn codi eto. Yr wythnos hon, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan wedi cyflwyno gwelliant i'r Bil Rheilffyrdd, sy'n galw am ddatganoli'r rheilffyrdd yn llawn. Fe fyddai hyn yn rhoi Cymru ar sail gyfartal â'r Alban, ac yn rhoi i ni'r pwerau cynllunio, ariannu a chyflawni er mwyn bod â'n rhwydwaith rheilffyrdd ein hunain. Fel clywsom ni'r prynhawn yma, mae'r gwelliant hwn gennym ni am ein bod wedi gweld Cymru ar ei cholled am flynyddoedd, gan golli biliynau o bunnoedd ar gyfer prosiectau sylweddol sydd o fudd i Loegr a'r Alban wrth i ni gael gadael ar ein holau. Fe fyddai datganoli rheilffyrdd yn llawn yn caniatáu i Gymru bennu'r blaenoriaethau sy'n angenrheidiol i ni ddiwallu anghenion ein cymunedau. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad pendant—'ydw' neu 'nac ydw': a ydych chi'n cefnogi'r gwelliant hwn ac a fyddwch chi'n annog eich cydweithwyr yn San Steffan i gefnogi'r gwelliant hwn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n falch gael y cyfle, fel cafodd y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma gyda llawer o gwestiynau ar y pwynt hwn, i ailadrodd mai ein safbwynt ni o hyd o ran datganoli'r seilwaith rheilffyrdd yw ein bod ni'n parhau i gefnogi'r argymhelliad gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i Gymru, yn union fel rydym ni'n cefnogi pob un o argymhellion y comisiwn. Mae hi'n bwysig fy mod i'n rhoi hynny ar y cofnod heddiw.
Ydym, rydym ni'n cydnabod bod hon yn broses a fyddai'n golygu ceisio datrys llawer o faterion, megis cyllid, etifeddiaeth, anghenion cynnal a chadw ac integreiddio trefniadau newydd i strwythur cyffredinol gweithrediadau rheilffyrdd. Mae angen datrys y materion hyn, ond mae ein hymrwymiad ni i ddatganoli'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn aros. Fe ddylai fod ymhlith cyfrifoldebau Cymru ac fe ddylid ei redeg er budd teithwyr Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd y pwyntiau hyn yn cael eu trafod yn San Steffan. Fe ddylai datganoli'r rheilffyrdd yn llawn ddod ochr yn ochr â setliad cyfiawn o gyllid, i sicrhau bod asedau rheilffyrdd hanfodol yn gallu cael eu cynnal a'u gwella i gwrdd ag anghenion pawb sy'n teithio ac yn cludo nwyddau ar y rheilffyrdd.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, os gwelwch chi'n dda? Mae tua 34,000 o ddynion yng Nghymru yn byw gyda neu wedi cael canser y prostad, ac mae angen cynhyrchion anymataliaeth ar oddeutu traean o'r rhai sy'n cael llawdriniaeth. Hyd yn hyn, mae hynny wedi golygu defnyddio pad tafladwy fel arfer, sy'n caniatáu urddas ac sy'n rhwydd ei ddefnyddio. Serch hynny, ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, rydyn ni wedi gweld y padiau hyn yn cael eu tynnu'n ôl ac yn eu lle fe roddir dillad isaf anymataliaeth y gellir eu golchi, a dywedir mai nodau cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru yw'r rheswm am hyn. Mae'r cynhyrchion golchadwy hyn yn creu heriau yn y byd go iawn, yn enwedig i rai sy'n gweithio yn yr awyr agored mewn dillad amddiffynnol haenog, fel ffermwyr, ac mae hynny'n effeithio yn fawr ar eu hurddas. Mae cleifion yn dweud mai dim ond pedwar i chwe phâr y byddan nhw'n eu cael—dim hanner digon—ac mae llawer sy'n methu â goddef y dillad isaf hyn yn gwario cannoedd o bunnoedd bob mis erbyn hyn ar brynu padiau yn breifat. Efallai y bydd y Llywodraeth yn cyfiawnhau hyn gan ei fod yn lleihau gwastraff, ond mae ysbytai a chartrefi gofal yn dal i ddefnyddio padiau tafladwy, tra bod gofyn ichi olchi dillad isaf golchadwy bob dydd, sy'n codi cwestiynau am gryfder y ddadl amgylcheddol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y newid hwn, a gofyn pa bris y mae Llywodraeth Cymru yn fodlon ei roi ar urddas dynion?
Diolch i chi am y cwestiwn pwysig hwnnw, Peter Fox. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried o ran ai newid polisi yw hwn gan un bwrdd iechyd penodol. Yn wir, rydych chi wedi rhoi'r cyd-destun o ran materion cynaliadwyedd a'r effaith amgylcheddol. Fe wnawn ni fynd â hyn yn ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n awyddus i godi'r pwynt hwn gydag ef yn uniongyrchol. Hefyd, dyma'r union beth y byddai gan Llais ddiddordeb ynddo, o safbwynt cleifion, i ymgysylltu a siarad am yr effeithiau hyn. Yn aml, mae yna wrthdaro, onid oes, rhwng un nod ac un arall. Felly, diolch i chi am godi hyn ar ran y dinasyddion a'r cleifion hynny, dynion, y mae'r newid hwn yn effeithio arnynt.
Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n siarad ag etholwr a oedd yn talu £140 y mis i wresogi fflat â dwy ystafell wely, er gwaethaf y ffaith fod panel solar ganddo ar y to. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â hynny, oherwydd mae'n golygu nad yw pobl yn gweld budd y buddsoddiad oherwydd y ffordd y mae'r grid yn gweithio. Felly, mae cyhoeddiad gwych yr wythnos diwethaf gan Ed Miliband am ddau ddatblygiad gwynt ar y môr enfawr, un oddi ar arfordir y gogledd, Awel y Môr, a'r ail oddi ar arfordir sir Benfro, generadur Erebus—. Bydd y datblygiadau yn cynhyrchu digon o ynni i gynhesu miliwn o gartrefi erbyn 2030. Felly, mae gennym ni bedair blynedd i ddatblygu systemau storio ynni Cymru i allu sicrhau y bydd hyn o fudd i bobl yng Nghymru, yn hytrach na dibynnu ar y Grid Cenedlaethol. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei strategaeth i sicrhau y bydd hynny'n digwydd, er mwyn inni gael mwy o bobl yn sylweddoli y gall ynni adnewyddadwy gynnig datrysiad mwy rhesymol i gynhesu eu cartrefi.
Diolch i chi, Jenny Rathbone, am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw. Ar sail profiad eich etholwr, mae'n ymddangos unwaith eto fod gwrthddywediad, on'd oes, o ran y buddsoddiad hwnnw mewn ynni adnewyddadwy a'r diffyg effaith mae'n ei gael o ran lleihau biliau tanwydd, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae angen i ni ystyried hyn yn nhermau cyhoeddiad diweddar Ed Miliband, fel roeddech chi'n sôn, a'r sefyllfa o ran grid ynni Cymru. Wrth gwrs, mae'n bwysig gwybod ein bod yn disgwyl i Lywodraeth y DU ymgynghori ar brisio cenedlaethol diwygiedig y gwanwyn hwn o ran Llywodraeth y DU yn eithrio prisio parthau o'i hadolygiad o fecanweithiau'r farchnad. Ond mae'r grid trydan yng Nghymru yn rhan annatod o system ynni Prydain Fawr ac mae angen i ni sicrhau bod y cysylltiad trawsffiniol cryf hwn gennym ni â'r hyn y mae hynny'n ei gyflawni o ran anghenion a disgwyliadau pobl. Felly, mae'n dda o beth eich bod wedi chi wedi rhoi hyn ar yr agenda ac y bydd yn cael ei ddwyn yn ei flaen.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, a fydd yn agos at eich calon chi, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac mae hwnnw'n ymwneud â dyfodol Aston Martin yng Nghymru. Mae dros 10 wythnos wedi bod erbyn hyn ers i'r gwneuthurwr cerbydau gyhoeddi bod mwy na 100 o swyddi mewn perygl yn ffatri Sain Tathan. Wrth gwrs, dyma'r gyfres ddiweddaraf o doriadau swyddi posibl, yn dilyn penderfyniad gan y cwmni i dorri 170 o swyddi ym mis Chwefror y llynedd. Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag etholwyr pryderus a chyda Rebecca Evans, ond dim ond ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod hyd yn hyn. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i mi fod y swyddi ym Mro Tathan dan amodau grant tan 2030. Fe fyddwn i'n falch pe byddech chi ac Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad i'r Siambr yn esbonio beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, yr amodau penodol sy'n gysylltiedig â'r oddeutu £90 miliwn a ddyfarnwyd i Aston Martin, yr hyn a ofynnodd Llywodraeth Cymru i Aston Martin ei wneud ers cyhoeddi'r gyfres o ddiswyddiadau posibl, ac yn olaf, pa gamau a gymerodd Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf i geisio helpu i roi hwb i werthiant gan Aston Martin yn fyd-eang. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae hyn yn agos iawn i gartref. Mae yn fy etholaeth i ac, yn wir, fe gefais i gyfarfod ag Aston Martin ddydd Gwener. Mae hi'n bwysig iawn, yn y cyfarfod hwnnw, fod Kanishka Narayan AS wedi ymuno â mi hefyd, oherwydd dyma lle mae'n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd yn glòs iawn, ac fe gawsom ni drafodaethau a chwestiynau ynglŷn â hyn yn y Siambr hon cyn y Nadolig, pan ddaeth y newyddion i'r amlwg am yr amgylchiadau pryderus, yr oedd cyfran ohonyn nhw'n deillio o'r tariffau a fygythiwyd gan yr Unol Daleithiau a oedd yn effeithio ar Aston Martin, a'r newidiadau yn y farchnad fyd-eang hefyd, gan gynnwys yn Tsieina, o ran cerbydau pwrpasol iawn Aston Martin. Rwyf i wedi cwrdd yn rheolaidd iawn hefyd ag Unite the Union ynglŷn â'r materion hyn, fel ein bod ni'n ymgysylltu â'r gweithlu a fy etholwyr i, ac, wrth gwrs, fe fydd effaith y diswyddiadau posibl yn cael ei ystyried—mae'n rhaid ystyried hynny—gan Lywodraeth Cymru o ran amodau'r grant.
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru o ran mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau troseddau cludiant nwyddau ar ffyrdd ac mewn arosfannau ar gyfer lorïau. Mae cwmni cludiant yn Wrecsam wedi cysylltu â mi gan godi'r pryder hwn yn benodol gyda mi. Maen nhw'n gweld cynnydd mewn troseddau cludiant nwyddau yng Nghymru, ac yn benodol fe roedden nhw'n sôn am ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r A470 ger Merthyr Tudful. Nawr, rwyf i wedi ceisio cysylltu ag Emma Wools, comisiynydd heddlu a throseddu de Cymru. Mewn gwirionedd, rwyf i wedi ysgrifennu at Emma Wools dair gwaith ac nid wyf i wedi cael yr un ymateb yn ôl oddi wrthi hi ynglŷn â'r mater hwn, felly mae hynny'n bryderus. Ond tybed pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o droseddau cludiant nwyddau, yn enwedig yn y lleoliadau hynny, ac fe fyddai croeso mawr i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet.
Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands. Wel, mae hyn yn rhywbeth sy'n gyfrifoldeb traws-lywodraethol o ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru a minnau, yn wir, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol o ran plismona. Fe fyddaf i'n codi hyn gyda fy nghydweithwyr, swyddogion a'r uned gyswllt â'r heddlu sydd gennym o ran materion y gwnaethoch chi eu codi, ac effaith troseddau cludiant nwyddau hefyd, yn enwedig o ran y sector cludo ac ym mhob cwr o Gymru, ond, wrth gwrs, fe wnaethoch chi ganolbwyntio ar Flaenau'r Cymoedd, sydd yn ardal awdurdod Heddlu De Cymru. Felly, diolch i chi am godi hynny gyda mi heddiw. Fe fyddwn ni'n gwneud gwaith dilynol ar hynny.
A gaf i ofyn i chi, Trefnydd, am ddatganiad ar ddatganoli plismona a datganoli cyfiawnder troseddol? Mae'r rhain yn faterion brys o ran cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Mae rhai blynyddoedd wedi bod ers i gomisiwn Thomas adrodd yn ôl. Mae llawer o flynyddoedd wedi bod ers i ni fod yn gweithio ar lasbrintiau ar gyfer cyfiawnder ieuenctid ac ar gyfer cyfiawnder i fenywod, ac nid ydym ni'n gweld y cynnydd y byddai llawer ohonom ni'n dymuno ei weld yn dilyn ethol Llywodraeth Lafur y DU. Felly, fe fyddai'n ddefnyddiol pe baem ni'n cael datganiad gennych chi, i roi diweddariad ar ein sefyllfa bresennol o ran datganoli cyfiawnder troseddol a datganoli plismona.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn, Alun Davies, am y cwestiwn hwnnw. A gaf i ddiolch i chi am y gwaith a wnaethoch chi'n flaenorol fel Gweinidog, yn enwedig o ran datblygiad y glasbrint cyfiawnder ieuenctid arloesol iawn hwnnw, a hefyd, ynglŷn â throseddau menywod, y glasbrint cyfiawnder menywod hefyd, a'n dygodd ni ymlaen ar y llwybr? Mae'n llwybr i ddatganoli—mae'n rhaid iddo fod, fel roeddech chi'n nodi—yr ydym ni'n bwrw ymlaen ag ef yn Llywodraeth Cymru. Roedd yn rhaid i hwn fod yn llwybr ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, ein huchelgais ni, fel roedd comisiwn Thomas yn ei awgrymu, yw i Gymru sicrhau datganoli plismona a chyfiawnder yn eu cyfanrwydd. Rwyf i wedi sôn eisoes heddiw am y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, rhywbeth llawer mwy diweddar, a oedd hefyd yn argymell datganoli plismona a chyfiawnder ieuenctid, a dyma lle rydym ni'n ei ysgogi drwodd, ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog gennym ni yma'r prynhawn yma, yn clywed y cwestiwn hwnnw hefyd. Mae'r gwaith hwn yn bwysig ac fe ddylid ei gyflawni ar frys.
Roeddwn i'n dymuno dweud yn olaf, Llywydd, fy mod i wedi cwrdd ag arweinwyr o'r awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth mor agos, on'd ydym ni, o ran y ddarpariaeth o'n gwasanaethau i gyd, ond hefyd o ran nodi'r ffordd ymlaen o ran datganoli. Mae pob un o arweinwyr yr awdurdodau lleol yng Nghymru, pob un o'r 22 awdurdod, yn gefnogol i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, ac maen nhw wedi ysgrifennu atom ni ac at y Dirprwy Brif Weinidog i fynegi hynny. Erbyn hyn, rydym ni wedi cyflwyno'r llythyr hwnnw i'r Dirprwy Brif Weinidog, David Lammy, ac rwy'n cwrdd â'r Gweinidog cyfiawnder ieuenctid. Mae'n rhaid i ni symud ymlaen, o ran goruchwyliaeth strategol, y bartneriaeth, trefniadau llywodraethu, ond, yn hollbwysig, o ran ariannu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Rydym ni'n ariannu dwy ran o dair ohonyn nhw eisoes yng Nghymru, ac mae'n rhaid i ni sicrhau'r camau terfynol hynny nawr, o ran —. Rydyn ni'n dymuno cymryd cyfrifoldeb. Rydyn ni'n gwneud hynny eisoes, ond rwy'n credu bod plismona—. Nid wyf i am ymhelaethu, Dirprwy Lywydd, dim yn fwy, ond mae plismona—. Mae wedi gwneud cymaint o synnwyr, ers cyhoeddiad diddymu comisiynwyr heddlu a throseddu, sef y dylem ni symud ymlaen nawr o ran ein strwythur pwrpasol ni ein hunain yng Nghymru, o ran atebolrwydd a llywodraethu ar gyfer plismona. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu adrodd ar hynny, yn sicr cyn diwedd y chweched Senedd hon.
Trefnydd, ni allaf gredu fy mod yn gorfod sefyll yma eto a gofyn i chi am ddatganiad ar hyn, ond, ar 16 Ebrill y llynedd, dyfarnodd Goruchaf Lys y DU, yn Neddf Cydraddoldeb 2010, bod y geiriau 'dyn', 'menyw' a 'rhyw' yn golygu rhyw biolegol. Mae'r dyfarniad yn glir. Mae'r gyfraith yn glir. Eto, yma yng Nghymru, ers naw mis bellach, mae menywod a merched yn dal i aros i chi weithredu i sicrhau eu diogelwch, ac am degwch. Felly Trefnydd, beth yw eich esgus nawr? Pam nad oes cynllun cydymffurfio Cymru gyfan o hyd, dim archwiliad o bolisïau'r sector cyhoeddus, a dim canllawiau clir ar gyfer ysgolion, ysbytai a chynghorau? Rwy'n gwybod eich bod chi, yn bersonol, yn ymddangos fel pe bai chi ddim yn gwybod beth yw menyw, sy'n ddryslyd o ystyried eich bod chi'n un. Ond mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n glir, ac y mae'n glir. Felly, pryd bydd y Llywodraeth hon yn diweddaru'r Senedd hon ac yn rhoi diogelwch menywod a phlant yn gyntaf, cyn eu dewisiadau ideolegol dirdro?
Wel, rwy'n synnu eich bod chi'n teimlo bod yn rhaid i chi barhau i ddod â'r cwestiwn hwn yma, pan fyddwch chi'n gwybod mai'r ateb clir yw ein bod yn aros—. Rydym ni'n aros—. Mae bellach gyda San Steffan, ac rydym yn aros am yr ymateb i god ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau, ac rydym yn gweithio gyda thimau ar draws Llywodraeth Cymru gyfan i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r dyfarniad a'r cod ymarfer statudol, unwaith y bydd yn cael ei gyhoeddi.
Rwy'n credu bod eich sylwadau yn eithaf amharchus, os gallaf ddweud, Laura Anne Jones. Mae Llywodraeth Cymru yn glir. A gaf i ddweud, wrth orffen—ac mae wedi cael ei ddweud gymaint o weithiau, ac rwyf am ei ailadrodd—y dylid cymryd unrhyw gamau o ganlyniad i'r dyfarniad i gydymffurfio â'r gyfraith gyda pharch—gyda pharch—tosturi a charedigrwydd tuag at bawb y gallai hwn effeithio arnynt?
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, hoffwn ddatganiad gan y Gweinidog diwylliant ynglŷn â pha gefnogaeth y gall ei roi i glybiau rygbi ledled y wlad gyda hyfforddiant iechyd meddwl. Nawr, ymwelais â BloomSpace yn ddiweddar, sy'n elusen iechyd meddwl yn fy etholaeth i, yn Ystradgynlais. Mae un o'r cyfarwyddwyr yno yn gwneud gwaith da iawn gyda rygbi cyffwrdd i helpu dynion sydd wedi gorffen chwarae rygbi i fynd yn ôl allan, i gwrdd â'u ffrindiau ac i fod yn egnïol eto. Fel y dywedais i, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu 1,000 o leoedd ar gyfer hyfforddiant iechyd meddwl mewn clybiau pêl-droed. Meddwl oeddwn i tybed a ellid ymestyn hyn i'r lleoliad clwb rygbi hefyd, ac a fyddai'r Gweinidog Diwylliant yn hoffi dod i fy etholaeth i i ymweld â chlwb rygbi Ystradgynlais, i weld y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud yn y maes hwnnw.
Diolch, James Evans, am roi hynny ar yr agenda heddiw, o ran fy natganiad busnes. Rwy'n gwybod y byddai Jack Sargeant, sydd wedi clywed y cwestiwn yna, yn barod iawn i ymateb ac i ymgysylltu â chi ar hyn, ar y mater pwysig iawn hwn, o ran rygbi ac iechyd a llesiant a llesiant meddyliol ein chwaraewyr.
Diolch i'r Trefnydd.
Cyn i ni symud ymlaen, rwy'n atgoffa'r Aelodau fod gan bob datganiad y prynhawn yma derfyn amser o 30 munud. Felly, bydd cwestiynau byr ac atebion cryno gan Weinidogion i gyd yn ddefnyddiol iawn er mwyn sicrhau y gellir galw ar bawb sydd wedi rhoi eu henwau i lawr.
Eitem 3 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, diogelwch tomenni glo. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a cheisiaf ddilyn eich canllawiau yn y fan yna.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pendant i ddiogelu cymunedau ledled Cymru rhag y bygythiad sy'n gysylltiedig â'n gwaddol mwyngloddio.
Mae'r gwaith hwn ar ddiogelwch tomenni glo, sydd wedi'i wreiddio yn ein hanes, wedi'i lunio gan heriau newid hinsawdd, ac wedi'i ysgogi gan ddyletswydd gofal i'n cymunedau, yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau mwyaf y Llywodraeth hon. Mae diogelwch tomenni glo yn fater sy'n cyffwrdd â bywydau miloedd, gyda mwy na 2,500 o domenni glo nas defnyddir ledled ein cenedl. Mae'r cymunedau hyn wedi cario baich ein gorffennol diwydiannol, ac ein cyfrifoldeb ni yw amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol. Ym mis Medi diwethaf, gwnaethom gam mawr ymlaen pan dderbyniodd y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) Gydsyniad Brenhinol. Mae'r ddeddfwriaeth hon sy'n arwain y byd yn creu'r fframwaith rheoleiddio modern, hirdymor sydd ei angen ar Gymru, ac wrth ei wraidd mae sefydlu corff cenedlaethol pwrpasol, sef awdurdod tomenni nas defnyddir Cymru. Dyma'r sefydliad cyntaf o'i fath, sy'n darparu asesu, categoreiddio, cofrestru a goruchwylio cyson o domenni nas defnyddir ledled Cymru. Hyd nes y bydd yr awdurdod wedi'i sefydlu'n llawn ac yn weithredol, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, gydag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid i gynnal ein harchwiliad a'n gwaith cynnal a chadw trwyadl ledled Cymru. Mae ein neges i gymunedau yn glir: mae eich diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth ddiamod.
Ni ellir cyflawni'r gwaith hwn heb fuddsoddiad sylweddol a pharhaus. Nid oedd Llywodraeth flaenorol y DU wedi helpu i ariannu cyfrifoldeb a rennir dros y gwaddol diwydiannol hwn yn y DU. Rwyf eisiau cydnabod cyfraniad Llywodraeth bresennol y DU, sydd wedi ymrwymo £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon a £118 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf, gan ddod â chyfanswm buddsoddiad y DU i £143 miliwn. O'i gyfuno â chyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu bod mwy na £230 miliwn bellach wedi'i ymrwymo i ddiogelwch tomenni glo ledled Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu'r realiti bod y tomenni hyn yn rhagflaenu datganoli a bod y cyfrifoldeb i fynd i'r afael â nhw yn cael ei rannu.
Wrth edrych ymlaen, mae lefel y galw am gyllid yn parhau i dyfu. Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dosbarthu'r cyllid hwn fel grant amlflwyddyn, fel rhan o gynllun cyllido pedair blynedd. Mae'r dull hwn yn hanfodol a bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol gynllunio, datblygu a chyflawni cynlluniau ehangach a mwy cymhleth. Roeddwn i'n falch o gyhoeddi'r buddsoddiad uchaf erioed a'r dyraniad cyntaf o gyllid o'r grant ddydd Iau. Cadarnhaodd hyn geisiadau llwyddiannus gan 10 awdurdod lleol a CNC gwerth cyfanswm o dros £80 miliwn, a bydd hyn yn ariannu gwaith ar dros 400 o domenni rhwng nawr a 2030.
Nawr, dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi ymweld â sawl tomen lo nas defnyddir i gwrdd â phartneriaid cyflenwi ac i weld y gwaith sy'n cael ei wneud, ac i siarad â'r cymunedau yr effeithir arnynt. Wrth siarad â thrigolion sy'n byw yng nghysgod y tomenni hyn, mae'n amlwg eu bod eisiau mwy o wybodaeth, felly, mewn ymateb i hyn, yr hydref diwethaf, fe wnaethom ddosbarthu taflen gyda gwybodaeth i 722,000 eiddo, eiddo preswyl a busnes, ledled Cymru yng nghyffiniau tomen lo. Rydym hefyd wedi sefydlu strategaeth ymgysylltu â'r gymuned sy'n canolbwyntio ar gymunedau sy'n byw ger y tomenni nas defnyddir hynny a rhanddeiliaid allweddol.
Rydym hefyd yn gwneud cynnydd sylweddol wrth sefydlu'r awdurdod. Rydym wedi cadarnhau y bydd pencadlys yr awdurdod yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Rhyd-y-car ym Merthyr Tudful. Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu egwyddor syml ond pwysig: rhaid i'r sefydliad fod wedi'i wreiddio yn y cymunedau y mae'n bodoli i'w hamddiffyn. Bydd lleoli'r pencadlys ym Merthyr yn rhoi'r awdurdod wrth galon cymunedau'r meysydd glo a bydd yn creu tua 60 o swyddi newydd. Rwy'n falch hefyd o gadarnhau bod Fiona Jones OBE wedi'i phenodi fel cadeirydd cyntaf yr awdurdod. Dechreuodd Fiona ei thymor pum mlynedd ym mis Tachwedd y llynedd ac rydym hefyd wedi dechrau'r broses recriwtio ar gyfer y prif swyddog gweithredol, gyda'r hysbyseb yn mynd yn fyw ym mis Rhagfyr.
Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod gan yr awdurdod newydd yr offer a'r arweiniad sydd eu hangen arno i gyflawni ei swyddogaethau hanfodol o'r diwrnod cyntaf. Rydym wedi sefydlu dau grŵp arbenigol, grŵp cynghori technegol a gweithgor gweinyddol, gan ddod ag arbenigedd gweithredol a thechnegol at ei gilydd i lunio canllawiau sy'n gadarn ac ymarferol ac yn addas i'r diben. Gallaf gadarnhau y byddwn yn ymgynghori ar y canllawiau drafft ar gyfer yr awdurdod a'r rheoliadau apelio drafft yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn rhoi cyfle i randdeiliaid a chymunedau lunio'r dogfennau pwysig iawn hyn. Mae'r cynnydd yn dda, Dirprwy Lywydd, ac rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gael yr holl ganllawiau a rheoliadau yn barod erbyn i'r awdurdod gael ei sefydlu ar 1 Ebrill 2027.
Bydd yr awdurdod hwn yn dod ag arbenigwyr ynghyd ar draws meysydd peirianneg geodechnegol, gwyddor amgylcheddol, data a chynllunio argyfwng. Bydd hefyd yn helpu i greu ffrwd sgiliau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys trwy brentisiaethau a llwybrau addysg ôl-16. Mae Cymru, Dirprwy Lywydd, yn cael y cyfle i arwain unwaith eto, y tro hwn nid trwy fwyngloddio ei hun, ond trwy ddatblygu arbenigedd sy'n arwain y byd wrth reoli ei waddol yn wyneb hinsawdd sy'n newid.
Mae cynnydd da hefyd wedi'i wneud o ran sefydlu gwasanaethau digidol ar gyfer yr awdurdod newydd, mae contractau wedi'u dyfarnu i ddau gyflenwr ac maen nhw'n gweithio ar y cyd i weithredu'r llinell o wasanaethau busnes sydd eu hangen ar gyfer yr awdurdod er mwyn dechrau gweithredu ar y diwrnod cyntaf.
Dirprwy Lywydd, mae sefydlu'r awdurdod tomenni nas defnyddir yn nodi newid dros genedlaethau yn y ffordd y mae Cymru'n rheoli'r risgiau a adawyd gan ein gorffennol diwydiannol. Gyda'r Ddeddf bellach ar waith, y cadeirydd wedi'i benodi, y pencadlys wedi'i gadarnhau, a'r lefelau uchaf erioed o gyllid wedi'u sicrhau, rydym yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol mwy diogel. Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd ers 2020, ond mae mwy i'w wneud. Mae hon yn ymdrech ar y cyd, un wedi'i seilio ar bartneriaeth, wedi'i harwain gan dystiolaeth ac wedi'i hysgogi gan ein dyletswydd i amddiffyn y bobl rydym ni'n eu gwasanaethu. Gyda'n gilydd, rydym yn sicrhau nad yw trasiedïau'r gorffennol yn cael eu hailadrodd, ac y gall cymunedau ledled Cymru edrych at ddyfodol mwy diogel.
Roedd cymunedau glo Cymru yn sbarduno'r chwyldro diwydiannol. Wrth i'r glo gael ei echdynnu, echdynwyd gormod o'r cyfoeth i gyfoethogi unigolion gan adael ein cenedl. Mae ein buddsoddiad cyfunol nawr gan ddwy Lywodraeth yn niogelwch a llesiant y cymunedau hyn a roddodd gymaint, yn swyddi newydd cyflog uchel yn y Cymoedd hyn ac yng Nghymru, buddsoddi er mwyn sefydlu awdurdod tomenni nas defnyddir sy'n arwain y byd, ac i gydnabod y ddyled sy'n ddyledus i genedlaethau a weithiodd o dan y ddaear.
Rydym ni, fel gwleidyddion, yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau diogelwch tomenni glo, ac, yn wir, mae unrhyw un sy'n byw yn agos at un, yn ymwybodol iawn o'r peryglon sydd bellach i'n cymunedau sydd wedi'u lleoli yn agos at hen safleoedd tomenni nas defnyddir. Nid rhestrau haniaethol yw'r safleoedd hyn; maent yn rhan o'r dirwedd ddyddiol i filoedd o deuluoedd ledled Cymru, llawer ohonynt yn byw gyda'r pryder parhaus y gallai digwyddiadau tywydd eithafol roi eu cartrefi, eu bywoliaeth a'u diogelwch mewn perygl. Profodd cymunedau fel Tylorstown, oherwydd stormydd y gaeaf a glaw eithafol, dirlithriad tomen glo nas defnyddir, ac rydym yn gwybod am lithriadau eraill a ddigwyddodd pan gawsom y digwyddiadau hinsoddol difrifol hyn.
Nawr, mae'r digwyddiad wedi arwain at sefydlu tasglu yn ddiweddar—yn Tylorstown, ac, wrth gwrs, arweiniodd wedyn at Fil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas defnyddir (Cymru), y cyntaf o'i fath, ac mae i fod i weithredu a mynd i'r afael â diogelwch tomenni glo. Ar hyn o bryd, mae 2,573 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru, 360 yn y categorïau mwyaf difrifol, D ac C, 20,000 o domenni nas defnyddir eraill yng Nghymru, ac mae tua 800,000 o aelwydydd yn cael eu cyfeirio er mwyn cael cyngor ynghylch y tomenni hyn.
Nawr, rydym yn croesawu'r cynllun grant newydd a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ond dywedaf hyn i ddechrau: yn rhy aml rydw i wedi gweld ac rydw i wedi profi sut mae awdurdodau newydd yn cael eu sefydlu ac mae'n ymddangos eu bod nhw—. Yn amlwg, ni allwch fwrw ymlaen â hyn hebddo, ond ble mae'r tryloywder wrth sefydlu, penodi'r cadeiryddion a'r tasglu a fydd ar yr awdurdod hwn? Mae llawer o arian yn mynd i mewn nawr, ac, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi tynnu sylw at ddiffyg cefnogaeth gan Lywodraeth flaenorol y DU, nid oedd hynny'n hollol wir.
Felly, mae angen i ni gadw rheolaeth dros ddiogelwch y safleoedd hyn. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw'r pwyslais yn parhau i fod wedi'i gyfyngu i'r safleoedd risg uchaf yn unig. Rhaid i ni sicrhau bod dosbarthiadau tomenni eraill yn cael eu monitro a'u cynnal yn briodol.
Disgwylir i gam 1 o'r cyllid hwn gael ei ddyrannu i 10 awdurdod lleol a CNC tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2029-30. Felly, rydym ni eisiau sicrhau bod y cyllid hwn rydych chi bellach yn ei frolio ar ôl 26 mlynedd o adael y mater hwn—. Byddaf yn gwylio gyda diddordeb, ac nid wyf yn credu mai fi fydd yr unig un, i weld sut y byddwch chi'n defnyddio'r cyllid hwn ac, unwaith eto, y tryloywder sy'n mynd i gael ei gymhwyso wrth benodi'r bobl hyn. Yn rhy aml, rydym yn gweld yn eich sefydliadau a'ch awdurdodau allanol neu hyd yn oed eich sefydliadau mewnol mewn sefyllfa lle mae'r cyllid yn ymwneud â bod yn rhodresgar o flaen y sefydliadau hyn. Mae cyflogau da yn mynd i'r cadeiryddion, y prif weithredwyr a phethau felly; mae angen i'r arian hwn fynd i'r gwaith gwirioneddol sydd ei angen i wneud y safleoedd hyn yn ddiogel. Felly, a wnewch chi, y prynhawn yma, roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr awdurdod, Ysgrifennydd Cabinet, a rhoi mwy o wybodaeth i ni? Oherwydd ni ddylem fod yn ei chael ar ôl y digwyddiad, dylem fod yn rhan ohono fel Aelodau o Senedd Cymru. Diolch yn fawr.
Wel, Janet, rwy'n nodi fel llefarydd y fainc flaen dros y Ceidwadwyr, eich bod yn croesawu'r cyllid rydym ni wedi'i roi i mewn iddo, ac rwy'n pwysleisio: rydym ni wedi ei roi i mewn iddo. A dim ond i'ch cywiro: ni ddaeth pishyn ceiniog oddi wrth y Llywodraeth Dorïaidd ar ôl blynyddoedd o ofyn. Felly, dim pishyn ceiniog. Felly, rwy'n cymeradwyo'r ffaith eich bod eisiau gweld tryloywder i'r trethdalwr, ond gadewch i mi wneud yn glir iawn: y cyhoeddiad £80 miliwn, pedair blynedd, amlflwydd yr ydym wedi'i wneud sef ein bod yn gweithio gyda 10 awdurdod lleol ar dros 400 o gynlluniau ledled Cymru, edrychwch ar hynny ac edrychwch ar y tryloywder, ewch allan i ymweld â rhai o'r rheini, oherwydd fy mod i wedi bod yno, rydw i wedi bod gyda'r cymunedau hyn a gweld beth sy'n digwydd, a gweld yr effeithiau ar lawr gwlad o wneud y cymunedau hyn yn ddiogel nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ond rwy'n ei gweld hi'n afresymol a hurt, ydw wir, bod y buddsoddiad yr ydym yn ei roi nawr, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn cael ei feirniadu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, sef y gallai hwn fod ar gyfer swyddi â chyflog da. Fe ddywedaf wrthych hyn, bydd y swyddi hyn â chyflog da yn mynd i ddynion a menywod yn ein Cymoedd. Y cyfoeth a aeth i unigolion y tu allan i'r Cymoedd hyn ac a aeth allan o'r genedl hon, wel rydym ni nawr yn ei roi yn ôl i mewn iddynt, oherwydd nhw fydd y bobl sy'n gwneud yr archwiliadau hydrolegol, yn gwneud y geobeirianneg, gan wneud y tomenni hyn yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, os gwelwch yn dda, craffwch arno hyd at syrffed, ond bydd yr holl arian hwn yn cael ei roi mewn gwirionedd ar gyfer diogelwch a llesiant y cymunedau hyn, ac ar gyfer ôl-ddefnydd o'r tomenni glo hyn hefyd, ac yn mynd ôl i'r cymunedau hyn, ac rydym i gyd yn credu mai dyma lle mae'n haeddu mynd.
O ran yr awdurdod ei hun, rhoddais ddiweddariad trylwyr iawn, rwy'n meddwl, Dirprwy Lywydd, wrth ei sefydlu. A dim ond o ran y—. Soniais fod Fiona Jones wedi'i phenodi'n gadeirydd, rydym ni yn y broses recriwtio ar gyfer y prif swyddog gweithredol ar hyn o bryd. Yn amodol ar hynny, Janet, fe'i dilynir gan hysbyseb, agored a thryloyw, ar gyfer aelodau'r bwrdd, felly mae hynny i gyd mewn llaw. Ni fydd diffyg tryloywder.
Dwi'n ddiolchgar am y datganiad. Mae gen i rai cwestiynau dwi eisiau eu gofyn—mi wnaf i jest aros—ond dwi eisiau dweud cymaint rwy'n croesawu hyn. Dwi wir yn croesawu hyn. Yn ystod Rhan 3 o'r Bil tomenni glo llynedd, roedd rhai o'm gwelliannau i yn ceisio cyflwyno gwaharddiad ar werthu glo oedd wedi'i dynnu o'r tir neu o domen yn ystod gwaith adferol. Fe gawsom ni sicrwydd y byddai newid yn cael ei gyflwyno i'r Town and Country Planning (Notification) (Coal and Petroleum) (Wales) Direction 2018, i'w gwneud hi'n llwyr ddi-amwys bod y cyfeiriad at ddatblygiadau glo yn cynnwys gweithrediadau yn ymwneud â thomenni glo, a hefyd y byddai disgwyliad i awdurdodau cynllunio roi gwybod i Weinidogion Cymru, fel bod cyfle i alw ceisiadau mewn. Felly, buaswn i'n hoffi cael diweddariad ar hynny, plis.
Dwi'n gwybod bod dadleuon yn digwydd yn San Steffan ynglŷn â chynnwys tynnu glo o domenni fel rhan o'r gwaharddiad trwyddedu glo. Mi fuasai hi'n dda i wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny.
A dwi hefyd yn pryderu, o edrych ar y polisi glo sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, dwi'n pryderu y gall Llywodraeth yma yn y dyfodol ecsbloetio'r gaps sydd ynddo fe, oherwydd mae'r polisi presennol yn tybio yn erbyn tynnu glo, oni bai am amgylchiadau eithriadol, ac mae lan i Weinidogion Cymru i ddyfarnu beth yw'r amgylchiadau hynny. Gall Llywodraeth sydd efallai ddim yn poeni o gwbl am yr amgylchedd yn y dyfodol gymryd mantais o hynny. Felly, a fyddech chi'n gweithio gyda'r Llywodraeth yn San Steffan i newid Deddf y Diwydiant Glo 1994 i wahardd tynnu glo o domenni, i gau'r bwlch hwn, plis?
O ran safleoedd brig, gwn fod pryderon difrifol ynglŷn â'r tomenni newydd y gellid eu gadael fel gwaddol Ffos-y-frân, sef y pwll glo mwyaf diweddar i'w gau yn y DU, os nad yw Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ynghylch hyn. Byddai hynny'n ychwanegu tair tomen arall at yr hyn y mae'n rhaid i'r awdurdod ymdrin â nhw. Tybed a yw hynny'n bryder ac a yw'r Llywodraeth yn meddwl ymyrryd o ran hynny.
I ddychwelyd at y materion ehangach, bydd cysgod tomenni glo yn para cyhyd ag y byddant yn ein plagio, cyhyd ag y byddant yn eistedd fel ysbrydion ar y mynyddoedd, yn poenydio'r cymunedau islaw. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r buddsoddiad a'r gwaith yma, ond ni ddylai Cymru fod yn talu amdano. Gadawyd y tomenni glo hyn fel sbwriel ar ein tirweddau, heb unrhyw ystyriaeth o'r risg angheuol y gallent ei achosi, gwaddol parhaol o ddirmyg a difaterwch San Steffan—rhywbeth sy'n ein hatgoffa o greulondeb glo. Ni allwn ganiatáu i'n Cymoedd ddioddef y tramgwydd hwn eto. Byddai'n gwawdio poen ein gorffennol pe bai cwmnïau preifat yn gallu ail-gloddio'r glo yn y tomenni hyn er mwyn gwneud elw: arian yn cael ei rwygo o'r ddaear unwaith eto a'i ddwyn i lefydd ymhell i ffwrdd o'n cymunedau, adlais chwerw o'r hyn a ddigwyddodd o'r blaen.
Ni ddylid caniatáu cynigion fel yr hyn sydd wedi'i gyflwyno yn nhomenni Bedwas o dan bolisi'r Llywodraeth hon. Dylid cau unrhyw fylchau mewn deddfwriaeth, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth neu anhawster sy'n codi, dylem fynnu bod San Steffan yn cyflawni ei rwymedigaethau i'r rhai a fu farw yn ein Cymoedd a thalu'r hyn sy'n ddyledus i ni'n llawn.
Hoffwn i wybod—
—a byddwn yn gwerthfawrogi clywed, pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU i gynyddu'r cyllid y maen nhw'n ei ddarparu. Rwy'n croesawu'n fawr yr holl fuddsoddiad a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar hyn, a'r sicrwydd y mae hynny'n ei roi i gymunedau nad ydynt wedi cael eu hanghofio.
Felly, am hynna, diolch yn fawr iawn.
Diolch, Delyth. Diolch yn fawr iawn. A diolch yn fawr iawn am eich croeso i'r cynlluniau yma heddiw hefyd.
Mae'n bwysig nad ydym yn tynnu ein llygad oddi ar y bêl o ran hyn, oherwydd dyma ddechrau taith hir o wneud y tomenni hyn yn ddiogel a gydag ôl-ddefnydd, o bosibl, i'r cymunedau hyn hefyd. Rydym ni'n mynd i fod yma am amser hir yn gwneud y gwaith hwn, ac mae yna lawer o swyddi yn y maes hwn hefyd, ac mae angen i ni, yn wir, wneud yn siŵr bod y swyddi yn mynd i'n pobl ifanc yn ein Cymoedd. Rwy'n gweld hyn yn digwydd eisoes, gan gynnwys, gyda llaw, wrth ymgymryd â phrentisiaethau nawr, mewn llifogydd ond hefyd wrth adfer pyllau glo a thomenni glo, gydag awdurdodau lleol, yn gweithio gyda'r CLlLC, yn ogystal â'r awdurdod newydd, yn ogystal â gyda chontractwyr, ac ati.
Bydd amgylchiadau—. Fe wnaethom drafod hyn yn helaeth wrth i'r ddeddfwriaeth fynd drwodd, a diolch am eich ymgysylltiad ar hynny. Bydd amgylchiadau lle bydd angen symud neu ailfodelu glo, ac weithiau mae hynny er mwyn cael mynediad at safleoedd hefyd. Weithiau er mwyn gwneud y tomenni hyn yn ddiogel, bydd yn rhaid i ni symud glo oddi ar y safle hwnnw. Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o'r sefydliadau allanol hynny, a diolch iddynt am eu lobïo a'u hymgysylltiad hefyd. Byddent eisiau mynd ymlaen a dweud na ddylai glo gael ei dynnu oddi ar y safle mewn unrhyw ffordd, neu hyd yn oed ei werthu.
Nawr, rydym wedi gwneud ein polisi glo yn glir. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir beth yw'r gwaith ychwanegol rydym ni'n mynd i'w wneud hefyd. Ond rydym yn cydnabod y gall fod amgylchiadau pan fo glo yn cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw ei losgi fel tanwydd ffosil, sef fel hidlo a defnyddiau eraill. Mae yna ddefnyddiau eraill ar gyfer glo hefyd. Felly, nid ydym eisiau diwygio'r polisi sylfaenol i liniaru'r angen i wella llesiant a diogelwch y cymunedau hyn mewn gwirionedd. Dyna pam mae'r polisi fel y mae.
Fe wnaethoch chi sôn am fater critigol, wrth gwrs, Ffos-y-frân. Nawr, byddwch chi'n deall mai mater cynllunio byw yw hwn. Ni allaf wneud sylwadau ar fanylion hyn neu geisiadau eraill sydd o dan brosesau cynllunio byw. Ond rwyf eisiau ei gwneud yn glir bod adfer y safleoedd ôl-ddiwydiannol hyn, fel Ffos-y-frân, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y safleoedd hyn nid yn unig yn cael eu hadfer, ond hefyd yn darparu manteision parhaol i gymunedau lleol ac i'r amgylchedd hefyd. Ac, yn olaf, o dan unrhyw amgylchiadau nawr nid ydym yn y sefyllfa lle mae Cymru'n cael ei gadael ar ei phen ei hun, fel y cawsom yn y blynyddoedd diwethaf, i dalu am hyn ein hunain. Mae gennym bellach Lywodraeth y DU sy'n sefyll gyda Llywodraeth Cymru ac, yn bwysicach fyth, yn sefyll gyda'n cymunedau meysydd glo, ac mae angen i ni sicrhau bod hynny'n parhau am flynyddoedd lawer i ddod.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw, rwy'n credu ei fod yn gynnydd mawr, ac rwy'n croesawu sefydlu'r corff cenedlaethol ymroddedig hwn a'r swyddi â chyflog da y bydd yn dod yn ei sgil. Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn hwb mawr i ardaloedd y Cymoedd yr effeithiwyd arnynt gan waddol glo ers cyhyd.
Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi'r dyraniad cyntaf o gyllid. Y peth pwysig iawn, rwy'n credu, ynghylch y datblygiad hwn yw bod yn rhaid i ni gadw'r cymunedau yn rhan o'r broses a bod yn rhaid iddynt fod yn ymwybodol o sut mae'r arian hwn yn cael ei wario a sut mae'n mynd i roi hwb i'w cymunedau. Felly, tybed a allai ddweud sut y bydd hyn yn digwydd wrth i'r gwaith fynd rhagddo, oherwydd, wrth gwrs, fel y dywedwyd sawl gwaith heddiw, mae'r pryder hwn wedi bod fel cwmwl du drostyn nhw ers cyhyd.
Yn ail, yn gyflym iawn, rwy'n gwybod bod llawer o sefydliadau'r trydydd sector wedi bod yn mynegi pryder y dylid rhoi llawer o sylw i amrywiaeth y safleoedd, sydd wedi cael eu hesgeuluso ers cyhyd, a bod unrhyw waith adfer yn ystyried hynny.
Diolch yn fawr iawn, a Julie, diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth i hyn ac am gydnabod bod hwn yn gam pwysig ymlaen. Gyda llaw, mae sefydlu'r awdurdod hwn, a'r cyllid rydym ni wedi'i roi y tu ôl i hyn nawr, yn denu diddordeb yn rhyngwladol, oherwydd mae yna lawer o ardaloedd, gan gynnwys yng ngorllewin Ewrop, mewn hen wladwriaethau dwyrain Ewrop hefyd, sydd wedi gweld gwaddol tebyg ond nad ydynt ar yr un cam â hwn. Felly, rydym ni'n awyddus i weithio gyda nhw a dangos beth y gellir ei wneud. Ond bydd hon yn broses ddysgu i ni hefyd, sicrhau'r cyllid, sefydlu'r awdurdod pwrpasol hwn nad yw'n ymwneud mwyach ag echdynnu glo, ond sy'n ymwneud â gwneud y cymunedau hyn yn ddiogel, ac rydych chi'n iawn, mae hefyd yn ymwneud â'r ôl-ddefnydd. Mae'n ymwneud â'r fioamrywiaeth, y defnydd hamdden posibl. Gyda rhai ohonynt, ar sail safle-benodol, mae potensial hefyd ar gyfer ynni cymunedol, lle mae'n mynd yn ôl i'r cymunedau hynny. Nid ar bob safle, ond lle mae'n iawn a lle mae'n addas i'r safle hefyd.
Ac, yn wir, o ran ymgysylltu â thrigolion, rwy'n credu fy mod wedi bod i Gwmtyleri nawr ar dri achlysur. Roeddwn yno y bore hwnnw, yn y tywyllwch, pan lithrodd ochr y domen honno, i fyny at fy fferau, i fyny at fy nghrimogau, mewn slyri. Rydw i wedi bod yno gyda thrigolion wrth i'r gwaith fynd ymlaen, rhan o'r rhaglen hon, i wella hynny a mynd i'r afael â'r heriau ar y rhan honno o'r domen yno. Rydw i wedi bod yno wedyn, a bob tro roedd y trigolion hynny'n dweud, 'Rydym ni eisiau bod yn rhan o hyn, rydym ni eisiau clywed beth sy'n digwydd, rydym ni eisiau bod yn ymgysylltu, yn cael ein hysbysu, rydym ni eisiau gwybod beth mae'r peirianwyr yn ei ddweud, rydym ni eisiau gwybod beth mae'r awdurdod lleol yn ei ddweud, rydym ni eisiau gwybod beth mae CNC yn ei wneud.' Felly, rydym ni wedi ceisio gwneud i hynny ddigwydd, oherwydd y sicrwydd eithaf i lawer o'r cymunedau hyn, yn enwedig y rhai o gategori uwch, yw eu bod yn cymryd rhan ynddo. A wyddoch chi, mae ganddyn nhw lawer o wybodaeth leol hefyd? Byddant yn dweud, 'Wel, ydych chi'n sylweddoli nad yw'r domen yn y fan yna'n unig? Mae hefyd fan 'co.' Mae'n ddrwg gennyf, mae hynna'n swnio'n debyg i iaith y Cymoedd nawr, ond byddant yn dweud, 'Nid oes dim ond cwlfer acw; mae yna nant draw fanna. Ac nid oedd y lle hwnnw'n arfer bod yn goediog; mae e nawr, ond o dan hwnnw—.' Ac ati. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag ymgysylltu â nhw. Felly, dyna pam mae'r strategaeth ymgysylltu â'r gymuned mor bwysig. Ac rwy'n dechrau ei gweld yn gweithio. Mae'n rhaid i ni wneud hyn gyda chymunedau.
Rwy'n croesawu'r datblygiad hwn hefyd. Hoffwn ofyn cwestiwn penodol i chi, os gwelwch yn dda. Nid yw'r awdurdod tomenni nas defnyddir newydd i fod yn weithredol tan 2027, felly pa sicrwydd allwch chi ei roi na fydd y cynllun grant interim yn arwain at sefyllfa debyg i ruthr am aur gan gontractwyr preifat yn mynd ar drywydd atebion rhad, tymor byr cyn i safonau rheoleiddio mwy cadarn y Ddeddf newydd ddod yn gwbl orfodadwy? Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Jane, a diolch eto am eich cefnogaeth i hyn. A gallaf roi sicrwydd diamwys i chi, oherwydd, yn y cyfnod hwn nawr, rydym yn dal i weithio gyda CNC, yr awdurdod mwyngloddiau presennol, a phartneriaid awdurdodau lleol a roddodd y cynigion ar gyfer y gwaith. Byddwch yn gweld bod rhai o'r contractwyr y maent yn eu defnyddio yn gontractwyr profiadol iawn, adnabyddus iawn, yn aml, gyda llaw, wedi'u lleoli yn y cymoedd y maent yn gwneud y gwaith ynddynt. Mae'r gwaith yn cael ei ddylunio a'i beiriannu gan bobl sydd ag arbenigedd helaeth yn y maes hwn. Nid yw hon yn sgarmes afreolus mewn unrhyw ffordd. Mae cynigion wedi dod i mewn. Mae cynigion wedi cael eu profi, nid yn unig gan CNC, ond gyda'n swyddogion yn bwrw golwg drostyn nhw hefyd. Ac mae'n wych gweld, gyda llaw, y galw. Rydym wedi gallu cydweddu pob gofyniad credadwy cadarn am yr arian hwn i fwrw ati ar y tomenni â blaenoriaeth. Rydym ni wedi eu cydweddu nhw. Bydd mwy i'w wneud, ond maen nhw i gyd yn geisiadau cadarn sydd wedi bod yn destun craffu manwl cyn i unrhyw arian gael ei ddyrannu iddynt.
Dirprwy Brif Weinidog, gallaf ddweud nad yw hyn yn flaenllaw yn eich meddwl yn unig; rwy'n credu ei fod yn eich calon chi hefyd, ac mae hynny'n dod drosodd. Rwy'n siarad heddiw ar ran y cymunedau o bobl sy'n byw o dan domen Bedwas, yng nghysgod llythrennol ein gorffennol diwydiannol. I lawer, nid yw'n achos o bolisi cynllunio; mae'n fater o bryder dyddiol. Rwyf hefyd yn byw ym mhentref glofaol Abertridwr. Mae fy nheulu yng nghlwm yn llwyr wrth hanes glo. Lladdwyd fy hen daid mewn trychineb mwyngloddio. Collodd gyfyrder i mi ei fywyd yng nglofa Windsor yn Abertridwr. Roedd gen i domen gwastraff pwll glo ar waelod fy ngardd, ond mae bellach wedi'i thirlunio ac mae ysgol ac ystad dai yno. Ond gadewch i ni fod yn glir: nid cynllun diogelwch yw'r cynnig presennol ar gyfer Bedwas. Caeodd pwll glo Bedwas, gyda llaw, ar ôl streic y glowyr ym 1984. Ni ailagorodd erioed. Yr hyn sy'n digwydd yno, rwy'n credu, yw mwyngloddio yn llechwraidd, ac mae cymunedau bob ochr i fynydd Bedwas mewn gwirionedd yn byw mewn ofn, ac ni all hynny fod yn iawn. Mae gen i lawer i'w ddweud, ond rwy'n credu y byddai'n well i mi symud ymlaen—
Rydych chi wedi cael eich munud, felly gofynnwch eich cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Byddwn yn parhau, fel chi, i fynnu bod Llywodraeth y DU yn ariannu'r gwaith hwn yn iawn. Mae oes glo drosodd. Mae dyfodol Cymru yn ymwneud ag ynni glân.
Y cwestiwn, Dirprwy Brif Weinidog, yw hyn: a wnewch chi ailadrodd bod polisi glo y Llywodraeth yn amddiffyn rhag cynnig Bedwas, ac yn atal echdynnu o dan yr esgus o adfer—oherwydd dyna sy'n fy nychryn i—ac a wnewch chi sicrhau bod adfer bob amser yn golygu diogelwch y cyhoedd, nid elw preifat, ac ymunwch â ni i fynnu, eto, bod Llywodraeth y DU yn bodloni ei rhwymedigaeth ariannol lawn i bobl Cymru? Diolch.
Ar y pwynt olaf, yn sicr, yn bendant, Lindsay. Rwy'n credu bod y gwaith, a'n hymgysylltiad â Llywodraeth y DU, wedi bod yn hollbwysig. Roedden nhw'n barod i fuddsoddi, ond roedd angen i ni roi gwybod iddyn nhw faint roedden ni eisiau ar gyfer y pedair blynedd nesaf, faint y gellir ei wneud o fewn y capasiti sydd gennym a'r cynigion sy'n dod ymlaen, ac maen nhw wedi rhoi pob pishyn ceiniog i ni y gwnaethom ofyn amdano. Ac mae hynny'n gyferbyniad llwyr â'r hyn oedd yn digwydd o'r blaen. A bydd mwy hefyd, oherwydd bydd angen i ni fynd yn ôl atyn nhw yn y blynyddoedd nesaf.
Mae gennym raglen bedair blynedd nawr—£80 miliwn, 400 o safleoedd, 10 awdurdod lleol. Mae'n enfawr, ac mae'n bopeth y dywedodd yr awdurdodau hynny y mae angen i ni ei wneud ar y tomenni â blaenoriaeth. Bydd mwy i ddod. A chofiwch y tu hwnt i hyn, oherwydd mae gennym 2,500 o domenni glo—. Ni fydd angen gwaith enfawr ar bob un ohonyn nhw, gyda llaw. Ond mae angen i ni fynd ymlaen â hynny. Ac yna mae angen i ni edrych ar y tomenni nas defnyddir nad ydynt yn rhai glo hefyd mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, bydd taith hir.
Dydw i ddim eisiau mynd i fanylion ar Bedwas. Rwy'n gwybod, oddi wrthych chi ac eraill, fod amrywiaeth barn o fewn Bedwas o ran a ddylai'r tomenni gael eu symud, ailfodelu—hyn a'r llall. Rwy'n gwybod bod gwahanol gymunedau â barn wahanol, amrywiol. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych, fel y byddwn i'n ei wneud fel AS lleol, yw parhau i ymgysylltu â'r cymunedau hynny, a pharhau i ymgysylltu â'r cyrff hefyd, gan gynnwys yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, CNC, ac, wrth gwrs, yr awdurdod lleol hefyd, o ran yr hyn sydd er budd gorau'r cymunedau rydych chi'n eu cynrychioli.
Ond yn sicr, fel y dywedais i mewn ymateb i gwestiwn cynharach, o dan amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd—ac nid wyf yn cyfeirio at Bedwas nawr, i fod yn hollol glir—amgylchiadau lle bydd yr awdurdod presennol neu'r awdurdod newydd yn dweud, 'Mewn gwirionedd, mae'n gwneud synnwyr mynd i'r domen honno a thynnu rhywfaint i ffwrdd, symud rhywfaint i ffwrdd' neu beth bynnag. Yn ddiddorol, gyda Tylorstown, ni ddigwyddodd hynny o gwbl. Mae wedi cael ei hailfodelu'n gyfan gwbl ar y safle, ac yn disgwyl defnydd cymunedol yn y dyfodol, gan gynnwys man mynediad cyhoeddus hefyd. Felly, nid yw bob amser yn mynd i fod yn wir, ond nid wyf am gau'r drws yn gyfan gwbl ar unrhyw waith adfer tomen trwy ddweud na fyddwn byth yn symud unrhyw lo oddi ar y safle.
Diolch, Dirprwy Brif Weinidog, am eich datganiad. Fel eraill, dwi'n credu mai deddfu ar y mater hwn yw un o gyflawniadau pwysicaf y Senedd hon. Mae'n dda gweld rhyw fath o gydweithio rhwng y Llywodraeth fan hyn a Llywodraeth San Steffan, er dwi'n credu y gallwn ni i gyd gytuno y byddai mwy eto yn dda iawn. Dwi'n croesawu'r cynnydd ariannol a'r cynllun grant, ond allwch chi gadarnhau faint o’r £80 miliwn fydd yn cael ei wario yn y flwyddyn 2026-27?
Dwi'n croesawu'r swyddi newydd, ond mae dau gonsérn gen i. Yn gyntaf, yn ystod y broses ddeddfwriaethol, fe wnaeth awdurdodau lleol fynegi pryder efallai y byddai pobl yn gadael yr awdurdodau lleol i weithio yn yr awdurdod newydd. A ydy'r awdurdodau lleol yn cydweithio â'r awdurdod tomenni i sicrhau nad ydy swyddi da yn cael eu colli o'r awdurdodau lleol, a bod y swyddi a'r prentisiaethau yma, a'r swyddi sy'n cael eu gwneud yn rhan o'r awdurdod tomenni glo, yn cael eu gweld fel pecyn ehangach, hirdymor yn y Cymoedd, nid rhywbeth tymor byr yn unig? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am hynna, ac, unwaith eto, diolch am eich cefnogaeth i hyn. Rwy'n credu mai hwn yw un o'r darnau gorau o ddeddfwriaeth y mae'r Senedd hon wedi'i basio. Rydym wedi pasio llawer o ddarnau da o ddeddfwriaeth, ond mae hwn yn newid dros genedlaethau i'r cymunedau hynny sydd wedi bod yn ymdrin â'r gwaddol hwn. Mae hyn yn dangos, rwy'n credu, bod pwerau datganoli yn golygu y gallwn wneud rhywbeth gwahanol a gallwn fod ar ochr pobl mewn gwirionedd. Mae pŵer yn agos at y bobl yn golygu ein bod ni'n gwneud y penderfyniadau cywir.
Er mwyn ymdrin â'r bwlch sgiliau, codwyd hyn lawer wrth i ni fynd â'r Bil drwy'r pwyllgor, ac mae'n fater go iawn, mewn dau faes penodol, yn ddiddorol, o fewn fy mhortffolio. Un yw'r darn hwn am adfer tomenni glo, ac ati, ac mae'r llall o ran llifogydd hefyd. Mae ganddyn nhw baramedrau tebyg, oherwydd mae gennych gontractwyr, awdurdodau lleol, CNC, ac, yn y sefyllfa hon, awdurdod newydd rydym ni'n ei greu, y bydd angen arbenigedd da ar bob un ohonynt. Rydym yn ymdrin â hyn oherwydd cydnabyddiaeth o'r bwlch sgiliau—y bwlch capasiti o fewn sgiliau yn y maes hwn.
Rwy'n falch o adrodd ein bod wedi parhau i nodi cyfleoedd newydd a fyddai'n caniatáu i bartneriaid llywodraeth leol ac eraill gael gafael ar weithwyr medrus, o fewn y DU a Chymru, a hyfforddi ac uwchsgilio pobl, gan gynnwys o fewn colegau ac ysgolion, ond hefyd yn rhyngwladol. Er enghraifft, mae gennym gynllun treialu lleoliad peirianneg amgylcheddol sy'n cael ei redeg nawr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru; dechreuodd eleni. Mae gennym chwe lleoliad eisoes wedi'u darparu trwy hynny mewn awdurdodau lleol. Maent yn cynnig arbenigedd a hyfforddiant o fewn maes rheoli perygl llifogydd a gwaith adfer mwyngloddiau. Dyma gychwyn ffrwd o bobl sy'n dod trwy awdurdodau lleol i'r proffesiwn. Mae wedi mynd tu hwnt i'r capasiti eisoes—roedd llawer mwy eisiau bod yn rhan ohono. Felly, mae hynny'n rhan o'r gwaith rydym ni'n ei wneud.
Rydym hefyd yn defnyddio cynllun sefydledig ar yr ochr arall iddo y maen nhw wedi'i dreialu yn yr Alban, gan nodi—. Oherwydd bod rhai o'r rhain yn rhai â chyflog uchel, medrus iawn, weithiau profiad a gwybodaeth eithaf prin—. Felly, mae angen i chi fynd allan i'r farchnad ryngwladol hefyd. Rydym ni'n defnyddio'r model hwnnw y soniais amdano o'r blaen yn y pwyllgor, ac rydym ni'n denu talent drwy hwnnw. Ond mae'n siŵr mai craidd hyn yw bod rhaid datblygu, ar gyfer y rhan fwyaf o'r gwaith hwn, ein talent ein hunain yng Nghymru, oherwydd dyna lle rydym ni eisiau gweld y cyfoeth a gymerwyd allan o hyn—. Gadewch i ni roi'r cyfoeth yn ôl yno. Gadewch i ni greu'r swyddi newydd hyn, capasiti enillion uchel yma, yn ogystal â thynnu arbenigedd rhyngwladol hefyd.
Ac yn olaf, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cefnogi'r pwyntiau olaf yna yn llwyr. Yn amlwg, o ran rheoli llifogydd, diogelwch cymunedau, yn sicr, mae'r rheini yn flaenoriaeth. Ond ro'n i'n falch o'ch clywed chi'n sôn ynglŷn â bioamrywiaeth yn gynharach, oherwydd mae'r rhain wedi dod yn hafnau unigryw ar gyfer bioamrywiaeth dros y degawdau. Enghraifft o hyn ydy tomenni glofa'r Cwm, yn y Beddau, sydd wedi ei ddisgrifio fel un o'r safleoedd bywyd gwyllt mwyaf nodedig yng Nghymoedd de Cymru. Mae Glo i Natur yn gweithio'n galed i geisio cynnal y cyfoeth o fioamrywiaeth ar y safle, sy'n cynnwys dros 600 o rywogaethau infertebratau, a thros 50 o rywogaethau gwenyn a phryfed peillio prin. Mae hyd yn oed sôn am ddarganfod millipede sydd wedi ei enwi'n 'Beddau beast' ar y safle. Felly, mae yna gyfleodd anhygoel fan hyn hefyd o ran newid hinsawdd a datrysiadau o ran rhai o'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu. Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng sicrhau'r gorau i'n cymunedau ni a'u diogelwch nhw, ond hefyd y manteision sy'n dod o'r tomenni glo hyn, sydd efallai ddim yn straeon mae pobl yn ymwybodol ohonyn nhw?
Yn hollol. Mae'r pwynt olaf hwnnw mor bwysig, oherwydd rydyn ni eisiau gwneud hyn gyda'r cymunedau, gyda'r hyn maen nhw eisiau ei weld o'r safleoedd hyn, nid i'r cymunedau. Rwy'n credu bod y gwaith ymgysylltu â'r gymuned y gwnes i ei ddisgrifio'n gynharach fel rhan o'r ateb i'r hyn a ddylai fod yno ar gyfer defnyddio'r safle wedyn yn bwysig iawn. Y prif beth, wrth gwrs, yn enwedig ar gyfer y tomenni categori uwch, yw eu gwneud yn ddiogel, er lles y gymuned. Ond hyd yn oed wrth wneud hynny, gall fod nifer o fanteision hefyd. Gallai fod yn fynediad, gallai fod yn fioamrywiaeth, gallai fod yn adfer natur.
Rydyn ni'n ymwybodol iawn nawr bod llawer iawn o arbenigedd academaidd, a mwyfwy ohono, yn cael ei gymhwyso at fioamrywiaeth gyfoethog hen safleoedd tomenni glo. Yn fy ardal i mae gennym ni, mewn rhai ffyrdd, ragflaenydd yr hyn yr ydyn ni'n siarad amdano nawr. Roedd gennym ni lawer o byllau glo i fyny ac i lawr cwm Llynfi. Erbyn hyn, yr enw ar lawer o'r ardal ganol ac uchaf yw coetir Ysbryd y Llynfi. Mae gennym ni goetiroedd yn cael eu hadfer, perllannau cymunedol, ond hefyd ardaloedd sy'n gyfoethog o ran bioamrywiaeth, rhan ohono trwy natur yn adfer ei hun, yn cael rhwydd hynt i ddilyn ei thrywydd ei hun. Ond mae'n rhaid i gymunedau fod yn ganolog i hyn.
Pan oeddwn i i fyny yn Nhorfaen yr wythnos diwethaf, yn ymweld â'r ardal yno sy'n un o'r rhai sydd wedi cael y swm enfawr o £80 miliwn yr ydyn ni'n sôn amdano, oherwydd roedd llawer o ddŵr yn gollwng oddi ar wastadedd ac yna'n disgyn i lawr y dyffryn, rhan o'r cynllun yno gyda'r gymuned oedd pwll arafu mawr. Sut olwg sydd ar bwll arafu? Mae'n edrych fel pwll, a gallwch chi, o gwmpas hynny, gyfoethogi'r fioamrywiaeth, a chael pobl yn cerdded eu cŵn ac yn gwthio eu cadeiriau gwthio ac yn y blaen. Felly, mae gwneud hyn gyda chymunedau er mwyn cael y budd sy'n deillio ohono yn hanfodol bwysig. Gadewch i ni beidio â'u gadael fel ardaloedd diffrwyth, gadewch i ni ddatblygu'r rhain fel asedau cymunedol hefyd, lle mae'n briodol, fesul safle.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: hybiau iechyd menywod. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Sarah Murphy.
Prynhawn da. Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis diwethaf, fe wnaethon ni nodi blwyddyn ers sefydlu'r cynllun iechyd menywod. Mae'r cynllun, a ddatblygwyd gan y GIG ac sy'n cael ei weithredu gan y GIG, yn gatalydd gwirioneddol ar gyfer newid. Mae'n gyfle i gau'r bwlch cydraddoldeb rhwng y rhywiau sy'n bodoli ac sy'n parhau ym meddygaeth fodern, i ymdrin ag anghenion iechyd menywod yn briodol ac i gynllunio gwasanaethau sy'n ymateb i'n symptomau a'n hanghenion unigryw ac i wrando arnyn nhw.
Bydd yr aelodau'n gwybod bod y cynllun hwn wedi'i seilio ar brofiadau menywod o ofal iechyd yng Nghymru, a'r hyn sydd wir yn bwysig iddyn nhw. Mae'r sylfaen gadarn honno wedi creu dros 60 o gamau gweithredu byrdymor, tymor canolig a hirdymor ar gyfer gwella. Dros gyfnod o 12 mis, mae traean o'r camau gweithredu hynny eisoes ar y gweill, gyda gwaith mor amrywiol â hyfforddiant newydd i feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac atal trais yn erbyn menywod. Ar ddechrau mis Rhagfyr, fe ges i'r fraint o lansio'r deunyddiau dysgu newydd i ysgolion ar gyfer fforwm iechyd ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Bydd y rhain yn cefnogi pobl ifanc a nyrsys ysgol i siarad am amrywiaeth eang o gyflyrau sy'n effeithio ar fenywod a merched. Cawson nhw eu datblygu ar y cyd â nyrsys ysgol a phobl ifanc, gan sicrhau bod y deunyddiau'n gweithio iddyn nhw.
I nodi blwyddyn ers sefydlu'r cynllun, aeth y Prif Weinidog a minnau i ddigwyddiad lansio Ymchwil Iechyd Menywod Cymru. Mae hon yn fwy na menter ymchwil. Mae hi wir yn ddatganiad o fwriad gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru i ymdrin â'r anghydraddoldebau iechyd hirsefydlog sydd wedi effeithio ar fenywod a merched ers llawer rhy hir. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn hyrwyddwr dros ymchwil i iechyd menywod. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi rhoi £3 miliwn i'r ganolfan ymchwil. Rydyn ni hefyd yn ariannu arloesedd ym maes iechyd menywod drwy'r her iechyd menywod. Mae'r rhain yn dangos sut y gellir gwella canlyniadau i fenywod a merched yn y byd go iawn. Mae'r pedwar prosiect yn profi therapi ymddygiad gwybyddol wedi'i seilio ar ap fel rhan o ofal menopos, hunanreoli ar gyfer iechyd y pelfis, ystafell iechyd a lles digidol gyda realiti rhithwir i gefnogi lleddfu poen, a phrawf diagnostig i wella sgrinio cynenedigol ar gyfer heintiau.
Heddiw, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau canolbwyntio ar un o'n hymrwymiadau allweddol: creu hyb braenaru iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026. Cafodd yr hybiau eu cynllunio i wella mynediad menywod at ofal a'u profiad o ofal ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau cyffredin. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi y bydd gwasanaethau yn dechrau cael eu darparu trwy'r hybiau yr wythnos hon.
Fe fyddaf yn ymweld â sesiwn addysg ffisiotherapi iechyd menywod, a fydd yn cael ei chynnal mewn hyb cymunedol lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ddydd Iau. Mae hwn yn wasanaeth newydd ac mae'n rhan o'i hyb braenaru iechyd menywod. Erbyn dechrau mis Mawrth, bydd pob hyb braenaru yn darparu gwasanaethau i fenywod ledled Cymru. Rwy'n gobeithio gallu ymweld â llawer o'r rhain a chwrdd â'r clinigwyr a fydd yn darparu'r gwasanaethau newydd a rhai o'r menywod a fydd yn defnyddio'r hybiau newydd hefyd.
Nawr, mae 'hyb' yn derm ymbarél sy'n disgrifio ymagwedd gyfannol at ddarparu gofal iechyd i fenywod, gan ddod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid lleol ynghyd i ddarparu'r gwasanaeth iechyd integredig hwnnw i fenywod, gan weithredu fel rhyngwyneb rhwng lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd. Nid oes un dull sy'n addas i bawb mewn hybiau yng Nghymru. Bydd rhai yn wasanaethau wyneb yn wyneb traddodiadol, bydd rhai ohonynt efallai yn wasanaethau rhithwir i ddechrau. Bydd rhai yn cael eu cyflwyno mewn lleoliadau cymunedol gan y meddygon teulu, eraill gan nyrsys a chlinigwyr eraill, ac weithiau mewn lleoliad ysbyty.
Rhaid i bob hyb braenaru gadw at gyfres o werthoedd craidd neu egwyddorion arweiniol, ac mae pob bwrdd iechyd wedi gweithio gyda'u poblogaeth leol i ddylunio ei hyb braenaru i ymateb i anghenion lleol. Mae'r hyblygrwydd hwn yn golygu y bydd hybiau'n edrych yn wahanol ym mhob ardal, ond bydd pob un ohonyn nhw'n cynnig darpariaeth yn unol â chanllawiau gweithredu y cytunwyd arnynt. Mae'n hanfodol bod menywod yn gallu cael mynediad at yr un safon o ofal, hyd yn oed os yw'n cael ei ddarparu'n wahanol mewn gwahanol fyrddau iechyd. Mae tri maes gwasanaeth â blaenoriaeth wedi'u cytuno ar gyfer yr hybiau braenaru eleni: iechyd mislif, atal cenhedlu a menopos. Yn ogystal ag ad-drefnu a darparu gwasanaethau, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i baratoi ar gyfer eu cyflwyno. Mae byrddau iechyd wedi cynnal asesiadau o anghenion ac adolygiadau o restrau aros i benderfynu ar y ffordd orau o dargedu gwasanaethau yn yr hyb. Byddwn ni'n gwerthuso'r hybiau braenaru hyn er mwyn i ni wybod sut y gellir datblygu'r model a'i gyflwyno ymhellach.
Mae cynnydd hefyd wedi'i wneud o ran uwchsgilio gweithlu'r GIG ym maes iechyd menywod. Mae'r academi gofal sylfaenol wedi bod yn gweithio mewn byrddau iechyd i ddarparu hyfforddiant. Ar draws pob ardal bwrdd iechyd, mae staff yn cael eu hyfforddi mewn meysydd fel menopos, iechyd rhywiol a gosod dulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru hefyd yn datblygu hyfforddiant, a fydd ar gael i bob aelod o staff y GIG, am amrywiaeth o gyflyrau penodol, gan gynnwys endometriosis, o fis Mawrth ymlaen.
Er mai ein hymrwymiad oedd i fyrddau iechyd ddarparu hybiau iechyd braenaru, rwyf hefyd eisiau rhannu gyda chi y gwaith y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi'i wneud. Mae Canolfan Ganser Felindre wedi cyflwyno clinig dilynol dan arweiniad nyrsys i nodi a chefnogi menywod sy'n profi menopos cynamserol o ganlyniad i driniaeth canser. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach trwy'r model hybiau.
Rwyf eisiau cydnabod ymrwymiad ac egni'r GIG a'r rhwydwaith iechyd menywod ac ymrwymiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru dros y 12 mis diwethaf. Yr wythnos hon, rydyn ni'n cymryd cam arall ymlaen i wella gofal iechyd menywod, yn ogystal â'u profiad o gael mynediad at y gofal hwnnw. Rydyn ni'n datblygu gwasanaeth gofal iechyd a fydd yn diwallu anghenion menywod a merched. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwyf wedi bod yn gefnogol iawn, ar y cyfan, i gyflwyno hybiau iechyd menywod fel ffordd o sicrhau bod cyflyrau iechyd menywod yn cael eu cymryd o ddifrif ac y gall pob menyw gael yr help sydd ei angen arni trwy gydol ei hoes. Rwy'n falch hefyd o ddweud bod yr hybiau iechyd menywod yn Lloegr wedi cael eu cyflwyno o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru yn dilyn ei hesiampl nawr.
Does dim dwywaith y bydd gallu hybiau iechyd menywod i weithredu fel canolfan gymunedol, gan rannu cymorth arbenigol a chyfannol, yn hanfodol i lawer o fenywod ym mhob cwr o Gymru. Mae'r ffigurau o Loegr ar hybiau iechyd menywod hefyd yn dangos bod ganddyn nhw fanteision pellgyrhaeddol i gleifion a staff, gan nodi bod gwerth £5 o fuddion yn cael eu creu am bob £1 sy'n cael ei gwario ar weithredu hyb maint rhwydwaith gofal sylfaenol, sy'n cwmpasu rhwng 30,000 a 50,000 o fenywod.
Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwerthfawrogi y byddaf i, ynghyd â llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon, yn dilyn y datblygiad yn agos, gan nad ydyn ni eisiau i hybiau iechyd menywod fod yn fethiant arall i Lafur ym maes iechyd, ac rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn barhaol ac yn lwyddiannus i bawb dan sylw. Rydyn ni hefyd eisiau i'r hybiau iechyd fod yn llwyddiannus wrth leihau'r cyfnodau aros annheg y mae menywod Cymru yn eu hwynebu i gael triniaeth, er enghraifft, ar gyfer endometriosis, sy'n gyfnod syfrdanol o 10 mlynedd, Gweinidog.
Fe ges i'r pleser o noddi maniffesto cymunedol menopos de Cymru yr wythnos diwethaf, felly mae rhai pwyntiau penodol yr hoffwn eu codi gyda chi yma heddiw yn y Siambr. Fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n ei werthfawrogi, mae menywod yn cyfrif am 51 y cant o boblogaeth Cymru, gyda 220,000 o fenywod o oedran menopos yn dechrau mynd trwy'r cyfnod hwn yn eu bywydau ar hyn o bryd. Dywedir bod 80 y cant o fenywod sy'n mynd trwy'r menopos yn profi symptomau, gyda 25 y cant yn esbonio bod y symptomau hyn yn ddifrifol neu'n wanychol. Fodd bynnag, dim ond un o bob 10 yn ne Cymru sy'n dweud eu bod wedi cael eu cyfeirio at arbenigwr menopos gan eu meddyg teulu. Mae bron i un o bob dwy fenyw wedi mynd yn ôl dro ar ôl tro at eu meddyg teulu cyn iddyn nhw gael mynediad at unrhyw driniaeth effeithiol. Er bod yr hybiau iechyd menywod wedi'u cynllunio i gefnogi'r menopos hefyd, sut allwch chi sicrhau'n benodol y gall pob menyw sy'n dod trwy'r drysau hynny gael cymorth arbenigol ar gyfer ei symptomau, newidiadau o ran ffordd o fyw neu gyngor ar fynd at ei chyflogwr? A fyddech chi felly yn ystyried cyflwyno canolfan llesiant menopos hefyd, Gweinidog? Byddwn wrth fy modd yn cael gwybod eich barn ar hynny.
Gan ddyfynnu o Gymuned Menopos De Cymru, maen nhw'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
'Yn wahanol i'r Hybiau Iechyd Menywod arfaethedig, mae'r fenter hon yn cynnig cwmpas ehangach o lawer, gan sefydlu llwybr gofal meddygol a chyfannol cyfunol yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar ddewis gwybodus a chymorth wedi'i bersonoli.'
Diwedd y dyfyniad. Hoffwn i wybod, a fydd y canolfannau gofal iechyd menywod yn cyfeirio menywod at wasanaethau menopos achrededig hefyd? Yn ogystal, o ran grwpiau mwy ymylol o fenywod a chymunedau, sy'n anoddach eu cyrraedd, sut mae'r hybiau iechyd yn mynd i gael eu hyrwyddo yn eu cyfanrwydd? Rwy'n nodi eich bod chi wedi dweud y canlynol mewn ymateb i Cefin Campbell AS fis Medi diwethaf, ac rwy'n dyfynnu eto,
'bydd angen i bob un o'r hybiau iechyd menywod ymateb i anghenion penodol y menywod yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac yn enwedig grwpiau ymylol o fenywod.'
Diwedd y dyfyniad. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwerthfawrogi y bydd mwy o fenywod yn teimlo'n gyfforddus yn siarad am gyflyrau iechyd menywod yn eu hiaith eu hunain. Felly, a yw'r hybiau iechyd hefyd yn mynd i gynnwys arwyddion mewn gwahanol ieithoedd? A pha ymdrechion ychwanegol ydych chi'n mynd i'w gwneud yn bersonol i sicrhau ein bod yn cyrraedd y cymunedau hyn hefyd?
Yn eich datganiad, Gweinidog, rydych chi'n dweud y bydd yna hyb braenaru iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth eleni. Ydych chi'n hyderus eich bod chi'n mynd i gadw at hynny? Oherwydd, Gweinidog, rydych chi hefyd yn cyfeirio at ddeunydd dysgu newydd i ysgolion sy'n cael ei lansio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Felly, a fydd byrddau iechyd eraill Cymru yn cael yr un peth? Os felly, pryd? Hoffwn i wybod hynny hefyd.
Ac yn olaf, Gweinidog, rydych chi'n gwybod fy safbwynt ar gynnwys mathau o ganser sy'n effeithio ar fenywod yn y cynllun iechyd menywod. Yr wythnos diwethaf, clywodd y Pwyllgor Deisebau gan Breast Cancer Now fod bron i draean—30.5 y cant o fenywod Cymru—wedi colli eu hapwyntiadau sgrinio yn 2022-23 yn unig. Mae hynny'n is o lawer na'r targed o 80 y cant ar gyfer sgrinio. A phe bai'r targed hwn wedi'i gyrraedd, byddai bron i 16,000 yn fwy o fenywod yng Nghymru wedi cael prawf sgrinio. Nawr, gwnaeth adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar wasanaethau sgrinio'r fron yn 2023-24 dynnu sylw hefyd at y ffaith bod amrywiad rhanbarthol sylweddol o ran cwmpas sgrinio'r fron, gan amrywio o ganran warthus o 43.5 y cant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i 49.1 y cant ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, i 60.5 y cant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a 71.9 y cant ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. O ystyried yr ystadegau syfrdanol hyn, Gweinidog, a wnewch chi nawr ailystyried a chynnwys canserau menywod yn y cynllun iechyd menywod cyn ei bod hi'n rhy hwyr? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr am groesawu hyn a bod yn gefnogol iawn, ar y cyfan, i'r gwaith yr ydyn ni'n ei wneud yma. Ac mae'n wir, cafodd hybiau iechyd menywod eu cyflwyno yn Lloegr, neu fe ddechreuon nhw gael eu cyflwyno yn Lloegr. Yn un o'r cyfarfodydd cyntaf i mi fynd iddo, fe wnaethon ni wahodd clinigwyr o Loegr i ddod i siarad â ni am y pethau da a'r pethau gwael a'r heriau, ac rydyn ni wedi gallu dysgu llawer iawn o hynny, ac rwy'n ddiolchgar am hynny.
O ran—. Fe wnaethoch chi sôn am y gallu i'w ymwreiddio. Ar ddiwedd y dydd, cynllun dan arweiniad y GIG yw hwn. Yn wir, mae'n wahanol iawn i'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud fel arfer. Gyda chynlluniau eraill rydw i wedi'u cyflwyno yn y Llywodraeth, cynllun Llywodraeth Cymru yr ydyn ni wedi'i gyd-gynhyrchu ydyw yn y bôn, ond mae hwn yn cael ei arwain i raddau helaeth gan rwydwaith y GIG, ac felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ei ymwreiddio hyd yn oed ymhellach. Strategaeth 10 mlynedd ydyw ac rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonon ni yma heddiw, ni waeth pa blaid bynnag yr ydyn ni ynddi neu wleidyddiaeth, yn ymrwymedig i sicrhau bod hynny'n parhau. Roeddwn i hefyd eisiau dweud—. Fe wnaethoch chi sôn am y gweithlu. Mae yna rai clinigwyr dygn iawn sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino yn y maes hwn ers cymaint o amser, ac rwy'n credu bod hyn hefyd yn ymwneud â newid diwylliant yn y GIG i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi a'u hariannu pan fyddan nhw'n nodi bod angen y gwasanaethau hyn arnon ni.
O ran y menopos, mae'r menopos yn flaenoriaeth allweddol. Gwnaeth 4,000 o fenywod ymateb i'r ymarfer darganfod a wnaethom ynghylch hyn. Nhw oedd y rhai a ddewisodd beth oedd y blaenoriaethau allweddol yn mynd i fod, a bydd y menopos yn un o'r tair prif flaenoriaeth y bydd pob un o'r hybiau braenaru a fydd yn eu cyflwyno—ac rwy'n hyderus y byddan nhw i gyd yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd mis Mawrth—yn canolbwyntio arnyn nhw. Ac o ran Caerdydd, mae Caerdydd a'r Fro yn mynd i fod yn cynllunio i ddarparu eu gwasanaethau menopos a gwasanaethau cymunedol, a fydd yn cynnwys presgripsiynu cymdeithasol, cymorth iechyd meddwl o'r hyb yn Nhrelái yng Nghaerdydd, a bydd modd cael mynediad iddo drwy hunanatgyfeirio a chyfeirio. Felly, mae hwnnw'n un yr ydw i'n arbennig o falch ohono ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod—. Felly, o ran yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud yn y fan yna am bobl sy'n mynd at eu meddyg teulu ac nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu hatgyfeirio ymlaen, fe allan nhw hunangyfeirio ac fe allan nhw fynd i'r hyb hwnnw a chael mynediad iddo. Felly, rwy'n credu bod hyn yn enghraifft dda iawn o hynny. Ac mae'n cael ei arwain gan nyrsys.
Roeddwn i hefyd eisiau dweud, o ran gallu dod i wybod a chyfeirio, rydyn ni hefyd yn lansio gwefan iechyd menywod, a fydd ar gael yng nghanol mis Mawrth. Bydd y wefan honno'n cynnwys yr holl wybodaeth, y blaenoriaethau allweddol, popeth y mae pob bwrdd iechyd yn ei wneud a sut y gallwch chi gael mynediad i'r gwasanaethau hynny a chyfrannu.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd, wedyn, am y deunyddiau dysgu. Felly, bwrdd ieuenctid Caerdydd a'r Fro yn y bwrdd iechyd oedd y rhai a weithiodd arno, grŵp enfawr o bobl ifanc, ond maen nhw ar gyfer Cymru gyfan. Felly, nid dim ond yn y bwrdd iechyd hwnnw y byddan nhw ar gael, ond nhw oedd y rhai a weithiodd arnyn nhw'n bennaf.
Ac yna hefyd, o ran yr hyn y gwnaethoch chi ei ofyn o ran canser, ac rydych chi bob amser wedi bod yn hyrwyddwr brwd dros godi ymwybyddiaeth o sgrinio canser y fron, rydych chi'n gywir, mae'r niferoedd sy'n manteisio ar raglen sgrinio canser y fron yng Nghymru ychydig yn is na'r safon o 70 y cant, gyda'r cyfartaledd treigl 12 mis diweddaraf yn 69.6 y cant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i wella adnoddau a dulliau cyfathrebu i gefnogi cyfranogiad gwybodus. Yn ddiweddar, cynhyrchodd Bron Brawf Cymru fideos dwyieithog ac Iaith Arwyddion Prydain i helpu pobl i ddeall y broses sgrinio a gwneud dewis gwybodus ynglŷn â chymryd rhan, ac annog cynifer o fenywod â phosibl i ddod ymlaen a manteisio ar y cynnig hwnnw, a dyna hefyd beth fyddwn ni'n ei wneud, fel y gwnaethoch chi sôn am gydraddoldeb ac amrywiaeth ac estyn allan i fenywod ar draws cymunedau, sy'n rhan allweddol o'r hyn y mae gweithrediaeth y GIG yn mynd i fod yn ei wneud.
Felly, ar y cyfan, diolch. Fel y dywedais i, rydyn ni'n mynd i weld hyn yn cael ei gyflwyno nawr. Rwy'n credu ei fod yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr. Ond o ran canser, cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hynny—mae o fewn y llwybr canser. Felly, byddai hynny'n rhywbeth y byddai angen ei drafod gydag ef.
Mae cynllun iechyd menywod cyntaf Cymru ac agoriad y ganolfan ymchwil yn gerrig milltir pwysig, ac yn adlewyrchu'r gydnabyddiaeth hirddisgwyliedig fod iechyd menywod wedi cael ei dan-flaenoriaethu dros ddegawdau, ond nid yw uchelgais ar ei ben ei hun yn ddigon i gau'r bwlch iechyd rhwng dynion a menywod. Y prawf go iawn fydd os ydy'r cynllun yn arwain at welliannau amlwg, mesuradwy ac amserol ym mhrofiadau menywod o ofal iechyd.
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi codi pryderon pendant am y cyllid sydd yn gysylltiedig â'r cynllun yng nghyd-destun maint yr angen. Nid yw hyn yn tanseilio gwerth y cynllun, ond mae'n codi cwestiynau teg am gyflymder, cyrhaeddiad a chysondeb ei weithrediad. Mae'n ddealladwy, felly, fod llawer o fenywod yn gofyn pryd y byddant yn gweld arosiadau byrrach, gwell mynediad at wasanaethau a chanlyniadau gwell, yn enwedig o ystyried y pwysau ar gapasiti meddygon teulu a'r amrywiaeth sylweddol mewn darpariaeth rhwng ardaloedd. Ar y sail yma, felly, ydy'r Gweinidog yn credu bod y cyllid presennol yn adlewyrchu'r angen gwirioneddol er mwyn gwireddu gweledigaeth y Llywodraeth, a phryd, yn realistig, y bydd menywod yn gallu teimlo'r gwahaniaeth yma?
Mae yna bryderon bod y cynllun yn rhoi gormod o bwyslais ar wasanaethau gynaecoleg, ond mae'n hanfodol cofio nad yw iechyd menywod yn bodoli mewn seilo. Fel y nododd RCM Cymru, mae'r canolfannau hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynnwys gofal cyn ffrwythloni, iechyd pelfig a chyngor atgenhedlu, ond nid yw'n glir eto sut y caiff y meysydd yma eu hintegreiddio i'r ddarpariaeth. A all y Gweinidog felly roi cadarnhad ynghylch a fydd y blaenoriaethau yma'n cael eu cynnwys yn ffurfiol yn y cynllun, ac egluro sut yn union y byddan nhw'n cael eu hymgorffori?
Yn ogystal, mae ffactorau megis clefyd cardiofasgwlaidd, iechyd meddwl a chyflyrau hirdymor eraill yn parhau i lunio canlyniadau iechyd menywod drwy gydol eu bywydau. Serch hynny, maent wedi derbyn llai o sylw hyd yma. Mae'r bylchau hyn yn taro'n arbennig o galed ar fenywod sydd eisoes ar yr ymylon. Mae menywod mewn cymunedau gwledig ac mewn cymunedau heb wasanaethau daearol cadarn yn wynebu rhwystrau ychwanegol i gael mynediad at ofal, a heb ddata cadarn, amserol a dadansoddol, mae peryg gwirioneddol y bydd anghydraddoldebau'n cael eu hatgyfnerthu ymhellach. Felly, gyda rhai canolfannau i fod ar draws sawl safle ac eraill ar-lein, sut y bydd modd sicrhau bod canlyniadau iechyd menywod a llwyddiant y cynllun yn cael eu mesur mewn ffordd gyson a safonol?
Y tu hwnt i feysydd o flaenoriaeth y cynllun yma, mae problemau systemig yn parhau mewn gofal mamolaeth, darpariaeth erthyliadau a diagnosis canser—materion sydd ddim yn eilaidd, ond yn greiddiol i iechyd a diogelwch menywod.
I droi at erthyliadau, mae mynediad yng Nghymru yn rhy aml yn dibynnu ar loteri cod post yn hytrach nag ar angen clinigol. Mae'r data diweddar ar erthyliadau yng Nghymru a Lloegr yn dangos bod yr oedi hyn yn gorfodi menywod i gael triniaethau hwyrach, ac mewn rhai achosion i deithio y tu allan i Gymru—sefyllfa, dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno, sydd yn gwbl annerbyniol.
Felly, os bydd y canolfannau hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar iechyd mislif, atal cenhedlu a menopos, sut yn union y byddan nhw'n gallu chwarae rhan ehangach o fewn maes iechyd menywod, sydd yn ymestyn mor eang?
Yn troi at ganserau gynaecolegol rydym ni wedi clywed amdanynt eisoes, mae gormod o fenywod yn dal i gael diagnosis hwyr. Mae'r ymgyrchwyr wedi tynnu sylw at yr angen am arweinyddiaeth gliriach, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth mwy uchelgeisiol, a gwell ddata i sicrhau atebolrwydd. Sut bydd hyn yn cael ei integreiddio i mewn i'r model yma?
Yn olaf, mae iechyd menywod hefyd yn fater economaidd. Salwch hirdymor, bellach, ydy'r prif reswm dros ddiweithdra ymhlith merched yng Nghymru, sy'n pwysleisio pa mor hanfodol ydy diagnosis cynnar a thriniaeth amserol. Hefyd, mae dau draean o bob canser o dan 50 mlwydd oed ymhlith menywod. Mae hyn gyda goblygiadau polisi economaidd a chymdeithasol anferthol, oherwydd mae merched yn dioddef ar yr adeg y maen nhw'n fwyaf cynhyrchiol, a chyda dyletswyddau gofal hefyd. Wedi'r cyfan, mae 70 y cant o'r gofal sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru, ac ar draws Ewrop, yn wir, yn cael ei gynnal gan ferched. Yn wir, pan oeddwn i yn yr uwchgynhadledd canser ym Mrwsel ym mis Tachwedd, fe ddywedwyd hyn:
'Mae gwerth $250 biliwn yn cael ei golli mewn cynhyrchiant bob blwyddyn o ganlyniad i ganser mewn menywod, sef 0.3 y cant o gynnyrch domestig gros byd-eang.'
Felly, mae yna bwrpas amgenach i hyn. Nid yw'r cwestiwn a ydy'r bwriad yn gywir—mae'r uchelgais yn glir, ac mae hynny i'w ganmol—ond a fydd menywod ledled Cymru yn teimlo gwahaniaeth go iawn yn eu profiadau bob dydd o'r system iechyd? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Mabon, a diolch am groesawu, unwaith eto, yr hybiau, a'r ymchwil, sydd mor hanfodol i ni o ran symud ymlaen. Fel y dywedoch chi, dydy ymchwil menywod ddim wedi cael digon o flaenoriaeth o bell ffordd.
Felly, dim ond i dawelu'ch meddwl—. Rwy'n credu mai'r pethau mawr yn hyn o beth oedd o ran y cyllid. Felly, yn amlwg, cafodd £300,000 ei roi i bob un o'r byrddau iechyd i'w galluogi i sefydlu eu hybiau braenaru i fenywod. Dydy hynny ddim yn gylchol. Byddwn i'n disgwyl nawr—ac rwy'n gweld rhai enghreifftiau gwych o hyn—bod y byrddau iechyd yn croesawu'r cyfle hwn a'u bod yn defnyddio hyn fel cyfle i wneud y gwaith asesu go iawn hwnnw ac i weithio gyda'u cymunedau i ddatblygu'r gwasanaethau a'u hymwreiddio yn eu gwasanaethau, yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r £3 miliwn a gafodd ei ddyrannu wedyn i ni gyflawni hyn drwy Lywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi'i ddyrannu eto eleni yn y gyllideb, a byddwn i'n gobeithio y byddai'n cael ei ddyrannu, yn y dyfodol, wrth i'r strategaeth 10 mlynedd gael ei chyflwyno. Wnaf i byth ddweud 'na' i fwy o gyllid, fel y gwyddoch mae'n debyg. Fodd bynnag, rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud llawer iawn o waith gyda'r £3 miliwn eleni. Ond byddwn i'n dadlau eich bod chi'n ailasesu hynny ar ôl i ni wario'r £3 miliwn nesaf, a gweld ble mae angen i ni fynd o'r fan yna.
Mae hynny'n dod â mi ymlaen at y gwerthusiad, wedyn, a gafodd ei wau, mewn gwirionedd, drwy eich cyfraniad o ran a fydd menywod wir yn teimlo effaith hyn. Hoffwn i ddadlau y byddan nhw. Mae'r hybiau iechyd hyn i fenywod ar fin dod ar-lein—rhai ohonyn nhw erbyn diwedd mis Ionawr, rhai ohonyn nhw erbyn diwedd mis Mawrth. Fel yr oeddwn i'n ei ddweud, rydyn ni'n chwalu'r rhwystrau hynny at fynediad. Byddan nhw'n gallu hunangyfeirio atyn nhw. Byddan nhw'n gallu siarad â rhywun. Er enghraifft, o ran Betsi, mae hwnnw'n mynd i fod yn hyb gofal sylfaenol sy'n seiliedig ar glwstwr yn ysbyty cymunedol Llandudno, gyda thimau amlddisgyblaethol ac oriau estynedig. Dyna'r hyn yr oedd menywod i fyny yno ei eisiau. Mae'r gwasanaeth ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr eisoes wedi'i sefydlu i raddau helaeth; mae'n un o'r rhai cryfach y gwnaethon nhw ddechrau ag ef. Ond i weld eu bod nhw'n mynd i ymestyn yr oriau hynny—ac mae mynediad, eto, trwy hunanatgyfeirio—ac y byddan nhw'n dechrau gweld cleifion ym mis Chwefror 2026, rwyf wir yn credu ei fod yn mynd i gael effaith. Ond mae yna—enfawr. Bydd darn o waith ar hyn nawr i werthuso a rhannu'r math gorau o ddysgu, ar yr hyn sydd wedi gweithio mewn rhai meysydd a'r hyn nad yw wedi gweithio. Mae rhai ohonyn nhw'n bod yn eithaf arloesol o ran cynnig gwasanaeth ar-lein, er enghraifft, a allai weithio mewn rhai meysydd, neu ddim. Felly, byddwn i'n dadlau, ie, byddwn i'n gobeithio y gwnawn ni ddechrau gweld hynny, ond fe fydd yna werthusiad trylwyr.
Hefyd o ran—. Rwy'n credu—. Roeddech chi'n gofyn am deimlo'r effaith. Mae hyn yn mynd i fod yn newid diwylliant. Mae'r hyfforddiant yn mynd i fod yn wirioneddol hanfodol. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi gwneud rhai cyrsiau hyfforddi gwych. Mae'r un ar endometriosis yn mynd i fod yn wirioneddol allweddol, ac mae llawer o hyn yn ymdrin â'r math hwnnw o ymdeimlad y mae menywod yn ei gael eu bod yn cael eu hanwybyddu, bod disgwyl iddyn nhw fyw gyda phoen, nad yw'r symptomau cynnar hynny'n cael eu nodi.
Diolch am godi mater Coleg Brenhinol y Bydwragedd hefyd, a mamolaeth. Un o'r pethau y mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn eirioli drosto'n gryf iawn, gyda'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, yw cael y cynnig ffisio hwnnw hefyd, a bod gan fenywod iechyd y pelfis da iawn a'u bod yn gallu cael hynny cyn ac ar ôl, o bosibl, eu bod nhw'n cael plant. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n braf iawn yw mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n mynd i gael yr hyb cyntaf—byddaf yn ymweld ddydd Iau—yn Aberystwyth. Unwaith eto, byddan nhw'n cael eu harwain gan glystyrau mewn meddygfa gyda thîm dan arweiniad nyrsys, ac mae hynny'n mynd i gynnig gwasanaethau menopos, iechyd mislif ac atal cenhedlu ochr yn ochr â gwasanaethau ffisio, y bledren a'r coluddyn o dan arweiniad nyrsys. Ac yna hefyd, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, maen nhw'n mynd i gynnig sesiwn ffisio hefyd—maen nhw'n mynd i gynnig gwasanaeth ffisio. Felly, eto, mae llawer o hyn yn ymwneud â grymuso menywod ac mae'n ymwneud ag ymyrraeth ataliol a chynnar, sy'n cyffwrdd, rwy'n credu, â llawer o'r cwestiynau yr oedd gennych chi.
Ac yna, yn olaf, o ran gofal erthyliad, diolch yn fawr am godi hyn. Mae hyn hefyd yn rhywbeth yr wyf wir yn ei gymryd o ddifrif. Mae'r prif swyddog nyrsio wedi ysgrifennu at yr holl fyrddau iechyd er mwyn i ni allu casglu gwybodaeth am wasanaethau erthylu ledled Cymru. Yna fe es i i gyfarfod â'r rhwydwaith gweithredu clinigol gynaecoleg, er mwyn i mi allu gofyn i'r clinigwyr hynny o bob un o'r byrddau iechyd, 'Beth sy'n digwydd a beth ydych chi'n ei ddarparu?' Os ydw i'n onest gyda chi, fe wnaeth e daflu tipyn o oleuni ar bethau—unwaith yr oedd yr holl glinigwyr mewn ystafell ac fe ddechreuon nhw ddweud wrth ei gilydd beth oedden nhw'n ei gynnig, roedden nhw eu hunain yn sylweddoli'r bylchau enfawr sydd gennym ni y mae angen mynd i'r afael â nhw a'u datrys ar frys. Mae hyn yn rhywbeth y mae Jenny Rathbone wedi'i godi gyda mi sawl gwaith. Fe es i i'r grŵp trawsbleidiol iechyd menywod ychydig cyn y Nadolig a siarad am hyn. Felly, rwy'n cael trafodaethau lefel uchel difrifol iawn ar hyn o bryd, fel y gallwn ni sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw ar gael i fenywod.
Unwaith eto, o ran canser, wrth gwrs, mae llawer o hyn yn ymwneud, unwaith eto, â sicrhau bod menywod yn cael eu credu a'u bod yn cael eu clywed pan fyddan nhw'n mynd i'w hapwyntiadau meddyg teulu. Rhan o hyn fydd y newid diwylliant yr ydyn ni'n edrych arno, ond ffocws allweddol hefyd o ran ein hymagwedd at ganser yw ei ganfod yn gynharach. Mae'r GIG yng Nghymru wedi bod yn gweithredu canllawiau diweddaredig y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal dros y degawd diwethaf a fydd yn lleihau lefel y risg ar gyfer atgyfeiriad canser. Mae hyn wedi arwain at ddegau o filoedd o atgyfeiriadau ychwanegol o bobl sy'n wynebu risg eithaf isel o ganser yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw. Yn wir, yr hyn yr ydyn ni'n ei ganfod yw mai dim ond un o bob 20 o atgyfeiriadau canser gynaecoleg sy'n arwain at ddiagnosis. Felly, mae ein dull gweithredu wedyn yn seiliedig ar annog pobl i weld meddyg, gwella mynediad cyhoeddus i'r clinigydd sy'n atgyfeirio, darparu arweiniad ac addysg, ac, yn y pen draw, sicrhau pan fyddwch chi'n mynd at y meddyg teulu eich bod chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich clywed a'ch credu a'ch bod chi'n cael eich atgyfeirio, fel y gallwch chi gael diagnosis, gobeithio, nad oes gennych ganser. Diolch.
Mewn ymateb i Natasha Asghar, yn sicr yng Nghaerdydd a'r Fro, rydyn ni'n bendant yn mynd i gael hyb iechyd menywod yng Nghaerdydd a'r Fro yn hyb iechyd Maelfa, sy'n lle perffaith ar gyfer gwasanaethau nad oes angen iddyn nhw gael eu lleoli mewn ysbytai. Mae e mewn ardal gynnyrch ehangach o amddifadedd; mae e ar sawl llwybr bws. Bydd yn bosibl i'r rhan fwyaf o fenywod gyrraedd yno'n eithaf hawdd. Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi newydd fod yn ei wneud am ffisiotherapi, rwy'n cofio codi hyn gyda'r Gweinidog iechyd ar y pryd, Eluned Morgan. Mae ffisiotherapi ar ôl cael babi ar gael fel mater o drefnu i bob menyw ar ôl cael babi yn Ffrainc, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n symud tuag at hynny maes o law.
O ran uwchsgilio gweithlu'r GIG, roedd angen hynny arnon ni'n bendant o ran nodi endometriosis. Mae'n gwbl annerbyniol ei bod yn cymryd blynyddoedd a blynyddoedd i bobl gael eu credu pan ei bod hi'n amlwg bod ganddyn nhw symptomau o'r hyn y mae un o bob 10 o fenywod, yn anffodus, yn dioddef ohono. Felly, roeddwn i eisiau codi gyda chi yr ymchwil bwysig a gafodd ei gwneud gan Brifysgol Caeredin, a nododd fod hepgor glwten a chynnyrch llaeth ymhlith cleifion endometriosis yn lleihau'r boen gyson sydd, yn anffodus, yn un o ganlyniadau endometriosis. Mae hyn yn rhywbeth a fydd, gobeithio, yn rhoi mwy o help i fenywod. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed sut mae hynny'n mynd i newid y ffordd rydyn ni'n cefnogi menywod wrth iddyn nhw aros am lawdriniaeth, os oes angen hynny.
Yn hollol. Diolch yn fawr, Jenny Rathbone, am y cwestiwn hwnnw, ac rydych chi'n gywir o ran canfod y pethau hyn yn gynnar, yn enwedig endometriosis. Un o'r pethau yr ydyn ni'n ei wybod yw bod llawer o gyflyrau iechyd menywod yn cael eu bychanu. Rydyn ni'n cael gwybod, o ran ein mislif, o oedran ifanc iawn, bod poen yn rhan o fywyd—mae'n anochel, yno i'w dioddef, yn hytrach na'i thrin neu ymchwilio iddi. A'r peth trist yw bod poen o'r mislif, mewn gwirionedd, yn arwydd cynnar o endometriosis. Felly, pe bai hynny'n cael ei gymryd o ddifrif o'r dechrau ac na fyddai pobl yn dweud wrthyn ni fod yn rhaid i ni fewnoli hynny mewn rhyw ffordd, yna byddai hynny, fwy na thebyg, yn cael effaith fawr ar endometriosis.
Yr ymchwil—allaf i ddim gorbwysleisio pa mor bwysig yw'r ymchwil. Rwy'n edrych yn ôl nawr, yn y portffolio hwn, a dydw i ddim yn deall yn iawn sut y llwyddodd ein Prif Weinidog, y Gweinidog iechyd ar y pryd, i gael y £750,000 hwnnw, oherwydd roedd cyllidebau'n dynn iawn. Rwy'n deall nawr, o fod yma, pa mor anodd y byddai wedi bod iddi ddweud, 'Na. Rydyn ni'n cael £750,000. Mae'n mynd i fynd i ymchwil menywod, ac i ymchwil menywod yn unig', ac yn sgil hynny nawr mae gennym ni ganolfan sy'n mynd i fod, fwy na thebyg, yn ganolfan ragoriaeth, gyda swm ychwanegol o £3 miliwn yn mynd i mewn iddi.
Ac mae'r ymchwil y gwnaethoch chi sôn amdani mor hanfodol bwysig, ond, bobl bach, mae peth o'r ymchwil sydd ar gael ar endometriosis—. Rydw i'n mynd i roi dwy enghraifft yn gyflym. Un ohonyn nhw oedd astudiaeth yn 2017, astudiaeth ansoddol o effaith endometriosis ar bartneriaid gwrywaidd. Cafodd honno ei chomisiynu, talwyd amdani, mewn maes cystadleuol iawn—dan arweiniad clinigol hefyd—ac roedd hynny yn 2017. Fe wnaethon nhw ofyn i 22 o bartneriaid—partneriaid gwrywaidd yn benodol, gyda llaw—am yr effaith yr oedd y ffaith bod gan eu partner endometriosis yn ei chael arnyn nhw. Hyd yn oed yn waeth na hynny, yn 2013 fe wnaeth astudiaeth Eidalaidd edrych ar ddengarwch menywod ag endometriosis. Cafodd ei chyhoeddi—cafodd ei hariannu; cafodd ei hadolygu gan gymheiriaid—cafodd ei chyhoeddi mewn cyfnodolyn meddygol o'r enw Fertility and Sterility. Defnyddiodd ddau grŵp rheoli o fenywod a'r diben oedd graddio dengarwch yn seiliedig ar nodweddion corfforol. Dim ond ar ôl ffwdan enfawr, yn ddealladwy ac yn gywir ddigon, y cafodd ei dileu yn 2020, ond mae yna bobl sy'n dal i gyfiawnhau hynny. Sut y cafodd yr ymchwil honno ei hariannu, fel y dywedais i, mewn maes mor gystadleuol? Mae cyllid yn werthfawr, a wnaeth yr ymchwil honno ddim helpu unrhyw un; wnaeth hi ddim helpu dynion a wnaeth hi ddim helpu menywod. Felly, pan fyddwn ni'n ceisio cyfleu i bobl ei bod yn ymwneud â mwy na'r ffaith ei bod wedi'i thanflaenoriaethu, mae hi wedi bod yn warthus, yn hollol warthus, ac rwy'n credu y byddai pob un ohonon ni'n cytuno bod hynny'n warthus. Dyna'r hyn yr ydyn ni wedi bod yn ei wynebu yma.
Felly, nawr mae gennych chi brifysgolion sydd wir yn ceisio edrych ar yr hyn y gall menywod ei wneud, oherwydd bydd llawer o fenywod yn dweud wrthych chi eu bod o'r farn y gall newidiadau i'w deiet, efallai newidiadau i'w ffordd o fyw, helpu. Yn anffodus, nid yw'r astudiaeth yr ydych chi'n sôn amdani yn cael ei harwain yn glinigol. Mae'n astudiaeth dda iawn o dros 2,000 o fenywod yn sôn am eu profiad, ond, unwaith eto, oherwydd nad yw'n cael ei gwneud trwy safbwynt iechyd ac wedi'i harwain yn glinigol, mae'n anodd iawn i ni wedyn ei hymwreiddio mewn iechyd. Dyna pam, unwaith eto, mae canolfan Ymchwil Iechyd Menywod Cymru yn hollol wych, ac mae'r arian hwnnw'n mynd i wneud gwahaniaeth mawr iawn.
Rydyn ni wedi defnyddio'r 30 munud sydd wedi'u neilltuo ac mae gen i dri siaradwr o hyd, felly cwestiynau byr ac atebion byr, os gwelwch yn dda. Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, ac rwyf yn gwerthfawrogi'r gwaith rydych chi wedi'i wneud, yr ymrwymiad rydych chi wedi'i wneud, i'r maes penodol hwn, ac onid yw'n galonogol ein bod ni'n siarad am y materion hyn, ac yn siarad am y geiriau hyn a'r cyflyrau hyn? Dywedwyd wrth lawer ohonon ni fod yn rhaid ei gadw'n gyfrinachol a doeddech chi ddim i fod i sôn amdano.
Ond mae fy nghwestiwn i yn ymwneud yn benodol â Phowys ac ardaloedd gwledig eraill. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gofal cyson ar gael yn rheolaidd a bod mynediad i'r holl adnoddau hyn. Dechreuodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ei broses archwilio y llynedd; fe wnaethon nhw orffen ym mis Rhagfyr. Rwy'n awyddus i wybod a oes gennych chi amserlen o ran pryd rydych chi eisiau gweld yr wybodaeth o'r ymgyngoriadau, a phryd y gallwch chi weld y gwasanaethau'n cael eu darparu. Diolch yn fawr iawn.
Wrth gwrs. Wel, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n falch iawn o Bowys. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw. Rwy'n credu eu bod nhw, fel bwrdd iechyd, yn un o'r rhai sydd wir wedi croesawu'r syniad bod hwn yn gyfle gwirioneddol i gymryd y cyllid braenaru, ac maen nhw eisoes yn cael y sgyrsiau hynny ar y lefel uwch honno ynghylch sut maen nhw'n mynd i ymwreiddio hyn yn y dyfodol. Felly, da iawn Powys. Ac maen nhw'n bwriadu darparu gwasanaeth dan arweiniad nyrsys wedyn, gyda hybiau yng ngogledd, canolbarth a de Powys, gyda chynnig rhithwir trwy wefan y bwrdd iechyd. Mae hwnnw'n mynd i roi gwybodaeth am gyflyrau a gwasanaethau, yn ogystal â chynnig ymgynghori o bell i ymdrin ag anghenion gwledig. Bydd yr hyb braenaru yn Llanfair-ym-Muallt, ac mae'n mynd i gael ei lansio ym mis Mawrth 2026, felly dylwn i allu rhoi mwy o wybodaeth i chi bryd hynny. Ond hefyd, o ran y gwerthusiad, rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni roi ychydig o amser iddyn nhw weld sut maen nhw'n mynd ymlaen. Does gen i ddim yr amserlenni ar hyn o bryd, ond, wyddoch chi, cyn gynted â phosibl fel y gallwn ni rannu'r dysgu hwnnw.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae hyn i'w groesawu'n fawr. Rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. O fy mhrofiad fy hun o fynd trwy'r menopos, rwy'n gwybod pa mor anodd y gall hi fod i gael mynediad at gymorth amserol, cyson a gwybodus ym maes gofal iechyd, gyda meddygon yn amrywio, cyngor yn amrywio'n fawr, ac ymyrraeth gynnar yn broblem. Cafodd y realiti hwn ei ategu'r wythnos diwethaf pan gawson ni Cymuned Menopos De Cymru yma yn y Senedd, ac roedd pobl yn rhannu'r union rwystredigaethau hynny yr ydych chi eisoes wedi'u hamlinellu. Dyna pam mae hybiau iechyd menywod yn bwysig, a dyna pam mae aelodau o staff hyfforddedig yn bwysig. Mae'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am endometriosis yn wych, ac rwy'n gobeithio y bydd yr un peth yn wir ar gyfer y menopos. O dan y cynlluniau presennol, fy nghwestiwn i yw: mae loteri cod post yn dod i'r amlwg mewn rhai ardaloedd o ran y ffaith y bydd rhai menywod yn gallu cael mynediad at hyb ffisegol mewn rhai rhannau o Gymru, ond dim ond hyb rhithwir fydd ar gael i eraill. Mae unrhyw gymorth yn well na dim, wrth gwrs, ond sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau safonau gofynnol cyson ar gyfer hybiau iechyd menywod ar draws pob bwrdd iechyd, gan ddod â'r loteri cod post ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru i ben o'r diwedd? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Felly, bydd gan bob un o'r byrddau iechyd gynnig ffisegol. Efallai y bydd rhai ohonyn nhw'n gwneud yr atgyfeirio, yr wybodaeth neu'r sgyrsiau, i ddechrau, yn ddigidol, ac mae hynny unwaith eto yn seiliedig ar yr angen ac, fel arfer, natur y boblogaeth. Mae popeth yn cael ei gynhyrchu ar y cyd â menywod hefyd, ond rydych chi'n iawn, dydy pob un ddim yn mynd i fod yn union yr un fath pan fyddwn ni'n lansio'r rhain i gyd. Maen nhw'n mynd i fod yn adeiladu ar wasanaethau presennol a sgiliau presennol hefyd. Ond mae pob un ohonyn nhw wedi gorfod bodloni meini prawf clir iawn, ac un ohonyn nhw oedd bod yn rhaid iddyn nhw fynd y tu hwnt i wasanaethau gynaecolegol yn unig. Roedd yn rhaid iddyn nhw symud hefyd tuag at hunanatgyfeirio, ac roedd yn rhaid iddyn nhw hefyd gael eu cynhyrchu ar y cyd. Mae'n strategaeth 10 mlynedd, ond rwy'n credu, ar ôl i ni gael y gwerthusiad blwyddyn gyntaf hwnnw, bydd yr adborth o hwnnw yn hollol hanfodol, diddorol a defnyddiol, ac rwy'n credu y bydd byrddau iechyd eraill wedyn yn gweld, 'Fe weithiodd hynny'n dda iawn, fe wnawn ni gynnwys e'.' Felly, o ran y dechrau, byddwn i ddim yn ei alw'n loteri cod post, byddwn i'n dweud bod pob bwrdd iechyd wedi cymryd y meini prawf, wedi cymryd y cyllid, wedi ystyried anghenion eu poblogaeth a'r gwasanaethau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ac yna, dros y blynyddoedd nesaf, rwy'n credu y byddwn ni'n dechrau symud i'r man hwnnw. Ar ddiwedd y dydd, bydd menywod yn cael eu cymryd o ddifrif, yn cael eu hatgyfeirio pan fydd angen i hynny ddigwydd, ac yn gweld rhywun na fydd yn eu diystyru.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I gymryd eich datganiad olaf, menywod nad ydynt yn cael eu diystyru, rwy'n eistedd, fel y gwnaethoch chi, ar y pwyllgor iechyd, ac roedd menywod yn cael eu diystyru. Nid oedden nhw'n cael eu credu ac, o ganlyniad, talodd rhai y pris eithaf oherwydd hynny. Ac mae hynny'n dod â mi ymlaen at reol Jess, sy'n cael ei chyflwyno yn Lloegr, lle mae dull 'Tri thrawiad' yn cael ei fabwysiadu gan feddygon teulu yn y lle cyntaf—mewn hybiau menywod fydd hynny, rwy'n gobeithio, yma yng Nghymru—sy'n nodi, os nad ydych chi wedi datrys y mater a bod claf yn dychwelyd gyda'r un symptom, rydych chi'n atgyfeirio ar y trydydd achlysur. Hoffwn i weld sut y byddai hynny'n cael ei roi fel canllawiau i'r hybiau iechyd menywod yma yng Nghymru, fel nad oes gennym ni'r arfer parhaol hwnnw o fynd i mewn drwy un drws, ac allan drwy'r nesaf, a dim byd yn cael ei ddatrys. Felly, gyda hynny mewn golwg, yr hyn y byddwn i'n gofyn, yn gyntaf oll, yw ein bod ni'n ystyried mabwysiadu hynny yn y cynlluniau iechyd hyn, ond yn ail, sut allwn ni sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r hybiau iechyd, neu sydd angen mynediad i'r hybiau iechyd, yn gwybod eu bod yn bodoli.
Diolch yn fawr, a diolch am godi hynny hefyd. Mae hynny'n rhywbeth y gallaf yn sicr ei gymryd a'i drafod wedyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd byddai hyn yn eang iawn. Byddai hefyd yn ddiddorol iawn gweld sut mae'n gweithio hefyd yn Lloegr. Ond, unwaith eto, rydyn ni'n gwybod y gall menywod gael eu diystyru am flynyddoedd, felly rwy'n credu y byddwn i'n croesawu trafodaeth, trafodaeth ddifrifol, am hynny.
O ran rhoi gwybod i fenywod, fel y dywedais i, rydyn ni'n mynd i gael gwefan iechyd menywod, a fydd yn genedlaethol, ond hefyd bydd pob bwrdd iechyd yn gwneud ymdrech fawr i hysbysebu'r gwasanaethau hyn, ac yn yr holl ffyrdd y bydden ni'n eu gwneud fel arfer, byddwn i'n tybio. Ac rwy'n gobeithio, trwy wneud hyn heddiw hefyd, ein bod ni'n codi'r ymwybyddiaeth honno eu bod nhw yma, eu bod nhw ar fin dod ar-lein a bod menywod yn gallu teimlo'n hyderus y gallan nhw gael mynediad atynt. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar Cymru Greadigol. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n ben-blwydd Cymru Greadigol heddiw ac, wrth i ni ddathlu chwe blynedd ers ei lansio, mae gennym ni lawer i ymfalchïo ynddo. Wedi'i gydnabod fel un o'n llwyddiannau, mae'r data diweddaraf sydd ar gael ar y sectorau creadigol a gefnogir gan Cymru Greadigol yn dangos trosiant blynyddol o £1.7 biliwn yn 2024, i fyny 12.6 y cant ers 2023. Ers ei lansio, rydyn ni wedi cefnogi 70 o gynyrchiadau gyda mwy na £33 miliwn, gyda gwariant amodol o fwy na £419 miliwn yng Nghymru. Mae hynny'n 226 awr o gynnwys teledu a ffilm sydd eisoes wedi cyrraedd ein sgriniau, gyda 54 awr arall eto i'w darlledu, a llawer mwy i ddod.
Ond nid yw'r gefnogaeth rydym yn ei rhoi yn ymwneud â maint yn unig. Mae'n ymwneud â darparu ansawdd. Yng ngwobrau Emmy ym mis Medi, enillodd y cynyrchiadau a gefnogwyd gan Cymru Greadigol, Lost Boys and Fairies ac Until I Kill You, wobrau mawreddog, gan dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol a dangos safon straeon ar y sgrin sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru. Mae Bad Wolf yn parhau i gyflwyno sioeau premiwm, gyda Dope Girls ac Industry yn swyno cynulleidfaoedd ac yn cadarnhau enw da'r cwmni am greu rhaglenni teledu cymhellol sydd wedi cael canmoliaeth fawr. Ymhlith y cynyrchiadau eraill a gefnogir gan Cymru Greadigol a fydd yn cyrraedd ein sgriniau yn fuan mae cynhyrchiad Sky Original, Under Salt Marsh, gyda Rafe Spall a Kelly Reilly, ac Young Sherlock, a gyfarwyddwyd gan Guy Ritchie ar gyfer Amazon Prime. Mae ein lleoliadau trawiadol yn cael eu harddangos yn Peaky Blinders: The Immortal Man; cyfres 4 o The Witcher; a House of Guinness, diolch i gefnogaeth Sgrin Cymru.
Ac mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i ffilmiau o Gymru hefyd, gyda ffilmiau nodwedd Cymru Greadigol yn gwario mwy na £19 miliwn yng Nghymru ar gynyrchiadau fel A Colt is My Passport, ffilm a gydgynhyrchwyd gan Severn Screen ac Orion Pictures, a The Man in My Basement, a ddaeth yn Rhif 1 ar Hulu yn yr Unol Daleithiau yn dilyn ei gyfnod yn y theatr. Cafodd Effie ei ffilmio yng Nghaernarfon ac ym Mlaenau Ffestiniog yn 2025—ein ffilm nodwedd Gymraeg gyntaf a gyd-ariannwyd, mewn partneriaeth ag S4C. Ym mlwyddyn canmlwyddiant Richard Burton, gwelsom Mr Burton hefyd, a ddaeth yn un o'r 10 ffilm annibynnol fwyaf llwyddiannus yn swyddfa docynnau'r DU. Ac ymhen ychydig ddiwrnodau, bydd H is for Hawk yn cael ei rhyddhau'n rhyngwladol, gan nodi carreg filltir bwysig ar gyfer cyd-gynhyrchu rhyngwladol rhwng Cymru a rhai o chwaraewyr amlycaf y diwydiant.
Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd da o ran gemau. Yn dilyn buddugoliaethau mawr i Wales Interactive yn 2024-25 gyda Sker Ritual, a fy ymweliad â'r gynhadledd datblygu gemau yn San Francisco, rwyf wedi bod yn awyddus i fanteisio ar y twf posibl. Y llynedd, gwnaethom ddarparu £850,000 o gyllid i gwmnïau sy'n tyfu ac ail-lansiwyd ein cyllid datblygu, gyda 12 o stiwdios yn cael eu dewis i dderbyn gwobrau gwerth cyfanswm o £580,000. Er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyllid hwn, mae'r 12 cwmni hynny yn cael cynnig y cymorth gorau yn y diwydiant nawr gan ein rhaglen academi hapchwarae, sy'n cael ei darparu gan Tramshed Tech. Cefnogwyd carfan o gwmnïau gemau yng nghynhadledd fuddsoddi Slush yn Helsinki, ac mae ein cwmni gemau mewnfuddsoddi, Rocket Science, wedi cyrraedd ei darged o gyflogi 50 o staff yng Nghaerdydd ymhell cyn amser.
Ym maes cerddoriaeth, rydym wedi buddsoddi dros £1.3 miliwn i gefnogi'r sector, gan gynnwys £700,000 ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled y wlad, gan ddiogelu mannau lle y gall talent y dyfodol ffynnu. Rydym yn parhau i gryfhau partneriaethau strategol â sefydliadau fel Pyst, Bannau, PRS for Music a Focus Cymru. Rydym hefyd wedi darparu sawl cytundeb nawdd i gefnogi gwyliau a digwyddiadau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru Greadigol.
Un o'n prif flaenoriaethau yw datblygu sgiliau. Rydym wedi cynnig 580 o leoliadau lefel mynediad ac uwchsgilio hyfforddeion â thâl ar y cynyrchiadau sydd wedi'u hariannu gennym ers 2020. Yn ogystal â'r gronfa sgiliau creadigol, rydym wedi cefnogi 34 o brosiectau hyfforddi, gan ddarparu hyfforddiant pwrpasol i unigolion a chwmnïau ar draws ein sectorau â blaenoriaeth. Rydym yn ariannu amrywiaeth o brosiectau partneriaeth ac yn parhau i gyflawni ar gyfer y sector creadigol, gan gynnwys Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol Cymru a Cyswllt Diwylliant Cymru. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Cult Cymru dan arweiniad yr undeb, gan ddarparu cyfres o fecanweithiau cymorth iechyd meddwl a lles dros y chwe blynedd diwethaf.
Gallwn ni i gyd gytuno bod ein sector creadigol, ffilm, teledu a thu hwnt, yn stori lwyddiant go iawn sydd wedi dod ag arian a swyddi i'n cymunedau. Rwy'n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i siarad yn uniongyrchol â phobl sydd wedi dod o hyd i swyddi oherwydd buddsoddiadau Cymru Greadigol. Yr enghraifft sydd bob amser yn aros gyda mi oedd siarad â hyfforddeion yn Bad Wolf: pobl ifanc yn cael eu cyfle cyntaf mewn bywyd, yn dysgu amrywiaeth o sgiliau—un mewn rheoli prosiectau, un mewn cyfrifon, ac un mewn gwasanaethau cyfreithiol a llywodraethu. Mae'r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn agor drysau i'r bobl ifanc hyn mewn sectorau ar draws ein heconomi. Ac mae'r cyfarfod hwn, yn fwy nag unrhyw un arall, yn dangos y gwahaniaeth y mae Cymru Greadigol yn ei wneud.
Mae'r flwyddyn sydd i ddod yn hanfodol i sector sy'n wynebu rhywfaint o ansicrwydd sy'n gysylltiedig â chostau cynyddol, llai o ffrydiau refeniw, adnewyddu siarter y BBC, yn ogystal ag effaith deallusrwydd artiffisial. Felly, wrth i ni ddathlu popeth y mae ein diwydiannau creadigol wedi'i gyflawni hyd yn hyn, er mwyn cynnal y momentwm hwn mae'n rhaid i ni barhau i ymateb i anghenion a gweithio gyda'r sector i oresgyn heriau. Wrth i ni wneud hyn, rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r economi greadigol a chreu cynnwys unigryw Cymreig sy'n sefyll â'i ben yn uchel ymhlith gwledydd eraill. Llywydd, pen-blwydd hapus i Cymru Greadigol, llwyddiant 'a wnaed yng Nghymru'.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ac am roi rhagolwg o'i ddatganiad yn gynharach y prynhawn yma.
Rwy'n croesawu'r newyddion bod y sector, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, wedi cynhyrchu trosiant blynyddol o oddeutu £1.5 biliwn, sy'n dwf o dros 10 y cant o gymharu â'r llynedd. Mae hyn yn newyddion ardderchog, ac mae'r ffocws ar ddatblygu sgiliau a chreu swyddi i'w groesawu hefyd. Roedd hi hefyd yn wych clywed gan y Gweinidog am rai o'r rhaglenni teledu, ffilmiau a gemau fideo gwych sy'n cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae pryderon yn dal i fodoli ar draws rhannau helaeth o'r sector creadigol, a chafodd rhai argymhellion eu gwneud gan y pwyllgor diwylliant, nad ydynt wedi'u dilyn, a fyddai'n fuddiol.
Mae yna ddiffygion cyffredinol o ran cyllid o hyd. Er bod cynnydd cymedrol mewn cyllid yng nghyllideb 2025-26 i wneud iawn am y toriadau yng nghyllideb 2024-25, nid yw Llywodraeth Cymru dal wedi cynyddu cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon ar gyfradd sy'n sicrhau cydraddoldeb y pen â gwledydd Ewropeaidd eraill. Cyfeiriodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru at hyn wrth ddweud bod buddsoddiad uniongyrchol Chwaraeon Cymru yn is mewn termau arian parod o gymharu â lefelau 2010, o'i addasu ar gyfer chwyddiant.
Rwyf hefyd eisiau tynnu sylw at y ffaith bod cyhoeddwr annibynnol o Gaerdydd wedi ysgrifennu at y pwyllgor diwylliant ym mis Tachwedd yn galw am ymchwiliad i'r cyllid a roddir ar gyfer cyhoeddi, gan ddweud eu bod yn wynebu 'sefyllfa ariannol anffodus'. Dywedodd golygydd Lucent Dreaming mai cyllid craidd annigonol gan Gyngor Llyfrau Cymru, a ariennir gan Cymru Greadigol, sydd wedi arwain at argyfwng dirfodol i weithwyr creadigol. Rwy'n ymwybodol bod y gyllideb flaenorol wedi rhoi dyraniad pellach o £272,000 i Gyngor Llyfrau Cymru, ond mae'n amlwg bod y cyllid naill ai'n annigonol neu nad yw'n cael ei ddyrannu'n briodol gan y cyngor llyfrau. Mae'r gyllideb ddrafft ddiweddaraf hefyd yn dangos cynnydd yn y cyllid sy'n cael ei gyfeirio at ryddhad ardrethi ar gyfer y sectorau teledu a ffilm, sy'n wych, ond mae'n bwysig nad yw meysydd eraill o'r sector creadigol, fel cyhoeddi, yn cael eu gadael ar ôl, ac mae'n rhaid i'r cyllid a roddir ar gyfer diwylliant fod yn ddigonol i sicrhau cynaliadwyedd y sector yn gyffredinol.
Efallai y byddai'r broblem hon wedi cael ei hosgoi hefyd pe bai Llywodraeth Cymru wedi cytuno'n llawn â rhai o argymhellion y pwyllgor diwylliant yn ein hadroddiad ar effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon, a gyhoeddwyd y llynedd. Dywedodd argymhelliad 4
'Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth drawsadrannol gydweithredol i gyllido diwylliant a chwaraeon, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau cyllid yn cael eu cydgysylltu â blaenoriaethau ehangach y llywodraeth, yn enwedig iechyd ac addysg.'
Cafodd ei wrthod, a chredaf fod hynny'n gamgymeriad. Byddai strategaeth drawsadrannol yn sicrhau bod y sectorau diwylliant a chwaraeon yn cael eu cydnabod fel cerbydau ar gyfer cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth a byddai'n lleihau'r tebygolrwydd o gefnogaeth anghyson ar draws is-sectorau creadigol.
Roedd argymhelliad 8 o'r adroddiad yn nodi
'Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o gyfeiriad strategol i alluogi'r sectorau diwylliant a chwaraeon i ffynnu a chyflawni amcanion a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru',
gydag ymrwymiadau mesuradwy tuag at y blaenoriaethau hyn. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy ddweud bod llythyrau cylch gwaith yn ddigonol, ond nid wyf yn credu bod hyn yn wir. Mae'r blaenoriaethau a osodir gan Lywodraeth Cymru yn aml yn amwys ac nid ydynt yn cynnwys canllawiau ar gyfeiriad strategol. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw ein cyrff hyd braich, mae angen darparu canllawiau llawer cryfach i sicrhau bod yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yn cael ei benderfynu drwy ddulliau democrataidd. Rydym yn gwybod bod arian cyhoeddus wedi cael ei wastraffu gan gyrff hyd braich yn y sector diwylliant, tra bod mentrau gwerth chweil wedi cael eu hamddifadu o arian. Felly, mae angen i gyfeiriad cryfach gael ei osod trwy'r llythyrau cylch gorchwyl.
I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn ailddatgan fy mod yn croesawu'r cynnydd mawr sydd wedi'i wneud yn y diwydiannau creadigol, ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog a fyddai'n ailystyried cryfhau llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru i gyrff hyd braich i roi mwy o gyfeiriad strategol a sicrhau nad yw buddsoddiad yn y diwydiannau creadigol yn canolbwyntio gormod ar un maes ac nad yw'n cael ei wastraffu ar fentrau na fyddai'r mwyafrif o'r cyhoedd eu heisiau neu'n eirioli drostynt. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Gareth, am y gyfres o sylwadau gennych yn y fan yna. Fe wnaeth yr Aelod geisio, rwy'n meddwl, ddathlu llwyddiant Cymru Greadigol, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hynny. Rwy'n cytuno bod llawer o lwyddiannau o'r buddsoddiadau y mae Cymru Greadigol wedi'u gwneud, ac mae wedi tynnu sylw at nifer ohonynt yn y fan yna. Wrth gwrs, fe fydd e wedi gweld dros gyfnod y Nadolig y buddsoddiad ychwanegol yn Cymru Greadigol yn dilyn uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru, y £2 filiwn a sicrhaodd fuddsoddiad pellach i Bad Wolf a'r cynyrchiadau a gyhoeddwyd gan gwmni Bad Wolf yng Nghymru sy'n arwain y byd. Cyhoeddwyd cronfa arall o £2.5 miliwn yn ystod y flwyddyn ar gyfer Cymru Greadigol hefyd, sy'n mynd yn uniongyrchol i gefnogi cynyrchiadau pellach fel y rhai a grybwyllwyd eisoes, ond sydd hefyd yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi, a gododd yr Aelod yn y fan yna.
Rwy'n ymwybodol o lythyr y cyhoeddwr rydych chi'n cyfeirio ato. Mae fy swyddogion wedi cwrdd â'r cyhoeddwr Lucent Dreaming a byddant yn parhau i gymryd rhan yn y trafodaethau cadarnhaol hynny gyda nhw. Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth diweddaru'r Aelod ar y ffigurau yn y fan yna hefyd. Roedd £350,000 arall sydd wedi mynd yn uniongyrchol i Gyngor Llyfrau Cymru o Cymru Greadigol. Mae'r arian hwnnw wedi mynd yn uniongyrchol i gyhoeddwyr a hefyd i hyrwyddo llyfrau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Roedd yna wariant hefyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer diwylliant a chwaraeon. Bydd yr Aelod ei hun yn gwybod bod y datganiad hwn ar Cymru Greadigol yn cael ei ariannu drwy linell wahanol yn y gyllideb, felly o ystyried y ffaith bod y Dirprwy Lywydd wedi rhoi cyfarwyddyd i mi roi atebion byr, efallai y byddai'n well gofyn cwestiwn arall ar ddiwrnod gwahanol.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw. Dwi'n falch ein bod ni'n cael y cyfle i drafod diwydiant sydd mor bwysig, diwydiannau creadigol. Mae yna botensial mawr o ran twf hefyd yn parhau i fod, a dwi'n credu bod Cymru Greadigol, yn amlwg, o'r trafodaethau gyda'r sectorau maen nhw'n cydweithio efo nhw, yn gweld gwerth. Ond dwi'n meddwl bod yna gwestiynau dilys sydd gan y sector hefyd, a dwi yn croesawu'r ffaith eich bod chi wedi sôn ynglyn â'r cydweithio sy'n mynd i fod drwy'r fforwm partneriaeth cymdeithasol, oherwydd un o'r pethau y byddwn i'n hoffi gwybod ydy sut ydych chi'n adolygu'r hyn mae'r corff wedi bod yn ei gyflawni, sut ydyn ni'n sicrhau gwerth am arian go iawn a beth mae hynny'n ei olygu o ran swyddi yn yr hirdymor.
Yn amlwg, mae gwerth y sector creadigol yn mynd yn bellach nag ystadegau. Mae o'n adrodd stori ein cenedl ni, yn dweud pwy ydyn ni wrth y byd, ond hefyd, gobeithio, yn denu buddsoddiad. Dwi'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n rhoi'r ymrwymiad hwnnw, ond mae'r genedl yn gyfoethocach yn ddiwylliannol oherwydd y sector hwn, ond hefyd y bobl sy'n gweithio ynddo fo. Dyna pam buaswn i'n hoffi gofyn rhai cwestiynau ynglŷn â'r gweithlu i chi, oherwydd rhai o'r pethau rydyn ni wedi eu clywed. Yn amlwg, o ran y swyddi cychwynnol hynny, mae yna stori dda i'w ddweud, ond yr hyn dwi wedi'i glywed gan y sector, a dwi'n siŵr eich bod chi wedi'i glywed hefyd, ydy sut mae hynny wedyn yn golygu bod yna gyfleoedd gydol gyrfa. Roedd BECTU yn rhannu y llynedd yn eu harolwg nhw fod 43 y cant o weithwyr ffilm a theledu yng Nghymru allan o waith, sy'n codi pryderon o ran beth sy'n digwydd wedi'r cyfle cychwynnol hwnnw. Yn amlwg, bydd rhai eisiau mynd i ddiwydiannau eraill, ond mae yna nifer o bobl eisiau aros yn y sector hwn a ddim yn gweld bod y cyfleoedd yna yng Nghymru.
Hefyd, sut ydyn ni'n sicrhau bod y buddsoddiad sy'n dod i Gymru nid dim ond yn cefnogi mwy o gynyrchiadau, ond yn golygu twf y sector yng Nghymru, ledled Cymru, y cwmnïau annibynnol cynhyrchu ac ati? Rydyn ni wedi clywed pryderon efallai nad yw pawb sy'n derbyn arian drwy Cymru Greadigol ddim yn cydweithio efo cwmnïau yma yng Nghymru, a bod y gwaddol gwirioneddol hwnnw ddim i'w weld ym mhob cynhyrchiad. Felly, byddwn i yn gwerthfawrogi clywed sut rydych chi'n monitro hwnnw.
Mae yna hefyd rhai cwestiynau wedi codi ynglŷn â phroses grant Cymru Greadigol a pha mor hir mae weithiau yn cymryd. Yn amlwg, mae hynny weithiau yn cael effaith. Rydym ni wedi clywed gan rai cwmnïau lle mae cynhyrchiad wedi gorffen ac wedyn yn gorfod aros amser, a weithiau yn gorfod cael loan er mwyn gallu talu pethau tan mae'r arian yn dod drwyddo. Ydy'r math yna o brosesau yn rhai rydych chi'n edrych arnyn nhw?
Yn amlwg, o ran rhai o'r pwyntiau mae Gareth Davies wedi eu codi'n gynharach, mae'r diwydiant cyhoeddi yn rhywbeth roedden ni fel pwyllgor diwylliant wedi edrych arno fo dro ar ôl tro. Rydw i'n nodi'r arian ychwanegol y gwnaethoch chi gyfeirio ato fo'n gynharach, ond dwi hefyd yn nodi bod Cyngor Llyfrau Cymru wedi sôn am bwysigrwydd gwybod bod yr arian yn dod, a'r cysondeb hwnnw, er mwyn gallu sicrhau bod y sector allweddol bwysig hwnnw, fel fyddwch chi'n gwybod, efo trafodaethau gyda'r Gweinidog addysg o ran yr hyn rydym ni'n eisiau ei wneud o ran llythrennedd ac ati—bod hynny'n golygu sicrwydd i'r diwydiant hwnnw. Felly, croesawu'r buddsoddiad, ond hefyd y neges sydd gan y Cyngor Llyfrau ynglŷn â'r pwysigrwydd eu bod nhw'n gwybod bod yr arian yna'n dod yn gyson.
Mae yna nifer o feysydd eraill, wrth gwrs, sydd o dan hyn, ac mi fyddwn i'n ategu'r sylwadau a wnaed gan y pwyllgor o ran sut mae hyn yn cyd-fynd efo strategaeth blaenoriaethau diwylliant Llywodraeth Cymru. Mae yna gymaint o gydweithio rhwng y sectorau sydd yn y strategaeth honno a'r hyn mae Cymru Creadigol yn ei wneud. Roeddech chi'n nodi yn eich ymateb i Gareth Davies hefyd bod hyn yn ddau bot gwahanol o ran lle mae cyllid yn dod. Ydych chi'n gweld bod yna le i ni edrych sut rydym ni'n dod â rheini ynghyd mewn ffordd fwy strategol, fel ein bod ni'n manteisio hyd yn oed yn bellach ar yr hyn rydym ni'n gallu ei gyflawni? Ac yn enwedig felly pan ydym ni'n edrych ar y swyddi a'r sgiliau sy'n gallu mynd o'r sectorau hyn—er enghraifft efo theatr, sydd yn y blaenoriaethau diwylliant, ond wedyn gyda ffilm a theledu’n benodol, sydd efo Cymru Creadigol.
Felly, nifer o sylwadau, mae arnaf i ofn, ond mae'n dda cael y cyfle i godi'r materion hyn ar lawr y Senedd. Byddwn i'n croesawu dialog bellach gyda chi wrth i ni edrych ar sut mae'r bartneriaeth a'r fforwm partneriaeth cymdeithasol yn benodol yn mynd i fod yn siapio gwaith Cymru Creadigol i'r dyfodol.
Diolch, Heledd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gyfres o gwestiynau yn y fan yna. Fe wnaf i geisio mynd trwy gymaint ag y gallaf yn yr amser, Llywydd, ond rwy'n hapus i gael sgwrs barhaus ynghylch rhai o'r pwyntiau eraill.
Yn gyntaf, rwy'n cytuno bod yna berthynas real iawn rhwng y diwydiannau creadigol ac efallai'r sector celfyddydau mwy traddodiadol hefyd. Mae'r cyfeiriad a wnaethoch at gynyrchiadau ffilm a theledu ac yna'r theatr yn un da. Mae gan Cymru Greadigol femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac rwy'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol. Po fwyaf y gallwn ni ei weld yn y gofod hwnnw—ie, fe ddylen ni fod yn ceisio gwneud cymaint ag y gallwn. Ac rydw i wedi cael sgyrsiau gyda thîm Cymru Greadigol a thimau yn yr adran ddiwylliant hefyd ynglŷn â'r pwnc hwnnw. Y rheswm pam nad yw Cymru Greadigol wedi'i gynnwys yn y blaenoriaethau ar gyfer diwylliant, cytunwyd nad dyna'r ffordd orau ymlaen, yw oherwydd bod yna gyfres o flaenoriaethau ar gyfer Cymru Greadigol pan gafodd ei sefydlu i ddechrau. Wedi dweud hynny, rwy'n credu bod yna ofod lle mae angen i gydweithio ddigwydd ac mae yn digwydd.
Soniodd Heledd am y newyddion da am y fforwm partneriaeth gymdeithasol yn y diwydiannau creadigol a diwylliant. Rwy'n credu bod hwn yn gam i'w groesawu'n fawr. Yng ngwir ysbryd partneriaeth gymdeithasol, mae wedi cael ei greu gyda'r gweithlu. Bydd cyfle i gael cyfarfod cychwynnol gydag aelodau'r fforwm. Rydym yn gobeithio cael cyfarfod arall ymhen ychydig wythnosau, trafodaeth fwy sylweddol. Ond rwy'n gobeithio y bydd hwnnw'n fforwm ar gyfer y dyfodol, lle gall y sector ei hun, gan gynnwys y gweithlu, ddod â rhai o'r heriau a'r cyfleoedd atom yn y dyfodol. Mae Cymru Greadigol yn eistedd ar y fforwm, mae cyngor y celfyddydau yn eistedd ar y fforwm, yn ogystal â'r nifer o undebau llafur sy'n cynrychioli'r sector, ac rwy'n cadeirio'r fforwm hwnnw ochr yn ochr â'm swyddogion. Rwy'n credu bod yna gyfle gwirioneddol i drafod un o'r pethau yn benodol am y cyfleoedd gyrfa hirdymor ar gyfer hyn. Fe welwch chi o'r rhifau yn y datganiad lwyddiant gwirioneddol Cymru Greadigol a'r lleoliadau i hyfforddeion ochr yn ochr â hynny. Mae hynny'n rhan o'r amod grant yn y fan yna.
Mae'r sector hwn wedi'i adeiladu ar weithwyr llawrydd, ac un o'r ffyrdd y gallwn ni gefnogi'r sector a gweithwyr llawrydd yn y sector yw trwy greu'r llif hwnnw o waith lle mae yna gynyrchiadau drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru lle gall gweithwyr llawrydd fynd i gael gwaith. Dyna pam mae'r buddsoddiad rydym yn ei wneud, fel y £2 filiwn ychwanegol sydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer Bad Wolf, lle mae hynny'n sicrhau y gallant wneud tair blynedd arall o waith, yn gam da ymlaen. Yn sicr, creu'r llif hwnnw lle gall gweithwyr llawrydd weithio yw'r ffordd ymlaen. Dyna bwysigrwydd y cyllid cynhyrchu rydym yn gallu cefnogi'r diwydiant ag ef.
Rydw i eisiau tynnu sylw at gyfle arall lle rydym yn cefnogi gweithwyr llawrydd a'r rhai o fewn y gweithlu, oherwydd mae'n lle anodd i weithio ynddo weithiau. Rydym wedi eu cefnogi trwy fenter iechyd meddwl. Cynhaliwyd cwrs deuddydd yn Wrecsam yr wythnos hon i gefnogi'r rhai yn y diwydiant. Rwy'n credu ei fod yn mynd yn bell, yn enwedig o ran pa mor bwysig yw hi i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Rydym yn gallu gwneud hynny drwy waith Cymru Greadigol hefyd.
Mae yna ddau bwynt arall, Cadeirydd, ac fe wnaf i orffen. O ran pwysigrwydd ffilmiau annibynnol o Gymru, rwy'n awyddus i weld mwy o gomisiynau i gynhyrchwyr annibynnol Cymreig a chomisiynau sy'n eu defnyddio. Rwy'n credu bod gennym straeon llwyddiant go iawn lle maen nhw wedi cael eu defnyddio, ac rwy'n credu y gallan nhw gael eu defnyddio mwy yn y dyfodol. Rwy'n rhannu'r farn a'r ymrwymiad tuag at hynny.
O ran y broses grant, dydw i ddim wedi clywed hynny'n uniongyrchol. Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs ar wahân ar y mater hwnnw. Mae'r broses grant yn mynd trwy banel. Mae argymhellion yn cael eu gwneud i Weinidogion ynghylch lle y dylid cytuno ar gyllid neu beidio, ac rwy'n credu bod honno'n broses bwysig, gan mai cyllid cyhoeddus ydyw. Ond rwy'n hapus i gymryd hynny y tu allan i'r datganiad heddiw a chael sgwrs gyda chi.
Mae Wrecsam dan y chwyddwydr fel erioed o'r blaen, ac mae diwydiant creadigol a chelfyddydau'r ddinas yn rhan fawr ohoni. Mewn cyfnod cymharol fyr, mae Minera Studios wedi ymwreiddio eu hunain yn y gymuned. Rwyf wedi cwrdd â Dean, Ruby, Ian a'r tîm ar sawl achlysur, ac maen nhw'n helpu i roi Wrecsam ar y map yn y maes hwn.
Cyn y Nadolig, fe wnes i eu gwylio'n ffilmio Box of Frogs, sef ffilm fer a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Ian. Mathew Horne o Gavin a Stacey oedd yn chwarae'r brif ran—a chafodd y cyfan ei ffilmio yn Wrecsam gyda thalent leol. Sefydlodd y tîm hefyd Academi Actio Sgrin Wrecsam, ac maen nhw'n angerddol iawn am helpu pobl leol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ffilm a theledu a'r cyfryngau digidol. Yn ogystal â rhoi cyfle i dalent leol weithio ar y ffilm fer, maen nhw hefyd wedi gweithio'n ddiweddar gyda phobl ifanc o Barc Caia nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Maen nhw hefyd wedi gweithio gyda Stori Brymbo a Phrifysgol Wrecsam, ac maen nhw'n cefnogi cais dinas ddiwylliant 2029.
Rwy'n gwybod eich bod chithau hefyd, Gweinidog, wedi cwrdd â'r tîm, a meddwl ydw i tybed beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r diwydiannau creadigol yn Wrecsam. Diolch.
A gaf i ddiolch i Lesley Griffiths am y cwestiwn hwnnw? Mae Lesley yn hollol iawn i ddweud bod y chwyddwydr ar Wrecsam fel erioed o'r blaen. Mae llygaid y byd ar yr holl bethau cyffrous sy'n digwydd yn Wrecsam, yn enwedig trwy raglen Welcome to Wrexham a llwyddiant y tîm pêl-droed, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny'n parhau.
Bydd yr Aelod yn falch hefyd, rwy'n siŵr, o glywed y newyddion bod yr Athro Joe Yates, is-ganghellor Prifysgol Wrecsam, wedi'i benodi'n gadeirydd bwrdd Cymru Greadigol. Mae ef hefyd yn gefnogwr brwd o ranbarth gogledd-ddwyrain Cymru, ac rwy'n credu bod yr holl bethau da y mae Minera Studios yn eu gwneud yn bethau y bydd ef eisiau eu gweld ei hun. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd eto â Minera Studios i siarad am y cyfleoedd sydd o'n blaenau. Wnes i ddim gweld Box of Frogs yn cael ei ffilmio, ond rwy'n gobeithio gweld y ffilm fer rywbryd.
Mae llawer mwy y gallwn ni ei wneud i'r diwydiannau creadigol, ac rydym yn parhau â'r buddsoddiadau rydym wedi'u gwneud, oherwydd y gyllideb a gynigir. Byddwn yn edrych i weithio gyda stiwdios fel Minera ar draws y rhanbarth. Bydd yr Aelod hefyd yn falch, rwy'n credu, o glywed am y gefnogaeth i'r sector gemau cyfrifiadurol yng Nghymru. Mae FreeRangeDevs, a leolir yn Wrecsam, wedi derbyn cyllid gan Cymru Greadigol, ac maent yn rhan o raglen academi gemau Cymru gyda Tramshed Tech. Mae hynny'n hwb i'r rhanbarth. Bydd yr Aelod a chyd-Aelodau yn y Senedd yn gwybod bod Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru wastad wedi bod yn sbardun allweddol i economi Cymru. Mae'n wych cael hyrwyddwyr fel Lesley, a Joe Yates wrth fwrdd Cymru Greadigol, yn cydnabod pwysigrwydd y sector creadigol hefyd.
Os gallaf sôn am ddau fater. Mae un yn fater 'darlun mawr'. Fe wnaethoch chi sôn am y problemau iechyd meddwl sy'n wynebu llawer sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi edrych ar fodel Iwerddon lle mae incwm sylfaenol i artistiaid ar gael nawr. Cafodd ei dreialu ac mae wedi'i gyflwyno. Rwy'n siŵr nad ydym yn y gofod hwnnw, ond rwy'n credu ei fod yn fodel da iawn i feddwl amdano.
Ond rydw i eisiau canolbwyntio wedyn ar Bowys, a'r ffaith bod gennym ni Ŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys, sy'n ŵyl annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan yr unig fenyw sy'n gyfrifol am ŵyl ar draws y DU gyfan. Mae'n dod â £28.9 miliwn i'r economi leol, a gwnaeth Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd fuddsoddi bron i £90,000 mewn prosiectau lleol y llynedd, gan gynnwys offer chwarae, cyfleusterau chwaraeon a gwelliannau i fannau gwyrdd. Mae diwydiannau creadigol gwledig yn bwysig iawn i'n cymunedau, felly roeddwn i eisiau gofyn i chi, Gweinidog: beth mwy allwch chi ei wneud i sicrhau bod diwydiannau creadigol gwledig, fel y Dyn Gwyrdd, yn cael eu cefnogi ac y rhoddir adnoddau priodol iddynt? Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Jane Dodds am hynny. Unwaith eto, diolch am nodi pa mor bwysig yw iechyd meddwl y gweithlu yn y diwydiannau creadigol, ac rwy'n credu bod y rhaglenni yr ydym wedi llwyddo i'w cyflawni gyda CULT Cymru yn cael eu croesawu ac yn mynd yn bell iawn.
Rwy'n ymwybodol o fodel Iwerddon sef, yn y bôn—. Rwy'n ymwybodol hefyd fod deiseb i'r Senedd yn edrych ar hynny, felly fe wnaf i ddweud ychydig llai, fwy na thebyg, ac aros i weld beth sy'n digwydd yn y gofod hwnnw.
Ac o ran Cymru wledig a'r diwydiannau creadigol, rwy'n credu bod yna lawer o gyfleoedd i Gymru wledig barhau i chwarae eu rôl yn yr economi greadigol, yn enwedig o ran ffilm a theledu. Rydym wedi gweld golygfeydd trawiadol lleoliadau ledled y wlad, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, ac rwy'n credu bod yna gyfle yn y fan yna.
Ac yna, wrth gwrs, rydym eisiau cefnogi ein gwyliau cerddoriaeth fyw a'n lleoliadau cerddoriaeth fyw hefyd. Mae'r Llywodraeth wedi cefnogi Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn flaenorol, ac rydym eisiau i wyliau fel y Dyn Gwyrdd lwyddo ledled Cymru. Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs bellach am sut mae hynny'n edrych efallai gyda swyddogion a'r Aelod lleol ar gyfer y rhanbarth, felly fe wnaf i fwrw ymlaen â hynny.
Rwyf eisiau tynnu sylw at bwysigrwydd prifysgolion i'r sector creadigol. Mae adrannau hanes, treftadaeth a chlasuron Prifysgol Abertawe wedi gwneud cyfraniad mawr at waith ailddatblygu a arweinir gan dreftadaeth yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys y prosiect ym Margam a arweiniodd at ddarganfod y fila Rufeinig yn ddiweddar.
Mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yn fwy na'r diwydiant ffilmiau. Prifysgol Abertay yn Dundee yw un o'r prifysgolion gemau cyfrifiadurol gorau yn Ewrop, gyda Dundee yn gartref i dros draean o gwmnïau gemau'r wlad. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi cymorth i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru ddatblygu'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yng Nghymru ymhellach?
Rwy'n cofio, fel yr wyf yn siŵr y mae pobl eraill yma yn ei wneud, pan oedd cartwnau plant S4C yn cael eu dominyddu gan gynnyrch Cymreig fel Sam Tân a SuperTed. Nawr mae gennym ni Peppa Pig wedi'i drosleisio yn Gymraeg. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi S4C i gomisiynu animeiddio Cymraeg? Mae hwnnw'n ddiwydiant yr oedd gennym lawer ohono, ac roedd rhaglenni plant S4C yn cael eu rhoi arno, rhywbeth y byddwch chi'n ei wneud yn weddol fuan, fwy na thebyg, Gweinidog, ac fe welwch chi mai ychydig iawn ohonyn nhw sy'n rhai gwreiddiol Cymreig.
Yn olaf, a gaf i ddweud bod yr archif gwydr lliw yn Abertawe, sy'n cael ei rhedeg gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ddarpariaeth o'r radd flaenaf?
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am hynny? Mike, dros toriad y Nadolig, rwy'n siŵr eich bod chi mor gyffrous â minnau i groesawu Bluey i Gymru, yr wyf wedi cael fy hun yn ei wylio droeon dros yr wythnosau diwethaf. Diolch am dynnu sylw at y ddau bwynt, llwyddiannau blaenorol animeiddiadau Cymreig fel SuperTed a Sam Tân—maen nhw'n eiconig iawn, nid yn unig i Gymru ond i'r DU hefyd. Yn ogystal â gwylio Bluey, er ei fod wedi'i drosleisio, rwy'n gwylio cynyrchiadau Cymraeg fel Cyw ac yn treulio llawer o amser gyda Noa yn edrych ar yr holl bethau hynny. Mae hwnnw'n llwyddiant go iawn. Mae'n un o'i ffefrynnau. Ac ochr yn ochr â'r mathau hynny o animeiddiadau gan S4C a Boom Cymru, mae Cymru Greadigol wedi cefnogi animeiddwyr yn y gorffennol, ac mae'r cynhyrchiad animeiddiedig arobryn The Rubbish World of Dave Spud o ddiddordeb, ac fe fyddaf yn ei annog i dreulio peth amser y penwythnos yma yn gwylio hwnnw, efallai.
O ran gemau cyfrifiadurol, Mike, rwy'n cytuno â chi—mae yna gyfle gwirioneddol o'n blaenau ni. Roedd yn un o'r sectorau â blaenoriaeth a roddais i Cymru Greadigol pan ddes i'n Weinidog. Gallwn ni gefnogi cwmnïau yma yng Nghymru drwy fentrau fel y rhaglen academi gemau, fel y cyllid cynhyrchu a'r cyllid ehangu, ond y tu hwnt i hynny hefyd, ac mae'r sioeau masnach rhyngwladol yn mynd rhywfaint o'r ffordd o ran hynny—. Yn anffodus, dydw i ddim yn mynd i allu cynnig cyllid yn uniongyrchol i brifysgolion heddiw, ond yr hyn y byddaf yn ei ddweud yw bod prifysgolion yn chwarae rôl bwysig i'r sector. Yn uned hybu Wrexham.Games y gwnes i gyfarfod â'r cwmni FreeRangeDevs am y tro cyntaf, ac maen nhw wedi mynd ymlaen i dderbyn cyllid gan Cymru Greadigol. Felly, mae yna le yn sicr i brifysgolion wneud mwy yn y gofod hwn, a byddaf yn annog swyddogion i ddechrau sgyrsiau gyda nhw hefyd.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at straeon llwyddiant anhygoel y sector creadigol yng Nghymru. Rwyf am godi dau fater gyda chi, Gweinidog. Yn gyntaf, cefais fy siomi o ddarllen darn o waith gan Ymchwil y Senedd a nododd fod gan Gymru y gwariant isaf ond un y pen mewn diwydiannau creadigol yn Ewrop, oherwydd rydych chi wedi sôn am y straeon llwyddiant, ac rydyn ni'n gwybod, pan mae pobl greadigol o Gymru yn llwyddo, mae rhai ohonyn nhw'n ailfuddsoddi'n anhygoel yng Nghymru. Mae Michael Sheen yn enghraifft berffaith. Ond mae angen buddsoddi ynddyn nhw yn y lle cyntaf, ac mae angen iddyn nhw gael y cyfle i lwyddo. Felly, roeddwn i'n siomedig i ddarllen y ffigur hwnnw, felly byddwn i'n ddiolchgar i glywed sylw am hynny.
Ac yn ail, mae'r hyn y mae artistiaid yn ei wneud hefyd yn wynebu perygl corfforaethau mawr, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o Live Nation a'r monopoli sydd ganddyn nhw—fwy neu lai—ar y sector yma yng Nghymru. Maen nhw hefyd wedi ychwanegu ein neuadd gyngerdd genedlaethol at hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r monopoleiddio sy'n digwydd i'r diwydiant creadigol gan gwmni rhyngwladol gwerth biliynau o ddoleri? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys, am hynny. Rwy'n ddiolchgar am ei gefnogaeth i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru hefyd. O ran y gymhariaeth y soniwyd amdani, dydw i ddim yn siŵr a yw honno'n gymhariaeth tebyg am debyg â gwledydd Ewropeaidd eraill, felly wnaf i jyst dweud hynny wrtho. Ond rydyn ni yn buddsoddi yn y diwydiannau creadigol, a lle rydyn ni wedi buddsoddi yn Cymru Greadigol, rydyn ni wedi gweld y llwyddiannau y mae'r datganiad hwn wedi tynnu sylw atyn nhw ac rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn y fan yna.
Ac yna o ran cerddoriaeth fyw a chefnogi annibyniaeth yn hytrach nag eraill, efallai, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod yr hyn y mae Live Nation wedi'i ddwyn i'r bwrdd. Rydyn ni wedi gweld rhai cyngherddau mawr yn ei ranbarth ef ei hun hefyd. Ond o ran cefnogi annibyniaeth, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Cymru Greadigol yn gwneud hynny, ac rydyn ni wedi buddsoddi dros £1 filiwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r sector cerddoriaeth fyw, a byddwn ni'n mynd ymlaen i gefnogi'r sector cerddoriaeth fyw yn y blynyddoedd i ddod drwy Cymru Greadigol hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 6 ar ein hagenda ni yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: gwella mynediad at gymorth ariannol i bobl ledled Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae gwella mynediad at gymorth ariannol i bobl ledled Cymru yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae mynd i'r afael ag un o achosion sylfaenol tlodi yn lleihau'r baich ariannol ar bobl ledled Cymru drwy sicrhau eu bod yn ymwybodol o bob £1 o gymorth ariannol y mae ganddyn nhw yr hawl i'w gael, a'u bod yn gallu ei hawlio.
Ym mis Rhagfyr, fe rannais i ddiweddariad ar y gwaith sy'n mynd rhagddo, ar draws y Llywodraeth, i fynd i'r afael â thlodi plant ac fe amlinellais i'r camau yr ydym yn eu cymryd i leihau costau a sicrhau bod aelwydydd yn cael yr incwm mwyaf posibl o dan amcan 1 o 'Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024'. Fe wnes i hefyd lansio'r 'Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035', gyda blaenoriaeth allweddol i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad at y budd-daliadau y mae ganddyn nhw yr hawl i'w cael.
Rydym yn ariannu prosiectau a rhaglenni sy'n mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael mynediad at yr hyn y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael, fel stigma, diffyg ymwybyddiaeth a cheisiadau cymhleth. Mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nodwyd hynny'n glir yn ein hadroddiad diweddar 'Dadansoddiad o ymatebion i arolwg ac adolygiad o dystiolaeth ynghylch profiad bywyd o dlodi plant'. Dywedodd un person wrthym, ac rwy'n dyfynnu,
'heb yr arian hwn, byddem yn mynd heb fwy o brydau bwyd dim ond i gadw to uwch ein pennau a chynhesu ein cartref'.
Dyna'r realiti i deuluoedd, ac mae'n dangos pam mae'r gwaith hwn mor bwysig.
Wrth wraidd ein gwaith mae siarter budd-daliadau Cymru. Mae'r siarter, sydd wedi'i chymeradwyo gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, yn sbarduno gwelliannau i'r ffordd y mae budd-daliadau Cymru yn cael eu darparu. Mae'n creu newid mewn diwylliant, tuag at system sy'n seiliedig ar hawliau a'r hyn y mae gan bobl yr hawl i'w gael.
Yng ngham 1 y gwaith sy'n cael ei wneud i symleiddio budd-daliadau Cymru, rydyn ni'n gweithredu dull 'dweud eich stori unwaith'. Gan weithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac uwch-arweinwyr ym mhob awdurdod lleol, rydyn ni'n sicrhau bod awdurdodau yn deall sut y gallan nhw benderfynu pwy sydd â'r hawl i gael cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol o un ffynhonnell wybodaeth a ddarperir gan unigolyn. Trwy ddileu'r angen am sawl cais, mae awdurdodau lleol yn rhoi siarter budd-daliadau Cymru ar waith drwy sicrhau ei bod mor hawdd â phosibl i hawlio budd-daliadau Cymru. Rydyn ni hefyd yn dangos sut mae siarter budd-daliadau Cymru yn cael ei gweithredu'n ymarferol drwy'r taliad o £100 yr ydym yn ei wneud i aelwydydd sydd â gostyngiad band anabl sydd hefyd yn derbyn cymorth gan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor sy'n dibynnu ar brawf modd.
Gyda thaliad pwrpasol siarter budd-daliadau Cymru, dydyn ni ddim yn gofyn i aelwydydd lenwi ffurflen gais na darparu dogfennau sy'n profi eu bod yn gymwys i gael y taliad. Yn lle hynny, mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu data nhw i nodi pwy sy'n gymwys, ac yna'n cysylltu ag aelwydydd i gadarnhau'r cyfrif banc yr hoffen nhw i'r taliad fynd i mewn iddo. Mae'r dull hwn yn adlewyrchu nod siarter budd-daliadau Cymru: cael gwared ar rwystrau a gweinyddu cymorth ariannol mewn ffordd syml ac urddasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Ers blynyddoedd lawer, mae Sefydliad Bevan, gan weithio ochr yn ochr â'r cwmni dadansoddi data Policy in Practice, wedi dangos i ni mai gwell defnydd o ddata yw'r ateb i ddatgloi cymorth ariannol i bobl ledled Cymru. Yn seiliedig ar ddadansoddiad polisi Sefydliad Bevan, rydyn ni wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran deall sut y gall defnyddio data helpu awdurdodau lleol i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau datganoledig a budd-daliadau nad ydynt wedi'u datganoli. Mae ein cynllun peilot 12 mis, a gyflawnwyd gyda Policy in Practice, gan ddefnyddio eu teclyn olrhain teuluoedd incwm isel, wedi chwarae rôl sylweddol yn hyn. Trwy eu cyfranogiad nhw a'r cyllid rydyn ni'n wedi'i roi i'r peilot, mae gan 12 o awdurdodau lleol ddealltwriaeth gliriach o'r pwerau cyfreithiol sydd ganddynt i ddefnyddio a rhannu data, a sut i roi trefniadau llywodraethu data cryf ar waith. Mae hyn wedi caniatáu i awdurdodau lleol gynnal ymgyrchoedd penodol i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, gan dargedu aelwydydd nad oeddent yn gwybod bod ganddyn nhw hawl i gael cymorth. Hyd yn hyn, mae awdurdodau wedi cynnal 47 o ymgyrchoedd, gan dargedu cyfanswm o 23,987 o breswylfeydd. Mae pob un o'r awdurdodau wedi cynnal ymgyrchoedd credyd pensiwn, ac mae'r gwaith y maent wedi'i wneud wedi cyfrannu at ddyfarniadau credyd pensiwn gwerth cyfanswm o £1.2 miliwn yn cael eu gwneud i'r aelwydydd y gwnaethant eu targedu. Byddwn ni'n parhau i gefnogi awdurdodau lleol fel y gallan nhw ddefnyddio eu data yn effeithiol i nodi aelwydydd sy'n colli allan. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU ar atebion hirdymor, strategol ar gyfer rhannu data.
Gellir gweld pa mor bwysig yw gwella mynediad at gymorth ariannol o amcangyfrifon sy'n nodi bod pobl yng Nghymru yn colli allan ar oddeutu £1.3 biliwn mewn cymorth ariannol. Arian y mae gan bobl hawl gyfreithiol iddo yw hwn, arian a allai fod yn lleddfu pwysau ar gyllidebau cartrefi. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i gefnogi ein cronfa gynghori sengl amlflwyddyn gwerth £36 miliwn, gwasanaethau sy'n chwarae rôl ganolog yn y gwaith yr ydym yn ei wneud i uchafu incwm. Rydyn ni'n gwybod bod y gwasanaethau hyn yn cyrraedd pobl hŷn, pobl anabl a phobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, y bobl sydd fwyaf tebygol o beidio â hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael. Mae'r canlyniadau o wasanaethau uchafu incwm y gronfa gynghori sengl yn siarad drostyn nhw eu hunain: rhwng mis Ionawr 2020 a mis Ionawr 2025, fe wnaethon nhw helpu pobl i hawlio dros £213 miliwn mewn incwm ychwanegol ac i ddileu £71 miliwn o ddyled. Mae hynny'n swm sylweddol o arian, arian sy'n golygu y gall teuluoedd dalu eu costau byw hanfodol bob dydd. Mae hefyd yn arian sy'n cael ei wario mewn siopau a busnesau lleol, gan gefnogi economïau lleol ledled Cymru.
Y gaeaf hwn, rydyn ni'n cyflwyno ein chweched ymgyrch gyfathrebu 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Trwy negeseuon creadigol ar y teledu, ar y radio ac yn y cyfryngau cymdeithasol, rydyn ni'n cyrraedd pobl nad ydynt fel arfer yn gofyn am gyngor ac nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn colli allan ar gymorth ariannol. Ac mae pobl yn ymateb. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae mwy na 90,000 o bobl wedi cysylltu â llinell gymorth Advicelink Cymru ar ôl gweld negeseuon yr ymgyrch. Mae llawer mwy wedi defnyddio'r offer hunangymorth ar ein gwefan i weld a ydyn nhw'n colli allan ar yr hyn y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael. Nid dim ond un cyfnod o weithgarwch yn ystod misoedd y gaeaf yw ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'; mae'r deunyddiau yn cael eu defnyddio trwy gydol y flwyddyn gan bartneriaid, gan sicrhau bod y neges yn parhau i fod yn weladwy. Rydyn ni'n gwneud mwy na chodi ymwybyddiaeth o'r cymorth y mae gan bobl hawl i'w gael, rydyn ni'n parhau i fuddsoddi yn y bobl sydd yn aml yn y sefyllfa orau i helpu—gweithwyr rheng flaen.
Ledled Cymru, mae gweithwyr rheng flaen yn wyneb cyfarwydd y mae pobl yn ymddiried ynddo, y person cyntaf y maen nhw'n troi ato pan fydd problemau'n codi. Dyna pam rydyn ni'n cynnig hyfforddiant am ddim i weithwyr rheng flaen i wella eu dealltwriaeth o'r cymorth ariannol sydd ar gael, a'u hyder i drosglwyddo'r wybodaeth hon ymlaen. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 6,000 o weithwyr rheng flaen wedi mynychu'r hyfforddiant, gyda mwy na 70 y cant yn cadarnhau eu bod wedi defnyddio'r hyn y gwnaethon nhw ei ddysgu i helpu pobl maen nhw'n eu cefnogi i hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, fe ymrwymais i £300,000 arall ar gyfer rhaglen dwy flynedd newydd o hyfforddiant am ddim ar uchafu incwm, a ddechreuodd y llynedd. Mae mwy na 1,100 o weithwyr rheng flaen wedi mynychu'r sesiynau hyfforddi hyn yn barod.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu'r terfyn dau blentyn i'w groesawu ac mae'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i sicrhau'r incwm mwyaf posibl i deuluoedd. O fis Ebrill ymlaen, gallai tua 20,000 o deuluoedd â 24,000 o blant yng Nghymru weld eu hincwm yn cynyddu, gan helpu rhieni i dalu costau bob dydd.
I gloi, Llywydd, mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir bod ein prosiectau uchafu incwm yn trawsnewid bywydau. Ond mae amgylchiadau pobl yn newid bob wythnos. Swydd newydd, newid o ran y teulu, cyfnod o salwch—gall pob un o'r rhain newid y cymorth ariannol y mae gan rywun yr hawl i'w gael. Dyna pam nad yw ein hymrwymiad i uchafu incwm yn dasg untro. Mae'n ymdrech barhaus, ac rwy'n annog pob Aelod i barhau i gefnogi'r gwaith hanfodol hwn.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Rydyn ni ar yr ochr hon o'r Siambr yn croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran symleiddio mynediad at gymorth ariannol. Fodd bynnag, rydyn ni'n anghytuno â'ch honiad mai mynediad at gymorth ariannol yw un o achosion sylfaenol tlodi. Diffyg swyddi sy'n talu'n dda yw achos sylfaenol tlodi. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw yn dangos bod diweithdra yng Nghymru wedi codi unwaith eto. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â gwella'r cyflenwad o swyddi sy'n talu'n dda yng Nghymru?
Rydyn ni hefyd yn gwybod bod cynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd hefyd yn cael effaith enfawr ar dlodi yng Nghymru. Ydych chi'n cytuno y dylen ni fod yn buddsoddi mewn ffyrdd o fynd i'r afael â thlodi bwyd a thlodi tanwydd fel blaenoriaeth? Ysgrifennydd Cabinet, addawodd Llywodraeth Lafur y DU i ostwng biliau ynni, ond maen nhw wedi parhau i godi ac rydyn ni'n dal i aros am gynllun ynni gwyrdd mawr Ed Miliband. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yn ddiweddar ynglŷn â lefel tlodi tanwydd yng Nghymru?
Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cronfa argyfwng a gwytnwch gwerth £1 biliwn y flwyddyn i ddarparu cymorth ariannol i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi galw ar i'r symiau canlyniadol gael eu defnyddio i ddarparu mwy o gymorth i bobl hŷn sy'n wynebu caledi ariannol. Ydych chi'n cytuno â'r comisiynydd? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain. Diolch am groesawu'r datganiad. Wrth gwrs, roeddech chi'n gwbl ymwybodol o'r nodau a'r amcanion a'r dystiolaeth a ddarparwyd i gefnogi ein strategaeth gweithredu ar dlodi plant a hefyd ein cynllun hawliau pobl anabl, a gafodd ei gydgynhyrchu, wrth gwrs, gyda phobl anabl. Yn wir, datblygwyd y strategaeth tlodi plant gyda theuluoedd, gofalwyr, rhieni a phlant a phobl ifanc i weld ble roedden ni'n gwybod ble y gallen ni—i lywio ein hamcanion, ein hadnoddau a'r cyllid sydd gennym i fynd i'r afael â thlodi plant ac i gefnogi pobl anabl.
Mae'n glir iawn, fel y dywedais i—ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi darllen yr adroddiad ar brofiad bywyd o dlodi—heb yr arian hwn sy'n cael ei ddarparu ar gyfer hawlio budd-daliadau—. A dyma'r pwynt allweddol, Altaf: mae'r rhain yn fudd-daliadau nad yw pobl yn manteisio arnynt, gan gynnwys, o ran eich pwynt olaf, credyd pensiwn, sy'n hanfodol wrth gefnogi pobl hŷn. Mae hefyd yn allweddol i sicrhau, ac mae'n rhan o'n strategaeth tlodi plant, ein bod ni'n galluogi ac yn cefnogi pobl, rhieni a theuluoedd a phobl anabl, ac fe wnaethon ni drafod hyn hefyd, i fynd yn ôl i'r gwaith. Dyna pam mae ein rhaglenni sgiliau a chyflogadwyedd mor bwysig, i'w galluogi i sicrhau gwaith ac incwm, ond mae angen cofio hefyd fod yn rhaid iddo fod yn waith ac yn incwm a all eu galluogi i gefnogi eu teuluoedd. Yn anffodus, rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn gweithio ac yn dal i orfod defnyddio banciau bwyd a dydyn nhw dal ddim yn cael cyflog teg, ac felly mae angen i ni sicrhau eu bod nhw'n manteisio ar yr hyn y mae ganddyn nhw hawl i'w gael a all eu cefnogi mewn gwaith.
Alla i ddim credu na fyddech chi'n deall ac yn cytuno y dylen ni sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob £1 y mae ganddyn nhw hawl i'w chael, a bod ein partneriaid yn ein helpu ni i fwrw ymlaen â'r gwaith a'r ymgyrchoedd hyn i gyflawni'r canlyniadau hynny, a hefyd fod pob un o'n 22 o awdurdodau lleol yn gweithio gyda ni, gydag uchafu incwm yn cael ei weld yn amlwg fel prif amcan, a'n cronfa gynghori sengl i alluogi pobl i gael mynediad at y budd-daliadau hynny.
Rwyf am wneud un pwynt am y gwaith rydyn ni'n ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, a hoffwn nodi hefyd sut mae hynny'n cysylltu ar draws y llywodraeth â rhaglen Cartrefi Clyd Nyth, lle rydyn ni'n buddsoddi mwy na £30 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon yng nghynllun Cartrefi Clyd Nyth, ond hefyd â phartneriaeth y Sefydliad Banc Tanwydd. Ac, ers mis Mehefin 2022, rydyn ni wedi dyrannu dros £7.4 miliwn o gyllid i alluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno a rhedeg y cynllun talebau tanwydd a chronfa wres cenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn bwysig iawn i bobl sydd oddi ar y grid, ond mae'r cynllun hwn wedi darparu cymorth i aelwydydd cymwys sy'n talu ymlaen llaw am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu, ac mae yn darparu'r talebau tanwydd hynny ar gyfer cartrefi â mesuryddion rhagdalu a'r cyflenwadau olew neu nwy hynny i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy. Felly, mae gennym ni rwydwaith o 150 o bartneriaid atgyfeirio yng Nghymru erbyn hyn, y mae rhai ohonyn nhw'n gweithio ledled y DU, ac rydyn ni wedi rhoi 92,953 o dalebau tanwydd ac wedi cefnogi 621 o aelwydydd i gael cymorth i brynu tanwydd oddi ar y grid.
Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae adroddiad diweddaraf 'Tlodi yng Nghymru' gan Sefydliad Joseph Rowntree yn tynnu sylw at raddfa'r her sydd o'n blaenau. Mae'n dangos bod lefelau tlodi dwfn yng Nghymru wedi bod yn cynyddu'n raddol, gyda chyfran y rhai sy'n byw mewn tlodi dwfn iawn yn codi i bron i hanner y rhai sydd mewn tlodi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r darlun yn cael ei atgyfnerthu gan dystiolaeth sy'n dangos bod yna lefelau cynyddol a dyfnach o ddyled ynni, a amlygwyd gan National Energy Action Cymru, sydd wedi canfod bod y ddyled honno wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed, a bod tri chwarter y ddyled honno yn ôl-ddyledion, ac felly mae'n debygol o gynyddu ymhellach. Mae ymchwil gan Sefydliad Bevan yn dangos bod un o bob pump o oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod mewn mwy o ddyled nawr nag yr oedden nhw 12 mis yn ôl. Mae tua un o bob 10 o'r rhai a ymatebodd i'w harolwg 'ciplun o dlodi' diweddaraf yn dweud mai o leiaf un o'r rhesymau pam eu bod mewn mwy o ddyled yw naill ai nad yw eu budd-daliadau yn cwmpasu costau byw mwyach neu fod gostyngiad wedi bod yn eu budd-daliadau neu eu bod wedi colli budd-daliadau. Roedd 53 y cant o'r rhai ar gredyd cynhwysol wedi benthyg arian yn y tri mis blaenorol. Ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd Cabinet, nad yw taliadau lles yn cadw i fyny â chostau? Ydych chi'n cytuno bod penderfyniad eich cydweithwyr Llafur yn San Steffan i leihau'r cymorth a roddir i'r rheini, er enghraifft, sydd â chyflyrau iechyd ar gyfer hawlwyr newydd, sy'n aml yn gorfod gwario mwy ar filiau, yn annerbyniol pan fydd yr elfen iechyd o gredyd cynhwysol ar gyfer hawlwyr newydd yn mynd i gael ei leihau oddeutu 50 y cant? Yn y cyfamser, mae Cyngor ar Bopeth yn adrodd bod ei gleientiaid yn wynebu dyled o bron i £8,500 ar gyfartaledd, sy'n cynrychioli cynnydd o 8 y cant ers 2024.
Felly, o ystyried hyn i gyd, mae'r ffigurau hyn yn ei gwneud hi'n glir bod y llwybr presennol yn anghynaliadwy i bobl Cymru. Wrth gwrs, mae'n iawn cydnabod y cymorth sydd eisoes ar gael, ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol sy'n gyrru pobl i ddyled a thlodi yn y lle cyntaf, a dyma lle mae eich partneriaid yn Llywodraeth y DU yn chwarae rôl hanfodol. Un enghraifft glir yw cyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer ynni, mesur a fyddai'n cynnig rhyddhad ystyrlon i aelwydydd mewn tlodi tanwydd ac yn helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn dyled ynni. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, byddwn i'n croesawu diweddariad ar y trafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'ch cydweithwyr yn San Steffan ynglŷn â chyflwyno tariff cymdeithasol ynni, a fyddai'n fuddiol iawn, wrth gwrs, i bobl yng Nghymru, lle rydyn ni'n talu rhai o'r prisiau uchaf am ynni a lle mae dros chwarter ein haelwydydd mewn tlodi tanwydd.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at effaith dileu'r terfyn dau blentyn, y mae Plaid Cymru yn ei groesawu, wrth gwrs, ond mae ymchwil gan Sefydliad Bevan wedi dangos na fydd un o bob 10 o'r plant y mae'r terfyn dau blentyn yng Nghymru yn effeithio arnynt yn gweld unrhyw fudd o gwbl oherwydd y cap budd-daliadau—un o bolisïau creulon eraill y Torïaid nad yw wedi'i ddileu, yn anffodus. Ni fydd un o bob 10 arall yn gweld y swm llawn. Felly, ydych chi'n cytuno, oni bai bod y cap budd-daliadau yn cael ei godi hefyd, y bydd miloedd o blant yng Nghymru yn parhau i fod yn gaeth mewn tlodi oherwydd dewisiadau gwleidyddol? Felly, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth Lafur y DU ar hyn?
Mae dwy flynedd yn union wedi mynd heibio ers lansio siarter budd-daliadau Cymru, ac rydych chi wedi tynnu sylw, yn gywir ddigon, at y gwerth sydd ynghlwm wrth ddod â phethau ynghyd a'i gwneud hi'n haws cael mynediad at y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol. Fodd bynnag, yn ymarferol, ymddengys fod y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y gwaith hwn wedi arafu ac, yn sicr, mae'n anghyson ar draws awdurdodau. Dydw i ddim yn deall, er enghraifft, pam y cyhoeddiad hirddisgwyliedig ar fwndeli babanod wedi'u targedu—. Mae'n rhaid gwneud cais amdanyn nhw. Pam nad ydyn nhw'n cael eu rhoi'n awtomatig i'r rhai rydyn ni'n gwybod eu bod yn disgwyl? Rydyn ni'n gwybod pwy sy'n mynd i gael plant, ac rydyn ni hefyd yn gwybod pwy sydd ar incwm isel. Felly, o ystyried y lefelau tlodi a dyled sy'n dyfnhau a amlinellwyd gennyf, pam nad yw'r gwaith hwn wedi'i gyflymu? Ydych chi'n derbyn, Ysgrifennydd Cabinet, fod y cynnydd parhaus mewn dyled a thlodi yn awgrymu nad yw'r mesurau presennol yn ddigonol, ac, os felly, beth fyddwch chi'n ei wneud yn wahanol a beth fyddwch chi'n gofyn i'ch partneriaid Llafur yn San Steffan wneud yn wahanol? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n credu bod ein cronfa gynghori sengl yn hanfodol i sicrhau ein bod ni'n galluogi pobl i gael mynediad at y budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael. Fe wnes i gyfarfod â'r rhwydwaith cynghori cenedlaethol ddoe, dan gadeiryddiaeth Fran Targett, gydag ystod eang o roddwyr cyngor o bob cwr o Gymru—mae gan bob rhanbarth grŵp rhwydwaith cynghori—ac, wrth gwrs, sefydliadau eraill, fel Shelter, fel SNAP, Prifysgol Abertawe, Canolfan y Gyfraith Speakeasy. Maen nhw i gyd yn dod at ei gilydd, oherwydd maen nhw'n ein cynghori ac yn ein helpu ni i fwrw ymlaen â'n hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael. Un o'r pethau y maen nhw wir wedi'u gwerthfawrogi yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru nawr, drwy ein cod ymarfer diwygiedig newydd ar gyfer ariannu'r trydydd sector, wedi darparu cyllid am dair blynedd, gan roi sicrwydd y bydd y gwasanaeth cynghori sengl yn cael ei ariannu am dair blynedd. Wrth gwrs, fel y dywedon nhw, mae hyn yn helpu i recriwtio a chadw staff. Unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn edrych ar yr ystadegau. Mae'r gronfa gynghori sengl, a gyflwynwyd nôl ym mis Ionawr 2020, wedi helpu 388,000 o bobl i hawlio incwm ychwanegol o dros £213 miliwn rhwng mis Ionawr 2020 a mis Medi 2025.
Rydych chi'n canolbwyntio'n gywir ar ddyledion. Mae hyn yn hanfodol bwysig, ac rydyn ni'n gwybod gwerth y rhoddwyr cyngor hynny wrth helpu pobl i ddileu dyled ac i ddelio ag ef. Mae'r ffigurau hynny hefyd yn dangos bod dyledion gwerth £71 miliwn wedi'u dileu. Ond o ran y cyllid tair blynedd hwnnw, rwy'n siŵr y byddech chi'n ei groesawu fel ffordd allweddol ymlaen o ran ymgorffori'r gwasanaeth cynghori hwnnw yng Nghymru, gan weithio'n agos, wrth gwrs, gyda llywodraeth leol, a oedd yno ddoe, a Llywodraeth y DU, o ran y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Siarter budd-daliadau Cymru, rwy'n cofio lansio honno nôl ym mis Ionawr 2024. Yn wir, fe wnaethon ni ei lansio ochr yn ochr â'r strategaeth tlodi plant ym Mlaenafon. Roedd Siân Gwenllian yno hefyd, rwy'n credu. Mae'r siarter wir yn ganolog i'n model cyflawni, lle dylai person ond dweud ei stori unwaith i gael mynediad at yr hyn y mae ganddo hawl i'w gael, ac i gael pob un o'r 22 o awdurdodau lleol i ddod ynghyd ac i rannu'r uchelgais honno, i wneud yn siŵr mai dim ond un llwybr sydd ar gael i gael prydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgol a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae eisoes yn profi i fod yn fuddiol iawn i deuluoedd, fel y mae ein hadroddiad profiad bywyd wedi'i ddangos.
Rwy'n cefnogi eich pwyntiau am y tariff cymdeithasol yn llwyr. Mae hyn yn rhywbeth rwyf yn ei godi gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ar bob cyfle, ac rwy'n falch eich bod chi wedi ei godi heddiw, oherwydd mae'n cryfhau ein hachos. Ond mae'n eithaf amlwg bod yn rhaid i ni edrych ar hyn o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd, ac mae'n rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn alwad draws-Lywodraethol, ac mae galwad gref wedi bod am dariff cymdeithasol ar draws y Senedd hon.
Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar y mesurau eraill sy'n bwysig ac sydd wedi cael eu cydnabod gan Sefydliad Bevan fel rhai sy'n allweddol i fynd i'r afael â thlodi plant. Byddwn i'n tynnu sylw at y gronfa cymorth dewisol, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi codi hyn yn aml, Sioned, fel cronfa argyfwng allweddol. Mae'n un o'r pethau pan fyddwch chi'n gofyn, 'Beth sy'n flaenoriaeth o ran cyllid ac adnoddau?' Mae'r gronfa cymorth dewisol yn gronfa argyfwng. Mae'n darparu cymorth brys i unrhyw un o drigolion Cymru. Rydyn ni wedi cynyddu'r cyllid hwnnw. Mae'n £39.5 miliwn ar hyn o bryd. Maen nhw'n daliadau arian parod bach i bobl mewn argyfwng ariannol; hefyd, taliadau cymorth unigol; hefyd, taliadau tanwydd oddi ar y grid a thalebau dillad. Wrth gwrs, mae'r gronfa cymorth dewisol yn cael ei chroesawu'n gyson gan bob un o'n partneriaid.
Do, fe wnaethon ni alw ar i'r terfyn dau blentyn gael ei ddileu, ac mae wedi cael ei ddileu. Rwyf wedi rhoi'r ffigurau o ran y rhai a fydd yn elwa eisoes. Mae'n cael ei groesawu'n fawr, ond mae pryderon o hyd am effaith y cap budd-daliadau lles ar rai teuluoedd. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd Llywodraeth y DU i fynegi pryderon a gofyn am wybodaeth am nifer rhagamcanol y teuluoedd yng Nghymru a fyddai'n ddarostyngedig i'r cap budd-daliadau. Ond rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod pob teulu yng Nghymru yn deall y llwybrau sydd ar gael iddyn nhw, fel y gallan nhw gael eu heithrio o'r cap budd-daliadau lles hefyd.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar yr holl fesurau rwyf wedi'u hamlinellu yn fy natganiad, gan ddangos ein huchelgais i sicrhau bod pobl yn cael mynediad at yr arian hwnnw sydd ar gael iddyn nhw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod hyn yn mynd i'r afael â thlodi plant ac yn cefnogi pobl anabl. Ond mae miloedd o bobl yn colli allan ar y cymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl i'w gael, a gallai un alwad ffôn newid hynny. Mae angen i ni weithredu, a dyna'r hyn rwyf wedi'i amlinellu yn fy natganiad heddiw.
Diolch, unwaith eto, am dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod pawb yn gwybod sut y gallan nhw gael cymorth i gael yr hyn y mae ganddyn nhw hawl i'w gael. Fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yw: o ystyried y symiau sylweddol o arian y mae'r ymyrraeth hon wedi'u cynhyrchu i gymunedau lleol—£213 miliwn a £71 miliwn o ddyled wedi'i dileu—pam nad yw'r 10 o awdurdodau lleol nad ydynt yn cymryd rhan yn y fethodoleg Policy in Practice hon i nodi pobl sy'n gymwys yn cymryd rhan? Oherwydd bydd o fudd i'w heconomi ehangach ac yn gwneud eu heconomïau yn fwy gwydn. Dydw i ddim yn ei ddeall. Felly, beth sy'n eu hatal rhag cymryd rhan?
Diolch, Jenny. Gwnaeth pob un o'r 22 o awdurdodau gytuno i gefnogi siarter budd-daliadau Cymru, ond yna fe aethon ni ymhellach drwy roi—. Peilot ydyw, ac fe wnaethon ni wahodd awdurdodau lleol i gymryd rhan yn y peilot. Rydyn ni'n ariannu Policy in Practice i ymgymryd â'r peilot hwn. Roedd rhai awdurdodau lleol yn ymgysylltu â nhw eisoes, ac rwy'n credu y byddwch chi'n cofio bod llawer o gyhoeddusrwydd o amgylch Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Cyn i ni hyd yn oed ymgysylltu â Policy in Practice, roedden nhw wedi bod i lawer o awdurdodau ac wedi helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar gredyd pensiwn. Mae'n ymwneud â ni'n gweithio gyda Policy in Practice i alluogi awdurdodau i weld sut y gallan nhw ddefnyddio data, trwy eu hofferyn dadansoddol, i gyrraedd y bobl sydd â hawl i gael y budd-daliadau hyn. Mae'n cael ei rannu'n eang. Mae gennym grŵp gweithredol Cymru gyfan sy'n gweithio ar hyn.
Nid yw wedi'i grybwyll eto, ond rwyf am dynnu sylw eto at y ffaith bod gennym ni hefyd y budd-dal newydd hwn sy'n dod allan yn y flwyddyn ariannol hon: taliad o £100 i aelwydydd sy'n gymwys i gael gostyngiad band anabl—mae'n fudd-dal Cymreig newydd pwrpasol—sydd hefyd yn cael cymorth gan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Nawr, un o fanteision mawr hyn yw nad oes rhaid i bobl wneud ceisiadau; mae'r arian yno, rydyn ni'n gwybod pwy sydd â hawl i'w gael ac mae'r arian yn mynd i fynd yn syth i'w cyfrifon banc. Dyna'r ffordd orau o wneud hynny: gwybod y data, gwybod eich poblogaeth, cael yr arian i'r bobl hynny.
Rhys ab Owen.
Na, yn iawn. Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y datganiad yna.
Y datganiad nesaf fydd o dan eitem 7, y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar drafnidiaeth i bawb. Yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad. Ken Skates.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Heddiw, fe hoffwn i nodi'r cynnydd gwirioneddol y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i adeiladu system drafnidiaeth sy'n gweithio i bawb yng Nghymru. Mae ein dull gweithredu yn cael ei arwain gan uchelgais glir: gwneud teithiau bob dydd yn fwy diogel, tecach a fforddiadwy i'r bobl rydym ni'n eu gwasanaethu. Un o'r enghreifftiau cliriaf o'r uchelgais hon ar waith yw llwyddiant y cynllun peilot tocyn bws gwerth £1 i blant a phobl ifanc, sydd eisoes wedi'i ddefnyddio ar gyfer dros 2 filiwn o deithiau, gan eu helpu i gyrraedd yr ysgol, coleg, gwaith a chyfleoedd hamdden am gost is a lliniaru'r pwysau ar deuluoedd yn ystod cyfnod heriol.
Law yn llaw â'r gefnogaeth ymarferol hon mae diwygio strwythurol hirdymor. Drwy ein hagenda diwygio bysiau, rydym ni wedi pasio'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), y darn mawr cyntaf o ddeddfwriaeth ynghylch trafnidiaeth yng Nghymru mewn mwy na degawd. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r pwerau i ni greu rhwydwaith bysiau mwy dibynadwy ac atebol, gan sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn darparu gwerth cyhoeddus. Bydd yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau o amgylch cymunedau, nid yn seiliedig ar wasanaethau masnachol hyfyw yn unig. Ochr yn ochr â thrawsnewid bysiau, rydym ni'n gwneud gwaith uwchraddio sylweddol ar reilffyrdd Cymru, gan gynnwys trawsnewid llinellau craidd y Cymoedd a chreu metro de Cymru, gyda dros £1 biliwn wedi'i fuddsoddi. Mae'r rhaglen hon yn trydaneiddio 170 km o drac, ac mae 99 y cant ohono wedi'i gwblhau, gan arwain at wasanaethau cyflymach, gwyrddach ac amlach. Mae trenau tramiau newydd a depo Ffynnon Taf a agorwyd yn ddiweddar yn cefnogi rhwydwaith modern, integredig ar draws de-ddwyrain Cymru.
Ochr yn ochr â'r trawsnewid yng Nghymoedd y de, rydym ni wedi meithrin perthynas adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi'i seilio ar anghenion cymunedau a diwygio'r rheilffyrdd. Yng ngogledd Cymru, mae hyn wedi arwain at ddatblygu gweledigaeth Rhwydwaith Gogledd Cymru, a lansiwyd mewn uwchgynhadledd drawsffiniol fawr y llynedd. Mae'r cynllun wrthi'n cael ei gyflawni, ac yn y chwe mis cyntaf rydym ni wedi cyflwyno gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd newydd, uwchraddio gorsafoedd rheilffordd yn y rhanbarth a sicrhau buddsoddiad hirdymor i greu gwelliannau mawr yn Padeswood ac mewn mannau eraill.
Rydym ni hefyd yn cryfhau ein swyddogaeth mewn llywodraethu rheilffyrdd. Wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fwrw ymlaen â'i Bil diwygio rheilffyrdd, rydym ni'n pwyso am lais cryfach Cymreig dros benderfyniadau sy'n llywio buddsoddiad a gwasanaethau. Drwy Fwrdd Rheilffyrdd Cymru, rydym ni'n dylanwadu ar adolygiadau gwariant yn y dyfodol ac yn sicrhau bod anghenion teithwyr yng Nghymru yn cael eu clywed ar yr adeg lle gwneir penderfyniadau.
Mae cryfhau ein rhwydwaith ehangach hefyd yn golygu buddsoddi yn y mannau lle mae'r rhan fwyaf o deithiau yn dechrau: ein ffyrdd. Rydym ni wedi cynyddu'n sylweddol y buddsoddiad mewn cynnal a chadw ffyrdd a thriniaethau ataliol y flwyddyn ariannol hon i gyflawni gwelliannau ar draws y rhwydweithiau ffyrdd strategol a lleol. Mae hyn yn cynnwys ail-wynebu, atal ac atgyweirio tyllau, ac atgyweirio pontydd a throedffyrdd i ymestyn hirhoedledd ffyrdd Cymru a seilwaith hanfodol i helpu i gadw cymunedau mewn cysylltiad yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Erbyn diwedd tymor hwn y Senedd, rydym ni'n rhagweld y bydd £118 miliwn wedi'i wario i atgyweirio mwy na 500 km o ddiffygion ffyrdd a thyllau. Rydym ni hefyd wedi moderneiddio'r ffordd y mae cynlluniau ffyrdd newydd yn cael eu hasesu, gan sicrhau bod ein penderfyniadau'n adlewyrchu ymrwymiadau hinsawdd Cymru yn llawn. Ac rydym ni wedi dechrau adolygiadau gwytnwch i baratoi'r rhwydwaith ar gyfer tywydd eithafol amlach—realiti y mae brys cynyddol i'w wynebu.
Yn ogystal, y llynedd fe wnaethom ni agor adrannau 5 a 6 o'r A465, gan gwblhau'r prosiect 20 mlynedd i ddeuoli'r A465 gyfan o'r Fenni i Gastell-nedd, gan ddarparu gwell mynediad at wasanaethau, swyddi a marchnadoedd allweddol sy'n cefnogi buddsoddiad mewn ardaloedd fel parth menter Glynebwy. Fe wnaethom ni hefyd agor y gwelliannau ar yr A40 rhwng Llanddewi Felffre i Redstone Cross yn sir Benfro, gan wella mynediad i borthladdoedd allweddol a seilwaith masnachol. A charreg filltir arwyddocaol arall yw cwblhau ein gwaith gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol i osod y cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir, ac rydym ni'n gweld ein strydoedd yn dod yn fwy diogel a chroesawgar ar gyfer cerdded, olwyno, beicio a theithio bob dydd.
Rydym ni hefyd yn cyflawni cynnydd ystyrlon o ran teithio llesol, gyda chefnogaeth buddsoddiad parhaus i ehangu llwybrau cerdded, olwyno a beicio diogel ledled Cymru. Yn 2024–25, darparodd y gronfa teithio llesol dros £50 miliwn o gyllid ar gyfer cynlluniau awdurdodau lleol, gan gefnogi seilwaith newydd a gwelliannau ledled Cymru. Mae rhaglenni ychwanegol i hyrwyddo cerdded, olwyno a beicio mewn ysgolion a mentrau yn y gweithle yn helpu pobl i fod yn fwy hyderus wrth gerdded, olwyno a beicio yn eu cymunedau, sydd, wrth gwrs, yn cyfrannu at strydoedd mwy diogel, llai o dagfeydd a llai o allyriadau.
Un o'r diwygiadau strwythurol pwysicaf sydd ar y gweill yw datganoli a chydlynu trafnidiaeth ranbarthol. Mae cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd bellach ar waith ledled Cymru, wedi'u creu gan y pedwar cyd-bwyllgor corfforaethol. Mae'r rhain yn gosod cyfeiriad strategol ar gyfer pob rhanbarth ac yn darparu'r sylfeini ar gyfer ein cronfa drafnidiaeth ranbarthol newydd. Mae dros £100 miliwn o gyllid ar gael i awdurdodau trafnidiaeth lleol i weithredu eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ac i fuddsoddi mewn trafnidiaeth leol a rhanbarthol yn 2026–27. Bydd y newid hwn yn rhoi mwy o rym i ranbarthau ffurfio eu rhwydweithiau eu hunain ac i fuddsoddi yn unol â hynny mewn blaenoriaethau lleol.
Mae ein gweledigaeth teithio i bawb yn trawsnewid polisi trafnidiaeth i flaenoriaethu mynediad a chynhwysiant fel hawliau dynol craidd. Mae mesurau diogelwch gwell fel goleuadau gwell, staff gweladwy a phwyntiau cymorth newydd yn cael eu cyflwyno, er enghraifft, prosiect Porth Wrecsam a chyfnewidfa Caerdydd, sydd â phobl wrth eu calon ac a luniwyd gan brofiad byw pobl anabl. Mae hyfforddiant yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno ar draws dulliau trafnidiaeth. Mae rhwystrau ymarferol yn cael eu datrys trwy balmentydd cyffyrddol, cyfleusterau hygyrch, a llwybrau di-rwystrau. Mae archwiliad cyflym o orsafoedd rheilffordd wedi'i gwblhau, ac mae archwiliad hygyrchedd arosfannau bysiau ar y gweill.
Gyda'i gilydd, mae'r cyflawniadau hyn yn dangos sut mae system drafnidiaeth yn cael ei hail-lunio gyda phwrpas ac uchelgais. Rydym ni'n lleihau costau i deuluoedd, moderneiddio bysiau a rheilffyrdd, cryfhau gwytnwch ein ffyrdd, a grymuso rhanbarthau i lunio atebion sy'n gweithio i'w cymunedau. Yn bwysicaf oll, rydym ni'n rhoi tegwch, hygyrchedd ac urddas wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei gyflawni. Dyma sylfaen Cymru wyrddach, fwy hyderus a mwy cysylltiedig, un lle gall pawb deithio'n ddiogel, yn annibynnol a chan allu ymddiried yn y rhwydwaith sy'n eu gwasanaethu.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad yma y prynhawn yma, o dan y teitl 'Teithio i Bawb', ac mae gwella hygyrchedd ar draws ein rhwydwaith trafnidiaeth yn rhywbeth yr wyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn ei gefnogi'n fawr, oherwydd nid yw trafnidiaeth yn ymwneud â mynd o A i B yn unig, ond, wrth gwrs, mae'n darparu annibyniaeth ac yn rhoi cyfle i bobl. Hefyd, wrth gwrs, mae seilwaith trafnidiaeth da yn hanfodol i'n heconomi yma yng Nghymru, felly mae'n bwysig ei fod yn cael ei wneud yn iawn. Ond yr hyn sy'n bwysicaf yw nid o reidrwydd y geiriau a ddefnyddir ar ddarn o bapur mewn strategaethau, ond a yw pobl ar lawr gwlad yn gweld ac yn teimlo gwelliannau mewn gwirionedd.
O dan y cynllun 'Teithio i bawb', y mae'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, wedi cyfeirio ato heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo y bydd nifer o gamau penodol wedi'u cyflawni erbyn y gwanwyn hwn, ac rydym ni'n amlwg yn agos iawn at y dyddiad hwnnw gyda'r gwanwyn ar ein gwarthaf. Felly, mae'n hollol briodol bod y datganiad hwn wedi'i gyflwyno ger ein bron ni yma heddiw.
Rydym ni'n arbennig o ymwybodol mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, bod teithwyr yn dal i ddioddef arosfannau bysiau sydd wedi'u goleuo'n wael, gwasanaethau cyfyngedig a chefnogaeth anghyson i deithwyr anabl. Mae'r bwlch hwnnw rhwng polisi a phrofiad byw yn rhywbeth y mae pobl leol yn parhau i godi gyda mi.
Yn gyntaf, nid yw llawer o'r pryderon hygyrchedd a godwyd yn y datganiad heddiw yn newydd. Mae'r pryderon hyn yn cael eu codi dro ar ôl tro, yn enwedig gan sefydliadau sy'n cynrychioli pobl â diffyg golwg, gan gynnwys Cŵn Tywys Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall. Maen nhw'n dweud wrthyf fod pobl â nam ar y golwg yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi gan wasanaethau bws ers blynyddoedd lawer, ac y caiff ymddiriedaeth ei meithrin dim ond pan ymgorfforir hygyrchedd fel gofyniad craidd, y mae modd ei orfodi, ac nid ei drin fel ôl-ystyriaeth. Yn ddiweddar, rydym ni wedi craffu ar y Bil Bysiau, a chodwyd pryderon bod y Bil yn cynnwys dim ond un cyfeiriad at hygyrchedd, heb unrhyw ddiffiniad o'r hyn y mae hygyrchedd yn ei olygu mewn gwirionedd, a dim safonau clir i'w hysgrifennu yn y contractau hynny.
Fe glywsom ni bryderon difrifol hefyd am y diffyg gwarantau statudol ynghylch gwybodaeth hygyrch, gydag amserlenni, gwefannau ac apiau yn aml yn anhygyrch i bobl sydd â diffyg golwg. Efallai mai'r mwyaf pryderus oedd y profiadau a rennir ynghylch cyhoeddiadau sain a gweledol. Er gwaethaf gofyniad cyfreithiol i'r rhain fod ar waith, fe glywsom ni fod cyhoeddiadau yn aml yn cael eu diffodd, yn anghyson neu ddim yn gweithio, gan adael pobl yn colli arosfannau, yn drysu neu'n osgoi teithio ar y bws yn gyfan gwbl.
Yn olaf gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd Cabinet, codwyd pryderon diogelwch difrifol ynglŷn â seilwaith arosfannau bysiau. Codwyd materion ynghylch goleuadau gwael a diffyg teledu cylch cyfyng, ond hefyd yn enwedig y mater o ffiniau arosfannau bysiau sy'n cael eu rhannu, lle mae disgwyl i deithwyr gamu'n uniongyrchol i lonydd beicio. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ceisio mynd i'r afael â'r rhain yn ddiweddar, ond mae'r dyluniadau hyn wedi creu pryder a pherygl gwirioneddol i deithwyr, ac mewn rhai achosion wedi atal teithwyr rhag defnyddio'r gwasanaethau hynny yn llwyr. Byddai gen i ddiddordeb clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet sut mae'n bwriadu sicrhau bod y materion hygyrchedd hyn, sy'n cael eu codi dro ar ôl tro, yn cael eu hystyried yn llawn, a rhoi sicrwydd i'r Senedd hon y cawn nhw eu datrys.
Yn ail, Ysgrifennydd Cabinet, mae hygyrchedd hefyd yn ymwneud â dewis. I lawer o bobl ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, nid yw gyrru yn ddewis, mae'n gwbl hanfodol. Mae'r Llywodraeth yma dros y chwe blynedd diwethaf wedi buddsoddi £218 miliwn ar lwybrau beicio, ond penderfynodd Archwilio Cymru nad oedd cynnydd mewn beicwyr, er gwaethaf y gwariant sylweddol hwnnw. Byddai gen i ddiddordeb clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet a yw'n credu bod £218 miliwn wedi bod yn fuddsoddiad gwerth chweil, heb weld cynnydd yn nifer y beicwyr.
O ran dewis a chymunedau gwledig sy'n gallu mynd i lefydd mewn car yn unig, efallai nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud fawr iawn, yn fy marn i, i gefnogi'r rhai sy'n dibynnu ar eu ceir. Rydym ni'n gwybod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr wedi gwneud teithiau bob dydd i lawer o bobl yn llawer hirach ac yn fwy cymhleth. Yn y cyfamser, mae eich gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd newydd wedi atal ein rhwydwaith trafnidiaeth hanfodol rhag ymdopi â'r galw. Rydym ni wedi gweld blynyddoedd o danfuddsoddiad mawr, gan adael ffyrdd mewn amodau gwael, gyda thyllau, arwynebau anwastad a pheryglon eraill sydd nid yn unig yn anghyfleus ond yn peri peryglon diogelwch gwirioneddol i yrwyr a cherddwyr fel ei gilydd. Ni all hygyrchedd olygu canolbwyntio ar un ffordd o deithio gan wneud un arall yn anoddach.
Wrth gwrs, Ysgrifennydd Cabinet, mae hygyrchedd hefyd yn ymwneud â chysylltedd strategol i'n heconomi, gan greu mynediad at swyddi gwych. Mae'r tagfeydd ar lwybrau allweddol, yn enwedig yr M4, wedi dod yn annioddefol i lawer, gan wneud ffordd i liniaru'r M4 yn hanfodol i leddfu traffig, cefnogi busnesau lleol a gwella diogelwch i bawb sy'n dibynnu ar y coridor hanfodol hwn. Yn yr un modd, mae cyfle i sbarduno'r economi yng ngogledd Cymru drwy fuddsoddi pellach ar yr A55, buddsoddi ar yr A483 o amgylch Wrecsam yn arbennig, ac, wrth gwrs, sicrhau bod gwytnwch i'r croesfannau hynny i Ynys Môn. Fy nghwestiwn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, yw a allech chi roi eglurder ynglŷn â phryd y byddwn ni'n gweld y buddsoddiad hwn ar y rhwydwaith ffyrdd strategol yma yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiynau a'i gyfraniad heddiw? Byddwn i'n cytuno ag ef mewn sawl maes. Yn gyntaf oll, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig; mae'n hanfodol bwysig i bob cymuned, yn fy marn i. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wasanaeth cyhoeddus ac mae system drafnidiaeth dda yn ffordd wych o alluogi pobl i ffynnu ac i fod mewn cyflogaeth.
Mae'r Aelod wedi tynnu sylw at nifer o heriau rydym ni'n eu hwynebu, yn enwedig o ran peth o'r seilwaith yn ein rhwydwaith trafnidiaeth, ac fe hoffwn i grybwyll pob un o'r rheini yn eu tro. Yn gyntaf oll, o ran y rhwydwaith bysiau, arosfannau bysiau, ac mae tua 24,000 ohonyn nhw yng Nghymru, rwy'n ofni eu bod nhw yn rhy aml yn is na'r safon. Maen nhw'n enghraifft go iawn o effeithiau llymder. Nid yw'r cynghorau sy'n gyfrifol amdanyn nhw, oherwydd eu bod wedi bod yn brin o arian, wedi gallu cael rhai newydd, ac mewn llawer o achosion ddim yn gallu eu hatgyweirio. Nid ydyn nhw'n fodern.
Mae arnom ni eisiau gwneud gyda'r rhwydwaith bysiau yr hyn rydym ni wedi'i wneud gyda rheilffyrdd: buddsoddi yn sylweddol iawn nid yn unig mewn bysiau ond hefyd yn y seilwaith sy'n cefnogi'r rhwydwaith bysiau. Dyna pam mae archwiliad o bob un o'r 24,000 o arosfannau bysiau hynny ar y gweill. Dyna hefyd pam rydym ni'n darparu mwy o gyfalaf ar gyfer seilwaith sy'n gysylltiedig â bysiau. Ac fel y dywedais i, yr hyn rydym ni wedi'i wneud gyda'n rhwydwaith rheilffyrdd rydym ni'n bwriadu ei wneud gyda'n rhwydwaith bysiau trwy fasnachfreinio a thrwy fuddsoddi ym mhob un o'r seilwaith bysiau sy'n gysylltiedig â'r rhanbarthau.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig ynglŷn â hygyrchedd hefyd. Trwy fasnachfreinio, bydd gwybodaeth sain a gweledol yn ofyniad ar wasanaethau bws. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur gyda phanel mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru sydd wedi ei gwneud hi'n glir iawn y bydd yn rhaid i'r bysiau y byddwn ni'n eu caffael wrth i ni geisio gwella'r fflyd bysiau ledled Cymru gael y dechnoleg ddiweddaraf wedi'i gosod fel eu bod nhw mor hygyrch â phosibl. Mae'n ffaith ddiddorol, pan fu inni ysgwyddo cyfrifoldeb am y rhwydwaith rheilffyrdd gan Trenau Arriva Cymru, inni etifeddu'r fflyd hynaf o drenau yn y Deyrnas Unedig, ac mae gennym ni bellach un o'r rhai mwyaf newydd. Fe wnaethom ni etifeddu 270 o drenau, a gyda £800 miliwn o fuddsoddiad, bydd gennym ni dros 480.
Rydym ni wedi dangos sut y gallwn ni gyflawni uchelgais enfawr; rydym ni'n bwriadu gwneud hynny gyda bysiau hefyd. Rwy'n credu bod tua 1,300 o fysiau ar hyn o bryd yn gweithredu ar rwydwaith Cymru, a dyma'r rhwydwaith bysiau hynaf. Yn union fel roedd gennym ni'r rhwydwaith trenau hynaf, dyma'r fflyd fysiau hynaf sydd gennym ni yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni uchelgais i wneud yn siŵr bod gennym ni un o'r fflydoedd bysiau mwyaf newydd a mwyaf effeithlon ym Mhrydain. Rydym ni'n edrych ar dechnolegau amrywiol i sicrhau ein bod yn datgarboneiddio'r hyn sydd yn fflyd sy'n prysur heneiddio.
O ran cynnig dewisiadau amgen i bobl i yrru, mae tri ffactor sy'n gyrru newid moddol mewn gwirionedd. Un yw pa ddewisiadau amgen sydd ar gael, yr ail yw dibynadwyedd dewisiadau amgen, ac yna'r trydydd yw cost dewisiadau amgen. Rydym ni wedi dangos gyda'r cap prisiau o £1 i bobl ifanc y gallwn ni gymhwyso mesurau prisiau sydd hefyd yn cynyddu teithwyr. Rydym ni wedi gweld dros 2 filiwn o deithiau gan deithwyr yn defnyddio'r cynllun tocynnau £1 hwnnw. Ni fyddai llawer o'r teithiau hynny wedi digwydd. Mae tystiolaeth o lawr gwlad yn dangos bod y cynllun hwnnw mewn gwirionedd yn helpu i roi bwyd ar fyrddau pobl o ganlyniad i leddfu'r pwysau ariannol ar deuluoedd ledled Cymru. Os cawn ni ein hail-ethol ym mis Mai, bydd Llafur Cymru yn cyflwyno cynllun tebyg, cap tocynnau o £2, i oedolion hefyd. Ac wrth gwrs, byddwn yn parhau â'r cynllun consesiynol ar gyfer pobl dros 60 oed, gyda theithio bws am ddim.
O ran argaeledd, rydym ni'n bwriadu cynyddu'r rhwydwaith. Dyma fydd un o brif amcanion masnachfreinio bysiau. Rydym ni'n bwriadu cynyddu'r rhwydwaith drwy gael o leiaf 100 o lwybrau ychwanegol. Mae hynny'n gyfystyr â miloedd ar filoedd o wasanaethau bws ychwanegol bob wythnos ledled Cymru.
O ran y trydydd ffactor, dibynadwyedd, mae hyn yn bennaf yn ddibynnol ar seilwaith sy'n gysylltiedig â bysiau yn cael ei ddarparu yn lleol a rhanbarthol—seilwaith fel arosfannau bysiau diogel, modern, fel bysffyrdd pwrpasol. Rwy'n falch iawn o ddweud, o fewn cynllun trafnidiaeth rhanbarthol y de-orllewin, bod nifer o raglenni uchelgeisiol iawn ar y gweill ynghylch seilwaith sy'n gysylltiedig â bysiau. Rwy'n cyfeirio at y de-orllewin yn gyntaf oherwydd y de-orllewin fydd y rhanbarth cyntaf lle bydd masnachfreinio.
O ran ffyrdd, dydw i ddim eisiau ailadrodd faint o arian rydyn ni wedi'i fuddsoddi mewn ffyrdd, mae hynny'n fater o ffaith, ond mae rhaglenni fel yr A465 a'r A40 yn rhai enfawr. Ond yr hyn a ddygodd adolygiad Lugg i'n sylw ni hefyd oedd bod angen i ni gynnal ein ffyrdd yn well. Rwy'n credu fy mod i wedi sôn yr wythnos diwethaf mewn cwestiynau llafar bod y BBC wedi cynnal ymchwiliad manwl i'r rhwydwaith ffyrdd ledled y Deyrnas Unedig, ac yn y bôn wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid i ni ddod i arfer â mwy o waith cynnal a chadw ar y ffyrdd. Mae hynny oherwydd oedran y rhwydwaith. Rydym ni'n cyrraedd sefyllfa lle mae angen gwario mwy ar gynnal a chadw, fel y mae adolygiad Lugg wedi nodi. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi mor helaeth mewn cynnal a chadw eleni, gan drwsio tyllau a diffygion ar hyd a lled Cymru, nid yn unig ar y rhwydwaith ffyrdd strategol ond ar ffyrdd lleol yn ardaloedd y cynghorau hefyd. Rwy'n credu bod modurwyr bellach yn cydnabod manteision cael Llywodraeth Lafur Cymru sy'n buddsoddi'n deg ym mhob dull trafnidiaeth.
Mae'r tocyn bws am £1 i bobl ifanc yn rhan bwysig iawn o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ond roedd arnaf i eisiau canolbwyntio heddiw ar agwedd arall y soniwyd amdano tua diwedd eich datganiad, sef 'Teithio i bawb'.
Ychydig cyn egwyl y Nadolig, cysylltwyd â mi gan fenyw anabl, a rannodd brofiad hynod ofidus. Cafodd ei gadael yn sownd yng ngorsaf Caerdydd Canolog pan fethodd y cymorth yr oedd hi'n dibynnu arno i gyrraedd. Dywedodd wrthyf nad digwyddiad ynysig oedd hwn ond rhan o batrwm hir a phryderus, realiti parhaus i lawer o deithwyr anabl ledled Cymru. Mae ei phrofiad yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r sicrwydd a wnaed o dan y cynllun 'Teithio i bawb', ac mae'n symptomatig o'r rhwystrau beunyddiol y mae pobl anabl ledled Cymru yn eu hwynebu wrth geisio teithio. Mae'r realiti hwnnw'n dangos bod addewidion polisi yn dal i fethu â throi yn welliannau i brofiadau bywyd. Dywedodd wrthyf hefyd nad yw'n teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio tacsi neu wasanaethau llogi preifat oherwydd bod hygyrchedd yn anghyson, er gwaethaf cyfrifoldeb y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar hyfforddiant hygyrchedd i yrwyr.
Nid yw hygyrchedd yn ddewisol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet hyn ei hun; mae'n hawl sylfaenol. Ond mae'r hawl honno yn cael ei gwrthod yn rheolaidd ar lawr gwlad. Felly, os yw hygyrchedd yn hawl sylfaenol, pam nad yw'r safon honno yn cael ei chynnal yn ymarferol? O dan 'Teithio i bawb', ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddarparu teclyn cynllunio teithiau digidol newydd Trafnidiaeth Cymru, wedi'i gynllunio i weithio ar draws gwahanol fathau o drafnidiaeth. Rydym ni bellach yn agos at y dyddiad a nodwyd, ond nid oes unrhyw offeryn o'r fath yn bodoli. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi diweddariad gan yr Ysgrifennydd y Cabinet ar y gwaith ynghylch hyn.
Erbyn y gwanwyn, ymrwymodd Llywodraeth Cymru hefyd i ymgymryd â gwaith gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd ledled Cymru, ond mae'r dystiolaeth ar lawr gwlad yn dweud stori wahanol. Mae Cathays, un o'r gorsafoedd prysuraf yn y wlad, yn parhau i fod yn anhygyrch. Dair blynedd yn ôl, addawodd Trafnidiaeth Cymru bont droed gwbl hygyrch, ond nid oes cynnydd gweladwy wedi bod. Nid sefyllfa unigryw mo hon. Mae llawer o orsafoedd ledled Cymru yn parhau i fod ar ei hôl hi, gan adael pobl anabl yn sownd neu wedi'u heithrio.
Gan droi at y rhaglen Mynediad i Bawb a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o'r 23 gorsaf a ddewiswyd i'w gwella ledled y Deyrnas Unedig, dim ond dwy sydd yng Nghymru: Shotton a Rhiwabon. Mae gorsafoedd yng Nghymru eisoes ar ei hôl hi, ac mae teithwyr anabl ar eu colled tra bod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn symud ymlaen. Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru ar sail cyllid cyfatebol yn unig, sy'n golygu bod cynnydd ystyrlon yn parhau i fod yn dibynnu ar gyllid seilwaith cyfyngedig sydd ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet a oes cynlluniau busnes yn bodoli i uwchraddio'r gorsafoedd anhygyrch sydd ar ôl yng Nghymru, fel Cathays, a pha mor hir y bydd disgwyl i bobl anabl aros.
Fe hoffwn i hefyd ofyn sut mae'r strategaeth 'Teithio i bawb' yn cael ei hintegreiddio â'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Rhaid i hygyrchedd fod yn ganolog i'r llwybrau anghenion cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer teithwyr dall a rhannol eu golwg, cymunedau gwledig, a'r rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth i gael mynediad at waith, addysg a gofal iechyd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y llwybrau hyn, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n fasnachol hyfyw, yn cael eu darparu mewn ffordd hygyrch? Sut bydd cyllid a safonau'n cael eu cymhwyso'n gyson ar draws yr ardaloedd masnachfraint rhwng 2027 a 2030? Ni ellir caniatáu i 'deithio i bawb' fod yn addewid arall na wireddwyd. Rhaid iddo arwain at welliannau gwirioneddol, gweladwy ac amserol fel y gall pob person anabl deithio gyda hyder, urddas a chydraddoldeb. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i Peredur Owen Griffiths am ei gwestiynau heddiw? Byddwn yn cytuno, eto, â llawer o'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud, yn enwedig am yr angen parhaus i wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r agenda 'Teithio i bawb' yn ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau a seilwaith trwy brofiad byw pobl sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf heriol yn eu bywydau bob dydd. Dyna pam y gwnaethom ni sefydlu'r panel mynediad a chynhwysiant yn Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau bod yr holl brosiectau, yr holl wasanaethau y mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, yn cael eu gwerthuso'n llawn gan bobl sydd â phrofiad byw o rwystrau ofnadwy, ac mae rhai ohonyn nhw wedi'u hamlinellu heddiw. Dyna hefyd pam rydym ni'n sefydlu panel pobl ifanc o fewn Trafnidiaeth Cymru, i gael profiad byw pobl ifanc o bob cwr o Gymru, a sicrhau bod y syniadau a'r arloesedd diweddaraf yn dod o'r cyhoedd yn gyffredinol, o gofio fy mod i'n credu bod yr ymennydd creadigol yn cyrraedd uchafbwynt yng nghanol yr ugeiniau, felly mae angen i ni gael cymaint o syniadau gan bobl ifanc ag y gallwn ni.
O ran yr hyn rydym ni wedi'i gyflawni yn y maes hwn, byddwn yn awgrymu i'r Aelodau edrych ar fetro de Cymru, lle rydym ni wedi defnyddio mynediad di-risiau ym mhob un o'r gorsafoedd. Roedd hynny'n ymdrech hynod uchelgeisiol, ac fe gawsom ni gymorth pobl o'r panel mynediad a chynhwysiant. Rwy'n credu ein bod ni hefyd wedi cael help gan y Fonesig Tanni Grey-Thompson yn hyn o beth, i wneud yn siŵr bod metro de Cymru, pan oeddem ni'n buddsoddi £1 biliwn ynddo, yn gallu cael ei ddefnyddio gan bawb, waeth pa mor symudol neu beth yw'r rhwystrau yn eu bywydau bob dydd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn yr un modd ar draws y rhwydwaith. Rwy'n falch iawn bod Shotton a Rhiwabon—ac rwy'n gwneud datganiad etholaethol yma: mae Rhiwabon yn fy etholaeth i—wedi cyrraedd o'r rhestr hir i'r rhestr fer. Mae'n eithaf amlwg mai'r unig reswm y llwyddon nhw i wneud hynny yw oherwydd ein bod ni'n barod i roi arian cyfatebol i'r gorsafoedd penodol hynny. Ac mewn gohebiaeth rydw i wedi'i weld, mae'n amlwg iawn bod awdurdodau trafnidiaeth sy'n rhoi arian cyfatebol mewn sefyllfa fuddiol iawn, iawn i allu bod yn gymwys ar gyfer cyllid Mynediad i Bawb, a dyna pam y llwyddodd Rhiwabon a Shotton i fynd o'r rhestr hir i'r rhestr fer. Mewn mannau eraill mewn rhannau o Loegr rwy'n credu nad oedd arian cyfatebol ar gael gan awdurdodau trafnidiaeth, a dyna pam y cyrhaeddodd ein gorsafoedd i'r rhestr derfynol. Felly, rwy'n falch iawn bod hynny wedi digwydd, ac rwy'n gwybod y bydd yn rhoi llawer o gysur i bobl sy'n defnyddio'r gorsafoedd penodol hynny, ond sy'n aml yn wynebu heriau enfawr wrth gael mynediad at drenau sy'n aros yno.
Mae ap Trafnidiaeth Cymru yn ddarn hynod uchelgeisiol o dechnoleg sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Yn y bôn, yr hyn ydyw yw un man canolog, un pwynt gwybodaeth ar gyfer pob dull trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn adlewyrchu symudiadau byw gwasanaethau bws a gwasanaethau rheilffyrdd, a'r nod yn y pen draw yw integreiddio prisiau â'r system hefyd, fel y gall pobl symud o un dull trafnidiaeth i ddull arall o drafnidiaeth, heb orfod poeni am brynu tocyn papur, a dim ond gwneud hynny trwy un ap gyda gwybodaeth fyw am yr holl systemau sydd ar gael iddyn nhw. Fel y dywedais i, mae'n brosiect enfawr. Mae'n uchelgeisiol iawn. Nid wyf yn credu ei fod wedi cael ei wneud yn y ffurf hon o'r blaen mewn unrhyw genedl, gan gyfuno pob dull o drafnidiaeth. Felly, mae'n ddarn arloesol iawn o dechnoleg sy'n dal i gael ei ddatblygu, ond cyn gynted ag y gallwn ni ei gyflwyno, byddwn yn gwneud hynny.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Siaradais yn ddiweddar ag etholwr sy'n byw gydag anableddau, a soniodd am lawer o brofiadau tebyg i'r hyn y soniodd Peredur Owen Griffiths a Sam Rowlands amdanyn nhw eisoes. Adroddodd hanesyn ofnadwy o fod yn sownd mewn gorsaf reilffordd. Dywedodd hefyd na allai ddefnyddio ei orsaf reilffordd leol yn Grangetown. Mae'n amlwg eich bod yn credu'n angerddol, Ysgrifennydd Cabinet, y dylai pob person sy'n byw yng Nghymru ac sy'n ymweld â Chymru allu defnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth, ond dywedodd fy etholwr wrtha i yn glir ei fod yn teimlo bod pobl sy'n byw gydag anableddau yn cael eu defnyddio fel ymarfer ticio blychau yn hytrach na bod wrth wraidd llunio polisïau a gwneud penderfyniadau. Nawr, rwy'n gwybod nad dyna yw eich barn chi—dim ond dweud yr hyn a ddywedodd wrthyf i ydw i. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi ymrwymiad heddiw i'm hetholwr ac i eraill, fel y soniodd Sam Rowlands a Peredur Owen Griffiths, bod barn teithwyr ag anableddau yn sylfaenol i newidiadau a wneir i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn hygyrch ac ar gael i bawb? Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Aelod? Allwn i ddim cytuno mwy. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bwysig ein bod yn derbyn profiad bywyd a gweithredu ar brofiad byw pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i safonau gwael, seilwaith gwael, gwasanaethau gwael. Dyna nod y panel mynediad a chynhwysiant, ac fe wnes i gyfarfod â nhw, rwy'n credu, dair gwaith yn 2025 i ganfod pa flaenoriaethau maen nhw'n credu y dylai Trafnidiaeth Cymru ganolbwyntio arnyn nhw ac y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arnyn nhw yn y dyfodol. Ac rydym ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da ers i ni lansio'r agenda Teithio i Bawb o ganlyniad i'r ddirnadaeth a'r deallusrwydd y mae'r panel mynediad a chynhwysiant, yn ogystal â llawer o rai eraill, gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn a'r comisiynydd pobl ifanc hefyd, wedi gallu eu rhannu gyda ni, ac, wrth gwrs, seneddwyr ieuenctid, sydd wedi bod yn hynod o ddefnyddiol wrth dynnu sylw at heriau a diffygion yn y gwasanaethau maen nhw'n eu defnyddio.
Rydym ni wedi lansio'r ymdrech hyfforddi gwrth-hiliaeth i holl staff rheng flaen Trafnidiaeth Cymru, ac fel rhan o'r cynllun gweithredu gwrth-hiliol, mae'r holl staff wedi bod yn rhan o'r hyfforddiant gwrth-hiliaeth hwnnw. Waeth beth fo'u cefndir, dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cynnwys ar ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Roeddwn i hefyd yn edrych ar Trustpilot ddoe. Mae'n ddiddorol iawn. Os ydych chi'n edrych ar Trustpilot a dim ond yn darllen rhai o'r sylwadau, yn aml mae Trustpilot yn negyddol iawn, ond, mewn gwirionedd, roeddwn i'n darllen rhai o sylwadau pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Roedd un a wnaeth argraff arnaf i yn ymwneud ag aelod o staff, ac fe gafodd yr aelod o staff penodol hwnnw ei ddisgrifio fel 'achubwr bywyd' gan yr unigolyn penodol hwn. Nawr, rwy'n gwybod bod rhai pobl yn profi ansawdd gwael o wasanaeth ar rannau o'r rhwydwaith, ond o ran Trafnidiaeth Cymru, gallaf sicrhau'r Aelod a gallaf sicrhau ei etholwyr ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â'n hundebau llafur. Rydym ni'n gweithio mor agos ag y gallwn ni gyda'n hundebau llafur i sicrhau bod staff yn Trafnidiaeth Cymru yn cael eu cyflogi i'r safonau uchaf, eu bod yn cael eu parchu gan y Llywodraeth hon, gan eu penaethiaid, a chan y cyhoedd hefyd. Ac mae hynny'n creu, rwy'n credu, ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru, awyrgylch cadarnhaol, parchus ac urddasol iawn ac ymwneud parchus rhwng staff a'r cyhoedd, ac mae wedi arwain at yr hyn rwy'n credu sy'n sgôr dda iawn ar Trustpilot. Ar hyn o bryd y sgôr yw 3.6, o'i gymharu â chwmnïau rheilffyrdd eraill sy'n cael trafferth cael dros 1.7. Felly, mae'n gryf iawn, sgôr Trustpilot. Rwy'n disgwyl y bydd y gelynion ar-lein nawr yn ceisio dod â'r sgôr honno i lawr, ond rwy'n dweud yma heddiw, cyn i bobl wybod amdano a phan oedd y cyfan yn gwbl wrthrychol, roedd y sgôr Trustpilot ar gyfer Trafnidiaeth Cymru gystal ag y gall fod ar gyfer unrhyw fath o ddarpariaeth trafnidiaeth.
Felly, a gaf i gloi drwy ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio profiad byw pobl sy'n wynebu rhwystrau anabledd bob dydd o'u bywyd i lunio polisïau a darparu systemau trafnidiaeth?
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 8 sydd nesaf. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yw'r rhain. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid sy'n gwneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9105 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n symud y cynnig.
Rwy'n falch o gyflwyno'r rheoliadau hyn heddiw, fel yr ydym ni wedi'i wneud bob blwyddyn, oherwydd eu bod yn cynrychioli un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol ac effeithiol y gallwn ni gefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae'r cynllun lleihau'r dreth gyngor yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i aelwydydd incwm isel ledled Cymru drwy leihau eu biliau'r dreth gyngor. Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu cynnal, gan gadw cymorth uniongyrchol ac effeithiol yn ei le trwy gyfateb i chwyddiant a newidiadau lles. Bydd dros 256,000 o aelwydydd ledled Cymru yn elwa o ganlyniad.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, bydd cefnogaeth i bobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn cynyddu 3.8 y cant, yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr. Bydd aelwydydd oedran pensiwn yn gweld cynnydd yn cyd-fynd â gwarant isafswm safonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac uwchraddio budd-dal tai. Eleni mae'r rheoliadau hefyd yn ymgorffori darpariaethau lles newydd yng Nghymru, gan gynnwys gofal newyddenedigol a threfniadau cyflog, ac ymestyn y rheol, gan ganiatáu i hawliad credyd cynhwysol fodloni'r prawf preswylio arferol, gan wneud mynediad at gymorth yn symlach. Bydd y rheoliadau diwygiedig hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd sy'n byw yng Nghymru dan anfantais oherwydd eu bod wedi derbyn taliad o dan gynlluniau iawndal, gan gynnwys y cynllun gwneud iawn i gyn-filwyr LHDT, a bod gan bobl anabl hawl i wneud cais.
Llywydd, mae'r cynllun hwn yn parhau i fod yn un o offer mwyaf pwerus Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'n darparu help go iawn i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd cymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw yn golygu parhau â'r ymrwymiad hwnnw. Rwy'n ddiolchgar fel erioed i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, a bydd y rheoliadau'n cael eu cywiro cyn cael eu llunio. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft yr wythnos diwethaf, ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad drafft. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pum pwynt adrodd technegol ac un yn pwynt adrodd craffu ar rinweddau.
Mae dau o'r pwyntiau adrodd technegol yn dangos bod gwallau mewn symiau penodol a nodwyd i'w diwygio. Mewn un achos, mae'r testun presennol i'w ddiwygio yn nodi £244.40, fodd bynnag, mae'r rheoliad yn nodi'n anghywir mai £244 yw'r swm sydd i'w ddiweddaru. Mewn achos arall, yn y testun Cymraeg, mae'r gwrthwyneb yn wir: mae'r testun presennol yn nodi £244, tra bod y rheoliadau hyn yn nodi mai £244.40 yw'r swm i'w ddiweddaru.
Mae trydydd pwynt adrodd technegol y pwyllgor yn tynnu sylw at gyfeiriad anghywir at is-baragraff yn y testun Cymraeg, ac mae'r pumed pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at anghysondeb rhwng y symiau newydd sydd i'w mewnosod yn y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae'r cyntaf yn nodi £87.99, tra bod yr ail yn nodi £87.88. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'r pedwar pwynt adrodd hyn a bydd yn gwneud cywiriadau cyn y rheoliadau. Fodd bynnag, dim ond yn rhannol y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'n pwynt adrodd technegol cyntaf, a gododd yr anghysondeb posibl rhwng testunau Cymraeg a Saesneg.
Yn olaf, mae pwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod yr offerynnau hyn wedi'u paratoi y tu allan i feddalwedd newydd offerynnau statudol Cymru ac felly efallai y bydd angen mân welliannau fformatio cyn iddyn nhw gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru.
Does gyda fi ddim siaradwyr eraill. Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet eisiau ychwanegu unrhyw beth?
Diolch i'r pwyllgor, fel arfer, am y gwaith manwl, ac fel y dywedais i, bydd y rheoliadau yn cael eu cywiro cyn i fi eu llofnodi nhw, os bydd y Senedd yn cytuno.
Os felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, maen nhw wedi eu cytuno.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 sydd nesaf. Y Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026 yw'r rhain. Yr Ysgrifennydd Cabinet eto i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9106 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Dwi'n symud y cynnig.
Mae'r rheoliadau hyn yn ddatganiad eglur o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i degwch. Maen nhw'n cyflawni ein hymrwymiad yn rhaglen llywodraethu yn y tymor Senedd hwn i adolygu'r 53 gwahanol gategori o ostyngiadau, diystyriadau ac eithriadau, a oedd wedi cynyddu dros nifer o flynyddoedd.
Mae'r rheoliadau sydd o flaen y Senedd y prynhawn yma wedi cael eu llunio drwy gydweithio adeiladol â llywodraeth leol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, ac maen nhw'n adlewyrchu'r hyn y mae gan bobl ledled Cymru yr hawl i'w ddisgwyl: system dreth gyngor sy'n cynnwys fframwaith ar gyfer lliniaru i'r rhai sydd ei angen a fframwaith sy'n fodern, yn hygyrch ac yn deg ac sy'n gwella effeithlonrwydd treth.
Ers dros dri degawd, mae gostyngiadau, diystyriadau ac eithriadau'r dreth gyngor wedi rhoi cymorth hanfodol i aelwydydd sy'n wynebu pwysau ariannol neu'n byw o dan amgylchiadau unigryw. Heddiw, mae mwy na 0.5 miliwn o aelwydydd ledled Cymru yn elwa o'r mesurau hyn. Mae'n ein hatgoffa'n rymus o'r rheswm pam mae'r gwaith hwn mor bwysig, ond hefyd pam roedd angen cynnal adolygiad. Rhoddodd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol Cymru 2024 gyfle i ni gydgrynhoi a diweddaru'r mesurau hyn. Mae'r rheoliadau hyn yn symleiddio ac yn cydgrynhoi'r holl ddarpariaethau mewn un offeryn statudol newydd i Gymru, gan wella hygyrchedd, lleihau cymhlethdod, cael gwared ar rwystrau a'i gwneud hi'n haws i bobl hawlio eu hawliadau heb stigma a heb ddryswch.
Mae rhai newidiadau yn mynd ymhellach. Maen nhw'n cefnogi ein strategaeth dai drwy fynd i'r afael â chartrefi gwag hirdymor, helpu cymunedau i adfywio, hyrwyddo datblygu cynaliadwy trwy ddefnyddio'r stoc dai bresennol. Er nad yw'r mesurau hyn yn datrys pob her, maen nhw'n gwneud cyfraniad gwirioneddol at wella'r cyflenwad tai a thrwy hynny atal digartrefedd. Dylwn ei gwneud hi'n eglur y prynhawn yma, Llywydd, bod y gostyngiad o 25 y cant i oedolyn sengl yn parhau i fod heb ei newid. Mae hwnnw'n cael ei ddiogelu'n llawn yn y rheoliadau hyn.
Rydym ni hefyd wedi gwrando ar yr heriau penodol i'r rhai sy'n darparu lloches i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy'n falch bod y rheoliadau hyn yn creu eithriad newydd ar gyfer llety lloches dros dro brys, gan gydnabod y rhan hanfodol y mae'r gwasanaethau hyn yn ei chwarae o ran cynnig mannau diogel i oroeswyr. Llywydd, mae hwn yn fframwaith modern, hygyrch a thecach sy'n adlewyrchu, yn fy marn i, gwerthoedd y Senedd hon ac anghenion ein cymunedau.
Rwyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau. Rwyf yn cytuno gyda phwyntiau 1 i 4 a 6. Bydd y pwyntiau yn cael eu cywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Fe wnaeth Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried y rheoliadau drafft yr wythnos diwethaf ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Roedd adroddiad y pwyllgor yn cynnwys chwe phwynt adrodd technegol ac un pwynt adrodd craffu ar rinweddau. O'r chwe phwynt adrodd technegol, mae pump yn tynnu sylw at ymadroddion sydd angen diffiniad neu esboniad pellach, fel y term 'awdurdod bilio' a 'caniatâd i ddod i mewn neu i aros'. Mae'r pwynt adrodd technegol arall yn tynnu sylw at anghysondeb rhwng ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn benodol, er bod testun Saesneg rheoliad 2 yn defnyddio'r term 'P', a ddiffiniwyd yng ngeiriau agoriadol y diffiniad o 'caniatâd i ddod i mewn neu i aros', nid yw rheoliad Cymraeg 2 yn gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pump o'r chwe phwynt adrodd technegol a bydd yn gwneud y cywiriadau hynny cyn gwneud y rheoliadau.
Yn olaf, yn yr un modd â'r rheoliadau a drafodwyd o dan yr eitem flaenorol, mae pwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith fod yr offeryn wedi cael ei baratoi y tu allan i'r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymru, ac felly efallai y bydd angen mân welliannau fformatio cyn iddo gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru.
Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i godi pwynt sy'n ymwneud ag eithriad H, sydd ar hyn o bryd yn eithrio eiddo gwag sydd wedi cael eu cadw i'w defnyddio yn y dyfodol gan weinidog o unrhyw grefydd, o le mae'n cyflawni ei ddyletswyddau crefyddol, rhag talu treth gyngor. Byddai'r newid arfaethedig yn cyfyngu'r eithriad hwn i 12 mis, a gallai gael canlyniad niweidiol i eglwysi trwy gynyddu'r pwysau ariannol y mae llawer ohonyn nhw'n eu hwynebu. Gallai hefyd arwain at golli gofal bugeiliol, allgymorth cymunedol a chymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, nid yw recriwtio clerigwyr fel llenwi swydd wag safonol. Mae'n alwedigaeth sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn mewn galwad ac ymrwymiad, ac, mewn llawer o achosion, yn enwedig yn ein cymunedau Cymraeg eu hiaith, gall penodiadau gymryd blynyddoedd i'w gwneud, nid misoedd.
Ar ben hynny, ni fydd gosod terfyn amser mor fyr yn gwneud dim i annog addasu'r cartrefi hyn at ddibenion gwahanol. Nid yw tai clerigwyr yn asedau dros ben i gael eu hailddefnyddio'n ddifeddwl. Mae'n rhaid iddyn nhw barhau i fod ar gael, weithiau am gyfnodau estynedig, tra bod gweinidogion newydd yn cael eu darganfod a'u penodi. Felly, a gaf i annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y newid hwn a gweld beth y gellir ei wneud i gadw'r eithriad presennol? A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet hefyd gyfarfod â chynrychiolwyr yr eglwys i drafod ei effaith? Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n hapus i barhau i adolygu'r mater ac, yn wir, i gyfarfod ag unrhyw un o'r rhai sy'n dymuno trafod y newidiadau. Mae'r Aelod yn iawn, mae eithriad dosbarth H yn cyflwyno cyfyngiad o flwyddyn ar gyfer eiddo a ddelir gan weinidogion. Nid wyf i'n credu bod dadl gref dros gadw eiddo gwag yn hirach na blwyddyn, dim ond oherwydd y gallai fod ei angen ar bobl yn y dyfodol. Rydym ni wedi cael llawer iawn o ddadleuon ar lawr y Senedd am yr effaith andwyol y mae eiddo gwag hirdymor yn ei chael ar gymunedau lleol. Mae gennym ni bolisïau eraill sydd â'r bwriad o annog eu defnydd hirdymor a buddiol. Dyna beth mae'r newid hwn yn ceisio ei wneud, ond mae'n newid, Llywydd, ac ar y sail honno, rwy'n hapus i roi sicrwydd y gwnawn ni barhau i'w adolygu'n ofalus.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9104 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Symudaf y cynnig, Llywydd.
Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o'n pecyn o fesurau i fynd i'r afael ag osgoi ardrethi annomestig. Datblygwyd y pecyn hwn drwy gydweithio â llywodraeth leol dros nifer o flynyddoedd. O dan y trefniadau presennol, nid oes yn rhaid i dalwyr ardrethi hysbysu awdurdodau bilio am newidiadau i amgylchiadau a fyddai'n effeithio ar eu rhwymedigaeth ardrethi annomestig. Mae lleiafrif—ac rwy'n pwysleisio ei fod yn lleiafrif, Llywydd—o dalwyr ardrethi yn celu gwybodaeth yn fwriadol os byddan nhw'n credu y bydd hyn yn eu helpu i osgoi neu leihau eu hatebolrwydd. Yn benodol, nid yw awdurdodau bilio bob amser yn cael eu hysbysu am newidiadau i statws talwr ardrethi neu feddiannaeth ar gyfer eiddo, gan atal yr awdurdod bilio rhag cyfrifo a phriodoli atebolrwydd yn gywir. Mae'r rheoliadau hyn yn creu dyletswydd ar dalwyr ardrethi i hysbysu'r awdurdod bilio am y newidiadau syml ond pwysig hyn i amgylchiadau. Bydd hyn yn gwella cywirdeb biliau ardrethi annomestig ac yn lleihau'r potensial i'w hosgoi.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau. Rwyf wedi ystyried yr ymateb i'r ddau bwynt craffu technegol a gafodd eu codi. Bydd nifer fach o gywiriadau yn cael eu gwneud i'r rheoliadau cyn eu llofnodi, os bydd y Senedd yn eu cymeradwyo. A dwi'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Cadeirydd y pwyllgor i gyfrannu—Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 12 Ionawr ac wedi hynny ystyriodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dau bwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd ar rinweddau. Mae'r pwynt adrodd technegol cyntaf yn gofyn am esboniad pellach ynghylch ffurf neu ystyr y geiriad o ran rheoliad 4(6)(b), sy'n datgan na ddylid gwneud hawliad i adennill cosb os gwneir adolygiad o dan y rheoliad. Ymateb Llywodraeth Cymru yw y bydd yn diwygio'r gair 'gwneir' i 'gofynnir am' cyn gwneud y rheoliadau.
Mae'r ail bwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at anghysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwynt adrodd hwn, gan ddweud nad ydyn nhw o'r farn bod unrhyw wahaniaeth mewn ystyr rhwng y ddwy iaith.
Mae'r pwynt adrodd ar rinweddau cyntaf yn tynnu sylw at y ffaith fod yn rhaid talu unrhyw swm a dderbynnir gan awdurdod bilio ar ffurf cosb i gronfa gyfunol Cymru.
Yn olaf, yn yr un modd â rheoliadau blaenorol a drafodwyd y prynhawn yma, mae'r ail bwynt adrodd ar rinweddau yn nodi bod yr offeryn wedi cael ei baratoi y tu allan i'r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymru ac, o'r herwydd, bydd angen gwneud mân welliannau fformatio yn ystod y broses gofrestru os caiff y ddeddfwriaeth hon ei chymeradwyo gan y Senedd a'i gwneud gan Weinidogion Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet? Na, dim byd i ychwanegu. Neb arall i siarad. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 10 wedi'i dderbyn hefyd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11 fydd y Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025. Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9107 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn natganiad y gyllideb amlinellol ddrafft ym mis Hydref, nodais ddull arfaethedig Llywodraeth Cymru o gynyddu cyfraddau treth gwarediadau tirlenwi, neu LDT, o 1 Ebrill. Fodd bynnag, ar ôl i Lywodraeth y DU osod ei chyfraddau treth tirlenwi ar gyfer Lloegr yng nghyllideb yr hydref, gofynnaf nawr i'r Senedd gytuno ar ddull newydd o ymdrin â'r gyfradd LDT is yng Nghymru i atal y perygl y bydd twristiaeth gwastraff yn digwydd.
Llywydd, gwnaeth Llywodraeth y DU y penderfyniad i atal y bwlch rhwng y cyfraddau treth tirlenwi rhag parhau i dyfu drwy osod ei chyfradd is ar £8.65 y dunnell. Bydd gosod yr un gyfradd is o LDT yng Nghymru yn gynnydd uwchlaw'r mynegai prisiau manwerthu a ragwelir, ond bydd yn sicr yn lliniaru'r perygl o dwristiaeth gwastraff rhwng Cymru a Lloegr, a gwastraff yn cael ei ddargyfeirio i Gymru gan ei bod hi'n rhatach gwneud hynny. Bydd y gyfradd safonol o LDT yn cynyddu i £130.75 y dunnell, a bydd y gyfradd anawdurdodedig yn cynyddu i £196.15 y dunnell, yn unol â fy amlinelliad ym mis Hydref. Yn bwysicaf oll, Llywydd, drwy osod y cyfraddau yn y modd hwn, rydym ni'n sicrhau bod LDT yn parhau i gyflawni yn erbyn nodau amgylcheddol y Senedd hon, y ddiben sydd wedi bod wrth wraidd y dreth hon erioed. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn y prynhawn yma.
Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau ar 15 Rhagfyr. Roedd adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd craffu ar rinweddau. Mae'n tynnu sylw at y ffaith fod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau yn ymwneud â threthi datganoledig, fel treth gwarediadau tirlenwi, i gronfa gyfunol Cymru. Nid oedd angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r pwynt adrodd hwn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet? Na, does neb arall yn moyn siarad. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 11 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw eitem 12, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy yw hwn. Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
Cynnig NDM9108 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy, i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ac yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy fel y'u nodir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar y Bil hwn. Mae'r Bil yn cyflwyno mecanwaith sicrwydd refeniw newydd i gefnogi cynhyrchu tanwydd hedfan cynaliadwy, SAF, yn y DU. Byddai'n gwneud hyn trwy ddynodi parti i gontract, cwmni sy'n eiddo i'r Llywodraeth yn llwyr, i gymryd rhan mewn contractau gyda chynhyrchwyr SAF i warantu pris gwerthu SAF cymwys. Er mwyn ariannu'r mecanwaith sicrwydd refeniw, byddai'r Bil yn cyflwyno ardoll ar gyflenwyr tanwydd hedfan confensiynol. Bwriedir i'r mecanwaith sicrwydd refeniw fod yn fesur â chyfyngiad amser i ysgogi marchnad gynnar ac i helpu i gynorthwyo'r gwaith o gynhyrchu SAF ledled y DU. Ni fydd ei angen mwyach unwaith y bydd gan fuddsoddwyr hyder ym mhris y farchnad ac y bydd y dechnoleg gyntaf o'r fath wedi profi ei hun ar raddfa fasnachol.
Bwriedir i'r Bil wireddu'r manteision economaidd sy'n gysylltiedig â datblygu'r diwydiant tanwydd hedfan cynaliadwy domestig, i helpu i sicrhau cyflenwad tanwydd o'r fath a sefydlu'r DU fel arweinydd byd-eang o ran datgarboneiddio'r sector hedfan. Gyda sector awyrofod hirsefydlog, ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog a'i gweithlu hynod fedrus, mae Cymru yn edrych tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Rydym ni mewn sefyllfa dda i chwarae rhan arwyddocaol o ran datblygu porthiant SAF o ffynonellau nad ydyn nhw'n amaethyddol. Rydym ni eisoes yn gwneud cynnydd cadarnhaol yn hyn o beth, ac edrychaf ymlaen at Gymru yn sicrhau'r manteision economaidd ychwanegol y bydd hyn yn eu cynnig yn y dyfodol, fel y swyddi a gynhyrchir gan weithfeydd SAF wedi'u lleoli yng Nghymru.
Mae'r Bil yn cynnig llwyfan addas â chyfle unigryw i fynd i'r afael â newid hinsawdd ar gyfer y sector hedfan ar sail dull ar gyfer y DU gyfan. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ac i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y Bil.
Bydd yr Aelodau eisiau gwybod pam rwyf i wedi trefnu'r ddadl memorandwm cydsyniad deddfwriaethol heddiw pan fo dadleuon yn parhau yn Nhŷ'r Arglwyddi ac nad yw'r Bil wedi'i setlo'n llawn eto. Mae cynnal y ddadl hon heddiw yn sicrhau bod safbwyntiau'r Senedd yn cael eu clywed a'u cynrychioli wrth basio'r ddeddfwriaeth bwysig hon, yn enwedig gan y gallai amserlen seneddol y DU ar gyfer y Bil hwn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y chweched Senedd hon. Os gwneir gwelliannau pellach i'r Bil, byddwn yn sicrhau bod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol pellach yn cael ei gyflwyno.
Gan symud i weithrediad, os caiff y Bil ei basio, byddwn yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid yng Nghymru a ledled y DU.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hegdes.
Diolch, Llywydd. Adroddodd y pwyllgor ar femorandwm Rhif 1 ar 23 Gorffennaf 2025 ac ar femorandwm Rhif 2 a memorandwm Rhif 3 yn gynharach y bore yma. Roedd y memorandwm gwreiddiol yn gofyn am gydsyniad y Senedd ar gyfer 15 cymal. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod cymalau 1 i 5 a 10 i 15 yn ymwneud â diogelu'r amgylchedd a datblygiad economaidd ac felly maen nhw'n berthnasol i faterion datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd o'r farn bod cymalau 6 i 9 yn ymwneud â gweithredu'r darpariaethau yn y cymalau a restrir uchod ac felly hefyd yn berthnasol i faterion datganoledig ac yn bodloni'r prawf yn Rheol Sefydlog 29. Cytunodd Llywodraeth y DU fod angen cydsyniad ar gyfer cymalau 1 i 5 a 12 i 19, yn ogystal â rhai agweddau ar gymalau 10 ac 11. Daeth y pwyllgor i'r casgliad bod cymalau 1 i 19 ac Atodlen 1 i'r Bil yn berthnasol i faterion datganoledig ac felly'n bodloni'r prawf yn Rheol Sefydlog 29, sy'n golygu y dylid bod wedi gofyn am gydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil cyfan.
Mae memorandwm Rhif 2 a memorandwm Rhif 3 yn gofyn am gydsyniad ar gyfer gwelliannau i gymalau y cyfeirir atyn nhw yn y memorandwm cyntaf, gan gynnwys cymal newydd yn ymwneud ag ymgynghori â Gweinidogion Cymru. Mae'r pwyllgor yn cytuno â'r asesiad a bod angen cydsyniad. Fodd bynnag, fe wnaeth yr adroddiad a osodwyd gennym ni y bore yma un argymhelliad. Fe wnaethom ni nodi ein bod ni wedi dweud, yn ein hadroddiad cyntaf, y dylai fod angen cydsyniad ar gyfer cymalau 16 i 19 y Bil—barn a rennir gan Lywodraeth y DU ond nid Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gofyn felly i Ysgrifennydd y Cabinet esbonio a yw'n cytuno â'r casgliad i'n hadroddiad yn hynny o beth, ac, os nad yw, beth yw'r goblygiadau i unrhyw benderfyniadau neu gydsyniad a wneir gan y Senedd.
Does gen i ddim siaradwyr. Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch, Llywydd. Wrth gloi'r ddadl, hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau a'r Cadeirydd am y cyfraniad at y ddadl heddiw. Rwy'n nodi bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi cyhoeddi ei adroddiad ddoe, ar ôl craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil, ac rwy'n croesawu'n fawr safbwynt y pwyllgor hwnnw o gefnogaeth gyffredinol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gydnabod, oherwydd yr amseriad anffodus dros gyfnod y Nadolig, o ran paratoi a gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 3, na chafodd y pwyllgor y cyfnod priodol o amser i graffu ac adrodd ar y gwelliant. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ymddiheuro i'r pwyllgor am hynny ac ymrwymo i sicrhau bod y sefyllfa honno yn cael ei hosgoi, lle bo hynny'n bosibl, yn y dyfodol.
Rwy'n nodi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi tynnu sylw yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2025 nad yw'r Bil yn dirprwyo unrhyw bwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru. Mae hefyd yn nodi bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol i weithredu mewn meysydd sy'n berthnasol i faterion datganoledig. Rwy'n fodlon â'r dull sy'n cael ei fabwysiadu yn hyn o beth, gan fod rhesymeg eglur iawn dros gynnal parhad a chysondeb ar draws y DU gyfan.
Rwy'n nodi hefyd bod y pwyllgor o'r farn y dylid gofyn am gydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil cyfan, ond rwy'n gofyn am gydsyniad ar gyfer cymalau a nodir yn y memorandwm gan mai'r cyngor a gefais oedd nad oes angen cydsyniad ar gyfer cymalau 17 i 20. Ond rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y gall cydgysylltu meysydd polisi yn rhynglywodraethol fod yn anodd iawn, yn enwedig pan fo materion yn ymwneud â swyddogaethau datganoledig.
Fodd bynnag, mae datgarboneiddio hedfan yn gofyn am y cysondeb hwnnw ar draws y DU. Ac rwy'n dal i fod wedi ymrwymo i Lywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU i gyflawni camau polisi cydgysylltiedig a fydd yn cyflawni ein targedau lleihau allyriadau priodol hefyd. Felly, i gloi, gan gydnabod effeithiau cadarnhaol y Bil hwn, rwy'n argymell bod y Senedd yn ei gefnogi ac yn rhoi cydsyniad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae eitem 13 wedi cael ei gohirio.
Does yna ddim pleidleisiau y prynhawn yma. Felly, dyna ni; dyna ddiwedd ar ein gwaith ni, a dyna ddiwedd y cyfarfod.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:16.